Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Cadle

Oddi ar Wicidestun
Walter Road, Abertawy Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Gwaunarlwydd
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cadle
ar Wicipedia

CADLE.

Bethlehem (A), Cadle

Mae y capel ar ben y tair milldir o dref Abertawy, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain i Lanelli a Chaerfyrddin. Gan fod yr ardal hon yn y canol rhwng yr hen gapeli yn y Mynyddbach, yr Ysgetty, a Rhydymardy, ac o fewn tair milldir i bob un o honynt, mae yn sicr fod amryw aelodau perthynol i bob un o'r lleoedd hyn yn preswylio yma er cychwyniad yr achos yn mhob un o'r cyfryw leoedd, ond ymddengys mai aelodau o'r Mynyddbach oeddynt yn fwyaf lluosog yma o oes i oes. Buont am ugeiniau o flynyddau yn cadw moddion crefyddol agos bob nos Sabboth ac ar nosweithiau o'r wythnos, yn y Wigfach, tŷ John Knoyle, ac anedd-dai eraill. Yn y flwyddyn 1838, pan ddechreuodd pethau fyned yn annymunol yn y Mynyddbach oherwydd y gweinidog Mr. Isaac Harries, penderfynodd yr aelodau a breswylient yn ardal Cadle ymneillduo o'r fam eglwys ac ymffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain. Rhoddwyd llythyrau gollyngdod i tua thriugain o honynt, a chawsant eu corpholi yn eglwys, Ionawr 13eg, 1839. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod gan y Meistri J. Evans, Crwys; D. Jones, Clydach, ac E. Griffiths, Abertawy. Buont yn addoli mewn tŷ-anedd nes i'w capel gael ei agoryd yn 1840. Bethlehem yw yr enw a roddwyd ar y capel. Yr oedd hwn yn dy prydferth a chyfleus, ac yn cynwys tua phedwar cant o eisteddleoedd; a mynwent helaeth o'i amgylch. Mr. David Jones fu y gweinidog yma mewn cysylltiad a Chlydach er amser corpholiad yr eglwys hyd ei farwolaeth ddisymwth yn Ionawr 1845. Wedi hyny buont dan ofal Mr. Thomas, Glandwr, hyd 1851, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. William Humphreys, yr hwn a urddwyd yma Chwefror 11eg a'r 12ed yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan y Meistri J. Evans, Crwys; J. Rees, Canaan; T. Jones, Treforis; T. Thomas, Glandwr; J. Davies, Cwmaman; T. Davies, ac E. Jacob, Abertawy; T. Rees, Cendl, a J. Davies, Llanelli, Brycheiniog. Bu Mr. Humphreys yn llafurio yma gyda llwyddiant nodedig mewn cysylltiad a'r Brynteg a Chwmbwrla, hyd o fewn llai na blwyddyn i amser ei farwolaeth, pryd y rhoddodd yr eglwys hon i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i'r Brynteg a Chwmbwrla. Yn y flwyddyn 1866, gan fod y capel a adeiladwyd yn 1840 wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, tynwyd ef i lawr ac adeiladwyd un llawer helaethach a harddach. Mae y capel presenol yn cynwys tua 600 o eisteddleoedd. Yn niwedd y flwyddyn 1869 rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. W.H. Thomas, Fochriw. Y mae Mr. Thomas a'r eglwys yn cyd-dynu yn ddymunol, a'r gwaith da yn myned rhagddo yn llwyddianus. Trwy ymdrech egniol y gweinidog, a chydweithrediad y gynnulleidfa a'r gymydogaeth, yn nechreu y flwyddyn hon (1871) adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar yr ochr ogleddol i'r heol gyferbyn a'r fynwent, at gadw ysgol ddyddiol anenwadol, ac y mae y sefydliad hwn yn sicr o fod yn fendith fawr i blant yr ardal. Gan fod y ddaear am filldiroedd yn mhob cyfeiriad oddiamgylch y lle hwn yn llawn glo, mae y boblogaeth yn sicr o gynyddu yn ddirfawr yma yn dra buan, ac y mae yn hyfryd meddwl fod eglwys gref a gweithgar yn y lle ar gyfer y cynydd sydd yn ei aros. Mae yr aelodau yn bresenol yn agos i ddau cant a haner o rif.

Nodiadau

[golygu]