Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Tanygraig

Oddi ar Wicidestun
Horeb, Treforis Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Fabian's Bay
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llansamlet
ar Wicipedia

TANYGRAIG.

Mae y lle hwn ar lan y mor yn y rhan isaf o blwyf Llansamlet, tua milldir a haner i'r dwyrain o dref Abertawy. Mae yma yn bresenol gryn lawer o drigolion, ac y mae yr ardal yn debyg o gynyddu yn ddirfawr yn ei phoblogaeth yn dra buan. Bu ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yn y gymydogaeth hon gan y Methodistiaid am rai blynyddau, ond oherwydd difaterwch y trigolion rhoisant yr ysgol a'r pregethu heibio. Yn mhen ychydig wedi hyny, sef tua y flwyddyn 1856, cychwynwyd pregethu achlysurol yma drachefn gan Mr. J. Rees, gweinidog Canaan, yn nhŷ Mr. Morgan Huzzey, yn agos i waith copr Porttenant. Ar symudiad Mr. M. Huzzey o'r ardal, rhentiodd Mr. Rees anedd-dŷ at gadw ysgol a phregethu, a buwyd yn cadw moddion yn y tŷ hwnw am ddwy flynedd. Preg thid hefyd yn fynych yn nhy Mr. Thomas Davies. Pan ddaeth Mr. William Thomas, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol yn Nghanaan, i fyw i'r ardal, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yma bob nos Sabboth; a phan y bu raid rhoddi y tŷ yn yr hwn y pregethid i fyny, agorodd Mr. David Williams, Cigydd, ei ddrws i'r Arch, ac yno y buwyd yn addoli nes adeiladu y capel. Ffurfiwyd yma eglwys, yn benaf o aelodau a ollyngwyd o Canaan, ac agorwyd y capel Hydref 9fed a'r 10fed, 1860. Mr. Rees fu yn gofalu am y lle fel gweinidog hyd ei symudiad i Rodborough, ond cynorthwyid ef yn achlysurol gan weinidogion y gymydogaeth. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1867, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. D. T. Jones, o goleg Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma Mai 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd a'r yr achlysur gan Dr. Rees, Abertawy; J. Rees, Rodborough; B. Williams, Canaan; W. Morgan, Caerfyrddin; E. Griffiths, Abertawy; E. Owens, Clydach, ac eraill. Gan fod yr eglwys yn ychydig o rif a gwan addawodd eglwysi y dref a'r gymydogaeth roddi iddynt ychydig gynorthwy i wneyd i fyny gyflog y gweinidog am beth amser. Bu Mr. Jones yn llafurio yma, ond heb gael ei galonogi gan nemawr o lwyddiant, hyd nes yr ymfudodd i'r America yn 1870. Oddiar ei ymadawiad ef y mae gweinidogion y gymydogaeth, yn nghyd a'r brodyr W. Thomas a W. Harris, y rhai sydd yn aelodau yn y lle, yn llenwi lle gweinidog sefydlog. Gwan a lled ddilwyddiant y mae yr achos hwn wedi bod er y dechreuad, ond y mae yr ychydig bobl sydd yma mor ffyddlon, haelionus, ac ymdrechgar ag unrhyw eglwys yn y Dywysogaeth. Costiodd y capel, heblaw llogau y ddyled, 600p., ac y mae yr ychydig frodyr a chwiorydd sydd yma wedi tynu y swm hwn i lawr i 350p., heb gael ond y peth nesaf i ddim o gymhorth y tu allan i'w hardal. Pe byddai llawer o eglwysi lluosog Cymru yn cyfranu yn ol eu rhif fel y bobl hyn byddai ganddynt filoedd yn flynyddol i'w rhoddi at achosion cyhoeddus. Yr ydym yn hyderu y ca yr ychydig ffyddloniaid yn y lle hwn eu talu yn dda am eu ffyddlondeb trwy gael byw i weled y bychan wedi myned yn fil a'r gwael yn genedl gref.

Nodiadau

[golygu]