Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Ebenezer, Abertawy
| ← Yr Ysgetty | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Libanus, Treforis → |
EBENEZER, ABERTAWY.
Abertawy oedd un o'r manau cyntaf yn Nghymru lle y gosododd Ymneillduaeth ei throed i lawr ynddo. Fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach, cafodd eglwys Annibynol ei ffurfio yma tua y flwyddyn 1641, trwy offerynoliaeth Mr. Phillip Jones, o Benytwyn, Llangafelach, a Mr. Ambrose Mostyn, cyn toriad allan y rhyfel, yr hwn a ddechreuodd yn 1642, ac yn fuan ar ol ffurfiad yr eglwysi yn Llanfaches, Mynyddislwyn, a Chaerdydd. Yn 1662, trowyd Mr. Marmaduke Mathews allan o Eglwys Efan, ac yn fuan wedi hyny, daeth amryw weinidogion anghydffurfiol i fyw i'r dref a'r gymydogaeth, megis Meistri Daniel Higgs, M.A., William Thomas, M.A., Stephen Hughes, Meidrym; David Jones, Llandyssilio, a Meredith Davies, Llanon, a bu rhai, os nad pob un o honynt, yn trigianu yma am weddill eu hoes. Pan ganiatawyd rhyddid i'r Ymneillduwyr i drwyddedu tai at bregethu, yn y flwyddyn 1672, darfu i Marmaduke Mathews, Daniel Higgs, a Stephen Hughes drwyddedu eu tai i'r perwyl hyny yn nhref Abertawy. Cadwyd anghydffurfiaeth yn fyw yma trwy holl angerdd yr erledigaeth, a chyn gynted ag y cafwyd deddf goddefiad yn 1688, adeiladwyd capel Annibynol yma, ac erbyn 1697, yr oedd hwnw wedi myned yn rhy fychan, fel y bu raid adeiladu un helaethach ar y tu deheuol i'r Heol fawr, ar y fan y saif capel yr Undodiaid yn bresenol, a rhentiwyd y capel cyntaf i'r Bedyddwyr. Mae yn ymddangos mai yn yr iaith Saesonaeg y dygid y gwasanaeth yn mlaen yn y capel hwn o'r dechreuad. Sais oedd Mr. Higgs, y gweinidog cyntaf, a dilynwyd ef gan un Mr. Denbury, ac yna gan Mr. Whitear. Mr. George Palmer, yr hwn a fu farw yn 1750, oedd y Cymro cyntaf fu yn pregethu yma, ond y mae yn sicr mai yn yr iaith Saesonaeg y pregethai yntau. Felly nid oedd yr achos hwn o nemawr o wasanaeth i boblogaeth Gymreig y dref, a pheth oedd waeth na'r iaith, aeth udgorn y weinidogaeth i roddi sain anhynod yma tua chanol y ddeunawfed ganrif, nes i'r lle o radd i radd fyned yn hollol i feddiant yr Undodiaid.
Yr oedd cangen o eglwys Ty'rdwncyn er's llawer o flynyddau yn cadw gwasanaeth crefyddol rheolaidd yn y Wigfach, amaethdy tua milltir a haner i'r gogledd-orllewin o dref Abertawy, yn benaf er mwyn yr aelodau a gyfaneddant yn y dref a'r gymydogaeth. Wedi marwolaeth Luce Rosser, gwraig y tŷ, yn 1776, cyfododd rhyw rwystr i gadw yr addoliad yno rhagllaw, a bu raid edrych am le arall. Aeth Mr. Lewis Rees a Mr. Solomon Harris, gweinidog y Saeson, at un Mr. Aleine, perchen ystafell gyfleus y tu cefn i Heolycastell, yn y dref, a chawsant y lle hwnw at gynal cyfarfodydd ar y Sabboth a nosweithiau o'r wythnos. Yn yr ystafell hon y buwyd yn addoli hyd nes yr adeiladwyd capel Ebenezer. Yn amser Mr. Lewis Rees, byddai gweinidogion y Methodistiaid yn lled fynych yn pregethu yn yr ystafell, gan nad oedd gan yr enwad hwnw un lle addoliad yn y dref. Byddai yr aelodau yn myned i'r Mynyddbach i gymuno, ac i'r cyfarfodydd bob bore Sabboth, ac yn cynal y gwasanaeth yn yr ystafell yn y prydnawn a'r hwyr. Wedi i Mr. Davies, Llangeler, ddyfod yn weinidog i'r Mynyddbach, tynodd ei ddoniau digyffelyb ef y fath luaws yn nghyd fel nad oedd yr ystafell, pan y deuai yno i bregethu, yn agos ddigon eang i gynwys ei wrandawyr. Yn y cyfamser, cyfododd rhyw fesur o gamddealldwriaeth rhwng yr aelodau a'u gilydd; barnai rhai fod y bobl yn angerdd eu sel dros eu gweinidog newydd, Mr. Davies, yn euog o daflu diystyrwch ar yr hen weinidog, Mr. Rees, ac felly aethant yn ddwy blaid. Darfu i Mr. David Thomas, Bragwr, adeiladu capel yn 1799, ar ei dir ei hun ar y Cruglas, a chyflwynodd ef i gorph y Methodistiaid. Aeth amryw o aelodau y Mynyddbach o'r ystafell i'r capel, ac ymunasant a'r Methodistiaid, a dyna ddechreuad Methodistiaeth yn Abertawy. Pa fodd bynag, glynodd nifer fawr gyda Mr. Davies yn yr ystafell, ac aeth y lle drachefn yn dra buan lawer rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Yn 1803, adeiladwyd capel Ebenezer, ac agorwyd ef ar y 9fed a'r 10fed o Fai, 1804, pryd y pregethodd y gweinidogion enwog-David Peter, Caerfyrddin; Morgan Jones, Trelech; Thomas Bowen, Castellnedd; John Davies, Alltwen; Griffith Hughes, Groeswen; David Morgan, Esgairdawe; Morgan Lewis, Glynnedd; Dr. Thomas Phillips, Neuaddlwyd; William Griffiths, Glandwr; John Lloyd, Henllan, a Sadrach Davies, Maendy. Yr oedd Ebenezer y pryd hwnw yn un o'r capeli mwyaf yn Nghymru. Mesurai 46 troedfedd wrth 34 o fewn y muriau. Aeth ar unwaith yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa yn gysurus. Y fath oedd poblogrwydd Mr. Davies fel yr oedd yn anhawdd cael unrhyw gapel yn ddigon mawr i gynwys ei wrandawyr. Yr oedd agwedd foesol Abertawy yn resynus i'r eithaf pan ddechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yma. Yr oedd trigolion y dref tua deng mil, heb son am y pentrefi tua milldir y tu allan i'r dref, ac nid oedd ond un capel Cymreig yn yr holl dref, sef capel y Bedyddwyr, yr hwn ni chynwysai ar ei eithaf dros dri chant a haner o bobl. Yr oedd y glowyr a'r gweithwyr eraill yn y dref a'r cyffiniau yn debycach i farbariaid nag i breswylwyr gwlad wareiddiedig. Tystiai amryw hen bobl oedd yn ddiweddar yn fyw, ei bod yn berygl bywyd i gerdded ystrydoedd y dref a'r pentrefi cyfagos ar nos Sadwrn y cyfrif," am y byddai heidiau o ddyhirod meddw a chreulon yn wastad yn barod i ymosod ar y neb a elai yn agos atynt. Byddent hefyd yn arfer ymosod ar dai yn y nos, gan daflu ceryg mawrion atynt, nes dryllio y drysau a'r ffenestri, a phrin y medrant siarad gair heb fytheirio allan regfeydd a chableddau. Peth anghyffredin iawn gynt, yn yr ardaloedd hyn, fyddai cael gweithiwr yn proffesu crefydd. Gwnelid yr ychydig eglwysi, o bob enwad yn y gymydogaeth, i fyny agos yn hollol o amaethwyr a masnachwyr. Yr oedd y dosbarth gweithiol agos oll yn meddiant y diafol, ac yn ei wasanaethu hyd eithaf eu gallu. Pan ddaeth Mr. Davies i'r gymydogaeth, cymerodd cyfnewidiad buan a dymunol le. Cyffrodd ei ddoniau digyffelyb sylw y lluaws; aeth y Mynyddbach yn fuan yn ail i Langeitho, cyrchai canoedd o bell ac agos yno ar y Sabbothau i'w wrandaw, a chafodd llawer o flaenoriaid gwasanaeth Satan eu gwneyd yn wasanaethwyr ffyddlon i Iesu Grist. Er i ganoedd fyw a marw heb eu dychwelyd at yr Arglwydd, etto bu ei weinidogaeth nerthol yn foddion i gyfodi crefydd i gymaint o sylw a dylanwad, nes darostwng i raddau helaeth yr anfoesoldeb a'r barbareidd-dra gwaradwyddus a ffynant yn mysg gweithwyr y dref a'r gymydogaeth. Ennillodd gymaint o ddylanwad dros y werin mewn ychydig o flynyddau, nes y byddai ei ymddangosiad yn ddigon i dawelu yr annuwiolion mwyaf rhyfygus. Cymerer y ffeithiau canlynol fel engreifftiau:-Yr oedd amryw gigwyr o gymydogaeth Cwmaman a Llangiwc yn arfer cadw marchnad Abertawy. Byddai rhai o honynt bob nos Sadwrn, ar ol gorphen gwerthu eu cig, yn myned i'r tafarndai, ac yn yfed yno hyd foreu y Sabboth, pryd y cychwynent tua chartref ar eu ceffylau bychain. Os digwyddai iddynt wrth fyned allan o'r dref gyfarfod Mr. Davies yn dyfod i'w cyfarfod ar yr heol, gyrent yn eu hol nes y caent groesffordd i droi iddi o'i wydd. Yr oedd un dyn diarhebol fel rhegwr, a elwid "Dick y Badwr," yr hwn a arferai gludo dynion dros yr afon rhwng Abertawy a'r Foxhole, pa bryd bynag y canfyddai Mr. Davies yn dyfod yn agos, rhybuddiai ei gymdeithion annuwiol, gan ddyweyd, "Peidiwch rhegu fechgyn, dacw Davies yn dyfod." Un nos Sadwrn, darfu i haid o ddynion ieuaingc meddw, mewn ffordd o ddigrifwch drelaidd, wrth fyned adref yn hwyr o'r dafarn, daflu ceryg at dŷ Mr. Davies, fel yr arferent wneyd at dai eraill. Pan ddaeth i wybod pwy oeddynt, anfonodd atynt i ddyfod i siarad ag ef; aethant yn grynedig, a'u mamau gyda hwynt, dan wylo, ac mewn braw rhag iddo eu hanfon i garchar. Ond pan ddaethant yno ni wnaeth ddim iddynt, amgen eu cynghori gyda dagrau, a myned i weddi drostynt, gan eu rhwymo i addaw dyfod i'r capel y Sabboth canlynol, yr hyn a wnaethant. Daethant oll yn fuan wedi hyny at grefydd. Yr oedd un o honynt yn fyw yn ddiweddar, os nad yw etto, ac yn "hen ddysgybl" penwyn. Dengys yr engreifftiau hyn, ac amryw o rai cyffelyb a ellid gofnodi, fod un "gweinidog da i Iesu Grist" yn llawer effeithiolach i foesoli ardal na haner cant o'r heddgeidwaid mwyaf gofalus. Gwnaeth adeiladiad y capeli ar y Cruglas ac yn Heol Ebenezer, a'r llwyddiant a ddilynodd hyny, wellhad buan yn moesau Abertawy a'r cylchoedd.
Wedi i Mr. Davies roddi y Mynyddbach a Threforis i fyny, a chyfyngu ei lafur i Ebenezer a'r Ysgetty, llwyddodd i sefydlu eglwys luosog a chref iawn yn mhob ystyr yn y dref. Mae yn debyg i'r eglwys gael ei chyfan soddi yn eglwys hollol annibynol ar y fam-eglwys yn y Mynyddbach cyr gynted ag yr agorwyd y capel yn 1804, os nad cyn hyny, ond nid oe genym unrhyw hanes ysgrifenedig nac argraffedig am ei chorpholiad fer eglwys Annibynol. Bendithiwyd yr eglwys hon, fel eglwysi eraill yn y gymydogaeth, a diwygiad grymus iawn yn 1807, pryd yr ychwanegwyd ugeiniau at yr aelodau, a pharhaodd pethau mewn agwedd nodedig o lewyrchus tra y bu Mr. Davies byw. Yr oedd Mr. Davies wedi llenwi ei bobl ag ysbryd cenhadol o'r pryd y daethai gyntaf i'w mysg, ac y mae yr ysbryd hwnw yn parhau i raddau dymunol yn eglwys Ebenezer hyd y dydd hwn. Yma y cynhaliwyd y cyfarfod cenhadol cyntaf yn Nghymru. Ar yr wythnos gyntaf o Awst, 1814, y cynhaliwyd y cyfarfod dyddorol hwn. Bore dydd Mawrth yn nghapel Ebenezer, gweddiwyd yn Gymraeg a Saesonaeg gan Meistri Davies, Browyr, a Smith Appledore, a phregethodd Mr. Jones, Islington, yn Saesonaeg, a Mr. Jones, Trelech, yn Gymraeg. Am dri o'r gloch, pregethodd Mr. Thomas, Penmain, yn Gymraeg. Am chwech, gweddiodd Mr. Warlow, Milford, a phregethodd Mr. Luke, Hwlffordd, yn Saesonaeg, a Mr. Hughes, Groeswen, yn Gymraeg, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. Harris, gweinidog y Bedyddwyr yn Abertawy. Dydd Mercher, am saith y bore, pregethodd Mr. Skeel, Trefgarn, yn Gymraeg. Am ddeg, pregethodd Mr. Williams, Stroud, yn Saesonaeg, yn Eglwys Efan, a Mr. Jones, Talgarth, yn Gymraeg, yn Ebenezer. Am dri, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn neuadd y dref er ffurfio Cangen Gynorthwyol Deheudir Cymru o Gymdeithas Genhadol Llundain. Llywyddwyd y cyfarfod gan L. W. Dillwyn, Ysw. Dewiswyd Thomas Morris, Ysw., Caerfyrddin, yn Drysorydd, a Meistri Peter a Charles, Caerfyrddin, yn Ysgrifenyddion, a phenderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynnal yn Nghaerfyrddin. Gan mai yn yr iaith Saesonaeg y dygid y cyfarfod cyhoeddus yn mlaen, traddodwyd dwy bregeth i'r Cymry uniaith yn Ebenezer ar yr un amser, gan Mri. H. Williams, Llanelli, ac S. Davies, Maendy. Am chwech, pregethodd Mr. Thorp, Caerodor, yn Saesonaeg, a Mr. Jones, Pontypool, yn Gymraeg. Am saith bore ddydd Iau, pregethodd Mr. Powell, Aberhonddu. Am ddeg, pregethodd Mr. Davies, Sardis, ac ar ol y bregeth, darllenwyd yn Gymraeg y penderfyniadau a basiwyd yn y cyfarfod cyhoeddus y dydd o'r blaen. Am dri yn y prydnawn, cynnaliwyd cyfarfod cymundeb yn Ebenezer, pryd yr oedd llawer o ganoedd yn cydgymuno. Llywyddwyd wrth y bwrdd gan Mr. Davies, Alltwen, a Mr. Mathew Wilks, Llundain; ac anerchwyd y cymunwyr gan Mr. Thorp, a Mr. Peter. Gan fod y dorf yn aruthrol o fawr, tynwyd ymaith ffenestri y capel, a gosodwyd i fyny esgynlawr i'r llefarwyr i sefyll arno, fel y gallasai y torfeydd yn y tŷ, a thu allan eu clywed. Yr oedd rhyw deimlad nodedig o nefolaidd yn yr holl gyfarfodydd, ond yn enwedigol y cyfarfod cymundeb. Er. fod y cyfarfodydd wedi cael eu cadw yn ddiorphwys am dri diwrnod, nid oedd y lluaws yn foddion ymadael heb gael dwy bregeth drachefn yn yr hwyr, ac felly pregethodd Mr. Mathew Wilks, a Mr. George, Brynberian. Daeth pob un o'r gweinidogion gwyddfodol a chasgliadau oddiwrth eu heglwysi i'r cyfarfod hwn, a chasglwyd yn ystod y cyfarfodydd yn Ebenezer 80p. Os. 4c.; yn y Burrows 50p. 15s.; ac yn Eglwys Evan 18p. Yr oedd y cwbl a anfonwyd i'r fam-gymdeithas o'r cyfarfod hwn yn 500p. Oddiar y cyfarfodydd enwog hyn y mae eglwysi Cymru wedi anfon degau o filoedd o bunau i Gymdeithas Genhadol Llundain, ac mewn ychwanegiad at hyny, wedi anfon allan amryw o'u gwyr ieuaingc i'r maes cenhadol, y rhai sydd wedi troi allan yn genhadon enwog a llwyddianus iawn, ac yn mysg yr enwocaf o ba rai y mae Mr. Griffith John, un o blant eglwys Ebenezer.
Bu farw Mr. David Davies, yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, yn Rhagfyr, 1816, er galar dirfawr i bobl ei ofal, ac i Gymru yn gyffredinol. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Davies, rhoddodd yr eglwysi yn Ebenezer a'r Ysgetty alwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr yn athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef Ebrill 23ain, 1818. Dechreuwyd cyfarfod yr urddiad trwy weddi gan Mr. T. Bowen, Castellnedd; pregethwyd ar natur eglwys, a gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr. J. Davies, Alltwen; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Powell, Aberhonddu; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin, oddiwrth Mat. xxi. 28.; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 1 Tim. i. 17., a diweddwyd trwy weddi gan Mr. T. Luke, Abertawy. Pregethwyd yn yr hwyr, ac yn hwyr y dydd blaenorol, gan Meistri H. Williams, Llanelli; J. Williams, Ty'ny coed; J. Jones, Talgarth, a J. Rowlands, Llanybri. Bu Mr. T. Davies am rai blynyddau yn boblogaidd a rhyfeddol o barchus, nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond hefyd gan y wlad yn gyffredinol. Gydag amser, pa fodd bynag, o herwydd rhyw wendidau perthynol iddo, bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef fel eu gweinidog, etto parhaodd canoedd yn y dref a'r cyffiniau yn eu teimlad o anwyldeb tuag ato er ei holl wendidau. Yn 1826, helaethwyd y capel trwy ychwanegu un-droedfedd-ar-bymtheg at ei led, fel yr oedd yn 50 troedfedd wrth 46 oddi fewn i'r muriau. Cynnaliwyd cyfarfodydd agoriad ar ol yr helaethiad hwn, Hydref 25ain a'r 26ain, 1826. Dechreuwyd y nos gyntaf gan Mr. D. Davies, Sardis, a phregethodd y Meistri L. Powell, Mynyddbach, Llandilo, a W. Jones, Penybont ar-ogwy. Am haner awr wedi deg yr ail ddydd, gweddiodd Mr. S. Price, Llanedi, a phregethodd y Meistri D. Davies, Sardis, Brittan, Heolycastell, Abertawy, yn Saesonaeg, a D. Peter, Caerfyrddin. Yn y prydnawn, gweddiodd Mr. H. Herbert, Drefnewydd, a phregethodd y Meistri J. Williams, Ty'nycoed, a J. Rowlands, Cwmllynfell. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. J. Davies, Castellnedd, a phregethodd y Meistri Jenkins, Llangeitho, (Trefynydd,) a D. Peter, Caerfyrddin. Bu y capel ar ol ei helaethiad yn anghysurus o lawn am tua phymtheng mlynedd, ond wedi adeiladu Canaan, Capel Sion, Pentre-estyll, a Zoar, teneuodd y gynnulleidfa i raddau. Yn Mehefin, 1842, darfu cysylltiad Mr. Thomas Davies a'r eglwys hon fel ei gweinidog, ac yn niwedd yr un flwyddyn, rhoddwyd galwad i Mr. Elias Jacob, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd yma Chwefror 1af a'r 2il, 1843. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn: Y nos gyntaf pregethodd y Meistri J. Evans, Crwys, a W. Morris, Glandwr. Am ddeg, dranoeth, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli; gofynwyd y gofyniadau gan Mr. Evans, Crwys; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Jones, Heolycastell, a phregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, un o athrawon yr athrofa yn Aberhonddu. Am ddau, pregethodd Mr. E. Lewis, athrofa Aberhonddu, a Mr. D. Evans, Castellnedd. Am chwech, pregethodd Mr. W. Griffiths, Llanharan, ar ddyledswydd yr eglwys, a Mr. Jones, Heolycastell, i'r gynnulleidfa yn gyffredinol. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon trwy weddi gan y Meistri Griffiths, Llanharan; Lewis, Aberhonddu; Watkins, Canaan, a Williams, Ysgetty. Bu Mr. Jacob, yn llafurio yma gyda diwydrwydd a ffyddlondeb canmoladwy hyd Awst, 1861, pryd y derbyniodd alwad i Ebley, sir Gaerloew, lle y mae hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1856, gan fod y llywodraeth wedi gwahardd claddu ychwaneg wrth y capel, penderfynodd yr eglwys adeiladu ysgoldy helaeth dros y beddau. Costiodd yr adeilad cyfleus hwn 400p., yr hyn a dalodd y gynnulleidfa yn ddioed. Cynnaliwyd cyfarfod agoriad yr ysgoldy ddydd Nadolig, 1856, pryd y bu tua dwy fil o bersonau yn yfed te ar yr achlysur. Yn yr ysgoldy hwn y cedwir yr Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd wythnosol yr eglwys. Yn Mawrth, 1862, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Rees, Cendl, y gweinidog presenol. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Ebrill. Yn nechreu Gorphenaf, yr un flwyddyn, tynwyd yr hen gapel i lawr, a dechreuwyd adeiladu yr un presenol, yr hwn a orphenwyd erbyn dechreu Mehefin, 1863. Ymddangosodd yr hanes canlynol am yr agoriad yn y Diwygiwr am Gorphenaf, 1863:—"Ailadeiladwyd y capel hwn yn ddiweddar, ac yn awr y mae yn un o'r capeli mwyaf a phrydferthaf yn y Dywysogaeth. Mesura 70 troedfedd o hyd, 46 o led, a 32 o uchder i'r nenfwd. Y mae yr oriel yn rhedeg dros dair rhan o bedair o hono, ac wedi ei gyfleu yn y fath fodd, fel y gall pob dyn o bob-congl o honi weled y pregethwr ar yr esgynlawr yn hollol ddidrafferth. Tu cefn i'r esgynlawr y mae cofadail prydferth, o fynor gwyn, wedi ei osod i fyny ar y mur, er coffadwriaeth am Mr. David Davies, gweinidog cyntaf Ebenezer, a thrwy offerynoliaeth yr hwn y dechreuwyd yr achos yno, yn gystal ag yn y dref. Y mae dyweyd mai Mr. T. Thomas, Glandwr, dynodd y cynllun, yn ddigon o warantiad am dlysni y capel. Yr adeiladwyr oeddynt Meistri Thomas, Watkins, a Jenkins, Abertawy, y rhai a gyflawnasant eu gwaith yn anrhydeddus. Costiodd yr adeilad 2,000p. neu 2,100p., heblaw defnyddiau yr hen gapel. Daeth yn barod erbyn diwedd Mai, ac yn Mehefin, cynaliwyd tri o gyfarfodydd neillduol mewn cysylltiad a'r agoriad. Yr oedd y cyfarfod cyntaf, yr hwn a gynaliwyd Mehefin yr 2il, yn gwbl Seisnig, pryd y disgwylid Dr. Brown, o Cheltenham, i bregethu; ond oblegid afiechyd, methodd, a daeth Mr. J. Whiting, o Stroud, yn ei le, a phregethodd ddwy bregeth hynod o alluog, a chymerwyd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd gan Meistri W. Jones, Castle Street; J. M. Evans, Newton; a J. Whitby, Burrows. Casglwyd yn y ddau gyfarfod 106p.
"Mehefin 6ed a'r 7 fed, cynaliwyd cyfarfodydd Cymreig, pryd y pregethodd y Meistri J. Roberts, Castellnedd; J. Davies, Cwmaman; T. Thomas, Glandwr; W. Morgan, Caerfyrddin, a J. Mathews, Castellnedd.
"Mehefin 15fed a'r 16eg, cynaliwyd y gyfres olaf o gyfarfodydd mewn cysylltiad a'r agoriad; pryd y pregethwyd am 2 y dydd cyntaf gan y Meistri E. Evans, Skiwen, ac R. Thomas, Bangor. Am haner awr wedi 6, pregethwyd gan y Meistri J. Griffiths, Llanymddyfri; J. Evans, Capel Sion, a P. Griffiths, Alltwen. Am 7 yr ail ddydd, pregethodd y Meistri R. Lewis, Ty'nycoed, a Thomas, Bryn. Am 10, y Meistri E. Jacob, Ebley, ac R. Thomas. Am 2, y Meistri T. Davies, Siloah, Llanelli, a J. Thomas, Liverpool. Am haner awr wedi 6, y Meistri J. Thomas, ac R. Thomas. Cymerwyd rhan hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Meistri D. Rees, Llanelli; J. Rees, Canaan; T. Davies, Llandilo; R. Williams, Bryntroedgam; J. Davies, Capel Sion; L. Davies, Sketty: W. Davies, Aberhonddu, &c. Rhwng y symiau a gasglwyd yn y cyfarfodydd agoriadol, a'r hyn a gasglwyd gan y gynnulleidfa yn flaenorol, gwnaed yn agos i 600p. rhwng y cwbl, gan adael rhywbeth fel 1,500p. o ddyled, yr hon modd bynag a doddir yn fuan trwy ymdrech y Dr. Rees, a'i gynnulleidfa fawr. Rhwydd hynt iddynt yn yr ymdrech. Gwna les mawr iddynt."
Saith gant o bunau yw y ddyled sydd yn aros yn awr, ac yn y swm hwn y mae dau cant o ddyled y capel yn Fabian's Bay, a gymerwyd gan eglwys Ebenezer arni ei hun er cynorthwyo yr achos ieuangc hwnw. Gellid talu y cwbl mewn ychydig wythnosau pe yr ymgymerid a hyny. Rhif aelodau yr eglwys yn bresenol yw pum' cant a phed war-ar-ddeg-ar-hugain, ac er's blynyddau bellach, y mae cyfanswm y casgliadau at bob achos rhwng pump a chwe' chant punt yn y flwyddyn.
Mae yr eglwys hon, er nad yw nemawr dros driugain-a-deg oed, yn fam i amryw o eglwysi yn y gymydogaeth: megis Heolycastell, Canaan, Capel Sion, Pentre-estyll, Cwmbwrla, y Sandfields, a Walter-road. Er fod cynifer o ganghenau wedi myned allan o honi, mae yr hen fam etto yn ymddangos yn gryf ac iachus. Ag ystyried lluosogrwydd yr eglwys, nid yw y nifer a gyfodwyd i bregethu ynddi ond ychydig mewn cymhariaeth. Y rhai canlynol yw yr unig rai y cawsom ni eu henwau.
David Williams, mab yr hen swyddwr enwog Peter Williams. Ganwyd ef Ionawr 27ain, 1804. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig Medi 7fed, 1819, gan Mr. T. Davies. Dechreuodd bregethu yn mis Mawrth, 1823. Aeth i athrofa Caerfyrddin yn 1824 neu 1825, ac urddwyd ef yn Forest Green, sir Gaerloew, yn 1829. Symudodd oddiyno i Kingswood, yn 1832; i Kineton, yn 1843; i Eatington, yn 1845; i Welford, yn 1855, ac i Wootton Bassett, yn 1860, lle y bu farw Awst 27ain, 1868. Yr oedd yn ddyn da iawn, ac yn bregethwr rhagorol. Perchid ef yn fawr yn mhob un o'r lleoedd y bu ynddynt.
David Thomas. Gweler ei hanes yn nglyn a hanes Bethel, Llansamlet, y bu am ychydig amser yn weinidog.
John Thomas. Y mae er's blynyddau bellach yn weinidog defnyddiol yn America.
Daniel Thomas. Y mae yntau er's blynyddau wedi ymfudo i America.
John Thomas, sydd un o ddiaconiaid yr eglwys, ac yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn.
David John, gweinidog eglwys Booth Street, Manchester.
David Davies, gweinidog yr hen gapel, Llanybri.
John Mathews. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu.
Thomas Thomas, a ddechreuodd bregethu yma, ond a symudodd i ogledd Lloegr.
Yn yr eglwys hon y magwyd Mr. Griffith John, y Cenhadwr, ac yma y derbyniwyd ef yn aelod pan nad oedd ond wyth mlwydd oed; ac er mai yn Onllwyn y dechreuodd bregethu, etto Ebenezer a gyfrifir ganddo fel ei fam-eglwys. Yma yr urddwyd ef cyn ei fynediad allan i China, ar y 6ed o Ebrill, 1855. Mae y safle uchel y mae wedi ei gyrhaedd fel Cenhadwr gweithgar, galluog, a llwyddianus, yn anrhydedd, nid yn unig i'r eglwys a'i magodd, ond hefyd i'r genedl yn gyffredinol.
Mae nifer o ddynion rhagorol am eu duwioldeb, eu ffyddlondeb, a'u dylanwad fel crefyddwyr wedi bod yn perthyn i'r achos hwn o'i ddechreuad, y rhai y cedwir eu henwau mewn coffadwriaeth barchus; megis Peter Williams, Daniel Daniel, Dafydd Hugh, Dafydd Rees, Dafydd Harry William Dafydd, yn nghyd ag amryw eraill a ymadawsant a'r eglwys hon pan ddechreuwyd y gwahanol ganghenau. Cawn etto achlysur i grybwyll eu henwau hwy yn hanes yr eglwysi hyny.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn mhentref Llangeler, sir Gaerfyrddin, Mehefin 12fed, 1763. Cadwai ei rieni dafarndy y pentref, a chyfrifid hwy yn deulu parchus yn mysg eu cymydogion, ond ymddenys fod yr oll o'u crefydd yn gynwysedig mewn myned yn achlysurol i eglwys y plwyf. Gan nad oeddynt yn ddynion cyfoethog, nac yn ddifrifol fel crefyddwyr, ni chafodd eu mab fwy o fanteision addysg yn ei flynyddau boreuol nag a allasai gael yn yr ysgol ddyddiol a gedwid yn mhentref bychan Llangeler. Nid yw agwedd yr ysgoldy sydd yn y pentref hwnw yn bresenol yn dangos fod yno yn awr fawr o lewyrch ar yr ysgol, a diau ei bod yn waelach gan' mlynedd yn ol nag yn awr; felly nis gallasai David ieuangc gael dim amgen nag addysg o nodwedd dra chyffredin. Pa fodd bynag, dysgodd ddarllen ac ysgrifenu ychydig, ac felly cafodd ddrws gwybodaeth i raddau yn agored o'i flaen. I feddwl treiddgar a bywiog, gwna ychydig fanteision lawer o les, tra na wna meddwl diog a diegni nemawr o ddefnydd o'r manteision rhagoraf.
Er cael ei fagu mewn tafarndy, ac mewn pentref lled ddigrefydd, ymddengys i'r llangc David, mewn rhyw fodd anhysbys ini, ddyfod yn ieuangc iawn i deimlo argraffiadau crefyddol ar ei feddwl. Mae traddodiad yn ei deulu, y byddai er yn blentyn bychan yn arfer yn wastad ofyn bendith ar ei fwyd, pwy bynag fyddai yn ei weled a'i glywed; a dywedir y byddai ei ddull difrifol a'i eiriau pwrpasol yn taro y dynion a eisteddent yn y tŷ i yfed a syndod, ac y byddent yn wastad pan welent y plentyn yn nesu at y bwrdd yn dystewi ac yn tynu ymaith eu hetiau. Dywedir hefyd i'w dad ei glywed unwaith dan gysgod llwyn yn yr ardd yn gweddio dros ei rieni, ac i hyny adael cryn lawer o argraff ar ei feddwl. Nis gwyddom pa cyhyd y parhaodd y teimladau crefyddol hyn yn meddwl y llangc, ond y mae yn dra thebygol iddynt wanychu i raddau mawr gyda ei fod yn tyfu i fyny i oedran gwr, ac yn myned yn ddeiliad y profedigaethau y mae ieuengctyd yn agored iddynt.
Yn yr ugeinfed flwyddyn o'i oed aeth i'r sefyllfa briodasol. Enw gwraig ei ieuengctyd oedd Jane Evans, yr hon oedd enedigol o'r un gymydogaeth ag yntau. Yr oedd hi tua blwyddyn yn ieuengach na'i phriod. Er ieuenged y priododd, hi a drodd allan yn wraig werthfawr a rhinweddol, ac yn un o'r mamau rhagoraf. Y mae miloedd o ieuengctyd Cymru, a allasent ddringo i safleoedd o ddefnyddioldeb ac urddas mewn cymdeithas, wedi gosod eu hunain dan y dwfr am eu hoes wrth briodi yn rhy ieuangc; a diau mai felly y buasai gyda David Davies a'i briod, oni buasai ei fod ef wedi ei gynysgaeddu a galluoedd digen nerthol i esgyn trwy bob anhawsderau, nes cyrhaedd safle amlwg yn nheml enwogrwydd. Rhyfyg fyddai i ddynion ieuaingc dybied y gallant hwythau lwyddo yr un modd, oblegid ychydig mewn oes a feddant y fath dalentau ag a feddai ef.
Nid oes genym un hanes am ei deimladau crefyddol o'r pryd yr oedd yn blentyn lled ieuangc nes ei fod yn ugain oed. Wedi cyrhaedd yr oed hwnw daeth ar ei feddwl i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd, ac ymunodd a'r eglwys Ymneillduol yn Mhenrhiw, yn agos i le ei enedigaeth. Yr oedd yr eglwys hono dan ofal gweinidogaethol yr enwog David Davies, o Gastellhywel. Rhyw fath o Arminiaid, Pelagiaid, neu Ariaid, oeddynt o ran eu golygiadau crefyddol. Mae yn dra thebygol fod y rhan fwyaf o'r aelodau yn ddynion lled wybodus, ac yn fedrus fel dadleuwyr ar byngciau crefyddol; ond nid ymddengys fod nemawr o'r teimladau duwiolfrydig hyny yn eu meddianu, a ystyrid yn hanfodol i wir grefydd gan ddynion o olygiadau efengylaidd. Darfu i'r hyglod Christmas Evans ymuno a'r eglwys yn Mhenrhiw tua'r un amser a David Davies, ac ymadawodd y ddau a hi yn dra buan; aeth y naill at yr Annibynwyr, a'r llall at y Bedyddwyr, a buont am flynyddau lawer yn heuliau dysglaer yn ffurfafenau y ddau enwad.
Dywedir na fu David Davies ond un waith yn cyfranogi o swper yr Arglwydd yn Mhenrhiw. Trwy rhyw foddion anhysbys i ni, gweithiodd Ysbryd yr Arglwydd ef i'r fath wasgfa am ei gyflwr fel pechadur colledig, nes y bu i'w reswm fod ar fin cael ei ddymchwelyd. Yn ofer y buasai yn troi at neb o'i gydaelodau yn Mhenrhiw am gysur a chyfarwyddyd yn ngwyneb ei deimladau trallodus. Pe buasai pwt o ddadl ar ryw bwngc athrawiaethol, neu ymgomiad ar hynafiaethau, daearyddiaeth neu feirniadaeth ysgrythyrol, yn gwneyd y tro, gallasai gael digon o hyny yn eu plith hwy; ond yr oedd yn rhaid iddo droi i rywle arall i ymofyn olew gras i dawelu loesion cydwybod archolledig. Yr oedd hwnw yn beth hollol ddyeithr iddynt hwy. Yn y cyfamser, pan y teimlai ei hun ar fin dystryw, daeth i adnabyddiaeth a rhai o aelodau yr hen eglwys Annibynol yn Mhencadair, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal Mr. William Perkins. Aeth yno, a chlywodd eiriau a fendithiwyd i dawelu ei fynwes derfysglyd; daeth i fwynhad o dangnefedd yr efengyl, a chafodd ei dderbyn yn aelod o'r eglwys hono gan Mr. Perkins.
Nid hir y bu David Davies wedi ei dderbyn yn Mhencadair, cyn i'w wybodaeth grefyddol, ei brofiad nefolaidd, a'i ddoniau toddedig mewn gweddi, arwain y gweinidog a'r eglwys i'w anog i arfer ei ddoniau fel pregethwr. Cydsyniodd yntau a'r anogaeth a gafodd gan yr eglwys, a thraddododd ei bregeth gyntaf mewn anedd-dy bychan yn mhlwyf Llangeler, yr hwn a breswylid gan ddilledydd; ac y mae y ffaith yn deilwng o'i chofnodi, mai yn yr un anedd-dy, ac o fewn yr un wythnos, y traddododd Christmas Evans ei bregeth gyntaf. Mae yn ymddangos i hyn gymeryd lle yn y flwyddyn 1784 neu 1785. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, tynodd ei ddoniau digyffelyb sylw neillduol, a chyrchai torfeydd lluosog i'w wrandaw pa le bynag y cyhoeddid ef i bregethu. Ar ol pregethu yn Mhencadair a'r eglwysi cymydogaethol am rai blynyddau gyda derbyniad a chymeradwyaeth neillduol, cafodd ei urddo yn gydweinidog a Mr. John Lewis, yn y Drefach, gerllaw Llangeler, yn y flwyddyn 1790. Mae yn naturiol i'r gofyniad ymgodi yn meddwl y darllenydd yn y fan yma, "Pa fodd y goddefwyd i ddyn o ddoniau iraidd David Davies fod am o bump i chwe' blynedd heb ei urddo wedi iddo ddechreu pregethu, ac yn enwedig pryd yr oedd gweinidogion cymeradwy mor brin, fel yr oedd yn rhaid i bob un gymeryd gofal amryw eglwysi gwahanol ?" Mewn trefn i ateb y gofyniad hwn, mae yn ofynol ystyried agwedd yr enwad Annibynol yn y dyddiau hyny, yn nghyd ag amgylchiadau teuluol Mr. Davies. Nid oedd Ariaeth noeth hyd yn hyn wedi tori allan yn yr eglwysi a elwid yn Bresbyteraidd ac felly ni chyfrifid y cynnulleidfaoedd hyny oeddynt wedi coleddu Arminiaeth neu Belagiaeth, yn blaid wahanol oddiwrth yr Annibynwyr. Byddai y gweinidogion yn gyffredin yn newid pulpudau a'u gilydd, ac yn cydgynal cyfarfodydd urddiadau, cymanfaoedd, &c. Yr oedd ychydig o'r gweinidogion a'r cynnulleidfaoedd mwyaf selog dros Galfiniaeth yn dechreu sefyll draw oddiwrth y rhai a gyfrifid yn Arminiaid; ond yr oedd mwyafrif y gweinidogion a'r eglwysi mwyaf dylanwadol, yn dawel i bethau fod fel yr oeddynt, ac yn hytrach yn beio y rhai a ddywedasent neu a wnaethent unrhyw beth a dueddasai i oeri y Calfiniaid a'r Arminiaid at eu gilydd. Dichon, gan hyny, i ymadawiad Mr. Davies a'r Arminiaid yn Mhenrhiw, a'i ymuniad a'r Calfiniaid yn Mhencadair, fod yn foddion i beri i rai gweinidogion edrych gyda gradd o wg a drwgdybiaeth arno. Hefyd, nid oedd wedi derbyn addysg athrofaol, yr hyn a ystyrid y pryd hwnw gan y gweinidogion Ymneillduol, yn Galfniaid yn gystal ag Arminiaid, fel peth o bwys hanfodol braidd er addasu dyn ieuangc i dderbyn urddau. Edrychai yr hen Annibynwyr a'r Presbyteriaid ar y Trefnyddion Calfinaidd a'r Bedyddwyr gyda gradd o ddiystyrwch a dirmyg, o herwydd eu hod yn gollwng cynifer o ddynion annysgedig, fel y galwent hwy, i'w pulpudau. Yr oedd ychydig ddynion mwy talentog na'r cyffredin wedi eu hurddo yn mysg yr Annibynwyr yn y ddeunawfed ganrif, y rhai ni dderbyniasant addysg athrofaol, megis Morgan Jones, Pentretygwyn; Jonathan Jones, Rhydybont; John Davies, Alltwen, &c.; ond ychydig o rif oeddynt, a chyfrifid mai rhyw fraint fawr iddynt oedd cael gweinidogion i ymostwng i'w hurddo. Carid y teimlad hwn lawer yn rhy bell, a rhoddid y blaen i addysg athrofaol ar dalent naturiol. Gall talent gref wneyd gweinidog da heb addysg reolaidd; ond ni wna yr addysg oreu weinidog da byth heb dulent. Peth cyffredin yw i un eithafion greu y llall. Yr oedd y Trefnyddion a'r Bedyddwyr yn y dyddiau hyny yn gollwng llawer o ddynion hollol amddifad o dalent ac addysg i fyned o gylch y wlad yn y cymeriad o bregethwyr. Gyrai hyny yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid, y rhai oeddynt ddiarhebol o selog dros weinidogaeth ddysgedig, i'r eithafion o wrthwynebu derbyniad dynion o gymhwysderau da i'r weinidogaeth, heb iddynt yn gyntaf fyned trwy gwrs o addysg athrofaol. Darfu i'r teimlad hwn yn mysg y gweinidogion, a rhai o brif aelodau yr eglwysi, yru llawer o wyr ieuaingc fuasent yn addurn i'r enwad, at enwadau eraill. Dichon fod y rhesymau hyn, yn nghyd a'r ffaith ei fod wedi cymeryd arno ofal teulu mor ieuangc, yn ddigon i gyfrif paham na buasai Mr. Davies yn cael ei urddo yn gynt.
Yr oedd Mr. John Lewis, gweinidog y Drefach, yn Calfiniad selog dros ben; ond nid oedd yn unwedd yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Yr oedd naill ai diffyg doniau, synwyr cyffredin, neu ddigon o weithgarwch, yn peri fod ei weinidogaeth yn hollol ddilwydd. Nid oedd ond deuddeg o aelodau yn ei eglwys pan y penderfynwyd rhoddi galwad i David Davies i ddyfod yn gydweinidog ag ef, a'r deuddeg hyny ar fedr rhoddi y lle i fyny, ac ymuno ag eglwysi eraill. Pan ddechreuodd Mr. Davies ymweled a hwy, adfywiodd yr achos, o lluosogodd y gwrandawyr a'r aelodau. Wedi cyduno i roddi galwad i'r gwr ieuangc, aeth dau o'r aelodau i gyfarfod gweinidogion a gynelid yn Penygroes, sir Benfro, i ofyn eu cymeradwyaeth a'u presenoldeb yn yr urddiad. Dywedir wrthym iddynt fyned yno "i wneyd cais gostyngedig" at y gweinidogion, yr hyn a ddengys eu bod yn ofni na chawsai eu cais ei ganiatau iddynt. Pa fodd bynag, fe ganiatawyd eu cais iddynt, a chafodd Mr. Davies ei urddo yn weinidog iddynt yn y flwyddyn 1790. Yn anffodus, nid yw y dydd, y mis, nac enwau y gweinidogion a gymerasant ran yn ngwaith yr urddiad, wedi eu cofnodi mewn nac argraff nac ysgrifen, hyd y gwyddom ni.
Cyn pen dwy flynedd wedi ei urddiad, aeth y gynnulleidfa yn rhy luosog i addoldy bychan y Drefach i'w chynwys, fel y penderfynwyd adeiladu addoldy helaethach mewn man mwy canolog o'r ardal. Y man a ddewiswyd oedd ymyl y ffordd o Gastellnewydd i Gaerfyrddin, ychydig uwchlaw pentref Llangeler. Adeiladwyd yr addoldy yno yn y flwyddyn 1792, a galwyd ei enw Saron. Talwyd am yr addoldy newydd ar unwaith, a gorlanwyd ef o aelodau a gwrandawyr. Ni chyfyngai Mr. Davies ei lafur gweinidogaethol i ardal Llangeler, ond cymerodd hefyd ofal yr eglwysi yn y Neuaddlwyd, sir Aberteifi, a'r Gwernogle, sir Gaerfyrddin. Pregethai un Sabboth yn y mis yn mhob un o'r lleoedd hyn, a bu ei weinidogaeth yn foddion i roddi bywyd newydd i'r achos yn y ddau le, fel y daethant yn fuan o fod yn gynnulleidfaoedd bychain, marwaidd, a digalon i fod yn eglwysi lluosog, bywiog, a blodeuog.
Darfu i weinidogaeth seraphaidd Mr. Davies effeithio daioni annirnadwy, nid yn unig yn yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ei ofal ef, ond hefyd trwy holl oglwysi yr enwad y perthynai iddo. Rhoddodd ei ysbryd bywiog, a'i ddull tanllyd o bregethu, dôn newydd i'r weinidogaeth yn mysg yr Annibynwyr trwy Gymru, ac effeithiodd y chwyldroad mwyaf bendithiol a thrwyadl trwy yr holl enwad. Wedi marwolaeth yr Anghydffurfwyr a'u holynwyr uniongyrchol, ni chyfododd nemawr o bregethwyr tanllyd a diwygwyr selog yn mysg yr Annibynwyr Cymreig, nes i Mr. Davies ymddangos fel seraph llawn o dân yn Llangeler. Mae yn wir fod Isaac Price, o Lanwrtyd, ac ychydig eraill o ddynion gwresog, wedi ymddangos ar y maes tua deugain mlynedd o'i flaen ef; ond nid ymddengys fod eu talentau na'u doniau y fath ag i'w galluogi i ddylanwadu yn rymus ar y wlad yn gyffredinol. Yr oedd gweinidogion yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid yn Nghymru yn y ddeunawfed ganrif yn gorph ddynion dysgedig a pharchus iawn; a rhyw ddau neu dri, mwy neu Îai, o deuluoedd cyfrifol a chyfoethog yn perthyn i bob un o'u cynnulleidfaoedd; ond yr oeddynt agos oll yn amddifad o gymhwysderau hanfodol pregethwyr poblogaidd ; ac nid oedd sefyllfa yr eglwysi o ran eu teimladau tuag at eu gilydd, a'u golygiadau athrawiaethol, yn unwedd yn ddymunol a gobeithiol o 1750 i 1790. Gellid rhanu gweinidogion y cyfnod hwnw i dri dosbarth, sef y Calfiniaid selog, yr Arminiaid cyhoeddus, yn nghyd a phlaid ganol, y rhai a gelent eu golygiadau ar y pyngciau mewn dadl rhwng y pleidiau eraill, ac a ymdrechant sefyll fel cyfryngwyr rhyngddynt, i'w cadw rhag ymrwygo a myned yn ddau enwad gwahanol. Ychydig neu ddim efengyl a bregethid gan y blaid Arminaidd, ond safent braidd yn hollol ar ddyledswyddau moesol, gan eu gwasgu at feddyliau eu gwrandawyr ag anogaethau deddfol. O'r tu arall, traddodi pregethau neu ddarlithiau ymresymiadol a meithion ar y naill neu y llall o'r "pum' pwngc," gan ergydio yn ddiarbed ar yr Arminiaid, yn lle troi min eu gweinidogaeth at gydwybodau eu gwrandawyr, y byddai y blaid Galfinaidd agos yn hollol. Tra mai "heddwch ar unrhyw bris" oedd arwyddair y blaid ganol. Math o dduwinyddion nacaol oeddynt; pa beth bynag oedd eu golygiadau athrawiaethol, yr oedd eu dyfais (policy) i gadw y pleidiau eraill yn un enwad yn eu rhwymo i beidio eu pregethu yn gyhoeddus. Nis gallesid disgwyl i grefydd lwyddo tra yr oedd pethau yn y sefyllfa hon; o herwydd hyny, yr ydym yn cael yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid—yr enwad dysgedicaf a mwyaf dylanwadol o Ymneillduwyr Cymru—o 1750, hyd yn agos i ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yn hytrach yn colli nag yn ennill tir. Dyma sefyllfa pethau pan y dechreuodd Mr. David Davies ei weinidogaeth. Er yr holl anfanteision y llafuriai ef danynt, o ddiffyg addysg foreuol a sefyllfa uchel o ran meddianau bydol, trwy ei dduwioldeb, ei ddoniau anghydmarol, a'i lafur dibaid, gweithiodd ei ffordd i sylw, a daeth yn fuan y pregethwr mwyaf poblogaidd trwy yr holl wlad; rhoddodd yr holl weinidogion Calfinaidd, er cymaint eu sel dros ddysg a ffurfiau, eu dylanwad o'i blaid, a chyfododd o'i amgylch, cyn pen deuddeng mlynedd wedi ei urddiad, nifer o weinidogion ieuainge doniol, talentog, a gweithgar, hollol o'r un ysbryd ag ef ei hun, megis Morgan Jones, Trelech; Griffith Hughes, Groeswen; David Davies, Sardis; John Bowen, Saron; Dr. Thomas Phillips, Neuaddlwyd; Methuselah Jones, Merthyr Trydfil; Azariah Shadrach, Aberystwyth; Daniel Evans, Mynyddbach, &c. Ystyrid Mr. Davies fel blaenor y llu gobeithiol hwn; cynhyrfasant y wlad o gwr i gwr; adfywiwyd llawer o'r hen eglwysi oedd yn barod i farw; ymranodd y Calfiniaid a'r Arminiaid oddiwrth eu gilydd; dyddymwyd y blaid ganol, a gorfodwyd y duwinyddion nacaol i ddewis eu pleidiau; ac felly iachawyd yr awyrgylch foesol. O'r pryd hwnw hyd yn awr y mae yr enwad Annibynol wedi parhau yn ddiatal i ychwanegu nerth yn Nghymru. Trwy weinidogeth danllyd a dylanwad Mr. David Davies yn benaf, fel moddion yn llaw Duw, y dygwyd y chwyldroad pwysig hwn oddiamgylch. Tra y byddo Annibyniaeth yn fendith i Gymru, bydd y genedl dan rwymedigaeth i Mr. Davies, fel y prif offeryn a ddefnyddiodd Duw i roddi iechyd a bywyd newydd yn yr achos.
Ar ol llafurio yn Llangeler, y Neuaddlwyd, a'r Gwernogle am bum' mlynedd, gyda llwyddiant ac arddeliad anghyffredin, derbyniodd Mr. Davies alwad unfrydol oddiwrth yr eglwysi yn y Mynyddbach a'r Ysgetty, gerllaw Abertawy, i ddyfod yn ganlyniedydd i'r hybarch Lewis Rees.
Dichon na ddarfu i un gweinidog erioed yn Nghymru, nac un wlad arall, lafurio yn fwy diwyd oddicartref, yn gystal a chartref gydag achos ei Feistr mawr na Mr. David Davies. Teithiodd amryw weithiau trwy Dde a Gogledd Cymru, gan bregethu i dorfeydd lluosog ddwy a thair gwaith y dydd tra byddai ar ei deithiau. Bu yn foddion i adfywio amryw achosion oedd ar fin trancedigaeth mewn llawer o ardaloedd, ac i gychwyn achosion newyddion mewn ardaloedd eraill. Yn mysg yr achosion newyddion a ddechreuwyd ganddo, gellir enwi heblaw, Abertawy, Llanon, a Phenbre, yn sir Gaerfyrddin; Clydach, Capel Rhagluniaeth, Heolycastell, Abertawy, a rhai lleoedd eraill yn Morganwg. Cyfododd amryw wyr ieuaingc doniol a defnyddiol i'r weinidogaeth yn ei eglwysi; megis John Bowen, a Thomas Jones, Saron; David Davies, Sardis; Methuselah Jones, Merthyr; Thomas Jones, Lambeth; David Williams, Llanfairmuallt; David Jones, Taihirion; David Davies, ei fab hynaf; y Cadben Richards, &c. Cymaint oedd ei ysbryd cyhoeddus, fel yr ymroddai i ledaenu terfynau yr achos yn mhob man y medrai estyn ei ddylanwad iddo. blynyddau wedi ei sefydliad yn y Mynyddbach, gadawodd ei deulu a'i eglwysi, ac aeth i Lundain, lle yr arosodd am bedwar mis, i'r dybenion o berffeithio ei wybodaeth o'r iaith Seisnig, a phregethu yr efengyl i'r Cymry yn Llundain, Deptford, ac Woolwich. Yn ystod y pedwar mis hyny, treuliai bob dydd o'r wythnos fel myfyriwr yn athrofa Hackney, a'r Sabbothau i bregethu i'w gydgenedl. I'w lafur hunanymwadol ef yn flaenaf a phenaf o bawb yr ydys i briodoli dechreuad yr achosion Annibynol Cymreig yn Llundain, a'r trefydd cymydogaethol.. Nid yn unig am y Cymry yn Nghymru ac yn Lloegr y gofalai ef; ond teimlai hefyd yn ddwys dros y Saeson yn Nghymru. Fel y crybwyllasom eisioes, trwy ei ymdrechion ef yn benaf y dechreuwyd yr achosion Seisnig yn Heolycastell, Abertawy, a Chapel Rhagluniaeth yn Mrowyr. Nid digon i'w enaid eang ef oedd gwneyd daioni i breswylwyr ei wlad ei hun, ond teimlai hefyd dros y byd yn gyffredinol. Yfodd yr ysbryd cenhadol gyda y cyntaf yn Nghymru. Yn ei gapel ef yn Abertawy, ar yr wythnos gyntaf o Awst, 1814, y cynhaliwyd y cyfarfod cenhadol cyntaf a gynaliwyd yn y Dywysogaeth. Yr oedd yr enwog Mathew Wilks, Mr. Tracy, ysgrifenydd Cymdeithas Genhadol Llundain, ac eraill o weinidogion Lloegr, yn nghyd a'r rhan fwyaf o weinidogion Deheudir Cymru, yn y cyfarfod bythgofus hwnw. Casglwyd yn siroedd y Deheudir at y genhadaeth y flwyddyn hono bum' cant o bunau; ac o'r swm hwnw yr oedd triugain punt a deg a dwy geiniog wedi eu cyfranu gan bobl Mr. Davies ei hun yn Abertawy a'r Ysgetty. Bu ar hyd a lled y wlad yn areithio dros yr achos cenhadol. Dywed y Parch. D. Griffiths, gynt o Madagascar, mai wrth wrandaw Mr. Davies, Abertawy, yn traddodi araeth genhadol, y cyffrowyd ei feddwl ef gyntaf i benderfynu myned yn genhadwr i fysg y paganiaid.
Treuliodd Mr. Davies ei holl fywyd i wasanaethu ei genedl a'r enwad y perthynai iddo. Teithiodd beth dirfawr trwy Gymru a Lloegr i gasglu at yr amrywiol addoldai a adeiladwyd ganddo; a thrwy ei ymddyddanion, ei areithiau, a'i ysgrifeniadau, cymhellai yr eglwysi o bryd i bryd i ymdrechion egniol er helaethiad terfynau yr achos. Yn y flwyddyn 1815, cyfansoddodd anerchiad cyffrous, yr hwn a gyhoeddwyd gyda hanes cymanfa y Mynyddbach, yn yr hwn yr anoga yr holl eglwysi trwy Dde a Gogledd i gasglu trysorfa at dalu dyledion yr addoldai, cyfodi addoldai newyddion, a chynal yr athrofeydd yn fwy effeithiol. Yn yr anerchiad cyffrous hwn dywed mai nifer eglwysi yr Annibynwyr yn Nghymru y flwyddyn hono oedd 240, yn cynwys 23,600 o aelodau; a dengys y gallasai y nifer hwnw o bersonau yn rhwydd gyfodi 4,250p. y flwyddyn at drysorfa enwadol i'r dybenion rhag-grybwylledig. Y cynllun a gynygia ydyw fod i 2,000 o'r aelodau goreu eu hamgylchiadau i gyfranu deg swllt y flwyddyn; 8,000 o rai is eu hamgylchiadau i roddi pum' swllt y flwyddyn; 10,000 o weithwyr, gwasanaethyddion, &c., i roddi dau swllt a chwe' cheiniog y flwyddyn. Yn y modd hwn gwnelid i fyny y swm gofynedig, sef 4,250p., gan adael 3,600 o gyfanswm yr aelodau fel rhai rhy dlawd i gyfranu dim. Gan fod Mr. Davies yn dechreu gwaelu yn ei iechyd, ac iddo farw cyn pen blwyddyn a haner o'r pryd y cynygiodd y cynllun hwn i sylw yr eglwysi, aeth y cwbl i'r dim, gan nad oedd un arall o'i frodyr yn y weinidogaeth yn meddu digon o ddylanwad a phenderfyniad i weithio y cynllun allan. Diau pe cawsai Mr. Davies fywyd ac iechyd, na buasai yn gorphwys nes cyrhaedd yr amcan. Nid oedd unrhyw beth rhesymol a phosibl nad oedd ganddo ddigon o ddylanwad a doniau i gyffroi a thoddi pob dyn crefyddol i ymestyn at ei gyflawni. Pe buasai genym gofnodion manwl o'r symiau a gasglodd at gapeli, y genhadaeth, ac achosion crefyddol eraill, nifer y pregethau a draddododd, a'r milldiroedd a deithiodd yn ngwasanaeth y cyhoedd, heb dderbyn ond y peth nesaf i ddim am ei lafur, yr ydym yn sicr y tarawsid pob darllenydd a syndod. Dyn cyhoeddus ydoedd yn holl ystyr yr ymadrodd. Bu fyw a marw yn ngwasanaeth y cyhoedd.
Dyn o faint canolig, o gyfansoddiad corphorol lluniaidd a chadarn, o wynebpryd nodedig o hardd, ac o edrychiad treiddgar a siriol oedd Mr. David Davies. Yr oedd ei gyfansoddiad corphorol, ei wynebpryd, a'i lais, yn gystal a'i alluoedd meddyliol, a'i dduwioldeb, oll wedi cydgyfarfod i'w wneyd yn un o'r pregethwyr mwyaf effeithiol a phoblogaidd a esgynodd erioed i areithfa. Er holi degau o hen bobl a'i had waenent yn dda, ac a gawsant gyfle i'w wrandaw yn fynych yn ei ddyddiau goreu, yr ydym wedi y cwbl yn fyr o gael darluniad cyflawn a boddhaol o hono fel pregethwr. Pan ofynem i hwn a'r llall, pa fath bregethwr oedd Mr. Davies, Abertawy, atebent gan godi eu dwylaw mewn syndod, mai y pregethw: rhyfeddaf a mwyaf effeithiol a glywsent erioed ydoedd. Nid ydym etto wedi cyfarfod a neb a roddodd i ni ddarluniad celfydd, cryno, a phwrpasol o'i ragoriaethau a'i neillduolion fel un o brif bregethwyr ei oes. Ymddengys fod ei ymddangosiad, pan yn cyfodi mewn areithfa, neu ar esgynlawr, yn nodedig o darawiadol. Byddai ef bob amser, yn y cymanfaoedd, a'r cyfarfodydd cyhoeddus eraill, yn pregethu yn ddiweddaf o dri yn yr oedfa ddeg o'r gloch. Gan nad pa mor rhagorol fuasai y ddau bregethwr blaenorol, deg i un na fuasai llawer o'r dorf yn eistedd ar y cae, neu yn lled orwedd ar ochreu y cloddiau; ond can gynted ag y gwnai Mr. Davies ei ymddangosiad ar yr esgynlawr, cyfodai pawb, ac ymwasgent yn mlaen hyd y gallent; a byddai pob llygaid a chlust yn y dorf fawr yn hoeliedig ar unwaith, ac yn ymddangos yn awyddus i ddal ar bob gair, ac i graffu ar bob ysgogiad o eiddo y pregethwr. Cerddai ei lais fel gwefr trwy yr holl gynnulleidfa wrth ei fod yn rhoddi penill allan i'w ganu, er na fyddai ond yn unig yn parablu mewn cywair hollol naturiol, heb roddi un math o don i'w lais. Darllenai ei destyn yn araf, ond yn ddigon uchel i ddeng mil o bobl i'w glywed yn eglur. Ar ol rhagymadroddi mewn ychydig o ymadroddion tarawiadol, a hollol berthynasol i'w destyn, rhanai ei bregeth i ddau neu dri o benau a changenau. Byddai ganddo rhyw hanes ysgrythyrol, ymresymiad eglur, cymhariaeth, neu hanesyn (anecdote) i egluro pob pen a changen o'i bregeth; ac fel y byddai yn myned rhagddo, byddai ei faterion a'i lais yn myned fwy fwy effeithiol, nes y byddai ei holl wrandawyr yn hir cyn y gorphenai lefaru wedi eu llwyr orchfygu. Yr oedd yn wahanol braidd i bob pregethwr arall; pa uwchaf y dyrchafai ei lais, pereiddiaf oll fyddai. Llefarai yn yr awyr agored, ar ddiwrnod tawel, yn ddigon uchel i fod yn glywedig am ddwy a thair milldir o bellder. Na thybied neb wrth ein bod yn son cymaint am effeithiolrwydd ei lais, mai mewn "pwff o lais" yn unig yr oedd ei ragoriaeth fel pregethwr yn gynwysedig. Yr oedd ei bregethau oll, fel y nodasom eisioes, wedi eu cyfansoddi yn drefnus, ac yn cynwys cronfa o feddyliau tarawiadol, nodedig o gyfaddas i oleuo deall a chyffroi cydwybodau ei wrandawyr, a'r meddyliau hyny yn cael eu cario adref i'r galon gan agwedd swynol y pregethwr, a llais anorchfygol o effeithiol. Yn absenoldeb desgrifiad gwell, dichon i'r hanesion canlynol roddi rhyw ddrychfeddwl i'r darllenydd am ragoriaeth Mr. Davies fel pregethwr. Dywedai y diweddar Mr. Daniel Jones, o'r Aber, withym, iddo ef fod gydag ef tua thriugain mlynedd yn ol am daith bregethwrol o dair wythn, trwy ranau o siroedd Caerfyrddin, Penfro, ac Aberteifi, a'u bod yn pregethu ddwy waith, ac yn fynych dair gwaith, y dydd, ac na welodd gymaint ag un oedfa trwy yr holl daith heb i Mr. Davies lwyr orchfygu ei wrandawyr, nes y byddai lluaws o honynt yn mhob lle yn aros yn y capel am amser maith i wylo a molianu ar ol y bregeth.
Byddai y bendefiges dduwiol hono, yr Arglwyddes Barham, yn fynych yn gwrandaw ar Mr. Davies, a phob amser y gwrandawai ef nis gallai ymatal rhag wylo yn hidl, er nad oedd yn deall yr un gair a lefarai. Yr oedd dull ei wynebpryd, ysgogiadau ei freichiau, a sain ei lais, yn gadael yr argraff ar feddwl pob un a'i gwelai ac a'i clywai, mai un yn teimlo pwys y genadwri a draddodai ydoedd, a thrwy hyny, gorfodai eraill i deimlo hyd y nod pryd na buasent yn deall yr iaith yn yr hon y llefarai.
Cofnoda y diweddar Mr. James Griffiths, Tyddewi, engraifft gyffelyb. Dywed ei fod ef yn sefyll yn nghanol y dorf yn ymyl boneddiges Seisnig, mewn cymanfa yn sir Benfro, pryd yr oedd Mr. Davies yn pregethu. Yn fuan wedi i'r pregethwr ddechreu trin ei fater, gwelai y dagrau mawrion yn llifo i lawr dros ruddiau y foneddiges, a pharhaodd i wylo drwy y bregeth. Ar y diwedd trodd Mr. Griffiths ati, a gofynai paham yr oedd hi yn wylo, gan nad oedd yn deall iaith y pregethwr. Atebodd, "Pa fodd y gallaswn beidio wylo pan yr oedd pawb o'm hamgylch yn foddfa o ddagrau."
Dywed yr hybarch William Davies, Abergwaun, am ei ddull o bregethu fel y canlyn:-"Y mae genyf gof da am ymweliadau olynol Mr. Davies, Abertawy, a sir Benfro, ac nis gallaf byth anghofio y teimladau dwys a dyfnion a gynyrchai ei hyawdledd digyffelyb yn y torfeydd lluosog a ymdyrent i'w wrandaw i bob lle yr elai iddo. Yr oedd ganddo feddwl treiddgar, dychymyg bywiog, a pharabledd eglur a difloesgni. Meddai lywodraeth nodedig ar ei lais. Pan arweiniai ei wrandawyr i Sinai, taranai allan felldithion y ddeddf yn y fath seiniai dychrynllyd, nes y byddai braidd pob un o'r gynnulleidfa yn teimlo ei hun ar lewygu gan ofn; yna cymerai ei safle ar Galfaria, a desgrifiai ddyoddefiadau Oen Duw dros yr euog, a rhinwedd anfeidrol gwaed y taenelliad, gyda y fath ffrydlif o hyawdledd, ac yn y llais mwyaf perseiniol, nes y buasai ei wrandawyr swynedig braidd yn barod i neidio o lawenydd. Ca y ffaith ganlynol wasanaethu fel engraifft o effaith rhyfeddol ei ddoniau pregethwrol: Byddai cadben llong, yr hwn oedd yn aelod o'm heglwys i yn Abergwaun, yn arfer bob amser y byddai ei long yn Abertawy, fyned i Ebenezer i wrandaw Mr. Davies. Un diwrnod gofynodd i gadben arall, 'A ddeuwch chwi gyda mi i Ebenezer y Sabboth nesaf i wrandaw Mr. Davies, yr wyf yn sicr y gwna i chwi wylo? 'Gwneyd i mi wylo,' ebe hwnw gyda rheg, 'nid oes un pregethwr yn y byd a wna i mi wylo.' Pa fodd bynag, addawodd fyned. Bore y Sabboth a ddaeth, ac ar ddechreu yr oedfa cymerodd y ddau gadben eu safle yn ngwyneb yr oriel gyferbyn a'r areithfa. Edrychai y cadben annuwiol ar y dechreu yn ngwyneb y pregethwr gyda thalcen presaidd, fel pe buasai yn penderfynu herio pob peth a ddywedasai. Ond pan ddechreuodd meistr y gynnulleidfa dwymo, aeth y morwr gwynebbresaidd yn raddol i ostwng ei ben, ac yn hir cyn fod y bregeth drosodd yr oedd yn wylo fel plentyn."
Mae yr hanesyn a ganlyn o hanes bywyd ei dad gan Dr. W. Rees, Liverpool, yn ddiamheuol yn cyfeirio at Mr. Davies, ac yn deilwng o'i gofnodi fel prawf o'i ddylanwad fel pregethwr:—"Dygwyddodd fy nhad fyned ar neges i Ddinbych unwaith yn amser Mr. Llwyd, ar ddiwrnod cyfarfod blynyddol yr Annibynwyr; aeth i wrandaw y pregethau am ddeg a dau, a chafodd y fath hyfrydwch fel yr arferai fyned yno i'r cyfarfod blynyddol ar ol hyny am amryw flynyddau. Adroddai am un cyfarfod hynod. Yr oedd gweinidog dyeithr o'r Deheudir yn pregethu am ddau o'r gloch gyda nerth ac effeithioldeb anarferol. Yn mysg y gwrandawyr yr oedd yr hen William Lewis, fel y gelwid ef, o Ddinbych y pryd hwnw, ond a symudodd ar ol hyny i fyw i sir Fon. Yr oedd William Lewis yn bregethwr tanllyd iawn gyda'r Methodistiaid, a llais fel udgorn Sinai ganddo. Yr oedd teimladau William Lewis wedi eu dwys gyffroi er ys meityn dan bregeth y gwr dyeithr. Ar ganol yr hwyl adroddodd y pregethwr y darn penill:
'Ca'dd ddwr o'r graig, ca'dd fanna gwiw,
Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw,
Er saled oedd eu drych.'
Tarawodd y llinell Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw,' y gynnulleidfa fel gwefriad trydan, a thorodd William Lewis allan y fonllef fawr, 'O diolch! Do! 'Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw.' Y man mwyaf ofnadwy y bu dynion erioed! Ond fe'i cynaliodd Duw hi yno! Do, ac fe'in cynaliodd inau yno hefyd-er saled oedd fy nrych.' Yr oedd hyny yn ddigon; wedi i William Lewis agor yr adwy torodd y llifeiriant i mewn, ac aeth y gynnulleidfa trwyddi i waeddi a molianu. Methais byth a chael gwybod pwy oedd y pregethwr. Dywedai Sion William, o'r Bryndu wrthyf ei fod ef yn y cyfarfod, a'i fod yn cyd-deithio yno ac yn ol gyda'm tad-iddynt holi pwy oedd y pregethwr, ac mai yr ateb a gawsent oedd mai Mr. Davies, o'r Deheudir ydoedd; felly digon tebyg mai yr hen efengylwr Mr. Davies, o Abertawy oedd y gwr."
Iachawdwriaeth rad i bechadur colledig, trwy angau iawnol y Cyfryngwr, fu unig destyn gweinidogaeth Mr. Davies o'i dechreu i'w diwedd. Ei hoff awdwyr oedd Henry, Flavel, y ddau Erskine, Boston, a'u cyffelyb. Ni thraddodai gymaint ag un bregeth heb ei bod yn cynwys mer yr efengyl. Er yr addefwn yn rhwydd fod amryw o'i gydoeswyr, a llawer o weinidogion Cymreig yr oes hon, yn medru cyfansoddi a thraddodi pregethau a mwy o ol mawredd meddyliol arnynt nag a nodweddai ei bregethau ef; etto prin y gallwn gredu i unrhyw bregethwr erioed ymddangos mewn un oes na gwlad a fedrasai draddodi gwirioneddau syml yr efengyl yn fwy effeithiol na Mr. David Davies, Abertawy.
Er mai yn ei alluoedd digyffelyb fel pregethwr yr oedd cuddiad cryfder Mr. Davies, etto nid yw heb enwogrwydd yn perthyn iddo fel awdwr. Ei brif waith yw ei Fibl Teuluaidd, gyda sylwadau eglurhaol ar bob penod. Bu farw yr awdwr cyn gorphen y gwaith hwn. Gan Mr. D. Davies, Pantteg, yr ysgrifenwyd y sylwadau ar lyfr y Dadguddiad. Mae hwn yn argraffiad nodedig o hardd a chywir o'r Bibl Cymreig, ac yn cynwys ar odreu y dail ganoedd o sylwadau esboniadol ac ymarferol nodedig o darawiadol a melus. Heblaw anerchiadau at yr eglwysi yn nglyn a hanes cymanfaoedd, marwnadau ar ol amryw gyfeillion ymadawedig, cyfansoddodd Mr. Davies bedwar-ugain-ac-un o emynau Cymreig, ac yn eu plith y mae amryw o'r penillion goreu yn yr iaith. Gan na oddefa ein gofod i ni roi dyfyniadau o'i gyfansoddiadau barddonol, nid oes genym ond cyfeirio y darllenydd at ei lyfr emynau, yr hwn a gyhoeddwyd tuag ugain mlynedd yn ol gan Mr. Griffiths, Abertawy. Byddai yn werth i bob un feddianu y llyfr bychan hwn, yr hwn a ellir bwrcasu am chwe' cheiniog.
Er i Mr. Davies gael ei fendithio a chyfansoddiad nerthol, etto, "llestr pridd " ydoedd, a darfu i lafur caled a diatal ei anmharu, a hau hadau marwolaeth ynddo yn fuan wedi iddo gyrhaedd ei haner canfed flwyddyn. Yr oedd am fwy na blwyddyn cyn ei farwolaeth yn dechreu teimlo fod amser ei ymddatodiad yn agoshau. Pregethodd yn nodedig o effeithiol ar y Sabboth cyntaf o flwyddyn olaf ei fywyd, oddiwrth y geiriau, "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw," a chyfansoddodd emyn nodedig o gyfaddas i'w chanu ar ol y bregeth, y pedwerydd penill o ba un sydd fel y canlyn:
"Rwy'n teimlo rhyw ddadfeiliad mawr,
O fewn fy mhabell bridd yn awr;
A thebygolrwydd dan fy mron,
Y bydda'i farw'r flwyddyn hon."
Parhaodd i wanychu fis ar ol mis, nes i natur yn y diwedd ymollwng yn llwyr dan bwys ei llesgedd. Yn nghymanfa Gwynfe, sir Gaerfyrddin, yn niwedd Mehefin, 1816, y traddododd ei bregeth olaf mewn cyfarfod cyhoeddus. Yr oedd pob gair a lefarai yn disgyn yn ddwfn i galonau ei wrandawyr, er nad oedd yn medru traddodi ei genadwri yn ei nerth arferol. Deallodd ei holl gyfeillion y pryd hwnw fod yr udgorn arian ar ddystewi. Canodd yn iach i'w frodyr yn y weinidogaeth a'r dorf yn gyffredinol ar ddiwedd y bregeth, hyd oni chyfarfyddent yn nghymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntaf-anedig; yna rhoddodd y penill canlynol o'i gyfansoddiad ei hun allan i'w ganu, a hawdd i bawb ddeall nad oedd un llygad sych yn y gynnulleidfa wrth ei ganu:
"Mae'r arwyddion yn cynyddu
Mae fy ngwely fydd y clai,
Gyda'r pryfed mân caf orwedd,
Dyna'r diwedd i bob rhai ;
Pan b'o f'enaid yn ymadael
A'r ddaiarol demi hon,
Caf ehedeg yn ddiorphwys
Mewn i'r lân Baradwys lon."
Pan eisteddodd i lawr, gofynodd i un o'i frodyr am ddyferyn o win, o herwydd ei fod yn teimlo ei hun ar lewygu. Wedi yfed y gwin adfywiodd ychydig. Aeth oddiyno adref, ac ni fu oddicartref wedi hyny; ond pregethodd i bobl ei ofal agos bob Sabboth hyd o few mis i'w farwolaeth. Yn mis Hydref, 1816, cafodd ergyd a ysigodd ei natur lesg, ac a gyflymodd ei datodiad, yn marwolaeth ei anwyl briod. O'r pryd hwnw hyd derfyn ei oes, yr oedd yn amlwg i bawb o'i gydnabod ei fod yn disgyn yn gyflym i lawr dros risiau marwolaeth. Y tro diweddaf y bu yn y capel oedd ar Sabboth cymundeb, tua thair wythnos cyn ei farwolaeth. Y pryd hwnw rhoddodd ddeheulaw cymdeithas i dri-ar-ddeg o bersonau ar eu derbyniad i'r eglwys. Siaradodd ychydig ar yr ordinhad, a dywedodd wrth y gynnulleidfa ei fod yn dra sicr mai dyna y tro diweddaf y gwelent ef yn eu mysg. Sabboth rhyfedd oedd hwnw yn Ebenezer. Yr oedd y lle yn Bochim—pob grudd yn wlyb gan ddagrau, a phob calon yn drom gan ofid.
Y nos cyn ei farwolaeth dywedodd wrth ei gyfaill Dafydd Hugh, un o ddiaconiaid eglwys Ebenezer, ei fod yn teimlo mor gysurus ag yr oedd yn ddichonadwy iddo deimlo, ac ymdrechodd yn ol y nerth oedd ynddo i ganu yr hen benill hwnw:
"Os rhaid i gystudd garw'r groes,
I ddilyn f'ysbryd ddydd a nos,
Os rhaid, gwna fi yn foddlon iawn."
Dranoeth, sef dydd Iau, Rhagfyr 26ain, 1816, anadlodd allan ei ysbryd a'i bwys ar haeddiant holl ddigonol ei Waredwr. Claddwyd ei ran farwol mewn daeargell yn ymyl capel Ebenezer. Yn awr wedi helaethu yr addoldy, y mae ei feddrod dan ganol yr adeilad. Yr oedd torf ddirfawr yn yr angladd, y rhai a anerchwyd gan y Meistri Luke, Abertawy; Davies, o'r Alltwen, a Jones, o Drelech—cyfeillion mynwesol yr ymadawedig. Fel hyn y machludodd un o ser dysgleiriaf Cymru; ond machludodd yma i gyfodi a llewyrchu yn fyrdd tanbeidiach yn nheyrnas nefoedd.
Gadawodd Mr. Davies chwech o blant yn amddifaid o dad a mam, y rhai ydynt oll yn fyw hyd y dydd hwn, ac yn golofnau amlwg o ofal a thiriondeb Tad yr amddifaid. Y mae ei ddau fab yn weinidogion enwog, sef Mr. David Davies, Stoke Bishop, ger Caerodor, a Mr. John Davies, Homerton, ger Llundain.
Yn ystod gweinidogaeth o chwe' blynedd-ar-hugain, derbyniodd Mr. Davies dros ddwy fil o aelodau i'w eglwysi; a'r hwn a wyr bob peth yn unig a wyr nifer yr eneidiau a drowyd trwyddo at yr Arglwydd yn ei deithiau pregethwrol mynych trwy Gymru a Lloegr.