Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2/Zoar, Abertawy
| ← Capel Sion, Abertawy | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Pentre-Estyll → |
ZOAR, ABERTAWY.
Gan David Richards, yr hwn oedd yn aelod yn Mhentre-estyll, a David Davies, aelod o Gapel Sïon, y dechreuwyd yr achos hwn. Cymerasant y Trade'shall, yn High-street, at gynal gwasanaeth crefyddol. Ebrill 2il, 1848, y cynhaliwyd y gwasanaeth cyhoeddus cyntaf yno. Yn y boreu, cadwyd yno Ysgol Sabbothol. Pedwar-ar-ddeg rhwng plant a dynion mewn oed oedd ynddi y Sul cyntaf. Am ddau a chwech yn y prydnawn a'r hwyr, pregethodd Mr. Rees Rees, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn yn fuan ar ol hyny a urddwyd yn weinidog ar yr eglwys ieuangc. Heblaw plant yr Ysgol Sul, nid oedd ond pump o bersonau yn gwrandaw Mr. Rees y Sabboth hwnw. Er mor waned a digalon yr ymddangosai pethau ar y cychwyniad, aeth Mr. Rees a'r ddau frawd, D. Richards, a D. Davies, yn mlaen heb lwfrhau dim. Awst 3ydd, 1848, urddwyd Mr. Rees yn weinidog gan Mr. Evans, Capel Sion, a Mr. Jenkins, Penygroes. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd naw, ond erbyn Tachwedd 4ydd, 1849,yr oeddynt wedi lluosogi i 135, a'r Ysgol Sabbothol yn 160. Awst 23ain, 1848, cymerwyd tir at adeiladu y capel, a dechreuwyd ei adeiladu Hydref 9fed, yn yr un flwyddyn. Erbyn Rhagfyr 30ain, yr oedd y tô wedi ei osod ar yr adeilad, a phregethodd Mr. Rees yno y noson hono. Buwyd wedi hyny yn addoli yn y Trade'shall nes i'r capel gael ei orphen. O ddiffyg arian i fyned ar gwaith yn mlaen, ni allwyd gorphen yr adeilad hyd Hydref 30ain, 1849, pryd yr agorwyd ef. Dechreuwyd yr oedfa y nos gyntaf gan Mr. T. Jenkins, Penygroes, a phregethodd Mr. D. Williams, Aberafon, a Mr. J. Ridge, gynt o Cendl. Am ddeg dranoeth, gweddiodd Mr. Williams, Aberafon, a phregethodd Meistri Jinkins, Penygroes; Thomas Glandwr, a Griffiths, Alltwen . Am 2, gweddiodd Mr. J. Davies, Taihirion, a phregethodd Meistri Williams, Bryn ; Watkins, Canaan, a Jones, Bethesda, Merthyr. Am 6, gweddiodd Mr. W. Humphreys, Glandwr, a phregethodd Meistri Davies, Siloa, Llanelli, a Griffiths, Alltwen, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. E. Jacob, Ebenezer. Maint y capel oedd 40 troedfedd wrth 41, yn cynwys 48 o eisteddleoedd ar y llawr, a 36 ar yr oriel. Traul yr adeiladaeth oedd 700p. 29. 50. Gan i'r achos gael ei ddechreu yn afreolaidd, heb ymgynghori a'r gweinidogion a'r eglwysi cymydogaethol, fod yr ychydig frodyr a'i dechreuodd, o herwydd bychan der eu rhif, yn derbyn pob un a ddeuai atynt o eglwysi eraill heb ofalu eu bod yn dyfod yn rheolaidd trwy lythyrau, a bod y ddyled yn fawr, buwyd am dymor yn gwrthod eu derbyn i undeb eglwysi y sir. Parodd hyny drallod nid bychan, oblegid ei fod yn rhwystr i'r ymdrech er talu y ddyled. Ond wedi myned trwy lawer o bryderon ac amgylchiadau bygythiol, gwenodd Duw a dynion arnynt, a chyfododd yr achos ei ben yn fuddugoliaethus. Rhoddodd Mr. Rees ei weinidogaeth i fyny Awst 12 fed, 1855, a symudodd i Gapel Isaac. Bu pethau yn lled ddigalon yma wedi ei ymadawiad ef. Collwyd llawer o'r gwrandawyr a'r aelodau, a buwyd unwaith yn ofni y buasai raid gwerthuy capel i'r Pabyddion er talu ei ddyled. Mawrth 3ydd, 1859, cymerodd Mr. Davies, Ysgetty, ofal y lle, mewn cysylltiad a'r Ysgetty. Adfywiodd pethau yn fuan yma dan ei nawdd ef. Yn ystod y tair blynedd y bu y lle dan ofal Mr. Davies talwyd 150p. o'r ddyled heb law talu y llogau, a daeth pethau i wisgo agwedd obeithiol. Pan welodd ef fod yr achos wedi dyfod i sefyllfa hunan -gynaliol, rhoddodd ei ofal i fyny, ac anogodd y bobl i roddi galwad i Mr. Frederick Samuel, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn yr athrofa Normalaidd yn y dref hon.Urddwyd Mr. Samuel, Hydref 3ydd a'r 4ydd, 1862. Rhoddir hanes cyfarfodydd yr urddiad yn Niwygiwr, Gorphenaf, 1862, fel y canlyn:— "Zoar, Abertawy. Oddeutu tair blynedd yn ol, cymerodd Mr. Davies, Ysgetty, ofal yr eglwys uchod pan oedd ar drangcedigaeth, ac wedi marw yn ngolwg llawer; gwnaeth ei oreu mewn amser ac allan o amser; ac yr oedd llwydd mawr ar ei waith. Boed bendithion lawer yn orphwysedig ar Mr. Davies, ac eglwys yr Ysgetty, am eu daioni tuag atom yn ein cyfyngder. Ond am nad oedd Mr. Davies yn barnu ei fod yn gwneyd cyfiawnder a'r ddwy eglwys, rhoddodd Zoar i fyny. Yr oedd teimladau gofidus ac hiraethlon yn yr eglwys ar ei ymadawiad. Wedi hyny rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. F. Samuel, myfyriwr o goleg Normalaidd, Abertawy. Nos Fawrth, a dydd Mercher, y 3ydd a'r 4ydd o Fehefin, dygwyd yr urddiad yn mlaen. Y nos gyntaf, gweddiodd Mr. Davies, Capel Sion, a phregethodd y Parchn. W. Morgan, Caerfyrddin, a J. Mathews, Castellnedd. Am 10 dydd Mercher, gweddiodd Mr. Thomas, Glandwr, a phregethodd y Parch. D. Rees, Llan elli, ar natur eglwys ; dyrchafwyd yr urdd -weddi gan y Parch. W. Jones, Castle-street; yna pregethodd y Parch. R. G. Jones, Merthyr, ar ddyled swydd y gweinidog. Am 2, dechreuwyd gan Mr. Owens, Clydach, a phregethodd y Parch. W. Edwards, Aberdare, ar ddyledswydd yr eglwys, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. Thomas, Aberdare. Yn yr hwyr cynnaliwyd y cyfarfod yn Ebenezer, am fod y lle yn rhy fychan i gynwys haner y dyrfa. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Davies, o'r athrofa Normalaidd, a phregethodd y Parchn.J. Rees, Canaan; a T. Rees,Ebenezer. Cafwyd cyfarfod hwylus." Mae Mr. Samuel wedi ac yn ymroddi a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth yn effeithiol, ac wedi bod yn rhagorol o lwyddianus i dalu y ddyled a lluosogi y gynnulleidfa. Tua thair blynedd yn ol gwnaeth ef a'r eglwys eu meddyliau i fyny i adeiladu capel newydd a mwy teilwng o'r dref a'r oes nag oedd yr un a adeiladwyd yn 1849. Bwriadent adeiladu yr ochr arall i'r heol, a gadael yr hen gapel at gychwyn achos Saesonig ynddo, ond o herwydd gomeddiad y Duc o Beaufort i roddi y tir, bu raid iddynt dynu yr hen gapel i lawr ac adeiladu yr un newydd ar ei safle. Mae hwn yn un o'r capeli harddaf a mwyaf cyfleus yn yr holl wlad, ac ysgoldy eang oddi tano yn cynwys lle i 400 o bobl. Gosodwyd ei gareg sylfaen gan S. Morley, Ysw., A.S., Medi 14eg, 1869, a rhoddodd gan' punt at yr adeiladaeth; traddodwyd hefyd areithiau ar yr achlysur gan H. Richard, Ysw., A.S., E. M. Richards, Ysw.,A.S., Mr. Jones, Castle-street, a Dr. Rees, Ebenezer. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad yn Gorphenaf, 1870. Traul yr adeiladaeth oedd 2,750p. Y mae 750p. o'r swin yma wedi eu casglu yn y ddwy flynedd ddiweddaf, ac er fod swm mawr etto yn aros, ni saif yn hir o flaen dyn mor weithgar a Mr. Samuel, a'r bobl ffyddlon sydd yn ei gynnulleidfa. Pan ddechreuodd Mr. Samuel ei weinidogaeth yma, rhif yr aelodau oedd o 70 i 80, ac yr oedd 550p. o ddyled yn aros ar y lle. Yn awr mae yr aelodau yn 250 o rif, a'r rhan fwyaf o honynt yn bobl a chalon ganddynt i weithio.
Mae agwedd pethau yma yn awr yn ddigon o dal i'r hen frawd ffyddlon David Richards, am yr holl bryderon a'r gofidiau yr aeth trwyddynt wrth gychwyn a chario yr achos yn mlaen yn ei wendid. Dichon y caiff ef etto, er ei lesgedd a'i nychdod, fyw i weled y deml hardd hon yn ddiddyled.