Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Pentre'rbeirdd

Oddi ar Wicidestun
Meifod Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Penybontfawr

PENTRE'R BEIRDD.

Mae y lle hwn yn mhlwyf Gygigfa, (Guildsfield), ar y ffordd rhwng Meifod a'r Trallwm. Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. John Jones, Main, yn fuan ar ol ei urddiad i'r weinidogaeth. Cafwyd darn o dir ar brydles, gan Mr. John Davies, Twll-farm, yn 1822; a'r ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt Meistri John Jones, y gweinidog; John Griffiths, o'r Cil; Edward Ellis, Saer coed; Humphrey Ellis, Sae rmaen; Richard Lloyd, Amaethwr; Simon Williams, Amaethwr; John Miles, Saer coed; David Davies, Saercoed; Morris Jones, (Farteg wedi hyny,) Saer maen. Yr oedd y capel wedi talu am dano agos yn llwyr erbyn dydd ei agoriad, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf 1af a'r 2il, 1823; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri S. Williams, Llanidloes; J. Jones, Hafodfawr; M. Hughes, Llanwddyn; J. Williams, Sarnau; J. Lewis, Bala; G. Ryan, Trallwm; J. Williams, Ffestiniog; J. Davies, Llanfair; a J. Ridge, Penygroes.[1] Bu Mr. Jones yn llafurio yma hyd nes yr ymadawodd i Lanidloes, yn 1830; ac ar ol hyny bu y lle dan weinidogaeth ei olynwyr yn y Main, Mr. Edward Williams, a Mr. John Morris; ond cyn diwedd tymhor gweinidogaeth yr olaf, yr oedd yr achos wedi myned yn isel iawn. Yr oedd genedl ieuaingc yn cael eu magu yn yr iaith Seisnig, fel nad oedd gwasanaeth Cymreig o fawr iawn o fudd iddynt. Bu yr hen bererin Humphrey Ellis, a'i wraig, yn nodedig o ffyddlon er pob digalondid. Cadwasant y drws yn agored ar yr adeg dywyllaf, ac ymdrechasant i gynal Ysgol Sabothol yn mlaen, er y byddai y plant yn ddigon drygionus i grynhoi o gylch yr hen ŵr, a thynu ei wallt pan y byddai yn gweddio. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Lewis Roberts yn weinidog yn y Sarnau, cymerodd ef ofal y lle, a throwyd yr achos yn Saesonaeg, ac felly y mae yn parhau, ac mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r Sarnau. Nid ydym yn gwybod am neb a godwyd yma i bregethu ond Morris Jones, yr hwn a fu am dymhor yn y Neuaddlwyd dan addysg, ac a urddwyd yn y Farteg, sir Fynwy; ac yr oedd yntau yn aelod yn y Main cyn ffurfio eglwys yma.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dysgedydd, 1823. Tu dal. 245,