Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Y Felindre
| ← Hebron, Clydach | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Baran → |
Y FELINDRE.

Ardal amaethyddol yw hon, yn y rhan ogleddol o blwyf Llangafelach, tua phedair milldir i'r gogledd o'r Mynyddbach. Yr oedd pregethu achlysurol yn y gymydogaeth hon er's llawer o flynyddau, o bosibl er y pryd y dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Mynyddbach, ond nid ymddengys i addoliad cyson gael ei sefydlu yma cyn y flwyddyn 1823, pryd y cychwynwyd ef yn rheolaidd yn nhŷ David Thomas, yn agos i'r felin, y tŷ a breswylir yn bresenol gan Mr. Griffith Phillips. Yn 1824, adeiladwyd yma gapel bychan. Mr. D. Evans, Mynyddbach, a'r pregethwyr cynorthwyol a berthynent i'w eglwys, fu yn llafurio yma i gychwyn yr achos, a Mr. Evans fu y gweinidog hyd ei farwolaeth yn 1835. Wedi marwolaeth Mr. Evans, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, a bu ef yn gwasanaethu yr eglwys hon mewn cysylltiad a Chwmaman o Ebrill 5ed, 1836, hyd Ebrill 17eg, 1859. Wedi i Mr. Davies roddi y lle i fyny, cymerwyd y gofal gan Mr. Daniel, Mynyddbach. Bu yr eglwys dan ei ofal ef o Mai 15fed, 1859, hyd Gorphenaf 3ydd, 1864. Wedi ymadawiad Mr. Daniel, buwyd am tua phymtheng mis heb un gweinidog sefydlog. Yn 1866, rhoddwyd galwad i Mr. David Morgan, aelod o eglwys Cross Inn. Urddwyd ef yma Tachwedd 6ed, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Davies, Bethania; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Griffiths, Abertawy; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, ac i'r eglwys gan ei hen weinidog, Mr. J. Davies, Cwmaman. Pregethwyd a gweddiwyd yn y prydnawn a'r hwyr gan Meistri J. Bevan, Waunarlwydd; J. Joseph, Llanedi; T. Davies, Treforis; J. Morgan, Cwmbach, ac F. Samuel, Abertawy. Yn mhen ychydig wedi ei urddiad yn y Felindre, cafodd Mr. Morgan alwad gan yr hen eglwys yn Llanedi, ac y mae yn parhau i wasanaethu y ddwy eglwys.
Mae eglwys a chynnulleidfa y Felindre yn cael ei gwneyd i fyny o amaethwyr a'u gweithwyr. Nid yw erioed wedi bod yn lluosog iawn, ac nis gall fod, gan nad yw y boblogaeth ond teneu, a bod capeli heb fod yn
mhell gan enwadau eraill. Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser trwy ei holl dymor yn enwog am ei hysbryd tangnefeddus, a'i pharodrwydd yn ol ei rhif a'i gallu i gydweithredu gyda phob achos cyhoeddus. Gan fod y capel a adeiladwyd yma yn 1824, wedi myned yn ddadfeiliedig, adeiladwyd yma gapel newydd prydferth iawn yn 1858. Mae mynwent oddiamgylch iddo, a llawer wedi cael eu claddu ynddi.