Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Trallwm (Saesonaeg)
| ← Dolanog | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Trallwm (Cymraeg) → |
TRALLWM.—(SAESONAEG).
Yr ydym yn cael fod Ymneillduaeth wedi ymdaenu i raddau helaeth yn y Trallwm, a'r gymydogaeth, yn amser y werin—lywodraeth. Buy Crynwyr yno ar un adeg yn lled luosog, a chan mai o eglwysi yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn ol eu haddefiad eu hunain, y darfu iddynt hwy gasglu y rhan luosocaf o'u dysgyblion cyntaf, mae yn naturiol casglu fod Ymneillduaeth yn lled gryf yn y parthau hyn ar amser eu cyfodiad hwy. Ymddengys oddiwrth hanes Richard Davies, Cloddiau—cochion, un o'r Crynwyr ei fod ef yn perthyn i'r Annibynwyr yn nhref y Trallwm, canys dywed fod yr "Anymddibynwyr y bobl y perthynwn i iddynt gynt, yn bobl neillduedig, wedi eu casglu yn benaf gan Vavasor Powell." Dywed iddo ymuno a hwy pan oedd "tua 12 neu 13 oed;" a chan mai yn y flwyddyn 1635 y ganwyd ef, rhaid mai o gylch y flwyddyn 1648 yr ymunodd a hwy. Pregethodd Mr. Vavasor Powell lawer yn erbyn y Crynwyr, ac aeth Richard Davies i'r Cloddiau-cochion unwaith gan ddisgwyl clywed Mr. Powell, a chyda y bwriad i'w wrthwynebu. Fel hyn y dywed Richard Davies ar hyny, "Vavasor Powell a bregethodd lawer yn erbyn y Crynwyr; pan glywais i hyn, daethum i le a elwid y Cloddiau-cochion, yn agos i'r Trallwm, i'w cyfarfod hwynt, gan ddisgwyl y cawn ef yno; ond nid oedd ef yno. John Griffithes, Ynad Heddwch yn y dyddiau hyny, oedd yn pregethu yno." Gallwn gasglu oddiwrth yr hanes, fod hyn tua'r flwyddyn 1658. Crybwyllasom fwy nag unwaith am y John Griffiths yma, yn nglyn a hanes Llanfyllin; ac y mae yn eglur ei fod yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos yn y dyddiau hyny.
Yr oedd Mr. Nathaniel Ravens, yn gweinidogaethu yn eglwys plwyf y Trallwm, ar amser adferiad Siarl II., a chafodd ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth, yn 1662. Nis gwyddom i sicrwydd pa beth a ddaeth o hono ar ol hyny. Wedi i Vavasor Powell, yn 1655, newid ei farn ar fedydd, a chymeryd ei drochi; tua'r flwyddyn 1657, daeth dyn a elwid Morgan Evan, o Ddeheudir Cymru, i gyffyrddiad a Richard Davies, yr hwn ar y pryd hwnw oedd yn perthyn i'r Annibynwyr, ac o'r pryd hwnw aeth Richard Davies, yn Grynwr selog a llafurus. Felly chwalwyd yr Annibynwyr yn y Trallwm, a'r amgylchoedd; aeth rhai yn Fedyddwyr gyda Vavasor Powell, a'r lleill yn Grynwyr gyda Richard Davies; a darfu am yr achos yn llwyr; ac y mae yn ymddangos i Ymneillduaeth wywo o radd i radd yma gydag amser, nes darfod yn hollol. Ryw bryd ar ol y flwyddyn 1780, ailgychwynwyd yma achos Annibynol. Nis gallasom gael allan i sicrwydd pa bryd ei dechreuwyd. Mae Mr. D. Morgan, yn ei ysgrifiau angyhoeddedig, yn dyweyd mai Mr. John Griffith, Llanfyllin a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y ddwy flynedd o 1780 i 1782, y bu yn aros yn Llanfyllin; ac ychwanega, mai Miss Meredith, (Mrs. Griffith, wedi hyny), a'i mam, a roddodd dir at adeiladu Capel yma. Mae yr ymroddiad mawr a ddangoswyd gan Mr. Griffith, i eangu terfynau yr achos yn ystod yr adeg fer y bu yn Llanfyllin, yn gystal a'r traddodiad sydd yn gyffredinol yn y dref, a'r amgylchoedd, mai efe a fu yr offeryn i'w sefydlu, yn ein gogwyddo yn gryf i gydsynio a'r hyn a ddywedir gan Mr. Morgan, mai i lafur Mr. Griffith fel offeryn, y mae yr achos yn y Trallwm yn ddyledus am ei gychwyniad.
Yn ol hen lyfr yr eglwys, yr hwn sydd yn awr yn meddiant y Cofrestrydd Cyffredinol yn Somerset House, Llundain, Mr. Richard Tibbott oedd y gweinidog yma yn 1788, a Mr. Jenkin Lewis, Llanfyllin, a ystyrid fel gweinidog yn 1790, ac mae yn debygol iddo ef barhau i ddyfod yma, yn fisol neu fynychach, hyd 1793. Mae yn ymddangos mai un Mr. Thomas Evans, eglwyswr efengylaidd, fel y tybir, a dyn o gryn gyfoeth a dylanwad, fu y prif offeryn mewn cysylltiad a gweinidogion Llanbrynmair a Llanfyllin i sefydlu eglwys yma. Pregethid yn y lle yn flaenorol; ond nid ymddengys i eglwys gael ei chorpholi yma cyn Rhagfyr 19eg, 1793, ac ar yr 21ain o'r un mis, gweinyddwyd Swpper yr Arglwydd i'r eglwys ieuangc, gan
Mr. J. Whitridge, Croesoswallt. Y personau canlynol oeddynt yr aelodau ar gorpholiad yr eglwys: Thomas Evans, Thomas Jones John Taylor, Morris Edwards, John Roberts, Joseph Jones, Grace Evans, a Mary Jeffreys. Yr oeddynt er mis Medi cyn hyny wedi cyduno i roddi galwad i Mr. David Francis, myfyriwr yn athrofa Gwrecsam. Bu Mr. Francis yn pregethu yma o 1793 hyd Mawrth 31eg, 1796, cyn cael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Nis gwyddom pa beth oedd y rheswm iddo fod cyhyd heb gael ei urddo. Rhoddir hanes yr urddiad fel y canlyn yn yr Evangelical Magazine:—"Dydd Iau, Mawrth 31ain, 1796, urddwyd y Parch. Mr. Francis yn weinidog yr eglwys Annibynol yn y Trallwm, Maldwyn. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Mr. Edwards, Wem; traddodwyd y gynaraeth, a derbyniwyd y gyffes ffydd gan y Parch. Mr. Whitridge, Croesoswallt; gweddiwyd yr urdd-weddi gan y Parch. Mr. Lucas, Amwythig; traddodwyd y siars i'r gweinidog gan y Parch. Mr. Lewis, Wrecsam; ac i'r eglwys gan y Parch. Mr. J. Boden, Hanley. Mae yn hyfrydwch genym edrych ar waith y dydd hwn, pan feddyliom nad oedd yn y dref hon tua deuddeng mlynedd yn ol ddim pregethu efengylaidd, a bod yr achos ieuangc yma er pan ddechreuwyd pregethu yn efengylaidd yn y lle, wedi gweithio ei ffordd trwy lawer o gyfnewidiadau ac anhawsderau. Yr ydym yn hyderu y bydd i'r undeb a ffurfiwyd heddyw, effeithio llawer o ddaioni i eneidiau, a gogoniant i Dduw. Mae yn ymddangos fod llawer o bobl y dref yn gogwyddo i roddi gwrandawiad astud i'r gwirionedd." Aelod o eglwys y Bwlchnewydd, yn Nghroessir Gaerfyrddin, oedd Mr. Francis. Derbyniwyd ef i'r athrofa oswallt, Awst 15fed, 1789. Dywed Mr. Lucas, o'r Amwythig, wrth gymeradwyo ei achos i'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, ei fod yn ddyn da iawn, yn bregethwr rhagorol, ac yn nodedig am ei gallineb. Nid ymddengys iddo fod yn nodedig o lwyddianus yn y Trallwm, er na fu yn hollol ddilwydd. Rhif yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys, fel y gwelsom, oedd wyth, a deuddeg oedd eu rhif yn niwedd y flwyddyn 1796. Yr ydym wedi methu a chael gafael ar weithred y capel, er gwybod pa bryd yr adeiladwyd ef, a phwy a roddodd y tir. Yn ol rhyw hen gofysgrifau sydd etto ar gael, ymddengys i'r capel gael ei godi rywbryd o 1798 i 1800.[1] Yr oedd ganddynt "dy cyfarfod" cyn codi y capel; ond nis gwyddom yn mha le yn y dref yr oedd. Telid ardreth am dano, ac y mae 10p. o ardreth am yr hen gapel, yn cael ei roddi yn nhraul y capel newydd. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. D. Francis y codwyd y capel. Costiodd 344p. 10s. 61c. Bu Mr. Francis yn casglu llawer at y draul, ond ni ddywedir yn yr hen gofysgrifau sydd ar gael, pa faint a gasglodd; ond talwyd iddo 56p. 18s. 44c., am ei lafur, ac ar gyfer ei dreuliau; a thalwyd 5p. 9s. 8c. i'r pregethwyr a fu yn gweini i'r eglwys yn ei absenoldeb. Yr anffawd am yr holl fan bapurau hyn ydyw, nad oes dyddiad wrth yr un o honynt. Bwriedid unwaith i godi y capel yn agos i'r fynedfa i bare Castell Powys; ond dangoswyd gwrthwynebiad gan deulu y castell i hyny; a chyda rhyw fanteision tybiedig ar y pryd, cynygiwyd iddynt y lle y saif y capel yn awr arno, yr hwn a dderbyniwyd, ond taflwyd ef drwy hyny i heol o'r neilldu.
Yn y flwyddyn 1799, ymneillduodd pedwar o'r aelodau, a gosodasant i fyny achos Wesleyaidd yn y dref, ac ymadawodd un arall yn yr un flwyddyn, er dechreu achos i'r Bedyddwyr; ond er y colledion hyn, yr oedd rhif yr aelodau yn niwedd y flwyddyn hon yn bedwar-ar-bymtheg. Ar y 27ain o Awst, 1800, rhoddodd Mr. Francis ei weinidogaeth i fyny. Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes ar ol hyn. Wedi ymadawiad Mr. Francis, bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog hyd Ebrill 18fed, 1802, pryd y rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, Treffynon. Arwyddwyd ei alwad gan Mr. Thomas Evans, ac un-ar-ddeg eraill o'r aelodau, yn nghyda phedwar o'r gwrandawyr, y rhai nid oeddynt yn gymunwyr. Yn yr alwad hon, addewiri Mr. Davies 20p. y flwyddyn o gyflog, sef tair punt yn fwy nag a roddid i'w ragflaenydd, Mr. Francis; "heblaw yr hyn a allasai gael o'r funds yn Llundain." Nid ymddengys i Mr. Davies fod yma dros o dair i bedair blynedd, ac nis gwyddom pa un ai yma y bu farw, ai ynte a symudodd i ryw le arall. Dywedir mai yn ardal Penygraig, sir Gaerfyrddin, y ganwyd Mr. Davies, ond nid ydym yn sicr o hyny, nac ychwaith o amser ei enedigaeth. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, yr hon a gedwid yn Abertawy, yn nhymor ei efrydiaeth ef. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn 1876, ac aeth allan yn 1790, pryd yr urddwyd ef yn Nghapel Sul, Cydweli. Bu yn gwasanaethu yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Phenygraig, hyd y flwyddyn 1795, pryd y symudodd i Dreffynon, sir Fflint. Ni bu yn Abergavenny, fel y camddywedir yn Llyfryddiaeth y Cymry Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Nhreffynon, dechreuodd gyhoeddi Y Geirgrawn, neu Drysorfa Gwybodaeth. O herwydd fod y cyhoeddiad hwn yn amddiffyn egwyddorion rhyddfrydig, ru ei olygydd mewn enbydrwydd, a dywedir iddo orfod ymguddio am beth amser rhag cael ei ddal. Bu Mr. Davies yn Nhreffynon hyd y flwyddyn 1799 neu 1800, ond nis gwyddom yn mha le y bu o'r pryd hwnw hyd nes iddo ymsefydlu yn y Trallwm yn 1802, ac y mae ei hanes ar ol ei ymadawiad oddiyma, os nad yma y bu farw, yn hollol anhysbys i ni. Ar ymadawiad Mr. Davies, urddwyd Mr. George Ryan, yr oedd ar y pryd yn bregethwr teithiol yn sir Amwythig, i fod yn weinidog i'r eglwys Annibynol yn Minsterley a'r Trallwm. Felly y dywedir yn hanes ei urddiad yn yr Evangelical Magazine, am 1806, tu dal. 380 Cymerodd ei urddiad le Mai 28ain, 1806. Mae yr hanes hwn a'r cofnodion yn llyfr eglwys y Trallwm, yn ymddangos yn anghyson. Yn ol llyfr yr eglwys, yn 1812 y dechreuodd Mr. Ryan ei weinidogaeth yma. Bu Mr. John Harries, am yr hwn nid oes genym unrhyw hanes, yn weinidog yma o 1808, hyd tua diwedd 1811. Dichon i Mr. Ryan fod yma ran o'i amser mewn cysylltiad a Minsterley, o 1806 hyd 1808, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Harries. Yn 1812, ymsefydlodd Mr. Ryan yn gyflawn yma, a pharhaodd ei weinidogaeth hyd 1830. Mae yn debygol iddo farw y flwyddyn hono, ond yr ydym wedi methu taro wrth hanes ei farwolaeth yn un o fisolion y flwyddyn hono, na'r blynyddau dilynol. Ei fab ef oedd G. Ryan, D.D., am yr hwn y rhoddasom ychydig hanes yn tu dal. 46. Dilynwyd Mr. Ryan, gan Mr. Thomas Morgan, yn awr o Hinckley, sir Leicester. Aelod gwreiddiol o eglwys Ebenezer, Pontypool, yw Mr. Morgan, ac addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys hon yn Gorphenaf, 1831, ond yn y flwyddyn ganlynol yr urddwyd ef. Bu yma hyd y flwyddyn 1840, pryd y symudodd i Loegr. Y gweinidog nesaf oedd Mr. C. Hudson, urddwyd ef yma yn 1840, a rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn Ionawr, 1844. Yn Mai, yr un flwyddyn, y rhoddwyd galwad i Mr. H. Kerrison, ac urddwyd ef Mehefin 11eg, 1845, pryd y gweinyddwyd gan Dr. Raffles, Liverpool; Mr. Pearce, Wrecsam; Dr. Halley, Manchester, ac eraill. Y dydd blaenorol, agorwyd y capel newydd, pryd y casglwyd ato dros un bunt a deugain. Yn mis Medi, 1849, rhoddodd Mr. Kerrison ei weinidogaeth i fyny o ddiffyg iechyd. Yn yr un cyfarfod eglwysig ag y derbyniwyd ymddiswyddiad (resignation) Mr. Kerrison, rhoddwyd galwad i Mr. J. Davies, y pryd hwnw o Groesoswallt. Yr oedd Mr. Davies yn nodedig o gymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr, ond symudwyd ef trwy farwolaeth yn Chwefror, 1851. Wedi hyn, bu un Mr. T. Nash, o Lundain yma am tuag wyth mis ar brawf, ond methwyd cyduno i roddi galwad iddo. Yn Ionawr, 1853, rhoddwyd galwad i Mr. J. B. Fletcher, M.A., mab yr enwog Dr. Fletcher, o Lundain; ond yn mis Medi, yr un flwyddyn, rhoddodd ei weinidogaeth i fyny. Yn Mawrth, 1855, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. F. C. Dowthwaite; cydsyniodd yntau a hi, a dechreuodd ei weinidogaeth yma ar y Sul cyntaf yn Mai, yn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1866, gorfodwyd Mr. Dowthwaite, gan gystudd i roddi ei weinidogaeth i fyny. Awst 26ain, 1866, rhoddwyd galwad i Mr. David Rowlands, B.A., Llanbrynmair, a'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth y Sabboth cyntaf o Dachwedd. Bu Mr. Rowlands yma yn dderbyniol, a'i lafur wedi ei goroni a gradd helaeth o lwyddiant; ond y mae yn awr, wedi derbyn galwad oddiwrth yr eglwys Saesonaeg yn Nghaerfyrddin, ac wedi penderfynu myned yno.
Bychan a chydmarol wan yw yr achos hwn wedi parhau o'i gychwyniad hyd yn awr, er fod yma o bryd i bryd, amryw bersonau dylanwadol a gweithgar iawn wedi bod yn dal cysylltiad ag ef. Gwelir fod yma un-arddeg o weinidogion wedi bod yn dilyn eu gilydd mewn tri ugain a deunaw o flynyddau, heblaw dau neu dri eraill fuont yma ar brawf. Anffawd dost i eglwys yw newid ei gweinidogion yn fynych iawn. Mae yr eglwys y digwyddo hyny iddi yn sicr o fod naill ai yn rhy fyrbwyll ac annoeth yn ei dewisiad o weinidogion, neu yn eglwys anghydfyddus ac annymunol i weinidogion i fyw gyda hi. Yr ydym yn ofni fod pob un o'r drygau hyn wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, i ryw fesur, trwy holl dymor ei bodolaeth. Er na fu yma erioed unrhyw derfysg cyhoedd a gwaradwyddus, yr ydym yn deall fod llawer o fan ymrysonau ac anghydwelediad wedi bod yn fynych yn achos nychdod iddi.
Fel y nodasom, bu yma o bryd i bryd, rai dynion rhagorol yn dal cysylltiad a'r achos. Mr. Thomas Evans, oedd y prif offeryn i'w gychwyn, a bu ef yn brif atteg iddo trwy ei oes, ac y mae ei blant ar ei ol wedi bod yn gynorthwywyr effeithiol iawn. Mae Meistri John Evans, Llundain, ac Edward Evans, Worcester, amryw weithiau, wedi cyfranu rhoddion tywysogaidd at ddwyn gwahanol dreuliau y lle. Yn Mawrth, 1868, y bu farw Mrs. Jones, merch Mr. Thomas Evans, yn 84 oed, ar ol bod yn aelod ffyddlon a defnyddiol iawn am 68 o flynyddau. Bu ei marwolaeth yn golled fawr i'r eglwys.
Yn Tachwedd, 1869, dewiswyd Mr. Parker, un o ddiaconiaid yr eglwys hon, yn faer y dref, ac fel Ymneillduwr egwyddorol a chyson, gwrthododd fyned yn ol yr arfer i eglwys y plwyf ar y Sul canlynol i'w etholiad, ond aeth fel y dylasai, i'w gapel ei hun. Cynhyrfodd hyny ddigofaint y Ficer a'r eglwyswyr mwyaf penboeth yn ofnadwy, ond nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond chwyrnu.
Yr unig un y gwyddom am dano a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon, oedd Mr. A. Wright. Anfonwyd ef i athrofa Hackney, yn Hydref, 1843, ond nis gwyddom ddim yn ychwaneg o'i hanes.
Mae y capel yma wedi cael ei adgyweirio a'i brydferthu yn fawr yn ddiweddar, ac ysgoldy cyfleus wedi ei adeiladu yn ei ymyl. Dygwyd rhan fawr o'r draul o brynu y tir y mae yr ysgoldy arno, yn nghyda thraul adeiladaeth yr ysgoldy, ac adgyweiriad y capel, gan Mr. Evans, Wrocester.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Lythyr Mr. R. Hughes, Cendl.