Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Libanus, Treforis

Oddi ar Wicidestun
Ebenezer, Abertawy Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Heolycastell, Abertawy
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Treforys
ar Wicipedia

LIBANUS, TREFORIS.

Libanus (A) Treforys

Er nad oes ond tair-blynedd-a-deugain er pan gorpholwyd yr eglwys a gyferfydd yn y capel hwn yn eglwys Annibynol, yr oedd yn y gymydogaeth hon gangen o eglwys Ty'rdwncyn yn cynal addoliad cyhoeddus yn rheolaidd er's amryw oesau. Bernir fod gwasanaeth crefyddol wythnosol yn cael ei gadw yn gyson yn y Tycoch er y flwyddyn 1682, os nad cyn hyny, gan aelodau Ty'rdwncyn a gyfaneddent yn y gymydogaeth, a byddai rhai o aelodau y Chwarelbach, Castellnedd yn dyfod yn fynych i'r cyfarfodydd hyn. Dywedir fod y bobl a gyfarfyddent yn y Tycoch yn rhai diarhebol am eu gwresogrwydd crefyddol. Pan gyfododd Methodistiaeth daeth rhai o brif bregethwyr yr enwad hwnw yn achlysurol i bregethu i'r gynnulleidfa yn y Tycoch, a'r canlyniad fu yno, fel agos yn mhob ardal arall, i rai o'r bobl fyned yn Fethodistiaid, a ffurfio achos Methodistaidd yn Llansamlet. Mae yn deilwng o sylw, mai canghenau o'r hen eglwysi Ymneillduol oedd agos pob un o'r cymdeithasau Methodistaidd cyntaf a ffurfiwyd yn Nghymru. Nid ydym yn gwybod am gymaint ag un gymydogaeth hollol ddi-Ymneillduaeth lle y gosododd Methodistiaeth ei thraed i lawr am y pump neu y deng mlynedd cyntaf o'i hanes. Teimlid er's blynyddau fod y Tycoch yn le lled anghyfleus i gynal y cyfarfodydd wedi i boblogaeth Treforis luosogi, a bod angen am adeiladu tŷ cyfarfod, ond yr oedd Mr. Lewis Rees, a phobl y Mynyddbach yn groes i hyny, rhag ofn y buasai pobl Treforis, ar ol cael tŷ cyfarfod, yn ymneillduo o'r Mynyddbach, ac yn myned yn eglwys Annibynol. Syniad cyffredin yr hen bobl dda gynt oedd cael rhyw un lle mawr i gyfarfod ynddo bob bore Sabboth, a chadw addoliadau yn yr hwyr mewn pump neu chwech o wahanol ardal- oedd. Edrychid ar adeiladu capel o fewn dwy neu dair milldir i addoldy y fam-eglwys yn gystal a rhwyg, ac yn brawf o ddiogi. Ystyrid cerdded llawer o filldiroedd i'r addoliad ar fore y Sabboth fel prawf o ragoriaeth mewn crefydd. Mae y syniad hwn o eiddo yr hen bobl yn cael ei osod allan yn dda gan Williams, Bethesda, yn y penill canlynol:

"Mae crefyddwyr a'u tiemladau,
'Nawr mor dyner nad aent trwy
Wres nac oerfel i addoliad,
O fewn milldir fach neu ddwy;
Rhaid cael temlau'n agos agos,
Tŷ cwrdd yma, tŷ cwrdd draw,
Gormod gwaith yw cerdded milldir,
Chwaethach cerdded wyth neu naw."

Barnai pobl y Mynyddbach mai diogi i gerdded, a difaterwch crefyddol, ac nid lles ysbrydol eu hardal boblog, oedd yn peri i bobl y Tycoch awyddu am gael addoldy yn Nhreforis. Pa fodd bynag, fe drefnodd rhagluniaeth yn ei hamser i bobl Treforis gael yr hyn a ddymunent. Daeth galwad i Mr. William Edwards, gweinidog y Groeswen, ddyfod i aros am rai misoedd yn yr ardal, pan yr oedd yn adeiladu Pontyfforest, wrth Dreforis. Yr oedd Mr. Edwards yn ŵr dylanwadol iawn yn mysg boneddwyr y wlad ar gyfrif ei fedr a'i enwogrwydd fel adeiladydd pontydd, ac yr oedd iddo barch mawr fel pregethwr gan bawb a'i hadwaenai. Llwyddodd Mr. Edwards i gael gan Mr. Rees a'i bobl yn y Mynyddbach foddloni iddo ef adeiladu capel yn Nhreforis i'r gangen a gyfarfyddent yn y Tycoch, ond gosod amod yn y weithred, na byddai cyfarfodydd i gael eu cynal ynddo ar foreu y Sabbothau, rhag lleihau cynnulleidfa y Mynyddbach, ac na byddent i fyned yn eglwys ar eu penau eu hunain. Cydunodd y bobl a'r amodau caethion hyn. Adeiladodd Mr. Edwards y capel, a chasglodd ddigon i ddwyn y draul yn mysg y boneddigion yr oedd ef yn adnabyddus a hwy, a rhoddodd y capel heb un geiniog o ddyled arno yn anrheg i'r gynnulleidfa. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1782. Capel cymharol fychan oedd hwn, ond yr oedd yn ddigon i ateb i boblogaeth y lle y pryd hwnw. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Davies, Llangeler, yn y Mynyddbach, aeth capel Treforis yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr, fel y bu raid ei helaethu yn 1796. Yn 1831, cafodd ei ailadeiladu a'i helaethu yn fawr, ac yn 1857, adeiladwyd a helaethwyd ef y drydydd waith, pryd y costiodd yn agos ddwy fil o bunau, y rhai a dalwyd oll mewn ychydig o flynyddau. Eleni, (1871,) etto, mae y gynnulleidfa gref, anturiaethus, a gweithgar hon yn adeiladu ei chapel y bedwerydd waith, ac y mae hwn i fod yr addoldy helaethaf a mwyaf ardderchog yn yr holl Dywysogaeth. Bydd yn werth o saith i wyth mil o bunau. Mr. John Humphreys yw yr adeiladydd.

Dan yr un weinidogaeth a'r Mynyddbach y bu yr achos hwn o'r dechreuad hyd farwolaeth Mr. Daniel Evans, yna dewisodd yr eglwys weinidog iddi ei hun. Ei gweinidog cyntaf oedd Mr. William Hughes, o Amlwch, brawd y diweddar Mr. D. Hughes, Trelech. Urddwyd ef yn nechreu y flwyddyn 1836. Bu yma hyd ddechreu y flwyddyn 1841, pryd y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef o herwydd anfoesoldeb ei gymeriad. Wedi hyn buwyd am rai blynyddau yn byw ar weinidogaeth achlysurol. Tua y flwyddyn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. W. Morris, mewn cysylltiad a Glandwr. Hoffid Mr. Morris yn fawr, a bu ei weinidogaeth yn dra llwyddianus am y tymor byr y bu yma. Yn 1847, derbyniodd alwad o Birkenhead, a rhoddodd yr eglwysi yn Nglandwr a Threforis i fyny. Yn 1850, ymsefydlodd Mr. Thomas Jones, yn awr o Abertawy, yma, a bu yn gwasanaethu yr achos yn effeithiol a rhyfeddol o barchus hyd y flwyddyn 1858, pryd y symudodd i Lundain. Yr oedd yr eglwys yn Libanus yn lluosog oddiar agoriad y capel a adeiladwyd yn 1831, ond yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones y daeth y lle i enwogrwydd cenhedlaethol. Oddiar ymadawiad Mr. Jones, buwyd drachefn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd 1862, pryd yr urddwyd Mr. Evan Evans, o athrofa Aberhonddu. Cymerodd urddiad Mr. Evans le Mehefin 25ain a'r 26ian, a bu yn nodedig o boblogaidd a pharchus tra yr arosodd yn y lle. Yn 1865, derbyniodd alwad o Salem, Caernarfon, a symudodd yno, yn groes iawn i deimladau yr eglwys a'r gynnulleidfa yn Nhreforis. Wedi byw unwaith etto ar weinidogaeth achlysurol hyd 1869, rhoddwyd galwad i Mr. William Emlyn Jones, y gweinidog presenol, ac yr ydym yn hyderu fod i Mr. Jones dymor hir o ddefnyddioldeb a chysur yn y lle pwysig hwn, yr hwn sydd yn cynyddu yn gyflym yn ei boblogaeth. Mae eglwys Libanus er's mwy nag ugain mlynedd bellach wedi ei chyfodi i sylw ac enwogrwydd neillduol trwy fod ei gweinidogion mor enwog ac adnabyddus; a'n dymuniad ydyw iddi gael y fraint o gadw y safle uchel yr hon y mae wedi gyrhaedd. Mae haelioni yr eglwys a'r gwrandawyr yn teilyngu y ganmoliaeth uwchaf.

Y rhai canlynol yn unig a gyfodwyd i bregethu yma er pan y mae yr eglwys ar wahan oddiwrth y Mynyddbach.

Richard Richards. Dechreuodd bregethu yma yn 1847, ac yn fuan wedi hyny ymfudodd i'r America, lle yr urddwyd ef. Bu am ychydig amser yn weinidog yn Ebenezer, Pontypool, ar ol ei ddychweliad i'r wlad hon. Mae yn awr yn byw yn Abertawy.

Josiah R. Lewis, yn awr o Dorrington, sir Amwythig. Dechreuodd bregethu yn 1861. Ar derfyniad ei efrydiaeth yn Aberhonddu, urddwyd ef yn Glasbury, a symudodd oddiyno yn ddiweddar i Dorrington.

W. M. Davies. Yn 1861 y dechreuodd yntau bregethu. Aeth o athrofa Aberhonddu i Edinburgh i astudio Phisygwriaeth gyda y bwriad i fyned allan yn genhadwr. Y mae wedi cyrhaedd safle uchel fel myfyriwr meddygol.

Joseph Joseph, a ddechreuodd bregethu yn 1867, ac sydd yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Aberhondd

Bu amryw ddynion rhagorol yn dal cysylltiad a'r achos hwn o bryd i bryd. Megis John Evans, yr hwn oedd yn ddyn o feddwl galluog, yn gyfansoddwr emynau chwaethus iawn, ac yn swyddog eglwysig defnyddiol a dylanwadol. Yr oedd llawer o ragoriaethau yn perthyn i Thomas Evan, William James, a Thomas Richards, ac yr oedd Daniel Evans yn un hynod o ddefnyddiol a medrus gyda chyfarfodydd gweddio y bobl ieuaingc. Nid yn gyffredin y cyfarfyddid a dyn mwy medrus mewn cyfeillach eglwysig na Daniel Dafydd, yr hwn yn ddiweddar a gyrhaeddodd ben ei daith. O'r holl hen frodyr ffyddlon a welsom yn Libanus ddeugain mlynedd yn ol, nid oes braidd un yn aros ar dir y byw, ond yr hen frawd gonest a didwyll Mr. Josiah Rees, ac y mae yntau yn cyflymu tua'r wlad, lle na ddywed y preswylwyr, "Claf ydwyf."

Mae yn deilwng o sylw, mai cangen o Libanus yw eglwys y Mrthodistiaid yn Nhreforis. Fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach ac Ebenezer, yr oedd rhai yn yr eglwys yn awyddus am ddewis Mr. John Davies, Llansamlet, yn gynorthwywr i'w dad-yn-nghyfraith, Mr. Lewis Rees, ac yr oedd yn naturiol i'r hen weinidog deimlo yn ffatriol i hyny. Wedi i Mr. Davies, Llangeler, ddyfod yn weinidog i'r lle, barnai cyfeillion gwresocaf Mr. Davies, Llansamlet, fod yr hen weinidog yn cael ei anmharchu, trwy angerdd y parch a ddangosid i'r gweinidog newydd, ac felly, cynyddodd oerni rhwng y ddwy blaid, nes y darfu i'r rhai mwyaf selog dros Mr. Davies, Llansamlet, yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Rees, ymneillduo o'r Mynyddbach a Libanus, Treforis, a gosod addoliad i fyny yn nhŷ Mr. Evan Rees, Treforis. Yr oeddynt o bymtheg i ugain o rif. Aeth Mr. Davies, Llansamlet, i weini yr ordinhadau iddynt, ond o herwydd eu bod yn cael edrych arnynt fel gwrthwynebwyr i Mr. Davies, Llangeler, a'i bobl yn y Mynyddbach a Threforis, nid elai nemawr o bregethwyr yr Annibynwyr atynt, ond Mr. Davies, Llansamlet yn unig. Parhaodd ef i fod yn weinidog iddynt, yn cael ei gynorthwyo gan bregethwyr y Methodistiaid, hyd ei farwolaeth, yna rhoddasant eu hunain a'u capel i fyny i gyfundeb y Methodistiaid. Hyn oedd dechreuad Methodistiaeth yn Nhreforis.

Nodiadau

[golygu]