Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 (testun cyfansawdd)

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Thomas, Lerpwl
ar Wicipedia



HANES

EGLWYSI ANNIBYNOL

CYMRU,


GAN T. REES, D.D., ABERTAWY,

A

J. THOMAS, LIVERPOOL.




CYF. I.






LIVERPOOL:
ARGRAFFWYD YN SWYDDFA Y "TYST CYMREIG."

AT Y DARLLENYDD.

WELE y gyfrol gyntaf o HANES EGLWYSI ANNIBYNOL CYMRU wedi ei chwblhau! Parodd i ni lafur mawr a phryder dwys, ac er y gwyddom ei bod yn mhell o fod yn berffaith, etto, dichon y buasai yn anhawdd o dan yr amgylchiadau ei gwneyd yn fwy cyflawn a diwall. Mae rhai camgymeriadau wedi digwydd, ac yr ydym wedi dyfod o hyd i rai ffeithiau pwysig ar ol ysgrifenu yr hanes, a dichon y deuwn o hyd i ychwaneg etto, ond bydd genym Attodiad yn niwedd y gwaith, lle y cywirir y camgymeriadau a welir, a chyflen wir hyd y gellir, bob peth a fyddo yn ddiffygiol. Rhydd i ni foddlonrwydd mawr fod y llyfr yn derbyn cymeradwyaeth mor gyffredinol. Yr ydym yn prisio hyny yn uwch nag unrhyw elw a allasai ei gyhoeddiad ei ddwyn i ni. Mae y gwaith yn chwyddo dan ein dwylaw yn fwy na'n disgwyliad; ond yr oedd yr hanesion a anfonid i ni mor ddyddorol, a llawer o gymeriadau na ragwelwyd hwy genym yn troi i fyny, fel y tybiem, mai cam a'r HANES a fuasai eu cwtogi. Dechreuasom yn sir Fynwy, oblegid mai yno y dechreuodd Ymneillduaeth yn Nghymru, ac yr ydym yn cymeryd De a Gogledd bob yn ail, fel y bydd y gwaith yn ddyddorol gan ddauparth y Dywysogaeth.

Bydd yr ail gyfrol yn dechreu gyda Hanes Eglwysi sir Forganwg, ac y mae yr eglwysi yno mor lluosog, a chynifer o wyr enwog wedi bod mewn cysylltiad a hwy o oes i oes, fel y cymer eu hanes y rhan fwyaf o'r ail gyfrol; ond nis gall hanes eglwysi Morganwg lai na bod yn ddyddorol gan holl siroedd eraill Cymru, gan mai y siroedd eraill a roddodd iddynt y rhan fwyaf o'u gweinidogion a'u haelodau.

Yr ydym yn dymuno cydnabod ein holl gyfeillion am y cynorthwy a roisant i ni i gasglu defnyddiau yr hanes, ac am y derbyniad croesawgar y mae y gwaith wedi ei gael i ganoedd o deuluoedd; a'n dymuniad diffuant ydyw am i "ddeuparth o ysbryd" y tadau y cofnodwn eu gweithredoedd nerthol, ddisgyn arnom ni eu holynwyr, fel y delom i "ddilyn eu ffydd," ac i "ystyried diwedd eu hymarweddiad."

Ond yn benaf oll, dymunem gydnabod yr Arglwydd am estyniad ein bywyd a diogeliad ein hiechyd i orphen y gyfrol gyntaf o'r gwaith, ac yr ydym yn gobeithio na lesteirir ni gan ddim, nes y byddo hyn o orchwyl a ddechreuwyd genym wedi ei ddwyn i orpheniad.

Mehefin 5ed, 1871.


Cynwysiad





RHAGDRAITH.


Er ein bod yn hanes yr eglwysi henaf, wedi gosod ger bron y darllenydd lawer o'r amgylchiadau dan ba rai y dechreuodd Ymneillduaeth yn Nghymru, etto, ni byddai ein gwaith yn gyflawn heb fraslun cynwysfawr o hanes gyffredin y wlad, yn foesol a chrefyddol, cyn, ac am ychydig flynyddau ar ol, cyfodiad Ymneillduaeth. Gan hyny, taflwn olwg

I.—AR SEFYLLFA Y GENEDL O DDYDDIAU HARRI VIII., HYD GYFODIAD ANGHYDFFURFIAETH. Yr oedd ychydig o ddynion dysgedig a dylanwadol yn Lloegr, pan gychwynwyd y Diwygiad Protestanaidd ar y Cyfandir gan Luther a'i gyd-ddiwygwyr, yn cydymdeimlo a'r diwygwyr hyny, ond o herwydd fod awdurdod y brenin Harri VIII. mor ddirfawr, a'i sel dros Babyddiaeth mor angerddol, ni feiddiai un o honynt agoryd ei enau dros Brotestaniaeth. Pa fodd bynag, pan aeth yr ymryson rhwng y brenhin a'r Pab, yn nghylch ysgaru ei wraig, yn ffrae danllyd, daliodd yr ychydig Brotestaniaid cuddiedig hyn ar y cyfle i weithio allan eu hegwyddorion. Gwnaethant lawer iawn mewn ychydig o amser i daenu egwyddorion Protestanaidd yn mysg y Saeson. Cafwyd awdurdod frenhinol i daenu cyfieithiad Coverdale o'r Bibl i'r iaith Saesonig, yn y wlad, a chyfododd amryw bregethwyr ac ysgrifenwyr galluog i ddynoethi cyfeiliornadau Pabyddiaeth, ac i oleuo y werin. Ond tra yr oedd y Diwygiad yn cael ei ddwyn yn mlaen yn lled lwyddianus yn Lloegr, yr oedd y Cymry yn gorwedd yn llonydd yn nhywyllwch Pabyddiaeth, heb un gronyn o oleuni yn tywynu arnynt. Nid oes un math o sail i haeriadau yr ysgrifenwyr eglwysig hyny, a honant na fu yr eglwys yn Nghymru erioed yn hollol ddarostyngedig i eglwys Rhufain. Y gwirionedd yw, i'r Cymry fod am lawer o ganrifoedd mor Babyddol a darostyngedig i Rufain ag un genedl ar y ddaear, ac felly yr ydoedd pan ddechreuodd y Diwygiad Protestanaidd weithio ei ffordd yn Lloegr, ac am flynyddau wedi hyny. Buwyd ddeng mlynedd, neu ychwaneg, ar ol cyhoeddiad y Bibl yn yr iaith Saesonig, cyn i unrhyw gynygiad gael ei wneydi argraffu unrhyw ran o hono yn y Gymraeg. Yn y flwyddyn 1546, cyhoeddodd Syr John Price, o Aberhonddu, lyfryn bychan yn cynwys gweddi yr Arglwydd, y deg gorchymyn, a chredo yr Apostolion. Hwn oedd y llyfr cyntaf yn mha un yr ymddangosodd ychydig adnodau o'r Ysgrythyr yn y Gymraeg. Yn 1551, cyhoeddodd William Salesbury gyfieithiad o gynifer o'r llithiau Ysgrythyrol a ddarllenid yn yr Eglwys ar y Suliau a'r Gwyliau trwy y flwyddyn, a dyna y cwbl a wnaed tuag at oleuo y Cymry yn Ngair Duw, hyd nes i'r Testament Newydd gael ei gyhoeddi yn 1567. Er i waith dirfawr, er dwyn y Diwygiad yn mlaen, gael ei gyflawni yn Lloegr yn nheyrnasiad byr Edward VI., nid ymddengys i braidd ddim gael ei wneyd yn Nghymru yn y blynyddoedd hyny. Pan esgynodd Mari i'r orsedd, ac y cafodd Pabyddiaeth drachefn ei gwneyd yn grefydd sefydledig, cafwyd yn Lloegr dros dri chant o bersonau y rhai a gymerasant eu llosgi yn hytrach nag ymwrthod a'u Protestaniaeth, heblaw amryw ugeiniau a ffoisent i'r cyfandir am ddiogelwch, ac a ddychwelasant ar farwolaeth y frenhines. Ond ni chafwyd ond tri merthyr yn holl Gymru, ac mae yn debygol mai tri Sais oedd y rhai hyny yr Esgob Farrar, yr hwn a losgwyd yn Nghaerfyrddin; Rawlins White, yn Nghaerdydd, a William Nichol, yn Hwlffordd. Yr oedd dau neu dri o Gymry yn mysg y ffoedigion a ddiangasant i'r Cyfandir. Y gwir yw, yr oedd cenedl y Cymry, yn offeiriaid, a phobl yn hollol Babyddol, neu ddifater ynghylch pethau crefyddol, ac yn gorwedd yn y gaddug dywyllaf. Yr oedd yr offeiriaid Cymreig yn yr oes hono mor anwybodus, anfoesol, a diegwyddor ag unrhyw genhedlaeth o offeiriaid a fu erioed yn y byd. Pan ddarfu i Harri VIII. fwrw ymaith iau y Pab, dilynwyd ef gan offeiriaid Cymru. Pan ddygid y Diwygiad yn mlaen gan Cranmer, ac eraill, yn nyddiau Edward VI., nes hollol Brotestaneiddio ffurfiau a gwasanaeth yr Eglwys, nid ydym yn cael fod un o offeiriaid Cymru yn beio nac yn canmol y gwaith. Pan adsefydlwyd Pabyddiaeth gan Mari, troisant hwy oll yn Babyddion gyda hi, a phan ddygwyd Protestaniaeth yn ol gydag esgyniad Elizabeth i'r orsedd, mae corph offeiriaid y dywysogaeth, gyda chwech neu saith o eithriadau, yn troi yn ol at grefydd y pen coronog. Nid ymddengys eu bod yn gofalu am ddim ond cadw eu bywioliaethau, a phorthi eu nwydau anifeilaidd. Dywed Dr. Meyrick, esgob Bangor, yn 1560, nad oedd ond dau offeiriad yn ei holl esgobaeth yn medru pregethu o gwbl, a digon tebygol na fedrai y ddau hyny wneyd dim amgen na darllen pregethau. Nid yn unig yr oeddynt yn ddidalent at waith y weinidogaeth, ond yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn amddifaid o gymhwysder moesol at y fath waith cysegredig. Yr oedd cadw gordderch-wragedd yn beth cyffredin yn eu mysg. Yn 1563, cymerwyd un offeiriad i'r awdurdodau fel un cymhwys i fod yn esgob yn Bangor, yr hwn a gadwai dair o ordderch-wragedd.[1] Tra yr oedd yn naturiol disgwyl i bethau fod yn yr agwedd waradwyddus yma, yn amser y cyfnewidiad oddiwrth Babyddiaeth i Brotestaniaeth, gallesid yn naturiol ddisgwyl am wellhad gydag amser, ond fel arall y bu. Yn 1587, cyhuddwyd Dr. William Hughes, Esgob Llanelwy, o gamdrin ei esgobaeth, a phan wnaed ymchwiliad, cafwyd fod yr esgob yn dal un-ar-bymtheg o'r bywiolaethau cyfoethocaf yn ei law ei hun, fod y rhan fwyaf o'r bywiolaethau goreu yn meddiant personau nad oeddynt yn cyfaneddu yn y wlad o gwbl, fod gwr a ddaliai un o'r bywiolaethau cyfoethacaf yn llettya mewn tafarndy, ac nad oedd ond tri offeiriad yn yr holl esgobaeth yn byw yn eu plwyfydd, sef Dr. David Powell, o Ruabon; Dr. William Morgan, o Lanrhaiadr-yn-mochnant, a pherson Llanfechain, yr hwn oedd yn bedwar ugain mlwydd oed.[2] Mae tystiolaeth y merthyr, John Penry, mewn iaith rymus, yn cadarnhau gwirionedd yr hyn a ddywed Strype. "Dywedir," medd Penry, "fod Cymru mewn cyflwr gweddol dda, gan fod ynddi lawer o bregethwyr er's hir amser. Mwyaf cywilydd gan hyny iddynt hwy ydyw na buasai y bobl wedi cael gwell addysg ganddynt. Yr wyf yn beiddio haeru, a sefyll at fy haeriad, pe chwilid holl goflyfrau Cymru, nas gellid cael enw y sir, y dref, na'r plwyf, lle y bu am ysbaid chwech mlynedd yn olynol, o fewn y naw-mlynedd-ar-hugain diweddaf, gymaint ag un gweinidog duwiol a dysgedig yn gwneyd gwaith athraw effeithiol a chymeradwy. I ba ddyben gan hyny y soniwch wrthyf am y segurwyr yn yr Eglwysi Cadeiriol, y rhai ni chymerent boen i ddysgu y bobl, os ydynt yn alluog i wneyd hyny? Os wyf yn traethu yr hyn nad yw wirionedd, cerydder fi, a bydded i mi gael dyoddef fel enllibwr, ond os gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, pa ham na chaniateir i mi ei draethu? Mi a wn yn dda yr edrychir yn y dyddiau hyn ar unrhyw beth a ddywedir yn erbyn personiaid, fel yr edrychid ar waith Amos yn prophwydo yn Bethel, ac y cyfrifir ef yn ymyriad a materion gwladol. O ddyddiau truenus! Y fath amseroedd blinion a ddaeth arnom, pan na feiddir dywedyd dim yn erbyn lladron a llofruddwyr eneidiau, amddiffynwyr pob rhyw drachwant, gorthrymwyr beilchion, yn fwy na thebygol i'r Pab, dyna chwalwyr gwirionedd Duw, penbyliaid diddysg, arweinwyr deillion, halen wedi diflasu, meddwon, godinebwyr, llwynogod a bleiddiaid, tom a llaid, i fod yn fyr, cut moch pob math o aflendid, gwarth a gwaradwydd y weinidogaeth sanctaidd. Ie, ni feiddir agoryd genau yn erbyn y tylwyth hyn, heb i hyny gael ei gyfrif yn ymyriad a'r llywodraeth. Er fod yr holl drueni, yr anwybodaeth a'r anfoesoldeb sydd yn y wlad, wedi cael ei achosi yn benaf gan yr esgobion a'u harweinwyr deillion eraill, etto, ni feiddia neb ddyweyd hyny, heb gael ei gyfrif yn ddyhiryn aflonydd, ac yn wrthryfelwr yn erbyn y llywodraeth. O'm rhan i, gan hyny, fe gaiff y prophwyd Malachi ymdrin a chwi, a barned y darllenydd pa un a ddylai ei eiriau eich taro a'ch dychrynu yn ofnadwy. 'Mab a anrhydedda ei dad,' medd y prophwyd, 'a gweinidog ei feistr, ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn?' medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi esgobion Cymru, y rhai a ddirmygwch ei enw. Os dywedwch, yn mha beth y dirmygasom ei enw? Atebir mai wrth offrymu y dall, y cloff, a'r clwyfus, i'r weinidogaeth sanctaidd, a dyweyd nad yw hyny yn ddrwg, ac felly, yr ydych yn dirmygu enw yr Arglwydd, oblegid eich bod yn eich ymddygiad yn dyweyd nad yw y weinidogaeth yn deilwng o barch. Canys yr ydych chwi yn gwybod, ac y mae holl Gymru yn gwybod, eich bod wedi derbyn i'r swydd sanctaidd, ddyhirod, crwydriaid segur, sydd yn myned o gylch y wlad dan yr enw ysgolheigion, oferwyr, a dynion newynllyd, y rhai a ymwthiasant i'r weinidogaeth wedi methu ennill eu bara mewn un alwedigaeth arall. Yr ydych yn goddef rhai yn y weinidogaeth y gwyddys eu bod yn odinebwyr, yn lladron, yn frolwyr, yn dyngwyr a rhegwyr, ie, rhai y gellir dyweyd am danynt yn ngeiriau Job, Meibion yr ynfyd, a meibion y rhai anenwog, gwaelach na'r ddaear.' Onid ydych wrth osod y cyfryw yn y weinidogaeth yn dyweyd nad yw gwasanaeth yr Arglwydd yn deilwng o barch."[3]

Os awgryma rhai fod Penry yn siarad mewn iaith rhy gref oddiar ragfarn at yr Eglwys Sefydledig, ac os gwrthoda rhai ei dystiolaeth ar gyfrif hyny, mae y tystiolaethau canlynol y fath nas gall yr eglwyswr mwyaf rhagfarnllyd eu gwrthod, oblegid tystiolaethau eglwyswyr selog ydynt. Yn Gorphenaf, 1623, ymwelodd Dr. Lewis Baily, esgob Bangor, a gwahanol blwyfydd ei esgobaeth. Nid yw ei arglwyddiaeth yn canmol dim a wnelid yn un o'r plwyfydd, ond dywed am y lleoedd canlynol fel hyn:—

ΜΟΝ.

LLANFAIRPWLLGWYNGYLL A LLANDYSILIO. Ni bu ond dwy bregeth yn y lleoedd hyn yn y deuddeng mis diweddaf, y rhai a draddodwyd gan y periglor, Syr John Cadwaladr.

PENMON. Ni chafwyd un bregeth yma er's pump neu chwe' blynedd.

LLANDDONA. Bob yn ail Sabboth yn unig y darllenir y gwasanaeth yma, er fod y person Syr Lewis Richards wedi cael gorchymyn i'w ddarllen bob Sabboth.

LLANDDYFNAN. Nid yw y pregethau tri-misol yn cael eu pregethu yma.

LLANGWYLLOG. Nid oes yma bregethu o gwbl.

LLANFECHELL. Achwynir ar y person yma am beidio cyfranu at gynal y tylodion, am fyw allan o'i blwyf, ac am esgeuluso pregethu.

LLANDDEUSANT a LLANFAIR-YN-NGHYNWY. Y curad yma oedd Syr John Edwards. Achwynir ei fod yn esgeuluso darllen y gwasanaeth a'r homiliau, cofrestru bedyddiadau, priodasau, a chladdedigaethau, nad oedd wedi traddodi un bregeth er y Sulgwyn blwyddyn i'r diweddaf, ei fod yn treulio llawer o'i amser yn y tafarndai, ac yn feddwyn cyhoeddus, a'i fod yn froliwr, ac yn ffraeo a'i blwyfolion, ac a dynion eraill yn fynych.

LLANFWROG a LLANFAETHLU. Ni chafwyd yn y lleoedd hyn ond dwy bregeth er's deuddeng mis.

SIR GAERNARFON.

LLANLLECHID. Achwynir fod Dr. Williams yn anfon ei geffylau i aflanhau y fynwent, ac nad oedd neb yn glanhau ar eu hol. Ni chafwyd yma ond tair pregeth yn y flwyddyn ddiweddaf.

CAERHUN. Ni chafwyd yma ond tair pregeth yn y deuddeng mis diweddaf, a buwyd am un Sabboth heb un math o wasanaeth.

LLANBEDRYCENIN. Ni chafwyd yma ond dwy neu dair pregeth yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.

DOLYDDELEN. Nid oes yma ddim pregethu un amser.

DWYGYFYLCHI. Achwynir ar Syr Edward Jones, y Ficer, am ladd gwair ar y fynwent, a'i throi yn ydlan. Beïir arno hefyd am gadw ei gyfrwy a chycheidiau o wenyn yn yr eglwys, ac am esgeuluso cadw cymundeb y Pasg diweddaf.

ABERDARON. Achwynir ar Syr Griffith Piers, y Ficer, am adael corph plentyn Hugh Thomas, heb ei gladdu o ddydd Sadwrn hyd ddydd Sul, a phan y daeth yno y Sul ei fod yn feddw, ac ar ol y weddi brydnhawnol aeth o'r eglwys i'r tafarndy. Cyhuddir ef hefyd o gael rhybudd ar un dydd Sadwrn i ddyfod i gladdu un marw y Sul, ond na ddaeth i gladdu y marw, nac i ddarllen y gwasanaeth arferol.

LLANGIAN. Beïir Syr Robert Griffith, y Curad, am wrthod myned i roddi y cymun i gleifion, pan ofynid ganddo, ac hefyd am beidio myned i fedyddio plant nychlyd, a gadael iddynt farw yn ddifedydd, ac esgeuluso myned i gladdu y meirw. Dim pregethu tri-misol yma.

LLANBEBLIG. Dim pregethu tri-misol yma hefyd.

SIR FEIRIONYDD.

LLANDECWYN a LLANFIHANGEL-Y-TRAETHAU. Ni chafwyd ond un bregeth yn Llanfihangel-y-traethau, a dim ond dwy neu dair yn Llandecwyn, ac nid yw y person yn cyfranu dim at gynhaliaeth y tylodion.

LLANEGRYN. Dim ond dwy bregeth a gafwyd yma.

PENNAL. Anfynych y maent yn cael pregethau yma.

TRAWSFYNYDD. Y mae yn arferiad yn y plwyf hwn i osod cyrph i lawr ar y croes-ffyrdd, wrth eu cymeryd i'w claddu, a dyweyd gweddi neu ddwy uwch eu penau. Syr Robert Lloyd yw y person yma.

SIR DREFALDWYN.

LLANWNOG. Achwynir nad oes yma ddim pregethu.

Cymerwyd y difyniadau uchod o ysgrifau y diweddar Barch. J. Jones, person Llanllyfni, y rhai a gyhoeddwyd yn yr Archeologia Cambrensis, am Hydref, 1863. Mae yn debygol fod Mr. Jones wedi eu copïo o hen lawysgrifau perthynol i'r llys esgobol yn Mangor. Gellir casglu oddiwrth y difyniadau uchod, lle y sonir mor fynych am bregethu tri-misol, na ddysgwylid i'r offeiriaid draddodi ond un bregeth bob tri mis. Am esgeuluso hyny y beïid hwy. Yr oedd y gair Syr gynt yn cael ei arfer o flaen enw yr offeiriaid, yn gyfystyr a'r gair Parchedig yn yr oes hon.

Pe gellid dyfod o hyd i hen gofnodion pob un o lysoedd esgobyddol Cymru, mae yn ddiameu y tarewid wrth luaws o ffeithiau cyffelyb yn mhob un o honynt. Mae desgrifiad Ficer Llanymddyfri o anfoesoldeb offeiriaid Cymru, yn ei oes ef, yn hysbys i bob darllenydd Cymreig, ac y mae yn wybyddus nad oedd yr hen Ficer mewn un radd yn gogwyddo at Ymneillduaeth, yr hon oedd wedi dechreu gwneyd ei hymddangosiad yn y Dywysogaeth tua saith neu wyth mlynedd cyn ei farwolaeth ef. Mewn deiseb a gyflwynwyd i'r Senedd Mehefin 26ain, 1641, dywedir nad oedd yn Nghymru gynifer o bregethwyr galluog a chydwybodol ag oedd ynddi o siroedd, a bod yr ychydig oedd i'w cael mewn rhai parthau yn cael eu herlid yn ddidrugaredd. Yn rhestr yr offeiriaid a fwriwyd allan o'u bywioliaethau rhwng 1642 a 1650, yr ydym yn cael i amryw gael eu diswyddo am beidio cartrefu yn eu plwyfydd, eraill am annghymwysder i waith y weinidogaeth, a llawer am feddwdod, puteindra, a phechodau cyffelyb.

Pan yr oedd yr offeiriaid—athrawon y bobl—yn gymeriadau mor lygredig ac anheilwng, nis gellir disgwyl dim amgen na bod y werin yn gorwedd mewn anwybodaeth, ac yn ymdroi yn mhob rhyw aflendid a drygioni. Yn rhagymadrodd y weithred Seneddol a basiwyd yn y flwyddyn 1563, er awdurdodi cyfieithiad y Bibl i'r Gymraeg, dywedir, "fod deiliaid hoffus ei Mawrhydi, y rhai a gyfaneddant yn Nghymru, yr hon sydd ran nid bychan o'r deyrnas hon, yn hollol amddifaid o Air sanctaidd Duw, ac yn byw mewn cyffelyb, neu yn hytrach fwy, o dywyllwch ac anwybodaeth nag yr oeddynt ynddo yn amser Pabyddiaeth." Mae Dr. Richard Davies, esgob Tyddewi, yn ei lythyr o flaen cyfieithiad Salesbury o'r Testament Newydd, yn dyweyd fod trais, lladrad, tyngu anudon, twyll, a phob math o ddrygau, yn gwarthruddo pob dosbarth o gymdeithas trwy y wlad, a bod palasdai y pendefigion yn ffauau lladron. Mae ysgrifeniadau John Penry yn cynwys y desgrifiadau mwyaf torcalonus o gyflwr moesol, anwybodaeth, a thrueni ysbrydol ei gydwladwyr. Dywed esgob Llanelwy, mewn llythyr at yr archesgob Laud, yn 1634, "Nid ydym mewn un ran o'r esgobaeth yn cael ein blino gan Anghydffurfiaeth, ond fe fyddai yn dda genyf pe gallwn ddyweyd ein bod mor rydd oddiwrth goel-grefydd ac anfoesoldeb ag yr ydym oddiwrth Anghydffurfiaeth."[4] Dywed Ficer Llanymddyfri, nad oedd un o bob cant o'i gydwladwyr yn medru darllen Gair Duw, nad oedd un copi o hono i'w gael hyd yn oed yn mhalasdai llawer o'r boneddigion, chwaithach yn anedd-dai y tylodion, a bod aflendid y Sodomiaid, lladrad y Cretiaid, meddwdod y Parthiaid, celwydd y Groegiaid, ac anffyddiaeth y Samariaid yn ffynu trwy yr holl wlad. Yn y flwyddyn 1646, cyhoeddodd John Lewis, Yswain, o'r Glasgrug, yn sir Aberteifi, lyfryn bychan a alwai "Myfyrdodau ar yr amserau presenol, neu y Senedd yn cael ei hegluro i Gymru," Yn y llyfryn hwn, dywed, "Mewn gair, gydwladwyr, mae yn rhaid i mi ddyweyd wrthych ein bod yn ein twyllo ein hunain, ac nad ydym yn deall ein cyflwr. Ni a fynwn gael ein cyfrif yn Brotestaniaid da, ond och, pa fodd y gallwn fod yn gyfryw, pan yr ydym yn ddiffygiol o'r moddion angenrheidiol tuag at fod felly. Dyweyd y gall darlleniad diofal o'r Llyfr Gweddi Cyffredin ein gwneyd yn Brotestaniaid, yw dyweyd y gall hyny wneuthur gwyrthiau. Pregeth druenus o wael, yn awr a phryd arall, a hyny, naill ai gan weinidog anwybodus, neu un gwaradwyddus ei gymeriad, neu bob un o'r ddau. Och, pa beth a all hyny wneyd? Ac yn gyffredin, y mae y cyfryw bregethau yn cael eu llenwi a'r fath sothach, fel y mae yn anhawdd penderfynu, pa un a'i arogl y cwrw neu y llogell sydd gryfaf arnynt. Mewn llawer o fanau, prin unwaith yn y flwyddyn y ceir unrhyw fath o bregeth. Ychydig o les a wna haner awr o gawod i'r ddaear agenog ar dymor o sychder mawr. Mae yn rhaid i mi ddyweyd wrthych, a gadael allan y boneddigion, ac ychydig bersonau a gawsant addysg, ie, yr wyf yn beiddio dywedyd yn hyf, nas gallwn ni yn Nghymru, fod yn ddim amgen na Phabyddion, neu rywbeth gwaeth. Nid oes raid i mi eich adgofio am yr heidiau o seremoniau deillion a choel-grefyddol sydd yn ein mysg, yn myned dan yr enw hen arferion diddrwg, y mynych weddio ar y seintiau, a'r pererindodau at fynonau a chreigiau. Na thybiwch fy mod i yn ymhyfrydu i ddynoethi gwendidau fy ngwlad. Mae yn arwydd o ewyllys da i ddyweyd wrth un am ei glefyd yn ngwydd y meddyg. Nid myfi yw y cyntaf, ond y mae ein cydwladwr dysgedig, Dr. Powell, yn cwyno yn ei lyfrau o herwydd ein cyflwr gresynol."

Mae diofalwch pechadurus yr esgobion a'r offeiriaid Cymreig yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg, ac amddifadrwydd y bobl o foddion gwybodaeth, fel y canlyniad o hyny, i'w gweled yn amlwg yn y ffaith i Air yr Arglwydd gael ei gadw oddiwrth y werin am yn agos i gan' mlynedd ar ol i Babyddiaeth beidio bob yn grefydd sefydledig y wlad. "Buwyd am fwy na thri-ugain-a-deg o flynyddau ar ol sefydliad y diwygiad dan y frenhines Elizabeth, ac am yn agos i gan' mlynedd ar ol ysgariad Prydain oddiwrth Eglwys Rhufain, heb Fiblau yn Nghymru, ond yn unig yn yr eglwysi cadeiriol a'r eglwysi plwyfol. Nid oedd dim darpariaeth wedi cael ei wneyd ar gyfer y bobl yn gyffredin, fel pe na buasai dim a wnelsent hwy a Gair Duw, yn ychwaneg na'i wrandaw yn cael ei ddarllen yn yr eglwysi.[5]

Sylwyd yn barod fod rhanau bychain o'r Ysgrythyrau Sanctaidd wedi cael eu cyfieithu a'u hargraffu yn y Gymraeg yn 1546 a 1551. Yn y flwyddyn 1563, gwnaed gweithred Seneddol yn gorchymyn, "Fod y Bibl, cynwysedig o'r Testament Newydd a'r Hen, yn nghyd a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, a Gweinyddiad y Sacramentau, i gael eu cyfieithu i'r Frythonaeg, neu y Gymraeg; fod y gwaith i gael ei arolygu, ei ddarllen, a'i awdurdodi gan esgobion Llanelwy, Bangor, Tyddewi, Llandaf, a Henffordd; a'i fod i gael ei argraffu, ac i fod yn barod i gael ei ddefnyddio yn yr eglwysi erbyn y dydd cyntaf o Fawrth yn y flwyddyn pymtheg-cant-a-thri-ugain-a-chwech, a bod pob un o'r esgobion rhag-grybwylledig i gael eu dirwyo i ddeugain punt os na fydd y gwaith wedi ei orphen." Pa beth bynag a ddaeth o'r dirwyon, fe esgeuluswyd y gwaith. Yn mhen blwyddyn ar ol yr amser a nodid yn y ddeddf, gwnaeth y Testament Newydd yn unig, ac nid yr holl Fibl, fel y gorchymynid, ei ymddangosiad. Gan William Salesbury, Yswain, y cyfieithwyd ef oll, oddieithr 1 Timotheus, yr Hebreaid, Iago, a dau epistol Pedr, y rhai a gyfieithwyd gan Dr. Richard Davies, Esgob Tyddewi, a'r Datguddiad, cyfieithiedig gan Thomas Huet, offeiriaid Cefnllys, yn sir Frycheiniog, a Dyserth, yn sir Faesyfed. Ar ol hyn aeth un-mlynedd-ar-hugain heibio cyn i'r Hen Destament gael ei gyfieithu a'i gyhoeddi; Dr. William Morgan, person Llanrhaiadr-yn-Mochnant, a gyfieithodd yr Hen Destament. Darfu iddo hefyd ddiwygio cyfieithiad Salesbury o'r Testament Newydd, a chyhoeddi y Bibl yn gyflawn mewn cyfrol fawr un plyg, yn 1588. Mae Dr. Llewellyn yn ymdrechu esgusodi yr esgobion am eu hesgeulusdod i ddwyn allan gyfieithiad o'r holl Fibl rhwng 1563 a 1566, ac yn awgrymu na roddwyd digon o amser iddynt at y fath waith, ond y mae Dr. Morgan, yn ei lythyr Lladin at y frenhines Elizabeth, yr hwn sydd yn ei argraffiad o'r Bibl, yn priodoli y peth i ddiofalwch a seguryd, ac y mae y seraphaidd John Penry, yr hwn, fel yr ymddengys, oedd wedi cyfieithu y Prophwydi lleiaf, pan y gosodwyd ataliad ar waith ei ffydd, a llafur ei gariad, gan ei erlidwyr, yn dyweyd y gallasai unrhyw ddyn cyfarwydd a'r ieithoedd gwreiddiol, wneyd yr holl waith, gyda bendith Duw, mewn dwy flynedd, ac y gallasai ychwaneg o ddwylaw ei wneyd yn gynt.[6] Prin ddigon o gopïau oedd yn argraffiad Dr. Morgan i gael un Bibl ar bob pulpud yn Nghymru. Ond ni chafwyd un argraffiad arall cyn 1620. pryd yr oedd y rhan fwyaf o'r argraffiad cyntaf wedi treulio a phydru ar bulpudau lleithion yr eglwysi. Argraffiad mawr unplyg drachefn oedd yr un a ddygwyd allan yn 1620, gan Dr. Richard Parry, Esgob Llanelwy. Amcenid hwn etto yn benaf at wasanaeth pulpudau y Llanau. Yn 1630, y cafwyd yr argraffiad cyntaf o'r Bibl Cymreig at wasanaeth y bobl. Mae hwn wedi ei argraffu yn hardd, ond fod y llythyrenau yn fân. Ar draul Rowland Heylin, Ysw., a Syr Thomas Middleton, dau Gymro gwladgarol a gyfaneddent yn Llundain, y cyhoeddwyd yr argraffiad hwn. Bernir mai tua 1500 o gopïau a argraffwyd—rhy brin ddau gopi ar gyfer pob plwyf yn y Dywysogaeth.

Yn nghanol y tywyllwch Aiphtaidd a ordôai ein henafiaid, o ddyddiau Harri VIII. hyd ddyddiau Siarl I., mae yn hyfryd canfod ambell seren fechan yn rhoddi ychydig o oleu gwan yn y ffurfafen dywyll. Dylai enwau William Salesbury, Dr. Richard Davies, Dr. William Morgan, Dr. David Powell, Dr. Richard Parry, Mr. Edmund Prys, a Dr. John Davies, o Fallwyd, fod yn barchus gan bob Cymro. Er nad oedd un o'r gwyr hyn yn deilwng i'w cymharu a'r lleiaf enwog yn mysg Diwygwyr Protestanaidd y Cyfandir, Lloegr a Scotland, fel gweinidogion llafurus a phregethwyr galluog, etto, yr oeddynt yn ysgolheigion o'r radd uchaf yn eu hoes, yn wladgarwyr trwyadl, ac yn ddynion o ymarweddiad teilwng. Er i Gymru, yn y cyfnod hwn, gael ei bendithio ag ysgolheigion rhagorol, a chymhwys yn mhob ystyr at gyfieithu yr Ysgrythyrau, etto nid ymddengys i un Cymro galluog, selog, a phoblogaidd, gyfodi i bregethu y Gair yn effeithiol i'r werin yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg, ond y merthyredig JOHN PENRY. Gan y gellir edrych ar y gwr enwog hwn fel seren-ddydd Ymneillduaeth Cymru, ni byddai ein rhagdraith i Hanes yr Eglwysi Annibynol yn gyflawn heb ei hanes ef yn gymedrol helaeth.

Ganwyd John Penry yn y Cefnbrith, yn mblwyf Llangamarch, yn sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1559. Enw ei dad oedd Meredith Penry. Pan yn bedair-ar-bymtheg oed, aeth i brif athrofa Caergrawnt, lle y bu am yn agos i wyth mlynedd. Pan yr aeth i'r athrofa, yr oedd fel y rhan fwyaf o'i gydwladwyr, yn rhagfarnllyd dros Babyddiaeth, ond trwy ymgyfeillachu a'r Puritaniaid yno, ennillwyd ef, nid yn unig i fod yn Brotestant, ond hefyd yn Buritan selog. Yn y flwyddyn 1586, aeth yn fyfyriwr i St. Alban's Hall, Rhydychain. Ni wyddys pa beth oedd yr achos iddo symud o Gaergrawnt i Rydychain, ond daeth yn fuan yno i enwogrwydd mawr fel pregethwr nodedig yn y brif athrofa.

Prif nod bywyd Mr. Penry, o'r pryd y trowyd ef at Brotestaniaeth, hyd ddydd ei farwolaeth, oedd tynu cynlluniau er efengyleiddio gwlad ei enedigaeth. Mae yn dra thebygol iddo fod yn pregethu yn fynych yn Nghymru ar adegau ei ymweliadau a'i berthynasau pan yr oedd yn yr athrofa, ac i lawer o'i gydwladwyr gael eu hennill trwyddo i wybodaeth o'r gwirionedd. Yn y flwyddyn 1587, cyhoeddodd lyfryn a alwai, The equity of an humble Supplication. Yn y llyfryn hwn, yr hwn sydd fath o ddeiseb at y Frenhines a'r Senedd, galara o herwydd amddifadrwydd ei gydwladwyr o foddion gwybodaeth grefyddol, ac anoga ei Mawrhydi a'r Senedd i fabwysiadu moddion effeithiol er gwneyd yr efengyl yn hysbys i'r Cymry. "Y mae miloedd," meddai, "o'n pobl ni yn Nghymru na wyddent ddim am Iesu Grist fel Duw na Dyn, Prophwyd nac Offeiriad, prin y maent erioed wedi clywed am dano. O gyflwr truenus a diymgeledd! Mae pregethu mewn llawer rhan o'r wlad yn hollol anadnabyddus. Mewn rhai manau, darllenir pregeth unwaith bob tri mis." Priodola Mr. Penry gyflwr truenus ei gydwladwyr, i'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r offeiriaid a ddalient y bywioliaethau eglwysig yn byw allan o'r wlad, neu yn mhell o'u plwyfydd, eu bod eu hunain yn anwybodus o'r efengyl, yn anfoesol eu bucheddau, neu yn anwybodus o'r iaith Gymraeg. Efe a ddywed ei fod o'r farn nad oedd dim ond efengyl bur yn cael ei phregethu yn alluog, a difrifol yn iaith y bobl, gan ddynion sanctaidd a chymhwys, a allasai symud ymaith yr anwybodaeth a'r drygioni a lanwant y wlad. Y cynllun a gynygiai ef er cael digon o weinidogion effeithiol, oedd cael cynifer o'r Cymry ag oedd yn weinidogion yn Lloegr i ddychwelyd i'w gwlad enedigol, a rhoddi anogaeth i gynifer o leygwyr duwiol ag a allesid ddyfod o hyd iddynt, i arfer eu doniau fel pregethwyr. Cyfansoddwyd deiseb yn cynwys sylwedd y llyfryn, a chyflwynwyd hi i'r Senedd gan un o'r aelodau Cymreig, yr hwn mewn araeth yn y Tŷ a sicrhaodd fod y ffeithiau a gynwysai yn gywir. Ond yr unig sylw a wnaed o'r peth oedd anfon allan warant i ddal yr awdwr, gyda gorchymyn i ddinystrio pob copi o'r llyfr. Rhoddwyd Penry yn ngharchar, ac ar ol ei gadw yno am fis, dygwyd ef ger bron i gael math o brawf, neu gerydd. Condemniwyd ei gynllun i efengyleiddio Cymru gan yr Archesgob Whitgift, fel peth "anoddefadwy," a'r syniad a osodid allan yn y llyfr, nad oedd un offeiriad na fedrai bregethu yn weinidog Cristionogol, fel "heresi felldigedig." Atebodd Penry yr Archesgob yn ddiarswyd, "Yr wyf yn diolch i Dduw fy mod wedi dysgu y fath heresi, a thrwy ras Duw, byddai yn well genyf roddi i fyny fy mywyd na rhoddi i fyny yr heresi hon." Ebe Esgob Winchester, yr hwn oedd yn y llys, "Yr wyf fi yn dyweyd i ti mai heresi ydyw, ac y bydd raid i ti alw dy eiriau yn ol." "Dim tra y byddaf byw trwy gymorth Duw," atebai Penry. Mewn canlyniad i hyn, cadwyd ef yn ngharchar am dymor yn hwy. Nid dyn i gymeryd ei ddigaloni gan fygythion ac erledigaethau esgobol, nac i gilio o'i lwybr rhag ofn angau oedd Penry, gan hyny, yr ydym yn ei gael yn y flwyddyn nesaf etto (1588), yn cyhoeddi llyfryn arall ar yr un pwngc, a thrachefn yr un flwyddyn, cyhoeddodd drydydd llyfryn, yr hwn a elwid Anogaeth i Lywodraethwyr a phobl Cymru i lafurio yn ddifrifol am gael pregethiad o'r efengyl yn eu plith. Yn y llyfr hwn y mae yn anerch offeiriaid mudion Cymru yn y dull grymus a ganlyn: "Yr wyf yn gwybod mai dynion penweinion ydyw y rhan fwyaf o honoch chwi-trueiniaid heb ddim amgen mewn golwg genych na chael bywioliaeth. Pa beth a ddywedaf wrthych chwi, y rhai a allech ddyweyd wrthych eich hunain, yr un modd a'r prophwydi ynfyd yn Zech. xiii. 5. Er ein bod yn gwisgo dillad duon ac offeryn-grys, llafurwyr y ddaear ydym ni. Byddai yr un peth i ddyn fyned i ofyn cyngor i'w drothwy, neu geisio gan ei ffon i ddysgu gwybodaeth iddo, a dyfod atoch chwi am addysg. Nid gweinidogion ydych chwi, fel yr wyf fi wedi profi, ac y profaf etto. Yr ydych yn y modd mwyaf haerllug yn halogi y Sacramentau, ac yn galw am lid a dialedd Duw i gael ei dywallt arnoch. Rhoddwch y swyddau yr ydych wedi ymruthro iddynt i fyny, heb yr hyn nid wyf fi yn gweled ei bod yn bosibl i chwi fod yn gadwedig. Byddai yn well i chwi fyw yn dylawd yma am dymor, na bod yn golledig byth. A oes rhyw reswm i chwi mewn achos mor ddifrifol a hwn, adael i olwg ar eich bywioliaeth yn y byd hwn eich cadw mewn swydd nad ydych yn gymhwys iddi? Fe ofala yr Arglwydd am danoch chwi, a'ch gwragedd, a'ch plant, os bydd i chwi o gydwybod roddi y weinidogaeth i fyny, ac y mae yr ynadon yn rhwym o edrych na byddoch mewn eisiau. Yr ydych yn awr yn byw ar ladrad, cysegr-yspail, a dinystr eneidiau." Ar ol rhoddi gwers i'r offeiriaid mudion na fedrent bregethu, y mae yn troi at y bobl, gan eu cymell i ymdrechu cael gweinidogion cymhwys i'w porthi a gwybodaeth grefyddol, ac yn hytrach na bod dim a wnelent a'r gau-fugeiliaid oedd wedi eu gosod arnynt, cynghora hwynt i fynu gweinidogion cymhwys, pe buasent yn eu cynal a chyfraniadau gwirfoddol, mewn ychwanegiad at y tâl y gorfodai y gyfraith hwy i'w dalu i'r segurwyr. Y mae y Cymry er's canrifoedd bellach wedi dysgu y wers hon—wedi cynal eu hachosion gwirfoddol eu hunain, ac Eglwys y Llywodraeth hefyd, a pha agwedd fuasai ar y wlad oni buasai i hyn gael ei wneyd? Hwn oedd apeliad olaf y gwladgarwr Cristionogol at ei gydwladwyr. Gwyddai ei fod yn peryglu ei fywyd wrth ymdrechu dros les ysbrydol ei wlad. "Nis gwn," meddai, "faint y perygl yr wyf yn fy ngosod fy hun ynddo wrth hyn, ond yr wyf yn eich gweled, chwi fy anwyl gydwladwyr yn marw, ac yr wyf yn gresynu. Yr wyf yn dyfod megis a rhaff am fy ngwddf i geisio eich hachub. Pa fodd bynag y digwyddo i mi, yr wyf yn ymdrechu cael pregethiad o'r efengyl i chwi. Os costia hyny fy mywyd, byddaf wedi ei rhoddi i fyny mewn achos teilwng." Darfu i'r ysgrifeniadau hyn gyffroi llid yr esgobion—pleidwyr llygredigaeth eglwysig—yn ddifesur, fel na chafodd yr awdwr ddim llonyddwch mwy nes iddynt yn farbaraidd ei osod i farwolaeth. Yr oedd gwaith myfyriwr Cymreig tylawd, ac o egwyddorion Puritanaidd, yn beiddio galw sylw at y cynllun o efengyleiddio Cymru trwy offerynoliaeth pregethwyr cynorthwyol, a chyfraniadau gwirfoddol, yn bechod mor ofnadwy yn erbyn yr esgobion, nes y cynhyrfwyd eu llid i'r fath raddau, fel nad oedd dim a'u dofai ond gwaed calon y troseddwr. Dilynid ef i bob lle gan geisbwliaid yr esgobion, fel y bu raid iddo ffoi am ei fywyd i Scotland. Cyrhaeddodd ef a'i deulu bychan yno yn nechreu y flwyddyn 1589, a chafodd ei dderbyn a'i ymgeleddu yn garedig gan gyfeillion crefyddol, a bu yn ddiwyd a defnyddiol iawn yn eu mysg am fwy na thair blynedd, fel pregethwr ac ysgrifenwr llyfrau crefyddol. Pan y clywodd Archesgob Canterbury ei fod yn Scotland, cafodd gan y Frenhines Elizabeth, ysgrifenu llythyr at James, Brenin y wlad hono, i ddeisyf arno ei anfon yn ol i Loegr. Mewn ufudd-dod i gais ei chwaer-goronog o Loegr, cyhoeddodd James ddedfryd alldudiaeth arno o'i wlad ef, ond gwrthododd y gweinidogion yn mhob man wneyd y cyhoeddiad Brenhinol yn hysbys. Gallasai dreulio ai holl fywyd yn Scotland yn ddiogel a defnyddiol, ond o herwydd ei awydd angerddol am wneyd lles crefyddol i'w gydwladwyr yn Nghymru, dychwelodd i Loegr yn Medi, 1592, ac ymunodd yn Llundain a'r gynnulleidfa ddirgelaidd o Ymneillduwyr oedd yno. Bwriadai ar ei ddychweliad o Scotland, ofyn caniatâd y Frenhines i fyned i Gymru i bregethu yno yn mhob lle y cawsai dderbyniad. Ar ol bod yn ddefnyddiol yn mysg yr Ymneillduwyr yn Llundain am chwe' mis, a phan yn disgwyl cyfle i osod ei gais o flaen y Frenhines, ar ran Cymru, daliwyd ef Mawrth 22ain, 1593, a dygwyd ef fath o brawf, yr hwn, medd Syr Thomas Phillips, "Sydd yn warth i lysoedd barn Lloegr." Pryd nad oedd un gyfraith i'w gondemnio, ni phetrusodd yr Archesgob a'i gyngreiriaid, i droi yn llofruddion iddo. Cafodd ei ddienyddio yn St. Thomas-a-Watering, ger Llundain, am bump o'r gloch yn y prydnawn Mai 29ain, 1593, pan nad oedd ond pedair-ar-ddeg-ar- hugain oed. Gadawodd weddw a phedair o ferched bychain, a lluaws of gyfeillion Cristionogol i alaru ar ei ol. Nid ymyrodd Penry ddim erioed a phethau gwladol. Ei unig drosedd yn erbyn ei leiddiaid oedd dynoethi, mewn iaith gref, ymddygiadau gwaradwyddus offeiriaid Cymru, y rhai a ddinystrient eneidiau ei gydwladwyr, ac addef ei hun yn Ymneillduwr yn y chwe' mis olaf o'i fywyd.

Mae y llythyrau a ysgrifenwyd ganddo yn y carchar at ei wraig, ei ferched, ac Arglwydd Barleigh, ychydig amser cyn ei ddienyddiad, y fath y byddai yn anhawdd i neb eu darllen gyda llygaid sychion. Yn ei lythyr at ei ferched bychain dywed, "Y mae cenedl y Cymru er's amryw ganrifoedd bellach wedi bod dan wialen yr Arglwydd, ond yr wyf yn gobeithio fod yr amser i drugarhau wrthynt, trwy beri i wir oleuni yr efengyl lewyrchu arnynt, yn awr wedi dyfod. Fy anwyl ferched, gweddiwch chwi yn daer ar yr Arglwydd am hyn, pan ddeloch i oed i ddeall pa beth yw gweddi; a byddwch yn wastad yn barod i gynorthwyo y plentyn lleiaf o'r wlad dylawd hono, a fyddo mewn angen am eich cymorth. Pa fodd bynag ad-dalwch, os byddwch yn alluog, i'm perthynasau agosaf i, megis fy mam, fy mrodyr, fy chwiorydd, &c., am eu caredigrwydd i mi. Byddant hwy, yr wyf yn sicr, yn garedig hyd eithaf eu gallu i chwi a'ch mam, er fy mwyn i. Ac ymdrechwch fod yn gysur neillduol yn fy lle i, i benwyni fy mam, yr hon fu yn foddion yn llaw yr Arglwydd i ddwyn traul fy addysg i, trwy yr hyn y daethum i wybodaeth o'r ffydd werthfawr hono yn Nghrist Iesu, er amddiffyn yr hon yr wyf yn sefyll yn awr mewn llawenydd mawr yn fy enaid, er yn drallodus iawn yn fy amgylchiadau allanol. Gweddiwch lawer yn ddibaid am lwyddiant teyrnasiad ei hardderchocaf fawrhydi y Frenhines Elizabeth, ac am ddiogelwch ei chorph a'i henaid. Byddwch yn gynorthwyol a charedig i bob dyeithriaid, ac yn neillduol i bobl Scotland, lle y bum i, a'ch mam, a dwy o honoch chwi, yn byw fel dyeithriaid, ac etto yn cael ein croesawi, ac yn derbyn caredigrwydd mawr er mwyn enw ein Duw. Byddwch yn hynaws i'r weddw a'r amddifad, nid yn unig am fod deddf Duw a natur yn gofyn hyny ar eich dwylaw, ond hefyd, oblegid am ddim a wn i yn amgen, fy mod i yn debyg o'ch gadael chwi yn amddifaid, a'ch mam yn weddw.

Pa beth bynag a ddel o honoch chwi yn eich hamgylchiadau allanol, gofelwch am aros yn yr eglwys orthrymedig hon, yn yr hon yr wyf fi yn eich gadael, neu mewn rhyw gymdeithas bur arall o saint. Mae yn ddiameu genyf y bydd i Dduw gyffroi llawer o'i blant i fod yn garedig i'w ffyddlon chwaer, a'm gwraig, eich mam, ac i chwithau hefyd, er fy mwyn i. Er i chwi gael eich dwyn i fyny mewn sefyllfa isel, etto, fy anwyl blant, dysgwch ddarllen, fel y byddoch ddydd a nos yn medru ymgynefino a Gair yr Arglwydd. Os bydd eich mam yn alluog i'ch cadw gyda eich gilydd, yr wyf yn sicr y dysga hi chwi i ddarllen ac ysgrifenu. Yr wyf wedi gadael pedwar o Fiblau, un i bob un o honoch, a hyn yw yr unig dreftadaeth, neu waddol sydd genyf i'w adael i chwi. Yr wyf yn deisyf arnoch, ac yn gorchymyn i chwi, nid yn unig eu cadw, ond hefyd eu darllen ddydd a nos, ac hefyd cyn darllen, ac wrth ac ar ol darllen, byddwch daer mewn gweddi a myfyrdod am fodd i ddeall a gwneyd ewyllys eich Duw. O garchar cyfyng, gyda llawer o ddagrau, etto, mewn mwynhad o lawer o lawenydd yn yr Ysbryd Glan, y 10fed dydd, o'r pedwerydd mis hwn, Ebrill, 1593, eich tad tylawd, yma ar y ddaear yn bryderus iawn am gael ail uno a chwi mewn cymdeithas dragywyddol yn nheyrnas Iesu Grist.
JOHN PENRY.
Tyst eiddil yn y byd hwn dros hawliau Iesu Grist, ac yn erbyn ffieidddra y Babel Rufeinig."

Yn ei lythyr at Arglwydd Burleigh, yr hwn a ysgrifenodd saith niwrnod cyn ei ddienyddiad, dywed, "Yr wyf yn diolch i Dduw, pa bryd bynag y daw terfyn i'm dyddiau, ac nid wyf yn disgwyl y caf fyw hyd ddiwedd yr wythnos hon, y bydd fy niniweidrwydd mor amlwg, fel y byddaf farw yn un o ddeiliaid ffyddlonaf y Frenhines Elizabeth, ie, yn nghyfrif fy ngwrthwynebwyr, os byddant yn wyddfodol, ac yr wyf yn hyderu y gallaf trwy fy marwolaeth eu hargyhoeddi hwy ger bron yr holl fyd, fy mod wedi byw felly hefyd. Ac yr wyf yn gobeithio y pair fy Nuw ryw ddiwrnod i'm diniweidrwydd ddysgleirio fel hanerdydd ger bron fy ngrasol Frenhines ei hun. Dyn ieuangc tlawd ydwyf fi, wedi fy ngeni a'm dwyn i fyny ar fynyddoedd Cymru. Myfi yw y cyntaf, ar ol yr adfywiad diweddaf ar yr efengyl yn yr oes hon, a lafuriodd i gael ei had bendigedig wedi ei hau yn y mynyddoedd diffrwyth hyny. Yr wyf lawer gwaith wedi llawenychu ger born Duw, fel y mae Efe yn gwybod, am fy mod wedi cael y fraint o fod wedi fy ngeni a byw dan lywodraeth ei Mawrhydi, er dwyn yn mlaen y gwaith hwn. Yn angerdd yr awydd oedd ynof am weled yr efengyl yn ngwlad. fy ngenedigaeth, a'r llygredigaethau gwrthwynebol iddi wedi eu symud, gallaswn ddyweyd, fel y gwnaethum yn fy ysgrifeniadau argraffedig, yr un fath a Hegetorides y Thruciad, fy mod yn anghofio fy mherygl fy hun o gariad at fy ngwlad, ond ni ddarfu i mi erioed anghofio fy nheyrngarwch i'm Brenhines. Ac yn awr, pan yr wyf i gael diwedd fy nyddiau, cyn cyrhaedd haner y blynyddoedd a allaswn gael wrth gwrs cyffredin natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur i'r cyfryw o'm cydwladwyr ag a gyfodo yr Arglwydd ar fy ol i gwblhau y gwaith o alw fy ngwlad i wybodaeth o efengyl fendigedig Crist, a ddechreuwyd genyf fi."

Fel hyn y bu fyw ae y bu farw y gwr a gyfododd yr Arglwydd i arloesi y ffordd o flaen Ymneillduaeth Cymru. Bu ei enw da am oesau yn cael ei dduo a'i enllibio gan haneswyr rhagfarnllyd ac anwybodus, ond bellach mae llwch a llysnafedd enllib yn cael eu golchi ymaith oddi arno, a'i gymeriad glân, fel seren oleu yn mysg y Diwygwyr Protestanaidd, yn dysgleirio. Bu ei lofruddiad of yn un ddolen bwysig yn nghadwyn y dygwyddiadau a arweiniasant i ddymchweliad awdurdod yr esgobion, a sefydliad rhyddid crefyddol gan y Senedd yn amser Siarl I. Cafodd holl ddysgwyliadau ein Diwygiwr llofruddiedig, y buasai yr Arglwydd yn cyfodi yn mysg ei gydwladwyr, ddynion cymhwysi gario yn mlaen y gwaith a ddechreuwyd ganddo ef, eu cyflawn gwblhau. Cyn pen deugain mlynedd ar ol ei farwolaeth, yr oedd yn Nghymru saith neu wyth o bregethwyr efengylaidd a grymus-megis, William Wroth, o Lanfaches; William Erbery, o Gaerdydd; Mr. Phillips, o sir Benfro; Rees Pritchard, o Lanymddyfri; David Roberts, o Landinam; Robert Powell, o Langattwg, Glynnedd; Marmaduke Mathews, o Abertawy; Walter Cradock, a rhai eraill llai enwog; fe luosogodd eu nifer mewn ychydig o flynyddau, nes yr oeddynt yn amryw ugeiniau o rif, ac erbyn heddyw, y mae y gwyr a bregethant yn Nghymru yr egwyddorion y bu Penry farw drostynt, dros ddwy fil o nifer. Diau fod ysbryd gogoneddedig y merthyr yn llawenhau mewn gogoniant wrth ganfod hyn.

Yn y tu dalenau blaenorol taflasom frasolwg dros agwedd Cymru tra y bu yn ymddibynol yn unig ar yr Eglwys Sefydledig am ei haddysg gref- yddol, a gwelsom y fath olwg alaethus oedd arni o 1534, hyd ar ol 1646- Yn awr taflwn

II.—GIPOLWG AR AGWEDD PETHAU O GYFODIAD YMNEILL DUAETH HYD DDEDDF UNFFURFIAETH, YN 1662. Fel y nodasom yn barod, yr oedd ychydig o bregethwyr, o egwyddorion Puritanaidd, wedi cyfodi yn Nghymru yn nheyrnasiad James I., ac yn gynar yn nheyrnasiad Siarl I., ond gan fod yr offeiriaid agos oll yn anfoesol, anwybodus, neu o dueddiadau Pabyddol, gwnaethant bob peth a fedrent i gyfodi rhagfarn yn y werin anwybodus yn eu herbyn, ac i'w herlid. Er fod un o'r pregethwyr hyn—Rees Prichard, Llanymddyfri, yn gydffurfiwr selog, ni ddiangodd ef o herwydd ei lafur a'i sêl yn erbyn pechod, rhag cael llawer o'i erlid, llawer llai y diangodd Worth, o Lanfaches, ac eraill, a ddechreuent ogwyddo at Ymneillduaeth. Pan ddarfu i'r Brenhin Siarl, dan gyfarwyddyd yr Archesgob Laud, orchymyn i'r holl offeiriaid ddarllen y llyfr chwareuyddiaethau o'r pulpudau ar y Sabboth, gorfodwyd Mr. Wroth, Mr. Erbery, Mr. Cradock, ac fe ddichon rai eraill yn Nghymru, i droi yn Ymneillduwyr cyhoeddus. Yn fuan wedi hyn, sef yn Tachwedd, 1640, agorwyd y Senedd. a elwid "y Senedd hir," a chyn pen nemawr o amser wedi hyny, cyfododd anghydfod rhwng y Brenhin a'r Senedd, yr hwn a derfynodd mewn rhyfel gwladol, ac yn nienyddiad y Brenhin a'i ddau brif gynghorwr, Iarll Strafford a'r Archesgob Laud. Yr achosion o'r anghydfod oedd y gorthrwm mewn pethau gwladol a chrefyddol a arferai y Brenhin a'i ddau gynghorwr. Yr oedd Siarl wedi cymeryd i'w ben, nas gallasai ef fod yn deilwng o'r enw brenhin, heb iddo draws-arglwyddiaethu ar y Senedd a'r wlad, a gwneyd ei ewyllys ei hun yn ddeddf ddigyfnewid, a mynai Laud i bawb yn ddieithriad blygu mewn pethau crefyddol i'w olygiadau a'i ddefodau Pabyddol ef, dan boen carchariad, ac amddifadiad o bob braint fel gwladwyr am anufudd-dod. Wedi i'r wlad ddyoddef hyn am wyth neu ddeng mlynedd, aeth y baich yn rhy annyoddefol i'w ddyoddef yn hwy, a'r canlyniad fu i'r Senedd sefyll dros y wlad a hawlio rhyddid, a'i fynu trwy rym arfau, pryd nad oedd dim arall yn tycio. Mae haneswyr toriaidd ac esgobyddol wedi arfer rhoddi camddarluniad gwaradwyddus o'r rhyfel yn nyddiau Siarl I., sef ci osod allan fel rhyfel y Puritaniaid Ymneillduol yn erbyn yr Eglwys Wladol, ond nis gall dim fod yn fwy anghywir na hyny. Eglwyswyr proffesedig oll oedd aelodau "y Senedd hir" ar y cyntaf, ond amddiffynent ryddid gwladol a chrefyddol, yr hyn ni fynai y Brenhin, yr Archesgob, a'u pleidwyr, ei ganiatau. Rhanwyd y wlad yn fuan i ddwy blaid, sef pleidwyr trais, a phleidwyr rhyddid. Yr oedd mwyafrif dirfawr y boneddigion, y werin anwybodus, y meddwon, a phawb a gymerent eu llwgrwobrwyo, yn mhlaid y Brenhin, a'r rhan fwyaf o'r dosbarth canol o gymdeithas, megis y masnachwyr, y mân dirfeddianwyr, a'r Puritaniaid agos oll o blaid y Senedd, am fod y Senedd o blaid rhyddid. Yr oedd y Puritaniaid o ddechreuad teyrnasiad Elizabeth hyd yn awr, wedi bod yn wrthrychau gwg y penau coronog a'r esgobion; nid rhyfedd, gan hyny, iddynt uno a'r blaid a ymdrechai lifio cyrn a thori danedd eu gelynion marwol hwy. Y mae hefyd yn deilwng o sylw, fod yr holl Babyddion trwy y deyrnas, a'r dynion mwyaf annuwiol a gelynol i grefydd bur, yn mhlaid y Brenin, ac yr oedd hyny, heb son am ddim arall, yn ddigon i droi y Puritaniaid yn ei erbyn.[7] Gan nad oedd y Puritaniaid yn Nghymru ond ychydig ò rif, ac yn cyfaneddu mewn conglau tair neu bedair o siroedd, a bod y gwyr mawr a'r offeiriaid, yn cael eu dilyn gan y lluaws anwybodus, oll o blaid y Brenhin, yr oedd eu sefyllfa hwy ar doriad y rhyfel allan yn enbyd i'r eithaf. Pe buasent yn ymuno a byddin y brenhin, buasai raid iddynt ryfela yn erbyn yr egwyddorion yr oeddynt er's blynyddau wedi dyoddef llawer er eu mwyn, a phan oedd corph eu cydwladwyr gyda y Brenhin, yr oedd yn anhawdd ac yn beryglus iddynt ddangos eu hochr. Yn y cyfyngder hwn, cynghorwyd y gweinidogion i ffoi i Loegr am ddyogelwch, lle yr oedd byddinoedd y Senedd yn gryfion a lluosog, ac felly y gwnaethant. Buont yno yn ddefnyddiol o 1642, hyd 1646, pryd y dychwelasant i Gymru ar ol i Cromwell ddarostwng plaid y Brenhin, a sefydlu awdurdod y Senedd trwy yr holl wlad. Darfu i'r ychydig grefyddwyr a adawyd yn y wlad ddyoddef y triniaethau mwyaf barbaraidd rhwng 1642 a 1646. Cymerwyd ymaith eu hanifeiliaid, ysbeiliwyd a llosgwyd tai llawer o honynt, dinystriwyd eu hyd ar y maesydd, a chafodd rhai o honynt eu blingo yn fyw, a'u haner pobi o flaen tanau, ac eraill eu crogi a'u lladd mewn gwaed oer.[8] Ond er eu holl ddyoddefiadau, safasant gyda gwroldeb merthyron at eu hegwyddorion, a llwyddasant, dan yr amgylchiadau trallodus hyn, i ennill tuag wyth gant i'r ffydd, wrth fyned o dŷ i dŷ i ymddyddan am bethau crefyddol, yn ystod y pedair blynedd y buont heb weinidogion.

Yr oedd y Senedd yn 1641, wedi awdurdodi Meistri Walter Cradock, Henry Walter, David Walter, ac eraill, i fyned oddiamgylch i bregethu, cnd gan i'r rhyfel dori allan yn lled fuan wedi hyny, ni chawsant nemawr o gyfleusdra i hyny. Ond wedi dychwelyd, ar derfyniad y rhyfel yn 1646, aethant allan yn ysbryd a nerth yr Apostolion, i bregethu ar hyd a lled y wlad. Heblaw Cradock, V. Powell, y ddau Walter, Richard, Symmonds, Ambrose Mostyn, a rhai gweinidogion urddedig eraill. Cafodd tuag ugain o aelodau yr eglwysi yn Llanfaches a Mynyddislwyn eu hanfon allan fel pregethwyr lleyg, heb un math o urdd Esgobol na Phresbyteraidd. Gorchymynodd y Senedd i bob un o honynt gael dwy-bunt-ar-bymtheg yn y flwyddyn at eu cynaliaeth, yr hyn, y pryd hwnw oedd yn gyfwerth i tua chan punt yn awr. Gwelsom fod y merthyr Penry tua thriugain mlynedd cyn hyn wedi awgrymu mai un ffordd tuag at efengyleiddio Cymru, oedd anfon allan ddynion duwiol, er heb urddau, i bregethu yn deithiol, ac yn awr wele gynllun y merthyr yn cael ei fabwysiadu, ac yn troi allan yn effeithiol. Darfu i'r "Senedd hir" yn fuan ar ol ei hagoriad, gymeryd yr eglwys a'i chamdrefniadau gwaradwyddus dan sylw. Penododd amryw bwyllgorau i edrych i mewn i sefyllfa pethau. Un oedd Pwyllgor y gweinidogion gwaradwyddus, amcan yr hwn oedd troi allan offeiriaid anfoesol, didalent, ac esgeulus, o'u bywioliaethau, a gosod cynnifer o rai cymhwys a allesid gael yn eu lleoedd, a phan nas gallesid cael digon o bersonau addas i lenwi y lleoedd gweigion, gosodid amryw bregethwyr poblogaidd i deithio o fan i fan, fel y gallasai pob plwyf gael o leiaf un bregeth bob wythnos. neu bythefnos. Pwyllgor arall oedd Pwyllgor y gweinidogion ysbeiliedig, amcan pa un oedd adferu y gweinidogion Puritanaidd a droisid allan o'u by wioliaethau gan Laud a'i gydoeswyr, ac edrych fod y colledion oeddynt wedi ddyoddef yn cael eu gwneyd i fyny. Ni chafodd un o'r pwyllgorau hyn nemawr o fantais i wneyd dim er lles y Cymru, hyd ar ol gorchfygiad plaid y Brenhin yn 1646, am fod corph y genedl hyd hyny, dan arweiniad y gwyr mawr a'r offeiriaid, yn rhyfela dros y Brenhin, ac yn erbyn y Senedd. Ar ol 1646, gweithiasant yn effeithiol yn y Dywysogaeth. Mae yn ymddangos i'r Pwyllgor hwn yn y blynyddoedd 1646-48, droi allan ychydig o offeiriaid nodedig o anfoesol neu anghymwys o'u bywioliaethau yn Nghymru. Chwefror 22ain, 1650, pasiwyd gweithred gan y Senedd, a elwid Gweithred er gwell taeniad o'r efengyl yn Nghymru, ac er diwygiad rhyw bethau afreolaidd. Dan y weithred hon yr oedd triugain ac un-ar-ddeg o ddirprwywyr i droi allan weinidogion anghymwys o'r eglwysi, i drafod a meddianau eglwysig, ac i osod personau cymhwys yn lle y rhai a droisid allan. Y mae y weithred hefyd yn enwi pump-ar-hugain o weinidogion, gwaith y rhai oedd cymeradwyo i'r dirprwywyr bregethwyr cymhwys i'w rhoddi yn y bywioliaethau gweigion, neu i'w hanfon allan fel teithwyr. Mae ysgrifenwyr Esgobyddol yn yr oes hono, ac yn mhob oes ddilynol, wedi trin y weithred hon, a'i gweinyddwyr, yn ddiarbed, ac yn son am dani fel ymosodiad erlidgar yr Anghydffurfwyr ar yr Eglwyswyr, ond nis gall dim fod yn fwy anheg ac anghy wir na hyny. Cydffurfwyr oedd naw o bob deg o'r dirprwywyr cyn y rhyfel, a chydymffurfiodd pawb o honynt, ond tri neu bedwar, drachefn ar ol adferiad Siarl II. Am y gweinidogion a enwir yn y weithred, y cwbl oedd ganddynt hwy i'w wneuthur oedd, barnu cymhwysderau pregethwyr. Nid eu diswyddo na'u rhoddi mewn swydd. Addefir yn rhwydd eu bod fel Anghydffurfwyr yn gweithredu yn anghyson ag egwyddorion Anghydffurfiaeth, fel y deallir hwy yn yr oes hon, trwy gydsynio i ymdrafod dim a phethau crefyddol dan ddarbodaeth gweithred Seneddol, ond ychydig iawn o Ymneillduwyr yr oes hono, oedd wedi dyfod yn ddigon goleu i ganfod na ddylai Seneddau ymyraeth dim a chrefydd. Gan mai Esgobyddion, cyn ac ar ol tymor y werinlywodraeth, oedd y rhan fwyaf o lawer o wneuthurwyr a gweinyddwyr y weithred hon, nis gall Eglwyswyr ddyweyd dim yn ei herbyn heb boeri ar eu dillad eu hunain. Cafodd llawer o offeiriaid eu troi allan o'u bywioliaethau dan y ddeddf hon. Dywed Dr. Walker, eu bod yn chwe' chant o rif, ond y mae yn sicr nad oeddynt yn un o bedwar o'r nifer hyny, ac y mae yn sicr hefyd fod rheswm digonol dros droi allan bob un a dröwyd. Yr oedd llawer o honynt yn feddwon, tafarnwyr, tyngwyr a rhegwyr, a phuteinwyr, eraill yn anghymwys o ran galluoedd at waith y weinidogaeth, eraill yn hollol anwybodus o'r iaith Gymraeg. Dywed un o honynt hwy eu hunain, mai prin un o bob pymtheg o offeiriaid Mynwy, a'r cylchoedd, a fedrai siarad ac ysgrifenu y Gymraeg. Nis gellir profi fod cymaint ag un person o foesau teilwng, ac o ryw fedr canolig i bregethu, wedi cael ei droi allan, oddieithr ei fod yn derfysgwr cyhoeddus yn erbyn y llywodraeth.

Er nad oedd yn holl Gymru yn 1641, dros tua deuddeg neu dri-ar-ddeg o bregethwyr galluog a duwiol; yr oeddynt erbyn 1652, wedi lluosogi i fwy na chant a haner o rif, a phob un o honynt yn pregethu dair a phedair gwaith yn yr wythnos, a rhai lawer yn amlach.[9]

Er i ryddid crefyddol gael ei sefydlu trwy gyfraith, a bod yr holl bregethwyr yn awr yn Nghymru dan nawdd y Senedd, etto, cyfarfyddodd y rhan fwyaf o honynt a rhwystrau dirfawr yn eu hymdrech i efengyleiddio y wlad. Yr oedd corph y genedl yn anwybodus a gelynol i grefydd bur. Y rhan fwyaf o lawer o'r gwyr mawr yn llawn gelyniaeth at y Senedd a'r pregethwyr, a'r offeiriaid drygionus a droisid allan o'u bywioliaethau yn arfer pob ystryw a fedrent i rwystro pregethiad yr efengyl. Terfysgent y cyfarfodydd, taenent chwedlau celwyddog am y pregethwyr, a chyhoeddent lyfrynau enllibus a chableddus i'w diraddio; mewn gair, ni adawent unrhyw ddrwg y gallent feddwl am dano heb ei wneyd er atal y gwaith da i fyned rhagddo. Ond er y cwbl yn mlaen yr oedd yn myned. Yn 1646 a 1647, cyhoeddwyd dau argraffiad o'r Testament Newydd, yn cynwys tua chwe' mil o gopïau, gan Mr. Walter Cradock, ac yn 1654, cyhoeddwyd yr holl Fibl, tua chwe' mil o gopïau, ac argraffiad o'r Testament Newydd ar ei ben ei hun, yn yr un flwyddyn, gan Mr. Cradock, a Mr. V. Powell.

Un enwad, sef Annibynwyr, oedd holl Ymneillduwyr Cymru hyd 1649, pryd y darfu i Mr. John Myles a Thomas Proud gasglu a chorpholi eglwys o Fedyddwyr yn Ilston, gerllaw Abertawy. Ymdaenodd yr enwad hwn yn fuan trwy ranau o siroedd Morganwg, Caerfyrddin, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, Aberteifi, a Phenfro, a pharodd ei gyfodiad gryn lawer o gyffro a dadleuon poethion ar fedydd mewn gwahanol ardaloedd, ac nid oes un ddadl na fu y dadleuon hyn am dymor yn rhwystr mawr i efengyleiddiad y wlad. Cyn pen dwy flynedd ar ol cyfodiad y Bedyddwyr, gwnaeth trydydd enwad o Ymneillduwyr ei ymddangosiad yn Nghymru, sef y Crynwyr. Darfu iddynt hwythau yn fuan, fel y Bedyddwyr, luosogi yn fawr, ac achlysuro dadleuon poethion. Ond er yr ychydig derfysg a achlysurwyd gan gyfodiad yr enwadau newyddion yn amser y werinlywodraeth, etto, aeth y gwaith o daenu yr efengyl yn mlaen yn llwyddianus hyd farwolaeth Oliver Cromwell. Yn fuan wedi hyny, cafodd Siarl II. ei ddewis yn frenhin, a chyda ei ddyfodiad i'r Orsedd, adferwyd Esgobyddiaeth i fod yn Grefydd Wladol, ac adferwyd erlidigaeth ffyrnig gyda hi. Yn ystod y pedair-blynedd-ar-ddeg o ryddid a fwynhawyd o 1646 hyd adferiad Siarl II., gwnaed gwaith gogoneddus yn Nghymru, ac ystyried yr amrywiol anfanteision dan ba rai yr oedd y pregethwyr yn llafurio. Hauwyd yn y tymor hwnw gymaint o hadau gwybodaeth ac egwyddorion crefyddol, fel nas gallodd holl ffyrnigrwydd yr erledigaethau yn y blynyddoedd dyfodol eu difetha, ac y mae yr had a hauwyd y pryd hwnw yn parhau i ddwyn ffrwyth hyd y dydd hwn. Cyn gynted ag yr esgynodd Siarl i'r Orsedd, ac yn wir, rai dyddiau cyn hyny, dechreuwyd erlid yr Ymneillduwyr yn Nghymru, ac adferu yr offeiriaid a droisid allan gan weinyddwyr y cyfreithiau yn y blynyddoedd blaenorol. Cafodd pob pregethwr a feddianai fywioliaeth y cyfryw oedd yn fyw o'r offeiriaid hyny, eu troi allan yn haf 1660, ond cafodd y rhai a weinyddent mewn plwyf nad oedd y meddianwyr blaenorol yn fyw, gadw eu lleoedd hyd nes i Ddeddf Unffurfiaeth ddyfod i rym yn 1662. Yna cafodd pob un na chydymffurfiai a'r ddeddf hono, ei droi allan a'i drin yn ddidrugaredd.

Yr oedd Deddf Unffurfiaeth yn gofyn i bob un er cael hawl i weinyddu fel gweinidog yn yr Eglwys Sefydledig i gymeryd urddau esgobol, os oedd heb yr urddau hyny yn flaenorol, ac ardystio ei gydsyniad a phob peth a gynwysai y Llyfr Gweddi Cyffredin, fel pethau cyson a Gair Duw. A'r argraffiad newydd o'r Llyfr Gweddi Cyffredin y gofynid y cydsyniad hwn, ac yr oedd canoedd o bregethwyr yn y cyrau pellaf o'r deyrnas nad oedd yn bosibl iddynt gael golwg ar y llyfr y gofynid eu cydsyniad ag ef cyn gwneyd yr ardystiad, am mai ychydig ddyddiau cyn fod yn rhaid iddynt oll gydffurfio yr oedd y llyfr wedi dyfod allan o'r wasg. Darfu i ganoedd o ddynion digydwybod ardystio eu cydsyniad heb weled y llyfr o gwbl; ond yr oedd ei gynwysiad y fath fel nas gallasai miloedd o ddynion. cydwybodol gydsynio ag ef ar ol ei weled, chwaethach cyn hyny. Gorfodwyd dros ddwy fil o'r pregethwyr goreu a duwiolaf yn y deyrnas i roddi eu lleoedd i fyny, am nas medrent gydymffurfio a'r ddeddf orthrymus hon. Y rhai canlynol oedd y rhai a dröwyd allan neu a waharddwyd i bregethu yn Nghymru.

BRYCHEINIOG.

John Edwards, Cathedin. Bedyddiwr oedd ef.

Thomas Evans, Maesmynys, ger Llanfairmuallt. Dyn da, a dyoddefydd mawr. Un o'r Bedyddwyr ydoedd.

David William Probert, Llandefeilog.

Elias Harry, Patrishw, ger Crughowell.

Thomas Watkins, o gymydogaeth y Gelli. Dyn gweithgar, a dylanwadol. Bu yn weinidog yr eglwys yn Olchon hyd 1694, pryd y bu farw.

Thomas Parry. Bedyddiwr ydoedd yntau. Bu farw yn 1709, mewn oedran teg.

Henry Maurice. O Church Stretton, yn sir Amwythig, y trowyd ef allan, ond yn y sir hon y bu fyw a marw fel Ymneillduwr.

ABERTEIFI.

John Evans, Bangor, ger Castellnewydd-yn-Emlyn.

Charles Price, Aberteifi.

David Jones, Llanbadarnfawr.

Evan Hughes, Llandyfriog.

Lewis Price, Llangunllo.

Richard Davies, Penybryn.

John Harris, Tregaron. Pregethodd lawer yn siroedd Aberteifi a Maesyfed, yn amser y werin-lywodraeth. Ni wyddys pa beth a ddaeth o hono ar ol ei droi allan.

John Hanmer. Pregethwr teithiol defnyddiol yn Maesyfed ac Aberteifi.

Rodrick Thomas, Llanfihangel-y-creuddyn.

Morgan Howel, Bettws, ger Llanbedr.

CAERFYRDDIN.

William Jones, Cilmaenllwyd. Bedyddiwr oedd ef a gwr llafurus iawn.

David Jones, Llandysilio.

John Powell, Llangynwr. Nid oes dim o'i hanes ef ar gael.

Meredith Davies, Llanon. Terfynodd ei oes yn Mrowyr, Morganwg.

James Davies, Merthyr, ger Caerfyrddin.

Stephen Hughes, Meidrym.

Rees Prydderch, Ystrad-Walter, ger Llanymddyfri.

Phillip Lewis, pregethwr teithiol yn y sir hon. Bu farw yn anghydffurfiwr.

William Thomas. Pregethwr teithiol a Bedyddiwr. Bu farw yn Llan- trisant, Mynwy, yn 1671.

ARFON.

John Williams. Dywed rhai mai o Landwrog, ac eraill mai o Ynys-cyn-haiarn, y trowyd ef allan. Efe oedd yr unig weinidog a anghydffurfiodd yn y sir hon.

DINBYCH.

William Jones, Dinbych.

Richard Jones, Dinbych.

Richard Taylor, Holt. Symudodd i Lundain, ac wedi hyny i Barking yn Essex, lle y bu yn weinidog yr eglwys Annibynol, hyd ei farwolaeth yn 1697.

Jonathan Roberts, A.M., Llanfair, Dyffryn Clwyd.

Ellis Rowlands, Ruthin.

Ambrose Mostyn, Gwrecsam.

Ambrose Lewis, Gwrecsam. Newydd ddechreu pregethu, ac heb ei urddo, yr oedd ef yn 1662.

FLINT.

Robert Fogg, Bangor. Bu farw yn orfoleddus yn Nantwich, yn 1676, yn 80 oed.

Richard Steel, A.M., Hanmere. Ar ol ei droi allan aeth i Lundain, lle y casglodd gynnulleidfa yn Coleman-street. Bu farw yn 1692. Dyn dysgedig, duwiol, ac enwog iawn ydoedd.

Phillip Henry, M.A. Tad yr enwog Mathew Henry. Mab ydoedd ef i John Henry, ac wyr i Henry Williams, Britton Ferry, Morganwg. Ganwyd ef yn Llundain, yn 1632, a bu farw yn 1696. Un o'r dynion duwiolaf a rhagoraf yn ei oes ydoedd.

MORGANWG.

Josua Miller, St. Andrew's.

Jenkin Jones. Llangattwg, Glynnedd.

Thomas Proud, Cheriton, Browyr. Efe oedd un o'r ddau Fedyddiwr cyntaf yn Nghymru.

John Myles, Ilston. Efe a Thomas Proud oedd sylfaenwyr enwad y Bedyddwyr yn Nghymru.

Edmund Ellis, St. Ffagan. Yr oedd ef yn un o'r pump-ar-hugain gweinidogion a enwir yn y Weithred, er taenu yr efengyl yn Nghymru, i brofi cymhwysderau y rhai a anfonasid allan i bregethu. Mae yn debygol iddo fyned i Lundain ar ol cael ei droi allan o'i fywioliaeth. Bedyddiwr ydoedd.

Howell Thomas, Glyncorwg.

Thomas Joseph, Llangeinwr. Bedyddiwr oedd yntau.

Morgan Jones, Llanmadog. Yr oedd yntau yn Fedyddiwr, ond ni wyddys dim o'i hanes ar ol ei droad allan.

Samuel Jones, A.M., Llangynwyd.

Henry Williams, Llantrisant.

John Powell, A.M., St. Lythian.

William Thomas, A.M., Eglwys Fair, ger Penybont-ar-ogwy. Yr oedd yn ddyn enwog am ei dduwioldeb a'i ddysg. Treuliodd weddill ei oes fel ysgolfeistr yn Abertawy.

Daniel Higgs, A.M., Rhosili, yn Mrowyr.

Marmaduke Mathews, Eglwys Ifan, Abertawy.

John French, Wenfoe. Treuliodd weddill ei oes fel meddyg a phregeth- wr achlysurol yn Nghaerdydd a'r cylchoedd.

George Seal, Caerdydd. Ar ol ei droad allan, cymerodd ofal yr eglwys Ymneillduol yn Marshfield, sir Gaerloew, lle y mae yn debygol y bu farw.

Robert Thomas, Baglan, ger Castellnedd.

Jacob Christopher. Yr oedd yntau yn byw yn rhyw le yn agos i Gastellnedd.

Richard Cradock, Drefnewydd yn Notais.

David Davies, Castellnedd. Bedyddiwr oedd ef, a phregethwr llafurus a defnyddiol.

Thomas Jones. Gwr duwiol a defnyddiol, perthynol i'r Bedyddwyr.

Lewis Thomas y Mwr, yn mhlwyf y Drefnewydd. Prif weinidog y Bedyddwyr yn y rhan orllewinol o Forganwg, am fwy na deugain mlynedd.

Robert Morgan, Llandilo, Talybont. Bu am flynyddau yn gyd-weinidog a Mr. Lewis Thomas ar eglwys y Bedyddwyr yn Abertawy.

Evan Llewelyn, Abertawy. Cadw ysgol yr oedd ef, ond gwaharddwyd iddo wneyd hyny o herwydd ei anghydffurfiaeth.

MEIRIONYDD,

Hugh Owen, Bronyclydwr. Efe oedd yr unig weinidog anghydffurfiol yn y sir hon.

MYNWY.

John Abbot, Abergavenny. Bedyddiwr oedd ef.

George Robinson, Caerlleon. Yr oedd ef yn un o'r cymeradwywyr yn y Weithred er taenu yr efengyl yn Nghymru.

Hopkin Rogers, Caerwent.

Owen Morgan, Llanfertherine. Bu ef yn llafurio yn sir Drefaldwyn yn gystal ag yn y sir hon.

Mr. Robins, a fwriwyd allan o Langatwg. Y mae pump o blwyfydd o'r enw hwn yn y sir yma, ac nis gwyddom o ba un o honynt y bwriwyd Mr. Robins allan.

Charles Williams, a fwriwyd allan o Lanfaple.

Thomas Barnes, a fwriwyd allan o Magor.

Nicholas Cary, o Drefynwy. Symudodd i Lundain, lle y bu yn feddyg llwyddianus am lawer o flynyddau.

Henry Walter, a fwriwyd allan o'r Casnewydd.

Walter Prosser, o Dredynog. Bu am dymor yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn y Gelli, Brycheiniog. Bernir iddo farw tua 1670.

Mr. Sims, a fwriwyd allan o Drelech. Achwyna y Crynwyr iddo ymddwyn yn angharedig at rai o'u pregethwyr hwy. Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes.

William Millman. Bedyddiwr o farn ydoedd. Bu farw tua 1690.

Watkin Jones, Mynyddislwyn.

Christopher Price, Abergavenny. Gelwid ef Dr. Price, am ei fod yn feddyg yn gystal ag yn bregethwr. Bedyddiwr ydoedd.

William John Pritchard. Bu am flynyddau lawer yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn Llanwenarth.

Rice Williams, Casnewydd. Yr oedd ef yn ŵr cyfoethog, cyfrifol, a defnyddiol.

MALDWYN.

Gabriel Jones, a fwriwyd allan o'r Bettws. Nis gwyddom ddim o'i hanes.

Martin Grundman, Llandysil. Symudodd i Lundain ar ol ei fwrw allan, a bu farw yno o'r pla. Yr oedd yn ddyn da, ac yn weinidog galluog.

Hugh Rogers, a fwriwyd allan o'r Drefnewydd. Yr oedd yn ddyn rhagorol, ac yn bregethwr galluog. Bu farw Mawrth 17eg, 1680, a chladdwyd ef yn y Trallwm.

Nathaniel Ravens, a fwriwyd allan o'r Trallwm. Nid oes genym ddim. o'i hanes ar ol hyny.

Henry Williams, o'r Ysgafell, ger y Drefnewydd.

Vavasor Powell. Ni chafodd ef ei fwrw allan o un lle neillduol, canys yr oedd yn fath o Apostol i'r holl sir, ie, i holl Gymru.

James Quarrell. Pregethwr teithiol enwog ydoedd. Treuliodd flynydd- oedd diweddaf ei oes yn weinidog yr eglwys Annibynol yn yr Amwythig. Mae yn debygol iddo farw rhwng 1672 a 1675.

Thomas Quarrell. Mae yn debygol mai brawd Mr. James Quarrell ydoedd ef.

John Evans, Gwrecsam. Tad Dr. John Evans, Llundain.

David ap Hugh. Pregethwr teithiol enwog. Cafodd ei droedigaeth dan weinidogaeth Mr. Walter Cradock, yn Ngwrecsam, tua y flwyddyn 1635.

Rowland Nevet, A.M., Croesoswallt. Gan ei fod ef ar derfynau Cymru, ac iddo gymeryd rhan bwysig yn ngweithrediadau crefyddol y genedl, mae yn briodol ei enwi yn mysg Ymneillduwyr Cymru.

Timothy Thomas, Morton. Bu ef yn Gaplan i Mrs. Baker, o Swiney, ger Croesoswallt, lle y bu farw yn 1676.

Titus Thomas, brawd Timothy Thomas. Trowyd ef allan o Aston, ger Croesoswallt. Ar farwolaeth Mr. James Quarrel, cafodd Mr. Thomas alwad i'w ddilyn fel gweinidog yr eglwys Annibynol yn yr Amwythig, lle y bu farw yn Rhagfyr, 1686. Yr oedd yn enwog am ei ddefnyddioldeb, ei sel, a'i dduwioldeb.

John Williams. Gelwid ef yn gyffredin "Y Cadben Williams," oblegid iddo fod yn swyddog yn myddin Cromwell. Bu hefyd yn Aelod Seneddol dros un o siroedd Cymru. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn. Yr oedd yn ei flynyddoedd diweddaf yn cyfaneddu yn Llangollen, ac yno y bu farw. Ar ol ei gladdu yn mynwent eglwys y plwyf, aeth haid o erlidwyr yno, a chodasant ei gorph o'r bedd, a bu raid i'w gyfeillion ei gymeryd a'i gladdu yn ddirgel yn ei ardd ei hun. Nid ydym yn hysbys o amser ei farwolaeth.

PENFRO. Thomas Hughes, o Bugeli. Nid oes genym ddim o'i hanes.

Adam Hawkins, o St. Ismael. Yr oedd yn fyw yn 1669.

Pergrine Phillips, Hwlffordd.

Christopher Jackson, o Lanbedr. Bu ef farw yn Llundain.

John Luntley, Llanstadwell. Bu farw yn 1672.

Morgan Thomas, Mathri. Nid oes genym un hanes i'w roddi am dano.

John Bywater, Penfro. Mae ei hanes yntau yn anhysbys.

John Carver, a fwriwyd allan o Tenby.

MAESYFED.

John Weaver, o Faesyfed. Parhaodd i bregethu yn ddirgel yn yr ardal trwy holl dymor yr erledigaeth. Tua 1688, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Henffordd, lle y bu farw mewn henaint teg yn 1712. Merch iddo ef oedd gwraig yr enwog Samuel Jones, athraw yr athrofa yn Tewkesbury.

Richard Swaine. Cafodd ei droi allan o ryw blwyf yn y sir hon. Yr oedd ef yn un o'r cymeradwywyr yn y Weithred er taenu yr efengyl yn Nghymru. Bu farw yn yr Amwythig, ond nis gwyddom amser ei farwolaeth.

David Jenks. Trowyd ef allan o blwyf y Bryngwyn. Ar ol bod yn ddyoddefydd dros Ymneillduaeth am bymtheng mlynedd, cydymffurfiodd a'r Eglwys Wladol, a threuliodd weddill ei oes yn ddibarch.

Morris Griffiths. Pregethwr teithiol enwog, a dyn o ddylanwad mawr. Yr oedd yn fyw yn 1675. Nis gwyddom pa bryd y bu farw.

Henry Gregory. Bedyddiwr ac Arminiad o ran barn ydoedd. Yr oedd yn ddyn defnyddiol, a dyoddefodd erledigaethau creulon. Bu farw yn 1700.

Felly gwelir fod yn Nghymru o 1660 i 1662 gant a chwech o bregethwyr digon cydwybodol i wrthod bywioliaethau breision er mwyn cadw cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion. Heblaw y rhai a enwir yn y tudalenau blaenorol, mae genym enwau tua phymtheg eraill a wrthodasant gydymffurfio am dymor, ond wedi hyny, a roisant ffordd i'r brofedigaeth. Yn 1633, pan orchymynwyd darllen y Llyfr Chwareuyddiaethau, ni chafwyd yn holl Gymru ond tri neu bedwar yn ddigon cydwybodol i wrthod cydsynio, ond yn 1662, cafwyd cant a chwech. Dengys hyn fod gwaith mawr wedi cael ei wneyd yn mysg ein tadau o 1633 hyd 1662. Yr oedd y gweinidogion a drowyd allan o'u bywioliaethau, neu a waharddwyd i bregethu ar adferiad Siarl II., fel y gwelsom yn rhanedig i ddau enwad, sef Annibynwyr a Bedyddwyr-pedwar-ugain-a-phedwar yn Annibynwyr, a dau-ar-hugain yn Fedyddwyr. Nid oedd eu troi allan o'u bywioliaethau a'u hatal i bregethu yn y Llanau yn ddigon i foddio cynddaredd eu herlidwyr, heb gael deddfau creulawn i'w herlid a'u gorthrymu. Yn 1661, pasiwyd Gweithred y Cyfarfodydd Anghyfreithlon, yr hon a waharddai i fwy na phump o bersonau dros un-ar-bymtheg oed, heblaw y teulu, i fod yn wyddfodol mewn un tŷ lle buasai unrhyw fath o wasanaeth crefyddol yn cael ei gynal. Yr oedd y pregethwr a weinyddai yn y cyfarfod i gael tri mis o garchar, neu dalu dirwy o bum' punt y trosedd cyntaf, chwech mis o garchar, neu dalu dirwy o ddeg punt am yr ail drosedd, ac alldudiaeth am ei oes, neu ddirwy o gan' punt am y trydydd troseddiad.

Yr un gosp oedd i ŵr y tŷ neu ei ysgubor. Rhoddid hefyd ddirwy o ddwy bunt ar bob gwraig briod a ddaliesid yn y fath gyfarfod, neu ddeuddeng mis o garchar. Cafodd y ddeddf greulon hon ei hadnewyddu, gydag ychydig gyfnewidiadau yn 1673. Yr oedd un ran o dair o'r holl ddirwyon i fyned i'r cyhuddwr, yr hwn hefyd a allasai gosbi unrhyw Ynad a wrthodasai weinyddu y gosp ar ei dystiolaeth ef. Yn y modd hwn gosodwyd holl Ymneillduwyr y wlad a'r Ynadon ar drugaredd y dyhirod gwaethaf yn mhob ardal. Y canlyniad fu i'r carcharau gael eu gorlenwi a dynion crefyddol, ac i eiddo miloedd o honynt fyned yn ysglyfaeth i'w cyhuddwyr. Yn 1665, pasiwyd Gweithred y Pum Milldir, yr hon a waharddai un gweinidog Ymneillduol fyned o fewn pum' milldir i un dref na bwrdeisdref, ond yn unig wrth groesi heol, na myned ychwaith o fewn pum milldir i'r plwyf lle y buasai yn gweinidogaethu cyn cael ei droi allan. Gwaherddid iddynt hefyd i gadw ysgolion. Amcan y ddeddf hon oedd ysgaru y bugeiliaid oddiwrth eu praidd, a'u hatal i gael un ffordd i gynal eu teuluoedd. Yn 1678, pasiwyd y weithred a elwid y Test Act', yr hon a gauai allan bob Ymneillduwr o bob swydd o elw a dylanwad yn y wlad, yn gystal a'r trefi. Dilynwyd y rhan fwyaf o'r deddfau creulon hyn gan Ddeddf Goddefiad. Ond y mae yr enw Deddf Goddefiad, dan yr hon y mae holl Ymneillduwyr Prydain yn mwynhau eu rhyddid i'r dydd hwn, yn ddirmyg ar synwyr cyffredin. Pa hawl sydd gan Eglwyswyr i ddyweyd eu bod yn ein goddef ni i addoli, mwy nag sydd genym ninau i ddyweyd ein bod ni yn eu goddef hwy. Onid oes hawl gan bob dyn i addoli ei Greawdwr yn y dull a'r modd y myn, heb hawl gan neb o'i gyd-ddynion i ymyraeth ag ef. Yr ydym yn ddiolchgar i Dduw am y rhyddid a fwynheir genym, ond nid ydym yn diolch i ddynion, canys nid oes ganddynt hawl i'w atal oddiwrthym. Ni bydd Rhyddid Crefyddol Prydain yn gyflawn nes y byddo y sectau a elwir Eglwysi Lloegr a Scotland wedi eu dadgysylltu oddiwrth y Llywodraeth, a'u gosod ar yr un tir a'r enwadau eraill. Mae arwyddion yr amserau yn dangos, nad yw yr adeg pan y cymer hyny le yn mhell.

HANES
EGLWYSI ANNIBYNOL CYMRU.

SIR FYNWY.

GAN mai yn sir Fynwy y cychwynodd Ymneillduaeth Gymreig, ac mai Annibyniaeth oedd y ffurf—lywodraeth eglwysig a fabwysiadwyd gan ein tadau; yn y sir hon y mae yn fwyaf priodol i ni ddechreu ein Hanes am yr eglwysi Annibynol. Cyfrifa llawer sir Fynwy yn sir Saesonig, ond nis gwyddom paham. Mae ei sefyllfa ddaearyddol, ei hiaith—hyd yn diweddar—ac arferion a nodwedd ei phreswylwyr yn hollol Gymreigaidd. Mae Mynwy yn 368,399 erw o arwynebedd, a thua phedwar ugain mil o'r erwau hyn yn cynnwys toraeth ddihysbydd o lô a mŵn haiarn. Terfynir y sir ar y dwyrain gan siroedd Caerloew a Henffordd, ar y dê gan For Hafren, ar y gorllewin gan Forganwg, ac ar y gogledd gan Frycheiniog. Mae poblogaeth y sir hon wedi cynyddu yn ddirfawr er dechreuad y ganrif bresenol, ond yn y rhanau gweithfaol o honi y mae y cynydd wedi cymeryd lle agos yn hollol. Poblogaeth yr holl sir yn 1801 oedd 45,568; yn 1811 yr oedd yn 62,105; yn 1821 yn 75,801; yn 1831 yn 98,126; yn 1841 yn 134,368; yn 1851 yn 157,418; ond erbyn cyfrifiad 1861 yr oedd wedi cynyddu i'r nifer ddirfawr o 174,633.

Mae mwyafrif trigolion y sir hon, fel pob sir arall o Gymru, ond Maesyfed, yn Ymneillduwyr. Pan wnaed cyfrifiad o rif y personau oedd yn addoldai y gwahanol enwadau ar y Sul, Mawrth 30, 1851, yr oedd tua phedwar o bersonau yn addoldai yr Ymneillduwyr am bob un oedd yn addoldai yr Eglwys Sefydledig. Er y pryd hwnw hyd yn awr y mae yr Ymneillduwyr wedi ennill llawer mwy o dir na'r Eglwyswyr, er fod lledaeniad cyflym yr iaith Saesonig trwy holl ranau gweithfaol y sir yn rhoddi mantais ddirfawr i'r Eglwyswyr, gan eu bod hwy yn cynnal addoliad Saesonig agos yn mhob addoldy, pryd y mae yr Ymneillduwyr yn esgeuluso hyny mewn llawer o fanau lle mae galwad am dano. Yr enwad lluosoca yn Mynwy yn awr yw y Bedyddwyr, y nesaf ato yw yr Annibynwyr, y trydydd yw y Wesleyaid, a'r pedwerydd yw y Trefnyddion Calfinaidd. Mae y Trefnyddion cyntefig (Primitive Methodists) yn lled luosog hefyd, ac yn agos i'r Trefnyddion Calfinaidd mewn rhif. Mae yma hefyd amryw o fan enwadau crefyddol yn gwneyd yn nghyd gryn nifer.

LLANFACHES.

Saif y plwyf hwn rhwng y Casnewydd a Chasgwent, tua thair milldir i'r gogledd o gledr-ffordd Deheudir Cymru. Yma y ffurfiwyd yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn Nghymru, ac y mae wedi parhau i fodoli fel eglwys Annibynol hyd y dydd hwn. Mae hanes ei dechreuad fel y canlyn:

Tua y flwyddyn 1595, cafodd y Parch. William Wroth, B.A. ei osod yn Ficer y plwyf gan y noddwr (patron), Syr William Lewis, o'r Fan, gerllaw Caerphili. Yr oedd Mr. Wroth yn ŵr dysgedig, wedi ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, ond fel y rhan fwyaf o'i gydoeswyr wedi ymruthro i waith cyssegredig y weinidogaeth yn amddifad o'r prif gymhwysder, sef duwioldeb. Dywedir ei fod yn hoff iawn o gerddoriaeth a difyrwch, ac yr arferai fyned a chrwth i'r eglwys ar y Suliau, a'i chwareu ar ol y gwasanaeth, ac y byddai ei wrandawyr yn dawnsio ar y fynwent am oriau tra byddai efe yn chwareu y crwth. Fel hyn y dygodd bethau yn mlaen am rai blynyddau ar ol iddo ymsefydlu yn Llanfaches. Ond tua y flwyddyn 1600, neu yn fuan ar ol hyny, darfu i'r Arglwydd ymweled âg ef yn achubol, a hyny mewn modd tarawiadol iawn. Lletyai yn nhŷ boneddwr yn y plwyf, yr hwn oedd berthynas iddo. Bu galwad i'r boneddwr hwnw fyned i Lundain i sefyll cyfraith ar achos o bwys dirfawr iddo ef a'i deulu. Ennillodd y gyfraith, ac anfonodd adref i geisio gan ei deulu ddarparu gwledd fawr erbyn dydd ei ddychweliad, a gwahodd ei gyfeillion yn nghyd yno i lawenychu yn ei lwyddiant. Aeth Wroth drosodd i Gaerodor i brynu crwth newydd erbyn y wledd. Wedi i'r dydd ddyfod, a phob peth yn barod, y gwahoddedigion wedi ymgynnull, a dim yn ddiffygiol ond presenoldeb gwr y tŷ i goroni y wledd; ond tua yr amser y disgwylid ef i ddychwelyd wele genad yn dyfod a'r newydd trist iddo gael ei gymeryd yn glaf ar y ffordd a marw yn ddisymwth. Tarawodd y newydd bawb â syndod a phrudd-der. Wroth, yr hwn oedd a'i grwth yn ei law ar y pryd a'i taflodd i'r llawr, syrthiodd ar ei ddeulin yn nghanol y dorf bruddaidd, a dechreuodd weddio yn ddifrifol am y waith gyntaf y gweddïodd o'i galon erioed. O'r dydd hwnw hyd ddydd ei farwolaeth gweddio a chynghori ei gyd-ddynion i ffoi rhag y llid a fydd fu ei holl waith. Gan fod pregethwyr difrifol a galluog yn yr oes hono mor annghyffredin, rhedodd y son am Ficer Llanfaches ar hyd a lled y wlad, a chyrchodd miloedd o bob parth yno i'w wrandaw; rhyw nifer fechan oddiar awydd i glywed yr efengyl, a'r rhan fwyaf o gywreinrwydd. Bu ei weinidogaeth o fendith i luoedd. Wedi myned yn enwog fel pregethwr cafodd gymhelliadau, rhy daerion i'w gwrthsefyll, i fyned allan o'i blwyf ei hun i ymweled â'i ddysgyblion lluosog, ac i bregethu iddynt yn eu gwahanol ardaloedd. Darfu i'r afreoleiddiwch hwnw yn fuan gyffroi gwrthwynebiad a llid yr offeiriaid dioglyd ac anfoesol, a gwnaethant achwyniadau yn ei erbyn amryw weithiau yn llys yr esgob yn Llandaf. Gwysiwyd ef unwaith i ymddangos ger bron Dr. Field, Esgob Llandaf, yr hwn a ddywedodd wrtho, "Mr. Wroth, yr wyf yn cael achwyniadau mynych yn eich erbyn eich bod yn afreolaidd, fel offeiriad, yn myned allan o'ch plwyf eich hun i bregethu, ac yn cyfodi rhagfarn yn erbyn eich brodyr offeiriadol wrth eich dull hynod o bregethu; pa beth sydd genych i'w ddweyd drosoch eich hun?" "Fy Arglwydd" ebe Mr. Wroth, y mae fy nghydwladwyr wrth y miloedd yn myned i'r farn yn eu pechodau ac heb neb yn eu rhybuddio, ac nis gallaf fod yn llonydd heb fynegu eu perygl iddynt, er i mi weithiau droseddu canonau yr Eglwys wrth wneyd hyny." Dywedodd y geiriau hyn gyda theimlad dwys a dagrau, a dywedir i'w ddull difrifol effeithio cymaint ar yr esgob nes iddo yntau wylo. Gollyngodd ei Arglwyddiaeth ef ymaith gan ddweyd yn dyner wrtho Dos ac na phecha mwyach." Ond parhau i fyned rhagddo yn yr un dull a wnaeth ef, er yn wyneb llawer o erlid a gwrthwynebiad, nes i'r archerlidiwr hwnw, Dr. William Laud, gael ei wneyd yn Archesgob Canterbury, yna darfu am i unrhyw buritan selog mewn un cwr o Loegr na Chymru gael dim llonyddwch mwyach. Cafodd Mr. Wroth, yn mysg ereill, ei wysio yn y flwyddyn 1633 i'r llys a elwid The Court of High Commission. Bu ei achos ger bron y llys hwnw hyd y flwyddyn 1638, pryd y cafodd ei droi allan o'i fywoliaeth. Yn fuan ar ol ei droad allan casglodd ei ddysgyblion at eu gilydd a ffurfiodd hwy yn eglwys Annibynol. Ar yr achlysur o gorpholiad yr eglwys cynnaliwyd cyfarfod neillduol yn mis Tachwedd 1639. Cafodd y Parch. Henry Jessey, y pryd hwnw gweinidog yr hen eglwys Annibynol yn Southwark, Llundain, ei anfon i lawr i weinyddu gyda Mr. Wroth ac eraill ar gorpholiad yr eglwys. Cyfeirir at yr amgylchiad yn hanes bywyd Mr. Jessey fel hyn: "Yn mis Tachwedd 1639, efe a anfonwyd i Gymru gan ei gynnulleidfa i gynnorthwyo yr oedranus Mr. Wroth, Mr. Cradock, ac eraill, yn nghorpholiad yr eglwys yn Llanfaches, yn Neheudir Cymru, yr hon eglwys wedi hyny, a fu fel Antiochia yn fameglwys yn y wlad baganaidd hono. Yr oedd yn nodedig am ei swyddwyr, ei haelodau, ei threfn, a'i doniau."

Mae yn ymddangos fod Mr. William Erbery, Mr. Walter Cradock, Mr. Henry Walter, Mr. David Walter, Mr. Ambros Mostyn, Mr. Richard Symmonds, a rhai eraill, y rhai oeddynt eisoes naill ai yn offeiriaid urddedig, neu yn parotoi ar gyfer y weinidogaeth, yn aelodau o'r eglwys hon ar ei ffurfiad cyntaf. Yr oedd llawer iawn o bersonau, a ddychwelasid dan weinidogaeth Mr. Wroth yn y blynyddoedd blaenorol, yn wasgaredig ar hyd siroedd Mynwy, Morganwg, Brycheiniog, a Maesyfed, a rhai siroedd eraill, ac y mae yn ddiamheu i'r rhan fwyaf o honynt uno â'r eglwys; ond o herwydd pellder y ffordd nis gallasai llawer o honynt fod yn bresenol yn y cyfarfodydd yn Llanfaches ond anfynych, gan hyny yr ydym yn cael fod canghenau o'r fam-eglwys hon wedi cael eu ffurfio yn eglwysi yn Mynyddislwyn, Caerdydd, Abertawy, ac yn rhywle yn sir Faesyfed, cyn pen dwy flynedd ar ol ffurfiad y fam-eglwys. Gan na oddefai y cyfreithiau i'r Ymneillduwyr addoli yn gyhoeddus yr amser hwn, nid ymddengys i'r aelodau oll allu cyfarfod yn yr un lle unrhyw bryd yn amser Mr. Wroth. Y tebygolrwydd yw mai cyfarfod yn ddirgel yr oeddynt mewn anedd-dai yn y gwahanol ardaloedd lle y byddai niferi o'r aelodau yn cyfaneddu, ac y byddai Mr. Wroth a'i gynnorthwywyr yn ymweled â hwynt yn eu tro. Cynnorthwyid Mr. Wroth yn y weinidogaeth gan y gweinidogion ieuaingc a enwasom, ond yn benaf gan Mr. Walter Cradock, yr hwn a ddewiswyd yn ganlyniedydd i Mr. Wroth ar ei farwolaeth yn nechreu y flwyddyn 1642.

Yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Wroth, torodd y rhyfel cartrefol allan rhwng y brenin a'r Senedd. Ar ddechreu y rhyfel cyfarfu y gweinidogion a llawer o aelodau yr eglwys, yn Llanfaches, er ymgynghori pa fodd i wneyd yn yr adeg gythryblus ac enbyd hono. Barnwyd mai gwell fuasai i'r gweinidogion, a'r rhan amlaf o'r gwrywaid ieuainc a chanol oed, ffoi yn y nos i Gaerodor—yr hon ddinas oedd yn meddiant plaid y Senedd— rhag iddynt gael eu lladd neu gael eu gorfodi i fyned i fyddin y brenin, gan fod y gwyr mawr a chorph y boblogaeth yn Nghymru yn perthyn i'r blaid hono. Aethant ymaith yn ol y cynghor, a chawsant dderbyniad croesawus ac ymgeledd am dymhor yn Nghaerodor, a phan gymerwyd y ddinas hono gan filwyr y brenin aethant rhagddynt i Lundain, lle yr arosasant hyd derfyniad y rhyfel yn y flwyddyn 1646. Darfu i'r ychydig grefyddwyr a adawyd yn Nghymru ar ddechreu y rhyfel, cynwysedig gan mwyaf o ddynion oedranus, a gwragedd, a phlant, er eu holl beryglon a'u hanfanteision, ddal yn ffyddlon at eu hegwyddorion. Pan nad oedd ganddynt un pregethwr i'w haddysgu a'u blaenori, elent o dŷ i dy i ymddiddan a'u gilydd am grefydd, ac yn y modd hwnw ennillasant gannoedd o eneidiau at yr Arglwydd. Dywed Mr. Walter Cradock yn 1646 iddo, ar ei ddychweliad i Gymru, ar ol bod yn absenol am bedair blynedd, gael, er ei syndod a'i orfoledd, fod yr efengyl wedi "rhedeg fel tân mewn tô gwellt" dros y mynyddoedd rhwng Mynwy a Brycheiniog, a bod yno tuag wyth cant o ddynion duwiol yn ei harddel a'i thaenu yn egniol.

Pan ddychwelodd Mr. Cradock, Mr. Henry Walter, a Mr. Symmonds i Gymru yn 1646, cawsant eu hanfon allan gan y Senedd yn bregethwyr teithiol, ac felly ni ddarfu i un o honynt sefydlu fel gweinidog ar eglwys Llanfaches. Un Mr. Thomas Ewins oedd y gweinidog sefydlog cyntaf yno ar ol y rhyfel. Mae yn debygol mai Sais oedd y gwr hwn a afonasid i lawr o Lundain yn 1646 i gynnorthwyo yr efengylwyr Cymreig, a chan fod y rhan fwyaf o'r trigolion yn nghymydogaeth Llanfaches yn deall yr iaith Saesonig annogwyd ef i ymsefydlu yno fel gweinidog. Cafodd ei neillduo i'r swydd medd y Broad Mead Records "trwy ympryd a gweddi." Aeth ei glod allan yn fuan fel pregethwr grymus a dylanwadol, ac yn y flwyddyn 1651 tynwyd ef trwy daerni diball i symud i Gaerodor. Pan yn gweled nad. oedd yr eglwys yn Nghaerodor yn foddlon cymeryd pall, cydsyniodd pobl Llanfaches i roddi "ei fenthyg" iddynt, ond ni thalwyd byth mor benthyg yn ol. Gan fod amryw o aelodau ei eglwys yn Nghaerodor yn wrth-faban-fedyddwyr llwyddasant yn y flwyddyn 1654 i gael gan Mr. Ewins i gymeryd ei drochi, ac yna ni feddyliodd mwyach am ddychwelyd i Lanfaches. Bu farw yn Nghaerodor yn mis Chwefror, 1670.

O amser ei chorpholiad hyd derfyniad y rhyfel yn 1646, nid oedd gan yr eglwys un tŷ addoliad, fel y nodasom; ond o 1646 hyd 1660, yr oedd y llanau, neu yr eglwysi plwyfol, yn Llanfaches a'r plwyfydd cymydogaethol, yn hollol at wasanaeth ei haelodau a'i phregethwyr i ymgynnull iddynt pryd y mynent. Nid oedd Ymneillduwyr yr oes hono wedi dyfod yn ddigon goleuedig i wrthod cymorth y llywodraeth at dreuliau eu gwasanaeth crefyddol. Nid yn unig defnyddient addoldai y llywodraeth at addoli, ond derbyniai y gweinidogion dâl gan y llywodraeth am bregethu. Penodwyd y swm o gan' punt y flwyddyn gan y llywodraeth i Mr. Walter Cradock, Mr. Henry Walter, Mr. R. Symmonds, Mr. Vavassor Powell, ac eraill ar eu dychweliad i Gymru yn 1646 fel pregethwyr teithiol. Rhoddid symiau llai i eraill yn ol eu safle a'u talent. Dylid cofio hefyd fod can' punt y pryd hwnw yn gyfwerth a phedwar neu bum' cant o bunnau yn awr, os nad mwy. Byddai yn anngharedig i ni yn yr oes hon gondemnio dynion da yr oes hono am nad oeddynt wedi dyfod mor belled yn mlaen a ni yn eu syniadau am gysylltiad crefydd â'r llywodraeth. Rhyfeddwn ddaioni Duw yn agoryd eu llygaid i'r graddau y gwnaeth. Dichon y bydd pobl yn y flwyddyn 2070 yn synu ein bod ni yn awr mor belled yn ol yn ein barn a'n gwybodaeth am lawer o bethau.

Gwelsom, yn y difyniad o hanes bywyd Mr. Henry Jessey, fod eglwys Llanfaches yn enwog am ddoniau eu haelodau. Cawn brawf ymarferol o hyny yn y ffaith i tuag ugain o aelodau yr eglwys hon ac eglwys Mynyddislwyn gael eu hanfon allan yn bregethwyr teithiol gan y llywodraeth yn amser y werin lywodraeth. Telid iddynt 17p. yr un yn flynyddol am eu gwasanaeth. Mae yn ymddangos hefyd fod yn yr eglwys hon amryw ddynion o sefyllfa gymdeithasol uchel.

Y gweinidog sefydlog cyntaf a ddilynodd Mr. T. Ewins oedd Mr. Thomas Barnes. Mae yn debygol mai Sais oedd yntau, fel ei ragflaenydd, ac yr oeddynt ill dau yn ddau o'r chwech pregethwyr a anfonasid o gynnulleidfa Allhallows, Llundain, gyda Mr. Cradock i'w gynnorthwyo i efengylu yn Nghymru. Nis gwyddom enwau y pedwar eraill. Yr oedd Mr. Barnes yn weinidog eglwys Annibynol Llanfaches, ac yn weinidog plwyf Magor—y plwyf nesaf i Lanfaches—ar yr un amser, a chafodd ei droi allan oddiyno gan ddeddf unffurfiaeth yn 1662, ond parhaodd ei gysylltiad ag eglwys Ymneillduol Llanfaches. hyd ei farwolaeth yn 1703. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn galluog iawn, ac yn weinidog o enw a dylanwad annghyffredin, canys buwyd yn daer iawn yn ei gymhell gan eglwys yr enwog Dr. John Owen i dderbyn galwad ganddi ifod yn ganlyniedydd i'r gwr mawr hwnw, a gellir bod yn sier na chynygiesid yr anrhydedd hwnw i ddyn cyffredin o safle a galluoedd. Ar ol adferiad Siarl II., ac adsefydliad Esgobyddiaeth yn grefydd wladol, cafodd yr eglwys yn Llanfaches, yr un fath a phob eglwys Ymneillduol arall, ei rhan o ddioddefiadau. Gorfu iddi, fel ar ei sefydliad cyntaf, fyned i addoli yn ddirgel mewn anedd-dai. Nid oes genym lawer o'i hanes yn adeg yr erledigaeth o 1662 hyd 1688, ond y mae cymaint sydd genym yn profi ei bod yn eglwys luosog iawn, fod llawer o'i haelodau yn ddynion cyfoethog, a bod ynddi gyflawnder o ddoniau gweinidogaethol. Tua y flwyddyn 1669, ar orchymyn Archesgob Canterbury, casglwyd ystadegau o nifer yr Ymneillduwyr yn y gwahanol esgobaethau, ac y mae yr ystadegau hyny yn awr i'w gweled yn y llyfrgell Archesgobol yn mhalas Lambeth. Tafla y cyfrifon hyn gryn oleuni ar ansawdd eglwys Llanfaches yn y flwyddyn hono. Dangosir ei bod yn ymgynnull i addoli mewn anedd-dai yn y gwahanol blwyfydd cymydogaethol, a rhoddir enwau perchenogion yr anedd-dai, a'r pregethwyr, ac amcan-gyfrif o nifer y gwrandawyr yn y gwahanol leoedd. Yn mhlwyf Llanfaches cyfarfyddent yn nhŷ Mr. Nathan Rogers; yn mhlwyf Magor, yn nhai Mr. Samuel Jones, o Little Salisbury, a Mr. Thomas Jones, o Milton; yn mhlwyf Caerlleonarwysg, yn nhŷ Mr. Henry Walter, Park-y-pill; yn mhlwyf Llanfair Discoed, yn nhŷ Major Blethin, o Dinham; yn mhlwyf Caldicot, yn nhŷ Mr. Hopkin Rogers; yn y Casnewydd, yn nhy Mr. Rice Williams; yn Llantrisant, yn nhy Mr. George Morgan; yn Llangwm, mewn pedwar o wahanol anedd-dai. Dywedir fod y gwrandawyr yn y gwahanol leoedd hyn dros bum' cant o rif, a bod yn eu mysg rai yn werth 500p., 400p., 300p., a 200p. yn y flwyddyn, yr hyn, fel y nodasom, oedd y pryd hwnw yn cyfateb i bum' cymaint a hyny yn awr. Y pregethwyr a enwir oedd Thomas Barnes; William Thomas; Henry Walter; Rice Williams; Josuah Lloyd; a Watkin Jones. Enwir hefyd Meistri Samuel Jones; Hopkin Rogers; Henry Rumsey; Robert Jones; George Edwards; a Watkin George, fel adroddwyr (repeaters); wrth yr hyn mae yn debygol y golygid pregethwyr cynnorthwyol. Yn y flwyddyn 1672, pan y caniataodd Siarl II. fesur oryddid i'r Ymneillduwyr, trwyddedwyd tai Mr. James Lewis, Caldicot; Mr. Walter Jones, o Magor; Mrs. Barbara Williams, o'r Casnewydd; a Mr. George Morgan, o Lantrisant, ger Brynbyga, fel lleoedd i bregethu ynddynt, a chymerodd Mr. Thomas Barnes, a Mr. George Robinson, drwyddedau i bregethu yn y tai hyn fel gweinidogion Annibynol.

Haera Mr. Josuah Thomas yn Hanes y Bedyddwyr, fod yr eglwys yn Llanfaches er y dechreuad yn gynnwysedig o Drochwyr a Thaenellwyr, a bod un Mr. William Thomas, Bedyddiwr, yno yn gydweinidog a Mr. Wroth. Ond haeriad hollol ddisail yw hwn, canys dywed Mr. John Myles, sylfaenydd y Bedyddwyr yn Nghymru, na chlywsai efe son am yr enwad yn un man yn Nghymru, nes iddo ef gasglu a chorpholi eglwys yn Ilston, Browyr, yn mis Hydref, 1649; a phe buasai rhyw weinidog o Fedyddiwr yn Nghymru ni buasai Mr. Myles yn myned yr holl ffordd i Lundain i gael ei drochi yn 1649. Am y William Thomas a grybwyllir fel cydweinidog à Mr. Wroth, mae genym yr hanes canlynol, yr hyn a ddengys nas gallasai fod yn gydweinidog â Mr. Wroth: —Aelododd ei hun yn eglwys Mr. Myles yn Ilston; aeth wedi hyny yn bregethwr teithiol, yn benaf oddeutu Caerfyrddin, ac yn y sir hono yr oedd pan ddistawyd ef gan ddeddf unffurfiaeth. Ryw amser ar ol hyny symudodd i Lantrisant, Mynwy, a phriododd ferch Mr. George Morgan o'r lle hwnw. Bu yn weinidog ar y gangen o eglwys Llanfaches, yn mhlwyfydd Llantrisant, Llangwm, a Brynbyga am ryw gymaint o flynyddau, ar ol y flwyddyn 1662 hyd ei farwolaeth yn 1671. Mae yn debygol mai dyn cymharol o ieuanc ydoedd yn amser ei farwolaeth. Mae genym bob sicrwydd nad oedd dim Bedyddwyr yn eglwys Mr. Wroth, nac fel yr ymddengys mewn un rhan arall o Cymru hyd y flwyddyn 1649. Dechreuodd dadi bedydd yn y flwyddyn hono gynhyrfu yr eglwysi, a darfu i amryw bersonau mewn gwahanol eglwysi gymeryd eu trochi. Yn raddol aeth y rhan fwyaf o'r gangen o Lanfaches, oddeutu Llantrisant, &c. yn drochwyr o ran golygiadau, ond yr oeddynt dros gymundeb rydd, ac yn parhau i'w galw eu hunain yn Annibynwyr, ac ar farwolaeth Mr. William Thomas, derbyniasant Mr. George Robinson, a Mr. Thomas Quarrell, dau faban-fedyddiwr, yn weinidogion, a pharhaodd y diweddaf i lafurio yn eu plith hyd 1709. Ychydig cyn diwedd ei weinidogaeth ef y sefydlwyd yr eglwys Annibynol yn Hanover. Ond tra y darfu i un gangen o'r fam—eglwys, i raddau pell, newid ei barn ar y pwnge o fedydd, daliodd y rhan hono o honi a breswylient yn mhlwyfydd Llanfaches, Magor, &c. yn ffyddlon at olygiadau Mr. Wroth, eu sylfaenydd.

Mae hanes cangen Llantrisant[10] o eglwys Llanfaches yn enghraifft darawiadol o'r annoethineb a'r anfuddioldeb o geisio uno gwahanol enwadau mewn un eglwys. Yr oedd yr eglwys, neu y gangen eglwys hon, yn 1669 y luosocaf a'r gyfoethocaf o holl eglwysi Ymneillduol Cymru, ond cyn diwedd oes Mr. Quarrell yr ocdd wedi myned agos, os nad yn hollol, i'r dim. Mae llawer cynygiad wedi cael ei wneyd mewn gwahanol ardaloedd i sefydlu achosion, cynnwysedig o wahanol enwadau, ond nis gwyddom am un o honynt a goronwyd a llwyddiant parhaus mewn un lle. Nid oes dim yn fwy dymunol na gweled Cristionogion o wahanol olygiadau yn achlysurol yn cydeistedd wrth fwrdd yr Arglwydd, ond ynfydrwydd fyddai ceisio cyfodi eglwys flagurog o ddefnyddiau felly. Pe dygwyddai fod nifer o broffeswyr o wahanol enwadau yn byw mewn ardal, lle na byddai yn gyfleus cyfodi dau neu dri o wahanol achosion, dylid gadael i'r enwad cryfaf mewn rhif, doniau, neu ddylanwad gael y flaenoriaeth, a'r personau eraill uno â hwy, a llwyr anghofic eu henwadyddiaeth, nes yr arweinio Rhagluniaeth hwy i le y gallont drachefn ei arddel.

Y gweinidog cyntaf y mae genym hanes am dano yn eglwys Llanfaches, ar ol Mr. Barnes oedd Mr. David Williams, ond gan nad urddwyd ef cyn y flwyddyn 1710, rhaid i'r eglwys fod saith mlynedd heb weinidog os na fu yno ryw un nas gwyddom ni am dano. Yr oedd yr eglwys yn awr yn ddwy gangen; un yn cyfarfod yn Carwhill, yn mhlwyf Llansantffraid-is- Gwent, un o'r plwyfydd a ffiniant â phlwyf Llanfaches, a'r llall yn nhref y Casnewydd. Etto un eglwys y cyfrifid hwy er eu bod yn ymgynnull mewn dau le.

Yn y flwyddyn 1715, a'r ddwy ganlynol, casglodd y Dr. John Evans, o Lundain, ystadegau holl eglwysi Ymneillduol Lloegr a Chymru; enwau y gweinidogion, nifer y cynnulleidfaoedd, a sefyllfa gymdeithasol y bobl. Yr oedd sefyllfa yr eglwys hon y pryd hwnw fel y canlyn:—Nifer y gynnulleidfa 236, yn mysg pa rai yr oedd chwech boneddwr, un-ar-bymtheg o ddynion yn byw ar eu tiroedd eu hunain, wyth-ar-hugain o fasnachwyr, pedwar-ar-bymtheg o amaethwyr, a deg-ar-hugain o weithwyr. Yr oedd gan aelodau y gynnulleidfa dair-ar-hugain o bleidleisiau dros y sir, a naw dros y fwrdeisdref. Nid yw yr ystadegau hyn yn son dim am sefyllfa ysbrydol yr eglwys. Parhaodd Mr. David Williams i fod yn weinidog yma hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1754.

Canlyniedydd Mr. Williams oedd Roger Rogers, gwr genedigol o blwyf Bedwellty, ac aelod o eglwys Penmain, yr hwn a urddwyd Mai 29, 1761. Mr. Edmund Jones fu y prif offeryn i ddwyn Mr. Rogers i'r weinidogaeth, a gwnaeth hyny yn groes i feddwl Mr. Phillip David, gweinidog Penmain. Mae yn debygol mai o herwydd fod Rogers yn rhy Fethodistaidd yn ei ddull o bregethu yr oedd Phillip David yn wrthwynebol iddo, canys hen Ymneillduwr o'r hen ddull oedd ef, a rhyfeddol o groes i ddull y Methodistiaid o bregethu. Yr oedd Edmund Jones lawer yn fwy yn ysbryd yr oes. Bu farw Rogers yn y flwyddyn 1766. Nis gwyddom pa un ai llwyddianus neu aflwyddianus y bu yn ystod ei weinidogaeth fer. Dilynwyd Mr. Rogers yn 1770 gan Thomas Saunders. Parhaodd ei weinidogaeth ef am ugain mlynedd, a dywed Edmund Jones ei fod yn rhyfeddol o lwyddianus, yn enwedig yn y Casnewydd, ac yn Machen, lle hefyd y cyfarfyddai cangen o'r eglwys. Yr oedd y gwr hwn hefyd yn llawer rhy Fethodistaidd yn ei ddull o bregethu yn nhyb P. David. Bu farw Mr. Saunders Ionawr 9, 1790, yn 58 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Heol y felin, Casnewydd.

Yn mhen tua blwyddyn neu ddwy wedi marwolaeth Mr. Saunders, cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. Howell Powell, a bu dan ei ofal ef am tua chwe' mlynedd. Yn y flwyddyn 1798 symudodd i Ferthyr Tydfil. Bu yr achos yn dra llewyrchus dan weinidogaeth ddeffrous Mr. Powell, ond nid oes genym ddefnyddiau i roddi unrhyw fanylion am lwyddiant ei weinidogaeth.

Ar ymadawiad Mr. Powell dewsiodd y gangen yn Heolyfelin, Casnewydd, weinidog iddi ei hun. Y gweinidog nesaf yn Carwhill neu Lanfaches oedd Mr. Walter Thomas. Aelod o'r Groeswen yn Morganwg oedd ef. Mae yn debygol iddo fyned yno yn uniongyrchol ar ymadawiad Mr. Powell, canys yr ydym yn cael crybwylliad am dano fel Mr. W. Thomas, Carwhill, yn hanes cymanfa Zoar, Merthyr, yn niwedd Mehefin, 1798, ac yn Ebrill yn hanes cymanfa Zoar, Merthyr, yn niwedd Mehefin, 1798, ac yn Ebrill neu Mai y flwyddyn hono y symudodd Mr. Powell i Ferthyr. Nid ymddengysi Mr.Thomas symud o'i ardal enedigol i sir Fynwy pan ymgymerodd a gofal yr eglwys yn Carwhill, er fod ganddo dros ugain milldir i deithio tuag yno. Yr oedd yn beth cyffredin dri-ugain a phedwar-ugain mlynedd yn ol, fod gweinidogion yn Nghymru yn cyfaneddu bymtheg ag ugain milldir oddiwrth eu heglwysi. Hysbyswyd ni gan y diweddar Barch. David Thomas, Llanfaches, fod un William George wedi bod yn weinidog yno yn nechreu y ganrif bresenol, ac iddo symud oddi yno i Ross yn sir Henffordd. Mae yn rhaid mai cydweinidog a W. Thomas ydoedd, ac na fu yno ond am ychydig iawn o amser, canys cafodd Mr. James Williams ei urddo yno yn gynnorthwywr i Mr. Walter Thomas ar y 12fed o Fawrth, 1807. Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol urddiad Mr. Williams rhoddodd Mr. Thomas ei swydd i fyny, a chymerodd ofal yr eglwys yn Llangynwyd, Morganwg. Bu Mr. Williams yn llafurio yn Llanfaches hyd 1817, ac ar yr 21ain o Fai yn y flwyddyn hono urddwyd Mr. J. Peregrine, o Athrofa Llanfyllin, yn ganlyniedydd iddo. Nis gwyddom pa cyhyd y bu Mr. Peregrine yno. Yn mhen ychydig iawn o flynyddau ymfudodd i America. Y gweinidog nesaf oedd Mr. James Griffiths, yr hwn a urddwyd yn y flwyddyn 1823. Bu ef yno am bum' mlynedd, yna symudodd i Loegr, ac yn 1828 cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. David Thomas, Nebo, yr hwn a barhaodd i lafurio yno gyda pharch a mesur o lwyddiant hyd ei farwolaeth yn mis Tachwedd, 1864. Y gweinidog presenol yw Mr. J. P. Jones. Y mae efe yn enedigol o ardal Penybont-ar-ogwy. Cafodd ei addysgu yn Athrofa Aberhonddu. Ar ei fynediad allan o'r Athrofa yn 1865, sefydlodd yn Heyhead, ger Manchester, ac yn 1867 symudodd i'w gylch presenol. Mae yn wr ieuangc galluog a llafurus, ac arwyddion gobeithiol am lwyddiant ar ei lafur yn yr hen faes cyssegredig hwn.

Yr ydym yn y tudalenau blaenorol wedi olrhain hanes y fam-eglwys. hon o'i ffurfiad yn mis Tachwedd, 1639 hyd fis Tachwedd, 1869. Yn y ddau cant a deng mlynedd ar hugain hyn, y mae wedi myned trwy lawer of helbulon a chyfnewidiadau. Bu ar un adeg, tua diwedd y ganrif diweddaf mae yn debygol, mor wan fel nad oedd ond un hen wraig yn cymuno gyda y gweinidog. Pan oedd pethau wedi myned i'r agwedd isel hono, digalonodd y gweinidog, a dywedodd wrth yr hen chwaer, ar ddiwedd un cyfarfod cymundeb, y buasai yn well iddynt roddi heibio weini yr ordinhad yn gyhoeddus, ac y buasai ef yn dyfod yn achlysurol i'w thỳ hi i roddi y cymundeb iddi. Torodd yr hen wraig i wylo, a deisyfodd arno beidio gwneyd hyny, o leiaf am iddo ei weini yn gyhoeddus un waith yn ychwaneg beth bynag. Mae yn debygol fod yr hen bererin duwiol wedi treulio y mis hwnw yn daerach nag erioed mewn gweddi am lwyddiant yr achos, a chafodd ei hateb. Yn mhen y mis, pan ddaeth y gweinidog i fyny o'r Casnewydd, cafodd, er ei gysur fod pump neu chwech yn dymuno cael eu haelodi yno. Ni bu yr achos byth o hyny allan mor isel.

Ar ol i'r gynnulleidfa fod yn ymgynnull yn Carwhill am amser maith—drwy yr oll o'r deunawfed ganrif, os nad oddiar 1688—cafwyd darn o dir gan Mr. Thomas Lewis, Llanfaches, i adeiladu y capel presenol, o fewn haner milldir i Carwhill, ac o fewn yr un pellder i eglwys Llanfaches. Mae y tir wedi ei roddi mewn gweithred ddiogel i'r enwad Annibynol dros 999 o flynyddoedd, am yr ardreth flynyddol o un bybyren os gofynir am dani. Dyddiad y weithred yw Tachwedd, 1802, ond y mae yn ymddangos fod y capel wedi cael ei adeiladu tua blwyddyn cyn hyny. Y Parch. Walter Thomas, y gweinidog, yw y blaenaf yn mysg yr ymddiriedolwyr. Yn ddiweddar prynodd yr eglwys ddarn o dir y tu cefn i'r capel at helaethu y fynwent. Mae defodaeth (ritualism) yn ei lawn rwysg yn eglwys blwyfol Llanfaches yn awr; trugaredd gan hyny i'r gymydogaeth yw fod yno eglwys Annibynol i ddwyn tystiolaeth o blaid crefydd ysbrydol ac ysgrythyrol. Mae hen addoldy Carwhill yn awr yn anedd-dy, ond yn yr un ffurf ag yr ydoedd pan yn addoldy.

Nid yw yr achos yn bresenol yn Llanfaches ond bychan ac eiddil. Oddeutu deugain yw rhif yr aelodau, a'r rhan fwyaf o'r cyfryw mewn amgylchiadau bydol isel, ond yr ydym yn hyderu eu bod yn bobl agos at yr Arglwydd, a bod yr adeg etto i ddyfod pan y cyfyd yr hen eglwys hon i'r nerth, y lluosogrwydd, yr enwogrwydd, a'r santeiddrwydd a'i hynodai yn nyddiau ei hieuengetyd, pryd yroedd sylw y byd crefyddol trwy Gymru a Lloegr yn cael ei dynu ati.

Mae yn ddiameu i lawer o aelodau yr eglwys hon o oes i oes fyned i'r weinidogaeth, ond nid ydym yn hysbys o enwau neb o honynt ar ol y rhai a gyfodasant yno yn amser Mr. Wroth, oddieithr dau sydd yn fyw yn bresenol, sef y Parch. George Richards, Beverly, gerllaw Hull, yr hwn a addysgwyd yn Athrofa Airdale, ac a urddwyd yn 1844; a'r Parch. George Thomas, Brynbyga, mab y diweddar Barch. David Thomas, yr hwn a addysgwyd yn Pickering, ac a urddwyd yn 1848.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM WROTH, B.A., a anwyd yn, neu yn agos i, Abergavenny, yn y flwyddyn 1570. Hanai o un o'r teuluoedd cyfoethocaf a pharchusaf yn sir Fynwy. Derbyniwyd ef i Goleg Iesu, Rhydychain, Ionawr 21, 1586. Ymddengys iddo fod lawer o flynyddau yn Rhydychain, oblegyd yn ol coflyfrau y brif athrofa ni ddarfu iddo raddio fel athraw y celfyddydau cyn Chwefror 18, 1595. Mae yn debygol mai y flwyddyn hono y dychwelodd i Fynwy, ac y gwnaed ef yn Ficer Llanfaches." Fel y crybwyllwyd yn hanes yr eglwys, bu am rai blynyddau yn ddyn hollol ddigrefydd, er yn weinidog yr efengyl mewn enw, ond wedi ei ddychweliad at yr Arglwydd, yr hyn fel y barnwn, a gymerodd le yn, neu yn fuan ar ol 1600, ymroddodd yn hollol i'r gwaith o bregethu, gweddio, a gwneuthur daioni yn mhob modd. Adwaenid ef yn Lloegr wrth yr enw "Apostol Cymru." Yr oedd Llanfaches yn amser Mr. Wroth i bobl grefyddol Cymru, a rhanau o Loegr, yr hyn oedd Jerusalem i'r Iuddewon gynt; cyrchant yno o bob cwr o'r wlad; ac yr oedd rhagoriaeth grefyddol y bobl a hoffent weinidogaeth Apostol Cymru" yn amlwg i bawb. Dywed William Erbery, yn y flwyddyn 1652, wrth son am y dadleuon a'r yspryd annghrefyddol a ddaethant i mewn gyda chyfodiad y Bedyddwyr yn Nghymru, fel y canlyn, "Eglwys Annibynol oedd yr un gyntaf. Yn ddiweddar yr ymddangosodd ac y cynyddodd yr eglwysi Bedyddiedig yn Nghymru, a dim ond y rhai gwanaf o'r Cristionogion sydd wedi syrthio i'r dwfr. Yr wyf yn dweyd y gwirionedd heb bleidgarwch. Nid oedd saint mwy ysprydol a dioddefgar mewn un ran o'r deyrnas nag oedd yn Nghymru—mor hunan-ymwadol ac mor farw i'r byd—ïe, y fath Gristionogion doeth o galon a gwybodus oeddynt; dyweded a thystied yr holl siroedd Saesoneg oddi amgylch pa gynnifer o saint o Wlad yr haf, sir Gaerloew, sir Henffordd, sir Faesyfed, sir Forganwg, &c., a gyrchent yn lluoedd i Lanfaches. Y fath oleuni a'r fath deimladau ysprydol oedd yno! Mor nefolfrydig oeddynt! Y fath iaith rasol a arferent! Mor wyliadwrus oeddynt! Y fath weddiau a weddient ddydd a nos, ar y ffordd wrth gerdded, gyda eu gwaith, wrth ddilyn yr aradr, ac yn mhob man yr oedd yspryd gweddi a phurdeb calon yn ymddangos. Nid oedd unrhyw son am ordinhadau y pryd hwnw, ond yn unig amlygiad o ofn ynddynt eu hunain, a rhybuddion cyson i ereill i ochelyd ymorphys ar bethau allanol crefydd. Yspryd a bywyd oedd y cwbl yr edrychai y saint yn Nghymru am danynt y pryd hwnw."

Yr oedd Mr. Wroth ei hun mor santaidd, gostyngedig a rhagorol fel nas gallasai lai na dylanwadu yn dda ar ereill. Y fath oedd purdeb difrycheulyd ei gymeriad, ei ragoriaethau fel pregethwr a gweinidog, a diniweidrwydd a boneddigeiddrwydd ei ymddygiad, fel yr oedd hyd yn oed y Pabyddion, a dynion gelynol i'w athrawiaeth a'i ddull o grefydda, yn gorfod cydnabod mai dyn santaidd ydoedd.

Yr oedd Mr. Wroth yn canfod yn eglur y buasai yr annghydfod rhwng y Brenin Siarl I. a'r Senedd yn terfynu mewn rhyfel, ac felly efe a weddiodd lawer am i'r Arglwydd ei gymmeryd ef i wlad yr heddwch cyn y buasai y rhyfel yn tori allan, a chafodd ei atteb yn yr hyn a ddymunodd. Efe a fu farw yn Ngwanwyn y flwyddyn 1642, tua dau neu dri mis cyn i'r rhyfel dori allan. Cafodd ei gladdu, yn ol ei ddymuniad, dan drothwy eglwys Llanfaches. Mae yn gerfiedig ar gareg, ar fur gogleddol eglwys plwyf Llanfaches fod "Mr. William Wroth, periglor y plwyf hwn, wedi gadael yn ei ewyllys bedair erw o dir yn mhlwyf Magor at wasanaeth tlodion y plwyf dros byth. Swm yr ardreth i gael ei ranu rhyngddynt ar ddydd gwyl Sant Thomas bob blwyddyn."

WALTER CRADOCK.—Ganwyd y gwr enwog hwn yn Nhrefela, yn mhlwyf Llangwmucha, gerllaw Brynbyga, sir Fynwy. Hen balasdy yw Trefela, ond yn awr, fel llawer o hen balasdai ereill, wedi ei droi yn amaethdy. Nid yw amser genedigaeth Mr. Cradock yn hysbys, ond mae yn sicr iddo gael Lei eni ryw bryd rhwng 1606 a 1610. Galwai Esgob Llandaf ef yn y flwyddyn 1633, pryd yr oedd yn gurad yn Nghaerdydd, yn "hogyn hyf anwybodus." Addysgwyd ef yn Rhydychain. Bu am ryw dymor yn gwasanaethu fel curad yn Llanbedr y fro Morganwg, ac yn dal yr un swydd dan William Erbery yn Eglwys Fair, Caerdydd. Gallasai fod yn gwasanaethu Llanbedr a Chaerdydd yr un amser, canys nid yw y naill ond chwe milldir oddiwrth y llall. Yn gurad yn Eglwys Fair, Caerdydd, yr ydym yn ei gael yn 1633, pan y trowyd ef allan o'i swydd gan Esgob Llandaf, am wrthod darllen y llyfr chwareuyddiaethau ar y Sabboth. Dywedir i'w berthynasau droi yn ei erbyn pan fwriwyd ef allan o Gaerdydd. Wrth weled ei deulu ei hun yn ymddwyn yn oerllyd tuag ato efe a ymadawodd o Fynwy ac a aeth i Ogledd Cymru, a thrwy ryw foddion anhysbys i ni cafodd guradiaeth Gwrexham, yn sir Ddinbych. Cyn gynted ag y dechreuodd bregethu yno cynnyrchodd gyffroad trwy y dref a'r holl wlad oddi amgylch. Pregethai, nid yn unig ar y Suliau, ond hefyd yn fynych ar ddyddiau o'r wythnos. Cymaint oedd ei boblogrwydd fel y byddai yr hen eglwys fawr yn orlawn am chwech o'r gloch y bore pan y pregethai. Nid hir y bu ei boblogrwydd a'i lwyddiant cyn cyffroi gelyniaeth Satan a'i weision, fel y trefnwyd mesurau er ei symud o'r ffordd. Bragwr o'r enw Timothy Middleton fu y prif offeryn yn llaw y gelyn i ymlid yr efengylwr enwog o Wrexham. Un diwrnod yr oedd Middleton yn galw gyda thafarnwyr y dref i geisio gwerthu brag iddynt. Pan yn methu gwerthu cymaint ag arfer gofynai iun tafarnwr paham na chymerai yr un faint ag a arferai gymeryd o frag, i'r hyn yr attebodd y tafarnwr, "Pa ddyben i mi brynu brag, pan nas gallaf gael y bobl i yfed y cwrw? Y mae un Walter Cradock, o'r Deheudir, wedi dyfod yma yn gurad, ac y mae yn pregethu y bobl wrth y cannoedd o'r tafarnau i'r eglwys." "Os dyna sydd yn drygu ein masnach ebe y bragwr," mi a symudaf y rhwystr yna o'r ffordd yn fuan." Gan ei fod yn berthynas i rai o wyr mawr yr ardal cafodd gymmorth eu dylanwad i osod rhyw fath o achwyniad yn erbyn Mr. Cradock, yn llys esgob Llanelwy, a chafwyd swyddogion o'r llys hwnw i ddyfod drosodd i Wrexham i'w ddal a'i gymeryd i'r carchar. Clywodd cyfeillion Mr. Cradock eu bod yn chwilio am dano, a chynnorthwyasant ef i ddianc yn y nos. Cyrhaeddodd erbyn y bore i'r Amwythig, lle yr oedd ei gyfaill, Richard Symmonds, yn cadw ysgol, ac yn mysg ei ysgolheigion yr oedd Richard Baxter. Arosodd yno ddiwrnod neu ddau cyn myned yn mhellach i'r Deheudir. Er na fu Mr. Cradock yn Ngwrexham dros naw mis neu flwyddyn, bu yn offeryn i wneyd gwaith yno, ac yn y wlad oddi amgylch, ag y mae ei effeithiau yn aros hyd y dydd hwn. Yn ystod ei arosiad yno y bu yn offerynol i ennill y pregethwyr enwog, Morgan Lloyd a Dafydd ap Hugh a channoedd gyda hwy. Cymaint fu effaith ei weinidogaeth yn Ngwrexham fel mai Cradogiaid y gelwid dynion crefyddol yn y Gogledd am oesau wedi hyny. I weinidogaeth Walter Cradock yn Ngwrexham yr ydym i briodoli dechreuad Ymneillduaeth yn Ngogledd Cymru.

Wedi gorfod ymadael o Wrexham, cafodd dderbyniad ac ymgeledd yn mhalas Syr Robert Harley, o Brampton Briars, yn Llanfair Waterdine, ar gyffiniau siroedd Maesyfed a Henffordd. Yr oedd Syr Robert yn gyfaill calon i'r Puritaniaid, a bu ei hiliogaeth am ddwy neu dair cenhedlaeth yn garedig iawn i'r Ymneillduwyr. Arosodd Mr. Cradock yno am dair neu bedair blynedd, ond ni bu yn segur na diffrwyth, canys yr ydym yn cael iddo yn yr amser hwnw deithio llawer yn siroedd Maesyfed, Maldwyn, Brycheiniog, ac Aberteifi, ac iddo fod yn foddion i ennill eneidiau lawer at yr Arglwydd. Mae yn lled sicr mai trwy ei lafur ef, tra y bu yn aros yn Brampton Briars, yr hauwyd hadau Ymneillduaeth a chrefydd efengylaidd yn ardaloedd Llanfyllin, Llanbrynmair, Rhaiadr, Llanafan, Llanwrtyd, &c.

Erbyn diwedd y flwyddyn 1639, yr oedd Mr. Cradock wedi dychwelyd i sir Fynwy, lle y bu yn cynnorthwyo Mr. Wroth i gasglu a ffurfio yr eglwys yn Llanfaches. Cafodd y pryd hwnw ei benodi yn gynnorthwywri Mr. Wroth, ac ar farwolaeth y gwr da, dewiswyd ef yn ganlyniedydd iddo, ond ni chafodd lonyddwch yno am fwy na dau neu dri mis ar ol marwolaeth Mr. Wroth. Ar doriad y rhyfel allan tua Gorphenaf neu Awst, 1642, fel y crybwyllasom yn barod, darfu iddo ef a llawer o aelodau ei eglwys ffoi i Gaerodor, yn y nos, rhag iddynt gael eu lladd, neu eu gorfodi fyned i fyddin y brenin. Bu raid iddynt drachefn ffoi oddi yno i Lundain pan ennillwyd dinas Caerodor gan blaid y brenin yn y flwyddyn 1643. Cafodd Mr. Cradock, wedi iddo gyrhaedd Llundain, ei osod yn weinidog yn eglwys All Hallows the Great, ac ymunodd y bobl a'i dilynasant o Gaerodor a'r gynnulleidfa yno. Bu yn pregethu yn yr eglwys hono i luaws o wrandawyr hyd Hydref y flwyddyn 1646, pryd yr anfonwyd ef gan y Senedd i efengyleiddio Cymru. Yn Allhallows y traddododd y pregethau galluog, a argraffwyd wedi hyny yn gyfrol pedwar plyg.

Ar ol ei ddychweliad i Gymru, ni bu mwyach yn weinidog sefydlog, ond yn efengylwr teithiol, ac yn fath o arolygydd cyffredinol ar yr efengylwyr Cymreig. Efe oedd y prif ddyn yn nhrefniad a gweinyddiad y mesurau a fabwysiadwyd gan y Senedd er taenu yr efengyl yn Nghymru. Gelwid ef yn fynych i Lundain i bregethu o flaen y Senedd, ac i eistedd ar bwyllgorau er trefnu achosion crefyddol y wlad, ond yn Nghymru y cartrefodd o'r flwyddyn 1646 hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 24, 1659. Bu farw yn Nhrefela mewn cyflawn fwynhad o gysuron nefol, a chladdwyd ef yn nghangell eglwys Llangwmucha. Cafodd ei symud o'r ffordd ychydig fisoedd cyn i'r ystorm fawr dori allan gydag adferiad Siarl II. Tybir i'r cymylau duon a welai yn ymgasglu uwch ben yr eglwysi effeithio i gymaint graddau ar ei feddwl nes cyflymu ei farwolaeth.

Bu Mr. Cradock yn briod a chafodd ddwy ferch, y rhai a enwodd Lois ac Eunice. Priododd yr henaf âg un Mr. Richard Creed, boneddwr Saesonig, a'r ail â Mr. Thomas Jones, o Abergavenny, a chafodd fab o'r enw Christopher Jones, yr hwn oedd yn enwog fel crefyddwr yn ei oes.

Dywedir fod Mr. Cradock yn ddyn lled dal, o wneuthuriad cadarn, yn alluog i weithio yn galed, ac yr oedd y fath gyfansoddiad yn angenrheidiol iddo ef yr hwn yr oedd galwad am iddo deithio mor fynych dros fynyddoedd noethion Cymru i bregethu yr efengyl. Yr oedd ychydig o ôl y frechwen ar ei wyneb. O ran ei dymer yr oedd yn serchog, ond yn boeth a bywiog. Nid oedd mewn un modd yn ddyn cul a rhagfarnllyd tuag at y rhai a wahaniaethent oddiwrtho ef ar faterion cymharol ddibwys, ac nid oedd nemawr o ddyn yn fwy hyddysg yn nadleuon ei oes nag ef.

Cafodd ei weithiau, y rhai sydd yn gynnwysedig o bregethau, anerchiadau, ac esboniadau ar adnodau o'r Beibl, eu cyhoeddi yn ei fywyd ef, yn un gyfrol drwchus bedwar plyg. Maent oll yn hollol efengylaidd yn eu hysbryd, ac yn dangos fod eu hawdwr yn ddyn talentog iawn, yn bregethwr poblogaidd, ac yn nodedig o rydd ei ysbryd at y rhai a annghytunent âg ef ar bethau anhanfodol. Yr oedd Baxter yn siarad yn uchel iawn am dano pan welodd ef yn yr Amwythig yn 1635, yn nhy ei athraw, Richard Symmonds, ond yn 1684, y mae yn ei gyhuddo o fod yn "Antinomiad noeth." Ond yr oedd y ffaith ei fod yn Annibynwr, yn amddiffynwr rhyddid cyflawn i bob sect, ac yn uchel Galfiniad, ac weithiau, o bosibl, yn traethu ei olygiadau mewn iaith heb fod yn gwbl ochelgar, yn ddigon i wneyd meddwl Baxter yn rhy ragfarnllyd yn ei erbyn i roddi darluniad teg o'i olygiadau. Yr oedd yn llawn mor belled o fod yn Antinomiad a Baxter ei hun. Nid ymddengys iddo gyhoeddi dim yn Gymraeg ond dau neu dri argraffiad o'r Ysgrythyrau mewn cysylltiad âg eraill.

Bu ddwy waith yn pregethu o flaen y Senedd, ac yn 1653, cafodd ei benodi gan y Senedd yn un o'r rhai oedd i brofi cymhwysder dynion i waith y weinidogaeth. Yr oedd ei alluoedd rhagorol, ei ddoethineb, ei weithgarweh, a'i boblogrwydd digyffelyb fel pregethwr, yn ei wneyd yn nghyfrif ei gydoeswyr y dyn pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn Nghymru. "Yr oedd Mr. Cradock" medd un o'i gydoeswyr, "er yr holl ddiystyrwch a geisia Mr. Baxter daflu arno yn un o alluoedd naturiol, grymus, a bywiog anarferol, y rhai o herwydd ei holl orchwylion a'i lafur cyhoeddus, ni chafodd gyfleusdra i'w gwrteithio i'r graddau y buasai yn ddymunol; yr oedd yn ddyn o fedr rhyfeddol i egluro dyfnion bethau Duw i'r dynion gwanaf eu galluoedd; ac yn un y mae preswylwyr mynyddoedd Cymru yn bendithio daioni yr Hollalluog am ei lafur diail o lwyddianus. Efe a anfonodd luaws i'r nefoedd, lle, yn ddiamheu genyf, y mae efe ei hun yn awr, allan o gyrhaedd cabledd a gwaradwydd."

THOMAS BARNES. Nid oes genym ddim i ychwanegu am y gwr da hwn at yr hyn a gynnwysa yr hanes blaenorol, amgen nag iddo tua y flwyddyn 1669 gael ei orfodi i symud am ryw gymaint o amser i Gaerodor. Pan dawelodd yr ystorm ychydig, dychwelodd yn ol i Fynwy, lle y bu farw, fel y nodasom, yn 1703.

DAVID WILLIAMS. Mae ein holl ymchwiliadau i hanes Mr. Williams hyd yn hyn wedi profi yn gwbl ofer. Yr oll a wyddom am dano ydyw, iddo gael ei urddo tua y flwyddyn 1710, ac iddo farw yn 1754, ac felly iddo fod bedair a deugain o flynyddau yn weinidog ar eglwys Llanfaches. Os byddwn mor ffodus a dyfod o hyd i ychwaneg o wybodaeth yn ei gylch, ni a'i rhoddwn yn hanes Heolyfelin, Casnewydd. Yno hefyd y rhoddwn gymaint o hanes ag sydd genym am Roger Rogers, Thomas Saunders, a Howell Powell.

WILLIAM GEORGE, oedd yn enedigol o blwyf Llansoi, Mynwy; mae yn ymddangos iddo fod am ryw faint o amser yn Llanfaches yn gydweinidog â Howell Powell, ac wedi hyny â Walter Thomas. Symudodd i Ross, yn sir Henffordd, yn 1799, a bu yno ddwy flynedd. Nis gwyddom ddim yn ychwaneg o'i hanes.

WALTER THOMAS ydoedd, fel y nodasom eisoes, yn aelod gwreiddiol o'r Groeswen, ac yn y gymydogaeth hono y bu yn eyfaneddu trwy ei oes. Yr oedd yn weinidog yn Llanfaches yn 1798. Nis gwyddom pa un ai yno ai yn rhyw le arall yr urddwyd ef. Er fod llawer o hen bobl yn fyw sydd yn ei gofio yn dda, mae yn hynod cyn lleied o'i hanes a ellir gael ganddynt. Yn ei amser ef yr adeiladwyd y Tabernacl yn Llanfaches. Ei enw ef yw y blaenaf o'r ymddiriedolwyr yn ngweithred y capel, yr hon a lawnodwyd ar y 19eg o Dachwedd, 1802. Mae yn ymddangos iddo roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny yn fuan ar ol 1807. Wedi ymadael a Llanfaches cymerodd ofal yr eglwys fechan yn Llangynwyd, Morganwg, a bu yn teithio tuag yno o ardal y Groeswen am rai blynyddau. Bu farw tua 1816 neu 1817, a chladdwyd ef yn mynwent y Groeswen. Dywedir ei fod yn weddiwr nodedig o effeithiol, ac yn ganwr doniol yn ol yr hen ddull o ganu, ond ni chyfrifid ef ond pregethwr lled gyffredin. Perchid ef gan bawb ar gyfrif ei dduwioldeb a'i lafur diatal gyda yr achos goreu.

JAMES WILLIAMS a aned yn Nhalgarth, yn y flwyddyn 1777. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ddeuddeg mlwydd oed, a dechreuodd bregethu yn lled ieuangc. Nis gwyddom pa faint o fanteision dysg a gafodd na pha le yr addysgwyd ef. Cafodd ei urddo yn Llanfaches yn gyd-weinidog â Mr. Walter Thomas, Mawrth 12, 1807. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Ebenezer Jones, Pontypool, traddodwyd y gynaraeth a derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Davies, Hanover, gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. D. Davies, Llangattwg; pregethwyd yn ddifrifol i'r gweinidog gan Mr. G. Hughes, Groeswen; ac i'r eglwys gan Mr. W. Harris, Abergavenny. Bu Mr. Williams, yn gwasanaethu yr eglwys yn Llanfaches mewn cysylltiad âg achos bychan yn Nghaerlleon-ar-wysg hyd y flwyddyn 1817, pryd y cyfyngodd ei wasanaeth i Gaerlleon. Ar ol bod yno am rai blynyddau symudodd i Forest Green, yn sir Gaerloew, lle y bu am chwe' mlynedd. Symudodd oddiyno i Newport, yn yr un sir, ac wedi aros yno am dair blynedd, symudodd i Lanfaple yn sir Fynwy. Yn mhen dwy flynedd wedi iddo sefydlu yn Llanfaple gwaelodd ei iechyd fel y bu raid iddo roddi ei weinidogaeth i fyny. Ar ol dihoeni mewn cystudd graddol am ddwy flynedd bu farw yn mhlwyf Llangwm, ger llaw Brynbiga, yn y flwyddyn 1839, a chladdwyd ef yn mynwent y Tabernacl, Llanfaches. Cyfrifid ef yn ddyn da ac yn bregethwr derbyniol."

JAMES PEREGRINE. Er holi llawer yr ydym wedi methu dyfod i wybod yn mha le na pha bryd y ganwyd Mr. Peregrine. Y tebygolrwydd yw mai yn rhywle yn ardal Neuaddlwyd y ganwyd ef. Yr oedd yn un o'r ysgolheigion cyntaf fu yn athrofa Dr. Phillips. Aeth oddiyno i athrofa Llanfyllin, a chafodd ei urddo yn Llanfaches, Mai 21. 1817. Yr oedd gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn: Gweddiodd Mr. Armitage, Casnewydd, traddodwyd y gynaraeth gan Mr. E. Davies, Hanover; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Davies, Casnewydd; gweddiwyd yr urddweddi, yn Gymraeg, gan Mr. G. Hughes, Groeswen; pregethodd Mr. Jenkin Lewis, Casnewydd i'r gweinidog; a Mr. Ebenezer Jones, Pontypool, i'r bobl. Yr oedd yr holl wasanaeth ond yr urddweddi yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith Saesonig. Ni bu Mr. Peregrine yn hir yn Llanfaches. Symudodd oddiyno i'r Sarnau yn sir Drefaldwyn, ac yn mhen ychydig amser ymadawodd oddiyno ac ymfudodd i'r America. Ni wyddom ddim yn mhellach o'i hanes. Dywedir mai dyn byr cadarn o gyfansoddiad ydoedd, a'i wallt yn hytrach yn oleu. Yr oedd yn ddyn galluog o feddwl, ond nid yn ddoniol fel pregethwr. Argraffodd ddwy bregeth genhadol yn yr iaith Saesonig a bregethodd yn Llanfaches yn 1817, ac argraffwyd cyfieithiad of honynt yn Abertawe, yn 1818. Maent yn bregethau rhagorol, ac yn dangos fod yr awdwr yn feddyliwr ac yn ieithydd da.

JAMES GRIFFITHS. Ganwyd ef yn Lacharn, sir Gaerfyrddin, Mai 7, 1796. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau isel iawn, ac yn hollol ddigrefydd. Efe oedd yr unig un o'r teulu a ymaflodd mewn crefydd. Pan oedd tua deuddeg neu dair ar ddeg oed cymerodd boneddwr dyngarol of Lacharn hoffder ynddo, a thalodd am ei osod yn egwyddorwas gyda dilledydd o'r enw Harry Morgan, yr hwn oedd yn byw yn agos i'r Moor, ac yn aelod ffyddlon yn Bethlehem, St. Clears. Wedi dyfod i deulu crefyddol cymhellwyd ef i fyned i wrandaw yr efengyl. Pan yn ddwy ar bymtheg oed ymunodd a'r eglwys yn Bethlehem. Derbyniwyd ef yn mis Tachwedd 1814, ac ymddengys mai efe oedd yr aelod cyntaf a dderbyniwyd gan Mr. James Phillips. Yn fuan ar ol ei dderbyn terfynodd tymhor ei egwyddorwasanaeth, ac aeth i weithio at fab ei feistr i Abertawe, lle y bu am oddeutu dwy flynedd. Yna dychwelodd i'w ardal enedigol, ond nid arosodd yno nemawr o amser. Aeth ymaith i Gasgwent, lle yr oedd mab arall i'w hen feistr yn ddilledydd, ac yn cadw gweithwyr. Ni bu yno fawr amser cyn ymgydnabyddu â Mr. David Thomas, o Nebo gerllaw Casgwent, yr hwn hefyd oedd yn ddilledydd ac yn cadw gweithwyr. Aeth i weithio ato ef. Nid oedd Mr. Thomas y pryd hwnw wedi ei urddo, ond yr oedd yn bregethwr diwyd a pharchus iawn, ac yn pregethu fel cenhadwr trwy holl fro Mynwy. Canfu Thomas yn fuan fod defnyddiau pregethwr yn ei weithiwr James Griffiths, ac anogodd ef i arfer ei ddawn. Daeth yn fuan i dynu sylw fel gwr ieuangc galluog a phoblogaidd. Yn fuan wedi i Grif- fiths ddechreu pregethu, cafodd ei feistr, Thomas, ei urddo yn weinidog ar eglwys fechan a gasglesid ganddo yn Nebo, ac yn 1823, cafodd yntau alw- ad gan yr eglwys yn y Tabernacl, Llanfaches, a chafodd ei urddo yno. Ar ol llafurio yn dderbyniol yn y cylch hwn am bum' mlynedd, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Southchurch a Hawkchurch, yn sir Dorset, a symudodd yno. Bu yno am saith mlynedd, ac yn 1835, symudodd i Kenchester, yn sir Henffordd, lle y llafuriodd hyd derfyn ei oes. Bu farw Ionawr 22, 1852, yn 56 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys plwyf Kenchester. O ran ei ymddangosiad, gwr tal, lled denau ydoedd, a'i wynebpryd yn nodedig o brydferth a hawddgar. Yr oedd yn ddyn cyfeillgar iawn, ac yn rhyfeddol o nefolfrydig, ac yn bregethwr efengylaidd a deniadol iawn.

DAVID THOMAS, oedd fab Miles Thomas, Dilledydd, o ardal y Bont-faen, yn Mro Morganwg. Ganwyd ef Mai 19, 1783. Yr oedd ei dad yn ddyn crefyddol iawn, ac felly nis gallasai lai na bod i raddau dan argraffiadau crefyddol o'i febyd, ond ni ddaeth yn aelod eglwysig cyn ei fod yn bedair-ar-bymtheg oed. Derbyniwyd ef yn y Maendy, gan Mr. Methusalem Jones, yr hwn oedd yn gofalu am yr eglwys hono y pryd hwnw. Yn fuan ar ol ei dderbyn, dechreuodd bregethu, ac aeth i'r athrofa i Wrexham, dan ofal y Dr. Jenkin Lewis. Pregethu oedd yn myned a'i holl fryd ef, ac felly ni ddarfu iddo ddysgu fawr tra y bu yn yr athrofa. Dywedir iddo mewn un flwyddyn, pan yn Wrexham, bregethu gant a haner o weithiau. Wrth fyned yn mlaen felly nis gallasai ymdrafod llawer â Virgil, Homer, ac Euclid. Ar ol gorphen ei amser yn yr athrofa, ymsefydlodd yn Llan- tarnam, yn Mynwy, ac ail ymafaelodd yn ei alwedigaeth fel dilledydd, ond ni roddodd heibio ei hoff waith o bregethu. Teithiai yn mhell ac agos trwy fro Mynwy i bregethu'r gair. Yn yr amser y bu yn byw yn Llantar- nam, bu yn offerynol i adeiladu capel a chasglu eglwys fechan yn Maes- llech. Yn 1815, symudodd i blwyf Wolvasnewton, rhwng Casgwent a Threfynwy. Cafodd yno faes eang i arfer ei ddoniau fel efengylwr, gan fod yn y cylch hwnw tua deugain o blwyfydd bychain heb un addoldy Ymneillduol yn un o honynt. Darfu iddo yn ddioed drwyddedu pedwar o anedd-dai at bregethu mewn gwahanol gyrau o'r ardal, a chyn pen pedair blynedd, yr oedd wedi llwyddo i gasglu eglwys ac adeiladu addoldy, yr hwn a alwodd Nebo. Agorwyd y capel Mawrth 25, 1819, ar dydd can- lynol urddwyd yntau yn weinidog yno. Ni chyfyngodd ei lafur i Nebo yn unig, ond teithiai lawer trwy siroedd Mynwy a Chaerloew. Trwy ei ymdrechion ef yr adeiladwyd capel yn Hewesfield, ac y casglwyd eglwys yno. Casglodd hefyd 500p. at adeiladu capel yn Nhrefynwy. Yn 1828, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Llanfaches, a symudodd yno, ond gofalai am eglwys Nebo, yn gysylltiedig a Llanfaches, tra y bu fyw. Wedi oes hir o lafur diflino, hunodd y gwas ffyddlon hwn yn yr Arglwydd yn mis Tachwedd, 1864, yn bedwar ugain ac un mlwydd oed.

Yr oedd David Thomas yn gymeriad ar ei ben ei hun. Nid oedd ei alluoedd fel pregethwr ond lled gyffredin, ond yr oedd ei dduwioldeb puritanaidd, a'i ddiwydrwydd diattal, yn ddigon i wneyd i fyny am ei ddiffygion mewn galluoedd a dysg. Gwasanaethu ei Arglwydd oedd hyfrydwch ei fywyd, a bu farw yn y gwaith. Digwyddodd peth hynod iddo ar ei wely angau. Un noson pan oedd ei blant, ac un o aelodau yr eglwys, yn eistedd wrth ei wely, a'i feddwl yntau wedi dechreu dyrysu, tybiodd mai mewn cyfarfod parotoad yr ydoedd, a bod yno wr ieuangc o'r ardal, yr hwn a enwodd, yn dyfod yn mlaen i gael ei dderbyn. Aeth trwy y ffurf arferol o'i holi a gofyn ei gydsyniad ag amodau y cyfamod eglwysig, gan ei gynghori yn y modd difrifolaf i fod yn ffyddlon a byw yn deilwng o'i broffes. Aeth trwy holl ranau y gwasanaeth yn Saesoneg ac yn Gymraeg yn olynol. Mynegwyd y peth dranoeth i'r gwr ieuangc, ac effeithiodd mor ddwys ar ei feddwl fel y dymunodd gael cymuno gyda yr eglwys y Sul canlynol, yr hyn a ganiatawyd iddo, ac ystyriwyd ef yn aelod heb ychwaneg o dderbyniad.

PENMAIN.

Dan yr enw "Eglwys Mynyddislwyn" yr adwaenid yr eglwys hon am lawer o flynyddau wedi ei ffurfiad. Yr oedd Mr. Henry Walter yn pregethu yn Eglwys plwyf Mynyddislwyn rai blynyddau cyn i'r rhyfel cartefol dori allan, ac mae yn ymddangos iddo fod yn foddion i enill llawer o bobl at yr Arglwydd yn y plwyf hwn, a'r plwyfydd cylchynol, yr amser hwnw. Nid oes genym hanes iddo ef gael ei wahardd i bregethu yn y llanau pryd y cafodd Mr. Wroth, Mr. Erbery, a Mr. Cradock eu troi allan, ond mae yn lled debygol iddo gael yr un driniaeth a hwythau, canys y mae yn sicr iddo gorpholi ei bobl yn eglwys Annibynol yn fuan ar ol corpholiad yr eglwys yn Llanfaches, tua diwedd y flwyddyn 1639, neu ddechreu 1640. Cafodd yr eglwys hon, fel eglwys Llanfaches, ei maeddu a'i thrin yn dost yn amser y rhyfel, ond cadwyd hi fel y berth yn llosgi heb ei llwyr ddifa. Pan sefydlwyd rhyddid, ar derfyniad y rhyfel, cafodd rhyw nifer o'r aelodau eu hanfon allan yn bregethwyr teithiol dan nawdd y Senedd, a derbynient £17 y flwyddyn bob un am eu gwasanaeth. Fel y nodasom yn barod yn hanes Llanfaches oedd y rhai a anfonasid allan o'r ddwy eglwys yn ugain, neu ychwaneg, o rif. Nis gwyddom pa nifer o honynt a berthynent i bob un o'r eglwysi.

Nid oes genym unrhyw hanes pennodol am yr eglwys hon yn amser y werinlywodraeth o 1646 hyd 1660, ond y mae pob sail i gredu fod ei gweinidogion a'i haelodau yn gweithio ar eu goreu i daenu gwybodaeth grefyddol yn mysg eu cydwladwyr tywyll. Yn yr amser hwnw yr oeddynt at eu rhyddid i ymgynull i'r Eglwysi plwyfol i addoli. Yn fuan wedi adferiad Siarl II. darfu y rhyddid a fwynhesid am agos i un ar bymtheg o flynyddau, a chafodd Ymneillduwyr Mynyddislwyn, fel eu brodyr yn mhob rhan arall o'r wlad, eu rhan o'r erlidigaethau a barhausant agos yn ddiattal o 1662 hyd 1688. Ond yn y tymor maith a blin hwn daliodd lluaws yn ffyddlon i'w hegwyddorion. Yr ydym yn cael fod addoliad yn cael ei gynnal yn 1669 mewn pump o wahanol fanau yn mhlwyfydd Mynyddislwyn a Bedwellty, ac mewn dau dŷ yn mhlwyf Bedwas, sef tai Evan Lewis, Phillip Rees, Evan William, a Watkin John Evan, Mynyddislwyn; tŷ Edmund Morgan, Bedwellty, a thai William Evan a Thomas Morgan o Fedwas. Rhif y gwrandawyr yn y tri phlwyf hyn y pryd hwnw oedd 350, a'r pregethwyr oeddynt Evan William a Watkin John Evan, neu Watkin Jones, Mynyddislwyn, Morgan Lewis Laurence, o Fedwas, William Lewis, o Gelligaer, a Thomas Quarrell, y pryd hwnw o blwyf yr Eglwys-newydd, ger Caerdydd. Gwyddis hefyd fod yr aelodau a breswylient yn mhlwyf Aberystruth, neu y Blaenau, yn addoli mewn dau neu dri o anedd-dai yn y plwyf hwnw.

Pan roddodd Siarl II. ryddid i'r Ymneillduwyr i addoli yn 1672, darfu i aelodau yr eglwys fawr a gwasgaredig hon drwyddedu amryw anedd-dai mewn gwahanol blwyfydd at bregethu ynddynt. Mae y tai canlynol yn cael eu henwi mewn cof-lyfr sydd yn swyddfa Papurau y llywodraeth, fel rhai a drwyddedwyd at gynnal addoliad gan yr Annibynwyr:—Tŷ Thomas James o blwyf Mynyddislwyn, Awst 10, 1672; tŷ Evan William o'r un plwyf, Awst 10; tŷ Watkin Jones o'r un plwyf, Awst 10; tŷ Raynold Morgan o blwyf Bedwas, Awst 10; tŷ Llewellyn Rosser o blwyf Aberys- truth, Awst 10; tŷ John James, Aberystruth, Awst 10; tŷ Lewis Rees, Gelligaer, Awst 10; tỷ William Rowlands, Llanfabon, Awst 10; a thŷ William John, Eglwysilan, Awst 10. Ar yr un dydd hefyd cymerodd Watkin Jones, Mynyddislwyn, a Thomas John, Eglwysilan, drwyddedaui bregethu fel gweinidogion Annibynol. Yr oedd rhai o'r Ymneillduwyr y pryd hwnw yn petruso i gymeryd trwyddedau rhag y gallasai hyny agoryd y drws i'r Pabyddion i gael rhyddid, yr hyn yn ddiau oedd prif amcan Siarl wrth estyn hyn o ffafr i'r Annghydffurfwyr. Mae yn bosibl mai dyna y rheswm paham nad ydym yn cael enwau Henry Walter, John Powell, A.M., Thomas Quarrell, ac ereill y gwyddis eu bod yn pregethu yn yr eglwys hon, yn mysg y rhai a gymerasant drwyddedau i bregethu.

Mae Mr. Henry Maurice yn yr hanes a roddodd am eglwysi Cymru, mewn llythyr at Mr. Edward Terril, o Gaerodor, yn y flwyddyn 1675, yn dyweyd mai Mr. Henry Walter, ei sylfaenydd oedd gweinidog yr eglwys hon y flwyddyn hono, a bod Mr. Watkin Jones, a Mr. John Powell, A.M., yn athrawon neu henuriaid athrawiaethol ynddi. Dywed fod ei haelodau yn wasgaredig o blwyfydd y Blaenau a Mynyddislwyn i lawr mor belled a'r Casnewydd, a'u bod oll yn Annibynwyr yn eu barn, ond y gallasai fod ychydig o Fedyddwyr yn cymuno gyda hwynt. Mae yn debygol mai pregethwyr cynnorthwyol oedd Evan William, Mynyddislwyn, Morgan Lewis Laurence, Bedwas, a William Lewis, Gelligaer.

Tebygol yw i Mr. Henry Walter farw yn fuan ar ol y flwyddyn 1675, ac mai Mr. Watkin Jones a Mr. John Powell, A.M., a'i dilynodd yn y weinidogaeth, y rhai o'r blaen, fel y gwelsom, oeddynt yn gynnorthwywyr iddo. Bu Mr. Powell farw yn y flwyddyn 1691, a Mr. Watkin Jones yn 1692 neu 1693.

Mewn anedd-dai y bu yr eglwys yn gorfod addoli trwy yr oll o dymor yr erlidigaeth o 1662 hyd 1688, ac nid yw yn debygol i'r holl eglwys allu cyfarfod yn yr un man unrhyw bryd yr amser hwnw. Ar ol cael rhyddid dan ddeddf y Goddefiad yn 1688, aethant i ddarparu at adeiladu addoldy, ond buont chwe' mlynedd cyn ei gael yn barod. Dichon mai o herwydd fod eglwys mor wasgaredig yn cyrhaedd o gyrau uchaf plwyf y Blaenau, i lawri Risca, Machen, a Bedwas; ac o Bontypool hyd Gelligaer a Llanfabon—y buwyd cyhyd heb benderfynu pa le yr adeiladesid yr addoldy. Yn y flwyddyn 1694 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Mhenmain. Yr oedd y ddau weinidog wedi marw cyn gosod yr arch yn ei phabell newydd. mhen ychydig amser ar ol adeiladu y capel, rhoddodd yr eglwys alwad i wr ieuangc, genedigol o ryw barth o sir Gaerfyrddin, o'r enw John Harries. Yr oedd y gwr hwn yn bregethwr anarferol o boblogaidd, a bu ei weinidogaeth am rai blynyddau yn nodedig o effeithiol fel y cynyddodd yr eglwys i'r fath raddau mewn rhif a doniau, nes nad oedd un eglwys Ymneillduol yn sir Fynwy yn gyffelyb iddi o ran rhifedi a dylanwad crefyddol. Ond dilynwyd yr haf dymunol hwn gan anaf du, maith, ac ystormus. Aeth y gweinidog, yr hwn o bosibl, a hanner addolid gan y bobl, yn ddiottwr, ac o radd i radd yn feddwyn anniwygiadwy, fel y gorfu i'r eglwys ei ddiaelodi. Rhoddodd hyny ergyd trwm i'r achos, ac i ychwanegu at y gofid bu y frawdoliaeth am gryn amser yn croes dynu gyda golwg ar ddewisiad gweinidog newydd. Yn y tymor gofidus hwn ar yr eglwys, yr oedd y Bedyddwyr wedi dyfod yn gryfion, ac ymgodi i sylw yn y gymydogaeth, trwy weinidog- aeth rymus Mr. Abel Morgan, a llwyddasant i ddenu tuag un ar ddeg o aelodau Penmain i ymuno a hwy. Nid yw ysbryd proselytio oddiwrth un enwad at y llall i'w gymmeradwyo un amser, ond y mae yn ymddangos yn ei liw atgasaf pan osodir ei rym i weithio ar aelodau eglwys mewn adfyd; etto dyna yr amser fynychaf y mae yr ysbryd drwg hwn yn fwyaf gweithgar.

Ar ol bod rai blynyddau heb un gweinidog, cydunodd yr eglwys i roddi galwad i wr ieuangc o sir Gaerfyrddin, o'r enw David Williams, yr hwn a urddwyd yno yn y flwyddyn 1710. Dywedir fod Mr. Williams yn ddyn da, ond o herwydd nad oedd yn bregethwr poblogaidd, fod yr eglwys a'r gynnulleidfa yn lleihau yn ei rhif o flwyddyn i flwyddyn hyd oddeutu 1720, pryd y dechreuodd yr achos drachefn adfywio.

Nis gwyddom pa faint oedd rhif yr eglwys yn 1710, ond y mae genym gyfrif lled fanol o'i hansawdd amgylchiadol yn 1717. Yn y flwyddyn hono yr oedd cynnulleidfa Penmain yn 250 o rif; y gangen yn Llandegfeth, rhwng Pontypool a'r Casnewydd, yn 100, a changen Glynebbwy yn 60. Y cwbl yn 410. Yn mysg y cyfryw yr oedd chwech o foneddigion; 60 o ddynion yn byw ar eu tiroedd eu hunain; 16 o fasnachwyr; 23 o amaeth- wyr yn talu ardreth; a 61 o weithwyr. Yr oedd gan y rhai hyn 46 o bleidleisiau dros sir Fynwy; dwy dros sir Forganwg; a 31 dros y bwrdeis- drefi yn Mynwy. Mae yn ymddangos i'r gangen yn Llandegfeth gael ei llyncu i fyny yn achos newydd y New Inn, pan gychwynwyd hwnw. Cawn draethu yn mhellach ar hyn pan ddelom at hanes y New Inn.

Darfu i amryw bobl ieuaingc, yn y flwyddyn 1720 a'r blynyddoedd dilynol, ymuno a'r eglwys, y rhai yn fuan a ddaethant yn bregethwyr defnyddiol. Trwy lafur y rhai hyn, ac ymweliadau achlysurol gweinidogion poblogaidd o ardaloedd ereill, yn enwedigol Mr. James Davies, o Ferthyr Tydfil, ychwanegwyd at yr eglwys o'r flwyddyn 1720 hyd 1739, dros 100 o bersonau, yr hyn yn ddiau yn yr amser hwnw a ystyrid yn ychwanegiad anghyffredin, yn enwedig felly gan fod poblogaeth yr ardaloedd mor sefydlog. Yn mysg y rhai a ychwanegwyd at yr eglwys yn y tymor llwyddianus hwn, gellid enwi y rhai canlynol a fuont yn eu hoes yn weinidogion o gryn enwogrwydd: Edmund Jones, o Bontypool; Thomas Lewis, o Lanharan; Phillip Dafydd, o Benmain; a Thomas Evans, o Lanuwchlyn.

Bu y llwyddiant hwn ar yr achos yn Mhenmain, ynghyd a llwyddiant cyffelyb yn mysg y Bedyddwyr yn y Blaenau a Phontypool, yn achlysur i ddadl boeth ar fedydd gael ei chyffroi, nes cynhyrfu yr holl ardaloedd. Mae yn debygol mai Mr. Edmund Jones, a Mr. Miles Harry fu y prif offerynau i gychwyn y ddadl. Aeth pethau yn raddol mor ddrwg rhyngddynt fel y penderfynodd y ddwy blaid i gael cyfarfod yn Merthyr Tydfil, er ceisio tawelu yr ystorm ac adferu heddwch cristionogol rhwng y pleidiau. Yn y flwyddyn 1728, y cynnaliwyd y cyfarfod hwnw. Cydnabyddodd pob un o'r ddwy blaid eu bai am ddyweyd, ysgrifenu, neu wneyd unrhyw beth anngharedig y naill at y llall yn mhoethder y ddadl. Cytunwyd eu bod yn cydweled a'u gilydd mewn chwech o bethau ynghylch bedydd, ac nad oeddynt yn gwahaniaethu ond am ddau beth, sef y deiliaid a'r dull. Addawsant o hyny allan amcanu at ogoniant Duw ac anrhydedd yr efengyl, a bod yn dyner o enwau da eu gilydd. Argraphwyd y penderfyniadau ar lèn o bapur, a gosododd y personau canlynol eu henwau wrthynt: Morgan Griffiths, Hengoed; John Harry, a Miles Harry, Aberystruth, Gwrthfaban- fedyddwyr; David Williams, Daniel Rogers, ac Edmund Jones, Penmain; James Davies, Evan John, a Jenkin Lewis, Merthyr Tydfil, Bedyddwyr babanod. Llawnodwyd y papur hefyd gan y gweinidogion canlynol, y rhai oeddynt oll yn Annibynwyr, fel tystion o'r cytundeb: Fowler Walker, Abergavenny; Thomas Morgan, Llanwrtyd, mae yn debygol; Rees Davies, Hanover; Rees Prytherch, Watford; a Thomas Lewis, wedi hyny o Lanharan, fel y tybiwn. Mae hanesydd y Bedyddwyr yn cyhuddo Mr. Walker, o'r Fenni, o fod y cyntaf i dori yr heddwch hwn. Dichon mai efe a'i torodd gyntaf, os oedd ysgrifenu ar Fedydd yn doriad o hono, ond mae yn dra thebygol mai gwaith y blaid arall yn siarad, ac yn pregethu byth a hefyd ar Fedydd, ac yn gwneyd eu goreu i broselytio fu yr achos iddo ysgrifenu.

Yn y flwyddyn 1734, cafodd Mr. Edmund Jones ei urddo yn gynorthwywr i Mr. Williams, mae yn debygol, i ofalu yn benaf am y gangen hono o'r eglwys a gyfarfyddai yn Nghwm Ebbwy Fawr. Yr oedd Mr. Daniel Rogers yn weinidog i'r gangen hon yn 1717, ac yn fyw, fel y gwelsom, yn amser y ddadl Bedydd yn 1728. Fel aelod a gweinidog cynnorthwyol yn Penmain, yr ystyrid ef. Mae yn debygol ei fod wedi marw erbyn 1734, pan yr urddwyd Mr. E. Jones. Yn y flwyddyn 1732, dechreuodd Mr. Phillip Dafydd bregethu, ac yn 1739, cafodd ei urddo yn gydweinidog â Mr. Williams, yn Mhenmain. Mae yn ymddangos i Mr. Edmund Jones deimlo i raddau yn dramgwyddus, o herwydd i'w fam eglwys ddewis brawd oedd o wyth i ddeng mlynedd yn ieuengach nag ef fel dyn, aelod, a phregethwr, yn weinidog cynnorthwyol i'r holl eglwys, pryd yr ymddengys fod ei wasanaeth ef fel gweinidog yn cael ei gyfyngu i un gangen fechan o honi. Y canlyniad fu iddo ef yn y flwyddyn ganlynol, adeiladu capel Ebenezer, yn agos i Bontypool, a darfod yn hollol a Phenmain fel aelod a gweinidog. Darfu i amryw o'r aelodau o blwyf Aberystruth, fyned gydag ef i gychwyn yr achos yn Ebenezer, a byddai yntau, yn fynych, yn pregethu yn eu tai hwy, gan.fod y ffordd yn mhell iddynt fyned i Ebenezer. Parhaodd Mr. Phillip Dafydd i bregethu hefyd yn Ebbwy Fawr a Thilerwy, i'r rhai lynasant wrth Benmain. Er na fu un terfysg yn yr eglwys gydag ymadawiad Mr. Jones a'i bleidwyr, etto, mae yn ymddangos fod yno fesur o oerni wedi aros rhyngddynt am flynyddau lawer. Cawn Phillip Dafydd, yn ei ddyddlyfr, mor ddiweddar ar flwyddyn 1772-deuddeg mlynedd ar hugain wedi iddynt ymadael a'u gilydd, wrth son am gyfarfod cymundeb a gynnelid yn Tynyllwyn, yn Nghwm Ebbwy Fawr, yn ysgrifenu fel y canlyn:—"Ebrill 26, 1772,—pregethais heddyw yn Tynyllwyn, oddiwrth Luc xix. 14, a gweinyddais Swper yr Arglwydd. Yr oedd y cyfarfod yn llawn, a darfu i rai o bobl Mr. Edmund Jones gymuno gyda ni, a thyma y tro cyntaf iddynt wneuthur felly." Bu Mr. Wil- liams a Mr. P. Dafydd yn cydlafurio yn Mhenmain, hyd farwolaeth Mr. Williams yn 1759, pryd yr aeth y gofal oll ar Mr. Dafydd ei hun.

Gan fod Phillip Dafydd wedi cofnodi ei helyntion ei hun ac eiddo yr eglwys gyda llawer o fanylder, ac yn lled reolaidd, o'r flwyddyn 1759 hyd ddiwedd y flwyddyn 1786, a'n bod ninau, trwy garedigrwydd y diweddar Mr. George Lewis, Coed-duon, wedi cael meddiant o'r hen law ysgrifau hyn, gallwn roddi hanes lled gyflawn a chywir am eglwys Penmain, hyd yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Yn y flwyddyn 1759, bu farw naw o'r aelodau, a derbyniwyd yr un nifer i'r eglwys. Ar ddiwedd y flwyddyn 1760, ysgrifena fel y canlyn:—"Mae sefyllfa eglwys Penmain yn bresenol yn edrych ryw faint yn well nag y bu. Cafodd rhai gwrthgilwyr eu hadferu, ond nid ychwanegwyd mwy na thri o'r newydd y flwyddyn hon. Ni bu neb o honom farw." Ni fu dim ychwanegiad yn 1761. Mae cyfrifon 1761 a '62 ar goll. Ar ddiwedd 1763, dywed—"Ni ychwanegwyd neb y flwyddyn hon, ond y rhai a ddaethant oddiwrth Mr. E. Jones. Bu farw dau." Yn 1764, ychwanegwyd pedwar, bu farw un, a gwrthgiliodd dau. Bu yr eglwys mewn llawer o helbul yn y flwyddyn hon, a'r un flaenorol, o herwydd fod dau o'r aelodau wedi myned yn Arminiaid, ac i ddadleu dros eu golygiadau. Bu eu hachos dan sylw mewn amryw gyfarfodydd. Eu henwau oedd Thomas Lewis a Harry Charles. Ni ddywedir wrthym pa un ai ymwrthod a'u golygiadau, neu ymwrthod a'r eglwys a wnaethant. Nid ydym yn cyfarfod ag un crybwylliad am danynt yn nghofnodion y blynyddoedd dyfodol. Arminiaeth fu yn ddinystr i lawer o eglwysi Ymneillduol yr oes hono, ond cafodd hen eglwys Penmain ei chadw rhag i'r gwenwyn ymledu i raddau digonol i fod yn angeu i'r achos. Ychwanegwyd saith at yr eglwys yn 1765.

Yn 1766, bu farw dau, ond nid ychwanegwyd neb. Yn 1767, bu farw dau, ac ychwanegwyd pedwar. Yn 1768, ychwanegwyd pedwar, ac ni fu neb farw Yn 1769, derbyniwyd pump, a bu farw dau. Mae cofnodion 1770 ar goll. Yn 1771, derbyniwyd un, a chladdwyd un. Yn 1772, derbyniwyd pedwar, a bu farw dau. Nid oes dim wedi ei gofnodi am 1773. Yn 1774, bu farw pump, a derbyniwyd tri. Yn 1775, derbyniwyd naw, a bu farw un. Yn 1776, bu farw dau, ac ni dderbyniwyd neb. Yn 1777, bu farw saith, a derbyniwyd un. Yn 1778, bu farw un, ni dderbyniwyd neb. Yn 1779. derbyniwyd tri, ni bu neb farw. O'r amser hwn yn mlaen hyd ddiwedd y flwyddyn 1786, sef tua dau fis cyn marwolaeth yr ysgrifenydd, yr ydym yn cael llawer o gofnodion dyddorol, ac yn cael fod marwolaethau yr aelodau a derbyniad rhai newydd agos yn gyfartal. Nifer y cymunwyr yn 1768, oedd cant ac un, a'u nifer yn 1771, oedd cant a dau. Yn rhanedig rhwng y gwahanol blwyfydd fel y canlyn:—Mynyddislwyn 47, Bedwellty 16, Aberystruth 16, Llanhiddel a Threfddyn 18, Gelligaer 5. Mae yn ymddangos mai cadw ei thir heb ennill na cholli dim yr oedd yr eglwys trwy yspaid gweinidogaeth hirfaith Phillip Dafydd. Dywed Edmund Jones am dano, ei fod yn ddyn talentog a medrus yn yr ysgrythyrau, ond nad oedd yn bregethwr poblogaidd. Yr oedd ei weinidogaeth yn rhy werthfawr yn nghyfrif y rhai a ddeallent ei gwerth i'w hesgeuluso, ac yn rhy farwaidd ac anneniadol i gyffroi sylw y werin anwybodus, yr hyn a gyfrifa am y ffaith fod yr achos wedi sefyll am gynifer o flynyddau heb fyned yn ol nac yn mlaen.

Ar y 18ed o Fedi, 1785, y pregethodd Mr. David Thomas y waith gyntaf yn Mhenmain. Sul cymundeb oedd y diwrnod hwnw. Hoffwyd ef yn fawr gan yr hen weinidog a'r holl eglwys, a chyn pen dwy flynedd wedi hyny cafodd ei urddo yno yn ganlyniedydd i Phillip Dafydd. Bu yno yn llafurio gyda llwyddiant a derbyniad cyffredinol hyd derfyn ei oes yn 1837. Cymerodd cyfnewidiadau dirfawr le yn ardal Penmain, a'r holl ardaloedd cylchynol, yn wladol a chrefyddol, yn ystod yr haner can' mlynedd y bu Mr. Thomas yn gweinidogaethu yno—cyfnewidiadau llawer mwy nag a gymerasent le yn y dau can' mlynedd blaenorol. Gydag agoriad y gweithiau glo a haiarn lluosogodd y boblogaeth yn ddirfawr, yr hyn a newidiodd agwedd cymdeithas trwy yr holl gylch. Yr oedd tymer siriol a dull tarawiadol Mr. Thomas o bregethu yn ei wneyd yn nodedig o gyfaddas i fod yn weinidog yn y lle ar y fath dymor. Yn mhen ychydig o flynyddau ar ol ei sefydliad ef yno, dechreuodd terfynau yr achos helaethu yn fawr. Aeth rhai o'r aelodau i weithio i Ferthyr, Rhymni, Tredegar, Cendl, a Nantyglo, a buont yn foddion mewn cysylltiad âg aelodau o eglwysi eraill i ddechreu achosion yn mhob un o'r lleoedd hyn, a bu Mr. Thomas, eu gweinidog, yn un o'r rhai mwyaf llafurus yn sefydliad yr eglwysi yn y gwahanol ardaloedd hyn. Rai blynyddau cyn ei farwolaeth ef cafodd eglwysi eu corpholi yn Mhontaberpengam a Maesycwmwr, a chapeli bychain eu hadeiladu ar Dontyrbel a Chefnycrib, ac yn 1829 ail adeiladwyd capel Penmain, ac yr oedd, pan adeiladwyd ef ddeugain mlynedd yn ol, yn un o'r capeli mwyaf a harddaf yn y Dywysogaeth. Er fod lluaws o'r aelodau wedi ymwasgaru i wahanol ardaloedd, a chapeli wedi cael eu hadeiladu gan wahanol enwadau agos yn mhob pentref trwy yr holl gymydogaeth, etto ni bu eglwys Penmain mewn un cyfnod o'i hanes mor luosog a blodeuog ag yr oedd yn y deng mlynedd diweddaf o weinidogaeth Mr. Thomas. Gwelsom y capel mawr ragor nag unwaith yn orlawn o gymunwyr ar y Suliau cymundeb, ac yn orlawn o wrandawyr yn gyson. Pan oedd iechyd Mr. Thomas wedi gwaelu i'r fath raddau fel nas gallasai gyflawni ei weinidogaeth, edrychodd yr eglwys allan am gynnorthwywr iddo, a rhoddasant alwad i Mr. John Jones, Llanidloes, yr hwn a ymsefydlodd yno yn Mehefin, 1835. Am ychydig amser cyffrodd dull bywiog Mr. Jones o bregethu sylw yr holl ardal, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys, ond yn fuan ar ol claddu Mr. Thomas, dechreuodd pethau fyned yn annymunol yno, a therfynodd yr annymunoldeb mewn rhwygiad. Aeth Mr. Jones a'r rhai a'i pleidiant i addoli i anedd-dy yn y gymydogaeth, ac yn mhen ychydig amser adeiladasant gapel mewn man hynod o annghyfleus, o fewn hanner milldir i hen gapel Penmain. Ni bu Mr. Jones yn hir yno; symudodd yn fuan i'r Casnewydd, ac oddiyno i Loegr.

Bu eglwys Penmain o'i sefydliad yn 1639 hyd 1839, yn unol a heddychol, ac am 127 o flynyddoedd dan ofal tri o weinidogion yn olynol, Mr. D. Williams, am 49 o flynyddau, Mr. P. Dafydd am ugain mlynedd yn gydweinidog a Mr. Williams, ac wedi hyny yr unig weinidog am 28 o flynyddau, a Mr. Thomas am 50 mlynedd. Ni byddai rhoddi hanes manwl o'r rhwygiad yn amser Mr. Jones o un budd i neb. Digon yw crybwyll iddo gael ei achosi gan ddiffyg synwyr cyffredin o du y gweinidog, a mesur o fyrbwylldra ac ystyfnigrwydd yn ei wrthwynebwyr. Darfu i'r rhwygiad hwn, corpholiad eglwysi gwahanedig oddiwrth y fam eglwys yn Tontyrbel a Chefnycrib, yn nghyd a dadfeiliad y gweithiau glo yn y gymydogaeth, effeithio lleihad mawr yn rhif yr aelodau a'r gynnulleidfa

aelodau a'r gynnulleidfa yn Mhenmain; ac y mae yn sicr na welir yno etto y fath gynnulleidfa ag a welwyd cyn yr amgylchiadau anffafriol hyn, oddieithr i'r gweithiau adfywio, ac i ddiwygiad crefyddol, grymusach nag a deimlwyd er's deugain mlynedd, ymweled a'r ardal.

Ar ol yr ymraniad yn 1839, bu yr eglwys heb un gweinidog am bedair blynedd. Yn 1843 derbyniodd Mr. Edward Rees, Bryn Sion, sir Gaerfyrddin, alwad unfrydol, ac ymsefydlodd yno yn Ngwanwyn y flwyddyn hono, ond nid arosodd yno nemawr dros ddwy flynedd. Yn niwedd 1845, symudodd i Lanymddyfri, lle y bu farw yn mis Awst, 1846.

Bu yr eglwys drachefn tua thair blynedd heb weinidog. Yn niwedd y flwyddyn 1848, derbyniodd Mr. Ellis Hughes, Treffynnon, alwad, a'r hon y cydsyniodd, ac y mae wedi bod yno bellach am un mlynedd a'r hugain yn barchus a defnyddiol, a digon tebygol mai yno yr erys nes y galwo ei dad nefol ef i wlad well.

Bu amryw gymanfaoedd yn Mhenmain er dechreu y ganrif bresenol. Nid oes genym hanes am un fu yno yn y ganrif flaenorol.. Cynnaliwyd y gyntaf yno Mehefin 28ain a'r 24ain, 1802; yr ail, Hydref 2ail a'r 3ydd, 1811; y drydedd, y Mercher a'r Iau cyntaf yn Awst, 1818; y bedwerydd, Awst Sfed a'r 9fed, 1833; y bummed, Mehefin 28ain a'r 29ain, 1843; y chweched, Awst 3ydd a'r 4ydd, 1853. Gall y neb a chwenycho weled hanes y cymanfaoedd hyn ei gael yn Hanes Cymanfaoedd yr Annibynwyr gan J. LI. James.

Darfu i weinidogion Penmain, o oes i oes, ddysgu athrawiaeth iachus i'w pobl, ond buont yn esgeulus iawn i'w dysgu a'u hegwyddori yn y ddyledswydd o gyfranu at gynnaliaeth crefydd yn eu bywyd. "Cofio am yr achos" yn eu hewyllysiau er ei waddoli a wesgid attynt yn benaf. Cawn brofion mynych o hyn yn nyddlyfrau Phillip Dafydd. Bu y gwr da hwnw trwy ei oes yn ymdrechu yn galed i gael modd i gynnal ei deulu lluosog heb dderbyn ond y peth nesaf i ddim oddiwrth bobl ei ofal, o 25p. i 30p. oedd ei gyflog trwy yr holl flynyddau, a dim ond rhyw un ran o dair o'r swm fechan hono a gyfrenid gan yr eglwys, a chynnwys y mân symiau a dderbyniai am fedyddio a chladdu. O'r Funds o Lundain y derbyniai ef bob blwyddyn o leiaf ddwybunt o bob tair o'i gyflog. Byddai ambell hen aelod yn awr ac yn y man yn gadael pum punt iddo yn ei ewyllys, fel iawn am esgeuluso cyfranu yn ei fywyd. Canmola yntau y rhai a ddarparent yn yr oes hono, trwy waddoli yr eglwys, ar gyfer cynnaliaeth yr achos yn yr oesau dyfodol. Nid edrychai yr hen gristion hwn ar gyfranu at yr achos fel moddion gras i'r cyfranwyr, yr un fath a gwrandaw a gweddio, onide ni buasai yn canmol y gwaddolwyr. Pwy fyddai mor ynfyd a chanmol dyn a weddiai lawer er mwyn galluogi ei olafiaid i weddio llai? Yr un mor ynfyd yw canmol dyn am roddi llawer o arian i waddoli yr achos. Yr oedd yr ychydig waddol a adewsid at yr achos yn lladd haelioni yr eglwys yn nyddiau Phillip Dafydd, a buasai wedi lladd yr achos yn hir cyn hyn oni buasai i'r Arglwydd anfon yno weinidogion duwiol, doniol, a gweithgar; ond wedi y cwbl nid yw eglwys Penmain erioed wedi rhagori yn y gras o haelioni. Mae ei thipyn gwaddol fel hunlle yn ei hatal i ragori yn y gras hwn. Ysgrifena Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfr am Ionawr 21, 1784, "Heddyw, ar ol y cyfarfod gweddi yn Mhenmain, wedi i wyth weddio, bu ychydig o siarad am ychwanegu y cyfraniadau at y weinidogaeth, a darfu i rai addaw cyfranu mwy nag a arferent. Mae amryw nad ydynt yn hoff o'r peth hwn." Mawrth 6ed, 1784, ysgrifena—"Heddyw gwnaed y casgliad chwarterol at y weinidogaeth. Cynllun newydd yn yr eglwys hon. Derbyniwyd £1 12s. 6d." Mae gwaddol wedi lladd amryw o hen eglwysi Ymneillduol Cymru, ond y mae heb wneyd hyny ag eglwys henafol Penmain hyd yn hyn, ac yr ydym yn hyderu na oddefa rhagluniaeth iddo wneuthur hyny byth.

Heblaw y pregethwyr enwog a gyfodasant yn yr eglwys hon yn nyddiau y werin-lywodraeth, darfu i amryw gael eu hanfon allan ganddi i'r weinidogaeth mewn oesau dilynol. Nid ydym yn sicr ein bod yn gwybod eu henwau oll. Enwn gynifer ag y gwyddom am danynt:—

Daniel Rogers. Yr oedd yn weinidog cynnorthwyol ar gangen Glyn Ebbwy o'r eglwys yn 1717, ac yn fyw yn 1728. Dyna y cwbl a wyddom o'i hanes.

Edmund Jones, Pontypool. Gweler ei hanes ef yn nes yn mlaen.

Thomas Lewis. Urddwyd ef yn Blaengwrach, Cwmnedd. Bu wedi hyny yn gofalu am y Brychgoed a Thynycoed, ac y mae yn ymddangos mai efe a ddechreuodd yr achos yno. Symudodd i Lanharan lle y bu farw Awst 15fed, 1783, nid 1785, fel y camosodwyd ar ei gareg fedd, yn 77 oed. Dichon y byddwn yn alluog i roddi hanes helaethach am dano pan ddelom at hanes Llanharan.

Phillip Dafydd. Gweler yn nes yn mlaen.

Thomas Evans. Derbyniodd ei addysg yn Nghaerfyrddin. Urddwyd ef yn Llanuwchllyn, Mehefin 19eg, 1745. Bu yno bymtheg mlynedd. Bu un flwyddyn wedi hyny yn Ninbych, a symudodd oddi yno i swydd Gaerefrog, lle bu farw. Cawn y cofnodiad hwn am dano yn nyddlyfr Phillip Dafydd am Mehefin 29ain, 1779: "Y bore hwn derbyniais y newydd galarus am farwolaeth y Parchedig Mr. Thomas Evans, yr hwn fu dros amryw flynyddau yn weinidog yn Mixenden, yn swydd Gaerefrog. Un genedigol o Fynyddislwyn ydoedd, ac aelod gwreiddiol o eglwys Penmain, a dangosodd ei hun yn gyfaill ac ewyllysiwr da i'r achos yno, yn fwy felly na'r rhan fwyaf, trwy roddi llôg pum' punt yn flynyddol at gynnal y weinidogaeth, ar yr amod i'r eglwys godi pum' punt arall i'w gosod ar lôg i'r un dyben, yr hyn a wnaed. Yr wyf fi yn credu ei fod ef yn Israeliad yn wir, heb un twyll yn ei ysbryd, ac yn weinidog da i Iesu Grist. Bu farw mewn tangnefedd, fel yr wyf yn deall, ar y 25ain o Fai diweddaf. Colled fawr i'w wraig a'i blant, i'r eglwys y perthynai iddi, ac i'w holl gydnabod, a gallaf fi yn briodol fabwysiadu geiriau y prophwyd brenhinol. Gofid sydd arnaf am danat ti, fy mrawd Jonathan; cu iawn fuost genyf fi; rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.' Arglwydd parotoa finau ar gyfer yr un fath gyfnewidiad dedwydd."

Daniel Williams, mab y gweinidog Mr. David Williams. Achwynir ei fod pan yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, yn ddyn ieuangc lled wyllt. Sefydlodd yn Malmsbury, yn 1750, a bu farw yn Frome, yn 1758.

Phillip Charles, nai y gweinidog Mr. Phillip Dafydd. Urddwyd ef yn hen gapel Cefn-coed-y-cymmer, yn 1751, lle y bu yn gweinidogaethu hydei farwolaeth yn Mai 19, 1790, yn 69 oed. Arminiad neu Ariad ydoedd, ac Undodwr proffesedig oedd ei ganlyniedydd o Gefn-coed-y-cymmer. Cawn y sylw canlynol gyda golwg arno yn nyddlyfr ei ewythr, am Ionawr 18, 1761" Arbedwyd fi i bregethu heddyw yn Nhy-yn-y-fid. Pregethodd Mr. Phillip Charles yn fy lle, oddiwrth Phil. iii, S. Pregeth dda; a phe cadwai efe at yr hyn a draddododd heddyw, nis gellid yn gyfiawn ei gy-huddo o fod yn Arminiad nac yn Ariad." Mae yn ymddangos nad oedd nemawr o gyfeillgarwch rhwng ei ewythr ag ef, oblegid cawn yn un o'r dydd-lyfrau y sylw canlynol:—"Heddyw bu'm yn pregethu yn Cefn-coed-y-cymmer. Nid wyf yn cofio i mi fod yn y lle hwn o'r blaen er's deng mlynedd." Mae yn rhaid fod rhyw radd fawr o oerni rhyngddynt, cyn fod yr ewythr wedi bod ddeng mlynedd heb bregethu yn mhulpud ei nai, pryd yr oedd yn cyfaneddu o fewn wyth milldir iddo. Anfynych iawn hefyd y crybwyllir fod Phillip Charles yn pregethu yn Mhenmain.

David Davies, mab Mr. P. Dafydd. Derbyniwyd ef i athrofa Abergavenny, yn Ionawr 1759. Bu am ryw faint o amser yn weinidog yn Bieceter, yn sir Rhydychain. Ymddyrysodd yn ei amgylchiadau, a bu farw mewn sefyllfa annymunol iawn, yn 1775. Cofnoda ei dad torcalonus yr amgylchiad yn y modd toddedig a ganlyn:—"Mai 25, 1775,—Heddyw derbyniais y newydd pruddaidd am farwolaeth fy mab Dafydd, yr hwn a fu farw yn garcharor am ddyled yn ngharchar Trefynwy. Oh fy mab anffodus! Bu yn ofid a thristwch, nid yn unig i'r hon a'i hymddugodd, ond hefyd i'w holl berthynasau. Yn awr wedi i angau ddyfod i mewn i'm teulu, yr hwn sydd mor lluosog, Duw yn unig a wyr pa un o honom a symudir nesaf. Mai 28,—Bu'm heddyw yn Mhenmain, ond yr oeddwn yn analluog i wneyd dim. Darfu i rai o'r aelodau ddarllen a gweddio." Yr oedd D. Davies yn bregethwr da, ac o rodiad gweddaidd, pa fodd bynag y darfu iddo ymddyrysu yn ei amgylchiadau.

John Williams, oedd aelod a phregethwr cynnorthwyol parchus yn yr eglwys hon o 1760, neu yn gynt, hyd 1797 neu '98, pryd y bu farw. Crybwyllir ei enw, a chanmolir ei bregethau, yn fynych yn nyddlyfrau Phillip Dafydd. Ni wyddom ychwaneg o'i hanes.

Roger Rogers—Gwel hanes Heolyfelin, Casnewydd.

Theodocius Williams. Gwr genedigol o ardal Capel Isaac, sir Gaerfyrddin, a nai Mr. Thomas, gweinidog Penmain. Derbyniwyd ef i athrofa Gwrexham, yn 1798, ac urddwyd ef yn New Windsor, ger Manchester, Gorphenaf 13, 1803. Ni bu yno yn hir, ond trodd yn fradwr i Ymneillduaeth, a chafodd ei urddo yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol. Bu yn dal bywioliaeth eglwysig yn sir Stafford, lle y bu farw, fwy nag ugain mlynedd yn ol.

Hannaniah Morgan, nai arall i Mr. Thomas, y gweinidog. Un gened— igol o sir Gaerfyrddin oedd yntau. Yr oedd yn ddyn o alluoedd cryfion iawn. Ni bu erioed yn y weinidogaeth, ond bu am lawer o flynyddoedd yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn Mhenmain. Bu farw yn dra di— symwth yn 1835.

George Lewis. Bu am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol yn amser Mr. Thomas, ac yn amser y rhwygiad, yn 1839, cymerodd blaid Mr. Jones, ac aeth allan gydag ef i ffurfio yr achos newydd. Yn fuan ar ol adeiladu capel Jerusalem, urddwyd ef yn weinidog cynnorthwyol yno. Yr oedd Mr. Lewis yn un o'r dynion mwyaf di—ddrwg yn y byd, yn grist— ion da, yn weithgar, ac yn haelionus dros ben, ac yn felus, ond nid yn alluog, fel pregethwr. Bu farw Mawrth 28, 1864, yn 64 mlwydd oed. Joshua Thomas, mab Mr. Thomas, y gweinidog. Bu ef am dymor yn athrofa y Drefnewydd yn derbyn addysg. Urddwyd ef yn Adulam, Mer— thyr Tydfil, yn 1832. Bu wedi hyny am ychydig flynyddau yn Bethle— hem a Chapel Isaac, sir Gaerfyrddin. Y mae bellach, er's llawer o flyn— yddau, yn gwasanaethu yr eglwysi yn Salem, Aberdare, a Libanus, Llan— fabon, lle y mae yn barchus a defnyddiol.

Edmund Jones. Bu yn Mhenmain yn bregethwr cynnorthwyol dros rai blynyddau. Mae yn awr yn aelod, ac yn bregethwr yn Ebenezer, Pont-y- pool.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

HENRY WALTER, ydoedd ail fab John Walter, Yswain, o Persfield, neu Piercefield Park, gerllaw Casgwent. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1611, dechreuodd ei amser fel myfyriwr yn Ngholeg Iesu, Rhydychain, Ebrill 12, 1633. Ar ol gorphen ei amser yno, cafodd ei wneyd yn offeiriad plwyf Mynyddislwyn. Mae yn lled sicr mai dan weinidogaeth Mr. Wroth y derbyniodd ei argraffiadau crefyddol. Cyn gynted ag y sefydlodd yn Mynyddislwyn, dechreuodd bregethu gyda nerth ac arddeliad, a chafodd llawer eu troi at yr Arglwydd trwy ei weinidogaeth. Mae yn ymddangos yn debygol iddo ef gael ei droi allan o'r eglwys tua'r un amser a Mr. Wroth, gan iddo gorpholi ei ddysgyblion yn eglwys Annibynol tua diwedd. y flwyddyn 1639. Ar doriad y rhyfel allan yn 1642, gorfu iddo ef, fel gweinidogion eraill, ffoi i Loegr am ddiogelwch i'w fywyd. Yn 1646, cafodd ei anfon yn ol i Gymru i bregethu yr efengyl dan nawdd y senedd, a phenodwyd can' punt y flwyddyn iddo am ei wasanaeth. Llafuriodd yn ddiwyd i efengyleiddio ei gydwladwyr tra y parhaodd y rhyddid o 1646 hyd 1662. Mynwy a'r rhan ddwyreiniol o Forganwg, yn benaf, oedd maes ei lafur. Dywed Dr. Walker, offeiriad rhagfarnllyd, ei fod yn derbyn cyflog yn y ddwy sir. Os ydoedd, gweithiodd yn dda am yr hyn a dderbyniodd. Enw Mr. Walter yw y blaenaf yn mysg y rhai oedd i brofi a chymeradwyo dynion addas i'r weinidogaeth, dan y ddeddf er taenu yr efengyl yn Nghymru, a basiwyd yn 1649. Yr oedd ef yn weinidog plwyf St. Wollos, neu eglwys y Stow, Casnewydd, yn 1662, a throwyd ef allan gan Ddeddf Unffurfiaeth. Yr ydym yn cael ei fod yn preswylio mewn lle o'r enw Park-y-pil, yn mhlwyf Caerlleon-ar-Wysg, yn 1669, a dywedir ei fod yn pregethu yn ei dŷ ei hun, ac mewn amryw dai eraill yn y gymydogaeth y pryd hwnw. Dywed Mr. Henry Maurice, ei fod yn weinidog eglwys Annibynol Mynyddislwyn, yn 1675, a dyna yr hanes diweddaf sydd genym am dano. Mae yn dra thebygol iddo farw yn fuan ar ol y flwyddyn hono, ond nis gwyddom pa bryd, nac yn mha le y bu farw ac y claddwyd ef. Os nad oes cofgolofn o farmor ar ei fedd, y mae eglwys Penmain, a'i changhenau lluosog, yn well na chofgolofn i gadw ei enw yn adnabyddus.

JOHN POWELL, M.A. Mab Howell Powell, o Sythegston, gerllaw Pen-y-bont-ar-ogwy, oedd y gwr enwog hwn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1617. Aeth yn fyfyriwr i Edmund Hall, Rhydychain, ar yr 8fed o Fai, 1635. Cafodd ei droi allan o eglwys St. Lythian, gerllaw y Bontfaen, yn Morganwg, yn y flwyddyn 1660, am wrthod darllen y Llyfr Gweddi Cyffredin, ar gladdedigaeth mab i wr bonheddig. Cynygiodd Dr. Lloyd, esgob Llandaf, ei ddewis o ddau le iddo wedi hyny, pe buasai yn cydffurfio, ond gwrthododd. Dywedir ei fod yn ddyn hynod o addfwyn a hunanymwadol, ac yn bregethwr nodedig o ddeniadol. Parhaodd i bregethu trwy holl dymor yr erlidigaeth yn mhlwyfydd Llanedern, Eglwysilan, Bedwas, Mynyddislwyn, a manau eraill yn Mynwy a Morganwg. Sonir am dano fel "henuriad athrawiaethol" yn eglwys Mr. Henry Walter, yn 1675, ac wedi marwolaeth Mr. Walter, darfu iddo ef, mewn cysylltiad a Mr. Watkin Jones, ymgymeryd a'r weinidogaeth yn ei holl ranau yn yr eglwys. Dyoddefodd lawer dros y gwirionedd yn ei ddydd, ond rhoddodd angau derfyn ar ei holl drallod, Ebrill 30, 1691. Dywedir fod rhai o'i blant wedi etifeddu y fendith. Nis gwyddom yn mha le y claddwyd ef.

WATKIN JONES. Yr oedd yn ddyn cyfoethog, dysgedig, ac o deulu anrhydeddus. Preswyliai yn y Sychbant, yn mhlwyf Mynyddislwyn, ac mae yn debygol, mai efe oedd perchenog y lle hwnw, ac amryw leoedd eraill yn y plwyf. Yn amser y werin-lywodraeth, yr oedd yn pregethu fel cynnorthwywr i Mr. Henry Walter, yn eglwysi plwyfol Mynydd-islwyn, Bedwas, y Casnewydd, &c. Pregethai yn gyson yn amser yr erlidigaeth; ac yn 1668, cymerodd ofal neillduol y gangen o eglwys Mr. Walter, a gyfarfyddai yn Gelligrug, yn mhlwyf Aberystruth. Bernir iddo farw tua y flwyddyn 1693.

JOHN HARRIS. Nid oes genym unrhyw hanes am y gwr hwn, heblaw yr hyn a roddasom yn barod yn hanes yr eglwys mewn tudalen blaenorol.

DAVID WILLIAMS. Yr oedd yn enedigol o sir Gaerfyrddin, a thebygol iddo dderbyn ei addysg yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Mhenmain, yn 1710. Preswyliai yn Ngwaelod-y-waun, yn mhlwyf Bedwellty. Yr oedd wedi myned yn analluog i bregethu tua phump neu chwe' mlynedd cyn ei farwolaeth. Bu farw yn 1759, a chladdwyd ef yn mynwent Bedwellty. Cawn y sylw canlynol yn nyddlyfr P. Dafydd, gyda golwg ar ei gladdedigaeth:—"Hydref 28, 1759. Heddyw y claddwyd y Parchedig Mr. David Williams. Dymunwyd arnaf fi bregethu yn ei gladdedigaeth, yr hyn a ymdrechais wneuthur oddiwrth Sal. xci. 16. Gan mai y dydd Sabboth ydoedd, daeth torf ddirfawr o bobl yn nghyd yno. Yr oeddwn i, ac amryw ereill, yn dymuno iddo gael ei gladdu y dydd canlynol, neu yn ddiweddar yn y prydnawn, ond ni ddarfu i ni lwyddo, ac felly dyryswyd dau gyfarfod, a darfu i'r rhai oedd gymaint am ei gladdu, y pryd y claddwyd ef, gael eu siomi hefyd, trwy i'r curad redeg ymaith, a gomedd aros hyd nes i'r angladd gyrhaedd yr eglwys. Bu Mr. Williams yn weinidog yr eglwys yn Mhenmain am 49 o flynyddau. Er ei fod wedi methu pregethu er's yn agos i chwe' mlynedd, etto byddai yn gallu dyfod beunydd i'r addoliad cyhoeddus, ac yr oedd ei bresenoldeb yno i mi, bob amser, yn hyfryd. Pa fodd y dygir pethau yn mlaen yn Mhenmain, o hyn allan, nis gwn i." Dywed Mr. Edmund Jones, fod Mr. Williams yn ddyn da, ond nad oedd yn bregethwr poblogaidd.

PHILLIP DAFYDD. Ganwyd ef ar yr 11eg o Fehefin, 1709, yn Nghwm Ebbwy Fawr, ond nis gwyddom yn mha dŷ yno. Mae yn ymddangos iddo gael ei dderbyn i'r eglwys yn lled ieuangc, oblegid yr ydym yn cael iddo ddechreu pregethu yn 1732, pryd nad oedd dros dair ar hugain oed. Priododd yn Abergavenny, ar y 14ego Fai, 1734. Mae yn debygol mai un o'r gymydogaeth hono oedd ei wraig. Nis gwyddom yn mha le yr addysgwyd ef, ond y mae yn sicr ei fod wedi dysgu yn dda yn rhyw le, oblegid dengys ei ddyddlyfrau ei fod yn ysgolhaig campus. Ysgrifena y Saesoneg a'r Gymraeg yn berffaith. Er iddo ddechreu pregethu yn 1732, ni chafodd ei urddo cyn 1739. Bu felly am ugain mlynedd yn gydweinidog â Mr. Williams, ac am y gweddill o'i oes wrtho ei hun. Yr oedd yn ddyn o feddwl treiddiol, craffus, a gafaelgar. Mae y sylwadau a ysgrifenodd gyda golwg ar ddynion ac amgylchiadau, yn dangos hyny yn eglur. Pregethwr call ydoedd, ond nid ymddengys ei fod yn boblogaidd. Byddai, fynychaf, yn cadw ei bregeth yn ysgrifenedig ar y Beibl wrth ei thraddodi, ac os nad oedd yn ei darllen, air yn ngair, byddai yn ymgadw yn lled gaeth at yr hyn fuasai wedi ysgrifenu. O ran athrawiaeth, yr oedd yn gwbl uniongred, Cawn lawer o sylwadau llymion yn ei ysgrifeniadau, yn erbyn Arminiaid ac Ariaid ei oes. Mae ei sylwadau gyda golwg ar gyfeiliornwyr yr oes hono, yn eithaf cymhwysiadol at rai yn yr oes hon.

"Mae yn hawdd canfod," meddai, "meddwl ac amcan y boneddigion hyny a floeddiant gymaint yn erbyn credöau a chyffesiadau ffydd, ond y cyfryw yn unig a ellir osod allan yn ngeiriau yr ysgrythyr, sef, agoryd drws digon eang i bob math o gyfeiliornad a heresiau gael eu dwyn i mewn i'r eglwys, os gallant gael ymadroddion ysgrythyrol wedi eu gwyro, eu darnio, a'u dirdynu i'w hategu, yr hyn beth a wnant yn fedrus iawn. A phe gallai y dynion hyn ddim ond dwyn eu credöau a'u cyffesiadau eu hunain i mewn, a chael gan yr eglwys yn dawel gydsynio â hwy a'u derbyn, byddai pob peth wrth eu bodd. Yn mhellach, y peth sydd yn fy synu i yn fawr yw, fod y personau hyn sydd yn dadleu cymaint dros arfer ymadroddion ysgrythyrol yn unig, i osod allan eu golygiadau, yn defnyddio cyn lleied o eiriau y Beibl yn eu pregethau. Os ymadroddion ysgrythyrol yw y rhai mwyaf priodol i'w harfer mewn credöau, cyffesiadau, a chatecismau, paham nad ydynt felly mewn pregethau, canys amcan y naill fel y llall yw dysgu dynion yn mhethau crefydd. Ac yn ol fy marn i, pan fyddo credöau, catecismau, a chyffesiadau yn cael eu gosod o'r neilldu, ni chaiff y weinidogaeth ei dal i fyny yn hir, ond gosodir hithau hefyd o'r neilldu, fel y mae amryw o'r dynion hyn sydd yn gwrthwynebu credöau yn gwneyd beunydd. Nid wyf fi dros ddilyn un dyn, nac unrhyw nifer o ddynion, ond mor belled ag yr wyf yn barnu eu bod hwy yn dilyn Crist. Mor belled a hyny, y mae genyf fi hawl i'w dilyn hwy. Caniadau i. 8; 1 Cor. iv. 16; xi. 1; Heb. xii. 1.

Cyn belled ag yr wyf fi yn deall ystyr y gair orthodoxy, sef crediniaeth iawn o athrawiaethau y Datguddiad Dwyfol, nid yw i'w ddirmygu, ac nid yw cyfeiliornad a heresiau ychwaith yn bethau i chwareu â hwynt. Mae iawn grediniaeth yn angenrheidiol er iachawdwriaeth, a chyfeiliornad yn bechod damniol. Y fath boen a thrafferth a gymerai yr apostolion i unioni camgymeriadau a chyfeiliornadau yr eglwysi yn mhob peth, yn neillduol gyda golwg ar y pwnge mawr o gyfiawnhad, fel y gwelir pan. oedd y Galatiaid wedi cymysgu Iuddewaeth â Christionogaeth, ac yn ymofyn cael eu cyfiawnhau trwy weithredoedd y ddeddf. Mae yn amlwg i mi fod cyfeiliornadau a chamgymeriadau yn awr yn llawn mor beryglus ag yr oeddynt y pryd hwnw; ac y maent yn awr yn llawer mwy lluosog nag oeddynt yr amser hwnw."

Tra yr oedd Phillip Dafydd yn berwi gan sêl dros athrawiaeth iachus, yr oedd hefyd yn llawn mor wrthwynebol i drefniadau a dull newydd y Methodistiaid o bregethu. Cyfarfyddwn yn fynych yn ei ddyddlyfrau â chyfeiriadau annghymeradwyol at y Methodistiaid. Cymerer y dyfyniadau canlynol fel amlygiad o'i deimlad:—"Mehefin 21, 1775—Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn y Tynewydd, Mynyddislwyn. Nid oedd yno ond ychydig o weinidogion. Pregethodd Mr. Abraham Williams bregeth dda oddiwrth Sal. cii. 16. Darfu i un arall o'r enw David Williams (Llysfronydd mae yn debygol) bregethu oddiwrth 2 Petr ii. 9. Efe a gymerodd lwybr cyffredin llawer o bregethwyr yn y dyddiau presenol, sef troi yma ac acw, dyfynu ambell hanes ysgrythyrol, a llenwi ei bregeth â chymhariaethau, a rhai o honynt heb fod o'r fath fwyaf priodol. Yr oedd rhai yn hoffi y fath ddull, ac yn gwneyd llawer o swn fel pe na buasent yn alluog i gynnwys eu teimladau o herwydd mawredd y llawenydd a deimlent, a chodai y pregethwr ei lais i gywair uchel anghyffredin. Nid wyf fi yn ystyried yr holl bethau hyn yn un ran o grefydd Iesu. Hydref 19, 1783—Heddyw yr oedd ein cyfarfod cymundeb. Pregethodd John Williams yn fy lle. Pregeth dda. Yr oedd y gynnulleidfa yn lluosog, ac ystyried fod offeiriad, a gyfrifir yn bregethwr da, yn Eglwys Mynydd-islwyn ar yr un amser, ond neidio ac anrhefn oedd yno. Ion. 11, 1785—Yr oedd gwr dieithr yn Mhenmain heddyw o'r enw Howell Powell. Ei destyn oedd 1 Ioan iii. 8. Efe aeth yn mlaen yn hollol yn null y Methodistiaid. Dywedodd gyflawnder o bethau, ond gyda y fath gyflymder fel nas gallasai neb ddal ar yr hyn a lefarai." Hen Ymneillduwr sych oedd Phillip Dafydd yn nghyfrif Methodistiaid ei oes, a hen Galfiniad rhagfarnllyd, yn nghyfrif ei gydoeswyr Arminaidd ac Ariaidd. Tra nas gallwn lai nag edrych gyda chymeradwyaeth ar ei wrthwynebiad cadarn i gyfeiliornadau ei oes, nis gallwn hefyd lai na galaru na buasai gwr o'i alluoedd rhagorol ef yn llawnach o ysbryd cyhoedd, fel ei gymydog Edmund Jones, ac na buasai yn yfed mwy o ysbryd diwygiadol yr oes.

Cafodd deulu mawr—wyth neu ddeg o blant, ac wrth reswm lawer o ofidiau teuluol, ac anhawsder parhaus i gael modd i gynnal ei deulu lluosog. Ond yn nghanol ei holl drafferthion glynodd gyda gwaith y weinidogaeth yn ffyddlon, ac y mae yn ddigon hawdd canfod, wrth ddarllen ei ddydd-lyfrau, ei fod yn treulio ei holl fywyd mewn cymundeb agos â'r Arglwydd. Bu farw Chwefror 3ydd, 1787, yn driugain a deunaw mlwydd oed o fewn ychydig fisoedd, a chladdwyd ef wrth gapel Penmain. Nid ymddengys iddo gael llawer o gystudd, oblegid cofnoda yn ei ddyddlyfr iddo bregethu yn Mhenmain Rhagfyr 17, 1786, oddiwrth Dat. vi. 9, 10, 11. Dichon mai dyma y waith olaf y pregethodd, o leiaf dyna y cofnodiad diweddaf yn ei ddyddly fr.

DAFYDD THOMAS. Bu enw Dafydd Thomas, Penmain, am lawn hanner can mlynedd yn air teuluaidd yn Neheudir Cymru; yn enwedig yn Mynwy a Morganwg. Gan fod genym ddefnyddiau teimlwn mai ein dyledswydd yw cofnodi ei hanes yn helaeth, yn gymaint a'i fod yn gymmeriad mor barchus, ac iddo wneuthur cymaint a nemawr neb yn ei oes tuag at helaethu terfynau yr enwad y perthynai iddo. Ganwyd Dafydd Thomas mewn tŷ bychan o'r enw Llwyncelyn, ar odreu y Mynyddbach yn mhlwyf Llan-fynydd, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1757. Enw ei dad oedd Thomas John Evan, ac enw ei fam oedd Elizabeth William Harry. Efe oedd yr ieuengaf o saith o blant. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, a'i fam disgyn o deulu nodedig o grefyddol er's amryw genhedlaethau. Ni chafodd nemawr o fanteision dysg yn ei febyd, ond trwy ymroad ac ychydig gymorth mewn ysgol gyffredin yn y gymydogaeth dysgodd ddarllen ac ysgrifenu. Bu farw ei dad pan yr oedd ef yn lled ieuangc, a chan fod ei frodyr a'i chwiorydd oll wedi priodi, disgynodd y gwaith o ofalu am ei fam agos yn gwbl arno ef, a gofalodd am dani gyda thynerwch plentyn duwiol hyd ei marwolaeth. Dysgodd ei fam, yr hon oedd yn wehyddes, ei chelfyddyd ei hun iddo, a bu yn dilyn yr alwedigaeth hono agos yn gyson nes iddo fyned i'r weinidogaeth. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghapel Isaac, gan yr Hybarch Thomas Williams, pan yr oedd rhwng pymtheg ac ugain oed. Dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1778. Yr un amser ac yn yr un eglwys a Thomas Bowen, wedi hyny o Gastellnedd, a Jonathan Lewis, yr hwn a fu farw yn y Crwys yn fuan ar ol ei urddo. Cafodd ei ddau gyfaill fanteision addysg, ond o herwydd gorfod cynnal ei fam cafodd ef ei amddifadu o hyny. Bu am wyth mis yn athrofa Abergavenny, a phan symudwyd yr athrofa yn Hydref y flwyddyn 1780, o Abergavenny i Groesoswallt, ni oddefai ei amgylchiadau ef iddo symud yno gyda hi, ac felly dychwelodd adref at ei fam a'i alwedigaeth. Yn y flwyddyn 1785, ymwelodd a sir Fynwy. Cofnoda Mr. Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfr hanes ei ymweliad cyntaf â Phenmain, maes dyfodol ei lafur: "Medi 18fed, 1785. Yr oedd yn Sabboth cymundeb heddyw, a'r lle yn llawn iawn. Cefais fy arbed i bregethu gan wr ieuangc, o'r enw David Thomas, yr hwn ni fu yma. erioed o'r blaen. Ei destyn oedd Psalm cii. 13, a chyn belled ag y gallaswn i ei glywed efe a bregethodd yn dda. Yn y prydnawn efe a bregethodd yn fy nhy i. Ei destyn oedd Jer. xxxi. 9. Ychydig iawn a allais glywed oherwydd fy myddarwch. Yr oedd yno dorf o bobl. Darfu i minau heddyw weini swper yr Arglwydd gyda theimlad toddedig yn fy enaid. Diolch i Dduw am hyny." Etto "Chwefror 5ed, 1786. Heddyw oedd ein cyfarfod cymundeb. Yr oedd y gynnulleidfa yn fawr iawn. Gwr dyeithr a bregethodd oddiwrth Eph. i. 19,—testyn na chlywais i neb yn pregethu arno o'r blaen. Yr oeddwn yn ystyried y bregeth yn un ardderchog, ond y mae yn amheus genyf mai ei gyfansoddiad ef ydoedd. Er fod y gwr ieuangc yn ddiau yn alluog, etto yr oedd y fath fawredd yn y bregeth, fel yr oedd tu hwnt i'r hyn a allesid ddysgwyl oddiwrtho ef. Ei enw yw David Thomas." Etto Mai 10fed, 1786. Heddyw oedd ein cyfarfod gweddio ac yr oedd llawer o bobl wedi ymgynnull. Gweddiodd chwech, a chawsom bregeth gan David Thomas, gwr ieuangc o sir Gaerfyrddin. Mae y gynnulleidfa yn tueddu i roddi galwad iddo i ddyfod yma yn gynnorthwywr yn y weinidogaeth." Etto "Awst 9fed, 1786. Heddyw bum yn Mhenmain yn gwrandaw dwy bregeth; un gan David Thomas, oddiwrth Mat. v. 8, a'r llall gan William Thomas, (Bala, wedi hyny), oddiwrth Daniel ix. 24. Ni ddechreuwyd yr oedfa cyn chwech o'r gloch yn yr hwyr. Yr wyf fi yn barnu fod y ddwy bregeth uwchlaw amgyffred y gwrandawyr cyffredin. Yr oedd y cynnulliad yn fawr iawn, ag ystyried mor ddiweddar yn y prydnawn yr oedd yr oedfa yn dechreu." Cyn pen chwe' mis wedi iddo ysgrifenu y diweddaf o'r cofnodion hyn, yr oedd Phillip Dafydd yn ei fedd, a chafodd David Thomas alwad i'w ganlyn yn uniongyrchol. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1787. Yr ydym wedi methu cael allan pa fis o'r flwyddyn y bu hyny. Derbyniwyd y gyffes ffydd a gweddiwyd yr urdd weddi gan Mr. W. Edwards, Groeswen, rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. John Griffiths, o Abergavenny, ac i'r eglwys gan Mr. W. Gibbon, Capel Isaac. Nis gwyddom pwy gyflawnodd ranau eraill y gwaith.

Cyn gynted ag yr ymsefydlodd yn ei gylch pwysig, ymroddodd a'i holl egni i "gyflawni ei weinidogaeth," a gwneyd "gwaith efengylwr." Pregethodd filoedd o weithiau ar hyd a lled y wlad am filldiroedd o gwmpas, ac yr oedd yn mhob man yr elai yn dderbyniol gan fyd ac eglwys, ffol a chall, gwreng a boneddig. Ar ol claddu ei fam, priododd ddynes ieuangc ragorol, sef merch Mr. William George, o'r Brithdir, yn mhlwyf Gelligaer, o'r hon y cafodd bedwar-ar-ddeg o blant, a cafodd naw o honynt eu magu i'w maintioli. Ar ol bod yn ddedwydd yn y sefyllfa briodasol am ddwy flynedd a'r hugain, collodd ei briod ffyddlon, a gadawyd ef yn wr gweddw gyda naw o blant ieuangc. Effeithiodd colli ei briod yn fawr ar ei feddwl a'i iechyd, ond er ei holl ofid a'i drafferthion cafodd gymorth am flynyddau lawer wedi hyny i wasanaethu yr achos goreu gartref ac oddi cartref. Cafodd yr hyfrydwch cyn ei farwolaeth o weled ei blant oll ond un yn grefyddol, a dau o honynt yn weinidogion yr efengyl, sef Mr. William Thomas, gweinidog y Bedyddwyr yn y Casnewydd, a Mr. Joshua Thomas, yn awr o Aberdare. Daeth yr un oedd yn ddigrefydd pan fu farw ei dad i geisio crefydd yn fuan wedi hyny.

Yr oedd iechyd Mr. Thomas wedi rhoddi ffordd yn fawr er's mwy na deng mlynedd cyn ei farwolaeth, a bu am y pedair neu y pum' mlynedd diweddaf o'i fywyd yn analluog i bregethu ond yn anfynych iawn. Ond bob tro y gallai wneyd ei ymddangosiad yn y capel byddai yr olwg arno yn sirioli pawb, ac os gallai ddyweyd ychydig eiriau toddid yr holl gynnulleidfa. Cafodd ergyd o'r parlys yn niwedd y flwyddyn 1836, ac wedi dihoeni am rai misoedd bu farw yn yr Arglwydd Ionawr 11eg, 1837 yn bedwar ugain mlwydd oed. Claddwyd ef wrth gapel Penmain ar y 14eg o'r un mis. Cyn cychwyn o'r tŷ pregethodd Mr. H. Jones, Tredegar, yn awr o Gaerfyrddin, oddiwrth Act. xiii. 36, ac yn y capel, traddodwyd pregeth fer gan ei gydweinidog, Mr. J. Jones, oddiar Psalm exvi. 7,-testyn a ddewisasai ef yn ei gystudd. Areithiodd Mr. E. Rowlands, Pontypool, wrth y bedd, ac yna trodd y dorf fawr alarus ymaith mewn hiraeth a dagrau.

Dichon na fu un gweinidog erioed a gerid ac a berchid yn fwy cyffredinol na David Thomas, Penmain. Ni chlywsom neb yn rhoddi gair drwg iddo. Yr oedd ei dymer addfwyn a siriol, ei ffraethineb diddrwg, ei fywyd llafurus a santaidd, ei ostyngeiddrwydd a'i gymwynasgarwch, a'i holl ragoriaethau fel dyn, Cristion, a gweinidog yr efengyl y fath nad oedd yn bosibl i neb lai na'i anwylo. Fel pregethwr, yr oedd yn gynnwysfawr, tarawiadol, eglur, a nodedig o swynol i bob math o wrandawyr, er nad oedd yn waeddwr soniarus nac yn areithiwr hyawdl. Dywedai lawer o synhwyr mewn ychydig o eiriau, yr hyn a barai i ddynion craffus a gwybodus ei fawr hoffi, ac yr oedd ei arabedd (wit) diderfyn a'i eglurder yn gorfodi y dynion mwyaf anwybodus a difeddwl i sylwi ar yr hyn a ddywedai.

Mae ei ddywediadau tarawiadol a'i atebion ffraeth yn cael eu coffau gan ganoedd i'r dydd heddyw. Byddai cofnodi un o gant o honynt yn fwy nag a ganiatäi ein terfynau ni. Rhoddwn y rhai canlynol fel engrhaifft. Un bore cyfarfyddodd a chymydog iddo, yr hwn a ddaliai y gallai Cristion. gyrhaedd perffeithrwydd dibechod ar y ddaear. Ymddangosai y gwr y boreu hwnw yn dra phruddaidd yr olwg arno. "Hawyr" ebe Mr. Thomas, "paham yr ydych yn edrych mor drist." "O!" meddai, "yr wyf mewn gofid blin. Ar ol byw un mis ar ddeg heb bechu gymaint ag unwaith, cyfarfyddais y ddoe â phrofedigaeth, a phechais." Wel," atebai Mr. Thomas, "tost fu eich anhap. Pe buasech yn aros mis yn hwy yn eich perffeithrwydd, buasech wedi ennill eich plwyf ar dir santeiddrwydd." Pan yn pregethu mewn cyfarfod yn y Groeswen oddiwrth y geiriau, "Pa dduw sydd fel Tydi?" ar ol dyweyd yn rhagorol am addasrwydd y gwir Dduw i fod yn wrthddrych addoliad ac ymddiried ei greaduriaid, a'i ragoriaeth ar eulunod y cenhedloedd, aeth rhagddo i ddangos ffolineb y rhai a ymddiriedent mewn gau dduwiau. "Yr oedd gwr," ebe fe, "yn mynydd Ephraim yn cadw duw ac offeiriad yn ei dŷ, ond rhyw ddiwrnod daeth meibion Dan heibio a chymerasant y duw a'r offeiriad ymaith. Wfft y fath dduw yn ffaelu cadw ei hun rhag lladron." Weithiau, ond yn lled anfynych, byddai colyn yn ei wit. Wrth bregethu mewn cyfarfod cyhoeddus, mewn cymydogaeth lle yr oedd rhai pregethwyr Ymneillduol newydd fyned yn offeiriaid, digwyddodd iddo yn y bregeth grybwyll dameg y goruchwyliwr annghyfiawn, er egluro rhyw fater, ac wrth adrodd y geiriau, "Cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus genyf," safodd am ychydig nes tynu sylw pawb, yna dywedodd "yn wir druan yr wyt mewn cyflwr tra chyfyng, canys wrth weithio neu gardota y mae pawb yn y wlad hon yn cael eu tamaid. Ond gwrando, cerdd yn offeiriad, ac yna ti gei fodd i fyw heb na gweithio na chardota."

Ni oddefa ein terfynau i ni ymhelaethu. Dydd y farn yn unig a ddatguddia pa faint o ddaioni a wnaed gan David Thomas yn y cylch helaeth y llafuriodd ynddo am haner cant o flynyddau. Er fod oes braidd wedi myned heibio er pan y mae yn ei fedd, y mae ei enw etto yn perarogli trwy yr holl ardaloedd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."

John Jones, gweler hanes eglwys Heolyfelin, Casnewydd.

Edward Rees, gweler hanes Salem, Llanymddyfri.

Ellis Hughes, y gweinidog presenol yn Mhenmain sydd fab i'r efengylwr Hybarch William Hughes, Dinas Mawddwy. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Nhreffynon Awst 25ain a'r 26ain, 1835. Wedi llafurio yno gyda chymeradwyaeth mawr am dair blynedd ar ddeg, symudodd i Benmain yn Awst, 1848, felly y mae yn weinidog urddedig er's yn agos i bymtheng mlynedd ar hugain. Mae Mr. Hughes yn bregethwr grymus, ac yn ysgrifenydd galluog. Arhoed ei fwa yn gryf am lawer o flynyddau etto.

HANOVER.

Nodasom yn hanes Llanfaches fod cangen o'r eglwys hono yn ymgynnull mewn gwahanol fanau yn mhlwyfydd Llantrisant, Llangwm, Brynbiga, Llangybi, a rhai plwyfydd cyfagos eraill, a'i bod ar ol adferiad Siarl II, wedi myned yn eglwys wahanedig oddiwrth y fam eglwys. Ryw amser rhwng 1662 a 1667, daeth Mr. William Thomas, yr hwn oedd Fedyddiwr, ac a fuasai yn perthyn i eglwys Mr. Myles, o Ilston, i'r gymydogaeth hon, a phriododd ferch Mr. George Morgan, Llantrisant, un o brif aelodau yr eglwys. Efe oedd y prif weinidog yma hyd ei farwolaeth yn 1671, ond yr oedd amryw ereill yn gynnorthwywyr iddo. Yn ei amser, ac mae yn debygol, trwy ei ddylanwad ef, ennillodd golygiadau y Bedyddwyr lawer o dir yn yr eglwys, fel, erbyn y flwyddyn 1675, yn ol tystiolaeth Mr. Henry Maurice, yr oedd agos yr holl eglwys o'r golygiadau hyny, ond etto dros gymundeb agored rhwng credinwyr beth bynag fuasai eu golygiadau am fedydd. Os oedd y mwyafrif o honynt ar ryw adeg yn Fedyddwyr, mae yn sicr nad oeddynt oll. Yn 1672, cymerodd George Morgan, tad ynnghyfraith William Thomas, drwydded ar ei dy fel lle addoliad i'r Annibynwyr, ac ar yr un dydd, cymerodd George Robinson drwydded fel pregethwr Annibynol yn nhy George Morgan. Cymerodd Walter Williams, aelod arall o'r eglwys, drwydded fel pregethwr Annibynol yn mhlwyf Llangybi, ond fel Bedyddiwr y trwyddedwyd Mr. Christopher Price i bregethu yn ei dy ei hun, yn Abergavenny. Yn y flwyddyn 1675, dewiswyd Mr. Thomas Quarrell yn weinidog, a'r Meistriaid C. Price, Walter Williams, a William Millman, yn gynnorthwywyr iddo. Tybia Mr. Joshua Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, fod yn rhaid fod Mr. Quarrell yn Fedyddiwr cyn iddo gael ei ddewis yn weinidog ar yr eglwys hon, ond nis medrwn ni ganfod y rheidrwydd o hyny, gan mai eglwys gymysg o'r ddau enwad ydoedd, ac yn dal yn dyn at gymundeb agored. Hefyd. y mae Mr. Quarrell yn cael ei grybwyll yn llaw ysgrifau Lambeth, yn 1669, fel pregethwr Annibynol, yn mhlwyfydd Marshfield, Bedwas, ac Eglwysilan, mewn cysylltiad a John Powell, M.A., a Watkin Jones. Gellid ychwanegu, gan fod Mr. Quarrell yn bregethwr enwog er dyddiau Cromwell, ac iddo fyw am fwy nag ugain mlynedd, wedi cael deddf y Goddefiad, y buasai ei enw yn sicr o fod yn nghofnodion cymmanfaoedd y Bedyddwyr o 1688 i 1709, pe buasai yn Fedyddiwr, ond nid oes gair o son am dano, pryd y mae enwau rhai llawer ieuengach, a llai enwog, yn cael eu crybwyll yn fynych. Tybiwn fod hyn yn ddigon am byth i ddymchwelyd y dyb mai Bedyddiwr ydoedd. Mae Mr. C. Price yn dweyd mai pedwar ugain oedd rhif yr aelodau yn y flwyddyn 1690, a'i fod ef a Mr. Nathaniel Morgan, yn gofalu am y gangen yn Abergavenny, a bod y gangen yn Llantrisant, Llangwm, &c., dan ofal Mr. Quarrell, yr hwn a gynnorthwyid gan Mr. Walter Williams, a Mr. William Millman.

Mae yn dra thebygol i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr ymranu oddiwrth eu gilydd tua'r flwyddyn 1690, neu yn fuan ar ol hyny. Pa un ai Mr. Quarrell ai Mr. Walter Williams oedd yn weinidogion i'r Annibynwyr ar ol y rhaniad, ai rhyw rai ereill, nis gwyddom. Mae yn dra thebygol mai hwy oeddynt y gweinidogion cyntaf. Ond gan eu bod hwy yn heneiddio, a bod yr eglwys yn wasgaredig iawn, dewiswyd gwr ieuangc doniol anghyffredin, o'r enw Hugh Pugh, yn weinidog yma tua'r flwyddyn 1695, neu ryw faint cyn hyny. Byddai gwasanaeth rheolaidd yn cael ei gynnal yn ei amser ef yn Abergwaenfan, yn mhlwyf y Goitre, o fewn hanner milldir i'r fan y mae capel Hanover yn awr, yn Mrynbiga, ac yn Llangwm, a dywedir i'r tri phulpud yn y lleoedd hyn gael eu gwneyd yn dduon ar ei farwolaeth, tua'r flwyddyn 1709. Ymddengys ei fod yn boblogaidd, ac yn rhyfeddol o barchus gan bobl ei ofal. Wedi marwolaeth Mr. Pugh, mae yn ymddangos i'r achos wanychu yn raddol yn Llangwm, nes darfod yn llwyr gydag amser, ac i'r aelodau oedd o gylch Brynbiga, Llangybi, a Llandegfeth, ymuno a'u gilydd a chymeryd lle i addoli yn mhlwyf Llandegfeth, a gwneyd eu hunain yn gangen o eglwys Penmain. Parhaodd y gangen yn mhlwyf y Goitre, i ymgynnull yn Abergwaenfan, a buont dros amryw flynyddau dan weinidogaeth Mr. Morgan Thomas. Mr. Thomas oedd gweinidog yn 1718, pryd yr anfonwyd cyfrif o rif y gynnulleidfa, a sefyllfa gymdeithasol yr aelodau, i'r Dr. John Evans, o Lundain. Yr ydym yn cael mai cant ac ugain oedd eu rhif y pryd hwnw, mae yn debygol heb gyfrif y gwragedd a'r plant, a bod yn eu mysg bump o foneddigion, deg yn byw ar eu tiroedd eu hunain, ugain o amaethwyr yn talu ardreth, deuddeg o fasnachwyr, a phymtheg o weithwyr; a bod gan y rhai hyn dair-ar-ddeg o bleidleisiau dros sir Fynwy, a phymtheg dros fwrdeisdrefi Mynwy.

Yn 1724, dewiswyd Mr. Rees Davies yn weinidog. Yn ei amser ef symudwyd yr addoliad o blwyf y Goitre i blwyf Llanover.

Mae yn ymddangos mai mewn anedd-dy y buwyd yn addoli am flynyddau ar ol dyfod i blwyf Llanover, oblegid yn 1744 yr agorwyd y capel cyntaf. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn dysgedig a chyfoethog, ond fel yr ymddengys yn un o dymerau lled ddiserch. Er y fantais a roddid iddo gan ei ddysg a'i gyfoeth, i gyrhaedd dylanwad a phoblogrwydd, bu yn agos a llwyr waghau y lle flynyddau cyn ei farwolaeth trwy ei anserchogrwydd a chwerwder ei dymer. Mae Mr. Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfrau yn cyfeirio yn aml at sefyllfa pethau yn Hanover. Gyferbyn a Gorphenaf 4ydd, 1759, dywed "Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Hanover, ond nid oedd ond pump o weinidogion yn y lle, a chynnwys Mr. Davies ei hun. Mr. Phillip Charles a bregethodd oddiwrth Luc x, 37, ac yr oedd, feddyliwn i, yn fwy bywiog a hwylus nag yr arferai fod. Yr oedd yno amryw wrandawyr, ond yr wyf fi yn credu mai dyma y cyfarfod gweinidogion diweddaf a gynnelir yn y lle hwn tra byddo Mr. Davies yma. Y mae efe wedi pregethu y gwrandawyr allan o'r capel, ac yn awr y mae y gweinidogion yn debygol o gefnu arno." Bu Mr. Davies fyw tuag wyth mlynedd ar ol hyn, ond nid ydym yn cael yn nyddlyfrau Phillip Dafydd, un crybwylliad am gyfarfod gweinidogion yno mwyach yn ei ddyddiau ef. Os na ddarfu i Mr. Davies wneyd llawer o les i'r achos yn ei fywyd, bu yn ofalus i'w waddoli yn lled dda, os yw hyny yn rhyw les iddo. Mae yn debygol mai gyda ei wraig y cafodd ef ei gyfoeth, a darfu iddo ef a hithau mewn gweithred ddyogel wneyd y ty addoliad, y fynwent, ty y gweinidog, a'r tir perthynol iddo, yn feddiant dros byth i weinidogion Hanover. Yr oedd ei ofal yn gymaint am weinidogaeth ddysgedig fel y gosododd yn amod yn y weithred, na byddai neb yn addas i'w ddewis yn weinidog yno heb ei fod wedi cael addysg athrofaol. Ymddangosai nodwedd y dyn yn hyn fel mewn hynodion ereill. Bu Mrs. Davies farw yn 1765, yn 81 oed, a Mr. Davies yn 1767, yn 73 oed. Yr oedd yr achos mewn sefyllfa isel iawn pan y bu ef farw, ac agwedd pethau yn lled ofidus yno am dymor wedi hyny. Yn mhen ychydig wythnosau wedi claddu Mr. Davies, daeth yno un James Jones, i geisio ymwthio i'r weinidogaeth, ac ymddengys iddo beri gradd o annghydfod yn yr eglwys. Cyfeiria Phillip Dafydd at hyny fel y canlyn:—"Mai 5ed, 1768. Bum heddyw yn Hanover ond cefais fy arbed i bregethu gan Mr. Rees Davies, Canerw. Gweinyddais i swper yr Arglwydd, ac yr oedd y lle yn llawn. Buom yn ymdrechu troi James Jones allan oddi yno, yr hwn nid yw yn well na maen tramgwydd yn mhob man; ac yr wyf fi yn credu na chaiff ei gefnogi yno mwyach gan y bobl, na chan neb o'r ardalwyr, oblegid y mae ei gymmeriad mor ddrwg. Yr oedd Mr. Rees Davies, Canerw, Mr. John Griffiths, Glandwr, a minau yn bresenol." Nis gwyddom ddim am y James Jones hwn, o ba le y daeth, nac i ba le yr aeth, ond ymddengys i'w ymweliad a Hanover effeithio gradd o niwed yno i'r achos oedd yn ddigon gwan yn barod. Cawn Phillip Dafydd yno drachefn a'r y 23ain o Hydref, 1768, pryd y dywed, "Pregethais heddyw yn Hanover oddiwrth Luc ix. 23. Yr oedd y lle yn llawn, a chefais oedfa hwylus. Diolch i Dduw. Cafodd pedwar eu derbyn i'r eglwys, ac y mae yn ymddangos fel pe byddai gan yr Arglwydd ryw waith i'w wneyd yno, ond y mae Satan trwy ei offerynau yn dechreu ei wrthwynebu eisioes." Bu Mr. Dafydd yno drachefn Ionawr 14eg, 1769, yn cadw cyfarfod cymundeb, pryd y derbyniodd un aelod. Etto Gorphenaf 2il, yn yr un flwyddyn, a Gorphenaf 29ain, a Tachwedd 18ed, 1770. Gan nad ydym yn cael un sylw ganddo o berthynas i sefyllfa yr achos mewn cysylltiad a'r ymweliadau hyn, yr ydym yn casglu fod pethau yn dawel a rheolaidd yno.

Y gweinidog nesaf oedd Mr. Evan Lewis, un o'r Myfyrwyr o'r athrofa yn Abergavenny. Cafodd ef ei urddo yn haf y flwyddyn 1771, ond yr oedd wedi bod yn pregethu yn fisol, neu fynychach i'r gynnulleidfa dros У rhan fwyaf o'r amser y bu yn fyfyriwr yn Abergavenny. Ymddengys ei fod yn ddyn ieuangc llafurus a doniol iawn, ac iddo fod yn hynod o lwyddianus trwy dymor byr ei weinidogaeth, yr hyn ni bu fawr dros ddwy flynedd, canys bu farw ar yr 28ain o Dachwedd, 1773, yn 25ain oed. Yr oedd hen bobl yn fyw yn y gymydogaeth, tuag ugain mlynedd yn ol, oedd yn ei gofio, ac yn son yn barchus am ei enwogrwydd a'i lwyddiant. Mor dywyll yw ffyrdd Rhagluniaeth:—Rees Davies yn cael ei adael am dair blynedd a deugain, ac yn y rhan olaf o'i dymor yn pregethu y rhan fwyaf o'r gynnull-eidfa allan; ac Evan Lewis, gyda bod ei ddefnyddioldeb yn dechreu cael ei werthfawrogi gan yr eglwys a'r ardalwyr, yn cael ei symud ymaith. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef," ond er hyny, "cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfaingc ef."

Ar ol i'r eglwys fod ddwy flynedd a hanner heb weinidog, wedi marwolaeth Mr. Lewis, rhoddasant alwad i un Mr. Thomas Davies, yr hwn a urddwyd yno Mai 23ain, 1776. Cofnoda Phillip Dafydd yr amgylchiad yn ei ddyddlyfr, ond heb roddi braidd ddim o hanes y gwasanaeth. Y cwbl a ddywed ydyw, i Mr. Thomas Davies gael ei urddo yn Hanover y diwrnod hwnw, a'i fod yn gobeithio y buasai gwaith y dydd yn cael ei fendithio er bod yn ddaioni a chysur i lawer. Ni enwa neb o'r rhai a gymerasant ran yn y gwasanaeth ond y Dr. Benjamin Davies, yr hwn a osodwyd i ddechreu yr oedfa trwy weddi, a beia y trefnwyr yn llym am osod y gweinidog galluocaf o bawb oedd yno i ddechreu yr oedfa yn lle pregethu. Ni pharhaodd cysylltiad Mr. Davies âg eglwys Hanover nemawr dros dair blynedd, ac nis gwyddom ddim pa un ai llwyddianus ai aflwyddianus y bu yno. Mae Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfr yn hollol ddistaw gyda golwg arno. Ar gyfer Ebrill 29ain, 1779, cawn y nodiad canlynol: Heddyw bum yn Hanover gyda Mr. Thomas Davies 'yn atafaelu ar eiddo Howell Powell am yr ardreth oedd yn ddyledus." Oddiwrth hyn yr ydym yn casglu fod Mr. Davies wedi ardrethu y tŷ a'r tir perthynol i'r eglwys i'r Howell Powell hwn, a'i fod yn methu cael ganddo dalu. yr ardreth heb osod cyfraith arno. Ni bu Mr. Davies yno yn hir ar ol hyn, ymadawodd yn 1780. Gresyn na buasai yr hen groniclwr ffyddlon Phillip Dafydd yn rhoddi gwybod i nii ba le yr aeth pan ymadawodd oddiyno, ond y mae yn hollol ddistaw. Dywed wrthym iddo fod yn Hanover yn cadw cyfarfod cymundeb ar y 15fed o Hydref, 1780, ac o'r pryd hwnw yn mlaen hyd amser urddiad Mr. William Thomas; yn 1782, yr ydym yn cael ei fod ef yno yn cynnal cyfarfod cymundeb bob tri neu bedwar mis yn gyson. Ionawr 6ed, 1782, ysgrifena—"Bum yn pregethu heddyw yn Hanover, ac yn gweinyddu swper yr Arglwydd. Y testyn oedd Rhuf. vi. 22. Yr oedd y lle yn weddol lawn, ond y mae amryw o'r aelodau wedi myned ar wasgar, a rhai o honynt wedi gwrthgilio." Pa un ai mesur o deimladau annymunol yn gysylltedig âg ymadawiad Mr. Thomas Davies, ai ynte rhyw beth arall a achosodd hyn nis gwyddom.

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol hyn rhoddwyd galwad i Mr. William Thomas, un o'r myfyrwyr yn Athrofa Abergavenny. Rhoddir yr hanes canlynol am ei urddiad yn nyddlyfr P. Dafydd. "Hydref 2il, 1782—Heddyw aethum i Hanover, lle yr oedd cyfarfod gweinidogion er urddo Mr. William Thomas y dydd canlynol, a chafodd y gwasanaeth ei ddwyn yn mlaen fel yr wyf fi yn gobeithio er boddlonrwyddi bawb. Darllenwyd pennod gan Mr. Edmund Jones, a gweddïodd Mr. Peter Jenkins. Pregethodd Mr. Owen Davies, Trelech, oddiwrth 1 Tim. iii. 1. Pregeth dda, gyfaddas i'r amgylchiad. Holwyd y gofyniadau a derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. Simon Williams, Tredwstan; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. Isaac Price, Llanwrtyd, a thraddododd Mr. Owen Davies y Siars i'r gweinidog, oddiwrth Col. iv. 17. Siars dda, gyflawn, a phriodol. Bendithied ac arddeled yr Arglwydd waith y dydd." Bu Mr. Thomas am tua dwy flynedd a hanner yn gysurus a llwyddianus iawn yno, ond cyfododd ychydig ddiflasdod rhyngddo a rhai o'r aelodau yn y flwyddyn 1785, yr hyn a derfynodd yn ei ymadawiad yn 1787. Cawn y cofnodiad canlynol yn nydd— lyfr Phillip Dafydd am yr amgylchiad hwn: "Mehefin 30ain, 1785—Bum heddyw yn Hanover gyda Mr. Simon Williams, Tredwstan, a Mr. Williams, Llanfigan, (Aber), yn ceisio unioni pethau rhwng Mr. W. Thomas, â rhai o'r gynnulleidfa, ac yr wyf yn gobeithio na fu ein hymdrechion yn gwbl ofer. Gweddiodd Mr. William Williams, a phregethodd Mr. Simon Williams, oddiwrth 1 Cor. x. 12." Yr oedd Mr. Dafydd, Mr. Edmund Jones, a Mr. J. Griffiths, o Abergavenny, wedi bod yno o'r blaen ar yr 2il o Chwefror ar yr un neges, ond wedi methu gwneyd dim y pryd hwnw; ac y mae yn ymddangos, gan i Mr. Thomas ymadael mor fuan, na ddarfu i'r ail gynygiad lwyddo i lwyr wellhau y clwyf. Yn 1787, derbyniodd Mr. Thomas alwad oddiwrth yr eglwys yn y Bala, a symudodd yno.

Yn nechreu y flwyddyn 1790, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Emanuel Davies, myfyriwr o Athrofa Croesoswallt. Daeth yno i ddechreu ei weinidogaeth yn mis Mai y flwyddyn hono, ac urddwyd ef Hydref 22ain, yn yr un flwyddyn. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol yn ei urddiad, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth: Edmund Jones, Pontypool, Stephen Lloyd, Brynberian, David Thomas, Penmain, John Griffiths, Abergavenny, John Griffiths, Glandwr, Benjamin Evans, Drewen, a Thomas Bowen, Maesyronen. Cafodd Mr. Davies oes hwy i lafurio yn Hanover nag un gweinidog a fu yno o'i flaen. Bu yno o Mai, 1790, hyd Awst 29ain, 1838, pryd y gorphenodd ei yrfa ddaearol mewn tangnefedd. Yr oedd Mr. Davies yn wr bonheddig yn holl ystyr yr ymadrodd. Yr oedd yn ysgolhaig da, yn ddyn llawn o synwyr cyffredin, yn bregethwr sylweddol, ac yn gwisgo cymmeriad difrycheulyd, a thrwy fod y pethau rhagorol hyn wedi cydgyfarfod ynddo, cadwodd i fyny urddas y weinidogaeth efengylaidd yn yr ardal trwy ei oes hirfaith. Gan nad oedd yn bregethwr poblogaidd, nac yn ddyn cyhoeddus iawn, ni bu ei weinidogaeth yn foddion i luosogi nemawr ar y gynnulleidfa, nac i helaethu terfynau yr achos. Gadawodd yr eglwys rywbeth yn gyffelyb i'r hyn y cafodd hi o ran rhif a safle gymdeithasol. Mae hyn yn fwy nag a ellir ddyweyd am lawer un mwy poblogaidd a chyhoeddus na Mr. Davies.

Yn y flwyddyn 1839, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Llewellyn R. Powell, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o'r America, lle y buasai yn gweinidogaethu am rai blynyddau. Yn y flwyddyn hono hefyd ail-adeiladwyd y capel. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Hanover, agorodd Mr. Powell ysgol er parotoi pregethwyr ieuangc i'r colegau. Daeth ei ysgol yn fuan yn enwog iawn, a chafodd amryw o'r rhai sydd yn awr yn cael eu rhifo yn mysg prif weinidogion Cymru ddechreuad eu haddysg yno. Nid oedd Mr. Powell mwy na'i ragflaenor, Mr. Davies, yn bregethwr doniol, ond yr oedd ynddo elfenau a'i gwnelent yn ddyn o ddylanwad a gwasanaeth yn y gymydogaeth. Yn y flwyddyn 1847, rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, a dychwelodd i'r America.

Yn mis Medi, 1847, derbyniodd Mr. Robert Thomas, Rhaiadrwy, alwad unfrydol yr eglwys, â'r hon y cydsyniodd, ac yno y mae o'r pryd hwnw hyd yn awr yn ddefnyddiol a pharchus gan yr eglwys a'r holl ardal. Yn y flwyddyn 1869, adeiladwyd festri ac ysgoldy cyfleus yn ymyl y capel. Rhodd y diweddar Miss Morgans, o'r Lower-house, Llanover, yw yr adeiladau cyfleus hyn.

Er nad yw eglwys Hanover ond bychan o rif, mewn cyferbyniad i lawer o eglwysi Cymru, nid oes un eglwys fwy anrhydeddus yn y Dywysogaeth. Mae o oes i oes wedi cael ei gwneyd i fyny o rai o'r teuluoedd mwyaf parchus yn yr holl wlad. Gwneir y gynnulleidfa i fyny yn bresenol o bersonau o naw o wahanol blwyfydd. Mae hon yn un o'r ychydig eglwysi gwaddoledig, sydd hyd yn hyn wedi diange rhag i'w gwaddol droi yn felldith iddi. Ni wna ychydig waddol un niwed i eglwys tra y byddo ei gweinidogion yn ddynion da, cydwybodol, a llafurus, ond y perygl yw i ddiogyn diegwyddor, didalent, a diwerth, ddyfod i feddiant o waddol eglwysig. Bydd un o'r fath yn sicr o farchogaeth achos i farwolaeth. Mae llawer achos, a fuasai gynt yn flodeuog, wedi cael ei ddifetha gan waddol. Gweddied eglwys Hanover am i'w gweinidog teilwng presenol, pan elwir ef oddiwrth ei waith at ei wobr, gael ei ddilyn gan un o gyffelyb feddwl.

Cafodd y personau canlynol, ac o bosibl ereill, nad ydym ni wedi dyfod o hyd i'w henwau, eu codi i bregethu yn eglwys Hanover.

William Morgan, mab Mr. Francis Morgan, Mount Pleasant. Dechreuodd bregethu yn fuan ar ol sefydliad Mr. Emanuel Davies yno fel gweinidog, ac ar ol cael ychydig o addysg ragbarotoawl, dan ofal ei weinidog, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ngwrexham, yn Chwefror 1792. Wedi gorphen ei amser yno, cafodd ei urddo yn Brigstock, yn sir Northampton, yn 1796; a dywedai ei athraw, Dr. Jenkin Lewis, y buasai yn debyg o droi allan yn ddyn defnyddiol. Symudodd o'r sir hono i gymydogaeth Preston, yn sir Lancaster, a bu farw yn Elswick, er's tua deng mlynedd ar hugain yn ol. Yr oedd Mrs. Jones, gwraig gyntaf Mr. Morris Jones, gynt o'r Farteg, yn chwaer iddo.

Daniel James. Yr oedd y gwr da hwn yn enedigol o ardal Brynberian, sir Benfro. Mae yn debygol mai ei adnabyddiaeth â Mr. E. Davies, yr hwn hefyd oedd yn enedigol o'r ardal hono, a'i harweiniodd i gartrefu yn ardal Hanover. Yn Hanover y dechreuodd bregethu, ac yn mhen rhyw amser wedi hyny, symudodd i ardal y New Inn, ac ymaelododd yn yr eglwys hono. Amaethwr cyfrifol ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu yn pregethu yn achlysurol am fwy na hanner can' mlynedd. Cyfrifid ef yn Gristion cywir, ac yr oedd yn ddyn dylanwadol a defnyddiol iawn. Bu farw Mehefin 25ain, 1857, yn 84 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y New Inn. Mab iddo ef yw Mr. D. B. James, gweinidog presenol Castle Green, Caerodor.

Josiah Davies, mab Mr. E. Davies, y gweinidog. Ganwyd ef Hydref 29, 1794. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg o'i oed, ac yn fuan wedi hyny dechreucdd bregethu. Yn Ionawr 1816, derbyniwyd ef i'r Athrofa Orllewinol, yr hon a gedwir yn awr yn Plymouth. Yn nechreu y flwyddyn 1821, urddwyd ef yn King's Bridge, lle y bu yn llafurio gyda pharch a llwyddiant am naw mlynedd. Bu farw o dwymyn, yn niwedd y flwyddyn 1829. Gadawodd wraig a dwy eneth fechan, ac eglwys a'i carai yn fawr, i alaru am ei farwolaeth yn mlodeu ei ddyddiau. Dywedir ei fod yn bregethwr da, synwyrol, a derbyniol, ond nad oedd yn hyawdl.

Theophilus Davies, mab arall i Mr. E. Davies, y gweinidog. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1797, ac addysgwyd ef yr un amser a'i frawd yn yr Athrofa Orllewinol. Cafodd ei urddo yn Ludlow, yn 1821. Bu wedi hyny am flynyddau yn gweinidogaethu yn Newton, gerllaw Liverpool, ac yn Hungerford. Mae yn awr yn byw yn agos i Stockport, ac yn teimlo baich henaint yn ei wasgu. Mae Mr. Davies wedi treulio oes yn gymmeriad difrycheulyd, ac yn barchus gan bawb o'i gydnabod.

Edward Charles Jenkins. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mehefin 1813, a dechreuodd bregethu yn 1821. Urddwyd ef yn Salem, Bedwellty, yn 1830. Gweler ychwaneg am y brawd rhagorol hwn yn hanes Salem, a Moriah, Rhymni.

Robert Jermain Thomas, B.A., mab Mr. R. Thomas, gweinidog presenol Hanover, a anwyd Medi 7fed, 1840, yn Rhaiadr, lle yr oedd ei dad y pryd hwnw yn gweinidogaethu. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Hanover pan yn bymtheg mlwydd oed. Bu am flwyddyn, ar ol hyn, yn is-athraw mewn ysgol a gedwid gan Mr. Alfred Newth, gweinidog yr Annibynwyr yn Oundle, sir Northampton. Yna, pan yn un-ar-bymtheg oed, ymaelododd (matriculated) yn mhrif athrofa Llundain. Yr oedd cyn hyn yn ysgolhaig rhagorol. Treuliasai dair blynedd yn ysgol Llanymddyfri, dan arolygiad yr enwog Archddeacon Williams, lle y meistrolodd y Lladin, y Groeg, a'r Ffrangaeg, Ar ol ymaelodi yn mhrif athrofa Llundain, dychwelodd adref a dechreuodd bregethu. Ei destyn cyntaf oedd Heb. xiii. 8. Y flwyddyn ganlynol derbyniwyd ef i New College, Llundain, lle y bu yn fyfyriwr diwyd am bum' mlynedd, ac yr enillodd y Mill's Scholarship. Cafodd hefyd ei raddio yn B.A. yn mhrif athrofa Llundain. Mehefin 4ydd, 1863, urddwyd ef yn Hanover, i fyned allan yn genhadwr dan Gymdeithas Genhadol Llundain. Y mis canlynol, ymadawodd ef a'i briod am Shanghai, lle y tiriasant yn ddyogel yn Rhagfyr 1863. Y Mawrth canlynol, bu farw ei briod ar enedigaeth plentyn anamserol. Effeithiodd hyny yn ddwys iawn ar ei gorff a'i feddwl, fel y bu am dymor yn analluog i wneyd dim. Ar y dybiaeth y buasai newid lle yn fanteisiol er adferiad ei iechyd, penodwyd ef i genhadaeth Peking. Ar ei ffordd tuag yno, cymerodd daith genhadol faith trwy Corea. Yn ystod y daith hono, meistrolodd iaith Coreaid. Efe oedd y cenhadwr Protestanaidd cyntaf a ymwelodd a Corea. Derbyniwyd ef yn garedig gan y bobl. Bu yn egluro natur cristionogaeth iddynt, a ffurfiodd farn uchel am gyfaddasder y dalaeth hono fel maes cenhadol.

Wedi lladdiad y cenhadau Ffrengig, gan y Coreaid yn 1865, parotodd yr Uchel Lyngesydd Ffrengig ryfelgyrch yn eu herbyn, a chan nad oedd neb o'r Ewropeaid yn China, ond Mr. Thomas, yn medru siarad eu hiaith, perswadiwyd ef i fyned gyda y llynges fel cyfieithydd. I'r dyben hwnw aeth o Peking i Chefoo, a phan na ddarfu iddo gyfarfod a'r llynges yno, gan faint ei awydd i ymweled a Corea, er perffeithio ei wybodaeth o'r iaith, aeth i fyny ar fwrdd llong Americanaidd o'r enw, The General Sharman. Pan aeth y llong ar y traeth ar ymyl yr afon, daeth y Coreaid yno a lladdasant y dwylaw a'r teithwyr, a Mr. Thomas yn eu plith. Tybir mai ar y 29ain o Awst 1866, y gwnaed yr erchyll-waith hwn. Fel hyn, rhoddwyd terfyn disymwth ar yrfa un o'r cenhadon mwyaf gobeithiol a anfonwyd allan o Frydain erioed. Yr oedd gallu Mr. Thomas i ddysgu ieithoedd yn ddigyffelyb. Cyn myned allan o'r wlad hon, yr oedd wedi meistroli y rhan fwyaf o brif ieithoedd Ewrop, ac ni bu nemawr o amser yn China cyn meistroli iaith y wlad hono, ac fel y nodasom, yr oedd wedi dyfod yn lled gyfarwydd yn iaith y Coreaid. Pe cawsai fyw, mae yn debygol y buasai yn un o'r ieithwyr goreu yn y byd, a thrwy hyny buasai o wasanaeth annirnadwy i'r achos cenhadol; ond gwelodd y Llywydd doeth yn dda ei alw ato ei hun ar gychwyniad ei yrfa o ddefnyddioldeb. Gan ei fod Ef yn anfeidrol yn ei ddoethineb, ein dyledswydd ni yw tewi, neu ddyweyd, "Yr Arglwydd yw efe gwnaed a fyddo da yn ei olwg."

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS QUARRELL:—Mae hanes y gweinidog llafurus hwn yn lled. anhysbys i ni. Mae yn debygol mai un genedigol o sir Faesyfed neu sir Drefaldwyn ydoedd. Yr ydym yn cyfarfod ag amryw bersonau o'r enw Quarrell yn hanes Annghydffurfwyr yr ail ganrif ar bymtheg. Gweddw Mr. Paul Quarrell, masnachwr yn Presteign, oedd gwraig gyntaf Mr. Vavasor Powell; James Quarrell oedd gweinidog cyntaf yr eglwys Annibynol yn yr Amwythig, ac yr oedd un Edmund Quarrell yn bregethwr efengylaidd yn sir Henffordd yn amser y werin-lywodraeth. Mae yn dra thebygol fod Mr. Thomas Quarrell yn frawd neu ryw berthynas agos i'r personau hyn. Yr oedd ef yn pregethu yn 1653, ac o bosibl rai blynyddau cyn hyny. Yn 1669 yr oedd yn byw yn yr Eglwys Newydd, gerllaw Caerdydd, ac yn pregethu, fel gweinidog Annibynol yn y plwyfydd cylchynol. Yn 1675, sefydlodd fel gweinidog yr eglwys a gyfarfyddai yn Llantrisant, Llangwm, a Brynbiga, Mynwy. Mae Mr. Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, yn cymeryd yn ganiataol mai Bedyddiwr oedd Mr. Quarrell, gan iddo gael galwad gan eglwys yr oedd y rhan fwyaf o'i haelodau y pryd hwnw yn Fedyddwyr! ond yr ydym ninau yn cymeryd yn ganiataol nad Bedyddiwr ydoedd gan nad oes un hanes iddo gael ei drochi; gan ei fod yn cael ei ddarlunio fel gweinidog Annibynol yn 1669; gan nad oes un gair o son am dano yn hanes cymanfaoedd y Bedyddwyr o 1688 hyd 1709, pryd y crybwyllir dynion llawer mwy dinod a berthynent i'r un eglwys ag yntau; a chan fod yr eglwys yn selog dros gymundeb rhydd. Dywedir mai mewn lle o'r enw Tygwyn, yn mhlwyf Llangwm, y preswyliai Mr. Quarrell yn mlynyddau diweddaf ei oes, ac iddo farw mewn henaint teg tua y flwyddyn 1709.

WALTER WILLIAMS:—Yr hanes cyntaf a gawn am dano ef yw iddo gymeryd trwydded i bregethu fel gweinidog Annibynol yn nhy Edward Walters, yn mhlwyf Llangybi, Mynwy, Gorphenaf 22ain, 1672, a'r hanes diweddaf sydd genym yw, ei fod yn cynnorthwyo Mr. Quarrell yn y flwyddyn 1690. Nis gwyddom pa cyhyd y bu fyw wedi hyny.

HUGH PUGH:—Ychydig iawn o hanes y gŵr doniol hwn hefyd sydd genym. Yn mhlwyf Llanllowell, gerllaw Brynbiga, y preswyliai, ond nis gwyddom pa un ai yno ai yn rhywle arall y ganwyd ef. Mae yn lled sier mai yn Brynllwarch y derbyniodd ei addysg. Cafodd ei urddo fel gweinidog y rhan Annibynol o eglwys Mr. Quarrell ryw bryd cyn y flwyddyn 1696, ond nis gwyddom pa un ai fel cynnorthwywyr neu fel canlyniedydd y gŵr da hwnw yr urddwyd ef. Yr oedd yr eglwys yn ei amser ef yn cyfarfod yn y Goitre, Brynbiga, a Llangwm. Dywed Mr. Thomas, yn hanes y Bedyddwyr, iddo ef weled "Pulpud Mr. Pugh yn Brynbiga," a bod "H. P., 1696," mewn llythyrenau wedi eu gwneyd o hoelion pres arno. Dywed hefyd fod y geiriau "Dum vivet" wedi eu gosod yr un modd ar bulpud y Goitre. Mae yn ymddangos fod rhyw anghydfod lled fawr wedi cyfodi rhwng Mr. Pugh a rhai o'i frodyr yn y weinidogaeth, tua y flwyddyn 1698. Mae Mr. Rees Protheroe, wedi hyny o Gaerdydd, mewn llythyr at Mr. Blackmore, o Worcester, dyddiedig Rhagfyr 27ain, 1698, yn dyweyd fod Hugh Pugh wedi rhoddi ergyd mawr i grefydd yn sir Fynwy, trwy siarad yn fychanus am weinidogion, a dyweyd anwireddau cywilyddus. Gan nas gwyddom ddim am achosion a natur yr annghydfod hwn nis gallwn fanylu dim yn ei gylch. Yr oedd Hugh Pugh yn bregethwr poblogaidd annghyffredin, ac yn Galfiniad selog. Dywed hanesydd y Bedyddwyr wrthym ei fod wedi newid ei farn am fedydd cyn ei farw, ac wedi bwriadu cymeryd ei drochi, ond iddo farw yn lled ddisymwth o'r frech wen cyn cael cyfle i hyny. Ychydig o bwys a roddwn ar y chwedl hon. Mae llawer o bregethwyr enwog ar ol Hugh Pugh wedi cael y gair iddynt newid eu barn am fedydd heb un sail i hyny. Tybir i Mr. Pugh farw yn ddyn cymharol o ieuangc tua y flwyddyn 1709. Yr oedd Mr. Pugh yn derbyn tair punt y flwyddyn o'r Drysorfa Gynnulleidfaol.

MORGAN THOMAS:—Nid oes genym unrhyw hanes i'w roddi am y gŵr da hwn, amgen na'i fod yn weinidog yn y Goitre yn 1718, a'i fod y pryd hwnw yn cyfaneddu yn agos i'r Drehir, ar gyffiniau sir Henffordd. Yr ydym yn cael yr enw Morgan Thomas yn mysg y myfyrwyr a addysgwyd gan Mr. Jones, Brynllwarch, ac y mae yn lled sicr mai efe oedd hwnw. Mac amser ei farwolaeth yn anhysbys i ni.

REES DAVIES:—Mae yn ymddangos mai un genedigol o sir Aberteifi oedd ef. Yn llechres yr aelodau, yn hen lyfr eglwys Abergavenny, yr ydym yn cael enw Rees Davies, a'r nodiad canlynol o berthynas iddo: "Rees Davies, yn awr (1724) yn weinidog yr eglwys yn y Goitre. Derbyniwyd ef i'r eglwys hon trwy lythyr o eglwys Crugymaen, yn sir Aberteifi.' Yn y cyfrif o eglwysi Annibynol sir Fynwy, a anfonwyd i'r Dr. John Evans, o Lundain, gan Mr., wedi hyny Dr., Joseph Stennet, o Abergavenny, yn Ionawr 1718, enwir Rees Davies fel gweinidog yn Cromindee. Nis gwyddom am un lle o'r enw yn sir Fynwy. Tebygol mai Mr. Stennet neu Dr. Evans, wrth gopio ei law ysgrif, ddarfu gam-sillebu enw rhywle, yn yr hwn y cynelid gwasanaeth crefyddol gan gangen o eglwys y Goitre, ac mai Mr. Davies oedd yn benaf yn gwasanaethu y lle hwnw, tra y gwasanaethid y fam eglwys gan Mr. Morgan Thomas. Pa fodd bynag, yn 1724, Mr. Davies oedd y gweinidog yn y Goitre, a pharhaodd i fod yn weinidog i'r eglwys hon hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1767, pryd yr oedd yn 73 oed. Cawn y nodiad canlynol o berthynas iddo yn nyddlyfr Phillip Dafydd: "Medi 22ain, 1767. Bum heddyw yn Hanover yn nghladdedigaeth Mr. Rees Davies. Yr oedd ef yn dwyn cryn sel dros achos Ymneillduaeth, a gwnaeth fwy tuag at ei gynnaliaeth, mewn pethau allanol, na nemawr, ond gyda golwg ar ei weinidogaeth yn gyffredinol, bu yn aflwyddianus iawn, ac oherwydd ei ymddygiad anngharedig yr oedd er ys blynyddau wedi myned yn hollol ddiddefnydd. Medi 27ain. Heddyw bum yn pregethu pregeth angladdol y parchedig Mr. Rees Davies, yn Hanover. testyn oedd Phil. i. 21. Cefais rwyddineb i lefaru, ac yr oedd y capel yn llawn."

EVAN LEWIS. Yr ydym wedi methu cael allan le genedigaeth y gweinidog rhagorol hwn. Cafodd ei dderbyn i athrofa Abergavenny yn Mawrth, 1767. Ymddengys fod ei athraw, Dr. B. Davies, yn coleddu barn uchel iawn am dano. Yn ei adroddiadau blynyddol o sefyllfa yr athrofa, cawn gyfeiriadau parchus iawn ato. Yn yr adroddiad am 1769 dywed, "Y mae Evan Lewis yn wr ieuangc o alluoedd da, ac yn myned yn mlaen yn rhagorol mewn dysgeidiaeth." Etto, yn yr adroddiad am 1770 dywed, "Y mae Evan Lewis yn myned rhagddo yn foddhaol gyda ei wersi, ac y mae ei lafur fel pregethwr yn y gymydogaeth yn dderbyniol a defnyddiol iawn." Urddwyd ef, fel y nodasom, yn nechreu haf y flwyddyn 1771, a bu farw Tachwedd 28ain, 1773, yn 25 oed. Crybwylla Phillip Dafydd ei farwolaeth yn ei ddyddlyfr yn y geiriau canlynol: "Tachwedd 30ain, 1773—Heddyw y clywais am farwolaeth Mr. Evan Lewis, gweinidog Hanover. Gwr ieuangc gobeithiol iawn, ond fe drefnodd Duw nad oedd ei yrfa i fod ond un fer. Colled ddirfawr i'r wlad yw ei farwolaeth. Ychydig gyda dwy flynedd yn ol yr urddwyd ef."

THOMAS DAVIES. Y cwbl a wyddom am dano ef yw iddo gael ei urddo yn Hanover, Mai 23ain, 1776, ac iddo ymadael yn mhen llai na phedair blynedd. Mae genym yn awr ger ein bron gyffes o'i ffydd, a anfonwyd ganddo i'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Mehefin 1778, lle y canfyddwn mai Calfiniad o ran golygiadau ydoedd. Cyfrifid ef yn bregethwr galluog gan Phillip Dafydd, yr hwn a ysgrifena fel y canlyn yn ei ddyddlyfr am Gorphenaf 1af, 1778: "Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Mhenmain, lle y pregethodd Mr. John Davies, Cwmllynfell, (Alltwen), oddiwrth Ioan x. 28. Yr oedd yn ei bregeth yn dal yn gadarn dros ddyogelwch a pharhad y saint, ond yr wyf fi yn barnu fod ei ddull o ymresymu uwchlaw cyrhaeddiadau pobl gyffredin. Ar ei ol pregethodd Mr. Thomas Davies, o Hanover, oddiwrth Mat. v. 4. Pregeth dda ac eglur, ac yn cael ei thraddodi gyda gwresogrwydd gweddaidd."

WILLIAM THOMAS, gweler hanes eglwys y Bala.

EMANUEL DAVIES. Ganwyd ef yn ardal Brynberian, sir Benfro, Mawrth 3ydd, 1758. Derbyniwyd ef yn aelod i eglwys Brynberian pan oedd yn bymtheng mlwydd oed. Ar ol iddo ddechreu pregethu bu am ychydig amser yn yr ysgol gyda Mr. John Griffiths, Glandwr, ac yn amser y Nadolig 1784, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Croesoswallt. Dywed ei athraw, Dr. Edward Williams, yn ei adroddiad o sefyllfa yr athrofa, yn Rhagfyr, 1785, nad oedd ganddo ond gwybodaeth anmherffaith iawn o'r Lladinaeg pan dderbyniwyd ef, ond ei fod yn dysgu yn rhagorol, a'i fod yn obeithiol iawn o ran galluoedd a duwioldeb. Drachefn yn ei adroddiad dyddiedig Rhagfyr 26ain, 1786, dywed fod Emanuel Davies yn mynel rhagddo yn gwbl foddhaol. Yn fuan wedi gorphen ei amser yn yr athrofa derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Hanover. Dechreuodd ei weinidogaeth yno yn Mai, 1790, ac urddwyd ef yn yr Hydref canlynol. Yn mhen ychydig amser ar ol ei urddiad priododd ferch Mr. Rees Harris, Pwllheli. Yr oedd Mrs. Davies yn perthyn i un o'r teuluoedd hynotaf am enwogrwydd crefyddol yn y deyrnas, am yr hwn y bydd genym lawer i ddyweyd pan ddeuwn at hanes sir Gaernarfon. Yr oedd hi ei hun yn ferch i weinidog parchus; ei mham yn ferch i Mr. David Williams, gweinidog enwog yn Ninbych; a'i mham hithau yn ferch i'r enwog Daniel Phillips, gweinidog Pwllheli o'r flwyddyn 1684 hyd 1722. Cafodd Mr. a Mrs. Davies naw o blant, a chawsant yr hyfrydwch o weled wyth o honynt yn grefyddwyr selog a defnyddiol. Aeth dau o'u meibion, fel y nodasom, i'r weinidogaeth. Bu farw Mr. Davies Awst 29ain, 1838, ond bu Mrs. Davies fyw amryw flynyddau ar ei ol ef.

Ystyrid Mr. Davies, o Hanover, gan bawb a'i hadwaenai, uchel ac isel, fel dyn dirodres, Cristion cywir, a gweinidog da i Iesu Grist.

Yr oedd yn ddyn cyflawn o wybodaeth, yn rhagorach ysgolhaig na'r rhan fwyaf o weinidogion ei oes, ac yn bregethwr buddiol, er nad oedd yn ddoniol, ac felly llanwodd ei gylch yn anrhydeddus ac yn barchus yn yr un lle am naw a deugain o flynyddau. Claddwyd ef wrth gapel Hanover, Medi 5ed, 1838, pryd y gweinyddwyd gan Mr. E. Rowlands, Pontypool; Mr. D. Stephenson, Brynmawr; Mr. H. Jones, Tredegar, a Mr. Morris Jones, o'r Farteg.

LLEWELLYN R. POWELL sydd enedigol o ardal Ty'nycoed, Glyntawy. Dechreuodd bregethu yn ieuangc iawn. Ar ol gorphen ei amser fel myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd, ymfudodd i'r America. Yn 1839, daeth yn ol i Gymru, ac ar ol bod yn weinidog yn Hanover am wyth mlynedd dychwelodd i'r America. Mae yn bresenol yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Alliance, Ohio.

ROBERT THOMAS, a anwyd yn ardal Rhosllanerchrugog, sir Ddinbych, a dderbyniwyd yn aelod eglwysig, ac a ddechreuodd bregethu dan yr enwog W. Williams, o'r Wern. Derbyniodd ei addysg yn athrofa y Drefnewydd, ac urddwyd ef yn Glandwr, Abertawy, yn 1837; symudodd oddiyno yn mhen dwy flynedd i Raiadrwy, ac yn 1847, symudodd i Hanover, lle y mae yn bresenol, a lle yr hyderwn y bydd yn ddefnyddiol a dedwydd am flynyddau etto.

ABERGAVENNY.

Mae yn amlwg fod Ymneillduaeth wedi ymdaenu i raddau helaeth yn y dref hon a'r gymydogaeth yn lled gynar yn yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid dyma le genedigaeth William Wroth, "apostol Cymru," a Richard Symmonds, athraw yr enwog Richard Baxter, ac nid yw Trefela, lle genedigaeth Walter Cradock, ond ychydig filldiroedd oddiyma; ond y mae yn ymddangos i'r rhan luosocaf o Ymneillduwyr y dref a'r ardal hon fabwysiadu golygiadau y Bedyddwyr tua'r flwyddyn 1650, neu yn fuan ar ol hyny; a'r enwad hwnw sydd wedi parhau y cryfaf a'r lluosocaf yma, o'r pryd hwnw hyd yn bresenol. Mae manylion hanes dechreuad yr achos Annibynol yn Abergavenny, yn anhysbys i ni. Yn rhestr y trwyddedau, a roddwyd i'r Ymneillduwyr i bregethu, yn 1672, yr ydym yn cael tai John Edwards a Christopher Price yn y dref wedi eu trwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol gan yr "Ailfedyddwyr," a thŷ William Pritchard, yn Llandilopertholeu, i'r un enwad. Tŷ John Watkins, yn Llanwenarth, yw yr unig le o addoliad a drwyddedwyd i'r Annibynwyr yn y gymydogaeth. Cafodd y ty hwn ei drwyddedu Awst 10fed, 1672. Mae yn debygol i'r ychydig enwau a ymgynnullent i dy John Watkins, Llanwenarth, yn 1672, lwyddo i gadw yr achos yn fyw hyd nes cael nawdd Deddf y Goddefiad, yn 1688. Yn ol tystiolaeth y diweddar J. J. Morgan, Ysw., un o ddiaconiaid yr eglwys, yr hwn a fu farw Tachwedd 3ydd, 1850, yn 76 oed, henafiaid yr hwn a fuont o oes i oes yn brif golofnau yr achos er ei gychwyniad, yn niwedd y flwyddyn 1690, yr agorwyd y lle addoliad cyntaf gan yr Annibynwyr yn y dref. Ystafell eang yn Cross Street, ar gongl Monk Street ydoedd. Yn yr ystafell hon y parhawyd i ymgynnull hyd y flwyddyn 1707, pryd yr adeiladwyd capel yn Castle Street.[11] Mae enw y gweinidog cyntaf yma yn anhysbys i ni. Tua'r flwyddyn 1695, darfu i wr ieuangc o'r enw Roger Griffiths, gael ei ddewis yn weinidog. Bu yma hyd y flwyddyn 1699, pryd y bradychodd Ymneillduaeth, ac y cymerodd bersoniaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Darfu i'w waith ymwrthod ag Ymneillduaeth greu cryn gynhwrf yn y dref, a thrwy yr oll o'r byd bychan Ymneillduol yn Nghymru, oblegid yr oedd yn wr dysgedig iawn, wedi derbyn ei addysg ar draul yr Ymneillduwyr; ac newydd agoryd athrofa yn Abergavenny, yr hon a amcenid i fod yn olyniad i athrofa enwog Samuel Jones, Brynllwarch. Bu yr amgylchiad agos a bod yn ddinystr i'r achos yn Abergavenny, yr hwn am ychydig amser, a rwygwyd yn ddarnau. Mewn llythyr a ysgrifenwyd at Mr. Blackmore, o Worcester, yn Hydref neu Tachwedd 1698, gan Mr. Rees Protheroe, wedi hyny o Gaerdydd, yr hwn a fuasai am ychydig amser yn athrofa Mr. Griffiths, dywedir: "Yr wyf yn clywed fod Mr. Griffiths, fy niweddar athraw, wedi pregethu yn ddiweddar beth tramgwyddus iawn i bobl Abergavenny. Efe a gyfiawnhaodd Eglwys Loegr o ran ei chred a'i ffurfiau, gan haeru fod ei holl seremonïau, nid yn unig yn ffafriol i weddeidd-dra, ond hefyd eu bod yn arwydd o ostyngeiddrwydd. Efe am hanfonodd i ymaith o'i athrofa er mwyn gwneyd lle i'w nai." Etto, mewn llythyr arall, gan yr un ysgrifenydd, a chyfeiriedig at yr un person, dyddiedig yn Llanymddyfri, Rhagfyr 27ain, 1698, ysgrifena: "Y mae Mr. Griffiths wedi pregethu pregeth yn bleidiol i gydffurfiad, ac wedi rhoddi copi o honi i rai o'r Eglwyswyr, yr hyn er hyny sydd wedi bod yn destyn siarad cyson yn mysg yr offeiriaid. Darfu iddo wedi hyny gadw un cyfarfod cymundeb, ond nid oedd ei eglwys yn gynnwysedig o ychwaneg na Charles Morgan, Samuel Rogers, dau ereill o'r dref, pump o fyfyrwyr, a phump o filwyr-pedwar-ar-ddeg ynghyd. Mae tua phedwar-ar-hugain o bersonau yn myned i dŷ cyfarfod Williams, gweinidog yr Ailfedyddwyr."[12]

Wedi i'r bobl gael eu gwasgaru trwy yr amgylchiad gofidus hwn, bu Mr. Weaver, gweinidog yr eglwys Ymneillduol yn Henffordd, yn gynnorth-wyol iawn i'w casglu yn nghyd a'u haildrefnu. Mae enw "Mr. Evans, diweddar o Abergavenny "yn nghofnodion y Bwrdd Henadurol yn Llundain, am y flwyddyn 1706. Yr ydym yn casglu oddiwrth y cry-bwylliad hwn fod y Mr. Evans yma, pwy bynag ydoedd, wedi bod yn weinidog i'r eglwys am flwyddyn neu ddwy ar ol ymadawiad Roger Griffiths.

Yn y flwyddyn 1703, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Cole, gwr ieuangc o ddinas Caerloew, yr hwn a fu yn weinidog ffyddlon a llwyddianus yma am bymtheng mlynedd. Teimlai Mr. Cole trwy yr holl amser ei fod, fel Sais analluog i bregethu yn y Gymraeg, mewn cylch nad oedd yn addas i'w lenwi, gan fod cynifer o Gymry uniaith yn y dref a'r cylchoedd. Ymdrechodd lawer i feistroli y Gymraeg, fel ag i allu pregethu yn effeithiol ynddi, ond pan welodd fod ei ymdrechion yn aflwyddianus, penderfynodd ymadael, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam eglwys yn Nghaerloew, a symudodd yno yn 1718. Gadawodd Mr. Cole yr eglwys mewn agwedd flodeuog o ran rhif a sefyllfa gymdeithasol, fel y dengys y cyfrif canlynol, a anfonwyd i Dr. John Evans, Llundain, yn Ionawr, 1718: "Rhif y gynnulleidfa 280, yn cynnwys 1 yswain, 16 o foneddigion, 7 yn byw ar eu tiroedd eu hunain, 63 o fasnachwyr, 1 amaethwr yn talu rhent am ei dir, a 7 o weithwyr." Yr oedd gan aelodau y gynnulleidfa 13 o bleidleisiau dros sir Fynwy, 3 dros sir Frycheiniog, 1 dros sir Forganwg, ac 1 dros sir Henffordd; 23 dros fwrdeisdrefi Mynwy, 3 dros Gaerodor, a 3 dros Henffordd. Dilynwyd Mr. Cole yn y weinidogaeth gan Dr. Hugh May, yr hwn a urddwyd ar y 13eg o Fai, 1719. Cawn y cofnodiad canlynol yn hen lyfr yr eglwys o berthynas i urddiad Dr. May: "Mai 7fed, 1719—cyfarfyddodd yr eglwys yr hwyr heno i weddio yn ddifrifol ar Dduw am ei fendith neillduol a'i gymorth i bawb sydd i gymeryd rhan yn y gwaith o urddo ein gweinidog dewisedig, Dr. Hugh May. Ein taer ddymuniad yw i'r gwaith gael ei gyflawni dydd Mercher nesaf, y 13eg o'r mis hwn. Arwyddwyd dros yr eglwys genyf fi David David, Diacon." Cafodd gweddi daer yr eglwys ar yr achlysur hwn ei hateb, fel y dengys y ffaith hynod a ganlyn, yr hon a gofnoda Mr. Peter, yn Hanes Crefydd yn Nghymru, ar awdurdod llythyr oddiwrth Mr. Harries, Abergavenny: "Dywedir mai ar ddydd ei urddiad y cafodd Dr. May ei wir ddychwelyd at yr Arglwydd. Wedi gorphen y gwasanaeth aeth y gweinidogion i giniaw; a phan welsant nad oedd Dr. May yn eu plith, hwy a ymofynasant am dano, a chawsant ef yn ei ystafell ddirgel yn wylo dagrau yn hidl, a chyfaddefodd wrthynt na wyddai efe ddim yn gadwedigol am grefydd hyd y dydd hwnw. Bu yn weinidog ffyddlon a llwyddianus o'r dydd hwnw hyd ddydd ei farwolaeth." Ni bu tymor ei weinidogaeth ond byr. Bu farw yn Abergavenny yn y flwyddyn 1723.

Canlyniedydd Dr. May oedd Mr. Fowler Walker, o Bridgenorth, yn sir Amwythig. Dyddiad ei alwad ef i Abergavenny yw Tachwedd 3ydd, 1723, a pharhaodd i lafurio yno gyda pharch a llwyddiant, hyd ei farwolaeth yn 1751. Nis gwyddom am ddim nodedig a gymerodd le yn hanes yr eglwys yn ystod gweinidogaeth Mr. Walker. Ymddengys i bethau fyned yn mlaen yno yn esmwyth a chysurus trwy yr holl amser, heb un cyfnewidiad hynod er gwell na gwaeth.

Ionawr 13eg, 1752, rhoddwyd galwad i Mr. David Jardine, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, a'r hon y cydsyniodd. Er nad oedd Mr. Jardine, pan ymsefydlodd yno, ond llange ugain oed, cyfododd i barch a dylanwad yn uniongyrchol, a chynyddodd ei ddefnyddioldeb, o flwyddyn i flwyddyn, hyd ei farwolaeth annisgwyliadwy yn 1766, pryd nad oedd ond pedair-ar-ddeg-ar-hugain oed.

Tuag amser sefydliad Mr. Jardine yn Abergavenny, yr oedd sefyllfa pethau yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin yn dra annghysurus, am fod Mr. Samuel Thomas, un o'r athrawon, yn cael ei gyfrif yn Ariad, a'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, ynghyd a'r eglwysi hyny yn Nghymru a lynent with Galfiniaeth, o'r herwydd wedi colli eu hymddiried yn y Sefydliad, ac yn tynu ymaith eu cynnorthwy oddiwrtho.

Mawrth 7fed, 1753, pasiwyd y penderfyniad canlynol gan y Bwrdd Cynnulleidfaol, Fod y Bwrdd hwn yn sefyll yn benderfynol ar i Mr. Davies symud yr athrofa o Gaerfyrddin." Gwrthododd Mr. Davies gydsynio a'r penderfyniad, ac mewn canlyniad ataliodd y Bwrdd bob cynnorthwy oddiwrthy Sefydliad yn Chwefror 1755. Yn mhen ychydig gyda dwy flynedd ar ol hyn, sef Mawrth 7fed, 1757, dewisodd y Bwrdd Cynnulleidfaol Mr. Jardine yn athraw, a sefydlwyd yr athrofa Annibynol Gymreig yn Abergavenny. Ychwanegodd yr amgylchiad hwn yn fawr at enwogrwydd a dylanwad yr achos Annibynol yn y dref a'r gymydogaeth, a daeth Abergavenny i fod yn fath o Jerusalem i Annibynwyr Cymru. Cynelid yno gyfarfod pregethu yn flynyddol, yn nglyn ag arholiad y myfyrwyr, trwy yr hyn y rhoddid cyfleusdra i bobl y dref a'r cylchoedd i gael clywed pregethwyr enwocaf yr enwad, o flwyddyn i flwyddyn. Cynyddodd yr athrofa yn fuan i'r fath bwysigrwydd fel y bu raid i Mr. Jardine gael is-athraw i'w gynnorthwyo, ac yn 1759, dewiswyd Mr. Benjamin Davies, yr hwn oedd newydd orphen ei amser fel myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, i'r swydd hono.

Ar farwolaeth Mr. Jardine, dewiswyd Mr. (wedi hyny Dr.) Davies yn weinidog yr eglwys, ac yn athraw yr athrofa. Penodwyd ef yn athraw gan y Bwrdd Cynnulleidfaol, Rhagfyr 8fed, 1766, ac urddwyd ef yn weinidog yr eglwys, Medi 30ain, 1767. Ysgrifena Phillip Dafydd, yn ei ddyddlyfr, gyferbyn a'r diwrnod hwnw fel y canlyn: "Heddyw bum yn Abergavenny yn urddiad Mr. Benjamin Davies, ac yr wyf fi yn barnu fod y gwasanaeth yn felus i laweroedd yno. Traddododd Mr. Davies ei gyffes mewn modd effeithiol iawn. Yr wyf fi yn credu ei fod ef yn ddyn difrifol a da, ac y bydd yn fendith fel athraw a gweinidog." Felly y bu. Mwynhaodd yr eglwys dangnefedd, cysur, a gradd helaeth o lwyddiant dan ei weinidogaeth efengylaidd a melus, a chafodd ef yr anrhydedd o addysgu yn yr athrofa rai o weinidogion enwocaf Lloegr a Chymru, megys Dr. Edward Williams, o Rotherham; Dr. Jenkin Lewis, o'r Casnewydd; Mr. William Thomas, Bala; Mr. Thomas Bowen, Castellnedd, &c. Ar ol llafurio yn yr athrofa yn Abergavenny am ddwy flynedd ar hugain, ac yn yr eglwys am bedair blynedd ar ddeg, darfu i Dr. Davies, er mawr dristwch i'w eglwys a galar i'w holl gyfeillion yn Nghymru, gydsynio a chais taer y Bwrdd Cynnulleidfaol i ymgymeryd a'r swydd o athraw arosol a chlasurol, yn ngholeg Homerton, ac yn niwedd y flwyddyn 1781, symudodd o Abergavenny i Lundain. Yn ol ystadegau Mr. Josiah Thompson, yr oedd y gynnulleidfa yma yn 400 o rif, yn 1773.

Ar ol ymadawiad Dr. Davies, bu yr eglwys am ddwy flynedd a hanner heb un gweinidog. Mehefin 17eg, 1784, derbyniodd Mr. J. Griffiths, Caernarfon, alwad, a sefydlodd yn weinidog yno. Yr oedd rhyw ysbryd drwg wedi ymlusgo i mewn i'r eglwys yn awr, fel yr ymranodd yn mhen ychydig gyda dwy flynedd wedi sefydliad Mr. Griffiths yno. Aeth ei gyfeillion allan gyda Mr. Griffiths, a chymerasant ystafell yn y dref at addoli ynddi, a chadwodd ei wrthwynebwyr feddiant o'r capel. Mae achosion a natur yr annghydfod hwn yn gwbl anhysbys i ni, ond yr ydym yn casglu fod yn rhaid fod rhyw ysbryd satanaidd iawn wedi ymlusgo i mewn i'r eglwys, cyn y gallasai fod yno neb yn ddigon drygionus i gyfodi yn erbyn gweinidog o enwogrwydd, duwioldeb, a boneddigeiddrwydd Mr. Griffiths. Bu Mr. Griffiths yn pregethu i'w gyfeillion yn yr ystafell o Medi 1786 hyd ddechreu y flwyddyn 1796, pryd y cydsyniodd a galwad ei hen gyfeillion yn Nghaernarfon, ac y dychwelodd yno. Mae yn debygol i'w bobl yn Abergavenny, ar ol ei ymadawiad, ddychwelyd i'r capel yn Castle Street.

Cawn yr hanes canlynol am yr ymryson hwn yn llyfr yr eglwys:— "Medi 25ain, 1786, cymerodd ymraniad gofidus le yn yr eglwys Ymneillduol yn Castle Street. Am y pedair blynedd dilynol bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog ynddi." Hyn yw yr oll a hysbysiri ni am yr amgylchiad. Dichon y gellir priodoli yr ysbryd ymrysongar a ddaeth i mewn i'r eglwys, i raddau, i'r cyfnewidiad disymwth yr oedd wedi myned trwyddo. Trwy ymadawiad Dr. Davies, symudiad yr athrofa i Groesoswallt, ac amddifadrwydd yr eglwys o weinidog am ddwy flynedd a hanner, taflwyd yr achos o ganol cyffro ac enwogrwydd i radd o ddinodedd a llonyddwch; aeth yn nos bruddaidd arno, ar ol dydd bywiog a llewyrchus; ac felly cafodd y gelyn ddyn gyfle i hau efrau yn y maes.

Yn y flwyddyn 1790, rhoddodd y rhan o'r eglwys a arosasai yn y capel alwad i Mr. Ebenezer Skeel, myfyriwr o athrofa Croesoswallt, a'r hon y cydsyniodd, a symudodd i Abergavenny Medi 17eg, yn yr un flwyddyn. Mehefin 15fed, 1791, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Nid oes genym un hanes am lwyddiant nac aflwyddiant neillduol ar yr achos yn amser gweinidogaeth Mr. Skeel. Cyn pen dwy flynedd wedi ei sefydliad dechreuwyd adeiladu capel newydd o fewn ychydig latheni i'r hen addoldy. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr Ebrill 23ain, 1793, ac agorwyd y capel Gorphenaf 13eg, 1794. Yr oedd yr eglwys wedi parhau i ymgynnull yn yr addoldy a adeiladesid yn 1707 hyd yn awr, yna trowyd yr adeilad hwnw yn dy anedd, ac y mae er's ugeiniau o flynyddau bellach wedi bod yn dy y gweinidog. Eiddo yr eglwys ydyw. Yn amser yr athrofa, llofft y ty oedd y capel, ac yn yr ystafelloedd odditano y cynelid yr athrofa. Nis gwyddom pa un ai dyna agwedd yr adeilad o'r dechreuad, ynte ai a'r gychwyniad yr athrofa y cyfnewidiwyd ef i'r agwedd hono.

Parhaodd cysylltiad Mr. Skeel a'r eglwys, fel ei gweinidog, hyd ddiwedd Awst 1806, yna ymneillduodd o'r weinidogaeth, ond parhaodd i drigfanu yn y dref, ac i bregethu yn achlysurol yno ac mewn lleoedd ereill yn yr ardal, hyd derfyn ei oes.

Ar ol ymadawiad Mr. Skeel derbyniodd Mr. William Harries, o Stroud, alwad gan yr eglwys, a dechreuodd ei weinidogaeth Tachwedd 14eg, 1806. Parhaodd cysylltiad Mr. Harries a'r eglwys hon hyd Tachwedd 9fed, 1817, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny. Mae yn ymddangos i Mr. Harries fod yn lled barchus a llwyddianus yma dros rai blynyddau, ond cyn yn hir terfyniad tymor ei weinidogaeth cymerodd rhyw annghydfod le drachefn, ac ymneillduodd nifer o'r aelodau o'r capel, gan osod i fyny addoliad mewn anedd-dy, lle y bu Mr. Skeel, yr hen weinidog, yn pregethu iddynt, nes i Mr. Harries ymadael, yna dychwelasant i'r capel.

Tua haf y flwyddyn 1818, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. James James, o Benyblaen, yr hwn a fuasai yn bregethwr poblogaidd iawn yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd am un mlynedd ar bymtheg ar hugain. Nid cynt y dechreuodd ei weinidogaeth nag y darfu i'w hyawdledd, ei ffraethineb, a'i ddull bywiog ac efengylaidd o bregethu, dynu sylw cyffredinol. Gorlanwyd y capel o wrandawyr, a pharhaodd felly hyd farwolaeth y gweinidog enwog, yr hyn a gymerodd le Ebrill 10fed, 1831. Yn fuan ar ol marwolaeth Mr. James, rhoddwyd galwad i Gymro poblogaidd arall, sef Mr. David Lewis, o'r Aber, sir Frycheiniog. Dechreuodd Mr. Lewis ei weinidogaeth yn Abergavenny, Ionawr 1af, 1832, a pharhaodd yntau fel ei ragflaenydd, yn boblogaidd a rhyfeddol o barchus hyd derfyn ei oes. Bu farw yn gymharol o ieuangc, Ebrill 25ain, 1837, felly ni chafodd pobl Abergavenny fwynhau ei weinidogaeth felus ac adeiladol ef ond am y tymor byr o bedair blynedd a thri mis. Dichon na fu yr eglwys hon ar unrhyw adeg o'i hanes mor llewyrchus, bywiog, tangnefeddus, a lluosog ag y bu yn nhymor gweinidogaeth Mr. James a Mr. Lewis.

Yn Tachwedd 1837, rhoddwyd galwad i Mr. Henry John Bunn, yr hwn a fuasai yn weinidog urddedig yn Lloegr am bedair blynedd ar ddeg cyn hyn. Dechreuodd Mr. Bunn ei weinidogaeth yma ar y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1838, a rhoddodd ei swydd i fyny yn 1868, o herwydd y llesgedd cydfynedol a henaint. Yn niwedd blwyddyn gyntaf gweinidogaeth Mr. Bunn ail-adeiladwyd a helaethwyd y capel, fel y mae yn awr yn addoldy eang, ac yn cynnwys cymaint arall o eisteddleoedd a'r addoldy blaenorol.

Yn mhen ychydig fisoedd, ar ol i Mr. Bunn roddi i fyny ei weinidogaeth, rhoddwyd galwad i Mr. E. H. Smith, myfyriwr o New College, Llundain, yr hwn a urddwyd Awst 12fed, 1869. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. Halley, y Proffeswr Newth, o Lundain, Mr. J. O. Hill, o Henffordd, ac ereill. Hyderwn y bydd oes Mr. Smith yn faith, a'i lwyddiant yn fawr.

Yn y modd hwn yr ydym wedi olrhain hanes yr hen eglwys hon am gant a phedwar ugain mlynedd, a than ofal tri-ar-ddeg o weinidogion. Buasai yn ddymunol pe buasai rhywrai yn yr oesau a aethant heibio yn cofnodi y pethau mwyaf nodedig a ddigwyddasant yn nglyn a'r achos, ond nid ymddengys fod dim o'r fath beth wedi cael ei wneyd. Mae hen lyfr yr eglwys, yr hwn sydd yn awr yn meddiant y cofrestrydd cyffredinol yn Llundain, yn cynnwys ychydig ffeithiau y rhai a gopiwyd yn ofalus genym ychydig wythnosau yn ol. Trwy lawer o ymchwiliadau, yr ydym wedi Ilwyddo i ddyfod o hyd i amseriad dechreuad a diweddiad tymor gweinidogaeth pob un o'r gweinidogion, ond buasai yn ddymunol genym allu dyfod o hyd i lawer o bethau pwysig yn hanes yr achos, y rhai, mae yn debygol na ddaw neb byth o hyd iddynt. Mae yn ddiamheuol i'r eglwys hon, o bryd i bryd, gyfodi llawer o'i haelodau i fod yn bregethwyr a gweinidogion, ond yr ydym ni wedi methu dyfod o hyd i enwau a hanes mwy na dau o honynt.

George Frederick Ryan, D.D. Yn Abergavenny y ganwyd ef yn y flwyddyn 1790. Ei dad oedd Mr. George Ryan, yr hwn a urddwyd yn Minsterly, sir Amwythig, yn 1806, ac a fu am amryw flynyddau yn weinidog yno ac yn y Trallwm. Yr ydym yn lled dybio mai yn Abergavenny y dechreuodd yntau bregethu—yr un modd ei fab. Cafodd Dr. Ryan ei ddwyn i fyny yn Abergavenny, gyda pherthynas i'w fam. Ymunodd a'r eglwys yn Castle Street pan yn bedair-ar-ddeg oed, ac yn mhen dwy flynedd wedi hyny dechreuodd bregethu. Bu am tua dwy flynedd yn pregethu yn achlysurol yn ei fam eglwys a'r pentrefydd oddiamgylch. Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i oed, aeth i Groesoswallt i ysgol a gedwid yno gan Mr. Whitridge, gweinidog yr Annibynwyr, ac oddiyno aeth i athrofa Rotherham, lle y derbyniwyd ef yn y flwyddyn 1814. Bu yn weinidog yn olynol yn Bridlington, Stockport, Huddersfield, a Beverley. Perchid ef yn fawr yn mhob lle. Ysgrifenodd lyfr poblogaidd iawn o'r enw, "The Dialogist," yr hwn a gafodd gylchrediad helaeth iawn yn Lloegr ac America, ac a gyfieithwyd hefyd i'r Ellmynaeg. Cyhoeddodd hefyd amryw bregethau a mân draethodau. Bu Dr. Ryan farw o'r parlys, yn Dore, yn agos i Sheffield, Awst 19eg, 1865.

James Johns, B.A., Northwich, sir Gaerlleon. Ail fab yr enwog David Johns, Madagascar, yw Mr. Johns. O eglwys Castle Street, Abergavenny, yr anfonwyd yntau i'r athrofa.

Cynhaliwyd Cymanfa Dwyreiniol Deheudir Cymru, yn Abergavenny, Mehefin 29ain, 30ain, 1808. Clywsom amryw hen bobl yn adrodd am un peth a ddigwyddodd yn y Gymanfa hono nad yw mewn un wedd yn anrhydedd i goffadwriaeth Mr. W. Harries, y gweinidog. Yn yr oedfa ddeg o'r gloch, yr ail ddydd, yr oedd "Cloch Arian Cymru," sef yr hyawdl David Davies, Abertawy, yn pregethu oddiwrth Eph. ii. 4, 5. Yr oedd Sais wedi pregethu o'i flaen, a phan gododd ef i fyny, dechreuodd y cannoedd Cymry uniaith oedd wedi dyfod yno o Ferthyr, Pontypool, Penmain, &c., loni ac ymwasgu yn mlaen. Yn raddol twymai y pregethwr a'r gwrandawyr. Gyda ei fod ef yn derchafu ei lais swynol treiglai miloedd o ddagrau dros ruddiau y dorf, a chlywid llawer amen doddedig yma a thraw dros y cae. O'r diwedd aeth y teimlad mor angerddol nes yr oedd y miloedd yn cael eu hysgwyd fel cae o wenith o flaen yr awel, a phawb yn disgwyl bob eiliad fod y floedd fawr anorchfygol ar dori allan. Pan oedd pawb agos wedi annghofio eu hunain, cododd Mr. Harries i fyny, a chyffyrddodd a braich y pregethwr, gan ddyweyd lle y clywai pawb, "Arafwch Syr, nid wyf yn ewyllysio i'm pobl i gael gweled annrhefn ac anweddeidd-dra." Mae yn hawddach dychymygu na darlunio beth allasai fod teimlad yr hen Gymry hwyliog ar y pryd at y brawd oerllyd, a allodd yn y modd diseremoni hyny, daflu dwfr ar y tân. Clywsom hyn yn cael ei adrodd ddeng mlynedd ar hugain yn ol, gan hen bobl eirwir oeddynt yn gweled ac yn clywed y cwbl.

COFNODION BYWGRAFFYDDOL.

ROGER GRIFFITHS. Mae amser a lle genedigaeth y gwr hwn yn anhysbys i ni. Yn 1690, 1691, a rhan o 1692, yr oedd yn fyfyriwr yn athrofa enwog Dr. Kerr, yn Highgate, gerllaw Llundain, ar draul y Bwrdd Henadurol a Chynnulleidfaol (canys yr oedd y ddau enwad y pryd hwnw heb ymwahanu yn ddau Fwrdd). Yn mysg ei gydfyfyrwyr yno yr oedd yr enwog Jabez Earl, (wedi hyny D.D.) a Charles Owen, (Dr. Charles Owen, wedi hyny o Warrington, mae yn lled sicr). Yn 1693, ac mae yn debygol yn 1694, yr oedd Roger Griffiths yn fyfyriwr yn mhrif athrofa Utretch, yn Holland. Ar draul y Bwrdd yn Llundain yr oedd yno hefyd. Hysbysir ni hefyd fod y Dr. Samuel Annesley, taid yr enwog John Wesley, wedi cyfranu rhyw gymaint at draul ei addysg tra y bu yn athrofa Dr. Kerr.[13] Mae yn debygol, fel y nodasom yn barod, mai yn y flwyddyn 1695 yr ymsefydlodd R. Griffiths yn Abergavenny, ac iddo ar ei sefydliad agoryd ei athrofa yno. Dywedir fod Thomas Perrot, Caerfyrddin, Samuel Jones, Tewksbury, ac amryw eraill, wedi cael rhan o'u haddysg yn ei athrofa ef, ac y mae yn ddigon tebygol, pe buasai yn parhau yn ffyddlon i egwyddorion Ymneillduaeth, y buasai yn ddefnyddiol iawn, ac yn gwneuthur iddo ei hun enw anfarwol, canys mae yn ymddangos ei fod yn ysgolhaig o'r radd uchaf. Ond wrth droi yn fradwr i'r achos, a'r bobl yr oedd yn ddyledus iddynt am ei addysg, diraddiodd ei hun, a disgynodd yn lled ieuangc i'r bedd yn eithaf dibarch. Dywed Dr. Calamy, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef yn Utretch, iddo, ar ol ei ymadawiad a'r Ymneillduwyr, gael ei wneyd yn berson New Radnor, ac yn archddiacon Aberhonddu, ac iddo yn fuan wedi hyny farw yno yn druenus ac mewn dyled, heb ddyweyd dim yn ychwaneg.[14] Nid Roger Griffiths yw y diweddaf o fradychwyr Ymneillduaeth a derfynasant eu hoes yn ddinod, yn ddiddefnydd, ac yn ddibarch.

THOMAS COLE. Ganwyd y gweinidog rhagorol hwn yn Ninas Caerloew, yn y flwyddyn 1679. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol ac yn Ymneillduwyr Puritanaidd. Anfonasant eu mab yn ieuangc iawn i athrofa oedd newydd gael ei hagoryd yn Nghaerodor, gan Mr. Isaac Noble a Mr. John Reynolds, dau weinidog Ymneillduol, gyda bwriad i'w ddwyn i fyny i'r weinidogaeth. Er ei fod yn llange o ymarweddiad gweddus tra y bu yn yr athrofa, etto yr oedd yn amddifad o lywodraeth crefydd ar ei enaid. Ar ol gorphen ei amser yn yr athrofa, dychwelodd adref, ac yn lle ymroddi i waith y weinidogaeth, aeth yn lled wyllt ac anystyriol. Pan glywodd Mr. Noble, un o'i athrawon, nad oedd wedi dechreu pregethu, ysgrifenodd lythyr difrifol ato, atebodd yntau ef, nas gallasai o gydwybod fyned i bregethu, gan nad oedd ganddo un sail i farnu ei fod yn ddyn duwiol. Bu yn y sefyllfa hono am flwyddyn neu ddwy.

Ond ryw ddiwrnod, pan yn eistedd yn y ty, a'i fam a dynes arall yn eistedd yn y pen arall i'r ystafell, yn ymddyddan ar ryw fater crefyddol, clywodd ryw ran o'r ymddyddan, yr hyn a effeithiodd gymaint ar ei feddwl fel y gorfu iddo fyned allan o'r ystafell, a myned i'w ystafell wely i weddio. O'r dydd hwnw allan daeth yn wr ieuangc difrifol iawn, ac ymgyssegrodd ar unwaith i waith y weinidogaeth. Yn 1703, fel y nodwyd, urddwyd ef yn Abergavenny, ac yn 1718, symudodd i Gaerloew, lle y treuliodd weddill ei oes yn llafurus a defnyddiol iawn. Byddai yn fynych yn myned allan i'r pentrefydd cylchynol i bregethu. Un prydnawn, pan oedd yn pregethu yn Nymphsfield, tarawyd ef gan angau ar ganol ei bregeth. Bu farw bore dranoeth, Awst 4ydd, 1742, yn y bedwaredd flwyddyn a thriugain o'i oed. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. Thomas Hall, o Lundain.[15]

DR. HUGH MAY. Mae hanes y gwr da hwn yn hollol anhysbys i ni. Tybiwn mai o herwydd ei fod wedi cael ei ddwyn i fyny yn feddyg y rhoddid y titl Doctor iddo.

FOWLER WALKER. Ychydig iawn o hanes Mr. Walker sydd yn hysbys i ni. Cafodd ei urddo yn Bridgenorth, sir Amwythig, a bu yno am ychydig flynyddau. Dywedir fod yr achos yn y lle hwnw yn isel iawn pan yr aeth yno, ond iddo trwy ei ddoniau poblogaidd a'i lafur dibaid ei gyfodi i sefyllfa lewyrchus cyn ei ymadawiad. Yn niwedd y flwyddyn 1723 symudodd i Abergavenny, lle yr arosodd hyd derfyn ei oes. Yn 1732 cyhoeddodd lyfr galluog ar Fedydd babanod. Gan ei fod yn barnu fod angen y llyfr ar y Cymry, yn gystal a'r Saeson, cafodd gan un o'i aelodau ei gyfieithu i'r Gymraeg o'i lawysgrif ef, a chyhoeddwyd ef yn y ddwy iaith, yn yr un flwyddyn. Dywedir fod gan Mr. Walker deulu lluosog, a'i fod pan yn teimlo fod ei farwolaeth yn agoshau, yn lled bryderus yn nghylch eu helynt ar ol ei ymadawiad ef. Byddai yn aml tua diwedd ei oes, yn ei weddiau cyhoeddus yn dymuno ar yr Arglwydd am sefyll o blaid y teuluoedd hyny oedd yn debyg o gael eu gadael mewn amgylchiadau anghenus. Gwrandawodd Duw ei weddiau, ar ol iddo farw, trwy gyfodi ei holl blant i amgylchiadau cysurus, a rhai o honynt i feddiant o lawer o gyfoeth. Bu farw, fel y crybwyllwyd, yn y flwyddyn 1751.[16] DAVID JARDINE. Yr oedd efe yn fab i Mr. James Jardine, gweinidog yr eglwys Ymneillduol yn Ninbych, ac yno y ganwyd ef yn y flwyddyn 1732. Yr oedd ei fam yn ferch i'r enwog a'r dysgedig Thomas Baddy, o Ddinbych. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, ac fel y crybwyllwyd yn barod, urddwyd ef yn weinidog yr eglwys yn Abergavenny yn 1752, a dewiswyd ef yn athraw yr athrofa yn 1757. Llanwodd y ddwy swydd i foddlonrwydd cyffredinol. Ymddengys ei fod yn ddyn galluog a gweithgar iawn. Achwyna Mr. Phillip Dafydd ei fod yn lled anystwyth fel pregethwr yn yr iaith Gymraeg. Cafodd Mr. Jardine ei dori i lawr yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb. Bu farw ar ol cystudd byr iawn, Hydref 1af, 1766, yn bedair ar ddeg ar hugain oed. Ymadawodd ar byd mewn sefyllfa meddwl nodedig o ddedwydd, ac yn ol pob ymddangosiad mewn mwynhad helaeth o gymdeithas â'r Arglwydd. Un o'r ymadroddion diweddaf a ddaeth dros ei wefusau, ar ol gorphen gweddi daer, ydoedd, "Gad i mi orphwys fy mhen ar dy fynwes anwyl dros byth, O fy Iesu tirion, fy Ngwaredwr mawr." Pregethodd Dr. Davies ei bregeth angladdol oddiwrth Luc xxiii. 28. Cyfeiria Phillip Dafydd at ei farwolaeth yn ei ddyddlyfr, yn y geiriau canlynol: "Hydref, 1766. Ar y dydd cyntaf o'r mis hwn bu farw y Parchedig Mr. Jardine, o Abergavenny, yn mlodau ei ddyddiau, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb, gan adael ar ei ol weddw alarus a dau blentyn ieuangc. Colled a bwlch mawr iawn. 'O Arglwydd Dduw, pwy a gyfyd Jacob canys bychan yw."" Merch Mr. Lewis Jones, o Benybontarogwy, oedd gwraig Mr. Jardine. Cyfododd ei ddau fab i sefyllfaoedd o urddas yn y byd hwn. Yr oedd yr hynaf, Dr. Lewis Jardine, yn feddyg enwog yn Nghaerodor am rai blynyddau, ac ymfudodd oddiyno i America, lle y terfynodd ei oes. Ei fab David, yr hwn a ddygesid i fyny i'r weinidogaeth, a ymwrthododd ag egwyddorion ei dadau, ac a gofleidiodd syniadau crefyddol Dr. Priestley. Pan yr oedd yn fyfyriwr yn Homerton dan ofal Dr. Davies, cyfaill mynwesol ei dad, deallwyd ei fod wedi llyngeu golygiadau Undodaidd, ac mewn canlyniad trowyd ef allan o'r athrofa, ond derbyniwyd ef i athrofa Daventry i orphen ei addysg. Urddwyd ef yn weinidog cynnulleidfa o Undodiaid yn Warwick. Symudodd yn fuan i Bath. Priododd ddynes gyfoethog iawn yno, ond ni chafodd ef fawr o fwynhad o'i chyfoeth, oblegid bu farw yn ddisymwth o'r Apoplexy, Mawrth 10fed, 1797, yn 31 oed. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau yn 1798, dan olygiad Mr. J. P. Estlin, o Gaerodor, y rhai a ddangosant yn eglur fod Mr. Jardine yn ddyn o alluoedd rhagorol.

BENJAMIN DAVIES, D.D. Mab ieuengaf Mr. Rees Davies, Canerw, Llanboidy, sir Gaerfyrddin, oedd Mr. Davies. Ganwyd ef yn 1739 neu 1740. Yr oedd ei dad yn dirfeddianydd cyfrifol, ac yn weinidog parchus gyda'r Annibynwyr, yn gyntaf yn y Drefach, ac wedi hyny yn Penygraig, gerllaw Caerfyrddin. Derbyniodd Benjamin Davies y rhan gyntaf o'i addysg mewn ysgol a gedwid gan y dysgedig Thomas Morgan, o Henllan, ac yn 1754 neu ddechreu 1755, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd bedair neu bum' mlynedd yn ddiwyd a llwyddianus fel myfyriwr. Ar derfyniad ei amser yn Nghaerfyrddin, aeth yn is-athraw i'r athrofa Annibynol yn Abergavenny, ac ar farwolaeth Mr. Jardine, yn 1766, penodwyd ef yn brif athraw, a'r flwyddyn ganlynol urddwyd ef yn weinidog ar yr eglwys. Yn niwedd 1781, rhoddodd y swyddau hyn i fyny ar ei symudiad i fod yn athraw yn ngholeg Homerton. Yn Chwefror, 1783, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Fetter Lane, Llundain, a dechreuodd ei weinidogaeth yno ar y 24ain o Ebrill, yn yr un flwyddyn. Rhoddodd ei swydd i fyny fel athraw yn Homerton yn haf y flwyddyn 1787, o herwydd cystudd, ond parhaodd yn weinidog yn Fetter Lane hyd Gorphenaf 31ain, 1795, pryd y gorfodwyd ef gan gystudd i roddi ei swydd i fyny er mawr ofid i'r eglwys, lle yr oedd yn cael ei garu yn fawr. Yna symudodd o Lundain i Reading, lle y trigfanodd am dymor. Pregethai yno yn achlysurol, pan ganiatai ei iechyd iddo, er hyfrydwch nid bychan i Mr. Douglas a'i bobl. Symudodd oddiyno i Wells, lle y bu yn byw rai blynyddoedd gyda ei nith, merch ei frawd. Oddiyno drachefn symudodd i Bath, lle y treuliodd weddill ei oes yn ddedwydd iawn dan weinidogaeth felus Mr. Jay. Pregethai yn fynych yn lle Mr. Jay. Bu farw Gorphenaf 22ain, 1817, yn 78 oed. Pregethodd Mr. Jay ei bregeth angladdol Awst 3ydd, oddiwrth Ioan xi. 16; a phregethodd Mr. Burder, ei ganlyniedydd yn Fetter Lane, bregeth angladdol yno, Awst 10fed, oddi-wrth Psalm xxxvii. 34. Dywed Mr. Jay fel y canlyn am dano yn ei bregeth: "Cristion yw y ffurf uwchaf o ddyn, a gall pawb a'i hadwaenai ef, farnu mor deilwng ydoedd o'r enw Cristion. Nid oedd un amser yn an-mharod i ddyweyd ei brofiad. Yr oedd ei grefydd, nid yn unig yn ddidwyll, ond yn enwog; ofnai Dduw yn fwy na llawer. Yr oedd ei gymmeriad yn gyfan a chyson; yr un fath oedd ef yn ei deulu ag yn ei gylch swyddogol -Israeliad yn wir. Yr wyf fi yn ei gyfrif yn un o'r dynion mwyaf duwiolfrydig a adnabum erioed; yr oedd ganddo serch anghyffredin at dŷ Dduw; ac wedi iddo gael ei gyfyngu i'w dŷ gan fethiant, peth arferol fyddai ei weled ar foreuau y Sabbothau yn wylo o herwydd nas gallasai fyned i'r addoliad cyhoeddus. Ni byddai un amser yn y weddi deuluaidd yn oer neu ddideimlad. Mewn ymddyddanion ar faterion crefyddol yr oedd yn wastad yn gadarn dros ei farn ei hun, ond yn nodedig o hynaws a rhydd-frydig. O ran ei farn, Calfiniad cymhedrol ydoedd, ond ymgyfeillachai yn frawdol â Christionogion o wahanol syniadau.

Y tro cyntaf y gwelais i ein cyfaill anrhydeddus yn ei gystudd olaf, dywedodd, "Yr wyf yn myned. Yr wyf wedi darfod a'r byd, ac nid wyf yn anewyllysgar i ymadael o hono, canys mi a wn i ba le yr wyf yn myned; ac er nad wyf yn ddiamynedd i aros amser fy Arglwydd, 'y mae arnaf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.' Wrth ymadael âg ef, i gychwyn i'm taith tua Llundain, dywedodd wrthyf, 'Nid wyf yn mwynhau perlewyglon, ond yr wyf yn mwynhau heddwch. Dichon y byddaf fi wedi myned cyn y dychwelwch chwi; peidiwch fy ngorganmol ar ol i mi farw; os byddwch yn dyweyd rhyw beth am danaf fi, na fydded na mwy na llai na hyn: i mi farw yn bechadur tlawd, edifeiriol wrth droed y Groes, gan dynu fy holl gysuron oddiwrth y Gwaredwr.'

Y tro cyntaf yr ymwelais âg ef, wedi iddo gael ei gyfyngu i'w wely, dywedais, 'Wel, fy hen gyfaill, pa fodd y mae gyda chwi?' Atebodd, 'Mi a wn pwy am hachubodd, ac a'm galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol fy ngweithredoedd i, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras. Yr wyf wedi bod yn chwilio natur fy sylfaen, ac y mae yn un lydan a chadarn. Yr wyf yn cael nas gellir ei siglo."

Dywed Mr. Jay, yn ei ddarluniad o hono fel pregethwr: "Yr oedd yn bregethwr da, ond yn ddiffygiol mewn gwreiddioldeb ac egluriadau byw-iog (illustrations); nid oedd ei ddull o draddodi ychwaith mor rymus ag i gymeryd llawn feddiant o sylw y gwrandawyr, nes cael y fath ddystawrwydd trwy y lle, fel na chlywid dim oddieithr disgyniad ambell ddeigryn. Yr oedd ei bregethau oll, pa fodd bynag, wedi eu cyfansoddi yn dda, yn llawn o synwyr, ac yn efengylaidd, canys yr oeddynt yn gyflawn o groes a gras y Gwaredwr, ac yn argymhell dyledswyddau Cristionogol oddiar gymhellion "efengylaidd." Arferai Dr. Davies ddyweyd am dano ei hun, fel pregethwr, nad oedd yn ei bregethau ddigon o sense i foddio dynion meddylgar, na digon o nonsense i foddio ffyliaid.

Bu yn briod dair gwaith, ond ni chafodd blant o un o'i wragedd. Miss Watkins, o Abergavenny, oedd ei wraig gyntaf. Claddodd hi yn lled fuan wedi iddo symud i Lundain, ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddrwg iawn ar ei iechyd.

O herwydd ei wylder mawr, anfynych y cafwyd gan Dr. Davies gyhoeddi ei gyfansoddiadau, ond mae yr ychydig a gyhoeddodd yn werthfawr, ac yn deilwng o safle a dysg yr awdwr. Ei bregeth ar Dduwdod Crist, a'i atebiad i Dr. Priestley, yr hwn a elwir Primitive Candour, yw y ddau alluocaf o'r ychydig a gyhoeddodd.

JOHN GRIFFITHS. Yn nglyn â hanes Eglwys Penydref, Caernarfon, y daw ef dan ein sylw, am mai yno y terfynodd ei weinidogaeth.

EBENEZER SKEEL. Yr oedd Mr. Skeel (yn enedigol o sir Benfro, ac yn gefn-der i Mr. Thomas Skeel, gynt gweinidog Trefgarn. Mae yn debygol mai yn eglwys Trefgarn y dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i athrofa Croesos-wallt, Hydref 8fed, 1787, a chan iddo ddechreu ei weinidogaeth yn Aber-gavenny, Medi 17eg, 1790, ni bu ond prin dair blynedd yn yr athrofa. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny, fel y gwelsom, yn 1806, a threuliodd weddill ei oes i gadw ysgol yn y dref. Bu farw Gorphenaf 16eg, 1830, yn 65 oed, a chladdwyd ef yn y gladdfa berthynol i gapel Castle Street.

Cyn belled ag yr ydym ni wedi cael ar ddeall, nid oedd dim yn nodedig o ragorol na dim yn nodedig o wael yn Mr. Skeel fel pregethwr. Fel ysgolfeistr bu yn enwog iawn. Derbyniodd lluaws o blant masnachwyr ac amaethwyr, a rhai pregethwyr, addysg yn ei ysgol, ac y mae pawb fu dan ei ofal yn siarad yn uchel iawn am dano. Dywedir ei fod yn ddyn o ymddangosiad ac ymddygiad boneddigaidd dros ben.

WILLIAM HARRIES. Ganwyd ef mewn lle a elwir Trenichol, yn agos i Solfach, sir Benfro, yn mis Awst, 1754. Yr oedd yn un o chwech neu saith o blant. Derbyniodd addysg glasurol dda yn more ei oes yn yr ysgol Ramadegol yn Nhyddewi. Pan yn ddwy ar bymtheg oed, gwnaeth broffes gyhoeddus o grefydd, yn eglwys Trefgarn, mae yn lled sicr. Yn fuan ar ol hyny aeth i'r athrofa i Abergavenny. Yn 1779, derbyniodd alwad oddi-wrth yr eglwys Annibynol yn Stroud, sir Gaerloew, ac urddwyd ef yno yn mis Mawrth, 1780. Isel iawn oedd yr achos yn Stroud y pryd hwnw. Chwech ar hugain oedd rhif yr aelodau, sef chwech o ddynion, ac ugain o wragedd. Dechreuodd pethau wellhau yn fuan ar ol ei sefydliad ef yno, a chynyddodd yr eglwys yn raddol, nes yr oedd erbyn y flwyddyn 1800, yn gant a naw o rifedi. Yn nechreu y ganrif bresenol cyfododd rhyw annghydfod rhwng y gweinidog a rhai o'r aelodau, fel yr anafwyd ei ddefnyddioldeb a'i gysur ef i'r fath raddau, nes y barnodd mai doethineb fuasai iddo ymadael. Yn Tachwedd, 1806, symudodd i Abergavenny, lle y bu hyd Tachwedd, 1817, pryd y rhoddodd ei weinidogaeth i fyny. Y flwyddyn ganlynol, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bruton, yn Ngwlad yr Haf. Bu yno am bum' mlynedd, ac yna bu raid iddo roddi ei swydd i fyny o herwydd colli ei olygon. Symudodd ef a'i deulu i Gaerodor yn 1823, lle yr arosodd, ac y bregethai yn achlysurol, hyd derfyn ei oes. Traddododd ei bregeth olaf Tachwedd 7fed, 1830. Ei destyn oedd, Heb. ii. 3. Ar yr 21ain o'r un mis, aeth i'r capel yn ei iechyd arferol, ond yn mhen ychydig fynudau ar ol iddo eistedd, tra yr oedd y gynnulleidfa yn canu, crymodd ei ben a bu farw mewn eiliad.

Yr oedd Mr. Harries yn ddyn o uniondeb diwyrni, ac yn un o feddwl penderfynol iawn—efallai yn ormodol felly mewn rhai amgylchiadau; yn garedig a boneddigaidd iawn; yn ysgolhaig ardderchog, ac yn wr o wybodaeth tuhwnt i nemawr; ac uwchlaw y cwbl, yr oedd yn gristion didwyll. Cafodd deulu lluosog iawn. I ferch iddo, yr hon sydd yn byw yn Nghaerodor, yr ydym ni yn ddyledus am amryw o'r ffeithiau uchod.[17]

JAMES JAMES, a anwyd mewn amaethdy o'r enw Penyblaen, yn mhlwyf Aberedw, sir Faesyfed, Tachwedd 24ain, 1760. Ei dad oedd perchenog Penyblaen, a rhai tyddynod eraill. Yr oedd y teulu oll yn hollol ddigrefydd, ac yn ffyrnig o elynol i grefydd mewn unrhyw ffurf Ymneillduol. Parhaodd James, fel y lleill o'r teulu, yn anystyriol nes yr oedd yn ugain oed. Yna cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd mewn ffordd anghyffredin iawn. Ryw brydnawn, wrth ddychwelyd adref o farchnad Llanfair-muallt, clywai lef yn gwaeddi "Tragywyddoldeb," yn yr iaith Saesonig, dair gwaith yn olynol. Edrychodd oddiamgylch, ond ni chanfyddodd un dyn yn agos i'r lle, ac ni chafodd byth allan fod yno neb. Effeithiodd y peth yn ddwys ofnadwy ar ei feddwl. Aeth adref ac i'w wely, lle y bu am rai dyddiau yn yr ing meddwl mwyaf dirdynol. Yn ei drallod anfonodd am un Mrs. Morgans, o'r Gelynen, gwraig grefyddol o'r gymydogaeth. Darfu i'w hymddyddanion hi ddofi ei loesion, trwy ei gyfarwyddo at Geidwad pechadur. Y dyddiau canlynol ymunodd a chymdeithas fechan o'r Trefnyddion Calfinaidd yn yr ardal. Darfu ei waith yn myned yn Fethodist gynhyrfu gelyniaeth ei dad tuag ato yn annghymodlon. Er mai efe, fel y mab hynaf, oedd yr etifedd yn ol y gyfraith, gwnaeth ei dad, er dial arno am fyned yn Fethodist, ei ewyllys ar y tiroedd i'w frawd ieuengach, a bu farw cyn pen tair blynedd ar ol ei gwneyd. Ond chwareuodd rhagluniaeth o blaid yr erlidiedig; yn mhen tair blynedd ar ol ei dad bu farw ei frawd, a daeth yr eiddo oll i'w feddiant ef. Pan yn ddwy ar hugain oed dechreuodd bregethu. Yn 1786 priododd ag un Miss Woodsuam, Tymawr, sir Drefaldwyn; dynes ieuangc grefyddol iawn. Wedi ymsefydlu yn gysurus yn y modd hwn, ymgyflwynodd yn llwyr i'r gwaith o bregethu. Teithiodd lawer trwy wahanol barthau y Deheudir, ac ymwelai yn achlysurol a rhanau o'r Gogledd. Cyrhaeddodd safle uchel iawn fel pregethwr poblogaidd, a chan ei fod wedi ei eni a'i fagu yn sir Faesyfed, wedi cael ysgol dda yn ei febyd, a threulio ychydig amser yn athrofa Iarlles Huntington, yn Nhrefecca, medrai bregethu yn yr iaith Saesonig yn llawn mor hyawdl ag yn y Gymraeg, yr hyn nas medrai un o bob cant o bregethwyr Cymru yn ei oes ef ei wneyd. Yn 1811, pan urddwyd y pregethwyr cyntaf yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd, yr oedd Mr. James, yn un o'r nifer. Tua yr amser hwnw symudodd i fyw i Drefecca, lle y trigfanodd am saith mlynedd. Yr oedd erbyn hyn wedi myned yn rhy dew a thrwm i deithio nemawr, ond arferai fyned yn lled fynych i Lun—dain, Plymouth, a manau eraill yn Lloegr, i bregethu i gynnulleidfaoedd Saesonig. Yn 1818, ymunodd a'r Annibynwyr, ac ymsefydlodd yn Abergavenny, yn weinidog yr eglwys yn Castle Street, lle llafuriodd fel y nodasom, gyda llwyddiant anghyffredin hyd derfyn ei oes, Ebrill 10fed, 1831. Claddwyd ef yn y gladdfa berthynol i'r capel. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. Thomas Rees, Llanfaple, wedi hyny o Gasgwent.

Yr oedd Mr. James yn ddyn cryf iawn o gorph a meddwl. Meddai lais grymus a soniarus iawn, gwroldeb diofn, ffraethineb dihysbydd, a pharodrwydd ymadrodd anghyffredin. Trwy fod ynddo gydgyfarfyddiad o'r pethau hyn, nis gallasai lai na bod yn bregethwr poblogaidd nodedig. Dichon fod ei wroldeb rai prydiau wedi ei arwain i drin ei wrthwynebwyr yn rhy arw—i'w cyffroi i ddigofaint yn hytrach na'u hargyhoeddi. Yr oedd cryn lawer o sarugrwydd yn ei dymer, fel y byddai ar ddynion annghyfarwydd ag ef dipyn o ofn myned i'w bresenoldeb. Yr oedd ynddo wrth—wynebiad mawr i bob rhodres a choegedd, a dywedai eiriau fel brath cleddyf wrth y rhai y tybiai ef eu bob yn gogwyddo at hyny. Unwaith galwodd myfyriwr o un o'r athrofäau arno yn ei dy, ac yr oedd y myfyriwr wedi cymeryd cryn drafferth, fel yr ymddengys, i drin ei wallt, gan ei godi i fynu yn syth ar ei dalcen, yr hyn yn marn Mr. James, oedd yn arwydd digamsynied o falchder. Eisteddai yr hen wr yn ei gadair freichiau, ac erbyn fod y myfyriwr i mewn yn yr ystafell, disgynodd llygaid Mr. James ar ei wallt, a'r gair cyntaf a ddywedodd cyn cyfarch gwell iddo oedd, "Y dyn, pam 'rych chi'n codi'ch gwrychyn arna i," nes yr oedd arswyd drwy holl esgyrn y myfyriwr druan. Ymddengys fod llawer o'r hen bregethwyr fel yn credu fod sarugrwydd a geirwirder yn hanfodol i wroldeb a gonestrwydd. Ond bu ei ysbryd diofn, a'i benderfyniad diysgog o wasanaeth dirfawr i'r Methodistiaid, yn y cyfnod, pan oedd pwnc yr urddiad yn ysgwyd yr holl gyfundrefn.

Mae yn ymddangos i'w ddylanwad a'i wroldeb ef wneyd cymaint, os nad mwy, na'r eiddo neb o'i gydoeswyr yn y De, tuag at ryddhau Methodistiaeth o lyffetheiriau yr Offeiriaid Methodistaidd a'r Eglwys wladol. Tra yr oedd rhan fwyaf o'r cynghorwyr a'r mân bregethwyr yn crynu ger bron yr offeiriaid fel caethion yn mhresenoldeb eu caethfeistri, byddai Mr. James yn sefyll ger eu bron yn ddiarswyd, ac yn gwrthwynebu eu cynlluniau rhagfarnllyd a threisiol gyda gwroldeb llew.[18]

DAVID LEWIS. Ganwyd Mr. Lewis mewn tŷ a elwir Pantyrathrobach, yn mhlwyf Llanstephan, sir Gaerfyrddin, Chwefror 26ain, 1790. Yr oedd ei rieni yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig, ac yn arferion a defodau yr Eglwys hono yr addysgwyd yntau yn ei febyd. Wedi iddo ddyfod i oed—ran i farnu drosto ei hun, penderfynodd fwrw ei goelbren yn mysg yr Ymneillduwyr. Yn mis Mai, 1807, pan yn ddwy ar bymtheg oed, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Llanybri, gan Mr. David Davies. Yr Hydref canlynol dechreuodd bregethu. Yn uniongyrchol ar ol hyny aeth i ysgol a gedwid yn mhentref Llanybri, gan Mr. John Jeremy, wedi hyny o Lanbedr, a'r flwyddyn ganlynol aeth i'r ysgol Ramadegol a gynelid mewn cysylltiad â'r Coleg yn Nghaerfyrddin. Yn 1809, derbyniwyd ef i'r Coleg, lle yr oedd Mr. Davies, ei weinidog, yn un o'r athrawon. Ar ei ymadawiad o'r athrofa, urddwyd ef yn yr Aber, sir Frycheiniog. Bu yno yn barchus a llwyddianus iawn, ac yn cynyddu yn ei ddylanwad flwyddyn ar ol blwyddyn, o 1813 hyd ddiwedd 1831, pryd y symudodd i Abergavenny.

Cyn gynted ag yr ymsefydlodd yn Abergavenny, cyfododd i sylw a pharch cyffredinol, nid yn unig yn ei gynnulleidfa ei hun, ond trwy yr holl dref. Ychwanegwyd rhai ugeiniau yn fuan at yr eglwys, ac aeth y capel yn llawer rhy fychan i gynnwys y torfeydd a gyrchent i'w wrandaw. Yn y flwyddyn 1836 penderfynwyd adeiladu capel newydd, ond o herwydd ei fod ef wedi dechreu clafychu, gohiriwyd y peth nes gweled pa beth oedd ewyllys yr Arglwydd gyda golwg ar ei was. Waeth waeth yr aeth ef nes i'w fywyd defnyddiol gael ei ddwyn i derfyniad, Ebrill 25ain, 1837, yn nechreu yr wythfed flwyddyn a deugain o'i oed. Bu mewn poenau mawr rai misoedd cyn ei farw, ond pan gwynid ef gan ei gyfeillion o herwydd ei boen, ei ateb gwastadol ydoedd, "Yr wyf yn llaw Tad." Claddwyd ei gorph wrth y capel yn ymyl ei ragflaenafiaid Ebenezer Skeel a James James. Ymgynnullodd tua 25 o weinidogion, a thorf fawr o bobl i'w gladdedigaeth, a phregethwyd ei bregeth angladdol y Sul canlynol, gan Mr. D. Davies, Penywaun, oddiwrth Phil. i. 21, "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw,"—testyn a ddewiswyd gan yr ymadawedig yn ei gystudd.

O ran corph, yr oedd Mr. Lewis yn ddyn mawr iawn, ond nodedig o hardd a lluniaidd. Yr oedd ei feddwl hefyd yr un fath a'i gorph yn fawr iawn, ac yn gyfartal yn ei holl ranau. Yr oedd yn nodedig am ei ffraeth— ineb a'i hyawdledd, ac yn bregethwr poblogaidd yn holl ystyr yr ymadrodd. Yr oedd hefyd yn ddyn o dymer ryfeddol o fwyn a serchog, ac yn y nodwedd hyn, tra rhagorai ar ei ragflaenydd Mr. James, yr hwn oedd i raddau yn sarug ei dymer, hyd nes y buasid wedi ymgydnabyddu ag ef. Tra yr oedd mawredd Mr. Lewis yn gorphorol a meddyliol yn rhwymo pawb i edrych i fyny ato fel dyn mawr, yr oedd ei hynawsedd y fath, fel y tynai bob plentyn i nesu ato a'i anwylo. Gadawodd ar ei ol weddw a dwy ferch, ond gofalodd yr Arglwydd yn dirion am danynt yn ei ragluniaeth.

HENRY JOHN BUNN. Gan fod Mr. Bunn yn fyw, byddai ysgrifenu hanes ei fywyd yn anamserol. Ymfoddlonwn, gan hyny, ar grybwyll iddo gael ei addysgu yn athrofa Hoxton, ei urddo yn 1824, iddo fod ddeng mlynedd ar hugain yn weinidog yn Abergavenny, a'i fod yn bregethwr ac yn ysgrifenydd galluog. Hyderwn y caiff lawer o fwynhad o gysuron crefydd yn ei neillduedd a'i henaint.

E. H. SMITH. Efe yw y trydydd ar ddeg, os nad y pedwerydd ar ddeg, neu y pymthegfed gweinidog ar eglwys Annibynol Abergavenny. Disgyned deubarth ysbryd y goreu o'i flaenafiaid arno ef.

HEOL-Y-FELIN, CASNEWYDD.

Fel cangen o eglwys Llanfaches yr ystyrid yr eglwys hon o'r dechreuad hyd ddechreu y ganrif bresenol, ac nid fel eglwys wahanedig ac annibynol. Mae genym brofion fod addoliad yn cael ei gynal gan yr Annibynwyr yn y Casnewydd a'r gymydogaeth agos yn ddiatal er dyddiau Mr. Wroth. Bu Mr. William Erbery dros ryw gymaint o amser yn pregethu yn eglwys y Stow, cyn iddo sefydlu yn Nghaerdydd, ac y mae yn ddiamheuol fod llawer o'r dref a'r cylchoedd yn wrandawyr cyson ar Mr. Wroth a'i gynnorthwyr, yn Llanfaches. O 1646 hyd 1662 cafodd y trigolion eu bendithio â rhan fawr o weinidogaeth nerthol Walter Cradock, Henry Walter, ac eraill. Yr oedd Mr. Walter yn weinidog plwyf y Stow, neu St. Woollos, yn 1660, pryd y cafodd ei droi allan. Yr oedd boneddwr parchus o'r enw Rees Williams yn byw yn y dref hon yn amser y werin-lywodraeth, yr hwn oedd yn Gristion enwog, ac yn bregethwr da. Yr oedd yn un o'r dirprwywyr yn neddf 1649, er taenu yr efengyl yn Nghymru. Mae Mr. Walter Cradock, mewn llythyr at Oliver Cromwell, dyddiedig Mawrth 29ain, 1652, yn ei alw, "yr hen Sant enwog, Mr. Rees Williams, o'r Casnewydd, yr hwn sydd wedi gwasanaethu y llywodraeth mewn amryw fanau, ond heb elwa yr un geiniog wrth hyny." Daliodd "yr hen Sant enwog" hwn at ei egwyddorion fel Ymneillduwr ac Annibynwr hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ryw bryd rhwng 1669 a 1672. Yn 1669 yr oedd addoliad cyson yn cael ei gynal yn ei dŷ, ac yntau yn pregethu i'r rhai a ddelent yno i wrandaw. Yr oedd y gynnulleidfa a ymgyfarfyddai yno tua chant o rif, ac yn eu plith rai boneddigion.[19] Yn 1672, trwyddedwyd tŷ Barbara Williams, yn y Casnewydd, at gynal addoliad gan yr Annibynwyr. Mae yn ddigon tebygol fod Rees Williams erbyn hyn wedi marw, ac mai ei weddw ef oedd Barbara Williams. Mae yn debygol i'r addoliad gael ei gynal yn y tŷ hwn, neu yn rhywle arall yn y dref, hyd nes cael Deddf y Goddefiad yn 1688. Yr oedd tŷ Jane Reynolds hefyd yn mhlwyf Marshfield wedi cael ei drwyddedu yn 1672, a thŷ Margaret Jones yn mhlwyf Henllys. Felly gwelwn fod yr Annibynwyr yn lled luosog yn y dref a'r gymydogaeth yn yr amseroedd enbyd hyn. Byddai John Powell, A.M., Watkin Jones, Mynyddislwyn; Henry Walter, yr hwn oedd yn byw yn mhlwyf Caerlleon-ar-wysg, a Thomas Barnes, yn pregethu yn y gwahanol leoedd hyn, ac ymddengys mai dan weinidogaeth Mr. Barnes yn benaf y bu Ymneillduwyr y Casnewydd o 1688 hyd 1703, pryd y bu y gwr da farw mewn oedran teg. Nis gwyddom pa bryd yr adeiladwyd capel Heol-y-felin, na phwy fu yn gweinidogaethu yno o 1703 hyd 1710, pryd yr urddwyd Mr. David Williams. Amseriad y weithred henaf, sydd yn awr ar gael, yn perthyn i'r hen gapel, yw Ebrill 27ain, 1725; ond clywsom gan rai a'i gwelodd, fod hen weithred arall yn bod, sydd flynyddau lawer yn hynach na hon. Y tebygolrwydd yw, gan fod yr Ymneillduwyr mor lluosog a selog yn y parthau hyn tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, i dŷ cyfarfod gael ei adeiladu yn Heol-y-Felin cyn gynted ag y cafwyd nawdd Deddf y Goddefiad. Bu yr achos yma, mewn cysylltiad â Llanfaches, dan ofal gweinidogaethol Mr. David Williams o 1710 hyd 1754. Nid ydym yn feddianol ar ddefnyddiau i roddi unrhyw hanes am ei helynt yn nhymor maith ei weinidogaeth ef. Rhif y ddwy gynnulleidfa yn Carwhill a Heol-y-felin, yn 1717 oedd 236, yn cynnwys chwech o fonedd—igion, un ar bymtheg o dirfeddianwyr, wyth ar hugain o fasnachwyr, pedwar ar bymtheg o amaethwyr, ac ugain o weithwyr. Yr oedd yma un masnachwr cyfrifol yr amser hwnw, o'r enw Jacob Jones, yr hwn oedd yn wr blaenllaw a defnyddiol iawn gyda yr achos. Ar ol marwolaeth Mr. Williams, bu un Mr. Richard Davies yn weinidog yma am tua dwy flynedd, a dilynwyd ef gan Mr. James Davies, yr hwn a fu farw tua dechreu y flwyddyn 1760. Nid oes genym ddim ychwaneg o hanes am y naill na'r llall o honynt. Ar ol ysgrifenu hanes Llanfaches y tarawsom wrth eu henwau, ac o herwydd hyny ni chrybwyllwyd hwy yno. Yn Mehefin, 1760, derbyniodd Mr. Roger Rogers alwad yma, ac urddwyd ef Mai 28ain. 1761. Ni pharhaodd tymor gweinidogaeth Mr. Rogers yma ond ychydig gyda phum' mlynedd o'r amser y derbyniodd yr alwad, ond bu yn rhyfeddol o lwyddianus. Derbyniodd lawer iawn o aelodau i'r eglwys, ac yn eu plith Thomas Morgan Harry, o Faesaleg, tad y diweddar Isaac Harries, o'r Morfa, yr hwn fu yn aelod ffyddlon a defnyddiol yn eglwys Heol-y-felin am oddeutu triugain ac wyth o flynyddau. Bu farw mewn oedran teg Ebrill 17eg, 1829. Ar ol marwolaeth Mr. Rogers buwyd am tua phedair blynedd heb allu cael un cymwys i lenwi ei le. Yn niwedd y flwyddyn 1769, urddwyd Mr. Thomas Saunders, yr hwn a lafuriodd yma yn ffyddlon, ac yn anghyffredin o lwyddianus, am fwy nag ugain mlynedd. Mewn llythyr oddiwrth Mr. Edmund Jones at Mr. Howell Harries, Trefecca, dyddiedig Tachwedd 19eg, 1772, dywedir, "Y mae y tŷ cyfarfod yn y Casnewydd, er ei fod yn un mawr iawn, yn fynych yn rhy fychan i gyn—nwys y cynnulleidfaoedd. Mae Mr. Saunders, y gweinidog, yn llwyddo yn fawr yno, ac yn Carwhill a Machen." Bu Mr. Saunders am rai blynyddau yn nhymor ei weinidogaeth yn dal y swydd o oruchwyliwr tan-ddaearol (underground agent) yn ngweithiau haiarn Mr. Hanbury, o Bontypool. Yr oedd hyny i raddau mawr yn amddifadu yr eglwysi o'i wasanaeth, ac yn lleihau ei ddefnyddioldeb yntau, ond arnynt hwy yr oedd y bai, oblegid na chyfranent ddigon tuag at ei gynaliaeth. Pymtheg punt yn y flwyddyn oedd yr oll a dderbyniai yn Heol-y-felin, er fod llawer o ddynion cymharol o gyfoethog yn perthyn i'r eglwys, a gallwn fod yn sier fod ei dderbyniadau o Lanfaches lawer yn llai na hyny. Ychydig cyn marwolaeth Mr. Saunders derbyniwyd gwr ieuangc o'r enw William Thomas i'r eglwys, yr hwn wedi hyny fu yno yn aelod defnyddiol ac yn ddiacon dylanwadol am lawer o flynyddau. Bob tri mis yr arferid casglu at y weinidogaeth y pryd hwnw. Pan oedd amser y casgliad chwarterol cyntaf ar ol derbyniad W. Thomas, yn agoshau, dywedodd wrth ei fam ei fod yn bwriadu rhoddi pum' swllt yn y casgliad, yr hyn a wrthwynebwyd ganddi mewn geiriau cryfion. "Ti," ebe hi, "yn rhoddi pum' swllt pan y mae yma lawer o ddynion cyfoethog nad ydynt yn rhoddi ond swllt neu ddau; y mae hyny yn afresymol." Pa fodd bynag, eu rhoddi a wnaeth y gwr ieuangc, a bu hyny yn fuan yn foddion i ddyblu y casgliad chwarterol. Pan welodd Mr. Saunders hyny, awgrymodd i'r eglwys ei fwriad, ond iddynt hwy wneyd eu goreu tuag at ei gynaliaeth ef, y buasai yn rhoddi ei swydd yn ngweithiau Mr. Hanbury i fyny, yn symud o Bontymoil i'r Casnewydd, ac yn rhoddi ei holl amser at waith y weinidogaeth. Ond cyn iddo gael amser i osod ei fwriad mewn gweithrediad, galwodd ei Dad nefol ef i le gwell.[20]

Bu Mr. Saunders farw yn Ionawr 1790, a dilynwyd ef yn mhen y flwyddyn, gan Mr. Howell Powell, yr hwn oedd ar y pryd newydd symud o Esgairdawe, sir Gaerfyrddin, i Langattwg, Crughowell. Bu Mr. Powell yma o Ionawr 1791, hyd Chwefror neu Mawrth 1798, pryd y symudodd i Ferthyr Tydfil, i gymeryd gofal yr eglwys a gyferfydd yn awr yn Zoar, yr hon oedd y pryd hwnw, newydd gael ei chorpholi. Am y pedair neu y pum' mlynedd cyntaf, o'i weinidogaeth yn y Casnewydd, bu Mr. Powell yn rhyfeddol o boblogaidd a llwyddianus, ond tua therfyn ei amser yno, cyhuddid ef o yfed yn annghymedrol, a pha un bynag a oedd y cyhuddiad yn wir ai peidio, dinystriodd ei ddylanwad ef, fel y gorfu iddo. ymadael a'r lle.

Ar ol ymadawiad Mr. Powell, bu y ddwy gynnulleidfa yn Llanfaches a'r Casnewydd am tua phedair blynedd dan ofal Mr. Walter Thomas, yn cael ei gynnorthwyo gan Mr. William George, Brynbiga, ac eraill. Fel y nodasom yn hanes Llanfaches, yn ardal y Groeswen yr oedd Mr. Thomas yn cyfaneddu, trwy yr holl amser y bu yn gwasanaethu y cynnulleidfaoedd hyn. Gan ei fod yn byw mor bell, nid oedd ganddo fantais i fod mor ddefnyddiol a phe buasai yn cyfaneddu yn mysg ei bobl.

Hyd derfyniad gweinidogaeth Mr. Thomas, yr oedd Heol-y-felin a Llanfaches, yn cael eu hystyried yn un eglwys, ond yn nechreu y flwyddyn 1803, rhoddodd pobl Heol-y-felin alwad eu hunain i Mr. Rees Davies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac efe a urddwyd yno yn nechreu y flwyddyn hono, ac a barhaodd yn weinidog yno hyd y flwyddyn 1828, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny, o herwydd rhyw deimladau annymunol oedd wedi ymgyfodi yn yr eglwys. Yr oedd yr achos yn Heol-y-felin yn gryf ac yn barchus iawn yn nechreuad gweinidogaeth Mr. Davies. Perthynai amryw o brif fasnachwyr y dref i'r eglwys, a llawer o amaethwyr cyfoethocaf y wlad oddiamgylch. Yn 1806, yr oedd y cymunwyr yn 180 o rif, ac felly nid oedd ond ychydig o Eglwysi Ymneillduol yn Nghymru, y pryd hwnw, yn lluosocach ei haelodau. Er fod Mr. Davies yn ddyn da, o rodiad teilwng o'r efengyl, mae yn ddiamheu mai camgymeriad oedd ei ddewis yn weinidog i le mor bwysig a'r Casnewydd, ac yn enwedig pan gofiom mai cynnulleidfa Heol-y-felin oedd yr unig gynnulleidfa Ymneillduol yn y dref yr amser hwnw; canys yr oedd yn fyr o'r dalent a'r doniau gofynol i fod yn unig gynrychiolydd Ymneillduaeth yn y fath le pwysig. Cydweithiodd cynifer o bethau anffafriol yn erbyn yr hen eglwys hon, yn y deugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol, fel y buont yn agos a bod y angau iddi—diffyg nerth digonol yn y pulpud, cyfodiad achosion gan gwahanol enwadau Ymneillduol yn y dref, sefydliad achos Saesonig, gan Annibynwyr, ac annghydfod mewnol.

Dilynwyd Mr. Davies, gan David Hughes, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef Ion. 1af, 1829. Dechreuodd Mr. Hughes ei weinidogaeth yn y Casnewydd, dan yr amgylchiadau mwyaf anfanteisiol. Yr oedd yr eglwys yn ddirywiedig, ac yn anheddychol, ac yntau, er ei fod yn wr ieuangc nodedig o alluog, o ddawn llawer rhy drymaidd, ac o ysbryd rhy farwaidd, i wneyd un daioni mewn eglwys yn y fath gyflwr. Yn mhen dwy flynedd wedi sefydliad Mr. Hughes yno, ymadawodd pedwar-ar-ddeg-ar-hugain o'r aelodau ar unwaith, a derbyniwyd hwy i gymundeb yn Hope Chapel y Sul canlynol, gan y Dr. Jenkin Lewis. Mae y ffaith i weinidog o oed, safle, pwyll, a challineb Dr. Lewis, dderbyn y bobl hyn i'w eglwys, yn profi ar unwaith, mai nid haid o derfysgwyr afreolaidd oeddynt. Gydag ymadawiad y dynion hyn, aeth pob peth yn ddilewyrch yn Heol-y-felin. Bu Mr. Hughes yno wedi hyny, am fwy nag wyth mlynedd, yn pregethu i ryw ddeg-ar-hugain neu ddeugain o bobl. Yn 1839, derbyniodd alwad oddiwrth hen eglwys barchus Trelech, sir Gaerfyrddin, a symudodd yno; lle y llafuriodd gyda chymeradwyaeth mawr, hyd derfyn ei oes. Ceri cofnodion ei fywyd pan y deuwn at hanes Trelech.

Yn fuan ar ol ymadawiad Mr. Hughes, ymgymerodd Mr. John Jones, yr hwn oedd newydd ymadael o Benmain, a'r weinidogaeth yn Heol-y-felin. Cynyrchodd ei ddoniau bywiog ef ryw gymaint o gyffroad yno, a lluosogodd y gynnulleidfa ychydig. Ar ol bod yno rhwng tair a phedair blynedd, symudodd i Frome.

Yn mis Medi 1845, urddwyd Mr. David Salmon, o athrofa Aberhonddu, yno, (genedigol o ymyl Trefdraeth, yn sir Benfro), ac ymdrechodd yn ffyddlon i gyflawni ei weinidogaeth, a llwyddodd i gymaint o raddau ag y gallesid disgwyl dan yr amgylchiadau, oblegid mae yn ddigon hysbys, fod yn llawer hawddach cychwyn achos newydd, nag adferu hen achos dirywiedig. Ymadawodd Mr. Salmon yn Mai 1849, i Oak Hill, gerllaw Bath; ac y mae yn bresenol yn weinidog yr Eglwys Annibynol yn Mhenfro.

Dilynwyd Mr. Salmon gan Mr. Owen Owen, yr hwn a ymadawodd yn 1850. Un genedigol o Bankyfelin, gerllaw St. Clears, sir Gaerfyrddin ydyw; ac aelod gwreiddiol o Bethlehem. Yr oedd yn un o chwech o frodyr a droisant at y weinidogaeth er na bu yr un o honynt yn llwyddianus iawn ynddi. Mae Mr. O. Owen yn bresenol yn Birmingham, ac yn perthyn fel y deallwn i'r Eglwys Sefydledig. O ymadawiad Mr. O. Owen hyd sefydliad y gweinidog presenol, ni bu yno un gweinidog sefydlog, ond pregethid yno bob Sabboth gan bregethwyr cynnorthwyol o'r dref a'r gymydogaeth. Mae y gwasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen yn hollol yn yr iaith Saesoneg er's ugain mlynedd bellach; a thrwy bob cyfnewidiad, cadwyd yno ryw lun o achos fel llin yn mygu trwy y blynyddau.

Ar yr 17eg o Fedi, 1867, cafodd Mr. W. G. Edwards, o athrofa Aberhonddu, ei urddo yn weinidog, i'r ychydig enwau a lynasant wrth yr hen achos trwy bob tywydd. Mae Mr. Edwards yn llafurus iawn, ac yn bresenol y mae argoelion gobeithiol yr adfywia yr achos. Bwriedir adeiladu capel newydd yno y flwyddyn hon (1870). Mae cyflawnder o bobl yn y gymydogaeth, ac nid oes un capel arall, gan unrhyw enwad, yn agos iawn i'r lle. Hefyd y mae rhyw adgofion cysegredig yn gysylltiedig a'r fan. Mae yn y fynwent weddillion canoedd o hen grefyddwyr enwog yn gorphwys, ac yn eu mysg y tanllyd Thomas Saunders, a'r enwog Dr. Jenkin Lewis. Hyderwn y llwydda yr ymdrech a wneir yn awr i gyfodi yr hen achos i fyny i'r enwogrwydd a berthynai iddo gynt; ac y rhoddir i'r gweinidog ieuangc ysbryd selog Nehemiah i adeiladu muriau yr hen Jerusalem adfeiliedig hon.

Cafodd amryw gymanfaoedd eu cynal yn Heol-y-felin, o bryd i bryd. Yn 1796, cynhaliwyd cymanfa fawr Deheudir Cymru yno, a chymanfa sir Fynwy yno yn 1812, 1824, ac 1839.

Gan fod y defnyddiau hanesyddol am yr eglwys hon mor brin ac anmherffaith, mae yn anmhosibl i ni roddi rhestr gyflawn o'r pregethwyr a godwyd ynddi o oes i oes. Yr ydym wedi methu dyfod o hyd i enwau ychwaneg o honynt na'r rhai canlynol:

Thomas Rees. Y cwbl a wyddom am dano ef, yw ei fod yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin o 1771 hyd 1774.

David Thomas. Yr oedd ef yn bregethwr parchus yma o 1790 hyd 1796, pan y symudodd, ond nis gwyddom i ba le.

William Jones. Yr oedd yn byw yn mhlwyf Maesaleg, a bu farw Gorphenaf 6ed, 1810.

Isaac Harries. Gweinidog y Morfa, am yr hwn y bydd genym lawer i'w ddyweyd ynglyn a hanes yr eglwys hono.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

DAVID WILLIAMS. Er pob ymchwiliad, nid ydym wedi dyfod i wybod ond y peth nesaf i ddim o hanes Mr. Williams. Yr oll a wyddom am dano ydyw, iddo gael ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin dan Mr. William Evans, ei urddo yn Llanfaches a'r Casnewydd yn 1710, ei fod yn byw mewn lle a elwir Salisbury, yn mhlwyf Magor, yn 1718, yn rhywle yn mhlwyf Maesaleg, yn 1738, ac iddo farw yn Rhagfyr, 1754.

Yr ydym yn casglu oddiwrth ddistawrwydd hollol pob llyfr argraffedig, a phob llaw ysgrif y gallasom daro wrthi, yn ei gylch, nad oedd unrhyw gyhoeddusrwydd nac enwogrwydd yn perthyn iddo; ac o'r tu arall, mae y ffaith iddo allu cadw ei le fel gweinidog i'r un gynnulleidfa am bedair a deugain o flynyddau, heb lwyr ladd yr achos, yn dangos fod ynddo ryw gymhwysder at waith y weinidogaeth,

ROGER ROGERS. Ganwyd Mr. Rogers yn y flwyddyn 1732, yn mhlwyf Bedwellty, ond nis gwyddom yn mha dy yn y plwyf hwnw. Ymunodd a'r eglwys yn Mhenmain, ond ymddengys mai dan nawdd Mr. Edmund Jones, Pontypool, yn benaf y dechreuodd bregethu, canys yr oedd ei weinidog, Mr. Phillip Dafydd, yn teimlo rhyw oerni tuag ato. Yr ydym yn cael y ddau gofnodiad oerllyd a ganlyn yn nyddlyfrau Mr. Phillip Dafydd o berthynas iddo: "Mehefin 28ain, 1760.—Heddyw yr oedd ein cyfarfod parotoad. Nid oedd y cynnulliad ond bychan. Hysbysodd Roger Rogers i'r eglwys ei fod wedi derbyn rhywbeth a alwai yn alwad i bregethu yn y Casnewydd. Pa beth a feddyliai wrth wneuthur felly nis gwn i. Ni ddarfu iddo erioed ofyn cynghor yr eglwys, ond aeth oddiamgylch i bregethu o hono ei hun, fel y gwna y bobl a elwir y Methodistiaid, ac nid yw yn un o gymmeriad da yn ei gymydogaeth." "Awst 6ed, 1761—Yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Abergavenny heddyw, ac amryw weinidogion wedi dyfod yn nghyd yno. Pregethodd Mr. Joseph Simmons, yn Saesoneg, oddiwrth Mat. xxiv. 45; a Mr. William Evans, Cwmllynfell, yn Gymraeg, oddiwrth Mat. xxv. 13. Y prif fater fu dan sylw y Gynhadledd oedd achos Roger Rogers, yr hwn a urddwyd ar yr 28ain o Fai diweddaf, trwy waith Mr. Edmund Jones, heb edrych i mewn i gymmeriad y dyn; ond yn awr yr ydys wedi edrych i mewn iddo, ac y mae wedi ei gael yn anheilwng o'r enw sydd arno, er gofid i lawer.' Pa beth bynag oedd allan o le yn Mr. Rogers, mae genym bob sail i gredu nad oedd yn euog o unrhyw fath o anfoesoldeb, pe amgen, ni buasai gŵr o dduwioldeb Mr. Edmund Jones yn gosod ei ddwylaw arno; ac nid yn fyrbwyll y gwnaed hyny, canys yr oedd Mr. Rogers wedi hysbysu eglwys Penmain ei fod wedi cael galwad o'r Casnewydd tuag un mis ar ddeg cyn i Mr. E. Jones, ac eraill, fyned yno i'w urddo. Yr ydym yn gwbl argyhoeddedig mai rhyw ychydig o afreoleiddiwch gyda golwg ar ei gychwyniad fel pregethwr cyhoeddus, yn nghyda'r ysbryd Methodistaidd a amlygai, oedd cyfanswm pechodau Roger Rogers yn erbyn Phillip Dafydd a'i gyfeillion. Bu Mr. Rogers yn rhyfeddol o lwyddianus dros dymor byr ei weinidogaeth. Bu farw yn dair ar ddeg ar hugain oed, Awst 27ain, 1765, nid 1766, fel cam-nodasom yn hanes Llanfaches. Cafodd rai wythnosau o gystudd, a bu farw mewn llawn fwynhad o orfoledd crefydd. Dywedai ar ei wely angau, fod arno chwant cael ei ddattod ac i fod gyda Christ; "Ond," meddai, "buasai yn dda genyf gael gwneyd ychydig yn rhagor o waith dros fy Arglwydd ar y ddaear." Cyhoeddodd Mr. John Thomas, awdwr "Caniadau Sion," farwnad i Mr. Rogers, yn mha un y cawn ddarluniad lled dda o'i gymmeriad. Caiff y dyfyniadau canlynol o'i farwnad orphen yr ychydig hanes sydd genym i'w roddi am y gweinidog ieuangc rhagorol hwn:—

"Mwyn cariadus oedd ei dymer, tyner, tawel ydoedd Roger;
'Dwy'n gweled fawr y ffordd 'rwy'n rhodio, yn mhob peth sydd debyg iddo;
Diwyd, doniol, hardd, a duwiol, defnyddiol, dewr o anian nefol;
Yn awr mewn hedd, draw i'r bedd, yn hardd ei wedd mae'n canu,
Canodd lawer yma o ddifri, mae'n canu'n well yn ngwlad goleuni.

"Er nad oedd ef, nid wy'yn ameu, mwy nag eraill heb wendidau,
Er hyn rhagorai, gwn, a'i wirio, ar rai ag oedd yn beio arno;
Eto mae fy ffydd neu'm ffansi, 'n ei glywed heddyw yn cyhoeddi,
'Does dim clod, i mi'n bod, fy Mhriod canmolwch,
'Rhwn a'm dygodd trwy'r anialwch, ei foli byth fydd fy nedwyddwch.

"Yn Ebenezer a Bedwellty, bu'n pregethu 'fengyl Iesu,
Casnewydd, Carwhill ar gyhoedd, a chyda hyn mewn amryw leoedd;
Mewn byr amser llwyddiant helaeth, gafodd yn y weinidogaeth;
Enillgar iawn, yn ei ddawn, araf, llawn cariad,
Gwahoddai'n daer bob gradd yn ddifrad, i ddod at Iesu wrthfawr Geidwad.

"Duw a'i llwyddodd ffordd y cerddodd, cadd fod yn fendith, do, i ganoedd;
Mae llawer ar ei ol hyd heddy', yn sir Fynwy'n prudd alaru;
Cafwyd colled, do, nid bychan, yn mhlith y rhai lle 'roedd ei drigfan,
Seren fawr, aeth i lawr, ni welir 'nawr o'i goleu;
Cyfod Arglwydd un o rywle, yn ei le, fel byddo eisiau,"


THOMAS SAUNDERS. Yr ydym yn tybied mai un genedigol o ardal Pontypool oedd Mr. Saunders, ac mai dan weinidogaeth Mr. Edmund Jones y dechreuodd grefydda a phregethu, ond nid ydym yn sicr o hyny. Cafodd ei urddo yn Llanfaches a'r Casnewydd, yn niwedd y flwyddyn 1769. Bu farw, Ionawr 9fed, 1790, yn 58 oed; a chladdwyd ef yn mynwent Heol-y-felin, lle mae ei gareg fedd i'w gweled etto. Clywsom, o enau rhai a'i hadwaenent ac a'i gwrandawsent, ei fod yn un o'r dynion mwyaf siriol ac adeiladol yn ei gyfeillach—fod y fath hynawsedd yn perthyn iddo fel y tynai bawb a'i hadwaenai i'w anwylo. Ni chyfrifid ef yn bregethwr mawr, ond oedd yn anarferol o felus i'w wrandaw. Dengys y cofnodion am fedyddiadau a marwolaethau, a ysgrifenwyd ganddo yn llyfr yr eglwys, ei fod yn ysgolhaig da. Gresyn na byddai genym ddefnyddiau i roddi hanes cyflawnach am dano.

HOWELL POWELL. Darfu i Mr. Powell ysgrifenu ychydig o hanes ei fywyd, yr hwn a ymddangosodd yn y Cenhadwr Americanaidd am Chwefror, 1851, ychydig o amser ar ol marwolaeth yr ysgrifenydd. Ganed ef mewn lle a elwir Meity fawr, Cwmhyfer, plwyf Llywel, sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1758. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac felly cafodd y fraint o gael ei ddwyn i fyny o'i febyd yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Byddai yn cael ei gymeryd gan ei rieni i wrandaw y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrecastell a Defynog, a'r Annibynwyr yn y Brychgoed. Ond er ei holl fanteision, bu am rai blynyddau yn lled wyllt ac anystyriol, ond ni byddai un amser yn chwareu gyda phlant y gymydogaeth ar y Sabboth, nac yn cyflawni unrhyw bechod, heb fod ei gyd—wybod yn ei aflonyddu. Cafodd ei osod, pan yn un-ar-ddeg oed, yn egwyddorwas i ddysgu bod yn ddilledydd, a bu yn dilyn y gelfyddyd hono am flynyddau. Gwrandaw pregethau gan David Morris, a David Jones, o Bontypool, pregethwr enwog gyda y Bedyddwyr, fu yn foddion i'w arwain i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Ymunodd a'r Methodistiaid yn Llanspyddid pan yn bedair-ar-ddeg oed. Bu yn aelod gyda'r Methodistiaid am rai blynyddau, ac, yn ol arferiad y dyddiau hyny, yn myned yn aml gyda y lluaws i Langeitho. Yn mhen amser diflasodd ar drefn y Methodistiaid o gymuno yn yr eglwysi plwyfol gydag offeiriaid annuwiol a dynion anfoesol, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y Brychgoed. Pan yn ddwy-ar-hugain a chwe mis oed anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod yn pregethu yn y Brychgoed a'r gymydogaeth, gyda chymeradwyaeth mawr, am ychydig o amser; symudodd i ardal Esgairdawe, yn sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yno Mehefin, 13eg, 1786. Yr oedd pedwar-ar-ddeg o weinidogion yn ei urddiad. Bu yno tua phedair blynedd ar ol cael ei urddo, ac, fel yr ymddengys, tua yr un faint o amser cyn ei urddiad. Dilynwyd ei lafur yn yr ardal hono gyda llwyddiant rhyfeddol, ond o herwydd gorfod teithio llawer, ddydd a nos, ar hyd a lled y gymydogaeth fynyddig hono, collodd ei iechyd i raddau, fel y barnodd fod yn angenrheidiol iddo symud i le iachusach. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Llangattwg, Crughowell, a symudodd yno yn 1790, ond ni bu yno yn hir. Symudodd i'r Casnewydd yn Ionawr 1791, a bu yno hyd Wanwyn 1798. Yna symudodd i Ferthyr Tydfil, lle bu yn foddion i adeiladu capel Zoar. Yr oedd tra y bu yn Merthyr yn rhoddi haner ei amser i wasanaethu eglwys y Maendy. Tua y flwyddyn 1803 neu 1804, ymfudodd i'r America, lle y treuliodd weddill ei oes. Wedi myned yno ymunodd drachefn â'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu am flynyddau lawer yn weinidog iddynt yn Palmyra, Ohio, lle y bu farw Ebrill 12fed, 1850, yn 92 oed, wedi bod dros 69 o flynyddau yn pregethu yr efengyl. Brawd iddo ef oedd Jonathan Powell, Rhosymeirch, Mon.

Yr oedd Howell Powell, fel yr ymddengys, yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn ei oes, ac oni buasai fod rhyw beth yn ei ymarweddiad yn lladd ei ddylanwad, buasai yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol yn Nghymru; ac, er ei ddiffygion, bu ei weinidogaeth gyffrous yn fendith i filoedd. Nid oedd yn ddim ysgolhaig, ond yr oedd ei ddoniau effeithiol yn gwneyd i fynu i raddau mawr am y diffyg hwnw.

REES DAVIES. Ganwyd ef yn Erwyddalen, gerllaw Troedrhiwdalar, sir Frycheiniog. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhroedrhiwdalar gan Mr. Isaac Price, a dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1798. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Heol-y-felin, yn niwedd mis Mawrth neu ddechreu Ebrill, 1803, a rhoddodd ei weinidogaeth i fyny tuag Awst 1828. Bu yn briod ddwy waith. Bu farw ei wraig gyntaf Chwefror 21ain, 1823, a'r ail, Ionawr 7fed, 1849, yn mhen deng mlynedd ar ei ol ef. Darlunir y ddwy wraig yn llyfr yr eglwys, fel aelodau ffyddlon a defnyddiol gyda yr achos. Bu Mr. Davies ei hun farw yn Chwefror, 1839, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Heol-y-felin. Ar ddydd ei gladdedigaeth cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan Mr. Davies, Penywaun; Mr. Gillman, Casnewydd; a Mr. Gethin, Caerlleon; a'r Sabboth canlynol traddododd ei ganlyniedydd, Mr. D. Hughes, ei bregeth angladdol, oddiwrth Esay lvii. 1, 2.

Yr oedd Mr. Davies trwy ei oes yn gysurus iawn o ran ei amgylchiadau bydol. Fel dyn, yr oedd yn llawn hynawsedd a mwyneidddra; ac fel cristion, yn ddidwyll, gostyngedig, a phur; ond yr oedd rhyw ddiniweidrwydd plentynaidd ynddo. Swm ei bregethau bob Sabboth fyddai adrodd digwyddiadau yr wythnos flaenorol. Un Sabboth dywedai wrth ei wrandawyr mewn tôn gwynfanus, "Mae Mr. Davies, o'r Aber, wedi marw yr wythnos ddiweddaf, ac wn i yn y byd pwy gan nhw yn ei le; ac o ran hyny wn i ddim pwy gewch chwithau yn fy lle inau. Nid am na ellwch chwi gael digon yn fwy eu dawn, ond chewch chwi neb cystal ei rodiad." Yr oedd unwaith wedi adeiladu nifer o dai, ac wedi cael ei siomi yn y crefftwyr, a digwyddodd fod rhai o honynt o leiaf yn grefyddwyr. Tua'r adeg hono aeth i Droedrhiwdalar—ei ardal enedigol—i ryw gyfarfod gweinidogion, ac ar ei bregeth dechreuodd drin crefftwyr fel dynion twyllodrus ac anonest; ac ychwanegai "Ac o bawb crefftwyr, crefyddwyr yw y rhai mwyaf twyllodrus, cymerwch chwi hyny gen i." Cyffrodd yr hen batriarch o Droedrhiwdalar, a rhoddodd iddo wers nad annghofiodd yn fuan, am ddyfod yno i "godi godre yr eglwys," fel y dywedai yntau. Nid oedd dim yn ei ddawn na'i ysbryd yn ateb lle mawr a phwysig fel Casnewydd, ac anffawd fawr i'r achos oedd iddo aros yno cyhyd, er fod ei ymarweddiad yn hollol ddiargyhoedd.

JOHN JONES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanganmarch, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1789. Dychwelwyd ef at grefydd ar adeg o ddiwygiad grymus, o gylch y flwyddyn 1812, ond nis gallasom gael y dyddiad yn gywir. Aeth i gapel y Methodistiaid yn Llanganmarch, yn benaf er mwyn cael difyrwch ar draul y gorfoleddwyr. Pan oedd y pregethwr yn dyweyd yr adnod hono "Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genhedloedd a annghofiant Dduw," tybiodd yn sicr ei fod yn cyfeirio ato ef, ac yr oedd yn llefain am drugaredd cyfuwch a neb cyn diwedd y cyfarfod.[21] Unodd a'r Methodistiaid yn Llanganmarch, er fod y rhan fwyaf o'i berthynasau yn perthyn i'r gynnulleidfa yn Nhroedrhiwdalar. Aeth yn fuan i Lundain, lle yr oedd brawd ganddo yn ddilledydd; yr hwn oedd yn adnabyddus wrth yr enw "Isaac o Dreflys," am mai dan y ffugenw hwnw yr arferai ysgrifenu i fisolion y dyddiau hyny. Ac ysgrifenodd Mr. Jones lawer i'r cyhoeddiadau dan y ffugenw "Brawd Isaac o Dreflys." Pan yn Llundain unodd Mr. Jones a'r eglwys yn y Boro', ac yno y dechreuodd bregethu. Daeth i'r athrofa i Lanfyllin o Lundain, ac fel "Jones bach, Llundain " yr adnabyddid ef yn gyffredin. Wedi bod am ysbaid dan addysg, dan ofal Dr. Lewis, derbyniodd alwad o'r Main, gerllaw Llanfyllin, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1818. Llafuriodd yma yn ddiwyd am 12 mlynedd, ac nid yn ofer ychwaith. Gwnaeth ddaioni mawr trwy y wlad oddiamgylch. Dichon na bu mor ddefnyddiol a llwyddianus yn un cyfnod o'i weinidogaeth ag y bu y blynyddoedd hyn yn y Main a'r cylchoedd. Adeiladodd gapeli yn Mhontrobert a Phentre'rbeirdd, a thalodd am danynt. Priododd wraig o gymydogaeth Llanymynech, a chafodd ychydig o eiddo gyda hi, yr hyn a fu o help mawr iddo at fyw, gan nad oedd yn cael ond ychydig gan yr eglwysi yn mysg rhai bu yn llafurio. Yr oedd bywiogrwydd ei ysbryd, a'i fedr i bregethu yn rhwydd yn Gymraeg a Saesoneg, yn ei wneyd yn gymhwys iawn i faes cyntaf ei lafur. Derbyniodd alwad o Lanidloes, a symudodd yno yn Awst, 1830, i ddechreu ei weinidogaeth. Tynodd ei fywiogrwydd sylw y dref a'r amgylchoedd ar ei sefydliad yno; ond yr oedd yr achos yn wan a'r ddyled yn drom, fel nad arhosodd yno ond pum' mlynedd. Cafodd alwad i fod yn gydweinidog a Mr. D. Thomas, yn Mhenmain; ac fel y crybwyllasom eisoes tywyll ac ystormus fu cyfnod byr ei weinidogaeth yno. Beth bynag a ddywedir am gyndynrwydd y bobl, y mae yn rhaid i bawb a'i hadwaenai addef ei fod yntau yn fyrbwyll ac annoeth; ac yn cymeryd ei arwain gan rai cyfrwysach nag ef ei hun, ond heb feddu ei ddiniweidrwydd. Codwyd capel iddo gan y blaid a aeth allan gydag ef, ond nid hir yr arhosodd gyda hwy. Cafodd alwad gan hen eglwys Heol-y-felin, a symudodd yno yn y flwyddyn 1840, ond deuai i Jerusalem unwaith bob mis. Adfywiodd yr achos yn nghapel Heol-y-felin dipyn ar ei symudiad yno, a gwnaed ad-drefniad ar yr hen addoldy; ond ni bu ei arosiad yno yn hir.

Yn haf 1843, derbyniodd alwad o Frome, Somersetshire, a llafuriodd yno yn ddiwyd a defnyddiol hyd haf 1848. Derbyniodd fwy na 120 o aelodau yn ystod y 5 mlynedd y bu yn Rook Lane, Frome. Ond collodd ei iechyd a bu raid iddo roddi ei weinidogaeth i fyny. Mae yn awr ger ein bron gymeradwyaeth uchel yr eglwys iddo, a sicrheir mai yn hollol o hono ei hun, oblegid sefyllfa ei iechyd, y rhoddodd yr eglwys i fyny. Arosodd yn Frome am ddwy flynedd wedi iddo roddi i fyny ei weinidogaeth; ond cynghorwyd ef gan ei feddyg i symud i awyr Cymru, gan ddisgwyl y gwnaethai hyny les i'w iechyd. Penderfynodd ar Lanymynech fel lle i ddiweddu ei oes, gan mai un oddiyno oedd Mrs. Jones, ond bu farw yn mhen y mis wedi cyrhaedd yno, a chladdwyd ef yn mynwent Llanymynech yn 1852. Mae ei weddw etto yn fyw yn yr un gymydogaeth, ac yn ymyl 85 oed. Dyn byr, cryf, crwn, oedd Mr. Jones o ran ei gorff—bywiog a byrbwyll o ran ei dymer—caredig dros ben, yn enwedig iddynion ieuaingc—a selog a thanllyd iawn fel pregethwr. Yr oedd fel y rhan fwyaf o ddynion yn hoff iawn o gael ei ganmol, ac ni chai y dyn a wnelai hyny iddo fyned o'i dŷ yn waglaw. Yr oedd yn rhy hoff o gyfeirio yn ei bregethau at feiau yr eglwys, a soniai yn aml am y black sheep oedd ganddo yn ei ddeadell gartref; ond yr oedd y black sheep yn dyfod i glywed y pethau hyn, ac nid hir y byddent heb osod eu cyrn dano. Yr oedd yn hynod o ddifeddwl pa beth a ddywedai. Daeth drosodd i gladdedigaeth Mr. Evans, Rhaiadr. Yr oedd Mr. Williams, Troedrhiwdalar, a Mr. Lewis, Llanfair-muallt, wedi eu trefnu i wasanaethu yn yr angladd; ond yr oedd yn rhaid iddo ef gael dyweyd gair ar lan y bedd, yr hyn a ganiatawyd iddo. "Wel frodyr bach" meddai "dyma un hen frawd anwyl wedi myn'd, ac y mae yma un arall etto ymron a'i ganlyn," gan gyfeirio at Mr. Williams, Troedrhiwdalar. "Gan bwyll" ebe Mr. Williams yn y fan, "mi ddalia atat ti dipyn etto; ac mi wna hefyd;" ac y mae Mr. Williams yn dal etto, er fod oes gyfan wedi codi er y claddwyd Mr. Jones. Un gonest a diddichell, caredig a maddeugar ydoedd; ac er ei holl wendidau yr oedd yn "Israeliad yn wir."

EBENEZER, PONTYPOOL.

Mae yr addoldy hwn yn sefyll ar lechwedd, ychydig uwchlaw Pontnewynydd, yn mhlwyf Trefddyn, neu Trefethin—y plwyf yn mha un y mae tref Pontypool. Mae hanes dechreuad yr achos hwn yn anhysbys, ond y mae genym seiliau cryfion i farnu ei fod wedi ei ddechreu rai degau o flynyddau cyn i Mr. Edmund Jones ddyfod i gyfaneddu i'r ardal. Mae yn wir fod ysgrifenydd hanes bywyd Mr. Jones, yn yr Evangelical Magazine, am Mai 1794, yn dyweyd mai efe ddarfu ddechreu yr achos yn y lle, ond yr ydym yn anmheu cywirdeb yr hyn a ddywed, nid yn unig o herwydd ein bod yn cael yr un ysgrifenydd yn camddyweyd am bethau llawer diweddarach yn hanes Mr. Jones, nag amser ei ddyfodiad i fyw i ardal Pontypool, ond hefyd am fod genym grybwyllion am fodolaeth achos Annibynol yn yr ardal flynyddau cyn ei fynediad ef yno. Yn Ionawr 1718, anfonwyd cyfrif o nifer eglwysi Ymneillduol Mynwy, i Dr. John Evans, Llundain, ac yn eu plith enwir eglwys Annibynol yn y Trosnant, Pontypool, ac un Mr. Jeremiah Edmunds yn weinidog iddi. Yr oedd y gynnulleidfa yn 90 o rif, ac yn cynnwys chwech o dirfeddianwyr, deg o fasnachwyr, a deunaw o weithwyr. Mae yn eithaf anhebygol fod cynnulleifa o'r grym hwnw wedi diflanu mewn dwy flynedd ar hugain, sef erbyn 1740, pryd y daeth Mr. Edmund Jones i fyw i'r gymydogaeth. Hefyd mae y difyniad canlynol of hen lyfr eglwys Capel Isaac, sir Gaerfyrddin, yn deilwng o sylw yn ei berthynas ar achos hwn: "Mehefin 24ain, 1742. Casglwyd heddyw yn y Mynyddbach, y swm o dri swllt ar ddeg a saith ceiniog, tuag at gynnorthwyo adeiladiad ty cyfarfod yn agos i Bontypool, sir Fynwy, ar gais y Parchedig Edmund Jones, y gweinidog presenol yno." Y casgliad mwyaf naturiol a ellir dynu oddiwrth yr ymadrodd "y gweinidog presenol yno" ydyw fod gweinidog neu weinidogion wedi bod yno o'i flaen ef.

Dywed Mr. Joshua Thomas, yn Hanes y Bedyddwyr, fod gweinidogion yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi bod yn pregethu yn fynych yn Mhontypool, a'r cylchoedd, am ugeiniau o flynyddau cyn 1729, pryd y corpholwyd yr eglwys gyntaf o Fedyddwyr yno. Gallasai fod pregethwyr perthynol i'r ddau enwad, yn ymweled yn achlysurol a'r lle, trwy holl dymor yr erlidigaeth; ond nid oes genym un cofnodiad fod yno addoliad cyson yn cael ei gynal yn 1669, pryd yr anfonwyd ystadegau yr Ymneillduwyr i Archesgob Canterbury; nac yn 1672, pryd y cymerodd y rhan fwyaf o'r Ymneillduwyr drwyddedau i bregethu. Mae yn debygol mai ryw bryd rhwng 1688, a diwedd yr ail ganrif ar bymtheg y corpholwyd yr eglwys Annibynol yn Nhrosnant, ac mai Mr. Thomas Quarrell, Mr. Hugh Pugh, ac o bosibl, Mr. John Harries, Penmain, fu yn llafurio yn benaf i'w chasglu a'i chorpholi. Nis gwyddom pa bryd yr ymsefydlodd Mr. Jeremiah Edmunds yno, na pha bryd y bu farw, neu yr ymadawodd oddi yno. Y cwbl a wyddom am dano ef, yw ei fod yn weinidog yno yn 1718. Yn mhen chwe' blynedd ar ol hyn y dechreuodd Mr. Edmund Jones bregethu yn Mhenmaiu, a daeth yn fuan i fod yn bregethwr diwyd a chyhoeddus iawn. Byddai yn ymweled yn fynych yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd cyhoeddus, a Blaengwrach, yn Nghwmnedd, Cwmllynfell, ac hyd yn oed Gwynfe, yn sir Gaerfyrddin. Gallwn gan hyny farnu yn naturiol, nad oedd yr achos yn Mhontypool yn ei ymyl yn cael ei esgeuluso ganddo. Mewn anedd-dai, wedi eu trwyddedu at bregethu, yr ymgynnullai yr eglwys hyd nes i Ebenezer gael ei adeiladu.

Dechreuodd Mr. Edmund Jones bregethu yn 1724, ac urddwyd ef yn weinidog cynnorthwyol yn Mhenmain, yn 1734. Mae yn debygol ei fod ef yn llafurio yn benaf yn mysg y gangen hono o eglwys Penmain, a gyfar- fyddai mewn anedd-dai yn Aberystruth, ei blwyf enedigol. Pan urddwyd Mr. Phillip Dafydd yn gynnorthwywr yn Mhenmain, mae yn ymddangos i Mr. Jones a'i gyfeillion edrych ar hyny fel gwrthodiad o'i wasanaeth ef, ac felly symudodd i fyw i'r Transh, gerllaw Pontypool, yn Gorphenaf 1740, a chyfyngodd ei lafur gweinidogaethol i'r ardal hono, ond darfu i amryw o'i gyfeillion yn mhlwyf Aberystruth, ymuno a'i eglwys ef yn Mhontypool, a chan fod eu ffordd i ddyfod yno yn dra phell, byddai ef yn myned yn fynych i gynal moddion iddynt hwy yn Aberystruth, ac ystyrid hwy fel cangen o eglwys Ebenezer. Gan nad oedd ty cyfarfod gan yr eglwys yn Mhontypool, ymroddodd Mr. Jones, yn fuan wedi iddo ymsefydlu yno, at y gwaith o ddarparu er adeiladu addoldy. Yr oedd y draul lawer yn fwy na gallu y bobl i'w dwyn, ac felly rhoddodd ef ddeg punt ar hugain ei hun at ddwyn y gwaith yn mlaen, pryd nad oedd ganddo yn y byd ond deugain punt. Gorfu iddo drachefn werthu gwerth pymtheg punt o'i lyfrau er cael arian i fyned a'r gwaith yn mlaen. Cyfeiria Whitefield at hyn yn effeithiol, mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo yn Abergavenny, Mai 27ain, 1749: "Dydd Iau. Gwelais Mr. E. J; y gweinidog Ymneillduol y sonias am dano o'r blaen, a chefais ef wedi ei ddilladu yn wael iawn. Mae yn ddyn gwir deilwng, ac oddiar ei sel dros Dduw, darfu iddo amser yn ol, werthu gwerth pymtheg punt o'i lyfrau er cael modd i orphen y ty cyfarfod bychan, yn yr hwn y mae yn pregethu."[22] Mewn llythyr a ysgrifenodd Mr. Jones at Mr. Howell Harries, yr hwn oedd y pryd hwnw yn Llundain, dyddiedig Awst 7fed, 1741, cawn yr hyn a ganlyn: "Yr wyf yn awr yn dechreu casglu ychydig gymorth at adeiladu y ty cyfarfod, ac mi a af oddiamgylch y tai cyfarfod a'r cymdeithasau (tai cyfarfod yr Ymneillduwyr, a chymdeithasau y Methodistiaid, mae yn debygol) lle y mae genyf ryw fesur o adnabyddiaeth, ac y byddaf yn debygol o gael fy nerbyn. Os ydych yn adnabyddus a rhai gweinidogion Ymneillduol caredig, ac a'u pobl, yr wyf yn dymuno arnoch ofyn iddynt am ychydig o gymorth at adeiladu ein ty cyfarfod; ychydig o'r hyn a allont hebgor yn rhwydd. Peidiwch a gofyn i neb, ond i'r rhai y barnoch fod ganddynt ffydd i gredu y gwobrwyir hwynt am eu caredigrwydd. Os gwnewch ychydig wasanaeth i mi yn y ffordd hon, bydd yn garedigrwydd mawr yn wir, a dichon, mewn amser, y byddaf yn alluog i'ch ad-dalu, ond os na wna fi, fe wna Duw."

Mae yn ymddangos nas gallodd ddechreu ar y gwaith o adeiladu cyn gwanwyn y flwyddyn 1742, ac y mae yn dra thebygol nad agorwyd y capel cyn 1743. Ar ol cael cartref i'r arch, trwy lawer o lafur, a hunan-ymwadiad diail o du y gweinidog gweithgar, beth bynag am ei bobl, parhaodd y gwas ffyddlon hwn i weinidogaethu yn ei hoff Dy Cyfarfod, Ebenezer, hyd derfyn ei oes, yr hon a estynwyd allan yn hwy na'r eiddo nemawr o'i gydoeswyr. Nid ymddengys fod gan Mr. Jones gynnulleidfa luosog iawn yn Ebenezer, ar unrhyw dymor o'i oes weinidogaethol yno. Yr oedd ganddo, fel y nodasom, gangen o'i eglwys yn addoli mewn anedd-dai yn mhlwyf Aberystruth, y rhai ni ddeuent ond anfynych i Ebenezer, o herwydd pellder y ffordd. Yn ol yr ystadegau a gasglwyd yn 1773, gan Mr. Josiah Thompson, o Lundain, dau cant oedd rhif cynnulleidfa Mr. Jones, yn Ebenezer a'r Blaenau, neu Aberystruth, yn y flwyddyn hono, ac nid ymddengys iddi luosogi nemawr o'r pryd hwnw hyd amser ei farwolaeth ef yn 1793. Ond os nad oedd y gynnulleidfa hon ond bechan mewn cyferbyniad i rai cynnulleidfaoedd eraill yn y sir, yr oedd rhai o'r teuluoedd parchusaf yn yr ardal yn perthyn iddi, ac yr oedd trwy enwogrwydd ei gweinidog rhagorol, fe ddichon, yn fwy adnabyddus nag un gynnulleidfa arall yn y wlad i Ymneillduwyr Cymru a Lloegr. Darfu i enw Edmund Jones anfarwoli enw Ebenezer, Pontypool.

Wedi marwolaeth Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Ebenezer Jones, myfyriwr yn yr athrofa a gedwid y pryd hwnw yn Abertawy, ond sydd yn awr yn Nghaerfyrddin. Urddwyd Mr. Jones yn y flwyddyn 1795, a chan ei fod yn un a feddai gymhwysderau gweinidog enwog yn y radd uwchaf, tynodd sylw yr holl ardal yn ddioed, fel y lluosogodd y gynnulleidfa a'r eglwys yn fawr mewn ychydig o amser. Cafodd y tŷ cyfarfod ei adgyweirio a'i helaethu yn gynar yn nhymor gweinidogaeth Mr. Ebenezer Jones, a chafodd Ysgol Sabbothol ei sefydlu yno yn y flwyddyn 1816.[23] Yr oedd yr achos yn flodeuog iawn yr amser hwnw, a'r eglwys yn lluosog. Yn y flwyddyn 1820, darfu i'r aelodau a breswylient yn nghymydogaeth Blaenafon gael eu ffurfio yn eglwys Annibynol, ac yn fuan wedi hyny dewisasant weinidog iddynt eu hunain, gan nas gallasai Mr. Jones eu gwasanaethu, yn gymaint a bod ganddo i ofalu am y fam-eglwys yn Ebenezer, a'r eglwys Saisonig yn Brynbiga. Yn 1827, aeth cangen arall allan o Ebenezer i ddechreu achos ar y Farteg. Yr oedd ymadawiad y canghenau hyn yn effeithio i raddau ar luosogrwydd y fam-eglwys, ond etto parhaodd yr eglwys yn gref a dylanwadol. Bu Mr. Jones farw Ionawr 31ain, 1829.

Yr haf, ar ol marwolaeth Mr. Jones, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Rowlands. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad Gorphenaf 15fed a'r 16eg, 1829, pryd y cymerodd Mr. D. Lewis, Aber; Mr. D. Davies, Penywaun; Mr. D. Davies, New Inn; Mr. D. Stephenson, Nantyglo, ac eraill, ran yn y gwasanaeth. Bu gweinidogaeth Mr. Rowlands yn dderbyniol, llwyddianus, a phoblogaidd iawn yn Ebenezer am lawer o flynyddoedd. Mae yn debygol mai yn y deng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth ef y bu yr eglwys luosocaf ei haelodau o un cyfnod yn ei hanes. Bu y cymunwyr rhwng dau athri chanto rif am rai blynyddau. Ond effeithiodd corpholiad eglwysi Annibynol yn Abersychan a Throsant, yn y flwyddyn 1837, a Cefnycrib yn 1841, i beri cryn lawer o leihad yn nifer aelodau a gwrandawyr Ebenezer. Erbyn 1842, yr oedd rhif yr aelodau wedi dyfod i lawr i 160, ac yn 1861 eu rhif oedd 132. Heblaw corpholiad eglwysi eraill yn yr ardal y mae sefyllfa ddilewyrch y gweithiau glo a haiarn yn y gymydogaeth er's blynyddau bellach, wedi lleihau rhif pob cynnulleidfa yn yr holl fro. Gellid ychwanegu hefyd, fod pob cynnulleidfa Gymreig, o bob enwad, o Flaenafon i'r Casnewydd, wedi gweled eu dyddiau goreu, gan fod y plant a'r ieuengetyd yn dewis yr iaith Saesonig, ac os na chynygir yr efengyl iddynt yn yr iaith hono, bydd miloedd o honynt fyw a marw hebddi.

Gwnaed amryw welliadau yma yn nhymor gweinidogaeth Mr. Rowlands. Adeiladwyd tŷ cyfleus i'r gweinidog, yr hwn sydd yn feddiant i'r eglwys; prynwyd darn helaeth o dir at helaethu y fynwent, ac yn y flwyddyn 1844. gwnaed y capel oll o newydd. Y mae yn bresenol yn gapel hardd a chyfleus, yn cynnwys oddeutu 500 o eisteddleoedd, a thalwyd am y cwbl heb fyned nemawr allan o'r ardal i ofyn cymorth. Bu Mr. Rowlands farw yn Ebrill, 1861, wedi bod yn gweinidogaethu yn Ebenezer ychydig dros 31 o flynyddau. Ar ol ei farwolaeth ef bu yr eglwys yn ymddibynu ar wasanaeth gweinidogion a phregethwyr cymydogaethol hyd Hydref, 1864, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Richard Richards, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o America. Un genedigol o ardal Treforis yw Mr. Richards, ond ymfudodd i America yn 1848, yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu. Bu am tua blwyddyn yn athrofa Wyne dan addysg. Urddwyd ef yn mis Awst, 1852, yn St. Clair, Pensylfania. Bu wedi hyny yn Newburgh, Ohio. Wedi derbyn yr alwad o Ebenezer, aeth drosodd i'r America i hol ei wraig. Pan gyrhaeddodd yno, cafodd hi yn gorwedd yn glaf mewn twymyn, a bu farw yn mhen ychydig ddyddiau. Ar ol ei chladdu, dychwelodd ef i Gymru, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Ebenezer yn Mawrth, 1865. Cynaliwyd ei gyfarfod sefydliad ar y 7fed a'r 8fed o Fai, yn yr un flwyddyn. Ar ol llafurio yn dderbyniol a llwyddianus am tua dwy flynedd, gwaelodd ei iechyd i'r fath raddau, fel y bu raid iddo roddi ei ofal i fyny yn Medi, 1867.

Bu yr eglwys drachefn am ddwy flynedd heb weinidog. Yn niwedd 1869, rhoddwyd galwad i Mr. R. Hughes, yr hwn oedd wedi ei urddo yn Adulam, Tredegar, Rhagfyr 25ain, y flwyddyn flaenorol, ac y mae wedi dechreu ei weinidogaeth yno er's rhai misoedd. Hyderwn y bydd yn llwyddianus.

Mae amryw bregethwyr, o bryd i bryd, wedi cael eu cyfodi yn yr eglwys hon. Wele yn canlyn enwau cynifer o honynt ag y gwyddom ni am danynt:—

John Powell; am yr hwn y bydd genym ryw grybwyllion i'w gwneyd ynglyn a hanes eglwys Henllan, swydd Gaerfyrddin.

Thomas Saunders; gweler hanes eglwys Heol-y-felin, Casnewydd.

William Jayne. Derbyniwyd ef i Athrofa Abergavenny yn Mawrth 1771. Yn ei adroddiad blynyddol o sefyllfa yr Athrofa, dyddiedig Rhagfyr 16eg, 1774, dywed Dr. Davies fod W. Jayne wedi myned rhagddo yn lled dda yn ei wybodaeth o'r ieithoedd, a'i fod yn debygol o droi allan yn bregethwr derbyniol, ond ei fod y flwyddyn hono wedi colli llawer o'i amser o herwydd cystudd. Yr oedd ei dymor i fyny yn yr Athrofa yn Mawrth, 1775, ac yr ydym yn tybied iddo farw yn fuan ar ol hyny.

Rees Lloyd. Yr oedd yn byw yn ardal Cwmbran. Cyhoeddodd farwnad i Edmund Jones. Ymfudodd i'r America tua dechreu y ganrif bresenol. Hyn yw y cwbl a wyddom ni am dano.

Herbert Daniel, Cefnerib; yr hwn a ddaw dan ein sylw gydag hanes Tabor, y Trosnant, a Chefnerib.

Thomas Morgan. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa y Drefnewydd; urddwyd ef yn y Trallwm, yn 1832, ac y mae yn bresenol yn Hinckley, sir Leicester.

James Lewis. Y mae y dyn da hwn wedi bod er's mwy na deugain mlynedd yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn yr eglwys hon. Mae yn ddiweddar wedi ymadael o Ebenezer i New Inn.

William Jenkins. Dechreuodd yntau bregethu tua yr un amser a Morgan, Daniel, a Lewis. Tua blwyddyn yn ol urddwyd ef yn Salem, Bedwellty, cyn ei ymfudiad i America. Y mae efe yn dad i Mr. D. M. Jenkins, Drefnewydd, Maldwyn.

William Bowen. Dechreuodd bregethu yn 1865. Mae yn awr yn fyfyriwr yn Athrofa y Bala.

COFNODION BYWGRYPHYDDOL.

JEREMIAH EDMUNDS. Y cwbl a wyddom am dano ef yw ei fod yn weinidog yn Nhrosnant, yn 1717, a dechreu y flwyddyn ganlynol.

EDMUND JONES. Ganwyd ef yn Penyllwyn, yn mhlwyf Aberystruth, Mynwy, Ebrill 1af, 1702. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol iawn, ac yn aelodau yn Mhenmain. Derbyniwyd yntau yn aelod yno ya ieuangc iawn, a phan oedd yn ddwy-ar-hugain oed, dechreuodd bregethu. Nid ymddengys iddo gael unrhyw fanteision addysgol, ond yr hyn a gafodd mewn ysgol a gedwid gan gurad y plwyf lle y magwyd ef, ond gwnaeth ddefnydd da o'r ychydig fanteision a gafodd. Yr oedd yn deall y Gymraeg a'r Saesoneg yn dda, ac yn medru ysgrifenu a phregethu yn y naill iaith yn gystal a'r llall. Wedi iddo fod yn pregethu am ddeng mlynedd, cafodd ei urddo yn weinidog cynnorthwyol yn Mhenmain, yn 1734. Yn 1740, ymgymerodd a gofal yr eglwys yn ardal Pontypool, ac adeiladodd y ty cyfarfod cyntaf fu gan yr eglwys hono. Parhaodd i fugeilio yr eglwys yn Ebenezer hyd derfyn ei oes, ond ymwelai yn fynych a'r eglwysi trwy bob parth o'r Dywysogaeth. Gallesid dyweyd am dano ef, fel am Paul, fod gofal dros yr holl eglwysi arno. Priododd yn ieuangc, ond ni bu iddo blant. Cafodd gydymaith o'r un anian ag ef ei hun; ei holl hyfrydwch oedd gwasanaethu Duw a dedwyddu dynion. Er eu bod ill dau yn isel eu hamgylchiadau trwy eu hoes, ni fu gwr a gwraig erioed yn fwy dedwydd. Ysgrifenai Whitefield am danynt, ar ol iddo fod yn lletya noswaith yn eu ty: "Y mae yn byw yn isel iawn, ond y mae yn mwynhau llawer o Dduw. Y mae efe yn Zecharias a'i wraig yn Elizabeth." Dywedir mai golwg ar ddedwyddwch teuluaidd Edmund Jones a'i wraig, ddarfu ogwyddo meddwl Whitefield i edrych am wraig ei hun, ac nad aeth yn mhellach nag Abergavenny, cyn gwneyd ei feddwl i fyny i gymeryd un Mrs. James o'r dref hono yn briod; ond cafodd allan er ei ofid, pan yn rhy ddiweddar, mai nid Mrs. Jones oedd Mrs. James. Er mawr golled a gofid i Edmund Jones, bu farw ei wraig werthfawr Awst 1af, 1770, a chafodd yntau deithio y gweddill o'i daith heb ei chymdeithas. Bu ef fyw i'r oedran teg o 92, o fewn ychydig fisoedd. Dyoddefodd boenau dirdynol yn ei gorff am yr wythnos ddiweddaf o'i fywyd, ond yr oedd ei feddwl, nid yn unig yn dawel, ond yn orlawn o fwynhad. Pan ofynodd Mr. Jayne, un o'i ddiaconiaid, iddo ychydig oriau cyn ei farw, "A oes ofn marw arnoch chwi, Mr. Jones bach?" agorodd ei lygaid, ac er ei fod er's oriau cyn hyny heb allu llefaru dim, dywedodd gyda phwyslais nodedig, "Ofn marw arnaf fi! nac oes, yr wyf yn adnabod Iesu Grist yn rhy dda i fod ag ofn marw. Mae marw ynddo ei hun yn chwerw i'r cnawd, ond nid wyf fi yn ei ofni." Pan ofynodd un arall iddo pa fodd y teimlai, atebodd, "Mae y wlad nefol i'w gweled yn eglur; nid oes un cwmwl na braw rhyngof fi a'r gogoniant nefol." Yn y modd hwn y gorphenodd y patriarch anrhydeddus yma ei yrfa ddaearol, Tachwedd 26ain, 1793. Claddwyd ef wrth gapel Ebenezer, a phregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. John Griffiths, Abergavenny, i dorf wylofus, oddiwrth 2 Tim. iv. 7, 8—testyn a ddewisid gan y marw. Yr oedd Edmund Jones yn un o'r cymmeriadau hynottaf yn ei oes. Gwnaeth iddo ei hun enw anfarwol. Nid trwy rym ei alluoedd meddyliol, ei hyawdledd fel pregethwr, na'i ddysg; ond trwy ei lafur dibaid, ei ymlyniad gafaelgar with athrawiaethau neillduol yr efengyl, a'i dduwioldeb seraphaidd. Nid oedd heb ei wendidau, a'r rhai hyny yn amlwg iawn yn ei hanes. Ymddengys ei fod lawer yn rhy anffaeledig, byrbwyll, ac unbenaethol yn ei ymwneyd ag achosion ei eglwys, ac oni buasai ei fod yn ddyn anghyffredin o ragorol mewn pethau eraill, ni oddefasid hyn ynddo. Yr oedd hefyd yn nodedig am ei hygoeledd, fel y dengys ei lyfr ar ymddangosiadau ysbrydion, a llawer rhan o hanes plwyf Aberystruth. Credai y chwedlau mwyaf anhygoel am ddrychiolaethau, canwyllau cyrff, bwciod, a'r Tylwyth Teg, mor ddiysgog ag y credai yr efengyl; ie, yr oedd mor wan a chredu fod cythreuliaid yn ymrithio yn ffurfiau cwn a chathod, fel nas gallasai oddef un ci na chath yn agos ato. Credai fod pob hen wraig annuwiol, os digwyddai fod ei hwynebpryd yn lled hagr, ac ychydig farf yn tyfu ar ei gen, yn ddewines, (witch), a chadwai yn mhell oddiwrth bob un o'r fath. Clywsom Mr. Thomas, Penmain, yn adrodd yr hanesyn canlynol yn ei ddull difyr: Ychydig amser cyn ei farwolaeth daeth Mr. Jones i dalu ei ymweliad olaf ag ardal Penmain. Treuliodd yno amryw ddiwrnodau, gan bregethu bob nos mewn gwahanol anedd-dai. Elai Mr. Thomas gydag ef o fan i fan trwy y gymydogaeth. Un prydnhawn, wrth eu bod yn myned trwy bentref Crumlin, galwodd dynes ar eu hol, a deisyfodd arnynt droi i dy yno, lle yr oedd hen wraig yn glaf iawn, i ddarllen a gweddio. Gofynodd Mr. Jones, yr hwn a adwaenai bawb yn y pentref, pwy ydoedd. Pan ddywedwyd ei henw wrtho, "Gweddio gyda honyna," ebe fe, "na weddiaf fi, y mae yr hen greadures yna yn witch." Ceisiai Mr. Thomas ei berswadio i fyned i'r ty, ond ni wnai. Pan welodd fod Mr. Thomas yn awyddu am fyned, dywedodd wrtho, "Wel, os wyt ti yn ymglywed a gweddio gyda hi, dos i mewn, a minau a safaf wrth y drws." Felly y bu. Yr oedd gwely yr hen wraig glaf mewn ystafell fechan ar y llawr, a'r ddaear oddiallan o fewn troedfedd at waelod y ffenestr, yr hon oedd yn agored, i'r glaf gael awyr. Safai Mr. Jones wrth ddrws yr ystafell, ac aeth Mr. Thomas ar ei liniau rhwng gwely yr hen wraig a'r ffenestr agored, a dechreuodd weddio. Pan oedd ar ganol ei weddi daeth bytheuad mawr at y ffenestr o'r tu allan, gan osod ei ddwy droed flaen ar gareg y ffenestr, a'i ben i mewn, ac udo mewn seiniau oernadus.

"Dyna," ebe Mr. Jones, gan ymaflyd yn mraich Mr. Thomas, "Gad hi yn awr, mae ei pherchen yn dyfod i'w nhol hi." Felly aethant i ffwrdd, ac nid oedd dim a dynai o ben yr hen ŵr nad cythraul yn ffurf ci oedd wedi dyfod yno i gymeryd meddiant o'r hen wraig. Na thybied neb mai gwendid hen Gymro yn unig oedd yr hygoeledd hyn. Yr oedd Luther, Baxter, a John Wesley, yn llawn mor hygoelus ag Edmund Jones.

Yn awr, trown oddiwrth wendidau yr hen Gristion da, i daflu cipolwg ar ei ragoriaethau. Yr oedd yn weithiwr difefl. Pe buasai ei ddydd-lyfrau wedi cael eu cadw heb eu difrodi, gan ddynion na wyddent eu gwerth, buasai genym bethau rhyfedd i'w cofnodi. Mae yn debygol nad oes dim ond naw o'i ddyddlyfrau wedi diane rhag y difrod fu ar ei ysgrifeniadau. Dengys y naw hyn i raddau y fath lafur yr elai trwyddo. Yn 1731, pregethodd 104 o weithiau; yn 1732, bu am rai misoedd yn glaf iawn, ond pregethodd er hyny 76 gwaith; yn 1739, 240; yn 1768, 300; yn 1770, 337; yn 1773, 511; yn 1778, 260; yn 1780, 340; ac yn 1789, yn yr wythfed flwyddyn a phedwar ugain o'i oed, pregethodd 405 o weithiau. Dylid cofio hefyd mai rhan o'i waith ef oedd pregethu. Teithiai ganoedd o filldiroedd bob blwyddyn, ac yn wastad ar ei draed a'i ffon yn ei law. Nid elai i un tŷ heb ddarllen a gweddio, a chymerai tua haner awr at y darllen, yr esponio a'r gweddio. Gwnelai hyny fynychaf trwy y flwyddyn amryw weithiau bob dydd. Nid elai i un ardal na theulu heb adael rhyw argraph ddaionus ar ei ol. Cofnoda ysgrifenydd cyntaf hanes ei fywyd engraifft darawiadol o'i ymdrech i wneyd lles i bawb. Yr oeddynt ill dau mewn tŷ, yn eistedd gyda eu gilydd. Daeth geneth fechan, nodedig o dlos, i mewn i'r ystafell atynt. Ymaflodd Mr. Jones yn ei llaw, a thynodd ei law dros ei phen amryw weithiau, a dywedai wrth wneyd hyny, "O, fy anwyl blentyn, y fath weithiwr ardderchog yw Duw; mor brydferth yw y corff dynol; 0, y fath gorff hardd roddodd ef i chwi; mor hollol y dylai gael ei ddefnyddio yn ei wasanaeth ef, i'w ogoneddu! O'r fath golled fyddai i'r corph tlws hwn fyned i uffern! O, fel y byddai cythreuliaid yn gorfoleddu am hyny!" Yna torodd allan i wylo yn hidl. Byddai yn arfer siarad yn y modd hwn a phlant pa le bynag yr elai. Crybwyllasom ei enw tua deng mlynedd yn ol wrth hen wraig bedwar ugain oed. Bywiocâodd ei hwynebpryd gyda y son am ei enw, "Cofio Mr. Jones, o'r Transh," ebe hi, Ydwyf, ac nid anghofiaf ef byth. Bu ei ddwylaw ar fy mhen i, a dywedodd bethau rhyfedd wrthyf." Dydd y farn yn unig a ddengys pa faint o ddaioni a wnaeth yn mhob lle, ac i bob gradd ac oed.

Yr oedd ei sel a'i hunanymwadiad gyda yr achos goreu yn ddiail. Pwy ond dyn yn berwi gan sel a chariad at Dduw a'i dŷ fuasai yn rhoddi deg punt ar hugain o'r unig ddeugain punt oedd ar ei helw at adeiladu y ty cyfarfod, ac a werthasai werth pymtheg punt o'i lyfrau i orphen talu am dano? Nid enw nac elw, ond gogoniant Duw a lles eneidiau, a barai iddo gerdded ugeiniau o filldiroedd i wasanaethu cynnulleidfaoedd am dri neu bedwar swllt. Cofnoda yn ei ddyddlyfrau ei fod yn myned o Gwm Ebbwy, yn sir Fynwy, i Gwmllynfell a Gwynfe i dreulio Sabbothau, heb dderbyn mwy na thri swllt a chwe' cheiniog am ei lafur. Ie, cawn iddo fyned cyn belled a Llanbrynmair i wasanaethu am ddau Sabboth yn 1732, lle y derbyniodd bum swllt a chwe' cheiniog am ei wasanaeth, ac ni rydd yr awgrym lleiaf fod y tâl yn anfoddhaol ganddo.

Yr oedd ei ffydd yn Nuw, a'i ymddiried yn ei Ragluniaeth yn ddisigl. "Jehofah Jireh—yr Arglwydd a ddarpara"—oedd ei arwyddair gwastadol. Treuliodd ei holl fywyd yn yr hyn a eilw dynion y byd yn sefyllfa o dlodi mawr, ond ni bu arno erioed eisiau dim. Chwe' phunt yn y flwyddyn oedd ei gyflog sicr, fel y dywedir, am rai blynyddau, sef tair punt oddiwrth ei eglwys, a thair o'r Drysorfa Gynnulleidfaol o Lundain. Ymddibynai am y gweddill o dreuliau ei gynaliaeth ar ragluniaeth noeth. Byddai rai prydiau ar fin newyn a noethni, ond nid ymddengys i bryder yn nghylch ei amgylchiadau erioed derfysgu dim ar ei fynwes. Anfonai cyfeillion o bell ac agos anrhegion iddo, ac yr oedd yr anrhegion hyny yn dyfod fynychaf i law, pan fuasai y dyrnaid diweddaf o'r blawd wedi ei gymeryd o'r celwrn, a'r diferyn olaf o'r olew wedi ei dywallt o'r ysten. Cedwid ef felly mewn ymddibyniad gwastadol a disgwyliad beunyddiol wrth yr Arglwydd. Gallasai brofiadol trwy ei oes ganu,

"Ti wnei wyrthiau os bydd achos
Cyn yr elo'r gwan i lawr,
Mae dy enw er y cynfyd
Wedi swnio'n enw mawr."


Yr oedd ei haelioni yn ddifesur. Os gwelsai ryw un mewn angen, estynasai iddo y geiniog ddiweddaf ar ei elw. Ie, mae genym hanes iddo unwaith dynu ei grys oddiam dano a'i wisgo am ddyn haner noeth, a gyfarfuasai ar y mynydd, ar ddiwrnod oer. Pan ddaeth adref, dywedodd wrth ei wraig yr hyn a wnaeth. Canmolodd hithau ef, gan ddywedyd, "Da y gwnaethoch i dosturio wrth y tlawd. Mae yr Arglwydd wedi talu yr echwyn yn dda eisoes. Gynneu daeth gwas Mrs.——— yma a gwlanen chwech o grysau yn anrheg i chwi."

Ond y peth a goronai ei holl ragoriaethau, oedd ei dduwioldeb seraphaidd a'r cymundeb cyson a ddaliai a'r Arglwydd. Treuliai ei holl amser i siarad a Duw dros ddynion, neu a dynion dros Dduw. Byddai am oriau bob dydd yn ei ystafell yn gweddio. Gwlychai y cadeiriau a'r llawr a'i ddagrau, wrth ymdrechu a'r Arglwydd mewn ymbiliau a gweddiau, ac anrhydeddwyd ef ag atebion anghyffredin a hynod i lawer o'i weddiau. Rhagfynegodd lawer o bethau rhyfedd am bersonau, lleoedd, a phethau, y rhai a ddaethant i ben yn ol ei air, ac o herwydd hyny edrychid arno fel un yn meddu ysbryd prophwydoliaeth. "Yr hen brophwyd" oedd yr enw wrth ba un yr adwaenid ef yn gyffredin. Mae yn amlwg fod "dirgelwch yr Arglwydd gydag ef" fel dyn a ofnai Dduw, ac a rodiai yn wastadol gydag ef, pa un bynag a ddatguddid pethau yn oruwchnaturiol iddo a'i peidio.

Gan fod ynddo gydgyfarfyddiad o'r holl ragoriaethau rhagrybwylledig, nid yw yn rhyfedd ei fod yn cael ei barchu, ac edrych i fynu ato gan ddynion da o bob sefyllfa. Yr oedd yn un o gyfeillion mwyaf mynwesol Iarlles Huntingdon. Ymwelai yn fynych a'i Hathrofa hi yn Nhrefecca, a derbyniodd lawer o anrhegion o'i llaw hi, a phendefigesau eraill, ac yn eu plith fantell nodedig, yr hon a wisgai bob amser yn mlynyddau diweddaf ei oes, ac a wnelai ei ymddangosiad yn hynod ac urddasol iawn. Ysgrifenai ei Harglwyddiaeth un tro, pan yr oedd Mr. Jones newydd ymadael o Drefecca: "Mae yr Hen broffwyd anwyl newydd ein gadael. O y fath Sant bendigedig ydyw; mor ymroddgar; mor fywiog; mor weithgar. Mae yn wastad yn sychedu am gymundeb cyflawn a Thad y goleuni. Bydd ei anerchiadau cyffrous i'r myfyrwyr, a'i weddiau taerion ac effeithiol am eu llwyddiant, yn sicr o gael eu dilyn gan fendith." Cyhoeddodd Mr. Jones amryw lyfrau; megys pregeth angladdol i Mr. Evan Williams, yn nghyda hanes helaeth o'i fywyd; pregethau ar y creaduriaid yn myned i'r arch, ac ar wallt Samson; Goleuni yr Efengyl; Hanes plwyf Aberystruth; Y llyfr ar ymddangosiadau ysbrydion, a rhai mân draethodau eraill. Gorphwysa ei lwch yn mynwent Ebenezer, hyd foreu yr "adgyfodiad gwell."

EBENEZER JONES. Ganwyd ef yn y Wernfelen, yn mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, yn sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1769. Derbyniwyd ef yn ieuangc iawn yn aelod eglwysig yn Mhentre-tŷ-gwyn. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu. Mae yn debygol iddo ddechreu cyn ei fod yn ugain oed. Yn haf y flwyddyn 1790, anfonodd gyffes o'i ffydd a chais am dderbyniad i athrofa Croesoswallt, at y Bwrdd Cynnulleidfaol. Cymeradwyid ei achos gan Thomas Thomas, Pentre-tŷ-gwyn, Jonathan Jones, Rhydybont, Howell Powell, Esgairdawe, a Thomas Bowen, Maesyronen. Mae y papurau hyn yn awr ger ein bron. Cymeradwywyd yr achos gan y Bwrdd, a derbyniwyd ef i'r athrofa Hydref 4ydd, 1790; ond nid ymddengys iddo fod yno yn hir. Symudodd i athrofa Caerfyrddin, yr hon a gedwid y pryd hwnw yn Abertawy. Mae yn debygol mai y rheswm o'i symudiad ydoedd i'w frawd, John Jones, LL.D., gael ei benodi yn un o'r athrawon i'r athrofa yn Abertawy. Yn y flwyddyn 1795, dewiswyd ef gan eglwys Ebenezer yn ganlyniedydd i'r enwog Edmund Jones. Nid oes genym unrhyw fanylion o berthynas i'w urddiad. Dywedir mai Mr. E. Skeel, Abergavenny, ddarfu weddio yr urddweddi. Yr oedd y rhan fwyaf o'r eglwys wedi bwriadu rhoddi galwad i Mr. Thomas Phillips, wedi hyny o'r Neuaddlwyd, ond pan glywsant Mr. Jones, trodd y lluaws o'i dy ef; oblegid meddir, i'r "Hen brophwyd" ragfynegu mai "Ebenezer" fuasai enw ei ganlyniedydd ef. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Ebenezer, cymerodd ofal yr eglwys Annibynol yn Brynbiga, a gwasanaethodd y ddwy eglwys hyd derfyn ei

Yn Rhagfyr, 1820, cafodd ergyd trwm yn marwolaeth ei wraig ragorol, ar ol dros naw wythnos o gystudd trwm. Gadawodd ei phriod a saith o blant ieuaingc mewn adfyd a galar mawr. Yr oedd Mrs. Jones yn wyres i'r enwog Abraham Williams, gweinidog y New Inn, a Brynbiga, a chladdwyd hi yn medd ei thaid yn nghapel Brynbiga. Bu Mr. Jones farw Ionawr 31ain, 1829, a chladdwyd ef wrth gapel Ebenezer.

Yr oedd Ebenezer Jones yn un o'r dynion harddaf o gorff a mwyaf boneddigaidd ei ymddangosiad yn yr holl wlad. Yr oedd yn siaradwr hyawdl heb ei ail. Nis gallasai neb feddwl wrth ei glywed yn parablu y Gymraeg y gwyddai air o'r Saesoneg, ac wrth ei wrandaw yn llefaru yn Saesoneg, ni allesid deall y medrai air o Gymraeg. Yr oedd yn bregethwr melus odiaeth, a dywedai Mr. Hughes o'r Groeswen, y buasai y pregethwr mwyaf yn yr holl fyd, oni buasai i anghenion ei deulu lluosog ei orfodi i roddi llawer o'i amser at drafod pethau tymorol. Cyfrifid ef yn un o'r amaethwyr goreu yn sir Fynwy, ac edrychid i fyny ato gan foneddigion yr holl wlad, yn gystal a'r bobl gyffredin. Bu am fwy nag ugain mlynedd yn gyfieithydd yn y brawdlysoedd yn Nhrefynwy a Brynbiga. Dywedir i un o'r barnwyr yn Nhrefynwy unwaith gael ei daro a'r fath syndod at brydferthwch ei ymddangosiad, ei foneddigeiddrwydd, a'r hyawdledd fel siaradwr, nes y dywedodd wrth y boneddigion oedd o'i amgylch, "Gresyn fod y gwr yna yn Ymneillduwr, efe a wnelsai Esgob campus." Yr oedd ef yn esgob, a chyflawnodd waith esgob yn fwy effeithiol na chanoedd o rai a dderbynient filoedd yn y flwyddyn am eu gwaith.

EVAN ROWLANDS. Ganwyd ef yn ngwanwyn y flwyddyn 1792, yn Nghwm Tafolog, yn sir Drefaldwyn, tua dwy filldir o bentref Mallwyd. Nid oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac felly ni chafodd y fantais o gael ei feithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ni chafodd hefyd yn moreu ei oes ond y peth nesaf i ddim o fanteision i ddyfod yn ysgolhaig. Dysgodd rywfodd ddarllen Cymraeg cyn ei fod yn ddwy-ar-bymtheg oed, a phrynodd Feibl Cymraeg y pryd hwnw. Cafodd ei enill at grefydd trwy weinidogaeth yr efengylwr duwiol a llafurus Mr. William Hughes, Dinas Mawddwy. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y flwyddyn 1814, pan yr oedd yn ddwy-ar-hugain oed. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol dechreu pregethu aeth i ysgol a gedwid yn y Dinas gan Mr. O. Owens, wedi hyny o Resycae. Aeth oddiyno i ysgol y Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Nis gwyddom pa cyhyd y bu yno, ond trwy ymroad diorphwys tra yn yr ysgol, ac ar ol hyny, daeth yn ysgolhaig rhagorach na chanoedd o bregethwyr a gawsant lawer gwell manteision. Yr oedd yn deall y Gymraeg a'r Saesoneg yn dda, ac yn medru ysgrifenu y naill a'r llall o honynt yn ramadegol. Medrai hefyd wneyd llawer a r Hebraeg a'r Groeg, trwy gynnorthwy Geiriaduron. Derbyniodd alwad oddi—wrth yr eglwysi yn Nghapel Helyg a Rhosylan, sir Gaernarfon, yn 1824, ac urddwyd ef yno ar y 7fed a'r 8fed, o Ebrill, y flwyddyn hono. Yn nghyfarfod yr urddiad gweddiwyd ar y dechreu gan Mr. LI. Samuel, Bethesda; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. D. Griffiths, Talysarn; gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr. T. Lewis, Pwllheli; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. W. Hughes, Dinas; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Dr. T. Phillips; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Ar ol bod yn llafurio yn y cylch hwnw am bum' mlynedd, symudodd Mr. Rowlands i Bontypool, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw Ebrill 23ain, 1861, yn 69 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Ebenezer, yn ymyl ei ragflaenafiaid enwog Edmund ac Ebenezer Jones.

Yr oedd Mr. Rowlands yn ddyn pur iawn yn ei fuchedd; ni chyhuddwyd ef erioed gan un dyn o unrhyw gamymddygiad. Yr oedd yn gyfaill mor ddidwyll ag a rodiodd y ddaear erioed, ac yn ddyn diysgog a chydwybodol iawn. Yr oedd dipyn yn arw ac yn sarug tuag at rai y buasai yn tybied nad oeddynt yn ddynion hollol ddidwyll, a dichon i hyny fod yn anfantais iddo mewn rhai amgylchiadau. Yn y flwyddyn 1855, darfu i ni ar gais cyfaill, ysgrifenu darluniad byr o Mr. Rowlands fel dyn a phregethwr, a chan na chawsom achos i newid ein barn am dano o'r pryd hwnw hyd yn awr, caiff y darluniad hwnw wasanaethu fel diweddglo i'n bywgraffiad byr o'r gwr da: "Mae Mr. Rowlands oddeutu 63 oed. Yn ddyn o gorph mawr, nodedig o luniaidd, tua phump troedfedd a deg modfedd o daldra—ei wyneb yn arw iawn gan ol y frech wen; ond y mae ei dalcen mawr, llawn, a'i ddau lygaid bywiog a siriol, yn fwy na digon o iawn am eirwindeb ei wyneb. Y darluniad goreu a allwn roddi o'i feddwl, yw dyweyd ei fod yn debyg i'w gorph, yn un mawr, garw, lluniaidd, a nerthol. Dichon nad oes nemawr o weinidogion, os oes un, yn Neheudir Cymru, wedi darllen mwy o weithiau duwinyddion hen a diweddar na Mr. Rowlands. Mae ei lyfrgell yn cynnwys amryw ganoedd o gyfrolan, yn yr argraffiadau goreu, o weithiau y prif dduwinyddion, o'r oes Buritanaidd i lawr hyd yr oes hon; a thybiwn nad oes un ddalen o'r cyfrolau hyn heb ei throi ganddo a'i darllen yn ofalus. Yn gymaint a'i fod yn ddarllenwr mor fawr, gellir casglu yn naturiol fod ei bregethau yn gyfoethog o ddrychfeddyliau, ac mai nid cruglwyth o bennau llymion ydynt. Rhana ei bregethau yn drefnus i bennau a changhenau; ond nid gyda rhyw dlysni benywaidd. Nid mewn pertrwydd y mae rhagoriaeth ei bregethau yn gynnwysedig; ond mewn cydgasgliad o feddyliau grymus, nodedig am eu newydd-deb (freshness), er nad ydynt ond anfynych wedi eu caboli yn ofalus. Mae yn nghwrs cyffredin ei weinidogaeth gydgyfarfyddiad dedwydd iawn o'r athrawiaethol a'r ymarferol. Anfynych y clywir ef yn traddodi pregeth athrawiaethol, heb un ergyd ymarferol ynddi; nac ychwaith bregeth ymarferol, heb un nodiad athrawiaethol. Yn ei ieithwedd hefyd, ceidw ar lwybr canolog, rhwng y rhai a draddodant eu meddyliau mewn iaith sych a diaddurn, a'r rhai a'u claddant dan haenau o eiriau chwyddedig a brawddegau blodeuog. Mae Mr. Rowlands yn draddodwr hapus iawn—parabla yn eglur—nid yw un amser yn ddiffygiol o ddigon o eiriau cryfion a phwrpasol; ac y mae ganddo lais cryf a pherseiniol, a'r fath lywodraeth ar agwedd ei wyneb—pryd, fel y llefara ei olwg yn llawn mor effeithiol a'i eiriau. Ei drefn gyffredin yw siarad yn weddol araf, ond nid yn farwaidd, am yr haner awr gyntaf, gan bwysleisio yn gryf yn awr a phryd arall; ac yna, am yr ugain munud diweddaf (canys ychydig gyda thri chwarter awr yw hyd ei bregethau), cyfyd ei lais yn uchel, a thônia ef yn anarferol o beraidd, dair neu bedair o weithiau yn ystod yr amser hwnw; a bydd ei wrandawyr gyda phob toniad a rydd i'w lais, mewn tymer i waeddi allan, 'melus, moes etto.' Medrai ganu ei bregethau mor effeithiol a neb pwy bynag; ond ni chlywsom ef erioed yn gwneyd hyny, canys pregethwr ac nid fiddler ydyw. Saith mlynedd ar hugain i'r haf hwn y clywsom ef yn pregethu gyntaf. Gwrandawsom ef y pryd hwnw chwech neu saith o weithiau; a phe na buasem wedi ei weled na'i glywed byth wedi hyny, yr ydym yn sicr nas gallasem ei anghofio. Er ei fod yn awr mewn gwth o oedran, nid ydym yn gallu deall fod ei feddwl, na'i beirianau llafar wedi anmharu yn y mesur lleiaf. Dichon ei fod yn ei ddull cyffredin o draddodi, yn ystod y deg neu y pymtheg mlynedd diweddaf, wedi myned ryw faint yn fwy gwasgarog (diffusive), a thrwy hyny i raddau, a'r amserau yn llai effeithiol; ond rhodder ef i bregethu yn olaf o dri ar ddiwedd cymanfa, neu gyfarfod chwarterol, pryd na byddo ganddo o'r eithaf dros o haner awr i ddeugain munud o amser, a mil i un na bydd ef yn sicr o'i ergyd. Clywsom ef yn ddiweddar ar ddau o amgylchiadau felly, yn bwrw allan ddrychfeddyliau fel peleni o dân, nes cynhyrfu cynnulleidfaoedd mawrion fuasent wedi lluddedu wrth wrandaw deg neu ddeuddeg o bregethau, yn ystod y diwrnod hwnw, mewn capel gorlawn, nes y buasent oll yn sefyll ar eu traed, wedi llwyr anghofio eu lludded; ac ar ei waith yn diweddu, teimlai pawb yn siomedig, am na buasai yn parhau am awr yn ychwaneg. Dyna ddarlun—iad byr ac anmherffaith, ond cywir, feddyliwn, cyn belled ag yr a, o Mr. Rowlands fel dyn ac fel pregethwr. Mae ei enw a'i nodweddiad, fel gwein—idog da i Iesu Grist, yn deilwng o'u trosglwyddo i lawr i'r oesoedd a ddel."

Mae Mr. Hughes, Penmain, wedi ysgrifenu cofiant rhagorol o Mr. Rowlands, ac wedi ei gyhoeddi yn llyfryn.

Am y ddau weinidog a ddilynodd Mr. Rowlands, gan eu bod etto yn fyw, ni ddywedwn ragor nag a ddywedasom eisoes; ond yn unig y dymunem iddynt gael oes hir i fod yn ddefnyddiol, a gweled dyddiau da eu blaenafiaid.

NEW INN.

Mae cryn lawer o gamgymeriad yn bod gyda golwg ar ddechreuad yr achos yn y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen. Dywedir mai aelodau o'r eglwysi plwyfol ddarfu ddechreu yr achos yn y tri lle, ond yr ydym ar seiliau cedyrn yn amheu cywirdeb y fath ddywediad, a gallwn gyfrif yn hawdd am ddechreuad y traddodiad sydd yn yr eglwysi hyn, mai o'r Eglwys Sefydledig y daeth eu sylfaenwyr allan.

Yr oedd ardaloedd y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen, yn llawn o Ymneillduwyr er's mwy na phedwar ugain mlynedd cyn cyfodiad Methodistiaeth. Pan ddechreuodd y son am bregethu rhyfeddol a phoblogaidd Howell Harries, yn sir Frycheiniog, ymdaenu ar hyd y wlad, darfu i amryw o weinidogion enwocaf yr Ymneillduwyr yn Morganwg a Mynwy, megys Henry Davies, Blaengwrach; James Davies, Merthyr; David Williams, Watford; ac Edmund Jones, wedi hyny o Bont-y-pool, ei gymhell yn y modd taeraf i ddyfod i'w hardaloedd hwy i bregethu. Cydsyniodd a'u cais, a'r canlyniad fu i ddiwygiad crefyddol grymus ddechreu yn mhob un o'r ardaloedd hyn. Darfu i lawer iawn o aelodau yr eglwysi Ymneillduol deimlo nerth yr adfywiad, a myned lawer yn wresocach yn eu crefydd nag yr oeddent yn flaenorol, a chafodd niferi mawr o'r gwrandawyr yn y capeli Ymneillduol eu dwyn i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Sefydlodd Mr. Harries yn fuan gymdeithasau (societies) mewn amryw ardaloedd, ac yn yr ardaloedd dan sylw yn mhlith eraill. Nid ar y cyntaf, fel yr ymddengys, gydag unrhyw fwriad i osod i fyny gyfundeb crefyddol newydd, ond yn unig er mwyn maethu y dychweledigion ieuaingc mewn crefydd brofiadol, gan eu gadael at eu dewisiad i fyned lle y gogwyddid hwy yn aelodau eglwysig. Ond cyn gynted ag yr ymunodd Rowlands, Llangeitho, a rhai offeiriaid eraill, a'r mudiad, newidiodd agwedd pethau. Gosodwyd cynllun ar droed i wneyd yr holl rai a hoffent weinidogaeth Harries, Rowlands, ac eraill o'r Methodistiaid, yn gyfundeb o Eglwyswyr Methodistaidd, a gwaherddid hwy yn bendant i fyned i gymuno i gapeli yr Ymneillduwyr, ond disgwylid iddynt gymuno yn yr Eglwysi plwyfol, gan nad pa mor ddigrefydd bynag y gallasai yr offeiriaid yn yr Eglwysi hyny fod.

Gan fod tri o bob pedwar o ddysgyblion Harries, yn yr ardaloedd hyn, yn Ymneillduwyr wedi eu Methodisteiddio, nid oedd yn hawdd cael ganddynt droi yn Eglwyswyr, a'r canlyniad fu iddynt yn mhen ychydig iawn o flynyddau droi drachefn yn Ymneillduwyr. Pe buasai Harries a Rowlands yn gosod i fyny gyfundeb Methodistaidd ar y pryd, heb gynyg llusgo y bobl i'r Eglwysi plwyfol, buasai agos pob un o Ymneillduwyr y parthau hyn, a deimlasant adfywiad trwy eu gweinidogeath, yn debygol o lynu wrthynt hwy, ond yr oeddynt yn ormod o Ymneillduwyr i gymeryd eu gwneyd yn Eglwyswyr. Yn hytrach na myned i'r Eglwysi plwyfol i dderbyn y cymun mynent gael y pregethwyr mwyaf poblogaidd yn eu plith eu hunain i weini yr ordinhadau iddynt. Dywedir i bobl y New Inn a'r Groeswen anfon cenhadau i Langeitho at Rowlands i gael ei farn ar yr achos, ac iddo eu cynghori, os na allent gael ar eu meddyliau i gymuno yn y llanau, i urddo eu pregethwyr eu hunain i weini yr ordinhadau. Yr ydym yn credu i Rowlands roddi y cynghor hwn i genhadau y New Inn a'r Groeswen, nid am ei fod yn barnu ei bod yn beth rheolaidd i'r aelodau urddo y gweinidogion, ond am mai dyna yr unig ffordd i'w cadw rhag ymadael yn hollol ac ar unwaith a'r Methodistiaid. Pe buasai efe, a'i frodyr offeiriadol, yn eu hurddo, buasent yn cael eu bwrw allan o'u bywioliaethau eglwysig yn ddiseremoni, a phe buasai yn eu cynghori i alw gweinidogion yr Ymneillduwyr i urddo eu pregethwyr, rhagwelai y buasai y cynnulleidfaoedd yn tori eu cysylltiad a'r Methodistiaid ar un—waith, ac yn dychwelyd at yr Ymneillduwyr. Trwy fabwysiadu y cynllun o urddo y pregethwyr eu hunain, cadwyd hwy yn rhyw haner Methodistiaid hyd yn agos i ddechreu y ganrif bresenol.

Mae yn debygol fod dysgyblion Harries yn ardaloedd y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen, mewn ufudd-dod i'w gais ef, wedi bod rai gweithiau yn derbyn y cymun yn yr Eglwysi plwyfol, a thyna sail y traddodiad mai o'r llanau y daethant allan; ond nid oeddynt yn fwy o Eglwyswyr na ninau. Yn awr gyda golwg ar ardal y New Iun. Yr oedd Ymneillduaeth wedi gwreiddio yma er's ugeiniau o flynyddau. Yn 1718, yr oedd, fel y gwelsom, gynnulleidfa o bedwar ugain a deg o bobl yn Nhrosnant; cynnulleidfa o gant yn Llandegfeth; un o gant ac ugain yn y Goitre; ac un o bymtheg a deugain yn Llanfrechfa; ac yn y pedair cynnulleidfa hyn, nid oedd dim llai na saith o foneddigion, deuddeg-ar-hugain o ddynion yn byw ar eu tiroedd eu hunain, a phedwar-ar-bymtheg-ar-hugain o amaethwyr yn talu rhent am eu tiroedd, heblaw amryw fasnachwyr a gweithwyr. Mae hyn, feddyliwn, yn ddigon i gyfrif am ddechreuad achos y New Inn, a methiant Harries a Rowlands i wneuthur eglwyswyr Methodistaidd o'r bobl, heb fyned yn ol y traddodiad, i Eglwys Llanfrechfa at ryw offeiriad o'r enw Evans i chwilio am ei gychwynwyr. Gallasai fod rhai o'r aelodau cyntaf wedi bod yn cymuno yn achlysurol yn Llanfrechfa, ac eglwysi eraill, ar gais Harries a Rowlands, ond nid oes genym un sail i farnu fod cymaint ag un o honynt wedi cael eu henill at grefydd trwy weinidog—aeth un offeiriad yn y gymydogaeth.

Yn fuan ar ol ymweliad cyntaf Mr. Harries a sir Fynwy, yn 1738, mae yn ymddangos i amryw gymdeithasau gael eu sefydlu yno. Mewn llythyr at Mr. Harries, oddiwrth Mr. David Williams, gweinidog y Watford, dyddiedig Chwefror 7fed, 1739, dywed yr ysgrifenydd, "Bum neithiwr yn ymweled a'ch cymdeithas yn Llanhiddel, lle y canfyddais fesur helaeth o'ch ysbryd rhydd a charedig chwi. Yr wyf yn gobeithio fod gan Dduw waith i chwi i'w wneyd yn y wlad hon y gwanwyn hwn, yn enwedig yn sir Fynwy. Yr wyf fi yn genad atoch, dros y cyfeillion yn nghymydogaethau y Casnewydd a Chaerlleon, i ddeisyf arnoch ymweled a'r lleoedd hyny. Yn 1741, bu Mr. Henry Davies, Blaengwrach, yn ymweled ag amryw o'r cymdeithasau hyn, ac yn pregethu iddynt. Yn 1743, penodwyd Mr. Morgan John Lewis i fod yn un o arolygwyr y cymdeithasau hyn; ac yn ei adroddiad am y flwyddyn 1744, dywed iddo fod y Sabboth cyn ei fod yn ysgrifenu, yn agos i'r New Inn, y Glasgoed, a'r Goitre, a bod yr Arglwydd yn datguddio llawer o hono ei hun i'r eneidiau yn mhob un o'r lleoedd hyn.[24]

Yr hanes a roddir am ddechreuad yr achos yn y New Inn, ydyw i ddeg o bersonau gyduno i roddi pum' punt yr un at brynu hen anedd-dy cyfleus yn agos i'r Gwesty a elwir y New Inn, yn mhlwyf y Panteg,—iddynt dalu deg punt ar hugain am dano, a'i gyfaddasu i fod yn lle addoliad.

Mae yn lled debygol i hyn gymeryd lle tua'r flwyddyn 1740 neu '41. Morgan John Lewis, Abraham Williams, William Williams, &c., oedd yn pregethu iddynt fynychaf. Yn y flwyddyn 1751, ymffurfiasant yn eglwys Annibynol, ac yn mhen pum' mlynedd wedi hyny, sef dydd Llun Sulgwyn 1756, darfu i'r aelodau, yn ol cyfarwyddyd Mr. Rowlands, Llangeitho, os gwir y traddodiad, urddo Morgan John Lewis i fod yn weinidog iddynt. Gan fod y dull hwn o urddo yn groes i olygiadau ac arferiad yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr, mae yn debygol i'r peth greu cryn gynhwrf yn mysg pob plaid, a myned yn destyn siarad cyffredinol. Beïid a cheblid hwy gan rai yn lled ddiarbed, a gosodid hwy allan fel haid o ddynion cyfeiliornus iawn. Mewn trefn i'r wlad gael golwg gywir ar eu syniadau fel eglwys, argraffasant y gyffes ffydd a fabwysiadwyd ganddynt ar ddydd corpholiad yr eglwys yn 1751, a thrachefn ar ddydd urddiad eu gweinidog cyntaf. Ysgrifenwyd rhagymadrodd i'r gyffes hon gan y gweinidog, yr hwn sydd fel y canlyn: "Mae yn beth agos anghyffredin yn Nghymru i osod allan Gyffes o ffydd: ond yr wyf fi yn meddwl pe bae ragor yn y ffordd hon yn cael eu wneuthur, y byddai yn fesur o gymorth i wasgaru rhyw faint o'r anwybodaeth sydd yn y wlad; er o bosibl na byddai rhai gwyr da yn cytuno, yn enwedig yn mhob peth amgylchiadol. Yr wyf ar ddeisyfiad y cyfeillion, a ddewisasant y drefn hon o ddysgyblaeth eglwys, yn gosod allan y meddyliau a ganlyn, er mwyn eu hadeiladaeth hwy, ac er mwyn i'r neb a fyddo yn dewis ymuno a nyni, wybod yn dda a pha natur o eglwys y maent yn ymuno: canys peth hollol ddinystriol (oddieithr i Ras ragflaenu) yw ymuno a neb eglwysi heb ymuno a'r Arglwydd Iesu; a pheth gwan mewn cristionogion yw ymuno ag un eglwys heb wybod ei Hegwyddorion a'i Rheolau. Llawer o ddyeithrwch, chwerwder, anfrawdgarwch, a dirmyg a daflwyd arnom gan amryw; ac fe'n gwrthwynebwyd yn gyhoeddus y cyfle cyntaf a gafwyd; yn enwedig ar y pen yn nghylch ordeinio; ond y mae'r ffordd yr ydym ni wedi ei phroffesu yn ymddangos i ni yn fwy cydsyniol a threfn yr efengyl, ac yn ateb y dyben yn well ar y dewisiad cyhoeddus, neu ordinasiwn gweinidogion. Dymunwn i'r Arglwydd ein cynnorthwyo bawb i gydoddef ein gilydd mewn cariad."

Mae y gyffes yn rhy faith i'w gosod i mewn yma. Digon yw hysbysu y darllenydd mai Calfiniaeth yw yr athrawiaeth a broffesir, ac mai Annibyniaeth yw y ffurflywodraeth eglwysig a osodir allan ynddi. Mae yn gynnwysedig o un-ar-bymtheg o erthyglau.

Dywed Mr. Davies, yn yr hanes byr o'r eglwys yn y New Inn, a gyhoeddwyd ganddo yn 1851, i Morgan John Lewis fod yn weinidog yno am yr yspaid o bymtheg mlynedd, ond y mae hyny yn amheus iawn. Mae yn sicr iddo fod yn pregethu yn lled gyson i'r gynnulleidfa yno am gyflawn bymtheg mlynedd, a chynnwys yr amser y bu yn eu gwasanaethu, cyn ac ar ol ei urddiad, ond yr ydym ni yn cael ein gogwyddo yn gryf i dybied iddo farw yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol iddo gael ei urddo, o herwydd y rhesymau canlynol: 1, Dystawrwydd dyddlyfrau Phillip Dafydd yn ei gylch. Yn ei ddyddlyfr am Medi 4ydd, 1757, dywed, "Y prydnawn heddyw bum yn hebrwng gweddillion marwol Morgan Lewis i'r bedd," a thyna y cwbl a ddywed am y marw, ond achwyna fod y bobl yn yr angladd yn ymddwyn yn anystyriol iawn. Mae dyddlyfrau Mr. P. Dafydd yn ein meddiant yn rheolaidd o Mai 28ain, 1757 hyd ddiwedd 1786, oddi—eithr ychydig fisoedd yn y blynyddoedd 1758, 1759, 1762, a 1765, ac nid oes un crybwylliad am enw Morgan John Lewis ynddynt o'r dechreu i'r diwedd, os nad efe yw y Morgan Lewis a grybwyllir yn y difyniad uchod. Gan fod Mr. P.Dafydd a Mr. Lewis wedi cael eu dwyn i fyny yn yr un ardal, mae yn sicr y buasai Mr. P. Dafydd yn cofnodi hanes ei farwolaeth, yr hon, os gwir y traddodiad, a gymerodd le dan amgylchiadau tra nodedig, os cymerodd le yn ystod un o'r blynyddau rhagrybwylledig. 2, Dywed Edmund Jones, yn Hanes Plwyf Aberystruth, yr hwn a argraffwyd yn 1779, ac yn ddiau a ysgrifenwyd flwyddyn neu ddwy cyn hyny, fod M. J. Lewis wedi marw er's amryw flynyddau. 3, Mae traddodiad mai pum' mlynedd ar hugain y bu Mr. Abraham Williams yn weinidog yn y New Inn, a chan iddo ef farw yn 1783, mae yn rhaid iddo ymgymeryd a'r weinidogaeth yno yn 1758, sef yn agos i'r amser yr ydym yn tybied i Morgan John Lewis farw. Pan glywsom mai yn mynwent Aberystruth y claddwyd ef, mynasom chwilio coflyfr y claddedigaethau yno o 1759 hyd 1771, ac nid oes un crybwylliad am dano yn y blynyddoedd hyny.

Bu Mr. Lewis, yr hwn oedd yn ddyn galluog, yn Gristion cywir, ac yn bregethwr nodedig o effeithiol, yn wasanaethgar iawn i'r achos yn y New Inn, mae yn debygol, o'i gychwyniad cyntaf hyd o fewn blwyddyn i'w farwolaeth. Dywed Mr. Davies yn ei hanes, iddo fod yn ddyrysedig yn ei synwyrau am y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd. Nid yw Mr. Edmund Jones yn dyweyd hyny, ond yn unig iddo gael ei feddianu gan bruddglwyf trwm ychydig cyn ei farw. Y peth nesaf at ddyrysu yn ei synwyrau oedd hyny. Ar ol i Mr. Lewis fethu bod o wasanaeth yn y weinidogaeth, cafodd dau frawd eraill o'r eglwys eu hurddo, yr un modd a'r gweinidog cyntaf, sef William Williams, ac Abraham Williams. Mae yn lled sicr mai yn y flwyddyn 1758 y cymerodd hyn le. Yn 1760, gofynodd eglwys yr Aber, sir Frycheiniog, am fenthyg William Williams, a symudodd yno, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth yn 1800, ac felly ni ddarfu i bobl yr Aber byth ddychwelyd y benthyg i'r New Inn. Arosodd Abraham Williams gyda ei fam-eglwys hyd derfyn ei oes, a bu yn nodedig o boblogaidd a defn—yddiol. Rhanai ei lafur trwy ei holl fywyd rhwng y New Inn a Brynbiga. Gan fod gofal y ddau le arno, urddwyd Mr. Daniel James, aelod arall o'r eglwys, yn gynnorthwywr iddo, ar ol ymadawiad Mr. William Williams i'r Aber. Dywedir nad oedd Mr. James yn helaeth yn ei ddoniau fel pregethwr, ond gan ei fod yn Gristion teilwng, ac yn ddyn cyflawn iawn fel gwladwr, yr oedd yn cael ei werthfawrogi a'i barchu yn fawr, nid yn unig gan ei eglwys, ond gan y wlad yn gyffredinol.

Wedi marwolaeth Mr. Abraham Williams, a phan oedd Mr. Daniel James wedi myned i wth o oedran, cafodd Mr. Edward Francis, aelod ieuangc o'r eglwys, ei urddo yn gynnorthwywr. Yr oedd Edward Francis yn bregethwr galluog iawn, ac y mae yn lled sicr fod yr eglwys yn addaw iddi ei hun lawer o gysur oddiwrtho, ond er ei siomedigaeth a'i gofid syrthiodd i anfoesoldeb yn fuan ar ol ei urddiad, fel y bu raid ei ddiarddelu. Nid ymddengys iddo fod yno, fel gweinidog dros dair blynedd, sef o'r flwyddyn 1786 hyd 1789. Cafodd ei adferu drachefn i aelodaeth eglwysig, ac i bregethu, ond ni chydnabyddwyd ef mwyach fel gweinidog yn ei fam-eglwys. Yn y flwyddyn 1791, anfonodd yr eglwys lythyr at y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, i ofyn am gymorth i gynal y weinidogaeth; a chan ei fod yn epistol synwyrol, ac yn taflu ychydig oleu ar helynt yr achos yn y lle, rhoddwn yma gyfieithiad o hono:—

"Eglwys Crist sydd yn ymgynnull i addoli Duw yn y Neuadd, neu y New Inn, yn sir Fynwy, at lywodraethwyr y Drysorfa Annibynol.

ANERCH.,

Yr ydym yn ostyngedig yn dymuno caniatad i osod ger eich bron ein sefyllfa a'n hamgylchiadau gyda golwg ar y weinidogaeth yn ein mysg, ac i ddeisyf eich sylw hynaws a haelionus â'n cais am gymorth i gynal y fendith anmhrisiadwy hon yn ein plith. Profasom ddaioni Duw tuag atom am lawer o flynyddau, trwy ein bendithio â gweinidogion duwiol, galluog, ac efengylaidd. Ond yn ddiweddar buom dan oruchwyliaeth dywyll a phruddaidd iawn. Yn gymaint a bod ein gweinid—og teilwng presenol, y Parch. Daniel James, wedi myned yn mhell yn mlaen mewn dyddiau, tybiasona y buasai yn ddoeth i ni urddo brawd arall (Mr. E. Francis) i fod yn gynnorthwywr iddo; ond er ein mawr dristwch efe a syrthiodd i bechod gwar—adwyddus, a thrwy hyny tynodd enw ac achos ein hanwyl Waredwr i gael eu cablu. Ond bendigedig fyddo Duw, y mae Efe wedi gweled yn dda i barhau bywyd a llafur ei was ffyddlon, Mr. D. James, i ni fel ein gweinidog hyd y dydd hwn. A chan ei fod ef mewn angen mawr am gynnorthwywr, yr ydym yn gobeith—io y darpara yr Arglwydd un i ni. Ond gan mai ychydig, ie ychydig iawn yn wir o'r cyfoethogion sydd wedi eu galw yn ein mysg, nid yw y swm a allwn wneyd at gynaliaeth y weinidogaeth ond bychan iawn. Yr ydym, gan hyny, dan yr angen. rheidrwydd o ddeisyf arnoch i barhau i ni eich rhodd flynyddol at gynal y weinid—ogaeth yn ein mysg. Yr ydym yn cydnabod gyda diolchgarwch a chariad y cym—orth a dderbyniasom oddiwrthych am lawer o flynyddoedd a aethant heibio, hyd at y flwyddyn ddiweddaf. Bu ataliad y rhodd y llynedd yn golled fawr i'n gweinidog, yr hyn sydd flin iawn genym.

Yr ydym yn cyflwyno ein hachos i'ch sylw caredig, gan obeithio y derbynir ni etto i fod yn gyfranogwyr o'ch haelioni. Yr ydym yn gweddio yn ddidwyll am fendith i ddilyn eich cynlluniau canmoladwy i weithio yn mlaen a thaenu efengyl Crist.

Arwyddwyd, yn enw yr holl eglwys, genyn ni,

Daniel James, Gweinidog,

William Jones,
Herbert Williams,
Fran. Morgan,
Wm. Thomas,
Thos. Pritchard,
Wm. Rogers.

Henuriaid Llywodraethol

Wm. Morgan.
Hen. Morgan.

Diaconiaid.

Yr ydym ni y rhai y mae ein henwau isod, fel rhai adnabyddus o achos eglwys y New Inn, yn ddidwyll yn cymeradwyo y cais uchod i'ch ystyriaeth, gan obeithio yr ystyrir ef yn deilwng o'ch sylw.

Edmund Jones, gweinidog yn Ebenezer.
Emanuel Davies, gweinidog yn Hanover."

Yn ol y llythyr uchod, yr oedd yr eglwys mewn angen am weinidog cynnorthwyol yn y flwyddyn 1791. Ryw amser wedi hyn, dichon yn mhen blwyddyn neu ddwy, rhoddasant alwad i Mr. Thomas Walters, yr hwn oedd yn bregethwr teithiol yn mysg y Methodistiaid. Efe oedd y cyntaf o weinidogion y New Inn a urddwyd yn ol y drefn arferol yn mysg yr Annibynwyr. Yr oedd Mr. Walters yn bregethwr melus a phoblogaidd, ond nid ymddengys i'w weinidogaeth fod o fawr les i'r eglwys, oddieithr am ychydig o flynyddau cyntaf ei dymor yno, pan y bu yn hynod o'r llafurus, oblegid ymroddodd yn fuan wedi hyny i ymdrafod â phethau y bywyd hwn i'r fath raddau, nes y collodd ysbryd y weinidogaeth, ac yr esgeulusodd ei waith; a'r canlyniad fu i'r achos wywo a gwanhau yn fawr. Yr oedd wedi myned gymaint i ysbryd y byd fel na welid ef braidd un amser mewn cyfarfod crefyddol ar ddyddiau o'r wythnos, pa mor nodedig a phwysig bynag y gallasent fod. Yr oedd yr enwog Ebenezer Morris yn teimlo yn anwyl iawn at Mr. Walters, am mai dan ei weinidogaeth ef y cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd. O barch i'w dad yn yr efengyl, ac oddiar awydd am ei weled, anfonodd ei gyhoeddiad i'r New Inn. Daeth yno dorf o bobl yn nghyd, ond nis gallodd y gweinidog fforddio i roddi y maes a'r fasnach heibio am ddwy neu dair awr i fyned i wrandaw dyn mor enwog. Cafodd Mr. Morris, wrth reswm, ei siomi yn fawr yn ei absenoldeb. Clywsom Mr. Powell, Caerdydd, yn adrodd peth cyffelyb. Yr oedd ef, yn fuan ar ol iddo ddechreu pregethu, wedi myned ar daith trwy sir Fynwy, gyda Mr. Williams, Troedrhiwdalar, yr hwn oedd y pryd hwnw, fel y mae etto yn parhau, yn un o brif enwogion y pulpud Cymreig. Wedi pregethu yn y New Inn un noswaith i dorf fawr, yn absenoldeb Mr. Walters, yr oedd eu cyhoeddiad ganol dydd dranoeth yn Mhenywaun, cangen o'r New Inn y pryd hwnw, ac yn ymyl anedd Mr. Walters. Pan oeddynt yn agoshau at y capel, cyfarfyddent a'r gweinidog yn myned i ffwrdd ar ryw neges fydol. Cyfarchodd hwynt, a dywedodd nad oedd ganddo ef amser i ddyfod i'w gwrandaw. Nid rhyfedd i'r achos nychu dan weinidogaeth dyn o'r fath. Rhoddodd Mr. Walters ei weinidogaeth yn y New Inn i fyny tua y flwyddyn 1817, ac ymunodd drachefn â'r Methodistiaid. Mae yn ymddangos i'r eglwys ar ol ei ymadawiad ef fod tua thair blynedd heb un gweinidog sefydlog. Ionawr 6ed, 1820, cafodd Mr. Benjamin Moses, myfyriwr o athrofa Llanfyllin, ei urddo yno, ond ni fu y cysylltiad hwn o fawr barhad, nac o gysur i'r eglwys. O herwydd peidio rhodio yn deilwng o'r efengyl bu raid i'r eglwys ymwrthod a Mr. Moses cyn pen llawn ddwy flynedd ar ol ei urddo.

Cafodd eglwys y New Inn dywydd teg a digwmwl iawn o ddechreuad yr achos, tua y flwyddyn 1740, hyd gwymp Edward Francis, oddeutu diwedd 1789, neu ddechreu 1790. Os byddai ambell elyn oddiallan yn rhoddi iddi ergyd yn awr a phryd arall, yr oedd tangnefedd perffaith oddi-fewn, a'r pulpud yn cael ei lenwi gan olyniad o weinidogion hyawdl a llawn o dân sanctaidd. Ond ar syrthiad Mr. Francis dechreuodd arni ddiwrnod tywyll du, yr hwn a barhaodd felly agos yn ddigyfnewid hyd ymadawiad Mr. Moses yn 1822. Bu cwympiadau Francis a Moses yn ddolur tost i'r achos, a bydolrwydd ac esgeulusdod Walters yn nychdod truenus iddo.

Pa fodd bynag, aeth y gauaf ystormus heibio, a dilynwyd ef gan haf hir a dymunol. Yn niwedd y flwyddyn 1822, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, myfyriwr yn athrofa y Neuaddlwyd, ac urddwyd ef ar y 27ain o Fawrth, 1823, ac y mae yn aros yno hyd y dydd hwn. Yr oedd Mr. Davies ar ei gychwyniad yn y weinidogaeth "fel cân cariad un hyfrydlais yn canu yn dda," ac ar ol saith mlynedd a deugain o fyned i mewn ac allan o flaen y bobl, y mae y dydd hwn yn llawn mor dderbyniol a'r dydd cyntaf, ac yn llawer mwy ei ddylanwad nag y gallasai fod y pryd hwnw.

Mae y gwasanaeth yn y New Inn er's amryw flynyddau bellach yn cael ei ddwyn yn mlaen agos yn hollol yn yr iaith Saesonig. Mae newid iaith yr addoliad wedi bod yn ddinystr i lawer achos blodeuog ar derfynau Cymru a Lloegr. Ond y mae wedi bod yn wahanol yma. Er fod rhai hen bobl ar y dechreu yn grwgnach ychydig, ac yn awgrymu mai balchder oedd dwyn y Saesoneg "oerllyd" i mewn i'r gwasanaeth, aed trwy y cyfnewidiad heb nemawr o ofid, ac y mae y gynnulleidfa yn awr, o bosibl, yn lluosocach nag y bu erioed, er fe ddichon yn cynnwys llai o bigion teuluoedd parchus yr ardaloedd cymydogaethol, o herwydd fod achosion newyddion wedi cael eu sefydlu trwy yr holl wlad yn mhob cyfeiriad.

Mae yn perthyn i'r eglwys hon yr anrhydedd o fod yn fam i amryw eglwysi cymydogaethol. Yn amser Mr. Abraham Williams, corpholwyd cangen yn Brynbiga. Yn amser Mr. Walters y dechreuwyd yr achosion yn Nghaerlleon a Phenywaun; yn amser Mr. Moses y dechreuwyd Maes-llech; a chorpholwyd Cwmbran—y gryfaf ei chyfansoddiad o holl ferched y fam eglwys yn nhymor gweinidogaeth y gweinidog presenol.

Hen anedd-dy a elwid y Neuadd, wedi ei gyfaddasu i fod yn lle addoliad, fu ty cyfarfod cyntaf yr eglwys hon. Yn mhen rhai blynyddau adeiladwyd yno gapel, ac yn y flwyddyn 1825, adeiladwyd yn ei ffurf bresenol, ond iddo gael ei brydferthu a gosod eisteddleoedd newyddion ynddo yn 1844. Mae yr eglwys hon er ei dechreuad wedi bod yn nodedig am ei doniau a'i gwresogrwydd crefyddol. Nid ydym gan hyny i ryfeddu ei bod, o bryd i bryd, wedi anfon allan niferi o'i phlant i bregethu yr Efengyl. Heblaw y rhai fuant yn weinidogion yn y lle, cafodd y rhai canlynol ei cyfodi i bregethu yma:—

Morgan Williams. Mae yn debygol ei fod ef yn un o sylfaenwyr yr achos yn y lle. Byddai yn cynnorthwyo eglwys yr Aber yn fynych cyn ac wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. W. Williams yno. Hyn yw y cwbl a wyddom o'i hanes.

William Williams. Daw ef ynglyn a hanes eglwys yr Aber, a daw William George ynglyn a hanes eglwys Brynbiga.

John Jayne. Bu ef yn yr eglwys hon, ac eglwysi cymydogaethol, am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol parchus. Yn fuan ar ol dechreuad y ganrif bresenol, symudodd i fyw i blwyf Llanfaple. Cyn gynted ag yr aeth yno dechreuodd bregethu mewn ty anedd, ond cyfododd yr offeiriad, a rhai eraill o'r plwyfolion, wrthwynebiad iddo, fel y bu raid iddo drwyddedu y tŷ cyn cael llonydd i bregethu ynddo. Yn mhen ychydig wedi hyny adeiladodd gapel ar ei dir ei hun. Bu farw tua y flwyddyn 1815.

George Williams oedd ŵr ieuangc gobeithiol a chymeradwy a ddechreuodd bregethu yma yn amser y gweinidog presenol. Y mae er's llawer o flynyddau wedi ymfudo i'r America. Ni wyddys yn awr pa un ai byw ai marw ydyw.

Daniel B. James. Y mae efe yn fab i Mr. Daniel James, Cwmbwrwch, am yr hwn y soniasom yn hanes Hanover. Cafodd ei addysgu yn yr athrofa Orllewinol, ac urddwyd ef yn Castle Green, Caerodor, 1868. Y mae yn weinidog ieuangc hyawdl a gobeithiol iawn.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

MORGAN JOHN LEWIS. Ychydig iawn o hanes personol y gwr da hwn sydd yn hysbys i ni. Cafodd ei eni a'i fagu yn Nghwm Ebbwy Fawr, yn mhlwyf Aberystruth, ond nis gwyddom amser ei enedigaeth, o herwydd fod Mr. Edmund Jones, yn ei hanes am blwyf Aberystruth, wedi bod yn rhyfeddol o esgeulus i roddi amseriad y dygwyddiadau a grybwylla. Nis gallwn, o herwydd yr un rheswm, benderfynu pa bryd y dechreuodd Mr. Lewis ei fywyd crefyddol. Ar ol son am ymweliad Mr. Howell Harries â Chwm Ebbwy, yn 1738, pryd y cryfhawyd y diwygiad crefyddol oedd wedi dechreu yno tua deunaw mlynedd cyn hyny, dywed Mr. Jones i bump o bersonau a ddychwelwyd yn y Cwm, "o gylch yr amser hwnw," fyned yn bregethwyr, ac un o'r pump oedd Morgan John Lewis. Ond y mae yr ymadrodd "o gylch yr amser hwnw," mor benagored fel y cynwysa unrhyw flwyddyn o 1720 hyd 1740, a gwyddys yr amcanai yr ysgrifenydd iddo gael ei ddeall felly, canys enwa Phillip Dafydd fel un o'r pump pregethwr a ddychwelwyd yn Nghwm Ebbwy "o gylch yr amser hwnw;" ac y mae yn ddigon hysbys fod Phillip Dafydd, nid yn unig wedi dechreu crefydda cyn 1738, ond ei fod wedi dechreu pregethu yn 1732, os nad yn 1731. Felly nis gallwn benderfynu pa bryd y cymerodd troedigaeth Morgan John Lewis le. Dichon mai yn 1738, neu tua phump neu ddeng mlynedd cyn hyny, o ran dim a ymddengys i'r gwrthwyneb yn hanes Edmund Jones. Pa fodd bynag, mae ei droedigaeth yn, neu cyn 1738 yn fatter o sicrwydd. Yr ydym yn cael ei enw fel pregethwr cyhoeddus yn hanes cymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yr hon a gynaliwyd yn nghapel yr Annibynwyr, neu y Presbyteriaid, fel y gelwid hwy weithiau y pryd hwnw, yn y Watford, gerllaw Caerphili, Ionawr 5ed a'r 6ed, 1742. Digon tebygol ei fod wedi dechreu cynghori rai blynyddau cyn hyny. Yn 1743, penodwyd ef yn un o arolygwyr y cymdeithasau trwy Fynwy a rhan o Forganwg, ac yn 1744, cawn ganddo adroddiad o sefyllfa y cymdeithasau yr ymwelasai â hwynt. O'r flwyddyn hono, hyd amser ei urddiad yn New Inn, yr ydym heb un hanes am dano, ond y mae yn sicr ei fod wedi llafurio yn ddiwyd trwy y blynyddau hyny, ac yn benaf, yn ol pob tebygolrwydd, yn y New Inn a'r gymydogaeth. Mae hanes y rhan ddiweddaf o'i oes yn hynod a difrifol iawn, os yw yn wir. Dywedir ei fod wedi pregethu yn y New Inn foreu y Sabboth, ac yn yr hwyr yn nhŷ Mr. Jayne, un o'r aelodau, yr hwn oedd yn byw rhwng Pontypool a Blaenafon. Cysgodd yn y tŷ lle y buasai yn pregethu y noswaith hono, ac yn fore iawn bore dranoeth, daeth meistr tir Mr. Jayne yno, a milwr gydag ef, a gofynodd pa le yr oedd y pregethwr; atebwyd ei fod heb gyfodi o'i wely. Mynodd y gwr a'r milwr fyned i'w ystafell wely, a chawsant ef yn cysgu. Dynoethodd y milwr ei gleddyf, ac ysgydwodd ef uwch ei ben, gan waeddi, "Deffro Heretic." Deffrodd yntau, ac wrth weled fath olygfa arswydus, ac annisgwyliadwy, cafodd gymaint o ddychryn nes y dyrysodd ei synwyrau. Bu yn y cyflwr hwnw am tua blwyddyn, ac yna bu farw.

Dyna yr hanes, fel yr adroddir hi yn y gymydogaeth. Mae yn peri mesur o betrusder i ni. Teimlwn yn anhawdd ei hannghredu, am ei bod cael ei hadrodd gan ddynion parchus a geirwir, y rhai a'u cawsant o enau hen bobl oeddynt yn ddigon hen i gofio yr amser yn yr hwn y cymerodd y peth le, os cymerodd le o gwbl; o'r tu arall, yr ydym yn teimlo anhaws—der mawr i'w chredu, oblegid na ddarfu i neb yn yr oes hono gofnodi am—gylchiad mor hynod. Yr ydym yn gadael yr hanes i'r darllenydd i'w dderbyn neu ei wrthod fel y tueddir ei feddwl. A ganlyn yw y cwbl a ddywedir am Morgan John Lewis gan Edmund Jones, yn hanes plwyf Aberystruth: "Efe a fu am beth amser yn gynghorwr selog ac egwyddorol yn mysg y Methodistiaid, ond o'r diwedd aeth yn weinidog i nifer o Fethodistiaid, y rhai a ymffurfiasent yn eglwys Annibynol mewn lle tua thair milldir islaw Pontypool, a'r rhai ydynt yn awr yn eglwys lewyrchus dan ofal y Parchedig Mr. Abraham Williams. Yr oedd efe yn bregethwr grymus; yn un o wybodaeth a meddwl treiddgar mewn pethau dwyfol; o gymmeriad difrycheulyd; ond ystyrid ef i fesur yn rhy erwin yn ei ffordd, ac yn rhy barod i feio. Ryw faint o amser cyn ei farwolaeth syrthiodd i bruddglwyf dwfn, ond ychydig cyn ei farw dywedodd ei fod yn cael cysur oddiwrth yr adnodau diweddaf o'r wythfed bennod o'r epistol at y Rhufeiniaid. Y mae yntau hefyd wedi marw er's amryw fynyddau yn ol." Bu farw, fel yr ydym ni yn tybied, tua y flwyddyn 1757 neu 1758, a chladdwyd ef, meddir, yn mynwent Aberystruth.

ABRAHAM WILLIAMS. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Pontyfelin, yn mhlwyf Panteg, Mynwy, yn y flwyddyn 1720. Yr oedd ganddo ddawn rhagorol i ganu, ac ymddengys ei fod yn deall cerddoriaeth yn dda. Byddai yn ei ieuengetyd yn myned oddiamgylch o blwyf i blwyf i ddysgu pobl i ganu Salmau. Dywedir mai trwy weinidogaeth Morgan John Lewis yr ennillwyd ef at grefydd. Wedi iddo ddyfod yn grefyddol rhoddodd heibio fyned oddiamgylch i gadw ysgolion can, ac ymroddodd yn fwy at weddio o hyny allan. Dechreuodd bregethu yn fore, oblegid y mae ei enw yn nghofnodion Trefecca fel "cynghorwr" yn y flwyddyn 1744, ac yn ol yr hyn a gofnodir ar ei gareg fedd, yr oedd yn bregethwr cyhoeddus, o leiaf flwyddyn cyn hyny. Bu yn pregethu yn y New Inn a Brynbiga am ddeugain mlynedd, ond dywedir mai am bum' mlynedd ar hugain y bu yn weinidog yn y New Inn, ac felly mae yn rhaid mai yn 1758 yr urddwyd ef. Fel pregethwr cynnorthwyol, gan hyny, y pregethai yno am y pym—theg mlynedd blaenorol. Priododd âg unig ferch John Morgan, Yswain, o'r Ystafarnau, gerllaw Brynbiga, ac yn y lle hwnw y bu yn byw hyd derfyn ei oes. Bu farw Medi 3ydd, 1783, yn 63 oed, a chladdwyd ef mewn daeargell yn y capel y buasai yn offerynol i'w adeiladu yn Mrynbiga. Mae Phillip Dafydd, yn ei ddyddlyfr am Medi 17eg, 1783, ar ol cofnodi marwolaeth Thomas Lewis, Llanharan, yr wythnos flaenorol, yn ysgrifenu, "Heddyw y clywais fod Mr. Abraham Williams wedi ei gladdu. Rhwyg ar rwyg: dau weinidog yn cael eu symud o fewn pythefnos i'w gilydd. Yr wyf fi yn meddwl fod Abraham Williams yn fwy uniawngred (hyny yw, yn fwy o Ymneillduwr, ac yn llai o Fethodist, yn ddiau a olygai yr ysgrifenydd) na llawer, ac yr wyf yn gobeithio fod ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel."

Mae yn ymddangos fod Abraham Williams yn ddyn llafurus a defnyddiol iawn, ac yn bregethwr nodedig o alluog. Byddai yn pregethu yn lled fynych yn Mhenmain, a chanmolir ei bregethau yn fawr gan Phillip Dafydd, yr hwn nid oedd yn barod iawn i ganfod unrhyw ragoriaeth mewn neb ag a fuasai yn gogwyddo yn y mesur lleiaf at Fethodistiaeth. Cawn y cofnodiad canlynol yn ei ddyddlyfr am Tachwedd 9fed, 1766:—"Cefais fy arbed i bregethu heddyw gan Mr. Abraham Williams, yr hwn a bregethodd oddiwith Heb. iv. 14; pregeth dda a sylweddol iawn, y fwyaf alluog a wrandewais i er's llawer o amser,"

Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, "Nad oedd Mr. A. Williams yn dal llawer o undeb âg un corff o grefyddwyr, ond cymaint ag oedd gyda'r Methodistiaid yr oedd," ond nid yw yn dyweyd yn iawn. Annibynwr trwyadl ydoedd, ac a'r Annibynwyr braidd yn unig yr ymgyfeillachai trwy holl dymor ei weinidogaeth yn y New Inn. Bu am flynyddau yn derbyn cymhorth blynyddol o'r Drysorfa Gynnulleidfaol yn Llundain, ac nis gallasai gael dim oddiyno heb ei fod yn cael ei gydnabod gan weinidogion y sir fel gweinidog Annibynol.

DANTEL JAMES. Cafodd ef ei eni a'i ddwyn i fyny mewn lle a elwir y Bryncoch, yn mhlwyf Maesaleg, gerllaw y Casnewydd, ac ymddengys mai yno y treuliodd ei oes, ac y bu farw. Dywedir fod yr enwog Whitefield wedi bod yn lletya amryw weithiau yn y Bryncoch, a chan y dywedir fod Mr. James yn y flwyddyn 1791 "wedi myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau," mae yn naturiol i ni gasglu ei fod yn un o'r rhai a ddechreuasant yr achos yn y New Inn. Yr ydym yn tybied iddo gael ei urddo yn gynnorthwywr i Mr. Abraham Williams tua y flwyddyn 1760, pryd y symudodd Mr. William Williams i'r Aber. Dywedir mai yn mynwent eglwys Maesaleg y claddwyd ef, ond er chwilio coflyfr y claddedigaethau yno, yr ydys wedi methu cael hyd i'w enw ef yn mysg y rhai a gladdwyd yno o 1794 hyd 1802, ac nid ymddengys ychwaith fod careg wedi cael ei gosod ar ei fedd. Treuliodd ei holl fywyd heb briodi, ac felly dygwyddodd tynged gyffredin "hen langciau" iddo yntau, sef cael ei adael i syrthio i ebargofiant. Yr oedd yn fyw yn 1796, oblegid yr ydym yn cael ei fod yn pregethu yn Heol-y-felin, Casnewydd, Awst 17eg, yn y flwyddyn hono. Pa cyhyd y bu fyw ar ol hyny, nis gwyddom.

Er nad oedd Mr. James yn helaeth yn ei ddoniau fel pregethwr, yr oedd ei ffyddlondeb, ei ddiwydrwydd, ei dduwioldeb, a'i safle uchel fel gwladwr, yn ei wneyd yn barchus a defnyddiol iawn. Dywedir ei fod yn feddyg rhagorol, a pha le bynag y cyhoeddesid ef i bregethu buasai pob claf a allasai symud o'i wely yn dyfod i'r oedfa, er mwyn cael cyfle i ymgynghori a'r pregethwr am ei anhwyldeb corfforol. Nid y werin anwybodus yn unig oedd yn mawrygu ei wybodaeth feddygol, ond dywedir y byddai un o brif feddygon y Casnewydd yn ei gymeryd yn fynych gydag ef i weled rhyw achosion nodedig er mwyn ymgynghori ag ef.

EDWARD FRANCIS. Ymunodd ag eglwys y New Inn yn ieuangc. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu. Ymddengys mai Awst 7fed, 1785, oedd y tro cyntaf iddo ymweled â Phenmain. Ysgrifena Phillip Dafydd gyferbyn ar diwrnod hwnw yn ei ddyddlyfr, "Bum yn Mhenmain heddyw, ond cefais fy arbed i bregethu gan Edward Francis, gwr ieuangc sydd yn perthyn i gynnulleidfa y New Inn. Ni allaswn i glywed ond y peth nesaf i ddim, am fy mod wedi cael anwyd trwm, ond hysbyswyd fi gan y rhai a'i clywsant, iddo bregethu yn dda. Ei destyn oedd Mat. xi. 29." Mae yn ymddangos iddo foddio y bobl yn dda, oblegid cofnodir iddo fod yno drachefn Medi 11eg, o'r un flwyddyn, a phregethu i gynnulleidfa fawr, oddiwrth Mat. xvi. 26. Bu yno y drydedd waith, Hydref 23ain, a phregethodd yn weddol dda," oddiwrth Mat. v. 3. Y tro nesaf yr ymwelodd â Phenmain oedd Ebrill 9fed, 1786, a'r tro hwn aeth ychydig yn is yn nghyfrif yr hen weinidog. Ysgrifena, "Bum heddyw yn Mhenmain, a phregethodd y gwr ieuangc Edward Francis yno. Ei destyn oedd Deut. xxxii. 10—testyn llawn o fater, ond ni ddarfu iddo ef sefyll yn ddigon agos gyda ei destyn. Yn yr hwyr clywais ef drachefn yn nhy William Williams, yn pregethu oddiwrth Dat. ii. 10. Mae ei ddull o draddodi yn debyg i'r Methodistiaid yn gyffredin:—peidio sefyll ar unrhyw bwnge mewn duwinyddiaeth, ond crwydro o'r naill beth i'r llall." Etto ar y 9fed o Orphenaf, pregethodd yno oddiwrth Caniadau ii. 15. Ond yr oedd yr hen weinidog yn rhy fyddar y waith hon i glywed dim, ac felly dywed nas gallasai roddi ei farn ar y bregeth. Bu yno unwaith drachefn cyn diwedd y flwyddyn 1786, ac yr oedd y gwrandawyr yn lluosog. Dengys hyn fod y gwr ieuangc yn boblogaidd iawn. Gresyn gan hyny na fuasai yn cadw ei wisgoedd yn lân. Yr ydym yn lled sicr mai yn y flwyddyn 1786 yr urddwyd ef, ac iddo golli ei le yn 1789, neu ddechreu 1790. Cafodd ei adferu drachefn i fod yn aelod ac yn bregethwr; yna symudodd i Lundain, lle y bu am rai blynyddau, yn pregethu i'r Cymry yn Lambeth. Dychwelodd i Gymru yn 1799, a bu yn weinidog derbyniol a llwyddianus iawn yn Machynlleth dros oddeutu tair blynedd, yna aeth yn ol i Lundain. Dywedir i Dr. Lewis, y pryd hwnw o Lanuwchllyn, ddyweyd wrtho, os ymadawai o Fachynlleth, lle yr oedd mor llwyddianus, y buasai yn digio yr Arglwydd, ac na ddeuai daioni byth o hono. Mae yn debygol i brophwydoliaeth y Dr. gael ei chyflawni, oblegid nid ymddengys iddo fod o fawr ddefnydd yn un lle mwyach. Yr ydym yn barnu nad arosodd yn hir yn Llundain yr ail waith, ond iddo ddychwelyd i Fynwy, ac mai yno y bu farw. Yr ydym yn cael ei enw yn hen lyfr eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, fel pregethwr achlysurol yno o 1806 hyd Mai 24ain, 1818. Mae yn debygol iddo farw yn fuan ar ol hyn.

THOMAS WALTERS. Ganwyd ef yn mhlwyf Mynyddislwyn, yn y flwyddyn 1761. Ymunodd a chrefydd yn lled ieuangc yn y Tynewydd, Mynyddislwyn. Yr oedd eglwys y Tynewydd y pryd hwnw dan ofal gweinidogaethol ei ewythr Mr. Thomas Walters, ac yn ryw haner Methodistiaid. Yn fuan wedi iddo ef ddechreu pregethu ymgysylltodd yn fwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr, ac yn eu plith hwy yn benaf y bu yn pregethu, hyd nes iddo dderbyn galwad gan eglwys y New Inn, i fod yn gynnorthwywr i'w hen weinidog, Mr. Daniel James. Urddwyd ef yno gan weinidogion yr Annibynwyr, ond nis gwyddom pa flwyddyn, yr ydym yn tybied mai tua y flwyddyn 1793 yr urddwyd ef. Bu eglwys y Tŷ-newydd, yn gystal a'r New Inn, dan ei ofal o 1794, pryd y bu farw ei ewythr, hyd 1811, pryd yr urddwyd Mr. William George yno. Yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth bu yn llafurus, ac i fesur yn llwyddianus, ond wedi hyny ymroddodd mor llwyr i ymdrafiaethau bydol, fel yr aeth agos yn hollol ddiwerth fel gweinidog. Cafodd ei siomi yn ei ddisgwyliadau oddiwrth y byd presenol, a bu farw yn gymharol dlawd. Tua phedair blynedd cyn ei farwolaeth ymunodd drachefn a'r Methodistiaid, a bu yn pregethu ychydig yn eu mysg hyd derfyn ei oes. Bu farw yn Cwmdows, Mynyddislwyn, Tachwedd 2il, 1821, yn 60 oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Mynyddislwyn.

Yr oedd Mr. Walters yn nechreuad ei fywyd cyhoeddus yn bregethwr melus ac effeithiol iawn, a diau y buasai yn un o'r dynion mwyaf defnnyddiol yn ei oes pe buasai yn ymgysegru yn llwyrach i wasanaeth ei Arglwydd. "Ymddengys iddo gael grodd o adnewyddiad i'w ysbryd cyn ymadael ar byd hwn, gan y dywedir iddo farw yn orfoleddus iawn, gan ddiolch yn wresog am drysor gwell yn y nef na dim a fedd y ddaear hon."[25]

BENJAMIN MOSES. Ganwyd ef yn ardal Tynygwndwn, sir Aberteifi, derbyniodd ei addysg yn athrofâau y Neuaddlwyd a Llanfyllin; ac urddwyd ef yn y New Inn, Ionawr 6ed, 1820. Bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef yn mhen dwy flynedd am nad oedd. yn bucheddu yn addas. Wedi ymadael o'r New Inn aeth i Abertawy, a phriododd yno ag un Mrs. Edwards, tafarnwraig, yr hon a gadwai y Tymelyn. Derbyniwyd ef yn aelod i Ebenezer, Abertawy, a bu yn pregethu yn achlysurol yno, ac mewn rhai manau eraill hyd ddiwedd ei oes. Bu farw ar ol cystudd byr Mai 16eg, 1829, a chladdwyd ef yn mynwent Ebenezer, Abertawy. Dywedir ei fod yn bregethwr derbyniol iawn. Priododd ei weddw a'r nodedig Shadrach Davies.

DAVID DAVIES. Mae Mr. Davies yn enedigol o ardal Rhydybont, sir Gaerfyrddin. Disgyna oddiwrth henafiaid enwog am eu duwioldeb. Derbyniwyd ef yn ieuangc yn Rhydybont gan Mr. Jonathan Jones, ac yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu aeth i athrofa y Neuaddlwyd, ac oddi-yno i'r New Inn, lle yr urddwyd ef Mawrth 27ain, 1823. Yr oedd trefn cyfarfodydd yr urddiad fel y canlyn: Prydnawn ddydd Mercher, am 3, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed, a phregethodd y Meistriaid D. Griffiths, Castellnedd, oddiar Sal. iii. 8; T. Davies, Cymmar, oddiar Dat. i. 5; a D. Williams, Llanwrtyd, oddiar Heb. ii. 17. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni; a phregethodd y Meistriaid H. Heibert, Caerodor, oddiar Mat. xix. 16; a T. Phillips, Neuaddlwyd, oddiar Sal. xvi. 11. Am 10, dydd Iau, gweddiodd Mr. D. Davies, Penywaun; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. T. B. Evans, Ynys—gau; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Lewis, Aber; gweddiodd Mr. E. Jones, Pontypool, yr urddweddi gydag a'r ddodiad dwylaw; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. Phillips, Neuaddlwyd, oddiar 1 Tim. iv. 15; ac i'r eglwys gan Mr. W. Jones, Rhydybont, oddiar 1 Cor. xvi. 10. Am 2, gweddiodd Mr. W. Jones, Penybont; a phregethodd y Meistriaid W. Lewis, Tredwstan, (yn Saesoneg), oddiar Mat. viii. 22; a G. Hughes, Groeswen, oddiar 1 Cor. xiii. 13. Am 6, gweddiodd Mr. John Phillips, Neuaddlwyd; a phregethodd y Meistriaid T. Jones, myfyriwr, Neuaddlwyd, oddiar Mat. xxviii. 18; a P. Griffiths, Alltwen, oddiar Heb. i. 2.

Mae Mr. Davies yn awr yn dechreu yr wythfed flwyddyn a deugain o'i weinidogaeth, ac mor fywiog mewn corff a meddwl a phe byddai yn llangc ugain oed. Rhodded yr Arglwydd iddo lawer o wedd ei wyneb, a llwyddiant mawr o hyn hyd derfyn ei oes.[26]

BRYNBIGA.

Nodasom yn hanes Llanfaches a Hanover fod Ymneillduaeth wedi cymeryd cryn afael yn y dref hon a'r gymydogaeth yn lled gynar yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac iddi ddal ei gafael yma am rai blynyddau wedi dechreu y ddeunawfed ganrif. Yr oedd yn y dref hon gynnulleidfa dan ofal y doniol Hugh Pugh, yr hwn a fu farw tua 1709, ond y mae yn ymddangos i'r achos wywo yn fuan ar ol ei farwolaeth ef, ac nad oedd yma ond ychydig neu ddim o'i weddillion tua y flwyddyn 1743, pan y dechreuodd Mr. Abraham Williams, sylfaenydd yr achos sydd yma yn bresenol, ddyfod i bregethu i'r dref. Os nad oedd rhai o hen aelodau Hugh Pugh heb farw ar gychwyniad yr achos presenol, mae yn ddiau fod rhai o'u hiliogaeth yn y dref a'r gymydogaeth yn teimlo rhyw beth at yr achos yn wahanol i'r hyn fuasai disgynyddion dynion paganaidd yn deimlo. Yr hanes a gawn am ddechreuad yr achos presenol sydd fel y canlyn:—Yr oedd yma bump o bobl grefyddol aelodau yn awr yn y New Inn—lle yr oedd cymdeithas grefyddol, er fod yr eglwys heb ei ffurfio yno etto. Unodd y rhai hyn a Mr. Abraham Williams i osod i fyny addoliad crefyddol yn y dref, tua y flwyddyn 1743. Nid oedd yr un o honynt ond y pregethwr ei hun yn meddu dawn i ganu, gan hyny, cafwyd gan ryw bump eraill a fedrent ganu, i fyned yno yn lled gyson o'r New Inn. Yn mhen amser ffurfiwyd yno eglwys, nis gwyddom pa bryd, ond y mae yn ddigon tebygol mai tua yr un amser ag y corffolwyd eglwys y New Inn; neu efallai mai yn 1756, pryd yr urddwyd y gweinidog cyntaf yn y New Inn.

Mewn anedd-dai y buwyd yn addoli yma am lawer o flynyddau. Tua y flwyddyn 1770 yr adeiladwyd y capel yma, a chan iddo gael ei adeiladu yn agos iawn at gapel y Bedyddwyr teimlodd y brodyr hyny i raddau yn dramgwyddus, ac edrychasant arno fel amcan i ddrygu eu hachos hwy.[27]

Tua yr amser yr adeiladwyd y capel, neu yn fuan ar ol hyny, cyfododd gwr ieuangc doniol ac anarferol o boblogaidd i bregethu yma, ac mewn parthau eraill o'r sir, o'r enw Jehoiada Brewer.[28] Bu ef yma am rai blynyddau yn gynorthwyol iawn i'r achos, a bu yn ei noddi ar ol iddo ymadael a'r lle, ac am flynyddau wedi marwolaeth Mr. Williams. Ei enw ef yw y blaenaf o'r ymddiriedolwyr yn ngweithredoedd y capel, yr hon, o herwydd esgeulusdod neu ryw beth arall, ni chafodd ei gwneuthur cyn Ebrill, 1788, tua deunaw mlynedd ar ol adeiladu y capel.

Nis gwyddom pwy fu yn gweinidogaethu yma o'r flwyddyn 1783, pryd y bu farw Mr. Abraham Williams, hyd 1789, pryd yr urddwyd Mr. William George, un o aelodau y New Inn. Mae ger ein bron yn awr lythyr a ysgrifenwyd gan Mr. George yn 1794, pan yr oedd newydd ymadael o Frynbiga. Yn hwnw dywed iddo gael ei urddo yno bum' mlynedd yn ol, gydag arddodiad dwylaw yr enwog Edmund Jones, a gweinidogion eraill. Yn 1795, urddwyd Mr, Ebenezer Jones yn Mhontypool, a chymerodd ofal yr eglwys yn Mrynbiga mewn cysylltiad ag Ebenezer, a than ei ofal ef y bu hyd yn agos i derfyn ei oes yn 1829. Er cymaint oedd doniau Mr. Jones fel pregethwr, a'i ddylanwad fel gwladwr, nis gallasai yr achos dan ei ofal, mewn tref Saesonig, lai na pharhau yn wanaidd a nychlyd, pryd nad oedd yn gallu rhoddi haner ei amser i'w wasanaethu. Rhoddodd Mr. Jones ei swydd i fyny ychydig cyn ei farw.

Yn fuan ar ol hyny, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Powell, Aberhonddu. Bu Mr. Powell yn gweinidogaethu yma o 1828 hyd 1842, pryd y bu farw. Nis gwyddom pa fesur o lwyddiant fu ar lafur Mr. Powell, ond ofnwn nad oedd yn helaeth iawn.

Dilynwyd Mr. Powell gan Mr. Henry Davies, myfyriwr o athrofa Blackburn. Urddwyd ef yma Mawrth 22ain, 1843. Bu yma am yn agos i dair blynedd. Yn Ionawr, 1846, symudodd i Benfro, ac yn fuan symudodd oddi-yno i'r Eglwys Wladol, lle y bydd yn debygol o aros mwyach hyd derfyn ei oes. Y mae er's blynyddau bellach yn Ficer Caio a Llansawel, sir Gaerfyrddin.

Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. W. H. Lewis. Bu ef yma tua dwy flynedd. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Narberth, yn niwedd y flwyddyn 1818. Bu wedi hyny am flynyddau yn Glastonbury, yn ngwlad yr Haf. Bu farw tua blwyddyn yn ol, ac, mor belled ag y gwyddom ni, nid oedd yn dal cysylltiad ag un enwad o grefyddwyr am y deng mlynedd olaf o'i oes. Efe yw awdwr hanes bywyd Mr. Peter, Caerfyrddin.

Nid ydym yn deall fod un gweinidog sefydlog wedi bod yma o 1849 hyd 1852, pryd y darfu i Mr. Edward Williams, Cwmbran, dderbyn galwad a symud yma. Yr oedd Mr. Williams yn barchus iawn yma, ond nis gallodd fod o fawr o wasanaeth i'r achos tra y bu yn y lle, o herwydd fod ei iechyd wedi gwaelu yn fawr cyn iddo ddyfod yma, a pharhaodd i waethygu flwyddyn ar ol blwyddyn, nes y bu raid iddo yn Mai 1861 roddi y weinidogaeth i fyny yn hollol.

Yn Gorphenaf, 1861, darfu i Mr. George Thomas, yr hwn oedd yn byw yn y dref er's rhai blynyddau, ymgymeryd a'r weinidogaeth. Efe yw y gweinidog yma yn bresenol, ac y mae arwyddion fod ei lafur yn cael ei fendithio. Adeiladodd yma gapel hardd iawn yn 1862, yn lle yr hen un, yr hwn oedd wedi myned i ymddangos yn wael a dadfeiliedig iawn. Mab y diweddar Mr. David Thomas, Llanfaches, yw Mr Thomas, ac y mae yn ymddangos ei fod yn feddianol ar radd helaeth o ysbryd llafurus ei dad.

Mae Brynbiga, er nad yw yn dref fawr, yn le pwysig iawn, yn nghanol gwlad fras a chyfoethog, ac y mae yn resyn na fyddai mewn lle fel hwn gynulleidfa luosog, gyfoethog, a dylanwadol i wasgaru dylanwad iachusol crefydd y Testament Newydd dros yr holl fro, ac i wrthweithio yn effeithiol ddylanwad gwenwynig uchel-eglwysiaeth.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

ABRAHAM WILLIAMS. Mewn ychwanegiad at yr hyn a ysgrifenasom am dano ef yn hanes y New Inn, gallwn grybwyll iddo dreulio ei holl fywyd, o'i briodas i'w farwolaeth, yn ymyl y dref hon, mewn amgylchiadau bydol nodedig o gysurus.

JEHOIADA BREWER. Bu y gwr enwog hwn yn pregethu yma am rai blynyddau, yn gynorthwyol i Mr. A. Williams, er nad ymddengys iddo gael ei urddo yma. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1752, o rieni cyfrifol iawn. Dywed rhai mai yn y Casnewydd y ganwyd ef, ac eraill mai yn Mhontypool, ond yr ydym ni yn tybied mai Brynbiga yw lle ei enedigaeth. Cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd yn ieuangc iawn yn y Bath, dan weinidogaeth Mr. Glascott, un o bregethwyr Iarlles Huntingdon. Dechreuodd bregethu yn ngwres ei gariad cyntaf, a chyn ei fod yn ddwy-ar-hugain oed yr oedd yn adnabyddus trwy holl Fynwy, a rhai o'r siroedd cymydogaethol, fel pregethwr grymus a phoblogaidd anarferol. Yn 1780, dewiswyd ef yn weinidog cynulleidfa y Tabernacle, Rodborough, sir Gaerloew, lle y llafuriodd gyda llwyddiant mawr am dair blynedd. Yn 1783, symudodd i Sheffield. Yn 1796, symudodd oddiyno i Carr's Lane, Birmingham. Bu yno hyd 1802, pryd, o herwydd rhyw annghydwelediad, yr aeth ef a chorff y gynulleidfa allan, pan nad oedd wedi pregetha ond un Sabboth yn y capel ar ol ei ailadeiladu. Cymerasant adeilad fawr yn Livery Street, lle y buont yn ymgynull am bymtheg mlynedd. Yn 1816, prynasant dir yn Steelhouse Lane, a gosodwyd careg sylfaen y capel i lawr yno yn y flwyddyn hono, ond cyn i'r lle gael ei orphen yr oedd y gweinidog enwog wedi ei symud i gysegr gwell. Bu farw Awst 24ain, 1817, yn y chweched flwyddyn a thriugain o'i oed. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth gan yr enwog Timothy East.[29]

WILLIAM GEORGE. Gwnaethom grybwylliad am ei enw ef yn hanes Llanfaches. Ganwyd ef yn mhlwyf Llansoi, derbyniwyd ef yn aelod yn y New Inn, urddwyd ef yn Mrynbiga yn 1789, a symudodd i Ross yn 1794, nid yn 1799, fel y camarweiniwyd ni i osod i lawr yn hanes Llanfaches. Ymddengys iddo ymadael o Ross yn 1801, ond nis gwyddom i ba le yr aeth oddiyno. Mae yn debygol mai tra fu yn Brynbiga y bu yn cymeryd rhan yn y weinidogaeth yn Llanfaches.

EBENEZER JONES. Rhoddasom gofnodiad byr am Mr. Jones yn nglyn a hanes Ebenezer, Pontypool, ond y mae yr hyn a ganlyn a gawsom oddiwrth ei ferch ychydig ddyddiau yn ol, yn werth ei gofnodi: Cafodd ei gyfyngu i'w dy tua blwyddyn cyn ei farwolaeth. Y nos cyn iddo farw mynodd yr holl deulu—y plant, y gwasanaethwyr, a'r gweithwyr i'w ystafell. Eisteddai yno yn ei hen gadair, ac aeth trwy wasanaeth crefyddol cyflawn, gan bregethu ei bregeth olaf oddiwrth y geiriau, "Am hyny awn yn hyderus at orseddfaingc y gras, &c." Bu farw yn yr Arglwydd y dydd canlynol.

THOMAS POWELL. Er mwyn cael gwybodaeth gywir a chyflawn am hanes boreuol Mr. Powell, ysgrifenasom at yr Hybarch David Williams, Troedrhiwdalar, i holi yn ei gylch, ac wele yr atebiad a gawsom air yn ngair:

"Ychydig o hanes y Parch. Thomas Powell, gynt o Aberhonddu. Yr oedd yn enedigol o Drefcastell, neu yn agos i'r lle. Cafodd ysgol dda gan ei dad pan oedd yn ieuangc. Aeth i gadw ysgol i Lanelli, Brycheiniog. Yr amser hwnw ymunodd a'r eglwys oedd yn Llangattwg, dan ofal Mr. Davies. Oddiyno aeth i athrofa Wrexham, a bu yno bedair blynedd, dan y Parch. Jenkin Lewis. Cafodd alwad yn Ninbych, pan oedd yn ymadael a'r athrofa, i fod yn weinidog iddynt hwy, a chafodd ei barchu yn fawr ganddynt. Pan oedd yn Ninbych, priododd ferch yn mhlwyf y Battel, yn agos i Aberhonddu, unig ferch ei thad a'i mam. Yr oedd ei rhieni yn amaethwyr cyfrifol, cyfoethog, ac yn berthynasau o bell i Mr. Powell. Yn y cyfamser yr oedd eglwys y Plough heb un gweinidog, ac yn mhen ychydig cafodd alwad gan yr eglwys hono, a symudodd o Ddinbych i Aberhonddu, a bu yn llwyddianus iawn yno. Yn y tymor y bu yno ychwanegwyd at yr eglwys lawer o ugeiniau. Yr oedd yn hoff iawn gan ei frodyr yn y weinidogaeth am dano. Symudodd o Aberhonddu i Frynbiga.

Gallaf ddyweyd hyn am dano; yr oedd fel cyfaill yn ffyddlon, didwyll, a charedig; fel gweinidog, yr oedd yn llafurus mewn astudio pregethau, ac yn ei holl gylch gweinidogaethol; a'i bregethau yn felus ac arddeledig. Yr oedd yn cael ei hoffi gan yr holl eglwysi cymydogaethol.

Darfu iddo argraffu amryw draethodau: 1. Yn mhlaid y Gymdeithas Genhadol. 2 Traethawd ar Gristion o fewn ychydig. 3 Traethawd ar Fedydd Babanod. 4 Cyfieithodd Calfin ar y Salmau. Yr eiddoch mewn gwir serch.

Tanyrallt, Chwefror 9fed, 1870.

DAVID WILLIAMS.

N.B.—Nis gallaswn nodi y blynyddau y bu yn aros yn un man.

Dear Dr. Do not wonder if there is a blunder. The old hand is 91 years of age since the 27th of last January, and the old eyes are of the same age to the moment."

Gadawn y llythyr hwn o eiddo y patriarch anrhydeddus i lefaru drosto ei hun. Ac nid oes genym ond ychwanegu yr amseriadau a adawyd allan ganddo ef. Yn y flwyddyn 1781 y ganwyd Mr. Powell. Yn 1804 yr aeth i'r athrofa, ac ar y 27ain o Hydref, 1808, yr urddwyd ef yn Ninbych. Symudodd oddiyno i Aberhonddu yn 1814, ac o Aberhonddu i Frynbiga yn 1828. Bu farw Chwefror 4ydd, 1842, yn 61 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Brynbiga.

EDWARD WILLIAMS. Mab ydoedd ef i'r pregethwr galluog hwnw, David Williams, Merthyr Tydfil. Ganwyd ef Rhagfyr, 7fed, 1798. Cafodd ei aelodi yn eglwys y Methodistiaid yn Mhontmorlais, Merthyr, yn 1814 a chyn hir wedi hyny dechreuodd bregethu. Symudodd o Ferthyr i Gaerphili, ac yn y flwyddyn 1826, ymadawodd a'r Methodistiaid, a der—byniwyd ef yn aelod yn y Groeswen, gan Mr. Hughes. Yn nechreu y flwyddyn 1829, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Bethesda-y-fro, Morganwg, ac urddwyd ef yno Mawrth 19eg, yr un flwyddyn, yn gynnorthwywr i'r Hybarch Thomas Williams, yr emynwr enwog. Yn niwedd flwyddyn 1830, derbyniodd alwad o'r Main a Meifod, sir Drefaldwyn; a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yno Tach. 29ain a'r 30ain. Arosodd yno am ddwy flynedd, yna symudodd i Lansantsior a Moelfra, sir Ddinbych, lle y bu hyd ryw bryd yn y flwyddyn 1838, pryd y derbyniodd alwad o Lanfairmuallt, ac y symudodd i'r lle hwnw. Bu yno yn barchus a chymeradwy iawn hyd 1848, yna symudodd i Gwmbran, Mynwy. Ar ol llafurio yno gyda derbyniad neillduol am bedair blynedd, o herwydd arosiad y gweithiau, a gwasgariad llawer o'r gymydogaeth, derbyniodd alwad oddi-wrth yr eglwys yn Mrynbiga, a chymerodd ei gofal yn 1852. Yn 1861, gorfodwyd ef gan lesgedd i roddi y weinidogaeth i fyny. Yna aeth i fyw i Lansantffraid, Maldwyn, heb fod yn mhell o Lanfyllin, lle genedigaeth ei wraig. Bu farw yno Medi 16eg, 1863. Ymadawodd o'r byd mewn teimladau nefolaidd iawn. Dywedai nad oedd un cwmwl rhyngddo ag wyneb ei Dad nefol. Claddwyd ef wrth gapel y Sarnau.

Dyn lled fychan o gorff, ond bywiog a lluniaidd iawn, oedd Mr. Williams. Yr oedd yn hynod o serchus a chyfeillgar; yn gyfaill didwyll iawn, ac yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf. Fel pregethwr, yr oedd yn gryno, chwaethus, a melus; a medrai bregethu yn y Saesoneg a'r Gymraeg yn rhwydd a diwall. Dichon, ar y cyfan na fu ei ddefnyddioldeb a'i lwyddiant yn y weinidogaeth yn gyfartal i'w gymhwysderau i'r gwaith; a dichon nad oedd ynddo y cwbl ymroddiad hwnw i ysbryd y gwaith sydd bob amser mor hanfodol i lwyddiant ynddo.

TYNEWYDD, MYNYDDISLWYN.

Yn ol y traddodiad yn yr ardal, cafodd yr achos yn y lle hwn ei ddechreu gan chwech o bersonau a ymneillduasant o'r Eglwys blwyfol, yn mysg pa rai yr oedd Mr. Thomas Walters, yr hwn wedi hyny a ddewiswyd yn weinidog i'r gynnulleidfa newydd.

Gellir cymhwyso y sylwadau a wnaethom ar ddechreu hanes eglwys y New Inn at ddechreuad yr achos hwn hefyd yn ei gysylltiad ag Eglwys y plwyf. Nis gallwn brofi fod Thomas Walters, a'r pump eraill a gydweithredent ag ef yn nechreu yr achos, wedi bod aelodau yn Mhenmain cyn i weinidogaeth y Methodistiaid ddylanwadu arnynt, er fod hyny yn lled debygol, ond y mae yn sicr fod Ymneillduaeth wedi gwreiddio yn ddwfn, a thaenu ei changhenau dros holl blwyf Mynyddislwyn fwy na chan mlynedd cyn i Mr. Howell Harries, nac un Methodist arall, erioed weled y lle. Bu yma ddiwygiadau nerthol tua deng mlynedd ar hugain cyn dechreuad y Diwygiad Methodistaidd. Byddai Mr. John Harries, Penmain, yn arfer pregethu gyda dylanwad mawr yn y Sychbant, a manau eraill, i dorfeydd lluosog tua dechreu y ddeunawfed ganrif:[30] felly nid anialwch gwyllt oedd y plwyf hwn pan ddaeth Methodistiaeth gyntaf iddo, ond tir wedi ei arloesi. Yr oedd eglwys Penmain ar y pryd yn lluosog a llewyrchus iawn, a'r Bedyddwyr hefyd yn lled gryfion yn y plwyf hwn a'r plwyfydd cylchynol. Gellir dyweyd yn ddibetrus fod Ymneillduaeth yn mhlwyf Mynyddislwyn, pan ymwelodd Howell Harries gyntaf a'r lle, mor gryfed, yn ol cyfartaledd y trigolion, ag ydyw yno yn bresenol. Yr offeiriad a wasanaethai y plwyf ar y pryd oedd David Perrott. Pan glywodd ef am fwriad Harries i ymweled a'r lle, ysgrifenodd lythyr bygythiol ato i'w wahardd; nis gellir, gan hyny, gasglu fod gwr hwn yn debygol o fagu llawer o dduwiolion yn ei eglwys.[31] Mae yn bosibl fod cychwynwyr achos y Tynewydd, fel llawer eraill o Ymneillduwyr a unasant a'r Methodistiaid, wedi bod yn cymuno yn achlysurol yn eglwys y plwyf, mewn ufudd-dod i flaenoriaid y corph, a dyna sail y traddodiad mai o'r eglwys y daethant allan.

Dechreuwyd yr achos hwn tua y flwyddyn 1758, mewn anedd-dy o'r enw Migyn-y-Bwlch, yn agos i Dyddyn yr Eglwys. Ni wyddys enwau y pregethwyr fu yn eu cynnothwyo ar y dechreu, ond y mae yn dra thebygol i'r rhag-grybwylledig Thomas Walters ddechreu pregethu tua yr amser hwnw, os nad oedd yn gynghorwr Methodistaidd cyn hyny. Yn 1760 symudodd y gynnulleidfa fechan o Migyn-y-Bwlch i Penydarren, tyddyn-dy a safai yn agos i safle bresenol gweithfa wlan Mr. John Howells. Buont yn ymgynnull i'r lle hwn nes i'r capel gael ei adeiladu yn 1765. Dyddiad gweithred y ty cyfarfod yw Mai 13eg, 1765, a pherchenogion y tir oedd Henry Jones, ac Anne ei wraig. Yr oeddynt ill dau yn aelodau o'r eglwys, ac felly rhoddasant y tir i'r achos dros 999 o flynyddau. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Thomas Walters, William Thomas, Henry Williams, John Williams, John William Harry, Jeremiah Jones, a Phillip Jones. Gan fod y capel hwn o fewn ychydig gyda dwy filldir i gapel Penmain, ac yn yr un plwyf, mae yn ymddangos nad oedd yr hen weinidog Phillip Dafydd, yn gwbl foddlon i'w adeiladaeth, ac yn enwedig gan fod y bobl yn ryw fath o haner Methodistiaid. Pa fodd bynag, bu eglwys Penmain mor garedig a gwneyd casgliad at draul adeiladiad y Tynewydd. Fel y canlyn y crybwylla Mr. P. Dafydd hyny yn ei ddyddlyfr: "Medi 14eg—Heddyw yr oedd ein cyfarfod cymundeb yn Mhenmain, lle y pregethais oddiwrth 1 Pedr iv. 4, ac y gweinyddais Swpper yr Arglwydd. Lled sychlyd oeddwn yn fy ysbryd, ac nid oedd y cynnulliad yn lluosog. Gwnaethom heddyw gasgliad i gynnorthwyo y bobl sydd wedi adeiladu ty cyfarfod newydd yn mhlwyf Mynyddislwyn, yr hwn a gyfenwant Bethel Newydd."

Mae yn ymddangos i Mr. Walters gael ei urddo yn weinidog tuag amser agoriad y capel. Mae yn debygol mai y bobl eu hunain ddarfu ei urddo, yr un fath ag y gwnaed yn y New Inn. Bu Mr. Walters yn llafurio yn y weinidogaeth yma am naw mlynedd ar hugain, gyda pharch a derbyniad mawr. Yn ei dymor ef, byddai Mr. Williams, Pantycelyn, ac eraill o bregethwyr y Methodistiaid, yn ymweled a'r Tynewydd, pa bryd bynag y deuent trwy yr ardal. Yr oedd un Rowlands (nai i Mr. Rowlands, Llangcitho) yn offeiriad yn Mynyddislwyn a Bedwellty, am rai blynyddau yn amser Mr. Walters, a dywedir i Rowlands Llangeitho, ofyn ryw dro i Williams, Pantycelyn, pan glywodd iddo fod yn pregethu yn y Tynewydd, paham nad aethai i bregethu i eglwys ei nai yn lle i'r Tynewydd, a'i ateb ydoedd, "Yr wyf bob amser yn hoffi myned i nithio lle byddo gwynt." Yr oedd eglwys y Tynewydd y pryd hwnw, fel y mae wedi bod bob amser oddiar hyny hyd yn awr, yn nodedig am ei gwresogrwydd crefyddol, a doniau digyffelyb ei haelodau i ganu a gweddio. Ryw gymaint o amser cyn marwolaeth Mr. Walters, darfu i un Edmund Williams, neu "Emwnt Cilfynydd" fel y gelwid ef, yr hwn a fuasai yn aelod defnyddiol o'r eglwys am flynyddau, ymadael yn heddychol, a rhai eraill gydag ef, er cychwyn achos crefyddol yn Risca, a hyn oedd dechreuad eglwys y Methodistiaid yn y lle hwnw. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Walters, cyfododd o leiaf dri o bregethwyr yn yr eglwys, sef nai y gweinidog, Mr. Thomas Walters, wedi hyny o'r New Inn, Mr. William George, a Mr. John Davies. Bydd genym achlysur i son etto am bob un o honynt hwy wrth fyned rhagom.

Wedi marwolaeth Mr. Walters, yn 1794, bu yr eglwys am ryw yspaid yn cael ei gwasanaethu gan weinidogion cymydogaethol; ond ryw amser cyn dechreu y ganrif bresenol, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Walters, yr hwn a fu am rai blynyddau yn gweini yr ordinhadau yn y Tynewydd, mewn cysylltiad a'r New Inn. Anfynych y byddai Mr. Walters yn ymweled a hwy, ond gan fod yr eglwys mor dra rhagorol am ei doniau, a bod tri phregethwr cynnorthwyol derbyniol yn aelodau ynddi, nid oeddynt yn teimlo cymaint oddiwrth absenoldeb ac esgeulusdod yr hwn a gyfrifid fel gweinidog.

Yn y flwyddyn 1809, bu farw aelod defnyddiol iawn o'r eglwys hon o'r enw William Morgan, y Tiler, yn 58 oed. Efe a ddechreuodd yr ysgol Sabbothol yma, a pharhaodd yn athraw gweithgar a ffyddlon tra y bu byw. Yn nechreu y flwyddyn 1811, rhoddodd Mr. Thomas Walters ei weinidogaeth i fyny, ond gan ei fod ef, a'i ewythr, Thomas Walters y cyntaf, wedi ymgyfeillachu llawer a'r Methodistiaid trwy eu hoes, yr oedd rhyw gymaint o'r elfen Fethodistaidd yn parhau yn yr eglwys, a phan aed i son am ddewis gweinidog drachefn, bu hyny yn achos o ymraniad. Mynai y rhan Fethodistaidd o'r eglwys ddewis John Davies o'r Penllwyn-Bach yn weinidog, ond William George a ddewiswyd gan y rhan Annibynol; a chan fod y blaid hono yn llawer lluosocach, ennillasant y dydd, a'r canlyniad fu i'r lleill ymadael, a gosod i fyny eglwys Fethodistaidd yn Gelligroes. Enwir y rhai canlynol yn mysg y rhai a ymadawsant i Gelli—groes: John Davies, y pregethwr; Henry Jones, Tynyllwyn, pregethwr arall, a adwaenid wedi hyny, fel y Parch. Henry Jones, Llaneurwg; Shon William Harry, ac Anne ei wraig, a Harry Lewis Edmund. Ar ol ymadawiad y cyfeillion hyn, cydunwyd yn unfrydol i urddo Mr. William George. Cymerodd ei urddiad le Gorphenaf 4ydd, 1811. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn: Yr hwyr blaenorol, pregethodd Mr. Rees Davies, Casnewydd, oddiar Sal. lv. 6; a Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy, oddiar Sal. lxxxix. 15. Am 10, yr ail ddydd, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. James Williams, Llanfaches; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. E. Jones, Pontypool; derbyniwyd y gyffes ffydd a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Davies, Casnewydd; traddodwyd siars i'r gweinidog gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiar 2 Tim. ii. 15, a siars yr eglwys gan Mr. E. Jones, oddiar Heb. xiii. 7. Yr oedd Mr. D. Thomas, Penmain, hefyd yn bresenol yno.

Yr oedd Mr. George trwy holl dymor ei weinidogaeth yn cyfaneddu yn Mhontypool, ac yn ymddibynu yn benaf am gynnaliaeth ei deulu ar ei waith fel meistr seiri yn ngweithiau haiarn Pontypool. Deuai drosodd bob Sabboth i Fynyddislwyn, a phregethai yno yn y bore, yna dychwelai adref, a phlegethai fynychaf yn yr hwyr yn Ebenezer neu New Inn. Er nad oedd yr eglwys yn cael ychwaneg o'i wasanaeth nag un bregeth yn yr wythnos, etto, gan ei fod ef a'r bobl mor llawn o dân nefol, parhaodd yr achos mewn sefyllfa lewyrchus iawn, ac "fel aelwyd o dân yn y coed" trwy yr holl amser y bu yn weinidog yno. Derbyniodd yn ystod ei weinidogaeth gant ac wyth ar hugain o aelodau, ac yn eu plith ddau a gyfodasant wedi hyny i fod yn bregethwyr defnyddiol, sef Mr. John Mathews, Castellnedd, a'i frawd Mr. William Mathews, Rhydri. Cafodd yr eglwys yn nhymor Mr. George ei bendithio ag amryw ddiwygiadau tanllyd a grymus iawn. Gan ei fod yn myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau, ac yn cyfaneddu rhwng saith ac wyth milldir oddiwrth ei bobl, anogodd hwy yn 1828, i edrych allan am gynnorthwywr iddo yn y weinidogaeth. Yn y flwyddyn hono, daeth Mr. Thomas Harries, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ysgol ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin, heibio ar ei daith, a chafodd ei hoffi gan y bobl, fel y rhoddasant alwad iddo yn ddioed. Urddwyd ef Mai 18ed, 1828. Parhaodd Mr. George ei gysylltiad a'r eglwys am tua blwyddyn wedi urddiad Mr. Harries. Pan welodd fod y gweinidog ieuangc yn alluog i gyflawni y gwaith yn effeithiol, rhoddodd ef y gofal yn gwbl i fyny, a chymerodd ei le fel aelod yn y New Inn, yn agos i'w aneddle. Bu yn pregethu yn achlysurol yno, ac mewn manau eraill yn yr ardal, hyd derfyn ei oes.

Bu sefydliad Mr. Harries yn y lle yn fendith ddirfawr i'r eglwys a'r holl ardalwyr; adfywiodd yr achos, cynyddodd y gwrandawyr, ac ychwanegwyd llawer at nifer yr aelodau. Torodd adfywiad nerthol allan yn mhen ychydig fisoedd ar ol sefydliad Mr. Harries, yr hwn a barhaodd am agos i ddwy flynedd. Effaith yr adfywiad hwn oedd corffoliad yr eglwysi yn Tabor, Maesycwmwr, a Salem, Trelyn. Cangen uniongyrchol o'r Ty—newydd yw Tabor, ac y mae cychwyniad yr achos yn Salem i'w briodoli i raddau mawr i lafur Mr. Harries a rhai o bobl y Tynewydd. Parhaodd defnyddioldeb a pharch Mr. Harries yn gynyddol hyd derfyn ei oes fer. Bu farw er galar i ganoedd, yn ddyn ieuangc 31 oed, yn 1837.

Wedi marwolaeth Mr. Harries, buwyd yn agos ddwy flynedd cyn gallu taro wrth neb a fernid yn gymhwys i lenwi ei le. O'r diwedd rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Moses Ellis, Talybont, Ceredigion, ac yn niwedd y flwyddyn 1839 sefydlodd Mr. Ellis yma, a bu yn nodedig o ddefnyddiol a pharchus gan yr eglwys a'r holl ardal hyd ei farwolaeth. Cafodd tymor gweinidogaeth Mr. Ellis ei hynodi gan amryw adegau o lwyddiant ac adfywiadau gwresog. Ychwanegwyd ugeiniau, os nad canoedd, at yr eglwys yn ystod y saith mlynedd ar hugain y bu ef yma, ac nis gwyddom i'r achos syrthio i farweidd-dra neillduol am gymaint ag un flwyddyn trwy yr holl amser. Pa le bynag y byddai syrthni neu oerni, byddai bywyd a thân yn wastad i raddau mwy neu lai yn y Tynewydd. Er i ugeiniau o'r aelodau a'r gwrandawyr gael eu gwasgaru o'r ardal o herwydd marweidd-dra y gweithiau glo, parhaodd y gynnulleidfa heb fawr o leihad i'w ganfod ynddi trwy y blynyddau. Ychydig cyn marwolaeth Mr. Ellis, anogwyd James Williams, mab i un o'r diaconiaid, i ddechreu pregethu. Yn fuan wedi hyny aeth i'r athrofa i Gaerodor, ac y mae er 1868 wedi ymsefydlu fel gweinidog yn Ruardean, sir Gaerloew.

Heblaw y llwyddiant ysbrydol fu ar yr achos yn amser Mr. Ellis, aeth rhagddo hefyd yn rhagorol mewn pethau amgylchiadol. Yn y flwyddyn 1846 adeiladwyd addoldy y Garn, yn Abercarn, er mwyn cyfleusdra yr aelodau a breswylient yn y lle poblog hwnw. Corffolwyd yno eglwys, ac ar ol i Mr. Ellis fod yn ei gwasanaethu am ychydig o flynyddau rhoddodd hi i fyny, a dewisasant weinidog iddynt eu hunain. Yn 1847, adeiladwyd ty ysgol yn ymyl y Tynewydd, yr hwn sydd wedi bod yn wasanaethgar iawn at gynal ysgol ddyddiol. Yn 1855, tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd un newydd cadarn a phrydferth yn ei le, yr hwn a gynnwysa rai ugeiniau o eisteddleoedd yn fwy nag a gynnwysai yr hen dy.

Mae yr eglwys oddiar farwolaeth Mr. Ellis hyd yn bresenol heb allu cael neb i sefydlu fel gweinidog yn eu mysg. Yn 1867, buasent yn rhoddi galwad i Mr. Richard Foulkes Edwards, (Risiart Ddu o Wynedd), oni buasai i'w iechyd ei orfodi i gymeryd mordaith i'r America. Ar ei ymadawiad a'r wlad hon addawai ddychwelyd, ond bu yn hir yn nychu ac yn dihoeni, a bu farw Mawrth Sed, 1870. Hyderwn y denfyn yr Arglwydd yn fuan fugail wrth fodd ei galon i ofalu am y praidd nodedig hyn.

Ni bu eglwys y Tynewydd ar un cyfnod o'i hanes yn lluosog iawn. Dichon na fu rhif y cymunwyr unrhyw amser yn fwy na thri chant, os buont yn gymaint a hyny, ond nis gwyddom am un eglwys yn y Dywysogaeth sydd wedi bod o oes i oes yn fwy enwog am ei bywiogrwydd, ei sirioldeb, a'i gwresogrwydd crefyddol. Mae y tân wedi cael ei gadw i gyneu ar yr allor braidd yn ddiatal oddiar ffurfiad cyntaf yr eglwys hyd y dydd hwn, ac olyniad o ddynion rhyfeddol am eu teimladau toddedig dan y gair wedi bod yn perthyn i'r gynnulleidfa. Cyfeiria eu hen gymydog, Phillip Dafydd, Penmain, yn fynych yn ei ddyddlyfrau at ei "gymydogion y neidwyr," sef pobl y Tynewydd, gyda gradd o annghymeradwraeth, oblegid yr oedd pob dynesiad at Fethodistiaeth yn groes i'w feddwl ef. Mae yn ddigon tebygol y buasai yn fanteisiol iawn i achos crefydd, yn yr oesau a aethant heibio, pe buasai mwy o oleuni Penmain yn y Tynewydd, a mwy o dân y Tynewydd yn Mhenmain.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS WALTERS. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes y gwr rhagorol hwn. Ymddengys mai yn mhlwyf Mynyddislwyn y cafodd ei eni a'i fagu. Amaethwr cyfrifol ydoedd yn byw ar ei dir ei hun, mewn lle a elwir Pantyrhesg. Yn y flwyddyn 1729 y ganwyd ef, ac felly nid oedd ond rhwng naw a deng mlwydd oed pan yr ymwelodd Howell Harries gyntaf a'r ardal. Nis gwyddom trwy bwy na pha bryd yr ennillwyd ef at grefydd, ond y mae yn lled sicr iddo gael ei ennill yn dra ieuangc. Yr oedd Herbert Jenkins, wedi hyny gweinidog yr Annibynwyr yn Maidstone, Kent, yn enedigol o'r un ardal a Thomas Walters, ac yn bregethwr rhyfeddol o alluog a dylanwadol, mor fore a'r flwyddyn 1739, a dichon mai trwyddo ef yr ennillwyd Mr. Walters i gofleidio crefydd. Fel y nodasom, darfu iddo ef gyda phump eraill, ddechreu yr achos yn 1758. Urddwyd ef, wrth bob tebygolrwydd, gan y bobl eu hunain, tua y flwyddyn 1765; parhaodd i lafurio yn eu mysg hyd ddydd ei farwolaeth, sef Mai 25ain, 1794, pryd yr oedd yn 65 oed.

Ychydig a fedrwn gofnodi am nodweddiad Mr. Walters, er y dylasem fod yn gwybod llawer am dano, gan i ni fod ugeiniau o oriau yn nghymdeithas ein hen gyfaill anwyl, Mr. Phillip Williams, Toneiddon, yr hwn a fu lawer o flynyddoedd dan ei weinidogaeth. Clywsom ef droion yn crybwyll enw ei hen weinidog, ond ni buom ar y pryd yn ddigon doeth i holi nemawr arno yn ei gylch. Mae yn gofus genym ei glywed yn dyweyd fwy nag unwaith fod Mr. Walters yn un o'r dynion mwyaf hynaws ac addfwyn ei dymer a adnabu ef erioed, a'i fod yn bregethwr hynod o effeithiol a gwresog. Yn ol tystiolaeth ei hen gymydog, Phillip Dafydd, yr oedd llawer mwy o wres nag o oleu yn mhregethau Thomas Walters. Yn ei ddyddlyfr am Hydref 24ain,'1773, cawn'y nodiad canlynol: "Yrhwyr, hwn bum yn gwrandaw Thomas Walters, yr hwn ni chlywais erioed o'r blaen. Pa beth i'w wneyd a'i bregeth, nis gwn i, ac y mae yn ddirgelwch i mi pa fodd y gall neb sydd yn feddianol ar ryw fesur o wybodaeth gael unrhyw adeiladaeth wrth ei wrandaw. Enwodd fel ei destyn Mat. v. 6, ond ychydig neu ddim a wnaeth o hono." Dylem gofio fod rhagfarn Phillip Dafydd mor gryf yn erbyn pob peth tebyg i Fethodistiaeth, fel mai braidd yr oedd yn gymhwys i roddi barn deg ar bregeth gwr mor Fethodistaidd a Thomas Walters. Pa fodd bynag, dengys y difyniadau canlynol fod cyflawnder o dân yn ei gyflawniadau os nad oedd ynddynt ddigon o oleuni i foddio P. Dafydd: "Hydref 6ed, 1776. Bum heddyw mewn cyfarfod gweinidogion yn nhy cyfarfod Mr. Edmund Jones. Pregethodd Mr. William Morgan, o'r Cymar, oddiwrth 1 Cor. xv. 20; a Mr. William Thomas, o Aberhonddu. Diweddwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Thomas Walters, a mawr y swn a gadwyd ganddo ef a'i gyfeillion." "Ebrill 1af, 1778. Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn y Casnewydd. Yn y bore, pregethodd Mr. Benjamin Davies, yn Saesonig; a Mr. William Edwards, yn Gymraeg, oddiwrth Mat. v. 3. Yn y pryd—nhawn, yn lle cadw cynnadledd, er fod ei heisiau yn fawr, gosodwyd Abraham Williams, a Thomas Walters i draddodi rhywbeth ar lun pregethau i gynhyrfu y bobl." Os nad oedd Phillip Dafydd, a Thomas Walters yn hollol gydolygu ar y ddaear am y dull goreu i wasanaethu Duw, maent yn sicr o fod yn cyduno yn hyfryd heddyw i ganu cân Moses a chân yr Oen.

THOMAS WALTERS, yr ail. Nid oes genym ddim i'w gofnodi am dano ef yn ychwanegol at yr hyn a welir yn hanes y New Inn.

WILLIAM GEORGE. Ganwyd ef yn mhlwyf Risca yn y flwyddyn 1758. Enwau ei rieni oedd David a Mary George. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond deg oed. Ymddengys iddo gael ychydig addysg yn ieuangc, a thrwy ddiwydrwydd personol ar ol hyny daeth yn ysgolhaig gweddol dda. Ar ol bod am rai blynyddau yn gwasanaethu gydag amaethwyr, yn mhlwyfi Henllys a Mynyddislwyn, ystoriodd ddigon o arian i'w osod ei hun yn egwyddorwas gyda Lewis Miles y saer yn Llanhiddel. Priododd a Margaret Miles, (merch ei feistr mae yn debygol), ac yna symudodd i fyw i Abercarn yn y flwyddyn 1783. Yn fuan wedi hyny, ymunodd a'r eglwys yn y Tynewydd. Nis gwyddom pa mor fuan ar ol ei dderbyn y dechreuodd bregethu. Yn ol llyfr eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, bu yn pregethu yno Tachwedd 23ain, 1795. Mae yn ddigon tebygol ei fod wedi dechreu rai blynyddau cyn hyny. Bu yn bregethwr cynnorthwyol yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol hyd 1811, pryd, fel y nodasom, yr urddwyd ef yn weinidog yn y Tynewydd. Ymneillduodd o'r weinidogaeth yn rhanol yn 1828, ac yn hollol yn 1829, ond parhaodd i bregethu yn achlysurol cyhyd ag y parhaodd ei nerth. Bu farw Chwefror 21ain, 1838, yn 81 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y New Inn.

Pan gynygiwyd yn yr eglwys i William George gael ei anog i ddechreu pregethu, dywedir i rai o'r aelodau wrthwynebu hyny. Wrth glywed y brodyr yn gwrthwynebu y cynygiad, cyfododd un Harry Siams, yr hwn yn mhen blynyddau wedi hyny fu yn ddiacon enwog yn yr eglwys, a dywedodd "Bydd yn well gan yr Arglwydd ladd tri o'r rhai penaf o honoch nag atal un William George i bregethu yr efengyl." Yn mhen ychydig wedi hyn, bu farw tri o'i brif wrthwynebwyr, a chafodd yntau y ffordd yn rhydd i bregethu. Er nad oedd Mr. George yn cael ei resu yn mysg y pregethwyr mawr, ni bu un gweinidog erioed yn anwylach gan bobl ei ofal, na neb mwy gwresog ei ysbryd yn sefyll uwch ben cynnulleidfa. Braidd y safai un amser i fyny heb danio y gynnulleidfa. Perchid ef yn fawr gan weinidogion ac eglwysi cymydogaethol. Efe a gafodd ei benodi i bregethu yn angladd yr enwog Ebenezer Jones, Pontypool. Diau pe cawsai ddechreu ei weinidogaeth yn foreuach yn ei oes, a phe buasai yn cael ei gynal fel ag i roddi ei holl amser at waith y weinidogaeth, y buasai yn fwy defnyddiol, ac yn fwy adnabyddus trwy y Dywysogaeth. Mae llawer o ddynion rhagorol fel y gwr da hwn, a allasent fod wedi cyrhaedd enwogrwydd cenhedlaethol, wedi cael eu cadw dan gudd trwy eu holl fywyd gan amgylchiadau anffafriol.

THOMAS HARRIES. Ganwyd ef yn niwedd Awst neu ddechreu Medi, 1806, yn mhlwyf Llansaint, yn agos i Gydwely, sir Gaerfyrddin. Enwau ei rieni oedd Jacob a Mary Harries. Yr oeddynt ill dau, er yn isel yn eu hamgylchiadau bydol, yn bobl grefyddol iawn, a'i fam yn fwy nodedig na'r cyffredin am ei doniau, ei defnyddioldeb, a'i duwioldeb. Yr oedd hi yn fath o arweinyddes yn nghyfarfodydd y bobl ieuangc, a byddai yn aml yn siarad ac yn gweddio yn gyhoeddus yn y cyfryw gyfarfodydd. Thomas oedd yr ieuengcaf o bump o blant. Bedyddiwyd ef gan Mr. John Abel, Cydwely, Medi 24ain, 1806. Pan yn blentyn ieuangc dangosai alluoedd gafaelgar a medr i ddysgu yn yr ysgol. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc iawn gan Mr. David Griffiths, Capel Sul, Cydwely, a than nawdd Mr. Griffiths y dechreuodd bregethu. Ar ol iddo ddechreu pregethu, gwnaeth yr eglwys yn Nghapel Sul gasgliad i'w gynnorthwyo i fyned i ysgol Ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin. Nis gwyddom pa cyhyd y bu yn yr ysgol yn Nghaerfyrddin, ond tra y bu yno yr oedd yn hynod o boblogaidd fel pregethwr. A'r ol ymadael a'r ysgol, bu am ychydig amser yn cadw ysgol ei hun yn Nghydwely. Yn nechreu y flwyddyn 1828, fel y nodasom, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys y Tynewydd, ac yno y treuliodd weddill ei oes, mor gymeradwy ac anwyl gan bobl ei ofal ag y gallasai gweinidog fod. Bu farw yn mlodau ei ddyddiau Medi 18ed, 1837, a chladdwyd ef o dan yr areithfa, lle y buasai am ddeng mlynedd yn pregethu "yr ymadrodd am y groes." Gadawodd un o'r gwragedd hawddgaraf yn weddw, a dau blentyn yn amddifaid, a lluaws o gyfeillion mewn galar dwys ar ei ol.

O ran corff, un lled fychan a nodedig o eiddil ei ymddangosiad oedd Mr. Harries. Yr oedd golwg egwan ei gorff wrth ei fod yn esgyn i'r areithfa yn creu math o deimlad tyner tuag ato yn yr holl gynnulleidfa. O herwydd eiddilwch annghyffredin ei gorff nid oedd ei lais ond gwan, ond yr oedd mor beraidd a seiniau melusaf yr eos, nes y chwalai teimladau ei wrandawyr yn ddrylliau. Ond os un gwan o gorff ydoedd, yr oedd yn un cryf iawn o feddwl. Yr oedd ei bregethau oll yn drefnus, cryno, a chynwysfawr, ac er na byddai, ond anfynych, dros o bum' munyd ar hugain i haner awr yn pregethu, teimlai ei holl wrandawyr, call a ffol, eu bod wedi cael tâl cyflawn am eu trafferth yn dyfod i'w wrandaw.

Yr oedd yn ddyn nodedig o graffus i adnabod dynion, ac i ddeall amgylchiadau, ac yn un o synwyr cyffredin tu hwnt i nemawr a adnabuom erioed. Tra yr oedd yn rhy lygadgraff a gochelgar i neb_allu ei rwydo, ni adawsai argraff ar neb ei fod yn ddyn dwfn cyfrwys. Yr oedd ganddo gydgyfarfyddiad dedwydd iawn o ymddangosiad diniwed yr oen a challineb y sarph. Perchid ef gan bawb o'i gydnabod, nid oddiar ei ofn, ond o anwyldeb tuag ato. Yr oedd ynddo rywbeth i swyno pawb a'i gwelai, ac a'i gwrandawai, i deimlo rhyw gynesrwydd tuag ato.

Clywsom Mr. Jones, Gwynfau, yn adrodd yr hanesyn canlynol am dano: Ychydig wythnosau cyn i Mr. Harries symud o sir Gaerfyrddin i Fynyddislwyn, yr oedd Mr. Jones ac yntau i bregethu un nos Sabboth mewn amaethdy yn mhlwyf Llanddarog. Dechreuodd Mr. Harries yr oedfa, a phregethodd am tuag ugain munyd, mor felus a'r mêl, yna pregethodd Mr. Jones, ac wrth ganu ar y diwedd, torodd amryw o'r bobl allan i orfoleddu, ac aeth rhai gan angerdd eu teimlad i neidio. Yr oedd yno ddyn mawr iawn o gorff, yn sefyll yn agos i'r drws, ac yn ol yr hanes rhyw fath o bagan hollol ddigrefydd ydoedd, ond yr oedd Mr. Harries wedi swyno ei serchiadau. Wrth weled y bobl yn neidio yn lled drwsgl o amgylch Mr. Harries, ofnai y buasent yn sathru arno, ac am hyny ymwthiodd trwy y dorf gan agoryd ei freichiau mawrion am dano, rhuo fel tarw, a gwaeddi, "sefwch draw ddynion, rhag gwneyd niwed i'r un bach yma, ie, yr un bach anwyl." Un anwyl oedd Mr. Harries gan bawb, crefyddol a digrefydd, ffol a chall, ac y mae son am ei enw i'r dydd heddyw yn cynhyrfu rhyw deimladau o anwyldeb tuag ato yn ei hen wrandawyr a'i gyfeillion.

MOSES ELLIS, oedd fab i John a Mary Ellis. Ganwyd ef yn Bodfari, sir Ddinbych, Hydref 17eg, 1798. Bu i'w rieni wyth o blant, a Moses oedd ea trydydd mab. Yr oedd John Ellis a'i wraig yn bobl grefyddol iawn, ac yn ddisgynyddion henafiaid nodedig am eu duwioldeb. Bu John Ellis yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn am lawer o flynyddoedd, a chafodd fyw i weled pob un o'i blant yn proffesu crefydd, a phedwar o'i feibion yn pregethu yr efengyl. Pan yr oedd yn byw yn Bodfari, gosododd i fyny bwlpud yn ei dy, a byddai ef ei hun, ac ereill, yn pregethu yno yn gyson. Nid oedd gan un enwad Ymneillduol wasanaeth crefyddol yn mhentref Bodfari y pryd hwnw, ond y gwasanaeth a gadwai yr Annibynwyr yn nhy John Ellis. Pan oedd Moses tua 7 neu 8 mlwydd oed, symudodd ei rieni i Mostyn, lle yr oedd ei dad yn arolygwr ar y seiri perthynol i'r gwaith glo, a gadawyd ef yn nhy ei daid a'i nain yn Ninbych, er mwyn cael ychydig ysgol. Annedwydd iawn ydoedd yno o hiraeth am ei fam, o'r hon yr oedd yn anarferol o hoff, ac felly y tro cyntaf yr aeth hi i Ddinbych, mynodd ddychwelyd adref gyda hi. Yn ganlynol anfonwyd ef i'r gwaith glo gyda ei frodyr, ac yno, pan yr oedd tua thair ar ddeg oed, cafodd ei losgi yn arswydus gan y tân tanddaearol. Anffurfiodd y ddamwain hono ei wyneb yn fawr, ac effeithiodd ar ei gyfansoddiad, fel mai lled eiddil o ran nerth ac iechyd y bu trwy ei oes. Adroddwyd y ffeithiau rhyfeddol a ganlyn wrthym gan ei frawd, Mr. Edward Ellis, o berthynas iddo pan yr oedd yn llangc yn y gwaith glo:—Yr oedd un bore yn myned i'r gwaith fel arferol, gyda ei frawd Ellis, ond arosai yma ac acw ar y ffordd, ac amlygai anewyllysgarwch i fyned, fel y gorfu i'w frawd droi yn ol dair gwaith i'w gymhell i ddyfod yn mlaen. Trwy yr oediad, yr oeddynt tuag awr yn hwy nag arfer cyn cyrhaedd genau y pwll, ond erbyn iddynt fyned yno, cawsant fod y gwaith wedi tanio, a bod deg ar hugain o ddynion wedi cael eu llosgi i farwolaeth yno. Pe buasent yno ar yr amser arferol, buasent hwythau yn mysg y meirw. Yn mhen tair neu bedair blynedd ar ol hyny, pryd yr oedd tua thair ar ddeg oed, penderfynwyd ar ryw ddiwrnod nad oedd ef i fyned i'r gwaith y diwrnod hwnw, ond mai ei frawd Edward oedd i fyned yn ei le, ond mynai ef fyned am y barnai nas gallasai ei frawd wneyd y gwaith. Yn fuan wedi iddo fyned i lawr i'r pwll cymerodd tanchwa le yno, pryd y cafodd ef a dau eraill eu llosgi yn arswydus. Bu y ddau eraill feirw yn fuan, ond gwellhaodd ef yn mhen amser maith, er nid heb i'r ddamwain, fel y nodasom, adael effeithiau arno na ddilewyd byth mo honynt.

Ar ol iddo wellhau yr oedd yn rhy eiddil ac analluog i fyned mwyach i weithio i'r pwll glo, ac ni wyddai ei dad, yr hwn oedd yn lled isel ei amgylchiadau, pa beth i'w wneuthur o hono. Yn y cyfyngder hwnw, pan ddigwyddodd iddo fod yn Rhuthin, gofynwyd iddo gan foneddiges o'r dref hono, Pa beth oedd helynt ei fachgen ddarfu gael ei losgi yn y gwaith? Attebodd ei fod gartref, ond yn analluog i ddilyn unrhyw waith. "Wel," ebe y wraig dda, "ond i chwi ei anfon ef yma i'r ysgol at Mr. Evans (gweinidog yr Annibynwyr yn Rhuthin), myfi a'i cadwaf ef a bwyd a dillad, a dichon y gellir ei wneyd yn ddigon o ysgolhaig i enill ei fara." Derbyniodd y cynygiad yn ddiolchgar, ac anfonwyd ef yn ddioed i Ruthin. Yr oedd wedi bod am ychydig o amser ar ol y ddamwain mewn ysgol yn Nhreffynon, ac ar ol treulio blwyddyn yn ysgol Mr. Evans yn Rhuthin, cafodd ei osod yn athraw ysgol a gedwid yn y Pwllglas, gerllaw y dref hono, ar draul yr haelfrydig Mr. Jones o Gaer. Yr oedd erbyn hyn tua dwy ar bymtheg oed. Y flwyddyn cyn hyny yr oedd wedi cael ei dderbyn yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Rhuthin gan ei athraw, Mr. Evans. Gan fod ysgol rad Mr. Jones o Gaer yn un symudol, cafodd Mr. Ellis ei anfon yn mhen ychydig amser o'r Pwllglas i'r Wern, i agor ysgol yno. Yr oedd y symudiad hwn yn amgylchiad pwysig yn ei fywyd, oblegid iddo ei arwain i gysylltiad ag un o weinidogion rhagoraf y Dywysogaeth, yr enwog Williams o'r Wern. Ni bu yn hir yn y Wern cyn iddo gael ei anog i ddechreu pregethu.

Yr oedd y pryd hwnw tua deunaw mlwydd oed. Ar ol dechreu pregethu, glynodd gyda'r ysgol, yr hon a symudodd o'r Wern i'r Rhos, ac oddiyno i Bethel, gerllaw y Bala, ac oddiyno drachefn i Landrillo. Pan yr oedd yno, bu yn offerynol i ddechreu yr achos Annibynol yn y gymydogaeth hono. Efe ei hun oedd yr unig Annibynwr yn yr ardal. Dechreuodd bregethu yn y ty lle y cadwai yr ysgol. Yn mhen ychydig amser amlygodd gwraig o'r enw "Betty o'r Felin" ddymuniad am uno a'r Annibynwyr, ac yn mhen ychydig ar ei hol hi, daeth gwr ieuangc at Mr. Ellis i amlygu yr un dymuniad. Y gwr ieuangc hwnw oedd William Jones, wedi hyny gweinidog yr eglwysi yn Hawen a Glynarthen. Ychwanegwyd eraill atynt yn fuan. Pan yn ugain mlwydd oed, rhoddodd Mr. Ellis ofal yr ysgol i fyny, a derbyniwyd ef i'r athrofa yn Llanfyllin, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal y Dr. George Lewis. Yr oedd ef yn fyfyriwr yn yr athrofa pan y symudwyd y sefydliad o Lanfyllin i'r Drefnewydd. Yn fuan ar ol ei dderbyniad i Lanfyllin, cymerodd drwydded i bregethu. Ystyrid trwyddedau ar dai at bregethu ynddynt, ac i'r personau fyddent yn pregethu, yr amser hwnw yn angenrheidiol, mewn amryw ardaloedd, er attal dynion gelynol i aflonyddu yr addoliadau. Person Eglwys, o'r enw David Hughes, oedd yr Ynad, gerbron yr hwn y bu Mr. Ellis yn cymeryd y llwon gofynedig, a dyddiad y drwydded yw Hydref 7fed, 1819. Wedi bod yn fyfyriwr diwyd yn yr athrofa am fwy na phum' mlynedd, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nhalybont, Ceredigion, ac urddwyd ef yno Gorphenaf 7fed, 1824. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol yn yr urddiad, ac yn arwyddo tystysgrif i'r urddedig: John Roberts, Llanbrynmair; Edward Davies, Drefnewydd; William Griffiths, Caergybi; G. Griffiths, Ebenezer; William Jones, Rhydybont; J. Davies, Llanfair; William Hughes, Dinas; J. Ridge, Penygroes; W. Morris, Llanfyllin; W. Davies, Llangollen; Thomas Phillips, Neuaddlwyd; Hugh Lloyd, Towyn, ac Azariah Shadrach, Aberystwyth. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Nhalybont yn nodedig o dderbyniol, a pharhaodd yno yn barchus a rhyfeddol o lwyddianus hyd nes i ryw ysbryd drwg ddyfod i mewn i'r eglwys, mewn cysylltiad a therfysg eglwysig yn Machynlleth. Arweiniodd hyny Mr. Ellis i wneyd i fyny ei feddwl i ymadael a'r lle, er galar dwys i ganoedd o'r ardalwyr. Yn 1839, derbyniodd alwad oddi-wrth eglwys y Tynewydd, Mynyddislwyn, a symudodd yno. Bu ei weinidogaeth yn y Tynewydd yn rhyfeddol o dderbyniol a llwyddianus hyd derfyn ei oes. Parhaodd i bregethu gyda naws nefolaidd hyd o fewn tua mis i'w farwolaeth. Terfynodd ei yrfa mewn tangnefedd, Gorphenaf 2il, 1866, a chladdwyd ef yn mynwent y Tynewydd ar y chweched dydd o'r un mis, sef o fewn dwy flynedd a deugain, ond un diwrnod, i'r dydd yr urddwyd ef yn Nhalybont. Yr oedd tua deg ar hugain o weinidogion Ymneillduol, a dau offeiriad, yn ei angladd. Pregethwyd yn y capel gan T. Rees, Abertawy, a J. Mathews, Castellnedd, a thraddodwyd anerchiadau ar lan y bedd gan amryw weinidogion, ac yn eu plith gan Berson y plwyf. Bu Moses Ellis, fel ei Arglwydd, dros y rhan fwyaf o'i oes " yn wr gofidus a chynefin a dolur." Yn dair ar ddeg oed, fel y crybwyllwyd, llosgwyd ef yn arswydus yn y gwaith glo, a bu yn ddyoddefydd oddiwrth y ddamwain hono hyd derfyn ei oes. Tua deng mlynedd ar hugain cyn ei farwolaeth, syrthiodd oddiar ei anifail ac ysigodd ei fraich, a bu yn dyoddef oddiwrth hyny yn gyson, ac ar brydiau byddai ei boenau yn angerddol, nes i'r aelod dolurus gael ei thori ymaith tuag un mis ar bymtheg cyn ei farwolaeth. Gwellhaodd yn dda mewn ymddangosiad ar ol tori y fraich ymaith, ond yn mhen rhai misoedd trodd yr afiechyd oedd yn y fraich i mewn i'r corff, a rhoddodd derfyn buan ar ei fywyd.

Bu Mr. Ellis yn briod ddwy waith. Dynes ieuangc dduwiol iawn o ardal Llangeitho, ac aelod o eglwys Ebenezer, Llangybi, oedd ei wraig gyntaf. Priododd hi Gorphenaf 27ain, 1831, a chymerwyd hi oddiwrtho gan angau Chwefror 1af, 1833, ac yn mhen wyth awr a deugain ar ol y fam bu farw yr unig blentyn a adawsai ar ei hol. Claddwyd y fam a'r plentyn yr un dydd yn nghapel Talybont. Mai 21ain, 1849, priododd Mr. Ellis ei ail wraig, sef gweddw ei ragflaenor Mr. Harries, ac ynddi hi cafodd "ymgeledd gymhwys" yn holl ystyr yr ymadrodd. Rhodd Duw iddo ef oedd y wraig ragorol hon, ond cafodd y trallod o'i cholli fwy na dwy flynedd cyn ei farwolaeth ei hun. Cawsant un ferch, yr hon sydd yn awr heb dad na mam, ond yn cael ei hymgeleddu yn gysurus gan Dad yr amddifad.

Fel dyn, yr oedd Mr. Ellis yn hytrach yn bruddaidd a llwfr, ond mae yn debygol fod hyny yn codi yn fwy oddiar y cystudd parhaus yr oedd yn ddarostyngedig iddo, nag oddiar ddim cyfansoddiadol ynddo. Yr oedd Mrs. Ellis yn gydymaith nodedig o gyfaddas iddo, gan ei bod hi yn wastad yn siriol a bywiog ei hysbryd, gyferbyn a'i brudd-der a'i lwfrdra ef.

Fel Cristion, yr oedd yn un o'r dynion mwyaf nefolfrydig y cawsom erioed y fraint o fod yn eu cymdeithas. Pethau crefyddol a nefol yn wastad yr hoffai siarad am danynt. Yr oedd unrhyw ymddyddan a ymylai ar fod yn gellweirus a phechadurus bob amser yn boen iddo. Pan fyddai wrtho ei hun darllen llyfrau crefyddol, myfyrio, a gweddio fyddai ei holl waith, ac fel effaith o hyny yr oedd rhyw naws grefyddol arno yn mhob cymdeithas.

Fel pregethwr, yr oedd yn nodedig o afaelgar, melus, ac effeithiol. Nid oedd unrhyw fawredd yn ei bregethau fel cyfansoddiadau, nac yn ei ddull yntau o'u traddodi, ond yr oedd ynddynt ryw eneiniad nefol a orfodai gwrandawyr i'w teimlo. Anfynych iawn y clywsom ef yn pregethu heb doddi ei wrandawyr. Byddai bob amser yn myfyrio ei bregethau yn ofalus, ac yn eu hysgrifenu yn drefnus, fel y mae yn awr yn ei law ysgrifen dros ddwy fil o honynt; a chan mai yn y Saesoneg yr ysgrifenai hwynt gan amlaf, mae yn sicr, pe cyhoeddid hwynt, y byddent yn dderbyniol iawn gan filoedd o bregethwyr cynnorthwyol ar hyd a lled y deyrnas. Maent yn tra rhagori ar y rhan fwyaf o'r pethau dienaid sydd yn myned dan yr enw Sketches and Skeletons of Sermons, ac yn cael cylchrediad dirfawr yn mysg y Saeson. Yn misoedd olaf ei fywyd yr oedd rhyw nefolrwydd goruwchddynol yn mhregethau Mr. Ellis. Yr oedd yn hawdd i'w wrandawyr ddeall ei fod yn addfedu yn gyflym i wlad well, a'i fod

"Yn dechreu profi eisoes
Beraroglau'r gwledydd draw.”

Terfynwn yr hanes byr yma am ein hanwyl frawd gyda chofnodiad o un peth nodedig a adroddodd wrthym amryw weithiau: Yn mhen ychydig wythnosau wedi iddo symud i Fynyddislwyn, pan ydoedd yn lletya yn nhy yr hen Gristion anwyl, Phillip Williams, breuddwydiodd un bore ei fod yn nghwmni Mr. Williams o'r Wern, a'u bod yn cerdded rhagddynt fraich yn mraich nes iddynt fyned yn mlaen at y palas prydferthaf a welsai erioed. Yr oedd rhodfeydd ardderchog o flaen y palas, a phan oeddynt yn dynesu at y drws, daeth dau was ardderchog eu gwisgoedd a'u hymddangosiad yn mlaen atynt, ac ymaflasant yn mreichiau Mr. Williams gan ei arwain yn mlaen, a phan oeddynt wrth y drws, agorodd gweision eraill oeddynt oddifewn y drws, ac aeth Mr. Williams rhag ei flaen i'r palas, ond dywedodd un o'r gweision wrth Mr. Ellis, "Nid wyt ti i gael dyfod i mewn yma heddyw." Ar hyny deffrodd. Pan ddaeth i lawr adroddodd ei freuddwyd wrth y teulu. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi hyny cawsant y newydd fod Mr. Williams wedi marw ar y bore y breuddwydiasai Mr. Ellis, a chyn pen dwy awr ar ol y pryd yr ydoedd yn breuddwydio.[32]

***** Crybwyllasom enw HERBERT JENKINS yn yr hanes blaenorol. Gan ei fod yn enedigol o'r gymydogaeth hon, ac iddo gyfodi i enwogrwydd mawr fel gweinidog Annibynol, tybiwyd mai nid anmhriodol fyddai rhoddi ychydig o'i hanes yma. Cafodd ei eni yn rhywle yn y rhan isaf o blwyf Mynyddislwyn yn y flwyddyn 1721. Ymddenygys fod ei rieni yn ddynion crefyddol, ac mewn amgylchiadau cysurus. Bu ef am ryw faint o amser yn yr ysgol yn Nghaerodor, dan ofal Mr. Bernard Fosket, athraw athrofa y Bedyddwyr. Yr ydym yn anhysbys o'r amser a'r lle yr ymunodd a chrefydd, ond tybiwn mai aelod gwreiddiol o eglwys Mr. Edmund Jones ydoedd. Ymddengys ei fod yn un o'r rhai cyntaf yn y parthau hyn a ymunodd a phlaid Mr. Howell Harries. Yr oedd wedi dechreu pregethu tua y flwyddyn 1740, pryd nad oedd dros 19eg oed; ac yn Nghymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid, yr hon a gynaliwyd yn y Watford, yn Ionawr, 1742, rhestrir ef yn mysg y cynghorwyr cyhoeddus. Gan ei fod yn medru pregethu yn yr iaith Saesonig, a'i fod yn ddyn ieuangc nodedig o ddoniol, anfonwyd am dano i Loegr mor fore a'r flwyddyn 1744, a byddai yn fynych yn pregethu yn lle Mr. Whitefield yn y Tabernacle, cyn ei fod yn bedair-ar-hugain oed. Bu am rai blynyddau yn cynnorthwyo mewn gwahanol fanau yn Lloegr, ac yn neillduol yn Lime Street, Llundain, hen eglwys yr enwog Dr. Goodwin. Yn 1749 cafodd ei urddo yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Maidstone, Kent, a bu yno yn llafurio gyda llwyddiant a phoblogrwydd annghyffredin am bedair blynedd ar hugain. Mae yn Bu farw yn gymharol o ieuangc Rhagfyr 11eg, 1772, yn 51 oed. anrhydedd i blwyf Mynyddislwyn fod y fath ddyn enwog wedi cael ei eni ynddo, ond nid yw yn anrhydedd i'r hen drigolion na buasai rhai o honynt yn cadw mwy o hanes am dano. Yr oedd Herbert Jenkins ag Edmund Jones yn gyfeillion mawr.[33]

REHOBOTH, BRYNMAWR.

Er fod yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanelli, sir Frycheiniog, etto gan fod yr eglwys a gyferfydd ynddo, oddiar y dechreu, yn perthyn i gyfundeb eglwysi Annibynol Mynwy, ac mai yn mhlwyf Aberystruth y dechreuwyd yr achos, ac yr arferai y gynnulleidfa ymgynnull, hyd o fewn tair blynedd a deugain yn ol; yn nglyn a hanes eglwysi Mynwy y mae lle priodol hanes yr eglwys hon.

Fel y nodasom, yn mhlwyf Aberystruth y dechreuwyd yr achos hwn, ac ar ryw olwg gellir olrhain ei ddechreuad yn ol am fwy na dau cant o flynyddau, er nad yw yr eglwys bresenol ond cant a chwe' mlwydd oed. Yr oedd Ymneillduaeth wedi ymdaenu yn y plwyf hwn mor foreu ar flwyddyn 1646, os nad rai blynyddau yn foreuach. Nid oes genym un prawf pendant fod Mr. Wroth, Mr. Cradock, a'u cydlafurwyr wedi bod yn pregethu yma cyn y rhyfel cartrefol, ond y mae pob sail i dybied eu bod, ac y mae tystiolaeth Mr. Cradock fod yr efengyl wedi ymdaenu dros y mynyddoedd rhwng Brycheiniog a Mynwy "fel tân mewn tô gwellt,"[34] a bod yno tuag wyth cant o bobl wedi cael eu henill at yr Arglwydd, rhwng 1640 a 1646, yn profi tuhwnt i ddadl fod llawer o bobl grefyddol yn rhwym o fod y pryd hwnw yn y plwyf hwn, canys gwna i fynu ran fawr o'r "mynyddoedd rhwng Brycheiniog a Mynwy." Cafodd Aberystruth, a'r plwyfydd cymydogaethol, eu bendithio yn helaeth a gweinidogaeth rhai o brif bregethwyr Cymru, o derfyniad y rhyfel yn 1646, hyd adferiad Siarl II. yn 1660, megys Jenkin Jones, Ambrose Mostyn, Walter Cradock, Vavasor Powell, ac yn neillduol, Henry Walter.

Mae Mr. Edmund Jones, yn ei hanes o'r plwyf hwn, wedi cofnodi llawer o ffeithiau o berthynas i helynt Ymneillduaeth yma o'r dechreuad, ond gan ei fod mor boenus o ddisylw o amseriad y gwahanol ddigwyddiadau a grybwylla, a'i fod yn aml yn eu camamseru, mae yn anhawdd gwneyd defnydd o'r defnyddiau a gynwysa ei lyfr. A ganlyn yw y prif ffeithiau a gofnoda: Yn amser y werinlywodraeth yr oedd yma ryddid cyflawn i'r Ymneillduwyr, cyn belled ag yr oedd a fynai cyfraith y tir a hyny, ond o herwydd gelyniaeth y werin annuwiol, anfynych y goddefid i'r puritan- iaid bregethu yn eglwys y plwyf, o herwydd hyny arferent ymgynnull yn Gelligrug, yn Nghwm Tylerwy, sef ty John ap John. Cafodd Vavasor Powell unwaith lonyddwch i bregethu yn yr eglwys, ond pan ddarfu i Ambrose Mostyn gynyg pregethu yno gwrthodwyd agoryd y drws iddo. Yn wyneb hyny, safodd i fyny ar gamfa Ogleddol y fynwent, ac wedi iddo agoryd y Bibl, a darllen Ioan v. 25 yn destyn, dechreuodd rhai o'r gelynion waeddi, "Taw di, ni wyddem hynyna cyn dy weled di," yna tynasant ddraenogod meirw, oedd yn grogedig yn yr ywen, a thaflasant hwynt gyda chrechwen ddieflig at y pregethwr. Yn wyneb hyn y cauodd y llyfr, ac aeth ef, a chynifer o gyfeillion crefydd oedd yno, i lawr i Gelligrug, lle y cawsant lonyddwch i gynal yr addoliad. Cofnoda Edmund Jones ffaith nodedig arall, yr hon a ddylid gadw ar gof. Yr oedd dyn gwrol, creulon, ac annuwiol iawn, o'r enw John James, neu John James Watkin, yr hwn a fuasai yn filwr yn myddin y brenin, yn byw yn y plwyf hwn. Wedi i'r brenin a'i blaid gael eu gorchfygu daeth adref. Clywodd ryw dro fod Mr. Jenkin Jones, Llanddetty i bregethu yn Gelligrug. Gwyddai ei fod i fyned trwy Gwm yr Eglwys wrth fyned o Landdetty i Gelligrug, a chan gymaint ei lid at y "Pengryniaid," aeth, wedi ymarfogi a chleddyf, i ymyl y ffordd i ddisgwyl Mr. Jones i basio, gyda bwriad i ymosod arno a'i ladd. Yn mhen ychydig daeth y pregethwr yn mlaen ar ei anifail, a phan ganfu ddyn mewn gwisg filwraidd yn sefyll ar y ffordd, cyfarchodd ef yn foneddigaidd. Darfu i olwg urddasol Mr. Jones, a boneddigeiddrwydd ei foesgyfarchiad, lwyr orchfygu teimlad y dihyryn llofruddiog nes y methodd gael nerth i gyflawni ei fwriad. Dilynodd ef i lawr i Gelligrug, gwrandawodd y bregeth, ac effeithiodd y Gair yn achubol ar ei galon. O'r dydd hwnw allan, hyd derfyn ei oes, bu yn grefyddwr selog, ac yn ddyoddefydd diysgog yn achos ei grefydd yn nhymor yr erlidigaeth.

O adferiad Siarl II. hyd Ddeddf y Goddefiad, cafodd Ymneillduwyr y plwyf hwn, fel eu brodyr yn mhob man arall, ddwyn eu rhan o ddyoddefiadau. Dywedir i'r ynad Baker o Abergavenny, eu hyspeilio amryw weithiau o'u hanifeiliaid, i dalu y dirywon am gynal cyfarfodydd crefyddol, ac y mae yn ddigon tebygol i amryw o honynt gael eu carcharu. Annibynwyr gan mwyaf oedd Ymneillduwyr plwyf Aberystruth hyd yn agos i ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ond yr oedd yn eu mysg ychydig o Fedyddwyr, o bosibl er y flwyddyn 1652, ac yn amser yr erlidigaeth byddai y ddwy blaid yn cydaddoli yn gariadus, hyd nes i ryw Jenkin John, neu John Jenkins, dyn unllygeidiog o Ferthyr Tydfil, ddyfod i'w plith a pherswadio y Bedyddwyr i ymneillduo o blith yr Annibynwyr, a gosod i fyny addoliad ar eu penau eu hunain yn nhy Nest John Rosser, gan adael yr Annibynwyr yn unig yn Gelligrug. Ni ddywedir wrthym pa flwyddyn y cymerodd hyn le. Yn y flwyddyn 1668 cymerodd Mr. Watkin Jones ofal bugeiliol y gangen hon o eglwys Mr. Henry Walter; nid ar ol marwolaeth Mr. Walter, fel y cam ddywed Mr. Edmund Jones, ond flynyddau cyn hyny, canys yr oedd Mr. Walter yn fyw yn 1675, a dichon am rai blynyddau ar ol hyny. Bu Mr. Jones yn gofalu am y gangen hon hyd ei farwolaeth tua y flwyddyn 1693.

Gallem gasglu oddiwrth adroddiad cymysglyd Mr. Edmund Jones, mai yn Gelligrug y bu yr Annibynwyr yn addoli o 1646 hyd farwolaeth Mr. Watkin Jones, pryd y symudasant i dy Edmund David o Abertylerwy, ond y mae cofrestr y trwyddedau yn swyddfa papurau y llywodraeth, yn ymddangos yn gwrthdaro hyny. Cafodd tai Llewellyn Rosser a John James, (y gwr a ddychwelwyd dan bregeth Mr. Jenkin Jones mae yn debygol), eu trwyddedu at gynal addoliad gan yr Annibynwyr Awst 10fed, 1672, ond nid oes son am Gelligrug na John Ap John o gwbl yn y rhestr hono, ac nid oes yno chwaith un crybwylliad fod unrhyw le yn y plwyf wedi cael ei drwyddedu gan y Bedyddwyr. Mae yn rhaid gan hyny mai ar ol 1672 y daeth y "dyn unllygeidiog" o Ferthyr Tydfil yno i beri ymraniad.

Yr ydym yn cael ein gogwydd i farnu mai yn amser y Werin-lywodraeth, a thrachefn ar ol cael nawdd Deddf y Goddefiad y cynelid yr addoliad yn Gelligrug, ac iddo gael ei symud oddi yno yn amser yr erlidigaeth rhwng 1662 a 1688, o herwydd ryw resymau anhysbys i ni. Cyn myned yn mhellach, rhoddwn gymaint o hanes y gwr nodedig John Ap John ag a allwn gasglu o lyfr Mr. Edmund Jones; ni welsom unrhyw grybwylliad am ei enw mewn un llyfr na llawysgrif arall. A ganlyn yw sylwedd yr hyn a gofnoda Edmund Jones am dano: Ganwyd ef yn Nghwmnant-y-llan, yn mhlwyf Llanhiddel, ond ni ddywedir wrthym pa flwyddyn. Ar ddechreu y rhyfel cartrefol aeth yn filwr i fyddin y Senedd, lle yr arhosodd hyd y flwyddyn 1646, pryd y dychwelodd i'w ardal enedigol, ac yr aeth i breswylio i Gelligrug. Gellir casglu oddiwrth adroddiad Edmund Jones ei fod yn grefyddol cyn ymuno a'r fyddin, ond ei fod wedi syrthio i fesur o wrthgiliad ysbryd, nes iddo ddygwydd myned i dy gweinidog Ymneillduol yn Kent neu Essex, yr hwn a bregethai yn ei dŷ i nifer fechan o bobl. Gofynodd John Ap John iddo pa ddyben oedd iddo bregethu i cyn lleied a hyny o bobl; atebodd yntau yn ngeiriau y proffwyd Habacuc, "Y gareg a lefa o'r mur a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed, ac a dystiant yn erbyn y rhai ni wrandawant y gair, neu a'i gwrandawant heb ufuddhau iddo." Darfu i'r ateb hwn yn nghyd a'r bregeth a wrandawsai, fod yn foddion i adfywio teimladau crefyddol yn enaid y milwr Cymreig, ac o hyny allan hyd ddiwedd ei oes bu yn ddyn nodedig am ei dduwioldeb a'i ddefnyddioldeb. Cyn ymadael a'r fyddin priododd ag un Mary Pit, yn sir Gaerloew. Ar ol ymsefydlu yn Gelligrug, dechreuodd arfer ei ddoniau fel cynghorwr neu bregethwr achlysurol, a gwahoddai bawb a allai gael i'w dy i bregethu. Yr oedd yn ei ymarweddiad, ac yn ei ymddangosiad corfforol, yn hollol Buritanaidd; gwisgai ei farf yn hir fel y gwnelent hwythau, ac yn ei henaint yr oedd yr olwg arno yn nodedig o urddasol a phatriarchaidd. Yr oedd yn ddyn hynod o fwyn, tosturiol, a charedig, a phawb o'i gydnabod yn eu barchu, ac yn ei ystyried yn ddyn nodedig o dduwiol. Ychydig cyn ei farw symudodd i Gelligrug i drefdadaeth ei frawd henaf Rees Ap John, hwn hefyd oedd yn ddyn duwiol iawn. Bu farw John Ap John mewn oedran teg, yn dra disymwth a diboen, fel yr ymddengys. Un diwrnod yn amser y cynhauaf gwair daeth i'r tŷ at ei ferch, a chyn myned i'r llofft, i orphwys ychydig ar y gwely ganol dydd, fel yr arferai wneyd, dywedodd wrthi, "Fydda i ddim yn hir gyda chwi." Yna gorweddodd ar y gwely. Pan heb ei weled yn dyfod i lawr yn yr amser arferol, aeth un o'r teulu i'r llofft i edrych am dano, a chafodd ef yn farw ar y gwely, heb un arwydd ei fod wedi bod mewn unrhyw boenau wrth ymadael a'r corff. Yn anffodus ni ddarfu i Edmund Jones roddi amser ei farwolaeth, ond yr ydym yn casglu iddo farw yn agos i'r un amser a Mr. Watkin Jones, sef tua y flwyddyn 1693. Bu hiliogaeth y dyn da hwn am genedlaethau yn ddynion crefyddol iawn, ac o bosibl eu bod yn parhau felly hyd etto.

Ni fu un eglwys Annibynol erioed yn y plwyf hwn hyd 1764, pryd y corffolwyd un yn Mhenyllwyn yn agos i weithiau Nantyglo, gan Mr. Edmund Jones, ac y mae yr eglwys hono yn parhau hyd y dydd hwn yn Rehoboth, Brynmawr. Cangen o eglwys Mynyddislwyn neu Benmain, fu yn cyfarfod yn Gelligrug, Abertylerwy, Tynyfid, Tynyllwyn, a manau eraill o 1646 hyd 1780.[35] Bu addoliad hefyd yn cael ei gynal yn lled gyson o 1740 hyd 1764 mewn gwahanol anedd-dai, gan Mr. Edmund Jones, er budd i aelodau ei eglwys ef yn Mhontypool, y rhai a gyfaneddant yn y plwyf hwn.

Mae yn ymddangos fod y rhan fwyaf o'r Annibynwyr a breswylient yn y plwyf hwn tua y flwyddyn 1762 yn cyfaneddu yn Nghwm Ebbwy Fawr; canys yr oedd y Bedyddwyr, er's mwy na haner canrif wedi meddianu y rhan fwyaf o Gwm Ebbwy Fechan, neu Gwm yr Eglwys; ond tua y flwyddyn hono daeth John Thomas, myfyriwr yn athrofa Abergavenny, a phregethwr doniol annghyffredin, i bregethu yn lled gyson i Gwm yr Eglwys, i dŷ un Edward Jones, sef Penllwyn, a'r canlyniad fu i ddiwygiad nerthol dori allan yno, ac i amryw gael eu hennill at grefydd. Rhoddwn hanes ymweliadau John Thomas a'r Blaenau yn ei eiriau ef ei hun: "Daethum i Abergavenny yn niwedd y flwyddyn 1761, a phan ddaethum yma gyntaf i ymosod i ddysgu llyfrau Lladin, a gweled y fath annuwioldeb yn y dref, a'r fath glaiarwch yn y gynnulleidfa, yr oedd fel yn newid tywydd arnaf, ac ofn colli tir yn fy ysbryd; am hyny, byddwn yn arfer myned weithiau fy hun i blith y llwyni coed, ar lan yr afon Wysg, i weddio ganol dyddiau, lle y byddai yn felus arnaf, ac yn cadw fy enaid mewn hwyl nefol. Ar un tro, pan yr oeddwn ar weddi, daeth fel llais at fy ysbryd yn dyweyd wrthyf am edrych i'r lan y tu arall i'r afon, a myned y ffordd hono i'r mynyddau i bregethu, a bod gan yr Arglwydd waith i mi i'w wneuthur y ffordd hono. Yn mhen ychydig ar ol hyn daeth un ataf gan daer ddymuno arnaf i ddyfod i Flaenau Gwent, rhwng y mynyddau i bregethu. Gyda syndod addewais fyned, gan gredu alw o'r Arglwydd fi, ac felly yr aethum, a'r noswaith gyntaf y lleferais yn nhy Edward Jones, cefais flaenffrwyth; gwr y ty ac un arall a gawsant eu hargyhoeddi; a thros dalm o amser, yn agos bob tro y deuwn i'r parthau yma i bregethu byddwn yn clywed fod rhai o'r newydd yn cael eu deffroi. Rhyw gyffroad a dorodd allan trwy y gymydogaeth, a drysau newydd yn cael eu hagor i bregethu yr efengyl, a'r tai yn llawn o wrandawyr. Dymunwyd arnaf ddyfod i bregethu i dy cyfarfod y Bedyddwyr, a rhai a gawsent eu dihuno yma. Llawer noswaith y bu yn werthfawr arnaf yn y Blaenau, i ymddyddan a gweddio gyda fy mhlant ysbrydol. Yn mhen ychydig Mr. Jones, o Bontypool, a osododd yn nghyd eglwys yn nhy Edward Jones, i gyfranu yr ordinhadau yn eu plith, ac y mae yn y parthau hyny eglwys hyd heddyw."[36]

Dyma ddechreuad yr eglwys flodeuog yn Rehoboth, Brynmawr. Pan gorffolodd Edmund Jones hi yn 1764, nid oedd rhif yr aelodau ond un-ar-ddeg. Mae yn ddigon tebyg fod y Bedyddwyr wedi myned a niferi o ddychweledgion John Thomas, ac y mae yn bosibl fod rhai o honynt wedi ymuno a'r gangen o eglwys Penmain, yn Nghwm Ebbwy Fawr. Cynyddodd yr eglwys yn Mhenyllwyn yn raddol, fel nad oedd rhif yr aelodau fawr dan ddeg-ar-hugain yn 1779, pan gyhoeddwyd hanes plwyf Aberystruth. Ond tra yr oedd yr eglwys yn Ebbwy Fechan yn ennill tir, yr oedd y gangen o Benmain yn Ebbwy Fawr yn colli tir o flwyddyn i flwyddyn. Dywed Phillip Dafydd, wrth gofnodi claddedigaeth dwy o'r aelodau yn Nghorphenaf, 1777. "Yr oeddynt ill dwy yn perthyn i Ddyffryn Ebbwy. Mae y cyfarfodydd yn y lle hwnw yn debygol o gael eu rhoddi i fyny yn fuan, oblegid nid oes yno yn awr ond pedwar neu bump o aelodau sydd yn perthyn i Benmain." Parhaodd Mr. P. Dafydd fyned yno am tua dwy flynedd ar ol hyn, ac yna rhoddodd y lle i fyny.

Ar ol i'r eglwys yn Mhenyllwyn fod yn ymgynnull yno am ychydig o amser symudasant i Waengoodwin, neu "Ty Solomon," fel y gelwid ef yn

"fel gyffredin, ac yno y buont yn ymgynnull hyd nes yr adeiladwyd y capel cyntaf. Bu Mr. Edmund Jones yn gwasanaethu yr eglwys fechan hon unwaith yn y mis hyd yn agos i derfyn ei oes. Gweinyddid yma ar y Sabbothau eraill gan bregethwyr cynnorthwyol a'r mwyfyrwyr o athrofa Abergavenny, ac wedi hyny y myfyrwyr o athrofa Iarlles Huntingdon yn Nhrefecca.—Bu yr Iarlles yn garedig iawn i'r achos hwn yn ei wendid. Anfonodd wely ac awrlais i Dy Solomon at wasanaeth y pregethwyr a ymwelent a'r lle. Yr oedd yma bregethwr cynnorthwyol o'r enw David Thomas, yr hwn a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw "Dafydd Nantmelyn." Dyn lled fyr ei ddoniau, ond o fuchedd dda ydoedd. Yehydig amser cyn terfyn ei oes yr oedd Mr. Edmund Jones yma ar Sabboth gwlyb iawn yn cadw cyfarfod cymundeb; ac ar ddiwedd y gwasanaeth dywedodd, "Y mae hi yn gwlawio yn drwm iawn heddyw, ac os bydd hi fel hyn mis i heddyw ni byddaf fi yn alluog i ddyfod yma, a rhag i chwi fod heb neb i ranu yr ordinhad i chwi, mi a ordeiniaf Dafydd Nantmelyn yn awr," ac heb ymgynghori ychwaneg a neb gosododd ei ddwylaw yn y fan ar ben Dafydd, a gweddiodd ei urddweddi. Prin yr ydym yn credu i'r eglwys gydnabod Dafydd fel ei gweinidog, ond y mae yn ymddangos iddo lafurio yno yn ol ei allu hyd ei farwolaeth.[37] Yr oedd Mr. Thomas, Penmain, wedi cymeryd gofal yr achos cyn marwolaeth Mr. Edmund Jones, a bu yn ymweled a'r lle yn fisol hyd nes i Mr. Stephenson gael ei ddewis yn weinidog.

Pan gychwynwyd gweithiau haiarn Nantyglo, lluosogodd y boblogaeth, a daeth rhai dynion crefyddol i'r ardal oeddynt yn aelodau gyda'r Annibynwyr cyn dyfod yma. Bu y rhai hyny yn llawer o adgyfnerthiad i'r achos bychan. Rai blynyddau cyn adeiladu y capel teimlid fod angen am ysgol Sabbothol yn y lle. Y ddau fuont yn offerynol i gychwyn yr ysgol Sul oedd John Evans o ardal yr Aber, a John Price o Lanwrtyd. Mae Ꭹ ddau wedi cael eu casglu at eu tadau er's blynyddau bellach. Darfu i John Evans ysgrifenu ychydig o hanes ei lafur ef a'i gyfaill wrth gychwyn y sefydliad, ac y mae ei ysgrif yn awr ger ein bron, ond yn anffodus nid oes ynddi un amseriad o'r dechreu i'r diwedd, yr hyn sydd yn lleihau gwerth yr hanes yn fawr. Yr ydym yn barnu mai ryw amser o'r flwyddyn 1812 i 1815 y cychwynwyd yr ysgol Sul yma. Yr amser hwnw yr oedd offeiriad o'r enw Davies yn gwasanaethu plwyf Aberystruth. Yr oedd yn ddyn da, ac yn un o'r dynion mwyaf diddrwg a rodiodd y ddaear erioed, ond yr oedd yn hynod o ddidalent. Gwelsom ef amryw weithiau yn ei henaint. Aeth John Evans a John Price at yr offeiriad i fynegu eu bwriad i gychwyn ysgol Sul; cymeradwyodd yntau y peth, a dywedodd yn garedig wrthynt y cawsent gadw yr ysgol yn yr Eglwys, gan nad oedd un lle cyfleus arall yn yr ardal; ac felly y bu. Buont yn yr Eglwys dros yr haf cyntaf, ond pan ddaeth y gauaf, bu raid iddynt ranu eu hysgol i wahanol anedd-dai, o herwydd fod yr Eglwys yn rhy oer. Yr oedd erbyn hyn angen am lyfrau. Aeth John Evans i Ferthyr, lle y cafodd ychydig o lyfrau at ddysgu darllen, am y rhai y bu yn rhaid iddo dalu tair ceiniog yr un. Wedi hyny aeth i Abergavenny i edrych am Feiblau, ond ni lwyddodd i gael ychwaneg na dau, y rhai a gostiodd iddo ddeg swllt yr un. Yn mhen ychydig wedi hyny, cawsant bedwar Beibl yn rhad trwy Mr. Davies, yr offeiriad; ac yn fuan drachefn llwyddodd John Evans i gael deuddeg Beibl a chwech Testament; y Beiblau am bedwar swllt a chwecheiniog yr un, a'r Testamentau am ddau swllt a thair ceiniog yr un, gan Mr. Bevan, offeiriad Crughowell. Cariodd y baich llyfrau yn llawen ar ei gefn o Grughowell i'r Brynmawr. Wedi cael ychydig gopiau o Hyfforddwor Mr. Charles, dysgwyd ef yn awyddus, ac ar ol hyny aed trwy Gatecism Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Erbyn hyn yr oedd yr ysgol wedi myned yn lluosog ac enwog, a thrwy ei llwyddiant aeth y gynnulleidfa yn rhy lucsog i "Dy Solomon" i'w chynnwys, ac felly penderfynwyd adeiladu capel yn ymyl ty a elwid y "Caban Gwyn," ar lechwedd y mynydd yn agos i waith Nantyglo. Galwyd y capel newydd yn Horeb. Agorwyd ef Gorphenaf 19eg a'r 20fed, 1820. Yr oedd trefn cyfarfodydd yr agoriad fel y canlyn: Nos Fercher, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni, (wedi hyny gweinidog y lle), a phregethodd Mr. J. Harrison, Aberdare, a Mr. B. Moses, New Inn, oddiwrth Mat. xxviii. 20; ac Esay xxvii. 3. Yr ail ddydd, am 10, gweddiodd Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr, a phregethodd Mr. D. Jones, Llanharan, Mr. E. Jones, Pontypool, (yn Saesoneg), a Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 1 Ioan iv. 10; Act. xvi. 30, 31; a Salm lxxxiv. 2. Am 3, gweddiodd Mr. E. Davies, Hanover, a phregethodd Mr. T. Davies, Cymar, Mr. T. B. Evans, Ynysgau, (yn Saesoneg), a Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Sal. cii. 16; Mat. xvi. 26; ac Esay lx. 7. Am 6, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni, a phregethodd Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr, oddiwrth Ioan vi. 27. Felly yr agorwyd capel cyntaf eglwys Rehoboth.

Bu Mr. Thomas, Penmain, yn dyfod yma yn fisol am tua thair blynedd ar ol agoriad y capel, yna o herwydd gwaeledd ei iechyd, a'i awydd am i Mr. Stephenson sefydlu yn eu plith, rhoddodd eu gofal i fyny, ac anogodd hwy i roddi galwad i Mr. Stephenson, yr hyn a wnaethant, ac efe a ymsefydlodd yn eu plith yn y flwyddyn 1823, ond yr oedd wedi bod yn eu gwasanaethu yn fynych trwy ystod y pum' mlynedd blaenorol. Rhifyr aelododau pan yr ymgymerodd ef a'r weinidogaeth oedd dau-ar-hugain. Pan dderbyniodd yr alwad ni ddarfu iddo ar unwaith symud yno o Rhymni, ond deuai drosodd ddau Sul o bob mis. Cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fuan i raddau mawr, fel cyn pen pedair blynedd yr oedd Horeb y Caban Gwyn wedi myned lawer yn rhy fychan i gynnwys y gwrandawyr, ac y bu raid edrych am le cyfleus i adeiladu capel helaethach. Ond ni chafwyd y llwyddiant hwn heb fesur o drallod yn gysylltiedig ag ef. Y gofid cyntaf a gafwyd yno oedd yn nglyn a dysgybliad dynes o gymmeriad amheus. Trodd rhai yn bleidiol i'r ddynes, ac ymneillduasant o'r eglwys, gan geisio gosod i fyny achos newydd yn agos i Bont Clydach. Mae yn ymddangos i'r terfysg hwn gyfodi yn fuan wedi i Mr. Stephenson ddechreu ei weinidogaeth, oblegid pasiwyd y penderfyniad canlynol yn nghymanfa Pontypool ar y 7fed o Awst, 1823, gyda golwg ar y terfysgwyr: "Na byddai i feibion rhwyg, neu Shismaticiaid Nantyglo, gael eu cefnogi gan neb a berthyn i'n cyfundeb ni; trwy drugaredd y mae genym ddigon o addoldai yn y gymydogaeth hono, nid oes arnom eisiau yn awr ond llenwi rhai hyny ag Israeliaid yn wir." Aeth achos y rhwygwyr hyn yn fuan i'r dim, ond yr oedd yr eglwys yn Horeb yn cynyddu yn gyflym. Bu ychydig o deimladau annymunol yn yr eglwys drachefn, o herwydd methu cydweled am y man mwyaf priodol i adeiladu y capel newydd. Mynai rhai aros yn y Caban Gwyn, er ei fod ar gongl annghyfleus o'r ardal, ac allan o ganol corff y boblogaeth; eraill a ddadleuent dros ei adeiladu ar y Brynmawr, tua milldir oddiwrth y Caban Gwyn, a chafodd y blaid hono y mwyafrif o'i hochr. Pa fodd bynag, anfoddlonodd rhai o'r aelodau ac ymadawsant a'r achos am flynyddau. "Wedi penderfynu ar y lle, yr anhawsder nesaf oedd cael modd at adeiladu, oblegid yr oedd aelodau y gynnulleidfa oll yn dlodion, fel nas gallent wneyd nemawr; ac nid hawdd ychwaith fuasai iddynt gaol neb i ymddiried arian ar lôg iddynt. Fel yr oedd Mr. Stephenson ryw dro yn adrodd ei gwyn yn nhy Mr. John Thomas, masnachydd, Brynmawr, dyna Mrs. Thomas yn troi at ei gwr, ac yn dyweyd, 'Jack, rhaid i ti gymeryd ato; nid oes dim arall i'w wneyd;' ac felly y bu. Yr oedd Mr. a Mrs. Thomas ill dau y pryd hwnw yn ddibroffes. Cymerodd Mr. T. yr holl faich arno ei hun: gofalodd am y gwaith, darparodd ddefnyddiau, a gosododd ei geffyl ei hun i lusgo y rhan fwyaf o'r ceryg ato yn ddidraul, edrychodd ar ol yr adeiladwyr, gofalodd am arian, talodd am y defnyddiau a chyflogau y gweithwyr, nes y gorphenwyd y capel eang a phrydferth am 700p., a galwyd ef Rehoboth, o herwydd fod yr Arglwydd yn eangu arnynt. Gofalwyd drachefn gan yr un gwr am y ddyled a'r llôg nes eu llwyr ddileu; a pha beth bynag oedd y llôg talodd Mr. Thomas y cwbl o'i logell ei hun heb ofyn dim i'r eglwys ond y corff."[38] Agorwyd y capel newydd ar y 7fed a'r 8fed o Dachwedd, 1827, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidogion canlynol: J. Jones, Talgarth; D. Davies, New Inn; H. Jones, Tredegar; M. Jones, Merthyr; L. Powell, Caerdydd; D. Lewis, Aber; W. Lewis, Tredwstan; G. Hughes, Groeswen; J. Harrison, Aberdare, &c. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd 70. Er fod 700p. yn swm mawr i cyn lleied o bobl dlodion, etto trwy ddiwydrwydd diflino Mr. Stephenson yn casglu ar hyd a lled y wlad, ond yn benaf trwy haelioni cartrefol, talwyd y cwbl mewn dwy flynedd a deg mis.

Yr oedd diwygiad crefyddol wedi dechreu yn y Caban Gwyn cyn agoriad Rehoboth, ac wyth o bersonau yno yn ymgeiswyr am aelodaeth. Wrth dderbyn y rhai hyn ar y Sul cymundeb dywedai Mr. Stephenson wrth bob un o honynt, "Yr wyf yn rhoddi i chwi ddeheulaw cymdeithas yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân." Yn nghyffroad ei feddwl ar ol dyweyd felly wrth saith, trodd oddiwrthynt at y bwrdd gan annghofio yr wythfed; sisialodd un o'r diaconiaid wrtho ei fod wedi pasio heibio yr wythfed oedd i gael ei dderbyn; ar hyny trodd yn ol at hwnw, a chyd a theimladau drylliog, ymaflodd yn ei law a dywedodd, "Yr wyf yn dy dderbyn dithau yn enw y Drindod o bersonau." Ar hyny, torodd y dorf allan i floeddio. Yn y teimladau nefol hyny y symudwyd i'r capel newydd, a pharhaodd yr adfywiad yno am yn agos i dair blynedd. Byddid fynychuf bob mis yn derbyn o ddeg i ddeg-ar-hugain o bersonau.

Cyfnod pwysig yn hanes yr eglwys hon oedd dechreu y flwyddyn 1832. Ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hono cafodd y brodyr William Rees, yn awr o Abertawy, D. Seys Lewis, Thomas Williams, Samuel Smith, a John Davies eu neillduo yn ddiaconiaid, heb i un teimlad gofidus gael ei achosi gan eu dewisiad. Yr oedd rhif yr aelodau yn awr yn 250, a chafodd y gweinidog gryfhad nodedig i'w ysbryd wrth gael y fath nifer o ddiaconiaid, a rhai o honynt yn anarferol o alluog a gweithgar i ddal ei freichiau i fyny.

Yn mhen tua deuddeng mlynedd aeth Rehoboth yn rhy gyfyng i gynwys y torfeydd a gyrchent yno, a bu raid ei ail adeiladu. Cafodd Tabor, capel y Bedyddwyr, ei roddi yn garedig at wasanaeth y gynnulleidfa tra y buwyd yn ail adeiladu y capel.

y capel. Tra yr oeddynt yn ymgynnull yno torodd diwygiad nerthol allan, yr hwn a barhaodd yn boeth iawn am tua blwyddyn ar ol i'r gynnulleidfa fyned i'r capel newydd. Ychwanegwyd at yr eglwys yn ystod yr adfywiad hwn o bedwar i bum' cant o aelodau.

Traul adeiladaeth y capel presenol oedd 1292p. 2s. 2c. Agorwyd ef ar yr 20fed a'r 21ain o Orphenaf, 1840, pryd y gweinyddwyd gan y Meistriaid Daniel, Pontypool; Stephens, Brychgoed; Protheroe, Llangynydr; Griffiths, Blaenafon; Ellis, Mynyddislwyn; Williams, Troedrhiwdalar; Rowlands, Pontypool; Jenkins, Salem, &c. "Ni wnaed un cynyg ar fyned oddiamgylch y wlad i gasglu at y capel gwych a chyfleus hwn, ond ymosodwyd o ddifrif, fel dynion mewn ysbryd gweithio, at gasglu yn gyson ac egniol gartref, a chesglid yn fisol wrth y drysau y symiau o 10p., 15p., 20p., ac weithiau 24p., ac uchod, heblaw yr ymdrechion ychwanegol a wneid ar ryw amserau ac achlysuron neillduol; fel yr oeddid erbyn canol yr haf 1847 wedi dileu yr holl ddyled anferth hono, a'r llôg yn nghyd a phob treuliau eraill, a swm o rai degau o bunoedd yn ngweddill mewn llaw."[39]

Er mor llwyddianus y bu y gweinidog da hwn i Iesu Grist yn nygiad yn mlaen bethau amgylchiadol yr achos, yr oedd ei lwyddiant yn y rhan ysbrydol o waith y weinidogaeth, sef ennill eneidiau at yr Arglwydd yn fwy. Tua chwe' mlynedd ar hugain y bu yn gweinidogaethu yn y Caban Gwyn a Rehoboth, ac yn ystod y tymhor hwnw ychwanegwyd o bymtheg cant i ddwy fil o bobl at yr eglwys. Nis gwyddom am un gweinidog mewn cyn lleied o amser, a dderbyniodd gynifer o aelodau. Cafodd dri adfywiad anarferol o nerthol yn nhymor ei weinidogaeth, ac ar ganol y diweddaf o honynt, pryd yr oedd o 400 i 500 yn y gyfeillach heb eu derbyn, cymerwyd ef i wlad well. Bu farw o'r geri marwol yn y flwyddyn 1849.

Yn mis Mawrth, 1850, rhoddodd yr eglwys alwad i un o'i meibion ei hun i ddyfod yn weinidog iddi, sef Mr. William Jenkins, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn Nghapel Iwan a Llwyn-yr-hwrdd, gerllaw Castellnewydd Emlyn. Bu Mr. Jenkins yn llafurio gyda pharch a llwyddiant mawr yn ei fam-eglwys o 1850 hyd 1866, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Pentreestyll, Abertawy, ac y symudodd yno. Cadwodd Mr. Jenkins gyfrif manwl o'i gyflawniadau cyhoeddus fel gweinidog yn Rehoboth, o fis Mawrth 1850 hyd fis Awst 1861, yr hwn a ddengys iddo yn y tymor hwnw fod yn rhyfeddol o lafurus a llwyddianus. Mae y cyfrif fel y canlyn: Derbyniwyd 844 o aelodau i'r eglwys, claddwyd 226 gan Mr. Jenkins ei hun, heblaw y rhai a gladdwyd gan eraill pan fyddai ef oddicartref, derbyniwyd trwy lythyrau 192, gollyngwyd trwy lythyrau—183, diaelodwyd 267, heblaw y rhai a ymadawsant heb lythyrau. Claddwyd 186 o blant, bedyddiwyd 592, a phriodwyd 50. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Jenkins gosododd yr eglwys allan dros 1,000p. i adgyweirio y capel ac adeiladu ysgoldy, heblaw y draul fawr yr aethant iddi i adeiladu tŷ i'r gweinidog.

Yn y flwyddyn 1867, derbyniodd Mr. Edwin A. Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Tyrhos a Llandudoch, Penfro, alwad i sefydlu yma, a bu yma hyd ddechreu y flwyddyn hon (1870), pryd y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, ac felly y mae yn bresenol heb weinidog.

Mae eglwys Rehoboth er's mwy na deugain mlynedd bellach wedi bod yn un o'r rhai blaenaf yn mysg eglwysi y Dywysogaeth am ei llwyddiant, lluosogrwydd ei haelodau, ei doniau, ac yn neillduol ei gorchestion mewn casglu arian. Er nad yw yn bresenol yn agos mor lluosog ag y bu ar rai adegau yn nhymorau gweinidogaeth Mr. Stephenson a Mr. Jenkins, yr ydym yn gobeithio nad ydyw wedi gweled ei dyddiau goreu, ond fod etto o'i blaen adegau o lwyddiant a chysur cyfartal o leiaf i'r amserau goreu a welodd yn y blynyddau gynt.

Berea, y Blaenau, yw yr unig gangen a aeth allan yn uniongyrchol o Rehoboth, ond gellir ar lawer o gyfrifon ystyried yr achos Saesonig ar y Brynmawr, a Bethesda fel canghenau o'r fam-eglwys hon. Cawn sylwi yn mhellach ar hyn pan ddelom at hanes yr eglwysi hyny.

Cafodd y pregethwyr canlynol eu cyfodi yn yr eglwys hon:

Edmund Thomas. Dechreuodd bregethu yn Horeb, Caban Gwyn, ac yn 1825 ymadawodd a'r Annibynwyr, ac ymunodd a'r Bedyddwyr.

Morgan D. Morgan. Dechreuodd ef bregethu tua y flwyddyn 1826. Cafodd ei urddo yn Dudley Port yn 1852, cyn iddo ymfudo i'r America, lle y bu farw. Yr oedd yn frawd i Mr. H. Morgan, Sammah, Maldwyn.

Thomas Evans, Maesaleg. Gweler ychwaneg am dano yn nglyn a hanes yr eglwys yno.

Lemuel Smith. Daw ei hanes ef dan sylw yn nglyn ag eglwys y Tai-hirion.

Thomas Lloyd. Urddwyd ef yn Zoar, Maesteg, yn Medi 1843, ond bu raid iddo yn fuan roddi y weinidogaeth i fyny o herwydd gwaeledd ei iechyd. Y mae yn awr yn byw yn Ystradhafodog, Morganwg, yn pregethu yn achlysurol, ac yn dderbyniol a pharchus iawn gan bawb o'i gydnabod.

David Phillips. Yn hanes eglwys Carfan y cofnodir yr hyn a wyddom am dano ef.

John Thomas. Dechreuodd ef bregethu yn y flwyddyn 1840. mhen rhai blynyddau derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Gymreig yn Mount Savage, America, ac ar gais yr eglwys hono urddwyd ef yn Saron Glyn Ebwy, cyn iddo gychwyn o'r wlad hon, "o herwydd" fel y dywed r gan yr eglwys yn Mount Savage, "eu bod yn ychydig mewn rhifedi, a gweinidogion Cymreig yn America yn preswylio yn mhell oddiwrthynt."

William Jenkins. Dechreuodd bregethu yn 1843. Urddwyd ef yn Capel Iwan a Llwyn-yr-hwrdd yn Mehefin 1846. Symudodd i fod yn weinidog i'w fam-eglwys yn 1850, ac yn 1866 ymadawodd oddiyno i Pentreestyll, Abertawy, lle y mae yn bresenol.

David Davies. Ar derfyniad ei amser yn y coleg yn 1849, urddwyd ef yn Siloa, Llanelli, sir Gaerfyrddin. Symudodd yn fuan oddiyno i Cardley, wedi hyny i East Grinstead, ac y mae yn awr yn Bromsgrove.

John Hughes. Dechreuodd bregethu yn 1847. Urddwyd ef yn Victoria, Mynwy, Mehefin 13eg, 1850. Mae yn awr ar symud o'r Aber, Brycheiniog, i Langadog, sir Gaerfyrddin.

John Jenkins. Yn awr o gapel Seion, Abertawy. Y mae efe yn frawd i Mr. William Jenkins.

Hugh E. Thomas, diweddar o Birkenhead, yn awr o Pittsburg, America. Yn Rehoboth y derbyniwyd ef ac y dechreuodd bregethu.

Joseph Farr. Yr hwn sydd newydd symud o Groesos wallt i Mount Stuart Square, Caerdydd.

Daniel Evans. Ar ol bod tua thair blynedd yn athrofa y Bala, ymfudodd i America yn 1867.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DAVID STEPHENSON. Mab i gyfreithiwr o Gaerfyrddin, o'r enw Stephenson, o ddynes ieuangc o ardal Llandilofawr, oedd y gweinidog enwog a rhagorol hwn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784. Gan na fu ei dad a'i fam yn briod, cafodd ei roddi i ddieithriaid i'w fagu, ond gan ei fod yn llestr etholedig gan yr Arglwydd, i gario trysorau yr efengyl i filoedd o eneidiau, fe drefnodd Rhagluniaeth, nid yn unig fagwraeth dda i'w gorff, ond hefyd addysg grefyddol i'w feddwl o'i febyd. Cafodd ei ddwyn i fyny yn nhy un John Evans, neu "Shion Pencelli," fel y gelwid ef yn gyffredin. Yr oedd John Evans yn ddyn da a chrefyddol, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid yn Nghlos-y-graig, gerllaw Castellnewydd Emlyn. Ymddengys i John Evans wneyd ymdrech ffyddlon i blanu egwyddorion crefyddol yn meddwl ieuengaidd David Stephenson, ac i'w ymdrechion fod yn llwyddianus. Pan yn un-ar-bymtheg oed, o herwydd yr ofnai y buasai ei dad dideimlad yn ei anfon i ffwrdd i'r môr, ymadawodd David Stephenson a thy ei dad—maeth, ac aeth tua Merthyr i geisio ennill ei fara heb fod yn ymddibynol ar eraill. Cartrefodd ar Gefncoed-y-cymer, lle y bu am tua deng mlynedd. Yn fuan wedi iddo fyned i'r lle hwnw ymunodd ag eglwys y Methodistiaid yn Mhontmorlais, Merthyr. Bu yn ffyddlon iawn yn dilyn y moddion, ac yn neillduol yr Ysgol Sabbothol, ac ennillodd iddo ei hun air da gan bawb o'i gydnabod, fel bachgen ieuangc nodedig o ddiddrwg, pur ei ymarweddiad, a diwyd a chyson fel crefyddwr. Yn mhen ychydig flynyddau ymadawodd a'r Methodistiaid, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn Zoar, Merthyr, a phan ymadawodd cangen o'r eglwys hono, i fyned i ddechreu yr achos sydd yn awr yn Bethesda, Merthyr, acth yntau gyda hwynt.

Tua y flwyddyn 1810 ymunodd mewn priodas a gwraig weddw o'r enw Mrs. Howells, yr hon fu yn gydymaith ffyddlon iddo hyd o fewn tair blynedd i derfyn ei oes. Cawsant lawer o siomedigaethau, croesau, a thlodi yn mlynyddau cyntaf eu bywyd priodasol, ond dygodd Rhagluniaeth hwy trwy y cwbl heb ddianrhydeddu crefydd. Tua y flwyddyn 1811 symudasant i Rymni. Yr oedd yno ychydig o ddynion crefyddol perthynol i'r tri phrif enwad Ymneillduol, yn cydaddoli mewn anedd-dai. Yn mysg yr ychydig bobl hyn y dechreuodd David Stephenson arfer ei ddoniau fel pregethwr, yn mis Ebrill 1813. Dywedir mai yn nhy Daniel Rees, yn Nhredegar, y traddododd ei bregeth gyhoeddus gyntaf. Gyda chynydd y boblogaeth lluosogodd y crefyddwyr, ac aeth y gwahanol enwadau ar eu penau eu hunain. Yr oedd yr ychydig Annibynwyr yn Rymni yn cael eu hystyried yn gangen o eglwys Bethesda, Merthyr. Yn mhen ychydig flynyddau teimlent awydd am urddo Mr. Stephenson yn weinidog iddynt eu hunain, gan mai anfynych y gallasai Mr. Jones, Bethesda, ymweled a hwynt. Gwrthwynebwyd hyny dros amser gan weinidogion Merthyr, ac un o brif aelodau yr eglwys fechan yn Rymni, ond o'r diwedd torwyd trwy bob gwrthwynebiad, ac urddwyd ef ar y 27ain o Fehefin, 1821. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Meistriaid D. Thomas, Llanfaches; T. B. Evans, Ynysgau; D. Lewis, Aber; D. Davies, Penywaun; G. Hughes, Groeswen; E. Jones, Pontypool, ac eraill. Yn mhen dwy flynedd ar ol ei urddiad, cymerodd ofal yr eglwys yn Nantyglo, mewn cysylltiad a Rymni. Byddai yn myned ddau Sabboth o bob mis o Rymni i Nantyglo, ac yn fynych ar nosweithiau o'r wythnos, tra yr oedd bob dydd yn gorfod gweithio yn galed er cynal ei deulu. Tua y flwyddyn 1825, symudodd i Nantyglo, a rhoddodd ofal yr eglwys yn Rymni i fyny. Ymgysegrodd o hyny allan i waith y weinidogaeth, heb ddilyn unrhyw alwedigaeth fydol. Bu yn Nantyglo a'r Brynmawr o hyny hyd derfyn ei oes, ac fel y nodasom, yn annghyffredin o lafurus a llwyddianus.

Bu farw, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, o'r geri marwol, Awst 22ain, 1849. Ei destyn olaf yn y capel, nos Sul Awst 12fed, oedd "Fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd." Pregethodd ychydig drachefn mewn angladd y dydd Iau canlynol, a chymerwyd ef yn glaf y nos hono. Parhaodd mewn poenau mawr hyd y dydd Mercher canlynol, pryd y bu farw. Claddwyd ef dan fwrdd y cymundeb yn nghapel Rehoboth. Gweinyddwyd ar ei gladdedigaeth gan T. Rees, Cendl, y pryd hwnw, H. Daniel, Pontypool, a D. Davies, New Inn.

Fel dyn, yr oedd Mr. Stephenson yn nodedig o wylaidd, hynaws, a dirodres. Talp o ddiniweidrwydd ydoedd. Tynai bawb a'i hadwaenai i'w garu a'i barchu, ond nid oedd neb yn ei ofni. Yr oedd ei dynerwch a'i garedigrwydd yn ddiarhebol. Nid oedd dim yn drahaus, haerllug, ac anfwyn yn ei dymer, ei agwedd, na'i eiriau. Mae rhai dynion nodedig o wylaidd ac addfwyn yn wrthddrychau diystyrwch gan bobl anfoesgar; ond nid felly efe. Er na ddywedai air garw wrth neb, ac nad oedd dim yn ei ymddangosiad a arweiniai neb i dybied ei fod yn ddyn gwrol, diofn, a phenderfynol, etto yr oedd ganddo gymaint o ddylanwad dros y dihyrod mwyaf difoes a meddw yn y gymydogaeth ag unrhyw ddyn yn yr holl fro. Dystawai twrf meddwon pan wnelai ef ei ymddangosiad, a thalai pawb, gwar ac anwar, barch iddo.

Yr oedd yn Gristion o dduwioldeb diamheuol, ac o'r cymmeriad mwyaf difrycheulyd. Bu yn nechreuad ei grefydd dan wasgfauon dirfawr yn nghylch ei gyflwr, a pharhaodd trwy ei oes i ddal cymundeb agos a'r Arglwydd. Tynerwch cydwybod, a phurdeb ymarweddiad oedd ei brif nodweddau fel Cristion, ac nid prudd-der wynebpryd a gorawydd am wthio siarad crefyddol i bob ymddyddan. Yn mlynyddau cyntaf ei fywyd crefyddol arferai dreulio nosweithiau cyfain mewn gweddi, a byddai yn gwneyd hyny ar amserau yn agos hyd ddiwedd ei oes. I'r ffaith ei fod yn dywysog gyda Duw, yr ydym yn ddiau i briodoli y dylanwad rhyfeddol oedd ganddo dros ddynion.

Yr oedd ynddo ryw fawredd fel pregethwr a'i cyfodai yn mhell uwchlaw y cyffredin, er nad oedd mewn un wedd i'w resu gyda phrif bregethwyr ei oes. Yr oedd mwy o ol darllen dynion a'u harferion ar ei bregethau, nag oedd o ol darllen llyfrau. Iaith yr aelwyd a arferai, ac er ei fod trwy hyny, i raddau, yn iselhau urddas gwasanaeth crefyddol, yr oedd y cwbl a ddywedai yn berffaith ddealladwy i'w holl wrandawyr. Byddai fynychaf am yr haner awr gyntaf o'i bregeth yn siarad yn lled wasgarog a dibwynt, ond cyn y diweddai byddid yn lled sicr o gael ganddo ryw ergydion agos a nodedig o darawiadol, ac os cai ychydig o hwyl byddai yn anarferol o effeithiol. Er nad oedd yn ganwr yr oedd ei lais yn beraidd a dylanwadol iawn.

Nid ydym yn barnu fod Mr. Stephenson yn feddianol ar gymaint o fedr i drafod a llywodraethu dynion ag y mae llawer yn feddwl.

Yr oedd yn graftus i adnabod dynion, ond yr oedd lawer yn rhy wylaidd ac ofnus i fod yn lywodraethwr medrus, ac y mae yn sicr y buasai ef a'r eglwys lawer gwaith wedi cael gofidiau dirfawr oddiwrth ddynion anhywaith, oni buasai ei fod mor ddedwydd a chael ei gylchynu gan nifer o ddiaconiaid mor alluog a rhagorol, nad oes un gweinidog yn Nghymru wedi cael eu rhagorach.

Mae hanes y dyn da hwn, o'i enedigaeth i'w fedd, yn un o'r enghraifftiau rhyfeddaf o ddoethineb a gofal Rhagluniaeth. Cafodd ei fwrw i'r byd yn faban diymgeledd—magwyd ef gan estroniaid, ond rhai tyner, crefyddol, a gofalus; bu yn llengcyn dieithr a diberthynasau, am flynyddau yn nghanol profedigaethau ofnadwy y gweithfaoedd; ond ymgysylltodd a chrefydd, a daliodd ei afael ynddi trwy bob profedigaeth; cafodd ei droi a'i drybaeddu gan siomedigaethau a thlodi, a'i wrthwynebu yn chwerw, gan hyd yn oed ddynion crefyddol, ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus; ond trwy y cwbl gweithiodd ei ffordd rhagddo nes dyfod yn un o'r gweinidogion mwyaf llwyddianus yn y Dywysogaeth. Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw ein golwg ni."

Yn 1851, cyhoeddwyd cofiant helaeth i Mr. Stephenson, gan ei fab, wedi ei ysgrifenu yn alluog gan Mr. Jenkins, yn awr o Bentreestyll, a Mr. Evan Evans, Nantyglo.

TREFYNWY,

Mae yr hanes sydd genym am ddechreuad yr achos Annibynol yn y dref hon yn dra diffygiol. Cafodd Mr. Nicholas Cary, un o'r "ddwy fil," ei droi allan o eglwys y plwyf yn 1662, ond nid arosodd yma wedi hyny, eithr symudodd i Lundain, lle y bu farw. Os oedd ganddo yma ychydig ddysgyblion, cawsant eu gadael heb neb ond y Penbugail i ofalu am danynt. Nid oes genym hanes i un Ymneillduwr fod yn pregethu yn y dref hon am fwy na chan' mlynedd wedi ymadawiad Mr. Cary. Ryw amser rhwng 1770 a 1780, dechreuwyd cynal addoliad gan yr Annibynwyr yma mewn anedd-dai. Nid ydym wedi cael enw y pregethwr, neu y pregethwyr, a arferent gynnorthwyo yma ar y pryd, ond yr ydym yn lled sicr fod Mr. Jehoiada Brewer yn un o honynt, ac o bosibl mai efe fu y prif offeryn i gychwyn yr achos yma. Yn mhen rhyw gymaint o amser, nis gwyddom yn gywir pa flwyddyn, adeiladwyd yma gapel trwy gymorth, a than nawdd Iarlles Huntingdon, a bu y myfyrwyr o'i hathrofa hi yn Nhrefecca yn dyfod drosodd yn rheolaidd i bregethu ynddo. O'r diwedd, rhoddwyd meddiant o'r capel i Mr. Isaac Skinner, gweinidog Annibynol, a bu ef yn llafurio yma am ddeng mlynedd. Yr ydym wedi methu cael allan pa bryd y dechreuodd ac y diweddodd y deng mlynedd hyny. Yr oedd Mr. Skinner yma yn 1808. Ar derfyniad ei amser yma, symudodd i Ruxton, yn sir Henffordd. Nid ydym yn gwybod dim yn ychwaneg o'i hanes. Arol ei ymadawiad ef, bu raid i'r gynnulleidfa fechan roddi y capel i fyny, mae yn debygol i'r hwn oedd ag arian arno; a buont drachefn yn ymgynnull mewn tai-anedd, yn neillduol yn nhy un Mr. James Jenkins, yn James Street. Byddai Mr. Thomas, Nebo, ac eraill, yn fynych yn ymweled a'r ddiadell fechan, ac yn pregethu iddynt. O'r diwedd, yn y flwyddyn 1822, adeiladwyd capel bychan yn St. Mary Street, ond yr oedd y gynnulleidfa yn rhy wan i dalu am dano, ac oni buasai i'r llafurus David Thomas, Nebo, gasglu tua 500p. ato, ni allesid ei adeiladu o gwbl. Yn fuan ar ol adeiladu y capel, daeth Mr. Thomas Loader, y pryd hwnw o Dublin, heibio. Hoffodd y dref a'r gymydogaeth, a phan ddeallodd fod yno achos gwan gan yr Annibynwyr, penderfynodd ymsefydlu yn eu plith fel gweinidog. Yma y treuliodd Mr. Loader weddill ei oes. Gan ei fod yn bregethwr derbyniol, yn ddyn nodedig o dda, ac yn wr cyfoethog, bu yn foddion i godi yr achos i sylw, a chasglu cynnulleidfa dda. Yn 1842, adeiladwyd y capel presenol yn Glendower Street, yr hwn sydd lawer yn harddach a helaethach na'r un blaenorol. Yn 1843, rhoddwyd galwad i Mr. David Blow, Aberhonddu, i ddyfod yn gydweinidog a Mr. Loader, a bu yma am bedair blynedd. Yn 1850, daeth Mr. W. M. Paul, o Halstead yma i gydweinidogaethu a Mr. Loader, ac ymadawodd yntau yn 1855. Yn Mehefin y flwyddyn hono, darfu i Mr. Loader, o herwydd henaint, ymneillduo o'r weinidogaeth. Yn niwedd yr un flwyddyn, rhoddwyd galwad i Mr. William Campbell, M.A., o Sydenham. Bu ef yn gweinidogaethu yma hyd 1868, pryd y symudodd i gymydogaeth Llundain. Yn Awst, yr un flwyddyn, cafodd Mr. Henry Baker, o'r athrofa Orllewinol, ei urddo yma, ac ymadawodd yn Chwefror 1870.

Achos cymharol o wan yw yr achos yn Nhrefynwy wedi bod o'i gychwyniad. Yr oedd trwy dymor gweinidogaeth Mr. Loader yn barchus, ac edrychid i fyny ato gan drigolion y dref, o herwydd fod y gweinidog yn foneddwr cyfoethog; ond os bu ei gyfoeth ef ar un olwg yn fantais i'r achos, bu ar yr olwg arall yn niwed mawr iddo, trwy i'r bobl gael eu cadw heb ddeall na chyflawni y ddyledswydd o gyfranu, yn ol fel y llwyddodd yr Arglwydd hwy, at gynaliaeth crefydd. Anfynych y mae cyfoeth gweinidogion, mwy na gwaddolion eglwysig, wedi bod yn fantais i'r achos. Gan fod cyfranu at grefydd yn ddyledswydd grefyddol, yn gystal a gweddio, cymuno, a gwrandaw y gair, ni ellir dysgwyl gwir lwyddiant lle y byddo yn cael ei hesgeuluso.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS LOADER. Ganwyd ef yn Basingstoke, Hampshire, yn y flwyddyn 1774. Yr oedd ei rieni yn bobl gyfoethog, ac felly cafodd ef addysg o'r radd uwchaf. Ymunodd a chrefydd yn ieuangc. Ar ol bod am rai blynyddau yn fyfyriwr yn athrofa Dr. Bogue, urddwyd ef yn Fording—bridge yn 1795. Bwriadai unwaith fyned allan i India fel cenhadwr, ond o herwydd gwrthwynebiad yr East India Company i'r gwaith cenhadol, gosodwyd rhwystrau ar ei ffordd. Yn 1815, penodwyd ef yn athraw athrofa dduwinyddol i'r Annibynwyr yn Dublin. Ar ol bod yno am bum' mlynedd gorfodwyd ef gan waeledd iechyd Mrs. Loader i ymadael oddiyno. Yn 1822, sefydlodd yn Nhrefynwy, lle y bu, fel y gwelsom, yn foddion i gyfodi achos gwan a dinod i barch a sylw. Er iddo yn 1855, roddi i fyny y weinidogaeth, parhaodd hyd derfyn ei oes i roddi pob cymhorth a fedrai i'r achos. Bu farw Mawrth 28ain, 1858, yn 84 oed.

Yr oedd Mr. Loader yn cael ei gyfrif yn bregethwr da, yn ysgolhaig rhagorol, yn Gristion teilwng, ac yn weinidog da i Iesu Grist. Yr oedd yn nodedig am ei garedigrwydd a'i barodrwydd i estyn cymhorth i'w frodyr tlodion yn y weinidogaeth.

Gan fod Mr. Blow, Mr. Paul, Mr. Campbell, a Mr. Baker yn fyw, nid oes galwad am i ni gofnodi eu hanes.

LLANFAPLE.

Llanfaple sydd blwyf bychan yn cynwys 156 o drigolion, tua phum' milldir o dref Abergavenny, heb fod yn mhell o'r brif ffordd o'r dref hono i Drefynwy. Yn 1662, cafodd Charles Williams, un o'r ddwy fil," ei droi allan o Eglwys y plwyf hwn. Os oedd ganddo ef ychydig ddysgyblion yn y gymydogaeth, yr oedd eu henwau a'u coffadwriaeth wedi eu colli oesau cyn cychwyniad yr achos Annibynol sydd yma yn bresenol.

Cafodd yr achos hwn ei ddechreu yn gynar yn y ganrif bresenol trwy offerynoliaeth John Jayne, Ysw. a Mr. William Watkins. Yr oedd Mr. Jayne yn aelod ac yn bregethwr yn y New Inn. Symudodd i'r gymydogaeth hon, i dyddyn o'r enw Pwll-y-ci, ac yn fuan wedi iddo sefydlu yma dechreuodd bregethu mewn gwahanol dai yn yr ardal. Yr oedd y rhag—grybwylledig, Mr. William Watkins, Tynewydd, yn gefnogwr gwresog iddo. Ond yn fuan cyfododd person y plwyf a rhai o'i gyfeillion, wrthwynebiad iddynt, fel y bu raid iddynt, er mwyn diogelwch, drwyddedu ty at bregethu ynddo. Yn fuan wedi hyny adeiladwyd capel ar ddarn o dir o eiddo Mr. Jayne, yr hwn a roddodd yn rhad, mewn gweithred ddiogel. Yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel. Tua yr amser hwnw, os nad ychydig cyn hyny, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Lewis, y pryd hwnw o Zoar, Merthyr Tydfil, i sefydlu yma fel gweinidog ar yr eglwys ieuangc. Hoffid Mr. Lewis yn fawr gan yr ardalwyr, a bu yn foddion i ennill llawer o eneidiau at yr Arglwydd yn nhymor byr ei weinidogaeth. Symudwyd ef yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, yn y flwyddyn 1813, pryd nad oedd ond 52 oed. Ar ol marwolaeth Mr. Lewis bu yr eglwys am ddeng mlynedd heb un gweinidog sefydlog. Mai 28ain, 1823, urddwyd Mr. Thomas Rees, aelod gwreiddiol o Zoar, Merthyr, yn weinidog yma. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn:—Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed; pregethwyd ar Natur eglwys gan Mr. D. Lewis, Aber; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. E. Skeel, Abrgavenny; pregethwyd ar Ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Jones, Pontypool; ac ar Ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Lewis, Tredwstan. Parhaodd Mr. Rees i lafurio yma hyd 1833, pryd y symudodd i Gasgwent. Bu ei weinidogaeth yma yn dderbyniol a llwyddianus. Cafodd amryw eu hychwanegu at yr eglwys, ac yr oedd pawb yn teimlo fod ei ymadawiad yn golled fawr i'r eglwys a'r ardal. Dilynwyd Mr. Rees gan Mr. James Williams, yr hwn a orfodwyd i roddi y weinidogaeth i fyny yn mhen dwy flynedd o herwydd gwaeledd ei iechyd. Wedi bod tua dwy flynedd heb un gweinidog, darfu i ran o'r eglwys, yn groes i ewyllys y rhan arall, roddi galwad i un Jonathan Davies, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd, a nai i'r diweddar Mr. Davies, Cana, sir Gaerfyrddin. Urddwyd ef yma yn 1838. Bu yma yn agos i ddwy flynedd, ond blin iawn oedd agwedd pethau trwy yr holl amser. Aeth oddiyma i Victoria, ac oddiyno i Dredegar, ac y mae er's tuag wyth mlynedd ar hugain bellach wedi ymuno a'r Bedyddwyr. Yr ydym yn gadael y gweddill o'i hanes i haneswyr yr enwad hwnw i'w gofnodi, os gwelant yn werth gwneyd hyny.

Yn nechreu y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr. David Lewis, y gweinidog presenol, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn athrofa Mr. Davies, Penywaun; ac urddwyd ef yma Ebrill 15fed, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan y Meistriaid Rowlands, Pontypool; Davies, Penywaun; Powell, Brynbiga; Rees, Casgwent; Powell, Hanover; ac Evans, Maesaleg.

Mae Mr. Lewis wedi bod yma bellach am ddeng mlynedd ar hugain yn barchus a llwyddianus. Aelod gwreiddiol o eglwys y Mynyddbach, Abertawy, ydyw, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn fuan ar ol ei urddiad yn Llanfaple, dechreuwyd achos ganddo yn Ragland, yr hwn a ddaw etto dan ein sylw. Yn y flwyddyn 1855, aed i'r draul o 45p. i adgyweirio y capel yn Llanfaple, a thalwyd y cwbl ar unwaith gan yr eglwys a'r gynnulleidfa. Mae Mr. Lewis yn ei lythyr atom yn crybwyll am farwolaeth Mr. Thomas Parry, un o'r diaconiaid, ac y mae yr hyn a ddywed am y gwr da hwnw yn werth ei gofnodi er siampl i holl ddiaconiaid ac aelodau ein heglwysi:—"Yn ddiweddar collais hen gyfaill anwyl, sef Mr. Thomas Parry, Cefn—ddwy—glwyd. Bu yn ddiacon yn yr eglwys am lawer o flynyddau, a chyflawnodd ddyledswyddau ei swydd yn ffyddlon. Yr oedd yn Gristion o ymarweddiad teilwng; yn 'Israeliad yn wir.' Un o dymer ddistaw a heddychlon ydoedd, ac o galon lawn o haelioni. Cyfranai yn haelionus at bob achos da. Yr oedd yn ganwr rhagorol, ac yr oedd yn mhob ystyr yn ddyn gwir ddefnyddiol. Nid wyf erioed yn cofio ei weled yn absenol o'r cyfarfod gweddi, oddieithr ei fod yn glaf. Bu ef, a'i henafiaid o'i flaen, yn brif gynalwyr yr achos yma. Efe a fu farw Awst 13eg, 1869, yn 62 oed. Mae yn dda genyf allu dyweyd fod ei fab, yr hwn sydd yn ddwy-ar-hugain bed, yn dilyn siampl ei dad. Efe yw blaenor y canu, ac y mae yn weithgar a defnyddiol iawn yn yr ysgol Sabbothol. Yn wyneb pob cyfnewidiad mae yn dda genyf allu hysbysu fod yr achos yn myned rhagddo yma. Cafodd amryw bobl ieuaingc eu hychwanegu at y eglwys y flwyddyn ddiweddaf, y rhai, wrth yr olwg bresenol, fydda yn ddefnyddiol gyda yr achos."

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DANIEL LEWIS. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1761, yn Tai'rlan, yn mhlwyf Merthyr Tydfil. Pan yn llangc ieuangc anfonwyd ef gan ei rieni i'r ysgol i Abergavenny, ac yno y derbyniwyd ef gan y Dr. Benjamin Davies yn aelod o'r eglwys yn Castle Street. Mae yn debygol hefyd mai yno y dechreuodd bregethu; ond pa bryd nis gwyddom. Yn nyddlyfr Mr. Phillip Dafydd am Rhagfyr 28ain, 1783, cawn y cofnodiad canlynol: "Bum heddyw yn Mhenmain, ond cefais fy arbed i bregethu gan wr ieuangc, Daniel Lewis, Tai'rlan. Ei destyn oedd Heb. ii. 3. Efe a lefarodd yn dda o ddyn ieuangc." Mae yn debygol ei fod wedi dechreu pregethu rai misoedd o leiaf cyn hyn, fe allai flwyddyn neu ddwy. Yn fuan wedi symudiad yr athrofa o Abergavenny i Groesoswallt, cynghorwyd Mr. Lewis gan ei gyfaill Mr. Jenkin Lewis, yr hwn a fagesid yn yr un ardal ag yntau, ac oedd yn awr yn is-athraw yn Nghroesoswallt, i fyned yno i'r athrofa, yr hyn a wnaeth. Bu yno am dair blynedd ar ei draul ei hun. Yn y flwyddyn 1788 neu '89, urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys a gyfarfyddai yn Rhydymardy a'r Cwmmawr, gerllaw Abertawy. Bu yno am oddeutu pymtheg mlynedd yn gysurus a llwyddianus iawn. Tua diwedd y flwyddyn 1803 neu ddechreu 1804, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Zoar, Merthyr, a symudodd yno, ond ni chafodd fawr gysur tra y bu yno. Yr oedd y capel cyntaf yn Zoar newydd gael ei adeiladu, a'i ragflaenydd, Mr. Howell Powell, newydd ymfudo i'r America, gan adael y capel dan faich o ddyled digon trwm i lethu yr achos ieuangc. Cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Lewis yno, bu raid iddo barotoi i fyned i ffwrdd i Loegr, er casglu at ddyled y capel. Yr oedd hyny ynddo ei hun yn ddigon annymunol, ond yr oedd y gofidiau a'i dilynodd yn llawer gwaeth. Mae y diweddar Dr. Jenkyn, yn nghofiant Mr. Evans, Zoar, yn yr Evangelical Magazine am Awst 1834, wedi rhoddi hanes yr helbul hwn, ac nis gallwn ni ei osod allan yn well nag yn ei eiriau ef. "Or diwedd" meddai, "dewiswyd y Parch. Daniel Lewis o'r Cwmmawr, gerllaw Abertawy, yn weinidog. Yr oedd Mr. Lewis yn ddyn santaidd ac addfwyn, ac yn ei ddull o gyflawni dyledswyddau y weinidogaeth yr oedd llawer iawn o dynerwch a boneddigeiddrwydd Cristionogol. Prin yr ymsefydlodd gyda y gynnulleidfa ieuangc hon cyn iddo gael teimlo oddiwrth ofidiau a thrallodion dyled capel. Yn anffodus mae yn y Dywysogaeth lawer o enghraifftiau o eglwysi gweinion yn myned i ddewis gweinidog, yn benaf i'r dyben iddynt gael dyn cymwys i fyned o gylch y wlad i gasglu at ddyled y capel. Mae yr arferiad ddrygionus hon wedi troi allan mor ddinystriol i heddwch y cyfryw eglwysi, ac wedi effeithio yn ddrwg ar enw, defnyddioldeb, a duwioldeb y cyfryw weinidogion. Daliwyd Mr. Lewis ar unwaith yn rhwydau niweidiol y peirianwaith cardotyddol hwn (begging machinery). Bu raid iddo adael ei eglwys a'i deulu lluosog a chynyddol, a myned i Loegr a Llundain, ar fath o wibdaith weinidogaethol i gasglu arian. Yr oedd yr eglwys yn cael ei gwneyd i fyny, agos yn gwbl, o lowyr, mwnwyr, &c., y rhai nid oeddynt yn unwedd yn ddynion cymhwys i farnu pa dreuliau oedd yn ofynol ar daith o'r fath ag yr oeddent hwy wedi gyru eu gweinidog iddi; y canlyniad fu, pan aethpwyd i wneyd i fyny y cyfrifon, i'r bobl annghymwys hyn fyned i wrthddadleu yn erbyn y treuliau. Rhanodd yr eglwys, ac aeth gwrthwynebwyr y gweinidog addfwyn a rhagorol mor ystyfnig, chwerw, ac aflywodraethus, fel yr ymneillduasant i ffurfio eglwys ar eu penau eu hunain." Yn y gymanfa bedair sirol a gynaliwyd yn Nhredwstan Mehefin 24ain a'r 25ain, 1807, daeth achos y terfysg hwn dan sylw, pryd y "penderfynwyd mewn perthynas i'r ymrafael yn nghapel Zoar, Merthyr Tydfil, fod y gweinidog wedi ymddwyn yn llariaidd, yn onest, yn gyfiawn, ac yn ffyddlon, ac mai ei ddyledswydd yw parhau yn ei ymdrechiadau gweinidogaethol." Un engraifft yw hon o ddegau, o'r helbul a'r gofid, y gorfu i weinidogion teilwng fyned trwyddynt wrth adeiladu a thalu am gapeli yn yr oesau a aethant heibio. Yn y flwyddynt 1810, ymadawodd Mr. Lewis o Ferthyr, ac ymsefydlodd yn weinidog yr eglwys ieuangc yn Llanfaple. Dywed Mr. Lewis, gweinidog presenol Llanfaple, o enau hen aelodau yr eglwys, "Cerid ef yn fawr gan y bobl, a chafodd ei ymdrechion ffyddlon eu bendithio yn nodedig er lles i eneidiau anfarwol." Bu y gweinidog da hwn farw fel y nodasom Mehefin 15fed, 1813, yn 52 oed, a chladdwyd ef yn y capel yn Llanfaple. Mae maen coffadwriaeth am dano ar fur y capel. Gadawodd ar ei ol weddw alarus a nifer o blant rhy ieuaingc i deimlo eu colled, ond gofalodd Tad yr amddifaid yn dirion am danynt. Mab iddo ef yw Daniel Seys Lewis, Ysw., yn awr o Fynyddislwyn; boneddwr ag y mae ei enw yn ddigon adnabyddus i holl weinidogion Annibynol Cymru. Ei frawd ef hefyd oedd Mr. Walter Lewis, Tredwstan. Gan i Mr. Lewis farw cyn oes y cyhoeddiadau misol, nid ymddangosodd unrhyw hanes am ei fywyd a'i farwolaeth yn y wasg hyd yn bresenol. Buasai yn dda genym pe buasem yn feddianol ar ddefnyddiau i ysgrifenu bywgraphiad helaethach iddo.

THOMAS REES. Yn nglyn a hanes yr eglwys yn Casgwent y rhoddwn ei fywgraphiad ef.

JAMES WILLIAMS. Gweler hanes yr eglwys yn Llanfaches.

DOCK STREET, CASNEWYDD.

Yn 1801, nid oedd trigolion plwyf a thref y Casnewydd ond rhy brin bymtheg cant o bersonau, ac nid oedd ond dau dy addoliad yn y plwyf, sef yr Eglwys, a chapel Heol-y-felin. Mewn canlyniad i agoriad gweithiau glo, a sefydliad amryw weithfaoedd haiarn ar y mynyddau, yn nghyd a gwneuthuriad camlas, sir Fynwy, i gludo cynyrch y gweithfaoedd i borthladd y Casnewydd, cynyddodd y dref yn gyflym, fel yr oedd ynddi erbyn 1811, dros dair mil o drigolion; ac erbyn hyn y mae ei thrigolion yn tynu at ddeugain mil. Wrth weled y trigolion yn cynyddu mor gyflym, ac yn eu mysg niferi dirfawr o Saeson, darfu i Mr. William Thomas, un o ddiaconiaid yr eglwys yn Heol-y-felin, yn nghyd ag ychydig bersonau, a dueddent yn fwy at y Methodistiaid Calfinaidd nag at un enwad arall, ymuno yn gymdeithas grefyddol, ac adeiladu Hope Chapel. Nis gwydd om pa flwyddyn y gwnaed hyn, ond gallem feddwl mai rywbryd o 1810 1812 ydoedd. Daeth Mr. John Rees, pregethwr galluog perthynol i Methodistiaid i'r dref i fyw, a chan ei fod yn medru pregethu yn rhwyc yn yr iaith Saesonaeg, cymhellwyd ef i'r capel newydd i bregethu yn ddwy iaith. Arweiniodd hyny yn fuan i mewn destynau annghydfod i'r gymdeithas. Gan mai Methodistiaid oedd Mr. Rees a'r rhan fwyaf o'r eglwys, ni chaniatai y Corff iddo fod yn weinidog sefydlog yno; ac yr oedd y ddwy iaith yn llawer o rwystr i gydgordiad. Galwai rhai am ychwaneg o Saesonaeg, ac eraill am ychwaneg o Gymraeg. Diwedd y pethau hyn fu i Mr. Rees dderbyn galwad oddiwrth yr eglwys yn y Tabernacle, Rodborough, sir Gaerloew, ac i'r Gymdeithas yn Hope Chapel dori i fyny, gan adael y capel, yr hwn oedd wedi costio dros fil o bunau, a'r rhan fwyaf o'r ddyled arno, yn llaw un Henry Evans, yr hwn a fu dan yr angenrheidrwydd o'i gynyg ar werth. Prynwyd ef am 800p. gan nifer o bersonau, y rhai a chwenychent ffurfio yno eglwys Annibynol Saesonaeg. Agorwyd ef fel capel Annibynol Ebrill 1af, 1814. Un-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau pan ffurfiwyd yr eglwys, ar blaenaf o honynt oedd Mr. William Thomas, yr hwn a grybwyllasom yn barod. Erbyn diwedd y flwyddyn 1814, ychwanegwyd naw eraill atynt.

Ar ol bod yn cael eu gwasanaethu gan wahanol weinidogion hyd ddiwedd y flwyddyn 1814, llwyddasant i gael gan yr enwog Jenkin Lewis, yr hwn oedd y pryd hwnw yn cyfaneddu yn agos i Manchester, i addaw dyfod atynt am bump neu chwech Sabboth. Dechreuodd ei lafur ddydd Nadolig 1814, yr hwn oedd yn Sabboth y flwyddyn hono. Cyn iddo ymadael, cawsant ganddo dderbyn galwad i ddyfod yn weinidog iddynt, a dechreuodd ei weinidogaeth yn eu mysg Mawrth 8fed, 1815.

O'r pryd hwnw hyd ei farwolaeth yn 1831, bu yn myned i mewn ac allan o'u blaen, ac yn cael edrych arno gan bawb fel "Gwr Duw." Er na ddarfu iddo gasglu cynnulleidfa luosog iawn, llwyddodd i sefydlu achos ag yr oedd yr holl dref yn gorfod edrych yn barchus arno. Yr oedd y rhai a'i hadwaenai yn dda, ac a fedrent ddeall gwerth ei weinidogaeth, yn ei gyfrif yn un o'r dynion goreu ar y ddaear. Mae y rhaggrybwylledig Wm. Thomas, yr hwn a ellir ystyried fel tad yr achos hwn, wedi ysgrifenu yn ei ddydd-lyfr, yn mhen blynyddau ar ol dechreuad gweinidogaeth Mr. Lewis yn eu plith, "Pe gofynid i mi, A gawsoch chwi eich siomi yn ngweinidogaeth Mr. Lewis? atebwn, Yn mhell, pell iawn i'r gwrthwyneb y bu. Mae wedi myned yn mhell tu hwnt i unrhyw ddisgwyliad a goleddwn i ar y dechreu, ac y mae yn myned well well o hyd. Yr wyf yn galaru na byddai yn cael ei derbyn yn well, ac na byddai mwy o arwyddion gweledig o lwyddiant arni. Ond yr wyf fi yn meddwl nad oes gan Mr. Lewis un achos i edifarhau iddo ddyfod i'r Casnewydd, ac yr wyf fi yn bendithio Duw am iddo ei ddwyn ef yma, ac am yr holl wirioneddau gogoneddus a wrandewais tra yn eistedd dan ei weinidogaeth." Ysgrifenai un arall o'r aelodau am dano yn mhen blynyddau ar ol hyn: "Mae fy adgofion am dano yn hyfryd iawn; ei ddull hynaws a serchus; ei ymddygiad mwyn at bawb, yn enwedigol yr ieuengctyd; yn nghyd a'i fywyd santaidd. Yr wyf fi yn barnu ei fod yn nes at berffeithrwydd nag un dyn a adnabum erioed." Ond er rhagored dyn oedd Mr. Lewis, cafodd ofid yn ei gysylltiad a'i eglwys yn y Casnewydd. Heb fod yn faith wedi iddo sefydlu yno, daeth rhyw destyn cynen i'r eglwys, ac ar ol cryn ystwr a gofid, ymadawodd nifer o'r aelodau; yr hyn yn mhen amser a arweiniodd i ddechreuad yr achos yn y Tabernacle. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am achosion na natur y terfysg hwn. Y cwbl a wyddom ydyw iddo gymeryd lle.

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol marwolaeth Mr. Lewis, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Byron, o Lincoln. Ar y Sul cyntaf yn Hydref 1831, y pregethodd Mr. Byron yma gyntaf. Derbyniodd yr alwad, a sefydlodd yn y lle yn ddioed. Er fod Mr. Byron yn ddyn gwahanol iawn yn ei gorff, ei feddwl, ei ddull o bregethu, ac o ymwneyd a dynion, i'w ragflaenydd hynaws a boneddigaidd, etto, gan ei fod yn ddyn gwir dda, a nodedig o alluog a llafurus, perchid ef yn fawr gan ei bobl. Yr oedd i raddau yn fyrbwyll, ac anwyliadwrus ar ei eiriau, a thrwy hyny yn achlysurol yn cyfodi teimladau annymunol a thramgwyddus mewn rhai personau. Gan ei fod yn rhyddfrydwr brwdfrydig mewn pethau gwladol a chrefyddol, bu yn agos a thynu ei hun i ofid, a'r achos i warth, yn amser terfysg y Siartiaid, yn 1839. Yr oedd John Frost, blaenor y Siartiaid yn Mynwy, yn arfer gwrandaw Mr. Byron, a rhai o'i deulu yn aelodau ei eglwys. Rhwng y naill beth a'r llall, bu yr achos hwn dan fesur o gabledd y pryd hwnw, er nas gallwyd profi fod dim yn feius yn y gweinidog na'r eglwys. Mae yn ddigon hysbys fod gelynion Ymneillduaeth a rhyddid yn wastad, pan gaffont ryw gysgod o esgus, yn barod i dywallt eu llysnafedd ar y pregethwyr a'r capeli, ac ni fu toriaid ac ucheleglwyswyr y Casnewydd yn ol o wneyd eu rhan i dduo yr achos hwn y pryd hwnw.

Yr oedd Mr. Byron yn un rhagorol dros ben gyda yr ysgol Sabbothol; a Mrs. Byron yn selog a medrus iawn hefyd yn y rhan hon o waith crefydd; a chan nad oedd plant ganddynt, yr oedd ganddi fwy o amser i dalu sylw i'r gwaith. Yr oedd ysgol Sabbothol Hope Chapel, yn amser Mr. Byron, yr oreu o ddigon o holl ysgolion Sabbothol y dref. Bu y gweinidog llafurus hwn hefyd yn foddion i feithrin ysbryd cenhadol i raddau dymunol iawn yn ei bobl. Yn y flwyddyn 1835, nid oedd y casgliad cenhadol ond 16p., ond cyfododd, o flwyddyn i flwyddyn, nes yr oedd yn 1840 yn 51p. Bu Mr. Byron farw, er galar dirfawr i'w eglwys yn Mawrth 1841. Buwyd dros flwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Byron cyn gallu dewis canlynydd iddo. O'r diwedd rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Parry, o Blackburn, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma Gorphenaf 17eg, 1842. Ychydig fu ei arosiad ef yn y lle. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny Ionawr 23ain, 1844, a symudodd i Dover, lle y bu farw yn fuan wedi hyny.

Wedi ymadawiad Mr. Parry, buwyd dri mis ar ddeg heb daro wrth ganlyniedydd iddo. Rhoddwyd galwad i Mr. Thomas L. Bright, myfyriwr yn yr athrofa Orllewinol, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Chwef. 23ain, 1845. Yr oedd Mr. Bright yn dderbyniol fel pregethwr, a bu i fesur yn llwyddianus am y ddwy flynedd gyntaf, ond yn y drydedd flwyddyn deallwyd ei fod yn suddo mewn dyled, a thrwy hyny yn iselu ei gymmeriad a'i swydd. Bwriadai y diaconiaid fyned i siarad ag ef ar y mater, a phan ddeallodd yntau hyny, rhoddodd ei swydd i fyny, Mawrth 3ydd, 1848, ac ymfudodd i Awstralia. Nid ymddengys iddo wneyd dim a gwaith y weinidogaeth er y pryd hwnw.

Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. John Barfield, B. A., o goleg Cheshunt, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth Mai 27ain, 1849. Bu yma am bum' mlynedd, ac ymadawodd yn dra disymwth, Mehefin 4ydd, 1854. Nid ymddengys iddo fod yn y weinidogaeth oddiar y pryd hwnw. Mae tymhor gweinidogaeth Mr. Barfield yn hynod yn hanes yr eglwys hon, am mai dyma y pryd yr adeiladwyd y capel prydferth sydd ganddi yn bresenol. Yr oedd Hope Chapel, lle yr oedd yr eglwys wedi bod yn ymgynnull oddiar ei ffurfiad, er ei fod yn agos i'r brif heol yn y dref, etto yn lled annghyfleus, o herwydd ei fod tu cefn i'r tai, yn hollol o'r golwg, a'r ffordd ato trwy fynedfa hir gul. Yr oedd hefyd yn rhy fychan i gynwys cynnulleidfa mewn tref fel Casnewydd. Felly, ar ol llawer o gydymgynghori, cydunwyd i adeiladu capel newydd mewn man mwy ysgafn ac amlwg na'r hen gapel. Cafwyd darn o dir cyfleus yn Great Dock Street, mewn lle glan ac agored, ond prin y gallwn ganfod y doethineb o adeiladu addoldy mor gostus ar dir heb fwy na 54 o flynyddau o amser arno. Gosodwyd careg sylfaen y capel newydd gan Mr. Joseph Corsbie, un o'r diaconiaid, yr hwn ei hun a roddasai 700p. at y draul, Gorphenaf 9fed, 1850, ac agorwyd ef dydd Gwener, Rhagfyr 5ed, 1851, pryd y pregethwyd yn y bore gan Dr. John Harries, Llundain, ac yn yr hwyr gan Mr. Tyndall, Rhydychain. Y Sabboth canlynol pregethodd Dr. Stowell, o goleg Cheshunt, fore a hwyr. Holl draul yr adeiladaeth, a chynwys y cyfnewidiadau a wnaed ynddo ar ol ei agoriad, yn nghyd a'r llôg a dalwyd tra y bu dyled yn aros, ydoedd 3891p. 5s. 10c., a thalwyd y cwbl cyn dechreu y flwyddyn 1862.

Yn fuan ar ol ymadawiad Mr. Barfield, rhoddwyd galwad i Mr. Frederick Pollard, o Saffron Walden, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Medi 24ain, 1854. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Pollard, cynyddodd y gynnulleidfa yn fawr, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys. Nid hir y bu Mr. Pollard yma cyn i fesur o oerni fyned rhyngddo a'r diaconiaid. Er na fu yma unrhyw derfysg o'r dechreu i'r diwedd, terfynodd y diflasdod rhyngddynt yn ymadawiad Mr. Pollard, a thri ar ddeg ar hugain o'r aelodau gydag ef, i ddechreu achos newydd yn y dref. Cymerodd hyn le Rhagfyr 20fed, 1857. Daw yr achos a ddechreuwyd y pryd hwn gan Mr. Pollard dan ein sylw etto.

Y gweinidog nesaf yn Dock Street oedd Mr. Alexander McAuslane, o Dunfermline, Scotland. Dechreuodd ef ei weinidogaeth Medi 5ed, 1858. Enillodd Mr. McAuslane sylw y dref yn ddioed. Yr oedd ei weinidogaeth yn nodedig o boblogaidd a llwyddianus tra y bu yma. Bu galwad yn fuan am wneyd cyfnewidiadau y tu fewn i'r addoldy, er cael ychwaneg o eisteddleoedd. Yn Ionawr 1862, hysbysodd Mr. McAuslane ei fwriad i ymadael, i gymeryd gofal yr eglwys yn Finsbury Chapel, Llundain, ac ymadawodd Chwefror 11eg, er galar mawr i'r eglwys a'r gwrandawyr, a holl Ymneillduwyr y dref a'r gymydogaeth. Dyn o ysbryd cyhoedd, llawn sirioldeb a gweithgarwch ydyw, ac yr oedd ei ymadawiad yn golled i'r sir yn gyffredinol.

Dilynwyd Mr. McAuslane gan Mr. John H. Lochore, o Paisley, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma Medi 7fed, 1862. Bendithiwyd llafur Mr. Lochore a llwyddiant anghyffredin, fel yr oedd nifer y cymunwyr agos yn gymaint arall, ar derfyniad y drydedd flwyddyn o'i weinidogaeth, ag ydoedd ar y dechreu. Yn y flwyddyn 1867, gorfodwyd Mr. Lochore i roddi y weinidogaeth i fyny, gan gystudd blin iawn. Cymaint oedd serch yr eglwys a'r gynnulleidfa ato, fel y cyfranasant o dri i bedwar cant o bunau at dysteb iddo ar ei ymadawiad. Wedi cael ychydig dros flwyddyn o orphwysiad, adferodd ei iechyd i'r fath raddau fel yr ymgymerodd a'r weinidogaeth drachefn yn Llanelli, sir Gaerfyrddin.

Yn y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. J. Kennedy, o Croydon, gerllaw Llundain, ac efe yw y gweinidog yma yn awr. Mae pob arwyddion yn bresenol y bydd Mr. Kennedy yn gysurus a llwyddianus yn y cylch pwysig hwn. Mae pob argoel hefyd ei fod yn ddyn gweithgar ac o ysbryd cyhoedd, ac felly nis gall lai na chael ei hoffi gan ei frodyr yn y weinidogaeth. Fel hyn yr ydym wedi olrain hanes yr eglwys o'i chychwyniad hyd yn bresenol. I hanes cyflawn o'r achos, yn llawysgrifen Thomas Jones, Ysw., un o'r diaconiaid, yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau uchod.

Er nad oes ond 55 o flynyddau er pan ffurfiwyd yr eglwys hon, y mae yn awr dan ofal y nawfed gweinidog. Nis gwyddom yn iawn pa fodd i gyfrif am y cyfnewidiadau mynych hyn yn y weinidogaeth. Dichon mai y prif reswm ydyw fod yr eglwys ar ei chychwyniad wedi cael ei breintio a gwasanaeth un o'r gweinidogion uwchaf eu safle yn yr enwad, a'i bod o hyny allan yn awyddu am gael gwasanaeth gweinidogion o safle a thalentau uwch nag y mae pwysigrwydd y cylch a swm y gyflog yn ei deilyngu. Pa fodd bynag, anfantais i achos yw newid gweinidogion yn fynych, ac wrth ystyried mor aml y bu y cyfnewidiadau yma, mae yn syndod fod yr achos wedi myned rhagddo mor rhagorol. Mae yr aelodau yn bresenol yn rhifo tua dau gant neu ychwaneg, ac yn eu mysg amryw ddynion galluog ac o safle gymdeithasol barchus.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

JENKIN LEWIS, D.D. Ganwyd ef yn y Brithdir Uchaf, plwyf Gelligaer, Morganwg, Awst 12fed, 1760. Yr oedd ei rieni, Malachi a Cecilia Lewis, yn aelodau yn hen gapel Cefncoedycymer, Merthyr; y pryd hwnw dan ofal gweinidogaethol Mr. Phillip Charles. Er fod Mr. Charles, a'r rhan fwyaf, os nad pawb o'i eglwys, yn gogwyddo yn fawr at Arminiaeth, yr oedd yn eu mysg amryw ddynion gwir grefyddol, y rhai yr oedd eu Harminiaeth hyd etto heb sychu i fyny eu teimladau crefyddol a'u difrifoldeb Puritanaidd. Rhai felly, fel yr ymddengys, oedd rhieni Jenkin Lewis. Yr oeddynt yn selog dros grefydd deuluaidd, a byddai eu tri mab, o ba rai Jenkin oedd yr henaf, bob un yn ei dro yn gweddio yn y ddyledswydd deuluaidd. Ar ol bod rai blynyddau mewn ysgol yn Merthyr, lle y dechreuodd ddysgu Lladin a Groeg, aeth Jenkin Lewis pan yn ddwy-ar-bymtheg oed i'r athrofa Annibynol i Abergavenny, ar draul ei rieni. Nid hir y bu yno heb deimlo tuedd i fyned yn fyfyriwr rheolaidd i'r sefydliad, ond yr oedd ei olygiadau Arminaidd yn rhwystr iddo gael ei dderbyn, o herwydd fod y Bwrdd Cynnulleidfaol yn gofyn cyffes ffydd gan bob myfyriwr a dderbynid. Wedi dyweyd ei ofid meddyliol wrth rai o'i gydfyfyrwyr, yn enwedig Mr. B. Jones, wedi hyny o Bwllheli, ac wrth ei athraw hynaws, Dr. B. Davies, symudwyd o'i feddwl bob gwrthddadl yn erbyn Calfiniaeth, a chymeradwy wyd ef i sylw y Bwrdd Cynnulleidfaol. Cymeradwyid ei achos gan ei weinidog, Mr. P. Charles, a dau o ddiaconiaid yr eglwys, a chan Mr. Phillip Dafydd, Penmain, a Mr. Thomas Davies, Hanover, fel gweinidogion adnabyddus o'r gwr ieuangc. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Mawrth 1778. Ymroddodd a'i holl egni i fyfyrio tra y bu yn yr athrofa, ac ennillodd iddo ei hun air da ei athraw a phawb o'i gydfyfyrwyr. Tua phum' mis cyn fod ei amser yn yr athrofa i fyny, rhoddodd ei athraw ei swydd i fyny, ar ei symudiad i goleg Homerton. Dewiswyd Dr. E. Williams yn ganlyniedydd iddo, ond gan na symudai y Dr. o Groesoswallt, bu raid symud y sefydliad o Abergavenny i gartrefle yr athraw. Trwy gymellion taer llwyddodd y Dr. i gael gan Mr. Lewis fyned i Groesoswallt i fod yn is-athraw, fel y buasai yn flaenorol yn Abergavenny. Aeth yno yn Mehefin 1782, a bu yno hyd Tachwedd 1783, pryd y cydsyniodd a galwad oddi-wrth eglwys yn Wrexham. Ar ol bod yno yn pregethu ar brawf am flwyddyn, urddwyd ef Tachwedd 3ydd, 1784. Yr oedd y Meistriaid Scott, o Drayton; Armitage, o Gaer; Williams, o Groesoswallt; Lloyd, o Ddinbych; a Jones, o Bwllheli, yn gweinyddu yn yr urddiad. Parhaodd yn weinidog parchus yn yr eglwys hono hyd ei symudiad i Manchester yn Hydref 1811.

Wrth ysgrifenu at y Bwrdd Cynnulleidfaol, i roddi ei swydd i fyny fel athraw, yn Medi 1791, dywed Dr. Williams, "Yr wyf wedi gwneyd fy meddwl i fyny, yn gymaint ag i'r sefydliad gael ei symud i'r lle hwn ar fy nghais i, na bydd i mi roddi fy swydd i fyny nes y byddo golwg am ganlyniedydd i mi; ac os tueddir y Bwrdd i ofyn am wasanaeth y person sydd mewn golwg genyf fi, y mae genyf sail i gredu fod ei amgylchiadau ef y fath (os na rwystrir ef gan ei wyleidd-dra) fel y gall symud o'i gylch presenol. Y mae yn ddyn o oed a safle briodol yn y weinidogaeth; ac y mae wedi bod o'r blaen yn is-athraw yn Abergavenny a Chroesoswallt; nid oes ganddo deulu, ond gwraig yn unig; y mae o gymmeriad difai; ac mewn parch cyffredinol fel gweinidog cristionogol. Y boneddwr yr wyf yn cyfeirio ato yw y parchedig Mr. Jenkin Lewis o Wrexham." Mewn canlyniad i'r awgrymiad hwn oddiwrth Dr. Williams, ysgrifenodd y Bwrdd at Mr. Lewis, i gynyg y swydd iddo, a chydsyniodd yntau a'r cais ar y 14eg o Ragfyr 1791. Gan nad oedd ef yn ymdeimlo ag ymadael a'i eglwys yn Wrexham, i gymeryd gofal yr eglwys yn Nghroesoswallt, symudwyd yr athrofa o Groesoswallt yno yn 1792; a chyflawnodd yntau ddyledswyddau ei swydd, fel llywydd ac athraw y sefydliad, er boddlonrwydd hollol i bawb, am yr yspaid o ugain mlynedd. Dygwyd i fyny dan ei ofal yn y tymhor hwnw amryw o weinidogion enwocaf Cymru a Lloegr.

Yn y flwyddyn 1811, gwnaed cynygiad i sefydlu athrofa yn Leaf Square, Manchester, a chymerodd Mr. Lewis ei berswadio i roddi i fyny ei waith fel gweinidog ac athraw yn Wrexham, ac ymgymeryd a llywyddiaeth yr athrofa hono. Ei unig reswm dros ymadael o Wrexham ydoedd, nad oedd mor llwyddianus yn y weinidogaeth ag y dymunasai. Ond siomwyd ef yn ei ddisgwyliadau yn Manchester. Methodd yr athrofa yno a llwyddo, a thorwyd hi i fyny. Y pryd hwnw bu yr eglwys yn New Windsor, Manchester, yn daer iawn am iddo dderbyn galwad oddiwrthi, a bu ei hen eglwys yn Wrexham yn deisyf arno ddychwelyd yno, ond gwrthododd y ddau gynygiad, a derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys ieuangc yn Hope Chapel, Casnewydd. Symudodd yno, fel y gwelsom yn nechreu y flwyddyn 1815. Tua'r flwyddyn 1821, bu yr Arglwyddes Barham yn daer am iddo ymgymeryd ag arolygiaeth yr achosion Saesonaeg a gychwynasid ganddi hi yn Mrowyr, Morganwg, ond tueddwyd ef gan daerni ei bobl yn y Casnewydd i aros gyda hwy, ac felly y gwnaeth nes iddo gael galwad i wlad well. Cafodd ergyd ysgafn o'r parlys tua deng mlynedd cyn ei farwolaeth, ond nid effeithiodd ddim ar ei lafar. Parhaodd i bregethu yn fuddiol ac effeithiol iawn hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth, a dywedir fod ei bregethau yr wythnosau olaf o'i fywyd yn fwy toddedig a nefolaidd nag arferol. Ei destyn diweddaf oedd 1 Cron. xvii. 21., pregethodd oddiwrth y testyn hwnw nos Sul, Gorphenaf 24ain, 1831, yn anghyffredin o felus ac effeithiol. Bu yn fywiog iawn yn y cyfarfod gweddi nos dranoeth, a dydd Mawrth, bu mewn cyfeillach grefyddol gyda nifer o gyfeillion Cymreig. Aeth i'w wely y nos hono, ac ni chyfododd mwyach. Bernir iddo gael ergyd o'r apoplexy; ond ni chafodd un effaith ar ei synwyrau na'i lafar. Y Sul olaf y bu fyw, yr oedd ei gyfaill Mr. Davies, Penywaun, yn llenwi ei bwlpud. Aeth Mr. Davies rhwng y ddwy oedfa i'w weled, a phan ofynodd iddo pa fodd yr ydoedd, atebodd, "Nid wyf yn teimlo un poen yn fy nghorff, ac y mae fy meddwl yn berffaith dawel." "Mac yr Arglwydd yn dda iawn i chwi, Syr," ebe Mr. Davies; atebodd yntau, gyda phwyslais nodedig o effeithiol, "Ydyw, mae yr Arglwydd wedi bod yn dda iawn i mi, mae yr Arglwydd yn dda iawn i mi, ac fe fydd yr Arglwydd yn dda iawn i mi dros byth." Bu farw yn y teimlad nefolaidd hwn bore dydd Iau, Awst 11eg, 1881, yn 71 oed, a chladdwyd ef yn mynwent hen gapel Heol-y-felin. Y Sabboth, Awst 28ain, pregethodd ei hen gyfaill, Mr. Roberts, Llanbrynmair, ei bregeth angladdol i dorf fawr a galarus, oddiwrth Psalm cxvi. 15. Yr oedd Jenkin Lewis o ddechreuad ei fywyd cyhoeddus hyd ddydd ei farwolaeth yn sefyll yn uchel iawn yn ngolwg pawb o'i gydnabod. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn hynod o wylaidd ac addfwyn ei dymer, a nodedig o foneddigaidd yn ei ymddygiad at foneddig a gwreng.

Buom yn siarad a degau o ddynion a'i hadwaenent yn dda, ac ni ddygwyddodd i ni gyfarfod a neb nad oedd yn rhoddi gair da iddo. Yr oedd wedi gwneyd y defnydd goreu o'i amser yn yr ysgolion a'r athrofa, fel yr oedd yn ysgolhaig da; cyfrifid ef hefyd yn bregethwr cyflawn a difai; ac yr oedd ei dduwioldeb yn cael ei gydnabod gan bawb; ac mewn ychwanegiad at y pethau anhebgorol a gwerthfawr hyn, yr oedd rhywbeth yn ei ymddangosiad a'i ddull o ymddwyn, pa le bynag yr elai, yn gorfodi dynion o bob sefyllfa a chymmeriad i'w barchu.

Tua chwe' mis cyn ei farwolaeth derbyniodd y teitl o Athraw Duwinyddiaeth, o un o brif athrofau America. O herwydd ei wyleidd-dra gwaharddai ei gyfeillion i'w gyfarch fel doctor, ond ni bu neb erioed yn gwisgo y teitl hwnw oedd yn addasach i'w wisgo nag ef.

Bu Dr. Lewis yn briod ddwy waith. Ei wraig gyntaf oedd Miss Jones, o Goedyglyn, gerllaw Wrexham, yr hon a briododd Ebrill 24ain, 1785, ac a fu farw Mawrth 15fed, 1802. Ei ail wraig oedd Mrs. Armitage, gweddw Mr. W. Armitage, gweinidog Annibynol yn Nghaerlleon Gawr. Priododd hi ynTachwedd 1803, a bu farw Ionawr 21ain, 1818. Ni bu iddo blant o un o'i wragedd.

Ni ddeallasom fod Dr. Lewis, fel Mr. Thomas, Penmain, a rhai eraill o'i gydoeswyr, yn nodedig am ffraethineb ei attebion, ond clywsom un hanesyn am dano sydd yn werth ei gofnodi. Yr oedd amryw o'r hen grefyddwyr, yn ei oes ef, yn barnu mai rhyw fath o foethau meddyliol i ddynion y byd oedd papurau newyddion, ac nad oedd yn gweddu i broffeswyr crefydd eu darllen o gwbl. Un prydnawn daeth gwr o'r syniad hwnw i dŷ Dr. Lewis, a chafodd ef yn darllen ei bapur newydd. "Beth, Mr. Lewis!" ebe fe, "Ai darllen y papur newydd yr ydych chwi?" "Ie," ebe yntau, "yr wyf am wybod pa fodd y mae fy Nhad yn llywodraethu y byd."

BENJAMIN BYRON. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1790, ond nis gwyddom yn mha le, ac y mae hanes boreu ei oes yn gwbl anhysbys i ni. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Hoxton, Llundain, a dechreuodd ei fywyd gweinidogaethol yn Lincoln, lle yr urddwyd ef tua y flwyddyn 1821. Yn 1831 symudodd oddiyno i'r Casnewydd, a bu farw yno, Mawrth 2il, 1841.

Yn ol tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai, yr oedd Mr. Byron yn ddyn nodedig o gywir a diddichell. Yr oedd ei onestrwydd uwchlaw drwgdybiaeth, ond dichon y buasai mwy o fwyneidd-dra ac arafwch yn fanteisiol iddo rai prydiau. Yr oedd ei sel dros ryddid gwladol a chrefyddol, o bosibl, yn ei gario i eithafion weithiau. Fel y nodasom yn barod, bu ei frwdfrydedd fel gwleidiadwr (politician), yn mron a'i arwain i ofid yn amser y cyffroad Siartiaidd. Yr oedd yn bregethwr eglur a galluog iawn, ac ar amserau yn nodedig o hyawdl. Yr oedd ganddo ddylanwad diderfyn dros y rhai a'i hadwaenai yn drwyadl, ac a ddeallent ei gymmeriad. Ystyriai pobl ei ofal iddynt gael colled ddirfawr yn ei farwolaeth.

THOMAS PARRY. Ganwyd ef yn Abergele, yn sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1811. Nid oedd un eglwys Annibynol yn Abergele y pryd hwnw, nac am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain ar ol hyny; ac nid ydym wedi cael allan pa fodd y gogwyddwyd meddwl Thomas Parry at yr Annibynwyr; ond y mae genym sicrwydd y byddai ef a'i frawd ieuangach John Lewis Parry, yr hwn wedi hyny a urddwyd yn weinidog yn East Cowes, yn arfer myned bob Sabboth i Moelfro i fwynhau gweinidogaeth Mr. Thomas Jones. Nid oedd y ddau ond egwan ac ciddil o gyrff, ac etto gwelid hwy bob Sabboth yn yr addoliad yn brydlawn, er fod ganddynt rai milldiroedd o ffordd a hono dros le uchel ac ystormus yn y gauaf. Dechreuodd Thomas Parry bregethu yn ieuangc, a phregethodd lawer yn Llansantsior, a Moelfro, a Cholwyn, a lleoedd eraill, a byddai ei frawd John yn myned gydag ef, ac yn dechreu yr oedfaon iddo. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Wymondley, Coward College wedi hyny; ac ar derfyniad ei amser yno yn 1836, derbyniodd alwad o Blackburn, lle yr urddwyd ef. Gan ei fod yn wan ei gyfansoddiad, a'i iechyd yn anmharus, barnodd ei feddygon mai gwell fuasai iddo ddychwelyd i awyr ei wlad enedigol; a chan fod capel cynnulleidfaol Saesonaeg wedi ei godi yn Rhuthin; ond a elwid yn Eglwys Rydd, derbyniodd alwad oddiyno, a symudodd i gapel Brynhyfryd, Rhuthin, yn 1839. Yn ystod arosiad Mr. Parry yn Rhuthin, cyhoeddodd Mr. Lewis Edwards, M.A., Bala, (Dr. Edwards yn awr), ei.draethawd ar Natur eglwys, yr hwn oedd y cynyg cyntaf a wnaed trwy y wasg Gymreig i amddiffyn Henaduriaeth fel ffurflywodraeth eglwysig. Cyhoeddodd Mr. Parry attebiad iddo, ac y mae yn sicr genym fod pawb a'i darllenodd neu a'i darllena yn sicr o edmygu tegwch a boneddigeiddrwydd yr ysgrifenydd, beth bynag a all eu barn fod am gywirdeb y golygiadau a amddiffyna. Nid rhyw lawer o lwyddiant a fu ar ei weinidogaeth yn Rhuthin; ac nis gallesid disgwyl llawer. Tref fechan Gymreig ydyw; ac nid oedd Mr. Parry yn feddianol ar ddawn i swyno y lluaws, pe buasai yno luaws o Saeson i'w swyno; ond dichon fod y rhwystr mwyaf yn cyfodi oddiar fod y llywodraeth yn hollol yn llaw un dyn cyfoethog, yr hwn a gododd ac a ddaliai ei afael yn y capel. Ac nid yw eglwys gynnulleidfaol byth yn llwyddo heb i'r holl bobl gael llais yn ei gweithrediadau. Symudodd Mr. Parry oddiyno i Manchester, lle y llafuriodd dros ychydig mewn gwendid mawr, yna derbyniodd alwad o Casnewydd, lle y dechreuodd ei weinidogaeth Gorphenaf 1842. Nid oedd yn meddu digon o'r elfen boblogaidd i le gwerinol fel Casnewydd. Yn ei hanes ysgrifenedig o eglwys Dock Street, dywed Mr. Thomas Jones, "Yr oedd Mr. Parry yn ysgolhaig enwog; buasai yn llenwi cadair proffeswr mewn athrofa yn gampus, ond fel pregethwr i gynnulleidfa gyffredin nid oedd yn unwedd yn effeithiol." Pan yr achwynai rywun with Dr. McHall, o Manchester, arno fel pregethwr; methodd y Doctor a goddef, a dywedodd fod Mr. Parry yn un o'r meddylwyr galluocaf a fagodd Lloegr erioed; ac y mae y rhai a gafodd y fantais i'w adnabod yn barod i ddyweyd "y dystiolaeth hon sydd wir."

Symudodd o'r Casnewydd i Dover yn Chwef. 1844, ond ni bu ei dymhor yno ond byr iawn. Bu farw Mehefin 15fed, 1844, yn 33 oed. Dyn nodedig o siriol ac anwyl ydoedd, a diau pe cawsai fyw a mwynhau iechyd y cyrhaeddasai safle uchel yn yr enwad; ond "ei haul a fachludodd a hi yn ddydd."

PENYWAUN.

Mae yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanfihangel Llantarnam, tua haner y ffordd o'r Casnewydd i Bontypool. Yr oedd Ymneillduwyr yn yr ardal hon beth bynag er dyddiau Siarl II. Fel y crybwyllasom yn hanes eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, yr oedd ty Margaret Jones, yn mhlwyf Henllys, yn lled agos i Benywaun, wedi cael ei drwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol gan yr Annibynwyr yn 1672. Nis gwyddom pa un a barhaodd y gwasanaeth i gael ei gynal yn yr ardal o'r pryd hwnw hyd nes yr adeiladwyd capel Peny waun ai peidio. Yr oedd yma le agored i'r efengyl yn 1741, ac fel yr ymddengys, wasanaeth rheolaidd yn cael ei gadw.[40] Mewn apeliad at y cyhoedd am gymorth i ddwyn traul adeiladaeth y capel presenol, yr hwn a ysgrifenwyd yn 1818, Dywedir fel y canlyn, "Y mae cymdeithas fechan o Ymneillduwyr, o'r enwad Annibynol, wedi bod yn ymgynnull i addoli yn mhlwyf Llanfihangel Llantarnam yn hir cyn cof neb sydd yn awr yn fyw. Cyfarfyddent mewn anedd-dy o'r enw Penywaun. Ty bychan ydoedd, yr hwn a roddid at eu gwasanaeth gan y perchenogion o oes i oes er's rhai cenhedlaethau." Mae yn amlwg oddiwrth hyn fod yr achos hwn yn hen iawn, ond y mae enwau y gweinidogion fuont yn gofalu am dano yn yr oesau gynt yn gwbl anhysbys yn awr. Dywedir fod Mr. Thomas Walters, tra bu yn gweinidogaethu yn y New Inn, yn rhoddi rhan o'i wasanaeth i'r achos bychan yn Mhenywaun, a dywed rhai mai cangen o'r New Inn yw Penywaun, ond yr ydym ni yn awr yn cael ein gogwyddo i dybied fod y gangen yn henach na'r cyff. Dichon i Benywaun ryw bryd gael ei gymeryd dan ofal y New Inn, a thrwy hyn gael ei gyfrif yn gangen o'r eglwys hono, ond y mae pob sail i gredu fod yma achos cyn bod un yn y New Inn.

Nid ydym yn deall fod un gweinidog sefydlog wedi bod yma nes i'r diweddar Mr. David Davies ddyfod i'r ardal yn 1815. Agorodd ysgol yma a phregethai yn gyson i'r ddiadell fechan. Yr oedd Mr. Davies cyn hyn wedi bod tua blwyddyn yn cadw ysgol yn y New Inn, ac mae yn debygol yn golygu am gael ei urddo yno, ond o herwydd rhyw wrthwynebiad siomwyd ef yn ei ddisgwyliadau, a phan yr oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny i ymadael a'r ardal, bu tair o wragedd yn daer wrtho am ddyfod i Benywaun i gadw ysgol a phregethu. Addawent hwy ofalu am ei gynaliaeth, ac felly cydsyniodd a'u cais. Enwau y gwragedd da hyn oeddynt Mrs. Jenkins, o'r Siop; Mrs. Waters; o'r Ton, a Mrs. Morgans, Henllys. Wedi i Mr. Davies fod yn llafurio yno am ddwy flynedd, ymffurfiodd yr ychydig broffeswyr yn yr ardal yn eglwys Annibynol, a rhoddasant alwad iddo ef i ddyfod yn weinidog iddynt. Eu rhif oedd wyth, ond cyn pen dwy flwyddyn—yr oeddynt wedi cynyddu i 54. Mae yn debygol mai yn y New Inn yr oeddynt yn aelodau yn flaenorol. Urddwyd Mr. Davies Mai 22ain, 1817. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Mr. R. Davies, Casnewydd; pregethodd Mr. D. Lewis, Aber, ar Natur eglwys; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urddweddi gan Dr. J. Lewis, Casnewydd; rhoddodd Mr. D. Peter, Caerfyrddin, y siars i'r gweinidog, oddiwrth Mat. xxiv. 45, 46; a Mr. G. Hughes, Groeswen, y siars i'r eglwys, oddiwrth 1 Tim. v. 17. Pregethwyd yn yr hwyr gan Mr. D. Thomas, Penmain, a Dr. Lewis.

Erbyn hyn yr oedd yr anedd-dy wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr, a bu raid myned ar unwaith i adeiladu capel. Rhoddwyd y ty, yn yr hwn yr addolid, a darn helaeth o dir claddu gydag ef, i fod yn lle i'r capel, gan Mrs. Elizabeth Waters, o'r Ton, a'i mab Mr. William Waters, ac i fod yn eiddo i'r enwad Annibynol dros byth. Dyddiad y weithred yw Tachwedd 1818, ac ar y 12fed o'r mis hwnw yr agorwyd y capel newydd, yr hwn a gostiodd 200p. Gweinyddwyd ar yr agoriad gan Mr. Thomas, Penmain; Mr. Jones, Llanharan; Dr. Lewis, Casnewydd; Mr. Jones, Pontypool; Mr. Lewis, Aber; a Mr. Evans, Ynysgau. Bu Mr. Davies yn llafurio yma gyda derbyniad a mesur helaeth o lwyddiant hyd ei farwolaeth yn Awst 1840.

Yn 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Methusalem Davies, yr hwn oedd wedi bod yn weinidog mewn amryw fanau cyn dyfod yma, megys Llechryd, Abergwili, Ceri, Maldwyn, &c. Ni bu ef yma fawr dros flwyddyn cyn i ryw annghydfod gyfodi yn yr eglwys. Ymadawodd ef a nifer o'r aelodau, ac adeiladasant gapel o'r enw Elim yn y gymydogaeth. Ni fu Mr. Davies hir yno drachefn, cyn iddo gael ar ei feddwl i droi at y Bedyddwyr. Wedi i'r eglwys yn Mhenywaun, ar ol ymadawiad Mr. Davies, fod yn agos i dair blynedd heb un gweinidog, yn niwedd y flwyddyn 1845, rhoddasant alwad unfrydol i Mr. John M. Bowen, gwr ieuangc genedigol o ardal Gwynfau, sir Gaerfyrddin, a'r hwn oedd ar y pryd hwnw yn fyfyriwr yn ysgol Mr. Powell, o Hanover. Urddwyd ef Mawrth 11eg a'r 12fed, 1846, pryd y gweinyddwyd gan y Meistriaid Jones, Sirhowy; Rowlands a Daniel, Pontypool; Powell, Hanover; Griffiths, Blaenafon; Ellis, Mynyddislwyn; Mathews, Casnewydd, ac eraill. Rhif yr aelodau pan urddwyd Mr. Bowen, oedd 24. Bu yma yn llafurio gyda mesur helaeth o lwyddiant am bedair blynedd. Rhif yr aelodau pan yr ymadawodd oedd 68. Yn 1850, symudodd Mr. Bowen o Benywaun i Benydarren, Merthyr Tydfil, lle y mae yn bresenol.

Oddiar ymadawiad Mr. Bowen yn 1850, hyd 1867, bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog. Yn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. David Morgan, myfyriwr o goleg Aberhonddu, ac urddwyd ef ar y 4ydd a'r 5ed o Fedi, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan y Meistriaid Thomas, Ystradfellte; Williams a Jones, Hirwaun; Darnton ac Oliver, Casnewydd; Jenkins, Pontypool; Davies, New Inn; a Bowen, Penydarren. Mae Mr. Morgan yn llafurio yma hyd yn bresenol, ac arwyddion o lwyddiant ar ei lafur.

Mae yr eglwys hon, fel pob un o'r eglwysi ar gyffiniau y Cymry a'r Saeson, wedi dyoddef mesur mawr o anfantais oddiwrth felldith Babel cymysgedd ieithoedd, er's mwy na deng mlynedd ar hugain. Mae y gwasanaeth yn awr yn cael ei ddwyn yn mlaen agos, os nad yn gyfan gwbl, yn yr iaith Saesonaeg.

Ni fu eglwys Penywaun ar unrhyw gyfnod o'i hanes yn lluosog iawn. Os bu rhif yr aelodau ar rai adegau yn gant, ni buont un amser uwchlaw hyny; ac wedi cychwyniad yr achos yn Elim, a ffurfiad eglwys Annibynol yn Nghwmbran, cyfyngwyd yn fawr ar derfynau yr achos yn Mhenywaun. Etto, gan fod poblogaeth yr ardal wedi lluosogi yn ddirfawr yn y pum' mlynedd ar hugain diweddaf, a'u bod yn debyg o luosogi yn fawr etto mewn blynyddau dyfodol, mae yma ddigon o faes i bob un o'r tri achos; ac y mae y rhwystr a barai gwrthdarawiad y ddwy iaith agos wedi llwyr ddiflanu, trwy fod yr iaith Saesonaeg bellach wedi myned yn unig iaith yr ardal. Hyderwn y bydd undeb mewnol yn ffynu yu mhob un o'r eglwysi yn yr ardal hon, ac y cydweithredant yn egniol nes ennill yr holl wlad at y Gwaredwr.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

Edmund G. Williams. Dechreuodd bregethu yn 1832. Pan osodwyd i fyny yr athrofa yn Aberhonddu, yr oedd ef yn mysg y rhai cyntaf a dderbyniwyd yno. Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, urddwyd ef yn y Sketty, yn 1843. Yn mhen ychydig flynyddau, cafodd ar ei feddwl i ymuno a'r Eglwys Sefydledig, ac y mae er's blynyddau bellach yn gaplan y carchar-dy yn Abertawy. Mae Mr. Williams, er iddo gefnu ar Ymneillduaeth, wedi ymddwyn yn anrhydeddus a gonest at y sefydliad lle y derbyniodd ei addysg i'r weinidogaeth, trwy danysgrifio yn flynyddol at ei dreuliau.

John Lewis. Dechreuodd yntau bregethu yr un amser a Mr. Williams. Yn mhen rhai blynyddau cafodd ei urddo yn Maesllech, ac oddiar ei ymadawiad oddiyno ni bu yn y weinidogaeth mewn unrhyw le.

Thomas Howells. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1842. Ar ol bod am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol, yn 1861, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Trudoxhill, gerllaw Warminster, ac yno y mae hyd yn bresenol.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn Ffynonygog, yn mhlwyf Llanfihangel, Rhosycorn, sir Gaerfyrddin, Medi 14eg, 1791. Yr oedd ei rieni yn aelodau ffyddlon o'r eglwys Annibynol yn y Gwernogle, a dygasant eu plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dafydd oedd yr ieuengaf o'r plant. Pan yr oedd tua phymtheg oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Gwernogle. Yn mhen ychydig amser wedi hyny anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod tua dwy flynedd yn pregethu yn achlysurol, aeth i Gaerfyrddin, i ysgol Ramadegol Mr. Peter, ac wedi bod yno tua dwy flynedd, derbyniwyd ef i'r athrofa. Ar orpheniad ei amser yno cafodd anogaeth i fyned i'r New Inn, Mynwy, i gadw ysgol, ac i gynnorthwyo Mr. Thomas Walters yn y weinidogaeth, ac mewn bwriad i fod yn ganlyniedydd iddo. Ond rhywfodd methwyd a chyduno ar hyny, ac fel y crybwyllasom, pan oedd Mr. Davies ar fyned i ymadael o'r ardal, anogwyd ef gan dair o wragedd da eu gair i ymsefydlu yn ardal Penywaun. Yno, fel y gwelsom, y treuliodd weddill ei oes yn ddefnyddiol iawn. Yn 1822, ymunodd mewn priodas a Miss Amy Waters o'r Ton, o'r hon y cafodd dri o blant, ond buont oll feirw ar eu genedigaeth. Bu Mrs. Davies dros amryw o flynyddau olaf ei hoes yn wael iawn ei hiechyd, a bu farw wedi hir nychdod, yn Medi 1838. Yn fuan wedi hyny dechreuodd Mr. Davies ei hun waelu yn ei iechyd, a bu farw Awst 6ed, 1840, yn 49 oed. Ar y 10fed o'r un mis, claddwyd ef wrth gapel Penywaun, pryd y gweinyddwyd gan y Meistriaid W. Gethin, Caerlleon; T. Gillman, Casnewydd; E. Rowlands, Pontypool; ac M. Ellis, Mynyddislwyn.

Yr oedd Mr. Davies yn ddyn lled fawr o ran corff, yn gymedrol dew, ac yn lluniaidd iawn. Yr oedd yn ddyn nodedig o fwyn a charedig, ac o angenrheidrwydd yn cael ei barchu a'i anwylo gan bawb o'i gydnabod. Yr oedd ei ymddygiad fel Cristion a gweinidog yn hollol deilwng o'i broffes. Fel pregethwr yr oedd yn felus, ac adeiladol, ac y mae yn sicr y buasai yn boblogaidd iawn, pe buasai ei amgylchiadau yn caniatau iddo fyned yn amlach i gyfarfodydd cyhoeddus. Bu cystudd ei briod, am lawer o flynyddau, a gofal yr ysgol, yr hon a gadwai trwy yr oll o'i fywyd gweinidogaethol, yn rhwystrau iddo fyned oddi cartref ond anfynych iawn.

Yr oedd yn sefyll yn uchel iawn yn ngolwg pawb o breswylwyr y gymydogaeth. Edrychid i fyny ato gan bawb, crefyddol a digrefydd. Ennillodd iddo ei hun radd dda fel ysgolfeistr. Iddo ef yr oedd y rhan fwyaf o blant, a dynion ieuaingc, a chanol oed y gymydogaeth yn ddyledus am eu dysgeidiaeth. Os bu cadw ysgol yn rhwystr iddo gyrhaedd llawer o gyhoeddusrwydd ac enwogrwydd fel pregethwr poblogaidd, bu yn foddion i ychwanegu peth dirfawr at ei ddylanwad yn ei ardal ei hun. Mae amryw o weinidogion Lloegr a Chymru, sydd yn awr yn fyw, yn ddyledus iddo ef am eu haddysg. Yr oedd "Athrofa Penywaun" am y deng mlynedd diweddaf o fywyd Mr. Davies, yn sefydliad enwadol; ac o herwydd fod y Saesonaeg wedi myned yn iaith gyffredin yr ardal, yr oedd y lle yn nodedig o fanteisiol i bregethwyr ieuaingc a ddygesid i fyny mewn ardaloedd hollol Gymreigaidd. Ni ddarfu i nemawr weinidog yn ei oes wasanaethu ei genhedlaeth yn well na Davies, Penywaun.

SARON, TREDEGAR.

Yn y flwyddyn 1800 y cymerwyd gweithred ar y tir gan gwmni Tredegar, er cyfodi gweithiau haiarn yn y lle. Nid oedd ond ychydig amaethdai henafol y pryd hwnw yn y gymydogaeth, a dim ond un ty bychan ar y fan y saif y dref, yr hon sydd yn awr yn cynwys tua deng mil o drigolion. Yn y flwyddyn 1802, cychwynodd y gwaith, ond yn araf iawn. Ni bu nemawr o lewyrch arno hyd y flwyddyn 1804. Daeth yno amryw bobl y pryd hwnw i gyfaneddu o wahanol siroedd Cymru, ond yn benaf o sir Gaerfyrddin. "Gwyr y wlad fawr" y galwai trigolion gwreiddiol yr ardal bobl sir Gaerfyrddin, ac yr oeddynt i fesur yn rhagfarnllyd yn eu herbyn.

Eri amryw bobl ddieithr sefydlu yma y pryd hwnw, nid ymddengys fod un Annibynwr yn eu mysg. Yr oedd ychydig o breswylwyr cyntefig y gymydogaeth yn Fedyddwyr, a chanddynt addoldy bychan ar yr ochr ddwyreiniol i'r afon, yn ymyl y brif ffordd i Gwm Ebbwy. Hwn oedd yr unig addoldy yn yr holl ardal. Gyda chynydd y boblogaeth, daeth yma ychydig bersonau o olygiadau Annibynol, a thua y flwyddyn 1807, dechreuodd Mr. Thomas, Penmain, ddyfod i bregethu atynt. Yn y flwyddyn 1808, y gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd gyntaf yn y lle gan yr Annibynwyr. Bedyddiodd Mr. Thomas dri baban yma yr un dydd, ac y mae dau o honynt yn awr yn fyw, un o ba rai yw Mr. Nicholas Rees. Byddai yr ychydig Annibynwyr a drigianent yma yn myned i gymundeb i Benmain, "Dy Solomon," yn y Blaenau, ac elai rhai o honynt weithiau cyn belled a'r Groeswen. Ond Ty Solomon yn benaf oedd eu cartref. Yr oedd Mr. Thomas, Penmain, yn gweinyddu Swper yr Arglwydd yno yn rheolaidd bob mis. Yno y derbyniodd Mr. Thomas y ddau gyntaf o bobl Tredegar yn aelodau eglwysig. Bernir i dy Edmund James, yn Nhredegar, gael ei drwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol, yn y flwyddyn 1809, ac mai yn y ty hwnw y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd gyntaf tua yr amser hwnw. Yr aelodau a gyfansoddent y gymdeithas fechan oeddynt, Daniel Rees, Nicholas Rees, a William Hoskin, a'u gwragedd; Edmund James, Daniel Thomas (tad Mr. Isaac Thomas, Towyn, Meirionydd), a Sarah Watkins, ac o bosibl rai eraill nad ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Yr oedd yn mysg yr ychydig frodyr hyn rai lled ymchwilgar i byngciau dyfnion duwinyddiaeth, a byddai yn fynych ddadleuon brwd, ond caredig rhyngddynt a'u gilydd ar Benarglwyddiaeth, gwaith yr Ysbryd, &c. Arferent fyned yn fintai tua thy Solomon, a thy Daniel a'r Caban Gwyn, ac ar ol y gwasanaeth, eisteddent yn fynych yn ymyl ffynon i fwyta eu bara a chaws ac yfed dwfr, ac wrth wneuthur hyny ailgnoent eu cil ar y gwirioneddau oeddynt wedi wrandaw. O'r flwyddyn 1809, ni buont yn myned nemawr oddicartref i addoli, am fod gwasanaeth cyson wedi cael ei osod i fyny yn eu plith eu hunain. Tua dwy flynedd cyn adeiladu y capel, dechreuwyd ysgol Sabbothol, yr hon a gynhelid yn nhy William Hoskins. Yn y bore y cynhelid yr ysgol, yna cyfeillach grefyddol am un-ar-ddeg o'r gloch, yn nhy Nicholas Rees, a phregeth neu gyfarfod gweddi yn y prydnhawn, yn nhy Daniel Rowland, Nantybwch, neu dy Nicholas Rees, ond gan amlaf yn yr olaf. O'r ty hwnw y symudwyd yr arch i Saron yn y flwyddyn 1819. Agorwyd y capel newydd Mai 5ed a'r 6ed, 1819. Dechreuwyd yr addoliad y dydd cyntaf, gan Mr. Thomas, Llanharan, a phregethodd Mr. B. Moses, oddiwrth Zeph. iii. 17, a Mr. D. Davies, Llangattwg oddiwrth Deut. vi. 3. Yr ail ddydd am 10, dechreuwyd gan Mr. Methusalem Jones, Bethesda, a phregethodd Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Salm. xxiii. 3, 4; Mr. T. B. Evans, Ynysgau, yn Saesonaeg, oddi-wrth Ioan xiv. 2; a Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth Ioan vi. 37. Am 3, gweddiodd Mr. B. Moses, a phregethodd Mr. J. Harrison, Aberdare, oddiwrth Ioan v. 25, a Mr. S. Evans, Zoar, oddiwrth Eph. ii. 7, yn Gymraeg ac yn Saesonaeg. Cydunodd y gweinidogion i gymeradwyo yr achos ieuangc hwn i'r eglwysi fel un teilwng o gymhorth i ddwyn traul yr adeiladaeth. Yr oedd pregethu wedi bod yn y capel newydd cyn dydd yr agoriad, a dywedir mai Mr. D. Stephenson, Rhymni, a draddododd y bregeth gyntaf ynddo.. Wedi cael lle cyfleus i addoli, aeth yr achos rhagddo yn ddymunol.

Cyn pen dwy flynedd wedi agoriad y capel, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Morris, myfyriwr yn athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef Chwefror 22ain, 1821. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn: Y nos flaenorol pregethwyd gan Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Heb. ii. 3, a Mr. J. Jones, Talgarth, oddiwrth Mat. v. 18. Am 10 yr ail ddydd, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Rhuf. vi. 5; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Thomas Powell, Aberhonddu; Pregethwyd y Siars i'r gweinidog gan Mr. E. Jones, Pontypool, oddiwrth Ezec. ii. 17; yna pregethodd Mr. T. B. Evans, Ynysgau, yn Saesonaeg, oddiwrth Heb. xii. 12; a Mr. G. Hughes, Groeswen, y Siars i'r eglwys, oddiwrth 1 Thess. v. 12, 13. Am 3 yn y prydnawn, cynhaliwyd y gwasanaeth yn nghapel y Bedyddwyr, pryd y pregethodd Mr. E. Jones, oddiwrth 2 Tim. ii. 20, 21, a Mr. J. Jones, oddiwrth Act. v. 31. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan Mr. D. Thomas, Nebo, Mr. E. Williams, Caerphili, &c. Yr oedd Mr. Morris yn anwyl iawn gan ei bobl, ac yn boblogaidd fel pregethwr. Ychwanegwyd tua chant o aelodau at yr Eglwys yn y pum' mlynedd y bu yn gweinidogaethu yma. Torwyd ef i lawr gan angau yn mlodau ei ddyddiau, yn Rhagfyr, 1825, er mawr golled a galar i bobl ei ofal a phawb o'i gydnabod.

Yn mhen tua blwyddyn wedi marwolaeth Mr. Morris, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Jones, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd. Cynhaliwyd cyfarfodydd ei urddiad ar yr 28ain a'r 29ain o Fawrth, 1827. Dechreuwyd yr addoliad y nos gyntaf gan Mr. W. Phillips, Blaenafon, a phregethodd Mr. E. Price, Grosmont, a Mr. D. Morgan, Machynlleth, oddiwrth Rhuf. viii. 28; a Jer. viii. 22. Dydd Iau am 10, dechreuodd Mr. M. Jones, Bethesda, a phregethwyd a'r natur eglwys gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau, oddiwrth Mat. xvi. 18. Holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urdd weddi gan Mr. D. Morgan, Machynlleth, a phregethodd Dr. J. Lewis, Casnewydd, y Siars i'r gweinidog, a Mr. David Lewis, Aber, y Siars i'r eglwys, oddiwrth Heb. xiii. 17; Phil. ii. 29. Yn y prydnawn, dechreuwyd gan Mr. Joshua Thomas, Penmain, a phregethodd Mr. T. Evans, Aberhonddu, a Mr. D. Davies, New Inn. Pregethwyd drachefn yn yr hwyr gan Mr. E. James, Caerodor, a Mr. D. Stephenson, Nantyglo.

Bu Mr. Jones yn gweinidogaethu yn Saron am yn agos i ddeunaw mlynedd, ac yn nhymor ei weinidogaeth, helaethodd yr achos ei derfynau yn fawr. Ail adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1828. Nis gwyddom faint y capel cyntaf, ond yr oedd yr ail yn addoldy prydferth, ac yn cynwys tua 650 o eisteddleoedd. Yn 1830, adeiladwyd capel bychan ar y Trifil, at wasanaeth yr aelodau a gyfaneddent yn y pentref hwnw, ac y mae yno Eglwys wedi ei ffurfio er's amryw flynyddau bellach. Yn 1837, adeiladwyd Ebenezer, Sirhowy, a chorffolwyd yno eglwys gref yn uniongyrchol wedi agoriad y capel. Yn 1840, aeth cangen arall allan o Saron, ac adeiladasant gapel Adulam. Er ymadawiad y canghenau hyn oll, parhaodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn yr hen gapel yn gryf a lluosog. Yn nechreu y flwyddyn 1845, symudodd Mr. Jones o Dredegar i Gaerfyrddin, i gymeryd gofal yr eglwys yn Heol Awst, yn y dref hono.

Yn mhen ychydig ar ol ymadawiad Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Evan Jones, o goleg Aberhonddu. Urddwyd ef Gorphenaf 31ain, 1845. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. M. Jones, Farteg; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Jones, Sirhowy; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. M. Ellis, Mynyddislwyn; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Stephenson, Nanyglo; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw clasurol coleg Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin. Pregethwyd y dydd blaenorol, ac ar brydnawn a hwyr dydd yr urddiad, gan y Meistriaid W. Edwards, Aberdare; T. Pierce, Liverpool; E. Roberts, Cwmafon; E. Griffiths, Abertawy; J. Hughes, Dowlais; T. Griffiths, Blaenafon, &c. Ychydig iawn o, amser gafodd Mr. Jones i gyflawni ei weinidogaeth yn Nhredegar. Gwaelodd ei iechyd i'r fath raddau fel y bu raid iddo yn niwedd y flwyddyn 1847, roddi y weinidogaeth i fyny. Gwerthfawrogai yr eglwys ei gweinidog yn fawr, a chyda theimladau gofidus iawn y gollyngodd ei gafael ynddo, fel y dengys yr hyn a ganlyn, a gyhoeddwyd yn y Diwygiwr, am Chwefror 1848: "Gyda yr ewyllysgarwch mwyaf ar y naill law, etto, gyda y gofid dwysaf ar y llall, yr ydym yn dymuno amlygu ein parodrwydd dros eglwys Annibynol Saron, Tredegar, i ddwyn y dystiolaeth gryfaf a gwresocaf am gymmeriad gwir deilwng ein diweddar weinidog, y Parch. Evan Jones, yr hwn, nes ei attal gan afiechyd, a lafuriodd yn ein plith yn ffyddlon, diwyd, a derbyniol. Gofidus iawn genym ni, a chan yr eglwys oll, fod Mr. Jones yn cael ei orfodi gan sefyllfa ei iechyd, ac yn cael ei gyfarwyddo gan y meddygon goreu, a'i gynghori gan ei gyfeillion mwyaf pwyllog, i roddi heibio y weinidogaeth, i'r dyben o symud i hinsawdd dynerach, ac ymwneyd a gwaith mwy cyfaddas i'w gyfansoddiad. Mae ein gofid a'n siomedigaeth yn fawr. Yr ydym yn colli yr hwn a garem yn wresog, ac a'n carai yn gywir. Buasai yn hyfryd genym gael ei bresenoldeb a'i wasanaeth, a chyfle i ddangos ein hymlyniad wrtho hyd ei fedd; ond gan fod yr Hwn a'i rhoddodd i ni yn ei gymeryd ymaith, dymunem sefyll yn dystion o'i gymhwysder a'i ragoroldeb fel gweinidog y Gairei ddilyn a'n gweddiau, a'i gyflwyno i ofal Ceidwad Israel, yr hwn ni huna ac ni chwsg.

Ydym, dros yr Eglwys,

LLEWELLYN WILLIAMS; WILLIAM DAVIES; Diaconiaid."
JONATHAN JONES; JOHN THOMAS;
JOHN PHILLIPS; EVAN PRICE;
ROBERT ROBERTS; WILLIAM JONES

Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol ymadawiad Mr. Jones, sef nechreu y flwyddyn 1849, rhoddwyd galwad i Mr. David Evans, Llanidloes. Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma am bum' mlynedd ac ychydig fisoedd. Yn Mai 1854, symudodd oddi yma i gymeryd gofal yr eglwys yn Penarth, Maldwyn, lle y mae yn bresenol. Nis gwyddom am ddim nodedig a ddigwyddodd yn hanes yr eglwys yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, amgen nag i tua 250 gael eu hychwanegu at eu haelodau yn y flwyddyn 1849; blwyddyn "diwygiad y cholera," fel y gelwid ef. Aeth llawer o'r lluoedd a ychwanegwyd at yr eglwysi yn yr adeg sobr hono yn ol i'w hen ffyrdd pan dawelodd yr ystorm, ond glynodd canoedd yn ffyddlon, ac y mae llawer o honynt yn fyw ac yn grefyddwyr rhagorol hyd y dydd hwn.

Wedi i'r eglwys fod tua blwyddyn a haner heb weinidog sefydlog ar ol ymadawiad Mr. Evans, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Hughes, B.A., yr hwn a fuasai yn weinidog yn Llansantsior, sir Ddinbych, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma ar y Sabboth cyntaf o Dachwedd 1855, ac yma y mae yn barchus a defnyddiol hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1858, tynwyd y capel i lawr, a dechreuwyd adeiladu un llawer helaethach a harddach, dan arolygiaeth Mr. Thomas, Glandwr. Agorwyd ef Mai 15fed a'r 16eg, 1859. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan y Meistriaid T. Jeffreys, Penycae; H. Jones, Caerfyrddin; T. Rees, Cendl; E. Hughes, Penmain; T. Thomas, Glandwr; W. P. Davies, Rymni; N. Stephens, Sirhowy; W. Williams, Tredegar, &c. Casglwyd yn y gwahanol oedfaon at draul yr adeiladaeth 167p. Is. 3c. Maint y capel prydferth hwn yw 64 troedfedd wrth 41 troedfedd a chwe' modfedd. Cynwysa 8 o eisteddleoedd, a chostiodd 1,500p., heblaw gwerth defnyddiau yr h gapel. Mae y ddyled a'i llogau yn awr wedi dyfod i lawr i 300p. trw lafur cyson a didwrw yr eglwys a'r gynnulleidfa. Yn ystod y mudiadau canmlwyddol talwyd 771p. o'r ddyled ar y capel, a rhoddwyd 20p. at golegdy newydd Aberhonddu.

Mae Mr. Hughes wedi bod bellach yn gweinidogaethu yn Saron am yn agos bymtheg mlynedd, a phob peth wedi myned yn mlaen trwy yr holl dymor yn hynod gysurus. Er fod yma lawer o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle trwy farwolaethau, ymfudiadau, &c., mae yr achos yma yn bresenol yn fwy llewyrchus a chryf o lawer nag oedd bymtheg mlynedd yn ol. Gan fod y glo a'r mwn haiarn yn Mlaenycwm agos wedi cael eu gweithio allan, mae gweithiau tanddaearol yn cael eu hagoryd yn is i lawr yn y dyffryn, a'r boblogaeth yn nesu i lawr yn raddol ar ol y gweithiau, mae pobl Saron wedi sefydlu cangen o ysgol Sabbothol mewn lle a elwir Troedrhiw'rgwair, tua milldir a haner isław Tredegar, lle mae amryw o'r aelodau yn byw. Heblaw yr ysgol, cynelir yno gyfarfodydd gweddio, cyfeillachau crefyddol, &c., ac er nad oes yno etto un ty addoliad, mae yn debygol yr adeiladir un, ac y bydd yno achos blodeuog yn mhen ychydig flynyddau.

Mae amryw ddynion rhagorol wedi bod yn dal cysylltiad ag eglwys Saron, o bryd i bryd, oddiar gychwyniad yr achos hyd yn bresenol. Ychydig o eglwysi sydd wedi cael eu breintio ag olyniad o ddiaconiaid rhagorach am eu galluoedd, eu dylanwad, a'u defnyddioldeb. Mae yr ysgolion Sabbothol a cherddorol hefyd wedi cael eu dwyn yn mlaen yma mewn modd nodedig o drefnus ac effeithiol.

Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:

Thomas Jones. Ganwyd ef yn Llwynadda, yn agos i Dalybont, Ceredigion, tua y flwyddyn 1790. Pan ddechreuwyd yr achos yn Nhalybont, yn benaf trwy lafur Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yr oedd gelyniaeth ffyrnig yn yr ardal tuag at Ymneillduaeth, ac yr oedd yr hen bobl a'r rhai canol oed wrth siarad yn ddirmygus am y pregethwyr, wedi llenwi meddyliau y plant a'r ieuengetyd a rhagfarn tuag atynt. Yn mysg eraill yr oedd Thomas Jones a'i frawd John, yn elynol iawn. Ryw ddiwrnod cytunasant i lenwi eu llogellau o geryg i'w taflu at y Dr. Phillips, pan ddeuai ef yno i bregethu. Yr oedd y Dr. i ddyfod yno yn mhen diwrnod neu ddau ar ol iddynt benderfynu hyny. Yr amser hwnw yr oedd Thomas yn was yn y Gogerddan Arms, yn mhentref Talybont, ac yno y disgynai y pregethwyr a ddeuent i'r lle. Pan ddaeth y Dr. at y drws galwodd y gwas i gymeryd ei geffyl i'r ystabl, ac wrth ei fod yn disgyn estynodd swllt iddo, a dywedodd wrtho, "Da machgen i, rho di ddigon o wair i'r ceffyl." Cyn hyny byddai y llangc drygionus o elyniaeth at y pregethwyr yn tynu ymaith y gwair a roddasai o flaen eu hanifeiliaid cyn gynted ag y cawsai gyfle. Yr oedd y Dr. wedi dyfod i ddeall hyny, a thyna y rheswm iddo roddi swllt iddo. Wedi iddo ef ei hun gael ychydig ymborth, aeth i'r ystabl i weled y ceffyl, ac yno yr oedd yr anifail a digon o wair o'i flaen, a'r gwas wedi cael ei dyneru gan y swllt, yn ymroi ar ei oreu i'w lanhau. "Dyna machgen i," ebe y Dr., "paid gofalu am ei lanhau gan fod ganddo ddigon o wair o'i flaen. A ddeui di yn awr gyda mi i'r bregeth?" Ar ol ystyried am funyd, dywedodd, "Deuaf fi." Ac aeth yn y fan. Wrth fyned trwy y pentref ar ol y pregethwr, cyfarfyddodd a'i frawd John, yr hwn oedd wedi llenwi ei logellau o geryg. Ond dywedodd Thomas wrtho, "Rhaid i ni beidio gwneyd dim drwg i'r dyn hwn; dyn iawn yw efe, y mae wedi rhoddi swllt i mi, ac yr wyf fi yn myned i'w wrandaw, tyred dithau gyda mi." Aethant ill dau, a gafaelodd y bregeth yn achubol yn eu calonau, a buont yn grefyddwyr enwog hyd derfyn eu hoes. Yn fuan ar ol ymuno a chrefydd aeth Thomas Jones i weithio i Dredegar, ac arweiniodd Rhagluniaeth ef i letya i dy Nicholas Rees, un o'r ychydig broffeswyr oedd yno. Yn 1810, anogwyd ef gan y brodyr yno i ddechreu pregethu, ac yn fuan wedi hyny aeth i'r ysgol i'r Neuaddlwyd, ac oddiyno yn 1813 i'r athrofa i Lanfyllin. Wedi gorphen ei amser yno, derbyniwyd ef fel cenhadwr gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Anfonwyd ef i athrofa Dr. Bogue yn Gosport, ac wedi ei addysgu yno cafodd ei urddo yn yr Amwythig Chwefror 28ain, 1820, i fyned yn genhadwr i Tahiti. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Mr. Francis, Ludlow; Dr. Raffles, Liverpool; Mr. Weaver, Amwythig; Mr. James, Birmingham; a Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd. Hwyliodd o Lundain ar fwrdd y Tuscan ar ei fordaith i Tahiti Mai 5ed, 1820. Bu yno am rai blynyddau yn llafurus a llwyddianus iawn. Cyfansoddodd Eiriadur Tahitaidd, a chyfieithodd ranau o'r Ysgrythyrau i'r iaith hono. Dywedir iddo ar ol marwolaeth ei wraig fyned yn llwfr yn ei ysbryd, a rhoddi ei waith fel cenhadwr i fyny. Symudodd wedi hyny i America, lle y bu farw. Nid ydym wedi gallu cael allan amser ei farwolaeth.

John Daniel, oedd wr ieuangc gobeithiol iawn a ddechreuodd bregethu yma tua 1832, ond bu farw cyn iddo gael amser i arfer fawr ar ei ddoniau. Mae y rhai a'i hadwaenai yn siarad yn uchel iawn am ragoroldeb ei gymmeriad.

Lewis Lewis. Nis gwyddom yn gywir pa flwyddyn y dechreuodd ef. Yr oedd wedi cael ei dderbyn fel ymgeisydd i goleg Aberhonddu, ond cyn iddo fyned yno dechreuodd ei iechyd waelu, a bu farw.

Evan Lewis, B.A. Brawd y rhag-grybwylledig Lewis Lewis ydoedd ef. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evan Jones. Derbyniwyd ef i athrofa Airedale, ac ennillodd iddo ei hun yno radd dda fel myfyriwr diwyd. Graddiodd yn B.A. yn mhrif athrofa Llundain yn 1852, ac urddwyd ef yn Bartonon Humber yn 1853. Yn 1858, symudodd i Rothwell a bu yno bum' mlynedd. Symudodd i Accrington yn 1863, ac oddiyno i Preston. Yn 1868, symudodd i Offord Road, Llundain, a bu farw Chwefror 19eg, 1869, ar ol tua mis o gystudd, yn 44 oed. Yr oedd yn ddyn gweithgar, dysgedig, a galluog iawn. Ysgrifenodd amryw lyfrau bychain a thraethodau yn yr iaith Saesonaeg, y rhai a brofant ei ysgolheigdod a'i weithgarwch diatal.

Richard Lewis. Brawd y ddau flaenorol. Addysgwyd yntau yn athrofa Airedale, a chafodd ei urddo yn Lowestoft, Suffolk, yn 1860. Y mae wedi symud yn ddiweddar i Upper Norwood, Llundain.

Isaac Davies. Wedi gorphen ei amser yn athrofa Airedale, urddwyd ef yn Towcaster, sir Northampton, yn 1861, ac yno y mae hyd yn bresenol.

Rowland Rowlands. Yn mhen ychydig ar ol iddo ddechreu pregethu derbyniwyd ef yn fyfyriwri athrofa Caerfyrddin. Ar orpheniad ei amser yno derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bethel, Llansamlet, lle yr urddwyd ef yn y flwyddyn 1867, ac y mae yn argoeli bod yn ddefnyddiol iawn yn y cylch pwysig hwn.

Yr ydym yn ddyledus am lawer o ddefnyddiau yr hanes blaenorol am eglwys Saron i lythyrau cynwysfawr Mr. D. Hughes, B.A., a Mr. Nicholas Rees, Tredegar.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

ROBERT MORRIS. Nid ydym yn gwbl sicr o amser genedigaeth Mr. Morris, oblegid yn hanes ei farwolaeth yn y Dysgedydd am 1826, dywedir ei fod yn 35 oed pan y bu farw, tra yn ol ei gof-faen ar fur capel Saron nid oedd ond 34 oed. Felly cafodd ei eni naill ai yn y flwyddyn 1790 neu 1791. Yr oedd ei dad yn enedigol o Landrillo, ac yn fab i amaethwr. Yr oedd ei fam yn ferch y Brynffynon, Tre'rwiedog, ger y Bala. Daethant i fyw i Wrexham, a bu Robert Morris pan yn hogyn yn Boot yn yr Eagles a thafarndai eraill yn y dref am beth amser; ond yr oedd yn rhy ddireidus, meddai ei chwaer, yr hon sydd yn awr yn fyw yn y Rhos, ac yn 85 oed, i gadw ei le yn hir yn yr alwedigaeth hono; a darfu i'w dad ei rwymo yn egwyddorwas gyda Thomas Jones y Gôf, Aberoer, ger y Wern, am bedair blynedd. Parhai Robert Morris i wneyd castiau diniwaid i ddychryn hen bobl a phlant, hyd nes daeth at grefydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Wern, gan yr anfarwol W. Williams, pan oedd yn brentis yn Aberoer. Bu yn gweithio am rai blynyddau wedi hyny yn Penygelli, ger Adwy'rclawdd, gydag un John Gittins. Yr adeg hono y dechreuodd bregethu. Cafodd anogaeth i ddechreu pregethu gan Mr. Williams ac eglwys y Wern, a dechreuodd yr un noson a Mr. Moses Ellis, Mynyddislwyn. Y mae yn ymddangos mai pur wanaidd a diddawn oedd ar y dechreu, er hyny, yr oedd yr hyn a ddywedai yn llawn synwyr a doethineb. Yr oedd gan Mr. Williams feddwl mawr iawn o hono, a chredai y daethai yn rhywbeth; ac felly y daeth. Yn bur fuan wedi iddo dechreu aeth i'r ysgol i Lanfyllin, ac oddiyno i Dredegar. Gan na feddwn ddefnyddiau i ysgrifenu bywgraphiad i Mr. Morris, nis gallwn wneyd yn well na rhoddi copi o'r hyn a gyhoeddwyd am ei farwolaeth a'i gladdedigaeth yn y Dysgedydd am Mai 1826. "Y Parch. R. Morris. Y gwas defnyddiol ac anrhydeddus hwn i Grist a'i eglwys, a orphenodd ei yrfa ddaearol Rhagfyr 23ain, 1825, yn 35 oed. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn athrofa Gwynedd, dan ofal y Parch. Dr. Lewis. Bu yn gweinidogaethu yn ddiwyd a llafurus, dros bum' mlynedd yn eglwys yr Annibynwyr yn Nhredegar, Mynwy. Cynnaliwyd ei angladd gyda'r difrifoldeb mwyaf, a chydag amlygiadau cyffredinol o barch i'w goffadwriaeth. Ar yr achlysur pregethodd y brodyr D. Thomas, Penmain, yn Gymraeg, oddiwrth 2 Cor. i. 9; a W. Lewis, Tredwstan, yn Saesonaeg, oddiwrth yr un testyn. Terfynwyd y cyfarfod trwy araeth fer a gwresog gan y brawd D. Lewis, Aber. Er fod yno o leiaf fil o bobl wedi ymgynnull ar yr achlysur, braidd y gallesid canfod wyneb sych yn mhlith yr holl gynnulleidfa. Bu gweinidogaeth Mr. Morris o fawr fendith yn y lle, yn neillduol er adeiladaeth a chwanegiad at yr eglwys, yr hon a gynyddodd yn ei dymor byr ef, yn agos i 100 mewn rhifedi. Efe a fu farw o'r clefyd a elwir enyniad yr ysgyfaint,' yr hwn a achoswyd trwy anwyd llym. Ei amynedd trwy ei hir gystudd oedd hynodol, ac yn teilyngu efelychiad gan bob gwir Gristion. Gadawodd weddw alarus, a baban amddifad i gwyno'r golled ar ei ol. Nis gall yr eglwys a'r gynnulleidfa lai na theimlo'r golled am un ag oedd mor fuddiol yn ei areithfa, yn ei gyfeillach, yn ei deulu, ac yn ei gymydogaeth yn gyffredinol. Ond yr Arglwydd a ofala."

Gellir ychwanegu i'w weddw a'i faban ei ganlyn yn fuan i'r bedd. Yr oedd Mrs. Morris yn chwaer i Mr. Henry Lewis, Gelligynes, gerllaw Penmain, a Mr. John Lewis, Tredegar.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Jones (Ieuan Gwynedd)
ar Wicipedia

EVAN JONES, (Ieuan Gwynedd). Nid oes odid, enw yn Nghymru yn fwy adnabyddus nag enw Ieuan Gwynedd. Mae miloedd wedi clywed ei enw, ac wedi darllen ei ysgrifeniadau na welsant erioed ei wyneb; a chan fod mwy na 18 mlynedd bellach wedi rhedeg er y dodwyd ef yn ei "argel wely," y mae cenhedlaeth gyfan wedi ei geni, ac wedi tyfu i fyny. Dichon nad ymddangosodd yr un dyn yn Nghymru yn y ganrif bresenol; yr hwn mewn cyfnod mor fyr a ymddyrchafodd i'r fath enwogrwydd cenhedlaethol; canys sefydlodd iddo ei hun, cyn ei fod yn 32 oed, fel bardd a llenor, diwygiwr a gwladgarwr, dyngarwr a phregethwr, enw a bery cyhyd a pharhad yr iaith Gymraeg.

Ganwyd Evan Jones, Medi 20fed, 1820, mewn lle a elwir Bryntynoriad, neu feallai yn fwy priodol Brynpynoriad, o fewn wyth milldir i Ddolgellau, ar y llaw aswy wrth fyned oddiyno i'r Bala. Saif y tŷ mewn cwm cul wrth odre Aran Fawddwy, ychydig islaw Drwsynant, ond yr ochr arall i'r afon. Enwau ei rieni oedd Evan a Catrin Jones. Bu iddynt bump o blant, tri o ba rai a fuont feirw yn eu mabandod; ac Ieuan oedd yr ieuangaf o'r pump. Yr oedd yntau mor anhebyg i fyw pan y gwnaeth ei ymddangosiad gyntaf, fel y galwyd yr hybarch Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, i'w fedyddio y dydd y ganwyd ef; ac ymdrechu ag angau y bu o'r diwrnod hwnw hyd ddydd ei farwolaeth, pan y cariodd y gelyn y frwydr arno, canys "nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnw." Isel eu hamgylchiadau oedd ei rieni, ac ymladd yn galed a thrafferthion bywyd y buont trwy eu hoes. Dyn distaw, tawel, a diymyraeth oedd ei dad; diwyd iawn gyda'i oruchwylion bydol, ond heb fawr o flas nac awydd, mwy na'r rhan amlaf o'i gydoeswyr, am addysg a gwybodaeth. Ond yr oedd ei fam yn ddynes o ddeall cryf, o ysbryd uchelfrydig, o ewyllys anhyblyg, ac o ddoniau helaeth. Pa un bynag ai mewn ymddyddanion cyffredin, ai yn nghyflawniad dyledswyddau cyhoeddus crefydd y cymerai ran, yr oedd yn mhell uwchlaw y rhan fwyaf o'r meibion a'r merched a ddeuai i'r un man a hi. Yr oedd teithi meddyliol a nodweddiadol ei fam yn amlwg yn Ieuan; ond fod y diwylliant a'r addysg a dderbyniodd ef wedi ei goethi, a'i loywi, a'i ddyrchafu yn llawer uwch nag y gallesid disgwyl iddi hi fod o dan yr amgylchiadau y dygwyd hi i fyny, pa mor gryf bynag oedd ei galluoedd naturiol. Rhoddodd hi bob cefnogaeth i'w "bachgen bach," fel ei galwai, i ddarllen a chasglu gwybodaeth, er fod ei dad, a'i berthynasau, a hen bobl dda a diwyd y Brithdir yn aml yn ei beio am wasgu arni ei hun i roddi addysg i'r llangc, yn lle ei anfon allan fel yr anfonid ei gyfoedion yn'y gymydogaeth, i ymafael mewn rhyw orchwyl gonest, er ennill ei fara beunyddiol. Ac yr oedd ei dad yn enwedig pan welodd y bachgen yn dechreu rhoi ei fryd ar brydyddu, yn barnu ei bod ar ben arno; ac y buasai iddo fyned, fel y dywedid wrtho fod prydyddion yn gyffredin yn troi, i ddilyn bywyd ofer a segur, nes dwyn ei hun i dlodi a gwarth; a pheri i benwyni ei rieni ddisgyn mewn gofid i'r bedd. Ond daliai ei fam i'w gefnogi, a'i wroli, a hwylysu y ffordd iddo i gael llyfrau ac addysg, mewn gobaith y deuai ei "bachgen bach" yn rhywbeth; oblegid yr oedd uchelgais lon'd enaid Catrin Jones, er o bosibl na chododd ei huchelgais ychwaith yn ddigon uchel i gredu y deuai y peth y daeth ar ol hyny; ond dyma y pryd y rhoddwyd i lawr seiliau y cymmeriad a brofodd ar ol hyn y fath allu yn ein gwlad "y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo." Ychydig o gyfleusderau gwybodaeth gyffredinol oedd yn nhy ei rieni; ac nid oedd tai y cymydogion yn yr ystyr hono nemawr yn fwy cyfoethog. Fel hyn yr ysgrifena Ieuan Gwynedd ei hun yn ei "Adgofion am ei fam" yn y Gymraes am 1850, tudalen 323. "Nid lleoedd nodedig am addysg ac ysbryd darllen oedd Rhydymain a'r Brithdir bump a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol. Nid oedd ysgolion dyddiol ond afreolaidd a diwerth. Yr oedd y dyn a dderbyniai Seren Gomer neu y Dysgedydd yn oracl; ac os meddai rhywun fwy o lyfrau na'r Beibl, yr Holwyddoreg, llyfr Hymnau heb ei rwymo, sypyn o hen Almanacau wedi eu gwnïo yn nghyd, a nifer o gerddi yn yr un gadwraeth, yr oedd ganddo 'lawer iawn o lyfrau.' Yr oedd presenoldeb 'Corff Duwinyddiaeth' Dr. Lewis agos yn rhoddi cwbl urddau i dŷ. Yr oedd ty fy rhieni yn llawn o'r tlodi llenyddol hwn. Cynwysai dri Beibl, Testament Newydd, un llyfr Hymnau, Taith y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynonau yr Iechawdwriaeth, (gan Mr. Jones, Pwllheli), dau rifyn o Drysorfa Mr. Charles, amryw bregethau, diwedd neu ddechreu y rhai oedd ar goll yn gyffredin, ac ychydig o fân draethodau eraill. Ychwanegwyd at y rhai hyn rywbryd gan fy mrawd, Yr Ysgerbwd Arminaidd, a'r Bardd Cwsg. Yn eu dyddiau plentynaidd yr oedd y mab henaf yn bysgotwr campus, a'r ieuangaf bob amser yn hoffi llyfr. Fel y bu oreu y ffawd, yr oedd teulu caredig yn yr Esgairwen, lle y derbynid Seren Gomer, a lle yr oedd amryw lyfrau gwerthfawr eraill, megys Esboniad Dr. Gill, a Hanes Prydain Fawr, gan Titus Lewis. Drwy gael benthyg y rhai hyn, a'r Dysgedydd o leoedd eraill, yr oedd yn gyffredin, ddigon o waith i'r darllenydd ieuangc. Daeth hefyd ar draws y Blodeugerdd, Gorchestion Beirdd Mon, Drych y Prif Oesoedd, a Helyntion y Byd a'r Amseroedd. Darllenodd y rhan fwyaf o'r llyfrau hyn cyn bod yn naw mlwydd oed; ac oni buasai hwy, buasai yn amddifad o'r ychydig wybodaeth gyffredinol a gasglodd yn ei ddyddiau boreuol. Rhoddai fy mam bob cefnogaeth i'r awydd hwn am ddarllen."

Dyna engraifft deg o lafurio am wybodaeth dan anhawsderau; a bendith ar goffadwriaeth y fam a gefnogai awyddfryd anniwalladwy y llangc. Mabwysiadodd y ffug enw Ieuan Gwynedd pan yn ieuangc iawn; ac ysgrifenodd lawer mewn rhyddiaeth a barddoniaeth o dan yr enw hwnw i'r Dysgedydd pan nad oedd ond bachgenyn o 15 i 18 oed. Poenodd lawer ar yr Hen Olygydd gyda'i gyfansoddiadau amrwd ac anaddfed, a phoenodd yr Hen Olygydd lawer arno yntau trwy droi yn fynych yr hyn a ysgrifenai o'r neilldu, a thrwy gyfnewid a chwtogi cryn lawer ar yr hyn a gyhoeddid; ac nid bob amser y diangai heb sen yr Hen Olygydd yn ei sylwadau at ei ohebwyr, pan y tybiai fod ei gyfaill ieuangc braidd a gormod o ysfa ysgrifiaw arno. Ond derbyniai Ieuan y cwbl heb ddigio na brochi, ond gan benderfynu dyfod yn gyfryw ysgrifenwr ryw ddiwrnod ag y teimlai ei hen athraw yn llawen i dderbyn ffrwyth ei ysgrifell. Yr oedd ganddo barch diderfyn i'w hen weinidog; a gwyddai o'r goreu mai "gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid;" er i hono fod yn gân o glod a chymeradwyaeth. Fel rheol y dynion senir, a hyny yn lled chwerw hefyd weithiau, gan y doeth, yw y dynion sydd yn gosod eu hargraff ar y byd; tra y mae y rhai y gwenieithir iddynt gan ffyliaid fynychaf yn ymchwyddo, ac yn syrthio i ddinystr. "Ffyddlawn yw archollion y caredig."

Derbyniwyd ef yn aelod yn y Brithdir pan yn ieuangc; ac er ei fod yn fwy meddylgar na'r cyffredin o'i gyfoedion, ac o ran ei fuchedd o'i febyd yn hollol ddiargyhoedd, ac heb ddim drwg gan neb i'w ddywedyd am dano; etto, araf iawn y bu hen bobl dda y Brithdir i'w gymhell a'i gefnogi i bregethu, ar yr hyn yr oedd yn ddigon amlwg fod ei feddylfryd. Gellir cyfrif am hyny heb mewn un modd roddi barn galed yn erbyn neb. Dichon, ac yr ydym yn sicr, fod gwaith ei rieni yn ymddeol o'r Eglwys yn y Brithdir, yn adeg y terfysg yn Llanuwchllyn, ac yn myned saith milldir o ffordd at yr "Hen bobl," fel y gelwid gwrthwynebwyr Mr. Michael Jones; a'r ffaith fod ei fam yn arbenig, yn cymeryd rhan flaenllaw yn y terfysg a'r ddadl, yn peri nad oedd yr anwyldeb a'r cynhesrwydd hwnw rhwng pobl Brithdir ag Ieuan ag a fuasai dan amgylchiadau gwahanol. Mae wir nad oedd dim a wnelai y bachgen a'r terfysg; ac na bu ef erioed yn cyrchu i'r "Hen gapel" at yr "Hen bobl," ond y parhai ef i fyned i'r Brithdir pan oedd ei rieni yn myned i Lanuwchllyn; ac y mae yn wir hefyd fod ei rieni bellach wedi rhoddi i fyny er's blynyddau fyned i Lanuwchllyn, ac wedi ailuno a'u hen gyfeillion yn y Brithdir; ond er y cwbl, nid pethau i'w hanghofio yn fuan yw cwerylon felly. Rhaid i'r genhedlaeth hon fyned heibio cyn yr iacheir yn llwyr glwyfau y terfysg hwnw. Barnai Ieuan hyd ei fedd, mai un o anffodion mwyaf ei oes oedd iddo gael ei fagu yn swn brwydrau duwinyddol, a chael ei ddysgu o'i febyd i gredu fod y rhan fwyaf o weinidogion Gogledd Cymru yn gyfeiliornwyr peryglus. Bendith anrhaethol, yn ol ei farn ef, i fyd ac eglwys a fuasai, pe na chlywsid erioed am derfysg nodedig Llanuwchllyn. Heblaw hyny, yr oedd ei fod wedi tyfu i fynu yn fachgen mawr heb ymafael mewn unrhyw orchwyl, yn peri fod rhai o honynt yn teimlo yn rhagfarnllyd tuag ato; ac yr oedd hyny yn ddigon naturiol mewn cymydogaeth lle yr oedd pawb yn gorfod gweithio yn galed am ei damaid; a lle yr oedd "trwy chwys dy wyneb y bwytei fara," yn un o'r erthyglau blaenaf yn nghredo y preswylwyr. Nid oedd Ieuan ychwaith, yn y tymor hwnw yn enwedig, yn un o'r rhai mwyaf serchus ac ennillgar ei dymer; yr oedd yn rhaid ei adnabod yn drwyadl cyn ei werthfawrogi ac y mae yn fwy na thebyg fod mwy o ysbryd myned yn mlaen ynddo, nag a dybiai yr hen bobl dda oedd yn weddus i un o'i oed a'i amgylchiadau ef; ac ond odid na farnent fel y barnai hen saint arafaidd Trawsfynydd am Williams y Wern o'i flaen, fod mwy o eisiau ffrwyn a genfa i'w atal rhag myned yn rhy chwyrn, nag oedd o eisiau swmbwl i'w yru yn ei flaen. Beth bynag, hyn sydd eglur mai trwy oddefiad hen bobl dda y Brithdir y dechreuodd Ieuan siarad yn gyhoeddus; ac nid trwy eu cymhelliad, fel y gallesid yn rhesymol ddisgwyl i un o'i dalent a'i athrylith ddysglaer ef. Ond nid oedd dim atal ar y llangcyr oedd ymwybyddiaeth o'i allu o'i fewn, a'r rhwystrau ag a fuasai yn ddigon i ddigaloni meddyliau cyffredin, a wnai ein harwr yn fwy arwrol. Ymwthiai ef drwy bob rhwystrau gan gyfeirio at y nod ar ba un y sefydlodd ei lygaid, ac y gosododd ei galon; a daeth ei hen gyfeillion yn y Brithdir cyn hir i weled fod gwir fawredd ynddo, ac i deimlo yn llawen mai hwy a gafodd yr anrhydedd o'i fagu; ac wedi ei gladdu, mynasant osod maen coffadwriaeth iddo mewn man amlwg ar fur eu haddoldy. Mewn cyfarfodydd Dirwestol y dechreuodd Ieuan Gwynedd arfer ei ddawn yn gyhoeddus; a gwrando ei hylithrwydd fel areithiwr a barodd i rai cyfeillion ei annog i bregethu. Aeth yn y flwyddyn 1837 i Lanwddyn i gadw ysgol; ac yno pan yn aelod yn Sardis y dechreuodd bregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf mewn lle a elwir "Ty'r hen John Breese," lle yr oedd ychydig o gyfeillion yn cydaddoli cyn codi capel Braichywaun. Ar gymhelliad Thomas Williams, yr hen brydydd "Eos Gwynfa" y pregethodd gyntaf; a phregethodd Mr. Joseph Williams, mab y dywededig Thomas Williams, ei bregeth gyntaf yr un noswaith. Mae Joseph Williams yn aros hyd yr awr hon, ac yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn Llansilin, dan ofal Mr. H. James, Llansantffraid. Wedi bod yn cadw ysgol yn Sardis a Saron, symudodd o Lanwddyn y flwyddyn ganlynol, i Benybont Fawr i gadw ysgol, lle y cafodd nawdd a chefnogaeth Mr. David Price, yr hwn oedd y pryd hwnw yn uchder ei boblogrwydd, a chylch helaeth o weinidogaeth ganddo, ac felly mewn angen cynnorthwy mynych. Teimlai Ieuan drwy ei oes ei fod yn ddyledus iawn i Mr. Price. Mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo ato o Gaerdydd, Mawrth 30ain, 1850, ceir a ganlyn:"Y mae llawer dydd wedi myned heibio er pan welais chwi, ac yr ydym ein dau wedi cael ein rhan o flinder y fuchedd hon. Braidd na feddyliwn mai breuddwyd yw fod un mlynedd ar ddeg er pan oeddwn gyda chwi yn Mhenybont. Yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw, rhaid i mi briodoli llawer o'm dedwyddwch i chwi. Da i mi, a dichon mai da i eraill, mai i'ch dwylaw chwi y syrthiais yn 1838, a hyfryd i mi i'w cydnabod fy rhwymedigaethau lluosog i chwi."[41]

Yn nechreu Mai 1839, aeth Dr. Arthur Jones i urddiad Mr. John Howes i Lansantffraidd, ger Croesoswallt, lle y gwelodd Ieuan yr hoffodd ef ac y gwahoddodd ef i Fangor i gadw ysgol Dr. Daniel Williams o dano ef. Daeth Ieuan i Fangor yn mhen ychydig wythnosau, ac yno y gwelsom ef gyntaf, ac y ffurfiasom gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch ag ef. Nid anghofiwn yr olwg gyntaf a gawsom arno yn dyfod i fewn i hen Gapel Ebenezer i'r oedfa ddau o'r gloch, y Sabboth cyntaf wedi ei ddyfodiad. Dyna fe, ddarllenydd yn llafn main, tal, teneu, gwledig, mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin, yn dyfod trwy ddrws y capel am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wâu yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwtagwasgod o stwff ac un res o fotymau yn cau i fynu yn glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddfllodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi a hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn heb son am gerdded ynddynt, ond yr oedd ef wedi cerdded deugain milldir ynddynt y dydd o'r blaen a'i sypyn dillad ar ei ysgwydd. Aeth rhag ei flaen i'r set fawr, gan osod ei het galed o frethyn llawban ar y bwrdd, ac edrych i fyny tua'r pwlpud lle yr oedd y Doctor yn gwneyd amnaid a'i fys ar iddo fyned i fyny ato. Edrychai y gynnulleidfa mewn syndod, oblegid yn sicr ni welsant erioed o'r blaen engraifft mor berffaith o'r gwladwr mynyddig yn esgyn i'r pwlpud. Darllenai bennod yn hyf, yn uchel, ac yn gyflym; a gweddiai yn gyffelyb heb na thôn na goslef, ond gan dywallt ffrydiau diatal o ymadroddion, heb fawr o ddefosiwn na dim tynerwch. Pregethodd oddiar y geiriau"Gwrando hyn Job, saf, ac ystyria ryfeddodau Duw." Aeth drwy weithredoedd yr anfeidrol mewn creadigaeth, rhagluniaeth, a gras, a thraethai gyda'r fath ymdywalltiad rhaiadrol nes synu pawb yn y Yr oedd yn ddawn gwahanol i ddim a glywsant erioed o'r blaen; ac yn enwedig yn wahanol i'r dawn chwareus, hamddenol, esboniadol a arferent wrando bob Sabboth; a dywedodd mewn tri chwarter awr fwy o eiriau nag a ddywedwyd gan neb erioed o'r pwlpud hwnw o'i flaen, y mae yn bur sicr genym. Teimlai pawb yn y lle, er hyny, fod rhywbeth yn y llangc gwledig a diaddurn pwy bynag ydoedd, yn wahanol i bawb arall. Tarawodd ei brydweddion naturiol ni yn gryfach y pryd hwnw nag y gwnaethant byth wedi hyny. Hwyrach fod ein cynefindra a hwy yn peri nad oeddynt yn tynu ein sylw; ond yr ydym yn meddwl hefyd eu bod i raddau yn cilio, ac yn myned yn fwy anamlwg fel yr oedd ei feddwl yn cael ei ddwyn dan ddiwylliant, ac yntau yn cael ei goethi gan arferion cymdeithas uwch na'r hon y magesid ef ynddi. Yr oedd y pryd hwnw wedi tyfu i'w lawn daldra, yn agos i ddwy lath o hydpen bychan heb gnwd trwchus o wallt arno, a'r ychydig oedd wrth ei agwedd syth ac aflerw yn dangos na wybu erioed beth oedd cael ei eneinio ag olew talcen cul oedd ganddo, y fath na buasai y penglogydd yn rhoi barn ffafriol arno, a'r croen yn crychu pan y taflai ei aeliau allan, ac yr ymgiliai ei lygaid gleision, llymion, treiddgar y tu ol iddynt i gysgod ei aelflew i lechu. Safai esgyrn ei fochgernau yn uchel,gernau yn uchel, nes peri i'w fochau ymddangos yn pantio. Teneuon oeddynt ei wefusau, ac arferai eu gwasgu yn nghyd pan y byddai newydd ddyweyd rhywbeth, neu pan y parotoai at siarad. Ei enau a'i lygaid oeddynt ddelweddau mwyaf dynodiadol ei wynebpryd; ond yr oedd awdurdod, meistrolaeth, a phenderfyniad yn amlwg yn ei holl ysgogiadau. Ni bu yn Mangor ond ychydig fisoedd, oblegid cyn diwedd yr haf agorodd Rhagluniaeth y drws iddo i fyned i'r ysgol i Marton, lle yr oedd nifer o wyr ieuaingc dan addysg Mr. John Jones; a chan i ni ei ddilyn i Marton yn nechreu y flwyddyn ar ol hyny, cawsom fantais ychwanegol i ffurfio cydnabyddiaeth helaethach ag ef. Ymroddodd yno i ddysgu a'i holl egni cyfansoddi yn Saesonaeg oedd ei hyfrydwch—ysgrifenodd lawer i'r Shrewsbury Chronicle, a phregethai yn Saesonaeg yn yr holl wlad oddiamgylch. Yma y dysgodd ysgrifenu llaw fer, ar yr hon yr oedd Mr. Jones, yr athraw, yn feistr hollol. Yr oedd Ieuan, pan yn Marton, yn un o'r dynion ieuaingc puraf yn ei arferion a adnabuasom erioed ffieiddiai ei galon bob twyll a rhagrith, ac nis gallasai oddef y rhai a broffesant fod y peth y gwyddai nad oeddynt. Yr oedd yn nodedig o gynil a gofalus, a boddlonai i fod heb lawer o bethau y carasai eu cael; ond gan ei fod yn gweled fod hyny yn anmhosibl heb redeg i ddyled, boddlonai hebddynt, canys yr oedd dyled ar fyfyriwr yn beth nas gallasai mewn un modd ddygymod ag ef. Yr oedd yn dyn iawn dros sefyll at ba beth bynag a benderfynid, a chyflawni pob ymrwymiad, ac os rhoddai ei air gallesid ymddiried iddo y safai ato. Cyfrifai rhai ef yn llym a chreulawn, ac y mae yn sicr y buasai ychydig yn ychwaneg o dynerwch a hynawsedd ynddo yn ei wneyd yn aelod hapusach o gymdeithas; ond ni bu y rhai yno a feient, ac a achwynent ar ei orfanylwch yn hir cyn esbonio eu hunain; ac yr oedd Ieuan wedi eu hadnabod cyn iddynt gyflawn ymddadblygu. Oherwydd gwaeledd Mr. Jones, Marton, ymadawodd y myfyrwyr oddiyno o un i un; ond ceisiwyd gan Ieuan i aros yno i wasanaethu yn lle Mr. Jones, yr hwn oedd wedi ei analluogi gan afiechyd, a'r hwn yn fuan a fu farw; a buont yn daer iawn arno gymeryd ei ordeinio yno yn olynydd i'w athraw; ac er fod llawer o bethau yn ei ogwyddo i gydsynio, etto, yr oedd ei awydd am ychwaneg o ddysg y fath, fel y gwnaeth gais am fyned i athrofa Aberhonddu, a derbyniwyd ef yn nghyfarfod blynyddol Mehefin 1841; lle yr arhosodd dros bedair blynedd. Cyn ymadael a Marton ysgrifenodd fywgraffiad i'w hen athraw, yn llyfryn swllt. Rhaid ei fod wedi roddi yn galed, oblegid pan welsom ef gyntaf ddwy flynedd cyn hyny, nid oedd ei wybodaeth o'r iaith Saesonaeg, ond anmherffaith iawn. Dygodd Ieuan ei holl neillduolion llym, manwl, cynil, a gofalus gydag ef i'r athrofa; ac fel y gallesid disgwyl yn mysg cynifer, yr oedd yno rai nad oedd eu syniadau am foesoldeb mor uchel ar eiddo ef, ac fel y mae yn hawdd meddwl, nid rhyw gydfod mawr oedd rhyngddo a'r cyfryw. Ond ar y rhan fwyaf o lawer cariodd ddylanwad iachusol a daionus; a dichon, a'u cymeryd gyda'u gilydd, na throdd yr un to allan o'r athrofa uwch a gloywach eu cymmeriadau, a mwy defnyddiol a gwasanaethgar i'r weinidogaeth, na'r rhai oeddynt yn gydefrydwyr ag ef yno. Nid ydym yn priodoli hyn iddo ef yn hollol, canys gwyddom fod yno eraill o gyffelyb ysbryd yn y cyfnod hwnw; ond yr ydym yn meddwl y cyduna y rhan fwyaf o'i gyd efrydwyr a ni i ddyweyd fod rhan fawr o'r dylanwad pur ac iachusol oedd yn yr athrofa yn yr adeg hono i'w briodoli i ofal manwl—i arferion pur—i argyhoeddiadau cryfion—i uniondeb diwyrni—ac i ewyllys benderfynol Ieuan Gwynedd. Bendith anrhaethol i sefydliad cyhoeddus ydyw cael un dyn o feddwl grymus, arweiniol, a llywodraethol, yn meddu syniad uchel a dyrchafedig am foesoldeb a gwirionedd.

Pan y daeth ei dymor yn yr athrofa i ben, derbyniodd wahoddiadau oddi-wrth amryw eglwysi i ymsefydlu yn eu plith; ond tueddwyd ei feddwl i gydsynio a galwad Saron, Tredegar, ac urddwyd ef yno fel y crybwyllasom eisoes yn Ngorphenaf 1845. Priododd Ionawr 14eg, 1846, a Miss Cathrine Sankey, Rorington Hall, sir Amwythig, merch ieuangc hawddgar a rhinweddol, a'r hon yr oedd wedi ffurfio cydnabyddiaeth yn ystod ei arosiad yn Marton. Nid oedd Mrs. Jones, mwy nag yntau, ond gwanaidd iawn ei hiechyd, fel, er fod yr anwyldeb mwyaf rhyngddynt, mai blwyddyn drallodus iawn oedd y flwyddyn y buont yn briod. Bu Mrs. Jones farw Ebrill 28ain, 1847, yn fuan ar ol genedigaeth ei baban, a chladdwyd y fam a'r bachgen yn yr un bedd. Estynwyd y cwpanaid chwerw yma i Ieuan gan Ragluniaeth pan oedd ei gyfansoddiad yn ddadfeiliedig; ac o hyny allan gwelodd "aml a blin gystuddiau." Ond yr oedd ei ysbryd yn gryf a gwrol; ac yn nghanol ei waeledd mwyaf gwnai fwy o waith nag odid ddau ddyn iach. Tra y gorweddai ef ei hun yn glaf mewn un gwely, a'i wraig yn glaf mewn gwely arall; a'i famaeth ffyddlon, dyner, a gofalus, Sarah, yn gweini arnynt ill dau, y cyfansoddodd ei draethawd Saesonaeg gwobrwyedig "Y Rhwymedigaeth Foesol i Lwyrymataliaeth." Yn ystod tymor byr ei weinidogaeth yn Nhredegar, ymroddodd yn egniol i gyflawni dyledswyddau ei swydd. "Gweithiwr difefl" ydoedd. Tynodd iddo ei hun lawer o gynlluniau yn ol y meddylrith oedd ganddo, pa fath un ddylasai gweinidog fod. Canfyddodd er ei siomiant fod mwy o anhawsder nag a dybiasai i gario allan ei feddylrithiau, er iddo hwyrach allu eu cario allan yn llawn mor berffaith ag y gallodd yr un gweinidog mewn yspaid mor fyr; ac iddo gael cefnogaeth mor wresog gan yr eglwys dan ei ofal, ag a roddir yn gyffredin gan eglwysi i weinidogion ieuaingc, sydd ar eu cychwyniad yn llawn ysbryd ac awyddfryd am wneyd daioni. Ond yr oedd syniadau Ieuan am sancteiddrwydd a phurdeb dysgyblaeth, yn uwch nag eiddo y mwyafrif yn yr eglwysi; ac yr oedd yn ofynol iddo gael oes hir, i godi unrhyw eglwys i fyny i'w safon uchel ef. Ei berygl mwyaf ef yn nglyn a dysgyblaeth eglwysig, fel perygl dynion o'r un dymer ag ef, oedd gollwng drygau ysbrydol i'r eglwys wrth fwrw allan ddrygau cnawdol; a gorchwyl anhawdd iawn wrth fwrw y "daearol a'r anianol" allan, ydyw cadw "cythreulig" rhag dyfod i fewn. Fel pregethwr, yr oedd Ieuan yn rhy draethodol i fod yn boblogaidd gan gynnulleidfaoedd cyffredin; ac yr oedd yn traddodi yn rhy galed a llafurus i'w nerth corphorol. Er ei fod yn gwbl uniongred ac Efengylaidd yn ei olygiadau duwinyddol; etto baich ei bregethau oedd, llygredigaeth calon dyn, ysbrydolrwydd teyrnas Crist, a moesoldeb Cristionogol. Ychydig o sylw mewn cydmariaeth a dalodd i dduwinyddiaeth byngciol, a llai na hyny o gydymdeimlad oedd rhyngddo a'r dadleuon oedd yn rhanu Ymneillduwyr Protestanaidd. Nis gallasai oddef y dynion a broffesant sel fawr dros athrawiaeth iach, ond a esgeulusent dalu eu dyledion a weddient yn ddoniol yn y capel, ond na ofalent am addoliad ar yr aelwyd, ac a adawent eu plant i chwareu ar y Sabboth ar y tips a'r twyni. Yr oedd ei holl enaid yn cynhyrfu yn erbyn y bobl a honent brofiadau uchel, ac a ymgysurent "fod y cyfamod yn sound"—ar "afael gryfaf fry," ac ar yr un pryd a eisteddant i lymeitian yn y dafarn nes ymlenwi a diod gref. Barnai grefydd pobl nid wrth eu profiadau uchel yn y capel, ond wrth y dylanwad a adawai ar eu bywyd cyffredin; ac isel iawn y prisiau bob mwynhad crefyddol nad oedd yn terfynu mewn dysgu dynion "i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awr hon." Nid ydym yn dadleu nad oedd ei olygiadau ar y pethau hyn yn eithafol; ond pa ddiwygiwr mawr a fu yn y byd erioed nad oedd yn eithafol; ac yr oedd Ieuan yn ddiwygiwr yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd ynddo ddigon o gydwybod a gonestrwydd, a phenderfyniad i wneyd Luther arall.

Ond nid fel pregethwr a gweinidog yr enwogodd ei hun, er iddo mewn tymor byr ennill iddo ei hun "radd dda;" ond gwnaeth iddo ei hun fel gwladgarwr a dyngarwr, enw anfarwol. Pan y cyhoeddwyd "Adroddiad y Dirprwywyr," y rhai a ddygent y cyhuddiadau bryntaf yn erbyn moesoldeb y genedl, daeth Ieuan allan yn ddiofn i amddiffyn cymmeriad merched ei wlad; a chafodd y cyhuddwyr deimlo llymder y fflangell a'r hon y ffrewyllodd hwy. Daeth ei "Dissent and Morality in Wales" yn llyfr o awdurdod i gyfeirio ato. Yn yr adeg yma yr oedd pwngc addysg y genedl yn cynhyrfu y Dywysogaeth; ac amryw gynnadleddau wedi eu cynal i ystyried pa gynllun a fabwysiedid. Cymerodd ef ochr addysg wirfoddol; ac y mae yn sicr genym iddo ysgrifenu rhai o'r pethau goreu a ysgrifenwyd erioed yn yr iaith Gymraeg o blaid addysg wirfoddol, ac yn erbyn ymyriad y llywodraeth ag addysg mwy nag a chrefydd y deiliaid. Mae barn y wlad er hyny wedi myned dan gyfnewidiad mawr ar y cwestiwn, ond bendith anrhaethol i'r deyrnas oedd y gwrthsafiad a wnaed y pryd hwnw; canys ataliodd addysg y wlad rhag myned yn gwbl i ddwylaw y llywodraeth, yr hon y pryd hwnw ni buasai yn caniatau i Annghydffurfwyr, yr hyn a ganiateir yn awr; heblaw y bu y cyffroad hwnw yn foddion i ddihuno ymadferthoedd yr Ymneillduwyr i gyfranu addysg i'r genedl, yr hyn a brofodd iddynt yn ymarferiad iachusol.

Wrth weled ei iechyd yn adfeilio barnodd Ieuan Gwynedd nas gallasai sefyll yn hwy o flaen arch Duw; ac yn niwedd y flwyddyn 1847, rhoddodd ofal eglwys Saron i fyny, gan benderfynu os caniateid iddo fyw ychydig yn hwy "i wasanaethu ei genedlaeth yn ol ewyllys Duw," y gwnai hyny trwy y wasg, gan fod arwain y bobl wedi myned yn waith rhy drwm iddo. Amgylchiad rhwygedig i'w deimlad ef ac eiddo yr eglwys oedd y datodiad hwn; canys yr oedd ei enaid ef wedi ymglymu wrth eneidiau y bobl, ac eneidiau y bobl wedi ymglymu wrth ei enaid yntau. Mae yr anerchiad ymadawol a roddodd yn un o'r darnau llawnaf o deimlad a thynerwch a ddarllenasom erioed; heblaw fod rhai darnau o honi yn ddihafal fel cyfansoddiad.

Cyn diwedd y flwyddyn 1848, priododd yr ail waith a Miss Lewis, merch y diweddar Mr. Walter Lewis, gweinidog Tredwstan; yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys yn holl ystyr y gair. Os bu gwraig dda yn rhodd gan yr Arglwydd i ddyn erioed; ac nid oes os am hyny, yr oedd y wraig rinweddol hon yn rhodd o eiddo yr Arglwydd i Ieuan Gwynedd; ac y mae y peth fu efe i'r byd am y ddwy flynedd olaf o'i fywyd i'w briodoli mewn rhan fawr i'w gofal, ei thynerwch, a'i chydymdeimlad hi.

Wedi ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, bu am ychydig yn golygu y Principality; papur Rhyddfrydig a gyhoeddid gan Mr. David Evans, yr hwn a ddaeth allan ar y cyntaf yn Hwlffordd, ond a symudwyd oddiyno i Gaerdydd; ond fel llawer cynyg da arall yn Nghymru a fu yn aflwyddianus o ddiffyg cefnogaeth. Symudodd Ieuan i Lundain i fod yn un o olygwyr y Standard of Freedom, newyddiadur galluog a gyhoeddid gan John Cassell. Bu yn Llundain hyd Awst 1849, pan torodd llestr gwaed yn ei ochr aswy, fel yr ofnid y gwaedai i farwolaeth, a barnwyd gan ei feddygon fod ei ddyddiau ar ben; ond os gallai y buasai yn well iddo ddychwelyd i Gymru i farw; a symudwyd ef i Gaerdydd mewn gwely. Mewn cyfeiriad at y tymor hwnw dywed, "Gwelsom ddyddiau duon yn Llundain. Yr ydym yn cofio dydd Llun pan oedd ein clyw wedi myned; a'n holl gorff fel wedi ei falurio, ac ar y prydnhawn hwnw llifai y gwaed yn bistill o'n genau. Yr ydym yn cofio pedwar o feddygon yn ein rhifo i'r bedd cyn nos dranoeth. Yr ydym yn cofio dydd Sadwrn ar yr hwn y mynegai ein meddyg parchus nad allem fyw ond ychydig ddyddiau. Ac yr ydym yn cofio, o herwydd yr oedd ein meddwl yn hollol dawel, y boddfeydd o chwys a ffrydient yn ddiorphwys dros ein corff am y pedair awr ar hugain canlynol."

Ond bu efe fyw fwy na dwy flynedd ar ol hyny; ac adfywiodd gryn lawer yn ei iechyd a'i nerth. Yn nechreu Ionawr 1850, daeth y rhifyn cyntaf o'r Gymraes allan dan ei olygiaeth, misolyn at wasanaeth merched Cymru, a pharhaodd i'w olygu am ddwy flynedd. Yn nghanol y flwyddyn hono y daeth y rhifyn cyntaf o'r Adolygydd hefyd allan, cyhoeddiad chwarterol a fu dan ei olygiaeth hyd ei farwolaeth. Ysgrifenodd lawer yn ystod 1850 a 1851, mewn rhyddiaeth a barddoniaeth yn Gymraeg a Saesonaeg; ac ennillodd yn yr ystod hwnw lawer o wobrau. Dyma y pryd y cyfansoddodd ei bryddest odidog ar "Yr Adgyfodiad," a'i bryddest fuddugol ar "Adgyfodiad Crist," a'i awdl ar "Heddwch," yr hon a barotodd erbyn Eisteddfod Tremadog, yr hon oedd yn ail i awdl wobrwyedig Hiraethog; heblaw llawer o ddarnau llai, a lluaws o draethodau bychain a mawrion. Cyfansoddodd lawer o'r rhai hyn yn ei wely; ac yn cael ei gynal i fyny gan obenyddiau; ac mewn poenau yn aml, y fath na feddyliasai y rhan fwyaf o ddynion am wneyd dim ond ymwrando a'u dyoddefaint a chwyno iddynt eu hunain; ond yr oedd ysbryd yn Ieuan na fynai ei roddi i lawr; a bu raid ei "orchfygu ef yn dragywydd," cyn iddo roddi i fyny i farw.

Yr oedd cyfansoddi yn hollol naturiol iddo, ac nid oedd ysgrifenu mewn un modd yn faich arno. Ysgydwai ei fysedd fel heb yn wybod iddo, a thra y byddai eraill yn siarad byddai ef yn ysgrifenu. Nid ymaflai ond anfynych mewn cwestiynau dyrus ac arddansoddol; y fath ag a ofynai efrydiaeth ddwfn, a darlleniad helaeth cyn cyfansoddi arnynt; ond ymarferol neu hanesiol oedd y rhan fwyaf o'r testynau ar y rhai yr ysgrifenai. Yr oedd ei gof agos yn ddihysbydd, a'i ddirnadaeth yn eang a chwmpasog, fel yr oedd yn amgyffred yn llawn bob mater yr ysgrifenai arno; ac yr oedd trefn mor naturiol iddo, fel yr oedd pob peth oedd ganddo ar bob pwngc yn union wrth law, fel y gwyddai, heb golli amser i chwilio, pa le i gael gafael ynddynt. Fel cyfansoddwr, yr oedd yn un o'r rhai egluraf, ystwythaf, a chyflawnaf yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd ganddo yn wastad at ei alwad ddigonedd o eiriau chwaethus a detholedig, heb mewn un modd gyfranogi o'r "chwyddedig eiriau gorwagedd" sydd yn anurddo cyfansoddiadau rhai ysgrifenwyr poblogaidd. Dygai i mewn briod-ddulliau goreu pob cwr o'r Dywysogaeth; ac etto ymgadwai yn hollol rhag defnyddio geiriau sathredig, ac y mae ystyr wahanol iddynt mewn gwahanol ardaloedd. Yr oedd arwedd farddonol i'w arddull, y fath ag a wnelai darllen ei waith yn bleser, a swynai y darllenydd a'i naturioldeb, fel yr oedd pob peth o'i eiddo yn darfod yn rhy fuan ganddo. Yr oedd yn feistr perffaith ar ystadegaeth, ac ar bob achlysur y byddai angen, gwnai y defnydd mwyaf hapus o honynt; ac o dan ei law ef yr oedd rhyw ireidd-dra ar ffigyrau sychion, ac ystwythder barddonol ar ei ffeithiau a'i ystadegau. Trwy gydsyniad cyffredinol cydnabyddid ef yn un o brif lenorion ei oes a'i wlad; ac fel bardd, rhestrir ef yn nosbarth cyntaf y Pryddestwyr, os na chyfrifir ef yn mysg "cedyrn cyntaf" yr Awdlwyr. Yr oedd yn deall cyfrinion yr awen; a llwyddai i gael ganddi draethu iddo ei dirgelion; ac ni chyflwynwyd gan ddyn erioed athrylith burach i'w gwasanaeth. Gwnaeth waith oes hir mewn tymor byr; ac y mae gweled y fath weithiwr yn nychu a dihoeni am flynyddau, ac yn marw cyn ei fod yn 32 oed, pan yr oedd cymaint o'i angen ar y byd, yn peri i ni ddywedyd, "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Ond ust! trwy y cymylau trwchus gwelwn orsedd, "a chyfiawnder a barn" yn eistedd arni.

Yr oedd ei iechyd yn ymddangos yn well yn niwedd 1851; ac yr oedd wedi uno y Gymraes a'r Tywysydd, ac wedi cymeryd gofal y Diwygiwr mewn cysylltiad a Mr. David Rees; ac y mae y rhifyn cyntaf o hwnw am 1852 yn dangos ei fod dan oruchwyliaeth newydd; a disgwylid y buasai iddo cyn hir symud i Lanelli, lle yr argraffid y Diwygiwr, a'r Gymraes, a'r Adolygydd, yr hwn hefyd a olygid ganddo. Ond siomwyd yr holl ddisgwyliadau hyn. Gyda dyfodiad oerder a gerwinder mis Chwefror, ymddangosodd arwyddion eglur fod ei ddyddiau ef i farw wedi nesau, a dydd Llun Chwefror 25ain, 1852, ehedodd ei enaid cryf o'i gorff gwan i fynwes ei Arglwydd; a'r dydd Gwener canlynol dygwyd ei weddillion marwol mewn elorgerbyd i fynwent y Groeswen, lle yr oedd nifer luosog o wyr defosiynol wedi ymgynnull i'w gladdu; a gwnaethant alar mawr am dano ef. Darllenwyd rhanau priodol o'r Ysgrythyr yn y capel gan Mr. J. Thomas, Glynnedd, (Liverpool yn awr); a gweddiodd Mr. W. Williams, Hirwain; pregethodd Meistri E. Roberts, Cwmafon, yn Saesonaeg; a W. Edwards, Aberdare, yn Gymraeg; a therfynwyd trwy weddi gan Mr. J. Thomas, Aberdare. Cymerwyd hefyd ran yn y gwasanaeth yn y capel ac wrth y bedd gan Mr. W. Williams, Tredegar, (Abercarn yn awr); Mr. N. Stephens, Sirhowy, (Liverpool yn awr); Mr. J. Davies, Llanelli, (Caerdydd yn awr); a Mr. Moses Rees, Groeswen; a gadawsom Ieuan Gwynedd yn mynwent y Groeswen "mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragwyddol."

Cyfodwyd colofn hardd ar ei fedd trwy danysgrifiadau ceiniog oddiwrth ei gyfeillion a'i edmygwyr o bob cwr o'r Dywysogaeth, ac y mae yn gerfiedig arni y llinellau canlynol o waith Gwilym Hiraethog.

"Y golofn yma gyhoedda haeddiant
Ieuan Gwynedd, i'w wlad fu'n ogeniant;
Haul oedd i'w genedl—miloedd a gwynant
Ai'n nos o'i golli—tewi nis gallant—
Llanwodd swydd llenydd a sant—sai'i weithiau
Ef i'r oloesau yn ddirfawr lesiant."

Heddwch i ti fy mrawd! Nac ymyred neb a'th esgyrn! Mae yn iawn i ti gael gorphwys, canys gweithiaist dy ddiwrnod byr yn galed. Chwythed yr awel yn esmwyth drosot—disgyned, gwlithwlaw y nefoedd yn dyner arnat—gwylied angylion le cysegredig dy fedd, hyd y boreu y cyfnewidir dy gorff gwael di gan dy Briod a'th Brynwr i ffurf ei "gorff gogoneddus ef!"

BETHLEHEM, BLAENAFON.

Mae Blaenafon yn mhen uchaf y cwm trwy yr hwn y rhed yr Afon Lwyd, heibio Abersychan a Phontypool i lawr i'r Casnewydd. Mae pump o blwyfydd yn cyfarfod yma, sef Trefethin, Llanover, Llanwenarth, Llanffoist, ac Aberystruth. Yn mhlwyf Llanover y mae y capel presenol. Ychydig iawn oedd nifer trigolion yr ardal cyn agoriad y gweithiau haiarn yn y flwyddyn 1786, o'r pryd hwnw cynyddodd y boblogaeth yn raddol, fel y maent yn bresenol dros 7,000. Ymddengys i'r enwog Edmund Jones, Pontypool, fod yn pregethu yma yn lled gyson rai blynyddau cyn hyny, fe ddichon oddiar y pryd yr ymsefydlodd yn Mhontypool. Dywedir iddo gymeryd trwydded ar amaethdy a elwir y Persondy, at bregethu ynddo, ond nid ydym wedi cael allan pa flwyddyn y bu hyny. Shon Lewis Shon oedd enw gwr y Persondy. Yr oedd Anne ei wraig yn aelod yn Ebenezer, ac yn ei henaint gwnaeth yntau broffes gyhoeddus o grefydd, ond gan ei fod yn rhy fethiedig i fyned i Ebenezer derbyniwyd ef yn aelod yn ei dy ei hun. Mae yn debygol ei fod yn ddyn crefyddol iawn. Mae Mr. John E. Williams, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes yma, wedi cofnodi yr hanesyn canlynol am Shon Lewis Shon, o enau wyres iddo, yr hon a fagwyd yn ei dy: Pryd yr oedd hi tua saith mlwydd oed, sylwai fod ei thadcu yn myned allan o'r ty bob bore, ac yn aros cryn amser cyn dychwelyd. Cyffrowyd ei chywreinrwydd un bore i edrych ar ei ol, a chafodd mai i ganol llwyn tewfrig o gelyn yr elai, lle y byddai yn treulio yspaid o amser mewn gweddi. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1770. Nid ymddengys fod yma achos neu eglwys Annibynol o gwbl yn amser Edmund Jones, er fod gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal yn lled gyson yn y Persondy, er budd aelodau a gwrandawyr Ebenezer, a breswylient yn yr ardal hwn. Mae yn debyg i Edmund Jones yn ei flynyddau diweddaf ymddiried y gwaith o ofalu am yr ychydig ddefaid o gylch Blaenafon, yr un fath ag yn y Blaenau, i Dafydd Thomas, Nantmelyn. Byddai yr hen wr hwnw yn dyfod drosodd yn lled aml o'r Blaenau i bregethu yn y Persondy. Marchogai asen, yr hon a alwai Shoned. Nid ymddengys i'r hen wr da hwn wneyd fawr ddaioni yma trwy ei ymweliadau, oblegid mae yn debygol ei fod yn hynod o ddifedr fel pregethwr. Yr oedd yma un aelod eglwysig o'r enw William Lewis, yr hwn a fu farw ar y ffordd un bore Sabboth wrth ddychwelyd o'r cyfarfod cymundeb o Dy Solomon. Bu pregethu achlysurol am flynyddau lawer yn y Persondy. Adroddai Edward Williams iddo ef fod yn gwrandaw Mr. Davies, Llangattwg, yn pregethu yno yn 1794. Mae yn debygol fod y rhan fwyaf, os nad yr oll o hen aelodau yr Annibynwyr yn yr ardal hon wedi meirw erbyn yr amser y cychwynwyd y gwaith haiarn. Tua y flwyddyn 1789, pan yr oedd dwy ffwrnes wedi eu cynneu yma daeth amryw bobl i'r lle o wahanol ardaloedd, ac yn eu mysg rai crefyddwyr. Un o'r rhai cyntaf a ddaeth yma oedd Thomas Harry, aelod o eglwys y Mynyddbach, Abertawy, a dyn ieuangc nodedig o dalentog a chrefyddol; daeth yma hefyd ddyn mewn gwth o oedran, yr hwn a elwid "Siams o'r hewl;" aelod o'r Mynyddbach oedd yntau. Dyn crefyddol arall o'r enw Dafydd John, o Lanelli, sir Gaerfyrddin, a ddaeth tua yr un amser i'r lle. Dilynwyd y rhai hyn gan amryw eraill yn fuan. Ond yn anffodus ni ddarfu iddynt fabwysiadu y cynllun goreu at godi achos yn y lle. Ymunodd rhai o honynt yn Ebenezer, Pontypool, eraill yn Hanover, ac eraill yn Llangattwg, Crughowell. Elent i'r lleoedd pell hyny foreuau y Sabbothau, a dychwelent adref erbyn amser cysgu, ac felly nis gallent wneyd un daioni crefyddol i'w cymydogion. Yr oedd un William Francis, Bedyddiwr, yn yr ardal, yn cadw ei dy yn agored i bregethwyr o bob enwad; ac yr oedd wedi gosod pulpud bychan i fyny yn ei dy.

Cyn gynted ag y sefydlodd Mr. Ebenezer Jones yn Mhontypool, dechreuodd dalu ymweliadau lled fynych a Blaenafon, a bu ei weinidogaeth o fendith i lawer yma.

Yn mysg eraill ennillwyd Edward Williams at yr achos tua y flwyddyn 1796, a bu yn golofn gadarn dano hyd derfyn ei oes. Efe oedd tad Mr. E. Williams, Dinasmawddwy, a Mr. John E. Williams, Blaenafon. Yr oedd E. Williams yn enedigol o ardal y Mynyddbach, Abertawy, lle yr oedd ei rieni, a'r rhan fwyaf o'i berthynasau, yn aelodau. Un diwrnod pan yn son wrth "Siams o'r hewl" am ragoriaeth Davies, Mynyddbach, fel pregethwr, dywedodd Siams wrtho, "Mae gweinidog ieuangc i bregethu prydnawn dydd Sul nesaf yn nhy Aaron Brute, yn llawn mor ddoniol a Davies. A ddewch chwi i'w wrandaw?" Addawodd fyned. Y gweinidog ieuangc oedd Ebenezer Jones. Aeth Edward Williams i'w wrandaw, a chyrhaeddodd y gwirionedd ei galon. O hyny allan ymwasgodd at yr ychydig ddysgyblion yn yr ardal. Cydgerddai a hwynt o'r cyfarfodydd, a siaradai a hwynt am y pregethau, ond ni thorodd un o honynt ato i ddyweyd un gair wrtho am ei gyflwr. O'r diwedd, gorfu iddo ef dori atynt hwy, ac agor ei fynwes iddynt. Derbyniwyd ef yn aelod yn Ebenezer yn y flwyddyn 1797. Yn fuan ar ol E. Williams derbyniwyd amryw eraill o Flaenafon, megys William a Walter Phillips, dau frawd, John Morris, yn nghyd a nifer o wragedd. Erbyn hyn yr oedd golwg obeithiol iawn ar y gymdeithas fechan. Pe buasai ty addoliad yn cael ei gyfodi yma y pryd hwnw buasai yr enwad Annibynol, wrth bob tebygolrwydd, wedi meddianu yr holl ardal. O herwydd fod Mr. Ebenezer Jones yn rhanu ei lafur rhwng Ebenezer a Brynbiga, ac o bosibl am fod pobl Ebenezer yn anfoddlon gollwng eu gafael yn yr aelodau a breswylient yn Mlaenafon, esgeuluswyd y lle pwysig hwn nes oedd yr enwadau eraill wedi ei feddianu i raddau helaeth. Y pryd hwnw (1797) nid oedd gan un enwad addoldy yn y lle, ac er fod gan yr Annibynwyr fwy o aelodau yma na neb arall, y Methodistiaid gafodd yr anrhydedd o adeiladu y capel cyntaf yn yr ardal. Adeiladwyd eu capel hwy yn 1799. Wrth gasglu ato, addawid y buasai yn rhydd rhwng pob enwad, ond wrth wneyd y weithred, gwnaed ef yn feddiant i'r Methodistiaid yn unig. Yr oedd Thomas Harry, un o'r prif ddynion gyda'r Annibynwyr, wedi rhoddi gini ato, a phan ddeallodd mai capel i un enwad ydoedd, mynodd ei gini yn ol. Ond rhyw fodd cyn pen blwyddyn wedi hyny, aeth Thomas Harry a'i gini yn grynswth at y Methodistiaid, a bu yn bregethwr parchus yn eu mysg hyd derfyn ei oes. Bu ei ymadawiad yn achos o lawer o ddigalondid i'r Annibynwyr, gan ei fod yn un o'r rhai galluocaf a mwyaf dylanwadol yn eu mysg.

Tua yr amser hwn hefyd bu mesur o anhwylusdod yn y gweithiau, fel y gorfu i amryw ymadael ar lle, ac yn eu plith Edward Williams, yr hwn a aeth i Dowlais. Pan ddychwelodd ef o Dowlais, nid oedd yno fawr o'r ddeadell fechan yn aros heb eu gwasgaru, rhai wedi myned o'r ardal, ac eraill wedi oeri a gwrthgilio, a dim ond ychydig chwiorydd yn dal yn ffyddlon. Felly wrth ail gychwyn moddion crefyddol yno, bu pwys y gwaith yn gorphwys ar ysgwyddau E. Williams agos yn hollol am dymor. Yn 1804, derbyniwyd ei frawd, Thomas Williams, yn Ebenezer, a throdd allan yn grefyddwr gwerthfawr a defnyddiol. Yr oedd yn Gristion teilwng, yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ddyn diofn, diddiogi, a chyson yn ei gyflawniad o holl ddyledswyddau crefydd. Yr oedd y ddau frawd, Edward a Thomas Williams, i'w rhifo yn mysg y dynion goreu y cawsom erioed y fraint o gyfeillachu a hwy. Edward oedd yr henaf, a Thomas yr ieuangaf o blant eu mham. Saith mlynedd oedd y naill yn hŷn na'r llall. Dechreuodd pob un o honynt grefydda yn saith ar hugain oed, a buont feirw yn yr un oed, sef triugain a dwy ar bymtheg. Felly buont ill dau haner can' mlynedd yn aelodau eglwysig, ni bu un o honynt trwy eu holl dymor dan gerydd eglwysig am unrhyw gamymddygiad. Maent ill dau er's llawer o flynyddoedd bellach wedi myned "i mewn i lawenydd eu Harglwydd."

Yn y flwyddyn 1804, daeth William Allgood, aelod ffyddlon yn Ebenezer, i fyw i'r ardal. Bu am haner can' mlynedd yn arddwr i brif arolygydd gwaith haiarn Blaenafon. Nodweddid ei gymmeriad crefyddol gan ffyddlondeb a gostyngeiddrwydd. Bu yn golofn hardd yn yr eglwys hyd derfyn ei oes. Tua yr un amser, daeth Henry Roberts, o Frynbiga yma. Yr oedd yntau yn Gristion enwog, ac yn ddoniol iawn i siarad a gweddio yn y ddwy iaith. Bu yn ddefnyddiol yma nes iddo ddychwelyd i Frynbiga yn 1828. Yn 1807, ymunodd Hopkin Jenkins (taid Mr. D. M. Jenkins, Drefnewydd) a'r achos, a derbyniwyd ef yn aelod Yr oedd yn Gristion goleu, cadarn yn yr athrawiaeth, ac yn ganwr rhagorol, yn ol yr hen ddull o ganu. Symudodd i ardal Pontypool yn 1810, a bu yn ddiacon yn Ebenezer am lawer o flynyddau. Tua yr amser yma hefyd y derbyniwyd Griffith Abraham, a Thomas James, nai fab chwaer i'r diweddar Dr. Jenkins o Hengoed. Yr oedd yma hefyd y pryd hwnw amryw wragedd ffyddlon a rhagorol iawn, megys Peggy Rees, Shan Lot, Mary James, Leah Williams, a Leah James. yn Ebenezer.

Teimlid erbyn hyn fawr angen am gapel, ond cyfodai rhyw rwystr neu gilydd beunydd ar eu ffordd. Bu y Bedyddwyr yn fwy ffodus. Cawsant hwy dir, ac adeiladasant gapel yn 1807. Rhoddid benthyg y capel hwn yn garedig i'r Annibynwyr pan fyddai ganddynt bregethwr. Cynhalient eu cyfarfodydd gweddio o dy-i-dy, a'u cyfeillachau yn nhy Edward Williams. Casglasant yn eu plith eu hunain 14p. at gapel y Bedyddwyr, a darfu i'r brodyr hyny yn onest ddychwelyd yr arian iddynt pan yr aethant yn nghyd ag adeiladu capel iddynt eu hunain.

Mae yn amlwg fod Annibynwyr Blaenafon wedi dyoddef cam mawr oddiar law Mr. Ebenezer Jones ac eglwys Ebenezer, oblegid dylasent eu hanog a'u cynnorthwyo i adeiladu capel, o leiaf ugain mlynedd cyn iddynt ei wneyd. Bu amryw o'r ffyddloniaid hyn yn cerdded bob boreu Sabboth o Flaenafon i Ebenezer—pum' milldir o ffordd arw—am tua phum' mlynedd ar hugain; ac yn dychwelyd adref erbyn yr hwyr i gynal cyfarfodydd gweddio a chyfeillachau. Mae yn rhaid eu bod yn ffyddlon iawn i egwyddorion eu henwad cyn iddynt ddal cyhyd wrthynt dan y fath anfanteision, ac yn enwedig, pan welent yr enwadau eraill yn cael eu hanog a'u cynnorthwyo gan gyfeillion o wahanol ardaloedd i sefydlu achosion yn eu hardal eu hunain.

Heblaw yr aelodau a berthynent i Ebenezer, yr oedd yma rai o aelodau Hanover a Llangattwg, megys David Lot a John Richmond, William Lewis a'i wraig, ac Edward James a'i wraig. Pan aed i adeiladu y capel, darfu i'r rhai hyn uno yn galonog a'r cyfeillion o Ebenezer.

Ar ol hir oediad, cafwyd tir gan Mr. E. James am ddwy geiniog y flwyddyn, os gofynid hwy, dros 999 o flynyddau. Rhoddodd yr un gwr hefyd y cerrig mewn rhan o'r un cae a'r capel yn rhad ar eu codi o'r chwarel. Bu y gwyr, y gwragedd, a'r plant yn gweithio yn galed trwy haf y flwyddyn 1820, i godi a chludo y cerrig at yr adeilad. Amseriad y Trust Deed yw Awst 6ed, 1820, ac enwau yr ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt John Sheppard, Ebenezer Jones, John Morgan, Lewis Evans, Isaac Evans, Edward Williams, Thomas Williams, William Allgood, Henry Roberts, Griffith Abraham, a Thomas James. Costiodd y capel 400p., heblaw llafur y bobl yn cludo defnyddiau ato. Agorwyd ef Rhagfyr 24ain a'r 25ain, 1820, a galwyd ei enw Bethlehem, o herwydd mai ar ddydd Nadolig yr agorwyd ef. Cymerodd y Meistriaid D. E. Evans, Nantyglo; D. Stephenson, Rhymni; D. Thomas, Nebo; D. Davies, Penywaun; D. Davies, Llangattwg; D. Thomas, Penmain; ac Ebenezer Jones, Pontypool, ran yn y gwasanaeth. Yn fuan ar ol agoriad y capel, awd i'r draul ychwanegol o 120p. i adeiladu anedd-dy, a chyfleusderau eraill yn ei ymyl, a thalwyd y cwbl mewn ychydig iawn o flynyddau. Rhif yr aelodau pan orphenwyd y capel oedd 33, ond yn fuan wedi hyny symudodd Edward James a'i deulu i Sirhowy. Corpholwyd yr eglwys y pryd hwn, a dewiswyd Edward Williams, a Thomas James yn ddiaconiaid, a Thomas Williams, a Henry Roberts yn Henuriaid. Yr oedd yr eglwys bellach yn Annibynol, ond etto dan weinidogaeth Mr. Ebenezer Jones, yr hwn, o herwydd ei ofalon yn Ebenezer a Brynbiga, ni allai ymweled a Blaenafon ond anfynych, a phan y deuai traddodai ran fawr o'i bregethau yn Saesonaeg, er mwyn rhyw ychydig Saeson a berthynent i'r gwaith. Byddai meistr y gwaith, ac amryw o'r prif oruchwylwyr yn dyfod yn fynych i'w wrando. Ond cwynfan yr oedd y Cymry uniaith fod eu heneidiau yn cael eu nychu trwy fod gormod o Saesonaeg yn cael ei arfer yn y gwasanaeth. Mae yn amlwg fod Mr. Jones, a rhai eraill o'i gydoeswyr, wedi gwneyd niwed mawr i achos Ymneillduaeth trwy wthio Saesonaeg i'r gwasanaeth crefyddol, pryd nad oedd galwad neillduol am dano, ac y mae mor amlwg a hyny fod amryw weinidogion yn yr oes hon yn cloddio dan sail Ymneillduaeth mewn llawer ardal trwy wrthwynebu, neu o leiaf trwy daflu dwfr oer ar bob ymdrech i sefydlu achosion Saesonaeg, lle y mae galwad am danynt. Peth pwysig iawn yw i weinidogion a phrif aelodau ein heglwysi fod fel meibion Issachar, "Yn rhai a fedrant ddeall yr amseroedd."

Bu yr achos yn y capel newydd yn lled ddilewyrch, o herwydd cymysg edd yr ieithoedd yn y gwasanaeth, ac anallu Mr. Jones i ymweled a'r lle mor fynych ag oedd angen iddo wneyd; ac oblegid ei fod yn gweled hyny rhoddodd yr eglwys i fyny yn 1823. Y diweddaf a dderbyniodd yma oedd William Davies. Ar ol ymadawiad Mr. Jones bu Mr. Davies, New Inn, yn gofalu am y lle am dymor; "a bu ei lafur yma yn foddion dan fendith yr Arglwydd i godi yr achos o'r iselder y buasai ynddo er pan gorpholwyd yr eglwys. Gwenodd y nefoedd ar lafur Mr. Davies: llanwyd y capel o wrandawyr, ac yr oedd llaw yr Arglwydd yn amlwg yn eu plith, a gellir dyweyd fod gras mawr arnynt. 'Ychwanegwyd at yr eglwys beunydd y rhai a fydden't gadwedig.' Dau fis ar hugain y bu gofal yr eglwys ar Mr. Davies, a derbyniodd o 50 i 60 yn aelodau yn yr amser hwnw; ac nid rhyw ruthr disymwth ydoedd, ond cynydd graddol a chyson. Dau gymundeb fu yn amser llafur Mr. Davies heb i neb gael eu derbyn. Chwech dderbyniwyd fwyaf ar unwaith, ac ar un cymundeb un yn unig a dderbyniwyd, a'r un hwnw oedd Mr. J. B. Cook, yn awr o Danville, America. Bu ymuniad Mr. Cook yn fantais fawr i'r achos, gan ei fod, heblaw ei ragoriaethau eraill, yn ganwr rhagorol iawn. Darfu i'r rhan fwyaf o'r rhai a dderbyniodd Mr. Davies ddal eu ffordd yn ffyddlon hyd y diwedd. Nid oes ond dau o honynt yn awr ar dir y byw. Nid oedd ond un dan un-ar-bymtheg oed yn eu mysg. Dynion canol oed oeddynt gan mwyaf. Yr oedd yn arferiad gan y gwrandawyr y pryd hwnw i fyned allan ar ol y bregeth cyn y cymundeb. Cymhellodd Mr. Davies hwy yn daer ddau fis neu dri i aros, ond myned yr oeddynt o hyd. Un tro, wrth eu gweled yn myned allan, dywedodd gydag awdurdod, "Wel, os gelynion i Iesu Grist ydych, ewch allan," ar hyny safasant oll yn eu lleoedd, a throdd y rhai oedd wedi myned at y drws yn ol i'w heisteddleoedd, ac ni chynygiodd neb byth mwyach fyned allan cyn y cymundeb. Yr oedd y diffeithwch yn blodeuo fel rhosyn, a'r anialwch fel gardd yr Arglwydd yn Mlaenafon y pryd hwn."[42]

Arferai Mr. Davies hefyd, tra y bu yn gwasanaethu yr eglwys hon, bregethu bob nos Sadwrn cyn y cymundeb yn y Pwlldu, pentref bychan ar lechwedd y mynydd rhwng Blaenafon ac Abergavenny. Yn nhy David Thomas yr arferai bregethu. Bu ei weinidogaeth yno yn foddion i ennill James Davies a'i wraig at yr achos, y rhai fuont yn ffyddlon a defnyddiol iawn hyd derfyn eu hoes. Bu yr aelodau yn y lle hwnw yn cynal eu cyfeillach grefyddol yn nhy y ffyddloniaid hyn am ddeugain mlynedd. Bu y gwr farw yn 1864 a'r wraig yn 1867.

Yr oedd y rhag-grybwylledig David Thomas yn nai i'r nodedig Siencyn Penhydd. Mae ein cyfaill, Mr. J. E. Williams, yn rhoddi yr hanes canlynol am dano: "Tybiaf iddo fod yn aelod gyda'r Methodistiaid pan yn ieuangc, ond bu yn fachgen drwg wedi hyny. Tua chanol ei ddydd ymwelodd yr Arglwydd ag ef trwy weinidogaeth Mr. E. Jones, Pontypool, ac ymunodd ag eglwys Ebenezer, ond nid arosodd yno yn hir cyn symud i Lanelli, Brycheiniog, ac oddiyno i'r Pwlldu, lle y gorphenodd ei yrfa mewn llawn hyder ffydd, yn 1833. Yr oedd y pryd hwnw yn aelod yn Blaenafon, ac yn henuriad yn yr eglwys. Y dyn mwyaf ei ddawn a'i gymhwysder yn yr ysgol Sul a welais erioed ydoedd. Yr oedd ei sêl, ei ymroddiad, a'i serchawgrwydd yn sicrhau iddo ddylanwad ar ddeiliaid yr ysgol yn fwy na neb a adnabum erioed. Byddai bywgraffiad o'r dyn hynod hwn yn drysor i'r ysgol Sul, pe gwnai rhyw un o fedr a deheurwydd ei gymeryd mewn llaw."

Gan fod pobl y New Inn yn anfoddlon gollwng Mr. Davies mor aml i Flaenafon, a bod y bobl yma am ei gael ddau Sul o'r mis, a chan nad oedd nemawr o bregethwr cynnorthwyol yn agos i'r New Inn na Blaenafon i lenwi lle Mr. Davies yn ei absenoldeb, barnwyd y buasai yn well i eglwys Blaenafon edrych am weinidog iddi ei hun. Rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Hughes, o athrofa y Neuaddlwyd, yr hwn tua yr un amser a dderbyniasai alwad oddiwrth yr eglwys yn y Maendy, Bro Morganwg, ac er mawr siomedigaeth i bobl Blaenafon, y Maendy a ddewisodd.

Wedi hyn edrychwyd allan am un arall, ac ar gymeradwyaeth Mr. T. G. Jones, y pryd hwnw o Bethania, Dowlais, rhoddwyd galwad i Mr. W. Phillips, yr hwn a fuasai am tua blwyddyn neu ddwy ar brawf yn Ruthin. Gwyddid nad oedd wedi cael ei urddo yno, er cyhyd y buasai yn pregethu ar brawf, ond gan faint eu hawydd am gael gweinidog, rhoddasant alwad iddo yn unig ar gymeradwyaeth Mr. Jones, heb holi dim o berthynas i'w gymmeriad. Dichon pe buasent yn ymgynghori ag eglwys Ruthin y buasent yn cymeryd mwy o bwyll cyn ei urddo. Pa fodd bynag, urddwyd ef Gorphenaf 13eg a'r 14eg, 1826. Cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn ngwasanaeth yr urddiad: D. Griffiths, Castellnedd; D. Jones, Llanharan; G. Hughes, Groeswen; T. Powell, Aberhonddu; D. Lewis, Aber; D. Jenkins, Brychgoed; E. Jones, Pontypool; M. Jones, Merthyr; T. Rees, Llanfaple, &c.

Yr oedd Mr. Phillips yn bregethwr galluog, ac yn feddianol ar lawer o gymwysderau at waith y weinidogaeth, ond ei fod yn amddifad o'r prif gymwysder, sef cymmeriad teilwng o'r efengyl. Bu ychwanegiad mawr at yr eglwys am ychydig fisoedd wedi urddiad Mr. Phillips, yn benaf trwy i adfywiad y gweithiau dynu llawer o aelodau eglwysig o ardaloedd eraill i'r gymydogaeth i fyw; ond lleihawyd eu rhif yn fuan trwy i 35 o'r aelodau a breswylient yn ardal y Varteg fyned i ddechreu yr achos yn Sardis. Yr oedd hyny yn golled fawr i'r achos yn Mlaenafon, ond y peth a wasgodd waethaf arno oedd y si annymunol a ymdaenodd trwy yr ardal o berthynas i gymmeriad y gweinidog. Daeth y peth yn fuan yn fater eglwysig, a galwyd gweinidogion cymydogaethol yno i ystyried yr achos. Y gweinidogion a ddaethant yno oeddynt Mr. Jones, Pontypool; Mr. Skeel, Abergavenny; Mr. Rees, Llanfaple; a Mr. Davies, Aberteifi. Aelod o Aberteifi oedd Mr. Phillips. Cynghorodd y gweinidogion yr eglwys i'w adael i bregethu ei bregeth ymadawol y Sul canlynol, a'i ollwng ymaith heb ddwyn un cyhuddiad yn ei erbyn. Cydsyniwyd a hyny; ond yr wythnos ganlynol cafodd ef blaid o'r eglwys i fyned allan gydag ef, a dechreuodd bregethu iddynt o dy i dy. Yn ngwyneb hyny, penderfynwyd galw gweinidogion drachefn i ail ystyried yr achos. Pan glywodd Mr. Phillips enciliodd at y Bedyddwyr; ac ni pherthyn i ni gofnodi ychwaneg o'i hanes. Bu yr amgylchiad yn wanychiad mawr i'r achos. Ymadawodd rhai teuluoedd a'r capel, ac ni ddychwelasant mwyach. Aeth eraill i dir gwrthgiliad. Un o'r swyddogion yn unig a drodd gyda phleidwyr Mr. Phillips. Dychwelodd hwnw i'w le yn mhen amser.

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ymadawiad Mr. Phillips, rhoddwyd galwad i ddyn gwir dda a duwiol, sef Mr. Morgan Morgans, aelod o eglwys Llanharan; yr hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr gyda Mr. Davies, Penywaun. Urddwyd Mr. Morgans Chwefror 6ed a'r 7fed, 1828. Gweinyddwyd yn y gwahanol gyfarfodydd yn y drefn ganlynol: Am 3, y dydd cyntaf, gweddiodd Mr. D. Davies, Penywaun; a phregethodd Mr. H. Morgans, Samah, oddiwrth Math. v. 3; a Mr. E. Jones, Neuaddlwyd, oddiwrth Rhuf. v. 8. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. W. Watkin, Pontypool; a phregethodd Mr. D. Stephenson, Nantyglo, oddiwrth Ioan xvi. 20; Mr. H. Jones, Tredegar, yn Saesonaeg, oddiwrth Luc xvi. 2; a Mr. J. Rowlands, Cwmllynfell, oddiwrth Luc i. 32. Am 7, yr ail ddydd, gweddiodd Mr. T. Williams, Cwmaman; a phregethodd Mr. E. Williams, Caerphili, oddiwrth Job i. 1; a Mr. E. Griffiths, Browyr, oddiwrth Salm cxxxix. 23, 24. Am 10, gweddiodd Mr. T. Evans, Aberhonddu; pregethodd Mr, D. Lewis, Aber, ar natur eglwys, oddiwrth Actau ii. 47; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Davies, Penywaun; gweddiwyd yr urddweddi, gydag arddodiad dwylaw, gan Mr. D. Stephenson; pregethwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth 1 Tim. iv. 14; ac i'r eglwys gan Mr. J. Rowlands, Cwmllynfell, oddiwrth Heb. xii. 22. Am 3, dechreuwyd gan Mr. Josuah Thomas, Penmain; a phregethodd Mr. D. Griffiths, Castellnedd, oddiwrth Actau xiv. 22; a Mr. J. Jones, Main, oddiwrth 2 Cor. iv. 18. Am 7, gweddiodd Mr. Thomas Thomas, Caerlleon-ar-wysg; a phregethodd Mr. D. E. Owens, Cendl, oddiwrth Ioan iii. 3; Mr. J. Hughes, Maendy, oddiwrth Salm viii. 4; a Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Ioan xvii. 1.

Cymharol fechan oedd yr eglwys y pryd hwn, ond ychwanegwyd llawer ati yn fuan, ac yn eu mysg amryw a droisant allan yn ddynion gwir ddefnyddiol. Y mae tri o honynt yn bresenol yn ddiaconiaid yn yr eglwys, sef David Jones, Isaac Evans, a James Cook, a bu yr olaf o'r tri yn flaenor y canu yn y gynnulleidfa am fwy nag ugain mlynedd. Bu Mr. Morgans yn barchus a defnyddiol iawn yma am yn agos naw mlynedd, ond yn Awst 1836, er mawr alar i'r eglwys a'r holl gymydogaeth, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bethesda-y-fro, Morganwg, a symudodd yno. Bu yma lawer o gyfnewidiadau pwysig yn nhymor ei weinidogaeth ef, yn neillduol trwy ymfudiaeth i America ac Awstralia. Rhoddodd ar unwaith lythyrau i bedwar-ar-ddeg o ieuengetyd yr eglwys i fyned i Awstralia, ac y mae perthynasau y rhai hyny yn myned ar eu hol o flwyddyn i flwyddyn. Mae y gweinidog presenol hefyd wedi gollwng llawer o ugeiniau trwy lythyrau i America, a gwledydd eraill. Cafodd amryw o'r aelodau eu symud trwy farwolaeth yn amser Mr. Morgans, ac yn eu plith un gwr ieuangc gobeithiol iawn, sef Thomas, mab Thomas Williams. Yr oedd wedi cael cymhelliad i ddechreu pregethu, ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, fel y bu raid iddo roddi heibio y meddwl am bregethu. Bu farw Awst 4ydd, 1829, a chladdwyd ef yn medd ei fam yn Ebenezer, Pontypool. Gweinyddodd Mr. Morgans yn ei gladdedigaeth.

Cyn pen dwy flynedd wedi ymadawiad Mr. Morgans, rhoddwyd galwad i Mr Thomas Griffiths, aelod o eglwys Zoar, Merthyr. Yr oedd Mr. Griffiths y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Mhenywaun. Urddwyd ef Mehefin 5ed a'r 6ed, 1888, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth: D. Davies, Penywaun; D. Stephenson, Nantyglo; H. Jones, Tredegar; E. Rowlands, Pontypool; J. T. Jones, Merthyr; T. Rees, Craigyfargod; M. Jones, Varteg; J. Davies, Abersychan, &c. Mae Mr. Griffiths wedi gwasanaethu yr eglwys hon bellach am ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac er fod ei iechyd yn lled wanaidd er's blynyddau, y mae ei barch a'i ddefnyddioldeb yn parhau yn ddileihad.

"Yn nechreu 1840, gan fod yr hen gapel mewn lle anghyfleus, penderfynwyd cael capel newydd. Cafwyd darn helaeth o dir mewn man cyfleus iawn. Pris y tir yw 463p. 10s. Gan nad oedd arian yn gyfleus i dalu am dano, cytunwyd i dalu llôg yn ol 5p. y cant i'w berchenog, hyd nes y telid y corff. Mae y capel newydd yn mhlwyf Llanover. Ei enw yw Bethlehem, yr un fath ar hen dy. Adeiladwyd y capel cyn cael y gweithredoedd. Eu hamseriad yw Rhagfyr 24ain, 1841. Enwau yr ymddiriedolwyr ydynt, Thomas Griffiths, John James, James Cook, John Williams, William Davies, John Meredith, David Jones, Thomas Richards, Thomas Prossor, Edward Williams, James Davies, David Edwards, Llewellyn Evans, Isaac Evans, a John Prytheroe.

Agorwyd y capel newydd Tachwedd 21ain, 1840. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistriaid Ll. Powell, Hanover; W. Watkins, Rymni; M. Jones, Varteg; E. Rowlands, Pontypool; M. Ellis, Mynyddislwyn; H. Jones, Tredegar, a H. J. Bunn, Abergavenny. Costiodd y capel rhwng wyth a naw cant o bunnau. Bwriedid talu am y tir mor gynted ag y telid am y capel; ond erbyn gorphen talu am y capel, cafwyd fod yn rhaid adgyweirio llawer arno. Costiodd hyny rhwng pedwar a phum cant o bunnau, ac felly y mae yr arian am y tir, a thros ddau cant o'r ddyled ar y capel heb eu talu etto.

Yn y flwyddyn yr adeiladwyd y capel newydd, ac ychydig cyn ei agoriad, y derbyniwyd y brodyr anwyl E. Williams, Dinasmaddwy, a'r diweddar D. Milton Davies, Llanfyllin. Y mae yr Arglwydd wedi bod yn dda wrth yr eglwys yn y capel newydd, fel yn yr hen. Bu cyfnod dilewyrch iawn arni o'r flwyddyn 1851 hyd 1855. Ni dderbyniwyd nemawr yn y blynyddoedd hyny. Gyda'r eithriad hyn, nid oes un flwyddyn wedi myned heibio heb fod rhyw rai yn gofyn y ffordd tua Sion. Bu yma gynhyrfiadau bychain droion. Yn 1841, derbyniwyd 35; yn 1843, derbyniwyd 20; yn 1846, derbyniwyd 13; yn 1848, derbyniwyd dros 80; ac yn 1859, derbyniwyd 25. Edrychid ar hyn yn llawer mewn cynnulleidfa fechan; canys bychain yw y cynnulleidfaoedd Cymreig yn y lle hwn. Y mae yr eglwys a ffurfiwyd yn yr hen Bethlehem, yn awr wedi byw haner can' mlynedd. Mae wedi myned dan gyfnewidiadau mawrion. Y mae pawb a wnelent yr eglwys i fyny y pryd hwn, ond un hen chwaer, wedi myned i ffordd yr holl ddaear; ac y mae pob un o'r rhai a arwyddent alwad y gweinidog presenol, ond naw, wedi teithio yr un llwybr, neu wedi symud o'r ardal; ond y mae yr eglwys yn fyw, a phob arwyddion y bydd hi fyw am lawer o flynyddoedd etto. Mae dynion o wybodaeth ysgrythyrol helaeth, duwioldeb uchel, ffyddlondeb, ac haelioni mawr wedi bod yn perthyn i'r eglwys hon, a da genym allu dyweyd nad yw y pethau da hyn wedi eu llwyr golli o honi yn 1870."[43]

Yn 1863, ar gais Mr. Griffiths a'r eglwys, aeth amryw o'r aelodau, a ddeallent yr iaith Saesonaeg, allan i gychwyn achos Saesonaeg yn yr ardal. Daw yr achos ieuangc hwn dan ein sylw etto.

Yr ydym wedi arfer ymweled a Blaenafon er's yn agos ddeugain mlynedd bellach. Gwelsom gynnulleidfaoedd lluosocach mewn llawer man, ond ni welsom mewn un lle yn Nghymru na Lloegr eglwys fwy gwresog, siriol, a gwir garedig. Adwaenem yn dda y rhan fwyaf o'r personau teilwng y coffheir eu henwau yn y tudalenau blaenorol, ac y mae yn hyfrydwch genym gael cyfleusdra i drosglwyddo eu coffadwriaeth i'r oesau dyfodol. Pa beth bynag a ddygwyddo i'r eglwys yn Bethlehem, Blaenafon, na fydded iddi byth golli ysbryd gwresog, ffyddlon, a duwiolfrydig Edward a Thomas Williams, a'u cydoeswyr. Mae y tân santaidd ar allor yr eglwys hon wedi cael ei gadw heb lwyr ddiffoddi trwy y blynyddau. Cyneued etto yn danbeidiach nag erioed.

CARMEL, CENDL.

Mae y gymydogaeth, yn yr hon y saif y capel hwn, yn mlaen Dyffryn Ebbwy Fawr, ar gydiad siroedd Mynwy a Brycheiniog. Cyferfydd pedwar o blwyfydd yma, sef Llangattwg a Llangynidr, yn Brycheiniog, a Bedwellty, ac Aberystruth, yn Mynwy. Cyn cychwyniad y gweithiau haiarn tua y flwyddyn 1779, nid oedd yma ond ychydig o amaethdai bychain yma a thraw ar lechweddi y mynyddau, ond yn raddol tynodd y gweithiau lawer o ddieithriaid i'r lle, fel y mae y trigolion, er's blynyddau lawer bellach, yn rhifo tua chwe' mil. Un Mr. Kendle neu Kendal oedd cychwynydd y gwaith haiarn, ac yn raddol aed i alw yr ardal wrth enw perchenog y gwaith-Kendle, neu Cendl, y myn y Cymry alw y lle, er mai Beaufort yw yr enw priodol, oblegid Beaufort Iron Works yw enw y gweithiau o'r dechreuad, a galwyd hwy felly am eu bod wedi eu gosod i fyny ar dir y Duke o Beaufort. Rhydyblew, y gelwid y gymydogaeth gan yr hen drigolion, oddiwrth dafarndy o'r enw hwnw, yr hwn a saif ar fin nant ac ar ymyl y ffordd o Ferthyr i Abergavenny.

Yr oedd yr Ymneillduwyr wedi arfer pregethu yn yr ardal hon er's oesau lawer, ac ychydig o aelodau perthynol i Benmain, a chapel y Bedyddwyr yn y Blaenau, yn cyfaneddu yma er's o leiaf gant a haner o flynyddau. Yr oedd dau neu dri o'r hen bobl a breswylient yma yn myned i gymuno i Benmain hyd yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Byddai Mr. Phillip Dafydd yn dyfod i bregethu yn achlysurol i dy Walter Williams, Carnifor, a chlywsom y diweddar William Williams, Carnifor, yn dyweyd ei fod ef, pan yn blentyn, yn cofio hen wraig yn byw yn y Rasau, yr hon a arferai fyned tua Phenmain i'r cymundeb yn rheolaidd. Godreuai y gwartheg yn foreuach nag arfer ar foreu y Sabboth cymundeb, a cherddai yr holl ffordd i Benmain-tua naw milldir-erbyn dechreu yr oedfa.

Mae yn ymddangos nad oedd ond tri o aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn preswylio yn yr ardal hon yn nechreu y ganrif bresenol, un o ba rai oedd Mrs. Mary Miles, yr hon oedd yn aelod yn Ebenezer, Pontypool, yn hir cyn marw yr hyglod Edmund Jones. Yr oedd hi yn cadw tafarndy Rhydyblew, a bu wedi hyny yn cadw y George Inn. Yr oedd ei thy, ei heiddo, a'i chalon hi yn wastad at wasanaeth yr achos goreu. Bu farw y wraig dda a rhagorol hon, Awst 12fed, 1829, yn 84, a chladdwyd hi yn mynwent Llanhiddel. Dywedodd ei merch, y diweddar Mrs. Needham, wrthym lawer gwaith, fod yr "hen Brophwyd" yn arfer dyfod i dy ei thad a'i mam, pan oeddynt yn byw yn Llanhiddel, ac yn gosod ei ddwylaw ir ei phen hi, a'r lleill o'r plant. Yr oedd Mrs. Miles wedi yfed yn heleth o ysbryd selog a duwiolfrydig ei hen weinidog rhagorol. Bu yn famaeth dyner i'r achos ieuangc yn Cendl, a glynodd yn ffyddlon gydag ef hyd derfyn ei hoes. Nid oes neb o'i hiliogaeth, hyd y gwyddom ni, yn awr yn perthyn i'r Annibynwyr, ond y mae amryw o honynt yn grefyddol gydag enwadau eraill. Bu pregethu lled fynych yn nhy Mrs. Miles rai blynyddau cyn dechreu yr achos sydd yn bresenol yn Carmel. Byddai Mr. Davies, Llangattwg; Mr. Thomas, Penmain; Mr. Lewis, Zoar, Merthyr; Mr. Jones, Pontypool; Mr. Hughes, Groeswen; ac eraill yn ymweled yn achlysurol a'r ardal.

Yr ydym, er pob ymchwiliad, wedi methu cael allan pa flwyddyn y dechreuwyd cadw gwasanaeth rheolaidd yma, ond yr ydym yn tybied mai tua y flwyddyn 1808. Buwyd yn cyfarfod mewn ychwaneg nag un o fanau i addoli, ond y lle y buwyd hwyaf ynddo, ac o'r hwn y symudodd y gynnulleidfa i'r capel newydd, oedd rhan o'r ty a elwir yn awr y Refiner's Arms. Yr oedd ystafell lled eang o'r ty hwn wedi cael ei threfnu at gynal gwasanaeth crefyddol, a thelid pum' swllt yn y mis am dani. Mr. Davies, Llangattwg, oedd yn cael ei ystyried yn weinidog, ond byddai gweinidogion a phregethwyr eraill yn ymweled yn lled fynych a'r lle. Gwan iawn oedd yr achos ar y cychwyniad cyntaf. Yr oedd talu y pum' swllt yn y mis am yr ystafell, ac estyn ambell i swllt i'r pregethwyr a'u gwasanaethai, yn llawn ddigon o waith i'r ychydig aelodau. Dywedwyd wrthym fod un o'r diaconiaid un Sabboth yn apelio at y gwrandawyr, a dagrau yn treiglo dros ei ruddiau, i ddeisyf arnynt eu cynnorthwyo i ddwyn y draul. Effeithiodd yr apeliad ar un gwrandawr fel y penderfynodd roddi haner coron yn y mis yn y casgliad o hyny allan, ac ni fu yn hir cyn rhoddi ei hunan i'r achos. Yr oedd yma un dyn ya aelod y pryd hwnw, yr hwn y mae ei hanes yn rhybudd arswydus i bob proffeswr. Wedi ymuno a'r achos trodd allan yn ddyn nodedig o ddoniol, llafurus, a defnyddiol. Cymaint oedd ei sel, ei hunanymwadiad, a'i ymdrech, fel y dywedir y byddai yn aml yn myned i'w waith a chrystyn o fara heb enllyn, er mwyn i'r wraig fod a thipyn o gaws ac ymenyn i'w osod o flaen y pregethwyr a ddeuent yno. Bu am rai blynyddau yn ddyn blaenllaw ac enwog iawn gyda'r achos; ond wedi hyny trodd yn ddiotwr, ac yn raddol aeth yn feddwyn anniwygiadwy. Wedi ei ddiarddel, aeth yn un o brif feddwon уг ardal. Elai a'i Feiblau a llyfrau crefyddol eraill, a gasglesid ganddo pan yn byw yn sobr, i'r tafarndai i'w gwerthu am gwrw!! Bu farw un nos Sadwrn yn ei feddwdod yn agos i ffwrneisi Sirhowy, a chludid ei gorph ar ystyllen i'w gartref ar fore y Sul heibio i gapel Carmel, pan oedd y bobl yn myned i'r oedfa. Dywedai un o'r hen aelodau wrthym flynyddau yn ol, na fu dim erioed yn nes i siglo ei gred ef yn yr athrawiaeth o barhad mewn gras, na hanes y dyn nodedig a thruenus hwn.

Wedi i'r achos ennill ychydig o nerth ac i'r aelodau luosogi, aed i edrych allan am dir i adeiladu capel. Darn o dir agored, ar lan y nant sydd yn rhedeg trwy y Rasau, ac heb fod yn mhell oddiwrth ei hymarllwysiad i'r Ebbwy, yw y fan y saif y capel arno. Mae rhai yn awr yn cofio fod y darn tir hwnw yn arfer cael ei ddefnyddio, ar y pasg a'r Sulgwyn yn neillduol, gan annuwiolion y gymydogaeth at ymladd ceiliogod a champau drygionus eraill. Yn 1820, y dechreuwyd adeiladu y capel, ac agorwyd ef yn Hydref 1821. Mae yn sefyll o fewn sir Frycheiniog, yn mhlwyf Llangynidr, ond o fewn ychydig latheni i sir Fynwy. Cawn yr hanes canlynol am yr agoriad yn Seren Gomer am Ionawr 1822:-"Hydref 17eg a'r 18ed, 1821, agorwyd Ty Addoliad, a elwir Carmel, yn agos i Rydyblew, Brycheiniog, perthynol i'r Anymddibynwyr, dan ofal Mr. Davies, Llangattwg, Crughywell. Dechreuwyd yr addoliad y dydd cyntaf am 3 o'r gloch, trwy ddarllen, mawl, a gweddi, gan Mr. T. Rees, o Ferthyr; pregethodd Mr. B. Moses, New Inn, oddiwrth Ioan xvii. 1., a Mr. J. Jones, Talgarth, oddiwith Iago ii. 5. Am 7, dechreuwyd trwy faw! a gweddi gan D. Evans, Nantyglo; pregethodd Mr. T. Powell, Aberhonddu, yn Saesonaeg, oddiwith Jonah ii. 2, y rhan olaf; a Mr. D. Davies, Penywaun, oddiwrth Mat. xvi. 18., a dybenwyd trwy weddi. Bore dydd Iau am 10, gweddiodd Mr. M. Jones, Merthyr; pregethodd Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Gal. v. 1; a Mr. D. Davies, Penywaun, yn Saesonaeg, oddiwrth 1. Cron. xxix. 5.; a Mr. S. Evans, Zoar, Merthyr, oddiwrth Heb. ii. 16, a dybenwyd trwy fawl a gweddi. Am 3, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi, gan Mr. J. Nicholas, Tredegar; pregethodd Mr. M. Jones, Merthyr, oddiwrth Mat. vii. 24-27. Bu genym gyfarfod am 7: dechreuwyd trwy fawl a gweddi gan Mr. D. Jones; pregethodd Mr. Moses, New Inn, oddiwrth Rhuf. iv. 6, 7, 8; a Mr. Davies, gweinidog y lle, oddiwrth Rhuf. xv. 33, a dybenodd trwy fawl a gweddi. Y draul o adeiladu y ty, mae yn debyg, sydd oddeutu 140p. ac y mae 90p. wedi eu casglu yn y gymydogaeth."

Er nad oedd y Carmel cyntaf ond addoldy lled fychan, yr oedd lawer yn helaethach a mwy cyfleus na'r ystafell fechan lle y cynelid y moddion cyn hyny. Wedi cael addoldy, cryfhaodd yr achos a lluosogodd y gwrandawyr yn fawr. Yr oedd yma bregethu cyson bellach fore a hwyr bob Sabboth. Er nad oedd Mr. Davies, Llangattwg, yn gallu ymweled a'r lle ond anfynych, etto, trwy fod Mr. Daniel Jones, o ardal Llanwrtyd, yr hwn oedd yn bregethwr derbyniol a llafurus iawn, wedi dyfod yma i fyw, ac i Mr. Thomas Rees, wedi hyny o Gasgwent, ddyfod yma i gadw ysgol, nid oedd yr eglwys ieuangc yn amddifad iawn o ddoniau gweinidogaethol. Yr oedd yma hefyd amryw wyr rhagorol a galluog fel diaconiaid, megys Edward Reynallt, John Phillips, Isaac Evans, &c. Erbyn y flwyddyn 1824, yr oedd rhif yr aelodau wedi cynyddu i 43.

Yn y flwyddyn hono rhoddasant alwad i Mr. Daniel E. Owen, gwr ieuangc rhyfeddol o enwog fel pregethwr, a myfyriwr y pryd hwnw yn athrofa y Neuaddlwyd. Urddwyd ef yma Medi laf a'r 2il, 1824. Am 3, y dydd cyntaf, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. T. Rees, Llanfaple; a phregethodd y Meistriaid G. Griffiths, Tynygwndwn, ac S. Griffiths, Horeb, oddiwrth 2 Tim. iii. 15, ac 2 Cor. x. 4, 5. Am 6, dechreuwyd gan Mr. T. Williams, myfyriwr yn y Neuaddlwyd; a phregethodd y Meistriaid W. Jones, Rhydybont, a G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 2 Cor. ii. 15, a Zech. iii. 12. Am 10, yr ail ddydd, dechreuwyd yr addoliad gan Mr. S. Griffiths, Horeb; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Col. iv. 15; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. S. Evans, Zoar, Merthyr; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr; rhoddwyd cynghorion i'r gweinidog ieuangc gan ei ewythr, Mr. T. Griffiths, Hawen, oddiwrth Dan. vi. 20; ac i'r eglwys gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 2 Thes. iii. 1. Ám 3, dechreuwyd yr addoliad gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed; a phregethodd y Meistriaid D. Davies, New Inn, ac S. Evans, Zoar, oddiwrth Ioan iii. 16, a Salm exviii. 24. Dybenwyd trwy weddi gan Mr. J. Jones, Talgarth. Cyffrodd gweinidogaeth y gwr ieuangc digyffelyb hwn sylw yr holl ardal, fel cyn pen tair blynedd yr oedd yr aelodau wedi cynyddu i chwech ugain o rif, a'r capel wedi myned lawer iawn yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa. Yr oedd heddwch, cariad, a gweithgarwch crefyddol hefyd yn blaguro yn ardderchog yn yr eglwys. Ar ganol y tymor hafaidd hwn ar yr eglwys, aeth yn auaf du, maith, a blin, trwy i'r gweinidog ieuangc, llafurus, a llwyddianus gael ei gymeryd yn glaf o glefyd nychlyd ac angeuol, yr hwn a'i gwnaeth yn hollol ddiddefnydd am y gweddill o'i oes.

Bu yr eglwys am yn agos i dair blynedd yn disgwyl i weled a oedd gobaith am adferiad iddo, ac wedi cael ar ddeall fod ei glefyd yn hollol anfeddyginiaethol, tua diwedd y flwyddyn 1829, rhoddasant alwad i Mr. John Ridge, y pryd hwnw o'r Bala. Yr oeddid wedi dechreu ail adeiladu y capel yn 1828, ac yr oedd y ty newydd, yr hwn oedd yn fwy na chymaint arall a'r cyntaf, yn barod erbyn i Mr. Ridge ddyfod yma. Yr oedd y flwyddyn 1829 hefyd yn un o "flynyddoedd deheulaw y Goruchaf " i eglwysi Cymru. Nid oedd braidd un ran o'r wlad heb deimlo nerth y diwygiad crefyddol digyffelyb, a pha un y bendithiwyd y Dywysogaeth y flwyddyn hono, yr un flaenorol, a'r un ganlynol. Cafodd eglwys Carmel, yn mysg eraill, ei rhan o'r gwlaw graslawn. Felly fe gafodd Mr. Ridge y fraint o ddechreu ei weinidogaeth yma mewn capel newydd, yr helaethaf yn yr holl gwmpasoedd y pryd hwnw, ac ar adeg o ddiwygiad grymus, pan yr oedd dynion o bob oed yn dylifo wrth yr ugeiniau i'r eglwys. Yn fuan wedi iddo ef ymsefydlu yma yr oedd yr aelodau wedi lluosogi i amryw ganoedd. Yn yr wythfed flwyddyn o dymor gweinidogaeth Mr. Ridge, adeiladwyd Saron, Penycae, a gollyngwyd rhai ugeiniau o'r aelodau o Garmel i ddechreu yr achos yno. Er i lawer iawn o'r aelodau a'r gwrandawyr ymadael y pryd hwn, llanwyd eu lle yn fuan gan eraill, fel na chanfyddid nemawr o leihad yn y gynnulleidfa. Bu rhai adegau lled lewyrchus ar yr achos yma drachefn cyn terfyniad tymor gweinidogaeth Mr. Ridge, ond collwyd trwy farwolaeth rai o brif golofnau yr achos, megys Edward Reynallt; John Phillips; Isaac Evans; a John Maliphant. Yn nechreu y flwyddyn 1848, rhoddodd Mr. Ridge ei swydd fel gweinidog i fyny, a symudodd o'r ardal. Bu wedi hyny dros dymorau byrion yn gweinidogaethu yn Melinycwrt, Caerodor, a Maesaleg. Y mae er's blynyddau bellach yn cyfaneddu yn y Casnewydd, ac yn pregethu yn achlysurol, ond yn dechreu teimlo pwys henaint yn gwasgu arno, ac nid rhyfedd, oblegid y mae bellach dros haner can' mlynedd er y pryd yr urddwyd ef yn Mhenygroes, Maldwyn.

Bu yr eglwys heb un gweinidog am flwyddyn ar ol ymadawiad Mr. Ridge. Yn mis Mawrth 1849, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Rees, y pryd hwnw o Siloa, Llanelli, sir Gaerfyrddin, ac yn nechreu Mehefin symudodd yma. Yn mhen tua dau fis wedi ei ddyfodiad, torodd y geri marwol allan yn arswydus trwy yr holl ardaloedd, ac ar yr un amser dechreuodd diwygiad crefyddol grymus iawn. Er yr awgrymid gan rai mai arswyd y cholera oedd yn peri i'r lluaws ymwthio wrth y canoedd i'r eglwysi, nis gall neb, cymhwys i farnu, lai na phenderfynu fod "llaw rasol yr Arglwydd," yn gystal a'i law farnol, yn gweithio. O ddechreu Awst 1849, hyd ddiwedd Hydref yr un flwyddyn, daeth 396 i'r gyfeillach yn Carmel. Bu farw amryw o honynt cyn cael eu derbyn, darfu i ychydig hefyd droi yn ol at eu hen arferion pechadurus, ond cafodd dros dri chant o honynt eu derbyn i gyflawn aelodaeth. Derbyniwyd 210 yr un Sabboth, sef Hydref 28ain, 1849. Y mae llawer o'r cyfryw yn dal eu ffordd yn deilwng hyd y dydd hwn, tra y mae genym bob sail i gredu fod degau o honynt wedi "marw yn yr Arglwydd," yn ystod yr un mlynedd ar hugain diweddaf. Wedi y rhuthr rhyfeddol yma, bu yr eglwys am ychydig amser yn rhifo tua 520 o aelodau. Dichon na fu un tymor yn ei hanes pryd yr oedd mor lluosog ag yr oedd yn nechreu y flwyddyn 1850. Lleihaodd y rhif i raddau yn y blynyddau dyfodol trwy farwolaethau, symudiadau, &c. Yr ydym yn cofio rhoddi llythyrau ar yr un nos Sabboth i ddeunaw o'r aelodau ar eu hymfudiad i'r America.

Gan fod cryn nifer o aelodau Carmel yn byw yn nghymydogaeth Pontygof, teimlent awydd am gael lle cyfleus yn yr ardal hono i gadw ysgol Sabbothol. Ar ol ystyried y mater penderfynodd yr eglwys adeiladu ysgoldy helaeth, llawn digon i gynwys o bedwar i bum' cant o bobl, yn y flwyddyn 1852. Yn mhen ychydig amser aed i alw am bregethu yno, ac arweiniodd hyny yn raddol i gorpholiad eglwys Annibynol yn y lle. Daw yr achos hwn dan sylw etto.

Yn nechreu y flwyddyn 1850, cymerodd Mr. T. Rees ystafell eang y tu cefn i'r Refiner's Arms, at bregethu a chynal ysgol Sabbothol i'r Saeson, yr hyn a arweiniodd i adeiladaeth y capel Saesonaeg a'r ysgol Frytanaidd. Daw yr achos Saesonaeg dan sylw yn nes yn mlaen; ond gellir crybwyll yma am yr ysgoldy a adeiladwyd y tu cefn i'r capel Saesonaeg.

Gan fod yma boblogaeth o agos i chwe' mil, ac oll, oddieithr tri neu bedwar o deuluoedd, o'r dosbarth gweithiol, teimlid fod yma angen dirfawr am ysgol ddyddiol. Ffurfiwyd pwyllgorau ar ol pwyllgorau, o'r gwahanol enwadau, er cynllunio pa fodd i gael ysgol ddyddiol. Cydunai pawb fod gwir angen am dani, ond pan elid i ofyn pa swm a gyfranai pob enwad ati ni ellid cael un ateb boddhaol, ac felly buwyd am flynyddau yn ymgynghori, ond heb wneyd dim. O'r diwedd, wrth gasglu at adeiladu capel Saesonaeg, penderfynodd ysgrifenydd yr hanes yma y mynasai gael ysgoldy yn ymyl y capel. Apeliodd at gyfeillion crefydd ac addysg, yn mhell ac agos, am eu cymorth, a llwyddodd i gael cymaint ag oedd yn eisiau at yr adeilad. Yr oedd yr ysgoldy, yn annibynol ar y capel, yn costio rhwng 500p. a 600p. Roddodd eglwys Carmel 100p, o'r swm hwn, heblaw cyfraniadau personol amryw o'r aelodau. Gorphenwyd yr adeilad yn 1857, ac agorwyd ynddo ysgol Frytanaidd. Y gyntaf, a'r unig ysgol gyhoeddus ac effeithiol, yn y gymydogaeth. Mae yr ysgoldy yn un o'r rhai mwyaf cyfleus yn y wlad, ac er mai arian yr Annibynwyr, gan mwyaf oll, a'i hadeiladodd, y mae darbodaeth yn y weithred ei fod yn ysgoldy rhydd, heb fod dim yn enwadol i berthyn iddo, ond yn unig ei fod ar y Sabboth i fod at wasanaeth ysgol Sabbothol yr Annibynwyr Saesonaeg. Tua diwedd y flwyddyn 1861, ar alwad oddiwrth yr eglwys yn Ebenezer, Abertawy, ac ar gymhellion taer amryw gyfeillion y rhoddai bwys ar eu barn, gwnaeth Mr. T. Rees ei feddwl i fyny i ymadael a'i eglwys garedig, a'i gyfeillion hoffus yn Cendl, a symud i Abertawy. Yr ystyriaeth nad oedd ganddo ddim yn ychwaneg i'w wneuthur at helaethu terfynau yr achos yn Cendl, a bod yn Abertawy faes helaeth iddo i arfer cymaint o ddylanwad ag a feddai er mantais i'r achos, a'i harweiniodd i wneyd ei feddwl i fyny i symud. Symudodd ar y dydd diweddaf o Ebrill 1862.

Bu yr eglwys yn Carmel am agos ddwy flynedd heb weinidog ar ol hyn. Yn niwedd y flwyddyn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Hughes, o'r Trallwm, Maldwyn, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma ar yr ail Sul o'r flwyddyn 1864. Ganwyd Mr. Hughes yn mhlwyf Llanfihangel, Maldwyn, ac ymunodd ag eglwys Dduw pan yn saith oed; dechreuodd bregethu yn bedwar-ar-ddeg oed; bu yn derbyn addysg yn athrofa y Bala ac Aberhonddu; urddwyd ef yn Trallwm Ionawr 5ed, 1851, ac yno y bu nes iddo symud i Gendl.

Gan fod capel Carmel, yr hwn a adeiladwyd yn 1828-9, wedi dadfeilio yn fawr, barnwyd yn briodol ei ail adeiladu. Ar y 15fed o Awst, 1864, gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel newydd gan Mrs. Joseph Needham, merch Mr. Thomas Evans, Llanwrthwl, yr hon, yn nghyd a'i thad, sydd er's amser bellach wedi cael eu casglu at eu tadau. Mr. Thomas, Glandwr, oedd cynllunydd yr adeilad, a Mr. Stephen Davies, un o'r diaconiaid, oedd yr adeiladydd. Maint y ty yw 62 troedfedd wrth 40 troedfedd a naw modfedd y tu fewn i'r muriau, ac y mae yn cynwys 750 o eisteddleoedd. Mae o wneuthuriad cadarn, ac yn un o'r addoldai mwyaf prydferth a chyfleus yn y Dywysogaeth. Agorwyd ef ar y 14eg, 15fed, a'r 16eg o Ionawr, 1866. A ganlyn sydd ddifyniad o hanes cyfarfodydd yr agoriad, a ymddangosodd yn y Diwygiur am Mawrth 1866: "Bore dydd Sabboth Ionawr 14eg, er fod y tywydd yn erwin yr oedd y capel eang wedi ei lenwi yn dda o bobl erbyn deg o'r gloch. Dechreuwyd yr addoliad trwy i'r Parch. R. Hughes, gweinidog y lle, roddi yr hen benill adnabyddus hwnw i'w ganu

'Gosod babell yn ngwlad Gosen,
Dere Arglwydd yno'th hun.'

yr hwn a ganwyd gan y dorf yn cael eu harwain gan harmonium gref, yr hon a chwareuid gan Mr. Jacob Davies. Wedi hyny darllenodd y Parch. T. Evans, Llanwrthwl, 2 Cron. vi., a gweddiodd yn ddwys a thaer. Traddodwyd y bregeth gyntaf gan y Paich. T. Rees, D.D., Abertawy, (diweddar weinidog y lle). Nid oedd neb teilyngach o'r fraint o draddodi y bregeth gyntaf o fewn y capel hardd i'r gynnulleidfa y bu yn gweinidogaethu iddi dros lawer o flynyddau. Ei destyn ef oedd Mat. xii. 46-50. Dilynwyd ef gan y Parch. D. Rees, Llanelli, ei destyn yntau oedd Haggai i. 4. Am 2 o'r gloch, dechreuodd y Parch. D. Rees; a phregethodd y Parch. Dr. Rees, yn Saesonaeg, oddiwrth Luc xix. 10; a'r Parch. T. Edwards, (Methodistiad Calfinaidd), Penycae, oddiwrth Salm lxviii. 18. Am 6, dechreuodd y Parch. E. Evans, gynt o Nantyglo, yr hwn sydd yn byw yn y lle; a phregethodd Dr. Rees, a'r Parch. D. Rees, oddiwrth Phil. iii. 12, ac Actau iii. 1-11. Dydd Llun, ymgynnullwyd erbyn 2 o'r gloch, a dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. Mr. Thomas, (Bedyddiwr), Seion, Brynmawr; a phregethodd y Parch. T. Evans, Llanwrthwl, oddiwrth Ioan xv. 27; a'r Parch. Ellis Hughes, Penmain, oddiwrth Actau x. 36. Am 6, dechreuodd y Parch. Mr. Jones, (Wesleyad), Penycae; a phregethodd y Parch. J. Davies, Caerdydd, oddiwrth Esay xl. 9; a'r Parch. R. Thomas, Bangor, oddiwrth Rhuf. iii. 31. Dydd Mawrth, am 10, dechreuodd y Parch. T. Jeffreys, Peny cae; a phregethodd y Parch. D. Jones, B.A., Merthyr, oddiwrth Mat. x. 2-4, ac Actau i. 13; a'r Parch. R. Thomas, Bangor, oddiwrth 1 Tim. iii. 16. Am 2, dechreuodd y Parch. J. Davies, Gedeon, sir Benfro; a phregethodd y Parch. D. Jones, B.A., yn Saesonaeg, ar Rhuf. v. 7, 8; a'r Parch. Thomas Thomas, Glandwr, ar 1 Tim. iii. 14, 15. Am 6, dechreuodd y Parch. J. Ridge, Maesaleg; a phregethodd y Parch P. Howells, Ynysgau, ar Luc xv. 2; a'r Parch. R. Thomas, Bangor, Rhuf. vii. 9."

Traul yr adeiladaeth oedd ychydig dros 2,000p., ac erbyn diwedd cy fodydd yr agoriad yr oedd y swm o 670p. wedi eu casglu. Oddiar hy hyd yn awr y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa wedi bod yn ddiw iawn yn lleihau y ddyled, a bwriedir talu y geiniog olaf erbyn diwedd flwyddyn 1870. Mae hyn yn orchestwaith ardderchog, yn enwedig pan gofir fod masnach trwy yr holl wlad, ac yn enwedig yn yr ardal hon, wedi bod yn hynod o ddilewyrch er pan yr adeiladwyd y capel.

Erbyn fod y capel newydd yn barod, yr oedd y diweddar Mrs. Needham, a'i phriod caredig, Joseph Needham, Ysw., wedi darparu set o lestri arian at weini yr ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd, i'w rhoddi yn anrheg i'r eglwys. Cyflwynwyd hwy yn garedig gan y wraig dda yn ngwydd y gynnulleidfa nos ail ddydd yr agoriad. Yn fuan ar ol hyn aeth Mrs. Needham oddiwrth ei gwaith at ei gwobr..

Bydd adeiladaeth y capel newydd a'r ymdrech egniol i dalu am dano mewn cyn lleied o amser, ac yn wyneb amgylchiadau mor anffafriol, yn gofgolofn anrhydeddus i goffadwriaeth Mr. Hughes a phobl ei ofal. Hyderwn fod etto o flaen y gweinidog a'r eglwys dymor maith o lwyddiant a chysur.

Mae yr eglwys hon, o'i ffurfiad hyd yn bresenol, wedi cadw ei lle yn y rhes flaenaf o eglwysi rhagorol am ei gweithgarwch, ei heddychlondeb, a'i haelioni. Nid oes un eglwys yn y Dywysogaeth wedi cyfranu yn fwy haelionus, yn ol eu rhif a'i gallu, flwyddyn ar ol blwyddyn, at wahanol sefydliadau cyhoeddus, megys y Genhadaeth, y Colegau, &c. Pe buasai pob eglwys yn Nghymru, yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf, wedi cyfranu yn gyfartal i'r eglwys hon, buasai cyllid ein sefydliadau enwadol yn bedwar cymaint ag ydynt.

Y personau canlynol, cyn belled ag yr ydym yn cofio, yw y rhai a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon:

Isaac Harris, Talsarn, ac wedi hyny o'r Mynyddbach, gerllaw Abertawy. Pe buasai cymmeriad moesol y gwr hwn yn ogyfuwch a'i alluoedd, a'i ddoniau fel pregethwr, buasai yn un o'r gweinidogion blaenaf yn ei oes. Treuliodd y deng mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes heb fod ar enw crefydd o gwbl. Bu farw yn Llundain ddwy neu dair blynedd yn ol.

Isaac Thomas. Ychydig cyn terfyniad tymor gweinidogaethol Mr. Ridge y dechreuodd ef bregethu. Derbyniodd ei addysg yn Hanover, ac urddwyd ef yn Nhowyn, Meirionydd, lle y mae hyd yn bresenol yn ddefnyddiol iawn.

Cadwaladr W. Evan, B.A. Daeth ef yma yn llangc ieuangc o Feirionydd, at ei ewythr a'i fodryb, Mr. a Mrs. Ridge. Wedi iddo ddechreu pregethu, aeth i athrofa y Bala, ac oddiyno i goleg Airedale. Y mae er's yn agos ugain mlynedd bellach yn weinidog defnyddiol a dylanwadol iawn yn Adelaide, South Australia.

Jonah Roberts. Dechreuodd ef bregethu tua y flwyddyn 1854. Bu yn derbyn ei addysg yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Yn 1860, urddwyd ef yn Maesyrhaf, Castellnedd, lle y mae hyd yn bresenol.

John Evans. Dechreuodd yntau bregethu tua yr un amser a J. Roberts. Bu am flynyddau yn athrofau y Bala a Chaerfyrddin, ond nid yw etto wedi derbyn galwad oddiwith unrhyw eglwys. Y mae er's rhai blynyddau bellach yn dilyn galwedigaeth fydol yn Llundain.

Edward Edmunds. Addysgwyd y brawd ieuangc galluog hwn yn y Bala a Chaerfyrddin, ond cyn cwbl orphen ei dymor yn Nghaerfyrddin, gwaelodd ei iechyd yn fawr, a bu yn dyoddef oddiwrth nychdod am gryn amser. Pan deimlodd ei nerth yn cryfhau ychydig, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Ruabon, ac urddwyd ef yno yn 1864. Ond gorfodwyd ef gan gystudd i roddi ei weinidogaeth i fyny yn mhen ychydig fisoedd. Y mae etto yn fyw, ond yn rhy wanaidd i bregethu.

Bu cymanfaoedd llewyrchus iawn yn Cendl yn 1840, 1849, ac 1859. Yn y ddwy ddiweddaf teimlid nerthoedd y dylanwadau dwyfol yn anorchfygol. Mae canoedd etto yn fyw nad ydynt wedi anghofio y teimladau yr oeddynt ynddynt ar nos olaf cymanfa 1849, pan, ar ddiwedd pregeth Mr. Powell, Caerdydd, y dechreuwyd molianu a gweddio, ac y parhawyd felly am oriau. Ac yn nghymanfa 1859, pan y tynai yr hen frawd Harries o'r Morfa, yn ei weddi fythgofus, y gwlaw graslon i lawr nes trochi yr holl dorf. Yn sicr nid â y cymanfaoedd hyn yn anghof gan ryw rai tra y byddont byw, ac yr ydym yn credu y bydd gan lawer achos i ddiolch am yr hyn a brofasant ynddynt i dragywyddoldeb.

Cafodd yr eglwys hon o dro i dro ei bendithio ag adfywiadau crefyddol grymus iawn. Bu yma lwyddiant ac ychwanegiadau mawr trwy yr agos o holl dymor gweinidogaeth effeithiol Mr. D. E. Owen. Daeth Mr. J. Ridge yma ar ganol diwygiad nodedig, yr hwn a barhaodd am tua blwyddyn ar ol ei ddyfodiad. Fel y crybwyllwyd yn barod derbyniodd Mr. T. Rees dros 300 yma yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth, a thrachefn yn 1859 a '60 bu yma lwyddiant mawr, ac ychwanegwyd dros 100 at yr eglwys mewn tua naw mis. Hyderwn yr hynodir tymor gweinidogaeth Mr. Hughes ag adfywiad grymusach nag un a deimlwyd yma yn nhymorau ei flaenafiaid. Byddai hanes eglwys Carmel yn gwbl anmherffaith a diffygiol heb ychydig o nodiadau ar gymmeriad crefyddol rhai o'r hen frodyr rhagorol fuont yn llafurio gyda yr achos, i'w gyfodi o'i iselder a'i wendid i'r nerth a'r urddas' y mae wedi gyrhaeddyd er's blynyddau bellach. Y ddau brif offerynau yn nghyfodiad a magwriaeth yr eglwys hon oeddynt EDWARD REYNALLT a JOHN PHILLIPS neu "Sion Phylip" fel y gelwid ef yn gyffredin. Dichon na chafodd unrhyw eglwys, mewn unrhyw wlad nac oes, ei bendithio a rhagorach swyddogion na'r ddau wr da hyn. Ganwyd Edward Reynallt yn Nghwmcelyn, plwyf Aberystruth, tua y flwyddyn 1775. Tueddwyd ef yn ei ieuengetyd i fyned i Langattwg i wrandaw Mr. Davies, a thrwy ei weinidogaeth danllyd ef, cafodd ei ennill i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Ennillodd gymmeriad mor uchel fel crefyddwr, fel y cafodd yn mhen ychydig o flynyddau ei ddewis yn ddiacon yno. Pan ddechreuwyd yr achos yn Nghendl, ymroddodd ef a'i gyfaill John Phillips, a'u holl egni o'i blaid. Bu yn aelod ac yn ddiacon dylanwadol yn Carmel o gychwyniad yr achos hyd derfyn ei oes, yn mis Hydref 1841. Ganwyd John Phillips yn Nghwmclydach, Llanelli, Brycheiniog, tua y flwyddyn 1779. Ymunodd yntau a'r eglwys yn Llangattwg yn y flwyddyn 1800, a bu yn teithio yn ffyddlon tuag yno nes dechreu yr achos yn Nghendl, yna ymunodd yno, a bu yn ymgeleddwr ffyddlon i'r eglwys yn ei mabandod a'i gwendid, a pharhaodd i fod y dyn anwylaf a ffyddlonaf yn y gymdeithas nes i'w Dad nefol ei alw i'r eglwys orfoleddus, ar ol tair wythnos o gystudd, Awst 24ain, 1845.

Yr oedd John Phillips ac Edward Reynallt yn caru eu gilydd fel Dafydd a Jonathan, ac yn cydweithredu yn hyfryd, er eu bod yn gwahaniaethu yn fawr y naill oddiwrth y llall mewn amryw bethau. Dyn lled fawr o gorff oedd Edward Reynallt, yn hytrach yn wyllt ei dymer, yn wrol a llewaidd yr olwg arno, yn siarad yn arw, a phan gyfodai i fyny i ddyweyd ei feddwl teimlai pob un fyddai dan ddysgyblaeth eglwysig arswyd i fod yn ei bresenoldeb. Byddai ei eiriau fel cleddyf daufiniog yn tori o bob tu, ond cyn gynted ag y canfyddai arwyddion edifeirwch yn y troseddwr troai y ceryddwr llewaidd yn dalp o dynerwch a theimlad. Gwyddai y rhai a'i hadwaenai fod calon llawn o ras, a theimlad dros ogoniant Duw a lles eneidiau dynion, yn llechu dan y wynebpryd sarug a'r geiriau geirwon, ac felly yr oedd yn cael ei garu gan bob dyn da, a'i arswyd ar y pechaduriaid yn Seion, a'i ddychryn yn dal y rhagrithwyr.

Yr oedd John Phillips, o'r tu arall, yn ddyn lled fychan o gorff, a mwyneidd-dra a thynerwch ei galon yn argraffedig ar ei wyneb. Cariad wedi ymgnawdoli oedd ef. Er fod ei burdeb personol uwchlaw amheuaeth, dichon y buasai ei hynawsedd naturiol yn ei arwain weithiau i fod yn rhy dyner wrth ddynion drwg, ond gyferbyn a'i dynerwch ef yr oedd "mèn ddyrnu ddanheddog" Edward Reynallt yn barod i waith pan fuasai galwad am dani. Edward Reynallt oedd Iago yr eglwys, i geryddu pechod yn ddiarbed, a John Phillips, oedd Ioan y gymdeithas, i nawseiddio ei holl gyflawniadau a chariad. Buasai yr eglwys yn ddiffygiol heb y naill yn gystal a'r llall. Yr oedd y ddau yn nodedig am eu ffyddlondeb gyda phob rhan o waith crefydd. Er eu bod yn byw ar y Brynmawr, dwy filldir oddiwrth y capel, nid oedd na gwynt na gwlaw, oerni na gwres yn eu cadw o'r moddion ar y Sabboth a'r wythnos. Pwy bynag fyddai yn absenol byddent hwy yno. Mae eu coffadwriaeth yn barchus gan bawb o hen aelodau a gwrandawyr Carmel, a chan bawb o'u cydnabod, o bob enwad crefyddol yn yr ardal. Er eu bod wedi marw y maent yn llefaru etto, a pharhant i lefaru tra y byddo eglwys i Grist yn Carmel, Cendl. Cydweithiwr ffyddlon gyda'r blaenoriaid enwog hyn oedd Isaac Evans, mab yn nghyfraith y Parchedig Mathusalem Jones, o Ferthyr. Yr oedd yntau yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn Gristion o'r radd uchaf. Y mae wedi cael ei gasglu at ei dadau, oddiar Gorphenaf 10fed, 1838, pan yr oedd yn 57 oed. Pan yr oedd y gwyr da hyn yn dechreu heneiddio a llesgau, yr oedd John Maliphant, mab-yn-nghyfraith John Phillips, yn codi yn gyflym i ddylanwad a defnyddioldeb yn yr eglwys, os nad ydym yn camgymeryd yr oedd ef yn enedigol o Gydwely, sir Gaerfyrddin, ac yn un o hiliogaeth y French Refugees, neu y Protestaniaid a erlidiwyd allan o Ffraingc yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ymunodd ag eglwys Crist yn un-ar-ddeg oed, a chynyddodd yn ei ffyddlondeb a'i ddefnyddioldeb hyd derfyn ei oes. Bu farw Medi 14eg, 1847, yn 43 oed, er dirfawr golled i'w deulu lluosog, a'r eglwys o'r hon yr oedd yn brif ddiacon. Yr oedd yn ddiail am ei wasanaethgarwch i'r ysgol Sabbothol. Y fath oedd ei barch gan yr ysgol fel y casglasant fodd i osod côf-faen o farmor gwyn ar fur y capel o anrhydedd i'w goffadwriaeth. Cymerwyd lle John Maliphant gan David Evans, o Benycae. Dyn da a galluog iawn. Bu yntau farw yn Chwefror 1851, pryd nad oedd yn nemawr dros ddeugain oed. Y diweddaf a grybwyllwn o ffyddloniaid yr eglwys hon yw Dafydd Gruffydd, yr hwn a hunodd yn yr Arglwydd Ionawr 31ain, 1865, yn 64 oed. Yr oedd ef yn enedigol o blwyf Llanllwni, sir Gaerfyrddin, ac yn aelod gwreiddiol o gapel Noni. Bu yn aelod defnyddiol yn Carmel am fwy na deng mlynedd ar hugain, ac yn ddiacon am ddeuddeg neu bymtheg mlynedd. Efe oedd apostol y plant ac ieuengetyd yr eglwys. Ni welsom ddyn erioed yn rhagorach yn ei ddoniau i fagu a meithrin plant a phobl ieuaingc yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

DAVID DAVIES. Yn nglyn a hanes yr eglwys yn Llangattwg y bydd lle priodol ei fywgraphiad ef.

DANIEL E. OWEN. Ganwyd ef yn Nhrefdraeth, sir Benfro, Ionawr 19eg, 1803. Yr oedd ei rieni, William a Mary Owen, yn bobl ragorol am eu duwioldeb, a'i fam yn chwaer i'r enwog Thomas Griffiths, Hawen. Rhagorai yn fawr ar ei gyfoedion am ei ddifrifoldeb a'i ddiwydrwydd i ddysgu ei wersi yn yr ysgol, pryd nad oedd dros chwe' mlwydd oed. Arferai fyned allan i'r ardd a manau dirgel eraill i weddio yn yr oedran tyner hwnw. Aeth i'r gyfeillach eglwysig yn ieuangc iawn. Pan ofynodd Mr. Henry George, y gweinidog, iddo y noson gyntaf y daethai i'r gyfeillach, er pa bryd y dechreuodd deimlo gwasgfa am fater ei enaid, "Erioed, ar a wn i," oedd ei ateb. Gofynodd un o'r hen aelodau iddo pa beth a olygai wrth arfer y gair erioed? Atebodd, "Er cyn côf genyf; a hyny a achoswyd wrth glywed fy nhad yn darllen penod bob nos, ac yna yn diffodd y ganwyll, yn myned ar ei luniau, ac yn ymddyddan a rhywun yn y tywyllwch, a mam yn wylo yr holl amser hyny. Yr oeddwn yn methu deall a phwy yr oedd fy nhad yn ymddyddan. Wedi iddo gyfodi a goleuo y ganwyll, nid oedd yno neb ond y teulu. Wrth weled fy nhad yn parhau yn yr un dull, tybiais innau y dylaswn wneyd yr un fath ag ef, a dechreuais. Yr oeddwn yn cael pleser mawr, etto yr oeddwn yn gofyn, Ar bwy yr wyf yn galw? Wrth bwy yr wyf yn dywedyd?' A'r ateb oedd genyf i mi fy hun oedd, mai ymddyddan yr oeddwn a'r un yr oedd fy nhad yn ymddyddan ag ef wedi diffodd y ganwyll." Gofynodd y gweinidog iddo a oedd yn penderfynu glynu wrth yr Arglwydd? Atebodd, "O! ydwyf; y Duw oedd gan fy nhad wedi diffodd y ganwyll a gaiff fod yn Dduw i mi byth.

Wedi ei dderbyn, cynyddodd i'r fath raddau mewn gwybodaeth, profiad, a phob rhinwedd crefyddol, fel y penderfynodd yr eglwys roddi anogaeth iddo i ddechreu pregethu, pryd nad oedd ond rhwng deg ac uu-ar-ddeg oed. Corff eiddil a bychan iawn oedd ganddo i ateb i'w oed, ac felly yr oedd ei weled yn sefyll ger bron cynnulleidfa yn peri syndod i bawb, ac yn tynu lluaws i'w wrandaw. Anogwyd ef yn fuan i fyned allan i'r capeli cymydogaethol. Byddai raid gosod cadair o droedfedd i ddeunaw modfedd o uchder yn mhob pulpud iddo sefyll arni, mewn trefn iddo fod yn ngolwg y gynnulleidfa. Yr oedd y capeli yn rhy fychain gan fynychaf i gynwys ei wrandawyr. Aeth y son am dano yn agos ac yn mhell. Yr oedd Mr. Griffiths, Hawen, unwaith yn y Bronwydd, ac yn nghanol ei ymddyddanion a Mrs. Lloyd, gofynai y foneddiges iddo a oedd efe wedi clywed am y plentyn rhyfeddol oedd yn pregethu mor boblogaidd yn sir Benfro, "Ydwyf Madam, mab fy chwaer i ydyw y plentyn," atebai Mr. Griffiths. Yna holodd Mrs. Lloyd yn mhellach yn ei gylch, ac wedi cael ar ddeall mai pobl isel eu hamgylchiadau oedd ei rieni, cynygiodd hi, yn ol ei harfer haelionus, ei anfon i ysgol Ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin, a'i gynal yno. Wedi myned i'r ysgol, ymroddodd a'i holl egni i ddysgu; ond gorfodid ef gan daerni pobl i fyned allan yn fynych iawn i bregethu i dai a chapeli wedi eu gorlenwi. Gan nad oedd eisoes ond gwanaidd iawn o gyfansoddiad, darfu i'r ychydig nerth oedd ynddo gael ei ddifa yn llwyr mewn ychydig amser wrth ormod o lafur, a chymerwyd ef yn beryglus o glaf. Symudwyd ef, yn ol cyfarwyddyd y meddygon, o Gaerfyrddin at ei ewythr i sir Aberteifi. Bu yno am amser hir mewn nychdod a gwendid mawr. Pan adferodd ei iechyd ychydig aeth i'r ysgol i'r Neuaddlwyd, lle y bu o 1822 hyd 1824, pryd y symudodd i Gendl. Ni chafodd iechyd i gyflawni ei weinidogaeth yno ond am brin dwy flynedd, er iddo aros yn y lle tua thair blynedd. Pan ballodd ei iechyd yn hollol aeth adref i Drefdraeth. Gofalodd yr eglwys yn garedig am dano trwy anfon y casgliad misol at y weinidogaeth iddo yn rheolaidd am fwy na dwy flynedd, ac hefyd anrhegion o rai degau o bunau at dalu y meddygon. Ond ni allai caredigrwydd ei eglwys, tynerwch ei fam, na gofal y meddygon gadw angau ymaith. Wedi hir nychu dan effeithiau angeuol y parlys, yr hwn oedd er's blynyddau wedi dinystrio ei gôf a'i lafur i raddau blin, bu farw yn yr Arglwydd Ionawr 27ain, 1830, yn 27 oed.[44]

Yr oedd Mr. Daniel E. Owen yn un o'r gweinidogion ieuangc hynotaf a mwyaf parchus yn ei oes. Nid ydym yn cofio clywed am neb a ddechreuodd bregethu mor ieuangc, nac am nemawr a fu mor barchus, poblogaidd, a defnyddiol am y tymor byr a gafodd i weithio yn ngwinllan ei Arglwydd. Dywedir ei fod yn hynod am ei dduwioldeb, tynerwch ei gydwybod, a'i awydd i ryngu bodd i'r Arglwydd yn mhob peth. Yr oedd mwyneidddra ei dymer yn ei wneyd yn anwyl gan bawb; ac yr oedd ei ddull eglur, efengylaidd, ac effeithiol o bregethu y fath fel y swynai ddynion o bob oed a sefyllfa i'w wrandaw. Gorlanwodd y capel yn Nghendl yn yr amser byr y bu yno, ac ennillodd iddo ei hun le dwfn yn serchiadau yr holl gymydogaeth. Mae yno rai dynion yn fyw yn awr nas gellir crybwyll ei enw yn eu clyw heb dynu dagrau i'w llygaid. Awgrymai llawer yn amser ei gystudd a'i farwolaeth mai y prif achos o'i symudiad mor fuan o'r byd, ydoedd fod pobl ei ofal wedi rhoddi gormod o'u serch arno. Os felly yr oedd, mae yn hawddach maddeu iddynt am ladd eu gweinidog â charedigrwydd, nag i lawer o eglwysi sydd "yn lladd eu prophwydi, ac yn llabuddio y rhai a anfonir atynt" âg oerni a chreulondeb.

Claddwyd Mr. Owen yn mynwent capel Ebenezer, Trefdraeth, lle y mae maen prydferth ar ei fedd. Brodyr iddo ef oedd Mr. John Owen, yr hwn a fu am rai blynyddau yn gydweinidog â Mr. Henry George yn Brynberian a Maenclochog, a Mr. Benjamin Owen, Zoar, Merthyr.

SEION, RHYMNI.

Mae tair sir, sef Mynwy, Brycheiniog, a Morganwg, yn cyfarfod yn nghymydogaeth gwaith haiarn Rhymni. Mae y boblogaeth, yr hon nid yw yn awr nemawr dan ddeng mil o bobl, yn cyfaneddu yn mhlwyfydd Bedwellty, Gelligaer, a Llangynidr. Mae yr ardal, a adwaenir wrth yr enw Rhymni, yn cyrhaedd o Bontllechryd i Bontlottyn—pellder o tua dwy filldir, a gellir cyfrif ei lled yn gyflawn filldir. Ychydig, mewn cydmariaeth i'w rhif bresenol, oedd nifer y trigolion yma ddeugain mlynedd yn ol. Dichon nad oeddynt y pryd hwnw yn gyflawn fil o rifedi.

Dechreuwyd achos yr Annibynwyr yn y lle hwn yn gynar yn y ganrif bresenol. Yr oedd yma rai Annibynwyr yn byw tua y flwyddyn 1808, a chyn hyny, a phregethu achlysurol yn eu tai. Yr oedd Andrew Thomas, y saer, un o aelodau y Brychgoed, yn derbyn pregethwyr i'w dy y pryd hwnw. Yn y flwyddyn 1811, daeth Mr. David Stephenson i fyw i'r lle, ac yn mysg yr Annibynwyr proffesedig yma yr amser hwnw, neu yn fuan wedi hyny, gellir enwi Evan Bevan, Israel Jayne, Elias Elias, Samuel Walters, Benjamin Havard, Morgan Rees, a John Davies, yn nghyd a rhai gwragedd. Bernir na chawsant eu corpholi yn eglwys cyn y flwyddyn 1819, a changen o Bethesda, Merthyr, y cyfrifid hwynt; ond yr oedd yma wasanaeth crefyddol lled reolaidd yn cael ei gadw mewn gwahanol annedd-dai dros ddeng mlynedd cyn hyn.

Yn mhen ychydig amser wedi corpholiad yr eglwys teimlai amryw o'r cyfeillion awydd i urddo Mr. David Stephenson yn weinidog iddynt, gan nas gallasai Mr. Jones, gweinidog Bethesda, ymweled a hwynt ond lled anfynych. Gwrthwynebid hyn yn benderfynol iawn gan ddau o weinidogion Merthyr, a chan un o aelodau yr eglwys fechan yn Rhymni, yr hyn a barodd i'r peth gael ei oedi am yn agos ddwy flynedd. O'r diwedd torwyd trwy bob rhwystrau, a daeth Mr. Hughes, Groeswen; Mr. Jones, Pontypool, ac eraill, yma ar y 27ain o Fehefin, 1821, ac a urddasant Mr. Stephenson yn weinidog i'r ddeadell fechan. Yn nhy Mr. Stephenson, yn Rhestr Tre Evans, yr arferid cadw y cyfarfodydd, a bwriedid cynnal gwasanaeth yr urddiad yn yr awyr agored o flaen drws ei dy ef. Ond rhoddodd y Methodistiaid fenthyg eu capel i gynal y cyfarfodydd. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn:-Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Thomas, Nebo; a phregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau, oddiwrth Col. i. 18; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Lewis, Aber; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Davies, Penywaun; traddodwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth Ioan iv. 34, ac i'r eglwys gan Mr. E. Jones, Pontypool, oddiwrth Heb. xiii. 7. Am 3, dechreuwyd gan Mr. R. Morris, Tredegar, a phregethodd Mr. J. Harrison, Aberdare, a Mr. T. Davies, Cymar, oddiwrth Ioan x. 29, a Seph. iii. 17. Llawn fwriadai Mr. Thomas, Penmain, hefyd i fod yn yr urddiad, ond lluddiwyd ef gan afiechyd. Rhif yr eglwys pan urddwyd Mr. Stephenson oedd 16, ond yn mhen tua thair blynedd yr oeddynt wedi cynyddu i 60. Tua y flwyddyn 1823, cymerodd Mr. Stephenson ofal eglwys yn Nantyglo, mewn cysylltiad a Rhymni, a bu yn gwasanaethu y ddwy am oddeutu tair blynedd, yna cyfyngodd ei lafur i Nantyglo yn unig, ac anogodd y cyfeillion yn Rhymni i roddi galwad i Mr. John Davies, un o'r aelodau, yr hwn a ddechreuodd bregethu yno dan ei weinidogaeth ef. Cydsyniodd yr eglwys a'r cyngor, ac urddwyd Mr. Davies yn weinidog iddynt. Yr ydym wedi methu taro wrth hanes urddiad Mr. Davies yn misolion yr amser hwnw, ond yr ydym yn sicr mai ryw amser yn 1828 yr urddwyd ef. Perchid ef yn fawr gan bobl ei ofal, a bu yn ddefnyddiol iawn dros dymor byr ei weinidogaeth. Bu farw yn y flwyddyn 1835.

Buy gynnulleidfa yn ymgynnull bob boreu Sabboth yn nhy Mr. Stephenson, yn Rhestr Tre Evans, ac yn yr hwyr, yn nhy Cecilia Davies, gwraig weddw, ac aelod gyda y Bedyddwyr, hyd nes i'r anedd-dai fyned yn rhy fychain, yna y bu raid iddynt rentu ystafell eang y tu cefn i'r Rhymni Inn. Buont yn addoli yn y lle hwnw am tua phymtheg mlynedd cyn gallu cael tir at adeiladu capel.

Yr oedd un Johnson yn feistr y gwaith, ac yn elyn Ymneillduaeth, os nad pob math o grefydd, ac efe fu y rhwystr iddynt gael tir at adeiladu. Dechreuasant adeiladu addoldy lle y mae capel y Graig yn bresenol, yn y flwyddyn 1827, ac wedi codi y muriau tuag wyth neu ddeg troedfedd, bu raid atal y gwaith, er fod y ty ar dir y Duke o Beaufort, o herwydd fod y Johnson erlidgar a grybwyllwyd yn gomedd iddynt gael ffyrdd i fyned ato drwy dir y cwmni. Er nad oes nemawr o berchenogion tiroedd a meistri gweithiau Cymru yn Ymneillduwyr, ychydig o honynt sydd wedi ymddwyn mor erlidgar ar creadur diffaith hwn. Yr oedd y Methodistiaid a'r Bedyddwyr wedi bod mor ffodus a chael lle i adeiladu cyn i Johnson ddyfod i awdurdod yn y lle. Trwy orthrwm y gwr hwn cadwyd Annibynwyr Rhymni am ugain mlynedd heb le cyfleus at addoli, yr hyn fu yn anfantais ddirfawr i'r achos.

Yn y flwyddyn 1836, rhoddwyd galwad i Mr. William Watkins, aelod o eglwys Tynycoed, Glyntawy, ac urddwyd ef Hydref 5ed a'r 6ed. Cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth: W. Jones, Penybont; H. Jones, Tredegar; M. Jones, Merthyr; D. Stephenson, Nantyglo; J. Williams, Tynycoed; E. Watkins, Llanelli, Brycheiniog; T. Rees, Craigyfargod; J. T. Jones, Merthyr; J. Hughes a D. Roberts, Dowlais; J. Jones, Penmain; a D. Davies, Tynycoed. Bu Mr. Watkins yn gweinidogaethu yn yr eglwys hon am oddeutu wyth mlynedd, ac yn y tymor hwnw, er llawer o amgylchiadau anffafriol, ychwanegwyd yn ddirfawr at rifedi yr eglwys a'r gwrandawyr. Yn y flwyddyn 1837, llwyddwyd i gael tirimewn man canolog, acadeiladwyd capel prydferth, yr hwn a agorwyd Ebrill 11eg a'r 12fed, 1838. Am 3, y dydd cyntaf, gweddiodd Mr. J. Davies, Aberdare; a phregethodd Mr. L. Powell, Caerdydd. Am 6, gweddiodd Mr. T. Rees, Craigyfargod; a phregethodd y Meistriaid E. Watkins, Llanelli, a J. Davies, Aberdare. Dranoeth, am 7 y bore, gweddiodd Mr. D. Davies, Tynycoed; a phregethodd y Meistriaid T. Rees, a J. Harrison, Aberdare. Am 10, gweddiodd Mr. J. Thomas, Adulam; a phregethodd y Meistriaid J. Williams, Tynycoed; J. Ridge, Cendl; a D. Griffiths, Castellnedd. Am 3, gweddiodd Mr. J. Roberts, (Bedyddiwr), Tredegar; a phregethodd y Meistriaid S. Williams, Llanedi; E. Davies, Tredegar, yn Saesonaeg; a D. Stephenson, Nantyglo. Am 6, gweddiodd Mr. T. Protheroe, Dowlais; a phregethodd y Meistriaid J. Hughes, Dowlais, a T. Williams, Maendy.

Yr oedd y ty newydd yn adeilad prydferth a chyfleus iawn, yn mesur 50 troedfedd wrth 41 a chwe' modfedd y tu fewn i'r muriau, ac yn cynwys yn agos 700 o eisteddleoedd. Y draul oedd 900p., ond bernid ei fod yn gyflawn werth 1,200p.

Gan fod y boblogaeth yr amser hwn yn cynyddu gyda chyflymder dirfawr, a bod lluaws o'r trigolion yn cyfaneddu o filldir i filldir a haner yn nes i lawr yn y cwm na'r capel, cyfaddaswyd hen bwll llifio yn y rhan isaf o'r gymydogaeth at gadw ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd crefyddol eraill. Gwnaed hyn yn 1839, yr hyn yn fuan a arweiniodd i ffurfiad yr eglwys sydd yn awr yn ymgynnull yn nghapel Moriah, yr hwn a ddaw etto dan ein sylw.

Crybwyllasom yn barod i'r eglwys ddechreu adeiladu capel ar lechwedd y mynydd uwchlaw y Rhymni Inn, yn 1827, ac iddynt gael eu hatal i fyned a'r gwaith yn mlaen; yn 1840, gollyngwyd nifer o'r aelodau yn heddychol o Seion i ddechreu achos newydd yn mlaen y cwm, ymroddasant i orphen y capel y dechreuasid ei adeiladu yn 1827. Dyma ddechreuad eglwys y Graig, yr hon y rhoddwn ei hanes yn nes yn mlaen. rhai a O herwydd rhyw gamddealldwriaeth ni bu Mr. Watkins a rhan o'r eglwys yn cyd-dynu yn ddymunol am rai blynyddau cyn ei ymadawiad; ac yn y flwyddyn 1845 darfu y cysylltiad rhyngddynt. Teimlai amryw o'r aelodau serch cryf at Mr. Watkins, ac felly ar ei ymadawiad ef aethant hwythau allan gydag ef, ac adeiladasant gapel Gosen, yr hon hefyd a ddaw dan ein sylw rhagllaw.

Yn y flwyddyn 1846, rhoddwyd galwad i Mr. William Davies, Joppa, Caernarfon. Bu ef yma yn llafurio am yn agos i dair blynedd, ac yn nechreu 1849 symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Salem, Machynlleth. Yr oedd Mr. Davies pan y daeth yma yn llawn driugain mlwydd oed, ac felly yn annghymwys iawn i le o fath Rhymni, y canlyniad fu i'w gysylltiad a'r eglwys hon derfynu yn dra buan. Nis gwyddom am ddim gwerth ei gofnodi a ddygwyddodd yn hanes yr eglwys yn ei dymor byr ef.

Er i dair o ganghenau fyned allan o'r fam-eglwys mewn yspaid chwe' mlynedd, parhaodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn Seion yn lluosog a thra llewyrchus, o amser agoriad y capel yn 1838 hyd yn bresenol.

Yn y flwyddyn 1851, rhoddwyd galwad i Mr. William P. Davies, gwr ieuangc genedigol o ardal Llanymddyfri, a myfyriwr ar y pryd yn athrofa Aberhonddu. A ganlyn yw yr hanes a roddir o'i urddiad yn y Diwygiwr am Awst 1851: "Gorphenaf 1af a'r 2il, neillduwyd y brawd W. Davies o goleg Aberhonddu, i waith y weinidogaeth yn Seion, Rhymni. Prydnawn y dydd cyntaf, am 6, dechreuwyd gan Mr. Thomas, hen wr o Gonwy; a phregethodd y Meistriaid Phillips, Llangynidr; a Thomas, Glynnedd. Boreu уг ail ddydd, am haner awr wedi chwech, cynaliwyd cwrdd gweddi gan y gweinidogion. Am ddeg, dechreuwyd gan Mr. Powell, Caerdydd; traddodwyd pregeth ar natur eglwys gan Mr. Davies, Llanelli, Brycheiniog, yn bwrpasol a didramgwydd. Holwyd y gweinidog ieuangc gan Mr. Evans, Tredegar. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. Rees, Cendl. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. Davies, A.C., athraw clasurol, Aberhonddu; a siars i'r eglwys gan Mr. Stephens, Brychgoed. Am 2, dechreuwyd gan Mr. Jones, coleg Aberhonddu; a phregethwyd gan y Meistriaid Hughes, Penmain; a Jones, yr Aber. Am 6, dechreuwyd gan Mr. R. Jones, o goleg Aberhonddu; a phregethwyd gan y Meistriaid Roberts, Pendarren; a Rees, Cendl; a gorphenwyd gan Mr. Powell, Caerdydd. Cafwyd cyfarfodydd go dda o'r dechreu i'r diwedd."

Mae Mr. Davies wedi bod yn llafurio yn y cylch hwn bellach er's pedair blynedd ar bymtheg, a thrwy yr holl amser mae yr eglwys wedi bod yn dangnefeddus, ac i raddau yn llwyddianus, a'r gweinidog yn sefyll yn uchel, nid yn unig yn nghyfrif ei gynnulleidfa ei hun, ond hefyd yn ngolwg holl breswylwyr y lle, yn grefyddol a digrefydd. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf ni bu y gynnulleidfa yn segur; casglodd ganoedd o bunau, nid yn unig i ddileu dyled y capel, ond hefyd at dalu dyled yr ysgoldy Brytanaidd.

Gan fod y capel yn sefyll ar le lled noeth, fel yr oedd y tywydd wedi effeithio yn lled ddrwg arno, barnwyd yn angenrheidiol ei adgyweirio, yr hyn a wnaed yn y flwyddyn 1866. Yn y Diwygiwr am Medi y flwyddyn hono cawn yr hanes canlynol: "Tua blwyddyn yn ol penderfynwyd adgyweirio y capel hwn gan ei fod wedi myned i ymddangos yn henaidd a dadfeiliedig. Cymerwyd y gorchwyl trwy gytundeb gan Mr. David Davies, adeiladydd, Rhymni, yr hwn a'i gorphenodd er boddhad cyffredin ol i'r eglwys a'r gynnulleidfa, fel ag y mae Seion yn awr yn un o'r addo dai mwyaf hardd a chyfleus yn y Dywysogaeth. Codwyd y nenfwd y agos i dair troedfedd yn uwch, gostyngwyd yr oriel, ad-drefnwyd corau ar y llawr, gwnaed areithfa newydd, gwned hefyd y drysau a'r ffenestri i gyd o'r newydd; gosodwyd rheilgae haiarn hardd o flaen y capel oddi allan; ac y mae nwy wedi ei osod i'w oleuo. Costiodd yr oll tua 600p. Cymerodd yr agoriad le y Sabboth a'r Llun, Gorphenaf 15ed a'r 16eg. Bore y Sabboth, am 10, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. T. Evans, Talgarth; a phregethwyd yn nerthol a hyawdl gan yr Hybarch D. Williams, Troedrhyiwdalar, oddiwrth Col. i. 27. Am 2, y prydnawn, daeth y fath nifer yn nghyd fel na chynwysai y capel eang fwy na haner y dorf. Bu felly yn angenrheidiol cynal dwy oedfa ar yr un amser. Pregethodd Mr. Williams, Troedrhiwdalar, yn Ebenezer, capel y Trefnyddion Calfinaidd, pa rai a fuont mor garedig a rhoi eu hysgol Sabbothol i fyny er mwyn cyfarfod a'r amgylchiad; a phregethodd Mr. Evans, Talgarth, yn Seion. Am 6, pregethodd Mr. Evans, a Mr. Williams. Am 10, boreu dydd Llun, pregethodd y Parchedigion J. Davies, Pontygof; a D. Williams, Blaenau. Am 2, pregethodd y Parchedigion D. Hughes, B.A., Tredegar; a Dr. Rees, Abertawy. Am 6, pregethodd Dr. Rees, a'r Parch. D. Williams, Troedrhiwdalar. Dyma un o'r cyfarfodydd mwyaf hyfryd a fwynhasom erioed. Yr oedd yma arwyddion amlwg o wenau yr Arglwydd, yn gystal a sirioldeb dynion-y lluaws yn tyru i wrandaw, a'r gweinidogion a'r eu huchelfanau yn cyhoeddi yr efengyl, ac yn eu plith y Hybarch Mr. Williams, Troedrhiwdalar, mor heinyf a bywiog a phe buasai yn 40 oed, er ei fod yn 88 oed. Hyfryd oedd gweled y fath barch yn cael ei ddangos i'r cyfarfodydd gan bawb yn y lle-pob enwad crefyddol yn cymeryd cymaint o ddyddordeb yn yr amgylchiad a phe buasai yn perthyn yn bersonol iddynt hwy. Casglwyd 70p. tuag at leihau y ddyled. Dechreuwyd yr oedfaon trwy ddarllen a gweddio gan y Parchedigion T. Evans, Talgarth; R. Roberts, Graig; J. Williams, Pontlottyn, (Bedyddiwr); G. Owens, Trifil; W. Thomas, Fochriw; a R. Rowlands, Čaerfyrddin."

Er ein bod yn adnabyddus ag amryw o'r dynion da fuont yn offerynol i ddechreu yr achos hwn, o herwydd diffyg defnyddiau nis gallwn gofnodi dim o'u hanes. Gwyddom eu bod oll yn rhai nodedig am eu ffyddlondeb a'u hymlyniaeth wrth yr achos goreu, a'u gafael yn yr enwad y perthynent iddo. Bydd enwau Evan Bevan, Elias Elias, Israel Jayne, &c., yn barchus yn mysg Annibynwyr Rhymni am flynyddau etto.

Mae yn ymddangos oddiwrth y crybwyllion yn hanes bywyd Mr. Powell, Caerdydd, fod Andrew Thomas, y saer, tad Annibyniaeth yn Rhymni, yn ddyn nodedig o wybodus mewn pethau crefyddol, ac yn rhyfeddol am ei lafur gyda'r gwaith da. Bu am flynyddau yn myned unwaith yn y mis o Rhymni i'r Brychgoed i'r cyfarfod cymundeb, yn cerdded yr holl ffordd-dros ugain milldir, fynychaf ar foreu y Sabboth, ac yn cyraedd yno yn brydlon. Ychydig o grefyddwyr a geir yn yr oes bresenol yn ddigon selog i wneyd peth felly.

Heblaw y ddau weinidog cyntaf—Mr. Stephenson, a Mr. Davies, cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—

John Williams, yr hwn a ymfudodd i'r America. Nis gwyddom ychwaneg o'i hanes.

David Davies. Bu yn weinidog yn y Taihirion a Glantaf. Rhoddir ei hanes ef yn nglyn a'r eglwysi hyny.

Samuel Williams. Cafodd ei addysgu dan Mr. Davies, Penywaun, ac aeth ar brawf i Criplestyle, swydd Dorset yn 1840, lle yr urddwyd ef yn 1842. Mae yno hyd yn bresenol yn ddefnyddiol a pharchus iawn.

John Davies. Mae ef yn awr yn y weinidogaeth yn America, ond nis gwyddom yn mha le yno.

George Owens. Bu ef yma yn bregethwr cynnorthwyol parchus dros lawer o flynyddau, ac yn y flwyddyn 1863, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn y Trifil, lle yr urddwyd ef.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

DAVID STEPHENSON. Gweler hanes Rehoboth, Brynmawr.

JOHN DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1789, mewn lle o'r enw Pantgwynarian, yn mhlwyf Penbryn, sir Aberteifi. Cafodd ei dderbyn yn Glynarthen yn 1799, gan Mr. Evans, Drewen. Nid oedd y pryd hwnw ond deng mlwydd oed. Aeth i Ferthyr pan yn lled ieuangc. Pan yr oedd yn son am symud i Ferthyr, dywedodd dynes dduwiol iawn oedd yn aelod o'r un eglwys ag ef, a'r hon oedd yn chwaer i'r nodedig Rees Davies, y Glunbren, "Wel Shoni bach, y mae arnaf fi ofn y colli di dy grefydd yn Merthyr." Atebodd yntau, "Os wyf wedi cael crefydd iawn nid oes digon o allu yn uffern i'w blotio hi allan." I Ferthyr yr aeth, ac yn mhen rhyw faint o amser symudodd oddi yno i Rhymni, a chafodd y fraint o gadw ei grefydd yn mhob man. Yr ydym yn anhysbys o'r amser y dechreuodd bregethu, ond yr oedd wedi priodi cyn hyny. Wedi iddo ddechreu pregethu teimlai fod arno angen mwy o addysg nag oedd wedi gael, a chan ei fod mewn amgylchiadau gweddol gysurus, aeth i'r ysgol i Ferthyr. Bu yn cerdded o Rhymni yno bob dydd am ddwy flynedd. Pan symudodd Mr. Stephenson o Rhymni i Nantyglo, anogodd yr eglwys i urddo John Davies yn weinidog yn ei le ef. Cydsyniasant a'r cyngor, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1828. Ychydig cyn amser ei urddiad anfonodd at yr hen chwaer, i sir Aberteifi, i hysbysu ei fod heb golli ei grefydd, ac i'w gwahodd hi i gyfarfod ei urddiad; a mawr oedd llawenydd yr hen wraig am y newydd. Adroddai yr hanes gyda phleser tra y bu fyw. Ni pharhaodd tymor gweinidogaeth Mr. Davies ond saith mlynedd. Yr oedd ei iechyd wedi rhoi ffordd yn fawr gryn amser cyn ei farwolaeth.

Gorphenodd ei yrfa ar y ddaear Hydref 1af, 1835, yn 46 oed. Claddwyd ef wrth gapel y Methodistiaid yn Rhymni, lle yr oedd ei wraig wedi cael ei chladdu er y flwyddyn 1823. Pregethwyd yn ei angladd gan Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr; a Mr. D. Stephenson, Nantyglo, oddiwrth Salm cxxx. 4—testyn a ddewisasid gan yr ymadawedig. Areithiwyd wrth y bedd gan Mr. Josuah Thomas, Adulam, Merthyr. Gadawodd Mr. Davies ddau o feibion ar ei ol. Y mae y ddau wedi marw, ond y mae saith o blant ar ol un o honynt, ac oll, fel y clywsom, yn aelodau yn nghapel y Graig, Rhymni.

Gwelsom Mr. Davies unwaith tua phymtheng mis cyn ei farwolaeth. Yr oedd ei iechyd wedi gwaelu yn fawr y pryd hwnw. Yr oedd yn rhyfeddol o barchus gan ei bobl, a galar cyffredinol yn eu mysg ar ei ol pan yr farw. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn nodedig o hynaws a charedi Yr oedd yn bregethwr melus a buddiol iawn, a bu yn foddion i enill llawer o bobl at yr Arglwydd yn y tymor byr y bu yn y weinidogaeth. Mae yn flin na byddai genym ychwaneg o ddefnyddiau i roddi hans helaethach am ddyn mor rhagorol. Nai i Mr. Davies yw Mr. John M. Davies, gweinidog Tyrhos a Llandudoch.

WILLIAM DAVIES. Yr oedd yn frawd i Mr. James Davies, gynt o Lanfaircaereinion, ac yn awr o America. Yn Llanwrtyd y ganwyd ef, ac yno y cychwynodd ei yrfa fel crefyddwr a phregethwr. Dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1817. Yr oedd y pryd hwnw dros bymtheg-ar-hugain oed. Urddwyd ef yn Ceidio, sir Gaernarfon, Tachwedd 6ed, 1823, pryd y gweinyddwyd gan ei frawd, James Davies, Llanfair; T. Lewis, Pwllheli; D. Griffiths, Bethel; D. Griffiths, Talsarn; ac E. Davies, Trawsfynydd. Bu yn llafurio yno gyda mesur helaeth o lwyddiant am oddeutu dwy flynedd ar bymtheg. Trwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y sefydlwyd yr achos Annibynol yn Nefyn. Yn niwedd y flwyddyn 1838, symudodd i Fryngwran, Mon, lle y bu am tua chwe' blynedd. Symudodd oddiyno i Joppa, Caernarfon. Ni fu ond ychydig iawn o amser yno, canys yn y flwyddyn 1846, symudodd i Seion, Rhymni, lle y bu, fel y gwelsom, tua thair blynedd. Ar ei ymadawiad o Rhymni, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Salem, Machynlleth. Achos lled wan oedd yno. Yn y flwyddyn 1853 penderfynodd yr eglwys fechan hono ymuno a'r fam-eglwys yn nghapel y Graig, ac felly, darfu cysylltiad Mr. Davies a hwy. Symudodd o Fachynlleth i Gaernarfon, ond nid i gymeryd gofal unrhyw eglwys. Ni bu yn weinidog sefydlog mewn un man er y pryd yr ymadawodd o Fachynlleth. Yn y flwyddyn 1862, symudodd ef a'i deulu o Gaernafon i'r Brynmawr, cymerodd ei le fel aelod yn Bethesda, a bu yn pregethu yn achlysurol yno, ac mewn lleoedd eraill yn yr ardal, cyhyd ag y parhaodd ei nerth. Bu farw Ionawr 6ed, 1868, yn 88 oed, medd ein hysbysydd, a chladdwyd ef yn mynwent Carmel, Cendl.

Er fod Mr. Davies yn lled hen pan y dechreuodd bregethu, yr oedd yn feddianol ar lawer o gymwysderau i fod yn bregethwr derbyniol a buddiol, ond yn ei flynyddau diweddaf, o herwydd ei henaint a'i dlodi, yr oedd wedi myned yn lled ddiddefnydd. Bu, fel y nodasom, yn ddefnyddiol iawn yn Ceidio, Nefyn, a'r cylchoedd, ond ni bu fawr lewyrch arno yn un man ar ol ei ymadawiad oddi yno. Yno, mae yn debygol, yr oedd ei le ef, ac ymddengys iddo groesi Rhagluniaeth wrth symud oddi yno. Gwiriwyd geiriau y gwr doeth yn ei hanes ef, fel yn hanes miloedd eraill: "Gwr yn ymdaith o'i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth."[45]

CAERLLEON-AR-WYSG.

Yr oedd y lle hwn yn ddinas enwog yn y cynoesau; ond nid oes fawr o enwogrwydd yn perthyn i hanes yr achos Annibynol yma. Ffurfiwyd yma eglwys fechan yn gynar yn y ganrif bresenol, cynwysedig o aclodau perthynol i'r New Inn a Heol-y-felin, Casnewydd. Nid ydym wedi cael allan amseriad ei ffurfiad, ond yr ydym yn tybied mai tua y flwyddyn 1807 y cymerodd le. Mr. James Williams, Llanfaches oedd y gweinidog cyntaf. Bu ef yma o bymtheg i ugain mlynedd, ond rhyfeddol o wan oedd yr achos trwy yr holl dymor. Pan ymadawodd Mr. Williams, cafodd Mr. Thomas Jones, myfyriwr o athrofa y Neuaddlwyd, ei urddo yn ganlyniedydd iddo. Ebrill 13eg, 1826, yr urddwyd ef, ond byr iawn fu tymor ei weinidogaeth. Gwaelodd ei iechyd yn fuan, fel y gorfu iddo fyned i dy ei rieni yn sir Gaerfyrddin, lle y bu farw yn 1828. Dilynwyd Mr. Jones gan Mr. Thomas Thomas, brawd y diweddar Mr. D. Thomas, Llanfaches. Bu ef yma o bedair i bum' mlynedd. Ar ei ymadawiad ef, urddwyd Mr. Benjamin Evans, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn athrofa Penywaun. Ychydig fu ei arosiad yntau, symudodd o Gaerlleon i Wiltshire, ac oddiyno i America. Ar ei ol ef daeth Mr. William Gethin, Caerodor, yma fel gweinidog. Gwerthodd ef yr hen gapel, ac adeiladodd un newydd a mwy cyfleus. Rhoddodd Mrs. Powell, gwraig y diweddar Mr. T. Powell, Brynbiga, fenthyg 170p. ar y capel newydd, ac yn ei hewyllys, gadawodd yr arian hyny i nai iddi, yr hwn a gymerodd feddiant o'r capel, ac y mae dan glo ganddo er's blynyddau lawer bellach, a'r ychydig achos wedi diflanu.

Dilewyrch y bu yr achos bychan hwn o'i gychwyniad i'w ddiwedd, ond y mae yn gywilydd i gyfundeb Saesonaeg yr Annibynwyr yn Mynwy, iddynt adael y capel i gael ei gau i fyny yn hytrach na thalu y swm fechan o ddyled oedd arno.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

THOMAS JONES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanllwni, yn sir Gaerfyrddin, a derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn nghapel Noni gan Mr. Jonathan Jones. Yno hefyd y dechreuodd bregethu. Wedi bod am rai blynyddau yn athrofa y Neuaddlwyd, aeth i ardal y New Inn, Mynwy, i gadw ysgol, lle y bu am yspaid tair blynedd, ac yn pregethu yn achlysurol mewn gwahanol fanau yn yr ardal. Yn 1826, cafodd ei urddo yn Nghaerlleon, ond fel y nodasom, pallodd ei iechyd yn fuan fel y bu raid iddo ddychwelyd i'w ardal enedigol. Bu farw yn nhy ei dad, Ebrill 21ain, 1828, yn 28ain oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanllwni. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Moses Rees, y pryd hwnw o Bencadair. Yr oedd Mr. Jones yn wr ieuangc da, siriol a gobeithiol iawn. Ni bu y fath lewyrch ar yr achos yn Nghaerlleon ar un tymor o'i hanes ag yn yspaid byr ei weinidogaeth ef.

WILLIAM GETHIN. Ganwyd ef yn mhlwyf Ystradgynlais, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1798. Ymunodd a'r eglwys yn Nhynycoed pan yn bymtheg oed. Dechreuodd bregethu yn lled ieuangc. Derbyniodd ei addysg yn athrofa y Drefnewydd. Bu am ychydig o flynyddau yn weinidog yr eglwys Gymreig yn Nghaerodor. Symudodd o Gaerodor i Gaerlleon, ac oddiyno i Horningsham, Wiltshire, lle y bu farw Chwefror 1af, 1858, yn 60 mlwydd oed.

MAESLLECH

Mae y capel hwn, yr hwn a elwir Capel yr Undeb, yn mhlwyf Llangybi, tua phedair milldir o Frynbiga, a thua chwech o Gasnewydd. Aelodau o'r New Inn, Heol-y-felin, Casnewydd, a Chaerlleon, mewn cysylltiad a'r diweddar Mr. David Thomas, Llanfaches, ddarfu adeiladu y capel, ryw amser rhwng 1810 ac 1812. Ni chafodd eglwys ei ffurfio yma am rai blynyddau ar ol agoriad y capel. Mr. B. Moses, New Inn, ddarfu gorffoli eglwys yma tua y flwyddyn 1821. Ar y 15fed o Hydref, 1823, cafodd un Jonah Francis ei urddo yn weinidog i'r eglwys fechan, ond trodd allan yn ddyn anfoesol iawn yn mhen tua blwyddyn ar ol ei urddiad, fel y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef. Yn mhen ychydig amser ar ol ymadawiad Francis, rhoddwyd galwad i un Joshua Davies. Ni bu yntau yma yn hir. Aeth i Loegr i gasglu at ddyled y capel, ac ni ddychwelodd byth. Yn 1836, rhoddwyd galwad i Mr. John Mathews, Mynyddislwyn, yn awr o Gastellnedd, ac urddwyd ef yma yn Hydref y flwyddyn hono. Bu Mr. Mathews yn llafurio yn y cylch bychan hwn hyd 1841, pryd y symudodd i Fynydd Seion, Casnewydd. Ni bu y fath olwg lewyrchus ar yr achos yn Maesllech ar un adeg o'i hanes ag yn y pum' mlynedd y bu Mr. Mathews yma. Pe buasai Rhagluniaeth yn caniatau iddo ef aros yma yn hwy, neu yn anfon rhywun cyffelyb iddo i'w ddilyn, buasai yma achos cryf er's blynyddau; ond fel arall y bu. Ar y dydd cyntaf o Chwefror, 1844, urddwyd Mr. John Lewis, aelod o eglwys Penywaun, yma. Tua thair blynedd y bu ef yn weinidog yn y lle, ac nid ydym yn deall i'r achos lwyddo dim dan ei weinidogaeth. Ar ei ymadawiad ef, trowyd y gwasanaeth yn hollol i'r Saesonaeg, a bu un o'r enw Mr. Keddle yn weinidog yma am ychydig amser. Wedi hyny bu y capel yn nghau am tua dwy flynedd. Cafodd wedi hyny ei ail agoryd dan nawdd cyfundeb eglwysi Annibynol Saesonaeg Mynwy, ac y mae er's blynyddau bellach dan ofal gweinidogaethol Mr. George Thomas, Brynbiga, a dywedir fod golwg obeithiol ar bethau yno yn awr.

NEBO.

Capel bychan yw hwn yn mhlwyf Wolvesnewton, o fewn ychydig filldiroedd i Gasgwent. Casglwyd y gynnulleidfa, ac adeiladwyd y capel trwy ymdrech y llafurus David Thomas, Llanfaches Pan symudodd Mr. Thomas i'r ardal hon yn 1815, er dilyn ei alwedigaeth fel dilledydd, cafodd allan fod tua deugain o blwyfydd bychain yn y wlad fras hon heb gymaint ag un addoldy Ymneillduol ynddynt. Fel y gwnaethai yn flaenorol yn ardal Maesllech, ardrethodd a thrwyddedodd dri anedd-dy at bregethu ynddynt, a llwyddodd i gasglu cynnulleidfa. Yn 1818 adeiladodd y capel, yr hwn a agorwyd Mawrth 25ain, 1819, a'r dydd canlynol cafodd yntau ei urddo yn weinidog i'r eglwys ieuangc. Gweinyddwyd yn yr agoriad a'r urddiad gan y Meistriaid Ebenezer Jones, Pontypool; E. Davies, Hanover; R. Davies, Casnewydd; Isaac Skinner, Trefynwy; Robert Everett, Dinbych, a Joshua Lewis, Casgwent. Bu Mr. Thomas yn llafurio yn y lle hwn, mewn cysylltiad a Llanfaches, hyd derfyn ei oes yn 1864. Achos bychan yw hwn o'r dechreuad. Rhif yr aelodau yn 1861 oedd 23, yr ysgol Sabbothol 60, a'r gynnulleidfa 100. Mae y lle yn bresenol dan ofal Mr. George Thomas, Brynbiga, mab y gweinidog cyntaf.


TABERNACL, CASNEWYDD.

Mae yn ymddangos fod y rhan fwyaf o gychwynwyr yr achos hwn yn fwy o Fethodistiaid nag o Annibynwyr, ond o herwydd nad oedd y pryd hwnw un ddarbodaeth gan y corff at weinidogaeth sefydlog, ac na allesid dwyn achos Saesonaeg yn mlaen heb weinidog sefydlog, bu raid i'r gynnulleidfa yn dra buan roddi ei hun i fyny i'r enwad Annibynol. Adeiladasant gapel helaeth a hardd yn y flwyddyn 1822. Y draul oedd 782p. Cafodd drachefn ei ail-adeiladu a'i helaethu yn 1835, ac yn 1865 newidiwyd ei ffurf, a phrydferthwyd ef yn fawr, fel y mae yn awr yn addoldy nodedig o hardd a chyfleus, yn cynwys tua 700 o eisteddleoedd. Mr. Evan Jones, o Ferthyr Tydfil, yr hwn a fuasai yn bregethwr am rai blynyddau gyda y Methodistiaid, a ddewiswyd yn weinidog cyntaf yr eglwys hon. Bu ef yn llafurio yma gyda mesur helaeth o lwyddiant o 1822 hyd Rhag- fyr 2il, 1829, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny, ac y symudodd i Lewes, Sussex, lle y bu farw yn 1864. Yn Mawrth 1830, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Gillman, o Pitchcombe, yn sir Gaerloew. Bu Mr. Gillman yma yn barchus a rhyfeddol o lwyddianus am ddeuddeng mlynedd ar hugain. Llwyddodd i gasglu cynnulleidfa fawr, o bosibl y fwyaf yn yr holl dref, er nad y gyfoethocaf. Yr oedd rhif yr aelodau yma yn 1861 yn 300, a'r ysgol Sabbothol yn 305, a'r gwrandawyr tua 400. Bu Mr. Gillman farw yn Mawrth 1862, er galar mawr i'r gynnulleidfa a'r dref yn gyffredinol. Yr oedd wedi bod yn wael ei iechyd gryn amser cyn ei farwolaeth, fel y bu raid i'r eglwys edrych allan am ganlyniedydd iddo cyn ei farwolaeth. Yn Mehefin 1862, cafodd Mr. Peter William Darnton, B.A., o New College Llundain, ei urddo yma. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Dr. Halley, Llundain; Mr. Caleb Morris, gynt o Lundain; Mr. John Whithy, Abertawy; Mr. F. Pollard, a Mr. Lochore, Casnewydd. Ar ol llafurio yma am wyth mlynedd, ymadawodd Mr. Darnton y mis hwn (Mai 1870), i gymeryd gofal yr eglwys yn Queen Street, Caerlleongawr, ac felly mae eglwys y Tabernacl unwaith etto yn amddifad o weinidog. Mae yr eglwys hon trwy holl dymor ei hanes wedi bod yn enwog am ei hundeb a'i gweithgarwch, a dichon nad oes nemawr eglwys yn y sir wedi bod mor rhydd oddiwrth ofidiau, ac wedi ei bendithio a mwy o lwyddiant distaw a chyson. Rhodded yr Arglwydd iddi yn fuan etto fugail wrth fodd ei galon.

Mae amryw o aelodau yr eglwys hon o bryd i bryd wedi cael eu codi i bregethu, yr oedd yma yn ddiweddar, os nad ydynt yn bresenol, bump neu chwech o bregethwyr; ond nid ydym wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Y ddau ganlynol yn unig, cyn belled ag y gwyddom ni, a urddwyd yn weinidogion.

William Cuthbertson, B.A. Un genedigol o Scotland. Daeth i'r Casnewydd i ddilyn galwedigaeth fydol. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Tabernacl yn Mehefin 1846. Yn 1848, aeth i athrofa Spring Hill, ac ar orpheniad ei amser yno, urddwyd ef yn West Bromwich. Yn 1857 ymfudodd i Awstralia. Bu am chwe' mlynedd yn weinidog eglwys luosog a chyfoethog iawn yn Sydney. Yn 1863, dychwelodd i Loegr, ac er y flwyddyn hono y mae yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Bishop Stortford. Mae yn ddyn da a galluog iawn, ac yn sefyll yn uchel yn yr enwad.

Thomas Graham. Derbyniwyd ef yn y Tabernacl Chwefror 1af, 1850. Wedi gorphen ei amser yn athrofa Spring Hill, bu am ychydig amser yn weinidog yn Whitchurch, sir Henffordd. Ymfudodd oddiyno i New Zealand. Yr ydym yn deall nad yw yn y weinidogaeth yn awr.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

EVAN JONES. Ganwyd ef yn y Ffrwd, plwyf Penderyn, Brycheini Awst 7fed, 1790. Efe oedd yr hynaf o bump o blant, ac nid oedd ef o naw mlwydd oed pan y bu farw ei dad. Priododd ei fam drachefn a dy. fyddai yn wrandawr cyson yn nghapel Pontmorlais, Merthyr Tydfil, ac er nad oedd yn aelod eglwysig, yr oedd yn ofalus i fyned a'i lysblant gydag ef i'r capel. Ar un prydnawn Sabboth, aeth Evan Jones gyda ei lysdad i Bontmorlais, lle yr oedd pregethwr lled ddinod yn pregethu. Pa fodd bynag, cyrhaeddodd ei eiriau galon y llanc, ac o hyny allan glynodd gyda chrefydd. Yn 1807, ymunodd ag eglwys y Methodistiaid yn Mhontmorlais. Pan oedd yn ugain oed dechreuodd bregethu. Yn 1814, aeth i breswylio i'r Casnewydd, ac ar ei sefydliad yn weinidog yn y Tabernacl yn 1822, darfu ei gysylltiad a'r Methodistiaid, a threuliodd weddill ei oes gyda yr Annibynwyr. Yn 1829, ymsefydlodd yn weinidog yr eglwys yn y Tabernacl, Lewes, Sussex. Ar ol llafurio yno gyda derbyniad a pharch mawr am dair blynedd ar ddeg ar hugain, gorfodwyd ef gan lesgedd i roddi y weinidogaeth i fynu yn nghanol haf y flwyddyn 1862. Gwanhaodd yn raddol o'r pryd hwnw hyd Ionawr 20fed, 1864, pryd y bu farw mewn cyflawn fwynhad o gysuron crefydd yn driugain a thair ar ddeg oed.

Yr oedd Evan Jones, yn nghyfrif pawb a'i hadwaenai, yn ddyn da a duwiol nodedig. Cafodd deulu lluosog iawn-deuddeg neu bedwar ar ddeg o blant, ac felly daeth i'w ran lawer o ofalon a gofidiau, ond ni chafodd dim ei attal i gyflawni ei weinidogaeth yn effeithiol nes i'w nerth ballu. Dywedir ei fod yn un hynod am ei hyder diysgog yn yr Arglwydd, yr hyn a gadwai ei feddwl yn dawel yn nghanol pob gofalon.

THOMAS GILLMAN. Ganwyd ef yn mhlwyf Rodborough, sir Gaerloew, Medi 11eg, 1801. Yr oedd o'i febyd yn nodedig am ei ddifrifoldeb a'i feddylgarwch. Pan fyddai ei gyfoedion allan yn chwarae, byddai ef yn wastad mewn ystafell neillduedig yn y ty yn darllen Gair Duw. Ennillwyd ef i wneud proffes gyhoeddus o grefydd trwy weinidogaeth gyffrous John Rees, o Rodborough, gynt o'r Casnewydd. Ymunodd ag eglwys Mr. Rees yn Rodborough, pan yr oedd yn bymtheg oed, ac ymroddodd ar unwaith i fod yn ddefnyddiol yn yr Ysgol Sabbothol, mewn ymweled a'r cleifion, &c. Wrth weled ei ymgyflwyniad trwyadl i waith yr Arglwydd, anogwyd ef gan y cyfeillion i ddechreu pregethu. Mewn ty anedd y traddododd ei bregeth gyntaf, lle yr oedd ei weinidog, Mr. Rees, yn ei wrandaw, ac ar y diwedd gosododd yr hen weinidog ei law ar ben y pregethwr ieuangc, a dywedodd wrtho gyda dagrau o orfoledd, "Fy machgen anwyl i, nerthed yr Arglwydd chwi i bregethu yr athrawiaeth a bregethasoch heno hyd derfyn eich oes." Felly gwnaeth. Crist a'i Groes oedd pwngc ei bregeth gyntaf, a'r un peth fu ei destyn hyd y diwedd. Ar ol dechreu pregethu bu am ychydig amser yn derbyn addysg dan arolygiaeth Mr. J. Burder, M.A., o Stroud. Yn mhen ychydig wedi hyny priododd, ac aeth i fyw i Painswick. Bu yno drachefn yn derbyn gwersi gan Mr. Meek, gweinidog yr Annibynwyr yn y lle hwnw. Wedi bod yn pregethu ar brawf yn Pitchcombe, gerllaw Stroud, am ddau fis, derbyniodd alwad unfrydol, ac urddwyd ef yno Gorphenaf 16eg, 1828. Ar ol llafurio yno am ddwy flynedd, yn ffyddlon a llwyddianus iawn, derbyniodd alwad o'r Casnewydd, a symudodd yno, fel y nodasom, yn 1830. Er nad oedd yr eglwys ond gwan, a'r gynnulleidfa ond bechan, ar ddechreuad ei weinidogaeth, aeth y lle yn rhy gyfyng i gynwys y gwrandawyr cyn pen pum' mlynedd, fel y bu raid ail-adeiladu a helaethu y capel. Cafodd y ty newydd drachefn ei lenwi yn ddioed, a chadwodd ef yn llawn hyd derfyn ei oes.

Yr oedd Mr. Gillman wedi bod yn dyoddef er's blynyddau oddiwrth glefyd y galon, ac yn niwedd y flwyddyn 1860, aeth yr arwyddion yn fwy peryglus, fel y bu raid iddo roddi heibio bregethu am rai misoedd. Ail ymaflodd yn ei hoff waith yn haf y flwyddyn 1861, ond gwaelodd drachefn tua diwedd y flwyddyn hono, ac ar ol dyoddef poenau mawr am rai wythnosau, bu farw Mawrth 20fed, 1862, yn 61 oed. Claddwyd ef yn mynwent newydd y dref, yn ngwydd canoedd lawer o alarwyr. Gweinyddwyd yn ei angladd gan ei hen gyfaill hoffus Mr. Thomas Rees, Casgwent, yr hwn hefyd y Sabboth canlynol, yn unol a dymuniad y marw, a draddododd ei bregeth angladdol oddiwrth Nehemiah vii. 2.

Dyn tawel, gostyngedig, a dirodres iawn oedd Thomas Gillman. Nid oedd yn dalentog na doniol fel pregethwr, ond yr oedd yn ddywedwr eglur, teimladwy, ac efengylaidd iawn. Trwy ei ddaioni, ei ffyddlondeb, a'i ddiwydrwydd, ac nid trwy ragoriaeth ei dalent, y bu yn offerynol i wneyd cymaint o ddaioni. Y mae y testyn a ddewiswyd gan Mr. Rees, i sylfaenu arno ei bregeth angladdol iddo, yn ddarluniad cywir o'i nodwedd—"Canys efe oedd wr ffyddlawn, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer."

CASGWENT.

Mae y dref fechan, ond brydferth hon, yn sefyll ar lan yr afon Wy, ac yn agos i'w hymarllwysiad i gulfor Caerodor. Cynwysai yn 1861, 3,364 o drigolion. Mae yn ddiddadl fod yn y dref hon, a'r gymydogaeth, lawer o Ymneillduwyr yn amser Mr. Wroth, o Lanfaches, ond yn ddiweddar iawn y dechreuwyd yr achos Annibynol sydd yma yn bresenol. Mae hanes ei ddechreuad fel y canlyn:-Tua y flwyddyn 1823, darfu i Mr. Stephens, o Hewelsfield, yn sir Gaerloew, boneddwr cyfrifol, ac aelod selog gyda yr Annibynwyr, ddeall fod rhai Annibynwyr yn Nghasgwent yn addoli gyda y Bedyddwyr, ond yn cael eu cadw oddiwrth fwrdd yr Arglwydd am na chymerent eu trochi. Aeth i siarad a hwy, a pherswadiodd hwy i rentu ystafell at gynal gwasanaeth crefyddol, a galw Mr. David N. Thomas, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn oedd y pryd hwnw yn pregethu yn Forest Green, i sefydlu yn eu plith. Cydsyniasant a'r cynghor, a daeth Mr. Thomas atynt; casglwyd yno gynnulleidfa, a chorffolwyd eglwys, ac aeth yr ystafell yn fuan yn rhy fechan i gynwys y gwrandawyr. Ar anogaeth, a thrwy gymorth Mr. Stephens, o Hewelsfield, Mr. Loader, o Drefynwy, a Mr. Armitage, o'r Casnewydd, rhentwyd hen adeilad, yr hon gynt a fuasai yn chwareudy, a chyfaddaswyd hi at gynal addoliad crefyddol. Ar y 19eg o Ebrill, 1824, cafodd y lle hwn ei agor fel capel Annibynol, a thranoeth, urddwyd Mr. David N. Thomas yn weinidog i'r eglwys ieuangc, mewn cysylltiad ag eglwys fechan arall yn Hewelsfield. Gweinyddwyd ar yr agoriad a'r urddiad gan Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd, a'r Meistriaid D. Peter, Caerfyrddin; W. Thorp, Caerodor; J. Burder, M.A., Stroud; R. Meek, Painswick; Arthur Tidman, y pryd hwnw o Frome; D. Thomas, Wotton-under-Edge; E. Jones, Pontypool; a Joshua Lewis, (Bedyddiwr) Casgwent. Cyn pen llawn dair blynedd, derbyniodd Mr. Thomas alwad oddiwrth yr eglwys yn Abergwili, sir Gaerfyrddin, a symudodd yno. Ar ol ei ymadawiad bu yr eglwys am fwy na blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogion a phregethwyr cymydogaethol. Yn nechreu y flwyddyn 1828, rhoddasant alwad i un Mr. John Owen. Urddwyd ef yma Ebrill 1af, yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan Dr. Lewis, Casnewydd, a'r Meistriaid Jones, Pontypool; Powell, Brynbiga; Loader, Trefynwy; a Burder, Stroud. Trodd pethau yn lled annymunol yma yn fuan rhwng Mr. Owen a'r bobl, yn benaf o herwydd ei fyrbwylldra a'i annoethineb ef. Bu ef yma hyd y flwyddyn 1831, ond ni wnaeth fawr o ddaioni. Ar ei ymadawiad oddiyma ymfudodd i'r America.

Ar ol bod drachefn heb weinidog am ddwy flynedd, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Thomas Rees, Llanfaple, yr hwn a symudodd yma yn 1833. Yr oedd y gynnulleidfa hyd yn hyn wedi bod yn ymgynnull i'r hen chwareudy, ond cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Rees yn y lle, ymroddodd yn benderfynol i adeiladu capel. Llwyddodd i gael darn o dir cyfleus iawn, ac adeiladodd arno addoldy hardd, yr hwn a agorwyd yn Medi 1834, pryd y pregethwyd gan Mr. Jay, o Bath; a Dr. George Legge, y pryd hwnw o Gaerodor. Ni orphwysodd Mr. Rees nes iddo gasglu digon o arian i dalu am y capel a'r tir, a chafodd yr hyfrydwch fwy na deuddeng mlynedd cyn ei farwolaeth o weled y lle yn ddiddyled. Gwan iawn oedd yr achos yma ar ddechreu ei weinidogaeth ef, ond ychwanegodd nerth yn raddol, fel yr oedd yr eglwys yn rhifo tua chant o aelodau flynyddau cyn terfyn ei oes ef, a'r gwrandawyr tua 200. Parhaodd Mr. Rees i fod yn barchus a nodedig o ddefnyddiol yma hyd ddydd ei farwolaeth yn Ebrill 1865.

Yn Mehefin 1865, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i Mr. John Thomas, gwr ieuangc doniol iawn o athrofa yr Annibynwyr yn Nghaerodor. Darfu i ddoniau cyffrous Mr. Thomas greu cryn gyffroad yn y dref a'r ardal, fel yr aeth y capel lawer yn rhy fychan. Penderfynwyd ar unwaith adgyweirio y capel, gosod oriel ac eisteddleoedd newyddion ynddo, ac adeiladu ysgoldy y tu cefn iddo. Yr oedd y draul dros 600p., ac wedi tynu y ddyled ar y lle, pan welodd Mr. Thomas nad oedd y bobl mor barod ag y disgwyliasai efe i'w dalu, gwnaeth ei feddwl i fyny yn ddisymwth yn Rhagfyr 1867, i ateb galwad a dderbyniasai o Portland Chapel, St. John's Wood, Llundain, a symudodd yno, gan adael y cyfeillion yn Nghasgwent i ymladd a rhyw 500p. o ddyled goreu y medrent.

Ar ol ei ymadawiad ef bu pethau yn lled ddigalon yma am fwy na blwyddyn. Yn Mawrth 1869, rhoddwyd galwad i Mr. G. Orme, o Grampound, Cornwall. Mae yn ymddangos fod Mr. Orme yn ateb y lle yn dda. Mae yn awr yn gwneyd ymdrech egniol i dalu yr holl ddyled y flwyddyn hon, ac yn lled sicr o lwyddo yn ei ymdrech.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

THOMAS REES. Ganwyd y dyn da a defnyddiol hwn yn mhlwyf Llansamlet, gerllaw Abertawy, Gorphenaf 23ain, 1788. Ni wyddom ond y peth nesaf i ddim o hanes ei rieni. Mae yn ymddangos fod ei fam yn ddynes dduwiol iawn. Byddai yn arfer ei gymeryd ef pan yn blentyn i ystafell, yn gosod ei dwylaw ar ei ben, ac yn gweddio drosto wrth ei enw. I gapel y Methodistiaid yn y Cwm, Llansamlet, yr arferai ei rieni fyned, ac mae yn ymddangos iddo yntau ymuno a'r eglwys yno yn dra ieuangc. Priododd yn ieuangc iawn a dynes oedd wyth neu ddeng mlynedd yn henach nag ef ei hun, yr hon, er ei bod yn ferch dlawd, ac heb gael dim manteision addysg, a drodd allan yn gymhares werthfawr iddo.

Wedi priodi, symudasant i Ferthyr Tydfil. Yr oeddynt y pryd hwnw mewn amgylchiadau isel iawn. Darfu iddynt ill dau ymuno a'r eglwys Annibynol yn Zoar, ac yn mhen ychydig amser gwelodd yr eglwys fod defnyddiau pregethwr yn Thomas Rees, ac er ei fod yn isel ei amgylchiadau, ac a gofal gwraig a phlant arno, anogasant ef i ddechreu pregethu. Daeth yn fuan yn adnabyddus i'r eglwysi cymydogaethol, ac ennillai barch pa le bynag yr elai. Yn mhen amser rhoddodd heibio ei alwedigaeth fydol fel gweithiwr, a chynaliodd ei deulu am rai blynyddau wrth gadw ysgol a phregethu yma a thraw ar y Sabbothau. Tua y flwyddyn 1821, aeth i Cendl i gadw ysgol, a bu yno nes iddo gael galwad o Lanfaple yn 1823. Wedi ei urddiad yn Llanfaple, aeth i'r ysgol at Mr. Skeel i Abergavenny. Byddai yn pregethu i'w bobl yn Llanfaple bob Sabboth, ac yn ymroddi a'i holl egni i ddysgu ei wersi yn yr ysgol am bum' diwrnod o'r wythnos. Aeth rhagddo mor enwog fel ysgolhaig, fel y gosododd Mr. Skeel ef yn mhen ychydig amser yn is-athraw, a chymaint oedd anwyldeb Mr. Skeel ato fel y gadawodd swm o arian yn nghyd a'i lyfrau oll iddo yn ei ewyllys. Ar of llafurio yn llwyddianus yn Llanfaple fel gweinidog am fwy na deng mlynedd, ac yn Abergavenny fel ysgolhaig ac is-athraw am rai blynyddau, symudodd yn 1833 i Gasgwent. Cymerodd y cam hwn ar gais taer amryw weinidogion ac eraill, y rhai a farnent mai efe oedd y dyn cymhwysaf i godi yr achos yno o'i iselder, a phrofodd y canlyniad eu bod yn barnu yn gywir. Adeiladodd gapeli yn Nghasgwent a St. Arvans, a thalodd am danynt. Cyfododd achos oedd ar farw o wendid i fod yn gymharol gryf a hungynaliol. Parhaodd ei weinidogaeth yn Nghasgwent ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac yr oedd yn sefyll lawer yn uwch yn ngolwg y dref a'r gymydogaeth yn y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd nag yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yno. Bu farw Ebrill 30ain, 1865, ar ol tri diwrnod o gystudd, ac amlygwyd galar cyffredinol trwy y dref o herwydd colli un a berchid mor fawr gan y trigolion yn gyffredinol.

Mae hanes bywyd Thomas Rees yn benod ryfedd yn llyfr rhagluniaeth. Nid ymddengys iddo gael ond y peth nesaf i ddim o fanteision addysg yn moreu ei oes; bu mor annoeth a phriodi cyn ei fod yn ugain oed, a thaflu ei hun i dlodi mawr trwy hyny; ond er pob anfantais cyfododd i sylw a chylch o ddefnyddioldeb pwysig. Er ei holl anfanteision yr oedd cyn ei fod yn bymtheg ar hugain oed yn weinidog eglwys lle yr oedd yn rhaid iddo bregethu yn y ddwy iaith bob Sabboth, ac mewn ychwanegiad at hyny cyflawnai ei ddyledswyddau yn effeithiol fel is-athraw mewn ysgol nid anenwog yn nhref foneddigaidd Abergavenny. Mae ei hanes yn dangos yn eglur nad oes unrhyw anhawsder nas gall meddwl penderfynol dori trwyddo. Nid oedd dim yn annghyffredin ynddo o ran ei alluoedd meddyliol na'i ddoniau fel pregethwr i gyfrif am ei lwyddiant. Mae yn rhaid priodoli y cwbl i ofal neillduol Rhagluniaeth am dano, ac i'w lafur dibaid yntau, ac uniondeb diwyrni ei egwyddorion. Mae ei lwyddiant yn anogaeth rymus i ddynion ieuaingc tlodion i ymdrechu yn erbyn anhawsderau i gyrhaedd safleoedd o ddefnyddioldeb ac enwogrwydd, ac yn condemnio mewn iaith uchel ac eglur fusgrellni y rhai hyny a gawsant ddeg cymaint o fanteision a'r gwr rhagorol hwn, ond a foddlonant dreulio eu holl fywyd yn wagnodau diwerth mewn byd ac eglwys.

ST. ARVANS.

Plwyf bychan yw hwn, yn cynwys 379 o drigolion, tua dwy filldir o dref Casgwent. Bu yma offeiriad duwiol ac efengylaidd iawn o'r enw David Jones, yn gweinidogaethu am amryw flynyddau yn nechreu y ganrif bresenol. Bu farw y gwr da hwn tua yr amser yr ymsefydlodd Mr. Rees yn Nghasgwent, ac ar ei farwolaeth darfu pregethiad yr efengyl yn y plwyf. Tua y flwyddyn 1835, rhentodd Mr. Rees anedd-dy yn y pentref at bregethu a chynal ysgol Sabbothol. Trodd hyny allan yn llwyddianus iawn. Yn 1842, prynodd yno ddarn o dir ac adeiladodd gapel bychan arno. Oddiar pryd hwnw hyd yn awr y mae ysgol Sabbothol a phregethu rheolaidd yn cael eu cadw yn y lle. Nid oes yno eglwys wedi ei chorffoli. Mae yr aelodau sydd yn byw yn y plwyf yn dyfod at y fam-eglwys i Gasgwent i gymuno. Mae yn ddigon tebygol y corffolir yno eglwys gydag amser.

CEFN-Y-CRIB.

Mae pregethu wedi bod yn yr ardal hon er's llawer o flynyddoedd. Pregethwyd yma gan Mr. Edmund Jones, Pontypool, a chan ei ganlyniedydd Mr. Ebenezer Jones; ond Mr. D. Thomas, Penmain, a lafuriodd yma yn benaf. Yn 1823, penderfynwyd cael pregethu yma un Sabboth yn y mis, foreu a hwyr, mewn dau dy yn y gymydogaeth bob yn ail; sef yn nhy John Jones, o'r Fferm, yn mhlwyf Llanhiddel, a thy Daniel Phillips, Tygwyn, Cefnycrib, yn mhlwyf Trefethin. Parhawyd felly gyda gradd o gysondeb a mesur o lwyddiant hyd 1832 pan yr adeiladwyd capel bychan, tlws, a galwyd ef capel yr Ynys. Nid oedd yma eglwys wedi ei ffurfio, ac ystyrid yr achos yn perthyn i Benmain, ac Ebenezer, Pontypool, er nad oedd na'r naill na'r llall yn teimlo fod ei gyfrifoldeb arnynt. Mr. E. Rowlands, Ebenezer, a Mr. J. Jones, Penmain, a bregethai yma fynychaf, heblaw pregethwyr cynnorthwyol yr eglwysi cylchynol. Bu yma ysgol Sabbothol flodeuog ar un adeg, a deuai nifer luosog o'r ardalwyr i wrando. Ond o herwydd ryw bethau annoeth diflanodd yr ysgol-ciliodd y gwrandawyr, ac yr oedd yr ymddiriedolwyr ar fedr troi y capel yn ddau dy, gan eu bod yn methu cael arian i dalu y llog; oblegid yr oedd y ddyled yr aed iddi yn nghodiad y capel yn aros, oddigerth ryw 15p. a dalwyd. Dan yr amgylchiadau hyn ceisiodd yr ychydig grefyddwyr oedd yn yr ardal ar Mr. Herbert Daniel gymeryd at y lle; yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog yn Mhontypool. Cydsyniodd Mr. Daniel a'u cais. Ail ddechreuwyd yr ysgol Sabbothol, ac ysgol ganu, galwyd yma gyfeillach grefyddol am y tro cyntaf, a daeth un i hono, a chynyddasant yn fuan i wyth; ac ar y Sabboth, Mai 23ain, 1841, derbyniwyd pump o'r rhai hyny, a phump eraill o aelodau Penmain oedd yn byw yn yr ardal, a ffurfiwyd hwy yn eglwys yn y lle. Dyna ddechreuad yr achos ar Gefnycrib. Gan fod gofal yr achos newydd yn Mhontypool hefyd ar Mr. Daniel, nid oedd yn gallu bod ond un Sabboth yn y mis ar Gefnycrib; ond yr oedd yn wastad gyda hwy yn y moddion wythnosol; a gofalai am gael rhyw rai i weini iddynt ar y Sabbothau eraill; a daeth yr achos bychan yn mlaen yn llwyddianus nes y cyrhaeddodd yr eglwys yn 80 o rifedi. Ond daeth cwmwl dros yr achos ar ol hyny. Arafodd y gweithfaoedd, fel y bu raid i lawer symud o'r gymydogaeth-rhai i'r America, torwyd rhai i'r bedd, a gwrthgiliodd rhai i'r byd, fel y disgynodd yr achos yn bur isel. Ond torodd gwawr drachefn, ac adferwyd yr achos nes y daeth mor llewyrchus ac y gwelwyd ef o gwbl. Helaethwyd y capel trwy 130p. o draul, yr hyn a dalwyd oll yn yr ardal; ac yr oedd y ddyled oedd arno pan y cymerodd Mr. Daniel ei ofal wedi ei llwyr dalu cyn hyny; heblaw.costau ychwanegol yr aed iddynt o'r blaen i'w adgyweirio, a'i baento, a'i sicrhau yn feddiant i'r enwad. Mae y gweithiau glo yn darfod yn yr ardal, a'r gymydogaeth felly yn teneuo yn fawr, fel nad oes gobaith y gwelir yma achos cryf a lluosog. Dywed ein hysbysydd mai dau beth neillduol a brofodd yn niwed i'r achos, a dichon y bydd eu crybwyll yn foddion i beri i eraill ochel eu cyffelyb. Un peth oedd cweryl rhwng dau hen aelod, a'r ddau yn ddiaconiaid, a phob un o'r ddau yn rhy gyndyn i blygu a rhoddi ffordd. A pheth arall oedd i ddwy chwaer grefyddol, gweryla yn absenoldeb y gweinidog; ac i'r eglwys alw gweinidog dyeithr cyn ei ddychweliad i'w diarddel; a methwyd a'u cael at eu gilydd mwy; ond dywedai y ddwy blaid ped oedasid y ddysgyblaeth hyd ddychweliad y gweinidog y gallesid dwyn y pleidiau at eu gilydd.

SARDIS, FARTEG.

Mae y capel hwn wedi ei adeiladu ar lechwedd a elwir y Garnddiffaith, yn mhlwyf Trefethin, ychydig gyda milldir uwchlaw Abersychan. Mae dechreuad yr achos yn y lle hwn fel y canlyn:—Yr oedd tri o aelodau perthynol i'r Bedyddwyr, ac un Annibynwr o'r enw George Jayne, yn byw yn yr ardal. Ar ol cydymgynghoriad penderfynodd y pedwar brawd gychwyn cyfarfod gweddio, i fod yn symudol o dy i dy yn y gymydogaeth. Wedi glynu gyda y cyfarfod gweddio, gyda gradd o lwyddiant am tua dwy flynedd, ceisiasant gan eu gweinidogion, Mr. Evans, Penygarn, a Mr. Jones, Pontypool, ddyfod i bregethu i'r ardal bob yn ail, arnos Sabbothau, a llwyddasant i gael ganddynt hwy a'u cynnorthwywyr i ddyfod. Aeth yr anedd—dai mwyaf yn fuan yn rhy fychain i gynwys y cynnulleidfaoedd. Gan fod ysgoldy digon eang i gynwys 400 o bobl gan gwmni gwaith haiarn y Farteg, gofynwyd am ei fenthyg at gynal y cyfarfodydd pregethu. Wedi i hwnw drachefn fyned yn rhy fychan i gynwys y torfeydd, penderfynodd y ddau enwad i ymranu yn heddychol, ac adeiladu dau gapel. Adeiladodd y Bedyddwyr eu capel ar Dalywaun, a galwasant ef Pisgah, ac adeiladodd yr Annibynwyr Sardis ar y Garnddiffaith, tua haner milldir oddiwrth Pisgah. Agorwyd y ddau gapel yn y flwyddyn 1827. Yn fuan ar ol agoriad Sardis rhoddodd yr eglwys ieuangc alwadi Mr. Morris Jones, myfyriwr o athrofa y Neuaddlwyd, a gwr genedigol o Meifod, Maldwyn. Cynaliwyd cyfarfodydd urddiad Mr. Jones Chwefror 5ed a'r 6ed, 1828. Rhoddir hanes yr urddiad yn Lleuad yr Oes fel y canlyn:—"Dechreuwyd y dydd cyntaf, am dri, gan y brawd Evan Davies, Neuaddlwyd; pregethwyd gan y brawd Evan Jones, Neuaddlwyd; y Parch. Hugh Jones, Tredegar, a'r Parch. R. Jones, Ffaldy brenin. Am saith, dechreuwyd gan y Parch. D. E. Owen, Cendl; pregethodd y Parchedigion E. Griffiths, Browyr; D. Jones, Llanharan, a J. Rowlands, Cwmllynfell. Am saith, yn y bore, yr ail ddydd, dechreuwyd gan y brawd T. Williams, Cwmaman; a phregethodd y brodyr H. Morgans, Samah, ac E. Williams, Caerphili. Am 10, dechreuwyd gan y Parch. E. Davies, Hanover; pregethodd y Parch. T. Evans, Aberhonddu, ar natur eglwys; gofynodd y Parch. J. Jones, Main, y gofyniadau; dyrchafodd y Parch. E. Jones, Pontypool, yr urdd-weddi; pregethodd y Parch. J. Rowlands, Cwmllynfell, i'r gweinidog, a'r Parch. D. Lewis, Aber, i'r eglwys. Am 3, dechreuwyd gan y Parch. W. Hopkins, Llangattwg; pregethodd y Parchedigion D. Griffiths, Castellnedd; E. Griffiths, Browyr, (yn Saesonaeg), a J. Jones, Main. Am 7, dechreuwyd gan y brawd Joshua Thomas, Penmain; a phregethodd y Parchedigion T. Thomas, Caerlleon-ar-wysg; D. E. Owen, Cendl, a J. Hughes, Maendy." Bu Mr. Jones yn llafurio yn ddiwyd a llwyddianus iawn fel gweinidog i'r eglwys hon am ddeng mlynedd ar hugain, o fewn ychydig fisoedd. Teithiodd lawer trwy Loegr a Chymru i gasglu at ddyled y capel, ac ni orphwysodd nes ei llwyr ddileu. Yn fuan ar ol ei sefydliad yn y lle llwyddodd yr achos yn fawr, a lluosogodd yr aelodau, fel yr oeddynt yn y flwyddyn 1839 yn rhifo tua 300. Wedi hyny, o herwydd dyryswch a marweidd-dra y gweithiau haiarn, ac ymadawiad canoedd o'r trigolion o'r ardal, syrthiodd yr eglwys a'r gynnulleidfa i nifer fechan iawn. Gydag ychydig o adfywiad yn y gweithfeydd, cryfhaodd yr achos i raddau drachefn, ond ni ddaeth byth mor gryf a llewyrchus ag yr ydoedd yn 1839. Yn niwedd y flwyddyn 1857, rhoddodd Mr. Jones ei ofal gweinidogaethol i fyny, a symudodd i Cheltenham, lle genedigaeth ei wraig, ac yno y mae yn bresenol.

Bu Mr. John Williams yn aelod defnyddiol iawn yn yr eglwys hon am lawer o flynyddau yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones. Gan ei fod yn ddyn nodedig o grefyddol, yn wr cymharol gyfoethog, ac yn un rhyfeddol o haelionus a gweithgar, bu o wasanaeth dirfawr i'r achos, a phan yr ymadawodd a'r lle i fyned i gychwyn gwaith haiarn Onllwyn, cafodd eglwys Sardis golled annirnadwy.

Wedi ymadawiad Mr. Jones, bu yr eglwys am tua dwy flynedd heb weinidog. Yn 1859, rhoddwyd galwad i Mr. David M. Davies, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn sydd yn wyr i'r enwog Morgan Jones, Trelech.

Yn y Diwygiwr am 1859, tudalen 220, rhoddir hanes urddiad Mr. Davies yn y drefn a ganlyn:

Ar ddyddiau Mercher ac Iau, yr 11eg a'r 12fed o Fai, neilldu vyd Mr. D. M. Davies, o Goleg Caerfyrddin, yn weinidog yn y lle uchod. Nos Fercher, gweddiodd y Parch. D. Williams, Glynnedd, a phregethodd y Parchedigion W. Williams, Adulam, Tredegar; W. Griffiths, Goshen, Rhymni; a D. Hughes, B. A., Saron, Tredegar. Boreu dydd Iau am 10, gweddiodd y Parch. S. Davies, Soar, Aberdare. Holwyd y gofyniadau arferol, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y Parch. I. Williams, Trelech. Pregethwyd i'r gweinidog ieuangc gan y Parch. W. Morgan, Caerfyrddin, ac i'r eglwys gan y Parch. T. Jeffreys, Penycae. Am 2, gweddiodd y Parch. D. Palmer, B.A., Aberteifi, a phregethodd y Parchedigion D. Williams, Glynnedd; Joseph Jones, Bryste, a W. Jenkins, Brynmawr. Am 6, gweddiodd Mr. Morgan, cenadwr, Pontypool, a phregethodd y Parchedigion S. Davies, Aberdare, ac I. Williams, Trelech.

Mae Mr. Davies wedi gwasanaethu yr achos yma yn ffyddlon oddiar ddechreuad ei weinidogaeth hyd yn bresenol, ond o herwydd sefyllfa isel y gweithfaoedd, a thaeniad cyflym yr iaith Saesonaeg yn mysg ieuengetyd y gymydogaeth, nis gall ef, na neb arall, obeithio gweled yma achos mor lewyrchus a chynt, heb i amgylchiadau yr ardal newid llawer er gwell; ac yn ol yr argoelion presenol, nid oes ond gobaith gwan am hyny. Cant oedd rhif yr aelodau yma 1865.[46]

Y MORFA.

Y Morfa y gelwir y rhan fwyaf o'r tir gwastad rhwng y Casnewydd a Chaerdydd. Mae y capel Annibynol, yr hwn a elwir capel Rhagluniaeth, yn mhlwyf Llansantffraid, rhwng cledrffordd Deheudir Cymru a'r môr, o dair i bedair milldir i'r de orllewin o'r Casnewydd. Yr oedd yn yr ardal hon rai Annibynwyr er's mwy na chwech ugain mlynedd yn ol, a byddai rhai o weinidogion yr enwad yn pregethu yn lled fynych yn eu tai. Yn Awst 1741, bu Mr. Henry Davies, o'r Cymar yn pregethu yn y Dreddu, yn mhlwyf Marshfield, ac yn nhy William John, yn mhlwyf Llansantffraid, ac y mae yn ymddangos fod pregethu lled gyson yn yr ardal y pryd hwnw. Wedi hyny collodd crefydd i raddau ei gafael yn y trigolion, oblegid pan gychwynwyd yr achos presenol yn y Morfa, yn 1826, nid oedd ond dau o aelodau gan yr Annibynwyr yn yr ardal, sef Mr. Isaac Harries, wedi hyny gweinidog y lle, a Mrs. James, gwraig Mr. Edward James, amaethwr cyfrifol, a thirfeddianwr. Bu ty Mr. James am flynyddau yn agored i gynal cyfarfodydd a lletya gweinidogion, a byddai Mr. Thomas, Penmain; Mr. Jones, Pontypool; Mr. Hughes, Groeswen, ac eraill, yn pregethu yn fynych yno flynyddau cyn adeiladu capel. Pan awd yn nghyd ag adeiladu, rhoddodd Mr. James ddarn cyfleus o dirdigon o le i'r capel a mynwent fechan, am bum' swllt y flwyddyn, dros 999 o flynyddau. Adeiladwyd addoldy bychan-digon mawr i ateb inifer y trigolion, am 230p., ac o'r swm hwn yr oedd 88p. 17s. 10c. wedi eu casglu erbyn dydd yr agoriad, Tachwedd 3ydd, 1826. O'r swm uchod yr oedd Mr. Edward James; Mr. Edmund James; Mr. Rees Davies, Casnewydd, ac eglwys y New Inn, wedi cyfranu 10p. yr un, a Mr. Isaac Harries, 6p. Pregethwyd yn agoriad y capel gan y Meistriaid E. Jones, Pontypool; D. Jones, Llanharan; W. James, Caerdydd; Evan Jones, Casnewydd; D. Davies, New Inn; Henry Jones, Llaneurwg, un o weinidogion y Methodistiaid; ac Evan Jones, Casbach, un o weinidogion y Bedyddwyr. Y Sabboth canlynol corffolwyd yno eglwys, gynwysedig o ddau aelod, sef Mr. Isaac Harries, a Mrs. James, ond yn mhen ychydig amser lluosogodd eu rhif i un-ar-ddeg. Wedi iddynt gynyddu i'r nifer hono, anogasant Mr. Isaac Harries i gymeryd ei urddo yn fugail arnynt. Cydsyniodd yntau a'u cais, ac urddwyd ef ar y 18fed o Fehefin, 1829. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd; a'r Meistriaid E. Jones, Casnewydd; G. Hughes, Groeswen; D. Jones, Taihirion; T. Harries, Mynyddislwyn; D. Davies, New Inn; E. Rowlands, Pontypool; Rees Davies, Casnewydd, a Watkin Watkins, Pontypool. Parhaodd yn weinidog yma hyd derfyn ei oes, ac yr ydym yn sicr na chafodd un gweinidog mewn unrhyw oes na gwlad ei anwylo yn fwy gan ei bobl nag ef. Llwyddodd yr achos i gymaint o raddau dan ei weinidogaeth ag y gallesid disgwyl mewn ardal mor deneu a gwasgaredig ei thrigolion. Rhif yr aelodau yn nechreu y flwyddyn 1861 oedd 64, a'r gwrandawyr, mewn ychwanegiad at hyny yn 40, a'r ysgol Sabbothol yr un nifer. Yn 1862, yr oedd y cymunwyr yn 70 o rif.

Wedi marwolaeth Mr. Harries, dewiswyd Mr. Robert B. Williams, gynt o Aberafon, yn ganlyniedydd iddo, ac yno y mae efe hyd yn awr.

Nid ydym yn gwybod fod ychwaneg nag un o aelodau yr eglwys hon wedi cyfodi i bregethu, sef Mr. John Thomas, yr hwn a fu am rai blynyddau yn Awstralia, ac sydd yn awr newydd ddychwelyd i'r wlad hon.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

ISAAC HARRIES, neu Isaac Morgan Harry, fel y galwai ei gymydogion ef, a anwyd mewn lle a elwir Twynycadnaw, yn mhlwyf Maesaleg, Mynwy, yn y flwyddyn 1782. Enw ei dad oedd Thomas Morgan Harry. Yr oedd ef a'i wraig yn aelodau ffyddlon a defnyddiol yn Heol-y-felin, Casnewydd, er's mwy nag ugain mlynedd cyn geni eu mab Isaac. Bu farw y fam pryd nad oedd Isaac yn llawn dwy flwydd oed, ond bu fyw ei dad hyd 1829. Er yn blentyn i rieni duwiol, efe a dreuliodd y pum' mlynedd ar hugain cyntaf o'i fywyd i rodio yn ol helynt y byd hwn, ond nid heb gael ei aflonyddu yn fynych gan ei gydwybod. Ar ol ymladd llawer ag argyhoeddiadau tueddwyd ef unwaith i fyned i wrandaw Mr. David Williams, o Ferthyr, yr hwn a gyhoeddasid i bregethu yn y gymydogaeth, a gafaelodd y gwirionedd yn achubol yn ei feddwl. Bu wedi hyn dros rai wythnosau mewn trallod meddwl dirfawr, ond o'r diwedd cafodd nerth i roddi ei hun i fyny i'r Arglwydd ac i'w bobl. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Heol-y-felin, Casnewydd, tua y flwyddyn 1807. Cyn gynted ag yr ymunodd a'r eglwys ymroddodd i fod yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei Arglwydd. Yn mhen rhai blynyddau ar ol ei dderbyn anogwyd ef gan yr eglwys i arfer ei ddawn fel pregethwr, a'r hyn y cydsyniodd ar ol llawer o ystyriaeth. Wedi bod am amryw flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn yn ei fam-eglwys, a'r eglwysi cymydogaethol, cafodd ei urddo yn weinidog i'r gynnulleidfa fechan a gasglesid yn benaf trwy ei lafur ef ei hun ar y Morfa. Bu yn llafurio, fel y nodasom, yn y cylch hwn gyda derbyniad a llwyddiant hyd derfyn ei oes. Ni bu erioed yn ymddibynol ar yr hyn a dderbyniai oddiwrth yr eglwys am gynaliaeth ei deulu, ond dilynai ei orchwyl fel gweithiwr diwyd cyhyd ag y parhaodd ei nerth. Tra y gallodd ef ennill ei fara trwy chwys ei wyneb ni feddyliodd am gymell pobl ei ofal i gyfranu yn ol eu gallu at ei gynaliaeth, a dichon ei fod ef a hwythau wedi bod i raddau yn esgeulus ar y pen hwn, ac iddo gael teimlo mesur o anfantais yn ei henaint o herwydd yr esgeulusdod hwn. Pan yn deall fod ei amgylchiadau i raddau yn wasgedig, tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth darfu i ysgrifenydd y llinellau hyn, o hono ei hun, ysgrifenu at Drysorydd un o'r Funds i Lundain i ofyn am ychydig gymorth i'r gwr teilwng, a derbyniodd bedair punt iddo, a thyna yr unig arian a dderbyniodd yn ei fywyd o le o'r fath. Yr oedd y gwr da yn rhy wylaidd i son gair am ei anghenion with bobl ei ofal na neb arall. Pa fodd bynag trefnodd ei Dad nefol iddo gael digon i'w gario i ben ei daith, a bu farw heb fod yn nyled neb o ddim. Ar ol cael ei gyfyngu i'w wely, am rai wythnosau, bu farw, fel y bu fyw, mewn cymundeb hyfryd a'r Arglwydd, Awst 2il, 1862, yn 80 oed. Claddwyd ei gorff yn barchus wrth gapel y Morfa, a gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Davies, New Inn; Mr. Daniel, Cefnerib; Mr. Jones, Rhydri, ac eraill.

Gorchwyl anhawdd iawn yw rhoddi darluniad cywir o gorff, meddwl, doniau, a nodwedd Isaac Harries i rai na welsant ac na chlywsant ef erioed. O gorff yr oedd yn lled dal-yn agos i chwe' troedfedd, teneu o gnawd, ond yn gadarn o wneuthuriad, o liw tywyll, ac o wynebpryd yn hytrach yn hagr, ond yr oedd y mwyneidd-der, y gwylder, a'r diniweidrwydd a ymddangosai yn ei ddau lygad yn gwneyd i fyny yn gyflawn am ddiffyg prydferthwch wyneb. Fel gweithiwr cyffredin, neu hen ffarmwr nodedig o wledig y gwisgai bob amser. Nid oedd dim yn offeiriadol yn ei ymddangosiad, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb. O ran ei dymer yr oedd yn rhyfeddol o fwyn a charedig, ac or ddau yr oedd yn rhy wylaidd. Ni chafodd ddim manteision addysg yn moreu ei oes; dysgodd ddarllen ei Feibl a llyfrau Cymreig eraill, a thyna holl gyfanswm ei ddysgeidiaeth. Er iddo gael ei fagu yn agos i'r Casnewydd—tref sydd er's oesau yn fwy na haner Saesonaeg, ychydig neu ddim Saesonaeg a wyddai. Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn ei Feibl, ac wedi yfed ei ysbryd, yn gystal a thrysori ei eiriau yn ei gof i raddau helaethach na nemawr a adwaenasom yn ein hoes. Fel pregethwr, yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun. Nid oedd yn debyg i neb yn ei ddawn, na neb yn debyg iddo yntau, ac etto nid oedd ei hynodrwydd yn tynu dim o sylw y gwrandawyr oddiwrth y gwirionedd a draddodai. Nid yn yr hyn a ddywedai yn gymaint ag yn yr eneiniad oedd ar ei eiriau yr oedd dylanwad mawr ei weinidogaeth yn gynwysedig. Byddai weithiau yn lled ddieffaith, ond brydiau eraill cariai y cwbl o'i flaen. Nid oedd un radd o fiwsig yn ei lais, ond byddai ar amserau yn ofnadwy o effeithiol. Mae yn anmhosibl rhoddi darlun byw o Isaac Morgan Harry ar bapur. Y rhai a'i gwelsant ac a'i clywsant yn unig a all ffurfio drychfeddwl cywir amdano. Bydd ei enw yn perarogli yn Mynwy, a rhanau o Forganwg, tra byddo y diweddaf o'i gydnabod yn fyw. Priododd yn y flwyddyn yr aeth at grefydd, a chafodd bedair o ferched, a bu tair o honynt fyw i weled claddu eu mam a'u tad. Yn awr, gorphenwn ein sylwadau ar hanes yr hen bererin hwn yn yr ychydig linellau a ysgrifenasom at Mr. Jones, awdwr ei gofiant, ychydig flynyddau yn ol: "Fel dyn, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diddrwg a anadlodd erioed; o ran galluoedd meddyliol, talp o ddiamond heb ei gaboli ydoedd; o ran ei dduwioldeb yr oedd yn seraph mewn corff dynol; fel pregethwr, yr oedd bob amser yn dderbyniol, ond rai prydiau llwyr amddifadai ei wrandawyr o'u hunanfeddiant; ac fel gweddiwr cyhoeddus, nid wyf yn cofio i mi erioed glywed neb yn gyffelyb iddo i gyfodi torf o ddynion i'r nefoedd, o ran teimlad, ac i dynu cawodydd o'r nefoedd i lawr ar ddynion."[47]

TABOR, MAESYCWMWR

Dechreuwyd yr achos Annibynol yn ardal Maesycwmwr yn 1827, gan aelodau perthynol i'r Tynewydd, Mynyddislwyn, ac ychydig o aelodau o'r Groeswen, y rhai a osodasant i fynu addoliad lled reolaidd, megis cyfarfodydd gweddio, cyfeillachau crefyddol, a phregethu achlysurol, yn nhy Edward Richards, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw yn agos i'r Gellideg Isaf. Yr oedd teuluoedd Gwernanfawr a'r Gellideg-Isaf yn perthyn i'r Groeswen, a'r proffeswyr eraill gan mwyaf oll, yn aelodau yn y Tynewydd, yr oedd rhai o aelodau Penmain a'r Tynewydd yn byw yn mhlwyf Bedwellty, ychydig yn nes i fyny yn y cwm na Maesycwmwr, ac yn chwenych uno i osod i fynu yr achos newydd. Pan aed i son am adeiladu capel, methodd yr holl frawdoliaeth gyduno am y lle cymhwysaf i'w adeiladu, ac felly adeiladodd un blaid Tabor, yn mhlwyf Bedwas, tra yr adeiladodd y blaid arall Salem, yn mhlwyf Bedwellty, tua milldir yn uwch i fynu yn y cwm. Gan i'r cyfeillion ymranu yn heddychol, a bod yr ardal yn ddigon poblog i gynal dau achos, aeth pob peth yn mlaen yn ddymunol a christionogol. Adeiladwyd Tabor yn 1829, ac efe oedd yr unig gapel Ymneillduol yn mhlwyf Bedwas y pryd hwnw. Yn mhen tua blwyddyn ar ol adeiladu y capel corffolwyd yno eglwys, cynwysedig o 50 o aelodau; a chan fod y rhan fwyaf o'r aelodau wedi cael gollyngdod o'r Tynewydd, dewisasant Mr. Harries, eu gweinidog, i'w bugeilio. Gan fod iechyd Mr. Harries yn wanaidd iawn, a bod ganddo lawn ddigon o waith yn y Tynewydd, darfu iddo yn fuan anog pobl Tabor i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain. Rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Herbert Daniel, yn awr o Gefnycrib, ac ar gais taer Mr. Harries, yn gystal a'r eglwys, derbyniodd hi, ac urddwyd ef Mai 29ain, 1832, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth: D. Davies, Penywaun; T. Rees, Llanfaple; D. Jones, Taihirion; B. Evans, Caerlleon; L. Powell, Caerdydd; J. Hughes, Maendy; D. Davies, New Inn; W. Griffiths, Llanharan; W. James, Caerdydd; E. Rowlands, Pontypool; M. Morgans, Blaenafon; M. Jones, Varteg; T. Harries, Mynyddislwyn; a Jonathan Jones, Zoar, Llanfabon. Parhaodd Mr. Daniel i wasanaethu yr achos yn ffyddlon hyd ddiwedd Awst 1840, pryd y rhoddodd y lle i fynu, ar ei ymgymeriad a'r weinidogaeth yn yr eglwys oedd newydd gael ei ffurfio yn Nhrosnant, Pontypool. Wedi ymadawiad Mr. Daniel bu yr eglwys yn Tabor am ychydig amser dan ofal Mr. Ellis, Mynyddislwyn. Pan roddodd Mr. Ellis y gofal i fynu, rhoddwyd galwad i Mr. John M. Thomas, Glynnedd, mewn cysylltiad a'r eglwys yn Jerusalem, Coed-duon. Bu Mr. Thomas yn gofalu am y lle am ddeunaw mis, a rhoddodd ef i fynu ar ei ymfudiad i'r America. Wedi hyny rhoddwyd galwad i Mr. William Roberts, Llanddeusant, Mon. Bu ef yma am ddwy flynedd a hanner, ond o herwydd iddo droi allan yn anfoesol ei fuchedd, gorfodwyd yr eglwys i ymwrthod ag ef. Ar yr 28ain o Fai, 1854, rhoddwyd galwad i Mr. J. M. Davies, o Rhymni, ac urddwyd ef Gorphenaf 12fed, yr un flwyddyn. Y gweinidogion a gymerasant ran yn y gwasanaeth oeddynt y Meistriaid E. Hughes, Penmain; W. Williams, Brynmawr; E. C. Jenkins, Rhymni; H. Daniel, Pontypool; J. Davies, Llanelli, Brycheiniog (yn awr o Gaerdydd); M. Ellis, Mynyddislwyn; D. Williams, Berea; R. Parry, Abercarn; T. Lewis, Tontyrbel; a Mr. Thomas Davies, Coleg Aberhonddu, yn awr Dr. Davies, Pembroke Dock. Bu Mr. Davies, yn llafurio yn y cylch hwn yn ffyddlon a diwyd hyd y Sul diweddaf o'r flwyddyn 1867, pryd y symudodd i Tyrhos a Llandudoch, Penfro. Yn 1855, ail adeiladwyd y capel, ac agorwyd yr addoldy newydd Mawrth 25ain a'r 26ain, 1856. Ar ol ymadawiad Mr. Davies, bu yr eglwys am flwyddyn a hanner heb un gweinidog sefydlog, yna rhoddwyd galwad i Mr. T. J. Hughes, Abertillerwy. Cynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad ef yma Medi 22ain, 1869. Hyderwn y bydd Mr. Hughes yn llwyddianus iawn yma, ac y caiff yr eglwys ac yntau yn fuan deimlo awelon nerthol diwygiad yn ysgwyd yr holl ardal yn gyffelyb i'r modd yr oedd yma ar amser cychwyniad yr achos, ddwy a deugain o flynyddau yn ol. Mae yn dda genym ddeall fod Edward Richards, y gwr y dechreuwyd yr achos yn ei dy, yn fyw, ac yn aelod yn y lle etto. Rhodded yr Arglwydd iddo brydnawn bywyd teg, a mynediad helaeth i mewn i deyrnas nefoedd, ar derfyniad ei daith ddaearol.

SALEM, TRELYN

Mae y capel hwn yn y rhan isaf o blwyf Bedwellty, ar lan yr afon Rhymni, yr hon sydd yn rhanu Morganwg a Mynwy o'r mynydd i'r mor. Cafodd ei adeiladu yn 1829, gan Mr. Rosser Thomas, Pontaberpengam, a Mr. Rosser Williams, Mynyddislwyn. Os nad ydym yn camgymeryd, nid oedd un o'r ddau foneddwr yn proffesu crefydd y pryd hwnw, ond yr oeddynt, fel perchenogion gweithiau glo, yn dymuno lles eu gweithwyr, ac felly adeiladasant dy addoliad iddynt. Mae yn debygol fod Mr. Thomas a Mr. Williams ar y cyntaf yn bwriadu i'r capel fod at wasanaeth y naill enwad crefyddol yn gystal a'r llall, ond daethant yn fuan i weled nad attebai hyny un dyben. Yn y flwyddyn 1830, anogwyd Mr. Edward C. Jenkins, o Hanover, gan Mr. Thomas i ddyfod i gadw ysgol i'r capel newydd, ac i bregethu yno. Ar ol ymgynghori a rhai cyfeillion cydsyniodd a'r cais. Pregethodd yno ar y Sul olaf yn Awst 1830, ac agorodd ei ysgol y Llun cyntaf yn Medi. Gan fod ychydig Annibynwyr yn yr ardal aelodau yn Mhenmain a Mynyddislwyn, y rhai ni chwbl gydolygent a'r cyfeillion a ymgymerasant ag adeiladu Tabor, Maesycwmwr, o herwydd y barnent fod hwnw yn rhy isel yn y cwm, cydunasant i ymffurfio yn eglwys yn Salem, a rhoddi galwad i Mr. Jenkins i ddyfod yn weinidog iddynt. Prynodd Mr. Jenkins y capel gan Mr. Thomas a Mr Williams, a gwnaed ef yn feddiant i'r Annibynwyr. Urddwyd Mr. Jenkins Tachwedd 4ydd, 1830. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Mr. B. Evans, Caerlleon; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Rowlands, Pontypool; derbyniwyd y gyffes ffydd, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Thomas, Penmain; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. D. Lewis, Aber, ac i'r eglwys gan Mr. D. Stephenson, Nantyglo. Y prydnawn a'r hwyr, yn nghyd a'r nos flaenorol, gweddiwyd a phregethwyd gan y Meistriaid T. Harries, Mynyddislwyn; M. Morgans, Blaenafon; Joshua Thomas, Penmain; J. Ridge, Cendl; H. Jones, Tredegar; J. Davies, Rhymni, ac M. Jones, Varteg. Nid oedd rhif yr aelodau ond wyth pan roddasant alwad i Mr. Jenkins, ond cafodd ef yr hyfrydwch o dderbyn canoedd i'r eglwys cyn iddo roddi gofal y lle i fyny. Bu yn ymddibynu yn benaf am gynaliaeth ei deulu lluosog ar yr ysgol am lawer o flynyddau. Cadwodd ysgol yn Salem am 19 o flynyddau; ond nid cadw ysgol oedd ei unig waith; bu o gychwyniad yr achos yn Libanus, Llanfabon, hyd 1836, yn gofalu am y lle, ac yn pregethu yno ddau Sul y mis. O 1836 hyd 1841, bu yn gwneyd yr un gwasanaeth i eglwys y Watford, ac er 1841 hyd yn bresenol, y mae wedi bod yn weinidog llafurus i'r eglwys yn Moriah, Rhymni. Tra yn llafurio yn y gwahanol leoedd hyn yr oedd gofal yr eglwys a'r ysgol ddyddiol yn Salem arno o hyd. Nid oes nemawr yn Nghymru wedi llafurio yn fwy diwyd a diattal fel gweinidog, pregethwr, ac ysgolfeistr, na Mr. Jenkins, dan lawer o anfanteision, oddiwrth gystudd ac amgylchiadau anffafriol eraill. Wedi i'r eglwys yn Moriah gynyddu, a'r dyledswyddau gweinidogaethol fwyhau yn fawr yno, darfu i Mr. Jenkins yn raddol gael ei orfodi i ollwng ei afael yn Salem, ac ychydig amser yn ol rhoddodd y lle i fyny yn hollol. Fel y nodasom, wyth o aelodau oedd yma ar ddechreuad ei weinidogaeth ef, ond yr oeddynt yn amryw ugeiniau pan y gadawodd hwynt. Cafodd hefyd y gwaith o dalu am y capel cyntaf, ac adeiladu ail gapel prydferth ac eangach ddwywaith na'r cyntaf, yr hwn a agorwyd yn nechreu y flwyddyn 1862. Yn y flwyddyn 1869, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Elias, gynt o Saron, Llangeler, ac efe yw y gweinidog yn bresenol. Nid ydym yn gwybod i neb gyfodi i bregethu yn yr eglwys hon ond Mr. D. M. Jenkins, gweinidog yr eglwys Gymreig yn y Drefnewydd, Maldwyn.

EBENEZER, MAESALEG

Trwy lafur Mr. John Armitage, o'r Casnewydd, yr adeiladwyd y capel, ac y dechreuwyd achos Annibynol yn y lle hwn. Capel bychan iawn, heb un oriel ynddo, oedd y capel cyntaf yma. Adeiladwyd ef yn 1831, a chafodd ei agor yn Chwefror 1832, pryd y pregethodd Mr. B. Byron, Casnewydd. Amcenid ef i fod yn achos Saesonaeg, a Sais, hollol anwybodus o'r Gymraeg, oedd Mr. Armitage, y gweinidog cyntaf. Ar ol tua dwy flynedd o brawf, gwelodd Mr. Armitage nad oedd un argoel iddo lwyddo i sefydlu achos Saesonaeg yn y lle, ac felly rhoddodd y capel i fyny i'r Annibynwyr Cymreig ar yr amod iddynt dalu iddo ef 25p., sef y gweddill o'r ddyled oedd yn aros arno. Cafodd yr eglwys Gymreig ei chorffoli yn Chwefror 1834. Ychydig oedd nifer yr aelodau, ond yr oeddynt yn rhai gweithgar a gwresog iawn. Yr ail ddydd o Ragfyr 1835, urddwyd Mr. Thomas Evans, aelod o eglwys Rehoboth, Brynmawr, yn weinidog yma. Bu yma am rai blynyddau yn llafurus ac i raddau yn llwyddianus. Ailadeiladodd a helaethodd y capel, ond yn mhen amser, aeth pethau yn annymunol rhyngddo a'r bobl, a bu yr achos ar gael ei lwyr ladd. Wedi cael meddiant o'r capel o afael Mr. Evans, gwellhaodd pethau drachefn. Ar ol hyn bu yr achos am rai blynyddau dan ofal unol Mr. Harries, o'r Morfa, a Mr. Griffiths, Casnewydd. Ebrill 24ain, 1860, cafodd Mr. Thomas Rowlands ei urddo yma, ond cyn pen tair blynedd pallodd ei iechyd, fel y bu raid iddo roddi ei swydd i fynu. Wedi ymadawiad Mr. Rowlands, bu y lle am ychydig dan ofal Mr. Ridge, gynt o Cendl. Gorfodwyd yntau gan lesgedd i roddi ei swydd i fyny, ac er y pryd hwnw y mae y ddeadell fechan yn ymddibynu ar weinidogion a phregethwyr cynnorthwyol am weinidogaeth. Mae y gwasanaeth er's dros ddeng mlynedd bellach wedi ei droi yn hollol Saesonig.

Yr oedd Mr. John Armitage, sylfaenydd yr achos hwn, yn fab i Mr. William Armitage, gweinidog enwog yn Nghaerlleongawr, ac yn llys-fab i Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd. Nid oedd ei ddoniau fel pregethwr ond cyffredin iawn, ond yr oedd yn ddyn da a gweithgar rhyfeddol, a bu o wasanaeth mawr i achos yr Annibynwyr yn Mynwy mewn amryw ffyrdd. Y mae wedi marw er's yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Am Mr. Thomas Evans, ei ganlyniedydd, yr ydym yn barnu mai y caredigrwydd mwyaf ag ef fyddai peidio ysgrifenu hanes ei fywyd.


SARON, PENYCAE.

Cangen o eglwys Carmel, Cendl, ydyw Saron. Arferai nifer o aelodau Carmel, y rhai oeddynt yn byw i lawr yn Nghwm Ebbwy, gyfarfod yn nha eu gilydd i gynal cyfarfodydd gweddi a chyfeillachau crefyddol er y flwyddyn 1825. Yn nhy un Theophilus Thomas y cyfarfyddent ar y dechreu, ac wedi hyny yn nhy un Benjamin John. Yr oedd o 15 i 20 o aelodau Carmel yn dyfod yn nghyd i'r cyfeillachau hyn; ac yr oedd Dafydd Davies, Dafydd Rees, Benjamin John, John Humphreys, a William Jacob o'u nifer, ac yn cymeryd rhan flaenllaw yn y cyfarfodydd. Ychwanegwyd amryw at eu rhifedi, y rhai a dderbyniwyd yn gyhoeddus yn Carmel. Yn y flwyddyn 1829, dechreuwyd ysgol Sabbothol yn nhy un Isaac Edwards yn rhestr y ceryg calch. Yr oedd eu rhif y Sabboth cyntaf yn 80, ond erbyn yr ail Sabboth yr oeddynt wedi cynyddu i 50, fel y bu raid yn fuan ymwahanu i bump o dai i'w chynal. Teimlid yn anhwylus iawn o eisiau lle mwy cyfleus fel y gallai yr ysgol oll fod gyda'u gilydd; a chafwyd trwy ganiatad Charles Harford, Ysw., fenthyg rhan o weithdy saer perthynol i'r gwaith. Cynyddodd yr ysgol wedi ei symudiad fel yr aeth y rhan oedd ganddynt yn rhy gyfyng, ond caniataodd y boneddwr caredig iddynt gael y rhan arall o'r gweithdy at eu gwasanaeth, fel yr aethant yn mlaen yn llwyddianus iawn. Aeth ty Benjamin John yn rhy gyfyng i gynal y gyfeillach, fel y bu raid iddo symud i dy helaethach yn ymyl y lle y saif y Reading Room yn awr. Pregethid yn achlysurol yma hefyd gan Mr. J. Ridge, a Mr. D. Davies, New Inn, ac eraill. Aeth pethau yn mlaen yn llwyddianus yma wedi hyn hyd ganol yr ail auaf iddynt yn ngweithdy y saer, pan yn anffodus y syrthiodd un haner o hono, ond daliodd yr ychydig ffyddloniaid yn ddiysgog gyda'r ysgol a'r cyfarfodydd er pob anfantais. Llwyddwyd i gael hen dy anedd gerllaw y Queen's Square oedd wedi ei droi yn ysgoldy, at gadw ysgol Sabbothol, a'i gael ddwy noswaith o bob wythnos at eu gwasanaeth am wyth swllt yn y mis. Yn yr adeg yma y neillduwyd wyth o ddiaconiaid yn Carmel, a rhoddwyd rhyddid i'r gangen hon yn Mhenycae i ethol pedwar o'u plith hwy i fod o'u nifer, a dewiswyd ganddynt Benjamin John, Joseph Morris, Dafydd Morris, a John Bowen, a chymeradwywyd eu dewisiad gan yr eglwys.

Wrth weled y boblogaeth yn cynyddu bernid y dylasid codi capel a ffurfio eglwys Annibynol yma, ac wedi ymgynghori a'r eglwys yn Carmel, penderfynwyd corffori yr aelodau oedd i lawr y cwm yn eglwys ar wahan a Carmel, ac yn nechreu y flwyddyn 1836, daeth Mr. Ridge i lawr i'w corffori, a gweinyddu y cymundeb iddynt, a bu yr achos yn y lle dan ei ofal ef mewn cysylltiad a Carmel. Ar ol ymsefydlu yn eglwys Annibynol yr oedd yn rhaid edrych am dir i adeiladu capel arno, ac wedi cael e siomi am amryw leoedd, caniatawyd tir iddynt gan Mr. Edmund Lewi Drysiog, yn y fan lle y saif y capel presenol arno. Yr oedd adeiladu capel yn anturiaeth fawr iddynt, gan nad oeddynt ond ychydig mewn nifer, yn dlodion gan mwyaf; ond trwy fod yn unol a dyfalbarhaol llwyddasant i gael yr arian gofynol i'r perwyl. Ymgymerwyd a'i adeiladu gan un James Morgan, saer coed o Dalybont, sir Aberteifi; ac erbyn mis Mawrth 1838, yr oedd y capel wedi ei orphen; ac agorwyd ef ar y 9fed a'r 10fed, o'r Mai canlynol. Pregethwyd a gweddiwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Mathews, Mynyddislwyn; H. Jones, Tredegar; J. Williams, Bethesda; D. Davies, Troedrhiwbel; T. Griffiths, Blaenafon; E. Watkins, Llanelli; D. Jones, Aber; W. Watkins, Rhymni; J. Harrison, Aberdare; J. Thomas, Adulam, Merthyr; D. Jones, Bethesda, Merthyr; B. Owen, Soar, Merthyr; J. Jones, Penmain; D. Stephenson, Nantyglo, a T. Rees, Craigyfargod. Costiodd y capel rhwng pob peth yn agos i 700p. Yn mis Awst, wedi agoriad y capel, rhoddodd Mr. Ridge ofal Saron i fyny, ac yn fuan ar ol hyny rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Jeffreys, ei gweinidog presenol. Ganwyd Mr. Jeffreys yn Nghaerdydd yn 1810. Ymunodd a chrefydd yn Dowlais cyn ei fod yn 18 oed, a dechreuodd bregethu cyn ei fod yn 21 oed, trwy gymhelliad yr eglwys a'r gweinidog, y Parch. Samuel Evans, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog Bethania, Dowlais, yn gystal a Soar, Merthyr. Urddwyd Mr. Jeffreys yma Rhagfyr 24ain a'r 25ain, 1838. Ceir yr hanes canlynol am gyfarfodydd yr urddiad yn y Diwygiwr am Mawrth 1839, tudalen 90:—"Ar y 24ain a'r 25ain o Ragfyr, neillduwyd y brawd Thomas Jeffreys i gyflawn waith y weinidogaeth yn Saron, Penycae. Am 6, y dydd cyntaf, dechreuodd y Parch. H. Daniel, Tabor; a phregethodd y Parchedigion J. Davies, Abersychan; D. Roberts, Dowlais; a J. Davies, Aberdare; oddiwrth Mat. viii. 25; Luc xx. 35, 36; Eph. ii. 4. Boreu Nadolig, am 5, dechreuodd L. Smith; a phregethodd H. Daniel, Tabor, ac E. Watkins, Llanelli; oddiwrth Luc i. 32; a Ioan i. 14. Am 10, dechreuodd y Parch. D. Davies, Taf-fechan; a phregethodd y Parch. D. Stephenson, Nantyglo, ar natur eglwys Gristionogol, oddiwrth Ioan xviii. 36; y Parch. J. Ridge, a ofynodd yr holiadau arferol; y Parch. E. Rowlands, Ebenezer, a ddyrchafodd yr urdd-weddi; yna pregethodd y Parch. J. Hughes, Dowlais, ar ddyledswydd y gweinidog; a'r Parch. H. Jones, Tredegar, ar ddyledswydd yr eglwys, oddiwrth Ioan xxi. 17, a Heb. xiii. 17. Am 3, dechreuodd y Parch. W. Watkins, Rhymni; a phregethodd y Parchedigion E. Rowlands, Ebenezer; J. Jones, Penmain, (yn Saesonaeg); a J. Thomas, Adulam; oddiwrth 2 Bren. ii. 14, Marc ix. 24, a 2 Cor. iii. 7, 8, 9. Am 6, dechreuodd J. Richards, Dowlais; a phregethodd y Parchedigion W. Watkins, Rhymni; a D. Davies, Taf-fechan; oddiwrth Ioan iv. 35-38, a Heb. ix. 27. Yr oedd y cynnulliad yn dra lluosog, ac arogl esmwyth ar y cyfarfod o'i ddechreu i'w ddiwedd." Nid oedd ond ychydig dros 60 o aelodau yn y lle pan ymsefydlodd Mr. Jeffreys yma, ond cynyddodd yr achos yn fuan fel y daeth yma eglwys gref a dylanwadol. Cafodd Mr. Jeffreys dipyn o helbul yn fuan wedi ei sefydliad yma, drwy fod rhyw gamddealldwriaeth rhwng adeiladydd y capel a'r cyfeillion yn y lle. Mynasant hwy saerfesurydd i brisio gwerth y capel, a mynodd yr adeiladydd un arall i'w brisio, ac yr oedd yr olaf gan' punt yn uwch na'r blaenaf. Bygythiwyd hwy yn mhob modd oblegid na thalent yn ol y prisiad uwchaf; ond trwy bwyll a doethineb Mr. Jeffreys llwyddwyd i gael gan yr adeiladydd foddloni i ganolwr i'w brisio rhwng y ddau brisiwr blaenorol; ac yn ffodus i'r eglwys prisiodd hwnw ef yn is na'r prisiad isaf; ac felly arbedwyd i'r eglwys yn agos i 115p. Llwyddodd Mr. Jeffreys ddwyn yr ysgol Sabbothol i drefn, a thrwy ei wresowgrwydd fel pregethwr, a'i hawddgarwch fel dyn a Christion ennillodd lawer i wrando arno, ac y mae wedi parhau i ymgodi mewn parch yn ngolwg y bobl. Bu cryn adfywiad ar yr achos y gwanwyn cyntaf wedi urddiad Mr. Jeffreys, fel yr ychwanegwyd tua 60 at yr eglwys yn y chwe' mis cyntaf o'i weinidogaeth; a chyn pen dwy flynedd yr oedd yr eglwys yn fwy na 200 o rifedi. Aeth y capel yn llawer yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, ac estynwyd ef fel y mae agos yn gymaint arall a'r hen gapel. Costiodd yr helaethiad 350p., ac ar y 24ain a'r 25ain o Ragfyr, 1850, ail agorwyd ef, pryd y gweinyddwyd gan Meistriaid Lewis, Llanfaple; Griffiths, Blaenafon; Watkins, Llangatwg; Richards, Aberhonddu; Thomas, Graig, Rhymni; Daniel, Pontypool; Hughes, Victoria; Davies, New Inn; Griffiths, Casnewydd; Havard, Tredwstan; Lewis, Coed-duon; Jenkins, Brynmawr; Hughes, Penmain; Rowlands, Pontypool; Lewis, Tontrebel; Bowen, Pendarran, a Williams, Tredegar.

Bu yma er cychwyniad yr achos amryw ddynion gweithgar a defnyddiol, y rhai y mae eu henwau yn berarogl, a'u coffadwriaeth yn fendigedig yn yr eglwys a'r ardal. Daeth Mr. D. Seys Lewis yma yn 1847, ac er mai aelod a diacon yn hen eglwys barchus Rehoboth, Brynmawr, ydoedd yr holl amser y bu yma, etto bu o gefnogaeth a chynnorthwy mawr i'r achos trwy ei haelioni a'i fywiogrwydd gyda phob rhan o'r gwaith. Talwyd holl ddyled y capel newydd erbyn y flwyddyn 1857; ac ar y 27ain a'r 28ain, o'r flwyddyn hono, cafwyd yma gyfarfod Jubili i gydlawenhau fod y ddyled wedi ei thalu. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Lewis, Tynycoed; T. Davies, Llanelli; D. Williams, Troedrhiwdalar; J. Jones, Rhydri; D. Davies, 'Pantteg; D. Hughes, B.A., Tredegar; J. Davies, Cwmaman; ac E. Hughes, Penmain. Cafwyd yma adegau o adfywiadau grymus ar grefydd, ac er yr holl symudiadau, a'r cyfnewidiadau, a'r marwolaethau sydd wedi cymeryd lle, y mae yr achos yn parhau i fyned rhagddo yn llwyddianus.

Cyfodwyd y personau canlynol yn bregethwyr yn yr eglwys hon; y rhai ydynt oll yn llenwi cylchoedd o ddefnyddioldeb a gwasanaeth i achos y Gwaredwr.

John Edwards. Dechreuodd bregethu yn 1840. Ymfudodd i America ac ordeiniwyd ef yn Savage Mountains. Wedi bod yno rai blynyddau symudodd i Johnstown, ac y mae yn awr yn Crabcreek, yn nhalaeth Ohio.

Thomas Lodwick. Aeth i Aberhonddu yn 1853 i ymbarotoi i fyned i'r athrofa, ac wedi treulio pedair blynedd yn yr athrofa yno, derbyniodd alwad o Zion Hill, Penfro, lle yr urddwyd ef, ac yno yr erys yn ddefnyddiol a chymeradwy.

Evan Davies. Dechreuodd yn 1862, ac aeth i ysgol barotoawl yn Nghaerfyrddin, ond bu farw yn Mai 1863, fel y dyryswyd ei gynlluniadau ac y siomwyd holl ddisgwyliadau ei gyfeillion.

Thomas Hughes. Dechreuodd ef bregethu tua yr un amser a'r dywededig Evan Davies. Bu am yspaid dan addysg yn Milford, dan ofal Mr. Caleb Guion. Urddwyd ef yn Abertilerwy yn Mai 1866, ond a symudodd oddiyno yn ddiweddar, ac y mae yn awr yn Maesycwmwr.

Thomas Jeffreys. Mab Mr. T. Jeffreys, y gweinidog. Dechreuodd bregethu yn 1864. Aeth i New College St. John's Wood, Llundain, yn 1865. Derbyniodd alwad o Sutherland Chapel, Walworth Road Llundain, a dechreuodd ei weinidogaeth yno Mai 22ain, 1870.

EBENEZER, SIRHOWY.

Yn un o gyrau plwyf Llangynidr, o fewn ychydig latheni i'r fan yr ymgyferfydd dwy afon fechan y rhai a ymdreiglant rhwng terfynau Brycheiniog a Mynwy, y saif y capel hwn. Ond er fod yr addoldy yn swydd Frycheiniog, y mae y rhan luosocaf o'r addolwyr yn byw yn swydd Fynwy, ac y mae yr eglwys, er amser ei sefydliad wedi bod yn nghymundeb eglwysi Annibynol Mynwy, yr hyn a ystyrir yn rheswm digonol dros roddi hanes yr eglwys hon mewn cysylltiad a hanes eglwysi Annibynol y swydd hono.


Lle dinod oedd Sirhowy yn nechreu y ganrif bresenol. Nid oedd ei enw ar leni daearyddol y deyrnas, ac nid oedd crybwylliad am dano yn nghroniclau yr Eglwys Gristionogol. Dyfroedd grisialaidd Nantmelyn a Blaenycwm, a Nantybwch a gerddent rhwng y bryniau yn eu purdeb morwynig. Nid oedd awyr iach y mynyddoedd wedi ei lygru gan fwg a tharth a drygsawr y gwaith haiarn. Perarogl grug y mynydd a'r eithin mân a farchogai awel bur y boreu. Nid oedd chwibaniad y gerbydres wedi tori ar dawelwch oesol yr ardal lonydd, ac nid oedd y creigiau etto wedi eu dysgu i ateb lleisiau aflafar y melinau ar agerbeirianau. Nid oedd un llef na dadwrdd trwy yr holl fangre, namyn llef y bugail yn galw ar ei gi,

"A rhyw ddadwrdd pell o'r gorlan,"
"Swn y praidd yn curo eu cyrn."

Ychydig a drwg" fel dyddiau blynyddau einioes y patriarch Jacob, oedd trigolion yr ardal yn yr amser hwnw. Syml oedd eu bwyd, gwladaidd oedd eu dillad, garw oedd eu moesau, mynyddig oedd eu tai, a chul oedd eu crefydd. Yr oedd cyfoeth yr ardal yn guddiedig, ac nid ar y wyneb. Nid gwlad gwenith a haidd ydyw, ond gwlad yr hon y mae eu cherrig yn haiarn, ac o'i mynyddoedd y cloddir glo,-offer gwareiddiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y mae yr ardal wedi newid ei gwedd yn hollol er diwedd y ganrif o'r blaen. Gorchuddir y dolydd gan domenau o ludw, a'r bryniau gan falurion y cloddfeydd-cofadeiladau diaddurn cenedlaeth ar ol cenedlaeth o feibion llafur. Y mae dwy gledrffordd enwog yn cyfarfod a'u gilydd yn y lle hwn, ac y mae Nantybwch—llwybrau yr hwn oedd beryglus i'w cerdded heb lusernau-wedi ei ddyrchafu i gymdeithas Charing Cross ac Euston Square, ar dudalenau Bradshaw's Railway Guide.

Gyda chynydd y gwaith cynyddodd rhifedi yr Annibynwyr yn y lle, y rhai a aent i addoli i Saron, Tredegar. Yr oedd rhai o aelodau mwyaf gweithgar yr eglwys hono yn byw yn Sirhowy, a Nantybwch, a Heol-ycoach, fel ei gelwid y pryd hwnw. Buwyd yn cadw ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio o dy i dy, am flynyddoedd cyn adeiladu capel na sefydlu eglwys yn y lle. Cefnogid yr ymdrechion hyn yn wresog a chalonog gan Mr. H. Jones, Tredegar, doniau a hawddgarwch yr hwn a fu yn foddion i enill sylw a serch llawer o'r trigolion at yr Annibynwyr. 'n y flwyddyn 1837, yr adeiladwyd capel Ebenezer, ac agorwyd ef Hydref 10fed a'r 11eg; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri T. Rees, Craigybargod; B. Owen, Soar; J. Hughes, Bethania; D. Owen, Tref-fechan; J. Thomas, Adulam; D. Jones, Aber; J. T. Jones, Merthyr; E. Rowlands, Pontypool; W. Watkins, Rhymni; E. Davies, Aber; a J. Ridge, Cendl; a chorffolwyd eglwys gref yno yn fuan gan Mr. H. Jones, yr hwn am dymor a ofalai am dani, mewn cysylltiad a Saron, Tredegar. Nid oedd gan y cyfeillion hyn gynllun clir yn y dechreu. Lle bychan, heb orielau, i gynal ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio a fwriadent wneyd ar y cyntaf. Ond, yr oedd y gwaith yn fwy na'r gweithwyr, ac arweiniwyd y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuent. Yn lled fuan wedi corffoliad yr eglwys, penderfynodd y frawdoliaeth yn Saron mai buddiol fyddai iddynt hwy gael gweinidogaeth Mr. Jones yn hollol iddynt eu hunain. Teimlai y cyfeillion yn Sirhowy yn dra anfoddlon i hyn, oblegyd yr oeddynt yn mawr hoffi eu gweinidog; ac heblaw hyny, yr oedd baich trwm o ddyled ar gapel newydd Ebenezer, ac yr oedd rhyw ddealltwriaeth ar y cyntaf fod cysylltiad rhwng y ddwy eglwys i barhau hyd nes y byddai y ddyled wedi ei llwyr dalu. Rhoddwyd llythyr ysgar yn rhy fuan o lawer i eglwys ieuangc yn Nghymru, ond credwn i'r ysgariaeth fod yn lles i eglwys Ebenezer, canys taflwyd hi ar ei hadnoddau ei hun, a dysgodd gerdded yn Annibynol heb nawdd a chynorthwy y fam-eglwys.

Yn y flwyddyn 1839, rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr. Richard Jones, yr hwn a fuasai yn weinidog yn y Bala. Llafuriodd Mr. Jones yn egniol a didor yn y lle hyd fis Mai, 1846, pryd y symudodd i gapel Gartside-street Manchester. Mabwysiadodd Mr. Jones gynllun effeithiol er cadw gwyliadwriaeth fanol dros yr holl aelodau. Rhanodd yr eglwys yn ddosbarthau, a gosododd arolygwr ar bob dosbarth. Ar foreu y Sul, wythnos cyn y cymundeb, cydgyfarfyddai yr arolygwyr, pryd y rhoddent gyfrif o'u dosbarthau i'w gweinidog; ac ar nos Sul y cymundeb yn y gyfeillach eglwysig, crybwyllent enwau y rhai nad oeddynt yn y cymundeb yn y boreu, yn nghyd a'r achos o'u habsenoldeb. Llafuriwyd yn ddiwyd yn y tymor hwn i ddyrchafu yr Ysgol Sabbothol, ac i leihau dyled y capel. Blynyddoedd cynhyrfus yn y byd a'r eglwysi oedd blynyddoedd arosiad Mr. Jones yn Sirhowy. Yn ystod yr amser hwnw y cododd y Siartiaid ar fryniau Gwent, ac yr aethant yn lluoedd arfog ar nos Sul i Gasnewyddar-wysg, gyda bwriad sicr i ddinystrio y dref, a dymchwelyd llywodraeth henafol Prydain Fawr. Yn nghamlas y gwaith, a'r dwfr hyd yr ên, yr ymguddiai gweinidog Ebenezer y noson ryfedd hono. Yn fuan wedi hyny, ymranodd yr eglwys, ac aeth nifer o'r aelodau allan, a buont am fwy na blwyddyn yn cynal moddion mewn lle arall. Ond yn ffodus, yn lle codi capel iddynt eu hunain, dychwelasant i Ebenezer-eu hen gartref. Yn y flwyddyn 1843, methodd cwmni Pencae a Sirhowy, arosodd y gwaith, ac ofnid y byddai i'r eglwys gael ei gwasgaru. Ond yn fuan prynwyd y lle gan gwmni Coalbrook Dale, ac aeth pethau rhagddynt fel cynt. Gwrthwynebodd Mr. Jones y Siartiaid yn benderfynol, cyfarfyddodd a gwrthwynebiadau, ond cefnogid ef yn ffyddlon gan ei gyfeillion a'i edmygwyr, y rhai a deimlent yn hiraethlon ar ei ol, pan symudodd i Manchester.

Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Jones, penderfynodd yr eglwys na roddent alwad i weinidog unrhyw eglwys, nac ychwaith i un oedd wedi bod mewn gweinidogaeth, ond yr edrychent allan am wr ieuangc o un o'r colegau. Argraffwyd y penderfyniad yn nghyhoeddiadau yr enwad, a bu yn dipyn o dramgwydd i frodyr tyner eu teimladau. Yn mis Tachwedd 1846, ar ol ychydig o brawf, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Noah Stephens, myfyriwr yn ngholeg Aberhonddu. Mae y drefna arferwyd yn amgylchiad hwn yn deilwng o goffadwriaeth. Rhoddasid rhybudd digonol o'r amcan yn flaenorol, gyda chymelliad taer i'r holl eglwys i ddyfod y nghyd ar nos y Sabboth hwnw, a gwahoddasid Mr. Stephenson, Nantyglo, un o weinidogion mwyaf pwyllog a phrofiadol y cyfundeb—i bregethu, ac i fod yn dyst o'r hyn a benderfynid. Darllenwyd yr alwad gan Daniel Jones, y diacon henaf yn yr eglwys, gofynwyd gan y frawdoliaeth arwyddo gydsyniad trwy sefyll ar eu traed, anfonwyd dau o'r diaconiaid trwy y ty i gael gweled a oedd rhywrai yn eistedd, a phan welwyd nad oedd cymaint ag un yn groes, arwyddwyd yr alwad yn enw ac yn ngwydd yr eglwys gan y diaconiaid, ac yn ddiweddaf oll gan Mr. Stephenson, Nantyglo, fel llygaid dyst o'r hyn a wnaed.

Cynnaliwyd cyfarfod urddiad Mr. Stephens ar y Mawrth a'r Mercher olaf yn Rhagfyr, 1846, yn y drefn ganlynol:—Am 2 o'r gloch ddydd Mercher, dechreuwyd gan Mr. W. Davies, Seion, Rhymni; a phregethwyd gan Mr. E. Roberts, Cwmafon; Mr. Ll. R. Powell, Hanover; a Mr. W. Williams, Hirwaun. Am 6, dechreuwyd gan Mr. T. Roberts, Llanuwchllyn; a phregethodd Mr. T. Griffiths, Blaenafon; Mr. B. Owens, Merthyr; a Mr. J. Stephens, Brychgoed. Am 7, boreu dydd Mercher, cynnaliwyd cyfarfod gweddio, ac annerchwyd y cyfeillion yn fyr gan Mr. J. Davies, Llanelli; a Mr. W. Williams, Hirwaun. Am haner awr wedi naw, darllenwyd a gweddiwyd gan Mr. W. Williams, Adulam, Tredegar. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Stephens, Brychgoed; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. Jeffreys, Penycae; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Ridge, Cendl; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw yn ngholeg Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. L. Powell, Caerdydd. Am haner awr wedi dau, dechreuwyd gan Mr. S. Phillips, myfyriwr yn ngholeg Aberhonddu; a phregethodd Mr. W. Edwards, Aberdare; Mr. J. D. Williams, o goleg Homerton (yn Saesonaeg); a Mr. T. Rees, Siloa, Llanelli. Am 6, dechreuodd Mr. J. Evans, myfyriwr yn ngholeg Aberhonddu, a phregethodd Mr. T. Jones, Llangattwg; Mr. T. Roberts, Llanuwchllyn; a Mr. D. Stephens, Llanfairclydogau.

Ymosododd Mr. Stephens o ddifrif ar y gwaith o symud ymaith ddyled y capel, aeth i gasglu i'r ogofau a'r pyllau glo, ac o dy i dy yn Sirhowy a Thredegar; llwyddodd i gael cydweithrediad yn y gynnulleidfa, ac yn fuan symudwyd y baich yn hollol, a chynaliwyd cyfarfod i gydlawenhau. Adgyweiriwyd y capel oddifewn ac oddiallan, ond talwyd yr holl dreuliau yn llawen. Cynyddodd yr eglwys mewn rhifedi, a gweithgarwch, a dylanwad, a chyfranai yn haelionus at gynaliaeth yr achos gartref, a lledaeniad yr Efengyl dros y byd. Yn niwedd 1846, a dechreu 1847, bendithiwyd yr eglwys ag adfywiad, a derbyniwyd llawer o'r gwrandawyr i'w chymundeb, yr hyn a fu yn nerth a chalondid i'r gweinidog ieuangc yn nechreuad ei weinidogaeth. Ychwanegwyd dros 200 at rifedi yr eglwys trwy y diwygiad grymus a gafwyd yn y flwyddyn 1849. Derbyniwyd 140 ar unwaith yn mis Hydref y flwyddyn hono. Yn ngwanwyn 1859, derbyniodd Mr. Stephens alwad unfrydol oddiwrth eglwys Bethel, Liverpool; a chyn ei hateb, rhoddodd rybudd i eglwys Ebenezer o'i fwriad i symud yn mhen tri mis. Yn y cyfamser, torodd allan ddiwygiad crefyddol, a daeth ugeiniau i'r gyfeillach. Gwaith caled i weinidog oedd ymadael a phobl a'i carai yn fawr, ac a fawr gerid ganddo, ar amser o'r fath yma. Bu cysylltiad Mr. Stephens ag eglwys Ebenezer yn gysur iddo ef ac i bobl ei ofal. Y peth mwyaf, a'r unig beth o bwys a wnaeth ef i gyffroi eu gwg a'u hanfoddlonrwydd, oedd symud oddiwrthynt i Liverpool.

Wedi ymadawiad Mr. Stephens, bu yr eglwys am rai blynyddau heb weinidog; ond yn y flwyddyn 1862, rhoddasant alwad i Mr. John Davies, aelod gwreiddiol o Bethel, Llansamlet, ac a addysgwyd yn athrofeydd y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd Mr. Davies Mehefin 23ain a'r 24ain, 1862, ac yn yr Annibynwr am y flwyddyn hono, tudalen 189, ceir yr hanes fel y canlyn:—"Am 6 y dydd cyntaf, dechreuodd y Parch. J. M. Davies, Tabor, a phregethodd y Parchn. Thomas, Glandwr; a Rees, Abertawe. Am 10, yr ail ddydd, dechreuodd y Parch. R. Griffiths, Cefn, a phregethodd Proffesor Roberts, Coleg Aberhonddu, ar natur eglwys. Holwyd y gofyniadau gan y Parch. J. Rees, Canaan; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan y Parch. T. Jeffreys, Penycae; pregethwyd i'r gweinidog gan y Proffesor Morris, Aberhonddu; ac i'r eglwys gan y Parch. N. Stephens, Liverpool. Am 2, dechreuodd y Parch. D. Thomas, Llangynidr; a phregethodd y Parchn. Stephens, Brychgoed; a Davies, New Inn, Am 6, dechreuodd y Parch. J. Evans, Craigybargod; a phregethodd y Parchn. N. Stephens, a Watkins, Llangattwg. Yr oedd oddeutu chwech ar hugain o weinidogion yn bresenol, a rhyw ddeuddeg o fyfyrwyr Coleg Aberhonddu."

Llafuriodd Mr. Davies yma hyd y flwyddyn 1866, pan y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Gymreig yn yr Amwythig, ac y symudodd yno, lle y mae yn awr yn anwyl a pharchus gan bobl ei ofal. Enillodd Mr. Davies barch yr eglwys yn Sirhowy, ar gyfrif ei gymeriad pur a'i ysbryd crefyddol; ac y mae ei enw yn berarogl yn yr ardal.

Yn y flwyddyn 1867, aeth yr eglwys yn nghyd ag ad-drefnu a helaethu eu capel, ond pan yr oeddynt ar ganol y gwaith cymerodd y lle dân, fel y dyryswyd eu cynlluniau, a chostiodd y golled iddynt yn agos i 400p. Dan yr amgylchiadau hyny, yn lle ymollwng yn ngwyneb y golled, penderfynodd yr eglwys i wneyd y capel oll o newydd yn eangach a helaethach na'u bwriad ar y cyntaf, fel y mae yn awr yn un o'r addoldai harddaf yn y wlad, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol. Mae yr eglwys yn awr newydd roddi galwad i Mr. D. E. Jones, M.A., myfyriwr o Brifysgol Glasgow, i fod yn weinidog iddi; a chynelir cyfarfodydd ei urddiad y 1af a'r 2il o Awst nesaf (1870). Gobeithio fod oes hir o ddefnyddioldeb yn aros Mr. Jones yn eglwys barchus Sirhowy.

Yr oedd yn yr eglwys hon, o'i dechreuad, wyr rhagorol yn mhlith y brodyr. Tywysog, a gwr mawr yn Israel, oedd Daniel Jones. Yr oedd yn enedigol o blwyf Llansamlet, ond yn Saron, Tredegar, y derbyniwyd ef yn aelod, gan Mr. R. Morris. Yr oedd yn llenor, a bardd, yn nodedig o ddeallus yn yr ysgrythyrau, ac yn ddiacon mwy gweithgar na'r cyffredin. Bu farw yn mis Mawrth 1848, yn y 57 mlwydd o'i oed. Edward James, brodor o blwyf Llanover, a enillodd iddo ei hun radd dda fel diacon yn yr eglwys hon. Mab tangnefedd ydoedd, ac y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Brodor o'r un ardal ag ef oedd Thomas Huskin, brawd William Huskin, un o aelodau gwreiddiol Saron, Tredegar. Dyn cynil yn mhob ystyr oedd Thomas Huskin, ond yn ei gyfraniadau at grefydd. Yr oedd ganddo fawr ofal calon am yr achos goreu, ac yr oedd yn awyddus i weled y gweinidog uwchlaw pryder ac ofnau am bethau y bywyd hwn. Yr oedd ef yn un o'r diaconiaid ffyddlonaf a welsom erioed. Ni byddai hanes eglwys Ebenezer yn llawn heb enw Thomas Rees, yr hwn a'i gwasanaethodd am flynyddoedd fel ysgrifenydd ffyddlon a gofalus. Ac nid yn fuan yr anghofir Evan Evans yn Sirhowy a'r ardaloedd o amgylch. Gwr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythyrau oedd hwn. Puritan o ran tymer a barn. Yr oedd yn hyfrydwch ei glywed yn gweddio, ac os byddai y bregeth yn ei foddio, yr oedd cael golwg ar ei lygaid deallus a phrydferth yn nerth i galon y pregethwr. Ganwyd ef yn Cilcenin, symudodd i Grughy wel i weithio, ac yn Llangattwg y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig ar ddiwedd yr oedfa yn yr hon yr argyhoeddwyd ef. Gostyngodd ar ei luniau a gweddiodd yn gyhoeddus am faddeuant, ac fel gweddiwr nodedig yr adwaenid ef hyd ddiwedd ei yrfa ar y ddaear.

Cafodd eglwys Ebenezer yr anrhydedd o godi amryw bregethwyr, a'u cynnorthwyo i gael addysg gymwys i'w swydd bwysig.

William Jones, India, yw y cyntaf a ddaw dan ein sylw; a chan iddo gyrhaedd safle mor uchel ar y maes cenhadol; a chael ei gymeryd ymaith mor annisgwyliadwy yn nghanol ei ddefnyddioldeb, gwyddom y bydd yn dda gan ein darllenwyr oll gael cofnodiad helaeth o hono. Buasai yn dda genym allu rhoddi dyddiad ei enedigaeth a manylion ei febyd; ond methasom a dyfod o hyd iddynt. Os deuwn o hyd iddynt, rhoddwn hwynt yn nglyn a Llanwryn, lle y magwyd ef. Yn y Tyst Cymreig, am y trydydd o Fehefin, 1870, ymddangosodd yr ysgrif ganlynol, ar y Cymro disglaer, a'r Cenhadwr enwog hwn, wedi ei hysgrifenu gan y gweinidog a gafodd yr anrhydedd o roddi iddo ddeheulaw cymdeithas; ac nis gallwn wneyd yn well na'i gosod yn llawn yma:

"Nis gallwn byth ddarlunio y teimladau a lanwodd ein mynwes pan gawsom y newydd galarus ac annysgwyliadwy fod William Jones, o India, wedi marw o'r rheumatic fever, yn Singrowli, maes ei lafur. Prin y gallem sylweddu ei fod wedi marw, a gobeithiem yn erbyn gobaith ei fod etto yn fyw. Nid ydym yn gwybod dim o'r manylion, heblaw mai byr gystudd a gafodd; ac ofnwn fod y lle a'r amgylchiadau yn y rhai y terfynodd ei yrfa anrhydeddus ar y ddaear, y fath, fel nad oedd yn bosibl iddo gael nemawr ymgeledd. Ond er na chafodd gymorth meddygon i liniaru ei boenau, er na chafodd fanteision cymwys i un mewn nychdod a gwendid, er nad oedd llaw dyner mam, neu briod, neu blentyn yn agos wlychu ei wefus ar wely marwolaeth, y mae yn ddiogel genym i'r Arglwydd Iesu fod yn ffyddlon i'w addewid, trwy ddyfod ato a gwasanaethu arno.

"Ganwyd Mr. Jones yn Llanwryn, yn agos i Fachynlleth. Bu farw ei fam pan oedd ef yn dra ieuangc; ac nid ydym yn gwybod fod ganddo un adgof am yr hon a'i hymddygodd. Ni chafodd fanteision ysgol o gwbl pan yn blentyn, a bu raid iddo droi allan pan yn ieuangc iawn, a gweithio yn galed am ei fara beunyddiol. Yr oedd yn hysbys iddo ef a'i frawd, yr hwn oedd hynach nag ef, fod iddynt geraint yn byw yn un o weithfeydd Swydd Fynwy. Diangodd y ddau ryw noson o gaethiwed Llanwryn, gan droi eu hwynebau tua bryniau Gwent, ac yn Sirhowy, lle yr oedd eu hewythr Edward Jones, y gwnaethant eu trigfa, ac yno, yn y pwll glo, y buont yn gweithio am rai blynyddau.

"Ar nos Sul-y Sul olaf yn y flwyddyn 1846, a'r nos Sul cyn cyfarfod ein hurddiad yn Ebenezer, Sirhowy, yr oeddym yn pregethu ar Dalu yr Addunedau '-testyn y clywsom Mr. Breese, Caerfyrddin, yn pregethu arno flynyddau cyn hyny, yn Salem, Taliares, a'r bregeth mewn cysylltiad à chymhelliadau ein ceraint, a fu yn foddion i'n perswadio i broffesu crefydd Crist. Arosodd amryw ar ol yn y gyfeillach

yn Ebenezer, Sirhowy; ac yn eu plith William Jones. Noson i'w chofio oedd y noson hono ganddo ef a ninnau. Clywsom ef flynyddoedd wedi hyny yn dyweyd ei brofiad am yr oedfa; ofnai bob munud tua diwedd yr oedfa rhag i ni orphen, gan nad oedd wedi penderfynu beth i'w wneyd. Modd bynag, enillodd gras y fuddugoliaeth, ac y mae yn ddiameu genym fod ef yn y nefoedd yn cydganmol gras Duw â llawer o hen frodyr a chwiorydd y rhai a'i croesawent y noson hono i gymdeithas y saint.

"O hyny allan gwrandawai yr efengyl yn siriol, cynyddai mewn gras, a gwybodaeth, a doniau cyhoeddus, fel y cymhellwyd ef gan y gweinidog a'r eglwys i ddechreu pregethu. Dechreuodd bregethu ar yr un noson a'i gyfaill Mr. William Edwards, yr hwn sydd yn weinidog cymeradwy yn Kilsby. Yn gyd-ddinasyddion a'r saint, ac yn deulu Duw,' oeddynt eiriau ei destyn cyntaf. Yr oedd y pregethwr, a'r bregeth, a'r traddodiad yn naturiol, a syml, a dirodres, a llawer ar ddiwedd yr oedfa yn gofyn, Beth fydd y bachgen hwn?' Profodd ei hun yn aelod ffyddlon cyn dechreu pregethu. Llanwodd y cylch yr oedd ynddo, cyn meddwl am fyned i gylch eangach.

"Yn fuan ar ol dechreu pregethu derbyniwyd ein cyfaill ieuangc i athrofa y Bala, ac aeth oddiyno i athrofa Aberhonddu, lle y bu am dair blynedd. Yr oedd yn fyfyriwr difrifol a diwyd, ac yr oedd ei ddylanwad ar ei gydfyfyrwyr yn rymus a llesol. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf y bu yn Aberhonddu, matriculatiodd yn Mhrif Ysgol Llundain, yr hyn oedd yn glod mawr i un heb gael dim ysgol yn moreu ei oes. Bu am dymor byr yn yr athrofa Genhadol, yn Bedford, ac ar y 10fed o Chwefror, 1858, ordeiniwyd ef yn Sirhowy, i fyned yn Genhadwr i India, i'r hwn le y dilynwyd ef gan ddymuniadau goreu pawb a'i hadwaenai. Hwyliodd allan ar yr 20fed o Chwefror, ac am y flwyddyn gyntaf wedi myned yno bu yn llenwi cylch pwysig Dr. Mullens, fel gweinidog cynulleidfa Saesonaeg. Ymsefydlodd yn Mirzapore, yn Mawrth, 1860. Awst 1af, 1863, bu farw Mrs. Jones, yn Benares, gan ei adael ef a'i eneth fechan yn amddifaid. Dechreuodd Mr. Jones ei waith yn ei faes newydd yn Singrowli, Rhagfyr, 1864, a cheir yn Adroddiadau Cenhadol 1864-65, hanes ei lafur a'i ymdrechion. Dychwelodd i Loegr ar ymweliad, a glaniodd yma Mai 9fed, 1867, a bu am flwyddyn a haner yn tramwy yn ein mysg gan bregethu teyrnas Dduw.' Ac ni bu ymweliad yr un Cenhadwr erioed yn fwy llwyddianus i ddyrchafu y Genhadaeth yn ngolwg ein cydwladwyr. Cychwynodd yn ei ol am faes ei lafur, ar yr hwn yr oedd ei holl galon, Rhagfyr 10fed, 1868; a cheir yn y Cronicl Cenhadol am Gorphenaf, 1869, a Mai, 1870, engreifftiau o ffrwyth ei lafur. Darllenwyd ei lythyrau yn ein colofnau gyda hyfrydwch a boddineb gan filoedd. Fel y dywedai yn ei lythyr diweddaf, yr oedd yn dyoddef oddiwith anhwyldeb, a bu farw y 25ain o fis Ebrill diweddaf. Yr oedd Mr. Lambert, cenhadwr yn Mirzapore, wedi myned ato y dydd cyn ei farwolaeth.

"Yr oedd ein cyfaill anwyl a hoff wedi ei gynysgaeddu a chymwysdera cenhadol i raddau nodedig o helaeth. Yr oedd yn deall yr efengyl yn dd yn gallu ymgyfaddasu at bob gwaith, ac ymgymhwyso at bob cylch. N. oedd na rhodres na gwag ogoniant yn perthyn iddo. Yr oedd ei lygad, fe y dywedai Hiraethog, wedi ei wneyd i edrych yn llygaid teigrod, ond yr oedd yn syml a diniwed fel plentyn. Pan ddaeth adref o India er adfywiad ei iechyd, talodd ymweliad ag America, yn benaf er mwyn cael gweled ei dad a'i berthynasau, y rhai a ymfudasant yno. Yr ydym yn ei gofio yn cychwyn, ac yn ei gofio yn dychwelyd mor ddidwrw a phe buasai wedi bod am dro yn Machynlleth neu Sirhowy; ond wrth siarad ag ef am America, yr oedd yn gadael argraff ar ein meddwl ei fod wedi deall y wlad yn hollol yn ei rhagoriaethau a'i diffygion. Yn Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Genhadol Llundain, yn Exeter Hall, dwy flynedd yn ol, traddododd un o'r areithiau cenhadol goreu a draddodwyd yn Llundain erioed-taniodd Exeter Hall, ac ar ddiwedd y cyfarfod yr oedd yn ymddyddan a nifer o Gymry mor ddirodres, fel y dywedai cyfaill craffus wrthym, a phe na buasai dim neillduol wedi bod. Mae yn gof genym ei fod yn ein ty ar noson gyntaf Sasiwn y Methodistiaid yn Liverpool, pan ddaeth un o flaenoriaid capel Prince's Road atom i ddymuno arnom fyned i ddechreu yr oedfa, nad oedd ganddynt neb i wneyd. Yr oedd yn rhaid i ni fyned i le arall yn ol ymrwymiad blaenorol. Gosodwyd yr achos o flaen Mr. Jones, a phan ddeallodd fod cyfyngder, aeth heb betruso gyda y blaenor i ddechreu y moddion, er ei fod dan angenrheidrwydd ar y pryd i wisgo slipper yn lle esgid, oblegid ei fod wedi cael niwed ar ei droed.

"Yr oedd Mr. Jones yn ysgolhaig cywir, yn feddyliwr cryf, yn sylwedydd craff, yn siaradwr hyawdl, ac yn weithiwr difefl. Trwy ei symudiad collodd Cymdeithas Genhadol Llundain un o'i chenhadon goreu; collodd India un o'i chyfeillion ffyddlonaf, a chollodd Cymru un o'i meibion anwylaf. Dysgodd Mr. Jones Saesonaeg, yr ieithoedd clasurol, a thair o ieithoedd yr India, heb anghofio y Gymraeg, a gwnaeth wasanaeth gwerthfawr i'r achos cenhadol trwy ei areithiau a'i ohebiaethau Cymreig. Cychwynodd mewn amgylchiadau isel, ymwthiodd trwy anhawsderau i ddefnyddioldeb ac enwogrwydd, a gorphenodd ei yrfa cyn ei fod yn ddeugain mlwydd oed. Bydded amddiffyn Rhagluniaeth dros ei anwyl a'i unig blentyn, yr hon sydd heb dad na mam, bendith y nefoedd a fyddo ar eglwys Ebenezer, Sirhowy, am ei gynnorthwyo a llaw haelionus, a disgyned deuparth o'i ysbryd cenhadol ar wyr ieuainge ein hysgolion Sabbothol. Dydd hyr a gafodd ein hanwyl frawd, ond gweithiodd yn ddiwyd, a rhyngodd bodd yn ngolwg ei Arglwydd i'w alw yn gynar oddiwrth ei waith at ei wobr. Llawer gwaith y bu yn dda genym weled gwyneb siriol ein hanwyl frawd. Trwm iawn ydyw meddwl na chawn weled ei wedd na chlywed ei lais mwyach yn Liverpool, nac ar fryniau Gwent, ond yr ydym yn gobeithio y cawn gyfarfod ar fryniau Caersalem, pryd y daw 'troion yr yrfa yn felus i lanw ein bryd.'"

Mae Mr. Thomas Evans, cenhadwr i'r Bedyddwyr yn India, wedi ysgrifenu llythyr i Seren Cymru am Mehefin 17eg, 1870, ar yr achlysur o farwolaeth Mr. William Jones; a chan fod ynddo gofnodion o'i ddyddiau diweddaf, rhoddwn ddyfyniadau o hono yma, y rhai a ddangosant ei lwyr ymroddiad i'r gwaith. Mewn cyfeiriad at ymddyddan a fu rhyngddynt ar ol ei ddychweliad o Loegr, dywed Mr. Evans:

"Pan y gwelais i ef yma ar ol ei ddychweliad o Brydain, gofynais iddo, Jones paham na ddaethoch a gwraig allan gyda chwi? Byddech lawer mwy dedwydd a defnyddiol.' Gwir,' ebe efe, ond beth am fy nhrigfan yn yr anial yn Duddhi? Pa fodd y gallwn geisio gan ddynes fyned gyda mi i'r fath le anwaraidd? Nid oes yno na meddyg, na phobwr, na siopwr. Carwn yn fawr briodi; ond ni allwn roddi fyny fy ngwaith er mwyn hyny, ac ni allwn geisio gan unrhyw ferch o Brydain i dd'od efo mi i anial dir Singrowli.' Yn awr, cofied y darllenydd, nad oedd un rhwymau, ond rhwymau moesol, a rhwymau cariad, ar William Jones i fyned yr ail waith i le a fu yn agos a'i ladd o'r blaen; a phan y gofynais iddo, A raid i chwi fyned Jones?' 'Rhaid,' atebai, rhaid i mi fyned, canys nid aiff un cenhadwr arall allan i'r lle. Mae yn rhy ddrwg i eraill; ond y mae yn ddigon da i mi. Mae fy nghalon yno, ac âf yn enw Iesu at fy ngwaith.' At ei waith i'r anial yr aeth, a llafuriodd yno am tua pymtheg mis, pryd y clafychodd eilwaith. Bu yn glaf am tua chwech wythnos, ac ar ei wely am bedwar diwrnod ar ddeg. Ar y 17eg o Ebrill, gwnaeth ymdrech i dd'od i orsaf Mirzapore, ond methodd a chael pobl i'w gario gan' milldir o ffordd drwy ganol y tigers a'r anial.

"Dydd Llun, y 18fed o Ebrill, galwodd am y pregethwr brodorol, Peter Elias, a dywedodd, 'Peter, mae fy ngwaith i ar ben; mae fy Meistr yn fy ngalw i adref, ac yn awr byddwch ffyddlawn, byddwch lafurus, byddwch wych; yr wyf fi yn myned i'r wlad well.' Ar hyn, dechreuodd P. Elias wylo. 'Peidiwch wylo,' meddai Jones, 'dylech yn hytrach lawenhau fod fy Meistr yn galw am danaf, ac fod ty fy Nhad gerllaw i mi.' Yna galwodd am y pregethwr arall, a dywedodd yr un peth wrtho yntau. 'Ewch,' ebai, 'i'r bazaar, galwch holl bobl y lle yma, i mi am y tro diweddaf gael siarad a hwynt am Iesu.' Yn mhen ychydig ar ol hyn, collodd ei synwyrau, ac aeth waeth waeth. Dydd Gwener, yr 22ain o Ebrill, cyrhaeddodd cenhadwr o Mirzapore, yno, wedi clywed fod Jones yn wael iawn. Pan y daeth Mr. Lambert, y cenhadwr, i'r ty, cododd Jones o'i wely, a chafodd ei synwyrau yn ol am oddeutu chwarter awr. Yr oedd yn wir dda ganddo weled Mr. Lambert, a dywedodd:—'O Lambert, I am so glad to see you. I knew you would have come if you were able; I am better now, and will try and sit up with you. But I have not long to be here; my work is done, and I am going home.' Collodd ei allu i feddwl drachefn, a dywed Mr. Lambert, ei fod yn ymddangos mewn ymdrech galed hyd tua deg o'r gloch nos Sadwrn, pan y dywedodd, 'Do you hear that singing? Is it not very sweet? Oh! how sweet.' Yna dechreuodd ganu yn Gymraeg, a chanodd hymnau Cymreig heb aros am 24 awr, hyny yw, hyd 10 nos Sul, pan yr oedd yn ymddangos yn isel iawn. Ehedodd yr enaid at y Duw a'i rhoes, dydd Llun, y 25ain; ac y mae ei lwch yn awr yn gorwedd yn mhlith y bobl, er mwyn pa rai yr aberthodd ei fywyd. Nid oes dadl na chyfyd torf fawr o eneidiau i'r lán o fedd pechod fel ffrwyth llafur yr anwyl a'r gwrol William Jones. Dywedai Mr. Lambert wrthyf y dydd arall, 'We have no such man as Jones in our Mission, and I do not know how his place can be filled up.'"

Nid oes achos i ni ychwanegu fod teimlad hiraethlon ar ol William Jones yn mysg ei holl gydnabyddion; a chydnebydd cyfarwyddwyr y Gymdeithas Genhadol eu bod yn ei symudiad annisgwyliadwy, wedi colli un o'r cenhadon goreu a anfonwyd allan o Loegr erioed. Mae colli y fath un yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn un o'r pethau nas gallwn e hesbonio yr awrhon; ac ar yr un pryd yr ydym yn ymdawelu am y caw "wybod ar ol hyn."

William Edwards. Dechreuodd ef bregethu yr un noson a Williar Jones. Aeth i athrofa Caerfyrddin, ac wedi treulio ei amser yno, urddwyd ef yn sir Benfro, ac y mae yn awr yn Kilsby.

John Griffiths. Dechreuodd bregethu yma, ac wedi bod yn athrofau y Bala ac Aberhonddu, a urddwyd yn Glantaf, Morganwg, lle y mae yn aros hyd yr awr hon.

John Silin Jones. Genedigol o Lansilin, sir Ddinbych, ond yma y dechreuodd bregethu, ac y mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin.

Gan fod y tri gweinidog a fu yn yr eglwys barchus hon eto yn fyw; arbedir ni rhag ysgrifenu Cofnodion Bywgraffyddol o honynt; a gobeithiwn na bydd angen gwneyd am yr un o honynt am lawer o flynyddau eto.

HOREB, TONTYRBEL

Saif ar lechwedd yn codi oddiwrth yr afon Ebbwy, o fewn milldir i Crumlun. Dechreuwyd yr achos dan nawdd eglwys Penmain, ond cymerodd eglwys Mynyddislwyn hefyd ddyddordeb yn yr achos o'i gychwyniad.

Cychwynwyd yma ysgol Sabbothol yn nhy Mr. John Jones, Pantglas, a chynhelid hi o dy i dy am flynyddau; a chynhelid cyfarfodydd gweddi a phregethu yn achlysurol, yn nhy Mr. Edmund Llewellyn, Pantglas, fyn-. ychaf. Yr oedd Mr. John Mathews, Castellnedd, a'i frawd Mr. W. Mathews, Rhydri, a Mr. Joshua Thomas, Aberdare, yn mysg y rhai a roddasant help i sefydlu yr achos yn y lle. Yn y flwyddyn 1826, adeiladwyd capel Horeb; ond ni chorffolwyd yma eglwys hyd 1842. Ystyrid y lle fel cangen o Benmain i gynal ysgol Sabbothol a phregethu. Cynhaliwyd cyfarfod ar achlysur ffurfiad yr eglwys, a phregethwyd gan Mri. M. Ellis, Mynyddislwyn; E. Rowlands, Pontypool; G. Lewis, Coed-duon, a W. Jenkins, Trelyn. Rhif yr aelodau pan gorffolwyd yr eglwys oedd 30. Bu y lle am ychydig amser dan ofal Mr. E. Davies, mewn cysylltiad a Libanus; ac wedi hyny dan ofal Mr. E. Rees, Penmain, a Mr. G. Lewis, Coed-duon.

Gorphenaf 1af a'r 2il, 1850, urddwyd Mr. Thomas Lewis yn weinidog yn y lle. Ceir hanes yr urddiad yn y Diwygiwr am 1850, t.d. 282.

Traddodwyd araeth ar natur eglwys y Testament Newydd gan Mr. E. Rowlands, Pontypool. Derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog ieuangc, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. Isaac Harries, Morfa. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. Herbert Daniel, Cefnerib, ac i'r eglwys gan Mr. E. Hughes, Penmain. Mae Mr. Lewis yn enedigol o'r gymydogaeth, derbyniwyd ef yn aelod ar adeg corffoliad yr eglwys, a dechreuodd bregethu yn 1844; ac er ei urddiad yma yn 1850, y mae wedi bod yn ddefnyddiol a chymeradwy yn yr eglwys a'r ardal.

Yn mysg y rhai gyfodwyd yma i ddechreu pregethu heblaw y gweinidog, cyfodwyd Mr. J. Lewis, brawd i Mr. Lewis, y gweinidog. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, derbyniwyd ef i athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Penrhyndeudraeth, sir Feirionydd; symudodd oddiyno i Rhesycae a Salem, sir Fflint; ac ymfudodd yn ddiweddar i America, lle y mae yn bresenol.

T. Ap Lewis. Mab y gweinidog, a ddechreuodd bregethu yn ddiweddarach; ac y mae yn parhau yn bregethwr derbyniol yn yr eglwys.

Bu yma amryw bersonau diwyd a llafurus yn yr eglwys, ac y mae eu henwau yn berarogl yn y gymydogaeth hyd heddyw; a bydd eu "coffadwriaeth yn fendigedig.'

Nid yw yr achos yn y lle mor llewyrchus ag y gwelwyd ef. Mae y glofeydd oedd yn y lle agos wedi eu gweithio allan, a llawer o'r hen breswylwyr wedi gorfod ymadael o'r herwydd. Ond er hyny, y mae yma lawer o weithgarwch gyda chrefydd; ac arwyddion amlwg er yr holl anfanteision fod bywyd yn y gwaith. Mae tebygolrwydd y bydd Crumlun, Llanhiddel, ac Aberbig yn lleoedd pwysig, ac y mae yn drueni na byddai gan ein henwad achosion yn y lleoedd gobeithiol hyn. [48]

MACHEN.

Saif y lle hwn ar lan yr afon Rhymni, o fewn saith milldir i Gasnewydd. Bu yma waith glo helaeth, ond y mae hwnw erbyn hyn wedi aros yn hollol. Prif waith y lle yn awr yw y gwaith alcam. Dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddio yn yr ardal tua'r flwyddyn 1840 neu cyn hyny. Arweinydd y cyfarfodydd hyn oedd Dafydd Morgan, aelod o eglwys y Rhydri, a "chyfarfod gweddi Dafydd Morgan" y gelwid ef. Yr oedd y Bedyddwyr a'r Wesleyaid yn cynnorthwyo yn aml yn y cyfarfodydd; ond ar Dafydd Morgan yr oedd y gofal. Cyn hir cymerwyd room wrth y Royal Oak, er cynal pregethu rheolaidd, a buwyd yno am tua deng mlynedd. Mynai cyfeillion y Rhydri mai cangen dan eu haden hwy a ddylasai fod; ond mynai Dafydd Morgan y dylasai fod yn annibynol, ac felly rhoddwyd room y Royal Oak i fyny, a buwyd yn cynal cyfarfodydd pregethu am dymor yn nhy Dafydd Morgan. Pregethodd Mr. Jones y Rhydri lawer iawn wrth y Royal Oak, ac amryw weinidogion eraill. Yn nhy Dafyld Morgan pregethodd Mr. Harries o'r Morfa, lawer, a Mr. Jenkins, Rhymni, ac eraill. Yn mhen ychydig cymerwyd club-room y "Fforwm-eistedd" i gynal cyfarfodydd. Bu dau neu dri o gyfarfodydd dau fisol yn y lle yma, y rhai a gynelid yr amser hwn yn y rhan isaf o'r sir. Wedi bod yma am ychydig cymerwyd tir i adeiladu capel, a dechreuwyd o ddifrif ar y gorchwyl.

Ychydig oedd nifer yr aelodau pan y sefydlwyd yr eglwys yn nhy Dafydd Morgan, yn 1842,-Dafydd Morgan a'i wraig, Selina Jones, Griffith Evans, William Roberts, Ebenezer Harries, Daniel Morgan, &c. Mr. T. Evans, Maesaleg, oedd yn arolygu y cwbl yr amser yma, ac efe roddodd arian at adeiladu y capel newydd. Llafuriodd Dafydd Morgan a'r aelodau eraill lawer iawn gyda'r capel; ond pan yr oedd yn barod i'w agor, cafodd Mr. Evans ei dori allan gan gyfarfod chwarterol y sir am ei ddrwg- fuchedd, ac am hyny digiodd yn aruthr, ac o herwydd nad allai y cyf- eillion gael yr arian iddo ar unwaith, gwerthodd y capel i'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn eu meddiant hwy y mae hyd heddyw; ac felly, wele y cyfeillion heb un capel etto. Buont yn addoli wedi hyn am yn agos i flwyddyn yn nhy Thomas Jones, yr hwn sydd etto yn fyw; ond cyn hir cafwyd tir i adeiladu capel. Yr oedd Mr. T. Jones, Watford yn genhadwr yn y rhanau isaf o Fynwy ar y pryd, ac yn teimlo cryn ddyddordeb yn yr achosion gweiniaid, ac efe a adeiladodd y capel hwn, yr hwn a agorwyd yn 1844, a bu yr eglwys yn byw jar (gynnorthwy gweinidogion cylchynol hyd Medi 1848, pan y cymerodd Mr. B. Lewis, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn Llanfabon ei gofal. Bu Mr. Lewis yma am ddwy flynedd, ac yna ymfudodd i'r America. Mai 7fed a'r 8fed, 1851, urddwyd Mr. W. Russell o Bentyrch, yn weinidog ar yr eglwys. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. Griffiths, Casnewydd; gofynwyd rhai holiadau i'r gweinidog ieuangc gan Mr. J. Jones, Rhydri; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. I. Harries, Morfa; pregethwyd siars i'r gweinidog gan Mr. T. Rees, Cendl; ac i'r eglwys gan Mr. E. Rowlands, Ebenezer. Bu gofal yr eglwys arno am yn agos i bedair blynedd. Wedi iddo roddi y lle i fyny, a chymeryd at Llansantffraid a'r Eglwysnewydd, daeth Mr. E. Evans, gynt o Nantyglo, yma, a bu yn y lle am ddwy flynedd. Yn ei amser ef yr helaethwyd y capel. Yn 1856, daeth Mr. T. L. Jones, y gweinidog presenol, i'r lle, a gwelodd yr Arglwydd yn dda lwyddo y gwaith i raddau helaeth iawn, fel y bu raid cael capel newydd, ac yn 1860 adeiladwyd y capel eang presenol, yr hwn a gostiodd 670p., ac nid oes ond ychydig o'r ddyled heb ei thalu. Mae llawer o'r rhai fu yn weithgar gyda'r gwaith wedi marw; ond y mae Dafydd Morgan, ei gychwynydd, etto yn fyw. Pe buasai y gymydogaeth yn myned yn y blaen fel y disgwylid unwaith, buasai y capel newydd yn rhy fach cyn hyn.

Mae'r iaith Saesonaeg yn ennill tir gyda chyflymdra, ac o herwydd hyny cymysgir y gwasanaeth ar nos Sabbothau, ac yn fynych ar amserau eraill. Y diaconiaid presenol ydynt Meistri Evan Jones, a William Hicks.

LLANEIRWG.

Pentref tlws mewn gwlad dda odiaeth ydyw Llaneirwg, tua phedair milldir i'r Gogledd o Gaerdydd. Bu Mr. G. Hughes, Groeswen, yn pre- gethu llawer yn y gymydogaeth mewn lle o'r enw Croesllanedeyrn, lle yr oedd un William Roberts yn byw, yr hwn yn nghyd a'i wraig oeddynt yn aelodau yn y Groeswen; ond a ymaelodasant ar ol hyny yn Ebenezer, Caerdydd, oherwydd ei fod yn nes atynt.

Tua diwedd 1842, neu ddechreu y flwyddyn 1843, daeth Mr. Daniel Roberts, Cendl, i fyw i'r ardal, ac yr oedd Mr. Henry J. Davies, aelod o'r Morfa, wedi symud yma ychydig cyn hyny; a theimlent oblegid eu hymddifadrwydd o foddion gras gyda'u henwad eu hunain. Yn Nghymanfa y Groeswen, yn Mai 1843, aeth y ddau frawd i ymddiddan ar yr achos a Mr. Mathews, Casnewydd y pryd hwnw, Castellnedd yn awr, a phenderfynwyd yn y man i Mr. Mathews i ddyfod i bregethu i dy Daniel Roberts, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Croesllanedeyrn; a dyna gychwyniad yr achos yn y lle.

Yn 1844, dechreuwyd cadw cyfarfodydd yn y Schoolroom, a chofir etto gan rai am yr odfaeon hynod a gafwyd yn y lle. Pregethid fynychaf gan Mr. I. M. Harries, Morfa; Mr. L. Powell, Caerdydd; Mr. J. Jones, Rhydri; Mr. J. Mathews, Casnewydd, ac eraill. Bu Mr. John Davies, Cilcenin (y dyn dall) yn aros yn y gymydogaeth dros dymor, ac yr oedd ei weinidogaeth yn dderbyniol iawn.

Gan fod yno lawer yn dyfod i wrando, meddyliwyd y dylesid cael capel; a phrynwyd darn o dir i'w adeiladu arno, a thalwyd am dano ar unwaith. Cymerodd Mr. Thomas Jones, yr hwn oedd ar y pryd yn genhadwr cartrefol yn y parth yma o'r wlad, ofal ei adeiladiad; a gwnaed ef yn gapel hardd a chyfleus, ac erbyn hyn y mae yn ymyl bod yn rhydd o ddyled, os nad yn gwbl felly. Yr oedd Mr. Daniel Roberts yn pregethu ar sefydliad yr achos, a bu yn dra egniol o'i blaid; ond gadawodd ef yr Annibynwyr yn fuan wedi hyn; ac y mae yn awr yn weinidog ordeiniedig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd Henry Davies, Tyisaf, a Richard Williams, Gof, yn mysg y rhai blaenaf gyda'r achos o'i gychwyniad, ac y maent hwy wedi cael help gan Dduw yn aros hyd y dydd hwn. Agorwyd y capel newydd Gorph. 20fed a'r 21ain, 1847, pryd y pregethodd Meistri J. Jones, Pentyrch; J. Hopkin, Drefnewydd; J. Evans, Maendy; J. Mathews, Castellnedd; G. Lewis, Coed-duon; I. Harries, Morfa, a-Carver, Caerdydd. Bu gofal yr eglwys am flynyddoedd ar Mr. T. Jones, Watford wedi hyny; yr hwn, fel y dywedasom oedd yn genhadwr cartrefol yn y rhan yma o'r wlad; ac a urddasid i hyny yn y Morfa, Ebrill 15ed, 1845. Wedi i Mr. Jones roddi ei gofal i fynu, bu Mr. R. B. Williams, yn awr o'r Morfa, yn dyfod yma am flwyddyn neu ddwy. Yna bu Mr. J. Ridge, gynt o Cendl, yn gofalu am yr eglwys am flwyddyn. Ar ol hyny, bu yr achos am rai blynyddau heb un gweinidog sefydlog, ond deuai Mr. T. L. Jones, Machen, yma bob mis i gadw cymundeb. Yn haf 1866, rhoddwyd galwad i Mr. T. George, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma yn mis Medi y flwyddyn hono.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Caerdydd; W. Morgan, Caerfyrddin; H. Oliver, B.A., Casnewydd; T. L. Jones, Machen; ac eraill. Mae Mr. George yn aros yma yn barchus a defnyddiol iawn. Pregetha ddau Sabboth o bob mis yn Llaneirwg, a'r ddau Sabboth arall i'r eglwys Saesonaeg ieuangc yn y Grange, ger Caerdydd.

BEREA,

Sydd addoldy yn y Blaenau, yn mhlwyf Aberystruth. Dechreuwyd yr achos trwy offerynoliaeth Mr. D. Stephenson, Nantyglo, yn nghyd a'r eglwys dan ei ofal yn Rehoboth, Brynmawr. Gan fod amryw o'r aelodau yn byw ar y Garn a'r Blaenau, a'r lle yn cyflym gynyddu, a gweithiau newyddion yn ymagor, teimlwyd fod gormod o bellder iddynt gerdded i'r Brynmawr, ac felly fod galwad am wneyd darpariaeth ar gyfer anghenion ysprydol y trigolion. Yn 1837, dechreuwyd ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd wythnosol yn y Blaenau, yr hyn a brofodd yn llesol iawn, ac yn foddion i ennill sylw llawer o'r ardalyddion at bethau crefyddol. Yn 1842, adeiladwyd y capel cyntaf, ac yr oedd traul ei adeiladiad yn 250p. Bu y lle fel cangen ddibynol ar Rehoboth, Brynmawr, hyd y 24ain o Fedi 1848, pryd y sefydlwyd yr ychydig aelodau oedd yn y Blaenau yn eglwys Annibynol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Stephenson, a D. Williams, Troedrhiwdalar. Er hyny parhaodd yr eglwys i fod dan ofal Mr. Stephenson hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ar yr 22ain o Awst, 1849. Ei destyn diweddaf yn y capel hwn ydoedd-"Y mae tyrfa yn dyfod." Yn fuan ar ol hyn ymwelodd y geri marwol a'r gymydogaeth, a thyrfa fawr a ddychwelwyd, ac aeth y capel yn llawer rhy fach, fel y bu raid cael capel helaethach. Felly, ar y 25ain o Fehefin, 1850, am haner awr wedi 6 o'r gloch yn y boreu, gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel presenol. Darllenwyd, gweddiwyd, ac areithiwyd ar yr achlysur gan Mr. R. G. Jones, yn awr o America. Traul adeiladiad y capel hwn ydoedd 1,720p. Dechreuwyd pregethu ynddo yn Mehefin 1851. Ar y 5ed o Dachwedd, 1851, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Williams, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, yr hwn am flwyddyn, a wasanaethodd yr eglwys yn fisol, nes iddo orphen ei amser yn y coleg, yna ymsefydlodd yn eu plith. Ar yr 16eg a'r 17eg o Fehefin, 1852, cymerodd ei urddiad le; gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistri M. Jones, Varteg; N. Stephens, Sirhowy; T. Rees, Cendl; J. Davies, Llanelli; W. Jenkins, Brynmawr; J. Jeffreys, Penycac; E. Davies, M.A., Athraw Coleg Aberhonddu; D. Rees, Llanelli; D. Lewis, Llanfaple; H. Daniel, Pontypool; ac S. Phillips, Llangynidr. Wedi hyny, ar y 4ydd a'r 5ed o Hydref, 1853, agorwyd y capel newydd, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistri W. Williams, Brynmawr; R. Lewis, Tynycoed; J. Evans, Craigybargod; J. D. Williams, Caerdydd; D. Stephens, Glyntaf; D. Rees, Llanelli; W. Jenkins, Brynmawr; W. Davies, Rhymni; E. Hughes, Penmain; D. Davies, New Inn; J. Davies, Llanelli; a T. Rees, Cendl. At yr hyn oedd wedi ei gasglu yn flaenorol, casglwyd ar ddydd yr agoriad 91p. 18s. 11½c, ac aethpwyd yn mlaen yn gysurus a llwyddianus iawn am lawer o flynyddau. Ond yn Awst, 1867, safodd holl waith y Blaenau—gwasgarwyd y miloedd trigolion—rhwygwyd yr eglwysi, ac ymdaenodd tristwch, caledi, a thlodi mawr trwy y gymydogaeth; ond yn wyneb y cwbl, trwy ymdrech a hunanymwadiad yr ychydig bersonau a arosodd yn y lle, cadwyd yr achosion yn fyw. Ni chiliodd y gweinidog yn nydd profedigaeth, ond arosodd gyda'r ychydig, a gweithiodd ei ffordd yn mlaen yn wyneb yr holl anhawsderau, a diau mai efe a fu y prif offeryn i gadw y ddwy eglwys dan ei ofal yn fyw yn y cyfnod tywyll a chymylog hwn. Yn 1869, ailgychwynodd y gwaith, ac erbyn hyn y mae llawer o'r hen aelodau a'r hen wrandawyr wedi dychwelyd, ac arwyddion gobeithiol etto am ddyfodol cysurus a llwyddianus. Cyfodwyd dau i bregethu yn yr eglwys hon.

Evan P. Jones. Daeth yma o sir Aberteifi. Yn fuan wedi dechreu pregethu aeth i athrofa y Bala, ac oddiyno i athrofa Caerfyrddin, ac oddiyno i un o Brifysgolion Germani, lle y graddiwyd ef yn M.A., a Ph.D.; ac y mae yn awr yn weinidog yn Mostyn.

David M. Davies. Wedi dechreu pregethu aeth i athrofa Aberhonddu, ac wedi treulio ei amser yno aeth i Awstralia, lle y mae yn weinidog parchus a chyfrifol.

TABERNACL,

Sydd addoldy yn Abertilerwy, plwyf Aberystruth. Cangen ydyw yr eglwys hon o Berea, Blaenau. Ffurfiwyd hi trwy offerynoliaeth Mr. D. Williams a'r eglwys dan ei ofal. Tua diwedd y flwyddyn 1852, dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddio a phregethu yn ardal Abertilerwy, a byddai Mr. Williams ac amryw o aelodau Berea yn myned i lawr dair a phedair gwaith yn y mis i gynal cyfarfodydd. Yn 1853, dechreuwyd ysgol Sab— bothol yn nhy Mr. Harris, yr hwn oedd ar y pryd yn aelod yn Berea, ac yn bregethwr cynnorthwyol cymeradwy, ac wedi myned yn mlaen yn llwyddianus am rai misoedd, penderfynwyd cael capel, gan fod lle y cynyddu, a'r trigolion yn lluosogi, ac arwyddion y buasai yn lle mawr a phwysig mewn blynyddau i dd'od. Yn 1854, adeiladwyd capel gwerth 300p. Ar y 4ydd o Fehefin, 1854, sefydlwyd yr eglwys. Rhoddodd eglwys Berea lythyrau i ddeuddeg o'i haelodau, y rhai oeddynt yn byw yn Abertilerwy, sef W. Harris a'i wraig, Mrs. Protheroe, James Protheroe, Thomas Tibbs a'i wraig, Edmund Lewis a'i wraig, George Moxley a'i wraig, Caturah Jones, a Rees Hughes, a sefydlwyd hwy yn eglwys Annibynol. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Meistri J. Davies, Llanelli; ac H. Daniel, Pontypool; a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd gan Mr. Williams, eu gweinidog. Agorwyd y capel ar y 12fed a'r 13eg o Awst, 1855, pan y pregethodd y Meistri E. Hughes, Penmain; T. Rees, Cendl; G. Griffiths, Casnewydd; E. Rowlands, Pontypool; D. Davies, New Inn; J. M. Davies, Maesycwmwr; W.Williams, Brynmawr, a T. Jeffreys, Penycae. Bu yr eglwys hon dan ofal Mr. D. Williams am 12 mlynedd, sef o'i ffurfiad yn y flwyddyn 1854 hyd y flwyddyn 1866. Wedi dechreu achos Saesonaeg yn y Blaenau, teimlai fod yn rhaid iddo roddi ei gofal i fyny, oblegid nas gallasai wasanaethu y tair eglwys. Ac anogodd hwy i edrych allan am ddyn ieuangc duwiol a gweithgar, gan fod y maes yn Abertilerwy yn ddigon eang; ac felly yn unol a'i ddymuniad rhoddasant alwad i Mr. Thomas Hughes, myfyriwr o ysgol Ramadegol Milford, yr hwn a ymsefydlodd yn eu plith yn Mai 1866, ac a fu yn ddiwyd a llafurus am dair blynedd; yna symudodd i Tabor, Maesycwmwr. Y mae yr eglwys yn Abertilerwy yn awr heb un gweinidog, ond yn myned yn mlaen yn gysurus.

SILOAM,

Sydd gapel Saesonaeg perthynol i'r Annibynwyr yn y Blaenau, yn mhlwyf Aberystruth. Cangen ydyw yr eglwys hon o Berea. Ysgoldy y bwriadwyd ef ar y cyntaf, adeiladwyd ef gan yr eglwys Gymreig yn 1858, er mwyn cynal ysgol Sabbothol a chyfarfodydd achlysurol eraill ar hyd yr wythnos; ac yr oedd traul ei adeiladiad yn 350p. Yn fuan gwelwyd fod yr ardal yn myned yn fwy Seisnigaidd; a llawer o Saeson ag oedd yn perthyn i'r Annibynwyr yn dyfod i'r lle, a'r rhan fwyaf o'r plant yn cael eu codi i fyny yn yr iaith Saesonaeg, fel y teimlodd yr eglwys a'r gweinidog fod yn llawn bryd i wneyd darbodaeth ar gyfer y Saeson, ac felly dechreuwyd pregethu Saesonaeg yn yr ysgoldy yn y flwyddyn 1860, a pharhawydiwneyd hyny hyd 1865, pan y darfu i ychydig o bersonau ymfoddloni i ymadael a Berea, y fam-eglwys, er ffurfio achos Saesonaeg. Cymerodd hyn le ar y 9ed o Ebrill, 1865. Yna aethant yn mlaen yn gysurus a llwyddianus, y ddwy eglwys mewn perffaith undeb a'u gilydd, dan ofal Mr. D. Williams. Parhaodd yr eglwys Saesonaeg yn llewyrchus a blodeuog iawn hyd Awst 1867, pan safodd gwaith y Blaenau, a'r pryd hwn bu bron a chael ei dinystrio. Gwasgarwyd yr aelodau i gyd ond un, ond bu yr un hwnw yn nghyd a'r gweinidog yn foddion i gadw yr achos yn fyw. Cynhaliasant y cyfarfodydd yn rheolaidd fel arfer, er mai ychydig iawn oedd yn dyfod yn nghyd. Ond yn 1869, pan ail gychwynwyd y gwaith, adfywiodd yr achos drachefn; dychwelodd llawer o'r hen gyfeillion, a chynyddodd y gynnulleidfa i raddau helaeth. Y pryd hyn yr oedd 300p. o ddyled ar yr ysgoldy, ond darfu i'r boneddwr, S. Morley, ysw., A.S., roddi 150p. tuag ato; a J. Jupe, Ysw. roddi 15p. tuag at droi yr adeilad o fod yn ysgoldy i fod yn gapel cyfleus, a'i gyflwyno i fod yn feddiant i'r Saeson, yr hyn a wnaethpwyd yn rheolaidd. Y mae y deed of trust wedi ei chael, a'r capel bron a'i orphen.


BETHEL, CWMBRAN.

Yr oedd amryw o hen aelodau y New Inn yn byw yn ardal Cwmbran, y rhai a ddeuant yn rheolaidd a chyson i New Inn ar y Sabboth cymundeb ac ar y Sabbath pen y bythefnos; ond ar y Sabbothau eraill, ac ar yr wythnos, a gadwent gyfarfodydd gweddi yn nhai eu gilydd, ac yn mhob ty lle y caffent ddrws agored. Yr oedd y cyfarfodydd gweddio yma yn boblogaidd iawn, fel y byddai yr anedd-dai yn fynych yn rhy gyfyng i'w cynwys. Arferai Mr. Davies, New Inn, bregethu iddynt am dri o'r gloch un Sabboth o bob mis. Pregethai bob yn ail mewn dau dy fferm; ac fel ffrwyth i'w lafur derbyniwyd amryw o'r ardal yn aelodau yn y New Inn. Daeth y lle yn mlaen yn mhen ychydig yn llawer mwy poblogaidd, agorwyd glofeydd yma, ac adeiladwyd llawer o dai newyddion, fel y daeth angen gwasanaeth crefyddol yn fwy sefydlog a rheolaidd; a bernid fod eisiau ty i'r arch i drigo ynddo.


Agorwyd y drws i gael lle i addoli mewn modd rhagluniaethol iawn. Ar un prydnawn Sabboth yr oedd Mr. Davies, New Inn, yn pregethu yno, ac ar y diwedd dywedodd wrth y gwrandawyr fod ganddo gais taer atynt oll, y gwyddent fod y lle yn debyg o ddyfod yn boblog iawn; ond mai y perygl oedd gyda lluosogiad y boblogaeth a chynydd masnach, y gwneid cais am ychwanegu y tafarndai yn y lle; ac mai ei gais taer ef atynt ydoedd na byddai i un honynt arwyddo a'u llaw am gael rhagor o dafarn-dai i'r lle-fod yno ddwy eisioes, a bod hyny yn ddigon, ac y buasai yn well i'r ardal pe na buasai yno yr un. Derbyniwyd y cyfarchiad gyda chymeradwyaeth mawr. Daeth amryw o ddynion penaf y plwyf at Mr. Davies ar y diwedd i ddiolch iddo am yr ail bregeth gan ganmol ei bod yn rhagori ar y cyntaf; a daeth y ddau dafarnwr yn mlaen i ddiolch iddo hefyd, er fod yn bosibl mai hunan elw oedd yn eu cymell hwy. Cymerodd hyn le yn niwedd y flwyddyn 1836. Ar yr adeg yma yr oedd un William Leek, un o aelodau y New Inn, wedi codi ty yn ardal Cwmbran, ac wedi ei osod i un arall ar ardreth o 26p. yn y flwyddyn, gyda bwriad i'w agor yn dafarn. Ni wyddai Mr. Davies ddim am hyn wrth rybuddio y bobl y Sabboth, ond yr oedd yr adeiladu cyflym oedd yn y lle yn ddigon o reswm dros osod y bobl ar eu gocheliad os deuai neb atynt ar y fath gais; ond y boreu Llun cyntaf wedi gwneyd yr apeliad at y bobl, aeth William Leek a'r gwr oedd wedi cymeryd y ty newydd drwy y gymydogaeth i ofyn enwau o blaid cael trwydded i gadw tafarn; ond gwrthododd pawb trwy y lle ag arwyddo iddynt oddigerth un dyn, a haner Eglwyswr oedd hwnw. Dyna yr unig enw a gawsant o blaid cael y dafarn.

Y nos Fercher dilynol yr oedd cyfarfod parotoad yn y New Inn, ac aeth William Leek yno, er mai anfynych iawn yr arferai fyned i'r moddion wythnosol, ac ar y diwedd gofynodd a oedd ganddynt fwriad i gael ty cwrdd newydd yn Cwmbran; ac wedi iddynt ateb fod hyny mewn bwriad ganddynt; dywedodd fod ganddo ef dy a werthai iddynt, ei fod wedi ei fwriadu yn dy tafarn, ond fod Mr. Davies, wedi perswadio y bobl Sabboth blaenorol i beidio arwyddo am ragor o dafarndai yn y lle, a'u bod oll wedi gwrando ar ei gais, ac fod yn rhaid iddo gan hyny werthu y ty. Penderfynwyd i bedwar o'r brodyr a Mr. Davies fyned dranoeth i weled y ty, a'r diwedd fu ei brynu am 190p. Mae un ffaith arall yn nglyn ar adeilad hwn sydd yn werth ei chofnodi yma. Wedi gwneyd y gweithredoedd aeth Mr. Davies a'r cyfeillion i swyddfa y cyfreithiwr yn Mhontypool i dalu yr arian i William Leek. Tynodd un o gyfeillion New Inn—Edward Wrench—yr arian o'i logell, ac wrth eu hestyn dywedodd " "Ty Dduw yw y ty hwn i fod, ac ni chaiff neb rwgnach am ddyled y ty hwn, yr wyf yn talu am dano fy hun heb ddisgwyl cael dimai byth yn ol." Tarawodd bawb yn y lle a syndod, ac nis gallodd Mr. Davies ymatal rhag wylo, oblegid nid oedd erioed wedi dychmygu am y fath beth. Yr oedd Edward Wrench yn wŷr i offeiriad o'r un enw, a ddaeth o ardal Treffynon, yn sir Fflint, ac a gafodd fywoliaeth Pantteg, ger Pontypool. Yr oedd Edward Wrench, offeiriad Pantteg, yn cael ei gydnabod gan yr hen bobl a'i hadwaenai yn ddyn diniwed, ond heb fawr o gymwysder i'r weinidogaeth. Yr oedd William Wrench, ei fab, hyd ei fedd yn ddyn hollol ddigrefydd, er ei fod weithiau yn myned i eglwys Pantteg; a mab iddo ef oedd yr Edward Wrench am yr hwn yr ydym yn son. Bu yn gwasanaethu am 18 mlynedd mewn amaethdy yn ardal Cwmbran, ac er ei fod yn byw mewn fferm yn ymyl y New Inn am y rhan olaf o'i oes, etto yr oedd ganddo hen serch at ardal Cwmbran, ac fel prawf o'i ewyllys da rhoddodd i'r ardalwyr eu capel cyntaf heb ddim dyled arno. Wedi sicrhau yr adeilad yn addoldy i'r enwad, ad-drefnwyd ef yn lle cyfleus at addoli, ac ar yr 8fed a'r 9fed o Ebrill, 1837, agorwyd ef yn gyhoeddus; a ffurfiwyd eglwys ynddo cynwys edig o 32 o aelodau. Bu gofal yr eglwys am y blynyddoedd cyntaf ar Mr. Davies, New Inn, ond cynnorthwywyd ef gan Mr. John Thomas; Mr. John Lewis, Penywaun; Mr. John Davies, Cilcenin, (y dyn dall), ac eraill. Bu gweinidogaeth y "dyn dallo Gilcenin," fel ei gelwid, yn dderbyniol iawn yn y parthau hyn o Fynwy yn y blynyddoedd hyn.

Rhoddodd Mr. Davies, New Inn, yr eglwys i fynu oblegid fod y cylch yn rhy eang iddo; a rhoddwyd galwad i Mr. Edward Williams, Llanfairmuallt, yr hwn a lafuriod d yno o 1848 hyd 1852, pryd y symudodd i gymeryd gofal eglwys Brynbiga. Bu yr eglwys am rai blynyddoedd heb weinidog ar ol ymadawiad Mr. Williams, ond at Mr. Davies, New Inn, yr edrychent am help pan elai yn gyfyng arnynt, oblegid yr oedd efe bob amser yn noddwr caredig i'r achos.

Yn y flwyddyn 1859, aeth y gynnulleidfa yn nghyd ag ail-adeiladu eu haddoldy; ac ar y 7ed a'r 8ed, o Dachwedd yn yr un flwyddyn, cynnaliwyd cyfarfodydd ei agoriad. Pregethwyd gan Meistri T. Rees, Čendl; P. Griffiths, Alltwen; J. Davies, Taihirion; R. Thomas, Hanover; A. Mac Auslane, Casnewydd; E. Williams, Brynbiga; a G. Griffiths, Casnewydd. Tynwyd baich trwm ar yr eglwys drwy godiad y capel newydd, ond trwy ffyddlondeb a chydweithrediad yr eglwys y mae y ddyled oll ond 20p. wedi ei thalu. Yn haf y flwyddyn ganlynol, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John M. Jones, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu; a chynhaliwyd cyfarfodydd ei urddiad, Medi 18eg a'r 19eg, 1860. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Roberts, Athraw Clasurol Aberhonddu. Holwyd gofyniadau gan Mr. B. Williams, Gwernllwyn, Dowlais, yr hwn a gyflwynodd Feibl yn anrheg i Mr. Jones oddiwrth Ysgol Sabbothol Gwernllwyn.[49] Dyrchafwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr. D. Davies, New Inn. Pregethwyd siars i'r gweinidog gan Mr. J. Morris, Athraw Duwinyddol Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. T. Gillman, Casnewydd. Ni bu Mr. Jones yma yn hir, oblegid yn fuan symudodd i Bethesda, Brynmawr; ac er ei ymadawiad ef, y mae yr eglwys wedi bod dan ofal Mr. Davies, New Inn. Ysgydwodd y symudiadau trwy ansefydlogrwydd y gweithfeydd lawer ar yr eglwys yn y lle, ac ymfudodd llawer o bryd i bryd i America[50]. Mae yma Ysgol Sabbothol luosog, a'r Eglwys wedi bod bob amser yn heddychol a thangnefeddus; ac i raddau dymunol, ac ystyried ansawdd weithfaol y lle, wedi bod yn lân oddiwrth ddiotwyr a chyfeddachwyr a chymeriadau llygredig felly. Mae y lle wedi myned yn hollol Seisnigaidd, fel mai cwbl ddifudd fyddai pregethu Cymraeg i'r bobl, ac yn ei sefyllfa drawsnewidiol y mae yr achos wedi dal heb golli tir.

Mae John Thomas, aelod gwreiddiol o Brynberian, ond sydd yn y wlad yma er's 35 o flynyddoedd yn bregethwr derbyniol a chymeradwy yn yr eglwys.

William Barwell-a ddechreuodd bregethu yma, ac a aeth i'r Congregational Institute, Bristol, i dderbyn addysg; ac wedi bod yno am dair blynedd, urddwyd ef yn Devonshire, lle y mae gofal tair o eglwysi bychain arno. Mae ei dad yn ddiacon parchus yn Nghwmbran, a'i fam yn "un o heddychol ffyddloniaid Israel"-a brawd iddo yn arweinydd y canu, ac yn arolygydd yr Ysgol Sabbothol yn y lle. Mae teulu John Jenkins, Troedyrhiw hefyd wedi bod o gynnorthwy mawr i'r achos yma trwy y blynyddoedd.

SILOH, ABERSYCHAN.

Yn y flwyddyn 1834, ardrethwyd ystafell yn y lle poblog hwn, at gynnal gwasanaeth crefyddol, gan nifer o aelodau yr eglwysi yn Ebenezer, Pontypool, a Sardis, Farteg. "Y Babell" y galwent yr ystafell hon. Llwyddodd yr achos yma yn dra buan ar ol cael lle i addoli a gwasanaeth cyson, a chafodd eglwys ei ffurfio. Yr oedd gwr ieuangc o'r enw J. Davies, genedigol o sir Drefaldwyn, yn aelod ac yn bregethwr cynnorthwyol yn yr eglwys, a chydunwyd i roddi iddo alwad i fod yn weinidog, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1835. Yn fuan wedi hyny dechreuwyd adeiladu capel, yr hwn a orphenwyd ac a agorwyd yn y flwyddyn 1837, ac enwyd ef Siloh. Tua'r amser yma daeth llawer o bobl o wahanol ardaloedd i fyw i'r lle, a chan fod amryw o honynt yn Annibynwyr, bu eu dyfodiad yn gryfhad mawr i'r achos ieuangc. Yn y flwyddyn 1841, ymfudodd Mr. Davies i'r America, a bu yr eglwys ar ol ei ymadawiad, am ddwy flynedd heb weinidog. Yn y flwyddyn 1843, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin James, y pryd hwnw o Jerusalem, Pembre. Am y tair blynedd cyntaf o'i arosiad yma, yr oedd Mr. James yn gymeradwy iawn gan yr eglwys a'r ardalwyr. Yn y tymor hwn, teithiai agos haner ei amser i gasglu at ddyled y capel, yn benaf yn Lloegr. Tua y flwyddyn 1846, dechreuodd rhyw deimladau annymunol gyfodi rhwng y gweinidog a rhai o'r aelodau, a chynyddodd y drwg fwy fwy, nes o'r diwedd i'r aelodau oll ond pump ymadael, ac ymuno ag eglwysi eraill yn y gymyd- ogaeth. Gan fod arian gan Mr. James ar y capel, daliodd ei afael ynddo hyd y flwyddyn 1853. Y pryd hwnw, trwy gyfryngiad rhai o weinidogion a diaconiaid y sir, cydsyniodd Mr. James i roddi y capel i fynu ar yr ammod iddo ef gael 165p. am ei hawl ynddo. Ar ei ymadawiad ef, dychwelodd y rhan fwyaf o'r aelodau a ymadawsant yn eu hol, ac ail gorphol- wyd yr eglwys. Wedi hyny buont am yn agos i bum' mlynedd dan ofal Mr. Rowlands, Pontypool. Yn 1858, rhoddwyd galwad i Mr. J. Myrddin Thomas, o athrofa Caerfyrddin. Bu Mr. Thomas yma yn barchus iawn gan fyd ac eglwys hyd 1862, pryd y symudodd i'r Casnewydd. Bu yr eglwys drachefn heb un gweinidog hyd y flwyddyn 1866, pryd y rhoddasant alwad i Mr. W. A. Griffiths, o athrofa Caerfyrddin. Gan fod amser Mr. Griffiths yn yr athrofa heb ddyfod i fynu, boddlonodd yr eglwys aros am flwyddyn wrtho. Dydd Llun y Pasg 1867, urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Proffeswr Morgan, Caerfyrddin; Mri. D. C. Jones, Abergwili; E. Hughes, Penmain; D. Davies, New Inn; T. L. Jones, Machen, a D. Evans, Blaenafon. Mae Mr. Griffiths yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth mawr hyd yn bresenol, ac y mae golwg obeithiol iawn ar yr achos, ond fod taeniad cyflym yr iaith Saesonaeg, yn mysg ieuenctyd yr ardal, yn anfantais i'w gynydd. Rhif yr aelodau yn awr yw tua 110.


EGLWYS SAESONAEG ABERSYCHAN.

Dechreuwyd yr achos Annibynol Saesonaeg yn y lle hwn gan Mr. Jason Jenkins, Mount Pleasant, Pontypool, yn y flwyddyn 1863. Ar ol iddo fod yn pregethu mewn anedd-dy am oddeutu blwyddyn, ardrethwyd Long-room y Buck Inn, at gynal gwasanaeth crefyddol. Bu y ddeadell fechan dan ofal Mr. Jenkins hyd Medi 1868, pryd y cymerwyd ei gofal gan Mr. W. A. Griffiths, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Abersychan, a than ei ofal ef y mae hyd yn bresenol. Cyfansoddid yr eglwys ar ei ffurfiad cyntaf, yn benaf, o aelodau a gawsant ollyngdod heddychol o'r eglwys Gymreig yn Siloh. Prynwyd tir at adeiladu capel arno gan Mr. J. Daniel, a gosodwyd careg sylfaen yr adeilad i lawr Tachwedd 26ain, 1868, gan Charles Lewis, Ysw., Casnewydd. Anerchwyd y gynnulleidfa ar yr achlysur gan y Meistriaid S. Kennedy, Casnewydd; Jason Jenkins, Pontypool; H. Oliver, B.A., Casnewydd; a J. Davies, Caerdydd. Mae y tir, y capel, a'r festri wedi costio tua 1,200p. Gan fod yr ardal yn boblog iawn, a mwyafrif dirfawr y bobl ieuangc yn arfer y Saesonaeg, y mae yma faes gobeithiol iawn i'r achos newydd hwn.

MYNYDD SEION, CASNEWYDD.

Dechreuodd yr achos hwn dan yr amgylchiadau canlynol: Yn y flwyddyn 1830, cyfododd anghydfod yn yr eglwys yn Heol y Felin, a chafodd pump o'r aelodau eu diarddel. Barnodd naw ar hugain o'u cyd-aelodau fod eu diarddeliad yn annheg, ac felly ymadawsant gyda eu cyfeillion diarddeledig, a derbyniwyd y pedwar ar ddeg ar hugain y Sul canlynol, gan yr enwog Dr. Jenkyn Lewis, i'r eglwys dan ei ofal ef yn Hope Chapel. Buont yno yn gysurus hyd farwolaeth y Doctor; canys byddai ef yn pregethu ychydig yn Gymraeg iddynt yn achlysurol: ond wedi ei farwolaeth ef, a dewisiad Mr. Byron, yr hwn oedd Sais, yn ganlyniedydd iddo, teimlai y rhan fwyaf o'r Cymry yn annedwydd. Ar ol ymgynghori a rhai o weinidogion Cymreig y sir, a chael addewid o'u cymorth i gychwyn achos Cymreig, darfu i bedwar ar hugain o honynt gyduno i ymadael o Hope Chapel, ac ardrethu ysgoldy yn Charles Street, at gynnal gwasanaeth crefyddol yn yr iaith Gymraeg. Corpholwyd hwy yn eglwys gan Mr. D. Davies, Penywaun, Awst 17eg, 1834, a chynyddasant yn fuan nes i'r ysgoldy fyned yn rhy fychan i'w cynwys. Yn mhen ychydig o amser cymerwyd tir at adeiladu capel, yr hwn a orphenwyd, ac a agorwyd ar yr 2il a'r 3ydd o Ragfyr 1835. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan y Meistriaid J. Mathews, Mynyddislwyn (yn awr o Gastellnedd); D. Jones, Hermon, Llandilo; D. Davies, Penywaun; L. Powell, Caerdydd; J. Williams, Merthyr; I. Harris, Morfa; a D. Davies, New Inn. Costiodd y capel 500p. a chydunwyd i dalu 50p. y flwyddyn o't ddyled, yr hyn a wnaed nes ei lwyr ddileu. Rhoddwyd galwad i Mr. G. Griffiths, Llanbedr, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Mawrth 1837. Yn Medi 1840, symudodd oddiyma i gymeryd gofal yr eglwys yn nghapel y Plough, Aberhonddu. Dilynwyd Mr. Griffiths yn Mynydd Seion. yn Ebrill 1841, gan Mr. J. Mathews, Maesllech. Wedi llafurio yma, gyda gradd helaeth o lwyddiant am chwe' blynedd a haner, derbyniodd Mr. Mathews alwad oddiwrth yr eglwys yn Zoar, Castellnedd, a symudodd yno yn Medi 1847. Yr Ebrill canlynol, llwyddodd eglwys Mynydd Seion i gael gan ei hen weinidog, Mr. Griffiths, i ddychwelyd atynt o Aberhonddu. O hyny hyd Rhagfyr 1860, parhaodd i weinidogaethu yma gyda pharch mawr. Yna, o herwydd methiant ei iechyd, ymneillduodd o'r weinidogaeth, a symudodd i Aberhonddu, lle y bu farw yn fuan wedi hyny. Ar ol ymadawiad Mr. Griffiths, bu yr eglwys am tua blwyddyn a haner heb weinidog, ac yn anffodus methasant a chyduno i ddewis un. Yn Mawrth 1862, rhoddodd mwyafrif yr eglwys alwad i Mr. Levi Laurence, Adulam, Merthyr, ac ymneillduodd ei wrthwynebwyr, a gosodasant achos i fynu mewn ystafell yn y dref, lle y buont am rai blynyddau yn cynal gwasanaeth crefyddol. Er i'r ymraniad hwn gymeryd lle yn lled ddistaw a diwaradwydd, mae yn ddiau y gallesid ei ragflaenu, pe buasai y ddwy blaid yn arfer ychydig mwy o ddoethineb a phwyll. Ni bu arosiad Mr. Laurence yma yn hir. Barnodd yr eglwys yn angenrheidiol i dori ei chysylltiad ag ef yn Rhagfyr 1864. Buwyd drachefn heb weinidog sefydlog hyd 1867. Yn Gorphenaf y flwyddyn hono, urddwyd Mr. David Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, yma, ac y mae efe yn parhau i gyflawni ei swydd er boddlonrwydd cyffredinol, hyd yn awr. Ni bu yr eglwys hon ar un cyfnod o'i hanes yn cynwys dros o gant i gant a haner o aelodau, ond y mae, o'i dechreuad hyd yn awr, wedi bod yn nodedig am ei gwresogrwydd, ei gweithgarwch, a'i haelioni. Meibion Mr. Griffiths, sef Mr. Henry Griffiths, Aberhonddu, Mr. Eliezer Griffiths, Kensington, South Australia, a Mr. W. Griffiths, M.A., Yarmouth, yn nghyd a Mr. David Nathan, Casnewydd, yw yr unig bregeth- wyr, hyd y gwyddom ni, a gyfodasant yn yr eglwys hon."

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

GRIFFITH GRIFFITHS. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn mhlwyf Llanedi, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1794. Yr oedd ei rieni aelodau parchus o'r hen eglwys Annibynol yn Llanedi. Bu farw ei dad pan yr oedd ef yn lled ieuangc. Yn fuan wedi hyny gosodwyd ef yn egwyddorwas i Saer, a bu yn gweithio yn yr alwedigaeth hono am rai blynyddau. Wedi iddo ymuno a'r eglwys yn Llanedi, a chael anogaeth ganddi i ddechreu pregethu, rhoddodd heibio ei alwedigaeth ac aeth i ysgol ragbarotoawl, ac oddiyno i athrofa y Neuaddlwyd. Ar ol bod yno am rai blynyddau, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Ebenezer a Thynygwndwn, sir Aberteifi, lle yr urddwyd ef Ebrill 5ed, 1821. Rhoddir yr hanes canlynol o gyfarfodydd yr urddiad yn Seren Gomer am 1821:—
"Ar y 5ed o Ebrill diweddaf, urddwyd y brawd G. Griffiths (yn ddiweddar myfyriwr yn athrofa Neuaddlwyd), yn weinidog ar eglwysi Anymddibynol Tynygwndwn ac Ebenezer, sir Aberteifi. Dechreuwyd yr addoliad y dydd o'r blaen yn y lle blaenaf, am 12 o'r gloch. Gweddiodd y brawd T. Griffiths, Hawen; a phregethodd y brodyr W. Williams, Drewen, a D. Griffiths, Cydwely, (Esay x. 3; ac Act. xxviii. 22). Am 5 o'r gloch, yn yr un lle, gweddiodd y brawd T. Phillip, Llanedi; pregethodd y brodyr D. Davies, Aberteifi, a J. Evans, Penygroes, (Col. iii. 13; Gen. xviii. 12). Ar yr un pryd yn Ebenezer, pregethodd y brodyr Ll. Samuel (myfyriwr yn athrofa Neuaddlwyd), W. Williams, Drewen, ac S. Price, Llanedi (Eph. iii. 10; a 1 Cor. iii. 11). Iau am 10, yn Ebenezer, gweddiodd y brawd T. Jones, Saron; traethwyd y rhag-bregeth gan y brawd T. Griffiths, Hawen, (Act. xi. 31); derbyniwyd y gyffes ffydd gan y brawd A. Shadrach, Aberystwyth; derchafwyd yr urdd-weddi gan y brawd S. Price, Llanedi; traddodwyd dyledswydd y gweinidog a'r eglwys gan y brawd T. Phillips, Neuaddlwydd, (1 Cor. iv. 1, 2); pregethodd y brawd D. Davies, Aberteifi (Ioan xviii. 38), a therfynwyd trwy weddi gan y brawd D. Thomas, Tearson." Yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg y bu Mr. Griffiths yn llafurio yn y cylch hwn, bu yn foddion i sefydlu achosion yn Llanfairclydogau a Llanbedr. Fel y nodasom, symudodd yn 1837 i'r Casnewydd, oddiyno yn 1840 i Aberhonddu, ac yn ol drachefn i'r Casnewydd yn 1848, lle y bu yn barchus a derbyniol nes i sefyllfa ei iechyd yn 1860 ei orfodi i roddi y weinidogaeth i fynu. Yna symudodd i Aberhonddu at ei fab, gan feddwl y buasai newid yr awyr yn fanteisiol i'w iechyd; ond yr oedd ei waith ef wedi ei orphen, a'i ysbryd wedi addfedu i fyned i dderbyn ei wobr. Ar ol ychydig fisoedd o nychdod, hunodd yn yr Arglwydd Mawrth, 15ed, 1861. Ar y 21ain o'r un mis, dilynwyd ei ran farwol i'r fynwent gyhoeddus yn Aberhonddu, gan dorf liosog o alarwyr. Pregethodd T. Rees, Cendl, yn nghapel y plough, oddiar Act. xx. 24, cyn cychwyn tua'r gladdfa. Yr oedd Mr. Griffiths yn ddyn tawel, hynaws, a boneddigaidd dros ben; yn llawn o bwyll a synwyr cyffredin, ac yn wr o dduwioldeb diamheuol. Fel pregethwr, yr oedd yn tra rhagori ar y rhan fwyaf o'i frodyr yn y weinidogaeth. Yr oedd ei holl bre- gethau yn efengylaidd o ran athrawiaeth, yn eglur a threfnus o ran eu cyfansoddiad, ac yn cael eu traddodi mewn iaith syml, dirodres a choethedig iawn, a chyda llais mwyn, eglur, ac effeithiol, ac agwedd gorphorol pregethwr yn mhob ystyr yn deilwng o genad Arglwydd y lluoedd. Ychydig iawn o bregethwyr mwy difai, yn mhob ystyr, y cawsom y fraint o'u gwrandaw yn ein hoes. Clywsom rai mwy gafaelgar a goruchel eu galluoedd; mwy hyawdl a chyffrous eu doniau; a rhai galluocach i orchfygu a dryllio teimladau eu gwrandawyr, ond anfynych, os erioed, y clywsom neb a'r fath gydgyfarfyddiad hapus ynddo o bob cymhwysder i draethu ewyllys Duw i ddynion mewn dull nas gallesid ei feio. Treuliodd ei holl fywyd cyhoeddus yn barchus, ac a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Bu yn ddedwydd iawn yn ei deulu. Cyfododd ei dri mab i'r weinidogaeth, ac y maent eill tri yn gwisgo cymeriad teilwng o'u swydd.

RAGLAN.

Dechreuwyd yr achos Annibynol yn y pentref hwn yn y flwyddyn 1839, trwy lafur ffyddlon a hunanymwadol Mr. Charles Forward, yr hwn sydd yn wr cyfrifol o ran ei amgylchiadau bydol, ac yn gristion o'r radd uchaf. Yn mhen dwy flynedd ar ol dechreu cynal moddion crefyddol yn y pentref, rhoddodd Mr. Forward ddarn o dir cyfleus at adeiladu capel. Un bychan, ond tlws iawn, yw yr addoldy. Cynwysa 150 o eisteddleoedd. Y draul o'i adeiladu, yn annibynol ar y tir chludiad y defnyddiau, oedd 200p. Agorwyd ef Hydref 20fed, 1843. Y gweinidogion a bregethasant ar yr achlysur oeddynt, W. Gethin, Caerlleon; T. Gillman, Cas- newydd; a T. Rees, Casgwent. Mr. David Lewis, Llanfaple, yw yr unig weinidog sydd wedi bod yn gofalu am yr achos bychan hwn o'r dechreuad hyd yn bresenol. Rhif yr aelodau yw rhwng deg ar hugain a deugain. Mae yr ychydig Ymneillduwyr yn y lle hwn wedi dyoddef llawer, ac yn parhau i ddyoddef, oddiwrth orthrwm yr eglwys wladol, ond y maent yn dal yn ffyddlon at eu hegwyddorion. Dywed Mr. Lewis, y gweinidog, am Mr. Forward, sylfaenydd a phrif gynhalydd yr achos yma, ei fod yn meddu talent nodedig fel athraw yn yr Ysgol Sabbothol, a'i fod yn rhyfeddol o ffyddlon gyda phob rhan o waith crefydd." Mae y gwr da hwn wedi bod o wasanaeth dirfawr i achos crefydd yn y rhan baganaidd yma o sir Fynwy.

MORIAH, RHYMNI

Dechreuwyd yr achos hwn yn y flwyddyn 1839, gan ychydig o aelodau yr eglwys yn Seion, y rhai a sefydlasant Ysgol Sabbothol yn yr ardal. Cynhelid hi weithiau mewn tai annedd, ac am ryw gymaint o amser mewn hen bwll llifio, ar Yard y gwaith. Wrth weled yr ysgol a'r cyfarfodydd gweddio yn lliosogi, chwiliwyd am le mwy cyfleus i'w cynnal; a chafwyd ysgoldy bychan yn Nghwm Shon Mathew, yr hwn, er ei fod yn fychan a thra anghyfleus, oedd y lle goreu allesid gael yn y gymydogaeth. Yn Hydref 1840, cafodd y cyfeillion a ymgynnullent i'r ysgoldy ganiatad gan y fam eglwys yn Seion i ymgorpholi yn eglwys, ond parhasant i fyned i gymundeb i Seion hyd Awst 1841, pryd y bu y cymundeb cyntaf yn yr ysgoldy. Yr oedd Mr. E. C. Jenkins, Salem, wedi cael galwad i wasanaethu yr eglwys ieuangc, am ddau Sabboth yn y mis tua chwe' mis cyn hyn, ac o'r pryd hwn hyd yn bresenol, efe sydd wedi bod yn weinidog y lle. Medi 7ed, 1840, y gosodwyd i lawr garreg sylfaen y capel, a Medi 12fed, 1841, y dechreuwyd pregethu ynddo. Yn nghofnodion Cyfarfod Chwarterol Mynwy, yr hwn a gynhaliwyd yn Tabor, Hydref 19eg a'r 20fed, 1841, cawn y penderfyniad canlynol gyda golwg ar yr achos hwn: "Cynnygiwyd yr eglwys yn Moriah, Rhymni, i gyfundeb Mynwy, gan y Parch. E. Jenkins, Salem; a chan ei bod wedi ymddwyn yn rheolaidd, hyd yma, fel eglwys gristionogol, derbyniwyd hi yn serchus a pharchus." Mae capel Moriah yn un helaeth a chyfleus iawn, yn cynwys o saith i wyth gant o eisteddleoedd, ac y mae yr eglwys wedi bod yn rhyfeddol o dangnefeddus a llewyrchus dan weinidogaeth Mr. Jenkins, oddiar gychwyniad yr achos hyd yn bresenol. Mae nifer yr aelodau er's blynyddau bellach dros dri chant; a'r ysgol Sabbothol mewn sefyllfa drefnus ac effeithiol. Aeth amryw o aelodau yr eglwys hon allan ychydig flynyddau yn ol i ffurfio yr achosion yn New Tredegar a Phontlottyn. Nid ydym yn gwybod am neb o aelodau yr eglwys hon a gyfodasant i unrhyw sylw fel pregethwyr, ond Mr. Rhys M. Thomas, Llanuwchllyn. Yma y dechreuodd ef bregethu, ac oddiyma yr aeth i athrofa y Bala.

Gan na ddigwyddodd dim hynod, amgen na llwyddiant lled ddistaw a chyson, yn hanes yr eglwys hon o'i chychwyniad, a bod ei hunig weinidog yn parhau i ddal ei dir yn rhagorol, er llawer o gystuddiau personol a theuluol, nid oes genym unrhyw hanes maith i'w ysgrifenu am yr achos.


TABERNACL, PENYCAE.

Tabernacl y gelwir y capel Saesonaeg sydd yn Nghwm Ebbwy. Dyma yr achos Saesonaeg hynaf yn rhanau gweithfaol Mynwy, ac wedi ei ddechreu yn benaf er mwyn y Saeson, y rhai oedd yn lluosogi yn y lle. Dechreuwyd pregethu i'r Saeson yma gan Mr. T. Jeffreys, Saron; ac yn y flwyddyn 1843, llwyddodd i gael capel iddynt. Codwyd y capel i ddechreu gan weinidog i'r Bedyddwyr, yr hwn oblegid ei ddrwg-fuchedd, a fwriwyd allan gan yr eglwys oedd gan yr enwad yn y lle. Ymgymerodd ef ac ychydig o bobl o gyffelyb nodwedd iddo, y rhai a lynent wrtho, a chodi capel; ond cyn haner ei adeiladu aeth yn fethiant arnynt. Prynodd Mr. Jeffreys ef at wasanaeth y Saeson, a gorphenwyd ef; ac aeth tri-ar-ddeg o aelodau Saron allan ar gais Mr. Jeffreys, a chorpholwyd hwy yn eglwys; ac yr oedd yno yn agos i bedwar ugain o blant yn dechreu yr ysgol y Sabboth cyntaf yr aed i'r capel. Bu yr achos yn y lle dan ofal Mr. Jeffreys mewn cysylltiad a Saron am flynyddoedd lawer, hyd nes y rhoddwyd yn 1849, alwad i Mr. B. W. Evans, genedigol o Trefgarn, sir Benfro, a myfyriwr o athrofa Aberhonddu, i ddyfod yma yn weinidog. Llafuriodd Mr. Evans yma am tua dwy flynedd, ac yna symudodd i Pontypool, ac oddiyno i Yelvertoft, Rugby, lle y mae yn llafurio hyd yn bresenol. Wedi bod am ychydig amser heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. G. Applegate, yr hwn a lafuriodd yma dros amryw flynyddoedd. Symudodd oddiyma i Great Leighs, Essex. Ar ol ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i Mr. G. B. Scott, yr hwn a fu yma yn ymdrechgar dros lawer o flynyddoedd, nes yr ymadawodd i Whitchurch, sir Amwythig. Bob amser yn ei hamddifadrwydd edrychai yr eglwys at Mr. Jeffreys, yr hwn a fu iddi yn noddwr caredig o'r dechreuad. Yn 1868, rhoddwyd galwad i Mr. W. A. Edwards, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd yma yn Gorphenaf y flwyddyn hono, ac yma y mae etto yn llafurio gyda chymeradwyaeth mawr. Nid oes dim neillduol wedi cymeryd lle yn hanes yr eglwys fechan hon. Mae wedi dal ei thir, ac er yr holl anfanteision dan ba rai y mae yn llafurio, fel eglwys Saesonaeg mewn lle cydmarol Gymreig, y mae wedi casglu cryfder. Mae y wedd symudol sydd ar y boblogaeth yn ei gwneyd yn anhawdd i gasglu cynnulleidfa gref a lluosog yma, ond y mae wedi bod o wasanaeth dirfawr i gyfarfod a dyfodiaid Seisnig i'r lle, yn gystal ag i fod yn ddarpariaeth ar gyfer y plant a fegir yma, llawer o ba rai sydd yn well ganddynt Saesonaeg na Chymraeg.

BETHESDA, BRYNMAWR.

Adeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1853, ar ddarn o dir sydd yn eiddo gwreiddiol i'r Duc o Beaufort, ond a roddwyd ar bryd-les i Mr. Edward Morgan. Saif yn y rhan isaf i'r dref, mewn man heb fod y mwyaf manteisiol i gasglu cynnulleidfa, am ei fod ar y naill du, ac heb brif-ffordd yn arwain ato. Cychwynwyd yr achos gan rai o gyfeillion Bethania, neu Pwll-y-cwn, fel y gelwir y lle fynychaf. Addoldy bychan oedd Bethania yn mhen uchaf Llanelli, Brycheiniog, rhyw filldir uwchlaw Siloam, ond lle y mae yr achos er's blynyddau wedi ei roddi i fynu, a'r capel wedi ei werthu i'r Eglwys Sefydledig. Mewn rhyw anghydwelediad yn Siloam, Llanelli, tua'r flwyddyn 1843, ymneillduodd nifer o'r aelodau a dechreuasant achos yn nes i fynu rhyngddynt a'r Brynmawr, a rhoddwyd galwad i Mr. William Griffith, o Cerrigcadarn, i fod yn weinidog iddynt. Yn nechreu y flwyddyn 1849, ychydig cyn marw Mr. D. Stephenson, cynygiodd nifer o bersonau aflonydd yn cael eu blaenori gan bregethwr cynorthwyol oedd yn y lle, godi eweryl yn Rehoboth trwy ddwyn cyhuddiad yn erbyn un, neu rai o'r aelodau; ac wedi methu yn eu hamcan, yn hytrach na chydnabod eu bai, ciliasant o Rehoboth a derbyniwyd hwy yn Bethania, Pwll-y-cwn; a than eu dylanwad hwy y daeth Mr. Griffiths a'r cyfeillion yn Bethania i godi capel newydd ar Brynmawr, yr hwn a alwyd Bethesda. Dadfeiliodd yr achos yn Bethania yn fuan, oblegid fod y rhai cryfaf a galluocaf oedd yno wedi symud i Bethesda, a'r diwedd fu gwerthu y capel fel y crybwyllasom. Er mai Mr. W. Griffiths oedd yn gweinidogaethu yn Bethania yn yr adeg yr adeiladwyd Bethesda, etto cyn ei agoriad yr oedd ef wedi rhoddi y weinidogaeth i fynu, a thori pob cysylltiad a hwy. Nid oeddynt ond ychydig o rifedi pan ddechreuwyd yn Bethesda, a'r capel dan faich o 700p. o ddyled; ac heblaw eu bod yn ychydig, yr oedd amryw o honynt, yn enwedig y rhai a aethant allan o Rehoboth, yn gwbl anghymwys at ddechreu achos newydd.

Yn fuan wedi agoriad y capel, rhoddwyd galwad i Mr. William Williams, Talgarth, i ddyfod yn weinidog iddynt, yr hwn a fuasai am flynyddoedd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond a ymadawsai a hwynt oblegid rhyw gamddealldwriaeth. Bu Mr. Williams yma am yn agos i chwe' blynedd, ac yn y cyfamser, bu yn ddiwyd a llafurus, ac yn llwyddianus yn enwedig i dalu cyfran o'r ddyled ymaith. Wedi ymadawiad Mr. Williams i Abercwmboi, dadfeiliodd yr achos yma yn fawr, fel y gwelodd y cyfeillion yn y lle fod cario yr achos yn mlaen yn faich rhy drwm iddynt. Nid oeddynt ond 35 o aelodau. Dan yr amgylchiadau yma, cynygiasant eu hunain i Mr. W. Jenkins, gweinidog Rehoboth, ac ar ol ymgynghori a'r eglwys, hysbysodd Mr. Jenkins hwynt mai gwell fuasai iddynt oll ddyfod i Rehoboth, ac i nifer o eglwys Rehoboth fyned allan gyda hwy, a'u hadgorphori yn eglwys yn Bethesda. Wedi ystyried y mater, penderfynwyd ar hyny, a daeth 25 o honynt i Rehoboth, ond safodd y gweddill allan. Gollyngwyd y 25 hyny drachefn yn nghyd a 75 o aelodau eraill Rehoboth allan i ddechreu o newydd yn Bethesda, ac yn 1861, corpholwyd y 100 yn eglwys Annibynol gan Mr. Jenkins a Mr. Rees (Cendl y pryd hwnw); a bu yr eglwys yn Bethesda am flwyddyn dan ofal Mr. Jenkins mewn cysylltiad a Rehoboth. Yn 1862, rhoddwyd galwad i Mr. J. M. Jones, Cwmbran, a bu yma am yn agos i chwe' blynedd. Cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth yn enwedig, ac ychwanegwyd rhai ugeiniau at yr eglwys tra bu yma. Gorfu i lawer symud oddiyma o herwydd sefyllfa isel y gweithfeydd, a chollwyd yn mysg y rhai a ymadawsant lawer o ddynion gweithgar. Wedi ymadawiad Mr. Jones, bu yr eglwys yn ymddibynu ar wasanaeth gweinidogion dyeithr, ond yn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. William Morgan, aelod gwreiddiol o Libanus, ger Aberhonddu, a myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mai 4ydd a'r 5ed.

Mae Mr. Morgan er y daeth yma wedi bod yn ymroddgar iawn, ac ar y cyfan yn dra llwyddianus. Nid oes odid fis wedi myned heibio nad oes rhai yn cael eu derbyn, ac y mae yr eglwys yn awr yn fwy na 120 o rifedi. Mae yma ysgol Sabbothol yn cyfrif tua 150 yn bresenol bob Sabboth. Mae tri o hen ddiaconiaid yr eglwys wedi marw, sef Edward Morgan yn 1862, Samuel George yn 1866, a Thomas Harrison yn 1870. Yr oedd yr hen frodyr hyn yn golofnau yr achos yn y lle, ac yn adnabyddus fel rhai selog dros burdeb ac iachusrwydd yr athrawiaeth. Y diaconiaid presenol ydynt John Phillips a Thomas Prosser.

GRAIG, RHYMNI.

Mae yr addoldy, yr hwn a elwir Zoar, yn sefyll ar lechwedd y mynydd, ychydig uwchlaw y Rhymni Inn, yn mhlwyf Llangynidr, sir Frycheiniog, ond o fewn ychydig ganoedd o latheni i gyffiniau siroedd Mynwy a Morganwg. Yn hanes eglwys Seion, crybwyllasom i'r eglwys hono, yn y flwyddyn 1827, ddechreu adeiladu capel yn y fan yma, ac iddynt gael eu hattal i fyned a'r gwaith yn mlaen, ar ol cyfodi y muriau wyth neu ddeg troedfedd, trwy ymyriad erlidgar un o berchenogion gwaith Rhymni. Yn y flwyddyn 1840, yn mhen dwy flynedd wedi adeiladu Seion, teimlai rhai o'r aelodau a breswylient yn y rhan uchaf o'r Cwm, yn enwedig yr hen aelodau a gychwynasent yr achos Annibynol yn yr ardal, awydd am orphen y capel y dechreuasent ei adeiladu yn 1827. Caniatawyd eu dymuniad iddynt gan yr eglwys, ac felly aethant a'r gwaith yn mlaen, a chawsant eu ffurfio yn eglwys Annibynol. Buont am rai blynyddau ar ol agoryd y capel yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol o Ddowlais, Merthyr, a manau eraill. Yn 1847, rhoddasant alwad i Mr. John Price, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma yn y flwyddyn hono, ond ni bu ei arosiad yma ond byr. Ymfudodd i'r America, lle y mae yn bresenol. Yn nechreu y flwyddyn 1850, rhoddwyd galwad i Mr. John Thomas, Cefneribwr. Bu Mr. Thomas yn llafurio yma gyda derbyniad a pharch nodedig hyd y flwyddyn 1853, pryd, er mawr alar i eglwys a gwrandawyr y Graig, y gogwyddwyd ei feddwl i dderbyn galwad oddiwrth eglwys y Bryn, Llanelli, sir Gaerfyrddin, lle y mae hyd yn bresenol. Ar ol ymadawiad Mr. Thomas, bu yr eglwys drachefn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd y flwyddyn 1859, pryd y rhoddasant alwad i Mr. Robert Roberts, Nantglyn, sir Ddinbych, ac y mae efe yn parhau i lafurio yn y lle hyd yn awr.

Ni fu yr eglwys a'r gynnulleidfa hon un amser yn lluosog iawn, oblegid y mae y capel allan o ganol y boblogaeth, ond y mae wedi ennill y cyme iad o fod yn eglwys heddychol, weithgar, a nodedig o haelionus. Cafodd y gweinidogion canlynol eu cyfodi i bregethu yma: Benjamin Davies. Urddwyd ef yn Llanelli, sir Gaerfyrddin, i fynd yn weinidog i'r Cymry yn Walker, gerllaw New Castle-on-Tyne. Symudodd oddiyno i'r America, lle y bu farw.

John M. Davies. Brawd Mr. B. Davies. Urddwyd ef yn Tabor, Mynwy, yn 1854, a symudodd yn niwedd 1867, i Tyrhos a Llandudoch, Penfro.

Thomas Davies, M.A., Ph.D. Addysgwyd ef yn Aberhonddu. Ar derfyniad ei amser yno, urddwyd ef yn Nolgellau. Symudodd oddiyno i Painswick, sir Gaerloew, ac oddiyno i Ross, sir Henffordd. Yn ddiweddar symudodd i Pembroke Dock, fel canlyniedydd y diweddar Mr. E. Shadrach, Y mae ganddo yno un o'r addoldai harddaf a helaethaf yn y Dywysogaeth, a chynnulleidfa luosog iawn.

GOSEN, RHYMNI.

Ar ymadawiad Mr. W. Watkins o Seion, teimlai amryw o'r aelodau ymlyniad cryf wrtho, ac felly ymadawsant gyda'r gweinidog, ac adeiladasant gapel tua haner y ffordd rhwng Seion a Moriah, yr hwn a alwasant Gosen. Agorwyd ef Awst 22ain a'r 23ain, 1848, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidogion canlynol:—W. Williams, Cefncoedycymer; J. Harrison, Aberdare; N. Stephens, Sirhowy; E. Morgans, Penydarren; S. Phillips, Llangynidr; E. Davies, Libanus; J. Thomas, Cefneribwr; D. Davies, New Inn; J. Williams, Tynycoed; E. Prichard, Scethrog; a W. Moses, Cefncoedycymer. Maint y capel yw 40 troedfedd wrth 28, a thraul ei adeiladaeth oedd 408p. 10s. Yr oedd Mr. Watkins wedi symud o Rhymni i'r Llwyni, cyn adeiladu y capel, ond bu yn dyfod yn fisol yma am rai blynyddau. Wedi iddo ef roddi gofal y lle i fynu, tua'r flwyddyn 1858, rhoddwyd galwad i Mr. William Griffiths, Llanelli, Brycheiniog. Bu Mr. Griffiths yma hyd y flwyddyn 1864, pryd y rhoddodd y weinidogaeth i fynu. Oddiar ei ymadawiad ef hyd yn bresenol, mae yr eglwys wedi bod dan ofal Mr. Roberts, gweinidog capel y Graig. Achos bychan a lled wan yw hwn wedi bod o'i gychwyniad hyd yn bresenol, a dichon y buasai yn fwy gwasanaethgar i'r enwad, ac achos crefydd, pe buasai wedi cael ei droi yn achos Saesonig er's naw neu ddeng mlynedd.


ADULAM, TREDEGAR.

Yr achlysur o ddechreuad yr achos a gyferfydd yn y lle hwn, oedd an- nghydwelediad yn eglwys Saron ar fater o ddysgyblaeth eglwysig, yn y flwyddyn 1840. Ymadawodd nifer o'r aelodau, a chymerasant long room, perthynol i'r Hen Gastell, at gynnal cyfarfodydd ar y Sabbothau, a chynnalient eu cyfarfodydd ar nosweithiau o'r wythnos yn nhai Daniel Rees, Nicholas Rees, a John Jones. Buont fel hyn am oddeutu blwyddyn; yna darfu iddynt daflu dau anedd-dy yn High Street yn un, a'u cyfaddasu i fod yn dy addoliad. Yn y flwyddyn 1844 adeiladwyd y capel, ac aeth y gynnulleidfa iddo yn ngwanwyn y flwyddyn 1845. Bu yr eglwys hon, o'i chychwyniad hyd ddechreu y flwyddyn 1845, heb gael ei chydnabod fel eglwys reolaidd gan undeb y sir, o herwydd yr ystyrid fod cychwynwyr yr achos wedi ymadael yn afreolaidd o Saron, ond yn y cyfarfod chwarterol a gynnaliwyd yn Ebenezer, Pontypool, Chwefror 19eg a'r 20fed, 1845, pasiwyd y penderfyniad canlynol gyda golwg arnynt: "Fod y cyfarfod hwn yn mawr lawenhau fod heddwch ac undeb wedi cymeryd lle rhwng eglwysi Saron, ac Adulam, Tredegar; a chan fod llythyr gollyngdod wedi cael ei roddi iddynt hwy o Saron, i gael eu ffurfio yn eglwys reolaidd yn Adulam, fod y cyfarfod hwn yn eu derbyn yn serchus fel chwaer eglwys i Undeb Mynwy." Y gweinidogion fuont yn gwasanaethu yr eglwys hon oeddynt Richard Evans a Walter Williams, Cefn- coed-y-cymmer. Ni fuont hwy yn dyfod yma ond am ychydig o amser. Y gweinidog nesaf oedd Jonathan Davies, gynt o Lanfaple a Victoria. Ychydig iawn o amser y bu yntau yma cyn i'r eglwys farnu yn ddoeth i ymwrthod ag ef. Dilynwyd ef gan Mr. Thomas Jones, o Ferthyr Cynog. Bu Mr. Jones yma hyd ddechreu y flwyddyn 1845, pryd y symudodd i'r Cwmbach, Aberdare. Yn mis Gorphenaf, yr un flwyddyn, rhoddwyd galwad i Mr. William Williams, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu. Dechreuodd ei weinidogaeth y Sul olaf yn Gorphenaf, a chynhaliwyd cyfarfodydd yr urddiad, ac agoriad y capel newydd, Hydref 8fed a'r 9ed, 1845. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn:-Am 6 yr hwyr cyntaf, dechreuwyd gan Mr. John Price, athrofa Aberhonddu, a phregethodd y Meistriaid W. Edwards, Aberdare; ac R. Parry, Wern. Am 7, yr ail ddydd, dechreuwyd gan Mr. N. Stephens, athrofa Aberhonddu, a phregethodd Mr. W. Morgan, Troedyrhiw. Am 10, dechreuodd Mr. Evan Jones, (Ieuan Gwynedd), a phregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Ellis, Mynyddislwyn. Derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. R. Jones, Sirhowy. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Cymmar, gwein- idog yr urddedig. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, Athraw Clasurol, athrofa Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. E. Rowlands, Pontypool. Diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr. Ll. R. Powell, Hanover. Am 2, dechreuwyd gan Mr. Thomas Roberts, athrofa Aberhonddu, a phregethodd y Meistriaid H. Daniel, Pontypool; W. Davies, Coed-duon, (yn Saesonaeg), ac E. C. Jenkins, Rhymni. Am 6, dechreuwyd gan Mr. John Davies, athrofa Aberhonddu, a phregethodd y Meistriaid W. Watkins, Rhymni; a J. H. Hughes, Llangollen. Parhaodd gweinidogaeth Mr. Williams yn yr eglwys hon am ddwy flynedd ar bymtheg, ac yn y tymor hwnw ennillodd iddo ei hun air da, fel gweinidog ffyddlon a christion hardd, nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond gan holl drigolion y dref a'r wlad oddiamgylch. Yn 1861, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn nghapel y Garn, Abercarn, ond ni roddodd ei ofal yn Adulam i fynu hyd Gorphenaf, 1862. Wedi hyn, bu yr eglwys heb weinidog hyd ddiwedd y flwyddyn 1863, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. David Parry, o athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd yma dydd Nadolig y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Mr. D. Ll. Jones, Ffestiniog; Mr. T. Jeffreys, Penycae; Mr. M. D. Jones, Bala; Mr. W. Williams, Abercarn, &c. Yn y flwyddyn 1867, rhoddodd Mr. Parry ei weinidogaeth i fynu, ac ymfudodd i'r America. Yn 1868, rhoddwyd galwad i Mr. R. Hughes, Penydarren, ac urddwyd yntau dydd Nadolig yr un flwyddyn. Nid arosodd Mr. Hughes yma am lawn flwyddyn, oblegid yn Hydref, 1869, symudodd i Ebenezer, Pontypool. Nid yw yr eglwys hon ar un adeg o'i hanes wedi bod yn fawr ei rhif, ond y mae dynion galluog o feddwl a gweithgar iawn wedi bod yn perthyn iddi o bryd i bryd; yn mysg y rhai y gellid enwi Daniel a Nicholas Rees; ac Edmund James, tri o sylfaenwyr yr achos Annibynol yn Nhredegar; David Powell, tad Mr. Ll. R. Powell, gynt o Hanover, Jabez Jones, a'r diweddar John Pugh, o Landilo.

Yn yr eglwys hon y dechreuodd y gweinidogion canlynol bregethu:—

R. A. Jones, yn awr gweinidog y Bedyddwyr yn Bethesda, Abertawy. Dechreuodd ef bregethu yn 1843, ac yr oedd yn gymmeradwy iawn fel gwr ieuangc gobeithiol, ond yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, trodd y gweinidog, Jonathan Davies, at y Bedyddwyr, a dilynwyd ei esiampl gan y pregethwr ieuangc. Nid oedd yn un golled i'r enwad i Jonathan Davies ymadael, ond buasai yn fantais cael cadw Mr. Jones.

David M. Davies, diweddar o Lanfyllin. Yn Blaenafon y dechreuodd ef ei yrfa fel crefyddwr, ond yma y dechreuodd fel pregethwr, yn y flwyddyn 1847.

John Davies, yr hwn a urddwyd yn weinidog i'r Cymry yn Swindon. yn y flwyddyn 1857, ac a ymfudodd i'r America yn 1869.

E. Griffiths. Dechreuodd bregethu yn 1861. Ar ol treulio rhai blynyddau yn athrofa y Bala, urddwyd ef yn weinidog yr eglwys yn Templeton, swydd Benfro, yn 1865, ac yno y mae hyd yn bresenol.

Darfu i Mr. Williams, yn fuan ar ol dechreu ei weinidogaeth yn Nhredegar, agor ysgol, er addysgu pregethwyr ieuaingc, a chafodd amryw sydd yn awr yn weinidogion parchus, yr oll, neu ran, o'u haddysg yn ei ysgol ef; megys E. Williams, Dinas; I. Thomas, Towyn; Rees Gwesyn Jones, America; y diweddar Evan Lewis, B.A.; ac amryw eraill.

ZOAR, TREDEGAR.

Addoldy yr Annibynwyr Seisonig yw Zoar. Gan y diwygwyr Wesleyaidd yr adeiladwyd ef, tua y flwyddyn 1855. Ychydig oedd nifer yr aelodau, ac yr oedd baich y ddyled ar eu llethu. Yn 1858, amlygasant awydd i roddi eu hunain a'r capel i fynu i'r Annibynwyr. Galwyd cyfarfod i'r perwyl, ac aeth Mr. D. Hughes, B.A., Tredegar; Mr. W. Williams, Adulam; a T. Rees, Cendl, i'r cyfarfod. Ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol. Tuag wyth neu ddeg oedd rhif yr aelodau, a fuasent yn Wesleyaid, ond ar eu corpholiad fel eglwys Annibynol, ymunodd rhai Annibynwyr a hwy. Buont am ychydig amser yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, ond yn y flwyddyn 1859, daeth gwr ieuangc o'r enw F. G. Andrews, i gymeryd eu gofal hwy, mewn cysylltiad a'r achos Saesonig yn Nghendl. Ni bu ei arosiad ef yma ond byr. Ymadawodd cyn pen blwyddyn. Bu yr eglwys drachefn am tua blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Ar y seithfed o Ebrill, 1861, dechreuodd Mr. John Thomas, o Ellesmere, ei weinidogaeth yma. Un-ar-bymtheg oedd rhif yr aelodau ar ddechreuad ei weinidogaeth ef, ond ychwanegwyd yn fuan at rif yr eglwys a'r gwrandawyr, fel yr aeth y capel yn rhy fychan i'w cynwys. Helaethwyd ef nes oedd yn agos cymaint arall ag ar y cyntaf, ac ail-agorwyd ef Medi 21ain, 1862. Trwy lafur diattal Mr. Thomas, a chydweithrediad y bobl, talwyd y ddyled wreiddiol, a thraul yr helaethiad, mewn ychydig o amser. Cafodd yr eglwys ei breintio a llwyddiant graddol a chyson trwy holl dymor gweinidogaeth Mr. Thomas, ond yn 1867 bu yr ychwanegiad yn fawr iawn, a chyffroad anghyffredin yn nglyn a hyny. Yr oedd yr aelodau yn 1867 yn 165 o rif. Yn Ebrill 1868 symudodd Mr. Thomas o Dredegar i Abertawy, ac yn mhen ychydig fisoedd ar ol ei ymadawiad, urddwyd Mr. J. L. Phillips, o athrofa Hackney, yn ganlyniedydd iddo. Yr ydym yn deall fod Mr. Phillips yn dderbyniol iawn yn y lle. Dymunwn iddo lwyddiant mawr.


ELIM, CWMBRAN.

Crybwyllasom yn hanes Penywaun, i nifer o'r eglwys hono fyned allan yn 1842, gyda'u gweinidog, Mr. Methusalem Davies, yr hyn a fu yn achlysur dechreuad yr achos yn Elim. Yn mhlith y rhai a aethant allan o Benywaun, yr oedd Mr. John Jones, St. Dials fawr, un o ddiaconiaid yr eglwys, ac amaethwr cyfrifol yn byw ar ei dir ei hun; ac yn ei dy ef yn St. Dials yr ymgynnullent i addoli; a buont yno yspaid blwyddyn. Yn 1844, adeiladwyd y capel ar dir Dr. Davies, o Bedwas, ac y mae mynwent gyfleus yn nglyn ag ef ar bryd-les o 999 o flynyddau. Costiodd y capel 350p. Bwriadwyd y capel fel lle o addoliad Saesonaeg yn hollol, ac a chyfundeb Saesonaeg sir Fynwy yr unwyd y lle. Rhyw ddwy flynedd y bu Mr. Davies yn weinidog yn y lle wedi codi y capel, ymadawodd a'r enwad ac ymunodd a'r Bedyddwyr. Nid rhyw lawer o lewyrch a fu ar yr achos yma yn ystod tymor ei weinidogaeth, ond glynai y cyfeillion yn ddiwyd a ffyddlon er pob digalondid. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi ymadawiad Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Hopkins, yr hwn oedd yn weinidog yn y Drefnewydd, Morganwg. Bu gweinidogaeth Mr. Hopkins yn dderbyniol iawn dros dymor, a gradd helaeth o lwyddiant ar ei lafur; hyd nes yr ymrwystrodd trwy fyned i adeiladu tai, ac yn eu plith cododd dy tafarn, a thrwy y cysylltiadau hyny mynychai yn ormodol leoedd o'r fath. Disgynodd yr achos dan yr amgylchiadau hyny i sefyllfa isel iawn, fel y gallesid disgwyl; ond teimlai llawer yn dyner a charedig tuag at Mr. Hopkins, am y credent mai dan ddylanwad ei wraig y gwnai yr holl bethau hyn; ond digiodd llawer wrtho, ac wrth yr achos o'i blegid, fel y gadawsant yr eglwys, ac ni ddychwelasant iddi mwy. Yn y flwyddyn 1861, cafodd yr eglwys ar ddeall fod Mr. Hopkins yn parotoi yn ddirgelaidd i fyned i'r Eglwys Sefydledig, ac wedi cael sicrwydd o hyny, rhoddwyd rhybudd iddo i ymadael, a thalwyd iddo dri mis o gyflog yn y fan; ac i'r Eglwys Wladol yr aeth, ac yno y mae yn gwasanaethu fel curad. Ar ol ei ymadawiad ef, bu yr eglwys dan ofal Mr. Jones, Machen, yr hwn a ymwelai a'r lle yn fisol i weinyddu y cymundeb; ac ar achlysuron eraill y byddai angen ei wasanaeth. Yr oedd Mr. Jones yn dderbyniol a chymeradwy iawn gan yr eglwys a'r ardalwyr. Yn 1866, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Roderick Lumley, myfyriwr o athrofa y Bala, cydsyniodd yntau a'r gwahoddiad, ac urddwyd ef Medi 5ed a'r 6ed, 1866. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn:—
Pregethodd Mr. H. Oliver, B.A., Casnewydd, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. J. Thomas, Tredegar (Abertawy yn awr); dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Edwards, Aberdare; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. John Peters, Bala, ac i'r eglwys gan Mr. T. L. Jones, Machen. Yr oedd hefyd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, y Meistri R. Hughes, Cendl; D. M. Davies, Farteg; J. Jones, Brynmawr; D. Davies, New Inn; M. Jones, Cheltenham (Farteg gynt,) ac A. Scott, Penycae. Yn y flwyddyn 1867, adgy weiriwyd y capel oll o'r tu fewn, fel y mae yn awr yn ol ei faint, yn un o'r capeli harddaf yn y sir. Bu Mr. Lumley yma dair blynedd a haner, yn barchus a chymeradwy iawn gan yr eglwys a'r gynnulleidfa, a'i lafur ar y cyfan yn lled lwyddianus. Nid oedd nifer yr aelodau pan yr aeth yno ond 46, ond pan yr ymadawodd yr oeddynt yn 70. Symudodd Mr. Lumley yn mis Mawrth y flwyddyn hon (1870), i gymeryd gofal yr eglwys yn Bwlchyffridd, gerllaw y Drefnewydd, sir Drefaldwyn. Er y bwriadwyd y capel ar y cyntaf i fod yn hollol at wasanaeth Saesonaeg, etto oblegid sefyllfa gymysglyd y gymydogaeth, y mae y gwasanaeth wedi ei ddwyn yn mlaen yn y ddwy iaith; ond yr iaith Saesonaeg sydd yn ennill tir, ac a fydd yn ol pob argoelion yn fuan wedi gwthio yr hen iaith Gymraeg yn hollol allan o'r parth yma o sir Fynwy. Mae eglwys Elim yn nodedig o haelionus a gweithgar, ac yn barod bob amser yn ol ei gallu i ymgymeryd ag unrhyw achos a osodir ger ei bron. Dywed Mr. Lumley mewn llythyr a ysgrifena atom, na bu o gwbl ond y teimladau goreu rhyngddo ef a hwy, ac nas gallodd ymadael heb lawer o hiraeth.

Ni chodwyd yr un pregethwr yn yr eglwys o gwbl; ond y mae enw Mr. John Jones, St. Dials, am yr hwn y crybwyllasom yn barod yn deilwng o goffhad parchus. Yr oedd yn ddiacon cyn gadael Penywaun, ac am flynyddoedd, efe oedd yr unig ddiacon yn Elim; a gwasanaethodd y swydd yn dda fel yr ennillodd iddo ei hun radd dda. Efe oedd prif noddwr yr achos ar y dechreu, ac ato ef yr edrychid yn mhob achos o bwys. Araf a hwyrfrydig ydoedd i symud, ond yr oedd bob amser yn ddiogel; ac er y cyfrifid ef yn ofalus a chynil, etto, yr oedd ei ewyllys at dy ei Dduw. Bu farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau yn mis Awst 1869.

VICTORIA.

Mae gweithiau haiarn Victoria, y rhai a gychwynwyd yn 1837, yn Nghwm Ebbwy Fawr, tua milldir a haner islaw gweithiau Penycae. Cyn cychwyn y gweithiau, nid oedd ond tri neu bedwar o anedd-dai yn yr holl gymydogaeth, ond cyn gynted ag y dechreuwyd agoryd pyllau glo, a gosod i lawr sylfaeni y ffwrneisi, cafodd ugeiniau o anedd-dui eu hadeiladu, a daeth canoedd o bobl i'w cyfaneddu. Yr oedd Mr. Roger Hopkins, yr hwn oedd yn un o berchenogion y gwaith, ac yn brif arolygwr y lle, yn Annibynwr selog, a chymerodd ran flaenllaw yn nghychwyniad yr achos. Yn Mawrth 1838, dechreuwyd cyfaddasu un o'r anedd-dai newyddion i fod yn addoldy. Rhoddwyd ef at wasanaeth y gynnulleidfa gan Mr. John Jones, Brynmawr, yr hwn hefyd oedd yn un o berchenogion y gweithiau. Agorwyd y ty hwn at wasanaeth crefyddol Medi 23ain, 1838. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Meistriaid B. Woodliffe, Tredegar; J. Ridge, Cendl; D. Jones, Aber; a D. Stephenson, Nantyglo. Hydref 14eg, 1838, corpholwyd yno eglwys o un ar hugain o aelodau, gan Mr. H. Jones, Tredegar. Addawodd Mr. Jones ofalu am weinidogaeth i'r eglwys ieuangc, nes y buasai yn alluog i gynal gweinidog ei hun. Parhaodd i'w gwasanaethu mor fynych ag y gallai hyd Rhagfyr 1839. Yr oedd yr aelodau y pryd hwnw yn 80 o rif, a barnasant eu bod yn alluog i gynal gweinidog eu hunain. Buont mor anffodus a rhoddi galwad i Mr. Jonathan Davies, Llanfaple, yr hwn a ymsefydlodd yma Rhagfyr 24ain, 1839. Yn Hydref 1840, ymwrthododd yr eglwys ag ef. Dechreuwyd adeiladu y capel yn 1839. Tynwyd ei gynllun gan Rice Hopkins, Ysw. Ei faint o fewn y muriau yw 56 troedfedd wrth 45. Traul yr adeiladaeth oedd 1,094p. Yn Hydref 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Griffith Jones (yn awr o Gefnycribwr), ac urddwyd ef Rhagfyr 8fed, 1841. Yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus am rai misoedd wedi urddo Mr. Jones, ond yn gynar yn y flwyddyn 1842, aeth pethau yn ddyryslyd yn y gwaith, ac yn Awst y flwyddyn hono safodd y cwbl, a gwasgarwyd agos yr holl bobl o'r ardal, pryd yr oedd tua 900p. o ddyled ar y capel. Bu raid, wrth reswm, gau y lle i fynu. Parhaodd Mr. Jones i bregethu i'r nifer fechan oedd wedi aros yn yr ardal, hyd Hydref 1843, pryd y rhoddwyd y cwbl i fynu. Bu amryw o'r gweinidogion a aethant yn gyfrifol am y ddyled mewn helbul mawr. Yn Mehefin 1846, ail gychwynwyd y gweithiau, a dychwelodd amryw o'r aelodau i'r lle, ond buont am dymor yn addoli yn Saron, Penycae. Ar y Sul cyntaf o'r flwyddyn 1847, ail agorwyd y capel, ac ail gychwynwyd achos yn y lle. Pregethodd Mr. B. James, gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, y Sul cyntaf, a'r ail Sul pregethodd Mr. Jeffreys, Penycae, a gweinyddodd Swpper yr Arglwydd yno. eglwys fechan am yn agos i bedair blynedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Yn 1850, rhoddasant alwad i Mr. John Hughes, aelod o'r eglwys yn Rehoboth, Brynmawr, ac urddwyd ef Mehefin 13eg y flwyddyn hono. Dwy flynedd a haner y bu Mr. Hughes yn llafurio yma, ac yn yr yspaid hwnw ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Rhif yr aelodau pan roddodd ef eu gofal i fynu oedd 70. Yn Gorphenaf 1852, daeth D. S. Lewis, Ysw., i fyw i'r lle, ac ymroddodd a'i holl egni i gyfodi yr achos o'i iselder, a llwyddodd i raddau dymunol iawn. Adgyweiriwyd y capel dan ei arolygiad a thrwy ei gymmorth ef, a llwyddwyd, trwy ei lafur diattal ef, i ysgafnhau baich y ddyled. Costiodd ei gysylltiad a'r achos yn Victoria amryw ganoedd o bunau i Mr. Lewis, ond aeth trwy yr holl lafur a'r draul yn siriol ac heb rwgnach dim. Yn awr y mae yr achos wedi ei gyfodi i sefyllfa obeithiol, ond gellir dyweyd mai mewn amseroedd blinion yr adeiladwyd y mur yn y lle hwn. Bu yr eglwys oddiar ymadawiad Mr. Hughes yn 1853, yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd y flwyddyn 1867, pryd y cymerwyd eu gofal gan Mr. R. Parry, Graig Fechan, sir Ddinbych. Y mae efe yn parhau yn y weinidogaeth yn y lle hyd yn bresenol, ac yr ydym yn hyderu y bydd yma yn ddefnyddiol am nifer o flynyddau etto.

Cyn belled ag y gwyddom ni, Daniel Phillips, genedigol o Lanelli, sir Gaerfyrddin, yw yr unig un a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon. Dechreuodd bregethu yn 1847, ac yn y flwyddyn ganlynol, ymfudodd i'r America. Bu am rai blynyddau dan addysg yn un o golegau y wlad hono. Dywedir ei fod yn ddyn ieuangc galluog iawn, Nis gwyddom ychwaneg o'i hanes.

TRIFIL.

Pentref bychan, neu nifer o dai gwasgaredig yn mhlwyf Llangynidr ydyw y Trifil. Saif ar derfyn sir Frycheiniog, rhwng Tredegar a'r Gogledd. Mae yma gloddfa cerig calch helaeth at wasanaeth y gweithfeydd; ac ar hyny yn benaf yr ymddibyna yr ardalwyr am eu bywioliaeth. Er mai yn sir Frycheiniog y mae y lle yn ddaearyddol, etto y mae wedi bod bob amser mewn cysylltiad crefyddol a sir Fynwy. Yr oedd amryw o'r ardal yma yn cyrchu i Dredegar i addoli, ac yn aelodau o Saron, ac er cyfleustra iddynt hwy, adeiladwyd yno yn 1830, gapel bychan, yn benaf trwy lafur Mr. H. Jones, y gweinidog ar y pryd yn Saron. Nid oeddynt ond ychydig o rifedi, ond yr oeddynt yn rhai ffyddlawn a diwyd; a bu gofal y lle am y blynyddau cyntaf ar Mr. Jones, yr hwn a gyrchai yma yn gyson a rheolaidd. Wedi i Mr. Jones roddi y lle i fyny, cymerwyd at y lle gan Mr. W. Watkins, mewn cysylltiad a Seion, Rhymni, hyd y flwyddyn 1841, pan y cymerwyd eu gofal gan Mr. J. Prothero, Llangynidr. Er fod gan Mr. Prothero ffordd faith i ddyfod atynt, etto anaml y byddai yn absenol oddiwrthynt, pan fyddai disgwyliad am dano. Wedi marwolaeth Mr. Prothero, yn mhen amser cymerwyd eu gofal gan Mr. W. Williams, Adulam, Tredegar, a bu ef yn llafurio yma gyda chymeradwyaeth mawr am lawer o flynyddau. Yn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. George Owen, pregethwr cynnorthwyol perthynol i Seion, Rhymni, ac urddwyd ef yn weinidog arnynt, ac efe sydd yma etto. Ymddibyna Mr. Owen, fel o'r blaen, ar ei alwedigaeth fydol am ei gynnaliaeth, gan roddi cymaint o'i amser ag a allo i'w gwasanaethu, a derbyn ganddynt yr hyn y byddant yn alluog i'w roddi. Ni bu yr eglwys erioed yn gryf, ac nis gellir disgwyl iddi fod yn ol rhifedi y boblogaeth, yn lluosog iawn. Nid ydym yn gwybod am ddim neillduol a gymerodd le yma yn nglyn a'r achos o'r dechreuad; ond y mae yma rai ffyddloniaid wedi bod bob amser; a chanddynt am yr achos bychan yn y lle "fawr ofal calon."

RISCA.

Dechreuwyd pregethu a chadw cyfarfodydd gweddio gan yr Annibynwyr yn ardal Risca tua'r flwyddyn 1841 neu 1842. Ar y cyntaf, symudai y cyfarfodydd o dy i dy; a bu cyfarfodydd yn cael eu cynal yn rheolaidd am ryw gymaint yn Penyrhiw; hyd nes y cymerwyd ysgubor yn agos i'r un fan, a throwyd hi yn fath o gapel at wasanaeth yr addolwyr. Bu y gynnulleidfa yma am flynyddau, a chafwyd profion eglur fod llawer iawn o les i eneidiau wedi ei wneyd yn y fan. Bu Mr. T. Jones, o'r Pillgwenlly, Casnewydd, y pryd hwnw, yn pregethu llawer iawn yma ar ddechreuad yr achos; ac os hysbyswyd ni yn gywir, efe yn nghyd a Mr. Thomas, Mr. E. Powell, Mr. Ll. Griffith, yn awr o Abercarn, ac eraill a fuont yr offerynau i ddechreu yr achos yn Risca. Daeth Mr. Daniel Jones a Mr. John Thomas yno i gynnorthwyo yn fuan; ond nid oeddent hwy yno ar ddechreu yr achos. Bu Mr. B. Lewis, Llanfabon, yn dyfod atynt bob pythefnos dros ryw ysbaid, ond ni fu gan yr eglwys weinidog sefydlog hyd y flwyddyn 1854, pan y cymerodd Mr. Evan Evans, Nantyglo, ofal Risca a Machen. Yn y flwyddyn 1857, meddyliodd Mr. Evans a'r cyfeillion am gael capel newydd mewn man mwy cyfleus, a llwyddasant i gael tir yn ymyl y brif ffordd, ac adeiladasant gapel a vestry gyfleus iawn yn nglyn ag ef. Yn fuan wedi agor y capel newydd ymadawodd Mr. Evans, a bu yr eglwys heb weinidog sefydlog hyd 1861, pan y daeth y gweinidog presenol, Mr. David Glyn Davies, i'r lle o athrofa Aberhonddu; ac y mae er hyny wedi llafurio yma yn ddiwyd a llwyddianus, a chyda chymeradwyaeth gyffredinol. Mae yr achos yma, fel mewn llawer o fanau yn y sir, yn troi yn Saesonaeg yn gyflym. Nid oes dim ond Saesonaeg yn awr bob nos Sabboth, ac y mae yn amlwg mai Saesonaeg fydd yr holl wasanaeth cyn hir.


VICTORIA ROAD, CASNEWYDD.

Dechreuwyd yr achos yma gan Mr. Frederick Pollard, yr hwn a fuasai yn weinidog eglwys Dock Street am dair blynedd a thri mis. Rhoddodd yr eglwys yn Dock Street i fynu ar yr 20fed o Ragfyr, 1857, a dechreuodd bregethu yn Neuadd y dref ar y Sul canlynol, sef Rhagfyr y 27ain. Sefydlwyd yr eglwys, yn cynwys 33 o aelodau, ar ddiwedd y dydd. Cyfarfyddodd yr eglwys fechan a llawer iawn o wrthwynebiad ar ei chychwyniad, a chafwyd anhawsdra mawr i gael tir i gyfodi capel. Ar ol hir drafferth, llwyddwyd i gael y tir y saif yr adeilad presenol arno. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr ar y 3ydd o Dachwedd 1858, gan yr Anrhydeddus Charlotte Thompson, gwraig Thomas Thompson, Ysw., Prior Park, Bath, a chwaer i Iarll Gainsborough. Traul yr adeilad oedd 4,624p. 17s. 93c. Bu Mr. Pollard yn llafurio yma hyd Mehefin 1865, pan y dychwelodd i'w hen gartref, yn Saffrom Walden, Essex. Bu yr eglwys amryw fisoedd heb weinidog; ac yn y cyfwng, lleihaodd y gynnulleidfa i raddau dirfawr. Ymsefydlodd Mr. H. Oliver, B.A., o Pontypridd yma, yn Chwef. 1866. Y flwyddyn ganlynol casglwyd 500p. i ddileu y ddyled oedd ar yr addoldy. Yn 1868, casglwyd 250p. i adgyweirio yr adeilad, a rhoddwyd 50p. yn rhodd i'r adeiladydd, Mr. W. O. Watkins, yr hwn a roddasai ei waith yn rhad. Edrychai llawer ar waith Mr. Pollard a'i gyfeillion yn cychwyn yr achos yma yn anturiaeth fawr, os nad yn rhyfyg; ond credai ef ond iddo gael capel o faintioli priodol mewn man cyfleus, y gallasai lwyddo i gasglu cynnulleidfa o'r dosbarth nad oedd ond nifer fechan o honynt yn y dref yn mynychu moddion gras; ac ni siomwyd y disgwyliad. Mae y capel yn un o'r rhai eangaf yn y Dywysogaeth; ac y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa yn lluosacach yn awr nag y buont erioed.

CROSS KEYS.

Dechreuwyd pregethu a chadw ysgol Sabbothol yn ardal y Cross Keys yn 1867, trwy lafur Mr. D. G. Davies, Risca, ac wedi amryw fisoedd o brawf, gwelodd Mr. Davies fod yno le am achos. Ceisiwyd tir i adeiladu capel gan Arglwydd Tredegar, a chafwyd addewid am dano, ond nacawyd ef drachefn; ond cafwyd tir cyfleus eilwaith ar ystad Llanarth. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn mis Medi 1869, gan Charles Lewis, Ysw., Casnewydd. Siaradwyd ar yr achlysur gan amryw weinidogion a lleygwyr, ac yn eu plith gan S. Morley, Ysw., A.S. Mae'r capel wedi ei agor er dechreu Ebrill diweddaf, ac y mae golwg addawol iawn ar yr eglwys yn y lle. Mae Mr. Davies yn haeddu parch dauddyblyg am ei lafur dibaid gyda'r capel newydd yn Cross Keys. Nid oes yma ddim ond Saesonaeg yn cael ei bregethu, ac ofer hollol fuasai cynyg am wasanaeth cymysg.


MOUNT PLEASANT, PONTYPOOL.

Yn hanes eglwys Ebenezer nodasom fod eglwys Annibynol yn y Trosnant mor foreu a'r flwyddyn 1715, a'i bod yn debygol mai hon oedd dechreuad yr achos yn Ebenezer. Bu ardal boblog y Trosnant, a thref Pontypool heb un achos Annibynol o'r flwyddyn 1742, pryd yr adeiladwyd Ebenezer, hyd nes y cychwynwyd achos Saesonaeg yno tua'r flwyddyn 1834. Mr. Morris Evans oedd y gweinidog cyntaf ar yr eglwys Saesonaeg. Wedi ei farwolaeth ef, bu amryw weinidogion yno am dymorau byrion, ond gwan a nychlyd iawn oedd yr achos bob amser. Ar sefydliad Mr. Jenkins yn weinidog yn Mount Pleasant, ymunodd yr ychydig Saeson a'r achos hwnw, felly darfu yr hyn a elwid eglwys y Saeson yn Mhontypool. Dechreuwyd yr achos sydd yn bresenol yn Mount Pleasant dan yr amgylchiadau canlynol: Gan fod amryw o aelodau perthynol i'r New Inn, Ebenezer, a Phenywaun yn byw yn Nhrosnant a Phontypool, barnai rhai o honynt y buasai yn fanteisiol i'r enwad, yn gystal ag iddynt hwy a'u teuluoedd, gael achos yn y dref. Yn niwedd y flwyddyn 1835, prynwyd capel yn Nhrosnant, a elwid Sardis, gan y Bedyddwyr, ac agorwyd ef Rhagfyr 3ydd a'r 4ydd, y flwyddyn hono, fel addoldy Annibynol. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth yr agoriad gan y Meistriaid Powell, Caerdydd; Davies, New Inn; Jones. Aber; Harries, Morfa; Davies, Pen-y- waun; ac eraill. Mr. William Davies, masnachwr, Pontypool, yr hwn oedd yn aelod yn Mhenywaun, fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos hwn. Bu yr eglwys am dymor yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, ond yn y flwyddyn 1839, rhoddodd alwad i Mr. Thomas Williams, Maendy, Morganwg. Ychydig gyda blwyddyn y bu Mr. Williams yma. Gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd, ac amgylchiadau eraill i symud i dy ei fam, lle y bu farw yn Gorphenaf 1840. Yn Awst 1840, cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. Herbert Daniel, Cefnycrib, a bu y lle dan ei ofal effeithiol ef hyd 1862, pryd y rhoddodd ei ofal o hono i fyny, ac y cyfyngodd ei wasanaeth i'r eglwys a'r Cefnycrib. Bu llawer o lwyddiant ar yr achos yn Mhontypool yn nhymor gweinidogaeth Mr. Daniel. Yn 1855, adeiladwyd capel prydferth Mount Pleasant, yr hwn a agorwyd Awst 22ain a'r 23ain, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan y Meistriaid D. Williams, Berea; M. Morgans, Bethesda y Fro; T. Jeffreys, Penycae; Dr. Thomas, Pontypool; T. Rees, Cendl; G. Griffiths, Casnewydd; T. Thomas, Glandwr; R. Thomas, Hanover; E. Hughes, Penmain, ac eraill. Gwnaeth Mr. Daniel ymdrech egniol a chyson am flynyddau i gasglu at yr addoldy tlws hwn, a chasglodd ganoedd lawer o bunau. Ar ol ymadawiad Mr. Daniel, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Jason Jenkins, St. Florence, sir Benfro, ac ymsefydlodd ef yma yn niwedd y flwyddyn 1862. Ar ddechreuad ei weinidogaeth ef, fel y nodasom, ymunodd y gynnulleidfa fechan Saesonaeg yn y dref a'r eglwys yn Mount Pleasant, ac o'r pryd hwnw y mae y gwasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen agos yn hollol yn yr iaith Saesonaeg. Ychydig gyda blwyddyn yn ol, helaethwyd y capel, fel y mae yn awr yn un o'r addoldai harddaf a helaethaf yn yr holl dref. Mae Mr. Jenkins yn parhau i wasanaethu yr achos gyda pharch a llwyddiant.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS WILLIAMS. Ganwyd ef yn y Cwmgarw, yn mhlwyf Llangadog, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1810. Yr oedd ei rieni yn aelodau o'r eglwys yn Nghwmamman, a derbyniwyd yntau yno pan yr oedd tua deuddeg oed. Dechreuodd bregethu yn ieuangc iawn, ac urddwyd ef yn y Tabernacl, Llandilo, cyn ei fod yn gyflawn ugain oed. Symudodd oddiyno yn nechreu y flwyddyn 1835 i'r Maendy, Morganwg, lle y bu tua phedair blynedd. Yn 1839, symudodd i Bontypool, ond gwaelodd ei iechyd yn fuan, ac aeth adref i dy ei fam, lle y bu farw Gorphenaf 3ydd, 1840. Claddwyd ef yn Nghwmllynfell, a gweinyddwyd yn ei angladd gan y Meistriaid R. Pryse, Cwmllynfell; P. Griffiths; Alltwen, a D. Williams, Bethlehem, Llangadog.

O ran corph, yr oedd Mr. Williams yn nodedig o dal-dros chwe' troed- fedd, ac yn y ddwy flynedd ddiweddaf o'i fywyd yr oedd wedi tewychu yn anarferol. O ran tymer yr oedd yn rhyfeddol o addfwyn a charuaidd. Fel pregethwr yr oedd yn dlws, eglur, a tharawiadol iawn. Clywsom ef rai troion yn pregethu yn anarferol o effeithiol. Yr oedd yn feddianol ar gymhwysderau i fod yn ddefnyddiol a phoblogaidd iawn, ond machludodd ei haul a hi etto yn ddydd.

JERUSALEM, COED-DUON.

Dechreuwyd yr achos hwn, fel y crybwyllasom yn hanes Penmain, o herwydd fod mwyafrif yr eglwys hono am ymwrthod a'u gweinidog, Mr. John Jones, a bod lleiafrif yn glynu wrtho. Aeth pleidwyr Mr. Jones allan gydag ef, a chychwynasant achos newydd mewn amaethdy a elwir y Berthlwyd. Corpholwyd yno eglwys ar yr 22ain o Ragfyr 1839, cynwysedig o 52 o aelodau. Yr oedd y Meistriaid E. Rowlands, Pontypool, a D. Davies, Penywaun, yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth gyda Mr. Jones ar ffurfiad yr eglwys. Adeiladwyd y capel yn 1840, yr hwn a gostiodd 370p. Ni fu Mr. Jones yn hir wedi hyn yn yr ardal. Symudodd i'r Casnewydd; ond deuai i fynu Sul neu ddau o bob mis hyd nes iddo symud o'r Casnewydd i Loegr. Urddwyd Mr. George Lewis, un o'r aelodau, yn gynorthwywr iddo yn y Coed-duon. Wedi i Mr. Jones roddi gofal yr eglwys i fyny yn hollol, rhoddwyd galwad i Mr. William Davies, Talybont, Ceredigion. Bu ef yma am oddeutu tair blynedd, yna rhoddodd ei le i fyny er myned yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol. Bu un Isaac Francis yma am dymor ar ol hyny, ac yntau hefyd a ymadawodd heb hiraeth am dano. Ar ei ol ef bu Mr. John Morgan Thomas, Glynnedd, yn gweinidogaethu yma, mewn cysylltiad a Thabor, am oddeutu blwyddyn a haner. Rhoddodd yntau y lle i fynu ar ei ymfudiad i'r America, yn 1849. O'r pryd hwnw hyd 1852, bu yr eglwys yn ymddibynu ar weinidogaeth Mr. George Lewis, yn nghyd ag ymweliadau achlysurol gweinidogion a phregethwyr dieithr. Ar y 7fed a'r 8fed o Ebrill, 1857, urddwyd Mr. John Thomas, o athrofa Aberhonddu. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn:—
Y nos gyntaf, dechreuwyd gan Mr. M. Jones, Varteg, a phregethodd y Meistriaid R. Parry, Abercarn; D. Richards, Llanelli, Brycheiniog; ac E. Watkins, Llangattwg. Am 10 yr ail ddydd, dechreuwyd gan Mr. E. Rowlands, Pontypool; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Edwards, Aberdare; holwyd y gofyniadau gan Mr. G. Lewis; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. M. Ellis, Mynyddislwyn; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. N. Stephens, Sirhowy, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. T. Rees, Cendl. Yn y prydnawn a'r hwyr, pregethwyd gan y Meistriaid Thomas, Towyn; Daniel, Pontypool; Jenkins, Salem, a Jones, Treforis. Bu Mr. Thomas yn weithiwr difefl yma hyd y flwyddyn 1864, pryd y symudodd i'r Wern, sir Ddinbych, lle y mae etto. Dilynwyd Mr. Thomas gan Mr. D. Edwards, o athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd yma, Awst laf a'r 2il, 1866. Yr ydym yn deall fod Mr. Edwards ar roddi ei ofal i fyny, a symud i Pilton Green a Park Mill, Browyr. Nid oes ond gobaith gwan y gwelir byth achos cryf yn Jerusalem, o herwydd fod yr ardal yn gymharol denau o drigolion, yr iaith Saesonaeg yn enill tir yn gyflym trwy yr holl fro, y capel mewn man hynod o anghyfleus, a dau achos parchus o'r un enwad, sef Penmain a Mynyddislwyn o bob tu iddo. Dichon y gallai y lle fod o lawer mwy o wasanaeth pe y troid ef yn achos Saesonig.

GOLDCLIFF.

Enw plwyf bychan yw hwn ar y gwastadedd rhwng y Casnewydd a Chasgwent, a rhwng cledrffordd Deheudir Cymru a'r mor. Yn y flwyddyn 1835, adeiladwyd yma addoldy bychan i'r Annibynwyr trwy ymdrechion y llafurus David Thomas, Llanfaches. Pregethwyd ar ei agoriad gan Mr. T. Gillman, Casnewydd; D. Davies, Penywaun; a D. Davies, New Inn. Achos gwan iawn, fel llin yn mygu, sydd wedi bod yma o'r cychwyniad hyd yn awr, ac nis gellir byth ddisgwyl iddo ddyfod yn gryf, oblegid nid yw holl drigolion y plwyf ond 250 o rif; ac o'r cyfryw y mae rhai yn myned i eglwys y plwyf, ac amryw yn perthyn i gynnulleidfa fechan o Fedyddwyr yn y gymydogaeth. Dan ofal gweinidogion Llanfaches, yn benaf, yn nghyd a phregethwyr cynnorthwyol o'r Casnewydd, y mae y lle hwn wedi bod o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol.


CAPEL Y GARN, ABERCARN.

Cangen o eglwys y Tynewydd, Mynyddislwyn, yw yr achos hwn. Yr oedd pregethu lled gyson yn yr ardal hon rai degau o flynyddau cyn ffurfiad yr eglwys yma. Bu y tri enwad-yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid-am rai blynyddau yn cydaddoli mewn ystafell, a roddid at eu gwasanaeth gan Mr. Daniel, Abercarn. Yn niwedd y flwyddyn 1841, dechreuodd yr Annibynwyr gadw cyfarfodydd iddynt eu hunain, yn nhai John Mathews a James Edmunds. Yn y flwyddyn 1846, cafwyd tir yn ymyl y ffordd yn mhen uchaf y pentref, gan Arglwydd Llanover, at adeiladu capel arno. Gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel yn nghanol haf y flwyddyn hono, gan Mr. Rosser Williams, Penrhiwffranc, Mynyddislwyn, ac anerchwyd y gwrandawyr ar yr achlysur gan Mr. Ellis, Mynyddislwyn, a Mr. Mathews, Castellnedd. Costiodd yr adeilad yn agos i 600p. Casglwyd dros 100p. ato gan Mr. Ellis a Mr. R. Williams, a rhoddodd Mr. Williams fenthyg 300p. yn ddilog, ar yr amod i'r gynnulleidfa dalu y corph yn ol y cyfartaledd o 25p. y flwyddyn, nes y buasai yr holl swm i fyny. Trwy y caredigrwydd hwn o eiddo Mr. Williams, ni fu talu am y capel yn nemawr o faich i'r gynnulleidfa. Yn 1855, yn mhen naw mlynedd ar ol adeiladu y capel, y gofynwyd am lès ar y tir. Hyd y lês yw cant ond un o flynyddau, a'r ardreth flynyddol yw deg swllt a chwe' cheiniog. Agorwyd yr addoldy Hyd. 20fed a'r 21ain, 1847, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidogion canlynol: N. Stephens, Sirhowy; J. Ridge, Cendl; H. Daniel, Pontypool; M. Rees, Groeswen; E. Williams, Llanfairmuallt; W. Williams, Tredegar; E. Rowlands, Pont-y-pool, T. Jeffreys, Penycae, a J. Bowen, Penywaun. Bu yr aelodau yn myned i Fynyddislwyn i gymuno am oddeutu blwyddyn ar ol agoriad y capel, ond yn 1848, ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol, dan weinidogaeth Mr. Ellis, gweinidog y fam eglwys. Y ddau ddiacon cyntaf yma oedd James Protheroe a John Mathews. Mae John Mathews, er's amser bellach, wedi gorphen ei yrfa ddaearol, ond y mae James Protheroe etto yn fyw, ond yn awr dros 84 oed. Derbyniwyd ef yn aelod yn y New Inn, gan Mr. T. Walters, er's 63 o flynyddau yn ol. Bu am flynyddau wedi hyny yn byw yn ardal y Groeswen, ac yn aelod defnyddiol yno. Un nodedig arali yn mysg cychwynwyr yr achos hwn oedd y rhagrybwylledig J. Edmunds, neu Jim o'r Engine, fel y gelwid ef yn gyffredin. Bu y gwr hwn yn more ei oes yn ddyn nodedig o annuwiol, ac yn ymladdwr proffesedig; ond wedi iddo gael ei ddychwelyd at yr Arglwydd, bu yn llawn mor hynod gyda chrefydd ag y buasai yn flaenorol gyda phechod. Nid ydym yn cofio i ni erioed weled dyn mwy toddedig dan y gair. Pan y clywsai ryw beth pwrpasol am Grist a gras Duw, nis gallasai yn unwedd attal ei deimladau heb dori allan i ddiolch, ac yr oedd ei swn bob amser yn hyfryd gan y rhai a'i hadwaenai, ac yn ddieithriad yn toddi y gynnulleidfa. Cofgolofn nodedig a gyfodasid gan ras Duw ydoedd. Yn nechreu y flwyddyn 1854, rhoddodd Mr. Ellis ofal yr eglwys i fyny, ac yn mhen ychydig fisoedd wedi hyny, rhoddwyd galwad i Mr. R. Parry, Penmorfa, sir Gaernarfon. yr hwn sydd yn awr yn Victoria. Bu Mr. Parry yma hyd Ionawr 1859, pryd y symudodd i New Market, sir Fflint. Ar ol ei ymadawiad ef, bu Mr. Griffith Roberts, Cefncoedycymer, yn gweinidogaethu yma am oddentu naw mis. Yn mhen tua blwyddyn ar ol ei ymadawiad rhoddwyd galwad i Mr. W. Williams, Tredegar, y gweinidog presenol. Dechreuodd Mr. Williams ei weinidogaeth yma Hydref, 20fed, 1861. Yr oedd yr addoldy y pryd hwnw yn cael ei gyfnewid yn ei ffurf a'i adgyweirio. Costiodd yr adgyweiriad tua 250p. Cynaliwyd cyfarfod yr agoriad a sefydliad Mr. Williams, Ebrill 20fed, 21ain a'r 22ain, 1862. Pregethwyd ar yr achlysur gan G. Roberts, Cefncoedycymer; R. Thomas, Hanover; J. M. Davies, Maesycwmwr; E. Hughes, Penmain; W. Jones, a D. Hughes, B.A., Tredegar; D. Price, Aberdare; T. Rees, Cendl; H. Daniel, Pontypool; D. Williams, Berea, a J. M. Thomas, Abersychan. Mae Abercarn, neu Abergwyddon, fel y gelwid y lle gynt, yn ardal boblog a phwysig iawn, ac yn debygol o gynyddu mewn poblogaeth am flynyddau etto; ond y mae taeniad cyflym yr iaith Saesonaeg yn mysg yr ieuengetyd yma, fel yn mhob ardal arall yn Mynwy, yn llawer o anfantais i'r achos Cymreig. Yr ydym yn hyderu y ca Mr. Williams fywyd ac iechyd i fod yn ddefnyddiol iawn yn y cylch pwysig hwn am flynyddau etto.

KING STREET, BRYNMAWR.

Achos Saesonig yw hwn. Dechreuwyd ef yn y flwyddyn 1848. Yn y flwyddyn hono cyfododd annghydfod yn eglwys y Primitive Methodists ar y Brynmawr; ymadawodd o ugain i ddeg ar hugain o aelodau, a chymerasant ystafell yn y dref at gynal gwasanaeth crefyddol. Yn fuan wedi hyny gwnaethant eu meddyliau i fyny i ymuno a'r Annibynwyr. Gwahoddasant Mr. Jeffreys, Penycae, i'w corpholi yn eglwys Annibynol. Ar eu corpholiad darfu i rai Annibynwyr, a hoffent wasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonaeg yn fwy na'r Gymraeg, gymeryd eu lle yn eu mysg. Bu Mr. Jeffreys yn ymweled a hwy yn fisol am yn agos i flwyddyn. Yn 1849, ychwanegwyd rhai ugeiniau at yr eglwys; a thrwy gymorth Mr. John Jones, masnachwr, Brynmawr, cafwyd tir, a dechreuwyd adeiladu capel, yr hwn a orphenwyd, ac a agorwyd yn y flwyddyn 1850. Yn lled fuan wedi hyny ymadawodd y rhan fwyaf o'r rhai fuasent yn aelodau gynt gyda'r Primitive Methodists, a bu yr achos dros dymhor yn dra isel. Y gweinidog sefydlog cyntaf oedd Mr. John Thomas, aelod gwreiddiol o eglwys y Morfa. Ni bu ef yma flwyddyn gyflawn. Y nesaf oedd Mr. E. W. Johns, mab Mr. D. Johns, Madagascar. Bu ef yn gwasanaethu yr achos hwn, mewn cysylltiad a'r achos Saesonaeg yn Nghendl, o ddechreu 1853 hyd yn agos diwedd 1854, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny. Dilynwyd ef gan Mr. George Greig, o Scotland. Bu ef yma am dair blynedd, ac yn nodedig o ddefnyddiol; ond yn niwedd y flwyddyn 1859, gorfodwyd ef gan ddiffyg iechyd i ymadael a'r lle, er galar a cholled dirfawr i'r gynnulleidfa. Ar ol ymadawiad Mr. Greig, rhoddwyd galwad i Mr. William Thomas, o Gaerodor, yr hwn a wasanaethodd y lle gyda llawer o lwyddiant am ddwy flynedd, ond o herwydd nad oedd ei gyflog yn ddigon i gynal ei deulu lluosog bu raid iddo roddi y weinidogaeth heibio, ac ymgymeryd a galwedigaeth fydol. Yn 1862 ymsefydlodd Mr. T. F. Nathan, o'r athrofa orllewinol yma. Yn 1869 symudodd oddiyma i Wrexham. Yn fuan ar ol ei ymadawiad ef, daeth Mr. D. Daw, o Gaerodor, i ymweled a'r lle, a chafodd alwad unfrydol. Dywedir fod Mr. Daw yn dderbyniol iawn, ac yn debygol o fod yn llwyddianus. Mae yn ddiameu fod yr achos hwn wedi dyoddef yn fawr o herwydd newid y gweinidogion mor fynych. I amgylchiadau, nad oedd gan yr eglwys na'r gweinidogion un reolaeth drostynt, yr ydym i briodoli y newidiadau mynych hyn, ond er hyny effeithiasant er cryn niwed i'r achos.

CAPEL BARHAM, CENDL.

Dechreuwyd yr achos hwn yn niwedd y flwyddyn 1849. Yn mhen ychydig fisoedd wedi i T. Rees, symud o Lanelli i Gendl, gwelodd fod yno luaws mawr o Saeson yn cyfaneddu, a bod yr enwad Annibynol yn cael ei golledu o eisiau gwasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonaeg. Ar ol ymgynghori ag ychydig gyfeillion, o Gymry a Saeson, cymerodd ystafell eang y tu cefn i'r Refiners' Arms, at gynal addoliad. Sefydlwyd yno Ys- gol Sabbothol, a phregethu cyson, ac aeth pob peth yn mlaen yn llew- yrchus iawn. Yn mhen rhai blynyddau, cymerwyd tir at adeiladu capel, yr hwn a agorwyd yn Ebrill, 1859, gan y Dr. Morton Brown, o Cheltenham. Galwyd ef Barham Chapel, o barch i'r Arglwyddes Barham, merch yr hon, sef Mrs. Thompson, a'i phriod, Mr. Thomas Thompson, oedd y rhai blaenaf ar res y tanysgrifwyr at yr adeiladaeth. Rhoddasant hwy haner can' gini i gychwyn. Costiodd y capel a'r ysgoldy y tu cefn iddo tua £1,200. Rhoddodd yr eglwys yn Carmel £100 ato, a chasglodd ei gweinidog y gweddill mewn gwahanol barthau o Gymru a Lloegr. Mae yr achos hwn, yr un fath a'r achosion Saesonig eraill yn y cymydogaethau cylchynol, wedi dyoddef yn dost o herwydd diffyg gweinidogaeth ddigon sefydlog a galluog. Bu y rhai canlynol yn olynol yn gweini i'r eglwys fechan hon, am adegau byrion, yn ystod y deunaw mlynedd diweddaf: E. W. Johns, a G. Greig, mewn cysylltiad ag eglwys Saesonig Brynmawr; F. G. Andrews, mewn cysylltiad a'r eglwys Saesonig yn Nhredegar; a B. W. Evans, George Applegate, ac Alexander Scott, mewn cysylltiad a'r eglwys yn y Tabernacl, Penycae. Gweinidogion Penycae a'r Brynmawr sydd yn bresenol yn gofalu am y lle. Mae yr ysgoldy eang sydd tu cefn i'r capel wedi ei sicrhau mewn gweithred ddiogel at wasanaeth yr ardal fel British School-room; ond ei fod ar y Sabboth yn unig at wasanaeth cynnulleidfa capel Barham.

PONTYGOF.

Mae ardal boblog Pontygof tua haner y ffordd rhwng Carmel, Cendl, a Saron, Penycae, a thua milldir oddiwrth y naill a'r llall. Gan fod yr eglwys yn Carmel yn ddiddyled, a bod amryw o'r aelodau yn byw yn Mhontygof, y Drefnewydd, a'r Sychffos, teimlent awydd am gael lle yn y gymydogaeth i gadw Ysgol Sabbothol, yn gymaint a bod y ffordd yn rhy bell iddynt ddyfod a'u plant ar bob math o dywydd, i'r Ysgol i Carmel. Ar ol llawer o ymgynghori, penderfynwyd adeiladu ysgoldy digon eang gynwys o bedwar i bum' cant o gynnulleidfa. Dechreuwyd yr adeiladaeth yn y flwyddyn 1854, a gorphenwyd ef y flwyddyn ganlynol. Ar ol bod am dymor yn defnyddio yr ysgoldy yn unig at gadw Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, aed i alw am bregethu achlysurol ynddo. Arweiniodd hyny yn raddol i ffurfiad eglwys Annibynol yn y lle. Er mai eglwys Carmel ddarfu adeiladu yr ysgoldy a chychwyn yr Ysgol, ymroddodd aelodau a gwrandawyr Saron gyda hwy i ddwyn yr achos yn mlaen, ac yr oeddynt yn llawer mwy o rif yn yr ardal. Yn 1859, corpholwyd yma eglwys, cynwysedig o tua saith ugain o aelodau-tua thri-ugain o Carmel a phedwar ugain o Saron. Gweinyddodd T. Jeffreys a T. Rees, gweinidogion y ddwy fam eglwys, ar y cymundeb cyntaf; a buont bob yn ail fis yn tori bara yno o'r pryd hwnw hyd nes i'r eglwys ieuangc ddewis gweinidog iddi ei hun. Yn nechreu y flwyddyn 1861 rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mai 28ain a'r 29ain, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. Morgan, Caerfyrddin; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. Jenkins, Brynmawr; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Jeffreys, Penycae; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. Evans, Hebron; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. Rees, Cendl. Yn fuan ar ol urddiad Mr. Davies, aed i edrych allan am le i adeiladu capel, a gwnaed hyny gyda mwy o frys, nag y gwnelsid, oni buasai fod Cwmni Penycae am brynu yr ysgoldy at gadw ysgol ddyddiol. Cafwyd tir gan y cwmni mewn man cyfleus iawn, ac adeiladwyd arno gapel prydferth, yr hwn a agorwyd ar ddydd Gwyl Bartholomew, 1862, a'r dydd canlynol, sef Awst 24ain a'r 25ain. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr enwog Caleb Morris, gynt o Lundain; J. Morris, Athraw Duwinyddol Coleg Aberhonddu; W. P. Davies, Rhymni; H. Daniel, Pontypool; D. Davies, New Inn; D. Hughes, B.A., Tredegar; a Jason Jenkins, Pontypool. Bu Mr. Davies yn llafurus a gwasanaethgar iawn yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1867, pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Zoar, Aberdare. Yn 1868, urddwyd Mr. W. Edwards, o athrofa Aberhonddu, yma, ac yr ydym yn hyderu y bydd ei weinidogaeth yn y lle yn llwyddianus iawn.


NEW TREDEGAR.

Tua phymtheg mlynedd yn ol, nid oedd ond tri neu bedwar o anedd-dai yn yr ardal hon, tra y mae yma yn awr rai miloedd o drigolion, wedi eu casglu yn nghyd gan y gweithiau glo. Bu Mr. Jenkins, Rhymni, yn pregethu yn fisol, a mynychach, yn Mhɔntaberbargod, tua dwy filldir islaw New Tredegar, am ddeng mlynedd ar hugain cyn dechreu yr achos hwn, ond nid yw yn debygol y buasai un achos Annibynol yn cael ei sefydlu rhwng Rhymni a Salem, oni buasai i agoriad y gweithiau glo dynu lluaws o drigolion i'r lle. Yn y flwyddyn 1860, daeth llawer o aelodau perthynol i'r Annibynwyr, o eglwysi Rhymni, Tredegar, Cendl, &c., i fyw i'r ardal, ac yn fuan dechreuasant gynal moddion crefyddol yma mewn anedd-dai. Yn niwedd y flwyddyn hono dechreuwyd adeiladu capel, yr hwn a agorwyd Mai 26ain a'r 27ain, 1861. Yr oedd rhif yr aelodau y pryd hwnw rhwng 60 a 70, ac erbyn diwedd y flwyddyn 1863 yr oeddynt yn 104. Yn Tachwedd, 1864, urddwyd Mr. David Jones, o athrofa Aberhonddu, yma; ac y mae wedi bod yn llafurus a thra llwyddianus yn y lle hyd yn awr, (Awst, 1870); pryd y mae ar symud i gymeryd gofal yr eglwys yn Nghwmbwrla, Abertawy. Yn mhen tua blwyddyn ar ol urddiad Mr. Jones, gosodwyd oriel yn y capel, yr hyn a'i helaethodd yn fawr. Mae ynddo tua 500 o eisteddleoedd, ac y mae yn mhob ystyr yn addoldy hardd a chyfleus. Capel yr Uchdir y gelwir ef, oblegid ei fod wedi cael ei adeiladu ar ran o'r fferm a elwir Cefn yr Uchdir. Ar dir Arglwydd Tredegar y mae yn sefyll. Mae y gweithfaoedd yn y ddwy flynedd ddiweddaf wedi bod yn farwaidd iawn, ac felly, yn y tymhor hwn, ymadawodd pump a deugain o'r aelodau o'r ardal, ond eto mae y nifer sydd ar ol tua chwech ugain. Mae y gymydogaeth yn un bwysig iawn, ac yn debygol o gynyddu mewn poblogaeth am flynyddau etto. Hyderwn yr anfona yr Arglwydd yn fuan fugail wrth fodd ei galon i'r ddiadell ieuangc a gobeithiol hon.

EGLWYS SAESONAEG BLAENAFON.

Rhoddasom eisoes hanes helaeth am yr achos Cymreig yn y lle yma, ond y mae yma hefyd achos Saesonaeg wedi ei ddechreu er's blynyddau, ac yn myned rhagddo yn llwyddianus. Ffurfiwyd yr eglwys yma ar yr 22ain o Fawrth, 1863, yn neuadd y dref, pan yr ymgyfamododd 16 o aelodau i fod yn gymdeithas gristionogol. Corpholwyd hi yn rheolaidd gan y Meistriaid Thomas Griffiths, Blaenafon; Jason Jenkins, Pontypool, a George Thomas, Brynbiga; a theg yw dyweyd mai aelodau o eglwys Gymreig Bethlehem, oedd y rhan fwyaf o'r 16 a unasant. Mae yr eglwysi Cymreig a'u gweinidogion yn haeddu parch mawr ar gyfrif eu parodrwydd i roddi gollyngdod i nifer o'u haelodau, ac yn aml yr yr aelodau goreu o ran eu hamgylchiadau, i fyned i ddechreu achosion Saesonaeg. Yn mhen tua blwyddyn wedi corpholiad yr eglwys, darfu iddynt gyttuno a'r Bedyddwyr am hen gapel gwag o'r eiddynt hwy; ac ynddo y buont yn addoli dros yspaid. Yn hwn yr ordeiniwyd Mr. Daniel Evans, o athrofa Caerfyrddin, ar y 14eg a'r 15fed o Fedi, 1864, pryd y gweinyddwyd gan y Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; T. Rees, Casgwent; J. Davies, Caerdydd; R. Thomas, Hanover, a Jason Jenkins, Pontypool. Wedi iddynt addoli yn dawel yma am dair blynedd, prynwyd y capel uwch eu penau gan y Wesleyaid, fel y bu raid iddynt ddychwelyd i'w hen babell yn neuadd y dref; lle digon annghyfleus ac anfanteisiol i'r achos. Yn y cyfwng tywyll hwn, ac er fod yr eglwys yn wan a thlawd, ymgalonogodd, ac aeth i'r anturiaeth o adeiladu addoldy prydferth, mewn man cyfleus a chanolog, lle gallesid disgwyl llwyddiant, gyda bendith yr Arglwydd. Ar yr 11eg o Orphenaf, 1867, gosodwyd i lawr gareg sylfaen yr addoldy newydd gan H.O. Wills, Ysw., Bristol, pryd y traddodwyd anerchiadau, ganddo ei hun, W. Graham, Ysw., (maer) Casnewydd, yn nghyd a'i frawd o Cheltenham, ac amryw weinidogion. Yr oedd traul adeiladiad y capel newydd yn 1000p. Ar y 18fed o Fehefin, 1868, agorwyd ef. Cynaliwyd amryw gyfarfodydd mewn cysylltiad a'r agoriad. Pregethwyd gan Meistriaid H. T. Robjohns, o New-Castle-on-Tyne; J. Davies, Caerdydd; J. Evans, B.A., Milford; R. Thomas, Hanover; P. W. Darnton, B.A.; H. Oliver, B.A., Casnewydd; a T. Rees, D.D., Abertawy. Wedi i'r eglwys fod am ychydig fisoedd heb weinidog, trwy symudiad Mr. D. Evans i Narbeth, Penfro; ar yr 21ain o Hydref, 1869, sefydlwyd David Thomas, gynt myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, yn fugail ar yr eglwys. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistriaid H. Oliver, B.A.; P. W. Darnton, B.A., Casnewydd; J. Davies, Caerdydd; W. Morgan, Caerfyrddin; H. Jones, Ffaldybrenin. Mae yr achos yn myned rhagddo, a gwedd siriol ar bob peth.

ADOLYGIAD AR HANES Y SIR

Wrth adolygu hanes yr achos yn sir Fynwy, am fwy na dau cant a deg ar hugain o flynyddoedd, yr ydym yn barod i ddywedyd, "Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd." Mae y winwydden a blanwyd yn Llanfaches yn mis Tachwedd 1639, wedi gwreiddio a llenwi y tir. "Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod, a'i changhenau oedd fel cedrwydd rhagorol. Hi a estynodd ei changau hyd y mor, a'i blagur hyd yr afon." Er na bu y llwyddiant mor helaeth ag y buasid yn dymuno, nac mor helaeth hwyrach ag y gallesid disgwyl yn ol yr afael foreu a gafodd yr efengyl yn y sir; etto ni bu y "llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Mae yr eglwys hono oedd y pryd hwnw yn "trigo yn unig yn y coed," erbyn heddyw wedi ymledu yn 62 o ganghenau, a llawer o honynt yn cyfrif eu haelodau wrth y canoedd. Y mae sir Fynwy wedi ei rhanu yn ddau gyfundeb-y cyfundeb Cymreig yn cynwys 35 o eglwysi, a'r cyfundeb Saesonaeg yn cynwys 27 o eglwysi. Mae y rhanau brasaf o'r sir gan y Saeson, ond yn y rhanau hyny y mae lleiaf o gynydd wedi bod. A gadael allan yr achosion newydd sydd wedi eu codi yn Nghasnewydd, a'r eglwysi Saesonaeg sydd wedi eu ffurfio yn y rhanau gweithfaol, ychydig iawn o gynydd sydd wedi ei wneyd yn y rhanau hollol Seisnigaidd o'r sir, yn yr haner can' mlynedd diweddaf; ac y mae yn ddrwg genym ddyweyd fod amryw o'r eglwysi yn wanach yn mhob ystyr yn awr nag yr oeddynt yn nechreuad y ganrif bresenol. Nid yw yr hen eglwysi Saesonaeg, a ddylasai fod yn ffynonellau cryfion o ddylanwadau iachusol ar y wlad fras o'u hamgylch, wedi gwneyd ond y nesaf peth i ddim o blaid eangiad achos y Gwaredwr yn y sir; ac am yr achosion Saesonaeg yn y rhanau gweithfaol, y mae agos y cwbl a wnaed wedi ei wneyd gan y gweinidogion a'r eglwysi Cymreig, gyda chynnorthwy ychydig o gyfeillion gweithgar a haelionus y tu allan iddynt. Mae yr eglwysi Cymreig wedi darparu, nid yn unig ar gyfer eu hangenrheidiau eu hunain, ond y maent hefyd wedi gorfod darparu ar gyfer y dyfodiaid Saesonaeg, a'r Cymry sydd yn troi yn Saeson; neu yntau oddef i'w holl lafur crefyddol gael ei wrth-weithio gan ddylanwad arferion llygredig a ddygid i'w mysg gan estroniaid o iaith a chenedl.

Mae yr eglwysi Cymreig gan mwyaf oll yn gyfyngedig i'r rhanau gweithfaol o'r sir, ac felly yn cyfranogi o holl fanteision ac anfanteision yr eglwysi hyny yn gyffredinol. Dyfodiaid o siroedd Aberteifi, a Phenfro, a Chaerfyrddin, ac yn neillduol o sir Frycheiniog, ydyw llawer iawn o aelodau hynaf yr eglwysi Cymreig yn sir Fynwy. Mae yn wir fod plant llawer o'r rhai hyny yn awr, y rhai a anwyd ac a fagwyd yn y sir, yn gwneyd i fyny ran fawr o'r eglwysi; ond dyfodiaid i'r wlad oedd rhieni y rhan fwyaf o honynt. Ceir mewn amryw o'r eglwysi gryn nifer o ddyfodiaid o'r Gogledd, neu y rhai y daeth eu rhieni yn yr oes o'r blaen i lawr o'r Gogledd.

Os nad ydym yn camsynied, y mae yn eglwysi sir Fynwy yn ol eu rhifedi fwy o Ogleddwyr nag a geir mewn eglwysi o'r un dosbarth yn sir Forganwg. Dichon fod yr hawsdra gyda pha un y gallesid dyfod i lawr o'r Gogledd i'r sir, mewn blynyddau a aethant heibio, yn rheswm am hyny; a hwyrach fod y ffaith fod cryn lawer o Ogleddwyr wedi bod yn gweinidogaethu yn y sir, fel y gwelir yn hanes amryw o'r eglwysi, yn cyfrif am hyny. Ond y mae yn yr eglwysi er hyny nifer luosog o frodorion gwreiddiol y sir; ac nid ydynt, a dyweyd y lleiaf, "yn ol mewn un dawn" i'r dyfodiaid o siroedd eraill sydd wedi ymsefydlu yn eu plith; a dyfod bellach gyda hwy yn un bobl, a thrwy wahanol gysylltiadau wedi ymdoddi i'w gilydd. Ond yr oedd yr amrywiaeth yma ar un adeg yn anfantais i gyd-weithrediad. Deuai pob un o'i wlad gan dybied fod y cynlluniau a welodd yn gweithio yn yr eglwys lle y dygwyd efi fyny yn anffaeledig; ac wrth fod yn aml gynifer o wahanol gynlluniau ag oedd o bersonau, gorchwyl anhawdd yn fynych oedd atal gwrthdarawiad rhyngddynt; ac edrychai yr hen frodorion gyda llygad eiddigus ar y newydd—ddyfodiaid hyn, y rhai a ddygent eu dyeithr gynlluniau i'w plith. Hyd yr ydym wedi sylwi, yr ydym yn cael mai yr eglwysi gadwyd lwyraf oddiwrth gymysg bobl sydd wedi bod yn fwyaf unol a thangnefeddus trwy holl gyfnod eu hanes; er nad hwynt hwy bob amser sydd wedi bod yn fwyaf egniol i helaethu terfynau yr achos.

Blinwyd nifer o eglwysi y sir i raddau gofidus mewn un cyfnod yn eu hanes gan gwerylon ac ymrysonau; ac mewn rhai engreifftiau, torodd hyny allan yn ymraniadau. Cydgyfarfyddodd amryw bethau i achosi hyny. Bu ysbryd Siartiaeth yn gryf iawn yn sir Fynwy, yn arbenig, ryw ddeuddeg neu bymtheg mlynedd ar hugain yn ol. Nid yw yn perthyn i ni yma roddi ein barn ar y pwyntiau dros y rhai y dadleuent; ond y mae yn sicr fod dull y dygent eu cyffroad yn mlaen, a'r moddion gorfodol a ddefnyddid ganddynt, wedi effeithio yn andwyol ar gysur a heddwch llawer o'r eglwysi. Yr oedd rhai o'r aelodau eglwysig yn Siartiaid eithafol, ac yn cario gyda hwy i'r eglwysi yr ysbryd hyf, diofn, a dibarch i swyddogaeth ac awdurdod oedd yn hynodi Siartiaeth y dyddiau hyny; a llawer nad oeddynt yn Siartiaid proffesedig wedi cyfranogi o'u hysbryd. Cariwyd yr ysbryd gwerinol sydd wedi ei fwriadu mewn Annibyniaeth i fod yn amddiffyn i'r aelodau, i'r fath eithafion nes peryglu eu heddwch ac yspeilio eu cysur yn hollol; a dadleuai llawer dros ryddid i bob dyn "i wneyd yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun." Blynyddoedd tymhestlog oedd y blynyddoedd hyny. Siglwyd yr eglwysi gan mwyaf i'w sylfeini—gwanychwyd eu nerth i weinyddu dysgyblaeth—rhoddwyd cyfle i ddynion hyfion a siaradus ymwthio i'r golwg—sychwyd i fyny deimlad crefyddol, ac ireidd-dra ysbryd y dynion goreu—ymddangosai y gweinidogion yn fwy fel gwylwyr ar y tyrau yn sefyll er eu hamddiffyn, nag fel hedd-negeswyr yn myned allan dros eu Duw i gynyg heddwch i wrthryfelwyr—a chollwyd dros dymor lawer iawn o'r anwyldeb serchiadol hwnw rhwng gweinidogion a'u pobl sydd yn hanfodol i gysur a defnyddioldeb.

Nid ydym yn sicr i bawb o'r gweinidogion ymddwyn yn y modd doethaf dan yr amgylchiadau. Gwyddom yn eithaf da fod yn haws i ni yn awr wedi i bethau fyned heibio weled pa le a pha fodd y camgymerwyd, nag a fuasai gweithredu yn briodol pe buasem yn yr amgylchiadau; ond gan y dichon i eraill etto gael eu harwain i amgylchiadau cyffelyb, bydd gweled pa le y camsyniodd y rhai a fu o'r blaen yn help iddynt hwythau i ochel y peryglon. Tybiai llawer yn yr eglwysi fod rhai gweinidogion yn ymyraeth yn ormodol a hawliau yr eglwysi; nid yn unig yn llywodraethiad eu heglwysi gartref, ond hefyd yn eu cyfarfodydd chwarterol a'u cymanfaoedd. Yr oedd son am dderbyn eglwysi i'r cyfundeb—ceryddu eglwysi yn y cyfundeb a diarddel eglwysi o'r cyfundeb, yn rhywbeth nad ydoedd yn gydnaws a'u teimladau. Nid felly y dysgasant hwy Annibyniaeth, ac aethant i gredu fod rhyw rai am eu hysbeilio o'r rhyddid y mae Annibyniaeth yn ei sicrhau, a'u dwyn yn gaeth dan iau ryw gaethiwed. Yr ydym yn mhell o feddwl fod neb yn amcanu at ddim o'r fath beth; ond yr ydym ar yr un pryd yn addef fod y dull anochelgar y geiriwyd rhai penderfyniadau a gyhoeddwyd yn enw cyfundeb Mynwy, yn rhoddi sail i ddynion drwgdybus i feddwl hyny; yn enwedig gan eu bod cael eu cyhoeddi pan oedd Siartiaeth wedi llenwi meddyliau y lluaws a'r fath eiddigedd o swyddogaeth ac awdurdod pawb a gyfrifid mewn goruchafiaeth. Ond y mae hyn oll yn mysg y pethau a fu; ac am fwy na phum' mlynedd ar hugain, y mae eglwysi Mynwy wedi mwynhau heddwch agos yn ddidor; a thô newydd o weinidogion ac aelodau wedi codi na wyddant, ond yn unig mewn hanes, am y tymhestloedd brofodd eglwysi y gweithfeydd mewn amser a fu; ond a ddangosodd er hyny fod eu gwreiddyn yn ir ynddynt, ac y gallasant oroesi yr holl ystormydd.

Yr ydym yn teimlo fod y wedd symudol sydd wedi bod ar y weinidogaeth yn y sir yn anfantais i'w llwyddiant; ac y mae yr eglwysi Saesonig yn y rhanau gweithfaol, yn arbenig, wedi dyoddef oddiwrth hyn. Dynion ieuaingc heb gael ond ychydig o brofiad, yn dyfod i'r ardal ac heb aros yno ond dros dymor byr, nis gallesid disgwyl iddynt wneyd y gwaith sydd yn rhaid ei wneyd, cyn y bydd i achos wreiddio a chael gafael mewn ardal. Mae amryw o'r achosion Saesonaeg newyddion, wedi dyoddef yn fawr oddiwrth y mynych symudiadau sydd wedi cymeryd lle; a chyfle wedi ei roddi yn yr argyfwng rhwng y naill weinidog a'r llall, i ddynion hyfion i ymwthio i'r awdurdod o'r rhai y mae digonedd i'w cael bob amser yn nglyn ag achosion newyddion.

Mae yn nodedig i'w ganfod yn hanes eglwysi y sir yma, mai ychydig mewn cydmariaeth o'r rhai a anwyd ynddi godwyd i bregethu. Cawn nifer luosog o bregethwyr wedi codi yn eglwysi y sir; ond dyfodiaid o'r siroedd gorllewinol oeddynt gan mwyaf; nid rhyw lawer o arweinwyr sydd iddi o'r meibion a fagodd. Mae amryw wedi codi o bryd i bryd—yn wir, oddiyma y daeth y pregethwyr enwocaf yn nghychwyniad Ymneillduaeth yn Nghymru, ac y mae nifer ar y maes yn awr sydd yn weinidogion cymeradwy, ac yn bregethwyr poblogaidd, a fagwyd ynddi, ond buasai sir Fynwy yn lled amddifaid o weinidogion pe buasai raid iddi ymddibynu yn hollol ar ei phlant ei hun. Nis gallwn yn hawdd gyfrif am hyn. Dichon fod gan yr iaith Saesonaeg lawer i'w wneyd a hyn, ac y mae dylanwadau Saesonaeg yn gweithio, a dullwedd Saesonaeg i'w gweled hyd yn nod lle y mae y bobl yn siarad Cymraeg. Yr oedd cyfleusterau i'w meibion droi i gylchoedd eraill, pan nad oedd mewn llawer o ranau mwy gwledig a Chymreig, ddim ond y pulpud i godi uchelgais bachgen tlawd i ddringo iddo; ac nid ydym yn sicr fod cynhesrwydd a gwres digonol wedi bod yn y sir mewn unrhyw gyfnod yn ei hanes i fod yn fagwrfa effeithiol i bregethwyr ieuaingc. Y mae yn ffaith mai o'r eglwysi gwresocaf yn eu haddoliadau, lle y maethrinid doniau neillduol mewn gweddi, y mae mwyaf o bregethwyr wedi codi; ac yn yr adegau mwyaf tanllyd ar yr eglwysi hyny, y maent yn gyffredin yn fwyaf lluosog. Mae rhai eglwysi yn sir Fynwy wedi bod yn nodedig am eu gwresawgrwydd, ac yr ydym yn meddwl mai o'r eglwysi hyny y cododd y nifer amlaf o bregethwyr; ar yr un pryd, nid gwresawgrwydd ydyw nodwedd arbenig eglwysi sir Fynwy; ac fe allai fod hyny yn cyfrif paham na fuasai mwy o'r meibion a fagwyd ynddi yn ymgysegru i'r weinidogaeth.

Os cymerir y lledaeniad helaeth a wneir ar lyfrau a chyhoeddiadau cyfnodol yr enwad, yn safon i farnu cymeriad deallol sir wrthi, yr ydym yn meddwl y saif sir Fynwy yn lled uchel ar y rhestr. Rhoddir gan yr eglwysi dderbyniad helaeth i lyfrau da; ac y maent yn gallu mwynhau gweinidogaeth bur a sylweddol, fyddo er cynydd ac adeiladaeth yn hytrach na gweinidogaeth arwynebol na wnelo ddim ond goglais teimladau, fel y dengys y dewisiad y maent fynychaf yn ei wneyd o rai i'w llywodraethu yn yr Arglwydd, ac i'w blaenori. Mae eglwysi y sir wedi profi nad ydynt yn ol i'r siroedd eraill mewn haelioni; ac y mae rhai o honynt wedi bod yn helaeth yn y gras hwn." Os edrychir ar adroddiadau cenhadol, ac adroddiadau ein hathrofau, ceir gweled eu bod, yn ol rhifedi yr aelodau, i fyny ag unrhyw sir arall; ac y mae haelioni mawr wedi cael ei ddangos gan amryw o honynt yn nghynnaliad yr achos yn gartrefol. Yr oedd syniadau uwch yn sir Fynwy bum' mlynedd ar hugain yn ol am y gydnabyddiaeth ddylasai gweinidogion gael am eu llafur, nag oedd yn gyffredinol yn mysg eglwysi o'r un dosbarth mewn siroedd eraill. Mae siroedd eraill erbyn hyn wedi dyfod i fyny a hi, os nad wedi myned heibio iddi, ond sir Fynwy a fu ar y blaen am flynyddau.

Ond yr hyn yn arbenig sydd yn nodweddu sir Fynwy ydyw, mai yma y mae agwedd drawsnewidiol Cymru o'r Gymraeg i'r Saesonaeg yn fwyaf amlwg o un sir yn y Dywysogaeth. Mae yma eglwysi lle na phregethid gair o Saesonaeg bum' mlynedd ar hugain yn ol, na chlywir nemawr air o Gymraeg ynddynt yn awr; ac eglwysi eraill, oblegid glynu yn ormodol wrth yr iaith, wedi colli eu gafael ar yr ardalwyr, ac enwadau eraill wedi myned i mewn i'w llafur. Yr ydym mor awyddus a neb am barhad yr iaith Gymraeg, ond nid yw ond gwaith ofer i geisio rhwyfo yn erbyn y llifeiriant. Rhaid i ni gymeryd pethau fel y maent, a gwneyd y goreu o honynt. Y ffaith yw, y mae yr iaith Saesonaeg yn dyfod yn genllif dros rai rhanau o'r wlad, ac y mae sir Fynwy yn engraifft nodedig o hyny; ac os mynwn ni ddal ein gafael yn y tir sydd wedi ei feddianu gan ein tadau, a sicrhau yr oes sydd yn codi i grefydd ac i'n henwad, y mae yn rhaid darparu moddion gras iddynt yn yr iaith y maent yn medru arni. Mae y mwnau wedi eu gweithio allan mewn rhai parthau o'r sir, a lluaws o'r Cymry wedi ymfudo, fel nad yw yn debyg y gwelir yr eglwysi Cymreig yn lluosocach nag ydynt yn bresenol, ac oni wneir ymdrech egniol i ddarparu ar gyfer cynydd y boblogaeth Saesonaeg, nis gellir disgwyl y bydd i'r enwad yn y sir ddal i fyny mewn rhifedi. Mae yn dda genym weled arwyddion mor eglur fod yr eglwysi Cymreig yn teimlo hyn, ac yn cydweithredu er gwneyd y ddarpariaeth angenrheidiol. Buasai yn dda genym allu dyweyd fod yr un egni a pharodrwydd i'w weled yn eglwysi y cyfundeb Saesonaeg. Ac edrych ar bethau yn gyffredinol, yr ydym yn teimlo wrth adael sir Fynwy fod golwg iachus a chalonog ar ein henwad. Mae heddwch a chydweithrediad yn ffynu yn yr eglwysi—y pwlpudau yn cael eu llenwi gan weinidogion o fywyd pur, a doniau cymeradwy—holl sefydliadau crefydd yn cael eu cadw mewn cyflwr o fywiogrwydd a gweithgarwch; ac er nad oes llwyddiant neillduol yn cymeryd lle, nes peri "sain can a moliant yn mhyrth merch Seion;" etto y mae arwyddion amlwg a diamheuol fod yr "amddiffyn ar yr holl ogoniant."


SIR DREFALDWYN.

AMGYLCHYNIR y sir hon ar y de gan siroedd Aberteifi a Maesyfed; ar y dwyrain gan sir Amwythig; ar y gogledd gan siroedd Dinbych a Meirionydd; ac ar y gorllewin gan Feirionydd ac Aberteifi. Ei harwynebedd yw 483,323 o erwau. Mae yn y rhanau dwyreiniol o honi gryn lawer o dir bras a ffrwythlon iawn, ond mynyddig a chymharol ddiffrwyth yw ei chanol, a'i hymylon deheuol a gogledd-orllewinol. Mae ychydig o fŵn plwm ac arian yn cael ei weithio yn rhai o'i mynyddoedd, a dichon y ceir allan gydag amser eu bod yn cynwys ystor ddirfawr o hono. Yn ol y cyfrifiad yn 1861, poblogaeth y sir hon oedd 66,919. Gan nad oes yma ddim gweithfaoedd ond ychydig o waith mŵn plwm, a nifer fechan o law-weithfeydd gwlan, ar amaethyddiaeth yr ymddibyna y rhan fwyaf o'r trigolion.

Mae Ymneillduaeth yn gymharol gryf yn sir Drefaldwyn, ond nid cyn gryfed ag yn rhai o siroedd eraill y Dywysogaeth. Yr Annibynwyr yw yr enwad henaf yma, ond, yn ol y cyfrifiad a wnaed gan y llywodraeth yn 1851, y Wesleyaid oedd yr enwad lluosocaf yn y sir; y Methodistiaid Calfinaidd oedd yr ail, yr Annibynwyr oedd y trydydd, a'r Bedyddwyr oedd y pedwerydd. Y mae yma hefyd ychydig gynnulleidfaoedd o'r enwadau bychain, megis y Trefnyddion Cyntefig, (Primitive Methodists), &c. Nid yw yr Eglwys Sefydledig ond gwan iawn mewn cymhariaeth i'r Ymneillduwyr. Tuag un o bob pump o'r addolwyr, ar Sul y cyfrifiad yn 1851, oedd yn addoli yn y Llanau, ac yr oedd tri o bob pedwar o'r cyfryw yn yn mharthau Seisonig y sir, yn nghymydogaethau Trefaldwyn, y Trallwm, a'r Drefnewydd. Nid yw y Llanwyr yn y rhanau Cymreig o'r sir ond niferi bychain iawn.

Yr Hen Gapel (A) Llanbryn-mair
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llanbryn-mair
ar Wicipedia

LLANBRYNMAIR

Mae yr eglwys enwog hon yn hen iawn, ond nid yw yn gwbl eglur pa bryd, na thrwy lafur pwy, y casglwyd ac y ffurfiwyd hi. Mae yn dra thebygol mai ffrwyth gweinidogaeth Walter Cradock ydyw, yr hwn a fu yn pregethu yn Ngwrecsam gydag arddeliad anghyffredin yn y flwyddyn 1635, ac am y tair blynedd canlynol a deithiai yn achlysurol trwy siroedd Maesyfed, Maldwyn, a Brycheiniog. Yr oedd hefyd un Roberts yn bregethwr galluog yn y Sir hon, ac yn Maesyfed mor foreu a'r flwyddyn. 1634. Mae yn debygol mai hwn yw y David Roberts am yr hwn y dywedir ei fod yn ddefnyddiol iawn yn Llangurig tua y flwyddyn 1646, a fu wedi hyny yn Llandinam, ac a symudodd i Drefaldwyn, Ebrill 29ain, 1654.[51] Cafodd y dyn da hwn ei erlid yn ddidrugaredd gan Esgob Tyddewi, yn y blynyddoedd 1634 a 1635.[52] Nis gwyddom pa cyn belled yr effeithiodd ei lafur ef yn Llanbrynmair, ond gan nad oedd ond prin un pregethwr galluog ar gyfer pob Sir yn Nghymru y pryd hwnw, mae genym bob sail i farnu fod y lle hwn yn cael rhan helaeth o'i weinidogaeth.

Ar derfyniad y rhyfel cartrefol, yn 1646, a sefydliad rhyddid crefyddol, cafodd Sir Drefaldwyn ran helaeth o weinidogaeth rhai o'r pregethwyr galluocaf yn y Dywysogaeth. Tua y flwyddyn 1650, neu cyn hyny, daeth yr enwog Vavasor Powell i fy w i Ceri, ac o hyny allan, hyd ei garchariad yn 1660, mwynhaodd Siroedd Trefaldwyn a Maesyfed rhan fwyaf o'i lafur gweinidogaethol. Cafodd amryw bregethwyr galluog eraill eu sefydlu mewn gwahanol blwyfydd, megis David Roberts yn Llandinam, Rees Jones yn y Bettws, Henry Parry yn Cemmaes, a Symon Swayne yn Machynlleth. [53] Cyn terfyniad tymor llywodraeth y senedd ac Oliver Cromwell, yn ol tystiolaeth Vavasor Powell, yr oedd un-ar-bymtheg o bregethwyr galluog yn y Sir hon, a deg o'r cyfryw wedi cael eu haddysgu yn y prif athrofau. Un eglwys y cyfrifid crefyddwyr yr holl sir o 1646 hyd yn agos at derfyniad yr erledigaeth, yn 1688, er eu bod yn cyfarfod i addoli mewn deuddeg neu bymtheg o wahanol fanau tra phell oddiwrth eu gilydd. Mwynhaodd Eglwys Sir Drefaldwyn, dangnefedd hyfryd hyd nes i rai o genhadau y Crynwyr, tua y flwyddyn 1652, ddyfod i daenu eu golygiadau yn eu plith, ac ennill rhai dysgyblion, nid anenwog o blith yr aelodau, megis Richard Davies, o'r Trallwm, a Charles a Thomas Lloyd, Ysweiniaid, a rhai eraill lled bwysig o ran eu talentau a'u safle mewn cymdeithas. Cyn fod y gofid a'r terfysg, a achlysurwyd gan gyfodiad y Crynwyr, wedi tawelu, tua diwedd y flwyddyn 1655 newidiodd Vayasor Powell ei farn am fedydd, yn dra disymwth, a chymerodd ei drochi. Gan ei fod ef yn enwog a phoblogaidd, a bod ei ddylanwad yn mysg crefyddwyr y Sir yn ddirfawr, dilynwyd ei siampl gan amryw o aelodau yr eglwys wasgaredig, a chymerasant hwythau eu trochi ; ac er i Mr Powell a'i blaid ddal yn selog hyd y diwedd dros gymundeb cymysg, etto dygodd yr amrywiaeth golygiadau ar fedydd lawer o ddadleuon a theimladau annymunol i fysg yr aelodau. Gydag adferiad Siarl II, yn 1660, ac adnewyddiad yr erledigaeth, anghofiodd y crefyddwyr i raddau, eu gwahaniaeth golygiadau, a chydunasant i gydweithredu a chyd-ddyoddef dros yr egwyddorion mawrion yr oeddynt oll yn cydolygu arnynt.

Gan fod Vavasor Powell yn wr cyhoeddus ac enwog iawn, ac nid yn unig yn Ymneillduwr selog, fel crefyddwr, ond hefyd yn werinwr o ran ei olygiadau gwladyddol, a bod amryw o'i bobl yn cydolygu ag of yn y pethau hyn, dechreuodd ystorm erledigaeth ruthro ar bobl grefyddol Sir Drefaldwyn gyda y rhai cyntaf yn Nghymru ar ol adferiad Siarl II. Yn Mai 1660 y daeth y brenin i Lundain, ac yn Mehefin, yr oedd rhai o grefyddwyr Maldwyn yn ngharchar, fel y dengys y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd gan Mr Powell tua diwedd Mehefin, 1660:—

"At fy anwyl frodyr, Henry Williams, Capt. L. Price, a Thomas Fudge, carcharorion yn y Trallwm.

Anwyl Frodyr,—Yr oeddwn yn teimlo yn ddwys oherwydd eich dyoddefiadau er pan y clywais gyntaf am eich trallod, ond oherwydd fy ymrwymiadau i bregethu mewn gwahanol fanau, yn nghyda marwolaeth a chladdedigaeth y chwaer dduwiol hono yn Sir Faesyfed, nis gellais ddychwelyd hyd yn hwyr lawn y chweched dydd ; er hyny, y ddoe yn foreu, penderfynais ymdrechu sicrhau eich rhyddhad chwi, er i mi wrth hynny, o bosibl, beryglu fy rhyddid fy hun, ac felly siaredais yn gyntaf a'r Is-Sirydd, yna aethum i'r Drefnewydd gyda bwriad siarad a'r Uchel-Sirydd, heb wybod llai na fuasai yn fy anfon yna atoch chwi, canys cefais ar ddeall ei fod wedi penderfynu fy nedfrydu inau i garchar. Felly, ar ol ystyriaeth ac ymgynghoriad, mi a ysgrifenais lythyr ato, copi o ba un yr wyf yn amgau yn hwn, ac hanfonais iddo gyda Mr. Payne, yr hwn yn wir a amlygai deimlad dwys tuag atoch a throsoch chwi ; ac o'r diwedd atebodd yr Uchel-Sirydd fel y canlyn gyda golwg arnoch sef y cewch eich rhyddid y foru, ond i chwi anfon rhyw gyfeillion cyfrifol ato ef i fachnio yr ymddangoswch chwi ger ei fron ef pa bryd bynag y galwo am danoch. Gwnewch, gan hyny, yn ddioed yr oll a fedroch yn hyn, rhag i eraill etto droi ei feddwl, a rhag y dichon i hanes y cyffroadau mawr sydd yn awr yn Llundain, gyda y Post nesaf, rwystro y cwbl. Yr wyf fi dan addewid ddychwelyd y foru i Sir Faesyfed i bregethu, pe amgen buaswn yn dyfod atoch fy hun. Yr oeddwn wedi bwriadu bod gyda chwi neithiwr, ond methais orphan fy ngwaith hyd ar ol machlud haul. Yr wyf fi yn barod i ymrwymo drosoch cyn belled ag y mae fy meddianau, ac hyd yn nod fy mywyd yn myned. Yr wyf yn anfon i chwi yn y llythyr hwn un bunt a deg swllt y rhai yr wyf yn dymuno arnoch eu rhanu rhyngoch yn ol fel y mae eich hamgylchiadau yn gofyn. Dymunais yn daer trwy Mr. Payne am ryddhad i'm cyfaill gonest Sam, ond nis gellais gael un addewid am hyny nes y clywo ef rywbeth am Sir Richard Saltonstall, pa un a ydyw wedi rhoddi ei hun i fyny yn Llundain ai nad yw. Yr Arglwydd a santeiddio i chwi ac ninau ein dyoddefladau. Gallwn ddisgwyl ychwaneg o ddyoddefiadau neu waredigaeth ryfeddol yn fuan. Nid ychwanegaf gan fy mod mown brys mawr.

Eich gwir serchog Frawd,

Bore Dydd yr Arglwydd.V. Powell.

OY. Cofiwch fi at y brawd Quarrell, a'r lleill. Ar ol i chwi ddarllen y copi amgauedig, cedwch ef yn ddiogel i mi."

Ymddengys i'r brodyr gael eu rhyddhau dranoeth i ysgrifeniad y llythyr uchod, ond ychydig ddyddiau o ryddid a gawsant ; oblegid yr ydym yn cael i'r Uchel-Sirydd, Syr Mathew Price, yr hwn oedd erlidiwr creulon, anfon Capt. Price, Henry Williams, a V. Powell, i garchar drachefn yn nechreu Gorphenaf 1660.[54] Nid oedd hyn ond dechreuad gofidiau. Yn fuan, llanwyd y carcharau yn y Sir gan Ymneillduwyr i'r fath raddau, fel nad oedd yno le i ladron ac yspeilwyr ; a chymaint oedd creulondeb yr awdurdodau, fel y trinient y crefyddwyr gyda llawer mwy o anmharch a chreulondeb nag y trinient y drwgweithredwyr; ie, gosodent y drwgweithredwyr mewn ystafelloedd clud ar lofftydd y carchardy, tra y gosodent yr Ymneillduwyr i orwedd ar ychydig wellt ar y lloriau lleithion; ac yr oedd amryw o honynt wedi cael eu gosod yn ymyl y geudy (privy), o'r hwn y rhedai ysgarthion y carcharorion atynt. Yr oedd yn mysg y dioddefwyr hyn amryw amaethwyr parchus a gwragedd tyner, a rhai a fuasent ychydig fisoedd cyn hyny yn ynadon heddwch yn y sir.[55] Nis gwyddom pa nifer o bobl Llanbrynmair oedd yn mysg y dioddefwyr hyn; ond gan i'r erledigaeth barhau, agos yn ddiattal, o 1660 hyd 1688, mae yn ddiau i amryw o honynt hwy gael eu rhan o'r tywydd garw.

Bu carchariad V. Powell, Captain Price, a Henry Williams, yn nghyd a llawer ereill o aelodau " Eglwys Sir Drefaldwyn," yn 1660, a'r blynyddau canlynol, yn foddion i wasgaru y dysgyblion, ac i wneyd y winllan, i raddau pell, yn anrhaithedig; ond methodd yr holl ystormydd a'i llwyr ddifrodi. Cyfarfyddai yr amrywiol ganghenau mewn anedd-dai yn ngwahanol barthau y Sir, i gynal moddion crefyddol, er holl enbydrwydd yr amseroedd. Mae yn ddiamheu fod y gangen yn, ac oddeutu, Llanbrynmair yn cynal moddion crefyddol yn y tymor hwn, er nad ydym wedi taro wrth un crybwylliad am hyny mewn un llyfr argraffedig na llawysgrifen, fel y cawn am rai lleoedd ereill. Yn llawysgrifau Lambeth, enwir amryw leoedd yn Maldwyn lle y cynhelid cyfarfodydd gan yr Ymneillduwyr yn 1669; ac mewn hen lyfr yn y Record Office yn Llundain, sydd yn cynwys enwau y lleoedd a drwyddedwyd at bregethu yn 1672, enwir rhai manau yn y sir hon, ond ni sonir am Lanbrynmair yn y naill na'r llall o'r hen lawysgrifau hyn. Dichon mai y rheswm am hyn ydyw fod y lle yn mhell oddiwrth yr ynadon, y boneddigion, a'r offeiriaid mwyaf erlidgar, a bod yr ychydig grefyddwyr a breswylient yn y cymoedd dirgel hyn, fel y Waldensiaid yn Nyffrynoedd Piedmont, i raddau wedi dianc sylw eu herlidwyr. Yr ydym yn cael yn nyddlyfr Henry Maurice, am Awst 30ain, 1672, iddo ef y diwrnod hwnw bregethu i gynnulleidfa luosog yn Llanbrynmair, pan yr oedd ar ei daith o'r Amwythig i Leyn.

Ar ol i'r gynnulleidfa fod am lawer o flynyddau yn cyfarfod o dy i dy yn yr ardal, tua'r flwyddyn 1675, cafodd yr arch gartref sefydlog mewn amaethdy o'r enw Ty Mawr. Neillduwyd ystafell o'r ty yn lle i addoli, ac yno y buwyd yn ymgynull am bedair blynedd a thri ugain, nes y codwyd y capel yn 1739. Nid oedd yr ystafell ond bechan a diaddurn, ond bu yn gartref i'r arch nes ei dwyn i'w thrigfan sefydlog yn y capel newydd, a elwir erbyn hyn yn Hen Gapel.

Wedi carchariad Mr Powell, bu y gangen yn Llanbrynmair, yn gystal a'r canghenau ereill trwy y sir, yn mwynhau gweinidogaeth Mr Hugh Owen, Bron y Cludwr; Mr Henry Williams, o'r Ysgafell; Mr Raynallt Wilson, o Aberhafesp; Mr John Evans, o Groesoswallt, tad y Dr. John Evans, Llundain, a thri phregethwr cynorthwyol, y rhai a ddesgrifir gan yr erlidwyr fel y canlyn:—David Phillips, dilledydd, o blwyf Llandyssil; Richard Baxter, gwas amaethwr, o blwyf Tregynon; a Morris Williams, cylchwr (cooper), o Llanfyllin Mae yn ymddangos mai Mr Hugh Owen yn unig a gydnabyddid fel y gweinidog o 1660 hyd 1672. Ar yr 28ain o Awst, yn y flwyddyn hono, urddwyd Mr Henry Williams yn gynorthwywr iddo. Yr oedd Mr Henry Maurice, ac ereill, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, a gweddiwyd yr urdd weddi gan Mr James Quarrell, o'r Amwythig. Bu farw Mr Williams tua y flwyddyn 1685. Yn mhen rhyw ychydig amser ar ol hyny, urddwyd un o aelodau yr eglwys drachefn yn gynorthwywr i Mr Owen, sef Mr Raynallt Wilson, o Aberhafesp, yr hwn oedd yn pregethu oddiar y flwyddyn 1669, os nad cyn hyny. Haera Mr Joshua Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, mai Bedyddwyr oedd Mr Henry Williams a Mr R. Wilson, ond nid ydym wedi gweled un prawf o hyny yn ein holl ymchwiliadau, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. Dengys cofnodion y Bwrdd Henadurol yn Llundain fod Mr Wilson yn derbyn cymhorth blynyddol o'r drysorfa hono o 1690 hyd 1713. A ydyw yn unwedd yn debygol y buasai y Bwrdd Henadurol, y rhai oeddynt yn yr oes hono mor ragfarnllyd tuag at y bobl a alwent yn Ail Fedyddwyr, yn cyfranu arian am dair blynedd ar hugain i un o weinidogion sect y coleddent y fath ragfarn tuag ati? Mae yn hysbys fod yr Henaduriaid o'r dechreuad yn cynorthwyo gweinidogion yr Annibynwyr, fel eu gweinidogion eu hunain; ond ni ddeallasom erioed eu bod yn ddigon rhyddfrydig i gynorthwyo gweinidogion y Bedyddwyr, nes iddynt tua diwedd y ganrif ddiweddaf fyned yn Ariaid ac Undodiaid—yna taflasant eu trysorfa i raddau yn agored i Ymneillduwyr selog o bob plaid. Bu farw Mr Hugh Owen yn 1699; a'i fab Mr John Owen, yr hwn a fuasai am ychydig yn gynorthwywr i'w dad a Mr Wilson, a fu farw yn lled ddisymwth yn 1700. Tua yr amser hwn, yr oedd Mr Francis Turner, un o aelodau yr eglwys, a Bedyddiwr o farn, wedi ei alw i gynorthwyo yn y weinidogaeth, ond ymadawodd i gymeryd gofal eglwys o Fedyddwyr yn Warrington. Mehefin 16eg, 1702, cafodd Mr Rees Protheroe ei urddo gan Mr Mathew Henry, Mr D. Jones, o'r Amwythig, a Dr. Charles Owen, i fod yn weinidog i'r eglwys yn Sir Drefaldwyn; ac y mae yn sicr i'r gangen yn Llanbrynmair gael ei rhan o'i weinidogaeth yntau. Bu Mr Protheroe yn llafurio yn y Sir hon hyd 1712, pryd y symudodd i Gaerdydd. Dilynwyd ef gan Mr William Jervice yn 1713. Yr oedd amryw Fedyddwyr yn yr eglwys er dyddiau Mr V. Powell, ac nid ymddengys iddynt gael un gweinidog sefydlog yma o'u golygiadau eu hunain er ymadawiad Mr Powell, ond Mr Francis Turner, dros ychydig o amser fel gweinidog cynorthwyol. Ymddengys fod y Bedyddwyr yn anfoddlon i ddewisiad Mr Jervice, am y chwenychent gael gweinidog o'u barn eu hunain. Pa fodd bynag, aeth pethau yn mlaen yn lled dawel hyd ar ol marwolaeth yr hen weinidog Mr Wilson, yr hyn a gymerodd le ryw bryd rhwng 1715 a 1720. Yna, gan fod holl eglwysi y Sir dan ofal Mr Jervice, nis gallasai ymweled a Llanbrynmair a'i changhenau ond anfynych; ac er mwyn boddloni y rhai oedd yn yr eglwys dros fedydd trochiad, cydunwyd i gael cymhorth gweinidogion y Bedyddwyr o'r Dolau a'r Pentref yn Sir Faesyfed. Gan fod ychwaneg nag un gweinidog yn mhob un o'r eglwysi hyny, yr oeddynt yn gallu dyfod i Lanbrynmair a'r canghenau mor fynych fel yr oedd rhyw ran o'r eglwys yn cael pregeth gan y naill neu y llall ohonynt agos bob Sabboth trwy y flwyddyn. Esgorodd hyn yn raddol ar fesur o oerni rhwng y Bedyddwyr a Mr Jervice, fel mai y canlyniad fu iddo ef tua y flwyddyn 1730, neu yn i an ar ol hyny, ymadael yn hollol a Llanbrynmair, a chyfyngu ei lafur i Lanfyllin a'r canghenau perthynol i'r lle hwnw. Ymhyfhaodd y Bedyddwyr bellach yn Llanbrynmair, fel y llwyddasant i gael gan yr eglwys i roddi galwad i Mr Benjamin Meredith, o Lanwenarth, Mynwy, Bedyddiwr proffesedig. Mae yn ymddangos fod Mr Meredith yn bregethwr poblogaidd iawn, ac i'r gynnulleidfa gynyddu yn fawr yn y tymor byr y bu ef yn llafurio yno. Ar ol bod yno ar brawf am flwyddyn neu ychwaneg, cafodd ei urddo yn 1733; ond cyn pen blwyddyn ar ol hyny, ymwrthododd yr eglwys ag ef, oherwydd y barnent nad oedd yn iachus yn ei farn ar rai o brif athrawiaethau crefydd. Yn y flwyddyn 1734, galwodd yr enwog Edmund Jones o Bontypool heibio i Lanbrynmair, ac arweiniodd sylw yr eglwys at Mr Lewis Rees, gwr ieuangc gobeithiol oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Athrofa y Llwynllwyd, Sir Faesyfed.

Galwodd hefyd sylw Mr Lewis Rees at Lanbrynmair a'r amgylchoedd, fel maes nodedig i ddyn ieuangc gweithgar i lafurio ynddo. Boddlonodd Mr. Lewis Rees i fyned i Lanbrynmair ar yr amod i'w gyfaill ddyfod i'w hebrwng yno, ac a hyny y cydsyniodd yr "hen broffwyd" o Bontypool. Rywbryd yn gynar yn y flwyddyn 1734, dacw y ddau gyfaill yn cychwyn, a phan ar fynydd Carno goddiweddwyd hwy gan gysgodau yr hwyr, a chan fod y ddau yn gwbl ddyeithr aeth yn ddyryswch hollol arnynt. Maent yn Nghoedyfron yn myned yn mlaen yn araf a lluddedig, ac wedi colli y ffordd yn lan. Crwydro y maent yn ol ac yn mlaen dan gysgodau yr hirnos; ac yn ei byw ni fedrent gael allan o'r dyryswch. Yn eu penbleth dyna y ddau yn troi i ymddiddan a'u gilydd am Dduw a'i bethau. Gwresogwyd eu calon yn yr ymddiddan — llanwyd hwy a'r Yspryd Glan — a phrofasant y fath gymundeb a Duw nes yr oedd y lle iddynt yn borth i'r nefoedd. Yr oedd eu meddyliau mor dawel a gorfoleddus fel nad oeddynt yn gofalu am fyned allan oddiyno. Ond yn ddisymwth dacw hwy allan o'r coed, ac yn ddiarwybod. iddynt eu hunain pa fodd, cyrhaeddasant y Ty Mawr erbyn dau o'r gloch y boreu. Wedi cyrhaedd y ty, yn lle galw am wely fel y gallesid disgwyl i un yn ei ludded mawr wneyd, wele Edmund Jones yn myned i ystafell o'r neilldu, ac y mae yno mewn ymdrech meddwl yn gweddio dros ei gyfaill ieuangc Lewis Rees am nodded ac amddiffyn y Goruchaf drosto, ac am lwyddiant ar ei weinidogaeth. Daeth allan o'r ystafell " a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb angel," a phrofodd Llanbrynmair, a phrofodd gogledd Cymru i weddi Edmund Jones gael ei gwrando.

Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Rees, a bu yn rhyfeddol o ddefnyddiol yma, ac mewn amryw fanau eraill yn y gogledd, am lawer o flynyddau. Yn fuan ar ol sefydliad y gweinidog ieuangc lluosogodd y gwrandawyr ac amlhaodd y cymunwyr yn fawr. Cynhyrfodd hyny lid rhai o elynion yr achos fel y llwyddasant i droi y gynnulleidfa allan o'r Ty Mawr, lle buasai yn ymgynnull er's mwy na thriugain mlynedd. Yn wyneb hyn bu raid iddynt edrych allan am le i adeiladu capel, yr hwn a adeiladwyd, fel y crybwyllasom eisioes, yn 1739, a thrwy ymdrech egniol Mr Rees casglwyd digon yn fuan i dalu traul yr adeiladaeth. Bu Mr Rees yn llafurio yn Llanbrynmair, a'r ardaloedd cylchynol, o 1734 hyd 1738, cyn iddo gael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Yn Mlaengwrach, Cwmnedd, Morganwg, ei fam eglwys, yr urddwyd ef, Ebrill 13eg, 1738, pryd y gweinyddodd Meistri James Davies, Merthyr; Roger Howells, Cwmllynfell; Joseph Simons, Chwarelau Bach; Edmund Jones, Pontypool; David Williams; Richard Rees; a Henry Davies, gweinidog y lle. Dichon mai y rheswm paham yr urddwyd ef yno yn hytrach nag yn Llanbrynmair, maes ei lafur, ydoedd prinder gweinidogion yn y gogledd i weinyddu ar yr achlysur, tra yr oeddynt yn gymharol luosog ac agos at eu gilydd yn y Deheudir. Yn mhen tair neu bedair blynedd ar ol adeiladu y capel, derbyniodd Mr Rees alwad oddiwrth yr eglwys yn Maes-yr-onen, Maesyfed, a symudodd yno yn groes iawn i ewyllys ei gyfeillion yn Llanbrynmair. Yn y ty bychan wrth Hen Gapel Llanbrynmair y ganwyd Dr. Abraham Rees, mab Mr L. Rees, yr hwn wedi hyny a ddaeth yn wr enwog yn ei oes.

Yr ydym yn casglu oddiwrth ryw awgrymiad o eiddo Mr J. Thomas yn Hanes y Bedyddwyr mai yr achos penaf o'i ymadawiad oedd yr anghydwelediad oedd yn yr eglwys yn nghylch bedydd. Ond nid yw yn ymddangos iddo dori ei gysylltiad yn llwyr a Llanbrynmair, oblegid cyrchai yno yn rheolaidd bob mis drwy yr holl amser y bu yn Maesyronen; ac yn mhen tair blynedd dychwelodd yno yn llwyr er llawenydd mawr i'w gyfeillion. Yr ydym yn barnu mai yn y flwyddyn 1746 y dychwelodd. Ar ol llafurio yma drachefn gyda llawer o ddiwydrwydd a llwyddiant hyd flwyddyn 1759, symudodd i'r Mynyddbach, gerllaw Abertawe, lle treuliodd weddill ei fywyd.

Dilynwyd Mr Rees yn y weinidogaeth yn Llanbrynmair gan Mr Simon Williams. Nid ymddengys iddo ef aros yma ond rhy brin dair blynedd. Symudodd oddiyma i Dredustan, Brycheiniog lle y bu hyd ei farwolaeth. Gallwn grybwyll yma i Mr John Tibbott, un o aelodau yr eglwys, fod am rai blynyddau— yn gynorthwywr i Mr Rees yn y weinidogaeth yn Llanbrynmair, ac iddo fod yno yn llafurio am bum mlynedd ar ol ei ymadawiad. Yn 1763, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Esgeirdawe, Sir Gaerfyrddin, lle y bu farw yn 1785. Nis gwyddom pa un a gafodd ei urddo yn Llanbrynmair ai naddo.

Ar ol ymadawiad Mr Simon Williams rhoddwyd galwad i Mr Richard Tibbott, brawd Mr John Tibbott, yr hwn oedd yn aelod gwreiddiol o'r eglwys ond a fuasai am bum mlynedd ar hugain yn llafurio yn mysg Methodistiaid. Urddwyd ef yn mis Tachwedd 1762, a pharhaodd i lafurio yma gyda llwyddiant anghyffredin hyd derfyn ei oes yn 1798. Ymddengys iddo yn nhymor ei weinidogaeth, o Tachwedd 1762 hyd Ionawr 1798, dderbyn pum cant ond pedwar o aelodau i'r eglwys. Cafodd ei loni gan ddau adfywiad nodedig yn y gynnulleidfa. Y cyntaf yn 1778, pryd yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys, ac y lluosogodd y gwrandawyr fath raddau fel y bu raid helaethu y capel; yr ail oedd adfywiad bythgofiadwy 1787, yn yr hwn yr oedd dylanwadau anorchfygol yn cael eu teimlo, ac yr ychwanegwyd tua phedwar ugain a deg at yr eglwys mewn yspaid o ddeuddeg mis.

Yn nechreu y flwyddyn 1795, penderfynodd Mr Tibbott a'r eglwys, gan fod llesgedd henaint yn ei rwystro ef i gyflawni ei waith fel gynt, i roddi galwad i Mr John Roberts, un o'r aelodau, yr hwn oedd yn awr ar orphen ei amser yn Athrofa Croesoswallt, i ddyfod yn gynorthwywr yn y weinidogaeth. Urddwyd Mr Roberts, Awst 25ain, 1796 Ar yr achlysur, traddodwyd y gynaraeth gan Mr J. Griffiths, Caernarfon. Derbyniwyd ei gyffes gan Dr. George Lewis. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr R. Tibbott. Traddodwyd y cyngor i'r gweinidog gan Dr. Jenkin ac i'r eglwys gan Mr B. Jones, Pwllheli; a bu ef a'r hen weinidog yn cydlafurio gyda'r brawdgarwch mwyaf. Ar ol marwolaeth Mr Tibbott, yn 1798, rhoddodd yr eglwys ail alwad i Mr Roberts i fod yn ganlyniedydd iddo, ac i gymeryd y gofal gweinidogaothol yn gyflawn. Bu Mr Roberts yn llafurio yn y cylch pwysig hwn, gyda llwyddiant mawr, a chyda chymaint o barch ag un gweinidog yn Nghymru. Gan fod ysgol Dr. Daniel Williams yn Llanbrynmair, a chylch y weinidogaeth yn eang, a Mr Roberts yn heneiddio, teimlid fod angen cynorthwywr arno, ac fel yr oedd yn hollol naturiol disgwyl, dewisodd yr eglwys ei fab hynaf, Mr Samuel Roberts, yn gynorthwywr iddo, ac ar derfyniad ei amser yn Athrofa y Drefnewydd, derbyniodd Mr S. Roberts yr alwad, ac urddwyd ef Awst 15fed, 1827. Ar yr achlysur, traddodwyd y gynaraeth gan M. Jones, Llanuwchllyn. Gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr J. Griffith, Tyddewi. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr Jenkin Lewis, Casnewydd.. Pregethwyd i'r gweinidog ieuangc gan Mr Edward Davies, Drefnewydd, ac i'r eglwys gan Mr W.Williams, Wern. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hefyd gan Meistri C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Llanrwst; D. Morgans, Machynlleth; T. Griffiths, Hawen; J. Breese, Llynlleifiaid; W. Morris, Llanfyllin; W. Jones, Rhydybont; Williams, Llanfairmuallt; D. Williams, Llanwrtyd; J. Davies, Llanfair; J. Jones, Main; J. Ridge, Bala. [56] Llafuriodd Mr S. Roberts fel plentyn gyda thad am naw mlynedd, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar fywyd defnyddiol yr hybarch John Roberts, Gorph. 21ain, 1834.

Bu y gofal yn hollol ar Mr S. Roberts, am fwy na blwyddyn wedi marw Mr Roberts; ond ar derfyniad tymor Mr John Roberts, ail fab yr hen weinidog yn Athrofa y Drefnewydd, rhoddodd yr eglwys alwad iddo i fod yn gyd-weinidog a'i frawd, Mr S. Roberts, yn yr Hen Gapel, a'r canghenau cysylltiedig. Urddwyd Mr John Roberts Hyd. 8fed, 1835. Darluniwyd natur eglwys gan Mr J. Griffiths, Tyddewi. Gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog a'r eglwys gan Mr D. Morgan, Machynlleth. Gweddiodd Mr E. Davies, Drefnewydd, am fendith ar yr undeb. Anerchwyd y gweinidog gan Mr D. Williams, Llanwrtyd, a'r eglwys gan Mr J. Breese, Caerfyrddin. Gweinyddwyd hefyd mewn cysylltiad a'r Urddiad yn Llanbrynmair a Charno gan y Meistri H. Lloyd, Towyn; H. Pugh, Llandrillo; C. Jones, Dolgelleu; M. Jones, Llanuwchllyn; J.Griffiths, Rhaiadr; J. Roberts, Capel Garmon; R. Rowlands, Henryd; E. Price, Ruthin; T. Lewis, Llanfairmuallt; W. Jones, Amlwch; W. Rees, Heol Mostyn; D. Price, Penybont; T. Jones, Minsterley; W. Morris, Llanfyllin; J. Williams, Dinas; H. Morgan, Samah; J. Williams, Llansilyn; J. Davies, Llanfair . E. Evans, Abermaw; ac E. Hughes, Treffynon. [57]

Bu y ddau frawd yn cyd-lafurio am flynyddau, gyda pharch a dylanwad mawr, fel canlynedyddion eu tad parchedig. Trwy gysylltiadau priodasol, symudodd Mr J. Roberts am dymor, yn 1838, i Lansantsior, a bu am yspaid blwyddyn yn gofalu am yr eglwysi yn Llansantsior a Moelfra; ond heb lwyr dorri ei gysylltiad a'r eglwys yn Llanbrynmair. ystod ei absenoldeb ef bu Mr Hugh James, yn awr o Lansantffraid, yn gofalu am yr ysgol ddyddiol, yn Llanbrynmair; ac yn cynorthwyo Mr S. Roberts yn y weinidogaeth. Dychwelodd Mr J. Roberts yn mhen y flwyddyn i Lanbrynmair, a bu yno yn cydlafurio a'i frawd hyd 1847, pan y derbyniodd alwad o Ruthin, ac y symudodd yno, ac ni ddychwelodd mwyach i Lanbrynmair. Yr oedd y gofal bellach yn llwyr ar Mr S. Roberts, ond trwy gael cynorthwy athraw i'r ysgol ddyddiol, a rhoddi eglwys Carno i fynu, a chyfyngu ei weinidogaeth i'r Hen Gapel a Beulah; yr oedd yn gallu gwneyd heb gydlafurwr.

Yn 1857, gwnaeth Mr. S. Roberts ei feddwl i fyny, er galar i filoedd o'i gyfeillion yn Llanbrynmair a holl Gymru, i ymadael a hen faes ei lafur ef a'i henafiaid, ac ymfudo i America. Yr oedd canoedd, o bryd i bryd, o aelodau Hen Chapel Llanbrynmair, wedi ymfudo i America; ac yn eu plith lawer o'r dynion goreu a fu yn yr eglwys yn mhob cyfnod yn ei hanes. Dichon nad oes yr un eglwys yn Nghymru ag y mae cynifer o'i haelodau wedi ymfudo i America ag eglwys Llanbrynmair. Nis gellir myned i unrhyw sefydliad amaethyddol Cymreig, braidd trwy yr Unol Dalaethau, na welir yno rai o Lanbrynmair. Mae y cysylltiad yma sydd rhwng pobl Llanbrynmair a'u cyfeillion yn America, yn gwneyd fod yn hawdd iawn ganddynt ymfudo; a chariodd hyny, y mae yn lled sicr, yn mysg pethau eraill, ddylanwad ar feddwl Mr Roberts, er ei ddwyn i benderfyniad i adael gwlad ei dadau.

Wedi ymadawiad Mr S. Roberts, bu yr eglwys am dymor heb sefydlu ar weinidog. Ond yn gynar yn y flwyddyn 1861, rhoddasant alwad i Mr David Rowlands, B.A., myfyriwr yn Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef Mehefin 5ed a'r 6ed. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Williams, Castellnewydd. Holwyd y gofyniadau gan Mr J. Williams, Aberhosan. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr H. Morgan, Samah. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr W. Ambrose, Porthmadog, ac i'r eglwys gan Mr J. Roberts, Conway. Yr oedd yn bresenol ar yr amgylchiad tua 30 o weinidogion. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Rowlands, adgyweiriwyd y capel, a muriau y fynwent o'i amgylch, a'r rhan fwyaf o'r ysgoldai, a chafwyd Harmonium i'r capel, a thalwyd yr oll o'r ddyled. Derbyniodd Mr Rowlands alwad oddiwrth yr eglwys Seisnig yn y Trallwm, a phenderfynodd symud yno; a Hydref 30ain, 1866, cynhaliwyd cyfarfod ei ymadawiad yn Llanbrynmair, pan yr anrhegwyd ef a phwrs ac £20 ynddo, fel arwydd o'u teimlad da tuag ato; ac y cyflwynwyd anerchiad iddo wedi ei arwyddo gan y diaconiaid.

Yn Mawrth 1867, rhoddwyd galwad i Mr Owen Evans, o Wrecsam, i weinidogaethu yma, ac efe yw y gweinidog presenol.

Yr ydym yn llafurio dan anfantais i roddi hanes manwl o rif a chynydd yr eglwys hon yn ngwahanol gyfnodau ei hanes o ddiffyg defnyddiau, ac yn neillduol o herwydd fod agos holl Ymneillduwyr y sir yn cael eu cyfrif yn un eglwys hyd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac am rai blynyddau wedi hyny. Dywedir fod yr achos yn lled gryf a'r gwrandawyr yn lluosog yn Llanbrynmair yn amser gweinidogaeth Vavasor Powell, Hugh Owen, a Henry Williams; ond ymddengys iddo wanychu o flwyddyn i flwyddyn o amser marwolaeth Hugh Owen hyd ddechreuad gweinidogaeth B. Meredith; ac mai dan weinidogaeth effeithiol Lewis Rees y cyfodwyd ef i rym cyffelyb i'r hyn ydoedd yn nhymor gweinidogaeth y gweinidogion cyntaf. Yn 1715-17, pan gasglodd y Dr. John Evans, Llundain, ystadegau yr eglwysi Ymneillduol, nid oedd cynnulleidfa Llanbrynmair ond pedwar ugain a deg o rif, yn aelodau a gwrandawyr. Un tirfeddianwr oedd yn eu plith, a dau o'r gynnulleidfa oedd a phleidlais — un dros y Sir, a'r llall dros y bwrdeisdrefi. Yr oedd cangen o'r eglwys y pryd hwnw yn ymgynnull yn Nhrefeglwys, ac yn gant o rif, ond oll yn bobl dlodion, heb un tirfeddianwr, amaethwr, na masnachwr yn eu mysg. Dywed Mr Thomas yn Hanes y Bedyddwyr i'r achos gryfhau yn fawr yn mlynyddau cyntaf gweinidogaeth Mr Rees, ond ei fod wedi gwanychu drachefn cyn iddo symud o'r lle, ac mai tua chant ac ugain oedd rhif yr aelodau pan ymadawodd ef. Ond y mae yn lled sicr mai ffurfiad eglwysi gwahanedig mewn lleoedd eraill a wanychodd yr achos yn Llanbrynmair, ac nid aflwyddiant gweinidogaeth Mr Rees. Dan weinidogaeth fywiog Mr Tibbott, cynyddodd yr eglwys yn raddol a chyson, fel yr oedd yr aelodau yn y flwyddyn 1777 yn 240 o rif, o ba rai yr oedd 16 yn Fedyddwyr o ran golygiadau. Parhaodd yr achos i ychwanegu ei gryfder trwy holl amser Mr Tibbott, a'i ganlyniedydd Mr Roberts, fel yr oedd eglwys Llanbrynmair yn hir cyn marwolaeth Mr Roberts yn un o'r eglwysi gwledig lluosocaf, cyfoethocaf, a mwyaf haelionus yn y Dywysogaeth. "Am y deugain mlynedd cyntaf o'i hanes, bu y gynnulleidfa heb un lle rheolaidd i addoli, ond cyfarfyddent mewn ty, neu mewn coedwig, yn ol eu cyfleusdra a'u hamgylchiadau. O gylch y flwyddyn 1675, neillduwyd ystafell ganddynt yn y Ty Mawr at wasanaeth crefyddol, a chawsant lawer cymdeithas felus yn ystod y pedair blynedd a thri ugain y buont yn cyfarfod yno. Adeiladwyd yr addoldy yn 1739. Cafodd ei helaethu yn 1778, a'i ail adeiladu yn 1821; ac heblaw ail adeiladu yr addoldy, yr hyn a gostiodd i'r gynnulleidfa saith cant o bunau, darfu iddynt yn y pymtheg mlynedd diweddaf godi chwech o adeiladau cryfion a helaeth er cyfleusdra i wahanoh ganghenau yr ysgol Sabbothol, o werth yn nghyd dros bum cant o bunau; a darfu iddynt hefyd, yn ychwanegol at eu tanysgrifiadau tuag at gynal y weinidogaeth, a'u casgliadau at yr achos Cenhadol, Gymdeithas Feiblaidd, Athrofa Gwynedd, a sefydliadau eraill, gyfranu oddeutu chwe' chant o bunau at gynorthwyo cynnulleidfaoedd ereill yn adeiladiad eu haddoldai."[58]

Heblaw Aberhafesp a Phenarth, y canghenau o'r fam eglwys a ffurfiwyd yn eglwysi Annibynol yn y ddeunawfed ganrif, cafodd Carno, Llanerfyl, a Beulah eu gollwng i fod yn eglwysi Annibynol yn y ganrif bresenol, a gellir ystyried y rhan fwyaf o'r eglwysi o'r Drefnewydd i Fachynlleth, i raddau mwy neu lai, fel canghenau o'r hen gyff yn Llanbrynmair. Ac er fod ei merched yn lluaws, y mae yr hen fam etto yn gref a llewyrchus, heb arni ddim arwyddion henaint a methiant.

Cafodd llawer o bregethwyr, a rhai o honynt yn ddynion enwog iawn, eu cyfodi yn yr eglwys hon. Nid ydym yn sicr ein bod wedi dyfod o hyd i enwau pawb ohonynt. Wele yn canlyn gynnifer ag y gallasom ddyfod i wybod am danynt:—

Francis Turner. Bu am dymor yn weinidog cynorthwyol yn ei fam eglwys. Tua dechreu y ddeunawfed ganrif, symudodd i Warrington, lle y bu farw yn 1727, yn 73 oed. Bedyddiwr o farn ydoedd.

Richard Jenkins. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog eglwys Annibynol yn Bromesgrove. Mae yn ein meddiant lythyr a ysgrifenodd at ei hen weinidog Mr Lewis Rees, dyddiedig Ionawr 25ain, 1777, yn yr hwn y dywed ei fod yn dri ugain ac wyth mlwydd oed, a'i fod wedi bod yn y weinidogaeth yn Bromesgrove am naw mlynedd ar hugain. Tebygol iddo fod yn gweinidogaethu mewn rhyw fan neu fanau eraill cyn myned yno. Nis gwyddom pa bryd y bu farw.

John Tibbott. Gweler ei hanes ef yn nglyn ag Esgairdawe.

Richard Tibbott. Daw ei hanes ef yn ein Cofnodion Bywgraphyddol.

Benjamin Cadman. Darfu iddo yntau, fel ei gyfaill R. Tibbott, ymuno a'r Methodistiaid, a bu gyda hwy fel cynghorwr am tua thair blynedd, yna dychwelodd at ei hen frodyr. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog yn Mitcheldean, Sir Gaerloew. Yr oedd newydd fyned oddi yno yn 1777. Nis gwyddom yn mha le na pha bryd y bu farw. Dywed Mr Thomas, Hanesydd y Bedyddwyr, ei fod yn wr duwiol, er ei fod. dros fedydd plant.

David Jervice. Cymeradwywyd ef gan yr eglwys i Athrofa Abergavenny Rhagfyr 28ain, 1781. Nis gwyddom ychwaneg am dano. Mae yn debygol ei fod yn rhyw berthynas i'r hen weinidog Mr W. Jervice.

John Roberts. Gweler ei hanes ef yn nes yn mlaen.

George Roberts, brawd Mr John Roberts. Ymfudodd i'r America yn 1795, a bu yno yn enwog a defnyddiol iawn fel gweinidog a gwladwr am yn agos i dri ugain mlynedd.

David Lewis. Dechreuodd bregethu yn 1808. Ymsefydlodd yn gyntaf yn Newport, Sir Amwythig. Symudodd oddi yno i Erdington, gerllaw Birmingham. Yn 1831, ymfudodd i'r America, ac ymsefydlodd yn Pennsylvania, lle yr oedd llawer o'i geraint. Yr oedd yn nai i'r Meistriaid John a George Roberts.

John Breese, o Liverpool, ac wedi hyny o Gaerfyrddin. Rhoddir ei hanes yn nglyn a Chaerfyrddin.

Evan Davies (Eta Delta). Daw ef dan ein sylw yn nglyn a Newmarket, lle y terfynodd ei weinidogaeth.

Samuel Roberts. Dechreuodd bregethu yn 1820. Mae ei enw a'i hanes yn hysbys i bob darllenydd Cymreig. Hyderwn na fydd galwad neb am flynyddau etto ysgrifenu ei gofiant.

John Roberts, yn awr o Gonwy. Mae yn adnabyddus trwy holl Gymru wrth y ddwy lythyren J. R. Dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1830.

Thomas Owen. Ymfudodd i'r America.

John Davies. Yn awr o Spring Green, Wisconsin, America.

Evan Lewis. Gorphenodd ei yrfa pan yn parotoi i'r Coleg.

David Jones. Yn awr o Abersoch, Arfon.

Morris Jones. Gwr ieuangc o'r eglwys yma a aeth drosodd i America, a ddechreuodd bregethu yno, ac a urddwyd yn gynorthwywr i Mr George Roberts, Ebensburgh.

Y mae hen eglwys Llanbrynmair o oes i oes wedi magu llawer o wyr a gwragedd talentog, rhagorol mewn crefydd, a chedyrn yn yr Ysgrythyrau, heblaw y rhai a aethant yn bregethwyr; ond nid oes genym ddefnyddiau wrth law i roddi eu hanes, ond anfonwyd i ni y crybwyllion canlynol am rai o honynt:-

Richard Hughes, Cwmcarnedd-uchaf, yr hwn oedd yn fwy ei ddylanwad o blaid trefn, mewn byd ac eglwys, nag unrhyw Ynad Heddwch yn y Sir. Meibion iddo ef oeddynt Cadben William Hughes, yr hwn yn ngwres ei wladgarwch a ymrestrodd i'r Milisia pan oedd y gair allan fod Napoleon y Cyntaf yn parotoi at oresgyn Lloegr, a'r hwn yn nyddiau cyntaf ei ymarferiadau milwraidd, a nychodd ei iechyd, ac a gymerwyd i orphwysfa gwlad yr hedd, ar gychwyniad gyrfa nodedig o obeithiol fel gwladwr ac fel crefyddwr; a'i frawd Ezekiel Hughes, o Cleves, Ohio, cymydog a chyfaill i'r Arlywydd Harrison, a thad ynghyfraith y cariadus a'r gweithgar B. W. Chidlaw, A.C., Brawd Richard Hughes, hynach nag ef, Edward Hughes,o Gwmcarnedd-isaf, roddodd dir, ar amod hael, yn y cwr mwyaf cyfleus ar a feddai, at godi yr Hen Gapel a chael claddfa yn ei ymyl; yr hwn nas gallesid gael y pryd hyny mewn unrhyw gwr arall o'r ardal; a da genym feddwl fod yspryd hael yr hen dadau, o'r ddau Gwmcarnedd, mor wresog ag erioed, yn eu hwyrion a'u gor-wyrion. Samuel Breese, o'r Coed, yr hwn a ymollyngodd i weddio o'r galon pan ddiffoddodd ei ganwyll uwchben y weddi ysgrifenedig oedd Lewis Rees wedi gyfansoddi iddo. Yn Felin Dolcadfan, mewn cymundeb rhydd a chynes gydag eglwysi yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd, ar ol bod yn ddefnyddiol yn Mochdref a Llanwnog, y gorphenodd y dirodres Evan Roberts, tad John a George Roberts, ei yrfa yn bump a phedwar ugain. oed. Thomas Williams, o'r Felin, yr hwn oedd yn athraw tyner i ddysgyblion ieuangaf y gymdeithas grefyddol. Richard Thomas, Trefolwern, cynes iawn ei galon, a gwlithog iawn ei ddoniau gyda'r ysgol Sul. Shon Humphrey ffraeth ei ymadrodd a gwresog ei brofiad, - a'i wir weddw Catrin yr hon a gadwai " ddyledswydd'" lawn reolaidd, ar ei haelwyd isel fechan heb fod neb yno gyda hi ond teulu y nefoedd. Y cywir a'r gonest a'r diwyd Josia Jones, Braichodnant, blaenor y gan am lawer o flynyddoedd; a'i frawd ynghyfraith pwyllog, y diacon Richard Davies, Dolydan; a'r athrawus Edward Evans, Llawrycoed, yr hwn a arferai ddarllen anerch o'r Evangelical Magazine, neu bregeth o waith rhyw hen Buritan, pan y byddai y gweinidog oddicartref. Roland Dafydd, Cwmclegernant, ewythr yr efengylydd hyawdl Thomas Davies o Lanuwchllyn, a Samuel Breese o Gwmcalch, y rhai oeddynt yn enwog am eu ffyddlondeb yn dyfod dros y bryniau i'r capel yn brydlawn a difwlch, drwy bob tywydd er garwed eu llwybr. A John Hughes, Cwmcarnedd-uchaf, nodedig am ei garedigrwydd fel cymydog, ei foneddigeiddrwydd fel gwladwr, a'i ffyddlondeb fel crefyddwr. Byddai ei air yn yr eglwys yn " derfyn ar bob ymryson," ac ar ei ol ef ni ddywedid mwyach. A'i gyd-ddiacon arafaidd Athelstan Owen (brawd Mr. John Owen, T.C.), yr hwn ar gychwyniad achos Dirwest, a drodd ei Fragdy mawr yn dai annedd, rhag iddo brofi yn brofedigaeth i deuluoedd yr ardal. A'r dirodres a'r addfwyn Richard Jones, Tymawr; a'r hynaws Thomas Jones, o'r Plas, a Stephen Rees, Clegerddwr, nodedig o ran eu ffyddlondeb a'u gofal am achos Iesu Grist.

Ond yr amser a ballai i ni grybwyll am yr hen dadau a'r mamau o Gwmderwen a'r Beudyhir, a Thynygors, a Phantywaun, Ty Llwyd, Bryngwyn, a'r Hendref, a'r Pandy, a Phenygeulan, a'r Dafarn Newydd, a'r Ddolfach, y rhai a daenent berarogl Crist yn mhob cylch ac yn mhob cyfarfod lle y byddent. [59]

Diau fod llawer eraill o rai rhagorol wedi bod yn yr hen eglwys barchus hon, ac na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni. Nid ydym am grybwyll enwau y ffyddloniaid sydd yn aros; ond siaredir yn barchus am wasanaeth yr hen frawd William Jones, Tawelan, sydd yn awr yn Allen Co., Ohio, ac mor ymdrechgar y bu, yn enwedig gyda chodi yr Ysgoldy yn y Bont. Yr ydym yn gobeithio y megir yma lawer o oes i oes i fod yn ddilynwyr teilwng o'u tadau, "y rhai trwy ffydd ac amynedd sydd wedi etifeddu yr addewidion."

Mae yr hen eglwys enwog hon trwy yr oesau wedi bod yn nodedig ,am ei heddwch a'i hundeb, oddi eithr fod ychydig o rwgnachrwydd distaw wedi bod ynddi yn y ddwy ganrif ddiweddaf oherwydd amrywiaeth barn am fedydd. Parhaed heddwch o fewn eu rhagfuriau, a ffyniant yn ei phalasau hyd derfyn oesau y ddaear.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

VAVASOR POWELL. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn Cnwcglas, yn sir Faesyfed, yn y flwyddyn 1617. Yr oedd yn perthyn i rai o'r teuluoedd mwyaf parchus yn siroedd Maesyfed, Maldwyn, ac Amwythig. Ar ol bod rai blynyddau mewn ysgolion rhagbarotoawl, aeth i Goleg Iesu, yn Rhydychain, lle y dywedir iddo fyned rhagddo yn enwog mewn dysgeidiaeth. Wedi dychwelyd adref o'r Brif-athrofa, bu am ychydig amser yn cadw ysgol yn y Clun, sir Amwythig. Ei ewythr, Erasmas Powell, oedd person y plwyf hwnw, a byddai ef yn arfer ei gynorthwyo trwy ddarllen y gweddiau; ond nid ymddengys iddo erioed gael urddau esgobol. Er ei fod wedi cael addysg dda, a'i fod yn nghylch myned i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yr oedd, hyd nes yr oedd yn gyflawn ugain oed, yn hollol ddibrofiad o grefydd ysbrydol; ie, yn ddyn ieuangc coeg a difeddwl, ac hyd yn nod yn flaenor yn mysg ei gyfoedion mewn ynfydrwydd a drygioni; ond ymwelodd Ysbryd Duw yn rasol, ac i raddau yn annysgwyliadwy, ag ef. Fel yr oedd ar un Sabboth, mae yn debygol ar ol bod yn darllen y gweddiau yn yr Eglwys, ac yn ei wisg offeiriadol, nen "wisg bugailffol," fel y galwai efe hi, yn edrych ar nifer o bobl yn halogi y Sabboth gydag amryw o chwareuon ynfyd, daeth un o'r bobl a elwid y Puritaniaid yn ddygwyddiadol heibio, a chyfarchodd ef mewn modd hynaws gan ddywedyd, "A ydyw yn gweddu i chwi, Syr, yr hwn ydych yn ysgolhaig, ac yn un sydd wrth eich swydd yn dysgu eraill, i dori dydd yr Arglwydd yn y modd hwn?" Atebodd yntau yn ngeiriau y gwawdwyr yn Malachi; "Yn mha beth yr wyf fi yn ei dori? Yr ydych yn gweled nad wyf fi yn gwneyd dim ond sefyll yma. Nid wyf yn chwareu o gwbl." "Ond," ebe y dyn, "yr ydych yn ymbleseru yn yr hyn a wnant hwy wrth edrych arnynt, ac y mae Duw yn gwahardd hyny yn ei Air santaidd." Gyda hyny efe a agorodd ei Fibl, ac a ddarllenodd Esay lviii. 13, yn neillduol yr ymadrodd, "Heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd santaidd." Cafodd y geiriau y fath effaith ar feddwl y gwr ieuangc fel y penderfyn- odd na throseddai felly byth mwyach, a chynorthwyodd Duw ef i sefyll at ei benderfyniad. Ond yr oedd etto heb ei lwyr argyhoeddi o'i gyflwr colledig, a'i angen o Grist. Tua blwyddyn ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1639, arweiniwyd ef gan ragluniaeth i wrandaw "hen bregethwr ardderchog;" Mr. Wroth, mae yn bosibl, geiriau yr hwn a adawsant argraph annileadwy ar ei feddwl, yr hwn a ddyfnhawyd ar ol hyny wrth ddarllen "Y gorsen ysig," gan Sibbs, yn nghyd ag un o lyfrau Mr. Perkins. O'r diwedd, trwy weinidogaeth rymus Mr. Walter Cradock, ac amryw foddion eraill, cafodd ei arwain i ymgyflwyno yn hollol i'r Arglwydd. Nid yw yr amser, yn gywir, y dechreuodd bregethu, yn hysbys. Yn y flwyddyn 1640, pan yn pregethu mewn anedd-dy yn sir Frycheiniog, cafodd ef, a thua thriugain o'i wrandawyr, eu dal gan bymtheg neu un-ar-bymtheg o erlidwyr, y rhai a gymerent arnynt fod ganddynt warant oddiwrth yr Ynad Williams, o Lanfairmuallt. Y noson hono cawsant eu cloi mewn eglwys, a'r dydd canlynol arweiniwyd hwy i dy yr Ynad, yr hwn a'u rhoddodd dan ofal heddgeidwaid. Dranoeth, cawsant eu holi ger bron yr Ynad hwnw, a dau neu dri o Ynadon eraill, yn nghyda chwech neu saith o offeiriaid; ond ar ol hir ymgynghoriad gollyngwyd hwy gyda llawer o fygythion. Ychydig amser ar ol hyny, cafodd Mr. Powell, pan yn pregethu ar faes, yn sir Faesyfed, ei ddal a'i anfon i garchar, gan Mr. Hugh Lloyd, yr Uchel-Sirydd, yr hwn oedd yn berthynas agos iddo. Yr oedd gweinyddiad y warant wedi ei ymddiried i ddau-ar-bymtheg o heddgeidwaid, ond darfu iddynt oll ond un wrthod gwneyd dim o honi. Darfu i'r un hwnw, wrth fyned a Mr. Powell tua'r carchar, ganiatau iddo letya noswaith yn ei dŷ ei hun, yr hwn oedd ar eu ffordd tua'r carchardy, ac effeithiodd ei weddiau yn y teulu y noson hono mor ddwys arno fel nas gallasai fyned ag ef yn mhellach. Efe a adawodd y carcharor yn ei dy ei hun, ac a aeth ymaith, ond darfu i'r gweinidog erlidiedig, er rhagflaenu unrhyw ofid i'r heddgeidwad, ymrwymo gyda dau feichiau i ymddangos yn mrawdlys nesaf Maesyfed. Yn y brawdlys cafodd ei ryddhau yn anrhydeddus oddiwrth y cyhuddiadau a ddygesid yn ei erbyn, ac er mawr siomedigaeth i'w erlidwyr, gwahoddwyd ef i giniawa gyda'r barnwr. Parhaodd yr Uchel-Sirydd er hyny yn elynol iddo, ac ni orphwysodd hyd nes iddo ei erlid allan o'r wlad. Er achub ei fywyd, efe a ffodd i Lundain. Cyrhaeddodd yno yn Awst, 1642. Efe a arhosodd yn Lloegr am bedair blynedd a chwe' mis. Bu am y ddwy flynedd gyntaf yn pregethu yn Llundain, ac am y ddwy flynedd a haner ddiweddaf yn Dartford, yn Kent. Yr oedd yn rhyfeddol o boblogaidd a defnyddiol yno. Cyn gynted ag y tawelodd ystorm y rhyfel, aeth rhai o aelodau yr eglwys Ymneillduol yn sir Faesyfed, yr holl ffordd i Kent i wahodd eu bugail parchus i ddychwelyd atynt hwy. Cyn ei ddychweliad, efe a ymddangosodd ger bron Pwyllgor Cymanfa y Duwinyddion yn Westminster, yr hwn oedd wedi ei bennodi gan y Senedd i holi a chymeradwyo pregethwyr cyhoeddus, lle yr holwyd ef. Yr oedd rhai o'r Pwyllgor am iddo dderbyn urddiad Henadurol, ond gan ei fod yn Annibynwr diysgog, ac fel y cyfryw yn amheu hawl Pwyllgor o Weinidogion i urddo neb heb gydsyniad yr eglwys y bwriedid yr urddedig i weini ynddi, efe a wrthododd gymeryd ei urddo ganddynt. Ar ol ychydig ddadl rhyngddo ef a Mr. Stephen Marshall, un o aelodau y Pwyllgor, cydunwyd i roddi iddo y gymeradwyaeth ofynedig, heb iddo gymeryd ei urddo, yr hon a law-nodwyd gan ddau-ar-bymtheg o'r Pwyllgor, yn mysg y rhai yr ydym yn cael enwau Joseph Caryl, William Greenhill, Jeremiah Burroughs, Christopher Love, William Strong, Jeremiah Whitaker, Phillip Ney, &c.

Ar ei ddychweliad i Gymru, daeth yn un o'r dynion mwyaf llafurus ae effeithiol i daenu yr efengyl yn mysg ei gydwladwyr. Pregethai yn fynych ddwy a thair gwaith y dydd, ac anfynych y byddai am ddau ddiwrnod o un wythnos trwy y flwyddyn heb bregethu. Nid oedd braidd un eglwys, capel, na neuadd tref trwy yr holl Dywysogaeth lle nad oedd wedi bod yn pregethu. Byddai yn fynych yn pregethu mewn ffeiriau, marchnadoedd, ar y maesydd, ar benau y mynyddoedd, a pha le bynag y gallai gael pobl i bregethu iddynt. Mae yn anmhosibl ffurfio drychfeddwl cywir am helaethrwydd ei lafur yn Nghymru o'r flwyddyn 1646 hyd 1660.

Yr oedd Mr. Powell yn un o'r pregethwyr effeithiolaf a mwyaf poblogaidd yn ei oes, a dydd y farn yn unig a ddatguddia pa faint o ddaioni y bu yn offerynol i'w wneyd. Gan nad yw y goreu o blant Adda yn berffaith, nid oedd yntau heb ei wendid. Dichon iddo ar rai achlysuron drin offeiriaid anwybodus a boneddigion rhagfarnllyd Cymru gyda gormod o lymder, a bod angerdd ei ddyoddefiadau yn ei flynyddoedd diweddaf i'w briodoli i raddau i hyny. Efallai y gellid hefyd ddweyd ei fod i raddau yn rhy ymyrgar gyda phethau gwladol, ac yn gwneyd yn rhy eofn, yn y fath oes derfysglyd a'i oes ef, wrth wthio i'r cyhoedd ei olygiadau fel gwerinwr. Bu ei ymosodiad diarbed ar Oliver Cromwell a'i Weinyddiaeth, yn nghyd a newidiad disymwth ei farn ar fedydd yn 1655, yn gryn niwed i'w ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn Nghymru; ond wedi y cwbl, dylai ei goffadwriaeth fod yn anwyl a pharchus gan holl Ymneillduwyr Cymru.

Dichon na ddoyddefodd un Cymro yn ei oes ef gymaint dros ei grefydd a Vavasor Powell. Cafodd ei ddal yn Ebrill 1660, a'i gadw am tua naw wythnos yn ngharcharau y Trallwm a'r Amwythig. Yn Gorphenaf 1660 daliwyd ef drachefn, gan Uchel-Sirydd Maldwyn, am nad attaliai bregethu ar fygythiad y gwr hwnw. Ar ol bod am rai misoedd yn garcharor yn Maldwyn, symudwyd ef i'r Fleet Prison yn Llundain, lle y cadwyd ef yn gaeth mewn ystafell fechan, afiachus, ac aflan, am yn agos ddwy flynedd. Ar y 30ain o Fedi, 1662, symudwyd ef o Lundain i Gastell Southsea, ger llaw Portsmouth, lle y bu yn garcharor am fwy na phum mlynedd. Ar gwymp Clarendon, a lleddfiad yr erledigaeth i raddau, cafodd ei ollyngdod unwaith etto trwy orchymyn y brenin. Cyn pen llawn ddeng mis ar ol hyn, cafodd ei ddal drachefn a'i garcharu. Aethai i'r Bath a Chaerodor er mwyn ei iechyd, ac wrth fyned oddi yno adref, trwy Ddeheudir Cymru, pregethodd i gynnulleidfaoedd lluosog mewn gwahanol fanau yn sir Fynwy. Aeth i Ferthyr Tydfil, lle y pregethodd i tua mil o bobl yn agos i Eglwys y Plwyf, oddiwrth Jeremiah xvii. 7, 8. Tra yr ydoedd yn pregethu, darfu i George Jones, offeiriad y plwyf, gychwyn gyda brys tua Chaerdydd i ymofyn awdurdod i'w ddal. Yn mysg pethau eraill, tyngodd fod Mr. Powell yn cael ei ddilyn gan dorf o ddynion arfog. Yn foreu y dydd canlynol, daeth un Major J. Carne, a nifer o filwyr, i Ferthyr, a daliasant Mr. Powell yn ei letty. Pan ofynodd iddynt ar ba awdurdod yr oeddynt yn ei ddal, ysgydwodd Carne ei gleddyf, a dywedodd mai ar awdurdod hwnw. Wedi myned ag ef i Gaerdydd, rhoddwyd ef yn ngharchar yno. Cymerodd hyn le tua Hydref 1668. Ar ol llawer o ffug brawfiadau, yn Nghaerdydd a'r Bontfaen, darfu i gyfaill i Mr. Powell yn Llundain fynu cyfodi yr achos i lys uwch; ond methwyd cael gan Uchel-Sirydd Morganwg i ollwng ei ysglyfaeth o'i balfau nes ei fygwth a dirwy o gan' punt. Mai 16eg, 1669, symudwyd ef o Gaerdydd i Lundain. Ymddangosodd ger bron y Court of Common Pleas yno ar yr 22ain o'r un mis; ac er nas gellid profi un o'r cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn, ni chaniatawyd ei ryddid iddo, ond anfonwyd ef drachefn i'r Fleet Prison, yn unig er boddio ei elynion gwaedlyd. Yn y carchar hwn y bu o hyn allan nes i angau ddatod ei gadwynau am bedwar o'r gloch yn y prydnawn, Hydref 27ain, 1670. Dywedir i un o wyr y llys boreu dranoeth ddweyd wrth brenin Siarl II. "Y mae Vavasor Powell wedi cael ei ollwng yn rhydd." Pwy," ebai y brenin, "a'i gollyngodd yn rhydd?" "Brenin uwch na'ch Mawrhydi," oedd yr ateb. Ar hyny edrychai y brenin yn syn, ac aeth yn fud.

Darfu i Mr. Powell ysgrifenu tua thri ar ddeg o lyfrau. Yn yr iaith Saesonig yr ysgrifenwyd y rhan fwyaf os nid pob un o honynt, ond cyfieithwyd amryw o honynt i'r Gymraeg yn yr oes hono. Yn mysg y llyfrau a gyhoeddodd, y mae un bregeth a draddododd o flaen y senedd yn Rhagfyr 1649.[60]

HENRY WILLIAMS. Yr oedd y gwr da hwn yn byw yn yr Ysgafell, ger llaw y Drefnewydd. Mae lle ac amser ei enedigaeth yn anhysbys. Yr oedd wedi dechreu pregethu ryw gymaint o amser cyn 1660. Cafodd, fel y gwelsom, ei garcharu yn y Trallwm yn Mehefin y flwyddyn hono, a dywedir iddo fod naw mlynedd o garchar i garchar am bregethu yr efengyl Yn nghanol ei holl ddyoddefiadau parhaodd yn ffyddlon i Dduw a'i eglwys, a phregethai yn ddibaid tra y byddai allan o'r carchar. Pan gafwyd ychydig o ryddid yn 1672, cynhaliwyd cyfarfod yn agos i'r Drefnewydd, mewn lle o'r enw Gwnle, neu Gwynle, ar yr 28ain o Awst, pryd yr urddwyd Mr. Williams yn gynorthwywr i Mr. Hugh Owen, fel gweinidog amrywiol ganghenau yr eglwys Ymneillduol yn sir Drefaldwyn. Bu y dyn da a'r dyoddefydd ffyddlon hwn farw yn 60 oed tua y flwyddyn 1685. Cafodd deulu lluosog. Bu iddo ddeuddeg o blant, y rhai a dyfasant oll i'w cyflawn oed. Bu naw o honynt yn briod. Rosamond, un o'i ferched ef, oedd gwraig yr enwog Richard Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Rowell, sir Northampton. Cyhoeddodd Mr. Davies farwnad er coffadwr- iaeth am ei dad yn nghyfraith, yn yr hon y crybwylla am lawer o'i ddyoddefiadau yn achos crefydd. Dichon na ddarfu i nemawr o un Cymro, yn yr oes hono, oddi eithr V. Powell, ddyoddef mwy am ei grefydd na Henry Williams. Ymosodwyd arno unwaith pan yr oedd yn pregethu, ac wedi ei lusgo allan o'r ty, curwyd ef mor farbaraidd, fel y trodd yr erlidwyr ymaith gan dybied ei fod, fel Paul yn Lystra, wedi marw. Unwaith, pryd yr oedd yn ngharchar, ymosododd haid o erlidwyr ar ei dy, a rhoddasant ef ar dân nes ei losgi i'r llawr. Dro arall, torasant i'r ty gan ddinystrio yr holl ddodrefn; a holl ddodrefn; a thra yr oedd yr hen wr, tad Mr. Williams, yn sefyll ar y grisiau i'w hattal i'r llofft, rhuthrasant arno a lladdasant ef yn y fan. Yr oedd ei wraig ar y pryd yn feichiog, ac wrth ei bod yn ceisio dianc ag un plentyn yn ei chol, ac un ieuangc arall yn ei llaw yn cerdded, anelodd un o'r erlidwyr lawddryll ati, gan ei rhegu a bygwth ei saethu; a buasai wedi ei lladd, oni buasai fod un o'i gyd-erlidwyr yn llai ffyrnig nag ef, ac i hwnw ei rwystro. Wedi hyny, yspeiliwyd ef o'i holl anifeiliaid a chnwd ei dir, gan adael y teulu lluosog ac erlidiedig heb ddim at eu cynhaliaeth. Ond fe ddarparodd Rhagluniaeth yn garedig ar eu cyfer. Yr oedd yno gaeaed o wenith ar y pryd yn dechreu egino, yr hwn nis gallasai y gelynion ei gario ymaith. Darfu i'r cae hwnw gnydio mor anghyffredin nes peri syndod i'r holl wlad. Bu cynyrch y maes hwnw yn ddigon i wneyd i fyny am holl golledion y flwyddyn flaenorol Bu cynyrch y cae gwenith, yr hwn a ymddangosai yn debyg i wyrth, yn nghyd a diwedd truenus amryw o'r prif erlidwyr, yn foddion i lenwi yr ardal ag arswyd, fel y cafodd y gwr da lonyddwch o hyny allan. Yr oedd dau o flaenoriaid yr erledigaeth yn ynadon yr heddwch. Bu un o honynt farw yn ddisymwth wrth fwyta ei giniaw; a'r llall, wrth ddychwelyd adref o'r Drefnewydd yn feddw, a syrthiodd i'r afon Hafren ac a foddodd. Un arall, naill ai yr Uchel-Sirydd neu yr Is-Sirydd, yr hwn fuasai yn weithgar iawn yn yspeiliad y gwr da o'i anifeiliaid a chnwd ei dir, a syrthiodd oddiar ei geffyl yn ngolwg ty Mr. Williams, ac a dorodd ei wddf. "Yr oedd Henry Williams," medd Dr. Calamy, "yn ddyn cyfiawn a da, yn weithgar iawn dros Dduw, ac yn bregethwr bywiog.[61]

HUGH OWEN. Yn Mron y Clydwr, yn mhlwyf Llanegryn, Meirionydd, yr oedd ef yn byw, a thebygol mai yno y ganwyd ef, yn y flwyddyn 1637. Efe oedd perchenog y lle hwnw. Yr oedd yn fyfyriwr yn mhrif Athrofa Rhydychain pan basiwyd Deddf Unffurfiaeth yn 1662. Gan nas gallasai gydymffurfio, ymadawodd oddi yno, ac aeth am ychydig amser i Lundain, ond dychwelodd yn fuan i le ei enedigaeth, lle y treuliodd weddill ei oes i bregethu yr efengyl gyda diwydrwydd a ffyddlondeb apostolaidd i'w gydwladwyr. Yr oedd ganddo chwech o leoedd yn sir Feirionydd, a'r un nifer yn sir Drefaldwyn, lle y byddai yn arfer pregethu yn rheolaidd ; felly, nis gallasai ymweled a phob un o'r lleoedd hyn ar y Sabboth yn fynychach nag unwaith bob tri mis. O ran ei amgylchiadau bydol yr oedd yn dra chysurus; yn byw ar ei dir ei hun, ac yn berchen rhai tiroedd eraill. Fel dyn, yr oedd o dymer hynod garedig, ac yn nodedig o ofalus i beidio dolurio teimladau neb, os gallasai mewn un modd ochelyd hyny. Yr oedd yn enwog am ei ostyngeiddrwydd. Er ei fod yn uwch yn ei sefyllfa fydol na'r rhan fwyaf o'r rhai y cyfeillachai fwyaf a hwynt, etto yr oedd mor ostyngedig fel yr oedd yn wastad yn cyfrif eraill yn well nag ef ei hun. Yr oedd fel Cristion yn hynod am ei dduwiolfrydedd a'i agosrwydd at yr Arglwydd. Yr oedd yn ddigyffelyb yn ei effeithiolrwydd fel gweddiwr. Unwaith, yn nheyrnasiad Iago II., daeth Is-Sirydd Meirionydd i Fronyclydwr, a gwarant i'w gymeryd i garchar am bregethu yr efengyl. Dywedodd y gwr da ar unwaith ei fod yn foddlon myned gyda'r swyddog, ond dymunodd gael caniatad i fyned i weddi gyda ei deulu cyn ymadael, yr hyn a ganiatawyd iddo. Effeithiodd ei weddi gymaint ar y swyddwr fel y methodd a chael ar ei galon i gyffwrdd ag ef pan gyfododd oddiar ei liniau, ac aeth ymaith gan adael ei garcharor yn wr rhydd. Dro arall, cymerwyd ef trwy warant am yr un trosedd ger bron Arglwydd Powys, i'r Castell Coch. Bu yno am rai dyddiau yn garcharor, ond clywodd ei arglwyddiaeth ef yn gweddio, a thoddwyd ei deimladau i'r fath raddau, er ei fod yn Babydd, fel y dywedodd wrth ei offeiriad—"Yn sicr Cristion da yw y gwr hwn." Gollyngodd ef yn rhydd, a gwnaeth iddo addaw wrth ymadael i ymweled a Chastell Powys bob Nadolig.

Fel pregethwr, yr oedd yn hollol efengylaidd, yn effeithiol a dengar nodedig, ac felly ymgasglai lluaws i'w wrandaw i bob lle yr elai. Yr oedd yn nodedig am ei ryddfrydigrwydd. Er ei fod yn ddiysgog yn ei ymlyniad wrth ei olygiadau ei hun, yr oedd yn anwylo pawb a ddygent ddelw y Gwaredwr, pa faint bynag fuasent yn gwahaniaethu yn eu barn ar ryw bynciau oddi wrtho ef.

Cyfarfyddodd yn ystod ei fywyd llafurus â llawer o beryglon, ond gwaredwyd ef braidd yn wyrthiol amryw weithiau. Unwaith, pan yn dychwelyd adref ar noswaith dywyll iawn, collodd y ffordd, a deallodd ei fod mewn lle enbyd. Yn ei gyfyngder a'i berygl, disgynodd oddiar ei geffyl, ac aeth i weddi am gyfarwyddyd a nodded Duw. Cyn ei fod wedi gorphen gweddio, cliriodd yr wybr uwch ei ben, fel y gallodd yn rhwydd weled pa le yr oedd, a dianc o'i berygl. Dro arall, wrth fyned i'w daith i bregethu trwy y rhew a'r eira, goddiweddwyd ef gan y nos ar y mynydd, a chyfododd ystorm ddisymwth, fel y chwythid yr eira yn ei wyneb nes y methai y ceffyl fyned rhagddo. Gollyngodd ef gan hyny i fyned lle y gallai, hyd nes y cafodd ei fod yn agos i gorsydd peryglus, fel nas gallasai fyned yn mhellach. Wedi rhoddi ei ofal i'r Arglwydd mewn gweddi, gadawodd y ceffyl i fyned rhagddo, a cherddodd yntau trwy yr eira dwfn hyd haner nos, nes y teimlai ei hun mor lluddedig ac oer fel yr anobeithiai am ei fywyd. Yn Rhagluniaethol, yn mhen ychydig funudau, cafodd ei hun yn ymyl beudy, i'r hwn y ceisiodd fyned i mewn, ond cafodd fod y drws yn gloedig. Wedi ymdrechu myned i mewn am tuag awr, a phan oedd pob gobaith agos a'i adael, daeth o hyd i dwll yn y mur, trwy yr hwn y gallodd ymwthio i mewn. Gorweddodd yno rhwng y gwartheg hyd y boreu, ac yna aeth allan yr un ffordd ag y daethai i fewn. Canfu dy heb fod yn mhell, a thynodd tuag ato. Pan gurodd, cyfododd gwr y ty i'w ollwng i mewn. Cafodd fod ei wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwy- law yn ddideimlad gan oerni, ei ddillad mor ddiblyg ag estyll gan y rhew a'r eira, ac yntau braidd yn rhy wan i siarad. Cyneuodd y dyn dân da, rhoddodd iddo laeth berwedig, a gosododd ef mewn gwely cynes, lle y gorweddodd am rai oriau. Yna cyfododd, wedi adfywio yn lled dda, ac aeth y boreu hwnw i bregethu i'r lle y disgwylid ef, a phregethodd yno gyda ei fywiogrwydd arferol.

Nis gallasai llafur dibaid a theithio gwlad noeth a mynyddig ar bob math o dywydd lai nag effeithio ar y cyfansoddiad cryfaf. Felly, rhodd- odd ei iechyd yntau ffordd yn raddol, a bu farw yn y flwyddyn 1699, yn 62 oed. Pregethwyd yn ei angladd gan Mr. James Owen, Croesoswallt, yn ol dymuniad yr ymadawedig, ond gorchymynodd i'r pregethwr beidio son dim am dano ef wrth draddodi ei bregeth angladdol. Yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei gyfrif yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd twyll. Ychydig cyn ei farw, ysgrifenodd Mr. Owen lythyr o gyngor caredig i bobl ei ofal yn Meirionydd a Maldwyn, yr hwn a alwodd ei Lythyr Cymun diweddaf. Y mae o ran sylwedd fel y canlyn:—"Gochelwch fydolrwydd, rhag, fel yr ofnwyf, i'r byd, fel cancr, fwyta i fyny bob daioni mewn llawer o honoch, gan adael eich heneidiau fel cregyn sychion. Gosodwch eich hwynebau yn erbyn balchder calon, a gofelwch gadw i lawr bob meddwl uchel am danoch eich hunain ar bob cyfrif. Ymroddwch i arfer y ddyledswydd bwysig o hunan-ymwadiad; ie, llawenhewch yn mhob cyfleu i ymddarostwng i'r llwch er mwyn Iesu; gan ymdrechu bod yn barod i faddeu, anghofio, a myned heibio unrhyw beth a wneler yn eich erbyn; ymgeisiwch o flaen pob peth am heddwch. Gwyliwch rhag y dymer uchelfrydig sydd yn barod bob amser i ddywedyd, Hwy yw y troseddwyr, nid myfi; eu lle hwy yw plygu i mi, ac nid myfi iddynt hwy. Nid yw hyn ond effaith balchder, a mwy o gariad atom ein hunain nag at yr Arglwydd Iesu Grist a'i ffyrdd." Ar ol rhoddi cyfarwyddiadau i swyddwyr, ac aelodau henaf yr eglwys, gyda golwg ar y callineb a'r arafwch gofynol er rhagflaenu dadleuon yn nghylch bedydd, sylwa fod y dadleuon hyny wedi achlysuro rhwyg mawr yn Ngwrecsam, er dianrhydedd i enw Duw a mawr niwed i grefydd; a bod y rhai a gymerasent ran yn y cyfryw ddadleuon wedi cyfaddef wrtho ef iddynt wrth groes ddadleu golli presenoldeb Duw, ac iddynt osod ataliad ar y gwaith o achub eneidiau. "Yr wyf yn dymuno gwasgu hyn at eich ystyriaeth," meddai, "canys dylech oll ddymuno yn fwy am helaethu terfynau teyrnas Crist, a chael ei ddelw Ef wedi ei hargraffu ar eneidiau dynion, na'u cael wedi eu nodi gan eich hopiniynau neillduol eich hunain. Os yw delw Crist wedi cael ei hargraffu ar fy enaid, yr wyf yn sicr o gael myned i'r nefoedd; ond gallaf gael y ddau ddull o fedydd, a myned i uffern wedi y cwbl."

JOHN OWEN. Mab Mr. Hugh Owen. Yr oedd yn weinidog ieuangc gobeithiol a chymeradwy iawn, ac, ar ol marwolaeth ei dad, yr unig weinidog Ymneillduol yn Meirionydd. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa yr enwog Mr. Frankland, yn Rathmel, yn sir Gaerefrog, lle y dechreuodd ei fyfyrdodau, Tachwedd 23ain, 1639, yr un amser a Mr. Thomas Baddy, o Ddinbych. Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, dewiswyd ef yn gydweinidog a'i dad yn ei gylch gweinidogaethol eang, yn siroedd Meirion a Maldwyn. Ond er rhagored gwr ieuangc ydoedd, fe fachludodd ei haul a hi etto yn ddydd. Aeth ar neges i'r Amwythig, a chymerwyd ef yn glaf yno, yn nhy Mr. Orton, (tadcu Job Orton, bywgraphydd Dr. Doddridge), a bu farw, ar ol naw diwrnod o gystudd, yn ddeg-ar-hugain oed, Mehefin 27ain, 1700. Aeth Mr. James Owen i'w weled y nos cyn ei farwolaeth, ac amlygodd obaith a dymuniad am i'r Arglwydd arbed bywyd un oedd mor ddefnyddiol ac angenrheidiol yn Nghymru; atebodd yntau yn addfwyn, "Balchder fyddai tybied fod ar Dduw eisieu neb o honom." Pregethodd Mr. Mathew Henry ei bregeth angladdol, a dywed yn ei ddyddlyfr, wrth gyfeirio at yr amgylchiad, "Yr oedd galar dirfawr ar ei ol, ac nid heb achos, oblegid nid oedd nemawr o wyr ieuaingc cyffelyb iddo i'w cael." Bu farw y gweinidog ieuangce gwerthfawr hwn o fewn ychydig gyda blwyddyn ar ol ei dad.

RAYNALLT WILSON. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes Mr. Wilson. Dywedir yn Llaw-ysgrifau Lambeth ei fod yn 1669 yn ysgolfeistr yn Aberhafesp, a'i fod yn Ymneillduwr gweithgar. Yn nghofnodion y Bwrdd Henadurol am 1690, crybwyllir am dano ef fel pregethwr teithiol yn Maldwyn. Y flwyddyn hono, fel yr ymddengys, y derbyniodd gymhorth arianol y waith gyntaf oddiwrth y Bwrdd, ac yn 1713 y derbyn- iodd y swm olaf. Yr oedd yn fyw yn 1715, ond nid ymddengys iddo fyw yn hir wedi y flwyddyn hono. Dywedir ei fod yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ysgol feistr effeithiol. Hyn yw y cwbl a wyddom am dano.

REES PROTHEROE. Gweler hanes Caerdydd a'r Watford.

WILLIAM JERVICE. Gweler Hanes Llanfyllin.

BENJAMIN MEREDITH. Nid oes genym ddim i ychwanegu at yr hyn a nodasom mewn perthynas iddo ef.

LEWIS REES. Gweler hanes y Mynyddbach, Morganwg.

SIMON WILLIAMS. Gweler hanes eglwysi Rhaiadr, Llandrindod a Thredwstan.

RICHARD TIBBOTT. Ganwyd y gwr rhagorol hwn yn Hafodypant, yn mhlwyf Llanbrynmair, Ionawr 18fed, 1719. Efe oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Yr oedd ei rieni yn bobl dduwiol iawn, ac yn aelodau o'r eglwys yn Llanbrynmair, a chawsant yr hyfrydwch o weled pump o'u chwech plant yn proffesu crefydd, a dau o honynt yn weinidogion yr efengyl. Yr oedd Richard yn ofni yr Arglwydd o'i febyd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys cyn ei fod yn llawn bymtheg oed. Felly yr oedd mewn cymundeb eglwysig yehydig fisoedd cyn i Lewis Rees ddyfod i Lanbrynmair. Dechreuodd bregethu cyn ei fod yn gyflawn ugain oed, sef tua y flwyddyn 1738. Yn fuan wedi hyny, aeth i'r ysgol i Landdowror, dan ofal yr enwog Griffith Jones. Dichon mai Mr. Rees, ei weinidog, a'i cynghorodd i fyned yno. Y canlyniad o hyny fu, iddo ymuno a'r Methodistiaid, a bu yn aelod gwasanaethgar a defnyddiol o'r cyfundeb hwnw hyd y flwyddyn 1762, pryd y derbyniodd alwad oddi- wrth ei fam eglwys yn Llanbrynmair, ac yr ymunodd drachefn a'r Annibynwyr. Yn nghymdeithasfa y Methodistiaid, a gynhaliwyd yn y Watford, Morganwg, yn Ionawr, 1742, penderfynwyd iddo fod yn ymwelwr cyffredinol a'r cymdeithasau neu yr eglwysi ieuaingc. Mewn cymdeithasfa a gynhaliwyd yn Llanddeusant, sir Gaerfyrddin, yn Chwefror, 1742, penderfynwyd iddo fyned i sir Benfro i gadw ysgol, ond nid ymddengys i'r penderfyniad hwnw gael ei gario allan. Wedi hyny gosodwyd ef yn arolygydd y cymdeithasau Methodistaidd yn sir Drefaldwyn; a thra y parhaodd ei gysylltiad a'r Methodistiaid, bu yn ddiattal yn llenwi swyddau o anrhydedd ac ymddiried yn eu mysg. Yr oedd ei weithgarwch diflino, mwyneidd-dra ei dymer, a'i dduwioldeb seraphaidd, y fath, fel nas gallasai neb a'i hadwaenai lai na'i barchu a'i anwylo.

Wedi iddo ddychwelyd at yr Annibynwyr, ac ymsefydlu fel gweinidog yn Llanbrynmair, ymroddodd a'i holl egni i gyflawni dyledswyddau ei gylch eang a phwysig. Heblaw y llwyddiant cyson fu ar ei weinidogaeth, cafodd, fel y crybwyllwyd eisoes, ddau dymor o adfywiad nerthol, a threuliodd ei holl dymor gweinidogaethol yn serchiadau pobl ei ofal, a'r wlad yn gyffredinol. Y Sabboth olaf y pregethodd oedd Ionawr 21ain, 1798. Pregethodd ddwywaith y Sabboth hwnw, a gweinyddodd Swpper yr Arglwydd mewn dau le. Ymddangosai fel pe buasai ei gorph yn gryfach, a'i deimladau yn fwy nefolaidd nag arferol y diwrnod hwnw. Sylwai un o'i wrandawyr ei fod wrth siarad am ddyoddefiadau Iesu Grist fel pe buasai braidd yn y nefoedd, heb feddwl fawr mai dyna y tro olaf iddo yfed o ffrwyth y winwydden gyda yr eglwys ar y ddaear. Y dydd Mawrth canlynol pregethodd ei bregeth olaf, yn nhy cyfaill iddo. Dychwelodd adref dydd Mercher yn lled lesg, ond yn ddiboen, a llawn fwriadai bregethu y Sul canlynol, ond fel arall y gwelodd yr Arglwydd yn dda ordeinio. Cymerwyd ef yn glaf iawn nos Sadwrn, gan y graianwst, (gravel), a bu mewn poenau dirdynol agos yn ddiattal o'r pryd hwnw hyd Ddydd yr Arglwydd, Mawrth 18fed, 1798, pryd y rhyddhaodd angeu ef o'i holl boenau. Amlygai ymostyngiad hollol i ewyllys yr Arglwydd yn ei gystudd, a bu farw mewn cyflawn fwynhad o'r nefoedd, Claddwyd ef y dydd Iau canlynol, a'r Sabboth ar ol hyny pregethodd Mr. Roberts, ei ganlyniedydd, ei bregeth angladdol, oddiwrth 2 Sam. iii. 38, "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio heddyw yn Israel?" Bu Mr. Tibbott yn briod dair gwaith. Ni chafodd gyfoeth gydag un o'i wragedd, ond cafodd beth llawer rhagorach—duwioldeb amlwg. Cafodd bymtheg o blant, a bu deg o honynt fyw ar ei ol ef. Mab iddo ef oedd y diweddar addfwyn Mr. Richard Tibbott, Llanfyllin.

Yr oedd Richard Tibbott yn ddiarhebol am ei dduwioldeb, ei lafur crefyddol, a'i ryddfrydigrwydd. Ymddangosai ei fod yn dal cymundeb diattal a'r Arglwydd, a thrwy ei fywyd cyhoeddus o driugain mlynedd parhaodd yn sicr a diymod a helaeth yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol. Dyoddefodd beth erledigaeth. Bu am un noswaith yn garcharor yn Nolgelleu, a chafodd ei guro gan erlidwyr unwaith yn sir Gaernarfon, nes iddo lewygu dan yr ergydion. Er iddo fod mewn cysylltiad a dau enwad, cadwodd ei gymeriad a'i barch trwy ei oes gyda y ddwy blaid: ie, yr oedd yn sefyll mor uchel yn ngolwg y byd crefyddol yn gyffredin, fel y croesawid ef i bulpudau y tri phrif enwad—y naill fel y llall. Cyhyd ag y parhaodd ei nerth, teithiai yn fynych trwy Ogledd a De, a phregethai yn ei deithiau yn ddiwahaniaeth yn nghapeli pob enwad. Er na chawsom le i ddeall ei fod yn bregethwr anghyffredin o fawr, etto yr oedd yn boblogaidd iawn ar gyfrif ei gymeriad santaidd, ei ysbryd nefolaidd, ei athrawiaeth nefolaidd, ei synwyr cyffredin cryf, a'i dymer fwyn a diragfarn. Ni chafodd nemawr o fanteision addysg, heblaw ysgol gyffredin yn y wlad, ac ychydig fisoedd yn Llanddowror, ond yn ol tystiolaeth Dr. Edward Williams, yr hwn a ysgrifenodd gofiant iddo i'r Evangelical Magazine, am 1802, yr oedd, trwy ei ddiwydrwydd personol, wedi dyfod yn gryn gyfarwydd yn y Groeg a'r Lladin, ac i wybod ychydig o'r Hebraeg. Etto nid ar ei ysgolheigdod, ond ar ei ddaioni a'i ddefnyddioldeb, yr ymddibynai ei enwogrwydd.

JOHN ROBERTS. Ganwyd y gwr enwog ac anwyl hwn yn Bronyllan, plwyf Mochtref, Maldwyn, Chwefror 25ain, 1767. Yr oedd ei rieni yn ddynion duwiol iawn, ac yn aelodau o'r eglwys Annibynol yn Llanbrynmair, ond yn perthyn yn benaf i'r gangen o honi a ymgynnullai yn Aberhavesp. Bu ei dad yn aelod eglwysig am ddeng mlynedd a thriugain. Yr oedd ei dad a'i fam yn ofalus iawn am ddwyn i fyny eu teulu lluosog yn ofn yr Arglwydd. I ymddyddan a gymerodd le rhyngddo a'i fam y priodola Mr. Roberts ei argraffiadau crefyddol cyntaf. "Pan o gylch pedair oed," meddai, "cefais yr hyfrydwch un noson o gysgu gyda'm mam. Wedi i ni orwedd yn y gwely, treuliwyd ganddi beth amser i ddysgu i mi weddi yr Arglwydd. Gofynais iddi, A oedd raid i mi farw? Attebodd hithau, Fod pawb i farw, a'm bod inau i farw; ond fod genyf enaid i fyw byth mewn byd arall: ac wrth geisio gwasgu ar fy meddwl fy mod i fyw byth, torodd allan i wylo, ac wrth ei chlywed, ymollyngais inau i wylo, a gwnaed argraff y pryd hyny ar fy meddwl nas gellir byth ei ddileu. Mynych iawn y cofiwn ar ol hyn, pan, dichon, yn nghanol difyrwch fy mebyd, fod genyf ENAID I FYW BYTH; a byddai pob adgofion o'r tro hwnw yn gwneyd dwys argraffiadau ar fy meddwl, ac yn peri i mi wylo llawer; a diau genyf y gallai mamau etto fod o fythol les i'w plant bychain, wrth geisio gwasgu yn fore ar eu meddyliau eu bod i fyw byth. Dros lawer o flynyddoedd ar ol hyn, parhaodd fy meddwl mor dyner, nes bod arnaf arswyd bron beunyddiol rhag gwneuthur dim a anfoddlonai yr Arglwydd. Pan oeddwn o gylch un ar ddeg oed, bu farw fy mam, a pharodd hyny i mi feddwl gyda mwy o ddwysder nag erioed am angeu, a byd tragywyddol. Ar ol hyn cefais y budd a'r fraint o gysgu gyda'm tad, yr hyn a fu o fendith neillduol i mi, am ei fod ef, drwy hyny, yn cael mynychach hamdden i'm hyfforddi yn y pethau a berthynent i'm heddwch diddarfod. Yr oeddwn weithiau y pryd hyny, pan yn wan a chlaf yn y gwely, yn teimlo hyfrydwch nas medraf ei ddarlunio, wrth glywed fy nhad yn darllen a gweddio yn y teulu, ac wrth fyfyrio ar dosturi a chariad y Gwaredwr yn ymostwng i farw dros euog bechadur; a melus iawn genyf heddyw ydyw adfeddwl am ddwysder a serchogrwydd y cynghorion a'r cyfarwyddiadau a roddwyd i mi gan fy rhieni o gylch triugain mlynedd yn ol."

Pan yn ddwy ar bymtheg oed ymadawodd a thy ei dad ac aeth i fyw at geraint iddo yn Aberhafesp, ond ni chafodd nemawr o fanteision crefyddol yno. Denwyd ef i gymdeithasu a dynion ieuaingc diofn Duw, ac yn raddol i hoffi eu cyfeillach ac i ddysgu eu ffyrdd. Er na ddarfu iddo syrthio i unrhyw anfoesoldeb cyhoeddus, ymollyngodd i raddau pell o ddideimladrwydd am achos ei enaid. Ar ol bod yno ddwy flynedd arweiniodd Rhagluniaeth ef i ardal Llanbrynmair, a thrwy ddylanwad ei chwaer henaf, yr hon oedd yn nodedig am ei duwioldeb, cafodd ei ennill i fyned yn gyson i'r cyfarfodydd crefyddol, ac yn fuan daeth i deimlo dylanwad crefydd ar ei enaid. Hydref 29ain, 1786, ymunodd a'r eglwys yn Llanbrynmair, ac ymroddodd ar unwaith i fod yn weithgar a defnyddiol; dywed nad oedd dim a roddai fwy o hyfrydwch i'w feddwl na chael cyfleusdra i ymddyddan a'i gyd-ieuengetyd am bethau tragywyddol. Yn fuan ar ol ei dderbyniad i'r eglwys teimlodd awydd yn ei feddwl am ymroddi i waith y weinidogaeth, ond bu am rai blynyddau mewn petrusdod rhag ofn mai oddiar gau ddybenion yr oedd y meddyliau hyny yn ymgodi ynddo. Pa fodd bynag, ar anogaeth Mr. Tibbott a'r eglwys, dechreuodd gynghori ychydig yn y cyfeillachau; ac ar y Sabboth, Ionawr 21ain, 1790, pregethodd ddwywaith yn gyhoeddus yn Mnafon a Phenarth. Yn y Mawrth canlynol aeth i'r Athrofa i Groesoswallt, ar ei draul ei hun, a bu yno yn dysgu Lladin hyd y Sulgwyn y flwyddyn hono. Treuliodd wyliau y Sulgwyn yn Llanuwchllyn gyda Mr. Abraham Tibbott, ac aeth yn mlaen yno gyda y Lladin gyda mwy o rwyddineb braidd nag yn Nghroesoswallt. Yn niwedd Gorphenaf yr un flwyddyn aeth o Lanuwchllyn i Bwllheli, lle yr arosodd hyd y Nadolig dan addysg Mr. Benjamin Jones. Yn Ionawr, 1791, derbyniwyd ef i'r Athrofa yn Nghroesoswallt ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain. Bu yno am flwyddyn dan ofal Dr. Edward Williams, ac y mae ei athraw dysgedig yn ei adroddiad o sefyllfa yr Athrofa yn Rhagfyr, 1791, yn dweyd fel y canlyn am dano:—
"John Roberts, a ddechreuodd ei fyfyrdodau yn Ionawr, 1791. Y mae efe wedi mynel rhagddo yn araf ond yn sicr (slow and sure). Gyda'r Lladin a'r Gramadeg Groeg y mae ef wedi bod yn benaf trwy y flwyddyn. Mae yn debygol y gwna efe bregethwr difrifol a phrofiadol." Yn nechreu y flwyddyn 1792 rhoddodd Dr. Williams ei swydd i fyny fel athraw ar ei symudiad i Birmingham, yr hyn oedd yn ofid mawr i Mr. Roberts, am ei fod yn edrych ar ei athraw fel un o'r dynion goreu a adnabuasai erioed. Ar ymadawiad Dr. Williams symudwyd yr Athrofa i Wrecsam i fod dan ofal Dr. Jenkin Lewis, a chafodd Mr. Roberts bob peth a ddymunai yn ei ail athraw drachefn. Bu dan addysg Dr. Lewis am dair blynedd, a pharhasant yn gyfeillion mynwesol tra ar y ddaear. Aeth Mr. Roberts y holl ffordd o Lanbrynmair i'r Casnewydd i bregethu pregeth angladdol ei hen athraw, yn 1831.

Tua naw mis cyn terfyniad ei amser yn yr athrofa, derbyniodd alwad serchog oddi wrth ei fam eglwys yn Llanbrynmair, i ddyfod yn gynorthwywr i'w hen weinidog Mr. Tibbott. Atebodd hi yn gadarnhaol, a dechreuodd ei weinidogaeth yno y Sul cyntaf o Ionawr 1795. Ei destynau y Sabboth hwnw oedd, yn y boreu, 1 Cor. ii. 2; ac yn y prydnawn, 2 Thes. iii. 1. Cynhaliwyd cyfarfod ei urddiad Awst 25ain, 1795. Bu Mr. Tibbott a Mr. Roberts yn cydlafurio yn gysurus a thangnefeddus hyd derfyn oes yr hen weinidog yn 1798; yna rhoddodd yr eglwys alwad newydd iddo ef i fod yn ganlyniedydd i Mr. Tibbott. Parhaodd i lafurio yn y maes eang a phwysig hwn gyda llwyddiant a pharch digyffelyb hyd derfyn ei oes weithgar a defnyddiol.

Bu y gweinidog rhagorol hwn farw, fel y bu fyw-mewn cymundeb agos a'r Arglwydd. Cafodd rai misoedd o gystudd cyn i'w ysbryd gael gollyngdod o'r babell bridd, ond dyoddefodd y cwbl yn dawel a chydag ymostyngiad i ewyllys ei Arglwydd. Bu farw mewn tangnefedd ychydig funudau wedi dau o'r gloch y boreu Gorphenaf 21ain, 1834. Claddwyd ef yn meddrod ei dad yn mynwent eglwys blwyfol Llanbrynmair, a dilynwyd ei gorff i'r gwely pridd gan dorf ddirfawr o alarwyr. Gweinyddwyd ar achlysur y claddedigaeth gan Mr. Morgans, Machynlleth; Mr. Griffiths, Tyddewi; Mr. Williams, Wern; Mr. Jones; Dolgellau; Mr. Jones, Llanuwchllyn; a Mr. Davies, Drefnewydd.

Mae yr enwau Llanbrynmair a John Roberts wedi eu cysylltu yn anwahanedig a'u gilydd, ac y maent yn rhwym o ddisgyn yn nghyd i'r oesau dyfodol. Nid oedd un gweinidog yn Nghymru yn ei oes a'i enw yn fwy adnabyddus trwy Gymru, Lloegr, ac America, na "Roberts Llanbrynmair." Nid ei fawredd a'i hyawdledd fel pregethwr a ennillodd yr enwogrwydd yma iddo, ond cydgyfarfyddiad amryw bethau eraill, y rhai nad oes gan un gweinidog ieuangc, yn enwedig yn yr oes hon, un esgus am fod yn amddifad o honynt.

Yr oedd John Roberts yn ddyn boneddigaidd a gweddaidd iawn yn ei ymddangosiad; cadwai lwybr canol rhwng y gwladwr trwsgl ac afler, a'r coegyn dirmygus. Mae mwy o gysylltiad rhwng ymddangosiad corfforol dyn a'i barch neu ei anmharch mewn cymdeithas nag a feddylia llawer. Nid ychydig o ddynion, da ar y cyfan, sydd wedi anafu eu defnyddioldeb a'u parch i raddau mawr trwy drwsgledd ac anfoesgarwch eu hymddangosiad.

Yr oedd ei serchogrwydd a mwyneidd-dra ei dymer yn gwneyd llawer iawn i'w gymeradwyo i ffafr y cyhoedd. Er mwyneiddied a boneddiced dyn ydoedd, nis gallodd fyned trwy anialwch y byd hwn heb gael llawer brathiad i'r byw gan ddrain a mieri cymdeithas; ond dioddefodd y cwbl gyda mwyneidd-dra a boneddigeiddrwydd teilwng o weinidog a Christion. O herwydd iddo fabwysiadu golygiadau duwinyddol mwy rhydd ac eang ar drefn yr efengyl na'r hyn a gyhoeddid yn gyffredin yn yr oes hono, cafodd lawer o'i enllibio a'i erlid, nid yn unig gan enwadau eraill, ond hefyd gan rai brodyr lled ddylanwadol yn ei enwad ei hun; ond dyoddefodd bob ymosodiad a wnaed arno yn addfwyn ac heb roddi sén am sén. Nis gwyddom iddo erioed ad-dalu ymosodiadau ei wrthwynebwyr arno gyda chwerwder annghristionogol mewn gair nac ysgrifen. Er ei fod yn nodedig am ei fwyneidd-dra, etto ni oddefai i'w dynerwch beri iddo waeddi ïe gyda phawb a phob peth. Er mwyneiddied ydoedd, yr oedd yn ddigon gonest a gwrol i ddweyd wrth ei gyfeillion a'i gydnabod ei farn am eu colliadau, ond gwnelai hyny yn y fath fodd hynaws nas gallasai un dyn a gradd o deimlad crefyddol ynddo lai na'i garu a'i barchu am ei onestrwydd.

Yr oedd yn enwog am ei synwyr cyffredin, a'i ofal i beidio gwneyd na dweyd dim yn anheilwng o'r swydd santaidd yr oedd ynddi. Mae diffyg synwyr cyffredin wedi bod yn fynych yn llawn cymaint o niwed i ddefnyddioldeb gweinidogion a diffyg duwioldeb. Dymunwn alw sylw pob pregethwr ieuangc at y frawddeg ganlynol a ysgrifenodd Mr. Roberts tua deunaw mis cyn ei farwolaeth: Rhydd i mi gryn hyfrydwch i feddwl na ffurfiais erioed, gyda golwg ar briodi, unrhyw gyfeillach â neb, ond â'r un ag y mae genyf le i feddwl oedd wedi ei hamcanu i mi." Pe byddai pob pregethwr yn ofalus na byddo dim yn ei eiriau na'i weithredoedd yn anheilwng o'r swydd gysegredig y mae wedi ymgymeryd â hi, rhagflaenid llawer o waradwydd i grefydd a gwawd annuwiolion. Dylai pregethwr yr efengyl fod yn mhob peth yn un nas gellir ar dir teg ei feio; ac yr oedd John Roberts, yn ol tystiolaeth ei gydnabod yn gyffredinol, yn un o'r fath. Yr oedd yn ddyn llafurus a defnyddiol anghyffredin. Ymddengys mai gwasanaethu Duw ac achub eneidiau dynion oedd holl waith a hyfrydwch ei fywyd. Yr oedd yn dal ar bob cyfleusdra i wneuthur daioni, trwy siarad, ysgrifenu, ac ymddwyn yn ddoeth a theilwng o'i swydd. Un hynod ydoedd am ymddyddan yn bersonol â dynion mewn oed ac à phlant am fater eu heneidiau. Dywed ei hun iddo gael mwy o brofion ei fod wedi bod yn ddefnyddiol i bersonau neillduol trwy ymddyddanion personol na thrwy ei weinidogaeth gyhoeddus. "Dymunwn," meddai, fod bob amser yn barod i ymddyddan am grefydd; a bod yn daer mewn gweddi am gyfleusdra beunyddiol i wneuthur neu ddywedyd rhyw- beth er iachawdwriaeth dragywyddol fy nghyd-anfarwolion." Anfynych, os un amser, yr ysgrifenai lythyr cyfrinachol at neb heb son rhywbeth am grefydd ynddo, a chafodd amryw brofion fod llythyrau a ysgrifenasai wedi bod yn foddion i achub eneidiau.

Ond yr hyn a osododd arbenigrwydd arno, a'r hyn a wnaeth ei enw yn enw cenedlaethol, ydoedd y rhan neillduol a gymerodd yn nadleuon duwinyddol y ganrif bresenol. Mae ei enw yn adnabyddus fel un o'r rhai blaenaf, yn wir y blaenaf oll yn Nghymru, o amddiffynwyr yr hyn a elwid yn system newydd. Yr oedd Andrew Fuller a Dr. Edward Williams o'i flaen wedi datgan yr un golygiadau yn Lloegr; ond efe oedd y cyntaf i'w cyhoeddi yn Nghymru, ac ni wnaeth neb fwy drostynt nag a wnaeth efe. Eglurai hwy yn bwyllog a manwl, ac amddiffynai hwy yn gryf a phenderfynol, ac etto yn ddoeth a boneddigaidd. Goddefodd wg ac anfoddlonrwydd llawer o'u herwydd—triniwyd ef fel heretic a chyfeiliornwr peryglus ymosodwyd arno mewn cynhadleddau a thrwy y wasg—a chauwyd rhai o bulpudau ei enwad ei hun yn ei erbyn; ond daliodd y cwbl heb gyffroi na chythruddo, na dywedyd geiriau caledion am ei wrthwynebwyr cryfaf. Cael allan y gwirionedd oedd ei amcan ef, ac yr oedd ganddo hyder diderfyn yn hwnw y dygai farn i fuddugoliaeth. Mr. James Griffiths, o Fachynlleth, wedi hyny o Dyddewi, oedd un o'r rhai cyntaf o'i gyd-lafurwyr a syrthiodd i mewn a'r un golygiadau; a chawsant ill dau lawer cyfle i ymddyddan a'u gilydd arnynt cyn anturio eu pregethu yn gyhoeddus. Yn Nghymanfa Treffynon, a gynhaliwyd yn 1809, yr anturiasant gyntaf i draethu eu golygiadau mewn Cymanfa; ac yr ydym yn teimlo yn dra sicr yn ein meddwl iddynt wneyd hyny oddiar ragfwriad, fel rhai yn teimlo fod eu rhwymedigaeth i'r gwirionedd yn galw arnynt i'w datgan yn gyhoeddus. Pregethodd Mr. James Griffiths yn y Gymanfa hono y noson gyntaf oddiar Heb. v. 9-"Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn awdwr iachawdwriaeth dragywyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo." Ni chawsom gyfle i weled pregeth Mr. Griffiths, gan na chyhoeddwyd hi; ond gallwn gasglu mai y wedd ymarferol i'r gwirionedd a ddelid allan ganddo fod ufudd-dod i'r efengyl yn hanfodol er derbyn rhinwedd yr iachawdwriaeth. Nid oedd y gwirionedd hwnw mewn un modd yn dderbyniol yn y dyddiau hyny. Edrychid ar yr iachawdwriaeth fel rhyw drefniant mawr i ddyogelu cadwedigaeth, yn annibynol hollol ar bob ymddygiad o eiddo dynion. Dichon na ddywedid yn eglur nad oedd gan ddyn ddim i'w wneyd er ei gadwedigaeth; ond yr oedd tôn yr athrawiaeth yn amlwg yn cyfleu syniad felly. Ofnent hwy alw ar ddyn i wneyd ei waith, rhag i hyny gymylu graslonrwydd yr iachawdwriaeth. Ac yr oedd gwaith Mr. Griffiths yn pregethu—fod ufudd-dod i'r efengyl yn hanfedol er derbyn rhinwedd yr iachawdwriaeth-yn athrawiaeth newydd a dyeithr gan lawer.

Pregethodd Mr. J. Roberts dranoeth ar Sancteiddhad, oddiar Lev. xx. 7, 8 "Ymsancteiddiwch gan hyny a byddwch sanctaidd; canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. Cedwch fy ngorchymynion a gwnewch hwynt, myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd." Sancteiddiad fel gwaith Duw ac fel dyledswydd dyn yw baich y bregeth; ac ni ddarllenasom ddim erioed sydd yn fwy clir a goleu ar y mater; ac y mae mor gynil a chymedrol fel y mae yn syndod i ni beth a allasai fod yn dramgwyddus ynddi i neb. Cyhoeddwyd y bregeth yn y Dysgedydd am Mai 1834, yn mhen pum mlynedd ar hugain ar ol ei thraddodi, wedi ei hanfon i'r Swyddfa yn llawysgrif Mr. Roberts ei hun, gyda nodyn o'i blaen yn hysbysu iddi gael ei thraddodi yn Nghymanfa Treffynon, a chyda dymuniad am iddi gael ei hargraffu. Yr oedd hon yn un o'r pethau diweddaf, os nad yn wir y peth diweddaf oll, aysgrifenodd Mr. Roberts i'r wasg, oblegid bu farw cyn pen deufis ar ol ei hymddangosiad; lle y gwelwn fod yr hybarch Mr. Roberts yn glynu hyd y diwedd wrth y gwirioneddau goruchel a gredasai ac a bregethasai dros ei holl fywyd. Ail gyhoeddwyd y bregeth yn yr Annibynwr am Chwefror ac Ebrill 1864, o'r un llawysgrif ag y cyhoeddwyd hi yn y Dysgedydd ddeng mlynedd ar hugain cyn hyny; wedi ei hanfon gan Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yr hwn oedd bresenol yn Nhreffynon, ac yn gwrando y bregeth. Gwrandawai y rhan fwyaf o'r gweinidogion yn Nhreffynon ar Mr. R. yn amheus iawn, canys yr oedd "yn dwyn rhyw bethau dyeithr i'w clustiau." Addefai Mr. Williams, o'r Wern, yr hwn oedd yn bresenol yn y Gymanfa, ac yn gwrando y ddwy bregeth, wrth gyfaill i ni yn mhen deng mlynedd ar hugain ar ol hyny, ei fod yn meddwl ar y pryd eu bod yn cyfeiliorni yn ddychrynllyd; ond ni bu yn hir cyn mabwysiadu yr un golygiadau, ac ni wnaeth neb wedi hyny yn ei oes fwy, o'r pulpud yn arbenig, i wrthweithio llifeiriant Antinomiaeth oedd wedi dyfod yn genllif dros eglwysi ein gwlad.

Cyhoeddodd Mr. Roberts ddau draethawd ar y mater yma—y cyntaf yn 1814, dan yr enw Cynygiad Gostyngedig, mewn ffurf o ddau lythyr at gyfaill; ac yn y flwyddyn 1820, cyhoeddodd Galwad Difrifol, neu y Llyfr Glas, fel y gelwid ef yn gyffredin, yn yr hwn yr eglura yn helaethach yr un egwyddorion. Dadleuodd lawer ar ddalenau y Dysgedydd a'r Seren Gomer, ar y pynciau sydd mewn dadl rhwng Calfiniaid ac Arminiaid; ac ar y pynciau y gwahaniaetha Calfiniaid oddi wrth eu gilydd arnynt. Yr oedd yn un o'r dadleuwyr tecaf a mwyaf boneddigaidd a ymaflodd mewn ysgrifell erioed. Ni chymerai byth fantais annheg ar ei wrthddadleuydd —ni phriodolai iddo olygiadau na ddatganwyd ganddo—ni chynygiai ei ddal yn gyfrifol am ei gasgliadau ei hun oddi wrth ei olygiadau—ni roddai hyd yn nod, yr hyn oedd weithiau yr ystyr mwyaf naturiol i ymadroddion, os gwyddai nad y meddwl hwnw a gysylltai yr ysgrifenydd a hwy—ni wnai ddim mewn un modd a fyddai i'r gradd lleiaf yn anghydweddol a'r ymchwiliad gonestaf a mwyaf diffuant am gael allan y gwirionedd. Dadleuodd gymaint ag odid neb yn ei oes; ond dadleuodd fel ymofynydd didwyll am wybod ewyllys ei Arglwydd.

Ond coron ei holl ragoriaethau eraill, a'r hyn a roddai fywyd a dysglaerdeb yn y cwbl oedd ei dduwioldeb amlwg, a'r cymundeb agos a chyson a ddaliai a'r Arglwydd. "Dyn Duw" ydoedd yn llawn ystyr yr ymadrodd. Yma yr oedd "cuddiad ei gryfder." Nid oedd uwchlaw llawer o'i frodyr am nerth ei alluoedd meddyliol; ac yr oedd ar ol i lawer o honynt yn yr elfenau hyny a ystyrir yn angenrheidiol i wneyd pregethwr poblogaidd, etto trwy gydgyfarfyddiad y pethau rhag—grybwylledig; a'r oll wedi eu bedyddio a duwiolfrydedd anarferol, daeth i fod yn un o'r dynion mwyaf enwog, parchus, a defnyddiol yn ei oes; a darllenir gan yr oesau a ddel ar ol gydag edmygedd, am "lafurus gariad" yr bybarch John Roberts, Llanbrynmair.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llanfyllin
ar Wicipedia

LLANFYLLIN.

Er ein bod wedi rhoddi y flaenoriaeth i Lanbrynmair, dichon fod yn anhawdd penderfynu pa un ai y gangen yno o eglwys sir Drefaldwyn ai y gangen yn nghylchoedd Llanfyllin a ymffurfiodd yn eglwys Annibynol gyntaf. Mae yn dra eglur pa fodd bynag fod yr eglwys yn Llanfyllin yn gallu dilyn ei hanes yn lled ddifwlch hyd y flwyddyn 1640, pryd y gweinyddid iddi gan yr hyglod Vavasor Powell, a'r hwn hefyd a barhaodd i fwrw golwg drosti cyn belled ag y goddefid iddo gan ei lafur dirfawr a'i ddioddefiadau chwerwon am fwy nag ugain mlynedd. Hyd adferiad Siarl II. yn 1660, a'r cyfreithiau gormesol a ddilynodd ei esgyniad i'r orsedd, arferent ymgynull i addoli yn nhai Meistriaid John Griffith, a Walter Griffith, ac mewn manau eraill yn y dref a'i hamgylchoedd; ond ar ol hyny gorfu iddynt gilio i leoedd anghysbell a chuddiedig i gyfarfod i addoli er dianc rhag cynddaredd yr erlidwyr y rhai oeddynt fel gwaedgwn yn barod i ymosod arnynt. Arferent ymgynull fynychaf yn y Pantmawr, amaethdy o fewn milldir a haner i dreflan Meifod. Mae yr hen dy yn aros a'i olwg yn gyffelyb i dai yr eilfed ganrif ar bymtheg. Ei wneuthuriad sydd o goed a delltwaith-y coed wedi eu duo, a'r dellt wedi eu gorchuddio a phriddgalch. Ychydig o eleuni a ollyngir i fewn iddo trwy ffenestri bychain culion; ac fel i ychwanegu at olwg hynafol a chyntefig y lle tyf wrth ei dalcen dwyreiniol ywen ganghenog; a chysgodir y ty rhag poethder yr haul ganol dydd gan sycamorwydden gref. Yma y cyrchid i addoli o bob cwr o'r wlad oddiamgylch yn y cyfnod hwnw, ac am fwy na dau can' mlynedd ar ol hyny. Arferai tua deg ar hugain o bersonau o Lanfyllin ddyfod i'r Pantmawr i addoli yn yr adeg yma. Gweinyddwyd i'r gynulleidfa ar y pryd gan y pregethwyr a enwyd eisoes yn nglyn a Llanbrynmair, y rhai a wasanaethent eglwys sir Drefaldwyn yn ei holl ganghenau. Yr oedd un Morris Williams, cylchwr (cooper) with ei gelfyddyd, yn aelod gweithgar o'r frawdoliaeth, ac yn bregethwr cymeradwy. John Evans, ysgolfeistr o Groesoswallt, John Griffith, o Lanfyllin, yr hwn oedd Ynad Heddwch, a Richard Baxter gwas John Kynaston, oeddynt hefyd yn mysg y rhai mwyaf gweithgar yn y lle; ac yn y cyfarfodydd anghyfreithlawn, fel eu cyfrifid, a gynhelid mewn manau eraill yn mhlwyfi Llanfyllin a Llanfechain.

Bu Ambrose Mostyn, fel y tybir, am dymor yn llafurio yn mysg y gangen yma. Adroddir ei fod mewn cyfarfod parotoad yn Pantmawr, ac yr oedd yno ryw nifer i'w derbyn i gymundeb dranoeth. Wrth eu holi pa beth a wasgodd ar eu meddwl am fater eu heneidiau, dywedai pob un mai gweinidogaeth Vavasor Powell, gyda'r hon yn gyffredin yr oedd effeithiau grymus yn cydfyned. Ar ol eu gwrando syrthiodd Mr Mostyn i iselder meddwl mawr, ac ofnai nad oedd yr Arglwydd wedi ei alw ef i bregethu, onide y rhoddasid iddo yntau yn gystal ag i Mr. Powell eneidiau yn seliau ei weinidogaeth. Pan ddaeth y gynulleidfa yn nghyd boreu dranoeth yr oedd y pregethwr yn ei wely, ac yn rhy wael i godi. Aeth Morris Williams ato a deallodd yn fuan mai iselder ysbryd oedd arno ar ol y pethau a glywodd yn y cyfarfod y prydnawn o'r blaen, a dywedodd hyny witho. Addefodd Mr. Mostyn mai felly yr oedd. "O ddylech chwi ddim gadael i beth fel yna eich taflu i lawr," meddai Morris Williams, "chwi wyddoch mai cooper ydwyf fi, ac y mae genyf fi ddynion ar hyd y maes yn cwympo coed; ond wna nhw er hyny byth lestri cymhwys i fod ar y bwrdd, ac at wasanaeth teuluoedd heb i minau eu llunio a'u cymhwyso—felly y mae Mr. Powell yn myned allan yn ei nerth a'i fwyell ar ei ysgwydd i gwympo y coed; ond y mae eich gwaith chwi yn yr eglwys i'w trin a'u cymhwyso, ac y mae eich eisiau eich dau ar Dduw i gymhwyso llestri trugaredd y rhai a barotodd efe i ogoniant." Gwelodd Mr. Mostyn briodoldeb y sylw, cyfododd o'i wely, a phregethodd gyda blas i'r bobl oedd yn disgwyl yn awyddus am dano; canys yr oedd "gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Cafodd y gangen yma yn y cyfnod dan sylw fwynhau rhan o weinidogaeth Meistri Hugh Owen, Henry Williams, John Owen, Reynallt Wilson, James Owen, ac ereill. Yn y flwyddyn 1690, anturiodd Mr. James Owen, yr hwn oedd y pryd hwnw yn Nghroesoswallt, i dref Llanfyllin i gynyg pregethu. Agorodd Mr. John Griffith ei ddrws iddo. Yr oedd ei dy yn y fan y saif addoldy presenol yr Annibynwyr yn y dref. Mae yn debygol mai hwn oedd y John Griffith y cyfeiriwyd ato o'r blaen, yr hwn a gyrchai i'r Pantmawr i addoli, a'r hwn oedd yn Ynad Heddwch. Cyn gynted ag y deallwyd fod yr Ymneillduwyr yn myned i gynal addoliad yn y dref, a bod Mr. Griffith yn myned i agor ei dy iddynt, a bod y pregethwr wedi dyfod i'r lle; ymgasglodd y werin aflywodraethus o gylch ty Mr. Griffith—fel y Sodomiaid o amgylch ty Lot gynt—gan hawlio cael y pregethwr allan, a dryllio y ffenestri, a bygwth gosod y ty ar dan a llosgi pawb oedd ynddo. Daeth Mr. Griffith i'r drws, ac a'i eiriau caredig, a'i gyfarchiad efengylaidd llonyddodd gynddaredd yr erlidwyr, fel yr aethant ymaith gan ymddangos yn ofidus am yr hyn a wnaethant, ac ni bu yno unrhyw ymyriad mwy a rhyddid yr Ymneillduwyr i addoli am fwy nag ugain mlynedd. Cydnabyddodd un o'r erlidwyr ar ol hyny with Mrs. Griffith ei ffolineb, ac ychwanegodd "na bu byth lwyddiant arno er y cododd ei law yn erbyn yr efengyl." O gylch yr amser yr ymwelodd Mr. James Owen a Llanfyllin, codwyd capel bychan yn Bwlchycibau, yn mhlwyf Meifod, ar y ffordd rhwng Llanfyllin a'r Pantmawr, o fewn tua thair milldir i'r lle blaenaf. Adeiladwyd ef gan un Mr. Owen, Peniarth, gwr yn byw ar ei dir ei hun, a galwyd ef Capel Peniarth, ond mewn gwawd gelwid ef "Capel Hirbryd." Mae yn ymddangos y byddai y bobl o ochr Llanfyllin yn arfer cadw cyfarfod prydnawnol ynddo ar eu dychweliad o'r Pantmawr; a chan nad oedd cyfle i'r rhan fwyaf o honynt i gael bwyd rhwng y ddau gyfarfod, llysenwyd ef gan eu gelynion yn "Gapel Hirbryd." Fel hyn y dywed Cyffin yn yr Annibynur am 1863, tudal. 132, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am lawer o ffeithiau yn nglyn ag eglwysi Maldwyn Y mae y llecyn lle safai y capel a'r fynwent yn ngwr gogleddol y llwyn o goed derw a elwir "Coed y Capel,' yn mhen uchaf y weirglodd lle y daw i gyffyrddiad a'r llwyn yn ymyl hen chwarel gerig. Gelwir y weirglodd hon hefyd 'Weirglodd y Capel.' Er cyn cof gan y rhai henaf o breswylwyr yr ardal, yr oedd wedi ei droi yn dy anedd; ond y mae rhai eto yn fyw yn cofio yr hen dy, er ei fod yn henafol iawn yr olwg arno, ac yr oedd yn nghylch dau gyfair o dir yn perthyn iddo, a gelwid y ty yn Gapel yr Hirbryd.' Y mae yn dra thebyg ei fod yn feddiant ar wahan a'r tir a'i cylchynai. Gwerthwyd y ty a'r cae i Councillor Owen, Glan Severn, ger y Trallwm, gan hen wr o'r enw Thomas Owen, ond a elwid yn gyffredin 'Bold Owen,' ar gyfrif ei annuwioldeb a'i greulondeb at ei gyd-ddynion, fel oedd yn arswyd gwlad. Daeth y capel i feddiant y dyn hwn oddeutu y flwyddyn 1762, ac y mae lle i farnu mai yn ei amser ef y rhoddwyd heibio bregethu yn Nghapel Hirbryd. Daeth y Thomas Owen yma i ddiwedd truenus. Aeth yn dlawd a diymgeledd cyn diwedd ei oes; a syrthiodd pren yn y llwyn ar ei ben, a lladdwyd ef yn y fan. Mae yn dra thebyg i'r cae gael ei ollwng at y weirglodd, oblegid dywedir fod Mr. Edward Owens, Peniarth, yn ei haredig tua'r flwyddyn 1811, ac i amryw benglogau ddod i'r golwg, yn nghyd ag esgyrn dynol eraill; a bod yno gerig beddau gydag adysgrifen arnynt; ond erbyn hyn, nid oes yno na phren na maen yn aros o'r capel na'r ty."

O'r flwyddyn 1690 hyd ddechreu y ddeunawfed ganrif, gwasanaethid yr eglwys yn Llanfyllin a'r Pantmawr gan yr ychydig weinidogion a'u cynorthwywyr oedd y pryd hyny yn Sir Drefaldwyn; ond yn 1703, rhoddwyd galwad i Mr. William Jervice i fod yn weinidog. Yn hanes Llanbrynmair, cawn mai yn 1713 y dechreuodd Mr. Jervice ei weinidogaeth yno; ond yn ol yr hyn a ysgrifenodd y diweddar Mr. D. Morgan yn llyfr eglwys Llanfyllin, dywed iddo ymsefydlu yno yn 1703, ac ychwanegai mai felly y ceir y dyddiad yn llyfr eglwys y Cilgwyn. Os yw hyny yn gywir, yr oedd Mr. Jervice wedi ei urddo yn Llanfyllin ddeng mlynedd cyn iddo dderbyn galwad o Lanbrynmair. Un peth sydd yn ymddangos yn ddyrus i ni yn hyn ydyw, pa fodd na buasai enw Mr. Jervice yn nglyn ag adeiladiad y capel cyntaf yn Llanfyllin. Yn y flwyddyn 1708 y codwyd y capel cyntaf yn y dref, yn y fan lle y saif y capel presenol. Rhoddwyd y tir gan Mr. Nehemiah Griffith, un o ddisgynyddion y John Griffith am yr hwn y crybwyllasom fwy nag unwaith; a rhoddwyd y weithred gan ei frawd, Mr. Thomas Griffith, o'r Rhuall, sir Fflint, yn y flwyddyn 1738, yn yr hon y cydnabyddir fod y capel wedi ei godi lawer o flynyddau cyn hyny trwy lafur ac ar draul Evan Evans, Timothy Quarell, John Quarell, John Chidlaw, Peter Chidlaw, ac Arthur Chidlaw. Nid ydym yn cael enw William Jervice o gwbl yn eu plith, yr hyn sydd braidd yn hynod, os oedd yn weinidog iddynt. Heblaw hyny, yn Mehefin 1702, cawn fod Mr. Rees Prothero wedi ei urddo yn y Pantmawr i fod yn weinidog yno ac yn Bragginton, a'r gorsafoedd cylchynol lle y pregethid; ond nid oes son am Lanfyllin; a bu yno nes y symudodd i Gaerdydd yn 1712. Os oedd Mr. Jervice wedi dechreu ei weinidogaeth yn 1703, gellir casglu fod Llanfyllin a Phantmawr wedi ymwahanu dros dymor, ac iddynt ymuno drachefn wedi ymadawiad Mr. Prothero. Ni fynem fod yn rhy bendant lle na byddo ffeithiau y gellir dibynu arnynt; ond, a chymeryd yr holl amgylchiadau i ystyriaeth, gogwyddir ni i feddwl mai yn 1718 yr ymsefydlodd Mr. Jervice i fod yn weinidog yn Llanfyllin a Llanbrynmair a'r canghenau.

Yn nheyrnasiad y Frenhines Anne, llwyddodd y Toriaid i fyned i awdurdod, a daeth Dr. Sackeverell gyda'i ddolef "yr Eglwys mewn perygl" yn offeryn cymhwys at eu gwasanaeth. Cefnogwyd erledigaeth—ymosodwyd ar yr Ymneillduwyr—yspeiliwyd hwy o'u meddianau—a llosgwyd llawer o'u capelau yn lludw gan y werin afreolus dan arweiniad ei huwchradd. Yn 1712, ymosodwyd ar gapel yr Ymneillduwyr yn Llanfyllin gan ddynion anhywaeth, dan gyfarwyddyd Mr. Price, Bodfach, a'r blaid Doriaidd, a llosgwyd ef yn gydwastad a'r llawr.

Tra yr oedd "ty eu sancteiddrwydd a'u harddwch lle y molianai eu tadau wedi ei losgi â thân," cyfarfyddent i addoli mewn ty anedd, yn union ar gyfer Eglwys y plwyf. Teimlai Mr. Foulkes, yr offeiriad, yn ddigllawn o herwydd eu bod yno; a thywalltai felldithion arnynt o'r pulpud bob Sabboth mewn ymadroddion a ferwinai glustiau hyd yn nod yr Eglwyswyr eu hunain. Amlygai amryw o'r plwyfolion anfoddlonrwydd iddo, ac aeth un gwr cyfrifol i achwyn wrtho am ei ymddygiad, ac i sicrhau iddo ei fod trwy ei ymosodiad parhaus arnynt yn creu rhagfarn yn ei erbyn ei hun, ac yn enyn cydymdeimlad â'r rhai a erlidiai. "Gadewch i mi," meddai Mr. Foulkes, "roddi un trinfa dda iddynt y Sabboth nesaf, ac yna gadawaf lonydd iddynt." Ond cyn i'r Sabboth nesaf ddyfod, tarawyd ef â dyrnod yn ddisymwth gan angeu, ac ar darawiad galwyd ef ger bron ei Farnwr i roddi cyfrif am ei weithredoedd!

Yn y flwyddyn 1714, ar esgyniad Sior I. i'r orsedd, daeth y Whigiaid drachefn i awdurdod. Ystyrient hwy, a hyny yn briodol, y dylasent amddiffyn personau a meddianau y deiliaid, beth bynag fuasai eu golygiadau crefyddol; a barnent fod eu rhagflaenoriaid yn yr awdurdod wedi bod yn anffyddlon i'w hymddiriedaeth drwy oddef, os nad oeddynt yn cefnogi, y werin anwybodus a llidiog i'w hysbeilio o'u meddianau, a distrywio eu capelau. Penderfynasant gan hyny mai eu dyledswydd oedd adfer eu heiddo i'r dynion a yspeiliasid, ac ail adeiladu, a hyny ar draul y Llywodraeth, y capelau a ddistrywiasid. Mae y dull y daeth sefyllfa capel Llanfyllin i glustiau yr awdurdodau yn deilwng o'i gofnodi. Yn mhen amser ar ol dinystriad y capel, daeth Syr Joseph Jekyl ar ei gylchdaith fel barnwr i Lanfyllin, lle yn y dyddiau hyny y cynhelid brawdlysoedd y sir. Yr oedd Syr Joseph yn bleidiwr i'r Ymneillduwyr, ac yn un o'r rhai a gymerodd ran flaenllaw yn mhrawf Dr. Sackeverell. Wrth ddyfod i'r dref gyda'r Uchel Sirydd Mr. Price, Bodfach, a gweled y capel yn adfeilion, gofynai i'r Uchel Sirydd pa beth oedd wedi dyfod o'r capel a arferai fod yno gan yr Ymneillduwyr Protestanaidd. Atebwyd ef fod y werin bobl wedi ei ddistrywio. "Y werin bobl!" atebai y barnwr, "onid oedd yma swyddogion y Llywodraeth, a chwithau yn Uchel-Sirydd yn byw yn eu hymyl—ni ddylasech ar un cyfrif oddef iddynt wneyd y fath beth;" a gorchymynodd i'r holl rai oedd a llaw yn y weithred gael eu dwyn ger ei fron ef dranoeth. Dranoeth a ddaeth, ond nid ymddangosodd neb ger bron; a rheswm da paham, gan y gwyddai yr Uchel-Sirydd a Mr. Foulkes, yr offeiriad, mai dan eu cyfarwyddyd hwy y gweithredodd y bobl. Cynghorasant y rhai oedd yn euog i ffoi y noson hono, fel na ellid cael gafael ynddynt dranoeth; ac felly fu, diangasant ymaith, a chan faint eu dychryn ni ddychwelodd rhai o honynt byth i'r lle. Digiodd y barnwr gymaint wrth yr ymddygiad—oblegid deallodd fod ystryw wedi ei arfer— fel y penderfynodd y mynai symud y brawdlys o Lanfyllin i'r Trallwm a'r Drefnewydd, lle eu cynhelir bob yn ail hyd y dydd hwn. Ail godwyd capel Llanfyllin gan y Llywodraeth yn y flwyddyn 1717. Rhoddodd y Llywodraeth gareg goffadwriaethol ar y capel hwn, ac arni y cofnodiad a ganlyn:—

MEMORIAL STONE.

"This Protestant Chapel was rebuilt in the year of our Lord 1717. Being the 172nd
year since the reformation, the 29th since the revolution, and the 4th year of the reign
of King George. Uno avulso, non deficit alter."

Ni wnaed hyny gan y Llywodraeth oblegid na allasai y gynnulleidfa ei godi ei hun; ond oblegid fod yn gyfiawn i'r Llywodraeth a oddefodd i'r werin ddireol ei dynu i lawr, i fyned i'r draul i'w ail adeiladu. Yn ol y cyfrif a gasglwyd gan Dr. John Evans yn 1715 o nifer a sefyllfa gymdeithasol cynnulleidfaoedd Cymru, yr oedd 110 yn gyffredin yn bresenol cydrhwng Llanfyllin a'r Pantmawr o'r rhai yr oedd 10 yn foneddigion, 1 tirfeddianwr, 5 yn meddu pleidleisiau dros y sir, a 9 yn meddu pleidleisiau dros y bwrdeisdrefi. Llafuriodd Mr. Jervice yma hyd 1743, pryd y rhoddodd angeu derfyn ar ei fywyd defnyddiol, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfyllin.

Dilynwyd Mr. Jervice gan wr ieuangc o'r enw Thomas Evans. Nis gwyddom ddim o'i hanes, na pha cyhyd y bu yma; ond cyfarfu ag angeu mewn modd gofidus yn mlodeu ei ddyddiau. Fel yr oedd yn ceisio croesi yr afon Efyrnwy wrth fyned i neu ddyfod o'r Pantmawr, a'r afon ar y pryd yn genllif, profodd y dwfr yn rhy gryf iddo, cariwyd ef gan y llif, a boddodd; ond cafwyd gafael ar ei gorff, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Meifod; ond nid oes cymaint a chareg arw a "dwy lythyren" arni i ddynodi lle ei fedd.

Daeth Mr. Jenkin Jenkins yma ar ol hyny. Nid ydym yn sicr pa bryd y daeth yma, ond yr oedd yma yn 1751, a bu yma o leiaf hyd 1759, oblegid yr ydym yn ei gael dros y blynyddau hyny yn derbyn o Drysorfa y Presbyteriaid fel gweinidog Llanfyllin. Ymadawodd i Gaerfyrddin, lle y dewiswyd ef yn athraw yr athrofa yno, a graddiwyd ef gan ryw Brifysgol â'r teitl o D.D. Dilynwyd ef gan Mr. Benjamin Radcliffe. Yr oedd ef yma yn 1762. Symudodd oddi yma i Congleton, yn sir Gaerloyw. Ar ei ol ef bu Mr. Benjamin Rees yma. Yr oedd yma yn 1766, a symudodd i Leominster, yn sir Henffordd. Wedi ymadawiad Mr. Rees, daeth Mr. James Evans yma, ond byr iawn fu yspaid ei arosiad yntau yma. Yr oedd yma yn 1769, ond ymadawodd, ac nis gwyddom i ba le. Cyfnod "tywyll du" oedd hi ar yr achos yn ystod tymor y pedwar gweinidog yma. Yr oeddynt ill pedwar yn Arminiaid neu yn Ariaid, os nad yn rhywbeth pellach; ac yr oedd anadl eu gweinidogaeth wedi sychu i fyny bob gronyn o deimlad crefyddol yn yr eglwys; ac yr oedd yr achos wedi disgyn mor isel am yspaid o amser ar ol ymadawiad yr olaf o'r pedwar fel nad agorid drws y capel ond unwaith yn y mis, pan y pregethai Mr. Goronwy, o'r Bala, ar ei ffordd i'r Pantmawr. Yr oedd un o deulu y Pantmawr, o'r enw Mrs. Sale, wedi gadael cymunrodd o 5p. y flwyddyn i weinidog Llanfyllin am bregethu yno unwaith yn y mis; ac yr oedd agor y drws i'r oedfa yn un o amodau y cytundeb â phob tenant a gymerai y ffarm. Cafwyd llawer o garedigrwydd oddiar law y rhan fwyaf o'r tenantiaid; ond bu yno un John Wynn yn dal y lle am 20 mlynedd, ac nid oedd dim cydymdeimlad rhyngddo â'r efengyl, na rhwng neb o'i deulu. Nis gallasent atal yr addoliad, ond gwnaent bob peth yn eu gallu i daflu anhawsder i'w ffordd. Dygent yn mlaen orchwylion y ty pan y byddai y pregethwr wrthi yn pregethu. Clywid un yn nyddu yn un ystafell, ac eraill yn corddi mewn ystafell arall, fel mai gorchest fawr oedd i'r pregethwr fyned yn mlaen, a chydag anhawsder y gellid ei glywed. Parhaodd y pregethu yn y Pantmawr, nes y codwyd capeli yn yr ardaloedd o'i gylch; ac y gwelwyd nad oedd un amcan ymarferol yn cael ei gyrhaedd o barhau y gwasanaeth yno yn hwy; ac yn 1855, yn agos i derfyn gweinidogaeth Mr. D. Morgan, gwerthwyd y blwydd-dal am 80p., a rhoddwyd y swm ar log i weinidog Llanfyllin.

Yn nechreu y flwyddyn 1780, daeth Mr. John Griffith, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, yma, a derbyniodd alwad gan yr eglwys fechan adfeiliedig yn y lle. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth Gorph. 5ed, 1780. Yr oedd amryw o weinidogion enwog o Gymru a Lloegr yn bresenol ar yr achlysur, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth; megis, Meistriaid R. Gentleman, Athraw yr Athrofa yn Nghaerfyrddin, S. Lucas, Amwythig; Edward Williams (Dr. Williams wedi hyny), o Groesoswallt; R. Tibbott, o Lanbrynmair; A. Tibbott, o sir Fon; T. Davies, o Lanuwchllyn; ag eraill. Ni bu Mr. Griffith yma ond dwy flynedd; ond yn yr ysbaid byr hwnw bu yn hynod o lafurus a llwyddianus yn ngwaith yr Arglwydd. Bu yn offeryn i adfywio yr achos yn y lle, ac i helaethu terfynau teyrnas y Gwaredwr trwy y wlad oddiamgylch. Ymdyrai lluoedd i wrando arno yn y meusydd ac ar y mynyddoedd, a phrofodd ei weinidogaeth dan arddeliad yr Ysbryd Glan yn allu Duw er iachawdwriaeth llawer o eneidiau. Yr oedd rhywbeth nodedig o fawreddog ac awdurdodol yn ei edrychiad; yr oedd yn ddyn corphol, glandeg, ei lais yn nodedig o beraidd, a'i gyfarchiad yn ddengar a serchiadol. Medrai ganu nes lliniaru ei erlidwyr yn yr adeg fwyaf cyffrous ar eu cynddaredd, ac yn aml y dywedent pan y dechreuai weddio" rhagor o'ch canu os gwelwch yn dda wr dyeithr, a dim o'ch gweddio na'ch pregethu." Bu lawer gwaith mewn perygl am ei einioes, ond yr oedd llaw yr Arglwydd gydag bu ci lwyddiant yn fawr. Yn 1782, derbyniodd alwad o Gaernarfon, ac er gofid i'w gyfeillion a cholled i sir Drefaldwyn, cydsyniodd a'r gwahoddiad. Nid yw yn gwbl sicr pa bryd y symudwyd y cymundeb o'r Pantmawr i Lanfyllin, ond y mae yn debygol mai o gylch yr adeg yma pan y ffurfiwyd eglwysi Annibynol yn y Trallwm a'r Sarnau.

Yn ystod y tair blynedd dilynol gwasanaethid yr eglwys yn Llanfyllin fynychaf gan fyfyrwyr yr Athrofa oedd erbyn hyn yn Nghroesoswallt dan arolygiaeth Dr. Edward Williams. Ar un nos Sadwrn yr oedd un o honynt i bregethu mewn ty a elwid Pont'radyn. Clywodd y dorf am yr oedfa, a cheisiasant aflonyddu ar yr addolwyr trwy daflu ceryg trwy y drws a dryllio y ffenestri. Yn ffodus, fodd bynag, digwyddodd fod person y plwyf ac un o'r enw Evans yn marchogaeth tua'r fan, a phan glywsant y swn brysiasant i'r lle. Cyrhaeddodd y blaenaf y ty ychydig o flaen yr olaf, a chan dybied mai efe oedd y pregethwr ymosododd yr erlidwyr arno; gwylltiodd y ceffyl a syrthiodd ef a'i farchogwr i'r afon, lle y gwaeddai am drugaredd. Adnabyddwyd ei lais, a ffoisant oll. Daliodd un o honynt, a mynodd wybod ganddo beth oedd yr achos o'r holl gynhwrf; ac wedi deall, yn lle ei geryddu neu ei gospi, dygodd wr Pont'radyn o flaen yr ynadon. Gofynasant iddo beth oedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn ei dy? Attebai, "Mai nid cyfarfod i werthu diod neu wirod oedd nac ychwaith cyfarfod i chwareu cardiau, neu gyfarfod i chwareu am arian (gambling), onide ni buasech yn codi gwarant i'm dwyn o'ch blaen; canys cedwir y cyfryw gyfarfodydd yn y dref a'r gymydogaeth bob wythnos, heb ymholiad gan un o honoch paham eu cynhelir." Methasant a chodi achos yn ei erbyn, a chywilyddiwyd hwy gan ei atteb parod, fel y rhoddasant ei ryddid iddo.

Yn 1784, dewisodd yr eglwys yn unfrydol Mr. Jenkin Lewis, myfyriwr yn Athrofa Croesoswallt, yn fugail arnynt; a neillduwyd ef i'r weinidog- aeth ar y Sulgwyn, 1785. Nid oedd dim yn amgylchiadau allanol yr eglwys a'r gymydogaeth yn gymhelliad i Mr. Lewis ymsefydlu yn eu plith. Nid oedd ond deg o aelodau yn perthyn iddi, a darfu i bump o'r deg yn fuan droi eu cefnau ac ymadael, ac fel yr ydym eisioes wedi dangos yr oedd gan drigolion y dref a'r ardal y gelyniaeth mwyaf i'r efengyl. Teimlodd Mr. Lewis yn dra buan wedi cymeryd gofal yr eglwys, fod trig- olion y dref a'r wlad oddiamgylch, ac eithrio ryw ychydig nifer, yn elynion penderfynol yn erbyn yr efengyl a'r rhai a'i cyhoeddai. Amlygodd un John Hughes a'i wraig, y rhai oeddynt yn byw oddeutu milldir o'r dref, eu hawydd i gael eu derbyn yn aelodau yn ei gapel, a thalodd Mr. Lewis ymweliad a hwynt un prydnawn er cael cyfle i ymddyddan a hwy. Gwelwyd ef gan yr erlidwyr ffyrnig, a dilynasant ef. Amgylchynasant yty, torasant i mewn iddo, triniasant y teulu yn y modd mwyaf cywilyddus, llusgasant y gweinidog parchus allan wrth wallt ei ben gan ei guro a'i droedio yn y modd creulonaf, a thebyg y buasent ei yn ei ladd cyn i'r gymydogaeth gael ei rhybuddio, oni buasai i flaenor y gâd gael ei dyneru yn dra sydyn, ac mewn munud gorfyddodd y lleill i ymattal oddiwrth y gwaith erchyll. Fel hyn yr arbedwyd bywyd y dyn da hwn, ond nid heb glwyfau peryglus.

Barnodd Mr. Lewis a'r ychydig grefyddwyr ei bod yn llawn bryd bellach cael amddiffyniad y gyfraith i ddyogelu ei fywyd ei hun a'i gyfeillion rhag ymosodiadau cyffelyb rhagllaw. Appeliodd gan hyny am gymorth oddiwrth y gymdeithas a ffurfiasid yn Llundain, i amddiffyn rhyddid a hawliau yr Ymneillduwyr. Cymerodd y gymdeithas y mater mewn llaw, a bu raid i'r erlidwyr ymddangos ger bron Llys yr Ynadon. Eglurwyd y gyfraith iddynt, a dangoswyd eu bod trwy dorri i mewni dy John Hughes, a'r niwed a wnaethant i'r naill a'r llall, yn agored i gosp lem oddiwrth y gyfraith. Yr oedd eu harswyd erbyn hyn yn annesgrif- iadwy. Tosturiodd Mr. Lewis wrthynt, a dymunodd ar i'r Llys beidio rhoddi y gyfraith mewn grym, gan y byddai ef a'i gyfeillion yn foddlawn i'w rhyddhau os cydsynient i arwyddo cyffes ysgrifenedig o'u hedifeirwch am eu trosedd. Gwnaethant hyny gyda'r parodrwydd mwyaf. Dyma sylwedd yr hyn a arwyddasant:—

"Yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, gyda galar chwerw yn cyffesu mewn llys agored ein trosedd yn erbyn John Hughes ac Elizabeth ei wraig, ac yn erbyn y Parchedig Jenkin Lewis; ac am y niwed a dderbyniasant oddiar ein dwylaw, yn ddifrifol yn erfyn eu maddeuant. Dymunem hefyd amlygu ein diolchgarwch iddynt hwy, ac i'r Gymdeithas er Amddiffyn Rhyddid a Hawliau yr Ymneillduwyr, am arfer eu dylanwad er attal gweinyddiad llymaf y gyfraith yn ein herbyn am ein trosedd, ac yr ydym yn ymrwymo i ymddwyn yn heddychol a chyfeillgar tuag attynt o hyn allan. Arwyddwyd Medi 22ain, 1787."

Trwy yr amgylchiad yma argyhoeddwyd pobl anwybodus y dref a'r amgylchoedd fod gan yr Ymneillduwyr nid yn unig hawl foesol i oaddoli, ond fod cyfraith y wlad o'u plaid, ac na faidd neb ymosod arnynt heb osod en hun trwy hyny yn agored i gosp cyfraith y tir. Ennillodd Mr. Lewis a'i gyfeillion trwy yr ymddygiad hynaws, boneddigaidd, ac annialgar yma o'r eiddynt barch mawr yn y dref; a rhoddwyd trwyddo ergyd marwol i erledigaeth gyhoeddus. Bu Mr. Lewis yn ymroddgar a llafurus i gyflawni y weinidogaeth. Yn ei amser ef y sefydlwyd Cyfarfod y Pasg yma, yr hwn sydd wedi ei barhau yn ddifwlch hyd yma. Ymddengys yr arferid cynal gwylmabsant neu ffair gwagedd yma er cyn cof ar adeg y Pasg; ac yr oedd yr annuwioldeb a'r llygredigaeth oedd yn nglyn a hwy yn cyffroi ysbryd Mr. Lewis; a phenderfynodd y mynai gyfarfod pregethu yn Nghapel Pendref, er gwrthweithio dylanwad y cynnulliadau pechadurus hyny. Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar y Pasg yma; ond yr ydym yn sicr ei fod yn cael ei gynal yn 1796, oblegid yn y flwyddyn hono y daeth Ann Thomas, Dolwar, i'r dref yn ferch ieuangc 16eg neu 17eg oed gyda bwriad fel y lluaws o'i chyfoedion i gael rhan o ddifyrwch yr uchelwyl lygredig. Trwy ryw foddion arweiniwyd hi i'r capel lle yr oedd y cyfarfod yn cael ei gynal, a Mr. Benjamin Jones, Pwllheli, yn pregethu, a bu yr oedfa hono yn foddion ei dychweliad at yr Arglwydd. Bwriadodd unwaith ymuno a'r achos Annibynol yn Llanfyllin, ond wedi deall fod gan y Methodistiaid Calfinaidd addoliad a phregethiad ffyddlawn o'r efengyl yn Mhontrobert yn ymyl ei chartref penderfynodd fwrw ei choelbren yn eu plith. Daeth Ann Thomas ar ol hyny yn adnabyddus fel Ann Griffiths yr Emynwraig enwog; a chenir rhai o'i hymnau cyhyd ag y pery yr iaith Gymraeg. Bu Mr. Jenkin Lewis farw wedi "ymdrechu ymdrech deg," Tach. 25ain, 1805.

Ar ol marwolaeth Mr. Lewis bu yr eglwys yma am rai blynyddau heb weinidog; ond o'r diwedd rhoddasant alwad i Mr. David Roberts, myfyriwr o'r Athrofa yn Ngwrecsam; ac urddwyd ef Mawrth y Pasg, 1810. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Griffith, Machynlleth; J. Lewis, Gwrecsam; W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Davies, Aberhafesp; D. Davies, Trallwm; W. Jones, Trawsfynydd; D. Morgan, Talybont; C. Jones, Llanuwchllyn; J. Davies, Llundain; ac eraill. Bu yn llafurio yma am bum mlynedd, ac yna symudodd i Fangor yn 1815, ac oddiyno symudodd i Ddinbych lle y daw ei hanes etto dan ein sylw.

Yn 1815, rhoddodd yr eglwys alwad i Dr. George Lewis i fod yn weinidog, a chydsyniodd a'r cais, a symudwyd yr Athrofa ar yr hon yr oedd yn athraw yn Ngwrecsam gydag ef i Lanfyllin. Llafuriodd yma gyda chymeradwyaeth mawr am fwy na chwe blynedd; a bu ef a'r myfyrwyr dan ei ofal o wasanaeth mawr i'r achos yn y dref a'r wlad oddiamgylch. Symudwyd yr Athrofa i'r Drefnewydd yn 1821, ac ymadawodd Dr. Lewis yr un pryd i fod yn athraw ynddi, ac i gymeryd gofal yr eglwys yn y lle.

Ar ol i Dr. Lewis benderfynu symud i'r Drefnewydd, rhoddodd yr eglwys yn Llanfyllin alwad i Mr. William Morris, yr hwn oedd yn fyfyriwr yn yr Athrofa, i fod yn weinidog iddynt. Urddwyd ef yn nechreu Ionawr 1822; ac fel hyn y ceir hanes yr urddiad yn y Dysgedydd am Chwefror 1822, tudal. 57:

"Ionawr 2il, 1822, urddwyd y Parch. W. Morris (yn ddiweddar myfyriwr yn yr Athrofa gynt yn Llanfyllin, ond yn bresenol yn y Drefnewydd), waith y weinidogaeth yn mhlith yr Anymddibynwyr yn Llanfyllin, sir Drefaldwyn. Cyfarfu yr eglwys yn gryno y diwrnod o'r blaen am 10 yn y boreu, i ymbil am fendith Duw ar y gwaith pwysfawr oedd i gymeryd Am 6 o'r gloch prydnawn, dechreuwyd yr addoliad trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan Mr. J. Watkins, o Lanfair; a phregethodd y Parchn. H. Williams, Llanelli, a W. Hughes, Dinas, oddiwrth Salm lxxxvi. 5; Eph. v. 11; a dibenwyd trwy fawl a gweddi. Am 10, diwrnod y cyfarfod, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan y Parch. J. Davies, Llanfair; yna traddodwyd y gyn-araeth gan y Parch. M. Jones, Llanuwchllyn; derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog ieuangc gan y Parch. W. Hughes, Dinas; offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. H. Williams, Llanelli; a phregethodd y Parchedig D. Morgans, Machynlleth, ar ddyledswydd y gweinidog, oddiwrth 2 Cor. ii. 16; a'r Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, ar ddyledswydd yr eglwys, oddiwrth Rhuf. xvi. 3, a dybenwyd trwy fawl a gweddi.

"Am 2, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi gan y Parch. E. Davies, Cytiau; a phregethodd y Parch. M. Jones, Llanuwchllyn, a'r Parch. H. Williams, Llanelli, oddiwrth Ioan xii. 13, a Salm lxxxvi. 10, a dibenwyd trwy fawl a gweddi.

"Am 6, dechreuwyd trwy ddarllen, mawl, a gweddi_gan Mr. M. Ellis (eydfyfyriwr a'r urddedig); a phregethodd y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a'r Parch. D. Morgans, Machynlleth, oddiwrth Job xxv. 4, Act. xv. 9, a dibenwyd trwy fawl a gweddi. Ni welwyd cyfarfod mwy cysurus yn Llanfyllin erioed o'r blaen, arwyddion helaeth o'i foddlonrwydd ar y gwaith, a chanoedd yn cael lle i ddyweyd wrth ymadael mai da oedd iddynt fod yno, a llawer o le i gredu fod gan Ben Mawr yr eglwys law neillduol yn anfon Mr. Morris i lafurio yn Llanfyllin a'i chymydogaeth, drwy fod adfywiad mawr ar yr achos goreu, megis bywyd o feirw."

Bu Mr. Morris yma am ddwy flynedd ar bymtheg yn llafurio fel gweinidog, ac yn boblogaidd iawn fel pregethwr trwy yr holl wlad. Yn ystod ei weinidogaeth ef y codwyd y capel presenol, ond ei fod er hyny wedi ei adnewyddu a'i ad-drefnu. Dechreuwyd tynu yr hen i lawr Ebrill 13eg, 1829, ac agorwyd y newydd Hydref 13eg a'r 14eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd y nos gyntaf gan M. Jones, Farteg, a J. Williams, Dinas. Dranoeth, am 10, E. Davies, Drefnewydd, a J. Roberts, Llanbrynmair. Am 2, T. W. Jenkins, Croesoswallt (yn Saesneg), a W. Williams, Wern. Am 6, H. Morgan, Samah; T. Jones, Llangollen; ac I. Pergrine, Domgay. Yn 1830, codwyd hefyd gapel bychan a elwir Soar, yn mhlwyf Meifod, yr hwn sydd yn parhau mewn cysylltiad a Llanfyllin, a chynhelir ysgol Sabbothol a phregethu ynddo yn rheolaidd. Derbyniodd Mr. Morris alwad o Glandwr, ger Abertawy, a symudodd yno yn nechreu haf 1839.

Derbyniodd Mr. David Morgan, oedd y pryd hwnw yn Manchester, alwad oddi yma yr Hydref cyntaf wedi ymadawiad Mr. Morris, a dechreuodd ei weinidogaeth yn mis Tachwedd 1839. O gylch yr amser yma, sicrhawyd capel bychan a elwir Siloh at wasanaeth yr eglwys, yr hwn oedd wedi ei godi ychydig cyn hyny; ac y mae moddion rheolaidd yn cael eu cynal ynddo fel yn Soar, er nad oes eglwysi wedi eu corphori yn y naill na'r llall. Llafuriodd Mr. Morgan a'i holl egni yn ystod y blynyddoedd y bu yma; ond gan fod ei iechyd yn adfeilio, cydunodd ef a'r eglwys yn nechreu 1855 i roddi galwad i Mr. Price Howell-yr hwn oedd ddwy flynedd cyn hyny wedi ei urddo yn Amana, sir Gaernarfon-i fod yn gyd-weinidog ag ef. Parhaodd yr undeb am oddentu dwy flynedd, pan y symudodd Mr. Howell i gymeryd gofal yr eglwys yn Mhwllheli. Yn fuan ar ol hyny, teimlodd Mr. Morgan nas gallasai sefyll yn hwy o flaen arch yr Arglwydd, a rhoddodd ofal bugeiliol yr eglwys i fyny yn mis Hydref 1857, er iddo fyw wyth mis ar ol hyny.

Wedi bod am fwy na blwyddyn heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Milton Davies, yr hwn oedd yn weinidog yn y Wern a Phenycae, sir Aberteifi. Dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Rhagfyr 1858, a pharhaodd i lafurio yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth mawr nes y rhoddodd angeu derfyn ar ei fywyd defnyddiol Mehefin 7fed, 1869; ac er hyny hyd yn hyn, y mae yr eglwys wedi bod yn amddifad o weinidog.

"Nid yw yr eglwys Ymneillduol yn Mhendref wedi bod un amser yn lluosog ei haelodau-rhyw 150 i 170; ond y mae wedi bod yn perthyn iddi ddynion lled gyfrifol a da eu hamgylchiadau. Ac er nad ydyw wedi bod mor ymdrechgar i ledaenu egwyddorion crefydd Crist trwy y wlad oddi amgylch ag yr oedd ei hamgylchiadau a'i chyfleusderau yn caniatau, etto nid yw wedi bod yn gwbl ddilafur a difudd yn hyn; canys y mae yn eglur mai trwyddi hi y seiniodd Gair y Gwirionedd, ac y sefydlwyd achosion Penybontfawr, Llanrhaiadr, Llansantffraid, Main, Penllys, a manau eraill. Ond y mae yr un mor amlwg ei bod wedi gadael tir lawer o amgylch y dref heb ei feddianu, pan yr oedd ganddi gyfleusdra i wneyd hyny, ond daeth eraill ac a'i meddianasant.

"Y mae diffyg wedi bod mewn cydweithio â'r weinidogaeth gyhoeddus i gadw cyfarfodydd i weddio a sefydlu ysgolion Sabbothol yn y wlad oddi amgylch. Pa beth bynag a all dawn y gweinidog fod, a'i boblogrwydd yn traddodi ei bregethau, oni bydd yr aelodau yn ymdrechgar i sefydlu moddion eraill i gydweithio â'r weinidogaeth, nis gall fod yn hir yn llwyddianus!

"Ond er nad yw yr eglwys o ran rhifedi ond ychydig mewn cydmariaeth i lawer o eglwysi eraill, etto y mae wedi bod yn lled lafurus a haelionus gyda phethau amgylchiadol crefydd gartref. Gwelir iddi dynu i lawr ei hen addoldy, ac adeiladu un llawer mwy yn ei le, a thalu am dano ei hun, oddieithr un 20p. a dderbyniodd oddiwrth yr Undeb Cynnulleidfaol yn Nghymru tuag at dalu dyledion addoldai. Yn y flwyddyn 1840, prynodd ddarn o dir o amgylch y capel yn lle beddrod-yn fynwent i gladdu y meirw. Costiodd hyn fwy na chwe chant o bunau, yr hyn oedd yn swm go fawr yn yr amser gynt. Yn 1847, talodd 60p. eraill o ddyled oedd ar gapel bychan Soar; ac y mae wedi bod mor ffyddlon ag unrhyw eglwys mewn cynorthwyo eglwysi eraill i dalu eu dyledion. Y mae hefyd wedi bod yn haelionus tuag at gynal gwyr ieuaingc yn ein Hathrofeydd. Y mae yn ddigon eglur yn amgylchiadau yr eglwys hon, fel eraill, mai y rhai mwyaf haelionus tuag at achos Crist ydyw y rhai mwyaf llwyddianus yn eu hamgylchiadau bydol, fel y dywed yr Ysgrythyr—Yr enaid hael a frasheir; a'r hwn a ddyfrhao a ddyfrheir yntau hefyd.' Rhyw un a wasgar ei dda, ac fe a chwanegir iddo; a rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dylodi.'

"Yn mlynyddoedd 1844-5, cyfarfu yr eglwys hon ag amgylchiad pur gymylog a thywyll, trwy farwolaeth dros ugain o'r aelodau, a llawer o honynt yn brif golofnau yr achos yn y lle. Collwyd tri o ddiaconiaid yn lled agos o ran amser i'w gilydd—ein hen gyfaill Mr. Griffith Evans, a Mr. J. Jones, Tanner, ei fab-yn-nghyfraith; ac yn lled fuan ar eu hol, ein cyfaill ieuangc Mr. Robert Evans, yr hwn a fu farw yn y 30 mlwydd o'i oedran. Dylai hyn gael lle dwys ar feddwl yr eglwys, fel y dywed yr apostol: 1 Cor. xi. 30, 31.

"Y mae ychydig gymunroddion wedi eu gadael gan wahanol bersonau tuag at gynhaliaeth gweinidog yn y lle. Ni ddylai hyn mewn un modd fod yn achlysur i'r eglwys leihau ei hymdrechion haelionus ei hun yn nghynaliaeth y weinidogaeth. Y mae y cymunroddion hyn yn 220p., gyda dwy bunt a deg swllt yn flynyddol yn dyfod yn ol ewyllys un Mrs. Roberts, o Wrecsam."[62]

Bu yma ar rai adegau ddynion nodedig mewn crefydd-" cadarn yn yr Ysgrythyrau "—nas gallesid yn fuan eu syflyd oddiwrth y ffydd, na'u cael i droi oddiwrth yr hyn a ystyrient hwy yn wirionedd. Cyfrifid yr eglwys yn uchel Galfinaidd yn yr adeg yr oedd dadleuon duwinyddol yn cynhyrfu y wlad; ond nid oedd ei syniadau uchel am ras yn atalfa iddi flaenori mewn gweithredoedd da. Nis gallasom gael rhestr gyflawn o'r dynion nodedig a fu yn perthyn i'r eglwys hon o bryd i bryd; ond crybwyllir gyda pharch am enwau y personau a ganlyn fel rhai rhagorol yn mysg y brodyr a fu yn perthyn i'r eglwys yn y ganrif bresenol :—Robert Chidlaw, a fu yn proffesu crefydd yma am fwy na 60 mlynedd, ac a ennillodd iddo ei hun radd dda, er nad oedd ond dyn cyffredin ei amgylchiadau. Yr hen Edward Pryce, yr hwn a elwid "Yr Orddfawr," am yr arferai bob amser siarad yn gryf a phenderfynol dros ddysgyblaeth. Symudodd ef i America. Elijah Morris oedd ddyn o ddeall cryf, ac yn athraw goleuedig yn yr ysgol Sabbothol. William Dodd oedd yn hen gymeriad gwreiddiol, ac a fu am oes hir yn un o golofnau yr achos. Evan Hughes y Gof oedd yn wr da a ffyddlon; a gadawodd gymunrodd o 20p. at y weinidogaeth yn y lle. John Daniel, John Owen, o'r Cwm, wedi hyny o'r Tanhouse, a John Richards, Patent Maker, ydynt enwau sydd wedi disgyn i lawr hyd atom gyda pherarogl. Griffith Evans oedd wr haelionus, selog, a chrefyddol iawn. Er ei fod uwchlaw y cyffredin o ran ei amgylchiadau, cyfrifai ei hun yn wastad y llai na'r lleiaf. Robert Evans, ei fab, oedd wr ieuangc addawus iawn, ond a symudwyd gan angeu yn mlodeu ei ddyddiau. John Jones, Tanner, mab-yn-nghyfraith y dywededig Griffith Evans, oedd ddyn o feddwl penderfynol, ac wedi ei wreiddio yn ddwfn yn ngwirioneddau yr efengyl. Richard Tibbott a'i deulu a fu am dymor maith yn swcr mawr i'r achos yma. Mab oedd efe i'r hyglod Richard Tibbott, gweinidog Llanbrynmair. "Gwr defosiynol yn ofni Duw yn nghyd a'i holl dŷ oedd Mr. Tibbott. Cristion cywir a heddychlon. Gwelodd ei ferched rhinweddol yn gwywo i'r bedd o flaen ei lygaid; ac nid oes iddo neb wedi ei adael ar ol i ddwyn ei enw.

Bu llawer o wragedd rhagorol yn perthyn i'r eglwys hon-gwragedd a gymerent ran gyhoeddus gyda chrefydd, ac y bu eu dylanwad a'u gwasanaeth o gynorthwy mawr i achos y Gwaredwr. Mrs. M. A. Tibbott, gwraig gyntaf Mr. Richard Tibbott, oedd un a gymerodd lawer o boen er mwyn crefydd, ac yr oedd ei chalon yn gynes gyda'r achos yn ei holl ranau. Arferai y gwragedd yma gynal cyfarfodydd gweddio yn gyhoeddus, ac yr oedd rhai o honynt yn meddu ar ddoniau nodedig. Crybwyllir yn arbenig am Mrs. Foulkes, Tanner, a'i chwiorydd-y Misses Price, Mrs. Jenkin Lewis, Betty Daniel, a Betty Pritchard, Eva Judith, Betty Jones, Mrs. Tibbott (ail wraig Mr. R. Tibbott), Gwen Evans, ac amryw eraill; ac mewn cyfnod diweddarach, yr oedd Mrs. Jones, Tanhouse, yn nodedig fel un o "heddychol ffyddloniaid Israel." Mae enwau rhai rhagorol y ddaear yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Gosododd Paul ar gof a chadw yn ei lythyrau enwau y gwragedd sanctaidd a fu o wasanaeth iddo ef yn achos yr efengyl; ac y mae llawer eglwys yn Nghymru yn ddyledus i "lafurus gariad" gwragedd rhinweddol, fel offerynau am yr olwg lwyddianus sydd arnynt.

Cyfodwyd yma o bryd i bryd gryn nifer o bregethwyr; ac er nad oes genym restr gyflawn o honynt, yr ydym yn sicr fod y rhai canlynol wedi codi oddi yma :

Robert Owen. Urddwyd ef yn Llanengan, yn sir Gaernarfon. Bu yno dros amryw flynyddoedd. Symudodd i Cwmbychan, Morganwg. Ymollyngodd yn ei arferion, a darfu ei gysylltiad â'r weinidogaeth; ac y mae wedi ei gladdu er's yn agos i 20 mlynedd.

Robert Jones, a Charles Jones. Dau frawd a fuont am flynyddau lawer yn bregethwyr cynorthwyol yn y dref a'r amgylchoedd. Yr oeddynt mewn sefyllfaoedd bydol cysurus, ac felly yn gallu rhoddi eu gwasanaeth yn rhad i eglwysi bychain yr ardaloedd cylchynol. Bu llaw ganddynt yn sefydliad amryw o eglwysi y rhan yma o sir Drefaldwyn, fel y cawn achlysur i sylwi etto pan y deuwn at yr eglwysi hyny. Bu Mr. Robert Jones farw lawer o flynyddoedd o flaen Mr. Charles Jones; a symudodd yr olaf i Langynog yn ei flynyddoedd diweddaf. Brawd iddynt hwy oedd Mr. David Jones, Llansantffraid, am yr hwn y bydd genym lawer i'w ddyweyd pan ddeuwn at yr eglwys hono; a chwaer iddynt hwy oedd Mrs. Tibbott, gwraig gyntaf Mr. Richard Tibbott; a da genym ddeall fod crefydd yn aros yn yr achau.

John Morris. Urddwyd ef yn weinidog yn y Main. Daw ef dan ein sylw yn nglyn â'r eglwys yno.

Thomas Richards. Symudodd ef i Benybontfawr, lle y treuliodd ei oes yn bregethwr cynorthwyol parchus a derbyniol gan yr holl eglwysi. Bydd genym air am dano yn hanes Penybontfawr.

Edward Evans. Mab Mr. Griffith Evans, un o hen ddiaconiaid yr eglwys. Bu yn astudiwr yn yr Athrofa pan yn Llanfyllin, a symudodd gyda hi i'r Drefnewydd. Yno y derbyniwyd ef yn aelod, yr olaf a dderbyniwyd gan Dr. Lewis. Bu dan addysg yn Wem, dan ofal Mr. Edwards; ac yn Nghroesoswallt, dan ofal Dr. T. W. Jenkin; a phan yno y dechreuodd bregethu. Bu yn Athrofa Homerton, ac wedi hyny yn Mhrifysgol Glasgow; ond dychwelodd i Lanfyllin at ei deulu, gan ymgymeryd â masnach ei dad, ac yma y mae yn aros hyd yr awr hon.

Ellis Hughes. Er mai un o Ddinas Mawddwy ydyw, a mab i'r hen weinidog parchus W. Hughes, etto yma y dechreuodd bregethu yn niwedd 1829, neu ddechreu 1830. Wedi bod dan addysg yn y Neuaddlwyd a'r Drefnewydd, urddwyd ef yn Nhreffynon; ac y mae yn awr yn Mhenmain. Jeremiah Jones. Urddwyd ef yn Abergele, a bu farw yn gymharol ieuangc. Gweler ei hanes yno.

Owen Evans. Yr hwn sydd yn weinidog yn Llanbrynmair, a ddechreuodd bregethu yn 1846, pan yn 16 oed. Gobeithio fod yr amser yn mhell pan y gelwir ar neb i ysgrifenu bywgraphiad iddo.

David Evans. Brawd y dywededig Owen Evans. Addysgwyd ef yn Athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Rhosymedre; ac y mae yn awr yn yr Abermaw.

Thomas Evans. Brawd arall o'r un teulu. Addysgwyd yntau yn Athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Bettwsycoed, lle y mae yn awr.

Cadwaladr R. Jones. Mab i'r hybarch C. Jones, Dolgellau. Dechreuodd ef bregethu yr un pryd a Thomas Evans; ac y mae yn aros yn Llanfyllin i wasanaethu yr eglwys fel diacon a phregethwr; ac y mae ei enw yn adnabyddus trwy ein henwad fel un parod i bob gweithred dda.

William Jones. Dechreuodd ef bregethu yr un pryd a'r ddau a enwyd ddiweddaf. Symudodd i America, lle y mae yn bresenol.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

AMBROSE MOSTYN. Bu y gwr da hwn yn llafurio i'r eglwys hon ar ei chychwyniad cyntaf; ond gan iddo fod ar ol hyny yn gweinyddu i'r eglwys yn Ngwrecsam gadawn ei hanes ef hyd hyny.

JOHN EVANS. Gweler ei hanes yntau yn nglyn a'r eglwys yn Ngwrecsam lle y terfynodd ei weinidogaeth.

JAMES OWEN. Ganwyd Mr. Owen yn y Bryn, yn mhlwyf Abernant, ger Caerfyrddin, ar y 1af o Dachwedd, 1654. Yr oedd yn fab i amaethwr cyfrifol o'r enw John Owen, yr hwn oedd yn Eglwyswr selog iawn, yn ddyn hynod o ddichlynaidd o ran ei fywyd, a chymeradwy gan ei holl gymydogion. Yr oedd ganddo naw o blant rhwng meibion a merched, a James oedd ei ail fab. Rhoddodd addysg dda i'r plant oll, a dygodd hwynt i fyny yn grefyddol yn ol ei syniad ef am grefydd, ac aberthodd lawer i roddi i rai o honynt ddysgeidiaeth lenyddol o radd uchel yn ol cyfleusderau y dyddiau hyny. Bu fyw i weled ei blant oll wedi eu sefydlu mewn sefyllfaoedd cysurus yn y byd, a mwy na'r cwbl gwelodd hwynt oll wedi dyfod yn grefyddol, er iddynt ymadael a'r Eglwys Sefydledig a throi yn Ymneillduwyr, a daeth tri o honynt, sef David, James, a Charles yn weinidogion Ymneillduol. Wedi i James gael ychydig addysg mewn ysgol yn y gymydogaeth anfonwyd ef i Gaerfyrddin i ofal Mr. Ficton, un o'r Crynwyr, a symudodd oddiyno i ysgol rad perthynol i'r dref hono dan arolygiaeth Mr. David Phillips, yr hwn a'i parotodd gogyfer a Phrif Ysgol Rhydychain, a chymaint oedd ei ymroad yma fel yr hoffid ef yn fawr gan ei athraw, yr hwn a edrychai arno fel un ieuangc pur obeithiol. Yr oedd yn arferiad ganddo pan yn bur ieuangc i aros i fyny yn hwyr, nid yn unig er mwyn parotoi gogyfer a'r dydd canlynol, ond hefyd er adolygu gwaith y dydd a aeth heibio. Pan ar derfynu ei amser yn Nghaerfyrddin i fyned i'r Brifysgol y clywodd gyntaf bregeth gan weinidog Ymneillduol, y testyn oedd Malachi iv. 1. Cafodd ei bregeth y fath argraff arno fel y terfynodd yn ei argyhoeddiad trwyadl. Tywynodd goleuni newydd ar ei gyflwr, newidiodd ei feddwl a'i amcan blaenorol yn hollol, a rhoddodd ei hunan i fyny i'r Arglwydd, gan benderfynu taflu ei goelbren yn mhlith yr Ymneillduwyr. Wedi iddo orphen ei amser yn Nghaerfyrddin, yn lle myned i Rhydychain fel y bwriadai, aeth at Mr. Samuel Jones, Brynllywarch, sir Forganwg, er mwyn addysg ychwanegol. Tra y bu yma ymroddodd yn egniol i fyfyrio, a chynyddodd yn mhob cangen o wybodaeth fuddiol, fel y derbyniodd oddiwrth ei athraw y cymeriad o fod yn astudiwr diflino. Bu yma nes yr oedd oddeutu deunaw oed, pryd y dychwelodd i Gaerfyrddin lle y cadwodd ysgol am ryw gymaint o amser. Yr oedd yno neu yn y gymydogaeth wr eglwysig parchus, yr hwn oedd yn berthynas lled agos i Mr. Owen o ochr ei fam ac yn dad bedydd iddo, o'r enw Mr. Howell. Ymwelai yn aml ag ef, a threuliai gryn lawer o'i amser yn ei gyfeillach. Arferai Mr. Howell bob rhesymau a moddion i'w ennill i'r Eglwys, ond aeth y cwbl yn ofer. Yma y gwelwn ei ymlyniad wrth Ymneillduaeth gryfaf. Nid oedd ond dyn jeuange prin ugain mlwydd oed, a gallasai trwy ei gydnabyddiaeth a'i berthynas a Mr. Howell yn gystal a thrwy ei alluoedd naturiol ei hun gael safle anrhydeddus yn Eglwys Sefydledig y wlad, ond dewisodd Mr. Owen yr Ymneillduwyr am ei fod wedi ystyried y mater yn ddifrifol yn ngwyneb Gair Duw, ac ni siglwyd ef gan hudoliaethau ei gyfaill, na'r olwg ar yr iselder a'r digalondid a ymddangosai o'i flaen yn y mesur lleiaf.

Dechreuodd bregethu yn Abertawe, fel cynorthwywr i Mr. Stephen Hughes. Yn fuan tynodd ei alluoedd anghyffredin sylw neillduol, a dechreuwyd cyngreirio yn ei erbyn gan y Llys Eglwysig. Oddeutu yr adeg yma gwnaeth Mr. Henry Maurice sylw mawr o hono, a chan ei fod yn gweled fod erlidiau a charcharau yn ei aros, anogodd ef yn daer i fyned i ogledd Cymru. Ond yr oedd yn boddloni Mr. Hughes mor dda, fel yr oedd yn anhawdd iawn ganddo ganiatau iddo fyned ymaith. Ar yr adeg yma dywed Mr. H. am dano, ei fod yn ŵr ieuangc gwerthfawr a duwiol, o ymarweddiad sanctaidd a nefolaidd, ac o ddawn rhagorol i bregethu. Pan gyrhaeddodd Mr. Owen ogledd Cymru cymerodd ei drigfan yn Bodwell, ger Pwllheli. Bu ei weinidogaeth yn y cylch yma yn gymeradwy iawn, ond rhoddwyd terfyn ar ei ddefnyddioldeb yn mhen naw mis trwy gynddaredd yr erlidwyr fel y bu raid ei anfon o hyd nos i Bronyclydwr, sir Feirionydd, cartref yr Hybarch Hugh Owen. Yn mis Tachwedd 1676, cafodd alwad i Swiney, gerllaw Crocsoswallt, lle y bu byw mewn parch mawr fel Caplan i Mrs. Baker o'r lle hwnw—boneddiges o barch a duwioldeb mawr ac yr oedd hefyd yn pregethu i gynnulleidfa o bobl ddifrifol yn ac oddiamgylch Croesos wallt, y rhai oeddynt wedi mwynhau llafur y clodfawr Robert Nevett yr hwn a fu farw Rhagfyr, 1675. Wedi bod yn pregethu yno am yspaid ar brawf, neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn mis Hydref, 1677, a rhoddwyd y dystiolaeth anrhydeddus ganlynol iddo gan y gweinidogion oeddynt yn bresenol, "Ei fod yn ddyn ieuangc o gymhwysderau mawrion i waith y weinidogaeth, a'u bod yn credu y byddai yn offeryn rhagorol i daenu yr efengyl, ac i ddyrchafu teyrnas Iesu Grist, a gwneyd lles i eneidiau." Cyflawnwyd y dystiolaeth i'r llythyren. Wedi ei neillduad dyblodd ei ddiwydrwydd yn ngwaith ei Feistr, ond gwnaed ymosodiadau ffyrnig arno o bob cyfeiriad gan erlidwyr dialgar y dyddiau hyny. Rhoddwn engraifft neillduol o hyn:—Yr oedd Mr. Owen ar un tro yn myned o Gaerlleon i bregethu i'r Treuddyn, yn sir Fflint, a chan ei fod yn ddieithr, ymofynodd am y ffordd mewn ty tafarn, lle y digwyddodd fod cwmni o foneddigion yn yfed. Clywodd un o honynt Mr. Owen yn gofyn am y ffordd, ac aeth allan ato, a gofynodd iddo at bwy yr oedd yn ewyllysio myned. Wedi cael attebiad, dywedodd y gwr boneddig yn fwynaidd a charedig ei fod yn adnabyddus a'r gwr, ei fod yn gyfaill neillduol iddo, a dododd Mr. Owen ar y ffordd i fyned i'w dy. Aeth Mr. Owen rhagddo, a thranoeth aeth i bregethu i dy un Thomas Fenner, yn mhlwyf Hope, tua dwy filldir o Treuddyn. Dychwelodd y gwr boneddig at ei gyfeillion, a chan eu bod wedi clywed fod cyfarfod anghyfreithlawn i fod yn y gymydogaeth hono y dydd canlynol, cytunasant i wneuthur eu goreu i ddal y pregethwr a'r gwrandawyr. Dywedodd un o honynt, gan dybied ei hun yn gyfrwysach na'r lleill, yr aent i ben y bryn oedd gerllaw y lle, gan gymeryd arnynt hela, fel y gallent sylwi i ba dy y byddai cyrchfa y bobl. Llwyddodd y cynllun, a phan ddaethant i'r lle, disgynasant oddiar eu meirch, ac amgylchynasant y ty mewn modd echryslawn gyda'u drylliau a'u cleddyfau. Gwyliodd rhai y drws tra yr oedd eraill yn myned i'r ty. Cymerasant afael yn Mr. Owen a'i Feibl, a dywedai un o honynt yn haerllug ei fod yn Feibl anghyfreithlawn am fod concordance wedi ei gydrwymo ag ef. Y gorchwyl nesaf oedd edrych dros nodau ei bregethau ef, a haerasant gyda llwon mai Jesuit oedd am eu bod wedi eu hysgrifenu yn yr iaith Lladin. Buont fel hyn yn ei fygwth am gryn amser, gan ddychrynu y gwrandawyr yn arswydus; o'r diwedd danfonasant am heddgeidwad, ac aeth tair awr heibio cyn i hwnw wneyd ei ymddangosiad. Yn y cyfamser, yr oedd eu tymherau wedi eu dofi i raddau, ac wedi iddynt eistedd i lawr ar ddeisyfiad gwr y ty, dechreuasant holi Mr. Owen-yr hwn hyd yma oedd wedi bod yn ddistaw-gyda golwg ar ei ddysgeidiaeth, a phaham y gwrthodai gydffurfio, gan ychwanegu llawer o gwestiynau cyfrwys-gall gyda golwg ar y Brenin a'r Llywodraeth oddiar yr amcan fel yr oedd yn ddigon amlwg iddo i'w faglu yn ei ymadroddion. Attebodd Mr. Owen hwynt gyda challineb a phresenoldeb meddwl mawr. Yr oedd y rhesymau a arferodd mor rymus fel y tueddent i gywilyddio ei wrthwynebwyr, a chadarnhau ei gyfeillion. Pan ddaeth yr heddgeidwad tynodd un o honynt ysgrifen o'i logell gan gymeryd arno mai gwarant ydoedd, a thrwy rym hono gyrasant Mr. Owen a'i wrandawyr fel cynifer o ddefaid o'u blaen i'r Wyddgrug. Nis gwyddent yn y byd pa beth i wneyd a'i ysgrifau gan fod eu cynwysiad yn eu meistroli yn deg, o'r diwedd anfonwyd am y Ficar, yr hwn a ddywedodd mai pregeth oeddynt ar Can. v. 16, "Y mae efe oll yn hawddgar." Wedi peth ymddyddan rhwng y Ficar a Mr. Owen, addefai ef a'r Ustus ei fod yn ddyn ieuangc dysgedig, bod yn drueni mawr ei fod yn Ymneillduwr. Wedi hir ymryson a thriniaeth galed, traddodwyd Mr. Owen, a'r gwr yn nhy yr hwn y bu yn pregethu, i'r carchar yn Nghaerwys. Derbyniodd bob caredigrwydd fel Joseph gynt oddiwrth geidwad y carchar, heblaw oddiwrth eraill a ymwelent ag ef. Yr oedd ei ddysgeidiaeth a'i rinweddau yn gorfodi hyd yn nod ei elynion i siarad yn barchus am dano. Bu yn y carchar am dair wythnos, a threuliai rhwng tair a phedair awr bob dydd i weddio, pregethu, ac esbonio yr Ysgrythyrau i'w gyd-garcharorion, ac eraill o drigolion y dref a ewyllysient ddyfod i mewn. Cyrhaeddodd y newydd yn fuan i glustiau y boneddwyr cymydogaethol, a llanwyd hwy ag ofn rhag y byddai i'r carchardy gael ei droi yn addoldy; a gosodasant orchymynion caeth ar y ceidwad na oddefai i neb ddyfod i mewn i uno a'r carcharorioni addoli yr Arglwydd. Ond cymaint oedd awydd y bobl i ddyfod i'w wrando, fel yr ymdyrent o amgylch y ffenestri oddiallan, er mwyn clywed ei weddiau a'i bregethau. Pan nad oedd fawr obaith y cai Mr. Owen na'i gyfeillion gyfiawnder, danfonodd Mr. John Evans, o Wrecsam, ei achos at gyfreithiwr dysgedig yn Llundain, barn yr hwn oedd, fod ei garchariad yn anghyfreithlon, a bod yr heddynad a'i traddododd yn agored. i gosp. Anfonodd yr heddynad yn uniongyrchol at geidwad y carchar pan welodd y perygl yr oedd ynddo, a gorchymynodd ef i droi Mr. Owen a'r cyfaill oedd gydag ef o'r carchar. Cynghorwyd Mr. Owen i ddial ei gam am ei garchariad, ond dewisodd lonyddwch gan ymddiried ei achos i'w Dad nefol i'r Hwn yn unig y perthyn dial. Ond pan ddeallodd yr ynad fod Mr. Owen yn wr am heddwch, dirwy odd ef a gwr y ty lle y buasai yn pregethu, a gwerthwyd eu meddianau i dalu y ddirwy. Yr oedd ymddygiad Mr. Owen o dan y cwbl yn hynod o amyneddgar, a thra yr oedd ei wrthwynebwyr yn ymddwyn mor greulon tuag ato, yr oedd yntau yn cael y pleser a'r mwynhad o weddio drostynt. Ysgrifenai at ei gyfeillion o'r carchar, "Os nad oedd yr efengyl yn werth dyoddef drosti, nad oedd yn werth ei phregethu."

Yn mis Tachwedd 1679, priododd Mr. Owen un Mrs. George, o Groesoswallt. Bu iddynt saith o blant, pump o ba rai a fuont feirw yn fabanod, a bu hithau farw Ionawr 1691. Ar yr achlysur pruddaidd hwn, pregethodd Mr. Owen oddiar Dat. xiv. 12, 13. Oddeutu yr adeg yma y symudwyd yr addoldy o Swiney i Groesoswallt.

Ar y 27ain o Fedi, 1681, cymerodd dadl gyhoeddus le rhwng Mr. Owen ac Esgob Caerwrangon, yn Neuadd Croesoswallt. Dechreuodd y ddadl am 2 o'r gloch yn y prydnawn, a diweddodd yn nghylch 9 yn yr hwyr, a dadleuwyd amryw o'r pynciau sydd yn gwahaniaethu Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Gwr da oedd yr Esgob hwnw, heb ddim o'r culni rhagfarnllyd at yr Ymneillduwyr oedd yn ei frodyr, ac yn gwbl groes i'w herlid, ond yn fawr ei sêl am eu dychwelyd i'r Eglwys Wladol. Cymerodd amryw o weinidogion a chlerigwyr ran yn y ddadl hon; ac yn mysg eraill yr oedd Mr. Phillip Henry, a Mr. Jonathan Roberts. Ennillodd yr Esgob parchus trwy ei hynawsedd barch oddiwrth y rhai na chawsant eu hargyhoeddi trwy ei resymau; ffyrnigodd eraill yn erchyll, a daeth gwarantau allan i ddal Mr. Owen, fel na feiddiai fyned o'i dŷ, ond yn y nos. Ond pregethai yno yn fynych i'w gymydogion, y rhai a ddeuent i'w wrando, er ei fod mewn rhyw ystyr fel Paul "yn garcharor yn ei dŷ ardrethol ei hun." Yn y flwyddyn 1693, priododd a'i ail wraig, Mrs. Edwards, o Groesoswallt, yr hon a fu farw yn mis Awst 1699. Ar y 12fed o Awst, 1700, priododd Mrs. Elizabeth Hough, gweddw Mr. John Hough, o Gaerlleon, a merch i John Wynne, Ysw., Coperlenny, yn swydd Fflint.

Yn 1696, derbyniodd wahoddiad taer i symud i Manchester, at gynnulleidfa gref a lluosog; ond gwrthododd y cynhygiad. Yn 1699, derbyniodd ail alwad o'r un lle; a'r un pryd derbyniodd alwad o'r Amwythig, a'r hon y cydsyniodd. Symudodd yno yn gynar yn 1700. Ei brif reswm dros ddewis yr Amwythig yn hytrach na Manchester oedd, am ei fod yn nes i Gymru. Ar ol ei symudiad i'r Amwythig-os nad yn wir cyn gadael Croesoswallt yr oedd wedi gosod i fyny Athrofa ibarotoi dynion ieuainge i'r weinidogaeth, yn benaf er mwyn eglwysi Cymru. Bu llawer o weinidogion dan ei ofal, ac yn mysg eraill bu ei nai, Mr. Jeremiah Owen, a Mr. Thomas Perrot, yr hwn wedi hyny a fu yn athraw yr Athrofa yn Nghaerfyrddin. Heblaw ei dduwioldeb seraphaidd, a'i ddoniau pregethu poblogaidd, yr oedd Mr. Owen yn ysgolhaig rhagorol, fel y rhestrid ef yn mhlith dysgedigion penaf ei oes. Cyfansoddodd lawer iawn o lyfrau Cymraeg a Saesoneg, o ba rai cyrhaeddodd amryw o honynt boblogrwydd mawr.

Trwy ei arferion myfyriol, a chyfyngu ei hunan mor llwyr i'w fyfyrgell, dechreuodd deimlo yn ieuangc oddiwrth ddolur y gareg, yr hyn a'i poenodd yn awr ac eilwaith am ddeng mlynedd ar hugain, ac a ddygodd ei fywyd defnyddiol a gwasanaethgar i derfyn yn anterth ei ddydd. Bu farw Ebrill 8fed, 1706, yn 52 oed, a chladdwyd ef ar yr 11eg o'r un mis, yn mynwent Eglwys St. Chidwella, Amwythig. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan ei gyfaill Mr. Mathew Henry. Amlygai ei foddlonrwydd ar ei wely angeu ei fod wedi byw, a'i fod wedi marw yn Anghydffurfiwr. Bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith, yn y mwynhad o gysuron uchaf crefydd, gan fendithio ei blant a'r gwyr ieuaingc oeddynt dan ei ofal; a dywedai Mr. Mathew Henry, yr hwn a ymwelasai ag ef yn ei gystudd diweddaf, "fod y nefoedd yn enaid James Owen, cyn fod enaid James Owen yn y nefoedd."

WILLIAM JERVICE. Nid oes genym ddim i'w ychwanegu am dano at yr hyn a ddywedasom eisioes. Yn ol llyfr eglwys Llanfyllin, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. D. Morgan, sefydlwyd ef yn 1703, a llafuriodd yno hyd 1743 am 40 mlynedd, a chladdwyd ef yn mynwent yr Eglwys, lle y gwelwyd ei gareg fedd gan rai o bobl henaf y dref a'i enw arni.

THOMAS EVANS. Yr ydym wedi dyweyd y cwbl a wyddom o'i hanes yntau. Boddodd yn ddyn ieuangc yn afon Efyrnwy, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Meifod.

JENKIN JENKINS, D.D. Nis gwyddom yn mha le na pha bryd y ganwyd ef. Yn Athrofa y Llwynllwyd yr addysgwyd ef, dan ofal y duwiol Vavasor Griffiths; ond gan i'r Athrofa gael ei symud yn 1740 i Hwlffordd, ac nad yw enw Dr. Jenkins yn mysg y myfyrwyr yno, yr ydym yn barnu iddo ef ar symudiad yr Athrofa o'r Llwynllwyd fyned i ryw Athrofa yn Lloegr neu Scotland, oblegid ni chafodd ei urddo cyn 1747. Yr ydym yn barnu mai yn Llanfyllin yr urddwyd ef, ond nid ydym yn sicr o hyny. Yn 1759, symudodd o Lanfyllin i Gaerfyrddin, i fod yn athraw clasurol yn yr Athrofa, ac yn weinidog yn Heol Awst. O amser marwolaeth Mr. Samuel Thomas, yr athraw Duwinyddol, yn 1766, bu Dr. Jenkins yn unig athraw y sefydliad hyd nes iddo roddi ei swydd i fyny yn 1779. Y flwyddyn hono symudodd i Lundain, lle y bu farw; ond nis gwyddom pa bryd y cymerodd ei farwolaeth le.

Yr oedd Dr. Jenkins, fel yr ymddengys, yn un o'r ysgolheigion goreu yn ei oes. Ariad ydoedd o ran cred, a dywedir ei fod yn mhell o feddu y difrifoldeb a'r duwiolfrydedd a nodweddai yr hen Ymneillduwyr a'r Puritaniaid. Dywed Mr. Morgan, Llanfyllin, iddo yn nhymor ei weinidogaeth yn y lle hwnw fod yn agos a lladd yr achos trwy ei ddiffyg difrifoldeb a nodwedd anefengylaidd ei weinidogaeth. Mae yn hysbys hefyd fod y myfyrwyr, yn ei amser ef, yn Nghaerfyrddin, yn nodedig am eu hanghrefyddoldeb.

JENKIN LEWIS. Ganwyd ef yn agos i Gastellnedd, yn y flwyddyn 1749. Ni chafodd ond ychydig fanteision boreuol; ond derbyniwyd ef yn aelod yn yr Alltwen gan Mr. John Dafis. Yr oedd o'i ieuenctyd yn neillduol am ei symlrwydd, ac ymneillduai o bob cymdeithas ofer a llygredig; O herwydd marwolaeth ei dad, bu raid iddo aros adref gyda'i fam er ei chynorthwyo gyda'r plant ieuengaf yn hwy nag y gwnaethai pe dilynasai dueddfryd ei feddwl. Yr oedd ei ogwyddiad yn gryf at y weinidogaeth, er na fynegasai ei deimladau nes i Mr. Lewis Rees ei holi yn yr achos; ac wedi deall ei awydd, calonogodd ef i fyned yn mlaen. Derbyniwyd ef i'r Athrofa oedd y pryd hwnw yn Abergavenny dan arolygiaeth Dr. Davies, yn y flwyddyn 1780. Yr oedd Mr. Lewis y pryd hyn dros 30 oed, ac mor anadnabyddus yn yr iaith Saesonaeg fel nas gallasai ateb ei athraw yn y pethau mwyaf syml. Ond trwy ymroddiad a diwydrwydd, daeth nid yn unig yn adnabyddus o'r iaith Saesonaeg, ond llwyddodd i allu gwneyd defnydd o'r Testament Groeg, ac i ddarllen gyda budd lyfrau duwinyddol yn Lladin; ac ni chollodd ddim o'i deimladau crefyddol wrth ymwneyd â'r pethau sychion hyny. Y tro cyntaf y derbyniodd ychydig arian er ei gynhaliaeth gan awdurdodau yr Athrofa, torodd allan i wylo, a dywedodd "Tarawodd i fy meddwl yn gryf nad oedd derbyn yr arian yma yn ddim gwell na chysegr—ladrad, os na ddefnyddiwn hwy i'r dyben cysegredig ag ydoedd mewn golwg wrth eu rhoddi." Yn ystod yr amser yr oedd ef yn fyfyriwr, tua diwedd 1781, rhoddodd Dr. Davies ei ofal i fyny yn Abergavenny, a symudwyd yr Athrofa mewn canlyniad i Groesoswallt, dan ofal Dr. Edward Williams. Arweiniwyd Mr. Lewis fel hyn i ymyl y maes oedd yn ngolwg Rhagluniaeth iddo lafurio ynddo.

Trwy symudiad Mr. J. Griffith i Gaernarfon, gadawyd eglwys Llanfyllin yn amddifad, a derbyniodd Mr. Lewis ei gwahoddiad i sefydlu yno, ac urddwyd ef fel y gwelsom Sulgwyn 1785. Ymroddodd Mr. Lewis â'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth, ac er pob gwrthwynebiad a'i cyfarfu nid ymollyngodd. Helaethodd ei lafur y tu allan i'r dref, a bu yn offerynol i blanu amryw o'r eglwysi cylchynol. Yr oedd ei lafur yn ngwinllan ei Arglwydd yn fawr. Pregethai fynychaf dair gwaith ar y Sabboth, a cherddai o bymtheg i ugain milldir; ac ar ddyddiau yr wythnos, yr oedd mewn llafur gwastadol. Yr oedd yn nodedig am brydlondeb, ac ni fynai er dim fod y bobl yn disgwyl wrtho ef. Gwylaidd iawn oedd ei deimladau, fel mai anhawdd fyddai cael ganddo wneyd dim os byddai gweinidogion eraill yn bresenol, am yr ystyriai ei hun y lleiaf yn eu plith. Calfinaidd ydoedd o ran ei olygiadau duwinyddol, ond byddai gwedd ymarferol i'w holl bregethau. Llefarai yn llym yn erbyn pechod, ac yr oedd tuedd ddeffrous argyhoeddiadol i'w weinidogaeth. Yr oedd o deimladau cryfion; a phan y byddai ei ysbryd wedi digio, ni fedrai guddio hyny o'i wyneb. Llefarai yn ddidderbyn—wyneb fel y teimlai, a gallai y rhai a'i hadwaenai ddarllen ei galon yn ei edrychiad. Ond yr oedd ei serchiadau hefyd yn gryfion, fel yr oedd anwyldeb mawr rhyngddo a'i gyfeillion. Amlygai ofal arbenig am bobl ieuaingc ei gynnulleidfa, a phobl ieuaingc y teuluoedd â'r rhai yr ymwelai; ac ni chollai yr un cyfleusdra i ymddyddan yn bersonol â hwy.

Adroddir ei fod unwaith mewn teulu, ac anfonwyd bachgen bychan naw oed i ddangos y ffordd iddo wrth fyned ymaith. Dechreuodd holi y bachgen bachgen bach yn nghylch achos ei enaid, a rhoddodd iddo lawer o gynghorion gwerthfawr, y rhai yr ymddangosai y llanc bach yn eu derbyn. Pan o gylch pedair—ar—ddeg oed, gadawodd y bachgen hwnw dy ei dad, a dechreuodd ymwylltio gyda bechgyn anystyriol, a daeth cyn hir yn flaenor mewn annuwioldeb yn eu plith. Clywodd Mr. Lewis hyn, a gofidiodd yn fawr, a mawr oedd ei awydd am weled y bachgen drachefn. Yn Rhagluniaethol, cyfarfu ag ef ar y ffordd, a daliwyd y bachgen pan ei gwelodd â'r fath ddychryn fel na feddai nerth i ffoi na gwroldeb i'w wynebu. Cyn gynted ag yr adnabu Mr. Lewis ef, disgynodd oddiar ei anifail—rhedodd i'w gyfarfod—cofleidiodd ef gyda thyrerwch tad—ac yn ei ddagrau, dywedodd—"Ow! fy machgen! Ow! fy machgen! Pa fodd y diengaist?" Gwnaeth ei ymddygiad serchog—ei ddagrau dwysion—a'i eiriau tyner argraff annileadwy ar feddwl y llanc; ac o'r dydd hwnw allan newidiodd gwrs yn hollol, gan ddwyn arwyddion amlwg o gyfnewidiad cyflwr; a bu ar ol hyny am oes hir yn bregethwr llwyddianus. Y fath oedd serch y bobl ieuaingc tuag ato fel yr ymgasglent o gylch ei dy i holi ei helynt pan oedd yn glaf; a phan yr oedd yn marw, sylwyd ar un gwr ieuangc yn wylo; a phan y gofynwyd iddo y rheswm, atebodd—"Nid yn gymaint am fod Mr. Lewis yn marw; ond am fy mod i heb grefydd, ac yntau yn arfer dyweyd bob amser ei fod yn gobeithio cael fy ngweled yn grefyddwr cyn ei farw."

Yn y flwyddyn 1793, priododd âg un o aelodau yr eglwys Annibynol yn y Bala; ond ni fu yr un plentyn iddynt. Dygai arwyddion amlwg ei fod yn addfedu i'r nefoedd fel yr oedd yn nesau at derfyn bywyd; ac ar ddydd yr Arglwydd, Tachwedd 24ain, 1805, hunodd mewn tangnefedd. Claddwyd ei gorff yn mynwent Eglwys y plwyf y dydd Mercher canlynol; ac wedi gadael ei weddillion marwol yn "nhy ei hir gartref," aeth y dorf i'r capel, a phregethodd Mr. Jenkin Lewis, Casnewydd; Mr. John Roberts, Llanbrynmair; a Dr. George Lewis, y pryd hwnw o Lanuwchllyn —yr olaf, trwy ddymuniad, oddiar Mat. xxv. 21: "Da, was da a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig; mi a'th osodaf ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

DAVID ROBERTS. Daw ei hanes ef yn nglyn âg eglwys Dinbych, lle y terfynodd ei yrfa.

DR. GEORGE LEWIS. Gweler ei hanes ef mewn cysylltiad a'r achos yn y Drefnewydd, lle y bu farw y flwyddyn gyntaf wedi gadael Llanfyllin.

WILLIAM MORRIS. Er mai yn Llanfyllin yr urddwyd ef, y bu farw, ac y claddwyd ef, etto, gan mai Bryngwran, Mon, fu ddiweddaf dan ei weinidogaeth, yn nglyn â'r eglwys yno y ceir ei hanes.

DAVID MORGAN. Ganwyd ef Rhagfyr 27ain, 1779, yn y Ddolwen, yn mhlwyf Llanfihangel-Creuddyn; un o ardaloedd gwylltaf a mwyaf mynyddig sir Aberteifi. Yr oedd ei dad yn amaethwr cyfrifol, ac yn berchenog ar gryn lawer o dir; ac yr oedd ef a'i henafiaid er's cenedlaethau wedi trigianu yn y Ddolwen. Bu i'w rieni saith o blant, dau o ba rai a fuont feirw yn eu mabandod. David oedd eu chweched plentyn. Bu farw ei fam pan nad oedd ef ond dwyflwydd oed, a disgynodd gofal y plant ieuengaf mewn cysylltiad â'i thad ar y ferch hynaf. Yn y Bywgraphiad a ysgrifenodd Mr. Morgan o hono ei hun-o'r hwn y cymerwyd y rhan fwyaf o ddefnyddiau y cofnodion hyn-llefara yn uchel iawn am ei chwaer hynaf, a'i ddyled iddi am yr addysg grefyddol a gafodd ganddi. Ymunodd hi â'r Methodistiaid Calfinaidd pan yn ieuangc, a glynodd gyda hwy hyd ddiwedd ei hoes, a bu farw mewn oedran teg er's blynyddau lawer yn Ponterwyd, sir Aberteifi. Er mai Eglwyswr defosiynol oedd ei dad rhan fwyaf o'i oes, etto, cyn diwedd ei ddyddiau, ymunodd yntau â'r Methodistiaid, gan ddwyn arwyddion amlwg o gyfnewidiad cyflwr. Derbyniodd Mr. Morgan yn ei ddyddiau boreuol well addysg nag a roddid i'r rhan fwyaf hyd yn nod o blant amaethwyr a thirfeddianwyr y dyddiau hyny; ond cwyna yn enbyd yn erbyn anfedrusrwydd yr athrawon y rhoddwyd ef dan eu gofal, ac ar yr afreoleiddiwch oedd yn nglyn a'i addysg foreuol, oblegid sefyllfa anghysbell ei gartref, a'r ffyrdd anhygyrch oedd ganddynt i fyned i bob man. Dechreuodd deimlo argraffiadau crefyddol yn foreu ar ei feddwl. Y cof cyntaf oedd ganddo am unrhyw argraff ddwys a gynyrchwyd ar ei feddwl oedd ar un nos Lun Pasg, pan oedd yn saith neu wyth mlwydd oed, wrth wrando Mr. Williams, Lledrod, yn pregethu mewn lle a elwir Brynchwith, oddiar y geiriau, "Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'u tân yn diffodd." Cafodd y testun a'r bregeth effeithiau dwfn ar ei feddwl. Dygodd of i wrande yn amlach, ac i ddarllen y Gair yn fwy astud, ac i ymhyfrydu yn fwy mewn cyfeillachau crefyddol i'r rhai y cyrchai gyda'i chwaer henaf. Teithiai lawer i gyfarfodydd, a theimlai fywiogrwydd a sêl wresog tuag at grefydd. Yr oedd hoffder mawr ganddo mewn darllen y Beibl, yn neillduol y rhanau hanesyddol o hono, a dywed fod ganddo lawer o lanerchau ar hyd y bryniau a'r meusydd oeddynt yn gysegredig yn ei olwg, oblegid y teimladau a fwynhaodd ynddynt wrth dywallt ei galon ger bron Duw. Ond collodd y teimladau dymunol hyny. Ymadawodd a'i gariad cyntaf-daeth oerder i'w serchiadau-dechreuodd hoffi cyfeillachau digrefydd, ac aeth i geisio hyfrydwch ar dir gwaharddedig. Yr oedd y pryd hyny tua 19 oed, a bu am rai blynyddau yn rhodio yn ol helynt y byd hwn, gan ymhyfrydu yn nifyrwch cyffredin meibion amaethwyr cyfoethog y dyddiau hyny. Pan oedd ef tuag 21 oed, o herwydd rhyw amgylchiadau, symudodd ei dad o'r Ddolwen, hen gartrefle ei henafiaid, i'r Dolau, rhwng Aberystwyth a Thalybont. Yr oedd ei chwiorydd a'i frawd erbyn hyn wedi priodi, ac yntau wedi ei adael ei hunan gyda'i dad. Priododd ei dad hefyd, ar ol bod yn weddw am 22 mlynedd; ac er nad oedd mewn un modd yn beio ymddygiad ei dad, etto nis gallasai deimlo yn hapus i feddwl byw gyda'i lysfam. Aeth am dymor i'r ysgol i'r Amwythig yn ddyn 23 oed, yn ei gyflawn faintioli. Wedi bod yno dros yr amser bwriadedig, meddyliodd am gyflwyno ei hunan i fasnach; a chytunodd â masnachwr cyfrifol ac ymroddgar yn Machynlleth, a adnabyddid wrth yr enw "John Jones y Siopwr." Yr oedd ei feistr, heblaw bod yn fasnachwr cyfrifol, yn Ymneillduwr crefyddol, ac yn un o brif golofnau yr achos Annibynol yn y dref. Yn ei dy ef y llettyai y pregethwyr Annibynol a ddeuai yma. Y noson gyntaf wedi i Mr. Morgan fyned i'w le newydd yn Machynlleth, yn Rhagluniaethol yr oedd cyhoeddiad y diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair, i fod yn y dref; ac wrth reswm, yr oedd i aros y noson hono gyda John Jones y Siopwr, yn lletty y fforddolion. Nid oedd Mr. Morgan erioed wedi cyfarfod a Mr. Roberts o'r blaen, a digon prin y gwyddai fod y fath ddyn ag ef yn y byd; ac ni wyddai Mr. Roberts ddim am dano yntau. Yr oedd y siopwr newydd, a'r pregethwr o Lanbrynmair i fyned i'r un ystafell, ac i'r un gwely i gysgu. Ond er eu bod yn hollol ddyeithr i'w gilydd, ar ol myned i'r ystafell wely, dyma Mr. Roberts, yn ol ei arfer, a chyda'r tynerwch oedd mor briodol iddo, yn dechreu holi y gwr ieuangc yn nghylch mater ei enaid; ac fe ddeallodd yn fuan fod teimladau cryfion yn nghalon y llanc. Treuliwyd y rhan fwyaf o'r noson hono mewn ymddyddan difrifol am natur a hawliau gwir grefydd; ac o'r adeg hono, dechreuwyd cyfeillgarwch rhyngddynt, yr hwn a barhaodd hyd farwolaeth Mr. Roberts, yn mhen mwy na deng mlynedd ar hugain arol hyny; ac nid hyny yn unig, ond cariodd ymddyddanion y noson hono ddylanwad annileadwy ar feddwl Mr. Morgan, yr hwn a barhaodd dros ei holl fywyd. Yr oedd y pryd hwnw yn 23 oed; ac y mae Mr. Morgan wedi ei osod ar gof a chadw pan yn 77 oed—nad oedd treigliad mwy na haner can' mlynedd o lafur didor yn ngwasanaeth ei Arglwydd wedi dileu o'i gof yr ymddyddan ar y pryd; ond ei fod yn cofio yn fywiog, ac yn cael adeiladaeth wrth gofio llawer o ymadroddion gwerthfawr Mr. Roberts yn ystod y noson fythgofus hono. Nid arhosodd Mr. Morgan ond chwe mis yn Machynlleth, gan nad oedd ganddo chwaeth at fasnach, a dychwelodd adref gan benderfynu ymroddi i fywyd amaethyddol. Erbyn hyn yr oedd yr Annibynwyr yn dechreu pregethu yn Nhalybont; a chan ei fod yntau wedi arfer gwrando arnynt yn ystod ei arosiad yn Machynlleth, cyrchai i'w gwrando yn achlysurol ar ol dychwelyd gartref, er fod gan weinidogaeth gyffrous a thanllyd y Methodistiaid, yr hon a arferasai wrando o'i febyd, hyd yma fwy o swyn i'w feddwl a'i dymer fywiog ef.

Ar y 4ydd o Orphenaf, 1805, priododd â Mary, merch henaf John Hughes, Ysw., Llwynglas, yn mhlwyf Llanfihangel-genau'r-glyn, yr hwn oedd wr cyfrifol, ac yn ynad heddwch yn sir Aberteifi. Dranoeth i ddydd ei briodas yr agorwyd y capel newydd yn Nhalybont; a daeth ef a'i wraig i deimlo fod yn rhaid iddynt sefydlu i addoli yn rheolaidd yn rhywle. Aeth i fyw i le a elwir Cerrigcaranau, o gylch dwy filldir o Dalybont, a thua yr un pellder oddiwrth gapel i'r Methodistiaid. Gogwyddai Mr. Morgan i fyned i gapel y Methodistiaid, ond gogwyddai Mrs. Morgan yn fwy i fyned i Dalybont, ac felly y penderfynwyd; ac yn mis Medi 1807, derbyniwyd hwy ill dau yn aelodau eglwysig gan Mr. Azariah Shadrach. Digwyddodd fod gan Mr. Morgan yn yr adeg yma wasanaeth-ddyn, yr hwn oedd yn aelod yn Nhalybont; a dywed i gyfeillach ac addysgiadau y gwas da hwnw fod o wasanaeth dirfawr iddo ef yn nechreuad ei grefydd. Yn yr adeg yma, yr oedd y Wesleyaid wedi dyfod i'r wlad, ac yn lledaenu eu golygiadau y rhai oedd y pryd hwnw yn newydd a dyeithr i'r lluaws; a dywed Mr. Morgan mai ei hoffder o ddadleu, a'i awydd am gael rhesymau i'w gwrthsefyll hwy, a barodd iddo chwilio y Beibl yn fanylach nag y gwnaethai erioed o'r blaen; a darllenai bob peth a ddeuai i'w gyrhaedd ar y pynciau mewn dadl. Yr oedd y fath yni a bywiogrwydd yn ei natur fel y taflodd ei holl galon i waith crefydd ar ei ymuniad â'r eglwys yn Nhaly bont. Tynodd wg ei deulu yn-nghyfraith drwy ei waith yn ymuno â'r Ymneillduwyr; oblegid Eglwyswyr uchelfrydig oeddynt hwy, ac ystyrient fod ymuno â'r Ymneillduwyr, yn arbenig â'r Annibynwyr, yn ddiraddiad iddynt fel teulu. Ac yn enwedig pan y cymerodd ei gyntafanedig i Dalybont i'w fedyddio gan Mr. Shadrach, aeth eu digter dros fesur. Nid ymddygai ei thad at Mrs. Morgan fel cynt; ac yr oedd ei brawd henaf, yr hwn oedd gyfreithiwr, yn llawn digllonedd tuag ati, a chiliai ei chwiorydd oddi wrthi fel un wedi diraddio y teulu; ond yr oeddynt hwy ill dau wedi bwrw y draul; ac er eu bod yn teimlo oddiwrth y diystyrwch a deflid arnynt, etto nid ysigwyd eu penderfyniad i lynu yn eu proffes. Yr oedd brawd ieuengaf Mrs. Morgan yn offeiriad, ac yn gweinyddu ar y pryd yn sir Ddinbych; ond symudodd wedi hyny i Aberystwyth; ac y mae enw Mr. J. Hughes yn barchus gan lawer yn y dref fel offeiriad crefyddol ac efengylaidd. Daeth ef adref ar ymweliad â'i dad, a gosododd y teulu ger ei fron ymddygiad Mr. a Mrs. Morgan yn ymuno â'r Annibynwyr, ac yn neillduol eu gwaith yn cymeryd eu plentyn at bregethwr Ymneillduol i'w fedyddio. Cymerodd Mr. Hughes blaid ei chwaer a'i frawd-yn-nghyfraith, a dywedodd iddynt wneyd yn hollol yn eu lle, gan eu bod wedi ymuno â'r Ymneillduwyr, nad oedd dim yn fwy rhesymol nag iddynt fyned a'u plentyn at eu gweinidog eu hunain i'w fedyddio; ac am y bedydd, ei fod mor gyfreithlon yn ngwyneb y Beibl a chyfraith y wlad a phe buasai wedi ei weinyddu gan Archesgob Canterbury. Lliniarodd hyny ddrwg deimlad y teulu tuag atynt, ac adferwyd iddynt eu sirioldeb a'u caredigrwydd blaenorol; a bu Mr. Morgan a Mr. Hughes, yr offeiriad, yn gyfeillion mynwesol hyd derfyn eu gyrfa.

Pan yr ymunodd Mr. Morgan â'r eglwys fechan yn Nhalybont, nid oedd dim yn mhellach oddiwrth ei feddwl na myned i'r weinidogaeth; nac, yn wir, hyd yn nod yn bregethwr achlysurol. Gwthiwyd y peth arno yn hollol heb iddo ei geisio. Mewn cyfeillach eglwysig, yn mhen rhyw chwech wythnos wedi ei dderbyniad yn aelod, dywedodd Mr. Shadrach ei fod am i bump o'r aelodau gwrrywaidd oedd yno, gan eu henwi, gymeryd rhyw adnod i wneyd ychydig sylwadau arni yn y cyfeillachau yr wythnosau dilynol, ac yna enwodd pwy oedd i ddechreu yn y gyfeillach gyntaf; ac ychwanegai, hwyrach erbyn i'r pum brawd yma wneyd, y bydd Mr. Morgan wedi cael amser i feddwl am rywbeth i'w ddyweyd. Yn unol â'i fywiogrwydd arferol, nid arosodd Mr. Morgan i glywed y pum brawd yn myned trwyddi cyn dechreu meddwl pa beth a ddywedai, ond dechreuodd feddwl yn ddioed; ac ymagorodd cymaint o bethau iddo, fel y tybiai y gallasai lefaru am unrhyw bryd. Noson y gyfeillach yn mhen yr wythnos a ddaeth; ond erbyn myned yno, nid oedd yr un o'r pump brawd a enwyd yn bresenol. Ceisiodd Mr. Shadrach gan Mr. Morgan ddyweyd ychydig, ond mynai ar bob cyfrif ymesgusodi; ond wrth hir wasgu arno, cododd, a darllenodd 2 Cor. vii. 2, a llefarodd am awr gyda'r fath gyflymder, a bywiogrwydd, a nerth nes synu pawb yn y lle. Ar ol hyny, nid oedd llonyddwch iddo na Sabboth nac wythnos, yn y capel nac ar hyd y tai; ond gorfodid ef i ddyweyd ar ryw ran o'r Ysgrythyr agos yn mhob eyfarfod, os na buasai yno bregethwr; ac unwaith y dechreuai, nid oedd na phall na diwedd arno. Yr oedd yr adeg hono yn adeg gyffrous iawn ar grefydd, a thywalltiadau helaeth o'r Ysbryd Glan yn cael eu profi mewn manau; ac yr oedd angerddoldeb ysbryd Mr. Morgan yn cael ei ddwyn allan mewn modd amlwg yn nghyfarfodydd y dyddiau hyny.

Dichon fod y gorweithiad a wnaed arno y pryd hwnw, a'r orfodaeth a roddid arno i lefaru mewn cyfarfodydd bedair neu bum waith yr wythnos, a hyny pan nad oedd cylch ei ddarlleniad a'i wybodaeth ond cyfyng, ac na chaniateid iddo hamdden i drefnu ei feddyliau yn briodol, wedi effeithio ar ei arddull dros ei holl fywyd. Mabwysiadodd ddull gwasgarog, cwmpasog, ac amleiriog; a chydnabyddai ei hun fod hyny yn codi oddiar na chafodd neb pan oedd yn ieuangc i'w gyfarwyddo am y dull goreu i drefnu ei sylwadau a thraethu ei feddyliau. Yn mhen o gylch deufis wedi y gyfeillach, yn yr hon y siaradodd ar destun gyntaf; ac wedi gwneyd hyny lawer gwaith drachefn, gofynodd Mr. Shadrach mewn cyfarfod eglwysig i'r eglwys, a oeddynt yn derbyn Mr. Morgan fel pregethwr rheolaidd; ac wedi cael atebiad cadarnhaol, a hwnw yn hollol unfrydol, y Sabboth canlynol, ymaflodd Mr. Shadrach yn ei law, ac arweiniodd ef i'r pulpud i bregethu o'i flaen; a dyna y tro cyntaf erioed i Mr. Morgan fod mewn pulpud yn cynyg ar y gwaith o bregethu. O hyny allan, ymroddodd â'i holl egni i wneyd "gwaith efengylwr." Bu am fwy na chwe blynedd yn pregethu bedair neu bum waith bob wythnos, ac yn fynych yn amlach na hyny, trwy yr holl ardaloedd o amgylch Talybont, a hyny heb dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth am ei lafur. Arferai fyned unwaith bob mis am flynyddau dros afon Dyfi i'r Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, i gynorthwyo Mr. James Griffith, ar yr hwn y pryd hwnw yr oedd gofal y lleoedd bychain hyn mewn cysylltiad â Machynlleth. Yn 1811, rhoddodd Mr. Griffith i fyny ofal y Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, gan gyfyngu ei lafur i Fachynlleth ac Aberhosan; ac anogwyd Mr. Morgan gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, Mr. W. Hughes, Dinas, a Mr. W. Jones, Trawsfynydd, i gymeryd eu gofal. Yn unol â'r cais, ac ar wahoddiad yr eglwysi, cydsyniodd yntau, ac urddwyd ef mewn cyfarfod a gynhaliwyd i'r pwrpas yn yr awyr agored yn Towyn yn mis Mawrth 1813. Ni symudodd ei deulu o sir Aberteifi, ond ymwelai â'i eglwysi yn rheolaidd ddwy waith bob mis; ac ar y Sabbothau eraill gwasanaethai pa le bynag y byddai galwad am dano. Teithiai yn aml ugain a deng milldir ar hugain ar y Sabboth, ac ychwaneg na hyny yn fynych; ac yr oedd yn gwbl ymroddedig i waith ei Arglwydd. Ar ymadawiad Mr. J. Griffith o Machynlleth i Dyddewi yn 1814, derbyniodd Mr. Morgan alwad i fod yn olynydd iddo. Ar yr un pryd derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Llanfyllin; ond gogwyddwyd ef i gydsynio â gwahoddiad yr eglwys yn Machynlleth, a sefydlwyd ef yno Rhagfyr 19eg a'r 20fed, 1814. Symudodd ei deulu i Fachynlleth; ac o'r adeg yma y gellir dyddio ei ymroddiad hollol i "wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab," heb "ymrwystro gyda negeseuau y bywyd hwn." Parhaodd ei lafur diflino am ddwy flynedd ar hugain yn Machynlleth a'r amgylchoedd; a bu ei ymdrechion yn llwyddianus iawn. Pan yr ymsefydlodd yno, nid oedd ond dau gapel gan yr Annibynwyr o fewn deng milldir o amgylchedd ; ac nid oedd rhifedi yr aelodau rhwng Aberhosan a'r dref yn fwy na 120. Ond ymroddodd â'i holl egni i "gyflawni ei weinidogaeth" "mewn amser ac allan o amser.' Pregethai mewn tai anedd, ar y meusydd, yn yr awyr agored, yn gystal ag yn yr addoldai. Ail adeiladwyd y capel yn Machynlleth trwy draul fawr, a gwnaed ef y capel eangaf a feddai yr enwad ar y pryd yn Ngogledd Cymru. Adeiladwyd nifer o gapeli bychain yn amgylchoedd y dref yn benaf gyda'r amcan o gynal ynddynt ysgolion Sabbothol a phregethu achlysurol. Codwyd un yn mlaen y plwyf a alwyd Soar, ac un arall yn y Glasbwll, ac un arall yn Penal, yr hwn a helaethwyd hefyd yn ei amser ef, ac un arall yn Llanwrin, ac un arall yn Penegos, a thalwyd eu traul agos yn llwyr yn yr ardaloedd lle y codwyd hwy. Yr oedd gwasanaeth rheolaidd yn cael ei gynal hefyd yn y Dderwenlas, er na chodwyd yno yr un capel yn nhymor ei weinidogaeth ef. Cynyddodd yr achos yn Machynlleth a'r canghenau, fel yr oedd ar un adeg tua phedwar cant o aelodau dan ei ofal, a'r ysgolion Sabbothol yn yr holl leoedd rhwng wyth, a naw cant. Sicrha Mr. Morgan mai anaml y bu yr un gweinidog yn fwy cysurus, ac ar y cyfan yn fwy llwyddianus nag y bu ef yn Machynlleth yn y deuddeg neu y pymtheg mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth. Derbyniodd fwy na phum cant i gymundeb eglwysig yno. Nid oedd yr eglwys ar ei sefydliad yn gallu addaw iddo fwy na 30p. yn flynyddol; ond wedi ei ymadawiad ef, rhanwyd ei weinidogaeth rhwng pedwar o weinidogion; ac y mae yn sicr genym fod pob un o honynt yn derbyn cymaint ag a dderbyniai Mr. Morgan oddi wrthynt oll. Yn 1827, derbyniodd alwad o'r Drewen, sir Aberteifi; a bu awydd cryf ynddo i fyned, am ei fod yn tybied ei fod gweled arwyddion ystorm yn ymgasglu; ond pa fodd bynag, wedi ymddyddan â rhai o'r cyfeillion, daeth i benderfyniad i aros lle yr oedd. Nid yw yn perthyn i ni yma fyned i mewn i'r amgylchiadau blinion a gyfarfu a Mr. Morgan yn Machynlleth. Mae ef ei hun wedi myned i mewn yn helaeth iddynt yn y Bywgraphiad a ysgrifenodd, yr hwn sydd yn awr ger ein bron, ac y mae yn rhoddi ei esboniad arnynt o'i safbwynt ei hun; ond nid ydym yn gweled yr atebai eu cyhoeddi un daioni. Mae Mr. Morgan a'r genedlaeth hono agos oll wedi myned heibio. Gwyr pawb a adwaenai Mr. Morgan ei fod o dymer fywiog a chyffrous, ac yn angerddol yn y peth a gymerai mewn llaw; ac nid oedd yn un o'r rhai arafaf i gymeryd i fyny ag unrhyw beth; ac os daeth i gyffyrddiad â rhai o gyffelyb dymer iddo ei hun, mae yn hawdd cyfrif pa fodd y daethant i wrthdarawiad. Ond yr oedd yn unplyg a diddichell, ac yn drwyadl ffyddlon i bob peth yr ymgymerai ag ef, ac i bawb y proffesai ffyddlondeb iddynt.

Yn nechreu y flwyddyn 1836, derbyniodd alwad oddiwrth, eglwys Gartside Street, Manchester, a symudodd yno. Digwyddodd fod yn adeg isel iawn ar fasnach pan y sefydlodd yn Manchester; ac nid oedd awyr afiach y ddinas boblogaidd yn ateb i iechyd un oedd wedi treulio hyd yn agos i dri ugain oed i yfed awelon iachus, a mwynhau golygfeydd aruchel y mynyddoedd. Nid oedd ychwaith yn mwynhau yr un cyfleusderau i gyfeillachu a'i frodyr, ac i fynychu cyfarfodydd pregethu, a'r hyn yr oedd wedi arfer trwy ei oes. Disgynodd ei ysbryd i fesur mawr yn yr adeg yma, trwy gydgyfarfyddiad gwahanol dreialon, er iddo gael caredigrwydd mawr oddiar law yr eglwys yn Manchester; a theimlai hyd ddiwedd ei oes ymlyniad wrth y lle a'r bobl.

Wedi bod yno dair blynedd, derbyniodd alwad yn Hydref 1839 oddiwrth eglwys Llanfyllin; gan yr hon, fel y crybwyllasom eisioes, y derbyniodd alwad 22 mlynedd yn flaenorol, pan yr ymsefydlodd yn Machynlleth. Symudodd i Lanfyllin yn mis Tachwedd y flwyddyn hono. Teimlai yno ei fod gartref yn ei elfen ei hun; ac nid oedd dim yn fwy naturiol i'w deimlad na chael dychwelyd i dreulio gweddill ei oes yn mysg ei hen gyfeillion yn Maldwyn, er fod y rhan fwyaf o gyfeillion boreu a chanol ei oes erbyn hyn wedi "myned i ffordd yr holl ddaear." Llafuriodd yn Llanfyllin a'r wlad oddi amgylch am y 18 mlynedd dyfodol, nes y gorfu iddo deimlo o'r diwedd fod methiant a gwendid wedi ei ddal, ac nas gallasai sefyll fel cynt ger bron arch Duw. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn mis Hydref 1857, pan oedd o fewn dau fis i 78 oed. Y groes drymaf a'i cyfarfu yn ei fywyd oedd rhoddi y weinidogaeth i fyny. Ei ddymuniad bob amser oedd cael marw ar y maes, yn y tresi, fel y dywedai ei hun; a phe buasai yr Arglwydd yn caniatau iddo y dymuniad a amlygwyd ganddo fwy nag unwaith, yn y pulpud y cawsai farw, a hyny pan gyda'i hoff waith o gyfeirio pechaduriaid at "Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Nid oedd gan fywyd ddim swyn iddo ef, ond yn unig fel y gwasanaethai yn gyfleusdra iddo i fod yn ddefnyddiol gydag achos ei Arglwydd ; a phan y methodd a bod yn ddefnyddiol fel cynt, collodd bywyd ei brif werth yn ei olwg. Nis gallasai ef fyw heb amcan sefydlog yn ei olwg; a chyn gynted ag y deallodd fod ei ddydd gwaith ar ben, nid oedd ynddo un dymuniad neiliduol am fyw yn hwy.

Yn y rhagolwg ar ei ymddeoliad o'r weinidogaeth, amlygodd eglwysi yr enwad eu gwerthfawrogiad o'i lafur hirfaith a diflino trwy wneyd tysteb er prynu blwydd-dal (annuity) iddo. Casglwyd amryw ganoedd o bunau, a suddwyd cyfran o'r swm a gasglwyd yn funds y Llywodraeth; ond ni bu Mr. Morgan fyw i fwynhau dim o'u ffrwyth. Cyn pen dau fis wedi eu suddo yn y funds, ac yn mhen wyth mis wedi iddo gyflwyno ei weinidogaeth yn Llanfyllin i fyny, nesaodd ei ddyddiau ef i farw. Gan nad oedd gan ei Arglwydd ddim rhagor ganddo i'w wneyd drosto ar y ddaear, galwyd ef adref i dderbyn gwobr y gwas da a ffyddlon." Wedi byr, ond poenus gystudd, bu farw yn Nghroesoswallt, Mehefin 14eg, 1858, i'r lle yr oedd wedi symud dair wythnos cyn ei farwolaeth, gyda'r bwriad o dreulio gweddill ei ddyddiau.

Cymerwyd ei weddillion marwol yn ol i Lanfyllin ddydd Gwener, Mehefin 18fed, a chladdwyd ef yn barchus yn mynwent y capel lle y llafuriodd dros gynifer o flynyddoedd. Daeth torf luosog yn nghyd i'w ddilyn i dy ei hir gartref, ac yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y sir, ac amryw o siroedd eraill, yn bresenol; a llywyddid y gwasanaeth angladdol yn y capel ac wrth y bedd gan ei hen gyfaill a'i gyd-lafurwr Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yr hwn, cyn geni y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn bresenol, oedd yn cymeryd rhan yn ei urddiad; a'r hwn yn awr a safai ar lan y bedd â deigryn gloyw yn ei lygad, fel tad y to o weinidogion oedd ar y pryd yn Ngogledd Cymru; ac fel yr olaf o'r "cedyrn fu wŷr enwog" yn Ngwynedd yn yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol, a'r hwn hefyd erbyn hyn sydd wedi dilyn ei gyfoedion, ac wedi "huno gyda'i dadau."

Rhaid i ni gyfyngu ein sylwadau ar nodwedd a llafur Mr. Morgan i ychydig eiriau, gan na chaniata ein terfynau i ni wneyd olrheiniad llawn i'w holl neillduolion. O ran ei ymddangosiad allanol, yr oedd pan yn anterth ei ddydd yn dalach na'r cyffredin o ddynion, yn esgyrniog, ac wedi ei adeiladu yn gydnerth, a gallasai ei gyfansoddiad oddef unrhyw swm o lafur heb ddiffygio. Yr oedd penderfyniad yn amlwg yn ei lygaid, a thalweddau ei wyneb; ac fel yr ymddangosai, felly yr ydoedd mewn gwirionedd. Nid yn fynych y gallasai y llygaid ddisgyn ar ddyn mwy pendefigol yr olwg arno; ac yr oedd ei wisg a'i wallt, a holl ysgogiadau ei gorff, yn dangos yn eglur ei fod wedi hanu o gyff gwahanol i'r cyffredinolrwydd o ddynion. Yr oedd o alluoedd meddyliol cryfion, ac ymaflai yn wastad mewn egwyddorion mawrion; ac er nad oedd wedi cael manteision athrofaol pan yn ieuangc, etto ymroddodd i wneyd y diffyg i fyny trwy efrydiaeth ddiflino; ac yr oedd cylch ei ddarlleniad yn eang iawn; a thrwy hir ymarferiad, yr oedd wedi dwyn ei feddwl mor llwyr dan ddysgyblaeth fel y gallai pa le bynag y byddai ddwyn ei fyfyrdodau at y mater fyddai dan sylw ganddo. Am y pethau a gredai, yr oedd yn eu credu yn drwyadl, ac yr oedd ei angerddoldeb dros yr hyn a gredai yn wirionedd yn ei gario weithiau i eithafion. Er fod ei henafiaid, a llawer o'i berthynasau, yn enwedig o du ei wraig, yn Eglwyswyr, etto yr oedd efe yn Ymneillduwr goleuedig a chydwybodol. Dyrchafodd ef ei lais yn uchel, a llefarodd yn groyw yn erbyn anysgrythyroldeb cysylltu crefydd â'r Llywodraeth Wladol yn mhell cyn fod y byd yn gwybod enwau y rhai a ddaeth wedi hyny yn enwog yn Nghymru a Lloegr fel amddiffynwyr crefydd rydd. Yr oedd wedi pregethu ac ysgrifenu ar egwyddorion Cymdeithas Rhyddhad Crefydd am oes gyfan cyn i'r egwyddorion hyny wisgo ffurf mewn cymdeithas; ond pan y ffurfiwyd cymdeithas i'r perwyl, nid oedd neb yn Nghymru yn barotach i ddyfod allan o'i phlaid. Ceir ei enw ef yn un o'r chwe brodyr hyny" a ysgrifenasant draethodau yn Attodiad i'r "Llyfr Glas," fel ei gelwid, gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; a dyoddefodd ei ran o'r cabledd a fwriwyd ar y gwyr hyny fel cyfeiliornwyr a hereticiaid. Ni bu ef erioed yn eithafol ei olygiadau ar bynciau duwinyddol; ac nid oedd dim cymod rhyngddo â'r golygiadau "newydd a dyeithr," fel y cyfrifai efe hwynt, a goleddwyd gan rai o'i frodyr ar waith yr Ysbryd Glan; a bu mewn dadl gyda mwy nag un o honynt yn ngholofnau y Dysgedydd ar y mater pwysig yna.

Pan y daeth dirwest gyntaf i Gymru, syrthiodd i mewn yn y fan â'r egwyddor. Edrychai arni fel y peth oedd yn angenrheidiol i gyfarfod cyflwr ein gwlad. Gwnaeth ei oreu o'i phlaid, a bu yn ddirwestwr cywir a phybur hyd ei fedd. Nid oedd byth yn cellwair â dim, a pha beth bynag y proffesai fod, dyna ydoedd; a phan unwaith yr argyhoeddid ef beth oedd ei ddyledswydd gwnai hi, gan adael y canlyniadau yn llaw yr Arglwydd. Dichon pe buasai yn fwy ystwyth a hyblyg, yr arbedasid ef rhag llawer ystorm a'i cyfarfu; ac nid ydym yn sicr na byddai weithiau yn gwneud pethau yn fater o egwyddor, neu yn bwngc cydwybod, nad oeddynt ond pethau o farn ac opiniwn. Gallesid tybied arno o draw ei fod yn sarug ac angharedig; ond gwyr y rhai a gafodd gyfle i gyfeillachu ag ef, ei fod yn un o'r dynion caredicaf a ffyddlonaf a allesid gyfarfod. Gallesid ei doddi yn llymaid a'i yru i wylo fel plentyn, ond i ddyn fyned ato ac adrodd ei dywydd wrtho. Un o'i brofedigaethau, a phrofedigaethau dynion o'r un dymer ag ef, ydoedd, y gallesid dylanwadu arno a'i gael i gymeryd plaid neillduol mewn rhyw achos. Yn niddichellrwydd ei enaid meddyliai ef fod pawb fel efe ei hun; a dichon i lawer o'i drafferthion eglwysig gychwyn o'r fan yna. Pan y cymerai at gyfaill, neu y gwnai ymrwymiad i fyned i gyfarfod, nid oedd dim a'i hataliai i gwblhau. Cymerai ran, a rhan dda, o bob llafur fyddai gan yr eglwysi dan ei ofal, neu gydag unrhyw amcan cyffredinol a fyddai gan ei enwad.

Pan y codwyd capel newydd yn Machynlleth, ac yr aeth y ddyled yn llawer mwy na'r bwriad cyntaf, cymerodd ef y rhan drymaf o'r baich. Teithiodd Gymru, a Lloegr, a Scotland i gasglu ato. Bu oddi cartref unwaith oddi wrth ei deulu a'i eglwys am naw mis yn casglu, a chladdwyd ei fab hynaf tra yr oedd oddi cartref yn wr ieuangc ugain oed; ond casglodd ato saith gant a haner o bunau wedi talu pob costau. Yn amser y cydymegniad cyffredinol yn 1833 i dalu dyledion addoldai Cymru, yr oedd efe yn un o'r rhai a benodwyd i fyned i Lundain yn yr achos; a chlywsom un oedd yn y brifddinas ar y pryd, ac mewn cyfle i wybod holl hanes y casglwyr, yn dyweyd mor llwyr ymroddedig ydoedd i'r gwaith yn ystod y tri mis y bu ef a Mr. Williams, o'r Wern, a'r brodyr eraill yno. Codai yn foreu i gynllunio pa ffordd a gymerent. Ni chai cwmni na chyfeillgarwch ei droi oddiar ei lwybr; a phan y byddai sicrwydd mai ar ryw awr benodol y ceid gweled ryw foneddwr, ni byddai na phellder ffordd, na blinder corff, na gerwinder tywydd yn ddigon i'w atal yno. Ac os digwyddai ambell ddiwrnod heb fod yn llwyddianus iawn, fel y digwyddai yn aml ond odid, nid oedd fawr o sirioldeb yn ei wyneb y noson hono; ond byddai ar ei oreu yn chwilio hen adroddiadau ac yn pigo enwau er mwyn ceisio gwneyd yn well dranoeth. Yr oedd wedi myned yno i gasglu, ac nid oedd dim arall yn ei feddwl nac ar ei dafod.

Fel awdwr, nis gallwn ond prin grybwyll am ei brif weithiau. Ysgrifenodd lawer i'r Dysgedydd o bryd i bryd er ei gychwyniad cyntaf, a chyhoeddodd amryw fân draethodau a phregethau. Y gwaith mawr i'r hwn y cysegrodd ddyddiau goreu ei fywyd yn Machynlleth oedd "Hanes yr eglwys Gristionogol o ddyddiau yr apostolion hyd ein dyddiau ni," yn ddwy gyfrol hardd. Costiodd y gwaith yma iddo lafur dirfawr. Llawer diwrnod tra yn ei gyfansoddi yr eisteddodd yn ei fyfyrgell am un awr-ar-bymtheg. Dywedai hen forwyn a fu yn ei wasanaeth yn yr adeg yma am naw mlynedd, na wyddai hi pa bryd y byddai ei meistr yn myned i orphwys, na pha bryd y byddai yn codi mai yn ei fyfyrgell y byddent yn ei adael y nos, ac mai yno y byddent yn ei gael y boreu. Bu am flynyddau yn codi am dri o'r gloch yn y boreu, ac yn ddiwyd gyda Hanes yr Eglwys hyd giniaw; yna rhoddai y prydnawn at barotoi ei bregethau; ac ar ol te, byddai fynychaf bob nos yn cychwyn allan i ryw gyfarfod neu gilydd. Cyhoeddodd ddeg rhan o Hanes Ymneillduaeth yn Nghymru, yn cynwys yn benaf hanes yr eglwysi Annibynol; ond oblegid yr anhawsder i gael gan ddynion i anfon hanesion eu heglwysi, a hwyrfrydigrwydd llawer iawn o'r derbynwyr neu y dosbarthwyr i dalu, a'i lesgedd a'i henaint ei hun, bu raid iddo, er siomedigaeth fawr i'w feddwl, ei roddi i fyny ar ei haner. Cyhoeddodd Esboniad ar Lyfr y Datguddiad, a rhanau o broffwydoliaethau Daniel. Ystyriai ef hwn y goreu a'r pwysicaf o'i holl weithiau; ac yr oedd ynddo chwaeth neillduol at ddeongli proffwydoliaethau, a chwilio i mewn i ragfynegiadau yr Ysgrythyrau o'r pethau a fydd ar ol hyn. Mae y cwbl a ysgrifenodd yn dangos ymroddiad diflino; ac nis gallasai ond dyn o gyfansoddiad corfforol a meddyliol o'r fath gryfaf fyned trwy y fath lafur dirfawr. Nerth ac angerddoldeb yw yr elfenau amlycaf yn y cwbl a ysgrifenodd. Nid yw ei gyfansoddiadau yn cael eu nodweddu gan dlysni a dillynder; ac yr oedd yn aml lawer o dywyllni ac amwysedd o gylch ei frawddegau; nid am ei fod ef mewn un modd yn amcanu dyweyd geiriau i guddio ei feddwl, ni bu neb erioed yn mhellach oddiwrth y fath beth; ond am ei fod wedi mabwysiadu arddull wasgarog ac amleiriog, fel yr oedd yr hyn yr amcanai ei ddyweyd, yn aml yn cael ei guddio gan gyflawnder a helaethrwydd ei ymadroddion. Nid oedd fel llawer ychwaith yn amlhau geiriau oblegid prinder meddyliau; canys yr oedd y rhai hyny yn ddihysbydd, ac yn ymryson am ddyfod allan yn gyflymach nag y gallasai ei bin eu hysgrif enu, na'i dafod eu llefaru. Yn ei bregethau yr oedd yn fywiog a difrifol yn ei draddodiad, ac yn aml byddai ei deimladau yn cario y dydd arno yn hollol. Byddai yn bur sicr o ddyfod o hyd i wir feddwl ei destun, a seiliai arno y gosodiad a godai yn fwyaf naturiol o hono. Cymerai olwg eang a chwmpasog ar y mater fyddai dan sylw ganddo, a chariai ef allan i'r holl gysylltiadau i'r rhai y rhedai yn naturiol; ac ni byddai byth yn ysgoi y cymhwysiad uniongyrchol o'r gwirionedd at galonau a chydwybodau ei wrandawyr. Ni welid byth mo hono yn cellwair gyda'r gwirionedd, nac yn curo yn ddiofal o'i gwmpas; ond agorai ef i'r gwaelod, a hyny gyda hyfrdra diarswyd un yn teimlo mai gair oddiwrth Dduw oedd ganddo i'w draethu. Nid oedd yn dilyn chwedlau cyfrwys," nac yn arfer "ymadrodd gwenieithus," ac nid oedd dim a ffieiddiai yn fwy na dwyn i'r pulpud "wrachiaidd chwedlau" a "chwedlau gwneuthur;" ac nid mewn "godidawgrwydd ymadrodd" ychwaith yr ymddiriedai; ond ei syniad ef am "gyflawni ei weinidogaeth" oedd trwy ddwyn gwirioneddau mawrion yr efengyl yn eu symledd a'u gonestrwydd i arweddu ar galonau a chydwybodau dynion. Un ydoedd Mr. Morgan, a'i gymeryd gyda'i gilydd, na chyfyd ei gyffelyb ond anaml yn mysg cenedl. Gwyddom nad ydoedd yn berffaith, a gwyddai yntau hyny ei hun, ac yr oedd ei golliadau a'i ddiffygion yn peri mwy o ofid iddo ei hun nac i neb arall; ond a'i gymeryd oll yn oll, anhawdd cael ei gyffelyb. Yr oedd ynddo wroldeb llew, a thynerwch plentyn. Nid oedd dim yn haws na'i dyneru hyd yn nod at ddagrau, ond nid oedd dim a allasai ei gymhell i weithredu yn groes i'w argyhoeddiadau; ond safai wrth yr hyn a ystyriai yn ddyledswydd yn ddiystyr o bob colled a allasai hyny ddwyn iddo ef, ac heb ofalu am ddim ond anrhydedd gwirionedd. Am dano fel Cristion, gellir crynhoi y cwbl i un o'i ymadroddion diweddaf ef ei hun—"Yr wyf wedi meddwl lawer gwaith, yn enwedig yn ddiweddar, am ddesgrifiad Paul o hono ei hun, y rhai y teimlaf ydynt yn llawn mor gymhwysiadol ataf finau—Y penaf o bechaduriaid Y llai na'r lleiaf o'r holl saint.'"

DAVID MILTON DAVIES. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Henfeddau, ger llaw Llanbedr, sir Aberteifi, Tachwedd 23ain, 1827. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond tair blwydd oed; a gadawodd gartref pan yn dair-ar-ddeg oed. Aeth i Blaenafon, sir Fynwy, lle yr arhosai ei chwaer hynaf, a dechreuodd weithio yno; ac ymwthiodd yn mlaen trwy lawer o anhawsderau ac anfanteision yn ystod y pedair blynedd y bu yno. Derbyniwyd ef yn aelod yn Bethlehem, Blaenafon, Awst 30ain, 1840. Yr oedd Mr. Edward Williams, yn awr o Ddinasmawddwy, yn cael ei dderbyn agos yr un pryd ag ef; ac yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr, ac yn gweithio gyda'u gilydd. Symudodd Mr. Davies oddi yno i Cendl, lle y bu oddeutu dwy flynedd, ac oddi yno i Dredegar, ac ymgysylltodd â'r eglwys yn Adulam; ac yno y dechreuodd bregethu, Ionawr 16eg, 1848. "Dydd y pethau bychain" oedd hi arno ef y pryd hwnw, ac nid oedd ei gyfeillion goreu yn meithrin disgwyliadau uchel gyda golwg arno; ond yr oedd ei gymeriad mor loyw a diargyhoedd fel y calonogent ef i fyned yn mlaen. Yn niwedd y flwyddyn 1848, aeth i'r ysgol i Hanover, at Mr. R. Thomas, er parotoi i fyned i'r Athrofa, a derbyniwyd ef i Aberhonddu yn haf 1850. Wedi treulio tair blynedd yno yn ymroddgar i gasglu gwybodaeth, derbyniodd alwad o'r Gelli (Hay), sir Frycheiniog; a rhoddodd Pwyllgor yr Athrofa ollyngdod iddo naw mis cyn i'w amser ddyfod i fyny, gan fod yr eglwys yn y Gelli mor awyddus am dano. Urddwyd ef yno Tachwedd 12fed, 1853. Llafuriodd yno a'i holl egni; a chan mai Saesonaeg oedd yr holl wasanaeth yno, bu treulio blwyddyn yn y Gelli yn gynorthwy mawr iddo berffeithio yn yr iaith Saesonaeg, yr hyn a brofodd yn fanteisiol dros y gweddill o'i oes. Yn nghanol y flwyddyn 1854, derbyniodd alwad gan eglwysi y Wern a Phenycae, sir Aberteifi, a chydsyniodd a hi; a bu yno yn llafurio gyda chymeradwyaeth a llwyddiant mawr am fwy na phedair blynedd. Yn yr adeg yma, ymagorodd ei alluoedd i gyfeiriadau na ddisgwyliasid. Daeth yn llenor gwych, a chymerai ran arbenig yn holl symudiadau gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol yr ardaloedd lle y llafuriai, a'r holl wlad oddi amgylch. Ymddadbly godd ei ddoniau fel pregethwr, fel y tynodd sylw cyffredinol, a derbyniodd wahoddiadau oddiwrth amryw eglwysi cryfion a chyfrifol i sefydlu yn eu plith. Yn niwedd y flwyddyn 1858, derbyniodd alwad oddiwrth hen eglwys barchus Pendref, Llanfyllin, â'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth yno yn Rhagfyr y flwyddyn hono; ac yma llafuriodd fel gweithiwr difefl hyd adeg ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 7fed, 1869, yn 42 oed.

Cyrhaeddodd Mr. Davies safle uchel a pharchus yn mysg pobl ei ofal, ac yn yr enwad, yn benaf trwy ddiwydrwydd ac ymroddiad. Anaml y gwelsom neb yn fwy cwbl gyflwynedig i'w waith. Nid oedd ei alluoedd naturiol yn uwchraddol, ac nid oedd erioed wedi astudio duwinyddiaeth byngciol yn fanwl-nid yn hyny yr oedd ei ragoriaeth; ond yr oedd yn taflu ei holl galon i'w waith. Ysbryd ei bregethau oedd yn rhoddi bywyd ynddynt. "Beth bynag yr ymaflai ynddo gwnai ef a'i holl egni;" ac yr oedd o ddifrif yn y cwbl. Nid oedd dim difyrwch yn ei natur, ac nis gallasai oddef ysgafnder; gallasai ef yn anad odid i neb a adwaenasom erioed ddyweyd, "Credais, ac am hyny y llefarais." Siaradai y rhan fwyaf o'r bregeth, a hyny mewn cywair lled ddistaw. Nid oedd ei frawddegau yn nodedig am eu tlysni, ac nid amcanai at berffeithrwydd cyfansoddiad; ond yr oedd yn y cwbl a lefarai rywbeth oedd yn bachu yn y galon a'r gydwybod. Yr oedd ei bregethau yn llawn iawn o engreifftiau, ond wedi eu cymeryd gan mwyaf o hen hanesiaeth, y rhai a roddent i'w bregethau ryw wedd glasurol. Cyn diwedd y bregeth, byddai ganddo fynychaf ryw floedd uchel; ac er nad ydoedd yn beroriaethus, etto yr oedd rhywbeth yn effeithiol ynddi, gan ei bod yn dyfod yn lled sydyn, ac yn enwedig oblegid y byddai ei deimladau ei hun erbyn hyny wedi eu cyffroi.

Yr oedd yn ddyn o deimladau llednais, yn gwbl foesgar a boneddigaidd tuag at bawb, a rhyw allu nodedig ganddo ar yr un pryd i gadw pawb rhag gwneyd yn rhy hyf arno. Bu am dymor yn cymeryd rhan yn ngol- ygiaeth yr Annibynwr, ac wedi hyny yn ngolygiaeth y Dysgedydd a'r Annibynwr wedi eu huno, a phob amser gwnai yn ffyddlon y rhan o'r gwaith a fyddai yn disgyn arno. Ymgymerodd a bod yn oruchwyliwr i Gymdeithas Rhyddhad Crefydd yn ngogledd Cymru, ac yr oedd wedi astudio y cwestiwn yn drwyadl; ond profodd teithio i'w gwasanaethu yn rhy galed i'w natur. Yr oedd yn Anghydffurfiwr trwyadl; o ran hyny, yr oedd gyda phob peth yn wastad y peth y proffesai fod; a phan y credai fod gwirionedd a chydwybod yn galw arno i gymeryd rhyw lwybr neill- duol, ni phetrusai ei rodio. Bu yn gwaelu am gryn amser, a gwnaeth brawf ar bob peth y gallesid meddwl am dano er mwyn cael iachad; ond er y cwbl, angeu a orfu, a symudwyd ef ymaith yn nghanol ei obeithion a'i gynlluniau, ac yn nghanol ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb.

Priododd Medi 9fed, 1859, â Miss Mary Evans, ail ferch y diweddar Mr. Rowland Evans, o'r Morben, gerllaw Machynlleth, yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys, a'r hon a adawodd ar ei ol yn weddw, gyda dau blentyn yn amddifaid. "Cyflawned yr Arglwydd iddynt eu holl ddymuniadau."


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Machynlleth
ar Wicipedia

MACHYNLLETH.

Mae y dref hon o ran ei safiad yn nghanolbarth y Dywysogaeth, ac ar y brif dramwyffordd rhwng y Gogledd a'r Deheudir. Gallesid disgwyl oblegid hyny fod crefydd wedi cael gafael yn foreu ar y lle, wrth fod y diwygwyr cyntaf yn teithio yn ol ac yn mlaen, ac yn neillduol gan fod genym sicrwydd fod rhai o bregethwyr yr eilfed ganrif ar bymtheg wedi ymweled a'r lle; ond dirmygus fu gair yr Arglwydd gan y trigolion. Dywedir i Mr. Morgan Llwyd, o Wynedd, gael ei atal i bregethu yma; ac yn ychwanegol at hyny, maeddwyd ef yn dost; ac y mae traddodiad iddo ddyweyd y byddai i'r efengyl adael y dref am amser hir, cyn y byddai i'r plant oedd yno yn chwareu ac yn dringo y coed ddyfod i oedran gwyr. Pa fodd bynag, y mae yn sicr i dymor maith fyned heibio cyn i'r efengyl yn ei phurdeb gael ei phregethu yma yn sefydlog. Triniwyd Mr. Howell Harries yma yn mhen can' mlynedd ar ol hyny yn chwerw iawn. Yn ddiweddarach, ymosodwyd ar Mr. Jones, Llangan, pan y safai ar ganol yr heol i bregethu, a tharawyd y Beibl o'i law gan gyfreithiwr a gyfrifid yn barchus. Lliniarwyd cynddaredd y cyfreithiwr hwnw yn erbyn yr efengyl trwy sylwi ar ymddygiad gweddus a thymer addfwyn geneth o forwyn oedd yn ei wasanaeth, yr hon a arferai gyrchu i'r cyfarfodydd. Daeth i benderfyniad nad oedd un drwg yn cael ei ddysgu a'i ddwyn yn mlaen yn y cyfarfodydd hyny, onide ni buasai yr eneth hono gymaint yn rhagorach nag un forwyn arall a fuasai yn ei wasanaeth.

Pan oedd Mr. Benjamin Evans, Llanuwchllyn, yn myned trwy y lle unwaith, ryw bryd ar ol y flwyddyn 1769, disgynodd mewn gwesty i gael lluniaeth iddo ei hun a'i anifail. Gan ei bod yn oer iawn ceisiai gwr y ty gan nifer o ddynion oedd yno yn yfed droi o'r neilldu fel y gallai y gwr dyeithr fyned at y tân, nes y cyneuid tân mewn ystafell arall. Yn fuan deallasant mai pregethwr oedd, a dechreuasant ei wawdio a'i ddifenwi gan ei alw yn "Bengrwn." Dyoddefodd y cwbl yn fwynaidd, a dywedodd y byddai yn arfer pregethu weithiau. Gofynasant iddo ai un o'r Methodistiaid oedd? Attebodd, "Nage." Ar hyny dechreuasant drin y Methodistiaid, mai y bobl ddihyraf yn y wlad oeddynt." "Nis gallaf ateb am danynt oll," meddai Mr. Evans, "ond mor bell ag yr wyf fi yn eu hadnabod nid ydynt yn haeddu y cymeriad yr ydych chwi yn ei roddi iddynt." "Ond paham," meddynt, "y maent yn wylo ac yn ochain yn eu cyfarfodydd?"

"Mae yn debyg, foneddigion, eich bod yn ddigon cydnabyddus ag ymladd ceiliogod," ebe Mr. Evans, a pharod oeddynt i addef eu bod; "yn awr pan y bydd eich ceiliogod chwi yn colli y dydd yr ydych yn tristau ac yn gofidio; felly y mae y bobl yma yn gweled eu bod yn golledig, ac yn teimlo eu heuogrwydd, ac oblegid hyny yn wylo." "Ond paham y maent yn gorfoleddu ac yn neidio ?" ail-ofynent. "Wel yn union yr un fath etto, pan fyddo eich ceiliogod chwi yn gorchfygu yr ydych yn bloeddio ac yn curo dwylaw; felly y mae y Methodistiaid wrth weled fod trefn i faddeu iddynt yn gorfoleddu ac yn neidio."[63] Boddlonwyd hwy yn fawr yn Mr. Evans, a dofwyd ychydig ar eu digofaint at y Methodistiaid.

Dyoddefodd Mr. Richard Tibbott oddiwrth yr ysbryd erledigaethus oedd yma gynt; a dywedir fod nifer o gryddion yn gweithio yn agos i'r man y mae y I yn awr y rhai oeddynt yn mysg yr erlidwyr mwyaf. Aeth Mr. Tibbott i'w gweithdy unwaith i fesur ei droed i gael pâr o esgidiau pan yn ofni cael ei aflonyddu ganddynt; a bu hyny yn ddigon i'w prynu hwy yn ei ffafr. Gwelir gan hyny mai trwy lawer o rwystrau y gosodwyd achos yr Arglwydd i fyny yn y dref.

Mae yn ymddangos fod nifer o bersonau o Fachynlleth a'r gymydogaeth yn arfer cyrchu i Lanbrynmair yn gynar yn yr haner olaf o'r ganrif ddiweddaf, os nad cyn hyny. Coffeir am ryw gyfarfod gweddi nodedig a gawsant unwaith ar y maes agored yn agos i Brynŵg ar eu dychweliad oddiyno. Pan na allent fyned i Lanbrynmair ymgynnullent yn nhai eu gilydd i gynal cyfarfodydd gweddi, ac i ymddyddan am grefydd. Yn y flwyddyn 1787, daeth Mr. R. Tibbott, Llanbrynmair, yma i gorphori yr "ychydig enwau" yn eglwys. Gwnaed hyn mewn ty anedd bychan a elwid y Doll. Nid oedd nifer yr eglwys ar ei sefydliad ond saith; a daeth chwech neu saith o aelodau Llanbrynmair yma gyda'u gweinidog i fod yn dystion o'r corpholiad, yn gystal ag i fod yn galondid i'r ychydig gyfeillion oedd yn y lle yn cymeryd arnynt ofal achos yr Arglwydd. Yn mhlith y rhai a ddaeth yr oedd y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yr hwn y pryd hwnw oedd yn ddyn ieuangc heb fyned i'r Athrofa, ac heb ddechreu pregethu, canys y flwyddyn flaenorol yr oedd wedi ei dderbyn yn aelod. Bu yr achos bychan yn fwy llwyddianus nag y disgwyliai y rhai mwyaf gobeithiol. Gofelid am dano yn benaf gan Mr. Tibbott, ond yr oedd eraill yn ei gynorthwyo. Sicrhawyd darn o dir i adeiladu capel arno yn y fan lle y saif y capel presenol. Dechreuwyd arno yn nechreu 1789, os nad yn niwedd y flwyddyn o'r blaen, ac yr oedd yn barod erbyn Mai 20fed, 1789, oblegid yr ydym yn cael Titus Evans, William Pierce, John Davies, Richard Hughes, a John Edwards, yn anfon hysbysiad y pryd hwnw at Esgob Llanelwy i'r perwyl o'i hysbysu eu bod wedi adeiladu y capel, ac yn dymuno arno roddi iddynt Certificate o'i gofrestriad, yr hyn a gawsant y 30ain o'r un mis. Y Titus Evans yma oedd Excise Officer—tad Mr. John Evans, Argraffydd, Caerfyrddin, gwr a ddaeth wedi hyny yn adnabyddus iawn yn yr enwad. William Pierce oedd tad y diweddar Mr. Thomas Pierce, Liverpool.

O gylch yr amser yma daeth Mr. William Jones yma o sir Fon; ond genedigol o Gwernogle, sir Gaerfyrddin. Nid oedd wedi ei urddo cyn ei ddyfodiad yma; ac nid ymddengys iddo gael ei urddo yma er iddo fod yma yn llafurio am yn agos i ddwy flynedd. Yr oedd gwedd lwyddianus ar yr achos yn nhymor byr ei weinidogaeth; a bu yn dra egniol i bregethu yn yr holl wlad oddiamgylch nes y rhoddodd angeu derfyn ar ei lafur. Claddwyd ef y tu fewn i'r capel, oddeutu y man y saif yr areithle yn bresenol, lle y gwelwyd ei arch pan yn ailadeiladu y capel.[64]

Yn fuan wedi marwolaeth Mr. Jones daeth Mr. John Evans yma i lafurio. Un o gymydogaeth Llanbedr, yn sir Aberteifi, ydoedd. Dyn ieuangc tal, llathraidd, hoyw, boneddigaidd ei ymddangosiad. Anaml y gwelid ei gyffelyb. Urddwyd ef yma tua'r flwyddyn 1791, a bu yn llafurio yma am tua phum mlynedd; canys yr ydym yn cael mewn llythyr a ysgrifenodd y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, at ei frawd yn America, Mai 3ydd, 1796, nad oedd un gweinidog yn Machynlleth y pryd hwnw. Yr oedd Mr. Evans yn boblogaidd iawn fel pregethwr, a rhwng ei ymddangosiad tywysogaidd ei ddoniau swynol —a'i lais peraidd, ymdyrai llawer iawn i wrando arno. Yn ei amser ef y dechreuwyd yr achos yn Aberhosan, ac yn Mhennal. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, a chyrchai llawer o bobl ieuaingc y dref a'r amgylchoedd ato i dderbyn addysg. Gwrthweithid dylanwad gweinidogaeth ddoniol Mr. Evans i raddau mawr gan ei ysgafnder a'i anwyliadwriaeth; a chyfeillachai yn ormodol mewn cwmniau nad oeddynt gydweddol ag urddas yr efengyl. Symudodd i Amlwch, lle y treuliodd oes hir; ac yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn byw yn Nhremadog, lle y gloywodd yn fawr yn ei gymeriad, ac y bu farw "yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau." Wedi ymadawiad Mr. Evans, daeth Mr. Edward Francis yma yn 1799. Crybwyllasom am dano yn hanes y New Inn, sir Fynwy. Daeth yma o Lambeth, Llundain, lle yr oedd wedi bod yn llafurio am dymor yn mysg ychydig o Gymry oedd yno. Bu yma am tua thair blynedd. Yr oedd yn bregethwr derbyniol iawn, a safai yn barchus yn ngolwg y dref. Ymddengys iddo fod yn fwy llwyddianus yma nag y bu yn un lle arall. Yr oedd Dr. Lewis yn anfoddlawn ryfeddol iddo i ymadael, a bygythiai os gwnai na ddeuai byth ddim daioni o hono. Deallwn nad oedd dywediad y Doctor yn mhell o fod yn gywir.

Rhoddodd yr eglwys yma alwad yn 1802 i Mr. John Lloyd, wedi hyny o Henllan, ond gwrthododd gydsynio; a bu yr eglwys heb weinidog hyd fis Gorphenaf 1806, pan y derbyniodd Mr. James Griffiths, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, alwad ganddi; ac yn fuan wedi hyny dechreuodd ar ei weinidogaeth. Urddwyd ef Mawrth 7fed, 1807, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn; Dr. T. Phillips, Neuaddlwyd; a Meistri D. Peter, Caerfyrddin; J. Roberts, Llanbrynmair; W. Hughes, Dinas; H. Pugh, Brithdir; W. Jones, Trawsfynydd, ac eraill. Bu Mr. Griffiths yn llafurio yma yn ffyddlon a llwyddianus, ac er anrhydedd a chodiad achos crefydd yn y dref a'r wlad oddi amgylch. Dywed Mr. Griffiths ei hun fod mesur o gynydd ar yr eglwys yr holl amser y bu yma. Yr oedd heddwch a chydweithrediad dymunol yn eu plith, a rhwng y canghenau yn Aberhosan a Phenal. Yr oedd cylch ei weinidogaeth am rai blynyddau yn cyrhaedd o Lwyngwril i Aberhosan, ac yn nhymor ei weinidogaeth ef y codwyd capeli yn y ddau le a enwyd. Yn y flwyddyn 1811, trwy briodi â boneddiges ieuangc o gymydogaeth Tyddewi, symudodd Mr. Griffiths yno i fyw; ond deuai ddau Sabboth o'r mis yr holl ffordd o waelod sir Benfro i wasanaethu pobl ei ofal yn Machynlleth a'r canghenau. Yn mhen y flwyddyn, symudodd ei deulu i Fachynlleth, gyda bwriad i aros yma; ond yn 1814, trwy gysylltiadau teuluaidd, gorfodwyd ef i symud yn ol i sir Benfro, a thorodd ei gysylltiad â'r eglwys yma, gan gymeryd gofal yr eglwys yn Rhodiad, ac yno y bu hyd derfyn ei oes ddefnyddiol a llafurus. Dywed Mr. Griffiths iddo brofi serchowgrwydd mawr oddiwrth yr eglwys yn Machynlleth; a hyderai fod yr Arglwydd i ryw raddau yn bendithio ei ymdrechion yn eu plith. Cafodd lawer o hyfrydwch a chymhorth i fyw yn dduwiol yn nghymdeithas rhai o hen frodyr a chwiorydd yr eglwys. Yn yr adeg yma yr oedd Hugh Pugh, John Lewis, John Jones, ac Edward Meredith yn swyddogion dan yr enw henuriaid.

Ar ymadawiad Mr. Griffiths, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Morgan, yr hwn oedd eisioes wedi ei urddo yn y Towyn. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Rhagfyr 19eg a'r 20fed, 1814. Nos Lun, pregethodd Mr. R. Roberts, Llanuwchllyn, a Mr. W. Hughes, Dinas. Dydd Mawrth, am 9 o'r gloch, pregethodd Mr. A. Shadrach, ar "Natur a phwysigrwydd y weinidogaeth." Yna rhoddodd y gweinidog a'r eglwys eu hunain i fyny i'w gilydd yn yr Arglwydd. Yr oedd y rhan yma o'r gwasanaeth mor effeithiol fel nad oedd llygad sych yn y lle. Yna pregethodd Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, ar "Bwysigrwydd ac anwyldeb y berthynas rhwng y gweinidog a'i bobl." Yn y prydnawn a'r hwyr, pregethwyd gan Meistri M. Jones, Llanuwchllyn; C. Jones, Brithdir (Dolgellau); E. Davies, Allt (Cutiau), a J. Davies, Aberhafesp.[65]

Ar sefydliad Mr. Morgan, ffurfiwyd y gangen yn Aberhosan yn eglwys Annibynol, a chadwyd yno o hyny allan gymundeb yn rheolaidd, er y cedwid yno gymundeb achlysurol yn flaenorol. Gwenodd yr Arglwydd mewn modd neillduol ar lafur yr eglwys a'r gweinidog am fwy na deng mlynedd, yn enwedig tua'r flwyddyn 1818, bu ychwanegiad mawr at nifer yr eglwys o'r dref a'r cylchoedd, ac yn eu plith lawer iawn o ddynion a fu o ddefnydd mawr gyda'r achos; ac yr oedd rhai o honynt mewn amgylchiadau bydol manteisiol i fod o wasanaeth i grefydd. Agorwyd drysau i bregethu mewn tai trwy y cymoedd oddi amgylch—gosodwyd ysgolion Sabbothol i fyny mewn conglau ac yn nghilfachau y mynyddoedd a daeth adfywiad ar yr ysgolion yn y lleoedd lle yr oeddynt eisioes. Daeth galwad am ysgoldai, a lleoedd sefydlog i bregethu, ac adeiladwyd chwech o honynt mewn gwahanol ardaloedd o amgylch y dref. Ystyrid yr oedfa ddau o'r gloch yn y dref y prif gynnulliad, i'r hwn y disgwylid yr holl ganghenau; a chedwid ysgolion yn yr holl leoedd y boreu, a chyfarfod gweddi yn yr hwyr, neu bregethu pan y gellid cael pregethwr. Aeth yr addoldy yn y dref yn rhy fychan, a phenderfynwyd cael un newydd, yr hwn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1824. Ni fwriedid ar y cyntaf i'r draul fod yn fwy na 700p., ond aeth yn agos i 1,200p.; ond yr oedd ar y pryd y capel goreu a feddai yr enwad yn ngogledd Cymru. Teithiodd Mr. Morgan lawer i gasglu ato, a bu yn llwyddianus iawn, a thalwyd cryn swm gan yr eglwys ei hun.

O gylch yr amser yma, drwy ryw amgylchiadau, cyfododd teimladau anghysurus rhwng Mr. Morgan a rhai o'i gyfeillion yn yr eglwys. Nid yw yn perthyn i ni ymholi ar bwy yr oedd y bai, yn ddim pellach na mynegi y ffaith ofidus. Disgwylid y buasai teimladau yn iachau; ac ymddangosodd arwyddion o hyny tua'r flwyddyn 1827, pan y derbyniodd Mr. Morgan alwad o'r Drewen, sir Aberteifi. Perswadiwyd ef i wrthod cydsynio, gan y tybiai llawer mai awel ydoedd a äi heibio yn fuan; ac aeth pethau yn mlaen yn weddol dros rai blynyddau; ond nid oedd teimladau wedi cwbl iachau. Wrth ganfod sefyllfa pethau, rhoddodd Mr. Morgan yr eglwys i fyny, a symudodd i Manchester yn niwedd y flwyddyn 1836. Cynhaliwyd cyfarfod ar yr achlysur o'i ymadawiad yn yr addoldy yn Machynlleth, Tachwedd 9fed, i weddio am ei lwyddiant yn ei faes newydd. Ar ddiwedd y cyfarfod, cyflwynwyd anrheg o 28p. iddo fel arwydd o'u parch; ac estynwyd iddo y llythyr canlynol:

"MACHYNLLETH, Tachwedd 9fed, 1836.

Gan yr ymddengys fod Rhagluniaeth yn trefnu i'n cyfaill Parchedig Mr. Morgan symud i weinidogaethu i gangen arall o eglwys Crist, yr ydym yn teimlo yn rhwymedig i grybwyll, yn wyneb ei ymadawiad, ei fod wedi llafurio yn egniol a ffyddlon yn ein mysg am ddwy ar hugain o flynyddau; ac i gydnabod ein bod ni a'n plant wedi derbyn addysg a chysur mawr oddiwrth ei gyfeillach a'i weinidogaeth; ac yr ydym yn unol ac yn gwresog obeithio ar iddo fod yn fwy-fwy defnyddiol a dedwydd hyd derfyn ei oes.

ROBERT PETER, Diacon, Machynlleth.
HUGH PUGH, Machynlleth.
PETER ROWLAND, Diacon, Machynlleth.
DAVID MORGAN, Machynlleth.
EDWARD MORGAN, Diacon, Machynlleth.
JOHN LEWIS, Machynlleth.
JOHN DAVIES, Glasbwll.
JOHN JONES, Machynlleth.
DAVID THOMAS, Diacon, Machynlleth.
THOMAS ROWLAND.
DAVID DAVIES, Aberhosan.
WILLIAM WILLIAMS, Aberhosan.
DAVID PUGH, Glasbwll.
EDWARD EDWARDS, Pennal.
JOHN PETER, Diacon, Machynlleth.[66]"

Er i Mr. Morgan fyned ymaith, yr oedd y chwerwedd ar ol; a chyn pen chwe mis, torodd y rhwygiad allan yn weithredol. Am achosion yr ymraniad yma nid awn yn awr i ymofyn; ond y mae yn fwy na thebyg y gallesid, gyda graddau o bwyll, a goddefgarwch, a hunan-ymwadiad, ei ragflaenu, fel y gellid rhagflaenu y rhan fwyaf o ymrafaelion eglwysig; ond y mae yn llawer iawn haws dyweyd pa fodd y dylesid ymddwyn mewn amgylchiad dyrus ar ol iddo fyned heibio nac iawn ymddwyn pan ynddo. Y Duc Wellington, onide, a ddywedodd unwaith "mai prin yr oedd yn deg beirniadu brwydr ar ol iddi fyned heibio."

Er fod cysylltiad Mr. Morgan â'r eglwys wedi ei dori rai misoedd cyn yr ymraniad, etto yr oedd ei gydymdeimlad ef â'r cyfeillion a ymadawodd a chapel y Graig, oblegid daeth ef yma i'w corffoli yn eglwys Annibynol, ac yr oedd gweinidogion y gogledd gan mwyaf yn eu cefnogi; ond yr oedd gweinidogion sir Aberteifi gan mwyaf yn ffafrio y rhai a arosasant yn nghapel y Graig.

Bu yr eglwys yn y Graig am fwy na dwy flynedd heb weinidog ar ol ymadawiad Mr. Morgan, hyd nes yn 1839 y rhoddasant alwad i Mr. Samuel Edwards, yr hwn oedd yn weinidog yn Ceidio, Llaniestyn, a Tydweiliog, sir Gaernarfon. Cymerodd Mr. Edwards ofal yr eglwys a'r canghenau yn y Glasbwll, Soar, a'r Dderwenlas; a pharhaodd i lafurio iddynt oll gyda derbyniad mawr hyd 1853, pan y darfu ei gysylltiad â'r eglwys yn y dref; ond erys i lafurio yn ddiwyd yn y tri lle olaf a enwyd.

Galwodd y cyfeillion a aethant allan y lle y cyfarfyddent ynddo i addoli yn Salem; a chyn hir, ar ol eu corffoliad yn eglwys, rhoddasant alwad i Mr. John Parry, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd, i fod yn weinidog iddynt. Urddwyd ef Tachwedd 9fed, 1837. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Derbyniwyd cyffes y gweinidog ieuangc gan Mr. C. Jones, Dolgellau. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Anerchwyd y gweinidog gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn; a'r eglwys gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd. Yr oedd yn bresenol hefyd—Meistri D. Price, Penybontfawr; E. Griffiths, Llanegryn; E. Evans, Abermaw; T. Griffiths, Bethel; L. Everett, Llanrwst; H. Morgan, Samah; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Williams, Dinas; R. Jones, Aberhosan; ac E. Thomas, Dolgellau. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn muarth yr Herbert Arms[67]. Yr oedd yr adeg hono yn adeg fywiog iawn ar grefydd, a Mr. Parry yn llawn o ysbryd y diwygiad, fel yr oedd golwg lewyrchus ar yr achos. Adeiladwyd capel newydd, yr hwn a alwyd Salem. Costiodd tua 300p.; ac yr oedd yr ardreth arno, a'r tai cysylltiedig, yn 10p. yn flynyddol. Agorwyd ef Mehefin 22ain a'r 23ain, 1840. Cyn diwedd y flwyddyn hono, derbyniodd Mr. Parry alwad o'r Wern a Harwd, lle y symudodd. Yn niwedd 1840, derbyniodd Mr. John Howes, yr hwn a urddasid ddwy flynedd cyn hyny yn Llansantffraid, alwad gan eglwys Salem; a bu yno nes yr ymfudodd i America yn Ebrill 1842. Wedi bod flwyddyn heb weinidog, rhoddasant alwad i Mr. Mathew Lewis, gwr ieuangc o Lanidloes; ac urddwyd ef Mehefin 21ain a'r 22ain, 1843, yn nglyn a Chymanfa sir Drefaldwyn, a gynhelid yn Salem y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gweinidog gan Mr. H. Morgan, Samah. Gweddiodd Mr. J. Davies, Llanfair. Pregethodd Mr. D. Evans, Llanidloes, i'r gweinidog; a Mr. D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys.[68] Bu Mr. Lewis yn gweinyddu i'r gynnulleidfa am ychydig flynyddoedd, nes y symudodd i Bethel, Bangor. Dychwelodd Mr. Parry yma o'r Wern yn 1846, a bu yma nes y gwnaeth ei feddwl i fyny i ymfudo i America; ond arosodd dros dymor byr, nes gwneyd rhyw barotoadau yn Rhoslan, sir Gaernarfon, ac ymfudodd yn 1850. Yn nechreu y flwyddyn 1849, daeth Mr. William Davies, o Rhymni, yma. Nid rhyw lawer o lewyrch a fa ar yr achos yn ei amser ef; ac nis gallesid disgwyl, gan ei fod yn mhell dros 60 oed pan y daeth yma. Yr oedd teimladau erbyn hyn yn addfedu mai gwell fuasai i'r ddau achos uno na bod ar wahan. Nid oedd y lle yn ddigon poblog i ddau achos, ac yr oedd eu parhad yn rhoddi gwedd ranedig ar yr enwad ger bron y dref; heblaw fod y drwg deimlad yn rhwym o barhau cyhyd ag y buasai dau achos mor agos i'w gilydd. Ond yr oedd anhawsder mawr i ddwyn oddiamgylch yr uniad. Yr oedd gweinidog gan bob un; a pha mor gryf bynag oedd ymglymiad y naill a'r llall yn eu gweinidogion, gwelid fod yn anmhosibl uno heb i'r ddau weinidog roddi i fyny, ac i'r eglwys yn unedig yn yr hen gapel ddewis ei gweinidog. Ar hyny cytunwyd; ac yn mis Awst 1853, unwyd y ddwy eglwys oedd wedi bod ar wahan am ddeunaw mlynedd. "Ymgymerodd yr eglwys unedig yn y Graig â phob cyfrifoldeb cysylltiedig a Salem; talwyd y 72p. o'r ddyled oedd yn aros arno, a gofalwyd am y 10p. ardreth bob blwyddyn hyd eleni. Erbyn hyn, y mae y capel hwn-hyny ydyw, y leasehold arno-wedi ei gwerthu i Lord Vane, y perchenog, am 140p. Felly y dechreuodd ac y diweddodd hi gyda chapel Salem. A chan fod y rhwyg wedi cymeryd lle, ni ryfeddem na ddarfu i'r Salem hwn ateb dyben da, trwy gadw y cyfeillion a addolent yno gyda'u gilydd yn lle myned at enwadau eraill. Gan iddynt gael eu cadw felly, gallasant hwy a'r cyfeillion yn y Graig ddyfod at eu gilydd yn mhen deunaw mlynedd, yr hyn nid yw yn debyg y gallasent byth ped aethai y naill yma a'r llall acw. Arosed yr hyn oedd yn enw o'r blaen (Salem) yn sylwedd yn yr eglwys unedig. "Heddwch fyddo o fewn dy ragfur".[69]. Effeithiodd yr uniad yn ffafriol nid yn unig ar yr eglwys ei hun, ond ar yr holl dref. Yr oedd y gynnulleidfa unedig ar eu cyfarfyddiad yn llawer mwy na'r ddwy gynnulleidfa yn ysgaredig, ac adferwyd i'r hen eglwys barchus y dylanwad a berthynai iddi yn nyddiau ei gogoniant. Yn y flwyddyn 1854, rhoddwyd galwad i Mr. Josiah Jones, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, i ddyfod yn weinidog iddi. Urddwyd ef Awst 9fed a'r 10fed y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Jones, Dolgellau. Gweddiwyd gan Mr. H. Lloyd, Towyn. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Morris, athraw Duwinyddol Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. D. Davies, Aberteifi. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri R. Gwesyn Jones, Rhaiadr; D. Jones, Drewen; R. Thomas, Penrhiwgaled; E. Jones, Sardis; C. Jones, Llanfaircaereinion; T. Pierce, Liverpool; J. Saunders, Aberystwyth; W. Roberts, Penybontfawr; I. Thomas, Towyn; H. Morgan, Samah; J. Williams, Aberhosan; a J. Evans, o Athrofa Aberhonddu.[70] Mae yr achos wedi myned yn mlaen yn llwyddianus ar y cyfan yma yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg diweddaf. Mae yr hen deimladau wedi eu hiachau yn llwyr, a'r Graig a Salem bron wedi eu hanghofio. Mae yr eglwys yn myned rhagddi mewn nerth a dylanwad ysbrydol, fel y dengys ei llafur a'i gweithgarwch gyda phethau allanol. yr hawl ar y tir y saif y capel arno wedi ei brynu am 400p., a'r arian wedi eu talu. Mae tir hefyd wedi ei brynu am 90p. i adeiladu festri arno, er nad yw hyny etto wedi ei wneyd. Yn ychwanegol at hyn, prynwyd darn o dir am 90p. mewn man dymunol o'r dref er adeiladu arno dy i weinidog y Graig a'i olynwyr yn y weinidogaeth yno.

Mae yn deilwng o'i gofnodi yma fod Mrs. Griffiths, gweddw y diweddar Mr. D. Griffiths, Cenhadwr yn Madagascar, wedi rhoddi 150p. i'r amcan hwn, a 100p. arall i'w defnyddio i'r un perwyl; ond fod llog blynyddol i'w dalu ar y cant diweddaf a nodwyd i fyned er cynorthwyo tlodion eglwys a chynnulleidfa y Graig. Erbyn hyn y mae y ty agos a bod yn barod, a chydnabyddir gan bawb ei fod yn un o'r adeiladau goreu yn y dref. Yn ychwanegol at y pethau a nodwyd, yn 1869, prynodd yr eglwys yn y lle yn nglyn a'r Methodistiaid Calfinaidd o gylch dwy erw o dir, yn un o'r manau mwyaf dymunol yn ymyl y dref, i fod yn gladdfa iddynt; ac erbyn hyn y mae y Bedyddwyr wedi uno â hwy; ac am na fynai neb arall ymuno, y mae y tir wedi ei ddiogelu hyd byth i fod yn eiddo cyffredin cydrhwng y tri enwad.

Mae hanes eglwys yn cael ei gwneyd i fyny o hanes personau unigol; ac er nas gallwn grybwyll am yr holl unigolion a fu yn perthyn i'r eglwys hon o'r dechreuad, etto y mae rhai nodedig wedi bod yn eu plith, ac ni byddai yr hanes yn gyflawn heb grybwylliad am danynt.

Hugh Pugh oedd ddyn gonest a didderbyn wyneb. Er fod ei dymer naturiol yn sarug ac afrywiog, etto yr oedd yn ddyn gwerthfawr, a gwasanaethodd yr eglwys fel diacon am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn ei ddydd yn un o'r arweinwyr canu goreu a geid mewn cynnulleidfa, a'i lais yn glir a chwmpasog.

Robert Peter a gyfrifid yn un o'r dynion didwyllaf a chywiraf mewn cymdeithas. Efe oedd y pen saer-maen yn adeiladaeth y capel presenol, ac y mae ei furiau yn gof-arwydd o'i fedrusrwydd yn ei gelfyddyd.

John Lewis oedd yn nodedig am ei gyfarwydd-deb yn yr Ysgrythyrau. Ystyrid ef yn Fynegair byw. Yr oedd ei dad hefyd, yr hwn oedd o'r un enw, uwchlaw y cyffredin yn ei wybodaeth.

Peter Robert oedd yn enwog am ei ffyddlondeb; a Rowland Pryce yn hen lanc cywir galon; ac Edward Meredith, un o'r rhai hoffusaf ei ysbryd a fu erioed mewn eglwys; a David Thomas, tad Mr. John Thomas, Abertawy, oedd yn Gristion ffyddlon, ac yn cyflawni ei swydd yn ddiddig a didrwst, heblaw llawer eraill nas gallwn eu crybwyll.

Ni byddai yr hanes yn gyflawn heb grybwyll enwau rhai chwiorydd dylanwadol a fu yn nglyn a'r achos yma; ac yn eu ffordd hwy, efallai yn llawn mor deilwng o'u cofnodi a neb. Mrs. Anwyl, Llugwy, a Mrs. Davies, Rhiwlas, a gymerasant lawer o boen er mwyn yr achos yma, gan ei ymgeleddu yn ei wendid a'i ddinodedd. Mrs. Watkins a Mrs. Lewis a fuont ill dwy yn dirion i'r achos yn eu bywyd, ac a gofiasant am dano yn eu hewyllysiau diweddaf. Gadawodd y flaenaf 300p., llog yr haner i'r eglwys yn y Graig, a'r haner arall cydrhwng eglwysi Towyn a Llwyngwril, y rhai a delir yn rheolaidd. Gadawodd y llall 5p. yn flynyddol i weinidog y Graig, pwy bynag fyddai, o genhedlaeth i genhedlaeth. Gadawyd y gymunrodd hon am ryw reswm dros flynyddau heb ei chodi; ac erbyn hyn, y mae y Charity Commissioners wedi penderfynu nas gellir ei chodi.

Mrs. Miles oedd wraig o synwyr cryf, a bu am flynyddoedd yn brif gynhalydd i'r achos. Mrs. Morgan, merch y dywededig Mrs. Miles, oedd yn nodedig am ei chrefyddolder a'i gweithredoedd da. Nid ä ei charedigrwydd yn anghof gan neb o'r rhai a groesawyd ganddi dan ei chronglwyd. Mrs. Mary Thomas, gwraig y David Thomas y cyfeiriasom ato, oedd yn ffyddlon a charedig yn ei ffordd. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng ei gwr a hithau o ran tymer a thueddfryd; ond ni bu dau erioed hoffusach o gymdeithas eu gilydd. Nid ydym am gyfeirio at y byw, onide gallesid enwi merched sydd yn aros ydynt yn mhob ystyr yn deilwng o'u mamau, a meibion sydd yn olynwyr ffydd i'w tadau.

Bu yma lawer o bregethwyr cynorthwyol yn dal cysylltiad a'r eglwys o bryd i bryd; rhai o honynt wedi eu codi ynddi, ac eraill wedi symud yma o fanau eraill. Codwyd y rhai canlynol i bregethu yma :

Lewis Pugh. Un o'r Pughiaid Aberffrydlan ydoedd hwn-hen deulu cyfrifol o ardal Llanwrin. Efe oedd un o'r pregethwyr cynorthwyol cyntaf yn y parth hwn. Arferai gadw ysgol ddyddiol yn gystal a phregethu; ac oddiwrth ei law-ysgrifen, gellir casglu ei fod yn ysgolhaig gwych. Oddiwrth hen lyfr pregethau o'i eiddo, yr hwn sydd yn awr yn meddiant Mr. Jones, Machynlleth, ymddengys iddo fyned ar daith i bregethu trwy y rhan fwyaf o'r gogledd yn y flwyddyn 1821. Aeth trwy Ddolgellau, ac yn mlaen hyd Fangor; ac yn ol trwy gyrau siroedd Dinbych a Fflint; croesodd drosodd i Liverpool, a dychwelodd trwy y Rhos a Llanfyllin. Yn rhywle yn nghyffiniau Dinbych a Fflint, ymosododd lleidr pen ffordd arno, ond ni bu ar ei ennill o'r ymosodiad; oblegid adrodda merch yr hen bregethwr i'w thad daro y lleidr ar draws ei wyneb â ffon nes y syrthiodd mewn llewyg. Aeth yr hen bregethwr i'w ffordd, gan ei adael yn y fan; ac ystyriai Lewis Pugh hyn yn un o waredigaethau mwyaf ei oes. Bu yr hen wron farw o gylch y flwyddyn 1830, a chladdwyd ef yn Llanwrin.

Thomas Rowlands. Yr oedd yn dad i Mr. R. Rowlands, Henryd, ac yn daid i Mr. J. Rowlands, yn awr o'r Rhos. Daeth i'r ardal yma o gymydogaeth Dinasmawddwy yn 1807, a phreswyliai mewn lle o'r enw Byrdir, yn agos i Soar. Os bu pregethwr cynorthwyol erioed yn ffyddlon, yr oedd Thomas Rowlands felly, a pharhaodd hyd ei fedd. Bu ei dy yn agored i bregethu am flynyddau cyn codi Soar. Bydd genym air yn mhellach i'w ddyweyd am dano pan ddeuwn at hanes Soar.

Richard Rowlands. Urddwyd ef yn Henryd, a bu farw yn nghanol ei boblogrwydd. Daw ei hanes yno dan ein sylw.

Edward Edwards. Derbyniwyd ef yn aelod gan Mr. Morgan yn 1817, pan nad oedd ond 12 oed; a phan yn 16 oed, dechreuodd bregethu. Aeth i Athrofa Neuaddlwyd, ac oddi yno i Blackburn; ac urddwyd ef yn Garstang yn 1829. Symudodd oddi yno i Hyde; ac wedi hyny daeth i Manchester, lle y gosododd ysgol i fyny, a phregethai ar y Sabbothau; ac yr oedd yn gymeradwy gan yr holl eglwysi, a gweinyddai yn achlysurol i'r eglwysi Cymreig yn Manchester. Bu farw Rhagfyr 20fed, 1868.

James Hughes Morgan. Mab y diweddar Mr. D. Morgan. Urddwyd ef yn Leeds, lle y mae yn aros yn barchus a chymeradwy.

Daniel Cadvan Jones. Addysgwyd ef yn Athrofäu y Bala ac Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Abergwyli a Siloam, sir Gaerfyrddin, lle y mae yn aros hyd yr awr hon.

David Edwards. Bu yntau yn y Bala ac Aberhonddu yn derbyn addysg. Urddwyd ef yn Čoed-duon, sir Fynwy; ac y mae yn awr yn Park Mill, ger Abertawy.

John Rees. Mae yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys.

John Thomas. Mae yntau wedi dechreu pregethu, ac yn prysur barotoi at fyned i ryw Athrofa.

Evan Thomas. Er mai nid yma y dechreuodd Evan Thomas bregethu, etto gan iddo dreulio oes faith fel pregethwr cynorthwyol parchus a chymeradwy, a chan mai yn yr eglwys yn Machynlleth yr oedd pan y terfynodd ei yrfa ddaearol, yma y mae yn fwyaf priodol i ni wneyd byr goffad am dano.

Ganwyd Evan Thomas yn mhlwyf Dolgellau, sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1805. Bu am flynyddau yn was gyda'r hybarch Cadwaladr Jones, Dolgellau; a phan yno y dechreuodd bregethu, ar gais Mr. Jones a'r eglwys yn Nolgellau. Yr oedd ganddo ddawn gweddi nodedig, a chof rhagorol i adrodd pregethau. Bu am yspaid byr yn yr ysgol yn Marton, dan ofal Mr. J. Jones; ond oblegid ei fod wedi myned yn lled hen cyn dechreu, ac heb gael dim manteision blaenorol, nid rhyw lawer o gynydd a wnaeth mewn dysgeidiaeth. Wedi ymadael a Marton, bu yn pregethu am dymor yn Llanberis, ac yn Hebron, Nebo, ac Aberdaron, Lleyn; ac wedi hyny aeth i Moelfro, Mon, lle y priododd. Symudodd i Brynsiencyn i gadw tipyn o siop, a phregethai y Sabbothau yn mha le bynag y gelwid am ei wasanaeth; a thra yn aros yno, bu yn un o'r prif offerynau i gychwyn yr achos yn Brynsiencyn sydd wedi dyfod erbyn hyn yn gryf a blodeuog. Lled aflwyddianus y bu yn ei fasnach; ac ychydig iawn o gymhwysder oedd ynddo at drin y byd. Aeth oddi yno i Nantglyn, Rhiw, a Llansanan, a thra yno claddodd ei wraig, a gwelodd ei ran o helbulon wrth geisio magu llonaid ty o blant heb un fam. Symudodd i Landrillo, ac wedi hyny oddi yno i Braichywaun, gerllaw Llanfyllin, lle y bu hwyaf o lawer; ac fel Evan Thomas, Braichy waun, yr oedd yn fwyaf adnabyddus. Rai blynyddau yn ol, ail briododd ag un Ellen Jenkins, o Fachynlleth, a symudodd yno i fyw, a bu yn nodedig o gysurus am y deng mlynedd olaf o'i fywyd. Dilynai yr alwedigaeth o ganwyllwr (chandler) trwy yr wythnos, a phregethai gan mwyaf bob Sabboth; ac yr oedd yn dra chymeradwy fel pregethwr yn mhob man lle yr elai. Yr oedd yn un o'r dynion caredicaf a diniweitiaf a gerddodd ddaear Cymru erioed; ni wnai ddrwg i neb, ac ni ddywedai yn ddrwg am neb. Byddai yn dda gan bawb ei weled yn dyfod i'w tai, a derbynid ef yn groesawgar gan bob dosbarth o ddynion. Lled ddiafael a fu am ran o'i oes yn ei amgylchiadau. Ond y mae yn hawdd cyfrif am hyny. Yr oedd pregethu lonaid ei ysbryd, ond ni chyrhaeddodd y fath safle fel ag i ddiogelu bywoliaeth iddo ei hun a'i deulu trwy hyny; ac yr oedd wedi colli ei awydd at y byd agos yn hollol. Os cawsai ef ymborth a dillad, yr oedd mor ddedwydd a'r aderyn. Nid oedd dim a'i hataliai i fyned lle y byddai ei gyhoeddiad, a gwnaeth deithiau ar ei draed lawer gwaith y buasai eu gwneyd yn llawn gwaith i un anifail. Mae yn lled debyg i'r teithiau a wnaeth, a'r tywydd gwlyb garw a ddyoddefodd, effeithio ar ei gyfansoddiad, er cryfed ydoedd. Ond yr oedd yn caru y gwaith; ac os cawsai bregethu, neu wrando pregethau, neu siarad am bregethau a phregethwyr, yr oedd wrth fodd ei galon. "Israeliad yn wir ydoedd, yn yr hwn nid oedd twyll."

Blinid ef am dymor gan y cancer yn ei wefus, ac o'r diwedd bu farw o hono Chwefror 27ain, 1868, yn 63 mlwydd oed; a chladdwyd ef wrth gapel y Graig, yn ymyl yr hen wron Cristionogol Mr. D. Griffiths, Madagascar. Ymwelai Mr. Jones, Machynlleth, ag ef yn fynych yn ei gystudd diweddaf; ac fel hyn yr ysgrifena Mr. Jones atom gyda golwg ar ei ymweliad ag ef y prydnawn y bu farw, ac y mae y ffaith a nodir ganddo yn deilwng o'i chofnodi—

"Ymwelais ag ef oddeutu pedwar o'r gloch y dydd y bu farw, i gyflwyno iddo rodd fechan oddiwrth ei gyfaill ieuange Mr. R. Rowlands, Llansamlet, ac i ddarllen iddo y llythyr caredig a anfonasid gyda'r rhodd er amlygu teimladau tyner Mr. Rowlands tuag ato, a'i syniadau uchel am dano. Teimlai yn wir ddiolchgar, nid yn unig am y rhodd, ond hefyd am y teimlad cynes a amlygid tuag ato. A chan ei fod yn cael hamdden pur dda ar y pryd, cyfarchodd fi er fy hysbysu o'r ffaith ddieithr a ganlyn:—

'Mr. Jones,' meddai, yr wyf yn gweled yr hen Gadwaladr Jones trwy y dydd heddyw,' gan gyfeirio at ei hen gyfaill o Ddolgellau, yr hwn a gladdesid y Rhagfyr blaenorol. 'Yr ydych, Evan Thomas,' meddwn inau, gan ychwanegu nad oedd neb y buasai yn well ganddo ei weled. 'Nac oes,' meddai yntau. Gofynais iddo wedi hyny, 'Sut yr ydych yn ei weled, Evan Thomas—yn nghwsg ai ynte yn effro?' Atebai yntau, 'Pan fyddaf rhwng cwsg ac effro.' Dywedodd ei fab Lewis Thomas wrthyf, yr hwn sydd yn bresenol yn fyfyriwr yn Athrofa Aberhonddu, ei fod yn dyweyd wrtho yntau yn fynych tra yn ei wylio ar hyd y dydd hwnw, 'Dyna, mi welais yr hen Gadwalad Jones 'rwan.' Llanwyd fi â theimlad hynod ar y pryd; ond yn llawer iawn mwy felly pan welais ef yn tynu yr anadliad olaf oddeutu naw o'r gloch y noson hono. Sut yn y byd y mae cyfrif am hyn? Ie, sut yn well na thrwy ddyweyd fod ei Geidwad wedi danfon ei hen gyfaill Cadwaladr Jones i'w gyfarfod yn y glyn? Ond pa fodd bynag y mae cyfrif am dani, dyna y ffaith i chwii'w chofnodi. Y mae yn perthyn i'r un dosbarth o ffeithiau a'r hyn a gofnodir yn hanes bywyd David, mab y Dr. W. Rees, Liverpool. Er mai ychydig oriau cyn marw y dywedodd Evan Thomas felly wrthyf, etto teilwng yw sylwi ei fod yn ymddangos ar y pryd yn ei berffaith bwyll a'i synwyrau."

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM JONES. Genedigol o Gwernogle, yn sir Gaerfyrddin. Bu am ryw dymor yn yr Athrofa yn Nghroesoswallt, dan ofal Dr. Edward Williams. Aeth oddi yno i sir Fon, lle y bu am ychydig; yna daeth i Machynlleth o gylch 1788, neu y flwyddyn ganlynol. Nid oedd wedi ei urddo cyn ei ddyfodiad i Fachynlleth; ac nid ymddengys iddo gael ei urddo yma ychwaith, er iddo aros yn y lle oddeutu dwy flynedd. Dywedir ei fod yn wr ieuangc syml a chrefyddol, yn bregethwr melus ac efengylaidd, ac yn llwyr ymroddgar i'w waith. Adroddir fod gwraig yn yr eglwys, yr hon oedd well ei hamgylchiadau na'r cyffredin, yn cwyno wrtho na wyddai hi pa fodd y cai gynhaliaeth os derbyniai eu galwad i fod yn weinidog. Atebodd yntau—"Os meddyliwch chwi ac eraill am eich dyledswydd, a'i gwneuthur tuag ataf, ymddiriedaf yn dawel yn yr Arglwydd am yr hyn oll fydd arnaf eisieu mewn canlyniad."[71] Pregethodd Mr. Jones lawer y tu allan i dref Machynlleth yn y tymor byr y bu yma. Bernir mai yr achos o'r afiechyd a derfynodd yn ei angeu oedd dychryn a gafodd pan yn pregethu ar y maes yn agos i Towyn ar un prydnawn Sabboth, pan y daeth gweision Mr. Corbet, Ynys Maengwyn, a haid o fytheiaid, a'u cyrn, y rhai a'i hamgylchynasant, gan wneyd pob math o leisiau a nadau, a bwrw allan bob math o lwon a rhegfeydd, a bygwth gollwng y cwn arno i'w rwygo yn gareiau, oni roddai i fyny bregethu, a myned ymaith. Ni bu byth yn iach ar ol hyny. Bygythiai un Dr. Pugh, o Bennal, ef â marwolaeth os byth y deuai efe yno drachefn. Rhyw ddiwrnod ar ol hyn, äi Mr. Jones i Bennal fel o'r blaen, gan fwriadu croesi yr afon mewn rhyw fan. Pan yn dechreu ymddiosg er gwneyd hyny, pwy a'i cyfarchai o'r ochr arall ond y bygythiol Dr. Pugh. Gan fod Mr. Jones yn ddyn ieuangc eiddil, rhybuddiodd y Dr. ef ar ei berygl rhag cynyg croesi, a gorchymynodd iddo aros, fel y gallai efe ddyfod ato i'w gario drosodd. Felly, yn lle ei ladd, fel y bygythiai, cynorthwyodd y Dr. ef i groesi yr afon i fyned at ei hoff waith. Yr oedd y Dr. Pugh yma yn daid i'r diweddar Mr. Hugh Pugh, Mostyn. Bu Mr. Jones farw yn mlodeu ei ddyddiau, a chladdwyd ef, fel y crybwyllasom, y tu fewn i furiau y capel.

JOHN EVANS. Gan mai yn Amlwch y treuliodd efe y rhan fwyaf o'i oes yn nglyn a'r eglwys yno y bydd ein cofnodion am dano.

EDWARD FRANCIS. Gweler ei hanes ef eisioes yn nglyn âg eglwys New Inn, sir Fynwy.

JAMES GRIFFITHS. Daw hanes y gwr da a defnyddiol hwn yn nglyn a Rhodiad a Thyddewi, pan ddeuwn i sir Benfro.

DAVID MORGAN. Gweler hanes llawn o'i gymeriad a'i fywyd llafurus yn nglyn a Llanfyllin, lle y llafuriodd y deunaw mlynedd olaf o'i oes.

JOHN PARRY. Ganwyd ef yn Penycefn, yn mhlwyf Llanfor, ger llaw y Bala, Mawrth 10fed, 1810. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn Rhydywernen cyn adeiladu capel Bethel; ac yr oeddynt yn ofalus iawn, yn enwedig ei fam, i ddwyn eu plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, a chawsant yr hyfrydwch o weled eu hwyth plentyn yn dyfod i winllan Crist yn moreu eu hoes. Gan mai Mr. Parry oedd yr hynaf, gorfodwyd ef i ddechreu gweithio ar y ffarm er cynorthwyo ei dad pan yn ieuangc iawn, ac felly ymddifadwyd ef o'r manteision addysg a ddylasai gael yn moreu ei oes. Magwyd ef yn eglwys Dduw, ond yr oedd rhwng un a dwy ar bymtheg oed cyn ei dderbyn yn gyflawn aelod. Yn Llangollen y derbyniwyd ef yn aelod, gan yr enwog Mr. Williams, o'r Wern; oblegid yr oedd wedi gadael ty ei dad y pryd hwnw, a myned am flwyddyn i wasanaeth amaethwr i Glyndyfrdwy; a Llangollen oedd y lle mwyaf cyfleus iddo i fyned i addoli gyda'i enwad ei hun.

Dechreuodd bregethu ar gais yr eglwys yn Bethel, a'i gweinidogion, Mr. Michael Jones, a Mr. H. Pugh. Bu am yspaid yn yr ysgol yn Llanuwchllyn, dan ofal ei weinidog; ac wedi hyny, er mwyn cael manteision helaethach i ddysgu Saesonaeg, aeth i Marton, sir Amwythig, dan ofal Mr. J. Jones; ac oddi yno i'r Athrofa i'r Drefnewydd, lle yr arhosodd dair blynedd a haner. Ymadawodd cyn fod ei amser i fyny, oblegid fod yr Athrofa yn cael ei symud i Aberhonddu. Derbyniodd alwad o Salem, Machynlleth, a'r eglwysi cysylltiedig yn Pennal, Llanwrin, a Rhiwgwreiddyn (Corris yn awr), ac urddwyd ef Tachwedd 9fed, 1837. Llafuriodd yn Machynlleth am dair blynedd, yna derbyniodd alwad o'r Wern a Brymbo, a bu yno am bum mlynedd, ac yna dychwelodd i Salem, Machynlleth, lle yr arhosodd drachefn am bedair blynedd. Tua'r flwyddyn 1848, gwnaeth ef a'i briod eu meddwl i fyny i ymfudo i'r America; ond oblegid i gystudd trwm ddyfod i'w deulu, bu raid iddo ohirio ei fynediad ar ol rhoddi yr eglwys i fyny; a bu am flwyddyn yn llafurio yn Rhoslan, a Tabor, a Llanystymdwy, sir Gaernarfon; ac yn 1850, rhoddodd ei fwriad mewn gweithrediad, a chroesodd i'r Gorllewin. Ar ol cyrhaedd America, arhosodd am ychydig yn New York, nes y derbyniodd alwad of Racine, lle y llafuriodd am dair blynedd. Aeth i gysylltiad a'r Genhadaeth Gartrefol Americanaidd; ac yn ei gwasanaeth, llafuriodd yn Cambria a Milwaukee, yn Wisconsin, ac yn Big Rock, yn Illinois; a bu o ddefnydd mawr yn mhlith y Cymry gwasgaredig trwy y lleoedd hyny. Yn nechreu Mai 1861, ar wahoddiad eglwys Gomer, sefydlodd yn Allen Co.; a dichon na bu yn fwy dedwydd yn un cyfnod o'i weinidogaeth nag y bu yn Gomer am y ddwy flynedd a haner y llafuriodd yno. Ond yn annisgwyliadwy hollol, yn nghanol ei nerth a'i iechyd, pan allan yn ei ardd un diwrnod, sathrodd ei droed ar hoel. Cododd hyny enyniad (inflammation), ac ar ol naw niwrnod o ddyoddefaint poenus, hunodd yn yr angeu, Medi 20fed, 1863. Claddwyd ef yn mynwent Tawelan, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri T. Edwards, Cincinnati; a D. Price, Newark.

Yr oedd llawer o ragoriaethau yn cyfarfod yn nghymeriad Mr. Parry. Ni wyddai ddim am ddiogi a musgrellni, gyda'r byd na chyda chrefydd, ac nis gallasai ei oddef yn neb arall. Yr oedd gweithio yn hyfrydwch iddo; a pha beth bynag yr ymaflai ynddo, gwnui ef a'i holl egni. Am yr hyn a gymerai mewn llaw, nid oedd dim troi yn ol arno; ond mynai ei gwblhau. Cariai ei benderfyniad ef weithiau i eithafion, nes dyweyd geiriau caledion; ond rhoddid y credyd iddo gan y rhai na chydolygent ag ef ei fod yn gydwybodol yn y cwbl.

Yr oedd ei galon o blaid pob achos da. Beth bynag a fyddai y cynllun a gynhygid er gwneyd lles mewn ardal, taflai ei holl galon iddo. Yr oedd yn mysg y rhai cyntaf o'i gyd-efrydwyr a arwyddasant yr ardystiad dirwestol, a glynodd yn ddiysgog wrth yr egwyddor hyd ei fedd. Nid corsen yn ysgwyd gan wynt ydoedd gyda dim. Yr oedd yn llawn iawn o ysbryd diwygiad yn nechreuad ei weinidogaeth, a pharhaodd hyd y diwedd yn awyddus am achub eneidiau. Ni chyrhaeddodd y radd uchaf fel pregethwr; ond yr oedd ei weinidogaeth yn sylweddol, efengylaidd, a difrifol. Cyfeiriai at galosau a chydwybodau ei wrandawyr; ac er fod ei eiriau weithiau yn llym, etto yr oedd min gwirionedd arnynt fel yr oeddynt yn gwneyd eu gwaith yn llwyddianus. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb; ac erys ei goffadwriaeth yn barchus gan lawer yn Nghymru ac yn America.

JOHN HOWES. Yr oedd Mr. Howes yn enedigol o gymydogaeth Treffynon, a bu ei rieni yno mewn amgylchiadau cysurus. Derbyniodd addysg dda, a dygwyd ef i fyny yn nghyfundeb y Wesleyaid. Gadawodd yr hen gyfundeb, ac ymunodd a'r gangen a elwid y Wesleyaid Cymanfaol tua'r flwyddyn 1836. Daeth cryn lawer o eiddo i Mr. Howes ar ol rhai o'i berthynasau, ac aeth i anturiaeth fawr i adeiladu pentref o dai yn Glasinfryn, ger llaw Bangor, lle y mae Abel-Bethmaca wedi ei godi. Agorodd yno fasnachdy eang; ond aflwyddianus fu yn ei anturiaeth, fel yr aeth trwy y rhan fwyaf o'r eiddo a gafodd. Ymunodd a'r Annibynwyr yn Mangor yn 1838; a'r flwyddyn ganlynol, urddwyd ef yn Llansantffraid, sir Drefaldwyn. Bu yn weinidog yno ac yn yr eglwysi cylchynol am tua dwy flynedd, yna symudodd i Salem, Machynlleth. Ni bu yno ond ychydig gyda blwyddyn; canys ymfudodd i America yn ngwanwyn 1842. Bu am dymor yno yn cynorthwyo Dr. Everett yn Steuben, a bu wedi hyny dros yspaid yn Pittsburgh. Trwy ryw amgylchiadau, darfu ei gysylltiad a'r Annibynwyr Cymreig, a symudodd i Canada, lle y bu farw er's rhai blynyddau yn ol, ac ni chlywsom ddim am ei gysylltiadau crefyddol yn niwedd ei oes. Ystyrid Mr. Howes yn ddyn da, ond yn wan ac ansefydlog. Pregethai am dro yn hyawdl a phoblogaidd; ond nid oedd defnydd ynddo i barhau fel gweinidog sefydlog. Yr oedd o deimladau cryfion, a theimlai serch cryf at ei gyfeillion; ac felly y teimlent hwythau ato yntau.

Mae Mr. Edwards a Mr. Jones etto yn aros; a gobeithiwn fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb mawr yn ol iddynt.

ABERHOSAN.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Aberhosan
ar Wicipedia

Dyma y gangen gyntaf a dorodd allan o eglwys y Graig, Machynlleth. Saif o fewn ychydig gyda phedair milldir o'r dref, ar y llaw ddeheu i'r ffordd sydd yn arwain i Lanidloes. Y Methodistiaid, fel yr ymddengys, a ddechreuodd bregethu yn yr ardal, a hyny cyn canol y ddeunawfed ganrif; a bu ganddynt am dymor yma achos lled flodeuog. Yr oedd yma hen bregethwr perthynol iddynt o'r enw William Lewis, yr hwn a fu yn gynorthwy mawr i'r achos. Cymerasant dy bychan i bregethu ynddo, yr hwn hyd heddyw a elwir "yr hen gapel," er mai ychydig bregethu fu ynddo yn y ganrif bresenol. Cynhaliodd y Methodistiaid Gymdeithasfa yn y lle hwn yn 1770; ac yr oedd Peter Williams, William Williams, Pantycelyn, a Dafydd Morris, yn mysg eraill, yn pregethu ynddi. Yr oedd yr Annibynwyr wedi dechreu pregethu yn Aberhosan yn mhell cyn i'r Methodistiaid roddi yr achos i fyny; ac yr oedd y cyfeillgarwch puraf rhwng y ddau enwad. Deuent yn fynych at eu gilydd i gyfarfodydd gweddi, a chyfeillachau crefyddol. Adroddir am ryw gyfarfod gweddi nodedig a gafwyd yn lle addoliad yr Annibynwyr, yn yr hwn yr oedd gwr ieuange perthynol i'r Methodistiaid, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn yr ardal, mewn teimladau neillduol. Pan ar ganol gweddio, torodd allan i ganmol a molianu, a symudai ar ei liniau o amgylch yr ystafell fel un wedi cwbl anghofio ei hun yn y mwynhad ysbrydol a brofai. Crybwyllai yr adnod hono—"Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddeng mil"—a chwanegai gyda nerth mawr, "deng mil o'r peth a fynoch."[72]

Tua'r flwyddyn 1791, y flwyddyn y daeth Mr. John Evans, i Machynlleth, y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn Aberhosan. Yr oedd un Hugh Tudor, yr hwn oedd yn byw yn y Dyffryn, wedi dyfod i gydnabyddiaeth â Mr. Evans, ac wedi ei hoffi yn fawr, a gwahoddodd ef i'w dy i bregethu. Derbyniodd Mr. Evans y cynhygiad, ac aeth yno i bregethu, a dyna y bregeth gyntaf hyd y mae genym hanes gan Annibynwr yn mhlwyf Penegos. Bu Hugh Tudor yn noddwr caredig i'r achos am flynyddau, ac agorodd ei ddrws i dderbyn yr efengyl. Nid oedd ef ei hun yn proffesu crefydd, ac ni ddaeth ar ol hyny; ac ysywaeth yn ddyn anystyriol y parhaodd hyd ei fedd; ond teimlai yn falch mai efe a agorodd ei dy gyntaf i'r efengyl yn y lle, a byddai yn fynych yn ymffrostio mai efe oedd tad yr achos yn Aberhosan.

Yn yr adeg y bu Mr. Evans yn cyrchu i'r Dyffryn i bregethu, yr oedd un John Bulk neu Vulk yn ymweled â'r lle, ac yn pregethu yn achlysurol. Mae mwy nag un o'r enw yma wedi bod yn mysg efengylwyr teithiol Cymru, y rhai a ddaw dan ein sylw yn eu lleoedd priodol. Cafodd pregethau taranllyd y gwr hwn argraff ddofn yn ardal Aberhosan. Adroddir am dro rhyfedd a gymerodd le o dan ei weinidogaeth yn mhen ychydig amser wedi i bregethu ddechreu yn y Dyffryn. Yr oedd ar un prydnawn Sabboth yn pregethu yn ysgubor Esgairfochnant, perthynoly pryd hwnw i Humphrey Tudor, brawd Hugh Tudor. Daeth yno luaws ynghyd, ac yr oedd y pregethwr yn taranu yn ddychrynllyd oddiar Sinai, a cherddai rhyw nerth anorchfygol gyda'i weinidogaeth. Torodd y gynnulleidfa allan i lefain a gwaeddi yn ddychrynedig iawn am eu bywyd; ac o'r diwedd i neidio mewn gorfoledd, fel rhai yn gweled diangfa.[73][74] Nid hir y bu gweinidogaeth Mr. Evans yn y Dyffryn heb ddwyn ffrwyth; ac yn mysg y dychweledigion cyntaf yr oedd dau o bersonau a fu wedi hyny am dymor maith o was naeth mawr i'r achos yn y lle, sef Sion Evan, Cwmgwarchae, a Griffith Jones, Tygwyn. Nid oedd Mr. G. Jones ond dyn ieuangc, ac aeth am dymor oddi cartref i'r ysgol, yr hyn oedd yn golled fawr i'r achos bychan; ond dychwelodd adref cyn hir. Symudwyd yr achos o'r Dyffryn i dy yn Aberhosan, o fewn lled cae i'r man lle y cyfarfyddai y Methodistiaid i addoli; ac yno y buont hyd nes y codwyd y capel yn y flwyddyn 1808.

Yn fuan wedi symudiad yr achos i Aberhosan, daeth dyn ieuangc o'r enw Sion Wood i wasanaethu i'r ardal. Un o gymydogaeth y Penant, Llanbrynmair, ydoedd, fel yr ymddengys. Yr oedd yn ymchwilgar ei ysbryd, ac yn gryn dipyn o ddadleuwr. Pan glywodd fod Mr. Evans yn Machynlleth yn pregethu rhyw bethau a dybiai efe yn hynod, penderfynodd fyned i'w wrando, a chael ymddyddan ag ef. Yno yr aeth, ac ar ganol yr oedfa torodd yn orfoledd; ac yn mhlith y lluaws, gwelwyd Sion Wood, y cecryn dadleugar, yn molianu hefyd.[75][76] Arweiniodd Rhagluniaeth ef yn fuan ar ol hyn i Gefngwyddgrug i wasanaethu; a chan fod Mr. G. Jones, Tygwyn, wedi myned oddi cartref i'r ysgol, yr oedd ei ddyfodiad yn gaffaeliad mawr i'r achos. Wrth gytuno yn Cefngwyddgrug, gwnaeth yn amod fod i'r holl bregethwyr a ddeuai i Aberhosan i gael bwyd a lletty yno, a chyflogai am ddeg swllt y flwyddyn yn llai ar gyfer hyny. Daeth yr achos rhagddo yn llwyddianus yn ystod gweinidogaeth Mr. Evans, fel yr oedd golwg lewyrchus arno ar ei ymadawiad. Yn 1799, daeth Mr. Edward Francis i weinidogaethu i Fachynlleth, a gofalai yntau fel ei ragflaenor am y gangen yn Aberhosan. Yn 1807, daeth Mr. James Griffiths i Fachynlleth, ac yn y flwyddyn gyntaf wedi ei ddyfodiad y codwyd y capel. Yr oedd yr achos a fu yn y lle gan y Methodistiaid erbyn hyn wedi ei roddi i fyny, fel y cafodd yr Annibynwyr y maes yn gwbl iddynt eu hunain. Cafwyd tir i adeiladu yn rhodd gan Mr. G. Jones, Tygwyn. Dyddiad y weithred ydy w Gorphenaf 6ed, 1807, a'r ymddiriedolwyr gwreiddiol oeddynt John Evans, Cwmgwarchae; John Wood, Ty'nyfedw; John David, Bryntudor; John Jones, Hugh Pugh, a David Beynon, Machynlleth; John Hughes, Hendre, Llanbrynmair; William Jones, Maesgwian, Llanbrynmair; John Lloyd, Towyn; a Thomas Anwyl, Cwmffernol. Trwy lafur Mr. Jones, a ffyddlondeb yr holl frawdoliaeth, gorphenwyd y capel yn 1808, yr hwn oedd yn werth 244p. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Griffiths yma, bu pregethu yn achlysurol yn Nhaly wern, pentref bychan o gylch tair milldir o Aberhosan, a deuai cynnulleidfaoedd Îluosog i wrando; ond oblegid fod cylch gweinidogaeth Mr. Griffiths yn eyrhaedd oddi yma i Lwyngwril, a'r anhawsder i gael pregethwyr i lenwi y bylchau, bu raid rhoddi y lle i fyny, a daeth y Bedyddwyr a meddianasant yr ardal. Byddai Sion Evan a Sion Wood yn myned i Dal y wern i gynal cyfarfodydd gweddio, a chyfarfyddid a hwy yno gan nifer o frodyr o Lanbrynmair; a choffeir hyd heddyw am y cyfarfodydd gwlithog gafwyd yno. Bu doniau gweddi y brodyr hyn ac eraill yn help mawr i'r achos bychan yn Aberhosan, oblegid un waith bob pythefnos yr oedd Mr. Griffiths yn gallu bod gyda hwy, gan amledd ei ofalon; ond bu ei weinidog- aeth o les mawr yn yr ardal; a phan yr ymadawodd yn 1814, yr oedd yma ddeugain o aelodau. Yn mis Tachwedd yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Griffiths, y derbyniodd Mr. David Morgan alwad oddi yma ynglyn a Machynlleth, ac yr ymsefydlodd yn eu plith. Yr oedd Aberhosan hyd yma yn cael ei chyfrif yn gangen o eglwys Machynlleth. Er y cynhelid eymundeb yma yn achlysurol er dechreuad gweinidogaeth Mr. Griffiths, a bod y ddau frawd Sion Evan a Sion Wood yn cael eu hystyried yn ddiaconiaid, etto yn 1814, ar ddechreuad gweinidogaeth Mr. Morgan, yr ystyriodd ei hun, ac y cydnabyddwyd hi gan y fam eglwys yn Machynlleth[77] yn eglwys Annibynol. Llafuriodd Mr. Morgan yma gydag ymroddiad mawr am ddwy flynedd ar hugain; ac ar ei ymadawiad yn 1836, yr oedd rhifedi yr aelodau yn dri chymaint ag y cafodd hwy yn 1814. O'r holl weinidogion a fu yn llafurio yma, y mae yn debyg mai Mr. Morgan a adawodd fwyaf o nodwedd ei feddwl ei hun ar feddwl y gynnulleidfa. "Ei Ym- neillduaeth anmhlygedig ac ymosodol ef a laddodd bob tuedd Eglwysig oedd wedi llechu yn yr ardal; a'i feddwl grymus ef a d liffynodd syniadau yr eglwys ar byngciau mawrion trefn iachawdwriaeth." Bu Mr Morgan yn hapus iawn ar y cyfan yn ei gysylltiad a'r eglwys hon; a phan y symudodd i Manchester, teimlid colled a hiraeth ar ei ol.

Cyn ymadael, cynghorodd Mr. Morgan yr eglwys yn Aberhosan i fynu gweinidog iddi ei hun; a chymeradwyodd i'w sylw Mr. Richard Jones, yr hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Athrofa y Drefnewydd. Wedi eael prawf o Mr. Jones, rhoddwyd galwad iddo gan yr eglwys yma, ac yn Mhenegos, ac urddwyd ef Ebrill 4ydd, 1837. Ar yr achlysur, traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. J. Williams, Dinas. Derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog gan Mr. M. Ellis, Talybont. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr. H. Lloyd, Towyn. Anerchwyd y gweinidog gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; a'r eglwys gan Mr. D. Morgan, Manchester. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri J. Saunders, Aberystwyth; H. Morgan, Samah; D. Griffith, Madagascar; J. Davies, Glasbwll; a D. Hughes, Wyddgrug.[78] Ymaflodd Mr. Jones yn ei waith o ddifrif, a bu yn nodedig o lwyddianus. Aeth y capel yn fuan yn rhy fychan, fel y bu raid rhoddi oriel ynddo; ond erbyn ei fod yn barod, derbyniodd Mr. Jones alwad o Rhuthyn, ac er galar mawr i'w gyfeillion yn Aberhosan symudodd yno; ond yn ystod y ddwy flynedd y bu yma yn llafurio, yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i yn agos i 200 o rifedi. Byr fu tymor gweinidogaeth Mr. Jones yn Rhuthyn; canys bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb yn mlodeu ei ddyddiau. Daw hanes y "gweinidog da yma i Iesu Grist" yn nglyn a Rhuthyn, lle y terfynodd ei weinidogaeth.

Wedi ymadawiad Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Williams, Dinasmawddwy. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn nechreu y flwyddyn 1839, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Mehefin 14eg, yn yr un flwyddyn, pryd y gweinyddwyd gan Meistri T. Griffiths, Rhydlydan; C. Jones, Dolgellau; H. Lloyd, Towyn; R. Jones, Rhuthyn; E. Hughes, Treffynon; D. Price, Penybontfawr; H. Morgan, Samah; W. Roberts, Pennal; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Davies, Llanfair; M. Jones, Llanuwchllyn; ac E. Davies, Trawsfynydd. Bu Mr. Williams yn llafurio yn ddiwyd yma am yn agos i ddwy flynedd ar hugain; ac aeth yr achos rhagddo ar y cyfan yn llwyddianus. Talwyd y ddyled oedd yn aros ar yr hen gapel-cauwyd i fewn ddarn o dir yn ymyl y capel, yr hwn a gafwyd gan Mr. G. Jones, Tygwyn, i fod yn lle claddfa-a chynlluniwyd at gael capel newydd. Cafwyd y tir yn rhad am 999 o flynyddau, gan Mr. G. Jones, Cefngwyddgrug, mab y diweddar Mr. G. Jones, Tygwyn; ac ar y 29ain o Ionawr, 1859, torwyd y dywarchen gyntaf o dir y capel newydd gan Mr. Griffith Jones, unig fab Mr. G. Jones, Cefngwyddgrug, ac ŵyr Mr. G. Jones, Tygwyn. Costiodd y capel mewn arian, heblaw llafur yr ardalyddion, 725p., ac y mae yn un o gapeli harddaf y wlad; a dangosodd yr eglwys a'r gynnulleidfa haelioni mawr i dalu yr oll o'i ddyled. Trowyd yr hen gapel yn ysgoldy Brytanaidd at wasanaeth yr ardal. Yn fuan ar ol codi y capel newydd, oherwydd rhyw amgylchiadau, rhoddodd Mr. Williams yr eglwys yma i fyny; ond parhaodd i lafurio yn Penegos tra y daliodd ei iechyd; ac yn nglyn a'r eglwys yno y bydd ein cofnodiad bywgraphyddol o hono.

Yn nechreu y flwyddyn 1861, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Miles Jenkins, myfyriwr o Athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mehefin 6ed a'r 7fed, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Thomas, Meifod. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. M. Davies, Maesycwmwr. Pregethwyd siars y gweinidog gan Mr. E. C. Jenkins, Rhymni; a siars yr eglwys gan Mr. J. Williams, Castellnewydd; a gweinyddwyd hefyd gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog; E. Williams, Dinas; T. Davies, Dolgellau ; ac I. Thomas, Towyn.

Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jenkins, codwyd ty newydd i'r gweinidog. Rhoddwyd y tir trwy garedigrwydd Mr. Lewis Lewis, Cefn'rhosan, wedi ei sicrhau yn eiddo i'r eglwys am fil o flynyddoedd; ac y mae rhan fawr o'i ddyled wedi ei thalu. Llafuriodd Mr. Jenkins yma hyd ddiwedd Medi 1866, pan y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn y Drefnewydd.

Yn gynar yn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad gan yr eglwys i Mr. John R. Roberts, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 11eg a'r 12fed, 1867. Ar yr achlysur, pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. R. Jones, Llanidloes (ewythr y gweinidog ieuange). Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Roberts, Conwy. Gweddiodd Mr. Josiah Jones, Machynlleth. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Morgan, athraw yr Athrofa yn Nghaerfyrddin; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan ei diweddar weinidog, Mr. D. M. Jenkins, Drefnewydd. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri D. Oliver, Llanberis; O. Evans, Llanbrynmair; S. Edwards, Machynlleth; R. Thomas, Bangor; I. Thomas Towyn; a Mr. H. C. Williams, gweinidog y Bedyddwyr yn y Dylife; ac y mae Mr. Roberts yma yn parhau i lafurio. Nid yw yn debyg fod mwy nag un pregethwr wedi ei godi yma i bregethu, sef Mr. John Morgan, Caehaulog, yr hwn a fu yn bregethwr eymeradwy yma am dymor maith. Mae yma ddau bregethwr yn perthyn i'r eglwys yn awr, er mai nid yma y dechreuasant bregethu, sef Mr. John Hughes, Rhiwgam, a Mr. Edward Davies, Dolcaradog. Heblaw y personau a enwyd eisioes, bu yma gryn nifer o bobl dda yn nglyn a'r achos, y rhai y mae cu henwau yn berarogl yn yr ardal. David Davies, Bryntudor, oedd un o'r rhai cyntaf a dderbyniwyd yn Aberhosan pan y dechreuodd Mr. Griffith gadw cymundeb achlysurol yma, ac a fu trwy ei oes yn nodedig fel athraw deallgar a diacon gofalus. Yr hen Ddafydd Robert, o'r Gaethle, a Hugh Mathew, a fuont nodedig o ffyddlon, ac a gawsant fyw i weled dyddiau da; ac y mae yn dda genym fod hiliogaeth y rhai fu yn enwog gynt yn parhau i rodio llwybrau ffydd eu henafiaid; ac y mae yr Arglwydd yma mewn llawer engraifft yn llythyrenol yn cyflawni yr addewid -"Plant dy weision a barhant, a'u had a sicrheir ger dy fron di."


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dylife
ar Wicipedia

DYLIFE.

Yn ddiweddar y ffurfiwyd Dylife yn blwyf. Mae y lle wedi dyfod yn lled boblog trwy agoriad gweithiau plwm ar y mynydd. Arferid pregethu yma er yn foreu gan weinidogion Machynlleth, Aberhosan, a Llanbrynmair; ond yn 1863 y corpholwyd yma eglwys fel cangen o Aberhosan a than ofal ei gweinidog. Nid oes yno gapel wedi ei godi, ond cyfarfyddant mewn pabell goed gyfleus iawn, yr hon a roddir at eu gwasanaeth gan gwmni gwaith plwm y Dylife. Mae yma gynnulleidfa gryno, a phobl ffyddlon dros ben. Griffith Wilson yw yr unig ddiacon yn y lle, ac y mae wedi bod yma er dechreuad yr achos, ac nis gellir canmol gormod ar ei ffyddlondeb; a gwyr y pregethwyr fu yn myned i'r Dylife o Machynlleth am garedigrwydd ac arabedd diarhebol ei wraig Mary Wilson, a'i pharodrwydd i ymgeleddu y rhai a ddelo heibio.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Penegoes
ar Wicipedia

PENEGOS.

Ebenezer y gelwir y capel bychan sydd yma. Y mae o fewn dwy filldir i Fachynlleth. Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. Morgan yn fuan wedi dechreu ei weinidogaeth yn y dref. Mewn anedd-dy o'r enw Coedcae y pregethid ar y dechreu; ond yn y flwyddyn 1824, codwyd yma gapel bychan. Bwriadwyd ef ar y cyntaf i gadw ysgol Sabbothol, a chynal cyfarfodydd gweddi, a phregethu achlysurol; ac felly y bu hyd adeg ymadawiad Mr. Morgan yn 1836, yna ymffurfiodd yr aelodau yn y lle yn eglwys Annibynol; ac unasant â'r eglwys yn Aberhosan i roddi galwad i Mr. Richard Jones, a bu yn gweinyddu iddynt nes yr ymadawodd i Rhuthyn. Cytunasant drachefn â'r eglwys yn Aberhosan i roddi galwad i Mr. J. Williams, Dinas; ac er i Mr. Williams roddi i fyny ofal Aberhosan, parhaodd i ofalu am Penegos tra y gallodd; a phan y gorfodwyd ef gan waeledd i roddi i fyny ei ofal gweinidogaethol yma hefyd, etto parhaodd mewn cysylltiad a'r eglwys hyd ei ddiwedd. Wedi i Mr. Williams fethu, cymerodd Mr. Jones, Machynlleth, ofal yr eglwys, ac efe sydd yn parhau i fwrw golwg drosti. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ac nid oes dim nodedig wedi digwydd yn ei hanes; ond y mae yma nifer o frodyr a chwiorydd ffyddlon a heddychol, a mawr ofal calon ganddynt am achos yr Arglwydd. Nid ydym yn gwybod fod neb oddi yma wedi codi i bregethu, ac ni bu yr un pregethwr cynorthwyol hyd y deallasom yn perthyn iddi mewn unrhyw gyfnod yn ei hanes.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JOHN WILLIAMS. Ganwyd Mr. Williams yn 1798, yn Pennal, ger Machynlleth. Dygwyd ef i fyny fel gwas amaethyddol, ac felly y treuliodd flynyddau boreu ei oes. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth Mr. Morgan, Machynlleth, tua'r flwyddyn 1817, ac ymunodd â'r gangen fechan oedd dan ofal Mr. Morgan yn Pennal. Symudodd oddi yno i wasanaethu i Towyn, ac wedi hyny i Lanegryn, a thra yn aros yn y lle olaf y dechreuodd bregethu ar gais yr eglwys a'i gweinidog, Mr. Lloyd, Towyn. Bu rai blynyddau yn pregethu yn y wlad oddi amgylch gyda derbyniad mawr cyn ei fyned i'r ysgol ramadegol yn y Drefnewydd yn 1827. Arosodd yno ddwy flynedd, nes y derbyniodd alwad o Dinasmawddwy i fod yn olynydd i'r efengylaidd Mr. Hughes. Urddwyd ef Chwefror 19eg, 1829, a llafuriodd yno am ddeng mlynedd.

Yn 1839, derbyniodd wahoddiad eglwysi Aberhosan a Phenegos i ddyfod yn fugail arnynt. Trwy ryw amgylchiadau na waeth heb eu crybwyll, terfynodd ei gysylltiad ag Aberhosan tua'r flwyddyn 1860; ond parhaodd yn weinidog Penegos tra y gallodd. Yr oedd ei iechyd wedi gwaelu yn fawr; ac ysigodd ei gyfansoddiad, yr hwn oedd yn naturiol yn gryf, trwy yr amgylchiadau a'i cyfarfu, ac yn neillduol trwy farwolaeth ei unig blentyn. Ni bu y byd byth yr un peth iddo wedi iddo golli ei anwyl John. Derbyniwyd ef ar Drysorfa yr Hen Weinidogion, ond galwyd arno yn fuan i wlad nad oedd raid iddo wrth ei chynorthwy. Bu farw Medi 12fed, 1864, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Aberhosan, lle yr oedd wedi rhoddi ei fab i orwedd.

Yr oedd Mr. Williams o faintioli cyffredin, ac o wneuthuriad cadarn. Pan yn nghanol ei ddyddiau, yr oedd golwg gryf, iachus, wridcoch arno, a'i wallt yn ddu fel y frân; ond yn ei flynyddoedd olaf, yr oedd wedi cyfnewid yn ddirfawr. Yr oedd y gwrid wedi cilio o'i ruddiau, a'i wallt yn wyn ei liw. Yr oedd o dymer siriol, lawen, yn nodedig o garedig i ddynion ieuaingc, ac o ffyddlon i'w holl frodyr. Ni wyddai am ofn dyn, ac ni feddyliai am atal ei dafod pan y barnai ef y dylasai lefaru. Os rhoddai addewid cadwai ati, a lle y byddai ganddo ymrwymiad yno y ceid ef.

Gwnai aberth er mwyn yr hyn a farnai yn wirionedd, ac ni phetrusai am wg neb os meddyliai fod dyledswydd yn galw arno i gymeryd cyfeiriad neillduol. Diamheu yr arbedasid iddo lawer o'i ofidiau gweinidogaethol pe buasai yn fwy gochelgar ei ymadroddion; a theimlai rhai o'i wrandawyr fod rhai o'i saethau o'r pulpud weithiau yn cael eu cyfeirio atynt hwy yn bersonol. Yr oedd yn bregethwr rhagorol o ran sylwedd a thraddodiad. Dysgybl i Mr. Morgan, Machynlleth, ydoedd yn ei olygiadau duwinyddol; ac fel ei athraw, yr oedd yn Annibynwr ac yn Ymneillduwr selog. Yr oedd wedi myfyrio duwinyddiaeth yn dda, ac yn glir a phenderfynol yn ei farn ar ras a phen-arglwyddiaeth, ac etto heb betrusder i alw ar ddyn at ei ddyledswydd. Gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, wedi pregethu am o fwy na deugain mlynedd; a'i eiriau diweddaf ydoedd, "mai ei ddyddanwch oedd yr efengyl a bregethodd cyhyd, a'i fod yn gorphwys ar y cyfamod disigl."


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llanwrin
ar Wicipedia
Saron Llanwrin (A)

LLANWRIN.

Cychwynwyd yr achos yma fel cangen o eglwys Machynlleth gan Mr. D. Morgan, a chodwyd capel bychan tua'r flwyddyn 1824. Gofalai Mr. Morgan am y lle nes y symudodd o Machynlleth, yna rhoddodd yr ychydig aelodau yn Llanwrin eu hunain dan ofal Mr. J. Parry, yr hwn a ddewiswyd yn weinidog gan y gangen a aeth allan o'r Graig i Salem; ac o hyny allan, gweinidogion Salem fu yn gofalu am Lanwrin hyd uniad y ddwy eglwys yn 1853, yna rhoddodd yr eglwys fechan yma ei hun dan ofal y Graig. Ac ar sefydliad Mr. Josiah Jones yn Machynlleth yn 1854, cymerodd ofal y gangen yn Llanwrin; ac y mae yn parhau i ofalu am dani. Ni bu yr achos erioed yn gryf, ond y mae yma ychydig enwau a'u calonau yn gynes at achos yr Arglwydd. Ni chodwyd yr un pregethwr yn yr eglwys hon; ond yr ardal yma a gafodd y fraint o fagu Mr. William Jones, y Cenhadwr, a Mr. R. Rowlands, Llansamlet, er mai nid yma y dechreuodd yr un o honynt bregethu. Gallwn grybwyll yn arbenig am William Jones, canys y mae efe wedi ei symud, ei fod wedi gosod enwogrwydd ar Lanwrin uwch na phe buasai y cadfridog galluocaf a arweiniodd fyddin erioed i faes y gwaed wedi codi o hono. Mae ffeithiau newyddion yn dyfod i'r golwg beunydd o'i lafur didor yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Pwy ddisgwyliasai i fachgen tlawd o bentref dinod Llanwrin ymgodi i'r fath safle uchel fel cenhadwr Cristionogol?


SOAR.

Saif y capel hwn oddeutu pedair milldir i'r de-ddwyrain o Fachynlleth. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal tua'r flwyddyn 1794, mewn amaethdy o'r enw Ty'nyplas, lle yr oedd un o'r enw John Davies yn byw. Mae llawer o hiliogaeth y gwr hwnw yn aros hyd yr awr hon, ac yn grefyddwyr gyda'r gwahanol enwadau. Nis gellir cael allan pwy bregethodd gyntaf yn Ty'nyplas; ond dywedir fod Meistri George Lewis, J. Evans, Machynlleth; W. Hughes, Dinas; R. Tibbott, Richard Herbert, a Rees Davies, wedi bod yno. Yn yr adeg yma, nid oedd cymaint ag un crefyddwr yn yr ardal. Treulid y Sabbothau mewn difyrwch pechadurus, ac ymgynnullid i dai y gymydogaeth i chwareu y delyn. Deuid a'r delyn i Dy'nyplas pan ddeallid fod John Davies wedi myned i'r eglwys; ond gofelid am ei chuddio cyn y dychwelai. Y mae llynbwll yn yr ardal a elwir Llyn y delyn; ac y mae traddodiad yn dyweyd fod ty wedi bod yno yn yr hwn yr oedd y telynwr yn byw, ac y byddai yr ardalwyr yn ymgasglu i'r ty hwn ar y Sabbothau i chwareu ac ymddifyru gyda'r delyn. Ar un Sabbath daeth priodas yno, ac wedi blino chwareu aethant allan i roddi tro i ben bryn cyfagos; ac ar eu dychweliad, cawsant y lle wedi ei lyncu gan y ddaear, a llyn o ddwfr yn y lle; a Llynydelyn y gelwir y lle hyd heddyw.[79]

Wedi ymadawiad John Davies a Thy'nyplas, bu pregethu ac ysgol Sabbothol yn Bryncynfil, Llwyngwyn, a Chwmdwrgi; ond wedi dyfodiad Thomas Rowland i'r ardal yn y flwyddyn 1807, yr oedd ei dy ef, sef Byrdir, yn agored; ac yno y cyfarfyddid nes yr adeiladwyd Soar yn 1819. Hyd lease y capel yw 1,000 o flynyddoedd, am yr ardreth o heidden y flwyddyn. Aelodau o'r Graig, Machynlleth, oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yma, a Mr. Morgan oedd eu gweinidog. Mae coffâd parchus yn cael ei wneyd am dri brawd oedd yn perthyn i'r achos yma yn ei gychwyniad, sef Edward Edwards, John Breese, a John Davies, ac nis gallesid cael cyfarfod cyfan heb fod y tri yno. Medrai un ganu, ond ni fedrai ddarllen na gweddio—medrai un arall ddarllen, ond nis gallai na chanu na gweddio—medrai y llall weddio, ond ni fedrai na chanu na darllen; ond pan y ceid y tri gyda'u gilydd, yr oedd yno ddigon o ddarllen, canu, a gweddio. Yr oedd dyfodiad Thomas Rowland i'r ardal yn gefn mawr i'r achos; a byddai ei wraig Elizabeth Rowland yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddio; ac ar Sarah Breese yn aml y disgynai dechreu y gân. Dwy chwaer nodedig am eu duwioldeb. O'r amser y codwyd y capel hyd y flwyddyn 1825, nid oedd ond pregethu achlysurol yn Soar; ond gwnaed yma lawer o ddaioni trwy hyny, a'r cyfarfodydd gweddi a'r ysgol Sabbothol; a bendithiwyd yr ardal â diwygiad grymus, fel yr oedd golwg lewyrchus ar bethau. Yr oedd Mr. David Pritchard, Ceniarth, yr hwn oedd mewn amgylchiadau bydol cysurus, yn aelod yn Machynlleth, ac yn brif gefn i'r achos yn Soar, gan fod ei drigfa gerllaw iddo. Yr oedd wedi dechreu pregethu er's rhai blynyddau; a chan ei fod yn ddyn cyfoethog, ac wedi cael addysg dda, ac wedi troi mewn cymdeithas uwchraddol, yr oedd ganddo ddylanwad mawr ar y rhai oedd o'i gylch. Tua y flwyddyn 1825, cyfododd anghydwelediad blin rhwng Mr. Pritchard a Mr. Morgan, ei weinidog, yr hyn a barodd deimladau chwerwon am lawer o flynyddau. Buasai yn dda genym fyned heibio i hyn heb ei grybwyll; ond nis gallwn hanesyddu yn gywir a myned heibio i ffeithiau pwysig yn nglyn ag eglwysi sydd yn dyfod i'n ffordd. Nid ein gwaith ni yw rhoddi ein barn ar ffeithiau, ond yn unig eu mynegu; ac os digwydd fod dau adroddiad o'r un amgylchiad ger ein bron, a'r adroddiadau yn anghytuno, nid oes genym ond eu gosod ger bron fel y maent. Mae adroddiad Mr. Morgan ei hun ger ein bron, ac y mae Mr. Edwards, Machynlleth, yn ei Fywgraffiad o Mr. Pritchard, yn Nysgedydd 1862, tudal. 205, yn gwneyd cyfeiriad cynil a boneddigaidd at y mater; a chan fod eiddo Mr. Edwards yn y ffeithiau gan mwyaf yr un ag adroddiad ysgrifenedig Mr. Morgan, cymerwn y dyfyniad a ganlyn o'r Bywgraffiad:—"O herwydd helaethder y weinidogaeth (sef Machynlleth a'r canghenau), daeth i feddwl rhai brodyr mai buddiol fyddai rhanu y weinidogaeth, er mwyn gwell trefn ac adeiladaeth mwy; a phenderfynwyd ar Mr. Pritchard fel y cymhwysaf i amlygu hyny. Ond edrychid ar ranu y frenhiniaeth yn deyrnfradwriaeth o'r fath waethaf; a chan mai efe a ddygodd y mater i sylw, edrychid arno fel y troseddwr mwyaf. Pan welodd ei gydgynygwyr fod hyn yn dwyn drygfyd, ciliasant, gan ei adael ef a'r gynnulleidfa y perthynai iddi yn unig yn yr helbul a ddechreuasant hwy yn benaf. * * * * Ond o herwydd ei ymlyniad ef a'r gynnulleidfa yn Soar wrth y drefn Annibynol, yn ol eu golygiad hwy, aethant yn rhy annibynol yn ngolwg y fam eglwys, a diarddelwyd hwy fel rhai afreolaidd, nid yn gymaint oherwydd yr ystyrid eu cais yn anfuddiol, ac nad oedd ganddynt hawl iddo, ond oblegid na ofynent am hyny yn rheolaidd. Yn awr, nid oedd gan Mr. Pritchard a'i gyfeillion yn y cyfwng hwn ddim i'w wneyd ond syrthio dan eu bai, neu fyned yn mlaen eu hunain; ond edifarhau nis gallent, oblegid ni chydnabyddent fai, a rhwyfo yn mlaen oedd anhawdd, oblegid nid oedd neb gyda hwynt, a llawer yn eu herbyn. Am hyny, neillduwyd ef (Mr. P.) gan yr eglwys yn Soar i fod yn fugail iddynt, a bu am flynyddoedd yn llafurio yn eu plith gyda gofal a diwydrwydd mawr, a chariad ac undeb yn ffynu yn eu mysg." Felly, o'r flwyddyn 1825 hyd ddechreu 1837, Mr. Pritchard oedd y gweinidog yn Soar, a gweinyddai holl ordinhadau y ty; ond ni chydnabyddid ef fel gweinidog rheolaidd ond gan ychydig. Parodd yr amgylchiad lawer o drallod yn y cyfnod hwnw y tu allan i gylch gweinidogaeth Machynlleth. Anfonai Mr. Pritchard ei gyhoeddiad weithiau i siroedd eraill; ond ychydig o weinidogion a roddent dderbyniad iddo, a'r rhai a wnelent hyny, a dynent arnynt anfoddlonrwydd y lluaws. Galwyd Dr. Arthur Jones i gyfrif yn Nghymanfa Llanrwst am agor ei bulpud iddo a gwrthwynebai llawer i Mr. Pritchard, yr hwn a ddaethai yno gyda Dr. Jones i gael aros yn y gynhadledd. Mae yn dda genym gael cyfle i ddyweyd yn y fan yma cyn myned yn mhellach i'r drwg deimlad rhwng Mr. Pritchard a Mr. Morgan gael ei symud cyn eu marwolaeth, a diau genym fob pob un o'r ddau wrth adfeddwl yn gweled eu bod wedi gwneyd pethau na wnaethent drachefn pe cawsent fyned eilwaith trwy yr un amgylchiadau.

Yn nechreu 1837, rhoddodd Mr. Pritchard ei weinidogaeth i fyny yn Soar, a daeth ef a'r eglwys dan ei ofal i undeb a'r eglwys yn Machynlleth; a phan yn 1839, y daeth Mr. Edwards i Fachynlleth, cymerodd hefyd ofal Soar, ac efe sydd yn parhau i'w bugeilio; ac y mae golwg siriol ar yr achos pan gofiom mai gwlad deneu wasgaredig ei phoblogaeth ydyw. Bu Mr. a Mrs. Pritchard yn aelodau ffyddlon yn Soar hyd eu diwedd oddigerth ryw ddeng mlynedd a dreuliasant yn y brifddinas. Gadawodd Mrs. Pritchard log 100p. tuag at yr achos yn Soar; ac nid oedd hono ond un o lawer o weithredoedd da y wraig rinweddol hon.

Yn Soar y dechreuodd Mr. Richard Rowlands, Henryd, bregethu, er mai aelod yn Machynlleth ydoedd; ac yr oedd Mr. Pritchard wedi dechreu pregethu pan yn aelod yn Machynlleth yn mhell cyn corffoliad yr eglwys yn Soar.

Am hanes a chymeriad Mr. Pritchard, rhaid i ni grynhoi y cwbl a wyddom am dano i gylch bychan. Ganwyd ef yn 1790, mewn palasdy o'r enw Ceniarth, yn Uwchgareg, Machynlleth. Yr oedd yn ddisgynydd o deulu a fu yn trigianu yn Ceniarth yn ddigoll er dyddiau William y Gorchfygwr. Efe oedd y cyntaf o'r teulu a drodd allan yn Ymneillduwr. Denwyd ef i foddion gras i ddechreu, wrth glywed son am ryw fachgen icuangc oedd yn nodedig fel gweddiwr, a chafodd y fath flas arnynt nes penderfynu eu mynychu; ac o'r diwedd ymunodd â'r crefyddwyr tlolion, a derbyniwyd ef yn aelod yn Machynlleth. Dechreuodd weithio â'i holl egni gyda holl ranau y gwaith, yn enwedig gyda'r ysgol Sabbothol; a chafodd ar ei feddwl bregethu. Nid oedd yn meddu hylithrwydd dawn; ond yr oedd y cwbl a ddywedai yn ddoeth a synwyrol. Yr oedd yn dŷn iawn dros y peth a gredai, fel yr oedd ei anhyblygrwydd yn ei wneyd yn wrthwynebwr peryglus. Er fod ei holl berthynasau yn Eglwyswyr cryfion, yr oedd ef yn Ymneillduwr penderfynol, ac ni phetrusai ddatgan ei olygiadau. Meddai wybodaeth eang ar byngciau cyffredinol, yn wladol a chrefyddol; ac yr oedd yn nodedig o awyddus i gynorthwyo yr egwan a'r dinerth. Y farn gyffredinol am dano unwaith ydoedd, nad oedd dim cydymdeimlad rhyngddo â'r weinidogaeth fel swydd, ac yn neillduol â chynhaliaeth y weinidogaeth; ond y mae y rhai a gawsant y fantais oreu i gyfeillachu âg ef yn synied yn hollol wahanol am dano, a'i fod bob amser yn barod â'i law a'i logell i gynorthwyo cynhaliad y weinidogaeth. Daliodd yn ei deimlad Cymreig er symud i'r brifddinas; ac yr oedd yn ei ddyddiau olaf yn ymddangos yn dwyshau yn ei deimlad; a bu farw yn gyflawn o'r dyddanwch sydd yn Nghrist, Rhagfyr 29ain, 1859, yn 69 oed.

GLASBWLL.

Saif y capel hwn oddeutu dwy filldir a haner i'r de-orllewin o dref Machynlleth, ar y terfyn rhwng De a Gogledd. Bu pregethu achlysurol yn moreu y ganrif hon gan yr Annibynwyr yn Ty'nypwll, Maesycilin, Llechweddeinion, a Nantysebon; ond tua y flwyddyn 1806, cafwyd hyny yn fwy rheolaidd. Y mae yn ymddangos mai Rees Davies a bregethodd gyntaf yn yr ardal, mewn ty o'r enw Ty'nypwll. Yr oedd y pryd hwnw yn cadw ysgol mewn amaethdy o'r enw Glanymerin. Bu teulu Glanymerin yn garedig iawn i'r achos yn ei wendid; ond nid ymunodd yr un o honynt â chrefydd hyd yn ddiweddar. O gylch yr amser yma y daeth John Davies i fyw i Maesycilin, William Meredith i Alltddu, Thomas Pugh i Cwmrhaiadr-bach, John Evans i Garthgwynion, John Davies (y pregethwr) i'r Castell, a Thomas Jones i Nantysebon. Yr oedd y gwyr hyn yn cael eu cyfrif yn gawri yn y dyddiau hyny, ac y mae eu hiliogaeth yn ffyddlon gyda'r achos hyd y dydd hwn.[80]

Tua'r flwyddyn 1810, cafwyd yma dy bychan i bregethu ynddo yn ochr sir Aberteifi; oblegid yn y sir hono y mae y llecyn a elwir Glasbwll. Y Capel bach y gelwid ef, ac felly yr ydoedd; ac erbyn hyn, nid oes careg o hono yn aros. Adeiladwyd y capel presenol yn 1821, ar ddarn o dir a roddwyd gan etifeddes Cae'rsaer, wedi hyny priod Mr. Thomas Lewis, yr hwn a fu yn brif gefn i'r achos yma yn ei amgylchiadau allanol am flynyddau, ac yr oedd yn gwir ofalu drosto. Y mae y capel yma yn sir Drefaldwyn, ond o fewn can' llath i'r lle y safai y capel bach. Ni chaed ac ni ofynwyd am bryd-les i'r capel yma, ond y mae hir-feddiant didal wedi ei wneyd yn eiddo y gynnulleidfa yn y lle. Pregethid yn y lle y blynyddau hyny gan Mr. Morgan a'r pregethwyr oeddynt yn gynorthwyol iddo. Coffeir gydag anwyldeb am ffyddlondeb Betty Pugh, Cwmrhaiadrbach, Sian y Castell, a Wosley, Llechweddeinion. Cyrchent i Fachynlleth i'r gyfeillach, er fod ganddynt bedair neu bum milidir o ffordd. Yn y gauaf rhoddai Betty Pugh y plant yn y gwely cyn cychwyn, ac ymddiriedai hwy i ofal Rhagluniaeth, ac ni ddigwyddodd niwed i un o honynt; a chafodd fyw i'w gweled oll yn proffesu crefydd. Ni ffurfiwyd yma eglwys Annibynol hyd 1853, pryd y torodd ei chysylltiad a'r fam eglwys yn y dref; ac er hyny hyd yn awr y mae Mr. S. Edwards yn llafurio gyda derbyniad mawr a graddau o lwyddiant.

Ni chodwyd yma yr un pregethwr yn yr eglwys; ond yr oedd John Davies wedi dechreu pregethu pan oedd y Glasbwll yn gangen o Machynlleth, ac y mae enw JOHN DAVIES, GLASBWLL, yn hysbys trwy holl eglwysi y Dywysogaeth; a dichon iddo ef wneyd mwy na neb arall i roddi cyhoeddusrwydd i'r lle. Ganwyd ef yn Machynlleth yn y flwyddyn 1788, a bu farw yn 1865; felly cafodd fyw oes hir. Dechreuodd grefydda yn ieuangc, a bu yn ffyddlon hyd y diwedd. Bu fyw am flynyddau yn y Castell, ac yno y magodd ei deulu gan mwyaf; ond yn ei flynyddau olaf preswyliai yn Caemardin. Llafuriodd lawer gyda chrefydd yn ei fro ei hun, a chyrchai i gyfarfodydd gweddio, ac i bregethu mewn anedd-dai trwy yr holl fynydd-dir oddiamgylch. Ar ol dechreu pregethu, teithiodd lawer trwy dde a gogledd; ac yr oedd yn adnabyddus ac yn dderbyniol pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn o ddeall cryf, ac o ewyllys benderfynol wedi ei wneyd gan natur i lywodraethu; a phe cawsai ddiwylliant ac addysg yn moreu ei fywyd, buasai yn ddyn uwchraddol. Ennillodd iddo ei hun gymeriad uchel fel gweddiwr pan yn ieuangc, a pharhaodd trwy ei oes i wrteithio y dawn oedd ynddo. Anaml y clywid gweddiwr mwy gafaelgar, a choffeir am rai adegau nodedig pan y dilynwyd ei weddiau ag effeithiau anghyffredin. Fel pregethwr, yr oedd yn Ysgrythyrol ac efengylaidd, ei lais yn gryf a soniarus, a'i draddodiad yn wresog ac effeithiol; ac yr oedd yn un o'r rhai olaf o'r tô hwnw o bregethwyr cynorthwyol a fu yn Nghymru yn "tramwy gan bregethu teyrnas Dduw."

DERWENLAS.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Derwen-las
ar Wicipedia

Pentref bychan ddwy filldir o Fachynlleth ar y ffordd i Aberystwyth. Pregethwyd yma gyntaf o gylch y flwyddyn 1802, gan Meistri Rees Davies, ac Azariah Shadrach, yn nhy un Robert Evans, Joiner. Bu Mr. Shadrach yn cadw ysgol yn y lle hwn am dymor cyn myned i Lanrwst. Yn y flwyddyn 1810, priododd Mr. Davies, Rhiwlas, â merch ieuangc grefyddol o Brynaere, Llanbrynmair; ac ar ol hyn, cafwyd llofft yn y pentref i gynal moddion crefyddol. Gwnaed pulpud ynddi, ac un seat at wasanaeth teulu y Rhiwlas. Bu Mrs. Davies yn ffyddlon iawn gyda'r achos, a thrwy ei llafur hi ceid pregethu yn aml yn y llofft; ac yr oedd bwyd a lletty i'r pregethwr yn y Rhiwlas. Bu pregethu yn y llofft hon hyd 1849, pryd yr adeiladwyd capel ar etifeddiaeth y Rhiwlas; ond oblegid fod yr etifeddiaeth dan ymddiriedolwyr, ni chafwyd pryd-les ar y tir hyd 1859. Yn y flwyddyn 1861, ail adeiladwyd a helaethwyd y capel, a thalwyd am dano heb gael ceiniog o un man tu allan i'r ardal.[81] Mae enwau Robert Evans, Joiner, Shôn William, a Walter Thomas, yn nodedig fel rhai a gymerodd lawer o boen gyda'r achos ar ei gychwyniad. Bu dyfodiad Mr. Rowland Evans a'i deulu o'r Dinas i'r Morben yn 1845 yn ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos yma. Yr oeddynt hwy yn Annibynwyr goleuedig a deallgar, a'u ty yn wastad yn


agored i lettya y rhai a ddelai heibio, a thrwy eu bod yn deulu lluosog yr oeddynt yn gaffaeliad pwysig. "Mam yn Israel" oedd Mrs. Evans. Canmolai ei gwr hi yn y pyrth, a chododd ei phlant i'w galw yn wynfydedig. Bu eu mab Mr. John Evans ar eu hol, a'i ewyllys tua thy yr Arglwydd, a'i law, a'i logell, a'i dy bob amser yn agored. Ac er fod y teulu yn awr wedi eu gwasgaru, y mae llawer o honynt yn fyw, ac yn eu gwahanol gylchoedd yn gwasanaethu Duw eu rhieni. Y mae yn weddus i ni goffau mai mab Robert Evans a wnaeth yr holl waith coed ar y capel cyntaf, a hyny heb godi yr un geiniog am ei waith. Y mae etto yn fyw yn 80 oed. Drwg genym ychwanegu nad yw, ac na bu erioed, yn proffesu crefydd.

Er fod pregethu yma er yn foreu yn y ganrif hon, a chapel wedi ei godi er 1849, ni chorpholwyd yma eglwys hyd 1853, pan y darfu cysylltiad Mr. S. Edwards â'r Graig ar uniad y ddwy eglwys yn y dref; ac y torodd y canghenau yn Soar, a'r Glasbwll, a'r Dderwenlas eu cysylltiad â'r eglwys yn y dref, a ffurfiwyd eglwysi Annibynol yn y tri lle, ac y mae eu gofal ar Mr. Edwards; ac er pob colledion a gafwyd trwy symudiadau ac angau, y mae yr achos yn "dal ei ffordd, ac yn ychwanegu cryfder."

SAMMAH.

Saif y lle hwn yn mhentref Cwmllynau o fewn milldir a haner i'r Cemmaes. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma yn 1798, gan Mr. W. Hughes, Dinas, mewn lle a elwir Drwsynant, ar dir Cwmmeidrol. Yr achlysur oedd fel y canlyn. Yroedd Mr. Richard Jones, Cwmmeidrol, yn aelod gyda'r Methodistiaid, ac wedi trwyddedu Drwsynant—anedd-dy bychan ar ei dir—i bregethu gan y Methodistiaid. Arferent hwy y pryd hwnw fyned i'r eglwys i gymuno, ac yr oedd R. Jones yn gweled hyny yn anghyson. Teimlai ef yn anfoddlon i fyned gan ei fod wedi ymneillduo oddiwrthi, ac amlygodd hyny i'w gyfeillion. Ychwanegodd fod Gweinidog Ymneillduol newydd ddyfod i'r Dinas, ac yr anfonai efe ato i ddyfod yno i bregethu a gweini yr ordinhadau, ac felly y gwnaeth; a chydsyniodd Mr. Hughes a'i gais, a dyna ddechreuad achos Sammah.

Yr oedd gan R. Jones deulu lluosog o blant, a chan ei fod mewn amgylchiadau bydol cysurus, yr oedd yn awyddus am roddi addysg iddynt; a gofynodd i Mr. Hughes, Dinas, ai ni allai gael neb yno i gadw ysgol ddyddiol, y rhoddai efe fwyd a lletty iddo am addysgu ei blant ef. Yr oedd Rees Davies yn ddyn ieuangc, yn tramwy y wlad i bregethu y pryd hwnw, ac yn cadw ysgol yma a thraw, a llwyddwd i'w gael i Drwsynant. Aeth R. Jones a Rees Davies ryw noswaith i Drwsynant i gadw society, ac ymddengys fod yno un hen wraig o'r enw Ann gyda hwy, a chafwyd yno gyfeillach felus. Wedi dychwelyd i Gwmmeidrol, gofynai Mrs. Jones, gvraig y ty, i Rees Davies, "A ddaru chi gadw seiat?" "Cadw seiat? do, do," ebe Rees Davies, yn swta ac yn sarug. Ailofynai Mrs. Jones, "A ddaeth modryb Ann o'r Tydraw atoch chwi ?" "Ddaeth hi? do," ebe Rees Davies, yn fwy cwta nag o'r blaen, "mae hono yn well na chi." "A ddaru i chi ganu yno Rees Davies ?" gofynai Mrs. Jones drachefn. "Canu? do," ebe Rees Davies. "Beth ynte, beth oedd yr hymn ?" meddai Mrs. Jones.

"Arglwydd oni ddarfu it' addo,
Bod lle byddo ond dau neu dri, &c."


ebe Rees Davies, ac ychwanegai, "Mrs. Jones, yr wyf yn disgwyl y cenwch chwi gyda ni yn fuan." Ac felly fu, ymunodd a'r achos a bu yn ffyddlon hyd angau. Yn fuan wedi hyny ymunodd William Jones, Caeathgen, a hwynt, yr hwn a fu yn ffyddlon a llettygar hyd derfyn ei oes, a Morris Davies, Talyrnau, hon wr gonest a ddaliodd ati hyd y diwedd, a Richard Rowlands a'i wraig, toddedig a theimladol yn wastad wrth wrando yr efengyl, a'i Amen gynes a siriolai galon y pregethwr; Rowland James oedd un o'r ffyddloniaid cyntaf, ac a dynodd ei gwys i'r terfyn yn gymhwys; John James, ei fab, a fu yn ddefnyddiol yn ei dymor; James Davies, un o flaenffrwyth yr achos yn Drwsynant, dyn diwyd, gweithgar, a symudwyd gan angau yn nghanol ei ddisgwyliadau a'i obeithion; John Anthony oedd nodedig am ei haelioni, ac a fu o gynorthwy mawr i'r achos. Mae lluaws o hiliogaeth yr hen bererinion hyn yn glynu wrth Dduw eu tadau er eu bod wedi eu gwasgaru i Gymru, Lloegr, ac America. Cafwyd llawer o gyfarfodydd llewyrchus yn Nrwsynant, ac er mor gyffredin oedd y lle, ymgeleddwyd yno lawer o eneidiau. Pregethwyd yno gan weinidogion enwocaf Cymru yn yr ugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Codwyd Ysgol Sabbothol yn nhy Richard Rowlands, i lawr wrth y bont; a bu yno am beth amser, yna symudwyd i Gaeathgen, a chynhelid hi yn y ty, ac ar dywydd teg yn yr haf, yn yr ysgubor; a phregethid weithiau yn y ddau le gan Humphrey Jones, Nathin. Teimlid gwir angen am gapel, ond yr anhawsder oedd cael tir i adeiladu arno. Yn y cyfamser, yr oedd ystad Dolcorslwyn yn cael ei gwerthu, a phrynodd Mr. John Jones, Masnachydd yn Machynlleth, yr hwn oedd yn Annibynwr, gae bychan with y pentref, mewn lle cyfleus i godi capel. Trwy ddylanwad Mr. Hughes, o'r Dinas, a Mr. Morgan, Machynlleth, cafwyd lle gan Mr. Jones, a gwnaed pryd-lês am y tir am ddeng mil o flynyddoedd i godi arno gapel ac ystabl; am yr ardreth blynyddol o pepper corn, os gofynid am dani, ond hyd yma nid oes neb wedi gofyn am dani. Gosodwyd y capel i Mr. Jones i'w wneyd am 100p., yn 10 llath wrth 7, ond yr ardalwyr yn ymgymeryd a chludo y defnyddiau. Ni fwriedid cael oriel ynddo ar y dechreu, ond dangosodd y bobl awydd mawr am ei chael, a gosododd Mr. Hughes hi allan i Mr. Rowland Evans, Dinas, am 60p. Yr oedd y capel erbyn ei orphen, heb gyfrif cario y defnyddiau ato, yn llawn werth 200p. Agorwyd ef yn mis Mehefin, 1819, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lewis, Bala; M. Jones, Llanuwchllyn; W. Jones, Trawsfynydd; C. Jones, Dolgelleu; J. Roberts, Llanbrynmair; a D. Morgan, Machynlleth. Enwodd Mr. Morgan y capel yn SAMMAH "Yr Arglwydd sydd yno." Trwy lafur ac ymdrech Mr. Hughes, yr oedd y capel wedi talu am dano cyn ei orphen; a bu yr hen weinidog parchus yma yn llafurus a llwyddianus hyd derfyn ei oes; Rhagfyr 21ain, 1826. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi hyny rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Morgan, yr hwn oedd yn aelod gwreiddiol o'r eglwys; a fuasai am dymor dan addysg yn Athrofa Neuaddlwyd, ond oedd ar y pryd hwnw yn cadw ysgol yn y Dinas. Y mae yn deilwng o'i gofnodi, fod yr hen weinidog Mr. Hughes, yn meddwl i Mr. Morgan fod yn olynydd iddo yn SAMMAH, a'i fod yn disgwyl cael byw i weled hyny. Yr oedd Mr. Morgan wedi bod yn aros am rai misoedd yn Rhoslan, a Capelhelyg, pan yr oedd ei gyfaill, Mr. Rowlands, oddicartref yn casglu, ac yn nechreu Rhagfyr, 1826, derbyniodd lythyr yn ei wahodd yno eilwaith. Deallodd beth oedd eu hamcan, ac wrth gychwyn gyda'i gyfaill, Mr. Hugh Hughes, Foel, hysbysodd hyny i'w hen weinidog, Mr. Hughes. Dywedodd Mr. Hughes wrtho mai ei ddymuniad ef a'r cyfeillion yn SAMMAH oedd iddo ymsefydlu yno; ac ychwanegai, "Wedi fy ymadawiad i, bydd y Dinas a Sammah yn ddwy weinidogaeth;" a'r gair diweddaf a ddywedodd Mr. Hughes wrth Mr. Morgan wrth ffarwelio oedd, "Yr Arglwydd a fyddo gyda chi, ac a'ch llwyddo." Yn Nhrefriw, cyn dychwelyd o'r daith hono, cafodd Mr. Morgan y newydd trist fod Mr. Hughes wedi marw. Wedi gorphen y tymor dros yr hwn y bwriadai gadw yr Ysgol yn y Dinas; symudodd i Sammah, a neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, Mehefin 5ed, 1828. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. A. Jones, Bangor. Gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog gan Mr. C. Jones, Dolgelleu; offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Pregethwydi'r gweinidog gan Mr. M. Hughes, Sardis, ac i'r eglwys gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Davies, Trawsfynydd; E. Evans, Abermaw; J. Jones, Main, ac eraill. Mae Mr. Morgan wedi llafurio yma o hyny hyd yn awr gyda derbyniad a chymeradwyaeth mawr, a'r Arglwydd wedi rhoddi seliau ei foddlonrwydd ar ei weinidogaeth. Nid llawer a dderbyniodd erioed oddiwrth yr eglwys at ei gynhaliaeth, ond trwy ei ymroddiad a'i ofal ef a'i wraig, y mae ei ddwylaw wedi gwasanaethu i'w cyfreidiau, ac wedi eu galluogi i fod yn haelionus tuag at Dduw a'i dy. Cafodd yr eglwys aml ymweliad oddiwrth yr Arglwydd, fel y cynyddodd yr achos yn fawr; ac yn enwedig tua'r flwyddyn 1858, ychwanegwyd cynifer fel yr aeth llawr y capel yn rhy fychan i gynwys y cymunwyr. Yn 1861 penderfynwyd ei helaethu yn ddeg llath a haner ysgwar, a'i ailwneyd drwyddo. Aeth y draul yn 200p. Tanysgrifiwyd 100p, yn yr eglwys cyn dechreu. Agorwyd ef Mehefin 5ed, 1861, yn mhen 33 mlynedd i'r un dydd ag yr urddwyd Mr. Morgan. Gweinyddwyd gan Meistri D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair; W. Roberts, Penybont; C. Evans, Foel; B. Evans, Sardis; H. James, Llansantffraid; E. Williams, Dinas; J. Williams, Aberhosan; R. Ellis, Brithdir; W. Ambrose, Porthmadog; J. Williams, Castellnewydd; W. Evans, Neuaddlwyd; a W. Jones, Glynarthen. Nid oedd yr un o'r rhai oedd yn yr agoriad yn 1819 yn yr agoriad yn 1861. Mae Mr. Morgan wedi ei ddal gan lesgedd a mynych wendid; ac yn niwedd y flwyddyn 1870, penderfynodd gael cydlafurwr; ac wedi ymgynghori a'r eglwys, rhoddwyd galwad i Mr. Richard O. Evans, Glynhafren, ac y mae wedi dechreu ei weinidogaeth ddechreu y flwyddyn hon, 1871; a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn; ac yr arbeda yr Arglwydd fywyd ei was ffyddlawn, Mr. Morgan, am lawer o flynyddoedd etto. Y diaconiaid cyntaf yn Nrwsynant oedd Richard Jones, Cwmmeidrol; a William Jones, Caeathgen; ac wedi marw y blaenaf, dewiswyd John Jones, Darowen, yn ei le. Symudodd J. Jones, a neillduwyd Harri Humphreys i lenwi y swydd yn ei le. Bu y brodyr yma a llawer eraill yn ffyddlon a diwyd yn eu cylch; ac y mae eu holynwyr yn y swydd yn dilyn eu camrau.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

Evan Rowlands. Yr oedd ef yn was yn Cwmmeidrol pan aeth i'r gyfeillach yn Nrwsynant. Gweler ei hanes yn nglyn ag Ebenezer, Pontypool.

Hugh Morgan. Y gweinidog presenol. Derbyniwyd ef yn Drwsynant, tua'r flwyddyn 1816, a dechreuodd bregethu yn 1820. Gobeithio na elwir ar neb i ysgrifenu ei fywgraffiad am flynyddoedd lawer.

William Lloyd. Dechreuodd bregethu tua diwedd 1839. Addysgwyd ef yn Athrofa y Bala; urddwyd ef yn y Wern, ac y mae yn awr yn Nghaergybi.

Abraham Mathews. Addysgwyd ef yn Athrofa y Bala; urddwyd ef yn Llwydcoed, Aberdare; ac yn 1865, ymfudodd i Patagonia, gyda'r fintai gyntaf i'r Wladychfa Gymreig, ac yno y mae.

Daw ein Cofnodiad Bywgraphyddol o Mr. Hughes, yr unig weinidog a fu gan yr eglwys hon o flaen Mr. Morgan, yn nglyn a Dinasmawddwy. Cawsom y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes blaenorol o ysgrif o'r eiddo Mr. Morgan a ymddangosodd yn Nysgedydd 1866, tudal. 92.


CEMMAES ROAD.

Dechreuwyd pregethu yn achlysurol yn nhy John Jones, Ty'nrhos, Darowen, tua'r flwyddyn 1816, neu yn fuan wedi hyny, gan Mr. Hughes, Dinas. Yn mhen amser, symudodd John Jones i Allt Tafolog, yn agos i Bethsaida, a chododd Richard Owens, Cefncoch, gapel bychan ar ei dyddyn yn y flwyddyn 1827, a galwyd ef Nebo; ac y mae ychydig enwau wedi bod yma er hyny. Gofalodd Mr. Morgan, Sammah, am y lle fel mam yn gofalu am blentyn gwan, am fwy na deugain mlynedd. Wedi agoriad y ffordd haiarn, a gweled fod nifer o dai yn cael eu codi lle y mae station Cemmaes Road, a bod y lle yn debyg o ddyfod yn bentref, penderfynwyd ail godi Nebo yno, am fod lle yr hen gapel yn hollol anghyfleus. Čymerwyd Mr. Morgan yn glaf tuag adeg cychwyniad adeiladiad y capel newydd, a dywedodd wrth gyfaill-"Yr wyf fi yn rhy wael i gymeryd gofal dygiad y gwaith yn mlaen, cymerwch chwi hwnw; a pha un bynag ai byw ai marw a fyddaf fi, bydd yma 50p. at draul y capel newydd." Rhoddodd hyny fywyd newydd yn y cyfeillion, ac ymroisant i weithio a'u holl egni. Gweithiodd llawer yn ardderchog mewn cyfranu a chasglu, ond rhagorodd un wraig arnynt oll. Agorwyd y capel newydd Mehefin 28ain a'r 29ain, 1870, ac yr oedd ei holl ddyled wedi ei thalu ddydd ei agoriad. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Hughes, Penmain; J. Owen, Llangefni; J. R. Roberts, Aberhosan; J. Jones, ac S. Edwards, Machynlleth; I. Thomas, Towyn; J. C. Williams, Corris; ac E. Williams, Dinas. Mae y lle yn parhau fel o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Sammah. Codwyd yma ddyn ieuange o'r enw James Jones i bregethu; bu yn Athrofa y Bala, ac y mae yn awr yn Mhrifysgol Glasgow.


CARNO.

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon gan y diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair; ac ar ol pregethu llawer o dy i dy, sicrhawyd darn o dir at adeiladu capel ar dir Mr. Joseph Thomas, Creigfryn. Dyddiad y weithred ar y tir ydyw Chwefror 1af, 1811, ac fel ymddiriedolwyr yr ydym yn cael enwau John Davies, Rhydlydan, Llanwnog; John Roberts, Llanbrynmair; James Griffiths, Machynlleth; James Davies, Bwlchyffridd; David Roberts, Llanfyllin, y rhai a ddynodir fel gweinidogion yr efengyl; a John Jones, masnachydd, Machynlleth; Richard Tibbott, masnachydd, Machynlleth; Charles Jones, masnachydd, Llan- fyllin; Richard Jones, Tymawr, Llanbrynmair; David Davies, Cwmclegyrnant, Llanbrynmair; a John Roberts, Ieuaf., Llanbrynmair. Y mae yn debygol i rai o'r rhai olaf gael eu hychwanegu mewn blynyddau diweddarach. Agorwyd y capel Hydref 18fed, 1811. Yn Ebrill 1812 y bu y cymundeb cyntaf ynddo, a derbyniwyd pump o'r newydd.

"Aeth traul ei adeiladiad yn fwy na 350p. Bernir na ddylasai fyned yn gymaint. Derbyniwyd 100p. o Loegr tuag at y ddyled. Talwyd y gweddill gan gyfeillion yn yr ardal, ac yn Llanbrynmair. Erys cof hir a chynes am ffyddlondeb teuluoedd y Creigfryn, Trawsgoed, Pentre'rne, Plasau, Pikins, y Beudy-hir, y ddau Glanhanog, Evan Humphrey o'r Capel, ac eraill, yn eu llafurus gariad ar gychwyniad yr achos yma. iogaeth rhai o'r teuluoedd hyny wedi bod yn ddefnyddiol gydag achos y Gwaredwr mewn llawer man yn Lloegr ac America.[82]"

Bu y lle dan ofal gweinidogion Llanbrynmair hyd ddiwedd y flwyddyn 1848, pan y symudodd Mr. John Roberts i Rhuthyn (nid 1847, fel y cam hysbyswyd yn hanes Llanbrynmair), ac y rhoddodd Mr. S. Roberts i fyny ofal Carno, oblegid fod y cylch yn rhy eang iddo heb gyd-lafurwr. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Jones, Penllys, yr hwn a ddechreuodd yma yn 1849, ac a fu yma hyd 1851, pan y symudodd i sir Amwythig i ffarmio. Wedi ei ymadawiad, derbyniodd Mr. Edward Roberts alwad, yr hwn oedd wedi bod dros chwe blynedd yn llafurio yn y Foel a Llanerfyl. Daeth Mr. Roberts yma yn 1852, a llafuriodd gyda chymeradwyaeth a mesur o lwyddiant hyd 1865, pan y symudodd i Coedpoeth, sir Ddinbych. Bu adfywiad grymus ar yr achos yn adeg gweinidogaeth Mr. Jones, ac un arall nerthol iawn yn 1861, yn nhymor gweinidogaeth Mr. Roberts. Yn 1866, derbyniodd Mr. Robert Ellis, yr hwn a fuasai am dymor dan addysg yn Manchester, alwad, ac urddwyd ef Hydref 13eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Coedpoeth. Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Roberts, Conway. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. H. Morgan, Sammah. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Ellis, Brithdir (tad yr urddedig), ac i'r eglwys gan Mr. J. Jones, Smethcott. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair; H. James, Llansantffraid; H. Ellis, Llangwm; a J. Watkins, Bwlchyffridd. Mae Mr. Ellis yn parhau yma yn y weinidogaeth, a'r achos ar y cyfan mewn agwedd lwyddianus.

BEULAH.

Beulah (A) Nant yr Eira

Y mae y capel yma yn mhlwyf Llanerfyl, mewn ardal uchel, fynyddig, a elwir Nantyreira. Mae y lle yn hollol ddiarffordd, ond yn y cyfeiriad o Lanbrynmair i Cann-office, tua haner ffordd o'r naill i'r llall. Mae yn y gymydogaeth lawer o ffermydd; ac er mai mynydd-dir gwyllt yw y tir, ceir yma lawer o bobl gefnog eu hamgylchiadau. Driugain mlynedd yn ol, a chyn hyny, yr oedd amryw o'r trigolion yn aelodau yn Llanbrynmair, a chyrchent yno yn gyson i'r moddion ar hyd llwybrau corsiog, gwlybion, ac elai y diweddar Mr. John Roberts yno atynt yn achlysurol i bregethu iddynt. Yn Nghwmderwen y dechreuwyd pregethu; ac yr oedd Thomas Edwards, Cwmderwen, a'i wraig, a Hugh Sychnant, a'i wraig, a Susan o'r Myrddyn Llwyd, y rhai cyntaf o'r gymydogaeth a ymunodd a'r eglwys yn Llanbrynmair. Cyrchent yno bob wythnos yr holl ffordd i'r gyfeillach, a chyn ymadael wrth y Ddolgaregwen, cydymgryment gyda'u gilydd i weddio. Yn Nolgaregwen y pregethodd Mr. John Breese, wedi hyny o Liverpool, ei bregeth gyntaf. Yr oedd ar y pryd yn was yn Cwmcarnedd, ac yn gweithio yn Prisgwyneyll. Mae yma rai etto yn ei gofio, yn ei glocs a'i smockfrock, yn pregethu y noson hono. Pregethwyd llawer yn Cannon, Ffrwdfawr, a Phenffriddnewydd, cyn codi y capel. Adeiladwyd capel Beulah yn 1822, ar ddarn o dir ar etifeddiaeth Wynnstay; a thalwyd am dano trwy ffyddlondeb yr ardalwyr, a'r cymhorth a gafwyd gan y fam eglwys yn Llanbrynmair; ac wedi codi capel Llanbrynmair, cymerwyd areithfa yr hen gapel, y bwrdd, a pheth o'i ddodrefn eraill, i Beulah, ac y maent yno hyd y dydd heddyw. Prif ategwyr yr achos yma yn ei gychwyniad, ac am flynyddoedd wedi hyny, oeddynt deuluoedd Cwmderwen, Cannon, Bryngwyn, Penffriddnewydd, Hafod, Sychnant, Dolau, a'r Ffriddfawr; ac y mae hiliogaeth rhai o honynt yn parhau yn y lle, ac yn ffyddlon i'r achos.[83]

Bu Beulah mewn cysylltiad gweinidogaethol â Llanbrynmair hyd fynediad Mr. Samuel Roberts i America yn 1858. Er hyny ni bu yno weinidog sefydlog; ond gofelir am y lle yn benaf yn awr gan Mr. Evans, Llanbrynmair, a Mr. Evans, Foel, fel y ddau gymydog agosaf. Rhifa y gynnulleidfa tua 130 yn gyffredin, ac y mae o leiaf haner y nifer hwnw yn aelodau. Maent yn nodedig o ffyddlon i ddyfod i'r moddion, os na bydd hi yn dywydd afresymol i neb fyned o'i dy; ac y mae yn anhawdd cael cynnulleidfa o wrandawyr mwy astud; ac y mae ynddi nifer o ddynion deallus yn mhethau yr efengyl. Sonir ganddynt am adgyweirio yr hen gapel, neu adeiladu un newydd, ac y mae mawr angen am hyny.[84]

BWLCHYFFRIDD.

Aberhafesp y gelwid yr achos yma gynt, am mai mewn gwahanol fanau yn mhlwyf Aberhafesp y cyfarfyddid; ond pan godwyd y capel, galwyd ef Bwlchyffridd. Saif o fewn pedair milldir i'r Drefnewydd, ar ddarn o dir sydd yn cysylltu dau ddyffryn prydferth, sef dyffryn Hafren, yr hwn a red i fyny i Gaersws, a dyffryn Creginog, yr hwn sydd yn rhedeg i fyny at Creginog Hall, palas Arglwydd Sudley. Ymddengys fod pregethu yn mhlwyf Aberhafesp er yn foreu iawn. Nid yw yr Ysgafell lle y preswyliai Mr. Henry Williams ond tua phedair milldir oddi yma, a phregethodd ef a'i gyd-lafurwyr lawer yn yr holl wlad oddi amgylch yma. Yn nyddiau Meistri Lewis Rees a Richard Tibbott, yr oedd llawer o aelodau Llanbrynmair yn preswylio yn y plwyf hwn, a chyfarfyddent a'u gilydd i gynal cyfeillachau crefyddol, a deuai eu gweinidogion yn fynych i bregethu iddynt. Pan oedd Mr. Evan Roberts, tad Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn byw yn mhlwyf Mochdre, at y gangen oedd yn Aberhafesp y deuai i'r cyfeillachau crefyddol, er mai aelod yn Llanbrynmair ydoedd. Fel y crybwyllasom eisioes, yr oedd yn Llanbrynmair y pryd hwn nifer o Fedyddwyr yn aelodau; ac ymddengys mai y Bedyddwyr oedd luosocaf yn y gangen yn Aberhafesp, oblegid mae yn debyg eu bod yn fwy dan ddylanwad gweinidogion y Bedyddwyr yn y Dolau a'r Pentre, ac yn mwynhau mwy o'u gweinidogaeth. Adeiladodd y Bedyddwyr gapel heb fod yn nepell oddi yma, lle y maent yn ymgynnull etto; ac o hyny allan, parhaodd yr Annibynwyr i ymgynnull o dy i dy, gan gyfrif eu hunain yn aelodau yn Llanbrynmair, a deuai gweinidogion Llanbrynmair i bregethu iddynt.

Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y ffurfiwyd y gangen yn Aberhafesp yn eglwys Annibynol. Er fod y cyfamod eglwysig a dynwyd allan ganddynt yn awr ger ein bron, ac enwau yr aelodau cyntaf wedi eu cadw yn ddiogel; ond yn anffodus, nid oes dyddiad i'r cyfamod. Yn ol pob peth a allwn gasglu, yr oedd rywbryd wedi 1780, a chyn dechreu gweinidogaeth Mr. J. Roberts. Y mae un o hen aelodau yr eglwys, Mr. Charles Benbow, yn cofio yn dda am ymweliadau Mr. Tibbott â'r ardal i bregethu. Pregethai yn aml ar y maesydd, ac yn unrhyw dy y rhoddid derbyniad iddo, nes o'r diwedd y dechreuwyd cynal moddion yn sefydlog yn Brynygroes, tyddyndy bychan rhwng Bwlchyffridd a Llanwnog. Yn fuan wedi hyny, agorodd Mr. Richard Lewis, Gareglwyd, ei dy, yr hwn oedd yn lle helaeth a chyfleus, a chafodd yr achos gartref yma dros lawer o flynyddau. Yr oedd Mr. Lewis, Gareglwyd, yn amaethwr cyfrifol, ac yn berchen ar amryw ffermydd yn y gymydogaeth, a bu o gynorthwy mawr i'r eglwys; ac y mae wyrion iddo yn glynu gyda'r achos yn y lle hyd y dydd hwn. Y mae yn debyg mai yn y Gareglwyd y corpholwyd yr eglwys, tua'r flwyddyn 1790, fel y gallwn farnu oddiwrth y gwahanol adroddiadau a roddir. Dyma y cyfamod ar yr hwn y cytunasant:

"Y Cyfamod Eglwysig y cytunwyd arno gan y Gymdeithas o Ymneillduwyr Protestanaidd yn Aberhafesp."

"Yr ydym yn cyfamodi yn ngwydd Duw â'n gilydd, yn enw Duw, a thrwy gymhorth yr Ysbryd Glan, y bydd i ni, fel aelodau o Grist, mewn undeb â'n gilydd, arddel ein hunain yn galonog ac yn ffyddlon yn ddisgyblion i Grist, ac na fydd arnom gywilydd o hono Ef na'i achos, ond ymdrechu yn wrol o blaid y ffydd a draddodwyd unwaith i'r saint; ac y bydd i ni ymarfer â'r ordinhadau y mae wedi osod yn ei dy yn gydwybodol, a rhodio yn ol y rheol y mae wedi osod i ni yn ei air gyda diwydrwydd.

1. Mewn perthynas i bynciau ein ffydd, yr ydym yn credu yr athrawiaethau sydd yn gynwysedig yn Nghatecism y Gymanfa yn Westminster.

2. Yr ydym yn cyfamodi ac yn addaw, trwy gymhorth yr Ysbryd Glan, y bydd i ni ymdrechu yn erbyn pob pechod, a phob achlysur ag y gall ein harwain i bechod; ac ymarferyd yn ddiwyd ac yn barhaus â phob moddion i wybod ewyllys Duw, ac i ymdrechu a'n holl galon i'w wasanaethu.

3. Yr ydym yn cyfamodi ac yn addaw, yn enw Crist, y bydd i ni, yn ddiwyd ac yn barhaus, ymarferyd â phob moddion y mae Duw wedi gorchymyn yn ei air, yn gyhoeddus ac yn ymneillduol, sef gweddio, darllen, a gwrando y gair, a chymuno, er adeiladu ein hunain â'n gilydd mewn gras a sancteiddrwydd.

4. Yr ydym yn ymgyfamodi ac yn addaw y bydd i ni yn ewyllysgar ymostwng i ddisgyblaeth a cherydd ty Dduw, yn ol gorchymyn Crist; ac y bydd i ni ymdrechu, pob un yn ei briodol sefyllfa, mor belled ag y gallwn, i gynal ac i arferyd y fath ddisgyblaeth tuag at droseddwyr ag sydd yn gyson â gair Duw, ac yn angenrheidiol tuag at ei ogoniant ac anrhydedd ei achos yn y byd.

5. Yr ydym hefyd yn cyfamodi ac yn addaw, os byddwn un amser yn bwriadu myned i sefyllfa newydd yn y byd ag y gall fod o bwys, neu mewn rhyw gyfyng: der, neu anwybodaeth mewn perthynas i lwybr ein' dyledswydd, na bydd i ni wneuthur dim yn fyrbwyll ac anystyriol: ond taer weddio ar Dduw am gyfarwyddyd, ac ymgynghori yn syml â'n cyfeillion crefyddol.

6. Yr ydym yn mhellach yn cyfamodi ac yn addaw na fydd i ni gynwys a lleteia meddyliau angharedig y naill am y llall, heb ymofyn yn ddiwyd ac yn ddiduedd a oes genym gyfiawn achos; ac na fydd i ni gredu pob chwedl ddrwg a glywn y naill am y llall, heb gyflawn dystiolaeth ei fod yn wir; ac yn enwedigol, na fydd i ni enllibio a thraflyncu ein gilydd, ond celu a chuddio beiau ein gilydd, mor bell ag y gallwn, yn gyson a chydwybod dda.

7. Yr ydym yn mhellach yn addaw, pob un yn ol ei ddoniau a'i gyfleusderau, i wneuthur ein goreu tuag at adeiladu ein gilydd yn yr Arglwydd, ac yn ffyrdd sancteiddrwydd, y bydd i ni yn daer ac yn gydwybodol weddio y naill dros y llall, yn neillduol dros y rhai o honom ag y gall fod mewn gorthrymder; y bydd i ni mewn cariad a ffyddlondeb wylio dros ein gilydd; y bydd i ni fod yn barod yn wastad i roddi y cynghor goreu, a'r cyfarwyddyd ffyddlonaf a allwn, i'n gilydd; y bydd i ni ymdrechu cadarnhau ein gilydd yn yr athrawiaeth ag y sydd yn ol duwioldeb, ac i ymddwyn yn garedigol ac yn faddeugar y naill tuag at y llall yn ol cyfraith Crist.

8. Yr ydym yn mhellach yn addaw y bydd i ni ymddwyn yn garedigol, mor belled ag y gallwn, yn ddidramgwydd tuag at broffeswyr o wahanol enwadau oddi wrthym ni, mor belled ag y byddo genym le i obeithio eu bod yn cytuno a ni yn y pethau hanfodol i grefydd, heb wyrdroi efengyl Iesu Grist.

9. Yn ddiweddaf, yr ydym yn bwriadu ac yn addaw gwneuthur cymaint o ddaioni ag a fedrom i bob dyn yn mhob sefyllfa, i fod yn gywir ac yn gyfiawn yn ein hymddygiadau; a thrwy ymarweddiad sobr, addfwyn, cymwynasgar, trugarog, ac uniawn, i wneuthur ein goreu i enill eraill i ddyfod at Grist.

Yr ydym hefyd yn cyfamodi ac yn addaw, pob un yn ol ei amgylchiadau, yn gydwybodol ac yn ffyddlon, i gyfranu tuag at gynaliaeth y cyfryw ag sydd, neu fydd rhyw amser i ddyfod, yn llafurio yn ein plith yn ngwaith y weinidogaeth."

John Reynolds, Richard Lewis, Evan Evans, Morris Griffiths, Francis Watts, Joseph Richards, Evan Morris, Elizabeth Lewis, Mary Watts, Jane Shutt, Margaret Morris, a Jane Griffiths. Y tri cyntaf ar y rhestr oeddynt brif gefnogwyr yr achos, ac yr oeddynt mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn ddynion o gymeriadau crefyddol nodedig. Sonir yn arbenig am John Reynolds fel un enwog yn ei ofal am yr achos yn y lle. Aeth y Gareglwyd yn rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuai yn nghyd. Mewn llythyr at ei frawd yn America, dyddiedig Chwefror 1800, dywed Mr. J. Roberts, Llanbrynmair:—" Bydd yn dda genych glywed fod y gymdeithas yn Aberhafesp wedi cynyddu cymaint yn ddiweddar nes ydyw ty Mr. R. Lewis yn rhy fychan i'w chynwys; ac yr ydym wedi cytuno am dir wrth Bwlchyffridd i godi arno addoldy yr haf nesaf." Yr oedd y llecyn ar yr hwn y saif y capel yn lle nodedig yn y dyddiau gynt. Yma yr arferid cyfarfod i ymladd ceiliogod, a dwyn yn mlaen chwareuon annuwiol ar y Sabbothau; a meddyliwyd nas gallesid gwneyd dim yn well na chodi y capel ar y llanerch lle yr oedd y diafol a'i weision wedi arfer cynal eu campau annuwiol, heblaw ei fod yn ganolog rhwng y tri phlwyf—Aberhafesp, Tregynon, a'r Bettws, trwy y rhai yr oedd yr aelodau yn wasgaredig. Cafwyd y tir yn rhodd ac yn rhad gan y boneddwr oedd y pryd hwnw yn berchenog y Creginog Hall. Agorwyd y capel yn 1800, ac yr oedd gofal yr eglwys ar y pryd, ac am flynyddau wedi hyny, ar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Deuai yma yn rheolaidd unwaith bob mis, ac elai oddi yma y prydnawn i Penarth. Nid ymddengys fod ffydd y cyfeillion yma yn gref yn nghodiad y capel cyntaf, oblegid gwelwyd yn fuan ei fod yn llawer rhy fychan; a chyn pen deng mlynedd, bu raid ei dynu i lawr, a chodi un llawer helaethach. Agorwyd hwnw yn 1810; a thra y buwyd yn ail adeiladu y capel, cynhelid y cyfarfodydd yn y Gareglwyd fel cynt. Wrth weled yr achos yn cryfhau, anogodd Mr. Roberts yr eglwys yma a'r eglwys yn Penarth i uno a'u gilydd i gael gweinidog cydrhyngddynt; a sefydlasant ar Mr. James Davies, myfyriwr o Athrofa Wrecsam, ac urddwyd ef yma Ebrill 18fed, 1811. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn; Dr. Jenkin Lewis, Wrecsam; Dr. T. Phillips, Neuaddlwyd; a Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffiths, Machynlleth; D. Williams, Llanwrtyd; a W. Hughes, Dinasmawddwy. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ffyddlon a chyda mesur o lwyddiant. Derbyniwyd ganddo lawer o aelodau i'r eglwys, ac yn eu plith ddau a fu yn hynod o ddefnyddiol gyda'r achos, sef John James a George Morgan. Mae eu henwau yn parhau yn berarogl yn yr ardal. Arosodd Mr. Davies yma tua saith mlynedd, ac yna ymfudodd i America.[85]

Yn 1821, symudwyd yr Athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd, a daeth Dr. George Lewis i fod yn weinidog yn y dref a Bwlchyffridd, yn gystal ag i fod yn athraw yr Athrofa. Rhoddwyd galwad i'w fab yn nghyfraith, Mr. Edward Davies, yr hwn oedd yn athraw cynorthwyol, i fod hefyd yn gyd-weinidog a Dr. Lewis; ac urddwyd ef yn Bwlchyffridd Ionawr 24ain, 1822. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Whitridge, Croesoswallt. Derbyniwyd cyffes y gweinidog gan Dr. G. Lewis. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Weaver, Amwythig. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Williams, Wern; ac i'r eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Bu Mr. Davies, gyda chynorthwy y myfyrwyr, yn gofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1835, pan y rhoddodd i fyny ei gofal, gan gyfyngu ei lafur i'r Drefnewydd, ac i'w ddyledswyddau fel athraw yr Athrofa. Yn y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 8fed a'r 9fed, 1835. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. T. Morgan, Trallwm. Gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Davies, Drefnewydd. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. James Davies, Llanfair; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Morgans, Machynlleth. Bu Mr. Davies yma yn gweinidogaethu am rai blynyddau yn dra derbyniol; ond am y tair blynedd diweddaf nid oedd pethau mor gysurus; ac yn y flwyddyn 1843, rhoddodd yr eglwys i fyny; ond y mae etto yn byw yn y gymydogaeth, ac yn pregethu lle y gelwir am ei wasanaeth.

Yn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ond genedigol o Ffestiniog, ac urddwyd ef yma; ond ni bu tymor ei arosiad ef ond byr. Yr oedd yr achos drwy yr holl amgylchiadau a'i cyfarfu yn dal ei dir ac yn casglu nerth, fel yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i'r gynnulleidfa, heblaw ei fod yn adfeiliedig. Penderfynwyd ei dynu i lawr, ac adeiladu un helaethach, a dechreuwyd arno o ddifrif. Agorwyd ef Mehefin 21ain a'r 22ain, 1848. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri L. Roberts, Sarnau; H. Morgan, Sammah; S. Roberts, a J. Roberts, Llanbrynmair; J. Thomas, Amwythig; ac A. Francis, Wrecsam. Cyhoeddwyd y capel newydd yn rhydd o ddyled ddydd ei agoriad. Gweithiodd y gymydogaeth a'i holl egni i gael yr amcan i ben; a dywedai pawb oedd yno, er yr holl bregethau da a gafwyd, mai y bregeth fwyaf effeithiol oedd pregeth fer Mr. Benbow, pan ddywedodd, The chapel is free." Yr un flwyddyn ag yr agorwyd y capel newydd, ac o gylch yr un amser, derbyniodd Mr. John Owen, Drefnewydd, alwad gan yr eglwys; a llafuriodd yma yn barchus a chymeradwy iawn hyd y flwyddyn 1864, pryd y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny. Yn amser gweinidogaeth Mr. Owen, codwyd Bethel, capel bychan ar y Waun, rhwng Bwlchyffridd a Llanwnog. Y John James at ba un y cyfeiriasom eisioes oedd y prif offeryn i'w godi. Rhoddodd y rhan fwyaf o'r arian ato ei hun, a chasglodd y gweddill; a chyn marw, gadawodd yn ei ewyllys 30p. i eglwys Bwlchyffridd, ar yr amod iddynt i ofalu am Bethel. Yr oedd cyn hyny wedi rhoddi 60p. at godi y capel presenol yn Bwlchyffridd; a gadawodd yn ei ewyllys hefyd 30p. i Cefnyfaenor, a 30p. i Bethany, yn agos i Ceri. Y mae enw y fath ŵr yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth.[86]

Yn Mawrth 1866, daeth Mr. Isaac Watkin yma, gwr ieuangc o Abergavenny, yr hwn a ddaethai oddiwrth y Wesleyaid. Bu yma ar brawf am dri mis, ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1866. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Hughes, Cendl. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Lloyd, Marton; ac i'r eglwys gan Mr. D. M. Davies, Llanfyllin. Bu Mr. Watkin yma yn barchus gan ddosbarth o'r gynnulleidfa hyd Medi 29ain, 1867, pryd y traddododd ei bregeth ymadawol, a symudodd i sir Amwythig.

Yn niwedd 1869, derbyniodd Mr. Roderick Lumley, Cwmbran, alwad gan yr eglwys, â'r hon y cydsyniodd; a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Mehefin 22ain a'r 23ain, 1870, pryd y gweinyddwyd gan Meistri J. Peters, Bala; J. Jones, Machynlleth; R. Hughes, Cendl; H. Oliver, B.A., Casnewydd; O. Evans, Llanbrynmair; D. Rowlands, B.A., Trallwm; D. M. Jenkins, Drefnewydd, ac eraill. Y mae yr achos yma wedi myned yn Saesonaeg yn llwyr, oddigerth un boreu Sabboth o'r mis. Y mae yma achos cryf, ac wedi cael gafael lled lwyr ar y gymydogaeth, ac y mae gan mwyaf yn meddiant y gynnulleidfa yn y lle. Y mae yr eglwys newydd godi ty cyfleus i'r gweinidog, yr hwn a gostiodd tua 250p., y rhai a gasglwyd oll yn y gymydogaeth, oddigerth y 30p. y rhai a adawyd gan Mr. John James. Rhif yr eglwys yn awr yw 130; a genym ddeall fod Mr. Lumley yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau mor addawus.

Crybwyllasom eisioes am Mr. Samuel Benbow a Mr. George Morgan, y rhai sydd etto yn fyw, er mewn gwth o oedran, ac y mae eu gwasanaeth wedi bod yn helaeth iawn i'r achos. Bu Mr. Williams, o'r Wern, yn y gymydogaeth hon am ychydig amser yn yr ysgol, pan yn ddyn ieuangc cyn ei fynediad i'r Athrofa i Wrecsam; ac y mae yma etto rai yn fyw yn ei gofio yn gwneyd y cynyg cyntaf i bregethu yn Saesonaeg, a phan yn methu yn troi i'r Gymraeg. Un Mr. Roberts oedd ei athraw.

Nid ydym wedi cael hanes ond am un pregethwr a gododd oddi yma. Thomas Peters, yr hwn a urddwyd yn Marton, ac a symudodd i Gaerlleon, lle y mae yn awr.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JAMES DAVIES. Yr oedd yn enedigol o gymydogaeth Neuaddlwyd. Ystyrid ef yn bregethwr rhagorol, ac o fywyd dichlynaidd a diargyhoedd. Yr oedd yn ddyn hynaws a siriol, ond yn gwbl benderfynol yn yr hyn yr ymaflai ynddo yn gyfaill ffyddlon a chywir—ac yn gymeradwy gan ei frodyr yn y weinidogaeth, a chan yr eglwysi yn gyffredinol. Llafuriodd yn ddiwyd yn y cylch y troai ynddo, ac y mae ei goffadwriaeth yn barchus gan bawb sydd yn ei gofio. Arferai bregethu unwaith y flwyddyn i'r bobl ieuaingc, a mawr y cyrchu a fyddai i'w wrando; a chafwyd profion fod rhai o honynt wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd trwy hyny. Yr oedd yn ymwelydd derbyniol yn y teuluoedd lle y llettyai, a derbynid ef yn roesawgar gan gyfoethog a chyffredin.[87]

Cyfarfu â siomedigaethau a ddyrysodd ei gynlluniau, ac ymfudodd i America o gylch y flwyddyn 1820. Blin a helbulus a fu ei yrfa yno, fel y deallwn, ac y mae wedi ei gladdu er's blynyddau yn rhywle yn Ohio.

LLANWNOG.

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon yn gynar yn y ganrif bresenol. Yn Gwynfynydd, lle y bu tad y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn byw, y pregethid fynychaf. Un Evan Davies oedd yno yn byw y pryd hwnw, aelod o Bwlchyffridd, ac adnabyddid ef fel "y gweddiwr." Cyrchai y rhai oedd yn gogwyddo at yr Annibynwyr yn yr ardal i Bwlchyffridd i wrando, a deuai Mr. James Davies yn aml i bregethu yma. Pregethwyd llawer yn y Clogau, Brynderwen, a Pharcyresgob, yn enwedig gan y myfyrwyr wedi symudiad yr Athrofa i'r Drefnewydd. Ar ol ordeinio Mr. Edward Davies yn Bwlchyffridd, penderfynwyd ar gael gwasanaeth mwy sefydlog yn Llanwnog; ac yn 1823, corpholwyd yr ychydig aelodau oedd yma yn eglwys yn mharlwr Parcyresgob, a rhoddid iddi ran o weinidogaeth Bwlchyffridd. Yn 1826, rhoddwyd tir i adeiladu capel gan Mr. David Reynolds, Tan'rallt, Llanwnog; a throsglwyddwyd ef i Meistri Edward Davies, Drefnewydd; Samuel Bowen, Drefnewydd; James Davies, Llanfair; John Rees, Sarnau; John Jones, Trefaldwyn; Samuel Roberts, Llanbrynmair; John Roberts (Ieuaf.), Llanbrynmair; Charles Benbow, Aberhafesp; William Jones, Llanwnog; ac Evan Davies, Parcyresgob; fel ymddiriedolwyr. Dyddiad y weithred ydyw Awst 29ain, 1826. Adeiladwyd y capel y flwyddyn ganlynol, a galwyd ef Seion. Bu Mr. Edward Davies, gyda chynorthwy y myfyrwyr, yn gofalu am y lle hyd ddiwedd y flwyddyn 1834, pan y rhoddodd i fyny ofal Bwlchyffridd a Llanwnog. Dechreuodd Mr. John Davies ei weinidogaeth yma yn 1835, yr un pryd ag yn Bwlchyffridd; ond parhaodd ei gysylltiad â'r eglwys yma dros yspaid wedi iddo roddi yr eglwys yno i fyny. Bu gofal yr eglwys wedi hyny ar Mr. Roberts, Carno, o'r flwyddyn 1858 hyd nes yr ymadawodd i Coedpoeth; ae er ei sefydliad yn Carno, y mae Mr. Ellis yn gofalu am yr achos yma.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

Lewis Lewis. Symudodd i sir Fynwy, a bu farw yno yn ieuangc. Edward W. Jones. Addysgwyd ef yn Athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Nhalysarn, lle y mae yn aros etto.

Thomas Bebb. Yr hwn sydd yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Meifod.

J. H. Jones. Dechreuodd bregethu yn 1867, ac y mae yn awr yn fyfyriwr yn Lancashire College.

Ni bu yr achos yma erioed yn gryf; ond y mae y frawdoliaeth yn ffyddlon ac ymdrechgar, ac y mae yma rai personau nodedig wedi bod yn nglyn a'r achos. Mae y Saesonaeg yn cario y dydd yma yn awr, fel y mae y rhan fwyaf o'r gwasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith hono.

PENARTH.

Saif yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanfaircaereinion, o fewn dwy filldir i'r dref. Penarth y gelwir y bryndir ar yr hwn y saif, a derbyniodd y capel ei enw oddiwrth y lle. Mae yn lled sicr fod yr Annibynwyr yn pregethu gyda gradd o gysondeb yn y parthau hyn er yn gynar yn y ddeunawfed ganrif. Yr oedd lluaws o aelodau Llanbrynmair yn wasgaredig trwy blwyfi Aberhafesp, Manafon, a Llanwyddelen; ac nid yw yn debyg fod y rhai hyny yn boddloni heb gyfarfod a'u gilydd yn amlach nâg y gallasent fyned i Lanbrynmair. Yn ystod y pedair blynedd y bu Mr. Lewis Rees heb ei urddo—o 1734 hyd 1738—arferai newid ar bob cymundeb a Mr. Jervice, Llanfyllin, cyn-weinidog Llanbrynmair; ac wrth fyned a dychwelyd pregethent lawer yn nhai yr aelodau trwy y wlad oddiamgylch. Ond yn y flwyddyn 1766 y dechreuwyd cynal moddion yn rheolaidd er cyfleustra i ardalwyr yr amgylchoedd hyn. Y flwyddyn yma y daeth David Richards—Tynyfawnog wedi hyny—o'r Drefnewydd i Lanfaircaereinion, ac efe a'i wraig oeddynt yr Annibynwyr cyntaf yn y plwyf. Yn nhy un Lewis Griffiths, Gof, oedd yn byw yn y Tŷisaf, yn ymyl Penygelli, Llanwyddelen. Bu yno bregethu a chymundeb rheolaidd dros rai blynyddau. Ar ddymuniad Mr. Jones, Llangan, cododd y Methodistiaid Calfinaidd gapel yn Llanwyddelen, yr hwn a elwir Capel yr Adfa; ac oblegid hyny symudodd yr Annibynwyr i Wtrewen, lle y buont yn cyfarfod am yspaid. Oddiyno symudwyd yr achos i'r Tycroes lle y preswyliai yr hen bererin duwiol Richard Tibbot, yr hwn oedd berthynas i Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair; a'r hwn a fu yn swcwr mawr i'r achos am dymor hir; ac efe a roddodd dir yn rhad i godi y capel arno; yr hwn a adeiladwyd yn 1789; a darn o dir i fod yn lle claddfa yn ei ymyl. Richard Tibbot oedd y diacon cyntaf yn yr eglwys, ac wedi hyny David Richards, Tynyfawnog, brawd-yn-nghyfraith Richard Tibbot; ac wedi hyn John Pryce, Tycroes. Dyma dri o enwau sydd hyd heddyw yn berarogl yn yr ardaloedd hyn ar gyfrif eu duwioldeb. Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair, oedd gweinidog yr eglwys hon am y blynyddoedd cyntaf wedi ei ffurfiad, a dilynwyd ef gan Mr. John Roberts; ond oblegid pellder ffordd, ac eangder maes eu llafur, nis gallasent eu gwasanaethu ond yn anaml, heblaw ar y Sabboth cymundeb; ond cawsant gynorthwy effeithiol gan ddau bregethwr oedd yn perthyn i'r eglwys, sef William Tibbot, Wtrewen, a Richard Davies, Bonfedw; ac yn enwedig gan yr addfwyn a'r hynaws David Richards, Tynyfawnog, hyd nes y cymerodd ofal eglwys y Sarnau, ac y symudodd yno. Yn fuan wedi adeiladu capel, bu yma adfywiad grymus ar yr achos. Mewn llythyr a ysgrifenodd Mr. John Roberts at ei frawd yn America, dyddiedig Mai 3ydd, 1796, dywed, "Da genyf eich hysbysu fod cryn adfywiad yn awr ar grefydd oddeutu Penarth a Thregynon. Derbyniwyd deuddeg yma yn y pedwar mis diweddaf, ac yr ydym yn hyderu fod yma rai etto am droi eu hwyn, ebau tua'r nefoedd.' Yn amser y gorfoledd mawr yma yn Penarth y niweidiwyd troed yr hen bregethwr Rees Davies. Dyn mawr, cryf, trwm, o'r enw John Rogers, wrth neidio a gorfoleddu, a sathrodd ar ei droed, a chwyddodd yr enyniad i fyny i'w goes, fel y bu raid ei thori! Yr oedd yr eglwys ar derfyn y diwygiad yn 60 o rifedi; ond oherwydd rhyw amgylchiadau, daeth drwg-deimlad i'r eglwys, yn benaf, fel yr ymddengys, rhwng y ddau bregethwr-W. Tibbot ac R. Davies, Bonfedw; a rhanwyd teimladau yr eglwys yn eu hachos. Ymfudodd W. Tibbot i America, ac aeth yn agos i haner yr eglwys gydag ef, ac yn eu plith rai o'r aelodau goreu. Ymaflodd darfodedigaeth yn Richard Davies -bu farw, a chladdwyd ef yn y capel. Rhwng y cwbl, gwanychwyd yr achos yn ddirfawr. Ond cofiodd yr Arglwydd ei bobl, ac ymwelodd a hwy drachefn, nes y llawenychodd eu calonau. Yn ol llythyr a ysgrifen- odd Mr. J. Roberts at ei frawd yn America, Mai, 1808, rhif yr eglwys yn Penarth oedd 32. Yn fuan wedi hyn, anogodd Mr. Roberts yr eglwys yma a'r eglwys yn Aberhafesp i uno a'u gilydd, a chael gweinidog rhyngddynt, gan na allasai efe eu gwasanaethu yn hwy; ac yn y flwyddyn 1811, rhoddasant alwad i Mr. James Davies, yr hwn a urddwyd yn weinidog iddynt mewn cysylltiad a Bwlchyffridd, fel y crybwyllasom yn hanes yr eglwys hono. Llafuriodd Mr. Davies yma ysbaid chwe' blynedd, ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys hon cyn iddo ymadael a Bwlchyffridd. Aeth i gadw ysgol i'r Drefnewydd, ac i gynyg ailgychwyn yr achos yno a dichon mai hyny a barodd iddo ddatod ei berthynas a Phenarth. Yn ei amser ef y cychwynwyd yr achos, ac y codwyd y capel yn Llanfair. Wedi ymadawiad Mr. James Davies-y cyntaf, rhoddodd yr eglwys, a'r gangen yn Llanfair yn awr, alwad i Mr. James, Davies, myfyriwr o Ath- rofa Llanfyllin; ac urddwyd ef yn Llanfair, Medi 18fed, 1818; ond er mai yn Llanfair yr urddwyd ef, Penarth oedd y fam eglwys, a'r prif le dan ei ofal. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad gan Meistri D. Williams, Llanwrtyd; W. Jones, Penybontarogwy; J. Roberts, Llan- brynmair; W. Hughes, Dinas; a James Davies, Bwlchyffridd. Ymrodd- odd Mr. Davies a'i holl' egni i gyflawni ei weinidogaeth yma, ac yr oedd yn ymddangos fel wedi ei wneyd gan natur ar gyfer y lle. Pregethai bob prydnhawn Sabboth yn Penarth, a'r hwyr yn Llanfair; a'r boreu preg ethai ar gylch yn Tynyfawnog, Bedwgwynion, a Brynelen; ac wedi codi capeli yn y lleoedd yma, aeth y maes yn ormod iddo er holl yni ei natur. Byddai y myfyrwyr yn Athrofa y Drefnewydd yn arfer ei gynorthwyo mewn rhyw gwr o'i esgobaeth agos bob Sabboth; ac wedi hyny bu y myf- yrwyr oedd yn Marton, dan addysg gan Mr. John Jones, yn cynorthwyo ddwywaith bob mis yn y naill fan neu y llall; ond wedi marw Mr. Jones, ac i'r gwyr ieuainge dan ei ofal fyned ymaith; daeth Mr. Edward Wynne, o Lanrhaiadr, yma, yn 1841, i gynorthwyo Mr. Davies yn yr holl leoedd, a bu yma hyd 1842. Ond gwelwyd fod yn rhaid cael gweinidog i rai o'r lleoedd ; a rhoddodd Mr. Davies, Penarth a Jerusalem i fyny, gan gymer- yd at Lanfair, Siloh, a Penuel. Yn niwedd 1842, rhoddodd yr eg lwysi yn Penarth a Jerusalem alwad i Mr. Robert David Thomas, (Iorthryn Gwynedd), o Lanrwst, ond a fuasai am dymor yn derbyn addysg dan ofal Mr. Eleazer Jones, yn Rhydychain; ac urddwyd ef Mai 24ain a'r 25ain, 1843. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Morgan, Llanfyllin. Holwyd y gweinidog gan Mr. J. Davies, Llanfair. Gweddiwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; yr hwn hefyd a bregethodd ar ddyledswydd yr eglwysi; a phregethodd Dr. A. Jones, Bangor, ar ddyledswydd y gweinidog. Cymerwyd rhan yn nghyfarfodydd yr urddiad hefyd gan Meistri J. Jones, Penĺlys; D. Davies, Llanerfyl; E. Thomas, Llanrwst; W. Daniel, Ceri; W. Roberts, Penybontfawr; A. Francis, Drefnewydd; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Morris. Main; M. Jones, Farteg; ae R. Thomas, Croesoswallt. Ymaflodd Mr. Thomas yn ei waith o ddifrif ar ei sefydliad yma. Codwyd capel yn ymyl Bonfedw, a alwyd Canaan; ac yn 1847, ailadeiladwyd capel Penarth trwy draul o fwy na 255p. Yr oedd yr amseroedd hyny yn gyfyng a gwasgedig ar amaethwyr, yn enwedig ar diroedd uchel y fath ag y sydd yn yr amgylchoedd yma; fel yr ymfudodd lluaws i America; ac yn 1851, penderfynodd Mr. Thomas fyned i America i gasglu er talu dyledion y capeli oedd dan ei ofal, a bu yn llwyddianus yn ei anturiaeth. Casglodd dros 360p., a thrwy yr hyn a wnaed ganddo, a'r hyn a gasglwyd gan yr eglwysi gartref, cafwyd digon wedi talu pob treuliau i lwyr ddileu y ddyled. Ond yn ei ymweliad ag America, hoffodd Mr. Thomas y wlad, ac ni bu yn esmwyth heb ymfudo iddi. Rhoddodd yr eglwysi dan ei ofal i fyny yn nechreu haf 1854, er nad ymadawodd o'r wlad hyd y flwyddyn ganlynol. Yr oedd Mr. Thomas yn llawn egni a gweithgarwch tra y bu yma yn llafurio; a thrwy ei lafur ef yn benaf y sefydlwyd yr achos Cymreig yn y Trallwm, ac yr oedd yn flaenllaw iawn yn sefydliad yr achos Cymreig yn y Drefnewydd, a bu yn ymroddgar dros ben gyda'r hyn a elwid yn Genhadaeth Gartrefol Maldwyn. O gylch yr un amser ag y rhoddodd Mr. Thomas yr eglwysi i fyny, derbyniodd Mr. David Evans-y pryd hwnw o Saron, Tredegar-alwad i lafurio yma; a pharhaodd yma yn weinidog hyd ddiwedd 1870; ac y mae yr achos wedi dal ei dir trwy yr holl flynyddau er yr holl symudiadau. Nis gallesid disgwyl cael yma gynnulleidfa fawr, nac eglwys luosog; ond y mae yma lawer o hen bobl dda wedi bod yn nglyn a'r achos o bryd i bryd. Crybwyllasom eisioes am Richard Tibbot, Tycroes, yr hwn a roddodd dir i adeiladu y capel; rhoddodd hefyd dy, a thipyn o dir yn perthyn iddogwerth o 6 i 8 punt yn y flwyddyn-i fod byth yn feddiant i'r eglwys. Yr hen frodyr John Richard, gonest a didderbynwyneb; John Pryce, hwyliog a chynes gyda chrefydd; Morris Hughes, Brynpenarth, tawel, pwyllog, a dirodres, David Roberts, Penbelan, manwl a didwyll yn mhob peth; Morris Evans, Graig, cywir a gofalus am gyfrifon yr eglwys; Benjamin Hudson, diddichell a chyfeillgar, ac yn ganwr rhagorol; Benjamin Lloyd, enwog fel crefyddwr, ac yn meddu dawn gweddi tra nodedig, ac eraill a gofir gyda hiraeth ar eu hol gan y rhai a'u hadwaenent.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

David Thomas. Pregethodd lawer ar hyd sir Drefaldwyn yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif hon; ac efe a fu y prif offeryn i ddechreu yr achos yn Dolanog, pan yno yn cadw ysgol ddyddiol.

John Ridge. Dechreuodd ef bregethu yn amser Mr. James Davies, Aberhafesp; ac wedi bod dan addysg am dymor yn Llanfyllin, urddwyd ef yn Mhenygroes.

Thomas Ridge. Brawd i John Ridge. Dechreuodd ef bregethu yn amser Mr. James Davies, Llanfair, ac urddwyd ef yn Llangwyfan. Symudodd i Hermon, Mon, lle y bu farw, a daw ei hanes yno dan ein sylw. John A. Davies. Ymfudodd i'r America, ac y mae yn awr yn Ohio.

LLANFAIRCAEREINION.

Dechreuwyd pregethu yma mewn ystafell, gan Mr. James Davies, Aberhafesp, cyn hir wedi iddo ddechreu ei weinidogaeth. Pregethai yn Bwlchyffridd y boreu, yn Penarth am ddau, ac yn Llanfair yr hwyr; neu dechreuai yn Llanfair y boreu, ac i Bwlchyffridd yr hwyr. Bu ei weinidogaeth yma yn dra llwyddianus, fel y bu raid cael capel yma yn fuan. Cafwyd tir yn mhen uchaf y Llan, gan Mr. Griffith Evans, Glover, ac agorwyd ef tua'r flwyddyn 1813. Y pryd yma yr oedd Thomas Bebb, o'r Brwyn, a Mrs. Watkins, a'u teuluoedd, yn ffyddlon iawn gyda'r achos. Rhoddodd Mr. Davies ofal Penarth a Llanfair i fyny; a rhoddwyd galwad i Mr. James Davies, myfyriwr o athrofa Llanfyllin, yr hwn, fel y crybwyllasom yn hanes Penarth, a urddwyd yma, Medi 18fed, 1818. Llafuriodd Mr. Davies yma am fwy na 30 mlynedd, hyd nes yr ymfudodd i America, yn Mehefin, 1849, ac y mae etto yn parhau yn ei fywiogrwydd, er ei fod yn tynu yn agos i 80 oed. Gwelodd wahanol dymorau ar yr achos yn Llanfair, ac ni ddiangodd heb gyfarfod ag ystormydd, ond glynodd yn llwyr wrth ei waith, ac ni bu ei lafur yn ofer. Yn y flwyddyn 1845, ailadeiladwyd y capel trwy draul fawr, ac er i gryn ymdrech gael ei wneyd i dalu am dano, etto teimlai yr eglwys yn y lle fod baich y ddyled yn pwyso yn drwm arni. Wedi ymadawiad Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Cadwaladr Jones, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog yn Llangollen. Dechreuodd Mr. Jones ei weinidogaeth yma yn 1851, a bu yma yn boblogaidd fel pregethwr hyd nes yr ymfudodd i America, yn nechreu haf 1857. Bu yr eglwys ar ol hyny dros rai blynyddoedd heb weinidog sefydlog. Yn 1861, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Evans, myfyriwr o athrofa y Bala; ac urddwyd ef Medi 25ain, a'r 26ain, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar "Annibyniaeth" gan Mr. J. Peters, Bala. Holwyd y gweinidog gan Mr. E. Roberts, Carno. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Williams, Penegos. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah, ac i'r eglwys gan Mr. J. Jones, Abermaw. Cymerwyd rhan hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri E. Thomas, Meifod; W. Roberts, Penybont; D. M. Davies, Llanfyllin; R. Hughes, Trallwm; D. Evans, Penarth; J. Owen, Bwlchyffridd; H. Lewis, Llanidloes; L. Jones, Croesoswallt; D. M. Jenkins, Aberhosan; J. Jones, Bristol; ac E. Stephen, Tanymarian.[88] Bu Mr. Evans yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1865, pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Bethel, Aberdare, Morganwg. Ar ol hyn, ni bu yma neb yn sefydlog nes y derbyniodd Mr. Richard Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala, alwad; ac urddwyd ef Ebrill 22ain a'r 23ain, 1868. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Peters, Bala; holwyd y gweinidog gan Mr. J. Jones, Machynlleth; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. D. Evans, Penarth; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Stephen, Tanymarian; ac i'r eglwys gan Mr. M. D. Jones, Bala. Cymerwyd rhan yn y cyfarfodydd gan Meistri O. Evans, Llanbrynmair; J. R. Roberts, Abhosan; C. Evans, Voel; B. Evans, Sardis; R. Ellis, Carno; C. R. Jones, Llanfyllin; G. Roberts, Main, ac eraill. Ni bu Mr. Roberts yma ond prin ddwy flynedd, canys symudodd cyn diwedd 1870, i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn Gartside Street, Manchester. Mae y mynych symudiadau hyn, ac amddifadrwydd yr eglwys o fugeiliaeth yn y cyfwng rhwng ymadawiad y naill a dyfodiad y llall, wedi bod o anfantais fawr i'r achos. Bu yn perthyn i'r eglwys yma ar wahanol amserau bersonau neillduol, y rhai y teimlid eu dylanwad gan bawb o'u cylch Mr. J. Jones, Gwynyndy, a fu yn fraich gref i'r achos yma am flynyddau lawer. Evan Hughes, er nad oedd ond byr ei ddoniau, oedd yn nodedig am ei ffyddlondeb. Mr. T. Owens, Penllys, wedi ei symudiad i'r Neuadd a wasanaethodd swydd diacon yma yn dda hyd ddydd ei farwolaeth. Mr. J. Evans, Heniarth, a gymerodd ei ran o ofal am yr achos ar ol iddo adael y Wesleyaid ac uno a'r Annibynwyr, er o bosibl fod ei syniadau braidd yn eithafol am ryddid Annibyniaeth.

Yn yr eglwys yma y codwyd i bregethu, John Watkins. Aeth ef a'i fam at y Bedyddwyr, a hyny a fu yn achlysur i sefydlu achos gan yr enwad hwnw yn y lle.

Robert Lewis. Yr hwn a addysgwyd yn athrofau y Bala ac Aberhonddu; ac a urddwyd yn Nhynycoed, Brycheiniog, ond bu farw yn nghanol ei ddyddiau. Daw dan ein sylw etto yn nglyn a Thynycoed.

Joseph Jones. Addysgwyd yntau yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Sardis, Llanwddyn. Symudodd i Bristol i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yno.

David Thomas. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Beddgelert, a symudodd i Loegr.

SILOH.

Mae pregethu wedi bod yn Nhynyfawnog er dyddiau Mr. David Richards, ac wedi hyny yn nyddiau ei fab Mr. John Richards. Yn y flwyddyn 1825, rhoddwyd darn o dir gan Mr. J. Richards, ar dir Tynyfawnog, i adeiladu capel, a lle claddu wrtho. Yr oedd y pryd hwnw o dan yr un weinidogaeth a Penarth, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1842, pryd y rhoddodd Mr. James Davies i fyny ofal Penarth, gan gyfyngu ei lafur i Lanfair, Siloh, a Penuel. Ailadeiladwyd Siloh yn y flwyddyn 1845, a pharhaodd Mr. Davies i ofalu am y lle hyd nes yr ymfudodd i America, yn 1849; ac er hyny y mae Siloh wedi bod yn olynol dan ofal yr un gweinidogion a Llanfair. Gwelwyd adegau llewyrchus ar yr achos yn Siloh; a phrofwyd yma ymweliadau grymus oddiwrth yr Arglwydd fwy nag unwaith. Ar nos Nadolig, 1818, yr oedd Mr. James Davies, Llanfair, yn pregethu yma oddiwrth y geiriau, "Ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd." Torodd diwygiad nerthol allan-aeth yn orfoledd cyffredinol--ymdaenodd trwy yr holl wlad-ac ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwysi. Nid ydym yn cael i bregethwr godi o'r eglwys yma yr un adeg yn ei hanes; ond mab i'r efengylaidd David Richards, Tynyfawnog, oedd Mr. David Richards, South Petherton, Somersetshire, yr hwn a fu yn weinidog cymeradwy yn y lle hwnw am 60 mlynedd, ac a fu farw rywbryd o gylch y flwyddyn 1848. Bu John Richards, Tynyfawnog, mab arall i David Richards, yn noddwr caredig i'r achos yma am oes hir. Efe, fel y dywedasom, a roddodd dir yn rhad at adeiladu capel arno; ac efe a fyddai yn croesawu y rhan fwyaf o'r pregethwyr a ddeuai heibio. Bu yn ddiacon am 54 o flynyddoedd; 30 o ba rai a wasanaethodd yn Mhenarth, cyn codi Siloh. Dyn bychan, bywiog, cryno, glanwaith yr olwg arno ydoedd; ac yr oedd yn hawdd i ddyn dyeithr wrth ei weled mewn cynnulleidfa ddeall ar unwaith nad dyn cyffredin ydoedd. Yr oedd wedi cael gwell addysg na'i gyfoed, ac wedi diwyllio ei feddwl trwy ymroddiad personol. Cafodd fyw i oedran teg, ac ni bu yn analluog i fyned i'r capel ond un Sabboth cyn ei farw. Yr oedd yn Nghymanfa Llanfair, Mehefin 20fed, 1850; a bu farw am 2 o'r gloch ddydd Llun, Mehefin 24ain, yn 91 oed. Claddwyd ef yn mynwent Penarth, yn meddrod ei wraig, yr hon a gladdesid agos i ugain mlynedd cyn hyny.

PENUEL.

Mae y capel hwn etto yn mhlwyf Llanfaircaereinion, yn agos i Goedygarthlwyd. Bedwgwynion y gelwir y lle weithiau. Bu Mr. James Davies, Llanfair, yn pregethu llawer yma mewn tai annedd, a chedwid yn yr ardal gyfarfodydd gweddio ac Ysgol Sabbothol; ac yn 1830, adeiladwyd capel Penuel, ar dir Mr. Hughes, Plascoch, Llangyniw, er mai prydles yw y tir etto, gan nad yw yr ardreth ond swllt yn y flwyddyn, y mae agos gystal a phe buasai yn rhyddfeddiant. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Meistri James Davies, Llanfair; John Jones, Main; Samuel Roberts, Llanbrynmair; John Jones, Gwynyndy; Thomas Hughes, Llanloddian; Thomas Roberts, Tanyffridd; Joseph Griffiths, Cyfrwydd; Thomas Davies, Brynelen; a John Lewis, Llanfair. Ffurfiwyd eglwys yma y flwyddyn gyntaf wedi agoriad y capel, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod dan ofal gweinidogion Llanfair. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond bu yma o bryd i bryd ychydig o bobl ffyddlon yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd. Bu Mr. Richard Herbert yn byw am flynyddau yn nhy capel Penuel; ac y mae yn deilwng o'i goffau fod yr hen frawd Thomas Hughes, Llanloddian, a'i deulu, wedi bod o help mawr i'r achos. Mae eangder cylch y weinidogaeth wedi bod yn anfanteisiol i'r lle bychan gael pregethu mor aml ag y byddai yn ddymunol; ac yn enwedig i gael pregethu ar yr awr o'r dydd fwyaf ffafriol i gael cynnulleidfa.


JERUSALEM.

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma gan Mr. James Davies, Aberhafesp. Symudodd un Benjamin Hudson, aelod o Bwlchyffridd i'r ardal yma i fyw; a byddai Mr. Davies yn dyfod yma yn achlysurol i ymweled ag ef, ac yn pregethu yn ei dy. Arweiniodd hyn i bregethu mwy rheolaidd; ac yn nhymor gweinidogaeth ei ganlyniedydd Mr. James Davies, Llanfair, cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn Brynelen, a chedwid yno gyfeillachau crefyddol yn gystal a phregethu; ac o'r diwedd corpholwyd yno eglwys. Pregethid hefyd yn Moedog, yn is i lawr ar y ffordd i'r Trallwm. Ond yn 1841, prynwyd darn o dir yn mhlwyf Castellcaereinion, gan Mr. John Williams, clochydd, Forden, ac adeiladwyd capel cyfleus arno, yr hwn a alwyd Jerusalem. Costiodd dros 208p. Rhoddodd Mr. Davies, Llanfair, ofal y lle hwn i fyny yr un pryd ag y rhoddodd Penarth i fyny; ac yn niwedd 1842, dechreuodd Mr. Robert D. Thomas ei weinidogaeth yma. Talwyd yr oll o ddyled y capel ar ddychweliad Mr. Thomas o'i daith gasglyddol yn America. Mae y lle wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Phenarth, ac felly y mae yn parhau. Bu teulu Mr. Davies, Brynelen, yn nodedig o groesawgar. Nid anghofir eu caredigrwydd gan y rhai a fu yn pregethu yno cyn codi Jerusalem; ac y mae yn dda genym ddeall fod hiliogaeth y teulu hwn yn glynu wrth yr Arglwydd.

Codwyd i bregethu yma :

Nathaniel Watkins. Yr hwn sydd yn amaethwr parchus yn y Moat, Manafon; ac yn bregethwr cymeradwy, perthynol i eglwys Penarth.

Price Howell. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, ac y mae ei enw yn hysbys yn eglwysi yr enwad yn Nghymru. Mae yn awr yn weinidog yn Fourcrosses, Ffestiniog.

CANAAN.

Pregethwyd llawer yn yr ardal yma mewn lle a elwir Lawnt; ac nid yn fuan yr anghofir caredigrwydd y teulu yma gan y rhai fu yno; yn enwedig y wraig, Mrs. Davies. Yn 1845, rhoddodd Mr. William Baxter, Bonfedw, ddarn o dir yn rhad i godi capel arno, a galwyd ef Canaan. Ni fwriedid ef ar y cyntaf yn ddim ond lle i gynal Ysgol Sabbothol a pregethu achlysurol; ond er's blynyddoedd bellach y mae pob moddion yn cael eu cynal yn rheolaidd ynddo. Costiodd yn agos i 120p., ond ar ddychweliad Mr. Thomas o'r America, llwyr dalwyd ei ddyled yntau hefyd. Mae y lle yn parhau mewn cysylltiad a Phenarth; ac er nad yw yr aelodau yn lluosog, y maent yn nodedig o ffyddlon.


BYRWYDD.

Pregethid yn Brynhwdog, a lleoedd eraill o gylch yma, er's mwy na deng mlynedd ar hugain yn ol; ond yn 1850, codwyd yma ysgoldy, a galwyd ef Byrwydd. Costiodd yn agos i 80p. Casglwyd rhan o'r arian gan y cyfeillion yn y lle, a thalwyd y gweddill gan Mr. Thomas, o gynyrch y casgliadau yn America. Yn nglyn a gweinidogaeth Penarth y mae y lle hwn yn parhau, ac er mai i wasanaethu fel ysgoldy y bwriedid ef ar y cyntaf, etto, er's blynyddoedd bellach y mae y cyfeillion yn y lle wedi ymffurfio yn gangen eglwys, a gweinyddir holl ordinhadau y tŷ yma. Mae yr iaith Seisnig yn ennill tir yma, fel y mae yn rhaid cael y rhan fwyaf o'r gwasanaeth yn yr iaith hono; ac y mae yr elfen Seisnigaidd yn ymwthio i'r eglwysi eraill o fewn cylch yr un weinidogaeth.

Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau cysylltiedig a hanes Penarth a Llanfair, a'r canghenau a darddodd o honynt, i ysgrifeniadau anghyoeddedig y diweddar Mr. D. Morgan, ac i adroddiad Mr. R. D. Thomas yn nghyfarfod Jubili Penarth; ac i lythyrau a dderbyniasom oddiwrth Mr. David Davies, gynt o Dynyfawnog.

SARNAU.

Capel Sarnau (A)

Saif y capel hwn yn mhlwyf Meifod, ond y mae rhan o'r fynwent yn mhlwyf Gygigfa, ar y goror rhwng Cymru a Lloegr yn ngwaelod y sir. Mae yr eglwys yn awr wedi ymuno a chyfundeb Seisnig sir Amwythig, fel y mae amryw eglwysi eraill ar y terfynau. Dechreuwyd pregethu yma gan yr Annibynwyr tua'r flwyddyn 1780, gan Mr. J. Griffith, yn ystod y tymor byr yr arhosodd yn Llanfyllin. Wedi priodi, bu Mr. Griffith yn byw heb fod yn mhell iawn o'r Sarnau; ac un Miss Meredith o'r gymydogaeth hon oedd ei wraig gyntaf. Pregethodd Mr. Griffith lawer yma ar hyd y maesydd ac mewn tai anedd, ac ymgynnullai tyrfaoedd lluosog i'w wrando. Adroddir un hanesyn nodedig am Mr. Griffith, yr hwn a gymerodd le yn yr ardal hon, a'r hwn a ddengys mor dra awyddus ydoedd am achub eneidiau. Yr oedd wedi dyfod yma i bregethu mewn amaethdy ar un prydnawn Sabboth, a gofynodd i wr y ty am gael myned o'r neilldu i ystafell am ychydig. Dangoswyd iddo ystafell i fyned iddi; ond wrth ei weled yn hir heb ddychwelyd, a'r gynnulleidfa wedi dyfod yn nghyd yn lluosog, dechreuodd gwr y ty anesmwytho, ac anfonodd forwyn i alw arno, gan ei bod yn amser dechreu yr oedfa. Aeth y llances, ond erbyn ei bod wrth y drws, clywai Mr. Griffith yn dyweyd yn uchel"nid äf oni ddeui gyda mi." Brysiodd y ferch yn ol, a dywedodd wrth ei meistr fod yno ryw un gyda'r pregethwr. "Does dim fath beth," ebe ei meistr; ond y llances a daerodd mai felly yr oedd, ac ychwanegodd "ond chlywais i e yn dyweyd, nad ä e ddim heb i'r llall ddod gydag ef." "Gad iddo ynte," ebe ei meistr, "fe ddaw y ddau cyn hir." Daeth Mr. Griffith allan o'r ystafell yn fuan, a chafwyd prawf cyn diwedd yr oedfa nad yn unig y daeth, ond fod y gwr y bu mewn ymdrech am ei gael wedi dyfod gydag ef. Dwy flynedd yr arhosodd Mr. Griffith yn Llanfyllin; ond yn yr yspaid hwnw, mwynhaodd ardal y Sarnau gryn lawer o'i weinidogaeth; ac nid ofer fu ei lafur yno. Nis gallasom gael allan a gorpholwyd yma eglwys gan Mr. Griffith—yr ydym yn tueddu i feddwl na wnaed—ond y cyfrifai yr aelodau oedd yma eu hunain yn perthyn i Lanfyllin a'r Pantmawr. Ymddengys mai pan y sefydlwyd eglwysi Annibynol yn y Sarnau a'r Trallwm, yr hyn a gymerodd le agos yn gyfamserol, y gwelwyd yn ddiangenrhaid cynal addoliad a gweinyddu yr ordinhadau gyda'r un rheoleiddiwch yn y Pantmawr ag y gwneid cyn hyny. Bu yno gymuno ar ol hyn, fel y cawn weled etto, ond nid gyda'r un cysondeb ag o'r blaen. Y mae yr hen fwrdd cymundeb oedd yn y Pantmawr yn awr yn nghapel y Sarnau. Y mae gan yr hen fwrdd hwn ei hanes. Wrtho safodd Vavasor Powell, Henry Williams, Ambrose Mostyn, James Owen, Rees Prothero, William Jervice, John Griffith, ac eraill yn olynol am fwy na chant a haner o flynyddau; a chafwyd wrtho lawer gwledd felus y cofir am dani yn y nefoedd. Ond i ddychwelyd at gychwyniad yr achos yn y Sarnau. Yn ysgrifeniadau anghyhoeddedig Mr. Morga, Llanfyllin, dywedir ei fod ef (Mr. M.), mewn ymddyddan ag un o aelodau hynaf y lle, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, wedi gofyn pwy oedd yr Ymneillduwyr a bregethodd gyntaf yn yr ardal, attebodd yr hen wr mai y myfyrwyr o Groesoswallt a arferai ddyfod yma, a bod yr athraw, Dr. Edward Williams, wedi pregethu yn y lle amryw weithiau. Mae hyn yn eithaf cyson â'r hyn a ddywedasom eisioes am ddechreuad yr achos gan Mr. Griffith; oblegid yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Griffith o Lanfyllin y symudwyd yr Athrofa o Abergaveny i Groesoswallt. Ar ol sefydliad Mr. Jenkin Lewis yn Llanfyllin yn 1785, yr ydym yn cael ei enw ef yn fynych yn nglyn â bedyddiadau a chladdedigaethau yn Sarnau hyd 1793.

Medi 19eg, 1785, cawn yn llawysgrif Mr. Jenkin Lewis, Llanfyllin, gofrestriad o fedydd Mary, merch Edward Ashley, yn mhlwyf Gygigfa, yr hon a fedyddiwyd, a'r cofnod hynaf sydd ar gael yma o'r rhai a fedyddiwyd ganddo.

Medi 12fed, 1790, cawn ef yn bedyddio Thomas, plentyn i John Davies, Gilfach, dilledydd wrth ei alwedigaeth. Y tystion o'r gweinyddiad oeddynt John Williams, aelod yn y Sarnau, a William Hughes, o'r Llidiart Fechan, Pantmawr; ac fel gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanfyllin y mae Mr. Lewis yn arwyddo ei enw. Parodd symudiad yr Athrofa i Wrecsam yn 1792 amddifadrwydd mawr am weinidogaeth yma, gan nad oedd nifer y gweinidogion ond ychydig. Ond daeth Mr. David Richards, Ty'nyfawnog, yr hwn oedd yn bregethwr parchus yn Mhenarth, i'r lle o gylch yr amser y collwyd gwasanaeth y myfyrwyr, neu yn fuan wedi hyny; ac urddwyd ef yn weinidog yma, a bu o wasanaeth mawr i'r achos am ddeuddeng mlynedd. Mae dyddiad dyfodiad Mr. Richards i'r lle, ei urddiad, a'i farwolaeth yn mysg y lluaws pethau gwerthfawr o'r fath sydd wedi myned i ddifancoll; ond y mae agos yn sicr i'w farwolaeth gymeryd lle cyn y flwyddyn 1810; oblegid yn y flwyddyn hono yr ydym yn cael Mr. Daniel Davies, myfyriwr o Athrofa Gwrecsam, yn derbyn galwad gan yr eglwys, ac yn ymsefydlu yn y lle. Ac yr oedd un gwr ieuangc o'r enw Mr. Morris wedi bod yma am chwe mis cyn dyfodiad Mr. Davies ar ol marwolaeth Mr. D. Richards; ond bu y gwr ieuangc hwnw farw yn fuan o'r darfodedigaeth. Bu Mr. Davies yma yn pregethu am un mlynedd-arddeg, ac yna symudodd i Woolerton, sir Amwythig, lle y treuliodd weddill ei oes. Wedi ymadawiad Mr. Davies, daeth Mr. James Peregrine yma yn 1821 o Bishop Castle. Yr oedd yn weinidog yma mewn cysylltiad â Domgay. Nid oedd teimlad yr eglwys yn unol gyda golwg arno, ac ymadawodd nifer o'r aelodau; ond ni arosodd Mr. Peregrine yma ond hyd 1824, pan yr ymadawodd i America; ac yn fuan wedi ei ymadawiad, dych welodd y rhai a aethant allan. Y flwyddyn ganlynol i ymadawiad Mr. Peregrine, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Rees, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef Mai 17eg, 1825. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. E. Davies, athraw yr Athrofa yn y Drefnewydd. Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Pearce, Wrecsam. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. G. Ryan, Trallwm. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Stewart, Liverpool; ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, Wern. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod. Bu Mr. Rees yma yn gymeradwy a defnyddiol dros amryw flynyddau; ond yn 1832, symudodd i Cholfort, yn sir Gaerloyw. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1835, rhoddwyd galwad i Mr. David Arthur Owen, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd; ac urddwyd ef Mehefin 15fed, 1835, pryd y gweinyddwyd gan Mr. T. Morgan, Trallwm; W. Roaf, Elsmere; T. W. Jenkin, Croesoswallt; J. Jones, Bromley; D. Morgan, Machynlleth; D. Price, Penybontfawr; T. Jones, Minsterlay, ac eraill. Bu Mr. Owen yma yn dderbyniol a llwyddianus, hyd nes yn 1838 y symudodd i Smethwick, gerllaw Birmingham. Y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John Mark Evans, myfyriwr o Athrofa Hackney, Llundain, a mab i Mr. Evans, Crwys, ger Abertawy; ac urddwyd ef Mai 20fed, 1839, pryd y gweinyddwyd gan Meistri J. Pearce, Wrecsam; J. Jones, Preshenlle; T. Morgan, Trallwm; S. Bowen, Macclesfield; a J. Reeve, Croesoswallt. Arhosodd Mr. Evans yma hyd 1844, pryd y symudodd i Lacharn, sir Gaerfyrddin.

Yn mhen amser, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Lewis Roberts, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, a mab Mr. Roberts, Dinbych; ac urddwyd ef Ionawr 1af, 1846. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri W. Rees, Liverpool; D. Price, Dinbych; D. Morgan, Llanfyllin; T. Jones, Minsterley; ac H. James, Llansantffraid. Bu Mr. Roberts yma yn ffyddlon a diwyd dros lawer o flynyddau, a hyny yn ngwyneb llawer o ddigalondid; ac ni bu ei lafur yn gwbl ddilwydd. Yn 1854, symudodd i Dorrington, sir Amwythig, lle y mae yn aros etto. Ar ol ei ymadawiad, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, myfyriwr o Athrofa y Bala; ac urddwyd ef Mawrth 9fed, 1855, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Hughes, Trallwm; H. James, Llansantffraid; J. Griffiths, Domgay; J. Jones, Minsterley; D. Evans, Penarth; J. Owen, Bwlchyffridd; ac L. Roberts, Dorrington. Bu Mr. Davies yma hyd 1866, pan y rhoddodd i fyny ei weinidogaeth; ond y mae etto yn y gymydogaeth, ac yn pregethu os gelwir am ei wasanaeth. Mae y mynych symudiadau hyn wedi bod o anfantais fawr i'r achos, ac wedi effeithio i raddau er peri i'r ardalwyr golli eu hymlyniad yn y lle. Yn mis Medi 1869, urddwyd Mr. Thomas Jenkins, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, yn weinidog ar yr eglwys yma. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Farr, Croesoswallt; H. James, Llansantffraid; a J. Morris, Athraw Duwinyddol Athrofa Aberhonddu; ac y mae yr eglwys yn parhau dan ofal Mr. Jenkins, a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus.

Codwyd yma un pregethwr, F. Pugh, yn y flwyddyn 1854; ac y mae yn y gymydogaeth etto, ac yn pregethu yn achlysurol. Yr oedd Cymraeg a Sacsonaeg yn cael ei bregethu yma er dechreuad yr achos, ond Cymraeg yn benaf hyd tua'r flwyddyn 1825; er hyny, y mae yr iaith Gymraeg yma wedi colli tir, fel na bu y pregethu ynddi ond yn achlysurol; ac yn awr er's blynyddau y mae yr achos yn Saesonaeg hollol.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

DAVID RICHARDS. Ganwyd ef yn agos i Langeitho, yn sir Aberteifi. Yr oedd ei dad yn ddiacon yn Llwynpiod yn nyddiau Mr. Phillip Pugh; a gwasanaethodd y swydd am fynyddau. Magwyd ef yn grefyddol, a rhoddodd ei wddf yn ngwasanaeth yr Arglwydd yn moreu ei ddyddiau. Addysgwyd ef yn y gelfyddyd o gylchwr (cooper), a symudodd pan yn ieuangc i'r Drefnewydd, sir Drefaldwyn, i weithio.' Priododd ag un Mary Tibbott, chwaer i Richard Tibbott, o Benarth; ac yr oedd yn berthynas agos i Mr. R. Tibbott, Llanbrynmair. Yr oedd hithau yn ferch ieuangc grefyddol, ac ar y pryd yn gwasanaethu yn y Glasgoed, gerllaw Bwlchy ffridd. Wedi priodi, cymerasant dy yn y Drefnewydd, ac ymroddasant i wneyd y goreu o'r ddau fyd. Dilynai y gwr ei alwedigaeth, ac yr oedd Cymreig bychan gan yr Annibynwyr yn y Drefnewydd ar y pryd, ac un Mr. D. Lewis yn weinidog, a dewiswyd Mr. D. Richards yn ddiacon, a gweinyddodd ei swydd yn ffyddlon am flynyddau. Tua'r flwyddyn 1766 symudodd o'r Drefnewydd i ymyl Llanfaircaereinion, a bu yno yn byw mewn lle a elwir Tir Elusen am oddeutu dwy flynedd; ac oddi yno symudodd i Dy'ny fawnog, lle tua thair milldir i'r gorllewin o Lanfair, ac yno y bu y rhan fwyaf o'i oes, ac fel "David Richards, Ty'nyfawnog," y daeth ei enw yn adnabyddus. Yr oedd crefydd yn isel iawn yn mhlwyf Llanfaircaereinion ar y pryd y symudodd yno. Efe a'i wraig oeddynt yr aelodau cyntaf gyda'r Annibynwyr yn y plwyf, ac arferent fyned i Lanbrynmair bob mis i gymundeb. Trwy ei lafur ef yn benaf y dechreuwyd yr achos Annibynol yn mhlwyf Llanfair; ac oblegid yr anhawsder i gael pregethwyr, dechreuodd gynghori yn gyhoeddus; a phregethodd ei bregeth gyntaf yn Nhy'nyfawnog.[89] Llafuriodd yn helaeth fel cynorthwywri Mr. Tibbott yn Llanbrynmair, Aberhafesp, a Penarth. Er mai Mr. Tibbott oedd y gweinidog, etto efe a bregethai amlaf, ac a ofalai fwyaf am yr achos yn y lle olaf a nodwyd; a gwelodd lwyddiant mawr ar ei ymdrechion. Wedi claddu ei wraig, symudodd yn ei hen ddyddiau i gymeryd gofal yr eglwys yn y Sarnau; ac yno y treuliodd ei flynyddau diweddaf yn ddefnyddiol iawn. Bu yn byw am yspaid mewn ystafell a godwyd iddo gan John Davies, Penygroes, yn gydiol â'i dy; ac aeth wedi hyny i fyw i'r Winllan, lle y gweinyddid arno ac yr ymgeleddid ef yn ofalus gan hen forwyn iddo o'r enw Martha. Nis gallwn gael dyddiad ei farwolaeth, ond yr oedd tua'r flwyddyn 1809. Claddwyd ef yn y Sarnau; ond nid oes neb a edwyn le ei fedd. Bu iddo saith o blant, a mab iddo ef oedd Mr. David Richards, yr hwn a fu yn weinidog parchus a defnyddiol yn South Petherton, Gwlad yr Haf, am 60 mlynedd. Yr oedd Mr. Richards yn nodedig am ei diriondeb a'i grefyddolder, ac y mae perarogl hyfryd yn nglyn a'i enw gan hen bobl sir Drefaldwyn hyd y dydd hwn; a da genym ddeall fod llawer o wyrion a gor-wyrion iddo etto yn glynu yn ffyddlon wrth Dduw eu tadau.

DANIEL DAVIES. Ganwyd ef yn Hawey Mill, sir Faesyfed, Ebrill 12fed, 1787. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Llanfairmuallt pan yn ieuangc, ac ar gais yr eglwys a'i gweinidog y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yn yr Athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn y Sarnau yn 1810; ac wedi llafurio yno am un-mlynedd-ar-ddeg, symudoddi Woolerton, sir Amwythig, lle y llafuriodd gyda mesur o lwyddiant am dair blynedd a deugain. Collodd ei olygon, fel y bu raid iddo roddi i fyny ei weinidogaeth yn agos i ddwy flynedd cyn ei farwolaeth. Gwr pwyllog, synwyrol, oedd Mr. Davies, cynil iawn ei eiriau, a gofalus ar ei holl ymddygiadau. Ni bu ei gystudd ond byr, ond ei ddiwedd fu tangnefedd. Bu farw yn nhy capel Woolerton, Mawrth 20fed, 1865, yn 78 oed. Claddwyd ef yn mynwent capel Wistanswick, lle arall oedd dan ei ofal mewn cysylltiad a Woolerton.

JOHN REES. Nis gallasom ddyfod o hyd i ond ychydig o hanes y gwr da hwn. Yr oedd yn enedigol o Benybont-ar-Ogwy, a derbyniwyd ef yn aelod yno gan Mr. William Jones. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef yn y Sarnau, Mai 17eg, 1825; ac wedi llafurio yno yn ddiwyd a ffyddlon, ac yn nodedig o gymeradwy, hyd 1832, symudodd i Cholfort, sir Gaerloyw, lle y llafuriodd hyd 1847. Gorfodwyd ef gan sefyllfa ei iechyd i roddi i fyny ei weinidogaeth, a symudodd i'r Amwythig, lle yr oedd perthynasau ei wraig. Wedi rhoddi y weinidogaeth i fyny, pregethai yn achlysurol, ac yr oedd yn dra derbyniol gan bawb; ond yn 1851, rhoddodd angau derfyn ar ei holl lafur. Rhoddir y cymeriad uchaf i Mr. Rees fel Cristion a phregethwr, ac nis gellir yn y Sarnau a'r cylchoedd grybwyll ei enw ond gydag edmygedd a pharch. Gallwn gasglu oddiwrth gofnodion y dyddiau hyny ei fod yn ddyn o ysbryd cyhoeddus; canys yr ydym yn cael ei enw yn fynych yn nglyn â gweithrediadau ei enwad yn ei sir. Fel pregethwr, yr oedd yn fywiog ac effeithiol, ac etto yn amcanu addysgu ac adeiladu; ac yr oedd ei draddodiad rhwydd yn y ddwy iaith yn ei wneyd yn dderbyniol gan Gymry a Saeson.

PENYGROES.

Y mae Penygroes yn nhref ddegwm Llanerchemrys, yn mhlwyf Llansantffraid-yn-Mechain. Cafodd y capel ei enw oddiwrth dŷ bychan oedd yn yml y man y saif. Aelodau yn y Sarnau oeddynt y personau a fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos; ac oblegid hyny, cangen o'r Sarnau yr ystyrid ef. Tua'r flwyddyn 1795, os nad cyn hyny, agorodd Mr. Thomas Moreton, Pentreheilyn, ei dy i'r Annibynwyr i bregethu; ac er holl anfoddlonrwydd ei feistr tir, parhaodd i gadw cartref i'r achos hyd 1803, pan y symudodd i Llwydiarth; ond yno hefyd agorodd ei dy i'r efengyl, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at Penllys a Braichywain. Wedi ymadawiad Mr. Moreton, agorodd un John Badda ei dy ar ochr y Brynmawr i dderbyn y pregethu; a buwyd yn ymgynull yno dros rai blynyddoedd. Adroddir fod Mr. Williams, o'r Wern, unwaith, tua'r flwyddyn 1812, yn pregethu yn nhy John Badda, ac iddo ar ganol y bregeth droi o'r Saesonaeg i'r Gymraeg, gan fod yr hwyl wedi myned yn ormod i'r Saesonaeg ei dal. Preswylid y rhan fwyaf o'r anedd-dai bychain ar ochr y Brynmawr y pryd hwnw gan ddynion crefyddol. Crybwyllasom yn hanes y Sarnau am un John Davies, dilledydd wrth ei alwedig aeth, yn byw yn y Gilfach, ac yn aelod ffyddlon yn y Sarnau. Cynhaliai gyfarfodydd gweddio yn ei dy ar y Sabbothau, o'r flwyddyn 1787 hyd 1791; ond yn y flwyddyn olaf a nodwyd symudodd i Ty'nystryd, Llanerchemrys, a pharhaodd yr un modd yma i gynal cyfarfodydd gweddi yn ei dy am saith mlynedd. Adeiladodd dy bychan iddo ei hun, a galwodd ef Penygroes, a thrwyddedodd ef i bregethu tua 1798, neu y flwyddyn ganlynol. Bron yr un amser dechreuwyd pregethu yn yr Aethnen, lle y preswyliai Mr. Thomas Moreton, mab Mr. Moreton, Pentreheilyn. Yn fuan ar ol dechreu pregethu yn y ddau le, corphorwyd yr ychydig aelodau oedd yma yn eglwys. Yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys oeddynt John Davies, a'i wraig Ann Davies; Thomas Moreton, a'i chwaer Rebecca Moreton; Edward Edwards, slater, ac Elizabeth Edwards ei wraig. Dyma flaenffrwyth eglwys Penygroes. Yn 1801, derbyniwyd pump o aelodau newyddion yn yr Aethnen gan y gweinidog, Mr. David Richards, Sarnau; sef Thomas Davies, y Felin; James Edwards, Tynyrywen; Robert Williams, Crydd; Ann Evans, a Mary Jones, merched John Davies, Penygroes. Coffeir am Meistri Rees Davies; Azariah Shadrach; Hugh Pugh, o'r Brithdir; Jenkin Lewis, Llanfyllin; David Thomas, o Lanfair; John Jones, Afon fechan; J. Lewis, Llanuwchllyn; ac eraill, yn mysg y pregethwyr a ymwelent a'r Acthnen a Phenygroes yn yr adeg dan sylw. Pregethodd y ddau frawd Meistri R. a C. Jones, Llanfyllin, hefyd lawer yn yr ardal, a choffeir yn nodedig am bregeth o eiddo Mr. Robert Jones, yr hon a draddododd efe yn y flwyddyn 1808, oddiar y geiriau, "Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl?" a'r hon a ddilynwyd ag effeithiau grymus. Deuai amryw o aelodau y Sarnau yma i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio yn absenoldeb pregethwr. Yr oedd Edward Morris, gwas i Mr. Owens, Penrhos, yn un o'r cyfryw. Pan glywodd ei feistr fod Edward wedi ymuno a'r capelwyr ffromodd yn aruthr, a dywedodd wrtho am ddewis yr un a fynai—ai y Penrhos, ai y capel. "O y Capel, Syr," meddai Edward, heb ddim petrusder. "Yna, ynte, ymadewch a'm gwasanaeth," meddai ei feistr; ac felly fu. Yn mhen amser, daeth ei hen feistr heibio i Edward, a chafodd ef yn tori cerig ar yr heol. Wel, Edward, pa un yw y goreu, y capel a thori cerig, ai ynte Penrhos heb y capel?" "Y capel a thori cerig o ddigon, Syr," meddai Edward. "Wel," ebe y boneddwr, "dos yn dy ol i dy hen wasanaeth yn Penrhos;" ac felly yr aeth, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Bu Mr. D. Richards yn gweinyddu i'r eglwys yn Aethnen a Phenygroes tra y gallodd. Gwnaeth John Davies ystafell at ei wasanaeth yn gydiol a'i dŷ, fel y gwnaethai y Sunamees hono i Eliseus y prophwyd, yr hwn a dramwyai heibio. Wedi marwolaeth Mr. Richards, daeth Mr. Daniel Davies, ei olynydd yn y Sarnau, i ofalu am y gangen hon hefyd; ac yn fuan ar ol dechreuad gweinidogaeth Mr. Davies y codwyd y capel yma. Sylfaenwyd ef yn y flwyddyn 1811, ond nid agorwyd mo hono yn gyhoeddus hyd Ebrill 21ain, 1813. Pregethwyd yn y boreu gan Mr. James Davies, Aberhafesp; a Mr. J. Lewis, Bala; yn y prydnhawn gan Mr. Lewis, Newport; a Mr. W. Williams, o'r Wern; ac yn yr hwyr gan Mr. E. Davies, a Mr. C. Jones, Dolgellau.[90] Y personau oedd a'r llaw flaenaf yn nghodiad y capel oeddynt Meistri Roberts, Priddbwll; Moreton, Aethnen; T. Davies, Felin; ar hen frawd ffyddlon John Davies. Costiodd y tir 10p., a'r adeilad 190p., ond cafwyd digon o gerig ato o'r tir lle y saif. Llafuriodd Mr. Davies yma nes y symudodd i Woolerton, sir Amwythig. Wedi ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Ridge, ac urddwyd ef Awst 4ydd, 1820. Bu Mr. Ridge yn hynod boblogaidd yn y cymydogaethau hyn, a'i weinidogaeth yn dra llwyddianus. Adfywiwyd y canu yn fawr, oblegid rhoddodd Mr. Ridge i'r rhan hono o wasanaeth y cysegr sylw arbenig. Talwyd rhan fawr o ddyled y capel, ac aed i draul i wneyd eisteddleoedd newyddion ynddo gan fod galwad am danynt; ond yn nghanol ei ddefnyddioldeb symudodd Mr. Ridge i'r Bala, yn 1824. nechreu Ionawr, 1827, cymerodd Mr. John Rees ofal yr eglwys, yr hwn ddwy flynedd cyn hyny oedd wedi ei urddo yn y Sarnau, a bu Mr. Rees yma yn llwyddianus am chwe' blynedd, nes y symudodd i Loegr. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Rees, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. John Williams, Ffestiniog, (Llansilin erbyn hyn), a bu Mr. Williams yn gweinidogaethu yma ac yn Llansilin hyd nes yr ymfudodd i America, yn y flwyddyn 1840. Wedi ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Howes, yr hwn a urddasid ychydig cyn hyny yn Llansantffraid, a bu yma hyd nes y symudodd i Fachynlleth, yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1840. Yn nechreu y flwyddyn 1842, derbyniodd Mr. Hugh James, Brithdir, alwad gan yr eglwys hon, a'r eglwysi yn Llansantffraid a Llansilin, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yn mis Mai y flwyddyn hono; ac er hyny hyd yr awr hon y mae wedi llafurio yma gyda pharch a chymeradwyaeth mawr. Adgyweiriwyd y capel yn 1845, trwy draul o 30p., ond erbyn 1858 barnwyd y dylesid tynu yr hen dŷ i lawr, ac adeiladu un gwell a helaethach, yr hyn a wnaed trwy draul o 180p., heb gyfrif y llafur a roddwyd yn rhad; ac y mae yr holl ddyled wedi ei thalu. Nid ydym yn cael fod ond dau bregethwr wedi codi yma, sef Edward Davies, yr hwn a ddaw dan ein sylw yn nglyn a Smyrna; a Thomas Morgan sydd yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Nghroesoswallt. Mae yma lawer o bersonau ffyddlawn a chywir wedi bod yn nglyn a'r achos heblaw y rhai y coffawyd am danynt eisioes; ac er nas gallwn ni gofnodi eu henwau yma, y mae eu cymeriadau yn sail dda i gasglu fod eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd.

LLANSANTFFRAID.

Pa mor bell yr effeithiodd gweinidogaeth nerthol pregethwyr y cyfnod cyntaf ar Lansantffraid-yn-Mechain, nid oes genym un wybodaeth. Os dygwyd rhai o'r trigolion dan ddylanwad yr efengyl, nid oes yr un prawf o hyny wedi ei adael ar gof a chadw i ni. Cawn fod rhai yn mhlwyf Llanfechain yn glynu wrth yr Arglwydd. Cyfarfyddent yn nhai Arthur Chidlaw a Richard Trollus, ac yr oeddynt o 50 i 60 o rifedi. Yr ydym wedi cael enw Arthur Chidlaw eisioes yn un o'r rhai a adeiladasant gapel Llanfyllin; ac yr ydym yn cael enw Richard Trellus yn mysg y rhai a garcharwyd yn y Trallwm o achos enw yr Arglwydd Iesu. Nid oes gan yr Annibynwyr yr un achos yn Llanfechain yn awr, ac nid ydym yn cael fod un cynyg wedi ei wneyd ganddynt i bregethu yma, er pan rwystrwyd Mr. Robert Jones, Llanfyllin, i bregethu yn yr awyr agored gerllaw Pontydreflan.

Yn 1805, daeth Miss Mary Ann Jones, i Lansantffraid, i gadw siop, mewn tŷ a adeiladasid iddi. Yr oedd hi er's mwy na deng mlynedd cyn ei dyfodiad yma yn aelod yn Llanfyllin, ac wedi symud yma ymunodd a'r cyfeillion a gyfarfyddent yn Aethnen a Phenygroes; ond mynodd hefyd drwyddedu ei thŷ newydd yn Llansantffraid yn lle i bregethu; a phregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan ei brawd, Mr. Robert Jones, Llanfyllin. Parhawyd i gynal moddion crefyddol yn y siop newydd am flynyddau, a phregethid yma fynychaf gan weinidog Penygroes, dan ofal yr hwn yn benaf yr oedd y lle. Bu Miss Jones yn gefn mawr i'r achos am flynyddau, ac wedi iddi briodi a Mr. Richard Tibbott, parhaodd y ddau yn eu gofal am achos y Gwaredwr yma hyd nes y symudasant i Lanfyllin. yn 1819. Cymerodd Mr. David Jones, brawd Mrs. Tibbott, y siop ganddynt ar eu symudiad i Lanfyllin; a chymaint oedd pryder y chwaer dduwiol am yr achos, fel y mynai rwymo ei brawd trwy gytundeb i gadw cartref iddo. Ond ni fynai Mr. David Jones ei rwymo felly, ac nid oedd achos chwaith, canys yr oedd ei galon yntau yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd, fel y cadwyd y pregethu yn rheolaidd fel o'r blaen. Gwnaed llawer cynyg am gael tir i adeiladu capel, ond yn aflwyddianus, am fod yr holl dirfeddianwyr yn dra gelynol i Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr. Yn 1826, prynodd Mr. Jones faes gerllaw y Dreflan, a thalodd am dano lawer mwy na'i werth—oblegid fod yno eraill yn cynyg yn ei erbyn yn yr arwerthiant a hyny yn unig er mwyn cael lle i adeiladu capel arno. Rhoddodd ddarn o hono yn rhad i godi y capel arno, a bu amaethwyr y gymydogaeth yn garedig i gludo y defnyddiau; ac agorwyd ef Hydref 9fed a'r 10fed, 1827. Pregethwyd y noson gyntaf gan Meistri J. Ridge, Bala; a J. Roberts, Llanbrynmair. Dranoeth, am 10, gan Meistri J. Roberts; a J. Pearce, Wrecsam. Am 2, gan Meistri T. W. Jenkyn, Croesoswallt; a J. Jones, Main. Am 6, gan Meistri I. Harris, Wyddgrug; G. Ryan, Trallwm; a J. Griffiths, Llandegle. Cymerodd Meistri C. Jones, Llanfyllin; ac E. Davies, hefyd ran yn y gwaith. Felly symudwyd yr arch o dŷ Mr. Jones, Siop, lle y buasai am 22 mlynedd, i'w thrigfa sefydlog yn Bethesda. Bu Llansantffraid mewn undeb a Phenygroes am dymor wedi codi y capel; ac er y byddai pregethu rheolaidd a chymundeb achlysurol yn y lle blaenaf, nid oedd etto eglwys Annibynol wedi ei ffurfio. Mai 8fed, 1829, y cynhaliwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf yn y capel newydd, pryd y derbyniwyd pedwar o aelodau newyddion i gymundeb. Dyma y rhai cyntaf a dderbyniwyd i gymundeb ar ol pedair—blynedd-ar-hugain o lafurio a phregethu yn y pentref gan wahanol weinidogion yr efengyl! Dim ond PEDWAR fel ffrwyth llafur PEDAIR BLYNEDD-AR-HUGAIN! A'r hyn sydd yn hynod ydyw, gwrthgiliodd y pedwar—llafurio yn galed am bedair-blynedd-ar-hugain cyn gweled blodeu, ac wedi eu gweled, y rhai hyny yn gwywo cyn dwyn ffrwyth."

Yn 1832, ymadawodd Llansantffraid oddiwrth Penygroes, oblegid methu cydweled yn newisiad gweinidog; a ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol gan Mr. David Price, Penybontfawr, yr hwn hefyd a weinyddodd Swper yr Arglwydd iddynt. Nid oeddynt ond 11 mewn rhifedi. Pregethid iddynt o hyny allan gan weinidogion a phregethwyr cylchynol, ond yn benaf gan Mr. Price, Penybont; ac yn Rhagfyr, 1834, rhoddwyd galwad i Mr. Price i fod yn weinidog i'r eglwys fechan, wedi ei harwyddo gan 15 o bersonau, sef y cwbl oedd ar y pryd yn aelodau ynddi. Cynhaliwyd cyfarfod sefydliad Mr. Price yma yn hynod ddirodres. Yr oedd Mr. Williams, o'r Wern yn dygwydd dyfod heibio ar noson o'r wythnos; a chymerwyd mantais ar ei ddyfodiad i sefydlu y gweinidog newydd. Eglurodd Mr. Williams natur eglwys, a'i hawli ddewis ei gweinidog, yna gofynodd arwydd cyhoeddus y gynnulleidfa o'u dewisiad o Mr. Price, ac arwyddodd Mr. Price ei gydsyniad mewn anerchiad priodol; yna anerchodd Mr. Williams y gweinidog, yr eglwys, a'r gynnulleidfa, a therfynodd trwy weddi. Chwanegwyd amryw at yr eglwys yn ystod gweinidogaeth Mr. Price, a lluosogodd y gynnulleidfa i raddau mawr; ond o herwydd pellder ffordd ac amledd ei ofalon, rhoddodd yr eglwys i fyny yn niwedd 1838. Yn nechreu 1839, rhoddwyd galwad i Mr. John Howes, yr hwn a ddygasid i fyny gyda'r Wesleyaid, ond a oedd y pryd hwnw yn aelod yn Mangor, yn yr eglwys dan ofal Dr. Arthur Jones, ac urddwyd ef Mai 14eg. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. J. Williams, Llansilin. Dyrchafwyd yr urdd—weddi gan Mr. James Davies, Llanfair. Pregethodd Dr. Arthur Jones, Bangor, i'r gweinidog; a Mr. D. Price, Penybontfawr, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri C. Jones, Llanfyllin; J. Morris, Main; T. Griffiths, Rhydlydan; J. Jones, Preshenlle; E. Wynne, Llanrhaiadr; T. Richards; ac E. Jones, (Ieuan Gwynedd), Penybontfawr. Llafuriodd Mr. Howes yma gyda mesur o lwyddiant hyd Hydref, 1840, pryd y symudodd i Salem, Machynlleth. Yn Mawrth, 1842, rhoddodd yr eglwys yma—mewn cysylltiad a'r eglwysi yn Llansilin a Phenygroes—alwad i Mr. Hugh James, o'r Brithdir, yr hwn a urddasid yn weinidog yno ac yn Rhydymain dair blynedd cyn hyny; a dechreuodd Mr. James ei weinidogaeth yma yn Mai y flwyddyn hono; ac wedi cael nerth gan Dduw, y mae yn aros hyd yr awr hon. Tri-a-deugain oedd rhifedi yr aelodau a roddasant alwad i Mr. James, nawmlynedd-ar-hugain yn ol, ac fel y gallesid disgwyl, y mae y rhan fwyaf o honynt wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Er na bu yr eglwys hon erioed yn lluosog, y mae wedi bod yn weithgar a haelionus. Costiodd y capel cyntaf yn 1827—153p. 17s. Gwnaed adgyweiriadau yn 1837, a gostiodd 29p. 13s. 8c. Yn 1844, helaethwyd a prydferthwyd ef trwy draul o 215p., fel yr oedd yn un o'r capeli harddaf a ellid ei weled; ond trwy gydymdrech yr eglwys a'i gweinidog, ac ychydig o help gan gyfeillion oddi allan, talwyd yr holl ddyled; ac yn ddiweddar codwyd ysgoldy cyfleus yn nglyn a'r capel at gadw ysgol ddyddiol. Yn mysg yr un-ar-ddeg oedd yn gwneyd yr eglwys i fyny ar ei chorpholiad, cawn enw Edward Bowen, am yr hwn y dywed y diweddar Mr. D. Jones, y ffaith darawiadol a ganlyn. Teimlai Edward Bowen, pan yn ieuangc, yn erlidgar iawn ei ysbryd tuag at yr Ymneillduwyr, a thuag at Mr. J. Griffiths, Llanfyllin—Caernarfon wedi hyny yn arbenig. Ar un Sabboth, pan oedd Mr. Griffith yn myned i'r Sarnau, penderfynodd Edward Bowen ymosod arno, a safodd ar bentwr o gerig yn ochr y ffordd, gan benderfynu ei labyddio pan ddeuai heibio. Yn fuan dyma Mr. Griffith yn dyfod, a gwelodd Edward o draw, ac amheuodd ei amcan, ac wrth nesau ato gwnaeth fow boneddigaidd. Tarawodd hyn yn effeithiol ar Edward, a meddyliodd fod yn rhaid fod Mr. Griffith yn rhyw un allan o'r ffordd gyffredin, a gadawodd iddo fyned heibio heb gynyg gwneyd niwed iddo. Yr oedd Edward Bowen y pryd hwnw yn hongyn llanc ugain oed, ac o hyny i'w fedd bu a wnelai a'r grefydd yr a erlidiasai. Er nad oedd yr eglwys yma ond bechan, bu ynddi gryn nifer o ffyddloniaid, o ba rai y mae amryw wedi huno, ond y mae etto rai yn aros, Nis gallwn eu crybwyll yma, ond ni bydd yn dramgwydd i neb i ni enwi teulu y Siop, y rhai er dechreuad yr achos a fuont ei brif gynhalwyr. Mam yn Israel oedd Mrs. Jones, tirion ac ymgeleddgar, ac o foreu ei hoes hyd derfyn ei dyddiau, bu yn ffyddlon yn holl wasanaeth Tŷ yr Arglwydd. Codwyd dau i bregethu yma, David Jones; ac Edward Jones, yr hwn a aeth oddiyma i Lanuwchllyn.

David Jones. Ganwyd ef yn Llanfyllin, Rhagfyr 2il, 1797. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Llanfyllin, pan yn 14 oed. Priododd yn Tachwedd, 1817, à Miss Elizabeth Griffiths, merch i amaethwr cyfrifol o blwyf Llansantffraid. Symudodd i fyw i Lansantffraid, fel y gwelsom, yn 1819; ac aelododd yn Mhenygroes, a'r flwyddyn ganlynol dewiswyd ef yn ddiacon, a gwasanaethodd yn y swydd yno am ddeuddeng mlynedd, ac wedi hyny yn Llansantffraid ar ol corpholi yr eglwys yma. Yr oedd Mr. Jones yn ddeallus fel gwladwr, ac yn meddu cymhwysderau nodedig at fod yn ddefnyddiol yn yr Ysgol Sabbothol, a chyda holl ranau crefydd. Ond yr hyn a osododd arbenigrwydd arno oedd, y rhan amlwg a chyhoeddus a gymerodd gyda Dirwest, ar gychwyniad y diwygiad hwnw yn Ngogledd Cymru. Yr oedd Mr. Jones yn Fragwr yn gystal ag yn Siopwr, ac yn gwneyd cryn elw o'r fasnach. Nid oedd neb y pryd hwnw yn edrych ar y fasnach hono yn waeth na rhyw fasnach arall; ond yn 1836, Jones ei fod yn dal cysylltiad a masnach oedd yn dibynu ar feddwdod y gyda'r goleuni a daflwyd gan y Gymdeithas Ddirwestol, teimlodd Mr. Jones ei fod yn dal cysylltiad a masnach oedd yn dibynu ar feddwdod y yn 1836, wlad, ac er yr holl elw a ddygai iddo, penderfynodd wneyd aberth o'r cwbl, gan daflu ei holl enaid o blaid y gymdeithas y gwelai y fath gymhwysder ynddi at angen y wlad. Arwyddodd yr ardystiad—cododd Ddirwest—ty ar adfail yr hen fragdy, a pharhaodd hyd ei fedd yn bleidiwr gwresog i lwyr ymataliad. Teithiodd lawer i gyfarfodydd, gwyliau, a chymanfaoedd dirwestol; ac nid ystyrid y byddai yr un o honynt yn llawn heb "JONES LLANSANTFFRAID " ynddynt. Tynodd arno ei hun ŵg ei hen gyfeillion—cefnent ar ei fasnachdy, ac anfonai y cwsmeriaid goreu a feddai ato am eu biliau, gan na fyddai dim a fynent mwy ag ef. Fel y gallesid disgwyl, yr oedd y pethau hyn yn effeithio arno; ac un noson pan oedd yn myned i'r capel, a'i feddwl yn llawn trallod, dywedodd wrth un o'i ferched bach oedd yn myned yn ei law, "Wel, ai tybed i mi wneuthur peth o'i le? y mae pawb yn troi yn ein herbyn.' Ond edrychodd ei ferch yn ei wyneb, a dywedodd, "O naddo Os yw Duw trosom pwy a all fod i'n herbyn?" Teimlodd y fath rym gyda'r gair fel na phetrusodd ei feddwl mwy. Ychydig cyn marw dywedodd wrth Mr. James, Llansantffraid, "Nid yw yn edifar genyf mewn un modd i mi wneyd yr hyn a wnaethum er pleidio Dirwest; yr wyf yn credu i mi wneyd yn fy lle. Pe cawn eto ail ddechreu, gwnawn yr un peth ag a wnaethum drosodd drachefn." Wedi dechreu areithio ar Ddirwest gloywodd ei ddawn, a daeth ei dalentau yn fwy i'r golwg; ac anogwyd ef gan ei gyfeillion crefyddol i ddechreu pregethu. Cydsyniodd o'r diwedd a'u cais, a phregethodd ei bregeth gyntaf yn Llangynog, Rhagfyr 2il, 1838, sef ei ddydd genedigaeth, yn 41 oed. Ei destyn ydoedd Ioan xiv. 9, "A ydwyf cyhyd o amser gyda chwi ac nid adnabuost fi, Phillip?" a pharhaodd i bregethu gyda derbyniad a chymeradwyaeth mawr tra y daliodd ei iechyd. Pregethai yn fywiog a thanllyd, ac yn aml gyda theimladau dwysion. Nid amcanai at bethau mawrion a dyfnion, ond byddai bob amser yn syml ac ymarferol. Byddai yn dra sicr o gael gafael ar feddwl ei destyn, yr hwn a esboniai yn fyr ac yn eglur. Byddai ei raniadau yn naturiol, ei sylwadau yn darawiadol a goleu, a'i gymhwysiadau yn ddifrifol ac i'r pwrpas. Yr oedd yn ffraethlym ei ddawn, ac yn nodedig am adrodd ryw hanesyn yn effeithiol. Ond byr fu ei dymor. Cafodd godwm oddiar ei geffyl wrth fyned i gyfarfod yn y Trallwm yn 1846, ac ni wellhaodd oddiwrth effeithiau y codwm, a'r dychryn a gafodd. Yr oedd wedi colli y rhan fwyaf o'i wallt, ac am yr ychydig oedd yn aros yr oedd cyn wyned a'r llin, a'i ysgwyddau llydain yn culhau, a'i war yn graddol grymu tua'r ddaear. Ni phregethodd ar ol nos Sabboth, Tachwedd 8fed, 1846; ac yn Llanrhaiadr y pregethodd ddiweddaf. Yn Ngwanwyn 1848, gwaethygodd yn fawr, a chyfyngwyd ef i'w dŷ. Dyoddefodd ei gystudd yn amyneddgar, a mwynhaodd yn helaeth o ddiddanwch yr Efengyl. Pan yn yr afon troai ei briod ymaith gan ddyweyd, heb feddwl ei fod ef yn sylwi, "Wel, wel, nid oes gan neb ddim help i wneyd iddo yn awr." Ond cipiodd y gair, ac a llais gwan bloesg dywedai, "Oes, y mae Iesu etto." Bu farw am ddau o'r gloch Sabboth, Awst 6ed, 1848, yn 50 oed. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol, yn nghapel Bethesda, yn ol ei ddymuniad, o dan y bwrdd wrth ba un yr arferai gofio angau y groes.[91] Heddwch i'w weddillion marwol; ac na phalled i "David Jones, Llansantffraid," mwy nag i Jonadab mab Rechab, ŵr i sefyll gerbron Duw yn dragywydd.

LLANSILIN.

Mae siroedd Maldwyn, Dinbych, a'r Amwythig yn cydgyfarfod yma; ond y mae eglwys Annibynol y lle wedi bod o'r dechreuad yn nglyn â chyfundeb sir Drefaldwyn. Tua'r flwyddyn 1807, y mae genym yr hanes cyntaf am ddechreuad pregethu yma gan yr Annibynwyr. Yn nhy Hugh Jones, Ty'nllan y pregethwyd gyntaf, a'r tebygolrwydd yw mai Mr. D. Richards, Sarnau, oedd y pregethwr. Miriam, gwraig Ty'nllan, oedd fwyaf awyddus am groesawu y pregethwyr. Symudodd y teulu o Ty'nllan i le o'r enw Workhouse, a llwyddodd Miriam i gael gan ei gwr ganiatau pregethu yno drachefn. Un tro, yr oedd Mr. Robert Roberts, Llanuwchllyn, yma yn pregethu, a'r gynnulleidfa yn aflonydd a therfysglyd, o'r diwedd dywedodd, "Byddwch ddistaw, da gyfeillion, gael i mi gael dyweyd gair wrthych am y ffordd i gadw enaid rhag angeu, bydd llon'd fy ngenau i o bridd yn fuan." Cafodd lonydd ar hyny. Bu cyfeillachau crefyddol yn cael eu cynal yn y Priddbwll; a thua'r flwyddyn 1810, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol yn Melinyglasgoed, ac yr oedd Edward Davies, y Felin; Robert Roberts, o'r Priddbwllmawr; a Richard Hughes, Hafodty, yn mysg yr athrawon cyntaf. Symudwyd yr Ysgol yn mhen tua dwy flynedd i Pyllaumeirch; ac wedi bod yno am dymor byr, symudwyd hi drachefn i Wern Llyffeint. Yn y flwyddyn 1815, prynodd Edward Williams, Llansilin; R. Roberts; ac R Hughes, dai a gardd, gan un Dafydd Jones, Crydd, yr hwn a breswyliai yn un o'r tai, am 220p. Gelwid y tai yr "Henstent." Ni wyddai Dafydd Jones wrth werthu y tai a'r ardd y bwriedid codi capel arno, a phan ddeallodd hyny ffromodd yn aruthr, ac nid gweddaidd iawn oedd yr iaith a ddefnyddiai; ac nid llawer gwell ei foes a'i iaith oedd yr offeiriad hefyd o'i bulpud. Ond yr oedd yn rhy ddiweddar, yr oedd y tir wedi ei sicrhau. Trwy anhawsderau mawrion yr aed yn mlaen—gomeddwyd hwy o gerig at adeiladu o un man yn y plwyf; fel y bu raid cario priddfeini o ymyl Croesoswallt ato. Y fath drafferth a gafodd Ymneillduaeth i gael lle i roddi ei throed i lawr mewn llawer plwyf yn Nghymru. Yn 1816, gwerthwyd y capel a'r tai i saith o ymddiriedolwyr, am 340p., ac o'r adeg yma y gellir dyddio dechreuad yr achos yn Llansilin. Gweinidogion Penygroes a ofalent am yr achos yn benaf hyd ymadawiad Mr. Ridge, yn 1824; ond am rai blynyddau ar ol hyny ymddibynai ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr dyeithr. Yn 1831, rhoddwyd galwad i Mr. John Williams, Ffestiniog; a chynhaliwyd cyfarfod i'w sefydlu, Tachwedd 3ydd, a'r 4ydd, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Pugh, Llandrillo; D. Price, Penybontfawr; E. Davies, Smyrna; T. W. Jenkyn, Croesoswallt; a W. Williams, o'r Wern. Isel oedd yr achos ar ddyfodiad Mr. Williams, ond yn fuan lluosogodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd rhai at yr eglwys. Penderfynwyd cael capel newydd, a chodwyd capel da, yn mesur 33 troedfedd wrth 27 troedfedd; ac aeth y draul yn 180p., ac agorwyd ef Rhagfyr 23ain a'r 24ain 1832. Llafuriodd Mr. Williams yma nes y symudodd i America, yn nechreu 1840. Yr un flwyddyn rhoddwyd galwad i Mr. Howes, yr hwn oedd ychydig cyn hyny wedi ei urddo yn Llansantffraid, a bu yma hyd ddiwedd 1840, pan y symudodd i Fachynlleth. Yn Mai, 1842, daeth Mr. H. James yma i weinidogaethu mewn cysylltiad a Llansantffraid a Phenygroes, a than ei ofal bugeiliol ef y lle yn parhau. Er fod dyled drom ar y lle pan ymadawodd Mr. Williams i America, etto yn nhymor gweinidogaeth Mr. James talwyd y cwbl. Yn niwedd y flwyddyn 1870, adgyweiriwyd a helaethwyd y capel trwy draul o fwy na 170p., ac y mae mwy na'r haner eisioes wedi ei dalu.

Codwyd i bregethu yma Richard Davies, yr hwn sydd yn aros yn bregethwr cymeradwy yn y lle; a Thomas Griffiths, yr hwn a urddwyd yn Rhydlydan, yn 1838, ac sydd yn awr yn Wigan.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN WILLIAMS. Ganwyd ef Mawrth 17eg, 1791, yn mhlwyf Llandilofawr, sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghapel Isaac, gan Mr. Daniel Jones, Crygybar, yn 1810. Dechreuodd bregethu yn 1815, ac yn 1818 aeth i'r ysgol i Neuaddlwyd, lle yr arosodd fwy na dwy flynedd. Cafodd alwad o Bethania, Ffestiniog, ac urddwyd ef yno Mai 3lain, 1821. Llafuriodd yno yn ddiwyd am 10 mlynedd. Casglodd tra yno gan' gini yn Llundain at dalu dyled capel Bethania, a gwelodd ef yn rhydd o ddyled, ac wedi ei helaethu. Symudodd i Lansilin yn nechreu 1831, a'r flwyddyn ganlynol cymerodd ofal Penygroes hefyd; a bu yno hyd ddechreu 1840, pan yr ymfudodd i America. Sefydlodd yno yn gyntaf yn swydd Indiana, yn agos i Ebensburgh, Pensylvania, lle yr arhosodd am wyth mlynedd. Oddiyno symudodd i Palmyra, Ohio, lle y llafuriodd am naw mlynedd; ac oddiyno drachefn i Harrison, yn yr un dalaeth, lle y bu am y chwech neu y saith mlynedd olaf o'i oes. Claddodd ei wraig yn 1863, ac yn fuan wedi hyny symudodd at ei ferch yn agos i Newark; ac yno y bu farw, Hydref 6ed, 1865.[92]

Yr oedd Mr. Williams yn ddyn da, ond o duedd gwynfanus, ac yn dueddol i edrych ar yr ochr dywyll i bob peth. Gwedd felly fyddai ar ei bregethau, ond yr oedd ei lais yn dyner a thoddedig. Profodd ymfudo yn fanteisiol iddo yn ei amgylchiadau bydol; a bu yn llawn mor ddefnyddiol yno, ag y gallesid disgwyl iddo fod yn y wlad hon. Bu yn pregethu yr efengyl am fwy na haner can' mlynedd, a disgynodd i'r bedd heb golli ei goron.

SMYRNA.

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanblodwel. Mae yr ardal yn myned dan wahanol enwau, ond Smyrna y gelwir y capel. Ymddengys fod pregethu achlysurol wedi bod yn y gymydogaeth yma gan yr Annibynwyr er y flwyddyn 1818. Bu pregethu yn nhy un John Morris, y White Horse, ac wedi hyny yn Tydraw, ac ar ol hyny yn nhy Edward Rees. Yn mhlith y pregethwyr cyntaf a ddeuent yma, yr oedd Meistri E. Davies, Cutiau; Lewis Pugh; Rowland Roberts, o'r Bala; a'r myfyrwyr oedd y pryd hwnw yn yr athrofa yn Llanfyllin. Aelodau yn Mhenygroes oedd cyfeillion oedd yn byw yn yr ardal yma; ac yn 1825, ar ol i Mr. J. Ridge ymadael a'r ardal a myned i'r Bala, penderfynasant ymffurfio yn eglwys An- nibynol yn nhy Edward Rees; a chymerodd Mr. Edward Davies, Cutiau, yr hwn oedd erbyn hyn wedi dyfod i fyw i Dreflach, eu gofal. Nid oedd nifer yr eglwys ar ei ffurfiad ond pedwar-ar-ddeg; ond glynasant yn ffyddlon wrth yr achos er lleied oeddynt. Pregethid yn rheolaidd bob nos Sabboth yn

Nantmawr hyd nes y codwyd capel Smyrna, yn 1830. Codwyd ef gan Mr. William Tannat, y Graig, gan yr hwn yr oedd prydles ar y fan, a gosodwyd ef i'r eglwys dan ardreth o 2p. yn y flwyddyn; ond yr eglwys yn y lle a aeth i'r draul o'i drefnu oddifewn. Agorwyd ef Ebrill 24ain, 1831, trwy i Mr. E. Davies, gweinidog y lle, bregethu ynddo am y waith gyntaf. Y Sabboth canlynol dechreuwyd Ysgol Sabbothol ynddo; ac ar y 9fed a'r 10fed o Fehefin, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol mwy cyhoeddus, pryd y pregethodd Meistri J. Morris, Llanfyllin; M. Hughes, Llanwddyn; C. Jones, Llanfyllin; J. Rees, Sarnau; W. Morris, Llanfyllin; R. Jones, Llanfyllin; D. Price, Penybontfawr; a J. Griffiths, Blodwel. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ddiwyd nes y tarawyd ef gan ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i gyflawni ei weinidogaeth. Bu Mr. J. Williams, Llansilin yn ei gynorthwyo dros dymor trwy ddyfod ymai gadw cymundeb; ond pan urddwyd Mr. J. Howes yn Llansantffraid, yn Mai, 1839, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a pharhaodd yn weinidog iddi hyd Mehefin y flwyddyn ganlynol. Yn niwedd yr haf hwnw, daeth Mr. Robert Thomas, o Lanrwst—ond a fuasai am dymor yn yr Ysgol yn Marton—yma, ac urddwyd ef yn Nghroesoswallt, Tachwedd 26ain, 1840, i fod yn weinidog i'r eglwys yno, a'r eglwysi yn Smyrna a Bethel. Parhaodd Mr. Thomas yn weinidog yma am yn agos i ddeunaw mlynedd, hyd Mai, 1858, pan y symudodd i'r Rhyl, sir Fflint. Yn nechreu Ionawr, 1863, daeth Mr. James Bowen, yma, yr hwn a urddasid yn weinidog yn Llansanan, sir Ddinbych; ac efe yw y gweinidog presenol. Mae y lle ar y goror rhwng Cymru a Lloegr, ac y mae yr iaith Gymraeg yn colli tir yma yn gyflym. Mae yr eglwys wedi ymuno eisioes a chyfundeb Seisnig sir Amwythig; ac ofer fyddai disgwyl gwneyd daioni i'r genedl sydd yn codi, ond trwy bregethu iddynt yn yr iaith a ddeallir ganddynt.

Mae Mr. Bowen a'r eglwys yn llwyr fwriadu codi capel newydd, ac wedi sicrhau darn o dir at hyny; ac y mae ganddynt yn barod swm da o arian wedi ei ddiogelu i'r perwyl. Maent yn ymddangos yn teimlo pwysigrwydd y sefyllfa drawsnewidiol y maent ynddi, ac yn gwneyd eu goreu i ddarparu ar gyfer hyny.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

EDWARD DAVIES. Ganwyd ef yn Melin Penybont, plwyf Llanblodwel, sir Amwythig, yn y flwyddyn 1786. Eglwyswyr oedd ei rieni, fel y cyfrifid y rhan fwyaf yn y dyddiau hyny. Ymunodd a'r achos yn Mhenygroes yn fuan wedi ei gychwyniad. Yr oedd ei frawd, Thomas Davies, wedi ei dderbyn ychydig o'i flaen ef. Dechreuodd bregethu yn 1808, pan yn ddwy-ar-hugain oed; a phregethodd lawer, yn nhy John Davies, Penygroes, ac yn yr Aethnen, dau dy oedd wedi eu trwyddedu i bregethu. Pregethodd lawer yn Llansilin a Phenygroes, a'r amgylchoedd, yn mhell cyn fod capeli wedi eu codi yn un o'r lleoedd hyn. In 1811, priododd â Miss Jane Jones, Allt Tafolog, yn agos i Ddinasmawddwy; ac ymddengys iddo fod yno yn byw dros ysbaid, oblegid Edward Davies, yr Allt, y gelwid ef. Urddwyd ef yn weinidog yn y Cutiau, a Llanelltyd, yn 1818, a llafuriodd yma am rai blynyddau, hyd 1822, pan y symudodd i Coed Treflach, gerllaw Croesoswallt, i gadw siop, ac i drin tyddyn bychan yno; a dechreuodd yn ddioed bregethu yn Nantmawr, ac yn y Sychtyn, a ffurfiwyd yno eglwys, ac o dan ei ofal ef y bu hyd nes yr analluogwyd ef gan ergyd o'r parlys i gyflawni ei weinidogaeth. Bu fyw rai blynyddoedd ar ol cael yr ergyd; ond ni bu yn alluog i bregethu nac i fyned ond ychydig oddiwrth ei dŷ; a bu farw Tachwedd 14eg, 1843, yn 57 oed; a chladdwyd ef yn mynwent Llanblodwel, lle y gorweddai ei wraig gyntaf, yr hon a fu farw Mawrth 29ain, 1827, a'i rieni, a'i frawd, Thomas Davies, o'r Felin. Dyn bychan, crwn, a thrwyn byr, oedd Mr. Davies. Yr oedd yn barchus a chymeradwy fel pregethwr, er nad oedd dim yn nodedig ynddo i beri ei fod yn enwog a phoblogaidd. Llafuriodd yn ddiwyd tra y gallodd, a hyny yn ngwyneb llawer o ddigalondid, ond gwelodd yr achos wedi sirioli yn fawr cyn ei farwolaeth.

BETHEL.

Mae hanes Bethel yr un yn ei ddechreuad ag achos Smyrna. Dwy gangen o'r un cyff ydynt. Yn 1837, sicrhawyd darn o dir yr ochr ddwyreiniol i drefddegwm Sychtyn, i godi capel arno. Cafwyd y tir gan Edward Rees, am chwe' phunt a chwe' swllt. Sylfaenwyd y capel yn mis Mehefin, 1838, ac agorwyd ef Tachwedd 5ed a'r 6ed, yn yr un flwyddyn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Morris, Main; J. Jones, Forden; J. Howes, Bangor; S. Davies, Ruabon; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffiths, Blodwel; W. Morris, Llanfyllin, yr hwn a enwodd y capel yn Bethel; a D. Price, Penybontfawr. Costiodd 117p., heblaw llafur rhad yr ardalyddion. Ffurfiwyd eglwys yma yn Mawrth, 1840; cytunwyd ar hyny yn rheolaidd mewn cyfarfod eglwysig yn Smyrna, Mawrth 12 fed, a chorpholwyd yma eglwys gynwysedig o bedwar-ar-ddeg o bersonau. hyny hyd yn awr, y mae Bethel a Smyrna wedi bod dan ofal yr un gweinidogion, ac felly y maent yn bresenol dan ofal Mr. Bowen. Nid yw yr iaith Gymraeg wedi colli llawn cymaint o dir yn ardal Sychtyn ag y mae yn ardal Nantmawr; ond gweithio yn mlaen y mae y Saesonaeg yma hefyd, fel y mae y gwasanaeth yn rhwym o gael ei gario yn mlaen yn y ddwy iaith, neu i'r efengyl golli ei gafael ar yr oes sydd yn codi.


CROESOSWALLT.

Er mai yn sir Amwythig y mae y dref, etto y mae yr achos Cymreig yma o'i gychwyniad wedi bod mewn cysylltiad a chyfundeb sir Drefaldwyn, fel mai yn nglyn a'r sir hon y mae yn fwyaf priodol i ni roddi ei hanes. Yn y flwyddyn 1836, ymneillduodd ychydig gyfeillion oddiwrth y Saeson i ddechreu achos Cymreig; a chymerasant ystafell i'r perwyl gerllaw y White Lion, yn Willow Street. Yr oedd un John Edwards, pregethwr cynorthwyol o'u nifer, ac efe a bregethodd y bregeth gyntaf iddynt, Awst 7fed, 1836; ac ar yr 17eg o Fedi, 1837, ffurfiwyd yno eglwys gan Mr. John Morris, Main, cynwysedig o 15 o aelodau. Mae tri o'r aelodau cyntaf yn aros yn yr eglwys etto, sef Thomas Griffiths; Evan Davies; a Mrs. Askin. Tybiai rhai o'r cyfeillion fod John Edwards a'i lygad ar gael ei ordeinio yma; ac iddo, pan welodd nad oedd gobaith am hyny, gilio yn ol at y Saeson. Bu y gweinidogion a'r pregethwyr cylchynol yn dirion iawn o'r achos yn ei wendid, a deuent yma yn ffyddlon, er mai ychydig a allai yr eglwys roddi o gydnabyddiaeth iddynt. Cymerodd Mr. J. Howes, Llansantffraid, ofal yr eglwys, yn 1839; a chynhaliwyd cyfarfod i'w gydnabod yn weinidog yma, Hydref 10fed a'r 11eg, o'r flwyddyn hono; ond ni bu yma ond hyd Gorphenaf y flwyddyn ganlynol, pan y rhoddodd yr eglwys hon, a Smyrna, a Bethel, i fyny, ac y cymerodd at Lansilin, a Phenygroes, gyda Llansantffraid. Yn nechreu 1840, symudwyd yr achos i ystafell uwchben cegin berthynol i'r Red Lion, gerllaw y Town Hall; a byddai trwst y glanhau yn y gegin odditanodd yn aml yn aflonyddu yr addoliad.

addoliad. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Howes, rhoddodd yr eglwys yma—mewn cysylltiad a Smyrna a Bethelalwad i Mr. Robert Thomas, o Lanrwst, yr hwn a fuasai am dymor dan addysg gyda Mr. Jones, Marton; ac urddwyd ef yn nghapel yr Annibynwyr Saesonaeg, Tachwedd 26ain, 1840. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Morgan, Llanfyllin. Holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Davies, Llangollen. Dyrchafwyd yr urdd—weddi gan Mr. D. Griffiths, Ruabon. Pregethodd Mr. L. Everett, Llanrwst, i'r gweinidog; a Mr. D. Price, Penybontfawr, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Morris, Main; A. Francis, Drefnewydd; T. Griffiths, Rhydlydan; D. Jones, Llansantffraid; J. Thomas, myfyriwr, Marton, (Liverpool yn awr), ac eraill. Nid oedd nifer yr aelodau pan ddechreuodd Mr. Thomas ei weinidogaeth ond 24; a thri swllt a chwe' cheiniog yr wythnos oedd y cwbl a allasai yr eglwys addaw iddo. Cynyddodd yr achos yn gyflym, rhoddwyd i'r gweinidog yn fuan bum' swllt yr wythnos; ac erbyn Rhagfyr, 1842, yr oeddynt mewn sefyllfa i allu rhoddi deg swllt yr wythnos; a threfnwyd i gael dwy bregeth yn y dref bob yn ail Sabboth. Pobl ieuaingc oedd yr aelodau agos oll, ac oblegid hyny nid oedd yma swyddogion wedi eu dewis yn rheolaidd ar ddechreuad gweinidogaeth Mr. Thomas; ond yn 1841, dewiswyd John Askin, ac Edward Roberts, yn ddiaconiaid, ac y maent yn aros hyd yr awr hon; a'u plant yn dilyn llwybrau eu tad

Erbyn 1842, yr oedd yr hen ystafell yn orlawn, a meddyliwyd o ddifrif am gael capel newydd. Gan nad oedd yr aelodau oll ond gweiniaid, daeth Mr. D. Jones, Llansantffraid, yn mlaen i'w cynorthwyo. Prynwyd y tir gan Mr. James Vaughan, yr hwn hefyd a adeiladodd y capel. Costiodd y tir a'r capel 400p. Dyddiad y weithred ydyw Awst 15fed, 1842, a'r ymddiriedolwyr oeddynt Robert Thomas, Croesoswallt; David Price, Rhos; James Davies, Llanfair; John Jones, Penllys; Samuel Roberts, Llanbrynmair; Aaron Francis, Drefnewydd gweinidogion yr efengyl; ac Allen Emerson Evans, Charles Jones, David Jones, John Byner, a John Jones. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo y Sabboth cyn y Pasg, 1843, gan Mr. D. Jones, Llansantffraid, oddiar y geiriau "Na wnewch dy fy nhad I yn dy marchnad;" a'r Sabboth canlynol (Pasg 1843), cynhaliwyd cyfarfod ei agoriad, pan y pregethodd Meistri W. Rees, Dinbych; S. Roberts, Llanbrynmair; D. Price, Rhos; D. Morgan, Llanfyllin; H. James, Llansantffraid; E. Thomas, Llanrwst; D. Jones, Llansantffraid; ac R. Davies, Llansilin. Bu ffyddlondeb mawr yn mysg y cyfeillion i gyfranu a chasglu at y capel newydd, fel erbyn diwedd yr agoriad, yr oedd 74p. wedi dyfod i law, yr hyn—yn nghyd a chymunrodd o 44p. oddiwrth Mr. Davies, tad-yn-nghyfraith Mr. J. Vaughan, Builder—a dynodd y ddyled i lawr dan 300p. Cafwyd cynorthwy o Lanbrynmair, Llansantffraid, a Llansilin, a daeth Mr. S. Roberts i'r dref, a chasglodd 20p. yn mysg y Saeson. Rhifedi yr eglwys ar ei mynediad i'r capel newydd oedd 55 o bobl ieuaingc, symudol gan mwyaf; ond aeth yr achos rhagddo yn siriol am y tair blynedd cyntaf yn y capel newydd. Yn haf 1846, cymerodd camddealltwriaeth le rhwng rhyw bersonau yn yr eglwys; ac o ddiffyg doethineb a phwyll, parodd hyny gryn niwed i'r achos. Ciliodd amryw o'r aelodau, a lleihaodd y gwrandawyr, fel mai llawn gwaith i'r eglwys oedd cynal yr achos a thalu llog y ddyled. Yn y flwyddyn 1850, gwnaed ymdrech i dalu cyfran o'r ddyled, ac aeth Mr. Thomas trwy sir Drefaldwyn i gasglu. Dyma y flwyddyn y daeth Mr. Joseph Evans i'r dref, a bu ei ddyfodiad yn gynorthwy mawr i'r achos; ac o hyny allan ni adawyd llonydd i'r ddyled nes ei llwyr ddileu. Yn nechreu 1857, codwyd cyflog y gweinidog i 15s. yn yr wythnos, a chael dwy bregeth bob Sabboth. Bu Mr. Thomas yma hyd Mai, 1858, pryd y symudodd i Rhyl, ar ol llafurio yma dan wahanol amgylchiadau am 18 mlynedd. Am ychydig fisoedd, ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr dyeithr; ac adfywiwyd yr achos yn fawr. Rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Jones, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, i fod yn weinidog, a dechreuodd ar ei waith y Sabboth cyntaf yn Medi, 1858; ac urddwyd ef ar y 7fed o'r Tachwedd canlynol. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jenkins, Brynmawr. Holwyd y gofyniadau gan Mr. S. Edwards, Machynlleth. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. C. Guion, Aberhonddu. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. R. W. Roberts, Clarach; a siars i'r eglwys gan Mr. J. Saunders, Aberystwyth. Pregethwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri J. Thomas, Ellesmere, a W. Roberts, Penybontfawr. Rhif yr aelodau ar ddyfodiad Mr. Jones oedd 65, ac addawid iddo 52p. y flwyddyn o gyflog, i'w godi i 60p. pan y telid y ddyled. Yn nechreu 1860, torodd diwygiad grymus allan yn yr eglwys pan yr oedd Meistri D. M. Jenkins, (Penmaenmawr); R. Lumley, (Bwlchyffridd); J. Stephens, (Taibach)—myfyrwyr yn athrofa y Bala—yn galw heibio ar eu ffordd i gynal cyfarfod yn Bethel. Cymerodd rhywbeth dyeithr iawn le, ac enynodd y tân trwy yr eglwys. fel yr ychwanegwyd 24 at yr aelodau mewn ychydig fisoedd; ac y mae effeithiau yr ymweliad hwnw yn parhau ar yr eglwys hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn hono, aeth yr eglwys o ddifrif yn nghylch talu y 140p. gweddill o'r ddyled, yr hyn a gwblhawvd trwy gydymroddiad pawb. Rhoddodd Mr. Joseph Evans 20p. 12s.; a Mr. L. Jones, y gweinidog, 12p. 9s. ; a Mr. David Evans, Machynlleth, yr hwn oedd yn aros yma ar y pryd, a roddodd y 5p. olaf ilwyr ddileu dyled yr hen gapel. Erbyn dechreu 1861, yr oedd rhif yr aelodau yn 108; ac nid cynt nag y talwyd dyled yr hen gapel y meddyliwyd am godi capel newydd. Yr oedd rhai yn ofnus, ond dywedodd Mr. Joseph Evans os cytunai yr eglwys i gacl capel newydd teilwng, y deuai ef a 100p. ato; a gwnaeth Mr. Jones, y gweinidog, addewid am yr un faint, a rhoddodd hyny ar unwaith galon yn y bobl i weithio. Tynwyd cynllun o hono gan Mr. Thomas, Glandwr. Cymerwyd ef i'w adeiladu gan Mr. J. Rees, Temperance, gynt; a chostiodd y capel a'r festri, a phob peth o'i gylch, 1015p. 13s. 7c. Mae ynddo eisteddleoedd i 450. Dechreuwyd arno yn haf 1863. Ar ei sylfaeniad, traddodwyd araeth ragorol ar ragoriaeth y drefn gynnulleidfaol, gan Mr. T. Minshull, diacon hynaf y capel Saesonaeg. Tra y bu y capel ar lawr, addolid yn yr Ysgoldy Brytanaidd; ond gan y byddai ar y Saeson eisiau hono bob prydnhawn Sabboth, cedwid yr ysgol yn ystorfa flawd Mr. Joseph Evans, yr hon bob nos Sadwrn a glirid allan i'r perwyl. Agorwyd y capel newydd Mehefin 14eg, 1863, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Ambrose, Porthmadog; S. Edwards, Machynlleth; T. Thomas, Glandwr; a J. Jones, Smethcote. Yr un haf ag yr agorwyd y capel, ymadawodd Mr. Lewis Jones, oblegid sefyllfa ei iechyd yn benaf, wedi bod yma am bum' mlynedd; ac y mae yn awr yn Abergwaun, sir Benfro. Daeth Mr. Evans yn mlaen a'i gan' punt, ac er i Mr. Jones ymadael, daeth yntau a 60p., a thrwy gydymdrech yr eglwys, yr oedd y ddyled erbyn dechreu 1864 wedi ei thynu i lawr i 670p., ac er hyny nid yw yr eglwys wedi gorphwyso, fel erbyn nos Sabboth, Chwefror 12ed, 1871, yr oedd y ddyled wedi ei dwyn i lawr i 140p., a phenderfynwyd dileu y cwbl erbyn dechreu 1872. Erbyn y Sabboth cymundeb cyntaf yn y capel newydd, gwnaeth Mrs. Joseph Evans anrheg o lestri cymundeb hardd at wasanaeth yr eglwys. Yn haf 1868, rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Farr, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o Awstralia, lle y buasai yn weinidog am flynyddau; a dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Medi y flwyddyn hono. Bu yma yn barchus iawn am 18 mis; ac fel arwydd o barch yr eglwys iddo, anrhegwyd ef ar ei ymadawiad a swm o arian, yn nghyda Bibl hardd, ac enwau y pedwar diacon ynddo. Ymadawodd i Mount Stuart, Caerdydd ddechreu Mawrth, 1870; ac er hyny y mae yr eglwys yn amddifad o weinidog. Mae yr eglwys yn awr yn 130 o nifer, a golwg llewyrchus arni—cynnulleidfa dda—ac ysgol Sabbothol nodedig o lafurus. Mae yr eglwys yma yn teimlo ei bod yn ddyledus i luaws o weinidogion am eu caredigrwydd iddi o'r dechreuad; ond nid yn fwy i neb nag i Mr. S. Roberts, Llanbrynmair, a'r diweddar Mr. D. Jones, Llansantffraid, am y cynorthwy effeithiol a roddasant iddi yn ei gwendid dechreuol. Coffeir yn barchus am enw Edward Williams, un o'r aelodau a fu farw yn 1847; ac er nad ydoedd ond dyn cyffredin ei amgylchiadau yr oedd yn uchel ei gyrhaeddiadau, ac yn meddu dawn gweddi nodedig. Gadawodd ar ei ol deulu lluosog, ond gofalodd "tad yr amddifad, a barnwr y gweddwon" am danynt oll.

Codwyd yma ddau bregethwr.

David Williams. Genedigol ydoedd o Lanfihangel. Bu yn egwyddorwas yn Llanfyllin. Daeth i'r dref hon yn 1858, a dechreuodd bregethu yn adeg y diwygiad, yn 1860. Bwriadodd unwaith fyned i'r Athrofa, ond o herwydd rhyw resymau rhoddodd y bwriad hwnw i fyny, ac ail ymaflodd yn ei alwedigaeth. Llwyddodd yn fawr yn y byd, heb golli ei gymeriad fel crefyddwr; ennillodd ei ddidwylledd a'i foneddigeiddrwydd iddo air da gan bawb. Byddai yn pregethu agos bob Sabboth, ond fynychaf gyda'r Šaeson. Yn 1868 ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac wedi hir gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel, bu farw Chwefror 2il, 1870, yn 30 oed, a chladdwyd ef yn y Cemetery lle yr oedd ei unig blentyn wedi ei gladdu ychydig fisoedd cyn hyny; a'r lle yn mhen ychydig fisoedd y dilynwyd ef gan ei anwyl briod, yn 26 oed, fel y mae teulu y Waterloo House yn cydwywo!

Richard O. Evans. Dechreuodd bregethu yn 1861. Bu yn Athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Glynhafren, ac y mae yn awr yn Sammah.

Bu John Edwards, am yr hwn y crybwyllasom, yn aelod yma am ychydig yn nechreuad yr achos. John Newman Richards, hefyd fu yma am dymor yn aelod, ond ymfudodd i'r America, ac yn Cincinnati y dechreuodd bregethu yn 1859. Bu yn Athrofa Marrietta, Ohio, ond dychwelodd i'w wlad, ac wedi treulio ei amser yn Athrofa Aberhonddu, urddwyd ef yn weinidog i'r Saeson yn Aberteifi.

Yr ydym yn ddyledus am hanes manwl o'r eglwys yn Nghroesoswallt i Mr. Edward Roberts, un o'r diaconiaid, yr hwn sydd wedi bod yma o gychwyniad yr achos; ac yr ydym wedi rhoddi i mewn fanylion cyflawnach nag a fyddai bosibl i ni, o ddiffyg lle, roddi i'r eglwysi yn gyffredinol, er dangos mor werthfawr yw cofnodion cyflawn o hanes yr eglwysi.

DOMGAY.

Mae y lle hwn ar y goror, yn mhlwyf Llandisilio, ac er fod yr achos yn Saesonaeg, ac wedi ymuno a chyfundeb sir Amwythig, etto y mae bob amser wedi ei gyfrif gyda sir Drefaldwyn. Daliwyd Mr. G. Ryan, Trallwm yma mewn ystorm, fel nas gallasai fyned yn mhellach, a throdd i'r gwesty a elwir y Golden Lion Hotel, yn mhentref Llandisilio. Wedi deall mai gweinidog Ymneillduol ydoedd, amlygodd Mrs. Edwards, gwraig y tŷ, ei gofid iddo, am nad oedd Ymneillduwyr yn y lle; ac y teimlai hyny yn llawer mwy oblegid fod yr offeiriad yn mhell o fod yn efengylaidd ei athrawiaeth, nac yn ddiargyhoedd ei fuchedd. Ymgynghorodd Mr. Ryan a Mr. J. Whitridge, Croesoswallt, ac arweiniodd hyny hwy i'r ardal i bregethu tua'r flwyddyn 1808. Cynhelid y gwasanaeth i ddechreu mewn cotty o eiddo Mr. J. Griffiths, ond oblegid ymosodiad erlidwyr, cynhelid hwy yn nhy Mr. Griffiths; ac oblegid ei fod yn uwch ei sefyllfa na'r rhan fwyaf ni feiddiant aflonyddu arnynt yno. Corpholwyd yma eglwys yn fuan wedi dechreu pregethu; ond ni chodwyd y capel hyd 1823, ar dir a roddwyd gan Mr. Griffiths, Domgay, ac agorwyd ef yn y flwyddyn ganlynol. Bu Mr. Morris, am yr hwn y crybwyllasom yn hanes y Sarnau, yma am dymor byr; ond nid oes genym daim o'i hanes, ond ymddengys iddo farw yn fuan. Pan y cymerodd Mr. Daniel Davies ofal eglwys y Sarnau, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a bu yma nes yr ymadawodd i Woolerton, yn 1821. Ar ei ol ef daeth Mr. James Peregrine yma o Bishop Castle, ond yr oedd wedi bod cyn hyny yn Llanfaches, yn sir Fynwy, fel y crybwyllasom yn hanes yr eglwys hono. Ni bu yma ond am bedair blynedd; er fod eglwys Domgay yn unol am dano, ond nid oedd y Sarnau felly; ac ymfudodd i America tua'r flwyddyn 1825. Yn fuan wedi sefydliad Mr. John Rees y Sarnau

yn 1825, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a bu yma nes yr ymadawodd i Cholfort yn 1833. Yn 1836, cymerodd Mr. J. Griffiths, Pant, ofal yr eglwys, a bu yma hyd 1850. Ar of Mr. Griffiths daeth Mr. William Cynon Davies, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu yma, ac urddwyd ef Gorphenaf 13eg, 1858; a bu yma hyd 1861, pryd y symudodd i Prees. Yn 1864, urddwyd Mr. David Evans, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, yma, ac ymadawodd yn 1866. Daeth Mr. B. J. Harker, y gweinidog persenol, yma yn 1869. Dygwyd ef i fyny yn Nghyfundeb y Wesleyaid Cymanfaol

Codwyd yma ddau bregethwr.

Richard Roberts, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn 1865, a Thomas Edwards, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn 1870. Mae ein cofnodion o'r eglwys hon yn anmherffaith iawn, ond costiodd i ni lawer o drafferth i'w cael fel y maent. Rhoddodd Mr. T. Jenkins, Sarnau, i ni bob help yn ei allu.

MAIN.

Ar ben mynydd y Broniarth, tu cefn i'r Fantmawr, am yr hwn y crybwyllasom yn hanes Llanfyllin, saif anedd-dy bychan o'r enw Llidiartfechan. Nid oes o bellaf fwy na haner milldir rhwng y ddau le. Preswyliai un o'r enw William Hughes yn Llidiartfechan, tua diwedd y ganrif ddiweddaf, ac yn y flwyddyn 1798, os nad yn foreuach, agorodd ei dŷ i dderbyn pregethu, ac i gynal Ysgol Sabbothol. Y rheswm am hyn mae yn debyg ydoedd, am na oddefai John Wynne, Pantmawr, iddynt ddyfod i'w dŷ, ond ar y Sabboth yr oedd yn rhaid iddo, yn ol cytundeb cymeriad ei dir, agor y drws iddynt. Aelod o'r Sarnau, fel y gallwn gasglu, oedd William Hughes, canys cawsom ei enw fel un o dystion bedyddiad plentyn i un o aelodau yr eglwys hono; ond yn y dyddiau hyny nid oeddynt yn cyfyngu gweinyddiad yr ordinhadau i ryw un lle penodol. Ar foreu Sabboth, yn y flwyddyn 1800, yr ydym yn cael Dr. Lewis, Llanuwchllyn, yn pregethu yn Llidiartfechan, ac yn derbyn dau aelod oeddynt wedi hyny i fod yn golofnau cryfion o dan achos yr Arglwydd yn yr ardal, sef John Griffiths, Cil; ac Edward Ellis, Ceunant-bach. Cyn hyn, arferai Mr. Griffiths wrando yn eglwys y plwyf, ac yr oedd yn un o'r dynion mwyaf moesol a dichlynaidd yn yr holl wlad; ond argy hoeddwyd ef nad oedd bywyd moesol ddim yn ddigon heb gyfnewidiad cyflwr. Agorodd Mr. Griffiths ei dy i dderbyn yr efengyl, a ffurfiwyd yno eglwys, ac efe, ac Edward Ellis, oeddynt y diaconiaid. Tarawyd Mrs. Griffiths, (mam Mr. Griffiths, canys hen lanc oedd efe), gan afiechyd trwm, a chan fod swn yr addoliad yn peri poen iddi, symudwyd y preg ethu a'r cyfeillachau i'r Main, lle yr oedd Edward Ellis erbyn hyn wedi symud i fyw o'r Ceunant—bach. Wedi marwolaeth Mrs. Griffiths, yn 1804, symudwyd yr achos yn ei ol i'r Cil, ac yno y cartrefodd hyd adeiladiad y capel, yn y flwyddyn 1819. Yr oedd golwg obeithiol ar yr achos, fel y cymerodd yr eglwys galon i roddi galwad i Mr. John Jones, oedd yn yr athrofa yn Llanfyllin. Adnabyddid of fel "Jones bach, Llundain," oblegid mai o Lundain y daeth i'r athrofa yn Llanfyllin. Sefyd lodd Mr. Jones yma yn Chwefror, 1819. Nis gallasom gael hanes ei urddiad, ond agorwyd y capel yn nghorph y flwyddyn hono, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; a Morris Hughes, Sardis. Yr oedd y pryd hwnw yn adeg lewyrchus ar grefydd, a pharhaodd y Main am flynyddau, i raddau mwy neu lai, dan effeithiau y diwygiad. Yr oedd Mr. Jones yn bregethwr bywiog, tanllyd, cyfaddas iawn at adeg felly ar grefydd.

Ni chwblhawyd y weithred yn yr hon y rhoddai Mr. Griffiths y capel i'r enwad hyd 1824. Cofrestrwyd hi y 24ain o Fawrth y flwyddyn hono. Y swm a enwyd gan Mr. Griffiths am y tir a'r capel oedd 18p. ond nid ymddengys iddynt gael eu talu, gan mai ei ddymuniad of oedd rhoddi y capel i'r enwad yn rhad. Wedi llafurio yn y Main a'r cylchoedd am un-flynedd-ar-ddeg, derbyniodd Mr. Jones alwad o Lanidloes, a symudodd yno yn nechreu haf 1830. Yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Heol-y-felin, Casnewydd, (tu dal. 63), gwnaethom gam hysbysiad gyda golwg ar amser ei farwolaeth, a lle ei gladdedigaeth; ac nis gallwn wneyd yn well na'i gywiro yma. Bu Mr. Jones farw Awst 31ain, 1851, yn 63 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llandysilio, gerllaw Domgay, Maldwyn.

Digwyddodd yn nodedig, pan yr oedd Mr. Jones yn pregethu ei bregeth ymadawol yn y Main, i Mr. Edward Williams, y pryd hwnw o Bethesda'r fro, Morganwg, ddyfod i'r capel yn hollol annisgwyliadwy, ac yn ei ddull sydyn arferol dywedai Mr. Jones, "Wele weinidog i chwi, gafaelwch ynddo;" ac felly fu, a derbyniodd Mr. Williams eu gwahoddiad, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yma yn ddioed. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Tachwedd 29ain a'r 30ain, 1830; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Williams, Ffestiniog; W. Morris, Llanfyllin; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Williams, Dinas; D. Morgan, Machynlleth; D. Davies, Llanerfyl; T. W. Jenkyn, Croesoswallt; J. Davies, Llanfair; H. Morgan, Sammah; a J. Jones; Llanidloes. Yspaid dwy flynedd yr arhosodd Mr. Williams yma, canys yn Tachwedd, 1832, ymadawodd i Lansantsior a Moelfra, sir Ddinbych. Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, aelod o eglwys Llanfyllin, yr hwn a neillduwyd yn gyhoeddus yn y Main, Ebrill 10fed, 1833. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Williams, o'r Wern. Holwyd y gweinidog ieuangc gan Mr. J. Jones, Forden. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Morris, Llanfyllin. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, o'r Wern. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri D. Davies, Llanerfyl; J. Williams, Llansilin; Josiah Jones, Caernarfon; J. Rees, Sarnau; D. Price, Penybontfawr; ac H. Hughes, Penllys.[93] Bu Mr. Morris yn weinidog yma am o gylch deng mlynedd; pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol, ond parhaodd i bregethu tra y bu byw. Wedi ymadawiad Mr. Morris, bu Mr. D. Jones, Llansantffraid, yn gofalu yn benaf am y lle, ond yn y flwyddyn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh D. Pughe, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Tachwedd 11eg a'r 12fed y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Bala. Holwyd y gweinidog gan Mr. H. James, Llansantffraid. Offrymwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr. W. Roberts, Penybontfawr. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. H. Lloyd, Towyn, ac i'r eglwys gan Mr. D. Morgan, Llanfyllin; pregethwyd hefyd gan Meistri E. Thomas, Trallwm; J. Jones, Penllys; R. Thomas, Croesoswallt; L. Roberts, Sarnau; ac R. D. Thomas, Penarth. Bu Mr. Pughe yma yn ddiwyd am bedair blynedd, nes y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn y Drefnewydd. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Pughe, derbyniodd Mr. Evan Thomas, Trallwm, alwad oddiyma, a dechreuodd ei weinidogaeth yn 1850, a llafuriodd yma am fwy na deunaw mlynedd, hyd 1869, pan y rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, ac y derbyniwyd ef ar Drysorfa yr Hen Weinidogion. Mae yn awr yn byw yn Llanfyllin, ac yn pregethu fynychaf bob Sabboth.

Yn y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Trevor Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd yma, Gorphenaf 27ain a'r 28ain; ond llai na blwyddyn yr arosodd yma, canys derbyniodd alwad o Pantteg Morganwg, a symudodd yno; ac yn nechreu 1871, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. D. Evans, Penarth.

Ni bu yr achos yma erioed yn gryf a lluosog mewn nifer; a gwelodd dymhorau isel a digalon, ond y mae yma ffyddloniaid wedi bod, ac yn bod, sydd yn glynu wrth yr Arglwydd yn ddi-ildio trwy bob tywydd. Bu Mr. J. Griffiths, Cil, yn golofn gref i'r achos am dymor hir. Erys capel a mynwent y Main yn golofnau o'i haelioni; a rhoddodd dri o dai anedd, ardreth y rhai sydd tuag at gynal ysgol ddyddiol yn y Main. Yr oedd ynddo lawer o bethau hynod, ond yr oedd ei galon yn caru y Gwaredwr, a gwasanaethodd ei achos fel diacon ffyddlon yn y Main am 43 mlynedd. Bu farw yn y flwyddyn 1843. Edward Ellis hefyd oedd ŵr da a ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer.

Nid ydym yn cael ond am un a godwyd i bregethu yn yr eglwys hon, sef Evan Ellis, mab Edward Ellis. Yr oedd yn ŵr ieuangc crefyddol a gair da iddo gan bawb a'i hadwaenai, ac yn bregethwr cymeradwy. Derbyniwyd ef i'r Ysgol Ramadegol yn nglyn ag athrofa y Drefnewydd, yn Hydref, 1827, a bu yno hyd y Sulgwyn canlynol; ond dychwelodd adref yn fuan wedi hyny, a'i iechyd wedi rhoi ffordd, ac nid hir y bu byw ar ol hyny; ond bu farw mewn hyder cryf yn ei Bryniawdwr. Cyhoeddwyd bywgraffiad helaeth iddo yn y Dysgedydd am 1829; tu dal. 193, gan y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN MORRIS. Ganwyd ef yn Llanfyllin yn y flwyddyn 1793; a derbyniwyd ef yn aelod yno pan yn ddyn ieuangc. Dechreuodd bregethu yn 1825; a bu am dymor dan addysg dan ofal Dr. Phillips, yn athrofa Neuaddlwyd. Dychwelodd adref oddiyno, a bu am yspaid yn pregethu i'r eglwysi lle y gelwid am ei wasanaeth. Urddwyd ef yn y Main, Ebrill 10fed, 1833, a llafuriodd yno am fwy na deng mlynedd, yna symudodd i Grimp, sir Amwythig, lle yr arhosodd wyth mlynedd, ac oddiyno dychwelodd i'r Carneddau, yn agos i Groesoswallt, lle y bu byw dair blynedd. Nid oedd gofal unrhyw eglwys arno, ond pregethai fynychaf bob Sabboth, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar ei lafur gan angeu, Awst 10fed, 1860, yn 63 oed; a chladdwyd ef yn Nghroesoswallt. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn da, ac yn bregethwr sylweddol, ond yr oedd tipyn o surni ac afrywiogrwydd yn ei dymer, yr hyn a laddai ei ddefnyddioldeb. Cadwai yn mhell oddiwrth bawb, fel y cyfrifid ef yn ddyn digymdeithas. Ymladd a'r byd y bu o ran ei amgylchiadau bydol trwy ei oes; ond cadwyd ef i ymddiried yn yr Arglwydd trwy y cwbl. Y mae ei wraig a'i unig ferch etto yn fyw yn Nghroesoswallt.

MEIFOD.

Mae genym hanes fod Annghydffurfiaeth wedi cychwyn yn foreu yn mhlwyf Meifod. Yn ol yr hyn a ddywed Richard Davies, Cloddiaucochion, yr oedd cynnulleidfa yn cyfarfod yn nhŷ Huw Dafydd—un o denantiaid Dolobran—mor gynar a'r flwyddyn 1649; a gofelid am y gangen yma gan y gweinidogion oedd ar y pryd yn bwrw golwg dros yr eglwys yn sir Drefaldwyn. Yn 1669, ymgynnullai yr Annibynwyr yn nhy boneddwr o'r enw David Williams; a byddai yn nghyd yn y cyfarfodydd hyn weithiau 50, weithiau 60, ac yn aml 100. Cyfarfyddent weithiau yn y dydd, ac weithiau yn y nos. Yr oedd William Beddoe, Edward Meredith, Humphrey Meredith, Samuel Meredith, a Thomas Meredith, yn mysg y rhai blaenaf yn y plwyf o gefnogwyr y cynnulliadau hyn.[94] Ond er fod pregethu fel hyn wedi bod yn y plwyf er amser boreuaf Ymneillduaeth yn ein gwlad; etto yn ddiweddar mewn cydmariaeth y sefydlwyd achos Annibynol yn nhreflan Meifod.

Yn y flwyddyn 1814, trwyddedwyd ty Edward Ellis i bregethu ynddo, a buwyd ynddo yn cynal gwasanaeth rheolaidd am bedair blynedd, hyd nes ei symudwyd i dy John Miles; ac yno y bu yr arch nes yr adeiladodd Mr. John Griffiths dy, ac y rhoddodd at eu gwasanaeth yr oruwchystafell, yn yr hon y maent etto yn parhau i addoli. Cafwyd gwrthwynebiad mawr yma ar y dechreu; ac yn aml cyflogid dynion meddwon i aflonyddu yr addoliad; ond wedi cael yr ystafell, yr oeddynt i raddau allan o'u cyrhaedd. Rhoddwyd yr ystafell iddynt yn rhad gan Mr. Griffiths o'r Cil; ac agorwyd hi yn gyhoeddus Medi 27ain, a'r 28ain, 1824; ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Ridge, Bala; W. Hughes, Dinas; J. Williams, Ffestiniog; D. Morgan, Machynlleth; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Peregrine, Domgay; M. Ellis, Talybont; J. Griffith, Pentraeth; W. Morris, Llanfyllin; ac Owens, Croesos wallt. Mae y lle yma wedi bod bob amser mewn cysylltiad a'r Main, a than yr un weinidogaeth; ac ond edrych pwy oedd y gweinidogion a fu yn llafurio yn olynol yno, gwelir hefyd pwy a fu yma. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond coffeir am enwau John Miles, Thomas Miles, Abraham Davies, David Edwards, Thomas Ellis, Richard Lloyd, a Thomas Griffiths, fel rhai nodedig yn mysg y ffyddloniaid yma. Mae yr achos dan anfantais dirfawr yma o eisiau lle mwy cyfleus i addoli. Yr oedd cael ystafell yn werthfawr haner can mlynedd yn ol, ond nid yw yn ateb gofynion y dyddiau hyn.

PONTROBERT.

Pentref bychan yw Pontrobert-ab-Oliver, fel ei gelwir, ar derfynau plwyfydd Meifod a Llangyniw; mewn dyffryn bychan coediog, unig, a diarffordd. Mae yma er hyny lawer o bethau sydd yn gosod arbenigrwydd ar y lie. Heb fod yn nepell o'r pentref y mae Plas Dolobran, cyn-breswylfod hen Grynwyr duwiolfrydig yr ardal; ac y mae y capel bychan lle yr addolent yn aros etto yn ei symledd cyntefig, a'r fynwent lle yr erys eu gweddillion heb ddim ond y dywarchen werddlas i ddynodi lle eu gorweddfa. Ychydig i fyny i'r cwm y mae Dolwarfechan, preswylfod Ann Griffiths, yr Emynyddes enwog. Yr ardal yma gafodd yr anrhydedd o fagu John Davies, un o'r Cenadon cyntaf a aeth allan i Ynysoedd Mor y De, a'r cyntaf oll o Gymru, ac a gafodd oes hir i lafurio yn Tahiti: ac y mae enw yr hen bererin John Hughes, Pontrobert, yn adnabyddus i grefyddwyr pob enwad yn Nghymru; fel rhwng y cwbl y mae gan bentref bychan Pontrobert fwy o bethau i ymffrostio ynddynt na'r rhan fwyaf o bentrefydd ein gwlad.



Tua thri chwarter milldir i'r gogledd-ddwyreiniol o'r lle yma, y mae Rhosyglasgoed, lle y pregethwyd llawer gan yr Annibynwyr; a choffeir am un tro pan oedd Dr. Lewis, y pryd hwnw, o Lanfyllin, i fod yno yn pregethu, a chan ei fod dipyn ar ol ei amser, a'r gwrandawyr yno yn disgwyl, aeth un o honynt allan i edrych a welai ef yn dyfod; ac wedi ei weled o draw yn dyfod, rhedai yn ol i'r ty, a dywedai yn uchel, "Ust! byddwch ddystaw, dyma yr hen fachgen yn d'od;" ac nid gorchwyl hawdd oedd i'r rhai mwyaf difrifol gael eu hunain i agwedd weddus erbyn ei ddyfodiad, ar ol y fath gyhoeddiad.[95] Cadwodd y teulu yma eu drws yn agored i bregethu, ac i lettya pregethwyr, hyd nes y daeth Mr. John Jones i'r Main, pan y dechreuwyd pregethu yn nhy un John Williams, a chedwid y gyfeillach grefyddol yn llofft Morris Howells, tad Mr. Price Howells, yn awr o Ffestiniog. Nid oedd nifer y rhai a gyfarfyddent yn y gyfeillach yn y llofft ond wyth, ac i'r Main yr elent i gymuno. Wrth weled yr achos yn llwyddo, barnwyd yn angenrheidiol cael capel yma; a sicrhawyd darn o dir i'r perwyl, ar fin y ffordd sydd yn arwain o'r Bont i Lanfyllin. Agorwyd y capel, Medi 18fed, a'r 19eg, 1829; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri W. Morris, Llanfyllin; M. Hughes, Sardis; H. Morgan, Sammah; J. Davies, Llanfair; J. Rees, Sarnau; E. Davies, Treflach; H. Hughes, Foel; a D. Davies, Llanerfyl. Y flwyddyn ganlynol, ymadawodd Mr. Jones i Lanidloes. Nid oedd rhif yr eglwys ond 11, ac nid ymddau le, unodd a Main a Meifod yn newisiad y gweinidogion dilynol yn y ond rhoddodd ei hun dan ofal Meistri Morris, Llanfyllin; a Davies, Llanerfyl; a bu Hugh Hughes, Felin, pregethwr cynorthwyol yn Penllys, yn ffyddlon i ddyfod atynt, hyd nes yr ymfudodd i America. Yn 1833, daeth Mr. Richard Herbert yma i gadw ysgol ddyddiol, ac'i bregethu; ac yn 1839, rhoddwyd galwad iddo i fod yn weinidog, ac urddwyd ef Gorphenaf 3ydd, a'r 4ydd, yr un flwyddyn: ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Williams, Aberhosan; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Davies, Llanerfyl; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Ellis, Talybont, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies, Llanfaircaereinion. Yr oedd Meistri J. Williams, Llansilin; J. Morris, Main; D. Jones, Llansantffraid; ac E. Wynne, Llanrhaiadr, hefyd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Ni bu Mr. Herbert yma ond prin dair blynedd, ac yr oedd yr achos wedi myned yn isel iawn. Wedi urddo Mr. John Jones, yn Penllys, cymerodd ef ei gofal yn Chwefror, 1842, ac adfywiodd yr achos yn fawr. Lluosogodd yr eglwys a'r gwrandawyr—talwyd y ddyled oedd yn aros—ac adgy weiriwyd y capel, a thalwyd yr holl draul gysylltiedig a hyny, fel yr oedd golwg siriol ar yr achos pan yr ymadawodd Mr. Jones i Carno, yn Rhagfyr, 1848. Yn nechreu Ebrill, ar sefydliad Mr. Evan Thomas, yn y Main a Meifod, cymerodd hefyd ofal Pontrobert; ac er hyny y mae y tri lle wedi bod mewn cysylltiad a'u gilydd, a than yr un weinidogaeth.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

RICHARD HERBERT. Ganwyd ef Hydref 14eg, 1779, mewn lle a elwir Gogerddanfach, yn mhlwyf Llanfihangel-Genau'rglyn, sir Aberteifi. Yr oedd yn un o'r aelodau cyntaf a dderbyniwyd yn Nhalybont ar gychwyniad yr achos yno yn 1801; ac efe oedd y cyntaf yno a agorodd ei dy i Dr. Phillips, Neuaddlwyd, i gynal cyfeillach ynddo. Yn 1805, y dechreuodd bregethu, ac o hyny allan, bu o fan i fan yn cadw ysgol, a theithiodd lawer ar hyd y wlad i bregethu. Daeth i Bontrobert, fel y crybwyllasom, yn 1833, ac urddwyd ef yn 1839; ond nis gallesid disgwyl iddo fod yn llwyddianus iawn, canys yr oedd yn 60 oed pan yr urddwyd ef. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny yn 1841, ond bu fyw hyd ddydd Sadwrn, Ionawr 1af, 1848, pan yr hunodd mewn tangnefedd, a chladdwyd ef y dydd Gwener canlynol yn mynwent Penllys, a phregethodd Mr. D. Morgan, Llanfyllin, ar yr achlysur.

Yr oedd Mr. Herbert yn ddyn tal, tenau, heb ond un fraich; yr oedd golwg lym, fywiog arno, a'i attebion yn fyr a swta, a'i dymer o duedd sarug ac afrywiog, Teithiodd lawer yn ei oes, ond yr oedd ei ddull hyf a diofn o ddweyd ei feddwl, yn ei wneyd yn annerbyniol gan lawer; ond credai y rhai a'i hadwaenai oreu, am dano, mai cristion didwyll a gwirioneddol ydoedd. Yr oedd wedi cael gwell manteision addysg na'r rhan fwyaf o'i ddosbarth, a'i wybodaeth ar bethau yn gyffredinol yn eangach; ond yr oedd yn amddifad o'r tynerwch teimlad, a'r ireidd-dra ysbryd hwnw, wrth draddodi, oedd gan rai o'i gydoeswyr teithiol. Ond bu yn ffyddlon yn ol y ddawn a rodedd iddo; ac y mae wedi derbyn ei wobr gan ei Arglwydd.

PENTRE'R BEIRDD.

Mae y lle hwn yn mhlwyf Gygigfa, (Guildsfield), ar y ffordd rhwng Meifod a'r Trallwm. Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. John Jones, Main, yn fuan ar ol ei urddiad i'r weinidogaeth. Cafwyd darn o dir ar brydles, gan Mr. John Davies, Twll-farm, yn 1822; a'r ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt Meistri John Jones, y gweinidog; John Griffiths, o'r Cil; Edward Ellis, Saer coed; Humphrey Ellis, Sae rmaen; Richard Lloyd, Amaethwr; Simon Williams, Amaethwr; John Miles, Saer coed; David Davies, Saercoed; Morris Jones, (Farteg wedi hyny,) Saer maen. Yr oedd y capel wedi talu am dano agos yn llwyr erbyn dydd ei agoriad, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf 1af a'r 2il, 1823; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri S. Williams, Llanidloes; J. Jones, Hafodfawr; M. Hughes, Llanwddyn; J. Williams, Sarnau; J. Lewis, Bala; G. Ryan, Trallwm; J. Williams, Ffestiniog; J. Davies, Llanfair; a J. Ridge, Penygroes.[96] Bu Mr. Jones yn llafurio yma hyd nes yr ymadawodd i Lanidloes, yn 1830; ac ar ol hyny bu y lle dan weinidogaeth ei olynwyr yn y Main, Mr. Edward Williams, a Mr. John Morris; ond cyn diwedd tymhor gweinidogaeth yr olaf, yr oedd yr achos wedi myned yn isel iawn. Yr oedd genedl ieuaingc yn cael eu magu yn yr iaith Seisnig, fel nad oedd gwasanaeth Cymreig o fawr iawn o fudd iddynt. Bu yr hen bererin Humphrey Ellis, a'i wraig, yn nodedig o ffyddlon er pob digalondid. Cadwasant y drws yn agored ar yr adeg dywyllaf, ac ymdrechasant i gynal Ysgol Sabothol yn mlaen, er y byddai y plant yn ddigon drygionus i grynhoi o gylch yr hen ŵr, a thynu ei wallt pan y byddai yn gweddio. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Lewis Roberts yn weinidog yn y Sarnau, cymerodd ef ofal y lle, a throwyd yr achos yn Saesonaeg, ac felly y mae yn parhau, ac mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r Sarnau. Nid ydym yn gwybod am neb a godwyd yma i bregethu ond Morris Jones, yr hwn a fu am dymhor yn y Neuaddlwyd dan addysg, ac a urddwyd yn y Farteg, sir Fynwy; ac yr oedd yntau yn aelod yn y Main cyn ffurfio eglwys yma.

PENYBONTFAWR.

Mae y lle hwn o fewn ychydig gyda phum' milldir i Lanfyllin, ar y ffordd i'r Bala. Mae y wlad o gylch y pentref yn brydferth a ffrwythlon, a chysgodir y dyffryn bychan, tlws, gan y bryniau cylchynol. Mae yn ymddangos mai yn Pedairffordd—lle o gylch dwy filldir islaw Penybonty dechreuwyd pregethu yn y wlad yma, ac arferai Owen Phillips, Rhywsaeth, a Mary Llwyd, ei forwyn, ac eraill o ardal Penybont, fyned yno addoli. Nis gallasom gael allan pwy oedd y pregethwyr cyntaf a ymwelodd a'r ardal, na pha bryd yr ymwelasant. Mae yn bosibl mai Mr. John Griffith a ymwelodd gyntaf a'r lle, yn ystod ei arosiad yn Llanfyllin, o 1780 hyd 1782; neu fe ddichon fod Mr. Daniel Goronwy, o'r Bala, wedi pregethu yma cyn hyny wrth fyned i neu ddychwelyd o'r Pantmawr i'r lle y cyrchai yn fisol ar un adeg. Bu pregethu yn nhy Watkin Jones, Felinbach, ger Penybont, ac yn hen ysgubor y masiwn yn Hirnant; ond tua'r flwyddyn 1782, cymerwyd prydles gan David Jones, Foelcortho, ar dy David Jones, y Gwehydd, yn mhlwyf Hirnant, a symudwyd yr holl foddion crefyddol yno; a galwyd y lle o hyny allan y "Capel Bach."[97] [98] Cangen o Lanfyllin y cyfrifid y lle, ac yno y cyrchai yr aelodau i gymuno. Nid oes genym sicrwydd am neb yn gweinyddu iddynt o flaen Mr. Jenkin Lewis, Llanfyllin. Yn 1785 y daeth ef i Lanfyllin, ac y mae yn awr ger ein bron lythyr o'i eiddo at reolwyr y Trysorfwrdd Cynnulleidfael, wedi ei gyfeirio at Burton Wilbie, Ysw., Walthamston, Essex, ac wedi ei ddyddio Ionawr 6ed, 1795.[99] Yn ei lythyr dywed nad oedd y bobl yn mysg y rhai yr oedd yn llafurio ond ychydig mewn nifer, ac isel eu hamgylchiadau; ac mai pum' punt yn y flwyddyn a allasent wneyd iddo, a bod dau swm wedi eu gadael er cynorthwyo yr achos—un o chwe' phunt a'r llall o ddeg swllt a deugain y flwyddyn; a'i fod yn cael chwe' phunt yn flynyddol am bregethu yn fisol yn Pantmawr, lle o gylch wyth milldir o'r dref lle yr oedd. Ei fod yn cael heblaw hyny bedair punt y flwyddyn o Drysorfa y Presbyteriaid, yn gwneyd gyda'u gilydd dair punt ar hugain a degswllt; heb gyfrif y pedair punt oedd wedi gael y flwyddyn flaenorol o'r Trysorfwrdd Cynnulleidfaol. Ac ychwanega nad oedd hyny fawr at ei gynhaliaeth ef a'i wraig, a'i fod yn rhwym o gadw ceffyl gan fod ganddo le bychan arall tua saith milldir o'r dref ar y ffordd i'r Bala, lle yr oedd yn pregethu dri boreu Sabboth o bob mis, ac yn dyfod i'r dref erbyn y prydnhawn. Y lle hwn y mae yn amlwg oedd y Capel Bach. Yr ydym yn cael fod Mr. Azariah Shadrach yma yn cadw Ysgol yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu y ganrif hon, canys dywedwyd wrthym gan yr Hybarch D. Williams, Llanwrtyd, ei fod yno pan yr aeth ef ar daith i'r gogledd gyntaf, gyda Mr. Daniel Evans, wedi hyny o'r Mynyddbach, yn nechreu 1800. Parhaodd Mr. Lewis, Llanfyllin, i ofalu am y lle hyd ei farwolaeth. Ar ei ol ef bu Mr. John Lewis, Bala, yn dyfod yn fisol i'r Capel Bach hyd nes yr urddwyd Mr. Morris Hughes, yn y flwyddyn 1809. Yn ei amser ef y symudwyd o'r Capel Bach, ac y codwyd capel newydd yn Mhenybontfawr, yr hwn a alwyd Bethania. Mae yn mhlwyf Pennant-moelangell. Agorwyd ef Tachwedd 17eg a'r 18fed, 1823. Y nos gyntaf pregethodd Meistri H. Hughes, Llechwedd, ac M. Jones, Llanuwchllyn. Y dydd canlynol, am ddeg, pregethodd Meistri James Davies, Llanfair, a W. Morris, Llanfyllin. Am ddau, Meistri J. Jones, Main, a W. Hughes, Dinas; yr hwn a enwodd y capel yn Bethania. Am chwech, Meistri W. Davies, Llangollen, a J. Ridge. Dechreuwyd yr odfaeon gan Meistri W. Hughes, Dinas; J. Jones, Hafodfawr; a James Peregrine.[100] Bu Mr. Hughes yma hyd y flwyddyn 1829, pryd y rhoddodd yr eglwys i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i Lanwddyn. Yn niwedd y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. David Price, yr hwn a urddasid ddwy flynedd cyn hyny yn Nghapel Helyg, a'r eglwysi cysylltiedig, yn sir Gaernarfon. Cynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ionawr 13eg a'r 14eg, 1831, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; M. Hughes, Sardis; W. Morris, Llanfyllin; J. Jones, Llanidloes; J. Rees, Sarnau; T. Jones, Llangollen; J. Williams, Dinas; E. Davies, Coed Treflach; C. Jones, E. Evans, J. Morris, a T. Richards, Llanfyllin. Bu Mr. Price yma yn boblogaidd iawn am ddeng mlynedd, hyd nes yr ymadawodd i Rhosllanerchrugog, ac oddiyno i Ddinbych, ac y mae yn awr yn America. Yn nechreu 1841, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. William Roberts, yr hwn oedd yn weinidog yn Pennal a Rhiwgwreiddyn, gerllaw Machynlleth, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Mai, a chynhaliwyd cyfarfodydd yn Mhenybont ac yn Llanrhaiadr, Awst 17eg a'r 18fed, 1841, i'w gydnabod yn gyhoeddus. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri H. James, Brithdir; J. Williams, Aberhosan; H. Morgan, Sammah; R. Thomas, Dinas; D. Price, Rhos; J. Davies, Llanfair; J. Jones, Penllys; R. Thomas, Croesoswallt; S. Jones, Maentwrog; E. Griffiths, Llanegryn; E. Roberts, o athrofa Aberhonddu; a J. Thomas, Machynlleth. Bu Mr. Roberts yma yn barchus a chymeradwy am bum'—mlynedd-ar-hugain, hyd nes y derbyniodd alwad o Danygrisiau a Rhiwbryfdir, Ffestiniog, ac y symudodd yno. Trwy symudiadau a marwolaethau dyoddefodd yr achos yma golledion trymion, fel y teimlai y rhai a adawyd ar ol yn isel a digalon. Yr oedd y capel wedi myned yn adfaeliedig, ac nid oedd ysbryd wedi ei adael yn y cyfeillion i ymgymeryd a'i ailadeiladu. Wrth weled gwendid yr achos yn y lle wedi ymadawiad Mr. Roberts, anogwyd Mr. C. R. Jones, Llanfyllin, i gynorthwyo y frawdoliaeth yno i godi addoldy newydd. Ymgymerodd Mr. Jones a hyny, a thaflodd ei holl ysbryd i'r gwaith. Cafwyd tir yn rhad gan Mrs. Evans, Penybont Farm, mewn man nodedig o gyfleus yn mhentref Penybont; a chodwyd arno gapel prydferth, gwerth 360p, ac agorwyd ef Hydref 22ain a'r 23ain, 1868.

Gwerthwyd yr hen gapel, a rhwng yr arian a gafwyd am dano, a'r hyn a gasglwyd gan yr eglwys a'r gynnulleidfa yn y lle, a'r hyn a gasglodd Mr. C. R. Jones oddiar gyfeillion mewn manau eraill, y mae dros 250p. o'r ddyled wedi ei dalu. Yn haf 1870, rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Evans, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Hydref 10fed a'r 11eg.

Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Holwyd y gofyniadau gan Mr. O. Evans, Llanbrynmair. Gweddiodd Mr. H. James, Llansantffraid. Pregethodd Mr. J. G. Morris, Trefdraeth, i'r gweinidog, a Mr. W. Roberts, Ffestiniog, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri C. Evans, Foel; a W. Perkins, Pennal.[101] Mae Mr. Evans yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau pur siriol, ac y mae yr eglwys fechan yn Llangynog wedi ymuno dan yr un weinidogaeth. Yma y codwyd John Jones, Parc, i bregethu, yr hwn a urddwyd yn Penllys, ac a symudodd i Carno, ac sydd yn awr yn America. Bu yma amryw bregethwyr eraill o bryd i bryd yn perthyn i'r eglwys, ond nid ydym yn cael fod un o honynt wedi ei godi ynddi i bregethu; ond bu yma un pregethwr am dymhor hir yn nglyn a'r eglwys, am yr hwn y mae yn weddus i ni wneyd byr goffâd.

Thomas Richards, Penybontfawr. Yr oedd yn adnabyddus i'r rhan fwyaf o siroedd Cymry fel pregethwr cynorthwyol parchus a chymeradwy. Ganwyd ef yn Llanfyllin. Yr oedd ei dad, John Richards, Patent Maker, fel ei gelwid, yn hen aelod yn nghapel Pendref; a derbyniwyd Mr. Thomas Richards yn aelod pan yn ieuangc. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1824; ac yr oedd ef a Mr. Morris, Main, yn gyfeillion mawr, ac yn dechreu pregethu o gylch yr un amser, ac yn cynorthwyo Mr. Morris, Llanfyllin, yn y lleoedd o gylch y dref. Symudodd Mr. Richards cyn hir i Benybontfawr, lle y bu yn cadw siop, ac yn pregethu pa le bynag y gelwid am dano. Yr oedd yn ddyn hynaws a charedig, yn hytrach yn llwfr a digalon. Nid oedd ei dalentau yn loywon, na'i alluoedd pregethwrol yn gryfion; ond yr oedd ei gymeriad difwlch, a'i ddull anymhongar, a'i ddawn ennillgar, yn ei wneyd yn dderbyniol a pharchus pa le bynag yr elai. Bu yn myned yn rheolaidd trwy ranau o'r De neu y Gogledd yn achos y Dysgedydd, am 24 mlynedd. Dechreuodd waelu yn ei iechyd yn Ebrill, 1866; ac ar yr 8fed o Fai, yr un flwyddyn, hunodd yn yr Iesu, yn 63 oed. Dywedai ychydig cyn marw, "Mi a wn i bwy y credais." Claddwyd ef yn mynwent Llanfyllin. Mab iddo ef ydyw Mr. John Newman Richards, gweinidog yr Annibynwyr Seisnig yn Aberteifi.

LLANRHAIADR YN MOCHNANT.

Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1808. Deuai pregethwr i lawr at ddau o'r gloch o'r "Capel Bach," gerllaw Penybontfawr. Pregethid yn nhy Maurice Francis, tad Mr. A. Francis, Rhyl, ac elai y pregethwr a'r ychydig aelodau oedd yn Llanrhaiadr, yn ol drachefn at yr oedfa hwyrol i'r "Capel Bach." Er mai pregethu oedd y moddion cyhoeddus cyntaf a ddefnyddiwyd i alw sylw y trigolion at yr efengyl, etto, yr Ysgol Sabbothol a fu yn parotoi meddyliau y bobl ar raddeg cang i ddod i wrando yr efengyl a'i derbyn. Gwelir felly, mai peth diweddar iawn yw Ymneillduaeth yn y lle hwn. Pan y dechreuwyd cynal yr Ysgol Sabbothol, yr oedd yn tynu gryn sylw, ac yn cael ei gwrthwynebu gan rai ag y buasid yn disgwyl yn amgen oddiwrthynt. Er na archollwyd hi yn nhy ei charedigion, archollwyd hi gan rai a ddylasai fod yn garedigion iddi. Ond fel pob achos da pan ei cymerir i fyny gan rai sydd yn cydymdeimlo yn drwyadl âg ef, y mae hyd yn nod gwrthwynebiadau yn troi yn fanteisiol iddo, fel y dderwen yn gwreiddio yn ddyfnach yn yr ystorm. Cychwynwyd yr Ysgol Sabbothol yma tua'r flwyddyn 1814. Dyma'r pryd yr oedd yr oes batriarchaidd yn yr ardal hon yn rhoddi lle i ffurf eangach a mwy effeithiol i oleno a chrefyddoli rhai ieuaingc. O'r blaen, y penteulu oedd yr offeiriad yn y teulu, ac os esgeulusid yr addysgu a'r aberthu yn y teulu-fel y byddai y mwyafrif yn gwneyd yr oedd crefydd y plant yn cael ei hesgeuluso yn gwbl. Ond yn yr Ysgol Sabbothol, agorodd yr eglwys ei mynwes, a pharotodd ei haelwyd i dderbyn plant bychain; a bu yn allu effeithiol i'w dysgu, a'u dad-ddysgu o'r arferion yn yr rhai yr oeddynt wedi eu meithrin. Amseroedd blinion oedd y dyddiau hyny. Yr amser hwn yr oedd Boni bron a gorphen llanw cwpan Ffrainc hyd yr ymyl, pan y bu raid iddo ef a hithau gydyfed ei waddod. Yr oedd a holl egnion, un o'r arweinwyr mwyaf llwyddianus, yn rhoddi yr arfau ydynt gnawdol yn nwylaw y tadau i ymladd, ac yn nwylaw y plant i chwareu a hwy, a phobl Prydain ac eraill yn rhoddi arfau yn nwylaw eu pobl hwythau i wrthryfela, gan "ymgynghori yn unig i'w fwrw ef i lawr o'i fawredd." Y pryd hwnw yr oedd Pioneer yr Ysgol Sabbothol yn Llanrhaiadr yn llawn o sel ac yni yn rhoddi yr arfau "nid ydynt gnawdol" yn nwylaw, ac yn neall y tadau a'r plant yn yr ardal hon, a gwnaed llu o honynt yn filwyr, a rhai o honynt yn "filwyr da i Iesu Grist." Y mae "ymdrech deg" yr olynwyr hyn i'r apostolion, y fath, fel y byddai yn flin genym iddo fod allan o "Lyfr Actau'r Apostolion" a berthyn i'r gangen hon o eglwys Crist, fel y caffo yr oesau a ddel wybod fod cewri wedi bod ar y ddaear heblaw cewri rhyfel, y rhai oedd yn cynhyrfu Ewrop y dyddiau hyny, a'r rhai yr oedd yn rhaid eu hysgubo oddiar wyneb y byd, a'u "bwrw i eigion y môr." Yr oedd trigolion Llanrhaiadr yr adeg hon yn dra annuwiol ac anwybodus—y gwylmabsantau, a'r chwareuon ar y Sabboth, y meddwi a'r ymladd, yn eu llawn rym. Yn mhlith eu tadau y bu Doctor Morgan, yn poeni yn y gair," er ei gael allan o guddfanau ieithoedd estronol. Ond nid adnabu Llanrhaiadr "ddydd ei hymweliad," ac os bu rhai o honynt yn llawenychu dros amser" yn ei oleuni, tra y daliai efe y gwirionedd yn "llewyrch i'w llwybr;" yn fuan "troisant bawb i'w ffordd ei hun." Henry Parry, yr hwn oedd yn aelod yn y "Capel Bach," ac yn cadw siop fechan yn Llanrhaiadr, oedd yn arbenig yn poeni ei enaid cyfiawn wrth ganfod y fath dywyllwch a drygioni. Daeth i'w feddwl yn rymus iawn i geisio codi Ysgol Sabbothol yn y lle; ond methai a chael neb o gyffelyb feddwl, hyd yn mhen ysbaid, y cafodd gan John Rees, tad y Meistri E. Rees, Llanymddyfri; a W. Rees, Corris, ei gynorthwyo. Aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd oedd Mr. J. Rees, ond yr oedd eu ty addoli hwythau ryw dair milldir o'r Llan, ac hyd y pryd hwnw buwyd heb ddechreu yr un ysgol yn y lle. Darllenwr cymharol wael oedd Mr. H. Parry ei hunan pan ddechreuodd y gwaith da hwn; ond wrth ymdrechu cymhwyso ei hun i fod yn athraw i eraill, daeth yn fedrus yn y gorchwyl, ac yn ysgrythyrwr cadarn. Wrth ddysgu eraill dysgodd ei hun. Aeth y rhif yn ormod i'r ddau athraw allu gweinyddu arnynt fel y dymunent; a gofynodd Mr. H. Parry i un o'i gydaelodau, saer wrth ei gelfyddyd, am ddyfod i'w cynorthwyo, a'r ateb a gafodd oedd, "A wyddost ti beth, Harri? Byddai yr un peth i ti geisio genyf fyn'd a fy llif i'r pit ar foreu Sabboth, a cheisio genyf ddod i gadw ysgol." Ond daeth y brawd hwn wedi hyny i sefyll yn ystyriol uwchben y cwestiwn, "Ai rhydd gwneuthur da ar y Sabboth ?" ac fel llawer eraill, wedi iddo iawn ddeall ei ddyledswydd, aeth ati yn galonog. Gwnaeth yr Ysgol Sul gyfnewidiad dirfawr yn fuan. Dysgai yr athrawon i'r plant eu dyledswydd tuag at Dduw a dyn, a bu y plant hyny yn ddysgawdwyr i'w rhieni. Arferai y mamau anfon eu plant ar foreuau Sabbothau i dai yr amaethwyr cylchynol i ymofyn llaeth, er eu galluogi i wneyd ciniaw Sabboth teilwng, gan feddwl na buasai Sabboth yn well na rhyw ddydd arall oni allesid arlwyo y bwrdd yn well arno, ond yn yr ysgol dysgwyd y plant fod y fath negeseuau yn halogiad ar y Sabboth, ac ni cheid ganddynt fyned, a daeth y rhieni i deimlo grym yr addysg a dderbyniai eu plant, darfyddodd yr arferiad, a chyn pen nemawr o amser darfyddodd chwareuyddiaethau y fynwent, gwywodd y gwylmabsantau, newidiwyd yr iaith a'r arferion i fesur mawr, ac yn lle bod yn treulio eu Sabbothau yn mysg y beddau, daethant yn eu hiawn bwyll i eistedd wrth draed yr Iesu. Yr oedd yr ysgol a'r pregethu yn cael eu cynal yn nhy Maurice Francis, ond aeth y ty yn rhy fychan i gynwys y rhai a ddeuai yn nghyd, a symudwyd yr holl foddion i ystafell eangach, a berthynai i John Rees. Yr amser hwn, yr oedd oedd yr athrofa yn Llanfyllin, a'r myfyrwyr yn benaf a ddeuai atynt i bregethu. Yr oedd yn yr athrofa ar y pryd ddynion ieuaingc tra gobeithiol, ac yn bregethwyr poblogaidd. Mr. W. Morris, Llanfyllin; Mr. J. Ridge, y Bala; Mr. W. Jones, o Amlwch; Mr. J. Jones, o Lundain, ac eraill; a deuai Mr. Morris Hughes, o Sardis, yn fisol. Aeth y lle hwn yn rhy gyfyng drachefn, ac yn y flwyddyn 1822, adeiladwyd addoldy, a galwyd ef y Tabernacl. Dyddiad y Trust Deed yw Mawrth 16eg, 1822; a mawr y ffyddlondeb a ddangoswyd gan yr ychydig aelodau i dalu dyled y ty hwn. Nid yw enwau yr aelodau nemawr o honynt ar gael. Teg yw dyweyd fod y ddau foneddwr Mr. Charles Jones, Llanfyllin; a Mr. Edward Evans, siop, Llanrhaiadr; y rhai mwyaf eu dylanwad er cael y symudiad hwn oddiamgylch yn llwyddianus. O'r braidd y gellid cael tir ar werth gan neb at y fath amcan! ac yr oedd yn rhaid ei gymeryd yn y fan lle y gellid ei gael, a bod yn ddiolchgar am dano boed ef gyfleus neu beidio. Ar y dechreu pan mewn cysylltiad a'r Capel Bach, Penybont, deuai Mr. J. Lewis, y Bala, yma yn fisel am ysbaid. Ar ei ol ef fe ddaeth Mr. Morris Hughes, o Sardis, yn fisol i weinyddu yr ordinhad, &c. Ond ar ol codi y capel, Mr. W. Morris, Llanfyllin a fu yn dod yma yn fisol i weini yr ordinhadau, hyd y flwyddyn 1830, ac yr oedd pregethwyr Llanfyllin yn gofalu am y Sabbothau eraill. Wedi sefydliad Mr. D. Price yn Mhenybont, yn nechreu 1831, rhoddodd yr eglwys alwad iddo ef; a bu yma yn gweinidogaethu am yn agos i ddeng mlynedd, pan y symudodd i Rhos, yn nechreu 1841, a rhoddodd yr eglwys yma, yn glyn a Phenybont a Llangynog, alwad yn ddiaros i Mr. W. Roberts, Pennal, a dechreuodd ei weinidogaeth Mai 16eg, 1841. Bu Mr. Roberts yma am 25 o flynyddoedd, yn llafurus iawn, ac ni "bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd." Cafodd lluaws mawr eu hychwanegu at yr eglwysi yn ystod ei arhosiad yn y lle. Wedi ei ymadawiad ef, teimlid fod y maes yn rhy cang i un gweinidog, a phenderfynodd yr eglwys hon i gael gweinidog iddi ei hun, gan fod angen gweinidogaeth yn fwy cyson. Yn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, efrydydd yn athrofa y Bala, i ddod i'w bugeilio yn yr Arglwydd, ac arosasant wrtho am haner blwyddyn, nes iddo orphen ei amser yn yr athrofa. Urddwyd ef Ebrill 19eg a'r 20fed, 1868. Traethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Roberts, Tanygrisiau. Holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Evans, y Foel. Gweddiodd Mr. D. M. Davies, Llanfyllin. Rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. M. D. Jones, o'r Bala; ac i'r eglwys gan Mr. R. Thomas, Bangor. Y mae cariad a dedwyddwch mawr yn ffynu rhwng y gweinidog a phobl ei ofal hyd y dydd hwn.

Mae amryw ganghenau perthynol i'r lle hwn, lle y cynhelir ysgolion Sabbothol, a phregethu achlysurol, ac y mae capeli bychain wedi eu codi yn rhai o honynt.

COMMINS.—Ar gymelliad T. Davies, Dolgellau, y cychwynwyd ysgol yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1819. Yn yr ardal hon y ganed Mr. Davies, ond achlysurol oedd ei arosiad yr adeg hon. Yr oedd sel dros yr ysgol yn llosgi yn ei fynwes tra yn ieuangc, i'r hon wedi hyny y gwnaed ef yn apostol. Cychwynwyd yr ysgol mewn tyddyndy bychan a elwid Gardden, o dan ofal un William Owen, mab i amaethwr cyfagos, oedd yn byw yn y lle a elwir yr Ochr. Nid oedd W. Owen yn proffesu crefydd, ond o foesau da; ac ar y cyntaf nid oedd ei wybodaeth yn ngair yr Arglwydd ond bychan, ond wrth "boeni yn y gair," er goleuo meddwl ei ddysgyblion, daeth yn yn fuan i wybod "ffordd Duw yn fanylach." Yr oedd yn meddu ar y tact gwerthfawr i reoli yr afreolus, a dysgu yr anwybodus; ond cyn pen pedair blynedd "efe a fu farw," a thrwy nad oedd neb o'i gynorthwy wyr o gyffelyb fedr a sel, bu yr ysgol farw hefyd am yspaid, ond daeth rhai o'i ysgoleigion yn fuan yn aelodau yn y Tabernacl; a phenderfynodd Edward Wynne, O. Lewis, a Mathew Davies, y rhai sydd yn aros hyd heddyw, roi ailgychwyniad i'r ysgol; ac o hyny allan y mae yn aros, ac yn llwyddo. Yn y flwyddyn 1836, cafwyd tir gan Mr. O. Lewis, yn rhodd, a chodwyd yno gapel bychan; ac yn 1862, helaethwyd ef i'w faintioli presenol.

MAENGWYNEDD.—Cangen arall mewn cwm sydd yn dwyn yr enw hwnw. Yr ysgol Sabbothol a fu yn digaregu y ffordd yma hefyd. Yr oedd cychwynydd moddion crefyddol yn y cwmwd hwn, yn un o'r cymeriadau. hyny, na anghofir mo honynt gan ei gydoeswyr yn yr un ardal; ac fe ddisgyna ei enw yn anwyl a pharchus i'w blant. Cerddodd ef a'i briod, cyn dechreu yr un moddion yn Maengwynedd, am flynyddoedd dros y mynyddoedd i Gapel Bach, Penybontfawr, yn gyson ar y Sabboth, ac i'r gyfeillach ar noson o'r wythnos, pellder yn ddiau rhwng myned a dychwelyd, o ddeng milldir neu ragor o ffordd uchel ac anwastad. Yr oedd y gwr yn ewythr i Mr. R. Thomas, Bangor, o frawd ei dad; a dylasai ei nai, neu ei hen weinidog, Mr. W. Roberts, fod wedi ysgrifenu cofiant iddo i un o fisolion yr enwad. Methodd dinodedd ei amgylchiadau ei wneyd yn ddinod—ymwthiodd i gyhoeddusrwydd ar eu gwaethaf. Y mae rhyw bobl yn dyheu yn barhaus am amgylchiadau manteisiol i allu gwneyd rhyw argraff ar y byd; ac ambell un arall, heb ymgais na bwriad, megis o dan yr anfanteision mwyaf, yn ysgogi ac yn cyfarwyddo cydoeswyr ac olafiaid heb yn wyhod iddynt eu hunain.

Y mae enw a choffadwriaeth Robert Thomas yn perarogli awyrgylch grefyddol yr ardal hon yn barhaus, ac yn y cyfeillachau crefyddol, ac ar aelwydydd, "y mae efe er wedi marw, yn llefaru etto." Y mae ei feddyliau, a'i ddull dirodres, ond grymus, yn bethau sydd yn glynu nes ymffurfio yn meddyliau olafiaid, fel na ellir eu claddu na'u colli. Y mae algyfodiad i'w feddyliau dynodiadol, yn cynyrchu y wen hono, sydd yn yr ystafell agosaf i'r deigryn. Ac yr oedd mor hynod yn ei farwolaeth ac yn ei fywyd. Bu ei wraig farw ryw ychydig o'i flaen, a phan yr oedd hi bron a gadael y byd, nesai yr hen frawd at ochr y gwely, a gofynai, "Wyt ti yn myn'd Betti?" "Ydwyf," meddai hithau, mor dawel ag yntau. "Wel, dywed fy mod yn cofio at lawer o honynt, a fy mod inau yn d'od yn bur fuan." "Mi wnaf," meddai yr hen chwaer yn gwbl gartrefol. Ychydig cyn iddo farw ei hunan, dywedai wrth frawd crefyddol oedd yn edrych am dano. Y buasai yn dda ganddo i rai o'r rhai oedd ef wedi eu gynghori yn ofer yn ei fywyd, fod yn ei ymyl y funud ddiweddaf. "Weli ba amcan Robert Thomas?" meddai'r cyfaill. "I mi gael dyweyd wrthynt," meddai yntau, "Dewch yma i chwi gael gweled sut y gall cristion farw." Dechreuodd ef gadw ysgol yn ei dy ei hun, ac adeiladwyd capel bychan, a alwyd yn Tabor yn mhen amser, ac adgyweiriwyd ef yn 1862. Yn awr, y mae y cyfeillion yma wedi penderfynu adeiladu capel helaethach, ac mewn lle mwy cyfleus yn y cwm hwn, yr haf nesaf.

PEDAIRFFORDD.—Cychwynwyd yr ysgol yn y lle hwn, Mehefin 24ain, 1827, gan Mr. John Roberts, Cefngwyn,—un ag y mae ei dduwioldeb a'i sel grefyddol wedi rhoddi iddo goffadwriaeth barchus iawn. Cychwynwyd hi yn y Dderwenfawr. Un Edward Jones oedd yno yn byw ar y pryd, a bu yn garedig iawn i'r ysgol tra yn ei dy. Aeth yr ysgol oddi yno Gwernffinant, ac oddi yno i bentref bychan Pedairffordd, lle y bu yn treiglo o dŷ i dŷ, hyd y flwyddyn 1862, pryd y cafodd dy iddi ei hun; ac y mae yn gorphwys byth ar ol ei phererindod, yn bur ddedwydd mewn capel bychan tlws. Cafwyd tir i adeiladu gan Mr. Richard Davies, Llanfyllin; a mawr a fu ffyddlondeb Mr. D. Roberts, Cefngwyn, ac eraill, yn adeg adeiladu y capel. Pregethodd Meistri D. Davies, New Inn; a John Jones, Llangiwc, ddydd ei agoriad. Yr oedd y diweddaf, wedi teithio yno am rai blynyddoedd, efe a Mr. J. Davies, Ruthin, i gynorthwyo cynal yr ysgol, hyd nes yr aethant i'r athrofa. Ac o'u blaen hwynt, a chyda hwynt, ac ar eu hol hwynt, y mae yr hen frawd ffyddlon D. Thomas, yn myned o'r Llan atynt, bob Sabboth er's deugain mlynedd, oddieithr iddo gael ei luddio gan afiechyd. A bydd ei enw ef yn gysegredig gydag achos crefydd yn y lle, ac nid y lleiaf fel apostol Pedairffordd,

CEFNCOCH—Enw ar ran o'r ardal ydyw hwn, a chynhelir yno ysgol mewn ty anedd er's llawer blwyddyn, a dechreuwyd yn benaf trwy y brawd Mr. Richard Davies, yn awr o Lansilin.

Fe welir oddiwrth y canghenau hyn, fod eglwys y Tabernacl yn bur wasgarog. Cafodd yr hen gapel aros yn ei ffurf ddechreuol, hyd y flwyddyn 1862, pan yr ailadeiladwyd ef, a rhwng y gost gyda'r Tabernacl a'r canghenau, aeth yr eglwys y flwyddyn hono i 600p. o draul, a llafuriasant hwy a'u gweinidog yn ddiorphwys, nes cael y ddyled ymaith. Casglodd Mr. Roberts tua 100p. Yn Hydref, 1868, cyhoeddwyd y Tabernacl yn gapel annibynol yn llawn ystyr y gair; yn wr rhydd oddiwrth ei ofynwyr, ac y mae ei gyfeillion ffyddlonaf, yn bur benderfynol yn awr, na chaiff fod yn nyled neb o ddim," yn eu hoes hwy. Yn 1870, rhoddwyd costau ychwanegol o ddeugain punt, a thalwyd hwy y flwyddyn hono; ac y mao bwriad i roi costau etto arno yr haf dyfodol. Nid oes ball ar ei gweithgarwch. Heblaw y rhai a enwyd eisioes, bu yma lawer o ffyddloniaid yn nglyn a'r achos; ac y mae yma ffyddloniaid yn aros.

Codwyd yma i bregethu yn yr eglwys yma o bryd i bryd, y personau canlynol:

Edward Davies. Dechreuodd bregethu yma tua'r flwyddyn 1813. Urddwyd ef yn Rhoslan,—symudodd i Drawsfynydd, lle y mae yn aros ar fin 85 oed.

Edward Wynne. Dechreuodd bregethu yma, a bu yn llafurio yn hir yn yr ardal. Symudodd i sir Feirionydd, ac y mae yn parhau i efengylu gyda derbyniad hyd y dydd hwn.

Edward Rees. Derbyniwyd ef yma, ond yr ydym yn methu a chael sicrwydd ei fod ef wedi dechreu pregethu cyn ymadael oddi yma. Urddwyd ef yn Brynseion, a bu farw yn Llanymddyfri, lle y ceir ei hanes.

Aaron Francis. Addysgwyd ef yn athrofa Hackney. Urddwyd ef yn y Drefnewydd, ac y mae yn awr yn Rhyl.

John Jones. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1846. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Seion, ger Treffynon; ac y mae yn awr yn Llangiwc, Morganwg.

John Davies. Dechreuodd bregethu yn 1846. Addysgwyd ef yn y Bala, ac urddwyd ef yn Henryd; ac y mae yn awr yn byw yn y Groes, ger Dinbych.

William Rees. Dechreuodd bregethu yn 1846. Urddwyd ef yn Corris, ond bu farw cyn pen ychydig flynyddau. Daw ei hanes yn nglyn a Chorris ac Aberllyfeni.[102]

LLANGYNOG.

Adeiladwyd capel bychan yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1833, yn fuan wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. Price, yn Mhenybont; ac efe a fu y prif offeryn i'w godi. Y mae ar y ffordd o'r Llan i'r Pennant, mewn man heb fod y mwyaf cyfleus i luaws y boblogaeth. Lled isel y mae yr achos yma wedi bod, a gwasgodd baich y ddyled yn drwm arno. Ymddibyna y lle lawer ar llwyddiant y gwaith mŵn a'r cloddfeydd cerrig, y rhai sydd wedi bod ar rai adegau yn farwaidd iawn. Bu y lle dan ofal Mr. Price, nes yr ymadawodd a Phenybont; ac wedi hyny, am dymor, dan ofal Mr. Roberts, ond oblegid amledd ei ofalon, bu raid iddo ei roddi i fyny. Syrthiodd yr achos mor isel am dymor ar ol hyny, fel y bu y capel yn nghau dros amser. Mae clod mawr yn ddyledus i fyfyrwyr athrofa y Bala, am eu gwasanaeth ffyddlon i'r lle hwn. Buont yn dyfod yn rheolaidd ar bob tywydd dros y Berwyn, i bregethu i'r ychydig a ddeuai yn nghyd, a hyny am dal llai nag a gynygiasid i un gweithiwr cyffredin am fyned ar neges o'r Bala i Langynog; ac oni buasai eu ffyddlondeb a'u hunanymwadiad hwy, nis gallesid cadw y drws yn agored.

Codwyd yma un pregethwr yn nhymor gweinidogaeth Mr. Price; sef, John Watkins, 'Rhenstent. Mae yr eglwys yn awr wedi uno a Phenybont, a than ofal Mr. Evans. Er nad oes yma neb wedi bod yn amlwg iawn fel crefyddwyr, y mae yn mysg yr ychydig enwau yn y lle, rai a "mawr ofal calon" ganddynt am achos y Gwaredwr.


SARDIS, LLANWDDYN.

Ymddengys mai yn Cynonisaf y pregethodd yr Annibynwyr gyntaf yn yr ardal hon. Amaethdy ydyw heb fod yn mhell o'r ffordd sydd yn arwain o Lanfyllin i'r Bala, trwy Lanwddyn. Yn nechreu y ganrif hon, symudodd un John Davies a'i wraig o Lanuwchllyn yma i fyw; ac am eu bod yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yno, nid hir y buont cyn gwahodd eu gweinidog, Dr. G. Lewis, i bregethu iddynt yn eu preswylfa newydd; a pharhawyd i bregethu mor gyson ag y gellid. Heblaw Dr. Lewis, sonir am John Jones, Afonfechan, yn mysg y pregethwyr cyntaf a ddaeth yma. Claddwyd John Davies, Cynonisaf, ym mhen rhai blynyddoedd wedi eu symudiad yma; ond parhaodd ei weddw i noddi yr achos fel o'r blaen. Priododd merch iddi a John Jones, Gwynyndy, ger Llanfaircaereinion, a daeth Mr. Jones i fyw i Cynon dros yspaid; ac adeiladwyd ty i'r weddw ar y buarth; a phregethid o hyny allan yn y ddau dy yn ol cyfleustra. Nid oedd eglwys y pryd hwn wedi ei ffurfio yn Cynonisaf, ond elent i Lwydiarth i gymuno, ac yno y derbyniwyd Mr. John Jones yn aelod, gan Mr. James Griffiths, Machynlleth; ond ffurfiwyd yma eglwys cyn y flwyddyn 1809; y flwyddyn yr aeth Mr. Jones yn ei ol i'r Gwynyndy, canys dywedir yn hanes ei fywyd, ei fod yn ddiacon yn yr eglwys yn Cynonisaf, pan y symudodd i'r Gwynyndy.[103] Nid hir y bu Mr. Jones heb symud yn ol i Gwynyndy, lle y bu o gefn mawr i'r achos, fel y crybwyllasom yn hanes Llanfair; ond parhaodd Mrs. Davies i dderbyn y pregethu i'w thy, hyd nes y symudodd i Efailycwm, ger Llanfyllin, ac yr unodd a'r eglwys yno, lle y bu yn ffyddlon hyd ei diwedd. Ar symudiad Mr. Jones i'r Gwynyndy, daeth un Thomas Gittins, o Brynadda, Cwmcowni, i fyw i Cynon. Yr oedd ar y pryd yn aelod defosiynol yn yr Eglwys Sefydledig, ond wrth wrando ar yr Annibynwyr, yn nhy Mrs. Davies, ennillwyd ef i'w hoffi, a bwriodd ei goelbren yn eu plith; a phan yr ymadawodd Mrs. Davies a'r lle, agorodd ef ddrws ei dy i'r efengyl, ac yno y cafodd yr achos gartref, hyd nes y codwyd capel Sardis, yn y flwyddyn 1821; ac agorwyd ef Ebrill 10fed, a'r 11eg, 1822. Ar yr achlysur pregethwyd y noson gyntaf gan Meistri J. Davies, Llanfair, a W. Hughes, Dinas. Dranoeth am 10, gan Meistri E. Davies, Cutiau, a J. Roberts, Llanbrynmair. Am 2, gan Meistri J. Jones, Main, a D. Morgan, Machynlleth. Am 6, gan Meistri H. Lloyd, Towyn, a J. Ridge, Penygroes. Mr. Morris Hughes, oedd y gweinidog i'r eglwys yn Cynon, mewn cysylltiad a'r Capel Bach, Penybontfawr, am flynyddau cyn codi Sardis; ac yn mysg y rhai a fuont yn golofnau i'r achos yn ei flynyddoedd cyntaf, heblaw John Davies a'i wraig, yr ydym yn cael enwau Evan Davies, Lletty; Robert Rees, Caeaubychain; Edward Thomas, Tymawr; Thomas Gittins, Cynonisaf; Robert Evans, Abermarchnad; John Parry, Tynewydd; a William Davies, Rhiwlas. Pregethodd Mr. M. Hughes lawer yn Tanyfoel, yn ngwaelod Cwmcowni, a chynorthwyid ef gan y myfyrwyr o athrofa Llanfyllin, yn yr adeg yr oedd yr athrofa yno; ac yn 1825, codwyd yno gapel bychan a alwyd Saron. Ni bu yma eglwys Annibynol erioed, ond ystyrid y lle yn gangen o Sardis. Llafuriodd Mr. Hughes yma yn gymeradwy iawn hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Medi 1af, 1846.

Bu yr eglwys ar ol marwolaeth Mr. Hughes, am rai blynyddoedd heb sefydlu ar weinidog, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Jones, myfyriwr yn athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd Mehefin 23ain a'r 24ain, 1853. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Price, Dinbych; holwyd y gweinidog gan Mr. W. Roberts, Penybont; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. J. Williams, Aberhosan; pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog; a Mr. D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Hughes, Foel; R. D. Thomas, Penarth; ac H. Ellis, Corwen. Bu Mr. Jones yma yn barchus, hyd y flwyddyn 1857, pan y symudodd i Bristol. Wedi ymadawiad Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Benjamin Evans, o Peniel, sir Gaerfyrddin, ond a fuasai am dymor yn athrofa y Bala; ac urddwyd ef Medi 14eg a'r 15fed, 1858. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Hughes, Foel; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Thomas, Llanuwchllyn; pregethodd Mr. W. Roberts, Penybont, i'r gweinidog; a Mr. D. Evans, Penarth, i'r eglwys; ac y mae Mr. Evans yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad, a'r achos mewn agwedd siriol iawn.

Nid ydym yn cael am neb a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon, ond Mr. Evan Jones, (Ieuan Gwynedd); yr hwn a ddaeth i'r ardal hon gadw ysgol yn 1837, ac a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y tymhor hwnw.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

MORRIS HUGHES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780, mewn lle a elwir Penyfigin, yn nghymydogaeth Braichywaun. Yr ydym er chwilio llawer wedi methu cael sicrwydd pa le y derbyniwyd ef yn aelod; ond y mae Mr. Edward Davies, Trawsfynydd, yn tueddu i feddwl mai yn Llanfyllin, cyn dechreu yr achos yn Llwydiarth. Melinydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu am dymor yn dal melin yn, neu gerllaw, Llanfaircaereinion. Nid oedd yn Llanfair yr un capel y pryd hwnw, a'r tebygolrwydd yw, mai yn ei dŷ ardrethol ei hun yno y dechreuodd bregethu. Symudodd cyn hir i Lanwddyn; a byddai yn pregethu llawer ar y Sabbothau, yn Tanyfoel am 10, Cynon 2, Llwydiarth 6; ac unwaith yn y mis deuai i'r Capel Bach a Llanrhaiadr i bregethu. Yn y flwyddyn 1809, penderfynodd yr eglwysi yn y Capel Bach, Penybont, a'r Cynon, Lanwyddyn; roddi galwad iddo i fod yn weinidog; a bu Mr. Davies, Trawsfynydd, pan yn ddyn ieuangc, mewn cyfarfod gweinidogion yn Nrwsynant, (Sammah, yn awr), yn ceisio ganddynt ddyfod yno i'w ordeinio, yr hyn a wnaed yn y Capel Bach, cyn diwedd y flwyddyn hono. Bu yn ffyddlon iawn i ddyfod i'r Capel Bach a Llanrhaiadr am flynyddau lawer, a hyny am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Rhoddodd ofal Penybont i fyny tua'r flwyddyn 1829; ac o hyny allan, cyfyngodd ei lafur i Lanwddyn a Braichywaun. Bu yn briod ddwywaith, a magodd deulu lluosog o blant; a digon isel a helbulus ei amgylchiadau bydol a fu drwy ei oes. Yr oedd yn ddyn mawr, tal, teneu, esgyrniog, o dueddfryd arafaidd, yn hytrach yn bruddaidd. Ystyrid ef yn ddyn deallgar a gwybodus, ac yr oedd yn bregethwr tra sylweddol; ond heb y tân a'r gwres sydd yn ofynol i wneyd pregethwr poblogaidd. Llafuriodd yn ddiwyd a ffyddlon am oes hir, am gydnabyddiaeth fechan, dan amgylchiadau digon enffafriol, ond nid aeth ei lafur yn ofer. Yr oedd yn frawd i'r diweddar Mr. John Hughes, Pontrobert, yr hwn oblegid iddo dreulio ei oes i deithio y wlad fel pregethwr Methodistaidd, sydd a'i enw yn fwy adnabyddus. Nid oedd dim tebygolrwydd ynddynt o ran corph na meddwl, ond yr oeddynt ill dau, pob un yn ei ffordd a'i ddawn ei hun, yn wyr rhagorol. Bu Mr. M. Hughes farw Medi 1af, 1846, yn 66 oed, wedi dau fis o gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar. Ar achlysur ei gladdedigaeth, gweddiodd Mr. R. Thomas, Croesoswallt; areithiodd Mr. D. Davies, Llanerfyl; a phregethodd Mr. R. D. Thomas, Penarth; a'r Sabboth canlynol, pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. J. Jones, Penllys. Claddwyd ef yn mynwent Llanwddyn, lle y mae beddfaen hardd, yr hwn a osodwyd arno yn 1865, gan eglwys Sardis.

PENLLYS.

Ebeneser (A), Penllys

Mewn trefn i gael golwg glir ar ddechreuad yr achos yn Penllys, Sardis, Dolanog, a Braichywaun, y mae yn angenrheidiol i ni gyfeirio at achos a fu am flynyddoedd, yn nechreu y ganrif bresenol, yn flodeuog yn Llwydiarth, amaethdy cyfrifol yr olwg arno, rhwng Llanfyllin a Cann Office, a thua haner y ffordd o'r naill i'r llall. Tua'r flwyddyn 1806, symudodd Mr. Thomas Moreton, Pentreheilyn, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a Phenygroes, i Lwydiarth i fyw. Yr oedd efe yn hen aelod o'r Sarnau, ac yn un o aelodau cyntaf yr eglwys sydd yn awr yn Mhenygroes; a phan y symudodd i Lwydiarth, meddyliodd yn ddioed am godi achos i'r Arglwydd yn ei dy. Pregethwyd llawer yno gan hen weinidogion y dyddiau hyny, yn enwedig gan Mr. Roberts, Llanbrynmair, a Mr. Hughes, o'r Dinas. Čodwyd capel bychan, neu trowyd ty oedd yno eisioes, at wasanaeth yr achos; a chadwyd moddion cyson yno, a phregethu mor rheolaidd ag y gellid. Corpholwyd yno eglwys, ac yn mysg yr aelodau, yr oedd Mr. Moreton, a'i wraig, a'i ferch Frances, (Mrs. Owens, Penllys, wedi hyny); Robert Davies, Felinwnfa, a'i wraig; Thomas Williams, (Eos Gwnfa), a'i wraig; John Griffiths, Penyfigin, a'i wraig; John Breese, a'i wraig; Robert Ellis, a'i wraig; Jane Hughes, mam Meistri Morris Hughes, Sardis; a John Hughes, Pontrobert; Mary Williams, hen wraig a ddaeth i'r ardal o Landderfel; ac eraill o bosibl, na chawsom eu henwau.[104] Nid ydym yn sicr a oedd yr holl rai yna yn Llwydiarth ar gychwyniad yr achos, ond y mae yn sicr iddynt ymuno ag ef yn fuan wedi hyny; ac ychwanegwyd eraill atynt, fel yr oedd gwedd addawus ar yr achos. Bu farw Mr. Moreton yn mhen rhai blynyddoedd, ond cyn marw rhoddodd orchymyn difrifol i'w blant i fod yn ymgeleddgar o achos yr Arglwydd ; a pheidio gadael i bregethwyr yr efengyl i fyned heibio heb ddangos caredigrwydd iddynt. Bu cartref i'r achos yn Llwydiarth dros yspaid bywyd Mrs. Moreton, y weddw; ond wedi ei marwolaeth hi, priododd ei mab, Mr. John Moreton, a Miss Lloyd, o'r Rhiwlas, yr hon oedd eglwyswraig ragfarnllyd; ac wedi ei rhagddysgu gan ei mam cyn gadael y Rhiwlas, i beidio darostwng ei hun trwy ymgysylltu a'r Ymneillduwyr, na derbyn y pregethwyr i'w thy; ac ar ei mynediad hi i Lwydiarth trowyd achos yr Arglwydd allan. Dywedir fod Mr. John Moreton yn teimlo yn ofidus oblegid y peth; canys yr oedd efe yn ddyn hynaws, a buasai yn dda ganddo wneyd dymuniad diweddaf ei dad, ond yr oedd dan lywodraeth ei wraig, yr hon fel yr ymddengys, oedd ddynes o ewyllys gref a phenderfynol, ac wedi ei rhagddysgu gan ei mam pa fodd i wneyd ar ol myned i Lwydiarth. Gwasgarwyd yr ychydig enwau oedd yma, rhai i Cynonisaf, a rhai i Dolanog; ac yr oedd Miss Frances Moreton, merch Llwydiarth, yn awr yn briod a Mr. Thomas Owens, Penllys, ac ill dau yn aelodau yn Llwydiarth. Yr oedd Mr. Owens wedi ei dderbyn yn Llwydiarth tua'r flwyddyn 1814, gan Mr. Daniel Davies, Sarnau. Wrth weled pregethu yn cael ei droi o dy ei thad,

penderfynodd Mrs. Owens, a'i phriod, y mynent agor eu drws i roddi cartref i'r achos. Mae yn deilwng o'n sylw fod achos wedi bod gan y Methodistiaid yn Mhenllys, yn nyddiau tad Mr. Thomas Owens. Pregethent mewn amryw dai, megis yr Halfen, Dolwarfawr, Llaethbwll, Moelyfronllwyd; ond Penllys fu yn brif gartref i'r achos dros amryw flynyddoedd, nes y symudwyd ef i Bontrobert, ac y codwyd capel yno yn 1800.[105] Rhyw dramgwydd rhwng tad Mr. T. Owens a'r Methodistiaid yn nghylch ei ail briodas, a barodd symudiad yr achos i Bontrobert; ond yr oedd Mr. T. Owens, y mab, wedi ei ddysgu o'i febyd i barchu crefydd, er mai yn mhen mwy na blwyddyn ar ol priodi yr ymunodd a'r eglwys yn Llwydiarth; ac yr oedd mor barod a'i wraig i groesawu yr arch i'w dy. Tua'r flwyddyn 1817, y dechreuwyd yr achos yn Mhenllys. Bu y myfyrwyr oedd yn yr athrofa yn Llanfyllin, yn pregethu llawer yma, ond ar ol ymadawiad yr athrofa, ac i Mr. W. Morris gael ei sefydlu yn Llanfyllin, arno ef yr oedd gofal y lle; ac yn y flwyddyn 1822, rhoddodd Mr. Owens, Penllys, ddarn o dir yn rhad i godi capel, a mynwent yn ei ymyl.

Bu Mr. Morris yn dyfod yma yn rheolaidd hyd ei ymadawiad a Llanfyllin yn 1839; ac yr oedd yn nodedig o boblogaidd trwy yr holl wlad. Coffeir yn gynes am ei ymweliodau rheolaidd pan y pregethai yn Pentrepoeth am 10, ac yn Penllys am 2, ac i Llanfyllin erbyn yr hwyr. Gwanychodd yr achos gryn lawer wedi ymadawiad Mr. Morris, ac yn neillduol trwy i Mr. T. Owens, yr hwn oedd yn brif golofn yr achos, gymeryd fferm yn agos i Trallwm, ac er nad oedd wedi llwyr adael Penllys, etto yn ei le newydd y treuliai y rhan fwyaf o'i amser. Yn yr adeg yma sicrhaodd Mr. Owens wasanaeth y gwyr ieuaingc oedd dan addysg gan Mr. Jones, yn Marton, i ddyfod i Benllys ddwy waith yn y mis, yr hyn a brofodd yn adfywiad mawr i'r achos. Yn y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr. John Jones, Parc, gerllaw Penybontfawr; ac urddwyd ef Ionawr 5ed a'r 6ed, 1841. Pregethodd Mr. J. Williams, Aberhosan, ar natur eglwys; holwyd y gweinidog gan Mr. John Roberts, Llanbrynmair; gweddiodd Mr. J. Davies, Llanfair, am fendith ar yr undeb; pregethodd Mr. D. Price, Penybont, i'r gweinidog, a Mr. D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys; pregethwyd hefyd gan Mr. R. Thomas, Dinas; W. Roberts, Pennal, ac H. James, Brithdir. Bu Mr. Jones yma yn llafurio hyd ddiwedd 1848, pan y symudodd i Carno. Teimlodd yr achos yma oddiwrth ymadawiad Mr. T. Owens, Penllys, yr hwn a symudodd i'r Neuadd, gerllaw Llanfair, yn 1841, ac ni ddychwelodd yma mwy i fyw; ond dychwelwyd ei gorph i orphwys yn y fynwent yma, Ionawr, 1850. Wedi ymadawiad Mr. J. Jones, ni bu yma yr un gweinidog sefydlog am flynyddau. Daeth Mr. Robert Fairclough, i'r ardal, a bu yma mewn rhyw fath o gysylltiad a'r lle dros rai blynyddoedd; ond gwywodd yr achos yn fawr trwy ei annoethineb ef, a drwgfuchedd rhai o'r aelodau. Nid oes yma yr un gweinidog ar hyn o bryd, ond gwasanaethir yr achos gan weinidogion y sir; ac y mae myfyrwyr y Bala wedi bod bob amser yn ffyddlon i'r eglwys yn y lle. Mae yn resyn gweled achos fu unwaith mor llewyrchus, wedi disgyn mor isel; ond nid yw yn ddiobaith pe ceid i'r ardal ddyn ieuangc, a chanddo "galon i weithio." Codwyd yma un pregethwr; sef, Hugh Hughes, yr hwn a ymfudodd i America.

BRAICHYWAUN

Salem yw enw y capel, er mai anaml y gelwir ef ar yr enw hwnw. Mae yn mhlwyf Llanfihangel yn Ngwnfa. Mae yr eglwys hon yn dilyn ei tharddiad i'r eglwys yn Llwydiarth; er mai aelodau o Lanfyllin, Sardis, a Phenllys oedd yn ymuno ynddi ar ei chorpholiad. Pregethwyd llawer yn yr ardal hon yn Efailycwm, Tynewydd, Llawrycwm, Penyfigin, a Phentrepoeth, gan weinidogion Llanfyllin, ac eraill; ac yn Felinwnfa, a Rhiwlas, gan Mr. Morris Hughes, Sardis, ac eraill. Tua'r flwyddyn 1832, barnwyd mai gwell fuasai i'r achos yn y gymydogaeth yma fod dan ofal un gweinidog; a chael achos Annibynol yn y lle, gan y teimlid fod Sardis a Phenllys yn rhy bell. Yr oedd rhai dros i'r achos fod dan ofal Mr. Morris, Llanfyllin, mewn cysylltiad a Penllys; ac eraill am iddo fod dan ofal Mr. Morris Hughes, mewn cysylltiad a Sardis. Cyfarfu Mr. Morris, a Hugh Hughes, yr hwn oedd yn aelod ac yn bregethwr yn Mhenllys, a Mr. M. Hughes, a Thomas Williams, (Eos Gwnfa), yr hwn oedd yn aelod yn Sardis, yn nhy John Breese, er cydystyried y mater; ac wedi siarad llawer, a dadleu yn gynes, ond yn frawdol, penderfynwyd fod i Mr. Morris Hughes gymeryd gofal yr achos. Yr oedd ymlyniad cyfeillion Penllys oedd yn yr ardal, yn gryf wrth Mr. Morris, ac efe oedd y pregethwr mwyaf poblogaidd; ond yr oedd eangder maes ei lafur yn ei gwneyd yn anmhosibl iddo ef ofalu am y lle. Yr oedd Mr. Morris Hughes, o'r ochr arall, wedi rhoddi Penybontfawr i fyny rai blynyddau cyn hyny, ac nid oedd ganddo ond Sardis dan ei ofal; ac yr oedd ei fod wedi ei eni a'i fagu yn yr ardal yn gwneyd fod llawer o'i gyfeillion, ac yn enwedig Thomas Williams, yprydydd, fel ei gelwid, yn selog drosto. Ni bu ond y teimladau goreu rhwng Mr. Morris, Llanfyllin, a Mr. Hughes, Sardis; ond oblegid eu hymlyniad wrth Mr. Morris, daliodd rhai i fyned i Benllys i gymundeb, hyd nes yr ymadawodd a Llanfyllin. Corpholwyd eglwys yma yr amser hwn, yn Tynant-ty Edward Watkin, heb fod yn nepell o'r fan y mae eapel Braichy waun. Bu yr achos yma yn llewyrchus am tua thair blynedd, er nad oedd y lle ond distadl a diaddurn. Yn y ty hwn y derbyniwyd Mr. R. Hughes, yn awr o Cendl, yn aelod, pan nad oedd ond wyth oed. O herwydd rhyw amgylchiadau, bu rhaid gadael ty Edward Watkin; ond agorwyd dau ddrws i'r achos ar unwaith; sef Rhydllechau, a thy John Breese; a byddai pregethu yn ol cyfleustra yn y ddau le, ond fynychaf yn nhy John Breese. "Bu John Breese yn wir Obed Edom i arch Duw yn Braichywaun. Ni bu pâr yn y gymydogaeth hon o gymeriad gwell, nac yn fwy parchus a chariadus yn nghyfrif pawb a'u hadwaenent, na John Breese ac Ann ei wraig. Er nad oedd ef ond saermaen, bychan, cyffredin, ac yn isel eu hamgylchiadau, a buont ill dau yn bur fethiedig am flynyddoedd olaf eu hoes; etto, llawer pryd o fwyd a roisant yn llawen i bregethwyr, a'u ty a roisant yn babell i'r Arglwydd." Crybwyllasom yn hanes Ieuan Gwynedd, yn nglyn a Saron, Tredegar, mai yn yr ardal hon y dechreuodd bregethu, er mai aelod yn Sardis ydoedd ar y pryd; a chan i ni gael rhai crybwyllion ychwanegol oddiwrth un oedd yn cyd-ddechreu pregethu âg ef, rhoddwn hwy i mewn yma. Yr oedd Thomas Williams, (Eos Gwnfa), wedi cael y fath foddlonrwydd yn Ieuan Gwynedd wrth ei glywed yn areithio ar Ddirwest, fel y trefnodd a'i weinidog, Mr. Morris Hughes, i'w godi i bregethu, ac yr oedd Joseph Williams, mab Thomas Williams, i ddechreu yr un diwrnod. Yr oedd Mr. M. Hughes wedi crybwyll wrth rai o gyfeillion Sardis, fod son am godi Evan Jones yn bregethwr, ond nid oeddynt yn rhoddi iddo fawr gefnogaeth. Galwasant ef yn ol ar ddiwedd yr ysgol un boreu Sabboth, a gofynasant iddo ai nid gwell fuasai iddo aros dipyn yn hwy cyn dechreu; ond nid atebodd Ieuan iddynt air, ond torodd i wylo, ac wrth weled hyny, dywedodd y brodyr wrtho am fyned yn ei flaen, na safai yr un o honynt hwy ar ei ffordd. Y boreu Sabboth hwn, yr oedd Mr. Morris Hughes yn pregethu yn Felinwnfa; a phregethodd Joseph Williams ychydig o'i flaen. Erbyn dau o'r gloch, aeth Ieuan Gwynedd i Rhydllechau, lle yr oedd Mr. Hughes i bregethu; a phregethodd ychydig o'i flaen; ac am chwech, yn nhy John Breese, pregethodd Joseph Williams, ac Ieuan Gwynedd; a dyna y tro cyntaf erioed i Ieuan Gwynedd bregethu. Bu pregethu yn rheolaidd, a holl ordinhadau crefydd yn cael eu gweinyddu yn gyson, yn nhy John Breese, hyd nes y codwyd capel; a thrwy drafferth fawr y cafwyd lle i adeiladu capel arno. Čafwyd addewid unwaith am dir gan oruchwyliwr Syr Watkin, yn ymyl Felinwnfa, ond oblegid gwrthwynebiad Mr. Hamer, offeiriad Llanfihangel, ataliwyd y gwaith, er fod y sylfaen wedi ei thori. Yr oedd yr offeiriad wedi gwneyd rhyw ffafr a Syr Watkin, ac fel ad-daliad gofynai na byddai iddo roddi tir at godi capel o fewn dwy filldir i'r Llan; ac er marw Mr. Hamer, yr oedd ei olynydd, Mr. Pugh, yn sefyll dros gyflawniad yr un amod. Ond tua'r flwyddyn 1842, prynodd Mr. William Williams, un o aelodau Penllys, dy yn mhentref Llanfihangel, ac yr oedd yn foddlawn i'w werthu i godi capel arno. Pan ddeallodd yr offeiriad hyny, cydsyniodd, o leiaf, rhoddodd heibio ei wrthwynebiad rhag i'r capel gael ei godi wrth ddrws y Llan, a chafwyd darn o dir wrth dalcen ty John Breese. Dangoswyd ffyddlondeb mawr gan yr ardalwyr yn nghodiad y capel, ac yn enwedig bu Thomas Thomas, Cefnllwyni, a Thomas Jones, Blaenycwm, yn flaenllaw gyda'r gwaith.

Bu y lle dan ofal Mr. Hughes, Sardis, hyd ei farwolaeth. Wedi hyny bu dan ofal Mr. J. Jones, mewn cysylltiad a Penllys, hyd nes y symudodd i Carno. Ar sefydliad Mr. Joseph Jones, yn Sardis, cymerodd hefyd ofal Braichywaun, ac y mae y lle yn parhau dan ofal Mr. Evans, ei olynydd yn Sardis. Heblaw y personau a enwyd yn flaenorol, bu yma lawer o ffyddloniaid yn nglyn a'r achos. Mae Thomas Williams, (Eos Gwnfa,) yn deilwng o gofnodiad parchus yn nglyn à hanes crefydd yn y wlad yma. Yr oedd yn ddyn gwybodus a deallgar, a llafuriodd, yn arbenig gyda'r Ysgol Sabbothol, o'i chychwyniad cyntaf yn yr ardaloedd yma. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llwydiarth, ac wedi i'r drws yno gael ei gau yn erbyn yr achos, ymaelododd yn Sardis, gyda'i gyfaill Mr. Morris Hughes, yr hwn oedd wedi ei gydfagu ag ef; a bu o gynorthwy mawr i'r achos yn ei fynych symudiadau, o fan i fan yn y gymydogaeth hon. Yr oedd yn fardd gwych, a chyfansoddodd lyfr a elwir Telyn Dafydd. Yr oedd yn nodedig o dyner tuag at fechgyn ieuaingc, a gwnai bob peth a allai er eu cefnogi; ac y mae ei enw yn barchus gan lawer o honynt hyd y dydd hwn.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys yma, o'r rhai oedd yn aelodau ynddi, y personau canlynol:—

John Williams. Mab Thomas Williams. Trodd ef at y Bedyddwyr

Joseph Williams. Mab arall i Thomas Williams; y mae yn awr yn Llansilin, ac yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys yno. Robert Hughes. Bu yn Athrofâu y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn y Trallwm, ac y mae yn awr yn Cendl. Y mae ei enw yn hysbys i'r holl eglwysi.

Bu Evan Thomas, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a Machynlleth, yn byw yma dros dymhor hir, ac yn pregethu yn yr holl wlad oddiamgylch. Mae yn Braichywaun yr achos mwyaf bywiog, siriol, a gobeithiol, ag sydd o fewn plwyf Llanfihangel-yn-ngwnfa.[106]

FOEL, LLANGADFAN.

Capel y Foel (A)

Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y cymydogaethau hyn cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd Evan Hughes, a'i wraig, Susan Hughes, Nantysaeson, tad a mam Mr. Hugh Hughes, gweinidog y Foel wedi hyny, yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i groesawi pregethu i'w ty. Yr oedd gwraig Nantysaeson, yn ferch Ffriddfawr, Nanty reira, ac fel yr ymddengys, yn arfer myned yn achlysurol, os nad yn rheolaidd, i Lanbrynmair i wrando. Wedi priodi, aeth Evan Hughes a'i wraig i fyw i Nantysaeson, rhwng y Foel a Mallwyd, a dechreuasant fyned i wrando i Ddinas Mawddwy, a chyn hir, derbyniwyd y ddau yn aelodau упо. Yn mhen amser, prynodd Evan Hughes dyddyn, yn mhlwyf Garthbeibio, a elwid Llechwedd-bach, ac ar un Sabboth, daeth Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yno i bregethu. Yn y ty lle y cedwid y gwair y pregethai, ac afreolus iawn oedd y gwrandawyr. Daeth Mr. Hughes, Dinas, i gynorthwyo Mr. Roberts, a thrwyddedwyd y Llechwedd-bach yn lle addoli; ac wedi i bobl yr ardal ddeall hyny, ymddygasant yn llawer mwy gofalus. Pregethwyd llawer yn y Llechwedd gan Meistri Azariah Shadrach, H. Pugh, ac R. Roberts, o'r Brithdir; D. Richards, Tynyfawnog; R. Roberts, Tyddynyfelin; J. Lewis, Bala, ac eraill. Wedi codi ty newydd yn y Llechwedd, a thrwyddedu hwnw at bregethu, medd- yliwyd am droi yr hen dy i gadw ynddo ysgol ddyddiol. Bu hen ŵr crefyddol, o'r enw John Llwyd, yma yn cadw ysgol am ychydig. Ar ei ol ef, daeth Rees Davies yma i gadw ysgol, a bu yn y lle dros dro, ac yn llafurus iawn yn pregethu yn mhob man y cawsai ddrws agored. Yn ei amser ef, ennillwyd yma dri at grefydd, fel yr oedd nifer y dysgyblion yn bump, a theimlent erbyn hyn yn galonog iawn i fyned yn mlaen. Tua'r flwyddyn 1797, ymwelodd Mr. Hughes, Dinas, ag ardal y Foel, a phregethodd ar fuarth Llettypiod; ac ar y diwedd, rhoddodd gyhoeddiad i fod yno drachefn, a derbyniwyd ef i'r ty yr ail waith. Trwyddedwyd y ty hwn hefyd i bregethu, a bu pregethu cyson am flynyddau yn y Lletty a'r Llechwedd; yn un y boreu ac yn y llall y prydnhawn. Yn 1805, cafwyd darn o dir gan Mr. Davies, Siop, i adeiladu capel y Foel arno. Nid oedd ond bychan, ond yr oedd dan yr amgylchiadau hyny yn gaffaeliad gwerthfawr. Yr oedd yr ardal yn dywyll ac anwybodus, a llawer o weddillion hygoeledd yn aros; ond llafuriodd Mr. Hughes, o'r Dinas, yma gyda ffyddlondeb mawr am fwy nag ugain mlynedd. Yn y flwyddyn 1820, rhoddodd yr eglwys alwad i un Hugh Hughes, Llechwedd, pregethwr a godasid ganddi, i fod yn weinidog iddi; a llafuriodd yn ffyddlon yma am bedair-blynedd-ar-hugain, nes y bu raid iddo, oblegid gwaeledd a nychdod, roddi i fyny. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Edward Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala; ac urddwyd ef Gorphenaf 9fed a'r 10fed, 1844. Pregethodd Mr. D. Morgan, Llanfyllin, ar natur eglwys. Holwyd y gweinidog ieuange gan Mr. M. Jones, Bala, yr hwn hefyd a weddiodd. Dywedodd Mr. D. Davies, Llanerfyl, a Mr. Hugh Hughes, Foel, y ddau hen weinidog, air o'u teimladau ar yr achlysur. Pregethodd Mr. H. James, Brithdir, i'r gweinidog; a Mr. S. Roberts, Llanbrynmair, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Thomas, Dinas; W. Roberts, Llanrhaiadr; D. Evans, Llanidloes; R. D. Thomas, Penarth; J. Thomas, Bwlchnewydd; J. Jones, Penllys; J. Davies, Llanfair; a J. Davies, Glasbwll[107]. Bu Mr. Roberts yma am wyth mlynedd, a symudodd oddiyma i Carno. Ar ei ol ef daeth Mr. John Hughes yma, yr hwn a urddasid yn Victoria, sir Fynwy, a bu yn y lle am saith mlynedd, a symudodd i Hanley, swydd Stafford. Yr oedd yr eglwys yn parhau i gasglu nerth yr holl flynyddoedd hyn, ond yn 1859 ac 1860, bendithiwyd hi ag ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd. Ychwanegwyd lluaws o bobl ieuaingc at yr eglwys, ac y mae llawer o honynt yn glynu yn eu proffes. Yn y flwyddyn olaf a nodwyd, rhoddwyd galwad i Mr. Caleb Evans, efrydydd o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 26ain, 1860. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Gofynwyd yr holiadau gan Mr. J. Williams, Aberhosan. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. D. Evans, Penarth. Anerchwyd y gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, a'r eglwys gan Mr. H. Morgan, Sammah. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Williams, Dinas; H. James, Llansantffraid; W. Roberts, Penybontfawr; E. Roberts, Carno; R. Hughes, Trallwm; a B. Evans, Sardis[108]; ac y mae Mr. Evans yma etto, yn parhau i lafurio. Yn 1846, yn fuan wedi sefydliad Mr. E. Roberts yma, rhoddwyd darn newydd yn yr hen adeilad; ond yn 1866, adeiladwyd ef yn gapel hardd, ac agorwyd ef wythnos y Pasg, 1867, a'r ddyled wedi ei thalu; ac y mae yr achos yn parhau mewn gwedd siriol, pan gofiom farweidd-dra yr amseroedd presenol ar grefydd.

Wedi ymadawiad y teulu o'r Llechwedd-bach, teimlid fod angen lle i addoli at wasanaeth y cwr hwnw o'r ardal, ac yn 1842, codwyd Beersheba. Nid oes eglwys wedi ei chorpholi yma, ond y mae yn gangen berthynol i'r Foel, lle y cynhelir Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddi, a phreg- ethu achlysurol; ond y mae yr ardalwyr gan mwyaf yn dyfod i'r Foel i'r odfa ddau o'r gloch bob Sabboth.

Codwyd yma i bregethu:—

Hugh Hughes. Yr hwn wedi hyny a urddwyd yn weinidog yma.

David Rowlands. Yr oedd yn enedigol o'r Dinas. Yr oedd yn was yn Maes Garthbeibio. Priododd, ac aeth i'r America, ac y mae wedi marw упо.

John Morris. Dechreuodd bregethu yn 1863. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala; ac urddwyd ef yn weinidog yn Llanrhaiadr Mochnant, lle y mae etto.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

HUGH HUGHES. Ganwyd ef yn 1792. Yr oedd ei rieni, fel y crybwyllasom, yn byw yn Nantysaeson, ac wedi hyny yn Llechwedd-bach. Yr oedd yn ei febyd yn hynaws a charedig, a chymerodd iau Crist arno yn foreu. Ystyrid ef gan bawb yn ddyn diniwed, mor nodedig felly, nes bod mewn llawer o bethau yn blentynaidd. Urddwyd ef yn 1820, a llafuriodd yn ddiwyd yn ol mesur y dawn a rodded iddo. Ymgymerodd a chodi capel yn y Ddol-lwyd, a gwnaeth hyny gan mwyaf ar ei draul ei hun; ond y mae y lle hwnw wedi ei roddi i fyny er's wyth-mlynedd-ar-hugain. Nid oedd ei alluoedd yn gryfion na'i wybodaeth yn eang, ond yr oedd ei ffyddlondeb yn fawr, a gwir ofalai am yr eglwys dan ei arolygiad; ac yr oedd ei bryder am yr achos yn ei wneyd yn bruddaidd a chwynfanus. Codai yn foreu y Sabboth, ac elai o gylch i gymell pobl i'r cyfarfod gweddi saith o'r gloch. Ni bu erioed yn briod, ac yr oedd holl hynodion hen lanc ynddo. Mae gan ei gydoeswyr a'i frodyr yn cwbl y weinidogaeth lawer o chwedlau dyddan am dano, ond y mae y yn esboniad o'i ddiniweidrwydd, ac mor unplyg yr ydoedd gyda phob peth. Dyoddefodd yn dost oddiwrth ddiffyg anadl, a theimlodd fod angenrhaid arno i ymneillduo o'r weinidogaeth, fel y gallasai yr eglwys ddewis rhyw un ieuengach a chryfach. Wedi rhoddi yr eglwys i fyny, aeth i Lanfyllin i fyw at nith iddo, ac yno y gorphenodd ei yrfa. Yn ei gystudd, cwynai ei bod yn dywyll arno; ond cyfododd goleuni iddo yn y tywyllwch, a bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith, Tachwedd 15 fed, 1846, yn 54 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Pendref, Llanfyllin, lle yr erys ei weddillion marwol gydag eiddo llawer o rai rhagorol y ddaear.

LLANERFYL.

Bethel (A) Llanerfyl

Capel y Diosg, y gelwir ef yn yr ardal, am fod ychydig o dai yn y man lle y mae yn dwyn yr enw hwnw. Dechreuwyd pregethu yn y Siop, yn y Llan, ac yn y Tygwyn, lle y preswyliai John Evans, yr hwn oedd yn briod a chwaer Mr. David Davies, Llanerfyl. Bu pregethu a chyfarfodydd gweddio yn y ddau dy uchod am flynyddau, ac nid oeddynt yn gofalu rhyw lawer i ba sect y perthynai y pregethwyr. Bu llawer o bregethwyr y Methodist iaid ynddynt yn pregethu o bryd i bryd, megis Meistri Humphrey, Gwalchmai; J. Hughes, Pontrobert; Ismael Jones, ac eraill; er mai Meistri W. Hughes, Dinas; M. Hughes, Sardis; E. Davies, Allt-tafolog; a D. Davies, Llanerfyl, a bregethai iddynt fynychaf. Nid oedd yma ar y pryd ond ychydig o broffeswyr, ac i'r Foel yr elent i gymuno. Symudodd John Evans, o'r Tygwyn i Gyfylche, ond yr oedd cartref i'r achos yn ei dy yno hefyd, a phregethodd Mr. Hughes, o'r Dinas, ac eraill, lawer yn y Tygwyn, Pandy, Biop, Gyfylche, a llawer o fanau eraill. Dechreuwyd Ysgol Sabbothol yn Llanerfyl yn ysgubor Mr. Davies, Siop; ac yr oedd yno nifer o frodyr yn selog drosti, ac nid ofer fu eu llafur. Trwy yr ysgol a'r pregethu lladdwyd yr ofergampiau a ddygid yn mlaen yn yr ardal yma ar ddydd yr Arglwydd, ar ol i bob parth yn mron o'r Dywysogaeth eu rhoddi i fyny. Yn 1824, corpholwyd yma eglwys, er nad oeddynt ond saith mewn nifer. Yn 1827, y codwyd y capel, a'r un flwyddyn derbyniodd Mr. David Davies, un o aelodau cyntaf yr eglwys, alwad i fod yn weinidog, ac urddwyd ef, Medi 12fed. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; gofynwyd yr holiadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; pregethodd Mr. E. Davies, Trawsfynydd, i'r gweinidog, a Mr. J. Roberts, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Davies, Llanfair; J. Jones, Main; H. Hughes, Foel; ac M. Hughes, Sardis. Nid oedd ond deuddeg o aelodau yn yr eglwys pan urddwyd Mr. Davies, yn 1827, ond pan y rhoddodd yr eglwys i fyny, yn 1844, yr oedd yn driugain o nifer. O herwydd ei fod yn teimlo yn adfeiliedig o ran corph a meddwl, rhoddodd yr eglwys i fyny, ac unodd Llanerfyl a'r Foel, yn 1844, i fod yn un weinidogaeth, a dewiswyd Mr. E. Roberts, i fod yn weinidog; ac y mae y Foel a Llanerfyl yn parhau hyd yr awr hon dan yr un weinidogaeth; ac ond edrych pwy fu y gweinidogion yn y Foel, gwelir hefyd pwy fu yma. Yn 1862, adgyweiriwyd y capel trwy draul o 100p., a thalwyd y cwbl yn fuan.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn y Tygwyn, Llanerfyl, yn 1780. Yr oedd ei rieni Thomas a Mary Davies, yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gallwn gasglu iddo gael addysg grefyddol yn foreu. Denwyd ef i wrando Mr. Hughes, o'r Dinas, yn ei ymweliadau cyntaf a Llanerfyl, ac yr oedd yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i broffesu crefydd; er ei fod yn 30 oed cyn gwneyd hyny. Bu rai blynyddoedd cyn dechreu pregethu, ac yr oedd yn 47 oed pan urddwyd ef i waith y weinidogaeth. Gwladwr syml a dirodres ydoedd, yn gyffelyb i amaethwyr ei wlad yn gyffredinol. Yr oedd yn ddyn o ddeall da, ac o synwyr cyffredin cryf, yn meddu llawer o ffraethineb tawel, ac yn llawn caredigrwydd a natur dda. Cerid ef fel cymydog gan bawb, ac nid oedd anmheuaeth yn meddwl neb nad ydoedd yn "Israeliad yn wir." Ni chafodd ddim manteision addysg, ond yr oedd ganddo gof cryf, a dawn ymadrodd a pharabl clir, rhwydd, a melus. Gweithiwr egniol ydoedd. Trwy ei lafur ef yn benaf y codwyd capel Llanerfyl, a thrwy ei ymdrechion ef yn benaf y talwyd am dano. Llafuriodd lawer yn Dolanog heb nemawr ddim cydnabyddiaeth am ei waith. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny pan welodd nas gallasai fod o lawer o ddefnydd yn hwy; ond er rhoddi y gofal i fyny, gwnaeth ei oreu tra y gallodd i gynorthwyo ei olynydd yn y swydd. Cafodd iechyd da trwy ei oes, hyd o fewn tair blynedd i'w ddiwedd. Cododd dafaden wyllt ar ei wefus isaf, yr hon, er pob dyfais feddygol a ymwthiodd yn ddyfnach, nes myned a'i fywyd ymaith, Mawrth 23ain, 1850, pan yn 70 oed. Dyoddefodd boenau dirfawr, ond dyoddefodd y cwbl fel cristion, a bu farw mewn tangnefedd.

DOLANOG

Yn y flwyddyn 1806, daeth un David Thomas, o ardal Penarth yma i gadw ysgol. Cymerodd ystafell i'r perwyl, mewn ty a elwid y Dafarn, oblegid ei fod wedi bod felly unwaith, ond nid oedd felly y pryd hwn. Rhoddid yr ystafell yn rhad gan David Harris, y perchenog, ond yn unig i'r athraw roddi addysg i ddau o'i blant. Gan fod David Thomas gethwr, gofynai genad i bregethu yn yr ystafell y Sabboth, a chafodd hyny; a deuai cryn lawer i'w wrando, oblegid yr oedd pregethu yn newydd-beth yn yr ardal. Dechreuodd gadw cyfeillachau crefyddol yno, ac yn mysg y rhai cyntaf a unodd a'r achos, yr oedd Ann Wood, ac Abraham Wood, y Gro, ac Elizabeth Williams, Maesyglynog. Yn fuan daeth y ddau frawd Meistri R. a C. Jones, Llanfyllin, i gynorthwyo David Thomas; ac er fod y rhai a ddeuant yn nghyd yn aml yn afreolus ac anweddaidd, etto, daliodd y gwyr da hyn, ac eraill i bregethu iddynt. Codwyd y capel yn 1810, yn benaf drwy offerynoliaeth Mr. R. Jones, Llanfyllin, a bu ef ei hun ar daith trwy y Deheudir yn casglu ato. Cafodd daith galed, ond dychwelodd gyda digon o arian i orphen talu y ddyled.[109] Wedi symudiad yr athrofa i Lanfyllin, cafwyd llawer o help gan y myfyrwyr; a byddai Mr. W. Hughes, o'r Dinas, yma yn amlach na neb arall yn gweini yr ordinhadau, a sonir am dano gan yr hen bobl gyda serch mawr. Yn fuan wedi codi y capel, daeth Lewis Pugh, Llanwrin, yma i gadw ysgol, ac i bregethu, a bu yn y lle dros rai blynyddoedd. Wedi ei urddo yn Llanfair, deuai Mr. James Davies yma yn fynych; ond Mr. David Davies, Llanerfyl, ar ol ei urddo yn 1827, oedd y gweinidog cyntaf a fu yn gweini i'r eglwys yma gydag un math o reoleidd-dra. Bu yn dyfod yma am flynyddau, a'r cwbl a dderbyniai am ei lafur oedd swllt bob Sabboth; ond pan y deuai i'r cyfeillachau crefyddol, i'r rhai y deuai fynychaf bob wythnos, er fod ganddo filldiroedd o ffordd, ni feddylid am gynyg ceiniog iddo. Yr oedd yma ary pryd hwnw gynnulleidfa luosog, ac eglwys yn gymharol gref. Wedi urddo Mr. John Jones, yn Penilys, yn 1841, cymerodd ef ei gofal, a bu yn llwyddianus tra yr arosodd yma. Wedi bod flynyddau heb weinidog, gan ddibynu ar weinidogion a phregethwyr yr eglwysi cylchynol, tua diwedd 1859, daeth Mr. Robert Fairclough yma, a chytunasant ag ef i gymeryd eu gofal am flwyddyn, ond pan y daeth y flwyddyn i ben, ni fynai ymadael, a helynt flin a ganlynodd; a rhwng annghallineb a chyndynrwydd, y naill a'r llall, llwyddasant i lwyr ysigo yr achos, fel y bu y lle am yspaid, mai anaml yr agorid y drws, oblegid na ddeuai neb yma i bregethu. Yn niwedd 1865, daeth Mr. Richard O. Evans yma i gadw ysgol, ac i bregethu; ac yn ystod ei arosiad ef yma, cafwyd moddion rheolaidd yn Sabbothol, ac yn wythnosol, ond yn Mehefin, 1867, ymadawodd i gymeryd gofal eglwys Glynhafren, gerllaw Llanidloes; ac er hyny dibyna y lle ar weinidogaeth achlysurol.

TRALLWM.—(SAESONAEG).

Yr ydym yn cael fod Ymneillduaeth wedi ymdaenu i raddau helaeth yn y Trallwm, a'r gymydogaeth, yn amser y werin—lywodraeth. Buy Crynwyr yno ar un adeg yn lled luosog, a chan mai o eglwysi yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn ol eu haddefiad eu hunain, y darfu iddynt hwy gasglu y rhan luosocaf o'u dysgyblion cyntaf, mae yn naturiol casglu fod Ymneillduaeth yn lled gryf yn y parthau hyn ar amser eu cyfodiad hwy. Ymddengys oddiwrth hanes Richard Davies, Cloddiau—cochion, un o'r Crynwyr ei fod ef yn perthyn i'r Annibynwyr yn nhref y Trallwm, canys dywed fod yr "Anymddibynwyr y bobl y perthynwn i iddynt gynt, yn bobl neillduedig, wedi eu casglu yn benaf gan Vavasor Powell." Dywed iddo ymuno a hwy pan oedd "tua 12 neu 13 oed;" a chan mai yn y flwyddyn 1635 y ganwyd ef, rhaid mai o gylch y flwyddyn 1648 yr ymunodd a hwy. Pregethodd Mr. Vavasor Powell lawer yn erbyn y Crynwyr, ac aeth Richard Davies i'r Cloddiau-cochion unwaith gan ddisgwyl clywed Mr. Powell, a chyda y bwriad i'w wrthwynebu. Fel hyn y dywed Richard Davies ar hyny, "Vavasor Powell a bregethodd lawer yn erbyn y Crynwyr; pan glywais i hyn, daethum i le a elwid y Cloddiau-cochion, yn agos i'r Trallwm, i'w cyfarfod hwynt, gan ddisgwyl y cawn ef yno; ond nid oedd ef yno. John Griffithes, Ynad Heddwch yn y dyddiau hyny, oedd yn pregethu yno." Gallwn gasglu oddiwrth yr hanes, fod hyn tua'r flwyddyn 1658. Crybwyllasom fwy nag unwaith am y John Griffiths yma, yn nglyn a hanes Llanfyllin; ac y mae yn eglur ei fod yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos yn y dyddiau hyny.

Yr oedd Mr. Nathaniel Ravens, yn gweinidogaethu yn eglwys plwyf y Trallwm, ar amser adferiad Siarl II., a chafodd ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth, yn 1662. Nis gwyddom i sicrwydd pa beth a ddaeth o hono ar ol hyny. Wedi i Vavasor Powell, yn 1655, newid ei farn ar fedydd, a chymeryd ei drochi; tua'r flwyddyn 1657, daeth dyn a elwid Morgan Evan, o Ddeheudir Cymru, i gyffyrddiad a Richard Davies, yr hwn ar y pryd hwnw oedd yn perthyn i'r Annibynwyr, ac o'r pryd hwnw aeth Richard Davies, yn Grynwr selog a llafurus. Felly chwalwyd yr Annibynwyr yn y Trallwm, a'r amgylchoedd; aeth rhai yn Fedyddwyr gyda Vavasor Powell, a'r lleill yn Grynwyr gyda Richard Davies; a darfu am yr achos yn llwyr; ac y mae yn ymddangos i Ymneillduaeth wywo o radd i radd yma gydag amser, nes darfod yn hollol. Ryw bryd ar ol y flwyddyn 1780, ailgychwynwyd yma achos Annibynol. Nis gallasom gael allan i sicrwydd pa bryd ei dechreuwyd. Mae Mr. D. Morgan, yn ei ysgrifiau angyhoeddedig, yn dyweyd mai Mr. John Griffith, Llanfyllin a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y ddwy flynedd o 1780 i 1782, y bu yn aros yn Llanfyllin; ac ychwanega, mai Miss Meredith, (Mrs. Griffith, wedi hyny), a'i mam, a roddodd dir at adeiladu Capel yma. Mae yr ymroddiad mawr a ddangoswyd gan Mr. Griffith, i eangu terfynau yr achos yn ystod yr adeg fer y bu yn Llanfyllin, yn gystal a'r traddodiad sydd yn gyffredinol yn y dref, a'r amgylchoedd, mai efe a fu yr offeryn i'w sefydlu, yn ein gogwyddo yn gryf i gydsynio a'r hyn a ddywedir gan Mr. Morgan, mai i lafur Mr. Griffith fel offeryn, y mae yr achos yn y Trallwm yn ddyledus am ei gychwyniad.

Yn ol hen lyfr yr eglwys, yr hwn sydd yn awr yn meddiant y Cofrestrydd Cyffredinol yn Somerset House, Llundain, Mr. Richard Tibbott oedd y gweinidog yma yn 1788, a Mr. Jenkin Lewis, Llanfyllin, a ystyrid fel gweinidog yn 1790, ac mae yn debygol iddo ef barhau i ddyfod yma, yn fisol neu fynychach, hyd 1793. Mae yn ymddangos mai un Mr. Thomas Evans, eglwyswr efengylaidd, fel y tybir, a dyn o gryn gyfoeth a dylanwad, fu y prif offeryn mewn cysylltiad a gweinidogion Llanbrynmair a Llanfyllin i sefydlu eglwys yma. Pregethid yn y lle yn flaenorol; ond nid ymddengys i eglwys gael ei chorpholi yma cyn Rhagfyr 19eg, 1793, ac ar yr 21ain o'r un mis, gweinyddwyd Swpper yr Arglwydd i'r eglwys ieuangc, gan

Mr. J. Whitridge, Croesoswallt. Y personau canlynol oeddynt yr aelodau ar gorpholiad yr eglwys: Thomas Evans, Thomas Jones John Taylor, Morris Edwards, John Roberts, Joseph Jones, Grace Evans, a Mary Jeffreys. Yr oeddynt er mis Medi cyn hyny wedi cyduno i roddi galwad i Mr. David Francis, myfyriwr yn athrofa Gwrecsam. Bu Mr. Francis yn pregethu yma o 1793 hyd Mawrth 31eg, 1796, cyn cael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Nis gwyddom pa beth oedd y rheswm iddo fod cyhyd heb gael ei urddo. Rhoddir hanes yr urddiad fel y canlyn yn yr Evangelical Magazine:—"Dydd Iau, Mawrth 31ain, 1796, urddwyd y Parch. Mr. Francis yn weinidog yr eglwys Annibynol yn y Trallwm, Maldwyn. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Mr. Edwards, Wem; traddodwyd y gynaraeth, a derbyniwyd y gyffes ffydd gan y Parch. Mr. Whitridge, Croesoswallt; gweddiwyd yr urdd-weddi gan y Parch. Mr. Lucas, Amwythig; traddodwyd y siars i'r gweinidog gan y Parch. Mr. Lewis, Wrecsam; ac i'r eglwys gan y Parch. Mr. J. Boden, Hanley. Mae yn hyfrydwch genym edrych ar waith y dydd hwn, pan feddyliom nad oedd yn y dref hon tua deuddeng mlynedd yn ol ddim pregethu efengylaidd, a bod yr achos ieuangc yma er pan ddechreuwyd pregethu yn efengylaidd yn y lle, wedi gweithio ei ffordd trwy lawer o gyfnewidiadau ac anhawsderau. Yr ydym yn hyderu y bydd i'r undeb a ffurfiwyd heddyw, effeithio llawer o ddaioni i eneidiau, a gogoniant i Dduw. Mae yn ymddangos fod llawer o bobl y dref yn gogwyddo i roddi gwrandawiad astud i'r gwirionedd." Aelod o eglwys y Bwlchnewydd, yn Nghroessir Gaerfyrddin, oedd Mr. Francis. Derbyniwyd ef i'r athrofa oswallt, Awst 15fed, 1789. Dywed Mr. Lucas, o'r Amwythig, wrth gymeradwyo ei achos i'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, ei fod yn ddyn da iawn, yn bregethwr rhagorol, ac yn nodedig am ei gallineb. Nid ymddengys iddo fod yn nodedig o lwyddianus yn y Trallwm, er na fu yn hollol ddilwydd. Rhif yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys, fel y gwelsom, oedd wyth, a deuddeg oedd eu rhif yn niwedd y flwyddyn 1796. Yr ydym wedi methu a chael gafael ar weithred y capel, er gwybod pa bryd yr adeiladwyd ef, a phwy a roddodd y tir. Yn ol rhyw hen gofysgrifau sydd etto ar gael, ymddengys i'r capel gael ei godi rywbryd o 1798 i 1800.[110] Yr oedd ganddynt "dy cyfarfod" cyn codi y capel; ond nis gwyddom yn mha le yn y dref yr oedd. Telid ardreth am dano, ac y mae 10p. o ardreth am yr hen gapel, yn cael ei roddi yn nhraul y capel newydd. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. D. Francis y codwyd y capel. Costiodd 344p. 10s. 61c. Bu Mr. Francis yn casglu llawer at y draul, ond ni ddywedir yn yr hen gofysgrifau sydd ar gael, pa faint a gasglodd; ond talwyd iddo 56p. 18s. 44c., am ei lafur, ac ar gyfer ei dreuliau; a thalwyd 5p. 9s. 8c. i'r pregethwyr a fu yn gweini i'r eglwys yn ei absenoldeb. Yr anffawd am yr holl fan bapurau hyn ydyw, nad oes dyddiad wrth yr un o honynt. Bwriedid unwaith i godi y capel yn agos i'r fynedfa i bare Castell Powys; ond dangoswyd gwrthwynebiad gan deulu y castell i hyny; a chyda rhyw fanteision tybiedig ar y pryd, cynygiwyd iddynt y lle y saif y capel yn awr arno, yr hwn a dderbyniwyd, ond taflwyd ef drwy hyny i heol o'r neilldu.

Yn y flwyddyn 1799, ymneillduodd pedwar o'r aelodau, a gosodasant i fyny achos Wesleyaidd yn y dref, ac ymadawodd un arall yn yr un flwyddyn, er dechreu achos i'r Bedyddwyr; ond er y colledion hyn, yr oedd rhif yr aelodau yn niwedd y flwyddyn hon yn bedwar-ar-bymtheg. Ar y 27ain o Awst, 1800, rhoddodd Mr. Francis ei weinidogaeth i fyny. Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes ar ol hyn. Wedi ymadawiad Mr. Francis, bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog hyd Ebrill 18fed, 1802, pryd y rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, Treffynon. Arwyddwyd ei alwad gan Mr. Thomas Evans, ac un-ar-ddeg eraill o'r aelodau, yn nghyda phedwar o'r gwrandawyr, y rhai nid oeddynt yn gymunwyr. Yn yr alwad hon, addewiri Mr. Davies 20p. y flwyddyn o gyflog, sef tair punt yn fwy nag a roddid i'w ragflaenydd, Mr. Francis; "heblaw yr hyn a allasai gael o'r funds yn Llundain." Nid ymddengys i Mr. Davies fod yma dros o dair i bedair blynedd, ac nis gwyddom pa un ai yma y bu farw, ai ynte a symudodd i ryw le arall. Dywedir mai yn ardal Penygraig, sir Gaerfyrddin, y ganwyd Mr. Davies, ond nid ydym yn sicr o hyny, nac ychwaith o amser ei enedigaeth. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, yr hon a gedwid yn Abertawy, yn nhymor ei efrydiaeth ef. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn 1876, ac aeth allan yn 1790, pryd yr urddwyd ef yn Nghapel Sul, Cydweli. Bu yn gwasanaethu yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Phenygraig, hyd y flwyddyn 1795, pryd y symudodd i Dreffynon, sir Fflint. Ni bu yn Abergavenny, fel y camddywedir yn Llyfryddiaeth y Cymry Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Nhreffynon, dechreuodd gyhoeddi Y Geirgrawn, neu Drysorfa Gwybodaeth. O herwydd fod y cyhoeddiad hwn yn amddiffyn egwyddorion rhyddfrydig, ru ei olygydd mewn enbydrwydd, a dywedir iddo orfod ymguddio am beth amser rhag cael ei ddal. Bu Mr. Davies yn Nhreffynon hyd y flwyddyn 1799 neu 1800, ond nis gwyddom yn mha le y bu o'r pryd hwnw hyd nes iddo ymsefydlu yn y Trallwm yn 1802, ac y mae ei hanes ar ol ei ymadawiad oddiyma, os nad yma y bu farw, yn hollol anhysbys i ni. Ar ymadawiad Mr. Davies, urddwyd Mr. George Ryan, yr oedd ar y pryd yn bregethwr teithiol yn sir Amwythig, i fod yn weinidog i'r eglwys Annibynol yn Minsterley a'r Trallwm. Felly y dywedir yn hanes ei urddiad yn yr Evangelical Magazine, am 1806, tu dal. 380 Cymerodd ei urddiad le Mai 28ain, 1806. Mae yr hanes hwn a'r cofnodion yn llyfr eglwys y Trallwm, yn ymddangos yn anghyson. Yn ol llyfr yr eglwys, yn 1812 y dechreuodd Mr. Ryan ei weinidogaeth yma. Bu Mr. John Harries, am yr hwn nid oes genym unrhyw hanes, yn weinidog yma o 1808, hyd tua diwedd 1811. Dichon i Mr. Ryan fod yma ran o'i amser mewn cysylltiad a Minsterley, o 1806 hyd 1808, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Harries. Yn 1812, ymsefydlodd Mr. Ryan yn gyflawn yma, a pharhaodd ei weinidogaeth hyd 1830. Mae yn debygol iddo farw y flwyddyn hono, ond yr ydym wedi methu taro wrth hanes ei farwolaeth yn un o fisolion y flwyddyn hono, na'r blynyddau dilynol. Ei fab ef oedd G. Ryan, D.D., am yr hwn y rhoddasom ychydig hanes yn tu dal. 46. Dilynwyd Mr. Ryan, gan Mr. Thomas Morgan, yn awr o Hinckley, sir Leicester. Aelod gwreiddiol o eglwys Ebenezer, Pontypool, yw Mr. Morgan, ac addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys hon yn Gorphenaf, 1831, ond yn y flwyddyn ganlynol yr urddwyd ef. Bu yma hyd y flwyddyn 1840, pryd y symudodd i Loegr. Y gweinidog nesaf oedd Mr. C. Hudson, urddwyd ef yma yn 1840, a rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn Ionawr, 1844. Yn Mai, yr un flwyddyn, y rhoddwyd galwad i Mr. H. Kerrison, ac urddwyd ef Mehefin 11eg, 1845, pryd y gweinyddwyd gan Dr. Raffles, Liverpool; Mr. Pearce, Wrecsam; Dr. Halley, Manchester, ac eraill. Y dydd blaenorol, agorwyd y capel newydd, pryd y casglwyd ato dros un bunt a deugain. Yn mis Medi, 1849, rhoddodd Mr. Kerrison ei weinidogaeth i fyny o ddiffyg iechyd. Yn yr un cyfarfod eglwysig ag y derbyniwyd ymddiswyddiad (resignation) Mr. Kerrison, rhoddwyd galwad i Mr. J. Davies, y pryd hwnw o Groesoswallt. Yr oedd Mr. Davies yn nodedig o gymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr, ond symudwyd ef trwy farwolaeth yn Chwefror, 1851. Wedi hyn, bu un Mr. T. Nash, o Lundain yma am tuag wyth mis ar brawf, ond methwyd cyduno i roddi galwad iddo. Yn Ionawr, 1853, rhoddwyd galwad i Mr. J. B. Fletcher, M.A., mab yr enwog Dr. Fletcher, o Lundain; ond yn mis Medi, yr un flwyddyn, rhoddodd ei weinidogaeth i fyny. Yn Mawrth, 1855, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. F. C. Dowthwaite; cydsyniodd yntau a hi, a dechreuodd ei weinidogaeth yma ar y Sul cyntaf yn Mai, yn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1866, gorfodwyd Mr. Dowthwaite, gan gystudd i roddi ei weinidogaeth i fyny. Awst 26ain, 1866, rhoddwyd galwad i Mr. David Rowlands, B.A., Llanbrynmair, a'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth y Sabboth cyntaf o Dachwedd. Bu Mr. Rowlands yma yn dderbyniol, a'i lafur wedi ei goroni a gradd helaeth o lwyddiant; ond y mae yn awr, wedi derbyn galwad oddiwrth yr eglwys Saesonaeg yn Nghaerfyrddin, ac wedi penderfynu myned yno.

Bychan a chydmarol wan yw yr achos hwn wedi parhau o'i gychwyniad hyd yn awr, er fod yma o bryd i bryd, amryw bersonau dylanwadol a gweithgar iawn wedi bod yn dal cysylltiad ag ef. Gwelir fod yma un-arddeg o weinidogion wedi bod yn dilyn eu gilydd mewn tri ugain a deunaw o flynyddau, heblaw dau neu dri eraill fuont yma ar brawf. Anffawd dost i eglwys yw newid ei gweinidogion yn fynych iawn. Mae yr eglwys y digwyddo hyny iddi yn sicr o fod naill ai yn rhy fyrbwyll ac annoeth yn ei dewisiad o weinidogion, neu yn eglwys anghydfyddus ac annymunol i weinidogion i fyw gyda hi. Yr ydym yn ofni fod pob un o'r drygau hyn wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, i ryw fesur, trwy holl dymor ei bodolaeth. Er na fu yma erioed unrhyw derfysg cyhoedd a gwaradwyddus, yr ydym yn deall fod llawer o fan ymrysonau ac anghydwelediad wedi bod yn fynych yn achos nychdod iddi.

Fel y nodasom, bu yma o bryd i bryd, rai dynion rhagorol yn dal cysylltiad a'r achos. Mr. Thomas Evans, oedd y prif offeryn i'w gychwyn, a bu ef yn brif atteg iddo trwy ei oes, ac y mae ei blant ar ei ol wedi bod yn gynorthwywyr effeithiol iawn. Mae Meistri John Evans, Llundain, ac Edward Evans, Worcester, amryw weithiau, wedi cyfranu rhoddion tywysogaidd at ddwyn gwahanol dreuliau y lle. Yn Mawrth, 1868, y bu farw Mrs. Jones, merch Mr. Thomas Evans, yn 84 oed, ar ol bod yn aelod ffyddlon a defnyddiol iawn am 68 o flynyddau. Bu ei marwolaeth yn golled fawr i'r eglwys.

Yn Tachwedd, 1869, dewiswyd Mr. Parker, un o ddiaconiaid yr eglwys hon, yn faer y dref, ac fel Ymneillduwr egwyddorol a chyson, gwrthododd fyned yn ol yr arfer i eglwys y plwyf ar y Sul canlynol i'w etholiad, ond aeth fel y dylasai, i'w gapel ei hun. Cynhyrfodd hyny ddigofaint y Ficer a'r eglwyswyr mwyaf penboeth yn ofnadwy, ond nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond chwyrnu.

Yr unig un y gwyddom am dano a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon, oedd Mr. A. Wright. Anfonwyd ef i athrofa Hackney, yn Hydref, 1843, ond nis gwyddom ddim yn ychwaneg o'i hanes.

Mae y capel yma wedi cael ei adgyweirio a'i brydferthu yn fawr yn ddiweddar, ac ysgoldy cyfleus wedi ei adeiladu yn ei ymyl. Dygwyd rhan fawr o'r draul o brynu y tir y mae yr ysgoldy arno, yn nghyda thraul adeiladaeth yr ysgoldy, ac adgyweiriad y capel, gan Mr. Evans, Wrocester.

TRALLWM.—(CYMREIG).

Dechreuwyd yr achos Cymreig mewn ystafell yn y rhan uchaf o'r dref, yn mis Mai, 1843. Mr. R. D. Thomas, Penarth, fu y prif offeryn i gychwyn yr achos; ac arno ef yn benaf yr oedd gofal yr eglwys am y blynyddoedd cyntaf wedi ei chorpholiad. Nid oedd nifer yr aelodau ar y dechreu ond ychydig, ond cyn pen dwy flynedd yr oeddynt wedi cynyddu i ddeg-ar-hugain, a'r ystafell lle y cyfarfyddent yn orlawn o wrandawyr bob Sabboth. Yn nechreu 1845, prynwyd hen gapel y Saeson am 275p., am eu bod hwy yn codi capel newydd; ac wrth gael cynyg arno am bris mor isel, ag ystyried ei faint, bernid y dylasid ei ddiogelu i'r enwad. Yn 1846, rhoddodd Mr. Thomas, Penarth yr eglwys i fyny, oblegid fod maes ei lafur yn rhy eang; a rhoddwyd galwad i Mr. Evan Thomas, o Lanrwst, yr hwn a urddwyd yma Rhagfyr 13eg, 1846. Ar yr achlysur, darluniwyd natur eglwys, a holwyd y gweinidog gan Mr. R. D. Thomas, Penarth; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Pierce, Liverpool; pregethodd Mr. S. Roberts, Llanbrynmair, i'r gweinidog, a Mr. J. Davies, Llanfair, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri R. Thomas, Croesoswallt, a H. Kerrison, Trallwm. Bu Mr. Thomas yma yn ddiwyd a llafurus hyd 1850, pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Main, Meifod, a Phontrobert. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Thomas, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Robert Hughes, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Ionawr 5ed, 1851. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Roberts, Penybontfawr; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Davies, Trallwm; pregethodd Mr. D. Morgan, Llanfyllin, i'r gweinidog, a Mr. S. Roberts, Llanbrynmair, i'r eglwys. Bu Mr. Hughes yma dairblynedd-ar-ddeg, ac adfywiodd yr achos yn fawr yn y tymhor hwnw. Cynyddodd y gynnulleidfa—lluosogodd yr eglwys—a thalwyd yr oll o ddyled y capel. Yn nechreu 1864, symudodd i Cendl, sir Fynwy. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Price, a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef Ionawr 24ain, 1865. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D..M. Davies, Llanfyllin; holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. H. James, Llansantffraid; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. M. D. Jones, Bala, a siars i'r eglwys gan Mr. R. Hughes, Cendl. Byr fu tymhor gweinidogaeth Mr. Price, oblegid ymddangosodd arwyddion o'r darfodedigaeth ynddo yn fuan wedi ei ordeinio; a bu farw yn mhen naw mis, ar ddydd yr Arglwydd, Hydref 22ain, 1865. Mae yr achos er hyny wedi bod yn amddifad o weinidog, ond y mae golwg siriol ar yr eglwys a'r gynnulleidfa.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JOHN PRICE. Ganwyd ef yn Merthyr-cynog, sir Frycheiniog, yn mis Mai, 1842. Enwau ei rieni oeddynt Richard a Margaret Price. Bu ei fam farw o'i flaen. Nid oedd ei rieni ond isel yn y byd; ond rhoddasant iddo yr addysg oreu a allasai eu hamgylchiadau ganiatau. Derbyniwyd ef yn aelod yn Bethania, Merthyr-cynog, yn adeg y diwygiad yn 1859; ac wrth weled ei gymhwysderau anogwyd ef i arfer ei ddawn i bregethu; a rhoddodd yr eglwys 5p. iddo er ei gynorthwyo i gael addysg. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, yn Mawrth, 1863. Dywedai ei athraw Mr. M. D. Jones, am dano:—"Yr oedd Mr. Price yn berson hardd, yn fyfyriwr da, ac yn meddu galluoedd cryfion. Yr oedd yn ddyn ieuangc pur gyflawn, ac yn ymadroddwr cymeradwy. Yr oedd yn Sais gwych, ac yn goeth ei arferion; yr oedd bob amser yn rhagori mewn coethineb. Ni chafwyd dim gofid gydag ef, ond yr oedd yn wastad i fyny a'r mare, ac yn wr ieuangc hollol barchus. Anogasom ef i ymadael oddiyma ar ol bod yn yr athrofa tua dwy flynedd, am yr ofnem ei iechyd. Ni chafodd amser i fod yn ysgolhaig, ond mewn pethau hanfodol ac ymarferol. Mae ef yn deilwng i gael ei ddal allan yn esiampl i ieuengetyd ein gwlad; canys yr oedd efe yn ddyn ieuangc gwir ymdrechgar i gyrhaedd gwybodaeth, ac i ymragori yn mhob rhinwedd."[111][112] Ni chafodd ond tymhor byr yn y weinidogaeth, ond disgynodd i'r bedd heb golli ei goron, yn 23 oed; a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys newydd Trallwm; ac yr oedd y teimlad a amlygid, yn dangos ei fod yn ystod y tymhor byr y bu yn y lle, wedi ennill serch a chymeradwyaeth Cymry a Saeson.

GROESLWYD.

Mae y lle hwn tua milltir o Gygigfa, (Guilsfield), a thair milltir o dref Trallwm. Nid yw yn mhell o fod tua haner y ffordd o'r Cloddiau-cochion i'r Pantmawr. Dechreuwyd pregethu yma, fel yr ymddengys, tua'r flwyddyn 1820, gan Mr. George Ryan, gweinidog y Trallwm, yn Moelygarth, lle y preswyliai Mr. Griffith Williams, yr hwn am lawer o flynyddoedd wedi hyny a fu yn brif atteg i'r achos yn y lle. Rhoddodd dir yn rhad i adeiladu capel arno, ac i fod dros byth yn feddiant i'r eglwys. Dyddiad y weithred yw Medi 17eg, 1823. Tynwyd hi allan gan Syr John Bickerton Williams, ac y mae enwau un-ar-hugain o ymddiriedolwyr wrthi; ond y mae pob un o honynt wedi marw er ys blynyddau. Mae y lle wedi bod dan ofal gweinidogion Seisnig y Trallwm fynychaf, ond bu gweinidogion y Sarnau ar brydiau yn gofalu am y lle. Yn 1853, cymerodd Mr. R. Hughes, Trallwm, ofal yr eglwys, a bu yn gweinidogaethu yma hyd ei ymadawiad i Cendl, a bu y lle dan ofal Mr. J. Price, Trallwm, am yr ychydig fisoedd y bu efe byw ar ol ei ordeinio, er hyny ni bu yma un gweinidog sefydlog. Achos Saesonaeg sydd yma o'r dechreuad, a'r Annibynwyr a gafodd y cynyg cyntaf ar y gymydogaeth, ac oni buasai esgeulusdra mawr, gallasent fod wedi cymeryd meddiant llwyr o'r ardal. Nid oes dim yn eisiau etto, ond sel dduwiol yr hen Annibynwyr a fuont yn addoli yn y Cloddiau-cochion a'r Pantmawr er adennill y tir a gollwyd.


BERRIEW.

Cefnyfaenor y gelwir y lle hwn weithiau, ond Ebenezer ydyw enw y capel, ac y mae yn mhlwyf Berriew. Pregethodd Mr. John Roberts, Llanbrynmair; Mr. James, Davies, Aberhafesp; a myfyrwyr y Drefnewydd wedi hyny, lawer yma, ond nis gallasom gael y manylion yn mha le yma; ac y mae yn ansicr a gorpholwyd yma eglwys cyn 1826. Rhoddwyd gweithred ar y tir i godi capel yma yn 1829, ac yr ydym yn cael enwau Meistri Samuel Roberts, Llanbrynmair; a Samuel Bowen, Drefnewydd, yn mysg yr ymddiriedolwyr cyntaf. Ar y 25ain o Fai, 1830, urddwyd Mr. John Williams, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd, yn weinidog yma. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog gan Mr. T. W. Jenkyn, Croesoswallt. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. G. Ryan, Trallwm. Anerchwyd y gweinidog gan Mr. E. Davies, Drefnewydd, a'r gynnulleidfa gan Mr. S. Bowen, Ceri. Nid ymddengys i Mr. Williams fod yma yn hir, ac nid oes dim neillduol yn cael ei ddyweyd am sefyllfa yr achos yn yr yspaid y bu yma. Dilynwyd ef gan Mr. Evan Davies, myfyriwr o'r athrofa yn y Drefnewydd, yr hwn a urddwyd yma Chwefror 13eg, 1839. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gweinidog gan Mr. T. Jones, Minsterley. Offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr. M. Davies, Ceri. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Morgan, Trallwm, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies, Llanfair. Disgynodd yr achos i agwedd isel yn ystod y tymhor y bu Mr. Davies yma; ac er fod y capel mewn man cyfleus yn nghanol gwlad dda odiaeth, ychydig o'r ardalwyr a ddeuai i wrando. Wedi ymadawiad Mr. Davies, tua'r flwyddyn 1845, daeth Mr. William Daniel yma, yr hwn a urddasid yn Ceri, a bu yma yn egniol am bedair blynedd; a rhoddid pob help a ellid i'r lle gan Genhadaeth Gartrefol Maldwyn; ond ni bu yma ond ychydig lwyddiant; wedi hyny bu Mr. Thomas Davies yma am flynyddoedd, nes y symudodd i Gaerdydd. Er's mwy nag ugain mlynedd bellach, y mae gofal y lle yn benaf ar Mr. John Owen, Drefnewydd; ond ar wahanol adegau bu Meistri J. Evans, a T. Adams, Drefnewydd, ac R. Hughes, Trallwm, yn cydofalu, a bu gweinidogaeth Mr. Hughes, yn arbenig, yn dra derbyniol yma. Mae yma gryn nifer o amaethwyr cyfrifol yn barod i agor eu tai i lettya a chroesawi pregethwyr; ond ychydig o honynt sydd wedi rhoddi eu hunain i'r Arglwydd. Mae y wlad oll yn hollol Seisnigaidd, ac yn yr iaith hono y dygir yr holl wasanaeth yn mlaen. Mae enw Mrs. Longford, Keel, yn deilwng o'i gofnodi yn nglyn a hanes yr eglwys hon, ar gyfrif ei sel, a'i hymdrech, a'i charedigrwydd mewn cysylltiad a'r achos.

LLANIDLOES.

Er fod yr Annibynwyr wedi pregethu llawer o bob tu i Lanidloes, yn sir Drefaldwyn a sir Faesyfed, er yn gynar yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, etto, aeth yn agos i ugain mlynedd o'r ganrif bresenol heibio cyn i un ymdrech gael ei wneyd i sefydlu achos Annibynol yn y dref. O gylch y flwyddyn 1816, cawn i ŵr a gwraig o'r enw Richard a Margaret Jones, y rhai oeddynt yn aelodau yn yr eglwys Annibynol yn Machynlleth, symud yma i fyw. Gan nad oedd achos gan eu henwad eu hunain yn y lle, cynygiodd Richard Jones a'i wraig eu hunain i'r Methodistiaid, ond nid amlygid parodrwydd mawr i'w derbyn; ond anogid hwy i fyned at y Bedyddwyr. Yn eu profedigaeth, ymgynghorodd Richard Jones & Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, a Mr. D. Morgan, Machynlleth, y rhai a'u cymhellodd i godi achos Annibynol yn y dref, ac er eu calonogi a addawasant ddyfod i'r dref i gynal cyfarfod pregethu er rhoddi cychwyniad i'r gwaith. Cafwyd addewid am fenthyg ystafell yn ngweithfa wlan Mr. Edward Jenkins, yn Heol-y-dderwen, yn ngwasanaeth yr hwn yr oedd Richard Jones; a byddent bob prydnhawn Sadwrn yn ei glanhau allan, fel y byddai yn gymwys erbyn y moddion y Sabboth. Un James Davies, myfyriwr o'r athrofa, a bregethodd gyntaf yn y lle; Mr. James Davies, Llanfaircaereinion wedi hyny, fel y gallwn dybied, oblegid yr oedd efe y pryd hwnw yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Llanfyllin. Cadwyd cyfarfod pregethu yn y lle yn mis Gorphenaf, 1818, a phregethodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth; A. Shadrach, Talybont; a D. Evans, Rhiadr; ac o hyny allan cynhaliwyd moddion yn rheolaidd yma.

Yn nechreu y flwyddyn 1819, daeth Mr. Samuel Williams, myfyriwr o athrofa Llanfyllin, yma i bregethu, ac i gadw ysgol ddyddiol. Yn fuan wedi dyfodiad Mr. Williams, aeth yr achos rhagddo yn siriol iawn, fel y gwelwyd fod eisiau lle helaethach i addoli; ac yn mis Mai y flwyddyn hono, cymerwyd ystafell eangach yn Heol-yr-eglwys. Mr. D. Morgan, Machynlleth, a fyddai yn gofalu am dalu ardreth yr ystafell yn Heol-yr-eglwys, a gwnaed casgliad yn yr eglwys yn y Graig, Machynlleth, tuag at gael meinciau ynddi. Yr oedd nifer yr aelodau erbyn eu mynediad i'r ystafell newydd wedi cynyddu i naw; a theimlent yn dra chalonog i fyned yn mlaen. Urddwyd Mr. Williams Tachwedd 8fed, 1821, ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth; J. Davies, Llanfair; ac H. Hughes, Foel. Cafwyd benthyg yr hen Hall yn nghanol y dref i gynal cyfarfodydd yr urddiad. Aeth pethau rhagddynt yn llwyddianus, fel cyn pen pedair blynedd yr oedd yr eglwys fechan yn rhifo 55 o aelodau. Yn niwedd y flwyddyn 1822, penderfynodd yr eglwys brynu darn o dir yn Heol-yr-eglwys i godi capel arno, a lle claddu yn nglyn ag ef. Costiodd y tir 150p., a dyddiad y pryniad ydyw Ionawr 2il, 1823; ac fe wnaed y weithred rhwng Edward Powell, Perthi-eirin, yn mhlwyf Llanwnog, ac Elenor Evans, o dref Llanidloes, o un tu; a John Roberts, David Morgan, a Samuel Williams, gweinidogion yr efengyl, o'r tu arall. Dechreuwyd ar y capel cyn hir, ac agorwyd ef Medi 30ain, a Hydref 1af, 1824. Ar yr achlysur, pregethodd Meistri M. Ellis, Talybont; D. Thomas, Penrhiwgaled; T. Phillips, Neuaddlwyd; J. Jones, Main; J. Davies, Llanfair; D. Morgan, Machynlleth; W. Morris, Llanfyllin; W. Hughes, Dinas; J. Francis; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffiths, Pentraeth; T. Evans, Rhiadr; ac eraill. Bu Mr. Williams yma yn llafurio yn ddiwyd am wyth mlynedd; ond yr oedd y ddyled oedd ar y capel yn gwasgu yn drwm ar yr ychydig oedd yn perthyn i'r lle, a'r rhan fwyaf yn weiniaid. Symudodd Mr. Williams i Gapel Isaac, yn sir Gaerfyrddin, ac wedi treulio rhai blynyddoedd yno, ac yn Llanedi, ymfudodd i America; ac y mae yn parhau i lafurio yn Bradford, Pennsylvania, gyda chymeradwyaeth mawr, er wedi ei ddal gan lesgedd henaint.

Yn y flwyddyn 1830, derbyniodd Mr. John Jones, o'r Main, alwad i lafurio yma; a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Medi 298in a'r 30ain, pryd y gweinyddodd Meistri H. Morgan, Sammah; J. Williams, Dinas; D. Roberts, Meifod; E. Davies, Drefnewydd; D. Morgan, Machynlleth; J. Roberts, Llanbrynmair; M. Ellis, Talybont; W. Phillips, gweinidog i'r Bedyddwyr; ac H. Gwalchmai, gweinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu Mr. Jones yma yn egniol am bum' mlynedd, nes y derbyniodd alwad, ac y symudodd i Penmain, Mynwy. Wedi ymadawiad Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Evans, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd; ac urddwyd ef Hydref 8fed a'r 9fed, 1835. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Griffiths, Rhiadr. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, Drefnewydd, ac i'r eglwys gan Mr. D. Morgan, Machynlleth. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri S. Davies, Ruabon; H. Davies, Llangollen; T. Evans, Llanwrthwl; J. Davies, Bwlchyffridd; T. Jones, Minsterley; J. Breese, Caerfyrddin; ac L. Lewis, Ebenezer.[113] Llafuriodd Mr. Evans yma am bedair—blynedd-ar-ddeg, ac adfywiwyd yr achos yn fawr yn nhymor ei weinidogaeth. Symudodd oddiyma i Saron, Tredegar, Mynwy.

Yn 1849, rhoddwyd galwad i Mr. David Jenkins, gwr ieuangc o Lanwrthwl, ond a fu am yspaid dan addysg yn Huntington; ac urddwyd ef Gorphenaf 10fed a'r 11eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Morgan, Sammah. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Williams, Aberhosan. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Evans, Llanwrthwl, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Evans, Tredegar, cyn-weinidog yr eglwys. Pregethwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. D. Pughe, Drefnewydd; E. Williams, Dinas; D. Davies, Rhiadr; W. Daniel, Berriew; E. Jones, Abersoch; J. Owen, Drefnewydd; a J. Jones, Carno.[114] Yr oedd Mr. Jenkins yn barchus a chymeradwy fel pregethwr yma, dros amryw flynyddau, a'r achos yn y lle yn llewyrchus; ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac ymfudodd i'r America tua'r flwyddyn 1855. Ymsefydlodd yno yn weinidog yn Newark a Granville, Ohio, lle y llafuriodd gyda derbyniad mawr, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei ddefnyddioldeb yn nghanol ei ddyddiau.

Wedi ymadawiad Mr. Jenkins, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Henry Rees, gynt o Pentraeth, Mon, ond yn awr o Penuel, sir Fflint. Daeth yma yn 1854, ac arhosodd yma tua thair blynedd. Yn 1859, rhoddwyd galwad i Mr. Henry Lewis, yr hwn oedd yn weinidog yn Blaeny coed, sir Gaerfyrddin; a bu yma am yn agos i bum' mlynedd. Yr oedd Mr. Lewis yn boblogaidd iawn fel pregethwr, a phe buasai ei gallineb yn gyfartal i'w ddoniau, gallasai fod yn ddefnyddiol yn unrhyw fan. Mae wedi gadael yr enwad er's blynyddau bellach, ac, fel y deallwn, wedi uno a'r Bedyddwyr.

Ionawr 15fed, 1865, dechreuodd Mr. Richard Jones, Manchester, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau hyd yr awr hon. Mae capel bychan yn perthyn i Lanidloes, a elwir Glynbrochan, yr hwn a agorwyd ddydd Nadolig 1855, yn yr hwn y cedwir ysgol yn rheolaidd, a phregethu yn achlysurol; ond nid oes un eglwys wedi ei chorpholi yma. Nid yw y gynnulleidfa ond bechan, ac nis gellir disgwyl cynydd mawr, gan nad oes ond ychydig o bobl yn byw yn y cwm. Fel y crybwyllasom, bu y ddyled drom oedd ar gapel y dref yn faich anhawdd ei ddwyn am flynyddau; ond y mae y cyfeillion yma newydd dalu y ddimai olaf o'r ddyled oedd yn aros ar gapel y dref, a chapel Glynbrochan, ac y maent yn ystod y chwech neu y saith mlynedd diweddaf wedi talu dros 400p.[115] Bu Richard Jones a'i wraig, y rhai a gychwynasant yr achos yma, yn nodedig o ffyddlon. Gwasanaethodd ef swydd diacon yn yr eglwys, ac ennillodd iddo ei hun radd dda. Mae yr hen wraig yn aros etto yn yr eglwys, ac o fewn ychydig flwyddi i 100 oed. Yr oedd Mrs. Jenkins yn un o'r rhai cyntaf a unodd a'r achos yn ei wendid; a chyn hir, derbyniwyd hefyd Mr. Edward Jenkins, ei phriod, yr hwn ar y dechreu a roddodd ystafell o'i weithfa wlan iddynt at gynal gwasanaeth.

Codwyd yma bedwar i bregethu :

Mathew Lewis. Yr hwn a urddwyd yn weinidog yn Salem, Machynlleth, ac a fu wedi hyny yn Mangor a Threffynon; ond sydd erbyn hyn wedi marw.

Benjamin Jones. Yr hwn a ymfudodd i America, ac a fu farw yno. David Davies. Urddwyd ef yn y Sarnau, sir Drefaldwyn, ac y mae etto yn yr ardal, ac yn pregethu yn achlysurol, er nad oes gofal gweinidogaethol arno.

Benjamin Owens. Bu yn athrofa y Bala, ac am yspaid ar ol hyny yn cadw ysgol yn y Morfa-bychan, gerllaw Porthmadog.

GLYNHAFREN.

Saif y capel hwn o fewn tair milldir i Lanidloes. Adeiladwyd ef yn 1828, ac agorwyd ef yn Hydref, 1829, pryd y pregethodd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; S. Bowen, Drefnewydd, a J. Davies, Llanfair. Corpholwyd yma eglwys yn fuan, yr hon a fu dan ofal gweinidogion Llanidloes yn olynol hyd 1867, pan y rhoddwyd galwad i Mr. Richard O. Evans, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma, Mehefin 27ain a'r 28ain. Ar yr achlysur, pregethodd Mr. H. James, Llansantffraid, i'r gweinidog, a Mr. H. Morgan, Sammah, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri D. M. Jenkins, Drefnewydd; J. Lewis, Corwen, a W. Roberts, Liverpool. Bu Mr. Evans yma yn llafurus hyd ddechreu y flwyddyn hon (1871), pryd y derbyniodd alwad i fod yn gydweinidog â Mr. H. Morgan, yn Sammah a Cemmaes Road, ac y symudodd yno. Nid yw yr eglwys ond bechan, ond y mae yma nifer o bobl ffyddlon a diwyd gydag achos yr Arglwydd.


PENYCOED.

Mae y lle hwn yn mhlwyf Trefeglwys. Pregethwyd llawer yn y plwyf hwn gan yr Ymneillduwyr gynt; ac yr oedd yma lawer o aelodau eglwys sir Drefaldwyn, fel ei gelwid, yn byw, ond pan yr ymffurfiodd yr eglwys hono yn wahanol ganghenau, ni chorpbolwyd yma eglwys Annibynol. Dechreuwyd pregethu drachefn yn yr ardal yn y flwyddyn 1885, gan Mr. J. Davies, Bwlchyffridd, mewn lle a elwir Talygarth; ac wedi hyny, yn Felinhenser; ac o'r diwedd cafodd yr achos gartref yn Closybank. Ysgol Sabbothol a sefydlwyd yma i ddechreu, yn benaf trwy lafur Mr. David Roberts, Trewythenfawr, y pryd hwnw. Perthynai yr aelodau cyntaf i Lanwnog, ond Mr. D. Evans, y pryd hwnw o Lanidloes, oedd ar llaw benaf yn ffurfiad yr eglwys, ac efe a'i corpholodd yn Awst, 1838, ac o dan ei ofal ef y bu hyd nes yr ymadawodd o Lanidloes i Dredegar; a bu o dan ofal ei olynwyr yn y weinidogaeth yn Llanidloes, hyd ddyfodiad Mr. R. Jones i Lanidloes, yn 1865, yr hwn a deimlai nas gallasai gymeryd ei gofal. Bu Mr. J. Davies, Llanwnog (Bwlchyffridd gynt), yn gofalu am y lle ar un adeg, ac y mae yn ffyddlon iddo bob amser. Yn awr ar Mr. R. Ellis, Carno, y mae y gofal yn benaf. Ffurfiwyd cangen o'r eglwys yma yn Cefnbarach, dwy filldir yn nes i Carno na Closybank; ond oblegid i'r rhan fwyaf o brif gynhalwyr y gangen hono ymadael a'r wlad, penderfynwyd uno y ddau achos, a chodi capel yn y lle mwyaf cyfleus a ellid gael i'r holl aelodau. Bu yr eglwys yn hir heb dŷ yn eiddo iddi ei hun i addoli ynddo; ond yn 1862, cafwyd tir gan Mr. Swancott, Llanidloes; a chyflwynwyd ef i John Jenkins, Llanidloes; David Roberts, Ddraenenddu; Thomas Mills, Penycoed; ac Edward Roberts, Carno, (Coedpoeth yn awr,) fel ymddiriedolwyr. Agorwyd y capel yn Awst, 1863, pryd y gweinyddodd Meistri D. Evans, Penarth; E. Roberts, Carno; W. Roberts, Penybont, ac R. Evans, Llanfair. Bu yr ardalwyr yn ffyddlon i gario y defnyddiau ato, ac i dalu am dano, ac y mae y ddyled oll wedi ei thalu. Bu yr achos yn llawer cryfach 28 mlynedd yn ol nac ydyw yn bresenol. Symudodd llawer o'r ardal, ac yr oedd yn anfantais fawr nad oedd yma le cyfleus i addoli; ond cofir gyda hyfrydwch gan lawer am gyfarfodydd gwlithog gafwyd yn yr hen dŷ yn Closy bank. Nifer yr aelodau yn bresenol ydyw ugain.

DREFNEWYDD.—(SAESONAEG).

Mae yn eglur fod pregethu wedi bod yn y dref hon er amserau Vavasor Powell a Henry Williams, o'r Ysgafell; ond nis gallwn ddilyn yr achos yma er hyny hyd yn awr gydag un cysondeb. Mae ger ein bron yn awr gofnodion y Trysorfwrdd Presbyteraidd, yn cynwys enwau nifer o weinidogion oedd yma yn y ganrif ddiweddaf, y rhai a dderbyniasant gymhorth gan y Bwrdd. Yn y flwyddyn 1712, cawn fod un Mr. Perkins yma. Am ddwy flynedd yn 1721 a 1722, cawn un Mr. Benjamin Lewis yma. O hyny hyd 1729, un Mr. David Richards oedd yma. Cawn un Mr. Thomas Hopkins yma o 1729 hyd 1740. Yn y flwyddyn ganlynol yr oedd un Mr. David Jones yma.

Yn 1744 a 1745, yr oedd Mr. Josuah Howell yma; a Mr. Noah Jones am y flwyddyn ganlynol; a Mr. Jos Baker yma yn 1748. O'r flwyddyn 1751 hyd 1766, cawn un Mr. David Lewis yma; ac o 1769 hyd 1773, un Mr. Benjamin Evans; ac am y flwyddyn ganlynol, un Mr. Thomas Rees, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin; ac un Mr. David Lewis, o 1778 hyd 1780. Nis gwyddom ai yr un oedd y David Lewis, a enwyd olaf, a'r David Lewis oedd yma o 1751 hyd 1766. Nis gallwn sicrhau fod yr holl bersonau a enwyd uchod yn gweini i'r eglwys yn y Drefnewydd. Dichon fod rhai o honynt yn cael eu cysylltu a'r Drefnewydd, am mai yma yr oedd y llythyrdy agosaf atynt. Nid yw y rhestr uchod ychwaith yn profi pa cyhyd y bu neb o honynt yma; ond yn unig eu bod y blynyddau a nodir yn derbyn arian o Drysorfa y Presbyteriaid.

Dywedir i un Mr. Williams, a'i deulu, o gymydogaeth Abertawy, y rhai oeddynt Annibynwyr, symud i'r dref hon yn nechreu y ganrif ddiweddaf. Yr oedd yma ysgol ragorol ar y pryd, gan un Mr. Moone, yn y fan lle y mae y Bowling Green yn bresenol, ac er mwyn addysg ei fab, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn weinidog, y symudodd Mr. Williams yma.[116] Mae cwpan arian, cwpan cymundeb, yn awr yn meddiant Mr. Lewis Lewis, un o aelodau yr eglwys, ac arni y cofargraff a ganlyn, yr hon a roddwyd, meddir, gan ferch i'r dywededig Mr. Williams.

"The gift of Mrs. Hannah Williams, to the Church of Protestant Dissenters in Newtown, Montgomeryshire, 1734."

Mae y cwpan pa fodd bynag, yn brawf sicr fod eglwys Ymneillduol yma yn yr adeg hono. Yn hanes bywyd Mr. John Richards, Ty'nyfawnog, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. R. D. Thomas (Iorthryn Gwynedd), Penarth, ac a gyhoeddwyd yn y Cenhadwr Americanaidd, am Ionawr, 1852, cawn y crybwylliad a ganlyn, gyda golwg ar achos y Drefnewydd.

"Yr oedd gan yr Annibynwyr gapel bychan, ac achos Cymreig yn y Drefnewydd, y pryd hwnw. Yr oedd yr hen gapel yn agos i'r Bear's Head, ger Neuadd y dref. Nis gwyddom beth a ddigwyddodd iddo; nid oes hanes manwl am dano yn awr. Enw y gweinidog oedd Mr. Lewis, gwr canol oed; yr oedd yn ysgolor rhagorol, ac yn cadw ysgol ddyddiol yn oruwchystafell y Neuadd. Pregethwr hynod oedd—nis gallai bregethu na gweddio heb gynorthwy ysgrifen a llyfrau, arferai ddarllen ei bregethau yn dra sychlyd i'w gynnulleidfa, ac yr oedd Gweddiau cyffredin yr Eglwys Wladol,' mewn parch mawr ganddo. Yr oedd yn gyfeillgar a boneddigaidd yn ei ymddygiad, ond oblegid ei fyrbwylldra a'i hoffder o'r diodydd meddwol, collodd ei le, a lladdodd ei ddefnyddioldeb! Bu David Richards yn swyddog yn yr eglwys hono am flynyddau; ond nid oedd ganddynt gyfeillach grefyddol, nac Ysgol Sabbothol, na chyfarfodydd gweddio."

Mae yn debyg i Mr. Thomas dderbyn yr hysbysiaeth uchod gan Mr. John Richards, Ty'nyfawnog, yr hwn hefyd a'i cafodd gan ei dad, Mr. David Richards, Ty'nyfawnog—Sarnau wedi hyny—ac y gellir ymddibynu ar ei gywirdeb. Y mae yn sicr genym mai y Mr. Lewis, at ba un y cyfeirir, oedd y David Lewis oedd yn derbyn arian o'r Trysorfwrdd Presbyteraidd o'r flwyddyn 1751 hyd 1766, oblegid yn y flwyddyn 1766 y symudodd Mr. David Richards o'r Drefnewydd i Lanfaircaereinion. Tueddir ni i feddwl mai yr un David Lewis ydyw hwn, ag a geir drachefn yn derbyn cymhorth o'r Trysorfwrdd yn 1778 hyd 1780; ac mai ar lawr y bu dan gerydd am y "pechod oedd barod i'w amgylchu," yn y cyfwng rhwng 1766 a 1778; ac ymddengys i'r achos lwyr ddarfod am dano yr adeg yma, oblegid nid ydym yn cael gair mwy o'i hanes, hyd nes yr ailgychwynwyd ef yn mhen deugain mlynedd agos.

Yn ol yr hysbysiaeth a dderbyniasom o'r Drefnewydd, yn y lle y mae y Crown Shop, yr arferent addoli; ond y mae hwnw yn ymyl y Bear's Head. Wedi i'r hen achos fyned i lawr yn y lle, cymerodd y Bedyddwyr feddiant o hono; a chawsant ganiatad gan y bwrdd yn Llundain, (y Bwrdd Presbyteraidd, mae'n debyg,) i symud y pulpud a'r meinciau o hono; a'r hen bulpud oedd yn y Crown Shop, oedd yn nghapel y Bedyddwyr hyd y flwyddyn ddiweddaf.[117]

Yr oedd un Hugh Jones, yr hwn a fagesid yn y Diosg, Llanbrynmair, yn byw yn y Drefnewydd, ac wrth ei alwedigaeth yn wneuthurwr gwlaneni. Yr oedd y gwr hwn yn aelod ac yn ddiacon yn Bwlchyffridd, ac yn ddyn synwyrol a chrefyddol iawn. Cyn y flwyddyn 1818, rhoddodd Mr. James Davies, Aberhafesp, ofal Penarth i fyny, a daeth i'r Drefnewydd i gadw ysgol, a chyda'r bwriad i wneyd cynyg ar ail gychwyn yr achos yma, a llettyai gyda Mr. Hugh Jones, yn nhy yr hwn y dechreuodd bregethu ar nosweithiau o'r wythnos, a deuai cynifer i wrando ag a allai y ty gynwys. Wedi gwneyd y prawf yn nhy Mr. H. Jones, a gweled fod yr achos yn cael ffafr yn ngolwg y trigolion; cymerwyd ysgoldy y tu cefn i'r Eagles, yn gwynebu ar y Tannerdy; ac i'r hon yr elid i fewn ar hyd grisiau cerrig oddiallan.[118] Cedwid ysgol ddyddiol yn yr ystafell gan ŵr o'r Deheudir, ond cytunodd Mr. Davies ag ef i gael ei gwasanaeth ar y Sabboth, ac ar nosweithiau o'r wythnos. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1818. Yn yr ystafell hon yr ymunodd Mr. Hugh Jones, yn awr o Gaerfyrddin, a'r achos, ond yn Bwlchyffridd y derbyniwyd ef yn aelod gan Mr. James Davies, Aberhafesp, oblegid nad oedd etto eglwys wedi ei chorpholi yn y Drefnewydd. Cedwid yma Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a chyfeillachau crefyddol, yn gystal a phregethu; a dygid yr holl wasanaeth yn mlaen yn Gymraeg. Tua'r flwyddyn 1820, ymfudodd Mr. James Davies i America, ac yn fuan wedi hyny penderfynwyd adeiladu yma gapel newydd; ac yn y flwyddyn ganlynol penderfynwyd symud yr athrofa yma o Lanfyllin; a rhoddwyd galwadi Dr. G. Lewis i fod yn weinidog i'r eglwys yn Bwlchyffridd, ac i'r gangen yn y Drefnewydd ; ac i'w fabynghyfraith Mr. Edward Davies, i fod yn gydweinidog ag ef. Yr oedd Mr. Davies eisioes wedi ei ddewis gan y Bwrdd Cynnulleidfaol i fod yn athraw cynorthwyol. Daeth Dr. Lewis. a Mr. Davies, a'r myfyrwyr i'r dref yn Medi, 1821; ac ar yr 22ain a'r 23ain o Ionawr, 1822, agorwyd y capel newydd, pryd y pregethwyd gan Meistri W. Hughes, Dinasmawddwy; D. Francis, Ludlow; W. Morris, Llanfyllin; J. Lewis, Casnewydd; T. Weaver, Amwythig; J. Breese, Liverpool; a J. Whitridge, Croesos wallt. Dechreuwyd yr oedfaeon gan Mr. W. Davies, y myfyriwr hynaf yn yr athrofa, Mr. Jones, gweinidog i'r Bedyddwyr, Mr. J. Williams, un o bregethwyr y Methodistiaid, a Mr. Jones, gweinidog i'r Wesleyaid; a thranoeth i agoriad y capel yr urddwyd Mr. E. Davies, yn Bwlchyffridd, fel yr hysbysasom yn hanes yr eglwys hono. Cedwid y gwasanaeth yn Gymraeg un ran o'r dydd, ac yn Saesonaeg y rhan arall, ond nid rhyw gydfod mawr oedd rhwng y ddwy iaith. Gan y Gymraeg yr oedd yr afael gyntaf, oblegid yn achos Cymraeg y cychwynwyd ef; ond Saesonaeg oedd iaith y lluaws yn y dref. Pregethai Dr. Lewis yma unwaith bob Sabboth; a phregethai Mr. Davies, neu un o'r myfyrwyr, y rhan arall o'r dydd, ac yr oedd golwg lewyrchus ar yr achos. Ond er siomedigaeth a galar dirfawr, bu farw Dr. Lewis, Mehefin 5ed, 1822, ar ol un-niwrnod-ar-bymtheg o gystudd trwm; a disgynodd gofal yr achos yn gwbl ar Mr. Davies, a chyda chynorthwy y myfyrwyr—ac yr oedd rhai o honynt yn boblogaidd iawn fel pregethwyr—gallodd gyflawni ei ddyledswyddau yn ei faes eang, a daeth yr achos yn ei flaen yn llwyddianus, fel yr oedd yn un o'r achosion mwyaf addawus yn y dref. Ond ysigwyd yr achos yn hollol yn yr etholiad cyntaf wedi pasio Mesur y Diwygiad Seneddol, trwy waith Mr. Davies, yr athraw a'r gweinidog, yn pleidleisio dros Meistri Chales Wynn a David Pugh, y Ceidwadwyr. Cynhyrfodd hyn bleidwyr Mr. Lyons a Syr John Edwards, i ymwylltio yn erwin yn ei erbyn, ac yr oedd rhai o'i bobl ef ei hun yn mysg y rhai mwyaf digofus. Yr ydym yn mhell o gymeradwyo y dull a gymerasant i amlygu eu hanghymeradwyaeth o'r ymddygiad. Mae bwrw llaid, a thori ffenestri yn anheilwng o achos rhyddfrydiaeth; ond yn nghyffroad mawr y dyddiau hyny, prin y gallaswn ddisgwyl i bethau fod yn amgenach; oblegid y mae yn anhawdd meddwl am ddim mwy gwrthun na gweled gweinidog Ymneillduol, a phrif athraw athrofa Annibynol, yn pleidleisio gyda Thoriaid; ac yr oedd gwneyd hyny yn y Drefnewydd, lle yr oedd teimlad gwerinol y bobl mor gryf, yn fwy gwrthun fyth. Pa fodd bynag effeithicdd hyn yn fawr ar yr eglwys a'r gynnulleidfa. Ciliodd llawer at enwadau eraill. Bu mwy na dau ddwsin o'r aelodau yn cerdded bob Sabboth i Ceri, bedair milldir, a pharasant i fyned hyd nes i Mr. Davies ymadael a'r lle; ac erbyn iddynt ddychwelyd, yr oedd plant a theuluoedd rhai o honynt wedi sefydlu gydag enwadau eraill, fel na ddaeth yr achos byth ar ol hyny i fod y peth y buasai yn flaenorol. Yn 1838, penderfynwyd symud yr athrofa o'r Drefnewydd i Aberhonddu; a rhoddodd Mr. Davies ofal yr eglwys i fyny y flwyddyn hono, ac ymadawodd gyda'r athrofa. Teimlid hiraeth gan y rhan fwyaf ar ei ol, oblegid yr oedd iddo barch cyffredinol fel boneddwr hynaws a christionogol; ac yr oedd y rhai a anghytunent fwyaf a'i olygiadau gwladyddol, yn cydnabod ei fod yn y cwbl yn cario allan ei argyhoeddiadau cydwybodol; ac os oedd yn llai e ryddfrydwr na llawer, yr oedd yn fwy o foneddwr na'r rhan fwyaf.

Wedi bod am ddwy flynedd heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Aaron Francis, myfyriwr o athrofa Hackney, Llundain; ac urddwyd ef Mehefin 26ain, 1840. Traddodwyd araeth ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Pearce, Wrecsam; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Morgan, Trallwm, ac i'r eglwys gan Mr. S. Bowen, Maccelesfield. Cymerwyd hefyd ran yn y gwasanaeth gan Meistri J. Davies, Glandwr; J. M. Evans, Sarnau; T. Jones, Minsterley; J. Davies, Llanfair; M. Davies, Ceri; J. Davies, Bwlchyffridd; R. Davies, Blackburn; R. Hughes, ac E. Jones, Marton. Adfywiodd yr achos yn fawr wedi dyfodiad Mr. Francis, ac yr oedd yr holl wasanaeth erbyn hyn, yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith Saesonaeg. Bu Mr. Francis yma hyd y flwyddyn 1843, pryd y derbyniodd alwad o Ruthin, ac y symudodd yno. Bu Mr. Cyrus Hudson yma am ychydig yn 1844. Efe a fu y prif offeryn i sefydlu Ysgol Frytanaidd yma. Yn Mehefin, 1845, derbyniodd Mr. John Peter Jones, alwad gan yr eglwys, a bu yma hyd 1846. Symudodd i Marton a Forden, ac y mae yn awr yn Bromyard, sir Henffordd. Wedi ei ymadawiad ef, bu Mr. John Owen, Bwlchyffridd, am ysbaid yn gofalu am yr achos yn y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1851, rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, B.A., aelod o'r eglwys, ond a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Plymouth. Dechrenodd ei weinidogaeth Mawrth 20fed, 1851, a bu yma am ychydig flynyddoedd, yna symudodd i Stockport. Dilynwyd ef gan Mr. Charles Henry Derby, B.A., myfyriwr o athrofa St. John's Wood, Llundain. Dechreuodd ei weinidogaeth yn mis Tachwedd, 1854; ac urddwyd ef Gorphenaf 4ydd, 1855. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri S. Roberts, Llanbrynmair; J. Davies, Albany, Llundain; Dr. R. Halley, Manchester, ac eraill. Bu Mr. Derby yma hyd Chwefror, 1861. Yn Mehefin, 1861, rhoddwyd galwad i Mr. T. Adams, o Manchester, a bu yma hyd y Sabboth olaf yn 1865.

1865. Mae yn awr yn Daventry. Bu yr eglwys wedi hyny dros amryw flynyddau heb weinidog, ond yn nechreu 1870, rhoddwyd galwad i Mr. John Pyle Jones, o Lanfaches, sir Fynwy; a chynaliwyd cyfarfedydd ei sefydliad Mehefin 22ain, o'r un flwyddyn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Morris, Athraw Duwinyddol athrofa Aberhonddu; H. Oliver, B.A., Casnewydd; D. Rowlands, B.A., Trallwm; D. M. Jenkins, Drefnewydd; R. Lumley, Bwlchyffridd; O. Evans, Llanbrynmair; R. Jones, Llanidloes; J. Jones, Machynlleth, ac eraill; ac y mae Mr. Jones yma yn parhau i lafurio.

Mae yr achos yma, fel y gwelir, wedi myned drwy gyfnewidiadau dirfawr; a rhwng y mynych symudiadau a'r ystormydd a'i cyfarfyddodd, y mae yn rhyfedd iawn ei fod gystal ei olwg ag y mae. Ofnir fod Annibyniaeth wedi colli ei hadeg yn y Drefnewydd, ac nas gall heb rywbeth hollol allan o'r ffordd gyffredin, adfeddianu y tir y mae wedi ei golli.

Nid oes genym restr o'r rhai godwyd i bregethu yma, ond gwyddom mai yma y codwyd y personau canlynol:

Hugh Jones. Dechreuodd bregethu yn fuan wedi corpholiad yr eglwys. Addysgwyd ef yn y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Saron, Tredegar; ac y mae yn awr yn Heol Awst, Caerfyrddin.

John Evans. Yr hwn, fel y crybwyllasom, a fu yn weinidog yr eglwys hon wedi hyny.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

GEORGE LEWIS, D.D. Mae ychydig ddyryswch gyda golwg ar amser a lle genedigaeth y gwr enwog hwn. Dywed Mr. David Peter, Caerfyrddin, mai yn y Fantais, yn mhlwyf Trelech, y ganwyd ef, yn 1760; ond dywed Mr. Edward Davies, mab ynghyfraith Dr. Lewis, mai mewn lle a elwir y Coed, o fewn pum' milldir i Gaerfyrddin y ganwyd ef, yn y flwyddyn 1763, a sicrha Mr. Davies iddo gael hyny oddiwrth ei berthynasau, y rhai a ddylasent fod yn gwybod amser a lle ei enedigaeth.[119] Am ddyddiad ei enedigaeth, y mae yn eglur mai yn ol yr olaf y cyfrifai ef ei oedran, ac felly y ceir ei oedran ar y maen coffadwriaethol sydd yn nghapel y Drefnewydd. Y mae yn sicr fod ei rieni William a Rachel Lewis, wedi bod yn byw yn y Fantais, ond y tebygolrwydd ydyw, mai ar ol genedigaeth gwrthrych ein cofnodion y symudasant yno. Yr oedd ei rieni yn bobl fucheddol, a'i fam yn arbenig, yn eglwyswraig ddefosiynol, a chan mai George Lewis oedd ei hunig fachgen, cymerodd ofal mawr i'w fagu mewn moesoldeb a chrefydd. Cafodd addysg dda pan yn fachgen, dan ofal Mr. J. Pritchard, offeiriad Trelech, ac wedi hyny dan ofal Mr. T. Evans, offeiriad Llanddowror; a bu am yspaid wedi hyny dan addysg Mr. Owen Davies, gweinidog Trelech, ac yn ddiweddarach bu am dymor yn yr ysgol gyda Mr. J. Griffiths, Glandwr. Yr oedd "er yn fachgen yn gwybod yr ysgrythyr lan;" ac nid oedd dim yn wyllt na phenrydd ynddo fel lluaws ei gyfoedion; ac yn nyddiau ei ieuengetyd, yr oedd ei astudrwydd a'i ddyfal—barhad mewn darllen a myfyrio, yn gosod i lawr sylfaen y cymeriad a ddaeth wedi hyny yn un o brif ddysgawdwyr y genedl. Ond er ei fod yn foesol ei ymddygiad, ac yn ddeallgar yn yr ysgrythyrau, nid oedd hyd yma wedi ei argyhoeddi o bechod, a gweled ei gyflwr yn euog ger bron Duw. Pan oedd tuag un-ar-bymtheg oed, daeth un o bregethwyr mwyaf cyffrous y dyddiau hyny i'w ardal, ac wrth ei wrando teimlodd y llange ieuangc George Lewis, nerth yr efengyl yn wahanol i ddim y teimlasai hi erioed o'r blaen, ac o hyny allan cyrchai yn rheolaidd i gapel yr Annibynwyr yn Nhrelech, a derbyniwyd ef yn aelod gan Mr. Owen Davies yn y flwyddyn 1780. Yr oedd yn yr yspaid ar ol dechreu gwrando yn Nhrelech, hyd nes y derbyniwyd ef yn aelod, wedi ymroddi i chwilio yn fanwl i seiliau Ymneillduaeth, oblegid nid oedd am adael crefydd ei henafiaid heb fod ganddo resymau digonol i'w rhoddi dros hyny. Darllenodd Gatecism yr Ymneillduwr Protestanaidd, gan S. Palmer, a chafodd yn hwnw fwy o foddlonrwydd nag a gafodd mewn un llyfr dynol arall. Gwelodd Mr. Davies a'r eglwys yn Nhrelech, fod cymwysderau gweinidogaethol yn George Lewis, ac anogasant ef yn ddioed, wedi ei dderbyn yn aelod, i ddechreu pregethu; a'r hyn y cydsyniodd. Aeth i'r ysgol at Mr. D. Davies, Castell—howell, lle yr arhosodd am flwyddyn; ac yn Awst, 1681, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin; ac yno ennillodd gymeradwyaeth uchaf ei athrawon, Mr. R. Gentleman, a Mr. B. Davies. Tair blynedd yr arhosodd yn yr athrofa, oblegid symudodd Mr. Gentleman i Loegr, a thorwyd yr athrofa i fyny am dymor, nes yr ailgychwynwyd hi yn Abertawy. Yn yspaid ei arhosiad yn Nghaerfyrddin daeth Mr. Lewis i gydnabyddiaeth ag eglwys Pencadair, yr hon oedd ar y pryd heb weinidog, ac yr oedd yn ei bryd roddi galwad iddo; ond cynghorwyd ef gan Mr. Edmund Jones, Pontypool, yr hwn oedd yn fath o arolygwr cyffredinol yr eglwysi, i fyned ar daith i'r gogledd, cyn cydsynio a gwahoddiad eglwys Pencadair. Yr oedd eglwys Caernarfon ar y pryd yn amddifad o weinidog, oblegid yr oedd Mr. J. Griffith newydd symud oddiyno i Abergavenny. Cydsyniodd ar cais, yn benaf er mwyn cael gweled y gogledd, ac nid gydag un bwriad i sefydlu yno; ac addawodd wrth eglwys Pencadair, i beidio rhoddi ateb penderfynol i Gaernarfon nes clywed oddiwrthynt hwy. Nid oedd Mr. Lewis ond dwy-ar-hugain oed pan aeth i'r gogledd, ac nid oedd yr achos yn Nghaernarfon ond isel, er ei fod wedi sirioli yn fawr yn ystod y ddwy flynedd y bu Mr. Griffith yno. Cyfarfyddent mewn ystafell, yr hon ddeuddeng mlynedd cyn hyny oedd wedi ei chofrestu at bregethu, gan Mr. Rice Harris, Pwllheli. Derbyniodd Mr. Lewis alwad unfrydol yn ddioed gan yr eglwys fechan yn Nghaernarfon, ond oedai ei hateb gan ddisgwyl clywed o Bencadair; ond wedi blino yn disgwyl, ac wrth aros yno, yn teimlo mwy o ymlyniad with y lle, penderfynodd ateb yr alwad yn gadarnhaol, er boddlonrwydd mawr i'r eglwys fechan. Ond nid cynt nag yr atebodd alwad Caernarfon, nag y daeth galwad Pencadair i'w law, o'r Iwerddon, wedi bod yn crwydro yr ynys am chwe' mis, ond yr oedd yn rhy ddiweddar, yr oedd ei air wedi ei roddi, ac yr oedd yn rhaid iddo yntau sefyll ato. Mor ddyrus yw ffordd Rhagluniaeth! "Nid eiddo gwr ei ffordd, ac nid ar law yr hwn a rodia, y mae llywodraeth ei gerddediad." Urddwyd ef yn Nghaernarfon yn 1785, ond nis gallasom gael allan y dyddiad, na phwy a weinyddodd ar y pryd; ond gwyddom i Mr. Lewis ymroddi a'i holl egni i wneyd gwaith efengylwr yn Nghaernarfon, a'r holl wlad oddiamgylch. Yn ei amser ef y codwyd capel Pendre, Caernarfon, ac efe a fu y prif offeryn i sefydlu achosion Annibynol yn Mangor, Caerorion, a lleoedd eraill yn mhlwyf Llandegai, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at hanes sir Gaernarfon. Yn yr adeg y bu Mr. Lewis yn Nghaernarfon, y priododd a Miss Jane Jones, merch Mr. Thomas Jones, Bodermid. Yr oedd Miss Jones newydd gladdu ei thad, ac yn byw gyda'i mam yn Mangor. Bu yn ymgeledd gymwys iddo hyd ddydd ei farwolaeth, a chladdwyd hi yn fuan ar ei ol.

Yn y blynyddoedd y bu Dr. Lewis yn Nghaernarfon, yr oedd yn dymhor o gyffroadau gwladol pwysig. Nid oedd ond ychydig flynyddau er yr oedd America wedi taflu ymaith iau Lloegr, a gosod i fyny lywodraeth werinol, er llawenydd mawr i holl gyfeillion rhyddid. Yn yr adeg yma cymerodd chwyldroad le yn Ffrainc, yr hwn a gynhyrfodd yr holl fyd adnabyddus, a dygwyd i mewn gyfnewidiadau pwysig. Gosodid deddfau anheg a gormesol ar warau Ymneillduwyr y deyrnas hon, fel yr oedd llawer yn edrych ar ymfudo i'r America fel yr unig ymwared a allasent gael. Teimlai Dr. Lewis oddiwrth elynion rhyddid ac Ymneillduaeth yn Nghaernarfon, a gwnaeth ei feddwl i fyny i ymfudo i'r America. Ymddengys ei fod yn weriniaethwr cryf o ran ei syniadau gwladyddol, a'i fod yn caru y ffurf-lywodraeth oedd wedi ei gosod i fyny yn America, heblaw ei fod yn teimlo mai yno yn unig y ceid gwaredigaeth oddi wrth y gorthrwm y dyoddefid oddiwrtho yn y wlad hon. Yr oedd wedi derbyn gwahoddiad taer oddiwrth Dr. Samuel Jones, o New York, a Dr. Morse, y daearegwr enwog, ar iddo ddyfod drosodd, naill ai i gymeryd gofal gweinidogaethol, neu ynteu i fod yn athraw ar nifer o blant boneddwyr oedd mewn angen am eu cymhwyso at y fath orchwyl. Yr oedd ei gyfaill Dr. Edward Williams, o Rotherham, wedi hyny, yn ei anog i fyned, ac mor gryf ei feddwl mai hyny oedd ei ddyledswydd, fel yr oedd wedi addaw anfon dau o'i feibion drosodd i gael eu haddysgu ganddo. Gwnaeth bob parotoadau i fyned ymaith, a rhoddodd yr eglwys yn Nghaernarfon i fyny er mwyn hyny. Ond daeth cyfnewidiad sydyn yn yr amgylchiadau, yr hyn a ddyrysodd ei holl gynlluniau, a goruwchreolodd Rhagluniaeth er parhau ei arhosiad yn Nghymru.

Daeth i feddwl y gwr da hwnw, Mr. Jones, o Gaer, i sefydlu ysgolion dyddiol, symudol—un yn mhob sir yn y Gogledd; ac ymgynghorodd a Dr. Edward Williams, yn nghylch cael rhyw un cymhwys i'w harolygu. Meddyliodd yn y fan am Dr. Lewis, ond yr oedd hwnw yn brysur yn hwylio at ymfudo; ond yr oedd y cynygiad mor werthfawr fel y barnai Dr. Williams y dylasai ei gyfaill newid ei gynlluniau, a'i fod wedi dyfod mor amserol fel yr oedd yn amlwg iddo fod llaw gan yr Arglwydd ynddo. Ail ystyriodd Dr. Lewis yr holl fater yn ddifrifol, ac mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn y Bala, yn mis Mai, 1794, hysbysodd ei benderfyniad i aros yn ngwlad ei enedigaeth. Wedi deall hyny, rhoddodd yr eglwys yn Llanuwchllyn alwad iddo. Yr oeddynt cyn hyny wedi rhoddi galwad iddo, ond gwrthododd ei derbyn, oblegid ei fod yn benderfynol i ymfudo; ond yn awr cydsyniodd a'r cais, a gadawodd ei gyfeillion yn Nghaernarfon, lle yr oedd wedi llafurio am yn agos i ddeng mlynedd, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Llanuwchllyn yn nechreu Medi, 1794. Yr oedd yr achos yn Llanuwchllyn wedi myned trwy gryn lawer o gyfnewidiadau, ac wedi cyfarfod a phrofedigaethau nid ychydig; ond yr oedd Dr. Lewis yn wr cymhwys iawn i'r lle. Yr oedd yn wr o gorph cryf, ac o feddwl grymus, yn meddu ar allu nodedig i lywodraethu heb ormesu, a chadw trefn heb arfer cyfrwysdra. "Yr oedd yn gallu ennill serch heb weniaith, a chadw ofn heb drais. Yr oedd yn gallu ceryddu heb roddi tramgwydd, a chanmol heb roi achos ymgodi. Yr oedd yn gyfeillgar heb fod yn rhy isel, ac yn urddasol heb fod yn rhy falch. Ystyrid ef yn drwyadl ostyngedig, ac yn drwyadl foneddwr ar yr un pryd, yr hyn sydd yn llwyr angenrheidiol i bob meistr cynnulleidfa, er mwyn bod yn ffynadwy yn ei waith, a chael ei barchu yr un pryd."[120] Yn Llanuwchllyn yr arhosodd Dr. Lewis hwyaf o un man lle y bu, ac ar Lanuwchllyn y gadawodd fwyaf o'i ol. Yr oedd y bobl, yn nhawelwch ac unigrwydd y lle, heb gael eu haflonyddu gan gynhyrfiadau y byd y tu allan iddynt, mewn sefyllfa fanteisiol i weinidogaeth ysgrythyrol ac athrawiaethol Dr. Lewis i gael ei gwerthfawrogi ganddynt. Nid oedd dim i dynu eu bryd oddiwrth bynciau duwinyddol, ac yn y rhai hyny yr ymhyfrydent; ac yr oedd medrusrwydd eu hathraw i'w dysgu ynddynt y fath fel nad oedd awydd arnynt am glywed neb ond efe. Yn 1796, cyhoeddodd y Drych Athrawiaethol, yn cynwys Corph o Dduwinyddiaeth, yr hwn pa fwyaf a ddarllenir arno, uwchaf oll y meddylir am dano. ar ei brif waith, sef ei Esboniad ar y Testament Newydd, yr hwn a ddygYn Llanuwchllyn y dechreuodd wyd allan mewn saith cyfrol wythplyg; ac y mae yn drysor anmhrisiadwy. Mae y Drych Ysgrythyrol a'r Esboniad yn dangos ei fod yn fyfyriwr caled—yn deall yr efengyl yn drwyadl, ac yn meddu y cydymdeimlad llawnaf a gwirioneddau efengylaidd. Dichon na chydsynia y darllenydd a phob syniad o'i eiddo; ond ni bydd hyny yn rhwystr i unrhyw ddyn diragfarn i weled y gallu dealldwriaethol cryf, a'r farn aeddfed a phwyllog sydd yn amlwg yn ei holl ysgrifeniadau. Nid rhyw lawer a dderbyniodd oddiwrth y weinidogaeth fel cydnabyddiaeth am ei lafur. Pymtheg punt y flwyddyn a addewid iddo yn ei alwad i Lanuwchllyn, ac er i'r eglwys luosogi yn fawr yn yspaid ei arhosiad yno, ac i fwy na dau cant o aelodau newyddion gael eu derbyn yno mewn diwygiad grymus yn y flwyddyn 1809, nid ydym yn cael fod ei gyflog ef wedi ei ychwanegu Clywsom rai yn awgrymu ei fod yn fydol ac ariangar, ond nis gallasom gael dim yn ei hanes yn dangos hyny. Mae yn wir ei fod yn gynil a darbodus, ac yn bur a gofalus ei arferion, fel na wariai arian ar ddim ond y byddai angenrheidrwydd arno; ond yr oedd yn ofynol iddo fod felly cyn y gallasai ddwyn ei deulu i fyny yn barchus fel y gwnaeth, a chyfarfod ei holl ofynwyr. I'r gwir dlawd yr oedd ei gynorthwy yn wastad yn barod; ond ni feddai ddim i'w hebgor i'r diog a'r afradus; ac nid yn aml y gallesid ei dwyllo gan ymhonwyr rhagrithiol. Ymddengys ei fod yn deall dynion yn dda; ac y mae mwy nag un engraifft i'w ragfynegiadau am ddynion i gael eu cyflawni yn llythrenol, er nad oedd neb ond efe yn meddwl felly am danynt ar y pryd. Fel pregethwr, yr oedd ei ymddangosiad yn y pulpud yn gwbl gartrefol, ac yn edrych yn feistrolaidd. Yr oedd yn agos i ddwylath o daldra, ond ei fod yn crymu ychydig yn ei war, yr hyn a barai iddo edrych yn fyrach nag yr ydoedd mewn gwirionedd. Nid oedd yn gorphol mewn un modd, ac etto yr oedd yn gryf a gewynog yr olwg arno. Nid oedd ei dalcen yn uchel, ond yr oedd yn llawn ac yn llydan, a chysgodid ei lygaid craff a sobrddwys gan ei aeliau duon. Pregethai a'i law yn llogell ei wasgod; ac er nad oedd yn un o'r rhai a ystyrid yn ddoniol a phoblogaidd, etto, pan y gwresogai ei ysbryd, byddai effeithiau grymus yn dilyn ei weinidogaeth. Yn y flwyddyn 1810, graddiwyd ef a'r titl o D.D. gan un o Brif Athrofäu America; ac ni bu neb yn mysg ein cenedl y teimlid yn gyffredinol fod yr anrhydedd yn gorwedd yn esmwythach arno. Cafodd lawer o wahoddiadau o bryd i bryd i symud o Lanuwchllyn, ond gwrthodai hwynt oll, hyd y flwyddyn 1811, pan y derbyniodd gais oddiwrth reolwyr Trysorfa y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, i fod yn Athraw yr athrofa yn Ngwrecsam; a'r un amser derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn y lle, i fod yn olynydd i Dr. Jenkin Lewis, yn yr eglwys a'r athrofa. Cydsyniodd a'r gwahoddiad, a datododd ei gysylltiad a'r eglwys yn Llanuwchllyn, wedi llafurio yno am ddeunaw mlynedd. Nid arhosodd ond tair blynedd yn Wrecsam, canys yn 1815, derbyniodd alwad o Lanfyllin, a symudodd yno; a chaniataodd y Bwrdd Cynnulleidfaol i'r athrofa gael ei symud yno hefyd. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am ei lafur yno, yn nglyn a hanes yr eglwys. Yn y flwyddyn 1821, penderfynodd y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol i symud yr athrofa i'r Drefnewydd; a derbyniodd Dr. Lewis alwad oddiwrth yr eglwys oedd wedi ei ffurfio yno ychydig cyn hyny, a symudodd i'r Drefnewydd yn Medi, 1821. Yr oedd rhagolygon addawus o flaen y Dr. Lewis wedi ei symudiad i'r Drefnewydd y gallasai fyw am flynyddau i wasanaethu fel athraw a gweinidog. Nid oedd etto yn driugain oed, a'i nerth a'i iechyd i raddau dymunol heb eu hanmharu. Ond siomwyd yr holl obeithion! Cyn pen naw mis wedi ei symudiad i'r Drefnewydd, gosododd angau ei law arno, ac wedi un—diwrnod-ar-bymtheg o gystudd trwm, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel, bu farw Mehefin 5ed, 1822; yn y cyflawn feddiant o'r sirioldeb a'r ymroddiad i ewyllys Duw, oedd yn amlwg ynddo dros ei holl fywyd—fel y bu fyw, felly y bu farw Dr. George Lewis, yn 59 oed. Claddwyd ef oddifewn i'r capel, ac ar yr achlysur dechreuwyd gan Mr. G. Ryan, Trallwm. Pregethodd Mr. T. Weaver, Amwythig, yn Saesonaeg, oddiwrth 2 Tim. i. 10; a Mr. W. Williams, o'r Wern, yn Gymraeg, oddiwrth Actau xiii. 36; a dybenwyd trwy weddi gan Mr. D. Morgan, Machynlleth. Yr oedd y teimladau a amlygid ar y pryd yn dangos yn eglur mai nid dyn cyffredin a ddygid i'w gladdu; ac wrth roddi ei gorph i orwedd yn y gell o fewn muriau y capel, yr oedd pawb yn barod i ddyweyd "Bedd gwr Duw ydyw."

EDWARD DAVIES. Ganwyd ef yn Ashton, sir Amwythig, am un-ar-ddeg o'r gloch y boreu, Mawrth 13eg, 1796. Enwau ei rieni oeddynt Edward a Margaret Davies. Yr oedd ei dad yn enedigol o ardal y Mwnglawdd gerllaw Gwrecsam, a'i fam yn enedigol o sir Fon. Edward Davies oedd y pedwerydd o saith o blant a fu gan ei rieni. Bu dau Edward o'i flaen ef, rhai a fuont feirw yn olynol, a galwyd yntau drachefn yn Edward, yn ol enw ei dad. Symudodd y teulu i Wrecsam pan oedd ef yn faban. Collodd ei dad pan yn chwech mlwydd oed, yr hwn a gladdwyd yn hen fynwent Rhosddu, Gwrecsam; lle wedi hyny y claddwyd ei fam. Yr oedd elfenau i wneyd ysgolhaig ynddo yn amlwg iawn pan yn blentyn. Dywedir ei fod yn medru darllen ei Feibl yn hollol rwydd yn Gymraeg ac yn Saesonaeg cyn ei fod yn bum' mlwydd oed. Nid oedd swyn iddo mewn dim ond mewn llyfrau, ac yn neillduol mewn llyfrau hanesyddol a chlasurol. Byddai yn benthyca llyfrau, ac yn eu cuddio yn yr ysgubor o dan y gwellt, ac yn aml byddai ei fam yn ei gael yno yn darllen yn lle dyrnu. Deallodd ei fam dueddfryd ei feddwl, a rhoddodd iddo bob manteision yn ei gallu. Danfonodd ef i'r ysgol yn fachgenyn bychan i Adwy'rclawdd, at Mr. Evans, Clerk, yr hwn sydd yn aros hyd yr awr hon, er mewn gwth o oedran, ac wedi ei ddal gan lesgedd.[121] Bu ar ol hyn am ychydig mewn ysgol yn Ngwrecsam, ac aeth wedi hyny i Gaerlleon, i Ysgol Ramadegol; ac yn mhob ysgol lle y bu, yr oedd ei gynydd nid yn unig yn amlwg i bawb, ond hefyd yn syndod i bawb. Meistrolai y gwersi caletaf gydag ychydig iawn o drafferth. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Harwd, (Brymbo yn awr,) gan Mr. Williams, o'r Wern, yn mis Mawrth, 1813, pan yn ddwy-ar-bymtheg oed; ac nid hir ar ol ei dderbyn y bu Mr. Williams a'r eglwys heb ei gymhell a'i gefnogi i arfer ei ddawn i bregethu. Dechreuodd yn y cyfeillachau crefyddol, ac yn y cyfarfodydd gweddio a gynhelid mewn tai anedd; ac yn fuan daeth i lenwi bylchau yn absenoldeb ei weinidog, a gelwid am ei wasanaeth gan yr eglwysi cymydogaethol. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Llanfyllin yn Ionawr, 1817; a rhwng ei fod wedi cael manteision helaeth yn flaenorol, ac yn meddu talent nodedig at ddysgu, rhagorodd yn fuan ar ei holl gydefrydwyr. Ar derfyniad ei amser, dewiswyd ef yn gynorthwywr i'w athraw, Dr. Lewis. Dewiswyd ef ar y cyntaf gan ei athraw fel cynorthwywr iddo ef; ond cyn symudiad yr athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd, penodwyd ef gan y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Athraw Clasurol. Priododd a merch ei athraw, Dr. Lewis, ac ar ol symud yr athrofa, urddwyd ef yn Bwlchyffridd, Ionawr 24ain, i fod yn weinidog yr eglwys yno, ac i gydweini a'i hybarch gydathraw yn y Drefnewydd. Wedi marwolaeth Dr. Lewis, disgynodd gofal yr eglwys yno yn gyflawn arno. Yn 1835, rhoddodd i fyny ofal Bwlchyffridd a Llanwnog; ond parhaodd yn weinidog i'r eglwys yn y Drefnewydd hyd symudiad yr athrofa i Aberhonddu, yn 1839. Ni bu arno ofal gweinidogaethol o hyny allan, ond ymgyflwynodd i ddyledswyddau ei swydd fel athraw, a phregethai yn aml ar y Sabbothau, ac yn enwedig yn adeg gwyliau yr athrofa. Gweinyddai yn aml yn urddiadau y myfyrwyr. Llafuriodd yn ddiwyd fel Athraw Clasurol yn Aberhonddu, am ddeunaw mlynedd, ac yr oedd pawb yn meddwl y gallasai fyw lawer o flynyddoedd yn hwy i wasanaethu yn y cylch pwysig yr hwn a lanwodd am gynifer o flynyddau, mor anrhydeddus iddo ei hun, ac mor foddhaol i'r Bwrdd yn Llundain, ac i'r eglwysi yn Nghymru. Bu farw ar fyr rybudd, Chwefror 25ain, 1857, yn 61 mlwydd oed; ac wedi dal swydd bwysig yn yr enwad am fwy na phymtheng—mlynedd-ar-hugain. Claddwyd ef yn mynwent eglwys y Priordy, Aberhonddu, ac yr oedd y dyrfa barchus a ddilynent ei weddillion marwol i'r gladdfa, yn dystiolaeth amlwg o'r synied uchel oedd am dano yn meddyliau y rhai a'i hadwaenent oreu.

Mae enw Mr. Davies yn barchus iawn gan y rhai a gymdeithasant ag ef; ac y mae yr hen fyfyrwyr a fu dan ei ofal yn arbenig, yn teimlo serch cryf at ei goffadwriaeth. Dyn tal, teneu, oedd o ran ei gorph, heb ddim nodedig yn ei wyneb na'i lygaid i'w wahaniaethu oddiwrth y cyffredinolrwydd o ddynion. Cymerasid ef am hen foneddwr hynaws a charedig, heb ddrwg ewyllys ganddo i neb, ac heb ryw bryder dwfn yn ei feddwl yn nghylch helyntion y byd; ac felly yr ydoedd mewn gwirionedd. Yr oedd caredigrwydd lonaid ei natur, a medrai fwynhau difyrwch diniwed gystal a neb; ac yr oedd chwerthin yn ddiatal am ben ryw droion trwstan yn brofedigaeth iddo nas gallasai ei gwrthsefyll. Llawer gwaith y gwelwyd ef wedi ei daflu oddiar ei echel yn lan, ac yn chwerthin ynddo ei hun, wedi colli pob llywodraeth arno ei hun; ac ni byddai raid yn mhen blynyddoedd ond adgofio iddo y digwyddiad, na ddeuai y chwerthiniad yn anwrthwynebol arno. Mae yn hawdd cyfrif paham yr oedd dyn o'r fath dymer yn cael ei garu gan y rhai a gymdeithasent fwyaf ag ef. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ol y synied oedd yn ei ddyddiau ef, yn ieithydd o'r fath oreu; ond nid i ieithyddiaeth yn unig yr oedd wedi cyfyngu ei efrydiaeth, ond yr oedd cylch ei ddarlleniad yn dra eang, 3 meddai wybodaeth gyffredinol helaeth. Nid oedd nemawr destyn nad ydoedd yn hollol gyfarwydd ag ef mewn hanesiaeth, athroniaeth, a duwinyddiaeth. Ceidwadol ydoedd yn ei olygiadau ar bob peth. Yn hwyrfrydig iawn y symudai yn mlaen at bethau newyddion. Hen awdwyr—hen lyfrau clasurol—hen olygiadau duwinyddol ac eglwysig yn mhob peth credai ef mai "gwell yw yr hen." Nid yn aml y gwelsom neb yn fwy gochelgar cyn derbyn unrhyw olygiad newydd. Yn yr holl gyffroadau duwinyddol fu yn Nghymru yn ei dymor, er ei fod wedi darllen cymaint ag odid neb yn ei oes ar y ddwy ochr i'r ddadl, etto i'r hen ysgol y perthynai, a bu mewn dadl a rhai o'i frodyr ar ddalenau y Dysgedydd ar y pynciau hyny; ac yn enwedig ar yr "Ewyllys Ddwyfol." Dichon mai i'r duedd ochelgar yma oedd mor gref ynddo y gellir priodoli mai ceidwadwr ydoedd mewn gwleidiadaeth. Er na phroffesai ef ymlyniad wrth unrhyw blaid boliticaidd, oblegid dywedai yn wastad mai mesurau ac nid personau oedd ei arwyddair, etto y mae y ffaith iddo bleidleisio ddwy waith dros ymgeiswyr toriaidd yn profi pa ffordd y rhedai ei gydymdeimlad. Crybwyllasom eisioes am y terfysg a achoswyd yn y Drefnewydd trwy ei waith yn pleidleisio dros yr ymgeisydd toriaidd; ond gwnaeth yr un peth drachefn yn Aberhonddu, yn mhen deng—mlynedd-ar-hugain ar ol hyny. Nis gwyddom pa esboniad a roddai efe ei hun dros y bleidlais a roddodd yn y Drefnewydd; ond cyhoeddodd amddiffyniad i'r bleidlais a roddodd yn Aberhonddu, yn 1852. Yr oedd yr ymgeisydd toriaidd yn addaw pleidleisio yn erbyn gwaddoliad Coleg Pabyddol Maynooth; ond gwrthodai yr ymgeisydd rhyddfrydig addaw gwneyd hyny, a theimlai Mr. Davies mor gryf ar yr un pwnc hwnw fel y taflodd bob peth arall dros y bwrdd er ei fwyn.[122] Beth bynag a ddywedir am waith gweinidog Annibynol, ac athraw athrofa, yn pleidleisio gyda Thoriaid, y mae yn rhaid i bawb gydnabod fod y dyn a wnelai hyny, a gwybod ei fod yn anfoddloni corff mawr ei frodyr trwy wneyd, yn eithaf Annibynol ei ysbryd, ac ni chymerem lawer am ddywedyd nad oedd yn hollol gydwybodol yn y cwbl. Y peth sydd yn ein synu fwyaf ydyw fod Mr. Davies, yr hwn oedd yn ddysgybl mor ffyddlon i Dr. Lewis mewn duwinyddiaeth, wedi cilio mor bell oddiwrth ei hen athraw mewn gwleidiadaeth, os ydym i farnu ei syniadau wrth y pleidleisiau a roddodd.

Fel ysgrifenydd Cymraeg, yr oedd Mr. Davies yn goeth a naturiol. Nid oes na choegedd na rhodres yn ei arddull, ond Cymraeg pur, mewn priodddull esmwyth a naturiol, a chyda'r symledd prydferthaf. Yr oedd yn sicr yn un o ysgrifenwyr rhagoraf y genedl. Am dano fel pregethwr, nid oes genym lawer i'w ddyweyd. Mewn urddiadau y clywsom ef fynychaf yn pregethu, a hyny ar ddyledswyddau y myfyrwyr a urddid, ac yr oedd yn gyfarwydd iawn yn y gwaith hwnw. Pregethai weithiau yn rhagorol, gan osod allan ddyledswyddau y weinidogaeth gydag eglurder a manylder mawr. Nid oedd dim yn swynol yn ei ddull a'i ddawn. Yr oedd yn araf a hwyrfrydig ei draddodiad, ac yn gyffredin yr oedd yn pregethu yn faith, ac nid oedd y tân a'r gwres hwnw ar y diwedd, sydd gan rai, yn rhyw fath o ad—daliad gwan am ddisgwyl am fwy nag awr am dano, yn nodweddu ei bregethau ef. Yn nghadair yr athraw y rhagorai, a llanwodd ei gylch yno gan roddi cymaint o foddlonrwydd cyffredinol ag a roddwyd gan odid neb erioed a fu cyhyd yn yr un sefyllfa; ac nis gellir crybwyll ei enw yn nghlyw ei hen fyfyrwyr heb fod adgofion cynes am dano yn llenwi eu mynwesau.

DREFNEWYDD.—(CYMREIG).

Nid yw yr achos Cymreig yma ond diweddar mewn cydmariaeth. Gwelsom fod yma achos Cymreig gynt, ond darfyddodd hwnw yn hollol; a phan ail gychwynwyd yr achos yn y dref, er mai yn achos Cymreig y bwriadid ef, ni bu yn hir cyn cael ei droi yn gwbl i'r Saeson, ac er fod y rhan fwyaf o'r rhai a berthynai iddo yn Gymry; ac ar ol hyny nid oedd yma un ddarpariaeth gan yr Annibynwyr ar gyfer y Cymry. Yn 1844, ysgrifenodd Mr. John Davies lythyr at Gymanfa Machynlleth, yn galw sylw y gweinidogion ac eraill at amddifadrwydd y dref. Cymerwyd sylw o'r mater, ac anfonwyd atebiad caredig i'r llythyr. Yn Nghymanfa Penarth, yr hon a gynhaliwyd Mehefin 30ain, a Gorphenaf 1af, 1847, penderfynwyd "Fod y Gymanfa yn rhoddi anogaeth i achos Cymreig i gael ei gychwyn yn y Drefnewydd." Yn mis Awst, y flwyddyn hono, wedi ymgynghori a chyfeillion yn y dref, daeth Mr. R. D. Thomas, Penarth, yma ar un Sabboth, a phregethodd mewn ystafell yn Severn—street; a'r mis canlynol corpholwyd o gylch deuddeg o bersonau yma yn eglwys; a bu gweinidogion a phregethwyr y sir yn nodedig o gynorthwyol i'r achos, ac aeth pob peth yn mlaen yn dra chalonog, fel cyn pen blwyddyn yr oedd nifer yr aelodau yn ddeg-ar-hugain.

Yn y flwyddyn 1848, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Hugh D. Pughe, yr hwn oedd yn weinidog yn y Main a'r canghenau, i fod yn weinidog iddi, a chydsyniodd yntau a'r gwahoddiad; a bu yma yn dra ymdrechgar hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei lafur yn mis Hydref, 1850.

Ar ol hyny bu yr eglwys yn anffortunus iawn yn ei gweinidogion dros amryw flynyddoedd. Bu Meistri Isaac Francis, Mathew Lewis, Robert Fairclough, a William Jones yma yn olynol, o'r flwyddyn 1851, pan ddaeth y cyntaf yma, hyd y flwyddyn 1862, pan yr ymadawodd yr olaf. Yr oedd y tri blaenaf wedi eu hurddo cyn dyfod yma; ond yma yr urddwyd yr olaf.

Dyoddefodd yr achos bychan yma yn fawr oddiwrth ddrwg fuchedd y naill, ac annghallineb y lleill o'r gweinidogion hyn, ac ysigwyd ef trwy wahanol amgylchiadau a'i cyfarfu, fel mai y syndod mwyaf ydyw na buasai wedi ei lwyr ddinystrio. Yn y flwyddyn 1863, cymerodd Mr. J. Jones, Smethcott ofal y lle, ac yn ei amser ef y codwyd y capel prydferth sydd yma yn bresenol. Hyd hyny, parheid i addoli mewn ystafell. Costiodd y capel fwy na 500p., a chyfranwyd yn helaeth tuag ato gan gyfeillion y lle; a chafwyd cynorthwy effeithiol gan gyfeillion y tu allan i'r eglwys.

Yn agos i ddiwedd 1866, cymerodd Mr. D. M. Jenkins ofal yr eglwys; a llafuriodd yma gyda diwydrwydd mawr hyd ddiwedd 1870, pryd y symudodd i Šalem, Penmaenmawr. Mae achos Cymreig dan anfantais dirfawr mewn tref fel hon, pan nad oes ganddo ond ymddibynu yn unig ar y dyfodiaid o'r rhanau gwledig, ac y mae arhosiad y rhai hyny pan y deuant yn hynod o ansier; ond y mae y rhai sydd yn glynu wrth yr achos yn nodedig am eu ffyddlondeb a'u haelioni.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

HUGH D. PUGHE. Ganwyd ef yn y Pandy, Rhydyronen, Bryncrug yn agos i Dowyn, Meirionydd, yn 1820. Derbyniwyd ef yn aelod, a dechreuodd bregethu trwy gymhelliad Mr. Lloyd, Towyn, a'r eglwys yn Bryncrug. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, yn un o'r dosbarth cyntaf a dderbyniwyd iddi ar ei sefydliad, a'i enw ef sydd gyntaf ar y rhestr. Bu yn yr athrofa am dair blynedd. Urddwyd ef, fel y gwelsom, i fod yn weinidog yn y Main a'r canghenau, Tachwedd 11eg a'r 12fed, 1845. Bu yno hyd ddiwedd 1848, pan y symudodd i'r Drefnewydd; a bu yno yn ddefnyddiol a pharchus am fwy na dwy flynedd. Ymaflodd oerfel ynddo trwy eistedd ar y ddaear ar un prydnhawngwaith, yr hwn a drodd yn enynfa ar yr ymenydd, ac a effeithiodd yn hollol ar ei ymwybyddiaeth. Cafodd gystudd caled, yr hwn a derfynodd yn ei angau, Hydref 19eg, 1850, yn 30 oed. Claddwyd ef yn mynwent Llanllwch-haiarn; ond nid oes careg arno, na dim i ddynodi y lle y gorwedd.

Yr oedd Mr. Pughe yn gyfaill hynaws a charedig, heb wybod dim am frad a dichell. Yr oedd yn llawn o ysbryd pregethu, a chwaeth nodedig ganddo at iaith gref, flodeuog, yn ymylu weithiau hwyrach ar chwyddiaith; ond pe cawsai fyw ychydig yn hwy, buasai yn tyfu allan o hyny. Mae ei gydefrydwyr yn yr athrofa, a'i frodyr yn y weinidogaeth a gair da iddo; ac yr oedd yn anwyl gan, ac yn barchus yn ngolwg y bobl yn mysg y rhai y bu yn llafurio. Ond "gostyngwyd ei nerth ar y ffordd," a thorwyd ef i lawr yn mlodeu ei ddyddiau. Gadawodd weddw ac unig ferch i alaru ar ei ol.

CERI.

Symudiad yr athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd a fu yr achlysur i ddechreu pregethu yn y Drefnewydd. Agorwyd y drws i'r efengyl gyntaf yma gan hen wraig, yr hon a ddaeth yma i fyw o Carno; a phregethwyd y bregeth gyntaf yn ei thy Hydref 27ain, 1822, gan Mr. Samuel Roberts, myfyriwr y pryd hwnw yn yr athrofa. Yr oedd yr hen wraig hon yn byw yn y ty agosaf i'r Persondy; ac o hyny allan bu pregethu cyson yn y lle, ac agorwyd amryw ddrysau yn fuan. Corpholwyd eglwys yma Ebrill 11eg, 1824; a dechreuwyd meddwl am dir i godi capel arno. Yr oedd gan Mr. Jones, Banbury, dir yn y lle, a.rhoddodd brydles ar ddarn o hono am fil o flynyddoedd, am yr ardreth o swllt y flwyddyn, a chodwyd capel gwerth 270p., heb gyfrif y cludiad, yr hyn a roddwyd yn rhad gan yr ardalwyr. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo Tachwedd 21ain, 1824, gan Mr. Samuel Bowen, athraw Ieithyddol yn athrofa yn y Drefnewydd; ac agorwyd ef yn gyhoeddus Rhagfyr 29ain a'r 30ain, 1824; ac ar yr un pryd urddwyd Mr. Samuel Bowen i fod yn weinidog yn y lle.

Ar achlysur pregethwyd ar natur eglwys, holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Treffynon, ac i'r eglwys gan Mr. J. Pearce, Wrecsam. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol, a'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr oedd ar y pryd yn yr athrofa yn y Drefnewydd. Llafuriodd Mr. Bowen yma gyda chymeradwyaeth mawr am flynyddau, ac yr oedd golwg obeithiol ar yr achos; ac wedi ei ymadawiad ef i Macclesfield, gofalwyd am yr achos yn ffyddlon gan y myfyrwyr, hyd nes y symudwyd yr athrofa i Aberhonddu. Daeth un Mr. David Evans, o athrofa Caerfyrddin yma am ychydig, yr hwn a drodd wedi hyny i'r Eglwys Sefydledig. Ar ei ol ef daeth Mr. Methusalem Davies yma, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Abergwyli, ac yn ei amser ef disgynodd yr achos yn isel iawn, fel yr oedd bron wedi gwywo pan y symudodd oddiyma i Penywaun, sir Fynwy. Yn 1840, codwyd capel arall yn mhlwyf Ceri, a galwyd ef Bethany, ac y mae claddfa gyfleus yn nglyn ag ef. Agorwyd ef Gwener y Groglith, 1840, pryd y pregethodd Meistri J. Jones, Forden; T. Morgan, Trallwm; A. Francis, Drefnewydd, a J. Owen, Bishop Castle. Daeth Mr. Robert Jones yma, yr hwn a urddasid yn Nghorwen; ond ni bu yma ond ychydig. Syrthiodd oddiar ben y cerbyd wrth deithio, a bu farw. Yn y flwyddyn 1843, rhoddwyd galwad i Mr. William Daniel, ac urddwyd ef Mehefin 7fed; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Evans, Llanidloes; A. Francis, Drefnewydd; J. Owen, Bishop Castle, a T. Jones, Minsterley. Ni bu Mr. Daniel yma ond ychydig flynyddoedd; ac yr oedd yr achos yn nhreflan Ceri wedi disgyn mor isel, fel yn 1849, y gwerthwyd y capel i'r Bedyddwyr. Bu Mr. Thomas Davies yma am dymor, ond symudodd ef i Gaerdydd; ac er hyny ni bu yma yr un gweinidog sefydlog; ond y mae Mr. John Owen wedi gofalu am y lle yn fwy na neb arall am y blynyddau diweddaf. Mae golwg lewyrchus ar yr achos yn Bethany, a phob peth yn myned yn mlaen yn llwyddianus; ond colled fawr i'r achos oedd gwerthu y capel yn y dreflan lle y cychwynwyd yr achos, a lle yr oedd cynnulleidfa luosog, ac eglwys flodeuog, ddeugain mlynedd yn ol. Mae amryw o'r eglwysi ar y terfynau hyn, wedi dyoddef yn enbyd oblegid mai "gweision cyflog" ac nid bugeiliaid sydd wedi bod yn rhy fynych yn bwrw golwg drostynt.

FORDEN.

Dechreuwyd pregethu yn y lle hwn yn benaf, trwy lafur y myfyrwyr yn athrofa y Drefnewydd, yn fuan wedi sefydliad yr athrofa yno. Ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, penderfynodd Mr. John Jones, ymroddi i lafurio yn yr ardal dywyll yma, ac wedi ymdrechu yn ddiflino, llwyddodd i godi capel a ffurfio eglwys yma, a chymerodd ei urddiad ac agoriad y capel le yr un pryd. Fel hyn y ceir yr hanes yn y Dysgedydd, 1827, tu dal. 53. "Ar y 12fed a'r 13eg o Ragfyr diweddaf, agorwyd addoldy newydd, perthynol i'r Anymddibynwyr, yn Forden, swydd Drefaldwyn. Yn yr hwyr y dydd cyntaf, gweddiodd y Parch. E. Bebb, Drefesgob, a phregethodd y Parch. T. James, Minsterley, a'r Parch. S. Bowen, Athraw Awdurol, athrofa Gwynedd, oddiwrth Salm lxviii. 16, a Mat. xviii. 20. Dranoeth am 10, dechreuodd y Parch. J. Jones, Main, a phregethodd y Parch. J. J. Beynon, Dorrington, oddiar Ioan iv. 19-24. Am ddau yn y prydnhawn, neillduwyd y Parch. John Jones, gynt myfyriwr yn y Drefnewydd, i gymeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys ag ydoedd newydd gael ei phlanu yn Forden. Cyflawnwyd y rhanau arweiniol o'r gwaith gan y Parch. J. Davies, Llanfair. Darluniwyd natur eglwys efengylaidd, a holwyd y gofyniadau gan y Parch. E. Davies, Athraw Duwinyddol yr athrofa grybwylledig. Traddodwyd yr urdd-weddi gan y Parch. G. Ryan, Trallwng. Anerchwyd y gweinidog gan y Parch. T Weaver, o'r Amwythig, oddiwrth Mat. iv. 19, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair. Yn yr hwyr, gweddiodd y Parch. J. Rees, Sarney, ac anerchwyd yr eglwys a'r gynnulleidfa gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a therfynwyd gwaith y dydd trwy weddi gan y Parch. T. Weaver. Yr oedd y gynnulleidfa yn lled luosog, y gwrandawyr yn astud, a hyderir y bydd i ddwys gyflawniadau y cyfarfod wneuthur argraffiadau arosol ar feddyliau yr ardalwyr. Y mae ymdrechiadau Mr. Jones yn adeiladiad yr addoldy uchod mewn ardal dywyll, wedi bod yn dra chanmoladwy, ac y mae lle i obeithio y cânt eu coroni a llwyddiant."

Llafuriodd Mr. Jones yma yn ddiwyd, er mynych wendid, ac yn ngwyneb llawer o ddigalondid, am bedair-blynedd-ar-ddeg wedi ei urddiad, a bu farw, Tachwedd 30ain, 1840. Dilynwyd Mr. Jones, gan un Mr. Henley, yr hwn a lafuriodd yma gyda chymeradwyaeth hyd ddydd ei farwolaeth; ond ni bu ei dymor ond byr. Am yspaid ar ol hyny bu yr eglwys mewn cysylltiad a'r eglwys yn y Trallwm, dan ofal Mr. J. Davies, hyd ei farwolaeth. Yn mis Mai, 1851, rhoddwyd galwad i Mr. John Peter Jones, yr hwn oedd eisioes wedi symud o'r Drefnewydd i Marton, a bu yma nes y symudodd i Bromyard, sir Henffordd, yn Hydref, 1853. Yn nechreu Ionawr, 1855, cymerodd Mr. Thomas Peters, pregethwr cynorthwyol o Bwlchyffridd, ofal yr eglwys, ac urddwyd ef Mehefin 21ain, y flwyddyn hono, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. James, Llansantffraid; J. Owen, Bwlchyffridd; R. Hughes, Trallwm, ac eraill. Ymadawodd Mr. Peters i Gaerlleon yn 1857; ac yn Hydref y flwyddyn hono, dechreuodd Mr. R. W. Lloyd, o Lanbadarn, sir Faesyfed, ei weinidogaeth yma; a bu yma hyd Mai, 1865, pryd y symudodd i Woolerton. Yn haf y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas R. Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Hydref 3ydd, 1865. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri H. Oliver, B.A., Casnewydd; W. Price, Minsterley; L. Roberts, Dorrington; D. M. Davies, Llanfyllin, ac eraill. Rhoddodd Mr. Davies yr eglwys i fyny yn Hydref, 1868, a symudodd i Polton-le-Fylde, swydd Lancaster. Yn 1870, rhoddwyd galwad i Mr. William Bowen, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn mis Medi, ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Jenkins, Pontypool; D. Rowlands, B.A., Trallwm; L. Roberts, Dorrington; W. Price, Minsterley, ac eraill. Mae Mr. Bowen yn parhau i lafurio, ac y mae yr achos mewn gwedd siriol, er nad yw wedi gwneyd y cynydd a ddisgwyliasid oddiwrth ei gychwyniad addawus.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JOHN JONES. Ganwyd ef yn Llanddeusant, Mon, Gorphenaf 23ain, 1798. Er nad oedd ei rieni ond pobl gyffredin eu hamgylchiadau, yr oeddynt yn barchus gan eu cymydogion, ac yn "ofni Duw yn fwy na llawer." Yr oedd eu mab John, yr hwn oedd eu cyntafanedig, o dueddfryd hynaws, a dangosodd yn foreu ogwyddiad cryf i ymwasgu at grefyddwyr a phregethwyr, a chyda'r Ysgol Sabbothol yr oedd yn nodedig o ffyddlon. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llanddeusant, yn haf, 1816. Mr. Owen Thomas Carrog, a Mr. Robert Roberts, Ceirchiog, oeddynt ei brif noddwyr, a buont iddo yn garedig dros ben, ac yr oedd ganddo yntau hyd ddiwedd ei oes y parch dyfnaf i'w coffadwriaeth. Ar eu cais hwy y dechreuodd bregethu, a thrwy eu dylanwad hwy derbyniwyd ef i'r Ysgol Ramadegol, oedd yn nglyn a'r athrofa yn Llanfyllin, yn Gorphenaf, 1819; ac yn mhen dwy flynedd derbyniwyd ef yn gyflawn i freintiau yr athrofa. Yr oedd Mr. Jones yn un o'r rhai oedd yn yr athrofa pan y symudwyd hi i'r Drefnewydd, yn Medi, 1821. Wedi gorphen ei dymor yn yr athrofa, yn Medi, 1825, wrth weled sefyllfa druenus y wlad ar derfynau siroedd Maldwyn ac Amwythig, penderfynodd ymgysegru i wasanaethu ei Arglwydd yn y gororau hyn; ac o dan nawdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas Genhadol Gartrefol, dechreuodd lafurio yn Nhrefaldwyn, Forden, Marton, a lleoedd eraill. Yr oedd wedi cael gwahoddiad o'r Cutiau a'r Abermaw, ond dewisodd yn hytrach, fel Paul, bregethu yr efengyl lle ni enwid Crist, fel nad adeiladai ar sail un arall. Llafuriodd yma am fwy na blwyddyn, gan bregethu pa le bynag y cawsai ddrws agored, nes yn 1826, yr agorwyd capel yn Forden, lle yr urddwyd ef yn nglyn ag agoriad y capel, Rhagfyr 13eg, y flwyddyn hono. Hyd yma, yr oedd wedi byw yn Nhrefaldwyn, ond symudodd i Forden gydag agoriad y capel, ac agorodd ysgol yno, yr hon a gadwodd am lawer o flynyddoedd. Yn Ebrill, 1829, priododd a Miss Susannah Williams, Mellington, yr hon oedd yn aelod ffyddlon o'r eglwys dan ei ofal, ac yn meddu tymer addfwyn, dawel, fel yntau. Ganwyd iddynt saith o blant cyn pen deng mlynedd, ac er nad oedd ei gyflog ond 30p., etto ni bu arnynt eisiau dim, ac o'r ychydig a dderbyniai, cyfranai y ddegfed at achosion daionus ac elusengar. Trwy ei lafur ef yn benaf y codwyd yr achos yn Marton; ond rhoddwyd y capel gan foneddwr o'r enw Mr. W. Nevett, o Marton Villa, ond cynorthwywyd i gludo y defnyddiau gan hen gyfaill caredig arall, Mr. Phillips-enwau sydd yn barchus gan lawer un heblaw yr ysgrifenydd. Agorwyd y capel yn 1830; a chyn hir symudodd Mr. Jones i Marton i fyw, ond parhai i ofalu am Forden fel o'r blaen. Cadwai yr ysgol yn mlaen yn Marton, a bu cryn nifer o wyr ieuaingc yn parotoi at y weinidogaeth dan ei ofal yn ystod y chwe' blynedd olaf o'i fywyd. Yr oedd i'r lle lawer o fanteision i wyr ieuaingc, heblaw ei fod yn lle rhad, a'r athraw yn mhob modd yn gymwys, yr oedd y cyfleusterau a roddid iddynt i bregethu Saesonaeg yn fantais anrhaethol bwysig; ac nid oedd coethder lluaws y bobl o ran iaith y fath ag y buasai raid i unrhyw un ofni gwneyd y prawf ar bregethu iddynt yn eu hiaith. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn gwir dduwiol. Gadawodd yr argraff hono ar feddwl pawb o'r rhai a fu dan ei ofal. Yr oedd yn gydwybodol yn mhob peth; ac ni wnai ddim ag y byddai petrusder yn ei feddwl am ei gyfreithlondeb. Er ei fod o dueddfryd lariaidd, dawel, etto medrai fod yn siriol a difyrus; ac yr oedd ganddo lywodraeth gref dros bawb oedd dan ei ofal, yn codi oddiar barch iddo. Gwyddom y cofir tra fyddont byw gan y gwyr ieuaingc fu dan ei ofal, ei gynghorion tadol iddynt, a'i weddiau taerion drostynt, yn enwedig pan fyddai un o honynt yn ymadael. Yn mysg y rhai cyntaf fu dan ei ofal yr oedd Meistri J. Parry, Machynlleth; H. James, Llansantffraid; W. Roberts, Tanygrisiau; E. Thomas, Braichywaun, ac eraill; a chyn i'r olaf o'r rhai yna ymadael, daeth Meistri S. Jones, Maentwrog; R. Hughes, Rhoslan; E. Roberts, Cwmafon; R. Thomas, Croesoswallt; E. Jones, (Ieuan Gwynedd,) Tredegar; J. Thomas, Liverpool, ato, ac eraill nad oedd eu golwg yn uniongyrchol ar y weinidogaeth. Yr oedd y ddau olaf a enwyd gydag ef ddyddiau diweddaf; ac arosodd Ieuan Gwynedd dros ychydig i weini i'r eglwysi wedi ei farwolaeth.

Bu Mr. Jones yn gwaelu am fwy na saith mis, er ei fod yn dal i bregethu, ac yn dyfod i'r ysgol, ac yn dilyn cyfarfodydd ei sir; a bu yn y Towyn yn mis Awst, 1840, ond parhau i waethygu yr oedd ei iechyd; a'r tro olaf y bu yn y capel oedd Hydref 11eg, ac nis gallodd bregethu y tro hwnw, ond yr oedd yn Sabboth cymundeb, a dywedodd ychydig eiriau wrth y bwrdd nad anghofir hwy yn fuan gan y rhai oeddynt yno. Yr oedd yn eglur iddo ef ac i bawb arall fod awr ei ymddatodiad yn nesâu, ac yr oedd addfedrwydd ei brofiad yn dangos yn eglur ei fod yn "disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw." Bu farw ddydd Llun, Tachwedd 30ain, 1840, yn 42 oed, gan adael gwraig yn weddw a saith o blant yn amddifaid, ac nid oedd yr hynaf o honynt yn ddeuddeg oed. Claddwyd ef dydd Gwener canlynol yn y gladdfa sydd yn nglyn a chapel Marton, ac yr oedd galar dwys y dyrfa yn dystiolaeth fod un a gerid gan bawb o honynt yn cael ei roddi yn "nhy ei hir gartref;" ond rhoddid ef i orwedd yno "mewn gwir ddyogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragywyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist."

ADOLYGIAD AR HANES Y SIR

Mae yn rhaid i'n hadolygiad ar hanes yr achos yn sir Drefaldwyn fod yn fyr iawn, oblegid y mae ei hanes wedi cymeryd mwy o le nag a fwriadem. Gwelir fod yr eglwys a adnabyddid gynt fel "Eglwys sir Drefaldwyn," wedi ymledu i bymtheg a deugain o ganghenau, heblaw amryw ganghenau sydd yn perthyn i'r eglwysi neillduol hyny. Yn rhanau uwchaf y sir, lle y mae y boblogaeth yn hollol Gymreig, y mae yr achos wedi gweithio ei ffordd yn fwyaf llwyddianus. Er fod y tir yn llai cynyrchiol, a'r bobl, a'u cymeryd gyda'u gilydd, yn is eu hamgylchiadau, etto, yno y mae mwyaf o "ffrwyth i fywyd tragwyddol" wedi ei gasglu. Bendithiwyd rhanau o'r sir hon a dynion nodedig am y dau' can mlynedd diweddaf-dynion a adawsant ddylanwad annileadwy er daioni ar y wlad -a dynion pa fwyaf o'u hanes a'u llafur a ddygir i'r amlwg, uchaf oll y bydd eu cymeriad. Yr ydym wedi cyfeirio atynt yn nglyn a'r eglwysi lle y llafuriasant yn benaf, fel nad rhaid i ni eu crybwyll yma etto; er mai nid dynion i eglwysi neillduol oeddynt, ond edrychid arnynt yn eiddo cyffredin y sir oll, ac yn eiddo yr enwad yn gyffredinol. Mwynhaodd eglwysi y sir hon, ar y cyfan, fesur helaeth o heddwch a thangnefedd. Er i awelon croesion guro ar fwy nag un o honynt, ac i flinder mewnol yn aml fwyta eu cysur; ac er mewn engraifft neu ddwy i rwygiad gweithredol gymeryd lle, etto eithriadau oedd hyny, a chymeryd eglwysi y sir at eu gilydd, y mae "heddwch wedi bod o fewn eu rhagfur," os na bu "ffyniant yn eu palasau." Mae yr eglwysi yn ngwaelod y sir, ar y goror, gan mwyaf oll wedi myned yn Saesonaeg; ac y mae yr achos yn mhell o fod y peth y dylasai. Nid yn unig y mae rhai o'r eglwysi heb "ychwanegu cryfder," ond nid ydynt wedi "dal eu ffordd." Bu adeg yr oedd rhai o honynt yn gryfach ac yn lluosocach, ac yn mhob ystyr yn meddu mwy o ddylanwad crefyddol yn eu hardaloedd nag sydd ganddynt yn bresenol. Bu yr athrofa sydd yn awr yn Aberhonddu, am gyfnod maith yn y sir, neu ar ei therfynau. Daeth i Groesoswallt yn y flwyddyn 1782, a bu yno hyd y flwyddyn 1792; ac yn yr yspaid hwnw, bu yr athraw a'r myfyrwyr yn foddion i bregethu yr efengyl mewn llawer o fanau yn y parth hwn o sir Drefaldwyn, lle yr oedd y bobl yn hollol ddyeithr i'r efengyl. Ac er symud yr athrofa i Wrecsam, ni lwyr ymddifadwyd un ran o'r sir o lafur achlysurol y myfyrwyr. Ond yn 1815, daeth yn ei hol i Lanfyllin, lle y bu hyd yn agos i ddiwedd 1821; ac yn yr yspaid hwnw pregethodd y myfyrwyr lawer yn y rhan isaf i'r sir; ac yn 1821, symudwyd yr athrofa i'r Drefnewydd, lle y bu hyd ddechreu 1839; ac yn yr yspaid hwnw cafodd y cwr arall i'r sir fantais gweinidogaeth y myfyrwyr; ac yr oedd rhai o honynt yn bregethwyr nodedig, ac yn llawn o ysbryd yr efengyl; a buont yn foddion i sefydlu amryw o achosion newyddion. Ond y mae yn amheus genym a ydyw yr eglwysi ar y gororau, y rhai sydd yn Saesonaeg agos oll, yn gryfach yn awr nag oeddynt ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol. Nid yw ond gwaith ofer i ni gau ein llygaid rhag gweled ffeithiau fel hyn. Nis gwyddom a all fod rhywbeth yn mywyd ac arferion yr eglwysi yn y parth yma sydd yn milwrio yn erbyn eu llwyddiant, ond yr ydym yn sicr fod ansefydlogrwydd y weinidogaeth wedi bod yn anfantais ddirfawr. Ychydig iawn o weinidogion a gawsant, y rhai a aethant yno gyda bwriad i aros a llafurio, ond fynychaf dynion oeddynt wedi methu cael un lle arall, a throi yno i aros cael rhywle gwell; ac yr oedd amryw o honynt o ran eu buchedd, yn bob peth ond yr hyn y dylasent fod fel gweinidogion Crist. Sicrheir ni gan rai hollol gydnabyddus a'r parth yma i sir Drefaldwyn, fod gogwyddiad y bobl yn gryf at wrando yr efengyl, a'u bod yn nodedig yn eu caredigrwydd; ac y gallai dyn ieuange a ymsefydlai yn eu plith, ac a ymroddai "i gyflawni ei weinidogaeth," fod yn ddefnyddiol dros Dduw ac yn gysurus iddo ei hun.

Mae y sylwadau uchod yn cyfeirio yn benaf at yr eglwysi Saesonaeg yn ngwaelod y sir, ond y mae yr eglwysi Cymreig hefyd, rai o honynt, wedi dyoddef oddiwrth fynych symudiadau eu gweinidogion. Nis gall hyny lai na thynu sylw pob darllenydd o hanes eglwysi y sir, y nifer fawr o weinidogion a fu yn nglyn a hwy o bryd i bryd, a chyn lleied o'u nifer a fu farw mewn cysylltiad a'r eglwysi. Nid ydym yn meddwl y ceir fod cynifer o weinidogion o un sir amaethyddol yn Nghymru wedi ymfudo i'r America, ag a ymfudodd o sir Drefaldwyn. Ni cheir yma ond ychydig o eglwysi nad ymfudodd rhyw weinidog a fu yn perthyn iddi, yn rhyw gyf- nod yn ei hanes, i America; ac y mae amryw weinidogion wedi ymfudo o rai o honynt. Gellir cyfrif am hyn, o bosibl, yn y ffaith fod mwy o bobl sir Drefaldwyn wedi ymfudo, nag o bobl un sir arall yn Ngogledd Cymru; yn enwedig o'r rhanau uchaf o honi. Dyoddefodd nifer mawr o amaethwyr y wlad hon y fath galedi, ac yn ychwanegol at hyny, gorthrymwyd hwy mor dost gan eu tirfeistri a'u stiwardiaid, fel y gwelsant mai mewn ymfudo yr oedd eu hunig obaith; a chyfranogodd y gweinidogion o'r un ysbryd, fel y penderfynodd llawer o honynt o bryd i bryd i fyned yno ar ol eu pobl. Ond y mae y mynych symudiadau hyn wedi profi yn anffafriol i'r eglwysi, ac yn enwedig felly i'r eglwysi lleiaf. Mae yr achos er y cwbl yn y sir ac edrych ar bethau yn gyffredinol, mewn gwedd obeithiol; ac er fod yma lawer o eglwysi yn amddifaid, y mae y gweinidogion y sydd yma yn ddynion difrifol, a chefnogir hwy mewn llawer o fanau gan ddiaconiaid gweithgar, ac y mae lluaws y bobl yn mhob man agos yn barod heb rwgnach i wneyd yr hyn a osodir arnynt. Hir y cadwed sir Drefaldwyn yr enw uchel a'r safiad anrhydeddus yn yr enwad a ennillwyd iddi gan dadau Ymneillduaeth yn y sir a'u holynwyr uniongyrchol, a bydded deuparth o'u hysbryd ar y genedlaeth bresenol.

SIR FEIRIONYDD.

Terfynir y sir hon ar y gogledd gan siroedd Caernarfon a Dinbych, ar y dwyrain gan ranau o Ddinbych a Maldwyn, ar y de gan Faldwyn ac Aberteifi, ac ar y gorllewin gan y St. George's Channel. Ei harwynebedd yw 385,453 erw, a'i phoblogaeth, yn ol y cyfrifiad a wnaed yn 1861, yw 38,963. Dim ond cant ag ugain fu cynydd y boblogaeth yma o 1851 hyd 1861. Hon, oddieithr Maesyfed, yw y sir leiaf ei thrigolion yn Nghymru, a'r rheswm am hyny yw, fod y rhan fwyaf o lawer o'r ddaear yn fynyddoedd diffrwyth ac angwrteithiadwy. Y mae yma ychydig o dir rhagorol ar lan y mor, ac yn nghymydogaethau Maentwrog a Chorwen, ond y mae y rhan fwyaf o lawer o'r ddaear yn hollol ddiffrwyth. Etto, y mae y mynyddoedd diffrwyth hyn yn cynwys ystor ddirfawr o lechi, a rhyw gymaint o fŵn aur, efydd, arian, a phlwm, a dichon y darganfyddir yma etto beth dirfawr o drysorau sydd hyd yn bresenol yn guddiedig. Mae Ymneillduaeth wedi dechreu yn fore yn Meirionydd. Un genedigol o Cynfal, gerllaw Ffestiniog, oedd yr anfarwol Morgan Llwyd o Wynedd, ac y mae enw Hugh Owen o Fronyclydwr i fod byth mewn coffadwriaeth barchus, fel apostol Ymneillduaeth yma o 1662 hyd ei farwolaeth, yn 1699. Cafodd tadau a mamau Ymneillduaeth Meirionydd eu rhan gyflawn o ddyoddefiadau duwiolion eu hoes. Yspeiliwyd hwy mewn un mis, yn 1665, o chwe' chant o'u hanifeiliaid i dalu y dirwyon am gadw addoliadau crefyddol. Yr Annibynwyr oedd yr enwad cyntaf o Ymneillduwyr yn y sir. Cyfododd y Crynwyr yma yn mhen ychydig ar eu hol, a buont am dymor yn lled luosog. Yr enwad lluosocaf yn Meirionydd yn awr yw y Methodistiaid Calfinaidd, yr ail yw yr Annibynwyr, y Wesleyaid yw y trydydd, a'r Bedyddwyr yw y pedwerydd. Mewn trefn i'r darllenydd gael golwg ar luosogrwydd cymharol y pedwar enwad Ymneillduol, a'r Eglwys Wladol, yn y sir, rhoddwn yma rif yr addolwyr yn y gwahanol addoldai ar y Sul, Mawrth 30ain, 1851.

Enwad .. .. Bore .. .. Hwyr
Yr Eglwys Wladol .. .. 2362 .. .. 601
Y Methodistiaid .. .. 6692 .. .. 10,992
Yr Annibynwyr .. .. 2371 .. .. 4,555
Y Bedyddwyr .. .. 1499 .. .. 2270
Y Wesleyaid .. .. 1170 .. .. 3240

Er fod ugain mlynedd er pan gymerwyd y cyfrifon hyn, mae yn dra thebygol fod niferi cymharol yr enwadau yn lled gyffelyb yn awr i'r hyn ydoedd y pryd hwnw.

BALA.

Mae yn ymddangos mai dyma yr achos hynaf yn sir Feirionydd y gellir ei ddilyn yn ddigoll hyd ein dyddiau ni. Nid oes sicrwydd pwy a bregethodd yma gyntaf, ond y mae yn ymddangos yn lled sicr fod Mr. Morgan Llwyd o Wynedd, wedi pregethu yma wrth fyned i neu ddychwelyd o Wrecsam, i'w gartref yn Nghynfal, Maentwrog. Bu Mr. M. Llwyd farw yn Mehefin, 1659, ac os pregethodd ef yn y Bala, fel y mae pob tebygolrwydd ddarfod iddo wneyd, rhaid fod Ymneillduaeth wedi cychwyn yma yn foreu. Pan y sefydlodd Mr. Hugh Owen yn nhreftadaeth ei henafiaid yn Mronyclydwr, yn fuan wedi cyhoeddiad Deddf Unffurfiaeth, dechreuodd ei ymweliadau trimisol a ryw haner dwsin o leoedd yn sir Drefaldwyn, a thua yr un nifer o leoedd yn sir Feirionydd; ac yr oedd y Bala yn un o honynt. Parhaodd i ddyfod yma yn gyson er holl. rym yr erledigaethau, a phregethai pa le bynag y rhoddid iddo ddrws agored, hyd nes y rhoddwyd terfyn ar ei fywyd llafurus, yn y flwyddyn 1699. Dilynwyd Mr. Owen gan Mr. Edward Kenrick, yr hwn a briododd ei ferch, ac a aeth i fyw i Fronyclydwr. Ymwelai Mr. Kenrick a'r lleoedd lle yr ymwelai ei dad-yn-nghyfraith a hwy, gan wneyd ei oreu i lenwi yr adwy oedd angau wedi ei wneyd. Urddwyd ef Awst 17eg, 1702, gan Meistri James Owen, Mathew Henry, ac eraill, a mwynhaodd y gangen yn y Bala ran o'i weinidogaeth.[123] Nid oedd Mr. Kenrick yn meddu ar dalentau a chymwysderau gweinidogaethol ei dad-yn-nghyfraith, ond bu yn nodedig o ffyddlon, ac ni bu ei lafur yn gwbl ddilwydd. Wedi urddo Mr. Thomas Baddy yn Ninbych, yn 1693, deuai ef yn fisol i'r Bala. Dywedir y byddai yn nyddiau byrion y gauaf yn cadw y moddion ar hyd y dydd, a rhag ofn cynddaredd yr erlidwyr, elai i gysgu i le o'r enw Bodweni, rai milldiroedd o'r dref.[124] Mewn tai anedd yr arferent ymgynnull, a chan amlaf mewn tŷ a elwid y Store-house, wrth gefn Plasyndre. Pan ddaeth Mr. John Evans—hen bregethwr parchus gyda'r Methodistiaid—i'r Bala, 1742, at un Edward Williams, Gwehydd, un o hen Ymneillduwyr y Bala, y daeth i weithio, a llefara yn uchel am grefydd ei feistr—yr arferai addoli Duw yn ei deulu hwyr a boreu. Merch Morris ap Robert, un o hen aelodau yr Eglwys Ymneillduol yn y Bala, oedd Margaret, gwraig John Evans, wedi hyny. Saer coed wrth ei alwedigaeth oedd Morris ap Robert, ac yr oedd yn fardd o gryn enwogrwydd. Ceir nifer o'i ganiadau yn Mlodeugerdd Cymru; a chyfansoddodd gywydd i Lyn Tegid, yn yr hwn y cyffelyba donau'r llyn i dragwyddoldeb.[125] Nid oedd yr hen brydydd ond isel ei amgylchiadau, a byddai yn aml yn dywyll arno am angenrheidiau bywyd. Dywedir ei fod un boreu heb damaid o fwyd yn y tŷ, na modd i'w gael, ac yr oedd yr hen wraig wedi disgyn yn isel iawn ei meddwl; ond dywedai ef wrthi wrth gychwyn allan o'i dy i'w waith, "O paid ti a gofidio, fe ddaw." Ond nid oedd ei wraig yn gweled yr un sail i'w ffydd bwyso arni i gredu y deuai. Ond erbyn fod Morris ap Robert wedi dychwelyd yr hwyr, dyma yr hen wraig yn y drws yn ei gyfarch yn llawen, gan waeddi, "fe ddaeth, fe ddaeth.' "Fe ddaeth pwy?" meddai yntau, heb gofio, mewn munyd, at ba beth y cyfeiriai. "Ond yr angel—fe ddaeth ar gefn ceffyl gwyn, ac a roddodd i mi gini;" ac ni fynai hi ei hargyhoeddi nad yr Arglwydd a anfonasai ei angel a'r ymwared prydlawn yma iddi. Erbyn holi, cafodd yr hen brydydd allan mai Mr. Lewis Morris, o Fon, oedd wedi galw heibio, yr hwn oedd ar y pryd yn golygu y Tolldy yn Aberteifi, ac wedi clywed, ond odid, am galedi yr hen fardd. Un o'r hen Ymneillduwyr a feddyliodd gyntaf am gael oedfa yn Tynant yn agos i'r Rhiwlas, i wrthweithio dylanwad y noson ganu, fel ei gelwid, yn yr hon y dywedir fod Mr. Jenkin Morgan wedi pregethu dan arddeliad. neillduol. Yr oedd Mr. Jenkin Morgan yn aelod yn Watford, gerllaw Caerdydd. Aeth i gadw un o ysgolion cylchredol Madam Bevan, o dan arolygiad Mr. Griffith Jones, Llanddowror; pregethodd lawer o fan i fan yn y Gogledd, nes yr urddwyd ef yn Rhosymeirch, lle y llafuriodd am ugain mlynedd. Ond am yr oedfa y cyfeiriasom ati, dyma fel yr adroddir ei hanes gan Mr. John Evans, Bala. Yr oedd noswaith ganu, neu noswaith lawen yn cael ei chynal bob nos Sadwrn yn ysgubor Tynant. Gofidiai un o'r hen Ymneillduwyr yn fawr oblegid dylanwad drwg y fath lygredigaeth, a gwnaeth gais at wr y tŷ am genad i Mr. Jenkin Morgan gael pregethu yn y tŷ, ar yr un pryd ag y byddai y bobl ieuaingc yn yr ysgubor yn canu ac yn dawnsio. Cafwyd cenad, ac aeth Mr. Jenkin Morgan a'r hen Ymneillduwr tuag yno, ond yr oedd y bobl ieuaingc yno yn barod yn yr ysgubor, ac yn benderfynol i wneyd noson o honi, er llwyr foddi a dyrysu swn yr addoli. Ond rywfodd, nid oedd dim hwyl ar y chwareu y noson hono fel arfer, a daeth i feddwl un o honynt am fyned i'r tŷ, yr hwn oedd o dan yr un tô a'r ysgubor, i weled pa hwyl oedd ar bethau yno, ac erbyn hyny yr oedd y pregethwr wrthi a'i holl egni, a'i Dduw yn ei gynorthwyo yn amlwg iawn. Wrth weled y cyntaf yn aros yn y tŷ heb ddychwelyd, aeth eraill i weled pa beth oedd yn myned yn mlaen, ond swynwyd hwythau hefyd gan y pregethwr. Yn mhen ychydig, aeth eraill drachefn, ond nid oedd neb a âi yn dychwelyd, ac yr oeddynt wedi myned o un i un o'r diwedd nes nad oedd neb ar ol ond y telynwr; ac wrth weled hyny, barnodd hwnw mai cystal fuasai iddo yntau fyned hefyd, ac felly fu, a darfu am noson lawen yn ysgubor Tynant o hyny allan. Dychwelai llawer adref o'r oedfa dan lefain am drugaredd i'w heneidiau, a dywedai John Evans yr adwaenai efe bump o bersonau y rhai a ddangosasant arwyddion amlwg eu bod wedi eu hargy hoeddi i fywyd yn yr oedfa hono.[126] Wedi dechreu pregethu yn Weirglawdd-y-gilfach, arferai Ymneillduwyr y Bala gyrchu yno i addoli, canys dywed John Evans iddo ef fyned yno gydag Edward Williams, ei feistr, a'i fod yn synu wrth glywed y pregethwr yn gallu myned trwy yr holl wasanaeth heb un llyfr. Nid oes genym sicrwydd pwy a bregethai yn benaf i'r gynnulleidfa yn y Bala wedi marwolaeth Mr. Baddy, yn 1729—a Mr. Kenrick, yn 1742, ond cawn fod Mr. Jervice, Llanfyllin, a Mr. Lewis Rees, Llanbrynmair, yn ymweled yn aml a hwy, ac mae yn debyg fod gweinidogion Llanuwchllyn yn gofalu am y lle, o leiaf, y mae agos yn sicr fod Mr. Evan Williams yn gofalu am y gangen fechan yma o'i sefydliad yn Llanuwchllyn, yn 1759, hyd ei ymadawiad yn 1765. Yr oedd yr eglwys yn Llanuwchllyn erbyn hyn wedi dyfod yn llawer cryfach na'r eglwys yn y Bala; ac edrychid ar yr olaf fel cangen o'r flaenaf, a mynych y cyrchid o'r Bala i Lanuwchllyn, gan fod yno le cyfleus wedi ei godi i addoli. Yn y flwyddyn 1770, ymsefydlodd Mr. Daniel Gronow yn weinidog ar yr eglwys yma, a thrwy ei lafur ef yn benaf y codwyd y capel. Trosglwyddwyd y tir iddo ef trwy weithred, dyddiedig Mawrth 22ain, 1774; ac yn ei enw ef yr oedd hyd nes y trosglwyddwyd ef i ymddiriedolwyr, yn 1779. Yr oedd y capel wedi ei adeiladu rywbryd rhwng 1774 a 1779, ond nid oedd wedi ei wneyd drosodd yn feddiant i'r eglwys. Gallwn gasglu fod tipyn o gamddealldwriaeth wedi bod rhwng yr eglwys a Mr. Gronow, gyda golwg ar drosglwyddiad y capel, oblegid mewn llythyr sydd yn awr ger ein bron oddiwrth eglwys y Bala at reolwyr y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, dywedir mai y rheswm na buasent yn gwneyd cais yn gynt am gynorthwy ydoedd, "nad oedd y capel wedi ei roddi i fyny yn briodol gan eu diweddar weinidog, Mr. Gronow." Ymddengys i Mr. Gronow ymadael yr un flwyddyn ag y gwnaed y capel drosodd yn feddiant i'r eglwys, oblegid yn Hydref, 1779, daeth Mr. Evan Williams yma, o Benybontarogwy. Yr oedd Mr. Williams wedi bod yn gofalu am yr eglwys yma flynyddau cyn hyny mewn cysylltiad a Llanuwchllyn, a dychwelodd yma yr amser a nodir uchod. Dywed Benjamin Chidlaw, dicaon, a Robert Owen, Ellis Roberts, John Evans, ac Ellis Jones, henuriaid, gyda saith eraill o aelodau yr eglwys, wrth wneyd apeliad am gynorthwy y Bwrdd Cynnulleidfaol, ei fod nid yn unig yn llafurus, ond hefyd yn llwyddianus iawn, a bod crefydd wedi ennill tir yn fawr trwy ei sefydliad yn y lle," ac ychwanegent "mai 24p. y flwyddyn, oedd y cwbl a allent wneyd er ei gynhaliaeth. Bu Mr. Williams yma yn gymeradwy hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ryw bryd yn y flwyddyn 1786, canys Mawrth 9fed, y flwyddyn hono, ydyw y bedyddiad olaf a gofrestrodd yn llyfr yr eglwys. Derbyniodd Mr. William Thomas, Hanover, alwad gan yr eglwys yma, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Mai, 1787. Bu yma yn Ilafurio am ddwy-flynedd-ar-hugain. Nid ydym mewn cyfle i wybod dim am sefyllfa fewnol yr eglwys yn nhymor ei weinidogaeth. Mewn llythyr at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, yn 1797, dywed Mr. Thomas mai pedwar ugain cedd nifer y cymunwyr, a bod mwy na'u haner yn rhy dlawd i allu cyfranu dim at ei gynhaliaeth. Yn ol cofrestiad y bedyddiadau, Ionawr, 1809, yw y cofnodiad olaf o'i eiddo, a bu farw yn mis Mai y flwyddyn hono. Cyfododd anghydfod rhwng Mr. Thomas a rhan o'r eglwys tua'r flwyddyn 1800, yr hwn a derfynodd mewn ymraniad. Aeth plaid allan, a buont am rai blynyddoedd yn addoli ar wahan, mewn tŷ a elwid y Cross-keys. Mae yn anhawdd dweyd yn bendant beth oedd gwir achos y cweryl, a dichon i gydgyfarfyddiad o wahanol bethau ei achosi. Ymddengys ddarfod i Mr. Thomas brynu y tir gwag oedd rhwng y capel a'r heol, ac adeiladu tai arno. Yr oedd pump yn y lle, o'r hwn y byddai y cymydogion yn cael dwfr, a symudodd Mr. Thomas hwnw o'i le er mwyn ei gyfleustra ei hun, a thynodd ŵg llawer trwy hyny, oblegid cyhuddid ef o sathru ar hawliau ei gymydogion. O gylch yr un amser bu farw un Robert Jones, Coedyfoel, yr hwn oedd yn ŵr hynaws a charedig i'r achos, er nad oedd yn aelod eglwysig; ac y mae yn debyg i Mr. Thomas ddyweyd yn ei gladdedigaeth y gallasai ei fod yn ddyn duwiol er nad oedd yn proffesu crefydd. Anfoddlonodd llawer o'r aelodau yn fawr wrtho am gyhoeddi y fath syniad, a thrwy nad oedd pethau yn rhy gysurus o'r blaen, aethant rhagddynt waethwaeth. Tueddir ni hefyd i feddwl fod Mr. Thomas yn ddyn o ysbryd anhyblyg, ac heb feddu y dawn angenrheidiol i drin dynion yn y ffordd oreu. Gwelsom yn nglyn a'i hanes yn Hanover, sir Fynwy, i weinidogion dyeithr fod yno fwy nag unwaith yn ceisio heddychu rhwng yr eglwys ag yntau, yn nhymor byr ei arosiad yn y lle hwnw. Pa fodd bynag, torodd rhwygiad allan, ac yr ydym yn cael fod Dr. Lewis, Llanuwchllyn, ac amryw eraill o brif weinidogion y Gogledd yn cynorthwyo y blaid oedd wedi ymneillduo, fel y mae yn rhaid eu bod hwy yn tybio nad oedd Mr. Thomas yn ddifai yn yr amgylchiadau. Dilynwyd Mr. Thomas, gan Mr. John Lewis, myfyriwr o athrofa Gwrecsam. Yr ydym yma yn cyfarfod a gradd o anhawsder i gysoni y gwahanol adroddiadau a'r cofnodion sydd genym. Crybwyllasom eisioes mai yn Mai, 1809, y bu farw Mr. Thomas. Yn ol yr hyn a ddywedir gan y diweddar Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yn Nghofiant Mr. John Lewis, yr hwn a gyhoeddwyd ganddo yn yr Annibynwr, am 1862, tu dal. 245, urddwyd Mr. Lewis yn y Bala, yn y flwyddyn 1807, ac yr oedd Dr. Lewis, Llanuwchllyn; Meistri J. Griffith, Caernarfon; W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; W. Jones, Trawsfynydd; Jenkin Lewis, Wrecsam, a B. Jones, Pwllheli, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Nid yw Mr. Jones yn gwbl sicr am y ddau olaf, er y tybiai eu bod yn bresenol. Yr oedd Mr. Jones mewn cyfle i wybod yn gywir amser yr urddiad, canys yr oedd efe a Mr. John Lewis wedi eu magu yn yr un ardal, ac erbyn hyn yr oedd Mr. Jones wedi dechreu pregethu ei hun. Yn ol hyn, yr oedd Mr. Lewis wedi ei urddo ddwy flynedd cyn marwolaeth Mr. Thomas. Mae genym brawf arall fod Mr. Lewis wedi ei urddo cyn marwolaeth Mr. Thomas, canys yr ydym yn cael yn llyfr eglwys y Bala, dan law Mr. Lewis ei hun, gofrestriad bedydd a weinyddodd Ionawr 13eg, 1809, ac yr ydym yn cael cofrestriad o fedyddiad gan Mr. Thomas, ar ol y dyddiad yma.

Y mae yn sicr gan hyny fod Mr. Thomas a Mr. Lewis yn weinidogion yn y Bala yr un pryd, dros ryw gymaint. Coffeir yn arbenig mai Mr. Lewis a fu yn foddion i gyfanu y rhwyg, ac yr oedd un hen frawd ffraeth yn y lle yn arfer dweyd, "mai adfer heddwch i'r eglwys oedd yr unig beth, gwerth son am dano, wnaeth John Lewis yn ei oes." Yr ydym ni yn gogwyddo i feddwl i Mr. John Lewis gael ei urddo yn weinidog i'r blaid oedd allan. Fel y gwelsom, yr oedd cydymdeimlad Dr. Lewis a hwy, ac yr oedd hyny yn ei gwneyd yn bur naturiol i Mr. John Lewis, yr hwn oedd yn ddysgybl ffyddlon i'r Doctor, ymsefydlu yn eu plith; ac fel yr oedd iechyd Mr. Thomas yn gwaelu, a Mr. John Lewis yn nodedig am ei bwyll a'i fedr i hwylio yn mlaen rhwng pleidiau rhanedig, llwyddodd i gyfanu y rhwyg ac adfer heddwch, a dychwelodd ef a'i bobl i'r capel cyn marwolaeth Mr. Thomas, fel yr ymddengys, a llwyddodd trwy ddoethineb i lywodraethu yn foddhaol i'r ddwy blaid unedig. Yn y flwyddyn 1813, ailadeiladwyd y capel, yr hwn a dynwyd i lawr yn ddiweddar. Bu Mr. Lewis yn Llundain yn casglu at y capel, a llwyddodd i gasglu 100p. Anfonodd masnachwr o'r Bala ato i ofyn iddo, gan ei fod yn Llundain, i dalu swm o arian drosto, yr arbedasai hyny ef i anfon arian i fyny, ac y telid ef yn ol ar ei ddychweliad. Gan wybod ei fod yn fasnachwr cyfrifol, gwnaeth Mr. Lewis yn ol ei gais, ond erbyn ei ddychweliad cafodd fod masnachwr wedi tori, a swm mawr o'r arian a gasglwyd trwy lafur caled, oblegid hyny, wedi eu colli. Tua'r flwyddyn 1823, o herwydd fod rhyw gamddealldwriaeth rhyngddo a'i ail wraig, yr hyn a brofai anffafriol i'w weinidogaeth, rhoddodd Mr. Lewis i fyny ofal yr eglwys yn y Bala, a symudodd i fyw at ei ferch i Hafod-yr-haidd, Llanuwchllyn, lle y bu dros weddill ei oes. Yn nechreu y flwyddyn 1824, derbyniodd Mr. John Ridge, Penygroes, alwad gan yr eglwys yma, a chydsyniodd a hi, a bu yn boblogaidd a pharchus gan bob enwad yn y dref a'r amgylchoedd, hyd nes y symudodd i Cendl, sir Fynwy, yn niwedd y flwyddyn 1829. Wedi bod am dymor heb weinidog, yn niwedd y flwyddyn 1831, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Jones, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd; ac urddwyd ef Mai 3ydd a'r 4ydd, 1832. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn; holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Jones, Dolgellau; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Capel-garmon; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Lewis, Llanfairmuallt, ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, Wern. Gweinyddwyd hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan Meistri J. Williams, Dinas; R. Rowlands, Henryd; T. Jones, Llangollen; E. Davies, Trawsfynydd; T. Ellis, Llangwm; H. Pugh, Llandrillo; E. Davies, Llanrwst; Ll. Samuel, Bethesda; W. Morris, Llanfyllin; D. Price, Penybontfawr; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Jones, Llanidloes; T. Morgan, Trallwm, a J. Davies, Llanfair.[127] Ychydig gyda thair blynedd y bu Mr. Jones yma, canys ymadawodd cyn diwedd y flwyddyn 1835. Curodd tymestloedd cryfion ar yr achos yn y cyfnod yma, ond er "ei fwrw i lawr ni lwyr ddifethwyd ef," ac ni chaniataodd yr Arglwydd i'r rhai a geisient ei einioes i gael eu hewyllys arno. Bu yr eglwys am rai blynyddoedd ar ol hyny heb weinidog sefydlog, ond oblegid fod yr Athrofa Ogleddol wedi ei sefydlu yn y Bala, dan ofal Mr. Michael Jones, Llanuwchllyn; penderfynodd Mr. Jones roddi yr eglwys yn Llanuwchllyn, lle y llafuriasai am wyth mlynedd-ar-hugain, i fyny, a derbyniodd alwad gan yr eglwys yn y Bala, a llafuriodd yma mewn cysylltiad a'r eglwysi eraill dan ei ofal, hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei holl lafur, Hydref 27ain, 1853. Nid oedd Mr. Jones yn gallu bod yma ond dau Sabboth o bob mis, a phregethai y myfyrwyr ar y Sabbothau eraill. Yn niwedd 1854, rhoddwyd galwad i Mr. Michael Daniel Jones, Bwlchnewydd, (mab y diweddar weinidog,) i fod yn weinidog yma. Yr oedd Pwyllgor yr athrofa hefyd wedi ei ddewis i fod yn olynydd ei dad fel athraw. Bu gofal yr eglwys ar Mr. Jones am fwy na phedair blynedd, ond oblegid fod maes ei lafur mor eang, rhoddodd yr eglwysi yn y Bala a Thy'nybont i fyny, gan eu hanog i edrych am ryw un cymwys i fwrw golwg drostynt, a dewiswyd Mr. John Peter, un o aeladau yr eglwys yn y Bala, ac a ddechreuodd bregethu ynddi, ac a addysgwyd yn yr athrofa. Urddwyd ef Mawrth 30ain, 1859. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Ellis, Brithdir; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Jones, Abermaw; gweddiodd Mr. M. D. Jones, Bala; pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r gweinidog, a Mr. D. Roberts, Caernarfon, i'r eglwys; a chymerwyd rhan yn ngwaith y dydd gan nifer luosog o weinidogion eraill. Bu adfywiad pur rymus ar grefydd yn y wlad yn fuan wedi sefydliad Mr. Peter yn weinidog yma, a chwanegwyd llawer at rifedi yr eglwys hon.

Dewiswyd Mr. Peter yn fuan gan y Pwyllgor yn gydathraw yn yr athrofa, yr hon swydd a len wir ganddo hyd yr awr hon. Yr oedd yr hen gapel, yr hwn a adeiladesid yn y flwyddyn 1813, wedi myned yn adfeil—iedig, heblaw ei fod yn gwbl anheilwng o'r lle a'r gynnulleidfa, ac yn 1867, penderfynwyd codi capel newydd hardd. Cafwyd tir agos ar gyfer yr hen gapel, mewn man tra chyfleus, ar brydles o gan' mlynedd. Costiodd y capel newydd tua 1200p., ond y mae tua haner y ddyled eisioes wedi ei thalu. Fel y gwelir oddiwrth ei hanes, y mae yr eglwys yma o bryd i bryd wedi myned trwy amgylchiadau helbulus, ac nid aeth drwyddynt heb iddynt adael eu heffeithiau arni. Nid yw ei dylanwad er daioni, wedi bod y peth y dylasai, ac er nad oes dim a fyno y genhedlaeth bresenol a hyny, etto, y maent hwy yn gorfod dyoddef anfantais oddiwrth annoethineb y rhai a fu o'u blaen. Bu yma lawer o bobl yn perthyn i'r achos o bryd i bryd, a choffeir yn barchus am enwau rhai gwragedd rhagorol a fu yma, ond nid ydym wedi cael hysbysiaeth ddigonol yn eu cylch i wneyd cofnodiad o honynt.

Codwyd yma amryw bregethwyr yn yr eglwys, heblaw y rhai fagwyd yma, ac a ddechreuodd bregethu mewn eglwysi eraill, ond yr ydym yn lled sicr i'r rhai a ganlyn ddechreu pregethu yn yr eglwys hon.

William Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Wrecsam; urddwyd ef yn Mhenybontarogwy, lle y daw ei hanes dan ein sylw.

Samuel Rowlands. Aeth i Loegr, ac ni chlywsom ychwaneg o'i hanes.

Samuel Evans. Bu yn athrofa Hackney, ac y mae yn awr yn weinidog yn Ironside, yn agos i Wellington. Mab ydyw ef i Mr. Enoc Evans, o'r Bala, hen bregethwr perthynol i'r Methodistiaid.

Richard Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd; urddwyd ef yn Aberhosan. Symudodd i Ruthin lle y bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Ceir ei hanes ef yn nglyn ag eglwys Ruthin.

Robert Thomas. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala; urddwyd ef yn Jerusalem, swydd Fflint, a symudodd i Rhosymedre.

John Peter. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, urddwyd ef, fel y gwelsom, yn weinidog yr eglwys yma, ac y mae yn awr yn athraw clasurol yr athrofa.

William Solomon Roberts. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Fflint.

Robert Jones. Yn awr yn fyfyriwr yn yr athrofa.

Mae yr eglwys hon yn hawlio William Evans, Stockport; David Jones, Treffynon; William Thomas, Beaumaris; Hugh Evan Thomas, Pittsburgh, (Birkenhead gynt,) ac eraill, fel ei phlant, oblegid iddynt gael rhan helaeth o'u haddysg grefyddol ganddi, ond gan mai mewn cysylltiad ag eglwysi eraill yr oeddynt, pan y dechreuasant bregethu, nis gallwn eu rhoddi i mewn yma.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

EDWARD KENRICK. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes. Priododd ferch yr hyglod Hugh Owen, Bronyclydwr, ac wedi marw Mr. John Owen, ei frawd-yn-nghyfraith, daeth Bronyclydwr yn feddiant iddo gyda'i wraig. Yr oedd yn ddyn da, ond nid ymddengys ei fod yn meddu ar ddoniau a phoblogrwydd ei dad-yn-nghyfraith a'i frawd-yn-nghyfraith, fel y gwanychodd yr achosion a gasglwyd gan ei ragflaenoriaid gryn lawer yn ei amser ef. Cafodd fyw hyd y flwyddyn 1742, pan y gwelodd adfywiad mawr ar yr achos trwy offerynoliaeth Meistri Lewis Rees a Jenkin Morgan, ac eraill o ddiwygwyr y ddeunawfed ganrif.[128]

DANIEL GRONOW. Aelod gwreiddiol o'r Mynyddbach, ger Abertawy, ydoedd. Derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1757, a bu yno dair blynedd. Ymddengys mai yn sir Aberteifi yr ymsefydlodd ar ei ymadawiad a'r athrofa, yn rhan o esgobaeth Mr. Phillip Pugh, ac mai yno yr urddwyd ef. Yr oedd cylch gweinidogaeth Mr. Pugh yn eang iawn, ac yn y rhanau o honi o gylch Ciliauaeron a Neuaddlwyd y llafuriodd Mr. Gronow hyd ddiwedd 1769, pan y symudodd i'r Bala. Bu yma yn agos i ddeng mlynedd, a thrwy ei lafur ef y codwyd y capel Annibynol cyntaf yn y dref. Yr oedd ganddo gynnulleidfa gref, ac yr ydym yn cael enwau llawer o bersonau oeddynt yn byw yn mhlwyf Llangwm ar lyfr yr eglwys. Trwy ei lafur ef y sefydlwyd yr achos yn Nhynybont, ac yr oedd ganddo gynnulleidfa yn Llandderfel. Pregethai yn Llanfor y boreu, ac yn y Bala yn y prydnhawn, ac yn Llandderfel yn yr hwyr..[128] Yn ol y cyfrif a anfonwyd gan Mr. Job Orton i Mr. Josiah Thompson, yn 1773, yr oedd y gynnulleidfa yn y Bala yn rhifo 300, Talgarth (Tŷ'nybont,) 260, a Llandderfel 220. Dichon fod y cyfrif yn uchel, ond cymerai i fewn o bosibl, bawb o'r rhai a ddeuai yn nghyd i'r cyfarfodydd. Bu Mr. Gronow, yn myned unwaith yn y mis, am dymor, i Lanfyllin a'r Pantmawr. Nid oes unrhyw wybodaeth wedi ei adael ar ol i ni am dano fel pregethwr, ond y mae yn eglur iddo fod yn ddefnyddiol a llwyddianus yn y Bala dros y blynyddoedd y bu yma. Wedi ymadael a'r Bala, yr ydym yn ei gael yn Mixendem, yn swydd Caerefrog, a thebygol mai yno y bu farw. Mab iddo ef oedd Joseph Gronow, a addysgwyd yn yr athrofa yn Ngwrecsam, a urddwyd yn Weedon, yn swydd Northampton, yn Ebrill, 1797, ac a fu farw yn dra ieuangc.

EVAN WILLIAMS. Nis gwyddom un o ba le ydoedd, na pha le yr addysgwyd ef. Urddwyd ef yn y Brychgoed, Medi 28ain, 1752. Symudodd i Lanuwchllyn yn 1759, a bu yno hyd 1765, pryd y symudodd i Benybontarogwy. Bu yno bymtheng mlynedd, ac yn 1780, dychwelodd i'r Bala, lle y treuliodd weddill byr ei oes. Bu farw yn 1786, a chladdwyd ef yn Llanuwchllyn, lle yr oedd ei wraig wedi ei chladdu, yn Hydref, 1762, cyn ei symudiad i Benybontarogwy. Cyfansoddwyd "Cerdd o Alarnad" ar ol ei wraig, Mrs. Gwen Williams, gan un William Jones, ac argraffwyd hi yn y Bala gan un John Rowlands.[129] Derbyniwyd mab iddo, o'r enw David Williams, i athrofa Abergavenny, yn 1775, ac ymsefydlodd yn weinidog yn rhywle yn sir Gaerefrog. Dywedai y diweddar Mr. H. Lloyd, Towyn, rai blynyddau yn ol, wrth Mr. Simon Jones, Bala, iddo, pan yn casglu at gapel y Towyn yn y sir hono, tua'r flwyddyn 1820, weled mab i Mr. Evan Williams yn weinidog yn rhywle yn agos i Hull. Merch i Mr. E. Williams, hefyd, oedd ail wraig Mr. John Roberts, Llangwm, hen weinidog i'r Methodistiaid. Nid oes genym ddim yn ychwaneg o'i hanes, ond gallwn gasglu oddiwrth ei lythyrau ei fod wedi cael addysg dda, ac o olygiadau efengylaidd.

WILLIAM THOMAS. Ganwyd ef yn Awst, 1749. Amaethwyr cyfrifol oedd ei rieni. Yr oedd ei dad yn enedigol o sir Forganwg, a'i fam o sir Gaerfyrddin. Claddodd ei dad cyn ei fod yn ddeuddeg oed, ac ar ol hyny, symudodd ei fam i'w chymydogaeth ei hun, heb fod yn mhell o Lanymddyfri. Derbyniodd Mr. Thomas addysg dda pan yn fachgen, ac aeth i Lundain, lle yr oedd ganddo berthynasau, a chafodd le gyda masnachwr yn Longacre, a bu yno mewn parch ac ymddiried dros rai blynyddoedd. Er ei fod y pryd hwnw o ymarweddiad moesol diargyhoedd, etto, yr oedd yn gwbl ddyeithr i grefydd. Pan tua thair-ar-hugain oed, cafodd glefyd trwm yn Llundain, ac wedi gwella i raddau, aeth adref at ei fam. Eglwyswraig selog oedd ei fam, ond yr oedd adfywiad grymus ar y pryd mewn amryw o gynulleidfaoedd. Ymneillduol, a denwyd Mr. Thomas, o gywreinrwydd, i fyned i Grygybar i wrando Mr. Isaac Price, a bu yr oedfa hono yn oedfa i'w chofio iddo. Newidiwyd holl gynlluniau ei fywyd ar unwaith. Unodd a'r eglwys, ac aeth i Tŷ'nycoed, Cwmtawe, ac yno fel yr ymddengys y dechreuodd bregethu. Aeth i'r athrofa yn Abergavenny, lle yr arhosodd ddwy flynedd. Urddwyd ef yn Hanover, Hydref 2il, 1782. Nid arhosodd yno ond llai na phum' mlynedd, ac nid rhyw gysurus iawn y bu yno yn yr yspaid hwnw. Symudodd i'r Bala yn 1787, a llafuriodd yno am ddwy-flynedd-ar-hugain. Yr oedd yn ddyn o ddeall cryf, ac ysbryd penderfynol, a chyhuddid ef o fod yn rhy awyddus am y byd. Nis gwyddom a oedd sail i'r fath awgrymau. Yr oedd ei ofal am ei amgylchiadau, a'i ymdrech i gyfieithu a chyhoeddi llyfrau, yn ddigon o achlysur i ryw ddosbarth achwyn felly arno. ganddo ddeg o blant, ac yr oedd yn ofynol wrth gynnildeb mawr i ddarpar cynhaliaeth i deulu mor lluosog. Cyhoeddodd lawer o lyfrau, a gwnaeth yn dda, fel y tybir, ar amryw o honynt. Ond y gwaith mwyaf yr ymgymerodd ag ef oedd, cyfieithu a chyhoeddi Esboniad Dr. Guyse ar y Testament Newydd; ac oddiwrth hwnw y collodd fwyaf. Yn Nhrefecca y byddai yn argraffu ei holl lyfrau, ac yno y dechreuwyd argraffu Esboniad Dr. Guyse. Arferai Mr. Thomas brynu y papur ei hun, a'i anfon i Drefecca i'w weithio. Llawer o drafferth a gafodd gydag argraffwyr Trefecca. Byddai yn methu cael y rhanau allan mewn pryd. Anfonai ei fab, John, i Drefecca i ymofyn y rhanau, ac yna cymerai y llance hwy yn bynau ar gefn caseg fechan, o eiddo ei dad, i'r prif ddosbarthwyr ar hyd y wlad. Ond yn aml iawn, erbyn ei fyned i Drefecca, ni byddai y rhanau yn barod, a byddai raid iddo aros yno am danynt weithiau am wythnosau, yr hyn oedd yn anghyfleustra ac yn golled fawr. Symudodd ef, wedi hir flino, at Mr. John Evans, yn Nghaerfyrddin, i'w argraffu, ac wedi hyny at Mr. R. Saunderson, i'r Bala. Yr oedd wyth rhan heb eu parotoi i'r wasg, pan fu farw Mr. Thomas, a chafodd ei fab gan Mr. Ebenezer Jones, Pontypool, gwblhau y gwaith. Parodd y maith flynyddoedd y bu y rhanau yn dyfod allan, golled dirfawr. Yr oedd 1800 o dderbynwyr i'r rhanau cyntaf; yr oedd cynnulleidfa Henllan, sir Gaerfyrddin, yn derbyn 102, ond cyn y diwedd, nid oedd ond 800 yn myned, fel yr oedd 1000 o gopiau ar hyd y wlad yn anorphenol. Dywedai ei fab i Mr. Thomas golli 300p. yn yr anturiaeth.[130] Dichon fod y llafur llenyddol yma o eiddo Mr. Thomas yn peri nad oedd yn gallu rhoddi cymaint o'i amser at ei ddyledswyddau gweinidogaethol ag a ddylasai, yn ol fel y syniai pobl ei ofal; ond gwnaeth, er hyny, wasanaeth dirfawr i'w genhedlaeth. Cafodd ei ran o drallodion teuluol. Gwelodd gladdu y rhan fwyaf o'i blant, a dyrysodd ei wraig yn ei synhwyrau, a daeth i ddiwedd gofidus iawn. Adwaenem ddau o'i blant, sef ei fab John Thomas, yr hwn a fu fyw am flynyddoedd yn Mhenycae, Mynwy, a'i ferch, Mary, gwraig Mr. David Johns, y Cenhadwr llafurus yn Madagascar; ond y maent hwythau bellach er's blynyddau wedi eu casglu at eu pobl. Bu farw Mr. Thomas yu mis Mai, 1809, yn 60 oed, a chladdwyd ef yn neu wrth gapel y Bala, ac y mae etto rai yn fyw sydd yn cofio dydd ei angladd.

JOHN LEWIS. Ganwyd ef yn Caerhys, plwyf Llanuwchllyn, yn y flwyddyn 1761. Enwau ei rieni oeddynt Lewis a Gainor Jones; ac aeth ef yn Lewis yn ol enw ei dad. Symudodd ei rieni i Hafodyrhaidd, pan nad oedd ef ond plentyn, ac fel John Lewis, Hafodyrhaidd, yr adnabyddid ef drwy ei oes yn y rhan fwyaf o sir Feirionydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Llanuwchllyn, gan Mr. Abraham Tibbot, pan oedd ond llange ieuangc, a derbyniwyd amryw yr un pryd ag ef, ond edrychid ar John Lewis yn fwy deallgar na hwynt oll. Priododd yn mhen rhai blynyddoedd ag un Mary Jones, o'r Ddolfach, Llanuwchllyn, a ganwyd iddynt ddwy ferch. Ni bu yn briod ond tua chwe' blynedd, ac yn y tymor hwn y dechreuodd bregethu, ac nid oedd yn meddwl mwy na bod yn bregethwr achlysurol. Wedi claddu ei wraig, anogwyd ef i fyned i'r athrofa i Wrecsam, er ei fod y pryd hwnw yn ddeugain oed. Bu yn yr athrofa bedair blynedd, ac er nas gallesid disgwyl iddo ddyfod yn ys—golhaig gwych, etto, profodd yr addysg a gafodd o help iddo drwy ei oes. Cafodd wahoddiad i Lanfyllin a'r Capel-bach, Penybontfawr, ar brawf ond nid oedd eglwys Llanfyllin yn unol i roddi galwad iddo. Sefydlodd yn y Bala, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1807, ac ar ol ei urddo yno, bu yn gofalu am Benybontfawr am ddwy flynedd, hyd nes yr urddwyd Mr. Morris Hughes yno. Gwnaeth les mawr yn y Bala, yn enwedig yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, pan yr oedd teimladau yr eglwys yn rhanedig. Priododd a gwraig weddw, yr hon a fuasai ddwywaith yn weddw, ac ni bu y briodas yn un gysurus mewn un modd. Mynai hi aros yn y Bala, a barnai yntau mai yn eu hen gartref, yn Hafodyrhaidd, y dylasent fyw, ac aeth pethau mor ddiflas fel yr aeth ef yn rhy ddigalon i bregethu. Rhoddodd y weinidogaeth yn y Bala i fyny, ac aeth i fyw at ei ferch yn Hafodyrhaidd, ond ymwelai a'i wraig yn y Bala yn achlysurol. Cymhellwyd ef i bregethu drachefn, yn mhen amser, yr hyn a wnaeth tra y gallodd, yn mha le bynag y gelwid am ei wasanaeth. Daliwyd ef gan fusgrellni a methiant hen ddyddiau, yr hyn a'i hanalluogodd i fyned allan o'i gymydogaeth, ond cyrchai i'r hen gapel tra y gallodd, hyd ei ddiwedd, a bu farw, Ionawr 23ain, 1850, yn 89 oed.[131] Dyn byr, crwn, o ran corpholaeth, ydoedd, ac o dymer siriol a charedig. Ni byddai byth mewn brys, a phan y dechreuai aros ar y ffordd i siarad, ni feddyliai am droi pen ar yr ymddyddan. Yr oedd yn deall duwinyddiaeth yn dda, ac anhawdd fuasai ei orchfygu mewn dadl, ond nid oedd erioed wedi dysgu dyweyd ei feddwl yn fyr a chynhwysfawr. Calfiniad cymhedrol ydoedd o ran ei olygiadau duwinyddol, ac yr oedd yn deall y pynciau y dadleuid yn eu cylch y dyddiau hyny yn well na'r rhan fwyaf. Nid oedd dim yn boblogaidd yn ei ddawn, er yr ymadroddai yn rhwydd, ac yr oedd yn wastad yn ddifrifol a digellwair, ond yr oedd yn amddifad o wres ac angerddoldeb. Gwnaeth "waith efengylwr," ac y mae wedi derbyn gwobr "y gwas da a ffyddlon."

MICHAEL JONES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1785, yn agos i Neuaddlwyd, sir Aberteifi. Enwau ei rieni oeddynt Daniel a Mary Jones, ac yr oeddynt ill dau yn nodedig am eu cryfder corphorol a meddyliol. Yn fuan wedi geni Michael Jones, symudodd ei rieni i Ffos-y-bont-bren, ac yno y treuliodd efe y rhan fwyaf o'i ddyddiau boreuol. Er nad oedd ei rieni yn proffesu crefydd, etto, dygasant eu plant i fyny mewn moesoldeb cyffredin, a chyn diwedd eu hoes ymunodd ei dad a'r Wesleyaid, a'i fam a'r Methodistiaid; ond i'r Neuaddlwyd i fwynhau gweinidogaeth Dr. Phillips, y cyrchai Michael Jones. O herwydd fod tyddyn Ffos-y-bont-bren yn rhy fychan i gynal teulu Daniel Jones, trodd Michael Jones allan i wasanaethu, ac ar ol bod felly yn gwasanaethu dros ychydig, drwy gynorthwy ei frawd Evan Jones, yr hwn oedd hynach nag ef, ac wedi casglu tipyn o arian, aeth i'r ysgol, a gwnaeth gynydd buan mewn dysgeidiaeth. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Neuaddlwyd, yn mis Medi, 1807, ac yn fuan anogwyd ef i ddechreu pregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf mewn lle a elwir Penrhiw. Aeth i'r ysgol drachefn at Mr. D. Davies, Castell-howell, ac yr oedd ganddo trwy ei oes feddwl uchel am Mr. Davies, fel athraw. Treuliodd dair blynedd, weithiau yn yr ysgol, a phryd arall yn gweithio, er ennill arian i'w gynal yn yr ysgol; hyd y flwyddyn 1810, pryd y derbyniwyd ef yn fyfyriwr i'r athrofa yn Wrecsam. Rhagorodd ar y rhan fwyaf o'i gydfyfyrwyr fel ysgolhaig, ac fel ysgolhaig cywir a manwl yr hynododd ei hun, yn fwy nag fel pregethwr, er fod ei bregethau, hyd yn nod yn y cyfnod hwnw, yn sylweddol, ac yn cynwys hanfod yr efengyl. Wedi gorphen ei dymor yn yr athrofa, derbyniodd alwad gan hen eglwys barchus Llanuwchllyn, yr hon a adawsid yn amddifad o fugail, trwy symudiad Dr. Lewis i gymeryd gofal yr athrofa yn Wrecsam. Urddwyd Mr. Jones Hydref 10fed, 1814, ond er fod yr eglwys yn lluosog a chyfoethog, nid oedd yr hyn a addawent at ei gynhaliaeth ond ychydig. Yn y flwyddyn 1816, priododd a Miss Mary Hughes, merch Mr. Edward Hughes, Cwmcarnedd, Llanbrynmair, a bu iddynt bump o blant, dau fab a thair merch. Claddwyd y mab ieuengaf o flaen ei dad, ond y mae y tair merch a'r mab hynaf—Mr. M. D. Jones, athraw yr athrofa yn y Bala —etto yn fyw. Cyfarfyddodd Mr. Jones ag ystormydd blinion yn Llanuwchllyn, ystormydd na chyfarfu yr un gweinidog yn Nghymru erioed a'u chwerwach, a pharhasant yn hir iawn. Dyoddefodd drwyddynt golledion mawrion yn ei amgylchiadau, ac y mae yn rhaid ddarfod iddynt effeithio ar ei gyfansoddiad, er cryfed ydoedd. Nid awn i mewn i'r amgylchiadau hyny yma, gan y deuant i'n ffordd yn nglyn a hanes Llanuwchllyn, a chan fod nodwedd a chymeriad Mr. Jones, yn rhwym o ddyfod dan ein sylw yno, nid rhaid i ni aros llawer ar hyny yma. Cafodd Mr. Jones fyw i weled yr ystorm wedi myned heibio y rhwyg wedi ei gyfanu—heddwch wedi ei adfer—a theimladau i raddau dymunol wedi eu heddychu.

Ar sefydliad yr Athrofa Ogleddol, dewiswyd Mr. Jones yn athraw, a sefydlwyd ar y Bala, fel y lle cymhwysaf i'w chynal, a derbyniodd yntau yr apwyntiad. Yn mhen amser, gwelodd Mr. Jones yn angenrheidiol i ddatod ei gysylltiad gweinidogaethol a Llanuwchllyn, lle y bu am wyth-mlynedd-ar-hugain, a symudodd. i'r Bala, lle y treuliodd weddill ei oes. Cyflawnodd ddyledswyddau ei swydd fel athraw gyda'r gofal manylaf, ac ni bu neb erioed yn fwy cydwybodol yn cyflawni yr ymddiriedaeth a roddwyd iddo. Dysgai y myfyrwyr yn yr hyn a dybiai yn fwyaf angenrheidiol arnynt, a'r hyn a'u gwnai, ar ol gadael yr athrofa, yn ddefnyddiol yn y weinidogaeth. Arolygai yn fanwl dros eu holl arferion. Dichon y tybiai rhai ef yn rhy lym mewn pethau bychain, ond credai ef fod blysiau a chwantau o bob math i gael eu darostwng dan lywodraeth deall a rheswm. Yr oedd arfer myglys, neu ymwneyd a diodydd meddwol, yn arferion nas gallasai eu harbed, ac edrychai arnynt yn rhy beryglus i gellwair a hwy. Nid oedd profedigaeth iddo ef mewn dim o'r fath, a gallasai yn anad neb ddyweyd gyda Paul, "ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim." Yr oedd yn feistr perffaith ar holl flysiau y cnawd, ac nis gallasai oddef gweled dynion ieuaingc oedd a'u gwynebau ar waith cysegredig y weinidogaeth, yn cellwair ag arferion oedd yn peryglu eu dwyn yn gaethion iddynt. Ystyriai ef mai rhan hanfodol o grefydd oedd "croeshoelio y cnawd, ei wyniau, a'i chwantau." Nerth a chywirdeb oeddynt linellau amlycaf ei gymeriad, ac yr oedd mor ffyddlawn i argyhoeddiadau ei gydwybod, fel nad oedd perygl iddo fradychu yr hyn a gredai oedd wirionedd. Buasai ychydig yn ychwaneg o dynerwch ac ystwythder yn ei wneyd yn aelod hapusach o gymdeithas, ac arbedasai iddo ei hun, drwy hyny, lawer o'i ofidiau, ond yr oedd wedi tybied fod pob cyfrwyddiant felly yn fradychiad ar y gwirionedd, ac yn anffyddlondeb i gydwybod, a'i bwngc mawr ef yn wastad oedd "ymarfer i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion." Dilynodd yr hyn a farnai yn ddyledswydd, hyd yn nod i'w anfantais ei hun, a gwnaeth fwy nag a allasai ei natur, er cryfed oedd, ymgynal dano, rhag i neb gael achlysur i ddyweyd ei fod yn anffyddlon i'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo. Ni dderbyniai ond 30p. y flwyddyn fel athraw yr athrofa, ond gwnai yr holl waith mor onest a phe talesid iddo 300p. y flwyddyn. Anonestrwydd y cyfrifasai ef dderbyn yr arian, er lleied y swm, heb wneyd y gwaith.

Yr oedd cylch ei weinidogaeth yn eang, oblegid heblaw y Bala a Thy'n-ybont, yr oedd Bethel, Llandderfel, a Soar, dan ei ofal, yr hyn yn nghyda'i ddyledswyddau fel athraw, oedd yn ormod i'r dyn cryfaf. Teimlai yn achlysurol oddiwrth boen ac anhwyldeb am y ddwy flynedd olaf o'i oes, ond daeth y diwedd yn gynt nag yr oedd neb yn ddisgwyl. Bu farw Hydref 27ain, 1853, yn 68 oed, ac wedi bod yn agos i ddeugain mlynedd yn y weinidogaeth. "Daliodd gyffes ei obaith yn ddisigl hyd y diwedd," a bu farw fel y bu fyw, gan bwyso ar y gwirionedd. Nid oedd gan benillion fawr o ddylanwad arno wrth fyw, ac ni fynai bwyso arnynt with farw. Wrth ei weled yn ei boenau olaf yn cael ei arteithio, dywedai Mrs. Jones, "Wel fy anwylyd, y mae yn galed iawn," "nag ydyw," ebe yntau, yn ei ddull pwyllus, "byr ysgafn gystudd, yn odidog_ragorol, yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant." Adroddodd Mrs. Jones yn ei glyw, y penill adnabyddus:—

"Ar lan'r Iorddonen ddofn, 'rwyn oedi'n nychlyd,
Mewn blys myn'd trwy ac ofn, ei 'stormydd enbyd."

"Na, na, dim ofn—Ysgrythyr, fy anwylyd—Ysgrythyr." Darllenwyd iddo y drydedd Salm ar hugain, a phan ar ganol y geiriau, "Ie pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed," dywedodd yn orfoleddus, "Dyna, dyna, fy anwylyd, dyna graig yn awr," a bu farw gan bwyso ar y graig. Claddwyd ef Hydref 31ain, 1853, yn mynwent Hen Gapel, Llanuwchllyn, ac yr oedd mwy na deg-ar-hugain o weinidogion y gwahanol enwadau, gyda thorf alarus, yn ei ddwyn i'w gladdu, ac yr oedd y galar a amlygid y fath, fel yr oedd yn amlwg i bawb fod "tywysog a gwr mawr yn Israel wedi syrthio.'

TYNYBONT.

Mae y lle hwn yn nhref-ddegwm Cil Talgarth, o fewn pedair milldir i'r Bala. Ymddengys fod yr achos yma yn hen, a bod y capel wedi ei godi mor foreu, os nad yn foreuach, na chapel y Bala. Fel y crybwyllasom, y mae y cyfrifiad a roddodd Mr. Job Orton i Mr. Josiah Thompson yn gwneyd rhif y rhai a ymgynnullent yma yn 260, er fod yn anhawdd genym gredu eu bod mor lluosog. Mr. Daniel Gronow oedd y gweinidog pan godwyd y capel. Eiddo un Thomas Jones oedd tir Tynybont, ac efe a roddodd le i adeiladu y capel arno. Gwerthwyd tyddyn Tynybont gan Thomas Jones, i Mr. Price, Rhiwlas, a chan nad oedd Thomas Jones wedi trosglwyddo y capel trwy weithred i ymddiriedolwyr, aeth yn eiddo i Mr. Price gyda'r tyddyn. Buwyd yn talu 3p. y flwyddyn o ardreth i Simon Jones, mab y dywededig Thomas Jones, oblegid mai efe oedd tenant Mr. Price yn Nhynybont; ond oblegid i Simon Jones dori rhyw bren ar y tir, digiodd Mr. Price wrtho, a rhoddodd brydles i'r eglwys ar y capel, a dyna y pryd y daeth yn feddiant i'r eglwys. Gadawodd Robert Griffith, o'r Garneddlwyd, 2p. at yr achos yn ei ewyllys, ac o log y rhai hyny y mae Edward Jones, mab-yn-nghyfraith Robert Griffith, yn talu swllt y flwyddyn o gydnabyddiaeth i Mr. Price, Rhiwlas. Nid oedd y capel cyntaf ond un syml a diaddurn iawn; ond ad-drefnwyd ef tua'r flwyddyn 1857. Tynwyd ymaith yr hen oriel, fel y mae yn awr yn gapel bychan cyfleus. Costiodd y cwbl tua 40p., a thalwyd yr holl ddyled. Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r Bala; ac felly y mae yn parhau. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae yma ffyddloniaid wedi bod "yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos.' Bu teulu Coedyfoel o gryn swcr i'r achos, a choffeir yn arbenig am Dorothy Jones, Coedyfoel, fel gwraig ragorol. Yr oedd yn un o'r rhai a gymerai ddyddordeb mawr yn nadleuon duwinyddol dechreuad y ganrif hon, a gwrandawai yn graff ar bob dyn dyeithr a ddeuai heibio, er deall beth ydoedd. Daeth Mr. Arthur Jones, o Fangor, (Dr. Jones wedi hyny,) heibio unwaith, ond er gwrando yn astud, methodd hen dduwinyddes Coedyfoel, a gwneyd allan pa beth ydoedd ef, na'r dyn ieuangc a bregethai o'i flaen. Wedi myned i'r tŷ, gofynai yn bur siomedig, "Wel, ddynion, pa'm bregethwch chi be' ydach chi?" "Well i mi bregethu Crist i chwi, na phregethu beth ydwyf fi," ebe Dr. Jones, gyda'r parodrwydd ymadrodd oedd mor nodedig ynddo; a gwelodd Dorothy Jones nad gwr i wneyd yn hyf arno oedd y pregethwr o Fangor. Codwyd capel bychan tua diwedd y ganrif ddiweddaf, mewn cysylltiad a Thynybont, ar dir Mr. Price, Rhiwlas, yn Tynant, yn Nghwmtirmynach. Ni chafwyd prydles ar y tir, ac yr oedd yn rhaid codi y tŷ a chorn simdde arno, fel na feddyliai neb wrth fyned heibio nad tŷ anedd oedd; ac nid oedd pulpud i gael ei roddi ynddo, oblegid mai yn dŷ ysgol, ac yn lle i gynal cyfarfodydd achlysurol yn nglyn a Thynybont, y bwriadwyd ef. Ond rhoddwyd pulpud bychan ynddo, ac aeth rhyw rai prysur i Rhiwlas i hysbysu hyny, a'r diwedd fu cloi y lle, a throi yr addolwyr allan.[132]

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

Hugh Hughes. Yr hwn a ymfudodd i America.

David Roberts. Bu yn athrofa y Bala, ac y mae yn awr yn fyfyriwr yn Glasgow.

LLANUWCHLLYN.

Yn y flwyddyn 1737, yr ydym yn cael Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, yn y Bala, yn gwrando Mr. Lewis Rees, o Lanbrynmair, yn pregethu. Nis gwyddom pa beth a'i harweiniodd yno. A oedd yn digwydd bod yn y dref eisioes, ac iddo yn ddamweiniol droi i mewn i wrando beth oedd gan y pregethwr i ddyweyd, ai ynte a aeth efe yno yn ei unswydd, gan ewyllysio clywed y dyn. Nid oes neb a all ateb yr ymholion hyn, a gwaith ofer yw i ninau geisio dyfalu. Beth bynag, yr ydym yn cael Meurig Dafydd yn yr oedfa, ac oedfa nodedig iddo ef ydoedd, canys dygwyd ef ynddi i adnabod ei gyflwr, a'r drefn i'w gadw trwy y Gwaredwr. Ar y diwedd, gwahoddodd Mr. Rees i bregethu i'r Weirglawdd-y-gilfach, a'r hyn y cydsyniodd, ac ar yr amser apwyntiedig, daeth yn ol ei addewid. Yr oedd Meurig Dafydd, fel Cornelius, o'r blaen wedi bod yn ddiwyd yn gwahodd ei gymydogion a'i geraint i'w dŷ erbyn yr oedfa, a phan ddaeth Mr. Rees yno, cafodd gynnulleidfa luosog yn ddisgwyl. Ond y mae yr olwg arnynt yn ddyeithr iddo. Mae pob un, gwryw a benyw, a'i hosan yn ei law, ac yn brysur yn gwau, yn ol arfer y wlad. Eisteddai Mr. Rees wrth y tân i ddisgwyl amser dechreu, a thaflai ei lygaid ar ei ddarpar wrandawyr yn awr ac eilwaith, er gweled a oedd dim tebyg iddynt i roddi heibio, ond ni welai un arwydd. O'r diwedd, cododd i fyny, ac agorodd y Bibl yn araf, gan ddisgwyl y buasai hyny yn arwydd iddynt i roddi heibio, ond nid oedd dim yn tycio. Dechreuodd ddarllen, a thaflai gil ei lygaid arnynt, ond yr oedd eu dwylaw yn brysur gyda'r gweill. Gwnaeth rai nodiadau, gan dybied y buasai hyny yn galw eu sylw, ond pa faint bynag o sylw a dalai eu llygaid a'u clustiau, ni lonyddai eu dwylaw. Penderfynodd droi at Dduw mewn gweddi, a'r olwg ddiweddaf a gafodd cyn cau ei lygaid oedd, pob un yn ddiwyd yn gwau ei hosan. Ond wedi dechreu gweddio, cafodd nerth gyda Duw, fel yr anghofiodd hwy yn fuan. Deallodd wrth yr ocheneidiau a glywai fod Duw yn wir yn y lle, a phan yr agorodd ei lygaid ar ddiwedd y weddi, gwelai bob hosan a gweill wedi syrthio i'r llawr fel "taenfa rhwydau," a phob gwyneb wedi ei wlychu gan ddagrau. Dyna yr oedfa gyntaf erioed, hyd y mae genym sicrwydd, gan yr Ymneillduwyr yn mhlwyf Llanuwchllyn. Wedi bod yno drachefn ar Sabboth, ar gais Meurig Dafydd a'r bobl, anogodd Mr. Rees, Meurig Dafydd i gofrestru ei dŷ i bregethu, fel y byddai yn ddiogel dan nawdd y gyfraith rhag pob ymosodiad. Ond teimlai Meurig Dafydd yn ddigalon i wneyd hyny, rhag na chawsai bregethwr iddo ar ol ei drwyddedu, a dywedai "pe gwyddwn y cawn i bregeth unwaith yn y flwyddyn mi wnawn." Addawodd Mr. Rees y rhoddai fwy na hyny—y deuai yno unwaith bob tri mis. Llonodd Meurig Dafydd yn fawr pan glywodd hyny, a thrwyddedodd ei dŷ, a chafwyd addoliad rheolaidd yno o hyny allan, a ffurfiwyd yno eglwys yn fuan. Mae Weirglawdd-y-gilfach mewn cwm anghysbell, rhwng Llanuwchllyn a chyfeiriad Dinasmawddwy, yn nghesail Aran Benllyn, ac yma yn benaf y cyfarfyddai y gynnulleidfa, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Buwyd yn addoli hefyd yn Nantydeiliau, lle yr oedd un o'r aelodau, o'r enw Dafydd Stephen, yn byw; ac am ddwy neu dair blynedd cyn codi y capel, addolid

yno bob yn ail a Gweirglawdd-y-gilfach. Rhoddwyd galwad gan yr eglwys, pan yn Weirglawdd-y-gilfach, i un Mr. Thomas Evans, i fod yn weinidog. Gwr o'r Deheudir ydoedd. Gelwid ef Mr. Evans, Talardd, oblegid iddo briodi a chwaer Mr. Thomas Owen, Talardd, amaethwr, a thirfeddianwr cyfrifol oedd yn byw yn ymyl Weirglawdd-y-gilfach, ac ymddengys i Mr. Evans fod yn byw ac yn cadw ysgol yn Talardd. Nid oes genym sicrwydd pa bryd y daeth Mr. Evans yma, ond yr oedd yma yn 1744, canys yr oedd y flwyddyn hono yn derbyn arian o drysorfa y Presbyteriaid, a bu yma beth bynag hyd 1757, canys yr ydym yn cael ei enw y flwyddyn hono hefyd, yn derbyn o'r un drysorfa, fel gweinidog Llanuwchllyn. Y mae yn eglur, gan hyny, ei fod ef yma cyn codi y capel, ac mai yn yspaid ei weinidogaeth ef y bu hyny. Wedi i'r eglwys gynyddu yn Weirglawdd-y-gilfach, a bod llawer o'r aelodau yn byw i lawr yn ngwaelod y plwyf, penderfynwyd fod yn well cael capel mewn rhyw le canolog, fel y gallai yr holl frawdoliaeth gydymgynnull i fwynhau cymdeithas eu gilydd. Gosodwyd ar Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, a Thomas Cadwaladr, i fyned at Dafydd Stephen, Nantydeiliau, i geisio lle i'w godi ar ei dir ef. Llwyddasant yn eu hamcan, a chodwyd yno gapel cyfleus i'r gynnulleidfa[133] Dyddiad y weithred gyntaf ydyw 1745, ond y flwyddyn ganlynol, fel yr ymddengys, y codwyd y capel. Arferai boneddwr o Loegr, Mr. Twanley, gwr duwiol, selog, a haelfrydig o Kidderminster, ymweled a Llanuwchllyn a'r amgylchoedd, ar adeg ffeiriau i brynu anifeiliaid. Wrth weled amddifadrwydd yr ardal o le addoliad, rhoddodd bob cefnogaeth i'r cyfeillion yn y lle i godi capel. Cyfranodd ei hun, a chasglodd oddiar eraill er eu cynorthwyo.[134] Bu Mr. Evans yma tua phymtheng mlynedd, ac ymadawodd oddiyma i Ddinbych, o gylch y flwyddyn 1758. Y flwyddyn ganlynol, daeth Mr. Evan Williams, yma, o'r Brychgoed, sir Frycheiniog, lle yr oedd wedi ei urddo er's mwy na chwe' blynedd cyn hyny. Gofalai am y gangen yn y Bala hefyd, ond oblegid gwaeledd ei iechyd, nis gallasai fyned yno ond yn achlysurol. Llafuriodd yma hyd tua'r flwyddyn 1767, daeth Mr. Benjamin Evans ar daith i'r Gogledd, ar gais Mr. Lewis Rees, Mynyddbach, ac wedi iddo ymweled a Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gael boddlonrwydd ynddo, cymhellasant ef i aros gyda hwy. Cydsyniodd a'u cais, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1769. Bu Mr. Evans yn nodedig o lafurus fel gweinidog, ac â'i holl egni ymroddodd i wneyd gwaith efengylwr. Torodd y tu allan i gylch uniongyrchol ei weinidogaeth yn fwy nag un o'i ragflaenoriaid, ac yn ol yr adroddiad a roddir gan Mr. Josiah Thompson, yr oedd cynnulleidfa Llanuwchllyn, neu y rhai y pregethai Mr. Evans iddynt mewn gwahanol fanau yn 1773, yn rhifo 600 o eneidiau. Teimlai fod y tarth oer a gyfodai oddiar Lyn Tegid yn effeithio yn anffafriol ar ei gyfansoddiad, ac er siomedigaeth fawr i'r eglwys a'r ardal, ymadawodd yn 1777, i'r Green, Hwlffordd, ac oddiyno i'r Drewen, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Evans, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Davies, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Abergavenny, ac urddwyd ef yma yn weinidog. Rhy brin bedair blynedd y bu yn y weinidogaeth, oblegid rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd defnyddiol, ar yr 28ain o Ebrill, 1781.[135] Ar ol marwolaeth Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Abraham Tibbot. Nis gwyddom pa mor fuan ar ol marw Mr. Davies y daeth ef yma, ond yr oedd yma yn 1785, a bu yma hyd 1792. Yr oedd Mr. Tibbot yn ddyn o gorph cryf, ac yn bregethwr poblogaidd, ond ei fod i raddau yn esgeulus a diofal yn ei arferion, a dygodd hyny ef, a phobl ei ofal, i helbul fwy nag unwaith. Bu yn Llundain dros eglwys Llanuwchllyn yn casglu, ac nid ymddengys iddo ddychwelyd a llawer o arian gydag ef, a pharodd hyny ddiflasdod mawr rhwng yr eglwys ac yntau. Dygwyd ei achos ger bron cyfarfod o weinidogion yn y Bala, yn 1794; a phenodwyd ar Meistri Benjamin Jones, Pwllheli, a George Lewis, Caernarfon, i fyned i Lanuwchllyn i chwilio yr amgylchiadau, ac y mae y penderfyniad y daeth Mr. Jones, a Mr. Lewis, a'r eglwys iddo, yn awr ger ein bron, yr hwn a anfonwyd at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, gan fod y cynorthwy arferol wedi ei atal oddiwrth Mr. Tibbot y flwyddyn flaenorol. Ystyrient fod ei ymddygiad yn feiadwy, ond nad oedd yr eglwys yn Llanuwchllyn yn priodoli y diffyg yn ei gyfrifon i egwyddor anonest, ond yn unig i afrad annoeth ar ei amser yn Llundain, a diffyg cynildeb priodol wrth gasglu; a chan fod Mr. Tibbot yn cydnabod hyn, yn gystal ag anmherffeithderau eraill yn ei ymddygiad tra yn weinidog i'r eglwys, y maent yn ei gymeradwyo i dynerwch rheolwyr y Drysorfa, mewn gobaith y bydd i'r treialon tymion a gafodd er hyny, gael eu sancteiddio iddo er rhagflaenu dim cyffelyb yn ol llaw. Mor onest onide, ac etto mor garedig, yr oedd yr hen bobl dda hyn yn trin eu gilydd, ac yn cyflawni yr ymddiriedaeth a roddid ynddynt. Ymadawodd Mr. Tibbot i sir Fon, lle y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes; ac er ei fod yn mhell o bod yn berffaith, etto, yr oedd yn ddyn a gerid yn fawr gan bawb, a chyfrifai y rhai a'i hadwaenai ef oreu, yn gristion trwyadl.

Yn y flwyddyn 1794, cydsyniodd Mr. George Lewis, Caernarfon, a gwahoddiad yr eglwys, a dechreuodd ei weinidogaeth yma. Yr oedd wedi derbyn galwad yn flaenorol, ond oblegid fod ei fryd ar fyned i'r America, gwrthododd ei derbyn, ond pan roddodd y bwriad hwnw i fyny, fel y crybwyllasom eisioes yn ei hanes, derbyniodd alwad yr eglwys yma i lafurio ynddi, a bu yma yn athraw a dysgawdwr i'r holl bobl, am yn agos i ddeunaw mlynedd. Dr. Lewis, o bawb a fu yma, a osododd fwyaf o'i ddelw ar y wlad. Magwyd tô o ddynion dan ei weinidogaeth na welir eu cyffelyb ond anfynych mewn cymydogaeth. Yr oedd y merched fel y meibion, yn talu sylw manwl i byngciau Duwinyddol, ac o'r ddau, y merched a ragorai. Cedyrn oeddynt yn yr Ysgrythyrau, ac ar "fwyd cryf" athrawiaeth gras yr ymborthent. Dichon na wnaeth Dr. Lewis, gymaint ag a allasai i eangu terfynau yr achos. Yr oedd ei syniad o bosibl yn wahanol i'r rhan fwyaf ar hyny. Ystyriai ef fod cael eglwys ddeallgar yn mhethau yr efengyl, ac o fywyd sanctaidd, o fwy pwys na chael eglwys luosog arwynebol; ac yr oedd ganddo y fath hyder diderfyn yn y gwirionedd, y dygai farn i fuddugoliaeth yn y pen draw, fel na fynai ei wthio ar neb, ac yr oedd yn anrhaethol uwchlaw pob peth tebyg i broselitio dynion at grefydd. Athraw ydoedd yn hytrach nag efengylwr, ac ymhyfrydai yn fwy mewn porthi y rhai oedd dan ei ofal mewn gwybodaeth a deall, nag mewn tori tir newydd, a phregethu yr efengyl lle nid enwid Crist. Torodd diwygiad grymus allan yn yr eglwys tua'r flwyddyn 1809, pryd yr ychwanegwyd tua dau gant at yr eglwys. Yr oedd rhywbeth anghyffredin ynnglyn ag ef. Syrthiai dynion yn gelaneddau meirwon heb un rhybudd, fel pe buasai angel marwolaeth ag asgell ei adenydd wedi cyffwrdd a hwy. Dygid y rhai a drywenid felly allan, gan eu gosod o'r neilldu, nes iddynt ddadebru, ac nid cynt nag y deuant atynt eu hunain, yr ocheneidient am drugaredd, neu y torent allan mewn gorfoledd, gan fawrhau yr Arglwydd. Er mai a deall a chydwybodau dynion yr ymwnai Dr. Lewis yn benaf, etto, yr oedd efe "yn ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd," fel y medrai dywallt balm i glwyfau yr archolledig dan argyhoeddiad, a "llefaru gair mewn pryd wrth y diffygiol." Yr oedd dynes unwaith yn y cyflwr hwn o wasgfa, a gwaeddai yn ddolefus mewn cyfyngder, "yr enaid a becho, hwnw fydd marw, ac ni fynai ei chysuro, gan y rhai oedd o'i deutu. "Yr enaid a becho, hwnw fydd marw," oedd ei dolef barhaus. Cododd y Doctor o'r diwedd, fel meistr y gynnulleidfa, a dywedodd fel un ag awdurdod ganddo. "Dyweded rhyw un wrth y ddynes yna, bobl, 'yr enaid a greto, hwnw fydd byw.'" Lliniarodd hyny loesion y druanes, gwelodd ddrws ymwared, a bu tawelwch mawr. ystod arosiad Dr. Lewis yn Llanuwchllyn, ailadeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn dŷ eang a helaeth, ac yr oedd wedi codi tŷ cyfleus yn nglyn a'r capel, fel un wedi penderfynu byw a marw yn y lle. Ond yn niwedd y flwyddyn 1811, derbyniodd wahoddiad o Wrecsam i fod yn weinidog yno, ac oddiwrth y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain i fod yn athraw yr athrofa, a chydsyniodd a'r cymhelliad, gan adael Llanuwchllyn, lle у llafuriasai am dymor hir gyda'r fath gysur iddo ei hun a boddlonrwydd i'r holl eglwys.

Wedi bod am rai blynyddau heb weinidog, yn y flwyddyn 1814, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Michael Jones, myfyriwr o'r athrofa yn Wrecsam, ac urddwyd ef yn gyhoeddus i gyflawn waith y weinidogaeth ar y 10fed o Hydref, y flwyddyn hono. Ymroddodd Mr. Jones yn egniol i gyflawni ei weinidogaeth gyda ffyddlondeb difwlch, a gwelodd raddau dymunol o lwyddiant ar ei lafur. Ond yn raddol dechreuodd pethau newid, troes yr hin, oerodd yr awyr, duodd y ffurfafen, a thorodd tymestl fawr ar Mr. Jones a'r eglwys yn mhen o gylch saith mlynedd wedi ei sefydliad. Mae yr amgylchiadau blinion a gyfarfu yr eglwys hon yn gyfryw, fel na byddai yn deg ynom fyned o'r tu arall heibio heb gyfeirio atynt. Pe na buasai ond cweryl personol, neu ddadl ar fater dibwys wedi arwain i an-nghydfod, aethem heibio yn unig gyda chrybwyll fod y fath beth wedi bod, ond gan fod y dadleuon Duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn y cyfnod hwnw wedi eu dwyn i bwynt yma, ac mai Llanuwchllyn wnaed yn faes yr ymladdfa, y mae mwy na chrybwylliad am dano yn ofynol. Gan nas gallasai ein gwybodaeth o'r amgylchiadau fod ond yn anmherffaith, llwyddasom i gael gan gyfaill cwbl gydnabyddus a'r holl amgylchiadau, a pherffaith alluog at y gorchwyl, i roddi i ni grynodeb o'r helyntion o'r dechreu i'r diwedd.[136] Er fod ein cyfaill wedi ei ddwyn i fyny o dan weinidogaeth Mr. Michael Jones, ac yn meddu y cydymdeimlad llawnaf a'i olygiadau Duwinyddol, a'i dad yn Dduwinydd craff o'r un ysgol, etto, gwelir nad yw yn gaeth gan ddallbleidiaeth, i'r hyn oedd yn ddiffygiol yn Mr. Jones, a'i fod yn alluog i ganfod yr hyn oedd ragorol, yn yr hen bobl fel eu gelwid.

"Wrth geisio chwilio i'r achosion a ddygasant oddiamgylch y fath gyfnewidiadau dinystriol, dylid bod yn ystyriol, yn bwyllus, ac yn ddiragfarn tuag at y ddwy blaid. Cafodd Jonathan Edwards dywydd gerwin, am dymor, yn Northampton, Lloegr Newydd; ond yr oedd tywydd tymhestlog Mr. Jones, yn Llanuwchllyn, yn arwach, ffyrnicach, a hwy ei barhad na hwnw. Barnai llawer fod yr holl fai ar Mr. Jones, a barnai llawer eraill fod yr holl fai ar y gynnulleidfa, er hyny, digon tebyg fod y gwirionedd yn gorwedd yn y canol, rhwng pob eithafion. Yr oedd Mr. Michael Jones, yn ŵr mawr, cadarn, yn yr Ysgrythyrau, cryf ei feddwl, eang ei amgyffredion, manwl a threiddiol o ran ei wybodaeth Dduwinyddol a philosophaidd. Yr oedd yn hollol ddifrycheulyd o ran ei nodweddiad moesol. Ni chynygiodd neb erioed ei gyhuddo o anfoesoldeb. Yr oedd yn ddyn o dduwioldeb dwfn a diamheuol. Yr oedd llawer hefyd o'i bleidwyr yn yr eglwys yn bobl ddeallus, nodedig felly, ac lân a difrycheulyd o ran eu bucheddau. O'r ochr arall, yr oedd llawer o'r blaid wrthwynebol i Mr. Jones, er yn amddifaid o syniadau eang, a philosophaidd ar byngciau crefydd, yn ysgrythyrwyr rhagorol, ac yn dra chydnabyddus â syniadau eu hathraw blaenorol, yr hybarch Dr. Lewis. Yr oedd yn eu mysg lawer o bobl onest a duwiol, yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Gwrthwynebent olygiadau Duwinyddol Mr. Jones o gydwybod. Gwadu hynyna fyddai cario pethau i eithafion, ac amlygu rhagfarn a chulni meddwl hollol anheilwng o hanesydd teg a gonest.

Ond er fod Mr. Jones yn un o'r dynion goreu, a manylaf a fagodd Cymru yn yr oes hono, etto, nid ydym yn honi ei fod ef, mwy na dynion eraill, yn rhydd oddiwrth fan wendidau; a mwy na thebygol ydyw, fod rhai pethau ynddo ef, yn cydweithio a phethau eraill yn y gynnulleidfa, i ddwyn oddiamgylch y rhwygiad a gymerodd le yn Llanuwchllyn. Buasai y weinidogaeth yn yr Hen Gapel, fel yn y rhan fwyaf o leoedd eraill, er ys llawer o flynyddoedd yn aros yn benaf ar athrawiaeth gras, yn ei gwahanol ganghenau, gan esgeuluso yn ormodol, fe allai, y pethau a berthynant i Lywodraeth Foesol Duw, a rhwymedigaethau a dyledswyddau dynion, fel creaduriaid rhesymol a chyfrifol i'r llywodraeth hono. Wedi ei sefydliad yn yr ardal, troes Mr. Jones, dros lawer o flynyddau, holl nerth ei weinidogaeth i osod allan hawliau Duw fel llywydd, ac i gymell ei wrandawyr i gyflawni eu dyledswyddau fel deiliaid cyfrifol deddf ac efengyl. Traethodd lawer o syniadau cryfion ar bob peth perthynol i Lywodraeth Foesol, Natur Rhinwedd a Natur Pechod, Gallu Naturiol a Gallu Moesol, Anallu dyn yn gyson a'i Rwymedigaethau, a llawer o byngciau eraill cyffelyb. Chwalai au-noddfeydd dynion yn ddarnau o'u cylch, a malai eu hesgusodion yn llwch. Gallai ei fod wedi aros ar yr hwyaf ar yr ochr yna i Dduwinyddiaeth, heb ddwyn yr ochr gyferbyniol ond anfynych i olwg ei wrandawyr, a gwyr pawb mai cwm oer iawn i fyw ynddo am lawer o flynyddoedd, heb braidd ddyfod allan o hono, ydyw tir gallu dyn a'i ddyledswyddau, er fod yn anhebgorol angenrheidiol i weinidog yr efengyl osod y pethau hyny yn ffyddlon ac yn fynych o flaen ei wrandawyr. Yr oedd pregethu o'r natur a nodwyd, am lawer o flynyddoedd, i bobl oeddynt yn Galfiniaid go dynion, fel oedd y nifer amlaf o wrandawyr Mr. Jones, yn disgyn braidd yn oer ac annymunol ar eu clustiau. Heblaw hyny, yr oedd amryw o'r termau a arferai Mr. Jones wrth egluro ei olygiadau, yn anghymeradwy yn eu golwg, a chwynent eu bod yn ddyeithr ac yn dywyll iddynt. Heblaw hyny, yr oedd Mr. Jones yn amddifad o ddawn i ddenu ei wrandawyr. Ni allai eu toddi i ffurf ei feddwl ei hun. Ni feddai nemawr o gydymdeimlad a phobl ddifeddwl a diymdrech i ddeall logic y pethau a wrandawent. Ni welid byth wên ar ei wyneb yn yr areithfa. Gwênai pobl ddeallus weithiau wrth ei wrandaw, ond nerth a chysondeb ei athrawiaeth a barai iddynt hwy wênu, ac nid dim yn ei agwedd na'i lais, na'i ddull o osod ei feddwl allan. Yr oedd yn berffaith feistr ar wawdiaeth, a diferai ymadroddion brwmstanaidd yn aml dros ei wefusau. Nid oedd dyn mwy deallus nag ef yn Nghymru. Nid oedd na Roberts, o Lanbrynmair, na Jones, o Ddolgellau, na Williams, o'r Wern, ychwaith, er cymaint a glodforir arno, yn gyfartal i Mr. Jones, o Lanuwchllyn, yn nerth eu meddyliau, ac nid oedd yr un o honynt yn gyfartal iddo mewn deall philosophyddiaeth trefn iachawdwriaeth, a Llywodraeth Foesol Duw, ond rhagorai amryw o'i frodyr arno mewn medrusrwydd i osod y gwirionedd allan yn y modd egluraf, a mwyaf deniadol. Yr oedd ef yn gryf fel castell, ond yr oedd yn amddifad o'r mwyneidd-dra sydd yn angenrheidiol i gyfarfod gwrthwynebwyr er diarfogi eu rhagfarn. Yr ydoedd hefyd yn rhy dyn ac yn rhy benderfynol, fe allai, am ei ffordd mewn pethau o ychydig bwys. Cymerwn olwg fer etto ar ansawdd pethau yn mysg gwrthwynebwyr Mr. Jones. Yr oedd yn eu plith rai a anghymeradwyent yr ymdrechion egniol a wnai efe o blaid yr Ysgol Sabbothol. Golygent ei fod yn codi y sefydliad hwnw yn rhy uchel, ac yn rhoddi gormod o bwys arno. Rhyw ffordd respectable o dori y Sabboth, yn ol eu barn hwy, oedd cadw Ysgol Sabbothol, a thaflent lawer o rwystrau ar ffordd ei chynydd a'i llwyddiant. Gwyddys hefyd fod rhai yn eu mysg yn anffafriol i weinidogaeth sefydlog yr efengyl. Rhyw ddrwg angenrheidiol (necessary evil), rhywbeth i'w goddef, am na ellid bod hebddi, oedd y weinidogaeth yn ol eu golygiad hwy. Yr oedd amryw o'r blaenoriaid wedi cael blas ar awdurdod, yn enwedig ar ol ymadawiad Dr. Lewis, a golygai yr henuriaid llywodraethol mai ganddynt hwy yr oedd yr hawl i ofalu am yr athrawiaeth a'r ddysgyblaeth yn nhŷ Dduw, ac mai cadeirydd eu cyfarfodydd yn unig, oedd y gweinidog i fod. Arferent droi ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig allan o'r capel, tra fyddid yn ymddiddan yn eu cylch, a throseddwyr, yr un modd, yna gollyngid hwy i mewn ar ddiwedd y cyfarfod i glywed dedfryd yr eglwys ar eu materion. Gwrthwynebai Mr. Jones yr arfer hono yn hollol. Yr oedd presenoldeb gwr ieuangc gwrol, penderfynol, ac anhyblyg fel y gweinidog, yn boenus i ymgeiswyr am awdurdod yn yr Hen Gapel, a thybient ei fod ef yn myned a mwy na'i ran o lywodraeth yr eglwys. Y pryd hwnw, hefyd, yr oedd y ddau wr mwyaf deallus yn y gynnulleidfa dan gerydd eglwysig, oblegid rhyw amgylchiadau bydol y buasai ganddynt law ynddynt, ac felly collodd yr eglwys, a'r gweinidog hefyd, eu dylanwad cryf hwy, yn yr adeg yr oedd mwyaf o angen am dano, i roi ataliad ar rwysg dynion hunangeisiol. Ond teg yw dywedyd fod y dosbarth lluosocaf o wrthwynebwyr Mr. Jones, yn sefyll yn ei erbyn yn benderfynol am eu bod credu yn gydwybodol ei fod yn cyfeiliorni mewn barn, ac yn gwyro oddiwrth y gwirionedd "fel y mae yn yr Iesu." Ni allent weled fod y termau a arferai efe yn Ysgrythyrol. Credent nad oedd ei olygiadau ar bechod—sef mai diffyg ydyw yn ei natur, ac yn arbenigol, Pechod Gwreiddiol yn gyson a'r pethau a ddywedir yn y Bibl am bechod. Barnent nas gall dyn fod mewn sefyllfa o brawf, ac mewn cyflwr o gondemniad ar yr un pryd. Credent fod dyn yn farw ryw fodd, fel pren neu faen, ac nas gall wneyd dim ond pechu, hyd nes y cyfnewidir ef trwy ras. Pan geisid dangos fod dau fath o anallu, sef, un naturiol ac un moesol, cyfarfyddent hyny â'r geiriau, "Ni ddichon—nis gall chwaith—nis gallant ryngu bodd Duw," a'r cyffelyb. Cyfyngent yr Iawn i gylch eglwys Dduw, ac ni allent weled fod amcan yn y byd yn deilwng o aberth Crist, ond gweithredol gadwedigaeth dynion a gogoniant Duw yn hyny. Esbonient yr ymadroddion eang sydd yn y Bibl am farwolaeth Crist, megis pawb, pob dyn, yr holl fyd, am yr Iuddewon a'r cenedloedd, a thyrfaoedd mawrion o blith y ddau ddosbarth. Gan mai yr eglwys yn unig a gedwir yn y pen draw, ni allent hwy weled nad yr eglwys yn unig yw y rhai y bu Crist farw drostynt; a dywedent fod y rhai a ddalient fod Crist yn aberth dros holl ddynolryw, yn rhwym o ddal hefyd, fod llawer o werth gwaed Crist yn myned i uffern yn barhaus. Yr oedd golygiad rhy fasnachol ar yr lawn wedi eu niweidio a'u hanghymwyso i drin y mater yn deg. Barnent fod Mr. Jones yn Arminiad, pryd mewn gwirionedd Calfiniad cymhedrol, cryf, ydoedd ef. Yr oedd yn y dosbarth hwn o wrthwynebwyr Mr. Jones, lawer o bobl dda a chrefyddol, ac y maent yn hawlio ein cydymdeimlad a'n parch yn ei diffuant. Nid ydym yn meddwl fod holl wrthwynebwyr Mr. Jones wrthsefyll ar y tir cydwybodol a nodir uchod, ond yr oedd llawer, a'r lleill yn eu dilyn oddiar amrywiol amcanion, fel y lled awgrymwyd eisioes. Ond taflwyd pob peth arall dros y bwrdd, a chyhuddwyd Mr. Jones o gyfeiliornad mewn barn, a bu dadleuon dychrynllyd drwy yr holl wlad. Yr oedd yr anedd-dai, y gweithdai, y tafarndai, y ffyrdd, y meusydd, a'r mynyddoedd, yn faesydd brwydrau poethion am hirfaith dymor, ac yr oedd crefydd seml y Bibl yn gorfod gostwng ei phen, a gwladeiddio ger bron yr ymrysonwyr brwdfrydig. Er mai golygiadau Duwinyddol Mr. Jones a broffesid gan bawb oll, fel yr unig achos o'u gwrthwynebiad iddo, un dosbarth oedd yn onest yn y broffes hono. Am amryw o flaenoriaid y cynwrf, pethau eraill oedd yn eu symbylu hwy yn mlaen. Cawsent hwy hyd i'w level pan ddaeth Mr. Jones i'r ardal, ac ymdrechent yn egniol ennill eu hen safleoedd yn ol. Yr oedd blaenor y terfysgwyr yn ddyn pwyllog, hirben, a chyfrwys dros ben, ac yn gymwys iawn i flaenori ei blaid. Wedi blino yr oedd ef mewn gwirionedd ar Mr. Jones, fel dyn, ac fel gweinidog, a rhai eraill o gryn ddylanwad heblaw ef. Esgus oedd yr athrawiaeth gan y gwyr hyny. Safodd Mr. Jones fel derwen gadarn yn nghanol y dymestl. Ni symudai fodfedd o'i sefyllfan er yr holl ruthro a fu arno. Yr oedd rhyw fawredd —ac ardderchawgrwydd naturiol a moesol ynddo yn ei holl brofedigaethau. Addfedodd pethau yn raddol, ac ymddangosai ymraniad eglwysig fel yn anocheladwy. Ond cyn cyrhaeddyd y pwynt galarus hwnw, cydunwyd i gael cyfarfod o weinidogion yr enwad i geisio heddychu y pleidiau. Penodwyd gan y ddwy blaid i wahodd y gweinidogion canlynol i fod yn ddyddwyr rhwng yr ymrysonwyr; sef Meistri W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth; W. Williams, Wern; R. Everett, Dinbych; T. Jones, Moelfro; J. Lewis, Bala; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd, ac E. Davies, Cutiau. Daeth y gwyr uchod i'r Hen Gapel ar ddydd-gwaith, Rhagfyr 5ed, 1821. Cyfarfu yr holl eglwys ar yr achlysur. Dygwyd pob cyhuddiad a ellid ddwyn yn erbyn Mr. Jones, fel cyfeiliornwr, yn mlaen gan yr wrthblaid; ac amddiffynodd Mr. Jones ei hun, a dangosodd yn eglur ei fod ef yr un o ran ei olygiadau Duwinyddol y pryd hwnw ag oedd ef pan ddaethai gyntaf i Lanuwchllyn. Gwnaed ymdrech egniol gan y gweinidogion i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond bu y cyfan yn ofer. Gwelid yn eglur bellach nad oedd dim i'w wneuthur ond wynebu amgylchiadau gofidus ymraniad eglwysig. Daeth y dydd oddiamgylch. Ar foreu Sabboth cymundeb—ordinhad sydd mewn modd neillduol yn gosod allan undeb Cristionogion â Christ, ac â'u gilydd y cymerodd y rhwygiad le. Gallesid darllen ar wynebau llawer yn y gynnulleidfa y bore hwnw, fod rhywbeth mawr a phwysig i gymeryd lle. Pregethodd Mr. Jones fel arferol, a daeth i lawr o'r areithfa at y bwrdd i weinyddu yr ordinhad. Ond cyn iddo ddechreu ar y gwasanaeth hwnw, cyfododd blaenor yr wrthblaid i fyny a chyhoeddodd, "ei fod ef a'r blaid oedd yn anghytuno ag athrawiaeth Mr. Jones, yn ymneillduo oddiwrtho ef a'i bleidwyr." Yna aeth ef a'i blaid i oriel yr addoldy, tra fu y rhan arall o'r eglwys gyda y gweinidog, yn cyfranogi ar y llawr o Swpper yr Arglwydd. Hysbysodd Mr. Jones mewn oedfa ddilynol y dydd hwnw, fod y rhai a ymneillduasent yn y boreu, wedi tori eu perthynas a'r eglwys yn yr Hen Gapel, ac nad oedd iddynt fel y cyfryw, na rhan na chyfran o freintiau yr eglwys yn y lle. Tra y triniai pobl anystyriol y mater dan chwerthin a thaeru ar hyd y gymydogaeth, ni welid gwên ar wyneb neb ystyriol am wythnosau wedi hyn. Yr oedd prudd-der wedi llenwi pawb o honynt. Gwnaed cynyg arall gan weinidogion yr enwad i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond yn ofer. Wedi bod am ychydig yn addoli yn yr Hen Gapel ar Sabbothau a benodasid iddynt, a blino ar hyny, ymadawodd yr ymranwyr o'r capel yn gwbl, a chyfarfyddent a'u gilydd mewn ystafell eang yn mhentref Llanuwchllyn. Ond nid oedd fawr neb o weinidogion na phregethwyr yr Annibynwyr a aent atynt i bregethu ac i weinyddu yr ordinhadau. Yn fuan cyfododd gwyr o'u plith hwy eu hunain i bregethu iddynt—dynion o nodwedd rhagorol oeddynt hefyd—a bu amryw o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn gweinyddu yr ordinhad o Swpper yr Arglwydd yn eu plith. Parhaodd pethau yn yr agwedd uchod am dymor, ond cyn hir dechreuodd yr "hen bobl," fel eu gelwid, feddwl am fyned â'r capel oddiar Mr. Jones a'i blaid. Gwasanaethwyd ef yn y flwyddyn 1823, ag ysgrifwys, i sefyll prawf ar yr achos yn mrawdlys swydd Feirionydd. Methodd yr "hen bobl" yn eu hamcan y tro hwnw oblegid diffyg yn y dystiolaeth. Gwasanaethwyd Mr. Jones drachefn, yr un modd ac i'r un amcan ddwy waith yn y flwyddyn 1824, ac o'r diwedd, drwy ryw ystranciau cyfreithiol, nad oedd Mr. Jones a'i blaid yn alluog ar y pryd i'w cyfarfod, ennillwyd y capel oddiarnynt a throwyd hwy allan o hono, ac aeth yr hen bobl i'r Hen Gapel yn ol yn fuddugoliaethwyr. Wedi hyny bu Mr. Jones a'i gynnulleidfa yn addoli mewn ysgubor a berthynai iddo ef, ac mewn tai ac ysgoldai ar hyd y gymydogaeth. Ond gwenodd y nefoedd arnynt a bendithiwyd eu llafur. Ychydig a ennillodd yr "hen bobl" drwy ennill y capel, oblegid nid oedd neb yn mron a bregethai iddynt ynddo. Sefydlodd un Owen Jones, o'r diwedd, yn weinidog arnynt, ond ni fu fawr o fendith arno ef na hwythau. Felly, megis wedi eu gwrthod gan nefoedd a daear, daethant i feddwl mai y peth goreu a allent wneyd oedd ymuno a'r gynnulleidfa oedd dan ofal Mr. Jones, a'i wahodd ef a hwythau atynt i'r Hen Gapel. Dyna symudiad doeth o'r diwedd. Cymerodd undeb rhwng y pleidiau le y pryd hwnw, sydd yn parhau etto. Bu Mr. Michael Jones yn gweinidogaethu i'r gynnulleidfa unedig am rai blynyddoedd, yna ymadawodd & hwynt, a threuliodd weddill ei oes yn gweinyddu yn Tŷ'nybont a'r Bala, Bethel, a lleoedd eraill islaw y Bala. Meddwl yr ydym mai oddeutu y flwyddyn 1839, y cymerodd yr undeb le rhwng y ddwy blaid ryfelgar yn Llanuwchllyn. Meddyliodd llawer y buasai yn well i Mr. Jones adael Llanuwchllyn cyn i bethau addfedu i ymraniad, ond nid oedd gweinidogion callaf Gogledd Cymru yn barnu felly ar y pryd. Nid oedd Mr. Jones ei hun yn barnu hyny. Nid ydym ninau yn awr yn meddwl mai ymadael a ddylasai, ond sefyll ei dir fel y gwnaeth, a gorchfygu yn y diwedd. Collodd lawer o arian yn yr helyntion a aethant drosto, ond beth yw arian mewn cydmariaeth i egwyddorion? Mae y rhan fwyaf o'r ddwy blaid erbyn heddyw yn y nefoedd, a'r ymrafaelion wedi eu llyngcu i fyny gan dangnefedd diddiwedd.

Nid yw y nodiadau blaenorol ond talfyriad o'r hanes. Gwyddom fod llawer peth wedi ei adael heibio, ond gallwn brofi yr hyn a ddywedasom, ac yr ydym yn weddol gydnabyddus a manylion helbulon Llanuwchllyn. Michael Jones oedd y dyn llawnaf, cryfaf, perffeithiaf, a gyfarfuom ni erioed. Pa ddiffygion bynag a berthynent iddo, yn ngolwg rhai, yr ydym ni yn golygu nad oedd dim llawer rhyngddo ef a pherffeithrwydd. Ac nid oedd llawer o'r gwyr a gyfrifid yn fawr yn Ngogledd a Deheudir Cymru, ond cyffredin yn ei ymyl ef. Gwyddom fod llawer o'r blaid wrthwynebol iddo hefyd yn bobl wir dda, gallem brofi hyny, pe byddai yn angenrheidiol. Gwell genym ni bobl Llanuwchllyn yn nghanol eu hymrafaelion yn nghylch pyngciau crefydd, na phobl na waeth ganddynt beth a gredant, ac a chwarddant am ben pob barn—pobl heb farn yn y byd."

Wedi yr eglurhad llawn a diduedd uchod o'r amgylchiadau, diangen—rhaid i ni ychwanegu dim. Ar ddychweliad Mr. Jones i'r Hen Gapel, cynhaliwyd cyfarfod yn Llanuwchllyn, ac fel hyn y ceir ei hanes yn y Dysgedydd am Rhagfyr, 1839. "Ar y 29ain a'r 30ain o Hydref, cynhaliwyd cyfarfod gweinidogion yn hen addoldy yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn. Wedi yr hir ymrysonau rhwng yr aelodau perthynol i'r lle hwn, cytunasant a'u gilydd mor belled ag i'r Parch. M. Jones fod yn weinidog y lle, ac i bawb a ewyllysio o'r cyfeillion a gyfarfyddent yn y capel yn flaenorol fod mewn undeb a chynnulleidfa Mr. Jones; ar yr achlysur yma, cadwyd yma gyfarfod yn y drefn ganlynol:—Y nos gyntaf, dechreuwyd gan Mr. S. Jones, a phregethodd y brodyr W. Roberts o Bennal, ac H. James, Brithdir. Boreu dranoeth, dechreuwyd gan y brawd Roberts, a phregethodd y brawd Jones o Ddolgellau, ar ddyledswydd ei hen gyfaill Mr. M. Jones, a'r brawd Pugh o Fostyn, ar ddyledswydd diaconiaid yr eglwys, a'r brawd Rees o Ddinbych, ar ddyledswydd yr eglwys, yna gweddiwyd gan dri o'r gweinidogion gwyddfodol, un dros y gweinidog, un dros y diaconiaid, ac un dros yr eglwys. Am 2 o'r gloch, dechreuwyd gan y brawd Williams o Aberhosan, a phregethodd y brawd J. Roberts o Lanbrynmair, ar yr Ysgol Sabbothol, a'r brawd Price o Penybont, i'r gwrandawyr yn unig, yna gweddiodd dau eraill o'r brodyr, un dros yr ysgol a'r llall dros y gwrandawyr. Am 6 o'r gloch, dechreuwyd gan y brawd Parry o Fachynlleth, a phregethodd y brodyr Williams o Aberhosan, a Morgans o Sama; yna traddodwyd areithiau gan y brodyr Hughes o Dreffynon; Parry o Fachynlleth; Griffiths, Rhydlydan, a Jones o Ruthin, ar y materion a ymddangosai iddynt yn fwyaf rheidiol, a therfynwyd y cyfarfod gydag arwyddion o frawdgarwch a sirioldeb mawr."

Bu Mr. Jones yn llafurio yn Llanuwchllyn ar ol ei ddychweliad i'r Hen Gapel, am bedair blynedd, hyd yn nechreu 1843, pryd y rhoddodd yr eglwys i fyny, ac y cymerodd ofal yr eglwysi yn y Bala a Thy'nybont.

Wedi bod am flynyddau heb weinidog, rhoddodd yr eglwys yma yn niwedd y flwyddyn 1846, alwad i Mr. Thomas Roberts, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Ebrill 7fed a'r 8fed, 1847. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. Jones, Bala; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Rees, Liverpool, ac i'r eglwys gan Mr. E. Davies, athraw yr athrofa yn Aberhonddu. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri J. Davies, Llanelli; N. Stephens, Sirhowy; J. Williams, Aberhosan; J. Roberts, Llanbrynmair; T. Pierce, Liverpool; D. Price, Dinbych, ac R. Williams, gweinidog i'r Methodistiaid yn Llanuwchllyn.[137] Bu Mr. Roberts yma yn gymeradwy hyd ddechreu y flwyddyn 1856, pryd y symudodd i New Market, sir Fflint. Yn y flwyddyn 1858, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Awst 18fed a'r 19eg, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar nátur eglwys gan Mr. E. Williams, Dinasmawddwy; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddiodd Mr. C. Jones, Dolgellau; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. E. C. Jenkins, Rhymni, ac i'r eglwys gan Mr. T. Rees, Cendl. Cymerwyd rhan yn y gwahanol oedfaon gan Meistri R. Ellis, Brithdir; T. Davies, Llanelli; H. Ellis, Corwen, ac R. Thomas, Bangor.[138] Mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma hyd yr awr hon, a'r achos ar y cyfan mewn gwedd lwyddianus. Mae amryw ganghenau yn perthyn i'r hen gyff yn yr Hen Gapel, lle y cynhelir Ysgolion Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a phregethu yn achlysurol, ac y mae ysgoldai wedi eu codi, y rhai a elwir Carmel, Peniel, a Sion. Mae Carmel yn nghyfeiriad Trawsfynydd o'r Hen Gapel, a Peniel ar ochr y ffordd sydd yn arwain i Ddolgellau, ac y mae Sion yn agos i Weirglawdd-y-gilfach, lle y dechreuwyd pregethu yn y plwyf. Mae yr eglwys yn awr wedi tynu yr Hen Gapel i lawr, ac ar ganol adeiladu capel eang a chyfleus, gwerth mwy na 1000p., a bydd yn barod i'w agor cyn diwedd yr haf hwn, (1871,) ac y mae yr haelioni y mae yr eglwys a'r gynulleidfa wedi ei ddangos yn ei adeiladiad yn profi fod eu "hewyllys tua thŷ eu Duw."

Megis y crybwyllasom eisioes, y mae yma luaws o bersonau nodedig wedi bod yn nglyn a'r eglwys o bryd i bryd. Nid oes enwau ond ychydig o honynt wedi treiglo hyd atom ni, ond sonir gyda pharch am Meurig Dafydd, yr hwn a agorodd ei dŷ i'r efengyl—am Ellis Thomas, Tymawr, yr hwn oedd enwog am ei graffder a'i ddeall—am Sion William, Tanybryn, a Thomas Cadwaladr o'r Wern, y rhai a ddyoddefasant bwys y dydd a'r gwres—ac am Rowland Vaughan, tad Mrs. Thomas, Bangor, yr hwn y teimlai Dr. Lewis, nad oedd ganddo "neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofalai" am yr achos yn y lle. Bu yma hefyd o'r dechreuad nifer o wragedd na welid eu cyffelyb ond anfynych. Yr oedd yma dair chwaer, merched yr hen Evan Sion Nicholas, Tymawr, Cwm-pen-nant-lliw, am y rhai yr arferai Mr. B. Evans o'r Drewen ddyweyd, pe buasai y tair yn un, y cawsid y grefydd buraf a chyflawnaf a allesid gael tu yma i'r nefoedd. Am athrawiaeth iachus y gofalai un—am ddysgyblaeth bur y gofalai y llall—ac am brofiad melus y gofalai y drydedd. Merched i un o honynt oedd Jane Howell ac Elizabeth Davies, Tymawr; dwy chwaer, er yn hollol wahanol yn eu tymer a'u hysbryd, oeddynt yn deall ffordd Duw yn fanylach" nac odid neb a ddeuai i'r un fan a hwy, ac nid yn ddianaf y diangai y neb a feiddiai anturio i ddadl a hwy ar unrhyw gangen o'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Yr oedd yma lawer eraill o gyffelyb feddwl, er na chyrhaeddasant eu henwogrwydd hwy, ac y mae eu henwau yn barchus a'u coffadwriaeth yn fendigedig.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—

William Evans. Ganwyd ef yn y Bala yn mis Mai, 1773. Yr oedd ei rieni Evan a Jane Evans, yn bobl grefyddol, a'u tŷ yn gyrchfa gweinidogion y dyddiau hyny. Dangosodd duedd at bregethu pan yn ieuangc, a chafodd bob cefnogaeth i hyny. Bu dan addysg yn Llanuwchllyn dan ofal Mr. A. Tibbot, ac yn yr adeg hono y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn yr Hen Gapel. Talodd sylw pan yn ieuangc i lenyddiaeth a barddoniaeth Gymreig, a gwnaeth y fath gynydd fel llenor, fel y dewiswyd ef pan yn 14 oed yn gydfeirniad a Robert Huws, bardd oedranus, mewn rhyw eisteddfod oedd gan y beirdd yn y Bala. Yn y flwyddyn 1790, y dechreuodd bregethu, ac yn Ionawr y flwyddyn ganlynol, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Nghroesoswallt, dan ofal Dr. E. Williams. Wedi treulio pedair blynedd yn yr athrofa, aeth i ryw le yn agos i Stafford, lle y bu dros dair blynedd. Aaeth oddiyno i Bridgnorth, lle yr urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, ac oddi yno symudodd yn Medi, 1803, i Stockport, lle y treuliodd weddill ei oes yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn. Yr oedd yn ddyn o dalentau dysglaer—o gymeriad diargyhoedd—ac o weithgarwch diflino. Ond byr fu ei dymor! Dyoddefodd yn llym oddiwrth beswch blin a diffyg anadl, ac ar y 29ain o Fedi, 1814, cariodd angau y trechaf arno; ond buddugoliaethodd ei brofiad ar ddychrynfeydd marwolaeth, a bu farw yn orfoleddus yn anterth ei ddydd, yn 42 oed.

Robert Roberts. Pregethwr cynorthwyol a fu ef yn yr eglwys trwy ei oes. Preswyliai yn Tyddyny felin, heb fod yn mhell o'r capel. Un o'r dynion callaf a mwyaf gwybodus fel gwladwr yn ei oes. Ymgynghorid ag ef fel oracl ar bob achos dyrus, ac yr oedd ei eiriau ef yn wastad pan lefarai yn ymadrodd doethineb. Pregethodd lawer yn sir Feirionydd ac yn sir Drefaldwyn, a bu llaw ganddo yn ffurfiad llawer o achosion newyddion; ac yr oedd yn wastad yn dderbyniol a chymeradwy yn mhob man.

Yr ydym yn cael ei fod ef yn gweini i'r eglwys yn Llanuwchllyn, yn y cyfwng wedi symudiad Mr. Tibbot, cyn dyfodiad Dr. Lewis, a bu fyw hyd yn agos i ddiwedd oes weinidogaethol Mr. Michael Jones yno. Fel gwr o gyngor y gwerthfawrogid ef yn benaf, a rhoddid y fath bwys ar ei farn, fel ar ol iddo lefaru ni chyfodai neb. Arferai Dr. Lewis ddyweyd, y buasai yn rhoddi cymaint o bwys ar ei farn a neb a adwaenai, pe gallasai fod yn sicr ei fod yn dyweyd ei feddwl. Yr oedd yn llawn ffraethder, a dywedai eiriau cyrhaeddgar pan y meddyliai fod eu hangen. Pan ddywedodd Dr. Lewis wrtho unwaith, ei fod yn myned i wneyd llyfr chwe'cheiniog, ar ddyfodiad pechod i'r byd. Felly yn siwr," meddai yntau yn bur ddi-gynwrf, "yr wyf yn meddwl yn siwr y byddai yn well i chwi ei wneyd yn llyfr swllt, a dyweyd yn ei ddiwedd sut i'w gael o'r byd." Daeth dyn ieuangc o'r athrofa i Dyddynyfelin unwaith, ac er dangos ei fod yn ysgolhaig, dechreuodd siarad a'r forwyn, yr hon oedd eneth ddiwybod, am y ser a'r planedau, eu maint a'u pellder, nes synu y llangces. Ac meddai wrth ei meistr "peth mawr ydi meddu gwybodaeth." "Ie," meddai yntau, "a pheth go fawr ydyw gwybod pa le i'w ddangos." Yr oedd mewn cyfeillach grefyddol unwaith, a gofynodd y gweinidog iddo, "Beth sydd ar eich meddwl chwi 'nawr Robert Roberts?" "Does dim llawer o ddim ar fy meddwl i." "Oes, 'rwy'n coelio fod rhywbeth ar eich meddwl chwi 'nawr." "Wel ofni cryn lawer ar fy nghyflwr yr wyf fi," ebe Robert Roberts. Ho, felly," ebe y gweinidog, "yr oeddwn i yn meddwl eich bod chwi yn mhellach yn mlaen 'nawr na hynyna, oblegid y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn." "Ydyw," ebe yntau gyda phwyslais, "ydyw, yn bwrw allan, yn bwrw allan, ond y mae heb orphen ei waith etto." Cyfarfu a chryn lawer o ystormydd yn ei amgylchiadau yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, ond daliodd ei ymddiried yn ddiysgog yn ei Dduw. Bu farw tua'r flwyddyn 1839 neu 1840, wedi cyrhaedd oedran teg.

David Jones. Urddwyd ef yn Nhreffynon, lle y treuliodd ei oes, a daw ei hanes dan ein sylw yn nglyn a'r eglwys yno.

John Jones. Adnabyddid ef fel John Jones, Afonfechan, a symudodd wedi hyny i Hafodfawr. Ceir ei enw yn aml yn nglyn a llawer o'r eglwysi yn sir Feirionydd a sir Drefaldwyn. Yr oedd yn bregethwr defnyddiol a chymeradwy. Pregethai yn fisol yn Llanuwchllyn am dymor maith. Ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd yn niwedd ei oes, o achos y terfysg a'r ymraniad a gymerodd le yn yr Hen Gapel.

Robert Lloyd, Plasmadog, a fu am yspaid yn bregethwr cymeradwy yn yr eglwys.

John Lewis. Yr ydym eisioes wedi gwneyd byr grybwylliad am dano ef yn nglyn a'r Bala, lle yr urddwyd ef.

Rowland Roberts, Penrhiwdwrch. Dechreuodd bregethu yr un pryd a John Lewis.

Cadwaladr Jones. Derbyniodd ei addysg yn yr athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn Nolgellau, lle y treuliodd ei oes hir, a daw ei hanes yno dan ein sylw.

David Davies, Bryncaled, a fu yn yr eglwys yn bregethwr defnyddiol a chymeradwy.

John Jones, Tŷ'nywern, a bregethai yn aml. Yr oedd yn clywed yn drwm—aeth y train llechi ar ei draws ar y ffordd haiarn gerllaw Tanygrisiau, Ffestiniog, ac achosodd hyny ei farwolaeth yn sydyn. Wedi bod yn pregethu yn yr ardal hono yr oedd, ac wrth ymadael a'r lle cyfarfu a'i angeu.

John Evans. Dechreuodd bregethu yn 1819, a bu farw yn 1856, ac yr oedd yn dra adnabyddus fel pregethwr cymeradwy. Yr oedd yn frawd i Dr. Ellis Evans, gweinidog i'r Bedyddwyr yn Cefnmawr.

Michael Daniel Jones. Mab yr hybarch Michael Jones. Derbyniodd ei addysg yn athrofau Caerfyrddin, a Highbury, Llundain, ac y mae yn awr yn athraw yn athrofa y Bala.

Ellis Thomas Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Llansantsior, a Moelfra, ac Abergele, lle y mae yn aros etto.

John Williams. Addysgwyd ef yn athrofa Airedale, ac y mae yn awr yn weinidog yn Penistone, ger Sheffield.

John Meirion Ellis. Mab Mr. R. Ellis, Brithdir. Bu yma yn cadw ysgol, ac yn yr adeg hono y dechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Llanarmon, ond bu farw yn ieuangc. Bydd genym air yn mhellach am dano pan ddeuwn at eglwys Llanarmon.

Lewis Jones. Bu yn athrofa y Bala, wedi hyny yn mhrif ysgol Glasgow, ac urddwyd ef yn Nhŷ'nycoed, sir Frycheiniog, lle y mae yn bresenol. Robert Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Nelson, Morganwg, ac yno y mae etto.

Nid ydym yn sicr a ydyw y rhestr uchod yn gyflawn, ond y mae y gyflawnať a allasem gael er chwilio llawer mewn trefn i'w gwneyd i fyny. Gwyddom fod amryw eraill o weinidogion a phregethwyr yr ymffrostia Llanuwchllyn ynddynt fel ei phlant, megis Ellis Howell, Morris Roberts, Remsen; Robert Thomas, Bangor; Llewelyn Howell, Utica; Cadwaladr Evans, ac amryw; eraill, ond rhaid i ni eu cysylltu hwy a'r eglwysi y dechreuasant bregothu ynddynt, er mai brodorion Llanuwchllyn ydynt.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

Ni bu ond un gweinidog farw mewn cysylltiad a'r eglwys yn Llanuwchllyn, o ganlyniad, nid oes genym gofnodiad bywgraphyddol i'w wneyd ond am yr un hwnw. Yr ydym wedi crybwyll eisioes am Meistri Evan Williams a Michael Jones, mewn cysylltiad a'r Bala, ac am Dr. Lewis, mewn cysylltiad a'r Drefnewydd, a daw Mr. Thomas Evans, etto dan sylw yn nglyn a Dinbych, a Mr. Benjamin Evans, yn nglyn a'r Drewen, a Mr. Abraham Tibbot, pan ddeuwn at eglwysi Mon.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn Nghwm-cleger-nant, Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1751. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ieuangc iawn, a dechreuodd bregethu pan yn bedair-ar—bymtheg oed. Nid oedd ond dyn gwan ac afiach o gorph, a'i feddwl yn dueddol i ymollwng i brudd-der. Bu yn athrofa Abergavenny am dymor yn derbyn addysg, lle y gwnaeth gynydd cyflym, ac aeth oddiyno i Dentrey, yn swydd Northampton, dan ofal Dr. Davies. Wedi treulio amryw flynyddoedd dan addysg, derbyniodd alwad gan eglwys Llanuwchllyn yn y flwyddyn 1777, a bu yno yn ddiwyd hyd y caniatai ei iechyd, am bedair blynedd. Mewn cais o eiddo yr eglwys am gynorthwy oddiwrth y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, dyddiedig Gorphenaf 1af, 1778, dywedir ei fod wedi llafurio yno am flwyddyn er boddlonrwydd cyffredinol i'r holl eglwys. Mae y cais wedi ei arwyddo dros yr eglwys gan Robert Griffith, Robert Roberts, Rowland Jones, Robert Lloyd, a Cadwaladr Roberts, ac y mae Meistri John Griffith, Glandwr; Richard Tibbot, Llanbrynmair; Rees Harris, Pwllheli, ac Abraham Tibbot, o Fon, yn dwyn eu tystiolaeth yn galonog i gywirdeb cymeradwyaeth yr eglwys. Pregethwr melus, efengylaidd, fel yr ymddengys oedd Mr. Davies, ac anaml yr ymdriniai a phynciau dyrus a dadleugar. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol. Er prawf o hyny gellir dyweyd iddo gael gwahoddiad i fod yn gydathraw a Mr. R. Gentleman yn athrofa Caerfyrddin, ond o herwydd rhyw resymau gwrthododd gydsynio. Nid yw yn ei lythyr at reolwyr y Bwrdd Cynnulleidfaol yn dyweyd paham y gwrthododd, ond yn unig amlygu y ffaith, a mynegi ei benderfyniad i aros gyda'i gyfeillion yn Llanuwchllyn. Yr oedd gan Mr. Wynn, offeiriad Llanycil, yr hwn oedd yn ieithydd rhagorol, syniad uchel am Mr. Davies, ar gyfrif ei ddysgeidiaeth. Dywedir fod prawf pwysig yn y Bala unwaith, a bod rhyw hen ysgrif yn Lladin wedi ei dwyn ger bron, yr hon y methai y cyfreithwyr a gwneyd dim o honi, ond anfonwyd am Mr. Davies, yr hwn gyda rhwyddineb a fynegodd iddynt ei chynwysiad. Gadawodd ei lyfrgell ar ei ol i'r eglwys Annibynol yn Llanuwchllyn, ac er fod llawer o'r llyfrau trwy esgeulustra wedi myned i ddifancoll, etto y mae y rhai sydd wedi eu gadael ar ol yn dangos y rhaid fod Mr. Davies yn ŵr dysgedig. Ond nid fel ysgolhaig yn unig y rhagorai. Mae yr ychydig ddifyniadau a welsom o'i Ddyddlyfr yn dangos ei fod yn ddyn duwiolfrydig, ac yn byw mewn cymundeb agos a phethau ysbrydol. Ond byr fu ei dymor. Yr oedd hinsawdd Llanuwchllyn yn rhy lym i gyfansoddiad oedd yn eiddil yn naturiol, a bu farw Ebrill 28ain, 1781, yn 30 oed. Claddwyd ef yn mynwent eglwys y plwyf, yn yr un bedd a Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach. Yr oedd plate yn ddangosiad o hyny hyd yn ddiweddar ar fur yr eglwys, ond y mae yr arysgrifen erbyn hyn wedi gwisgo allan, ac nid oes neb yn fyw yn cofio gweled ei wyneb, ond y mae ei enw a'i goffadwriaeth er hyny yn aros yn barchus, a disgyna felly i'r oesau a ddel ar ol.

DINASMAWDDWY.

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd Mawddwy yn gartref i'r anwybodaeth, yr ofergoelion, a'r campiau a ffynai mor gyffredinol yn Nghymru gynt; ac yn llawn o'r rhagfarn penrydd ac erlidgar yn erbyn pob peth fel crefydd, nad oedd dan nawdd person y plwyf, a hynodai Ogledd Cymru yn hir wedi i'r Deheu ddyfod i oddef a derbyn Ymneillduaeth. Maeddwyd un pregethwr mor greulon yn Llanymawddwy, fel y bu raid iddo gyflogi rhyw ddyn i fyned ag ef yn ddiogel dros Fwlchygroes i'r Bala.[139] Aeth Mr. Lewis Rees o Lanbrynmair trwy Fawddwy i Lanuwchllyn, a'i fywyd megis yn ei law lawer gwaith. Yn y fan y deuai son fod y pregethwr yn dyfod, elai yn gynwrf trwy yr holl le. Gadawai y gof yr efail, taflai y crydd yr esgid heibio, gollyngai y teiliwr y dilledyn o'i law, brysiai y merched allan o'u tai, gan roddi pob gorchwyl o'r neilldu; a gwelwyd hyd yn nod ar adeg frysiog y cynhauaf, y llafur- wyr yn rhedeg a'u crymanau, a'u ffyrch, a'u cribynau yn eu dwylaw i amgylchu y ffordd y deuai, i'w ddifenwi, a'i fygwth, ac yn aml elai yn muhellach na bygwth y cenhadwr ffyddlawn. Gorfyddai yn aml iddo fyned trwy y Dinas liw nos, am ei bod yn rhy beryglus iddo fyned liw dydd. Yr oedd gan Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, Llanuwchllyn, frawd, o'r enw Morgan, yr hwn oedd yn "ŵr cadarn, nerthol," ac yn ymladdwr o fri, ac oblegid hyny yn ddychryn i'r holl wlad; ond yr oedd yn hoff iawn o Mr. Lewis Rees, a llawer boreu Llun y gwelwyd Morgan Dafydd yn dyfod yr holl ffordd o Lanuwchllyn i hebrwng Mr. Rees trwy Fawddwy. Cerddai o'i flaen, a phastwn onen gref, fel paladr gwaywffon, yn ei law; ac os gwelai Morgan ryw un yn gwneyd dim byd tebyg i wawdio neu fygwth y pregethwr, cauai ei ddwrn, neu codai y pastwn i fyny, a dywedai, "Bydd di ddistaw, ac ar ol i mi hebrwng y gwr da yma, mi ddof i yn ol i setlo a thi." Ond cyn y dychwelai Morgan byddent oll wedi cilio, rhag ofn y digwyddai rhyw beth gwaeth na dangos y pastwn. Dywedir fod Mr. Rees ei hun wedi dyfeisio rhyw ffyrdd diniwed er pasio yn ddiogel. Unwaith, cwalciodd ei het, a gyrodd yn Jehuaidd trwy y lle, ac aeth heibio yn ddiwrthwynebiad. Y bregeth gyntaf y mae genym hanes am dani yn y Dinas oedd gan Mr. Lewis Rees, mewn tafarndy a elwid y Bell. Yr oedd Mr. Rees yn awyddus am gael pregethu i'r bobl, ac yr oedd Thomas Williams, y tafarnwr, yn foddlon iddo gael pregethu yn ei dŷ. Aeth y swn allan fod y pregethwr o Lanbrynmair yn myned i bregethu yn y Bell, ac yn fuan yr oedd yno dorf o wrandawyr trystfawr ac anhydyn wedi dyfod yn nghyd, a'r olwg arnynt yn ddigon di-galon i feddwl dechreu pregethu iddynt. Galwodd Mr. Rees am chwart o gwrw gan y tafarnwr—canys nid oedd neb yn dychmygu fod dim allan o le yn hyny y pryd hwnw—ac aeth ag ef yn ei law at y drws, a chan godi y llestr at ei enau i gymeryd traflwnge o hono, dywedodd, "Iechyd da i chwi, gyfeillion," ac yna estynodd ef i'r agosaf ato, gan ddyweyd, "Yfwch at eich gilydd." Bu hyny fel olew ar wyneb y dyfroedd terfysglyd. Cafodd lonydd i bregethu, ac wedi iddo orphen, yr oedd pawb yn dyweyd ei fod yn ddyn "deche anmhosib." Unwaith, pan yn myned trwy Lanymawddwy, cyfarfu a Mr. Jones, person y plwyf, yr hwn, yn hytrach nag atal terfysg y bobl, oedd fwy nag unwaith wedi eu cefnogi i erlid y pregethwr. Gofynodd y person i Mr. Rees, beth ydoedd, o ba le yr oedd yn dyfod, a pha beth oedd yn ei wneyd yn Llanbrynmair, ac wedi i Mr. Rees ateb y naill beth a'r llall, dywedodd y person gan dybied mai Presbyteriaid oedd, "Peth afresymol ydyw goddef i Bresbyteriaid bregethu yn Nghymru, Scotland yw y wlad iddynt hwy, ac yno y dylasent bregethu." "Gobeithio, Syr," meddai Mr. Rees, "eich bod chwi o well egwyddor na hon'a, onide bydd raid i chwi newid eich crefydd yn ol eich gwlad. Yn Scotland byddai raid i chwi fod yn Bresbyteriaid, ac yn Rhufain byddai raid i chwi fod yn Babydd. Yr wyf fi yn ceisio ffurfio fy nghrefydd nid yn ol arfer gwlad, ond yn ol rheolau Gair Duw." Gwelodd y person gymaint o briodoldeb yn yr ateb, fel y bu yn fwyn a charedig tuag ato o hyny allan.

Y prif offeryn i ddwyn yr Annibynwyr i bregethu yn rheolaidd yn Ninasmawddwy oedd un Rowland Griffiths, dilledydd wrth ei alwedigaeth, yr hwn wedi hyny a ymfudodd i America, ac a fu yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr yn Utica, ac yn bregethwr achlysurol. Yr oedd Rowland Griffiths yn un o Militia sir Feirionydd, ac yn arfer myned i'r Bala yn y gwasanaeth hwnw ar dymhorau, ac yno yr oedd wedi dyfod i gyffyrddiad a'r Annibynwyr, ac wedi arfer eu gwrando. Gafaelodd gwirionedd yr Efengyl yn ei galon, a gafaelodd ei galon yntau yn mhobl yr Arglwydd, ac ymunodd â hwy yn y Bala, er iddo ddychwelyd oddiyno cyn cael ei dderbyn yn gyflawn aelod. Wedi ei ddychweliad i'r Dinas, trwyddedodd ei dŷ, er mwyn cael yr Annibynwyr i bregethu ynddo. Nis gwyddom pwy a bregethodd ynddo gyntaf; ond dechreuodd gweinidogion a phregethwyr Meirion a Maldwyn yn fuan gyrchu yma. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1791, cynhaliwyd cyfarfod pregethu ar wyneb yr heol yn ymyl y Goat, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Thomas, Bala; R. Tibbot, Llanbrynmair; J. Evans, Machynlleth; D. Richards, Tŷ'nyfawnog; ac R. Roberts, Tyddynyfelin. Bendithiodd yr Arglwydd y cyfarfod hwnw er agoriad drws helaeth i'r achos yn yr ardal, ac er dychweliad pechaduriaid. Adroddid hanes y cyfarfod wrth weinidog presenol Dinasmawddwy, gan John a Sarah James, tad a mam Mr. Hugh James, Llansantffraid—y rhai oeddynt bresenol yn y cyfarfod, ac yn ei gofio yn dda; a chawsant ill dau yn fuan wedi hyny y fraint o ymuno a'r achos. Testyn Mr. Thomas, y Bala, oedd "Y rhai sydd yn aflonyddu y byd, y rhai hyny a ddaethant yma hefyd;" a thestyn Mr. Tibbot oedd, "A gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Soniai yr olaf am rinwedd y gwaed er dileu arferion llygredig, ac er cadw eneidiau mewn modd ag a gynhyrfai y gwrandawyr yn ddirfawr. "Pe byddai," meddai, "dim ond un diferyn o'r gwaed ar yr enaid, gallai roddi her i uffern a'i holl ddiafliaid i'w niweidio byth. Pe byddai i enaid ag un diferyn o'r gwaed arno fyned i uffern, byddai yn gynhwrf ac yn wban trwy gehena i gyd. Ciliai cythreuliaid fychain a mawrion rhagddo mewn dychryn, gan waeddi 'Beth mae hwn yn ei 'mofyn yma?' a byddai yn gynwrf ac yn ysgrechain trwy holl orerau y ffiamiau, ac ni fyddai modd eu llonyddu nes cael yr enaid a'r gwaed arno oddiyno."[140]

Yn fuan wedi hyn, darfu i'r rhai y cyffyrddasai yr Arglwydd a'u calonau ddechreu ymgasglu yn nghyd i weddio, a chynghori, a chadarnhau eneidiau eu gilydd; ac yn Ionawr, 1792, corpholwyd hwy yn eglwys, a gweinyddwyd Swper yr Arglwydd iddynt y waith gyntaf gan Mr. W. Thomas, o'r Bala. Saith oedd eu nifer yn y cymundeb cyntaf, ac y mae eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Rowland Griffith, a'i wraig; Evan Williams, Siopwr; John Evans, Gwehydd; John Jones, Ceinan; John Davies, Erwhir; a Margaret Owen, Penygraig, Cwmcewydd. Erbyn gwanwyn 1795, yr oedd ganddynt gapel wedi ei adeiladu; ac yn niwedd y flwyddyn 1796, yr oeddynt wedi cynyddu i fwy na 35 o rifedi, fel y teimlasant yn ddigon calonog i roddi galwad i Mr. William Hughes, Bangor, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn nechreu 1797. Yr oedd mesur helaeth o wresawgrwydd a gweithgarwch yn yr aelodau oedd yma ar y pryd, ac elent oddiamgylch i gynal cyfarfodydd gweddio yn mha le bynag y rhoddid derbyniad iddynt. Cyrhaeddai cylch gweinidogaeth Mr. Hughes o Lanymawddwy i Cwmllynau, ac i lawr i'r Foel, a chyn belled a'r Tygwyn, Llanerfyl; ac yr oedd ymweliadau yr hen frodyr i gynal cyfarfodydd gweddio yn cyrhaedd yn llawn mor belled. Dilynwyd gweinidogaeth Mr. Hughes a llwyddiant cyson; ond cafwyd adfywiadau grymus ar rai adegau. Bu gradd o adfywiad yn Nghwmtafolog a'r Dugoed yn 1805, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys; ac yn 1807 bu un llawer grymusach; ac yn y flwyddyn 1808 helaethwyd capel y Dinas. Yn y cyfnod yma y sefydlwyd Ysgolion Sabbothol yn y Dinas a Llanymawddwy, a Chywarch, a Cherist, a'r Groeslwyd, a chymydogaeth Bethsaida; a chariasant ddylanwad daionus ar y wlad oll. Yn y flwyddyn 1821, codwyd capeli bychain yn Llanymawddwy a Bethsaida, a thalwyd am danynt; a thrwy lafur Mr. Hughes a'r eglwys, dan fendith yr Arglwydd, llwyddwyd i ddwyn y Dinas a'r amgylchoedd yn lled gyfan dan ddylanwad yr efengyl. Ond yr oedd Mr. Hughes yn heneiddio, a'i ddyddiau yn nesâu i farw; ac ar y dydd olaf o'r flwyddyn 1826, hunodd mewn tangnefedd, wedi llafurio yn y cylch eang yma am yn agos i 30 mlynedd.

Yn mhen dwy flynedd i'r Sabboth y bu farw Mr. Hughes, daeth Mr. John Williams, myfyriwr o athrofa y Drefnewydd, yma i weinidogaethu, ac urddwyd ef Chwefror 18fed a'r 19eg, 1829. Ar yr achlysur traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. Jones, Bala, a phregethodd Mr. E. Davies, athraw yr athrofa yn y Drefnewydd, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr. D. Morgan, Machynlleth, ar ddyledswydd yr eglwys Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Humphreys, Towyn; H. Morgan, Sammah; M. Evans, Llacharn; E. Evans, Abermaw; H. Pugh, Llandrillo; J. Davies, Llanfair; C. Jones, Dolgellau; J. Williams, Ffestiniog, ac E. Rowlands, Rhoslan.[141] Yr oedd Mr. Williams yn bregethwr poblogaidd a chynes, a bu yn hynod o ymdrechgar fel gweinidog, a chynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa trwy ei lafur. Yn 1832, ail adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn helaethach, a chodwyd ysgoldy bychan yn nglyn ag ef er cynal ysgol ddyddiol. Codwyd hefyd ysgoldy yn Nghywarch er cynal Ysgol Sabbothol, a phob moddion yn achlysurol. Llafuriodd Mr. Williams yma am ddeng mlynedd, nes yn 1839, y derbyniodd alwad o Aberhosan a Phenegos, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at ei fywyd, a'i gymeriad, a'i lafur yn nglyn ag eglwys Penegos. Yn y flwyddyn 1840, rhoddodd yr eglwys alwadi Mr. Robert Thomas, genedigol o Lanuwchllyn, ond hwn oedd yn aros ar y pryd hwnw yn Nghonwy; ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1840. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. C. Jones, Dolgellau; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; a phregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. E. Evans, Abermaw, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. Morgan, Sammah; E. Hughes, Treffynon; H. Lloyd, Towyn; E. Griffiths, Llanegryn; J. Parry, Machynlleth, ac E. Roberts, Marton, (Cwmafon.)[142] Bu Mr. Thomas yma am tua dwy flynedd yn nodedig o boblogaidd, ac yr oedd y tymor hwnw yn dymor llewyrchus iawn ar grefydd trwy yr holl wlad, a phrofodd y Dinas oddiwrth effeithiau yr ymweliad grasol. Yn yr adeg yma y codwyd ysgoldy Hermon, Cerist. Derbyniodd Mr. Thomas alwad cyn diwedd 1842 oddiwrth yr eglwys yn Salem, Liverpool, a symudodd yno yn nghanol ei boblogrwydd yma. y flwyddyn 1843, derbyniodd Mr. John Thomas o Fachynlleth, ond a fuasai dan addysg yn Windsor, Liverpool, alwad oddiwrth yr eglwys yma, ac urddwyd ef Medi 29ain, 1843. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah; gweddiodd Mr. J. Williams, Aberhosan; pregethodd Mr. H. Llwyd, Towyn i'r gweinidog, a Mr. S. Roberts, Llanbrynmair i'r eglwys. Pregethwyd hefyd yn oedfaon y dydd gan Meistri T. Edwards, Ebenezer; D. Davies, Berea; J. H. Hughes, Llangollen; W. Roberts, Penybontfawr; H. James, Llansantffraid, ac E. Evans, Abermaw.[143] Ymroddodd Mr. Thomas a'i holl egni yn y tymor byr y bu yma, ond symudodd yn 1845, i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn Amwythig. Yn y flwyddyn 1848, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Williams, aelod o Blaenafon, ond a fuasai dan addysg yn Hanover, ac urddwyd ef Ebrill 26ain a'r 27ain, 1848. Ar yr achlysur traethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Williams, Aberhosan; holwyd y gofyniadau arferol i'r gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah; offrymwyd y weddi am fendith ar yr undeb gan Mr. C. Jones, Dolgellau; pregethodd Mr. E. Griffiths, Blaenafon, i'r gweinidog, a phregethodd Mr. R. Thomas, Liverpool, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Davies, Brynbiga; E. Roberts, Foel; J. Roberts, Llanbrynmair; R. Ellis, Brithdir; W. Roberts, Penybontfawr; R. Edwards, Rhydymain, a G. Evans, Pennal.[144] Mae Mr. Williams wedi llafurio yma yn ddiwyd am dair-blynedd-ar-hugain, ac nid yn ofer ychwaith. Mae yma dri o ysgoldai yn perthyn i'r eglwys yn y cymoedd cymydogaethol, y rhai a elwir Bethlehem, Hermon, a Salem, a chynhelir ynddynt ysgolion bob Sabboth a chyfarfodydd gweddi, a phregethu achlysurol, ond daw yr holl ganghenau yn nghyd i'r Dinas i'r oedfa ddau o'r gloch bob Sabboth. Yn y flwyddyn 1868, adeiladwyd capel newydd mewn safle llawer mwy manteisiol na'r un y safai yr hen gapel arno; ac er iddo gostio 1150p., agorwyd ef Hydref 30ain, 1868, yn rhydd o ddyled, ac y mae rhestr y tanysgrifiadau, yr hon sydd wedi ei chyhoeddi, yn anrhydedd i'r gweinidog a'r eglwys, ac i'w cyfeillion y tu allan, y rhai a'u cynorthwyasant.

Bu yma lawer o wyr rhagorol yn mysg y brodyr yn perthyn i'r eglwys hon. Heblaw y saith oedd yn cychwyn yr achos, y mae olynwyr iddynt yn glynu wrth yr Arglwydd. Meibion i'r John Evans a enwyd oedd Richard Evans a Rowland Evans, (Morben), a Morris Evans, (Lacharn), heblaw brodyr eraill o'r un teulu, ac y mae llawer o'i wyrion yn gwasanaethu Duw eu tadau, ac yn llenwi cylchoedd o ddefnyddioldeb mawr mewn eglwysi yn Nghymru a Lloegr. Yn mysg y rhai a fu yn gwasanaethu fel swyddogion yn yr eglwys yma, yr ydym yn cael enwau Rowland Griffith, John Jones, Ceinan; Evan Jones, Castell; John Rowlands, Allt; Lewis Roberts, Llwyni; Evan Evans, Nant-yr-hedydd; John James, Tygwyn; Rowland Evans, Dolobran; Richard Evans, Dinas; Richard Rowlands, David Jones, Llwynygrug, a John Jones, Tydu. Coffeir yn barchus am John James, Tygwyn, (tad Mr. H. James,) un o gedyrn crefydd yn ei oes, ac un nas gallesid yn fuan ei symud oddiwrth y ffydd, ac yr oedd ef a Richard Evans, Dinas, a Rowland Evans, Dolobran, yn mysg y rhai mwyaf amlwg o'r rhai a fu yma gyda'r achos.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

Morris Evans. Addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Lacharn, sir Gaerfyrddin, a daw ei hanes yno dan ein sylw. Bu farw yn Mhontypool.

Hugh Evans. Bu am lawer o flynyddoedd yn pregethu yn y Dinas a'r cwmpasoedd, ond yr oedd wedi rhoddi i fyny yn mhell cyn ei farwolaeth. William Roberts. Derbyniodd addysg yn Marton. Urddwyd ef yn Pennal, ac y mae yn awr yn Nhanygrisiau, Ffestiniog. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. J. Williams.

Hugh James. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r brawd a enwyd yn flaenorol. Bu yntau dan addysg yn Marton, ac urddwyd ef yn Brithdir, ac y mae yn awr yn Llansantffraid.

Richard M. Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Bagillt, ac y mae yn awr yn Dolyddelen.

Mae Thomas Davies, Dinas; Edward Evans, Llwyndu; Lewis Jones, Bwlch; Morris Evans, Dinas, a Robert Evans, Llwyngrug, yn ddiaconiaid yn yr eglwys yn bresenol, ac y mae rhifedi yr aelodau yn fwy na chant a haner, ac nid yw yr achos heb arwyddion fod yr amddiffyn ar yr holl ogoniant.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM HUGHES. Ganwyd ef yn Rhos-cyll-bach, plwyf Llanystumdwy, sir Gaernarfon, yn mis Mai, 1761. Yr oedd ychydig gloffni arno yn naturiol, ac aeth ei rieni ag ef pan yn blentyn at Mr. John Thomas, gweinidog Pwllheli, i ofyn a oedd yn tybied y gallasai y meddygon wneyd rhyw les iddo, ond cynghorodd Mr. Thomas hwy i adael iddo, gan mai gwaith yr Arglwydd ydoedd, y buasai iddo ef ofalu am dano, a dichon yr âi trwy y byd yn gystal ag un o'u plant. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenlan, Pwllheli, pan oedd yn ugain oed, ac yn fuan cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn y Capel Newydd, Lleyn, ar y geiriau, "Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau." Treuliodd ychydig amser yn Llanuwchllyn dan addysg gyda Mr. A. Tibbot, ond yn y flwyddyn 1788, aeth i Fangor a'r amgylchoedd i lafurio, ar gais gweinidogion y wlad yn benaf. Urddwyd ef yn Caegwigin, (Bethlehem yn awr,) yn y flwyddyn 1789, ac yr oedd Meistri B. Jones, Pwllheli; D. Lloyd, Dinbych; A. Tibbot, Llanuwchllyn, a G. Lewis, Caernarfon, yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth ei urddiad. Trwy ymdrech caled y llwyddodd i gael lle i'r achos roddi ei droed i lawr yn Mangor. Yr oedd tir ar werth yn Tyddynordor, fwy na haner milldir o'r dref, ar ffordd Caernarfon, ond ni fynai ei berchenog ei werthu i weinidog Ymneillduol, ond rhoddodd yr Arglwydd yn nghalon un David Owen, crydd, i brynu y tir, ac i ganiatau darn o hono at godi addoldy bychan, yr hwn trwy ddiwydrwydd Mr. Hughes a godwyd, a thalwyd am dano. Dyoddefodd fesur o erledigaeth yn achos yr efengyl, a phan yn pregethu yn Llanrwst unwaith, ymosodwyd arno, a dygwyd ef ger bron yr ynadon, a dirwywyd ef i dalu deg punt, a chadwyd ef yn nwylaw creulawn yr heddgeidwaid nes iddo dalu yr arian, neu ryw rai i dalu drosto. Barnai pawb fod y dirwyad yn anghyfreithlon, ond gwell oedd gan Mr. Hughes oddef cam, na chodi terfysg. Teimlodd pobl Bangor yn fawr pan glywsant am ei helbul, oblegid cyfrifai pawb ef y diniweitiaf o feibion dynion. Priododd yn y flwyddyn 1790, a Margaret, merch Ellis Roberts, Tyddynyddol, gerllaw y Bala, o ba un y bu iddo ddeg o blant. Mab iddo ef ydyw Mr. Ellis Hughes, Penmain, Mynwy, ac y mae Mr. William Hughes, mab arall iddo, yn ddiacon parchus yn yr eglwys gynnulleidfaol yn y Crescent, Liverpool, dan ofal Mr. J. Kelly, ac un o'i ferched ydyw gwraig Mr. H. Morgan, Sammah, ac y mae ei ferched eraill, y rhai a dyfasant i fyny, wedi llenwi eu cylchoedd fel gwragedd rhinweddol. Yn nechreu y flwyddyn 1797, symudodd Mr. Hughes i Dinasmawddwy, ac yno y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes, fel "gweinidog da i Iesu Grist." Mewn llafur dibaid, mewn gostyngeiddrwydd diddichell, mewn duwioldeb diamheuol, mewn gofal bugeiliol, mewn gweinidogaeth Ysgrythyrol, ac mewn awydd cyson am wneyd daioni, nid oedd Mr. Hughes yn ail i neb yn ei oes. Dywed Mr. J. Roberts, Llanbrynmair yn ei gofiant iddo :—"Mae yn sicr nad oes neb yn fyw yn bresenol yn mhlith yr Ymneillduwyr a deithiodd gymaint ar hyd Cymru i bregethu yr efengyl a Mr. Hughes. Arferai bob blwyddyn wneyd taith go hir trwy ranau o'r Gogledd a'r Deheu. Ar y teithiau hyny, pregethai yn gyffredin dair gwaith y dydd, a sicrhai ei bregethau dwys a'i ymddygiad boneddigaidd a duwiol, iddo barch mawr gan bawb oedd yn ofni yr Arglwydd. Ymddangosai bob amser pan yn pregethu ei fod dan ystyriaeth ddifrifol o bwys ei waith, ac o fawredd y canlyniadau i'w wrandawyr, pa un a wnaent ai gwrando ai peidio. Adderchawgrwydd penaf ei bregethau oedd, eu bod oll yn Ysgrythyrol. Yr wyf yn cofio pan glywais ef gyntaf yn Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1784, fy mod yn meddwl fod yn rhaid ei fod yn cofio yn mron yr holl Fibl. Nodwedd mwyaf eglur Mr. Hughes oedd duwioldeb gwastad. Yr oedd yn wastad yn rhodio megis ger bron yr Arglwydd. Gofalus iawn ydoedd na ddeuai un ymadrodd llygredig allan o'i enau. Nid wyf yn meddwl fod neb yn llettya meddyliau gwaelach am dano ei hun nag efe. Pan fyddai yn dyweyd ychydig o'i brofiad gyda'i frodyr mewn cyfeillachau neillduol yn ein Cymanfaoedd, byddai bron bob amser dan ddwys deimlad o'i wendidau, ac nid anfynych y byddai yn dyweyd fod llawer o anmheuon yn ei feddwl yn nghylch ei gyflwr ei hun. Byddai yn arfer dyweyd ei brofiad ar yr achlysuron hyn mor deimladwy a thoddedig, fel yr oedd yn anhawdd i neb ei glywed ef a'i lygaid yn sy chion. Mae pawb a'i hadwaenai yn gwybod ei fod yn cyfateb i'r desgrifiad a wneir gan Paul o ddyn duwiol, yn 1 Corinthiaid xiii." Sonir gan y rhai a'i clywsant yn arbenig am dano fel gweddiwr, ac mor afaelgar ac ymdrechgar ydoedd. Dywedai un brawd ffraeth unwaith, y ceid cyfarfod cyflawn ond cael Hughes o'r Dinas i weddio, Williams o'r Wern i bregethu, a Roberts, Llanbrynmair i wylo. O ran ei berson yr oedd Mr. Hughes yn ddyn mawr, esgyrniog, ac yn camu ychydig yn ei war. Dywedir gan hen bobl, fod ei fab, Mr. Hughes, Penmain, fel y mae yn heneiddio, yn myned yn fwy-fwy tebyg iddo. Gwisgai fynychaf yn blaen, mewn dillad gwlad, gyda napcyn sidan India am ei wddf, ond yr oedd yn wastad yn lân a thrwsiadas, a llafuriodd yn y weinidogaeth mewn amser ac allan o amser, heb arbed ei gorph. Cyfarfu a phrofedigaethau chwerwon, gwelodd gladdu amryw o'i blant, ac yn neillduol bu y ddamwain angeuol a gyfarfu ei fab, John, yn mis Mai, 1811, yn brofedigaeth danllyd iddo ef a'i anwyl briod. Yr oedd yn fachgen 15 oed, ac yn egwyddor was gyda Miss Mary Ann Jones, yn Llansantffraid, ac wrth geisio atal yr anifail oedd ganddo yn y drol rhag rhedeg, tarawyd ef yn ei ben gan y drol, fel y bu farw yn mhen wyth niwrnod. Claddwyd ef yn mynwent capel y Sarnau, a chanodd ei dad alargan ar yr achlysur. Mae yn llawn o syniadau prydferth, ac yn neillduol o deimlad dwys. Ond yn ei holl brofedigaethau daliodd ei ymddiried yn ei Dduw. Mae ei enw yn perarogli hyd heddyw yn Ninasmawddwy, a'r holl ardaloedd cymydogaethol; a dywed Mr. Williams o'r Dinas wrthym, "er teithio yn fynych ar hyd ei lwybrau, ac yn mysg y rhai a'i hadwaenent oreu, ni chawsom erioed yr un awgrym ond oedd dda a pharchusol am dano."

Nid oes ond un arall o'r gweinidogion a fu yn y Dinas wedi gorphen eu gyrfa, a gwnaethum gyfeiriad eisioes ato ef yn nglyn ag eglwys Penegos, ac am y brodyr eraill a fu yma, a'r brawd sydd yma, gobeithio fod y dydd yn mhell pan y gelwir ar neb i ysgrifenu eu cofnodion bywgraphyddol.

BETHSAIDA.

Mae y lle hwn yn Mhenrhiwcil, heb fod yn mhell o Lidiart-croes-y-Barwn, lle y llofruddiwyd Lewis Owen, Yswain, hen daid yr enwog Dr. John Owen, yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth, gan y Gwylliaid Cochion. Pregethwyd llawer gan Mr. Hughes yma cyn codi Bethsaida. Adeiladwyd y capel yn 1821, yr un flwyddyn ag y codwyd capel Llanymawddwy, ac agorwyd ef Mai 29ain a'r 30ain. Ar yr achlysur, pregethwyd y noson gyntaf gan Meistri H. Lloyd Towyn; a J. Lewis, Bala. Dranoeth, am ddeg, pregethodd Meistri M. Jones, Llanuwchllyn; J. Jones, Main; ac E. Davies, Rhoslan. Am ddau, pregethodd Meistri W. Morris, Llanfyllin; a D. Morgan Machynlleth. Am chwech, pregethodd Meistri J. Ridge, Penygroes; J. Davies, Llanfair; a C. Jones, Dolgellau. Corpholwyd yma eglwys yn 1832, gan Mr. J. Williams; ac y mae y lle o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a'r Dinas. Mae yma achos llewyrchus iawn. —cynnulleidfa o bobl astud, ddeallgar, ac yn ymhyfrydu yn fawr yn mhethau yr efengyl. Rhifa yr aelodau oddeutu triugain. Codwyd yma un pregethwr, sef William Griffiths, yr hwn sydd yn bresenol yn athrofa y Bala. Gwasanaethwyd swydd diaconiaid yn dda yma gan John Jones, Yr Allt, ac Evan Evans, Nantyrhedydd; ac y mae Hugh Jones, Tymawr, ac Owen Jones, Nantydugoed, yn olynwyr iddynt.


LLANYMAWDDWY.

Codwyd capel yma, trwy lafur Mr. W. Hughes, Dinas, yn y flwyddyn 1821. Agorwyd ef Mai 30ain a'r 31ain, o'r flwyddyn hono. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri M. Jones, Bala; H. Lloyd, Towyn; W. Morris, Llanfyllin; D. Morgan, Machynlleth; C. Jones, Dolgellau; J. Ridge, Penygroes; H. Hughes, Llechwedd; a J. Lewis, Bala. Bwriedid ef i wasanaethu fel ysgoldy, a lle i bregethu yn achlysurol, ac felly y bu hyd farwolaeth Mr. Hughes, ac am dymor wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. J. Williams. Tua'r flwyddyn 1832 y corpholwyd yr aelodau yma yn eglwys Annibynol, ac y mae wedi parhau felly, ond dan yr un weinidogaeth a'r Dinas. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae yma nifer o bobl ffyddlon. Rhifa yr aelodau o ugain i bedwar-ar-hugain. Ni chodwyd yma yr un pregethwr. Bu John Jones, Tycanol, Hugh Thomas, Blaenfenant, ac Edward Evans, Brynuchaf, yma yn ddiaconiaid, a llenwir yr un swydd yn bresenol gan Evan Jones, Tycanol.

PENYSTRYD.

Mae y capel hwn ar un o'r lleoedd uchaf yn mhlwyf Trawsfynydd; ac y mae y lle, a golwg hynafol yr addoldy, yn ein hadgofio o sefyllfa dra gwahanol ar Ymneillduaeth Cymru i'r hyn ydyw yn bresenol.

Yr ydym wedi derbyn y rhan fwyaf o hanes yr eglwysi yn y plwyf hwn, a rhai o'r plwyfi cylchynol, oddiwrth yr hybarch Mr. Edward Davies, Trawsfynydd; a sicr genym, nad oes neb yn fyw mor alluog at hyn o orchwyl. Mae traddodiad yn mysg hen bobl y wlad hon, fod dau dŷ anedd yn mhlwyf Trawsfynydd wedi eu trwyddedu yn foreu i bregethu ynddynt, sef Tyddyn-sais, a Bronysgellog. Os yw hyny yn gywir, y tebygolrwydd yw, mai yn nyddiau Mr. H. Owen, Bronyclydwr, a'i gydlafurwyr, y bu hyny. Bu teulu o gymydogaeth Llanuwchllyn, yn byw yn Hafodygarreg, Trawsfynydd, er's mwy na phedwar-ugain-mlynedd yn ol, a byddai yno foddion crefyddol, yn cael eu cynal yn awr a phryd arall, a byddai Lady Nanney, o Gefnddeuddwr, yn arfer a myned yno i addoli. Yr oedd march-faen, hyd yn ddiweddar, yn ymyl hen gapel Penystryd, a byddai y Lady Nanney yn arfer cerdded o ben ffridd y Tyddyndu at y march-faen, ac yna yn myned ar gefn ei cheffyl drachefn; a byddai un John Garmons, o'r Rhiwgoch, yn annog rhyw anifeiliaid o ddynion, tebyg iddo ei hunan, i aflaneiddio y march-faen, o ddirmyg arni am ei bod yn myned i gydaddoli a'r Annibynwyr. Ni sefydlwyd achos yma y pryd hwnw, ond pan ymadawodd y teulu hwnw o Hafodygarreg, arosodd pobl y gymydogaeth mor ddigrefydd ag o'r blaen. Yr oedd gwr o'r enw Mr. Robert Price yn byw yn y Gilfachwen, Trawsfynydd-etifedd y Gerddibluog, a'r berthynas agosaf oedd yn fyw y pryd hwnw, i Mr. Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd. Yr oedd gan Robert Price ferch o'r enw Jane, a hi oedd ei unig ferch, ac ymbriododd a Mr. John Jones, o Aeddren, yn mhlwyf Llangwm, tua'r flwyddyn 1785. Yr oedd John Jones yn Annibynwr selog, ac yn aelod, mae yn debygol, yn Rhydywernen, cangen y pryd hwnw o'r eglwys yn Llanuwchllyn. Mae yn fwy na thebyg mai John Jones a berswadiodd ei dad-yn-nghyfraith i ganiatau i ambell oedfa gael ei chynal yn y Gilfachwen. Mae yn amlwg mai Mr. Abraham Tibbot, a Mr. Robert Roberts, o Dyddynyfelin, a fu yn offerynol i sefydlu yr achos Annibynol yn Nhrawsfynydd. Ymunodd Mr. Robert Price, a'i wraig, ac amryw eraill a'r Annibynwyr, a derbyniwyd hwynt yn aelodau yn hen gapel Llanuwchllyn, a byddent yn arfer myned yno i gymundeb bob mis am gryn amser.

Efallai mai nid annyddorol fyddai ychydig o hanes John Jones, o Aeddren, gan ei fod yn dal perthynas mor agos a dechreuad yr achos Annibynol yn Nhrawsfynydd. Yr oedd John Jones, fel y sylwyd, yn barod yn Annibynwr trwyadl, yn ddyn gwybodus a pharchus iawn yn ei gymydogaeth,. ac yn fwy dysgedig na'r rhan fwyaf yn y dyddiau hyny. Ar ol y chwyldroad yn Ffraingc, yr oedd yn amser blin yn Lloegr, ac yn y rhan fwyaf o deyrnasoedd y Cyfandir. Yr oeddynt yn codi Militia yn fynych iawn. Meddyliodd llangciau Llangwm am sefyll yn erbyn hyny, a phenderfynasant fyned i Ddinbych i'r perwyl. Ni wyddai John Jones ddim am eu bwriad hyd nes yr oeddynt wedi cychwyn; ond pan ddeallodd eu bod wedi myned, cyfrwyodd ei anifail mor fuan ag y gallai, ac aeth ar eu hol i'w perswadio i fod yn llonydd, a llwyddodd i hyny. Gofynodd rhai o'r ustusiaid i'r llangciau, pa beth a'u boddlonai i fyned adref yn dawel? Atebasant hwythau y gadawent i John Jones gytuno drostynt. Cynygiodd yr ustusiaid iddo ddeg swllt, fel y gallent gael tamaid i'w cario adref, a boddlonodd yntau i'w cymeryd, ac felly ymadawsant yn heddychlon a diderfysg. Yn mhen ychydig amser ar ol hyny, anfonwyd mintai o feirch—filwyr i ddal John Jones i'w roddi yn y carchar fel terfysgwr, ond yn ffodus, cafodd ef wybod am eu dyfodiad mewn pryd, a methasant a chael gafael arno, chwiliasant ei dŷ gyda dibrisdod a manylrwydd mawr, ond ni buont yn llwyddianus y tro hwnw. Ar ol hyn aeth John Jones i'r America, gan adael ei deulu ar ol i ymdaro fel y gallent. Yn mhen cryn amser dychwelodd o'r America, gan ddisgwyl y cawsai lonyddwch, ond nid felly a fu. Cymerwyd ef i'r ddalfa, a rhoddwyd ef yn ngharchar Rhuthin hyd y brawdlys. Y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn ydoedd, ei fod wedi mynu haner gini trwy drais oddiar yr ustusiaid. Parhaodd prawf am ddau ddiwrnod, ond y dydd olaf o'r prawf, daeth dyn cyffredin yn mlaen, a thyngodd iddo weled John Jones yn derbyn haner gini o aur, gan un o'r ustusiaid, ac iddo yntau roddi chwe'cheiniog yn ol, yr hyn oedd yn profi yn amlwg fod yno gytundeb rhyngddynt, ac nas gallasai fod yno na thrais na gorthrech, a barnodd y rheithwyr ei fod yn cael ei gam gyhuddo, ac felly daeth yn rhydd o afaelion ciaidd y creuloniaid a fynent ei gosbi. Disgynodd y trallod a'r erledigaeth hon ar John Jones o herwydd ei fod yn Annibynwr!!

Yn y flwyddyn 1789, cafwyd lle gan Meistri William a Robert Jones, o Dolgain, i godi y capel, a elwir yn gyffredin Capel Penystryd. Cafwyd prydles ar ddarn bychan a gwael o dir am 99 o flynyddoedd. Costiodd y lle ryw gymaint heblaw ardreth flynyddol o haner coron. Ymddiriedolwyr y capel oeddynt Meistri Abraham Tibbot, George Lewis, Benjamin Jones, a Robert Roberts. Agorwyd y capel tua diwedd y flwyddyn 1789, a chorpholwyd eglwys ynddo. Cangen o Llanuwchllyn yr ystyrid y lle am y ddwy flynedd gyntaf, a deuai Mr. Tibbot a phregethwyr Llanuwchllyn yma dros y Feidiog er pellder a gerwinder y ffordd. Bu Mr. Robert Price a'i briod yn gryn lawer o gymorth i'r achos yn nghymydogaeth Penystryd, yn enwedig yn ei ddechreuad. Efe fyddai yn myned i gyfarfodydd i ymofyn am gyhoeddiadau pregethwyr, a byddai ei dŷ ef yn agored i'w derbyn am flynyddau. Parhaodd ei briod ef yn ffyddlon gyda chrefydd hyd ddiwedd ei hoes, ond trodd ef yn wrthgiliwr cableddus, ac yn erlidiwr creulon! Y fath resyn fod un a ddechreuodd mor addawus, yn dybenu mor druenus. Bu Robert Owen a'i briod yn byw flynyddoedd lawer yn y Gilfachwen, ar ol marw Robert Price, a buont yn ffyddlon ac yn ymgeleddgar iawn i'r achos ar hyd eu hoes. Tua'r flwyddyn 1792, daeth Mr. William Jones yma. Yr oedd wedi bod am dymor yn Beaumaris, ond nid ordeiniwyd ef yno, ond wedi iddo dderbyn galwad yr eglwys yn Mhenystryd, urddwyd ef Mai 22ain, 1792. Nid oedd yr eglwys yn gallu rhoddi ond ychydig iddo at ei gynhaliaeth. Mewn llythyr at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, dyddiedig Awst 26ain, 1796, dywed mai 13p. Y flwyddyn oedd y cwbl a dderbyniai o bob man at ei gynhaliaeth ef a'i deulu, a beth oedd hyny at gadw pump o honynt. Mae ei lythyr yn un o'r rhai mwyaf torcalonus o'r holl lythyrau y digwyddodd i ni eu gweled, y rhai a anfonid gan weinidogion Cymru at reolwyr y Drysorfa, yn y dyddiau hyny. Hawdd deall ar ei lythyr ei fod mewn tlodi dwfn. Dywed ei fod ef a'i deulu yn gorfod byw yn aml ar fara haidd a llaeth enwyn. , Nid rhyw lwyddiant mawr a fu ar ei weinidogaeth, er ei fod yn ŵr da ond siriolwyd ef yn niwedd ei oes trwy ymweliad nerthol oddiwrth yr Arglwydd. Cafodd Mr. Jones ergyd o'r parlys pan yn pregethu yn Nhowyn, ar ei ddychweliad o'i daith yn y De. Cyrhaeddodd adref, ond bu farw Hydref 30ain, 1820.

Wedi marw Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys yn Penystryd alwad i Mr. Edward Davies, yr hwn oedd er's blynyddau yn weinidog yn Capelhelyg a Rhoslan, a chan fod Mr. Davies yn flaenorol wedi priodi merch Gwynfynydd, Trawsfynydd, a thrwy hyny dan ryw fath o angenrheidrwydd i drigianu yn y wlad yma, cydsyniodd a'r gwahoddiad, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Mhenystryd a Maentwrog, yn mis Mai, 1822. Nifer yr aelodau yma ar y pryd oedd naw-a-thriugain, a thair punt a phymtheg swllt y chwarter, oedd y cwbl a addewid iddo fel ffrwyth ei lafur, ac i ba raddau y cyflawnasant eu haddewid, goreu y gwyr efe. Ymroddodd Mr. Davies i gyflawni ei weinidogaeth, gan bregethu trwy yr holl wlad oddi-amgylch, a sefydlu achosion newyddion, y rhai a ddaw etto dan ein sylw. Tua'r flwyddyn 1839, o gylch canol oes weinidogaethol Mr. Davies, torodd diwygiad grymus iawn allan yn y plwyf hwn, fel mewn llawer o leoedd eraill, ac ychwanegwyd tua dau gant at rifedi yr eglwysi Annibynol, ond trwy wrthgiliadau, symudiadau, a marwolaethau, lleihaodd rhifedi yr eglwys, fel na bu ar ol hyny mor lluosog. Cafwyd darn o dir wrth gefn hen gapel Penystryd i gladdu y meirw, ac y mae yno lawer wedi eu claddu eisioes. Pan ydoedd Mr. Davies tua 69 oed, ac wedi llafurio yn galed trwy bob tywydd am dair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau yn y gymydogaeth hon, yr oedd ei nerth i raddau yn pallu, a'r gwaith yn fawr, barnodd fod yn well iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, ac yn y flwyddyn 1855, rhoddodd yr eglwysi yn mhlwyf Trawsfynydd i fyny, heb na thwrf na therfysg.

Bu yr eglwysi o'r flwyddyn 1855, hyd y flwyddyn 1863, heb un gweinidog sefydlog, ond yr oeddynt yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol; ond yn y flwyddyn uchod rhoddasant alwad i Mr. William G. Williams, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1863. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Williams, Dinas; holwyd y gweinidog gan Mr. J. Jones, Abermaw; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; pregethodd Mr. T. Roberts, Llanrwst, i'r gweinidog, a Mr. W. Ambrose, Porthmadog, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri E. Stephen, Tanymarian; J. Thomas, Towyn; H. Ellis, Corwen; J. Jones, Maentwrog; R. Ellis, Brithdir, ac R. P. Jones, Llanegryn. Bu Mr. Williams yma hyd 1869, pan y darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac er hyny, y mae yr eglwys yma yn amddifad o weinidog.

Codwyd y personau a ganlyn i bregethu yn yr eglwys hon:—

William Williams. Mab Cwmhwyson-ganol ydoedd. Derbyniwyd ef yn aelod cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, gan Mr. William Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Gwrecsam, ac urddwyd ef yn y Wern, ac y mae ei enw yn adnabyddus i holl Gymru. Daw dan ein sylw yn nglyn a'r Wern.

Hugh Lloyd. Urddwyd ef yn y Towyn, lle y ceir ei hanes yn helaethach. Codwyd yntau yn nyddiau Mr. Jones.

Lewis Williams. Ni chafodd nemawr fanteision dysgeidiaeth, ond bu yn ffyddlon tra y parhaodd ei dymor byr.

William Roberts o'r Hafod. Bu yn y Neuaddlwyd dan addysg Dr. Phillips, collodd ei le, a chiliodd at y Bedyddwyr.

Robert Roberts, (Robin Meirion.) Gwr ieuangc gobeithiol iawn, yn meddu ar y ddawn farddonol i raddau lled helaeth, yn feddyliwr dwfn, yn ymresymwr cadarn, ac yn areithiwr hyawdl. Mynai ddeall os byddai yn bosibl bob peth yr ymaflai ynddo; nid oedd yn foddlon i gymeryd dim, hyd y gallai, yn ganiataol heb ei chwilio. Aeth i athrofa Cheshunt, ac yr oedd yn cynyddu yn gyflym mewn dysgeidiaeth. Yr oedd yn Ymneillduwr selog. Yr oedd yn rhaid i'r myfyrwyr yno ddarllen rhyw gymaint o wasanaeth eglwys Loegr, pan yn cadw oedfaon, ond safodd ef allan yn erbyn gwneyd, er ei fod mewn perygl o gael ei droi o'r ysgol, er hyny safodd ei dir yn ddiysgog, a llwyddodd, a chafodd ei gyd-ysgolheigion yr un rhyddid os ewyllysient. Yr oedd anffyddiwr unwaith yn dirmygu Cristionogaeth, ac yn herio rhyw un i ddyfod yn mlaen i'w wrthwynebu. Yr oedd Robert Roberts yno, ac eraill o'i gydfyfyrwyr, a gofynodd i'r naill a'r llall o honynt pwy a âi yn erbyn y cawr, ond gomeddai pawb o honynt fyned, "Wel ynte," meddai, "myfi a af i fyny." Yr oedd golwg lled hurtaidd arno, a phan yn cychwyn i fyny amcanwyd ei rwystro. "Na," meddai yr anfyddiwr, "gadewch iddo ddyfod i fyny, mae yr olwg arno yn argoeli na wna efe ddim llawer o niwed," ac felly cafodd fyned yn mlaen, a dechreuodd siarad yn rymus, ac ni bu yr anffyddiwr yn faith heb weled ei gamsyniad, a da fu ganddo gael diangc allan, gan adael y maes i'r Cymro. Cafodd anrheg o het newydd gan ryw foneddwr oedd yn y lle, am ei wrolder. Gan fod ganddo enaid mawr, a chorph gwan, methodd a dal, ac ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a daeth adref i farw cyn i'w dymor bwriadol yn yr athrofa ddyfod i fyny. Bu farw yn nhŷ ei riaint, a chladdwyd ef yn mynwent Trawsfynydd. Mae a ganlyn ar ei fedd:—

"Er coffadwriaeth am Robert Roberts (Robin Meirion), yr hwn a anwyd yn Nhrawsfynydd, Mawrth y 1af, 1807, ac a fu farw Gorphenaf 31ain, 1832. Yr oedd yn meddu deall cryf, dychymyg bywiog, a duwioldeb diffuant, hynododd ei hun fel ysgolhaig, traethodydd, a bardd, ond yn benaf fel pregethwr efengyl Crist. Yn nghanol tymor ei efrydiaeth yn athrofa Cheshunt, ei nerth a ostyngwyd, ei ddyddiau a fyrhawyd, a dychwelodd i'w gartref cynhenid lle y bu farw. Iddo ef yr oedd ei farwolaeth yn elw, ond i filoedd o'i gydwladwyr yn siomedigaeth. Yn ei'ysgrifau, er ei fod wedi marw, y mae efe yn llefaru etto.

Robin Meirion dirionwedd—yma roed,
Mor wael yw ei anedd!
Yn foreu iawn o'i fawredd,
Ow! i'w fath wywo i fedd.

Ei glod ef fel goleu dydd—dywyna,
Hyd wyneb ein broydd;
Ie'n fawr ei enw fydd,
Tra saif enw Trawsfynydd."

—IEUAN IONAWR.


COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM JONES. Ganwyd ef yn Lledrod, sir Aberteifi, Medi 15fed, 1760. Yr oedd Theophilus Jones, pregethwr hynod gyda'r Methodistiaid, yn frawd iddo. Derbyniodd addysg yn Ystradmeurig, a bu unwaith yn meddwl am fyned i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, ond trwy gyfarfod a Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair, newidiwyd ei holl gynlluniau. Os nad ydym yn camsyniad, yn Llanbrynmair, tua'r flwyddyn 1786, y daeth i gysylltiad a'r Annibynwyr, trwy lythyr oedd ganddo oddiwrth Methodistiaid yn ei gymeradwyo. Bu yn Beaumaris am ddwy flynedd, a thra yno y priododd, ac yn 1792, daeth i Penystryd, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn syml, dirodres, diniwaid, a gonest iawn, braidd yn rhy ddiniwaid i fyw yn mysg dynion drwg a thwyllodrus, a chymerodd rhai fantais ar ei ddiniweidrwydd i'w dwyllo a'i ddrygu yn ei amgylchiadau tymorol. Bu iddo naw o blant, tri o feibion a chwech o ferched. Claddwyd saith o'r plant yn mynwent plwyf Trawsfynydd, gyda eu rhieni, aeth un mab iddynt yn forwr, ac ni chlybuwyd dim am dano er's llawer blwyddyn, priododd un o'r merched, a bu farw heb adael plant, ac felly nid oes o deulu Mr. Jones, heddyw yr un yn fyw.

Dywedodd Mr. Edmund Jones, Yr Hen Brophwyd o Bontypool, fel ei gelwid, wrth Mr. Jones, pan ydoedd yn ddyn ieuangc, cyn iddo ddyfod i'r Gogledd, y byddai llwyddiant ar ei weinidogaeth yn enwedig tua diwedd ei oes, ac felly a fu, torodd allan ddiwygiad lled rymus yn Mhenystryd ychydig amser cyn iddo farw, ac felly aeth adref, a gwynt teg loned ei hwyliau. Cafodd daith lled helbulus trwy'r byd o ran ei amgylchiadau tymorol, rhwng fod ganddo deulu lluosog, eglwysi gweiniaid, a gwaeth na'r cwbl, lled esgeulus a diymdrech. Yr oedd o dan anfantais fawr o ddiffyg llyfrau, y rhai oedd yn ei ddyddiau ef yn ddau cymaint o bris ragor ydynt yn y dyddiau hyn, a chan nad ydoedd yn cael ond ychydig oddiwrth y weinidogaeth, nis gallodd gyrhaedd ond nifer fechan o honynt. Ond er nad oedd gan Mr. Jones ond ychydig o lyfrau, yr oedd yn bregethwr da, sylweddol, ac efengylaidd. Ni astudiodd ond ychydig o drefn ar ei bregethau, mwy na llawer o'i gydoeswyr. Yr oeddynt hwy yn ymddiried cryn lawer ar eu cof, ac yn ymddibynu yn neillduol ar yr hwyl a gaffent wrth bregethu. Ond er mai lled anrhefnus a fyddai ei bregethau, ceid ambell afal aur a pherlyn dysglaer ganddo weithiau. Teithiodd lawer i gyfarfodydd, yn gwbl ar ei gost ei hunan, fel yr oedd pawb o'i frodyr yn gorfod gwneyd yn y dyddiau hyny, etto medrodd dalu i bawb yr eiddo, a myned i'w fedd yn ddiddyled. Yr oedd Mr. Jones, fel y sylwyd yn barod, yn cael ei ystyried yn ddyn plaen, gonest, a diniwaid iawn, yn fwy felly na'r cyffredin, etto, byddai ganddo ambell i ddywediad hynod synwyrol a chyrhaeddgar. Yr oedd unwaith yn cadw oedfa mewn tŷ annedd yn agos i Langwm, lle yr oedd ychydig o gyfeillion crefyddol yn arfer ymgynull, ac ar ddiwedd yr oedfa, cyhoeddwyd fod yno gyfeillach neillduol i gael ei chynal yn mhellach. Safodd yn ol yno ddau o'r dynion dihiraf yn y gymydogaeth, gan ddisgwyl cael rhywbeth mae yn debygol i wawdio crefydd ar ol hyny. Gofynodd rhai o'r bobl yn ddistaw i Mr. Jones, ai nid gwell fuasai iddynt ddyweyd wrth y bobl hyn am fyned allan? "Na," meddai yntau, gadewch iddynt;" yna cyfododd yn araf ar ei draed, a dywedodd, Wel, beth a fyddai oreu i ni gymeryd dan sylw yma heno? Oni fyddai yn well i ni ofyn tipyn i bawb, pa faint y maent yn gofio o'r bregeth? Pa le tybed y byddai oreu i ni ddechreu? Goeliaf fi y byddai yn well i ni ddechreu tipyn tua'r drws yma." Gyda hyny, dyma y ddau ddyn allan ar draws eu gilydd, gan adael eu hetiau ar ol, heb gael un testyn i wawdio, ond wedi gwneyd gwawd o honynt eu hunain. Yr oedd Mr. Jones unwaith yn y Deheudir, yn nhŷ hen weinidog, yr hwn oedd. wedi rhoddi y weinidogaeth heibio o herwydd henaint, ac yr oedd yr hen ŵr yn dangos cryn lawer o anfoddlonrwydd tuag at ei olynydd ieuangc, ond o'r diwedd dywedai Mr. Jones, "Hawyr bach, Mr. E., yr ydwyf yn ofni yn sound eich bod chwi yn byw yn ormod o dan lywodraeth y twca." Mewn cyfarfod yn Llanuwchllyn, gofynai y Dr. Lewis i'r gweinidogion oedd yn bresenol, beth oedd i'w wneyd i'r bobl ieuangc oedd yn cadw cwmpeini a phobl o'r byd, fel y dywedid, ac yr oedd pawb yno yn golygu y dylesid eu dysgyblu, yn mhlith eraill, gofynai i Mr. Jones, beth oedd ef yn ei feddwl? Dywedai yntau, "eu gyru nhw allan yn sownd dybiaf fi, i edrych a oerant hwy beth." Yr oedd Mr. Jones unwaith yn myned a buwch i'r ffair i'w gwerthu, a chyfarfu ar y ffordd ag un o'i gymydogion, a gofynodd iddo, pa faint a dalai y fuwch? Atebodd hwnw ei bod yn werth naw punt, ond y gallai ef ofyn deg punt am dani. "Na," meddai yntau, "nid ydyw pethau fel hyny yn cydfyned a'm galwadigaeth i." Bu Mr. Jones yn ffyddlon iawn i godi achos yn Maentwrog, teithiodd yno trwy bob tywydd, am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Tarawyd ef gan y parlys, yn mis Mehefin, pan yn pregethu yn Nhowyn, Meirionydd, a bu farw yr 31ain o'r Hydref canlynol, yn y flwyddyn 1820, yn 60 mlwydd o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf Trawsfynydd, wedi bod yn gweinidogaethu yn Mhenystryd am yn agos i ddeg-ar-hugain o flynyddau. Mae ef a'i wraig a'u plant i gyd, onid dau, yn gorwedd yno gyda'u gilydd.


JERUSALEM.

Mae y capel hwn yn mhlwyf Trawsfynydd, ar ochr y ffordd sydd yn arwain o'r Llan i Ddolgellau. Byddid yn arfer pregethu ar nos Sabbothau yn y Tyddynmawr, er's amryw o flynyddau, ac yr oedd ychydig o aelodau Penystryd yn byw yn y gymydogaeth hon. Yn y flwyddyn 1826, cafwyd prydles am 40 mlynedd, gan Syr W. Williams Wynne, ar ran o dir y Tyddynmawr, i adeiladu y capel a elwir Jerusalem, am yr ardreth o bum' swllt y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr ydoedd Meistri Edward Davies, Trawsfynydd; Cadwaladr Jones, Dolgellau; Hugh Lloyd Towyn; a Thomas Davies, Dolgellau. Daeth y brydles gyntaf i fyny yn y flwyddyn 1866, ac adnewyddwyd y weithred gan Syr W. W. Wynne presenol, am 40 mlynedd ychwaneg. Gweithiodd un gwr lawer arno nes ei orphen heb geisio dim gan neb am ei lafur. Teithiodd lawer i gasglu at dalu am dano, a thalwyd pob dimai a gasglwyd ato yn mhob man, heb gadw dim at na thraul na thrafferth. Rhoddodd un teulu yn y gymydogaeth 12p. yn arian tuag at dalu am y capel, ac ni bu arnynt ddim o'u heisiau hyd yma. Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Penystryd, a than ofal yr un gweinidogion, ac y mae yn awr yn amddifad o fugail. Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Griffith Price, Corsygarnedd, yr hwn sydd yn bregethwr cymeradwy yn Llanfachreth.


TRAWSFYNYDD.

Yn y flwyddyn 1839 y dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn mhentref Trawsfynydd; ac yn y flwyddyn ganlynol, prynwyd darn o dir gan Mr. Ellis Jones, Ddolwen, i adeiladu capel arno. Cyflwynwyd y tir drosodd i Meistri Griffith Roberts, Tyddynbach; Edmund Evans, Dolymynach; John Jones, Dolwen; David Lloyd, y Cigydd; a John Morris, Bryncelynog, fel ymddiriedolwyr. Galwyd y capel yn Ebenezer. Mae wedi bod mewn cysylltiad a Penystryd o'r dechreuad, hyd 1869, pan y rhoddodd Mr. W. G. Williams i fyny ofal yr eglwys yno, ond parhaodd yn weinidog yma hyd y flwyddyn hon, pan y symudodd i Seion, Rhymney, Mynwy; ac y mae yr holl eglwysi Annibynol yn mhlwyf Trawsfynydd yn awr yn amddifaid o weinidog.


MAENTWROG.

Mae hon yn un o ardaloedd prydferthaf Gogledd Cymru, a'r holl olygfeydd o gylch yn swynol i'r llygaid. Cydgyferfydd yr aruchel a'r prydferth, nes gwneyd y lle yn degwch bro. Ond a hynafiaethau Ymneillduaeth yma y mae a wnelom ni; oblegid y dylanwad y mae crefydd wedi ei adael ar wlad yw ei haddurn prydferthaf. Yr oedd boneddiges o'r enw Mrs. Lloyd, yn byw yn y Cefnfaes, Maentwrog, yr hon pan yn ieuangc a fuasai yn byw yn Llundain, ac a arferai yno wrando yr efengyl gyda'r Annibynwyr. Ni dderbyniwyd hi yn aelod tra yn Llundain, nac am flynyddau ar ol dyfod oddiyno; ond hoffai egwyddorion a threfn eglwysig yr Annibynwyr yn well nag un enwad arall. Yn mhen cryn amser, wedi iddi briodi Mr. Lloyd, o'r Cefnfaes, derbyniwyd hi yn gyflawn aelod yn Mhenystryd, yn y flwyddyn 1793. Arferai fyned i Benystryd, o leiaf unwaith yn y mis, trwy bob tywydd am flynyddoedd, a byddai ei mab ieuengaf, John Lloyd, Yswain, o'r Cefnfaes, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, "Llwyd y Twrne," pan yn llanc ieuangc, yn arfer a myned yno gyda ei fam. Annibynwr o farn ydoedd Mr. Lloyd, ond treuliodd ei oes yn hollol annghrefyddol. Mrs. Lloyd a anogodd Mr. W. Jones, Penystryd, i roddi ambell bregeth yn Penyglanau, amaethdy ar yr etifeddiaeth, yn agos i'r Cefnfaes, o fewn tua milldir a haner i bentref Maentwrog. Bu Mr. Jones ac eraill yn myned yno i bregethu am flynyddoedd, pan nad oedd un aelod gyda'r Annibynwyr yn yr ardal ond Mrs. Lloyd. Pan oedd Mr. Jones ar un boreu Sabboth yn pregethu yn Mhenyglanau, cyhoeddodd ar ddiwedd yr oedfa y cynhelid cyfeillach neillduol am ddau o'r gloch prydnawn yn y Llwyn, ffarmdy cyfagos. Daeth amrai i'r gyfeillach hono, heblaw Mrs. Lloyd, sef David Richard, a Catherine ei wraig, William Williams, (Gwilym Twrog), ac Anne ei wraig, a John Lloyd, a Grace ei wraig. Daliodd pedwar o'r chwech hyn gyda'r Annibynwyr yn ffyddlon ar hyd eu hoes, ond ymadawodd Gwilym Twrog, a'i wraig, ac ymunasant a'r Bedyddwyr, yn Ramoth. Parhaodd Mr. Jones, ac eraill, i bregethu yn lled gyson yn Mhenyglanau; ac yn mhen tua blwyddyn ar ol y gyfeillach neillduol uchod, sef yn y flwyddyn 1798, daeth William Williams, Cwmhwyson, (Williams, o'r Wern, wedi hyn), a Richard Roberts, Penystryd, i Goedytwyn, tyddyn bychan arall ar etifeddiaeth Cefnfaes, i gadw ail gyfeillach, a chwanegwyd Margaret Lloyd, Pantyclegar, at y saith eraill, i'w gwneyd yr un rhif a theulu yr Arch. Daeth un arall i'r gyfeillach hono, a gofynodd William Williams iddi pa beth oedd ar ei meddwl hi. Cyffrodd, a dywedodd, "Aros di, y corgi bach; be' waeth i ti beth sydd ar fy meddwl i. A wyddost ti beth sy' ar dŷ feddwl di dŷ hun? Yr wyt ti yn rhy ifanc i holi hen wraig fel y fi," ac ymadawodd yn dramgwyddedig iawn. Derbyniwyd yr wyth a enwyd yn Mhenystryd yn aelodau, ac âent yno yn gyson o leiaf unwaith yn y mis, am tua deng mlynedd. Yn nechreu gwanwyn y flwyddyn 1809, sefydlodd Mr. W. Jones, eglwys yn Penyglanau, pan y derbyniwyd John ac Elizabeth Humphreys, (Nantymarch wedi hyny); Robert a Margaret Roberts, Gof; Thomas a Gwen Humphreys; Mrs. Davies, Maentwrog Inn; a Margaret Owen, Tanybwlch, at yr wyth eraill. Yr oedd Owen Evans, Tanydduallt i'w dderbyn yr un amser, ond oedwyd hyny am fis, oherwydd iddo fyned a baban i'w fedyddio i'r eglwys wladol. Y fath fanylwch oedd yn yr hen bobl.

Gwnaeth Owen Evans, ac eraill o aelodau yr eglwys yn Penyglanau, grefyddwyr ffyddlon a dysglaer; ac y mae eu henwau yn perarogli hyd y dydd hwn. Yn nechreu Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod pregethu yn Penyglanau, gan y Dr. Lewis, o Lanuwchllyn; Meistri W. Hughes, o'r Dinas; R. Williams, o Resycae; J. Griffiths, Caernarfon; ac A. Shadrach, o Talybont. Yr oeddynt wedi dechreu pregethu a chadw ysgol yn y Tyuchaf, (Penlan,) Maentwrog, gyda Phenyglanau, tua dwy flynedd cyn hyn. Yn niwedd y flwyddyn 1809, a dechreu y flwyddyn 1810, adeiladwyd capel Glanywern, ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog, yn y cyfwng rhwng Penyglanau a Phenlan, er gwneyd y ddwy ysgol a'r ddwy gynnulleidfa yn un. Costiodd lle y capel, er ei fod yn y lle mwyaf anghyfleus a chostus i adeiladu a allesid gael yn y gymydogaeth, y swm o 46p. cyn rhoddi caib na rhaw ynddo; ond buasai cymaint a hyny o sylltau yn llawn cymaint ag a dalasai y lle. Yn mhen ychydig wedi adeiladu y capel, ceisiodd Mrs. Lloyd gael eisteddle ynddo, yn perthyn i'r Cefnfaes, ond gwrthwynebwyd hyny, am y gallasai fod yn niwed i'r achos mewn amser dyfodol. Tramgwyddodd yr hen foneddiges, ac enciliodd at y Methodistiaid Calfinaidd, a chafodd dderbyniad rhwydd. Nid oedd capel Glanywern ond un gwael a chyffredin iawn, etto, dygwyd llawer o eneidiau ynddo i adnabyddiaeth o honynt eu hunain fel pechaduriaid, ac o Dduw yn Nghrist yn derbyn pechaduriaid. Bu Mr. W. Jones yn ymdrechgar iawn i gasglu i dalu am dano, a llwyddodd i wneyd hyny, ond ugain punt, y rhai oedd yn ddyledus i Mr. W. Evans, o Lenyrch, yr hwn a addawodd eu cymeryd bob yn bunt, os byddai hyny yn angenrheidiol. Llafuriodd Mr. Jones yn ffyddlon iawn yn ardal Maentwrog am bum—mlynedd-ar-hugain, a bu yn byw am y pedair blynedd olaf o'i fywyd yn y gymydogaeth hon, mewn tyddyn a elwir Tyddyndewyn. Yn nechreu yr haf, yn y flwyddyn 1820, tarawyd ef gan y parlys, yn yr areithfa, yn Towyn, Meirionydd, a bu farw yn dangnefeddus, yn Tyddyndewyn, ar y 31ain o'r Hydref canlynol, yn ei 60fed flwyddyn o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent Trawsfynydd, gyda llawer o'i gyfeillion a'i deulu lluosog. Yn mis Mai, 1822, rhoddodd yr eglwys yma, yn nglyn a Phenystryd, alwad unfrydol i Mr. Edward Davies, o Rosylan, swydd Gaernarfon, i gymeryd eu gofal gweinidogaethol, a chydsyniodd yntau a'u cais, a pharhaodd i ddyfod i Maentwrog dair gwaith bob mis am yn agos bedair-ar-bymtheg o flynyddoedd, a hyny fynychaf ar ei draed, rhag pwyso ar y cyfeillion i gadw ei anifail, er fod ganddo tua saith milldir i'w teithio ar y Sabboth, ac weithiau fwy, pan yn myned a dychwelyd yr un diwrnod; a byddai yn pregethu dair gwaith bob Sabboth, heblaw gweinyddu yr ordinhadau yn fynych. Yn yspaid ei weinidogaeth, talwyd yr ugain punt gweddill o ddyled y capel. Parhau yn lled ddigynydd a wnaeth yr eglwys am gryn amser, ond parhaodd bron yr un rhifedi o hyd. Yr oedd undeb a brawdgarwch yn yr eglwys; ac ni bu nemawr i eglwys a gweinidog yn fwy yn mynwesau eu gilydd.

Yn y flwyddyn 1839, a'r blynyddoedd dilynol, torodd gwawr ar yr achos yn Maentwrog, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys o rai rhoddi lle cryf i obeithio fyddant gadwedig. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn ieuengctyd. Yn y cyfnod newydd yma, daeth yr eglwys yn weithgar a llafurus, a dewiswyd dau ddyn ieuangc bywiog yn ddiaconiaid, fel y gwisgodd yr achos wedd newydd. Yr oedd yr hen gapel erbyn hyn wedi dadfeilio, ac yn anghysurus fel lle i addoli, heblaw ei fod mewn lle hollol anghyfleus. Yn y flwyddyn 1840, trwy gefnogaeth ac ymdrech Mr. a Mrs. Lloyd, Tanybwlch Hotel, cafwyd lle i wneyd capel newydd yn ymyl y pentref, a galwyd ef Gilgal. Mae yn gapel hardd a chyfleus, wedi ei orphen yn y modd goreu, wedi costio 424p. 0 3c., a gwell na'r cwbl wedi talu am dano. Y mae yr eglwys a'r gymydogaeth yn cydnabod hyd heddyw ffyddlondeb a haelioni Mr. a Mrs. Lloyd a'r teulu gyda'r adeilad yma, yn gystal a'u caredigrwydd gwastadol at grefydd. Gwraig na chyfarfyddir ond anfynych a'i chyffelyb oedd Mrs. Lloyd, ac y mae ei choffa yn barchus gan bawb a fu yn eu gwasanaeth, neu yn llettya yn ei thŷ. Pan ddechreuwyd adeiladu Gilgal, a'r eglwys yn cynyddu mewn rhif a gweithgarwch, gwelwyd fod angen arni am fwy o freintiau nag oedd yn alluadwy iddi gael trwy weinidogaeth Mr. Davies; rhoddodd ef gan hyny ei weinidogaeth i fyny, ac anogodd hwy i ymofyn am weinidog iddynt eu hunain, a chyfeiriodd hwy at Mr. Samuel Jones, yr hwn oedd y pryd hwnw yn yr ysgol yn Marton. Derbyniodd Mr. Jones yr alwad, ac ar y 27ain o Rhagfyr, 1840, y dechreuodd ei weinidogaeth yn yr hen gapel, yn gysylltiedig a Saron, Ffestiniog; ond gohiriwyd ei urddiad hyd agoriad y capel newydd, yn Mai, 1841. Yn yr urddiad, pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau, ar natur eglwys; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Morgan, Sammah; gweddiodd Mr. R. P. Griffiths, Pwllheli; pregeth—odd Mr. M. Jones, Llanuwchllyn, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr. E. Davies, Trawsfynydd, ar ddyledswydd yr eglwys. Llafuriodd Mr. Jones yn ymdrechgar yn ei dymor byr, fel pe buasai yn gwybod nad oedd iddo ond ychydig amser yn y winllan. Oddiar ei ofal am Saron, Ffestiniog, aeth i sir Amwythig i gasglu ato, pan y tarawyd ef gan glefyd yr ymenydd, ond cyrhaeddodd adref trwy boen fawr, a bu farw yn dangnefeddus ar ol cystudd byr, ond trwm iawn, Tachwedd 1af, 1843. Bu yr eglwys am tua dwy flynedd heb weinidog ar ol marw Mr. Jones, ond yn y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Evan Evans o'r Abermaw, a chydsyniodd yntau. Ymsefydlodd Mr. Evans yma yn nechreu Tachwedd y flwyddyn hono. Llafuriodd gyda ffyddlondeb, diwydrwydd, a chymeradwyaeth neillduol am tuag wyth mlynedd a haner. Yn Mai, 1853, ymadawodd i gymeryd gofal yr eglwys gynnulleidfaol yn Llangollen a'i changhenau. Yn mis Tachwedd ar ol hyny, rhoddodd yr eglwys alwad unol i Mr. Owen Evans, Berea, Mon. Dechreuodd yntau ar ei lafur gweinidogaethol yn nechreu Ionawr, 1854. Gwnaeth waith efengylwr gyda diwydrwydd mawr a derbyniad cymeradwy. Ymadawodd yntau yn Mawrth, 1857, i ofalu am yr eglwys Annibynol Gymreig a ymgyferfydd yn Fetter Lane, Llundain. Ar ol hyn rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Jones, Cemaes, Mon, a dechreuodd ar ei waith yma Hydref 4ydd, 1857. Cyfarfu y gweinidogion canlynol y diwrnod uchod yn Maentwrog i gydnabod yr undeb, sef Meistri W. Ambrose, Porthmadog; S. Jones, Penmorfa; W. Roberts, Pentrefoelas; R. E. Williams, Llanddeusant; D. Griffith, ieuengaf, Bethel; W. Edwards, Aberdare, ac E. Davies, Trawsfynydd. Ar ol adeiladu Gilgal, gwerthwyd yr hen gapel Glanywern.

Yn 1859, cafwyd tir yn ymyl capel Utica i wneyd mynwent, a chostiodd y lle 12p., a sychu y lle, a chau o'i gwmpas 18p., y cwbl yn 30p. lafuriodd Mr. Jones yn ddiwyd iawn yn Maentwrog ac Utica, gyda chymeradwyaeth byd ac eglwys am tuag wyth mlynedd, nes yr ymadawodd i gymeryd gofal eglwysi Carmel a Gwryd, Llangiwe, Morganwg, yn Mai, 1865. Bu yr eglwysi yn Maentwrog ac Utica yn agos i flwyddyn heb weinidog, yna rhoddasant alwad unfrydol i Mr. John Williams, Llanelwy, a chydsyniodd yntau a'u cais, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Mawrth, 1866. Bu yma yn ffyddlon ac ymdrechgar iawn am bedair blynedd. Yn Mai, 1870, ymadawodd am America, a chyrhaeddodd ef a'i wraig a phlentyn bychan tua dwy flwydd oed i New York yn llwyddianus, heb i ddim anghysurus eu cyfarfod hyd yno. Bu Mr. Williams a'i deulu yn aros am ryw gymaint o amser yn nhŷ ei frawd, yr hwn sydd yn y weinidogaeth yn America er's cryn amser. Yr oedd Mr. Williams wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Pomeroy. Yr oeddynt yn myned mewn bâd pwrpasol ar hyd yr afon Ohio, a phan oeddynt wedi cyrhaedd pen eu taith, ac yn barod i fyned i'r lan, syrthiodd Mrs. Williams ryw fodd dros ymyl y bâd i ddwfr tros wyth llath o ddwfn, a chan ei bod yn nos dywyll, methwyd a'i hachub, ac oni buasai i ryw un gael gafael yn Mr. Williams cyn iddo allu rhuthro ar ei hol, wedi colli ei hunanfeddiant, mae yn debygol y buasai ef a'i blentyn bychan—yr hwn oedd yn cysgu yn ei freichiau—wedi boddi gyda hi. Cafwyd gafael yn Mrs. Williams yn mhen tuag awr wedi iddi syrthio, ond yr oedd yr enaid wedi cyrhaedd i'w gartref dedwydd! Er ymadawiad Mr. Williams, y mae yr eglwys heb weinidog.

Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef,

Robert Edward Williams. Bu dan addysg yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Llanddeusant, Mon. Bu Edward Williams, tad y dywededig R. E. Williams, yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys hon dros lawer o flynyddoedd. Daeth yma o Bwllheli yn y flwyddyn 1834, ac yr oedd wedi dechreu pregethu yno er's blynyddau. Yr oedd yn frawd i Mr. Robert Williams, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Rhesycae, ond a dorwyd i lawr gan angau yn mlodeu ei ddyddiau. Yr oedd Edward Williams yn gyfaill cywir, yn gristion didwyll, ac yn bregethwr cymeradwy. Llafuriodd yn galed fel pregethwr yn Maentwrog a'r amgylchoedd heb dderbyn ond ychydig o gydnabyddiaeth am ei wasanaeth. Os oes ryw sail i'r haeriad fod pregethwyr cynorthwyol yn disodli eu gweinidogion, yr oedd Edward Williams, pa fodd bynag, yn mhell o fod felly. Yn Mhwllheli ac yn Maentwrog profodd ei fod yn gyfaill trwyadl i'w weinidog, a chafodd gyfle yn enwedig yn y lle blaenaf, mewn adeg o anghydfod, i ddangos o ba ysbryd yr ydoedd. Bu farw yn dangnefeddus Awst 29ain, 1845, yn 51 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Mhorthmadog.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

Crybwyllasom am Mr. W. Jones, y gweinidog cyntaf a fu yn yr eglwys hon, yn nglyn a hanes Penystryd, ac y mae yr holl weinidogion eraill a fu yn gweini iddi, ond un, wedi cael "help gan Dduw, yn aros hyd yr awr hon," a'r un hwnw yn unig sydd genym i wneyd byr goffäd am dano.

SAMUEL JONES. Ganwyd ef yn Dolyddelen, Gorphenaf 10fed, 1817. Yr oedd ei rieni John a Margaret Pritchard, yn bobl barchus a chrefyddol, ac y mae ei dad yn aros hyd yr awr hon, er mewn gwth o oedran, ac yn hen bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Llanberis. Dangosodd Samuel ogwyddiad yn ieuangc at fod yn bregethwr, a rhagfynegai pawb mai dyna a fyddai. Pan oedd o gylch tair-ar-ddeg oed, symudodd ei rieni o Dolyddelen i Lanberis, a dygodd hyny ef i gyffyrddiad a phrofedigaethau oeddynt hyd yma yn ddyeithr iddo. Yr oedd wedi arfer myned i'r gyfeillach gyda'i rieni er yn blentyn, ond ar ol myned i'r chwarel i weithio, ac ymgymysgu a bechgyn gwyllt o'i oed, gwelwyd ei fwynder yn ymadaw; ac er gofid dwys i'w dad a'i fam, gadawodd gyfeillach y saint, fel y caffai fwy o ryddid i "rodio yn ol helynt y byd hwn." Ond daliwyd ef yn fuan, gan yr Hwn a'i neillduasai o'r groth i fod yn llestr etholedig i'w wasanaeth—dychwelodd i'r gorlan o'r hon y crwydrasai—ac ar y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1833, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys yn Jerusalem, Llanberis, gan ei frawd Mr. Richard Jones, yn awr o Lanidloes, yr hwn oedd yn digwydd bod yno y Sabboth hwnw. Wedi ymuno a'r eglwys, ymroddodd Samuel Jones i weithio a'i holl egni. Yr oedd yni a bywiogrwydd lonaid ei natur, fel nas gallasai fod yn segur a diffrwyth. Nid oedd dim pall ar ei lafur gyda'r Ysgol Sabbothol, nid yn unig yn y gangen i'r hon y perthynai, ond hefyd yn y cyfarfodydd chwech-wythnosol a gynhelid y pryd hwnw yn nosbarth Caernarfon. Dechreuodd yn fuan ag arfer ei ddawn yn gyhoeddus i areithio yn y cyfarfodydd hyny, ac yn nghyfarfodydd y gymdeithas gymedroldeb, a'r gymdeithas Ddirwestol, yn ei ardal. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn ei gymydogaeth i arwyddo yr ardystiad dirwestol, a pharhaodd yn Ddirwestwr ffyddlon a phybyr hyd ei ddiwedd. Wrth weled ei ddoniau yn ymddadblygu, anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac yn mis Mawrth, 1836, y traddododd ei bregeth gyntaf yn gyhoeddus. Nid oedd wedi cael ond ychydig fanteision addysg, ac yr oedd yn dyheu am fwy o wybodaeth i'w gymhwyso i'w waith. Penderfynodd gynilo cymaint o arian ag a allai i'w gynorthwyo i gael addysg er ymbarotoi i fyned i ryw athrofa. Gadawodd Lanberis, Nadolig, 1837, a'i becyn ar ei ysgwydd, i fyned i Marton, sir Amwythig, i'r ysgol, a dechreuodd ei efrydiau yno cyn diwedd mis Ionawr, ar ol hyny. Enillodd serch a pharch ei athraw a'i gydefrydwyr, a gwnaeth gynydd cyflym yn ngwahanol ganghenau gwybodaeth. Gwnaeth gais am dderbyniad i athrofa Aberhonddu yn 1840, ond bu yn aflwyddianus, nid am nad oedd i fyny a'r safon, ond oblegid rhyw amgylchiadau nad oedd a fynai efe a hwynt. Ond dichon mai felly yr oedd oreu, am fod ei Feistr Mawr yn gweled nad oedd ganddo ond tymor byr i weithio drosto. Bu am rai misoedd yn Sirhowy yn gwasanaethu yn lle ei frawd, a bu ei weinidogaeth yno yn nodedig o lwyddianus. Yr oedd ar y pryd hwnw yn llawn o dân diwygiad, fel y llosgai yn angerddol pa le bynag yr elai, ac yr oedd llaw yr Arglwydd gydag ef. Derbyniodd alwadau o amryw fanau i ymsefydlu yn weinidog, ac yr ydym yn cofio yn dda y petrusder mawr a deiulai yn ei feddwl, pa un ai i Bethel a'r eglwysi cysylltiedig, gerllaw y Bala, ai i Maentwrog yr âi, ond trodd y glorian, o herwydd ryw resymau, o du y lle olaf, a dechreuodd ei weinidogaeth yno, mewn cysylltiad a Llan, Ffestiniog, yn niwedd y flwyddyn 1840. Urddwyd ef yr un pryd ag agoriad capel newydd Maentwrog, Mai 26ain, 1841, ac anaml y gwelwyd gweinidog ieuangc yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau mwy ffafriol. Ymroddodd a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth, ac ymosododd gyda phenderfyniad yn erbyn meddwdod a holl annuwioldeb yr ardal, a gwelodd ffrwyth buan ar ei lafur, ond ni ddiangodd rhag difenwad y rhai a genfigenant oblegid ei lwyddiant, ond bu ei Dduw amddiffyn iddo, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai," y gallasai ei gaseion gael gafael arno. Yr oedd yr achos yn Llan, Ffestiniog yn isel, a baich y ddyled yn ei lethu, a phenderfynodd Mr. Jones wneyd ymdrech i'w ryddhau oddiwrth y baich, ond costiodd hyny ei fywyd iddo. Yn Hydref, 1843, cymerodd daith trwy ranau o siroedd Amwythig a Threfaldwyn i gasglu ato. Pan ar ei daith teimlai boen dyeithr yn ei ben, a chwanegai fel yr elai yn mlaen. Aeth i dreulio Sabboth at ei gyfaill Mr. H. James, yn Llansantffraid, a phregethodd yno y boreu a'r hwyr, a dyna y tro diweddaf y pregethodd. Dydd Llun aeth i Benybontfawr, a thranoeth teithiodd adref yr holl ffordd i Faentwrog, ac ymddangosai fel yn ymwybodol ei fod yn dyfod adref i farw. Yr oedd yn awyddus am gael pregethu i'w gyfeillion y Sabboth ar ol hyny, ond nis gallai; yr oedd clefyd yr ymenydd (brain fever) wedi ei gymeryd, ac aeth i'w wely, ac ni chododd mwy o hono. Bu farw dydd Mercher, Rhagfyr 2il, 1843, yn 26 oed. Claddwyd ef yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Mhorthmadog, y dydd Sadwrn canlynol, a dilynwyd ef i'w orweddle oer gan dorf fawr o bobl alarus, ac yn eu plith luaws o'i frodyr yn y weinidogaeth, y rhai a deimlent y parch dyfnaf iddo. Cyhoeddwyd cofiant rhagorol i Mr. Jones, gan ei gyfaill hoff, Mr. Ambrose, Porthmadog, o'r hwn y cymerasom brif ffeithiau y cofnodion uchod, ac ychwanegwn y difyniadau canlynol ar ei nodwedd. "Yr oedd ei gorph yn dal ac yn lluniaidd, ei wallt yn oleu, ei ruddiau yn wridog, ei lygaid yn siriol, ac eisteddai gwen serchus ac esmwyth ar ei enau. Yr oedd yn gyfaill trwyadl a ffyddlon. Nid yn aml y bu gan un mor ieuangc gynifer o gyfeillion mynwesol. Gwariai bunoedd bob blwyddyn am gludiad llythyrau i gadw cariad.' Gellir dywedyd am dano, fel y dywedwyd am Spencer, o Liverpool, ei fod yn cario ei galon mewn llestr grisial, fel yr oedd yn hawdd i bawb ei gweled.' Yr oedd yn byw yn nghymdeithas Duw, yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf.' Yr oedd yn argyhoeddedig o werth crefydd bersonol i lenwi y swydd sanctaidd. Yr oedd ei ymarweddiad difrycheulyda'iymddiddanion crefyddol, yn fwy defnyddiol na'i wasanaeth yn yr areithfa. Fel pregethwr, yr oedd yn dringo yn gyflym i enwogrwydd. Nid oedd dim hynod ynddo yn nechreu ei weinidogaeth. Cyfodai yn uwch uwch bob dydd mewn enwog—rwydd, a rhyfeddai pawb wrth ganfod ei gynydd fel pregethwr. Pan gyfodai i gyfarch cynnulleidfa, ymddangosai yn wylaidd ac esmwyth, a chyhyrau ei wyneb fel pe buasent yn chwareu rhwng hyfrydwch a phoen, rhoddai benill byr i'w ganu, a darllenai ei destyn yn bwyllog. Byddai ei sylw cyntaf bob amser yn darawiadol, a rhedai fel mellten trwy y dorf, yna ymddangosai fel pe buasai yn ymwybodol ei fod wedi dyfod o hyd i wythien y teimlad. Dilynai ychydig sylwadau priodol fel arweiniad at athrawiaeth ei destyn. Byddai ei raniadau bob amser yn naturiol, o ganlyniad yn eglur ac esmwyth. Yna, mewn iaith ddestlus, canlynai drychfeddyliau mor gyflym a chenadon Job. Wedi hyny, troai ei holl rym i ymaflyd yn nghydwybodau ei wrandawyr, daliai hwy yn ngwyneb yr athrawiaeth a eglurwyd, yna gwelid y deigryn yn dysgleirio ar ei amrant, a chanoedd o rai tebyg yn llygaid y bobl, a phan orphenai lefaru, gadawai ei wrandawyr bob amser mewn teimlad hyfryd wrth droed y groes."

UTICA

Mae y lle hwn o fewn dwy filldir i Faentwrog, ar y ffordd i Drawsfynydd. Rhoddwyd tir i adeiladu y capel gan William Jones, yr hwn a fuasai am flynyddoedd yn America, ac yn aelod yn Utica, a galwodd y lle yma ar enw hwnw, oblegid y llwyddiant bydol a'r daioni crefyddol a fwynhaodd yno. Adeiladwyd y capel yn 1843, yn nhymor byr gweinidgaeth Mr. Samuel Jones, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod dan yr un weinidogaeth a Maentwrog. Nid yw yr achos yn gryf yma, ond teimlid ar ol symud capel Maentwrog i'r pentref, fod yn angenrheidiol cael lle o addoliad er cyfleustra i bobl yr ochr uchaf, y rhai a arferent ddyfod i'r hen gapel. Mae mynwent helaeth yn nglyn a chapel Utica, a llawer wedi eu claddu ynddi. Trwy offerynoliaeth William Jones, yr hwn a roddodd dir i adeiladu, yn benaf y cychwynwyd yr achos yma, a bu trwy ei oes yn gefn mawr iddo. Yr oedd yn ddyn rhagorol—ffyddlon yn holl wasanaeth tŷ yr Arglwydd, a pharod i bob gweithred dda fel gwladwr a chrefyddwr.

RHYDYMAIN.

O Lanuwchllyn y seiniodd gair yr Arglwydd i'r ardal hon, a Mr. Abraham Tibbot oedd y pregethwr cyntaf a ymwelodd a'r ardal. Nid yw dyddiad ei ymweliad cyntaf wedi ei gofnodi, ac nid yw enwau y personau hyny a agorodd eu tai i dderbyn yr efengyl wedi eu trosglwyddo i ni. Mae yn amlwg y byddai amryw o'r gymydogaeth hon yn arfer cyrchu i Lanuwchllyn, yn mhell cyn dechreu pregethu yma, ond ar ol dechreu pregethu ennillwyd dysgyblion newydd yma, fel y gwelwyd yn angenrheidiol codi capel, er cael yma foddion crefyddol yn rheolaidd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1788, a ffurfiwyd yr aelodau perthynol i Lanuwchllyn oedd yn yr ardal yn eglwys, a gweinyddid iddynt gan Mr. Tibbot, hyd ei ymadawiad a Llanuwchllyn, ac wedi hyny gan ei olynydd, Dr. George Lewis. Yn Hydref, 1802, dewiswyd Mr. Hugh Pugh, yn weinidog i'r eglwys hon, a'r eglwys oedd erbyn hyn wedi ei ffurfio yn y Brithdir, a bu yma yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn, a'i weinidogaeth yn gymeradwy gan yr holl wlad. Ond byr fu ei dymor, canys yn mhen saith mlynedd i adeg ei ordeiniad, "machludodd ei haul a hi yn ddydd," a bu farw Hydref 28ain, 1809, yn 29 oed. Dilynwyd ef yn ei faes eang gan Mr Cadwaladr Jones, o'r Deildre, Llanuwchllyn, yr hwn a urddwyd yn Nolgellau, Iau Dyrchafael, 1811. Llafuriodd Mr. Jones yma gyda diwydrwydd, a chysondeb, a llwyddiant graddol am wyth-mlynedd-ar-hugain, nes y teimlodd fod cylch ei weinidogaeth yn rhy eang iddo, ac anogodd yr eglwys yma a'r eglwys yn y Brithdir i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain, ond trefnodd ar yr un pryd, i'w olynydd yn y lleoedd hyn newid ag ef un Sabboth o bob mis, fel yr oedd datodiad yr hen gysylltiad yn esmwyth o'r ddau tu.[145] Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Hugh James, o Ddinasmawddwy, ond a fuasai am yspaid dan addysg yn Marton, sir Amwythig, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 31ain, 1839. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddïwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. H. Lloyd, Towyn; pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r eglwysi. Pragethwyd hefyd gan Meistri E. Evans, Abermaw; D. Price, Penybont; W. Roberts, Pennal; J. Parry, Machynlleth; H. Morgan, Sammah; E. Griffith, Llanegryn; T. Griffith, Rhydlydan, a J. Williams, Aberhosan.[146] Bu Mr. James yma dair blynedd, a chyfrif yr amser y bu yma cyn ei urddo, ac yr oedd yr adeg y bu yma yn adeg lewyrchus ar grefydd. Triugain ac wyth oedd rhifedi yr aelodau ar ddyfodiad Mr. James yma, a derbyniwyd ganddo driugain a naw, yn y tair blynedd y bu yma. Tynodd amryw o honynt yn ol yn fuan, ond er hyny gadawodd yr eglwys agos yn ddau cymaint ag y cafodd hi. Yr oedd gwres a brwdfrydedd yn amryw o blant y diwygiad yn Rhydymain y pryd hwnw, nas gallesid meddwl dan amgylchiadau cyffredin fod pobl sir Feirionydd yn alluog iddo. Yn Mai, 1843, symudodd Mr. James i Lansantffraid, sir Drefaldwyn, lle y mae yn parhau i lafurio hyd y dydd hwn. Yn mhen amser wedi ymadawiad Mr. James, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. John Davies, yr hwn a urddasid ychydig flynyddoedd cyn hyny yn Ceidio, sir Gaernarfon, ond gan nad oedd yr eglwys yn unol yn ei gylch, ac nad oedd yr eglwys yn y Brithdir yn cyduno i roddi galwad iddo, ni bu yma ond ychydig. Ymadawodd a'r enwad, ac unodd a'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu yn pregethu yn eu plith. Ymfudodd i America yn 1855, a bu farw yno, gan adael teulu lluosog ar ei ol. Aelod gwreiddiol o'r Drewen, sir Aberteifi ydoedd, a bu am ychydig yn athrofa Neuaddlwyd. Yr oedd yn ddyn da, ond nad oedd dim yn nodedig yn ei alluoedd meddyliol na'i ddawn fel pregethwr. Gwelodd gryn dipyn o galedfyd, ac nid oedd digon o yni yn ei natur i ymladd ystormydd bywyd.

Yn nechreu y flwyddyn 1847, derbyniodd Mr. Robert Ellis, Rhoslan, alwad gan yr eglwys hon a'r eglwysi yn y Brithdir a Llanfachreth, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yn mis Ebrill y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau yma yn ddefnyddiol a pharchus, a'r achos dan ei ofal yn ennill tir ac yn casglu nerth. Yn y flwyddyn 1868, gan fod y capel wedi myned yn hen, ac yn rhy fychan, heblaw ei fod yn anghyfaddas i'r oes, penderfynwyd codi capel newydd hardd, ac ymroddodd yr eglwys a'r ardal o ddifrif i wneyd hyny. Agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, ac erbyn mis Medi, 1870, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, er ei fod yn werth 700p. Mae llawer o hen bobl dda wedi bod yn nglyn a'r achos, y rhai y mae eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Robert Thomas, Penybont, oedd ddyn ffyddlon a synwyrol—gwasanaethodd swydd diacon yn dda; ymfudodd ef i America. Coffeir gyda pharch am Hugh Robert a Dafydd Robert, Cefnybraich—hen gymeriad rhyfedd oedd Dafydd Robert Blinodd lawer ar ei feddwl ei hun ac ar feddyliau eraill, yn nghylch pechod Adda, ac yr oedd cadwedigaeth y Paganiaid, yn bwngc a barodd iddo lawer o boen. Gadawodd 100p. yn ei ewyllys at yr achos yn Rhydymain, llog y rhai sydd i fyned i gynorthwyo y weinidogaeth, heblaw symiau llai a adawodd at achosion eraill. Robert Edwards, Rhydymain, (tad Mr. Roberts, Coedpoeth,) oedd ddyn deallus a doniol. Arferai ddweyd am gyfeillion Rhydymain, nad oedd gwell crefyddwyr na hwy pe buasai modd cario achos crefydd yn mlaen heb arian. Am y bobl gynt y mae yn debyg y dywedai hyny, ac nid am y bobl sydd yma yn bresenol. Yn yr eglwys yma codwyd i bregethu :—

Richard Owen, Brithfryniau. Pregethwr cynorthwyol a fu efe dros ei holl fywyd.

Edward Roberts. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. James. Bu yn athrofa y Bala, ac efe oedd y cyntaf a urddwyd oddiyno. Mae yn awr yn Coedpoeth.

Robert Edwards. Brawd i Edward Roberts. Bu yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn Llanymddyfri, a bu farw yn mlodeu eu ddyddiau. Ceir ei hanes yn nglyn a Llanymddyfri.


BRITHDIR.

Nid oes dim yn agweddion allanol y llanerch hon o'r ddaear i osod arbenigrwydd arni, mwy na lluaws o lanerchau eraill yn ein gwlad. Nid oes yma dir ffrwythlawn, na daear gynyrchiol. Mae yn wir fod y mynyddau bân, ysgythrog, a welir o gylch y fan yn ymddangos yn fawreddog, pan yn gwisgo eu niwl goronau, a'r ffrydiau grisialaidd a fwrlymant i fyny o'r ddaear, ac a ddisgynant dros y creigiau, yn bur ac iachusol, a'r awelon balmaidd a wyntyllir gan y llwyni a'r coedwigoedd gwyrddlas yn adloniant i ysbryd y preswylwyr, ac yn sirioldeb calon i ymwelwyr achlysurol, etto nis gallasai y pethau hyn oll roddi i'r llecyn dinod yma o Feirionydd yr hynodrwydd y mae wedi ei gyrhaedd. Crefydd y lle sydd wedi gosod arbenigrwydd arno, ac y mae enw y Brithdir yn anfarwol yn nglyn a'r enwogion a gyfododd o hono. Dechreuwyd pregethu yn y lle cyn hir ar ol dechreu yn Rhydymain; a Mr. Abraham Tibbot, a'i gynorthwywyr yn Llanuwchllyn, Robert Roberts, Tyddynyfelin; Rowland Roberts, Penrhiwdwrch; John Jones, Afonfechan, a John Lewis, Hafodyrhaidd, oedd y rhai a ymwelent a'r lle yn mlynyddoedd cyntaf yr achos. Pregethid mewn tŷ annedd yn ymyl y fan lle y safai hen gapel y Brithdir, ac yn aml gorfodid pregethu y tu allan i'r drws, gan na chynwysai y tŷ y rhai a ddeuant yn nghyd. Derbyniwyd ychydig bersonau oddiyma yn aelodau yn Rhydymain, ond yn fuan wedi sefydliad Dr. G. Lewis yn LlanuwchIlyn, corpholwyd yr aelodau oedd yn y lle yn eglwys. Nid oeddynt ond wyth o bersonau, a dyma eu henwau—Sion Ellis, Mary Pugh, Perthillwydion, (mam H. Pugh, o'r Brithdir, wedi hyny,) Robert Roberts, o'r Henblas; Sion Jones, o'r Gorwys; Sion Risiart Wmffre, a gwragedd y tri a enwyd olaf. Robert Roberts, o'r Henblas, oedd yr unig un o honynt a allasai ddarllen ychydig, ac arno ef yn benaf yn ymddibynid pan na byddai pregethwr yn digwydd bod. Yn y flwyddyn 1795, derbyniwyd Hugh Pugh, mab Perthillwydion, yn fachgen ieuangc un-ar-bymtheg oed, yn aelod o'r eglwys gan Dr. Lewis, a theimlai y frawdoliaeth fechan yn y lle fod ei gael yn ennill anmhrisiadwy iddynt, ac felly y profodd. Yn y flwyddyn 1800, adeiladwyd yma gapel, a mawr y llawenydd a deimlid wrth gael pabell i'r arch i drigo ynddi. Gan fod yn anmhosibl i Dr. Lewis weini i'r eglwys yn y Brithdir a Rhydymain ond yn anaml, oblegid eangder maes ei lafur, anogodd hwy i roddi galwad i Mr. Hugh Pugh, Perthillwydion, yr hwn oedd wedi treulio blwyddyn yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam. Rhoddodd yr eglwysi alwad iddo, cydsyniodd yntau, ac urddwyd ef yma yn mis Hydref, 1802, a bu yma yn weithiwr difefl, hyd nes y gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, ac y byrhawyd ei ddyddiau, a dis- gynodd i'w fedd yn 30 oed. Yn mhen blwyddyn wedi marwolaeth Mr. Pugh, rhoddwyd galwad i Mr. Cadwaladr Jones, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn Nolgellau, Mai 23ain, 1811, a bu gofal yr eglwys yma arno am wyth-mlynedd-ar-hugain, a pharhaodd i bregethu yn fisol yn y lle hyd ddiwedd ei oes. Dechreuodd Mr. Hugh James ei weinidogaeth yma yn Mai, 1839, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 31ain, y flwyddyn hono, a bu yma yn ddefnyddiol hyd fis Mai, 1842, pan y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Llansantffraid, Penygroes, a Llansilin. Yn ystod y tair blynedd y bu Mr. James yma, derbyniodd driugain a dau o aelodau, a gadawodd yr eglwys a gafodd yn driugain a chwech, a'i rhifedi yn ugain a chant. Nid oedd ond ychydig o'r gwrandawyr cyson, nad oeddynt y pryd hwnw wedi eu derbyn yn aelodau. Wedi ymadawiad Mr. James, bu yr eglwys yma am rai blynyddau heb weinidog gan na chydsyniodd a'r eglwys yn Rhydymain, yn ei dewisiad o Mr. John Davies, Ceidio. Yn nechreu y flwyddyn 1847, unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Rhydymain a Llanfachreth, i roddi galwad i Mr. Robert Ellis, Rhoslan; a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma, Ebrill 12fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Jones, Abermaw; H. Lloyd, Towyn; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd; M. Jones, Bala; H. Ellis, Llangwm; J. H. Hughes, Llangollen; E. Griffith, Llanegryn, ac eraill; ac y mae Mr. Ellis yn parhau yma yn y weinidogaeth. Adgyweiriwyd a helaethwyd y capel ar ol ei adeiladu y tro cyntaf, ond yn y flwyddyn 1860, penderfynwyd codi capel newydd ychydig oddiwrth yr hen gapel, a thaflodd yr ardalwyr eu holl galon i'r gwaith, fel y codwyd capel cryf, cadarn, a gwasanaethgar, gydag ysgoldy o'r tu cefn iddo, ac y mae claddfa eang wrtho, a gweddillion lluaws o rai anwyl eisioes wedi eu rhoddi i orwedd ynddi. Mae achos cryf a llewyrchus yn y Brithdir, a'r maes gan mwyaf wedi ei feddianu gan yr eglwys yn y lle. Yr oedd yn y Brithdir lawer o hen bobl dda, a hyderwn fod y rhai sydd yno yn awr, yn deilwng o'u henafiaid. Sion Dafydd, oedd yn nodedig am ei ffyddlondeb. Bu Thomas Richard yn ddiacon yma am flynyddau, a chafodd fyw i oedran teg. William Richard, am yr hwn y crybwylla Ieuan Gwynedd, yn hanes wylnos ei fam, na chlywodd ei gyffelyb fel gweddïwr. Hugh Jones, Tŷ-nant, oedd gristion didwyll, a diacon ffyddlon—efe oedd y cyntaf gladdwyd yn mynwent y capel newydd. Evan Price, hynaf, Bronalchen, oedd yn ddyn call a thirion iawn; ac yr oedd yma eraill mae yn ddiau o gyffelyb feddwl, er na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni. Arferai Richard Jones, Llwyngwril ddweyd, mai mewn profiad y rhagorai hen bobl dda y Brithdir.—"Pwnc yn Rhydymain, profiad yn Brithdir, a meindiwch yr amser yn Nolgellau," oedd ei ddynodiad ef o neillduolion y tri lle.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

Hugh Pugh. Cawn achlysur i sylwi arno ef etto.

Richard Roberts, Henblas. Bydd genym air am dano yn nglyn a'r Cutiau, gan mai yno y terfynodd ei oes.

Griffith Ellis, Maesyrhelma. Yr oedd yn un o bregethwyr yr eglwys yn ei chychwyniad, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau.

Edward Roberts. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Nghwmafon, Morganwg, yn 1844, ac yno y mae etto.

Evan Price, Bronalchen. Bu yn bregethwr ieuangc cymeradwy yn yr eglwys am flynyddoedd. Yr oedd yn ŵr ieuangc tra rhagorol—o ddeall cryf, yn fardd gwych, ac yn gerddor deallus. Ymgododd i barch ac ymddiried, ac yr oedd yn oruchwyliwr i foneddwr yn ei ardal. Ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Rhoddodd Charles Edwards, Ysw., Dolserau, y boneddwr yr oedd yn oruchwyliwr iddo, gofadail ar ei fedd yn mynwent y Brithdir.

Robert Ellis. Mab Mr. Ellis, y gweinidog. Bu am dymor dan addysg yn Manchester, ac urddwyd ef yn Carno.

John E. Jones. Mae ef yn awr yn yr eglwys yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy.

Yn yr eglwys yma y dygwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) i fyny, ac y derbyniwyd ef yn aelod, ond fel y crybwyllasom, fwy nag unwaith, aelod yn Sardis, Llanwddyn, ydoedd, pan ddechreuodd bregethu. Mae maen coffadwriaeth iddo ar fur capel y Brithdir, ac nid yw Tycroes, lle y treuliodd flynyddoedd ei febyd, yn nepell oddiyma.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Hugh Pugh, Brithdir
ar Wicipedia

HUGH PUGH. Ganwyd ef Tachwedd 22ain, 1779, yn Tynantbach, Brithdir. Yr oedd ei rieni Robert a Mary Pugh, yn bobl barchus a chyfrifol, ac yn well arnynt yn y byd na'r rhan fwyaf o'u cymydogion. Yr oedd pan anwyd ef yn eiddilach na phlant yn gyffredin, fel yr ofnid am ei einioes beunydd, ond cryfhaodd yn raddol, er na ddaeth byth yn gryf. Derbyniodd addysg gyffredinol dda, pan yn fachgen yn Nolgellau, ac wedi hyny yn sir Amwythig, fel y daeth yn lled hyddysg yn yr iaith Saesonaeg, ac yn gyfarwydd yn elfenau gwybodaeth gyffredin. Yr oedd er yn fachgen yn nodedig ar gyfrif ei diriondeb a'i hynawsedd, fel yr ennillai ei dymer serchus iddo air da gan bawb. Symudodd ei rieni i Perthillwydion, ac yn nglyn a'r lle hwnw yr oedd eu henwau yn fwyaf adnabyddus. Yr oedd ei fam yn aelod yn y gangen oedd wedi ei ffurfio yn Rhydymain, os nad oedd yn wir yn un o'r rhai a arferai gyrchu i Lanuwchllyn i gymundeb. Byddai Hugh Pugh yn arfer myned gyda'i fam i Rhydymain i'r gyfeillach, ond bu yn hir yn cloffi rhwng dau feddwl cyn rhoddi ei hun yn gyflawn i'r Arglwydd. Ofnid unwaith yr ymollyngai gyda'i gyfoedion gwyllt, ac un tro gwelwyd arwyddion ei fod wedi aros yn rhy hir yn y dafarn. Parodd yr amgylchiad dristwch mawr i'w fam, ac er nad oedd ei dad yn proffesu crefydd, yr oedd arno ofn mawr rhag i'w hoff fab droi allan yn oferddyn penrydd. Ond rhagflaenodd yr Arglwydd ef, a thrwy ddylanwad pregeth gyffrous o eiddo rhyw ŵr dyeithr oedd yn myned trwy y wlad, dygwyd ef i benderfynu rhoddi ei hun i'r Arglwydd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan Dr. Lewis, pan nad oedd ond un-ar-bymtheg oed. Cyn pen dwy flynedd, anogwyd ef gan y cyfeillion i ddechreu pregethu, a dymunent arno ddarllen penod, a dywedyd ychydig oddiwrth ryw ranau o honi, yn y cyfeillachau a'r cyfarfodydd gweddïo. Ni wyddai ei dad, gan nad oedd yn aelod, ddim am y peth, a rhyw noswaith wedi myned i'r cyfarfod yn yr hen lofft yn y Brithdir, beth a welai er ei syndod, ond Huwcyn (chwedl yntau,) yn codi i fyny, ac yn darllen penod ac yn esbonio ychydig arni. Tarawyd yr hen ŵr a syndod, ac a theimladau digofus, ac ni wyddai pa le yr âi, na pha beth a wnai. Plygai ei ben mewn cywilydd yn y gongl, a dywedai ei fod yn mron cnoi ei fysedd, a'i fod yn meddwl ei fod yn teimlo ei wallt yn sefyll ar ei ben, ac nad oedd yn teimlo ei ddillad am dano. Bu ar fedr llithro allan yn ddistaw, ond aros yno fel ar ddrain hyd y diwedd a ddarfu iddo. Ond wedi cael y diwedd, allan ag ef, ac adref ar ffrwst, ac yn orlawn o ddigllonedd at y bachgen am ei ryfyg, ac erbyn cyrhaedd y tŷ, ebe efe wrth ei wraig, yr hon oedd gartref yn gwarchod, "Wel, Mari, Mari, welist ti 'riod ffasiwn beth, naddo yn fy myw—wyddwn i ddim lle 'roeddwn i—'roeddwn i bron a myn'd o nghroen." "Wel yn enw dyn, Robert bach, beth sydd yn bod ?" ebe ei wraig mewn braw, rhag fod rhyw anffawd wedi digwydd. "Beth sy'n bod yn wir? ond y bachgen Huweyn yna yn myn'd i ddarllen penod ac i 'sponio yn y cyfarfod gweddi heno—welis i 'riod ffasiwn beth—hogyn drwg fel yna yn rhyfygu myn'd wrth ben Bibl Duw;" ac erbyn hyn dyma Hugh druan i'r tŷ, heb wybod fawr beth oedd yn ei aros. Ond nid cynt yr oedd i fewn nag y dechreuodd ei dad arno mewn llais cryf ac ysbryd cyffrous—"Wel Huwcyn, yr ydw i yn dŷ roi di dan dŷ rybudd, na wnei di ddim peth fel yna etto—ti yn cymryd gair Duw i'w drin fel yna." Ond ni ddywedodd Hugh ddim, ond cilio o'r neilldu, ac ni ddywedodd ei fam ddim, a daeth y tad bob yn dipyn i gymodi a'r peth, ac i allu gwrando ei fab heb deimlo fod achos iddo guddio ei ben rhwng ei liniau.[147] Ymgododd Mr. Pugh yn fuan i boblogrwydd fel pregethwr, fel yr aeth son am dano ef trwy yr holl wlad oddiamgylch. Yr oedd cymeriad ei deulu mor barchus yn yr ardal—ei ddull yntau o bregethu mor hynod o ddengar—ei lais mor beraidd—ei ysbryd mor danbaid—a'i olwg ieuengaidd yn ychwanegol at hyny, yn ei wneyd yn nodedig o dderbyniol a phoblogaidd. Pan oedd tuag ugain oed, aeth i'r athrofa yn Ngwrecsam, ac arosodd yno flwyddyn. Teimlai yn awyddus i dreulio yr amser rheolaidd yno, ond oblegid rhyw amgylchiadau perswadiwyd ef i ddychwelyd gartref, a chymeryd gofal yr eglwysi ffurfiedig yn Rhydymain a'r Brithdir. Cydsyniodd a hyny, ac urddwyd ef yn y lle olaf a nodwyd yn Hydref, 1802. Urddwyd ef yn y Brithdir oblegid ei gysylltiad blaenorol a'r lle hwnw, er mai Rhydymain oedd yr achos hynaf. Yr oedd capel wedi ei godi yno er y flwyddyn 1788, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, o fewn wythnos i agoriad capel Penystryd. [148] Yn fuan wedi ei urddo cafodd yr hyfrydwch mawr o dderbyn ei dad a'i unig chwaer i'r eglwys trwy ddeheulaw cymdeithas, ac mor effeithiol oedd yr olygfa, pan y gwelwyd ef yn estyn ei law dros y bwrdd i'w dad, fel y llwyr orchfygwyd pawb yn y lle, a methodd yntau ei hun a dyweyd yr un gair ond ymollwng i gydwylo dagrau llawenydd. Pregethodd y Sabboth hwnw ar y geiriau, "Ond myfi, mi a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd." Ni chyfyngodd ei lafur i'r Brithdir a Rhydymain yn unig, ond ymdrechai i helaethu terfynau yr achos. Dechreuodd bregethu yn Nolgellau, a phrynodd hen.gapel i'r Methodistiaid Calfinaidd at wasanaeth yr enwad. Pregethodd yn Llanelltyd, a sefydlodd achos yno, ac ymwelai yn aml a'r Ganllwyd. Eangodd gylch ei lafur i'r Cutiau, a gwelodd yno ffrwyth i'w lafur, a byddai yn pregethu yn achlysurol yn Abermaw a'r Dyffryn, ac ymestynai ei lafur cyn belled a Llwyngwril, Llanegryn, a Thowyn. Wrth ysgrifenu at gyfaill iddo oedd yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, dywed, "Yr wyf yn wastad yn bur llawn o waith, ac yr wyf yn gobeithio y byddaf felly tra y byddaf yn y byd, oblegid digonedd o waith yw fy nghysur penaf. Yr ydwyf yn pregethu dair gwaith bob Sabboth, a thair neu bedair gwaith yr wythnos heblaw hyny, mewn gwahanol fanau. Wrth hyn, chwi a welwch nad oes genyf ond ychydig o amser er difyrwch. Yr wyf yn cael hyfrydwch mawr wrth fyfyrio, ac yn gyffredin yn cael fy nghynorthwyo i bregethu yn gyhoeddus, gyda boddlonrwydd i fy meddwl fy hun, ac mor belled ag yr wyf yn deall i'r bobl, er i mi weled amser pan yr oedd mwy o arwyddion fod y gwirionedd yn effeithio er eu hiechydwriaeth."[149] Mae pob peth sydd wedi eu mynegi i ni am dano yn dangos yn eglur ei fod wedi ei gynysgaeddu a galluoedd dealldwriaethol, a chymwysderau gweinidogaethol pell uwchlaw y rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Er fod ei edrychiad yn wylaidd, etto yr oedd gwroldeb neillduol ynddo. Yr oedd uwchlaw ofn dyn yn y pethau a dybiai yn rhwymedigaethau arno i Dduw. Ni phetrusai fynegi eu diffygion i ddynion yn eu gwynebau pan y credai eu bod i'w beio, ond gwnai hyny gyda'r fath dynerwch, fel yr argyhoeddid pawb mai am ei fod yn eu caru yr oedd yn eu ceryddu. Ond pan yn nghanol ei boblogrwydd a'i lwyddiant, a phawb yn meddwl nad oedd ond dechreu ymagor i oes o ddefnyddioldeb, nodwyd ef gan angau i ollwng ei saeth arno. Yr oedd yr haf diweddaf y bu byw wedi bod yn dymor o lafur neillduol iddo. Bu yn Llundain am rai wythnosau, a dychwelodd tua chanol mis Awst. Yr oedd yn Nhreffynon yn y gymanfa yn mis Medi yn pregethu gyda'i fywiogrwydd arferol. Yn mhen pythefnos wedi hyny, yr oedd yn Liverpool yn y cyfarfod blynyddol, yr hwn a gynhelid y pryd hwnw yn mis Hydref, ac ar ddydd Iau y 18fed dychwelodd adref. Bu mewn cyfeillach yn y Brithdir nos Wener, a chanai yn beraidd gyda'i frodyr. Nos Sadwrn ymddangosai yn fwy pruddaidd nag arferol, a dywedai wrth ei wraig, fod rhyw argraff ar ei feddwl na byddai yn hir gyda hwy, ac mai ei unig bryder oedd wrth feddwl ei gadael hi a'r plant yn amddifaid. Pregethodd y Sabboth yn Rhydymain, a dychwelodd adref fel arferol. Ond dechreuodd gwyno ddydd Mawrth, ac ni allai godi o'r gwely, yr oedd wedi meddwl pregethu ddydd Mercher, oblegid yr oedd Jubili teyrnasiad Sior III. am haner can' mlynedd, ond nis gallasai godi o'i wely, ac erbyn dydd Iau, gwelwyd ei fod dan y clefyd coch (scarlet fever), a chyn dydd boreu Sadwrn, yr oedd ei ysbryd wedi ei ollwng o'r corph a ddirdynwyd gan y clefyd, i'r wlad lle "na ddywed y preswylwyr claf ydwyf." Dydd Mawrth canlynol, dygwyd. ei gorph i'w gladdu mewn bedd newydd yn mynwent Dolgellau, gan dyrfa fawr o alarwyr dwys, y rhai a deimlant fod cymylau a thywyllwch o amgylch yr oruchwyliaeth ddygodd "Pugh o'r Brithdir" i'w fedd, cyn ei fod yn llawn ddeng-mlwydd-ar-hugain oed.


DOLGELLAU.

Yr oedd Dolgellau yn un o'r gorsafoedd yn y rhai y pregethai yr enwog Hugh Owen, o Fronyclydwr, yn ei ymweliadau tri-misol, ac ymddengys fod ganddo yma gynnulleidfa fechan wedi ei chasglu, ac adnabyddid y lle y cyfarfyddent, fel y "Ty cyfarfod." Pa beth a ddaeth o'r "ychydig enwau" ar ol marwolaeth Mr. Owen, nis gallasem wybod, er gwneyd pob ymchwil, ond y mae yn eglur i'r Annibynwyr roddi i fyny bregethu yn y dref am gan' mlynedd. Pregethid llawer gan eu gweinidogion yn amgylchoedd y dref, a dichon i ambell un yn achlysurol bregethu yn y dref; ond ni wnaed un cynyg i ail gychwyn yr achos yma, hyd nes yr ymsefydlodd Mr. Hugh Pugh yn weinidog yn y Brithdir. Yr oedd y gwr ieuangc llafurus hwn mor llawn o ysbryd ei waith, fel y torai allan ar y ddeheu ar aswy i bregethu yr efengyl. Dechreuodd bregethu a chadw cymundeb yn Llanelltyd, cyn dechreu yn Nolgellau, ac elai amryw o'r dref yno i wrando, a derbyniwyd rhai o honynt yn aelodau; ond wedi corpholi yr eglwys yn y dref, a chael capel cyfleus, deuai yr aelodau o Lanelltyd i Ddolgellau i gymundeb, ac ystyrient eu hunain yn rhan o'r eglwys yma. Dechreuodd Mr. Pugh bregethu yn Mhen-bryn-glas, Dolgellau, a chyn hir "derbyniwyd yn y Brithdir o gymydogaeth Dolgellau, fel ffrwyth llafur Mr. Pugh, cyn bod un eglwys ffurfiedig yn y dref ei hun gan yr Annibynwyr, John Evans, Talywaun, a'i wraig; Evan Dafydd, Gellidwylan, a'i wraig; Ann Jones, Pantypiod; William Vincent, Morris Dafydd (Meurig Ebrill), Evan Owen, Gyllestra; Catherine Thomas, Dolrisglog; John Mills, Hafod-dywyll, a'i wraig; Morris Evan, o'r Gilfachwydd; Elizabeth Ellis, John Lewis Owen, ac amryw eraill. Yn Ebrill, 1808, prynodd Mr. Pugh, addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, yn nghyd a'r tai perthynol iddo am 500p., a phregethwyd yn y capel gan y ddwy blaid, hyd nes y daeth capel newydd y Trefnyddion yn gymwys iddynt i addoli ynddo. Unwaith cyn ymadawiad y Trefnyddion, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd i gynifer o'r Annibynwyr a allwyd gael yn nghyd o Rydymain, Brithdir, Llanelltyd, a'r Cutiau, pryd yr eglurodd Mr. Pugh sylfaeni Ymneillduaeth, y dull Ysgrythyrol o ymarfer yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, a dybenion sefydliad yr ordinhad, ac amryw o bethau pwysig eraill. Bu ei sylwadau yn achlysur i roddi tramgwydd i rai o'r Trefnyddion, ond rhoddasant foddlonrwydd mawr i lawer eraill.[150]" Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd gan Mr. Pugh yn Nolgellau. Tynodd doniau ennillgar ac ysbryd gwrol Mr. Pugh sylw y dref, a deuai cynnulleidfa dda i'w wrando, a daeth amryw o'r gwrandawyr i geisio yr Arglwydd gyda'i bobl. Ymroddodd Mr. Pugh i dalu y ddyled oedd yn faich trwm ar ysgwyddau gweiniad. Bu yn Llundain yn casglu, ond ni bu mor lwyddianus ag y disgwyliai. Ychydig uwchlaw 60p. a gasglodd. Ond yn nghanol ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb, tara- wyd ef yn glaf gan y clefyd coch, a bu farw ar fyr rybudd, Hydref 28ain, 1809, er mawr alar i'r eglwysi bychain oedd dan ei ofal a cholled i ogledd Cymru yn gyffredinol.

Yr oedd sefyllfa yr achos yma ar y pryd, y fath fel y teimlid fod angen gweinidog yn ddioed. Yr oedd y wlad eang o Ddrwsynant i'r Abermaw, ac o Fwlchyroerddrws i'r Ganllwyd, darn o wlad oedd yn ddeunaw milldir o hyd, a deuddeg o led, heb neb i gymeryd gofal y praidd bychain oedd yn wasgaredig ar hyd-ddo. Heblaw hyny, yr oedd yr holl gapeli trwy y cylch, ond Rhydymain, dan faich trwm o ddyled. Yr oedd 230p. ar gapel y Brithdir a'r ty newydd a adeiladwyd wrtho i Mr. Pugh, a'i briod. Yr oedd 20p. ar Lanelltyd; 160p. yn aros ar gapel y Cutiau, ac yn agos i 500p. ar gapel Dolgellau. Cawsant gydymdeimlad a chynorthwy effeithiol gan amryw weinidogion. Aeth Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy, i'r Deheudir, a chasglodd dros 100p. Casglodd Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, 20p. yn yr Amwythig, ac aeth Mr. W. Williams, Wern, i amryw leoedd yn y Gogledd, a chasglodd 40p., a bu yr help amserol yma yn ymwared mawr i'r achos.[151] Ond er yr holl gynorthwy a roddid iddynt, teimlai yr eglwysi amddifadrwydd mawr o eisiau gweinidog, ond teimlant ar yr un pryd, mai nid gorchwyl hawdd oedd cael olynydd teilwng o Mr. Pugh. Tueddid rhai i roddi galwad i Mr. David Morgan, Talybont, (Machynlleth, wedi hyny); ond gogwyddai eraill yn ffafr rhoddi galwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr ar y pryd, yn athrofa Gwrecsam. Daeth yr eglwysi i benderfyniad i roddi y ddau ger bron, ac i'r lleiafrif roddi i fyny i'r mwyafrif. Dywedir mai etholiad tỳn a fu, ac mai un yn ychwaneg gafwyd dros Mr. Jones, na thros Mr. Morgan, ac mai un rheswm mawr dros Mr. Jones ydoedd, fod ei lais yn debyg iawn i eiddo Mr. Pugh. Ni bu un gronyn o ddrwgdeimlad rhwng Mr. Morgan a Mr. Jones, o herwydd yr amgylchiad, ac yr oedd y rhai a bleidiasant dros Mr. Morgan pan welsant eu bod wedi colli, mor selog a neb dros Mr. Jones. Derbyniodd yr alwad cyn diwedd haf 1810, ond cafodd gan yr eglwysi foddloni iddo aros yn yr athrofa hyd ddiwedd y flwyddyn hono. Brithdir oedd eisteddle y weinidogaeth yn nyddiau Mr. Pugh, ond ar sefydliad Mr. Jones, symudwyd eisteddle y weinidogaeth i Ddolgellau. Yma yn awr yr oedd yr eglwys luosocaf, er nad oedd ond pedwar-ar-bymtheg-ar-hugain o rifedi, a hyny yn cynwys yr aelodau a ddeuai o Lanelltyd, Ganllwyd, ac Islaw'rdre. Nid oedd ond pedwar-ar-ddeg-ar-hugain yn y Brithdir; tri-ar-hugain yn Rhydymain, a dau-ar-bymtheg yn y Cutiau, yn gwneyd cyfanswm aelodau yr esgobaeth ar ddyfodiad Mr. Jones yma yn nechreu y flwyddyn 1811, yn gant-a-thri-ar-ddeg. Urddwyd ef yma Medi 23ain, 1811, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri G. Lewis, Llanuwchllyn; B. Jones, Pwllheli; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffith, Machynlleth; W. Hughes, Dinas; W. Jones, Trawsfynydd; J. Lewis, Bala; D. Roberts, Llanfyllin; J. Davies, Aberhafesp; W. Williams, Wern, a J. Powell, Rhosymeirch. Yr oedd Mr. Jones pan urddwyd ef, yn ddyn ieuangc hoyw, gwisgi, wyth-ar-hugain oed, ac er ei fod yn araf a phwyllog, yr oedd yn llawn o ysbryd ei waith. Cynyddodd yr achos yn y dref yn fawr trwy ei lafur, a gwnaed llawer o adgyweiriadau ar y capel, a thalwyd rhan fawr o'r ddyled oedd arno. Bu Mr. Jones yn y De a'r Gogledd yn casglu, ac yn Liverpool, a'r Amwythig, a Llundain. Casglodd yn Llundain yn unig 132p. 4s. 2c. Yn mhen blynyddoedd gwelwyd yn angenrheidiol adnewyddu a helaethu y capel, ac aeth y draul yn nglyn a hyny yn 448p. Daeth yr achos yma yn gryf a dylanwadol—Ysgol Sabbothol luosog a gweithgar, ac yr oedd nifer o ddynion yn yr eglwys, oeddynt yn nodedig ar gyfrif eu gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol. Graddol oedd ei chynydd, ond yr oedd yn sicr; ac am y rhai a ychwanegid at yr eglwys, yr oeddynt yn gyffredin yn gyfryw ag a allent roddi rheswm am y gobaith oedd ganddynt. Cafodd Mr. Jones oes hir i'w dysgu, ac yr oedd yn meddu cymhwysderau arbenig i ddysgu y rhai oedd dan ei ofal yn mhyngciau athrawiaethol yr efengyl, yn gystal ag yn egwyddorion, trefn, a llywodraeth eglwysig. Cyfrifid yr eglwys yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones, yn un o'r rhai mwyaf goleuedig a deallgar, ac yr oedd yn nodedig am ei heddychlonrwydd.

Wedi llafurio yn ddyfal yn y weinidogaeth am chwe'-blynedd-a-deugain, dechreuodd deimlo fod cymdeithion henaint gydag ef, a meddyliodd y buasai cystal iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, fel y gallai yr eglwys yn y dref gael rhyw un ieuengach i fwrw golwg trosti. Yn nechreu y flwyddyn 1858, cydunodd ef a'r eglwys i roddi galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu; ac urddwyd ef Gorphenaf 21ain a'r 22ain, o'r flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Williams, Castellnewydd; J. M. Davies, Maescwmwr; J. Jones, Machynlleth; W. Griffith, Caergybi; J. Roberts, Llundain; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees, Liverpool. Rhoddodd hen weinidog adroddiad effeithiol o'i adolygiad ar saith-mlynedd-a-deugain o weinidogaeth yn y lle, ac ymddiosgai o'i ofalon gyda'r dymuniadau goreu i'w olynydd. Bu Mr. Davies yn weithgar a defnyddiol am y tymor byr y bu yma. Bendithiwyd yr eglwys ag adfywiad grymus, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys, yn enwedig o bobl ieuaingc. Nid arosodd Mr. Davies yma ond ychydig gyda phedair blynedd, canys symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Saesonaeg yn Painswick, swydd Gaerloyw. Bu yr eglwys yma dros rai blynyddau heb weinidog, ond daliai yr achos ei dir er pob peth, a daethpwyd i benderfyniad i adeiladu capel newydd mewn man mwy cyfleus o'r dref, a chodwyd capel rhagorol, yr hwn yn nghyd a'r tir ar yr hwn y saif, a gostiodd 2800p. Agorwyd ef Mehefin 4ydd a'r 5ed, 1868. Derbyniodd Mr. Evan A. Jones, Llangadog, alwad gan yr eglwys yma yn Ionawr, 1868, ond oblegid cystudd ag angau yn ei deulu, bu am naw mis heb ei hateb yn gadarnhaol, ond o'r diwedd cydsyniodd a'r gwahoddiad, a symudodd yma yn Ionawr, 1869, ac y mae er ei sefydliad yn hapus a defnyddiol yma. Mae dyled y capel newydd trwy haelioni y cyfeillion yn y lle, a'r swm a gafwyd am yr hen gapel, wedi ei dynu i lawr i 700p., ac yn ol fel yr ymddengys pethau yn awr, nid â y pedair blynedd nesaf heibio heb weled y ddyled oll wedi ei thalu. Mae yr achos yma ar y cyfan mewn gwedd iachusol, a holl gylchoedd cyhoeddus crefydd, o leiaf, yn cael eu llenwi yn lled ddifwlch. Cafwyd yma dipyn o drafferth yn nglyn a gwerthiad yr hen gapel, oblegid fod yr hen weithred yn gwahardd ei werthu i un pwrpas, ond i fod yn gapel i'r Annibynwyr, a'r rhai hyny yn fedyddwyr babanod. Nid yn unig gofynai fod yr arian a geid am dano i fyned i'r un amcan ag oedd gan y rhai a'u hadeiladodd, yr hyn a gyfrifa llawer yn deg a rhesymol; ond nid oedd yn ol y weithred i gael ei werthu i ddim ond i fod yn gapel, nac yn gapel i neb ond yr Annibynwyr. Trwy apelio at y Charity Commissioners, cafwyd cenad i'w werthu, ar yr amod fod yr arian a geid am dano i fyned i dalu am y capel newydd, ac yr oedd pawb yn foddlawn i hyny, oblegid er mwyn cael yr arian i dalu am y capel newydd y gwerthid ef. Nid ystyrid yn gyfiawn i'r arian a geid am dano i fyned at ddim ond rhywbeth cydnaws a golygiadau y rhai a aeth i'r draul i'w adeiladu a thalu am dano.

Mae yma lawer o hen bobl ddeallgar a chrefyddol wedi bod yn nglyn a'r achos. Evan James, y cylchwr, oedd yn hen grefyddwr nodedig. Cyrifid ef yn gristion tawel, didwyll, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Meurig Ebrill, oedd un o aelodau cyntaf yr eglwys yma, ac a fu fyw i oedran teg. Yr oedd yn ddyn deallus, ac yn fardd rhagorol. Henry Miles, oedd ŵr da a ffyddlon, a gair da iddo gan y rhai a'i hadwaenai oreu. Lewis Pugh, a fu yma am flynyddau lawer yn gefn mawr i'r achos, ac yr oedd mewn amgylchiadau bydol y gallasai wneyd llawer drosto. Bu ef a Mrs. Pugh yn groesawgar a llettygar i'r achos am flynyddau lawer. Mrs. Anwyl hefyd, oedd un o'r gwragedd y cofir am dani gyda hiraeth gan y rhai a ymwelent a'r lle gynt. Nid oes o'r tô cyntaf yn aros yma ond Evan Jones, Tŷ'rcapel, ac y mae yntau yn llesg a methiedig; ond y mae hiliogaeth rhai o'r rhai fu yn wyr enwog yma gynt, yn aros etto, ac yn dilyn llwybrau eu tadau.

Codwyd amryw bregethwyr yn yr eglwys hon, ac o'r cyfryw yr ydym yn sicr o'r rhai canlynol:—

Owen Owens. Urddwyd ef yn Rhesycae, lle y treuliodd ei oes, a daw ei hanes yno dan ein sylw.

Evan Evans. Urddwyd ef yn Abermaw, ac y mae yn awr yn Llangollen. Mae ei enw yn ddigon hysbys yn eglwysi yr enwad yn Nghymru.

Thomas Davies. Nid fel pregethwr yn gymaint yr hynododd ei hun, ag fel apostol yr Ysgol Sabbothol. Ganwyd ef Ebrill 15fed, 1777, yn Green, Castellmoch, plwyf Llanrhaiadr-yn-mochnant. Treuliodd lawer o flynyddoedd boreu ei oes yn Lloegr, a chan ei fod yn meddu athrylith gelfyddydol gref yn naturiol, rhoddodd gweled tipyn o'r byd fantais iddi i ymddadblygu. Gwnaeth a'i law ei hun rai peirianau tra chywrain, a daeth i Ddolgellau i ddechreu, gyda bwriad o osod un o'r dyfeision cywrain mewn ymarferiad, ond aflwyddianus fu yn ei gynygion, a bu raid iddo dalu costau y methiant. Ond pan yma y dygwyd ef i adnabod ei gyflwr fel pechadur, a hyny trwy weinidogaeth Mr. Pugh, o'r Brithdir, a derbyniwyd ef yn aelod o'r gangen a ymgyfarfyddai yn ol fel y byddai cyfleustra yn y Cutiau a Llanelltyd. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth eang ac o feddwl grymus, a chyflwynodd agos ei holl lafur i wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Credai ef y gallesid gwneyd y sefydliad gwerthfawr hwnw yn llawer mwy effeithiol er cyrhaedd yr amcanion mewn golwg, a gwnaeth ei oreu yn mhob ffordd a farnai ef yn gyfaddas er cael hyny oddiamgylch. Cyhoeddodd Hyfforddwr ymarferol yr Ysgol Sul. Argraffodd werth 100p. o'r llyfr, a hysbysodd y buasai y cwbl a geid oddiwrtho yn cael ei roddi i drysorfa y Gymdeithas genhadol. Aeth ar daith trwy holl Gymru i gymell ei lyfr, ac i roddi engreifftiau o'r dull a gymeradwyai efe i sylw yr ysgolion. Gosodai bawb i ddarllen o atalnod i atalnod, a gwnai hyny yn y teuluoedd lle y llettyai, ac yn yr Ysgolion Sabbothol. Effeithiodd ei ymweliad er daioni mewn llawer o fanau. Cauai ei lygaid, wrth wrando y dosbarthiadau yn darllen, ond yr oedd ei glustiau yn agored fel na ddiangai yr un camgymeriad a wneid heb ei sylw, pa un bynag a'i mewn gair, acen, neu bwyslais y byddai. "Yr oedd ei fryd yn fawr i gael cyhoeddiad bychan at wasanaeth yr Ysgol Sul yn arbenig. Gwnaeth unwaith weithred yn cyflwyno 800p. i ddiaconiaid yr eglwys Annibynol yn Nolgellau fel ymddiriedolwyr, er dwyn allan gyhoeddiad o'r natur yma, a chyhoeddi llyfrau eraill perthynol i'r Ysgol Sul. Teimlai braidd yn chwerw tuag atynt, yn enwedig tuag at un person, cisiau na buasai y peth yn cael ei ddwyn oddiamgylch, a chyhoeddiad yn cael ei gychwyn. Yr esboniad tecaf ag y gallwn ei roi ar yr achos na chychwynwyd cyhoeddiad oedd hyn:—ni ddarfu iddo ef drosglwyddo yr arian drosodd i'w dwylaw fel ymddiriedolwyr. Yn awr, yr oedd ef yn disgwyl iddynt hwy gychwyn cyhoeddiad, a hwythau yn disgwyl iddo yntau gychwyn trwy roi yr arian yn eu gallu hwy, a thrwy fod y naill yn disgwyl wrth y llall, aeth y ddwy flynedd o amser oedd wedi ei roi er cychwyn yr anturiaeth heibio, ac aeth y cytundeb yn ofer. Ffurf arall ar yr un bwriad, oedd yr arian a roddwyd ganddo er cychwyn yr Annibynwr. Rhoddwyd ganddo 500p. at yr amcan hwnw, ar yr amod fod yr Ysgol Sul yn cael rhan o'r cyhoeddiad yn wastadol at ei gwasanaeth. Rhoddwyd 500p. at y dyben hyny, a hen wasg, yr hon a gyfrifai efe yn werth 60p., yr ydym yn meddwl. Mae 400p. o'r arian hyny ar dir, ac y mae eu llog at wasanaeth y Dysgedydd a'r Annibynwr, fel y maent yn awr yn unedig, ac y mae yr elw oddiwrth y cyhoeddiad i gael ei gyflwyno i gynnorthwyo hen weinidogion a phregethwyr analluog. Collwyd y lleill yn ngwahanol reverses anturiaeth yr Annibynwr."[152] Yr oedd ei holl galon o blaid llwyddiant yr Ysgol Sabbothol, a'r cwbl a ddymunai fod ar gareg i fedd ydoedd: "Yma claddwyd Thomas Davies, Dolgellau, awdwr Hyfforddwr ymarferol yr Ysgol Sul;" a gwnaethpwyd yn ol ei gais. Rhoddodd symiau helaeth rai troion at y Gymdeithas Genhadol, a thystiai y rhai a'i hadwaenent oreu, fod llwyddiant teyrnas y Gwaredwr yn agos at ei galon. Bu farw yn Gorphenaf, 1865, yn 88 mlwydd oed, ac er na bu iddo na gwraig na phlentyn, etto disgyna ei enw yn barchus i'r oesau a ddel fel apostol yr Ysgol Sabbothol.

Evan Thomas. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano ef yn nglyn a hanes Machynlleth, lle yr ydoedd pan y bu farw.

Rowland Hughes. Mae efe yn aros yn bregethwr parchus a defnyddiol yn yr eglwys yn Nolgellau.

William Meirion Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Blaenycoed, sir Gaerfyrddin, lle y mae yn aros etto.

Isaac Jones. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r olaf a enwyd. Yr oedd yn wr ieuangc talentog, a phe cawsai fyw yr oedd yn debyg o wneyd gweinidog defnyddiol. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a gwywodd fel blodeuyn cyn cyflawn ymagor. Yr oedd yn fab i Evan Jones, un o aelod—au hynaf yr eglwys, ac yn frawd i Ieuan Ionawr.

Evan Edmunds. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Dwygyfylchi, ac y mae yno etto.

Robert P. Jones. Derbyniodd ei addysg yn Manchester, ac urddwyd ef yn Llanegryn, lle y mae hyd yn bresenol.

Lewis Humphreys. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef i fyned allan i'r Wladychfa Gymreig yn Patagonia. Dychwelodd oddiyno, ac y mae yn awr yn weinidog yn Cwmtwrch, Morganwg.

William Griffith. Er mai nid yma y dechreuodd bregethu, etto, gan mai yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel pregethwr, yma y mae yn briodol i ni wneyd crybwylliad am dano. Ganwyd ef yn y Mynhadogisaf, Dolddelen, ac yr oedd ei rieni William a Lowry Griffith, yn mysg yr Annibynwyr hynaf yn y plwyf hwnw. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc. Aeth i Lanrwst i ddysgu argraffu, ac yno y dechreuodd bregethu. Symudodd i Ddolgellau yn nechreu y flwyddyn 1843, a bu yma hyd ei farwolaeth yn Hydref, 1864. Claddwyd ef yn mynwent Tabor. Pregethwr cynnorthwyol yn ngwir ystyr y gair ydoedd, ac ennillodd trwy ei ffyddlondeb barch a chydymdeimlad. Dyoddefodd gystudd hir, ac yr oedd ei amgylchiadau yn ddigon cyfyng, ond cafodd Dduw a dynion yn dirion iddo, a bu farw mewn tangnefedd.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

Pedwar gweinidog fu i'r eglwys hon er cychwyniad yr achos. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at Mr. Pugh, yn nglyn a'r Brithdir, ac y mae Dr. Davies, a Mr. Jones, y gweinidog presenol, etto yn aros, a hyderwn fod dyddiau lawer o ddefnyddioldeb mawr yn ol iddynt ill dau. Nid oes genym gan hyny ond un gweinidog i wneyd cofnodiad o hono yn nglyn a'r eglwys hon.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd
ar Wicipedia

CADWALADR JONES. Ganwyd ef yn Deildreuchaf, plwyf Llanuwchllyn, yn mis Mai, 1783. Yr oedd ei rieni John a Dorothy Cadwaladr, er nad yn proffesu crefydd, yn bobl barchus a chyfrifol yn eu hardal, ac ni bu iddynt un plentyn ond y bachgen hwn. Nis gwyddom pa fodd y gogwyddodd ei feddwl i ymofyn am grefydd, ond gwyddom i Cadwaladr Jones gael ei dderbyn yn aelod o'r eglwys yn yr Hen Gapel gan Dr. Lewis, yn mis Mai, 1803, pan yn ugain mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn Gorphenaf, 1806, wedi bod yn aelod am fwy na thair blynedd. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ngwrecsam yn mis Tachwedd y flwyddyn hono, a threuliodd yno y rhan fwyaf o'r pedair blynedd dilynol. Nid oedd yno gyda'r un cysondeb a'r myfyrwyr yn gyffredinol, oblegid ar ei draul ei hun yr oedd, a byddai yn gorfod aros adref y rhan fwyaf o bob haf i gynorthwyo ei dad ar y tyddyn. Yn y flwyddyn 1810, derbyniodd alwad i fod yn olynydd i Mr. Pugh o'r Brithdir, yn ei faes eang, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, Mai 23ain, 1811. Traddodwyd siars bwysig iddo gan ei weinidog, Dr. Lewis; a chafodd Mr. Jones oes hir i gyflawni ei weinidogaeth. Llafuriodd trwy yr holl gylch am saith mlynedd, hyd y flwyddyn 1818, y rhoddodd i fyny ofal y Cutiau a Llanelltyd. Yn mhen pedair-blynedd-ar-bymtheg drachefn, yn 1839, barnodd yn briodol roddi i fyny ofal y Brithdir a Rhydymain. Yn mhen pedair-blynedd-ar-bymtheg drachefn, yn 1858, ymddeolodd o bwys gofal gweinidogaethol yr eglwysi yn Nolgellau ac Islaw'rdre, wedi saith-mlynedd-a-deugain o lafur dibaid yn eu mysg, ond parhaodd am yn agos ddeng mlynedd yn hwy i gydlafurio a'i hen gyfaill Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn Llanelltyd, ac a'i gyfaill hoff Mr. R. Ellis, Brithdir, yn Tabor, hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei lafur, ac y gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, Rhagfyr 5ed, 1867, yn 85 oed, wedi bod 56 mlynedd yn y weinidogaeth, ac wedi pregethu yr efengyl am 62 mlynedd, ac am 65 mlynedd yn aelod yn eglwys Dduw. Mae yn rhaid ddarfod i'r fath un, a gafodd y fath oes hir, adael dylanwad annileadwy ar yr holl gylch yn yr hwn y llafuriai. Mae cofiant helaeth iddo wedi ei gyhoeddi gan Mr. R. Thomas, Bangor, gyda chynorthwy nifer o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn yr hwn y mae y tegwch mwyaf wedi ei wneyd a'i gymeriad. Nis gallwn ni yma ond prin gyfeirio at y llinellau amlycaf yn ei nodwedd fel dyn cyhoeddus, a chyfeirio ein darllenwyr a fyno weled YR HEN OLYGYDD yn ei holl neillduolion at y cofiant rhagorol hwnw, o'r hwn yr ydym yn gwneyd rhai difyniadau.

Yr oedd arafwch Mr. Jones "yn hysbys i bob dyn." Hynodid ef gan "ysbryd, nerth, a chariad, a phwyll." Os digwyddai fod camddealldwriaeth rhwng rhai o'r aelodau, neu achos dysgyblaeth yn yr eglwys, cymerai y fath bwyll gyda'r gorchwyl, fel yr oedd yn ddigon eglur ei fod yn penderfynu ei gwblhau cyn ei roddi i fyny. Bugail tyner a gofalus ydoedd wrth ymgeleddu y briwiedig o ysbryd a'r drylliedig o galon, ond mewn achosion a fyddai yn galw am farn, eisteddai fel barnwr hunanfeddianol gan bwyso y tystiolaethau a ddygid ger ei fron, ac nid oedd na chydnabyddiaeth na chyfeillgarwch a barai iddo gilio oddiwrth yr hyn a ymddangosai iddo yn deg a chyfiawn. Athraw doeth yn nghanol ei ddysgyblion ydoedd yn mysg pobl ei ofal. Dysgai iddynt "ffordd Duw" gyda manylwch, a thuag at y rhai oeddynt yn hwyrfrydig i ddysgu, yr oedd yn addfwyn fel mamaeth yn meithrin ei phlant. Fel duwinydd, yr oedd yn meddu golygiadau cyson a chlir ar drefn yr efengyl. Nid oedd cylch ei ddarlleniad yn eang, ond am yr hyn a ddarllenai, darllenai hwy yn drwyadl, a mynai ddeall yr hyn a ddarllenai. "Yr oedd yn bwyllog i gael gafael ar y gwirionedd; yr oedd llygaid ei feddwl yn graff a threiddlym i wahaniaethu y gwir oddiwrth y gau; yr oedd egwyddorion sylfaenol duwinyddiaeth wedi cael eu hastudio ganddo yn fanwl a thrwyadl, a chanfyddai gyda chywirdeb mawr, pa syniadau oeddynt mewn cysondeb a'r egwyddorion gwreiddiol hyny; ac o'r ochr arall, pa syniadau oeddynt mewn gwrthdarawiad iddynt, ac yn milwrio yn eu herbyn." Yn y tymor hir y bu yn eistedd wrth lyw y Dysgedydd, cafodd lawer cyfle i ddangos mor addfed oedd ei feddwl ar byngciau duwinyddol. "Y 'system newydd' fel ei gelwid oedd yn peri cyffro mawr yn mlynyddoedd cyntaf ei olygiaeth. Un o'r rhai blaenaf yn mysg dadleuwyr y dyddiau hyny oedd yr hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, a hen ddadleuwr teg a boneddigaidd iawn ydoedd. Tyn a phenderfynol dros ei bwngc, mae yn wir, ond yr oedd yn hawdd gweled mai ymofynydd gonest am y gwirionedd ydoedd. Ei ddadl ef a D. S. Davies, Llundain, ac eraill, yn erbyn Sion y Wesley oedd un o'r rhai cyntaf yn y Dysgedydd. Rhoddodd y Golygydd bob tegwch iddynt. Nid oedd byth ddim brys arno i gau y dadleuon i fyny, a gallesid bod bur sicr os soniai y Golygydd am dynu pen ar unrhyw ddadl, fod corff y darllenwyr wedi llwyr flino arni. Yn rhifyn Mai, 1825, y mae yn cloi y ddadl hono i fyny, ac y mae yn gwneyd hyny gyda'r pwyll a'r craffder oedd mor briodol iddo. Dywed yn bur ddigynwrf Nid ydym yn deall fod y ddadl wedi parhau cyhyd oblegid cyfatebolrwydd ymddangosiadol yn synwyr, dysg, a rhesymau y dadleuwyr, ond oblegid gorhoffedd Sion yn, a'i sel dros y gwaith o wrthwynebu ei wrthwynebwyr goreu ag y medrai, pan na fyddai ganddo ond ychydig iawn o feddyliau newyddion.' Mor ddidwrw onide, y mae yn ei droi o'r neilldu. Yna y mae yn myned yn mlaen i sylwi ar bwyntiau y ddadl. Bu yr un ddadl ger bron mewn gwahanol ffurfiau lawer gwaith ar ol hyny; ac ymddengys i ni bob amser fod terfyniad 'Dadl Etholedigaeth' yn Nysgedydd Ebrill, 1847, yn un o'r ysgrifau galluocaf a gyhoeddwyd erioed ar y pwngc yn ein hiaith. Dyna oedd ein barn am dani y pryd hwnw, darllenasom hi fwy nag unwaith wedi hyny, ac nid ydym wedi gweled achos i newid na chymedroli ein barn. Gwyddom yn dda na bu yn foddion i argyhoeddi y rhai a wrthwynebant y golygiadau a gofleidiai efe. Nid ydym yn meddwl fod neb yn disgwyl y gwnai hyny, ond gwyddom iddi gadarnhau llawer o'r rhai oeddynt amheus; a pheri i'r rhai a gredant yr athrawiaeth o'r blaen deimlo yn gryfach a gwrolach ynddi. Anhawdd genym feddwl fod unrhyw ddyn teg a diduedd (os yw yn bosibl cael y fath) beth bynag fydd ei farn bersonol ar yr athrawiaeth, na chydnebydd y craffder, y medrusrwydd, a'r annibyniaeth meddwl gyda pha un y mae yr Hen Olygydd" fel barnwr yn symio y cwbl i fyny." Fel pregethwr, "yr oedd ganddo ei safle briodol ei hun yn mysg ei frodyr, nid oedd yn meddu ar dreiddgarwch ac angerddolder Morgan, o Fachynlleth, na grymusder meddyliol Michael Jones, o Lanuwchllyn, nac athrylith Williams, o'r Wern, &c., ond yr oedd mor siwr o'i fater ag yr un o honynt. Yr oedd ol arafwch, a gofal, a phwyll, a barn, ar gyfansoddiad ei bregethau, yn gystal ag ar y traddodiad o honynt yn yr areithfa. Ni thaniai y fellten yn ei lygaid; ni chanfyddid dychrynfeydd yn ei wedd; ac ni chlywid swn y daran yn ei lais; ac ni chlywid gwynt nerthol yn rhuthro, na'r gwlaw mawr ei nerth yn disgyn braidd un amser, yn ei bregethiad ef. Afon hyd ddol-dir gwastad oedd ei weinidogaeth ef—Dyfroedd Siloa yn cerdded yn araf,' ydoedd. Gwelir ambell i afon fel pe byddai ar frys gwyllt am gyrhaedd y môr, chwyrna megis yn ddigofus ar y creigiau a safant ar ei ffordd, tra y mae un arall fel yn caru ymdroi, ymddolenu, ac ymfwynhau ar ei thaith i adlewyrchu pob gwrthrych yr elo heibio iddo ar wyneb ei dyfroedd. Cyffelyb oedd afon ei weinidogaeth yntau. Nid oedd mor gyfadlas i'r gwaith o dynu i lawr a chwalu cestyll a muriau o ddifrawder ac anystyriaeth, ag ydoedd i adeiladu meddyliau yn ngwirioneddau a ffydd yr efengyl. Nid ei gwaith priodol hi oedd arloesi a diwreiddio y drain a'r mieri, ond yn hytrach planu a maethu y ffinwydd a'r myrtwydd. Teimlai rhai deallus wrth ei wrando yn pregethu mai nid 'newyddian yn y ffydd', oedd y pregethwr; nid un wedi brysgipio golygiadau duwinyddol pobl eraill, a rhedeg â hwynt ymaith i'r areithfa, cyn eu chwilio, eu profi, a'u deall, ac felly yn myned i'r niwl a'r tywyllwch gyda hwynt,—ond eu bod yn eistedd dan athraw deallus, un a wyddai beth oedd efe yn ei gylch, ac un a allasai roddi rheswm da dros y pethau a gynygiai efe i sylw a derbyniad ei wrandawyr. Felly os nad oedd efe yr hyn a ystyrid yn bregethwr mawr a phoblogaidd, yr oedd yn athraw a dysgawdwr da; yn was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd yr Arglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt yn ei bryd. Os nad oedd yn meddu ar y nerth a allasai ysgwyd gwlad, fel oedd gan ambell i un o'i frodyr cyfoediol yn y weinidogaeth, yr oedd ganddo y dawn a'r cymhwysder i arwain, a choleddu, a phorthi praidd Duw."

Ond yr oedd Mr. Jones fel Golygydd yn llanw cylch neillduol, ac yn y cylch hwnw cyrhaeddodd gyhoeddusrwydd na chyrhaeddasai oni buasai hyny. Yr oedd y dadleuon duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, a'r ymosodiadau a wneid ar weinid—ogion yr Annibynwyr, yn peri iddynt deimlo fod gwir angen arnynt am ryw gyfrwng nid yn unig i amddiffyn eu hunain rhag y cyhuddiadau a ddygid i'w herbyn, ond hefyd i addysgu a goleuo yr eglwysi yn y gwirionedd sydd yn ol duwioldeb. Ymosodid arnynt gan yr Arminiaid ar y naill law, a chan yr uchel-Galfiniaid ar y llaw arall; ac nid oedd ganddynt yr un cyhoeddiad i'w gylchdaenu yn mysg pobl eu gofal trwy yr hwn y gallasent amddiffyn yr hyn a gredid ganddynt fel gwirionedd, yn gystal a throi yn ol gamgyhuddiadau eu gwrthwynebwyr. Cydymroddodd deuddeg o weinidogion i gychwyn cyhoeddiad misol, pris chwe'cheiniog yn y mis, dan yr enw Dysgedydd Crefyddol, a chytunasant i fod yn gydgyfrifol am ba golled arianol bynag a allasai fod yn nglyn a'i ddygiad allan, a dewiswyd Mr. Jones, Dolgellau i fod yn Olygydd, ac yn sicr efe o honynt oll, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, oedd y cymhwysaf i'w osod ar hyn o orchwyl. Daeth y rhifyn cyntaf allan yn mis Tachwedd, 1821; a bu Mr. Jones wrth lyw yr hen gyhoeddiad clodwiw am un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain. Nid yn aml y disgyn i ran un dyn i eistedd yn y gadair olygyddol am dymor mor hir. Rhaid fod cymhwysder neillduol yn yr "Hen Olygydd" i'r swydd, cyn y gallasai barhau ynddi cyhyd, a rhoddi ar y cyfan foddlonrwydd cyffredinol. Pe gofynid i ni grynhoi elfenau ei gymeriad fel Golygydd, fel y gellir eu casglu oddiar dudalenau y Dysgedydd yn ystod tymor maith ei olygyddiaeth, dywedem mai synwyr cyffredin cryf, arafwch, pwyll, ac ysbryd barn, anmhleidgarwch ac annibyniaeth meddwl, ac eglurdeb a symledd fel ysgrifenydd.

Ond dirwynodd oes hir Mr. Jones i ben. Nid oedd un afiechyd neillduol arno, ond fod natur yn graddol ymollwng, fel derwen yn gwywo, am na all mwy dderbyn nodd i fod yn iraidd. Bu farw yn union fel y bu byw, mewn hunanfeddiant tawel, a'i galon yn glymedig â'r pethau y cysegrodd ei fywyd iddynt, a'i ymddiried yn ei Dduw yn dal fel y graig yn ddiysgog er grym y llif. Diwrnod a hir gofir yn Nolgellau yw dydd Mercher, Rhagfyr 11eg, 1867, pan ddygwyd yr Hen Olygydd mewn elorgerbyd o Gefnmaelan, i'w roddi i orwedd yn mynwent y Brithdir. Dilynid et gan luaws mawr o gerbydau a gwyr meirch—yr oedd haner cant o bregethwyr o wahanol enwadau yn bresenol i amlygu eu parch i'w goffadwriaeth—gallesid tybied wrth fyned trwy Ddolgellau mai y Sabboth ydoedd, am fod pob siop wedi cau i fyny, a gwelid blinds gwynion galarus ar ffenestri y tai yr elid heibio iddynt—cyfrifid fod y dorf alarus yn fil o rifedi wrth fyned trwy y dref, a chyn cyrhaedd ei le beddrod, yr oedd wedi chwyddo yn fwy na phymtheg cant, ac yn nghanol y dagrau a dywalltid, rhoddwyd ef gan ei bum' mab i lawr i orwedd yn ei fedd newydd—a chefnai y dorf fawr ar ei weddillion marwol gan sibrwd yn ddistaw, fod y tirionaf a'r hawddgaraf o ddynion, wedi ei adael yn "nhŷ ei hir gartref." Heddwch i'w weddillion cysegredig! "Nac ymyred neb a'i esgyrn ef," hyd nes yr aflonyddir hwy gan "floedd a llef yr archangel," ac y daw i fyny i fwynhau y "gobaith gwynfydedig" yn yr "adgyfodiad gwell."


ISLAW'RDREF.

Mae y lle yma wrth droed Cadair Idris, o fewn pedair milldir i Ddolgellau, ar yr hen ffordd sydd yn arwain i'r Towyn. Dechreuwyd pregethu yma mewn hen felin, gan Mr. H. Pugh, Brithdir, rywbryd cyn y flwyddyn 1804; a choffeir hefyd am Mr. Pugh yn pregethu yn Tŷ'nyceunant. Symudwyd o'r felin i le a elwir y King's, ac yno y bu Mr. C. Jones ac eraill yn pregethu am flynyddau, hyd y flwyddyn 1821, pan y symudwyd i'r lle y maent ynddo yn bresenol. Yr oedd yr ychydig aelodau oedd yma yn arfer myned i Ddolgellau i gymundeb, oddigerth ambell gymundeb achlysurol a gedwid yma er cyfleustra i'r rhai ni allent fyned i'r dref.

Yn y flwyddyn 1831, ffurfiwyd yr ychydig aelodau oedd yma yn eglwys, ac er hyny y mae holl ordinhadau crefydd yn cael eu cynal yma yn rheolaidd. Ad-drefnwyd a helaethwyd y capel yn 1836, ac agorwyd ef Hydref 28ain a'r 29ain, y flwyddyn hono, pryd y pregethodd Meistri H. Pugh, Llandrillo; H. Lloyd, Towyn; E. Davies, Trawsfynydd; D. Morgan, Machynlleth; J. Williams, Dinasmawddwy; S. Roberts, Llanbrynmair; E. Griffith, Llanegryn, ac E. Evans, Abermaw. Rhifedi yr aelodau yn 1846, oedd pedwar-ar-hugain, ac felly y parhasant hyd adeg y diwygiad yn 1859, pan y dyblodd yr eglwys fechan yma mewn rhifedi, ond fel yn y rhan fwyaf o fanau y maent yn llai ar hyn o bryd. Mae yma nifer o bobl lled gefnog yn eu hamgylchiadau bydol, ac y maent yn awr yn myned i adeiladu capel newydd. Mae y lle yma o'r dechreuad wedi bod dan yr un weinidogaeth a Dolgellau, ac felly y mae yn parhau. Oddieithr i'r cloddfeydd sydd yn yr ardal fyned rhagddynt yn llwyddianus, nid oes un gobaith am eglwys luosog yma, canys ardal denau ei phoblogaeth ydyw, mewn cilfach anghysbell a mynyddig, ond y mae yma bobl ffyddlon, ac yn medru gwerthfawrogi a mwynhau gweinidogaeth bur ac efengylaidd.


TABOR.

"Capel y Cwecers" y gelwir ef fynychaf yn y gymydogaeth, oblegid mai eu heiddo hwy ydoedd yn wreiddiol. Ymddengys fod y Crynwyr yn lluosog mewn parthau o sir Feirionydd tua'r flwyddyn 1662, ac am flynyddau ar ol hyny, a dyoddefasant erledigaethau chwerwon. Ymfudodd llawer o honynt i Pennsylvania, ac y mae yno rai sefydliadau ac y mae yr enwau sydd arnynt yn dangos mai pobl Meirionydd oedd y rhai cyntaf i ymsefydlu ynddynt. Casglasant gynnulleidfa yn foreu o amgylch Dolgellau, a chodasant y "Tŷ Cyfarfod," fel yr arferent hwy ei alw, gyda gardd gladdu yn nglyn ag ef. Ond lleihau yn raddol yr oedd eu hachos, fel erbyn canol y ganrif bresenol yr oeddynt wedi llwyr ddarfod, a'r "Tŷ Cyfarfod" heb neb yn cyfarfod ynddo. O gylch y flwyddyn 1851, gwnaeth yr Annibynwyr gais am dano, a chafwyd ef i ddechreu dan ardreth, ac unodd ychydig gyfeillion perthynol i Ddolgellau a'r Brithdir oedd yn gyfleus iddo, i gychwyn achos Annibynol ynddo—Peter Price, Robert Thomas, Tyddynygraig, a Robert Jones, Tyddynmawr, a fu yr offerynau penaf i sefydlu yr achos yn Tabor. Cymerodd Mr. C. Jones, Dolgellau, a Mr. R. Ellis, Brithdir, ofal gweinidogaethol y lle rhyngddynt, ac felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr. Jones, ac yn awr y mae y gofal yn llwyr ar Mr. Ellis. Yn mhen amser llwyddwyd i gael gan y Crynwyr ei werthu, ac y mae yn awr yn feddiant i'r eglwys yn y lle. Ad-drefnwyd ef oddi-mewn y llynedd, fel y mae yn gapel cyfleus, a chynnulleidfa dda, ac eglwys weithgar ynddo, ac Ysgol Sabbothol fywiog, a'r achos ar y cyfan yn myned yn mlaen yn ddedwydd.


LLANELLTYD

Mae yn debygol mai Mr. Hugh Pugh, o'r Brithdir, a ddechreuodd bregethu yn Llanelltyd, tua'r flwyddyn 1802. Cafwyd tŷ o'r enw Penygarnedd yn y pentref uchod, dan ardreth flynyddol i bregethu ynddo. Cyfaddaswyd y tŷ trwy wneyd ynddo bulpud, bwrdd, ac eisteddleoedd, a pharhaodd felly hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol. Yr oedd Mr. Pugh yn ddyn hawddgar iawn, o ran corph ac yspryd—yn meddu ar lais mwynaidd a thoddedig yn dduwinydd clir a goleuedig, ac yn llawn iawn o hyawdledd; fel, rhwng y cwbl, yr oedd yn hynod o gymeradwy a derbyniol. Bu yn dra llafurus ac ymdrechgar tra y parhaodd ei dymor byr, a diameu, pe cawsai fyw, y buasai yn un o'r gweinidogion mwyaf poblogaidd yn Nghymru; ond torwyd ef i lawr yn flodeuyn prydferth, pan nad oedd ond megis yn ymagor.[153] Ffurfiwyd yr eglwys Annibynol yn Llanelltyd yn y flwyddyn 1802, a derbyniwyd yno ychydig o aelodau, ond y mae yr aelodau cyntefig wedi meirw oll er's llawer dydd. Yma y derbyniwyd Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn aelod, yn 1808, ac efe ydyw yr aelod hynaf sydd yn fyw a dderbyniwyd i eglwys Penygarnedd. Yn fuan ar ol corpholi yr eglwys yn Llanelltyd, dechreuodd Mr. Pugh bregethu yn y Ganllwyd, a'r Cutiau, a derbyniwyd aelodau o'r manau hyny yn Llanelltyd, a byddai yr holl aelodau o'r Cutiau a'r Ganllwyd yn arfer a dyfod yma bob mis i gymundeb, dros amryw flynyddoedd. Bu yr aelodau oddiyma am dymor ar ol cael capel yn Nolgellau yn myned i'r dref i gymundeb; ond parheid i bregethu yma fel o'r blaen, ac ystyrient eu hunain fel rhan o'r eglwys yn Nolgellau. Tua'r flwyddyn 1818, cydunodd y cyfeillion yn Llanelltyd mewn cysylltiad a'r Cutiau a'r Ganllwyd i roddi gwahoddiad unfrydol i Mr. Edward Davies, o'r Allt-tafolog, fel ei gelwid, i gymeryd eu gofal fel gweinidog, a chydsyniodd yntau a'u cais, a bu yma am o bedair i bum' mlynedd, nes yr ymadawodd i sir Drefaldwyn. Yn amser Mr. Davies, sefydlwyd yr eglwys Annibynol yn y Ganllwyd. Ar ol ymadawiad Mr. Davies, byddai Mr. C. Jones, Dolgellau yn ymweled a'r eglwys yn Llanelltyd unwaith yn y mis, a pharhaodd felly hyd ei farwolaeth. Yn y flwyddyn 1822, daeth Mr. E. Davies i fyw i Drawsfynydd, a chan fod ganddo un Sabboth o bob mis yn rhydd, dymunodd y cyfeillion yn y Ganllwyd a Llanelltyd am iddo roddi y Sabboth hwnw iddynt hwy, ac felly y bu, a pharhaodd i wneyd hyn am yspaid o saith-mlynedd-a-deugain, yn lled ddigoll, hyd ddechreu y flwyddyn 1870. Gwelwyd yn angenrheidiol i helaethu ac adgyweirio yr hen Addoldy yma. Gollyngwyd y tŷ oedd wrth ei dalcen yr un ffordd a'r capel, gwnaed ffenestri newyddion, a'r cwbl oddifewn yn newydd, yn nghydag oriel ar un pen. Y mae yn awr yn addoldy cyfleus, hardd, a chysurus. Costiodd yr ad gyweiriad tua 110p., ac y mae 100p. wedi ei dalu. Yn niwedd 1869, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Thomas, myfyriwr yn athrofa y Bala, i ddyfod yn weinidog yma, mewn cysylltiad a'r Ganllwyd a Llanfachreth, a chydsyniodd yntau a'u cais. Dymunodd yr eglwysi ar Mr. Davies, yr hen weinidog, i ysgrifenu yr alwad, a gwnaeth yntau hyny, a phregethodd yn y tri lle yr un Sabboth, er mwyn i'r holl aelodau gael cyfle i arwyddo yr alwad. Yn yr wythnos gyntaf yn 1870, cadwyd cyfarfod yn Llanelltyd i neillduo Mr. Robert Thomas yn gyflawn i waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Peter, o'r Bala; holwyd y gweinidog gan Mr. I. Thomas, Towyn; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Thomas, Bangor; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Edwards, Aberdare; ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Mae lle bychan yn perthyn i Lanelltyd, rhyngddo a'r Abermaw, lle y pregethir yn achlysurol, a elwir y Borthewynog. Mae Mr. Thomas a'r eglwysi yn ymddwyn yn serchog a charedigol iawn tuag at eu gilydd hyd yma, a gobeithio y parhant felly, ac yr estynir i Mr. Thomas oes hir, ddedwydd a llwyddianus[154]. Rhoddodd un Cadben Williams, lôg 400p. i Meistri C. Jones, Dolgellau, ac E. Davies, Trawsfynydd, dros eu bywyd, am weinidogaethu yn Llanelltyd; ond dewisodd mab Cadben Williams dalu y 400p. i fyny, ac y maent wedi eu rhoddi i ymddiriedolwyr; ac y mae eu llôg i'w dalu i weinidog Llanelltyd o oes i oes.


GANLLWYD.

Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. Hugh Pugh o'r Brithdir, yn y flwyddyn 1805, yn Llofftyfelin, sef ty Richard Roberts, y melinydd, a pharhawyd i gadw moddion yn y lle hwn am amryw flynyddau, hyd nes y cymerwyd y felin gan Mr. Robert Roberts o Ddol-y-melyn-llyn, yn lle i durnio coed. Yna cafwyd lle i bregethu ac i gadw Ysgol Sabbothol mewn hen ystafell a adeiladwyd yn weithdy gof, a bu yno Factory wlan wedi hyny. Buwyd yn cynal moddion crefyddol yn y lle hwn am amryw flynyddau heb na phulpud o un math nag eisteddleoedd ynddo. O'r diwedd teimlodd y gwr oedd yn byw yn y ty, y gwnai yn well er ei les ei hun, iddo fod yn arweinydd i ddangos y rhiadrau oedd gerllaw ar y Sabothau ac amserau eraill, a rhoddi ceffylau yr ymwelwyr i aros yn y man lle yr oeddid yn pregethu! Felly gorfodwyd ymadael a'r lle hwnw er gwaeled ydoedd, a buwyd yn cynal moddion yn y Tycerig, a lleoedd eraill yn y gymydogaeth, fel y gellid am ryw gymaint o amser. Ar ol ymadawiad yr arweinydd hwnw, cafwyd myned i'r Factory drachefn, a gwnaed yno rhyw fath o bulpud gwael ac ychydig o eisteddleoedd, ac felly cafwyd llonydd hyd nes yr adeiladwyd y capel. Ni chorpholwyd eglwys yn y Ganllwyd, hyd nes y daeth Mr. Edward Davies o'r Allt i gymeryd eu gofal fel gweinidog mewn cysylltiad a Llanelltyd a'r Cutiau, yr hyn oedd tua'r flwyddyn 1818. Ymadawodd Mr. Davies yn mhen o bedair i bum' mlynedd. Yn y flwyddyn 1822, daeth Mr. E. Davies i fyw i Drawsfynydd, a chymerodd ef ofal y lle yn benaf, a rhoddai ran o un Sabboth yma yn rheolaidd bob mis. Byddai yn arfer myned boreu y Sabboth hwnw i'r Penrhosisaf, yn ochr Llanfachreth, ac i'r Ganllwyd erbyn 2, Llanelltyd at 6, ac felly ennillwyd cryn lawer o bobl o ochr Llanfachreth, a derbyniwyd hwy yn aelodau yn y Ganllwyd. Bu yr achos yn lled isel yn y Ganllwyd, hyd yn ddiweddar. Nid oedd ganddo dy i aros ynddo, ac ar ewyllys da yr ymddibynai am le i drigo. Ymadawodd amryw o aelodau y Ganllwyd oedd yn byw yn mhlwyf Llanfachreth, pan godwyd Capel yn y lle olaf. Breuddwydiwyd llawer am le i godi capel yn y Ganllwyd, ond nid oedd ond gobaith gwan am lwyddiant. Ond yn ddisymwth ac annisgwyliadwy cafodd Mr. John Jones o'r Tynewydd, ddarn o dir gan Arglwydd Kenyon, mewn lle cyfleus ar fin y ffordd o Ddolgellau i Drawsfynydd, i wneyd capel a mynwent, am y pris rhesymol o 10p. Talodd am y lle gan gwbl fwriadu iddo fod yn feddiant i'r Annibynwyr. Teimlodd Mr. John Jones ei hun yn gwanhau, a bod angau yn dechreu tynu ei babell bridd i lawr, a dangosodd le yn nghongl y darn tir ydoedd wedi ei brynu, a dywedodd, "Cleddwch fi yn y fan yma." Bu farw yn fuan ar ol hyn, a chladdwyd ef yn y lle a ddangosasai yn ol ei ddymuniad. Yr oedd hyn cyn cau y tir i fewn na gwneyd un parotoad at adeiladu. Gan i Mr. Jones farw cyn gwneyd cyflwyniad o'r lle i'r dyben a fwriedid, a chan na feddyliodd grybwyll dim yn nghylch y lle yn ei ewyllys, yr oedd yn disgyn yn etifeddiaeth i nai o fab brawd iddo, yr hwn oedd yn cartrefu yn yr America. Ofnid unwaith y collasid y tir wedi ei gael, neu o leiaf y buasai yn rhaid talu llawer mwy na'r pris gwreiddiol am dano, ond trwy gyfryngiad goruchwyliwr Arglwydd Kenyon, gwnaed pob peth yn ddiogel.[155]

Yn y flwyddyn 1857, cauwyd y darn tir i fewn, ac adeiladwyd capel hardd a chyfleus iawn ar y lle, ei fai mwyaf ydyw ei fod yn rhy fychan. Dangosodd trigolion yr ardal ffyddlondeb mawr tuag at yr achos, fel y talwyd am y cwbl, heb fyned bron ddim allan o'r gymydogaeth.

Yn niwedd 1869, unodd yr eglwys hon a Llanelltyd a Llanfacheth, i roddi galwad i Mr. Robert Thomas, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad. Bu yma lawer o bobl weithgar gyda chrefydd, ac yr oedd John Jones, Tynewydd, yn arbenig, yn gedrwydden gref yn mynydd Duw yn y Ganllwyd; a theimlwyd colled fawr pan y cwympwyd ef gan angau.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys yma y personau canlynol:—

Richard Roberts. Dechreuodd bregethu yn fuan wedi cychwyniad yr achos yma. Symudodd i fyw i Lanuwchllyn ac oddiyno i Lanbrynmair, lle y dibenodd ei yrfa.

Thomas B. Morris. Bu yn athrofa y Bala, urddwyd ef yn Rhosllanerchrugog. Symudodd i'r Rhyl, ond ni bu yn hir yn yr un o'r ddau le. Ymunodd a'r Bedyddwyr, ac aeth i America, ac y mae yno yn bresenol yn golygu newyddiadur Cymreig. Adnabyddir ef fel Gwyneddfardd.

Richard Williams. Aeth i'r America, a bu farw yno.

Nicholas Parry. Bu farw yn ieuangc, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf Trawsfynydd.

Mae golwg siriol a llewyrchus ar yr achos yn y Ganllwyd, ac y mae yn ymddangos yn well nag y gwelwyd ef erioed o'r blaen.

LLANFACHRETH.

Saif Llanfachreth oddeutu pedair milldir i'r gogledd o Ddolgellau, yn nghanol mynyddoedd cribog a golygfeydd gwylltion a rhamantus. Yn ddiweddar mewn cydmariaeth y cychwynodd yr achos Annibynol yn yr ardal hon. Meddienid yr ardal gan y Methodistiaid Calfinaidd a'r Eglwys Sefydledig. Bu y Wesleyaid yn cychwyn achos mewn anedd-dŷ o'r enw Corsygarnedd, ychydig cyn i'r Annibynwyr ddechreu. Cynhalient Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddi yn lled gyson, ac ymwelid â hwy yn awr a phryd arall, gan weinidogion perthynol i'r cyfundeb yn nghylchdaith Dolgellau, ond byr fu arhosiad y Wesleyaid yn yr ardal. Y gallu crefyddol mwyaf yn Llanfachreth y dyddiau hyny oedd y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt Ysgol Sabbothol boblogaidd ac enwog, ac y mae yn ymddangos mai o Ysgol Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd y torodd y blaguryn Annibynol allan gyntaf. Yr oedd yn perthyn i'w hysgol y pryd hwnw amryw bersonau yn gogwyddo yn gryf at y golygiadau a adnabyddid fel y system newydd, y rhai a ddiystyrid yn ddiarbed gan awdurdodau yr ysgol. Cyfododd hen flaenor ar ei draed ar ddiwedd yr ysgol un Sabboth, a chyhoeddodd gydag awdurdod, nad oedd yr un athrawiaeth i gael ymdrin a hi yn eu hysgol hwy, ond a gytunai yn mhob peth a'r golygiadau a gyhoeddid o'r pulpud. Ofer fu y gorchymyn, ac yn hytrach na diffodd y golygiadau, enynwyd hwynt yn fwy. Buasai atal eu lledaeniad mor anhawdd a throi y Mawddach yn ei hol. Ni bu y gwaharddiad yn ddim amgen na chawod o wlaw taranau i chwyddo'r afon dros ei cheulanau. Enciliodd pleidwyr y system newydd o'r ysgol, ac aeth amryw o honynt i Ysgol Sabbothol y Wesleyaid, yr hon a gynhelid ar y pryd yn Nghorsygarnedd, a'r gweddill i'r Ganllwyd.

Y cyntaf i ymuno a'r Ganllwyd o ardal Llanfachreth oedd Edward Pugh, crydd, wrth ei gelfyddyd. Efe oedd y cyntaf i fyned i'r gyfeillach yno. Dilynwyd ef gan Hugh Pugh, ei frawd, yr hwn oedd yn byw mewn lle o'r enw Caetanglwys. Dilynwyd y ddau gan J. Morris, Rice Price, &c. Derbyniwyd pedwar o honynt gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn y Ganllwyd. Buont yn cerdded o Lanfachreth yno—pellder o dair milldir o ffordd, am rhyw gymaint o amser. Yn y flwyddyn 1838, penderfynasant gynal moddion yn Caetanglwys, cartref yr H. Pugh y cyfeiriwyd ato yn barod. Cymerasant lofft fechan yno ar ardreth, a gwnaethant bulpud, ac ychydig feinciau, er mwyn gwneyd y lle mor gyfleus ag yr oedd modd. Y cyntaf o'r Annibynwyr i bregethu yn y lle hwn oedd Mr. Davies, Trawsfynydd. Dilynwyd ef gan amryw o'i frodyr, ac yn eu plith, daeth yr hen efengylydd gonest o Lwyngwril yno un noson. Fel yr oedd yn pregethu, ac yn cynesu yn ei fater, digwyddodd iddo daro y ganwyll oddiar ymyl y pulpud nes y syrthiodd, a chan mai hono oedd yr unig ganwyll oedd ganddynt yn yr ystafell, nid oedd gan y pregethwr ddim ond gyru yn mlaen yn y tywyllwch, neu dori i fyny. Ond yr oedd gormod o hwyliau ar lestr yr hen frawd i sefyll mewn mynyd, ac meddai "oddth ydi hi wedi t'wddthu o'dd ddaiadd fddodydd bach, gwnawn tddo oddth cawn ni oddeuni o'dd nefoedd." Cafodd lonyddwch a hwylusdod i orphen ei bregeth, a mynych y diolchai iddynt am eu hymddygiad gweddus yn ngwyneb yr anffawd. Yn mhen oddeutu blwyddyn wedi iddynt ddechreu yn Caetanglwys, cawsant rybudd i ymadael a'r llofft. Yr oedd hyn yn gryn siomedigaeth, a pharodd y rhybudd hwn i rai ddigaloni am ychydig, ond gwnaeth eraill yn fwy selog a phenderfynol. Y Sabboth olaf yn yr hen lofft a ddaeth, ac nid oedd gwawr gobaith yn ymdori o unman, fod lle arall yn ymagor iddynt. Modd bynag, cyhoeddodd Edward Pugh y byddai ysgol yn ei dŷ ef yn Llanfachreth y Sabboth dilynol, ac y byddai croesaw calon i bawb ddewsai ddyfod yno. Felly y bu, daethant yn nghyd yn lled gryno, ac ymddangosent yn llawer siriolach y Sabboth hwn na'r diweddaf. Yn mhen ychydig amser wedi iddynt ail ddechreu yn nhŷ Edward Pugh, penderfynasant gael eu ffurfio yn eglwys Annibynol reolaidd. Daeth Mr. C. Jones, Dolgellau, a Mr. H. James, o'r Brithdir, i'w ffurfio yn eglwys. Nid ydys yn gwybod yn sicr faint o gymundebau a gafwyd yn nhŷ E. Pugh, ond fe dderbyniwyd rhai yn aelodau yno, a buwyd yn cynal moddion yno am oddeutu pymtheg mis. Cawsant eu bendithio a diwygiad lled rymus yn y cyfnod yma, ac arwyddion amlwg fod y nefoedd yn cymeradwyo eu gwasanaeth.

Wrth weled fod yr eglwys yn cynyddu, a bod y tŷ yn fychan ac anghyfleus, dechreuasant edrych am ryw gornel i godi capel. Yr oedd cael hyn yn bur anhawdd, trwy fod tirfeddianwyr y lle mor selog dros yr Eglwys Wladol, ac yn dra gelyniaethus i Ymneillduaeth. Ond trwy garedigrwydd y boneddwr haelfrydig, Mr. R. Pugh, Helygog, (tad yr un presenol,) llwyddasant i gael lle ar dir Ffrwdyrhebog, am yr ardreth resymol o 7s. 6c. y flwyddyn. Wedi sicrhau tir, yr oedd yn eithaf digalon i feddwl dechreu ar y gwaith, gan nad oeddynt ond ychydig weithwyr yn ymladd a'r byd i geisio cynal eu hunain a'u teuluoedd. Addawai rhai o gyfeillion y Ganllwyd eu cynorthwyo yn eu hymdrech, ond oblegid rhyw ddylanwadau o eiddo rhywun neu rywrai, ychydig o gefnogaeth chwaethach cymorth o gafwyd oddiyno. Yn y cyfamser daeth Samuel Williams, Hendregyfeilliad, (Dolgellau yn bresenol,) i aros i ardal Llanfachreth, yr hwn sydd yn Annibynwr selog a phenderfynol, a bu o help mawr i roddi ail gychwyn ar y gwaith. Apeliasant at eglwys Dolgellau am gynorthwy a chymorth i godi y capel. Cawsant hyny. Dechreuasant arno ar unwaith, ac fe'i hagorwyd yn y flwyddyn 1840. Maint y capel yw saith lath wrth wyth. Maint y tir a gafwyd ar y dechreu oedd deuddeg llath wrth un-ar-bymtheg. Costiodd yr adeilad oddeutu 96p. Yn ddiweddarach fe brynwyd y tir gafwyd i ddechreu ar brydles, ac fe ychwanegwyd ato ddigon i wneyd mynwent fechan yn ymyl y capel. Mae dau neu dri wedi eu claddu ynddi yn barod. Mae cyfeillion Siloh, Llanfachreth, (oblegid dyna enw'r capel,) wedi cael Mr. R. Pugh, Helygog, yn foneddwr parod i roddi iddynt y tir at wasanaeth yr enwad, a hyny ar y telerau mwyaf rhesymol.[156] Costiodd adgyweirio y capel tua 10p., ond y mae yn dda genym allu dyweyd nad oes arno ddim dyled o gwbl. Wedi cael capel newydd, trodd y cyfeillion yn Llanfachreth eu hwynebau am weinidogaeth i gyfeiriad Rhydymain a'r Brithdir, a'r cyntaf i gymeryd gofal yr eglwys fel ei gweinidog fu Mr. Hugh James. Llafuriodd yn galed gyda graddau helaeth o lwyddiant yn eu plith. Ar ei ol ef cymerwyd ei gofal gan Mr. John Davies, yn nglyn a Rhydymain yn unig; byr fu ei arosiad yn eu mysg, ond bu yn ddiwyd ac ymdrechgar yn ystod yr amser hwnw. Ymadawodd a'r Annibynwyr ac ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd. Y trydydd gweinidog i gymeryd gofal yr eglwys yma fu Mr. Robert Ellis, Brithdir. Gan fod ganddo i ofalu am Rydymain, Brithdir, Tabor, Ganllwyd, a Llanfachreth, ychydig o ffrwyth ei lafur a allasai y gangen hon ei gael, ond bu yn hynod ddedwydd a llwyddianus yn ei gysylltiad a'r eglwys hon hyd y diwedd. Yn y flwyddyn 1869, anogodd hwy i ymuno a Llanelltyd a'r Ganllwyd, i roddi galwad i ddyn ieuangc i gymeryd eu gofal. Gwnaethant ei gyngor, a rhoddasant wahoddiad unfrydol i Mr. Robert Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala. Atebodd yntau hwy yn gadarnhaol, ac ymsefydlodd yn eu plith Ionawr, 1870. Mae cysylltiad Mr. Thomas a'r eglwysi yn bob peth a ellid ei ddymuno, ac yr ydym yn hyderu yr erys felly am lawer o flynyddoedd. Mae golwg siriol ar yr achos. Llawer fu yn darogan, os nad yn dymuno ei angau, ond byw ydyw—golwg byw sydd arno—a chan mai achos y "Duw byw" ydyw, byw a fydd. Ni chodwyd yma yr un pregethwr, ond y mae yn perthyn i'r eglwys un pregethwr cynorthwyol, sef Griffith Price. Dechreuodd bregethu yn Jerusalem, Trawsfynydd, er mai brodor oddiyma ydyw, ac y mae yn parhau gyda'r gwaith. Gobeithiwn fod i'r dyn hynaws a thangnefeddus hwn lawer o flynyddoedd etto i wasanaethu ei Arglwydd.

CUTIAU.

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanaber. Yr Annibynwr a'r Ymneillduwr cyntaf a bregethodd yn y plwyf, yn ol dim hanes a ellir gael, oedd y diweddar Mr. Benjamin Evans, o'r Drewen, Ceredigion, ond Llanuwchllyn y pryd hwnw. O gylch y flwyddyn 1770, cofrestrodd Mr. Evans, gegin amaethdy o'r enw Maesyrafallen, i bregethu ynddi. Perchenog a phreswylydd yr amaethdy crybwylledig oedd un Cadben William Dedwith, (Dedwydd), gwr genedigol o Abergwaun, Penfro; ac ewythr, brawd ei mham, i wraig y rhagddywededig B. Evans. Ymbriodasai y Cadben Dedwith âg aeres y Gorllwyn, gerllaw Abermaw, rai blynyddoedd cyn dyfodiad Mr. Evans i Llanuwchllyn, ac felly rhoddasai heibio forio, a bu yn seren oleu yn awyrgylch crefydd yn y parthau yma o sir Feirionydd. Yn y flwyddyn 1777, ymadawodd Mr. Evans o Llanuwchllyn i Hwlffordd, Penfro, ac o herwydd diffyg gweithwyr selog, gadawodd yr Annibynwyr y maes a ddechreuasant ei lafurio, am o gylch pedair-blynedd-ar-hugain, hyd nes y cyfododd yr Arglwydd ddau ŵr ieuangc yn y sir, sef William Williams, wedi hyny o'r Wern, a Hugh Pugh, o'r Brithdir; y rhai, er yn ieuangc, a bregethent Air y Bywyd gyda rhyw ddylanwad anarferol yn mhob cwm, ac ar bob bryn yn y cymydogaethau o gylch y lleoedd y magwyd hwynt. Yr oedd yr enwog John Jones, o Ramoth, fel ei gelwid, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Sandemanaidd, yn gwneyd cryn dwrw yn y parthau yma y blynyddoedd hyny, ac yr oedd ef a'i ganlynwyr yn bur ddirmygus o'r ddau ŵr ieuangc, o herwydd eu poblogrwydd a'u hieuengctyd, mewn rhan, ond bu ymweliadau achlysurol y Dr. Lewis, o Lanuwchllyn, yn foddion tra effeithiol i symud y rhagfarn oedd gan rai pobl hunain-ddoethion yn erbyn y gwyr ieuaingc, oblegid yr oedd efe yn wr mewn oed, ac yn ysgrythyrwr mawr, a dylanwad neillduol, ar y cyfan, yn cydfyned a'r hyn a ddywedai. Tŷ'nyllwyn, yn Nghwm-y-sylfaen oedd y tŷ cyntaf y cafodd y brodyr Pugh a Williams ganiatad i fyned iddo i bregethu, ond nid oedd yn y tŷ hwnw, nac mewn un tŷ arall yn y gymydogaeth, yr un tamaid i'w fwyta cyn dechreu nac wedi gorphen pregethu, am oroiau lawer, a thystiai Mr. Pugh yn nghlyw un hen chwaer a adroddai yr hanes i Mr. Jones, Abermaw, iddynt ddyoddef eisiau caled y troion cyntaf y daethent i'r gymydogaeth i bregethu, ond ni ddigalonasant er dim. Wedi i Mr. Williams fyned i'r athrofa, parhaodd Mr. Pugh i ddyfod, a chyn hir ennillodd deimlad ffafriol iddo, ac ennillodd eneidiau hefyd at yr Arglwydd. Cofrestrodd dŷ i bregethu ynddo, yr hwn a elwir Penbrynisaf. Saif y tŷ hwnw gerllaw y capel a adeiladwyd yn y flwyddyn 1806. Y Cadben Rees Griffith, o'r Farchynys, taid "Y Gohebydd," Mr. Thomas Davies, Dolgellau; a Mr. C. Jones, o'r Sylfaen, ac amryw eraill, llai mewn gallu, ond nid mewn ffyddlondeb, fu yn brif offerynau i gael y capel, y rhai oll a ennillwyd i'r ffydd yn y gymydogaeth hon, ond a gyrchent i gymuno i'r Brithdir, ddeuddeng milldir o ffordd, nes y ffurfiwyd eglwys yn Llanelltyd. Wedi marwolaeth Mr. Pugh, bu yma gryn ddiffyg am weinidogaeth gyson, ond gofalai y ffyddloniaid yn Rhydymain a'r Brithdir i ddyfod yma i gynorthwyo cynal cyfarfod gweddio. Yn mhen o gylch dwy flynedd, daeth Mr. Cadwaladr Jones i faes mawr, hir, Mr. Pugh, a llafuriodd yma gyda chysondeb a ffyddlondeb digyffelyb, pan gofiom eangder ei gylch. Yn mhen o gylch saith mlynedd wedi i Mr. Jones lafurio y maes o flaen Drwsynant, hyd ganol Dyffrynardudwy, sef gwlad o gylch pedair-milldir-ar-hugain o hyd, anogodd y cyfeillion yn y Cutiau i roddi galwad i Mr. Edward Davies, o'r Allt Tafolog, ger Dinasmawddwy, i ddyfod i'w bugeilio; ac yn mis Mai, 1818, ymsefydlodd Mr. Davies yn eu mysg, a bu yma yn bur lafurus a defnyddiol am bedair blynedd, nes y symudodd i Treflech, gerllaw Croesos wallt. Wedi hyny, am o gylch dwy flynedd, syrthiodd gofal gweinidogaethol y cwr yma o'r maes hir drachefn ar ysgwyddau Mr. Jones, ond yr oedd ganddo erbyn hyn lu o bregethwyr cynorthwyol. Enwir Robert Roberts, o'r Brithdir; Owen Owens, (Rhesycae wedi hyny); Richard Roberts, o'r Ganllwyd; Richard Herbert; Richard Jones, Llwyngwril; Evan Evans, yn awr o Langollen, ac eraill. Yn niwedd y flwyddyn 1826, rhoddodd yr eglwys yn y Cutiau, mewn cysylltiad a'r ychydig gyfeillion oedd yn yr Abermaw a'r Dyffryn, alwad i Mr. Evan Evans, Bwlchgwyn—am yr afon a'r lle—i fod yn weinidog. Yr oedd Mr. Evans yn yr Abermaw, er y flwyddyn flaenorol, yn cadw ysgol, ac yn pregethu agos bob Sabboth yn y Cutiau, Abermaw, a'r Dyffryn. Rhoddwn yma gopi o'r alwad a dderbyniodd Mr. Evans:—

"CUTIAU, Tachwedd 16eg, 1826.

Mr. EVAN EVANS, Bwlchgwyn,

Yr ydym ni, aelodau yr eglwys sydd yn ymgyfarfod yn y Cutiau, yn sefyll mewn angen, fel y gwyddoch, am weinidog i flaenori yn ein plith, ac i dori i ni o fara y bywyd. Ar ol cael cyfleusdra i sylwi ar eich golygiadau chwi ar athrawiaethau yr efengyl—y doniau a pha rai yr ydych wedi eich cynysgaeddu, a'ch ymddygiad addas i'r gwirionedd; ac ar ol i ni gael cyfleusdra i ymgynghori â'n gilydd, gan hyderu hefyd ein bod wedi ymgynghori a'r Arglwydd! yr ydym yn calonog roddi i chwi alwad i lafurio yn ein plith, ac i gymeryd ein gofal yn yr Arglwydd, gan hyderu y bydd i chwi a ninau fod o lawer o gysur i'n gilydd. A chyda golwg ar eich cynhaliaeth, yr ydym yn addaw casglu yn ein plith ein hunain, yn y Cutiau yn unig, WYTH BUNT yn y flwyddyn. Gan obeithio y bydd i chwi gael eich tueddu i gydsynio a'n dymuniad, ydym, dros yr eglwys, yr hon sydd yn cynwys ugain o aelodau, eich brodyr a'ch cyfeillion yn rhwymau yr efengyl,

REES GRIFFITH,
LEWIS WILLIAMS,
RICHARD WILLIAMS."

Ar y 23ain o Fai, 1827, cynhaliwyd cyfarfod yn y Cutiau i'w neillduo i waith pwysig y weinidogaeth. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; gweddiwyd yr urdd—weddi gan Mr. D. Morgan, Machynlleth; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Jones, Bala; ac i'r eglwys gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri H. Lloyd, Towyn; H. Morgan, Sammah; J. Ridge, Bala; a W. Roberts, Trawsfynydd.[157] Llafuriodd Mr. Evans yma yn ddiwyd hyd y flwyddyn 1844, pan y symudodd i Faentwrog. Dilynwyd ef gan Mr. James Jones, Capelhelyg, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn nglyn ag Abermaw a'r Dyffryn, yn fuan wedi ymadawiad Mr. Evans, ac a fu yma yn gymeradwy am bum'-mlynedd-ar-hugain, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol. Yn mis Tachwedd, 1869, dechreuodd Mr. David Evans, Rhosymedre, ei weinidogaeth yma, ac yn yr Abermaw a'r Dyffryn, ac y mae yn parhau i ofalu am y tri lle. Ni bu yr achos yma yn gryf yn un adeg yn ei hanes; ond bu yma amryw o bobl ffyddlon a chrefyddol o bryd i bryd, y rhai nad oedd dim yn ormod ganddynt ei wneyd er mwyn achos yr Arglwydd. Nid ydym yn cael i un pregethwr godi yn yr eglwys hon, ond bu yma un hen bregethwr, yr hwn a dreuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn yr ardal yma, sef Robert Roberts. Adwaenid ef gynt fel Robert Roberts, Henblas, Brithdir. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf a dderbyniwyd yn aelodau yn y Brithdir ar gorpholiad yr eglwys yno. Dechreuodd bregethu megis yn ddiarwybod iddo ei hun, trwy ddarllen penod mewn cyfarfodydd gweddïo, a dyweyd ychydig oddiwrthi, a bu felly am fwy na dwy flynedd cyn pregethu yn ffurfiol oddiar destyn. Pregethodd lawer trwy yr holl wlad o Rydymain i'r Dyffryn, ac o Drawsfynydd i Lwyngwril, ac yr oedd yn dderbyniol pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn o gorff cryf, ac o feddwl grymus, ac yn nodedig am graffder ac ysbryd barn. Gwelodd dymhorau gwahanol ar grefydd yn ei oes, ond nid ar awelon yr ymddibynai; ond gwnai waith crefydd yn ol rheswm a chydwybod. Arferai adrodd gyda difyrwch, fod Mr. D. Davies, Abertawy, a John Bulk, yn pregethu ar ganol dydd yn y Brithdir mewn tŷ anedd, ar adeg o ddiwygiad grymus; ac yr oedd dawn swynol Mr. Davies wedi peri i'r rhan fwyaf anghofio eu hunain yn llwyr, ac yn mysg eraill yr oedd ei gyd-bregethwr John Bulk yn moli ac yn neidio gyda'r bobl mewn gorfoledd. Eisteddai Robert Roberts ar y bwrdd, a daeth John Bulk ato gan ddyweyd wrtho "Hawyr bach, wyt tithau ddim yn molianu fach'en?"

"Nac wyf fi," ebe Robert Roberts, "mae arnaf ddolur o'm coes." "Hawyr, dere fach'en, ti gei goes," atebai John Bulk. "Cha'i 'run gen ti," ebe Robert Roberts, "ac am hyny gad lonydd i mi." Addefai Robert Roberts iddo yntau deimlo rhyw gynyrfiadau yn yr adeg hono, er na buont yn ddigon grymus i beri iddo neidio. Cafodd oes hir i wasanaethu yr Arglwydd, a gwelodd ei blant a phlant ei blant yn rhodio yn llwybrau ei ffydd. Mae llawer o wyrion iddo yn Nghymru ac yn Liverpool yn aelodau defnyddiol yn eglwys Dduw, ac un o'i wyrion ydyw Mr. Edward Roberts, Cwmafon, Morganwg. Bu Robert Roberts farw Tachwedd 15fed, 1842, yn 85 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanaber.

ABERMAW.

Llongborth bychan ydyw y lle hwn, ac y mae yn gyrchfa i filoedd o ddyeithriaid bob blwyddyn, i ymdrochi ac i yfed o ddwfr ac awelon iachus glan y mor, ac i ddringo y bryniau a'r mynyddoedd llawn o drysorau gwerthfawr oddifewn iddynt, sydd yn cysgodi y lle. Nis gallasom gael allan pwy oedd yr Ymneillduwr cyntaf fu yn pregethu yn y lle hwn, ond yn y flwyddyn 1846, dywedodd hen wraig o'r enw Catherine Roberts, o'r Hafodboeth, wrth Mr. James Jones, ei bod hi yn cofio Mr. Evans, o Lanuwchllyn, yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn mharlwr y Siopfawr, i ŵr a gwraig y tŷ, ei mham hi, ac ychydig eraill oedd yn byw yn Abermaw, yn nghyd a rhyw bobl ddyeithr o'r wlad.

Wrth gydmaru oed yr hen wraig y pryd hwnw, atebai yn gywir i'r amser yr oedd Mr. Evans yn gweinidogaethu yn Llanuwchllyn, ac yn pregethu yn Maesyrafallen. Pan ymadawodd Mr. Evans o'r sir hon, rhoddodd yr Annibynwyr heibio lafurio yn y parth hwn o Feirion am dros ugain mlynedd, ond ni bu y trigolion er hyny heb glywed pregethu efengyl Crist gyda nerth a phurdeb, oblegid yn Hanes Methodistiaeth, Cyf. I. tu dal. 508, 509, a 520, cawn fod ambell i Fethodist yn myned i Maesyrafallen i bregethu, ac ychwanega "Yr oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yn byw yn y dref (Bermo) ar y pryd yn cael mwynhau gweinidogaeth un B. Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yr hwn a fyddai yn arfer pregethu mewn ardal gyfagos." Adroddodd un o'r crefyddwragedd henaf yn y lle hwn yn ddiweddar, yr hanes difyr a dyddorol a ganlyn, yr hon a'i cawsai gan Catherine Roberts.[158] Yr oedd rhyw bregethwr,[159] nis gwyddai ei enw, wedi addaw pregethu wrth oleu dydd ar y gareg-farch, (horseblock,) yn ymyl drws y Siopfawr, a mawr oedd y son am y cwrdd disgwyliedig gan grefyddwyr, a chan elynion crefydd hefyd. Ar ryw ddiwrnod o flaen y cyfarfod, galwodd Mrs. Griffith, gwraig y Siop, ar un o'r meddwon a'r ymladdwr penaf y pryd hwnw yn y lle, pan yn myned heibio o flaen ei thy, "G. tyred yma, mae dyn neis iawn, gwas yr Arglwydd, yn dyfod yma i bregethu am Iesu Grist i ni, ac 'rwan G. bach, ni wn i am neb tebyg i ti am gadw chwareu teg iddo, a rhwystro pethau drwg i wneyd dim niwed iddo. Os gwnei G., mi rodda i jwgied o gwrw newydd 'rwan i ti, a chei un arall ar ol y cyfarfod, a wnei di G?" "Gwnaf," atebai G. gyda llŵ rhyfygus. Arferodd yr un moddion tuag at un neu ychwaneg o gyffelyb nodwedd yn y lle, a chafodd yr un cyffelyb ateb gan y rhai hyny. Yr oedd y gelynion hwythau yn parotoi at yr erlid, wedi crynhoi cryn lawer o bob peth aflanach na'u gilydd i fod wrth law i'w lluchio at y pregethwr. Ond dyma ddiwrnod yr oedfa wedi d'od, ac awr y dechreu yn nesu, eithr cyn i'r pregethwr ddyfod allan o'r tŷ, daeth y Cadben Dedwith, am yr hwn y crybwyllasom o'r blaen yn nglyn a'r Cutiau, allan, ac a llais clir nerthol, gwaeddodd "Gosteg, fy anwyl gymydogion, diwrnod pwysig iawn yw hwn yn y Bermo, fe fydd trin a chyfrif am bob peth a wneir yma heddyw yn y farn fawr, pan fyddo'r meirw yn dyfod allan yn fyw o'u beddau, a'r ddaear yn wenfflam bob modfedd o honi, ac yn awr mae gwas yr Arglwydd yn myned i ddyweyd wrthym ni pa fodd i fod yn ddiogel yn y diwrnod ofnadwy hwnw." Gyda hyny dyma'r pregethwr yn dechreu, a rhwng araeth y cadben, a dichell sanctaidd modryb Betti Pugh, fel y gelwid Mrs. Griffith, y Siopfawr, yn aml, cafodd y pregethwr lonydd i fyned yn ei flaen a gorphen y cyfarfod.

Ond nid ydym yn cael allan fod neb o'r Annibynwyr wedi bod yn pregethu yma gyda dim cysondeb, beth bynag, hyd nes y cofrestrwyd yma dŷ i bregethu, rhyw dro tua dechreu y ganrif bresenol, gan Mr. H. Pugh, o'r Brithdir, a chofrestrwyd amryw anedd-dai yma y naill ar ol y llall, a phregethai Mr. C. Jones, Dolgellau, a Mr. Davies, Cutiau, ac eraill yma. Yn y flwyddyn 1825, daeth Mr. Evan Evans, o'r Bwlchgwyn yma i gadw ysgol ddyddiol, ac i bregethu ar y Sabbothau yn y tri lle—Cutiau, Abermaw, a'r Dyffryn. Ychydig oedd nifer y cyfeillion ar y pryd—Griffith Griffiths, Bodgwilym, a'i wraig, Maria, (yr hon oedd ferch i Mr. John Roberts, o Lanbrynmair); Robert Sion, saer maen; Catrin Robert, Sian Sion, a Mrs. Jones, y Te, fel ei gelwid. Dyna oedd o honynt y pryd hwnw yn y dref. Addolent mewn ystafell berthynol i hen adeilad helaeth a fuasai gynt yn fath o balasdy, o thalent am dani dair punt yn y flwyddyn. Cadwodd Mr. Evans yr ysgol ddyddiol mewn rhan o'r hen adeilad grybwylledig am fwy na dwy flynedd, ac yn Mai, 1827, urddwyd ef i holl waith y weinidogaeth, fel y crybwyllasom yn hanes y Cutiau. Rhyngodd bodd i'r Arglwydd lwyddo llafur y gweinidog ieuangc a'r ychydig gyfeillion, gan ychwanegu eu rhifedi, fel y penderfynasant yn fuan gael capel newydd, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn 1828. Teithiodd Mr. Evans trwy Ogledd a Deheudir Cymru, ac i Lundain, ac amryw ranau eraill o Loegr i gasglu at dalu dyled y capel. Cyfarfu yr achos yma a chryn lawer o anhawsderau, ac yr oedd y dadleuon duwinyddol oedd yn yr adeg hono yn anfantais iddo, ond er y cwbl, gweithiodd ei ffordd yn raddol, ond yn sicr, a llwyddodd i ladd yr holl ragfarn oedd yn ei erbyn. Rhoddwn y difyniad a ganlyn o adroddiad a anfonwyd i ni gan Mr. Evans, Llangollen, o hanes yr achos yn y lle o'i sefydliad ef yno hyd ei ymadawiad. "Pan oedd yr achos yn Abermaw yn myned rhagddo yn lled gysurus, bu rhuthr o erledigaeth arno yn y flwyddyn 1829, o herwydd y Bil a ddygid ger bron y wlad i'w ddwyn yn llwyddianus, os gellid trwy y Senedd, sef Rhyddfreiniad y Pabyddion i gael breintiau gwladol fel deiliaid eraill y deyrnas. Yr oedd holl drigolion y dref, oddieithr ychydig bersonau, yn ffyrnig yn erbyn hyn, fel na feiddiai neb yngan gair o ochr y Bil, heb beryglu ei hun ryw ffordd neu gilydd. Safodd E. Evans, a rhyw ychydig o'i bobl rhag ochri gyda'r lluaws yn hyn. Ni ddadleuai ef na hwythau yn gyhoeddus o blaid y mater, ond amlygent eu rhesymau mewn ymddyddanion personol a'u cymydogion, dros beidio gwrthwynebu Rhyddfreiniad y Pabyddion, fel deiliaid eraill y deyrnas, er eu bod yn hollol yn erbyn y gyfundrefn Babaidd. Beuid ef yn dost gan yr holl dref, ac yn wir gan rai o'i gyfeillion ei hun hefyd, yr hyn oedd yn chwerwi ei brofedigaeth; a dywedai y dref ei fod yn pleidio Pabyddiaeth, Daroganid gan y rhan fwyaf y deuai y Pabyddion i losgi eu Beiblau. Ni chant, myn—— ebe un gwr mawr ag oedd yn swyddog yn y porthladd dan y llywodraeth, byth losgi fy Mibl i, mi cuddia i o yn rhywle na ddo nhw byth hyd iddo.' Ie, ie, gallai ef fforddio byw hebddo yn burion, ffordd bynag y troai y mater. Yr oedd y dref yn ferw drwyddi. Ond mewn gwirionedd, llawer gwell y gwyddai rhai o honynt y pryd hwnw pa fodd i hwylio llongau, a phentyru cyfoeth, ac eraill oedd dan eu hawdurdod, a wyddent yn well pa fodd i ddal pysgod, a chasglu cregin duon, a chregin cocos, nag y deallent beth oedd natur gwir ryddid gwladol a chrefyddol. Yn y cythrwfl hwn, ciliodd lluaws o'r gwrandawyr o gapel yr Annibynwyr, ac ni ddaethant iddo byth mwyach! Mynai un dyn mileinig, yr hwn oedd cyn ddyled a llô ar y pwngc, roddi barilad o bowdr yn y seler o dan y capel, a'i chwythu i'r cymylau! Oni buasai fod arno ofn y gyfraith efe a gyflawnasai ei ddymuniad, a mwy na thebyg yr yfasai efe yn deilwng o'i gymeriad cyffredin, farilaid o gwrw ar ol hyny gyda'i gymdeithion i gydorfoleddu a hwynt am ei orchestion, ond fel y dygwyddodd, trodd y fantol dros y Bil! Er hyny, effeithiodd hyn er niwaid dirfawr i'r achos Annibynol yn y dref hono am flynyddau lawer, ie, edrychid arno gan lawer gyda dirmyg. Cyhoeddwyd hanes yr helyntion hyn drwy y wasg Seisnig, er hysbysrwydd i luaws o Saeson a ddeuant i'r porthladd hwn yn yr haf, ac er amddiffyniad teg i'r achos, ac i'r gweinidog ieuangc. Dygwyddodd i Mr. T. W. Jenkyn, y pryd hwnw o Groesoswallt, (wedi hyny Dr. Jenkyn, awdwr y llyfr rhagorol ar yr Iawn,) ddyfod i Abermaw yn mhen rhyw dair blynedd ar ol y cythrwfl, yr hwn wedi gweled yr hanes blaenorol am dano, a chwiliodd i mewn i'w wirionedd, ac ar ol cael sicrwydd fod yr hanes a welsai yn berffaith gywir, a ysgrifenodd ei farn a'i dystiolaeth ar y pwngc, gan roddi caniatad i'r gweinidog a'i gyfeillion i wneyd y defnydd cyhoeddus a fynent o hyny. Er hyn oll yn mlaen yr elai yr achos yn y tri lle, yn enwedig yn yr Abermaw a'r Dyffryn. Ar nos Sabboth yr unfed-ar-bymtheg o fis Chwefror, 1840, ymwelodd yr Arglwydd a'i bobl mewn modd amlwg a nerthol iawn. Yr ydys yn cofio yn dda beth oedd y testyn y noson hono, sef Gen. iv. 3.,—"A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymryson fy ysbryd â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe." Nid oedd dim yn hynod gyffrous, yn fwy na chyffredin, yn ystod y rhan gyntaf o'r bregeth, ond gwelid rhyw ddifrifwch anarferol yn y gwrandawyr, a theimlai y gweinidog ei hun felly. Tua'r rhan olaf o'r bregeth gwelid y gynnulleidfa yn gwelwi yn awr ac eilwaith, a chlywid gruddfanau dystaw a dwysion, yn enwedig pan adroddid y gair "yn dragywydd," ddwy waith neu dair yn olynol. Wedi gwasgu atynt am iddynt roddi eu hymrysonfa âg Ysbryd Duw i fyny yn ddioed, terfynwyd y bregeth. Yna rhoddwyd penill i'w ganu, ond er mawr syndod i'r pregethwr, ni chyfodai y pen-canwr ar ei draed i gynyg y mesur. Ailadroddwyd y penill, ond ni wnai neb un osgo i godi ar ei draed, mwy na phe buasent wedi eu hoelio wrth eu heisteddleoedd! Cyfeiriai y gweinidog at un o'r brodyr oedd yn rhywle yn agos i'r pulpud, gan ddyweyd wrtho, "Rowland, codwch chwi y mesur." Cynygiodd agor ei enau, ond eisteddodd yn y fan. Yn hytrach nag i'r moddion derfynu felly, cynygiodd y gweinidog ei hun wneyd yr un peth, oblegid gwyddai yn dda pa dôn a wnelsai y tro. Seiniodd nodyn neu ddau, a dyna y cwbl. Ar hyny, ymollyngodd y gynnulleidfa i ruddfan ac wylo, ac amryw o honynt a weddient yn daerion, fel dynion ar ddarfod am danynt.

Aeth rhyw ychydig allan o'r addoldy, ond dychwelasent i mewn drachefn fel dynion wedi haner hurtio! Dywedir am un dyn a aeth allan, ac a aeth i ben pellaf y dref yn bennoeth, ac iddo redeg yn ei ol gan ddychryn i'r capel, ac iddo roddi naid uchel ar ganol y llawr, gan ddiolch i Dduw na buasai wedi ei daflu ef i uffern; ie, tybiodd fod yr Arglwydd ar wlawio arno dân a brwmstan o'r nefoedd! Yr oedd Duw yn wir yn y lle! Parhaodd yr ymweliad dwyfol hwnw yn Abermaw ac yn y Dyffryn hefyd am gryn amser, a daeth lluaws o bechaduriaid dychweledig i'r eglwysi; eithr parhaodd rhai o'r gwrandawyr yn ystyfnig drwy y cwbl, er maint o anesmwythder a brofasant yn eu meddwl yn yr adeg hono.

Bu y gymdeithas ddirwestol yn foddion i feithrin mwy o undeb a brawdgarwch rhwng enwadau crefyddol a'u gilydd. Gan y cynhelid cyfarfodydd i areithio ar yr achos yn y gwahanol gapeli ar gylch, yn enwedig yn y gauaf, pryd y byddai y morwyr gartref, yr oedd dynion crefyddol yn dyfod i fwy o gydnabyddiaeth a'u gilydd, ac i ymgymdeithasu yn amlach, a thrwy hyny caent gyfleusderau i glywed gwahanol ddoniau, ac felly dygid hwynt i feddwl yn well am eu gilydd. Crybwyllir etto un hanesyn er dangos gwrthuni cenfigen a dallbleidiaeth. Yr oedd person Seisonig, wedi dyfod i fyw i ymyl Abermaw, er mwyn ei iechyd yn benaf, yr hwn ar ei gychwyniad i Loegr, i dderbyn ei ddegymau gan ei blwyfolion, a ddywedodd wrth ei was am werthu ei ferlyn, erbyn y dychwelai efe adref o'i daith, gan benodi ei bris. Cyflawnodd y gwas ei archiad. Wedi i'r boneddwr ddychwelyd, ymofynodd cyn hir a'i was yn nghylch y merlyn. Dywedai yntau ei fod wedi ei werthu, a chael tâl am dano.

"I bwy, Robert ?" "I Mr. Evans," ebe yntau, "gweinidog yr Annibynwyr." Ar hyny ymwylltiodd y meistr, ac a fygythiodd ei was, gan ddyweyd wrtho, y troid ef allan o'i wasanaeth ef, oni cha'i efe y merlyn yn ei ol, a hyny yn ddioed hefyd, gan ddyweyd, "Ni chaiff fy merlyn i gario un Dissenting Minister byth! Ond druan o hono, yr oedd y merlyn wedi cael y fraint o gario Dissenting Minister eisioes! Daeth gwraig y gwas trallodedig at Mr. Evans, dan wylo i erfyn arno roddi y merlyn yn ei ol, er ei mwyn hi a'i phriod a'i phlant. O'r diwedd efe a wnaeth hyny. Beïd ef gan lawer o'i frodyr am na buasai yn fwy llewaidd na hyny, ond fodd bynag, y mae y merlyn erbyn hyn wedi darfod am dano er's blynyddau, a'r person yn nhragwyddoldeb er's talm mawr, a'r Dissenting Minister yn fyw, ac yn iach, ac yn diolch i'r Hwn a ofalodd am dano trwy ei oes hyd yr awr hon."

Yn y flwyddyn 1844, ymadawodd Mr. Evans i Maentwrog, ar ol llafurio yma am yn agos i ugain mlynedd. Cyn diwedd y flwyddyn hono, derbyniodd Mr. James Jones, Capelhelyg, alwad i ddyfod yn weinidog yma, ac wedi bod yma yn ddiwyd ac ymdrechgar am bum-mlynedd-ar-hugain, teimlai Mr. Jones nad oedd yn alluog fel cynt i gyflawni ei ddyledswyddau, ac wedi ei dderbyn yn flaenorol ar Drysorfa yr hen Weinidogion, ymryddhaodd o'i ofalon gweinidogaethol ar y Sabboth cyntaf yn Ionawr, 1869, ond y mae yn parhau i drigianu yma, ac yn pregethu yn rhywle bob Sabboth, ac yn hynod o gymeradwy gan bob enwad crefyddol. Ar Sabboth cyntaf yn Tachwedd, 1869, dechreuodd Mr. David Evans, Rhosymedre, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau yma, a'r achos ar y cyfan mewn gwedd gysurus. Mae y capel mewn lle pur anghyfleus, a theimlir er's blynyddoedd y dylasai fod yma gapel llawer rhagorach i ateb cynydd poblogaeth, a gwelliant adeiladau y lle, ond yr anhawsder oedd cael lle cyfleus i adeiladu arno. Chwiliodd Mr. Jones, y gweinidog, a'r diweddar Mr. David Jones, Fferyllydd, lawer am le, ond yn ofer, ond y mae yn dda genym ddeall fod darn o dir mewn safle fanteisiol wedi ei sicrhau, ac y bwriedir yn ddioed i godi arno addoldy prydferth. Bu teulu Bodwilym yn hynod o garedig i'r achos o'r dechreuad. Llettywyd ugeiniau o weinidogion o dan eu cronglwyd, ac yr oedd eu tŷ yn lletty fforddolion i bawb a ddeuai heibio. Yr oedd Mrs. Griffith, yn arbenig, yn wraig ddoeth a synwyrol, yn deall yr efengyl, ac yn meddu cydymdeimlad dwfn a'i gwirioneddau, ac yn ei thymer a'i hysbryd, yn deilwng o'i hybarch dad, y diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair. Dylai "Y Gohebydd," ar bob cyfrif, ysgrifenu cofiant iddi, oblegid gwyddom y cydnebydd ei fod yn ddyledus i'r "brophwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo."

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

Robert Roberts. Symudodd i Tanygrisiau, Ffestiniog, a bu farw yno.

John Roberts. Urddwyd ef yn Llanerchymedd, ac y mae yn awr yn Brymbo.

Robert Evans. Aelod o Danygrisiau ydoedd, ond ei fod yma yn yr ysgol. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Llanfair Caereinion, ac y mae yn awr yn Bethel, Aberdare.

Lewis Williams. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Llanarmon, ac y mae yn awr yn y Bontnewydd, gerllaw Caernarfon.


DYFFRYN ARDUDWY.

Pregethwyd rai troion yn yr ardal hon gan Mr. Hugh Pugh, Brithdir, ond ni phregethwyd gydag un cysondeb, hyd ddechreuad gweinidogaeth Mr. C. Jones, Dolgellau, ac o'i amser ef y gellir cyfrif dechreuad yr achos yma. Arferai bregethu yn y Pandy, lle y trigai Abraham ac Anne Jones, ac wedi iddynt hwy ymadael, pregethai yn yr Hen siop. Byddai Mr. Jones yn myned yno yn gyffredin unwaith yn y mis. Cadwai gyfeillach yno nos Sadwrn, a phregethai am haner awr wedi naw boreu Sabboth, ac elai i'r Cutiau erbyn dau o'r gloch.[160] Ar ol hyny pregethid yn Pantgwyn, lle yr oedd un o'r enw Griffith Evans, yn byw. Yn 1821, priododd Miss Anne Evans, merch Mr. Griffith Evans, Tymawr, Towyn, â Mr. Griffith Griffiths, o Daltreuddynfawr, a daeth yno i fyw. Yr oedd hi eisioes yn aelod yn y Towyn, ac yn ferch ieuangc grefyddol, ac o'r adeg yma y gellir dyddio ffurfiad yr eglwys yn y Dyffryn. Gogwyddwyd meddwl ei phriod cyn hir i geisio yr Arglwydd, a bu yn swcr mawr i'r achos. Ond ar Mrs. Griffith yr oedd y gofal yn benaf, ac yr oedd o ran galluoedd meddyliol, a gwybodaeth a theimlad crefyddol, yn un o'r rhai rhagoraf a allesid gyfarfod. Arni hi yn aml y disgynai darllen penod yn nechreu cyfarfod gweddi, ac arwain y canu, a gweddiai yn gyhoeddus, os na byddai neb arall i'w gael, a llawer gwaith y darllenodd bregeth i'r gynnulleidfa o ryw lyfr, os digwyddai iddynt gael eu siomi am bregethwr. Bu ei thŷ hyd ddiwedd ei hoes yn gartref i achos yr Arglwydd. Cymerodd Mr. Evans ofal y lle pan y sefydlodd yn Abermaw. Wrth weled yr achos yn dyfod rhagddo, teimlodd fod angen am le mwy cyfleus i addoli na Pantgwyn, ac ymgymerodd Mr. Griffiths, Taltreuddyn, a'r gofal a'r cyfrifoldeb o edrych ar ol y gwaith. Yr oedd y capel yma a chapel yr Abermaw yn cael eu codi yr un flwyddyn, ac agorwyd ef yn y flwyddyn 1828. Bu yma adfywiad grymus yn 1839 a 1840, pryd yr ychwanegwyd cryn lawer at yr eglwys. Wedi ymadawiad Mr. Evans, i Faentwrog yn 1844, cymerodd Mr. James Jones, ofal yr eglwys, a bu yn ffyddlon yn gofalu am y lle, nes y rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn nechreu 1869. Daeth Mr. David Evans yma yn Tachwedd, yr un flwyddyn, ac y mae yn parhau i ofalu yn gyson am y lle. Yr oedd hen gapel y Dyffryn wedi myned yn adfeiliedig, ac yr oedd yr eglwys ar ganol codi capel newydd pan ddaeth Mr. Evans yma, ac agorwyd ef Mai 18fed a'r 19eg, 1870, pryd y pregethodd Meistri W. Rees, Liverpool; R. Thomas, Bangor; O. Evans, Llanbrynmair, ac E. Evans, Caernarfon. Costiodd fwy na 500p., ond y mae haner y ddyled wedi ei thalu yn barod, a hyny agos yn hollol trwy ymdrechion cartrefol. Ofnai rhai pan y cauwyd drws Taltreuddyn wedi marwolaeth Mrs. Griffiths, na buasai neb i ofalu am yr achos, ond gofalodd yr Arglwydd i agor drysau a chalonau i groesawi ei achos ef, ac y mae yr eglwys yma mor siriol a gweithgar ac y gwelwyd hi erioed.

Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef, Henry Roberts, yr hwn sydd mewn masnach yn Liverpool, ac yn bregethwr parchus yn yr eglwys dan ofal Dr. Rees, yn Grove-street.

TALYSARNAU.

Pentref bychan tua haner y ffordd o Maentwrog i Harlech. Ni bu gan yr Annibynwyr achos rheolaidd yn y lle hwn hyd yn ddiweddar iawn, er fod y diweddar Mr. H. Lloyd, Towyn, wedi bod yn pregethu yn achlysurol yn yr ardal pan oedd yma yn cadw ysgol. Pan ddigwyddai aelodau i'r Annibynwyr symud i'r gymydogaeth, pa un bynag ai teuluoedd cyfain, ai personau unigol i wasanaethu fyddant, yr oeddynt o angenrheidrwydd yn ymuno ag enwadau eraill. Er fod y Penrhyn yn agos, etto, gan fod Traethbach yn gulfor peryglus ac anghyfleus i'w groesi, ychydig o dramwy fyddai o'r naill ardal i'r llall. Ond yn y flwyddyn 1866, daeth teulu i fyw i'r gymydogaeth, sydd yn Annibynwyr rhy gadarn i newid eu henwad am ychydig o fantais, sef John Jones, dilledydd; un o hen ddisgyblion y diweddar Eta Delta, o gymydogaeth y Mynaddwyn, gerllaw Llanerchymedd, a chan fod pont wedi ei gosod yn haf y flwyddyn hono dros y Traethbach, mewn cysylltiad a phont y Cambrian Railway, cymellodd John Jones, Mr. Edward Morris, Penrhyn, i ddyfod i bregethu yn achlysurol i'w dŷ ef ar ambell noson waith, a Gorphenaf 27ain, o'r flwyddyn hono, y pregethodd yno gyntaf. Bu Meistri J. Williams, Maentwrog; W. Roberts, Tanygrisiau, a J. Jones, Abermaw, yn ffyddlon i ymweled a'r lle ac i gynorthwyo.[161] Ymwasgodd rhai Annibynwyr oedd wedi aelodi gydag enwadau eraill at eu brodyr, pan ddechreuwyd ymgynull, megis Morgan Evans, y saer, a'i deulu, a chynygiodd cyfaill selog o'r enw Humphrey Lloyd, Cefntrefor, ardrethu ystafell at wasanaeth yr achos am y pris rhesymol o 2p. 2s. yn y flwyddyn. Cafwyd cymorth arianol o'r eglwysi. cylchynol i ddodrefnu yr ystafel yn gryno a destlus, ac addewid gan undeb chwarterol y sir, i dalu ardreth yr ystafell, yn nghyda swm penodol at gynal yr achos am beth amser, ac mae yr undeb sirol yn para yn ffyddlon hyd yn bresenol i wneyd. Prydnhawn Sabboth, Mai 26ain, 1867, wedi cael anogaeth gan y cyfarfod chwarterol, a chydsyniad eglwys y Penrhyn, corpholwyd yma eglwys reolaidd gan Mr. E. Morris, pan y daeth wyth yn mlaen. i ymgorphori i fod yn eglwys, a dewiswyd dau o'r brodyr i fod yn ddiaconiaid, sef Morgan Evans, a John Jones, y rhai sydd yn gwasanaethu eu swydd gyda gofal a ffyddlondeb hyd heddyw. Cadwyd cyfarfod pregethu yn y lle mewn ffordd o agor yr ystafell, Ebrill 22ain a'r 23ain, sef pum' wythnos cyn sefydlu yr eglwys, pryd y cafwyd gwasanaeth Meistri E. Williams, Dinas; R. Ellis, Brithdir; T. Jones, Eisteddfa; J. Jones, Abermaw, a W. Ambrose, Porthmadog. Mae yr eglwys fechan hon wedi myned trwy gyfnewidiadau eisioes mewn symudiadau, a marwolaethau, a gwrthgiliadau, ond y mae yn rhifo pedwar-ar-ddeg o aelodau yn bresenol, (Mai, 1871,) a'r cyfan fel un gwr gyda'u gilydd yn cydymdrech yn mhlaid ffydd yr efengyl. Nid yw y gymydogaeth yn gynyddol hyd yn hyn, ac nid oes paganiaid yn byw yn yr ardal, ac felly nid yw y rhagolygon yn addawol i gynydd mawr yn fuan, ond mae yr ychydig sydd yn y lle yn dewis cydaddoli, ac y mae yma ddrws agored i'r Annibynwyr a arweinir i'r gymydogaeth o ardaloedd eraill.


BETHANIA, FFESTINIOG.

Nid ydyw plwyf Ffestiniog ond cymharol fychan o ran ei derfynau, a hyd yn ddiweddar nid oedd ond dinod yn mysg plwyfi y sir. Mae natur i'w gweled yma yn ei gwylltedd cyntefig, er fod celfyddyd wedi addurno y lle a lluaws o aneddau prydferth, y rhai a breswylir gan y gweithwyr sydd yn dymchwelyd y mynyddoedd o'u gwraidd. Yn nghof llawer sydd eto yn fyw, ac heb gyfrif eu hunain yn hen, nid oedd ond ychydig o dai llwyd, a chyffredin ddigon yr olwg arnynt, trwy yr holl blwyf, ac nid oedd gan y rhai a drigent ynddynt un dychymyg am gyfoeth y bryniau a'u cylchynent, ac ar hyd y rhai y gwylient eu defaid. Mae pentref Ffestiniog ar y ffordd o Faentwrog i'r Bala, tuag ugain milldir i'r gorllewin o'r lle olaf. Mae y lle a elwir Blaenau Ffestiniog, lle yr adeiladwyd y capel cyntaf gan yr Annibynwyr yma, mewn cesail rhwng moelydd noethlwm ar yr aswy wrth fyned i'r Bala, a hawdd deall ei fod cyn agoriad y cloddfeydd yn lle hollol ddiarffordd. Nid oedd ond un Annibynwr trwy yr holl blwyf bymtheng-mlynedd-a-deugain yn ol, nac un cynyg wedi ei wneyd ganddynt i bregethu yma yn rheolaidd. Yr oedd un John Hughes, yr hwn a dderbyniasid yn aelod gan Dr. George Lewis yn Nghaernarfon, wedi symud i fyw i Cefnfaes, ac ymaelododd yn Mhenstryd; a bu Dr. Lewis yn pregethu rai troion yn ei dŷ, er na chynygiwyd sefydlu achos yma y pryd hwnw.[162] Ryw bryd yn y flwyddyn 1816, ceisiodd un William Hughes, Talygwaunydd, (Fronlas wedi hyny,) yr hwn oedd wedi ei dderbyn yn aelod yn Nolyddelen—gan Mr. David Roberts, Bangor—wedi hyny o Ddinbych—ddyfod i'w dŷ ef i gadw oedfa ar brydnhawn Sabboth, ac i fedyddio merch iddo. Cydsyniodd Mr. Roberts a'r gwahoddiad, a dyma gychwyniad yr Annibynwyr yn Mlaenau Ffestiniog. Yr oedd William Griffith, Mynhadogisaf, plwyf Dolyddelen, a Lowry ei wraig, wedi eu derbyn yn aelodau yn Nolyddelen cyn hyny, a byddai pregethu achlysurol yn eu tŷ hwy, a buont yn gefn mawr i'r achos yno. Yr oedd gan Lowry Griffith frawd, o'r enw William Evans, yn byw yn Nghwmbywydd, Ffestiniog, a chymellai ei brawd i agor ei dŷ i'r efengyl. Amlygodd yntau ei barodrwydd i hyny, os cawsai bregethwr. Yn mhen pythefnos wedi i Mr. Roberts, Bangor, fod yn pregethu yn Nhaly waunydd, yr oedd Mr. Edward Davies, Rhoslan—Trawsfynydd yn awr—yn myned am Sabboth i Ddolyddelen, a nos Sadwrn gofynodd Lowry Griffith iddo, a wnai efe bregethu ar ei ddychweliad ddydd Llun yn nhŷ ei brawd yn Cwmbywydd. Addawodd Mr. Davies gyda'r parodrwydd mwyaf, ac anfonodd hithau yno i'w hysbysu y pregethai Mr. Davies yno ganol dydd Llun; ac felly bu. Nid oedd ond dau heblaw teulu y tŷ yn yr oedfa; ac Ellis Edwards, Penrhostad Mr. Edwards, Aberdare—oedd un o honynt. Daeth Meistri D. Griffith, Bethel; J. Lewis, Bala; W. Jones, Penstryd; J. Roberts, Capelgarmon; a J. Jones, Bancog, yn fuan i bregethu i Gwmbywydd, ac i dai eraill yn y gymydogaeth; a dechreuwyd cynal cyfeillachau crefyddol fel rhagddarpariaeth i gorpholiad eglwys yn y lle. Ar un prydnhawn Sabboth, yn y flwyddyn 1817, yr oedd Mr. Davies, Rhoslan, yn pregethu yn Maenofferen, ac ar ddiwedd yr oedfa ffurfiwyd yno eglwys, a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Mae enwau y personau a ymffurfiodd yn eglwys yma yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth; dyma hwy—William Davies, Maenofferen; Jenet Morris, gweddw John Hughes, Cefnfaes, am yr hwn y crybwyllasom; Catherine Evans, Hafodfraith; Catherine Edwards, Penrhos, (mam Mr. Edwards, Aberdare); William Jones, brawd Catherine Edwards; William Evans, Cwmbywydd, a William Hughes, Fronlas. Er nad oeddynt ond saith o rifedi, etto, dyna flaguryn yr achos sydd erbyn heddyw wedi ymganghenu trwy yr holl blwyf; ac wedi myned yn bren mawr, a llawer saith yn nythu arno. Yn fuan wedi hyn darfu i Ellis Edwards, Penrhos, a David Williams, Maenofferen, a'i wraig, yn nghyd ag amryw eraill, ymuno a'r achos; a chyn pen nemawr o amser aeth y tai lle y cynhelid y moddion yn rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuent yn nghyd. Yr un flwyddyn ag y corpholwyd yr eglwys, gwelwyd yn angenrheidiol cael capel, a chafwyd tir ar ystad Tanymanod, a chodwyd addoldy cyfleus arno, yr hwn a alwyd Bethania. Aeth yr achos rhagddo yn siriol iawn, ac yr oedd agoriad gweithiau y llechfeini yn peri fod cryn gynydd yn y boblogaeth, fel y codwyd nifer o dai newyddion. Bu hen weinidogion a phregethwyr y cyfnod hwnw yn nodedig o ffyddlon i'r achos; ond y maent oll erbyn hyn wedi myned ond Mr. Griffith, Bethel, a Mr. Davies, Trawsfynydd. Ond fel yr oedd yr achos yn myned rhagddo, teimlid fod angen gweinidogaeth mwy sefydlog. Yn fuan wedi codi y capel rhoddwyd galwad i Mr. Owen Jones, i ddyfod yma i bregethu a chadw ysgol; a bu yma am yn agos i ddwy flynedd. Yr oedd Owen Jones yn ddoniol iawn fel pregethwr, a phe buasai ei gymeriad yn cyfateb i'w ddoniau gallasai fod o ddefnydd mawr. Ymadawodd oddiyma i Lanaelhaiarn, lle yr urddwyd ef. Yn y flwyddyn 1820, daeth Mr. John Williams yma, yr hwn a fuasai am ddwy flynedd yn efrydydd dan addysg Dr. Phillips, Neuaddlwyd; ac wedi i'r eglwys gael boddlonrwydd ynddo, rhoddwyd galwad iddo, ac urddwyd ef Mai 30ain, 1821. Yr oedd amryw o weinidogion sir Feirionydd a sir Gaernarfon yn bresenol yn ei urddiad, yn nghyd a'i athraw, Dr. Phillips, yr hwn a bregethodd i'r gweinidog a'r eglwys. Ei destyn oedd, 1 Cor. iv. 1, 2, "Felly cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. Am ben hyn yr ydys yn disgwyl mewn goruchwyliwr, gael un yn ffyddlon." Edrychai ar y geiriau fel darlun o'r peth y dylai y gweinidog fod, a'r cyfrif parchus a ddylasai yr eglwys wneyd o hono fel y cyfryw. Llafuriodd Mr. Williams yma yn ddiwyd am ddeng mlynedd. Bu yn Llundain yn casglu at gapel Bethania, a chasglodd gan' gini. Gwelodd y capel cyntaf yn rhydd o ddyled, ac wedi ei lenwi a gwrandawyr, fel y bu raid ei helaethu. Yr oedd Mr. Williams yn ŵr hynod barchus yma, er na chyfrifid ef yn bregethwr rhagorol, etto trwy ei ffyddlondeb a'i fuchedd dda, llwyddodd i roddi cychwyniad effeithiol i'r achos. Rhagorai yn fawr yn ei fedrusrwydd i holi yn yr ysgol, a llwyddodd trwy hyny i sefydlu yma Ysgol Sabbothol lewyrchus. Yn nechreu y flwyddyn 1831, symudodd i Lansilin, lle yr arosodd hyd ddechreu 1840, pan yr ymfudodd i America, ac yno y bu farw, fel y gwelir yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Llansilin. Wedi ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, Pentraeth, Mon. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn hynaws a charedig, yn siriol a diddichell, ac yn meddu dawn rhwydd a llais peraidd; ond nid oedd ond egwan ei alluoedd, a chyfyng ei wybodaeth, ac heb gael nemawr ddim manteision addysg yn moreu ei oes. Torodd diwygiad grymus allan yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Davies i'r lle, a rhoddodd hyny fywyd a nerth newydd i'r achos. Yn y cyfnod hwn, cododd amryw ddynion ieuaingc selog a gweithgar yn yr eglwys, a daeth dylanwad yr achos er daioni i gael ei deimlo yn y lle. Yn yr adeg yma y dechreuodd Mr. Evan Griffith bregethu, a chyn hir dilynwyd ef gan Mr. William Edwards, ac yn fuan ar ol hyny gan Mr. John Isaac, a bu arosiad hir y ddau olaf, yn arbenig, yn yr ardal, yn gynorthwy mawr i'r achos. Fel yr oedd y lle yn cynyddu, a'r bobl ieuaingc yn dyfod yn fwy deallgar a myfyrgar, teimlai Mr. Davies ei hun nad oedd yn ateb i'r lle. Er hyny, bu yn ddefnyddiol a llwyddianus yma am yspaid, a choffeir gyda pharch gan amryw yn y lle hyd heddyw am ei lafurus gariad. Ymadawodd yn y flwyddyn 1839, ac wedi bod mewn amryw fanau, yn Arfon a Mon, aeth i fyw i Bodffordd, a gwasanaethai yn mha le bynag y byddai bwleh i'w lanw, hyd nes y rhoddodd angau ei law arno. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Davies, torodd diwygiad grymus iawn allan yn yr eglwys, yr hyn a fu yn foddion i luosogi ei rhif, ac ychwanegu ei chryfder. Er fod yr eglwys yn amddifad o weinidog, etto, yr oedd presenoldeb y ddau ŵr ieuangc gweithgar a diflino, Meistri W. Edwards, a J. Isaac, yn gaffaeliad gwerthfawr i'r achos ar y pryd. Yn ngwres y diwygiad yma aeth yr eglwys yn nghyd a chodi capel newydd helaeth, a throwyd yr hen gapel yn dai-anedd. Cafwyd tir drachefn ar ystad Tanymanod, a bu y personau canlynol yn mysg y rhai mwyaf blaenllaw gyda chodiad y capel newydd, sef Ellis Edwards, Penrhos; Lewis Thomas, Siop; Lewis Thomas, Frondirion; Pierce Jones, Penygelli; Hugh Williams, Fronlas, a David Jones, Cwmorthin. Bu y ddyled yn gwasgu drwm am dymor, ond trwy ddyfal barhad, cafwyd gwared llwyr o honi; ac y mae yr eglwys yn fwy dyledus am hyny i fedrusrwydd a ffyddlondeb y diweddar Mr. David Williams, Cwmbywydd, nag un dyn arall.

Yn y flwyddyn 1843, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Robert Fairclough, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mai y 3ydd a'r 4ydd, 1843. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Morgan, Llanfyllin. Holwyd yr urddedig gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. A. Jones, Bangor. Pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r eglwys. Cymerwyd rhan yn y cyfarfodydd hefyd gan Meistri W. Roberts, Penybontfawr; J. Griffith, Rhydywernen; S. Roberts, Llanbrynmair; J. H. Hughes, Llangollen; ac S. Jones, Maentwrog. Tua phedair blynedd y bu Mr. Fairclough yma, ac nid oedd yr eglwys ac yntau yn cyd-dynu yn rhy dda yn yr yspaid hwnw. Ymadawodd i Cornwall, lle y bu dros ychydig. Rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwys yn Saron, alwad i Mr. Richard Parry, Conwy, yn fuan wedi i Mr. Fairclough ymadael, ac er na chymerodd ofal yr eglwys y pryd hwnw, daeth yma ar ol hyny, a bu yn dra defnyddiol yma dros rai blynyddoedd, nes yn 1854, yr aeth yn ol i Gonwy, ac yr ymgymerodd a sefydlu achos, a chodi capel yn Llandudno, lle y mae yn aros etto. Yn niwedd 1857, rhoddodd yr eglwysi yn Bethania a Saron alwad i Mr. David Lloyd Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef ar ddydd Nadolig y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Thomas, Liverpool. Holwyd y gweinidog gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. John Jones, Green, (tad yr urddedig). Pregethodd Mr. M. D. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. R. Parry, Conway, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri R. Ellis, Brithdir; W. Roberts, Penybontfawr; a J. Jones, Maentwrog.[163] Bu Mr. Jones yma yn llafurus iawn am yn agos i ddeuddeng mlynedd, a gwelodd ffrwyth i'w ymdrechiadau. Rhoddwyd oriel o gylch capel Bethania, ac ad-drefnwyd ef drwyddo, fel y mae yn gapel eang a chyfleus. Ymgymerodd Mr. Jones a bod yn oruchwyliwr i'r Wladychfa Gymreig, a rhoddodd y weinidogaeth i fyny er mwyn hyny; ond er hyny y mae wedi ailgymeryd a gofal gweinidogaethol, ac y mae yn awr yn Rhuthin. Mae yr eglwys er ymadawiad Mr. Jones heb weinidog, ond y mae yr achos yn myned rhagddo yn siriol iawn. Bu yma amryw bersonau mewn cysylltiad a'r eglwys er ei sefydliad, a ennillasant iddynt eu hunain radd dda. Coffeir yn barchus am hen bobl Cwmbywydd, y rhai a fuont yn nodedig o ymgeleddgar i'r achos yn ei wendid. Yr oedd William Evans yn nodedig am danbeidrwydd ei ddawn fel gweddiwr. Rhagorai William Hughes, Fronlas, fel cynghorwr doeth a phwrpasol. Meddai William Jones, Penygelli, ar gallineb mawr i drin dynion; a bu y lle am dymor hir yn gartref cysurus i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Ellis Edwards, Penrhos, oedd bob amser yn barod i bob gweithred dda, ac yn ieuangc ei ysbryd hyd ei ddiwedd. Gwnaeth David Williams, Cwmbywydd, fwy na neb arall yma gydag amgylchiadau allanol yr achos, a chyda chaniadaeth y cysegr.

y cysegr. Gyda chodi y capel, a rhoddi oriel ynddo drachefn, a chynllunio i dalu y ddyled, nid oedd yma neb o gyffelyb feddwl iddo; a chyda chodiad capel newydd Fourcrosses, yr oedd mor dra awyddus am gael pob peth wedi ei orphen, a phe buasai yn gwybod fod amser ei ymadawiad yn ymyl. Nid oes yma yn aros o'r hen deulu ond yr hybarch Pierce Jones, Penygelli, yn unig, ac y mae efe yn parhau yn fywiog fel llange. Coffeir hefyd gyda hiraeth am rai gwragedd rhagorol a fu yma yn famau yn Israel, ac nid yn fuan yr anghofir caredigrwydd a llettygarwch teuluoedd Fronlas, Penrhos, a Chwmbywydd.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—

Evan Griffith. Bu dan addysg gyda Dr. Jenkyn, yn Nghroesoswallt. Urddwyd ef yn Llanegryn. Ymfudodd i America er's mwy nag ugain mlynedd, ac y mae yn parhau yn gryf i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab.

William Edwards. Bu am dymor dan addysg yn Liverpool, ac wedi hyny treuliodd bedair blynedd yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Ebenezer, Aberdare, er's saith-mlynedd-ar-hugain yn ol, ac y mae yn parhau yno, a gobeithiwn fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb yn ei aros.

John Isaac. Ganwyd ef yn yr ardal yma, yn y flwyddyn 1813. Ni chafodd nemawr ddim manteision crefyddol pan yn ieuangc, a threuliodd rai o flynyddoedd goreu ei oes i ddilyn rhysedd ac annuwioldeb ei gyfoedion gwyllt ac anystyriol. Daliwyd ef gan Dduw yn nghanol ei wylltineb, a dygodd arwyddion amlwg o gyfnewidiad cyflwr. Derbyniwyd ef yn aelod yn Bethania, pan yn 22 oed. Gwnaeth y fath gynydd mewn gwybodaeth, ac ymagorodd ei ddoniau, fel yr anogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu. Cyrhaeddodd boblogrwydd fel pregethwr ieuangc, y fath ag a barai i'w gyfeillion ddisgwyl pethau mawr oddiwrtho. Nid ydym yn meddwl ei fod yn gryf iawn o ran nerth meddyliol a galluoedd dealldwriaethol, ond yr oedd yn llawn iawn o ysbryd pregethu. Cyfansoddai yn drefnus, ac yr oedd ei ddrychfeddyliau yn gyffrous, a'i draddodiad yn hyawdl. Ystyriai rhai ef yn eithafol ei olygiadau, ac yr oedd felly i fesur, ond yr oedd yr eithafion hyny yn ddigon naturiol i ddyn o'i dymheredd ef mewn adeg fywiog ar grefydd, a phe cawsai fyw mae yn bur sicr y daethai allan o honynt, fel y daeth rhai oeddynt mor eithafol ag yntau. Bu am ychydig yn Marton dan addysg, ond buan y gwelwyd nas gallasai ddal i efrydu yn galed, oblegid yr oedd ei iechyd yn rhoi ffordd. Gan fod Bethania heb un gweinidog, anogwyd ef gan ei gyfeillion i aros gartref i'w cynorthwyo hwy. Ymaflodd y darfodedigaeth angeuol ynddo, a deallodd fod ei ddydd gwaith ar ben, ond nid ysigwyd ei hyder yn ei Waredwr. Bu farw Mawrth 19eg, 1841, yn 28 oed. Fel hyn y dywed y diweddar Mr. Samuel Jones, Maentwrog, wrth derfynu bywgraphiad byr iddo, yn Nysgedydd 1842, tu dal. 166.—" Fel yna syrthiodd milwr glew yn y frwydr, a'i arfau yn loywon, gwywodd rhosyn prydferth o ardd yr eglwys, cyn cyflawn agor i daenu arogl peraidd o'i gwmpas. Wrth weled ei haul yn codi mor foreu, ac yn tywynu mor ddysglaer, gallesid meddwl yr aethai yn fuan dan gwmwl. Bu ei farwolaeth yn alar i'w berthynasau, yn siomedigaeth i ddisgwyliadau ei gyfeillion, ac yn golled i eglwys Dduw am dalentau gwerthfawr a dysglaer, ond yn ennill bythol iddo ef."

John Morris. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Bwlchyffridd, ond siomodd ddisgwyliadau ei gyfeillion goreu.

Griffith Griffith. Addysgwyd ef yn athrofa Hackney, Llundain, ond ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, ymfudodd i'r America, ac y mae yno yn weinidog cymeradwy. Mae yn frawd i Mr. E. Griffith a enwyd gyntaf.

Richard Solomon Williams. Addysgwyd ef yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn weinidog yn y lle olaf a enwyd, ac y mae yn aros yno yn dra derbyniol.

Isaac J. Evans. Bu yn fyfyriwr yn athrofa y Bala, ac y mae newydd gael ei urddo yn Penheolgerig, Merthyr Tydfil.

LLAN, FFESTINIOG

Dechreuwyd pregethu yma tua'r flwyddyn 1834, yn nhymor gweinidogaeth Mr. Thomas Davies, yn Bethania. Yr oedd pregethu cyn hyny yn y Coedbach, Cwmcynhafal, er's amryw flynyddoedd, a chynnulleidfa dda yn dyfod yn nghyd bob Sabboth. Pregethid yno yn gyson gan Mr. Davies, neu gan un o'r gwyr ieuangc oedd newydd ddechreu pregethu yn Bethania. Ond trwy ryw amgylchiadau, rhoddwyd i fyny bregethu yno, a daeth y rhai oedd yn aelodau ac ymunasant a'r achos oedd erbyn hyn er's blynyddau wedi ei ddechreu yn y Llan. Dechreuwyd pregethu yma mewn tŷ bychan oedd yn sefyll y tu ol i'r man lle y mae yr Abbey Arms yn sefyll. Gwnaed ef ar lun capel bychan, ond yr oedd yn anghyfleus iawn, y tu cefn i'r tai, ac o olwg yr heol, fel nas gallasai neb feddwl fod yno le i addoli, oddigerth eu bod yn gwybod hyny eisioes. Gelwid y lle yn Saron. Yn nglyn a gweinidogaeth Bethania y bu y lle hyd ymadawiad Mr. Davies, yn y flwyddyn 1839. Yn y flwyddyn hono hefyd, gan fod y lle y cyfarfyddent yn anghysurus, a'r achos wedi casglu mesur o nerth, penderfynwyd codi capel newydd mewn lle mwy manteisiol. Gan fod y tir yn llechweddog ac anwastad, cynlluniwyd i gael anedd-dai o dan y capel, ac elid i mewn i'r capel un ochr, ac i'r anedd-dai yr ochr arall. Costiodd swm mawr o arian, ac aeth y gweinidogion cymydogaethol, ac eraill, yn gyfrifol am y ddyled, a chafwyd llawer o helbul a gofid o'i herwydd. Ar sefydliad Mr. Samuel Jones yn Maentwrog, yn niwedd 1840, cymerodd hefyd ofal Llan, Ffestiniog, ac ni bu yr un fam erioed yn fwy ei phryder am blentyn afiach, nag y bu Mr. Jones am yr achos egwan hwn. Pan yn casglu ato yr ymaflodd afiechyd ynddo, yr hwn a derfynodd yn ei farwolaeth. Wedi bod am dymor ar ol marwolaeth Mr. Jones heb weinidog, yn y flwyddyn 1844, rhoddodd yr eglwys yma mewn cysylltiad a'r eglwys yn Nhanygrisiau alwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Rhagfyr 11eg a'r 12fed, y flwyddyn hono. Ychydig gyda dwy flynedd yr arosodd Mr. Jones yma, canys symudodd i Berea, Mon, a bu wedi hyny yn Llangollen a Llanfaircaereinion, ac y mae yn America er's llawer o flynyddoedd bellach. Ar sefydliad Mr. Richard Parry, yn Bethania, cymerodd hefyd ofal y Llan, a bu ei weinidogaeth yma yn dra derbyniol. Siriolodd yr achos yn fawr yn yr yspaid y bu yma, ac yr oedd yr egni a wneid i dalu dyled y capel, yn rhoddi bywyd newydd yn yr eglwys. Wedi ymadawiad Mr. Parry, bu y lle am ychydig dan ofal Mr. O. Evans, mewn cysylltiad a Maentwrog; ond symudodd Mr. Evans yn fuan i Lundain. Wedi sefydliad Mr. David Ll. Jones, yn Bethania, cymerodd hefyd ofal y Llan, a pharhaodd yr achos i fyned rhagddo yn dra llwyddianus hyd derfyn gweinidogaeth Mr Jones. Yn niwedd y flwyddyn 1867, penderfynodd yr eglwys yma gael gweinidog iddi ei hun, a rhoddodd alwad i Mr. Zachariah Mathers, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef ddydd Nadolig, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jenkins, Pentreestyll; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Roberts, Tanygrisiau; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. J. Williams, Maentwrog; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr. W. Roberts, Tanygrisiau. Aeth yr hen gapel yn rhy fychan i'r gynnulleidfa, ac yn y flwyddyn 1869, adeiladwyd yma gapel newydd eang mewn man cyfleus yn mhen uchaf y pentref, yn ymyl y Tollborth sydd ar y ffordd o Ffestiniog i Drawsfynydd. Galwyd y capel newydd yn Bethel, ac agorwyd ef yn gyhoeddus Nadolig, 1869, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri D. Ll. Jones, Manchester; M. D. Jones, Bala; W. Edwards, Aberdare; R. Jones, Llanidloes, a J. Thomas, Liverpool. Mae Mr. Mathers yn parhau i lafurio yma, a'r achos mewn gwedd obeithiol, ac y mae yma lawer o bersonau gweithgar, y rhai a wir ofalant am yr achos.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

Edward Jones, Tŷ'nyrynys. Codwyd ef i bregethu yn Coedbach. Yr oedd yn ddyn ieuangc crefyddol iawn. Bu farw o'r frechwen yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu.

Edward Stephen. Bu yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Dwygyfylchi. Mae yn awr yn Carmel a Bethlehem, ac y mae yn hysbys i holl Gymru fel cerddor a phregethwr.

Robert Hughes. Mae yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Four crosses.

John Cadwaladr. Addysgwyd ef yn y Bala, urddwyd ef yn Birmingham, ac y mae yn awr yn yr America.

Morris Cadwaladr. Bu yn athrofa Aberhonddu, ond y mae etto heb ymsefydlu yn unrhyw le penodol.

Thomas Morris. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa y Bala.

Aelod o'r eglwys hon hefyd oedd David Parry (Dewi Moelwyn), ond yn Nghaernarfon y dechreuodd bregethu, ac yn nglyn a'r eglwys hono y bydd ein crybwyllion am dano.


TANYGRISIAU.

Dechreuwyd pregethu yn y gymydogaeth yma o gylch yr un amser ag y dechreuwyd yn Llan, Ffestiniog, gan weinidog Bethania a'r rhai a'i cynorthwyent. Yn nhŷ William Owen y pregethid fynychaf, a thua'r flwyddyn 1835, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol mewn tŷ a elwir Hen Danygrisiau. Cynorthwyid yn y gwaith hwn gan David Evans, William Owens, H. S. Parry, a'i fab Richard Parry, ac eraill. Elai yr aelodau i Bethania un pen o bob Sabboth dros rai blynyddau, a changen o'r eglwys yno yr ystyrid yr achos yma. Yr oedd Cadwaladr Roberts, Buarthmelyn, yn un o'r aelodau cyntaf yma, ac yn un o'r rhai a wnaeth fwyaf yma yn nghychwyniad yr achos. Yr oedd yn ddihafal am ei ffyddlondeb, ac yn noddi yr achos yn Nhanygrisiau, fel pe ei eiddo personol ef a fuasai. Ffurfiwyd yma eglwys cyn hir yn nhŷ Richard Llwyd, Risgenfawr, ac yno y cadwyd y cymundeb cyntaf, pryd y gweinyddai Mr. David Griffiths, Talysarn, (gynt). Yr oedd pedwar-ar-ddeg o aelodau Bethania yn ymgorphori yn eglwys yma yn y cymundeb cyntaf; ac ar y Sabboth hwnw, derbyniwyd dau fachgen ieuangc yn aelodau, y rhai a droisant allan yn ddynion rhagorol, sef Richard Roberts, Buarthmelyn, a William Williams, Beudymawr. Bu y cyntaf o'r ddau a enwyd farw trwy ddisgyniad darn o'r graig arno pan gyda'i orchwyl yn chwarel y Moelwyn, ar ol bod am lawer o flynyddoedd yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon gweithgar yn yr eglwys, ac y mae yr olaf etto yn parhau yma yn ddefnyddiol fel aelod a diacon. Yn y flwyddyn 1837, adeiladwyd yma gapel a thy wrth ei dalcen, mewn yr oedd lle serth ar y graig. Dringid i fyny iddo ar hyd rhes o risiau, fel yr oedd yn lle costus i'w adeiladu, ac yn lle trafferthus i fyned iddo ar ol ei adeiladu. Ond dyna yr unig le yn yr ardal a allesid gael ar y pryd, ac yr oedd yn rhaid ei godi yno, neu fod heb un man. Daeth y ffordd haiarn heibio iddo ar ol hyny, a gwnaeth hyny ef yn llawer mwy anghyfleus i fyned iddo, ac o hono. Costiodd y capel 400p. Pregethwyd ynddo yn gyntaf gan Mr. W. Edwards, yn awr o Aberdare; ac yn nghyfarfodydd yr agoriad pregethwyd gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog; R. Ellis, Rhoslan, a J. Williams, Llansilin. Arosodd pymtheg o newydd yn y gyfeillach noson y cyfarfod. Bu gofal yr eglwys ar Mr. Davies hyd ei ymadawiad a Bethania, ac wedi hyny dros ychydig ar Mr. R. Fairclough, ond yn mhen amser torwyd y cysylltiad a Bethania, ac yn niwedd y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, i fod yn weinidog yma ac yn y Llan, Ffestiniog, ac urddwyd ef Rhagfyr 11eg a'r 12fed. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Bala; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Evans, Maentwrog; pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r gweinidog, a Mr. W. Ambrose, Porthmadog, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri T. Edwards, Ebenezer, ac R. Ellis, Brithdir.[164] Ni bu Mr. Jones yma ond dros dymor byr, canys ymadawodd yn 1847, i Berea, Mon. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog ar ol hyny am yn agos i ugain mlynedd, ac er hyny, parhaodd yr achos i fyned rhagddo a chasglu nerth. Yr oedd Cadwaladr Roberts yn gofalu fel tad am yr achos, a phawb yn gadael iddo gael ei ffordd, oblegid ei fod yma o'r dechreuad, ac yn ffyddlon dros fesur. Ni chai yr un pregethwr lonydd ganddo heb addaw Sabboth yn Nhanygrisiau, os tybiai y byddai ei wasanaeth o werth, ac nid yn waglaw y gollyngid ymaith y rhai a ddeuai; ac ar ddiwedd gwaith un Sabboth yr oedd yn rhaid addaw Sabboth arall. Yr oedd Robert Williams, Tanygrisiau, hefyd, a'i deulu; Cadwaladr Williams, Beudymawr, a'i feibion, a meibion Buarthmelyn, ac eraill, yn aelodau o'r fath fwyaf gweithgar, fel na theimlodd yr eglwys anfantais fawr er ei hir amddifadrwydd o weinidog. Bu Mr. Davies, Trawsfynydd, yn dyfod yma am flynyddau bob mis i gadw cymundeb, ar un cyfnod. Yn wyneb fod y capel wedi ei adeiladu ar fan anfanteisiol, ac agoriad y ffordd haiarn wedi gwneyd y lle yn fwy anfanteisiol fyth, meddyliwyd am gael capel newydd ar lanerch mwy cyfleus, a chanolog i'r holl eglwys. Ffurfiwyd pwyllgor adeiladu er dwyn y gwaith i ben, a chytunwyd am ddarn o dir ar y ffordd cydrhwng Tanygrisiau a Rhiwbryfdir; ond wedi adystyriaeth, cydfarnodd y pwyllgor mai gwell fuasai adeiladu dau gapel, un yn Rhiwbryfdir, ac un arall yn Nhanygrisiau. Adeiladwyd capel y Rhiw yn gyntaf, ac yna yn mhen y flwyddyn adeiladwyd capel yn Nhanygrisiau. Yn mis Mai, 1862, pregethodd R. Thomas, Bangor, ar y gareg sylfaen i gynnulleidfa luosog, ac erbyn y flwyddyn 1863, yr oedd y capel newydd yn barod. Galwyd ef Carmel. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog; ac agorwyd et yn nglyn a chyfarfod chwarterol sir Feirionydd, yr hwn a gynhaliwyd yma y flwyddyn hono. Mesurai y capel ugain llath wrth un-ar-ddeg, ac aeth y draul yn agos i 850p. Prynodd yr eglwys dŷ drachefn, yr hwn trwy y cyfnewidiadau a wnaed ynddo, a gostiodd 161p., ond trwy ymdrechion haelionus yr eglwys a'r gynnulleidfa symudwyd ymaith y rhan fwyaf o'r ddyled yr aed iddi. Yn niwedd y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys yma mewn cysylltiad a'r eglwys yn Rhiwbryfdir, alwad i Mr. William Roberts, Penybontfawr, a dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1866, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yn niwedd Hydref y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri C. R. Jones, Llanfyllin; D. Evans, Penarth; H. James, Llansantffraid; J. Roberts, Llanerchymedd; D. Roberts, Caernarfon; J. Roberts, Conwy, ac E. Morris, Penrhyn. Yn nglyn a'r cyfarfodydd hyn, amlygodd y brodyr yn y lle eu gwerthfawrogiad o Mr. Roberts, ar ei sefydliad yn eu plith, trwy ei anrhegu ag oriawr a chadwen aur, a gwydr-ddrychau aur. Mae Mr. Roberts yn parhau yma yn gysurus a llwyddianus. Gwelwyd yn angenrheidiol helaethu y capel, trwy ei godi yn uwch a rhoddi oriel o'i amgylch, ac y mae yn awr yn un o'r capeli harddaf a ellid ei weled, a chynnulleidfa luosog ac eglwys weithgar ynddo. Aeth traul yr helaethiad yn 660p., ac er ei fod yn cynwys lle i lawer mwy nag a gynwysai o'r blaen, etto, y mae yr eisteddleoedd gan mwyaf oll wedi eu cymeryd. Agorwyd ef y Sabboth olaf yn Medi, 1870, a phregethwyd ar y pryd gan Meistri R. Thomas, Bangor; D. Roberts, Caernarfon; D. Griffith, Portdinorwic, a J. Rowlands, Rhos. Mae tŷ helaeth a chyfleus wedi ei godi i'r gweinidog, trwy gydymroddiad yr eglwys yma ac eglwys Rhiwbryfdir, yn ymyl capel y Rhiw, fel y gwelir yn eglur fod gan y bobl hyn "galon i weithio." Mae capel bychan perthynol i Danygrisiau wedi ei godi yn Cwmorthin. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Nhanygrisiau, dechreuodd Mr. Roberts bregethu ar nosweithiau o'r wythnos yn nhŷ Mr. D. Jones, goruchwyliwr yn y gloddfa yno, ond gwelwyd yn angenrheidiol codi addoldy yn y lle. Gwnaed cais trwy Mr. D. Jones, y goruchwyliwr, am dir gan berchenogion y gloddfa yma, y rhai a deimlent yn llawen i gydsynio. Rhoddodd y chwarelwyr eu llafur yn rhad i dori y sylfaen, cludo y cerig, a gwneyd ffordd ato, ac nid hir y buwyd cyn cael y capel yn barod, ac er iddo gostio 100p. mewn arian, heblaw y llafur rhad a roddwyd, agorwyd ef yn rhydd o ddyled trwy haelioni y chwarelwyr yn y Cwm, a chyfeillion Tanygrisiau. Enwyd ef Tiberias, am y rheswm ei fod yn sefyll ar lân llyn mawr, yr hwn sydd dros ddwy filltir o amgylchedd. Bu Mr. D. Jones, a'i fab, yr hwn sydd gydoruchwyliwr a'i dad, yn egniol yn y gorchwyl o gael y capel i fyny a thalu am dano; ac nid llai ei ymdrech chwaith y bu John Jones. Cynhelir ynddo Ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregethu yn achlysurol. Fel y cynydda y lle, y mae yn debyg y bydd yn rhaid corpholi eglwys Annibynol yma.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

David Cadwaladr. Dangosodd arwyddion gobeithiol, ond lluddiwyd ef trwy farwolaeth i barhau.

Elias Morris. Mae yn awr yn Penrhiwddolion, Dolyddelen, ac yn parhau i bregethu yn achlysurol.

John Roberts. Mab i Cadwaladr Roberts, Buarthmelyn. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, ac yr oedd yn argoeli dyfod yn mlaen yn obeithiol, ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn y Bala, cyn gorphen ei dymor yn yr athrofa, a dygwyd ei gorph i'w gladdu yn meddrod y teulu, yn mynwent Ffestiniog.

John Hughes. Mae yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys.

Aelod o'r eglwys hon hefyd oedd Mr. Robert Evans, Bethel, Aberdare, ond yn Abermaw, pan yno yn yr ysgol, y dechreuodd bregethu.

RHIWBRYFDIR.

Yn y flwyddyn 1859, dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol yma, yn nhŷ John Roberts, un o aelodau Tanygrisiau. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1861, a bu John Roberts, John Morris, John Daniel, William Pierce, Owen Hughes, ac eraill, yn hynod o ymdrechgar yn y gorchwyl. Cawsant hefyd Mr. John Edwards, brawd Mr. Edwards, Aberdare, a Mr. Morris Griffith Williams, Rhiw, er heb fod yn aelodau eglwysig, yn gynnorthwywyr o'r fath fwyaf egniol. Costiodd y capel 600p. Galwyd ef yn Salem. Agorwyd ef Mehefin 23ain a'r 24ain, 1861, pryd y pregethodd Meistri W. Edwards, Aberdare; E. Stephen, Tanymarian, ac R. Thomas, Bangor. Ffurfiwyd eglwys yn y capel newydd y nos Wener blaenorol gan Mr. Edwards, Aberdare, pryd yr ymgorphorodd pedwar-a-deugain o aelodau Tanygrisiau, ac ychydig nifer o aelodau Bethania, i gydymroddi i gynal achos yr Arglwydd yn y lle. Ymroddodd yr eglwys yma o ddifrif at dalu dyled y capel. Yr oedd haner yr arian wedi eu casglu cyn pen dwy flynedd, ac erbyn hyn nid oes ond 60p. yn aros. Cydunodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nhanygrisiau i roddi galwad i Mr. Roberts, Penybontfawr, ac y mae yn parhau i ofalu am y ddau le.

Gan nad yw yr achos ond ieuangc nis gellir disgwyl fod llawer o hanes i'w roddi, ond y mae yma bobl weithgar a ffyddlon, a'r achos ar y cyfan, mewn gwedd addawus. Mae y tŷ i'r gweinidog sydd yn ymyl y capel hwn, wedi ei godi cydrhwng yr eglwys yma a'r eglwys yn Nhanygrisiau, ac wedi ei fwriadu i fod yn breswylfa i weinidog y ddwy eglwys.

FOURCROSSES.

Codwyd y capel hwn gan eglwys a chynnulleidfa Bethania, yn y flwyddyn 1868, ac agorwyd ef yn nglyn a Chymanfa Meirionydd, yr hon a gynhaliwyd yma Gorphenaf laf a'r 2il, 1869. Saif tua haner

Saif tua haner y ffordd rhwng Bethania a Rhiw, yn nghanol grym poblogaeth y lle. Mae yn gapel hardd a chyfleus, yn ddeunaw llath wrth bedair-ar-ddeg, ac ysgoldy eang odditano. Costiodd ddwy fil o bunau. Cafwyd y tir i adeiladu arno gan Arglwydd Newborough, trwy ddylanwad Mr. David Williams, Cwmbywydd, a bu Mr. Williams yn nodedig o ymdrechgar er ei gael yn barod, a disgwyliai am lawer o gysur ynddo, ond siomwyd ei holl ddisgwyliadau, ac ag un ergyd chwalodd angau ei holl gynlluniau. Corpholwyd eglwys ynddo yn ddioed wedi ei gael yn barod, a gweinyddwyd y cymundeb cyntaf gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd, pryd y derbyniwyd saith o'r newydd i gymundeb, at y rhai oeddynt yn aelodau yn flaenorol. Saith mlynedd a deugain cyn hyny, yr oedd Mr. Davies wedi derbyn y saith cyntaf yn aelodau yn Ffestiniog, a hyny heb fod yn nepell oddiwrth y fan y saif capel Fourcrosses. Yn niwedd y flwyddyn 1870, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. Price Howell, o Ynysgau, Merthyr, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma ddechreu y flwyddyn hon, (1871,) ac y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa mewn agwedd addawus a chalonog. Mae swm y ddyled yn ymddangos yn fawr, ond dileir ef yn fuan o flaen cydweithrediad pobl weithgar a haelionus.


TOWYN.

Bu y rhan yma o'r wlad, rhwng y ddwy afon, Mawddach a Dyfi, yn hwy heb ei darostwng dan ddylanwad yr efengyl na'r rhan fwyaf o sir Feirionydd. Mae yn wir fod Bronyclydwr o fewn llai na phedair milldir i'r Towyn, ac nid oes dim yn fwy sicr na bod yr efengylwr llafurus, Hugh Owen, wedi pregethu llawer trwy yr holl ardaloedd hyn, ond nid oes yma er hyny, gymaint ag un eglwys ag y gellir ei holrhain hyd ei ddyddiau ef. Nis gall yr eglwysi Annibynol yma ddilyn eu hanes yn ddim pellach na dechreuad y ganrif bresenol, ac ni chafodd y Methodistiaid Calfinaidd ond ychydig o flaen arnynt. Pregethwyd ar y maes yn agos i'r Towyn gan Mr. William Jones, Machynlleth, fel y crybwyllasom yn ein cofnodiad of hono yn nglyn a'r eglwys yno, (tu dal. 296,) a therfysgwyd yr addoliad, a dychrynwyd y pregethwr, trwy ddyfodiad gweision Mr. Corbet, Ynysmaengwyn, gyda haid o fytheuaid i aflonyddu. Yr oedd hyn o gylch y flwyddyn 1789, ond nid oes genym hanes am yr Annibynwyr yn cynyg pregethu yma ar ol hyny, hyd ddechreu y ganrif bresenol. Mae yn ymddangos mai Meistri Hugh Pugh, Brithdir, a J. Roberts, Llanbrynmair, oedd a'r llaw flaenaf yn sefydliad yr achos yma. Yr oedd gan Mr. Pugh berthynasau yn byw yn y gymydogaeth hon, a hyny, fel yr ymddengys, a fu yr achlysur i'w arwain yma. Fel hyn yr ysgrifena y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn nghofiant Mr. Pugh, o'r Brithdir.—" Yn ffurfiad yr eglwys Ymneillduedig yn Nhowyn, yr oedd Mr. Pugh, ac ysgrifenydd y cofiant hwn, yn bresenol, a chanddynt hwy y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd y tro cyntaf yn y dref, yn ol trefn yr Anymddibynwyr. Yr wyf yn meddwl fod hyn yn y flwyddyn 1803. Y rhai fu yn benaf yn offerynol i ddechreu yr achos yn Nhowyn oeddynt, Hugh Edwards, o Lanyrafon, a Miss Mary Jones, chwaer Hugh Jones, o Dowyn, y rhai a rodiasant yn deilwng o efengyl Crist hyd derfyn eu hoes."[165] Yr oedd David Jones, tad Mr. Daniel C. Jones, Abergwyli, hefyd yn un o'r aelodau cyntaf yn y lle, a pharhaodd yn ffyddlon am ei oes faith, a chyn hir, daeth John Davies, Glasbwll, wedi hyny, i'r gymydogaeth i wasanaethu, ac fel canwr cryf, a gweddiwr doniol, bu o help mawr i'r achos. Cyfarfyddent mewn tŷ yn Lion-street, yr hwn a gymerasid dan ardreth. Heblaw y gweinidogion a enwyd, ymwelai Mr. Azariah Shadrach a'r lle ar ol ei sefydliad yn Nhalybont. Yn nechreu y flwyddyn 1807, urddwyd Mr. James Griffith, yn weinidog yn Machynlleth, a chymerodd ef ofal yr achos bychan yn Nhowyn, a'r achosion oedd erbyn hyn wedi eu cychwyn yn Llanegryn a Llwyngwril. Bu Mr. Griffith yn hynod o lafurus i ymweled a'r lle, ond oblegid eangder maes ei lafur, nis gallasai ddyfod ond yn anfynych. Yn fuan ar ol hyn, dechreuodd Mr. David Morgan, Talybont, ei ymweliadau misol a'r lleoedd hyn, a pharhaodd felly am bedair blynedd. Yn Ꭹ flwyddyn 1811, barnodd Mr. Griffith yn angenrheidiol, oblegid eangder y maes, i roddi y Towyn a'r lleoedd cysylltiedig i fyny, ac anogwyd Mr. David Morgan, o'r hwn yr oeddynt eisioes wedi cael blynyddoedd o brawf, i gymeryd eu gofal. Cydsyniodd Mr. Morgan a'r cymhelliad, ac urddwyd ef mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar wyneb yr heol yn y Towyn, yn mis Mawrth, 1813. Deuai yma ar ol hyn ddwy waith y mis, ond ni symudodd i fyw o Cerigcaranau, (neu Cerigtaranau, fel yr ysgrifena rhai ef,) sir Aberteifi. Ymdrechodd Mr. Morgan yma a'i holl egni er gwaned oedd yr achos, hyd ddiwedd 1814, pryd y symudodd i Fachynlleth, fel olynydd i Mr. Griffith, ar ei ymadawiad i Dyddewi. Wedi ymadawiad Mr. Morgan, bu Mr. Titus Jones yn aros am ychydig yma. Symudodd i sir Fon, ac aeth at y Methodistiaid, a bu yn pregethu gyda hwy am dymor hir. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn Morganwg, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, fel hen gymeriad gwreiddiol, ac y mae llawer o'i ffraeth-ddywediadau yn aros ar gof a chadw. Yn y flwyddyn 1816, cafodd Mr. Hugh Lloyd, alwad gan yr eglwys yma, a'r eglwysi yn Llanegryn a Llwyngwril, ac urddwyd ef yn Llanegryn Hydref 3ydd, 1817, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; M. Jones, Llanuwchllyn; D. Morgan, Machynlleth; A. Shadrach, Talybont; W. Hughes, Dinas; J. Lewis, Bala; James Davies, Aberhafesp, a C. Jones, Dolgellau.[166] Gan fod yr achos yn wan, ychwanegodd Mr. Lloyd, fel y gwnai y rhan fwyaf o weinidogion y cyfnod hwnw, y swydd o ysgolfeistr at y weinidogaeth, ac yn y naill a'r llall, gwnaeth fwy o les i eraill nag a wnaeth o elw iddo ei hun. Yr oeddynt dan anfantais fawr o eisiau lle mwy cyfleus i addoli. Yr oedd anhawsder mawr i gael tir, ac yr oedd yr eglwys yn ychydig mewn nifer, ac yn dlodion agos oll, fel nad oedd calon ynddynt at y gwaith, ac nid oedd ond ychydig o ysbryd anturio yn Mr. Lloyd ei hun. Cafodd dir ar werth, a phrynodd ef am 74p., a phenderfynodd y mynai gael 200p. i law cyn dechreu adeiladu, a llwyddodd yn hyny. Codwyd capel prydferth a chyfleus. Galwyd ef Bethesda, ac agorwyd ef Mehefin 21ain, 1820, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Davies, Cutiau; R. Jones, Llanfyllin; R. Roberts, Brithdir; W. Jones, Caernarfon; D. Griffith, Bethel; E. Davies, Rhoslan; J. Davies, Llanfair; J. Lewis, Bala; O. Thomas, o sir Fon; W. Hughes, Dinas, a C. Jones, Dolgellau.[167] Teithiodd Mr. Lloyd trwy Yorkshire, a pharthau eraill o Loegr i gasglu ato, a chyn diwedd y flwyddyn 1820, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, ac yn nglyn a hanes yr agoriad yn yr Evangelical Magazine, y mae Mr. Lloyd yn cymeryd y cyfle i ddiolch i'r cyfeillion caredig yn Lloegr, y rhai yn haelfrydig a roisant iddo Ꭹ fath gynorthwy amserol. Bu Mr. Lloyd yn gyson a dyfal yn ei lafur yma, ac ennillodd yr achos dir yn raddol, ac yr oedd cymeriad uchel a difrycheulyd y gweinidog a'r eglwys, yn rhoddi iddo safiad parchus yn ngolwg trigolion y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1849, barnodd Mr. Lloyd yn ddoeth i gael gwr ieuangc i gydlafurio ag ef, a chydsyniodd ef a'r eglwys i roddi galwad unfrydol i Mr. Isaac Thomas, aelod o Carmel, Cendl, ac urddwyd ef Medi 27ain, 1849. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Lloyd, Towyn; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. E. Davies, o Drawsfynydd; pregethodd Mr. C. Jones, i'r gweinidog, a Mr. E. Evans, Maentwrog, i'r eglwys. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri R. Ellis, Brithdir; W. Davies, (gynt o Rymni), J. Jones, Abermaw; S. Edwards, Machynlleth; O. Thomas, Talybont; R. Roberts, Clarach; J. Williams, Aberhosan; G. Evans, Pennal; J. Owen, Nefin, ac E. Williams, Dinas.[168] Llafuriodd Mr. Thomas fel plentyn gyda thad hyd farwolaeth Mr. Lloyd yn mis Medi, 1861, ac er hyny y mae y gofal yn gwbl arno ef, a'r achos yn myned rhagddo yn siriol iawn. Yn 1866, helaethwyd y capel, fel y mae yn dŷ eang a chyfleus, y fath ag y sydd yn cyfateb i'r lle prydferth a chynyddol y mae ynddo.

Mae yma lawer o bobl dda wedi bod o bryd i bryd yn nglyn a'r achos, heblaw y rhai a enwyd yn nglyn a'i gychwyniad. Nid ydym wedi cael rhestr o'u henwau, gan hyny, ymataliwn rhag crybwyll enwau yr ychydig a adwaenem, rhag i ni adael allan eraill llawn mor deilwng, ond gwyddom na bydd yn dramgwydd i neb i ni grybwyll am enw Mrs. Lloyd, gwraig y gweinidog, yr hon oedd nid yn unig "yn rhodd gan yr Arglwydd" i Mr. Lloyd, ond hefyd i'r achos yn Nhowyn. Mae yr engraifft a ddyru Dr. W. Rees, Liverpool, o'i chraffder a'i thynerwch, yn nghofiant Mr. Pugh, Mostyn, yn dangos mai un yn mysg mil ydoedd, ac nid heb achos y gofyna, "A oes yn mysg merched Seïon yn awr lawer o'r ddelw hon o Gristionogion?"

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :—

Hugh Pugh. Urddwyd ef yn Llandrillo, a symudodd i Mostyn, lle y daw ei hanes dan ein sylw.

John Humphrey. Bu am ysbaid yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys hon. Ymfudodd i'r America, lle y daliodd ei ffordd yn anrhydeddus, a bu farw mewn oedran teg.

David S. Thomas. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Glandwr, Penfro, lle y mae etto.

John E. Thomas. Brawd i'r uchod. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin.

Yn yr eglwys hon y magwyd D. C. Jones, Abergwyli, ond fel y crybwyllasom yn nglyn a'r Graig, Machynlleth, yno y dechreuodd bregethu. Mae Thomas Davies, a Hugh P. Jones, yn awr yn bregethwyr cynorthwyol yn yr eglwys.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

HUGH LLOYD. Ganwyd ef Medi 11eg, 1790, mewn amaethdy bychan o'r enw Bryngoleu, o fewn dwy filldir i'r Bala. Yr oedd ei dad, William Llwyd, yn ddiacon yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhalybont, gerllaw y Bala. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond wyth oed, ac ar ol bod am dymor yn yr ysgol yn y Bala, rhwymwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd. Ar ol dyfod yn rhydd, aeth i Swinton, yn agos i Manchester, ac yno fel y tybir y daeth i gysylltiad a'r Annibynwyr.[169] Dychwelodd yn ol i'w wlad oblegid sefyllfa ei iechyd, a bu yn cadw ysgol mewn amryw fanau, a phan yn cadw ysgol yn Mhenystryd anogwyd ef i ddechreu pregethu. Symudodd oddiyno i'r Groeslon, Mon, i gadw ysgol ac i bregethu, ond yn y flwyddyn 1816, cafodd alwad gan yr eglwysi yn y Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, y rhai oeddynt er's yn agos i ddwy flynedd heb fugail, oblegid symudiad Mr. Morgan, i Fachynlleth. Urddwyd Mr. Lloyd yn Llanegryn, Hydref 3ydd, 1817. Ymroddodd a'i holl egni i wneyd ei waith, ac ni bu ei ymdrechion yn ofer. Cododd yn ei oes gryn nifer o gapeli, ond nid oedd mewn un modd am ddal ei afael ynddynt, ond cyn gynted ag y gwelai eu bod yn alluog i gynal gweinidog eu hunain, anogai hwy i wneyd hyny. Yn y flwyddyn 1836, rhoddodd yr eglwysi yn Llanegryn, Llwyngwril, a Llanfihangel i fyny, ond parhâi i ymweled a hwy tra y gallodd. Yn y flwyddyn 1824, priododd a Miss Thomas, merch ieuangc rinweddol o Abergwaun, yr hon a fu iddo yn "ymgeledd gymhwys." Ymgymerodd a masnach oblegid fod yr eglwysi dan ei ofal yn rhy wan i'w gynal, a pha faint bynag o anfantais a fu hyny iddo fel pregethwr, etto bu o fantais fawr i'w ddylanwad fel dyn cyhoeddus yn y dref, a rhoddodd gyfle iddo i gymeryd ei ran yn amlwg gyda phob peth, a chyfranu at bob achos, yr hyn nis gallasai pe gorfodasid ef i fyw ar yr hyn a allasai ei eglwysi gyfranu at ei gynhaliaeth. Gyda Bwrdd Iechyd y lle, a'r Ysgol Frutanaidd, a Chymdeithas y Biblau, nid oedd neb yn fwy blaenllaw nag ef, ac yr oedd ei wybodaeth gyffredinol, a'i synwyr cyffredin cryf yn rhoddi iddo ddylanwad mawr gyda'r fath bethau. Yr oedd yn ofnus a gochelgar yn mhob peth, ac yn wastad am gadw ar yr ochr ddiogelaf, a chadwodd hyny ef rhag rhuthro i bethau y tu allan i'w derfynau. Yr oedd yn gyfaill cywir a didwyll, ac yn cael ei garu fwyaf gan ei bobl ei hun, a'r rhai a'i hadwaenent oreu. Nid ymgododd yn uchel fel pregethwr, ac nis gallasai ychwaith, gan nad oedd ei alluoedd yn gryfion na'i ddoniau yn helaeth, ond yr oedd yn bregethwr sylweddol, a chanddo yn wastad genadwri i'w thraddodi a "fyddai da i adeiladu yn fuddiol." Profodd ei fod yn fugail ffyddlon a gofalus. Er nad ymddibynai ar bobl ei ofal am ei gynhaliaeth, ac er ei fod yn eu gwasanaethu yn rhad trwy ei oes, etto, nid oedd hyny yn peri ei fod yn ddiofal yn eu cylch, ond teimlai mai goruchwyliwr cyfrifol i'w feistr ydoedd, ac fel y cyfryw, gofalai am fod yn ffyddlon. Yr oedd wedi cael ergyd o'r parlys rai blynyddau cyn ei farw, yr hyn a'i hanalluogai i siarad yn gyhoeddus, ond yr oedd mor llawn o ysbryd ei waith fel y mynai gael pregethu er nad oedd ei wrandawyr yn deall fawr ddim o'r hyn a lefarai. Yn ei gystudd diweddaf teimlai fod ei angor yn dal yn ddiysgog. Y Sabboth cyn ei farw, gofynwyd iddo gan un o'i gyfeillion, a oedd yn gallu mentro ei hun ar Grist? "Mentro," ebe yntau, "nid mentro, ond ymddiried fy hun yn gwbl i'w ofal." Bu farw Medi 25ain, 1861, yn 71 oed, ac yn mhen tri diwrnod rhoddwyd ei weddillion marwol i orwedd yn y llanerch oedd yn gysegredig yn ei olwg yn ei flynyddoedd olaf, oblegid mai yno yr oedd lle beddrod ei anwyliaid.

BRYNCRUG.

Mae y lle hwn o fewn dwy filldir i Dowyn. Dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio yn Rhydyronen, pentref o fewn haner milldir i'r fan lle y saif y capel presenol. Bu yr achos yn y lle hwnw mewn gwedd flodeuog dros flynyddau, ac er y cynhelid yno bregethu cyson a chyfeillachau crefyddol yn rheolaidd, etto, elai yr aelodau i Dowyn i gymundeb. Trwy lafur Mr. Lloyd, Towyn, ac eraill o'r cyfeillion, yn enwedig Mr. Hugh Davies, Gwyndy, cafwyd lle i adeiladu addoldy ar brydles.[170] Mae y capel yn mesur wyth llath yn ysgwar. Galwyd ef Saron. Agorwyd ef Awst 1af, 1837, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Jones, Aberhosan; J. Williams, Dinas; E. Evans, Abermaw; J. Roberts, Llanbrynmair, a J. Parry, Machynlleth. Ffurfiwyd eglwys yma yn ddioed wedi codi y capel, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod o dan yr un weinidogaeth a Towyn, ac felly y mae yn parhau. Ni bu yr achos yma. erioed yn gryf, ac nis gellir disgwyl iddo fod, oblegid cyfyng yw y maes, ond y mae yn cryfhau ac yn ennill tir yn raddol, a'r eglwys a'i gweinidog yn cydweithio yn galonog.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

John Thomas. Aelod o Machynlleth ydoedd, ond yma yn cadw ysgol yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Dinasmawddwy, ac y mae yn awr yn Abertawy.

Hugh D. Pughe. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Meifod. Symudodd i'r Drefnewydd, lle y bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Yr ydym eisioes yn nglyn a'r eglwys hono wedi gwneyd byr grybwylliad am dano.

Robert Thomas. Bu yn efrydydd yn athrofa y Bala, ac y mae wedi ei urddo yn Llanelltyd.

Lewis Jones. Yr oedd yn wr ieuangc cymeradwy, ond bu farw yn ieuangc.

PENNAL.

Pentref bychan mewn dyffryn prydferth ar y ffordd o Fachynlleth i Aberdyfi ydyw Pennal, o fewn pedair milldir i'r lle blaenaf a enwyd. Megis y crybwyllasom yn hanes Machynlleth, y mae yn ymddangos i Mr. William Jones bregethu yma yn ystod y tymor byr y bu yno, ac wedi hyny, pregethwyd yma gan Mr. John Evans, a Mr. Edward Francis. Yr oedd yma un hen wraig o'r enw Jane Davies, yr hon a fu farw tua phymtheng mlynedd yn ol, ac wedi bod gyda chrefydd am dair blynedd-a-thriugain.[171]

Nid oedd yma eglwys wedi ei ffurfio y pryd hwnw, ac ychydig flynyddoedd cyn hyny yr oedd yr eglwys yn Machynlleth wedi ei chorpholi. Pregethid mewn gwahanol dai yn yr ardal, a choffeir yn arbenig y byddai pregethu weithiau yn Nantygwasanaeth, tŷ bychan ar dir y foneddiges ragorol, Mrs. Anwyl, Llugwy. Mae y tŷ y dechreuwyd pregethu yn sefydlog ynddo yn Mhennal yn sefyll etto yn nghanol y pentref. Dŷwedir y byddai yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn cydaddoli ynddo, ac yn gwbl heddychlawn a brawdol. Elai yr aelodau oedd yma i'r Graig, Machynlleth, i gymundeb, ac arferai yr hen frodyr a'r chwiorydd sydd wedi blaenu, adrodd mor felus fyddai y gyfeillach ar y ffordd wrth fyned i a dychwelyd o Fachynlleth, ac yr elai y pedair milldir heibio bron heb yn wybod iddynt. Ar sefydliad Mr. James Griffith yn Machynlleth, yr 1807, y dechreuodd yr achos yma ymffurfio i ryw drefn, a dechreuwyd cynal moddion yn rheolaidd, er na ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Wedi ymadawiad Mr. Griffith, nid oedd y gangen yn Pennal, yn ol adroddiad un hen frawd o'r enw Hugh Dafydd, yn gwbl unol a Machynlleth ac Aberhosan, i roddi galwad i Mr. D. Morgan, ond ymddengys iddynt yn fuan syrthio i mewn ar dewisiad, ac ni bu un gangen o'r eglwys yn ffyddlonach i Mr. Morgan, nag y bu y gangen yn Pennal dros holl ystod ei arosiad yn y lle. Cafwyd tir at adeiladu capel yn y man lle y saif y capel presenol, ar brydles o gan' mlynedd, gan Mr. John Jones, siopwr, Machynlleth, am yr ardreth flynyddol o saith swllt. Dyddiad y weithred ydyw, Mawrth 9fed, 1816, a'r ymddiriedolwyr cyntaf oedd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair, a D. Morgan, Machynlleth. Aeth traul adeiladiad y capel yn 120p. Agorwyd ef yn nechreu haf 1816, a phregethwyd gan Dr. Lewis, Llanfyllin, Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; A. Shadrach, Talybont; M. Jones, Llanuwchllyn, a W. Morris, a J. Ridge, myfyrwyr yn Llanfyllin. Yn y flwyddyn 1833, helaethwyd y capel, a chostiodd hyny 92p., yr hyn a deimlid yn faich, gan fod yr hen ddyled heb ei chwbl dalu. Talwyd ychydig o'r ddyled cyn ymadawiad Mr. Morgan, ond yr oedd 90p. yn aros rhwng yr hen a'r newydd, pan symudodd ef yn niwedd 1836. Cafwyd ail brydles, gydag ymddiriedolwyr newyddion, a dyddiad hono ydyw, Tachwedd 9fed, 1836, a'r ymddiriedolwyr newyddion oedd Meistri D. Morgan, Machynlleth; Thomas Jones, Pumwern; Daniel Evans, Penmaenisaf; Morris Davies, Cefnllecoediog; John Harri, Cwrt; Samuel Roberts, a John Roberts, Llanbrynmair; John Williams, Dinas; Hugh Morgan, Sammah, ac Evan Griffith, Llanegryn. Bu gweinidogaeth Mr. Morgan o wasanaeth anmhrisiadwy i'r ardal hon am y ddwy-flynedd-ar-hugain y llafuriodd yma. Gwreiddiwyd yma lawer yn y gwirionedd trwy ei offerynoliaeth, ac y maent yn parhau i ddal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

Yn haf 1837, daeth Mr. John Parry, i fod yn weinidog yn Salem, Machynlleth, a chymerodd ofal yr eglwys yma, a bu yn egniol a gweithgar yma am fwy na blwyddyn. Talwyd 60p. o'r ddyled yn y cyfamser, ac ar gais Mr. Parry, y dechreuwyd myned trwy y gymydogaeth i gasglu at yr achos Cenhadol, ac y mae yr arfer yn parhau etto. Rhoddodd Mr. Parry yr eglwys hon a'r eglwys yn Rhiwgwreiddyn i fyny, oblegid fod y maes yn rhy eang iddo, a rhoddwyd galwad i Mr. William Roberts, myfyriwr yn Marton. Daeth yma y Sabboth cyntaf o Ionawr, 1839, a phregethodd oddiar y geiriau "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw?" gyda nerth mawr. Urddwyd ef Mehefin 15fed, 1839. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddiwyd gan Mr. H. Lloyd, Towyn; pregethodd Mr. J. Williams, Aberhosan, i'r gweinidog, a Mr. M. Jones, Llanuwchllyn, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri E. Hughes, Penmain; T. Griffith, Rhydlydan; H. Morgan, Sammah; O. Thomas, Talysarn; D. Price, Penybontfawr; M. Ellis, Talybont; J. Roberts, Llanbrynmair; R. Jones, Ruthin; E. Griffith, Llanegryn; R. Jones, Llwyngwril; J. Humphreys, Towyn; H. James, Dinas, ac eraill.[172] Bu Mr. Roberts yma yn llwyddianus iawn, cynyddodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd ugeiniau at rifedi yr eglwys. Cynhelid cyfarfodydd gweddio am chwech o'r gloch y boreu ddyddiau gwaith, a deuai dynion iddynt o fodd eu calon cyn myned at eu gorchwylion. Ymadawodd Mr. Roberts i Benybontfawr yn nechreu 1841.

nechreu 1841. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Roberts, rhoddwyd galwad i Mr. Grey Evans, yr hwn a fuasai am dymor yn yr ysgol gyda Mr. R. P. Griffith, Pwllheli. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Awst, ac urddwyd ef Hydref 15fed, 1841; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. P. Griffith, Pwllheli, ac i'r eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri E. Griffith, Llanegryn; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Williams, Aberhosan; H Morgan, Sammah; J. Howes, Machynlleth; H. James, Brithdir; W. Davies, Talybont, ac eraill. Yr oedd brwdfrydedd yr eglwys wedi oeri pan ddaeth ef yma, fel y cafodd dymor lled galed yn nechreu ei weinidogaeth, ond gwelodd radd o lwyddiant cyn ei ddiwedd. Bu yn dra ymdrechgar, a llwyddodd i lwyr symud y ddyled oedd ar y capel. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw Awst 3ydd, 1852, yn 37 oed. Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. David Evans, aelod o Hermon, Conwil, sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1853. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. W. Davies, Machynlleth; pregethodd Mr. H. Lloyd, Towyn, i'r gweinidog, a Mr. H. Morgan, Sammah, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Owen, Llanegryn; E. Hughes, Penmain; I. Thomas, Towyn, ac O. Thomas, Talybont.[173] Ni bu Mr. Evans yma ond tua dwy flynedd, canys dychwelodd i sir Gaerfyrddin, ac er nad oes gofal gweinidogaethol arno, mae yn pregethu lle y gelwir am dano, ac yn aelod yn Siloam, Pontargothi. Bu yr eglwys yma am yn agos i ddeng mlynedd, wedi ymadawiad Mr. Evans, heb sefydlu ar weinidog. Am rai blynyddoedd byddai Mr. S. Edwards, Machynlleth, neu Mr. I. Thomas, Towyn, yn gofalu am y cymundeb yma, a bu eu gweinidogaeth yn dra bendithiol, yn enwedig yn y blynyddoedd 1858 a 1859, pryd yr ymwelodd yr Arglwydd a'r eglwys hon, fel y rhan fwyaf o eglwysi ein gwlad, a diwygiad nerthol, a dywed un o ddynion craffaf yr eglwys wrthym, mai y diwygiad mwyaf bendithiol a welodd yn ei oes ydoedd, yn enwedig yn ei ddylanwad ar grefyddwyr llesg a gweiniaid. Gwnaeth lawer o honynt yn well dynion dros eu hoes. Yn gynar yn y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. William Perkins, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. Josiah Jones, Machynlleth; holwyd y gweinidog gan Mr. D. Price, Aberdare; offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Edwards, Machynlleth; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, ac i'r eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth y dydd gan Meistri D. Rees, Talybont; I. Thomas, Towyn; R. Ellis, Brithdir; W. Rees, Corris, ac R. P. Jones, Llanegryn.[174] Mae Mr. Perkins yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad mawr. Adeiledir yma yn awr gapel newydd hardd yn y fan lle y safai yr hen gapel. Rhoddwyd y gareg sylfaen ilawr Gorphenaf 12fed, 1870. Mae yn ddwy droedfedd a deugain a chwe moedfedd o hyd, ac yn ddeuddeg troedfedd ar hugain o led, yn cynwys eisteddleoedd i bedwar cant. Bernir na bydd y draul erbyn ei orphen yn ddim llai nag 1100p. Mae Mr. Morris Davies, un o ddiaconiaid yr eglwys wedi rhoddi y tir yn rhad, gwerth 107p., ac yn addaw 50p. mewn arian heblaw hyny. Mae golwg addawus ar yr achos yma yn ei holl ranau.

Mae yma amryw o bersonau wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, a adawodd ddylanwad er daioni ar y cylchoedd y buont yn troi ynddynt. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am y foneddiges rinweddol, Mrs. Anwyl, Llugwy, yn nglyn a Machynlleth. Hugh Pugh, o'r Ynys, a'i deulu, a fuont hefyd yn golofnau o dan yr achos yma. Crybwyllir yn arbenig am John Lloyd, hefyd, fel dyn deallgar yn mhethau yr efengyl. Yr oedd wedi astudio golygiadau Dr. Edward Williams, gyda llawer o fanylwch, ac yn deall Penarglwyddiaeth a Dwyfol Lywodraeth yn well na'r rhan fwyaf. Crefyddwr gwastad ydoedd—rhedai yn gyffelyb bob amser. oedd brawd iddo o gyffelyb dymer, Thomas Lloyd, yn aelod a diacon yn eglwys y Towyn.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

William Rees. Un o gymydogaeth Aberhosan ydoedd. Dywedir iddo fyned i'r athrofa i Wrecsam, ond nis gallasom gael dim o'i hanes ar ol hyny.

Robert Edwards. Mab Cefncynafal fach. Ni bu nemawr o lwyddiant arno fel pregethwr. Ymadawodd at yr Eglwys Sefydledig, a bu yn ysgolfeistr, ac o'r diwedd ymfudodd i America.

Derbyniwyd yma amryw eraill yn aelodau, ond ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu—John Humphreys, Towyn; John Williams, Aberhosan; David Knowles, yn awr o Iowa, America, yr ydym yn deall mai yn Mhenybontfawr y dechreuodd ef bregethu pan yno yn cadw ysgol. David Edwards, Pilton Green, ac eraill, a dderbyniwyd yn aelodau yma, er mai ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu. Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt, Meistri Morris Davies, a J. Jones, Felinganol.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

GREY EVANS. Ganwyd ef yn Llanerchymedd yn y flwyddyn 1815, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod. Symudodd i sir Gaernarfon i ddilyn ei alwedigaeth, ac ymaelododd yn Mhenygroes, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu am rai blynyddoedd yn pregethu yn gynorthwyol, heb fod neb yn meddwl yr ymgodai yn ddim uwch na hyny. Yn 1839, aeth ar daith trwy y Deheudir, ac ar ol dychwelyd, aeth i'r ysgol i Bwllheli, at Mr. R. P. Griffith, lle y bu dros ychydig, ond ni wnaeth ond ychydig gynydd mewn dysgeidiaeth. Yn 1841, cafodd alwad o Pennal, ac urddwyd ef Hydref 15fed, y flwyddyn hono. Bu yn ddiwyd a ffyddlon yn y weinidogaeth tra y parhaodd ei dymor. Yr oedd yn ddyn cywir a diddichell, unplyg iawn yn mhob peth. Er nad oedd ei ddarlleniad yn eang, na'i dalentau yn gryfion, etto yr oedd ganddo ddawn rhwydd, a rhyw dynerwch yn ei lais, a phregethai ar brydiau yn dra effeithiol. Yn ei amser ef y codwyd capel yn Aberdyfi, a bu yn dra ymdrechgar i gasglu ato, ac er i ryw anghydwelediad godi rhyngddo a rhai cyfeillion yn Aberdyfi, fel y barnodd yn oreu i ddatod ei gysylltiad a'r lle, etto yr oedd ei ofal yn fawr am dano, a dymunodd ar weinidogion Towyn i gymeryd ato. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac ar ol ychydig fisoedd o gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar, bu farw Awst 3ydd, 1852, yn 37 oed. Cymerwyd ei weddillion marwol i fynwent Hen Gapel, Llanbrynmair, a chladdwyd ef yn barchus. Cyn cychwyn o Bennal, ac yn Llanbrynmair, gweinyddodd Meistri S. Roberts, Llanbrynmair; H. Morgan, Sammah; J. Owen, Llanegryn; H. Lloyd, ac I. Thomas, Towyn; O. Thomas, Talybont, ac S. Edwards, Machynlleth. Gadawodd weddw ac un plentyn ar ei ol, ac y mae y weddw wedi ei chladdu bellach er's blynyddau, ond y mae."Tad yr amddifaid" wedi gofalu am ei unig ferch.


ABERDYFI.

Tref fechan brydferth ar lan y mor yn nghwr De-orllewinol i'r sir ydyw Aberdyfi. Mae yn un o'r lleoedd mwyaf swynol yn Ngogledd Cymru, ond hyd yn ddiweddar iawn nid oedd gan yr Annibynwyr yr un man i dderbyn aelodau eu henwad a ddeuai yma. Elai ambell un i Dowyn ar Sabboth cymundeb, ond aeth llawer eraill o bryd i bryd at y gwahanol enwadau oedd yma eisioes. Yn y flwyddyn 1839, wedi i Mr. William Roberts ddechreu ei weinidogaeth yn Mhennal, sefydlodd ei lygaid ar Aberdyfi, fel lle y dylasai fod achos ynddo gan yr Annibynwyr. Ymgynghorodd Mr. Roberts a Mr. Lloyd, Towyn, ond gan ei fod yn orochelgar, ni roddodd un gefnogaeth i'w gyfaill ieuangc; ond nid gwr i'w droi heibio felly oedd Mr. Roberts, ond heb betruso dim ymofynodd am le y gallasai gadw oedfa ynddo. Agorodd Thomas Walter ddrws ei dŷ iddo, a phregethodd yno am y waith gyntaf Mawrth 9fed, 1840, i lonaid y tŷ o wrandawyr astud. Addawodd ddyfod drachefn yn mhen y pythefnos, ond dymunodd y bobl arno ddyfod yn mhen wythnos, felly fu, a pharhaodd i ddyfod yma yn wythnosol dros dymor. Cynygiwyd iddo gapel y Methodistiaid, a chapel y Wesleyaid i bregethu ynddo, ond gwrthododd eu cynygion caredig, am fod yn ei fryd i godi achos Annibynol yn y lle. Cymerwyd ystafell yn nhŷ Evan Rowlands, Cigydd, am yr ardreth blynyddol o ddeg-swllt-ar-hugain. Wedi dechreu pregethu yn yr ystafell hon, cadwyd cyfeillachau ar ol yr oedfaon, a thueddwyd rhai o'r gwrandawyr i aros ar ol, fel yr oedd yma yn mhen ychydig o wythnosau gryn nifer o ddychweledigion. Penderfynwyd ffurfio eglwys yma, yr hyn a wnaed Awst 23ain, 1840, a derbyniwyd pymtheg o'r newydd yn gyflawn aelodau. Cynyddodd yr achos yn gyflym, fel erbyn y mis Mai canlynol yr oedd rhifedi yr aelodau yn ddeg-ar-hugain. Bu Thomas Walter, ac Evan Rowlands, a'u teuluoedd, ac eraill, yn hynod garedig i'r achos, a dangosodd Thomas Anwyl, Dyffryngwyn, diacon gyda Mr. Lloyd yn Towyn, lettygarwch cynes i'r rhai a ddeuai yma i bregethu.[175]

Yn yr adeg obeithiol yma ar bethau, derbyniodd Mr. Roberts alwad of Llanrhaiadr a Phenybontfawr, a symudcdd yno, yr hyn oedd yn siomedigaeth ddirfawr i'r achos ieuangc yma yn arbenig. Wedi ymadawiad Mr. Roberts, gan nad oeddynt yn cyduno a Phennal yn eu dewisiad o Mr. Grey Evans, rhoddasant eu hunain dan ofal Mr. Evan Griffith, Llanegryn, yr hwn a ddeuai atynt yn fisol, ond oblegid pellder ffordd, nid oedd Mr. Griffith yn gallu rhoddi y sylw a ddylasai achos newydd gael. Rhoddodd Mr. Griffith hwy i fyny, a chymerodd Mr. Grey Evans eu gofal, a bu yn nodedig o ffyddlon yn gofalu am danynt. Barnwyd fod yn angenrheidiol cael capel newydd, a chafwyd tir i'w godi arno gan Mr. Thomas Lewis, Glasbwll. Agorwyd ef rywbryd yn 1845, nis gallasom gael y dyddiad, ond dywedir mai Meistri S. Roberts, a J. Roberts, Llanbrynmair, ac O. Thomas, Talybont, a bregethodd ar yr achlysur. Yr oedd yr hen efengylwr teithiol, Richard Jones, Llwyngwril, wedi pregethu ynddo unwaith cyn diwrnod yr agoriad cyhoeddus. Bu Mr. Evans yn ffyddlon a llwyddianus i gasglu er talu dyled y capel, a chafodd Mr. Micha Jones, Cefnerib, Pennal, yn gynorthwywr ffyddlon. Talwyd yr holl ddyled, ond 20p. oedd yn ddyledus i Richard Jones, Llwyngwril. Arferai Richard Jones bregethu yma yn fisol, a gofynodd am ganiatad i fyned i gasglu yr 20p. i bob lle y cai dderbyniad. Aeth yn nghyd a'r gorchwyl, gan eu casglu bob yn ddimai—ni fynai ond dimai gan neb at yr amcan, a chyn pen ychydig amser yr oedd yr 20p. oll wedi eu casglu, a'r ddyled felly wedi ei chwbl dalu. Dirywiodd yr achos gryn lawer rhagor y peth a fuasai unwaith, a chododd ryw anghydwelediad rhwng Mr. Grey Evans a'r eglwys yma, a rhoddodd ef y lle i fyny, a chymerodd Mr. Lloyd a Mr. Thomas, Towyn, y gofal yn Medi, 1851, ac mewn cysylltiad a gweinidogaeth Towyn a Bryncrug y bu hyd Mai, 1864. Pedwar oedd yn cymuno yma pan ddechreuodd Mr. Thomas, Towyn, yma yn 1851, gan mor isel yr oedd yr achos wedi disgyn, ond gwelodd hwy wedi hyny yn fwy na thriugain-a-deg. Unodd yr eglwys yma a Pennal i roddi galwad i Mr. William Perkins, yn 1865, ac y mae yr undeb yn para rhwng y ddwy eglwys ag yntau etto, a'r anwyldeb yn ymddangos yn cryfhau. Mae y lle y saif y capel presenol arno yn dra anghyfleus, ac y mae llawer o gynllunio a bwriadu wedi bod at gael capel newydd mewn lle mwy manteisiol, a hyny a wneir os caniata Duw. Mae yma eglwys fywiog a gweithgar, yn rhifo tua thri—ugain o aelodau. Y diaconiaid presenol ydynt Meistri J. H. Jones, J. Roberts, ac H. Pugh. Nid ydym yn gwybod fod un pregethwr wedi codi yma, ac am y gweinidogion a fu mewn cysylltiad a'r eglwys hon, y rhai sydd wedi marw, yr ydym eisioes wedi crybwyll am danynt yn nglyn a Thowyn a Pennal.

LLWYNGWRIL.

Mae enw y lle bychan hwn yn adnabyddus iawn yn Nghymru, yn nglyn a'r hen bregethwr parchus Richard Jones, Llwyngwril, ac y mae hanes cychwyniad yr achos yma yn gymhlethedig a'i hanes personol ef. Yr oedd Richard Jones wedi bod yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond oblegid i'w frawd William wneyd rhywbeth, fel y tybid, yn galw am gerydd, tramgwyddodd y teulu ac ymadawsant a'r enwad. Dywed Lewis Morris, yr hwn oedd yn adwaen Richard Jones o'i febyd, nad oedd dim amgen na da i'w ddyweyd am dano, ond iddo deimlo oblegid y tybiai fod ei frawd yn cael cam. Ar ol hyn gwahoddodd Richard Jones Mr. H. Pugh, o'r Brithdir, i ddyfod yma i bregethu, a dyna gychwyniad yr achos yn y lle. Ffurfiwyd yma eglwys yn y flwyddyn 1805, a chadwyd y cymundeb cyntaf gan Mr. W. Hughes, Dinas. Nid oedd nifer y rhai a ymunent ond chwech, ac yr oedd Richard Jones, a Lewis Evans, Bwlchgwyn, a'i wraig, (tad a mam Mr. Evans, Llangollen,) yn eu plith. Daeth Lewis Pugh, Llanwrin yma i gadw ysgol yn fuan, a bu hyny yn gynorthwy i'r achos yn ei wendid. Ar sefydliad Mr. James Griffith yn weinidog yn Machynlleth, cymerodd ef ofal y gangen fechan yma, ac yn ei amser ef yn 1810, y codwyd yma gapel bychan. Nid oedd ganddynt hyd yn hyn ond ystafell wael at addoli. Bu y lle yma wedi hyny dan yr un weinidogaeth a'r Towyn yn amser Mr. Morgan a Mr. Lloyd, ond pan y gwelodd Mr. Lloyd fod y maes yn rhy eang iddo, unodd Llwyngwril, Llanegryn, a Llanfihangel i roddi galwad i Mr. Evan Griffith, yr hwn a urddwyd Ionawr 3ydd, 1836, a bu yma hyd nes y penderfynodd ymfudo i America. Dilynwyd ef gan Mr. John Owen, ac wedi hyny, gan Mr. Robert P. Jones, ac yn nhymor gweinidogaeth yr olaf a enwyd, addrefnwyd a phrydferthwyd y capel, fel y mae yn awr yn wahanol iawn i'r peth y gwelwyd ef. Rhoddodd Mr. Jones y lle i fyny yn ddiweddar, gan anog yr eglwys yma i uno ag Arthog i gael gweinidog iddynt eu hunain, a rhoddwyd galwad i Mr. Peter Davies, myfyriwr o athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd Mai 9fed, 1871. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae cryn dipyn o adfywiad wedi bod ar fasnach, a chynydd ar y boblogaeth yma wedi agoriad y ffordd haiarn, ac nid yw hyny wedi bod yn anfantais i'r achos. Bu teulu Bwlchgwyn yn gefn cryf i'r achos yma am flynyddau lawer, ac er fod ganddynt bedair milldir o ffordd, anaml y byddai cyfarfod yn y capel heb rai o'r teulu ynddo. Yr oedd Richard Jones yn gynorthwy mawr i'r achos yma yn y cyfeillachau crefyddol cyn iddo ddechreu teithio y wlad i efengylu, ond ar ol hyny nis gallesid dibynu arno, oblegid mai anfynych y byddai gartref. Bu Mr. H. Pugh, o Fostyn yma yn cadw ysgol pan yn ieuangc, ac oddiyma yr aeth i Bethel i gadw ysgol, ac i weinidogaethu, lle y llafuriodd am un-mlynedd-ar-ddeg.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Richard Jones, Llwyngwril
ar Wicipedia

RICHARD JONES, hyd y gwyddom, oedd yr unig un a godwyd yma i bregethu. Ganwyd ef yn y gymydogaeth yma, ac yr oedd ei rieni John a Gaynor Williams yn byw mewn tyddyn a elwir Tydu, ac fel Richard Jones, Tydu, yr adnabyddid ef yn ei wlad. Yr oedd rhyw hynodrwydd ynddo er yn fachgen, ond yr oedd yn hynod o anfedrus yn mhob gorchwyl yr ymaflai ynddo. Ni bu dyn erioed yn fwy dielfydd at bob gwaith. Gosodwyd ef gyda'i frawd i ddysgu bod yn grydd, a bu yn dilyn yr alwedigaeth hono am flynyddau, ac yn mynychu ffeiriau i werthu yr esgidiau a wnai, y rhai a gyfrifid yn wastad y rhai salaf ar y farchnad. Ond yr oedd gallu o fath arall yn Richard Jones—mewn egluro yr Ysgrythyrau—mewn cynghori a gweddïo mewn cyfeillachau a chyfarfodydd—ac mewn cof i ddal y pregethau a wrandawai, a medr i'w hadrodd, rhagorai ar ei holl gymydogion. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1817, ac o hyny allan, i bregethu y cwbl ymroddodd. Yr oedd wedi darllen pob llyfr Cymraeg a ddaeth i'w gyrhaedd, yn enwedig llyfrau Ysgrythyrol a duwinyddol, ac yr oedd yn mynu deall yr hyn a ddarllenai. Y pyngciau hyn fyddai prif destynau ei ymddiddanion lle bynag yr elai. Ni bu yr un pregethwr teithiol erioed yn Nghymru yn ymyraeth llai a materion rhai eraill, ac ofer hollol fuasai i neb ei holi gan ddisgwyl gwrachiaidd chwedlau ganddo. Nid angel newyddion drwg ydoedd yn myned trwy y wlad, ond un "yn efengylu pethau daionus." Yr oedd wedi myfyrio y "system newydd," fel ei gelwid, yn dda, a byddai yn wastad yn prophwydo yn ol "cysondeb y ffydd." Yr oedd ei dafod yn floesg, fel na allasai swnio rhai llythyrenau yn gywir, ac yr oedd hyny weithiau yn peri digrifwch mawr i rai pobl ysgafn a chellweirus. Ni theimlasom ni erioed wrth ei wrandaw fod ei dafod mor floesg ag y darlunir ef gan rai sydd yn ei adrodd, ond dichon fod hyny yn cyfodi oddiar fod ei bethau yn ein boddio mor fawr. Yr oedd ei bregethau yn llawn o feddwl, ac wedi eu parotoi yn gryno, a threfnus, gyda detholiad o eiriau chwaethus, ac ambell air digrifol ar brydiau. Traddodai yn fywiog a chyflym, ac yr oedd rhyw oslef dyner, swynol yn ei lais, ac erioed ni chwynwyd ei fod yn blino ei wrandawyr a meithder. Gan mai fel pregethwr teithiol y daeth Richard Jones yn adnabyddus i eglwysi Cymru, rhoddwn y difyniadau canlynol o'r benod ar ei gymeriad fel y cyfryw, yn y cofiant dyddorol iddo, a gyhoeddwyd gan ei hen gyfaill, Mr E. Evans, Llangollen. "Cyn cychwyn i'w daith, efe a ragofalai yn eithaf prydlawn am bod angenrheidiau iddi. Astudiai a chyfansoddai nifer digonol o bregethau, gan eu trysori yn dda yn ei gof mawr, ac yn gyffredin efe a'u traddodai yn gyntaf gartref, fel y byddent yn ddyfnach yn ei feddwl, ac yn rhwyddach ar ei dafod. Byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn mewn pentref bychan tlawd o'r enw Y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril, hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych. Gofalai am wisg addas erbyn diwrnod y cychwyn, er na pharhraai hono ond ychydig yn ei harddwch. Gofalai hefyd am dynu cynllun o'i daith, ac anfon ei gyhoeddiadau i'w priodol leoedd. Ar y dydd penodol, dacw ef yn cychwyn i'w ffordd, a'i got fawr dan ei gesail, a'i ffon yn ei law, a chan sythed a phe buasai wedi bod yn sawdwr am ugain mlynedd, ac mor heinyf ar ei droed a llangc. Nid oedd ganddo na gwraig na phlant i ysbio yn hiraethlawn ar ei ol, nac achos bydol i'w ymddiried i ofal neb. Cyrhaeddai ben ei daith yn brydlawn a chysurus, ni chyhuddid of un amser o fod yn hwyr yn dyfod at ei gyhoeddiad. Ar ol cael ei luniaeth, eisteddai yn nghongl yr aelwyd gyda'r fath sirioldeb a boddlonrwydd meddwl, fel pe na wybuasai am ddim gofid yn ei oes, oddieithr, fe allai, y buasai wedi bod yn rhedeg y diwrnod hwnw am ei fywyd rhag ryw fuwch, gan dybied mai tarw ydoedd. Difyrai ei hun a rhagfyfyrdod ar y bregeth a fwriadai ei thraddodi. Mynai sicrwydd am yr amser y cyhoeddid fod y moddion i ddechreu. A phan y tybiai fod yr amser hwnw yn agosau, taflai ei olwg yn awr ac eilwaith ar yr awrlais, a phan ddeallai ei bod yn amser priodol gychwyn, dyma ef ar ei draed, ac ymaith ag ef. Aroswch, Richard Jones, aroswch dipyn etto, eisteddwch, y mae yn ddigon buan, ni ddaw yma ddim pobl y rhawg etto." Dyma fi yn myn'd,' meddai yntau, 'dewch chwi amther a fynoch chwi, dechddau 'naf fi yn yr amther.' Ofer fyddai ei berswadio aros wrth undyn - ffwrdd ag ef yn ddiymdroi. Wedi myned o hono i'r addoldy, eisteddai ronyn bach i gael ei anadl, oblegid yr oedd yn wr tew a chorphol. Codai ei' olwg ar yr areithfa, ac os digwyddai ei bod yn lled uchel, dywedai, "Daf fi ddim yna, ni dda gen i mo'dd pulpudau uchel yma, rhyw felldith ydyn' nhw; mae dynion yn gwiddioni wrth wneyd capeli - bydd fy mhen i yn tyddoi ynddyn' nhw, wfft iddynt. Tyr'd fachgian, ceithia y blocyn yna i mi dan fy nhraed."Dyna fo, Richard Jones.' Yna efe a safai arno a'r Bibl ar y bwrdd o'i flaen. Agorai ef, nid ar antur, eithr ar ryw fan benodol ynddo a ragfwriadasai efe ddarllen. Darllenai y benod neu y Salm gan ei hesbonio wrth fyned yn mlaen. Addefir mai darllenydd go anghelfydd ydoedd, fel y buasai yn hawdd blant yr Ysgol Sabbothol ganfod ei wallau yn hyn, a mynych y gwelid bechgyn ieuangc yn cilwenu ar eu gilydd wrth ei glywed yn darllen. Ond os nad oedd efe yn gampus am ddarllen, edryched pawb ati pan elai esbonio, oblegid buan iawn yr anghofid ei ffaeleddau yn darllen, gan eglurdeb a gwerth ei esboniad ar Air Duw. Pwy bynag ni byddai yno yn nechreu y cyfarfod, byddai yn dra sicr o fod yn golledwr, canys yr oedd cymaint o adeiladaeth yn fynych i'w gael yn ei esboniad ef ar yr hyn a ddarllenai, ac a geid yn ei bregeth. Ar ol myned trwy hyn, rhoddai benill allan. Ac os digwyddai na byddai y canwr yno yn brydlawn at ei waith, hwyliai ef y mesur ei hunan. Ar ol diweddiad y mawl, 'Yddwan,' meddai, 'ni awn ychydig at wrandawwdd gweddi.' Gweddiai yn ddifrifol, cynwysfawr, gwresog, ac yn fyr-eiriog. Byddai ganddo rhyw fater neillduol bob amser ynddi, a byddai yn hynod yn ei sylw o ryw amgylchiadau a fyddai yn fwy pwysig na chyffredin yn ngoruchwyliaethau Duw at y byd a'r eglwys. Byddai ei deimlad weithiau yn ei orchfygu. Ar ol hyn rhoddai benill drachefn, a phan y gorphenid ei ddatganu, eisteddai pawb gan ddisgwyl clywed y testyn. Hysbysai a darllenai ef, gan ddangos ei gysylltiadau, a'i egluro i'r gynnulleidfa. Yr oedd yn gampus am hyn. Medrai ef amlygu ei olygiad arno mewn ychydig eiriau, oblegid nid ydoedd un amser yn amleiriog. Yna drachefn crybwyllai y materion a gynwysid yn ei destyn, mewn modd eglur, dirodres, a naturiol iawn. Ei raniadau ar ei destyn oeddynt yn gyffredin yn dlysion a tharawiadol. Byddai ymddangosiad yn rhoddi argraff ar ei wrandawyr ei fod yn feistr ar bwngc, a'i fod yn teimlo hyfrydwch yn ei waith. Yr oedd ganddo ddull priodol iddo ei hun yn yr hyn oll a wnai, ac ni bu erioed yn amcanu at ddynwarediad o neb mewn dim. Yr oedd rhyw bethau yn ei ddull yn pregethu a barai weithiau i rai ysgeifn chwerthin wrth ei wrandaw, ac yn wir, gormod camp fyddai wyr go ddifrifol hefyd beidio gwenu wrth glywed yr hen Ddoctor ; ond pob un ystyriol a esgusodai yn rhwydd y diffygion diniwaid hyny, oherwydd yr adeiladaeth a'r hyfrydwch geid dan ei weinidogaeth. Wrth ddybenu ei bregeth, dywedai, gan symud y Bibl, a'i ddodi ar y faingc o'r tu ol iddo, 'Yddwan, ni nawn ychydig o gathgliadau,' y rhai bob amser fyddent yn naturiol ac i bwrpas. Edryched y canwr ato ei hun, oblegid gyda'i fod yn dyweyd y gair olaf yn bregeth, dyna'r penill allan yn ddisaib, oblegid ni byddai ganddo un saib rhwng ei Amen a'i benill, a phrin iawn y cai un synwyr ato i chwilio am fesur priodol ; ond yr oedd yn hawdd i'r canwr faddeu iddo ffaeleddau bach fel hyn, gan mor dda y pregethai."

Gwnai deithiau rheolaidd fel hyn trwy Dde a Gogledd, am ddeng-mlynedd-ar-hugain, ac yr oedd derbyniad croesawgar iddo ba le bynag yr elau. Ond daeth ei ddyddiau teithio i ben, a nesaodd ei awr yntau i farw, ac ni chafodd ond byr gystudd. Awgrymasai ychydig cyn ei farw, fod awr ei ymddatodiad yn ymyl, ond yr oedd yn gwbl foddlawn i ewyllys yr Arglwydd. Gofynai ei chwaer iddo pan yn agos angau, " Dic bach, leicet ti fyw dipyn etto gyda ni ?" "Dim o bwyth," ebe fe. "A fyddai yn well gen' ti farw?" "Wel y gwelo Fo'n dda," ebe yntau. Arswydai groesi rhyd fechan dros bontbren yn ei fywyd, ond aeth trwy lifeiriant afon angau heb fraw nac arswyd, a bu farw mewn tangnefedd, Chwefror 18fed, 1853, yn 73 oed.

"Hiraeth gyfyd wrth gofio
I ddu fedd ei guddio fo."



HOREB, ARTHOG

Yn mis Mai, 1863, symudodd teulu o Ddyffryn-Ardudwy, y rhai oeddynt Annibynwyr, i'r Bwlchgwyn i fyw. Yr oedd llawer o bregethu wedi bod yn Bwlchgwyn yn nyddiau Lewis Evans, tad Mr E. Evans, Llangollen, ond ni wnaed un cynyg ar sefydlu achos yma. Wrth weled fod gweithiau llechfeini yn cael eu hagor yn yr ardal, gwelwyd fod yr amser wedi dyfod wneyd hyny. Agorodd teulu Bwlchgwyn eu ty, ac aeth Mr Jones, Abermaw, i bregethu yno yn Mai, 1864, gyda bwriad i wneyd hyny yn rheolaidd. Bu Mr Ellis, Brithdir, a Mr Evans, Llangollen, yno drachefn, ac yn Nghymanfa Dolgellau, yn haf y flwyddyn hono, dygwyd i sylw y gynadledd y priodoldeb o gychwyn achos yn Arthog. Amlygwyd gwrthwynebiad gan rai brodyr ofnus, ond ymrwymodd Meistri J. Jones, Abermaw ; R. Ellis, Brithdir ; I. Thomas; Towyn, ac R. P. Jones, Llanegryn, i roddi Sabboth iddynt bob tri mis, ac i Mr Jones, Abermaw, a'r cyfeillion yn y lle drefnu i lenwi y Sabbothau eraill goreu gellid. Bu pregethwyr cynorthwyol y Sir yn ffyddlon iawn, ac athrawon a myfyrwyr y Bala bob amser yn barod pan y byddai galwad, ac yr oedd pethau yn myned yn mlaen mor llwyddianus fel y penderfynwyd ffurfio eglwys yn y lle, ac ar nos Wener, Hydref 28ain, 1864, aeth Mr Jones, Abermaw, a Griffith Jones, un o'i ddiaconiaid, drosodd i Bwlchgwyn, a ffurfiasant yno eglwys o ddeuddeg o bersonau oeddynt yn cydymroddi i gynal coffadwriaeth o enw yr Arglwydd yn y lle, a chadwyd y cymundeb cyntaf yno y Sabboth canlynol. Cynyddodd yr achos yn raddol, a barnwyd y dylesid cael capel, ac wedi tipyn o drafferth cafwyd prydles am gan' mlynedd ond un, ar ddarn o dir ar ffarm a elwir Tyddyn-Sheffrey, yr hwn oedd ar y pryd yn feddiant i gwmni chwarel a weithid yn yr ardal ; a chodwyd capel prydferth, yn mesur deg llath wrth wyth, a chostiodd rhwng pob treuliau, yn nghyd a'r ty perthynol iddo, £400. Bu Mr Jones, Abermaw, yn hynod lafurus i gasglu ato, a rhwng ei ymroddiad ef a gweinidogion eraill yn y Sir, ac ymdrech y cyfeillion yn y lle, y mae y ddyled wedi thalu, fel nad oes ond ychydig yn aros arno. Mae yr eglwys yma yn awr wedi uno a'r eglwys yn Llwyngwril, i roddi galwad i Mr Peter Davies, myfyriwr o athrofa y Bala, i ddyfod yma yn weinidog mewn cysylltiad a Llwyngwril, ac urddwyd ef yma Mai 9fed, 1871. Ar yr achlysur, eglurwyd natur eglwys gan Mr M. D. Jones, Bala ; holwyd y gweinidog gan Mr D. Evans, Abermaw; gweddiodd Mr J. Jones, Abermaw ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr R. Ellis, Brithdir. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri R. P. Jones, Llanegryn ; E. A. Jones, Dolgellau ; P. Howell, Ffestiniog ; I. Thomas, Towyn ; R. Thomas, Llanelltyd ; J. Davies, Rhiw, a Ll. Roberts, Borth. Amlygodd eglwys Coedpoeth ei pharch i Mr Davies, ar ddechreuad ei weinidogaeth, trwy anfon iddo erbyn dydd ei urddiad, yn llaw un o'i diaconiaid, byrsiad o aur, fel arwydd o'i theimlad da tuag ato fel gwr ieuangc wedi ei fagu yn eu mynwes, ac heb roddi un briw iddi erioed trwy unrhyw gamymddygiad.[176]

LLANEGRYN

Nid yw yr hanes ydym wedi ei gael am ddechreuad yr achos yma ond tra anmherffaith. Mae yn ymddangos iddo gael ei gychwyn tua'r flwyddyn 1806, yn fuan ar ol dechreu yr achos yn Towyn a Llwyngwril, ond nid oes genym enwau y tai y pregethwyd gyntaf ynddynt, na phwy oedd y rhai blaenaf yma i dderbyn yr efengyl. Mr Hugh Pugh, o'r Brithdir, oedd un o'r rhai cyntaf a bregethodd yma yn y ganrif bresenol, ac efe fel yr ymddengys a sefydlodd yr achos. Dilynwyd ef gan Mr James Griffith, ac wedi hyny gan Mr David Morgan, ac yn y flwyddyn 1816, daeth Mr Hugh Lloyd i lafurio yma mewn cysylltiad a'r Towyn a Llwyngwril. Yn y flwyddyn hon yr adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn a alwyd Ebenezer, ac agorwyd ef yr un pryd ag yr urddwyd Mr Lloyd, sef Hydref 3ydd, 1817. Cynyddodd yr achos o dan weinidogaeth Mr Lloyd, ac ennillwyd amryw deuluoedd at yr achos, a rhai o honynt yn barchus a chyfrifol yn y byd. Helaethwyd y capel yn y flwyddyn 1829. Gan fod cylch y weinidogaeth yn rhy eang, rhoddodd Mr Lloyd y lle hwn, a Llwyngwril, a Llanfihangel i fyny, a dewiswyd Mr Evan Griffith, yr hwn oedd wedi bod am dymor dan addysg yn Nghroesoswallt, yn weinidog. Urddwyd ef Ionawr 2il a'r 3ydd, 1836. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair ; holwyd y gofyniadau gan Mr H. Lloyd, Towyn, dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Jones, Dolgellau ; pregethodd Mr D. Morgan, Machynlleth, i'r gweinidog, a Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri H. Morgan, Sammah ; J. Williams, Dinas ; T. Davies, Ffestiniog; E. Evans, Ahermaw; M. Jones, Llanuwchllyn; J. Davies,Glasbwll; W.Roberts,Dinas, a W.Ellis (Edwards,) Ffestiniog.[177] Llafuriodd Mr Griffith yma yn ddiwyd am bymtheng mlynedd, nes y penderfynodd ymfudo i America, lle y mae etto yn gryf a defnyddiol. Yn nechreu y flwyddyn 1850, daeth Mr John Owen yma o Nefin, i weinidogaethu, a bu yma yn llafurus a llwyddianus am yn agos ddeng mlynedd. Rhoddodd ei weinidogaeth yma i fyny, a chyn hir symudodd i Langefni, Mon, lle y mae yn aros etto. Yn nechreu y flwyddyn 1863, rhoddodd yr eglwys hon a'r eglwysi cysylltiedig, alwad i Mr Robert P. Jones, myfyriwr o athrofa Dduwinyddol Manchester, ac urddwyd ef Mai 20fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Wiliiams, Castellnewydd ; holwyd y gofyniadau gan Mr C. Jones, Dolgellau ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr E. Davies, Trawsfynydd ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr H. Morgan, Sammah, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr E. Evans, Llangollen. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd y dydd gan Meistri R. Ellis, Brithdir; J. Jones, Abermaw; W. Rees, Corris; D. C. Rees, Talybont ; J. Davies, Glasbwll, ac eraill. Mae Mr Jones yn parhau yma yn y weinidogaeth, a'r achos er y mynych symudiadau sydd yma, yn myned yn mlaen yn siriol.Yn y flwyddyn 1845, adeiladwyd capel bychan islaw Llanegryn, yr hwn a elwir Nazareth, gyda bwriad i gynal Ysgol Sabbothol, a phregethu achlysurol. Mae y brodyr ffyddlon J. Lloyd, Pant, a G. Jones, yn deilwng o goffad parchus yn nglyn a'r lle hwn. [178]

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma:—

John Williams. Addysgwyd ef yn y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Dinasmawddwy, Gweler ei hanes of yn nglyn a Penegos.

Evan J. Evans, Ty'nllan. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1841.Ymfudodd America, lle yr urddwyd ef yn weinidog, ac y mae yn awr yn Williamsburgh, yn Nhalaeth Iowa.

John Griffith. Dechreuodd bregethu yn 1868, ac y mae newydd ymfudo i America.

LLANFIHANGEL

Arferid pregethu mewn amaethdy o'r enw Tyno, ryw dair milldir o'r Llan, cyn dechreu pregethu yma. Mr Lloyd, Towyn, oedd yn gofalu am y lle ar y pryd. Adeiladwyd y capel yma yn 1821, ac adgyweiriwyd ef yn 1839. Mae y lle o'r dechreuad wedi bod yn nglyn a Llanegryn, ac felly y mae yn parhau. Bu pregethu rheolaidd am flynyddoedd mewn capel bychan yn Nhalyllyn, pan oedd Mr Griflith Evans yn byw yn Maesypandy, ond nid ydym yn deall i'r enwad Annibynol gael meddiant o hono erioed, a phan y darfu cysylltiad y gwr hwnw a'r enwad, darfu y pregethu gan yr Annibynwyr yn y capel. Mabwysiadodd Mr Evans syniadau y Plymouth Bretheren, a llwyddodd i dynu rhai dysgyblion yn y wlad yma ar ei ol. Magodd deimlad gwrth-weinidogaethol mewn cryn lawer o bersonau, a bu raid i'r achos yn Llanfihangel ymladd yn erbyn yr ysbryd hwnw, ac ni ddiangodd heb dderbyn niwed ar y pryd oddiwrtho. Llawen genym ddeall fod olion yr ysbryd gwenwynig hwnw wedi ei olchi ymaith.

ABERGYNOLWYN,

"Nid oedd gan yr Annibynwyr yr un achos yn y lle yma hyd yn ddiweddar, a chydag agoriad y gweithfeydd yma, a chynydd poblogaeth y lle, symudiad llawer o Annibynwyr i'r ardal, teimlid y dylesid gwneyd cynyg ar sefydlu achos yma. Ymgymerodd y gweinidogion cymydogaethol, gyda chefnogaeth y cyfarfod chwarterol, a'r gorchwyl, a phrynwyd hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn y Cwrt, lle sydd yn gydiol bron ag Abergynolwyn. Mae y capel yn rhyddfeddiant i'r enwad er Ionawr 25ain, 1868, ac y mae golwg addawol iawn ar yr achos ynddo. Y mae y lle dan ofal gweinidogaethol Mr. Jones, Llanegryn, a thrwy eu bod yn cael gweinidogaeth reolaidd, a'r eglwys fechan yn weithgar, ni bydd y ddyled sydd ar capel yn hir heb ei chwbl ddileu."


CORRIS

Dechreuwyd yr achos hwn mewn amaethdy a elwir Rhiwgwreiddyn, o fewn milldir a haner i'r lle yma, ar y ffordd i Fachynlleth. Preswylid y lle ar y pryd gan Mr Hugh Pugh, ac yr oedd ei wraig, Mrs Gwen Pugh, yn aelod yn nghapel y Graig, Machynlleth. Oblegid pellder y ffordd i'r dref, meddyliodd teulu Rhiwgwreiddyn am gael Ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yn eu ty, a dechreuwyd ar hyny yn ddioed, ac elai Mr Morgan, Machynlleth, yno i bregethu mor aml ag y gallai. O gylch y flwyddyn 1824, adeiladwyd capel bychan ar ddarn o dir a roddwyd gan Mr Hugh Pugh, Rhiwgwreiddyn. Galwyd ef Achor. Yn fuan ar ol dechreu yr achos yma derbyniwyd Mr Pugh yn aelod, a pharhaodd yn ffyddlon hyd ei farwolaeth, ac yr oedd ei wraig, yn arbenig, yn hynod garedig i'r achos, a llettygar i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Bu mab iddynt, Mr William Pugh, yn byw yma dros ychydig wedi marw ei rieni, ac yn ofalus iawn am yr achos, hyd nes y symudodd i gymydogaeth y Drefnewydd, ond er symud arferai am flynyddau gyfranu £5 yn y flwydd- yn at yr achos yn Achor. Merch Rhiwgwreiddyn ydyw Mrs Evans, Hengae, Aberllefeni, ac y mae ysbryd llettygar hen deulu Rhiwgwreiddyn yn aros yn Hengae.[179] Bu gofal Achor ar Mr Morgan, hyd nes yr ymadawodd a Machynlleth yn 1836. Yn 1837, cymerodd Mr John Parry ofal y lle mewn cysylltiad a Machynlleth, ond yn mhen ychydig gyda blwyddyn rhoddodd Achor a Phennal i fyny, ac unasant hwythau i roddi galwad i Mr William Roberts, yr hwn a ddaeth yma yn nechreu 1839, ac a fu yma yn ymdrechgar, nes y symudodd i Benybontfawr yn 1841. Daeth Mr Grey Evans yma cyn diwedd y flwyddyn hono, ond rhoddodd ef y lle i fyny, er cymeryd gofal Aberdyfi, a bu Meistri John Parry, a William Davies yn gofalu am y lle yn olynol, mewn cysylltiad a Salem, Machynlleth. Parhau yn wan yr oedd yr achos yn Achor trwy y blynyddoedd, ac yr oedd ei bellder oddiwrth y chwarelau, lle yr oedd lluaws y boblogaeth, yn gwneyd nad oedd fawr o obaith am gynnulleidfa gref yno' ac oblegid hyny, yn 1851, penderfynwyd gwerthu hen gapel Achor, a symud yr achos i Corris, i ganol y boblogaeth. Cymerwyd yma ystafell am ddeng mlynedd o dan ardreth flynyddol. Hen Lodge perthynol i'r Odyddion oedd yr ystafell, ond ad-drefnwyd hi, a gwnaed un ran o honi yn dy anedd, a'r rhan arall yn lle i bregethu, ac ar y 27ain a'r 28ain o Fedi, 1851, cadwyd yma gyfarfod i agor y lle, pryd y gweinyddwyd gan Meistri W. Davies, Machynlleth ; E. Stephen, Dwygyfylchi; I. Thomas, Towyn; R. Ellis, Brithdir, ac S. Edwards, Machynlleth. Yn fuan wedi dechreu yn Nghorris, unodd yr eglwys a Pennal i roddi galwad i Mr David Evans, o Sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1853. Tua dwy flynedd yr arhosodd yma, canys dychwelodd i Sir Gaerfyrddin. Bu yr eglwys am ysbaid ar ol ymadawiad Mr Evans heb sefydlu ar weinidog. Rhoddwyd galwad i Mr Richard Hughes, Gwalchmai, Mon, ond gwrthododd gydsynio. Yn niwedd 1857, rhoddwyd galwad i Mr William Rees, o Lanrhaiadr-yn-Mochnant, ac urddwyd ef Ionawr 3ydd, 1858. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr R. Ellis, Brithdir ; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Jones, Dolgellau ; pregethodd Mr W. Roberts, Penybontfawr, i'r gweinidog, a Mr S. Edwards, Machynlleth, i'r eglwys. Yr oedd sefyllfa wanaidd iechyd Mr Rees, a'r mynych gystudd oedd yn ei deulu, yn anfantais fawr iddo gydag achos mewn lle newydd, i weithio yn erbyn anhawsderau, ond yr oedd yn dderbyniol a chymeradwy gan yr holl ardalwyr. Bu yma hyd 1866, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol, a bu farw yn fuan ar ol hyny. Y flwyddyn ganlynol i ymadawiad Mr Rees, rhoddwyd galwad i Mr John C. Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, urddwyd ef yn Aberllefeni, Ebrill 19eg, 1867; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr R. Thomas, Llanuwchllyn ; holwyd y gofyniadau gan Mr R. Ellis, Brithdir ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr H. T. Parry, Abersoch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr J. Jones, Machynlleth. Yr oedd yr achos yma wedi casglu nerth yn raddol, ac yr oedd teimlad cryf er's blynyddoedd y dylesid cael gwell lle addoli na'r hen ystafell yn Mhenygraig, ac ar ol sefydliad Mr Williams, penderfynwyd myned yn nghyd a'r gorchwyl o ddifrif. Rhoddwyd lle cyfleus i adeiladu arno yn rhad gan Mr D . Morgan, Machynlleth, ac nid hyny yn unig, ond cyfranodd hefyd yn haelionus at godi y capel. Dechreuwyd adeiladu yn Hydref, 1867, ac agorwyd y capel Ebrill 22ain, 1869; ac ar yr achlysur, pregethwyd gan Meistri J. Jones, Machynlleth; E. Evans, Caernarfon; O. Evans, Llanbrynmair; M. D. Jones, Bala, ac R. Thomas, Bangor. Costiodd £600, ac y mae ynddo eisteddleoedd i dri chant. Mae dau gant a haner o'r ddyled eisioes wedi thalu, ac nid yw y ddyled sydd yn aros yn cael theimlo mewn un modd yn faich rhy drwm i'w dwyn. Rhifa yr eglwys dros bedwar ugain o aelodau, a llawer o honynt yn weithgar a selog. Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yn yr eglwys yma, ond Roderick Lumley, yr hwn a addysgwyd yn athrofa y Bala. ac a urddwyd yn Elim, Cwmbran, Mynwy, ond sydd yn awr yn Bwlchyffridd, Maldwyn.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM REES. Ganwyd ef yn Llanrhiadr-yn-Mochnant, Tachwedd 7fed, 1822. Yr oedd ei dad yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond yn wr o feddwl rhydd a diragfarn, a chan nad oedd gan y Methodistiaid yn Llanrhaiadr ar y pryd le i addoli, aeth ei blant at yr Annibynwyr. Brawd i wrthrych ein cofnodiad, oedd Mr Edward Rees, yr hwn a urddwyd yn Brynsion, ac a fu farw yn nghanol ei ddyddiau, ac yn nghanol ei boblogrwydd yn Llanymddyfri. Derbyniwyd Mr W. Rees yn aelod yn Llanrhaiadr gan Mr D. Price, y gweinidog, yn y flwyddyn 1839, a bu am flynyddau yn aelod defnyddiol yn yr eglwys, ac yn athraw llafurus yn yr Ysgol Sabbothol. Dechreuodd bregethu Rhagfyr 19eg, 1845 ; ac yr oedd fel pregethwr yn dderbyniol gan y cynnulleidfaoedd yr ymwelai a hwynt. Bu yn cadw ysgol yn Llanrhaiadr, a Dolanog, ac wedi hyny yn Rhuddlan, lle hefyd y cynorthwyai yn y weinidogaeth, a thra yn aros yno, y priododd a Miss Sarah Williams. Derbyniodd alwad o Gorris ac Aberllefeni, ac urddwyd ef Ionawr 3ydd, 1858. Profodd yn nhymor weinidogaeth ei fod yn weithiwr ffyddlon, ac yn gristion gloyw, ac er iddo gael rhan helaeth o gystuddiau a phrofedigaethau, dyoddefodd y cwbl yn dawel. Claddodd ei wraig yn niwedd y flwyddyn 1865, ae yn fuan wedi hyny, aeth ar daith i'r Deheudir yn achos y Dysgedydd, ond cymerwyd ef yn glaf, a dychwelodd adref i dy ei fam yn Llanrhaiadr, a gwaelach, waelach yr aeth, nes y bu farw Mai 14eg, 1866, yn 43 oed, a gadawodd ar ei ol ferch fechan wyth oed, yn amddifad o dad a mam.

ABERLLEFENI

Yn y flwyddyn 1852 y cychwynwyd yr achos yma, yn mhen tua blwyddyn ar ol symudiad yr achos o Riwgwreiddyn i Gorris. Yr oedd deg o aelodau Corris yn byw yn Aberllefeni, a chan rai o honynt bedair milldir o ffordd i fyned yno, ac wrth weled hyny, a bod y lle yma yn cynyddu, bernid y dylesid cynyg sefydlu achos yma. Yr oedd Richard Jones, Llwydiarth, a'i wraig, yn aelodau ffyddlon yn Achor. Byddent yn myned yno yn rheolaidd bob Sabboth, er fod ganddynt chwe' milldir o ffordd. Cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn Llwydiarth, a chodwid hi weithiau mewn tai eraill yn yr ardal. Cedwid hefyd gyfarfod gweddi yn yr hwyr, fynychaf, os na buasai pregeth yn Nghorris. Ar un nos Sadwrn, daeth Mr S. Roberts, Llanbrynmair, i Lwydiarth bregethu, ac anogodd y cy- fillion yn y lle i edrych allan am dir i godi capel yn yr ardal. Cymerwyd yr awgrym i fyny o ddifrif, a chafwyd lle i adeladu gan berchenog chwarelau Aberllefeni, ar brydles o driugain mlynedd, am yr ardreth o bunt y flwyddyn. Mae y weithred wedi ei dyddio Mawrth 25ain, 1857, ond yr oedd y capel wedi godi ddwy flynedd cyn hyny. Nid yw sefyllfan y mwyaf manteisiol, am ei fod mewn pant, ac ar lan afon. Yr oedd John Stephens yn weithgar iawn y pryd hwnw gydag adeiladu y capel. Trefnwyd i gyfarfod yr agoriad fod ddydd Gwener y Groglith, 1855, ond erbyn i'r amser ddyfod, nid oedd y capel yn barod, ac felly, bu raid cynal y cyfarfod yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Gweinyddwyd gan Meistri H. Morgan, Sammah; S. Edwards, Machynlleth; R. Ellis, Brithdir, a C. Jones, Dolgellau; ac yn fuan ar ol hyny, wedi cael y capel yn barod, daeth Meistri S. Roberts, Llanbrynmair, ac R. Ellis, Brithdir, yma bregethu am Sabboth, a ffurfiwyd eglwys yn y lle, ac o hyny allan, bu yma bregethu rheolaidd. Galwyd y capel yn Achor, yn ol enw yr hen gapel yn Rhiwgwreiddyn. Mae y lle wedi bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Chorris, ac felly y mae yn parhau. Yn yr adegau y bu yr eglwys yn amddifad o weinidog, cafodd y gweinidogion cylchynol yn garedig iawn, a bu John Davies, Glasbwll, yn pregethu yma ac yn Corris yn rheolaidd bob mis hyd ei farwolaeth, a theimlir yn yr ardal barch diffuant i'w goffadwriaeth. Mae yr achos yma wedi myned trwy gryn lawer o gyfnewidiadau, ond er y cwbl y mae wedi myned rhagddo yn llwyddianus. Cynaliwyd Cymanfa sir Feirionydd yma Mehefin 8fed a'r 9fed, 1858, a gadawodd ddylanwad da ar yr holl wlad. Bu yn foddion i ladd y culni a'r rhagfarn yn erbyn yr enwad oedd hyd hyny yn aros mewn llawer o feddyliau.[180]

Yn nechreu Mehefin, 1870, tynwyd i lawr yr hen gapel, a gwnaed ef bron i gyd o newydd. Mae yn awr yn gapel hardd. Costiodd £600, ond bydd haner y draul wedi thalu yn fuan. Agorwyd ef Ebrill 7fed, 1871, pryd y pregethwyd gan Meistri E. Evans, Caernarfon, ac R. Williams, Llundain. Da genym ddeall fod yr eglwysi yn Aberllefeni a Chorris yn myned rhagddynt mor egniol, a'u bod hwy a'u gweinidog yn ymdeimlo mor fyw i anghenion yr ardaloedd pwysig a chynyddol hyn.

RHYDYWERNEN

Mae y lle yma wedi derbyn ei enw oddiwrth amaethdy o'r enw Rhydywernen, yn mhlwyf Llanfawr. Saif ar gwr uchaf cwm cul, ond prydferth, sydd i'r Gogledd-orllewin o'r ffordd sydd yn arwain o'r Bala i Gorwen. Ymddengys fod pregethu achlysurol yma er o gylch y flwyddyn 1740.[181] Ond yn nhymor gweinidogaeth Mr Benjamin Evans, yn Llanuwchllyn, y dechreuwyd pregethu yma yn rheolaidd. Tua'r flwyddyn 1770, yr oedd gwr o'r enw Hugh Jones yn byw yn Rhydywernen, ac efe oedd perchenog y lle. Nid oedd fel yr ymddengys yn proffesu crefydd ei hun, ond ei fod yn ewyllysiwr da i'r achos, a gwahoddai bregethwyr yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn ddiwahaniaeth i'w dy i bregethu. Yn y flwyddyn 1775, adgyweiriodd Hugh Jones hen dy oedd ganddo at gadw mawn, a throdd of yn lle addoli. Ystafell isel, hirgul, a tho brwyn, tlodaidd iawn yr olwg arni ydoedd, ond buwyd yn addoli yma am fwy na haner can, mlynedd, a chafodd llawer o saint y dyddiau hyny wleddoedd blasus i'w heneidiau yn hen gapel Rhydywernen. Gwnaed meinciau a phulpud yn yr hen dy, ac yr oedd y llythyrenau H J., a'r ffugyrau 1775, ar y talcen uwchben y pulpud. Bu y lle o'r dechreuad dan ofal gweinidogion Llanuwchllyn, ac wedi symudiad Mr Benjamin Evans, i'r Drewen, yn 1777, daeth Meistri T. Davies, A. Tibbot, G. Lewis, ac M. Jones, yma yn olynol. Nis gwyddom pa flwyddyn y rhoddodd y Methodistiaid i fyny bregethu yma'i na pha bryd y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Mae yn sicr yr arferai rhai oddiyma fyned i Lanuwchllyn i gymundeb yn nyddiau Mr B. Evans, ac y mae yn debyg mai wedi ei ymadawiad ef yn 1777, a marwolaeth Hugh Jones yn 1778, y rhoddodd y Methodistiaid i fyny ymweled a'r lle, ac y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Dywedir mai Mr Abraham Tibbot a ffurfiodd yr eglwys yma, os felly, nis gallasai hyny fod cyn y flwyddyn 1784, canys dyna y flwyddyn y daeth ef i Lanuwchllyn. Nid oedd yn y cyfnod hwnw yr un capel yr holl ffordd o'r Bala i Wrecsam, ond Rhydywernen. Arferai yr hen gristion Sion Edward, a'i wraig, ddyfod yma o Gynwyd yn rheolaidd, a deuai Edward Jones yn ffyddlon yr holl ffordd o Langollen—pellder o ugain milldir yma bob mis i gymundeb. Yr oedd pregethwyr cymeradwy yn Llanuwchllyn, megis Robert Roberts, Robert Lloyd, a John Evans, y rhai a gynorthwyent eu gweinidogion, ac a ddeuent yma yn rheolaidd. Yn Mai, 1826, daeth Mr Hugh Pugh, o Dowyn, gadw ysgol i Bethel, ac i gynorthwyo Mr Michael Jones, yn yr eglwysi bychain newydd-ffurfiedig yn Edeyrnion. Urddwyd of yn Llandrillo, Gorphenaf 3ydd, 1827. Gan mai Rhydywernen oedd yr eglwys hynaf yn nghylch ei weinidogaeth, rhoddwn hanes ei urddiad yma. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau ; gofynwyd y cwestiynau arferol gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn; gweddiodd Mr D. Roberts, Dinbych, am fendith ar yr undeb; pregethodd Mr H. Lloyd, Towyn, i'r gweinidog, a Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r eglwys; a Mr W. Williams, Wern, i'r gwrandawyr yn gyffredinol.[182] Mae yn debyg i'r urddiad gymeryd lle yn Llandrillo, oblegid fod y lle yn fwy canolog i'r holl aelodau yn nghylch y weinidogaeth. Cafodd Rhydywernen fantais fawr i fwynhau cymdeithas fuddiol ac addysg bur Mr Pugh, oblegid fod yn llettya yn nheulu yr haelionus a'r caredig William Jones, Coedybedo, ac yn cael edrych arno fel un o'r teulu, a mawr yr hiraeth a deimlid ar ei ol wedi ei symudiad i Fostyn.[183] Yn y flwyddyn 1828, adeiladwyd capel newydd cryf a hardd, a chyn pen ychydig flynyddau yr oedd ei holl ddyled wedi ei dalu trwy lafur yr ardalwyr yn benaf. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Pugh, codwyd yma ddyn ieuangc o'r enw John Griffith i bregethu, yr hwn ar ol hyny a fu yn weinidog i'r eglwys hon. Yn Mai, 1837, symudodd Mr Pugh oddiyma i Mostyn, ar ol llafurio yma gydag ymroddiad mawr am unmlynedd-ar-ddeg. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog ar ol hyny dros rai blynyddoedd. Er i Mr Pugh gael ei ordeinio i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, yn yr eglwysi hyn, etto, yr oedd Mr Jones wedi gadael y gofal yn hollol arno, fel y teimlai yr eglwysi eu bod heb fugail ar ol colli Mr Pugh. Ymwelid a'r lle yma fynychaf ar ol hyny gan Meistri M. Jones, Llanuwchllyn, a T. Ellis, Llangwm , ond yn 1841, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Griffith, yr hwn oedd eisioes wedi ymsefydlu yn yr ardal, ac yn byw yn Cablyd. Urddwyd ef Mai 21ain, 1841. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau; holwyd y gweinidog a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Ellis, Llangwm; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gan Mr E. Davies, Trawsfynydd. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfod gan Meistri J. Parry, Wern; R. Ellis, Rhoslan; T. Ellis, Llangwm; W. Roberts, Pen ybont; T. Davies, Llandrillo; R. Evans, Derwen; J. Edwards, Croesoswallt, ac R. Thomas, Bala.[184] Bu Mr Griffith yn ymdrechgar a ffyddlon tra y parhaodd ei dymor. Profodd yr ardal hon awelon grymus y diwygiad yn 1840, fel yr oedd agos yr holl wrandawyr ar un adeg yn proffesu crefydd. Yr oedd Mr Griffith yma yn aelod a phregethwr gweithgar yn ystod y diwygiad hwnw, ac urddwyd ef yn agos i'w ddiwedd, pan oedd teimladau yn dechreu oeri, ac er nad oedd y tymor y bu yn y weinidogaeth yn dymor bywiog ar grefydd, etto, ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Bu farw Hydref 6ed, 1849. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth yma gan Mr Humphrey Ellis, yr hwn wedi cael help gan Dduw sydd yn aros hyd yr awr hon i fugeilio yr hen eglwys barchus yn Rhydywernen, ac y mae golwg gysurus ar yr achos. Yn y flwyddyn 1862, prynwyd prydles y capel, fel y mae yn awr yn rhyddfeddiant; a phrynwyd hefyd ddarn o dir i wneyd mynwent, fel y mae y cwbl yn eiddo i'r eglwys yn y lle, ac y mae y rhan fwyaf o'r treuliau hyn wedi eu talu gan yr eglwys a'r ardalwyr, a llwyrfwriedir talu y gweddill yn fuan.[185]

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN GRIFFITH. Ganwyd ef yn yr ardal hon, yn y flwyddyn 1805. Gogwyddwyd feddwl yn foreu at grefydd, a phan yn ugain oed, derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Rhydywernen, gan Mr Michael Jones. Ymaflodd o ddifrif yn ngwaith crefydd. Yr oedd yn athraw diwyd a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol, a gwelodd yr eglwys gymhwysder ynddo, fel y dewiswyd ef pan yn ieuangc yn ddiacon. Anogwyd ef i ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1832, ac er ei gymhwyso yn fwy i'r gwaith pwysig, aeth am dymor i'r ysgol at Mr M. Jones, i Lanuwchllyn, ac er cael cyfleustra ychwanegol i ddysgu yr iaith Saesonaeg, aeth at Mr. J. Jones, i Marton. Dychwelodd adref a phriododd, ac ymroddodd i fywyd amaethyddol, a phregethu yn achlysurol, ac yr oedd yn dra derbyniol yn mhob man lle yr elai. Rhoddwyd galwad iddo gan ei fam eglwys yn Rhydywernen i fod yn weinidog iddi, ac urddwyd ef Mai 21ain, 1841, a llafuriodd yn ffyddlawn am wyth mlynedd, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd, Hydref 6ed, 1849, yn 44 oed. Claddwyd of oddifewn i furiau y capel, ac y mae maen coffadwriaeth iddo ar y mur ynddo. Yr oedd Mr. Griffith yn " wr da " - yn synwyrol a deallgar yn mhob peth, ac wedi casglu cryn lawer o wybodaeth yn gyffredinol. Nid amheuai neb nad ydoedd yn gristion cywir a defosiynol, ac fel pregethwr yr oedd yn Ysgrythyrol ac ymarferol, a'i ddifrifwch bob amser y fath fel y teimlau ei wrandawyr fod eu hachos tragwyddol hwy yn agos at ei feddwl. Bu fugail ffyddlon a gofalus dros y praidd ar yr rhai y gosodwyd ef yn olygwr a cherid ef yn fawr gan ei holl gydnabod, ac yr oedd y cynnulliad lluosog o honynt a ddaeth yn nghyd i'w angladd, yn gystal ac o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn dangos mor barchus y safai yn eu meddyliau,

BETHEL

Yr oedd mwy na deuddeng mlynedd o'r ganrif bresenol wedi myned heibio cyn fod un cynyg wedi ei wneyd i sefydlu moddion crefyddol o un math yn yr ardal hon. Cyrchai dau hen grefyddwr da oddiyma yn rheolaidd i Rhydywernen, sef Sion Edward, Braichdu, a Sion Charles, Caereuchaf, ond nid oeddynt wedi magu digon o wroldeb i gynyg sefydlu addoliad cyson, er gwrthweithio yr arferion annuwiol, a'r chwareuyddiaethau pechadurus oeddynt yn ffynu yn yr ardal. Dywedir fod yma bregethu achlysurol wedi bod. Sonir am Mr Williams, o'r Wern, yn pregethu yn Cwm Cottage, lle yr oedd un Catherine Williams yn byw, a bu John Jones, Hafodfawr, hefyd yn pregethu yn Ty'nyfedw, pan oedd gwr y ty yn sal, ond nid oedd etto un cynyg ymosodol wedi ei wneyd i gymeryd meddiant o'r ardal. Yn y flwyddyn 1813, symudodd un Dafydd Jones, saer, wrth gelfyddyd, o Lanfawr, gerllaw y Bala, i Dy'nyllechwedd i fyw. Nid oedd Dafydd Jones yn proffesu crefydd, ond yr oedd tra yn Llanfawr wedi agor ei dy i gadw Ysgol Sabhothol, ac wedi cael blas ar hyny, ac ar ol symud i Dy'nyllechwedd, yr oedd am barhau i groesawu arch Duw i'w dŷ. Yr oedd un Edward Williams yn byw y drws nesaf iddo yn Ty'nyllechwedd, ac yr oedd yntau hefyd, er nad oedd yn proffesu crefydd, yn barod i agor ei dy i'r Ysgol Sabbothol. Gwnaeth y ddau hyn gais at Sion Edward a Sion Charles am iddynt hwy ymgymeryd a'r gorchwyl, a'r hyn y cydsyniasant yn ddinag. Aeth Dafydd Jones o gylch y tai i hysbysu y cynhelid ysgol y Sabboth canlynol, a daeth deuddeg yn nghyd y Sabboth cyntaf, erbyn yr ail Sabboth yr oedd y nifer yn ddau cymaint, a chynyddodd yn fuan i bedwar ugain, fel mai prin yr oedd digon o le yn y ddau dy i'r rhai a ddeuai yn nghyd. Sion Edward oedd yr arolygwr, a'i fab, John Jones, Bethel wedi hyny, oedd yr ysgrifenydd, a'r athrawon cyntaf oeddynt Sion Charles, Humphrey Thomas, Evan Evans, a Rowland Jones. Yn fuan wedi cychwyniad yr ysgol yn Ty'nyllechwedd, daeth Mr Michael Jones, yn weinidog i Lanuwchllyn a Rhydywernen, felly yr oedd efe gyda'r achos yma o'i gychwyniad. Derbyniwyd amryw o'r ardal yma yn Rhydywernen, fel ffrwyth yr Ysgol Sabbothol, ac yn eu plith y ddau deulu yn Ty'nyllechwedd, y rhai a agorasant eu drysau iddi. Ar ol mwy na dwy flynedd o lafur heb fod yn ofer, meddyliasant am gael capel yn yr ardal, a llwyddwyd i gael tir gan John Jones, Ty'nyddol, Llandderfel, a chyflwynwyd ef i ymddiriedolwyr, Ionawr, 1816, y rhai oeddynt Meistri Michael Jones, John Lewis, David Morgan, John Roberts, James Davies, William Williams, Robert Everett, a Peter Griffith. Y rhai fu ffyddlonaf i godi y capel oedd Sion Edward, Sion Charles, Sion Vychan, a Sion Jones. Mae ein hysbysydd yn rhoddi eu henwau i ni yn y ffurf yna, a dywed fod careg ysgwar ar wyneb capel Bethel ac enwau y pedwar arni. Daeth Mr Moses Ellis yma i gadw ysgol yn fuan ar ol agoriad y capel, a byddai yn pregethu yn achlysurol yn y naill fan neu y llall, er cynorthwyo Mr Jones. Ennillodd yr achos yma dir yn gyflym, a chyfnewidiwyd agwedd foesol yr ardal i raddau dymunol. Yn mis Mai, 1826, daeth Mr Hugh Pugh yma i gadw ysgol, ac yn mis Gorphenaf, y flwyddyn ganlynol, urddwyd ef i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, yn y lleoedd islaw y Bala. Ymddiriedodd Mr Jones ofal yr eglwysi hyn yn hollol i Mr Pugh, er ar yr un pryd ystyrient Mr Jones hefyd yn weinidog iddynt. Athraw doeth a synwyrol a fu Mr Pugh yma am un-mlynedd-ar-ddeg. Gwreiddiodd yr aelodau dan ei ofal yn dda yn egwyddorion crefydd, ac yn enwedig addysgodd yr ieuengctyd yn drwyadl yn seiliau eu Hymneillduaeth, a'u hawliau fel Ymneillduwyr. Mae llawer yn y wlad yma hyd heddyw yn cydnabod eu bod yn ddyledus i Mr Pugh, am roddi cyfeiriad priodol i'w meddyliau yn y pyngciau hyn. Yn Mai, 1837, symudodd Mr Pugh i Mostyn, Sir Fflint, lle y treuliodd weddill ei oes, ac yn yr adeg yma rhoddodd Mr Jones hefyd i fyny ofal yr eglwysi hyn, gan eu hanog i ddewis rhyw wr ieuangc cymhwys i fod yn weinidog iddynt eu hunain, ond parhaodd i ddyfod yma yn gyson bob mis, ac yn fynych yn amlach na hyny. Yn y flwyddyn 1840, bu yma adfywiad grymus ar grefydd, ac ychwanegwyd cryn nifer at yr eglwys. Yn y flwyddyn 1843, wedi symudiad Mr Jones i'r Bala, ail ymgymerodd a gofal yr eglwys hon, yn gystal a Llandderfel, a Soar, a pharhaodd ofalu am y lle hyd ei farwolaeth. Mewn rhyw ystyr yr oedd Mr Jones yn weinidog i'r eglwys hon o'i sefydliad yn Llanuwchllyn hyd ei farwolaeth, er ddarfod iddo ar adegau ymryddhau oddiwrthi hi yn rhanol, ond trwy ei oes edrychai arnynt fel pobl ei ofal, ac edrychent hwythau arno yntau fel eu hathraw a'u bugail. Bu yr eglwysi yn y rhanbarth yma yn ffyddlon iddo yn yr holl dymhestloedd a'i cyfarfu, ac y mae perarogl ei goffadwriaeth yn aros yn y wlad, ac fe erys dros genedlaethau. Yn nechreu y flwyddyn 1855 y daeth Mr Michael D. Jones yma o Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin, i fod yn olynydd i'w hybarch dad fel athraw yr athrofa, a gweinidog yr eglwysi hyn. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Gorphenaf 6ed, 1855. Pregethwyd gan Meistri Joseph Evans, Capel Sion; T. Davies, Llandeilo; D.C. Jones, Abergwyli; J. Roberts, Rhuthin; Ismael Jones, Rhos; W. Roberts, Penybontfawr; W. Roberts, Pentrefoelas, ac eraill; choffeir am y cyfarfod fel un dan arddeliad nodedig. Profodd yr eglwys yma adfywiad lled rymus yn y flwyddyn 1860, a chynyddodd yr aelodau nes bod yn fwy na thriugain; and oblegid symudiadau a marwolaethau, nid yw yn awr ond tua deugain o rifedi. Nid yw y cylch ond cyfyng, na'r boblogaeth ond tenau, ond y mae yma eglwys fechan ddeallgar a heddychol, a pharha Mr Jones i lafurio yma gyda chymeradwyaeth mawr. Gweinyddwyd swydd diacon yma yn gyntaf gan Sion Edward, Braichdu. Treuliodd oes hir gyda chrefydd, ac yr oedd yn ddyn cywir a ffyddlon, ond fod ei dymer braidd yn chwerw. Bu farw Hydref. 31ain, 1851, yn 88 oed, a chladdwyd of wrth gapel Bethel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan ei weinidog, y diweddar Mr Michael Jones, a chan ei wyr Mr John Jones, yn awr o Langiwc, Morganwg. Bu David Davies, Caere, a John Jones, Bethel, yn gyd-swyddogion yma, ac y mac eu ffyddlondeb hwythau hefyd mewn coffa ger bron Duw,

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:-

William Jones. Urddwyd ef yn Mhwllheli, a symudodd oddiyno i Glynarthen, Sir Aberteifi, lle y bu farw, a daw hanes yno dan ein sylw.

Robert Ellis. Dechreuodd ef a William Jones bregethu yr un adeg. Urddwyd ef yn Rhoslan, ac y mae yn awr yn y Brithdir, a hyderwn fod llawer flynyddoedd etto yn ol iddo.

John Parry. Addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Machynlleth, a gwelir cofnodiad byr am dano yn nglyn a hanes yr eglwys hono.

Cadwaladr Jones. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Nhanygrisiau, ac y mae yn awr yn America.

Yn yr eglwys yma y magwyd John Jones, Llangiwc, ond yn Llanrhaiadr-yn-mochnant y dechreuodd bregethu, megis y gwelir yn hanes yr eglwys hono.

LLANDDERFEL

Mae yn ymddangos yr arferai gweinidogion y Bala er yn foreu bregethu yn Llandderfel. Yn ol y cyfrifiad a roddodd Mr Job Orton i Mr Josiah Thompson, yr oedd gan Mr Daniel Gronow gynnulleidfa o ddau cant yma yn 1773. Nis gwyddom pa fodd i gyfrif am hyny, os na chymerodd Mr Orton y gynnulleidfa allasai fod yno gan y Methodistiaid mewn camgymeriad, ond nid oedd hono ychwaith yn cyrhaedd y rhifedi hwnw yn yr adeg hono. Pa fodd bynag, os bu yma gynnulleidfa o Annibynwyr gan Mr Gronow, yr oedd hi wedi darfod yn llwyr cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, ac aeth chwarter y ganrif bresenol heibio cyn Annibynwyr ddechreu pregethu yn mhentref Llandderfel. Dechreuwyd pregethu yma yn y flwyddyn 1826, mewn lle a elwir Brynyfedwen, lle yr oedd Edward a Catherine Jones yn byw, y rhai oeddynt yn aelodau yn Bethel. Pregethodd Mr Pugh yma rai troion, ac ennillwyd yma amryw i broffesu crefydd. Ymofynwyd am le yn mhentref Llandderfel, ac agorodd John Roberts, gwehydd, ei dy, er nad oedd yn aelod ar y pryd, a rhoddodd lofft helaeth at wasanaeth yr achos. Coffeir am Dr. Arthur Jones yn pregethu yn yr awyr agored, oblegid na chynwysai yr ystafell mor gynnulleidfa. Teimlodd un dyn mor ddwys yn yr oedfa, nes y gwaeddodd allan fod rhyw un o'r crefyddwyr wedi dyweyd ei hanes ef wrth y pregethwr. Yr oedd Robert Daniel, Rhydlydan, yn pregethu y noson hono drachefn yn yr ystafell. Yr aelodau eglwysig cyntaf yma oeddynt Edward a Catherine Jones, Brynyfedwen; John ac Elizabeth Watkin, Cae-crydd; Robert Roberts, Ty'n yfron; Evan Dafydd a Sydney Jones, Llan; Mrs Jones, Ty'nddol, ac yn fuan fe ymunodd John Roberts, gwehydd, a hwy. Efe oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd atynt, a bu yn aelod ffyddlon, a dewiswyd ef yn ddiacon cyn hir. Efe a John Watkin oeddynt y diaconiaid cyntaf, a buont ffyddlon hyd angau. Bu Mr. David Owens, Tyuchaf, (yn awr o Newark, America,) yn ffyddlon i'r achos yma ar ei gychwyniad, a deuai o Bethel yma gynorthwyo yr achos yn ei wendid. Meddyliodd Mr Jones a Mr Pugh am gael capel yma, ond yr anhawsder oedd cael tir, a chyfododd gwrthwynebiad o le na ddisgwylid. Yr oedd gardd gan John Jones, crydd, Pensingrig, yr hon a gauwyd ganddo i mewn o'r tir cyffredin, a boddlonai gwerthu, ond pan ddeallodd gwr cyfrifol yn y gymydogaeth hyny, dyrysodd y cynllun. Yn rhagluniaethol, yr oedd gan ddyn o Gwyddelwern, dir yn nghanol y Llan, ac yr oedd yn barod i'w werthu, a phan ddeallodd y gwr mawr, yr hwn a ddyrysodd eu cynllun cyntaf hyny, cynygiodd yr hen ardd iddynt, gan feddwl y byddent yn mhellach o'i ffordd yno nag yn nghanol y pentref. Prynwyd y lle am £15 gan John Jones, crydd, a John Davies, Fronheulog, a throsglwyddwyd ef i Thomas Evans, i'w gyf- lwyno i Michael Jones, Hugh Pugh, David Owens, John Jones, Thomas Owens, a Thomas Jones, ac y mae y weithred yn cael ei dyddio Mawrth, 1828. Adeiladwyd y capel, a phregethodd Mr Pugh ynddo gyntaf ddydd Nadolig, 1828, ac agorwyd yn gyhoeddus Mawrth 3ydd a'r 4ydd, 1829. Ar yr achlysur, gweinyddodd Mr R. Ellis, Penybont; T. Simon, Llangollen; I. Williams, Dinas; T. Jones Llangollen; H. Morgan, Sammah; T. Ellis, Llangwm; J. Ridge, Bala, a D. Roberts, Dinbych.[186] Mae y lle o'r dechreu wedi bod dan yr un weinidogaeth a Bethel, ac felly y mae yn awr. Yn y flwyddyn 1840, dan weinidogaeth Mr Richard Jones, Rhuthin, yr hwn oedd yn y lle ar ymweliad, torodd diwygiad grymus allan, yr hwn a fu er codiad mawr i'r achos yn y lle. Bu yr eglwys mewn tipyn o brofedigaeth oblegid i'r llywodraeth ddyfod i hawlio ardreth am y capel, gan ddyweyd nad oedd gan y rhai a'i gwerthodd ddim hawl ynddo, ond wedi sefydliad Mr M. D. Jones yma, mynodd ef chwilio i'r mater, a'i wneyd yn ddiogel, ac ail brynwyd y tir gan y llywodraeth am £11/13/00 ac y mae yn awr yn feddiant i'r eglwys yn y lle. Wrth weled fod yr hen gapel wedi myned yn adfeiliedig, penderfynwyd adeiladu un newydd yn yr un lle, ond fod eisiau ychwaneg o dir er ei wneyd yn helaethach. Dechreuwyd arno yn 1868, ac agorwyd ef y dydd olaf o fis Mawrth, 1869. Ar yr achlysur, pregethodd Meistri Samuel Roberts, J. Williams, Castellnewydd; E. Evans, Caernarfon; D. Rowlands, B.A., Trallwm, ac R. Thomas, Bangor, a chan fod cyfarfod chwarterol y Sir yn cael ei gynal yma yr un pryd, yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y Sir yn bresenol. Galwyd ef yn Ramah. Nid oedd ond dau o'r rhai oeddynt yn aelodau yma yn agoriad y capel cyntaf yn fyw yn agoriad yr ail, sef Edward a Catherine Jones, y rhai y pregethwyd gyntaf yn eu ty yn Brynyfedwen, a rhieni Mr Robert Derfel Jones, Manchester. Yr oedd John Watkin, yr hwn a fu yn ddiacon ffyddlon am ddeugain mlynedd, wedi meddwl cael byw i weled agor y capel newydd, ond gwelodd ei Dad nefol yn oreu ei gymeryd adref cyn gweled hyn. Canmolir ffyddlondeb John Roberts, y gwehydd, yn nodedig. Rhoddodd lofft ei dy i gynal y moddion ar y dechreu, a chyfranai chwe' cheiniog yn yr wythnos at gynal yr achos, er nad ydoedd ond isel ei amgylchiadau.

Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yma ond

John Edwards. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Pentre-llyn-cymer, lle y mae etto, ond ei fod wedi ei analluogi i gyflawni ei weinidogaeth.

Mae yr achos yma mewn agwedd siriol, a nifer yr aelodau o gylch pump a deugain.

SOAR

"Mae y capel hwn yn mhlwyf Llandderfel. Bu Sion Edward yn byw yn Melinddimel, ychydig islaw y lle y mae Soar, a bu Dr. Lewis, Llarnuwchllyn, a Robert Roberts, Tyddynyfelin, yn pregethu llawer yn ei dŷ, yn mhell cyn codi Soar. Cynhelid Ysgol Sabbothol a phregethid yn achlysurol gan Mr. M. Jones, yn Gwern-braich-y-dwr, ac yn 1827, adeiladwyd yma dŷ bychan saith lath ysgwar. Mae careg uwchben ei ddrws ac arni, "Soar, adeiladwyd 1827." Codwyd ef ar dir Syr Watkin Williams Wynne, Barwnig, ond heb brydles, ond telid ardreth o haner coron y flwyddyn. Yr oedd Meistri W. Williams, Wern, a Mr. J. Ridge, Bala, yma yn ei agoriad. Bwriedid ef ar y cyntaf i fod yn ysgoldy yn unig, ac elai yr aelodau i Bethel i gymundeb, ac nid oeddynt ond ychydig mewn nifer, ond y mae yma eglwys wedi ei ffurfio bellach er's blynyddau. Mae y lle o'r dechreu wedi bod yn nglyn a Bethel, a'r un gweinidogion yn olynol yn gofalu am dano. Pan oedd. Syr Watkin yn gwerthu amryw o'i diroedd rai blynyddoedd yn ol, gwerthodd Wern-braich-y-dwr, a gwerthwyd capel Soar hefyd. Parodd gwerthiad y Soar yma, a Soar arall yn sir Drefaldwyn, gynhwrf mawr ar y pryd hwnw. Prynwyd y Soar yma gan John Davies am 30p., a chyflwynwyd ef i Simon Jones, Michael D. Jones, John Peter, Robert Jones, Edward Wynne, Edward Roberts, William Jones, Thomas Owen, ac Humphrey Ellis, fel ymddiriedolwyr. Dyddiad y weithred ydyw, Medi 29ain, 1860.

Codwyd i bregethu yn y gangen fechan yma :-

Evan Lloyd. Urddwyd ef yn Hebron, Lleyn, a bu farw yn dra annisgwyliadwy. Daw ei hanes dan ein sylw pan ddeuwn at eglwysi sir Gaernarfon.

David Price. Ni bu yn pregethu ond ychydig. Bu farw Awst 23ain, 1861, yn 21 oed. Claddwyd ef yn Bethel.

John Roberts. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa y Bala.

Mae Edward Wynne yn yr ardal hon er's llawer o flynyddoedd bellach, ac yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy gan yr holl eglwysi."

LLANDRILLO

Yn y flwyddyn 1814, daeth John Jones, a'i wraig, a'i deulu o felin Frongoch, gerllaw y Bala, i fyw i felin Llandrillo. Arferent cyn symud fyned i addoli i Dy'nybont, ac ar ol eu symudiad, deuai rhai o hen aelodau Ty'nybont i'w ty i Landrillo, ar nosweithiau o'r wythnos i gynal cyfarfodydd gweddio. Ymwelai John Jones, Hafodfawr, hefyd a hwy, yr hwn yn achlysurol a bregethai iddynt. O gylch yr un amser ag y symudodd teulu y felin, daeth gwraig o Lanuwchllyn, o'r enw Elizabeth Roberts, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr, i fyw yma'i ac ar ol hyny ceid pregethu yma yn amlach. Deuai Mr M. Jones, Llanuwchllyn, a Mr J. Lewis, Bala, yma i bregethu, ac yn achlysurol deuai Dr. Arthur Jones, Bangor, i ymweled a brawd oedd ganddo yn yr ardal, a phregethai bob tro y deuai. Yn y flwyddyn 1818, cymerwyd ty gan William Fairclough i bregethu y Sabboth, a chadw ysgol ddyddiol, ac aeth Mr M. Jones, Llanuwchllyn, yn gyfrifol am ardreth y ty. Yr amser yma daeth Mr Moses Ellis - Mynyddislwyn, wedi hyny - yma i gadw ysgol, a bu yn ddefnyddiol iawn ddechreu yr achos yn y lle. Ffurfiwyd yma gangen-eglwys yn mhen blwyddyn neu ddwy wedi cymeryd y ty i bregethu, ac er nad oedd yma ond ychydig o bobl druain, dlodion, yn cychwyn yr achos, etto bu Mr M. Jones yn ffyddlon i ddyfod atynt, a chynorthwyid ef gan Meistri J. Roberts, Capelgarmon; J. Lewis, Bala; J. Jones, Bancog; J. Jones, Hafodfawr, ac eraill. Bu teulu Syrior yn garedig i'r achos, ac y mae bendith yr Arglwydd yn aros arnynt hyd heddyw. Yn y flwyddyn 1821, symudwyd yr achos i hen gapel y Methodistiaid, ac wedi bod yno dros ryw gymaint o amser, symudwyd drachefn i ystafell perthynol i'r New Inn, sef tŷ William Fairclough. Ond yn y flwyddyn 1826, cafwyd tir ar brydles o gan' mlynedd ond un, gan Mr. T. Jones, clochydd, Corwen, am £12/1/00 yn y flwyddyn o ardreth, a chyflwynwyd ef i Meistri Michael Jones, Llanuwchllyn; J. Ridge, Bala; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Jones, Syrior; T Jones, Braichdu; J. Jones, Penygeulan; D. Owen, Tyuchaf, a W. Jones, Penygeulan—Glynarthen, wedi hyny—fel ymddiriedolwyr. Galwyd y capel yn Hananeel. Agorwyd ef Gorphenaf 3ydd, 1827, a'r un pryd ag agoriad y capel, urddwyd Mr Hugh Pugh i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, fel y crybwyllasom yn hanes Rhydywernen. Bu Mr Pugh yma yn ymdrechgar hyd 1837, pan y symudodd i Mostyn. Nid oedd yr achos yma yn gryf, ond bu yma rai yn ffyddlon iddo yn ei wendid. Am flynyddau wedi ymadawiad Mr Pugh, ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr cynorthwyol, ond yr oedd y gofal yn benaf ar Mr Thomas Davies, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu, ac a wir ofalai am y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1842, rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwysi yn Nghorwen, a Chynwyd, alwad i Mr John Evans, yr hwn am lawer o flynyddau a fuasai yn weinidog yn Beaumaris, Mon. Yr oedd Mr Evans yn oedranus pan ddaeth yma, fel nad oedd ynddo yr yni oedd yn ofynol gydag achosion newydd a gweiniaid, ond yr oedd yn barchus a chymeradwy gan bawb. Unwaith yn y mis y deuai yma, fel nad oedd yr eglwys hon yn cael fawr o'i lafur. Yn mhen ychydig flynyddoedd, rhoddodd yr eglwysi i fyny, a dychwelodd i Beaumaris, lle yr arhosodd weddill ei oes. Yn niwedd y flwyddyn 1850, rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr Humphrey Ellis, Llangwm, ac y mae efe yn parhau i lafurio yma, a'r achos yn ystod ei weinidogaeth wedi ennill tir, a chasglu nerth, fel y mae golwg siriol arno. Mae amryw bregethwyr wedi codi yma. Perthyn i'r gangen hon yr oedd William Jones, er mai yn Bethel y pregethodd gyntaf. Yma hefyd y cododd Robert Fairclough i bregethu. Ond Thomas Davies, Pentre', yw y pregethwr sydd wedi bod hwyaf yn nglyn a'r eglwys, ac wedi bod o fwyaf o wasanaeth iddi o'r un a godwyd ynddi. Mae wedi treulio ei oes yma, ac wedi pregethu llawer, nid yn unig yma, ond hefyd trwy yr holl eglwysi cylchynol. Yn ddiweddar barnodd yr eglwys yma, a gweinidogion y Sir, yn briodol ei urddo i holl waith y weinidogaeth, gan fod yma gynifer o eglwysi, ac amryw o honynt fynychaf heb neb i weini yr ordinhadau iddynt. Cymerodd ei urddiad le yma Mehefin 2il, 1870. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Ellis, M. D. Jones, Bala; J. Peter, Bala; D. Ll. Jones, Ruthin; J. Jones, Abermaw; R. P. Jones, Llanegryn; R. Ellis, Brithdir; E. A. Jones, Dolgellau; E. Williams, Dinas; E. Wynne, Soar; W. I. Richards, Abererch; T. Jones Middlesborough, a J. Williams, gweinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llandrillo. Gwelodd yr achos yma wahanol dymhorau, ond y mae wedi dal ei dir, ac y mae yr achos yn fwy siriol yn awr nag y gwelwyd ef erioed. Coffeir yn barchus yma am Mr. John Petty, a'i wraig, y rhai a fuont yma am gryn dymor, ac yn llettygar i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Daeth Mr. Petty, o Cornwall, i'r Llwyn, Dolgellau, yn oruchwyliwr, ac wedi hyny bu yn amaethwr, ac yn cadw siop yma. Yr oedd wedi dysgu Cymraeg lled dda.[187] Bu yma eraill er nas gallasent wneyd llawer, etto a fuont ffyddlon yn ol eu gallu, ac nad a eu llafurus gariad yn anghof.

CORWEN

Yn nechreu y flwyddyn 1827, daeth Mr Robert Ellis, Caere, (Brithdir yn awr,) at William Roberts, Brynsaint, amaethdy yn ymyl y dref, ac aethant gyda'u gilydd a chymerasant lofft yn ngwesty y Queen, dan ardreth o dair punt y flwyddyn, er dechreu achos Annibynol. Gweithredai Mr Ellis, dan gyfarwyddyd eglwys Bethel, a hwy oedd yn gyfrifol am yr ardreth. Am ddau o'r gloch y Sabboth cyntaf yn Chwefror, daeth Mr Hugh Pugh ac a bregethodd yn y lle am y waith gyntaf. Ei destyn oedd Ioan ix. 4.—" Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd tra yr ydyw hi yn ddydd." Daeth Mr John Griffith, Rhydywernen—y pryd hwnw yn ddyn ieuangc—yma gyda Mr Pugh, i ddechreu canu, a daeth yma lawer gwaith ar ol hyny i gynorthwyo yr achos. Yn mis Mawrth canlynol, daeth Mr Michael Jones yma i ffurfio eglwys, a phregethodd ar 1 Pedr iii. 13.—"A phwy a'ch dryga chwi os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda?" Saith oedd nifer yr eglwys ar ei ffurfiad; sef William a Jane Roberts, Brynsaint, a Mary, eu merch; John a Sarah Owen, Ty'nycefn; Elizabeth Williams, Llygadog, a Jane Davies, Penybryn, Corwen. Y cyntaf a dderbyniwyd yn aelod yma oedd Joseph Jones, Penybryn, yr hwn sydd etto yn aros yn ffyddlon. Gwan fu yr achos yma am flynyddau, ond deuai Mr Jones a Mr Pugh yma mor reolaidd ag y medrent, a chynorthwyid hwy gan eraill, Bu Mr Pugh am flynyddoedd yn cerdded yma yr holl ffordd o Goedybedo—pellder o ddeng milldir—bob pythefnos i gadw cyfeillach. Yr oedd y lle yr oeddynt yn cyfarfod ynddo i addoli yn anghyfleus, ond nis gallesid cael ei well, a gwnaed llawer cynyg am dir i godi capel arno, ond yn ofer, oblegid mai Toriaid ac Ucheleglwyswyr oedd yr holl berchenogion tiroedd o gylch yma. Wedi ymadawiad Mr Pugh i Mostyn, yn 1837, bu yr achos yma dan anfantais fawr, oblegid nad oedd neb yn arbenig i ofalu am dano. Yn nechreu y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr Robert Jones, o Sir Fon. Urddwyd ef Ebrill 20fed, 1840. Ar yr achlysur, traethwyd ar natur eglwys, holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Ellis, Llangwm; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gan Mr D. Price, Penybont. Pregethwyd hefyd yn y cyfarfod gan Meistri Jeremiah Jones, Llanfyllin, a John Jones, Parc, Penybont.[188] Yn y tymor byr y bu Mr Jones yma, sicrhawyd darn o dir trwy ddylanwad Mr John Jones (Glanalwen), Gibson Square, Llundain, i adeiladu capel arno. Eiddo Mr T. Lloyd, Llundain, oedd y tir, ac yn y flwyddyn 1841, cyflwynwyd ef i Meistri J. Jones, Gibson Square; J. Prichard, Corwen; H. Davies, Penlan; Joseph Jones, Corwen; R. Evans, Corwen, ac R. Evans, Derwen, fel ymddiriedolwyr. Dangosodd Mr Jones, Gibson Square, ffyddlondeb mawr yn nglyn a chodi y capel. Rhoddodd £20 ei hun ato, a'r gweithredoedd yn rhad, a bu yn casglu ato oddiar ei gyfeillion yn Llundain. Cymerodd Mr Prichard, Harp Inn, ofal yr adeiladu, a bu yn ffyddlon gyda'r capel yn mhob peth, nes gweled y geiniog olaf o'r ddyled wedi ei thalu. Ni bu Mr R. Jones yma ond ychydig, gan nad oedd yr un o'r eglwysi eraill, a arferai fod dan yr un weinidogaeth, yn uno i roddi galwad iddo. Symudodd i Ceri, Sir Drefaldwyn, cyn diwedd 1841. Yn nechreu y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr John Evans, yr hwn oedd wedi bod am lawer o flynyddau yn weinidog yn Beaumaris, i fod yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwysi yn Llandrillo a Chynwyd. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad, ac agoriad y capel newydd yr un pryd, sef Ebrill 12fed a'r 13eg, 1842; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Pugh, Mostyn; T. Ellis, Llangwm; D. Morgan, Llanfyllin; J. Parry, Wern; D. Price, Rhos; W. Thomas, Dwygyfylchi; A. Jones, Bangor; T. Griffith, Rhydlydan; W. Roberts, Llanrhaiadr; W. Rees, Dinbych; S. Jones, Maentwrog; D. Griffith, Ruabon; H. Ellis, Llangwm, a J. Griffith, Rhydywernen.[189] Bu Mr Evans yma dros rai blynyddoedd, ac yna dychwelodd i Beaumaris, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn y flwyddyn 1850, derbyniodd Mr Humphrey Ellis, Llangwm, alwad gan yr eglwys yma, a dechreuodd ei weinidogaeth Hydref 6ed, y flwyddyn hono, ac wedi llafurio yn ddiwyd, a chyda gradd o lwyddiant am bymtheng mlynedd, rhoddodd yr eglwysi yn Nghorwen a Chynwyd i fyny, oblegid fod cylch y weinidogaeth yn rhy eang iddo allu gofalu am dano i gyd. Rhoddodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nghynwyd, alwad Mr John Lewis, myfyriwr o athrofa y Bala, i fod yn weinidog iddynt, ac urddwyd Gorphenaf 26ain, 1865. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Peter, Bala; holwyd y gofyniadau gan Mr I. Davies, Ruthin; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr R. Williams, Bethesda; pregethodd Mr M. D. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr H. Ellis, (eu cynweinidog,) i'r eglwysi. Bu Mr Lewis yma yn ymdrechgar hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Birmingham, ac hyd yma y mae y ddeadell hon heb fugail i fwrw golwg drosti.

Heblaw y personau a grybwyllwyd eisioes, bu yma eraill yn ffyddlon gyda'r achos, llawer o ba rai a hunasant, ond y mae yma rai etto yn aros. Bu teuluoedd Penlan a'r Harp, yn gefn mawr i'r achos am flynyddau, a dangosodd Mr. J. Prichard ofal mawr, nid yn unig am y capel, ond am yr achos yn ei holl ranau; a chyda'r Ysgol Sabbothol, anaml y gwelwyd ei ragorach. Mae Joseph Jones, yr aelod cyntaf a dderbyniwyd yma'i yn aros etto, ac yn ddiacon ffyddlon, a Robert Owen, Tanycelyn, yn gydswyddog ag ef, yr hwn a dderbyniwyd yn aelod yn 1840, ac a ddewiswyd yn ddiacon yn fuan wedi hyny, ac y mae yn parhau yn flaenllaw gyda'r achos yn ei holl ranau.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

ROBERT JONES. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes i'w roddi. Yr oedd yn enedigol o Lanfwrog, yn Sir Fon, ac yn frawd i Thomas Jones, Amlwch, a Rees Jones, dau bregethwr pur adnabyddus yn eu tymor yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Cyfieithodd Thomas Jones lawer o lyfrau yn ei oes, ac efe a gyfieithodd Esboniad Scott. Yr oedd Rees Jones yn fwy poblogaidd fel pregethwr, a bu am ysbaid yn gweinidogaethu yn nghapeli Arglwyddes Barham, yn Browyr, Morganwg, lle y bu farw yn nghanol ei ddyddiau. Nis gwyddom pa fodd, nac yn mha le, y daeth Mr. Robert Jones i gysylltiad a'r Annibynwyr, ond treuliodd lawer o flynyddoedd yn Lloegr, ac yno, fel y tybiwn, y dechreuodd bregethu. Lled ddiddawn ydoedd fel pregethwr, ond yr oedd yn ddyn gwybodus, ac wedi bod yn cadw ysgol mewn amryw fanau. Daeth i Gorwen yn nechreu y flwyddyn 1840, ac urddwyd ef yn niwedd Ebrill, y flwyddyn hono. Gwrthododd pob un' o'r eglwysi a arferai a bod dan yr un weinidogaeth, ag uno i roddi galwad iddo, ac un rheswm o leiaf am hyny, oedd y tywyllwch oedd o gylch ei hanes blaenorol. Yn Hydref, 1841, derbyniodd alwad o Ceri, gerllaw y Drefnewydd, ac aeth yno i ddechreu ei weinidogaeth, ond ar ol bod yno dros ychydig wythnosau, dychwelodd i Gorwen i ymofyn ei deulu. Pan ar ei daith gyda'i deulu yn agos i'r Nag's Head, rhwng y Trallwm a'r Drefnewydd, dymchwelodd y cerbyd, a chan fod Mr. Jones yn ddyn o gorph trwm, ysigwyd ef gymaint fel y bu farw yn mhen tridiau, (Rhagfyr 13eg, 1841). Dyoddefodd ei boen mewn hollol ymostyngiad i ewyllys yr Arglwydd. Gadawodd weddw a thri o blant amddifaid heb ddim darpariaeth ar eu cyfer.

CYNWYD.

Mae pregethu wedi bod gan yr Annibynwyr yn y lle yma er's pedwarugain-mlynedd yn ol. Yr oedd Sion Edward, yr hwn oedd yn byw yn melin Cynwyd, yn aelod yn Rhydywernen, a bu llawer o bregethu yn ei dŷ gan Meistri A. Tibbot, W. Thomas, Bala, ac R. Roberts, Tyddynyfelin, ond wedi ymadawiad Sion Edward, rhoddwyd i fyny bregethu yma, gan mai efe a'i wraig oeddynt yr unig aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn y lle.[190] Ni wnaed cynyg ar bregethu gydag un cysondeb yma ar ol hyny hyd y flwyddyn 1838. Yr oedd yma hen wraig o'r enw Gwen Jones yn byw. Symudasai yma o'r Bala, a bu yn myned yn fisol am flynyddoedd yno i gymundeb, hyd nes yr adeiladwyd Bethel. Ar ol codi capel yn Llandrillo, elai yno yn rheolaidd, ond aeth o'r diwedd yn analluog i gerdded na marchogaeth yno, a chwynai yn ei dagrau wrth Mr. Thomas Davies, Llandrillo, ei fod yn ei gadael yno heb roddi ambell bregeth iddi. Boddlonodd Mr. Davies i ddyfod os gellid cael rhywle i bregethu. Cymerodd yr hen wraig Coach-house oedd yno yn wag am yr ardreth o 2p. yn y flwyddyn, a'r nos Fercher cyntaf yn y flwyddyn 1838, cynhaliwyd cyfarfod gweddi yno gan frodyr o Landrillo, a'r boreu Sabboth canlynol, pregethodd Mr. T. Ellis, Llangwm. Bu yr achos yn y lle yma am ddeuddeng mis, hyd nes y collwyd yr ystafell, ac am chwe' mis ar ol hyny, ymgynnullid yn mharlwr tafarndy yn y lle. Symudwyd wedi hyny i'r Boncynglas, ty Griffith Hughes. Yr oedd y gwr hwnw yn aelod gyda'r Methodistiaid, ond nid amlygwyd un gwrthwynebiad iddo roddi ei dy i'r Annibynwyr i bregethu ynddo. Gwelwyd yn fuan fod yr ystafell yno yn rhy gyfyng, ac wedi ymddiddan a'r eglwysi a'r gweinidogion cylchynol, ac yn neillduol a Meistri M. Jones, Llanuwchllyn, a J. Griffith, Rhydywernen, penderfynwyd ymofyn am le i godi capel. Cafwyd prydles am fil o flynyddoedd ar ddarn o dir gan Mr. Thomas Williams, Felinuchaf, a thalwyd am dano 16p. Adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Mehefin 27ain a'r 28ain, 1842.[191] Galwyd ef Carmel; ac yn yr agoriad, pregethodd Meistri T. Ridge, Llangwyfan; H. Ellis, Llangwm; J. Davies, Llanfaircaereinion; W. Jones, Dolyddelen; E. Hughes, Treffynon; J. Jones, Rhos; J. Parry, Wern, a D. Price, Rhos. Bu Mr. Thomas Davies, Llandrillo o gynorthwy mawr i'r achos yma o'i gychwyniad, a chaffaeliad mawr i'r achos a fu symudiad Mr. Morgan Edwards o Faentwrog i Benybont, Cynwyd. Mae y lle wedi bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Chorwen, ac felly y mae yn parhau, ond fod y ddau le ar hyn o bryd yn amddifaid o weinidog, ond gofelir am y lle hwn yn benaf gan Mr. T. Davies, Llandrillo.

BETTWS GWERFIL GOCH.

Yn y flwyddyn 1843, symudodd teulu o ardal Cynwyd i'r ardal yma. Gan eu bod yn aelodau gyda'r Annibynwyr, byddai Mr. T. Davies, Llandrillo, yn myned i bregethu yn achlysurol iddynt yn eu tŷ. Yn y flwyddyn 1850, daeth Mr. Robert Fairclough yma gan benderfynu pregethu yn rheolaidd, a chodi achos yn y lle. Cymerodd dŷ gwag oedd yn eiddo Mr. Griffith Evans, Bodynlliw, i bregethu ynddo, a'r tro cyntaf yr aeth i dalu yr ardreth am dano, dychwelodd Mr. Evans yr arian iddo, a gwerthodd ddarn o dir i adeiladu capel arno. Dyddiad y gwerthiad ydyw Mai, 1850. Agorwyd y capel cyn diwedd 1852, a thrwy ymdrech Mr. Fairclough, talwyd y ddyled, fel y mae y capel a'r tŷ perthynol iddo yn rhydd. Bu y brodyr Edward Wynne a Robert Evans, Derwen, yn ffyddlon iawn i gynorthwyo yr achos yma, ac y maent yn parhau i ymweled a'r lle. Ni bu Mr. Fairclough yma yn hir ar ol adeiladu y capel, ac y mae y lle wedi bod yn benaf er hyny dan ofal Mr. M. D. Jones, Bala, yr hwn sydd yn dyfod yma fynychaf bob mis i gadw cymundeb, ac ar y Sabbothau eraill pregethir gan fyfyrwyr yr athrofa, neu gan rai o'r pregethwyr cynorthwyol sydd yn yr eglwysi cylchynol. Yn nechreu y flwyddyn 1868, rhoddwyd galwad gan yr eglwys yma i Mr. John Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Chwefror 10fed a'r 11eg; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Peter, Bala; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Ellis, Llangwm; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. D. Jones, Bala; pregethodd Mr. D. M. Davies, Llanfyllin, i'r gweinidog, a Mr. R. Thomas, Bangor,[192] i'r eglwys. Ni bu arosiad Mr. Williams yma ond byr, canys symudodd cyn diwedd y flwyddyn ganlynol i Penygroes, sir Benfro, ac y mae gofal yr achos fel cynt ar Mr. M. D. Jones.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

ROBERT FAIRCLOUGH. Ganwyd ef yn Llandrillo. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yno gan Mr. Michael Jones, Llanuwchllyn. Wedi bod yn pregethu dros rai blynyddau, ac ar adegau yn yr ysgol, derbyniwyd ef i athrofa Aberhonddu, lle y treuliodd bedair blynedd. Ychydig o gynydd a wnaeth mewn dysg tra yno, ond cyfrifid ef yn ddyn da, ac awyddus am wneyd daioni. Urddwyd ef yn Bethania, Ffestiniog, lle y bu dros rai blynyddoedd. Ar ol hyny, aeth i Bettwsgwerfilgoch, lle bu yn ymdrechgar i godi capel a thalu am dano; a bu yn y Drefnewydd a Phenllys, ac o'r diwedd, daeth adref i Landrillo, lle y bu farw. Barnai llawer o'r rhai a'i hadwaenai ei fod yn ddyn da, ond ei fod yn annoeth, ac yn gyndyn dros fesur. Mewn casglu at gapeli y rhagorai, ac yn nglyn a hyny y tynodd arno ei hun, ac y rhoddodd i eraill, fwyaf o flinder. Yn y Bettws y gwnaeth fwyaf o ddaioni. Cododd gapel yno, a thalodd am dano agos yn gwbl trwy ei lafur personol.


TRE'RDDOL

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma gan Mr. Thomas Davies, Llandrillo, yn nhŷ cefnder iddo, o'r enw Robert Ellis. Yr oedd Robert Ellis ar y pryd hwnw, yn gorwedd yn ei wely wedi tori ei glun trwy syrthio dan drol, pan o dan effeithiau diodydd meddwol. Ymddangosai yn edifeiriol iawn, a phrofodd ei ymddygiad iddo gael ei anwiredd yn atgas Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1843.[193] Yr oedd teulu Penlan y pryd hwn yn arfer myned i Gorwen, ac yr oedd rhai eraill yn arfer myned i Gynwyd. Cynhelid ysgol mewn lle a elwid y Green, ar dir Penlan, ac yr oedd y Bedyddwyr yn arfer pregethu yn yr ardal, ond am dymor unwyd i gynal yr ysgol a'r moddion yn nhŷ Robert Ellis, ac ni bu ef a'i wraig yn hir cyn ymuno a'r achos. Yn y flwyddyn 1845, collodd Robert Ellis ei dyddyn, a symudodd i ardal Llandrillo; ond agorodd Rhagluniaeth ddrws i'r achos mewn goruwchystafell perthynol i Mr. John Edwards, Penybont, a threfnwyd i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr i addoli ynddi bob yn ail Sabboth, ac felly y maent yn parhau hyd heddyw. Wedi i Mr. Humphrey Ellis ddyfod yn weinidog i Gorwen, ffurfiwyd yma eglwys Annibynol yn ngwanwyn 1851. Dyma enwau yr aelodau cyntaf—John a Sarah Owen, Mrs. Davies, Penlan; John a Lowry Morris, Berthddu; Robert a Mary Ellis; ac o'r newydd derbyniwyd Miss Davies, Penlan; Miss Catherine Davies, a Watkin Ellis, Plasynddol. Agos yr un amser, ffurfiodd y diweddar Mr. R. Roberts, Plasynbonum, yr ychydig Fedyddwyr oedd yn y lle yn eglwys, a bu y ddau weinidog yn pregethu bob yn ail Sabboth, a'r ddwy eglwys yn cyd-addoli bob Sabboth, ond fod pob un yn gofalu am ei Sabboth ei hun, ac yn cynal eu cyfeillachau, ac yn gweini yr ordinhadau ar wahan, a'r cwbl trwy y blynyddoedd yn y teimladau mwyaf heddychol a brawdol. Tystiai Mr. Ellis, ar lan bedd Mr. Roberts, Plasynbonum, na bu yr un gair o gamddealldwriaeth rhynddynt yn ystod y deunaw mlynedd y buont yn cydweinidogaethu yn Nhre'rddol. Aeth yr ystafell gyntaf a roddwyd gan Mr. Edwards, Penybont, yn fuan yn rhy gyfyng, ac adeiladwyd un arall, eangach, a llawer mwy cyfleus, a dodrefnwyd y lle gan y gynnulleidfa unol, ac yn ol argoelion presenol, bydd raid cael pabell helaethach yn fuan etto. Bu Mrs. Davies, Penlan, yn golofn gref i'r achos yma o'i gychwyniad. "Mam yn Israel," ydoedd hi, ac yn ei gofal a'i thynerwch anaml y ceid ei chyffelyb. Da genym fod ei hesiamplau yn cael eu dilyn gan ei merched. Cafodd yr eglwys yma golled fawr yn symudiad Mr. Morgan Edwards, Ucheldre. Yn Maentwrog, Cynwyd, ac yma, profodd ei fod yn gwir ofalu am achos y Gwaredwr; ond er colli ffyddloniaid, y mae yma etto ffyddloniaid yn aros. "Heddwch fyddo o fewn dŷ ragfur, a ffyniant yn dŷ balasau.'

GLYNDYFRDWY.

Nid oedd un lle o addoliad gan yr Annibynwyr o Gorwen hyd Langollen, ac fel yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, ac amryw o aelodau a gwrandawyr perthynol i'r enwad yn myned i'r ardal i fyw, meddyliwyd y dylasid cychwyn achos, a chodi capel yma. Dechreuwyd pregethu yma mewn anedd-dai, ac yn achlysurol yn nghapeli enwadau eraill yn yr ardal.

Y rhai mwyaf gweithgar y tu allan i'r ardal yn y gorchwyl oedd Mr. J. Lewis, Corwen, a Mr. T. Davies, Llandrillo, ond bu cyfundeb y sir yn dra chefnogol i'r amcan, a rhoddodd athrawon a myfyrwyr athrofa y Bala help effeithiol er sefydlu achos yn y lle. Cafwyd tir at adeiladu gan y Milwriad Tottenham, am 14p. Cynlluniwyd y capel gan Mr. S. Evans, Llandegle, a chostiodd yr adeilad 400p. Mae wedi ei gyflwyno i John Jones, Robert Ellis, Humphrey Ellis, Michael D. Jones, John Lewis, Samuel Evans, John Peter, Thomas Davies, Hugh Jones, Robert Evans, Robert Jones, a Hugh Eastick, fel ymddiriedolwyr. Agorwyd y capel Mai 27ain, 1869, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Thomas, Bangor; E. Evans, Caernarfon; M. D. Jones, Bala; J. Rowlands, Rhos, ac eraill. Nid oedd yma ond ugain o aelodau pan ffurfiwyd yr eglwys gan Mr. Lewis, Corwen, ond y mae yn myned rhagddi yn raddol, a baich y ddyled agos oll wedi ei symud. Mae y lle heb weinidog er ymadawiad Mr. Lewis i Birmingham, ond y mae y gweinidogion cylchynol, a myfyrwyr y Bala yn barod bob amser i gynorthwyo yr achos yma. Y mae agoriad y chwareli yn y gymydogaeth yn argoeli yn ffafriol i ddyfodol y lle hwn.[194][195]

ADOLYGIAD AR HANES Y SIR

Wrth edrych dros hanes sir Feirionydd, gwelir fod ynddi naw a deugain o eglwysi Annibynol, heblaw deg o gapeli bychain eraill, lle y cynhelir Ysgolion Sabbothol, ac y pregethir yn lled reolaidd. Mae Ymneillduaeth yn y sir hon yn gallu olrhain ei hanes yn ol hyd yn agos i ganol yr eilfed-ganrif-ar-bymtheg. Gŵr genedigol o'r sir hon oedd Morgan Llwyd o Wynedd, mab fel y tybir i Hugh Llwyd, o Gynfal, yn mhlwyf Maentwrog. Bu Morgan Llwyd farw yn y flwyddyn 1659, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr yn Rhosddu, Gwrecsam. Dywed Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, iddo ef weled darn o gareg ei fedd, a'r ddwy lythyren "M. Ll." arni, a thystia Mr. John Hughes, Liverpool, yn Hanes Methodistiaeth, iddo yntau weled yr un gareg mewn amser diweddarach. Bernir i Morgan Llwyd bregethu llawer yn sir Feirionydd, a choffeir yn arbenig ei fod unwaith yn pregethu yn mhentref Ffestiniog, a bod yn mysg amryw oedd yno yn cellwair ac yn gwawdio, un dyn ieuangc a ymddangosai yn fwy anystyriol na hwynt oll, ac i Morgan Llwyd ei nodi allan, gan ddyweyd, "Tydi, y dyn ieuangc, gelli adael heibio dŷ


gellwair, tydi yw y cyntaf a gleddir yn y fynwent yma," ac felly y bu.[196] Yn fuan wedi i Morgan Llwyd ddistewi yn angau, cododd yr Arglwydd Hugh Owen, Bronyclydwr, i gyhoeddi ei enw, yr hwn am dymor hir a barhâodd i wneyd ei ymweliadau tri-misol a'r gwahanol orsafoedd oedd ganddo yn y sir, ac ni bu sir Feirionydd er hyny, heb ryw rai i fod yn dystion ffyddlon dros y gwirionedd. Wrth edrych yn ol ar weinidogion y cyfnodau cyntaf yn hanes Annibyniaeth, yr ydym yn cael iddynt esgeuluso myned y tu allan i'w terfynau a phregethu yr efengyl lle ni enwid Crist. Mae yn sicr genym eu bod yn athrawon da i'w heglwysi gartref, ond hyd ddechreu y ganrif bresenol, ychydig o ymdrech a wnaed i eangu terfynau yr achos.

Gadawodd gweinidogion y Bala yr holl wlad oddiyno i Wrecsam-heb wneyd un cynyg hyd y gallasom ni gael allan, i efengylu i'r bobl. Yr oedd achos bychan yn Rhydywernen, ond o dan nawdd Llanuwchllyn yr oedd hwnw. Ymddengys mai Mr. Benjamin Evans a Mr. Abraham Tibbot fu y rhai mwyaf egniol o weinidogion Llanuwchllyn hefyd, yn y ganrif ddiweddaf i eangu yr achos. Bu codiad Mr. Hugh Pugh o'r Brithdir, yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes Annibyniaeth yn sir Feirionydd, ac fel y gwelir, y mae ei enw ef yn amlach nag enw neb arall yn nglyn ag eglwysi y sir yn y cyfnod hwnw. Dyn wedi ei godi gan yr Arglwydd ydoedd yn ddiamheu, a gwnaeth waith mawr mewn tymor byr. Mae yn dda genym weled yr ysbryd egniol sydd yn y sir yn awr, a'r gefnogaeth galonog a roddir gan y cyfarfod chwarterol i sefydliad achosion newyddion. Gwelir fod yma amryw eglwysi blodeuog wedi eu planu yn ddiweddar yn Arthog, Abergynolwyn, Glyndyfrdwy, a Thalysarnau. Pe buasai ysbryd y gweinidogion presenol yn meddianu yr ychydig oedd yn y sir yn y ganrif ddiweddaf, buasai Annibyniaeth yma yn meddianu safle llawer uwch nag sydd ganddi, er cystal ydyw.

Ond er ein bod yn dyweyd fel hyn, pell ydym o awgrymu, nad oedd yr hen weinidogion parchus hyny, yn gweithio yn ddyfal. Athrawon a dysgawdwyr rhagorol oeddynt yn mysg eu pobl. Dichon na cheid yn un sir yn Nghymru, bobl wedi eu gwreiddio yn well yn ngwirioneddau yr efengyl, na'r hen bobl a geid yn y sir hon yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif bresenol. Duwinyddiaeth oedd eu hyfrydwch, ac ar faterion Ysgrythyrol y dymunent aros. Nid oedd gwerth ar bregeth yn eu golwg os na buasai yn athrawiaethol, ac edrychid ar yr Ysgolion Sabbothol ganddynt fel cynnulliadau i egwyddori eu gilydd yn mhethau y Bibl.

Mae y cysylltiad sydd wedi bod rhwng y sir hon a llenyddiaeth yr enwad, yn deilwng o'i grybwyll. Pan y penderfynwyd gan nifer o weinidogion i gychwyn y Dysgedydd, i fod yn gyfrwng gohebiaeth rhwng yr eglwysi a'u gilydd, ac er rhoddi cyfle iddynt i amddiffyn eu ffurflywodraeth eglwysig, a'u golygiadau duwinyddol; sefydlwyd ar Dolgellau, fel lle i'w gyhoeddi, a Mr. Cadwaladr Jones, fel y cymhwysaf i'w olygu, a phrofwyd doethineb y dewisiad gan un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain o'r olygiaeth wastataf ac esmwythaf a ddisgynodd erioed i ran un dyn.

Mae y sir hon wedi mwynhau gweinidogaeth my fyrwyr athrofa y Bala, bellach er's deng-mlynedd-ar-hugain, ac y mae yn deilwng o'i osod ar gof a chadw, mor barod y maent wedi bod bob amser i bregethu i eglwysi bychain a gweiniaid o fewn eu cyrhaedd, a hyny yn aml am y gydnabyddiaeth leiaf; ac yn sefydliad yr achosion newyddion yn ddiweddar, y maent bob amser wedi bod yn barod i wneyd pob peth yn eu gallu i'w cynorthwyo; a thra yr ydym yn son fel hyn am y myfyrwyr, y mae yn deg i ni hefyd ddyweyd, nad ydynt yn gwneyd dim, ond yr hyn y rhoddir iddynt esiampl o hono gan eu hathrawon.

Hyd yn ddiweddar, yr oedd capeli y sir yn waelion iawn—ar ol yn mhell i bob sir arall—ond y mae cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle mewn ychydig flynyddau. Mae yr ymdrechion hyn yn rhoddi ysbryd newydd yn y bobl, a llawer yn ymhelaethu mewn haelioni i raddau na ddychymygodd eu calon y buasent byth yn alluog. Yr ydym yn teimlo fod gan ein henwad yn y sir hon bob sail i fod yn galonog a hyderus. Mae dyddiau gorthrwm gwladol wedi eu rhifo, ac y mae dyoddefiadau y tadau er mwyn cydwybod wedi sicrhau heddwch i'w plant. Aeth rhywrai i'r tân er mwyn diffodd y fflam. Ffurfiwyd Cymdeithas Rhyddhad Crefydd yn Meirionydd, cyn bod son am dani yn un parth arall o'r deyrnas, ond ychydig feddyliodd Hugh Pugh, Llandrillo, pan yn ei sefydlu yn y flwyddyn 1833, y buasai gan sir Feirionydd, oedd wedi bod dan iau caethiwed trwy yr oesau, gynrychiolydd Rhyddfrydig yn y Senedd yn y flwyddyn 1871, i bleidleisio dros ddadgysylltiad yr eglwys oddiwrth y Wladwriaeth trwy yr holl deyrnas. Mae y pethau hyn oll yn parotoi y ffordd i roddi y deyrnas i'r Hwn y mae yn deilwng iddo, ac yn ddefnydd cysur i'r rhai sydd yn llafurio dros egwyddorion cyfiawnder yn ngwyneb anhawsderau, gan wybod " mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi," ond caiff "yr hwn sydd yn hau a'r hwn sydd yn medi lawenychu yn nghyd," am eu bod oll yn cydweithio i'r un amcan gogoneddus, "casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol."





DIWEDD Y GYFROL GYNTAF.





ARGRAFFWYD YN SWYDDFA'R "TYST," OLD POST OFFICE PLACE, LIVERPOOL.

Nodiadau

[golygu]
  1. Strype's Life of Archbishop Parker. Vol I., pp. 404—5. Ed. 1821.
  2. Strype's Annals of the Reformation. Vol. IV., pp. 293.
  3. Penry's Exhortation. Page 31, &c. 1588.
  4. The Lambeth, MSS. Vol. 943.
  5. Dr. Llewellyn's Historical Account. P. 36.
  6. Penry's Equity of an humble Supplication, pp. 57. 1587.
  7. Baxter's life and times, by Calamy. Vol. I., p.p. 46-52. Ed. 1713.
  8. . Powell's Bird in the Cage.—Second Edition, 1662. Neabs History of the Puritans. Vol. III., p. 22
  9. Whitelock's Memorials, p.p. 518.
  10. Dylai y darllenydd gofio mai Llantrisant, Mynwy, ac nid Llantrisant, Morganwg a grybwyllir yn yr hanes yma.
  11. The Rev. H. J. Bunn's Letter.
  12. Aspland's Blackmore papers, pp. 31, 32.
  13. Yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau uchod, ynghyd a llawer o ffeithiau pwysig ereill, i'n cydwladwr caredig a dysgedig W. D. Jeremy, Esq., Barrister-at-Law, Lincoln's Inn, Llundain. Mae Mr. Jeremy trwy lafur diwyd, wedi casglu peth dirfawr o wybodaeth hanesyddol am hen weinidogion Ymneillduol Cymru o hen law ysgrifau, ac y mae yn wastad wedi dangos y parodrwydd mwyaf i'n cynnorthwyo ni yn ein hymchwiliadau. Derbynied ein diolchgarwch gwresocaf am ei garedigrwydd.
  14. Calamy's Account of the ejected Ministers, Vol. ii. pp. 734. Second Edition, 1713.
  15. Walter Wilson's MSS.
  16. Walter Wilson's MSS. Hanes y Bedyddwyr gan J. Thomas, tudalen 240. Hanes Crefydd yn Nghymru gan D. Peter, tudalen 637.
  17. Old Chapel Stroud' Church book.
  18. Geiriadur Bywgraphyddol Jones, a Methodistiaeth Cymru.
  19. Lambeth MSS.
  20. Mr. Charles Lewis's letter.
  21. Llythyr y Parch. H. Jones, Llansantffraid, Chwef. 1af, 1870.
  22. Rees's History of Nonconformity in Wales, pp. 431.
  23. Beirniad, Cyf. vi. tudalen 114.
  24. Methodistiaeth Cymru, Cyf. iii, 371.
  25. Methodistiaeth Cymru; Cyf iii tudalen 379
  26. Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau pwysicaf yn yr hanes hwn i lythyrau dyddorol a dderbyniasom oddiwrth Mr. Davies, gweinidog presenol y New Inn.
  27. Hanes y Bedyddwyr tudalen 676.
  28. James's Nonconformity in Birmingham, tudalen 124.
  29. Memorials Nonconformity at Rodborough, tudalen 59, &c.
  30. Jones's History of Aberystruth, tudalen 142, 143.
  31. Rees's Nonconformity in Wales, tudalen 366. ,
  32. Yr ydym yn cydnabod ein rhwymau am lawer o'r ffeithiau pwysicaf yn yr hanes blaenorol i'r llythyrau cynwysfawr a dderbyniasom oddiwrth ein cyfeillion Mr. D. Seys Lewis, Mr. B. Mathews, a Mr. J. Mathews, Castellnedd.
  33. Timpson's Church History of Kent, tudalen 337
  34. Timpson's Church History of Kent, tudalen 337
  35. Rees's History of Nonconformity in Wales, tudalen 213. P. Dafydd's MSS.
  36. Rhad ras, neu lyfr profiad John Thomas, tudalenau 86, 87. Abertawy argraffwyd yn y flwyddyn 1810.
  37. Ysgrif Mr. D. S. Lewis yn y Diwygiwr am 1842, tudalen 847.
  38. Cofiant Mr. Stephenson, tudalen 52, &c.
  39. Cofiant Mr. Stephenson, tudalen 69, &c.
  40. Beirniad cyf. ii. tudalen 316.
  41. Dysgedydd 1865, tudalen 333, Llythyr at Mr. D. Price.
  42. Llythyr Mr. J. E. Williams.
  43. Llythyr Mr. Griffiths, Mawrth 29, 1870.
  44. Cofiant Mr. Griffiths, Hawen, tudalenau 29-35.
  45. Cawsom y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes blaenorol mewn llythyrau oddiwrth Mr. Davies, Rhymni; Mr. Davies, Tyrhos; a Mr. John Phillips, Brynmawr.
  46. Beirniad, Cyf. vi. tudalen 114.
  47. Gweler Cofiant Mr. Harries gan Mr. T. L. Jones, Machen.
  48. Llythyr Mr. T. Lewis.
  49. Diwygiwr, tudalen 345, 1860.
  50. Llythyr Mr. D. Davies, New Inn
  51. State Papers, Interregnum, Vol. 319.
  52. The Lambeth MSS., Vol. 943.
  53. State Papers, Interregnum, Vol. 319 a 286.
  54. State Papers, Charles II 's reign, vol. viii.
  55. Hanes bywyd R. Davies y Crynwr.
  56. Dysgedydd 1827. Tudal. 276
  57. Dysgedydd 1835. Tudal. 380.
  58. Hanes bywyd y Parch. J. Roberts,tudal, 11.
  59. Llythyrau. Meistri S. Roberts, ac O. Evans
  60. Rees's Nonconformity in Wales, p.p. 114-123.
  61. Rees's Nonconformity in Wales, p. 162.
  62. Llyfr Eglwys Llanfyllin. Ysgrifenwyd gan Mr. D. Morgan.
  63. Cofiant Mr. Griffiths, Hawen, tudal. 12.
  64. M.S.S. y diweddar Mr. D. Morgan, Llanfyllin.
  65. Evangelical Magazine, 1815. Tudal, 298.
  66. Dysgedydd, 1836. Tudal. 385.
  67. Dysgedydd, 1837. Tudal. 383.
  68. Dysgedydd, 1843. Tudal. 254
  69. Ysgrif Mr. Josiah Jones, Machynlleth, Annibynwr 1864, tudal. 219
  70. Diwygiwr 1854. Tudal. 282.
  71. MSS Mr. D. Morgan.
  72. Methodistiaeth Cymru, Cyf. II, tudal. 244.
  73. Dysgedydd, 1865. Tudul. 49.
  74. Annibynwr 1864. Tudal. 219.
  75. Ysgrif Mr. D. M. Jenkins
  76. Ysgrif Mr. Josiah Jones.
  77. MSS Mr. D. Morgan, Llanfyllin.
  78. Dysgedydd, 1837. Tudal. 158.
  79. Llythyr Mr. S. Edwards, Machynlleth.
  80. Llythyr Mr. S. Edwards, Machynlleth.
  81. Llythyr Mr. S. Edwards.
  82. Llythyr Mr. S. Roberts.
  83. Llythyr Mr. S. Roberts.
  84. Llythyr Mr. O, Evans.
  85. MSS Mr. D. Morgan.
  86. Llythyr Mr. R. Lumley, Bwlchyffridd.
  87. Llythyr Mr. D. Davies, Ty'nyfawnog (gynt).
  88. Dysgedydd, 1861. Tu dal. 438.
  89. Cenhadwr Americanaidd. 1852. Tudal. 1. Ysgrif Iorthryn Gwynedd
  90. Evangelical Magazine, 1813. Tu dal. 430.
  91. Cafwyd y rhan fwyaf o'r hanes uchod o Gofiant Mr. D. Jones, gan Mr. H. James; ac o Ysgrifau Cyffin yn Nghronicl Undeb Ysgolion Sabbothol Dosbarth Llanfyllin.
  92. Cenhadwr Americanaidd, Ebrill, 1869.
  93. Dysgedydd, 1833. Tu dal, 159.
  94. Rees's Nonconformity. Tu dal. 201.
  95. Cronicl yr Undeb. Rhif vi., gan Cyffin.
  96. Dysgedydd, 1823. Tu dal. 245,
  97. Cronicl yr Undeb. Rhif. III.
  98. Ysgrif Mr. W. Roberts.
  99. Records of the Congregational Fund Board.
  100. Dysgedydd, 1824. Tu dal. 49.
  101. Tyst Cymreig, Hydref 28ain, 1870.
  102. Llythyr Mr. J. Morris.
  103. Dysgedydd, 1842. Tud dal. 261.
  104. Llythyr Mr. John Williams, mab Eos Gwnfa.
  105. Methodistiaeth Cymru. Cyf. ii. Tu dal. 4:5 a 416.
  106. Llythyrau Meistri John a Joseph Williams, ac R. Hughes, Cendl; ac ysgrif Mr. B. Evans, Sardis, yn Nghronicl yr Undeb.
  107. Dysgedydd, 1814. Tu dal. 252.
  108. Dysgedydd, 1860. Tu dal, 318.
  109. Llythyr Mr. R. O. Evans.
  110. Lythyr Mr. R. Hughes, Cendl.
  111. "Cofiant y Parch. John Price, gan D. M. D."
  112. Dysgedydd, 1866. Tu dal. 161.
  113. Dysgedydd, 1835. Tu dal. 380.
  114. Dysgedydd, 1849. Tu dal. 283.
  115. Llythyr Mr. R. Jones.
  116. Llythyr Mr. J. P. Jones.
  117. Llythyr Mr. J. P. Jones.
  118. Llythyr Mr. H. Jones, Heol Awst, Caerfyrddin.
  119. Adolygydd. Cyf. IV. Tu dal. 40
  120. Dysgedydd, 1863. Tu dal. 129. Ysgrif ar Dr. Lewis.
  121. Llythyr Mr. J. Thomas, o'r Wern.
  122. Diwygiwr, 1852. Tu dal. 275.
  123. MSS Josiah Thompson, Ysw.
  124. Llyfr Eglwys y Bala.
  125. Llyfryddiaeth y Cymry. Tu dal. 674.
  126. Drysorfa Ysbrydol. Cyf I. Tu dal 30 a 31.
  127. Dysgedydd, Mai, 1832.
  128. 128.0 128.1 MSS Mr. Josiah Thompson
  129. Llyfryddiaeth y Cymry. Tu dal. 465.
  130. Llyfryddiaeth y Cymry. Tu dal. 664.
  131. Gwel ei Gofiant, Annibynwr, 1862, tu dal. 245, gan Mr. C. Jones.
  132. Llythyr Mr. J. Peter, Bala.
  133. Ysgrifiau Rhys Mynwy; Y Dydd, Awst 28ain, 1868.
  134. MSS. Mr. Josiah Thompson.
  135. Dysgedydd, 1834. Tu dal. 70.
  136. Llythyr Mr. R. Thomas, Bangor.
  137. Dysgedydd, 1847. Tu dal. 185.
  138. Annibynwr, 1858. Tu dal. 214.
  139. Drych yr Amseroedd. Tu dal. 123.
  140. Llythyr Mr. E. Williams, Dinas.
  141. Dysgedydd, 1829. Tu dal. 117.
  142. Dysgedydd, 1840. Tu dal. 288.
  143. Dysgedydd, 1843. Tu dal. 249
  144. Dysgedydd 1848 tu dal 187
  145. Ysgrif y diweddar Mr. C. Jones.
  146. Dysgedydd, 1839. Tu dal. 380
  147. Ysgrif Mr. R. Ellis, Brithdir.
  148. Wedi i hanes Rhydymain fyned i'r wasg, derbyniasom air oddiwrth gyfaill yn dŷwedyd fod nifer o ddynion o sir Fflint, wedi dyfod yn fwnwyr i'r gymydogaeth, tua chanol y ganrif ddiweddaf, a bod un o honynt yn aelod ac yn bregethwr perthynol i Newmarket, ac mai efe a bregethodd yno gyntaf, ac iddo ddyoddef erledigaeth dost o herwydd hyny, ac mai rhyw deiliwr yno oedd yr erlidiwr gwaethaf. Yr oedd gwraig o'r enw Ellinor Davies, yn byw ar y pryd yn Hafodwyn, ac yn aelod yn Llanuwchllyn. Nid oedd hi yn yr oedfa, oblegid fod gormod o ddwfr yn yr afon, ond yr oedd yn gallu gweled y driniaeth oedd y pregethwr yn ei gael, ac wedi marcio y teiliwr allan fel un o'r rhai ffyrnicaf yn ei erbyn. Yn fuan ar ol hyn, digwyddodd i'r teiliwr fyned i Hafod-wŷn i ofyn ychydig laeth, ac nid oedd neb ond y wraig yn y tŷ ar y pryd. Gwahoddodd ef i mewn yn garedig, ac wedi ei gael i fewn clodd y drws, a gafaelodd mewn ffon gref, a dywedodd, "Wel, yr hen was, a wyt ti yn cofio fel yr oeddit ti yn rhedeg ac yn lluchio y pregethwr? Mi dalaf i ti heddyw am hyny—mi dy wnaf di na redi di byth mwy ar ol yr un pregethwr." Dychrynodd y teiliwr trwy ei galon—canys yr oedd Ellinor Davies yn wraig rymus—ac addawodd os ca'i bardwn y tro hwnw, na wnai efe y fath beth byth mwyach. Ar yr amod hon, cafodd ddiangc y tro hwnw, heb fyned o dan ddysgyblaeth y pastwn. Nid yw ein hysbysydd yn gwybod fod yma neb arall ar y pryd yn proffesu crefydd; ac ni wnaed cynyg ar bregethu yno, hyd nes y daeth Mr. A. Tibbot i'r wlad. Yr oedd y bobl ar ei ddyfodiad cyntaf, wedi parotoi i'w erlid yntau, ond dychrynodd rhai pan welsant ei fod yn "wr cadarn nerthol," a theimlodd eraill nerth ei weinidogaeth, fel nad oedd awydd arnynt i godi llaw yn ei erbyn. Dylasem grybwyll hefyd, fod ysgoldy perthynol i Rydymain, yr hwn a elwir Soar, wedi ei godi yn agos i Ddrwsynant, a chynhelir Ysgol Sabbothol ynddo yn rheolaidd, a phregethir ynddo yn achlysurol.
  149. Dysgedydd, 1824. Tu dal. 357.
  150. Cofiant Mr. Cadwaladr Jones. Tu dal. 11 a 12.
  151. Ysgrif y diweddar Mr. Cadwaladr Jones.
  152. Cofiant Mr. T. Davies, gan Mr. E. Williams, Dinas. Dysgedydd, 1870. Tu dal. 10.
  153. Llythyr Mr. E. Davies, Trawsfynydd.
  154. Llythyr Mr. E. Davies, Trawsfynydd.
  155. Llythyr Mr. E. Davies, Trawsfynydd.
  156. Llythyr R. Thomas, Llanelltyd.
  157. Dysgedydd, 1827. Tu dal. 217.
  158. Llythyr Mr. James Jones, yr hwn a roddodd i ni lawer o ddefnyddiau.
  159. Mae yn dra thebyg mai Mr. B. Evans oedd y pregethwr, gan ei fod yn gweinidogaethu yn y gymydogaeth, ac o ysbryd mor gyhoeddus a diofn, ac wedi bod yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn flaenorol yn mharlwr y Siop grybwylledig. Dywed awdwr Hanes Methodistiaeth, tu dal. 572, nad oedd yr un cynghorwr o Rhoslan, yn Arfon, hyd Machynlleth, yn Maldwyn, yn y flwyddyn 1783, sef yn mhen o gylch wyth mlynedd wedi ymadawiad Mr. Evans, o Lanuwchllyn. Yn mhellach wrth yr hanes dyddorol a roddai y diweddar Mr. Lewis Morris, yn Nhraethodydd, 1847, tu dal. 107, fod John Ellis, o Abermaw, wedi hyny, yn pregethu yn y cymydogaethau hyn yn y flwyddyn 1788, ac wedi iddo ef (L. M.) ei rwystro i bregethu yn Llwyngwril. Gwr genedigol o gwr mynydd Hiraethog, yn sir Ddinbych, yr hwn a ymunodd a chrefydd yn bur ieuangc yn Llanbrynmair, o dan weinidogaeth yr hybarch Richard Tibbot, oedd y dywededig John Ellis. Ar ol iddo fod yn aelod gloyw yn yr hen eglwys Ymneillduol hono am tua saith mlynedd, symudodd i sir Feirionydd, ac ymgymerodd a'r gwaith o gadw un o'r ysgolion Cymraeg ag oedd Mr. Charles, o'r Bala, newydd gychwyn yn y wlad, a chyda'r Methodistiaid y bu ef yn llafurio o hyny hyd derfyn ei oes. Adweinid ef wrth yr enw "John Ellis, Abermaw." Bu pregethwr arall tra llafurus yn ei ddydd gyda Chorph y Methodistiaid yn y parthau hyn, o'r enw "William Pugh, o Llanfihangel;" yr hwn, wedi clywed fod Mr. B. Evans, yn pregethu yn Maesyrafallen, a aeth yno ar un bore Sabboth, er fod ganddo o ddeuddeg i bymtheng milltir o ffordd dra mynyddig a chorsiog i'w cherdded, ac am na buasai erioed o'r blaen mewn addoliad Ymneillduol, rhyfeddodd yn fawr wrth weled mai cegin wael oedd ganddynt yn eglwys? a stôl yn bulpud! Testyn y bregeth oedd, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist." Teimlodd fod mwy yn yr efengyl nag a feddyliodd erioed o'r blaen. Crybwyllai W. Pugh, am yr oedfa hono fel cychywniad ei yrfa grefyddol. (Hanes Methodistiaeth. Cyf. I. Tu dal. 568.)
  160. Ysgrif Mr. C. Jones.
  161. Ysgrif Mr. E. Morris, Penrhyn.
  162. Llythyr Mr. W. Edwards, Aberdare.
  163. Dysgedydd, 1843. Tu dal. 286.
  164. Dysgedydd, 1845. Tu dal. 57.
  165. Dysgedydd, 1824. Tu dal. 355.
  166. Evangelical Magazine, 1817. Tu dal. 535.
  167. Evangelical Magazine, 1820. Tu dal. 390.
  168. Dysgedydd, 1849. Tu dal. 346
  169. Cofiant y Parch. Hugh Lloyd, Towyn.—Annibynwr, 1862. Tu dal. 146.
  170. Llythyr Mr. Isaac Thomas
  171. Llythyr Mr. Morris Davies, Pennal.
  172. Dysgedydd, 1839. Tu dal. 256
  173. Dysgedydd, 1853. Tu dal. 316.
  174. Dysgedydd, 1865. Tu dal. 235.
  175. Llythyr Mr. W. Roberts.
  176. Llythyr Mr J. Jones, Abermaw.
  177. Dysgedydd, 1836. Tu dal 99.
  178. Llythyr Mr R. P. Jones.
  179. Llythyr Mr J. C. Williams.
  180. Llythyr Mr. J. C. Williams.
  181. Dysgedydd, 1830. Tu dal, 34. Cofiant Evan Dafydd, gan H. P.
  182. Cofiant y Parch. Hugh Pugh, gan y Parch. W. Rees, D.D. Tu dal. 13.
  183. Llythyr Mr H. Ellis.
  184. Dysgedydd, 1841. Tu dal. 290.
  185. Llythyr Mr. H. Ellis.
  186. Dysgedydd 1329 tu dal 150
  187. Llythyr Mr T. Davies.
  188. Dysgedydd, 1840. Tu dal. 287.
  189. Dysgedydd, 1842. Tu dal. 189.
  190. "Sion Edward." Cronicl, 1853. Tu dal. 36.
  191. Dysgedydd, 1842. Tu dal. 351.
  192. Dysgedydd, 1868. Tu dal. 104.
  193. Llythyr Mr. T. Davies, Llandrillo,
  194. Yr ydym yn ddyledus i Meistri H. Ellis, Llangwm; T. Davies, Llandrillo; W. Davies, Bethel; R. Owen, Tŷ'nycelyn; J. Jones, Llangiwc; J. Lewis, Birmingham, a T. Prichard, Plasyndinam, am lawer o ddefnyddiau hanes yr eglwysi o Rhydywernen i Glyndyfrdwy, ac o Landrillo i Bettwsgwerfilgoch.

  195. Dylasem grybwyll hefyd yn nglyn a Phenstryd, am ddau bregethwr arall a godwyd yno, sef John Gwilym Roberts, brawd Robin Meirion. Bu yn athrofäau y Bala, ac Airedale. Urddwyd ef yn Lloegr, ac y mae yn awr yn Howden, Yorkshire; ac Ellis Jones, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn ddiweddar, ac y mae fel y deallwn, wedi derbyn galwad o Langwm, Gellioedd, a Phentrellyncymer. Gadawyd y cyntaf o'r ddau allan gan yr Argraffydd, ac ar ol gweithio hanes Penstryd, yr anfonwyd i ni enw yr olaf. Yr ydym mor ofalus ag y gallom, ond y mae rhai gwallau yn diangc er i ni wneyd ein goreu, Cywirir y cwbl y deuwn i wybod am danynt mewn Attodiad yn niwedd y gwaith.
  196. Drych yr Amseroedd. Tu dal. 21.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.