Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Hebron, Clydach
| ← Bethel, Llansamlet | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Y Felindre → |
HEBRON, CLYDACH.
Mae y pentref prydferth hwn yn cael ei enw oddiwrth yr afonig Clydach yr hon sydd yn rhedeg trwy ei ganol, ac yn ymarllwys i'r Tawy ychydig islaw iddo.
Mae yr ardal hon yn hen artrefle Ymneillduaeth. Adeiladwyd capel y Gellionen yn y gymydogaeth hon mor foreu a'r flwyddyn 1692, a bu olyniad o weinidogion efengylaidd eu golygiadau yn pregethu ynddo i gynulleidfaoedd lluosog hyd o fewn ychydig i ddiwedd y ganrif ddiwedda Pan ddechreuodd udgorn y weinidogaeth yn Gellionen fyned i roddi sain anhynod, cymerwyd anedd-dy yn Mhentrefmalwod, yn agos i Glydach, at gynal moddion crefyddol gan bobl y Mynyddbach. Mae yn dra thebygol fod yma wasanaeth crefyddol lled gyson yn cael ei gynal er amser Mr. Lewis Rees, ond yn nhymor gweinidogaeth Mr. David Davies y ffurfiwyd yma eglwys. Nis gwyddom a gymerodd hyny le cyn y flwyddyn 1809, pryd y rhanwyd y cylch gweinidogaethol rhwng Mr. D. Davies, a Mr. D. Evans. Y pryd hwnw cymerodd Mr. Davies ofal yr eglwysi yn Ebenezer a'r Ysgetty, yn nghyda'r gangen fechan yn Nghlydach, a gadawodd y Mynyddbach a Threforis i Mr. Evans. Parhaodd Mr. Davies i ofalu am yr achos yn Nghlydach hyd derfyn ei oes, ac yn y flwyddyn ar ol ei farwolaeth ef, sef yn 1817, rhoddasant eu hunain dan ofal Mr. Evans, Mynyddbach. Gan fod yr anedd-dy yn Mhentrefmalwod yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, penderfynwyd adeiladu capel yn mhentref Clydach. Addoldy lled fychan ydoedd, ond rhwng y llawr a'r oriel, cynwysai o ddau i dri chant o bobl. Agorwyd y tŷ hwn, Mawrth 22ain, 1821. Yn y boreu, dechreuwyd yr addoliad gan Mr. W. Beynon, Llangynwyd, a phregethodd y Meistri W. Jones, Penybont; M. Lewis, Ystradfellte, ac H. Williams, Llanelli, oddiwrth Salm cxxxviii. 2., Esaiah xxv. 6., 1 Petr iii. 18. Yn yr hwyr, pregethodd Mr. David Griffiths, Cydwely, a Mr. Thomas Davies, Abertawy. Cafodd yr addoldy bychan hwn wasanaethu i'r gynnulleidfa hyd 1848, pryd yr adeiladwyd y capel hardd a helaeth presenol. Gan fod llafur Mr. Evans mor fawr, a bod yr eglwys yn Nghlydach wedi dyfod yn gymharol gref, anogodd hwynt i ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i Mr. William Thomas, o athrofa y Neuaddlwyd. Urddwyd ef yma Rhagfyr 17eg, 1830. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1834, bu raid iddynt ymwrthod ag ef am nad oedd yn ymarweddu yn deilwng o'i swydd, ond o herwydd ei fod yn ddyn mor hynod o serchus, a'i ddoniau fel pregethwr mor swynol, darfu i rai o'r aelodau lynu wrtho, ac adeiladu capel bychan iddo mewn rhan arall o'r ardal. Daw y capel hwnw dan ein sylw etto. Yn Gorphenaf, 1834, dechreuodd Mr. David Jones, Taihirion, ei weinidogaeth yma, a pharhaodd i lafurio yn y lle hwn mewn cysylltiad a Chadle, o'r pryd y dechreuwyd yr achos yno, hyd ei farwolaeth yn Ionawr, 1845. Yn haf y flwyddyn 1846, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, y pryd hwnw o Abertawy. Urddwyd ef yma Mehefin 16eg, 1846. Rhoddir hanes yr urddiad yn y Diwygiwr fel y canlyn :"Mehefin 15fed a'r 16eg, cynaliwyd cyfarfodydd yn Hebron, Clydach, er neillduo Mr. Thomas Thomas, o Abertawy, i gyflawn waith y weinidogaeth, dros yr eglwys gynnulleidfaol a gyferfydd yn y lle hwnw. Am 6 nos Lun, gweddiodd Mr. Morgan Evans, Milo, a phregethodd Meistri T. Rees, Siloa, a D. Evans, Castellnedd. Am 10 bore ddydd Mawrth, gweddiodd Mr. J. Davies, Mynyddbach; traddododd Mr. D. Rees, Llanelli, araeth ar natur eglwys; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Davies, Llundain; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Morris, Glandwr, a phregethwyd siars i'r gweinidog gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Am 2, gweddiodd Mr. J. Thomas, Bwlchnewydd, a phregethodd Meistri W. Jones, Abertawy, ar ddyledswydd yr eglwys, a Thomas Roberts, Llanelli, a J. Evans, Capel Sion, i'r gynnulleidfa yn gyffredinol. Yn yr hwyr, pregethodd Mr. J. Davies, Cwmaman, a Mr. D. Davies, Llundain. Yn nechreu y flwyddyn 1848, cymerodd Mr. Thomas ofal yr eglwys yn Nglandwr, ond ni roddodd Glydach i fyny am rai blynyddau wedi hyn. Rhanai ei lafur yn gyfartal rhwng y ddwy eglwys. Yn mhen amser, gyda bod ei lafur yn cynyddu, teimlodd yn angenrheidiol iddo roddi Clydach i fyny, a chyfyngu ei hun i Landwr. Yn 1853, rhoddodd yr eglwys yn Hebron alwad i Mr. David Evans, o athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yma Rhagfyr 28ain a'r 29ain, 1853. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. Jones, Treforis; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Llandilo; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Jacob, Abertawy; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. T. Thomas, Glandwr. Wedi i Mr. Evans symud oddiyma i Britonferry, rhoddwyd galwad i Mr. Esay Owen, o athrofa Aberhonddu, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol, ac i fod, fel yr hyderwn, am flynyddau lawer etto. Urddwyd Mr. Owen, Mehefin 27ain, 1861. Dechreuwyd yr addoliad gan Mr. E. Griffiths, Abertawy; pregethodd Mr. J. Thomas, Liverpool, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. W. Williams, Hirwaun; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. P. Griffiths, Alltwen; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. J. Morris, athraw duwinyddol athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli. Traddodwyd hefyd amryw bregethau yn y prydnawn a'r hwyr, ac yn yr hwyr y dydd blaenorol, yn Nghlydach a'r Glais. Yr oedd 38 o weinidogion a phregethwyr yn bresenol. Mae eglwys gref, heddychol, a gweithgar, yn Nghlydach er's amryw flynyddau bellach, a phob arwyddion yn bresenol mai yn gryfach gryfach yr â. Yn mysg y ffyddloniaid o'r eglwys hon sydd wedi diangc i'r wlad well, gellid enwi David Davies, ac Evan Jones, Rhydypandy, y rhai fuont yn henuriaid yn yr eglwys. Yr oedd y ddau yn nodedig am eu gwresogrwydd a'u gweithgarwch gyda chrefydd. Yr oedd Richard Jones, Cefnygarth, a John Jenkins, Gelliwastad, yn ddiaconiaid, ac yn ddynion diwyd a haelionus iawn. Bu Morgan Griffith, Ynyspenllwch, brawd y diweddar Mr. Griffith, Casnewydd, yn aelod a diacon defnyddiol am lawer o flynyddau. Yr oedd yn ddyn hynaws a llawn o hawddgarwch, ac yn un o'r rhai ffyddlonaf gyda holl foddion gras. Ni byddai ei le yn y capel un amser yn wag. William Baker, a fu yn ddiacon am flynyddau. Yr oedd yn grefyddwr gweithgar ryfeddol. Byddai ei ysgwydd ef dan y pen trymaf i'r arch bob amser. Dyn cryf o feddwl, siaradwr doniol, a chanwr rhagorol, oedd Daniel Davies. Bu yntau yn ddiacon am flynyddau. Mae enwau y ddau frawd rhagorol Joseph a Benjamin Rees, yn deilwng o'u cofnodi. Dynion gwerthfawr oedd y ddau. Rhagorai Joseph Rees fel tangnefeddwr. Efe fynychaf oedd yn cael ei benodi i derfynu pob anghydfod rhwng brodyr a chwiorydd tramgwyddedig, ac anfynych y methai lwyddo. Un rhagorol i feithrin ieuengctyd mewn crefydd oedd Benjamin Rees. Yr oedd yn dwyn sel mawr dros yr ysgolion dyddiol a Sabbothol, ac yn wastad yn myned yn mlaen gyda'r oes; ïe, yn blaenori pob mudiad daionus yn yr eglwys a'r ardal. Bu farw y ddau frawd teilwng yma o'r Geri Marwol o fewn pedwar diwrnod i'w gilydd, yn mis Hydref, 1866. Flynyddau yn ol yr oedd yma hen chwaer nodedig iawn o'r enw Ann Jones, neu "Nancen o'r Hendy," fel y gelwid hi. Yr oedd yn un hynol o danllyd dan y gair, byddai ei hamenau yn uwch na'r eiddo neb arall yn y gynnulleidfa. Yr oedd Mr. Davies, o'r Alltwen, yn un o'i hoff bregethwyr hi.
Y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon ydynt,
Evan Jones, mab Evan Jones, Rhydypandy. Dechreuodd bregethu yn 1824 neu 1825. Bu yn pregethu am flynyddau lawer. Trodd at y Methodistiaid ryw gymaint o amser cyn ei farwolaeth.
William Thomas, mab David Thomas, o'r Fagwyr, un o henuriaid eglwys Clydach. Dechreuodd bregethu o gylch y flwyddyn 1831. Efe a drodd at y Bedyddwyr.
William Hill. Addysgwyd ef yn yr Athrofa Orllewinol, yn Plymouth. Urddwyd ef yn Bodmin, yn Mawrth, 1851. Mae yn awr yn Beeralston, gerllaw Tavistock.
William Williams. Dechreuodd bregethu yn 1845. Urddwyd ef yn y Bryn, Llanelli, yn 1849, a bu farw yn mhen ychydig ar ol hyny. Rhoddwn ei fywgraphiad yn nglyn a hanes eglwys y Bryn.
Isaac James. Dechreuodd bregethu yr un amser a W. Williams, a chafodd ei urddo yn weinidog i'r Cymry yn Walker, gerllaw Newcastle-on-Tyne, yn 1862.
David Davies. Dechreuodd bregethu yn 1860. Bu am ddwy flynedd yn cael addysg yn yr athrofa Normalaidd yn Abertawy, a phedair blynedd yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Mynyddsion, Casnewydd, yn 1867, ac yno y mae etto yn barchus a llwyddianus. [1]
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID JONES. Ganwyd ef yn Nhreforis tua y flwyddyn 1784. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Mynyddbach gan Mr. David Davies, a dechreuodd bregethu oddeutu y flwyddyn 1808. Urddwyd ef yn Ebenezer, Aberdar, Gorphenaf 29ain, 1813, pryd y gweinyddodd y Meistri Davies, Abertawy; Hughes, Groeswen; Evans, Zoar, Merthyr; Lewis, Ystradfellte, ac eraill. Symudodd yn mhen tua dwy flynedd o Aberdare i Lanharan a'r Taihirion, lle y bu am flynyddau yn enwog a llwyddianus iawn. Yn mhen rhai blynyddau rhoddodd Lanharan i fyny, a chyfyngodd ei lafur i'r Taihirion a Bethlehem, Pentyrch-achos a ddechreuwyd trwy ei lafur ef. Tua y flwyddyn 1833, cyfododd teimladau anghysurus rhyngddo a rhai o aelodau y Taihirion, fel y barnodd yn well ymadael. Yn Gorphenaf, 1834, fel y nodwyd eisioes, dechreuodd ei weinidogaeth yn Nghlydach, lle y treuliodd weddill ei oes. Pan ffurfiwyd eglwys yn Nghadle, cymerodd ef ei gofal mewn cysylltiad a Chlydach. Bu farw yn ddisymwth iawn Ionawr 2il, 1845. Yr oedd wedi myned i Gadle i bregethu mewn angladd, a thra yn sefyll ar y fynwent i ddisgwyl yr angladd, syrthiodd i lawr mewn llewyg, fel y tybid. Cludwyd ef i'r Beaufort Arms, yn ymyl y fynwent, ond erbyn ei fod yno yr oedd yr enaid wedi ymadael a'i babell bridd. Bu farw yn driugain mlwydd oed.
Bu David Jones am rai blynyddau yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn Morganwg a Mynwy. Efe fyddai fynychaf yn nghyfarfodydd cyhoeddus Mynwy a dwyrainbarth Morganwg, yn pregethu yn gyntaf yn yr oedfa ddeg o'r gloch, a Hughes, Groeswen, neu Jones, Pontypool, ar ei ol. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a'i lais yn berseiniol ac effeithiol iawn. Claddwyd ef yn mynwent Cadle, lle mae maen prydferth wedi ei osod ar ei fedd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Llythyr Mr. E. Owen.