Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Penllys

Oddi ar Wicidestun
Sardis, Llanwddyn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Foel, Llangadfan

PENLLYS.

Ebeneser (A), Penllys

Mewn trefn i gael golwg glir ar ddechreuad yr achos yn Penllys, Sardis, Dolanog, a Braichywaun, y mae yn angenrheidiol i ni gyfeirio at achos a fu am flynyddoedd, yn nechreu y ganrif bresenol, yn flodeuog yn Llwydiarth, amaethdy cyfrifol yr olwg arno, rhwng Llanfyllin a Cann Office, a thua haner y ffordd o'r naill i'r llall. Tua'r flwyddyn 1806, symudodd Mr. Thomas Moreton, Pentreheilyn, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a Phenygroes, i Lwydiarth i fyw. Yr oedd efe yn hen aelod o'r Sarnau, ac yn un o aelodau cyntaf yr eglwys sydd yn awr yn Mhenygroes; a phan y symudodd i Lwydiarth, meddyliodd yn ddioed am godi achos i'r Arglwydd yn ei dy. Pregethwyd llawer yno gan hen weinidogion y dyddiau hyny, yn enwedig gan Mr. Roberts, Llanbrynmair, a Mr. Hughes, o'r Dinas. Čodwyd capel bychan, neu trowyd ty oedd yno eisioes, at wasanaeth yr achos; a chadwyd moddion cyson yno, a phregethu mor rheolaidd ag y gellid. Corpholwyd yno eglwys, ac yn mysg yr aelodau, yr oedd Mr. Moreton, a'i wraig, a'i ferch Frances, (Mrs. Owens, Penllys, wedi hyny); Robert Davies, Felinwnfa, a'i wraig; Thomas Williams, (Eos Gwnfa), a'i wraig; John Griffiths, Penyfigin, a'i wraig; John Breese, a'i wraig; Robert Ellis, a'i wraig; Jane Hughes, mam Meistri Morris Hughes, Sardis; a John Hughes, Pontrobert; Mary Williams, hen wraig a ddaeth i'r ardal o Landderfel; ac eraill o bosibl, na chawsom eu henwau.[1] Nid ydym yn sicr a oedd yr holl rai yna yn Llwydiarth ar gychwyniad yr achos, ond y mae yn sicr iddynt ymuno ag ef yn fuan wedi hyny; ac ychwanegwyd eraill atynt, fel yr oedd gwedd addawus ar yr achos. Bu farw Mr. Moreton yn mhen rhai blynyddoedd, ond cyn marw rhoddodd orchymyn difrifol i'w blant i fod yn ymgeleddgar o achos yr Arglwydd ; a pheidio gadael i bregethwyr yr efengyl i fyned heibio heb ddangos caredigrwydd iddynt. Bu cartref i'r achos yn Llwydiarth dros yspaid bywyd Mrs. Moreton, y weddw; ond wedi ei marwolaeth hi, priododd ei mab, Mr. John Moreton, a Miss Lloyd, o'r Rhiwlas, yr hon oedd eglwyswraig ragfarnllyd; ac wedi ei rhagddysgu gan ei mam cyn gadael y Rhiwlas, i beidio darostwng ei hun trwy ymgysylltu a'r Ymneillduwyr, na derbyn y pregethwyr i'w thy; ac ar ei mynediad hi i Lwydiarth trowyd achos yr Arglwydd allan. Dywedir fod Mr. John Moreton yn teimlo yn ofidus oblegid y peth; canys yr oedd efe yn ddyn hynaws, a buasai yn dda ganddo wneyd dymuniad diweddaf ei dad, ond yr oedd dan lywodraeth ei wraig, yr hon fel yr ymddengys, oedd ddynes o ewyllys gref a phenderfynol, ac wedi ei rhagddysgu gan ei mam pa fodd i wneyd ar ol myned i Lwydiarth. Gwasgarwyd yr ychydig enwau oedd yma, rhai i Cynonisaf, a rhai i Dolanog; ac yr oedd Miss Frances Moreton, merch Llwydiarth, yn awr yn briod a Mr. Thomas Owens, Penllys, ac ill dau yn aelodau yn Llwydiarth. Yr oedd Mr. Owens wedi ei dderbyn yn Llwydiarth tua'r flwyddyn 1814, gan Mr. Daniel Davies, Sarnau. Wrth weled pregethu yn cael ei droi o dy ei thad,

penderfynodd Mrs. Owens, a'i phriod, y mynent agor eu drws i roddi cartref i'r achos. Mae yn deilwng o'n sylw fod achos wedi bod gan y Methodistiaid yn Mhenllys, yn nyddiau tad Mr. Thomas Owens. Pregethent mewn amryw dai, megis yr Halfen, Dolwarfawr, Llaethbwll, Moelyfronllwyd; ond Penllys fu yn brif gartref i'r achos dros amryw flynyddoedd, nes y symudwyd ef i Bontrobert, ac y codwyd capel yno yn 1800.[2] Rhyw dramgwydd rhwng tad Mr. T. Owens a'r Methodistiaid yn nghylch ei ail briodas, a barodd symudiad yr achos i Bontrobert; ond yr oedd Mr. T. Owens, y mab, wedi ei ddysgu o'i febyd i barchu crefydd, er mai yn mhen mwy na blwyddyn ar ol priodi yr ymunodd a'r eglwys yn Llwydiarth; ac yr oedd mor barod a'i wraig i groesawu yr arch i'w dy. Tua'r flwyddyn 1817, y dechreuwyd yr achos yn Mhenllys. Bu y myfyrwyr oedd yn yr athrofa yn Llanfyllin, yn pregethu llawer yma, ond ar ol ymadawiad yr athrofa, ac i Mr. W. Morris gael ei sefydlu yn Llanfyllin, arno ef yr oedd gofal y lle; ac yn y flwyddyn 1822, rhoddodd Mr. Owens, Penllys, ddarn o dir yn rhad i godi capel, a mynwent yn ei ymyl.

Bu Mr. Morris yn dyfod yma yn rheolaidd hyd ei ymadawiad a Llanfyllin yn 1839; ac yr oedd yn nodedig o boblogaidd trwy yr holl wlad. Coffeir yn gynes am ei ymweliodau rheolaidd pan y pregethai yn Pentrepoeth am 10, ac yn Penllys am 2, ac i Llanfyllin erbyn yr hwyr. Gwanychodd yr achos gryn lawer wedi ymadawiad Mr. Morris, ac yn neillduol trwy i Mr. T. Owens, yr hwn oedd yn brif golofn yr achos, gymeryd fferm yn agos i Trallwm, ac er nad oedd wedi llwyr adael Penllys, etto yn ei le newydd y treuliai y rhan fwyaf o'i amser. Yn yr adeg yma sicrhaodd Mr. Owens wasanaeth y gwyr ieuaingc oedd dan addysg gan Mr. Jones, yn Marton, i ddyfod i Benllys ddwy waith yn y mis, yr hyn a brofodd yn adfywiad mawr i'r achos. Yn y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr. John Jones, Parc, gerllaw Penybontfawr; ac urddwyd ef Ionawr 5ed a'r 6ed, 1841. Pregethodd Mr. J. Williams, Aberhosan, ar natur eglwys; holwyd y gweinidog gan Mr. John Roberts, Llanbrynmair; gweddiodd Mr. J. Davies, Llanfair, am fendith ar yr undeb; pregethodd Mr. D. Price, Penybont, i'r gweinidog, a Mr. D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys; pregethwyd hefyd gan Mr. R. Thomas, Dinas; W. Roberts, Pennal, ac H. James, Brithdir. Bu Mr. Jones yma yn llafurio hyd ddiwedd 1848, pan y symudodd i Carno. Teimlodd yr achos yma oddiwrth ymadawiad Mr. T. Owens, Penllys, yr hwn a symudodd i'r Neuadd, gerllaw Llanfair, yn 1841, ac ni ddychwelodd yma mwy i fyw; ond dychwelwyd ei gorph i orphwys yn y fynwent yma, Ionawr, 1850. Wedi ymadawiad Mr. J. Jones, ni bu yma yr un gweinidog sefydlog am flynyddau. Daeth Mr. Robert Fairclough, i'r ardal, a bu yma mewn rhyw fath o gysylltiad a'r lle dros rai blynyddoedd; ond gwywodd yr achos yn fawr trwy ei annoethineb ef, a drwgfuchedd rhai o'r aelodau. Nid oes yma yr un gweinidog ar hyn o bryd, ond gwasanaethir yr achos gan weinidogion y sir; ac y mae myfyrwyr y Bala wedi bod bob amser yn ffyddlon i'r eglwys yn y lle. Mae yn resyn gweled achos fu unwaith mor llewyrchus, wedi disgyn mor isel; ond nid yw yn ddiobaith pe ceid i'r ardal ddyn ieuangc, a chanddo "galon i weithio." Codwyd yma un pregethwr; sef, Hugh Hughes, yr hwn a ymfudodd i America.

Nodiadau

[golygu]
  1. Llythyr Mr. John Williams, mab Eos Gwnfa.
  2. Methodistiaeth Cymru. Cyf. ii. Tu dal. 4:5 a 416.