Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Bethel, Llansamlet
| ← Siloh, Glandwr | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Hebron, Clydach → |
BETHEL, LLANSAMLET.

Yr oedd amryw aelodau perthynol i'r enwad Annibynol yn cyfaneddu yn y plwyf hwn yn mhob oes er dyddiau yr Anghydffurfwyr, a bu eglwys fechan, neu gangen o eglwys y Chwarelaubach, Castellnedd, yn ymgynnull am lawer o flynyddau mewn anedd-dy dan fynydd y Drymmau, dan ofal gweindogaethol Mr. Joseph Simons; ond mae yn ymddangos i'r achos hwn ddarfod rai blynyddau cyn dechreuad y ganrif bresenol, ac o hyny allan nid oedd gan yr Annibynwyr a breswylient yn y plwyf un lle nes i fyned iddo na Chastellnedd, y Mynyddbach, neu yr Alltwen. Yr oedd Mr. John Davies, Llansamlet, flynyddau cyn ei farwolaeth yn hiraethu am gael achos Annibynol yn y plwyf lle y preswyliai. Wedi llawer o ymgynghori cafodd gan gynifer o aelodau y Mynyddbach ag a breswylient yn yr ardal i uno ag ef i adeiladu capel, o fewn haner milldir i eglwys y plwyf, ar fin y ffordd oedd yn arwain o Abertawy i Gastellnedd, ac yn agos i haner y ffordd rhwng y ddwy dref. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1818, ac agorwyd ef ar y Sabboth, Awst 9fed, y flwyddyn hono, pryd y pregethodd Mr. Davies, Llansamlet, oddiwrth Hag. ii. 9; Mr. Davies, Alltwen, oddiwrth Heb. iii. 6, a Mr. Sadrach Davies, Maendy, oddiwrth Rhuf. viii. 13. O herwydd lluosogrwydd y torfeydd, bu raid cynal y gwasanaeth yn yr awyr agored. Dywedir fod o bedair i bum' mil o bobl wedi ymgynnull yno. Bu yr eglwys dan ofal gweinidogaethol Mr. Daniel Evans, Mynyddbach, hyd 1828. Yr oedd yr aelodau erbyn hyn yn bedwar ugain o rif, a chan nad allai Mr. Evans roddi iddynt ond un bregeth yn y mis, barnent y buasai yn well iddynt gael gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i ŵr ieuangc doniol iawn, o'r enw David Thomas, ac urddwyd ef yma Medi 28ain, 1828. Bu yma hyd fis Mai 1832, pryd yr ymfudodd i America. Ar ol ei ymadawiad ef buwyd heb un gweinidog sefydlog hyd 1837, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Isaac Harris, mewn cysylltiad ar Mynyddbach. Yn y flwyddyn 1839, aeth Harris yn rhy ddrwg ei gymeriad i gael ei ddyoddef i fyned i un pulpud, ac felly bu raid i'r eglwys hon, yr un modd a'r Mynyddbach ymwrthod ag ef. Yn fuan wedi hyny rhoddodd yr eglwys yn Bethel alwad i Mr. W. Morris, mewn cysylltiad a Glandwr, a bu Mr. Morris yn ei gwasanaethu am oddeutu dwy flynedd. Yna rhoddwyd galwad i Mr. Evan Watkins, mewn cysylltiad a Chanaan. Bu Mr. Watkin yn llafurio yma gyda pharch nodedig nes iddo symud i Langatwg yn 1850. Yn 1852, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 14eg a'r 15 fed. Y nos gyntaf, gweddiodd Mr. J. Davies, o athrofa Aberhonddu, a phregethodd Meistri Davies, Llandilo, a Rees, Llanelli. Am 10, yr ail ddydd, gweddiodd Mr. Griffiths, Abertawy: pregethodd Mr. Davies, Llandilo, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau gan Mr. Hughes, Dowlais; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Roberts, Dowlais; rhoddwyd siars i'r gweinidog ieuangc gan Mr. Davies, athraw athrofa Áberhonddu. Am 2, gweddiodd Mr. Jones, Maesteg, a phregethodd Meistri Pryse, Cwmllynfell, a Griffiths, Alltwen. Am 6, gweddiodd Mr. G. John, athrofa Aberhonddu, a phregethodd Meistri Thomas, Glynnedd, a Rees, Llanelli, yr olaf ar ddyledswydd yr eglwys. Deunaw mis fu tymor gweinidogaeth Mr. Davies yma. Derbyniodd alwad i Siloa, Llanelli, a symudodd yno yn nechreu 1854, yn groes iawn i deimladau ei bobl yn Llansamlet, ond nid yn groes i ewyllys yr Arglwydd, fel y mae y canlyniadau wedi dangos. Ar ymadawiad Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys Bethel ei hun dan ofal Mr. J. Rees, Canaan, a than ei ofal ef y bu nes iddo yn 1866, symud i Rodborough. Yn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. Rowland Rowlands, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 3ydd a'r 4ydd, yn y flwyddyn hono. Yn nghyfarfod yr urddiad, traddodwyd y gynaraeth gan Mr. W. Morgan, un o athrawon athrofa Caerfyrddin; derbyniwyd y gyffes ffydd, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Jones, Machynlleth; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Hughes, B.A., Tredegar, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan ei gweinidog blaenorol, Mr. Rees, Rodborough. Traddodwyd amryw bregethau yn Bethel ac addoldai eraill yn yr ardal, y nos flaenorol, ac ar brydnawn a hwyr ddydd yr urddiad. Mae Mr. Rowlands yn parhau i lafurio yma gyda pharch a llwyddiant cynyddol, a'r achos yn ychwanegu nerth o flwyddyn i flwyddyn.
Capel lled fychan, 40 troedfedd o hyd wrth 20 o led, heb un oriel ynddo, oedd Bethel yn ei fgurf gyntefig. Yn 1839, gosodwyd oriel mewn un pen iddo. Traul yr adeiladaeth yn 1818, a'r oriel yn 1839, oedd 352p., heb gyfrif cludiad y defnyddiau. O herwydd yr ychwanegiad dirfawr at yr eglwys a'r gynnulleidfa yn 1849, bu raid tynu yr hen adeilad i lawr, ac adeiladu un mwy. Maint y capel presenol yw 47 troedfedd wrth 37 dros y muriau, a'r draul oedd 508p., heb gyfrif codiad a chludiad y cerig a defnyddiau eraill, yr hyn a wnaed yn rhad gan yr ardalwyr. Arbedwyd wrth hyn tua 150p. Mr. Thomas, Glandwr, oedd cynllunydd ac arolygydd y gwaith. Agorwyd ef Chwefror 13eg a'r 14eg, 1851. Mae yr adeilad yn un cadarn, hardd, a chyfleus, a'r ddyled oll wedi ei thalu er's blynyddau bellach. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Rees, adeiladwyd ysgoldy yn Birchgrove, ac yn awr y mae yno gapel tlws agos wedi ei orphen.
Mae eglwys Bethel wedi bod yn rhagorol o dangnefeddus o'i dechreuad hyd yn bresenol, ac er iddi fod dan fesur o anfantais o herwydd gorfod newid ei gweinidogion mor fynych, a bod am y rhan fwyaf o'i thymor yn ymddibynol ar ran yn unig o lafur ei gweinidogion, o herwydd fod eglwysi eraill dan eu gofal, etto, mae yr achos wedi llwyddo a gwreiddio yn y gymydogaeth, ac yn bresenol y mae yn gryfach nag y bu ar un cyfnod o'i hanes. Bu yma nifer o grefyddwyr rhagorol yn perthyn i'r achos o bryd i bryd; megis Evan Dafydd, yn nhŷ yr hwn y cynelid y moddion cyn adeiladu y capel cyntaf; Llewellyn Llewellyn, William Williams, Thomas Evan, a John Jones, dau bregethwr cynorthwyol, y rhai a grybwyllasom eisioes yn hanes y Mynyddbach; John Dafydd, Robert Robert, Dafydd Morris, a William Llewellyn, hen farworyn llawn a dân, yr hwn a roddai fywyd i'r cyfarfodydd a'i amenau a'i ddiolchiadau toddedig. Mae Rachel Bevan, yr hon a gerddai yr holl ffordd i'r Mynyddbach, fynychaf a phlentyn sugno yn ei chol, cyn cyfodi capel yma, yn aros etto yn mysg y byw; hi, a'r hen frawd ffyddlon a siriol, Dafydd Bevan, feddyliwn, yw yr unig rai o'r aelodau gwreiddiol sydd wedi eu gadael yn ngweddill gan angau.
Mr. John Davies, gweinidog yr eglwys Gymreig yn yr Amwythig, a Mr. William Davies, yr hwn a urddwyd yn ddiweddar yn Llwydcoed, Aberdare, yw yr unig bregethwyr a godwyd yma.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID THOMAS. Ganwyd ef yn rhyw ran o sir Aberteifi, ond nis gwyddom pa le yno. Nid ydym yn hysbys o amser ei enedigaeth, nac o'i hanes yn moreu ei oes. Daeth i Abertawy i weithio ei gelfyddyd fel dilledydd, ac yno y dechreuodd bregethu, fel y nodasom yn hanes Ebenezer, tua y flwyddyn 1825, feddyliwn. Yn 1827, yr oedd yn gweithio yn y Taibach, ac yn pregethu ar y Sabbothau lle y celai ddrysau yn agored. Efe yn yr amser hwnw fu yn foddion i gychwyn achos yr Annibynwyr ar Gefncribwr. Yn mis Medi, 1828, urddwyd ef yn Bethel, Llansamlet, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Mr. Methusalah Jones, Merthyr, ac eraill. Yn 1832, priododd ddynes ieuangc o Landilo, ac yn mis Mai yr un flwyddyn, ymfudodd ef a'i wraig i'r America, ond yn mhen y bythefnos wedi iddo dirio yno, yn nechreu Gorphenaf, bu farw o'r Geri Marwol, a chafodd ei wraig ddychwelyd i wlad ei genedigaeth yn weddw, unig, a galarus. Clywsom Mr. David Thomas yn pregethu ddwy neu dair o weithiau, ac nid yn aml y gwrandawsom neb o ddoniau mwy poblogaidd. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a'i lais yn rhyfeddol o berseiniol. Yr oedd yn ddyn ieuangc pur ei fuchedd a dirodres yn ei holl ymddygiadau, a gwnaeth lawer o waith mewn ychydig o amser.