Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Siloh, Glandwr

Oddi ar Wicidestun
Heolycastell, Abertawy Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Bethel, Llansamlet
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Glandŵr
ar Wicipedia

SILOH, GLANDWR.

Siloh (A), Glandŵr

Cyn dechreu yr achos yn y lle hwn, yr oedd trigolion yr ardal yn hynod am eu hanfoesoldeb a'u hanwybodaeth. Yn y flwyddyn 1822, dechreuodd rhai o aelodau y Mynyddbach gynal cyfarfodydd gweddio yn y gymydogaeth, a chychwynwyd yma ysgol ar nosweithiau o'r wythnos, ac ar y Sabboth. Dechreuwyd yr ysgol ar nos Fawrth mewn lle a elwir y Cwm. Sion Rosser, David Davies, David Rosser, David Williams, Joseph Maybery, William Rees, a Thomas Williams, oedd y prif offerynau i gychwyn yr ysgol. Ar ol bod yn y Cwm am dair wythnos, aeth y lle yn anghyfleus, a chan fol y gwaith copr, a elwir y Gwaithbach, yn sefyll ar y pryd, cawsant ganiatad gan Mr. Morgans, arolygydd y gwaith, i fyned i'r swyddfa (office) i gadw eu hysgol a'u cyfarfodydd. Aeth y lle hwnw drachefn yn rhy gyfyng, fel y bu raid iddynt symud i ystordy y gwaith. Buwyd fel hyn yn symud o fan i fan am agos ddwy flynedd. Yn 1824, cafwyd darn cyfleus o dir gan Syr John Morris, ar ba un yr ailadeiladwyd ysgoldy, yr hwn a alwyd y Coleg, o herwydd ei fod wedi cael ei amcanu at gadw ysgol ddyddiol yn gystal a gwasanaeth crefyddol. Wedi adeiladu y Coleg, cafwyd yma bregethu lled gyson agos bob nos Sabboth. Pan dorodd yr adfywiad mawr allan yn 1828, cynyddodd rhif yr aelodau i'r fath raddau, fel y barnwyd yn addas eu corpholi yn eglwys, a bu raid adeiladu capel helaeth ar ddarn o dir yn gyfochrog a'r Coleg. Gwnaed hyn yn y flwyddyn 1829. Yr oedd hwn yn addoldy prydferth, a chymharol helaeth. Galwyd ei enw ef Siloh. Llwyddodd yr achos yn fawr wedi cael addoldy cyfleus, fel erbyn 1840, yr oedd y tŷ hwn wedi myned yn rhy fychan, fel y bu raid ei ailadeiladu a'i helaethu yn y flwyddyn hono. Drachefn yn 1862, helaethwyd yr oriel, fel yr eistedda arni rai degau yn fwy nag o'r blaen, ac ar yr un amser cafodd yr eisteddleoedd oll eu had-drefnu, a'r holl adeilad ei brydferthu yn fawr.

Mr. D. Evans, Mynyddbach, oedd gweinidog cyntaf yr eglwys hon, yr hon a gorpholwyd ganddo yn eglwys Annibynol yn y flwyddyn 1828, fel y nodir uchod, ond o herwydd fod ei gylch gweinidogaethol mor eang, fel nas gallasai ymweled a Glandwr ond anfynych, dewiswyd Mr. E. Griffiths, Abertawy, yn gydweinidog ag ef yn Siloh, a buont ill dau yn gwasanaethu yr achos gyda ffyddlondeb mawr am rai blynyddau. Ar farwolaeth Mr. Evans, rhanwyd maes eang ei lafur rhwng tri gweinidog. Rhoddodd yr eglwys yn Nglandwr alwad i Mr. Robert Thomas, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd. Urddwyd Mr. Thomas yma Ebrill 18fed a'r 19eg, 1837. Y noson gyntaf gweddiodd Mr. W. Williams, Tredwstan, a phregethodd Mr. R. Pryse, Cwmllynfell, a Mr. J. Evans, Capel Sïon, oddiwrth Heb. ii. 16, a Job xix. 28. Dranoeth am 10, gweddiodd Mr. D. Roberts, Dowlais. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. D. Rees, Llanelli; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Abertawy; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, a rhoddwyd siars effeithiol i'r gweinidog ieuangc gan Mr. W. Williams, Wern, y pryd hwnw o Liverpool, dan weinidogaeth pa un y dygasid Mr Thomas i fyny yn Rhosllanerchrugog. Am 2, gweddiodd Mr. P. Griffiths, Alltwen, a phregethodd Mr. D. R. Stephen, (Bedyddiwr,) Abertawy, yn Saesoneg, a Mr. J. Hughes, Dowlais, oddiwrth Dat. ii. 27, a 1 Cron. xxix. 5. Yn yr hwyr, dechreuwyd gan Mr. Daniel Davies, (Bedyddiwr,) Abertawy, a phregethodd Mr. Williams, Wern, yn absenoldeb Mr. D. Williams, Llanwrtyd, ar ddyledswydd yr eglwys, a Mr. W. Jones, Penybont, i'r gynnulleidfa, oddiwrth Act. xiii. 15, a Salm. iv. 4.

Dwy flynedd fu tymor gweinidogaeth Mr. Thomas yma. Yn 1839, symudodd i Raiadrgwy, yn groes i deimladau ei bobl yn Nglandwr, ond barnai mai ei ddyledswydd oedd gwneyd hyny er mwyn iechyd ei deulu. Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ymadawiad Mr. Thomas, rhoddwyd galwad i Mr. W. Morris, Llanfyllin, yr hwn a ymsefydlodd yma yn Mai, 1839. Cynhaliwyd cyfarfod sefydliad Mr. Morris, Hydref 18fed a'r 19eg, a chymerodd y gweinidogion canlynol ran yn ngwasanaeth cyhoeddus y cyfarfod; Meistri J. Lewis, Caerodor; P. Griffiths, Alltwen; D. Rees, Llanelli; J. Evans, Crwys; W. Jones, Penybont; J. Davies, Aberdare; J. Evans, Capel Sion, a D. Evans, Castellnedd. Darfu i ddoniau poblogaidd Mr. Morris, ar unwaith orlenwi y capel, a chan fod gradd o ddiwygiad crefyddol yn yr holl eglwysi ar y pryd, aeth y capel yma yn llawer rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, felly, adeiladwyd y capel helaeth presenol yn 1840. Parhaodd Mr. Morris i lafurio gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd ddiwedd y flwyddyn 1847, ac yn nechreu y flwyddyn ganlynol symudodd i Birkenhead. Yn ddioed ar ol ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, Clydach, y gweinidog presenol. Mae Mr. Thomas wedi cyflawni ei waith fel gweinidog yma bellach am dair-blynedd-ar-hugain, ac y mae ol ei lafur i'w ganfod yn amlwg ar yr eglwys a'r ardal. Heblaw talu y ddyled drom oedd ar y capel pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, gosodwyd allan amryw ganoedd o bunau i'w helaethu a'i addurno, ac i adeiladu tŷ yn ei ymyl, ac ysgoldy hardd ar safle yr hen Goleg, yn 1862. Y mae hefyd ysgoldy eang wedi ei adeiladu ar y Brynhyfryd, lle y cedwir ysgolion dyddiol a Sabbothol, ac ysgoldy arall yn Mhlasmarl, yr hwn a adeiladwyd gan yr eglwysi yn Nglandwr, a Libanus, Treforis, cydrhyngddynt. Traul adeiladaeth y Coleg oedd 90p. ; y capel a adeiladwyd yn 1829, 560p.; y capel y 1840, 760p.; yr adgyweiriad, ac adeiladau oddiamgylch iddo yn 1862, 900p. Costiodd ysgoldy Brynhyfryd 600p., a rhan eglwys Siloh o ysgoldy Plasmawr 160p. Fel hyn gwelir fod yr eglwys weithgar hon wedi gosod allan ar ei chapeli a'i hysgoldai, heb gyfrif y llogau, dros dair mil o bunau mewn saith-mlynedd-a-deugain, ac y mae dros ddwy ran o dair o'r swm hwn wedi ei wneyd yn yr ugain mlynedd diweddaf.

Yr aelodau cyntaf a dderbyniwyd yma wedi sefydliad yr achos oedd Mr. Robert Morgan, a'i wraig. Enwau y diaconiaid yma o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol ydynt Joseph Maybery, David Williams, a adwaenir wrth yr enw "Cymro o Mexico;" William Rees, Robert Monger, William Williams, William Hughes, Samuel Hughes, Evan Griffiths, yr hwn sydd yn awr yn aelod yn Ebenezer, Abertawy; William Richard, John Jones, Evan Mathews, Joseph Evans, David Rees, Rees David, John Davies, William Williams, John Evans, a Thomas Jones. Mae amryw o'r brodyr teilwng hyn wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Mr. Joseph Maybery, oedd un o'r prif offerynau yn nghychwyniad yr achos. Yr oedd yn ddyn nodedig o wybodus, coethedig, a llafurus gyda'r achos, ac yn ddyn hollol rydd oddiwrth syniadau bychain, crebachlyd. a gwael. Ni chawsom erioed y fraint o adnabod dyn mwy rhagorol yn mhob ystyr nag ef. Went llafurio yn ffyddlon i gyfodi yr achos i fod yn gryf a hunan-gynhaliol yn Nglandwr, arweiniwyd ef gan Ragluniaeth i Lanelli, lle y bu drachefn yn un o brif golofnau yr achos Saesonig yno hyd ei farwolaeth. Bu farw y cristion gwerthfawr hwn Ionawr 16eg, 1871, yn 74 oed. Pe byddai yn mhob eglwys ond un diacon o fath Mr. Maybery, gwelid golwg well yn fuan ar agwedd crefydd yn Nghymru. Cyfaill teilwng i Josepa Maybery, oedd Robert Monger. Gwasanaethodd ei swydd yn effeithiol fel diacon, a bu farw a llwyddiant yr achos yn agos at ei galon. Gorphenodd ei yrfa Ionawr 1af, 1868, yn 75 oed. Y diweddaf o ddiaconiai Siloh a ymadawodd a'r fuchedd hon, yw John Davies—dyn siriol, gweithgar, a lawn o rinweddau.

Mae yn eglwys Glandwr er's blynyddau o dri i bedwar cant o aelodau, a dichon nad oes un eglwys, yn ol ei rhif a'i sefyllfa, yn fwy haelionus at bob achos cartrefol a chyhoeddus. Mae ei chasgliadau cenhadol tua haner can punt y flwyddyn, ac nid oes braidd un achos perthynol i'r enwad nad yw yn cael ei gynorthwyo gan yr eglwys hon.

Y pregethwyr a gyfodwyd yma ydynt y rhai canlynol:

Daniel Jones, Wickham Market, Suffolk. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1843, ac y mae yn parhau etto yn gryf a ffyddlon yn ngwaith ei Arglwydd. William Roberts, Gt. Mersey-street, Liverpool. Un genedigol o Llanfyllin, ydyw, ond yma y dechreuodd bregethu yn amser Mr. Morris.

Joseph Morris, Brunswick Chapel, Caerodor. Mab hynaf Mr. Morris, y gweinidog.

Griffith Morris, ail fab Mr. Morris. Bu y gwr ieuangc gobeithiol hwn farw ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus.

William Humphreys, yn nglyn a hanes eglwys Cwmbwrla y rhoddir ei gofiant ef.

Thomas Davies, yr hwn a aeth i Unol Daleithiau America.

Joseph John, gweinidog yr eglwys Saesonig yn Ystalyfera.

David Rees, a urddwyd yn ddiweddar yn Witton Park, yn ngogledd Lloegr.

Nodiadau

[golygu]