Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Sardis, Llanwddyn

Oddi ar Wicidestun
Llangynog Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Penllys

SARDIS, LLANWDDYN.

Ymddengys mai yn Cynonisaf y pregethodd yr Annibynwyr gyntaf yn yr ardal hon. Amaethdy ydyw heb fod yn mhell o'r ffordd sydd yn arwain o Lanfyllin i'r Bala, trwy Lanwddyn. Yn nechreu y ganrif hon, symudodd un John Davies a'i wraig o Lanuwchllyn yma i fyw; ac am eu bod yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yno, nid hir y buont cyn gwahodd eu gweinidog, Dr. G. Lewis, i bregethu iddynt yn eu preswylfa newydd; a pharhawyd i bregethu mor gyson ag y gellid. Heblaw Dr. Lewis, sonir am John Jones, Afonfechan, yn mysg y pregethwyr cyntaf a ddaeth yma. Claddwyd John Davies, Cynonisaf, ym mhen rhai blynyddoedd wedi eu symudiad yma; ond parhaodd ei weddw i noddi yr achos fel o'r blaen. Priododd merch iddi a John Jones, Gwynyndy, ger Llanfaircaereinion, a daeth Mr. Jones i fyw i Cynon dros yspaid; ac adeiladwyd ty i'r weddw ar y buarth; a phregethid o hyny allan yn y ddau dy yn ol cyfleustra. Nid oedd eglwys y pryd hwn wedi ei ffurfio yn Cynonisaf, ond elent i Lwydiarth i gymuno, ac yno y derbyniwyd Mr. John Jones yn aelod, gan Mr. James Griffiths, Machynlleth; ond ffurfiwyd yma eglwys cyn y flwyddyn 1809; y flwyddyn yr aeth Mr. Jones yn ei ol i'r Gwynyndy, canys dywedir yn hanes ei fywyd, ei fod yn ddiacon yn yr eglwys yn Cynonisaf, pan y symudodd i'r Gwynyndy.[1] Nid hir y bu Mr. Jones heb symud yn ol i Gwynyndy, lle y bu o gefn mawr i'r achos, fel y crybwyllasom yn hanes Llanfair; ond parhaodd Mrs. Davies i dderbyn y pregethu i'w thy, hyd nes y symudodd i Efailycwm, ger Llanfyllin, ac yr unodd a'r eglwys yno, lle y bu yn ffyddlon hyd ei diwedd. Ar symudiad Mr. Jones i'r Gwynyndy, daeth un Thomas Gittins, o Brynadda, Cwmcowni, i fyw i Cynon. Yr oedd ar y pryd yn aelod defosiynol yn yr Eglwys Sefydledig, ond wrth wrando ar yr Annibynwyr, yn nhy Mrs. Davies, ennillwyd ef i'w hoffi, a bwriodd ei goelbren yn eu plith; a phan yr ymadawodd Mrs. Davies a'r lle, agorodd ef ddrws ei dy i'r efengyl, ac yno y cafodd yr achos gartref, hyd nes y codwyd capel Sardis, yn y flwyddyn 1821; ac agorwyd ef Ebrill 10fed, a'r 11eg, 1822. Ar yr achlysur pregethwyd y noson gyntaf gan Meistri J. Davies, Llanfair, a W. Hughes, Dinas. Dranoeth am 10, gan Meistri E. Davies, Cutiau, a J. Roberts, Llanbrynmair. Am 2, gan Meistri J. Jones, Main, a D. Morgan, Machynlleth. Am 6, gan Meistri H. Lloyd, Towyn, a J. Ridge, Penygroes. Mr. Morris Hughes, oedd y gweinidog i'r eglwys yn Cynon, mewn cysylltiad a'r Capel Bach, Penybontfawr, am flynyddau cyn codi Sardis; ac yn mysg y rhai a fuont yn golofnau i'r achos yn ei flynyddoedd cyntaf, heblaw John Davies a'i wraig, yr ydym yn cael enwau Evan Davies, Lletty; Robert Rees, Caeaubychain; Edward Thomas, Tymawr; Thomas Gittins, Cynonisaf; Robert Evans, Abermarchnad; John Parry, Tynewydd; a William Davies, Rhiwlas. Pregethodd Mr. M. Hughes lawer yn Tanyfoel, yn ngwaelod Cwmcowni, a chynorthwyid ef gan y myfyrwyr o athrofa Llanfyllin, yn yr adeg yr oedd yr athrofa yno; ac yn 1825, codwyd yno gapel bychan a alwyd Saron. Ni bu yma eglwys Annibynol erioed, ond ystyrid y lle yn gangen o Sardis. Llafuriodd Mr. Hughes yma yn gymeradwy iawn hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Medi 1af, 1846.

Bu yr eglwys ar ol marwolaeth Mr. Hughes, am rai blynyddoedd heb sefydlu ar weinidog, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Jones, myfyriwr yn athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd Mehefin 23ain a'r 24ain, 1853. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Price, Dinbych; holwyd y gweinidog gan Mr. W. Roberts, Penybont; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. J. Williams, Aberhosan; pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog; a Mr. D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Hughes, Foel; R. D. Thomas, Penarth; ac H. Ellis, Corwen. Bu Mr. Jones yma yn barchus, hyd y flwyddyn 1857, pan y symudodd i Bristol. Wedi ymadawiad Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Benjamin Evans, o Peniel, sir Gaerfyrddin, ond a fuasai am dymor yn athrofa y Bala; ac urddwyd ef Medi 14eg a'r 15fed, 1858. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Hughes, Foel; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Thomas, Llanuwchllyn; pregethodd Mr. W. Roberts, Penybont, i'r gweinidog; a Mr. D. Evans, Penarth, i'r eglwys; ac y mae Mr. Evans yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad, a'r achos mewn agwedd siriol iawn.

Nid ydym yn cael am neb a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon, ond Mr. Evan Jones, (Ieuan Gwynedd); yr hwn a ddaeth i'r ardal hon gadw ysgol yn 1837, ac a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y tymhor hwnw.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

MORRIS HUGHES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780, mewn lle a elwir Penyfigin, yn nghymydogaeth Braichywaun. Yr ydym er chwilio llawer wedi methu cael sicrwydd pa le y derbyniwyd ef yn aelod; ond y mae Mr. Edward Davies, Trawsfynydd, yn tueddu i feddwl mai yn Llanfyllin, cyn dechreu yr achos yn Llwydiarth. Melinydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu am dymor yn dal melin yn, neu gerllaw, Llanfaircaereinion. Nid oedd yn Llanfair yr un capel y pryd hwnw, a'r tebygolrwydd yw, mai yn ei dŷ ardrethol ei hun yno y dechreuodd bregethu. Symudodd cyn hir i Lanwddyn; a byddai yn pregethu llawer ar y Sabbothau, yn Tanyfoel am 10, Cynon 2, Llwydiarth 6; ac unwaith yn y mis deuai i'r Capel Bach a Llanrhaiadr i bregethu. Yn y flwyddyn 1809, penderfynodd yr eglwysi yn y Capel Bach, Penybont, a'r Cynon, Lanwyddyn; roddi galwad iddo i fod yn weinidog; a bu Mr. Davies, Trawsfynydd, pan yn ddyn ieuangc, mewn cyfarfod gweinidogion yn Nrwsynant, (Sammah, yn awr), yn ceisio ganddynt ddyfod yno i'w ordeinio, yr hyn a wnaed yn y Capel Bach, cyn diwedd y flwyddyn hono. Bu yn ffyddlon iawn i ddyfod i'r Capel Bach a Llanrhaiadr am flynyddau lawer, a hyny am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Rhoddodd ofal Penybont i fyny tua'r flwyddyn 1829; ac o hyny allan, cyfyngodd ei lafur i Lanwddyn a Braichywaun. Bu yn briod ddwywaith, a magodd deulu lluosog o blant; a digon isel a helbulus ei amgylchiadau bydol a fu drwy ei oes. Yr oedd yn ddyn mawr, tal, teneu, esgyrniog, o dueddfryd arafaidd, yn hytrach yn bruddaidd. Ystyrid ef yn ddyn deallgar a gwybodus, ac yr oedd yn bregethwr tra sylweddol; ond heb y tân a'r gwres sydd yn ofynol i wneyd pregethwr poblogaidd. Llafuriodd yn ddiwyd a ffyddlon am oes hir, am gydnabyddiaeth fechan, dan amgylchiadau digon enffafriol, ond nid aeth ei lafur yn ofer. Yr oedd yn frawd i'r diweddar Mr. John Hughes, Pontrobert, yr hwn oblegid iddo dreulio ei oes i deithio y wlad fel pregethwr Methodistaidd, sydd a'i enw yn fwy adnabyddus. Nid oedd dim tebygolrwydd ynddynt o ran corph na meddwl, ond yr oeddynt ill dau, pob un yn ei ffordd a'i ddawn ei hun, yn wyr rhagorol. Bu Mr. M. Hughes farw Medi 1af, 1846, yn 66 oed, wedi dau fis o gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar. Ar achlysur ei gladdedigaeth, gweddiodd Mr. R. Thomas, Croesoswallt; areithiodd Mr. D. Davies, Llanerfyl; a phregethodd Mr. R. D. Thomas, Penarth; a'r Sabboth canlynol, pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. J. Jones, Penllys. Claddwyd ef yn mynwent Llanwddyn, lle y mae beddfaen hardd, yr hwn a osodwyd arno yn 1865, gan eglwys Sardis.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dysgedydd, 1842. Tud dal. 261.