Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Fabian's Bay

Oddi ar Wicidestun
Tanygraig Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Y Sandfields
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Abertawe
ar Wicipedia

FABIAN'S BAY.

Capel Fabian's Bay (A), Abertawe

Un o faesdrefi mwyaf cynyddol Abertawy, ar y tu dwyreiniol i'r afon, yw y lle hwn. Mr. Rees, Canaan; Mr. Griffiths, Abertawy; Mr. Jones, Heolycastell, a Dr. Evan Davies fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos hwn yn y flwyddyn 1861. Wedi cael allan fod mwyafrif dirfawr trigolion y gymydogaeth yn siarad yr iaith Saesonaeg, ac i raddau mawr yn anwybodus o'r Gymraeg, barnasant fod yma angen achos Saesonig. Cymerwyd anedd-dŷ yn y gymydogaeth at gadw ysgol Sabbothol a moddion crefyddol eraill, ac yn mhen ychydig corpholwyd yno eglwys. Cymerwyd tir mewn man cyfleus at adeiladu addoldy, ac yn nechreu y flwyddyn 1862 adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar ddarn o'r tir, yn cynwys 235 o eisteddleoedd, ac esgynlawr cyfleus i'r pregethwr i sefyll arno. Gadawyd digon o dir o flaen yr ysgoldy i adeiladu y capel heb gyffwrdd a'r adeilad hono. Aeth traul yr adeiladaeth, rhwng llogau a phethau eraill, tua 400p. Trwy ymdrech yr eglwys fechan, yn cael ei chynorthwyo gan yr eglwysi yn y dref a'r ardal, yr oedd y ddyled erbyn diwedd y flwyddyn ddiweddaf wedi ei dynu i lawr i 200p., a chymerodd eglwys Ebenezer, Abertawy, at y swm hwn er mwyn i'r eglwys ieuangc yn Fabian's Bay gael ei dwylaw yn rhyddion i ymgymeryd a'r gorchwyl o adeiladu capel, oblegid mae yr ysgoldy er's amryw fisoedd wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Bwriedir yn ddioed adeiladu yma gapel digon eang i gynwys pum' cant o wrandawyr. Gosodwyd ei gareg sylfaen i lawr gan H. O. Wills, Ysw., o Gaerodor, Hydref 13eg, 1871, a disgwylir y bydd yr adeilad yn barod cyn pen blwyddyn. Y gweinidog cyntaf yma oedd un William Jones, a bu yma am tua dwy flynedd; ond gan nad oedd ei fuchedd yn deilwng o'r Efengyl bu ei ymadawiad a'r lle yn fantais i'r achos. O'r flwyddyn 1864 hyd 1868 bu yr eglwys yn benaf dan ofal Mr. W. Lloyd. Abertawy, yn cael ei gynorthwyo gan Meistri E. Griffiths, F. Samuel, T. Rees, ac eraill o weinidogion y dref. Yn Ebrill 1861, symudodd Mr. J. Thomas yma o Dredegar, ac y mae yn parhau i lafurio yma ac ar y Sandfields. Am y ddwy flynedd gyntaf ni bu llafur Mr. Thomas yma mor llwyddianus ag y disgwyliasai ef a'i gyfeillion iddo fod, oherwydd rhyw amgylchiadau anffafriol, ond er's yn agos i flwyddyn bellach mae yr Arglwydd yn ymddangos fel yn gwenu yn neillduol ar y lle, a rhai degau wedi cael eu hychwanegu at yr achos. Mae rhif yr aelodau yn bresenol tua haner cant, ac y mae pob sail i obeithio pan y ceir yma gapel newydd y ceir ychwanegiad mawr at yr eglwys a'r gynnulleidfa. Mae yma ysgol Sabbothol lewyrchus er dechreuad yr achos.

Nodiadau

[golygu]