Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Mynyddbach

Oddi ar Wicidestun
Sir Forganwg Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Brynteg
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llangyfelach
ar Wicipedia

MYNYDDBACH.

Mae addoldy y Mynyddbach, neu Ty'rdwncyn Newydd, fel y gelwid ef gynt, yn mhlwyf Llangafelach, tua thair milldir i'r gogledd o dref Abertawy; ac y mae yr eglwys a gyferfydd yma yn un o'r rhai henaf yn y Dywysogaeth. Dywedir yn y Broadmead Records, mai Mr. Ambrose Mostyn ddarfu gasglu yr eglwys gyntaf yn Abertawy, a chan na fu Mr. Mostyn yn arosol yn y Deheubarth ar ol y rhyfel a derfynodd yn 1646, mae yn rhaid mai cyn y rhyfel y casglwyd yr eglwys ganddo yma. Ond gan nad yw yn debygol y buasai yr awdurdodau yn goddef iddo sefydlu eglwys Ymneillduol yn y dref cyn y rhyfel, mae yn naturiol casglu mai yn rhywle y tu allan i'r dref yr oedd. Yr oedd Mr. Phillip Jones, wedi hyny o Gastell Ffonmon, yn byw yr amser hwn yn Mhentwyn, Llangafelach, ac fel y mae yn hysbys, yn Buritan ac Annibynwr selog, a chan ei fod yn foneddwr o safle uchel a dylanwad mawr, mae yn ddigon tebygol mai ar ei gymhelliad a than ei nawdd ef y daeth Mr. Mostyn i'r ardal. Dywed Dr. Walker, yn ei hanes am ddyoddefiadau yr offeiriaid, i Mr. Hugh Peters, a'r Milwriad Phillip Jones, sefydlu eglwys Annibynol yn Abertawy tua'r flwyddyn 1650; ond y peth tebycaf ydyw fod yr eglwys wedi ei ffurfio gan Mr. Mostyn a'r Milwriad Jones ddeng mlynedd cyn hyny; ac os bu rhyw beth a wnelsai Mr. H. Peters, yr hwn oedd yn Sais, a'r achos yn 1650, cynorthwyo i ffurfio cangen Saesonig yn y dref, yw y peth mwyaf tebygol iddo wneyd. Felly yr ydym yn cael ein gogwyddo yn gryf i gredu i eglwys Annibynol gael ei ffurfio yn mhlwyf Llangafelach trwy lafur Mr. Mostyn a'r Milwriad Jones tua 1640, neu yn y flwyddyn ganlynol, ac mai hyny oedd dechreuad yr achos sydd yn bresenol yn y Mynyddbach. Cafodd yr Ymneillduwyr ryddid cyflawn i daenu eu golygiadau pa le bynag yr ewyllysient o 1646 hyd 1660, ac i raddau hyd 1662; ac y mae yn dra sicr fod trigolion plwyf Llangafelach wedi cael rhan helaeth o lafur y pregethwyr teithiol a ymwelent a'r gwahanol ardaloedd yn y tymor hwnw. Gorphenaf 24ain, 1646, penderfynwyd gan bwyllgor Seneddol, fod Mr. David Walter, pregethwr poblogaidd iawn, i gael ei dalu o gynyrch degymau plwyf Llandilo, Talybont, a rhyw blwyf arall yn y gymydogaeth, mewn trefn iddo fyned oddiamgylch "i bregethu, holwyddori, ac i addysgu y plwyfolion a'r trigolion yn y gwahanol blwyfydd."[1] Felly gwelir fod trigolion cymydogaeth y Mynyddbach wedi cael eu bendithio a gweinidogaeth effeithiol er's mwy na dau cant ac ugain o flynyddau. Yr oedd Mr. Walter yn bregethwr o'r radd uchaf. Dywedir y byddai Eglwys Gadeiriol Llandaf yn orlawn bob amser y byddai ef yn pregethu ynddi. Mae yn dra sicr i effeithiau gweinidogaeth nerthol Mr. Jenkin Jones, o Langattwg, Glynnedd, gyrhaedd y parthau hyn; ac y mae hefyd yn fwy na thebyg i Mr. Jones gorpholi eglwys Annibynol yn Llangattwg yn amser y Werinlywodraeth, a bod rhai o bobl Llangafelach a Llansamlet yn aelodau o'r eglwys hono. "Eglwys Llangattwg," oedd yr enw wrth ba un yr adnabyddid yr eglwys Annibynol, yr hon a gyfarfyddai mewn gwahanol anedd-dai yn Cynffyg, Baglan, Llangafelach, &c., yn y flwyddyn 1675.[2] Ymddengys mai y rheswm paham y gelwid hi yn "Eglwys Llangattwg" ydoedd, o herwydd mai Mr. Jones, pan yr oedd yn weinidog plwyf Llangattwg, ddarfu ei chasglu a'i chorpholi. Mae yn debygol hefyd i gynifer o aelodau yr eglwys a gorpholwyd yn Abertawy, a'r gymydogaeth cyn y rhyfel, gan Mr. A. Mostyn a'r Milwriad Phillip Jones, ag a ddewisent addoli yn yr iaith Gymraeg, ar ol adferiad Siarl II. ymuno ag eglwys Llangattwg, gan mai yn yr iaith Saesoneg yn unig y dygai yr eglwys Ymneillduol yn nhref Abertawy ei gwasanaeth cyhoeddus yn mlaen. Dywed y diweddar Mr. John Davies, Mynyddbach, yn yr hanes a gyhoeddwyd ganddo yn 1852, dan yr enw Y Lloffyn Addfed, i Mr. Jenkin Jones fod yn weinidog i'r eglwys yn mhlwyf Llangafelach, mewn cysylltiad a Chastellnedd, am rai blynyddau ar ol adferiad Siarl II., ond y mae hyny yn anghywir, canys cafodd Mr. Jones ei garcharu yn Mehefin, 1660. Bu am fis yn garcharor yn Nghaerfyrddin, ac nid oes un math o grybwylliad am dano ar ol hyny. Os na bu efe farw cyn diwedd y flwyddyn hono, bu raid iddo ymguddio yn rhywle am weddill ei oes, canys yr oedd yr awdurdodau ar ei ol fel gwaedgwn, o herwydd ei fod yn ddyn cyfoethog, dylanwadol, rhyfeddol o weithgar, yn Ymneillduwr didroi, ac yn enwedig o herwydd iddo gymeryd rhan mor amlwg yn y rhyfel, ac mewn achosion gwladol yn gystal a chrefyddol, yn amser y Senedd hir a'r Werinlywodraeth. Mae yn sicr na feiddiodd y dyn da hwn agoryd ei enau fel pregethwr ar ol y flwyddyn 1660, os na fu farw yn y flwyddyn hono. Un eglwys y cyfrifid yr holl Annibynwyr yn mhob ardal o Gynffyg hyd Gasllwchwr o'r flwyddyn 1662 hyd ar ol dechreuad y ganrif ddiweddaf. Yr oedd rhai Bedyddwyr a gwrth-Fedyddwyr (Catabaptists) yn eu mysg mewn rhai cymydogaethau.[3]

Mae yn ymddangos mai Mr. Robert Thomas, yr hwn a droisid allan o eglwys Baglan, fu y gweinidog sefydlog cyntaf ar yr eglwys hon ar ol adferiad Siarl II. Cynorthwyid ef yn y weinidogaeth gan y Meistri Jacob Christopher a Richard Cradock, a chan fod y Meistri Marmaduke Mathews, Stephen Hughes, David Jones, Llandysilio, a Meredith Davies, Llanon, yn byw yn Abertawy a'r ardal, mae yn ddiameu fod cangen Langafelach o'r eglwys wasgaredig hon yn mwynhau gweinidogaeth pob un o honynt hwy yn achlysurol. Bu Mr. Robert Thomas yn ffyddlon yn llanw ei gylch gweinidogaethol eang hyd ei farwolaeth tua y flwyddyn 1693. Mewn anedd-dai y cynhelid y moddion crefyddol yn mhob ardal hyd nes i ddeddf y Goddefiad ddyfod i rym yn 1688, a bu rhai cynnulleidfaoedd am ddegau o flynyddau ar ol hyny cyn' adeiladu addoldai. Mewn amaethdy o'r enw Cilfwnwr yr ymgynnullai eglwys y Mynyddbach am rai blynyddau; a dywedir mai llithriad gwraig y tŷ i'r pechod o odineb gyda'i gwas a barodd i'r gynnulleidfa roddi y lle hwnw i fyny ac edrych allan am le arall. Symudasant o Gilfwnwr i amaethdy a elwir Ty'rdwncyn, ac yno y buwyd yn ymgynnull hyd nes yr adeiladwyd capel y Mynyddbach yn 1762. Dilynwyd Mr. Robert Thomas yn y weinidogaeth gan Mr. Lewis Davies, aelod o'r eglwys yn Llanedi. Mae yn debygol i Mr. Davies ddechreu ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1693, os nad yn gynt. Mae amser ei farwolaeth yn anhysbys. Yr oedd yn fyw yn 1700, a dichon iddo fyw ddeg neu ddeuddeng mlynedd ar ol hyny; ond yn 1715, Thomas Davies a David Thomas oedd y gweinidogion yn y cylch hwn.[4] Yr oedd Mr. Lewis Davies yn weinidog enwog a defnyddiol iawn, ac yn nodedig o lafurus i egwyddori plant ac ieuengctyd ei gynnulleidfaoedd yn ngair Duw. Yr oedd ganddo Ysgolion Sabbothol yn Nhy'rdwncyr a'r Chwarelau bach, mor foreu a'r flwyddyn 1697. Dechreuodd hen daid y diweddar Mr. J. Davies, Mynyddbach fyned i'r Ysgol Suli Dy'rdwncyn yn blentyn deg oed, yn y flwyddyn hono, a pharhaodd i fyned iddi am lawer o flynyddau. Ei enw oedd Morgan John, y Gof. Yr oedd cofnodiad o'r ffaith hon yn llawysgrifen Morgan John, wedi ei ysgrifenu ganddo yn 1720, yn meddiant ei orwyr, Mr. Davies, Mynyddbach, ychydig flynyddau yn ol. Yn y flwyddyn 1700, cyhoeddodd Mr. Davies, gyfamod a rheolau eglwysig, a chan fod y llyfryn bychan hwn yn dangos syniadau yr hen Ymneillduwyr am drefn a dysgyblaeth eglwysig, rhoddwn ef yma air yn ngair o'r argraffiad a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Rees yn y flwyddyn 1774.

Cyfamod eglwysig a gyfansoddwyd gan y Parchedig Mr. Lewis Davies, gweinidog yr efengyl, yn Nhy' rdwneyn, yn y flwyddyn 1700, ac a adnewyddwyd gan y Parchedig Mr. Samuel Jones, a Mr. Lewis Rees, trwy gydsyniad y gynnulleidfa, Rhagfyr, 1759.

Yr ydym ni, y rhai sydd a'n henwau isod yn cymeryd yr unig wir Dduw a'n holl galonau i fod yn Dduw i ni a'n daioni penaf; a'r Arglwydd Iesu Grist i fod yn Waredwr ac yn Iachawdwr i ni. Ac yr ydym ni yn cymeryd yr Ysbryd Glan i fod yn Sancteiddydd i ni, a'r athrawiaeth a ddatguddiwyd ganddo, ac a seliwyd a'i wyrthiau, ac yr awr hon yn gynhwysedig yn yr Ysgrythyrau sanctaidd i ni, yn nghyfraith ein Duw, yn rheol ein ffydd a'n bywyd, a chan edifarhau yn ddiragrith am ein holl bechodau, yr ydym ni'n bwriadu trwy gymorth gras Daw roi ufudd-dod gwirioneddus iddo, trwy ymdrechu i fod yn sanctaidd tuag at Dduw, ac yn gyfiawn tuag at ddynion, a chenym enwedigol gariad tuag at holl bobl Dduw. Ac yr ydym ni yn bwriadu cadw cymundeb gyda hwynt yn erbyn holl brofedigaethau'r diafol a'r byd a'n cnawd ein hunain, a hyny hyd angau.

Yr ydym ni hefyd yn cydsynio o lwyr ewyllys ein calonau i fod ac i barhau yn aelodau o eglwys neillduol Iesu Grist sydd yn cyfarfod yn Nhy'rdwncyn, ar ba un y mae ein brawd Lewis Rees yn fugail ac yn olygwr. Ac yr ydym ni, trwy ras Duw yn bwriadu i ddyfal wrando ei athrawiaeth a'i weinidogol gyfarwyddiad, ac yn addunedu ymddarostwng i'w lywodraeth eglwysig, yn ol rheol gair Duw. Ac yr ydym ni yn bwriadu cadw cymundeb enwedigol gyda'r eglwys hon yn mhob rhan o addoliad Duw, ac i ymddarostwng i rybuddion ein cydaelodau, fel trwy hyny y byddo i ni gael ein hadeiladu mewn gwybodaeth a sancteiddrwydd; ac felly yn gymwysach i barhau ein hufudd-dod i Grist a daioni'r eglwys, fel y byddo i ni yn hyn ac yn y cwbl ogoneddu Duw. Amen.

Rheolau efengylaidd, pa rai a roddwyd gan y Parch. Mr. Lewis Davies; ac a dderbyniwyd ac a gymeradwywyd gan eglwys Ty'rdwncyn, yn y flwyddyn 1700.

RHEOL I.-Yn nghylch bywyd ac ymarweddiad efengylaidd ein cydaelodau.-Gwyliwch yn ddiwyd ar rodiad ac ymarweddiad y naill y llall, gan ofalu am fod уц ddiachos tramgwydd i Iuddewon a chenhedloedd, ac i eglwys Dduw. 1 Cor. x. 32, 33. "Byddwch ddiachos tramgwydd i'r Iuddewon ac i'r cenhedloedd, ac i eglwys Dduw. Megis yr ydwyf finau yn rhyngu bodd i bawb yn mhob peth, heb geisio fy lleshad fy hun, ond lleshad llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig." Ac yn mhob peth yn gyfatebol i orchymynion Crist ac anrhydedd yr efengyl. Phil. i. 27. "Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist." Heb. xii. 14, 15. "Dilynwch heddwch a phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd. Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddiwrth ras Duw, rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnw lygru llawer.' 1 Pedr i. 15, 16. "Eithr megis y mae y neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau sanctaidd yn mhob ymarweddiad, oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwoh sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi." Os digwydd i un o'r brodyr neu'r chwiorydd gael ei oddiweddyd a rhyw bechod neu fai, eich dyled yw myned ato a'i geryddu of neu hi am y bai, yn neillduol mewn cariad. Gal. vi. 1. "Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder, gan ystyried dy hun rhag dy demtio dithau." Mat. xviii. 15. "Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun," &c. Lef. xix. 17. "Ac na chasa dy frawd yn dy galon, gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddyoddef bechod ynddo." 2 Thes. iii. 15. Iago v. 19, 20. "Fy mrodyr, od aeth nebo honoch ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; gwybydded y bydd i'r hwn a drodd bechadur oddiwrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lluaws o bechodau." Ac os y cerydd neu'r rhybudd neillduol ni thycia gyda'r cyfryw a roddodd y tramgwydd, ond myned yn mlaen; mae yn ddyled arnoch chwi gymeryd un neu ddau gyda chwi i'w rybuddio a'i ddwysbigo ef o'i fai; os hyny ni thycia, rhaid i chwi ddywedyd wrth yr eglwys. Mat. xviii. 17. "Ac os ni wrendy efe ar yr eglwys chwaith, bydded ef i chwi megis yr Ethnig a'r Publican,"

RHEOL. II.—Yn nghylch undeb yr eglwys.—Mae yn rhaid i chwi ymegnio yn ddiwyd ac yn ofalus i gynal a chadw undeb yr eglwys. 1 Cor. i. 10. "Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod o honoch wedi eich cyfan—gysylltu yn yr un meddwl ac yn yr un farn." Phil. ii. 1—3. "Od oes gan hyny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau. Cyflawnwch yn awr fy llawenydd, fel o byddoch yn meddwl yr un peth, a'r un cariad genych, yn gytun yn synied yr un peth," &c. 2 Cor. xiii. 11. "Bellach, frodyr, byddwch wych, byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw y cariad a'r heddwch a fydd gyda chwi." Act. iv. 32. "A lluaws y rhai a gredasent oedd o un galon ac un enaid," &c. Eph. iv. 3. "Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd."

Ac i'r dyben hyn dylech graffu yn ddiwyd, a gochelyd yn ofalus yn gystal yr achos o'r ymraniad a'r rhai a fyddant yn peri ymryson ac anghydfod yn yr eglwys. Rhuf. xvi. 17. "Yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt." Sef hudolwyr y gau athrawon, yn dal heresiau a chyfeiliornadau yn wrthwyneb i'r ffurf o ymadroddion iachus. Act. xx. 29. "Canys mi wn hyn, y daw yn ol fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i'ch plith, heb arbed y praidd. Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd gwyr yn llefaru pethau gwyr—draws, i dynu disgyblion ar eu hol." 1 Tim. vi. 3. "Od oes neb yn dysgn yn amgenach, ac heb gytuno a iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Chwyddo y mae ac heb wybod dim. Cilia oddiwrth y cyfryw," Dat. ii. 14, 15. Ac os digwydd i chwi gael allan neb a fo'n gwneuthur yn orchwyl iddo, i ranu a rhwygo, hudo a themtio un o'ch cydaelodau i dori ei gyfamod a'r eglwys, gyda pha un yr unodd efe yn ol y rheol yn yr Ephesiaid iv. 16., eich dyled yw myned at y cyfryw un a fo yn cael ei demtio, ac ymdrechu hyd eithaf eich gallu, gan arfer pob moddion tuag at ei waredu ef neu hi o faglau'r cyfryw hudolwr. Ac os bydd y gorchwyl hwn yn rhy anhawdd i chwi eich hunan, eich dyled yw cymeryd rhyw frawd arall gyda chwi i'w gynghori ef. Os hyny ni thycia gydag ef i wella ei amcan, eich dyled yw mynegi i'r eglwys brofedigaethau'r cyfryw un; ac yna yr eglwys a ddylai wneuthur ei dyledswydd tuag ato.

RHEOL III.—Yn nghylch addoliad Duw yn ei eglwys.—1. Edrychwch at bob aelod yn fanol, rhag bod neb o fewn eich terfynau yn esgeuluso addoliad Duw yn y gymanfa gyhoeddus, sef gweddio a gwrando pregethiad gair Duw, neu ynteu yn gwrando addysg a bar iddynt gyfeiliorni. Diar. xix. 27. "A thrwy hyny osod tramgwydd o flaen eu cydaelodau." 2 Tim. iv. 3, 4. "Canys daw'r amser, pan na ddyoddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ol eu chwantau eu hunain, y pentyrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino. Ac oddiwrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant."

2. Daliwch hefyd sylw enwedigol o fewn eich terfynau, pwy a fyddo yn esgeuluso cymuno yn Swper yr Arglwydd. Act. xx. 7. 1 Cor. xxv. 26. "A phan gaffoch allan nob a fyddo yn esgeuluso ewch ato a gofynwch ei resymau am ei esgeulusdra, a pha ham y mae efe neu hi yn tori addunedau eu cyfamod a Christ ac a'i eglwys." Act. ii. 42, 46. "Ac yr oeddent (sef y rhai a dderbyniasant y gair) yn parhau yn athrawiaeth, ac yn nghymdeithas yr apostolion, ac yn tori bara, ac mewn gweddiau," &c. 1 Cor. xi. 1. 1 Thes. ii. 14. 3. Creffwch hefyd os bydd neb o fewn eich terfynau yn esgeuluso'r farfodydd neillduol o weddio gyda'r eglwys. Heb. x. 25. "Heb esgeuluso ein cydgynnulliad ein hunain, fel y mae arfer rhai, ond annog pawb eu gilydd, a hyny yn fwy o gy. maint a'ch bod yn gweled y dydd yn neshau." Act. xii. 5—12. Rhybuddiwch y cyfryw mewn cariad i ddiwygio eu hesgeulusdra a'u diofalwch.

RHEOL IV.—Yn nghylch rheolaeth ac addoliad Duw mewn teuluoedd.—1. Gwyliwch ar bob pen teulu a ydyw efe yn cymeryd y cyfryw ofal a ddylai efe i osod i fyny addoliad y Duw mawr yn ei deulu, megis gweddio gyda hwynt, a darllen yr Ysgrythyrau sanctaidd iddynt. Act. x. 1. Yr oedd Cornelius yn ŵr defosiynol, yn ofni Duw yn nghyd a'i holl dŷ, ac yn gweddio Duw yn wastadol. Jer. x. 25. "Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw." Jos. xxiv. 15. Ioan v. 39. Dat. i. 3.

2. Gwiliwch hefyd arnynt pa un a'u bod hwy yn cymeryd y cyfryw ofal ag a ddy. lent, yn ol gair Duw, i ddysgu eu plant yn addysg ac ofn, ffydd ac athrawiaeth yr Arglwydd. Eph. vi. 4. Deut. vi. 6, 7. "A bydded y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon, a hyspysa hwynt i'th blant, a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny." Diar. xxii. 6. 2 Tim. iii. 15.

3. Gwyliwch yn fanol arnynt, a ydynt yn sancteiddio dydd yr Arglwydd, ac yn ei barchu, rhag bod un aelod o fewn eich terfynau yn euog o ddyoddef eu plant, na neb o'u tylwyth, i halogi dydd yr Arglwydd.

RHEOL V.—Yn nghylch gofalu am dlodion yr eglwys.—Gwnewch eich goreu hyd y mae ynoch tuag at fod yn gydnabyddus a'r cyfryw aelod a fyddo o fewn eich terfynau, yn enwedig y cyfryw y tybygwch fydd trwy eu hymddangosiadau allanol yn dlawd ac yn anghenus, gan sefyll mewn diffyg o gynorthwy gan yr eglwys, "Os bydd yn dy fysg di un o'th frodyr yn dlawd o fewn un o'th byrth, yn dy dir, yr hwn y mae'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chau dy law oddiwrth dy frawd tlawd," Deut. xv. 7. "Eithr yr hwn sydd ganddo dda'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho; pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef ?" 1 Ioan iii. 17. Ewch atynt ac ymddiddanwch a hwynt eich hunain, yn ol ymddangosiad eu cyflwr, gwnewch chwithau of yn gydnabyddus i'r eglwys, gan annog eich brodyr allan o air Duw, i gyfranu yn rhwydd ac yn ewyllysgar o'u pethau tymhorol, er diwallu eu angenrheidiau presenol fel aelodau i'r Arglwydd Iesu, ac felly dwyn rhan o'u beichiau yn nydd eu cyfyngder. "Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly y cyflawnwch gyfraith Crist," Gal. iv. 2. "Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel pettech yn rhwym gyda hwynt." Heb. xiii. 3.

RHEOL VI.—Yn nghylch cyflwr ysbrydol a phrofedigaethau ein gilydd.—Ymofynwch hyd y mae ynoch am brofedigaethau y naill a'r llall, fel y gallech gynorthwyo eu gilydd ynddynt, fel y gweddai i gristionogion. "Gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef," sef Pedr, Act. xii. 5. Mali aelod yw'r hwn ni theimla a bai yr aelodau eraill. "Pwy sydd wan, nad wyf finau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finau yn llosgi?" 2 Cor. xi. 29. Ac os digwydda i un aelod gael ei daflu i lawr, yn anghysurus yn ei enaid, neu dan wan obaith, eich dyled yw myned at y cyfryw i geisio ei gynal, yn ol eich gallu a'ch gwybodaeth, ac hefyd ei gysuro a'i ddyddanu ef. "Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, dyddanwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb, 1 Thes. v. 14. A gweddiwch gydag ef, a throsto ef hefyd; ac os na thycia hyny, rhaid myned a'i gyflwr i'r eglwys, fel y byddo iddi hithau weddio drosto ef, Act. xii. 5.


RHEOL VII.—Yn nghylch galwedigaethau ein cydaelodau.—Byddwch yn esiampl dda o dduwioldeb i'ch cydaelodau. Llewyrched felly eich goleuni ger bron dyn ion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd," Mat. v. 15. Ac hefyd byddwch yn ddiwyd yn y galwedigaethau neillduol a beunyddiol sydd genych i fyw wrthynt yn y byd. 1 Cor. vii. 17. "Megis y darfu i'r Arglwydd alw pob un, felly rhodied." Ac fel y mae'n ddyled arnoch chwi eich hunain, felly hefyd edrychwch at bob aelod gwryw a menyw, o fewn eich cyrhaedd, ar fod ganddynt rhyw alwedigaeth cyfreithlon a didramgwydd i fyw arno, oddieithr ei fod yn oedranus neu yn anhwylus, heb allu gweithio mewn un galwad; canys y mae segurdod yn un o bechodau Sodom, Ezec. xvi. 49., ac yn gymhwysach i'w gyfrif ef gyda'r Sodomiaid, nag i'w ddyoddef mewn eglwys. Mae'n wrthwyneb i reol yr efengyl i'w ddyoddef, 2 Thes. iii. 10. "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta chwaith." Nis gallwn addo i'n hunain ddim cysur oddiwrth gymundeb y cyfryw rai rhodresgar, afreolus, ond yn hytrach cywilydd a gwaradwydd yn mlynyddau eu hieuengctyd, a baich trwm i'r eglwys yn mlynyddau eu mhethiant a'u hoedran; am hyny ein dyled yw dal sylw ar y cyfryw mewn pryd, a'u rhybuddio hwy.

RHEOL VIII.—Yn nghylch y claf a'r cystuddiol mewn eglwys.—Eich dyledswydd yw bod yn gydwybodol i ymweled a'r claf a'r cystuddiol. Iago v. 14. "A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddiant hwy drosto." Job ii. 11. "Canys hwy a gytunasent i ddyfod i gyd-ofidio ag ef, ac i'w gysuro." Mat. xxv. 36. “Bum glaf, ac ymwelsoch a mi;" yn enwedig y rhai y mae eu cyflyrau neu eu blinderau tu fewnol neu allanol yn gwneyd eu profedigaethau yn eu drygfyd yn ddyfnach ac yn drymach ar gyfrif y cyfryw amgylchiadau, sefy tlodion, yr amddifaid, y gweddwon, neu ddyeithriaid, a'r cyffelyb. Iago i. 27. "Crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r Tad yw hyn; Ymweled a'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd." Yn ol i chwi eich hunain gyflawni eich dyledswydd tuag atynt, rhaid i chwi wneuthur eu clefyd a'u cystudd yn gydnabyddus i'r eglwys, fel y byddo iddi hithau weddio drostynt, Iago v. 14, 16.

RHEOL IX.—Yn nghylch adeiladaeth eu gilydd yn neillduol.—Eich dyled yw bod yn nghyd yn fynych mewn gweithredoedd o gymundeb ysbrydol er adeiladaeth eu gilydd. Judas 20. "Eithr chwy-chwi anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd." 1 Thes. v. 11. "O herwydd paham y cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur." Mal. iii. 16. Eph. iv. 16. I'r dyben hyn yr amser mwyaf cyfaddas yw diwedd dyddiau'r Arglwydd, tra na byddo yn rhwystro cyfarfodydd cyhoeddus. I bob rhai o fewn eich terfynau eich hunain alw ar enw yr Arglwydd. Mat. xviii. 19, 20. "Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynag a'r a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt." I ddarllen gair Duw, Act. viii. 32. I ail adrodd pregethau, Heb. ii. 1 "Am hyny y mae yn rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli." I ganu mawl i'r Arglwydd. 1 Cor. xiv. 26. "Pan ddeloch yn nghyd, y mae gan bob un o honoch salm." I hyfforddi eich gilydd allan o air Duw, er cynydd cariad, gwybodaeth, profiadau, ymddiddan cristionogol, ac arfer y doniau a dderbyniwyd; i bob un roi dim cymhorth ag y gallo tuag at adeiladaeth y babell tra fo genym oedfa, oblegid ein hamser sydd fyr, a'n dyddiau yn ddrwg, gan hyny, bydded i'r rhan sy'n ol o'n bywyd gael ei dreulio i fyw i'r hwn a fu farw trosom. na chydymffurfiwn a'r byd hwn, nag ag arferiadau'r bobl gnawdol sydd ynddo chwaith.

RHEOL. X.—Yn nghylch priodas.—Dyled pob aelod yn arddel crefydd cristionogol yw gofalu am briodi yn yr Arglwydd, pan alwo Duw ef i newid ei gyflwr. 1 Cor. vii. 39. Gen xxxiv. 14. "Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig; oblegid gwarthrudd yw hyny i ni." 2 Cor. vi. 14. "Na iauer chwi yn anghydmarus gyda'r rhai digred." Os digwydd fod un o fewn eich terfynau yn troseddu y rheol hon, trwy chwedleua ar gyfrif priodas a rhyw un cyfeiliornus yn ei farn, neu'n annuwiol a drwg yn ei fywyd, neu yn wrthwyneb i grefydd. Deut. vii. 4. " Canys efe a dry dy fab di oddiar fy ol i, fel y gwasanaethont dduwiau dyeithr." Neh. xiii. 28. "Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib, yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sambalat yr Horoniad; yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf." Dylid rhybuddio'r cyfryw o'r bai, ac oni thycia hyny, ei fynegi ef i'r eglwys.

'Holiadau neu gwestiynau buddiol i'w gofyn i swyddogion eglwysig, ar gyrddau neillduol mewn trefn i chwilio allan pwy sydd yn ein mysg yn esgeuluso'r rheolau hyn.'

1. A wyddoch chwi fod neb yn byw yn anaddas i'r efengyl, neu yn dramgwyddus yn eu bywyd o fewn eich terfynau chwi?

2. A wyddoch chwi am neb sy'n anesmwyth, ac yn ceisio ymranu neu neillduo oddiwrth yr eglwys, o fewn eich terfynau chwi ? 3. A wyddoch chwi fod neb o'r aelodau yn euog o esgeuluso addoliad Duw yn y gymanfa gyhoeddus, neu Swper yr Arglwydd, na'r cwrdd neillduoi, o fewn eich terfynau ?

4. A wyddoch chwi fod neb o'r aelodau ag sydd yn benteuluoedd, yn euog o esgeuluso addoliad Duw yn eu teula, neu adael eu plant heb eu dysgu yn athrawiaeth yr Arglwydd, neu'n halogi y dydd Sabboth?

5. A wyddoch chwi am neb dan amheuaeth, neu ryw dan brofedigaeth anarferol arall, o fewn eich terfynau?

6. A wyddoch chwi a oes neb yn byw yn rhodresgar a gwag-siaradus segur, ac allan o alwedigaeth onest i fyw arni, o fewn eich terfynau chwi?

7. A wyddoch chwi a oes neb o'r aelodau yn dlawd, yn sefyll mewn diffyg o gynorthwy'r eglwys, a fuoch chwi yn ymresymu a'r cyfryw yn nghylch eu cyflwr? 8. A wyddoch chwi a oes neb yn glaf ac yn gystuddiol, o fewn eich terfynau chwi? 9. Pa mor fynych a threfnus yr ydych yn dyfod diwedd dydd yr Arglwydd, er adeiladaeth eich gilydd.

10. A wyddoch chwi a oes neb o'r aelodau yn chwedleua ar gyfrif priodas, a'r rhai annuwiol a gwrthwyneb i grefydd, o fewn eich terfynau chwi?

Fel y dywedasom eisioes, nis gwyddom amser marwolaeth Mr. Lewis Davies, ond y mae genym sicrwydd iddo gael ei ddilyn yn y weinidogaeth tua 1712, gan Mr. David Thomas. Yr oedd yr eglwys yn Nhy'rdwncyn er y flwyddyn 1662, os nad cyn hyny, yn un a'r eglwys yn y Chwarelaubach, Castellnedd, ond tua'r flwyddyn 1720, neu yn fuan ar ol hyny, cafodd y cylch gweinidogaethol eang hwn, yr hwn hyd yn hyn a gyrhaeddai o Flaengwrach, yn mhen uchaf Glynnedd, hyd Gasllwchwr, ei ranu yn dri. Urddwyd Mr. Henry Davies yn Mlaengwrach, a Mr. Samuel Jones yn Nhy'rdwneyn a'r canghenau yn Nghasllwehwr, y Cwmmawr, a'r Ysgetty, a chyfyngwyd llafur Mr. David Thomas i Gastellnedd, a'r gymydogaeth. Mae yn debygol fod Mr. Thomas Davies erbyn hyn, naill ai wedi marw neu wedi symud i ryw gylch arall. Nis gwyddom y flwyddyn yn gywir y dechreuodd Mr. Samuel Jones ei weinidogaeth yn Nhy'rdwncyn, ond yr ydym yn barnu iddo ei dechreu yn fuan ar ol 1720. Yr oedd yn hen wr oedranus yn 1759, pryd y daeth Mr. Lewis Recs, o Lanbrynmair, i gydweinidogaethu ag ef. Yn fuan ar ol sefydliad Mr. Rees yn y lle, fe adfywiodd yr achos yn fawr. Adeiladwyd capel y Mynyddbach yn y flwyddyn 1762, ei faint oedd 45 troedfedd wrth 24 o fewn y muriau. Testyn cyntaf Mr. Rees yn Nhy'rdwncyn ydoedd, Act. x. 29. "O ba herwydd, ie, yn ddinag y daethum, pan anfonwyd am danaf; yr wyf gan hyny yn gofyn am ba achos y danfonasoch am danaf." Parhaodd Mr. Rees yn ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb yn y cylch pwysig hwn nes i lesgedd henaint ei analluogi. Yn y flwyddyn 1770, adeiladwyd capel yn yr Ysgetty, ac yn 1782, un arall yn Nhreforis. Yn y flwyddyn 1777, cymerodd peth lled anghyffredin le yma. Yr oedd tri gwr perthynol i'r gynnulleidfa, sef Meistri Robert Terry, Penlle'rmarch; John Rosser, Wigucha', a John Mathew, Tregernydd, yn ddiwygwyr blaenllaw-pell o flaen eu hoes. Gwrthodasant dalu treth eglwys, ac mewn canlyniad taflwyd hwy i lys Esgob Tyddewi, a chawsant eu hysgymuno. Peth difrifol iawn yw ysgymundod Eglwys Loegr; gan ei fod yn amddifadu y rhai fyddo dano o'u hawliau fel gwladwyr, ac yn eu gosod allan o nodded cyfraith y tir, fel y gallo pob dihyryn ymddwyn tuag atynt fel y myno, heb neb yn gallu ei alw i gyfrif. Pan daflwyd y tri wyr hyn i'r fath amgylchiad enbyd, cymerodd eu gweinidog eu hachos mewn llaw Ysgrifenodd at ei fab, Dr. Abraham Rees, yr hwn, trwy gydweithrediad Bwrdd y Tri enwad yn Llundain, a osododd yr achos ger bron y brenhin, ac yn ddioed derbyniodd ei Arglwyddiaeth o Dyddewi, orchymyn brenhinol i ddadysgymuno y tri gwr. Dichon mai dyma yr engraifft olaf yn Nghymru o ysgymundod esgobol.

Pan oedd Mr. Rees wedi myned dros bedwar ugain mlwydd oed, ac wedi llafurio yn ddiattal yn y weinidogaeth am fwy na thriugain mlynedd, teimlai ei fod yn analluog i lenwi ci gylch eang yn y Mynyddbach, yr Ysgetty, Treforis, ac amryw leoedd eraill yn yr ardal, lle y bydol yn arfer pregethu yn rheolaidd; gan hyny, anogodd y bobl i edrych allan am weinidog ieuengach. Buasai yn fwy cydweddol a theimladau yr hen weinidog parchus, pe buasai pobl ei ofal yn dewis ei fab-yn-nghyfraith, Mr. John Davies, Llansamlet, yn gynorthwywr iddo, yn hytrach nag edrych allan am neb arall, a buasai hyny yn eistedd yn esmwyth ar deimladau lleiafrif lluosog o'r eglwys, ond yr oedd teimlad y mwyafrif am gael gweinidog mwy poblogaidd ei ddoniau na Mr. Davies, a rhoddodd y gweinidog oedranus a'r lleiafrif o'r eglwys, ffordd iddynt. Rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, Llangeler, a'r hon y cydsyniodd. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn y flwyddyn 1795. Arferid dyweyd a chredu mai fel cydweinidog a Mr. Rees y daeth Mr. Davies i'r Mynyddbach a'r Ysgetty, ac nid fel ei ganlynydd; ond mewn llawysgrifen, o gyfansoddiad rhagorol, wedi ei llawnodi gan swyddogion eglwys y Mynyddbach, ar yr 16eg o Fedi, 1802, cawn, yn mysg pethau eraill, yr hyn a ganlyn :"Tua diwedd y flwyddyn 1794, neu ddechreu 1795, hysbysodd Mr. Rees, yn gyhoeddus o'r areithfa, yn mhresenoldeb canoedd o bobl, fod ei oed a'i lesgedd ef yn ei gwneyd yn angenrheidiol iddo roddi gofal gweinidogaethol yr eglwysi i fyny, yr hyn a wnaeth y pryd hwnw, ac anogodd ni i ddewis gweinidog arall. Yr oedd efe amryw weithiau cyn hyn wedi hysbysu ei fwriad i wneuthur felly, ond perswadid ef dro ar ol tro gan y gynnulleidfa i beidio. Mewn canlyniad i'w waith ef yn rhoddi y weinidogaeth i fyny, ni a roddasom alwad i Mr. David Davies, Llangeler, i ddyfod yn weinidog i ni, ar gymeradwyaeth ac yn ol cydsyniad Mr. Rees, yr hwn ei hun a lawnododd yr alwad."

Pan aeth y son allan fod cais wedi ei anfon at Mr. Davies i symud, parodd gyffroad mawr trwy'r eglwysi yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, ac yn enwedigol yn ei eglwysi ef ei hun. Cynhyrfwyd eglwys y Neuaddlwyd braidd i ddigofaint, fel yr ysgrifenodd y llythyr llym a cheryddol canlynol at eglwys y Mynyddbach :

"Frodyr Cristionogol yn y Mynyddbach.—Yr ydym yn anfon yr anerchiad hwn atoch gyda dymuniad am eich llwyddiant yn ysbrydol a thymhorol. Er fod ein helyntion fel eglwysi wedi bod i raddau yn anhysbys y naill i'r llall hyd yn awr, yr ydym yn cymeryd yn ganiataol nad ymddengys yn ddyeithr i chwi ein bod yn bresenol yn eich anerch, gan i'r pleidgarwch a'r hunanles a amlygir genych wrth geisio cymeryd oddi wrthym ein gweinidog, Mr. D. Davies, roddi achlysur i ni i wneyd hyn. Nid ydym am ei gwbl ryddhau ef o fai, gan iddo roddi mesur o wrandawiad i'ch cymhellion chwi cyn ymgynghori a phobl ei ofal, y rhai a'i galwasant allan gyntaf i'r weinidogaeth, ac eiddo pa rai ydyw mewn modd penodol. Yr ydym yn dal ar y cyfle yma i ymresymu a chwi mewn modd gonest a didderbynwyneb. Yn gyntaf, ystyriwch mai nid ymddygiad brawdol yw cyflogi dyn cyn y byddo amser ei wasanaeth drosodd gydag arall, ac heb ymgynghori dim a'r hwn sydd a hawl ganddo i'w wasanaeth. Ymddygiad yw hwn a gondemnir hyd y nod gan ddynion y byd; oni ddylech chwi, gan hyny, gywilyddio o'i blegid ? Yn ail, gan eich bod chwi wedi mabwysiadu dull anmhriodol i geisio denu Mr. Davies i ddyfod atoch; os bydd i chwi lwyddo yn eich amcan, a thrwy hyny, amddifadu dwy eglwys luosog o wasanaeth eu hanwyl weinidog, y rhai yn ddiweddar a luosogwyd yn fawr trwy fendith Duw ar ei ymdrechion ffyddlon a llafurus ef, yetyriwch y fath gyhuddiad pwysig y byddwch yn gorwedd dano; y fath euogrwydd blin a lyn wrthych i derfysgu eich meddyliau; a'r fath dal annheilwng a roddwch i'r ddwy eglwys hyny am alw i'r weinidogaeth y fath bregethwr llwyddianus ag ydy w ef. Nid oes neb a all ddyweyd eich bod yn rhodio yn uniawn, ac yn ymddwyn yn ddidramgwydd, wrth geisio denu gweinidog eglwysi eraill i ddyfod atoch chwi, gan adael yr eglwysi hyny i ymdaro fel y gallont. Nid ffordd tangnefedd, deddf cariad, na chyfraith Crist yw hyn. Nid ydym ni yn dewis dilyn eich esiampl chwi trwy ddymuno i chwi fod heb weinidog, a llawenhau am eich bod yn ddigynorthwy; ond nis gallwn mewn un modd deimlo yn foddlawn i chwi gymeryd ein gweinidog ni.

Er ei bod yn amlwg eich bod chwi yn sefyll mewn angen o gynghor, peth arali ydyw a fyddwch yn ewyllysgar i ddilyn y cynghor goreu a ellid roddi i chwi. Yr oll a allwn ni wneuthur drosoch ydyw eich gorchymyn chwi a'ch helyntion i ofal y Duw Hollalluog, i arweiniad ei Air a'i Ysbryd sanctaidd, ac i weddiau a chyfarwyddiadau dynion duwiol, fel y byddo i chwi a ninau fyw mewn heddwch a chydgordiad, rhodio mewn cariad, a marw mewn gobaith o wynfyd tragwyddol. Hyn yn gywir a brawdol, oddiwrth aelodau eglwys Crist, cynnulledig yn y Neuaddlwyd.

EVAN THOMAS EVAN,
Henuriaid
JAMES EVAN,
JOHN JENKIN,

JAMES WILLIAM,
Diaconiaid."
EVAN DAVID,
JAMES THOMAS,

Er i symudiad Mr. Davies fod yn ddolur mawr i deimladau ei eglwysi, a lluaws eraill yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, ac i'w deimladau ei hun yn fwy na neb arall; etto dangosodd y canlyniad iddo wneyd yr hyn oedd unol ag ewyllys ei Arglwydd. Yr oedd Abertawy a'i hamgylchoedd poblog yn llawer eangach, pwysicach, a chyfaddasach cylch i weinidog o'i gymhwysderau ef, na'r holl wlad o Langeler i Aberaeron.

Cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Davies yn y lle, adfywiodd yr eglwys, a chynyddodd y gwrandawyr yn ddirfawr, fel y bu raid helaethu y capel yn y flwyddyn 1797. Ei faint, fel y nodasom, pan adeiladwyd ef yn 1762, oedd 45 troedfedd wrth 24, ond yn 1797, gwnaed ef yn 51 wrth 35, fel yr oedd yn un o'r capeli helaethaf yn Nghymru y pryd hwnw. Gan i weinidogaeth danllyd ac effeithiol Mr. Davies, fod yn offerynol i ychwanegu lluaws at yr eglwysi, a bod capel eang Ebenezer yn y dref, yr hwn a adeiladwyd yn 1803, yn gofyn am ei wasanaeth yn fynych, bu raid iddo ef a'r eglwysi edrych allan am gynorthwywr yn y weinidogaeth. Yn 1808, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Evans, Bangor, a'r hon y cydsyniodd. Daeth ef a'i deulu yma, Mehefin 20fed, 1808. I fod yn gydweinidog a Mr. Davies y galwyd Mr. Evans yma, ond cafwyd allan yn fuan mai y cynllun mwyaf cysurus i'r gweinidogion a'r eglwysi, oedd rhanu maes y llafur, a rhoddi i bob gweinidog ei ran ei hun. Felly cyfyngodd Mr. Davies ei lafur i'r Dref, Clydach, a'r Ysgetty, a Mr. Evans, i'r Mynyddbach a Threforis. Yn fuan drachefn, helaethodd cylch Mr. Evans yn ddirfawr, pan aed i alw am bregethu cyson yn Nglandwr, Llansamlet, a'r Felindre'. Wedi marwolaeth Mr. Davies, disgynodd gofal y ddiadell fechan yn Nghlydach arno, ac ar ol i'r holl ganghenau hyn fyned yn annibynol ar y fam-eglwys, yr oedd yn rhaid iddo dori bara yn y naill le a'r llall bob Sabboth, a dwy waith bob yn ail Sabboth. Yr oedd ei lafur yn awr yn ddirfawr, trwy ei fod yn gorfod pregethu dair gwaith bob Sabboth, a bod yn bresenol mewn cynifer o gyfarfodydd eglwysig, angladdau, &c. Bu farw y gweinidog defnyddiol a llafurus hwn, Mawrth 3ydd, 1835.

Wedi marwolaeth Mr. Evans, rhanwyd ei gylch gweinidogaethol yn bedwar. Dewisodd yr eglwysi yn Nhreforis, Glandwr, a'r Felindre', weinidogion iddynt eu hunain, a chan fod yn y fam-eglwys yn y Mynyddbach rhwng tri a phedwar cant o aelodau, yr oedd yn ddigon galluog i gynal gweinidog ei hun. Yn nechreu y flwyddyn 1836, rhoddwyd galwad i Mr. Isaac Harris, Talysarn, Arfon, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Mai y flwyddyn hono. Yr oedd Mr. Harris yn bregethwr galluog lawn, a bu yn dra llwyddianus yma am tua dwy flynedd. Yna cafwyd allan nad oedd ei fuchedd yn deilwng o weinidog yr efengyl, a'r canlyniad fu i'r eglwys fyned i gyflwr terfysglyd a rhanedig iawn. Gwrthwynebai rhai y gweinidog yn benderfynol, ac yr oedd eraill yn gwrthod credu y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn, ac am hyny, yn ei bleidio. Y canlyniad fu i'r eglwys rwygoaeth dau cant a phedwar-ar-bymtheg o'r aelodau allan gyda Harris, ac adeiladasant gapel eang yn y gymydogaeth. Aeth Harris yn fuan yn rhy ddrwg i'w bleidwyr ei hun i'w ddyoddef, a bu raid iddynt ymwrthod ag ef. Yna cynygiasant eu hunain i gyfundeb y sir, a phan ddarfu i'r gymanfa yn y Taihirion yn Mai, 1841, eu gwrthod, cynygiasant eu hunain i'r Bedyddwyr, a chymerodd y rhan fwyaf o honynt eu trochi. Dyna ddechreuad yr achos yn Nghaersalem newydd. Yr oedd yn eu mysg lawer o ddynion da, ac y mae yn ddiameu pe buasid ychydig yn fwy tirion a phwyllog, y gallesid eu cadw gyda'r Annibynwyr hyd y dydd hwn. Yr oedd, ac y mae, yr ardal yn ddigon poblog i gynal dau achos. Yn Mai, 1840, dechreuodd Mr. John Davies, Aberdar, ei weinidogaeth yn y Mynyddbach. Yr oedd yr hen eglwys hon yn awr, trwy y rhwygiad diweddar, ac ymadawiad tua thriugain o'r aelodau i ddechreu yr achos yn Nghadle, wedi myned yn wan a chydmarol fechan. Dywed Mr. Davies, mai cant ac ugain oedd rhif yr aelodau pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma. Cynyddodd wedi hyny yn raddol fel yr oedd y rhif yn fwy na dau gant cyn marwolaeth Mr. Davies, yn 1854. Yn y flwyddyn 1855, rhoddwyd galwad i Mr. John Daniel, aelod gwreiddiol o'r Bryn, Llanelli, y gweinidog presenol. Yr oedd Mr. Daniel wedi ei urddo yn America; a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Hydref 17eg a'r 18ed, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Evans, Clydach; H. Evans, Carmel; J. Davies, Cwmaman; D. Rees, Llanelli; W. Watkins, Maesteg; T. Davies, Siloa, Llanelli; J. Thomas, Bryn; W. Jones, Abertawy; J. Thomas, Glynnedd; T. Davies, Treforis; L. Davies, Ysgetty, a J. Joseph, Llanedi. Mae Mr. Daniel wedi llanw ei le yn deilwng yma, a'r achos yn myned rhagddo yn ddymunol. Yn y flwyddyn 1860, adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar y Drefboeth at gadw Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Mae yn 48 troedfedd o hyd wrth 20 o led. Bwriadwyd ef at gynal Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Mae tua chant a haner o blant ac eraill yn mynychu yr Ysgol Sabbothol a gedwir yma, a chan fod y lle mewn ardal sydd yn cynyddu yn gyflym yn ei phoblogaeth, mae yn dra thebyg y corpholir eglwys yma cyn pen llawer o flynyddau. Yn y flwyddyn 1865, tynwyd yr hen addoldy i lawr, ac adeiladwyd tŷ newydd, 56 troedfedd o hyd wrth 38 o led, y tu fewn i'r muriau. Gellir dyweyd yn ddibetrus, nad oes yr un capel harddach a mwy cyfleus na hwn yn yr holl Dywysogaeth. Y cynllunydd oedd Mr. J. Humphreys, un o ddiaconiaid yr eglwys, ac y mae Mr. Humphreys wedi cynllunio ac adeiladu amryw gapeli yn y gymydogaeth, heblaw y Mynyddbach. Amgylchynir y capel gan fynwent eang, yr hon a helaethwyd yn fawr yn y flwyddyn 1850. Cafwyd tir gan Esgob Tyddewi at ei helaethu. Hyd prydles y capel yw, mil ond un o flynyddau, o ba rai y mae cant a naw wedi pasio.

Cafodd yr eglwys hon ei bendithio yn rhyfeddol, o bryd i bryd, a diwygiadau crefyddol nodedig o ddylanwadol a grymus. Nid oes genym ddefnyddiau i roddi hanes yr hyn a gymerodd le yma o ddechreuad yr achos hyd ddechreuad gweinidogaeth Mr. Lewis Rees, ond o hyny allan y mae genym hanes lled gyflawn. Nid oedd yr achos ond cymharol wan yma pan ymsefydlodd Mr. Rees yn y lle, er fod pregethu cyson yn cael ei gadw i fyny mewn gwahanol gyrau o'r ardal, heblaw Ty'rdwncyn, megis yn yr Ysgetty, y Wiguchaf, a'r Tycoch, gerllaw Treforis. Yn fuan wedi i Mr. Rees ddyfod i'r lle, cafwyd ychwanegiadau cyson at yr eglwys, nes y daeth mewn ychydig flynyddau yn eglwys luosog a dylanwadol. Yn mhen ychydig flynyddau wedi i Mr. Rees ddyfod yma, derbyniwyd dyn hynod iawn, dan amgylchiadau tra nodedig, i gymundeb yr eglwys. Ei enw oedd Roger Rogers, neu "Rotch o Gadle," fel y gelwid ef yn gyffredin. Yr oedd y gwr hwn yn more ei oes, ac yn mhell hyd at ganol ei ddyddiau, wedi bod yn nodedig o wyllt ac afreolaidd ei fywyd, fel meddwyn, ymladdwr, a digrif-ddyn. Trwy ryw foddion anhysbys yn awr, gweithiwyd argyhoeddiad ofnadwy o effeithiol o bechadurusrwydd ei gyflwr i'w feddwl. Teimlai ei gydwybod yn llosgi fel tân o'i fewn nes oedd ei boenau yn anoddefol. Elai oddiamgylch fel dyn gwallgof, a gofynai i bob un a gyfarfyddai a wyddent hwy am ryw foddion i ddiffoddi tân cydwybod euog. Aeth un bore Sabboth i eglwys Llangafelach, a chyfarfyddodd yno a'r person a'r clochydd. Dywedodd ei helynt wrthynt, ond nid oedd ganddynt hwy un cyfarwyddyd i'w roddi iddo amgen na'i gynghori i fyned at Mr. Lewis Rees, fel y dyn tebycaf yn y plwyf o allu ei wellhau. Dilynodd eu cynghor. Deallodd Mr. Rees ar unwaith natur ei glefyd a chyfarwyddodd ef at yr unig feddyginiaeth. Pan yr oedd Mr. Rees ar ei liniau yn gweddio drosto, teimlai loesion ei gydwybod yn dofi i raddau. Yn mhen ychydig derbyniwyd ef i aelodaeth eglwysig, a threuliodd weddill ei oes yn gristion disglaer, ac yn ddiarhebol am ei wresogrwydd. Byddai yn fynych yn tori allan i waeddi dan y bregeth, "O diolch, y mae yn gan mil gwell yma nag yn y dafarn." Dywedai Mr. Rees wrtho weithiau ar ganol y bregeth, "Taw Rotch, fy nhro i sydd i siarad yn awr." Ychydig a wyddai ac a deimlai Rotch am enwadyddiaeth. Byddai yn gwrandaw ac yn cymuno gyda'r Annibynwyr a'r Methodistiaid yn ddiwahaniaeth. Lle byddai fwyaf o dân oedd y lle a hoffai ef. Adroddir fod rhai o gymydogion Rotch wedi achwyn arno wrth feistr y gwaith ei fod gyda'i folianu a'i orfoleddu yn aflonyddu arnynt hwy. Galwodd ei feistr ef ato i'r swyddfa ryw ddiwrnod, a gofynodd iddo beth oedd hyn. Atebodd Rotch nad oedd neb o honynt yn achwyn arno pan oedd yn tyngu a rhegi, a meddwi, ac ymladd nes dychrynu pawb o'i gwmpas; ond yn awr, pan oedd e yn gweddio ac yn canmol ei Dduw, eu bod yn achwyn arno. "Wel Rotch,' ebe ei feistr, "rhaid i ti beidio a dy stwr, a bod yn ddistaw gyda dy grefydd fel pobl eraill." "Alla i ddim syr," atebai Rotch. "Beth wedsech chwi syr tyswn i yn myned yn llaw y swyddog i'r carchar am ddyled, a chwithau yn dod i'n cwrdd ni, ac yn gofyn iddo, ble yr oedd e yn myn'd a fi; ac wedi cael gwybod yn talu drostw i, ac yn fy ngollwng i yn rhydd. Odych chi yn meddwl, syr, y gallaswn i beidio a'ch canmol wrth bawb. O! syr, yr own i yn llaw cyfiawnder, yn ymyl drws y carchar, ar gael y mwrw i mewn; ond fe ddaeth Iesu anwyl yn mlaen, ac a 'wedodd wrth gyfiawnder am fy ngollwng i yn rhydd, y talsa ef fy nyled. Ych chi yn meddwl, syr, y galla i beidio a'i ganmol—Bendigedig fyddo ei enw." A chyda hyny, dechreuodd ei folianu yn swyddfa ei feistr, ac yr oedd llygaid y boneddwr yn llenwi o ddagrau wrth ei wrando, ac ni feddyliodd byth mwy am ei wahardd, canmoled a molianed a fynai. Mae lluaws o engreifftiau cyffelyb o angerddoldeb ei deimlad, yr hyn a ddangosai mor ddwfn a gwirioneddol oedd ei argyhoeddiad. Bu farw yr hen gristion nodedig hwn Rhagfyr 6ed, 1821, yn 78 oed. Ei gyfansoddiad ef yw y penillion canlynol o berthynas i'w droedigaeth a'i brofiad. Ni ddigwyddodd i ni weled dim arall o'i waith.

"Pan o'wn i ar fy ngwely,—Un prydnawn, &c.,
Heb feddwl dim ond pechu,—Un prydnawn,
Fe ddaeth ei danllyd saethau,
Y ddeddf a'i dychryniadau,
I'm tori lawr yn ddiau,—Un prydnawn, &c.,
A gado'm holl bleserau,—Un prydnawn.

O Iesu, mhriod hawddgar,—Diolch byth, &c.,
Ddanfonodd Duw i'r ddaear,—Diolch byth,
Fe lanwodd y cysgodau,
Cyflawnodd y 'Sgrythyrau,
Bu farw dros fy meiau,—Diolch byth, &c.,
Mae'n eiriol dros bechodau,—Diolch byth.

Ceir gwel'd yr arfaeth foreu—Cyn b'o hir &c
Yn esgor ar ei pherlau— Cyn b'o hir
Fe gwyd y meirw allan
Daw'r defaid idd ei gorlan
Trwy waed y bugail cadarn—Cyn b'o hir &c
Er gwaethaf dyfais Satan—Cyn b'o hir

Ni feddai'n wyneb angau,—Ond efe, &c.,
Pan elwyf i'r clorianau,—Ond efe,
Mi fentra yn ei glwytau,
Heb ddim o'm cyfiawnderau,
Ni feddai ddim yn bwysau,—Ond efe, &c.,
Pan elwy' i o flaen y frawdle,—Ond efe.

Fe'm prynodd o gaethiwed,—Do yn wir, &c.,
O ddwylo'r hen gythreuliaid,—Do yn wir,
O blith y criw uffernol.
Oddiwrth euogrwydd damniol,
Fe'm golchodd yn y ffynon,——Do yn wir, &c.,
Addawodd i mi goron,—Do yn wir.'

Mae yn ddiameu mai nefoedd ar y ddaear oedd gwrandaw yr hen bererin yn datganu y penillion hyn yn y teimlad a'i nodweddai ef.

Yn fuan wedi i Mr. Rees symud o Lanbrynmair, daeth gwr ieuangc o'r eglwys hono ar ei ol i'r ardal hon, er mwyn cael mwynhad o'i weinidogaeth. Ei enw oedd William Jones. Cafodd le mewn swyddfa yn Abertawy i ennill ei fywioliaeth, a threuliodd weddill ei oes yma. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ddyn nodedig o grefyddol. Elai i fyny o'r dref i'r Mynyddbach bob Sabboth, ac yr oedd yn cyrhaedd yno tuag awr cyn pryd oedfa, er mwyn darllen ychydig benodau i bobl y wlad a ddeuant yno yn gynar. Aeth darlleniadau William Jones, gydag amser, mor boblogaidd a'r pregethau, a byddai y capel yn orlawn yn gyffredin erbyn y buasai yno. Arferai y gwr da hwn ysgrifenu pob pregeth a wrandawai, ac yn neillduol pregethau ei hoffus weinidog, y rhai a gofnodai agos air yn ngair. Mae tair cyfrol o'i ysgrifeniadau yn ein meddiant ni yn awr, sef y pregethau a wrandawodd yn y blynyddoedd 1764, '65, '66 a '78. Heblaw y pregethau, cynwysa y cyfrolau gwerthfawr hyn lawer o nodiadau hanesyddol a phrofiadol o eiddo yr ysgrifenydd. Yr oedd yr achos yn y Mynyddbach yn y blynyddoedd hyn, yn ol tystiolaeth William Jones, yn rhyfeddol o lewyrchus. Ar ddiwedd ei gofnodiad o bregeth Mr. Rees, oddiar Esaiah xliv. 5., ar Sul cymundeb, Chwefror 10fed, 1765; ysgrifena, "Heddyw yr oedd un-ar-ddeg o aelodau yn cael eu derbyn i mewn i'r gynnulleidfa—saith o ferched ifainc, a dau ŵr ifanc, a dwy wraig newydd briodi. Duw a wyr pa faint o honynt oedd mewn undeb dirgelaidd a Iesu Grist. Rhwng y bregeth a'r ordinhad efengylaidd o Swper yr Arglwydd, ynghyd a'r olwg ddymunol o weled cynifer o ddynion ifainc yn ymofyn y ffordd tua Sïon, a'u hwynebau (mewn golwg allanol o'r hyn lleiaf,) tuag yno. Rhwng y naill beth a'r llall, meddaf, ni a gawsom un o'r oedfeydd mwya' dymunol ag a gefais erioed, a hyn oedd cyfaddefiad neillduol amryw eraill. O Dduw na âd i'n mwynder ni ymado, ond helpia ni, yn enwedig y rhai ifainc, i ddal ein ffordd ac i chwanegu cryfder. O Arglwydd na chaffer fi, yr hwn wyf yn awr er's rhai blynyddoedd wedi cyfenwi fy hun ar enw Israel, a rhoi fy hunan i ti, yn byw yn segur nac yn ddiffrwyth yn dy winllan di. Amen." Mawrth 10fed, 1765, ar ol pregeth Mr. Rees, oddiar Phil. iii. 8. Ysgrifena, "Yn wir, y mae genyf achos mawr i gwyno am fy nghalongaledwch dan y gyfryw weinidogaeth wresog ac efengylaidd. Heddyw y derbyniwyd Pally Rees[5] i'r gynnulleidfa, ac o mor serchiadol, mor ddifrifol, ac mor syml, yr oedd ei thad yn ymddiddan a hi, yn mhlith eraill, a hithau newydd wella ychydig ar ol bod yn glaf. Duw bendithia y naill beth a'r llall iddi hi, ac i ninau hefyd, i'n dwyn yn nes atat ti dy hun." Ar ol cofnodiad helaeth o bregeth gan Mr. John Powell, Henllan, oddiar Salm lxxxvii. 5. Sylwa, "O mor hyfryd oedd hi wrth gyfranu y Sacrament, pan oedd Mr. Rees yn holi ac yn rhybuddio y llangc ifanc oedd yn cael ei dderbyn i mewn. Fe fyddai yn dda genyf, debygwn weithiau, pe byddwn i yn un bob tro yn cael fy nerbyn i mewn, pan fwyf yn gwrando ar ein gweinidog anwyl a pharchedig yn cynghori, yn anog, ac yn gweddio dros y brodyr a'r chwiorydd fo yn cael eu derbyn i mewn, yn enwedig y rhai ifainc." Mae yn ymddangos fod y deng-mlynedd-ar-hugain cyntaf o dymhor gweinidogaeth Mr. Rees yn y Mynyddbach, yn ysbaid o lwyddiant graddol a chyson, ond yn y chwe' mlynedd blaenorol i sefydliad Mr. D. Davies, yr oedd yr achos yn hytrach yn dadfeilio, o herwydd methiant Mr. Rees gan henaint, a'r gradd o oerni oedd rhyngddo a'r eglwys ar gyfrif eu hanewyllysgarwch i dderbyn ei fab-yn-nghyfraith i fod yn gydweinidog ag ef.

Yn ddioed ar sefydliad Mr. Davies yn y lle, adfywiodd yr achos yn anghyffredin, ac ychwanegwyd canoedd yma, ac yn yr Ysgetty mewn ychydig amser. Yn y flwyddyn 1807, torodd diwygiad nodedig o rymus allan. Yr oedd y dylanwadau mor nerthol nes y byddai y bobl yn aros yn y capeli hyd haner nos i ganu, wylo, a gweddio, a byddent drachefn yn finteioedd wrth fyned adref yn aros yma a thraw i weddio. Cafodd llawer o'r dynion mwyaf annuwiol yn yr ardal eu hennill at grefydd yn y diwygiad hwn. Mae rhanau o'r gân a gyfansoddodd Mr. Davies mewn cyfeiriad ato yn deilwng o'u cofnodi yma.

"Treforis yn ddiweddar, ga'dd brawf o ffafar Daw,
Trwy ei ymweliad grasol, gwnaeth lawer marw'n fyw;
Rhai hen a chanel oedran, ac hefyd ieuengctyd man,
Achubwyd rhai ugeiniau rhag myn'd i uffern dân;
Fe gerddai'r awel rymus i fyny ac i lawr,
A'i thro trwy Abertawy nes briwio muriau mawr;
Ac hefyd Llangafelach o amgylch Mynyddbach,
Cawd yn Nghwmbwrla berlau, fydd byth yn berffaith iach.

Y Gwr a'r bwa ganddo, a lwyddodd ar ei farch,
Nes gwneuthur rhai gelynion o'u bodd roi iddo barch;
Rhai canoedd ca'dd eu cymhell i mewn i eglwys Dduw,
A welwyd yn ddiweddar ar faes y byd yn byw.
Mae rhai o'r cablwyr creulon, gelynion gwaethaf gaed,
Yn moli Duw yn uchel am iachawdwriaeth rad,
A lifodd fel yr afon rhwng lladron ar y bryn,
I olchi'r rhai ffieiddiaf mor lân a'r eira gwyn.'

Yn ddioed ar ol y diwygiad tanllyd hwn, ysgubwyd llawer iawn o'r trigolion ymaith gan angau, yn enwedig yn Nhreforis. At hyny y cyfeiria y penillion canlynol o'r gân rag-grybwylledig.

"Mi edrychais, ac a welais, wr arall ar y ma's,
Yn tramwy trwy'r ardaloedd ar farch oedd welw las;
A rhoddwyd iddo awdurdod ar bob peth dan y nef,
Ac uffern ddu anhoffaidd yn canlyn gydag ef.
Ar dro daeth i Dreforis, fel gwr awyddus iawn,
I gwblhau gwaith ei Arglwydd yn ddiwyd fore a nawn;
Fe gwympodd frodyr gwrol oedd gu ac anwyl im',
A'u dodi mewn modd buan yn fud heb yngan dim.

Mi gollais eu cyfrinach, fu'n bleser lawer gwaith,
Ni welais byth o'u hwyneb o fewn i'r anial maith;
Aethant yn ngoleu'r haulwen, trwy'r hen Iorddonen ddu,
Maent 'nawr yn canu'r anthem yn nhref Caersalem fry.
Hwy dd'wedent yn dra eglur cyn myn'd o'r corph i ma's,
Fod Iesu Grist yn ddigon yn ngwyneb angau glas;
'Mae'r ffordd o'n blaen yn oleu, ni welwn dir ein gwlad,
Er maint yw grym y tonau, mae'r graig o dan ein traed.'

Ca'dd hefyd famau yn Israel, eleni eu tori lawr,
A'u symud mewn modd sydyn i'r tragwyddoldeb mawr;
Ni welai ddim o'u hwyneb o fewn i'r eglwys mwy,
Nes delo'r awr i ymddatod, gael myned atynt hwy.
Rhyw lawer welai'n eisiau, oedd llynedd ar y llawr,
Yn gwledda gyda'u gilydd wrth fwrdd ein Harglwydd mawr;
Maent 'nawr yn Sion dawel, heb ryfel o un rhyw,
Pob un wrth fodd ei galon, yn gyson foli Duw."

Cafwyd ychwanegiadau mawrion at yr eglwys hon yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, ar wahanol amserau, ond yn y flwyddyn 1829, y bu y cyffroad rhyfeddaf o gwbl yma. Derbyniodd Mr. Evans y flwyddyn hono, yn ystod chwe' mis, chwe' chant a haner o aelodau newyddion i gymundeb eglwysig!! Cafodd yr eglwys hon ei hamddifadu o'r gwlaw grasol a ddisgynodd ar y rhan fwyaf o eglwysi y Dywysogaeth yn y blynyddoedd 1839-41, o herwydd y terfysg a'r rhwygiad anhapus a gymerodd le ynddi. Yn yr adfywiad a gymerodd le yn Morganwg, Mynwy, a chyrau o'r siroedd cylchynol, yn 1849, cafodd y Mynyddbach ran o'r gawod. Ychwanegwyd pedwar-ugain-a-phump at yr eglwys yn y flwyddyn hono. Oddiar hyny hyd yn awr, y mae yr achos wedi myned rhagddo yn ddymunol, er na fu yma unrhyw gyffroadau anghyffredin.

Mae eglwys y Mynyddbach i'w hystyried fel mam i'r holl eglwysi oddi amgylch. Mae yr eglwysi canlynol yn ganghenau uniongyrchol o honi—

Brynteg, Crwys, Ysgetty, Ebenezer Abertawy, Glandwr, Libanus a Horeb, Treforis, Clydach, Felindre', Bethel, Llansamlet, a Chadle. Merched i'w merched hi y gellir ystyried yr eglwysi diweddaraf a ffurfiwyd yn y gymydogaeth. Aelodau o'r Mynyddbach hefyd oedd y rhan fwyaf o sylfaenwyr yr achosion Methodistaidd yn Llansamlet, Crug-glas, Abertawy, ac yn neillduol Treforis.

Gellid yn naturiol ddisgwyl fod lluaws o bregethwyr wedi cyfodi o bryd i bryd mewn eglwys mor hen a lluosog a hon. Mae yn ddigon tebyg i amryw gael eu cyfodi yma yn nhymor boreuaf yr achos, er nas gallasom ni ddyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yw yr unig rai y gwyddom ni am danynt.

William Llewellyn, Cwmmawr. Gweler hanes y Crwys.

Noah Jones, Walsall, sir Stafford. Yr oedd yn enedigol o'r parth uchaf o blwyf Llangafelach. Addysgwyd ef yn Nghaerfyrddin. Bu am ychydig amser yn y Drefnewydd, Maldwyn, ond ni chafodd ei urddo yno. Symudodd i Cradley, yn sir Gaerwrangon, lle yr urddwyd ef yn 1750. Symudodd i Walsall yn 1762, lle yr ymddengys iddo dreulio gweddill ei oes. Mae Mr. Thomas Morgan, Henllan, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef yn yr athrofa, yn dyweyd ei fod yn ŵr ieuangc teilwng a chrefyddol iawn, ac yn ysgolhaig rhagorol.

Daniel Gronow, Bala. Gwelir ei hanes yn nglyn a'r Bala.

Thomas Gray, Abermeurig. Glowr oedd ef wrth ei alwedigaeth, ac yn ei ieuengctyd yr oedd yn wyllt ac annuwiol iawn. Un prydnawn ceisiodd goruchwyliwr y gwaith ganddo fyned yn fore dranoeth ar neges drosto ef i Gastellnedd, yr hyn a wnaeth. Tra yr oedd ef yn Nghastellnedd, dygwyddodd damwain angeuol yn y pwll lle y gweithiai, a chafodd amryw o'i gydweithwyr eu hangau. Yntau, wrth ddychwelyd adref yn feddw, a gyfarfyddodd a dyn yr hwn a'i hysbysodd o'r ddamwain a ddigwy ddasai i'w gydweithwyr, gan ei gyfarch, Twm Gray, yr wyf fi yn synu dy weled di yma; yr oeddwn i yn meddwl dy fod yn uffern er wyth o'r gloch bore heddyw." Effeithiodd y newydd, a geiriau y dyn gymaint arno fel y sobrodd yn y fan, ac ni chafodd ei feddwl lonyddwch o hyny allan, nes iddo ymgymeryd a chrefydd. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Mynyddbach, ac yn mhen ychydig amser cafodd anogaeth i ddechreu pregethu. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Abergavenny, Hydref 3ydd, 1757. Ar orpheniad ei amser yno, cafodd alwad i fyned yn ganlynydd i'r enwog Phillip Pugh yn Abermeurig, Llwynpiod, &c. Syrthiodd yn raddol i gyfeillgarwch mynwesol a'i gymydog Mr. Rowlands, Llangeitho; ac o ychydig i ychydig aeth i ymgymysgu mwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr, a'r canlyniad fu i'r hen eglwysi Annibynol dan ei ofal, erbyn terfyn ei oes ef, fyned yn hollol Fethodistaidd. Bu Mr. Gray farw yn y flwyddyn 1810. Dywedir y byddai ar amserau yn pregethu yn nodedig o effeithiol.

John Vulk. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1745) Bu am rai blynyddau yn cyfaneddu yn y tŷ wrth gapel y Mynyddbach. Teithiodd lawer trwy dde a gogledd fel pregethwr. Ar ol bod am lawer o flynyddau yn pregethu gyda'r Annibynwyr, trodd at y Bedyddwyr, a chyda hwy y terfynodd ei oes yn 90 oed, tua y flwyddyn 1835.

Thomas Jones. Yr oedd yn briod a chwaer Mr. D. Davies, y gweinidog, ac yn enedigol o gymydogaeth Llangeler, ond dywedir mai yn y Mynyddbach y dechreuodd bregethu. Bu am rai blynyddau yn pregethu i'r Cymru yn Lambeth, Llundain. Bu farw Ionawr 27ain, 1817.

David Jones, Clydach. Daw ei hanes yn nglyn a'r He hwnw. David Morgan, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Woolwich. Dichon y bydd genym ychydig hanes i'w roddi am dano pan ddelom at hanes yr achos Cymreig yno.

John Davies, Llansamlet. Yn nglyn a hanes yr eglwys yn Cross Inn y rhoddir ei hanes ef.

John Davies, Mynyddbach. Rhoddir ei hanes ef yn mysg gweinidogion yr eglwys hon.

John Joseph, Llanedi. Gweler hanes yr eglwys hono.

David Davies. Yr oedd ef yn un o'r rhai a aethant allan i adeiladu Caersalem Newydd. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn Nghlydach. Y mae yn awr yn analluog i bregethu o herwydd cystudd a henaint.

William Thomas, Clydach. Bydd genym air am dano yn nglyn ag eglwys y Glais.

Evan Davies, Richmond. Ganwyd ef yn mhlwyf Lledrod, sir Aberteifi. Pan oedd ef yn dair blwydd oed, symudodd ei dad a'i deulu i Lundain, ond gadawyd ef gyda modryb iddo yn y wlad. Pan ddaeth i oed cyfaddas gosodwyd ef i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd. Ar derfyniad amser ei egwyddor wasanaeth aeth i Lundain, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y Boro. Yn y flwyddyn 1827, daeth ef a Mr. W. Thomas, wedi hyny o Glydach, yr hwn oedd yn gweithio ei gelfyddyd fel saer yn Llundain, i lawr gyda'u gilydd i Abertawy, a chan eu bod yn adnabyddus a Mr. Evans, Mynyddbach, trwy ei weled yn Llundain, ymunasant a'i eglwys ef, ac yma yr un pryd y dechreuodd y ddau bregethu. Aethant yn fuan i athrofa y Neuaddlwyd. Ar ol bod yno am ddeunaw mis, symudodd Mr. Davies i'r Athrofa Orllewinol yn Exeter. Ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, cafodd alwad i Great Torrington; ond nid arosodd yno yn hir gan ei fod wedi gwneyd ei feddwl i fyny i fyned allan yn genhadwr. Urddwyd ef yn Llundain yn Ebrill, 1835, i fyned yn genhadwr at y Chiniaid i Penang. Bu yno yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig i'r preswylwyr Saisonig, am bedair blynedd, yna gorfodwyd ef gan ddiffyg iechyd i ddychwelyd adref. Bu wedi hyny am dair blynedd-ar-ddeg yn weinidog yn Richmond, Surrey, ac am ddwy flynedd yn Heywood, ger Manchester. Bu am raio flynyddau olaf ei fywyd heb ofal eglwysig, ond yr oedd galwad am dano bob Sabboth i lenwi pulpudau gweigion. Gwan fu ei iechyd trwy ei oes. Bu farw Mehefin 18fed, 1864. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn nodedig o dduwiol, yn bregethwr da iawn, yn ysgolhaig rhagorol, ac yn dra galluog o feddwl. Ysgrifenodd amryw gyfrolau bychain, a golygodd weithiau Dr. Payne a Dr. Edward Williams. Mae pob peth a ysgrifenodd yn deilwng o ddarlleniad manwl.

Jenkin Jenkins, America. Mae yn adnabyddus wrth yr enw "Siencyn ddwywaith."

Thomas Davies, Horeb, Treforis. Mae yn llafurio gyda pharch gyda phobl sydd yn ei adnabod o'i febyd.

David Lewis, Llanfaple, Mynwy, ac y mae wedi llafurio yno bellach am fwy na 30 mlynedd.

William Rees. Yr hwn sydd yn bresenol yn offeiriad Llanboidy.

Myn rhai o hen bobl y Mynyddbach honi yr anrhydedd o gyfodi Dr. Abraham Rees i bregethu, ond nid ymddengys fod ganddynt dir teg i honi hyny, canys yr oedd y Dr., er ieuenged ydoedd, yn cael ei gydnabod yn mysg gweinidogion Llundain yn 1760, cyn pen blwyddyn ar ol i'w dad symud i'r Mynyddbach. Yr oedd ef yn mysg gweinidogion y tri enwad yn llongyfarch Sior III. ar ei esgyniad i'r orsedd, ac yr oedd drachefn yn mhen triugain mlynedd yn blaenori gweinidogion y tri enwad yn eu llongyfarchiad i Sior IV. ar ei esgyniad yntau i'r orsedd.

Cafodd pob un o'r rhai blaenorol eu hurddo yn weinidogion; ond y mae nifer o bregethwyr defnyddiol wedi cyfodi yma o bryd i bryd na fuont yn weinidogion urddedig; megis, David Hugh, Thomas Evan, David Roberts, yr hwn fu yn pregethu am agos i ddeugain mlynedd gyda pharch a derbyniad nodedig; William Lloyd, John Jones, Howell Hopkin, Daniel David, Thomas Griffith, Ebenezer Edwards, Benjamin Gray, David Jones, gwr ieuangc galluog a gobeithiol a fu farw yn 1824, yn 21 oed, gyda'i fod yn dechreu ymagor yn ei ddefnyddioldeb; Daniel Evans, mab Mr. Evans, y gweinidog. Bu yn fyfyriwr yn athrofa Cheshunt, ond bu farw yn Mawrth, 1835, yn mhen ychydig ddyddiau ar ol ei dad; Samuel Samuel, Evan Jones, Edward Hughes sydd yn awr yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, a'i frawd William Hughes, yr hwn sydd yn ddiweddar wedi dechreu pregethu. Mae y brodyr hyn oll, ond y ddau olaf, wedi gorphen eu gyrfa ddaearol, oddieithr fod un neu ddau o honynt yn fyw yn yr America. Bu rhai o honynt yn ddefnyddiol iawn yn eu hoes, ac y maent yn awr yn derbyn eu gwobr.

Heblaw y pregethwyr a gyfodwyd yn yr eglwys hon, bu ynddi o bryd i bryd lawer o bersonau mwy anghyhoedd, ond etto, nodedig am eu duwioldeb a'u defnyddioldeb. Yn mysg y rhai, gellir crybwyll y tri John Powell, o Gefnyfforest, sef y tad, y mab, a'r wyr. Dywedir mai dan bregeth a draddodwyd gan Mr. Howell Harris wrth Gorseinion, y dygwyd y John Powell, cyntaf, i ystyried ei ddiwedd. Ymunodd yn fuan wedi hyny a'r eglwys yn y Mynyddbach, a bu yn ddefnyddiol iawn fel aelod a pregethwr achlysurol hyd ei farwolaeth. Yr oedd ei fab John Powell, yr ail, hefyd yn aelod ffyddlon, ac yn swyddwr defnyddiol; a bu John Powell, y trydydd, hefyd yn ddefnyddiol a pharchus fel aelod a swyddwr am lawer o flynyddau. Y mae yntau yn awr wedi huno gyda'i dadau, ond y mae ei ddau fab yn debygol o lynu yn ffyddlon yn ngwasanaeth Duw eu henafiaid. Dylai enwau Evan Dafydd a Thomas ei fab, taid a thad Mr. T. Davies, Treforis, a Mr. John Davies, Taihirion, gael eu cadw mewn coffadwriaeth barchus, fel gwyr cedyrn yn yr ysgrythyrau, ac yn enwog am eu ffyddlondeb. Y mae enwau Dafydd Sion Rees, o Gadle; John Rees ei frawd; William Awbre, a Dafydd William, Gelliwern; John Humphreys, o'r Castell, tad Mr. W. Humphreys, Cadle; David Jones, y teiliwr, un o ffyddloniaid y cyfarfod gweddi; John Rosser, John Davies, apostol yr ysgol gân; Evan Jenkin, Jeremiah David, Benjamin David, William Rees, o Gadle, a llawer eraill a allesid grybwyll, yn perarogli yn yr ardal hyd y dydd hwn, a hiliogaeth llawer o honynt yn glynu yn ffyddlon gyda yr achos oedd mor agos at galonau eu henafiaid. Daniel James yw braidd yr unig un o gyfoedion y gwyr uchod sydd yn awr ar dir y byw. Iddo ef yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau a gynwysir yn yr hanes blaenorol. Er ei fod yn awr yn ei wythfed flwydd a phedwar ugain, y mae yn mwynhau iechyd da, Parhacd yr hen eglwys barchus o oes i oes, i gyfodi dynion o gyffelyb feddwl, i'r tadau fu wyr enwog gynt.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

ROBERT THOMAS. Rhoddir yr ychydig hanes sydd genym am dano ef yn nglyn a hanes Maesyrhaf, Castellnedd.

LEWIS DAVIES. Mae yn debygol mai un genedigol o blwyf Llanedi, sir Gaerfyrddin, ac mai aelod o'r eglwys Ymneillduol yno ydoedd. Yn yr Erw-wastad yn y plwyf hwnw yr oedd yn cyfaneddu. Urddwyd ef tua y flwyddyn 1693, a bu Mr. Llewellyn Bevan, Cwmllynfell, a Mr. John Thomas, Aberafan, yn ei gynorthwyo am rai blynyddau, canys yr oedd cylch ei weinidogaeth yn eang iawn. Mae yn ymddangos ei fod yn weinidog rhagorol, ac yn ymdrechgar iawn i addysgu ei bobl yn ngwirioneddau mawrion yr efengyl. Geilw Mr. Edmund Jones ef yn "weinidog enwog iawn." [6] Yr ydym yn barnu iddo farw tua'r flwyddyn 1712.

SAMUEL JONES. Yr ydym ni yn barnu nad oes yr un sail i ameu mai yr un gwr yw hwn a Samuel Jones, Capel Sion, sir Gaerfyrddin. Bernir mai un genedigol o blwyf Llanedi oedd yntau. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, fe ddichon mewn rhan dan Mr. William Evans, ac mewn rhan dan Mr. Thomas Perrot. Bu am rai blynyddau yn byw yn Mhentwyn, Llanon, ac yn cadw ysgol enwog iawn yno. Bu y dysgedig Dr. Richard Price, o Lundain; Mr. Owen Rees, Pentretygwyn, tad Mr. Josiah Rees, Gellionen; Mr. Thomas Morgan, Henllan, ac amryw eraill a ddaethant i enwogrwydd, yn derbyn eu haddysg yn yr ysgol hon. Yr oedd y gair fod Mr. Jones yn gogwyddo at Arminiaeth, ac o herwydd hyny, yr oedd Mr. Edmund Jones yn groes i Thomas Morgan, wedi hyny o Henllan, fyned i'w ysgol. Mae yn lled debyg fod rhyw sail i'r dybiaeth ei fod yn tueddu at Arminiaeth, canys yr ydym yn cael ei fod yn traddodi y siars ar urddiad Mr. David Lloyd yn Llwynrhydowen, yn 1745, ac mae yn hysbys mai canlyniedydd Mr. Jenkin Jones, yr Arminiad, oedd Mr. Lloyd. Pa fodd bynag, y mae yn amlwg fod Mr. Jones yn ddyn difrifol a chrefyddol iawn. Mae Thomas Morgan, Henllan, wrth son am ei fynediad i ysgol Mr. Jones, yn dyweyd, "Tua thri o'r gloch yn y prydnawn cychwynasom o Abertawy, a chyrhaeddasom Bentwyn yn sir Gaerfyrddin erbyn machlud haul. Llonwyd fi yn fawr wrth weled y teulu mor grefyddol, yn darllen ac adrodd yr Ysgrythyrau, ac yn canu Salmau." yn ymddangos fod Capel Sion, Llanddarog, a Thy'rdwncyn, dano fal Mr. Jones oddiar dechreuad ei weinidogaeth, ond rhoddodd Gapel Sïon i fyny tua y flwyddyn 1752, neu yn fuan ar ol hyny. Symudodd o Bentwyn i rywle yn mhlwyf Penbre, lawer o flynyddau cyn ei farwolaeth. Mae yn debyg mai rhyw gysylltiadau teuluol a barodd iddo symud yno, canys nid oedd un eglwys Ymneillduol yn y plwyf hwnw yn ei amser ef. Yr oedd ganddo ffordd bell i fyned o Benbre i Dy'rdwncyn, ond nid mwy nag oedd gan lawer o weinidogion yn yr oes hono, ac oesau diweddarach, i fyned at eu heglwysi. Mae yn ymddangos i Mr. Jones yn ei flynyddau olaf symud o Benbre i Dreforis i gadw ysgol, ac yr oedd ei fab, yr hwn oedd yn efrydydd, yn ei gynorthwyo gyda'r ysgol. O herwydd gofal ysgol ddyddiol, yn nghyda gradd o effeithiau henaint, rhoddodd Mr. Jones a'r eglwys yn Nhy'rdwncyn yn 1759, alwad i Mr. Lewis Rees i ddyfod yn gydweinidog ag ef. Un Sabboth yn y mis y byddai Mr. Jones yn pregethu yn Nhy'rdwncyn wedi i Mr. Rees ddyfod yno, a dengys llawysgrifau Mr. William Jones, fod Mr. Jones yn cadw ei Sabboth yn lled reolaidd yn y blynyddoedd 1764 a 1765, ond ni bu yn pregethu o gwbl yno yn 1766, etto yr oedd yn fyw, canys derbyniodd arian o'r Drysorfa Henadurol o Lundain yn y flwyddyn hono. Digon tebyg ei fod erbyn hyn wedi methu gan henaint, ac iddo farw yn y flwyddyn 1767, neu 1768, ond gan nad yw ysgrifau William Jones am y blynyddoedd hyny yn ein meddiant, nac un crybwylliad am dano mewn un llawysgrif arall, nac argraph a welsom ni, nis gallwn benderfynu amser ei farwolaeth. Gyferbyn a Tachwedd 24ain, 1764, ysgrifena Mr. W. Jones, "Y Sabboth hwn myfi a aethum i'r cwrdd fel arferol, ond ni chawsom ni yr un bregeth yno. Rhwng bod yr hin oer, a'r ffordd yn bell, Mr. Jones a dariodd gartref." Ar ddiwedd cofnodiad helaeth o bregeth gan Mr. Jones, oddiar Luc xiv. 47, yr hon a draddododd yn Nhy'rdwneyn, Awst 18fed, 1764, cawn fel y canlyn, "Hefyd mae cenhadon Duw yn galw ar eich hol. Myfi heddyw, (meddai yr hen ŵr,) sydd yn galw arnoch yn ngwydd nefoedd a daear i ddychwelyd at yr Arglwydd." Ac o'r cynghorion perthynasol, yr anogaethau tyner, a'r geiriau ennillgar oedd ganddo. Mor hyfryd yw traed y rhai sydd yn efengylu pethau daionus; ie yn wir, mor hyfryd yw eu gwedd, ac mor ardderchog yw eu swydd; mor fawr yw eu gwaith, etto mor ddysglaer fydd eu coron.' Er fod Samuel Jones yn ysgolhaig rhagorol, ac yn bregethwr da, etto, nid ymddengys ei fod yn ddyn cyhoeddus iawn. Unwaith yn unig y cawsom ei enw mewn cysylltiad ag urddiadau gweinidogion, ac ni ddigwyddodd i ni weled ei enw yn cael ei grybwyll mewn hanes unrhyw gyfarfod gweinidogion. Dichon fod ei amgylchiadau yn gyfyng, a'i fod yn cael ei gaethiwo gydag ysgol ddyddiol dros y rhan fwyaf o'i oes. Os felly, y mae yn hawdd cyfrif am ei anghyhoeddusrwydd. Mae yn amlwg ei fod yn bregethwr galluog, ac y mae y nifer o'i bregethau a ysgrifenwyd gan William Jones, yn dangos fod ei syniadau yn efengylaidd, ac os oedd yn Arminiad, nad oedd wedi myned cyn belled i'r tir hwnw a rhai o'i gydoeswyr.

LEWIS REES. Ganwyd y diwygiwr a'r gweinidog enwog a llafurus hwn yn Glynllwydrew, Cwmgwrach, Glynnedd, Mawrth 2il, 1710. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau o'r eglwys yn Mlaengwrach, dan ofal gweinidogaethol Mr. Henry Davies. Enw ei dad oedd Rees Edward Lewis. Mab i offeiriad plwyf Penderyn ydoedd. Gofynodd Mr. Rees i'w dad ryw dro pan yn blentyn, pa beth a barodd iddo ef, ac yntau yn fab i offeiriad, ymuno a'r Ymneillduwyr; a'r ateb a gafodd ydoedd, "Lewis bach, gwrando fy machgen i, mi adewais dŷ fy nhad, ac mi ymneillduais oddiwrth yr Eglwys Wladol, o herwydd ysbryd erlidigaethus yr offeiriaid a'r uchel-eglwyswyr yn gyffredinol, ac yr oedd yn rhaid i mi ymneillduo neu fod yn elyn calon i grefydd a chanlynwyr Iesu Grist, ac mi a sicrhaf i ti, Lewis, os byddi di byw i weled fy oedran i, a bod o rhyw ddefnydd gydag achos Crist, y cai dithau deimlo yn chwerw oddiwrth eu hysbryd erlidgar hwy. Hefyd, Lewis, nid wyf yn gweled pa fodd y gall dyn fod yn dduwiol wrth erlid duwiolion, na pha fodd y gall Eglwys Wladol fod yn eglwys i Grist, ac hefyd yr wyf yn dewis crefydda yn mysg y dybycaf eu hysbryd i ysbryd addfwyn Iesu Grist.' Yn yr ateb hwn cafodd y mab ddigon o resymau dros ei ymneillduaeth gan ei dad, fel na ofynodd ddim iddo ar y pen hwn mwyach. Un o ddau o blant oedd Mr. Rees. Christiana oedd enw ei chwaer, yr hon a dreuliodd y rhan fwyaf o'i hoe s yn agos i Benybont-ar-ogwy, lle y bu farw. Pan yn blentyn ieuangc anfonodd ei rieni Lewis Rees i ysgol a gedwid gan Mr. Henry Davies, eu gweinidog. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mlaengwrach pan yn ieuangc iawn. Ar ol bod am rai blynyddau yn ysgol Mr. Davies, aeth i ysgol Mr. Joseph Simons, yr hwn a gadwai ysgol ramadegol yn, neu yn agos i Abertawy. Wedi hyny, bu am dymor yn derbyn addysg gan Mr. Rees Price, Ty'nton, Penybont-ar-ogwy, ac oddiyno aeth i'r athrofa i'r Llwynllwyd, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal Mr. Vavasor Griffith. Pan ddeallodd ei athraw ei fod yn ŵr ieuangc gobeithiol a galluog fel pregethwr, a'i fod trwy y manteision a gawsai yn flaenorol yn ysgolhaig lled dda, anogodd ef, ar ol iddo fod yno ychydig fisoedd, i fyned allan ac ymroddi i waith y weinidogaeth, gan fod y fath angen yn y wlad am wasanaeth gwr o'r fath gymhwysderau. Tua yr amser hwnw galwodd yr apostolaidd Edmund Jones, o Bontypool, heibio y Llwynllwyd, ar ei ffordd adref o daith trwy y gogledd. Rhoddodd anogaeth rymus i'r gwr ieuangc i fyned i Lanbrynmair, lle y barnai fod maes addawus iddo i'w wrteithio, ac er ei galonogi aeth yn ei ol o'r Llwynllwyd gydag ef i'w gyflwyno i'r bobl, a'r bobl iddo yntau. Bernir mai yn y flwyddyn 1734, y cymerodd hyn le. Ymserchodd Mr. Rees a'r bobl yn eu gilydd, ac ychwanegwyd llawer at y gynnulleidfa yn fuan. Bu yno am bedair blynedd cyn iddo gael ei urddo. Yn ei fam-eglwys yn Mlaengwrach yr urddwyd ef, Ebrill 13eg, 1738. Yna dychwelodd i Lanbrynmair, lle yr ymaflodd yn ei waith a'i holl egni. Yn 1739, adeiladwyd y capel, a thrwy lafur dibaid y gweinidog, talwyd y ddyled mewn ychydig amser. Bu sefydliad Mr. Rees yn Llanbrynmair yn fendith, nid yn unig i'r ardal hono, ond hefyd i Ogledd Cymru yn gyffredinol. Yr ydym eisioes wedi cael achlysur i grybwyll am ei lafur, ei lwyddiant, a'i beryglon yn y Bala, Llanuwchllyn, a Llanymawddwy, a phan y delom at hanes yr eglwysi yn Arfon o Mon, bydd genym etto lawer o bethau dyddorol i'w cofnodi am ei lafur a'i ddyoddefiadau. Bu yn rhyfeddol o lafurus a llwyddianus i blanu achosion newyddion mewn gwahanol ardaloedd, yn Maldwyn a Meirion, yn ysbaid ei arosiad yn Llanbrynmair, ac nid oedd un eglwys Annibynol yn y Gogledd, yn y tymor hwnw, nad ymwelai efe a hi unwaith neu ddwy bob blwyddyn. Tua y flwyddyn 1745, symudodd o Lanbrynmair i Faesyronen, Maesyfed, a bu yno dair blynedd, yna dychwelodd at ei hen gyfeillion i Lanbrynmair. Byddai yn myned atynt yn fisol trwy ysbaid y tair blynedd y bu yn Maesyronen, ac ni chafodd lonyddwch ganddynt hwy na chan ei feddwl ei hun nes iddo ddychwelyd atynt. Mae yn debyg mai ei amgylchiadau teuluol a barodd y symudiad hwn, canys un o gymydogaeth Maesyronen oedd ei wraig. Ar ol llafurio drachefn yn Llanbrynmair a'r cylchoedd o 1748 hyd 1759, gwnaeth ei feddwl i fyny i symud i'r Deheudir ac i beidio dychwelyd mwy. Mewn cydsyniad a galwad yr eglwys yn Nhy'rdwneyn, symudodd yno yn 1759, ac yno y bu nes i lesgedd henaint ei orfodi yn y flwyddyn 1795, i roddi ei weinidogaeth i fyny. Mae yn debyg mai sefyllfa isel crefydd yn nghymydogaeth Abertawy, yn nghyda'r ystyriaeth fod Mr. Richard Tibbot yn un cymwys yn mhob ystyr i gymeryd ei le yn Llanbrynmair, a'i harweiniodd i'r penderfyniad i symud, a dangosodd ei lwyddiant yn y cylch hwn, a llwyddiant Mr. Tibbot yn Llanbrynmair, iddo wneyd yr hyn oedd yn unol a meddwl yr Arglwydd. Ar ol rhoddi ei ofal gweinidogaethol i fyny yn y Mynyddbach, Ysgetty, a Threforis, parhaodd Mr. Rees i bregethu yn achlysurol hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Bu farw mewn tangnefedd yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, Mr. John Davies, Llansamlet, Mawrth 21ain, 1800, yn 90 oed, ar ol bod yn pregethu yr efengyl am tua thriugain a deg o flynyddau. Ei destyn diweddaf yn y Mynyddbach oedd, "Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio." Dywedir fod yr oedfa hono yn nodedig o doddedig. Claddwyd ef yn mynwent y Mynyddbach. Ar yr achlysur pregethwyd gan Mr. Evan Davies, Llanedi, oddiar Luc ii. 29. Testyn a ddewisasid gan yr ymadawedig flynyddau cyn ei farwolaeth.

Tua y flwyddyn 1740, priododd Mr. Rees ferch Mr. Abraham Penry, gwr cyfrifol o ardal Maesyronen, a bu yn ddedwydd iawn yn ei sefyllfa briodasol am bedair blynedd-ar-ddeg-a-deugain. Cawsant chwech o blant, yr ail o ba rai oedd yr enwog Dr. Abraham Rees. Eu hunig ferch oedd Mary, gwraig Mr. John Davies, Llansamlet. Pan aeth Mr. Rees at ei dad-yn-nghyfraith i ofyn ei ganiatad i gael ei ferch yn wraig, gofynodd iddo pa eiddo oedd ganddo i gyfateb i'r hyn oedd ganddo ef i'w roddi gyda'i ferch. Yntau a ymaflodd mewn Bibl, ac a atebodd, "Hwn yw fy nghynysgaeth i." Boddlonodd hyny Mr. Penry, a chaniataodd iddo gael ei ferch yn wraig.

Yr oedd Mr. Rees yn un o'r gweinidogion mwyaf enwog, llafurus, a defnyddiol yn ei oes. Teithiodd lawer trwy holl siroedd Cymru, ac yr oedd yn dderbyniol a defnyddiol pa le byang yr elai. Fel pregethwr rhagorai ar y rhan fwyaf o'i gydoeswyr, ac fel gweddiwr yr oedd heb ei ail. Sonia amryw o'i gydnabod am yr effeithiau digyffelyb a gydgerddent a'i weddiau cyhoeddus. A thra yr oedd ei gyflawniadau cyhoeddus agos bob amser yn cael eu dilyn gan effeithiau daionus, nid oedd ei ymddiddanion cyfrinachol a phersonau unigol a theuluoedd yn llai effeithiol. Unwaith aeth i dŷ i lettya, ac ar ol swper, adroddai y tad a'r fam wrtho gyda dagrau y gofid a deimlent o herwydd afradlondeb eu hunig blentyn, Thomas, yr hwn oedd yn troi allan yn llangc gwyllt iawn. Bore dranoeth cyn y weddi deuluaidd, ymaflodd Mr. Rees yn llaw y gwr ieuangc, a siaradodd ychydig yn effeithiol a serchus ag ef am fater ei enaid, ac yn ei weddi tywalltai allan ddymuniadau ei galon ar ei ran gyda dylanwad anorchfygol. Yn mysg pethau eraill, dywedai, "O Arglwydd, dywed wrth y Thomas hwn, Na fydd anghredadyn, ond credadyn." Dywedai Thomas ar ol hyny, fod y geiriau yn myned i'w galon fel cleddyf. Y canlyniad fu iddo gael ei wir droi at yr Arglwydd, a threuliodd weddill ei oes yn gristion hardd. Adroddai Mr. Roberts, Llanbrynmair, yr hwn oedd yn fab i un o gyfeillion mynwesol Mr. Rees, yr hanesyn canlynol:"Pan oedd Mr. Rees ar ymweliad yn Llanbrynmair, ar ol iddo symud i'r Mynyddbach, galwodd un diwrnod, tua chanol dydd, yn nhŷ fy nhad, ychydig wythnosau wedi marwolaeth fy mam. Ar ol ymddiddan ychydig a fy nhad, dymunodd am i'r plant gael eu galw yn nghyd i'r ystafell. Efe a eisteddai mewn cadair freichiau. Galwodd ato bob un o'r plant, ac yr oeddym yn saith o nifer. Ymaflodd yn llaw pob un o honom, o'r hen af i'r ieuengaf, gan ofyn ein henwau, a dywedyd ychydig eiriau caredig wrthym, cyfatebol i'n hoed. Ar ol darllen penod, ac egluro ychydig arni, aeth ar ei luniau a gweddiodd, gan ddymuno rhyw beth neillduol i bob aelod o'r teulu, ac enwi pob un o'r plant wrth ei enw. Er nad oeddwn i y pryd hwnw ond un-flwydd-ar-ddeg oed, gadawodd argraff ar fy meddw nas gall amser byth ei dileu." Nid yw yr hanesion hyn ond engreifftiau o'r hyn a wnelai y dyn da hwn yn gyffredin yn y teuluoedd yr elai iddynt.

Calfiniad cymedrol oedd Mr. Rees o ran ei olygiadau athrawiaethol, ond er nad oedd yn uchelgalfiniad yr oedd yn mhell o goleddu unrhyw gydymdeimlad a'r Arminiaeth anefengylaidd a bregethid gan lawer o weinidogion Ymneillduol ei oes. Teimlai sel angerddol dros athrawiaeth efengylaidd, tra yr oedd mor selog a hyny yn erbyn golygiadau antinomaidd. O herwydd ei fod yn dal mor dyn dros sancteiddrwydd ymarferol, yn ei bregethau, dywedodd dyn wrtho unwaith, "Pregethwch rad ras i'r bobl, ac fe ddysg gras iddynt wneyd eu dyledswydd." "Yr wyf yn ofni," atebai yntau, "y dysg eu llygredd iddynt beidio." Er fod ei fab, Dr. Abraham Rees, yn Arminiad uchel, os nad yn Ariad, nid oedd yn dylanwadu dim ar olygiadau efengylaidd ei dad. Darfu i'w sel dros syniadau efengylaidd gyffroi Mr. Rees, yn y flwyddyn 1793, pryd yr oedd yn dair-a-phedwar-ugain oed, i gyfieithu a chyhoeddi pregeth Dr. Bogue, ar y "Mawr bwys o fod ein tybiau mewn crefydd yn gyson a'r Ysgrythyr." Er ei fod yn selog dros ei olygiadau neillduol ei hun, yr oedd yn ddyn nodedig o ryddfrydig. Cyfeillachai lawer a'r Methodistiaid, ac fel y mae yn hysbys, trwy ei anogaeth ef yr aeth Mr. Howell Harris gyntaf i'r Gogledd. Er iddo gael mesur o ofid yn Llanbrynmair o herwydd y croesolygiadau ar fedydd oedd yn yr eglwys, a bod rhai o'r Bedyddwyr mwyaf penboeth yn feio, etto yr oedd y rhai duwiolaf a mwyaf rhyddfrydig o'r enwad hwnw, yn gystal ag enwadau eraill, yn ei anwylo a'i barchu. Aeth un o weinidogion y Bedyddwyr yn Abertawy ato unwaith i ofyn benthyg ei geffyl i fyned i daith i bregethu. "Cewch a chroesaw frawd anwyl, canys dyfroedd lawer nis gallant ddiffoddi cariad," oedd ei ateb iddo. Yn 1812, cyhoeddwyd llyfryn bychan o hanes bywyd Mr. Rees, gan Mr. Roberts, Llanbrynmair. Ond gan na chyhoeddwyd dim am dano hyd ben deuddeng mlynedd ar ol ei farwolaeth, a phan oedd y rhan fwyaf o'r rhai a'i cofient yn nyddiau ei nerth wedi meirw, a chan nad ymddengys fod Mr. Rees yn arfer cadw cofnodion ysgrifenedig o'i lafur a'i helynt, y mae canoedd o ffeithiau dyddorol yn ei hanes wedi eu colli. Dydd y farn yn unig a ddengys y daioni a wnaed ganddo yn Neheudir a Gogledd Cymru.

DAVID DAVIES. Rhoddir ei fywgraphiad ef yn nglyn a hanes Ebenezer, Abertawy.

DANIEL EVANS. Ganwyd Daniel Evans mewn anedd-dy o'r enw Maindala, yn mhlwyf Eglwyserw, yn sir Benfro, Ionawr 16eg, 1774. Enwau ei rieni oedd David ac Ann Evans, ac yr oeddynt yn bobl onest a pharchus yn ngolwg eu cymydogion. Symudodd ei rieni cyn hir ar ol geni Daniel Evans, i le a elwir Trefygin, ac oddiyno drachefn i le a elwir Treboeth, yn mhlwyf Trewyddel. Cafodd yma ychydig fanteision addysg, gwell nag a roddid yn gyffredin i blant yn y dyddiau hyny. Nid oedd ond egwan o gorph y pryd hwnw, ac oblegid hyny, gadawyd ef yn hwy yn yr ysgol na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion. Dysgodd ddarllen ac ysgrifenu, ac ychydig o rifyddiaeth a Gramadeg Saesonaeg. Pan yn ddeuddeg oed rhwymwyd ef yn egwyddorwas gyda dilledydd, ac wedi treulio dwy flynedd felly, bu yn gweithio o fan i fan yn y gymydogaeth. Yr oedd er yn ieuangc o duedd fyfyrgar, a dilynai bobl oedranus i foddion gras, a dywedai fod arno er yn blentyn awydd am fyned yn bregethwr. Pan tua phymtheg oed teimlodd argraffiadau crefyddol cryfion ar ei feddwl, yn benaf trwy bregethau ei hybarch weinidog, Mr. John Phillips, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn Nhrewyddel. Yn fuan wedi ei dderbyniad yn aelod, barnodd yr eglwys a'r gweinidog fod cymhwysderau ynddo at y weinidogaeth, ac anogwyd ef i barotoi at hyny. Gwnaeth y prawf cyntaf ar bregethu yn nhy ei hen weinidog, Mr. Phillips, ac er mai gwan oedd yn ei farn ei hun, etto cymhellid ef i fyned yn mlaen, ac felly y bu am ysbaid blwyddyn yn pregethu ychydig o dŷ i dŷ cyn cael ei gydnabod yn bregethwr rheolaidd gan yr eglwys. Galwyd arno i bregethu mewn cyfarfod eglwysig yn y capel, ac wedi ei wrandaw, pasiwyd penderfyniad i'w gymeradwyo i sylw eglwysi eraill, pa le bynag y byddai galwad am dano; ac ar ol hyn pregethai fynychaf yn rhywle bob Sabboth. Nid oedd etto wedi cyrhaedd ei ddeunaw mlwydd oed, a pharhai i ddilyn ei alwedigaeth bob dydd, a phregethu y Sabboth lle y gelwid am ei wasanaeth. Pan tua 22 oed, gwahoddwyd ef i Lanwrtyd i gydlafurio a Mr. Isaac Price yno, ac yn Nhroedrhiwdalar, a bu yno yn llafurio yn ddiwyd a chyda chymeradwyaeth am dair blynedd. Yn yr ysbaid y bu yn Llanwrtyd, priododd a Mrs. Mary Jones, gweddw Mr. Rhys Jones, Llawrdre, yn mhlwyf Llanwrtyd, yr hon oedd yn lled gysurus arni o ran ei hamgylchiadau bydol, ac heb ond un ferch. Yn y flwyddyn 1799, penderfynodd fyned ar daith trwy y Gogledd. Nid oedd etto wedi yn teimlo i ei urddo i holl waith y weinidogaeth, ac ymddengys ei fod raddau oblegid arafwch yr hen weinidog a'r eglwysi yn symud yn mlaen at hyny. Yr oedd yr hybarch D. Williams, Llanwrtyd yn fachgenyn ieuangc yn cychwyn gydag ef i'r daith hon. Ymwelsant a Bangor, İle yr oedd eglwys fechan heb weinidog, oblegid symudiad Mr. W. Hughes i Ddinas Mawddwy rai blynyddau cyn hyny. Derbyniodd Mr. Evans alwad gan yr eglwys yn Mangor; ac wedi ymgynghori a Dr. Lewis, a Meistri J. Griffith, Caernarfon; B. Jones, Pwllheli, a J. Powell, Rhosymeirch, y rhai a'i cymhellent i gydsynio, atebodd yr alwad, a symudodd i Fangor yn nechreu y ganrif bresenol. Yr oedd Mr. Price, a'r eglwysi oedd dan ei ofal erbyn hyn yn anfoddlawn iddo symud, ond yr oedd ei wraig yn gryf dros fyned, a theimlai yntau y gallasai fod o fwy o ddefnydd yn Mangor yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Mangor, urddwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Griffith, Caernarfon; holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Davies, Treffynon; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. B. Jones, Pwllheli. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri J. Evans, Amlwch; J. Powell, Rhosymeirch; J. Jones, Ceirchiog, a T. Jones, Beaumaris. Nid oedd rhifedi yr aelodau ar ei sefydliad yn Mangor ond pump-ar-hugain, ac yr oedd y capel mewn man anghyfleus, y tu allan i'r ddinas. Deg punt y flwyddyn oedd y cwbl a allent addaw iddo, ac nis gallasai fyw oni buasai yr ychydig eiddo oedd gan ei wraig. Llwyddodd Mr. Evans i gael lle i adeiladu capel mewn man mwy cyfleus yn y ddinas, a gwelodd y fath lwyddiant ar ei lafur, fel yr oedd rhifedi yr aelodau wedi cynyddu cyn ei ymadawiad a'r lle i driugain-a-deg. Nid ymfoddlonodd Mr. Evans yn unig ar lafurio yn Mangor a'r amgylchoedd, ond ymestynodd ei lafur i Lanfairfechan, Dwygyfylchi, Henryd, a Llanrwst, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at hanes yr eglwysi hyny. Cyfarfu a phrofedigaethau yn ysbaid ei arosiad yn Mangor. Bu farw ei wraig, ac yn fuan bu farw ei merch, a gadawyd yntau yn unig; a chan fod eiddo y wraig yn dychwelyd ar farwolaeth y ferch i deulu y gwr cyntaf, nid oedd gan Mr. Evans yn awr ond y weinidogaeth i ymddibynu arni, heblaw yr ychydig a ennillai oddiwrth y gelfyddyd o rwymo llyfrau, yr hon a ddysgodd ar ol ei sefydliad yn Mangor. Cyn hir, priododd a merch ieuangc o'r enw Miss Elizabeth Lewis, yr hon oedd yn aelod o'r eglwys dan ei ofal, yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys, ac o'r hon y ganwyd iddo wyth o blant. Wrth weled ei deulu yn cynyddu, a'r eglwys yn Mangor yn rhy wan i'w gynal, a rhyw gynhenau wedi ymlusgo i mewn, gwnaeth Mr. Evans ei feddwl i fyny i ymadael, a chyn gynted ag y deallwyd hyny, derbyniodd alwadau oddiwrth luaws o eglwysi gweigion, ond tueddwyd ei feddwl i gydsynio a galwad hen eglwys barchus Mynyddbach, a symudodd yno yn Mehefin 1808. Dechreuodd ei weinidogaeth yn y Mynyddbach fel cydlafurwr a'r enwog David Davies, ond yn fuan barnwyd yn ddoethach, fel y crybwyllasom, i ranu y maes eang, a disgynodd y Mynyddbach a Threforis i ran Mr. Evans. Am lafur a gweithgarwch Mr. Evans yn y maes eang yma, caiff hanes y lleoedd a gychwynodd ac a faethrinodd lefaru pan y deuwn atynt; ond gallwn ddyweyd yma na bu gweinidog erioed yn cael ei barchu yn fwy gan bobl ei ofal na Mr. Evans, ac er iddo orfod rhoddi rhai o'r eglwysi i fyny cyn ei farwolaeth o herwydd eangder cylch ei weinidogaeth, etto, yr oedd ganddo fawr ofal am danynt hyd ei ddiwedd, ac edrychent hwythau i fyny ato yntau fel eu tad. Yn y flwyddyn 1820, claddodd Mr. Evans ei ail wraig, yn 36 oed, gan ei adael yn unig gyda phump o blant bach ar ganol eu magu. Bu farw merch iddo yn bedair-ar-ddeg oed, yn mhen blwyddyn ar ol ei mam, ac yn mhen rhai blynyddau bu farw ei fab hynaf yn bedair-ar-bymtheg oed. Cafodd felly fel y gwelir ei ran o drallodion teuluol. Priododd drachefn a Miss Jane John, o'r hon y ganwyd iddo ddau o blant, a'r hon a adawodd yn weddw ar ei ol.

Yr oedd Mr. Evans yn wr galluog mewn corph a meddwl-yn addfwyn a phwyllog o ran ei dymer-yn nodedig o graff o ran ei sylw a'i farn, fel y diangodd heb gael ond ychydig o ofid yn ei gysylltiadau eglwysig. Yr oedd yn bregethwr sylweddol, ac yn traddodi yn rymus, ac yn ddigon hyawal i fod yn foddhaol gan unrhyw gynnulleidfa; ond gan bobl ddeallgar y gwerthfawrogid ef fwyaf. Oran ei olygiadau duwinyddol Calfiniad cymhedrol oedd Mr Evans. Yr oedd wedi darllen gweithiau Dr. Edward Williams ac Andrew Fuller, ac i'r ysgol hono y perthynai, er na ddywedai bob peth yn hollol yn eu ffordd hwy. Ysgrifenodd amryw draethodau, i'r rhai y rhoddwyd lledaeniad eang yn adeg eu cyhoeddiad. Traethawd ar gadwedigaeth babanod, Y Cawg Aur, Cawell y bara croyw, Rhesymau dros Ymneillduaeth, Llyfr Hymnau, &c.; heblaw y bywgraphiadau a ysgrifenodd i Meistri Lewis Rees, Mynyddbach; J. Davies, Alltwen; W. Evans, Cwmllynfell; J. Davies, Llansamlet, ac eraill. Cyhoeddodd hefyd Leferydd yr asyn, yn erbyn Vicer Penbre am ailfedyddio plentyn, ar ol Mr. Howell Williams, Llanelli. Yr oedd yn weithiwr difefl, cyn y gallagai wneyd cymaint o waith, ac erys ei goffadwriaeth yn barchus yn y wlad lle y treuliodd ei oes i lafurio. Bu Mr. Evans yn gwaelu am beth amser. Y Sabboth diweddaf y pregethodd oedd Rhagfyr 7fed, 1834, yn y Mynyddbach, y boreu, ac yn Siloh, Glandwr, am dri o'r gloch yn y prydnawn. Ei destyn diweddaf ydoedd, Marc xvi. 15. "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Y dydd Iau canlynol aeth i lawr i ardal Glandwr i gasglu at yr ymdrech a wneid ar y pryd i dalu dyledion capeli yn Nghymru. Tarawyd ef gan boen yn ei ochr, yr hwn a'i blinodd dros rai dyddiau-yna trodd yn beswch blin, yr hwn a lynodd wrtho hyd nes y rhyddhawyd ef gan angau ganol dydd, Mawrth 3ydd, 1835, yn 61 oed. Claddwyd ef y Llun canlynol, yn mynwent y Mynyddbach, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Roberts, Abertawy, (un o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd); J. Evans, Crwys; D. R. Stephens, Abertawy, (un o weinidogion y Bedyddwyr), a W. Jones, Penybont-ar-ogwy; ac yr oedd mwy nag ugain o weinidogion eraill yn bresenol. Dygwyd holl draul y claddedigaeth gan yr eglwysi a fuasai dan ei ofal cyhyd, ac yr oedd galar mawr drwy yr holl wlad y diwrnod y rhoddwyd Daniel Evans, Mynyddbach yn "nhy ei hir gartref."

JOHN DAVIES. Ganwyd ef mewn amaethdy bychan ar y Drefboeth, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain o Langafelach i Abertawy, Mai 10fed, 1803. Bu farw ei dad pan yr oedd ef yn ieuangc iawn, ac felly ni chafodd nemawr o fanteision addysg yn ei febyd, am iddo orfod myned i weithio i'r gwaith glo pan yr oedd tua deg oed, er cynorthwyo ei fam weddw i fagu ei theulu. Yn mis Mawrth, 1821, pryd yr oedd yn agos i ddeunaw mlwydd oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Mynyddbach gan Mr. D. Evans, ac yn nechreu y flwyddyn 1828, anogodd yr eglwys ef i ddechreu pregethu. Yn mhen tua blwyddyn wedi hyny aeth i'r ysgol at Mr. Evans o'r Crwys, lle y bu am chwe' mis yn dysgu y Gramadeg Saesoneg. Yn Mehefin, 1831, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Llantrisant, Morganwg, lle yr urddwyd ef Gorphenaf 14eg, yn yr un flwyddyn. Bu yn llafurio yno, ac am dymor yn Nhresimwn, mewn cysylltiad a Llantrisant, hyd Gorphenaf, 1836, pryd y symudodd i Aberdare, i gymeryd gofal yr eglwysi yn Ebenezer, Heolyfelin, a Nebo, Hirwaun. Yn Ebrill, 1840, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam-eglwys yn y Mynyddbach, a'r hon y cydsyniodd, er mor ddigalon oedd agwedd pethau yno y pryd hwnw, o herwydd y rhwygiad oedd newydd gymeryd lle yno. Ni bu ei lafur yn ddilwydd. Cynyddodd yr eglwys yn raddol, fel yr oedd yr aelodau tua dau gant o rif yn hir cyn ei farwolaeth ef. Ar amser ei symudiad o Aberdare, i'r Mynyddbach, priododd a Miss Mary Stephens, o Benycae, Mynwy, o'r hon y cafodd saith neu wyth o blant. Gan fod traul ei deulu yn fwy na'r hyn a dderbyniai oddiwrth yr eglwys, ymgymerodd ag arolygiaeth pwll glo yn y gymydogaeth. O herwydd fod rhy fach o awyr mewn rhyw fan yn y gwaith, aeth ef i mewn i edrych y lle, ac aeth yn rhy bell, fel y syrthiodd yn farw o ddiffyg awyr i anadlu. Cymerodd hyn le Medi 6ed, 1854. Yn mhen rhai blynyddau ar ol ei farwolaeth ymfudodd ei feibion i'r America, ac y mae eu mam er's pedair neu bum' mlynedd bellach wedi myned yno atynt. Y mae dau o'i feibion yn weinidogion yn America.

Yr oedd John Davies yn ddyn cryf ac iachus iawn o gorph, yn un o feddwl gweithgar, ac yn siaradwr grymus dos ben. Nid oedd yn naturiol chwaethus a choethedig o ran ei feddwl, ond pe buasai yn cael addysg dda yn moreu ei oes yr oedd ganddo ddigon o alluoedd i'w gymhwyso i droi yn un o gylchoedd pwysicaf y weinidogaeth yn Nghymru. Yn anngwrteithiedig fel yr ydoedd gwnaeth lawer o ddaioni yn ei dymor. Cyhoeddodd gyfrol a alwai Arch y Cyfamod, ac un arall dan yr enw Clorian y Cysegr, yn nghyda nifer mawr o fan lyfrau ar wahanol byngciau, ac yr oedd wedi cyhoeddi amryw ranau o Eiriadur Duwinyddol, ond bu farw cyn ei orphen. Mae yr hyn oll a ysgrifenodd yn fuddiol ac iachus o ran athrawiaeth, ond nad oes mewn dim a ysgrifenodd un radd o wreiddiolder, tlysni, nac arwydd o athrylith; ac y mae ei ysgrifeniadau ef, fel cynnyrchion miloedd o awdwyr eraill, yn debyg o syrthio i ebargofiant. Pa fodd bynag, dengys ei ysgrifeniadau, yn gystal a'i lafur dibaid fel pregethwr, ei fod yn weithiwr difefl. Yr oedd yn ddyn pur ei fuchedd, ac yn un o'r dynion mwyaf diddrwg a charedig a sangoda y ddaear erioed. Cyfarfyddodd a llawer o helbulon yn mlynyddau diweddaf ei oes, ond cadwodd ei gymeriad moesol yn ddifrycheulyd ynddynt oll. Mae bedd-faen hardd wedi ei osod ar ei fedd yn mynwent y Mynyddbach.

Nodiadau

[golygu]
  1. State Papers. Interregnum. Vol. 286. Page 136.
  2. Rees's History of Nonconformity in Wales. Page 209.
  3. The Lambeth MSS. Vol. 639. Broadmead Records. Page 514.
  4. Dr. John Evans's MSS.
  5. Merch Mr. Rees, y gweinidog, ac wedi hyn, gwraig Mr. John Davies, Llansamlet.
  6. History of the parish of Aberystruth. Page 113.