Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Cwmbwrla
| ← Pentre-Estyll | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Horeb, Treforis → |
CWMBWRLA.
Pentref ychydig gyda milldir o Abertawy, ar y ffordd i Lanelli a Chaerfyrddin, yw Cwmbwrla. Yr oedd gan eglwys Ebenezer ysgoldy at gadw Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio yn Mhentrefgethin, ychydig yn nes i fyny i'r wlad, er's llawer o flynyddau, a phan gymerodd perchenog y tir feddiant o hwnw, adeiladwyd ysgoldy yn Nghwmbwrla yn 1844, vr hwn a agorwyd Awst 12fed a'r 13eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Rees, a T. Roberts, Llanelli; W. Jones, Abertawy; E. Roberts, Cwmbychan; J. Bowen, yn awr o Bendaran; T. Thomas, Abertawy: E. G. Williams, Ysgetty, a W. Morris, Glandwr. Cadwyd Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, pregethu achlysurol, ac ysgol ddyddiol yn yr ysgolly hwn hyd y flwyddyn 1861, pryd y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Gollyngwyd 50 o aelodau o Ebenezer i ffurfio yr eglwys newydd, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mr. E. Jacob, yr hwn oedd yn awr wedi rhoddi gofal Ebenezer i fyny, ac ar symud i Ebley. Cawn y nodiad canlynol gyda golwg ar ffurfiad yr eglwys hon yn y Diwygiwr am Hydref, 1861:—"Yn ddiweddar, wrth weled fod preswylwyr yr ardal yn amlhau yn fawr, penderfynwyd sefydlu achos rheolaidd yn y İle. Unodd ychydig frodyr gweithgar y dref a'r rhai oedd yn byw yno, yn y cynyg er dyogelu yr amcan teilwng hwn, a choronwyd eu llafur a llwyddiant. Cydweithredodd y Parch. W. Humphreys, Cadle, yn wresog yn yr ymdrech; a chan ei fod yn byw yn yr ardal, mae yn addaw cydweithredu etto. Nos Sabboth, Medi 8fed, 1861, cafodd y Parch. E. Jacob yr hyfrydwch o ffurfio eglwys yn y lle, yn cynwys yn nghylch 50 o aelodau. Derbyniwyd ar y pryd wyth o rai newyddion, ac y mae o ddeg i bymtheg etto yn y gyfeillach heb eu derbyn. Bwriedir adeiladu addoldy hardd yno mor fuan ag y byddo yn gyfleus. Mae golwg obeithiol iawn ar yr achos ieuangc yn ei gychwyniad." Dewiswyd Mr. Humphreys yn weinidog yn fuan ar ol hyn, a pharhaodd i gyflawni ei weinidogaeth yn wir effeithiol hyd derfyniad ei fywyd defnyddiol. Yn haf 1862 gosodwyd careg sylfaen y capel gan Mr. E. Griffiths, Abertawy, a phregethwyd ar yr achlysur gan Mr. Daniel, Mynyddbach, a Dr. Rees, Abertawy. Cynnaliwyd cyfarfodydd agoriad y capel newydd Mawrth 29ain, 30ain a'r 31ain, 1863, pryd y pregethodd Meistri J. Thomas, Bryn; W. Morgan, Maesteg; Dr. Rees, Abertawy; J. Roberts, Castellnedd; D. Jones, Cwmafon; T. Davies, Siloa; J. Mathews, Castellnedd; D. Evans, Llansawel; H. Evans, Penbre; E. Evans, Treforis; J. Rees, Canaan; T. Davies, Treforis, a T. Thomas, Glandwr. Traul yr adeiladaeth oedd 700p., a chasglwyd erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad 200p. Yn y flwyddyn 1864, gosodwyd oriel yn y capel a chynaliwyd cyfarfodydd agoriad drachefn ar orpheniad y gwaith hwnw, Tachwedd 13eg a'r 14eg, pryd y pregethodd Meistri J. Rees, Cwmaman, Aberdare; H. Evans, Penbre; W. Griffiths, Llanharan; J. Evans, Maendy; J. Thomas, Bryn, a J. Joseph, Llanedi. Gorphenaf 9fed, 1869, bu farw y gweinidog llafurus, Mr. Humphreys, er dirfawr dristwch a cholled i bobl ei ofal. Wedi bod tua blwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Humphreys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, New Tredegar, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn Medi, 1870. Mae Mr. Jones a'r bobl yn cydweithredu yn ddymunol, a phob arwydd y bydd ei lafur yn y lle yn llwyddianus. Er fod y capeli Zoar, Pentre-estyll, Ebenezer, Capel Sion, Glandwr, a'r capel hwn, oll o fewn llai na milldir i'w gilydd, y mae yma ddigon o drigolion i'w llenwi oll, a digon yn ngweddill i'r enwadau eraill.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
WILLIAM HUMPHREYS. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Glandwr yn y flwyddyn 1822. Yr oedd yn blentyn i rieni crefyddol, ac felly cafodd ei fagu yn eglwys Dduw. Ymunodd a chrefydd yn ieuangc iawn yn Siloh, Glandwr. Tua y flwyddyn 1847, ychydig cyn ymadawiad Mr. Morris a'r lle, anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod am rai blynyddau yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol, urddwyd ef yn weinidog yr eglwys yn Nghadle, Chwefror 13eg, 1851. Yn fuan wedi hyny cymerodd ofal yr eglwys yn y Brynteg mewn cysylltiad a Chadle, ac ar ffurfiad yr eglwys yn Nghwmbwrla, cymerodd ofal hono at y ddwy flaenorol. Rhwng y tri lle yr oedd ei lafur yn ddirfawr mewn pregethu, cynal cyfarfodydd eglwysig, a theithio ar bob tywydd o le i le. Mae yn ddiameu i'w waith caled fod yn foddion i gyflymu ei farwolaeth. Wrth deimlo fod ei waith yn ormod iddo, a gweled fod yr eglwys yn Nghadle, ar ol cael capel newydd, yn alluog i gadw gweinidog ei hun, rhoddodd y lle hwnw i fyny, gan fwriadu cyfyngu ei lafur i'r Brynteg a Chwmbwrla, ond yn mhen ychydig fisoedd wedi iddo wneyd hyn, galwodd ei Arglwydd ef oddiwrth bob llafur at ei wobr. Bu farw, ar ol ychydig wythnosau o gystudd trwm, Gorphenaf 9fed, 1869, a chladdwyd ei gorph, yn ngwydd tyrfa ddirfawr o alarwyr, yn mynwent y Mynyddbach, yn agos i'r man y gorphwysa llwch yr enwogion Lewis Rees a Daniel Evans. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Thomas, Glandwr; Mr. Thomas, Bryn; Dr. Rees, Abertawy, ac eraill.
Yr oedd William Humphreys yn weithiwr difefl yn ngwasanaeth ei Arglwydd, ac yn ddyn llawn o ysbryd cyhoeddus. Cymerai ddyddordeb neillduol yn yr ymdrech i adeiladu capeli Saesonig yn Abertawy. Er helaethiad ei gylch gweinidogaethol, a maint ei lafur, pwy bynag fyddai yn eisiau yn nghyfarfodydd pwyllgor yr achosion Saesonig, byddai ef yn sicr o fod yno, ac ni ddywedai un amser air i rwystro, ond yn wastad i anog y gwaith i fyned rhagddo. Trwy ei lafur ef yn benaf y dechreuwyd yr achos yn Mhontarddulais. Ni welsom erioed frawd yn barotach i weithio er lledaenu yr achos. Er na chafodd fanteision addysg yn ei ieuengctyd, ac iddo er yn blentyn, ac am beth amser wedi iddo gael ei urddo, orfod gweithio yn galed yn y gwaith copr, casglodd radd helaeth o wybodaeth Ysgrythyrol a chyffredinol, a medrai draethu ei feddwl gyda rhwyddineb a chywirdeb yn yr iaith Saesonig yn gystal a'r Gymraeg. Pregethai yn ddoniol a gwresog. Ni ddarfu i un gweinidog yn Nghymru wneyd mwy o ddaioni mewn cyn lleiad o amser, a than gymaint o anfanteision, na'r gweinidog rhagorol a gweithgar hwn. Mae yn anrhydedd i'r eglwys a'i cyfododd i bregethu, a bu yn fendith anmhrisiadwy i'r eglwysi a gawsant eu breintio a'i lafur.