Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Capel Sion, Abertawy
| ← Canaan | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Zoar, Abertawy → |
CAPEL SION, ABERTAWY.
Tua diwedd y flwyddyn 1841, barnodd rhai o aelodau yr eglwys yn Ebenezer fod angen am achos Cymreig arall yn y dref, a chafodd pymtheg neu ugain o honynt lythyrau o ollyngdod o eglwys Ebenezer er ffurfio eu hunain yn eglwys wahanol. Cymerasant y Victoria Rooms, yn Oxford street, at gynal cyfarfodydd, a chawsant amryw o weinidogion enwocaf siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, i bregethu iddynt ar y Sabbothau. Pan drowyd Mr. T. Davies allan o Ebenezer yn Mehefin 1842, derbyniwyd ef gan bobl y Victoria Rooms i fod yn weinidog iddynt, a bu yn gweinidogaethu iddynt am tuag un-mlynedd-ar-bymtheg. Yn nechreu y flwyddyn 1843, cafwyd tir ar yr ochr ddeheuol i High street, ar y fan lle mae gorsaf y South Wales Railway yn awr, lle yr adeiladwyd capel hardd a chyfleus. Cyhoeddwyd yr hanes canlynol am yr achos a'r capel hwn yn y Diwygiwr am 1843, tu dal. 250:-"Dydd Iau, Mai 18fed, gosodwyd y gareg sylfaen i'r addoldy newydd perthynol i'r eglwys Annibynol ag sydd yn ymgyfarfod i addoli yn Neuadd Victoria, Abertawy. Am 2 o'r gloch yn y prydnawn, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. D. Jones, Clydach. Cyflawnwyd y gorchwyl o osod y gareg sylfaen gan y Parch. T. Davies, gweinidog yr eglwys hon, ac yn ei gynorthwyo yr oedd y Parch. D. Griffiths, Castellnedd; yna areithiodd y Parch. W. Williams, Llandilo, yn dra hyawdl a chymwysiadol ar yr achos; canlynwyd ef gan y Parch. D. Griffiths, Castellnedd, mewn pregeth ragorol oddiar Ezra x. 4., Cyfod; arnat ti y mae y peth; a ni a fyddwn gyda thi; ymwrola a gwna.' Cyfeiriodd a gwasgodd ei sylwadau ar feddyliau y gweinidog a'r eglwys, gydag effeithioldeb mawr ar y gynnulleidfa oedd yn bresenol ar y pryd; terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Davies, Mynyddbach. Am 7 yn yr hwyr, cafwyd benthyg addoldy Ebenezer, pan ymgynnullodd tyrfa fawr, nes oedd yr addoldy helaeth hwnw yn orlawn. Dechreuwyd trwy ddarllen, gweddi, a mawl, gan y brawd T. Thomas, Llandilo, a phregethodd y Parch. W. Williams, o'r un lle, yn ddoniol oddiwrth 2 Cor. x. 4, 5. Bydded yn hysbys i bawb fod y gangen fechan hon wedi ymadael a'r eglwys yn Ebenezer, mewn modd rheolaidd a thangnefeddus i sefydlu achos newydd yn y dref boblog hon, gan ystyriad y byddai hyny yn fwy buddiol i lwyddiant crefydd, ac i ennill eneidiau at y Gwaredwr, nag aros yn segur wrth y canoedd yn yr un man. Y mae arwyddion da ar yr achos yr addoldy yn myned yn mlaen yn hwylus-yn barod i osod y pen arno. Ein hawydd yw ennill eneidiau o'r byd i'r eglwys, ac nid eu denu o un eglwys arall.'
Pan agorwyd y capel, cafwyd cynnulleidfa dda a chryfhaodd yr eglwys yn fawr. Yn 1849, cymerwyd y capel gan berchenogion y South Wales Railway a thynwyd ef, yn nghyd ag amryw adeiladau eraill oddiamgylch iddo, i lawr, er cael lle i'r orsaf. Cafwyd tir ar yr ochr arall i'r heol, ychydig yn is i lawr, lle yr adeiladwyd y capel presenol, yr hwn a agor- wyd yn nechreu y flwyddyn 1850. Bu Mr. T. Davies yn gweinidogaethu yma, mewn cysylltiad a Phentre-estyll, hyd y flwyddyn 1858, pryd, herwydd ei lesgedd ef, ac am nas gallesid cael ar y goreu ond haner ei lafur, y barnwyd y buasai yn well iddo ef gyfyngu ei lafur yn unig i Bentre-estyll, a gadael eglwys Capel Sïon at eu rhyddid i ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Ar ol bod ychydig gyda blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. John C. Davies, Carfan, sir Benfro, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yn Hydref, 1859. Parhaodd i weinidogaethu yn y lle hyd Awst, 1868, pan y symudodd i Newton. Ychydig cyn ymadawiad Mr. Davies, adgyweiriwyd a phrydferthwyd y capel yn fawr, yr hyn a gostiodd rai canoedd o bunau, ond trwy ymdrech ddiflin y gweinidog a'r bobl talwyd y cwbl yn fuan. Ychydig amser ar ol ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. John Jenkins, Pantteg. Bu ef yma am tua blwyddyn a haner, ond er's yn agos i flwyddyn bellach y mae y cysylltiad rhyngddo a'r eglwys wedi darfod, ac y mae y gynnulieidfa er hyny heb un gweinidog sefydlog.
Mae yr eglwys hon, er nad oes llawn ddeng-mlynedd-ar-hugain er pan y ffurfiwyd hi, wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau. Bu yr achos ar rai adegau yma yn gryf a llwyddianus iawn, ac ar adegau eraill yn lled wan a gwywlyd. Mae yn bresenol yn llawer gwanach nag y bu, ac wedi cael ei daflu i'w iselder presenol gan amgylchiadau na byddai eu crybwyll o un budd i neb. Hyderwn fod y gauaf presenol i gael ei ddilyn gan dymor hafaidd a llwyddianus.