Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Y Glais
| ← Casllwchwr | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Pantycrwys → |
Y GLAIS.
Mae y capel hwn yn y cwr uchaf o blwyf Llansamlet, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain o Glydach i Gastellnedd. Fel y nodasom yn hanes Clydach, dechreuwyd yr achos hwn gan nifer o aelodau Hebron, Clydach, y rhai a lynasant wrth Mr. William Thomas, pan drowyd ef o'r weinidogaeth yn y lle hwnw. Bu yr eglwys fechan hon yn ymgynnull i addoli mewn anedd-dy, o'r enw Cefnygarth, o'i dechreuad yn y flwyddyn 1834, hyd 1841, pryd yr adeiladwyd capel y Glais. Mr. William Thomas fu yn gweinidogaethu yma o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1847, pryd yr ymadawodd o'r ardal. Yn 1848, rhoddwyd galwad i Mr. John Rees, mewn cysylltiad a Charmel, Llanguwg, a bu yr eglwys dan ei ofal ef hyd y flwyddyn 1853. Dilynwyd Mr. Rees yma yn yr un flwyddyn gan Mr. David Evans, mewn cysylltiad a Chlydach. Ar ymadawiad Mr. Evans, rhoddwyd galwad i Mr. E. Owen gan y ddwy eglwys yn Nghlydach a'r Glais, ac efe ydyw y gweinidog yma er y flwyddyn 1861. Gan fod y gynnulleidfa yn cynyddu bu raid tynu y capel cyntaf i lawr yn 1865, ac adeiladu yr un presenol. Mae hwn yn gapel hardd ac o wneuthuriad cadarn, cynwysa tua 400 o eisteddleoedd, ac nid oes ond ychydig o ddyled yn aros arno.
Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:—
D. G. Morgan. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1860. Ar ol gorphen ei amser yn athrofa Aberhonddu, ymsefydlodd yn weinidog ar yr eglwys Gymreig yn Stockton-on-Tees, lle y mae hyd yn bresenol.
Thomas J. Rees. Dechreuodd bregethu yn 1869. Mae yn bresenol yn yr ysgol gyda Mr. Jones, Penybont-ar-ogwy, yn parotoi i fyned i'r athrofa.
Mathew Griffiths. Dechreuodd ef bregethu gyda'r Wesleyaid, ond y mae er's tua dwy flynedd wedi ymuno a'r eglwys hon, ac yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yma.
Joseph Griffiths. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1870.
Bu Richard Thomas, Danycoed; David Jones, y gof, a William Baker, yr hwn a grybwyllasom yn hanes Clydach, yn aelodau selog ac yn ddiaconiaid defnyddiol yn yr eglwys hon o ddechreuad yr achos hyd derfyn eu hoes.
Mae yr achos yma yn awr mewn agwedd lewyrchus iawn, a chan fod poblogaeth yr ardal yn debyg o gynyddu am flynyddau etto, mae yn dra sicr y bydd yma eglwys luosog iawn cyn pen nemawr o flynyddau.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
WILLIAM THOMAS. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1806, yn ardal Penygroes, sir Benfro. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. John Evans, yn Mhenygroes, pan yn lled ieuangc. Aeth yn fuan wedi hyny i Lundain i weithio ei gelfyddyd fel saer, ac fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach, daeth o Lundain i ardal Abertawy, a dechreuodd bregethu yn y Mynyddbach. Aeth oddiyno i athrofa y Neuaddlwyd, lle y bu nes iddo dderbyn galwad o Glydach. Pan ddarfu ei gysylltiad a Chlydach tua diwedd y flwyddyn 1833, darfu iddo ef, a'r ychydig gyfeillion o lynasant wrtho, ddechreu achos yn y Glais. Yn y flwyddyn 1847, aeth i Rhymni, lle y bu am tua dwy flynedd yn dilyn ei alwadigaeth fel saer, ac yno y bu farw o'r geri marwol yn mis Medi, 1849.
Yr oedd rhyw gymysgedd rhyfedd o ragoriaethau a diffygion yn Mr. W. Thomas. Er nad oedd yn ysgolhaig nac yn feddyliwr galluog, etto, yr oedd yn dalp o ddawn byw. Ymadroddai yn rhwydd, ac yr oedd pereidd-dra ei lais yn ddigyffelyb. Yr oedd ganddo rhyw fedr diail i weithio ei hun i serchiadau pob dyn a gymerai ei lywodraethu yn fwy gan ei deimladau na chan ei reswm. Pe buasai William Thomas yn fwy o ddyn ac yn llai o blentyn, yn ddirwestwr, yn lle bod yn ddiotwr, ac yn meddu rhyw fesur o'r difrifoldeb gofynol i'r swydd bwysig yr ymgymerodd a 'hi, gallasai fod yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol, er nad y mwyaf enwog, yn ei oes.