Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Rhydyfro
| ← Gwaunarlwydd | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Casllwchwr → |
RHYDYFRO.

Pentref bychan tua milldir a haner o Bontardawy, ar y ffordd sydd yn arwain oddiyno i Langadog, yw y lle hwn. Yn mhlwyf Llanguwg y mae. Nid oedd y gymydogaeth hon ychydig flynyddau yn ol ond lled deneu ei phoblogaeth, ac anghyfleus i'r ychydig drigolion i fwynhau breintiau crefyddol; ond er hyny yr oedd amryw bobl grefyddol yn byw yn yr ardal o oes i oes er's ugeiniau o flynyddau. Y Gellionen oedd addoldy yr ardalwyr hyn cyhyd ag y parhawyd i bregethu athrawiaeth efengylaidd yno. Wedi adeiladu capel Baran yn 1805, yno y byddai y rhan fwyaf o honynt yn cyrchu. O'r pryd yr adeiladwyd Baran hyd y flwyddyn 1828, nid oedd un math o foddion crefyddol yn cael eu cynal yn ardal Rhydyfro, oddieithr ambell bregeth achlysurol mewn anedd-dai. Yn y flwyddyn hono torodd diwygiad crefyddol grymus allan trwy yr holl wlad, a chafodd yr ardal hon, yn mysg ardaloedd eraill, ran o'r gawod fendithiol, ac ymunodd amryw o'r ardalwyr a'r eglwysi yn Baran, yr Alltwen, a Charmel Llanguwg. Tua yr amser hwn daeth William Hopkin i fyw i'r ardal, a bu yn offerynol i gael gan yr ychydig frodyr yn y gymydogaeth i osod i fyny gyfarfod gweddi bob nos Sabboth. Enwau y brodyr a unasant yn y gwaith da hwn gyda W. Hopkin oeddynt Howell Llewellyn, Evan Howell, Job Morgan a'i fab, Thomas Howell, Llewellyn William, a Dafydd Morgan; ac yn fuan wedi hyny ymunodd Owen Evans a hwy. Yr oedd hefyd yn eu mysg rai gwragedd rhagorol megis Catherine Llwyd, Margaret Edwards, a gwraig Hopkin Harry. Yn fuan ar ol hyn cafwyd pregethu lled gyson yn yr ardal. Byddai y naill neu y llall o'r pregethwyr ieuangc o ysgol Mr. Howells, Baran, yma agos bob nos Sabboth. Coffeir yn barchus am ffyddlondeb Mr. W. Williams, yn awr o Hirwaun, a Mr. John Jones, yr hwn a ymfudodd i'r America, yn ymweled a'r ardal hon pan yr oeddynt yn ysgol Baran. Wedi i bethau fod mewn agwedd lewyrchus iawn am dymor yma cyfododd ysbryd ymfudo yn yr ardalwyr, ac aeth amryw o'r crefyddwyr ffyddlonaf o'r ardal hon i'r America, a bu y cyfarfod gweddi yn agos i farw ar ol eu colli. Ond trefnodd Rhagluniaeth yn garedig i ragflaenu hyny trwy arwain hen frawd ffyddlon a nodedig o wresog o'r enw Dafydd Jones i fyw i felin Gelligron, tua y flwyddyn 1832. Bu ef yn foddion, nid yn unig i adfywio y cyfarfod gweddi, ond hefyd i gychwyn ysgol Sabbothol yn yr ardal, yr hon a fu o fendith ddirfawr i'r ieuengctyd ac eraill. Effeithiodd yr ysgol i luosogi y cynnulleidfaoedd a ddeuent i'r cyfarfodydd gweddio ac i wrando y pregethau, a theimlid fod yr anedd-dai yn anghyfleus iawn, yn enwedig at gynal yr ysgol. ngwyneb hyn aed i feddwl a siarad am adeiladu ysgoldy bychan at gadw yr ysgol, a moddion crefyddol eraill, ar brydnawn a nos y Sabboth, ond ni fwriedid llai na myned i fyny i Baran bob bore Sabboth. Penodwyd William Hopkin, Godregarth, ac Owen Evans, Llwynmudw, i fyned trwy yr ardal i gasglu addewidion at yr ysgoldy. Cawsant dderbyniad caredig ac addewidion mwy haelionus nag a ddisgwylient yn mhob man. Wedi galw yn mhob ty yn y Fro, aethant i'r Mynydd-dir, yn nghymydogaeth Baran, ar yr un neges, ond yn lle cymorth, sarugrwydd a gawsant gan mwyaf yno, am yr ofnid y buasent ar ol cael ysgoldy yn llwyr ymadael a'r fam eglwys, Darfu i angharedigrwydd pobl Baran, yn lle rhagflaenu ymadawiad pobl Rhydyfro, ei gyflymu. Pan welodd pobl y Fro fod pobl y Mynydd-dir yn wrthwynebol iddynt, yn lle adeiladu ysgoldy, fel y bwriadent, adeiladasant gapel o werth £320, heb un oriel ynddo. Dechreuwyd adeiladu yn y flwyddyn 1843, ac wedi gorphen y gwaith ymadawodd tua deugain o'r aelodau o Baran, a chorphelwyd hwy yn eglwys Annibynol ar y 10fed dydd o Ionawr, 1844. Cymerodd Mr. Pryse, Cwmllynfell, yr hwn yn flaenorol oedd yn weinidog yr eglwys yn Baran, ofal y gangen hon, a pharhaodd ei gysylltiad a hi fel eu gweinidog hyd derfyn ei oes. Llwyddodd yr achos yn rhyfeddol dan ei ofal ef, fel yr oedd yr eglwys flynyddau cyn ei farwolaeth yn fwy na chant o aelodau, yr hyn oedd yn nifer fawr i ardal gyfyng a chymharol deneu ei phoblogaeth. Mae oriel wedi ei gosod yn y capel er's blynyddau bellach, y fynwent wedi cael ei harddu, a thy capel cyfleus wedi ei adeiladu yn ymyl, a'r cwbl yn ddiddyled. Wedi byw ar weinidogaeth achlysurol am oddeutu blwyddyn ar ol marwolaeth eu gweinidog parchus, rhoddodd yr eglwys hon ei hun yn 1870 o dan ofal Mr. John Jones, mewn cysylltiad a Charmel, Llanguwg, a'r Gwrhyd. Cymerasom y rhan fwyaf o'r hanes hwn o law ysgrifen Mr. Pryse, Cwmllynfell, yr hon a ysgrifenwyd ganddo lai na blwyddyn cyn ei farwolaeth.