Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Gwaunarlwydd
| ← Cadle | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Rhydyfro → |
GWAUNARLWYDD.
Saif y lle hwn yn ymyl Gower Road Station, o fewn chwe' milldir i Abertawy. Glowyr ac amaethwyr yw y trigolion. Ugain mlynedd yn ol nid oedd ond dau neu dri o dai yn yr holl gymydogaeth, heblaw yr amaethdai oedd yma ac acw. Yn y flwyddyn 1833, dechreuwyd ysgol Sabbothol yn nhy John Lewis, Dilledydd, a elwir Wern, gan gyfeillion o'r Crwys. Y rhai mwyaf blaenllaw oedd David Griffiths, Cefngorwydd, a'i deulu; John Lewis, gwr y tŷ; John Higgs, Saer; Thomas Bowen, amaethwr; Evan Morris, hynaf, Evan Morris, ieu.; George Williams, Vexe Fach; Thomas Gibbs, Cefngorwydd Fawr, a John Thomas, Tygwyn. Bu yr ysgol yn y Wern ac yn Cefngorwydd am flynyddau lawer yn flodeuog iawn. Yn mhen blynyddau wedi dechreu yr ysgol hon gan bobl y Crwys, dechreuodd pobl Cadle ysgol mewn cwr arall o'r gymydogaeth. Yr oedd gweithiau glo yn awr yn dechreu cael eu hagor, tai yn cael eu hadeiladu, a'r boblogaeth yn cynyddu. Bu yr ysgol ddiweddaf a nodwyd yn symud o dŷ i dŷ, ac o'r diwedd unwyd y ddwy ysgol yn un. Yn fuan ar ol hyny cymerwyd tir i adeiladu ysgoldy, gan Mr. Henry Griffiths, Bryn Dafydd. Yr oedd Mr. Griffiths wedi prynu y tir a elwir Gwaunarlwydd gan yr Arglwydd Faenorydd (Lord of the Manor), a dyna paham y gelwir y lle ar yr enw uchod. Cymerwyd y tir Medi 29ain, 1852, ac adeiladwyd ysgoldy arno, a gwnaed hyny yn rhad iawn trwy garedigrwydd y cymydogion yn gweithio ac yn cludo defnyddiau ato. Y rhai mwyaf blaenllaw gyda'r gwaith heblaw Mr. John Evans, gweinidog y Crwys, oeddynt James Morris, hynaf, James Morris, ieu.; David Griffiths, Cefngorwydd; Thomas Bowen, Thomas Walters, Vexe Fawr; Benjamin George, Thomas Walters, Thomas Morgan, Heolyfelin, a William Thomas. Yn Gorphenaf 1858, corpholwyd yma eglwys gan Mr. John Ll. Jones, Crwys, a neillduwyd Thomas Bowen, James Morris, John Davies, a Thomas Walters, yn ddiaconiaid. Rhif yr aelodau oedd deg-ar-hugain. Yn mhen oddeutu blwyddyn rhoddodd Mr. Jones eu gofal i fyny; ond nid cyn cynyg adeil- adu capel iddynt a'u cynorthwyo i dalu am dano; ond yr oedd y cyfeillion yn y lle yn teimlo eu bod yn rhy wan ar y pryd i ymgymeryd a'r anturiaeth. Yn fuan wedi hyn daeth Mr. William Humphreys, Cadle, heibio y gymydogaeth, a dywedodd wrthynt fod yn rhaid iddynt gael capel ac heb ymdroi dim aeth i Abertawy, a gyrodd werth yn agos i haner can' punt o goed at adeiladu capel newydd. Dechreuwyd ar y capel yn y flwyddyn 1859, ac yr oedd yn barod y flwyddyn ganlynol, ac agorwyd ef Mehefin 24ain a'r 25ain, 1860. Yr oedd holl draul ei adeiladaeth yn 422p. 14s. 3c. Yn nechreu y flwyddyn 1861 rhoddwyd galwad i Mr. John Bevan e Maesteg, yr hwn oedd yn yr ysgol gyda Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont, ac urddwyd ef Mawrth 21ain, 1861. Y gweinidogion a gymerasant ran yn y gwasanaeth oeddynt y Meistri J. B. Jones, B.A., Penybont; J. Davies, Cwmaman; J. Joseph, Llanedi; T. Llewelyn, Mountainash; J. Thomas, Bryn; W. Rees, Maesteg; H. Evans, Penbre; J. Ll. Jones, Penclawdd; D. Rees, Llanelli; W. Humphreys, Cadle; J. Jones, Maesteg, a J. Daniel, Mynyddbach. Mae Mr. Bevan wedi llafurio yma er hyny hyd yn awr; ac y mae yr achos er dan lawer o anfanteision wedi myned rhagddo. Mae yr holl ddyled oedd ar y capel a'r ysgoldy sydd yn nglyn ag ef wedi ei thalu er's pedair blynedd. Mae prydles y capel yn fil ond un o flynyddau, am chwecheiniog yn y flwyddyn o ardreth. Mae pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus.
Codwyd yma un pregethwr, sef John D. Williams. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1864, a bu am naw mis yn yr ysgol gyda Dr. E. Davies, yn Abertawy, yn parotoi ar gyfer un o'r athrofeydd; ond dyryswyd ei holl amcanion-bu farw Mehefin 4ydd, 1866, a chladdwyd ef yn Waunarlwydd. Yr oedd yn fachgen ieuangc gobeithiol, ac yn cael ei barchu gan bawb a'i hadwaenai. Y mae agos yr holl rai ag oedd yn dwyn sel dros yr achos yn ei gychwyniad wedi myned at eu gwobr. Bu farw David Griffiths, Cefngorwydd, Mehefin 22ain, 1857. Yr oedd ef yn wr mawr yn Israel; bu yn ddefnyddiol iawn am flynyddau yn y Crwys— a'i dŷ yn gartref i weision yr Arglwydd. Benjamin George, yr hwn a fu farw Tachwedd 9fed, 1861, oedd ddyn da a ffyddlon iawn gyda'r achos y lle. Thomas Walters, yr hwn a fu farw Medi 26ain, 1866, oedd yn un o'r pedwar diacon a neillduwyd ar ddechreu yr achos yn y lle. Mae Thomas Thomas hefyd wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Teimlodd yr eglwys golled fawr ar ol y brodyr uchod, ond y mae yr Arglwydd wedi codi eraill i lanw eu lle.