Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Yr Ysgetty

Oddi ar Wicidestun
Crwys Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Ebenezer, Abertawy
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Sgeti
ar Wicipedia

YR YSGETTY.

Bethel (A) Sgeti

Ardal nodedig o brydferth, yn y rhan isaf o blwyf Abertawy, yw yr Ysgetty, ychydig gyda dwy filldir i'r gorllewin o'r dref. Mae yn dra thebyg fod yma gangen o eglwys Ty'rdwncyn yn cynal gwasanaeth crefyddol rheolaidd oddiar y flwyddyn 1688, os nad yn hir cyn hyny, ond gan nad oes unrhyw gofnodion ysgrifenedig am yr achos ar gael, nid oes genym un sicrwydd am amser ei ddechreuad. Ar brydnawn a hwyr y Sabbothau Y cedwid y gwasanaeth yma gynt, am y byddai pawb a fedrant yn myned i Dy'rdwncyn yn y bore. Cawn y cofnodiad canlynol yn nydd-lyfr Thomas Morgan, Henllan, yr hyn a ddengys mai felly yr arferid gwneyd yn ei amser ef, ac yn hir wedi hyny. "Tachwedd 15fed, 1741, yn Nhy'rdwncyn yn y bore, oddiwrth Col. i. 12; yn yr hwyr yn yr Ysgetty, oddiwrth Job xxx. 23." Mae yn sicr fod gwahanol anedd-dai yn yr ardal wedi bod yn dai cyfarfod gan y gynnulleidfa er dechreuad yr achos hyd y pryd yr adeiladwyd y capel cyntaf, ond nid ydym wedi dyfod o hyd i enwau ond dau o honynt, sef y Brynisaf a'r Tygwyn, y lle o ba un y symudodd y gynnulleidfa i'w haddoldy. Yn y flwyddyn 1770, yr adeiladwyd y capel, sef yr unfed-flwyddyn-ar-ddeg o weinidogaeth Mr. Lewis Rees yn y lle.

Yr oedd amryw ddynion selog a gweithgar yn perthyn i'r gynnulleidfa pan adeiladwyd y capel yn 1770. Y ddau henuriad llywodraethol oedd Mr. Rees Harris a Mr. Benjamin Davies, a'r ddau ddiacon oedd Mr. Thomas Perkins a Mr. William Jones. Enwir hefyd Mr. William Gwynne, Cwity-saeson, a Mr. John Habaccuc, o'r Cocyd, fel rhai ffyddlon a haelionus lawn. Bu Mr. Habaccuc fyw nes yr oedd yn 102 flwydd oed. Aelod lled ieuangc oedd Mr. William Rosser, Gwerneinon y pryd hwn, ond parhaodd yn ffyddlon a defnyddiol iawn hyd derfyn ei oes, a bu ei fab Mr. Samuel Rosser, Goetrefawr, a'i ferch Mrs. Hughes, Ysgettyisaf, yn golofnau cedyrn dan yr achos, yn enwedig mewn pethau arianol, am ugeiniau o flynyddau. Gan Mr. John Harris, o'r Brynisaf, y cafwyd y tir at adeiladu y capel. Ar y cyntaf rhoddwyd ef yn rhad, ond o herwydd i arolygwyr yr adeiladaeth gymeryd i mewn fwy o dir oddiamgylch y capel, er mwyn cael pren prydferth a dyfai gerllaw y tu fewn i'r mur allanol, nag a nodasai y perchenog ar y cyntaf, digiodd wrthynt a bygythiodd dori y lês, ond wedi llawer o ymdrech, a challineb Mr. Rees, y gweinidog, ac eraill, cafwyd ganddo roddi lês o 999 o flynyddau am yr ardreth o bum' swllt y flwyddyn. Y mae un peth arall cysylltiedig ag adeiladiad y capel cyntaf yn yr Ysgetty na ddylid ei adael yn ddisylw. Yr oedd morwyn gyda Mr. William Rosser o'r enw Elizabeth, yr hon, o herwydd ei bod yn eneth gref iawn o gorph, a adwaenid dan yr enw Hearty Bet. Mae yn ymddangos fod ei sel gyda'r achos goreu yn gryfach na'i chorph, er cryfed oedd hwnw. Gan nad oedd ganddi lawer o arian i'w cyfranu at y capel newydd, elai allan yn y nos, ar ol gorphen ei diwrnod gwaith, i gasglu ceryg a'u cario at yr adeilad. Bu am lawer o nosweithiau am oriau bob nos yn gwneyd hyny, a thebyg iddi arbed rhai punoedd yn y modd hwnw. Pa beth a all sefyll o flaen sel a chariad?

Bu y gynnulleidfa yn addoli yn y capel hwn o 1770, hyd 1842. Yn yr ysbaid hwnw yr oedd agwedd a phoblogaeth yr ardal wedi cyfnewid yn fawr, fel y barnwyd yn angenrheidiol prynu darn o dir i adeiladu capel arno tua haner milldir yn uwch i fyny, er mwyn bod yn fwy yn nghanol y boblogaeth. Gorphenwyd yr adeilad ac agorwyd ef Tachwedd 9fed a'r 10fed, 1842. Rhoddwyd hanes cyfarfod yr agoriad yn y Diwygiwr fel y canlyn: "Dechreuwyd yr hwyr cyntaf am 6, pan y gweddiodd y Parch. E. Griffiths, Abertawy, a phregethodd y Parchn. T. Rees, Siloa, Llanelli, a D. Jones, Clydach, oddiwrth Zech. xii. 10-14., ac Esaiah v. 4. Am 10, dydd Iau. dechreuodd y Parch. J. Evans, Crwys, a phregethodd y Parchn. J. Davies, Cwmaman; T. Dodd, Burrows, Abertawy, (yn Saesoneg,) a J. Williams, Ty'nycoed, oddiwrth Salm xlii. 6., Hag. ii. 9., a Ioan viii. 56. Am 3, dechreuodd y Parch. T. Griffiths, Pentregethin, a phregethodd y Parchn. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, (yn Sacsonaeg,) ac L. Powell, Caerdydd, oddiwrth Esaiah lvi. 3., a Salm xxv. 20. Am 6, dechreuodd y Parch. R. Owens, Abertawy, a phregethodd y Parchn. D. Pugh, York Place, (Bedyddiwr,) yn Saesonaeg, a W. Morris, Glandwr, oddiwrth 1 Petr i. 13., a 2 Cor. xxxiii. 12, 13. Gorphenwyd trwy weddi gan y Parch. W. Ford, Browyr. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn lluosog ac ystyried gerwindeb yr hin, y pregethau yn gynwysfawr a gwlithog, y cyfraniadau yn haelionus, a phob arwyddion fod Duw gyda ni. Teilynga caredigrwydd yr ardal yn gyffredinol ar yr amgylchiad ganmoliaeth wresog, ac yn neillduol Mrs. Hughes, Ysgettyisaf, a blaenoriaid yr eglwys, gydnabyddiaeth gyhoeddus am eu dull ffyddlawn, trefnus, a gofalus, yn dwyn pethau oddiamgylch. Pwrcaswyd y tir, ac adeiladwyd y capel helaeth, hardd, a chyfleus hwn a 700p. o draul, o ba un y mae 300p. wedi eu talu eisioes, trwy ymdrech yr ardalwyr yn unig, a theimlant yn ewyllysgar ac awyddus iawn i barhau yn eu hymdrechion, nes cael y tŷ yn ddiddyled i gadw coffadwriaeth o enw Duw Jacob." Trwy gydweithrediad y gynnulleidfa ni buwyd yn hir cyn talu y geiniog olaf o'r ddyled. Mae yn deilwng o sylw fod y capel a'r tir wedi costio mewn gwirionedd tua 900p. er mai 700p. fu raid i'r eglwys dalu. Talodd Mrs. Hughes y gweddill o'i logell ei hun. Hi oedd yn gweinyddu fel trysorydd pwyllgor yr adeiladaeth. Mae mynwent helaeth a phrydferth iawn oddiamgylch y capel, a llawer o ganoedd o feirw o dref Abertawy, yn gystal ag o ardal yr Ysgetty, wedi eu claddu ynddi. Y fynwent hon yw Bunhill fields Ymneillduwyr Abertawy o bob enwad. Mae tŷ cyfleus ar gwr y fynwent yn perthyn i'r capel, yr hwn a adeiladwyd gan y ddiweddar Mrs. Hughes, yn hollol ar ei thraul ei hun. Er fod y capel hwn, pan yr adeiladwyd ef yn cael ei gyfrif yn un hardd a nodedig o gyfleus, etto, cyn pen wyth-mlynedd-ar-hugain, cyfodwyd capeli yn y dref a'r cwmpasoedd llawer harddach a mwy cysurus, fel lleoedd addoliad. Parodd hyn i gynnulleidfa yr Ysgetty benderfynu mynu capel newydd mwy teilwng o'r oes ac o'u hardal brydferth hwythau, yn yr hon y mae ugeiniau o fan balasdai nodedig o dlysion. Yn 1869, tynwyd y rhan fwyaf oll o'r hen gapel i lawr, ac ail adeiladwyd ef. Y mae yn awr yn addoldy nad oes ei brydferthach yn y deyrnas, ac yn cynwys eisteddleoedd i tua 550 o wrandawyr. Traul yr ailadeiladaeth oedd 1108p., ac y mae mwy na haner y swm hwn wedi ei dalu eisioes, a diau na fydd y gweddill yn hir cyn cael ei lwyr ddileu. Agorwyd y capel tlws hwn, Mehefin 6ed a'r 7fed, 1870, pryd y gweinyddwyd gan Meistri Kilsby Jones, W. Jansen Davies, Llanymddyfri; Dr. Rees, Abertawy; W. E. Jones, Treforis; W. Morgan, Caerfyrddin; T. Johns, Llanelli; J. Thomas, Bryn, a W. Jenkins, Pentre-estyll. Dan yr un weinidogaeth y bu y gangen yn yr Ysgetty a'r fam-eglwys yn y Mynyddbach o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1809. Yn y flwyddyn hono, gan fod y cylch gweinidogaethol mor eang, a bod yr eglwysi wedi dewis Mr. Daniel Evans, Bangor, yn gydweinidog a Mr. David Davies, barnwyd mai y ffordd oreu i ddwyn yr achos yn mlaen oedd rhanu y cylch gweinidogaethol. Dewisodd Mr. Davies, Ebenezer, Abertawy, a'r Ysgetty, a gadawodd y Mynyddbach a Threforis dan ofal Mr. Evans. O'r pryd hwnw hyd Mehefin, 1842, pan derfynodd cysylltiad Mr. Thomas Davies ag eglwys Ebenezer, bu yr Ysgetty dan yr un weinidogaeth ag Ebenezer. Yna dewisodd pob un o'r ddwy eglwys eu gweinidogion eu hunain. Rhoddodd eglwys yr Ysgetty alwad i Mr. Edmund G. Williams, o athrofa Aberhonddu, yn niwedd y flwyddyn 1842, ac urddwyd ef Ebrill 20fed, 1843. Bu Mr. Williams yma yn llafurus iawn, ac yn dra llwyddianus, hyd y flwyddyn 1849, pryd y cafodd ar ei feddwl i geisio urddau yn yr Eglwys Sefydledig, yr hyn a gafodd. Y mae er's mwy nag ugain mlynedd bellach yn gaplan carchardy, Abertawy. Mae gan bob dyn ei chwaeth ei hun, ond yr ydym ni yn sicr y buasai yn well genym gael treulio ein nerth i bregethu i gynnulleidfa barchus yr Ysgetty, pe buasai raid i ni fyw ar fara a dwfr yn unig, na sefyll trwy y blynyddau, o Sabboth i Sabboth, uwch ben torf o garcharorion, er cael tal da am hyny. Yn y flwyddyn 1851, rhoddodd yr eglwys yn yr Ysgetty alwad i Mr. Thomas Rees Davies, Gwenddwr, mab yr hynod Rees Davies, Saron. Dewisiad anhapus i'r eglwys fu y dewisiad hwn. Bu raid iddynt dori y cysylltiad ag ef yn mhen ychydig gyda dwy flynedd. Yn nechreu y flwyddyn 1855, rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Davies, o athrofa Aberhonddu, a mab yr hyawdl David Davies, Sardis; yr hwn a urddwyd yma yn Gorphenaf yr un flwyddyn. Rhoddwyd hanes yr urddiad yn y Diwygiwr fel y canlyn: "Gorphenaf 2il a'r 3ydd, 1855, cynaliwyd cyfarfod urddiad Mr. L. Davies, diweddar fyfyriwr yn Aberhonddu, yn yr Ysgetty, ger Abertawy. Nos Lun, dechreuwyd gan Mr. W. Humphreys, Cadle, a phregethodd Meistri Lewis, Carmel, Llangiwe; Evans, Clydach, a Lewis, Ty'nycoed. Dranoeth am 10, dechreuodd Mr. Rees, Canaan, a phregethodd Mr. E. Jacob, Abertawy, ar natur eglwys; gofynodd Mr. E. Griffiths, Abertawy, y gofyniadau; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Crwys, a phregethodd Mr. D. Evans, Castellnedd, ar ddyledswydd y gweinidog. Am 2, dechreuodd Mr. T. Thomas, Glandwr, a phregethodd Meistri Jones, Heolycastell, Abertawy, yn Saesonaeg, a Daniel, Mynyddbach. Am 6, dechreuodd Mr. Evans, Castellnedd, a phregethodd Meistri Davies, Treforis; Jones, Myddfau, (i'r eglwys,) a Rees, Canaan. Mae Mr. Davies yn dechreu ei lafur dan arwyddion hyfryd. Mae bywhad ar yr achos. Llawer mwy nag arfer yn dyfod i'r cyfarfodydd yn yr wythnos, a rhai yn dyfod i'r gyfeillach agos bob tro. Fe dderbyniwyd pedwar y cymundeb diweddaf, ac y mae wyth yn y gyfeillach yn bresenol." Rhif yr aelodau yma yn 1850, oedd dau gant, ond erbyn 1861, yr oeddynt wedi lluosogi i ddau-cant-triugain-adau, ac y mae yn debyg eu bod tua y rhif hyny yn bresenol, neu ychwaneg. Mae Mr. Davies wedi bod yma bellach am un-mlynedd-ar-bymtheg a'i ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn myned fwy fwy o flwyddyn i flwyddyn.

Mae yr eglwys hon, cyn belled ag y gwyddom ni, er dechreuad yr achos, wedi bod yn rhagorol o dangnefeddus, a'i chymeriad crefyddol yn uchel yn y gymydogaeth. Gwneir y gynnulleidfa i fyny o amaethwyr, crefftwyr, gweithwyr, a gwasanaeth-ddynion yr amryw foneddigion a breswyliant yn y gymydogaeth. Mae dau ysgoldy cyfleus yn perthyn i'r eglwys. Un yn mhentref y Cocyd, lle y mae Ysgol Sabbothol lewyrchus tua phedwar ugain o rif, a'r llall yn mhentref Cillay, ac Ysgol Sabbothol yno hefyd, ond nid mor lewyrchus a'r ysgol yn y Cocyd. Nid ydym yn gwybod fod yr eglwys hon, er hened, lluosoced, a pharchused ydyw, wedi cyfodi cymaint ag un pregethwr o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol, ac nis medrwn yn unwedd gyfrif am beth mor hynod.

Nodiadau

[golygu]