Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Baran

Oddi ar Wicidestun
Y Felindre Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Canaan
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Pontardawe
ar Wicipedia

BARAN.

Baran (A), ger Pontardawe

Mae y capel hwn yn sefyll ar fin y mynydd yn nghwr uchaf plwyf Llangafelach. Dechreuwyd yr achos yma dan yr amgylchiadau canlynol:-Yr oedd yr hen eglwys Ymneillduol yn Gellionen, dan weinidogaeth Mr. Josiah Rees, wedi cael ei harwain er's rhai blynyddau oddiwrth yr hen athrawiaeth efengylaidd a bregethid yno o oes i oes, er dechreuad yr achos, acer fod llawer, o bosibl mwyafrif yr aelodau, wedi llyngcu syniadau Ariaidd y gweinidog, yr oedd yno nifer yn dwyn sel dros yr hen wirioneddau a broffesid ac a gredid gan eu tadau. Tua dechreu y ganrif bresenol aeth Mr. Rees, i bregethu ei olygiadau neillduol am berson Crist yn fwy digel nag y gwnelsai yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, a phan ddaeth ei fab, Mr. Thomas Rees, wedi hyny Dr. T. Rees, Llundain, allan o'r athrofa, mynai rhai e. neillduo i fod yn gydweinidog a'i dad, er ei fod yn Undodwr proffesedigi Gwrthwynebid hyn gan y blaid driundodaidd yn yr eglwys, y rhai a fynent urddo Mr. Roger Howell. Canlyniad yr ymryson fu ymraniad. Aeth y Triundodwyr allan a dechreuasant gynal addoliad mewn amaethdy o'r enw Llwynefan, symudasant oddiyno i Nantmoel, ac ar ran o'r tir hwnw adeiladasant gapel Baran. Rhoddwyd les o 999 o flynyddau ar y tir gan Mr. John Howell, a'i fab a'i etifedd Mr. Roger Howell, am yr ardreth o bum' swllt yn y flwyddyn. Amseriad y les yw Hydref 1af, 1805, ond yr ydym yn tybied fod y capel wedi cael ei orphen a'i agor rai misoedd cyn hyny. Y personau canlynol oedd yr ymddiriedolwyr: David Howell, Cwmnant-hopkin; Evan Hopkin, Penlan; John Phillips, Tychwith; Hopkin Harry, Rhydyfro; Rees Thomas, Coedcaemawr; Harry Thomas, Rhydyfro; Phillip John, a Daniel John, Tresgwich; Thomas Thomas, Maestirmawr; Samuel Thomas, Llwyndomen, a Jenkin Jenkins, Cynordyfuch. Mawrth 14eg, 1805, urddwyd Mr. Roger Howell yn weinidog. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, D. Peter, Caerfyrddin; D. Davies, Llanybri; J. Abel, Cydwely; T. Bowen, Castellnedd; J. Davies, Alltwen; J. Davies, Llansamlet; E. Evans, Penygraig; W. Gibbon, Capel Sion, a dau o weinidogion y Bedyddwyr, sef Mr. Rees, Felinfoel, a Mr. Davies, Salem. Parhaodd Mr. Howell i weinidogaethu yma am 38 o flynyddau. Gan mai mynydd anghyfanedd sydd ar y naill du i'r capel yr oedd y gynnulleidfa yn gorfod ymgasglu o bellder mawr. Yr oedd Baran gynt i lawer o deuluoedd fel Jerusalem, "Y man lle yr oedd yn rhaid addoli." Cyrchai pobl yno o'r Gerdinen, Llandremoruchaf, Llwyngweno, Penwaenfach, Cynhordyfach, Cefnparc, Llwyndomen, Craigtrebanos, Alltwen, Hendregradog, Ynysmudw, Pentwyn, Blaenegel, Bettws, &c. Yr oedd golwg brydferth i'w gweled ar y mynydd ar fore y Sabboth; rhai ar draed a rhai ar geffylau, yn brithio y mynydd wrth ddyfod o bob cyfeiriad i'w hoff deml i addoli. Erbyn y flwyddyn 1830, yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr fel y bu raid ei helaethu. Yn y flwyddyn 1831, ymfudodd o ddeugain i haner cant o'r aelodau gyda eu gilydd i dalaeth Pensylfania, America, a chan eu bod wedi trefnu i fyw yn yr un gymydogaeth, rhoddasant alwad i Mr. Daniel Jones, gwr ieuangc oedd newydd ddechreu pregethu yn y Baran , ac urddwyd ef gartref cyn iddo ef a'i eglwys gychwyn i'w taith. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan y Meistri Howell, Baran; Rowlands, Cwmllynfell, a Powell, Cross Inn. Bu Mr. Jones, yn gweinidogaethu i'r bobl hyn yn America hyd ei farwolaeth. Gwanychodd hyn gryn lawer ar yr eglwys, ond yn raddol llanwyd lleoedd y rhai a ymadawsant. Yn y flwyddyn 1840, o herwydd llesgedd Mr. Howell, barnwyd yn angenrheidiol cael cynorthwywr iddo, ac yn nechreu y flwyddyn 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Pryse, Cwmllynfell, i ddyfod yn gydweinidog ag ef. Parhaodd Mr. Pryse i ofalu am yr eglwys am flwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Howell. Yn 1844, pan adeiladwyd capel yn Rhydyfro, ac y gollyngwyd tua 55 o aelodau Baran yno i ddechreu yr achos, rhoddodd Mr. Pryse ofal y fam-eglwys i fyny, a chymerodd ofal y gangen yn Rhydyfro. Yna rhoddodd eglwys Baran alwad i Mr. Davies, Cwmaman, a buont dan ei ofal ef hyd Ebrill, 1859, pryd y cymerodd ofal yr eglwys yn Cross Inn. Dilynwyd ef yn Baran gan Mr. T. Davies, Treforis, yn Mai, 1859, ac efe yw y gweinidog yno hyd y dydd hwn. Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd ysgoldy yn Nghwmclydach, mewn lle a elwir Pantyerwys, ac yn 1866, ffurfiwyd yno eglwys. Wedi colli ardaloedd poblog Rhydyfro a Chwmclydach, y mae cynnulleilfa Baran o angenrheidrwydd wedi lleihau yn fawr, gan nad yw y gymydogaeth uniongyrchol oddiamgylch y capel ond teneu iawn ei thrigolion, ac y mae amryw o'r amaethdai yr oedd eu preswylwyr gynt yn perthyn i Baran, yn awr yn cael eu preswylio gan Saeson, neu bobl o enwadau eraill. Yr oedd rhif yr aelodau yn 1842, yn 181, ond yn bresenol nid ydynt ond 65, er fod y gweinidog presenol wedi derbyn 79 o aelodau yn y deuddeng mlynedd diweddaf, a thua deugain trwy lythyrau. Y canghenau aethant allan o honi sydd wedi difa nerth y fam-eglwys, fel na ddaw mwyach mor lluosoced ag y bu, oddieithr i weithiau glo gael eu hagor yn yr ardal.

Y diaconiaid yn yr eglwys hon, o ddechreuad yr achos hyd yn awr, oeddynt Thomas Davies, Cwmgors; Rees Harry, Gartheithin; Phillip Bevan, Bwllfa ; William Hopkin, Godre'rgarth; John Howell, Nantmoel; Evan Llewellyn, a William Llewellyn, Gerdinen; David Jones, Nant melyn, a Jonah Williams, Cwmgors. Nid oes ond tri o'r rhai hyn yn fyw yn awr, sef John Howell, David Jones, a Jonah Williams.

Dau bregethwr yn unig a gyfodwyd yma er dechreuad yr achos, sef Daniel Jones, yr hwn a urddwyd yma cyn ei ymfudiad i'r America, a John Davies, yr hwn sydd yn bresenol yn Ynysmudw, ac yn ŵr ieuangc gobeithiol iawn.

Gadawodd Mr. Howell, y gweinidog cyntaf, ac un o sylfaenwyr yr achos, argraff ei dymer addfwyn a chariadus ar yr eglwys hon, fel na chlywyd un amser am unrhyw anghydfod na therfysg yma. Parhaed yr un dymer gristionogol i lywodraethu yma tra byddo careg ar gareg o'r adeilad yn sefyll, a dynion yn ymgynull i'r lle.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

ROGER HOWELL. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Pyllau Watkin, yn mhlwyf Llangafelach, yn y flwyddyn 1774 Yr oedd ei dad, Mr. John Howell, yn wyr i Mr. Roger Howell, gynt gweinidog y Gellionen a Chwmllynfell, ac yn ddyn crefyddol iawn. Byddai yn pregethu yn achlysurol yn y Gellionen, lle yr oedd yn aelod, ac mewn manau eraill yn y gymydog. aeth. Dywedir iddo unwaith, wrth bregethu mewn tŷ yn yr ardal, roddi cerydd effeithiol iawn i ddyn am ddyfod yn ddiweddar i'r oedfa. Daethai y dyn i mewn pan oedd Mr. Howell ar orphen ei bregeth. "Yn awr," ebe y pregethwr, "er fy mod yn myned i derfynu, byddai yn well i mi ddyweyd ychydig yn ychwaneg er mwyn ein cyfaill M. N., yr hwn sydd newydd ddyfod i mewn," ac felly estynodd ei bregeth am ddeg munyd yn hwy nag y bwriadai. Bu y dyn da hwn yn ofalus iawn i ddwyn ei fab Roger i fyny yn grefyddol. Pan yn llangc lled ieuangc anfonwyd ef i ysgol ieithyddol a gedwid yn Abertawy gan un Mr. Rees. Tra yno y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. W. Howell, yn y capel sydd yn awr yn meddiant yr Undodiaid. Tua y flwyddyn 1795, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd ei amser yn fyfyriwr diwyd. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa bu am ryw yspaid yn athraw i blant J. Haynes, Ysw., arianydd, Abertawy. Yn y flwyddyn 1804, priododd a Miss Sarah Elizabeth, merch Mr. W. Price, Penyfan, Llanelli. Bu iddynt chwech o blant, a chawsant yr hyfrydwch o'u gweled oll yn grefyddol. Dewiswyd ac urddwyd ef yn 1805, fel y nodasom yn barod, yn weinidog i'r gynnulleidfa a ymneillduasai o'r Gellionen. Treuliodd ei oes yn ddedwydd a pharchus yn ei gysylltiad a'r eglwys hon. Yr oedd ei gof wedi gwaelu yn fawr yn ei flynyddau diweddaf, fel y byddai yn gorfod darllen ei bregethau, ond y fath oedd serch ei bobl tuag ato, fel yr oedd yn well ganddynt ei glywed ef yn darllen ei bregethau na chlywed llawer un mwy doniol yn eu traethu gyda'r hyawdledd mwyaf. Bu Mr. Howell farw Ebrill 29ain, 1843, yn 69 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Baran. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Davies, Cwmaman; Mr. Thomas, Glais; Mr. Powell, Cross Inn, a Mr. Griffiths, Castellnedd. Mr. Powell, a Mr. Griffiths fu yn pregethu oddiwrth Ioan ii. 20., ac 2 Cron. xxiv. 15, 16. O ran ei ymddangosiad corphorol yr oedd Mr. Howell yn ddyn nodedig o hardd, o faintioli cyffredin, o liw goleu, ac o edrychiad siriol a mwyn. O ran ei dymer yr oedd yn anghyffredin o garuaidd ac addfwyn, ac o ran ei ymddygiad nid oedd un dyn mwy boneddigaidd a dirodres yn rhodio y ddaear. Er ei fod o ran ei amgylchiadau bydol yn dirfeddianwr, yn gymharol gyfoethog, ac yn rhagorach ysgolhaig na phed war-ar-bymtheg o bob ugain o bregethwyr ei oes, yr oedd mor ostyngedig a diymhoniad a'r iselaf yn mysg ei frodyr. Nid oedd yn feddianol ar ddoniau poblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd ei bregethau yn wastad yn llawn o synwyr a defnyddiau addysg i'w wrandawyr. Yr oedd ei haelioni a'i lettygarwch yn ddiarhebol. Byddai ef, ei wraig, a'i blant am y parotaf i roesawi dyeithriaid, a bu eu hanedd glud yn lletty fforddolion am ddegau o flynyddau. Estynodd ganoedd o ddarnau o arian i ddwylaw ei frodyr tlodion yn y weinidogaeth pan alwant heibio iddo ar eu teithiau. Bu yn cadw ysgol agos trwy ei holl oes, nid o herwydd fod ei amgylchiadau yn ei orfodi i wneyd hyny, ond o herwydd mai hyfrydwch ei fywyd oedd cyfranu addysg i blant ac ieuengctyd. Rhoddodd eu haddysg yn rhad i ugeiniau o blant y gymydogaeth, a bu rhai degau o bregethwyr ieuaingc yn derbyn eu haddysg ganddo. Mae rhai o honynt etto ar dir y rhai byw, megis Evans, Nazareth; Jones, gynt o Dalgarth; Watkins, Llangattwg; Williams, Hirwaun; Edwards, Jones, Powell, a Lewis Williams, America, &c. Gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ddydd yn ei ardal fynyddig fel ysgolfeistr yn gystal ag fel pregethwr. Mae ei goffadwriaeth hyd y dydd heddyw yn barchus gan ugeiniau, ac y mae crefydd yn parhau i ddal ei gafael yn ei hiliogaeth. [1]

Nodiadau

[golygu]
  1. Diwygiwr, Mehefin, 1845, a llythyr Mr. John Howell.