Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Crwys

Oddi ar Wicidestun
Brynteg Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Yr Ysgetty
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y Crwys
ar Wicipedia

CRWYS.

Capel Y Crwys (A), Gŵyr

Mae y Crwys yn mhlwyf Llanrhidian, ar gwr uchaf y rhan hono o Forganwg a elwir Browyr. Mae yma gapel helaeth a chynnulleidfa luosog o amaethwyr, glowyr, a gweithwyr cyffredin yn ymgynnull. Nid oes genym hanes manwl am ddechreuad yr achos hwn. Cangen ydyw o'r eglwys sydd yn awr yn y Brynteg, ond y mae y ferch wedi myned lawer yn gryfach na'r famer's ugeiniau o flynyddau bellach. Pan oedd yr eglwys a fu wedi hyny yn Rhydymardy, ac sydd yn awr yn Brynteg, yn addoli mewn anedd-dy yn Nhrefuchaf, Casllwchwr, mae yn debyg fod rhai o ardal y Crwys yn perthyn iddi, ac er mwyn eu cyfleusdra eu hunain a'u cymydogion, darfu iddynt drwyddedu anedd-dy a elwir Ty'rcethin at bregethu ynddo. Mae yn debyg i hyn gymeryd lle tua y flwyddyn 1700, neu yn fuan ar ol hyny. Nid yw yn hysbys pa cyhyd y bu y gynnulleidfa yn ymgynnull yno. Cafodd capel ei adeiladu yn y Cwmmawr, yn yr un gymydogaeth, yn gynar yn y ddeunawfed ganrif, oblegid yr oedd wedi cael ei ailadeiladu, neu ei adgyweirio yn y flwyddyn 1766, fel y dengys y sylw canlynol o lawysgrifau William Jones, aelod yn y Mynyddbach. "Mehefin 29ain, 1766. Y Sabboth hwn yr oeddid yn casglu arian at gynnulleidfa'r Cwmmawr, ac fe gasglwyd rhagor na dau cymaint ag a gawsom ni oddiyno at ein capel. Er nad oes neb yn danod iddynt, ond er hyn i gyd nid yw hyny yn eu boddloni. Maent yn eu cleimio fel dyled, ac yn cleimio mwy na'r tri chymaint ag a roisant hwy i ni. Yr wyf fi yn tybied fod eu gweinidog, er ei fod yn wr da a duwiol, wedi ymollwng i dymerau anghristionogol rhyfedd." Ar ol bod am lawer o flynyddau yn addoli yn y Cwmmawr, barnwyd fod eisiau cael addoldy mewn man mwy cyfleus a chanolog o'r ardal, ac felly yn 1788, adeiladwyd capel y Crwys, yr hwn sydd yn sefyll ar fan amlwg, lle y mae amryw ffyrdd yn croesi eu gilydd. Ailadeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1831, ac y mae yn addoldy mawr iawn mewn lle gwledig. Amgylchynir ef gan fynwent helaeth. Yr unig weinidog a fu yma, heblaw y gweinidog presenol, nad oedd hefyd yn weinidog i eglwys y Brynteg, oedd William Llewellyn, yr hwn a urddwyd yma yn 1746. Gan i Thomas Jones gael ei urddo yn Nghasllwchwr y flwyddyn ar ol urddiad W. Llewellyn yn y Cwmmawr, mae yn naturiol casglu mai methu cyduno wnaeth y ddwy eglwys ar un o'r ddau ymgeisydd, ac i bob un o'r eglwysi urddo yr un mwyaf hoff ganddi. Mae hanes William Llewelyn, yr un fath a Thomas Jones, yn hollol anhysbys i ni. Y cwbl a wyddom am dano ydyw iddo gael ei urddo yn y Cwmmawr yn 1746, a'i fod yma yn 1751. Dywed Mr. Davies, Mynyddbach, mai aelod o eglwys Ty'rdwncyn ydoedd, ac iddo farw heb fod yn hir ar ol ei urddo. Yn 1754, yr ydym yn cael eglwysi y Cwmmawr a Rhydymardy drachefn wedi ymuno dan yr un weinidogaeth, ac felly y buont o hyny hyd urddiad Mr. Isaac Williams, yn y Brynteg, yn 1849. Cyn belled ag y gallwn farnu, yr oedd eglwys y Cwmmawr yn wanach ac yn llai ei rhif nag eglwys Rhydymardy, hyd nes yr adeiladwyd addoldy y Crwys yn 1788, ond er y pryd hwnw aeth yr olaf yn flaenaf, ac y mae yn parhau i gadw y flaenoriaeth hyd yn bresenol. Bu yr eglwys hon ar rai adegau, yn nhymor gweinidogaeth lwyddianus Mr. John Evans, yn cynwys tua thri chant o aelodau. Wedi i Mr. Evans ymgymeryd a gofal yr achos yn Mhenyclawdd, unodd llawer o aelodau y Crwys a'r eglwys yno, ac er y pryd hwnw nid yw yr aelodau mor lluosog ag yr oeddynt cyn hyny. Mae yr eglwys hon wedi bod yn ganmoladwy am ei hysbryd tangnefeddus trwy holl ysbaid hirfaith ei hanes. Ni chlywsom fod dim tebyg i derfysg wedi bod ynddi erioed. Ar ol marwolaeth Mr. Evans, yn Ionawr, 1856, buwyd heb weinidog sefydlog yma hyd Rhagfyr, 1857, pryd y symudodd Mr. John Lloyd Jones yma o Dyddewi, mewn cydsyniad a galwad unfrydol yr eglwysi yn y Crwys a Phenyclawdd. Mae Mr. Jones wedi gwasanaethu y ddwy eglwys yn effeithiol o'r pryd hwnw hyd yn awr, ac yr ydym yn hyderu fod etto flynyddau lawer o ddefnyddioldeb o'i flaen yn y cylch pwysig hwn. Mae yr eglwysi yn y Crwys a Phenyclawdd er's rhai blynyddau bellach wedi dechreu myned trwy gyfnewidiad pwysig gyda golwg ar iaith y gwasanaeth crefyddol. Mae y Saesonaeg yn ennill tir yn gyflym yn y ddwy gynnulleidfa, ac yn debyg yn mhen ychydig iawn o flynyddau etto o lwyr ymlid yr hen Gymraeg o'r pulpudau. O herwydd sefydlogrwydd y boblogaeth nid yw y cyfnewidiad yn debyg o effeithio mor niweidiol yma ag y mae wedi gwneyd mewn rhai manau. Dichon fod amryw o aelodau yr eglwys hon yn yr oesau gynt wedi cyfodi yn bregethwyr, nas gallasom ni ddyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yn unig y gwyddom ni am danynt.

Thomas Jones. Yr hwn a fu yn weinidog yn Newmarket, sir Fflint, am un-ar-ddeg-a-deugain a flynyddau. Daw ef etto dan ein sylw yn nglyn a hanes yr eglwys yno.

Thomas Edwards, Ebenezer, Arfon. Yn nglyn a'r eglwys a wasanaethodd mor ffyddlon trwy holl dymor ei weinidogaeth, y daw ei hanes yntau dan sylw.

Henry Edwards, brawd Thomas Edwards. Gyda hanes yr eglwys yn Moelfro, Mon, y rhoddwn ei fywgraphiad ef.

Michael Thomas, Wootton Bassett. Yr oedd ef yn nai fab chwaer i Mr. Evans, y gweinidog. Daeth yn ieuangc o ardal Capel Iwan i'r ardal hon i gadw ysgol, a dechreuodd bregethu yma yn 1829. Aeth i'r athrofa i Gaerfyrddin yn 1832, ac ar derfyniad ei amser yno, derbyniodd alwad o Wootton Bassett, sir Wilts, lle yr urddwyd ef yn 1838. Bu yno yn ddefnyddiol a pharchus iawn hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Medi 12fed, 1857, pryd yr oedd yn bump a deugain oed. Brawd iddo ef oedd y diweddar Mr. Samuel Thomas, St. Clears.

John Marks Evans, mab Mr. Evans y gweinidog. Bu ef yn gweinidogaethu yn olynol yn y Sarnau, Maldwyn, Llacharn, sir Gaerfyrddin, a Newton, Morganwg, o'r flwyddyn 1839 hyd 1868, pryd y gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi ei swydd i fyny. Mae yn awr yn byw yn Abertawy.

Joseph Hugh, oedd hen wr da a phregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys hon, a'r eglwysi cymydogaethol, am lawer o flynyddau. Bu farw mewn henaint teg yn nhy ei ferch, yn agos i Bentre-estyll tua saith mlynedd yn ol.

Mae llawer o ddynion rhagorol iawn am eu duwioldeb a'u ffyddlondeb wedi bod yn yr eglwys hon o bryd i bryd, y rhai y mae eu henwau yn perarogli yn yr ardal hyd heddyw; megis Morgan Morgans, Rhianfawr; Samuel Eaton, Poundffald; David John, Cwmynant; John Roberts, Ystlysyrhian; David Beynon, Hopkin Rees, ŵyr yr hybarch Lewis Rees, Mynyddbach, ac amryw eraill a ellid enwi.

Mae ysgoldy cyfleus wedi ei godi mewn cwr o'r ardal a elwir y Wernoleu, yn yr hwn y cedwir Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Cangen o'r eglwys hon hefyd yw yr eglwys yn Ngwaenarlwydd.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

Yr ydym wedi rhoddi cymaint o hanes y gweinidogion fu yma yn dechreu yr achos ag a wyddem, yn nglyn a hanes Mynyddbach. WILLIAM LLEWELLYN, oedd y gweinidog cyntaf a fu yma ar wahan oddiwrth y Mynyddbach. Urddwyd ef fel y gwelsom yn 1746, ac yr oedd yma yn 1751, ond yr oedd naill a'i wedi marw, neu wedi symud yn 1754. Nid oes genym unrhyw hanes pellach i'w roddi am dano.

WILLIAM EVANS. Ar ddiwedd hanes Cwmllynfell y rhoddir ei fywgraphiad ef.

NOAH JONES. Gweler hanes Llanharan a'r Taihirion.

JONATHAN LEWIS. Mab un Lewis Thomas Dafydd, o ardal Capel Isaac, oedd ef. Dechreuodd bregethu yr un amser a Mr. Thomas, Penmain, a Mr. Bowen, Castellnedd. Bu am ychydig amser yn ysgol Mr. John Griffiths, Glandwr. Daeth oddiyno i'r Cwmmawr a Rhydymardy tua diwedd y flwyddyn 1784, a bu yma tua dwy flynedd, yna symudodd i Lanybri, lle y bu am ychydig fisoedd. Cymerwyd ef yn glaf yn ardal Penygraig, yn y Plasgwyn fel y tybir, a bu farw yno, a chladdwyd ef wrth gapel Penygraig, tua diwedd y flwyddyn 1786, neu ddechreu 1787. Dywedai yr hen bobl a'i hadwaenai ei fod yn wr ieuangc hynaws a chrefyddol iawn, ac yn bregethwr da.

DANIEL LEWIS. Gweler hanes Llanfaple, Mynwy.

THOMAS EDWARDS. Yn hanes Godrerhos y rhoddwn yr hyn a wyddom am dano ef, gan mai yno y diweddodd ei weinidogaeth yn Nghymru. LEWIS POWELL. Nid oes genym ddim i ychwanegu at yr hyn a nodasom eisioes gyda golwg arno ef.

JOHN EVANS. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Pantygwenith, plwyf Cenarth, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1791. Enwau ei rieni oeddynt Michael a Rachel Evans, ac yr oeddynt mewn amgylchiadau bydol gwell na'r cyffredin o amaethwyr y gymydogaeth. John oedd yr ieuengaf o naw o blant. Yn Nghapel Iwan, dan weinidogaeth Mr. Morgan Jones, Trelech, yr addolai ei rieni. Dygwyd ef dan argyhoeddiadau crefyddol yn ieuangc, a phan yn bedair-ar-ddeg oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghapel Iwan. Yn mhen dwy flynedd wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol bod am gryn amser yn yr ysgol yn ei ardal enedigol, rhwymwyd ef yn egwyddorwas gyda Mr. John Lewis, masnachydd, Caerfyrddin, ond ni fu yno yn hir. Gan faint ei duedd at bregethu, a'i syched am wybodaeth, aeth i'r Ysgol Ramadegol a gedwid gan Mr. Peter mewn cysylltiad a'r athrofa. Wedi bod yno am ysbaid, derbyniwyd ef i'r athrofa lle yr hynododd ei hun yn mysg ei gydfyfyrwyr fel dysgwr rhagorach na nemawr. Tra yn yr athrofa ennillodd y cymeriad o fod yn anghyffredin o alluog ei feddwl, ac felly yr ystyrid ef trwy ei oes gan bawb o'i gydnabod. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa, dychwelodd i'w ardal enedigol, a bu yno am rai blynyddau yn cadw ysgol. Y pryd hwnw, ymunodd mewn priodas a Mary, merch Mr. John Marks, o Beny waun, Cilrhedyn, yr ystyr a gafodd yn ymgeledd gymwys iddo." Bu iddynt un-ar-ddeg o blant, a chawsant yr hyfrydwch o'u gweled oll yn arddel crefydd. Yn nechreu y flwyddyn 1819, talodd Mr. Evans ymweliad a'r eglwysi yn y Crwys a'r Brynteg, a chafodd ei hoffi i gymaint o raddau yn y ddau le, fel y rhoddwyd iddo alwad unfrydol. Urddwyd ef yn Mai 1819. Yr oedd Mr. Jones, Trelech; Mr. Peter, Caerfyrddin, ac eraill, yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad. Er iddo gael mwy nag un cynyg i symud i eglwysi lluosocach a phwysicach, etto dewisodd ef dreulio ei oes yn y man lle y dechreuodd ei weinidogaeth. Mae yn sicr na fu un gweinidog mewn unrhyw eglwys nac oes yn Nghymru, yn sefyll yn uwch yn nghyfrif ei bobl na Mr. Evans. Credent hwy nad oedd galluocach gweinidog yn yr holl fyd na'u gweinidog hwy. Adwaenom lawer o bobl o'r Crwys a'r Brynteg, sydd wedi ymsefydlu mewn ardaloedd eraill, ac ymuno a'r eglwysi yn yr ardaloedd hyny, ac y maent braidd yn ddieithriad yn ddynion tangnefeddus a hawdd eu trin. Wedi arfer coleddu meddyliau uchel am y gweinidog y magwyd hwy dan ei weinidogaeth, ymddygant yn foneddigaidd at eu gweinidogion yn mhob lle arall. Am yr ugain mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth, y Crwys a'r Brynteg yn unig oedd dan ofal Mr. Evans, ond yn 1839, cymerodd ofal y gynnulleidfa fechan a ymgynnullai i'r capel a adeiladesid gan yr Arglwyddes Barham, yn Mhenyclawdd, a chynyddodd yr achos yn fawr dan ei ofal yno. Yr oedd ei lafur yn fawr iawn, pe na buasai yn ddim ond pregethu, ond gan nad oedd cyfraniadau yr eglwysi yn agos ddigon at gynhaliaeth ei deulu lluosog, bu raid iddo am lawer o flynyddau ychwanegu y llafur o gadw ysgol ddyddiol at waith y weinidogaeth. Yr oedd yn hapus iawn fel ysgolfeistr yn gystal ag fel gweinidog. Coleddai ei ysgolheigion oll y meddyliau uchaf ac anwylaf am dano. Bu amryw bregethwyr yn derbyn addysg yn ei ysgol, megis John Davies, Mynyddbach; John Joseph, Llanedi; Jenkin Jenkins, America; W. Jenkins, Pentre-estyll; J. Bevan, Llangadog; W. Williams, Bryn, Llanelli; I. Williams, Trelech, a J. Hopkins, W. Rees, a D. Knoyle, y rhai sydd wedi myned yn offeiriaid er's blynyddau bellach. Efe oedd oracl yr ardal mewn pethau gwladol yn gystal a chrefyddol. Pan fuasai eisiau mesur tiroedd a thai, gwneyd ewyllysiau, cytundebau, a'r cyffelyb, at Mr. Evans yr elai pawb, ac yr oedd gan yr ardalwyr lawer mwy o ymddiried yn ei fedr ef at bethau felly nag mewn un cyfreithiwr. Nid oes neb a fedr ddirnad pa faint o ddaioni gwladol a chrefyddol a wnaeth i'r ardal. Bu ei bobl yn ofalus i roddi iddo gyflawnder o waith, ac o barch o ryw fath, dros amser ei ymdaith yn eu mysg, ond buont fel y rhan fwyaf o eglwysi Cymru, yn fyr o wneyd yr hyn a ddylasent ac a allasent at ei gynaliaeth, fel y bu raid iddo werthu ei dir er magu ei deulu. Daeth atynt yn wr cymharol o gyfoethog, a bu farw, wedi agos i ddeugain mlynedd o lafur caled, heb ond y peth nesaf i ddim i'w adael ar ei ol i'w weddw a'i blant.

Yn y flwyddyn 1841, bu twymyn drom yn nheulu Mr. Evans, a bu ef ei hun, yn gystal ag amryw o'i blant, yn gorwedd am rai wythnosau. Ar yr amser hwnw yr oedd y gweinidogion cymydogaethol yn llanw ei bulpudau. Un bore Sabboth, pryd yr oedd ef yn ymddangos yn anobeithiol o glaf, yr oedd Mr. Morris, y pryd hwnw o Glandwr, i bregethu yn y Crwys. Ar ol darllen a chanu, cyn dechreu gweddio, anerchodd y gynnulleidfa yn y dull toddedig y medrai ef wneyd, gan anog pawb yno i uno gydag ef mewn gweddi ar ran y gweinidog. Yn ei weddi erfyniodd ar yr Arglwydd am estyn o leiaf bymtheng mlynedd ar ei fywyd. Mae yn deilwng o sylw i Mr. Evans fyw bymtheg mlynedd ond mis o'r diwrnod hwnw.

Yn mlynyddau diweddaf ei oes blinid Mr. Evans yn fawr gan y gymalwst, a'r clefyd hwnw, a'r ol wythnosau o boenau dirdynol, a osododd derfyn ar ei fywyd nos Sabboth, Ionawr 13eg, 1856. Claddwyd ef yn mynwent y Crwys. Pregethodd Mr. Jones. Heolycastell, Abertawy, a Mr. Davies, Cwmamman, yn ei angladd i dorf fawr a galarus.

O ran corph yr oedd Mr. Evans yn hardd, a lluniaidd, ac o wneuthuriad cadarn, a thua pum' troedfedd a deng modfedd o daldra. O ran ei dymer yr oedd yn un o'r dynion mwyaf hawddgar a chyfeillgar a adnabuasom erioed; ac yn ei ymddangosiad a'i ymddygiad, yr oedd yn lân, heb fod yn goegaidd, ac yn foneddigaidd, heb fod yn fursenaidd. Yr oedd, fel y nodasom yn barod, yn ddyn o feddwl nodedig o dreiddgar a galluog. Dichon nad oedd un gweinidog yn Nghymru yn alluocach duwinydd nag ef. Yr oedd wedi talu sylw dwys i Athrawiaeth yr Iawn, Gwaith yr Ysbryd, Penarglwyddiaeth, a'r cyffelyb, fel y pregethai arnynt mor eglur a tharawiadol a neb a wrandawsom erioed. Gresyn na buasai ei duedd a'i amgylchiadau yn caniatau iddo ysgrifenu a chyhoeddi ei fyfyrdodau ar y pyngciau mawrion hyn. Buasai y llyfr yn gaffaeliad anmhrisiadwy. Fel Pregethwr yr oedd yn ymadroddwr rhwydd a chryf, a'i lais yn hyglyw, heb fod yn berseiniol nac yn aflafar. Safai ar dir canol rhwng y bloeddiwr poblogaidd a'r siaradwr sychlyd a dieffaith. Pregethwr cryf, eglur, a buddiol i bob math o wrandawyr ydoedd, ond yn fwy nodedig o swynol i feddylwyr craffus nag i'r lluaws difeddwl. Medrai drin ac egluro pyngciau dyfnion duwinyddiaeth yn fuddiol a tharawiadol i ddynion meddylgar, heb fod yn boenus i'r anwybodus. A chymeryd pob peth at ystyriaeth, yr oedd Mr. Evans o'r Crwys, yn un o'r gweinidogion mwyaf cyflawn a diddiffyg yn ei oes. Ni chlywsom neb o'i gydnabod erioed yn dyweyd dim yn anmharchus am dano. Yr uchel-Galfiniaid yn unig a deimlant fesur o oerni tuagato o herwydd ei fod yr hyn a alwant hwy yn Ffwleriad, ond yr oedd ei gymeriad a'i hawddgarwch y fath fel na theimlai y cyfryw ryw gasineb cryf ato.

Nodiadau

[golygu]