Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Brynteg
| ← Mynyddbach | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Crwys → |
BRYNTEG.
Bernir mai cangen o hen eglwys Ty'rdwncyn yw yr eglwys hon, ac iddi gael ei chorpholi yn eglwys yn amser Mr. Lewis Davies, tua y flwyddyn 1693. Dywedir mai mewn anedd-dy yn Nhrefuchaf, Casllwchwr y dechreuwyd yr achos. Yn gynar yn y ddeunawfed ganrif, symudwyd o'r Drefuchaf i Rhydymardy, ychydig gyda haner milldir yn nes i'r dwyrain. Buwyd yn addoli yn hen dy cyfarfod Rhydymardy hyd y flwyddyn 1815, pryd yr adeiladwyd capel y Brynteg. Mae yn debyg i'r eglwys hon o'r dechreuad fod dan yr un weinidogaeth ag eglwys Ty'rdwncyn hyd y flwyddyn 1747, pryd y cafodd un Thomas Jones ei urddo yma. Nid ydym yn gwybod dim am y gwr hwn, ond ei enw ac amser ei urddiad, yr hyn a gawsom yn llyfr eglwys y Cilgwyn, yn llawysgrifen Mr. Phillip Pugh. Mae yn ymddangos na fu cysylltiad Mr. Jones a'r eglwys hon yn faith, oblegid yn Ebrill, 1754, yr oedd Mr. William Evans yn weinidog yma. Mr. Evans, fel yr ymddengys, oedd y gweinidog cyntaf a gadwodd gofnodion eglwysig yma. Mae ychydig ddalenau wedi haner pydru o'r hen lyfr eglwys, a ysgrifenwyd ganddo ef a'i ganlynyddion, yn awr ger ein bron. Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma, ac yn y Cwmmawr, ddau Sabboth o bob mis hyd y flwyddyn 1770, pryd y bu farw, er mawr alar i'r eglwysi a wasanaethid ganddo mor ffyddlon ac effeithiol. Mae rhai o'r cofnodion a ysgrifenwyd ganddo yn llyfr yr eglwys yn dangos fod yr aelodau yn wasgaredig iawn, bod yr achos yn hen yn ei amser ef, a bod llawer o fywyd a gweithgarwch yn yr eglwys. Yr ydym yn cael fod rhai o'r aelodau yn byw yn ymyl tref Abertawy, a rhai yn mhlwyfydd Llanelli, Llangenych, Llanedi, Llanon, a Llangafelach. Yn mysg y marwolaethau a gofnodir, cawn y rhai canlynol: "Mai 8fed, 1754, bu farw yr hen gristion duwiol a selog David Rowland, o blwyf Llanedi. Yr oedd ei enaid yn llawn cysur yn ei awr ddiweddaf. Claddwyd ef yn Llanedi." "William Harry, o dref Casllwchwr, a ymadawodd a'r byd hwn Ionawr 6ed, 1763. Bu yn aelod o'r eglwys hon tua deugain mlynedd. Yr oedd yn un ffyddlon a diwyd iawn gyda moddion gras. Aeth o'r byd hwn a'i enaid yn gyflawn o dangnefedd, ac a'i ffydd yn ddiysgog yn yr Arglwydd Iesu. Ei eiriau diweddaf ydoedd gorchymyn ei unig fab i ras Duw. Claddwyd ef yn Nghasllwchwr." "David Mathew, hen broffeswr a henuriad llywodraethol yn eglwys Rhydymardy, ac ymadawodd a'r bywyd hwn mewn heddwch a thawelwch enaid, Tachwedd 18fed, 1769."
Yn ol yr hen gofnodion hyn, mae yn ymddangos mai tua thri o aelodau yn y flwyddyn oedd yr ychwanegiad at yr eglwys yn nhymor gweinidog aeth Mr. W. Evans, ar ol tynu allan y marwolaethau. Pan ystyrir mai eglwys fechan mewn gwlad deneu o bobl ydoedd, yr oedd y cynydd yn gymaint ag a allesid ddisgwyl. Mae y cofnodiad canlynol yn dangos nad oedd yr eglwys yn amddifad o fywyd ysbrydol: "Medi 6ed, 1762, heddyw trwy gydsyniad unfrydol yr eglwys, cadwasom ddydd o ympryd a gweddi ar ran ein plant ac ieuengctyd y gymydogaeth yn gyffredinol, i ddeisyf bendith yr Arglwydd i wneyd y weinidogaeth yn effeithiol er eu troedig aeth. Traddodwyd ychydig sylwadau sylfaenedig ar y nawfed benod o Nehemiah, a rhoddodd yr Arglwydd radd o'i gymorth i'r hen frodyr i ymdrechu ag ef mewn gweddi. Yr ydym yn cyfrif hyn yn arwydd y bydd iddo, yn ol ei addewid, ein hateb i ryw fesur yn ei amser ei hun." Mae y crybwyllion am gasgliadau sydd yn yr hen lyfr yn dangos fod yr eglwys. hon yn meddu gradd helaethach o gyfoeth ac ysbryd haelionus na'r eglwysi yn gyffredinol yn y dyddiau hyny. Mehefin 22ain, 1755, casglwyd pymtheg swllt ar gais Mr. Owen Davies at adeiladu capel Esgairdawe. Ebrill 22ain, 1759, casglwyd tair punt a deuddeg swllt a chwe' cheiniog at gynorthwyo Mr. Jenkin Morgan i adeiladu capel yn Mon. Yn 1762, casglodd Mr. Lewis Rees dair punt at adeiladu capel y Mynyddbach, ac yn Tachwedd 1770, casglodd Mr. Thomas Lewis ddeg swllt-ar-hugain at adeiladu capel Ty'nycoed, Glyntawy. Mae yn ymddangos fod cyfarfod gweinidogion yn cael ei gynal yn y lle hwn fynychaf bob blwyddyn. Mae y cofnodion canlynol am gyfarfodydd o'r fath wedi diange rhag y difrod a ddigwyddodd i'r rhan fwyaf o hen lyfr yr eglwys. "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy Mai 22ain a'r 23ain, 1751. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Edmund Jones, Joseph Simons, Millbourn Bloom, Thomas Lewis, Owen Davies, Evan Williams, Thomas Davies, a William Evans, gweinidog y lle. Y dydd cyntaf pregethodd Mr. Edmund Jones, oddiwrth Iago i. 16. Yr ail ddydd pregethodd Mr. Owen Davies, a Mr. Millbourn Bloom, y ddau oddiwrth yr un testyn, sef Heb. ii. 3., ac oedfa anghyffredin o doddedig ydoedd. Yr oedd llaw yr Arglwydd i'w gweled yn amlwg yn yr effeithiau a ganfyddid ar y bobl. Dydd o wledd fras i bob cristion ydoedd. Cydunodd y gweinidogion ar y pethau canlynol: (1) I gadw dydd o ddiolchgarwch i'r Arglwydd am arbed y da corniog yn Nghymru rhag y clefyd sydd mewn ffordd o farn oddiwrth yr Arglwydd, wedi difetha miloedd o honynt yn Lloegr. (2) I weinyddu dysgyblaeth lemach ar bersonau o fuchedd anfoesol yn ein gwahanol eglwysi." "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mehefin 2il a'r 3ydd, 1756. Yr oedd y gweinidogion parchedig canlynol yn bresenol, sef Meistri Lewis Jones, Edmund Jones, Lewis Rees, Evan Williams, Thomas Jones, Thomas Davies, Henry Thomas, Rees Davies, William Miller, Benjamin Cadman, Thomas Lewis, William Jones, a William Evans. Pregethodd Mr. Rees Davies bregeth ardderchog y dydd cyntaf oddiwrth 1 Tim. i. 15. Y dydd canlynol pregethodd Mr. Lewis Rees oddiwrth Gal. iv. 18., a Mr. Lewis Jones oddiwrth Mat. xxviii. 20., a bendigedig fyddo enw Duw, oedfa hyfryd ydoedd, canys fe anrhydeddodd yr Arglwydd ni a'i bresenoldeb, i'w enw mawr y byddo'r holl ogoniant. Cydunwyd yn mysg y gweinidogion-(1) I gadw dydd o ympryd a gweddi yn ein gwahanol eglwysi unwaith bob tri mis ar gyfrif cyfeiliornadau yr oes, y marweidd-dra crefyddol sydd yn mysg yr Ymneillduwyr, i ddymuno bendith yr Arglwydd ar arfau Lloegr yn y rhyfel presenol a Ffraingc, ein gelyn cyffredin, i ddeisyf dylanwad yr Ysbryd er troedigaeth y dynion duon yn yr India Orllewinol, ac i ddiolch i Dduw dros y rhai sydd wedi eu dychwelyd yno yn barod. (2) I gadw dysgyblaeth fanylach yn ein heglwysi, ac i fod yn fwy diwyd i holwyddori ein pobl." "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mai 31ain, a Mehefin 1af, 1758, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Joseph Simons, Gellionen; Thomas Jones, Drefach; Millbourn Bloom, Pentretygwyn; Thomas Morgan, Henllan; Lewis Phillips, o'r un lle; Owen Davies, Crofft-y-cyff; Thomas Davies, Castellnedd; David Williams, Cefnarthen; Henry Thomas, Gellidochleithe, (Godrerhos); Isaac Price, Llanwrtyd; David Jardine, Abergavenny, a William Evans, gweinidog y lle. Anrhydeddodd y Duw mawr ni a'i bresenoldeb. Bendigedig fydd ei enw." "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mehefin 10fed a'r 11eg, 1761, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Morris Griffith, Kebidog, (Trefgarn); David Lloyd, Brynberian; Rees Davies, Canerw; Thomas Davies, Llanybri; John Davies, Trelech; Thomas Jones, Drefach; Thomas Gray, Llwynypiod; Millbourn Bloom, Pentretygwyn; Evan Griffiths, Capel Sion; Jenkin Morgan, o Ynys Mon; Joseph Simons, Castellnedd; Solomon Harris, Abertawy; Lewis Rees, Ty'rdwneyn; Edward Williams, Blaengwrach; Henry Thomas, Gellidochleithe; Thomas Williams, Groeswen, a William Evans, gweinidog y lle, heblaw amryw bregethwyr heb eu hurddo. Fe ymddangosodd y Duw mawr yn amlwg yn ein plith. Bendithier ei enw."
Gallwn farnu oddiwrth luosogrwydd y gweinidogion a ddeuant i'r cyfarfodydd, yr ystyrid Rhydymardy, y pryd hwnw, yn lle o gryn bwysig rwydd. Mae yn ymddangos i'r eglwys oddiar farwolaeth Mr. W. Evans, yn 1770, fod heb un gweinidog sefydlog hyd 1777, pryd yr urddwyd Mr. Noah Jones, myfyriwr o athrofa Abergavenny. Bu Mr. Jones yn llafurio yma gyda mesur o lwyddiant hyd 1784, pryd y symudodd i Lanharan a'r Taihirion. Dilynwyd ef gan Mr. Jonathan Lewis, aelod o eglwys Capel Isaac. Tua dwy flynedd y bu ef yma. Y gweinidog nesaf oedd Mr. Daniel Lewis, myfyriwr o athrofa Croesoswallt. Urddwyd ef yn 1789, a bu yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1803, pryd y symudodd i Zoar, Merthyr. Y gweinidog nesaf oedd Mr. Thomas Edwards, Castellnedd. Mae yn ymddangos. iddo ef ddechreu ei lafur yma yn 1805, ac iddo ymadael yn 1813. Yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono, dechreuodd Mr. Lewis Powell, o Lanrwst ei weinidogaeth yma. Mab yr hybarch Jonathan Powell, Rhosymeirch oedd ef. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Gwrecsam, ac urddwyd ef yn Llanrwst yn 1810. Bu yn llwyddianus iawn am y tymor byr y bu yno, ac yma drachefn, mae yn ymddangos ei fod yn boblogaidd iawn am rai blynyddau. Ond yn raddol daeth yn amlwg ei fod yn yfwr anghymedrol, ac mewn canlyniad, lleihaodd ei barch a'i boblogrwydd, a phan ddeallodd yntau fod yr eglwysi ar fedr ymwrthod ag ef, cymerodd y blaen arnynt, trwy fyned at Esgob Tyddewi i ofyn am urddau esgobyddol. Cafodd yr hyn a geisiai, a threuliodd weddill ei oes yn gurad yn Llanon, sir Gaerfyrddin, yn hollol ddinod a diddefnydd i fyd ac eglwys. Tua diwedd y flwyddyn 1818, y rhoddodd ei swydd i fyny yn y Brynteg a'r Crwys, ac yn mhen ychydig wythnosau wedi hyny, rhoddodd yr eglwysi alwad i Mr. John Evans, yr hwn a lafuriodd yn eu plith am agos i ddeunaw-ar-hugain o flynyddau gyda pharch a llwyddiant mawr. Yn y flwyddyn 1849, gan fod Mr. Evans wedi cymeryd gofal yr achos yn Mhenyclawdd, mewn eysylltiad a'r Crwys a'r Brynteg, teimlai fod maes ei lafur yn ormod, ac felly anogodd eglwys y Brynteg i roddi galwad i Mr. Isaac Williams, yr hyn a wnaethant. Urddwyd Mr. Williams Ebrill 25ain. 1849. Dechreuwyd gwasanaeth yr urddiad trwy weddi gan Mr E. Griffith, Abertawy; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. T. Rees, Siloa, Llanelli; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. Thomas, Clydach; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. J. Evans, Crwys; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Gwynfe, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Gweddiwyd a phregethwyd y nos flaenorol, a phrydnawn a hwyr dydd yr urddiad, gan Meistri W. Williams, Bryn; H. Davies, Bethania; T. Davies, Llandilo; J. Evans, Capel Sion; Griffith John, Abertawy, (Cenhadwr i China); J. Thomas, Cefncribwr; J. Thomas, Maenclochog; J. Davies, Cwmaman; W. Humphreys, Glandwr; E. Jacob, Abertawy; J. Mathews, a D. Evans, Castellnedd. Ni bu arosiad Mr. Williams yma ond byr, tua dwy flynedd a dau fis, ond yr oedd yn boblogaidd a pharchus iawn tra y bu yn y lle. Derbyniodd alwad i Drelech, a symudodd yno yn Mehefin, 1851, ac yno y mae hyd yn bresenol. Ar ol ymadawiad Mr. Williams, bu yr eglwys drachefn am oddeutu tair blynedd dan ofal ei hen weinidog, Mr. Evans, o'r Crwys. Yn 1854, rhoddasant alwad i Mr. William Humphreys, i'w gwasanaethu mewn cysylltiad a Chadle, yr hyn a wnaeth yn ffyddlon ac effeithiol hyd ei farwolaeth yn 1869. Er hyny hyd yn awr, nid oes un gweinidog sefydlog wedi bod yma, ond yr ydym yn deall eu bod wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. John Stephens, Taibach. Os yma y daw, hyderwn y caiff ef a'r eglwys fesur helaeth iawn o wenau yr Arglwydd. Bu yr hen eglwys hon am tua chan mlynedd yn addoli yn hen gapel bychan Rhydymardy, ac fel y nodasom eisioes, adeiladwyd capel y Brynteg yn 1815, ac yn 1846, cafodd ei ailadeiladu a'i helaethu yn fawr. Mae yn awr yn addoldy cyfleus, digon helaeth i bedwar neu bum' cant o bobl i eistedd ynddo. Ni bu yr eglwys hon ar un cyfnod o'i hoes yn lluosog iawn, o herwydd nad oedd yr ardal hyd yn ddiweddar ond cymharol deneu ei phoblogaeth, ond yr ydym yn barnu y gall gyda bendith yr Arglwydd, ddyfod yn eglwys gref a lluosog iawn yn mhen ychydig amser, gan fod y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym.
Nis gwyddom am neb a gyfodwyd yma i bregethu ond William Davies, o Whitley. Bu ef yma am ddegau o flynyddau yn bregethwr cynorthwyol parchus iawn. Yr oedd yn Galfiniad uchel o ran ei farn. Y mae wedi marw er's tua deng-mlynedd-ar-hugain. Yma hefyd yn amser Mr. W. Evans, y derbyniwyd Mr. John Thomas, awdwr Caniadau Sion, i gyfundeb yr Annibynwyr, ac oddi yma yr aeth i athrofa Abergavenny, ond gan ei fod yn pregethu gyda'r Methodistiaid cyn ei dderbyn yma, prin y gall yr eglwys hon honi yr anrhydedd o'i gyfodi i bregethu.
Gan mai yr un gweinidogion a fu yma ac yn y Crwys ond Mr. Thomas Jones yn 1747, am yr hwn nid oes genym un hanes i'w roddi, a Mr. W. Humphreys, yr hwn y rhoddir ei hanes yn nglyn a Chadle; yn nglyn a hanes y Crwys y rhoddwn gymaint o gofnodion bywgraphyddol ag sydd genym am y gweinidogion.