Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Heolycastell, Abertawy
| ← Libanus, Treforis | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Siloh, Glandwr → |
HEOLYCASTELL, ABERTAWY.

Mae dechreuad yr achos hwn yn ffrwyth llafur ac ymdrechion hunanymwadol Mr. D. Davies, gweinidog Ebenezer, a rhai o aelodau ei eglwys. Gwelent hwy fod angen am le yn y dref i Saeson o olygiadau Annibynol i ddoli, a bod plant amryw o honynt yn debygol o fyned at enwadau eraill, neu fyned yn hollol ddigrefydd, oddieithr i wasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonig gael ei gynal yn y dref, gan fod llawer a honynt yn anhyddysg yn y Gymraeg. Yr aelodau o Ebenezer a gydweithredent a Mr. Davies i gychwyn yr achos Saesonig, oeddynt Meistri Roger Hopkins, Thomas Jones, a Henry Griffiths, yn nghyda rhai pobl ieuaingc. Adeiladwyd y capel yn Heolycastell yn y flwyddyn 1814, ac agerwyd ef Rhagfyr 28ain a'r 29ain, yn yr un flwyddyn, pryd y pregethwyd gan Meistri W. Warlow, Milford; Peter, Caerfyrddin; Williams, Llanelli; East, Frome, wedi hyny o Birmingham, a Thorpe, Caerodor. Y mae y capel hwn yn awr yn helaeth iawn mewn cyferbyniad i gapeli yn gyffredin, ond yr amser yr adeiladwyd ef nid ymddengys fod un addoldy yn y Dywysogaeth mor helaeth ag ef. Yr oedd traul yr adeiladaeth tua dwy fil o bunau, a chan na chasglwyd ond ychydig mewn cymhariaeth ar y cychwyniad, bu y ddyled arno yn agos a lladd yr achos, ac yn waradwydd i'r enwad am fwy nag ugain mlynedd. Pe buasai Mr. Davies, Ebenezer, yn cael iechyd a bywyd am ychydig o flynyddau yn hwy, mae yn ddiau y buasai yr holl ddyled yn cael ei dileu yn fuan, ond gan fod ei iechyd ef yn gwaelu ar y pryd, ac iddo farw yn mhen dwy flynedd wedi hyny, cafodd y baich trwm ei adael fel hunlle i lethu yr achos ieuangc a gwan. Yn fuan wedi agoriad y capel, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Luke, y pryd hwnw o Hwlffordd. Bu ef yma o 1815 hyd 1821, yn dderbyniol iawn fel pregethwr, ac yn sefyll yn uchel yn ngolwg trigolion y dref, ond nid ymddengys iddo wneuthur ond ychydig mewn cymhariaeth at ddileu y ddyled oedd ar y capel. Ar ol ymadawiad Mr. Luke, daeth yma un Mr. Barfit, ond nid ymddengys iddo aros yma ond dwy neu dair blynedd o hwyaf. Dilynwyd ef gan Mr. Brittan, gwr genedigol o Gaerodor. Dywedir fod Mr. Brittan yn bregethwr rhagorol, ac y buasai yn debygol o gyfodi yr achos i gryfder, pe buasai ei gallineb a'i lywodraeth ar ei dymherau yn gyfartal a'i alluoedd fel pregethwr. O herwydd ei annoethineb bu yn foddion i rwygo yr eglwys. Aeth a rhyw nifer gydag ef allan i'r dyben o gychwyn achos newydd. Adeiladodd gapel York Place, ond methodd wneyd un daioni yno drachefn. Y canlyniad fu iddo ymadael, ac i'r capel gael ei werthu i'r Bedyddwyr. Wedi ymadawiad Mr. Brittan, o Heolycastell, rhoddwyd galwad i Mr. Eliezer Jones, myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, a mab yr enwog Dr. Arthur Jones, Bangor. Urddwyd ef yma Ebrill 9fed, 1828, pryd y gweinyddwyd gan Meistri Peter, Caerfyrddin; Hamerton, Newton, ac eraill. Bu Mr. Jones yma hyd Mawrth, 1832, pryd y symudodd i Rodborough. Mae yn bresenol yn weinidog eglwys fawr yn Ipswich. Dilynwyd Mr. Jones gan Mr. Robert Taylor, ond ni bu ef yma nemawr o amser cyn i'r capel gael ei gauad, ac i'r gynnulleidfa gael ei gwasgaru, o herwydd y ddyled oedd yn aros ar y lle. Wedi i bethau fod yn yr agwedd flin hon am tua dwy flynedd, cafodd y lle ei ail agoryd yn 1836, pryd y dechreuodd Mr. William Jones, y gweinidog presenol ei lafur yma. Ymddangosodd yr adroddiad canlynol, yr hwn a ddengys sefyllfa pethau ar y pryd, yn y Diwygiwr am 1838, tu dal. 181:—"Adeiladwyd y capel ers pedair-blynedd-ar-hugain yn ol, a chan na allesid cael dernyn o dir ar werth y pryd hwnw, buwyd dan yr angenrheidrwydd o lesi y sylfaen am 35p. o ardreth flynyddol. Mae yr adeilad yn helaeth a chyfleus, ond nid oes dim afreidiol yn ei gylch; yr oedd y draul o'i adeiladu yn llawer, llog yr hyn at yr ardreth flynyddol a wnai swm lled fawr i'w dalu bob blwyddyn, ond yr oedd y gynnulleidfa mor fawr a chyfrifol fel y telid hi yn rhwydd, a lleiheid llawer ar y corph h?? am gryn amser; ond o herwydd amgylchiadau a phersonau, y byddai yn anfuddiol manylu yn eu cylch ar hyn o bryd, ymranodd y gynnulleidfa, a buan iawn yr aeth yr ardreth a'r llog yn rhy drwm i'r rhai a arosodd yn Castle Street i'w ddwyn. Goddefid i'r naill a'r llall i gynyddu, gwywodd y gynnulleidfa, nychodd yr achos, a'r diwedd fu cau y drws i fyny; yna ymwasgarodd yr ychydig oeddynt wedi bod yn ffyddlon yn mhob tywydd, fel defaid heb ganddynt fugil. Gwnaed parotoadau uniongyrchol i werthu y capel; dangosai yr Undodwyr a'r Elwyswyr am y mwyaf awyddus am dano; ar hyn, gwresogodd calonau ychydig o gyfeillion, hoffasent ei feini, a thosturiasant wrth lwch yr achos yn y fan; daethant yn mlaen a chynygiasant atal y gwerthiant, ar yr amod i'r 'Undeb Cyffredinol' dderbyn y capel i mewn; ac yn nghyfarfod yr Undeb Cyffredinol, derbyniwyd ef yn rheolaidd fel achos anghyffredin, ar yr amod fod Abertawy a Morganwg yn ymysgwyd yn gyntaf; a'r hyn ymrwymodd y Parchn. W. Jones, Penybont; T. Davies, Abertawy; D. Jones, Clydach; J. Evans, Crwys; D. Rees, Llanelli, a'r Meistri D. Rees, a D. Gibbs, Abertawy; W. Hughes, ac S. Rosser, Ysgetty; M, Morgans, Rhianfawr; J. Jones, Brynbrain; J. Powell, Cefn y fforest, ac R. Monger, Glandwr, yn feichnion am y ddyled, a phrynasant y gwaelod am 700p,, yr hyn, at y ddyled oedd yn aros, a thraul tynu y gweithredoedd, a wnai fwy na 1,900p. Gwnaeth yr ymddiriedolwyr agor y capel, ac yn fuan gwahoddasant Mr. W. Jones, Rhydybont, yno i weinidogaethu; yr hwn, trwy lawer o aberth personol, a gydsyniodd a'u cais, ar y dybiaeth fod yr Undeb yn cymeryd y ddyled; adffurfiwyd yr eglwys, a dynesodd llawer o'r gwrandawyr, ar y ddealldwriaeth na fuasai i'r hunlle fu bron a gwasgu yr anadl o honynt gynt yn cael pwyso arnynt mwy; ond y mae llawer hyd yma yn sefyll draw, gan ofni na fydd i'r Undeb gyflawni yr hyn a addawyd. Pe ysgogai eglwysi Cymru fel pe byddent yn ddifrifol, llenwid y capel yn y man, a byddai y gynnulleidfa hon mor gynorthwyol ag un yn Morganwg at leihau y dyledion cyffredinol. Yn awr y mae pob amod a wnaed ar dderbyniad y capel i'r Undeb wedi ei gyflawni. Dirprwywyd y Meistri D. Rees, Llanelli, a R. Thomas, Glandwr, i gasglu yn mysg y Saeson yn Abertawy; cawsant yn yspaid wyth diwrnod gant a thair punt. Casglodd yr un personau yn Merthyr a Dowlais 40p. Bu y Meistri Jones, Penybont; Evans, Cymar; Griffiths, Llanharan; Williams, Maendy; Hughes, Dowlais; Powell, Caerdydd, a Jones a Davies, Abertawy, yn ddiwyd yn eu gwahanol ddosbarthion, fel y mae y sir, gan mwyaf, wedi ei cherdded yn lled lwyddianus; yn awr troir at siroedd eraill Cymru." Casglwyd amryw ganoedd yn Morganwg a'r siroedd cylchynol yn yr ymdrech hon, ond arosodd y rhan fwyaf o'r ddyled nes i Mr. Evan Watkins, y pryd hwnw o Ganaan, ymgymeryd a'r gorchwyl o'i dalu yn y flwyddyn 1843. Ymroddodd ef gydag egni penderfynol at y gwaith. Ysgrifenodd filoedd o lythyrau i bob parth o'r deyrnas, a theithiodd ganoedd o filldiroedd i gasglu, fel erbyn diwedd y flwyddyn 1846, yr oedd y rhan fwyaf o'r baich wedi cael ei symud. Gwnaeth Mr. Jones a'r gynnulleidfa yn Heolycastell eu rhan yn deilwng, ac fe lafuriodd amryw o'r gweinidogion cymydogaethol yn dda, ond i lafur digyffelyb Mr. Watkins y mae llwyddiant yr ymdrech yn benaf i'w briodoli. Wedi symud baich y ddyled aeth pob peth yn mlaen yn gysurus a llwyddianus dros lawer o flynyddau, ond nid yw y gynnulleidfa yn awr mor lluosog ag y bu rai blynyddau yn ol, o herwydd fod amryw gapeli Saesonig eraill wedi cael eu hadeiladu yn y dref. Effeithiodd agoriad y capel Presbyteraidd yn fawr ar gynnulleidfa Heolycastell, am mai yno yn benaf yr oedd y Scotiaid yn addoli cyn iddynt gael capel eu hunain. Mae Mr. Jones yn awr yn iach a bywiog mewn corph a meddwl, er ei fod o fewn ychydig fisoedd i bedwar ugain mlwydd oed.
Nid ydym yn gwybod am neb a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon ond Mr. C. M. Davies, Wallingford, a Mr. Thomas Lloyd, St. Ives, sir Huntingdon. Maent hwy yn weinidogion parchus yn Lloegr er's degau o flynyddau bellach.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
THOMAS LUKE. Ganwyd ef yn Salisbury, yn y flwyddyn 1777. Yr oedd ei rieni yn perthyn i'r eglwys Annibynol yn ninas Salisbury, ac ymunodd yntau a'r eglwys hono yn dra ieuangc. Yn 1802, aeth yn yfyriwr i athrofa Dr. Bogue yn Gosport. Wedi bod yno am rai blynyduau ymsefydlodd yn Alton, lle y bu yn llafurio am bum' mlynedd, ond ni chafodd ei urddo yno. Symudodd i Hwlffordd, lle yr urddwyd ef Awst 29ain, 1811. Yn nechreu 1815, symudodd i Abertawy, ac oddiyno yn 1821, i Taunton, lle y bu yn weinidog defnyddiol a pharchus am ddwy flynedd-ar-hugain. In 1843, rhoddodd ei weinidogaeth i fyny, a symudodd i Goodwig, Abergwaun, lle yr oedd etifeddiaeth gan ei wraig, ac yno y bu yn cyfaneddu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 12fed, 1853. Cyhyd ag y parhaodd ei nerth, pregethai unwaith bob Sabboth yn nghapel yr Annibynwyr yn Abergwaun, er mwyn yr ychydig Saeson a gyfaneddent yn y dref a'r gymydogaeth. Yr oedd Mr. Luke yn gristion pur, yn bregethwr buddiol, ac yn ŵr boneddig yn holl ystyr y gair. Yr oedd ef a'i briod yn ddiarhebol am eu haelioni at bob achos crefyddol a dyngarol.
Mae hanes Mr. Barfit, canlyniedydd Mr. Luke, yn Abertawy, yn hollol anhysbys i ni; ac nis gwyddom ddim ychwaneg am Mr. Brittan, na'i fod yn enedigol o Gaerodor, ac iddo ymfudo i'r America ar ei ymadawiad o Abertawy. Nis gwyddom hefyd ddim am Mr. Robert Taylor, ond iddo gael ei addysgu yn athrofa Hackney, ac iddo symud o Abertawy i Somerton, lle yr oedd hyd yn ddiweddar.