Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Pentre-Estyll
| ← Zoar, Abertawy | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Cwmbwrla → |
PENTRE-ESTYLL.
Mae y lle hwn o fewn milldir i Abertawy, ar y ffordd i Langafelach. Yr oedd ugeiniau o aelodau Ebenezer yn byw yn yr ardal hon er dechreuad yr achos yn y dref, a llawer o'r preswylwyr yn perthyn i'r Mynyddbach cyn hyny. Cychwynwyd yma Ysgol Sabbothol effeithiol rai blynyddau cyn fod son am adeiladu capel yn y lle. Dau neu dri o aelodau Ebenezer ddarfu ei chychwyn, ac ar y pryd nid oedd y cyfeillion yn Ebenezer yn gwbl foddlon i hyny, rhag ofn y buasai yr ysgol hono yn gwanychu yr ysgol oedd ganddynt yn barod yn Mhentrefgethin. Pa fodd bynag, yn mlaen yr aeth yn llwyddianus. Pan ddarfu cysylltiad Mr. T. Davies ag eglwys Ebenezer, yn Mehefin, 1842, glynodd llawer o'r aelodau yn nghymydogaeth y Pentre wrtho a chawsant eu ffurfio yn eglwys ganddo. Ar ol bod am beth amser yn addoli mewn anedd-dai yn yr ardal, adeiladwyd capel yma, yr hwn a agorwyd Mai 15fed a'r 16eg, 1844, pryd y pregethwyd gan Meistri Williams, Aberafon; Davies, Cwmaman; Watkins, Canaan; Griffiths, Castellnedd; Stedman, Newton, a Powell, Caerdydd. Maint y capel hwn oedd 30 troedfedd wrth 30 y tu fewn i'r muriau, a chan fod oriel gyfleus ynddo, cynwysai lawer o bobl. Bu Mr. Davies yn gweinidogaethu yma i gynnulleidfa wresog hyd derfyn ei oes, yn Awst, 1861. Yn niwedd y flwyddyn 1862, rhoddwyd galwad i Mr. David A. Jones, Cwmsaerbren, a chynnaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Tachwedd 18fed a'r 19eg, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri J. Davies, Aberaman; J. Morgans, Cwmbach; T. Rees, D.D., Abertawy; W. Williams, Hirwaun; D. Evans, Salem, Llandilo; D. Price, Aberdar; J. Thomas, Bryn, a W. Thomas, Rock. Yn 1864, dechreuwyd adeiladu capel newydd yma, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn ganlynol. Mae hwn yn gapel prydferth dros ben, yn mesur 60 troedfedd wrth 40. Costiodd 1,500p., ac y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa trwy eu hymdrechion diflino wedi tynu y ddyled i lawr i dri chant, ac y maent yn debyg o dalu y geiniog olaf yn fuan. Yn mis Medi, 1865, rhoddodd Mr. Jones ei ofal weinidogaethol i fyny, a symudodd o'r ardal. Yn mis Ebrill, 1866, dechreuodd Mr. W. Jenkins, Brynmawr, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau i lanw ei gylch gyda pharch, llwyddiant, a dylanwad mawr yn yr eglwys a'r ardal. Tua thair blynedd yn ol adeiladodd yr eglwys anedd-dy hardd o werth 500p. i'w gweinidog. Byddai yn ddymunol i bob eglwys ddilyn ei hesiampl yn hyn. Mae rhif yr aelodau yma rhwng tri a phedwar cant, ac er nad oes yma nemawr yn uwch eu sefyllfa na gweithwyr, y maent wedi gwneyd mwy mewn pethau arianol at achos crefydd na llawer o gynnulleidfaoedd sydd yn ymffrostio yn eu masnachwyr cyfoethog a'u tirfeddianwyr.
Y rhai canlynol, cyn belled ag y gwyddom ni, yn unig a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon :
Richard Martin. Yn Zoar, Abertawy, y mae efe yn bresenol yn aelod.
David Prosser. Urddwyd ef yn ddiweddar yn weinidog yr eglwysi yn yr Aber a Thalybont, Brycheiniog.
David Evans. Y mae efe newydd orphen ei efrydiaeth yn athrofa Caerfyrddin, ac i gael ei urddo yn fuan yn Rehoboth, Brynmawr.
Richard Williams. Y mae efe yma yn awr yn aelod, ac yn bregethwr cynorthwyol.
David Evans. Mab i'r enwog Mr. Daniel Evans, Mynyddbach yw efe. Dechreuodd bregethu yma yn ddiweddar.
Joseph Devonald. Mae yn awr yn fyfyriwr yn yr athrofa Normalaidd, yn Abertawy.
William Stephen Jenkins, mab Mr. Jenkins, y gweinidog. Mae y gwr ieuangc gobeithiol hwn yn awr yn fyfyriwr yn New College, Llundain.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn Ninbych yn y flwyddyn 1796. Gof, mewn amgylchiadau bydol cysurus oedd ei dad. Derbyniwyd ef yn dra ieuangc yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Ninbych, gan Mr. Thomas Powell. Wedi iddo ddechreu pregethu aeth i'r athrofa i Lanfyllin. Yn niwedd y flwyddyn 1817, aeth ef a'i gydfyfyriwr Mr. John Ridge, wedi hyny o Cendl, ar daith trwy y Deheudir, a chafodd ei hoffi mor fawr gan yr eglwysi yn Ebenezer, Abertawy, a'r Ysgetty, fel y rhoddasant iddo alwad unfrydol i ddyfod yn ganlyniedydd i'r enwog David Davies. Urddwyd ef yn Ebenezer, Ebrill 23ain, 1818, ac er nad oedd y pryd hwnw dros ddwy-ar-hugain oed, yr oedd o ran galluoedd a doniau yn berffaith addas i lenwi y cylch pwysig y gelwesid ef iddo. Parhaodd i weinidogaethu yn Ebenezer a'r Ysgetty am fwy na phedair-blynedd-ar-hugain, ac am y deuddeg, neu y pymtheg mlynedd cyntaf o'i dymor, yr oedd yn sefyll yn rhyfeddol o uchel yn ngolwg pobl ei ofal, ac yn ngolwg gweinidogion ac eglwysi y wlad yn gyffredinol. Pan dorodd y diwygiad dirwestol allan tua y flwyddyn 1835, rhoddwyd tôn newydd i'r farn gyhoedd gyda golwg ar ddiotta a chyfeddach, fel na oddefid mwyach, fel cynt, i broffeswyr crefydd, yn enwedig pregethwyr yr efengyl, fynychu tafarndai yn ddigondemniad. Nid oedd Mr. Davies yn flaenorol i hyn, am ddim a wyddom ni, yn waeth na'r rhan fwyaf o'i frodyr, ond gan iddo barhau yr un fath wedi i'r farn gyhoedd newid, aeth ei ymddygiad i ymddangos yn fwy gwrthun ac annoddefol. Yn Mehefin, 1842, barnodd mwyafrif eglwys Ebenezer mai eu dyledswydd oedd ymwrthod ag ef fel eu gweinidog. Pan fwriwyd ef allan gan eglwys Ebenezer, derbyniwyd ef, fel v crybwyllasom eisioes, gan yr eglwys oedd newydd gael ei ffurfio yn y Victoria Rooms; ac yr oedd niferi o aelodau Ebenezer yn ardal Pentre-estyll, mor hoff o hono, fel yr ymffurfiasant yn eglwys gan ei ddewis ef yn weinidog. Rai blynyddau cyn ei farwolaeth, er fod ei nerth corphorol yn parhau, yr oedd ei gof wedi myned yn ddiffygiol iawn, fel na fedrai wneyd dim ond traddodi yr hen bregethau y buasai yn gyfarwydd a hwy gynt. Bu farw yn ddisymwth iawn Awst 23ain, 1861, yn driugain-a-phump oed, a chladdwyd ef wrth gapel yr Ysgetty. Yr oedd miloedd lawer o bobl yn ei angladd. Dywedir na welwyd y fath angladd erioed yn Abertawy, oddieithr angladd Henry John Vivian, Ysw., A.S. Er ei holl golliadau, yr oedd Thomas Davies yn ddyn o'r fath ag a orfodai fyd ac eglwys i'w anwylo.
Yr oedd o ran ei ymddangosiad corphorol yn un o'r dynion harddaf a mwyaf mawreddog a welsom erioed. Yr oedd tua phum' troedfedd a deg moedfedd o daldra, ac o wneuthuriad cadarn a lluniaidd, heb ddim yn anffurfiol ynddo o'i goryn i'w draed. Teimlai pob un wrth edrych arno fod ynddo fawredd na pherthynai i un o bob deng mil o blant Adda. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, naturiol, esmwyth, a dylanwadol, a chanddo lais cryf, cyflawn, a pherseiniol, heb ddim yn arw nac aflafar ynddo. O ran ei dymer yr oedd yn hynaws, caruaidd, ac heb un amser sarugrwydd i'w ganfod ar ei wedd. O ran ei feddwl yr oedd yn dreiddgar, eang, parod, a galluog anarferol. Yr oedd wedi ei wneyd gan Awdwr natur yn ddyn mawr, a phe buasai yn gwrteithio ei alluoedd, ac yn defnyddio ei amser yn briodol, prin yr ydym yn tybied y buasai un gweinidog o un enwad yn y Dywysogaeth yn uwch nag ef mewn defnyddioldeb ac enwogrwydd. Segurdod ac esgeulusdod o ddyledswyddau ei swydd bwysig fu yr achos o bob coll ynddo. Ond er ei holl wendidau mae yn ddiameu iddo wneyd llawer o ddaioni, etto, llai nag un ran o fil o'r hyn yr oedd natur a Rhagluniaeth wedi ei gymhwyso i'w wneyd. Dylai hanes y dyn rhyfeddol hwn fod yn rhybudd difrifol i bob dyn ieuangc talentog i ochelyd cymeryd ei ryddid i fod yn segur ar gefn ei ddoniau a'i dalentau naturiol, oblegid pa fwyaf o dalentau a roddir i ni, mwyaf o gynyrch a ddysgwylia ein Harglwydd oddiwrthym. Nid y dynion mwyaf eu galluoedd naturiol sydd, fel rheol, wedi bod y rhai mwyaf defnyddiol, ond dynion o dalentau cyffredin yn gwneyd y defnydd goreu o honynt.