Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Meifod
| ← Main | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Pontrobert → |
MEIFOD.
Mae genym hanes fod Annghydffurfiaeth wedi cychwyn yn foreu yn mhlwyf Meifod. Yn ol yr hyn a ddywed Richard Davies, Cloddiaucochion, yr oedd cynnulleidfa yn cyfarfod yn nhŷ Huw Dafydd—un o denantiaid Dolobran—mor gynar a'r flwyddyn 1649; a gofelid am y gangen yma gan y gweinidogion oedd ar y pryd yn bwrw golwg dros yr eglwys yn sir Drefaldwyn. Yn 1669, ymgynnullai yr Annibynwyr yn nhy boneddwr o'r enw David Williams; a byddai yn nghyd yn y cyfarfodydd hyn weithiau 50, weithiau 60, ac yn aml 100. Cyfarfyddent weithiau yn y dydd, ac weithiau yn y nos. Yr oedd William Beddoe, Edward Meredith, Humphrey Meredith, Samuel Meredith, a Thomas Meredith, yn mysg y rhai blaenaf yn y plwyf o gefnogwyr y cynnulliadau hyn.[1] Ond er fod pregethu fel hyn wedi bod yn y plwyf er amser boreuaf Ymneillduaeth yn ein gwlad; etto yn ddiweddar mewn cydmariaeth y sefydlwyd achos Annibynol yn nhreflan Meifod.
Yn y flwyddyn 1814, trwyddedwyd ty Edward Ellis i bregethu ynddo, a buwyd ynddo yn cynal gwasanaeth rheolaidd am bedair blynedd, hyd nes ei symudwyd i dy John Miles; ac yno y bu yr arch nes yr adeiladodd Mr. John Griffiths dy, ac y rhoddodd at eu gwasanaeth yr oruwchystafell, yn yr hon y maent etto yn parhau i addoli. Cafwyd gwrthwynebiad mawr yma ar y dechreu; ac yn aml cyflogid dynion meddwon i aflonyddu yr addoliad; ond wedi cael yr ystafell, yr oeddynt i raddau allan o'u cyrhaedd. Rhoddwyd yr ystafell iddynt yn rhad gan Mr. Griffiths o'r Cil; ac agorwyd hi yn gyhoeddus Medi 27ain, a'r 28ain, 1824; ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Ridge, Bala; W. Hughes, Dinas; J. Williams, Ffestiniog; D. Morgan, Machynlleth; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Peregrine, Domgay; M. Ellis, Talybont; J. Griffith, Pentraeth; W. Morris, Llanfyllin; ac Owens, Croesos wallt. Mae y lle yma wedi bod bob amser mewn cysylltiad a'r Main, a than yr un weinidogaeth; ac ond edrych pwy oedd y gweinidogion a fu yn llafurio yn olynol yno, gwelir hefyd pwy a fu yma. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond coffeir am enwau John Miles, Thomas Miles, Abraham Davies, David Edwards, Thomas Ellis, Richard Lloyd, a Thomas Griffiths, fel rhai nodedig yn mysg y ffyddloniaid yma. Mae yr achos dan anfantais dirfawr yma o eisiau lle mwy cyfleus i addoli. Yr oedd cael ystafell yn werthfawr haner can mlynedd yn ol, ond nid yw yn ateb gofynion y dyddiau hyn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Rees's Nonconformity. Tu dal. 201.