Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Canaan
| ← Baran | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Capel Sion, Abertawy → |
CANAAN.
Dechreuwyd yr achos hwn er's yn agos i gan' mlynedd yn ol yn y Pentrefchwith, gan Mr. Lewis Rees, yn nhŷ Thomas William. Yr oedd niferi o aelodau y Mynyddbach yn cyfaneddu yn yr ardal y pryd hwnw, a Thomas William, a Thomas Howell, fel diaconiaid o'r fam eglwys yn gofalu am y gangen yn yr ardal hon. Dywedir fod y ddau yn ddynion rhagorol iawn, a medrus nodedig i drin achosion eglwysig. Pan aeth tŷ Thomas William yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, cafwyd caniatad i gynal y gwasanaeth mewn ysgoldy perthynol i berchenogion y gwaith copr. Buwyd yn addoli yn yr ysgoldy hwn am tua deugain mlynedd. Pan ymadawodd Mr. David Davies a'r Mynyddbach, darfu i'r gangen yn y Pentrefchwith uno ag eglwys Ebenezer, yn y dref; yno y byddent yn addoli bob boreu Sabboth, hyd nes iddynt gael eu corpholi yn eglwys yn y flwyddyn 1836. Yn y flwyddyn 1839, dechreuwyd adeiladu y capel ar odre craig Kilvey, yr hwn a orphenwyd yn gynar yn 1840, ac agorwyd ef yn y flwyddyn hono, ond nid ydym yn deall i hanes yr agoriad gael ei anfon i'r Diwygiwr, nac un cyhoeddiad arall. Yn y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Watkins, Llanelli, Brycheiniog, a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Medi 28ain a'r 29ain y flwyddyn hono. Bu Mr. Watkins yn llafurio yma, ac yn Bethel, Llansamlet hyd haf y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Langattwg, Crughowell, lle y mae hyd yn bresenol. Ni fu gweinidog erioed anwylach gan ei bobl nag yr oedd ef gan bobl Canaan a Bethel, a gwnaeth yma waith mawr yn ystod yr wyth mlynedd y bu yn y lle. Yr oedd Capel Canaan wedi costio 702p. 6s., ac nid oedd nemawr o ddim wedi ei gasglu nes i Mr. Watkins ddyfod yma. Yn mhen saith mlynedd talodd yr holl ddyled a'r llogau, ac er mawr dristwch i'r bobl a'i carai mor anwyl ymadawodd yn fuan ar ol hyny. "Yr oedd y flwyddyn 1850, yn adeg anarferol o bwysig yn hanes eglwys Canaan. Yr oedd Elias Jenkins, Ysw., Kilvey House, a'i ddwy ferch, Miss Rebecca a Miss Sarah Jenkins, yn hynod o gynorthwyol i'r achos. Yr oedd y ddwy foneddiges yn aelodau yn Canaan, ac er mai yn Castle-street yr oedd Mr. Jenkins yn aelod, etto yr oedd yn addoli unwaith bob Sabboth yn Canaan, ac yn haelionus dros ben at yr achos. Hwy oedd cefn yr achos, ac annichonadwy dyweyd y da a wnaethant iddo yn yr ardal. Yr oeddynt yn gwneyd yr oll a wnaethant yn ddistaw, ac ni fynent glywed am eu gweithredoedd da; a'r dydd mawr yn unig a ddatguddia yr oll a wnaethant. Modd bynag, yn ngwanwyn 1850, bu farw Mr. Jenkins, ac yn haf yr un flwyddyn symudodd ei ferched o'r ardal i fyw, ac yn yr un adeg symudodd Mr. Watkins, y gweinidog, fel y nodir uchod, i Langattwg. Yr oedd y cyfnewidiadau hyn yn golledion mawrion anarferol i'r achos yn y lle, tra yn ennill i fanau eraill. Mewn gair, yn 1850, y cafodd eglwys Canaan er thaflu i fyw arni ei hun. Hyd yn hyn yr oedd wedi bod dan nawdd teulu duwiol, cyfoethog, a haelionus Kilvey, a than weinidogaeth un o'r dynion caredicaf a fu erioed yn weinidog efengyl, ond collodd yr eglwys y cwbl megis yn yr un dydd." [1]
Hydref 8fed, 1850, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Rees, Carmel, Llangiwc, a'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Rhagfyr, 1850. Cynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ebrill 22ain a'r 23ain, 1851, pryd y pregethodd Meistri Morgan, Caerfyrddin; Rees, Ystrad; Rees, Cendl; Davies, Pantteg; Jones, Treforis; Griffiths, Alltwen, ac eraill. Bu Mr. Rees yn llafurus a llwyddianus iawn yma yn y cyflawniad o bob rhan o waith y weinidogaeth, ac yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol. Pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, nid oedd rhif yr ysgol dros driugain-a-deg. Trwy sefydlu dosbarth Biblaidd, ac agor Ysgolion Sabbothol yn y Llysnewydd a Phort-tenant, llwyddwyd i gael rhifedi y rhai oeddynt dan addysg yn yr Ysgolion Sabbothol yn nglyn a Chanaan i dri chant a haner, ar un tymor. Gwnaeth ef, a'r bobl a gydweithredent ag ef, ymdrech lwyddianus i ddymchwelyd yr arferiad lygredig o gadw Cwrw bach, yr hon oedd yn ffynadwy yn yr ardal, ac yn effeithio mor ddinystriol ar foesau y bobl. Dyoddefodd yr achos lawer o anfantais agos trwy holl dymor gweinidogaeth Mr. Rees oddiwrth sel ac ymdrechion pobl gyfoethog yn y gymydogaeth i ddenu y gweithwyr o'r capeli i'r Eglwys Wladol. Llwyddasant i gael llawer i fyned i'r eglwys, ac i anfon eu plant i ysgolion eglwysig, ond y mae y dylanwad hwnw yn gwanychu er's rhai blynyddau bellach. Yn 1860, adeiladwyd capel Tanygraig, ac aeth nifer o aelodau Canaan yno i ddechreu yr achos. Yn 1864, ailadeiladwyd Canaan, ac agorwyd y capel newydd Gorphenaf 18fed a'r 19eg, yn yr un flwyddyn, pryd y pregethodd Meistri Davies, Llandilo; Lewis, Ty'nycoed; Watkins, Llangattwg; Rees, Llanelli; Griffiths, Alltwen, a Davies, Cwmaman. Mae y capel prydferth hwn yn 60 troedfedd wrth 40 dros y muriau. Costiodd 1,100p. Casglwyd 221p. erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad, ac erbyn hyn nid oes fawr o'r ddyled yn aros heb ei thalu. Teimlai Mr. Rees ar ol cael y capel newydd y dylasai roddi ei holl wasanaeth yma yn lle ei ranu rhwng Canaan a Bethel, ond gan yr ofnai y bobl nas gallasent gyfranu digon at ei gynal, gwnaeth ei feddwl i fyny i ymadael, gan na oddefai sefyllfa ei iechyd iddo ofalu am y ddau le fel yr arferai wneyd. Yn Gorphenaf, 1866, symudodd i Rodborough, lle y mae yn bresenol. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. B. Williams, Dinbych, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Mehefin 18fed a'r 19eg, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth, Meistri E. Griffiths, Abertawy; Stephens, Liverpool; Williams, Castellnewydd; Evans, Britonferry; Rees, Rodborough; Watkins, Llangattwg; Davies, Caerdydd, a Bevan, Waunarlwydd. Mae Mr. Williams a'r eglwys yn hoff iawn o'u gilydd, ac yn cydweithio yn llwyddianus. Mae dyled y capel, fel y nodasom, agos a chael ei lwyr ddileu, nifer yr aelodau wedi ychwanegu yn fawr, fel y maent yn awr tua thri chant o rif, a chasgliadau yr eglwys a'r gynnulleidfa at bob achos cartrefol a chyhoeddus, yn y pedair blynedd diweddaf tua 300p. yn y flwyddyn. Cafodd yr achos hwn gam mawr o'i ddechreuad trwy fod mewn cysylltiad ag eglwysi eraill, am yr ofnai Ꭹ bobl eu bod yn analluog i gynnal gweinidog eu hunain, ond wedi gwneyd y prawf, cawsant eu bod yn ddigon galluog i hyny, a'u bod wedi gwasanaethu yr achos trwy fyny gweinidogaeth gyflawn i ardal mor boblog a phwysig.
Nis gwyddom am neb a ddechreuodd bregethu yma ond Mr. William Thomas, Port-tenant, a'r diweddar Mr. Benjamin Wilkes, Trecastell.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Llyfr eglwys Canaan.