Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 (testun cyfansawdd)
| ← | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 (testun cyfansawdd) gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
→ |
| I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 2 |

HANES
EGLWYSI ANNIBYNOL
CYMRU,
GAN T. REES, D.D. , ABERTAWY,
A
J. THOMAS , LIVERPOOL.
CYF. II.
LIVERPOOL:
ARGRAFFWYD YN SWYDDFA Y "TYST CYMREIG."
1872.
CYNWYSIAD.
- MYNYDDBACH
- BRYNTEG
- CRWYS.
- YR YSGETTY
- EBENEZER, ABERTAWY
- LIBANUS, TREFORIS
- HEOLYCASTELL, ABERTAWY
- SILOH, GLANDWR
- BETHEL, LLANSAMLET
- HEBRON, CLYDACH
- Y FELINDRE
- BARAN
- CANAAN
- CAPEL SION, ABERTAWY
- ZOAR, ABERTAWY
- PENTRE-ESTYLL
- CWMBWRLA
- HOREB, TREFORIS
- TANYGRAIG
- FABIAN'S BAY
- Y SANDFIELDS
- WALTER ROAD, ABERTAWY
- CADLE
- GWAUNARLWYDD
- RHYDYFRO
- CASLLWCHWR
- Y GLAIS
- PANTYCRWYS
- BIRCHGROVE
- MAESYRHAF, CASTELLNEDD
- MELINYCWRT
- GLYNNEDD
- ZOAR, CASTELLNEDD
- CAPEL SION, CWMAFAN
- TABERNACE, ABERAFAN
- WERN, ABERFAN
- ROCK
- BETHANIA, TYMAEN
- LLANSAWEL, NEU BRITON FERRY
- SCIWEN
- BRYN, CWMAFAN
- TONMAWR
- TAIBACH
- SARDIS, PONTRHYDYFEN
- BRYNCAWS
- CASTELLNEDD (Saesoneg)
- CWMLLYNFELL
- ALLTWEN
- GODRERHOS
- YSTRADGYNLAIS
- PANTTEG
- BETHEL, CWMAMAN
- Y GURNOS
- BETHEL, GLANTWRCH
- Y WERN, YSTALYFERA
- YSTALYFERA (Saesoneg)
- YNYSMUDW
- GOSEN, CRAIGTREBANOS
- LLANGYNWYD
- CARMEL, MAESTEG
- ZOAR, MAESTEG
- SILOH, MAESTEG
- SARON, MAESTEG
- DYFFRYN, MAESTEG
- GARTH, MAESTEG
- MAESTEG (Saesoneg)
- DREFNEWYDD
- CEFNCRIBWR
- MYNYDD CYNFFIG
- PENYBONT-AR-OGWY
- BRYNMENYN
- COETY
- BETHEL
- GYMER-GLYN-CORWG
- BLAENCORWG
- CWMOGWY
- NANTYMOEL
- LLANHARAN
- TREOES
- MAENDY
- LLANHARI
- LLANTRISANT
- ZOAR, LLANTRISANT
- CASTELLAU
- BETHESDA-Y-FRO
- NURSTON
- EBENEZER, LLANILLTYDFAWR
- TRESIMWN
- YNYSGAU, MERTHYR TYDFIL
- ZOAR, MERTHYR TYDFIL
- BETHESDA, MERTHYR TYDFIL
- BETHANIA, DOWLAIS
- BRYNSEION, DOWLAIS
- GWERNLLWYN, DOWLAIS
- PENYWERN, DOWLAIS
- CAPEL IVOR, DOWLAIS
- TROEDYRHIW, MERTHYR
- ADULAM, MERTHYR TYDFIL
- PENYDARRAN
- EBENEZER, CEFN-COED-Y-CYMER
- TABOR, CEFN-COED-Y-CYMER
- PEN-HEOL-GERIG
- GELLIDEG, MERTHYR
- SALEM, MERTHYR
- CRAIGYFARGOD
- PONTLOTYN
- Y FOCHRYW
- Y DERI
- Y COLY
- PONT-ABER-BARGOD
- MARKET SQUARE, MERTHYR
- CARMEL, LLANGYNOG
- GWRHYD
- GIBRAH, BRYNAMAN
- RHIGOS
- EBENEZER, ABERDAR
- NEBO, HIRWAUN
- SALEM, ABERDAR
- SILOA, ABERDAR
- Y TABERNACL, ABERDAR
- SARON, ABERAMAN
- CWMBACH, ABERDAR
- MOUNTAIN ASH
- HOREB, LLWYNLLYD
- BETHEL, ABERDAR
- BETHLEHEM, ABERCWMBOY
- CYMAR, LLANTRISANT
- BETHEL, TREHAFOD
- DINAS, CWM RHONDDA
- BODRINGALLT
- SILOH, YSTRAD
- EGLWIS SEISNIG YR YSTRAD
- EBENZER, TONYPANDY
- GILFACHGOCH
- CARMEL, TREHERBERT
- TYNEWYDD, YSTRAD RHONDDA
- TREORCI
- BLAENLLECHAU
- SARDIS, PONTYPRIDD
- ZION, PONTYPRIDD
- TAIHIRION
- EFAILISAF
- BRONLLWYN
- LLANSANTFFRAID-AR-LAI
- BETHLEHEM, PENTYRCH
- BETHESDA, TONGWYNLAS
- SOAR, ABERDAR
- MORIAH-AMAN, ABERDAR
- HIRWAUN, (Saesonig)
- PORTHYCAWL
- GROESWEN
- EBENEZER RHYDRI
- NELSON, LLANCAIACH
- LIBANUS, LANFABON
- MOUNTAIN ASH, (Saesonig)
- BETHESDA, ABERNANT
- ELIM, CWMDAR
- EBENEZER, GLANTAF
- GLANDWR, FYNNON TAF
- EGLWYSNEWYDD
- BETHEL, CAERPHILI
- WATFORD
- CAPEL Y DRINDOD, CAERDYDD
- EBENEZER, CAERDYDD
- MOUNT STUART, CAERDYDD
- CHARLES-STREET, CAERDYDD
- HANNAH STREET, CAERDYDD
- CANTON, CAERDYDD
- CANTON, (Saesonig) CAERDYDD
- GRANGE TOWN, CAERDYDD
- WOOD-STREET, CAERDYDD
- SPLOTLANDS, ROATH, CAERDYDD
- CAPEL Y BURROWS, ABERTAWY
- PENYCLAWDD
- NEWTON
- PILTON GREEN
- PARK MILL
- Y TABERNACL, MUMBLES
- CAPEL RHAGLUNIAETH
- ONLLWYN
- TROEDYRHIW, (Saesonig)
- SOAR, PENDERYN
- ADOLYGIAD AR HANES Y SIR
SIR FON.
- RHOSYMEIRCH
- CAPEL MAWR
- BODFFORDD
- BEAUMARIS
- PENTRAETH
- TALWRN
- PENMYNYDD
- RHOSFAWR
- MOELFRO
- AMLWCH
- LLANERCHYMEDD
- MYNAEDDFWYN
- LLANDDEUSANT
- LLANFECHELL
- CEMAES
- SILOH
- SARON
- LLANFACHRAETH
- CAERGYBI
- TABOR
- Y TABERNACL NEWYDD, CAERGYBI
- BODEDEYRN
- LLANFAIRNEUBWLL
- BRYNGWRAN
- MAELOG
- GWALCHMAI
- GLANYRAFON
- GROESLON
- HERMON
- CANA, LLANDDANIEL
- NIWBWRCH
- DWYRAN
- BRYNSIENCYN
- LLANGEFNI
- BEREAH
- LLANFAIRYBORTH
- MENAI BRIDGE
- ADOLYGIAD AR HANES Y SIR
SIR FAESYFED
HANES
EGLWYSI ANNIBYNOL CYMRU.
SIR FORGANWG.
Amgylchynir y sir hon ar y dwyrain gan sir Fynwy, ar y de gan gulfor Caerodor, ar y gorllewin gan fôr y Werydd a sir Gaerfyrddin, ac ar y gogledd gan siroedd Caerfyrddin a Brycheiniog. Ei harwynebedd yw 547,494 o erwau. Mae ei chyfoeth o lô, mŵn, haiarn, ceryg calch, &c., yn ddihysbydd, a'i chyfleusderau gweithfaol yn ddigyffelyb. Ar gyfrif y pethau hyn y mae ei phoblogaeth wedi cynyddu yn ddirfawr er dechreuad y ganrif bresenol Rhif y trigolion yn 1801, oedd 70,879; yn 1811, 85,067; yn 1821, 102,073; yn 1831, 126,612; yn 1841, 171,188; yn 1851, 231,849; yn 1861, 317,752, ac yn 1871, yr oedd yn 396,010. Darfu i Ymneillduaeth osod ei throed i lawr yn y sir hon gydag un o'r manau cyntaf yn Nghymru, ac y mae wedi dal ei thir ac ychwanegu nerth o flwyddyn i flwyddyn o'r dechreuad hyd yn awr. Gan fod y trigolion yn cael eu gwneyd i fyny o ddynion o bob parth o'r deyrnas, y mae agos pob enwad o grefyddwyr, ag sydd yn adnabyddus yn y deyrnas gyfunol, i'w cael yn y sir hon. Yr Annibynwyr yw yr enwad lluosocaf o lawer yma, ac y mae ei gynydd yn yr ugain mlynedd diweddaf wedi bod yn rhyfeddol. Rhif y capeli yma yn 1851, oedd 114, yn 1860, 142, ac yn 1871, y maent yn 202, ac amryw eraill ar gael eu hadeiladu. Yr enwad nesaf at yr Annibynwyr mewn nifer yw y Bedyddwyr; y Methodistiaid Calfinaidd yw y trydydd, a'r Wesleyaid yw y pedwerydd. O'r man enwadau Protestanaidd, y Trefnyddion Cyntefig, (Primitive Methodists,) yw y lluosocaf. Y mae ganddynt hwy rai ugeiniau o gynnulleidfaoedd yma. Er cryfed yw yr enwadau efengylaidd yma, y mae anfoesoldeb yn ofnadwy o rwysgfawr yn mysg y trigolion; ond y mae yn deilwng o sylw mai Gwyddelod, Saeson, ac estroniaid eraill, yw wyth o bob deg o'r drwgweithredwyr a gosbir am droseddu y cyfreithiau. Gan fod poblogaeth y sir i raddau mawr yn cael ei chwyddo o flwyddyn i flwyddyn gan lawer o wehilion pob sir yn Lloegr a'r Iwerddon, buasai y lle yn uffern ar y ddaear oni buasai fod crefydd Ysgrythyrol wedi cymeryd gafael mor gadarn a chyffredinol yma.
MYNYDDBACH.
Mae addoldy y Mynyddbach, neu Ty'rdwncyn Newydd, fel y gelwid ef gynt, yn mhlwyf Llangafelach, tua thair milldir i'r gogledd o dref Abertawy; ac y mae yr eglwys a gyferfydd yma yn un o'r rhai henaf yn y Dywysogaeth. Dywedir yn y Broadmead Records, mai Mr. Ambrose Mostyn ddarfu gasglu yr eglwys gyntaf yn Abertawy, a chan na fu Mr. Mostyn yn arosol yn y Deheubarth ar ol y rhyfel a derfynodd yn 1646, mae yn rhaid mai cyn y rhyfel y casglwyd yr eglwys ganddo yma. Ond gan nad yw yn debygol y buasai yr awdurdodau yn goddef iddo sefydlu eglwys Ymneillduol yn y dref cyn y rhyfel, mae yn naturiol casglu mai yn rhywle y tu allan i'r dref yr oedd. Yr oedd Mr. Phillip Jones, wedi hyny o Gastell Ffonmon, yn byw yr amser hwn yn Mhentwyn, Llangafelach, ac fel y mae yn hysbys, yn Buritan ac Annibynwr selog, a chan ei fod yn foneddwr o safle uchel a dylanwad mawr, mae yn ddigon tebygol mai ar ei gymhelliad a than ei nawdd ef y daeth Mr. Mostyn i'r ardal. Dywed Dr. Walker, yn ei hanes am ddyoddefiadau yr offeiriaid, i Mr. Hugh Peters, a'r Milwriad Phillip Jones, sefydlu eglwys Annibynol yn Abertawy tua'r flwyddyn 1650; ond y peth tebycaf ydyw fod yr eglwys wedi ei ffurfio gan Mr. Mostyn a'r Milwriad Jones ddeng mlynedd cyn hyny; ac os bu rhyw beth a wnelsai Mr. H. Peters, yr hwn oedd yn Sais, a'r achos yn 1650, cynorthwyo i ffurfio cangen Saesonig yn y dref, yw y peth mwyaf tebygol iddo wneyd. Felly yr ydym yn cael ein gogwyddo yn gryf i gredu i eglwys Annibynol gael ei ffurfio yn mhlwyf Llangafelach trwy lafur Mr. Mostyn a'r Milwriad Jones tua 1640, neu yn y flwyddyn ganlynol, ac mai hyny oedd dechreuad yr achos sydd yn bresenol yn y Mynyddbach. Cafodd yr Ymneillduwyr ryddid cyflawn i daenu eu golygiadau pa le bynag yr ewyllysient o 1646 hyd 1660, ac i raddau hyd 1662; ac y mae yn dra sicr fod trigolion plwyf Llangafelach wedi cael rhan helaeth o lafur y pregethwyr teithiol a ymwelent a'r gwahanol ardaloedd yn y tymor hwnw. Gorphenaf 24ain, 1646, penderfynwyd gan bwyllgor Seneddol, fod Mr. David Walter, pregethwr poblogaidd iawn, i gael ei dalu o gynyrch degymau plwyf Llandilo, Talybont, a rhyw blwyf arall yn y gymydogaeth, mewn trefn iddo fyned oddiamgylch "i bregethu, holwyddori, ac i addysgu y plwyfolion a'r trigolion yn y gwahanol blwyfydd."[1] Felly gwelir fod trigolion cymydogaeth y Mynyddbach wedi cael eu bendithio a gweinidogaeth effeithiol er's mwy na dau cant ac ugain o flynyddau. Yr oedd Mr. Walter yn bregethwr o'r radd uchaf. Dywedir y byddai Eglwys Gadeiriol Llandaf yn orlawn bob amser y byddai ef yn pregethu ynddi. Mae yn dra sicr i effeithiau gweinidogaeth nerthol Mr. Jenkin Jones, o Langattwg, Glynnedd, gyrhaedd y parthau hyn; ac y mae hefyd yn fwy na thebyg i Mr. Jones gorpholi eglwys Annibynol yn Llangattwg yn amser y Werinlywodraeth, a bod rhai o bobl Llangafelach a Llansamlet yn aelodau o'r eglwys hono. "Eglwys Llangattwg," oedd yr enw wrth ba un yr adnabyddid yr eglwys Annibynol, yr hon a gyfarfyddai mewn gwahanol anedd-dai yn Cynffyg, Baglan, Llangafelach, &c., yn y flwyddyn 1675.[2] Ymddengys mai y rheswm paham y gelwid hi yn "Eglwys Llangattwg" ydoedd, o herwydd mai Mr. Jones, pan yr oedd yn weinidog plwyf Llangattwg, ddarfu ei chasglu a'i chorpholi. Mae yn debygol hefyd i gynifer o aelodau yr eglwys a gorpholwyd yn Abertawy, a'r gymydogaeth cyn y rhyfel, gan Mr. A. Mostyn a'r Milwriad Phillip Jones, ag a ddewisent addoli yn yr iaith Gymraeg, ar ol adferiad Siarl II. ymuno ag eglwys Llangattwg, gan mai yn yr iaith Saesoneg yn unig y dygai yr eglwys Ymneillduol yn nhref Abertawy ei gwasanaeth cyhoeddus yn mlaen. Dywed y diweddar Mr. John Davies, Mynyddbach, yn yr hanes a gyhoeddwyd ganddo yn 1852, dan yr enw Y Lloffyn Addfed, i Mr. Jenkin Jones fod yn weinidog i'r eglwys yn mhlwyf Llangafelach, mewn cysylltiad a Chastellnedd, am rai blynyddau ar ol adferiad Siarl II., ond y mae hyny yn anghywir, canys cafodd Mr. Jones ei garcharu yn Mehefin, 1660. Bu am fis yn garcharor yn Nghaerfyrddin, ac nid oes un math o grybwylliad am dano ar ol hyny. Os na bu efe farw cyn diwedd y flwyddyn hono, bu raid iddo ymguddio yn rhywle am weddill ei oes, canys yr oedd yr awdurdodau ar ei ol fel gwaedgwn, o herwydd ei fod yn ddyn cyfoethog, dylanwadol, rhyfeddol o weithgar, yn Ymneillduwr didroi, ac yn enwedig o herwydd iddo gymeryd rhan mor amlwg yn y rhyfel, ac mewn achosion gwladol yn gystal a chrefyddol, yn amser y Senedd hir a'r Werinlywodraeth. Mae yn sicr na feiddiodd y dyn da hwn agoryd ei enau fel pregethwr ar ol y flwyddyn 1660, os na fu farw yn y flwyddyn hono. Un eglwys y cyfrifid yr holl Annibynwyr yn mhob ardal o Gynffyg hyd Gasllwchwr o'r flwyddyn 1662 hyd ar ol dechreuad y ganrif ddiweddaf. Yr oedd rhai Bedyddwyr a gwrth-Fedyddwyr (Catabaptists) yn eu mysg mewn rhai cymydogaethau.[3]
Mae yn ymddangos mai Mr. Robert Thomas, yr hwn a droisid allan o eglwys Baglan, fu y gweinidog sefydlog cyntaf ar yr eglwys hon ar ol adferiad Siarl II. Cynorthwyid ef yn y weinidogaeth gan y Meistri Jacob Christopher a Richard Cradock, a chan fod y Meistri Marmaduke Mathews, Stephen Hughes, David Jones, Llandysilio, a Meredith Davies, Llanon, yn byw yn Abertawy a'r ardal, mae yn ddiameu fod cangen Langafelach o'r eglwys wasgaredig hon yn mwynhau gweinidogaeth pob un o honynt hwy yn achlysurol. Bu Mr. Robert Thomas yn ffyddlon yn llanw ei gylch gweinidogaethol eang hyd ei farwolaeth tua y flwyddyn 1693. Mewn anedd-dai y cynhelid y moddion crefyddol yn mhob ardal hyd nes i ddeddf y Goddefiad ddyfod i rym yn 1688, a bu rhai cynnulleidfaoedd am ddegau o flynyddau ar ol hyny cyn' adeiladu addoldai. Mewn amaethdy o'r enw Cilfwnwr yr ymgynnullai eglwys y Mynyddbach am rai blynyddau; a dywedir mai llithriad gwraig y tŷ i'r pechod o odineb gyda'i gwas a barodd i'r gynnulleidfa roddi y lle hwnw i fyny ac edrych allan am le arall. Symudasant o Gilfwnwr i amaethdy a elwir Ty'rdwncyn, ac yno y buwyd yn ymgynnull hyd nes yr adeiladwyd capel y Mynyddbach yn 1762. Dilynwyd Mr. Robert Thomas yn y weinidogaeth gan Mr. Lewis Davies, aelod o'r eglwys yn Llanedi. Mae yn debygol i Mr. Davies ddechreu ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1693, os nad yn gynt. Mae amser ei farwolaeth yn anhysbys. Yr oedd yn fyw yn 1700, a dichon iddo fyw ddeg neu ddeuddeng mlynedd ar ol hyny; ond yn 1715, Thomas Davies a David Thomas oedd y gweinidogion yn y cylch hwn.[4] Yr oedd Mr. Lewis Davies yn weinidog enwog a defnyddiol iawn, ac yn nodedig o lafurus i egwyddori plant ac ieuengctyd ei gynnulleidfaoedd yn ngair Duw. Yr oedd ganddo Ysgolion Sabbothol yn Nhy'rdwncyr a'r Chwarelau bach, mor foreu a'r flwyddyn 1697. Dechreuodd hen daid y diweddar Mr. J. Davies, Mynyddbach fyned i'r Ysgol Suli Dy'rdwncyn yn blentyn deg oed, yn y flwyddyn hono, a pharhaodd i fyned iddi am lawer o flynyddau. Ei enw oedd Morgan John, y Gof. Yr oedd cofnodiad o'r ffaith hon yn llawysgrifen Morgan John, wedi ei ysgrifenu ganddo yn 1720, yn meddiant ei orwyr, Mr. Davies, Mynyddbach, ychydig flynyddau yn ol. Yn y flwyddyn 1700, cyhoeddodd Mr. Davies, gyfamod a rheolau eglwysig, a chan fod y llyfryn bychan hwn yn dangos syniadau yr hen Ymneillduwyr am drefn a dysgyblaeth eglwysig, rhoddwn ef yma air yn ngair o'r argraffiad a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Rees yn y flwyddyn 1774.
Cyfamod eglwysig a gyfansoddwyd gan y Parchedig Mr. Lewis Davies, gweinidog yr efengyl, yn Nhy' rdwneyn, yn y flwyddyn 1700, ac a adnewyddwyd gan y Parchedig Mr. Samuel Jones, a Mr. Lewis Rees, trwy gydsyniad y gynnulleidfa, Rhagfyr, 1759.
Yr ydym ni, y rhai sydd a'n henwau isod yn cymeryd yr unig wir Dduw a'n holl galonau i fod yn Dduw i ni a'n daioni penaf; a'r Arglwydd Iesu Grist i fod yn Waredwr ac yn Iachawdwr i ni. Ac yr ydym ni yn cymeryd yr Ysbryd Glan i fod yn Sancteiddydd i ni, a'r athrawiaeth a ddatguddiwyd ganddo, ac a seliwyd a'i wyrthiau, ac yr awr hon yn gynhwysedig yn yr Ysgrythyrau sanctaidd i ni, yn nghyfraith ein Duw, yn rheol ein ffydd a'n bywyd, a chan edifarhau yn ddiragrith am ein holl bechodau, yr ydym ni'n bwriadu trwy gymorth gras Daw roi ufudd-dod gwirioneddus iddo, trwy ymdrechu i fod yn sanctaidd tuag at Dduw, ac yn gyfiawn tuag at ddynion, a chenym enwedigol gariad tuag at holl bobl Dduw. Ac yr ydym ni yn bwriadu cadw cymundeb gyda hwynt yn erbyn holl brofedigaethau'r diafol a'r byd a'n cnawd ein hunain, a hyny hyd angau.
Yr ydym ni hefyd yn cydsynio o lwyr ewyllys ein calonau i fod ac i barhau yn aelodau o eglwys neillduol Iesu Grist sydd yn cyfarfod yn Nhy'rdwncyn, ar ba un y mae ein brawd Lewis Rees yn fugail ac yn olygwr. Ac yr ydym ni, trwy ras Duw yn bwriadu i ddyfal wrando ei athrawiaeth a'i weinidogol gyfarwyddiad, ac yn addunedu ymddarostwng i'w lywodraeth eglwysig, yn ol rheol gair Duw. Ac yr ydym ni yn bwriadu cadw cymundeb enwedigol gyda'r eglwys hon yn mhob rhan o addoliad Duw, ac i ymddarostwng i rybuddion ein cydaelodau, fel trwy hyny y byddo i ni gael ein hadeiladu mewn gwybodaeth a sancteiddrwydd; ac felly yn gymwysach i barhau ein hufudd-dod i Grist a daioni'r eglwys, fel y byddo i ni yn hyn ac yn y cwbl ogoneddu Duw. Amen.
Rheolau efengylaidd, pa rai a roddwyd gan y Parch. Mr. Lewis Davies; ac a dderbyniwyd ac a gymeradwywyd gan eglwys Ty'rdwncyn, yn y flwyddyn 1700.
RHEOL I.-Yn nghylch bywyd ac ymarweddiad efengylaidd ein cydaelodau.-Gwyliwch yn ddiwyd ar rodiad ac ymarweddiad y naill y llall, gan ofalu am fod уц ddiachos tramgwydd i Iuddewon a chenhedloedd, ac i eglwys Dduw. 1 Cor. x. 32, 33. "Byddwch ddiachos tramgwydd i'r Iuddewon ac i'r cenhedloedd, ac i eglwys Dduw. Megis yr ydwyf finau yn rhyngu bodd i bawb yn mhob peth, heb geisio fy lleshad fy hun, ond lleshad llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig." Ac yn mhob peth yn gyfatebol i orchymynion Crist ac anrhydedd yr efengyl. Phil. i. 27. "Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist." Heb. xii. 14, 15. "Dilynwch heddwch a phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd. Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddiwrth ras Duw, rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnw lygru llawer.' 1 Pedr i. 15, 16. "Eithr megis y mae y neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau sanctaidd yn mhob ymarweddiad, oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwoh sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi." Os digwydd i un o'r brodyr neu'r chwiorydd gael ei oddiweddyd a rhyw bechod neu fai, eich dyled yw myned ato a'i geryddu of neu hi am y bai, yn neillduol mewn cariad. Gal. vi. 1. "Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder, gan ystyried dy hun rhag dy demtio dithau." Mat. xviii. 15. "Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun," &c. Lef. xix. 17. "Ac na chasa dy frawd yn dy galon, gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddyoddef bechod ynddo." 2 Thes. iii. 15. Iago v. 19, 20. "Fy mrodyr, od aeth nebo honoch ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; gwybydded y bydd i'r hwn a drodd bechadur oddiwrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lluaws o bechodau." Ac os y cerydd neu'r rhybudd neillduol ni thycia gyda'r cyfryw a roddodd y tramgwydd, ond myned yn mlaen; mae yn ddyled arnoch chwi gymeryd un neu ddau gyda chwi i'w rybuddio a'i ddwysbigo ef o'i fai; os hyny ni thycia, rhaid i chwi ddywedyd wrth yr eglwys. Mat. xviii. 17. "Ac os ni wrendy efe ar yr eglwys chwaith, bydded ef i chwi megis yr Ethnig a'r Publican,"
RHEOL. II.—Yn nghylch undeb yr eglwys.—Mae yn rhaid i chwi ymegnio yn ddiwyd ac yn ofalus i gynal a chadw undeb yr eglwys. 1 Cor. i. 10. "Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod o honoch wedi eich cyfan—gysylltu yn yr un meddwl ac yn yr un farn." Phil. ii. 1—3. "Od oes gan hyny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau. Cyflawnwch yn awr fy llawenydd, fel o byddoch yn meddwl yr un peth, a'r un cariad genych, yn gytun yn synied yr un peth," &c. 2 Cor. xiii. 11. "Bellach, frodyr, byddwch wych, byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw y cariad a'r heddwch a fydd gyda chwi." Act. iv. 32. "A lluaws y rhai a gredasent oedd o un galon ac un enaid," &c. Eph. iv. 3. "Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd."
Ac i'r dyben hyn dylech graffu yn ddiwyd, a gochelyd yn ofalus yn gystal yr achos o'r ymraniad a'r rhai a fyddant yn peri ymryson ac anghydfod yn yr eglwys. Rhuf. xvi. 17. "Yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt." Sef hudolwyr y gau athrawon, yn dal heresiau a chyfeiliornadau yn wrthwyneb i'r ffurf o ymadroddion iachus. Act. xx. 29. "Canys mi wn hyn, y daw yn ol fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i'ch plith, heb arbed y praidd. Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd gwyr yn llefaru pethau gwyr—draws, i dynu disgyblion ar eu hol." 1 Tim. vi. 3. "Od oes neb yn dysgn yn amgenach, ac heb gytuno a iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Chwyddo y mae ac heb wybod dim. Cilia oddiwrth y cyfryw," Dat. ii. 14, 15. Ac os digwydd i chwi gael allan neb a fo'n gwneuthur yn orchwyl iddo, i ranu a rhwygo, hudo a themtio un o'ch cydaelodau i dori ei gyfamod a'r eglwys, gyda pha un yr unodd efe yn ol y rheol yn yr Ephesiaid iv. 16., eich dyled yw myned at y cyfryw un a fo yn cael ei demtio, ac ymdrechu hyd eithaf eich gallu, gan arfer pob moddion tuag at ei waredu ef neu hi o faglau'r cyfryw hudolwr. Ac os bydd y gorchwyl hwn yn rhy anhawdd i chwi eich hunan, eich dyled yw cymeryd rhyw frawd arall gyda chwi i'w gynghori ef. Os hyny ni thycia gydag ef i wella ei amcan, eich dyled yw mynegi i'r eglwys brofedigaethau'r cyfryw un; ac yna yr eglwys a ddylai wneuthur ei dyledswydd tuag ato.
RHEOL III.—Yn nghylch addoliad Duw yn ei eglwys.—1. Edrychwch at bob aelod yn fanol, rhag bod neb o fewn eich terfynau yn esgeuluso addoliad Duw yn y gymanfa gyhoeddus, sef gweddio a gwrando pregethiad gair Duw, neu ynteu yn gwrando addysg a bar iddynt gyfeiliorni. Diar. xix. 27. "A thrwy hyny osod tramgwydd o flaen eu cydaelodau." 2 Tim. iv. 3, 4. "Canys daw'r amser, pan na ddyoddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ol eu chwantau eu hunain, y pentyrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino. Ac oddiwrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant."
2. Daliwch hefyd sylw enwedigol o fewn eich terfynau, pwy a fyddo yn esgeuluso cymuno yn Swper yr Arglwydd. Act. xx. 7. 1 Cor. xxv. 26. "A phan gaffoch allan nob a fyddo yn esgeuluso ewch ato a gofynwch ei resymau am ei esgeulusdra, a pha ham y mae efe neu hi yn tori addunedau eu cyfamod a Christ ac a'i eglwys." Act. ii. 42, 46. "Ac yr oeddent (sef y rhai a dderbyniasant y gair) yn parhau yn athrawiaeth, ac yn nghymdeithas yr apostolion, ac yn tori bara, ac mewn gweddiau," &c. 1 Cor. xi. 1. 1 Thes. ii. 14. 3. Creffwch hefyd os bydd neb o fewn eich terfynau yn esgeuluso'r farfodydd neillduol o weddio gyda'r eglwys. Heb. x. 25. "Heb esgeuluso ein cydgynnulliad ein hunain, fel y mae arfer rhai, ond annog pawb eu gilydd, a hyny yn fwy o gy. maint a'ch bod yn gweled y dydd yn neshau." Act. xii. 5—12. Rhybuddiwch y cyfryw mewn cariad i ddiwygio eu hesgeulusdra a'u diofalwch.
RHEOL IV.—Yn nghylch rheolaeth ac addoliad Duw mewn teuluoedd.—1. Gwyliwch ar bob pen teulu a ydyw efe yn cymeryd y cyfryw ofal a ddylai efe i osod i fyny addoliad y Duw mawr yn ei deulu, megis gweddio gyda hwynt, a darllen yr Ysgrythyrau sanctaidd iddynt. Act. x. 1. Yr oedd Cornelius yn ŵr defosiynol, yn ofni Duw yn nghyd a'i holl dŷ, ac yn gweddio Duw yn wastadol. Jer. x. 25. "Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw." Jos. xxiv. 15. Ioan v. 39. Dat. i. 3.
2. Gwiliwch hefyd arnynt pa un a'u bod hwy yn cymeryd y cyfryw ofal ag a ddy. lent, yn ol gair Duw, i ddysgu eu plant yn addysg ac ofn, ffydd ac athrawiaeth yr Arglwydd. Eph. vi. 4. Deut. vi. 6, 7. "A bydded y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon, a hyspysa hwynt i'th blant, a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny." Diar. xxii. 6. 2 Tim. iii. 15.
3. Gwyliwch yn fanol arnynt, a ydynt yn sancteiddio dydd yr Arglwydd, ac yn ei barchu, rhag bod un aelod o fewn eich terfynau yn euog o ddyoddef eu plant, na neb o'u tylwyth, i halogi dydd yr Arglwydd.
RHEOL V.—Yn nghylch gofalu am dlodion yr eglwys.—Gwnewch eich goreu hyd y mae ynoch tuag at fod yn gydnabyddus a'r cyfryw aelod a fyddo o fewn eich terfynau, yn enwedig y cyfryw y tybygwch fydd trwy eu hymddangosiadau allanol yn dlawd ac yn anghenus, gan sefyll mewn diffyg o gynorthwy gan yr eglwys, "Os bydd yn dy fysg di un o'th frodyr yn dlawd o fewn un o'th byrth, yn dy dir, yr hwn y mae'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chau dy law oddiwrth dy frawd tlawd," Deut. xv. 7. "Eithr yr hwn sydd ganddo dda'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho; pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef ?" 1 Ioan iii. 17. Ewch atynt ac ymddiddanwch a hwynt eich hunain, yn ol ymddangosiad eu cyflwr, gwnewch chwithau of yn gydnabyddus i'r eglwys, gan annog eich brodyr allan o air Duw, i gyfranu yn rhwydd ac yn ewyllysgar o'u pethau tymhorol, er diwallu eu angenrheidiau presenol fel aelodau i'r Arglwydd Iesu, ac felly dwyn rhan o'u beichiau yn nydd eu cyfyngder. "Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly y cyflawnwch gyfraith Crist," Gal. iv. 2. "Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel pettech yn rhwym gyda hwynt." Heb. xiii. 3.
RHEOL VI.—Yn nghylch cyflwr ysbrydol a phrofedigaethau ein gilydd.—Ymofynwch hyd y mae ynoch am brofedigaethau y naill a'r llall, fel y gallech gynorthwyo eu gilydd ynddynt, fel y gweddai i gristionogion. "Gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef," sef Pedr, Act. xii. 5. Mali aelod yw'r hwn ni theimla a bai yr aelodau eraill. "Pwy sydd wan, nad wyf finau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finau yn llosgi?" 2 Cor. xi. 29. Ac os digwydda i un aelod gael ei daflu i lawr, yn anghysurus yn ei enaid, neu dan wan obaith, eich dyled yw myned at y cyfryw i geisio ei gynal, yn ol eich gallu a'ch gwybodaeth, ac hefyd ei gysuro a'i ddyddanu ef. "Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, dyddanwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb, 1 Thes. v. 14. A gweddiwch gydag ef, a throsto ef hefyd; ac os na thycia hyny, rhaid myned a'i gyflwr i'r eglwys, fel y byddo iddi hithau weddio drosto ef, Act. xii. 5.
RHEOL VII.—Yn nghylch galwedigaethau ein cydaelodau.—Byddwch yn esiampl dda o dduwioldeb i'ch cydaelodau. Llewyrched felly eich goleuni ger bron dyn ion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd," Mat. v. 15. Ac hefyd byddwch yn ddiwyd yn y galwedigaethau neillduol a beunyddiol sydd genych i fyw wrthynt yn y byd. 1 Cor. vii. 17. "Megis y darfu i'r Arglwydd alw pob un, felly rhodied." Ac fel y mae'n ddyled arnoch chwi eich hunain, felly hefyd edrychwch at bob aelod gwryw a menyw, o fewn eich cyrhaedd, ar fod ganddynt rhyw alwedigaeth cyfreithlon a didramgwydd i fyw arno, oddieithr ei fod yn oedranus neu yn anhwylus, heb allu gweithio mewn un galwad; canys y mae segurdod yn un o bechodau Sodom, Ezec. xvi. 49., ac yn gymhwysach i'w gyfrif ef gyda'r Sodomiaid, nag i'w ddyoddef mewn eglwys. Mae'n wrthwyneb i reol yr efengyl i'w ddyoddef, 2 Thes. iii. 10. "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta chwaith." Nis gallwn addo i'n hunain ddim cysur oddiwrth gymundeb y cyfryw rai rhodresgar, afreolus, ond yn hytrach cywilydd a gwaradwydd yn mlynyddau eu hieuengctyd, a baich trwm i'r eglwys yn mlynyddau eu mhethiant a'u hoedran; am hyny ein dyled yw dal sylw ar y cyfryw mewn pryd, a'u rhybuddio hwy.
RHEOL VIII.—Yn nghylch y claf a'r cystuddiol mewn eglwys.—Eich dyledswydd yw bod yn gydwybodol i ymweled a'r claf a'r cystuddiol. Iago v. 14. "A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddiant hwy drosto." Job ii. 11. "Canys hwy a gytunasent i ddyfod i gyd-ofidio ag ef, ac i'w gysuro." Mat. xxv. 36. “Bum glaf, ac ymwelsoch a mi;" yn enwedig y rhai y mae eu cyflyrau neu eu blinderau tu fewnol neu allanol yn gwneyd eu profedigaethau yn eu drygfyd yn ddyfnach ac yn drymach ar gyfrif y cyfryw amgylchiadau, sefy tlodion, yr amddifaid, y gweddwon, neu ddyeithriaid, a'r cyffelyb. Iago i. 27. "Crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r Tad yw hyn; Ymweled a'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd." Yn ol i chwi eich hunain gyflawni eich dyledswydd tuag atynt, rhaid i chwi wneuthur eu clefyd a'u cystudd yn gydnabyddus i'r eglwys, fel y byddo iddi hithau weddio drostynt, Iago v. 14, 16.
RHEOL IX.—Yn nghylch adeiladaeth eu gilydd yn neillduol.—Eich dyled yw bod yn nghyd yn fynych mewn gweithredoedd o gymundeb ysbrydol er adeiladaeth eu gilydd. Judas 20. "Eithr chwy-chwi anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd." 1 Thes. v. 11. "O herwydd paham y cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur." Mal. iii. 16. Eph. iv. 16. I'r dyben hyn yr amser mwyaf cyfaddas yw diwedd dyddiau'r Arglwydd, tra na byddo yn rhwystro cyfarfodydd cyhoeddus. I bob rhai o fewn eich terfynau eich hunain alw ar enw yr Arglwydd. Mat. xviii. 19, 20. "Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynag a'r a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt." I ddarllen gair Duw, Act. viii. 32. I ail adrodd pregethau, Heb. ii. 1 "Am hyny y mae yn rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli." I ganu mawl i'r Arglwydd. 1 Cor. xiv. 26. "Pan ddeloch yn nghyd, y mae gan bob un o honoch salm." I hyfforddi eich gilydd allan o air Duw, er cynydd cariad, gwybodaeth, profiadau, ymddiddan cristionogol, ac arfer y doniau a dderbyniwyd; i bob un roi dim cymhorth ag y gallo tuag at adeiladaeth y babell tra fo genym oedfa, oblegid ein hamser sydd fyr, a'n dyddiau yn ddrwg, gan hyny, bydded i'r rhan sy'n ol o'n bywyd gael ei dreulio i fyw i'r hwn a fu farw trosom. na chydymffurfiwn a'r byd hwn, nag ag arferiadau'r bobl gnawdol sydd ynddo chwaith.
RHEOL. X.—Yn nghylch priodas.—Dyled pob aelod yn arddel crefydd cristionogol yw gofalu am briodi yn yr Arglwydd, pan alwo Duw ef i newid ei gyflwr. 1 Cor. vii. 39. Gen xxxiv. 14. "Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig; oblegid gwarthrudd yw hyny i ni." 2 Cor. vi. 14. "Na iauer chwi yn anghydmarus gyda'r rhai digred." Os digwydd fod un o fewn eich terfynau yn troseddu y rheol hon, trwy chwedleua ar gyfrif priodas a rhyw un cyfeiliornus yn ei farn, neu'n annuwiol a drwg yn ei fywyd, neu yn wrthwyneb i grefydd. Deut. vii. 4. " Canys efe a dry dy fab di oddiar fy ol i, fel y gwasanaethont dduwiau dyeithr." Neh. xiii. 28. "Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib, yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sambalat yr Horoniad; yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf." Dylid rhybuddio'r cyfryw o'r bai, ac oni thycia hyny, ei fynegi ef i'r eglwys.
'Holiadau neu gwestiynau buddiol i'w gofyn i swyddogion eglwysig, ar gyrddau neillduol mewn trefn i chwilio allan pwy sydd yn ein mysg yn esgeuluso'r rheolau hyn.'
1. A wyddoch chwi fod neb yn byw yn anaddas i'r efengyl, neu yn dramgwyddus yn eu bywyd o fewn eich terfynau chwi?
2. A wyddoch chwi am neb sy'n anesmwyth, ac yn ceisio ymranu neu neillduo oddiwrth yr eglwys, o fewn eich terfynau chwi ? 3. A wyddoch chwi fod neb o'r aelodau yn euog o esgeuluso addoliad Duw yn y gymanfa gyhoeddus, neu Swper yr Arglwydd, na'r cwrdd neillduoi, o fewn eich terfynau ?
4. A wyddoch chwi fod neb o'r aelodau ag sydd yn benteuluoedd, yn euog o esgeuluso addoliad Duw yn eu teula, neu adael eu plant heb eu dysgu yn athrawiaeth yr Arglwydd, neu'n halogi y dydd Sabboth?
5. A wyddoch chwi am neb dan amheuaeth, neu ryw dan brofedigaeth anarferol arall, o fewn eich terfynau?
6. A wyddoch chwi a oes neb yn byw yn rhodresgar a gwag-siaradus segur, ac allan o alwedigaeth onest i fyw arni, o fewn eich terfynau chwi?
7. A wyddoch chwi a oes neb o'r aelodau yn dlawd, yn sefyll mewn diffyg o gynorthwy'r eglwys, a fuoch chwi yn ymresymu a'r cyfryw yn nghylch eu cyflwr? 8. A wyddoch chwi a oes neb yn glaf ac yn gystuddiol, o fewn eich terfynau chwi? 9. Pa mor fynych a threfnus yr ydych yn dyfod diwedd dydd yr Arglwydd, er adeiladaeth eich gilydd.
10. A wyddoch chwi a oes neb o'r aelodau yn chwedleua ar gyfrif priodas, a'r rhai annuwiol a gwrthwyneb i grefydd, o fewn eich terfynau chwi?
Fel y dywedasom eisioes, nis gwyddom amser marwolaeth Mr. Lewis Davies, ond y mae genym sicrwydd iddo gael ei ddilyn yn y weinidogaeth tua 1712, gan Mr. David Thomas. Yr oedd yr eglwys yn Nhy'rdwncyn er y flwyddyn 1662, os nad cyn hyny, yn un a'r eglwys yn y Chwarelaubach, Castellnedd, ond tua'r flwyddyn 1720, neu yn fuan ar ol hyny, cafodd y cylch gweinidogaethol eang hwn, yr hwn hyd yn hyn a gyrhaeddai o Flaengwrach, yn mhen uchaf Glynnedd, hyd Gasllwchwr, ei ranu yn dri. Urddwyd Mr. Henry Davies yn Mlaengwrach, a Mr. Samuel Jones yn Nhy'rdwneyn a'r canghenau yn Nghasllwehwr, y Cwmmawr, a'r Ysgetty, a chyfyngwyd llafur Mr. David Thomas i Gastellnedd, a'r gymydogaeth. Mae yn debygol fod Mr. Thomas Davies erbyn hyn, naill ai wedi marw neu wedi symud i ryw gylch arall. Nis gwyddom y flwyddyn yn gywir y dechreuodd Mr. Samuel Jones ei weinidogaeth yn Nhy'rdwncyn, ond yr ydym yn barnu iddo ei dechreu yn fuan ar ol 1720. Yr oedd yn hen wr oedranus yn 1759, pryd y daeth Mr. Lewis Recs, o Lanbrynmair, i gydweinidogaethu ag ef. Yn fuan ar ol sefydliad Mr. Rees yn y lle, fe adfywiodd yr achos yn fawr. Adeiladwyd capel y Mynyddbach yn y flwyddyn 1762, ei faint oedd 45 troedfedd wrth 24 o fewn y muriau. Testyn cyntaf Mr. Rees yn Nhy'rdwncyn ydoedd, Act. x. 29. "O ba herwydd, ie, yn ddinag y daethum, pan anfonwyd am danaf; yr wyf gan hyny yn gofyn am ba achos y danfonasoch am danaf." Parhaodd Mr. Rees yn ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb yn y cylch pwysig hwn nes i lesgedd henaint ei analluogi. Yn y flwyddyn 1770, adeiladwyd capel yn yr Ysgetty, ac yn 1782, un arall yn Nhreforis. Yn y flwyddyn 1777, cymerodd peth lled anghyffredin le yma. Yr oedd tri gwr perthynol i'r gynnulleidfa, sef Meistri Robert Terry, Penlle'rmarch; John Rosser, Wigucha', a John Mathew, Tregernydd, yn ddiwygwyr blaenllaw-pell o flaen eu hoes. Gwrthodasant dalu treth eglwys, ac mewn canlyniad taflwyd hwy i lys Esgob Tyddewi, a chawsant eu hysgymuno. Peth difrifol iawn yw ysgymundod Eglwys Loegr; gan ei fod yn amddifadu y rhai fyddo dano o'u hawliau fel gwladwyr, ac yn eu gosod allan o nodded cyfraith y tir, fel y gallo pob dihyryn ymddwyn tuag atynt fel y myno, heb neb yn gallu ei alw i gyfrif. Pan daflwyd y tri wyr hyn i'r fath amgylchiad enbyd, cymerodd eu gweinidog eu hachos mewn llaw Ysgrifenodd at ei fab, Dr. Abraham Rees, yr hwn, trwy gydweithrediad Bwrdd y Tri enwad yn Llundain, a osododd yr achos ger bron y brenhin, ac yn ddioed derbyniodd ei Arglwyddiaeth o Dyddewi, orchymyn brenhinol i ddadysgymuno y tri gwr. Dichon mai dyma yr engraifft olaf yn Nghymru o ysgymundod esgobol.
Pan oedd Mr. Rees wedi myned dros bedwar ugain mlwydd oed, ac wedi llafurio yn ddiattal yn y weinidogaeth am fwy na thriugain mlynedd, teimlai ei fod yn analluog i lenwi ci gylch eang yn y Mynyddbach, yr Ysgetty, Treforis, ac amryw leoedd eraill yn yr ardal, lle y bydol yn arfer pregethu yn rheolaidd; gan hyny, anogodd y bobl i edrych allan am weinidog ieuengach. Buasai yn fwy cydweddol a theimladau yr hen weinidog parchus, pe buasai pobl ei ofal yn dewis ei fab-yn-nghyfraith, Mr. John Davies, Llansamlet, yn gynorthwywr iddo, yn hytrach nag edrych allan am neb arall, a buasai hyny yn eistedd yn esmwyth ar deimladau lleiafrif lluosog o'r eglwys, ond yr oedd teimlad y mwyafrif am gael gweinidog mwy poblogaidd ei ddoniau na Mr. Davies, a rhoddodd y gweinidog oedranus a'r lleiafrif o'r eglwys, ffordd iddynt. Rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, Llangeler, a'r hon y cydsyniodd. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn y flwyddyn 1795. Arferid dyweyd a chredu mai fel cydweinidog a Mr. Rees y daeth Mr. Davies i'r Mynyddbach a'r Ysgetty, ac nid fel ei ganlynydd; ond mewn llawysgrifen, o gyfansoddiad rhagorol, wedi ei llawnodi gan swyddogion eglwys y Mynyddbach, ar yr 16eg o Fedi, 1802, cawn, yn mysg pethau eraill, yr hyn a ganlyn :"Tua diwedd y flwyddyn 1794, neu ddechreu 1795, hysbysodd Mr. Rees, yn gyhoeddus o'r areithfa, yn mhresenoldeb canoedd o bobl, fod ei oed a'i lesgedd ef yn ei gwneyd yn angenrheidiol iddo roddi gofal gweinidogaethol yr eglwysi i fyny, yr hyn a wnaeth y pryd hwnw, ac anogodd ni i ddewis gweinidog arall. Yr oedd efe amryw weithiau cyn hyn wedi hysbysu ei fwriad i wneuthur felly, ond perswadid ef dro ar ol tro gan y gynnulleidfa i beidio. Mewn canlyniad i'w waith ef yn rhoddi y weinidogaeth i fyny, ni a roddasom alwad i Mr. David Davies, Llangeler, i ddyfod yn weinidog i ni, ar gymeradwyaeth ac yn ol cydsyniad Mr. Rees, yr hwn ei hun a lawnododd yr alwad."
Pan aeth y son allan fod cais wedi ei anfon at Mr. Davies i symud, parodd gyffroad mawr trwy'r eglwysi yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, ac yn enwedigol yn ei eglwysi ef ei hun. Cynhyrfwyd eglwys y Neuaddlwyd braidd i ddigofaint, fel yr ysgrifenodd y llythyr llym a cheryddol canlynol at eglwys y Mynyddbach :
"Frodyr Cristionogol yn y Mynyddbach.—Yr ydym yn anfon yr anerchiad hwn atoch gyda dymuniad am eich llwyddiant yn ysbrydol a thymhorol. Er fod ein helyntion fel eglwysi wedi bod i raddau yn anhysbys y naill i'r llall hyd yn awr, yr ydym yn cymeryd yn ganiataol nad ymddengys yn ddyeithr i chwi ein bod yn bresenol yn eich anerch, gan i'r pleidgarwch a'r hunanles a amlygir genych wrth geisio cymeryd oddi wrthym ein gweinidog, Mr. D. Davies, roddi achlysur i ni i wneyd hyn. Nid ydym am ei gwbl ryddhau ef o fai, gan iddo roddi mesur o wrandawiad i'ch cymhellion chwi cyn ymgynghori a phobl ei ofal, y rhai a'i galwasant allan gyntaf i'r weinidogaeth, ac eiddo pa rai ydyw mewn modd penodol. Yr ydym yn dal ar y cyfle yma i ymresymu a chwi mewn modd gonest a didderbynwyneb. Yn gyntaf, ystyriwch mai nid ymddygiad brawdol yw cyflogi dyn cyn y byddo amser ei wasanaeth drosodd gydag arall, ac heb ymgynghori dim a'r hwn sydd a hawl ganddo i'w wasanaeth. Ymddygiad yw hwn a gondemnir hyd y nod gan ddynion y byd; oni ddylech chwi, gan hyny, gywilyddio o'i blegid ? Yn ail, gan eich bod chwi wedi mabwysiadu dull anmhriodol i geisio denu Mr. Davies i ddyfod atoch; os bydd i chwi lwyddo yn eich amcan, a thrwy hyny, amddifadu dwy eglwys luosog o wasanaeth eu hanwyl weinidog, y rhai yn ddiweddar a luosogwyd yn fawr trwy fendith Duw ar ei ymdrechion ffyddlon a llafurus ef, yetyriwch y fath gyhuddiad pwysig y byddwch yn gorwedd dano; y fath euogrwydd blin a lyn wrthych i derfysgu eich meddyliau; a'r fath dal annheilwng a roddwch i'r ddwy eglwys hyny am alw i'r weinidogaeth y fath bregethwr llwyddianus ag ydy w ef. Nid oes neb a all ddyweyd eich bod yn rhodio yn uniawn, ac yn ymddwyn yn ddidramgwydd, wrth geisio denu gweinidog eglwysi eraill i ddyfod atoch chwi, gan adael yr eglwysi hyny i ymdaro fel y gallont. Nid ffordd tangnefedd, deddf cariad, na chyfraith Crist yw hyn. Nid ydym ni yn dewis dilyn eich esiampl chwi trwy ddymuno i chwi fod heb weinidog, a llawenhau am eich bod yn ddigynorthwy; ond nis gallwn mewn un modd deimlo yn foddlawn i chwi gymeryd ein gweinidog ni.
Er ei bod yn amlwg eich bod chwi yn sefyll mewn angen o gynghor, peth arali ydyw a fyddwch yn ewyllysgar i ddilyn y cynghor goreu a ellid roddi i chwi. Yr oll a allwn ni wneuthur drosoch ydyw eich gorchymyn chwi a'ch helyntion i ofal y Duw Hollalluog, i arweiniad ei Air a'i Ysbryd sanctaidd, ac i weddiau a chyfarwyddiadau dynion duwiol, fel y byddo i chwi a ninau fyw mewn heddwch a chydgordiad, rhodio mewn cariad, a marw mewn gobaith o wynfyd tragwyddol. Hyn yn gywir a brawdol, oddiwrth aelodau eglwys Crist, cynnulledig yn y Neuaddlwyd.
| EVAN THOMAS EVAN, |
Henuriaid |
| JAMES EVAN, | |
| JOHN JENKIN, |
| JAMES WILLIAM, |
Diaconiaid." |
| EVAN DAVID, | |
| JAMES THOMAS, |
Er i symudiad Mr. Davies fod yn ddolur mawr i deimladau ei eglwysi, a lluaws eraill yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, ac i'w deimladau ei hun yn fwy na neb arall; etto dangosodd y canlyniad iddo wneyd yr hyn oedd unol ag ewyllys ei Arglwydd. Yr oedd Abertawy a'i hamgylchoedd poblog yn llawer eangach, pwysicach, a chyfaddasach cylch i weinidog o'i gymhwysderau ef, na'r holl wlad o Langeler i Aberaeron.
Cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Davies yn y lle, adfywiodd yr eglwys, a chynyddodd y gwrandawyr yn ddirfawr, fel y bu raid helaethu y capel yn y flwyddyn 1797. Ei faint, fel y nodasom, pan adeiladwyd ef yn 1762, oedd 45 troedfedd wrth 24, ond yn 1797, gwnaed ef yn 51 wrth 35, fel yr oedd yn un o'r capeli helaethaf yn Nghymru y pryd hwnw. Gan i weinidogaeth danllyd ac effeithiol Mr. Davies, fod yn offerynol i ychwanegu lluaws at yr eglwysi, a bod capel eang Ebenezer yn y dref, yr hwn a adeiladwyd yn 1803, yn gofyn am ei wasanaeth yn fynych, bu raid iddo ef a'r eglwysi edrych allan am gynorthwywr yn y weinidogaeth. Yn 1808, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Evans, Bangor, a'r hon y cydsyniodd. Daeth ef a'i deulu yma, Mehefin 20fed, 1808. I fod yn gydweinidog a Mr. Davies y galwyd Mr. Evans yma, ond cafwyd allan yn fuan mai y cynllun mwyaf cysurus i'r gweinidogion a'r eglwysi, oedd rhanu maes y llafur, a rhoddi i bob gweinidog ei ran ei hun. Felly cyfyngodd Mr. Davies ei lafur i'r Dref, Clydach, a'r Ysgetty, a Mr. Evans, i'r Mynyddbach a Threforis. Yn fuan drachefn, helaethodd cylch Mr. Evans yn ddirfawr, pan aed i alw am bregethu cyson yn Nglandwr, Llansamlet, a'r Felindre'. Wedi marwolaeth Mr. Davies, disgynodd gofal y ddiadell fechan yn Nghlydach arno, ac ar ol i'r holl ganghenau hyn fyned yn annibynol ar y fam-eglwys, yr oedd yn rhaid iddo dori bara yn y naill le a'r llall bob Sabboth, a dwy waith bob yn ail Sabboth. Yr oedd ei lafur yn awr yn ddirfawr, trwy ei fod yn gorfod pregethu dair gwaith bob Sabboth, a bod yn bresenol mewn cynifer o gyfarfodydd eglwysig, angladdau, &c. Bu farw y gweinidog defnyddiol a llafurus hwn, Mawrth 3ydd, 1835.
Wedi marwolaeth Mr. Evans, rhanwyd ei gylch gweinidogaethol yn bedwar. Dewisodd yr eglwysi yn Nhreforis, Glandwr, a'r Felindre', weinidogion iddynt eu hunain, a chan fod yn y fam-eglwys yn y Mynyddbach rhwng tri a phedwar cant o aelodau, yr oedd yn ddigon galluog i gynal gweinidog ei hun. Yn nechreu y flwyddyn 1836, rhoddwyd galwad i Mr. Isaac Harris, Talysarn, Arfon, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Mai y flwyddyn hono. Yr oedd Mr. Harris yn bregethwr galluog lawn, a bu yn dra llwyddianus yma am tua dwy flynedd. Yna cafwyd allan nad oedd ei fuchedd yn deilwng o weinidog yr efengyl, a'r canlyniad fu i'r eglwys fyned i gyflwr terfysglyd a rhanedig iawn. Gwrthwynebai rhai y gweinidog yn benderfynol, ac yr oedd eraill yn gwrthod credu y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn, ac am hyny, yn ei bleidio. Y canlyniad fu i'r eglwys rwygoaeth dau cant a phedwar-ar-bymtheg o'r aelodau allan gyda Harris, ac adeiladasant gapel eang yn y gymydogaeth. Aeth Harris yn fuan yn rhy ddrwg i'w bleidwyr ei hun i'w ddyoddef, a bu raid iddynt ymwrthod ag ef. Yna cynygiasant eu hunain i gyfundeb y sir, a phan ddarfu i'r gymanfa yn y Taihirion yn Mai, 1841, eu gwrthod, cynygiasant eu hunain i'r Bedyddwyr, a chymerodd y rhan fwyaf o honynt eu trochi. Dyna ddechreuad yr achos yn Nghaersalem newydd. Yr oedd yn eu mysg lawer o ddynion da, ac y mae yn ddiameu pe buasid ychydig yn fwy tirion a phwyllog, y gallesid eu cadw gyda'r Annibynwyr hyd y dydd hwn. Yr oedd, ac y mae, yr ardal yn ddigon poblog i gynal dau achos. Yn Mai, 1840, dechreuodd Mr. John Davies, Aberdar, ei weinidogaeth yn y Mynyddbach. Yr oedd yr hen eglwys hon yn awr, trwy y rhwygiad diweddar, ac ymadawiad tua thriugain o'r aelodau i ddechreu yr achos yn Nghadle, wedi myned yn wan a chydmarol fechan. Dywed Mr. Davies, mai cant ac ugain oedd rhif yr aelodau pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma. Cynyddodd wedi hyny yn raddol fel yr oedd y rhif yn fwy na dau gant cyn marwolaeth Mr. Davies, yn 1854. Yn y flwyddyn 1855, rhoddwyd galwad i Mr. John Daniel, aelod gwreiddiol o'r Bryn, Llanelli, y gweinidog presenol. Yr oedd Mr. Daniel wedi ei urddo yn America; a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Hydref 17eg a'r 18ed, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Evans, Clydach; H. Evans, Carmel; J. Davies, Cwmaman; D. Rees, Llanelli; W. Watkins, Maesteg; T. Davies, Siloa, Llanelli; J. Thomas, Bryn; W. Jones, Abertawy; J. Thomas, Glynnedd; T. Davies, Treforis; L. Davies, Ysgetty, a J. Joseph, Llanedi. Mae Mr. Daniel wedi llanw ei le yn deilwng yma, a'r achos yn myned rhagddo yn ddymunol. Yn y flwyddyn 1860, adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar y Drefboeth at gadw Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Mae yn 48 troedfedd o hyd wrth 20 o led. Bwriadwyd ef at gynal Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Mae tua chant a haner o blant ac eraill yn mynychu yr Ysgol Sabbothol a gedwir yma, a chan fod y lle mewn ardal sydd yn cynyddu yn gyflym yn ei phoblogaeth, mae yn dra thebyg y corpholir eglwys yma cyn pen llawer o flynyddau. Yn y flwyddyn 1865, tynwyd yr hen addoldy i lawr, ac adeiladwyd tŷ newydd, 56 troedfedd o hyd wrth 38 o led, y tu fewn i'r muriau. Gellir dyweyd yn ddibetrus, nad oes yr un capel harddach a mwy cyfleus na hwn yn yr holl Dywysogaeth. Y cynllunydd oedd Mr. J. Humphreys, un o ddiaconiaid yr eglwys, ac y mae Mr. Humphreys wedi cynllunio ac adeiladu amryw gapeli yn y gymydogaeth, heblaw y Mynyddbach. Amgylchynir y capel gan fynwent eang, yr hon a helaethwyd yn fawr yn y flwyddyn 1850. Cafwyd tir gan Esgob Tyddewi at ei helaethu. Hyd prydles y capel yw, mil ond un o flynyddau, o ba rai y mae cant a naw wedi pasio.
Cafodd yr eglwys hon ei bendithio yn rhyfeddol, o bryd i bryd, a diwygiadau crefyddol nodedig o ddylanwadol a grymus. Nid oes genym ddefnyddiau i roddi hanes yr hyn a gymerodd le yma o ddechreuad yr achos hyd ddechreuad gweinidogaeth Mr. Lewis Rees, ond o hyny allan y mae genym hanes lled gyflawn. Nid oedd yr achos ond cymharol wan yma pan ymsefydlodd Mr. Rees yn y lle, er fod pregethu cyson yn cael ei gadw i fyny mewn gwahanol gyrau o'r ardal, heblaw Ty'rdwncyn, megis yn yr Ysgetty, y Wiguchaf, a'r Tycoch, gerllaw Treforis. Yn fuan wedi i Mr. Rees ddyfod i'r lle, cafwyd ychwanegiadau cyson at yr eglwys, nes y daeth mewn ychydig flynyddau yn eglwys luosog a dylanwadol. Yn mhen ychydig flynyddau wedi i Mr. Rees ddyfod yma, derbyniwyd dyn hynod iawn, dan amgylchiadau tra nodedig, i gymundeb yr eglwys. Ei enw oedd Roger Rogers, neu "Rotch o Gadle," fel y gelwid ef yn gyffredin. Yr oedd y gwr hwn yn more ei oes, ac yn mhell hyd at ganol ei ddyddiau, wedi bod yn nodedig o wyllt ac afreolaidd ei fywyd, fel meddwyn, ymladdwr, a digrif-ddyn. Trwy ryw foddion anhysbys yn awr, gweithiwyd argyhoeddiad ofnadwy o effeithiol o bechadurusrwydd ei gyflwr i'w feddwl. Teimlai ei gydwybod yn llosgi fel tân o'i fewn nes oedd ei boenau yn anoddefol. Elai oddiamgylch fel dyn gwallgof, a gofynai i bob un a gyfarfyddai a wyddent hwy am ryw foddion i ddiffoddi tân cydwybod euog. Aeth un bore Sabboth i eglwys Llangafelach, a chyfarfyddodd yno a'r person a'r clochydd. Dywedodd ei helynt wrthynt, ond nid oedd ganddynt hwy un cyfarwyddyd i'w roddi iddo amgen na'i gynghori i fyned at Mr. Lewis Rees, fel y dyn tebycaf yn y plwyf o allu ei wellhau. Dilynodd eu cynghor. Deallodd Mr. Rees ar unwaith natur ei glefyd a chyfarwyddodd ef at yr unig feddyginiaeth. Pan yr oedd Mr. Rees ar ei liniau yn gweddio drosto, teimlai loesion ei gydwybod yn dofi i raddau. Yn mhen ychydig derbyniwyd ef i aelodaeth eglwysig, a threuliodd weddill ei oes yn gristion disglaer, ac yn ddiarhebol am ei wresogrwydd. Byddai yn fynych yn tori allan i waeddi dan y bregeth, "O diolch, y mae yn gan mil gwell yma nag yn y dafarn." Dywedai Mr. Rees wrtho weithiau ar ganol y bregeth, "Taw Rotch, fy nhro i sydd i siarad yn awr." Ychydig a wyddai ac a deimlai Rotch am enwadyddiaeth. Byddai yn gwrandaw ac yn cymuno gyda'r Annibynwyr a'r Methodistiaid yn ddiwahaniaeth. Lle byddai fwyaf o dân oedd y lle a hoffai ef. Adroddir fod rhai o gymydogion Rotch wedi achwyn arno wrth feistr y gwaith ei fod gyda'i folianu a'i orfoleddu yn aflonyddu arnynt hwy. Galwodd ei feistr ef ato i'r swyddfa ryw ddiwrnod, a gofynodd iddo beth oedd hyn. Atebodd Rotch nad oedd neb o honynt yn achwyn arno pan oedd yn tyngu a rhegi, a meddwi, ac ymladd nes dychrynu pawb o'i gwmpas; ond yn awr, pan oedd e yn gweddio ac yn canmol ei Dduw, eu bod yn achwyn arno. "Wel Rotch,' ebe ei feistr, "rhaid i ti beidio a dy stwr, a bod yn ddistaw gyda dy grefydd fel pobl eraill." "Alla i ddim syr," atebai Rotch. "Beth wedsech chwi syr tyswn i yn myned yn llaw y swyddog i'r carchar am ddyled, a chwithau yn dod i'n cwrdd ni, ac yn gofyn iddo, ble yr oedd e yn myn'd a fi; ac wedi cael gwybod yn talu drostw i, ac yn fy ngollwng i yn rhydd. Odych chi yn meddwl, syr, y gallaswn i beidio a'ch canmol wrth bawb. O! syr, yr own i yn llaw cyfiawnder, yn ymyl drws y carchar, ar gael y mwrw i mewn; ond fe ddaeth Iesu anwyl yn mlaen, ac a 'wedodd wrth gyfiawnder am fy ngollwng i yn rhydd, y talsa ef fy nyled. Ych chi yn meddwl, syr, y galla i beidio a'i ganmol—Bendigedig fyddo ei enw." A chyda hyny, dechreuodd ei folianu yn swyddfa ei feistr, ac yr oedd llygaid y boneddwr yn llenwi o ddagrau wrth ei wrando, ac ni feddyliodd byth mwy am ei wahardd, canmoled a molianed a fynai. Mae lluaws o engreifftiau cyffelyb o angerddoldeb ei deimlad, yr hyn a ddangosai mor ddwfn a gwirioneddol oedd ei argyhoeddiad. Bu farw yr hen gristion nodedig hwn Rhagfyr 6ed, 1821, yn 78 oed. Ei gyfansoddiad ef yw y penillion canlynol o berthynas i'w droedigaeth a'i brofiad. Ni ddigwyddodd i ni weled dim arall o'i waith.
"Pan o'wn i ar fy ngwely,—Un prydnawn, &c.,
Heb feddwl dim ond pechu,—Un prydnawn,
Fe ddaeth ei danllyd saethau,
Y ddeddf a'i dychryniadau,
I'm tori lawr yn ddiau,—Un prydnawn, &c.,
A gado'm holl bleserau,—Un prydnawn.
O Iesu, mhriod hawddgar,—Diolch byth, &c.,
Ddanfonodd Duw i'r ddaear,—Diolch byth,
Fe lanwodd y cysgodau,
Cyflawnodd y 'Sgrythyrau,
Bu farw dros fy meiau,—Diolch byth, &c.,
Mae'n eiriol dros bechodau,—Diolch byth.
Ceir gwel'd yr arfaeth foreu—Cyn b'o hir &c
Yn esgor ar ei pherlau— Cyn b'o hir
Fe gwyd y meirw allan
Daw'r defaid idd ei gorlan
Trwy waed y bugail cadarn—Cyn b'o hir &c
Er gwaethaf dyfais Satan—Cyn b'o hir
Ni feddai'n wyneb angau,—Ond efe, &c.,
Pan elwyf i'r clorianau,—Ond efe,
Mi fentra yn ei glwytau,
Heb ddim o'm cyfiawnderau,
Ni feddai ddim yn bwysau,—Ond efe, &c.,
Pan elwy' i o flaen y frawdle,—Ond efe.
Fe'm prynodd o gaethiwed,—Do yn wir, &c.,
O ddwylo'r hen gythreuliaid,—Do yn wir,
O blith y criw uffernol.
Oddiwrth euogrwydd damniol,
Fe'm golchodd yn y ffynon,——Do yn wir, &c.,
Addawodd i mi goron,—Do yn wir.'
Mae yn ddiameu mai nefoedd ar y ddaear oedd gwrandaw yr hen bererin yn datganu y penillion hyn yn y teimlad a'i nodweddai ef.
Yn fuan wedi i Mr. Rees symud o Lanbrynmair, daeth gwr ieuangc o'r eglwys hono ar ei ol i'r ardal hon, er mwyn cael mwynhad o'i weinidogaeth. Ei enw oedd William Jones. Cafodd le mewn swyddfa yn Abertawy i ennill ei fywioliaeth, a threuliodd weddill ei oes yma. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ddyn nodedig o grefyddol. Elai i fyny o'r dref i'r Mynyddbach bob Sabboth, ac yr oedd yn cyrhaedd yno tuag awr cyn pryd oedfa, er mwyn darllen ychydig benodau i bobl y wlad a ddeuant yno yn gynar. Aeth darlleniadau William Jones, gydag amser, mor boblogaidd a'r pregethau, a byddai y capel yn orlawn yn gyffredin erbyn y buasai yno. Arferai y gwr da hwn ysgrifenu pob pregeth a wrandawai, ac yn neillduol pregethau ei hoffus weinidog, y rhai a gofnodai agos air yn ngair. Mae tair cyfrol o'i ysgrifeniadau yn ein meddiant ni yn awr, sef y pregethau a wrandawodd yn y blynyddoedd 1764, '65, '66 a '78. Heblaw y pregethau, cynwysa y cyfrolau gwerthfawr hyn lawer o nodiadau hanesyddol a phrofiadol o eiddo yr ysgrifenydd. Yr oedd yr achos yn y Mynyddbach yn y blynyddoedd hyn, yn ol tystiolaeth William Jones, yn rhyfeddol o lewyrchus. Ar ddiwedd ei gofnodiad o bregeth Mr. Rees, oddiar Esaiah xliv. 5., ar Sul cymundeb, Chwefror 10fed, 1765; ysgrifena, "Heddyw yr oedd un-ar-ddeg o aelodau yn cael eu derbyn i mewn i'r gynnulleidfa—saith o ferched ifainc, a dau ŵr ifanc, a dwy wraig newydd briodi. Duw a wyr pa faint o honynt oedd mewn undeb dirgelaidd a Iesu Grist. Rhwng y bregeth a'r ordinhad efengylaidd o Swper yr Arglwydd, ynghyd a'r olwg ddymunol o weled cynifer o ddynion ifainc yn ymofyn y ffordd tua Sïon, a'u hwynebau (mewn golwg allanol o'r hyn lleiaf,) tuag yno. Rhwng y naill beth a'r llall, meddaf, ni a gawsom un o'r oedfeydd mwya' dymunol ag a gefais erioed, a hyn oedd cyfaddefiad neillduol amryw eraill. O Dduw na âd i'n mwynder ni ymado, ond helpia ni, yn enwedig y rhai ifainc, i ddal ein ffordd ac i chwanegu cryfder. O Arglwydd na chaffer fi, yr hwn wyf yn awr er's rhai blynyddoedd wedi cyfenwi fy hun ar enw Israel, a rhoi fy hunan i ti, yn byw yn segur nac yn ddiffrwyth yn dy winllan di. Amen." Mawrth 10fed, 1765, ar ol pregeth Mr. Rees, oddiar Phil. iii. 8. Ysgrifena, "Yn wir, y mae genyf achos mawr i gwyno am fy nghalongaledwch dan y gyfryw weinidogaeth wresog ac efengylaidd. Heddyw y derbyniwyd Pally Rees[5] i'r gynnulleidfa, ac o mor serchiadol, mor ddifrifol, ac mor syml, yr oedd ei thad yn ymddiddan a hi, yn mhlith eraill, a hithau newydd wella ychydig ar ol bod yn glaf. Duw bendithia y naill beth a'r llall iddi hi, ac i ninau hefyd, i'n dwyn yn nes atat ti dy hun." Ar ol cofnodiad helaeth o bregeth gan Mr. John Powell, Henllan, oddiar Salm lxxxvii. 5. Sylwa, "O mor hyfryd oedd hi wrth gyfranu y Sacrament, pan oedd Mr. Rees yn holi ac yn rhybuddio y llangc ifanc oedd yn cael ei dderbyn i mewn. Fe fyddai yn dda genyf, debygwn weithiau, pe byddwn i yn un bob tro yn cael fy nerbyn i mewn, pan fwyf yn gwrando ar ein gweinidog anwyl a pharchedig yn cynghori, yn anog, ac yn gweddio dros y brodyr a'r chwiorydd fo yn cael eu derbyn i mewn, yn enwedig y rhai ifainc." Mae yn ymddangos fod y deng-mlynedd-ar-hugain cyntaf o dymhor gweinidogaeth Mr. Rees yn y Mynyddbach, yn ysbaid o lwyddiant graddol a chyson, ond yn y chwe' mlynedd blaenorol i sefydliad Mr. D. Davies, yr oedd yr achos yn hytrach yn dadfeilio, o herwydd methiant Mr. Rees gan henaint, a'r gradd o oerni oedd rhyngddo a'r eglwys ar gyfrif eu hanewyllysgarwch i dderbyn ei fab-yn-nghyfraith i fod yn gydweinidog ag ef.
Yn ddioed ar sefydliad Mr. Davies yn y lle, adfywiodd yr achos yn anghyffredin, ac ychwanegwyd canoedd yma, ac yn yr Ysgetty mewn ychydig amser. Yn y flwyddyn 1807, torodd diwygiad nodedig o rymus allan. Yr oedd y dylanwadau mor nerthol nes y byddai y bobl yn aros yn y capeli hyd haner nos i ganu, wylo, a gweddio, a byddent drachefn yn finteioedd wrth fyned adref yn aros yma a thraw i weddio. Cafodd llawer o'r dynion mwyaf annuwiol yn yr ardal eu hennill at grefydd yn y diwygiad hwn. Mae rhanau o'r gân a gyfansoddodd Mr. Davies mewn cyfeiriad ato yn deilwng o'u cofnodi yma."Treforis yn ddiweddar, ga'dd brawf o ffafar Daw,
Trwy ei ymweliad grasol, gwnaeth lawer marw'n fyw;
Rhai hen a chanel oedran, ac hefyd ieuengctyd man,
Achubwyd rhai ugeiniau rhag myn'd i uffern dân;
Fe gerddai'r awel rymus i fyny ac i lawr,
A'i thro trwy Abertawy nes briwio muriau mawr;
Ac hefyd Llangafelach o amgylch Mynyddbach,
Cawd yn Nghwmbwrla berlau, fydd byth yn berffaith iach.
Y Gwr a'r bwa ganddo, a lwyddodd ar ei farch,
Nes gwneuthur rhai gelynion o'u bodd roi iddo barch;
Rhai canoedd ca'dd eu cymhell i mewn i eglwys Dduw,
A welwyd yn ddiweddar ar faes y byd yn byw.
Mae rhai o'r cablwyr creulon, gelynion gwaethaf gaed,
Yn moli Duw yn uchel am iachawdwriaeth rad,
A lifodd fel yr afon rhwng lladron ar y bryn,
I olchi'r rhai ffieiddiaf mor lân a'r eira gwyn.'
Yn ddioed ar ol y diwygiad tanllyd hwn, ysgubwyd llawer iawn o'r trigolion ymaith gan angau, yn enwedig yn Nhreforis. At hyny y cyfeiria y penillion canlynol o'r gân rag-grybwylledig.
"Mi edrychais, ac a welais, wr arall ar y ma's,
Yn tramwy trwy'r ardaloedd ar farch oedd welw las;
A rhoddwyd iddo awdurdod ar bob peth dan y nef,
Ac uffern ddu anhoffaidd yn canlyn gydag ef.
Ar dro daeth i Dreforis, fel gwr awyddus iawn,
I gwblhau gwaith ei Arglwydd yn ddiwyd fore a nawn;
Fe gwympodd frodyr gwrol oedd gu ac anwyl im',
A'u dodi mewn modd buan yn fud heb yngan dim.
Mi gollais eu cyfrinach, fu'n bleser lawer gwaith,
Ni welais byth o'u hwyneb o fewn i'r anial maith;
Aethant yn ngoleu'r haulwen, trwy'r hen Iorddonen ddu,
Maent 'nawr yn canu'r anthem yn nhref Caersalem fry.
Hwy dd'wedent yn dra eglur cyn myn'd o'r corph i ma's,
Fod Iesu Grist yn ddigon yn ngwyneb angau glas;
'Mae'r ffordd o'n blaen yn oleu, ni welwn dir ein gwlad,
Er maint yw grym y tonau, mae'r graig o dan ein traed.'
Ca'dd hefyd famau yn Israel, eleni eu tori lawr,
A'u symud mewn modd sydyn i'r tragwyddoldeb mawr;
Ni welai ddim o'u hwyneb o fewn i'r eglwys mwy,
Nes delo'r awr i ymddatod, gael myned atynt hwy.
Rhyw lawer welai'n eisiau, oedd llynedd ar y llawr,
Yn gwledda gyda'u gilydd wrth fwrdd ein Harglwydd mawr;
Maent 'nawr yn Sion dawel, heb ryfel o un rhyw,
Pob un wrth fodd ei galon, yn gyson foli Duw."
Cafwyd ychwanegiadau mawrion at yr eglwys hon yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, ar wahanol amserau, ond yn y flwyddyn 1829, y bu y cyffroad rhyfeddaf o gwbl yma. Derbyniodd Mr. Evans y flwyddyn hono, yn ystod chwe' mis, chwe' chant a haner o aelodau newyddion i gymundeb eglwysig!! Cafodd yr eglwys hon ei hamddifadu o'r gwlaw grasol a ddisgynodd ar y rhan fwyaf o eglwysi y Dywysogaeth yn y blynyddoedd 1839-41, o herwydd y terfysg a'r rhwygiad anhapus a gymerodd le ynddi. Yn yr adfywiad a gymerodd le yn Morganwg, Mynwy, a chyrau o'r siroedd cylchynol, yn 1849, cafodd y Mynyddbach ran o'r gawod. Ychwanegwyd pedwar-ugain-a-phump at yr eglwys yn y flwyddyn hono. Oddiar hyny hyd yn awr, y mae yr achos wedi myned rhagddo yn ddymunol, er na fu yma unrhyw gyffroadau anghyffredin.
Mae eglwys y Mynyddbach i'w hystyried fel mam i'r holl eglwysi oddi amgylch. Mae yr eglwysi canlynol yn ganghenau uniongyrchol o honi—
Brynteg, Crwys, Ysgetty, Ebenezer Abertawy, Glandwr, Libanus a Horeb, Treforis, Clydach, Felindre', Bethel, Llansamlet, a Chadle. Merched i'w merched hi y gellir ystyried yr eglwysi diweddaraf a ffurfiwyd yn y gymydogaeth. Aelodau o'r Mynyddbach hefyd oedd y rhan fwyaf o sylfaenwyr yr achosion Methodistaidd yn Llansamlet, Crug-glas, Abertawy, ac yn neillduol Treforis.
Gellid yn naturiol ddisgwyl fod lluaws o bregethwyr wedi cyfodi o bryd i bryd mewn eglwys mor hen a lluosog a hon. Mae yn ddigon tebyg i amryw gael eu cyfodi yma yn nhymor boreuaf yr achos, er nas gallasom ni ddyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yw yr unig rai y gwyddom ni am danynt.
William Llewellyn, Cwmmawr. Gweler hanes y Crwys.
Noah Jones, Walsall, sir Stafford. Yr oedd yn enedigol o'r parth uchaf o blwyf Llangafelach. Addysgwyd ef yn Nghaerfyrddin. Bu am ychydig amser yn y Drefnewydd, Maldwyn, ond ni chafodd ei urddo yno. Symudodd i Cradley, yn sir Gaerwrangon, lle yr urddwyd ef yn 1750. Symudodd i Walsall yn 1762, lle yr ymddengys iddo dreulio gweddill ei oes. Mae Mr. Thomas Morgan, Henllan, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef yn yr athrofa, yn dyweyd ei fod yn ŵr ieuangc teilwng a chrefyddol iawn, ac yn ysgolhaig rhagorol.
Daniel Gronow, Bala. Gwelir ei hanes yn nglyn a'r Bala.
Thomas Gray, Abermeurig. Glowr oedd ef wrth ei alwedigaeth, ac yn ei ieuengctyd yr oedd yn wyllt ac annuwiol iawn. Un prydnawn ceisiodd goruchwyliwr y gwaith ganddo fyned yn fore dranoeth ar neges drosto ef i Gastellnedd, yr hyn a wnaeth. Tra yr oedd ef yn Nghastellnedd, dygwyddodd damwain angeuol yn y pwll lle y gweithiai, a chafodd amryw o'i gydweithwyr eu hangau. Yntau, wrth ddychwelyd adref yn feddw, a gyfarfyddodd a dyn yr hwn a'i hysbysodd o'r ddamwain a ddigwy ddasai i'w gydweithwyr, gan ei gyfarch, Twm Gray, yr wyf fi yn synu dy weled di yma; yr oeddwn i yn meddwl dy fod yn uffern er wyth o'r gloch bore heddyw." Effeithiodd y newydd, a geiriau y dyn gymaint arno fel y sobrodd yn y fan, ac ni chafodd ei feddwl lonyddwch o hyny allan, nes iddo ymgymeryd a chrefydd. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Mynyddbach, ac yn mhen ychydig amser cafodd anogaeth i ddechreu pregethu. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Abergavenny, Hydref 3ydd, 1757. Ar orpheniad ei amser yno, cafodd alwad i fyned yn ganlynydd i'r enwog Phillip Pugh yn Abermeurig, Llwynpiod, &c. Syrthiodd yn raddol i gyfeillgarwch mynwesol a'i gymydog Mr. Rowlands, Llangeitho; ac o ychydig i ychydig aeth i ymgymysgu mwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr, a'r canlyniad fu i'r hen eglwysi Annibynol dan ei ofal, erbyn terfyn ei oes ef, fyned yn hollol Fethodistaidd. Bu Mr. Gray farw yn y flwyddyn 1810. Dywedir y byddai ar amserau yn pregethu yn nodedig o effeithiol.
John Vulk. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1745) Bu am rai blynyddau yn cyfaneddu yn y tŷ wrth gapel y Mynyddbach. Teithiodd lawer trwy dde a gogledd fel pregethwr. Ar ol bod am lawer o flynyddau yn pregethu gyda'r Annibynwyr, trodd at y Bedyddwyr, a chyda hwy y terfynodd ei oes yn 90 oed, tua y flwyddyn 1835.
Thomas Jones. Yr oedd yn briod a chwaer Mr. D. Davies, y gweinidog, ac yn enedigol o gymydogaeth Llangeler, ond dywedir mai yn y Mynyddbach y dechreuodd bregethu. Bu am rai blynyddau yn pregethu i'r Cymru yn Lambeth, Llundain. Bu farw Ionawr 27ain, 1817.
David Jones, Clydach. Daw ei hanes yn nglyn a'r He hwnw. David Morgan, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Woolwich. Dichon y bydd genym ychydig hanes i'w roddi am dano pan ddelom at hanes yr achos Cymreig yno.
John Davies, Llansamlet. Yn nglyn a hanes yr eglwys yn Cross Inn y rhoddir ei hanes ef.
John Davies, Mynyddbach. Rhoddir ei hanes ef yn mysg gweinidogion yr eglwys hon.
John Joseph, Llanedi. Gweler hanes yr eglwys hono.
David Davies. Yr oedd ef yn un o'r rhai a aethant allan i adeiladu Caersalem Newydd. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn Nghlydach. Y mae yn awr yn analluog i bregethu o herwydd cystudd a henaint.
William Thomas, Clydach. Bydd genym air am dano yn nglyn ag eglwys y Glais.
Evan Davies, Richmond. Ganwyd ef yn mhlwyf Lledrod, sir Aberteifi. Pan oedd ef yn dair blwydd oed, symudodd ei dad a'i deulu i Lundain, ond gadawyd ef gyda modryb iddo yn y wlad. Pan ddaeth i oed cyfaddas gosodwyd ef i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd. Ar derfyniad amser ei egwyddor wasanaeth aeth i Lundain, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y Boro. Yn y flwyddyn 1827, daeth ef a Mr. W. Thomas, wedi hyny o Glydach, yr hwn oedd yn gweithio ei gelfyddyd fel saer yn Llundain, i lawr gyda'u gilydd i Abertawy, a chan eu bod yn adnabyddus a Mr. Evans, Mynyddbach, trwy ei weled yn Llundain, ymunasant a'i eglwys ef, ac yma yr un pryd y dechreuodd y ddau bregethu. Aethant yn fuan i athrofa y Neuaddlwyd. Ar ol bod yno am ddeunaw mis, symudodd Mr. Davies i'r Athrofa Orllewinol yn Exeter. Ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, cafodd alwad i Great Torrington; ond nid arosodd yno yn hir gan ei fod wedi gwneyd ei feddwl i fyny i fyned allan yn genhadwr. Urddwyd ef yn Llundain yn Ebrill, 1835, i fyned yn genhadwr at y Chiniaid i Penang. Bu yno yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig i'r preswylwyr Saisonig, am bedair blynedd, yna gorfodwyd ef gan ddiffyg iechyd i ddychwelyd adref. Bu wedi hyny am dair blynedd-ar-ddeg yn weinidog yn Richmond, Surrey, ac am ddwy flynedd yn Heywood, ger Manchester. Bu am raio flynyddau olaf ei fywyd heb ofal eglwysig, ond yr oedd galwad am dano bob Sabboth i lenwi pulpudau gweigion. Gwan fu ei iechyd trwy ei oes. Bu farw Mehefin 18fed, 1864. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn nodedig o dduwiol, yn bregethwr da iawn, yn ysgolhaig rhagorol, ac yn dra galluog o feddwl. Ysgrifenodd amryw gyfrolau bychain, a golygodd weithiau Dr. Payne a Dr. Edward Williams. Mae pob peth a ysgrifenodd yn deilwng o ddarlleniad manwl.
Jenkin Jenkins, America. Mae yn adnabyddus wrth yr enw "Siencyn ddwywaith."
Thomas Davies, Horeb, Treforis. Mae yn llafurio gyda pharch gyda phobl sydd yn ei adnabod o'i febyd.
David Lewis, Llanfaple, Mynwy, ac y mae wedi llafurio yno bellach am fwy na 30 mlynedd.
William Rees. Yr hwn sydd yn bresenol yn offeiriad Llanboidy.
Myn rhai o hen bobl y Mynyddbach honi yr anrhydedd o gyfodi Dr. Abraham Rees i bregethu, ond nid ymddengys fod ganddynt dir teg i honi hyny, canys yr oedd y Dr., er ieuenged ydoedd, yn cael ei gydnabod yn mysg gweinidogion Llundain yn 1760, cyn pen blwyddyn ar ol i'w dad symud i'r Mynyddbach. Yr oedd ef yn mysg gweinidogion y tri enwad yn llongyfarch Sior III. ar ei esgyniad i'r orsedd, ac yr oedd drachefn yn mhen triugain mlynedd yn blaenori gweinidogion y tri enwad yn eu llongyfarchiad i Sior IV. ar ei esgyniad yntau i'r orsedd.
Cafodd pob un o'r rhai blaenorol eu hurddo yn weinidogion; ond y mae nifer o bregethwyr defnyddiol wedi cyfodi yma o bryd i bryd na fuont yn weinidogion urddedig; megis, David Hugh, Thomas Evan, David Roberts, yr hwn fu yn pregethu am agos i ddeugain mlynedd gyda pharch a derbyniad nodedig; William Lloyd, John Jones, Howell Hopkin, Daniel David, Thomas Griffith, Ebenezer Edwards, Benjamin Gray, David Jones, gwr ieuangc galluog a gobeithiol a fu farw yn 1824, yn 21 oed, gyda'i fod yn dechreu ymagor yn ei ddefnyddioldeb; Daniel Evans, mab Mr. Evans, y gweinidog. Bu yn fyfyriwr yn athrofa Cheshunt, ond bu farw yn Mawrth, 1835, yn mhen ychydig ddyddiau ar ol ei dad; Samuel Samuel, Evan Jones, Edward Hughes sydd yn awr yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, a'i frawd William Hughes, yr hwn sydd yn ddiweddar wedi dechreu pregethu. Mae y brodyr hyn oll, ond y ddau olaf, wedi gorphen eu gyrfa ddaearol, oddieithr fod un neu ddau o honynt yn fyw yn yr America. Bu rhai o honynt yn ddefnyddiol iawn yn eu hoes, ac y maent yn awr yn derbyn eu gwobr.
Heblaw y pregethwyr a gyfodwyd yn yr eglwys hon, bu ynddi o bryd i bryd lawer o bersonau mwy anghyhoedd, ond etto, nodedig am eu duwioldeb a'u defnyddioldeb. Yn mysg y rhai, gellir crybwyll y tri John Powell, o Gefnyfforest, sef y tad, y mab, a'r wyr. Dywedir mai dan bregeth a draddodwyd gan Mr. Howell Harris wrth Gorseinion, y dygwyd y John Powell, cyntaf, i ystyried ei ddiwedd. Ymunodd yn fuan wedi hyny a'r eglwys yn y Mynyddbach, a bu yn ddefnyddiol iawn fel aelod a pregethwr achlysurol hyd ei farwolaeth. Yr oedd ei fab John Powell, yr ail, hefyd yn aelod ffyddlon, ac yn swyddwr defnyddiol; a bu John Powell, y trydydd, hefyd yn ddefnyddiol a pharchus fel aelod a swyddwr am lawer o flynyddau. Y mae yntau yn awr wedi huno gyda'i dadau, ond y mae ei ddau fab yn debygol o lynu yn ffyddlon yn ngwasanaeth Duw eu henafiaid. Dylai enwau Evan Dafydd a Thomas ei fab, taid a thad Mr. T. Davies, Treforis, a Mr. John Davies, Taihirion, gael eu cadw mewn coffadwriaeth barchus, fel gwyr cedyrn yn yr ysgrythyrau, ac yn enwog am eu ffyddlondeb. Y mae enwau Dafydd Sion Rees, o Gadle; John Rees ei frawd; William Awbre, a Dafydd William, Gelliwern; John Humphreys, o'r Castell, tad Mr. W. Humphreys, Cadle; David Jones, y teiliwr, un o ffyddloniaid y cyfarfod gweddi; John Rosser, John Davies, apostol yr ysgol gân; Evan Jenkin, Jeremiah David, Benjamin David, William Rees, o Gadle, a llawer eraill a allesid grybwyll, yn perarogli yn yr ardal hyd y dydd hwn, a hiliogaeth llawer o honynt yn glynu yn ffyddlon gyda yr achos oedd mor agos at galonau eu henafiaid. Daniel James yw braidd yr unig un o gyfoedion y gwyr uchod sydd yn awr ar dir y byw. Iddo ef yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau a gynwysir yn yr hanes blaenorol. Er ei fod yn awr yn ei wythfed flwydd a phedwar ugain, y mae yn mwynhau iechyd da, Parhacd yr hen eglwys barchus o oes i oes, i gyfodi dynion o gyffelyb feddwl, i'r tadau fu wyr enwog gynt.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
ROBERT THOMAS. Rhoddir yr ychydig hanes sydd genym am dano ef yn nglyn a hanes Maesyrhaf, Castellnedd.
LEWIS DAVIES. Mae yn debygol mai un genedigol o blwyf Llanedi, sir Gaerfyrddin, ac mai aelod o'r eglwys Ymneillduol yno ydoedd. Yn yr Erw-wastad yn y plwyf hwnw yr oedd yn cyfaneddu. Urddwyd ef tua y flwyddyn 1693, a bu Mr. Llewellyn Bevan, Cwmllynfell, a Mr. John Thomas, Aberafan, yn ei gynorthwyo am rai blynyddau, canys yr oedd cylch ei weinidogaeth yn eang iawn. Mae yn ymddangos ei fod yn weinidog rhagorol, ac yn ymdrechgar iawn i addysgu ei bobl yn ngwirioneddau mawrion yr efengyl. Geilw Mr. Edmund Jones ef yn "weinidog enwog iawn." [6] Yr ydym yn barnu iddo farw tua'r flwyddyn 1712.
SAMUEL JONES. Yr ydym ni yn barnu nad oes yr un sail i ameu mai yr un gwr yw hwn a Samuel Jones, Capel Sion, sir Gaerfyrddin. Bernir mai un genedigol o blwyf Llanedi oedd yntau. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, fe ddichon mewn rhan dan Mr. William Evans, ac mewn rhan dan Mr. Thomas Perrot. Bu am rai blynyddau yn byw yn Mhentwyn, Llanon, ac yn cadw ysgol enwog iawn yno. Bu y dysgedig Dr. Richard Price, o Lundain; Mr. Owen Rees, Pentretygwyn, tad Mr. Josiah Rees, Gellionen; Mr. Thomas Morgan, Henllan, ac amryw eraill a ddaethant i enwogrwydd, yn derbyn eu haddysg yn yr ysgol hon. Yr oedd y gair fod Mr. Jones yn gogwyddo at Arminiaeth, ac o herwydd hyny, yr oedd Mr. Edmund Jones yn groes i Thomas Morgan, wedi hyny o Henllan, fyned i'w ysgol. Mae yn lled debyg fod rhyw sail i'r dybiaeth ei fod yn tueddu at Arminiaeth, canys yr ydym yn cael ei fod yn traddodi y siars ar urddiad Mr. David Lloyd yn Llwynrhydowen, yn 1745, ac mae yn hysbys mai canlyniedydd Mr. Jenkin Jones, yr Arminiad, oedd Mr. Lloyd. Pa fodd bynag, y mae yn amlwg fod Mr. Jones yn ddyn difrifol a chrefyddol iawn. Mae Thomas Morgan, Henllan, wrth son am ei fynediad i ysgol Mr. Jones, yn dyweyd, "Tua thri o'r gloch yn y prydnawn cychwynasom o Abertawy, a chyrhaeddasom Bentwyn yn sir Gaerfyrddin erbyn machlud haul. Llonwyd fi yn fawr wrth weled y teulu mor grefyddol, yn darllen ac adrodd yr Ysgrythyrau, ac yn canu Salmau." yn ymddangos fod Capel Sion, Llanddarog, a Thy'rdwncyn, dano fal Mr. Jones oddiar dechreuad ei weinidogaeth, ond rhoddodd Gapel Sïon i fyny tua y flwyddyn 1752, neu yn fuan ar ol hyny. Symudodd o Bentwyn i rywle yn mhlwyf Penbre, lawer o flynyddau cyn ei farwolaeth. Mae yn debyg mai rhyw gysylltiadau teuluol a barodd iddo symud yno, canys nid oedd un eglwys Ymneillduol yn y plwyf hwnw yn ei amser ef. Yr oedd ganddo ffordd bell i fyned o Benbre i Dy'rdwncyn, ond nid mwy nag oedd gan lawer o weinidogion yn yr oes hono, ac oesau diweddarach, i fyned at eu heglwysi. Mae yn ymddangos i Mr. Jones yn ei flynyddau olaf symud o Benbre i Dreforis i gadw ysgol, ac yr oedd ei fab, yr hwn oedd yn efrydydd, yn ei gynorthwyo gyda'r ysgol. O herwydd gofal ysgol ddyddiol, yn nghyda gradd o effeithiau henaint, rhoddodd Mr. Jones a'r eglwys yn Nhy'rdwncyn yn 1759, alwad i Mr. Lewis Rees i ddyfod yn gydweinidog ag ef. Un Sabboth yn y mis y byddai Mr. Jones yn pregethu yn Nhy'rdwncyn wedi i Mr. Rees ddyfod yno, a dengys llawysgrifau Mr. William Jones, fod Mr. Jones yn cadw ei Sabboth yn lled reolaidd yn y blynyddoedd 1764 a 1765, ond ni bu yn pregethu o gwbl yno yn 1766, etto yr oedd yn fyw, canys derbyniodd arian o'r Drysorfa Henadurol o Lundain yn y flwyddyn hono. Digon tebyg ei fod erbyn hyn wedi methu gan henaint, ac iddo farw yn y flwyddyn 1767, neu 1768, ond gan nad yw ysgrifau William Jones am y blynyddoedd hyny yn ein meddiant, nac un crybwylliad am dano mewn un llawysgrif arall, nac argraph a welsom ni, nis gallwn benderfynu amser ei farwolaeth. Gyferbyn a Tachwedd 24ain, 1764, ysgrifena Mr. W. Jones, "Y Sabboth hwn myfi a aethum i'r cwrdd fel arferol, ond ni chawsom ni yr un bregeth yno. Rhwng bod yr hin oer, a'r ffordd yn bell, Mr. Jones a dariodd gartref." Ar ddiwedd cofnodiad helaeth o bregeth gan Mr. Jones, oddiar Luc xiv. 47, yr hon a draddododd yn Nhy'rdwneyn, Awst 18fed, 1764, cawn fel y canlyn, "Hefyd mae cenhadon Duw yn galw ar eich hol. Myfi heddyw, (meddai yr hen ŵr,) sydd yn galw arnoch yn ngwydd nefoedd a daear i ddychwelyd at yr Arglwydd." Ac o'r cynghorion perthynasol, yr anogaethau tyner, a'r geiriau ennillgar oedd ganddo. Mor hyfryd yw traed y rhai sydd yn efengylu pethau daionus; ie yn wir, mor hyfryd yw eu gwedd, ac mor ardderchog yw eu swydd; mor fawr yw eu gwaith, etto mor ddysglaer fydd eu coron.' Er fod Samuel Jones yn ysgolhaig rhagorol, ac yn bregethwr da, etto, nid ymddengys ei fod yn ddyn cyhoeddus iawn. Unwaith yn unig y cawsom ei enw mewn cysylltiad ag urddiadau gweinidogion, ac ni ddigwyddodd i ni weled ei enw yn cael ei grybwyll mewn hanes unrhyw gyfarfod gweinidogion. Dichon fod ei amgylchiadau yn gyfyng, a'i fod yn cael ei gaethiwo gydag ysgol ddyddiol dros y rhan fwyaf o'i oes. Os felly, y mae yn hawdd cyfrif am ei anghyhoeddusrwydd. Mae yn amlwg ei fod yn bregethwr galluog, ac y mae y nifer o'i bregethau a ysgrifenwyd gan William Jones, yn dangos fod ei syniadau yn efengylaidd, ac os oedd yn Arminiad, nad oedd wedi myned cyn belled i'r tir hwnw a rhai o'i gydoeswyr.
LEWIS REES. Ganwyd y diwygiwr a'r gweinidog enwog a llafurus hwn yn Glynllwydrew, Cwmgwrach, Glynnedd, Mawrth 2il, 1710. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau o'r eglwys yn Mlaengwrach, dan ofal gweinidogaethol Mr. Henry Davies. Enw ei dad oedd Rees Edward Lewis. Mab i offeiriad plwyf Penderyn ydoedd. Gofynodd Mr. Rees i'w dad ryw dro pan yn blentyn, pa beth a barodd iddo ef, ac yntau yn fab i offeiriad, ymuno a'r Ymneillduwyr; a'r ateb a gafodd ydoedd, "Lewis bach, gwrando fy machgen i, mi adewais dŷ fy nhad, ac mi ymneillduais oddiwrth yr Eglwys Wladol, o herwydd ysbryd erlidigaethus yr offeiriaid a'r uchel-eglwyswyr yn gyffredinol, ac yr oedd yn rhaid i mi ymneillduo neu fod yn elyn calon i grefydd a chanlynwyr Iesu Grist, ac mi a sicrhaf i ti, Lewis, os byddi di byw i weled fy oedran i, a bod o rhyw ddefnydd gydag achos Crist, y cai dithau deimlo yn chwerw oddiwrth eu hysbryd erlidgar hwy. Hefyd, Lewis, nid wyf yn gweled pa fodd y gall dyn fod yn dduwiol wrth erlid duwiolion, na pha fodd y gall Eglwys Wladol fod yn eglwys i Grist, ac hefyd yr wyf yn dewis crefydda yn mysg y dybycaf eu hysbryd i ysbryd addfwyn Iesu Grist.' Yn yr ateb hwn cafodd y mab ddigon o resymau dros ei ymneillduaeth gan ei dad, fel na ofynodd ddim iddo ar y pen hwn mwyach. Un o ddau o blant oedd Mr. Rees. Christiana oedd enw ei chwaer, yr hon a dreuliodd y rhan fwyaf o'i hoe s yn agos i Benybont-ar-ogwy, lle y bu farw. Pan yn blentyn ieuangc anfonodd ei rieni Lewis Rees i ysgol a gedwid gan Mr. Henry Davies, eu gweinidog. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mlaengwrach pan yn ieuangc iawn. Ar ol bod am rai blynyddau yn ysgol Mr. Davies, aeth i ysgol Mr. Joseph Simons, yr hwn a gadwai ysgol ramadegol yn, neu yn agos i Abertawy. Wedi hyny, bu am dymor yn derbyn addysg gan Mr. Rees Price, Ty'nton, Penybont-ar-ogwy, ac oddiyno aeth i'r athrofa i'r Llwynllwyd, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal Mr. Vavasor Griffith. Pan ddeallodd ei athraw ei fod yn ŵr ieuangc gobeithiol a galluog fel pregethwr, a'i fod trwy y manteision a gawsai yn flaenorol yn ysgolhaig lled dda, anogodd ef, ar ol iddo fod yno ychydig fisoedd, i fyned allan ac ymroddi i waith y weinidogaeth, gan fod y fath angen yn y wlad am wasanaeth gwr o'r fath gymhwysderau. Tua yr amser hwnw galwodd yr apostolaidd Edmund Jones, o Bontypool, heibio y Llwynllwyd, ar ei ffordd adref o daith trwy y gogledd. Rhoddodd anogaeth rymus i'r gwr ieuangc i fyned i Lanbrynmair, lle y barnai fod maes addawus iddo i'w wrteithio, ac er ei galonogi aeth yn ei ol o'r Llwynllwyd gydag ef i'w gyflwyno i'r bobl, a'r bobl iddo yntau. Bernir mai yn y flwyddyn 1734, y cymerodd hyn le. Ymserchodd Mr. Rees a'r bobl yn eu gilydd, ac ychwanegwyd llawer at y gynnulleidfa yn fuan. Bu yno am bedair blynedd cyn iddo gael ei urddo. Yn ei fam-eglwys yn Mlaengwrach yr urddwyd ef, Ebrill 13eg, 1738. Yna dychwelodd i Lanbrynmair, lle yr ymaflodd yn ei waith a'i holl egni. Yn 1739, adeiladwyd y capel, a thrwy lafur dibaid y gweinidog, talwyd y ddyled mewn ychydig amser. Bu sefydliad Mr. Rees yn Llanbrynmair yn fendith, nid yn unig i'r ardal hono, ond hefyd i Ogledd Cymru yn gyffredinol. Yr ydym eisioes wedi cael achlysur i grybwyll am ei lafur, ei lwyddiant, a'i beryglon yn y Bala, Llanuwchllyn, a Llanymawddwy, a phan y delom at hanes yr eglwysi yn Arfon o Mon, bydd genym etto lawer o bethau dyddorol i'w cofnodi am ei lafur a'i ddyoddefiadau. Bu yn rhyfeddol o lafurus a llwyddianus i blanu achosion newyddion mewn gwahanol ardaloedd, yn Maldwyn a Meirion, yn ysbaid ei arosiad yn Llanbrynmair, ac nid oedd un eglwys Annibynol yn y Gogledd, yn y tymor hwnw, nad ymwelai efe a hi unwaith neu ddwy bob blwyddyn. Tua y flwyddyn 1745, symudodd o Lanbrynmair i Faesyronen, Maesyfed, a bu yno dair blynedd, yna dychwelodd at ei hen gyfeillion i Lanbrynmair. Byddai yn myned atynt yn fisol trwy ysbaid y tair blynedd y bu yn Maesyronen, ac ni chafodd lonyddwch ganddynt hwy na chan ei feddwl ei hun nes iddo ddychwelyd atynt. Mae yn debyg mai ei amgylchiadau teuluol a barodd y symudiad hwn, canys un o gymydogaeth Maesyronen oedd ei wraig. Ar ol llafurio drachefn yn Llanbrynmair a'r cylchoedd o 1748 hyd 1759, gwnaeth ei feddwl i fyny i symud i'r Deheudir ac i beidio dychwelyd mwy. Mewn cydsyniad a galwad yr eglwys yn Nhy'rdwneyn, symudodd yno yn 1759, ac yno y bu nes i lesgedd henaint ei orfodi yn y flwyddyn 1795, i roddi ei weinidogaeth i fyny. Mae yn debyg mai sefyllfa isel crefydd yn nghymydogaeth Abertawy, yn nghyda'r ystyriaeth fod Mr. Richard Tibbot yn un cymwys yn mhob ystyr i gymeryd ei le yn Llanbrynmair, a'i harweiniodd i'r penderfyniad i symud, a dangosodd ei lwyddiant yn y cylch hwn, a llwyddiant Mr. Tibbot yn Llanbrynmair, iddo wneyd yr hyn oedd yn unol a meddwl yr Arglwydd. Ar ol rhoddi ei ofal gweinidogaethol i fyny yn y Mynyddbach, Ysgetty, a Threforis, parhaodd Mr. Rees i bregethu yn achlysurol hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Bu farw mewn tangnefedd yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, Mr. John Davies, Llansamlet, Mawrth 21ain, 1800, yn 90 oed, ar ol bod yn pregethu yr efengyl am tua thriugain a deg o flynyddau. Ei destyn diweddaf yn y Mynyddbach oedd, "Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio." Dywedir fod yr oedfa hono yn nodedig o doddedig. Claddwyd ef yn mynwent y Mynyddbach. Ar yr achlysur pregethwyd gan Mr. Evan Davies, Llanedi, oddiar Luc ii. 29. Testyn a ddewisasid gan yr ymadawedig flynyddau cyn ei farwolaeth.
Tua y flwyddyn 1740, priododd Mr. Rees ferch Mr. Abraham Penry, gwr cyfrifol o ardal Maesyronen, a bu yn ddedwydd iawn yn ei sefyllfa briodasol am bedair blynedd-ar-ddeg-a-deugain. Cawsant chwech o blant, yr ail o ba rai oedd yr enwog Dr. Abraham Rees. Eu hunig ferch oedd Mary, gwraig Mr. John Davies, Llansamlet. Pan aeth Mr. Rees at ei dad-yn-nghyfraith i ofyn ei ganiatad i gael ei ferch yn wraig, gofynodd iddo pa eiddo oedd ganddo i gyfateb i'r hyn oedd ganddo ef i'w roddi gyda'i ferch. Yntau a ymaflodd mewn Bibl, ac a atebodd, "Hwn yw fy nghynysgaeth i." Boddlonodd hyny Mr. Penry, a chaniataodd iddo gael ei ferch yn wraig.
Yr oedd Mr. Rees yn un o'r gweinidogion mwyaf enwog, llafurus, a defnyddiol yn ei oes. Teithiodd lawer trwy holl siroedd Cymru, ac yr oedd yn dderbyniol a defnyddiol pa le byang yr elai. Fel pregethwr rhagorai ar y rhan fwyaf o'i gydoeswyr, ac fel gweddiwr yr oedd heb ei ail. Sonia amryw o'i gydnabod am yr effeithiau digyffelyb a gydgerddent a'i weddiau cyhoeddus. A thra yr oedd ei gyflawniadau cyhoeddus agos bob amser yn cael eu dilyn gan effeithiau daionus, nid oedd ei ymddiddanion cyfrinachol a phersonau unigol a theuluoedd yn llai effeithiol. Unwaith aeth i dŷ i lettya, ac ar ol swper, adroddai y tad a'r fam wrtho gyda dagrau y gofid a deimlent o herwydd afradlondeb eu hunig blentyn, Thomas, yr hwn oedd yn troi allan yn llangc gwyllt iawn. Bore dranoeth cyn y weddi deuluaidd, ymaflodd Mr. Rees yn llaw y gwr ieuangc, a siaradodd ychydig yn effeithiol a serchus ag ef am fater ei enaid, ac yn ei weddi tywalltai allan ddymuniadau ei galon ar ei ran gyda dylanwad anorchfygol. Yn mysg pethau eraill, dywedai, "O Arglwydd, dywed wrth y Thomas hwn, Na fydd anghredadyn, ond credadyn." Dywedai Thomas ar ol hyny, fod y geiriau yn myned i'w galon fel cleddyf. Y canlyniad fu iddo gael ei wir droi at yr Arglwydd, a threuliodd weddill ei oes yn gristion hardd. Adroddai Mr. Roberts, Llanbrynmair, yr hwn oedd yn fab i un o gyfeillion mynwesol Mr. Rees, yr hanesyn canlynol:"Pan oedd Mr. Rees ar ymweliad yn Llanbrynmair, ar ol iddo symud i'r Mynyddbach, galwodd un diwrnod, tua chanol dydd, yn nhŷ fy nhad, ychydig wythnosau wedi marwolaeth fy mam. Ar ol ymddiddan ychydig a fy nhad, dymunodd am i'r plant gael eu galw yn nghyd i'r ystafell. Efe a eisteddai mewn cadair freichiau. Galwodd ato bob un o'r plant, ac yr oeddym yn saith o nifer. Ymaflodd yn llaw pob un o honom, o'r hen af i'r ieuengaf, gan ofyn ein henwau, a dywedyd ychydig eiriau caredig wrthym, cyfatebol i'n hoed. Ar ol darllen penod, ac egluro ychydig arni, aeth ar ei luniau a gweddiodd, gan ddymuno rhyw beth neillduol i bob aelod o'r teulu, ac enwi pob un o'r plant wrth ei enw. Er nad oeddwn i y pryd hwnw ond un-flwydd-ar-ddeg oed, gadawodd argraff ar fy meddw nas gall amser byth ei dileu." Nid yw yr hanesion hyn ond engreifftiau o'r hyn a wnelai y dyn da hwn yn gyffredin yn y teuluoedd yr elai iddynt.
Calfiniad cymedrol oedd Mr. Rees o ran ei olygiadau athrawiaethol, ond er nad oedd yn uchelgalfiniad yr oedd yn mhell o goleddu unrhyw gydymdeimlad a'r Arminiaeth anefengylaidd a bregethid gan lawer o weinidogion Ymneillduol ei oes. Teimlai sel angerddol dros athrawiaeth efengylaidd, tra yr oedd mor selog a hyny yn erbyn golygiadau antinomaidd. O herwydd ei fod yn dal mor dyn dros sancteiddrwydd ymarferol, yn ei bregethau, dywedodd dyn wrtho unwaith, "Pregethwch rad ras i'r bobl, ac fe ddysg gras iddynt wneyd eu dyledswydd." "Yr wyf yn ofni," atebai yntau, "y dysg eu llygredd iddynt beidio." Er fod ei fab, Dr. Abraham Rees, yn Arminiad uchel, os nad yn Ariad, nid oedd yn dylanwadu dim ar olygiadau efengylaidd ei dad. Darfu i'w sel dros syniadau efengylaidd gyffroi Mr. Rees, yn y flwyddyn 1793, pryd yr oedd yn dair-a-phedwar-ugain oed, i gyfieithu a chyhoeddi pregeth Dr. Bogue, ar y "Mawr bwys o fod ein tybiau mewn crefydd yn gyson a'r Ysgrythyr." Er ei fod yn selog dros ei olygiadau neillduol ei hun, yr oedd yn ddyn nodedig o ryddfrydig. Cyfeillachai lawer a'r Methodistiaid, ac fel y mae yn hysbys, trwy ei anogaeth ef yr aeth Mr. Howell Harris gyntaf i'r Gogledd. Er iddo gael mesur o ofid yn Llanbrynmair o herwydd y croesolygiadau ar fedydd oedd yn yr eglwys, a bod rhai o'r Bedyddwyr mwyaf penboeth yn feio, etto yr oedd y rhai duwiolaf a mwyaf rhyddfrydig o'r enwad hwnw, yn gystal ag enwadau eraill, yn ei anwylo a'i barchu. Aeth un o weinidogion y Bedyddwyr yn Abertawy ato unwaith i ofyn benthyg ei geffyl i fyned i daith i bregethu. "Cewch a chroesaw frawd anwyl, canys dyfroedd lawer nis gallant ddiffoddi cariad," oedd ei ateb iddo. Yn 1812, cyhoeddwyd llyfryn bychan o hanes bywyd Mr. Rees, gan Mr. Roberts, Llanbrynmair. Ond gan na chyhoeddwyd dim am dano hyd ben deuddeng mlynedd ar ol ei farwolaeth, a phan oedd y rhan fwyaf o'r rhai a'i cofient yn nyddiau ei nerth wedi meirw, a chan nad ymddengys fod Mr. Rees yn arfer cadw cofnodion ysgrifenedig o'i lafur a'i helynt, y mae canoedd o ffeithiau dyddorol yn ei hanes wedi eu colli. Dydd y farn yn unig a ddengys y daioni a wnaed ganddo yn Neheudir a Gogledd Cymru.
DAVID DAVIES. Rhoddir ei fywgraphiad ef yn nglyn a hanes Ebenezer, Abertawy.
DANIEL EVANS. Ganwyd Daniel Evans mewn anedd-dy o'r enw Maindala, yn mhlwyf Eglwyserw, yn sir Benfro, Ionawr 16eg, 1774. Enwau ei rieni oedd David ac Ann Evans, ac yr oeddynt yn bobl onest a pharchus yn ngolwg eu cymydogion. Symudodd ei rieni cyn hir ar ol geni Daniel Evans, i le a elwir Trefygin, ac oddiyno drachefn i le a elwir Treboeth, yn mhlwyf Trewyddel. Cafodd yma ychydig fanteision addysg, gwell nag a roddid yn gyffredin i blant yn y dyddiau hyny. Nid oedd ond egwan o gorph y pryd hwnw, ac oblegid hyny, gadawyd ef yn hwy yn yr ysgol na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion. Dysgodd ddarllen ac ysgrifenu, ac ychydig o rifyddiaeth a Gramadeg Saesonaeg. Pan yn ddeuddeg oed rhwymwyd ef yn egwyddorwas gyda dilledydd, ac wedi treulio dwy flynedd felly, bu yn gweithio o fan i fan yn y gymydogaeth. Yr oedd er yn ieuangc o duedd fyfyrgar, a dilynai bobl oedranus i foddion gras, a dywedai fod arno er yn blentyn awydd am fyned yn bregethwr. Pan tua phymtheg oed teimlodd argraffiadau crefyddol cryfion ar ei feddwl, yn benaf trwy bregethau ei hybarch weinidog, Mr. John Phillips, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn Nhrewyddel. Yn fuan wedi ei dderbyniad yn aelod, barnodd yr eglwys a'r gweinidog fod cymhwysderau ynddo at y weinidogaeth, ac anogwyd ef i barotoi at hyny. Gwnaeth y prawf cyntaf ar bregethu yn nhy ei hen weinidog, Mr. Phillips, ac er mai gwan oedd yn ei farn ei hun, etto cymhellid ef i fyned yn mlaen, ac felly y bu am ysbaid blwyddyn yn pregethu ychydig o dŷ i dŷ cyn cael ei gydnabod yn bregethwr rheolaidd gan yr eglwys. Galwyd arno i bregethu mewn cyfarfod eglwysig yn y capel, ac wedi ei wrandaw, pasiwyd penderfyniad i'w gymeradwyo i sylw eglwysi eraill, pa le bynag y byddai galwad am dano; ac ar ol hyn pregethai fynychaf yn rhywle bob Sabboth. Nid oedd etto wedi cyrhaedd ei ddeunaw mlwydd oed, a pharhai i ddilyn ei alwedigaeth bob dydd, a phregethu y Sabboth lle y gelwid am ei wasanaeth. Pan tua 22 oed, gwahoddwyd ef i Lanwrtyd i gydlafurio a Mr. Isaac Price yno, ac yn Nhroedrhiwdalar, a bu yno yn llafurio yn ddiwyd a chyda chymeradwyaeth am dair blynedd. Yn yr ysbaid y bu yn Llanwrtyd, priododd a Mrs. Mary Jones, gweddw Mr. Rhys Jones, Llawrdre, yn mhlwyf Llanwrtyd, yr hon oedd yn lled gysurus arni o ran ei hamgylchiadau bydol, ac heb ond un ferch. Yn y flwyddyn 1799, penderfynodd fyned ar daith trwy y Gogledd. Nid oedd etto wedi yn teimlo i ei urddo i holl waith y weinidogaeth, ac ymddengys ei fod raddau oblegid arafwch yr hen weinidog a'r eglwysi yn symud yn mlaen at hyny. Yr oedd yr hybarch D. Williams, Llanwrtyd yn fachgenyn ieuangc yn cychwyn gydag ef i'r daith hon. Ymwelsant a Bangor, İle yr oedd eglwys fechan heb weinidog, oblegid symudiad Mr. W. Hughes i Ddinas Mawddwy rai blynyddau cyn hyny. Derbyniodd Mr. Evans alwad gan yr eglwys yn Mangor; ac wedi ymgynghori a Dr. Lewis, a Meistri J. Griffith, Caernarfon; B. Jones, Pwllheli, a J. Powell, Rhosymeirch, y rhai a'i cymhellent i gydsynio, atebodd yr alwad, a symudodd i Fangor yn nechreu y ganrif bresenol. Yr oedd Mr. Price, a'r eglwysi oedd dan ei ofal erbyn hyn yn anfoddlawn iddo symud, ond yr oedd ei wraig yn gryf dros fyned, a theimlai yntau y gallasai fod o fwy o ddefnydd yn Mangor yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Mangor, urddwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Griffith, Caernarfon; holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Davies, Treffynon; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. B. Jones, Pwllheli. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri J. Evans, Amlwch; J. Powell, Rhosymeirch; J. Jones, Ceirchiog, a T. Jones, Beaumaris. Nid oedd rhifedi yr aelodau ar ei sefydliad yn Mangor ond pump-ar-hugain, ac yr oedd y capel mewn man anghyfleus, y tu allan i'r ddinas. Deg punt y flwyddyn oedd y cwbl a allent addaw iddo, ac nis gallasai fyw oni buasai yr ychydig eiddo oedd gan ei wraig. Llwyddodd Mr. Evans i gael lle i adeiladu capel mewn man mwy cyfleus yn y ddinas, a gwelodd y fath lwyddiant ar ei lafur, fel yr oedd rhifedi yr aelodau wedi cynyddu cyn ei ymadawiad a'r lle i driugain-a-deg. Nid ymfoddlonodd Mr. Evans yn unig ar lafurio yn Mangor a'r amgylchoedd, ond ymestynodd ei lafur i Lanfairfechan, Dwygyfylchi, Henryd, a Llanrwst, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at hanes yr eglwysi hyny. Cyfarfu a phrofedigaethau yn ysbaid ei arosiad yn Mangor. Bu farw ei wraig, ac yn fuan bu farw ei merch, a gadawyd yntau yn unig; a chan fod eiddo y wraig yn dychwelyd ar farwolaeth y ferch i deulu y gwr cyntaf, nid oedd gan Mr. Evans yn awr ond y weinidogaeth i ymddibynu arni, heblaw yr ychydig a ennillai oddiwrth y gelfyddyd o rwymo llyfrau, yr hon a ddysgodd ar ol ei sefydliad yn Mangor. Cyn hir, priododd a merch ieuangc o'r enw Miss Elizabeth Lewis, yr hon oedd yn aelod o'r eglwys dan ei ofal, yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys, ac o'r hon y ganwyd iddo wyth o blant. Wrth weled ei deulu yn cynyddu, a'r eglwys yn Mangor yn rhy wan i'w gynal, a rhyw gynhenau wedi ymlusgo i mewn, gwnaeth Mr. Evans ei feddwl i fyny i ymadael, a chyn gynted ag y deallwyd hyny, derbyniodd alwadau oddiwrth luaws o eglwysi gweigion, ond tueddwyd ei feddwl i gydsynio a galwad hen eglwys barchus Mynyddbach, a symudodd yno yn Mehefin 1808. Dechreuodd ei weinidogaeth yn y Mynyddbach fel cydlafurwr a'r enwog David Davies, ond yn fuan barnwyd yn ddoethach, fel y crybwyllasom, i ranu y maes eang, a disgynodd y Mynyddbach a Threforis i ran Mr. Evans. Am lafur a gweithgarwch Mr. Evans yn y maes eang yma, caiff hanes y lleoedd a gychwynodd ac a faethrinodd lefaru pan y deuwn atynt; ond gallwn ddyweyd yma na bu gweinidog erioed yn cael ei barchu yn fwy gan bobl ei ofal na Mr. Evans, ac er iddo orfod rhoddi rhai o'r eglwysi i fyny cyn ei farwolaeth o herwydd eangder cylch ei weinidogaeth, etto, yr oedd ganddo fawr ofal am danynt hyd ei ddiwedd, ac edrychent hwythau i fyny ato yntau fel eu tad. Yn y flwyddyn 1820, claddodd Mr. Evans ei ail wraig, yn 36 oed, gan ei adael yn unig gyda phump o blant bach ar ganol eu magu. Bu farw merch iddo yn bedair-ar-ddeg oed, yn mhen blwyddyn ar ol ei mam, ac yn mhen rhai blynyddau bu farw ei fab hynaf yn bedair-ar-bymtheg oed. Cafodd felly fel y gwelir ei ran o drallodion teuluol. Priododd drachefn a Miss Jane John, o'r hon y ganwyd iddo ddau o blant, a'r hon a adawodd yn weddw ar ei ol.
Yr oedd Mr. Evans yn wr galluog mewn corph a meddwl-yn addfwyn a phwyllog o ran ei dymer-yn nodedig o graff o ran ei sylw a'i farn, fel y diangodd heb gael ond ychydig o ofid yn ei gysylltiadau eglwysig. Yr oedd yn bregethwr sylweddol, ac yn traddodi yn rymus, ac yn ddigon hyawal i fod yn foddhaol gan unrhyw gynnulleidfa; ond gan bobl ddeallgar y gwerthfawrogid ef fwyaf. Oran ei olygiadau duwinyddol Calfiniad cymhedrol oedd Mr Evans. Yr oedd wedi darllen gweithiau Dr. Edward Williams ac Andrew Fuller, ac i'r ysgol hono y perthynai, er na ddywedai bob peth yn hollol yn eu ffordd hwy. Ysgrifenodd amryw draethodau, i'r rhai y rhoddwyd lledaeniad eang yn adeg eu cyhoeddiad. Traethawd ar gadwedigaeth babanod, Y Cawg Aur, Cawell y bara croyw, Rhesymau dros Ymneillduaeth, Llyfr Hymnau, &c.; heblaw y bywgraphiadau a ysgrifenodd i Meistri Lewis Rees, Mynyddbach; J. Davies, Alltwen; W. Evans, Cwmllynfell; J. Davies, Llansamlet, ac eraill. Cyhoeddodd hefyd Leferydd yr asyn, yn erbyn Vicer Penbre am ailfedyddio plentyn, ar ol Mr. Howell Williams, Llanelli. Yr oedd yn weithiwr difefl, cyn y gallagai wneyd cymaint o waith, ac erys ei goffadwriaeth yn barchus yn y wlad lle y treuliodd ei oes i lafurio. Bu Mr. Evans yn gwaelu am beth amser. Y Sabboth diweddaf y pregethodd oedd Rhagfyr 7fed, 1834, yn y Mynyddbach, y boreu, ac yn Siloh, Glandwr, am dri o'r gloch yn y prydnawn. Ei destyn diweddaf ydoedd, Marc xvi. 15. "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Y dydd Iau canlynol aeth i lawr i ardal Glandwr i gasglu at yr ymdrech a wneid ar y pryd i dalu dyledion capeli yn Nghymru. Tarawyd ef gan boen yn ei ochr, yr hwn a'i blinodd dros rai dyddiau-yna trodd yn beswch blin, yr hwn a lynodd wrtho hyd nes y rhyddhawyd ef gan angau ganol dydd, Mawrth 3ydd, 1835, yn 61 oed. Claddwyd ef y Llun canlynol, yn mynwent y Mynyddbach, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Roberts, Abertawy, (un o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd); J. Evans, Crwys; D. R. Stephens, Abertawy, (un o weinidogion y Bedyddwyr), a W. Jones, Penybont-ar-ogwy; ac yr oedd mwy nag ugain o weinidogion eraill yn bresenol. Dygwyd holl draul y claddedigaeth gan yr eglwysi a fuasai dan ei ofal cyhyd, ac yr oedd galar mawr drwy yr holl wlad y diwrnod y rhoddwyd Daniel Evans, Mynyddbach yn "nhy ei hir gartref."
JOHN DAVIES. Ganwyd ef mewn amaethdy bychan ar y Drefboeth, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain o Langafelach i Abertawy, Mai 10fed, 1803. Bu farw ei dad pan yr oedd ef yn ieuangc iawn, ac felly ni chafodd nemawr o fanteision addysg yn ei febyd, am iddo orfod myned i weithio i'r gwaith glo pan yr oedd tua deg oed, er cynorthwyo ei fam weddw i fagu ei theulu. Yn mis Mawrth, 1821, pryd yr oedd yn agos i ddeunaw mlwydd oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Mynyddbach gan Mr. D. Evans, ac yn nechreu y flwyddyn 1828, anogodd yr eglwys ef i ddechreu pregethu. Yn mhen tua blwyddyn wedi hyny aeth i'r ysgol at Mr. Evans o'r Crwys, lle y bu am chwe' mis yn dysgu y Gramadeg Saesoneg. Yn Mehefin, 1831, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Llantrisant, Morganwg, lle yr urddwyd ef Gorphenaf 14eg, yn yr un flwyddyn. Bu yn llafurio yno, ac am dymor yn Nhresimwn, mewn cysylltiad a Llantrisant, hyd Gorphenaf, 1836, pryd y symudodd i Aberdare, i gymeryd gofal yr eglwysi yn Ebenezer, Heolyfelin, a Nebo, Hirwaun. Yn Ebrill, 1840, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam-eglwys yn y Mynyddbach, a'r hon y cydsyniodd, er mor ddigalon oedd agwedd pethau yno y pryd hwnw, o herwydd y rhwygiad oedd newydd gymeryd lle yno. Ni bu ei lafur yn ddilwydd. Cynyddodd yr eglwys yn raddol, fel yr oedd yr aelodau tua dau gant o rif yn hir cyn ei farwolaeth ef. Ar amser ei symudiad o Aberdare, i'r Mynyddbach, priododd a Miss Mary Stephens, o Benycae, Mynwy, o'r hon y cafodd saith neu wyth o blant. Gan fod traul ei deulu yn fwy na'r hyn a dderbyniai oddiwrth yr eglwys, ymgymerodd ag arolygiaeth pwll glo yn y gymydogaeth. O herwydd fod rhy fach o awyr mewn rhyw fan yn y gwaith, aeth ef i mewn i edrych y lle, ac aeth yn rhy bell, fel y syrthiodd yn farw o ddiffyg awyr i anadlu. Cymerodd hyn le Medi 6ed, 1854. Yn mhen rhai blynyddau ar ol ei farwolaeth ymfudodd ei feibion i'r America, ac y mae eu mam er's pedair neu bum' mlynedd bellach wedi myned yno atynt. Y mae dau o'i feibion yn weinidogion yn America.
Yr oedd John Davies yn ddyn cryf ac iachus iawn o gorph, yn un o feddwl gweithgar, ac yn siaradwr grymus dos ben. Nid oedd yn naturiol chwaethus a choethedig o ran ei feddwl, ond pe buasai yn cael addysg dda yn moreu ei oes yr oedd ganddo ddigon o alluoedd i'w gymhwyso i droi yn un o gylchoedd pwysicaf y weinidogaeth yn Nghymru. Yn anngwrteithiedig fel yr ydoedd gwnaeth lawer o ddaioni yn ei dymor. Cyhoeddodd gyfrol a alwai Arch y Cyfamod, ac un arall dan yr enw Clorian y Cysegr, yn nghyda nifer mawr o fan lyfrau ar wahanol byngciau, ac yr oedd wedi cyhoeddi amryw ranau o Eiriadur Duwinyddol, ond bu farw cyn ei orphen. Mae yr hyn oll a ysgrifenodd yn fuddiol ac iachus o ran athrawiaeth, ond nad oes mewn dim a ysgrifenodd un radd o wreiddiolder, tlysni, nac arwydd o athrylith; ac y mae ei ysgrifeniadau ef, fel cynnyrchion miloedd o awdwyr eraill, yn debyg o syrthio i ebargofiant. Pa fodd bynag, dengys ei ysgrifeniadau, yn gystal a'i lafur dibaid fel pregethwr, ei fod yn weithiwr difefl. Yr oedd yn ddyn pur ei fuchedd, ac yn un o'r dynion mwyaf diddrwg a charedig a sangoda y ddaear erioed. Cyfarfyddodd a llawer o helbulon yn mlynyddau diweddaf ei oes, ond cadwodd ei gymeriad moesol yn ddifrycheulyd ynddynt oll. Mae bedd-faen hardd wedi ei osod ar ei fedd yn mynwent y Mynyddbach.
BRYNTEG.
Bernir mai cangen o hen eglwys Ty'rdwncyn yw yr eglwys hon, ac iddi gael ei chorpholi yn eglwys yn amser Mr. Lewis Davies, tua y flwyddyn 1693. Dywedir mai mewn anedd-dy yn Nhrefuchaf, Casllwchwr y dechreuwyd yr achos. Yn gynar yn y ddeunawfed ganrif, symudwyd o'r Drefuchaf i Rhydymardy, ychydig gyda haner milldir yn nes i'r dwyrain. Buwyd yn addoli yn hen dy cyfarfod Rhydymardy hyd y flwyddyn 1815, pryd yr adeiladwyd capel y Brynteg. Mae yn debyg i'r eglwys hon o'r dechreuad fod dan yr un weinidogaeth ag eglwys Ty'rdwncyn hyd y flwyddyn 1747, pryd y cafodd un Thomas Jones ei urddo yma. Nid ydym yn gwybod dim am y gwr hwn, ond ei enw ac amser ei urddiad, yr hyn a gawsom yn llyfr eglwys y Cilgwyn, yn llawysgrifen Mr. Phillip Pugh. Mae yn ymddangos na fu cysylltiad Mr. Jones a'r eglwys hon yn faith, oblegid yn Ebrill, 1754, yr oedd Mr. William Evans yn weinidog yma. Mr. Evans, fel yr ymddengys, oedd y gweinidog cyntaf a gadwodd gofnodion eglwysig yma. Mae ychydig ddalenau wedi haner pydru o'r hen lyfr eglwys, a ysgrifenwyd ganddo ef a'i ganlynyddion, yn awr ger ein bron. Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma, ac yn y Cwmmawr, ddau Sabboth o bob mis hyd y flwyddyn 1770, pryd y bu farw, er mawr alar i'r eglwysi a wasanaethid ganddo mor ffyddlon ac effeithiol. Mae rhai o'r cofnodion a ysgrifenwyd ganddo yn llyfr yr eglwys yn dangos fod yr aelodau yn wasgaredig iawn, bod yr achos yn hen yn ei amser ef, a bod llawer o fywyd a gweithgarwch yn yr eglwys. Yr ydym yn cael fod rhai o'r aelodau yn byw yn ymyl tref Abertawy, a rhai yn mhlwyfydd Llanelli, Llangenych, Llanedi, Llanon, a Llangafelach. Yn mysg y marwolaethau a gofnodir, cawn y rhai canlynol: "Mai 8fed, 1754, bu farw yr hen gristion duwiol a selog David Rowland, o blwyf Llanedi. Yr oedd ei enaid yn llawn cysur yn ei awr ddiweddaf. Claddwyd ef yn Llanedi." "William Harry, o dref Casllwchwr, a ymadawodd a'r byd hwn Ionawr 6ed, 1763. Bu yn aelod o'r eglwys hon tua deugain mlynedd. Yr oedd yn un ffyddlon a diwyd iawn gyda moddion gras. Aeth o'r byd hwn a'i enaid yn gyflawn o dangnefedd, ac a'i ffydd yn ddiysgog yn yr Arglwydd Iesu. Ei eiriau diweddaf ydoedd gorchymyn ei unig fab i ras Duw. Claddwyd ef yn Nghasllwchwr." "David Mathew, hen broffeswr a henuriad llywodraethol yn eglwys Rhydymardy, ac ymadawodd a'r bywyd hwn mewn heddwch a thawelwch enaid, Tachwedd 18fed, 1769."
Yn ol yr hen gofnodion hyn, mae yn ymddangos mai tua thri o aelodau yn y flwyddyn oedd yr ychwanegiad at yr eglwys yn nhymor gweinidog aeth Mr. W. Evans, ar ol tynu allan y marwolaethau. Pan ystyrir mai eglwys fechan mewn gwlad deneu o bobl ydoedd, yr oedd y cynydd yn gymaint ag a allesid ddisgwyl. Mae y cofnodiad canlynol yn dangos nad oedd yr eglwys yn amddifad o fywyd ysbrydol: "Medi 6ed, 1762, heddyw trwy gydsyniad unfrydol yr eglwys, cadwasom ddydd o ympryd a gweddi ar ran ein plant ac ieuengctyd y gymydogaeth yn gyffredinol, i ddeisyf bendith yr Arglwydd i wneyd y weinidogaeth yn effeithiol er eu troedig aeth. Traddodwyd ychydig sylwadau sylfaenedig ar y nawfed benod o Nehemiah, a rhoddodd yr Arglwydd radd o'i gymorth i'r hen frodyr i ymdrechu ag ef mewn gweddi. Yr ydym yn cyfrif hyn yn arwydd y bydd iddo, yn ol ei addewid, ein hateb i ryw fesur yn ei amser ei hun." Mae y crybwyllion am gasgliadau sydd yn yr hen lyfr yn dangos fod yr eglwys. hon yn meddu gradd helaethach o gyfoeth ac ysbryd haelionus na'r eglwysi yn gyffredinol yn y dyddiau hyny. Mehefin 22ain, 1755, casglwyd pymtheg swllt ar gais Mr. Owen Davies at adeiladu capel Esgairdawe. Ebrill 22ain, 1759, casglwyd tair punt a deuddeg swllt a chwe' cheiniog at gynorthwyo Mr. Jenkin Morgan i adeiladu capel yn Mon. Yn 1762, casglodd Mr. Lewis Rees dair punt at adeiladu capel y Mynyddbach, ac yn Tachwedd 1770, casglodd Mr. Thomas Lewis ddeg swllt-ar-hugain at adeiladu capel Ty'nycoed, Glyntawy. Mae yn ymddangos fod cyfarfod gweinidogion yn cael ei gynal yn y lle hwn fynychaf bob blwyddyn. Mae y cofnodion canlynol am gyfarfodydd o'r fath wedi diange rhag y difrod a ddigwyddodd i'r rhan fwyaf o hen lyfr yr eglwys. "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy Mai 22ain a'r 23ain, 1751. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Edmund Jones, Joseph Simons, Millbourn Bloom, Thomas Lewis, Owen Davies, Evan Williams, Thomas Davies, a William Evans, gweinidog y lle. Y dydd cyntaf pregethodd Mr. Edmund Jones, oddiwrth Iago i. 16. Yr ail ddydd pregethodd Mr. Owen Davies, a Mr. Millbourn Bloom, y ddau oddiwrth yr un testyn, sef Heb. ii. 3., ac oedfa anghyffredin o doddedig ydoedd. Yr oedd llaw yr Arglwydd i'w gweled yn amlwg yn yr effeithiau a ganfyddid ar y bobl. Dydd o wledd fras i bob cristion ydoedd. Cydunodd y gweinidogion ar y pethau canlynol: (1) I gadw dydd o ddiolchgarwch i'r Arglwydd am arbed y da corniog yn Nghymru rhag y clefyd sydd mewn ffordd o farn oddiwrth yr Arglwydd, wedi difetha miloedd o honynt yn Lloegr. (2) I weinyddu dysgyblaeth lemach ar bersonau o fuchedd anfoesol yn ein gwahanol eglwysi." "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mehefin 2il a'r 3ydd, 1756. Yr oedd y gweinidogion parchedig canlynol yn bresenol, sef Meistri Lewis Jones, Edmund Jones, Lewis Rees, Evan Williams, Thomas Jones, Thomas Davies, Henry Thomas, Rees Davies, William Miller, Benjamin Cadman, Thomas Lewis, William Jones, a William Evans. Pregethodd Mr. Rees Davies bregeth ardderchog y dydd cyntaf oddiwrth 1 Tim. i. 15. Y dydd canlynol pregethodd Mr. Lewis Rees oddiwrth Gal. iv. 18., a Mr. Lewis Jones oddiwrth Mat. xxviii. 20., a bendigedig fyddo enw Duw, oedfa hyfryd ydoedd, canys fe anrhydeddodd yr Arglwydd ni a'i bresenoldeb, i'w enw mawr y byddo'r holl ogoniant. Cydunwyd yn mysg y gweinidogion-(1) I gadw dydd o ympryd a gweddi yn ein gwahanol eglwysi unwaith bob tri mis ar gyfrif cyfeiliornadau yr oes, y marweidd-dra crefyddol sydd yn mysg yr Ymneillduwyr, i ddymuno bendith yr Arglwydd ar arfau Lloegr yn y rhyfel presenol a Ffraingc, ein gelyn cyffredin, i ddeisyf dylanwad yr Ysbryd er troedigaeth y dynion duon yn yr India Orllewinol, ac i ddiolch i Dduw dros y rhai sydd wedi eu dychwelyd yno yn barod. (2) I gadw dysgyblaeth fanylach yn ein heglwysi, ac i fod yn fwy diwyd i holwyddori ein pobl." "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mai 31ain, a Mehefin 1af, 1758, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Joseph Simons, Gellionen; Thomas Jones, Drefach; Millbourn Bloom, Pentretygwyn; Thomas Morgan, Henllan; Lewis Phillips, o'r un lle; Owen Davies, Crofft-y-cyff; Thomas Davies, Castellnedd; David Williams, Cefnarthen; Henry Thomas, Gellidochleithe, (Godrerhos); Isaac Price, Llanwrtyd; David Jardine, Abergavenny, a William Evans, gweinidog y lle. Anrhydeddodd y Duw mawr ni a'i bresenoldeb. Bendigedig fydd ei enw." "Cynaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, Mehefin 10fed a'r 11eg, 1761, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, sef Meistri Morris Griffith, Kebidog, (Trefgarn); David Lloyd, Brynberian; Rees Davies, Canerw; Thomas Davies, Llanybri; John Davies, Trelech; Thomas Jones, Drefach; Thomas Gray, Llwynypiod; Millbourn Bloom, Pentretygwyn; Evan Griffiths, Capel Sion; Jenkin Morgan, o Ynys Mon; Joseph Simons, Castellnedd; Solomon Harris, Abertawy; Lewis Rees, Ty'rdwneyn; Edward Williams, Blaengwrach; Henry Thomas, Gellidochleithe; Thomas Williams, Groeswen, a William Evans, gweinidog y lle, heblaw amryw bregethwyr heb eu hurddo. Fe ymddangosodd y Duw mawr yn amlwg yn ein plith. Bendithier ei enw."
Gallwn farnu oddiwrth luosogrwydd y gweinidogion a ddeuant i'r cyfarfodydd, yr ystyrid Rhydymardy, y pryd hwnw, yn lle o gryn bwysig rwydd. Mae yn ymddangos i'r eglwys oddiar farwolaeth Mr. W. Evans, yn 1770, fod heb un gweinidog sefydlog hyd 1777, pryd yr urddwyd Mr. Noah Jones, myfyriwr o athrofa Abergavenny. Bu Mr. Jones yn llafurio yma gyda mesur o lwyddiant hyd 1784, pryd y symudodd i Lanharan a'r Taihirion. Dilynwyd ef gan Mr. Jonathan Lewis, aelod o eglwys Capel Isaac. Tua dwy flynedd y bu ef yma. Y gweinidog nesaf oedd Mr. Daniel Lewis, myfyriwr o athrofa Croesoswallt. Urddwyd ef yn 1789, a bu yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1803, pryd y symudodd i Zoar, Merthyr. Y gweinidog nesaf oedd Mr. Thomas Edwards, Castellnedd. Mae yn ymddangos. iddo ef ddechreu ei lafur yma yn 1805, ac iddo ymadael yn 1813. Yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono, dechreuodd Mr. Lewis Powell, o Lanrwst ei weinidogaeth yma. Mab yr hybarch Jonathan Powell, Rhosymeirch oedd ef. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Gwrecsam, ac urddwyd ef yn Llanrwst yn 1810. Bu yn llwyddianus iawn am y tymor byr y bu yno, ac yma drachefn, mae yn ymddangos ei fod yn boblogaidd iawn am rai blynyddau. Ond yn raddol daeth yn amlwg ei fod yn yfwr anghymedrol, ac mewn canlyniad, lleihaodd ei barch a'i boblogrwydd, a phan ddeallodd yntau fod yr eglwysi ar fedr ymwrthod ag ef, cymerodd y blaen arnynt, trwy fyned at Esgob Tyddewi i ofyn am urddau esgobyddol. Cafodd yr hyn a geisiai, a threuliodd weddill ei oes yn gurad yn Llanon, sir Gaerfyrddin, yn hollol ddinod a diddefnydd i fyd ac eglwys. Tua diwedd y flwyddyn 1818, y rhoddodd ei swydd i fyny yn y Brynteg a'r Crwys, ac yn mhen ychydig wythnosau wedi hyny, rhoddodd yr eglwysi alwad i Mr. John Evans, yr hwn a lafuriodd yn eu plith am agos i ddeunaw-ar-hugain o flynyddau gyda pharch a llwyddiant mawr. Yn y flwyddyn 1849, gan fod Mr. Evans wedi cymeryd gofal yr achos yn Mhenyclawdd, mewn eysylltiad a'r Crwys a'r Brynteg, teimlai fod maes ei lafur yn ormod, ac felly anogodd eglwys y Brynteg i roddi galwad i Mr. Isaac Williams, yr hyn a wnaethant. Urddwyd Mr. Williams Ebrill 25ain. 1849. Dechreuwyd gwasanaeth yr urddiad trwy weddi gan Mr E. Griffith, Abertawy; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. T. Rees, Siloa, Llanelli; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. Thomas, Clydach; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. J. Evans, Crwys; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Gwynfe, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Gweddiwyd a phregethwyd y nos flaenorol, a phrydnawn a hwyr dydd yr urddiad, gan Meistri W. Williams, Bryn; H. Davies, Bethania; T. Davies, Llandilo; J. Evans, Capel Sion; Griffith John, Abertawy, (Cenhadwr i China); J. Thomas, Cefncribwr; J. Thomas, Maenclochog; J. Davies, Cwmaman; W. Humphreys, Glandwr; E. Jacob, Abertawy; J. Mathews, a D. Evans, Castellnedd. Ni bu arosiad Mr. Williams yma ond byr, tua dwy flynedd a dau fis, ond yr oedd yn boblogaidd a pharchus iawn tra y bu yn y lle. Derbyniodd alwad i Drelech, a symudodd yno yn Mehefin, 1851, ac yno y mae hyd yn bresenol. Ar ol ymadawiad Mr. Williams, bu yr eglwys drachefn am oddeutu tair blynedd dan ofal ei hen weinidog, Mr. Evans, o'r Crwys. Yn 1854, rhoddasant alwad i Mr. William Humphreys, i'w gwasanaethu mewn cysylltiad a Chadle, yr hyn a wnaeth yn ffyddlon ac effeithiol hyd ei farwolaeth yn 1869. Er hyny hyd yn awr, nid oes un gweinidog sefydlog wedi bod yma, ond yr ydym yn deall eu bod wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. John Stephens, Taibach. Os yma y daw, hyderwn y caiff ef a'r eglwys fesur helaeth iawn o wenau yr Arglwydd. Bu yr hen eglwys hon am tua chan mlynedd yn addoli yn hen gapel bychan Rhydymardy, ac fel y nodasom eisioes, adeiladwyd capel y Brynteg yn 1815, ac yn 1846, cafodd ei ailadeiladu a'i helaethu yn fawr. Mae yn awr yn addoldy cyfleus, digon helaeth i bedwar neu bum' cant o bobl i eistedd ynddo. Ni bu yr eglwys hon ar un cyfnod o'i hoes yn lluosog iawn, o herwydd nad oedd yr ardal hyd yn ddiweddar ond cymharol deneu ei phoblogaeth, ond yr ydym yn barnu y gall gyda bendith yr Arglwydd, ddyfod yn eglwys gref a lluosog iawn yn mhen ychydig amser, gan fod y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym.
Nis gwyddom am neb a gyfodwyd yma i bregethu ond William Davies, o Whitley. Bu ef yma am ddegau o flynyddau yn bregethwr cynorthwyol parchus iawn. Yr oedd yn Galfiniad uchel o ran ei farn. Y mae wedi marw er's tua deng-mlynedd-ar-hugain. Yma hefyd yn amser Mr. W. Evans, y derbyniwyd Mr. John Thomas, awdwr Caniadau Sion, i gyfundeb yr Annibynwyr, ac oddi yma yr aeth i athrofa Abergavenny, ond gan ei fod yn pregethu gyda'r Methodistiaid cyn ei dderbyn yma, prin y gall yr eglwys hon honi yr anrhydedd o'i gyfodi i bregethu.
Gan mai yr un gweinidogion a fu yma ac yn y Crwys ond Mr. Thomas Jones yn 1747, am yr hwn nid oes genym un hanes i'w roddi, a Mr. W. Humphreys, yr hwn y rhoddir ei hanes yn nglyn a Chadle; yn nglyn a hanes y Crwys y rhoddwn gymaint o gofnodion bywgraphyddol ag sydd genym am y gweinidogion.
CRWYS.

Mae y Crwys yn mhlwyf Llanrhidian, ar gwr uchaf y rhan hono o Forganwg a elwir Browyr. Mae yma gapel helaeth a chynnulleidfa luosog o amaethwyr, glowyr, a gweithwyr cyffredin yn ymgynnull. Nid oes genym hanes manwl am ddechreuad yr achos hwn. Cangen ydyw o'r eglwys sydd yn awr yn y Brynteg, ond y mae y ferch wedi myned lawer yn gryfach na'r famer's ugeiniau o flynyddau bellach. Pan oedd yr eglwys a fu wedi hyny yn Rhydymardy, ac sydd yn awr yn Brynteg, yn addoli mewn anedd-dy yn Nhrefuchaf, Casllwchwr, mae yn debyg fod rhai o ardal y Crwys yn perthyn iddi, ac er mwyn eu cyfleusdra eu hunain a'u cymydogion, darfu iddynt drwyddedu anedd-dy a elwir Ty'rcethin at bregethu ynddo. Mae yn debyg i hyn gymeryd lle tua y flwyddyn 1700, neu yn fuan ar ol hyny. Nid yw yn hysbys pa cyhyd y bu y gynnulleidfa yn ymgynnull yno. Cafodd capel ei adeiladu yn y Cwmmawr, yn yr un gymydogaeth, yn gynar yn y ddeunawfed ganrif, oblegid yr oedd wedi cael ei ailadeiladu, neu ei adgyweirio yn y flwyddyn 1766, fel y dengys y sylw canlynol o lawysgrifau William Jones, aelod yn y Mynyddbach. "Mehefin 29ain, 1766. Y Sabboth hwn yr oeddid yn casglu arian at gynnulleidfa'r Cwmmawr, ac fe gasglwyd rhagor na dau cymaint ag a gawsom ni oddiyno at ein capel. Er nad oes neb yn danod iddynt, ond er hyn i gyd nid yw hyny yn eu boddloni. Maent yn eu cleimio fel dyled, ac yn cleimio mwy na'r tri chymaint ag a roisant hwy i ni. Yr wyf fi yn tybied fod eu gweinidog, er ei fod yn wr da a duwiol, wedi ymollwng i dymerau anghristionogol rhyfedd." Ar ol bod am lawer o flynyddau yn addoli yn y Cwmmawr, barnwyd fod eisiau cael addoldy mewn man mwy cyfleus a chanolog o'r ardal, ac felly yn 1788, adeiladwyd capel y Crwys, yr hwn sydd yn sefyll ar fan amlwg, lle y mae amryw ffyrdd yn croesi eu gilydd. Ailadeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1831, ac y mae yn addoldy mawr iawn mewn lle gwledig. Amgylchynir ef gan fynwent helaeth. Yr unig weinidog a fu yma, heblaw y gweinidog presenol, nad oedd hefyd yn weinidog i eglwys y Brynteg, oedd William Llewellyn, yr hwn a urddwyd yma yn 1746. Gan i Thomas Jones gael ei urddo yn Nghasllwchwr y flwyddyn ar ol urddiad W. Llewellyn yn y Cwmmawr, mae yn naturiol casglu mai methu cyduno wnaeth y ddwy eglwys ar un o'r ddau ymgeisydd, ac i bob un o'r eglwysi urddo yr un mwyaf hoff ganddi. Mae hanes William Llewelyn, yr un fath a Thomas Jones, yn hollol anhysbys i ni. Y cwbl a wyddom am dano ydyw iddo gael ei urddo yn y Cwmmawr yn 1746, a'i fod yma yn 1751. Dywed Mr. Davies, Mynyddbach, mai aelod o eglwys Ty'rdwncyn ydoedd, ac iddo farw heb fod yn hir ar ol ei urddo. Yn 1754, yr ydym yn cael eglwysi y Cwmmawr a Rhydymardy drachefn wedi ymuno dan yr un weinidogaeth, ac felly y buont o hyny hyd urddiad Mr. Isaac Williams, yn y Brynteg, yn 1849. Cyn belled ag y gallwn farnu, yr oedd eglwys y Cwmmawr yn wanach ac yn llai ei rhif nag eglwys Rhydymardy, hyd nes yr adeiladwyd addoldy y Crwys yn 1788, ond er y pryd hwnw aeth yr olaf yn flaenaf, ac y mae yn parhau i gadw y flaenoriaeth hyd yn bresenol. Bu yr eglwys hon ar rai adegau, yn nhymor gweinidogaeth lwyddianus Mr. John Evans, yn cynwys tua thri chant o aelodau. Wedi i Mr. Evans ymgymeryd a gofal yr achos yn Mhenyclawdd, unodd llawer o aelodau y Crwys a'r eglwys yno, ac er y pryd hwnw nid yw yr aelodau mor lluosog ag yr oeddynt cyn hyny. Mae yr eglwys hon wedi bod yn ganmoladwy am ei hysbryd tangnefeddus trwy holl ysbaid hirfaith ei hanes. Ni chlywsom fod dim tebyg i derfysg wedi bod ynddi erioed. Ar ol marwolaeth Mr. Evans, yn Ionawr, 1856, buwyd heb weinidog sefydlog yma hyd Rhagfyr, 1857, pryd y symudodd Mr. John Lloyd Jones yma o Dyddewi, mewn cydsyniad a galwad unfrydol yr eglwysi yn y Crwys a Phenyclawdd. Mae Mr. Jones wedi gwasanaethu y ddwy eglwys yn effeithiol o'r pryd hwnw hyd yn awr, ac yr ydym yn hyderu fod etto flynyddau lawer o ddefnyddioldeb o'i flaen yn y cylch pwysig hwn. Mae yr eglwysi yn y Crwys a Phenyclawdd er's rhai blynyddau bellach wedi dechreu myned trwy gyfnewidiad pwysig gyda golwg ar iaith y gwasanaeth crefyddol. Mae y Saesonaeg yn ennill tir yn gyflym yn y ddwy gynnulleidfa, ac yn debyg yn mhen ychydig iawn o flynyddau etto o lwyr ymlid yr hen Gymraeg o'r pulpudau. O herwydd sefydlogrwydd y boblogaeth nid yw y cyfnewidiad yn debyg o effeithio mor niweidiol yma ag y mae wedi gwneyd mewn rhai manau. Dichon fod amryw o aelodau yr eglwys hon yn yr oesau gynt wedi cyfodi yn bregethwyr, nas gallasom ni ddyfod o hyd i'w henwau. Y rhai canlynol yn unig y gwyddom ni am danynt.
Thomas Jones. Yr hwn a fu yn weinidog yn Newmarket, sir Fflint, am un-ar-ddeg-a-deugain a flynyddau. Daw ef etto dan ein sylw yn nglyn a hanes yr eglwys yno.
Thomas Edwards, Ebenezer, Arfon. Yn nglyn a'r eglwys a wasanaethodd mor ffyddlon trwy holl dymor ei weinidogaeth, y daw ei hanes yntau dan sylw.
Henry Edwards, brawd Thomas Edwards. Gyda hanes yr eglwys yn Moelfro, Mon, y rhoddwn ei fywgraphiad ef.
Michael Thomas, Wootton Bassett. Yr oedd ef yn nai fab chwaer i Mr. Evans, y gweinidog. Daeth yn ieuangc o ardal Capel Iwan i'r ardal hon i gadw ysgol, a dechreuodd bregethu yma yn 1829. Aeth i'r athrofa i Gaerfyrddin yn 1832, ac ar derfyniad ei amser yno, derbyniodd alwad o Wootton Bassett, sir Wilts, lle yr urddwyd ef yn 1838. Bu yno yn ddefnyddiol a pharchus iawn hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Medi 12fed, 1857, pryd yr oedd yn bump a deugain oed. Brawd iddo ef oedd y diweddar Mr. Samuel Thomas, St. Clears.
John Marks Evans, mab Mr. Evans y gweinidog. Bu ef yn gweinidogaethu yn olynol yn y Sarnau, Maldwyn, Llacharn, sir Gaerfyrddin, a Newton, Morganwg, o'r flwyddyn 1839 hyd 1868, pryd y gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi ei swydd i fyny. Mae yn awr yn byw yn Abertawy.
Joseph Hugh, oedd hen wr da a phregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys hon, a'r eglwysi cymydogaethol, am lawer o flynyddau. Bu farw mewn henaint teg yn nhy ei ferch, yn agos i Bentre-estyll tua saith mlynedd yn ol.
Mae llawer o ddynion rhagorol iawn am eu duwioldeb a'u ffyddlondeb wedi bod yn yr eglwys hon o bryd i bryd, y rhai y mae eu henwau yn perarogli yn yr ardal hyd heddyw; megis Morgan Morgans, Rhianfawr; Samuel Eaton, Poundffald; David John, Cwmynant; John Roberts, Ystlysyrhian; David Beynon, Hopkin Rees, ŵyr yr hybarch Lewis Rees, Mynyddbach, ac amryw eraill a ellid enwi.
Mae ysgoldy cyfleus wedi ei godi mewn cwr o'r ardal a elwir y Wernoleu, yn yr hwn y cedwir Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Cangen o'r eglwys hon hefyd yw yr eglwys yn Ngwaenarlwydd.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
Yr ydym wedi rhoddi cymaint o hanes y gweinidogion fu yma yn dechreu yr achos ag a wyddem, yn nglyn a hanes Mynyddbach. WILLIAM LLEWELLYN, oedd y gweinidog cyntaf a fu yma ar wahan oddiwrth y Mynyddbach. Urddwyd ef fel y gwelsom yn 1746, ac yr oedd yma yn 1751, ond yr oedd naill a'i wedi marw, neu wedi symud yn 1754. Nid oes genym unrhyw hanes pellach i'w roddi am dano.
WILLIAM EVANS. Ar ddiwedd hanes Cwmllynfell y rhoddir ei fywgraphiad ef.
NOAH JONES. Gweler hanes Llanharan a'r Taihirion.
JONATHAN LEWIS. Mab un Lewis Thomas Dafydd, o ardal Capel Isaac, oedd ef. Dechreuodd bregethu yr un amser a Mr. Thomas, Penmain, a Mr. Bowen, Castellnedd. Bu am ychydig amser yn ysgol Mr. John Griffiths, Glandwr. Daeth oddiyno i'r Cwmmawr a Rhydymardy tua diwedd y flwyddyn 1784, a bu yma tua dwy flynedd, yna symudodd i Lanybri, lle y bu am ychydig fisoedd. Cymerwyd ef yn glaf yn ardal Penygraig, yn y Plasgwyn fel y tybir, a bu farw yno, a chladdwyd ef wrth gapel Penygraig, tua diwedd y flwyddyn 1786, neu ddechreu 1787. Dywedai yr hen bobl a'i hadwaenai ei fod yn wr ieuangc hynaws a chrefyddol iawn, ac yn bregethwr da.
DANIEL LEWIS. Gweler hanes Llanfaple, Mynwy.
THOMAS EDWARDS. Yn hanes Godrerhos y rhoddwn yr hyn a wyddom am dano ef, gan mai yno y diweddodd ei weinidogaeth yn Nghymru. LEWIS POWELL. Nid oes genym ddim i ychwanegu at yr hyn a nodasom eisioes gyda golwg arno ef.
JOHN EVANS. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Pantygwenith, plwyf Cenarth, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1791. Enwau ei rieni oeddynt Michael a Rachel Evans, ac yr oeddynt mewn amgylchiadau bydol gwell na'r cyffredin o amaethwyr y gymydogaeth. John oedd yr ieuengaf o naw o blant. Yn Nghapel Iwan, dan weinidogaeth Mr. Morgan Jones, Trelech, yr addolai ei rieni. Dygwyd ef dan argyhoeddiadau crefyddol yn ieuangc, a phan yn bedair-ar-ddeg oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghapel Iwan. Yn mhen dwy flynedd wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol bod am gryn amser yn yr ysgol yn ei ardal enedigol, rhwymwyd ef yn egwyddorwas gyda Mr. John Lewis, masnachydd, Caerfyrddin, ond ni fu yno yn hir. Gan faint ei duedd at bregethu, a'i syched am wybodaeth, aeth i'r Ysgol Ramadegol a gedwid gan Mr. Peter mewn cysylltiad a'r athrofa. Wedi bod yno am ysbaid, derbyniwyd ef i'r athrofa lle yr hynododd ei hun yn mysg ei gydfyfyrwyr fel dysgwr rhagorach na nemawr. Tra yn yr athrofa ennillodd y cymeriad o fod yn anghyffredin o alluog ei feddwl, ac felly yr ystyrid ef trwy ei oes gan bawb o'i gydnabod. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa, dychwelodd i'w ardal enedigol, a bu yno am rai blynyddau yn cadw ysgol. Y pryd hwnw, ymunodd mewn priodas a Mary, merch Mr. John Marks, o Beny waun, Cilrhedyn, yr ystyr a gafodd yn ymgeledd gymwys iddo." Bu iddynt un-ar-ddeg o blant, a chawsant yr hyfrydwch o'u gweled oll yn arddel crefydd. Yn nechreu y flwyddyn 1819, talodd Mr. Evans ymweliad a'r eglwysi yn y Crwys a'r Brynteg, a chafodd ei hoffi i gymaint o raddau yn y ddau le, fel y rhoddwyd iddo alwad unfrydol. Urddwyd ef yn Mai 1819. Yr oedd Mr. Jones, Trelech; Mr. Peter, Caerfyrddin, ac eraill, yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad. Er iddo gael mwy nag un cynyg i symud i eglwysi lluosocach a phwysicach, etto dewisodd ef dreulio ei oes yn y man lle y dechreuodd ei weinidogaeth. Mae yn sicr na fu un gweinidog mewn unrhyw eglwys nac oes yn Nghymru, yn sefyll yn uwch yn nghyfrif ei bobl na Mr. Evans. Credent hwy nad oedd galluocach gweinidog yn yr holl fyd na'u gweinidog hwy. Adwaenom lawer o bobl o'r Crwys a'r Brynteg, sydd wedi ymsefydlu mewn ardaloedd eraill, ac ymuno a'r eglwysi yn yr ardaloedd hyny, ac y maent braidd yn ddieithriad yn ddynion tangnefeddus a hawdd eu trin. Wedi arfer coleddu meddyliau uchel am y gweinidog y magwyd hwy dan ei weinidogaeth, ymddygant yn foneddigaidd at eu gweinidogion yn mhob lle arall. Am yr ugain mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth, y Crwys a'r Brynteg yn unig oedd dan ofal Mr. Evans, ond yn 1839, cymerodd ofal y gynnulleidfa fechan a ymgynnullai i'r capel a adeiladesid gan yr Arglwyddes Barham, yn Mhenyclawdd, a chynyddodd yr achos yn fawr dan ei ofal yno. Yr oedd ei lafur yn fawr iawn, pe na buasai yn ddim ond pregethu, ond gan nad oedd cyfraniadau yr eglwysi yn agos ddigon at gynhaliaeth ei deulu lluosog, bu raid iddo am lawer o flynyddau ychwanegu y llafur o gadw ysgol ddyddiol at waith y weinidogaeth. Yr oedd yn hapus iawn fel ysgolfeistr yn gystal ag fel gweinidog. Coleddai ei ysgolheigion oll y meddyliau uchaf ac anwylaf am dano. Bu amryw bregethwyr yn derbyn addysg yn ei ysgol, megis John Davies, Mynyddbach; John Joseph, Llanedi; Jenkin Jenkins, America; W. Jenkins, Pentre-estyll; J. Bevan, Llangadog; W. Williams, Bryn, Llanelli; I. Williams, Trelech, a J. Hopkins, W. Rees, a D. Knoyle, y rhai sydd wedi myned yn offeiriaid er's blynyddau bellach. Efe oedd oracl yr ardal mewn pethau gwladol yn gystal a chrefyddol. Pan fuasai eisiau mesur tiroedd a thai, gwneyd ewyllysiau, cytundebau, a'r cyffelyb, at Mr. Evans yr elai pawb, ac yr oedd gan yr ardalwyr lawer mwy o ymddiried yn ei fedr ef at bethau felly nag mewn un cyfreithiwr. Nid oes neb a fedr ddirnad pa faint o ddaioni gwladol a chrefyddol a wnaeth i'r ardal. Bu ei bobl yn ofalus i roddi iddo gyflawnder o waith, ac o barch o ryw fath, dros amser ei ymdaith yn eu mysg, ond buont fel y rhan fwyaf o eglwysi Cymru, yn fyr o wneyd yr hyn a ddylasent ac a allasent at ei gynaliaeth, fel y bu raid iddo werthu ei dir er magu ei deulu. Daeth atynt yn wr cymharol o gyfoethog, a bu farw, wedi agos i ddeugain mlynedd o lafur caled, heb ond y peth nesaf i ddim i'w adael ar ei ol i'w weddw a'i blant.
Yn y flwyddyn 1841, bu twymyn drom yn nheulu Mr. Evans, a bu ef ei hun, yn gystal ag amryw o'i blant, yn gorwedd am rai wythnosau. Ar yr amser hwnw yr oedd y gweinidogion cymydogaethol yn llanw ei bulpudau. Un bore Sabboth, pryd yr oedd ef yn ymddangos yn anobeithiol o glaf, yr oedd Mr. Morris, y pryd hwnw o Glandwr, i bregethu yn y Crwys. Ar ol darllen a chanu, cyn dechreu gweddio, anerchodd y gynnulleidfa yn y dull toddedig y medrai ef wneyd, gan anog pawb yno i uno gydag ef mewn gweddi ar ran y gweinidog. Yn ei weddi erfyniodd ar yr Arglwydd am estyn o leiaf bymtheng mlynedd ar ei fywyd. Mae yn deilwng o sylw i Mr. Evans fyw bymtheg mlynedd ond mis o'r diwrnod hwnw.
Yn mlynyddau diweddaf ei oes blinid Mr. Evans yn fawr gan y gymalwst, a'r clefyd hwnw, a'r ol wythnosau o boenau dirdynol, a osododd derfyn ar ei fywyd nos Sabboth, Ionawr 13eg, 1856. Claddwyd ef yn mynwent y Crwys. Pregethodd Mr. Jones. Heolycastell, Abertawy, a Mr. Davies, Cwmamman, yn ei angladd i dorf fawr a galarus.
O ran corph yr oedd Mr. Evans yn hardd, a lluniaidd, ac o wneuthuriad cadarn, a thua pum' troedfedd a deng modfedd o daldra. O ran ei dymer yr oedd yn un o'r dynion mwyaf hawddgar a chyfeillgar a adnabuasom erioed; ac yn ei ymddangosiad a'i ymddygiad, yr oedd yn lân, heb fod yn goegaidd, ac yn foneddigaidd, heb fod yn fursenaidd. Yr oedd, fel y nodasom yn barod, yn ddyn o feddwl nodedig o dreiddgar a galluog. Dichon nad oedd un gweinidog yn Nghymru yn alluocach duwinydd nag ef. Yr oedd wedi talu sylw dwys i Athrawiaeth yr Iawn, Gwaith yr Ysbryd, Penarglwyddiaeth, a'r cyffelyb, fel y pregethai arnynt mor eglur a tharawiadol a neb a wrandawsom erioed. Gresyn na buasai ei duedd a'i amgylchiadau yn caniatau iddo ysgrifenu a chyhoeddi ei fyfyrdodau ar y pyngciau mawrion hyn. Buasai y llyfr yn gaffaeliad anmhrisiadwy. Fel Pregethwr yr oedd yn ymadroddwr rhwydd a chryf, a'i lais yn hyglyw, heb fod yn berseiniol nac yn aflafar. Safai ar dir canol rhwng y bloeddiwr poblogaidd a'r siaradwr sychlyd a dieffaith. Pregethwr cryf, eglur, a buddiol i bob math o wrandawyr ydoedd, ond yn fwy nodedig o swynol i feddylwyr craffus nag i'r lluaws difeddwl. Medrai drin ac egluro pyngciau dyfnion duwinyddiaeth yn fuddiol a tharawiadol i ddynion meddylgar, heb fod yn boenus i'r anwybodus. A chymeryd pob peth at ystyriaeth, yr oedd Mr. Evans o'r Crwys, yn un o'r gweinidogion mwyaf cyflawn a diddiffyg yn ei oes. Ni chlywsom neb o'i gydnabod erioed yn dyweyd dim yn anmharchus am dano. Yr uchel-Galfiniaid yn unig a deimlant fesur o oerni tuagato o herwydd ei fod yr hyn a alwant hwy yn Ffwleriad, ond yr oedd ei gymeriad a'i hawddgarwch y fath fel na theimlai y cyfryw ryw gasineb cryf ato.
YR YSGETTY.

Ardal nodedig o brydferth, yn y rhan isaf o blwyf Abertawy, yw yr Ysgetty, ychydig gyda dwy filldir i'r gorllewin o'r dref. Mae yn dra thebyg fod yma gangen o eglwys Ty'rdwncyn yn cynal gwasanaeth crefyddol rheolaidd oddiar y flwyddyn 1688, os nad yn hir cyn hyny, ond gan nad oes unrhyw gofnodion ysgrifenedig am yr achos ar gael, nid oes genym un sicrwydd am amser ei ddechreuad. Ar brydnawn a hwyr y Sabbothau Y cedwid y gwasanaeth yma gynt, am y byddai pawb a fedrant yn myned i Dy'rdwncyn yn y bore. Cawn y cofnodiad canlynol yn nydd-lyfr Thomas Morgan, Henllan, yr hyn a ddengys mai felly yr arferid gwneyd yn ei amser ef, ac yn hir wedi hyny. "Tachwedd 15fed, 1741, yn Nhy'rdwncyn yn y bore, oddiwrth Col. i. 12; yn yr hwyr yn yr Ysgetty, oddiwrth Job xxx. 23." Mae yn sicr fod gwahanol anedd-dai yn yr ardal wedi bod yn dai cyfarfod gan y gynnulleidfa er dechreuad yr achos hyd y pryd yr adeiladwyd y capel cyntaf, ond nid ydym wedi dyfod o hyd i enwau ond dau o honynt, sef y Brynisaf a'r Tygwyn, y lle o ba un y symudodd y gynnulleidfa i'w haddoldy. Yn y flwyddyn 1770, yr adeiladwyd y capel, sef yr unfed-flwyddyn-ar-ddeg o weinidogaeth Mr. Lewis Rees yn y lle.
Yr oedd amryw ddynion selog a gweithgar yn perthyn i'r gynnulleidfa pan adeiladwyd y capel yn 1770. Y ddau henuriad llywodraethol oedd Mr. Rees Harris a Mr. Benjamin Davies, a'r ddau ddiacon oedd Mr. Thomas Perkins a Mr. William Jones. Enwir hefyd Mr. William Gwynne, Cwity-saeson, a Mr. John Habaccuc, o'r Cocyd, fel rhai ffyddlon a haelionus lawn. Bu Mr. Habaccuc fyw nes yr oedd yn 102 flwydd oed. Aelod lled ieuangc oedd Mr. William Rosser, Gwerneinon y pryd hwn, ond parhaodd yn ffyddlon a defnyddiol iawn hyd derfyn ei oes, a bu ei fab Mr. Samuel Rosser, Goetrefawr, a'i ferch Mrs. Hughes, Ysgettyisaf, yn golofnau cedyrn dan yr achos, yn enwedig mewn pethau arianol, am ugeiniau o flynyddau. Gan Mr. John Harris, o'r Brynisaf, y cafwyd y tir at adeiladu y capel. Ar y cyntaf rhoddwyd ef yn rhad, ond o herwydd i arolygwyr yr adeiladaeth gymeryd i mewn fwy o dir oddiamgylch y capel, er mwyn cael pren prydferth a dyfai gerllaw y tu fewn i'r mur allanol, nag a nodasai y perchenog ar y cyntaf, digiodd wrthynt a bygythiodd dori y lês, ond wedi llawer o ymdrech, a challineb Mr. Rees, y gweinidog, ac eraill, cafwyd ganddo roddi lês o 999 o flynyddau am yr ardreth o bum' swllt y flwyddyn. Y mae un peth arall cysylltiedig ag adeiladiad y capel cyntaf yn yr Ysgetty na ddylid ei adael yn ddisylw. Yr oedd morwyn gyda Mr. William Rosser o'r enw Elizabeth, yr hon, o herwydd ei bod yn eneth gref iawn o gorph, a adwaenid dan yr enw Hearty Bet. Mae yn ymddangos fod ei sel gyda'r achos goreu yn gryfach na'i chorph, er cryfed oedd hwnw. Gan nad oedd ganddi lawer o arian i'w cyfranu at y capel newydd, elai allan yn y nos, ar ol gorphen ei diwrnod gwaith, i gasglu ceryg a'u cario at yr adeilad. Bu am lawer o nosweithiau am oriau bob nos yn gwneyd hyny, a thebyg iddi arbed rhai punoedd yn y modd hwnw. Pa beth a all sefyll o flaen sel a chariad?
Bu y gynnulleidfa yn addoli yn y capel hwn o 1770, hyd 1842. Yn yr ysbaid hwnw yr oedd agwedd a phoblogaeth yr ardal wedi cyfnewid yn fawr, fel y barnwyd yn angenrheidiol prynu darn o dir i adeiladu capel arno tua haner milldir yn uwch i fyny, er mwyn bod yn fwy yn nghanol y boblogaeth. Gorphenwyd yr adeilad ac agorwyd ef Tachwedd 9fed a'r 10fed, 1842. Rhoddwyd hanes cyfarfod yr agoriad yn y Diwygiwr fel y canlyn: "Dechreuwyd yr hwyr cyntaf am 6, pan y gweddiodd y Parch. E. Griffiths, Abertawy, a phregethodd y Parchn. T. Rees, Siloa, Llanelli, a D. Jones, Clydach, oddiwrth Zech. xii. 10-14., ac Esaiah v. 4. Am 10, dydd Iau. dechreuodd y Parch. J. Evans, Crwys, a phregethodd y Parchn. J. Davies, Cwmaman; T. Dodd, Burrows, Abertawy, (yn Saesoneg,) a J. Williams, Ty'nycoed, oddiwrth Salm xlii. 6., Hag. ii. 9., a Ioan viii. 56. Am 3, dechreuodd y Parch. T. Griffiths, Pentregethin, a phregethodd y Parchn. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, (yn Sacsonaeg,) ac L. Powell, Caerdydd, oddiwrth Esaiah lvi. 3., a Salm xxv. 20. Am 6, dechreuodd y Parch. R. Owens, Abertawy, a phregethodd y Parchn. D. Pugh, York Place, (Bedyddiwr,) yn Saesonaeg, a W. Morris, Glandwr, oddiwrth 1 Petr i. 13., a 2 Cor. xxxiii. 12, 13. Gorphenwyd trwy weddi gan y Parch. W. Ford, Browyr. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn lluosog ac ystyried gerwindeb yr hin, y pregethau yn gynwysfawr a gwlithog, y cyfraniadau yn haelionus, a phob arwyddion fod Duw gyda ni. Teilynga caredigrwydd yr ardal yn gyffredinol ar yr amgylchiad ganmoliaeth wresog, ac yn neillduol Mrs. Hughes, Ysgettyisaf, a blaenoriaid yr eglwys, gydnabyddiaeth gyhoeddus am eu dull ffyddlawn, trefnus, a gofalus, yn dwyn pethau oddiamgylch. Pwrcaswyd y tir, ac adeiladwyd y capel helaeth, hardd, a chyfleus hwn a 700p. o draul, o ba un y mae 300p. wedi eu talu eisioes, trwy ymdrech yr ardalwyr yn unig, a theimlant yn ewyllysgar ac awyddus iawn i barhau yn eu hymdrechion, nes cael y tŷ yn ddiddyled i gadw coffadwriaeth o enw Duw Jacob." Trwy gydweithrediad y gynnulleidfa ni buwyd yn hir cyn talu y geiniog olaf o'r ddyled. Mae yn deilwng o sylw fod y capel a'r tir wedi costio mewn gwirionedd tua 900p. er mai 700p. fu raid i'r eglwys dalu. Talodd Mrs. Hughes y gweddill o'i logell ei hun. Hi oedd yn gweinyddu fel trysorydd pwyllgor yr adeiladaeth. Mae mynwent helaeth a phrydferth iawn oddiamgylch y capel, a llawer o ganoedd o feirw o dref Abertawy, yn gystal ag o ardal yr Ysgetty, wedi eu claddu ynddi. Y fynwent hon yw Bunhill fields Ymneillduwyr Abertawy o bob enwad. Mae tŷ cyfleus ar gwr y fynwent yn perthyn i'r capel, yr hwn a adeiladwyd gan y ddiweddar Mrs. Hughes, yn hollol ar ei thraul ei hun. Er fod y capel hwn, pan yr adeiladwyd ef yn cael ei gyfrif yn un hardd a nodedig o gyfleus, etto, cyn pen wyth-mlynedd-ar-hugain, cyfodwyd capeli yn y dref a'r cwmpasoedd llawer harddach a mwy cysurus, fel lleoedd addoliad. Parodd hyn i gynnulleidfa yr Ysgetty benderfynu mynu capel newydd mwy teilwng o'r oes ac o'u hardal brydferth hwythau, yn yr hon y mae ugeiniau o fan balasdai nodedig o dlysion. Yn 1869, tynwyd y rhan fwyaf oll o'r hen gapel i lawr, ac ail adeiladwyd ef. Y mae yn awr yn addoldy nad oes ei brydferthach yn y deyrnas, ac yn cynwys eisteddleoedd i tua 550 o wrandawyr. Traul yr ailadeiladaeth oedd 1108p., ac y mae mwy na haner y swm hwn wedi ei dalu eisioes, a diau na fydd y gweddill yn hir cyn cael ei lwyr ddileu. Agorwyd y capel tlws hwn, Mehefin 6ed a'r 7fed, 1870, pryd y gweinyddwyd gan Meistri Kilsby Jones, W. Jansen Davies, Llanymddyfri; Dr. Rees, Abertawy; W. E. Jones, Treforis; W. Morgan, Caerfyrddin; T. Johns, Llanelli; J. Thomas, Bryn, a W. Jenkins, Pentre-estyll. Dan yr un weinidogaeth y bu y gangen yn yr Ysgetty a'r fam-eglwys yn y Mynyddbach o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1809. Yn y flwyddyn hono, gan fod y cylch gweinidogaethol mor eang, a bod yr eglwysi wedi dewis Mr. Daniel Evans, Bangor, yn gydweinidog a Mr. David Davies, barnwyd mai y ffordd oreu i ddwyn yr achos yn mlaen oedd rhanu y cylch gweinidogaethol. Dewisodd Mr. Davies, Ebenezer, Abertawy, a'r Ysgetty, a gadawodd y Mynyddbach a Threforis dan ofal Mr. Evans. O'r pryd hwnw hyd Mehefin, 1842, pan derfynodd cysylltiad Mr. Thomas Davies ag eglwys Ebenezer, bu yr Ysgetty dan yr un weinidogaeth ag Ebenezer. Yna dewisodd pob un o'r ddwy eglwys eu gweinidogion eu hunain. Rhoddodd eglwys yr Ysgetty alwad i Mr. Edmund G. Williams, o athrofa Aberhonddu, yn niwedd y flwyddyn 1842, ac urddwyd ef Ebrill 20fed, 1843. Bu Mr. Williams yma yn llafurus iawn, ac yn dra llwyddianus, hyd y flwyddyn 1849, pryd y cafodd ar ei feddwl i geisio urddau yn yr Eglwys Sefydledig, yr hyn a gafodd. Y mae er's mwy nag ugain mlynedd bellach yn gaplan carchardy, Abertawy. Mae gan bob dyn ei chwaeth ei hun, ond yr ydym ni yn sicr y buasai yn well genym gael treulio ein nerth i bregethu i gynnulleidfa barchus yr Ysgetty, pe buasai raid i ni fyw ar fara a dwfr yn unig, na sefyll trwy y blynyddau, o Sabboth i Sabboth, uwch ben torf o garcharorion, er cael tal da am hyny. Yn y flwyddyn 1851, rhoddodd yr eglwys yn yr Ysgetty alwad i Mr. Thomas Rees Davies, Gwenddwr, mab yr hynod Rees Davies, Saron. Dewisiad anhapus i'r eglwys fu y dewisiad hwn. Bu raid iddynt dori y cysylltiad ag ef yn mhen ychydig gyda dwy flynedd. Yn nechreu y flwyddyn 1855, rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Davies, o athrofa Aberhonddu, a mab yr hyawdl David Davies, Sardis; yr hwn a urddwyd yma yn Gorphenaf yr un flwyddyn. Rhoddwyd hanes yr urddiad yn y Diwygiwr fel y canlyn: "Gorphenaf 2il a'r 3ydd, 1855, cynaliwyd cyfarfod urddiad Mr. L. Davies, diweddar fyfyriwr yn Aberhonddu, yn yr Ysgetty, ger Abertawy. Nos Lun, dechreuwyd gan Mr. W. Humphreys, Cadle, a phregethodd Meistri Lewis, Carmel, Llangiwe; Evans, Clydach, a Lewis, Ty'nycoed. Dranoeth am 10, dechreuodd Mr. Rees, Canaan, a phregethodd Mr. E. Jacob, Abertawy, ar natur eglwys; gofynodd Mr. E. Griffiths, Abertawy, y gofyniadau; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Crwys, a phregethodd Mr. D. Evans, Castellnedd, ar ddyledswydd y gweinidog. Am 2, dechreuodd Mr. T. Thomas, Glandwr, a phregethodd Meistri Jones, Heolycastell, Abertawy, yn Saesonaeg, a Daniel, Mynyddbach. Am 6, dechreuodd Mr. Evans, Castellnedd, a phregethodd Meistri Davies, Treforis; Jones, Myddfau, (i'r eglwys,) a Rees, Canaan. Mae Mr. Davies yn dechreu ei lafur dan arwyddion hyfryd. Mae bywhad ar yr achos. Llawer mwy nag arfer yn dyfod i'r cyfarfodydd yn yr wythnos, a rhai yn dyfod i'r gyfeillach agos bob tro. Fe dderbyniwyd pedwar y cymundeb diweddaf, ac y mae wyth yn y gyfeillach yn bresenol." Rhif yr aelodau yma yn 1850, oedd dau gant, ond erbyn 1861, yr oeddynt wedi lluosogi i ddau-cant-triugain-adau, ac y mae yn debyg eu bod tua y rhif hyny yn bresenol, neu ychwaneg. Mae Mr. Davies wedi bod yma bellach am un-mlynedd-ar-bymtheg a'i ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn myned fwy fwy o flwyddyn i flwyddyn.
Mae yr eglwys hon, cyn belled ag y gwyddom ni, er dechreuad yr achos, wedi bod yn rhagorol o dangnefeddus, a'i chymeriad crefyddol yn uchel yn y gymydogaeth. Gwneir y gynnulleidfa i fyny o amaethwyr, crefftwyr, gweithwyr, a gwasanaeth-ddynion yr amryw foneddigion a breswyliant yn y gymydogaeth. Mae dau ysgoldy cyfleus yn perthyn i'r eglwys. Un yn mhentref y Cocyd, lle y mae Ysgol Sabbothol lewyrchus tua phedwar ugain o rif, a'r llall yn mhentref Cillay, ac Ysgol Sabbothol yno hefyd, ond nid mor lewyrchus a'r ysgol yn y Cocyd. Nid ydym yn gwybod fod yr eglwys hon, er hened, lluosoced, a pharchused ydyw, wedi cyfodi cymaint ag un pregethwr o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol, ac nis medrwn yn unwedd gyfrif am beth mor hynod.
EBENEZER, ABERTAWY.
Abertawy oedd un o'r manau cyntaf yn Nghymru lle y gosododd Ymneillduaeth ei throed i lawr ynddo. Fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach, cafodd eglwys Annibynol ei ffurfio yma tua y flwyddyn 1641, trwy offerynoliaeth Mr. Phillip Jones, o Benytwyn, Llangafelach, a Mr. Ambrose Mostyn, cyn toriad allan y rhyfel, yr hwn a ddechreuodd yn 1642, ac yn fuan ar ol ffurfiad yr eglwysi yn Llanfaches, Mynyddislwyn, a Chaerdydd. Yn 1662, trowyd Mr. Marmaduke Mathews allan o Eglwys Efan, ac yn fuan wedi hyny, daeth amryw weinidogion anghydffurfiol i fyw i'r dref a'r gymydogaeth, megis Meistri Daniel Higgs, M.A., William Thomas, M.A., Stephen Hughes, Meidrym; David Jones, Llandyssilio, a Meredith Davies, Llanon, a bu rhai, os nad pob un o honynt, yn trigianu yma am weddill eu hoes. Pan ganiatawyd rhyddid i'r Ymneillduwyr i drwyddedu tai at bregethu, yn y flwyddyn 1672, darfu i Marmaduke Mathews, Daniel Higgs, a Stephen Hughes drwyddedu eu tai i'r perwyl hyny yn nhref Abertawy. Cadwyd anghydffurfiaeth yn fyw yma trwy holl angerdd yr erledigaeth, a chyn gynted ag y cafwyd deddf goddefiad yn 1688, adeiladwyd capel Annibynol yma, ac erbyn 1697, yr oedd hwnw wedi myned yn rhy fychan, fel y bu raid adeiladu un helaethach ar y tu deheuol i'r Heol fawr, ar y fan y saif capel yr Undodiaid yn bresenol, a rhentiwyd y capel cyntaf i'r Bedyddwyr. Mae yn ymddangos mai yn yr iaith Saesonaeg y dygid y gwasanaeth yn mlaen yn y capel hwn o'r dechreuad. Sais oedd Mr. Higgs, y gweinidog cyntaf, a dilynwyd ef gan un Mr. Denbury, ac yna gan Mr. Whitear. Mr. George Palmer, yr hwn a fu farw yn 1750, oedd y Cymro cyntaf fu yn pregethu yma, ond y mae yn sicr mai yn yr iaith Saesonaeg y pregethai yntau. Felly nid oedd yr achos hwn o nemawr o wasanaeth i boblogaeth Gymreig y dref, a pheth oedd waeth na'r iaith, aeth udgorn y weinidogaeth i roddi sain anhynod yma tua chanol y ddeunawfed ganrif, nes i'r lle o radd i radd fyned yn hollol i feddiant yr Undodiaid.
Yr oedd cangen o eglwys Ty'rdwncyn er's llawer o flynyddau yn cadw gwasanaeth crefyddol rheolaidd yn y Wigfach, amaethdy tua milltir a haner i'r gogledd-orllewin o dref Abertawy, yn benaf er mwyn yr aelodau a gyfaneddant yn y dref a'r gymydogaeth. Wedi marwolaeth Luce Rosser, gwraig y tŷ, yn 1776, cyfododd rhyw rwystr i gadw yr addoliad yno rhagllaw, a bu raid edrych am le arall. Aeth Mr. Lewis Rees a Mr. Solomon Harris, gweinidog y Saeson, at un Mr. Aleine, perchen ystafell gyfleus y tu cefn i Heolycastell, yn y dref, a chawsant y lle hwnw at gynal cyfarfodydd ar y Sabboth a nosweithiau o'r wythnos. Yn yr ystafell hon y buwyd yn addoli hyd nes yr adeiladwyd capel Ebenezer. Yn amser Mr. Lewis Rees, byddai gweinidogion y Methodistiaid yn lled fynych yn pregethu yn yr ystafell, gan nad oedd gan yr enwad hwnw un lle addoliad yn y dref. Byddai yr aelodau yn myned i'r Mynyddbach i gymuno, ac i'r cyfarfodydd bob bore Sabboth, ac yn cynal y gwasanaeth yn yr ystafell yn y prydnawn a'r hwyr. Wedi i Mr. Davies, Llangeler, ddyfod yn weinidog i'r Mynyddbach, tynodd ei ddoniau digyffelyb ef y fath luaws yn nghyd fel nad oedd yr ystafell, pan y deuai yno i bregethu, yn agos ddigon eang i gynwys ei wrandawyr. Yn y cyfamser, cyfododd rhyw fesur o gamddealldwriaeth rhwng yr aelodau a'u gilydd; barnai rhai fod y bobl yn angerdd eu sel dros eu gweinidog newydd, Mr. Davies, yn euog o daflu diystyrwch ar yr hen weinidog, Mr. Rees, ac felly aethant yn ddwy blaid. Darfu i Mr. David Thomas, Bragwr, adeiladu capel yn 1799, ar ei dir ei hun ar y Cruglas, a chyflwynodd ef i gorph y Methodistiaid. Aeth amryw o aelodau y Mynyddbach o'r ystafell i'r capel, ac ymunasant a'r Methodistiaid, a dyna ddechreuad Methodistiaeth yn Abertawy. Pa fodd bynag, glynodd nifer fawr gyda Mr. Davies yn yr ystafell, ac aeth y lle drachefn yn dra buan lawer rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Yn 1803, adeiladwyd capel Ebenezer, ac agorwyd ef ar y 9fed a'r 10fed o Fai, 1804, pryd y pregethodd y gweinidogion enwog-David Peter, Caerfyrddin; Morgan Jones, Trelech; Thomas Bowen, Castellnedd; John Davies, Alltwen; Griffith Hughes, Groeswen; David Morgan, Esgairdawe; Morgan Lewis, Glynnedd; Dr. Thomas Phillips, Neuaddlwyd; William Griffiths, Glandwr; John Lloyd, Henllan, a Sadrach Davies, Maendy. Yr oedd Ebenezer y pryd hwnw yn un o'r capeli mwyaf yn Nghymru. Mesurai 46 troedfedd wrth 34 o fewn y muriau. Aeth ar unwaith yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa yn gysurus. Y fath oedd poblogrwydd Mr. Davies fel yr oedd yn anhawdd cael unrhyw gapel yn ddigon mawr i gynwys ei wrandawyr. Yr oedd agwedd foesol Abertawy yn resynus i'r eithaf pan ddechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yma. Yr oedd trigolion y dref tua deng mil, heb son am y pentrefi tua milldir y tu allan i'r dref, ac nid oedd ond un capel Cymreig yn yr holl dref, sef capel y Bedyddwyr, yr hwn ni chynwysai ar ei eithaf dros dri chant a haner o bobl. Yr oedd y glowyr a'r gweithwyr eraill yn y dref a'r cyffiniau yn debycach i farbariaid nag i breswylwyr gwlad wareiddiedig. Tystiai amryw hen bobl oedd yn ddiweddar yn fyw, ei bod yn berygl bywyd i gerdded ystrydoedd y dref a'r pentrefi cyfagos ar nos Sadwrn y cyfrif," am y byddai heidiau o ddyhirod meddw a chreulon yn wastad yn barod i ymosod ar y neb a elai yn agos atynt. Byddent hefyd yn arfer ymosod ar dai yn y nos, gan daflu ceryg mawrion atynt, nes dryllio y drysau a'r ffenestri, a phrin y medrant siarad gair heb fytheirio allan regfeydd a chableddau. Peth anghyffredin iawn gynt, yn yr ardaloedd hyn, fyddai cael gweithiwr yn proffesu crefydd. Gwnelid yr ychydig eglwysi, o bob enwad yn y gymydogaeth, i fyny agos yn hollol o amaethwyr a masnachwyr. Yr oedd y dosbarth gweithiol agos oll yn meddiant y diafol, ac yn ei wasanaethu hyd eithaf eu gallu. Pan ddaeth Mr. Davies i'r gymydogaeth, cymerodd cyfnewidiad buan a dymunol le. Cyffrodd ei ddoniau digyffelyb sylw y lluaws; aeth y Mynyddbach yn fuan yn ail i Langeitho, cyrchai canoedd o bell ac agos yno ar y Sabbothau i'w wrandaw, a chafodd llawer o flaenoriaid gwasanaeth Satan eu gwneyd yn wasanaethwyr ffyddlon i Iesu Grist. Er i ganoedd fyw a marw heb eu dychwelyd at yr Arglwydd, etto bu ei weinidogaeth nerthol yn foddion i gyfodi crefydd i gymaint o sylw a dylanwad, nes darostwng i raddau helaeth yr anfoesoldeb a'r barbareidd-dra gwaradwyddus a ffynant yn mysg gweithwyr y dref a'r gymydogaeth. Ennillodd gymaint o ddylanwad dros y werin mewn ychydig o flynyddau, nes y byddai ei ymddangosiad yn ddigon i dawelu yr annuwiolion mwyaf rhyfygus. Cymerer y ffeithiau canlynol fel engreifftiau:-Yr oedd amryw gigwyr o gymydogaeth Cwmaman a Llangiwc yn arfer cadw marchnad Abertawy. Byddai rhai o honynt bob nos Sadwrn, ar ol gorphen gwerthu eu cig, yn myned i'r tafarndai, ac yn yfed yno hyd foreu y Sabboth, pryd y cychwynent tua chartref ar eu ceffylau bychain. Os digwyddai iddynt wrth fyned allan o'r dref gyfarfod Mr. Davies yn dyfod i'w cyfarfod ar yr heol, gyrent yn eu hol nes y caent groesffordd i droi iddi o'i wydd. Yr oedd un dyn diarhebol fel rhegwr, a elwid "Dick y Badwr," yr hwn a arferai gludo dynion dros yr afon rhwng Abertawy a'r Foxhole, pa bryd bynag y canfyddai Mr. Davies yn dyfod yn agos, rhybuddiai ei gymdeithion annuwiol, gan ddyweyd, "Peidiwch rhegu fechgyn, dacw Davies yn dyfod." Un nos Sadwrn, darfu i haid o ddynion ieuaingc meddw, mewn ffordd o ddigrifwch drelaidd, wrth fyned adref yn hwyr o'r dafarn, daflu ceryg at dŷ Mr. Davies, fel yr arferent wneyd at dai eraill. Pan ddaeth i wybod pwy oeddynt, anfonodd atynt i ddyfod i siarad ag ef; aethant yn grynedig, a'u mamau gyda hwynt, dan wylo, ac mewn braw rhag iddo eu hanfon i garchar. Ond pan ddaethant yno ni wnaeth ddim iddynt, amgen eu cynghori gyda dagrau, a myned i weddi drostynt, gan eu rhwymo i addaw dyfod i'r capel y Sabboth canlynol, yr hyn a wnaethant. Daethant oll yn fuan wedi hyny at grefydd. Yr oedd un o honynt yn fyw yn ddiweddar, os nad yw etto, ac yn "hen ddysgybl" penwyn. Dengys yr engreifftiau hyn, ac amryw o rai cyffelyb a ellid gofnodi, fod un "gweinidog da i Iesu Grist" yn llawer effeithiolach i foesoli ardal na haner cant o'r heddgeidwaid mwyaf gofalus. Gwnaeth adeiladiad y capeli ar y Cruglas ac yn Heol Ebenezer, a'r llwyddiant a ddilynodd hyny, wellhad buan yn moesau Abertawy a'r cylchoedd.
Wedi i Mr. Davies roddi y Mynyddbach a Threforis i fyny, a chyfyngu ei lafur i Ebenezer a'r Ysgetty, llwyddodd i sefydlu eglwys luosog a chref iawn yn mhob ystyr yn y dref. Mae yn debyg i'r eglwys gael ei chyfan soddi yn eglwys hollol annibynol ar y fam-eglwys yn y Mynyddbach cyr gynted ag yr agorwyd y capel yn 1804, os nad cyn hyny, ond nid oe genym unrhyw hanes ysgrifenedig nac argraffedig am ei chorpholiad fer eglwys Annibynol. Bendithiwyd yr eglwys hon, fel eglwysi eraill yn y gymydogaeth, a diwygiad grymus iawn yn 1807, pryd yr ychwanegwyd ugeiniau at yr aelodau, a pharhaodd pethau mewn agwedd nodedig o lewyrchus tra y bu Mr. Davies byw. Yr oedd Mr. Davies wedi llenwi ei bobl ag ysbryd cenhadol o'r pryd y daethai gyntaf i'w mysg, ac y mae yr ysbryd hwnw yn parhau i raddau dymunol yn eglwys Ebenezer hyd y dydd hwn. Yma y cynhaliwyd y cyfarfod cenhadol cyntaf yn Nghymru. Ar yr wythnos gyntaf o Awst, 1814, y cynhaliwyd y cyfarfod dyddorol hwn. Bore dydd Mawrth yn nghapel Ebenezer, gweddiwyd yn Gymraeg a Saesonaeg gan Meistri Davies, Browyr, a Smith Appledore, a phregethodd Mr. Jones, Islington, yn Saesonaeg, a Mr. Jones, Trelech, yn Gymraeg. Am dri o'r gloch, pregethodd Mr. Thomas, Penmain, yn Gymraeg. Am chwech, gweddiodd Mr. Warlow, Milford, a phregethodd Mr. Luke, Hwlffordd, yn Saesonaeg, a Mr. Hughes, Groeswen, yn Gymraeg, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. Harris, gweinidog y Bedyddwyr yn Abertawy. Dydd Mercher, am saith y bore, pregethodd Mr. Skeel, Trefgarn, yn Gymraeg. Am ddeg, pregethodd Mr. Williams, Stroud, yn Saesonaeg, yn Eglwys Efan, a Mr. Jones, Talgarth, yn Gymraeg, yn Ebenezer. Am dri, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn neuadd y dref er ffurfio Cangen Gynorthwyol Deheudir Cymru o Gymdeithas Genhadol Llundain. Llywyddwyd y cyfarfod gan L. W. Dillwyn, Ysw. Dewiswyd Thomas Morris, Ysw., Caerfyrddin, yn Drysorydd, a Meistri Peter a Charles, Caerfyrddin, yn Ysgrifenyddion, a phenderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynnal yn Nghaerfyrddin. Gan mai yn yr iaith Saesonaeg y dygid y cyfarfod cyhoeddus yn mlaen, traddodwyd dwy bregeth i'r Cymry uniaith yn Ebenezer ar yr un amser, gan Mri. H. Williams, Llanelli, ac S. Davies, Maendy. Am chwech, pregethodd Mr. Thorp, Caerodor, yn Saesonaeg, a Mr. Jones, Pontypool, yn Gymraeg. Am saith bore ddydd Iau, pregethodd Mr. Powell, Aberhonddu. Am ddeg, pregethodd Mr. Davies, Sardis, ac ar ol y bregeth, darllenwyd yn Gymraeg y penderfyniadau a basiwyd yn y cyfarfod cyhoeddus y dydd o'r blaen. Am dri yn y prydnawn, cynnaliwyd cyfarfod cymundeb yn Ebenezer, pryd yr oedd llawer o ganoedd yn cydgymuno. Llywyddwyd wrth y bwrdd gan Mr. Davies, Alltwen, a Mr. Mathew Wilks, Llundain; ac anerchwyd y cymunwyr gan Mr. Thorp, a Mr. Peter. Gan fod y dorf yn aruthrol o fawr, tynwyd ymaith ffenestri y capel, a gosodwyd i fyny esgynlawr i'r llefarwyr i sefyll arno, fel y gallasai y torfeydd yn y tŷ, a thu allan eu clywed. Yr oedd rhyw deimlad nodedig o nefolaidd yn yr holl gyfarfodydd, ond yn enwedigol y cyfarfod cymundeb. Er. fod y cyfarfodydd wedi cael eu cadw yn ddiorphwys am dri diwrnod, nid oedd y lluaws yn foddion ymadael heb gael dwy bregeth drachefn yn yr hwyr, ac felly pregethodd Mr. Mathew Wilks, a Mr. George, Brynberian. Daeth pob un o'r gweinidogion gwyddfodol a chasgliadau oddiwrth eu heglwysi i'r cyfarfod hwn, a chasglwyd yn ystod y cyfarfodydd yn Ebenezer 80p. Os. 4c.; yn y Burrows 50p. 15s.; ac yn Eglwys Evan 18p. Yr oedd y cwbl a anfonwyd i'r fam-gymdeithas o'r cyfarfod hwn yn 500p. Oddiar y cyfarfodydd enwog hyn y mae eglwysi Cymru wedi anfon degau o filoedd o bunau i Gymdeithas Genhadol Llundain, ac mewn ychwanegiad at hyny, wedi anfon allan amryw o'u gwyr ieuaingc i'r maes cenhadol, y rhai sydd wedi troi allan yn genhadon enwog a llwyddianus iawn, ac yn mysg yr enwocaf o ba rai y mae Mr. Griffith John, un o blant eglwys Ebenezer.
Bu farw Mr. David Davies, yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, yn Rhagfyr, 1816, er galar dirfawr i bobl ei ofal, ac i Gymru yn gyffredinol. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Davies, rhoddodd yr eglwysi yn Ebenezer a'r Ysgetty alwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr yn athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef Ebrill 23ain, 1818. Dechreuwyd cyfarfod yr urddiad trwy weddi gan Mr. T. Bowen, Castellnedd; pregethwyd ar natur eglwys, a gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr. J. Davies, Alltwen; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Powell, Aberhonddu; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin, oddiwrth Mat. xxi. 28.; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 1 Tim. i. 17., a diweddwyd trwy weddi gan Mr. T. Luke, Abertawy. Pregethwyd yn yr hwyr, ac yn hwyr y dydd blaenorol, gan Meistri H. Williams, Llanelli; J. Williams, Ty'ny coed; J. Jones, Talgarth, a J. Rowlands, Llanybri. Bu Mr. T. Davies am rai blynyddau yn boblogaidd a rhyfeddol o barchus, nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond hefyd gan y wlad yn gyffredinol. Gydag amser, pa fodd bynag, o herwydd rhyw wendidau perthynol iddo, bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef fel eu gweinidog, etto parhaodd canoedd yn y dref a'r cyffiniau yn eu teimlad o anwyldeb tuag ato er ei holl wendidau. Yn 1826, helaethwyd y capel trwy ychwanegu un-droedfedd-ar-bymtheg at ei led, fel yr oedd yn 50 troedfedd wrth 46 oddi fewn i'r muriau. Cynnaliwyd cyfarfodydd agoriad ar ol yr helaethiad hwn, Hydref 25ain a'r 26ain, 1826. Dechreuwyd y nos gyntaf gan Mr. D. Davies, Sardis, a phregethodd y Meistri L. Powell, Mynyddbach, Llandilo, a W. Jones, Penybont ar-ogwy. Am haner awr wedi deg yr ail ddydd, gweddiodd Mr. S. Price, Llanedi, a phregethodd y Meistri D. Davies, Sardis, Brittan, Heolycastell, Abertawy, yn Saesonaeg, a D. Peter, Caerfyrddin. Yn y prydnawn, gweddiodd Mr. H. Herbert, Drefnewydd, a phregethodd y Meistri J. Williams, Ty'nycoed, a J. Rowlands, Cwmllynfell. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. J. Davies, Castellnedd, a phregethodd y Meistri Jenkins, Llangeitho, (Trefynydd,) a D. Peter, Caerfyrddin. Bu y capel ar ol ei helaethiad yn anghysurus o lawn am tua phymtheng mlynedd, ond wedi adeiladu Canaan, Capel Sion, Pentre-estyll, a Zoar, teneuodd y gynnulleidfa i raddau. Yn Mehefin, 1842, darfu cysylltiad Mr. Thomas Davies a'r eglwys hon fel ei gweinidog, ac yn niwedd yr un flwyddyn, rhoddwyd galwad i Mr. Elias Jacob, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd yma Chwefror 1af a'r 2il, 1843. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn: Y nos gyntaf pregethodd y Meistri J. Evans, Crwys, a W. Morris, Glandwr. Am ddeg, dranoeth, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli; gofynwyd y gofyniadau gan Mr. Evans, Crwys; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Jones, Heolycastell, a phregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, un o athrawon yr athrofa yn Aberhonddu. Am ddau, pregethodd Mr. E. Lewis, athrofa Aberhonddu, a Mr. D. Evans, Castellnedd. Am chwech, pregethodd Mr. W. Griffiths, Llanharan, ar ddyledswydd yr eglwys, a Mr. Jones, Heolycastell, i'r gynnulleidfa yn gyffredinol. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon trwy weddi gan y Meistri Griffiths, Llanharan; Lewis, Aberhonddu; Watkins, Canaan, a Williams, Ysgetty. Bu Mr. Jacob, yn llafurio yma gyda diwydrwydd a ffyddlondeb canmoladwy hyd Awst, 1861, pryd y derbyniodd alwad i Ebley, sir Gaerloew, lle y mae hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1856, gan fod y llywodraeth wedi gwahardd claddu ychwaneg wrth y capel, penderfynodd yr eglwys adeiladu ysgoldy helaeth dros y beddau. Costiodd yr adeilad cyfleus hwn 400p., yr hyn a dalodd y gynnulleidfa yn ddioed. Cynnaliwyd cyfarfod agoriad yr ysgoldy ddydd Nadolig, 1856, pryd y bu tua dwy fil o bersonau yn yfed te ar yr achlysur. Yn yr ysgoldy hwn y cedwir yr Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd wythnosol yr eglwys. Yn Mawrth, 1862, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Rees, Cendl, y gweinidog presenol. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Ebrill. Yn nechreu Gorphenaf, yr un flwyddyn, tynwyd yr hen gapel i lawr, a dechreuwyd adeiladu yr un presenol, yr hwn a orphenwyd erbyn dechreu Mehefin, 1863. Ymddangosodd yr hanes canlynol am yr agoriad yn y Diwygiwr am Gorphenaf, 1863:—"Ailadeiladwyd y capel hwn yn ddiweddar, ac yn awr y mae yn un o'r capeli mwyaf a phrydferthaf yn y Dywysogaeth. Mesura 70 troedfedd o hyd, 46 o led, a 32 o uchder i'r nenfwd. Y mae yr oriel yn rhedeg dros dair rhan o bedair o hono, ac wedi ei gyfleu yn y fath fodd, fel y gall pob dyn o bob-congl o honi weled y pregethwr ar yr esgynlawr yn hollol ddidrafferth. Tu cefn i'r esgynlawr y mae cofadail prydferth, o fynor gwyn, wedi ei osod i fyny ar y mur, er coffadwriaeth am Mr. David Davies, gweinidog cyntaf Ebenezer, a thrwy offerynoliaeth yr hwn y dechreuwyd yr achos yno, yn gystal ag yn y dref. Y mae dyweyd mai Mr. T. Thomas, Glandwr, dynodd y cynllun, yn ddigon o warantiad am dlysni y capel. Yr adeiladwyr oeddynt Meistri Thomas, Watkins, a Jenkins, Abertawy, y rhai a gyflawnasant eu gwaith yn anrhydeddus. Costiodd yr adeilad 2,000p. neu 2,100p., heblaw defnyddiau yr hen gapel. Daeth yn barod erbyn diwedd Mai, ac yn Mehefin, cynaliwyd tri o gyfarfodydd neillduol mewn cysylltiad a'r agoriad. Yr oedd y cyfarfod cyntaf, yr hwn a gynaliwyd Mehefin yr 2il, yn gwbl Seisnig, pryd y disgwylid Dr. Brown, o Cheltenham, i bregethu; ond oblegid afiechyd, methodd, a daeth Mr. J. Whiting, o Stroud, yn ei le, a phregethodd ddwy bregeth hynod o alluog, a chymerwyd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd gan Meistri W. Jones, Castle Street; J. M. Evans, Newton; a J. Whitby, Burrows. Casglwyd yn y ddau gyfarfod 106p.
"Mehefin 6ed a'r 7 fed, cynaliwyd cyfarfodydd Cymreig, pryd y pregethodd y Meistri J. Roberts, Castellnedd; J. Davies, Cwmaman; T. Thomas, Glandwr; W. Morgan, Caerfyrddin, a J. Mathews, Castellnedd.
"Mehefin 15fed a'r 16eg, cynaliwyd y gyfres olaf o gyfarfodydd mewn cysylltiad a'r agoriad; pryd y pregethwyd am 2 y dydd cyntaf gan y Meistri E. Evans, Skiwen, ac R. Thomas, Bangor. Am haner awr wedi 6, pregethwyd gan y Meistri J. Griffiths, Llanymddyfri; J. Evans, Capel Sion, a P. Griffiths, Alltwen. Am 7 yr ail ddydd, pregethodd y Meistri R. Lewis, Ty'nycoed, a Thomas, Bryn. Am 10, y Meistri E. Jacob, Ebley, ac R. Thomas. Am 2, y Meistri T. Davies, Siloah, Llanelli, a J. Thomas, Liverpool. Am haner awr wedi 6, y Meistri J. Thomas, ac R. Thomas. Cymerwyd rhan hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Meistri D. Rees, Llanelli; J. Rees, Canaan; T. Davies, Llandilo; R. Williams, Bryntroedgam; J. Davies, Capel Sion; L. Davies, Sketty: W. Davies, Aberhonddu, &c. Rhwng y symiau a gasglwyd yn y cyfarfodydd agoriadol, a'r hyn a gasglwyd gan y gynnulleidfa yn flaenorol, gwnaed yn agos i 600p. rhwng y cwbl, gan adael rhywbeth fel 1,500p. o ddyled, yr hon modd bynag a doddir yn fuan trwy ymdrech y Dr. Rees, a'i gynnulleidfa fawr. Rhwydd hynt iddynt yn yr ymdrech. Gwna les mawr iddynt."
Saith gant o bunau yw y ddyled sydd yn aros yn awr, ac yn y swm hwn y mae dau cant o ddyled y capel yn Fabian's Bay, a gymerwyd gan eglwys Ebenezer arni ei hun er cynorthwyo yr achos ieuangc hwnw. Gellid talu y cwbl mewn ychydig wythnosau pe yr ymgymerid a hyny. Rhif aelodau yr eglwys yn bresenol yw pum' cant a phed war-ar-ddeg-ar-hugain, ac er's blynyddau bellach, y mae cyfanswm y casgliadau at bob achos rhwng pump a chwe' chant punt yn y flwyddyn.
Mae yr eglwys hon, er nad yw nemawr dros driugain-a-deg oed, yn fam i amryw o eglwysi yn y gymydogaeth: megis Heolycastell, Canaan, Capel Sion, Pentre-estyll, Cwmbwrla, y Sandfields, a Walter-road. Er fod cynifer o ganghenau wedi myned allan o honi, mae yr hen fam etto yn ymddangos yn gryf ac iachus. Ag ystyried lluosogrwydd yr eglwys, nid yw y nifer a gyfodwyd i bregethu ynddi ond ychydig mewn cymhariaeth. Y rhai canlynol yw yr unig rai y cawsom ni eu henwau.
David Williams, mab yr hen swyddwr enwog Peter Williams. Ganwyd ef Ionawr 27ain, 1804. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig Medi 7fed, 1819, gan Mr. T. Davies. Dechreuodd bregethu yn mis Mawrth, 1823. Aeth i athrofa Caerfyrddin yn 1824 neu 1825, ac urddwyd ef yn Forest Green, sir Gaerloew, yn 1829. Symudodd oddiyno i Kingswood, yn 1832; i Kineton, yn 1843; i Eatington, yn 1845; i Welford, yn 1855, ac i Wootton Bassett, yn 1860, lle y bu farw Awst 27ain, 1868. Yr oedd yn ddyn da iawn, ac yn bregethwr rhagorol. Perchid ef yn fawr yn mhob un o'r lleoedd y bu ynddynt.
David Thomas. Gweler ei hanes yn nglyn a hanes Bethel, Llansamlet, y bu am ychydig amser yn weinidog.
John Thomas. Y mae er's blynyddau bellach yn weinidog defnyddiol yn America.
Daniel Thomas. Y mae yntau er's blynyddau wedi ymfudo i America.
John Thomas, sydd un o ddiaconiaid yr eglwys, ac yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn.
David John, gweinidog eglwys Booth Street, Manchester.
David Davies, gweinidog yr hen gapel, Llanybri.
John Mathews. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu.
Thomas Thomas, a ddechreuodd bregethu yma, ond a symudodd i ogledd Lloegr.
Yn yr eglwys hon y magwyd Mr. Griffith John, y Cenhadwr, ac yma y derbyniwyd ef yn aelod pan nad oedd ond wyth mlwydd oed; ac er mai yn Onllwyn y dechreuodd bregethu, etto Ebenezer a gyfrifir ganddo fel ei fam-eglwys. Yma yr urddwyd ef cyn ei fynediad allan i China, ar y 6ed o Ebrill, 1855. Mae y safle uchel y mae wedi ei gyrhaedd fel Cenhadwr gweithgar, galluog, a llwyddianus, yn anrhydedd, nid yn unig i'r eglwys a'i magodd, ond hefyd i'r genedl yn gyffredinol.
Mae nifer o ddynion rhagorol am eu duwioldeb, eu ffyddlondeb, a'u dylanwad fel crefyddwyr wedi bod yn perthyn i'r achos hwn o'i ddechreuad, y rhai y cedwir eu henwau mewn coffadwriaeth barchus; megis Peter Williams, Daniel Daniel, Dafydd Hugh, Dafydd Rees, Dafydd Harry William Dafydd, yn nghyd ag amryw eraill a ymadawsant a'r eglwys hon pan ddechreuwyd y gwahanol ganghenau. Cawn etto achlysur i grybwyll eu henwau hwy yn hanes yr eglwysi hyny.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn mhentref Llangeler, sir Gaerfyrddin, Mehefin 12fed, 1763. Cadwai ei rieni dafarndy y pentref, a chyfrifid hwy yn deulu parchus yn mysg eu cymydogion, ond ymddenys fod yr oll o'u crefydd yn gynwysedig mewn myned yn achlysurol i eglwys y plwyf. Gan nad oeddynt yn ddynion cyfoethog, nac yn ddifrifol fel crefyddwyr, ni chafodd eu mab fwy o fanteision addysg yn ei flynyddau boreuol nag a allasai gael yn yr ysgol ddyddiol a gedwid yn mhentref bychan Llangeler. Nid yw agwedd yr ysgoldy sydd yn y pentref hwnw yn bresenol yn dangos fod yno yn awr fawr o lewyrch ar yr ysgol, a diau ei bod yn waelach gan' mlynedd yn ol nag yn awr; felly nis gallasai David ieuangc gael dim amgen nag addysg o nodwedd dra chyffredin. Pa fodd bynag, dysgodd ddarllen ac ysgrifenu ychydig, ac felly cafodd ddrws gwybodaeth i raddau yn agored o'i flaen. I feddwl treiddgar a bywiog, gwna ychydig fanteision lawer o les, tra na wna meddwl diog a diegni nemawr o ddefnydd o'r manteision rhagoraf.
Er cael ei fagu mewn tafarndy, ac mewn pentref lled ddigrefydd, ymddengys i'r llangc David, mewn rhyw fodd anhysbys ini, ddyfod yn ieuangc iawn i deimlo argraffiadau crefyddol ar ei feddwl. Mae traddodiad yn ei deulu, y byddai er yn blentyn bychan yn arfer yn wastad ofyn bendith ar ei fwyd, pwy bynag fyddai yn ei weled a'i glywed; a dywedir y byddai ei ddull difrifol a'i eiriau pwrpasol yn taro y dynion a eisteddent yn y tŷ i yfed a syndod, ac y byddent yn wastad pan welent y plentyn yn nesu at y bwrdd yn dystewi ac yn tynu ymaith eu hetiau. Dywedir hefyd i'w dad ei glywed unwaith dan gysgod llwyn yn yr ardd yn gweddio dros ei rieni, ac i hyny adael cryn lawer o argraff ar ei feddwl. Nis gwyddom pa cyhyd y parhaodd y teimladau crefyddol hyn yn meddwl y llangc, ond y mae yn dra thebygol iddynt wanychu i raddau mawr gyda ei fod yn tyfu i fyny i oedran gwr, ac yn myned yn ddeiliad y profedigaethau y mae ieuengctyd yn agored iddynt.
Yn yr ugeinfed flwyddyn o'i oed aeth i'r sefyllfa briodasol. Enw gwraig ei ieuengctyd oedd Jane Evans, yr hon oedd enedigol o'r un gymydogaeth ag yntau. Yr oedd hi tua blwyddyn yn ieuengach na'i phriod. Er ieuenged y priododd, hi a drodd allan yn wraig werthfawr a rhinweddol, ac yn un o'r mamau rhagoraf. Y mae miloedd o ieuengctyd Cymru, a allasent ddringo i safleoedd o ddefnyddioldeb ac urddas mewn cymdeithas, wedi gosod eu hunain dan y dwfr am eu hoes wrth briodi yn rhy ieuangc; a diau mai felly y buasai gyda David Davies a'i briod, oni buasai ei fod ef wedi ei gynysgaeddu a galluoedd digen nerthol i esgyn trwy bob anhawsderau, nes cyrhaedd safle amlwg yn nheml enwogrwydd. Rhyfyg fyddai i ddynion ieuaingc dybied y gallant hwythau lwyddo yr un modd, oblegid ychydig mewn oes a feddant y fath dalentau ag a feddai ef.
Nid oes genym un hanes am ei deimladau crefyddol o'r pryd yr oedd yn blentyn lled ieuangc nes ei fod yn ugain oed. Wedi cyrhaedd yr oed hwnw daeth ar ei feddwl i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd, ac ymunodd a'r eglwys Ymneillduol yn Mhenrhiw, yn agos i le ei enedigaeth. Yr oedd yr eglwys hono dan ofal gweinidogaethol yr enwog David Davies, o Gastellhywel. Rhyw fath o Arminiaid, Pelagiaid, neu Ariaid, oeddynt o ran eu golygiadau crefyddol. Mae yn dra thebygol fod y rhan fwyaf o'r aelodau yn ddynion lled wybodus, ac yn fedrus fel dadleuwyr ar byngciau crefyddol; ond nid ymddengys fod nemawr o'r teimladau duwiolfrydig hyny yn eu meddianu, a ystyrid yn hanfodol i wir grefydd gan ddynion o olygiadau efengylaidd. Darfu i'r hyglod Christmas Evans ymuno a'r eglwys yn Mhenrhiw tua'r un amser a David Davies, ac ymadawodd y ddau a hi yn dra buan; aeth y naill at yr Annibynwyr, a'r llall at y Bedyddwyr, a buont am flynyddau lawer yn heuliau dysglaer yn ffurfafenau y ddau enwad.
Dywedir na fu David Davies ond un waith yn cyfranogi o swper yr Arglwydd yn Mhenrhiw. Trwy rhyw foddion anhysbys i ni, gweithiodd Ysbryd yr Arglwydd ef i'r fath wasgfa am ei gyflwr fel pechadur colledig, nes y bu i'w reswm fod ar fin cael ei ddymchwelyd. Yn ofer y buasai yn troi at neb o'i gydaelodau yn Mhenrhiw am gysur a chyfarwyddyd yn ngwyneb ei deimladau trallodus. Pe buasai pwt o ddadl ar ryw bwngc athrawiaethol, neu ymgomiad ar hynafiaethau, daearyddiaeth neu feirniadaeth ysgrythyrol, yn gwneyd y tro, gallasai gael digon o hyny yn eu plith hwy; ond yr oedd yn rhaid iddo droi i rywle arall i ymofyn olew gras i dawelu loesion cydwybod archolledig. Yr oedd hwnw yn beth hollol ddyeithr iddynt hwy. Yn y cyfamser, pan y teimlai ei hun ar fin dystryw, daeth i adnabyddiaeth a rhai o aelodau yr hen eglwys Annibynol yn Mhencadair, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal Mr. William Perkins. Aeth yno, a chlywodd eiriau a fendithiwyd i dawelu ei fynwes derfysglyd; daeth i fwynhad o dangnefedd yr efengyl, a chafodd ei dderbyn yn aelod o'r eglwys hono gan Mr. Perkins.
Nid hir y bu David Davies wedi ei dderbyn yn Mhencadair, cyn i'w wybodaeth grefyddol, ei brofiad nefolaidd, a'i ddoniau toddedig mewn gweddi, arwain y gweinidog a'r eglwys i'w anog i arfer ei ddoniau fel pregethwr. Cydsyniodd yntau a'r anogaeth a gafodd gan yr eglwys, a thraddododd ei bregeth gyntaf mewn anedd-dy bychan yn mhlwyf Llangeler, yr hwn a breswylid gan ddilledydd; ac y mae y ffaith yn deilwng o'i chofnodi, mai yn yr un anedd-dy, ac o fewn yr un wythnos, y traddododd Christmas Evans ei bregeth gyntaf. Mae yn ymddangos i hyn gymeryd lle yn y flwyddyn 1784 neu 1785. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, tynodd ei ddoniau digyffelyb sylw neillduol, a chyrchai torfeydd lluosog i'w wrandaw pa le bynag y cyhoeddid ef i bregethu. Ar ol pregethu yn Mhencadair a'r eglwysi cymydogaethol am rai blynyddau gyda derbyniad a chymeradwyaeth neillduol, cafodd ei urddo yn gydweinidog a Mr. John Lewis, yn y Drefach, gerllaw Llangeler, yn y flwyddyn 1790. Mae yn naturiol i'r gofyniad ymgodi yn meddwl y darllenydd yn y fan yma, "Pa fodd y goddefwyd i ddyn o ddoniau iraidd David Davies fod am o bump i chwe' blynedd heb ei urddo wedi iddo ddechreu pregethu, ac yn enwedig pryd yr oedd gweinidogion cymeradwy mor brin, fel yr oedd yn rhaid i bob un gymeryd gofal amryw eglwysi gwahanol ?" Mewn trefn i ateb y gofyniad hwn, mae yn ofynol ystyried agwedd yr enwad Annibynol yn y dyddiau hyny, yn nghyd ag amgylchiadau teuluol Mr. Davies. Nid oedd Ariaeth noeth hyd yn hyn wedi tori allan yn yr eglwysi a elwid yn Bresbyteraidd ac felly ni chyfrifid y cynnulleidfaoedd hyny oeddynt wedi coleddu Arminiaeth neu Belagiaeth, yn blaid wahanol oddiwrth yr Annibynwyr. Byddai y gweinidogion yn gyffredin yn newid pulpudau a'u gilydd, ac yn cydgynal cyfarfodydd urddiadau, cymanfaoedd, &c. Yr oedd ychydig o'r gweinidogion a'r cynnulleidfaoedd mwyaf selog dros Galfiniaeth yn dechreu sefyll draw oddiwrth y rhai a gyfrifid yn Arminiaid; ond yr oedd mwyafrif y gweinidogion a'r eglwysi mwyaf dylanwadol, yn dawel i bethau fod fel yr oeddynt, ac yn hytrach yn beio y rhai a ddywedasent neu a wnaethent unrhyw beth a dueddasai i oeri y Calfiniaid a'r Arminiaid at eu gilydd. Dichon, gan hyny, i ymadawiad Mr. Davies a'r Arminiaid yn Mhenrhiw, a'i ymuniad a'r Calfiniaid yn Mhencadair, fod yn foddion i beri i rai gweinidogion edrych gyda gradd o wg a drwgdybiaeth arno. Hefyd, nid oedd wedi derbyn addysg athrofaol, yr hyn a ystyrid y pryd hwnw gan y gweinidogion Ymneillduol, yn Galfniaid yn gystal ag Arminiaid, fel peth o bwys hanfodol braidd er addasu dyn ieuangc i dderbyn urddau. Edrychai yr hen Annibynwyr a'r Presbyteriaid ar y Trefnyddion Calfinaidd a'r Bedyddwyr gyda gradd o ddiystyrwch a dirmyg, o herwydd eu hod yn gollwng cynifer o ddynion annysgedig, fel y galwent hwy, i'w pulpudau. Yr oedd ychydig ddynion mwy talentog na'r cyffredin wedi eu hurddo yn mysg yr Annibynwyr yn y ddeunawfed ganrif, y rhai ni dderbyniasant addysg athrofaol, megis Morgan Jones, Pentretygwyn; Jonathan Jones, Rhydybont; John Davies, Alltwen, &c.; ond ychydig o rif oeddynt, a chyfrifid mai rhyw fraint fawr iddynt oedd cael gweinidogion i ymostwng i'w hurddo. Carid y teimlad hwn lawer yn rhy bell, a rhoddid y blaen i addysg athrofaol ar dalent naturiol. Gall talent gref wneyd gweinidog da heb addysg reolaidd; ond ni wna yr addysg oreu weinidog da byth heb dulent. Peth cyffredin yw i un eithafion greu y llall. Yr oedd y Trefnyddion a'r Bedyddwyr yn y dyddiau hyny yn gollwng llawer o ddynion hollol amddifad o dalent ac addysg i fyned o gylch y wlad yn y cymeriad o bregethwyr. Gyrai hyny yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid, y rhai oeddynt ddiarhebol o selog dros weinidogaeth ddysgedig, i'r eithafion o wrthwynebu derbyniad dynion o gymhwysderau da i'r weinidogaeth, heb iddynt yn gyntaf fyned trwy gwrs o addysg athrofaol. Darfu i'r teimlad hwn yn mysg y gweinidogion, a rhai o brif aelodau yr eglwysi, yru llawer o wyr ieuaingc fuasent yn addurn i'r enwad, at enwadau eraill. Dichon fod y rhesymau hyn, yn nghyd a'r ffaith ei fod wedi cymeryd arno ofal teulu mor ieuangc, yn ddigon i gyfrif paham na buasai Mr. Davies yn cael ei urddo yn gynt.
Yr oedd Mr. John Lewis, gweinidog y Drefach, yn Calfiniad selog dros ben; ond nid oedd yn unwedd yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Yr oedd naill ai diffyg doniau, synwyr cyffredin, neu ddigon o weithgarwch, yn peri fod ei weinidogaeth yn hollol ddilwydd. Nid oedd ond deuddeg o aelodau yn ei eglwys pan y penderfynwyd rhoddi galwad i David Davies i ddyfod yn gydweinidog ag ef, a'r deuddeg hyny ar fedr rhoddi y lle i fyny, ac ymuno ag eglwysi eraill. Pan ddechreuodd Mr. Davies ymweled a hwy, adfywiodd yr achos, o lluosogodd y gwrandawyr a'r aelodau. Wedi cyduno i roddi galwad i'r gwr ieuangc, aeth dau o'r aelodau i gyfarfod gweinidogion a gynelid yn Penygroes, sir Benfro, i ofyn eu cymeradwyaeth a'u presenoldeb yn yr urddiad. Dywedir wrthym iddynt fyned yno "i wneyd cais gostyngedig" at y gweinidogion, yr hyn a ddengys eu bod yn ofni na chawsai eu cais ei ganiatau iddynt. Pa fodd bynag, fe ganiatawyd eu cais iddynt, a chafodd Mr. Davies ei urddo yn weinidog iddynt yn y flwyddyn 1790. Yn anffodus, nid yw y dydd, y mis, nac enwau y gweinidogion a gymerasant ran yn ngwaith yr urddiad, wedi eu cofnodi mewn nac argraff nac ysgrifen, hyd y gwyddom ni.
Cyn pen dwy flynedd wedi ei urddiad, aeth y gynnulleidfa yn rhy luosog i addoldy bychan y Drefach i'w chynwys, fel y penderfynwyd adeiladu addoldy helaethach mewn man mwy canolog o'r ardal. Y man a ddewiswyd oedd ymyl y ffordd o Gastellnewydd i Gaerfyrddin, ychydig uwchlaw pentref Llangeler. Adeiladwyd yr addoldy yno yn y flwyddyn 1792, a galwyd ei enw Saron. Talwyd am yr addoldy newydd ar unwaith, a gorlanwyd ef o aelodau a gwrandawyr. Ni chyfyngai Mr. Davies ei lafur gweinidogaethol i ardal Llangeler, ond cymerodd hefyd ofal yr eglwysi yn y Neuaddlwyd, sir Aberteifi, a'r Gwernogle, sir Gaerfyrddin. Pregethai un Sabboth yn y mis yn mhob un o'r lleoedd hyn, a bu ei weinidogaeth yn foddion i roddi bywyd newydd i'r achos yn y ddau le, fel y daethant yn fuan o fod yn gynnulleidfaoedd bychain, marwaidd, a digalon i fod yn eglwysi lluosog, bywiog, a blodeuog.
Darfu i weinidogaeth seraphaidd Mr. Davies effeithio daioni annirnadwy, nid yn unig yn yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ei ofal ef, ond hefyd trwy holl oglwysi yr enwad y perthynai iddo. Rhoddodd ei ysbryd bywiog, a'i ddull tanllyd o bregethu, dôn newydd i'r weinidogaeth yn mysg yr Annibynwyr trwy Gymru, ac effeithiodd y chwyldroad mwyaf bendithiol a thrwyadl trwy yr holl enwad. Wedi marwolaeth yr Anghydffurfwyr a'u holynwyr uniongyrchol, ni chyfododd nemawr o bregethwyr tanllyd a diwygwyr selog yn mysg yr Annibynwyr Cymreig, nes i Mr. Davies ymddangos fel seraph llawn o dân yn Llangeler. Mae yn wir fod Isaac Price, o Lanwrtyd, ac ychydig eraill o ddynion gwresog, wedi ymddangos ar y maes tua deugain mlynedd o'i flaen ef; ond nid ymddengys fod eu talentau na'u doniau y fath ag i'w galluogi i ddylanwadu yn rymus ar y wlad yn gyffredinol. Yr oedd gweinidogion yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid yn Nghymru yn y ddeunawfed ganrif yn gorph ddynion dysgedig a pharchus iawn; a rhyw ddau neu dri, mwy neu Îai, o deuluoedd cyfrifol a chyfoethog yn perthyn i bob un o'u cynnulleidfaoedd; ond yr oeddynt agos oll yn amddifad o gymhwysderau hanfodol pregethwyr poblogaidd ; ac nid oedd sefyllfa yr eglwysi o ran eu teimladau tuag at eu gilydd, a'u golygiadau athrawiaethol, yn unwedd yn ddymunol a gobeithiol o 1750 i 1790. Gellid rhanu gweinidogion y cyfnod hwnw i dri dosbarth, sef y Calfiniaid selog, yr Arminiaid cyhoeddus, yn nghyd a phlaid ganol, y rhai a gelent eu golygiadau ar y pyngciau mewn dadl rhwng y pleidiau eraill, ac a ymdrechant sefyll fel cyfryngwyr rhyngddynt, i'w cadw rhag ymrwygo a myned yn ddau enwad gwahanol. Ychydig neu ddim efengyl a bregethid gan y blaid Arminaidd, ond safent braidd yn hollol ar ddyledswyddau moesol, gan eu gwasgu at feddyliau eu gwrandawyr ag anogaethau deddfol. O'r tu arall, traddodi pregethau neu ddarlithiau ymresymiadol a meithion ar y naill neu y llall o'r "pum' pwngc," gan ergydio yn ddiarbed ar yr Arminiaid, yn lle troi min eu gweinidogaeth at gydwybodau eu gwrandawyr, y byddai y blaid Galfinaidd agos yn hollol. Tra mai "heddwch ar unrhyw bris" oedd arwyddair y blaid ganol. Math o dduwinyddion nacaol oeddynt; pa beth bynag oedd eu golygiadau athrawiaethol, yr oedd eu dyfais (policy) i gadw y pleidiau eraill yn un enwad yn eu rhwymo i beidio eu pregethu yn gyhoeddus. Nis gallesid disgwyl i grefydd lwyddo tra yr oedd pethau yn y sefyllfa hon; o herwydd hyny, yr ydym yn cael yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid—yr enwad dysgedicaf a mwyaf dylanwadol o Ymneillduwyr Cymru—o 1750, hyd yn agos i ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yn hytrach yn colli nag yn ennill tir. Dyma sefyllfa pethau pan y dechreuodd Mr. David Davies ei weinidogaeth. Er yr holl anfanteision y llafuriai ef danynt, o ddiffyg addysg foreuol a sefyllfa uchel o ran meddianau bydol, trwy ei dduwioldeb, ei ddoniau anghydmarol, a'i lafur dibaid, gweithiodd ei ffordd i sylw, a daeth yn fuan y pregethwr mwyaf poblogaidd trwy yr holl wlad; rhoddodd yr holl weinidogion Calfinaidd, er cymaint eu sel dros ddysg a ffurfiau, eu dylanwad o'i blaid, a chyfododd o'i amgylch, cyn pen deuddeng mlynedd wedi ei urddiad, nifer o weinidogion ieuainge doniol, talentog, a gweithgar, hollol o'r un ysbryd ag ef ei hun, megis Morgan Jones, Trelech; Griffith Hughes, Groeswen; David Davies, Sardis; John Bowen, Saron; Dr. Thomas Phillips, Neuaddlwyd; Methuselah Jones, Merthyr Trydfil; Azariah Shadrach, Aberystwyth; Daniel Evans, Mynyddbach, &c. Ystyrid Mr. Davies fel blaenor y llu gobeithiol hwn; cynhyrfasant y wlad o gwr i gwr; adfywiwyd llawer o'r hen eglwysi oedd yn barod i farw; ymranodd y Calfiniaid a'r Arminiaid oddiwrth eu gilydd; dyddymwyd y blaid ganol, a gorfodwyd y duwinyddion nacaol i ddewis eu pleidiau; ac felly iachawyd yr awyrgylch foesol. O'r pryd hwnw hyd yn awr y mae yr enwad Annibynol wedi parhau yn ddiatal i ychwanegu nerth yn Nghymru. Trwy weinidogeth danllyd a dylanwad Mr. David Davies yn benaf, fel moddion yn llaw Duw, y dygwyd y chwyldroad pwysig hwn oddiamgylch. Tra y byddo Annibyniaeth yn fendith i Gymru, bydd y genedl dan rwymedigaeth i Mr. Davies, fel y prif offeryn a ddefnyddiodd Duw i roddi iechyd a bywyd newydd yn yr achos.
Ar ol llafurio yn Llangeler, y Neuaddlwyd, a'r Gwernogle am bum' mlynedd, gyda llwyddiant ac arddeliad anghyffredin, derbyniodd Mr. Davies alwad unfrydol oddiwrth yr eglwysi yn y Mynyddbach a'r Ysgetty, gerllaw Abertawy, i ddyfod yn ganlyniedydd i'r hybarch Lewis Rees.
Dichon na ddarfu i un gweinidog erioed yn Nghymru, nac un wlad arall, lafurio yn fwy diwyd oddicartref, yn gystal a chartref gydag achos ei Feistr mawr na Mr. David Davies. Teithiodd amryw weithiau trwy Dde a Gogledd Cymru, gan bregethu i dorfeydd lluosog ddwy a thair gwaith y dydd tra byddai ar ei deithiau. Bu yn foddion i adfywio amryw achosion oedd ar fin trancedigaeth mewn llawer o ardaloedd, ac i gychwyn achosion newyddion mewn ardaloedd eraill. Yn mysg yr achosion newyddion a ddechreuwyd ganddo, gellir enwi heblaw, Abertawy, Llanon, a Phenbre, yn sir Gaerfyrddin; Clydach, Capel Rhagluniaeth, Heolycastell, Abertawy, a rhai lleoedd eraill yn Morganwg. Cyfododd amryw wyr ieuaingc doniol a defnyddiol i'r weinidogaeth yn ei eglwysi; megis John Bowen, a Thomas Jones, Saron; David Davies, Sardis; Methuselah Jones, Merthyr; Thomas Jones, Lambeth; David Williams, Llanfairmuallt; David Jones, Taihirion; David Davies, ei fab hynaf; y Cadben Richards, &c. Cymaint oedd ei ysbryd cyhoeddus, fel yr ymroddai i ledaenu terfynau yr achos yn mhob man y medrai estyn ei ddylanwad iddo. blynyddau wedi ei sefydliad yn y Mynyddbach, gadawodd ei deulu a'i eglwysi, ac aeth i Lundain, lle yr arosodd am bedwar mis, i'r dybenion o berffeithio ei wybodaeth o'r iaith Seisnig, a phregethu yr efengyl i'r Cymry yn Llundain, Deptford, ac Woolwich. Yn ystod y pedwar mis hyny, treuliai bob dydd o'r wythnos fel myfyriwr yn athrofa Hackney, a'r Sabbothau i bregethu i'w gydgenedl. I'w lafur hunanymwadol ef yn flaenaf a phenaf o bawb yr ydys i briodoli dechreuad yr achosion Annibynol Cymreig yn Llundain, a'r trefydd cymydogaethol.. Nid yn unig am y Cymry yn Nghymru ac yn Lloegr y gofalai ef; ond teimlai hefyd yn ddwys dros y Saeson yn Nghymru. Fel y crybwyllasom eisioes, trwy ei ymdrechion ef yn benaf y dechreuwyd yr achosion Seisnig yn Heolycastell, Abertawy, a Chapel Rhagluniaeth yn Mrowyr. Nid digon i'w enaid eang ef oedd gwneyd daioni i breswylwyr ei wlad ei hun, ond teimlai hefyd dros y byd yn gyffredinol. Yfodd yr ysbryd cenhadol gyda y cyntaf yn Nghymru. Yn ei gapel ef yn Abertawy, ar yr wythnos gyntaf o Awst, 1814, y cynhaliwyd y cyfarfod cenhadol cyntaf a gynaliwyd yn y Dywysogaeth. Yr oedd yr enwog Mathew Wilks, Mr. Tracy, ysgrifenydd Cymdeithas Genhadol Llundain, ac eraill o weinidogion Lloegr, yn nghyd a'r rhan fwyaf o weinidogion Deheudir Cymru, yn y cyfarfod bythgofus hwnw. Casglwyd yn siroedd y Deheudir at y genhadaeth y flwyddyn hono bum' cant o bunau; ac o'r swm hwnw yr oedd triugain punt a deg a dwy geiniog wedi eu cyfranu gan bobl Mr. Davies ei hun yn Abertawy a'r Ysgetty. Bu ar hyd a lled y wlad yn areithio dros yr achos cenhadol. Dywed y Parch. D. Griffiths, gynt o Madagascar, mai wrth wrandaw Mr. Davies, Abertawy, yn traddodi araeth genhadol, y cyffrowyd ei feddwl ef gyntaf i benderfynu myned yn genhadwr i fysg y paganiaid.
Treuliodd Mr. Davies ei holl fywyd i wasanaethu ei genedl a'r enwad y perthynai iddo. Teithiodd beth dirfawr trwy Gymru a Lloegr i gasglu at yr amrywiol addoldai a adeiladwyd ganddo; a thrwy ei ymddyddanion, ei areithiau, a'i ysgrifeniadau, cymhellai yr eglwysi o bryd i bryd i ymdrechion egniol er helaethiad terfynau yr achos. Yn y flwyddyn 1815, cyfansoddodd anerchiad cyffrous, yr hwn a gyhoeddwyd gyda hanes cymanfa y Mynyddbach, yn yr hwn yr anoga yr holl eglwysi trwy Dde a Gogledd i gasglu trysorfa at dalu dyledion yr addoldai, cyfodi addoldai newyddion, a chynal yr athrofeydd yn fwy effeithiol. Yn yr anerchiad cyffrous hwn dywed mai nifer eglwysi yr Annibynwyr yn Nghymru y flwyddyn hono oedd 240, yn cynwys 23,600 o aelodau; a dengys y gallasai y nifer hwnw o bersonau yn rhwydd gyfodi 4,250p. y flwyddyn at drysorfa enwadol i'r dybenion rhag-grybwylledig. Y cynllun a gynygia ydyw fod i 2,000 o'r aelodau goreu eu hamgylchiadau i gyfranu deg swllt y flwyddyn; 8,000 o rai is eu hamgylchiadau i roddi pum' swllt y flwyddyn; 10,000 o weithwyr, gwasanaethyddion, &c., i roddi dau swllt a chwe' cheiniog y flwyddyn. Yn y modd hwn gwnelid i fyny y swm gofynedig, sef 4,250p., gan adael 3,600 o gyfanswm yr aelodau fel rhai rhy dlawd i gyfranu dim. Gan fod Mr. Davies yn dechreu gwaelu yn ei iechyd, ac iddo farw cyn pen blwyddyn a haner o'r pryd y cynygiodd y cynllun hwn i sylw yr eglwysi, aeth y cwbl i'r dim, gan nad oedd un arall o'i frodyr yn y weinidogaeth yn meddu digon o ddylanwad a phenderfyniad i weithio y cynllun allan. Diau pe cawsai Mr. Davies fywyd ac iechyd, na buasai yn gorphwys nes cyrhaedd yr amcan. Nid oedd unrhyw beth rhesymol a phosibl nad oedd ganddo ddigon o ddylanwad a doniau i gyffroi a thoddi pob dyn crefyddol i ymestyn at ei gyflawni. Pe buasai genym gofnodion manwl o'r symiau a gasglodd at gapeli, y genhadaeth, ac achosion crefyddol eraill, nifer y pregethau a draddododd, a'r milldiroedd a deithiodd yn ngwasanaeth y cyhoedd, heb dderbyn ond y peth nesaf i ddim am ei lafur, yr ydym yn sicr y tarawsid pob darllenydd a syndod. Dyn cyhoeddus ydoedd yn holl ystyr yr ymadrodd. Bu fyw a marw yn ngwasanaeth y cyhoedd.
Dyn o faint canolig, o gyfansoddiad corphorol lluniaidd a chadarn, o wynebpryd nodedig o hardd, ac o edrychiad treiddgar a siriol oedd Mr. David Davies. Yr oedd ei gyfansoddiad corphorol, ei wynebpryd, a'i lais, yn gystal a'i alluoedd meddyliol, a'i dduwioldeb, oll wedi cydgyfarfod i'w wneyd yn un o'r pregethwyr mwyaf effeithiol a phoblogaidd a esgynodd erioed i areithfa. Er holi degau o hen bobl a'i had waenent yn dda, ac a gawsant gyfle i'w wrandaw yn fynych yn ei ddyddiau goreu, yr ydym wedi y cwbl yn fyr o gael darluniad cyflawn a boddhaol o hono fel pregethwr. Pan ofynem i hwn a'r llall, pa fath bregethwr oedd Mr. Davies, Abertawy, atebent gan godi eu dwylaw mewn syndod, mai y pregethw: rhyfeddaf a mwyaf effeithiol a glywsent erioed ydoedd. Nid ydym etto wedi cyfarfod a neb a roddodd i ni ddarluniad celfydd, cryno, a phwrpasol o'i ragoriaethau a'i neillduolion fel un o brif bregethwyr ei oes. Ymddengys fod ei ymddangosiad, pan yn cyfodi mewn areithfa, neu ar esgynlawr, yn nodedig o darawiadol. Byddai ef bob amser, yn y cymanfaoedd, a'r cyfarfodydd cyhoeddus eraill, yn pregethu yn ddiweddaf o dri yn yr oedfa ddeg o'r gloch. Gan nad pa mor rhagorol fuasai y ddau bregethwr blaenorol, deg i un na fuasai llawer o'r dorf yn eistedd ar y cae, neu yn lled orwedd ar ochreu y cloddiau; ond can gynted ag y gwnai Mr. Davies ei ymddangosiad ar yr esgynlawr, cyfodai pawb, ac ymwasgent yn mlaen hyd y gallent; a byddai pob llygaid a chlust yn y dorf fawr yn hoeliedig ar unwaith, ac yn ymddangos yn awyddus i ddal ar bob gair, ac i graffu ar bob ysgogiad o eiddo y pregethwr. Cerddai ei lais fel gwefr trwy yr holl gynnulleidfa wrth ei fod yn rhoddi penill allan i'w ganu, er na fyddai ond yn unig yn parablu mewn cywair hollol naturiol, heb roddi un math o don i'w lais. Darllenai ei destyn yn araf, ond yn ddigon uchel i ddeng mil o bobl i'w glywed yn eglur. Ar ol rhagymadroddi mewn ychydig o ymadroddion tarawiadol, a hollol berthynasol i'w destyn, rhanai ei bregeth i ddau neu dri o benau a changenau. Byddai ganddo rhyw hanes ysgrythyrol, ymresymiad eglur, cymhariaeth, neu hanesyn (anecdote) i egluro pob pen a changen o'i bregeth; ac fel y byddai yn myned rhagddo, byddai ei faterion a'i lais yn myned fwy fwy effeithiol, nes y byddai ei holl wrandawyr yn hir cyn y gorphenai lefaru wedi eu llwyr orchfygu. Yr oedd yn wahanol braidd i bob pregethwr arall; pa uwchaf y dyrchafai ei lais, pereiddiaf oll fyddai. Llefarai yn yr awyr agored, ar ddiwrnod tawel, yn ddigon uchel i fod yn glywedig am ddwy a thair milldir o bellder. Na thybied neb wrth ein bod yn son cymaint am effeithiolrwydd ei lais, mai mewn "pwff o lais" yn unig yr oedd ei ragoriaeth fel pregethwr yn gynwysedig. Yr oedd ei bregethau oll, fel y nodasom eisioes, wedi eu cyfansoddi yn drefnus, ac yn cynwys cronfa o feddyliau tarawiadol, nodedig o gyfaddas i oleuo deall a chyffroi cydwybodau ei wrandawyr, a'r meddyliau hyny yn cael eu cario adref i'r galon gan agwedd swynol y pregethwr, a llais anorchfygol o effeithiol. Yn absenoldeb desgrifiad gwell, dichon i'r hanesion canlynol roddi rhyw ddrychfeddwl i'r darllenydd am ragoriaeth Mr. Davies fel pregethwr. Dywedai y diweddar Mr. Daniel Jones, o'r Aber, withym, iddo ef fod gydag ef tua thriugain mlynedd yn ol am daith bregethwrol o dair wythn, trwy ranau o siroedd Caerfyrddin, Penfro, ac Aberteifi, a'u bod yn pregethu ddwy waith, ac yn fynych dair gwaith, y dydd, ac na welodd gymaint ag un oedfa trwy yr holl daith heb i Mr. Davies lwyr orchfygu ei wrandawyr, nes y byddai lluaws o honynt yn mhob lle yn aros yn y capel am amser maith i wylo a molianu ar ol y bregeth.
Byddai y bendefiges dduwiol hono, yr Arglwyddes Barham, yn fynych yn gwrandaw ar Mr. Davies, a phob amser y gwrandawai ef nis gallai ymatal rhag wylo yn hidl, er nad oedd yn deall yr un gair a lefarai. Yr oedd dull ei wynebpryd, ysgogiadau ei freichiau, a sain ei lais, yn gadael yr argraff ar feddwl pob un a'i gwelai ac a'i clywai, mai un yn teimlo pwys y genadwri a draddodai ydoedd, a thrwy hyny, gorfodai eraill i deimlo hyd y nod pryd na buasent yn deall yr iaith yn yr hon y llefarai.
Cofnoda y diweddar Mr. James Griffiths, Tyddewi, engraifft gyffelyb. Dywed ei fod ef yn sefyll yn nghanol y dorf yn ymyl boneddiges Seisnig, mewn cymanfa yn sir Benfro, pryd yr oedd Mr. Davies yn pregethu. Yn fuan wedi i'r pregethwr ddechreu trin ei fater, gwelai y dagrau mawrion yn llifo i lawr dros ruddiau y foneddiges, a pharhaodd i wylo drwy y bregeth. Ar y diwedd trodd Mr. Griffiths ati, a gofynai paham yr oedd hi yn wylo, gan nad oedd yn deall iaith y pregethwr. Atebodd, "Pa fodd y gallaswn beidio wylo pan yr oedd pawb o'm hamgylch yn foddfa o ddagrau."
Dywed yr hybarch William Davies, Abergwaun, am ei ddull o bregethu fel y canlyn:-"Y mae genyf gof da am ymweliadau olynol Mr. Davies, Abertawy, a sir Benfro, ac nis gallaf byth anghofio y teimladau dwys a dyfnion a gynyrchai ei hyawdledd digyffelyb yn y torfeydd lluosog a ymdyrent i'w wrandaw i bob lle yr elai iddo. Yr oedd ganddo feddwl treiddgar, dychymyg bywiog, a pharabledd eglur a difloesgni. Meddai lywodraeth nodedig ar ei lais. Pan arweiniai ei wrandawyr i Sinai, taranai allan felldithion y ddeddf yn y fath seiniai dychrynllyd, nes y byddai braidd pob un o'r gynnulleidfa yn teimlo ei hun ar lewygu gan ofn; yna cymerai ei safle ar Galfaria, a desgrifiai ddyoddefiadau Oen Duw dros yr euog, a rhinwedd anfeidrol gwaed y taenelliad, gyda y fath ffrydlif o hyawdledd, ac yn y llais mwyaf perseiniol, nes y buasai ei wrandawyr swynedig braidd yn barod i neidio o lawenydd. Ca y ffaith ganlynol wasanaethu fel engraifft o effaith rhyfeddol ei ddoniau pregethwrol: Byddai cadben llong, yr hwn oedd yn aelod o'm heglwys i yn Abergwaun, yn arfer bob amser y byddai ei long yn Abertawy, fyned i Ebenezer i wrandaw Mr. Davies. Un diwrnod gofynodd i gadben arall, 'A ddeuwch chwi gyda mi i Ebenezer y Sabboth nesaf i wrandaw Mr. Davies, yr wyf yn sicr y gwna i chwi wylo? 'Gwneyd i mi wylo,' ebe hwnw gyda rheg, 'nid oes un pregethwr yn y byd a wna i mi wylo.' Pa fodd bynag, addawodd fyned. Bore y Sabboth a ddaeth, ac ar ddechreu yr oedfa cymerodd y ddau gadben eu safle yn ngwyneb yr oriel gyferbyn a'r areithfa. Edrychai y cadben annuwiol ar y dechreu yn ngwyneb y pregethwr gyda thalcen presaidd, fel pe buasai yn penderfynu herio pob peth a ddywedasai. Ond pan ddechreuodd meistr y gynnulleidfa dwymo, aeth y morwr gwynebbresaidd yn raddol i ostwng ei ben, ac yn hir cyn fod y bregeth drosodd yr oedd yn wylo fel plentyn."
Mae yr hanesyn a ganlyn o hanes bywyd ei dad gan Dr. W. Rees, Liverpool, yn ddiamheuol yn cyfeirio at Mr. Davies, ac yn deilwng o'i gofnodi fel prawf o'i ddylanwad fel pregethwr:—"Dygwyddodd fy nhad fyned ar neges i Ddinbych unwaith yn amser Mr. Llwyd, ar ddiwrnod cyfarfod blynyddol yr Annibynwyr; aeth i wrandaw y pregethau am ddeg a dau, a chafodd y fath hyfrydwch fel yr arferai fyned yno i'r cyfarfod blynyddol ar ol hyny am amryw flynyddau. Adroddai am un cyfarfod hynod. Yr oedd gweinidog dyeithr o'r Deheudir yn pregethu am ddau o'r gloch gyda nerth ac effeithioldeb anarferol. Yn mysg y gwrandawyr yr oedd yr hen William Lewis, fel y gelwid ef, o Ddinbych y pryd hwnw, ond a symudodd ar ol hyny i fyw i sir Fon. Yr oedd William Lewis yn bregethwr tanllyd iawn gyda'r Methodistiaid, a llais fel udgorn Sinai ganddo. Yr oedd teimladau William Lewis wedi eu dwys gyffroi er ys meityn dan bregeth y gwr dyeithr. Ar ganol yr hwyl adroddodd y pregethwr y darn penill:
'Ca'dd ddwr o'r graig, ca'dd fanna gwiw,
Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw,
Er saled oedd eu drych.'
Tarawodd y llinell Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw,' y gynnulleidfa fel gwefriad trydan, a thorodd William Lewis allan y fonllef fawr, 'O diolch! Do! 'Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw.' Y man mwyaf ofnadwy y bu dynion erioed! Ond fe'i cynaliodd Duw hi yno! Do, ac fe'in cynaliodd inau yno hefyd-er saled oedd fy nrych.' Yr oedd hyny yn ddigon; wedi i William Lewis agor yr adwy torodd y llifeiriant i mewn, ac aeth y gynnulleidfa trwyddi i waeddi a molianu. Methais byth a chael gwybod pwy oedd y pregethwr. Dywedai Sion William, o'r Bryndu wrthyf ei fod ef yn y cyfarfod, a'i fod yn cyd-deithio yno ac yn ol gyda'm tad-iddynt holi pwy oedd y pregethwr, ac mai yr ateb a gawsent oedd mai Mr. Davies, o'r Deheudir ydoedd; felly digon tebyg mai yr hen efengylwr Mr. Davies, o Abertawy oedd y gwr."
Iachawdwriaeth rad i bechadur colledig, trwy angau iawnol y Cyfryngwr, fu unig destyn gweinidogaeth Mr. Davies o'i dechreu i'w diwedd. Ei hoff awdwyr oedd Henry, Flavel, y ddau Erskine, Boston, a'u cyffelyb. Ni thraddodai gymaint ag un bregeth heb ei bod yn cynwys mer yr efengyl. Er yr addefwn yn rhwydd fod amryw o'i gydoeswyr, a llawer o weinidogion Cymreig yr oes hon, yn medru cyfansoddi a thraddodi pregethau a mwy o ol mawredd meddyliol arnynt nag a nodweddai ei bregethau ef; etto prin y gallwn gredu i unrhyw bregethwr erioed ymddangos mewn un oes na gwlad a fedrasai draddodi gwirioneddau syml yr efengyl yn fwy effeithiol na Mr. David Davies, Abertawy.
Er mai yn ei alluoedd digyffelyb fel pregethwr yr oedd cuddiad cryfder Mr. Davies, etto nid yw heb enwogrwydd yn perthyn iddo fel awdwr. Ei brif waith yw ei Fibl Teuluaidd, gyda sylwadau eglurhaol ar bob penod. Bu farw yr awdwr cyn gorphen y gwaith hwn. Gan Mr. D. Davies, Pantteg, yr ysgrifenwyd y sylwadau ar lyfr y Dadguddiad. Mae hwn yn argraffiad nodedig o hardd a chywir o'r Bibl Cymreig, ac yn cynwys ar odreu y dail ganoedd o sylwadau esboniadol ac ymarferol nodedig o darawiadol a melus. Heblaw anerchiadau at yr eglwysi yn nglyn a hanes cymanfaoedd, marwnadau ar ol amryw gyfeillion ymadawedig, cyfansoddodd Mr. Davies bedwar-ugain-ac-un o emynau Cymreig, ac yn eu plith y mae amryw o'r penillion goreu yn yr iaith. Gan na oddefa ein gofod i ni roi dyfyniadau o'i gyfansoddiadau barddonol, nid oes genym ond cyfeirio y darllenydd at ei lyfr emynau, yr hwn a gyhoeddwyd tuag ugain mlynedd yn ol gan Mr. Griffiths, Abertawy. Byddai yn werth i bob un feddianu y llyfr bychan hwn, yr hwn a ellir bwrcasu am chwe' cheiniog.
Er i Mr. Davies gael ei fendithio a chyfansoddiad nerthol, etto, "llestr pridd " ydoedd, a darfu i lafur caled a diatal ei anmharu, a hau hadau marwolaeth ynddo yn fuan wedi iddo gyrhaedd ei haner canfed flwyddyn. Yr oedd am fwy na blwyddyn cyn ei farwolaeth yn dechreu teimlo fod amser ei ymddatodiad yn agoshau. Pregethodd yn nodedig o effeithiol ar y Sabboth cyntaf o flwyddyn olaf ei fywyd, oddiwrth y geiriau, "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw," a chyfansoddodd emyn nodedig o gyfaddas i'w chanu ar ol y bregeth, y pedwerydd penill o ba un sydd fel y canlyn:
"Rwy'n teimlo rhyw ddadfeiliad mawr,
O fewn fy mhabell bridd yn awr;
A thebygolrwydd dan fy mron,
Y bydda'i farw'r flwyddyn hon."
Parhaodd i wanychu fis ar ol mis, nes i natur yn y diwedd ymollwng yn llwyr dan bwys ei llesgedd. Yn nghymanfa Gwynfe, sir Gaerfyrddin, yn niwedd Mehefin, 1816, y traddododd ei bregeth olaf mewn cyfarfod cyhoeddus. Yr oedd pob gair a lefarai yn disgyn yn ddwfn i galonau ei wrandawyr, er nad oedd yn medru traddodi ei genadwri yn ei nerth arferol. Deallodd ei holl gyfeillion y pryd hwnw fod yr udgorn arian ar ddystewi. Canodd yn iach i'w frodyr yn y weinidogaeth a'r dorf yn gyffredinol ar ddiwedd y bregeth, hyd oni chyfarfyddent yn nghymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntaf-anedig; yna rhoddodd y penill canlynol o'i gyfansoddiad ei hun allan i'w ganu, a hawdd i bawb ddeall nad oedd un llygad sych yn y gynnulleidfa wrth ei ganu:
"Mae'r arwyddion yn cynyddu
Mae fy ngwely fydd y clai,
Gyda'r pryfed mân caf orwedd,
Dyna'r diwedd i bob rhai ;
Pan b'o f'enaid yn ymadael
A'r ddaiarol demi hon,
Caf ehedeg yn ddiorphwys
Mewn i'r lân Baradwys lon."
Pan eisteddodd i lawr, gofynodd i un o'i frodyr am ddyferyn o win, o herwydd ei fod yn teimlo ei hun ar lewygu. Wedi yfed y gwin adfywiodd ychydig. Aeth oddiyno adref, ac ni fu oddicartref wedi hyny; ond pregethodd i bobl ei ofal agos bob Sabboth hyd o few mis i'w farwolaeth. Yn mis Hydref, 1816, cafodd ergyd a ysigodd ei natur lesg, ac a gyflymodd ei datodiad, yn marwolaeth ei anwyl briod. O'r pryd hwnw hyd derfyn ei oes, yr oedd yn amlwg i bawb o'i gydnabod ei fod yn disgyn yn gyflym i lawr dros risiau marwolaeth. Y tro diweddaf y bu yn y capel oedd ar Sabboth cymundeb, tua thair wythnos cyn ei farwolaeth. Y pryd hwnw rhoddodd ddeheulaw cymdeithas i dri-ar-ddeg o bersonau ar eu derbyniad i'r eglwys. Siaradodd ychydig ar yr ordinhad, a dywedodd wrth y gynnulleidfa ei fod yn dra sicr mai dyna y tro diweddaf y gwelent ef yn eu mysg. Sabboth rhyfedd oedd hwnw yn Ebenezer. Yr oedd y lle yn Bochim—pob grudd yn wlyb gan ddagrau, a phob calon yn drom gan ofid.
Y nos cyn ei farwolaeth dywedodd wrth ei gyfaill Dafydd Hugh, un o ddiaconiaid eglwys Ebenezer, ei fod yn teimlo mor gysurus ag yr oedd yn ddichonadwy iddo deimlo, ac ymdrechodd yn ol y nerth oedd ynddo i ganu yr hen benill hwnw:
"Os rhaid i gystudd garw'r groes,
I ddilyn f'ysbryd ddydd a nos,
Os rhaid, gwna fi yn foddlon iawn."
Dranoeth, sef dydd Iau, Rhagfyr 26ain, 1816, anadlodd allan ei ysbryd a'i bwys ar haeddiant holl ddigonol ei Waredwr. Claddwyd ei ran farwol mewn daeargell yn ymyl capel Ebenezer. Yn awr wedi helaethu yr addoldy, y mae ei feddrod dan ganol yr adeilad. Yr oedd torf ddirfawr yn yr angladd, y rhai a anerchwyd gan y Meistri Luke, Abertawy; Davies, o'r Alltwen, a Jones, o Drelech—cyfeillion mynwesol yr ymadawedig. Fel hyn y machludodd un o ser dysgleiriaf Cymru; ond machludodd yma i gyfodi a llewyrchu yn fyrdd tanbeidiach yn nheyrnas nefoedd.
Gadawodd Mr. Davies chwech o blant yn amddifaid o dad a mam, y rhai ydynt oll yn fyw hyd y dydd hwn, ac yn golofnau amlwg o ofal a thiriondeb Tad yr amddifaid. Y mae ei ddau fab yn weinidogion enwog, sef Mr. David Davies, Stoke Bishop, ger Caerodor, a Mr. John Davies, Homerton, ger Llundain.
Yn ystod gweinidogaeth o chwe' blynedd-ar-hugain, derbyniodd Mr. Davies dros ddwy fil o aelodau i'w eglwysi; a'r hwn a wyr bob peth yn unig a wyr nifer yr eneidiau a drowyd trwyddo at yr Arglwydd yn ei deithiau pregethwrol mynych trwy Gymru a Lloegr.
LIBANUS, TREFORIS.

Er nad oes ond tair-blynedd-a-deugain er pan gorpholwyd yr eglwys a gyferfydd yn y capel hwn yn eglwys Annibynol, yr oedd yn y gymydogaeth hon gangen o eglwys Ty'rdwncyn yn cynal addoliad cyhoeddus yn rheolaidd er's amryw oesau. Bernir fod gwasanaeth crefyddol wythnosol yn cael ei gadw yn gyson yn y Tycoch er y flwyddyn 1682, os nad cyn hyny, gan aelodau Ty'rdwncyn a gyfaneddent yn y gymydogaeth, a byddai rhai o aelodau y Chwarelbach, Castellnedd yn dyfod yn fynych i'r cyfarfodydd hyn. Dywedir fod y bobl a gyfarfyddent yn y Tycoch yn rhai diarhebol am eu gwresogrwydd crefyddol. Pan gyfododd Methodistiaeth daeth rhai o brif bregethwyr yr enwad hwnw yn achlysurol i bregethu i'r gynnulleidfa yn y Tycoch, a'r canlyniad fu yno, fel agos yn mhob ardal arall, i rai o'r bobl fyned yn Fethodistiaid, a ffurfio achos Methodistaidd yn Llansamlet. Mae yn deilwng o sylw, mai canghenau o'r hen eglwysi Ymneillduol oedd agos pob un o'r cymdeithasau Methodistaidd cyntaf a ffurfiwyd yn Nghymru. Nid ydym yn gwybod am gymaint ag un gymydogaeth hollol ddi-Ymneillduaeth lle y gosododd Methodistiaeth ei thraed i lawr am y pump neu y deng mlynedd cyntaf o'i hanes. Teimlid er's blynyddau fod y Tycoch yn le lled anghyfleus i gynal y cyfarfodydd wedi i boblogaeth Treforis luosogi, a bod angen am adeiladu tŷ cyfarfod, ond yr oedd Mr. Lewis Rees, a phobl y Mynyddbach yn groes i hyny, rhag ofn y buasai pobl Treforis, ar ol cael tŷ cyfarfod, yn ymneillduo o'r Mynyddbach, ac yn myned yn eglwys Annibynol. Syniad cyffredin yr hen bobl dda gynt oedd cael rhyw un lle mawr i gyfarfod ynddo bob bore Sabboth, a chadw addoliadau yn yr hwyr mewn pump neu chwech o wahanol ardal- oedd. Edrychid ar adeiladu capel o fewn dwy neu dair milldir i addoldy y fam-eglwys yn gystal a rhwyg, ac yn brawf o ddiogi. Ystyrid cerdded llawer o filldiroedd i'r addoliad ar fore y Sabboth fel prawf o ragoriaeth mewn crefydd. Mae y syniad hwn o eiddo yr hen bobl yn cael ei osod allan yn dda gan Williams, Bethesda, yn y penill canlynol:
"Mae crefyddwyr a'u tiemladau,
'Nawr mor dyner nad aent trwy
Wres nac oerfel i addoliad,
O fewn milldir fach neu ddwy;
Rhaid cael temlau'n agos agos,
Tŷ cwrdd yma, tŷ cwrdd draw,
Gormod gwaith yw cerdded milldir,
Chwaethach cerdded wyth neu naw."
Barnai pobl y Mynyddbach mai diogi i gerdded, a difaterwch crefyddol, ac nid lles ysbrydol eu hardal boblog, oedd yn peri i bobl y Tycoch awyddu am gael addoldy yn Nhreforis. Pa fodd bynag, fe drefnodd rhagluniaeth yn ei hamser i bobl Treforis gael yr hyn a ddymunent. Daeth galwad i Mr. William Edwards, gweinidog y Groeswen, ddyfod i aros am rai misoedd yn yr ardal, pan yr oedd yn adeiladu Pontyfforest, wrth Dreforis. Yr oedd Mr. Edwards yn ŵr dylanwadol iawn yn mysg boneddwyr y wlad ar gyfrif ei fedr a'i enwogrwydd fel adeiladydd pontydd, ac yr oedd iddo barch mawr fel pregethwr gan bawb a'i hadwaenai. Llwyddodd Mr. Edwards i gael gan Mr. Rees a'i bobl yn y Mynyddbach foddloni iddo ef adeiladu capel yn Nhreforis i'r gangen a gyfarfyddent yn y Tycoch, ond gosod amod yn y weithred, na byddai cyfarfodydd i gael eu cynal ynddo ar foreu y Sabbothau, rhag lleihau cynnulleidfa y Mynyddbach, ac na byddent i fyned yn eglwys ar eu penau eu hunain. Cydunodd y bobl a'r amodau caethion hyn. Adeiladodd Mr. Edwards y capel, a chasglodd ddigon i ddwyn y draul yn mysg y boneddigion yr oedd ef yn adnabyddus a hwy, a rhoddodd y capel heb un geiniog o ddyled arno yn anrheg i'r gynnulleidfa. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1782. Capel cymharol fychan oedd hwn, ond yr oedd yn ddigon i ateb i boblogaeth y lle y pryd hwnw. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Davies, Llangeler, yn y Mynyddbach, aeth capel Treforis yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr, fel y bu raid ei helaethu yn 1796. Yn 1831, cafodd ei ailadeiladu a'i helaethu yn fawr, ac yn 1857, adeiladwyd a helaethwyd ef y drydydd waith, pryd y costiodd yn agos ddwy fil o bunau, y rhai a dalwyd oll mewn ychydig o flynyddau. Eleni, (1871,) etto, mae y gynnulleidfa gref, anturiaethus, a gweithgar hon yn adeiladu ei chapel y bedwerydd waith, ac y mae hwn i fod yr addoldy helaethaf a mwyaf ardderchog yn yr holl Dywysogaeth. Bydd yn werth o saith i wyth mil o bunau. Mr. John Humphreys yw yr adeiladydd.
Dan yr un weinidogaeth a'r Mynyddbach y bu yr achos hwn o'r dechreuad hyd farwolaeth Mr. Daniel Evans, yna dewisodd yr eglwys weinidog iddi ei hun. Ei gweinidog cyntaf oedd Mr. William Hughes, o Amlwch, brawd y diweddar Mr. D. Hughes, Trelech. Urddwyd ef yn nechreu y flwyddyn 1836. Bu yma hyd ddechreu y flwyddyn 1841, pryd y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef o herwydd anfoesoldeb ei gymeriad. Wedi hyn buwyd am rai blynyddau yn byw ar weinidogaeth achlysurol. Tua y flwyddyn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. W. Morris, mewn cysylltiad a Glandwr. Hoffid Mr. Morris yn fawr, a bu ei weinidogaeth yn dra llwyddianus am y tymor byr y bu yma. Yn 1847, derbyniodd alwad o Birkenhead, a rhoddodd yr eglwysi yn Nglandwr a Threforis i fyny. Yn 1850, ymsefydlodd Mr. Thomas Jones, yn awr o Abertawy, yma, a bu yn gwasanaethu yr achos yn effeithiol a rhyfeddol o barchus hyd y flwyddyn 1858, pryd y symudodd i Lundain. Yr oedd yr eglwys yn Libanus yn lluosog oddiar agoriad y capel a adeiladwyd yn 1831, ond yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones y daeth y lle i enwogrwydd cenhedlaethol. Oddiar ymadawiad Mr. Jones, buwyd drachefn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd 1862, pryd yr urddwyd Mr. Evan Evans, o athrofa Aberhonddu. Cymerodd urddiad Mr. Evans le Mehefin 25ain a'r 26ian, a bu yn nodedig o boblogaidd a pharchus tra yr arosodd yn y lle. Yn 1865, derbyniodd alwad o Salem, Caernarfon, a symudodd yno, yn groes iawn i deimladau yr eglwys a'r gynnulleidfa yn Nhreforis. Wedi byw unwaith etto ar weinidogaeth achlysurol hyd 1869, rhoddwyd galwad i Mr. William Emlyn Jones, y gweinidog presenol, ac yr ydym yn hyderu fod i Mr. Jones dymor hir o ddefnyddioldeb a chysur yn y lle pwysig hwn, yr hwn sydd yn cynyddu yn gyflym yn ei boblogaeth. Mae eglwys Libanus er's mwy nag ugain mlynedd bellach wedi ei chyfodi i sylw ac enwogrwydd neillduol trwy fod ei gweinidogion mor enwog ac adnabyddus; a'n dymuniad ydyw iddi gael y fraint o gadw y safle uchel yr hon y mae wedi gyrhaedd. Mae haelioni yr eglwys a'r gwrandawyr yn teilyngu y ganmoliaeth uwchaf.
Y rhai canlynol yn unig a gyfodwyd i bregethu yma er pan y mae yr eglwys ar wahan oddiwrth y Mynyddbach.
Richard Richards. Dechreuodd bregethu yma yn 1847, ac yn fuan wedi hyny ymfudodd i'r America, lle yr urddwyd ef. Bu am ychydig amser yn weinidog yn Ebenezer, Pontypool, ar ol ei ddychweliad i'r wlad hon. Mae yn awr yn byw yn Abertawy.
Josiah R. Lewis, yn awr o Dorrington, sir Amwythig. Dechreuodd bregethu yn 1861. Ar derfyniad ei efrydiaeth yn Aberhonddu, urddwyd ef yn Glasbury, a symudodd oddiyno yn ddiweddar i Dorrington.
W. M. Davies. Yn 1861 y dechreuodd yntau bregethu. Aeth o athrofa Aberhonddu i Edinburgh i astudio Phisygwriaeth gyda y bwriad i fyned allan yn genhadwr. Y mae wedi cyrhaedd safle uchel fel myfyriwr meddygol.
Joseph Joseph, a ddechreuodd bregethu yn 1867, ac sydd yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Aberhondd
Bu amryw ddynion rhagorol yn dal cysylltiad a'r achos hwn o bryd i bryd. Megis John Evans, yr hwn oedd yn ddyn o feddwl galluog, yn gyfansoddwr emynau chwaethus iawn, ac yn swyddog eglwysig defnyddiol a dylanwadol. Yr oedd llawer o ragoriaethau yn perthyn i Thomas Evan, William James, a Thomas Richards, ac yr oedd Daniel Evans yn un hynod o ddefnyddiol a medrus gyda chyfarfodydd gweddio y bobl ieuaingc. Nid yn gyffredin y cyfarfyddid a dyn mwy medrus mewn cyfeillach eglwysig na Daniel Dafydd, yr hwn yn ddiweddar a gyrhaeddodd ben ei daith. O'r holl hen frodyr ffyddlon a welsom yn Libanus ddeugain mlynedd yn ol, nid oes braidd un yn aros ar dir y byw, ond yr hen frawd gonest a didwyll Mr. Josiah Rees, ac y mae yntau yn cyflymu tua'r wlad, lle na ddywed y preswylwyr, "Claf ydwyf."
Mae yn deilwng o sylw, mai cangen o Libanus yw eglwys y Mrthodistiaid yn Nhreforis. Fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach ac Ebenezer, yr oedd rhai yn yr eglwys yn awyddus am ddewis Mr. John Davies, Llansamlet, yn gynorthwywr i'w dad-yn-nghyfraith, Mr. Lewis Rees, ac yr oedd yn naturiol i'r hen weinidog deimlo yn ffatriol i hyny. Wedi i Mr. Davies, Llangeler, ddyfod yn weinidog i'r lle, barnai cyfeillion gwresocaf Mr. Davies, Llansamlet, fod yr hen weinidog yn cael ei anmharchu, trwy angerdd y parch a ddangosid i'r gweinidog newydd, ac felly, cynyddodd oerni rhwng y ddwy blaid, nes y darfu i'r rhai mwyaf selog dros Mr. Davies, Llansamlet, yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Rees, ymneillduo o'r Mynyddbach a Libanus, Treforis, a gosod addoliad i fyny yn nhŷ Mr. Evan Rees, Treforis. Yr oeddynt o bymtheg i ugain o rif. Aeth Mr. Davies, Llansamlet, i weini yr ordinhadau iddynt, ond o herwydd eu bod yn cael edrych arnynt fel gwrthwynebwyr i Mr. Davies, Llangeler, a'i bobl yn y Mynyddbach a Threforis, nid elai nemawr o bregethwyr yr Annibynwyr atynt, ond Mr. Davies, Llansamlet yn unig. Parhaodd ef i fod yn weinidog iddynt, yn cael ei gynorthwyo gan bregethwyr y Methodistiaid, hyd ei farwolaeth, yna rhoddasant eu hunain a'u capel i fyny i gyfundeb y Methodistiaid. Hyn oedd dechreuad Methodistiaeth yn Nhreforis.
HEOLYCASTELL, ABERTAWY.

Mae dechreuad yr achos hwn yn ffrwyth llafur ac ymdrechion hunanymwadol Mr. D. Davies, gweinidog Ebenezer, a rhai o aelodau ei eglwys. Gwelent hwy fod angen am le yn y dref i Saeson o olygiadau Annibynol i ddoli, a bod plant amryw o honynt yn debygol o fyned at enwadau eraill, neu fyned yn hollol ddigrefydd, oddieithr i wasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonig gael ei gynal yn y dref, gan fod llawer a honynt yn anhyddysg yn y Gymraeg. Yr aelodau o Ebenezer a gydweithredent a Mr. Davies i gychwyn yr achos Saesonig, oeddynt Meistri Roger Hopkins, Thomas Jones, a Henry Griffiths, yn nghyda rhai pobl ieuaingc. Adeiladwyd y capel yn Heolycastell yn y flwyddyn 1814, ac agerwyd ef Rhagfyr 28ain a'r 29ain, yn yr un flwyddyn, pryd y pregethwyd gan Meistri W. Warlow, Milford; Peter, Caerfyrddin; Williams, Llanelli; East, Frome, wedi hyny o Birmingham, a Thorpe, Caerodor. Y mae y capel hwn yn awr yn helaeth iawn mewn cyferbyniad i gapeli yn gyffredin, ond yr amser yr adeiladwyd ef nid ymddengys fod un addoldy yn y Dywysogaeth mor helaeth ag ef. Yr oedd traul yr adeiladaeth tua dwy fil o bunau, a chan na chasglwyd ond ychydig mewn cymhariaeth ar y cychwyniad, bu y ddyled arno yn agos a lladd yr achos, ac yn waradwydd i'r enwad am fwy nag ugain mlynedd. Pe buasai Mr. Davies, Ebenezer, yn cael iechyd a bywyd am ychydig o flynyddau yn hwy, mae yn ddiau y buasai yr holl ddyled yn cael ei dileu yn fuan, ond gan fod ei iechyd ef yn gwaelu ar y pryd, ac iddo farw yn mhen dwy flynedd wedi hyny, cafodd y baich trwm ei adael fel hunlle i lethu yr achos ieuangc a gwan. Yn fuan wedi agoriad y capel, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Luke, y pryd hwnw o Hwlffordd. Bu ef yma o 1815 hyd 1821, yn dderbyniol iawn fel pregethwr, ac yn sefyll yn uchel yn ngolwg trigolion y dref, ond nid ymddengys iddo wneuthur ond ychydig mewn cymhariaeth at ddileu y ddyled oedd ar y capel. Ar ol ymadawiad Mr. Luke, daeth yma un Mr. Barfit, ond nid ymddengys iddo aros yma ond dwy neu dair blynedd o hwyaf. Dilynwyd ef gan Mr. Brittan, gwr genedigol o Gaerodor. Dywedir fod Mr. Brittan yn bregethwr rhagorol, ac y buasai yn debygol o gyfodi yr achos i gryfder, pe buasai ei gallineb a'i lywodraeth ar ei dymherau yn gyfartal a'i alluoedd fel pregethwr. O herwydd ei annoethineb bu yn foddion i rwygo yr eglwys. Aeth a rhyw nifer gydag ef allan i'r dyben o gychwyn achos newydd. Adeiladodd gapel York Place, ond methodd wneyd un daioni yno drachefn. Y canlyniad fu iddo ymadael, ac i'r capel gael ei werthu i'r Bedyddwyr. Wedi ymadawiad Mr. Brittan, o Heolycastell, rhoddwyd galwad i Mr. Eliezer Jones, myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, a mab yr enwog Dr. Arthur Jones, Bangor. Urddwyd ef yma Ebrill 9fed, 1828, pryd y gweinyddwyd gan Meistri Peter, Caerfyrddin; Hamerton, Newton, ac eraill. Bu Mr. Jones yma hyd Mawrth, 1832, pryd y symudodd i Rodborough. Mae yn bresenol yn weinidog eglwys fawr yn Ipswich. Dilynwyd Mr. Jones gan Mr. Robert Taylor, ond ni bu ef yma nemawr o amser cyn i'r capel gael ei gauad, ac i'r gynnulleidfa gael ei gwasgaru, o herwydd y ddyled oedd yn aros ar y lle. Wedi i bethau fod yn yr agwedd flin hon am tua dwy flynedd, cafodd y lle ei ail agoryd yn 1836, pryd y dechreuodd Mr. William Jones, y gweinidog presenol ei lafur yma. Ymddangosodd yr adroddiad canlynol, yr hwn a ddengys sefyllfa pethau ar y pryd, yn y Diwygiwr am 1838, tu dal. 181:—"Adeiladwyd y capel ers pedair-blynedd-ar-hugain yn ol, a chan na allesid cael dernyn o dir ar werth y pryd hwnw, buwyd dan yr angenrheidrwydd o lesi y sylfaen am 35p. o ardreth flynyddol. Mae yr adeilad yn helaeth a chyfleus, ond nid oes dim afreidiol yn ei gylch; yr oedd y draul o'i adeiladu yn llawer, llog yr hyn at yr ardreth flynyddol a wnai swm lled fawr i'w dalu bob blwyddyn, ond yr oedd y gynnulleidfa mor fawr a chyfrifol fel y telid hi yn rhwydd, a lleiheid llawer ar y corph h?? am gryn amser; ond o herwydd amgylchiadau a phersonau, y byddai yn anfuddiol manylu yn eu cylch ar hyn o bryd, ymranodd y gynnulleidfa, a buan iawn yr aeth yr ardreth a'r llog yn rhy drwm i'r rhai a arosodd yn Castle Street i'w ddwyn. Goddefid i'r naill a'r llall i gynyddu, gwywodd y gynnulleidfa, nychodd yr achos, a'r diwedd fu cau y drws i fyny; yna ymwasgarodd yr ychydig oeddynt wedi bod yn ffyddlon yn mhob tywydd, fel defaid heb ganddynt fugil. Gwnaed parotoadau uniongyrchol i werthu y capel; dangosai yr Undodwyr a'r Elwyswyr am y mwyaf awyddus am dano; ar hyn, gwresogodd calonau ychydig o gyfeillion, hoffasent ei feini, a thosturiasant wrth lwch yr achos yn y fan; daethant yn mlaen a chynygiasant atal y gwerthiant, ar yr amod i'r 'Undeb Cyffredinol' dderbyn y capel i mewn; ac yn nghyfarfod yr Undeb Cyffredinol, derbyniwyd ef yn rheolaidd fel achos anghyffredin, ar yr amod fod Abertawy a Morganwg yn ymysgwyd yn gyntaf; a'r hyn ymrwymodd y Parchn. W. Jones, Penybont; T. Davies, Abertawy; D. Jones, Clydach; J. Evans, Crwys; D. Rees, Llanelli, a'r Meistri D. Rees, a D. Gibbs, Abertawy; W. Hughes, ac S. Rosser, Ysgetty; M, Morgans, Rhianfawr; J. Jones, Brynbrain; J. Powell, Cefn y fforest, ac R. Monger, Glandwr, yn feichnion am y ddyled, a phrynasant y gwaelod am 700p,, yr hyn, at y ddyled oedd yn aros, a thraul tynu y gweithredoedd, a wnai fwy na 1,900p. Gwnaeth yr ymddiriedolwyr agor y capel, ac yn fuan gwahoddasant Mr. W. Jones, Rhydybont, yno i weinidogaethu; yr hwn, trwy lawer o aberth personol, a gydsyniodd a'u cais, ar y dybiaeth fod yr Undeb yn cymeryd y ddyled; adffurfiwyd yr eglwys, a dynesodd llawer o'r gwrandawyr, ar y ddealldwriaeth na fuasai i'r hunlle fu bron a gwasgu yr anadl o honynt gynt yn cael pwyso arnynt mwy; ond y mae llawer hyd yma yn sefyll draw, gan ofni na fydd i'r Undeb gyflawni yr hyn a addawyd. Pe ysgogai eglwysi Cymru fel pe byddent yn ddifrifol, llenwid y capel yn y man, a byddai y gynnulleidfa hon mor gynorthwyol ag un yn Morganwg at leihau y dyledion cyffredinol. Yn awr y mae pob amod a wnaed ar dderbyniad y capel i'r Undeb wedi ei gyflawni. Dirprwywyd y Meistri D. Rees, Llanelli, a R. Thomas, Glandwr, i gasglu yn mysg y Saeson yn Abertawy; cawsant yn yspaid wyth diwrnod gant a thair punt. Casglodd yr un personau yn Merthyr a Dowlais 40p. Bu y Meistri Jones, Penybont; Evans, Cymar; Griffiths, Llanharan; Williams, Maendy; Hughes, Dowlais; Powell, Caerdydd, a Jones a Davies, Abertawy, yn ddiwyd yn eu gwahanol ddosbarthion, fel y mae y sir, gan mwyaf, wedi ei cherdded yn lled lwyddianus; yn awr troir at siroedd eraill Cymru." Casglwyd amryw ganoedd yn Morganwg a'r siroedd cylchynol yn yr ymdrech hon, ond arosodd y rhan fwyaf o'r ddyled nes i Mr. Evan Watkins, y pryd hwnw o Ganaan, ymgymeryd a'r gorchwyl o'i dalu yn y flwyddyn 1843. Ymroddodd ef gydag egni penderfynol at y gwaith. Ysgrifenodd filoedd o lythyrau i bob parth o'r deyrnas, a theithiodd ganoedd o filldiroedd i gasglu, fel erbyn diwedd y flwyddyn 1846, yr oedd y rhan fwyaf o'r baich wedi cael ei symud. Gwnaeth Mr. Jones a'r gynnulleidfa yn Heolycastell eu rhan yn deilwng, ac fe lafuriodd amryw o'r gweinidogion cymydogaethol yn dda, ond i lafur digyffelyb Mr. Watkins y mae llwyddiant yr ymdrech yn benaf i'w briodoli. Wedi symud baich y ddyled aeth pob peth yn mlaen yn gysurus a llwyddianus dros lawer o flynyddau, ond nid yw y gynnulleidfa yn awr mor lluosog ag y bu rai blynyddau yn ol, o herwydd fod amryw gapeli Saesonig eraill wedi cael eu hadeiladu yn y dref. Effeithiodd agoriad y capel Presbyteraidd yn fawr ar gynnulleidfa Heolycastell, am mai yno yn benaf yr oedd y Scotiaid yn addoli cyn iddynt gael capel eu hunain. Mae Mr. Jones yn awr yn iach a bywiog mewn corph a meddwl, er ei fod o fewn ychydig fisoedd i bedwar ugain mlwydd oed.
Nid ydym yn gwybod am neb a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon ond Mr. C. M. Davies, Wallingford, a Mr. Thomas Lloyd, St. Ives, sir Huntingdon. Maent hwy yn weinidogion parchus yn Lloegr er's degau o flynyddau bellach.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
THOMAS LUKE. Ganwyd ef yn Salisbury, yn y flwyddyn 1777. Yr oedd ei rieni yn perthyn i'r eglwys Annibynol yn ninas Salisbury, ac ymunodd yntau a'r eglwys hono yn dra ieuangc. Yn 1802, aeth yn yfyriwr i athrofa Dr. Bogue yn Gosport. Wedi bod yno am rai blynyduau ymsefydlodd yn Alton, lle y bu yn llafurio am bum' mlynedd, ond ni chafodd ei urddo yno. Symudodd i Hwlffordd, lle yr urddwyd ef Awst 29ain, 1811. Yn nechreu 1815, symudodd i Abertawy, ac oddiyno yn 1821, i Taunton, lle y bu yn weinidog defnyddiol a pharchus am ddwy flynedd-ar-hugain. In 1843, rhoddodd ei weinidogaeth i fyny, a symudodd i Goodwig, Abergwaun, lle yr oedd etifeddiaeth gan ei wraig, ac yno y bu yn cyfaneddu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 12fed, 1853. Cyhyd ag y parhaodd ei nerth, pregethai unwaith bob Sabboth yn nghapel yr Annibynwyr yn Abergwaun, er mwyn yr ychydig Saeson a gyfaneddent yn y dref a'r gymydogaeth. Yr oedd Mr. Luke yn gristion pur, yn bregethwr buddiol, ac yn ŵr boneddig yn holl ystyr y gair. Yr oedd ef a'i briod yn ddiarhebol am eu haelioni at bob achos crefyddol a dyngarol.
Mae hanes Mr. Barfit, canlyniedydd Mr. Luke, yn Abertawy, yn hollol anhysbys i ni; ac nis gwyddom ddim ychwaneg am Mr. Brittan, na'i fod yn enedigol o Gaerodor, ac iddo ymfudo i'r America ar ei ymadawiad o Abertawy. Nis gwyddom hefyd ddim am Mr. Robert Taylor, ond iddo gael ei addysgu yn athrofa Hackney, ac iddo symud o Abertawy i Somerton, lle yr oedd hyd yn ddiweddar.
SILOH, GLANDWR.

Cyn dechreu yr achos yn y lle hwn, yr oedd trigolion yr ardal yn hynod am eu hanfoesoldeb a'u hanwybodaeth. Yn y flwyddyn 1822, dechreuodd rhai o aelodau y Mynyddbach gynal cyfarfodydd gweddio yn y gymydogaeth, a chychwynwyd yma ysgol ar nosweithiau o'r wythnos, ac ar y Sabboth. Dechreuwyd yr ysgol ar nos Fawrth mewn lle a elwir y Cwm. Sion Rosser, David Davies, David Rosser, David Williams, Joseph Maybery, William Rees, a Thomas Williams, oedd y prif offerynau i gychwyn yr ysgol. Ar ol bod yn y Cwm am dair wythnos, aeth y lle yn anghyfleus, a chan fol y gwaith copr, a elwir y Gwaithbach, yn sefyll ar y pryd, cawsant ganiatad gan Mr. Morgans, arolygydd y gwaith, i fyned i'r swyddfa (office) i gadw eu hysgol a'u cyfarfodydd. Aeth y lle hwnw drachefn yn rhy gyfyng, fel y bu raid iddynt symud i ystordy y gwaith. Buwyd fel hyn yn symud o fan i fan am agos ddwy flynedd. Yn 1824, cafwyd darn cyfleus o dir gan Syr John Morris, ar ba un yr ailadeiladwyd ysgoldy, yr hwn a alwyd y Coleg, o herwydd ei fod wedi cael ei amcanu at gadw ysgol ddyddiol yn gystal a gwasanaeth crefyddol. Wedi adeiladu y Coleg, cafwyd yma bregethu lled gyson agos bob nos Sabboth. Pan dorodd yr adfywiad mawr allan yn 1828, cynyddodd rhif yr aelodau i'r fath raddau, fel y barnwyd yn addas eu corpholi yn eglwys, a bu raid adeiladu capel helaeth ar ddarn o dir yn gyfochrog a'r Coleg. Gwnaed hyn yn y flwyddyn 1829. Yr oedd hwn yn addoldy prydferth, a chymharol helaeth. Galwyd ei enw ef Siloh. Llwyddodd yr achos yn fawr wedi cael addoldy cyfleus, fel erbyn 1840, yr oedd y tŷ hwn wedi myned yn rhy fychan, fel y bu raid ei ailadeiladu a'i helaethu yn y flwyddyn hono. Drachefn yn 1862, helaethwyd yr oriel, fel yr eistedda arni rai degau yn fwy nag o'r blaen, ac ar yr un amser cafodd yr eisteddleoedd oll eu had-drefnu, a'r holl adeilad ei brydferthu yn fawr.
Mr. D. Evans, Mynyddbach, oedd gweinidog cyntaf yr eglwys hon, yr hon a gorpholwyd ganddo yn eglwys Annibynol yn y flwyddyn 1828, fel y nodir uchod, ond o herwydd fod ei gylch gweinidogaethol mor eang, fel nas gallasai ymweled a Glandwr ond anfynych, dewiswyd Mr. E. Griffiths, Abertawy, yn gydweinidog ag ef yn Siloh, a buont ill dau yn gwasanaethu yr achos gyda ffyddlondeb mawr am rai blynyddau. Ar farwolaeth Mr. Evans, rhanwyd maes eang ei lafur rhwng tri gweinidog. Rhoddodd yr eglwys yn Nglandwr alwad i Mr. Robert Thomas, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd. Urddwyd Mr. Thomas yma Ebrill 18fed a'r 19eg, 1837. Y noson gyntaf gweddiodd Mr. W. Williams, Tredwstan, a phregethodd Mr. R. Pryse, Cwmllynfell, a Mr. J. Evans, Capel Sïon, oddiwrth Heb. ii. 16, a Job xix. 28. Dranoeth am 10, gweddiodd Mr. D. Roberts, Dowlais. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. D. Rees, Llanelli; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Abertawy; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, a rhoddwyd siars effeithiol i'r gweinidog ieuangc gan Mr. W. Williams, Wern, y pryd hwnw o Liverpool, dan weinidogaeth pa un y dygasid Mr Thomas i fyny yn Rhosllanerchrugog. Am 2, gweddiodd Mr. P. Griffiths, Alltwen, a phregethodd Mr. D. R. Stephen, (Bedyddiwr,) Abertawy, yn Saesoneg, a Mr. J. Hughes, Dowlais, oddiwrth Dat. ii. 27, a 1 Cron. xxix. 5. Yn yr hwyr, dechreuwyd gan Mr. Daniel Davies, (Bedyddiwr,) Abertawy, a phregethodd Mr. Williams, Wern, yn absenoldeb Mr. D. Williams, Llanwrtyd, ar ddyledswydd yr eglwys, a Mr. W. Jones, Penybont, i'r gynnulleidfa, oddiwrth Act. xiii. 15, a Salm. iv. 4.
Dwy flynedd fu tymor gweinidogaeth Mr. Thomas yma. Yn 1839, symudodd i Raiadrgwy, yn groes i deimladau ei bobl yn Nglandwr, ond barnai mai ei ddyledswydd oedd gwneyd hyny er mwyn iechyd ei deulu. Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ymadawiad Mr. Thomas, rhoddwyd galwad i Mr. W. Morris, Llanfyllin, yr hwn a ymsefydlodd yma yn Mai, 1839. Cynhaliwyd cyfarfod sefydliad Mr. Morris, Hydref 18fed a'r 19eg, a chymerodd y gweinidogion canlynol ran yn ngwasanaeth cyhoeddus y cyfarfod; Meistri J. Lewis, Caerodor; P. Griffiths, Alltwen; D. Rees, Llanelli; J. Evans, Crwys; W. Jones, Penybont; J. Davies, Aberdare; J. Evans, Capel Sion, a D. Evans, Castellnedd. Darfu i ddoniau poblogaidd Mr. Morris, ar unwaith orlenwi y capel, a chan fod gradd o ddiwygiad crefyddol yn yr holl eglwysi ar y pryd, aeth y capel yma yn llawer rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, felly, adeiladwyd y capel helaeth presenol yn 1840. Parhaodd Mr. Morris i lafurio gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd ddiwedd y flwyddyn 1847, ac yn nechreu y flwyddyn ganlynol symudodd i Birkenhead. Yn ddioed ar ol ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, Clydach, y gweinidog presenol. Mae Mr. Thomas wedi cyflawni ei waith fel gweinidog yma bellach am dair-blynedd-ar-hugain, ac y mae ol ei lafur i'w ganfod yn amlwg ar yr eglwys a'r ardal. Heblaw talu y ddyled drom oedd ar y capel pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, gosodwyd allan amryw ganoedd o bunau i'w helaethu a'i addurno, ac i adeiladu tŷ yn ei ymyl, ac ysgoldy hardd ar safle yr hen Goleg, yn 1862. Y mae hefyd ysgoldy eang wedi ei adeiladu ar y Brynhyfryd, lle y cedwir ysgolion dyddiol a Sabbothol, ac ysgoldy arall yn Mhlasmarl, yr hwn a adeiladwyd gan yr eglwysi yn Nglandwr, a Libanus, Treforis, cydrhyngddynt. Traul adeiladaeth y Coleg oedd 90p. ; y capel a adeiladwyd yn 1829, 560p.; y capel y 1840, 760p.; yr adgyweiriad, ac adeiladau oddiamgylch iddo yn 1862, 900p. Costiodd ysgoldy Brynhyfryd 600p., a rhan eglwys Siloh o ysgoldy Plasmawr 160p. Fel hyn gwelir fod yr eglwys weithgar hon wedi gosod allan ar ei chapeli a'i hysgoldai, heb gyfrif y llogau, dros dair mil o bunau mewn saith-mlynedd-a-deugain, ac y mae dros ddwy ran o dair o'r swm hwn wedi ei wneyd yn yr ugain mlynedd diweddaf.
Yr aelodau cyntaf a dderbyniwyd yma wedi sefydliad yr achos oedd Mr. Robert Morgan, a'i wraig. Enwau y diaconiaid yma o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol ydynt Joseph Maybery, David Williams, a adwaenir wrth yr enw "Cymro o Mexico;" William Rees, Robert Monger, William Williams, William Hughes, Samuel Hughes, Evan Griffiths, yr hwn sydd yn awr yn aelod yn Ebenezer, Abertawy; William Richard, John Jones, Evan Mathews, Joseph Evans, David Rees, Rees David, John Davies, William Williams, John Evans, a Thomas Jones. Mae amryw o'r brodyr teilwng hyn wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Mr. Joseph Maybery, oedd un o'r prif offerynau yn nghychwyniad yr achos. Yr oedd yn ddyn nodedig o wybodus, coethedig, a llafurus gyda'r achos, ac yn ddyn hollol rydd oddiwrth syniadau bychain, crebachlyd. a gwael. Ni chawsom erioed y fraint o adnabod dyn mwy rhagorol yn mhob ystyr nag ef. Went llafurio yn ffyddlon i gyfodi yr achos i fod yn gryf a hunan-gynhaliol yn Nglandwr, arweiniwyd ef gan Ragluniaeth i Lanelli, lle y bu drachefn yn un o brif golofnau yr achos Saesonig yno hyd ei farwolaeth. Bu farw y cristion gwerthfawr hwn Ionawr 16eg, 1871, yn 74 oed. Pe byddai yn mhob eglwys ond un diacon o fath Mr. Maybery, gwelid golwg well yn fuan ar agwedd crefydd yn Nghymru. Cyfaill teilwng i Josepa Maybery, oedd Robert Monger. Gwasanaethodd ei swydd yn effeithiol fel diacon, a bu farw a llwyddiant yr achos yn agos at ei galon. Gorphenodd ei yrfa Ionawr 1af, 1868, yn 75 oed. Y diweddaf o ddiaconiai Siloh a ymadawodd a'r fuchedd hon, yw John Davies—dyn siriol, gweithgar, a lawn o rinweddau.
Mae yn eglwys Glandwr er's blynyddau o dri i bedwar cant o aelodau, a dichon nad oes un eglwys, yn ol ei rhif a'i sefyllfa, yn fwy haelionus at bob achos cartrefol a chyhoeddus. Mae ei chasgliadau cenhadol tua haner can punt y flwyddyn, ac nid oes braidd un achos perthynol i'r enwad nad yw yn cael ei gynorthwyo gan yr eglwys hon.
Y pregethwyr a gyfodwyd yma ydynt y rhai canlynol:
Daniel Jones, Wickham Market, Suffolk. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1843, ac y mae yn parhau etto yn gryf a ffyddlon yn ngwaith ei Arglwydd. William Roberts, Gt. Mersey-street, Liverpool. Un genedigol o Llanfyllin, ydyw, ond yma y dechreuodd bregethu yn amser Mr. Morris.
Joseph Morris, Brunswick Chapel, Caerodor. Mab hynaf Mr. Morris, y gweinidog.
Griffith Morris, ail fab Mr. Morris. Bu y gwr ieuangc gobeithiol hwn farw ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus.
William Humphreys, yn nglyn a hanes eglwys Cwmbwrla y rhoddir ei gofiant ef.
Thomas Davies, yr hwn a aeth i Unol Daleithiau America.
Joseph John, gweinidog yr eglwys Saesonig yn Ystalyfera.
David Rees, a urddwyd yn ddiweddar yn Witton Park, yn ngogledd Lloegr.
BETHEL, LLANSAMLET.

Yr oedd amryw aelodau perthynol i'r enwad Annibynol yn cyfaneddu yn y plwyf hwn yn mhob oes er dyddiau yr Anghydffurfwyr, a bu eglwys fechan, neu gangen o eglwys y Chwarelaubach, Castellnedd, yn ymgynnull am lawer o flynyddau mewn anedd-dy dan fynydd y Drymmau, dan ofal gweindogaethol Mr. Joseph Simons; ond mae yn ymddangos i'r achos hwn ddarfod rai blynyddau cyn dechreuad y ganrif bresenol, ac o hyny allan nid oedd gan yr Annibynwyr a breswylient yn y plwyf un lle nes i fyned iddo na Chastellnedd, y Mynyddbach, neu yr Alltwen. Yr oedd Mr. John Davies, Llansamlet, flynyddau cyn ei farwolaeth yn hiraethu am gael achos Annibynol yn y plwyf lle y preswyliai. Wedi llawer o ymgynghori cafodd gan gynifer o aelodau y Mynyddbach ag a breswylient yn yr ardal i uno ag ef i adeiladu capel, o fewn haner milldir i eglwys y plwyf, ar fin y ffordd oedd yn arwain o Abertawy i Gastellnedd, ac yn agos i haner y ffordd rhwng y ddwy dref. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1818, ac agorwyd ef ar y Sabboth, Awst 9fed, y flwyddyn hono, pryd y pregethodd Mr. Davies, Llansamlet, oddiwrth Hag. ii. 9; Mr. Davies, Alltwen, oddiwrth Heb. iii. 6, a Mr. Sadrach Davies, Maendy, oddiwrth Rhuf. viii. 13. O herwydd lluosogrwydd y torfeydd, bu raid cynal y gwasanaeth yn yr awyr agored. Dywedir fod o bedair i bum' mil o bobl wedi ymgynnull yno. Bu yr eglwys dan ofal gweinidogaethol Mr. Daniel Evans, Mynyddbach, hyd 1828. Yr oedd yr aelodau erbyn hyn yn bedwar ugain o rif, a chan nad allai Mr. Evans roddi iddynt ond un bregeth yn y mis, barnent y buasai yn well iddynt gael gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i ŵr ieuangc doniol iawn, o'r enw David Thomas, ac urddwyd ef yma Medi 28ain, 1828. Bu yma hyd fis Mai 1832, pryd yr ymfudodd i America. Ar ol ei ymadawiad ef buwyd heb un gweinidog sefydlog hyd 1837, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Isaac Harris, mewn cysylltiad ar Mynyddbach. Yn y flwyddyn 1839, aeth Harris yn rhy ddrwg ei gymeriad i gael ei ddyoddef i fyned i un pulpud, ac felly bu raid i'r eglwys hon, yr un modd a'r Mynyddbach ymwrthod ag ef. Yn fuan wedi hyny rhoddodd yr eglwys yn Bethel alwad i Mr. W. Morris, mewn cysylltiad a Glandwr, a bu Mr. Morris yn ei gwasanaethu am oddeutu dwy flynedd. Yna rhoddwyd galwad i Mr. Evan Watkins, mewn cysylltiad a Chanaan. Bu Mr. Watkin yn llafurio yma gyda pharch nodedig nes iddo symud i Langatwg yn 1850. Yn 1852, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 14eg a'r 15 fed. Y nos gyntaf, gweddiodd Mr. J. Davies, o athrofa Aberhonddu, a phregethodd Meistri Davies, Llandilo, a Rees, Llanelli. Am 10, yr ail ddydd, gweddiodd Mr. Griffiths, Abertawy: pregethodd Mr. Davies, Llandilo, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau gan Mr. Hughes, Dowlais; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Roberts, Dowlais; rhoddwyd siars i'r gweinidog ieuangc gan Mr. Davies, athraw athrofa Áberhonddu. Am 2, gweddiodd Mr. Jones, Maesteg, a phregethodd Meistri Pryse, Cwmllynfell, a Griffiths, Alltwen. Am 6, gweddiodd Mr. G. John, athrofa Aberhonddu, a phregethodd Meistri Thomas, Glynnedd, a Rees, Llanelli, yr olaf ar ddyledswydd yr eglwys. Deunaw mis fu tymor gweinidogaeth Mr. Davies yma. Derbyniodd alwad i Siloa, Llanelli, a symudodd yno yn nechreu 1854, yn groes iawn i deimladau ei bobl yn Llansamlet, ond nid yn groes i ewyllys yr Arglwydd, fel y mae y canlyniadau wedi dangos. Ar ymadawiad Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys Bethel ei hun dan ofal Mr. J. Rees, Canaan, a than ei ofal ef y bu nes iddo yn 1866, symud i Rodborough. Yn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. Rowland Rowlands, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 3ydd a'r 4ydd, yn y flwyddyn hono. Yn nghyfarfod yr urddiad, traddodwyd y gynaraeth gan Mr. W. Morgan, un o athrawon athrofa Caerfyrddin; derbyniwyd y gyffes ffydd, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Jones, Machynlleth; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Hughes, B.A., Tredegar, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan ei gweinidog blaenorol, Mr. Rees, Rodborough. Traddodwyd amryw bregethau yn Bethel ac addoldai eraill yn yr ardal, y nos flaenorol, ac ar brydnawn a hwyr ddydd yr urddiad. Mae Mr. Rowlands yn parhau i lafurio yma gyda pharch a llwyddiant cynyddol, a'r achos yn ychwanegu nerth o flwyddyn i flwyddyn.
Capel lled fychan, 40 troedfedd o hyd wrth 20 o led, heb un oriel ynddo, oedd Bethel yn ei fgurf gyntefig. Yn 1839, gosodwyd oriel mewn un pen iddo. Traul yr adeiladaeth yn 1818, a'r oriel yn 1839, oedd 352p., heb gyfrif cludiad y defnyddiau. O herwydd yr ychwanegiad dirfawr at yr eglwys a'r gynnulleidfa yn 1849, bu raid tynu yr hen adeilad i lawr, ac adeiladu un mwy. Maint y capel presenol yw 47 troedfedd wrth 37 dros y muriau, a'r draul oedd 508p., heb gyfrif codiad a chludiad y cerig a defnyddiau eraill, yr hyn a wnaed yn rhad gan yr ardalwyr. Arbedwyd wrth hyn tua 150p. Mr. Thomas, Glandwr, oedd cynllunydd ac arolygydd y gwaith. Agorwyd ef Chwefror 13eg a'r 14eg, 1851. Mae yr adeilad yn un cadarn, hardd, a chyfleus, a'r ddyled oll wedi ei thalu er's blynyddau bellach. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Rees, adeiladwyd ysgoldy yn Birchgrove, ac yn awr y mae yno gapel tlws agos wedi ei orphen.
Mae eglwys Bethel wedi bod yn rhagorol o dangnefeddus o'i dechreuad hyd yn bresenol, ac er iddi fod dan fesur o anfantais o herwydd gorfod newid ei gweinidogion mor fynych, a bod am y rhan fwyaf o'i thymor yn ymddibynol ar ran yn unig o lafur ei gweinidogion, o herwydd fod eglwysi eraill dan eu gofal, etto, mae yr achos wedi llwyddo a gwreiddio yn y gymydogaeth, ac yn bresenol y mae yn gryfach nag y bu ar un cyfnod o'i hanes. Bu yma nifer o grefyddwyr rhagorol yn perthyn i'r achos o bryd i bryd; megis Evan Dafydd, yn nhŷ yr hwn y cynelid y moddion cyn adeiladu y capel cyntaf; Llewellyn Llewellyn, William Williams, Thomas Evan, a John Jones, dau bregethwr cynorthwyol, y rhai a grybwyllasom eisioes yn hanes y Mynyddbach; John Dafydd, Robert Robert, Dafydd Morris, a William Llewellyn, hen farworyn llawn a dân, yr hwn a roddai fywyd i'r cyfarfodydd a'i amenau a'i ddiolchiadau toddedig. Mae Rachel Bevan, yr hon a gerddai yr holl ffordd i'r Mynyddbach, fynychaf a phlentyn sugno yn ei chol, cyn cyfodi capel yma, yn aros etto yn mysg y byw; hi, a'r hen frawd ffyddlon a siriol, Dafydd Bevan, feddyliwn, yw yr unig rai o'r aelodau gwreiddiol sydd wedi eu gadael yn ngweddill gan angau.
Mr. John Davies, gweinidog yr eglwys Gymreig yn yr Amwythig, a Mr. William Davies, yr hwn a urddwyd yn ddiweddar yn Llwydcoed, Aberdare, yw yr unig bregethwyr a godwyd yma.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID THOMAS. Ganwyd ef yn rhyw ran o sir Aberteifi, ond nis gwyddom pa le yno. Nid ydym yn hysbys o amser ei enedigaeth, nac o'i hanes yn moreu ei oes. Daeth i Abertawy i weithio ei gelfyddyd fel dilledydd, ac yno y dechreuodd bregethu, fel y nodasom yn hanes Ebenezer, tua y flwyddyn 1825, feddyliwn. Yn 1827, yr oedd yn gweithio yn y Taibach, ac yn pregethu ar y Sabbothau lle y celai ddrysau yn agored. Efe yn yr amser hwnw fu yn foddion i gychwyn achos yr Annibynwyr ar Gefncribwr. Yn mis Medi, 1828, urddwyd ef yn Bethel, Llansamlet, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Mr. Methusalah Jones, Merthyr, ac eraill. Yn 1832, priododd ddynes ieuangc o Landilo, ac yn mis Mai yr un flwyddyn, ymfudodd ef a'i wraig i'r America, ond yn mhen y bythefnos wedi iddo dirio yno, yn nechreu Gorphenaf, bu farw o'r Geri Marwol, a chafodd ei wraig ddychwelyd i wlad ei genedigaeth yn weddw, unig, a galarus. Clywsom Mr. David Thomas yn pregethu ddwy neu dair o weithiau, ac nid yn aml y gwrandawsom neb o ddoniau mwy poblogaidd. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a'i lais yn rhyfeddol o berseiniol. Yr oedd yn ddyn ieuangc pur ei fuchedd a dirodres yn ei holl ymddygiadau, a gwnaeth lawer o waith mewn ychydig o amser.
HEBRON, CLYDACH.
Mae y pentref prydferth hwn yn cael ei enw oddiwrth yr afonig Clydach yr hon sydd yn rhedeg trwy ei ganol, ac yn ymarllwys i'r Tawy ychydig islaw iddo.
Mae yr ardal hon yn hen artrefle Ymneillduaeth. Adeiladwyd capel y Gellionen yn y gymydogaeth hon mor foreu a'r flwyddyn 1692, a bu olyniad o weinidogion efengylaidd eu golygiadau yn pregethu ynddo i gynulleidfaoedd lluosog hyd o fewn ychydig i ddiwedd y ganrif ddiwedda Pan ddechreuodd udgorn y weinidogaeth yn Gellionen fyned i roddi sain anhynod, cymerwyd anedd-dy yn Mhentrefmalwod, yn agos i Glydach, at gynal moddion crefyddol gan bobl y Mynyddbach. Mae yn dra thebygol fod yma wasanaeth crefyddol lled gyson yn cael ei gynal er amser Mr. Lewis Rees, ond yn nhymor gweinidogaeth Mr. David Davies y ffurfiwyd yma eglwys. Nis gwyddom a gymerodd hyny le cyn y flwyddyn 1809, pryd y rhanwyd y cylch gweinidogaethol rhwng Mr. D. Davies, a Mr. D. Evans. Y pryd hwnw cymerodd Mr. Davies ofal yr eglwysi yn Ebenezer a'r Ysgetty, yn nghyda'r gangen fechan yn Nghlydach, a gadawodd y Mynyddbach a Threforis i Mr. Evans. Parhaodd Mr. Davies i ofalu am yr achos yn Nghlydach hyd derfyn ei oes, ac yn y flwyddyn ar ol ei farwolaeth ef, sef yn 1817, rhoddasant eu hunain dan ofal Mr. Evans, Mynyddbach. Gan fod yr anedd-dy yn Mhentrefmalwod yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, penderfynwyd adeiladu capel yn mhentref Clydach. Addoldy lled fychan ydoedd, ond rhwng y llawr a'r oriel, cynwysai o ddau i dri chant o bobl. Agorwyd y tŷ hwn, Mawrth 22ain, 1821. Yn y boreu, dechreuwyd yr addoliad gan Mr. W. Beynon, Llangynwyd, a phregethodd y Meistri W. Jones, Penybont; M. Lewis, Ystradfellte, ac H. Williams, Llanelli, oddiwrth Salm cxxxviii. 2., Esaiah xxv. 6., 1 Petr iii. 18. Yn yr hwyr, pregethodd Mr. David Griffiths, Cydwely, a Mr. Thomas Davies, Abertawy. Cafodd yr addoldy bychan hwn wasanaethu i'r gynnulleidfa hyd 1848, pryd yr adeiladwyd y capel hardd a helaeth presenol. Gan fod llafur Mr. Evans mor fawr, a bod yr eglwys yn Nghlydach wedi dyfod yn gymharol gref, anogodd hwynt i ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i Mr. William Thomas, o athrofa y Neuaddlwyd. Urddwyd ef yma Rhagfyr 17eg, 1830. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1834, bu raid iddynt ymwrthod ag ef am nad oedd yn ymarweddu yn deilwng o'i swydd, ond o herwydd ei fod yn ddyn mor hynod o serchus, a'i ddoniau fel pregethwr mor swynol, darfu i rai o'r aelodau lynu wrtho, ac adeiladu capel bychan iddo mewn rhan arall o'r ardal. Daw y capel hwnw dan ein sylw etto. Yn Gorphenaf, 1834, dechreuodd Mr. David Jones, Taihirion, ei weinidogaeth yma, a pharhaodd i lafurio yn y lle hwn mewn cysylltiad a Chadle, o'r pryd y dechreuwyd yr achos yno, hyd ei farwolaeth yn Ionawr, 1845. Yn haf y flwyddyn 1846, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, y pryd hwnw o Abertawy. Urddwyd ef yma Mehefin 16eg, 1846. Rhoddir hanes yr urddiad yn y Diwygiwr fel y canlyn :"Mehefin 15fed a'r 16eg, cynaliwyd cyfarfodydd yn Hebron, Clydach, er neillduo Mr. Thomas Thomas, o Abertawy, i gyflawn waith y weinidogaeth, dros yr eglwys gynnulleidfaol a gyferfydd yn y lle hwnw. Am 6 nos Lun, gweddiodd Mr. Morgan Evans, Milo, a phregethodd Meistri T. Rees, Siloa, a D. Evans, Castellnedd. Am 10 bore ddydd Mawrth, gweddiodd Mr. J. Davies, Mynyddbach; traddododd Mr. D. Rees, Llanelli, araeth ar natur eglwys; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Davies, Llundain; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Morris, Glandwr, a phregethwyd siars i'r gweinidog gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Am 2, gweddiodd Mr. J. Thomas, Bwlchnewydd, a phregethodd Meistri W. Jones, Abertawy, ar ddyledswydd yr eglwys, a Thomas Roberts, Llanelli, a J. Evans, Capel Sion, i'r gynnulleidfa yn gyffredinol. Yn yr hwyr, pregethodd Mr. J. Davies, Cwmaman, a Mr. D. Davies, Llundain. Yn nechreu y flwyddyn 1848, cymerodd Mr. Thomas ofal yr eglwys yn Nglandwr, ond ni roddodd Glydach i fyny am rai blynyddau wedi hyn. Rhanai ei lafur yn gyfartal rhwng y ddwy eglwys. Yn mhen amser, gyda bod ei lafur yn cynyddu, teimlodd yn angenrheidiol iddo roddi Clydach i fyny, a chyfyngu ei hun i Landwr. Yn 1853, rhoddodd yr eglwys yn Hebron alwad i Mr. David Evans, o athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yma Rhagfyr 28ain a'r 29ain, 1853. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. Jones, Treforis; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Llandilo; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Jacob, Abertawy; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. T. Thomas, Glandwr. Wedi i Mr. Evans symud oddiyma i Britonferry, rhoddwyd galwad i Mr. Esay Owen, o athrofa Aberhonddu, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol, ac i fod, fel yr hyderwn, am flynyddau lawer etto. Urddwyd Mr. Owen, Mehefin 27ain, 1861. Dechreuwyd yr addoliad gan Mr. E. Griffiths, Abertawy; pregethodd Mr. J. Thomas, Liverpool, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. W. Williams, Hirwaun; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. P. Griffiths, Alltwen; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. J. Morris, athraw duwinyddol athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli. Traddodwyd hefyd amryw bregethau yn y prydnawn a'r hwyr, ac yn yr hwyr y dydd blaenorol, yn Nghlydach a'r Glais. Yr oedd 38 o weinidogion a phregethwyr yn bresenol. Mae eglwys gref, heddychol, a gweithgar, yn Nghlydach er's amryw flynyddau bellach, a phob arwyddion yn bresenol mai yn gryfach gryfach yr â. Yn mysg y ffyddloniaid o'r eglwys hon sydd wedi diangc i'r wlad well, gellid enwi David Davies, ac Evan Jones, Rhydypandy, y rhai fuont yn henuriaid yn yr eglwys. Yr oedd y ddau yn nodedig am eu gwresogrwydd a'u gweithgarwch gyda chrefydd. Yr oedd Richard Jones, Cefnygarth, a John Jenkins, Gelliwastad, yn ddiaconiaid, ac yn ddynion diwyd a haelionus iawn. Bu Morgan Griffith, Ynyspenllwch, brawd y diweddar Mr. Griffith, Casnewydd, yn aelod a diacon defnyddiol am lawer o flynyddau. Yr oedd yn ddyn hynaws a llawn o hawddgarwch, ac yn un o'r rhai ffyddlonaf gyda holl foddion gras. Ni byddai ei le yn y capel un amser yn wag. William Baker, a fu yn ddiacon am flynyddau. Yr oedd yn grefyddwr gweithgar ryfeddol. Byddai ei ysgwydd ef dan y pen trymaf i'r arch bob amser. Dyn cryf o feddwl, siaradwr doniol, a chanwr rhagorol, oedd Daniel Davies. Bu yntau yn ddiacon am flynyddau. Mae enwau y ddau frawd rhagorol Joseph a Benjamin Rees, yn deilwng o'u cofnodi. Dynion gwerthfawr oedd y ddau. Rhagorai Joseph Rees fel tangnefeddwr. Efe fynychaf oedd yn cael ei benodi i derfynu pob anghydfod rhwng brodyr a chwiorydd tramgwyddedig, ac anfynych y methai lwyddo. Un rhagorol i feithrin ieuengctyd mewn crefydd oedd Benjamin Rees. Yr oedd yn dwyn sel mawr dros yr ysgolion dyddiol a Sabbothol, ac yn wastad yn myned yn mlaen gyda'r oes; ïe, yn blaenori pob mudiad daionus yn yr eglwys a'r ardal. Bu farw y ddau frawd teilwng yma o'r Geri Marwol o fewn pedwar diwrnod i'w gilydd, yn mis Hydref, 1866. Flynyddau yn ol yr oedd yma hen chwaer nodedig iawn o'r enw Ann Jones, neu "Nancen o'r Hendy," fel y gelwid hi. Yr oedd yn un hynol o danllyd dan y gair, byddai ei hamenau yn uwch na'r eiddo neb arall yn y gynnulleidfa. Yr oedd Mr. Davies, o'r Alltwen, yn un o'i hoff bregethwyr hi.
Y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon ydynt,
Evan Jones, mab Evan Jones, Rhydypandy. Dechreuodd bregethu yn 1824 neu 1825. Bu yn pregethu am flynyddau lawer. Trodd at y Methodistiaid ryw gymaint o amser cyn ei farwolaeth.
William Thomas, mab David Thomas, o'r Fagwyr, un o henuriaid eglwys Clydach. Dechreuodd bregethu o gylch y flwyddyn 1831. Efe a drodd at y Bedyddwyr.
William Hill. Addysgwyd ef yn yr Athrofa Orllewinol, yn Plymouth. Urddwyd ef yn Bodmin, yn Mawrth, 1851. Mae yn awr yn Beeralston, gerllaw Tavistock.
William Williams. Dechreuodd bregethu yn 1845. Urddwyd ef yn y Bryn, Llanelli, yn 1849, a bu farw yn mhen ychydig ar ol hyny. Rhoddwn ei fywgraphiad yn nglyn a hanes eglwys y Bryn.
Isaac James. Dechreuodd bregethu yr un amser a W. Williams, a chafodd ei urddo yn weinidog i'r Cymry yn Walker, gerllaw Newcastle-on-Tyne, yn 1862.
David Davies. Dechreuodd bregethu yn 1860. Bu am ddwy flynedd yn cael addysg yn yr athrofa Normalaidd yn Abertawy, a phedair blynedd yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Mynyddsion, Casnewydd, yn 1867, ac yno y mae etto yn barchus a llwyddianus. [7]
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID JONES. Ganwyd ef yn Nhreforis tua y flwyddyn 1784. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Mynyddbach gan Mr. David Davies, a dechreuodd bregethu oddeutu y flwyddyn 1808. Urddwyd ef yn Ebenezer, Aberdar, Gorphenaf 29ain, 1813, pryd y gweinyddodd y Meistri Davies, Abertawy; Hughes, Groeswen; Evans, Zoar, Merthyr; Lewis, Ystradfellte, ac eraill. Symudodd yn mhen tua dwy flynedd o Aberdare i Lanharan a'r Taihirion, lle y bu am flynyddau yn enwog a llwyddianus iawn. Yn mhen rhai blynyddau rhoddodd Lanharan i fyny, a chyfyngodd ei lafur i'r Taihirion a Bethlehem, Pentyrch-achos a ddechreuwyd trwy ei lafur ef. Tua y flwyddyn 1833, cyfododd teimladau anghysurus rhyngddo a rhai o aelodau y Taihirion, fel y barnodd yn well ymadael. Yn Gorphenaf, 1834, fel y nodwyd eisioes, dechreuodd ei weinidogaeth yn Nghlydach, lle y treuliodd weddill ei oes. Pan ffurfiwyd eglwys yn Nghadle, cymerodd ef ei gofal mewn cysylltiad a Chlydach. Bu farw yn ddisymwth iawn Ionawr 2il, 1845. Yr oedd wedi myned i Gadle i bregethu mewn angladd, a thra yn sefyll ar y fynwent i ddisgwyl yr angladd, syrthiodd i lawr mewn llewyg, fel y tybid. Cludwyd ef i'r Beaufort Arms, yn ymyl y fynwent, ond erbyn ei fod yno yr oedd yr enaid wedi ymadael a'i babell bridd. Bu farw yn driugain mlwydd oed.
Bu David Jones am rai blynyddau yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn Morganwg a Mynwy. Efe fyddai fynychaf yn nghyfarfodydd cyhoeddus Mynwy a dwyrainbarth Morganwg, yn pregethu yn gyntaf yn yr oedfa ddeg o'r gloch, a Hughes, Groeswen, neu Jones, Pontypool, ar ei ol. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a'i lais yn berseiniol ac effeithiol iawn. Claddwyd ef yn mynwent Cadle, lle mae maen prydferth wedi ei osod ar ei fedd.
Y FELINDRE.

Ardal amaethyddol yw hon, yn y rhan ogleddol o blwyf Llangafelach, tua phedair milldir i'r gogledd o'r Mynyddbach. Yr oedd pregethu achlysurol yn y gymydogaeth hon er's llawer o flynyddau, o bosibl er y pryd y dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Mynyddbach, ond nid ymddengys i addoliad cyson gael ei sefydlu yma cyn y flwyddyn 1823, pryd y cychwynwyd ef yn rheolaidd yn nhŷ David Thomas, yn agos i'r felin, y tŷ a breswylir yn bresenol gan Mr. Griffith Phillips. Yn 1824, adeiladwyd yma gapel bychan. Mr. D. Evans, Mynyddbach, a'r pregethwyr cynorthwyol a berthynent i'w eglwys, fu yn llafurio yma i gychwyn yr achos, a Mr. Evans fu y gweinidog hyd ei farwolaeth yn 1835. Wedi marwolaeth Mr. Evans, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, a bu ef yn gwasanaethu yr eglwys hon mewn cysylltiad a Chwmaman o Ebrill 5ed, 1836, hyd Ebrill 17eg, 1859. Wedi i Mr. Davies roddi y lle i fyny, cymerwyd y gofal gan Mr. Daniel, Mynyddbach. Bu yr eglwys dan ei ofal ef o Mai 15fed, 1859, hyd Gorphenaf 3ydd, 1864. Wedi ymadawiad Mr. Daniel, buwyd am tua phymtheng mis heb un gweinidog sefydlog. Yn 1866, rhoddwyd galwad i Mr. David Morgan, aelod o eglwys Cross Inn. Urddwyd ef yma Tachwedd 6ed, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Davies, Bethania; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Griffiths, Abertawy; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, ac i'r eglwys gan ei hen weinidog, Mr. J. Davies, Cwmaman. Pregethwyd a gweddiwyd yn y prydnawn a'r hwyr gan Meistri J. Bevan, Waunarlwydd; J. Joseph, Llanedi; T. Davies, Treforis; J. Morgan, Cwmbach, ac F. Samuel, Abertawy. Yn mhen ychydig wedi ei urddiad yn y Felindre, cafodd Mr. Morgan alwad gan yr hen eglwys yn Llanedi, ac y mae yn parhau i wasanaethu y ddwy eglwys.
Mae eglwys a chynnulleidfa y Felindre yn cael ei gwneyd i fyny o amaethwyr a'u gweithwyr. Nid yw erioed wedi bod yn lluosog iawn, ac nis gall fod, gan nad yw y boblogaeth ond teneu, a bod capeli heb fod yn
mhell gan enwadau eraill. Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser trwy ei holl dymor yn enwog am ei hysbryd tangnefeddus, a'i pharodrwydd yn ol ei rhif a'i gallu i gydweithredu gyda phob achos cyhoeddus. Gan fod y capel a adeiladwyd yma yn 1824, wedi myned yn ddadfeiliedig, adeiladwyd yma gapel newydd prydferth iawn yn 1858. Mae mynwent oddiamgylch iddo, a llawer wedi cael eu claddu ynddi.
BARAN.

Mae y capel hwn yn sefyll ar fin y mynydd yn nghwr uchaf plwyf Llangafelach. Dechreuwyd yr achos yma dan yr amgylchiadau canlynol:-Yr oedd yr hen eglwys Ymneillduol yn Gellionen, dan weinidogaeth Mr. Josiah Rees, wedi cael ei harwain er's rhai blynyddau oddiwrth yr hen athrawiaeth efengylaidd a bregethid yno o oes i oes, er dechreuad yr achos, acer fod llawer, o bosibl mwyafrif yr aelodau, wedi llyngcu syniadau Ariaidd y gweinidog, yr oedd yno nifer yn dwyn sel dros yr hen wirioneddau a broffesid ac a gredid gan eu tadau. Tua dechreu y ganrif bresenol aeth Mr. Rees, i bregethu ei olygiadau neillduol am berson Crist yn fwy digel nag y gwnelsai yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, a phan ddaeth ei fab, Mr. Thomas Rees, wedi hyny Dr. T. Rees, Llundain, allan o'r athrofa, mynai rhai e. neillduo i fod yn gydweinidog a'i dad, er ei fod yn Undodwr proffesedigi Gwrthwynebid hyn gan y blaid driundodaidd yn yr eglwys, y rhai a fynent urddo Mr. Roger Howell. Canlyniad yr ymryson fu ymraniad. Aeth y Triundodwyr allan a dechreuasant gynal addoliad mewn amaethdy o'r enw Llwynefan, symudasant oddiyno i Nantmoel, ac ar ran o'r tir hwnw adeiladasant gapel Baran. Rhoddwyd les o 999 o flynyddau ar y tir gan Mr. John Howell, a'i fab a'i etifedd Mr. Roger Howell, am yr ardreth o bum' swllt yn y flwyddyn. Amseriad y les yw Hydref 1af, 1805, ond yr ydym yn tybied fod y capel wedi cael ei orphen a'i agor rai misoedd cyn hyny. Y personau canlynol oedd yr ymddiriedolwyr: David Howell, Cwmnant-hopkin; Evan Hopkin, Penlan; John Phillips, Tychwith; Hopkin Harry, Rhydyfro; Rees Thomas, Coedcaemawr; Harry Thomas, Rhydyfro; Phillip John, a Daniel John, Tresgwich; Thomas Thomas, Maestirmawr; Samuel Thomas, Llwyndomen, a Jenkin Jenkins, Cynordyfuch. Mawrth 14eg, 1805, urddwyd Mr. Roger Howell yn weinidog. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, D. Peter, Caerfyrddin; D. Davies, Llanybri; J. Abel, Cydwely; T. Bowen, Castellnedd; J. Davies, Alltwen; J. Davies, Llansamlet; E. Evans, Penygraig; W. Gibbon, Capel Sion, a dau o weinidogion y Bedyddwyr, sef Mr. Rees, Felinfoel, a Mr. Davies, Salem. Parhaodd Mr. Howell i weinidogaethu yma am 38 o flynyddau. Gan mai mynydd anghyfanedd sydd ar y naill du i'r capel yr oedd y gynnulleidfa yn gorfod ymgasglu o bellder mawr. Yr oedd Baran gynt i lawer o deuluoedd fel Jerusalem, "Y man lle yr oedd yn rhaid addoli." Cyrchai pobl yno o'r Gerdinen, Llandremoruchaf, Llwyngweno, Penwaenfach, Cynhordyfach, Cefnparc, Llwyndomen, Craigtrebanos, Alltwen, Hendregradog, Ynysmudw, Pentwyn, Blaenegel, Bettws, &c. Yr oedd golwg brydferth i'w gweled ar y mynydd ar fore y Sabboth; rhai ar draed a rhai ar geffylau, yn brithio y mynydd wrth ddyfod o bob cyfeiriad i'w hoff deml i addoli. Erbyn y flwyddyn 1830, yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr fel y bu raid ei helaethu. Yn y flwyddyn 1831, ymfudodd o ddeugain i haner cant o'r aelodau gyda eu gilydd i dalaeth Pensylfania, America, a chan eu bod wedi trefnu i fyw yn yr un gymydogaeth, rhoddasant alwad i Mr. Daniel Jones, gwr ieuangc oedd newydd ddechreu pregethu yn y Baran , ac urddwyd ef gartref cyn iddo ef a'i eglwys gychwyn i'w taith. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan y Meistri Howell, Baran; Rowlands, Cwmllynfell, a Powell, Cross Inn. Bu Mr. Jones, yn gweinidogaethu i'r bobl hyn yn America hyd ei farwolaeth. Gwanychodd hyn gryn lawer ar yr eglwys, ond yn raddol llanwyd lleoedd y rhai a ymadawsant. Yn y flwyddyn 1840, o herwydd llesgedd Mr. Howell, barnwyd yn angenrheidiol cael cynorthwywr iddo, ac yn nechreu y flwyddyn 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Pryse, Cwmllynfell, i ddyfod yn gydweinidog ag ef. Parhaodd Mr. Pryse i ofalu am yr eglwys am flwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Howell. Yn 1844, pan adeiladwyd capel yn Rhydyfro, ac y gollyngwyd tua 55 o aelodau Baran yno i ddechreu yr achos, rhoddodd Mr. Pryse ofal y fam-eglwys i fyny, a chymerodd ofal y gangen yn Rhydyfro. Yna rhoddodd eglwys Baran alwad i Mr. Davies, Cwmaman, a buont dan ei ofal ef hyd Ebrill, 1859, pryd y cymerodd ofal yr eglwys yn Cross Inn. Dilynwyd ef yn Baran gan Mr. T. Davies, Treforis, yn Mai, 1859, ac efe yw y gweinidog yno hyd y dydd hwn. Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd ysgoldy yn Nghwmclydach, mewn lle a elwir Pantyerwys, ac yn 1866, ffurfiwyd yno eglwys. Wedi colli ardaloedd poblog Rhydyfro a Chwmclydach, y mae cynnulleilfa Baran o angenrheidrwydd wedi lleihau yn fawr, gan nad yw y gymydogaeth uniongyrchol oddiamgylch y capel ond teneu iawn ei thrigolion, ac y mae amryw o'r amaethdai yr oedd eu preswylwyr gynt yn perthyn i Baran, yn awr yn cael eu preswylio gan Saeson, neu bobl o enwadau eraill. Yr oedd rhif yr aelodau yn 1842, yn 181, ond yn bresenol nid ydynt ond 65, er fod y gweinidog presenol wedi derbyn 79 o aelodau yn y deuddeng mlynedd diweddaf, a thua deugain trwy lythyrau. Y canghenau aethant allan o honi sydd wedi difa nerth y fam-eglwys, fel na ddaw mwyach mor lluosoced ag y bu, oddieithr i weithiau glo gael eu hagor yn yr ardal.
Y diaconiaid yn yr eglwys hon, o ddechreuad yr achos hyd yn awr, oeddynt Thomas Davies, Cwmgors; Rees Harry, Gartheithin; Phillip Bevan, Bwllfa ; William Hopkin, Godre'rgarth; John Howell, Nantmoel; Evan Llewellyn, a William Llewellyn, Gerdinen; David Jones, Nant melyn, a Jonah Williams, Cwmgors. Nid oes ond tri o'r rhai hyn yn fyw yn awr, sef John Howell, David Jones, a Jonah Williams.
Dau bregethwr yn unig a gyfodwyd yma er dechreuad yr achos, sef Daniel Jones, yr hwn a urddwyd yma cyn ei ymfudiad i'r America, a John Davies, yr hwn sydd yn bresenol yn Ynysmudw, ac yn ŵr ieuangc gobeithiol iawn.
Gadawodd Mr. Howell, y gweinidog cyntaf, ac un o sylfaenwyr yr achos, argraff ei dymer addfwyn a chariadus ar yr eglwys hon, fel na chlywyd un amser am unrhyw anghydfod na therfysg yma. Parhaed yr un dymer gristionogol i lywodraethu yma tra byddo careg ar gareg o'r adeilad yn sefyll, a dynion yn ymgynull i'r lle.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
ROGER HOWELL. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Pyllau Watkin,
yn mhlwyf Llangafelach, yn y flwyddyn 1774 Yr oedd ei dad, Mr. John Howell, yn wyr i Mr. Roger Howell, gynt gweinidog y Gellionen a Chwmllynfell, ac yn ddyn crefyddol iawn. Byddai yn pregethu yn achlysurol yn y Gellionen, lle yr oedd yn aelod, ac mewn manau eraill yn y gymydog. aeth. Dywedir iddo unwaith, wrth bregethu mewn tŷ yn yr ardal, roddi cerydd effeithiol iawn i ddyn am ddyfod yn ddiweddar i'r oedfa. Daethai y dyn i mewn pan oedd Mr. Howell ar orphen ei bregeth. "Yn awr," ebe y pregethwr, "er fy mod yn myned i derfynu, byddai yn well i mi ddyweyd ychydig yn ychwaneg er mwyn ein cyfaill M. N., yr hwn sydd newydd ddyfod i mewn," ac felly estynodd ei bregeth am ddeg munyd yn hwy nag y bwriadai. Bu y dyn da hwn yn ofalus iawn i ddwyn ei fab Roger i fyny yn grefyddol. Pan yn llangc lled ieuangc anfonwyd ef i ysgol ieithyddol a gedwid yn Abertawy gan un Mr. Rees. Tra yno y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. W. Howell, yn y capel sydd yn awr yn meddiant yr Undodiaid. Tua y flwyddyn 1795, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd ei amser yn fyfyriwr diwyd. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa bu am ryw yspaid yn athraw i blant J. Haynes, Ysw., arianydd, Abertawy. Yn y flwyddyn 1804, priododd a Miss Sarah Elizabeth, merch Mr. W. Price, Penyfan, Llanelli. Bu iddynt chwech o blant, a chawsant yr hyfrydwch o'u gweled oll yn grefyddol. Dewiswyd ac urddwyd ef yn 1805, fel y nodasom yn barod, yn weinidog i'r gynnulleidfa a ymneillduasai o'r Gellionen. Treuliodd ei oes yn ddedwydd a pharchus yn ei gysylltiad a'r eglwys hon. Yr oedd ei gof wedi gwaelu yn fawr yn ei flynyddau diweddaf, fel y byddai yn gorfod darllen ei bregethau, ond y fath oedd serch ei bobl tuag ato, fel yr oedd yn well ganddynt ei glywed ef yn darllen ei bregethau na chlywed llawer un mwy doniol yn eu traethu gyda'r hyawdledd mwyaf. Bu Mr. Howell farw Ebrill 29ain, 1843, yn 69 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Baran. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Davies, Cwmaman; Mr. Thomas, Glais; Mr. Powell, Cross Inn, a Mr. Griffiths, Castellnedd. Mr. Powell, a Mr. Griffiths fu yn pregethu oddiwrth Ioan ii. 20., ac 2 Cron. xxiv. 15, 16. O ran ei ymddangosiad corphorol yr oedd Mr. Howell yn ddyn nodedig o hardd, o faintioli cyffredin, o liw goleu, ac o edrychiad siriol a mwyn. O ran ei dymer yr oedd yn anghyffredin o garuaidd ac addfwyn, ac o ran ei ymddygiad nid oedd un dyn mwy boneddigaidd a dirodres yn rhodio y ddaear. Er ei fod o ran ei amgylchiadau bydol yn dirfeddianwr, yn gymharol gyfoethog, ac yn rhagorach ysgolhaig na phed war-ar-bymtheg o bob ugain o bregethwyr ei oes, yr oedd mor ostyngedig a diymhoniad a'r iselaf yn mysg ei frodyr. Nid oedd yn feddianol ar ddoniau poblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd ei bregethau yn wastad yn llawn o synwyr a defnyddiau addysg i'w wrandawyr. Yr oedd ei haelioni a'i lettygarwch yn ddiarhebol. Byddai ef, ei wraig, a'i blant am y parotaf i roesawi dyeithriaid, a bu eu hanedd glud yn lletty fforddolion am ddegau o flynyddau. Estynodd ganoedd o ddarnau o arian i ddwylaw ei frodyr tlodion yn y weinidogaeth pan alwant heibio iddo ar eu teithiau. Bu yn cadw ysgol agos trwy ei holl oes, nid o herwydd fod ei amgylchiadau yn ei orfodi i wneyd hyny, ond o herwydd mai hyfrydwch ei fywyd oedd cyfranu addysg i blant ac ieuengctyd. Rhoddodd eu haddysg yn rhad i ugeiniau o blant y gymydogaeth, a bu rhai degau o bregethwyr ieuaingc yn derbyn eu haddysg ganddo. Mae rhai o honynt etto ar dir y rhai byw, megis Evans, Nazareth; Jones, gynt o Dalgarth; Watkins, Llangattwg; Williams, Hirwaun; Edwards, Jones, Powell, a Lewis Williams, America, &c. Gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ddydd yn ei ardal fynyddig fel ysgolfeistr yn gystal ag fel pregethwr. Mae ei goffadwriaeth hyd y dydd heddyw yn barchus gan ugeiniau, ac y mae crefydd yn parhau i ddal ei gafael yn ei hiliogaeth. [8]
CANAAN.
Dechreuwyd yr achos hwn er's yn agos i gan' mlynedd yn ol yn y Pentrefchwith, gan Mr. Lewis Rees, yn nhŷ Thomas William. Yr oedd niferi o aelodau y Mynyddbach yn cyfaneddu yn yr ardal y pryd hwnw, a Thomas William, a Thomas Howell, fel diaconiaid o'r fam eglwys yn gofalu am y gangen yn yr ardal hon. Dywedir fod y ddau yn ddynion rhagorol iawn, a medrus nodedig i drin achosion eglwysig. Pan aeth tŷ Thomas William yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, cafwyd caniatad i gynal y gwasanaeth mewn ysgoldy perthynol i berchenogion y gwaith copr. Buwyd yn addoli yn yr ysgoldy hwn am tua deugain mlynedd. Pan ymadawodd Mr. David Davies a'r Mynyddbach, darfu i'r gangen yn y Pentrefchwith uno ag eglwys Ebenezer, yn y dref; yno y byddent yn addoli bob boreu Sabboth, hyd nes iddynt gael eu corpholi yn eglwys yn y flwyddyn 1836. Yn y flwyddyn 1839, dechreuwyd adeiladu y capel ar odre craig Kilvey, yr hwn a orphenwyd yn gynar yn 1840, ac agorwyd ef yn y flwyddyn hono, ond nid ydym yn deall i hanes yr agoriad gael ei anfon i'r Diwygiwr, nac un cyhoeddiad arall. Yn y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Watkins, Llanelli, Brycheiniog, a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Medi 28ain a'r 29ain y flwyddyn hono. Bu Mr. Watkins yn llafurio yma, ac yn Bethel, Llansamlet hyd haf y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Langattwg, Crughowell, lle y mae hyd yn bresenol. Ni fu gweinidog erioed anwylach gan ei bobl nag yr oedd ef gan bobl Canaan a Bethel, a gwnaeth yma waith mawr yn ystod yr wyth mlynedd y bu yn y lle. Yr oedd Capel Canaan wedi costio 702p. 6s., ac nid oedd nemawr o ddim wedi ei gasglu nes i Mr. Watkins ddyfod yma. Yn mhen saith mlynedd talodd yr holl ddyled a'r llogau, ac er mawr dristwch i'r bobl a'i carai mor anwyl ymadawodd yn fuan ar ol hyny. "Yr oedd y flwyddyn 1850, yn adeg anarferol o bwysig yn hanes eglwys Canaan. Yr oedd Elias Jenkins, Ysw., Kilvey House, a'i ddwy ferch, Miss Rebecca a Miss Sarah Jenkins, yn hynod o gynorthwyol i'r achos. Yr oedd y ddwy foneddiges yn aelodau yn Canaan, ac er mai yn Castle-street yr oedd Mr. Jenkins yn aelod, etto yr oedd yn addoli unwaith bob Sabboth yn Canaan, ac yn haelionus dros ben at yr achos. Hwy oedd cefn yr achos, ac annichonadwy dyweyd y da a wnaethant iddo yn yr ardal. Yr oeddynt yn gwneyd yr oll a wnaethant yn ddistaw, ac ni fynent glywed am eu gweithredoedd da; a'r dydd mawr yn unig a ddatguddia yr oll a wnaethant. Modd bynag, yn ngwanwyn 1850, bu farw Mr. Jenkins, ac yn haf yr un flwyddyn symudodd ei ferched o'r ardal i fyw, ac yn yr un adeg symudodd Mr. Watkins, y gweinidog, fel y nodir uchod, i Langattwg. Yr oedd y cyfnewidiadau hyn yn golledion mawrion anarferol i'r achos yn y lle, tra yn ennill i fanau eraill. Mewn gair, yn 1850, y cafodd eglwys Canaan er thaflu i fyw arni ei hun. Hyd yn hyn yr oedd wedi bod dan nawdd teulu duwiol, cyfoethog, a haelionus Kilvey, a than weinidogaeth un o'r dynion caredicaf a fu erioed yn weinidog efengyl, ond collodd yr eglwys y cwbl megis yn yr un dydd." [9]
Hydref 8fed, 1850, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Rees, Carmel, Llangiwc, a'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Rhagfyr, 1850. Cynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ebrill 22ain a'r 23ain, 1851, pryd y pregethodd Meistri Morgan, Caerfyrddin; Rees, Ystrad; Rees, Cendl; Davies, Pantteg; Jones, Treforis; Griffiths, Alltwen, ac eraill. Bu Mr. Rees yn llafurus a llwyddianus iawn yma yn y cyflawniad o bob rhan o waith y weinidogaeth, ac yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol. Pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, nid oedd rhif yr ysgol dros driugain-a-deg. Trwy sefydlu dosbarth Biblaidd, ac agor Ysgolion Sabbothol yn y Llysnewydd a Phort-tenant, llwyddwyd i gael rhifedi y rhai oeddynt dan addysg yn yr Ysgolion Sabbothol yn nglyn a Chanaan i dri chant a haner, ar un tymor. Gwnaeth ef, a'r bobl a gydweithredent ag ef, ymdrech lwyddianus i ddymchwelyd yr arferiad lygredig o gadw Cwrw bach, yr hon oedd yn ffynadwy yn yr ardal, ac yn effeithio mor ddinystriol ar foesau y bobl. Dyoddefodd yr achos lawer o anfantais agos trwy holl dymor gweinidogaeth Mr. Rees oddiwrth sel ac ymdrechion pobl gyfoethog yn y gymydogaeth i ddenu y gweithwyr o'r capeli i'r Eglwys Wladol. Llwyddasant i gael llawer i fyned i'r eglwys, ac i anfon eu plant i ysgolion eglwysig, ond y mae y dylanwad hwnw yn gwanychu er's rhai blynyddau bellach. Yn 1860, adeiladwyd capel Tanygraig, ac aeth nifer o aelodau Canaan yno i ddechreu yr achos. Yn 1864, ailadeiladwyd Canaan, ac agorwyd y capel newydd Gorphenaf 18fed a'r 19eg, yn yr un flwyddyn, pryd y pregethodd Meistri Davies, Llandilo; Lewis, Ty'nycoed; Watkins, Llangattwg; Rees, Llanelli; Griffiths, Alltwen, a Davies, Cwmaman. Mae y capel prydferth hwn yn 60 troedfedd wrth 40 dros y muriau. Costiodd 1,100p. Casglwyd 221p. erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad, ac erbyn hyn nid oes fawr o'r ddyled yn aros heb ei thalu. Teimlai Mr. Rees ar ol cael y capel newydd y dylasai roddi ei holl wasanaeth yma yn lle ei ranu rhwng Canaan a Bethel, ond gan yr ofnai y bobl nas gallasent gyfranu digon at ei gynal, gwnaeth ei feddwl i fyny i ymadael, gan na oddefai sefyllfa ei iechyd iddo ofalu am y ddau le fel yr arferai wneyd. Yn Gorphenaf, 1866, symudodd i Rodborough, lle y mae yn bresenol. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. B. Williams, Dinbych, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Mehefin 18fed a'r 19eg, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth, Meistri E. Griffiths, Abertawy; Stephens, Liverpool; Williams, Castellnewydd; Evans, Britonferry; Rees, Rodborough; Watkins, Llangattwg; Davies, Caerdydd, a Bevan, Waunarlwydd. Mae Mr. Williams a'r eglwys yn hoff iawn o'u gilydd, ac yn cydweithio yn llwyddianus. Mae dyled y capel, fel y nodasom, agos a chael ei lwyr ddileu, nifer yr aelodau wedi ychwanegu yn fawr, fel y maent yn awr tua thri chant o rif, a chasgliadau yr eglwys a'r gynnulleidfa at bob achos cartrefol a chyhoeddus, yn y pedair blynedd diweddaf tua 300p. yn y flwyddyn. Cafodd yr achos hwn gam mawr o'i ddechreuad trwy fod mewn cysylltiad ag eglwysi eraill, am yr ofnai Ꭹ bobl eu bod yn analluog i gynnal gweinidog eu hunain, ond wedi gwneyd y prawf, cawsant eu bod yn ddigon galluog i hyny, a'u bod wedi gwasanaethu yr achos trwy fyny gweinidogaeth gyflawn i ardal mor boblog a phwysig.
Nis gwyddom am neb a ddechreuodd bregethu yma ond Mr. William Thomas, Port-tenant, a'r diweddar Mr. Benjamin Wilkes, Trecastell.
CAPEL SION, ABERTAWY.
Tua diwedd y flwyddyn 1841, barnodd rhai o aelodau yr eglwys yn Ebenezer fod angen am achos Cymreig arall yn y dref, a chafodd pymtheg neu ugain o honynt lythyrau o ollyngdod o eglwys Ebenezer er ffurfio eu hunain yn eglwys wahanol. Cymerasant y Victoria Rooms, yn Oxford street, at gynal cyfarfodydd, a chawsant amryw o weinidogion enwocaf siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, i bregethu iddynt ar y Sabbothau. Pan drowyd Mr. T. Davies allan o Ebenezer yn Mehefin 1842, derbyniwyd ef gan bobl y Victoria Rooms i fod yn weinidog iddynt, a bu yn gweinidogaethu iddynt am tuag un-mlynedd-ar-bymtheg. Yn nechreu y flwyddyn 1843, cafwyd tir ar yr ochr ddeheuol i High street, ar y fan lle mae gorsaf y South Wales Railway yn awr, lle yr adeiladwyd capel hardd a chyfleus. Cyhoeddwyd yr hanes canlynol am yr achos a'r capel hwn yn y Diwygiwr am 1843, tu dal. 250:-"Dydd Iau, Mai 18fed, gosodwyd y gareg sylfaen i'r addoldy newydd perthynol i'r eglwys Annibynol ag sydd yn ymgyfarfod i addoli yn Neuadd Victoria, Abertawy. Am 2 o'r gloch yn y prydnawn, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. D. Jones, Clydach. Cyflawnwyd y gorchwyl o osod y gareg sylfaen gan y Parch. T. Davies, gweinidog yr eglwys hon, ac yn ei gynorthwyo yr oedd y Parch. D. Griffiths, Castellnedd; yna areithiodd y Parch. W. Williams, Llandilo, yn dra hyawdl a chymwysiadol ar yr achos; canlynwyd ef gan y Parch. D. Griffiths, Castellnedd, mewn pregeth ragorol oddiar Ezra x. 4., Cyfod; arnat ti y mae y peth; a ni a fyddwn gyda thi; ymwrola a gwna.' Cyfeiriodd a gwasgodd ei sylwadau ar feddyliau y gweinidog a'r eglwys, gydag effeithioldeb mawr ar y gynnulleidfa oedd yn bresenol ar y pryd; terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Davies, Mynyddbach. Am 7 yn yr hwyr, cafwyd benthyg addoldy Ebenezer, pan ymgynnullodd tyrfa fawr, nes oedd yr addoldy helaeth hwnw yn orlawn. Dechreuwyd trwy ddarllen, gweddi, a mawl, gan y brawd T. Thomas, Llandilo, a phregethodd y Parch. W. Williams, o'r un lle, yn ddoniol oddiwrth 2 Cor. x. 4, 5. Bydded yn hysbys i bawb fod y gangen fechan hon wedi ymadael a'r eglwys yn Ebenezer, mewn modd rheolaidd a thangnefeddus i sefydlu achos newydd yn y dref boblog hon, gan ystyriad y byddai hyny yn fwy buddiol i lwyddiant crefydd, ac i ennill eneidiau at y Gwaredwr, nag aros yn segur wrth y canoedd yn yr un man. Y mae arwyddion da ar yr achos yr addoldy yn myned yn mlaen yn hwylus-yn barod i osod y pen arno. Ein hawydd yw ennill eneidiau o'r byd i'r eglwys, ac nid eu denu o un eglwys arall.'
Pan agorwyd y capel, cafwyd cynnulleidfa dda a chryfhaodd yr eglwys yn fawr. Yn 1849, cymerwyd y capel gan berchenogion y South Wales Railway a thynwyd ef, yn nghyd ag amryw adeiladau eraill oddiamgylch iddo, i lawr, er cael lle i'r orsaf. Cafwyd tir ar yr ochr arall i'r heol, ychydig yn is i lawr, lle yr adeiladwyd y capel presenol, yr hwn a agor- wyd yn nechreu y flwyddyn 1850. Bu Mr. T. Davies yn gweinidogaethu yma, mewn cysylltiad a Phentre-estyll, hyd y flwyddyn 1858, pryd, herwydd ei lesgedd ef, ac am nas gallesid cael ar y goreu ond haner ei lafur, y barnwyd y buasai yn well iddo ef gyfyngu ei lafur yn unig i Bentre-estyll, a gadael eglwys Capel Sïon at eu rhyddid i ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Ar ol bod ychydig gyda blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. John C. Davies, Carfan, sir Benfro, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yn Hydref, 1859. Parhaodd i weinidogaethu yn y lle hyd Awst, 1868, pan y symudodd i Newton. Ychydig cyn ymadawiad Mr. Davies, adgyweiriwyd a phrydferthwyd y capel yn fawr, yr hyn a gostiodd rai canoedd o bunau, ond trwy ymdrech ddiflin y gweinidog a'r bobl talwyd y cwbl yn fuan. Ychydig amser ar ol ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. John Jenkins, Pantteg. Bu ef yma am tua blwyddyn a haner, ond er's yn agos i flwyddyn bellach y mae y cysylltiad rhyngddo a'r eglwys wedi darfod, ac y mae y gynnulieidfa er hyny heb un gweinidog sefydlog.
Mae yr eglwys hon, er nad oes llawn ddeng-mlynedd-ar-hugain er pan y ffurfiwyd hi, wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau. Bu yr achos ar rai adegau yma yn gryf a llwyddianus iawn, ac ar adegau eraill yn lled wan a gwywlyd. Mae yn bresenol yn llawer gwanach nag y bu, ac wedi cael ei daflu i'w iselder presenol gan amgylchiadau na byddai eu crybwyll o un budd i neb. Hyderwn fod y gauaf presenol i gael ei ddilyn gan dymor hafaidd a llwyddianus.
ZOAR, ABERTAWY.
Gan David Richards, yr hwn oedd yn aelod yn Mhentre-estyll, a David Davies, aelod o Gapel Sïon, y dechreuwyd yr achos hwn. Cymerasant y Trade'shall, yn High-street, at gynal gwasanaeth crefyddol. Ebrill 2il, 1848, y cynhaliwyd y gwasanaeth cyhoeddus cyntaf yno. Yn y boreu, cadwyd yno Ysgol Sabbothol. Pedwar-ar-ddeg rhwng plant a dynion mewn oed oedd ynddi y Sul cyntaf. Am ddau a chwech yn y prydnawn a'r hwyr, pregethodd Mr. Rees Rees, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn yn fuan ar ol hyny a urddwyd yn weinidog ar yr eglwys ieuangc. Heblaw plant yr Ysgol Sul, nid oedd ond pump o bersonau yn gwrandaw Mr. Rees y Sabboth hwnw. Er mor waned a digalon yr ymddangosai pethau ar y cychwyniad, aeth Mr. Rees a'r ddau frawd, D. Richards, a D. Davies, yn mlaen heb lwfrhau dim. Awst 3ydd, 1848, urddwyd Mr. Rees yn weinidog gan Mr. Evans, Capel Sion, a Mr. Jenkins, Penygroes. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd naw, ond erbyn Tachwedd 4ydd, 1849,yr oeddynt wedi lluosogi i 135, a'r Ysgol Sabbothol yn 160. Awst 23ain, 1848, cymerwyd tir at adeiladu y capel, a dechreuwyd ei adeiladu Hydref 9fed, yn yr un flwyddyn. Erbyn Rhagfyr 30ain, yr oedd y tô wedi ei osod ar yr adeilad, a phregethodd Mr. Rees yno y noson hono. Buwyd wedi hyny yn addoli yn y Trade'shall nes i'r capel gael ei orphen. O ddiffyg arian i fyned ar gwaith yn mlaen, ni allwyd gorphen yr adeilad hyd Hydref 30ain, 1849, pryd yr agorwyd ef. Dechreuwyd yr oedfa y nos gyntaf gan Mr. T. Jenkins, Penygroes, a phregethodd Mr. D. Williams, Aberafon, a Mr. J. Ridge, gynt o Cendl. Am ddeg dranoeth, gweddiodd Mr. Williams, Aberafon, a phregethodd Meistri Jinkins, Penygroes; Thomas Glandwr, a Griffiths, Alltwen . Am 2, gweddiodd Mr. J. Davies, Taihirion, a phregethodd Meistri Williams, Bryn ; Watkins, Canaan, a Jones, Bethesda, Merthyr. Am 6, gweddiodd Mr. W. Humphreys, Glandwr, a phregethodd Meistri Davies, Siloa, Llanelli, a Griffiths, Alltwen, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. E. Jacob, Ebenezer. Maint y capel oedd 40 troedfedd wrth 41, yn cynwys 48 o eisteddleoedd ar y llawr, a 36 ar yr oriel. Traul yr adeiladaeth oedd 700p. 29. 50. Gan i'r achos gael ei ddechreu yn afreolaidd, heb ymgynghori a'r gweinidogion a'r eglwysi cymydogaethol, fod yr ychydig frodyr a'i dechreuodd, o herwydd bychan der eu rhif, yn derbyn pob un a ddeuai atynt o eglwysi eraill heb ofalu eu bod yn dyfod yn rheolaidd trwy lythyrau, a bod y ddyled yn fawr, buwyd am dymor yn gwrthod eu derbyn i undeb eglwysi y sir. Parodd hyny drallod nid bychan, oblegid ei fod yn rhwystr i'r ymdrech er talu y ddyled. Ond wedi myned trwy lawer o bryderon ac amgylchiadau bygythiol, gwenodd Duw a dynion arnynt, a chyfododd yr achos ei ben yn fuddugoliaethus. Rhoddodd Mr. Rees ei weinidogaeth i fyny Awst 12 fed, 1855, a symudodd i Gapel Isaac. Bu pethau yn lled ddigalon yma wedi ei ymadawiad ef. Collwyd llawer o'r gwrandawyr a'r aelodau, a buwyd unwaith yn ofni y buasai raid gwerthuy capel i'r Pabyddion er talu ei ddyled. Mawrth 3ydd, 1859, cymerodd Mr. Davies, Ysgetty, ofal y lle, mewn cysylltiad a'r Ysgetty. Adfywiodd pethau yn fuan yma dan ei nawdd ef. Yn ystod y tair blynedd y bu y lle dan ofal Mr. Davies talwyd 150p. o'r ddyled heb law talu y llogau, a daeth pethau i wisgo agwedd obeithiol. Pan welodd ef fod yr achos wedi dyfod i sefyllfa hunan -gynaliol, rhoddodd ei ofal i fyny, ac anogodd y bobl i roddi galwad i Mr. Frederick Samuel, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn yr athrofa Normalaidd yn y dref hon.Urddwyd Mr. Samuel, Hydref 3ydd a'r 4ydd, 1862. Rhoddir hanes cyfarfodydd yr urddiad yn Niwygiwr, Gorphenaf, 1862, fel y canlyn:— "Zoar, Abertawy. Oddeutu tair blynedd yn ol, cymerodd Mr. Davies, Ysgetty, ofal yr eglwys uchod pan oedd ar drangcedigaeth, ac wedi marw yn ngolwg llawer; gwnaeth ei oreu mewn amser ac allan o amser; ac yr oedd llwydd mawr ar ei waith. Boed bendithion lawer yn orphwysedig ar Mr. Davies, ac eglwys yr Ysgetty, am eu daioni tuag atom yn ein cyfyngder. Ond am nad oedd Mr. Davies yn barnu ei fod yn gwneyd cyfiawnder a'r ddwy eglwys, rhoddodd Zoar i fyny. Yr oedd teimladau gofidus ac hiraethlon yn yr eglwys ar ei ymadawiad. Wedi hyny rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. F. Samuel, myfyriwr o goleg Normalaidd, Abertawy. Nos Fawrth, a dydd Mercher, y 3ydd a'r 4ydd o Fehefin, dygwyd yr urddiad yn mlaen. Y nos gyntaf, gweddiodd Mr. Davies, Capel Sion, a phregethodd y Parchn. W. Morgan, Caerfyrddin, a J. Mathews, Castellnedd. Am 10 dydd Mercher, gweddiodd Mr. Thomas, Glandwr, a phregethodd y Parch. D. Rees, Llan elli, ar natur eglwys ; dyrchafwyd yr urdd -weddi gan y Parch. W. Jones, Castle-street; yna pregethodd y Parch. R. G. Jones, Merthyr, ar ddyled swydd y gweinidog. Am 2, dechreuwyd gan Mr. Owens, Clydach, a phregethodd y Parch. W. Edwards, Aberdare, ar ddyledswydd yr eglwys, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. Thomas, Aberdare. Yn yr hwyr cynnaliwyd y cyfarfod yn Ebenezer, am fod y lle yn rhy fychan i gynwys haner y dyrfa. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Davies, o'r athrofa Normalaidd, a phregethodd y Parchn.J. Rees, Canaan; a T. Rees,Ebenezer. Cafwyd cyfarfod hwylus." Mae Mr. Samuel wedi ac yn ymroddi a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth yn effeithiol, ac wedi bod yn rhagorol o lwyddianus i dalu y ddyled a lluosogi y gynnulleidfa. Tua thair blynedd yn ol gwnaeth ef a'r eglwys eu meddyliau i fyny i adeiladu capel newydd a mwy teilwng o'r dref a'r oes nag oedd yr un a adeiladwyd yn 1849. Bwriadent adeiladu yr ochr arall i'r heol, a gadael yr hen gapel at gychwyn achos Saesonig ynddo, ond o herwydd gomeddiad y Duc o Beaufort i roddi y tir, bu raid iddynt dynu yr hen gapel i lawr ac adeiladu yr un newydd ar ei safle. Mae hwn yn un o'r capeli harddaf a mwyaf cyfleus yn yr holl wlad, ac ysgoldy eang oddi tano yn cynwys lle i 400 o bobl. Gosodwyd ei gareg sylfaen gan S. Morley, Ysw., A.S., Medi 14eg, 1869, a rhoddodd gan' punt at yr adeiladaeth; traddodwyd hefyd areithiau ar yr achlysur gan H. Richard, Ysw., A.S., E. M. Richards, Ysw.,A.S., Mr. Jones, Castle-street, a Dr. Rees, Ebenezer. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad yn Gorphenaf, 1870. Traul yr adeiladaeth oedd 2,750p. Y mae 750p. o'r swin yma wedi eu casglu yn y ddwy flynedd ddiweddaf, ac er fod swm mawr etto yn aros, ni saif yn hir o flaen dyn mor weithgar a Mr. Samuel, a'r bobl ffyddlon sydd yn ei gynnulleidfa. Pan ddechreuodd Mr. Samuel ei weinidogaeth yma, rhif yr aelodau oedd o 70 i 80, ac yr oedd 550p. o ddyled yn aros ar y lle. Yn awr mae yr aelodau yn 250 o rif, a'r rhan fwyaf o honynt yn bobl a chalon ganddynt i weithio.
Mae agwedd pethau yma yn awr yn ddigon o dal i'r hen frawd ffyddlon David Richards, am yr holl bryderon a'r gofidiau yr aeth trwyddynt wrth gychwyn a chario yr achos yn mlaen yn ei wendid. Dichon y caiff ef etto, er ei lesgedd a'i nychdod, fyw i weled y deml hardd hon yn ddiddyled.
PENTRE-ESTYLL.
Mae y lle hwn o fewn milldir i Abertawy, ar y ffordd i Langafelach. Yr oedd ugeiniau o aelodau Ebenezer yn byw yn yr ardal hon er dechreuad yr achos yn y dref, a llawer o'r preswylwyr yn perthyn i'r Mynyddbach cyn hyny. Cychwynwyd yma Ysgol Sabbothol effeithiol rai blynyddau cyn fod son am adeiladu capel yn y lle. Dau neu dri o aelodau Ebenezer ddarfu ei chychwyn, ac ar y pryd nid oedd y cyfeillion yn Ebenezer yn gwbl foddlon i hyny, rhag ofn y buasai yr ysgol hono yn gwanychu yr ysgol oedd ganddynt yn barod yn Mhentrefgethin. Pa fodd bynag, yn mlaen yr aeth yn llwyddianus. Pan ddarfu cysylltiad Mr. T. Davies ag eglwys Ebenezer, yn Mehefin, 1842, glynodd llawer o'r aelodau yn nghymydogaeth y Pentre wrtho a chawsant eu ffurfio yn eglwys ganddo. Ar ol bod am beth amser yn addoli mewn anedd-dai yn yr ardal, adeiladwyd capel yma, yr hwn a agorwyd Mai 15fed a'r 16eg, 1844, pryd y pregethwyd gan Meistri Williams, Aberafon; Davies, Cwmaman; Watkins, Canaan; Griffiths, Castellnedd; Stedman, Newton, a Powell, Caerdydd. Maint y capel hwn oedd 30 troedfedd wrth 30 y tu fewn i'r muriau, a chan fod oriel gyfleus ynddo, cynwysai lawer o bobl. Bu Mr. Davies yn gweinidogaethu yma i gynnulleidfa wresog hyd derfyn ei oes, yn Awst, 1861. Yn niwedd y flwyddyn 1862, rhoddwyd galwad i Mr. David A. Jones, Cwmsaerbren, a chynnaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Tachwedd 18fed a'r 19eg, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri J. Davies, Aberaman; J. Morgans, Cwmbach; T. Rees, D.D., Abertawy; W. Williams, Hirwaun; D. Evans, Salem, Llandilo; D. Price, Aberdar; J. Thomas, Bryn, a W. Thomas, Rock. Yn 1864, dechreuwyd adeiladu capel newydd yma, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn ganlynol. Mae hwn yn gapel prydferth dros ben, yn mesur 60 troedfedd wrth 40. Costiodd 1,500p., ac y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa trwy eu hymdrechion diflino wedi tynu y ddyled i lawr i dri chant, ac y maent yn debyg o dalu y geiniog olaf yn fuan. Yn mis Medi, 1865, rhoddodd Mr. Jones ei ofal weinidogaethol i fyny, a symudodd o'r ardal. Yn mis Ebrill, 1866, dechreuodd Mr. W. Jenkins, Brynmawr, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau i lanw ei gylch gyda pharch, llwyddiant, a dylanwad mawr yn yr eglwys a'r ardal. Tua thair blynedd yn ol adeiladodd yr eglwys anedd-dy hardd o werth 500p. i'w gweinidog. Byddai yn ddymunol i bob eglwys ddilyn ei hesiampl yn hyn. Mae rhif yr aelodau yma rhwng tri a phedwar cant, ac er nad oes yma nemawr yn uwch eu sefyllfa na gweithwyr, y maent wedi gwneyd mwy mewn pethau arianol at achos crefydd na llawer o gynnulleidfaoedd sydd yn ymffrostio yn eu masnachwyr cyfoethog a'u tirfeddianwyr.
Y rhai canlynol, cyn belled ag y gwyddom ni, yn unig a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon :
Richard Martin. Yn Zoar, Abertawy, y mae efe yn bresenol yn aelod.
David Prosser. Urddwyd ef yn ddiweddar yn weinidog yr eglwysi yn yr Aber a Thalybont, Brycheiniog.
David Evans. Y mae efe newydd orphen ei efrydiaeth yn athrofa Caerfyrddin, ac i gael ei urddo yn fuan yn Rehoboth, Brynmawr.
Richard Williams. Y mae efe yma yn awr yn aelod, ac yn bregethwr cynorthwyol.
David Evans. Mab i'r enwog Mr. Daniel Evans, Mynyddbach yw efe. Dechreuodd bregethu yma yn ddiweddar.
Joseph Devonald. Mae yn awr yn fyfyriwr yn yr athrofa Normalaidd, yn Abertawy.
William Stephen Jenkins, mab Mr. Jenkins, y gweinidog. Mae y gwr ieuangc gobeithiol hwn yn awr yn fyfyriwr yn New College, Llundain.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn Ninbych yn y flwyddyn 1796. Gof, mewn amgylchiadau bydol cysurus oedd ei dad. Derbyniwyd ef yn dra ieuangc yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Ninbych, gan Mr. Thomas Powell. Wedi iddo ddechreu pregethu aeth i'r athrofa i Lanfyllin. Yn niwedd y flwyddyn 1817, aeth ef a'i gydfyfyriwr Mr. John Ridge, wedi hyny o Cendl, ar daith trwy y Deheudir, a chafodd ei hoffi mor fawr gan yr eglwysi yn Ebenezer, Abertawy, a'r Ysgetty, fel y rhoddasant iddo alwad unfrydol i ddyfod yn ganlyniedydd i'r enwog David Davies. Urddwyd ef yn Ebenezer, Ebrill 23ain, 1818, ac er nad oedd y pryd hwnw dros ddwy-ar-hugain oed, yr oedd o ran galluoedd a doniau yn berffaith addas i lenwi y cylch pwysig y gelwesid ef iddo. Parhaodd i weinidogaethu yn Ebenezer a'r Ysgetty am fwy na phedair-blynedd-ar-hugain, ac am y deuddeg, neu y pymtheg mlynedd cyntaf o'i dymor, yr oedd yn sefyll yn rhyfeddol o uchel yn ngolwg pobl ei ofal, ac yn ngolwg gweinidogion ac eglwysi y wlad yn gyffredinol. Pan dorodd y diwygiad dirwestol allan tua y flwyddyn 1835, rhoddwyd tôn newydd i'r farn gyhoedd gyda golwg ar ddiotta a chyfeddach, fel na oddefid mwyach, fel cynt, i broffeswyr crefydd, yn enwedig pregethwyr yr efengyl, fynychu tafarndai yn ddigondemniad. Nid oedd Mr. Davies yn flaenorol i hyn, am ddim a wyddom ni, yn waeth na'r rhan fwyaf o'i frodyr, ond gan iddo barhau yr un fath wedi i'r farn gyhoedd newid, aeth ei ymddygiad i ymddangos yn fwy gwrthun ac annoddefol. Yn Mehefin, 1842, barnodd mwyafrif eglwys Ebenezer mai eu dyledswydd oedd ymwrthod ag ef fel eu gweinidog. Pan fwriwyd ef allan gan eglwys Ebenezer, derbyniwyd ef, fel v crybwyllasom eisioes, gan yr eglwys oedd newydd gael ei ffurfio yn y Victoria Rooms; ac yr oedd niferi o aelodau Ebenezer yn ardal Pentre-estyll, mor hoff o hono, fel yr ymffurfiasant yn eglwys gan ei ddewis ef yn weinidog. Rai blynyddau cyn ei farwolaeth, er fod ei nerth corphorol yn parhau, yr oedd ei gof wedi myned yn ddiffygiol iawn, fel na fedrai wneyd dim ond traddodi yr hen bregethau y buasai yn gyfarwydd a hwy gynt. Bu farw yn ddisymwth iawn Awst 23ain, 1861, yn driugain-a-phump oed, a chladdwyd ef wrth gapel yr Ysgetty. Yr oedd miloedd lawer o bobl yn ei angladd. Dywedir na welwyd y fath angladd erioed yn Abertawy, oddieithr angladd Henry John Vivian, Ysw., A.S. Er ei holl golliadau, yr oedd Thomas Davies yn ddyn o'r fath ag a orfodai fyd ac eglwys i'w anwylo.
Yr oedd o ran ei ymddangosiad corphorol yn un o'r dynion harddaf a mwyaf mawreddog a welsom erioed. Yr oedd tua phum' troedfedd a deg moedfedd o daldra, ac o wneuthuriad cadarn a lluniaidd, heb ddim yn anffurfiol ynddo o'i goryn i'w draed. Teimlai pob un wrth edrych arno fod ynddo fawredd na pherthynai i un o bob deng mil o blant Adda. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, naturiol, esmwyth, a dylanwadol, a chanddo lais cryf, cyflawn, a pherseiniol, heb ddim yn arw nac aflafar ynddo. O ran ei dymer yr oedd yn hynaws, caruaidd, ac heb un amser sarugrwydd i'w ganfod ar ei wedd. O ran ei feddwl yr oedd yn dreiddgar, eang, parod, a galluog anarferol. Yr oedd wedi ei wneyd gan Awdwr natur yn ddyn mawr, a phe buasai yn gwrteithio ei alluoedd, ac yn defnyddio ei amser yn briodol, prin yr ydym yn tybied y buasai un gweinidog o un enwad yn y Dywysogaeth yn uwch nag ef mewn defnyddioldeb ac enwogrwydd. Segurdod ac esgeulusdod o ddyledswyddau ei swydd bwysig fu yr achos o bob coll ynddo. Ond er ei holl wendidau mae yn ddiameu iddo wneyd llawer o ddaioni, etto, llai nag un ran o fil o'r hyn yr oedd natur a Rhagluniaeth wedi ei gymhwyso i'w wneyd. Dylai hanes y dyn rhyfeddol hwn fod yn rhybudd difrifol i bob dyn ieuangc talentog i ochelyd cymeryd ei ryddid i fod yn segur ar gefn ei ddoniau a'i dalentau naturiol, oblegid pa fwyaf o dalentau a roddir i ni, mwyaf o gynyrch a ddysgwylia ein Harglwydd oddiwrthym. Nid y dynion mwyaf eu galluoedd naturiol sydd, fel rheol, wedi bod y rhai mwyaf defnyddiol, ond dynion o dalentau cyffredin yn gwneyd y defnydd goreu o honynt.
CWMBWRLA.
Pentref ychydig gyda milldir o Abertawy, ar y ffordd i Lanelli a Chaerfyrddin, yw Cwmbwrla. Yr oedd gan eglwys Ebenezer ysgoldy at gadw Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio yn Mhentrefgethin, ychydig yn nes i fyny i'r wlad, er's llawer o flynyddau, a phan gymerodd perchenog y tir feddiant o hwnw, adeiladwyd ysgoldy yn Nghwmbwrla yn 1844, vr hwn a agorwyd Awst 12fed a'r 13eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Rees, a T. Roberts, Llanelli; W. Jones, Abertawy; E. Roberts, Cwmbychan; J. Bowen, yn awr o Bendaran; T. Thomas, Abertawy: E. G. Williams, Ysgetty, a W. Morris, Glandwr. Cadwyd Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, pregethu achlysurol, ac ysgol ddyddiol yn yr ysgolly hwn hyd y flwyddyn 1861, pryd y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Gollyngwyd 50 o aelodau o Ebenezer i ffurfio yr eglwys newydd, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mr. E. Jacob, yr hwn oedd yn awr wedi rhoddi gofal Ebenezer i fyny, ac ar symud i Ebley. Cawn y nodiad canlynol gyda golwg ar ffurfiad yr eglwys hon yn y Diwygiwr am Hydref, 1861:—"Yn ddiweddar, wrth weled fod preswylwyr yr ardal yn amlhau yn fawr, penderfynwyd sefydlu achos rheolaidd yn y İle. Unodd ychydig frodyr gweithgar y dref a'r rhai oedd yn byw yno, yn y cynyg er dyogelu yr amcan teilwng hwn, a choronwyd eu llafur a llwyddiant. Cydweithredodd y Parch. W. Humphreys, Cadle, yn wresog yn yr ymdrech; a chan ei fod yn byw yn yr ardal, mae yn addaw cydweithredu etto. Nos Sabboth, Medi 8fed, 1861, cafodd y Parch. E. Jacob yr hyfrydwch o ffurfio eglwys yn y lle, yn cynwys yn nghylch 50 o aelodau. Derbyniwyd ar y pryd wyth o rai newyddion, ac y mae o ddeg i bymtheg etto yn y gyfeillach heb eu derbyn. Bwriedir adeiladu addoldy hardd yno mor fuan ag y byddo yn gyfleus. Mae golwg obeithiol iawn ar yr achos ieuangc yn ei gychwyniad." Dewiswyd Mr. Humphreys yn weinidog yn fuan ar ol hyn, a pharhaodd i gyflawni ei weinidogaeth yn wir effeithiol hyd derfyniad ei fywyd defnyddiol. Yn haf 1862 gosodwyd careg sylfaen y capel gan Mr. E. Griffiths, Abertawy, a phregethwyd ar yr achlysur gan Mr. Daniel, Mynyddbach, a Dr. Rees, Abertawy. Cynnaliwyd cyfarfodydd agoriad y capel newydd Mawrth 29ain, 30ain a'r 31ain, 1863, pryd y pregethodd Meistri J. Thomas, Bryn; W. Morgan, Maesteg; Dr. Rees, Abertawy; J. Roberts, Castellnedd; D. Jones, Cwmafon; T. Davies, Siloa; J. Mathews, Castellnedd; D. Evans, Llansawel; H. Evans, Penbre; E. Evans, Treforis; J. Rees, Canaan; T. Davies, Treforis, a T. Thomas, Glandwr. Traul yr adeiladaeth oedd 700p., a chasglwyd erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad 200p. Yn y flwyddyn 1864, gosodwyd oriel yn y capel a chynaliwyd cyfarfodydd agoriad drachefn ar orpheniad y gwaith hwnw, Tachwedd 13eg a'r 14eg, pryd y pregethodd Meistri J. Rees, Cwmaman, Aberdare; H. Evans, Penbre; W. Griffiths, Llanharan; J. Evans, Maendy; J. Thomas, Bryn, a J. Joseph, Llanedi. Gorphenaf 9fed, 1869, bu farw y gweinidog llafurus, Mr. Humphreys, er dirfawr dristwch a cholled i bobl ei ofal. Wedi bod tua blwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Humphreys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, New Tredegar, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn Medi, 1870. Mae Mr. Jones a'r bobl yn cydweithredu yn ddymunol, a phob arwydd y bydd ei lafur yn y lle yn llwyddianus. Er fod y capeli Zoar, Pentre-estyll, Ebenezer, Capel Sion, Glandwr, a'r capel hwn, oll o fewn llai na milldir i'w gilydd, y mae yma ddigon o drigolion i'w llenwi oll, a digon yn ngweddill i'r enwadau eraill.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
WILLIAM HUMPHREYS. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Glandwr yn y flwyddyn 1822. Yr oedd yn blentyn i rieni crefyddol, ac felly cafodd ei fagu yn eglwys Dduw. Ymunodd a chrefydd yn ieuangc iawn yn Siloh, Glandwr. Tua y flwyddyn 1847, ychydig cyn ymadawiad Mr. Morris a'r lle, anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod am rai blynyddau yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol, urddwyd ef yn weinidog yr eglwys yn Nghadle, Chwefror 13eg, 1851. Yn fuan wedi hyny cymerodd ofal yr eglwys yn y Brynteg mewn cysylltiad a Chadle, ac ar ffurfiad yr eglwys yn Nghwmbwrla, cymerodd ofal hono at y ddwy flaenorol. Rhwng y tri lle yr oedd ei lafur yn ddirfawr mewn pregethu, cynal cyfarfodydd eglwysig, a theithio ar bob tywydd o le i le. Mae yn ddiameu i'w waith caled fod yn foddion i gyflymu ei farwolaeth. Wrth deimlo fod ei waith yn ormod iddo, a gweled fod yr eglwys yn Nghadle, ar ol cael capel newydd, yn alluog i gadw gweinidog ei hun, rhoddodd y lle hwnw i fyny, gan fwriadu cyfyngu ei lafur i'r Brynteg a Chwmbwrla, ond yn mhen ychydig fisoedd wedi iddo wneyd hyn, galwodd ei Arglwydd ef oddiwrth bob llafur at ei wobr. Bu farw, ar ol ychydig wythnosau o gystudd trwm, Gorphenaf 9fed, 1869, a chladdwyd ei gorph, yn ngwydd tyrfa ddirfawr o alarwyr, yn mynwent y Mynyddbach, yn agos i'r man y gorphwysa llwch yr enwogion Lewis Rees a Daniel Evans. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Thomas, Glandwr; Mr. Thomas, Bryn; Dr. Rees, Abertawy, ac eraill.
Yr oedd William Humphreys yn weithiwr difefl yn ngwasanaeth ei Arglwydd, ac yn ddyn llawn o ysbryd cyhoeddus. Cymerai ddyddordeb neillduol yn yr ymdrech i adeiladu capeli Saesonig yn Abertawy. Er helaethiad ei gylch gweinidogaethol, a maint ei lafur, pwy bynag fyddai yn eisiau yn nghyfarfodydd pwyllgor yr achosion Saesonig, byddai ef yn sicr o fod yno, ac ni ddywedai un amser air i rwystro, ond yn wastad i anog y gwaith i fyned rhagddo. Trwy ei lafur ef yn benaf y dechreuwyd yr achos yn Mhontarddulais. Ni welsom erioed frawd yn barotach i weithio er lledaenu yr achos. Er na chafodd fanteision addysg yn ei ieuengctyd, ac iddo er yn blentyn, ac am beth amser wedi iddo gael ei urddo, orfod gweithio yn galed yn y gwaith copr, casglodd radd helaeth o wybodaeth Ysgrythyrol a chyffredinol, a medrai draethu ei feddwl gyda rhwyddineb a chywirdeb yn yr iaith Saesonig yn gystal a'r Gymraeg. Pregethai yn ddoniol a gwresog. Ni ddarfu i un gweinidog yn Nghymru wneyd mwy o ddaioni mewn cyn lleiad o amser, a than gymaint o anfanteision, na'r gweinidog rhagorol a gweithgar hwn. Mae yn anrhydedd i'r eglwys a'i cyfododd i bregethu, a bu yn fendith anmhrisiadwy i'r eglwysi a gawsant eu breintio a'i lafur.
HOREB, TREFORIS
Yr oedd Mr. Thomas Davies, gweinidog y capel hwn, wedi bod yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr ardal er's amryw flynyddau, a nifer o'i gyfeillion yn awyddus am ddyogelu ei wasanaeth yn yr ardal fel gweinidog, ac i'r dyben hwnw cymhellasant ef i uno a hwy i gyfodi achos newydd. Cydsyniodd a'u cais, a phregethodd yn ei dŷ ei hun ar yr ail Sabboth yn Ebrill, 1842. Y Sabboth canlynol pregethodd yn nhy John Evans, Edward-street, a pharhawyd i gynal y moddion yn y tŷ hwnw am dri mis. Yna ardrethwyd swyddfa hen waith y Clundu, am yr ardreth flynyddol o dair punt. Yn y lle hwnw corpholwyd yr eglwys, ac urddwyd Mr. Davies gan y brodyr heb alw un gweinidog i gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Er nad oedd yr achos hwn yn rhwygiad o unrhyw eglwys, etto, gan iddo gael ei gychwyn heb ymgynghori a'r eglwysi a'r gweinidogion cymydogaethol, nid ystyrid ef y pryd hwnw yn achos rheolaidd, ac felly penderfynodd y brodyr urddo eu gweinidog eu hunain. Tua yr amser hwn cafwyd darn helaeth o dir at adeiladu capel a chladdu y meirw gan L. W. Dillwyn, Ysw., am yr ardreth o swllt y flwyddyn. Hyd y les yw mil ond un o flynyddoedd. Traddodwyd pregeth ar y sylfaen yn mis Hydref, 1842, gan Mr. D. Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Abertawy. Yn nghyfarfod Calan, Castellnedd, yn 1843, rhoddwyd cais at y cyfeillion yn y lle hwn i osod eu hunain dan nawdd Cyfarfod Chwarterol y sir, a chydymffurfio a threfn arferol yr enwad gyda golwg ar urddiad eu gweinidog. Cydsyniwyd a'r cais, a chynaliwyd cyfarfod urddiad Mr. Davies Gorphenaf 24ain, 1843, pryd y gweinyddwyd gan y Meistri W. Thomas, Glais; D. Jones, Clydach; E. Griffiths, Abertawy, a J. Davies, Mynyddbach. Rhwng muriau y capel, yr hwn oedd y pryd hwnw heb ei dỗi, y cynaliwyd y cyfarfod hwn. Cyn gynted ag y gosodwyd tô a ffenestri i'r capel aeth y gynnulleidfa iddo. Yn raddol gorphenwyd ef trwy osod eisteddleoedd &c. ynddo. Ebrill 7fed, 1844, y dechreuwyd cynal gwasanaeth rheolaidd ynddo, pryd y pregethodd Mr. W. Rees, o athrofa Lancashire, yn awr offeiriad Llanboidy. Yn mhen tua blwyddyn ar ol hyn bu raid gosod oriel ynddo, oherwydd fod y gynnulleidfa wedi myned yn rhy luosog i lawr y capel i'w chynwys. Rhagfyr 10fed a'r 11eg, 1845, cynaliwyd cyfarfod agoriad ar ol gorphen yr oriel, a phob peth arall perthynol i'r adeilad, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Meistri P. Griffiths, Alltwen; W. Morgans, Troedyrhiw; W. Thomas, Rock; J. Evans, Crwys; E. Jacob, Abertawy; E. Watkins, Canaan; W. Morris, Glandwr, ac eraill. Maint y capel hwn oedd 36 troedfedd wrth 31 o fewn y muriau. Traul yr adeiladaeth, trefnu a chau oddiamgylch y fynwent &c., oedd rhwng 600p. a 700p., a thalwyd y cwbl trwy ymdrechion diattal y gweinidog a'i bobl ffyddlon. Erbyn y flwyddyn 1869 yr oedd y capel hwn wedi myned yn rhy fychan fel y bu raid ei dynu i lawr ac adeiladu un llawer helaethach. Gosodwyd careg sylfaen y capel newydd prydnawn dydd Sadwrn, Awst 28ain, 1869, gan Miss Hughes, (Morfuad Glantawy,) yn ngwydd torf fawr o edrychwyr, y rhai a anerchwyd gan y Meistri F. Samuel, a Dr. Rees, Abertawy; R. Rowlands, Llansamlet; W. Cuthbertson, B.A., Bishop Stortford, a J. Davies, Caerdydd. Rhoddodd Miss Hughes 20p., a'i thad, R. Hughes, Ysw. 10p., at draul yr adeiladaeth. Gorphenwyd y gwaith ac agorwyd y capel Rhagfyr 3ydd, 4ydd a'r 5ed, 1870. Pregethwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan Dr. Rees, Abertawy; y Meistri J. Davies, Taihirion; E. Griffiths, Abertawy; J. Roberts, a J. Mathews, Castellnedd; T. Johns, Llanelli; R. Morgans, Glynnedd; R. Morgans, Aberafan; J. Ll. Jones, Crwys, a J. Thomas, Bryn. Mae y capel hwn yn un o'r rhai harddaf yn yr holl ardal, ac ysgoldy eang odditano. Costiodd tua 2,300p., ac y mae y gynnulleidfa ffyddlon wedi easglu 700p. o'r swm hwn yn y ddwy flynedd ddiweddaf. Maint y capel prydferth hwn yw 55 troedfedd wrth 45.
Mae Mr. Davies er dechreuad yr achos yma yn 1842, wedi derbyn dros 1200 o aelodau i'r eglwys. Rhai o honynt yn hen iawn a rhai yn ieuaingc iawn. Erbyn hyn y mae tua 300 o honynt wedi marw, a chanoedd eraill wedi cael eu gwasgaru gan Ragluniaeth i wahanol ardaloedd a gwledydd. Nifer y gynnulleidfa yn bresenol, rhwng aelodau a gwrandawyr yw tua 500. Yn mysg y ffyddloniaid a fuont feirw gellid enwi David Jones, Tanyard; David Jones, Gwehydd; John David, David John, Jonah Francis, Mary Anne Hopkin, Martha Rees, Hannah Davies, gwraig y gweinidog, a Mary Charles.
Y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon ydynt y rhai canlynol :— John Davies, gweinidog yr eglwysi yn y Taihirion, Bronllwyn, a'r Efail-isaf, Morganwg.
Samuel Jones, gynt o Benmorfa, sir Gaernarfon.
Lot Jenkins, yr hwn a urddwyd yn Pomeroy, Ohio, America, ac a symudodd oddiyno i St. Clairs, yn nhalaeth Pennsylvania, lle y bu farw yn mlodau ei ddyddiau er mawr alar i bobl ei ofal a'i frodyr yn y weinidogaeth.
William Thomas. Ymfudodd yntau i'r America, ac yno ymunodd a'r Wesleyaid.
Thomas Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Lancashire, a chafodd ei urddo yn Runcorn, ond ymfudodd yn fuan oddiyno i South Australia, lle y mae yn bresenol.
William Davies. Y mae ef yma etto yn bregethwr cynorthwyol defnyddiol.
Rhif yr aelodau yma yn awr yw tua dau gant a haner, ac y mae golwg lewyrchus ar yr achos. Mae llwyddiant mawr fel y gwelir wedi bod ar lafur Mr. Davies yn y lle hwn, ac y mae y ffeithiau a goffawyd yn llefaru yn gryfach dros weithgarwch yr eglwys a'r gweinidog nag unrhyw ganmoliaeth a allwn ni ei roddi.
TANYGRAIG.
Mae y lle hwn ar lan y mor yn y rhan isaf o blwyf Llansamlet, tua milldir a haner i'r dwyrain o dref Abertawy. Mae yma yn bresenol gryn lawer o drigolion, ac y mae yr ardal yn debyg o gynyddu yn ddirfawr yn ei phoblogaeth yn dra buan. Bu ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yn y gymydogaeth hon gan y Methodistiaid am rai blynyddau, ond oherwydd difaterwch y trigolion rhoisant yr ysgol a'r pregethu heibio. Yn mhen ychydig wedi hyny, sef tua y flwyddyn 1856, cychwynwyd pregethu achlysurol yma drachefn gan Mr. J. Rees, gweinidog Canaan, yn nhŷ Mr. Morgan Huzzey, yn agos i waith copr Porttenant. Ar symudiad Mr. M. Huzzey o'r ardal, rhentiodd Mr. Rees anedd-dŷ at gadw ysgol a phregethu, a buwyd yn cadw moddion yn y tŷ hwnw am ddwy flynedd. Preg thid hefyd yn fynych yn nhy Mr. Thomas Davies. Pan ddaeth Mr. William Thomas, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol yn Nghanaan, i fyw i'r ardal, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yma bob nos Sabboth; a phan y bu raid rhoddi y tŷ yn yr hwn y pregethid i fyny, agorodd Mr. David Williams, Cigydd, ei ddrws i'r Arch, ac yno y buwyd yn addoli nes adeiladu y capel. Ffurfiwyd yma eglwys, yn benaf o aelodau a ollyngwyd o Canaan, ac agorwyd y capel Hydref 9fed a'r 10fed, 1860. Mr. Rees fu yn gofalu am y lle fel gweinidog hyd ei symudiad i Rodborough, ond cynorthwyid ef yn achlysurol gan weinidogion y gymydogaeth. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1867, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. D. T. Jones, o goleg Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma Mai 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd a'r yr achlysur gan Dr. Rees, Abertawy; J. Rees, Rodborough; B. Williams, Canaan; W. Morgan, Caerfyrddin; E. Griffiths, Abertawy; E. Owens, Clydach, ac eraill. Gan fod yr eglwys yn ychydig o rif a gwan addawodd eglwysi y dref a'r gymydogaeth roddi iddynt ychydig gynorthwy i wneyd i fyny gyflog y gweinidog am beth amser. Bu Mr. Jones yn llafurio yma, ond heb gael ei galonogi gan nemawr o lwyddiant, hyd nes yr ymfudodd i'r America yn 1870. Oddiar ei ymadawiad ef y mae gweinidogion y gymydogaeth, yn nghyd a'r brodyr W. Thomas a W. Harris, y rhai sydd yn aelodau yn y lle, yn llenwi lle gweinidog sefydlog. Gwan a lled ddilwyddiant y mae yr achos hwn wedi bod er y dechreuad, ond y mae yr ychydig bobl sydd yma mor ffyddlon, haelionus, ac ymdrechgar ag unrhyw eglwys yn y Dywysogaeth. Costiodd y capel, heblaw llogau y ddyled, 600p., ac y mae yr ychydig frodyr a chwiorydd sydd yma wedi tynu y swm hwn i lawr i 350p., heb gael ond y peth nesaf i ddim o gymhorth y tu allan i'w hardal. Pe byddai llawer o eglwysi lluosog Cymru yn cyfranu yn ol eu rhif fel y bobl hyn byddai ganddynt filoedd yn flynyddol i'w rhoddi at achosion cyhoeddus. Yr ydym yn hyderu y ca yr ychydig ffyddloniaid yn y lle hwn eu talu yn dda am eu ffyddlondeb trwy gael byw i weled y bychan wedi myned yn fil a'r gwael yn genedl gref.
FABIAN'S BAY.

Un o faesdrefi mwyaf cynyddol Abertawy, ar y tu dwyreiniol i'r afon, yw y lle hwn. Mr. Rees, Canaan; Mr. Griffiths, Abertawy; Mr. Jones, Heolycastell, a Dr. Evan Davies fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos hwn yn y flwyddyn 1861. Wedi cael allan fod mwyafrif dirfawr trigolion y gymydogaeth yn siarad yr iaith Saesonaeg, ac i raddau mawr yn anwybodus o'r Gymraeg, barnasant fod yma angen achos Saesonig. Cymerwyd anedd-dŷ yn y gymydogaeth at gadw ysgol Sabbothol a moddion crefyddol eraill, ac yn mhen ychydig corpholwyd yno eglwys. Cymerwyd tir mewn man cyfleus at adeiladu addoldy, ac yn nechreu y flwyddyn 1862 adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar ddarn o'r tir, yn cynwys 235 o eisteddleoedd, ac esgynlawr cyfleus i'r pregethwr i sefyll arno. Gadawyd digon o dir o flaen yr ysgoldy i adeiladu y capel heb gyffwrdd a'r adeilad hono. Aeth traul yr adeiladaeth, rhwng llogau a phethau eraill, tua 400p. Trwy ymdrech yr eglwys fechan, yn cael ei chynorthwyo gan yr eglwysi yn y dref a'r ardal, yr oedd y ddyled erbyn diwedd y flwyddyn ddiweddaf wedi ei dynu i lawr i 200p., a chymerodd eglwys Ebenezer, Abertawy, at y swm hwn er mwyn i'r eglwys ieuangc yn Fabian's Bay gael ei dwylaw yn rhyddion i ymgymeryd a'r gorchwyl o adeiladu capel, oblegid mae yr ysgoldy er's amryw fisoedd wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Bwriedir yn ddioed adeiladu yma gapel digon eang i gynwys pum' cant o wrandawyr. Gosodwyd ei gareg sylfaen i lawr gan H. O. Wills, Ysw., o Gaerodor, Hydref 13eg, 1871, a disgwylir y bydd yr adeilad yn barod cyn pen blwyddyn. Y gweinidog cyntaf yma oedd un William Jones, a bu yma am tua dwy flynedd; ond gan nad oedd ei fuchedd yn deilwng o'r Efengyl bu ei ymadawiad a'r lle yn fantais i'r achos. O'r flwyddyn 1864 hyd 1868 bu yr eglwys yn benaf dan ofal Mr. W. Lloyd. Abertawy, yn cael ei gynorthwyo gan Meistri E. Griffiths, F. Samuel, T. Rees, ac eraill o weinidogion y dref. Yn Ebrill 1861, symudodd Mr. J. Thomas yma o Dredegar, ac y mae yn parhau i lafurio yma ac ar y Sandfields. Am y ddwy flynedd gyntaf ni bu llafur Mr. Thomas yma mor llwyddianus ag y disgwyliasai ef a'i gyfeillion iddo fod, oherwydd rhyw amgylchiadau anffafriol, ond er's yn agos i flwyddyn bellach mae yr Arglwydd yn ymddangos fel yn gwenu yn neillduol ar y lle, a rhai degau wedi cael eu hychwanegu at yr achos. Mae rhif yr aelodau yn bresenol tua haner cant, ac y mae pob sail i obeithio pan y ceir yma gapel newydd y ceir ychwanegiad mawr at yr eglwys a'r gynnulleidfa. Mae yma ysgol Sabbothol lewyrchus er dechreuad yr achos.
Y SANDFIELDS.
Y rhan isaf o dref Abertawy a elwir wrth yr enw hwn. Mae yn y rhan hon o'r dref o saith i wyth cant o anedd-dai gweithwyr, a thebygolrwydd yr adeiledir yma lawer yn ychwaneg yn dra buan. Yn y flwyddyn 1866 cymerodd Dr. Rees, ddarn o dir ar les o 499 o flynyddau gan E. M. Richards, Ysw., A.S., a'i frodyr, ac adeiladodd arno ysgoldy, o'r un faint a'r un cynllun a'r ysgoldy yn Fabian's Bay, yn y flwyddyn 1867. Y mae etto ddigon o dir o flaen yr ysgoldy at adeiladu capel pan y bydd galwad am dano. Pan orphenwyd yr adeilad dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yma gan weinidog a rhai o aelodau eglwys Ebenezer. Pan ddaeth Mr. J. Thomas yma o Dredegar yn 1868, rhoddwyd gofal y lle iddo ef. Corpholodd eglwys yma, a thrwy ei lafur ef a'i briod, yn nghyd a llafur dibaid Mr. Julias Smith, un o aelodau yr eglwys yn Walter Road, gyda yr ysgol Sabbothol, y mae yma eginyn achos yn cael ei gadw yn fyw, ac yr ydym yn gobeithio nad yw yr amser yn mhell pryd y gwelir yma eglwys gref a lluosog o'r dosbarth gweithiol o'r bobl. Yn yr iaith Saesonaeg yn unig y dygir y gwasanaeth yn mlaen yn y lle hwn. Traul adeiladaeth yr ysgoldy hwn oedd 278p., a thalwyd am dano o'r arian a gasglwyd gan Dr. Rees at adeiladu capeli Saesonig yn Abertawy.
WALTER ROAD, ABERTAWY.
Un o brif ddybenion T. Rees wrth symud o Cendl i Abertawy yn 1862, oedd gosod ei hun mewn amgylchiadau mwy manteisiol i wneyd rhywbeth yn effeithiol er helaethu dylanwad yr enwad Annibynol yn mysg Saeson y dref fawr a chynyddol hon. Yn y flwyddyn 1865 cymerodd ef a'r diweddar David Davies, masnachydd coed, ddarn o dir cyfleus yn Walter Road at adeiladu capel. Yna cawsant gan weinidogion, a rhai lleygwyr, yn y dref a'r gymydogaeth, i ymffurfio yn bwyllgor er cynllunio mesurau i fyned yn mlaen a'r adeiladaeth. Wedi cael addewidion am symiau da o arian gan Samuel Morley, Ysw., A.S., John Crossley, H. O. Wills, a C. Jupe, Ysweiniaid, a rhai Saeson haelionus eraill, penderfynwyd ceisio gan H. O. Wills, Ysw. i osod i lawr gareg sylfaen y capel newydd, yr hyn a wnaeth yn ngwydd torf fawr o edrychwyr yn Medi 27ain, 1866. Gan nad oedd etto ddigon o arian mewn llaw nac mewn addewid i gyfiawnhau y pwyllgor i fyned i gytundeb ag adeiladydd, gadawyd y gwaith i aros ar ol adeiladu y muriau o'r sylfaen at wyneb y ddaear. Ar ol hyn buwyd am tua dwy flynedd yn cynllunio ac yn casglu arian ac addewidion. Yn y cyfamser, ar anogaeth yr haelionus Mr. S. Morley, A.S., darfu i T. Rees gymeryd y Music Hall at bregethu a chadw ysgol Sabbothol, er casglu cynnulleidfa barod i fyned i'r capel newydd pan orphenid ef. Telid punt yr wythnos am wasanaeth y Music Hall, ond addawodd Mr. Morley 50p. y flwyddyn, a Mr. Jupe 10p., at gynorthwyo y gynnulleidfa newydd i ddwyn y draul. Ar y Sabboth cyntaf yn Ionawr 1867, pregethodd T. Rees yn y Music Hall yn y prydnawn a'r hwyr, i gynnulleidfaoedd lluosog o Saeson. O hyny allan cafwyd gweinidogion enwog o Loegr a Chymru i bregethu yno bob Sabboth. Nos Wener, Mawrth 8fed, 1867, cynaliwyd cyfarfod dan lywyddiaeth T. Rees, er corpholi eglwys. Ar y pryd rhoddodd lythyrau i ddeuddeg o aelodau yr eglwys yn Ebenezer i ddyfod i'r Music Hall i gychwyn yr achos newydd; daeth Mr. Richard Prust a'i wraig trwy lythyrau yno o Heolycastell; derbyniwyd hefyd ar y pryd unarddeg eraill, wyth o ba rai na fuasent yn aelodau erioed o'r blaen. Felly rhif y cymmunwyr y waith gyntaf oedd saith-ar-hugain. Y nos Sabboth canlynol, pregethodd T. Rees a gweinyddodd swper yr Arglwydd i'r eglwys ieuangc yn cael ei gynorthwyo gan Mr. D. Jones, B.A., Merthyr. Ar y pryd dewiswyd gweinidog Ebenezer yn weinidog i'r eglwys hon, a pharhaodd yn y cysylltiad hwn nes i Mr. Jones, y gweinidog presenol, ymsefydlu yma. Aeth yr achos rhagddo yn llwyddianus o fis i fis fel yr oedd rhif yr aelodau erbyn fod y capel newydd yn barod yn agos i gant.
Yn haf y flwyddyn 1868, cytunwyd a'r Meistri Thomas, Watkins, a Jenkins, adeiladwyr, Abertawy, am adeiladu y capel yn ol cynllun y Meistri Paull a Robinson, Manchester. Maint yr adeilad yw 96 troedfedd wrth 50 o fewn y muriau. Mae yr addoldy hwn, yn ol ei faint, yn un o'r capeli harddaf, cadarnaf, a mwyaf cyfleus yn y deyrnas. Costiodd o gwbl tua £5850. Casglodd T. Rees o'r swm hwn dros dair mil o bunau, yn benaf yn mysg y Saeson yn Lloegr. Rhoddodd Mr. S. Morley 700p., Mr. John Crossley 350p., Mr. C. Jupe 200p., Mr. H. O. Wills 100p., a Syr Titus Salt 100p. Mae etto tua 2400p. o ddyled yn aros. ond gan fod y gynnulleidfa mor luosog, cyfoethog, a haelionus, bydd y geiniog olaf wedi ei thalu yn dra buan. Eleni adeiladwyd ysgoldy eang yn ymyl y capel, yr hwn a gostiodd 800p., ac yr ydym yn deall fod y swm hwn agos oll wedi ei gasglu eisioes.
Pan orphenwyd y capel newydd cynaliwyd nifer o gyfarfodydd agoriadol nad ant yn fuan yn anghof gan drigolion y dref a'r gymydogaeth. Awst 26ain, 1869, pregethwyd yn y bore gan Mr. Thomas Jones, y pryd hwnw o Lundain, i dorf ddirfawr o wrandawyr. Yn hwyr yr un dydd pregethodd Mr. W. Cuthbertson, B.A. Awst 31ain a Medi 1af, traddodwyd pregethau Cymreig gan Dr. W. Rees, Liverpool, a Mr. J. Davies, Caerdydd. Ar y Sabboth, Medi 5ed, pregethwyd y bore a'r hwyr gan Dr. Halley, Llundain; a'r Sabboth canlynol pregethwyd yn y bore gan Mr. Thomas Binney, ac yn yr hwyr gan Mr. LI. D. Bevan, Ll.B. Nos Lun, Medi 13eg, diweddwyd y cyfarfodydd agoriadol, â chyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth S. Morley, Ysw., A.S. Yn y cyfarfod hwn darllenwyd papyr ar hanes yr ymdrech i gyfodi achosion Saesonig yn Abertawy, gan Mr. B. Williams, Canaan, a thraddodwyd areithiau cynhyrfus gan H. Richard, Ysw., A.S., Dr. Halley, Mr. Binney, Mr. Bevan, Dr. Rees, ac eraill.
Yr oeddid yn gobeithio er pan ddechreuwyd adeiladu y capel y llwyddesid, pan gawsid ef yn barod, i gael gwasanaeth Mr. Thomas Jones fel gweinidog i'r gynnulleidfa, ac ni chafodd y gobaith hwnw ei siomi. Yn nechreu y flwyddyn 1870 symudodd Mr. Jones yma o Lundain. Mae ei weinidogaeth wedi llwyddo i orlenwi y capel helaeth o wrandawyr cyson. Mae tua mil o bobl yn ei wrandaw agos bob Sabboth trwy y flwyddyn. Mae casgliadau yr eglwys a'r gynnulleidfa yn y ddwy flynedd ddiweddaf wedi dyfod i fyny i'r swm anrhydeddus o dros un cant ar ddeg o bunau yn y flwyddyn. Os parha yr Arglwydd i wenu ar yr achos hwn, fel y mae wedi gwneyd o'i gychwyniad hyd yn bresenol, bydd yr eglwys hon yn fuan yn un o'r rhai mwyaf llewyrchus, cyfoethog, a dylanwadol yn y deyrnas. Teimla ysgrifenydd yr hanes hwn, fel yr un fu a'r llaw flaenaf ganddo yn nghychwyniad yr achos newydd a llwyddianus yma, ei rwymau neillduol i'w frodyr ffyddlon yn y weinidogaeth, Mr. E. Griffiths, Mr. B. Williams, Mr. F. Samuel, a'r diweddar Mr. W. Humphreys, yn nghyd a'r Meistri W. Harries, John Prust, J. B. Pritchard, a D. Isaac Davies, a chyfeillion eraill yn y dref, am y cymhorth a'r calondid a roddasant iddo yn yr anturiaeth bwysig. Yr ydym oll yn awr, ar ol blynyddau o lafur a phryder diattal, yn alluog i ddyweyd, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen."
CADLE.

Mae y capel ar ben y tair milldir o dref Abertawy, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain i Lanelli a Chaerfyrddin. Gan fod yr ardal hon yn y canol rhwng yr hen gapeli yn y Mynyddbach, yr Ysgetty, a Rhydymardy, ac o fewn tair milldir i bob un o honynt, mae yn sicr fod amryw aelodau perthynol i bob un o'r lleoedd hyn yn preswylio yma er cychwyniad yr achos yn mhob un o'r cyfryw leoedd, ond ymddengys mai aelodau o'r Mynyddbach oeddynt yn fwyaf lluosog yma o oes i oes. Buont am ugeiniau o flynyddau yn cadw moddion crefyddol agos bob nos Sabboth ac ar nosweithiau o'r wythnos, yn y Wigfach, tŷ John Knoyle, ac anedd-dai eraill. Yn y flwyddyn 1838, pan ddechreuodd pethau fyned yn annymunol yn y Mynyddbach oherwydd y gweinidog Mr. Isaac Harries, penderfynodd yr aelodau a breswylient yn ardal Cadle ymneillduo o'r fam eglwys ac ymffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain. Rhoddwyd llythyrau gollyngdod i tua thriugain o honynt, a chawsant eu corpholi yn eglwys, Ionawr 13eg, 1839. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod gan y Meistri J. Evans, Crwys; D. Jones, Clydach, ac E. Griffiths, Abertawy. Buont yn addoli mewn tŷ-anedd nes i'w capel gael ei agoryd yn 1840. Bethlehem yw yr enw a roddwyd ar y capel. Yr oedd hwn yn dy prydferth a chyfleus, ac yn cynwys tua phedwar cant o eisteddleoedd; a mynwent helaeth o'i amgylch. Mr. David Jones fu y gweinidog yma mewn cysylltiad a Chlydach er amser corpholiad yr eglwys hyd ei farwolaeth ddisymwth yn Ionawr 1845. Wedi hyny buont dan ofal Mr. Thomas, Glandwr, hyd 1851, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. William Humphreys, yr hwn a urddwyd yma Chwefror 11eg a'r 12ed yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan y Meistri J. Evans, Crwys; J. Rees, Canaan; T. Jones, Treforis; T. Thomas, Glandwr; J. Davies, Cwmaman; T. Davies, ac E. Jacob, Abertawy; T. Rees, Cendl, a J. Davies, Llanelli, Brycheiniog. Bu Mr. Humphreys yn llafurio yma gyda llwyddiant nodedig mewn cysylltiad a'r Brynteg a Chwmbwrla, hyd o fewn llai na blwyddyn i amser ei farwolaeth, pryd y rhoddodd yr eglwys hon i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i'r Brynteg a Chwmbwrla. Yn y flwyddyn 1866, gan fod y capel a adeiladwyd yn 1840 wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, tynwyd ef i lawr ac adeiladwyd un llawer helaethach a harddach. Mae y capel presenol yn cynwys tua 600 o eisteddleoedd. Yn niwedd y flwyddyn 1869 rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. W.H. Thomas, Fochriw. Y mae Mr. Thomas a'r eglwys yn cyd-dynu yn ddymunol, a'r gwaith da yn myned rhagddo yn llwyddianus. Trwy ymdrech egniol y gweinidog, a chydweithrediad y gynnulleidfa a'r gymydogaeth, yn nechreu y flwyddyn hon (1871) adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar yr ochr ogleddol i'r heol gyferbyn a'r fynwent, at gadw ysgol ddyddiol anenwadol, ac y mae y sefydliad hwn yn sicr o fod yn fendith fawr i blant yr ardal. Gan fod y ddaear am filldiroedd yn mhob cyfeiriad oddiamgylch y lle hwn yn llawn glo, mae y boblogaeth yn sicr o gynyddu yn ddirfawr yma yn dra buan, ac y mae yn hyfryd meddwl fod eglwys gref a gweithgar yn y lle ar gyfer y cynydd sydd yn ei aros. Mae yr aelodau yn bresenol yn agos i ddau cant a haner o rif.
GWAUNARLWYDD.
Saif y lle hwn yn ymyl Gower Road Station, o fewn chwe' milldir i Abertawy. Glowyr ac amaethwyr yw y trigolion. Ugain mlynedd yn ol nid oedd ond dau neu dri o dai yn yr holl gymydogaeth, heblaw yr amaethdai oedd yma ac acw. Yn y flwyddyn 1833, dechreuwyd ysgol Sabbothol yn nhy John Lewis, Dilledydd, a elwir Wern, gan gyfeillion o'r Crwys. Y rhai mwyaf blaenllaw oedd David Griffiths, Cefngorwydd, a'i deulu; John Lewis, gwr y tŷ; John Higgs, Saer; Thomas Bowen, amaethwr; Evan Morris, hynaf, Evan Morris, ieu.; George Williams, Vexe Fach; Thomas Gibbs, Cefngorwydd Fawr, a John Thomas, Tygwyn. Bu yr ysgol yn y Wern ac yn Cefngorwydd am flynyddau lawer yn flodeuog iawn. Yn mhen blynyddau wedi dechreu yr ysgol hon gan bobl y Crwys, dechreuodd pobl Cadle ysgol mewn cwr arall o'r gymydogaeth. Yr oedd gweithiau glo yn awr yn dechreu cael eu hagor, tai yn cael eu hadeiladu, a'r boblogaeth yn cynyddu. Bu yr ysgol ddiweddaf a nodwyd yn symud o dŷ i dŷ, ac o'r diwedd unwyd y ddwy ysgol yn un. Yn fuan ar ol hyny cymerwyd tir i adeiladu ysgoldy, gan Mr. Henry Griffiths, Bryn Dafydd. Yr oedd Mr. Griffiths wedi prynu y tir a elwir Gwaunarlwydd gan yr Arglwydd Faenorydd (Lord of the Manor), a dyna paham y gelwir y lle ar yr enw uchod. Cymerwyd y tir Medi 29ain, 1852, ac adeiladwyd ysgoldy arno, a gwnaed hyny yn rhad iawn trwy garedigrwydd y cymydogion yn gweithio ac yn cludo defnyddiau ato. Y rhai mwyaf blaenllaw gyda'r gwaith heblaw Mr. John Evans, gweinidog y Crwys, oeddynt James Morris, hynaf, James Morris, ieu.; David Griffiths, Cefngorwydd; Thomas Bowen, Thomas Walters, Vexe Fawr; Benjamin George, Thomas Walters, Thomas Morgan, Heolyfelin, a William Thomas. Yn Gorphenaf 1858, corpholwyd yma eglwys gan Mr. John Ll. Jones, Crwys, a neillduwyd Thomas Bowen, James Morris, John Davies, a Thomas Walters, yn ddiaconiaid. Rhif yr aelodau oedd deg-ar-hugain. Yn mhen oddeutu blwyddyn rhoddodd Mr. Jones eu gofal i fyny; ond nid cyn cynyg adeil- adu capel iddynt a'u cynorthwyo i dalu am dano; ond yr oedd y cyfeillion yn y lle yn teimlo eu bod yn rhy wan ar y pryd i ymgymeryd a'r anturiaeth. Yn fuan wedi hyn daeth Mr. William Humphreys, Cadle, heibio y gymydogaeth, a dywedodd wrthynt fod yn rhaid iddynt gael capel ac heb ymdroi dim aeth i Abertawy, a gyrodd werth yn agos i haner can' punt o goed at adeiladu capel newydd. Dechreuwyd ar y capel yn y flwyddyn 1859, ac yr oedd yn barod y flwyddyn ganlynol, ac agorwyd ef Mehefin 24ain a'r 25ain, 1860. Yr oedd holl draul ei adeiladaeth yn 422p. 14s. 3c. Yn nechreu y flwyddyn 1861 rhoddwyd galwad i Mr. John Bevan e Maesteg, yr hwn oedd yn yr ysgol gyda Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont, ac urddwyd ef Mawrth 21ain, 1861. Y gweinidogion a gymerasant ran yn y gwasanaeth oeddynt y Meistri J. B. Jones, B.A., Penybont; J. Davies, Cwmaman; J. Joseph, Llanedi; T. Llewelyn, Mountainash; J. Thomas, Bryn; W. Rees, Maesteg; H. Evans, Penbre; J. Ll. Jones, Penclawdd; D. Rees, Llanelli; W. Humphreys, Cadle; J. Jones, Maesteg, a J. Daniel, Mynyddbach. Mae Mr. Bevan wedi llafurio yma er hyny hyd yn awr; ac y mae yr achos er dan lawer o anfanteision wedi myned rhagddo. Mae yr holl ddyled oedd ar y capel a'r ysgoldy sydd yn nglyn ag ef wedi ei thalu er's pedair blynedd. Mae prydles y capel yn fil ond un o flynyddau, am chwecheiniog yn y flwyddyn o ardreth. Mae pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus.
Codwyd yma un pregethwr, sef John D. Williams. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1864, a bu am naw mis yn yr ysgol gyda Dr. E. Davies, yn Abertawy, yn parotoi ar gyfer un o'r athrofeydd; ond dyryswyd ei holl amcanion-bu farw Mehefin 4ydd, 1866, a chladdwyd ef yn Waunarlwydd. Yr oedd yn fachgen ieuangc gobeithiol, ac yn cael ei barchu gan bawb a'i hadwaenai. Y mae agos yr holl rai ag oedd yn dwyn sel dros yr achos yn ei gychwyniad wedi myned at eu gwobr. Bu farw David Griffiths, Cefngorwydd, Mehefin 22ain, 1857. Yr oedd ef yn wr mawr yn Israel; bu yn ddefnyddiol iawn am flynyddau yn y Crwys— a'i dŷ yn gartref i weision yr Arglwydd. Benjamin George, yr hwn a fu farw Tachwedd 9fed, 1861, oedd ddyn da a ffyddlon iawn gyda'r achos y lle. Thomas Walters, yr hwn a fu farw Medi 26ain, 1866, oedd yn un o'r pedwar diacon a neillduwyd ar ddechreu yr achos yn y lle. Mae Thomas Thomas hefyd wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Teimlodd yr eglwys golled fawr ar ol y brodyr uchod, ond y mae yr Arglwydd wedi codi eraill i lanw eu lle.
RHYDYFRO.

Pentref bychan tua milldir a haner o Bontardawy, ar y ffordd sydd yn arwain oddiyno i Langadog, yw y lle hwn. Yn mhlwyf Llanguwg y mae. Nid oedd y gymydogaeth hon ychydig flynyddau yn ol ond lled deneu ei phoblogaeth, ac anghyfleus i'r ychydig drigolion i fwynhau breintiau crefyddol; ond er hyny yr oedd amryw bobl grefyddol yn byw yn yr ardal o oes i oes er's ugeiniau o flynyddau. Y Gellionen oedd addoldy yr ardalwyr hyn cyhyd ag y parhawyd i bregethu athrawiaeth efengylaidd yno. Wedi adeiladu capel Baran yn 1805, yno y byddai y rhan fwyaf o honynt yn cyrchu. O'r pryd yr adeiladwyd Baran hyd y flwyddyn 1828, nid oedd un math o foddion crefyddol yn cael eu cynal yn ardal Rhydyfro, oddieithr ambell bregeth achlysurol mewn anedd-dai. Yn y flwyddyn hono torodd diwygiad crefyddol grymus allan trwy yr holl wlad, a chafodd yr ardal hon, yn mysg ardaloedd eraill, ran o'r gawod fendithiol, ac ymunodd amryw o'r ardalwyr a'r eglwysi yn Baran, yr Alltwen, a Charmel Llanguwg. Tua yr amser hwn daeth William Hopkin i fyw i'r ardal, a bu yn offerynol i gael gan yr ychydig frodyr yn y gymydogaeth i osod i fyny gyfarfod gweddi bob nos Sabboth. Enwau y brodyr a unasant yn y gwaith da hwn gyda W. Hopkin oeddynt Howell Llewellyn, Evan Howell, Job Morgan a'i fab, Thomas Howell, Llewellyn William, a Dafydd Morgan; ac yn fuan wedi hyny ymunodd Owen Evans a hwy. Yr oedd hefyd yn eu mysg rai gwragedd rhagorol megis Catherine Llwyd, Margaret Edwards, a gwraig Hopkin Harry. Yn fuan ar ol hyn cafwyd pregethu lled gyson yn yr ardal. Byddai y naill neu y llall o'r pregethwyr ieuangc o ysgol Mr. Howells, Baran, yma agos bob nos Sabboth. Coffeir yn barchus am ffyddlondeb Mr. W. Williams, yn awr o Hirwaun, a Mr. John Jones, yr hwn a ymfudodd i'r America, yn ymweled a'r ardal hon pan yr oeddynt yn ysgol Baran. Wedi i bethau fod mewn agwedd lewyrchus iawn am dymor yma cyfododd ysbryd ymfudo yn yr ardalwyr, ac aeth amryw o'r crefyddwyr ffyddlonaf o'r ardal hon i'r America, a bu y cyfarfod gweddi yn agos i farw ar ol eu colli. Ond trefnodd Rhagluniaeth yn garedig i ragflaenu hyny trwy arwain hen frawd ffyddlon a nodedig o wresog o'r enw Dafydd Jones i fyw i felin Gelligron, tua y flwyddyn 1832. Bu ef yn foddion, nid yn unig i adfywio y cyfarfod gweddi, ond hefyd i gychwyn ysgol Sabbothol yn yr ardal, yr hon a fu o fendith ddirfawr i'r ieuengctyd ac eraill. Effeithiodd yr ysgol i luosogi y cynnulleidfaoedd a ddeuent i'r cyfarfodydd gweddio ac i wrando y pregethau, a theimlid fod yr anedd-dai yn anghyfleus iawn, yn enwedig at gynal yr ysgol. ngwyneb hyn aed i feddwl a siarad am adeiladu ysgoldy bychan at gadw yr ysgol, a moddion crefyddol eraill, ar brydnawn a nos y Sabboth, ond ni fwriedid llai na myned i fyny i Baran bob bore Sabboth. Penodwyd William Hopkin, Godregarth, ac Owen Evans, Llwynmudw, i fyned trwy yr ardal i gasglu addewidion at yr ysgoldy. Cawsant dderbyniad caredig ac addewidion mwy haelionus nag a ddisgwylient yn mhob man. Wedi galw yn mhob ty yn y Fro, aethant i'r Mynydd-dir, yn nghymydogaeth Baran, ar yr un neges, ond yn lle cymorth, sarugrwydd a gawsant gan mwyaf yno, am yr ofnid y buasent ar ol cael ysgoldy yn llwyr ymadael a'r fam eglwys, Darfu i angharedigrwydd pobl Baran, yn lle rhagflaenu ymadawiad pobl Rhydyfro, ei gyflymu. Pan welodd pobl y Fro fod pobl y Mynydd-dir yn wrthwynebol iddynt, yn lle adeiladu ysgoldy, fel y bwriadent, adeiladasant gapel o werth £320, heb un oriel ynddo. Dechreuwyd adeiladu yn y flwyddyn 1843, ac wedi gorphen y gwaith ymadawodd tua deugain o'r aelodau o Baran, a chorphelwyd hwy yn eglwys Annibynol ar y 10fed dydd o Ionawr, 1844. Cymerodd Mr. Pryse, Cwmllynfell, yr hwn yn flaenorol oedd yn weinidog yr eglwys yn Baran, ofal y gangen hon, a pharhaodd ei gysylltiad a hi fel eu gweinidog hyd derfyn ei oes. Llwyddodd yr achos yn rhyfeddol dan ei ofal ef, fel yr oedd yr eglwys flynyddau cyn ei farwolaeth yn fwy na chant o aelodau, yr hyn oedd yn nifer fawr i ardal gyfyng a chymharol deneu ei phoblogaeth. Mae oriel wedi ei gosod yn y capel er's blynyddau bellach, y fynwent wedi cael ei harddu, a thy capel cyfleus wedi ei adeiladu yn ymyl, a'r cwbl yn ddiddyled. Wedi byw ar weinidogaeth achlysurol am oddeutu blwyddyn ar ol marwolaeth eu gweinidog parchus, rhoddodd yr eglwys hon ei hun yn 1870 o dan ofal Mr. John Jones, mewn cysylltiad a Charmel, Llanguwg, a'r Gwrhyd. Cymerasom y rhan fwyaf o'r hanes hwn o law ysgrifen Mr. Pryse, Cwmllynfell, yr hon a ysgrifenwyd ganddo lai na blwyddyn cyn ei farwolaeth.
CASLLWCHWR.
Saif y fwrdeisdref fechan hon ar lan yr afon Llwchwr, yr hon a rana rhwng siroedd Morganwg a Chaerfyrddin. Mae yn saith milldir i'r gogledd-orllewin o Abertawy, a phedair i'r de-ddwyrain o Lanelli. Fel y nodasom eisioes, mewn anedd-dy yn nhref uchaf Casllwchwr dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Brynteg. Y mae Rhydymardy, lle bu yr eglwys am oesau yn addoli, a'r Brynteg lle yr addola yn awr, tua milldir a haner o dref isaf Casllwchwr. Nid oedd cymaint a hyny o ffordd i fyned i le o addoliad ond bychan yn nghyfrif yr hen bobl selog gynt, ond yn awr bernir yn ddoeth, os na cheir gan bobl fyned at yr Efengyl, fyned a'r Efengyl atynt hwy, a dichon ein bod ni yn hyn yn gweithio yn fwy effeithiol er Efengyleiddio yr holl wlad nag y gwnelai ein tadau. Yr oedd degau o bobl yn Nghasllwchwr na chymerent y drafferth i gerdded ffordd arw o fwy na milldir er mwyn gwrando yr Efengyl. Pan oedd Mr. I. Williams, yn awr o Drelech, yn fyfyriwr yn y Crwys, ac wedi hyny yn weinidog yn y Brynteg, aeth i bregethu yn achlysurol i anedddai yn Nghasllwchwr, a sefydlodd gyfarfod gweddio wythnosol yno, yn nhy Dafydd Harri, yn agos i'r fan y saif y capel yn awr. Tra y bu Mr.. Williams yn y Brynteg methwyd a llwyddo i gael tir at adeiladu capel arno. Ar ol ei ymadawiad ef i Drelech ni bu nemawr o lewyrch ar bethau yn Nghasllwchwr nes i Mr. W. Humphreys ymgymeryd a'r weinidogaeth yn y Brynteg yn y flwyddyn 1854. Ail gychwynodd ef y moddion crefyddol yn nhref isaf Casllwchwr, ac aeth pethau yn mlaen yno yn fwy llewyrchus a gobeithiol nag o'r blaen. Yn fuan deallwyd fod hen dafarndy o'r enw Hope and Anchor ar werth. Prynwyd ef gan Mr. John Evans, Bryncoch, un o ddiaconiaid y Brynteg, a rhoddodd le yn rhad i adeiladu capel ar safle yr hen dafarndy, ac felly trowyd synagog Satan yn fan i addoli y Goruchaf. Yn nechreu y flwyddyn 1857 dechreuwyd adeiladu y capel, yr hwn a elwir Horeb. Costiodd yn agos i 500p. Yn Ionawr 1858, corpholwyd eglwys ynddo o bedwar-ar-ddeg o aelodau, a ollyngesid o'r Brynteg, y Crwys, a'r Bryn, Llanelli. Pan ddechreuwyd adeiladu y capel yr oedd pob peth yn ymddangos yn obeithiol iawn, ond cyn ei orphen safodd gwaith copr yr Ysbytty, ar yr hwn yr ymddibynai y rhan fwyaf o'r trigolion am eu cynaliaeth. Y canlyniad fu i luaws symud o'r ardal, fel nad oedd ond ychydig iawn wedi eu gadael i fyned a'r achos mlaen ar ol cael y capel yn barod. Felly ymdaenodd cwmwl du dros yr ardal ar gychwyniad yr achos. Pa fodd bynag, gweithiodd Mr. Humphreys, a'r ychydig bobl a adawyd yn yr ardal, yn egniol, a chadwyd yr achos yn fyw er pob anfantais. Yn mhen tua thair blynedd, sef yn 1861, rhoddodd Mr. Humphreys ofal Casllwchwr i fyny er mwyn rhoddi rhan o'i lafur at gyfodi achos yn Nghwmbwrla, a chanlynwyd ef yn Nghasllwchwr gan Mr. J. Thomas, Bryn, y gweinidog presenol. Mae Mr. Thomas wedi bod yn llwyddianus iawn yma o'r flwyddyn 1861 hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1869 rhoddwyd ail fywyd i fasnach yr ardal trwy ail gychwyniad gwaith yr Ysbytty. Dygodd hyn lawer o bobl i fyw i'r lle, yr hyn a fu yn gryn gryfhad i'r achos. Daeth yma amryw ddynion da trwy lythyrau o eglwysi eraill, a chafodd niferi hefyd eu derbyn o'r byd yn ddiweddar, fel y mae yr achos yn bresenol mewn agwedd obeithiol a thra llewyrchus. Mae yr ysgol Sabbothol yn lled fywiog, yr eglwys yn cynnyddu yn barhaus, a'r gwrandawyr yn lluosogi, a'r ddyled ar y capel wedi ei symud oll hyd o fewn saith bunt a deugain. [10]
Y GLAIS.
Mae y capel hwn yn y cwr uchaf o blwyf Llansamlet, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain o Glydach i Gastellnedd. Fel y nodasom yn hanes Clydach, dechreuwyd yr achos hwn gan nifer o aelodau Hebron, Clydach, y rhai a lynasant wrth Mr. William Thomas, pan drowyd ef o'r weinidogaeth yn y lle hwnw. Bu yr eglwys fechan hon yn ymgynnull i addoli mewn anedd-dy, o'r enw Cefnygarth, o'i dechreuad yn y flwyddyn 1834, hyd 1841, pryd yr adeiladwyd capel y Glais. Mr. William Thomas fu yn gweinidogaethu yma o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1847, pryd yr ymadawodd o'r ardal. Yn 1848, rhoddwyd galwad i Mr. John Rees, mewn cysylltiad a Charmel, Llanguwg, a bu yr eglwys dan ei ofal ef hyd y flwyddyn 1853. Dilynwyd Mr. Rees yma yn yr un flwyddyn gan Mr. David Evans, mewn cysylltiad a Chlydach. Ar ymadawiad Mr. Evans, rhoddwyd galwad i Mr. E. Owen gan y ddwy eglwys yn Nghlydach a'r Glais, ac efe ydyw y gweinidog yma er y flwyddyn 1861. Gan fod y gynnulleidfa yn cynyddu bu raid tynu y capel cyntaf i lawr yn 1865, ac adeiladu yr un presenol. Mae hwn yn gapel hardd ac o wneuthuriad cadarn, cynwysa tua 400 o eisteddleoedd, ac nid oes ond ychydig o ddyled yn aros arno.
Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:—
D. G. Morgan. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1860. Ar ol gorphen ei amser yn athrofa Aberhonddu, ymsefydlodd yn weinidog ar yr eglwys Gymreig yn Stockton-on-Tees, lle y mae hyd yn bresenol.
Thomas J. Rees. Dechreuodd bregethu yn 1869. Mae yn bresenol yn yr ysgol gyda Mr. Jones, Penybont-ar-ogwy, yn parotoi i fyned i'r athrofa.
Mathew Griffiths. Dechreuodd ef bregethu gyda'r Wesleyaid, ond y mae er's tua dwy flynedd wedi ymuno a'r eglwys hon, ac yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yma.
Joseph Griffiths. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1870.
Bu Richard Thomas, Danycoed; David Jones, y gof, a William Baker, yr hwn a grybwyllasom yn hanes Clydach, yn aelodau selog ac yn ddiaconiaid defnyddiol yn yr eglwys hon o ddechreuad yr achos hyd derfyn eu hoes.
Mae yr achos yma yn awr mewn agwedd lewyrchus iawn, a chan fod poblogaeth yr ardal yn debyg o gynyddu am flynyddau etto, mae yn dra sicr y bydd yma eglwys luosog iawn cyn pen nemawr o flynyddau.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
WILLIAM THOMAS. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1806, yn ardal Penygroes, sir Benfro. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. John Evans, yn Mhenygroes, pan yn lled ieuangc. Aeth yn fuan wedi hyny i Lundain i weithio ei gelfyddyd fel saer, ac fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach, daeth o Lundain i ardal Abertawy, a dechreuodd bregethu yn y Mynyddbach. Aeth oddiyno i athrofa y Neuaddlwyd, lle y bu nes iddo dderbyn galwad o Glydach. Pan ddarfu ei gysylltiad a Chlydach tua diwedd y flwyddyn 1833, darfu iddo ef, a'r ychydig gyfeillion o lynasant wrtho, ddechreu achos yn y Glais. Yn y flwyddyn 1847, aeth i Rhymni, lle y bu am tua dwy flynedd yn dilyn ei alwadigaeth fel saer, ac yno y bu farw o'r geri marwol yn mis Medi, 1849.
Yr oedd rhyw gymysgedd rhyfedd o ragoriaethau a diffygion yn Mr. W. Thomas. Er nad oedd yn ysgolhaig nac yn feddyliwr galluog, etto, yr oedd yn dalp o ddawn byw. Ymadroddai yn rhwydd, ac yr oedd pereidd-dra ei lais yn ddigyffelyb. Yr oedd ganddo rhyw fedr diail i weithio ei hun i serchiadau pob dyn a gymerai ei lywodraethu yn fwy gan ei deimladau na chan ei reswm. Pe buasai William Thomas yn fwy o ddyn ac yn llai o blentyn, yn ddirwestwr, yn lle bod yn ddiotwr, ac yn meddu rhyw fesur o'r difrifoldeb gofynol i'r swydd bwysig yr ymgymerodd a 'hi, gallasai fod yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol, er nad y mwyaf enwog, yn ei oes.
PANTYCRWYS.
Mae y lle hwn yn agos i flaen Cwmclydach, yn mhlwyf Llangafelach. Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd yma ysgoldy bychan yn mesur o fewn y muriau 23 troedfedd wrth 15. At gadw Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol y bwriedid ef. Cafodd y ty hwn ei agor Gorphenaf 27ain, 1862, pryd y pregethwyd gan Meistri P. Griffiths, Alltwen; R. Pryse, Cwmllynfell; J. Rees, Canaan, ac E. Owen, Clydach. Y personau fuont a'r llaw flaenaf gyda chychwyniad yr achos hwn oeddynt Mr. Thomas Davies, gweinidog yr eglwysi yn Horeb, Treforis, a Baran; Llewellyn Bevan, John Thomas, Evan Thomas, Morgan Thomas, Thomas Thomas, a'i feibion, Thomas a Stephen, yn nghyd a rhai eraill o aelodau Baran; David Davies a'i wraig, aelodau o Rydyfro, a Howell Hopkin, aelod o Glydach. Ar ol cael ty cyfarfod yn eu bardal blinodd y bobl yn fuan fyned i Baran, a manau pellenig eraill i addoli. Ni buont yn dawel nes iddynt gael eu ffurfio yn eglwys, yr hyn a wnaed yn mis Awst, 1866, gan Mr. T. Davies, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. John Howells, un o ddiaconiaid y fam-eglwys yn Baran. Ar y pryd hwnw cafodd David Davies ei neillduo yn ddiacon, a gwasanaethodd ei swydd yn ffyddlon nes iddo gael ei symud yn ddisymwth trwy ddamwain angeuol yn y gwaith.
Ar ol ffurfio yr eglwys, a chael moddion crefyddol cyson bob Sabboth cynyddodd y gynnulleidfa yn raddol fel y bu raid helaethu y ty yn 1869. Mae yn bresenol yn mesur 33 troedfedd wrth 23 y tu fewn i'r muriau, ac nid yw y ddyled sydd yn aros arno ond ugain punt. Mae rhif yr aelodau yn awr yn 65, a'r gwrandawyr tua yr un rhif, neu ychydig yn rhagor. Er nad oes fawr dros naw mlynedd er pan gychwynwyd yr achos hwn y mae amryw o'i gychwynwyr wedi cael eu rhifo yn mysg y meirw, megis Joseph Rees, Cynhordy, a'i wraig; David Davies, a'i wraig; gweddw John Thomas, a Hannah Davies, a'i mherch. Dan ofal gweinidogaethol Mr. Davies, Treforis y mae yr achos hwn wedi bod o'r dechreuad, ac yr ydym yn hyderu mai dan ei ofal ef y bydd am flynyddau etto. Gan fod cyflawnder o lô yn y ddaear oddiamgylch y lle hwn, mae yn debygol y bydd yma boblogaeth fawr yn mhen ychydig flynyddau.
BIRCHGROVE.
Pentref bychan, ond yn cynyddu yn gyflym, yw Birchgrove, ar lechwedd prydferth yn mhlwyf Llansamlet, tua milldir i'r gogledd o Bethel, ac ychydig yn fwy na milldir i'r de o'r Glais. Mae wedi cael ei enw oddi wrth y fferm, ar ran o ba un y mae wedi ei adeiladu. Wrth weled y lle hwn yn cynyddu yn ei boblogaeth, darfu i Mr. J. Rees, gweinidog Canaan a Bethel, yn 1862, adeiladu ysgoldy cyfleus yma at gadw ysgolion dyddiol a Sabbothol, yn nghyda chyfarfodydd gweddio a phregethu achlysurol. Llwyddodd y gwaith da yma i gymaint o raddau fel y barnodd Mr. R. Rowlands, a'i bobl yn Bethel, mai doeth fuasai corpholi yr aelodau a breswyliant yn Birchgrove yn eglwys Annibynol, yr hyn a wnaed Hydref 18fed, 1868. Aeth yr ysgoldy yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr, ac felly penderfynwyd adeiladu capel. Cafwyd y tir ar lês o 999 o flynyddau am un pupuren yn y flwyddyn gan Mr. Smith, Birchgrove. Agorwyd y capel newydd y Sul a'r Llun, Hydref 15fed a'r 16eg, 1871. Mae yn adeilad tlws dros ben, yn mesur 36 troedfedd wrth 36 dros y muriau, ac wedi ei wneyd yr un hyd a lled mewn trefn iddo gael ei helaethu wrth ychydig o draul pan y byddo galwad am hyny. Y draul oedd rhwng 600p. a 700p. Y mae tua 200p. o'r swm hwn wedi eu talu. Mae pob sail i ddisgwyl y bydd yn fuan achos cryf iawn yn y lle prydferth hwn. Mae yr eglwys hon dan ofal Mr. Rowlands mewn cysylltiad a'r fam-eglwys yn Bethel. Bu Mr. Griffiths, Abertawy yn pregethu yn fisol yma er dechreuad yr achos hyd yn bresenol, ac y mae yn debyg o wneyd hyny etto tra y parhao ei nerth.
MAESYRHAF, CASTELLNEDD.
Yr eglwys a ymgyferfydd yn y capel hwn yw yr eglwys Ymneillduol henaf yn y parth hwn o Forganwg. Nid oes genym ddefnyddiau i roddi hanes manwl o ddechreuad yr achos. Mae yn sicr fod rhai o drigolion y dref a'r ardal hon wedi cofleidio golygiadau Puritanaidd er yn fore iawn. Yr oedd Robert Powell, yr hwn oedd yn Buritan selog, yn weinidog plwyf Llangattwg oddiar 1622, a bu yno hyd ryw amser ar ol 1649. Nis gallasai gweinidog o ddoniau, gweithgarwch, a golygiadau efengylaidd Robert Powell fod am gynifer o flynyddau mewn ardal heb ennill llawer o ddysgyblion. Dilynwyd Mr. Powell yn Llangattwg gan Mr. Jenkin Jones, ryw amser rhwng 1649 a 1660. Yr oedd Jenkin Jones, fel y gwyddys, nid yn unig yn Buritan, ond hefyd yn Ymneillduwr selog. Mae yn debyg mai efe sydd i'w ystyried fel sylfaenydd yr achos sydd yn awr yn Maesyrhaf, oblegid, "Eglwys Llangattwg" y gelwid yr eglwys hon gynt. Nis gallwn benderfynu pa gymaint o amser cyn adferiad Siarl II. y cafodd ei chorpholi. Yn ddioed ar ol adferiad y brenin gorfodwyd Jenkin Jones gan erledigaeth i ffoi o'r ardal. Cymerwyd gofal ei bobl ar ol ei ymadawiad ef gan Mr. Robert Thomas, yr hwn a droisid allan o eglwys plwyf Baglan. Efe oedd y gweinidog yn 1669 ac yn 1675, [11] a pharhaodd yn y cysylltiad hwn a'r eglwys hon yn nghyd ag eglwys Ty'rdwncyn a'u canghenau hyd ei farwolaeth tua'r flwyddyn 1693. Dywedir fod "Eglwys Llangattwg," yn ei amser cyntaf ef fel ei gweinidog, yn gynwysedig o Annibynwyr, Bedyddwyr, a gwrth-fedyddwyr, hyny yw, dynion yn gwrthwynebu pob math o fedydd dwfr, ond mae yn debygol i'r Bedyddwyr ymneillduo o honi yn hir cyn marwolaeth Mr. Thomas, ac hefyd i'r gwrth-fedyddwyr ymuno a'r Crynwyr. Cynorthwyid Mr. Thomas yn y weinidogaeth am rai blynyddau gan Jacob Cristopher a Richard Cradock. Yn amser yr erledigaeth o adferiad Siarl II. hyd Ddeddf Goddefiad cyfarfyddai gwahanol ganghenau yr eglwys mewn anedd-dai mor ddirgel ag y medrent, ac nid ydyw yn ymddangos i'r eglwys oll fod yn addoli yn nghyd trwy yr holl flynyddau hyny, oddieithr iddynt gyfarfod yn achlysurol yn 1672 a 1673, pan y caniataodd y brenin ychydig o ryddid i'r Ymneillduwyr. Yr ydym yn cael fod tŷ Robert Thomas yn Baglan wedi cael ei drwyddedu yn 1672 at bregethu ynddo a Robert Thomas ei hun wedi cael ei drwyddedu yr un dydd i fod yn bregethwr Annibynol yn ei dŷ ei hun. Yr un amser hefyd trwyddedwyd tŷ Elizabeth Morgan yn nhref Castellnedd, a thai Lewis Alward, yn Cynffyg, a Watkin Cradock yn y Dref Newydd. Rhoddwyd hefyd drwydded i Watkin Cradock[12] i fod yn bregethwr Annibynol yn ei dŷ ei hun. Ar yr 16eg o Gorphenaf, 1672, y rhoddwyd y trwyddedau hyn. Heblaw y manau a drwyddedwyd yr oedd yr eglwys wasgaredig hon yn ymgynnull mewn amryw leoedd yn mhlwyf Llansamlet, Llangafelach, a Llanguwg, ac oddiwrth y canghenau a gyfarfyddent yn y ddau blwyf olaf y cyfododd yr eglwysi yn y Gellionen a Chwmllynfell. Wedi marwolaeth Mr. R. Thomas, dewiswyd Mr. Lewis Davies o blwyf Llanedi yn ganlyniedydd iddo yn Nghastellnedd a Thy'rdwncyn a'u canghenau. Bu Mr. Davies yn cael ei gynorthwyo am dymor gan Mr. John Thomas, Aberafan, a Llewellyn Bevan, Cwmllynfell. Yr oedd Mr. Davies yn weinidog rhagorol a llafurus iawn, ac fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach, darfu iddo sefydlu cyfarfodydd holwyddori ac Ysgolion Sabbothol yn yr eglwysi dan ei ofal ugeiniau o flynyddau cyn fod son am Ysgolion Sabbothol yn gyffredin yn y wlad. Bu farw fel y tybiwn ryw bryd tua 1712, neu yn fuan ar ol hyny. Yr oedd ei gylch gweinidogaethol ef yn cyrhaedd o Blaengwrach hyd Gasllwchwr, ac o'r Drefnewydd i Gwmllynfell, ond yn fuan ar ol ei farwolaeth rhanwyd y maes; gadawyd plwyfydd Abertawy, Llanrhiadau, Casllwchwr, Llandilo Talybont, Llangafelach, a rhan o blwyf Llansamlet i gylch gweinidogaeth y Mynyddbach, a pharhaodd y parth hwnw o'r wlad o'r Drefnewydd i Gwmllynfell mewn cysylltiad a gweinidogaeth Castellnedd dros rai blynyddau.
Mewn anedd-dai, fel y crybwyllasom eisioes, y buwyd yn addoli o ddechreuad yr achos hyd ar ol marwolaeth Mr. R. Thomas. Yn 1695, yr adeiladwyd capel y Chwarelaubach, yn agos i Gastellnedd, ac yn yr un flwyddyn yr adeiladwyd capel y Gellionen. Yr oedd Mr. Busey Mansel o Lansawel, boneddwr o gyfoeth a dylanwad mawr, yn aelod o'r eglwys hon, ac wedi i'r Ymneilldnwyr gael rhyddid yn ol cyfraith y tir i addoli rhoddodd ef dir, coed, a cherig iddynt at adeiladu y capeli yn Chwarelaubach a'r Gellionen. Dywed Edmund Jones, yn ei lawysgrifau, i Mr. Mansel fynu adeiladu capel y Chwarelaubach ychydig bellder oddiwrth y prif ffordd, rhag pe buasai yn ymyl y ffordd i bob gelyn wrth fyned heibio daflu ceryg i ddryllio y ffenestri. Dichon mai ffyrnigrwydd gelyniaeth y werin yn erbyn Ymneillduaeth oedd yr achos pa ham na ddarfu i bobl Castellnedd adeiladu capel cyn 1695, oblegid yr oedd Deddf Goddefiad wedi ei phasio naw mlynedd cyn hyny.
Dywed Dr. John Evans, mai Thomas Davies oedd y gweinidog yma yn 1715. Nid ydym yn gwybod dim am y gwr hwn, ac yr ydym yn gogwyddo i dybied mai gwall yn llawysgrif y Dr. yw Thomas Davies, ac mai Lewis Davies a ddylasai fod, ac os yw ein tyb yn gywir, ni bu Lewis Davies farw hyd ar ol 1715. Pan ranwyd y cylch gweinidogaethol ar ol marwolaeth Mr. Davies, dilynwyd ef yn Nghastellnedd a'r canghenau gan David Thomas a Henry Davies. David Thomas oedd yn benaf yn gofalu am y fam-eglwys yn Nghastellnedd, a Henry Davies am y ganghen yn Mlaengwrach. Bu yr eglwys yn Nghastellnedd dan ofal Mr. Thomas hyd 1748, pryd y bu farw. Yn 1740, cafodd Mr. John Davies o athrofa Caerfyrddin ei urddo yma yn gynorthwywr i Mr. Thomas, ond ni bu ei arosiad ef yma yn hir. Yn 1750, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam-eglwys yn Nhrelech, a symudodd yno, lle y bu hyd derfyn ei oes. Wedi ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Simmons, yr hwn, fel yr ymddengys, oedd wedi bod yn weinidog i rai o ganghenau yr eglwys hon, megis Gellionen, Cwmllynfell, &c., am fwy nag ugain mlynedd cyn iddo gael galwad gan y fam-eglwys. Bu Mr. Simmons yn weinidog yma o 1750 hyd derfyn ei oes yn 1774, ond yr oedd ei fab Noah Simmons wedi ei urddo yn gynorthwywr iddo tua thair blynedd cyn ei farwolaeth.
Gan fod capel y Chwarelaubach wedi myned yn hen, ac yn anghyfleus o herwydd ei fod allan o'r dref, cafwyd darn helaeth o dir at fynwent ac adeiladu capel yn y dref gan Syr Herbert Mackworth, o'r Gnol, tua 1771, ar les o 999 o flynyddau am yr ardreth o bum' swllt yn y flwyddyn, ond fod y gynnulleidfa yn rhoddi yr hen gapel a'r ychydig dir perthynol iddo, i Syr Herbert yn gyfnewid am y llall. Mae yr eglwys er's ychydig amser yn ol wedi prynu y lle gan berchenogion ystad y Gnol, fel y mae yn awr yn feddiant hollol i'r gynnulleidfa. Cafodd y capel ei adeiladu yn ol cynllun rhyw gapel a welsai Syr Herbert yn Lloegr, ac yr oedd ar y pryd yr adeiladwyd ef y capel helaethaf a phrydferthaf yn Nghymru. Ei faint oedd 50 troedfedd wrth 40, ac yr oedd yn ddigon uchel i osod dwy oriel, un uwchlaw y llall, ynddo. Ar ddydd ei agoriad yr urddwyd Mr. Noah Simmons yn gydweinidog a'i dad. Dywedir i'r oriel y diwrnod hwnw, o herwydd lluosogrwydd y dorf, roddi ychydig o'i ffordd. Parodd hyn lawer o ddychryn, ond ni chafodd neb niwed. Yr oedd Syr Herbert Mackworth yn wyddfodol ar y pryd, ac er rhagflaenu pob trychineb rhagllaw, penderfynodd osod colofnau cedyrn ar ei draul ei hun o dan yr oriel. Cafwyd cryn lawer o helbul yn nglyn ag adeiladu y capel hwn. Gan nad oedd mor hawdd y pryd hwnw i gael coed at adeiladu o'r America ag yn awr, penderfynwyd anfon dyn drosedd i'r America i brynu y coed. Casglwyd digon o arian at eu prynu a thalu traul y prynwr. Yn mysg eraill, darfu i un Richard Jones, diacon a phregethwr yn yr eglwys, werthu dau fustach a rhoddi eu harian i'r drysorfa at brynu y coed. Aeth y prynwr i'r America, ond hoffodd ei le yno, ac ni welwyd mo hono ef, na'r coed, na'r arian byth mwyach yn Nghymru; ond llwyddwyd i gael coed ac i orphen yr adeilad. Yr oedd y dywededig Richard Jones yn faendowr wrth ei gelfyddyd, a darfu iddo doi y tŷ a'i ddwylaw ei hun yn rhad. Wedi cael y capel yn barod ymddiriedwyd i ddyn arall i fyned i Loegr i gasglu at y ddyled, ond darfu i hwnw hefyd hoffi ei le yn Lloegr, ac ni ddychwelodd byth, er y bernir iddo gasglu digon i dalu yr holl ddyled. Fel hyn yr ydym yn gweled mai mewn amseroedd blinion yr adeiladwyd muriau y ddinas hon. Yn fuan ar ol ei urddo aeth Mr. Noah Simmons i Loegr a chasglodd yno ddigon i dalu yr hyn oedd o ddyled yn aros ar y capel. Bu Mr. Simmons yn weinidog yma am ugain mlynedd wedi marwolaeth ei dad; ond tua diwedd ei dymor yma cyfododd rhyw bersonau maleisus yn ei ben gan ddwyn y cyhuddiadau mwyaf gwaradwyddus yn erbyn ei gymeriad, ac er nad oedd pobl y dref, na mwyafrif y gynnulleidfa, yn credu dim o'r cyhuddiadau, etto, barnodd ef mai gwell oedd iddo ymadael, ac felly ymfudodd i'r America yn 1794. Yn niwedd 1795, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Bowen, Maesyronen. Mae yr alwad wedi ei geirio fel y canlyn:
CASTELLNEDD, Rhagfyr 27ain, 1795.
Barchedig Syr,
Nyni, y rhai y mae ein henwau yn ysgrifenedig isod, aelodau o eglwys Crist, ymddiriedolwyr a chyfranwyr at dreuliau yr addoliad crefyddol, yn nhŷ cyfarfod yr Ymneillduwyr Protestanaidd yn Nghastellnedd, y rhai ydym yn awr yn amddifad o weinidog sefydlog, wedi clywed am eich bwriad chwi i ymadael a'r İle yr ydych ynddo yn bresenol, ac mor belled ag y cawsom brawf o'ch cymhwysderau gweinidogaethol yr ydym yn eu hoffi yn fawr, gan hyny yr ydym yn unfrydol yn rhoddi i chwi alwad fel gweinidog i Grist i ddyfod yn fugail arnom. Gosoda eich cydsyniad a'n cais ni dan rwymedigaeth i chwi. Yr ydym yn addaw cyfranu yn ol ein gallu tuagat eich cynhaliaeth a'ch cysur, a'n gweddi ydyw i'r Pen bugail mawr dueddu eich meddwl i gydsynio a'r alwad ddidwyll a thaer yma oddiwrthym, fel y byddo i chwi ddyfod atom yn nghyflawnder bendith efengyl Crist."
Arwyddwyd yr alwad hon gan gant a chwech-ar-hugain o bersonau. oedd Mr. Bowen o ran ei ddoniau fel pregethwr, ei ragoriaeth fel ysgolhaig, a boneddigeiddrwydd ei ymddangosiad yn ateb y lle i'r dim, ond ni bu yntau, er ei holl ragoriaethau, yma yn hir cyn gorfod teimlo, fel ei ragflaenor, Noah Simmons, oddiwrth ymosodiadau gelynion ffyrnig ac annghymodlon. Nid ydym yn gwybod pa un a'i yr un personau fuont yn ymosod ar Mr. Bowen ag ar Mr. Simmons, a'i ynte rhai gwahanol oeddynt. Blaenoriaid yr ymosodwyr ar Mr. Bowen oeddynt Rees Rees, John Rees, William Rees, a Lewis Herbert. Yr oeddynt oll, rhwng gwyr a gwragedd, tua phymtheg mewn rhif. Sosiniaid oeddynt o ran eu golygiadau, a'u hamcan ydoedd cael meddiant o'r capel i'r enwad hwnw. Dechreuodd y terfysg ar y Sabboth, Ionawr 13eg, 1799, trwy waith Rees Rees yn atal Mr. Bowen i fyned i'r pulpud, a chymeryd agoriad y capel oddiwrth Jean Hopkins, y wraig oedd yn glanhau y lle, gan ei gloi ac atal y gweinidog a'r gynnulleidfa i fyned i mewn. Bu y capel yn meddiant Rees Rees a'i blaid o Ionawr 13eg hyd Chwefror 25ain, pryd y gorfodwyd hwy gan yr ynadon, Mr. Gabriel Powell a Mr. John Miers, i'w roddi i fyny i Mr. Bowen a'i bobl. Terfynwyd y ddadl mewn llys cyfraith yn ffafr Mr. Bowen a'i blaid. Yna darfu i Rees Rees a'i blaid gymeryd ystafell yn y dref at gynal gwasanaeth Undodaidd, a dewisasant Mr. David Davies, mab yr enwog David Davies, Castellhowell, yn weinidog iddynt. Bu cynnulleidfa fechan o Undodiaid yn Nghastellnedd o'r pryd hwnw hyd o fewn ychydig flynyddau yn ol, pryd yr aeth i'r dim. Bu Mr. Bowen yn barchus a defnyddiol iawn yma am lawer o flynyddau. Yn nhymor ei weinidogaeth ef rhoddodd Mr. Grant o'r Gnol ddarn helaeth o dir yn rhad at helaethu y fynwent, a thrwy ei lafur ef y dechreuwyd yr achosion yn Melinycwrt a Chwmafan. Yn ei amser ef hefyd y dechreuwyd cynal y cyfarfod Calan yn Maesyrhaf. Mae y cyfarfod hwn wedi cael ei gynal yma bellach er's mwy na thriugain-a-deg o flynyddau, ac yn bresenol mor boblogaidd ag y bu erioed. Nid ymddengys i'r eglwys hon fod mor lluosog a dylanwadol ar un tymor blaenorol o'i hanes ag yr oedd yn amser Mr. Bowen. Yr oedd llawer o brif deuluoedd y dref a'r gymydogaeth yn perthyn i'r gynnulleidfa hon yn ei amser ef. Pan oedd Mr. Bowen yn dechreu heneiddo, a maes ei lafur wedi helaethu, penderfynodd ef a'r eglwys urddo cynorthwywr iddo. Mr. Daniel Griffiths, gwr ieuangc a ddygesid i fyny dan weinidogaeth Mr. Bowen yn Melinycwrt, a ddewiswyd i fod yn gynorthwywr. Urddwyd ef Chwefror 12fed a'r 13eg, 1823. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau; gofynwyd yr holiadau gan Mr. M. Lewis, Cwmnedd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Williams, Ty'nycoed; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Howells, Baran, ac i'r eglwys gan Mr. D. Evans Mynyddbach. Gweinyddwyd hefyd ar yr achlysur gan Meistri J. Harrison, Aberdare; J. Rowlands, Cwmllynfell; T. Davies, Abertawy, ac eraill. [13] Darfu i ddoniau poblogaidd digyffelyb Mr. Griffiths luosogi y gwrandawyr yn ddirfawr, a chafodd llawer eu hychwanegu at yr eglwys. Parhaodd pethau yn rhyfeddol o lewyrchus yma hyd haf 1825, pryd y dygwyd cyhuddiad gan ferch ieuangc yn erbyn y gweinidog ieuangc, o fod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlawn; yr hyn a lwyr wadai yntau. Achlysurodd hyn derfysg yn yr eglwys a'r ardal a'r wlad yn gyffredinol. Credid y cyhuddiad gan rai ac anghredid ef gan eraill. Y diwedd fu i'r eglwys ymranu, aeth tua saith ugain o'r aelodau allan gyda Mr. Griffiths i ddecheu уг achos sydd yn awr yn Zoar, ac arosodd tua yr un nifer yn yr hen gapel. Ar ol yr ymraniad rhoddodd yr eglwys yn Maesyrhaf alwad i Mr. John Davies, myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef Gorphenaf 4ydd, Yn 1826. Bu yma ddiwygiad tanllyd iawn yn 1829, ac ychwanegwyd nifer fawr at yr eglwys; ond yn raddol cyfododd oerni rhwng Mr. Davies a'r eglwys yr hwn a derfynodd mewn ymadawiad hollol yn 1835. y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, Cwmaman, a bu ef yn gweinidogaethu yma ddau Sabboth o bob mis am tua blwyddyn, yna rhoddodd ei ofal i fyny, ac wrth wneuthur hyny, ysgrifenodd y llythyr canlynol at yr eglwys:
Yn Ebrill, 1837, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Daniel Evans, Nazareth, sir Gaerfyrddin, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn tuan ar ol hyny. Dywed Mr. Evans ei hun yn y Diwygiwr am 1849, yr hyn a ganlyn am y llwyddiant anghyffredin a ddilynodd ei sefydliad ef yma :—"Yn amser y gweinidog presenol yr adgyfodwyd yr Ysgol Sabbothol yn Maesyrhaf o farw yn fyw, ac yr ymledodd yn chwech o ganghenau yn dra buan, yn cynwys amryw ganoedd o rifedi-y sefydlwyd chwech neu wyth o gyfarfodydd gweddio at y rhai oedd o'r blaen-y cynyddodd yr eglwys o saith ugain heibio i bed war cant o aelodau, mewn llai na chwe' blynedd—y gwelwyd pedwar ugain ar yr un amser ar brawf yn y gyfeillach—y gwnawd dwy bunt a deugain at achos y Genhadaeth yn yr un flwyddyn-y dygwyd dirwest a chyfarfod gweddi y gwragedd i'r capel-yr adeiladwyd addoldy Salem, ac y talwyd am dano-y codwyd y canu i sylw a siarad parchus yn y dref a'r gymydogaeth—y dygwyd gas i oleuo y capel," &c. Bu Mr. Evans yn rhyfeddol o lwyddianus a pharchus yma am ddeg neu ddeuddeg mlynedd, ond yn ol, yn hytrach nag yn mlaen, yr oedd yr achos yn myned yn mlynyddoedd olaf ei dymor ef. Dichon fod hyn i'w briodoli mewn rhan i farweidd-dra yr amseroedd gyda golwg ar grefydd, ac mewn rhan hefyd i'w ddull pigog ef o geryddu pechod, ac i fesur o chwerwder yn ei ysbryd, yr hyn a achosid gan y gofidiau a gyfarfyddodd yn mlynyddau diweddaf ei oes. Nid oedd yr eglwys yn ddim lluosocach, os oedd mor lluosog, yn niwedd tymor ei weinidogaeth ef ag yr oedd yn ei ddechreuad. Bu farw y gweinidog da a llafurus hwn ar ol rhai misoedd o gystudd nychdod, Ebrill 17eg, 1859."At y gangen o eglwys Crist sydd yn cyfarfod yn hon gapel Castellnedd.
Anwyl frodyr a chwiorydd yn yr Arglwydd,
Trwy gyfrwng y llinellau hyn, yr ydwyf yn eich hysbysu fy mod yn eich rhoddi fel eglwys i fyny, nad ydych hyn allan i edrych arnaf fel eich gweinidog, ac nad wyf finaui'ch hystyried chwithau fel pobl fy ngofal o hyn allan. Wrth fwrw golwg arnoch chwi a'r Felindref, yr wyf yn gwybod y gellwch chwi gynal gweinidog eich hunain yn hollol gysurus, a'u bod hwythau yn rhy dlawd i wneuthur hyny. Nis gallaf wneuthur cyfiawnder a'r tair eglwys; mae fy iechyd wedi gwanychu i raddau mawr; pe rhoddwn y wanaf i fyny, dywedai llawer mai arian yn unig sydd yn fy ngolwg-hyderaf fod genyf beth mwy. Yr ydwyf yn dra diolchgar i chwi am eich sirioldeb a'ch caredigrwydd attaf dros yr amser byr y bum yn llafurio yn eich plith. Dymunwn i chwi gael gweinidog duwiol, dysgedig, llafurus, doniol, a llwyddianus. Ceisiwch un i chwi eich hunain. Nis gellir disgwyl daioni i eglwys mewn tref heb fod ei gweinidog yn byw yn mhlith ei bobl. Yn awr, yr wyf yn gwir ewyllysio eich llwyddiant yn ysbrydol ac yn dymorol, a chadwed Duw chwi yn un, ac addased chwi oll i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Ydwyf, eich ewyllysiwr da,
CWMAMAN, Ionawr 24ain, 1837.
JOHN DAVIES.
Wedi i'r eglwys fod am ychydig gyda blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. Jonah Roberts, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 20fed a'r 21ain, 1860. Dechreuwyd cyfarfod yr urddiad trwy weddi gan Mr. Mathews, Castellnedd, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Cwmafon; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. C. Jenkins, Rhymni; traddodwyd siars i'r gweinidog gan Mr. J. Morris, o athrofa Aberhonddu, a siars i'r eglwys gan Mr. T. Rees, Cendl. Pregethwyd yr hwyr blaenorol, ac ar brydnawn a hwyr dydd yr urddiad gan Meistri Williams, Hirwaun; Davies, Aberaman Thomas, Glandwr; Rees, Canaan, ac eraill. Mae Mr. Roberts wedi llenwi ei le yn dda yma am fwy nag un-mlynedd-ar-ddeg bellach. Gan fod y capel wedi myned yn hen, ac i raddau yn anghyfleus fel lle addoliad, penderfynodd yr eglwys a'r gynnulleidfa ei dynu i lawr, ac adeiladu un newydd, a mwy teilwng o'r dref a'r oes. Gosodwyd careg sylfaen y capel newydd Awst 18fed, 1864, gan y diweddar Mr. Evan Evans, yr hwn ar y pryd a roddodd 50p. at draul yr adeiladaeth. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar yr achlysur ar y fynwent, dan lywyddiad y Maer, y diweddar Mr. W. T. Morgan, yr hwn hefyd a roddodd ddeg gini at yr adeiladaeth. Bu amryw weinidogion, ac eraill, yn areithio yn y cyfarfod hwnw. Mr. Thomas, Glandwr, oedd cynllunydd y capel hwn, ac y mae prydferthwch yr adeilad yn glod iddo. Trwy fusgrellni y gweithwyr buwyd ddwy flynedd cyn ei orphen. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Awst 12fed, 13eg, 14eg, 15fed, 16eg a'r 19eg, 1866. Pregethwyd gan Meistri W. Rees, D.D., Liverpool; T. Rees, D.D., Abertawy; R. Ferguson, LL.D., Llundain; J. Davies, Caerdydd; T. Davies, Llandilo; E. Hughes, Penmain; W. Williams, Hirwaun; J. Williams, Castellnewydd; J. Thomas, Liverpool; R. Pryse, Cwmllynfell, ac eraill. Maint y capel hardd hwn yw 62 troedfedd wrth 42 tu fewn i'r muriau, ac ysgoldy wrth un pen iddo yn 42 troedfedd wrth 13. Costiodd dros 2,200p., ac o'r swm hwn yr oedd dros wyth gant o bunau wedi eu casglu erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Y mae rhai canoedd wedi eu casglu wedi hyny, a'r ddyled fawr yn toddi yn barhaus o flaen ymdrechion pobl sydd a chalon ganddynt i weithio.
Gan fod yr eglwys hon yn un o'r rhai henaf yn Nghymru, a bod gweinidogion dysgedig ac enwog wedi bod yn gofalu am dani o oes i oes, mae yn hynod na buasai rhyw gofnodion eglwysig wedi cael eu cadw gan rai o honynt, er rhoddi manylion hanes yr achos, a'r dynion mwyaf nodedig fuont yn perthyn iddo, ond er pob ymchwil yr ydym wedi methu dyfod o hyd i ddim o'r fath. Mae yn ddiameu fod llawer o aelodau teilwng a rhagorol mewn llawer o bethau wedi bod yn y lle hwn o bryd i bryd, ond o ddiffyg defnyddiau yr ydym yn gorfod gadael eu henwau a'u hanes mewn ebargofiant. Clywsom am David Rogers, Ysw., fel aelod amlwg iawn yma er's tua dwy genhedlaeth yn ol; ac y mae coffadwriaeth David Davies, o'r Fynachlog; Mathew Arnold, William Thomas, Morgan Morgans, ac amryw eraill sydd wedi eu symud yn ddiweddar, yn barchus gan lawer.
Mae yn ddigon tebyg fod llawer o bregethwyr wedi cyfodi yma yn yr oesau gynt, ond yr ydym ni wedi methu cael enw cymaint ag un o honynt. Thomas Jones, pregethwr cynorthwyol, a fu farw rai blynyddau yn ol, a J. R. Davies, Rhosymeirch, Mon, yw yr unig bregethwyr y gwyddom ni am danynt a gyfodwyd yma.
Mae yr hen eglwys hon, er iddi fyned trwy lawer o dywydd mewn tua dau gant ac ugain mlynedd, a chael ei hysgwyd yn ofnadwy gan derfysgiadau mewnol amryw weithiau, yn ymddangos yn awr yn gref ac iachus, a digon o elfenau bywyd ynddi i ddal ei ffordd am ganrifoedd etto. Hi yn briodol yw mam yr holl eglwysi o'r Llwyni a'r Drefnewydd hyd Gwmllynfell a Chwmaman. Hyderwn fod dyfodol gogoneddus yn ei haros.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
JENKIN JONES. Ganwyd y gwr enwog hwn yn y Tymawr, yn mhlwyf Llanddetty, sir Frycheiniog. Enw ei dad oedd John Jones, neu John ap John Howell. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys. Bu farw ei dad yn 1646, ac yr oedd ei fab yn Sirydd Brycheiniog yn 1658. Cafodd Mr. Jones ei addysgu yn Rhydychain, ac yr oedd yn bregethwr cyhoeddus cyn i'r rhyfel dori allan yn 1642. Dywed y rhagfarnllyd Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog, "Ar doriad allan y rhyfel, gwelwyd ef (Jenkin Jones) a chleddyf yn y naill law a Bibl yn y llall. Cyfododd fyddin o chwech ugain o wyr meirch yn mysg ei berthynasau, ei weithwyr, a'i Efe a denantiaid, ac arfogodd a gwisgodd hwynt ar ei draul ei hun. lywyddai y gwyr hyn, a thrwy eu cynorthwy gallodd gadw pleidwyr y brenin yn sir Frycheiniog, er eu bod yn llawer o rif, ac yn fawr eu dylanwad a'u cyfoeth, yn gwbl dan law." Yr oedd Jenkin Jones yn ŵr lled gyfoethog. Priododd un o deulu y Manseliaid yn Mrowyr. Yn ddioed ar ol adferiad Siarl II., cafodd ei fwrw allan o eglwys Llangattwg, Glynnedd. Dywed Walker iddo gael ei benodi yn weinidog Llanddetty, ei blwyf genedigol yn 1656. Mae yn bosibl fod ganddo balasdai yn Llanddetty a Llangattwg, gan ei fod yn foneddwr o gyfoeth mawr, a bod ei wraig hefyd o deulu urddasol. Dywed Walker hefyd fod un "Jenkin Jones, ailfedyddiwr ffyrnig," yn dal bywioliaeth plwyf Merthyr Tydfil ar ol bwrw yr offeiriad esgobyddol allan oddiyno; ond mae yn amheus iawn mai yr un person oedd hwnw a'r Jenkin Jones hwn. Gan fod Mr. Jones yn foneddwr o radd uchel, ac yn un o'r rhai blaenaf gyda phob achos gwladol ac eglwysig, nid yw yn debyg y buasai ef yn cymeryd arno ofal tri o blwyfydd yn mhell oddiwrth eu gilydd, canys yr oedd rhan fawr o'i amser yn cael ei gymeryd i fyny gyda phethau cyhoeddus.
Yr oedd Mr. Jones yn bregethwr galluog, diwyd, a llwyddianus. Bernir mai efe yw sylfaenydd yr hen eglwysi yn Nghastellnedd a'r Mynyddbach, yn Morganwg, a Chefnarthen, yn sir Gaerfyrddin, ac o bosibl yr holl eglwysi henaf yn neheubarth Brycheiniog. Bu mewn enbydrwydd am ei fywyd lawer gwaith wrth bregethu yr efengyl i'w gydwladwyr anwybodus. Yr oedd unwaith wedi cael ei gyhoeddi i bregethu yn Gelligrug, yn mhlwyf Aberystruth, Mynwy, a chan mai o sir Frycheiniog y disgwylid ef i ddyfod, aeth dyn ffyrnig o'r enw John James Watkin, yr hwn a fuasai yn filwr yn myddin y brenin, yn ei wisg filwrol ac yn arfog, i heol gul ger llaw eglwys y plwyf i'w gyfarfod, gyda bwriad i ymosod arno a'i ladd. Pan ddaeth Mr. Jones yn mlaen, a gweled milwr yn sefyll ar y ffordd, tynodd ei het, a chyfarchodd ef yn foneddigaidd. Darfu i'w gyfarchiad moesgar a'r olwg brydferth oedd arno orchfygu teimladau y creulonddyn fel y methodd osod ei fwriad llofruddiog mewn gweithrediad. Dilynodd y pregethwr i'r Gelligrug, a chafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd dan y bregeth. Bu o hyny allan yn grefyddwr selog, ac yn ddioddefydd mawr yn achos ei grefydd.
Dywed Dr. Calamy mai gwrth-fedyddiwr (cata-baptist) oedd Mr. Jones, hawlia rhai Bedyddwyr ef fel un o'u plaid hwy, ond y peth mwyaf tebyg ydyw nad oedd y naill na'r llall o'r pethau hyn. Yr oedd ei sel dros Ymneillduaeth y fath, a'i awydd am atal dadl bedydd i'w rhanu, ac felly ei gwanychu, mae yn debyg wedi peri iddo beidio dywedyd dim ar fedydd, neu yn hytrach ddyweyd rhyw bethau a arweiniodd rai i gasglu ei fod yn erbyn pob math o fedydd. Dyna sail y chwedl a gofnododd Calamy fel ffaith ei fod yn wrth-fedyddiwr, a'i ddystawrwydd am fedydd babanod, rhag rhanu yr Ymneillduwyr a barodd i'r Bedyddwyr honi hawl ynddo.
Yn gymaint a bod Mr. Jones yn ddyn o safle uchel, yn Ymneillduwr selog, ac wedi bod yn un o'r rhai blaenaf gyda phob achos cyhoeddus yn amser y werinlywodraeth, ymosodwyd arno ef yn un o'r rhai cyntaf wedi adferiad Siarl II. Cafodd ef ac amryw o aelodau yr eglwys a gasglasai yn sir Gaerfyrddin, eu dal yn niwedd mis Mai, 1660, a'u carcharu am fis yn Nghaerfyrddin. Yn fuan ar ol cael ei ryddhau o garchar Caerfyrddin, aeth adref i Landdetty. Ar y Sabboth, Gorphenaf 22ain, 1660, daeth torf o bump i chwe' chant i'w wrandaw yn pregethu yn Llanddetty. Yr oedd amryw o'r bobl hyn wedi ymgasglu o Forganwg, Mynwy, a Maesyfed, yn gystal a Brycheiniog. Clywodd eglwyswyr erlidgar y sir am y cyfarfod, ac anfonodd Henry Williams, un o'r ynadon, ddeuddeg o filwyr yno i ddal yr addolwyr. Diangodd amryw, a chymerwyd nifer o honynt i'r Gelli, i sefyll eu prawf ger bron yr ynadon dranoeth. Ni ddywedir wrthym pa un a oedd Mr. Jones yn mysg y rhai a ddaliwyd ai nad oedd. [14] Dyma yr hanes diweddaf sydd genym am dano ef. Cymerodd y llywodraeth feddiant o'i ystad, a rhoddodd yr awdurdodau ran o'i diroedd i un Edward Hughes, cyfreithiwr, o Aberhonddu. Mae yn dra sicr os na fu Mr. Jones farw yr amser hwn iddo orfod ymguddio yn rhywle am weddill ei oes, ac na chafodd byth mwyach gyfleusdra i bregethu yn gyhoeddus.
ROBERT THOMAS. Nid oes genym unrhyw hanes i'w roddi am dano ef ond iddo gael ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth o eglwys Baglan, ac iddo o'r pryd hwnw hyd amser ei farwolaeth tua 1693, fod yn weinidog yr eglwys wasgaredig a gyfarfyddai mewn gwahanol fanau yn ardaloedd Castellnedd, Llangafelach, &c.
JACOB CHRISTOPHER. Yr oedd ef yn "Henaduriad Athrawiaethol," hyny yw, yn bregethwr yn eglwys Mr. Robert Thomas. Mae yn ymddangos ei fod yn pregethu cyn 1662, ond nid ymddengys ei fod yn dal un fywioliaeth eglwysig pan ddaeth Deddf Unffurfiaeth i rym, ac felly ni chafodd ei droi allan o un lle neillduol. Yn mis Ebrill, 1664, darfu i ynad o'r enw John Aubrey, anfon milwyr i ddal Mr. Christopher, a thri eraill, am gynal cyfarfod yn nhy Lewis Alward, yn Cynffyg. Ni ddywedir wrthym pa cyhyd y buont yn garcharorion. [15] Yr oedd Mr. Christopher yn fyw ac yn pregethu yn 1675, a dyna yr hanes diweddaf sydd genym am dano[16]
RICHARD CRADOCK. Enwir ef yn llawysgrifau Lambeth fel un a gadwai gyfarfodydd crefyddol, ac a bregethai yn ei dy ei hun, yn y Drefnewydd, neu Newton Nottage, yn 1669, ac yn 1672. Cymerodd Watkin Cradock, o'r un lle, drwydded i bregethu, a thrwydded ar ei dŷ at bregethu ynddo. Nis gwyddom pa un a'i dau berson gwahanol oeddynt, neu i'r enw cyntaf gael ei gamosod yn y naill neu y llall o'r llawysgrifau. Dichon y gallasent fod yn ddau frawd, neu dad a mab, a bod y ddau yn pregethu. Nid oes genym un wybodaeth pellach am danynt.
LEWIS DAVIES. Mae y cwbl a wyddom am dano ef i'w gael yn nglyn a hanes y Mynyddbach.
THOMAS DAVIES. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am dano ef ond el fod yn cael ei grybwyll yn llawysgrif Dr. John Evans fel cydweinidog a David Thomas yn Nghastellnedd yn 1715.
DAVID THOMAS. Mae ei hanes yntau yn hollol anhysbys i ni. Mae yn ymddangos iddo gael ei urddo ryw amser rhwng 1710 a 1715, a pharhaodd i weinidogaethu yma hyd ei farwolaeth yn 1748; ond cafodd John Davies ei urddo, naill ai yn ganlyniedydd neu yn gynorthwywr iddo, yn 1746.
JOHN DAVIES. Yn nglyn a hanes Trelech y rhoddwn yr hyn a fedrom gasglu am dano ef, gan mai yno y terfynodd ei oes.
JOSEPH SIMMONS. Ganwyd ef yn agos i Foxhole, ger Abertawy, tua 1694. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin. Yr ydym yn tybied mai tua 1722, y terfynodd ei amser yn yr athrofa, ac iddo yn fuan ar ol hyny gael ei urddo yn weinidog cynorthwyol yn y Gellionen a Chwmllynfell. Bu am ryw gymaint o amser yn preswylio yn Hendreforgan, gerllaw Cwmllynfell. Symudodd oddiyno i Fforest, yn mhlwyf Llansamlet, ac oddiyno drachefn i'r Wind-mill-hill, yn yr un plwyf, a dywedir mai efe a adeiladodd y felin wynt yn y lle hwnw [17] Nid ydym yn gwybod yr amser y symudodd o Hendreforgan, ond bernir iddo roddi gofal Cwmllynfell i fyny y pryd hwnw. Yn 1750, y derbyniodd alwad i ymsefydlu fel gweinidog yn Nghastellnedd, a bu yno o'r pryd hwnw hyd amser ei farwolaeth, Mai 12fed, 1774, pryd yr oedd yn bedwar ugain oed. Bu farw yn ddisymwth iawn. Cymerwyd ef yn glaf yn Heolygwynt, Abertawy, a chariwyd ef oddiar yr heol i dŷ un Evan Smith, a bu farw yno yn mhen yr awr. Cyfododd dau o'i feibion i'r weinidogaeth, sef Joseph a Noah. Nid ydym yn gwybod dim o hanes Joseph ei fab, ond urddwyd Noah yn gynorthwywr a chanlyniedydd i'w dad.
Yr ydym yn analluog, o ddiffyg defnyddiau i roddi unrhyw ddisgrifiad o Mr. Simmons fel pregethwr. Y cwbl a allwn gasglu oddiwrth y crybwyllion am ei enw a gyfarfyddir yn achlysurol mewn llawysgrifau, ydyw ei fod yn weinidog o gymeriad moesol pur, a'i fod yn iachus o ran ei athrawiaeth. Yr oedd yn enwog iawn fel ysgolhaig ac ysgolfeistr. Bu am rai blynyddau yn cadw ysgol ramadegol ragorol yn Abertawy a Chastellnedd, a bu yr enwog Lewis Rees am dymor yn ei ysgol. Yr oedd y werin hygoelus yr amser hwnw yn credu fod pob ysgolhaig gwell na'r cyffredin yn medru consurio, a dywedir fod y dyb yn gyffredin yn mysg y bobl o gylch y Foxhole fod gan Mr. Simmons awdurdod ar yr ysbrydion, ac felly yr oedd ofn ei ddigio ar bawb o honynt.
NOAH SIMMONS. Mab Mr. Joseph Simmons. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Abergavenny, Hydref 3ydd, 1768. Mae Dr. B. Davies, yn ei adroddiadau blynyddol o sefyllfa yr athrofa, yn ei ganmol fel myfyriwr diwyd a gobeithiol. Yn 1772, ar ddydd agoriad capel Maesyrhaf, urddwyd ef yn gynorthwywr i'w dad oedranus, a pharhaodd i weinidogaethu yno hyd 1794, pryd yr ymfudodd i'r America. Yr oedd wedi claddu ei wraig a dau o'i blant yn mynwent Maesyrhaf, ac ar ei ymadawiad o'r wlad hon nid oedd ganddo ond un plentyn, yr hwn a aeth gydag ef i'r America. Nis gwyddom ddim o'i hanes ar ol ei ymfudiaeth ragor nag iddo ysgrifenu rhai llythyrau at Mr. John Davies, un o aelodau yr eglwys yn Maesyrhaf. Yr oedd yntau, fel ei dad, yn enwog iawn fel ysgolfeistr, ac yn fwy enwog fel pregethwr. Yr oedd hen bobl yn fyw yn Nghastellnedd, ychydig flynyddau yn ol, y rhai a soniant yn barchus iawn am dano, ac a gwynant o herwydd y driniaeth greulawn a gafodd oddiar law rhyw ddynion drygionus, yr hyn fu yn achos iddo adael ei wlad.
THOMAS BOWEN. Ganwyd ef yn rhywle yn mhlwyf Llandilo, yn sir Gaerfyrddin, yn 1756. Mae lle ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Yr oedd ei rieni yn isel yn eu hamgylchiadau bydol. Cymerwyd ef, pan yn fachgenyn tra ieuangc, i wasanaeth Mr. Morris, tad ynghyfraith y diweddar Mr. Powell, Cross Inn, ac yno yr oedd pan y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghapel Isaac. Yn mhen ychydig amser ar ol ei dderbyn cafodd ef, a dau frawd ieuangc eraill, sef David Thomas, Penmain, a Jonathan Lewis, 'Cwmmawr, eu hanog gan yr eglwys i ddechreu pregethu. Gan ei fod yn wr ieuangc gobeithiol anfonwyd ef i ysgol Mr. John Griffiths, Glandwr, ar draul ei feistr, Mr. Morris, a chyfeillion eraill yn eglwys Capel Isaac. Ar ol bod yno am ryw ysbaid derbyniwyd ef i'r athrofa yn Abergavenny, Tachwedd 3ydd, 1777. Yn ei adroddiad, dyddiedig Rhagfyr 26ain, 1780, dywed Dr. Davies :-"Y nesaf yw Thomas Bowen, yr hwn fydd wedi gorphen ei amser yma yn mis Medi nesaf. Efe a ddaeth i'r athrofa dan anfanteision mawr gan nad oedd wedi cael nemawr o fanteis ion addysg cyn dyfod yma. Pa fodd bynag, y mae wedi myned rhagddo yn mhell tu hwnt i'm disgwyliad i; ond y mae yn amheus genyf y bydd iddo gyrhaedd y fath berffeithrwydd yn yr iaith Saesonig ag i'w wneyd yn dderbyniol fel gweinidog i gynnulleidfa o Saeson, etto, yr wyf yn gobeithio y bydd iddo droi allan yn weinidog Cymreig derbyniol a defnyddiol." Darfu i'r athraw da gamgymeryd y tro hwn, oblegid fe ddaeth Thomas Bowen, ar ol hyn, yn gymaint o feistr ar yr iaith Saesonaeg fel yr oedd yn bregethwr poblogaidd ynddi.
Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, tua diwedd y flwyddyn 1781, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Maesyronen, sir Faesyfed, ac urddwyd ef yno, a bu yn rhyfeddol o lwyddianus. Tua y flwyddyn 1792, bu yno ddiwygiad nerthol iawn, ac ychwanegwyd amryw ugeiniau at yr eglwys yn Macsyronen, a'r gangen yn Brechfa, sir Frycheiniog. Yn mysg eraill a dderbyniwyd yn Mrechfa, yr oedd llangc deuddeg oed o'r enw William Havard, yr hwn wedi hyny a ymunodd a'r Methodistiaid, ac a fu yn weinidog enwog yn eu mysg am ugeiniau o flynyddau. Yr oedd Mr. Havard hyd derfyn ei oes yn son am Mr. Thomas Bowen fel ei dad yn yr efengyl. Yr oedd Mr. Bowen o gychwyniad ei fywyd cyhoeddus yn nodedig o lafurus. Yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn Maesyronen aeth trwy yr holl ardaloedd i bregethu yn mhob man y cawsai dderbyniad. Trwy ei lafur ef y dechreuwyd yr achos yn Brechfa, ac y mae yn debyg pe buasai yn aros yn y parth hwnw yn hwy y buasai yn dechreu amryw achosion eraill. Byddai yn myned yn lled fynych i bregethu mewn anedddai yn mhlwyfydd Llangan, Llanfihangel, Talyllyn, a Llansantffraid, Brycheiniog. Cynhyrfodd ei ymweliadau a phlwyf Llansantffraid gynddaredd un Mr. Frew, person y plwyf hwnw, fel y dygodd gwyn yn ei erbyn, ac y gwysiwyd ef ger bron yr ynadon yn Aberhonddu yn 1791, dan y cyhuddiad o bregethu yn mhlwyf Llansantffraid mewn tŷ heb ei drwyddedu. Yn ol y gyfraith yr oedd yn agored i ddirwy o ugain punt, un ran o dair o ba swm oedd i fyned i'w gyhuddwr am ddwyn yr achwyniad yn mlaen. Gwnaeth Mr. Bowen ei ymddangosiad yn ol y wys yn llysdy Aberhonddu ar y dydd penodedig. Darllenwyd y cyhuddiad iddo, ac addefodd yntau ei fod yn euog; yna dywedodd yr ynadon wrtho ei fod dan ddirwy o ugain punt, heblaw y costau. Ond yn lle ymostwng yn wasaidd i ofyn eu trugaredd, a dadleu ei dlodi, fel yn ddiau y dysgwylient iddo wneyd, talodd yr arian bob ceiniog, a chyda moesgyfarchiad, o'r fath ag a fedrai ef wneyd, dymunodd fore da i'r boneddigion, a throdd ymaith. Pan yr oedd ar waelod y grisiau yn myned allan, anfonwyd cenad i'w alw yn ol. Pan ddychwelodd dywedodd cadeirydd y faingc ynadol wrtho :—
"Mr. Bowen, er fod genym ni hawl i'ch dirwyo chwi o ugain punt, yr ydym yn foddlon iselhau y swm." Atebodd yntau, "Na ofalwch foneddigion, mae yr arian yn awr wedi eu talu, a dichon y bydd i'r rhan o honynt sydd i fyned i logell fy nghyhuddwr fod yn ddinystr iddo;" a chyda hyny aeth allan o'r llys. Casglwyd digon o arian yn ddioed i wneyd ei golled i fyny. Yn mysg manau eraill, anfonodd pobl y Groeswen tua thair punt iddo. Yn mhen tua chwech wythnos ar ol hyn yr oedd ei gyhuddwr, Mr. Frew, person Llansantffraid, yn dychwelyd adref o Aberhonddu, a darfu i'w geffyl syrthio dano, neu syrthiodd ef oddiar yr anifail, a disgynodd ar ei ben nes i'w siol hollti, ac i'w ymenydd gael ei wasgaru ar gerig yr heol!! Yr ydym yn gadael i bob darllenydd i dynu ei gasgliad ei hun oddiwrth y ffaith arswydus hon.
Yn y flwyddyn 1795, fel y gwelsom eisioes, derbyniodd Mr. Bowen alwad oddiwrth yr eglwys yn Maesyrhaf, a symudodd yno yn nechreu y flwyddyn ganlynol. Cafodd gryn ofid yn Nghastellnedd yn fuan ar ol dechreu ei weinidogaeth yno, ond treuliodd yno weddill ei oes yn enwog, parchus, a defnyddiol i raddau helaeth, ond nid i haner y graddau y gallasai fod pe buasai pob peth yn ei le ynddo. Bu farw mewn llewyg ar y ffordd yn agos i'w dŷ ei hun, Chwefror 27ain 1827, yn 71 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Maesyrhaf.
Yr oedd Thomas Bowen yn un o'r dynion mwyaf boneddigaidd yn ei oes. Medrai gyfeillachu a'r pendefigion mwyaf coethedig, a gwneyd ei hun ar yr un pryd yn gartrefol gyda'r weddw dlawd ar y plwyf. Edrychid i fyny ato gan uchel ac isel. Mewn gair, yr oedd yn. foneddwr yn yr ystyr helaethaf i'r gair. Fel pregethwr yr oedd yn dlws, eglur, a phoblogaidd. Yr oedd yn feistr perffaith ar y ddwy iaith. Tystiolaeth y rhai a'i hadwaenant yn dda ydyw ei fod mor ddiddiffygion fel gwladwr a phregethwr a neb yn ei oes. Ond y mae gonestrwydd hanesyddol yn ein rhwymo i grybwyll nad oedd ei gymeriad moesol yn bob peth y gallesid dymuno iddo fod. Bu amryw weithiau dan ddysgyblaeth am yfed yn annghymedrol. Hyn oedd ei wendid, a phe buasai yn rhydd oddiwrth y gwendid hwn mae yn ddiameu na buasai un gweinidog, o un enwad, yn y Dywysogaeth yn uwch nag ef mewn defnyddioldeb ac enwogrwydd. Ond er ei holl ddiffygion, gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ddydd, ac y mae genym obaith iddo ddiangc i'r wlad yn yr hon nid oes cofio beiau.
JOHN DAVIES. Ganwyd ef yn Esgairfynwent, plwyf Llanfihangel-rhos-y-corn, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1799. Yr oedd ei rieni yn bobl dduwiol iawn, ac yn aelodau parchus o'r eglwys Annibynol yn Gwernogle. Bu farw ei dad pryd nad oedd ef ond ieuangc, gan adael ei fam yn weddw ac un-ar-ddeg o blant dan ei gofal; ond cafodd fyw i'w gweled oll wedi tyfu i'w maintioli, ac ymsefydlu yn y byd, a'r hyn sydd yn bwysicach byth, cafodd eu gweled oll yn aelodau o eglwys Crist. Aeth dau o'r meibion, sef John, a'i frawd Mr. David Davies, o Stanstead, Essex, i'r weinidogaeth. Bu farw eu mam mewn oedran teg, ac yn gyflawn o gysuron crefydd, ar ol bod yn arddel Crist am yn agos i driugain mlynedd. Pan yn bedair-ar-ddeg oed derbyniwyd John Davies yn aelod o'r eglwys yn Gwernogle, gan y diweddar Mr. Powell, o Gaerdydd, yr hwn oedd y gweinidog yno y pryd hwnw. Anogwyd ef yn mhen ychydig amser ar ol ei dderbyn i ddechreu pregethu. Yn 1819, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle bu am chwe' mlynedd. Ar derfyniad ei amser yno derbyniodd alwad oddi wrth eglwys Maesyrhaf, lle yr urddwyd ef Gorphenaf 4ydd, 1826. Bu yn weinidog yma rhwng naw a deng mlynedd. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol i'w gysylltiad ag eglwys Maesyrhaf ddarfod, ymaelododd yn Zoar, ac yno yr oedd yn aelod yn amser ei farwolaeth. Bu farw Awst 3ydd, 1862, a chladdwyd ef yn mynwent Maesyrhaf. Yr oedd John Davies yn ddyn tawel, o dymer addfwyn, ac yn bregethwr digon derbyniol, ond bu yr un peth yn fagl iddo ef ag a fu yn gymaint o niwed i'w ragflaenor, Mr. Bowen. O herwydd hyn, bu am y pum'-mlynedd-ar-hugain olaf o'i oes heb fod o nemawr gwasanaeth i fyd nac eglwys. Byddai yn pregethu yn achlysurol yn ei flynyddau olaf, a dywedir ei fod yn ei ddyddiau diweddaf yn amlygu teimladau nefolaidd iawn. Ni chafodd ond dau ddiwrnod o gystudd trwm cyn ei farwolaeth.
DANIEL EVANS. Ganwyd ef yn Mhenygraig, Ystlumgwyli, yn mhlwyf Abergwyli, sir Gaerfyrddin, Hydref 4ydd, 1803. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Hermon, Cynwyl, Mehefin 24ain, 1821. Ar anogaeth yr eglwys dechreuodd bregethu yn Gorphenaf, 1823. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn ysgol ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nazareth, plwyf Llangyndeyrn, ac urddwyd ef yno Ionawr 21ain, 1829. Yn fuan ar ol ei urddiad, dechreuodd achos yn Crwbyn, ac adeiladodd yno gapel bychan. Cymerodd hefyd ofal yr eglwys yn Siloam, Pontargothi, mewn cysylltiad a Nazareth a Chrwbyn, a bu yn rhyfeddol o boblogaidd a defnyddiol yn y tri lle hyd nes iddo symud i Gastellnedd. Yn 1837, dechreuodd ei weinidogaeth yn Maesyrhaf, lle y bu yn llafurio am ddwy-flynedd-ar-hugain. Bu am rai blynyddau yn gofalu am yr eglwys sydd yn awr yn ymgynull yn nghapel y Wern, Aberafan, mewn cysylltiad a Maesyrhaf. Fel y nodasom yn barod, bu ei weinidogaeth yn Nghastellnedd a'r cylchoedd, yn annghyffredin o lwyddianus am y deg neu y deuddeng mlynedd cyntaf o'i amser yno, ond o hyny allan yr oedd y gynnulleidfa a'r eglwys yn lleihau yn raddol; nid o herwydd unrhyw goll yn nghymeriad moesol y gweinidog, canys ni bu yr un dyn purach ei foesau nag ef erioed yn rhodio y ddaear, ond o herwydd yr hyn a grybwyllasom yn flaenorol. Cyfarfyddodd y dyn da hwn a llawer o ofidiau blinion a siomedigaethau tost yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, yr hyn a adawodd effeithiau niweidiol ar ei iechyd corphorol, ac ar ei holl gyflawniadau fel dyn cyhoeddus. Bu farw Ebrill 17eg, 1859, yn 56 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Maesyrhaf, lle y mae maen prydferth wedi ei osod ar ei fedd. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Meistri Rees, Llanelli; Griffiths, Alltwen; Thomas, Glandwr, ac eraill, a dangosodd pobl y dref eu parch iddo trwy gau eu masnachdai a dyfod yn dorf ddirfawr i'w ganlyn i dy ei hir gartref.
Yr oedd Daniel Evans o ran corph o wneuthuriad lluniaidd, tua phum' troedfedd a naw modfedd o daldra, ei wallt yn wineuliw, a'i edrychiad yn nodedig o fywiog a siriol. Yr oedd ei dymer, fel ei gorph, yn llawn tân a bywiogrwydd. O ddyn twymn ei dymer, yr oedd yn hynod ofalus i beidio tramgwyddo neb yn ddiachos, ond pan y cawsai achos medrai arfer geiriau a frathent fel cleddyf daufiniog. Fel pregethwr yr oedd, yn mlynyddau boreuaf ei weinidogaeth, yn anarferol o boblogaidd. Tywalltai allan ffrydlif o eiriau a meddyliau, gyda chyflymder agerdd-beiriant, ac mewn llais rhyfeddol o soniarus. Tua diwedd ei oes yr oedd wedi myned yn rhy siariadus yn ei bregethau i fod yn boblogaidd fel cynt. Yr oedd y ddawn brydyddol yn naturiol iddo. Cyfansoddodd a chyhoeddodd lawer iawn o'i brydyddiaeth, ac y mae ei holl gyfansoddiadau yn cael eu nodweddu gan ystwythder, melusder, a rhai ergydion gwir farddonol, ond nid yw ei iaith na'i feddyliau y fath ag i ddal yn ngwyneb beirniadaeth fanol. Pe buasai ychydig yn fwy coethedig ei feddyliau a'i iaith, buasai llawer o'i gyfansoddiadau prydyddol yn sicr o gyrhaedd enwogrwydd cenedlaethol. Fel gweinidog a phregethwr yr oedd yn rhyfeddol o weithgar a diddiogi. Yr oedd yn ngafael a rhyw waith da yn ddiatal, ac ni feddyliodd erioed am arbed ei gorph wrth deithio a phregethu. Os yw rhai yn byrhau eu heinioes trwy ormod o seguryd, yr ydym yn credu iddo ef ei byrhau trwy ormod o waith, yn enwedig wrth gerdded trwy bob tywydd ar ol chwysu a lluddedu wrth bregethu. Bu am y pedair-blynedd-ar-hugain olaf o'i fywyd yn ddirwestwr egwyddorol a didwyll, a braidd nad oedd ei sel dros yr achos dirwestol weithiau yn ei gario i eithafion i ddyweyd pethau a dueddent yn hytrach i galedu a digio pobl na'u hargyhoeddi. Dau fath o bersonau oedd yn ei gynhyrfu hyd waelodion ei ysbryd, ac yn ei gyffroi braidd i lid aflywodraethus—diottwyr blysig ar enw crefydd, a dynion anhywaith mewn eglwys.
Fel cyfaill yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf a mwyaf didwyll a adnabuom erioed. Ni welai unrhyw beth yn ormod i'w wneyd dros gyfaill, a gallasai ei gyfeillion ymddiried eu bywydau i'w ffyddlondeb. Ond er ei holl ddidwylledd fel cyfaill yr oedd yn ddiffygiol, er ei fawr anfantais ei hun, o un o nodweddau cyfaill, sef parodrwydd i dywallt ei deimladau a'i ofidiau ei hun i fynwesau ei gyfeillion goreu, er cael eu cynghorion a'u cydymdeimlad Cadwai ei holl ofidiau dirgelaidd yn hollol oddiwrth bawb ond ei Dad nefol Mae yn ddiau y buasai yn ysgafnhau llawer ar ei feichiau yn fynych pe buasai yn fwy agored i fynegu ei helbulon i'w gyfeillion; ond cofir am dano gyda pharch gan yr ychydig o'i gyfoedion sydd yn aros; ac y mae to ieuengach y rhai a'i cafodd yn gyfaill caredig, a didwyll, yr erys ei "goffadwriaeth yn fendigedig" ganddynt.
MELINYCWRT.
Mae y lle hwn yn Nghwmnedd, yr ochr ddeheuol i'r afon wrth fyned i fyny o Gastellnedd, o fewn ychydig gyda phum milldir o'r dref. Hyd yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf nid oedd ond ychydig o'r trigolion yn meddwl fawr am grefydd. Cyrchai ambell un i Godrerhos, ac yr oedd rhai yn arfer myned i lawr i Gastellnedd, ond treuliai y rhan fwyaf eu Sabbothau yn hollol ddifeddwl am grefydd. William Griffiths, Bottle and Glass, ac Elenor ei wraig, (tad a mam Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd), ac Ann Davies, gelli, oedd yr unig dri y mae genym sicrwydd am danynt oeddynt yn aelodau yn Nghastellnedd yn yr adeg yma. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Thomas Bowen yn Nghastellnedd, daeth i fyny i Cefnygelli ar un prydnawn Sabboth i bregethu, a daeth cynifer yn nghyd fel y bu raid iddo bregethu allan. Daeth i fyny yn fuan wedi hyny a phregethodd i dorf fawr yn muarth ty William Griffiths, ac yr oedd yr Arglwydd yn rhoddi iddo, ac i'w weinidogaeth, ffafr yn ngolwg yr ardalwyr. Pregethodd drachefn yn mhentref Melinycwrt, a thro arall cafodd genad i fyned i dy eang oedd gan gwmpeini y gwaith haiarn oedd yn y lle at gadw glô, ac un tro buwyd yn addoli yn y tawdd-dy (cast house). Yr oedd y gwaith haiarn oedd yn y lle wedi dwyn cryn lawer o bobl i'r ardal ar y pryd, ac yr oedd gweinidogaeth Mr. Bowen yn gymeradwy ganddynt oll, a gogwyddwyd llawer o honynt i geisio yr Arglwydd. Penderfynodd Mr. Bowen gynal cyfeillach grefyddol yn nhy William Griffiths, ac er nad oedd neb ond William Griffiths, a'i wraig, ac Ann Davies, a Hopkin Hopkins, aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ynddi gyda Mr. Bowen y tro cyntaf, nid hir y bu raid disgwyl cyn gweled amryw yn ymwasgu a'r dysgyblion. Derbyniwyd cyn pen ychydig fisoedd un-ar-bymtheg o'r ardal yma ar yr un Sabboth yn gyflawn aelodau yn Nghastellnedd, a daliodd y rhan fwyaf o honynt eu ffordd hyd y diwedd. Yn y fintai gyntaf yma yr oedd Howell John, un o'r rhai fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos yn Nghwmafan. Trwyddedwyd ty William Griffiths i gynal gwasanaeth yn rheolaidd, ac wedi bod yno dros dymor, barnwyd mai gwell a fuasai symud yn nes i bentref Melinycwrt, ac agorodd un Mary Cook ei drws i'w derbyn, a chymerwyd trwydded ar ei thy. Llwyddodd yr achos fel yr aeth y lle yn rhy gyfyng, a theimlid yn llawn bryd edrych am dir i adeiladu capel arno. Er y cynhelid yma bob moddion yn rheolaidd, nid oedd yma eglwys hyd yn hyn wedi ei ffurfio, ac elai yr holl aelodau i Gastellnedd i gymundeb. Bu siarad am amryw leoedd i godi y capel-mynai rhai ei gael ar dir Pentwyn yn agos i'r Ynysfach, ond barnai eraill mai gerllaw Melinycwrt y dylasai fod, lle yr oedd y boblogaeth luosocaf ar y pryd. Cafwyd tir gan Mr. Jones, Llwyncoedwr, ar brydles 300 mlynedd, am yr ardreth ddeg swllt a chwe' cheiniog y flwyddyn, a chafwyd digon o dir at gapel a mynwent helaeth yn nglyn ag ef. Codwyd y capel y flwyddyn olaf o'r ganrif ddiweddaf, yn mesur 32 troedfedd wrth 22 troedfedd, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, ac yn fuan wedi ei agor ffurfiwyd eglwys ynddo o'r aelodau oedd eisioes yn y lle, a bu gofal yr eglwys ar Mr. Bowen tra y gallodd gyflawni ei weinidogaeth. Yn fuan wedi codi y capel, methodd cwmpeini y gwaith haiarn oedd yn y lle, a gwasgarwyd y bobl, yr hyn a effeithiodd yn fawr ar yr achos, ond glynodd rhai yn ffyddlon wrtho er pob digalondid, ac er gorfod myned yn mhell i weithio, cyrchent adref erbyn pob Sabboth, ac yn aml deuant i gyfarfodydd yr wythnos. Yr oeddynt yn nodedig yn eu serch at eu gilydd, ac ni bu eglwys erioed yn fwy cariadus nag y bu yr eglwys hon am yr haner canrif cyntaf o'i hanes. Tua'r flwyddyn 1806, bendithiwyd yr eglwys a diwygiad grymus pan yr ychwanegwyd llawer o bobl i'r Arglwydd, ac yn yr adeg yma y derbyniwyd yr hybarch Phillip Griffiths, Alltwen, yr hwn "wedi cael help gan Dduw sydd yn aros hyd yr awr hon." Bu diwygiad grymus drachefn yn yn y flwyddyn 1816. Dyma y pryd y derbyniwyd y diweddar Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd, yn aelod, ac yr oedd teimladau mor ddwysion yr adeg yma fel yr oedd y bobl yn "neidio ac yn moli Duw."
Bu gofal yr eglwys ar Mr. Bowen hyd nes y dewiswyd Mr. Daniel Griffiths yn gydweinidog ag ef yn Nghastellnedd a Melinycwrt, ac er i gysylltiad Mr. Griffiths a'r eglwys yn y dref gael ei dori, etto parhaodd ei gysylltiad a'r eglwys hon hyd ddiwedd ei oes. Er mai ei ardal enedigol ydoedd, etto nid oedd neb a ddeuai i'r lle yn fwy cymeradwy gan y bobl nag ef, ac ymgynnullai yr holl wlad i wrandaw arno, ac yn yr holl amgylchiadau blin a'i cyfarfu glynodd ei fam eglwys yn ffyddlon wrtho.
Wedi marwolaeth Mr. Griffiths, yn anffodus daeth un Joseph Jones, a fuasai yn weinidog yn Bristol, i'r ardal, a chafodd fwyafrif yr eglwys i roddi galwad iddo, ond ni chafwyd ond gofid oddiwrtho tra y bu yma, ac wedi hwylio yn annyben am fwy na blwyddyn, ymadawodd a rhyw ychydig gydag ef at y Bedyddwyr, a dyna ddechreuad yr achos sydd gan yr enwad hwnw yn yr Ynysfach. Bu gofal y lle am ychydig ar ol hyn ar Mr. John Ridge, gynt o Cendle, ond gan ei fod yn byw yn rhy bell i'w gwasanaethu gydag un cysondeb rhoddodd y lle i fyny. Yn nechreu y flwyddyn 1850, ar symudiad Mr. John Thomas, o Bwlchnewydd i Glynnedd, cymerodd hefyd ofal y lle hwn, a bu yma hyd ddechreu y flwyddyn 1854, pan y symudodd i Liverpool. Er na bu llwyddiant mawr ar yr achos yn y blynyddoedd hyny, etto bu yr eglwys yn nodedig o heddychol a thangnefeddus, a gwnaed rhyw adgyweiriadau a chyfnewidiadau yn y capel ac o amgylch iddo, a dygwyd yr holl draul gan y gymydogaeth ar y pryd. Bu gofal y lle ar ol hyn dros ysbaid ar Mr. William Watkins, Maesteg, yr hwn yn ffyddlon a ddeuai yma dros y mynydd ar bob tywydd, ond yr oedd teithio y fath ffordd anhygyrch ddwy waith yn y mis yn ormod iddo, ac oblegid hyny rhoddodd y lle i fyny. Wedi iddo ef ei rhoddi i fyny, cymerodd Mr. J. Mathews, Castellnedd ofal yr eglwys, a chyrchai. yma yn ffyddlon am rai blynyddau, nes yn mhen amser wedi i Mr. Rees Morgan sefydlu yn Glynnedd, cymerodd ef ofal yr eglwys, ac felly y parhaodd hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y symudodd Mr. Morgan i Bethlehem, St. Clears, ac er hyny y mae yr eglwys hon heb neb yn neillduol i fwrw golwg drosti. Gwelir ei bod wedi myned trwy gryn gyfnewidiadau, ond yn y cyfnewidiadau hyny y mae wedi mwynhau gwahanol ddoniau, ac er nad yw yr achos yn gryf a lluosog y mae yma ychydig enwau yn glynu wrth yr Arglwydd, a'r achos ar y cyfan mewn agwedd siriol a chalonog.
Mae yma lawer o bersonau wedi bod yn nglyn a'r achos y buasai crybwylliad am danynt yn ddigon gweddus pe buasai ein terfynau yn caniatau, ond gallwn grybwyll nad â caredigrwydd a ffyddlondeb hen deuluoedd Llwyncoedwr, Clungwilym, y Felin, ac eraill, ddim yn angof yn fuan, a gobeithiwn fod eu disgynyddion yn etifeddu eu hysbryd.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:
Phillip Griffiths. Derbyniwyd ef, fel y crybwyllasom, yn y flwyddyn 1806, ac y mae er's yn agos i haner can' mlynedd yn gweinidogaethu yn yr Alltwen.
Daniel Griffiths. Gweler ei hanes ef yn nglyn a Zoar, Castellnedd.
Thomas Evans. Bu ef am dymor hir yn ddiacon ac yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn yr eglwys, ac arno ef yn benaf yr oedd gofal yr achos, ac yr oedd yn gwir ofalu am dano. Yr oedd yn un o gyfoedion Mr. Daniel Griffiths, ac yn gyfaill mawr iddo. Yr oedd Thomas Evans yn ddyn o ddeall cryf, wedi darllen llawer, ac yn meddu gwybodaeth helaeth am bethau yn gyffredinol. Er nad oedd yn ddoniol o hyawdl fel pregethwr, etto yr oedd ganddo ddawn rhwydd i draethu ei feddwl heb fod mewn un modd yn boenus i wrandaw arno. Ymdriniai yn benaf a phethau athrawiaethol, ac yr oedd ei olygiadau ar drefn yr efengyl yn eang a rhyddfrydig, etto nid mewn un modd i gymylu graslonrwydd yr iachawdwriaeth. Yn ei gyfeillach ymyfrydai yn fawr i siarad ar byngciau duwinyddol, a chael eglurhad ar yr hyn a ymddangosai iddo ef yn dywyll, ac ni fynai un amser ymgymeryd ag un golygiad heb reswm drosto. Bu ei dy am dymor hir yn agored i lettya pregethwyr, ac nid yn fuan yr anghofir gan y rhai a fu dan ei gronglwyd am ei garedigrwydd dirodres ef a'i wraig. Yr oedd er's blynyddau yn dyoddef oddiwrth ddiffyg anadl, yr hyn a'i hanalluogai i bregethu, ac a'i gorfodai hefyd i ymgadw rhag myned allan i awyr y nos, fel nas gallodd fod am y pymtheng mlynedd diweddaf o'i oes o'r fath wasanaeth i'r achos ag y bu mewn blynyddau blaenorol. Bu farw Mawrth 25ain, 1869, yn 73 oed. [18]
GLYNNEDD.
Er mai yn ddiweddar mewn cydmariaeth y dechreuwyd yr achos yn y lle hwn, etto y mae addoli wedi bod yn Nghwmnedd er dyddiau boreuaf Anghydffurfiaeth yn Nghymru. Ar drumun craig uwchlaw afon Cwrach, mewn llanerch gysgodfawr, o fewn llai na haner milldir i orsaf Glynnedd, y mae hen gapel Blaengwrach, ac yr oedd yma achos Ymneillduol er yn foreu iawn. Ystyrid y lle am dymor hir fel cangen o'r Chwarelaubach, Castellnedd, ac yr ydoedd dan yr un weinidogaeth. Ond tua'r flwyddyn 1718, urddwyd Mr. Henry Davies yn weinidog yn Blaengwrach, a llafuriodd yn y lle am yn agos i ddeng-mlynedd-ar-hugain. Dan ofal Mr. Davies yn Blaengwrach y bu yr hyglod Lewis Rees yn yr ysgol, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod ac y dechreuodd bregethu, ac yno hefyd yr urddwyd ef Ebrill 13eg, 1738, fel y crybwyllasom yn hanes Llanbrynmair. Mae enwau a rhifedi yr aelodau yn y flwyddyn 1734 i'w gweled yn awr yn llawysgrif Mr. Davies. Yr oeddynt yn 63 o nifer; 34 o wrywiaid a 29 o fenywaid, ac yn wasgaredig trwy Glyntawy, Ystradfellte, Cwmdulais, a Glyncorwg, yn gystal a Chwmnedd. Mr. Davies, Blaengwrach a sefydlodd yr eglwys yn y Cymer, Cwmrhondda, fel y cawn sylwi pan ddeuwn at yr eglwys hono; ac ar ol ffurfiad yr eglwys yno symudodd i gymeryd ei gofal, a dilynwyd ef yn Blaengwrach gan Mr. Thomas Lewis, aelod o Benmain, yr hwn a fu yno o'r flwyddyn 1748 hyd 1773, pryd yr ymadawodd i Lanharan. Dilynwyd ef gan Mr. Thomas Morgan, yr hwn oedd yn Armin, os nad yn rhywbeth pellach; ac yn ei amser ef y dirywiodd yr eglwys yn ei golygiadau, nes o radd i radd yr aeth y lle yn hollol i ddwylaw y Sosiniaid, a chanddynt hwy y mae hyd y dydd hwn Bu Cwmnedd am dymor maith yn y cyfwng rhwng dirywiad y weinidogaeth yn Blaengwrach, a chodiad yr achos sydd yn awr yn Glynnedd, heb ddim pregethu efengylaidd o'i fewn; ac yr oedd y trigolion yn cydymroddi i bob rhysedd ac annuwioldeb. Yr oedd yma ychydig o grefyddwyr yn foreu yn y ganrif bresenol, a chlywsom rai o hen bobl Glynnedd yn son gyda pharch am un hen wraig, yr hon a fuasai unwaith yn aelod yn Blaengwrach, ond pan aeth y weinidogaeth yno i roddi sain dyeithr a ymaelododd yn Nhy'nycoed, ac a gerddai yr holl ffordd yno er mwyn clywed yr efengyl yn ei phurdeb. O gylch y flwyddyn 1812, dechreuodd Mr. Morgan Lewis, Ystradfellte, bregethu yn ei dŷ ei hun yn Abernantyfedwen a'r Banwaen Byrddyn, a ffurfiwyd eglwys yno, a derbyniwyd amryw aelodau o Gwmnedd yno. Yr oedd yn Nghwmnedd, ar y pryd hwnw, a chyn hyny, amryw aelodau o eglwysi Godrerhos, Melinyewrt, Ty'nycoed, a Hermon, y rhai a gynhalient gyfarfodydd gweddio a chyfeillachau crefyddol bob wythnos yn Penystair, Tainewydd, a lleoedd eraill, a deuai ambell bregethwr atynt yn achlysurol. Yr oedd Mr. Phillip Griffiths, Alltwen, yn mysg yr ychydig ffyddloniaid yma, yn ddyn ieuangc llawn bywiogrwydd a gwres crefyddol. Deuai Mr. Morgan Lewis i bregethu iddynt bob mis ar nos Fawrth, ac wrth weled yr achos yn myned rhagddo mor llwyddianus, ac yn cael ffafr yn ngolwg trigolion y Cwm, penderfynwyd symud o Abernant-y-fedwen i Gwmnedd, ac agorodd un Jenkin Morgan, Maesmarchog, ei dŷ i dderbyn yr Arch, Cafwyd trwydded ar y tŷ rhag i neb gymeryd eu rhyddid i aflonyddu arnynt, symudodd Mr. Morgan Lewis i Gwmnedd i fyw, ac yr oedd cael ei bresenoldeb cyson yn mhob moddion yn.help mawr i'r achos yn ei gychwyniad. Torodd diwygiad grymus allan yn fuan ac ychwanegwyd degau at yr achos, llawer o ba rai a fu yn addurn i'w proffes hyd angau. Aeth tŷ Jenkin Morgan yn llawer rhy fychan ar ol hyny, a soniwyd llawer am gael capel, ond yr oedd cael tir i'w osod i lawr yn anmhosibl ar y pryd. Ogylch y flwyddyn 1816, trwy ganiatad cwmpeini Camlas Cwmnedd, cafwyd benthyg ystordy helaeth oedd yn eiddo iddynt; ac er nad oedd yr hen Storehouse ond lle cyffredin, etto yr oedd yn gaffaeliad gwerthfawr o dan yr amgylchiadau yr oeddynt ynddynt. Wedi bod yma am flynyddau, a'r achos yn myned rhagddo yn llwyddianus, daeth angen y Storehouse ar y cwmpeini, gan fod eu masnach yn ymeangu; ond rhoddwyd rhyddid i'r eglwys os mynant i roddi llofft ar yr ystordy ac y caent ei gwasanaeth, gan mai y gwaelod yn unig oedd yn angenrheidiol ar y cwmpeini. Derbyniwyd y cynyg gyda diolchgarwch, a dechreuwyd ar y gwaith yn ddioed. Gwnaed hi yn ystafell eang a chyfleus iawn, gyda phulpud a meingciau ynddi, a grisiau oddiallan i fyned iddi. Bu yr eglwys yn ymgynnull yma am lawer o flynyddoedd, ac nid yn fuan yr anghofir, gan y rhai a'u mwynhaodd, y cyfarfodydd hwyliog a melus a gafwyd ynddi. Bendithiwyd yr eglwys a diwygiad grymus, ac ychwanegwyd ugeiniau o bobl i'r Arglwydd. Llawer gwaith y gwelwyd llawr yr ystafell yn plygu gan fel y byddai plant y diwygiad yn neidio ac yn gorfoleddu. Yr oedd yr eglwys yn un o'r rhai mwyaf nodedig am ei gwres crefyddol, ac ni roddid ganddi fawr gwerth ar yr ymborth a gynygid iddi o'r pulpud os na byddai yn iach ac yn dwymn. Wedi disgwyl am flynyddau, cafwyd o'r diwedd dir ar brydles o 999 o flynyddoedd i adeiladu capel arno gan W. Williams, Ysw., Aberpergwm, ar un o'r llanerchau prydferthaf a mwyaf swynol yn yr ardal, a chodwyd capel hardd arno yn mesur 46 troedfedd wrth 32 troedfedd, ac y mae mynwent helaeth yn nglyn ag ef yr hon sydd wedi ei hamgylchynu a choed, fel y mae y capel a phob peth cysylltiedig ag ef yn ddymunol i'r golwg. Costiodd fil o bunau. Galwyd ef "Addoldy Glynnedd." Agorwyd ef yn y flwyddyn 1839. Wedi myned i'r capel newydd teimlodd yr hen weinidog, Mr. Morgan Lewis, fod ei nerth yn gwanhau, gan ei fod yn awr ar fin pedwar ugain oed; a thua'r flwyddyn 1843, daeth Mr. David Williams, Tredwstan i'r ardal i fod yn gynorthwywr iddo. Bu Mr. Williams yma yn llafurio gyda gradd o gymeradwyaeth am fwy na thair blynedd; ond gan nad oedd yr eglwys yn unol drosto, rhoddodd ei le i fyny. Cyn diwedd haf 1846, rhoddwyd galwad i Mr. John Morgan Thomas, aelod o Gwmllynfell, ond a fuasai am dymor dan addysg yn Hanover, ac urddwyd ef Hydref 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Bowen, Penywaun; E. Jacob, Abertawy; R. Pryse, Cwmllynfell; J. Williams, Ty'nycoed; E. Watkins, Canaan; W. Williams, Hirwaun; Ll. R. Powell, Hanover; P. Griffiths, Alltwen; W. Edwards, Aberdar; E. G. Williams, Ysgetty; D. Evans, Castellnedd; E. Rowlands, Pontypool; J. Thomas, Cefncribwr; J. Davies, Mynyddbach; W. Morris, Glandwr; D. Rees, Llanelli, a J. Davies, Hanover.[19] Ni bu yr hen weinidog, Mr. M. Lewis byw ond ychydig ar ol urddo Mr. Thomas, canys bu fawr Rhagfyr 21ain, 1846, yn 85 oed; ond llonwyd ei galon yn fawr fod an wedi ei ddewis yn olynydd iddo oedd wrth fodd calon yr holl bobl. Bu adfywiad neillduol ar y canu, ac ar yr Ysgol Sabbothol yn y tymor byr y bu Mr. Thomas yn weinidog yma, a derbyniwyd cryn nifer o ieuengctyd y gynnulleidfa yn aelodau o'r eglwys. Llai na thair blynedd yr arhosodd Mr. Thomas yma, canys derbyniodd alwad o New York, America, ac ymfudodd yno yn Gorphenaf, 1849.
Cyn diwedd y flwyddyn hono derbyniodd Mr. John Thomas, Bwlchnewydd alwad gan yr eglwys, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Chwefror, 1850; a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ebrill 17eg a'r 18fed. Tymor marwaidd ar fasnach y lle oedd y tymor y bu Mr. Thomas yma, a gorfodwyd llawer o deuluoedd i ymadael, yr hyn a effeithiodd ar yr eglwys a'r gynnulleidfa; ond daliodd yr achos ei dir er hyny, ac yn y cyfnod yma y talwyd y gweddill dyled oedd yn aros ar yr addoldy. Yn niwedd y flwyddyn 1853, derbyniodd Mr. Thomas alwad o'r Tabernacle, Liverpool, a symudodd yno yn nechreu y mis Mawrth canlynol. Wedi bod am flwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. John Thomas (Ieuan Morganwg), yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 25ain a'r 26ain, 1855. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Griffiths, Abertawy; D. Price, Aberdar; J. Thomas, Bryn; D. Jones, Bethlehem; E. Jones, Myddfai; J. Thomas, Aberdar; D. Roberts, a J. Hughes, Dowlais; P. Griffiths, Alltwen; W. Williams, Hirwaun; D. Evans, a J. Mathews, Castellnedd; T. Davies, Llanelli; J. Davies, Aberaman, a W. Edwards, Aberdar. [20] Bu Mr. Thomas yma yn barchus a derbyniol am yn agos i dair blynedd, ond gan nad oedd ei iechyd yn gryf rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol ac ymneillduodd i drigianu i'r Mumbles, gerllaw Abertawy. Ar ol bod drachefn am fwy na blwyddyn heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. David Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mawrth 1af a'r 2il, 1859. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri B. Thomas, Gurnos; D. Thomas, Pentre-estyll; E. Evans, Sciwen; J. Cunnick, Aberdar; P. Griffiths, Alltwen; J. Mathews, Castellnedd; J. Rees, Moriah-Aman; D. Price, Aberdar; R. Lewis, Ty'nycoed; W. Humphreys, Cadle; W. Williams, Hirwaun; W. Watkins, Maesteg, ac S. Davies, Aberdar.[21] Cafodd Mr. Williams dymor llwyddianus yma. Yr oedd masnach yr ardal yn myned yn dda ar y pryd, a llawer o bobl yn dyfod i'r lle, ac ychwanegwyd o honynt, yn gystal ac o blant y gynnulleidfa, lawer o bobl i'r Arglwydd. Bu Mr. Williams yma hyd y flwyddyn 1862, pryd y derbyniodd alwad gan eglwysi Rhydybont, Capelnoni, a Brynteg, ac y symudodd yno. Yn nechreu y flwyddyn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Morgan, Llechryd, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn ddioed, ac a fu yma yn dderbyniol a llwyddianus hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y symudodd i Bethlehem, St. Clears, ac er hyny hyd yn hyn (Tachwedd, 1871,) y mae yr eglwys yn amddifad o weinidog. Gwelir fod yr eglwys hon wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau yn y deng-mlynedd-ar-hugain diweddaf, yn enwedig gyda symudiadau mynych ei gweinidogion, ond y mae yr achos er y cwbl yn dal ei ffordd, ac yn ychwanegu cryfder, ac mewn cystal gwedd yn awr ag y gwelwyd ef o gwbl. Mae i'r eglwys hon er ei sefydliad amryw ganghenau lle y cynhelir Ysgolion Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a chyfeillachau. Cyfarfyddent mewn tai anedd ar y Banwaen, Penwaenmarchog, Pontwhalby, a Chwmgwrach. Bu y ganghen yn y lle olaf a enwyd yn gref unwaith pan yr oedd gweithiau haiarn a glo y lle yn myned yn mlaen yn dda; ond siomwyd disgwyliadau y rhai mwyaf hyderus yn nglyn a'r gweithfaoedd hyny. Soniwyd llawer o bryd i bryd am godi capel yno, ond yr anhawsder oedd cael tir, ond yn y flwyddyn 1862, aeth Mr. Williams, Hirwaun at N. E. Vaughan, Ysw., Rheolau, i ymofyn am ddarn o dir, a chafwyd ef yn ddinacad, am yr ardreth isel o swllt y flwyddyn. Adeiladwyd yma gapel bychan cyfleus, ac agorwyd ef Ionawr 18fed a'r 19eg, 1863, pryd y pregethwyd gan Meistri D. Williams, Rhydybont; R. Morgan, Llechryd; J. Mathews, Castellnedd; R. Lewis, Ty'nycoed; D. Thomas, Ystradfellte, a W. Williams, Hirwaun.[22] Mae CAPEL CWMGWRACH yn parhau yn ganghen o Glynnedd, lle y cynhelir pob moddion yn rheolaidd, ond nid oes eglwys wedi ei chorpholi ynddo.
Mae eglwys Glynnedd wedi bod yn nodedig yn mysg eglwysi yr enwad am ei gwres crefyddol. Dechreuodd mewn adeg fywiog, ac yr oedd ei hen weinidog cyntaf, a'r hwn a adawodd ei ddelw yn ddwfn arni, yn ddiarhebol am ei danbeidrwydd a'i angerddoldeb. Ymlynai yr hen dô cyntaf yn dyn wrth hen athrawiaethau yr efengyl; ac er nas gallesid eu cyfrif yn rhai eang eu gwybodaeth, etto, yr oedd taflod eu genau yn deall camflas, ac nid anghofir gan y rhai a'u gwelodd, yr olwg foddhaol a fyddai arnynt pan yn gwledda ar frasder yr efengyl. Aeth Thomas, brawd Mr. Williams, Hirwaun, adref yn orfoleddus yn ngwres ei gariad cyntaf. Sion Hopkin, Blaengwrach oedd un o'r rhai mwyaf tanllyd ei ysbryd. Sion Siencyn a fu yn ddiacon ffyddlon am oes hir; ac nid oedd yn yr eglwys neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofalai am yr achos, ac er nad oedd yn un o'r rhai mwyaf tanllyd, etto, pan y cyffyrddid a'i galon, byddai ei "amen" a'i "o diolch" gwefreiddiol yn ysgwyd yr holl le. Llawer brwydr galed fu rhwng William Morgan, Penmarc a'r diafol, cyn cael y gonewest arno. Richard Dafydd oedd un o'r dynion diniweitiaf a charedicaf, ac er nad oedd ond anllythrenog hollol, etto, anaml y gwrandawsom neb mor flasus a gafaelgar mewn gweddi. Yr oedd yma hefyd lawer o wragedd rhagorol gynt,, ac er nas gallwn eu crybwyll oll, etto, y mae enw Margaret Williams (neu modryb Peggy, o'r Banwaen, fel yr arferid ei galw), yn haeddu cofnodiad parchus. Llawer gwaith y gwelsom hi wrth wrando a'i theimladau yn ymgroni o'i mewn, ac wedi hir ymatal torai allan yn fonllef uchel; ac yr oedd dylanwad ei chymeriad da yn gyfryw fel y cerddai trydan oddiwrthi i'r holl gynnulleidfa. Magodd deulu lluosog o fwy na deuddeg o blant i'w cyflawn faintioli, er fod eu tad am lawer o flynyddau olaf ei oes yn gorwedd ar ei glaf wely, o afiechyd poenus; ac wedi ei gladdu, ymfudodd hi a'i theulu mawr i America, lle y bu hithau farw, ond y mae y rhan fwyaf o'i phlant yn aros etto yn aelodau defnyddiol yno mewn gwahanol eglwysi. Nid oes ond ychydig o hen deulu y Storehouse yn aros, ac er fod eu holynwyr yn amddifad o'u tân a'u gwres hwy, etto, y mae yn y plant lawer o ragoriaethau nad oedd yn eu tadau, ac y maent yn cario crefydd ymarferol yn mlaen yn llawer mwy effeithiol; ond pe gellid uno yn nghyd wres crefyddol yr hen dô, a threfnusrwydd ymarferol y tô presenol byddai yn gydgyfarfyddiad hapus.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:
Richard Jones. Urddwyd ef yn Cymer-glyn-corwg, a bu wedi hyny yn Cwmogwr, lle y daw ei hanes dan ein sylw.
Evan Pritchard. Urddwyd ef yn Sgethrog, sir Frycheiniog, lle y bu lawer o flynyddoedd ; ac y mae yn awr yn byw yn Sciwen, ac er nad oes ganddo ofal eglwysig y mae yn pregethu fynychaf bob Sabboth.
William Williams. Urddwyd ef yn Nhredwstan, ac y mae yn Hirwaun bellach er's deuddeng mlynedd-ar-hugain.
William Griffiths. Urddwyd ef yn Cerig-cadarn, ac y mae yn awr er's blynyddau wedi rhoddi ei ofal gweinidogaethol i fyny, ac wedi ei dderbyn ar Drysorfa yr hen weinidogion.
David Price. Urddwyd ef yn Siloa, Aberdar er's wyth-mlynedd-arhugain yn ol, ac yno y mae yn aros etto.
Thomas E. Evans. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Rhosllanerchrugog, a symudodd oddiyno i Booth-Street, Manchester, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Daw ei hanes ef yn nglyn a Booth-Street, Manchester.
John E. Evans. Bu yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Merthyrcynog.
John M. Evans. Aeth at y Bedyddwyr, ac wedi hyny i'r America, lle y mae etto.
John Rogers. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Pantteg, ger Caerfyrddin, ac y mae yn awr yn Jerusalem, Penbre.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
MORGAN LEWIS. Ganwyd ef Medi 29ain, 1761, yn y Creunant, yn mhlwyf Llangattwg, gerllaw Castellnedd. Yr oedd yn un o chwech o blant, a'i chwaer ieuengaf ef oedd gwraig y diweddar Mr. Jonathan Powell, Rhosymeirch, Mon. Bu farw ei dad a'i fam pan nad oedd ef ond plentyn, ond trwy garedigrwydd boneddiges yn ei gymydogaeth—Mrs. Llewellyn, Ynyscedwyn rhwymwyd ef i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd, a bu yn dilyn y gelfyddyd hono am lawer o flynyddoedd. Pan oedd tua 16 oed teimlodd argraffiadau crefyddol dwysion iawn ar ei feddwl, o dan bregeth Mr. John Evans, Cilcwm, pregethwr perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd; ac yn ddioed ymunodd a'r Methodistiaid yn y Creunant, ei bentref genedigol. Ymaflodd mewn crefydd ar unwaith, a hyny a'i holl egni; ac yr oedd ei ddawn gweddi yn tynu sylw pawb a'i clywai. Yn y flwyddyn 1784, penodwyd ef i fyned yn gyfaill i Mr. John Thomas, Risca, ar daith trwy y gogledd, er nad oedd etto wedi dechreu pregethu. Wrth glywed ei ddawn gweddi cymhellid ef yn mhob man i bregethu, ac ar gais taer y blaenoriaid yn Towyn, Meirionydd, pregethodd ei bregeth gyntaf oddiar y geiriau "A chan ddechreu ar Moses a'r holl brophwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun;" ac o hyny yn mlaen pregethai ychydig o flaen Mr. J. Thomas yn mhob man. Wedi dyfod i sir Fon, digwyddodd fod Cyfarfod Misol yn y lle yr oeddynt un diwrnod, a chyhoeddwyd y ddau ŵr dyeithr o'r Deheudir i bregethu am ddeg o'r gloch yr ail ddiwrnod. Aeth Morgan Lewis yn ddigalon iawn, a thorodd allan i wylo wrth feddwl am bregethu yn y fath le. Cymerodd Mr. John Jones, Bodynolwyn dosturi arno, a dywedodd wrtho am iddo beidio digaloni, ac y cai ddechreu yr oedfa, ac y pregethai ef yn ei le, ond wrth ei glywed yn gweddio gyda'r fath afael a gwres, penderfynodd John Jones y mynai gael ganddo bregethu ; ac felly y bu, ac ni adawyd ef iddo ei hun. Wedi dychwelyd adref o'r daith hon, ni soniodd Morgan Lewis na'i gyd-deithiwr wrth neb ei fod wedi pregethu o gwbl yn y gogledd ; ond yn fuan ar ol hyn daeth Mr. John Jones, Bodynolwyn ar daith trwy y Deheudir, ac yn Nghastellnedd efe a ymofynodd am y pregethwr ieuangc, ac wedi ei ddesgrifio deallodd y bobl mai Morgan Lewis, o'r Creunant ydoedd; ac heb gymaint a gofyn ei genad cyhoeddwyd ef i bregethu yn Nghastellnedd y Sabboth canlynol. Pregethai o hyny allan yn mhob man y gelwid am dano, ac elai ar deithiau i wahanol ranau y wlad. Yn y flwyddyn 1791, priododd a dynes ieuangc rinweddol yn nghymydogaeth Llanymddyfri, ac aeth i fyw i'r Bailidu gerllaw yno. Blinid ef yn y blynyddau hyn oblegid yr angenrheidrwydd a roddid ar y Methodistiaid i fyned i gymuno i'r Eglwysi Plwyfol; ac yn aml gorfodid hwy i dderbyn yr elfenau o law offeiriaid drwgfucheddol. Unwaith ar adeg o ddiwygiad grymus yr oedd Morgan Lewis yn Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, yn pregethu, a'r Sabboth hwnw yr oeddynt, ar ol yr oedfa, i fyned i'r eglwys i gymuno. Yr oedd yno hen offeiriad digrefydd o'r enw Mr. Cobner, a dyn ieuangc, yr hwn oedd yn rhyw berthynas iddo, yn ei gynnorthwyo. Yn ngwres eu teimladau wrth gofio angau Crist, torodd plant y diwygiad allan i neidio a gorfoleddu. Cynhyrfodd yr hen berson, ac er ei fod wrth ei ddwy ffon, ac ar fin ei fedd, gwaeddai yn groch "Hwy ddrylliant y corau a'r eglwys. Gyrwch y diawliaid m'as. Cerwch m'as. Beth mae y diawliaid yn briwo y tŷ?" a llawer o gabl-eiriau cyffelyb. Penderfynodd Morgan Lewis yn y fan nad elai i'r Eglwys i gymuno byth ond hyny, ac nid hyny yn unig, ond nad arhosai yn hwy yn y cyfundeb ag oedd yn gosod ei aelodau mewn perygl i oddef y fath sarhad. Yr oedd wedi bod gyda'r Methodistiaid am ddwy-flynedd-ar-hugain, ac am bymtheg o'r rhai bu yn tramwy yn eu mysg yn pregethu teyrnas Dduw. Yn y flwyddyn 1800, ymunodd a'r Annibynwyr yn Mhentretygwyn, ac wedi ei dderbyn ar foreu Sabboth gan Mr. Evan Harris, y gweinidog, pregethodd y prydnawn, ac am ysbaid blwyddyn ar ol hyny pregethai yn fynych yn eglwysi cwr uchaf sir Gaerfyrddin, ac yn aml elai drosodd i sir Forganwg. Yn 1801, derbyniodd alwad o Godrerhos, gerllaw y Creunant lle y magesid ef, ac urddwyd ef yno, ac yr oedd Mr. J. Davies, Alltwen, a Mr. D. Davies, Abertawy, yn mysg eraill, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Cyn hir wedi iddo symud i Godrerhos, cymerodd hefyd ofal Ty'nycoed a Hermon, Ystradfellte, a bu am ysbaid yn barchus a defnyddiol yn ei gylch eang, ond nid hir y bu cyn i gymylau duon ei orchuddio. Bu farw ei wraig ar ol cydfyw yn hapus am bymtheng mlynedd, ac nid oedd hyny ond dechreuad gofidiau iddo gyda'i bum' plentyn amddifad. Priododd drachefn yn 1810 ag un Margaret Watkins, aelod o Dy'nycoed. Yn fuan ar ol hyn darfu ei gysylltiad a Thy'nycoed, ac yr oedd ei gysylltiad a Godrerhos wedi darfod cyn hyny, fel nad oedd ganddo mwyach ond Hermon dan ei ofal, ac yn yr adeg yma y trowyd ei sylw at Gwmnedd, ac y penderfynodd godi achos yno, ac fel y gwelsom nid ofer fu ei lafur, ac yr oedd Glynnedd, Hermon a Rhigos-lle arall a ddechreuwyd ganddo-dan ei ofal hyd nes y gorfodwyd ef gan lesgedd a gwendid henaint i roddi y weinidogaeth i fyny. Daliodd i bregethu hyd o fewn tair blynedd i'w farwolaeth, ac wedi methu myned i'r addoldy i bregethu, pregethai, cynghorai, ac areithiai ar Ddirwest yn ei wely i'r rhai a ymwelent ag ef. Yr oedd y ddiod feddwol wedi bod yn brofedigaeth iddo yn mlynyddoedd boreuaf ei weinidogaeth, er ei fod flynyddoedd cyn bod son am Ddirwest yn llwyrymwrthodwr hollol, a phan y clywodd am y gymdeithas yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i arwyddo yr ardystiad. Yr oedd yr achos yn agos at ei galon hyd ei ddyddiau olaf, ac nid oedd dim a lonai ei galon yn fwy na chlywed newyddion da am lwyddiant crefydd. Bu farw Rhagfyr 21ain, 1846, yn 85 oed, wedi bod yn proffesu crefydd am yn agos i dri-ugain-a-deg o flynyddau, ac yn pregethu yr efengyl am ddwy-flynedd-a-thriugain, a chyfrif y tair blynedd olaf o'i oes, y bu yn fethiedig. Claddwyd ef ar ddydd Nadolig y flwyddyn hono. Gweinyddwyd cyn cychwyn o'r tŷ gan Mr. W. Williams, Hirwaun, ac yn yr addoldy, dechreuwyd gan Mr. E. G. Williams, Ysgetty, a phregethodd Meistri J. Williams, Ty'nycoed, a P. Griffiths, Alltwen, a dodwyd yr hyn oedd farwol o Morgan Lewis yn nhy ei hir gartref.
Dyn bychan, egwan, eiddil o gorph oedd Morgan Lewis, gwylaidd a gostyngedig dros fesur, cyfrifai ei hun yn llai na'r lleiaf. Nid rhodres ynddo oedd dyweyd hyny, ond felly y teimlai, a chariai ei ostyngeiddrwydd i'r fath eithafion nes yr oedd yn wasaidd i bawb. Ni fynasai er dim wneyd dolur na pheri tramgwydd i neb. Y peth hynotaf yn nglyn ag ef oedd, fod dyn mor bynaws a thirion ei dymherau mor selog a thanllyd gyda chrefydd. Llosgai fel tân yn y fan y deuai i gysylltiad a phethau crefydd, ac yr oedd ei holl enaid yn fflam angherddol. Ysbryd ei weinidogaeth oedd yn gosod hynodrwydd arni. Ni chafodd fawr fanteision addysg, ac nid oedd cylch ei ddarlleniad ond cyfyng, oblegyd ychydig o lyfrau Cymreig oedd yn ei dymor boreuol ef. Nid oedd o ddeall cryf i dreiddio yn ddwfn i bethau yr efengyl, ac nid oedd byth yn amcanu at hyny; arosai yn wastad gyda'r pethau amlwg, ac etto byddai rhyw eneiniad rhyfedd weithiau ar ei bregethau, a phan y cai yr awel o'i du nid oedd dim a safai o'i flaen, a rhyw fodd byddai yr awel o'i du agos yn wastad. Pan y byddai pawb yn mron yn oer a dihwyl, byddai tân ar aelwyd Morgan Lewis, ac nid yn fynych y lledai ei hwyliau na chai y gwynt o'i du. Adroddir am gymanfa a gynhelid yn Abertawy, yn nyddiau yr enwog David Davies, yn yr hon yr oedd amryw o gedyrn y weinidogaeth, ond er hyny nid oedd myn'd ar ddim. Dilewyrch iawn oedd oedfaeon y dydd cyntaf, a saith a deg yr ail ddydd, a theimlai Mr. Davies yn ddwys o herwydd hyny. Yn yr oedfa ddau o'r gloch aeth Mr. Davies at Morgan Lewis, a dywedai fod yn rhaid iddo bregethu. Mynai ef ymesgusodi am ei fod yn ymyl i'w gartref, a bod yno lawer o rai dyeithrach ac enwocach, ond ni fynai Mr. Davies ei omedd, ac i fyny i'r pulpud y bu raid iddo fyned rhwng bodd ac anfodd. Teimlai llawer yn y dorf yn siomedig wrth weled y fath greadur bychan diolwg yn myned i fyny, ei bod yn ddigon dilewyrch yn barod, a thybiant mai waethwaeth yr âi gydag ef. Ond nid cynt yr agorodd ei enau nag yr argyhoeddwyd hwy oll eu bod wedi camgymeryd. Darllenodd ei destyn mewn llais uchel, gwichlyd braidd, ond gyda thynerwch cwynfanus un yn teimlo i'r byw-"Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?" Cerddodd ei eiriau fel trydan trwy y lle, ac yr oedd y dorf oll ar eu traed mewn munyd, a phawb yn barod i ddywedyd, "Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn." Gallesid crybwyll engreifftiau eraill o ddylanwad grymus gwres ei weinidogaeth; a llwyddodd yn arbenig i gadw cynesrwydd crefyddol yn mysg pobl ei ofal, oblegid yr oedd hyny yn nodweddu ei gyfeillach a'i ymddiddanion yn gystal a'i bregethau; a gobeithio fod y dydd yn mhell pan y gwelir yr elfen yna wedi ei cholli o grefydd Cymru. [23]
JOHN THOMAS. Ganwyd ef yn y Cwmdubach, gerllaw Caerfyrddin, Ebrill 13eg, 1811. Enwau ci rieni oedd John a Phoebe Thomas. Collodd ei dad pan yn ieuangc, a disgynodd gofal ei ddygiad i fyny yn gwbl ar ei fam, yr hon oedd yn wraig grefyddol, ac yn aelod o'r eglwys yn Heol Awst, Caerfyrddin. Pan yn ieuangc symudodd i sir Forganwg, a derbyniwyd ef yn aelod yn Bethania, Dowlais, gan Mr. Evans, Soar, Merthyr, tua'r flwyddyn 1829. Tra yn Dowlais ymgododd i barch ac ymddiried gyda'i feistri fel y gwnaed ef yn isoruchwyliwr, ond nid effeithiodd hyny mewn un modd er peri iddo golli ei ddyddordeb gyda phethau crefyddol. Cymerai ran flaenllaw gyda'r achos yn ei holl ranau, ac yn enwedig mewn egwyddori y bobl ieuaingc mewn cyfarfodydd wythnosol, ac yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn yr adeg yma y talodd sylw i lenyddiaeth Cymreig, a chyrhaeddodd fesur o enwogrwydd fel bardd a llenor, ac yr oedd yn adnabyddus wrth y ffugenw Ieuan Morganwg. Dewiswyd ef yn ddiacon yn Bethania, Dowlais, ac yn y cyflawniad o'i swydd ennillodd iddo ei hun radd dda. Yn y flwyddyn 1844, penodwyd ef yn oruchwyliwr ar waith haiarn yn Walker, gerllaw New-Castle-on-Tyne. Symudodd yno yn niwedd y flwyddyn 1844; ac ymgododd i barch a dylanwad mawr gan y meistri a'r gweithwyr. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi ei fynediad yno, dilynwyd ef gan nifer o Gymry crefyddol, phenderfynwyd cychwyn achos Cymreig yn y lle; ac yn y flwyddyn 1848, ar anogaeth ysgrifenedig wedi ei arwyddo gan fwy na phedwar ugain o bersonau, dechreuodd bregethu. Cydsyniodd a'r cais heb feddwl dim ar y pryd am ymgymeryd byth a gofal gweinidogaethol. Wedi treulio amryw flynyddau yn Walker yn barchus gan bawb, meddyliodd am ddychwelyd i Gymru, ac yn 1853, symudodd i Lanelli, lle y bwriadai unwaith gychwyn gwaith mewn cysylltiad ag eraill, ond rhoddodd y bwriad hwnw i fyny, ac yn 1855, derbyniodd alwad gan yr eglwys yn Glynnedd, ac urddwyd ef yno i holl waith y weinidogaeth. Yr oedd Mr. Thomas uwchlaw deugain mlwydd oed pan y sefydlodd yn Glynnedd; ac er ei fod yn ddyn gwybodus a deallgar-yn llenor rhagorol -yn fardd gwych-ac yn dra chyfarwydd ag areithio ar gwestiynau cyhoeddus, etto, yr oedd darparu pregethau erbyn pob Sabboth, a chyflawni dyledswyddau eraill y weinidogaeth, yn fwy nag a allasai ei gyfansoddiad ddal, ac oblegid hyny, barnodd yn ddoethach ymryddhau o'i ofalon gweinidogaethol, er y pregethai ar ol hyny bob amser y caffai gyfleustra, ac yr oedd fel pregethwr, yn dderbyniol a chymeradwy, yn enwedig gan bobl ddeallgar. Symudodd i fyw i'r Mumbles, gerllaw Abertawy, gan dybied y buasai yn fanteisiol i'w iechyd; ac wedi hyny aeth i Gaerfyrddin, a chyn hir adeiladodd dy cyfleus iddo ei hun mewn llecyn iach ychydig allan o'r dref, yr hwn a alwodd yn Fountain Villa. Pregethai Mr. Thomas agos bob Sabboth yn rhywle, ac yn ychwanegol at hyny, cyfansoddai ddarnau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth; a golygai farddoniaeth y Diwygiwr, fel yr oedd ganddo rhwng y cwbl ddigon o waith i gymeryd i fyny ei amser. Cydnabyddir ef, gan y rhai a'i hadwaenai oreu, yn ddyn o egwyddorion pur a gonest, ac yr oedd ei gymeriad moesol trwy ei oes yn hollol uwchlaw anmheuaeth. Nid effeithiodd ei lwyddiant bydol er peri iddo anghofio ei hun, ac yr oedd yn wastad yn barod i gynorthwyo pob achos da a ddeuai ar ei ofyn. Addawai iddo ei hun ddyddiau da ar ol codi ei dŷ newydd yn Fountain Hall, ond dyryswyd ei holl amcanion yn annisgwyliadwy ag un ergyd gan angau. Aeth i gyfarfod urddiad Mr. T. G. Jones yn Gwernogle, a phan yn pregethu yno prydnawn dydd Mercher, Awst 3ydd, 1870, cymerwyd ef yn glaf; a phan yn enwi y pen diweddaf o'i bregeth, dywedodd, "Nis gallaf fyned yn mhellach," ac eisteddodd i lawr. Ymlusgodd i lawr o'r pulpud, ond yr oedd yn ymddangos heb nerth ynddo. Cariwyd ef i dŷ gerllaw, ac yn mhen ychydig o fynudau hunodd yn yr angau, mewn tawelwch perffaith, yn nghanol nifer o'i frodyr gweinidogaethol, yn 58 oed. Nid yn aml y cymerodd marwolaeth gweinidog le dan amgylchiadau mor ddifrifol; ac nid oes achos ychwanegu i'r newydd galarus beri prudd-der a sobrwydd cyffredinol.
ZOAR, CASTELLNEDD.
Yn mhen tua thair blynedd wedi i Mr. Daniel Griffiths gael ei urddo yn Maesyrhaf, a phan yr oedd ei boblogrwydd a'i lwyddiant wedi ei ddyrchafu i sylw yr holl wlad; yn annisgwyliadwy i bawb dygwyd cyhuddiad difrifol yn ei erbyn gan ferch ieuangc—megis y crybwyllasom eisioes yn hanes Maesyrhaf-yr hyn a barodd ofid a thristwch cyffredinol. Nid oes achos i ni yma fyned i mewn i fanylion yr amgylchiad gofidus hwnw. Y mae Mr. P. Griffiths, Alltwen, yr hwn oedd yn gydnabyddus hollol a'r amgylchiad, wedi cyfeirio yn helaeth ato yn y cofiant a gyhoeddodd i Mr. Daniel Griffiths, ac o'r cofiant hwnw y cymerwn sylwedd y cwbl a ysgrif enwn ar y digwyddiad pruddaidd. Pan aeth y sibrwd allan, galwyd Mr. Griffiths ger bron yr eglwys, a rhoddwyd y cyhuddiad i'w erbyn, ac annogwyd ef i beidio pregethu hyd nes y deuai rhyw oleuni ychwanegol ar ei achos. Yn yr ysbaid y bu heb bregethu, magwyd llawer o dybiaethau, a rhagfarnau, a phleidiau, rhai drosto a rhai yn ei erbyn, ond yr oedd lluaws yn awyddu am ei weled a'i draed yn rhydd fel cynt. Gan ei fod yn byw yn nes i Felinycwrt, yr eglwys lle y derbyniwyd ef gyntaf, nag i Gastellnedd, yno y cyrchai yn benaf yn yr adeg y bu heb bregethu ; ac ar gymhelliad yr eglwys yno, a chefnogiad rhai gweinidogion ac eraill, ailddechreuodd bregethu, er fod yr eglwys yn Maesyrhaf yn gwrthwynebu hyny. Wedi iddo ddechreu pregethu yn Melinycwrt, cyrchai amryw o'r dref yno i'w wrando, a gwahoddent ef i'w tai i bregethu, yr hyn a wnaeth wedi ymgynghori a rhai o'r gweinidogion cylchynol. Ar ol iddo ddechreu pregethu mewn tai yn Nghastellnedd ymdyrai y lluaws i wrando arno, fel na chynwysai y tai y rhai a ddeuai yn nghyd; ond yr oedd y rhwyg rhyngddo ef a'r eglwys yn Maesyrhaf, trwy hyny, yn myned yn fwy a'r anhawsder i'w gyfanu yn ychwanegu. Yr oedd y rhan fwyaf o'r gweinidogion yn cymeryd plaid yr eglwys; ond glynai nifer o honynt yn ffyddlon wrth Mr. Griffiths a'i bobl. Cymerwyd ganddynt hen Coach-house ar ardreth, ac adrefnwyd ef yn lle cyfleus at bregethu, a galwyd ef "Zoar fach," ac agorwyd ef Awst 29ain, 1826, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Morgan Lewis, Cwmnedd; Joseph Harrison, Aberdar; Joshua Evans, Cymer; David Jones, Taihirion; Roger Howells, Baran; Phillip Griffiths, Alltwen, a Richard Jones, Cymer-glyn-corwg. Bu mynediad y gweinidogion hyn i agor y lle yn achlysur i rwygo y cyfundeb, ac mor gryf oedd y teimladau fel na dderbynid i lawer o bulpudau yn y wlad, neb a elai i bregethu at Daniel Griffiths a'i blaid, neu i gapelau neb o'i gefnogwyr. Ond yr oedd teimladau yn iachau yn raddol, a phoblogrwydd Mr. Griffiths yn ennill iddo bleidwyr ychwanegol, ac yn lladd rhagfarn ei wrthwynebwyr; ac yn enwedig yr oedd yr achos newydd yn Zoar fach yn myned rhagddo yn llwyddianus dan ei weinidogaeth; ac yn nghymanfa y tair sir a gynhaliwyd yn Taihirion, yn 1827, cyhoeddwyd heddwch rhwng y ddwy blaid, ac felly y terfynodd yr ymrafael blin a gofidus hwnw.
Yr oedd Zoar fach ar y dechreu yn llawer rhy gyfyngi gynwys y lluoedd a ddeuai i wrando Mr. Griffiths, ac oblegid hyny, heb golli dim amser, aed i chwilio am dir at adeiladu capel. Wedi methu mewn dau neu dri o fanau y gofynwyd am danynt; prynodd Rowland Thomas, Ysw., tad-yn-nghyfraith Mr. Griffiths, ddarn helaeth o dir yn 1827, gan James Coke, Ysw., am 160p., a rhoddodd ddarn mawr o hono at gapel a mynwent. Am fod y tir yn llaith, aeth y draul yn fawr wrth gloddio am sylfaen safadwy. Arosodiad y gareg sylfaen cynaliwyd cyfarfod pryd yr anerchwyd y dorf gan Mr. Griffiths, y gweinidog, a chan Mr. Griffiths, Alltwen, a Mr. Howells, Baran, ac eraill. Ar yr un dydd claddwyd gwraig Dafydd Henry o'r Fynachlog, yn y fynwent newydd, ac felly dechreuwyd adeiladu a chladdu yr un pryd. Mesuriad y capel yw 55 troedfedd wrth 45. Yr oedd, pan yr adeiladwyd ef, yr un o'r addoldai harddaf a helaethaf yn y sir, ac y mae etto ar ol cael ei adgyweirio a'i brydferthu, yn deilwng o'r oes a'r dref gynyddol y mae ynddi. Costiodd ar y cyntaf dros ddwy fil o bunau, ac y mae llawer o ganoedd wedi hyny wedi cael eu gosod allan arno mewn adgyweiriadau, paentio, ac adeiladu ysgoldy prydferth yn ei ymyl. Bu y ddyled yn faich trwm ar y lle hwn am flynyddau lawer, ac yn achos o bryder a llafur dirfawr i Mr. Griffiths. Deugain mlynedd yn ol ystyrid dwy fil o ddyled ar gapel yn beth dychrynllyd, ond yn awr, pan y mae yr eglwysi wedi yfed mwy o ysbryd haelionus, ni chyfrifir dwy fil o ddyled ar gynnulleidfa gymharol wan, yn gymaint ag yr edrychid ar bum' cant yn 1828. Os yw eglwysi Cymru yn llai gwresog a thanllyd dan y Gair nag yr oeddynt yn nyddiau y tadau, y maent yn annghydmarol fwy haelionus yn eu cyfraniadau at achosion crefyddol.
Wedi cael y capel newydd yn barod, tynodd doniau poblogaidd Mr. Griffiths dorf o bobl i'w lenwi ar unwaith, a pharhaodd ei boblogrwydd yn ddidrai hyd derfyn ei oes. Yr oedd Ysgol Sabbothol flodeuog yn Zoar o'r cychwyniad, ac yn fuan wedi agoryd y capel sefydlwyd canghenau o ysgolion yn Sciwen, Melingryddan, y Tonnau, y Bryncoch, y Thimle, &c. Rai blynyddau cyn marwolaeth Mr. Griffiths adeiladwyd capel ar y Sciwen, a chapel y Rock yn Nghwmafan, gan aelodau Zoar. Wedi oes gymharol fer, ond anarferol o lwyddianus, bu farw Mr. Daniel Griffiths yn 1846, er galar dirfawr i bobl ei ofal, a phobl Deheudir Cymru yn gyffredinol. Ar ol ei farwolaeth, penderfynodd yr eglwys fod am flwyddyn cyn myned i edrych allan am weinidog, a thalu y cyflog arferol i Mrs Griffiths, nid am fod ei hamgylchiadau yn galw am hyny, ond fel arwydd o barch i'w gweinidog ymadawedig. Ar ol byw ychydig gyda blwyddyn ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad unfrydol yn Awst 1847, i Mr. John Mathews, Casnewydd, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yn y mis canlynol. Ar y 24ain a'r 25ain o Dachwedd, yn yr un flwyddyn, cynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad, pryd y pregethodd Meistri D. Rees, Llanelli; P. Griffiths, Alltwen; M. Ellis, Mynyddislwyn; R. Pryse, Cwmllynfell, ac eraill. Rhif yr aelodau pan ddechreuodd Mr. Mathews ei lafur yma, bedair blynedd-ar- hugain yn ol oedd, 340. O'r pryd hwnw hyd yn awr y mae ef wedi derbyn, trwy ddeheulaw cymdeithas 1308, a thrwy lythyrau o eglwysi eraill 590. Ar ymneillduad eglwys y Sciwen, rhoddwyd llythyrau gollyngdod i 53 o'r aelodau, ac i 61 ar sefydliad yr eglwys yn Llansawel. Trwy symudiadau, marwolaethau, a gwrthgiliadau, y mae dros ddeugain bob blwyddyn, mewn eglwys luosog fel hon, yn cael eu colli. Rhif yr aelodau yn bresenol yw 456. Mae canghen o eglwys Zoar yn ddiweddar wedi cael ei chorpholi yn eglwys Annibynol yn Bryncaws; ond er colli pobl y Rock, y Sciwen, Llansawel, a Bryncaws, y mae y fam-eglwys mor lluosog ei haelodau a'i gwrandawyr ag y bu ar un cyfnod o'i hanes.
Cafodd y rhai canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:—
John Davies, yr hwn sydd wedi bod yn bregethwr cynorthwyol parchus am fwy na deugain mlynedd, ac sydd etto yn aelod yn ei fam-eglwys.
David Griffiths. Dechreuodd ef bregethu tua yr un amser a John Davies, ac yr oedd yn ddyn da a phregethwr cymeradwy iawn. Glowr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a chyfarfyddodd ef, a phump-ar-hugain eraill o'i gydweithwyr, eu hangau yn mhwll y Bryncoch yn 1859, trwy i'r dwfr dori i mewn i'r gwaith a'u boddi oll.
Griffith Owen. Nid oedd ganddo ef lawer o ddoniau at bregethu, er ei fod wedi cael addysg dda, ac yn ddyn o wybodaeth ?el helaeth. Yr oedd yn ganwr rhagorol, a dichon, fel y dywedai ei weinidog, Mr. Griffiths, mai aros fel blaenor y gân fuasai ddoethaf iddo yn hytrach nag esgyn i'r pulpud. Etto yr oedd yn ddyn da. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau.
Gwilym Treharne. Yr oedd ef wedi myned yn lled hen cyn dechreu pregethu, ac felly ni ddarfu iddo ennill nemawr o sylw fel pregethwr. Yr oedd yn ddyn medrus a gwerthfawr iawn yn y cyfeillachau crefyddol, ac yn anwyl iawn gan yr eglwys. Bu farw o'r geri marwol yn 1849.
Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Griffiths y dechreuodd y pedwar uchod bregethu, a than weinidogaeth Mr. Mathews y dechreuodd y rhai canlynol: William Davies, yr hwn sydd yn awr yn aelod ac yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yn yr eglwys ieuangc yn Bryncaws.
John Jones. Y mae ef yma yn bresenol yn aelod, ac yn pregethu yn fynych yn ei fam-eglwys ac mewn eglwysi eraill.
Charles Jones. Y mae yntau yn parhau yma fel aelod a phregethwr cynorthwyol.
David Griffiths, oedd bregethwr ieuangc derbyniol iawn yma. Y mae efe a'i deulu newydd ymfudo i'r America.
John Griffiths. Treuliodd ef ei amser yn athrofa y Bala, ac y mae wedi ymsefydlu er's mwy na blwyddyn bellach yn weinidog yn y Fochriw.
Samuel Owen. Yr hwn sydd yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu.
David E. Phillips. Y mae yntau yn fyfyriwr yn awr yn athrofa y Bala.
Byddai hanes yr eglwysi Annibynol yn Nghastellnedd yn annghyflawn heb grybwyll enwau y Cadben Morris, a'i wraig ragorol. Yr oedd y ddau gristion anwyl hyn, fel Zacharias ac Elizabeth, yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. Yn Maesyrhaf yr oedd ef yn aelod a hithau yn Zoar. Bu eu tŷ am ddegau o flynyddau yn gartref i bregethwyr Cymru. Bu Mrs. Morris fyw flynyddau ar ol ei phriod, ac yr oedd yn un o'r gwragedd rhagoraf a welsom erioed.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DANIEL GRIFFITHS. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn agos i Felinycwrt, yn Nghwmnedd yn y flwyddyn 1798. Yr oedd ei henafiaid o du ei dad a'i fam yn preswylio yn yr ardal hon er's amryw oesau. William ac Elenor Griffiths oedd enwau ei rieni. Yr oeddynt ill dau yn proffesu crefydd, ac yr oedd ei fam yn un nodedig iawn am ei duwioldeb. Daniel oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Bu farw ei dad pryd nad oedd ef ond ieuangc iawn, ond darfu i ofal a ffyddlondeb ei frawd hynaf lenwi lle y tad yn effeithiol i'r teulu. Bu farw ei fam drachefn cyn iddo ef gyrhaedd oedran gwr, ond trwy ofal ei frawd hynaf a'i chwaer ni welodd eisiau dim. Wedi iddo gyrhaedd oedran cyfaddas gosododd ei frawd ef i ddysgu y gelfyddyd o saer badau, a bu am amryw flynyddau yn gweithio y gwaith hwnw. Pan yr oedd tua naw mlwydd oed teimlodd argraffiadau crefyddol grymus dan bregeth Mr. T. Bowen, ond bu flynyddau wedi hyny cyn ymostwng i wneyd proffes o grefydd. Bu yn aelod ffyddlon o'r Ysgol Sabbothol am gryn amser cyn iddo ddyfod yn aelod o'r eglwys. Gan nad yw Mr. Griffiths, o'r Alltwen, yn y cofiant helaeth a ysgrifenodd iddo, wedi rhoddi amseriad nemawr o ddygwyddiadau pwysig ei fywyd, nis gallwn ddyweyd ei oed pan y dechreuodd broffesu a phregethu, ond y mae yn debygol ei fod wedi dechreu pregethu cyn ei fod yn ugain oed, oblegid yr ydym yn cael ei fod yn pregethu mewn cymanfa yn y Groeswen yn 1820. Bu am rai blynyddau yn ysgol Mr. Howells, Baran, wedi iddo ddechreu pregethu, ond ni chafodd fawr llonyddwch i ddysgu gwersi yr ysgol gan fod ei ddoniau poblogaidd fel pregethwr, a'i fedr digyffelyb fel holwr ysgolion, wedi tynu sylw yr holl wlad, a cheisiadau beunyddiol am ei wasanaeth. Byddai agos trwy yr holl amser y bu yn yr ysgol yn Baran yn pregethu neu yn holi ysgolion bedair a phum' gwaith bob wythnos. Tua y flwyddyn 1820, aeth ef a'i gyfaill a'i berthynas, Mr. Phillip Griffiths, i ysgol Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Ni fuont yno yn hir cyn i ddiwygiad nerthol a phoeth iawn dori allan yn y Neuaddlwyd ar un boreu Sabboth pan yr oedd Dr. Phillips yn pregethu. Yn fuan ymdaenodd y tân trwy y wlad oddiamgylch, a chafodd ysbryd tanllyd a doniau poblogaidd Daniel Griffiths ddigon o ddyfroedd i chwareu ynddynt. Darfu i'w lafur a'i hynodrwydd yn y diwygiad hwnw ei gyfodi i sylw cyffredinol yn sir Aberteifi. Er fod haner can' mlynedd wedi myned heibio er hyny, y mae ei enw ef ar gof a chadw etto mewn cysylltiad a'r diwygiad mawr gan ganoedd o Gapelywig i Gilcenin. Yn y flwyddyn 1822, dychwelodd adref o'r Neuaddlwyd, a chafodd ei urddo, fel y nodasom, yn Maesyrhaf, Chwefror 13eg, 1823. Ar ol bod yn llafurio fel cydweinidog a Mr. Bowen yn Maesyrhaf a Melinycwrt am ychydig dros dair blynedd gyda pharch a phoblogrwydd anghyffredin, darfu ei gysylltiad a Maesyrhaf, yn yr amgylchiad gofidus a grybwyllasom eisioes, ac o hyny allan fel gweinidog Zoar y bu yn llafurio yn Nghastellnedd. Bu Melinycwrt a Godrerhos dan ei ofal hefyd mewn cysylltiad a Zoar hyd derfyn ei oes. Parhaodd ei boblogrwydd a'i barch yn ddiatal hyd y diwedd. Mae yn ymddangos mai un gwanaidd o iechyd ydoedd er yn blentyn, a chan na feddyliodd am arbed ei gorph trwy wrthod unrhyw gais i bregethu a theithio, llosgodd y fegin allan pan yr oedd yn wyth-a deugain oed. Bu farw o'r darfodedigaeth Ebrill 1af, 1846, mewn teimladau nefolaidd iawn. Ar ddydd ei angladd ymgasglodd y dyrfa luosocaf a welsom mewn angladd erioed i hebrwng ei weddillion marwol i'r ddaeargell wrth gapel Zoar. Yr oedd y ffordd am tua dwy filldir yn llawn o bobl fel yr oedd yn anhawdd symud. Cyn cychwyn oddiwrth y tŷ, darllenodd a gweddiodd Mr. Thomas Rees, Siloa, Llanelli. Wedi cyrhaedd y capel, yn yr hwn nid oedd digon o le i un o bob deg o'r dorf, darllenodd a gweddiodd Mr. R. Pryse, Cwmllynfell, a thraddodwyd dwy bregeth fer gan Meistri D. Evans, Castellnedd, a W. Morgan, Llwyni. Areithiodd Meistri J. Hughes, Dowlais, a D. Rees, Llanelli, wrth y bedd, a therfynwyd trwy weddi gan Mr. Powell, Caerdydd. Yr oedd 39 o weinidogion a phregethwyr yn cerdded o flaen y corph wedi eu gwisgo mewn arwyddion galar. Yr oedd Daniel Griffiths yn ei farwolaeth yr un modd ag yn ei fywyd yn un o'r dynion mwyaf poblogaidd yn ei oes.
"Yr oedd Mr. Griffiths yn ddyn lled dal, o gylch pum' troedfedd a naw modfedd o hyd, yn lled denau, o gorph cadarn, er heb fod yn iach erioed; yn ddyn gewynog heibio i'r cyffredin. Yr oedd ei edrychiad yn serchog bob amser, yn hawddgar ei gyfarchiad, nes y byddai pawb yn caru ei gyfarfod ar y ffordd. Byddai plant yr holl wlad yn ei gyfarch, ac yn tyru o'i amgylch yn mhob lle y byddai. Gwyneb lled hirgul oedd ganddo, a dau lygaid mawr treiddgar yn dangos ei fod wedi ei wneyd gan natur yn areithiwr hyawdl. Yr oedd ei olwg mor hawddgar ac mor nefolaidd pan fyddai ei enaid yn gwresogi wrth dân crefydd, fel y gallasai y miloedd ei gofleidio a'u breichiau yn gystal ag a'u calonau."
Yr oedd yn ddyn cyfeillgar, hynaws, a charedig iawn, tra ar yr un pryd yr oedd ganddo ddigon o synwyr cyffredin a rhyw fawredd a gadwai bobl rhag myned yn rhy eofn arno. Cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn ddigon o gyfleusderau i'w weled a chyfeillachu ag ef am y tair-blynedd-ar-ddeg olaf o'i fywyd fel ag i allu ffurfio barn lled gywir am ei nodweddiad fel dyn a chyfaill. Ni ddygwyddodd iddo erioed gyfarfod a dyn llawnach o garedigrwydd a natur dda. Mae llawer o ddynion yn siriol a chyfeillgar a'u cydradd, ac yn enwedig a'u huwchradd, ond yr oedd ef yn hytrach yn fwy hynaws a charuaidd i'w isafiaid nag i neb arall. Ar un nos Sabboth yn Tachwedd, 1833, yr oedd pregethwr ieuangc, tan ddeunaw oed, wedi anfon ei gyhoeddiad i fod yn Zoar. Galwodd gyda Mr. Griffiths, cyn yr oedfa, mewn tŷ yn agos i'r capel, lle yr oedd ef a dau weinidog enwog o sir Gaerfyrddin, y rhai hefyd oeddynt wedi eu cyhoeddi i fod yn Zoar y noson hono. Pan welodd y gwr ieuangc derbyniodd ef yn garedig, a dywedodd wrth y ddau weinidog, "Mae yn rhaid i chwi frodyr dalfyru ychydig ar eich pregethau heno fel y gallo y gwr ieuangc gael dyweyd ychydig o'ch blaen. Rhaid rhoddi magwraeth i'r lloi cyn cael ychain." Talp cyflawn o natur dda ydoedd.
Yr oedd yn un nodedig o fodrus i drafod dynion. Medrai heb honi ei awdurdod a dadleu ei hawliau swyddogol gael y dynion mwyaf anhywaeth i'w ffordd ei hun. Cadwodd eglwys luosog Zoar mewn undeb a heddwch hollol trwy holl dymor ei weinidogaeth. Yr oedd ganddo ffordd effeithiol i doddi pawb i gydweithredu a'i gynlluniau.
Yr oedd yn ddyn hynod o ddirodres a digoegni. Nid yw yn debygol ei fod ef, mwy nag eraill o blant Adda, yn rhydd oddiwrth falchder meddwl, a thra thebygol fod ei barch a'i boblogrwydd pa le bynag yr elai yn peri iddo feddwl tipyn am dano ei hun. Ond os ydoedd yn teimlo felly, yr oedd ganddo ddigon o synwyr cyffredin i guddio hyny oddiwrth y werin. Er ei fod yn anymddibynol yn ei amgylchiadau bydol, ac yn dywysog yn mysg ei frodyr fel pregethwr, yr oedd mor ddiymhoniad a'r gostyngeiddiai o honynt. Nid ydym yn priodoli hyn yn fwy i'w ras nag i'w synwyr cyffredin cryf, oblegid y mae dyn coegaidd ae ymffrostgar yn amlygu llawn cymaint o ddiffyg synwyr ag o ddiffyg gras.
Fel pregethwr yr oedd yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn ei oes. Nid mewn medr i drin ac egluro athrawiaethau mawrion yr efengyl gyda chraffder a manylder ymresymiadol, fel Evans, o'r Mynyddbach, y rhagorai; ni ddeuai ychwaith yn agos at Jones, Penybont, fel esboniwr y Bibl, ac mewn athrylith a dynai allan fer yr Ysgrythyrau i'w sylwadau; ac yr oedd Hughes, o'r Groeswen yn ddigon o'i flaen am ddychymygion hededog a medr i dynu darluniadau byw ger bron ei wrandawyr o'r gwrthrychau y soniai am danynt. Ond yr oedd rhagoriaeth Daniel Griffiths fel pregethwr yn gynwysedig yn y pethau canlynol:—1. Cyflawnder o eiriau cymwys a gweddus i osod allan ei feddyliau. Ni fyddai un amser yn petruso am air. Tywalltai allan ei frawddegau yn ffrydlif naturiol heb ddim yn goegaidd nac yn isel yn un o honynt. Gwisgai y rhan fwyaf o'i feddyliau yn yr ymadroddion Ysgrythyrol mwyaf priodol. Gellir dywedyd yn briodol am dano, "Chwiliodd y pregethwr am eiriau cymeradwy," ac yr oedd ei eiriau oll fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistr y gynnulleidfa. 2. Difrifoldeb a phurdeb chwaeth. Ni ddywedid dim ganddo i beri crechwenau ysgafn yn y gynnulleidfa, ond byddai ei agwedd, ei eiriau, a'i swn yn cynyrchu difrifoldeb ofnadwy yn ei wrandawyr. Ni chlywid ef un amser yn adrodd hanesyn nac yn arfer cydmariaeth isel a dichwaeth. 3. Nodwedd efengylaidd ei faterion. Crist a'i groes-trueni dyn trwy bechod-breintiau credinwyr-a gogoniant trefn gras, fyddai pyngciau ei bregethau yn wastadol. 4. Grym a phereidd-dra llais. Dywedai yn ddigon uchel wrth ddarllen ei destyn i ddeng mil o bobl i'w glywed, a siaradai yn rhwydd, heb fod yn rhy araf nac yn rhy gyflym, gan roddi, yn awr a phryd arall, ryw dôniad mor beraidd ac effeithiol i'w lais nes y buasai y dagrau yn saethu yn ddiarwybod o ganoedd o lygaid ar darawiad amrant. Pan godai ei lais i'r man uwchaf byddai yn llai effeithiol. Yr oedd cydgyfarfyddiad y pethau hyn ynddo fel pregethwr yn ei wneyd yn un o'r pregethwyr mwyaf effeithiol a wrandawsom erioed. Anfynych iawn y gwelsom ef yn sefyll uwchben cynnulleidfa heb ei thoddi fel cwyr o flaen y tân.
Yr oedd yn ddyn llafurus a chyhoeddus iawn ei ysbryd. Anaml trwy ei holl fywyd cyhoeddus, y treuliodd wythnos heb deithio a phregethu i eraill heblaw i'w bobl ei hun. Llafuriodd yn galed gyda'r ymdrech fawr i dalu dyledion capeli yn y blynyddoedd o 1832 i 1835, ac wedi gorphen yr ymdrech fawr a chyffredinol hono, bu am flynyddau yn teithio bob tri neu bedwar mis trwy Forganwg, er cyffroi yr eglwysi i orphen dileu dyledion eu haddoldai. Ymwelai yn ei deithiau a'r lleoedd gwanaf yn gystal a'r rhai cryfaf, heb ddisgwyl na derbyn unrhyw dal ond y boddlonrwydd meddwl a fwynhai wrth wasanaethu ei enwad ac achos ei Arglwydd. Dilynai y cyfarfodydd misol a chwarterol, agoriadau capeli, urddiadau, &c., yn ddinag, ac yr oedd ei bresenoldeb yn fywyd i bob cynnulleidfa. Ni byddai yn ormod dyweyd iddo dreulio agos un ran o dair o'i holl fywyd, tra bu yn y weinidogaeth, yn ngwasanaeth cyhoeddus yr enwad y perthynai iddo, ac iddo wario canoedd o bunau o'i arian wrth wneuthur hyny. Cafodd wybod trwy brofiad fod llanw cylch uchel yn y weinidogaeth yn gostus iawn i gorph, meddwl, a llogell. Y mae genym farn uchel am ei grefydd bersonol. Buom ddegau o weithiau yn ei gyfeillach, a chawsom ef bob amser yn ddifrifol heb fod yn bruddaidd a sarug, ac yn llawn o sirioldeb heb fod un amser yn ysgafn a chellweirus. Prin y gallwn gredu fod yn bosibl i neb fod mor llawn o deimladau toddedig, a'r fath eneiniad ar ei gyflawniadau cyhoeddus, ag ydoedd yn nodweddu yr eiddo ef, heb ei fod yn dal llawer o gymdeithas ddirgel a'r Arglwydd. Yr oedd yn rhyfeddol o nefolaidd ei brofiad yn ei gystudd diweddaf. Y nos olaf y bu byw yr oedd un o'r brodyr yn ei wylied; clywai y dyn ef yn siarad, fel pe buasai yn ymddiddan a rhyw rai. Tybiodd y dyn ei fod yn syfrdanu ac atebodd ef yn ol fel yr oedd wedi deall ei ofyniad. Yn mhen ychydig dywedodd, "Yr oeddych chwi yn fy nghamddeall i; nid gofyn i chwi a oedd plant genych yr oeddwn i; ond yr oedd gyda mi dri o blant glandeg yr olwg arnynt, a gofyn yr oeddwn i'r plant pwy oeddynt, a dywedasant mai plant Duw oeddynt, a'u bod yn ymofyn am ŵr y tŷ i dd'od gyda hwynt, ac wrth ymadael dywedasant, Pan ddelom nesaf rhaid i chwi ddyfod gyda ni." Prydnawn dranoeth aeth Mrs. Morris a'i merch, Mrs. Morgans, i'w weled. Siaradodd ychydig a hwynt, ac yna aeth i geisio adrodd pennill. Gofynodd i Mrs. Morris pa beth oedd ei ddechreu, atebodd hithau.
"Ymado wnaf a'r babell
Rwy'n trigo ynddi'n awr," &c.
Canodd y pennill gyda Mrs. Morris, ac adroddodd wrthi am y plant a welsai y nos o'r blaen. Yn fuan wedi i'r ddwy chwaer fyned allan o'r ystafell, gwelodd y plant eilwaith a dywedodd, "Oh, wel, y maent yn bedwar yn bresenol. Mae yn rhaid i mi gusanu Jenny a'r plant cyn dyfod gyda chwi, ac wrth ddyfod, rhaid i mi farw." Yn fuan ar ol hyny cusanodd ei briod a'i ddeg plentyn, a rhoddodd ei law dan ei ben gan gau ei lygaid ar y byd hwn, a'u hagoryd ar ryfeddodau byd yr ysbrydoedd.
Fel hyn y bu fyw a marw Daniel Griffiths. Yr oedd yn ddyn anghyffredin a rhagorol iawn. Nid ydym yn meddwl nac am adael yr argraff ar neb ei fod yn ddyn difai, ond pa ddyben fyddai ceisio chwilio am y beiau sydd wedi eu maddeu a'u taflu gan Dduw i for o angof. Meddyliwn am y rhinweddau oedd mor amlwg yn ei gymeriad, ac ymdrechwn eu hefelychu.
CAPEL SION, CWMAFAN.
Mae Cwmafan yn mhlwyf Llanfihangel-ar-afan, tua phum' milldir i'r de-ddwyrain o Gastellnedd. Cwmafan yw yr enw sydd ar y dyffryn oll o Aberafan i Bontrhydyfen, ond y mae aniryw fan gymoedd yn ymganghenu o hono, ac yn mysg eraill, y Cwmbychan, ac am mai yn y Cwm hwn y dechreuwyd cyfodi glo gyntaf yn yr ardal, wrth yr enw Cwmbychan yr adnabyddid yr holl le am flynyddau. Nid oedd dros o ddau gant i ddau gant a haner o drigolion yn yr holl blwyf cyn agor y gweithiau tua 1811, ac ni fu ar ol hyny fawr o gynydd hyd 1819, pryd yr adeiladwyd yma ffwrnais i doddi haiarn. O'r pryd hwnw hyd yn awr y mae y boblogaeth wedi cynyddu yn ddibaid, fel y mae y trigolion yn awr tuag wyth mil o rif. Yr oedd rhai o aelodau yr eglwys yn Maesyrhaf, Castellnedd, yn byw yn y plwyf hwn o oes i oes er's dros ddau cant o flynyddau, a byddai gweinidogion y lle hwnw yn pregethu yn achlysurol yn eu tai. Byddai Mr. Bowen yn dyfod yma yn fynych. Dechreuwyd cynal addoliad yma yn nhy Howell John tua'r flwyddyn 1819, ond nid ymddengys i achos rheolaidd gael ei sefydlu yn y lle cyn y flwyddyn 1821, pryd y daeth Mr. Hugh Owen o Abertawy yma i bregethu bob Sabboth. Dechreuodd ef ddyfod yma yn gyson yn mis Mai, 1821, ac yn Awst yr un flwyddyn corpholwyd yma eglwys. Bu amryw weinidogion yn gweinyddu ar yr achlysur. Yn nhy Howell John y cynhelid y moddion. Ebrill 8fed, 1822, urddwyd Mr. H. Owen yn weinidog yr eglwys ieuangc. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Howells, Baran; T. Davies, Abertawy; W. Jones, Penybont; D. Evans, Mynyddbach, a Jonathan Davies, Llanybri. Bu Mr. Owen yn llafurus iawn i adeiladu y capel yma yn 1824, ac i gasglu ato, ond gan ei fod ar dir Cwmni y gwaith ac heb un les, ac i'r gweinidog yn rhyw fodd ddigio Mr. Vigurs, y prif berchenog, bu raid iddo ymadael a'r lle yn 1828. Yn y flwyddyn 1830, rhoddwyd galwad i Mr. Lodwick Edwards, myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Medi 7fed a'r 8fed y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Penygraig; W. Thomas, Clydach; R. Howells, Baran; D. Griffiths, Castellnedd; J. Rowlands, Cwmllynfell; T. Davies, ac E. Griffiths, Abertawy; J. Williams, Ty'nycoed, ac eraill.[24] Bu Mr. Edwards yma yn barchus hyd y flwyddyn 1833, pryd y trodd i'r Eglwys Wladol. Yn y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. Robert Owen, Llanengan, sir Gaernarfon. Bu ef yma hyd y flwyddyn 1840. Ar ol ei ymadawiad ef bu yr eglwys am dymor yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, ac am ddwy flynedd dan ofal Mr. Davies, Cwmaman. Yn y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Roberts, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 24ain a'r 25ain yr un flwyddyn. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Williams, Hirwaun; holwyd y gweinidog gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. C. Jones, Dolgellau; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. Joseph Evans, Capel Sion. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. Davies, Bethania; D. Evans, Castellnedd; J. Davies, Cwmaman; W. Edwards, Aberdar; R. Fairclough, Ffestiniog; E. Jacob, Abertawy; H. Herbert, Drefnewydd; D. Williams, Aberafan, ac E. Griffiths, Abertawy.[25]
Mae Mr. Roberts wedi bod yma bellach am saith-mlynedd-ar-hugain, a thrwy yr holl dymor yn barchus a defnyddiol. Yn 1849, ailadeiladwyd y capel ac agorwyd ef Mai 20ed a'r 21ain, 1850, pryd y pregethodd Meistri Williams, Brynteg; Pryse, Cwmllynfell; Griffiths, Alltwen; Rees, Carmel; Edwards, Aberdar; Thomas, Glynnedd; Williams, Tredegar; Rees, Llanelli; Williams, Hirwaun, ac eraill. Mae y capel hwn yn adeilad helaeth a chyfleus, yn mesur 63 troedfedd wrth 42, ac yn cael ei lenwi gan gynnulleidfa fywiog a gweithgar.
Yn y flwyddyn 1852, gwnaeth Mr. Roberts ei hun yn gyhoeddus iawn, ac adnabyddus yn agos a phell, a chyflawnodd wasanaeth dirfawr i achos rhyddid crefyddol trwy ddynoethi ystrywiau un Mr. Biddulph a'i wraig, gyda golwg ar ysgolion dyddiol Cwmafan. Yr oedd, ac y mae yr ysgolion hyn yn cael eu cynnal ag arian y gweithwyr, a gedwir bob mis yn swyddfa y gwaith. Pan aeth y gwaith i ddwylaw perchenogion y Bank of England, o herwydd fod y Cwmni wedi myned yn ddwfn i ddyled y Bank, gosododd awdurdodau y Bank un Mr. John Biddulph, mab-yn-nghyfraith y diweddar Mr. W. Chambers, Llanelli, yn arolygydd ar y lle. Mewn canlyniad i'r diwygiad nerthol a fu trwy yr holl le yn y flwyddyn 1849, yr oedd y capeli Ymneillduol o bob enwad yn orlawn, a'r eglwys, er lleied ydoedd, yn fwy na haner gwag. Barnodd Mr. Biddulph a'i wraig y gallasant ddefnyddio dylanwad eu sefyllfa yn y lle i wneyd tipyn o wasanaeth i'r Church of England, yn gystal a'r Bank of England; ac felly cysylltasant ysgolion y gwaith a'r National Society, a thrwy hyny gwnaethant hwy yn ysgolion hollol Eglwysig. Cyd-rhyngddynt hwy, yr offeiriad, a'r ysgolfeistr, dechreuwyd denu a gorfodi y plant i fyned i'r eglwys ar y Sabbothau, a cheisid yn mhob modd eu gwneyd yn eglwyswyr. Yr oedd achwyn cyffredinol trwy y gymydogaeth yn herwydd y peth, ac felly darfu i Mr. Roberts, trwy Mr. Kennedy, o Stepney, osod cwyn yn erbyn Mr. Biddulph ger bron pwyllgor llywyddol y Bank of England. Derbyniodd y gwyr hyny dystiolaeth un ochrog y cyhuddedig, a gwrthodasant chwilio i'r Yn ngwyneb hyn ysgrifenodd Mr. Roberts chwech o lythyrau i'r Morning Advertiser i ddynoethi y cwbl. Parodd y dynoethiad gynwrf mawr trwy yr holl wlad, ond yn enwedig yn Nghwmafan a'r gymydogaeth. Aeth Mr. Biddulph a'i is-swyddogion oddiamgylch i geisio cael gan y trigolion i lawnodi papyr yn gwadu y cyhuddiadau. Dywedai ef a'i blaid fod tua mil wedi ei lawnodi, ond y mae yn sicr fod canoedd wedi gwneyd hyny rhag ofn colli eu gwaith, a llawer mewn anwybodaeth o'i gynwysiad. Bygythiai Mr. Biddulph fyny symud Mr. Roberts o'r gymydogaeth, ond methodd yn ei amcan, trwy i'r gwaith fyned i ddwylaw y perchenogion gwreiddiol yn mhen ychydig ddyddiau, ac felly efe ac nid Mr. Roberts gafodd adael yr ardal. Cafodd Mr. Roberts ei gefnogi yn galenog yn ei ymdrech o blaid rhyddid crefyddol gan weinidogion Ymneillduol yr ardal yn gyffredinol, a chan filoedd o'r bobl, ond trodd rhai, hyd yn oed o aelodau ei eglwys ei hun, yn Judasiaid bradychlyd, gan obeithio y cawsant trwy hyny ryw fantais dymorol. Pa fodd bynag Mr. Roberts, ac achos rhyddid crefyddol, a gariodd y fuddugoliaeth; ac y mae yn debygol i'r frwydr boeth hon fod yn ddigon o rybudd i bob meistr gwaith a'i oruchwylwyr yn y parthau hyn, o hyny allan, i beidio ymyraeth a golygiadau crefyddol y gweithwyr a'u plant.
Mae eglwys Sion er's blynyddau lawer yn lluosog iawn ei haelodau, ac yn ganmoladwy am ei heddychlonrwydd, a'i gweithgarwch, a'i haelioni, yn enwedig gydag achosion cartrefol.
Ychydig yw rhif y rhai a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon, er lluosoced ydyw. Yma y dechreuodd William Morgan, yn awr o'r Llwyni, bregethu fel Annibynwr, ond yr oedd cyn hyny wedi bod am flynyddau yn pregethu yn mysg y Methodistiaid.
Zecharias Davies, oedd fab i Jenkin Davies, un o gychwynwyr yr achos yn y lle. Bu ef yn pregethu_am rai blynyddau, ond o herwydd ei ymddygiad yn y ddadl rhwng Mr. Roberts a Mr. Biddulph, rhoddwyd terfyn ar ei bregethu, ac yn mhen rhyw gymaint o amser wedi hyny bu farw yn ddisymwth iawn.
Mae Thomas Griffiths, aelod o'r eglwys hon, yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin. Nis gwyddom am neb arall a gyfodwyd i bregethu yma.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL
LODWICK EDWARDS. Yr oedd ef yn enedigol o ardal Llangeitho. Yn yr Eglwys Sefydledig y cafodd ei ddwyn i fyny, ond o herwydd cael ei siomi yn ei ddisgwyliad am urddau yno trodd at yr Annibynwyr, ac urddwyd ef, fel y nodasom yn Nghwmafan yn 1830, ac yn niwedd 1833, ymadawodd a chafodd ei urddo yn offeiriad gan Esgob Llandaff. Bu am lawer o flynyddau wedi hyny yn offeiriad yn Rhymni. Y mae wedi marw er's deuddeg neu bymtheng mlynedd bellach. Yr oedd Mr. Edwards yn ddyn da, ac yn bregethwr derbyniol, a diau y gallasai dreulio ei holl oes yn barchus yn Nghwmafan, ond gan mai amgylchiadau, ac nid argyhoeddiadau, a'i dygodd i gysylltiad a'r Annibynwyr, nid ydym yn rhyfeddu iddo ddychwelyd i fynwes yr Eglwys Sefydledig.
ROBERT OWEN. Yr oedd yn enedigol o Lanfyllin. Cafodd ei urddo yn Bwlchtocyn, Lleyn, sir Gaernarfon, Medi 12fed, 1820. Dywedir iddo fod yn barchus a thra defnyddiol yn sir Gaernarfon am rai blynyddau. Yn 1834, symudodd i Gwmafan, a bu yn lled dderbyniol yma nes i'r eglwys a'r ardal gael allan nad oedd yn bucheddu yn deilwng o gristion. Wedi ymadael a Chwmafan bu am ychydig amser yn Carmel, Llansadwrn, ond er's rhai blynyddau cyn ei farwolaeth yr oedd wedi myned yn wrthodedig yn mhob man. Y mae wedi cael ei alw i roddi cyfrif o'i weithredoedd er's mwy nag ugain mlynedd bellach. Prin y mae cymeriad o'r fath yma yn haeddu sylw, ond gan ei fod ef a llawer eraill a grybwyllir gynym yn nglyn a gwahanol fanau, wedi bod mewn cysylltiad cyhoeddus a'r weinidogaeth, y mae cywirdeb hanesyddol yn galw arnom i wneyd rhyw gyfeiriad atynt
TABERNACL, ABERAFAN.
Mae yn ymddangos fod Mr. Hugh Owen, pan y dechreuodd yr achos yn Nghwmafan, yn bwriadu cychwyn achosion yn y Taibach ac Aberafan hefyd. Wedi adeiladu capel Sion, Cwmafan, yn 1824, dechreuodd adeiladu y Tabernacl yn Aberafan yn niwedd yr un flwyddyn, neu yn gynar yn y flwyddyn ganlynol. Yr aelodau yma ar gychwyniad yr achos oeddynt John Evans, Gwehydd, Aberafan, a Jane ei wraig; John Rees, a Demares ei wraig; Rees Madog, Cilygofid; Stephen Hughes, Taibach; William Griffiths, a hen wraig o gymydogaeth y Pil. Bu Mr. Owen yma yn gofalu am y ddeadell fechan hon am oddeutu deng mlynedd, ond nid ymddengys i nemawr o lwyddiant fod ar ei lafur, oblegid wyth oedd eu rhif yn y dechreu, ac wyth oeddynt, fel yr eneidiau yn yr Arch, ar ei ymadawiad ef oddiwrthynt.
Pan yr ymsefydlodd Mr. Daniel Evans yn Maesyrhaf yn 1837, efe a gymerodd ofal y praidd bychain yn Aberafan, ac yn dra buan tynodd ei ddoniau poblogaidd a'i ysbryd bywiog luaws i'w wrandaw. Lluosogodd yr eglwys yn mhen ychydig nes yr oedd yn chwech ugain o rifedi. Yn y flwyddyn 1843, cyfododd ymryson yma. Yr oedd Dafydd Williams, perchenog gwreiddiol y tir ar ba un yr oedd y capel wedi ei adeiladu, yn honi fod ugain punt o ddyled ar yr eglwys iddo ef. Gwrthodai Mr. Evans a'r eglwys wneyd un sylw o'i honiad, a'r canlyniad fu iddo ef gloi y capel yn eu herbyn. Aeth Mr. Evans a'r mwyafrif o'r aelodau, y rhai a gydwelent ag ef, i addoli i Neuadd y dref, ac yn fuan wedi hyny rhentiwyd hen gapel y Bedyddwyr, lle y buont hyd 1849, pryd yr adeiladwyd capel y Wern. Darfu i'r rhan o'r eglwys a arosasant yn y Tabernacl roddi galwadi Mr. David Williams, mab y gwr a gloisai y capel yn erbyn Mr. Evans a'r gynnulleidfa, ac urddwyd ef yma Tachwedd 22ain a'r 23ain, 1843. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri D. Jones, Clydach; T. Davies, Abertawy; D. Griffiths, Castellnedd; J. Davies, Castellnedd, a W. Morgan, Llwyni. Bu pethau yn lled lewyrchus yma am rai blynyddau, ond gydag amser gwywodd yr achos a bu agos a myned i'r dim cyn i Mr. Williams ymadael tua y flwyddyn 1855. Ar ol hyn bu y lle am tua blwyddyn dan ofal Mr. John Davies, Castellnedd. Wedi hyny, bu Mr. John Steadman yn weinidog yma hyd 1866, ond ni bu ond y peth nesaf i ddim o lwyddiant ar ei lafur yntau. Tua deuddeg o bersonau, neu lai, oedd rhif yr aelodau ar ei ymadawiad. Buwyd ar fedr rhoddi y capel at gychwyn achos Saesonig, ond drwy ryw amgylchiadau ni ddaeth yr amcan hwnw i ben; ac o'r flwyddyn 1866 hyd 1868, bu gweinidogion y gymydogaeth yn tori bara i'r ychydig aelodau yn fisol, a phregethwyr cynorthwyol yn eu gwasanaethu ar y Sabbothau eraill, ond am y rhan fwyaf o'r ddwy flynedd hyn nid oedd un math o foddion yn cael ei gadw yma ond pregethu ar brydnawn Sabboth. Yn Mai 1868, penderfynwyd rhoddi galwad i Mr. Richard Morgan, pregethwr cynorthwyol yn eglwys y Wern, Aberafan. Gan fod Mr. Morgan yn alluog i fyw heb ymddibynu ar yr hyn a dderbyniai oddiwrth y bobl, cydsyniodd a'r alwad, ac urddwyd ef yma Tachwedd 1af, 1868, pryd y pregethodd Dr. Rees, Abertawy; J. Mathews, a J. Roberts, Castellnedd; E. Roberts, a W. Thomas, Cwmafan; G. Jones, Cefncribwr, a W. Morgan, Llwyni. Pan ymgymerodd Mr. Morgan a gofal y lle yn Mai, 1868, aed i'r draul o 160p. i adgy weirio y capel, a chynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad a'r urddiad yr un dydd. Sefydlodd Mr. Morgan Ysgol Sabbothol yma, a chasglodd 67 y Sabboth cyntaf. Darfu iddo hefyd ffurfio Band of Hope, a chyn pen chwe' mis ar ol ei urddiad yr oedd yr ysgol yn rhifo 150, ac yn mhen y deuddeg mis o ddechreuad ei weinidogaeth yr oedd 53 o aelodau newyddion wedi uno a'r tri brawd a'r naw chwaer oeddynt yn llawnodi yr alwad iddo. Yn nechreu y flwyddyn 1870, gan fod y capel wedi myned yn rhy tychan i gynwys y gynnulleidfa, penderfynodd yr eglwys ei dynu i lawr, ac adeiladu un newydd a helaethach o lawer. Gorphenwyd y capel newydd ac agorwyd ef Hydref 29ain a'r 30ain, a Tachwedd 2il, 1871, pryd y pregethodd Meistri J. Mathews, Castellnedd; D. Jones, B.A., Merthyr; T. Davies, Siloa, Llanelli; R. W. Roberts, Ystradgynlais, a Dr. Rees, Abertawy. Nid oes achos dymuno harddach addoldy na hwn. Mae yn mesur 46 troedfedd wrth 38 tu fewn i'r muriau, ac er prydferthed adeilad ydyw, nid yw wedi costio llawn 900p. Mae yr achos hwn, ar ol bod i fyny ac i lawr amryw weithiau, yn awr a golwg llawer mwy gobeithiol arno nag a welwyd erioed o'r blaen. Rhif yr aelodau yn bresenol yw 120.
Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, Castellnedd, dechreuodd un George Lewis bregethu yma. Symudodd i Borthycawl, ac yno ymunodd a'r Bedyddwyr. Cyfodwyd yma dri i bregethu yn 1870, sef David Francis, yr hwn sydd wedi ymfudo i America; Isaac Evans, mab John Evans, un o'r Annibynwyr cyntaf yn y lle, a Theophilus Davies. Mae y ddau olaf yma yn awr, ac yn debyg o fod yn gynorthwywyr derbyniol a defnyddiol.[26]
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
HUGH OWEN. Ganwyd ef yn ardal y Waunfawr, sir Gaernarfon. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Dechreuodd grefydda a phregethu, fel yr ymddengys, gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn amser y diwygiad grymus a ddechreuodd yn sir Gaernarfon tua 1817, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf selog a thanllyd. Daeth ar daith i'r Deheudir, ac yn rhywle yn sir Benfro gadawodd y Methodistiaid ac ymunodd a'r Annibynwyr. Bu am ryw faint o amser yn yr ysgol yn Aberdaugleddyf. Yn 1818, priododd wraig weddw, yr hon a gadwai y tafarndy Black Cock yn Abertawy, a daeth yno i fyw. Yn mhen ychydig amser wedi hyny aeth i'r Taibach, Aberafan, a Chwmafan i bregethu, ac wedi corpholi eglwys yn Nghwmafan, urddwyd ef yno ar yr amser a grybwyllwyd eisioes. Bu yn gweinidogaethu yn Nghwmafan, ac wedi hyny yn Aberafan, hyd y flwyddyn 1832, neu 1833, pryd yr ymadawodd a'r lle. Ar ol hyny bu am ryw faint o amser yn weinidog yn Leominster, yn sir Henffordd. Tua 1836, dychwelodd i Gymru, ond ni bu un eglwys mwyach dan ei ofal. Yn 1836, cyhoeddodd ddwy bregeth ar Ioan x. 17., a'r xxviii. 17.
Yroedd Hugh Owen yn bregethwr synwyrol ac yn ysgolhaig gweddol dda. Yr oedd yn ddyn gweithgar a llafurus; ond yr oedd ynddo ddiffygion pwysig a anafent ei ddefnyddioldeb yn mhob man yr elai iddo. Mae yn ymddangos nad oedd yn gwbl rydd oddiwrth bechod oedd yn rhy gyffredin yn mysg pregethwyr ei oes ef, sef diotta, ond trwy briodi tafarn wraig gosododd ei hun mewn perygl yehwanegol i fyned yn ysglyfaeth i'r "pechod oedd barod i'w amgylchu." Yn ychwanegol at hyny, yr oedd rhywbeth yn anserchus yn ei dymer, fel nad allai fyw mewn heddwch a phobl. Gorfu iddo, fel y gwelsom, ymadael a Chwmafan o herwydd cweryla a meistr y gwaith, a digwyddodd yr un peth rhyngddo a goruchwyliwr Mr. Talbot, yr hwn mewn canlyniad a ddywedodd na chawsai yr Annibynwyr fodfedd o dir at adeiladu capel yn y Taibach tra y buasai efe byw, a safodd at ei air. Bu farw Hugh Owen yn nhŷ Mr. Lewis Lloyd yn Abertawy yn y flwyddyn 1840. Yr ydym yn tybied ei fod yn amser ei farwolaeth o wyth a deugain i haner cant oed. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Efan, Abertawy.
WERN, ABERAFAN.
Yr ydym wedi dilyn hanes dechreuad yr eglwys hon yn nglyn a'r achos yn y Tabernacl hyd Sabboth, Mehefin 18fed, 1843, pan y clowyd y capel yn erbyn Mr. Daniel Evans, y gweinidog, a'r gynnulleidfa. Yn briodol, yr eglwys hon ydyw yr olyniad rheolaidd o'r eglwys hono, oblegid mai yma yr oedd mwyafrif yr aelodau. Nid arosodd ond 30 ar ol yn yr hen gapel, pryd y daeth 67 allan gyda Mr. Evans. Sabboth a hir gofir oedd y Sabboth hwnw; ac nis gellir edrych ond gyda dirmyg ac anghymeradwyaeth hollol ar y rhai oedd a fynent yn uniongyrchol a'r weithred. Pan aeth Mr. Evans a'r gynnulleidfa fel arfer at y capel y prydnawn Sabboth hwnw, cawsant y drws wedi ei gloi; ond er ei bod yn ddiwrnod gwlawog, safodd Mr. Evans mewn certwyn yn ymyl hen goeden-boncyff yr hon sydd i'w weled etto-a phregethodd i'r bobl gyda hwyl nodedig. Erys adgofion yr oedfa ar feddyliau llawer oeddynt yn bresenol hyd y dydd heddyw. Cadwyd cyfarfod gweddi y noson hono mewn tŷ anedd a elwid y Felindre, ac yno y cynhelid y cyfeillachau wythnosol am fwy na phedwar mis. Cymerwyd Neuadd y dref (Town Hall,) i gynal y moddion cyhoeddus, ac ymgynnullai lluaws mawr i wrando, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Ar ol bod yn Neuadd y dref yn addoli am bedwar mis, cymerwyd Moriah, hen gapel i'r Bedyddwyr, dan ardreth flynyddol. Aeth yr achos rhagddo yn llwyddianus, a gweinidogaeth Mr. Evans yn dra chymeradwy, ac undeb brawdol yn yr eglwys, ac ar ol y diwygiad grymus a gafwyd yn 1849, yr oedd capel Moriah yn llawer rhy fychan, fel y penderfynodd yr eglwys gael capel newydd. Cafwyd darn o dir ar brydles, am chwe phunt y flwyddyn o ardreth, gan Mr. Samuel Bamford, yn y pen gorllewinol i'r dref, a galwyd ef y Wern. Dyddiad y weithred yw Ionawr 1af, 1850. Ymgymerodd Mr. Bamford ag adeiladu y capel, ac agorwyd ef y Mercher a'r Iau olaf yn Medi, 1850. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Bryn, J. Hopkins, Drefnewydd; J. Steadman, Mumbles; H. Rees, Ystradgynlais; J. Thomas, Glynnedd; R. Pryse, Cwmllynfell; T. Davies, Treforis; O. Owens, Brynmenyn; D. Davies, Rhiadr; E. Evans, Hermon; P. Griffiths, Alltwen; J. Thomas, Graig; J. D. Williams, Penybont; E. Jacob, Abertawy; J. Bowen, Pendaran; J. Rees, Carmel; J. Thomas, New York, a T. Thomas, Clydach.[27] Yr oedd yn gapel helaeth a chyfleus, yn mesur 48 troedfedd wrth 40 troedfedd. Llafuriodd Mr. Evans yma gyda chymeradwyaeth a mesur o lwyddiant hyd derfyn ei oes; er iddo gael llawer o ofid oddiwrth rai personau. Fel y crybwyllasom yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Maesyrhaf, Castellnedd, medrai ddyweyd ymadroddion llymion, miniog, a chyrhaeddgar, y rhai a frathent hyd yr asgwrn; a thywalltai gawodydd o ymadroddion gwawdlym y fath ag a orfodai y rhai y disgynent arnynt i deimlo oddiwrthynt. Nid oedd yr ymadroddion hyny hwyrach yn gwneyd dim lles iddo; ond y fath oedd ei gasineb at dwyll, a rhagrith o bob math, yn enwedig at anhyweithdra mewn dynion ar enw crefydd, fel nas gallasai eu goddef. Digwyddodd iddo glywed am un o'r dynion hyn oedd ar un adeg yn yr eglwys dan ei ofal yn y Wern; a chlywsai ei fod yn cynllwyn yn ei erbyn, ac yn ceisio casglu plaid yn ddirgelaidd i'w godi ymaith; a phenderfynodd weinyddu cerydd arno mewn dull nas gallasai gamgymeryd ei ystyr. Wrth fyned o'r capel un noswaith, galwodd y dyn o'r neilldu, ac wedi ysgwyd llaw ag ef dywedai wrtho, yn ddystaw ac yn gyfeillgar, fel y gallesid tybied—"Hwn a hwn, os gwyddoch chwi am rhyw ddyn bach yn yr eglwys yma sydd wedi blino arna' i, ac am fy nghael i oddiyma—mae dynion felly i'w cael chi wyddoch na bydd neb wrth eu bodd yn hirdywedwch wrtho mai gwell iddo fyned i Benrhiw, ac aros yno dipyn; a phan y bydd e wedi blino yno-waeth mae e yn siwr o flino, fedr dynion anhywaeth ddim bod yn hir yn unman-gall fyn'd i fyny at Mr. Roberts i Gapel Sion i'w threio hi yno, ac wedi iddo flino yno, a methu llwyddo i'w gyru hi yn ddrwg rhwng Mr. Roberts a'r eglwys, fe all dd'od yn ol yma atom ninau am dipyn. Mi fyddai i yma wedi hyny-waeth dwy i ddim yn meddwl myned oddiyma. Nos da i chwi," ac ymaith ag ef. Yr oedd yn dywedyd y cwbl mor gyflym a chyffrous, fel na chai y dyn hamdden i wthio gair i mewn; ond teimlai rhyw lais oddifewn iddo yn dywedyd, "Tydi yw y gwr." Bu rhai o'r dynion hyn o gryn ofid iddo er hwyrach y gallasai gydag ychydig o hunan lywodraethiad a hynawsdd ragflaenu llawer o hono.
Yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Evans, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Job Jones, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Rhagfyr 5ed a'r 6ed, 1860. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin; holwyd y gweinidog gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Thomas, Bryn, Llanelli; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Cymerodd amryw weinidogion eraill ran yn oedfaon y dydd. Ni bu tymor Mr. Jones ond byr yma; ond yn yr ysbaid byr hwnw bu yn nodedig o dderbyniol a chymeradwy, ac yr oedd yr adeg hono yn wresog ar grefydd yn y wlad. Gorfodwyd ef gan sefyllfa ei iechyd yn gynar yn yr haf dilynol i fyned adref i dŷ ei rieni, ac ni ddychwelodd yma mwy. Gwanychodd yn raddol, a bu farw Medi 29ain, 1861, yn 27 oed. Bu yr eglwys am fwy na dwy flynedd ar ol hyn yn amddifad o weinidog, ond er hyny ni bu na segur na diffrwyth. Yn nghyfarfod Jubili taliad dyled y capel a gynaliwyd yma Rhagfyr 16eg, 1862, dangosodd yr ysgrifenydd fod yr eglwys wedi casglu at ddyled y capel o'r flwyddyn 1849 hyd y cyfarfod hwnw 993p. 7s. 5c., heb gyfrif yr hyn a wnaed at gynhaliaeth yr achos yn y lle, ac at achosion cyhoeddus y tu allan. Yn Gorphenaf, 1863, derbyniodd Mr. John Garibaldi Thomas, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, alwad gan yr eglwys; a chynaliwyd cyfarfodydd ei urddiad y dyddiau olaf o fis Rhagfyr y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Evans, Sciwen; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan ei frawd Mr. W. Thomas, Gwynfe; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Davies, Aberaman, (dan weinidogaeth yr hwn y dechreuodd Mr. Thomas bregethu); ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol yn cymeryd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd, heblaw nifer fawr o fyfyrwyr Caerfyrddin ac Aberhonddu. Dechreuodd Mr. Thomas ei weinidogaeth yma dan amgylchiadau tra ffafriol. Yr oedd masnach yr ardal yn fywiog, a'r eglwys yn llawn o ysbryd gweithio; ac yn haf 1864, penderfynwyd adgyweirio y capel, ac adeiladu ysgoldy helaeth gerllaw iddo, lle yr addysgir y plant ar y Sabboth, ac y cynhelir y moddion wythnosol, a chostiodd y cyfnewidiadau a'r ad-drefniadau agos yr un faint ag a gostiodd adeiladu y capel ar y dechreu. Ail agorwyd ef Awst 6ed a'r 7fed, 1865, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri E. G. Jones, o athrofa Caerfyrddin; J. M. Thomas, Wyddgrug; E. Evans, Treforis; S. Davies, Aberdar, a T. Rees, D.D., Abertawy. Parhaodd yr eglwys i fyned rhagddi yn llwyddianus, fel cyn diwedd y flwyddyn 1866, yr oedd rhif yr aelodau yn 300. Yn Mai, 1867, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol ar gyfer y Saeson yn Neuadd y dref, gan feddwl y pryd hwnw am sefydlu achos Seisnig yn y lle, ond dyryswyd yr amcan hwnw a hyny pan oedd y rhagolygon yn addawol iawn.[28] Yn haf 1868, cyflwynwyd Tysteb i Mr. Thomas gan yr eglwys am ei ffyddlondeb gyda'r achos yn y lle; ac yn enwedig fel cydnabyddiaeth o'u parch idlo am ei waith yn sefyll mor wrol o blaid iawnderau yr Ymneillduwyr pan y ceisid gosod iau drom ar eu gwarau yn mrwydr hir gofiadwy y "lle claddu newydd." Cyflwynwyd yr anrheg i Mr. Thomas, dros yr eglwys a chyfeillion y tu allan, gan yr hen ddiacon ffyddlawn Evan Enoch, yr hwn sydd ar fin 80 oed. Mae yr eglwys yma wedi dyoddef oddiwrth fethiant rhai o weithfeydd yr ardal, ac ymadawiad llawer o aelodau i eglwysi eraill; ac nid yw yr ymadawiadau bob amser wedi bod yn y dull mwyaf rheolaidd; ond y mae yr achos er hyny mewn gwedd lewyrchus, ac ni bu ei heddwch mewnol yn helaethach mewn unrhyw gyfnod yn ei hanes, ac nid heddwch diffrwyth ydyw ychwaith canys yr oedd cyfanswm derbyniadau yr eglwys at bob achos am 1870 yn ymyl dau cant o bunau, ac y mae dyled y capel wedi ei dynu i lawr o dan ddau cant.
Bu yma lawer o bersonau ffyddlon o bryd i bryd y rhai y mae ei henwau yn teilyngu eu cofnodi yn barchus. Benjamin James oedd frawd ffyddlon a llafurus. David Griffiths a David Bowen oeddynt ystwyth ac iraidd eu profiad. Morgan Hussey oedd un a wir ofalai am yr achos yn y lle er pan y daeth yma o'r Mynyddbach, a pharhaodd felly hyd y diwedd. Bu farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, (93 oed,) ac er ei fod er's blynyddau wedi colli ei olygon, yr oedd ei weled yn gwrando a'i ddagrau mawrion yn treiglo dros ei ruddiau yn dangos fel yr oedd ei enaid yn mwynhau diddanwch yr efengyl. Evan Jones oedd ddyn tawel a heddychol, a dangosodd y dorf fawr a ddaeth i'w gladdedigaeth y parch oedd i'w gymeriad; ac y mae yn ddyled cofnodi, yn mysg llawer o wragedd rhinweddol a fu yma, enw Catherine Howell, yr hon a fu farw y flwyddyn hon (1871). Yr oedd yn berthynas i'r hen bregethwr hynod Siencyn Thomas, Penhydd, ac mewn pethau yn dwyn tebygolrwydd iddo. Yr oedd yn un o'r rhai olaf o'r hen do a welwyd lawer gwaith yn neidio ac yn llamu o flaen Arch Duw. Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:
John Phillips. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1807, mewn lle a elwir Nantysaeson, yn mhlwyf Llanfyrnach. Bedyddiwyd ef gan Mr. William Evans, Hebron, gyda'r hwn yr oedd ei rieni yn aelodau. Derbyniwyd John Phillips yn aelod yn Hebron gan Mr. John Evans, pan nad oedd ond 12 oed. Wedi iddo briodi bu yn trigianu am flynyddau yn ymyl Mr. Evans, Hebron, ac yn gweithio iddo, a theimlai John Phillips trwy ei oes yn fraint iddo gael ei ddwyn i gysylltiad mor agos a'r gwr nodedig hwnw. Cafodd ei wraig ei chystuddio yn drwm am flynyddau, a thrwy fod ei deulu yn lluosog, bu raid iddo adael cymydogaeth dawel Hebron, a throi ei wyneb tua Morganwg i ymofyn cynhaliaeth iddynt. Sefydlodd yn Aberafan, lle y bu yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd. Tua diwedd y flwyddyn 1845, anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac o hyny hyd ddiwedd ei oes bu yn bregethwr cynorthwyol derbyniol a chymeradwy. Heblaw yn Aberafan, pregethodd lawer yn Melinycwrt, Glynnedd, Ystradfellte, Llwyni, Cefncribwr, Drefnewydd a manau eraill, a bu yn myned yn fisol am flynyddau i rai o'r lleoedd a enwyd. Cymerai deithiau byrion yn achlysurol i sir Gaerfyrddin neu sir Benfro, ac yr oedd yn hynod o gymeradwy pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn o ddeall da, o barabl clir, a'i lais yn hyglyw. Edrychid arno fel dyn tyner a charedig, ac yr oedd yn ffyddlon gyda holl ddyledswyddau crefydd, yn enwedig yn ei ofal am y llesg, y trallodedig, a'r cystuddiol. Pregethai yn bur a sylweddol, ac yr oedd ei draddodiad yn wastad yn gynes a bywiog. Gallesid yn yr olwg arno ddisgwyl iddo fyw i oedran teg; ond gwelwyd arwyddion fod y dyfrglwyf arno, yr hwn a gynyddodd yn gyflym, a bu farw Mai 25ain, 1866, yn 59 oed, a chladdwyd ef yn barchus un o'r dyddiau canlynol yn mynwent eglwys blwyfol Aberafan.
Robert B. Williams. Dechreuodd bregethu yr un pryd a John Phillipsac y mae yn awr yn weinidog yn y Morfa, sir Fynwy.
Richard Morgan. Urddwyd ef, fel y gwelsom, yn weinidog yn y Tabernacl, Aberafan.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
JOB JONES. Mab ydoedd i David a Mary Jones, o'r Crinoedd, yn agos i Narberth. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1834. Derbyniwyd ef yn aelod pan yn ieuangc, ac yn fuan wedi dechreu pregethu aeth i'r athrofa i Gaerfyrddin. Wedi treulio ei amser yno, derbyniodd alwad o'r Wern, Aberafan. Cychwynodd ei weinidogaeth ar adeg fywiog-ar haf o ddiwygiad, ac yr oedd wedi cyfranogi yn helaeth o'r un ysbryd. Cynhelid cyfarfodydd gweddio undebol ar y pryd, ac yr oedd ei dymer serchog a'i ddawn melus yn ei wneyd yn dderbyniol nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond gan bob enwad yn y dref; ond yr oedd yr eglwys a'r gynulleidfa dan ei ofal wedi ymserchu yn arbenig ynddo. Pregethai yn danllyd iawn, yn rhy danllyd o lawer i ateb i'w nerth, a llosgodd allan yn fuan. Yn mhen tua chwe' mis wedi ei urddiad gwelwyd arwyddion eglur fod y darfodedigaeth wedi ymafael ynddo. Aeth adref i dy ei rieni gan ddisgwyl gwellhad, ond nychodd yn raddol, a bu farw brydnhawn Sabboth Medi 29ain, 1861, a chladdwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent Brynsion, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri L. James, Carfan; J. Lewis, Henllan; J. Davies, Gapel Sion, Abertawy; W. Thomas, Whitland, a J. Morris, Narberth. Bu eglwys y Wern yn hynod o garedig iddo yn ystod ei gystudd, ac elai rhai o honynt yn aml yr holl ffordd o Aberafan i ymyl Narberth i ymweled ag ef, ac aeth tua haner cant o honynt i'w angladd. Cymerasant holl draul ei gladdedigaeth, a chodasant gofadail ar ei fedd; ac y mae maen coffadwriaethol am dano ef a'i ragflaenor, Mr. Evans, i'w weled mewn man amlwg yn nghapel y Wern. Ete oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo," a thros amser byr yr oedd yr eglwys yn "ewyllysgar yn gorfoleddu yn ei oleuni ef."
ROCK.
Dechreuwyd yr achos yma yn 1888, trwy gadw cyfarfod gweddi yn nhŷ John Griffiths, cefnder Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd. Yr oedd y tŷ yr oedd John Griffiths yn byw ynddo wedi bod yn dafarndy, o dan yr enw Rock & Fountain, ac oddiwrth hyny y gelwir y capel hyd heddyw Capel y Rock. Aelodau yn Zoar, Castellnedd, oedd John Griffiths, Rock; Edward Jenkins, Penstar, a Thomas Hughes, Cwmclais, y tri a gychwynasant yr achos, ac unodd Morgan Rees, dilledydd, ac eraill o gapel Seion a rhai o aelodau y Cymer gyda hwy. Yr oedd Morgan Rees yn ganwr rhagorol, yr hyn oedd yn help mawr i'r achos ar ei gychwyniad. Cadwyd y gyfeillach gyntaf yma ar foreu Nadolig 1838, ar ol oedfa-weddi blygeiniol a gynhelid, ac arosodd Rees Griffiths, mab John Griffiths, a Jennet Rees a William Rees, Pontrhydyfen, ynddi. Cedwid cyfeillach yn rheolaidd bob wythnos ar ol hyn, a daeth Thomas Lewis a'i frawd William Lewis yn fuan attynt, a derbyniwyd y pump yn gyflawn aelodau yr un Sabboth yn Zoar, Castellnedd. Yn mhen oddeutu tri mis cafwyd dwy bregeth yn y lle ar brydnhawn Sabboth gan John Davies a David Griffiths, dau bregethwr cynorthwyol perthynol i Zoar; ac o hyny allan cafwyd Ysgol Sabbothol bob boreu Sabboth, pregethu am ddau, a chyfarfod gweddi yn yr hwyr. Deuai y ddau bregethwr a enwyd o Zoar, Castellnedd yma, a Zechariah Davies, aelod o Gapel Seion, a David Griffiths, pregethwr perthynol i'r Bedyddwyr, yr hwn sydd yn aros etto yn Nghwmafan. Cafwyd cyfarfod pregethu yma yn 1838, pryd y pregethodd Meistri W. Thomas, Cymer-glyn-corwg; D. Griffiths, Castellnedd; W. Morgan, Llwyni, a P. Griffiths, Alltwen. Yn niwedd Mehefin, 1839, daeth Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd yma i bregethu, ac i gorpholi yr aelodau yn y lle yn eglwys, ac i weinyddu yr ordinhadau. Bu y lle am ychydig dan ofal Mr. Griffiths, ac wrth weled pethau yn myned yn mlaen mor obeithiol, edrychwyd am le i adeiladu capel; yr hyn a gafwyd yn ymyl y lle y saif y capel presenol. Codwyd capel bychan, diaddurn, ac agorwyd ef Awst 20fed a'r 21ain, 1840. Ar ol cael capel newydd, anogodd Mr. Griffiths yr eglwys yn y lle i edrych am ryw un i'w bugeilio, gan fod ei lafur ef eisioes yn ormod i allu gwneyd hyny. Cyn diwedd y flwyddyn 1841, cymerodd Mr. William Thomas, Cymer-glyn-corwg, ofal y lle mewn rhan, yr hwn oedd wedi bod yn un o brif gefnogwyr y lle o'r dechreuad. Bu yn gofalu am y lle felly yn rhanol mewn cysylltiad a Cefnoribwr hyd Ebrill 1845, pryd y rhoddodd yr eglwys yno i fyny, ac y cymerodd yn gyflawn at yr achos yma; ac y mae yn parhau i lafurio yn y lle hyd yr awr hon. [29] Yn fuan wedi sefydliad Mr. Thomas, lluosogodd yr eglwys a'r gynnulleidfa. Rhoddwyd oriel ar y capel, ac wedi y llwyddiant mawr a gafwyd yn 1849, aeth yn llawer rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa. Yn hytrach na helaethu y Rock, penderfynwyd codi capel newydd eang ar y Wauntymaen, mewn man lle yr oedd y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym; ac wedi ei gael yn barod aeth rhan o'r eglwys yno. Effeithiodd ymadawiad cynifer o'r aelodau ar yr un pryd ar y lle dros ychydig; ond cryfhaodd yn raddol, fel y daeth y capel yn llawn drachefn, ac erbyn y flwyddyn 1869, penderfynwyd cael capel newydd eangach, ac adeiladwyd un gwerth wyth gant o bunau, yr hwn a agorwyd Tachwedd 20fed a'r 21ain, 1870; ac erbyn hyn nid oes ond cant-a-thri-ugain punt o ddyled yn aros, yr hyn a ddengys fod gan y bobl galon i weithio.[30]
Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser yn heddychol a thangnefeddus, ac wedi gwasgar ei dylanwad er daioni mawr yn y cylch pwysig y mae ynddo.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—
William Rees. Urddwyd ef yn Siloh, Maesteg, lle y mae yn aros etto. Jenkin Davies, Mynyddbychan. Dechreuodd bregethu yn 1856. Yr oedd yn bregethwr ieuangc gobeithiol, a disgwyliadau mawrion wrtho, ond gwaelodd ei iechyd, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau, Tachwedd 27ain, 1861.
Richard Williams. Urddwyd ef yn y Bryn, lle y mae yn parhau i lafurio.
George Williams. Bu yn yr ysgol Normalaidd yn Abertawy. Urddwyd ef yn Nhrewyddel, ac y mae yn awr yn Amlwch.
John Evans (Ieuan Afan). Mae ef yn parhau yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys, ac yn gwasanaethu gyda Mr. Thomas, y gweinidog, fel "ei fab anwyl yn y ffydd."
BETHANIA, TYMAEN.
Ar ol yr ychwanegiad mawr a fu at yr eglwysi yn Nghwmafan, fel mewn llawer o fanau eraill yn Morganwg yn y flwyddyn 1849, aeth capel y Rock yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa, fel y penderfynodd Mr. Thomas a'r eglwys yn hytrach na'i ailadeiladu, i godi capel arall mewn man cyfleus i ran o'r eglwys yn nes i ganol y Cwm. Cafwyd darn o dir ar Wauntymaen, lle yr oedd llawer o dai eisioes wedi eu codi a'r boblogaeth yn cynyddu yn ddirfawr. Adeiladwyd yma gapel eang yn mesur dros y muriau 54 troedfedd o hyd wrth 50 troedfedd o led, a chostiodd yn agos i naw cant o bunau. Agorwyd ef Mai 5ed a'r 6ed, 1861, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Humphreys, Cadle; O. Owens, Brynmenyn; H. Rees, Ystrad; J. Thomas, Glynnedd; T. Thomas, Clydach; E. Griffiths, Abertawy; T. Jones, Treforis; T. Davies, Treforis; E. Jacob, Abertawy; J. Steadman, Mumbles; J. Mathews, Castellnedd, a J. Davies, Mynyddbach.[31] Yn anffodus wedi dechreu adeiladu cafwyd allan fod y tir o dan y capel yn ymollwng ac agenodd y muriau ychydig fel y bu raid eu cadarnhau a barau heiyrn, yr hyn, heblaw ychwanegu y draul, a barodd lawer bryder i'r cyfeillion yn y lle. Dyoddefodd yr eglwys hon yn gystal a holl eglwysi y Cwm, oblegid arafwch masnach y lle am flynyddoedd, ac ymadawodd llawer mewn canlyniad i ardaloedd eraill; ond teimlodd yr eglwys hon yn fwy, oblegid mai achos newydd ydoedd, dan faich o ddyled; ond daliodd yr achos ei dir, a thrwy ddyfalbarhad Mr. Thomas, y gweinidog, ac ychydig ffyddloniaid, cariwyd yr achos yn mlaen yn ddiwaradwydd. Yn 1858 gorphenwyd ac ad-drefnwyd y capel, a gwnaed rhyw gyfnewidiadau ynddo; a chynhaliwyd cyfarfodydd ei ail agoriad Gorphenaf 18ed a'r 19eg. Tua diwedd y flwyddyn hono a dechreu yr un ganlynol ychwanegwyd tua 220 at yr eglwys; ond y mae yr eglwys er hyny wedi dyoddef colledion mawrion trwy symudiadau a marwolaethau, ond y mae yr achos mewn cyflwr gobeithiol; a'r ddyled yr hon unwaith a ofnid mor fawr wedi dyfod i lawr i 300p. er i'r capel trwy ei adeiladiad a'i ad-drefniad gostio dros 1300p.[32] Erbyn hyn y mae yr eglwys wedi dyfod yn mlaen yn gryf a llwyddianus. Mae yr achos o'r dechreuad wedi bod mewn cysylltiad a'r Rock, ac o dan yr un weinidogaeth. Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef John Stephens, sydd yn awr yn yr ysgol yn Menybont-ar-ogwy.
LLANSAWEL, NEU BRITON FERRY.
Er nad yw yr achos Annibynol yn y plwyf hwn yn hen, dichon na fn un adeg er's yn agos i ddau cant a haner o flynyddau heb fod aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn byw yn y plwyf. Yma yr oedd Bussey Mansel yn byw yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg, ac efe oedd perchenog y rhan fwyaf, os nad yr oll, o'r plwyf. Yr oedd y boneddwr hwnw yn un o weinyddwyr y weithred er taenu yr efengyl yn Nghymru yn 1650, a bu trwy dymor yr erledigaeth yn aelod ffyddlon ac yn noddwr cadarn i'r eglwys yn y Chwarelaubach. Gresyn na buasai Iarlliaid Jersey, ei ddisgynyddion a'i etifeddion, yn glynu gydag egwyddorion eu henafiaid. Gan nad yw y lle hwn ond dwy filldir o Gastellnedd, mae yn ddiameu fod llawer o aelodau a gwrandawyr y Chwarelaubach a Maesyrhaf yn trigianu yma o oes i oes. Yn y flwyddyn 1809, gan fod Mr. Bowen, Castellnedd, wedi bod yn ddyoddefydd o herwydd pregethu mewn tai heb eu trwyddedu, mynodd drwyddedu tŷ yma fel y gallasai bregethu yn ddiofn cosp. A ganlyn sydd gopi o'r drwydded.
"To all to whom it my concern. Whereas the dwellinghouse of David Rees of the parish of Briton Ferry, in the county of Glamorgan, and the Diocese of Llandaff, is certified to the Right Reverend Father in God, Richard, by Divine permission, Bishop of Llandaff, to be lately fixed upon as a proper place for the Protestant Dissenters of the Independent persuasion to meet in for Divine Worship.
These are, pursuant to an Act of Parliament, in that behalf made and provided, To certify that the Certificate hereof was Registered in the said Lord Bishop's Registry the 1st day of April, in the year of Our Lord 1809.
EDW. PEARSON,
Registrar."
Bu Mr. Bowen yn pregethu yn fynych yma hyd derfyn ei oes, ac ymwelid a'r ardal yn aml gan weinidogion o ardaloedd eraill, megis Methusalem Jones, Merthyr; W. Jones, Penybont, &c. Pregethodd yr enwog Daniel Griffiths lawer yma yn ei dymor, ond ei ganlyniedydd Mr. J. Mathews gafodd yr anrhydedd o sefydlu achos yn y lle. Yn 1847, cynaliwyd Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio, yn nghyd a phregethu achlysurol, gan Mr. Mathews, a phobl Zoar, Castellnedd, mewn anedd-dy yn Giant's Grave. Yn y flwyddyn 1848, adeiladwyd yma gapel lled helaeth a chyfleus yn cynwys tua 400 o eisteddleoedd. Yn mhen tua blwyddyn ar ol agor y capel corpholwyd yma eglwys yn cael ei gwneyd i fyny gan mwyaf oll o aelodau a ollyngasid o Zoar. Mr. Mathews, a Mr. William Parker, un o ddiaconiaid Zoar, fu yn gweinyddu ar yr achlysur. Y dynion mwyaf blaenllaw a gweithgar yma fel aelodau ar ffurfiad yr eglwys oeddynt Griffith Lewis, Thomas Morgan, Thomas Parker, William Hughes, Thomas Davies, William Hunter, Benjamin Howells, a William Lovett. Bu yr eglwys ieuangc dan ofal Mr. Mathews hyd Hydref, 1851, pryd yr urddwyd Mr. Griffith Roberts yn weinidog. Ychydig gyda dwy flynedd y bu ef yma cyn i'w fuchedd fyned yn rhy annheilwng iddo gael ei ddyoddef yn hwy fel gweinidog yr efengyl. Ar ol ei ymadawiad ef bu yr eglwys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd 1859, pryd yr ymsefydlodd Mr. David Evans, y gweinidog presenol yma. Mae gweinidogaeth Mr. Evans wedi bod yn dderbyniol a llwyddianus iawn hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1865, tynwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd un llawer mwy a harddach ar ei safle. Cynwysa y capel presenol saith i wyth cant o eisteddleoedd. Traul adeiladaeth y capel cyntaf oedd 516p., a thraul adeiladaeth yr ail oedd 1500p. Rhif yr aelodau bresenol yw 260. Ni fu yma ddim tebyg i derfysg eglwysig hyd o fewn tair blynedd yn ol, pryd y darfu i ryw nifer o'r aelodau yn nghymydogaeth Giant's Grave fyned i groes-dynu a'r eglwys, ac amlygu dymuniad am gael eu ffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain, ond barnai yr eglwys yn wahanol iddynt, am y golygent fod un achos Annibynol yn bresenol yn ddigon i gyfateb i anghenion yr ardal. Parhaodd y blaid fechan hon i ymgyndynu. O'r diwedd, rhoddwyd llythyrau gollyngdod iddynt i fyned i Zoar, Castellnedd, ond nid oedd hyny drachefn yn eu boddloni. Dechreu achos newydd yn Giant's Grave oedd eu pwngc hwy. Buont yn nghyfarfodydd chwarterol yr undeb sirol yn gofyn cymeradwyaeth i gwblhau eu hamcanion, ond pan wrthododd y gweinidogion yn benderfynol eu cefnogi, aethant i gyfarfod misol y Methodistiaid, a chawsant dderbyniad ganddynt hwy. Peth blin yw gweled y naill enwad crefyddol yn y modd hwn yn cefnogi rhwygiadau mewn enwad arall. Nid oes un enwad yn Nghymru yn hollol ddifai ar y pen hwn, ond y mae yn llawn bryd i ni oll amlygu mwy o ysbryd caredig cristionogaeth a llai o ysbryd plaid.
SCIWEN.
Cangen o Zoar, Castellnedd yw yr eglwys hon. Dechreuwyd yr ardal gan Mr. Daniel Griffiths, yr hwn a bregethodd lawer mewn tai yn yr achos flynyddau cyn bod son am gapel; a derbyniwyd llawer o bersonau o'r gymydogaeth yn aelodau yn y dref. Cynhelid yma Ysgol Sabbothol, yr hon a gynyddodd i'r fath raddau fel yr oedd pedwar o dai anedd yn rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuent yn nghyd. Gwelwyd yn angenrheidiol cael capel, a phrynwyd darn o dir, a chodwyd arno gapel yn mesur 34 troedfedd wrth 28 troedfedd. Agorwyd ef Mehefin 8fed a'r 9fed, 1842; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri D. Evans, Castellnedd; E. Watkins, Llanelli, Brycheiniog; J. Davies, Mynyddbach; W. Morris, Glandwr; J. Davies, Cwmaman; R. Pryse, Cwmllynfell, a W. Morgan, Llwyni.[33] Am rai blynyddau ar ol hyn cedwid yma Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd yn yr wythnos, a chyfarfod gweddi neu bregeth bob nos Sabboth; ond yr oeddynt yn myned i'r dref bob boreu Sabboth, ac i'r dref i gymundeb; ond gweinyddid yma gymundeb yn achlysurol er mantais i'r rhai oedd yn analluog i fyned i'r dref; ac felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr. Griffiths, ac am dymor wedi i Mr. Mathews ddechreu ei weinidogaeth yn Zoar. Ond wrth weled y lle yn cynyddu barnwyd yn ddoeth ffurfio eglwys yma, a rhoddwyd gollyngdod i 53 o aelodau o Zoar, ac ar foreu Sabboth, Medi 24ain, 1848, corpholodd Mr. Mathews hwy yn eglwys yn y lle. Parhaodd y Sciwen dan ofal Mr. Mathews hyd y flwyddyn 1851, pan y barnodd yn ddoethach ei rhoddi i fyny gan fod maes ei lafur yn rhy eang. Yn fuan ar ol hyn rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Evan Evans, yr hwn a fuasai dan addysg gyda Mr. Davies yn Llanelli, Brycheiniog; ac urddwyd ef Mai 26ain a'r 27ain, 1851. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Llanelli; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Mathews, Castellnedd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Evans, Rheoboth, (brawd yr urddedig); pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jenkins, Nantyglo, ac i'r eglwys gan Mr. J. Thomas, Glynnedd. Cymerwyd rhan hefyd yn ngyfarfodydd yr urddiad gan Meistri J. Rees, Canaan; T. Jones, Treforis; D. Evans, Castellnedd; R. Rees, Abertawy; P. Griffiths, Alltwen; W. Miles, Tyrhos; J. Davies, Mynyddbach; T. Davies, Treforis, ac eraill.[34] Mae Mr. Evans wedi llafurio yma bellach am fwy nag ugain mlynedd, ac y mae yr achos, er gorfod myned trwy lawer o gyfnewidiadau, wedi myned rhagddo yn llwyddianus. Aeth yr hen gapel yn rhy fychan yn fuan, ac yn 1859, penderfynwyd adeiladu capel newydd heb fod yn mhell o'r fan lle y safai yr hen, ac aeth yr eglwys i'w theml newydd a hardd yn mis Awst, 1860.
Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Thomas Phillips, yr hwn a fu farw pan yn cychwyn ei efrydiau er parotoi ar gyfer y weinidogaeth. Deiffwyd ei brydferthwch gan awelon oerion y darfodedigaeth, a gwywodd fel blodeuyn pan yn dechreu ymagor.
BRYN, CWMAFAN.
Dechreuwyd pregethu yma yn achlysurol mewn tai anedd tua'r flwyddyn 1841, ond yn 1846 y dechreuwyd gwneyd hyny yn rheolaidd. Adeiladwyd yma haner cant o dai newyddion ar gyfer y glowyr a'r mwnwyr oedd wedi dyfod i'r ardal i weithio, ac yn mhlith eraill daeth rhai o aelodau Capel Seion a'r Rock, Cwmafan, a Zoar, Maesteg, yma i fyw. Cymerwyd yma anedd-dy, a threfnwyd ef at gadw moddion crefyddol. Ffurfiwyd yma eglwys yn 1847 gan Meistri W. Thomas, Rock; E. Roberts, Cwmafan, a W. Watkins, Maesteg.[35] Yn y flwyddyn ganlynol rhoddodd yr eglwys, er nad oedd ei rhif ond ychydig, alwad i Mr. John Davies, pregethwr cynorthwyol yn Seion, Cwmafan; ac urddwyd ef Hydref 18fed a'r 19eg, 1848. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; holwyd y gweinidog gan Mr. W. Thomas, Rock; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Davies, Mynyddbach; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. P. Griffiths, Alltwen, ac i'r eglwys gan Mr. W. Watkins, Maesteg. Bu Mr. John Davies yma yn barchus am fwy na phedair blynedd, hyd nes y syrthiodd i bechod gwarthus fel y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef. Bu farw yn mhen blynyddoedd heb fod mewn cysylltiad a'r weinidogaeth. Ar ol hyny bu gofal yr eglwys ar Mr. David Henry mewn cysylltiad a Cymer-glyn-corwg hyd y flwyddyn 1859, pan y symudodd i Benygroes, sir Gaerfyrddin. Aeth yr achos rhagddo yn raddol yn ystod y blynyddau hyn, ac yn niwedd 1860 a dechreu 1861, adeiladwyd yma gapel newydd cyfleus. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Richard Williams, pregethwr cynorthwyol yn y Rock i fod yn weinidog iddi, ac urddwyd ef yn nglyn ag agoriad y capel Mai 21ain a'r 22ain, 1861. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Jones, Maesteg; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Henry, Penygroes; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Thomas, Rock, ac i'r eglwys gan Mr. W. Rees, Maesteg.[36] Ysigwyd llawer ar yr achos yma tua diwedd y flwyddyn 1860, pan y safodd gwaith yr ardal, ond y mae pethau er hyny wedi adfywio, a'r achos yn myned rhagddo, er nid gyda chyflymder mawr.
TONMAWR.
Mae y lle yma yn myned dan wahanol enwau, gelwid of gynt yn Fforchdwn, wedi hyny galwyd ef yn Cwmgwenffrwd; ond dewisir yn awr ei alw Tonmawr, am mai yno y mae yr ysgoldy lle yr ymgynnullent i addoli. Pregethodd Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd, ac eraill lawer mewn anedd-dai yn yr ardal, a chynhelid yma Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a chyfrifid y lle fel cangen e Zoar, Castellnedd. Yn haf 1847, ffurfiwyd yr ychydig aelodau yn y lle yn eglwys, a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd iddynt gan Mr. David Williams, Hermon, Ystradfellte. Wedi bod dros rai blynyddoedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, cymerodd Mr. John Davies, Bryn-troed-gam ofal y lle, a bu yn ffyddlawn yn gofalu am dano. Wedi hyny tu y lle yn olynol dan ofal Mr. E. Evans, Sciwen, a Mr. W. Thomas, Rock; ond yn nechreu y flwyddyn 1866, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Davies, pregethwr cynorthwyol a godwyd ynddi; ac urddwyd ef Ebrill 4ydd a'r Bed, y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau i ofalu am y lle. Nid oes ym a hyd yn hyn gapel wedi ei adeiladu, ond cyfarfyddant mewn ysgoldy ar y Tonmawr.
Codwyd yma ddau bregethwr, sef John Davies, y gweinidog presenol, ac Evan Lewis, yr hwn a symudodd oddiyma i Pontypridd.
TAIBACH.
Mae y pentref poblog hwn yn mhlwyf Margam, tua milldir i'r de o Aberafan. Yr oedd Mr. Hugh Owen wedi dechreu pregethu, ac wedi bwriadu cychwyn achos Annibynol yma, yn y flwyddyn 1821, cyn fod gan un enwad arall achos yn y lle, ond o herwydd camddealldwriaeth rhyngddo ef a Mr. Llewellyn, goruchwyliwr Mr. Talbot, perchenog yr holl blwyf. gwrthodwyd tir i'r Annibynwyr i adeiladu capel yn y lle hyd o fewn un-flynedd-ar-bymtheg yn ol. Yr oedd yr ychydig Annibynwyr a breswylient yn y lle hwn yn myned i Gapel Seion, Cwmafan i gymuno yn amser Mr. H. Owen, ac wedi hyny i'r Tabernacl, Aberafan; ond ni bu yr achos yno ond gwywlyd ac ar drancedigaeth nes i Mr. Evans, Castellnedd, gymeryd ei ofal yn 1837; o hyny allan parhaodd i ychwanegu nerth o flwyddyn i flwyddyn. Yn 1841, derbyniodd Mr. Evans chwech o breswylwyr Taibach yn aelodau yn y Tabernacl, Aberafan, a pharhaodd i dderbyn rhai o'r lle hwn yn feunyddiol nes oeddynt erbyn y flwyddyn 1852 wedi myned yn ddigon lluosog i gadw cyfeillach grefyddol iddynt eu hunain. Cynhaliwyd y gyfeillach gyntaf yn nhŷ John Williams, Groeswen, tad Mr. Robert Williams, Morfa, Mynwy, Ebrill 1af, 1852. Y rhif oedd yn bresenol y noson hono ydoedd un-ar-ddeg. Parhawyd i gynal y gyfeillach a chyfarfodydd gweddio, ac ar y 9fed o Ebrill, 1854, dechreuwyd Ysgol Sabbothol yn rhif 13, Constant Row. Ar yr 21ain o Fai, yn yr un flwyddyn, corpholwyd yma eglwys, cynwysedig o 23 o aelodau, y rhai a gawsant ollyngdod o eglwys y Wern, Aberafan. Ar ffurfiad yr eglwys, gweddiodd Mr. John Phillips, Aberafan, a phregethodd Mr. Evans, Castellnedd, a gweinyddodd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Gweinyddodd Evan Enoch, un o ddiaconiaid eglwys y Wern, fel diacon ar yr achlysur. Wedi cael eglwys yn y lle yr oedd yn rhaid cael moddion crefyddol yn fwy rheolaidd nag o'r blaen, ac felly cydunwyd i dderbyn gwasanaeth Mr. John Steadman fel gweinidog. Y peth nesaf oedd edrych am le i adeiladu capel, ac nid bychan y drafferth a gafwyd cyn ei gael, o herwydd fod Mr. Llewellyn, goruchwyliwr Mr. Talbot yn gosod pob rhwystr a fedrai ar y ffordd. O'r diwedd llwyddodd Mr. Steadman i gael gan Mr. Vivian, perchenog y gwaith yn y lle, a Mr. Gray, ei oruchwyliwr, i ddylanwadu ar Mr. Talbot i roddi tir, ac ar yr 28ain o Ragfyr, 1855, gosodwyd y gareg sylfaen i lawr. Gan fod y tywydd yn nyfnder y gauaf yn anghyfaddas at adeiladu, ni ddechreu- wyd ar y gwaith cyn Mawrth, 1856. Yr oedd Mr. Vivian a'i feibion wedi addaw 65p. at y draul, a'r bobl wedi casglu ychydig at hyny. Yn y mis canlynol, ataliwyd y gwaith i fyned yn mlaen gan oruchwyliwr Mr. Talbot, o herwydd fod arian yn ddyledus i gyfaill iddo oddiwrth gynnulleidfa yn Nghwmafan, nes y buasai yr arian hyny wedi eu talu. Bu hyny drachefn yn rhwystr am gryn lawer o amser. Ar ol llawer o drafferth cafwyd y ffordd yn rhydd i orphen y gwaith, a chafodd y capel ei agor Ebrill 3ydd a'r 4ydd, 1861. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri O. Owens, Brynmenyn; W. Griffiths, Llanharan; D. Rees, Llanelli; J. Thomas, Bryn; Job Jones, Aberafan; J. Davies, Cwmaman; J. Mathews, Castellnedd, ac eraill. Costiodd y capel ychydig dros 600p. Mae yn addoldy hardd a chyfleus, yn mesur 52 troedfedd wrth 38. Rhif yr aelodau pan agorwyd y capel oed1 70, a'r Ysgol Sabbothol yn 140. Aeth pethau yn mlaen yn ddymunol iawn am ychydig amser ar ol hyn; cynyddodd y gynnulleidfa a'r eglwys, a thalwyd cryn gyfran o'r ddyled, ond tua 1864, aeth pethau yn annymunol rhwng Mr. Steadman a rhai o'r aelodau, fel y lleihaodd y gynnulleidfa, ac y taflwyd y cwbl i ddyryswch. Yn 1866, rhoddodd Mr. Steadman y lle i fyny o herwydd henaint a methiant, a rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Stephens, Siloh, sir Gaernarfon, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn 1867. Erbyn hyn yr oedd yr achos drachefn yn dechreu cyfodi ei ben uwchlaw y dwfr. Bu Mr. Stephens yn llwyddianus a chysurus yma am tua dwy flynedd; llanwyd y capel o wrandawyr, a lluosogodd yr eglwys yn fawr. Ond tua dwy flynedd yn ol, cyfododd trallod tost drachefn. Ymrysonodd y glowyr a'u meistriaid; gwasgarwyd ugeiniau o honynt o'r ardal, a daeth Saeson i'w gwaith. Gan mai glowyr oedd y rhan fwyaf o aelodau yr eglwys hon, bu yr amgylchiad gofidus hwn yn niweidiol iawn i'r achos, ac mae yn debyg y dyoddefa oddiwrtho am flynyddau etto. Gan fod yr eglwys wedi myned yn rhy wan i gynal gweinidog, ac nad oes un argoel i bethau wellhau yma yn fuan, gorfu i Mr. Stephens wneyd ei feddwl i fyny i ymadael, ac yn Hydref 1871, symudodd oddiyma i Brynteg, Casllwchwr. Felly mae yr eglwys hon yn bresenol heb weinidog, ac y mae yn debyg o fod yn analluog i gynal un nes y ceir adfywiad ar y gweithiau ac ar grefydd. Hyderwn y ceir pob un o'r ddau yn fuan. Gwelir oddiwrth yr hanes blaenorol nad oes nemawr o achos o'i oed wedi bod mewn mwy o helbulon na hwn, ond y mae wedi cael ei gadw yn fyw ynddynt oll. Dylid crybwyll fod y diweddar Mr. John Phillips, Aberafan, a Mr. Richard Morgan, gweinidog presenol y Tabernacl, Aberafan, wedi bod yn gymorth mawr i'r achos hwn yn ei gychwyniad, ac am flynyddau wedi hyny.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
JOHN STEADMAN. Ganwyd ef yn mhlwyf Llangunor, yn agos i Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1791. Ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghaerfyrddin yn dra ieuangc. Aeth i Gaerodor i weithio ei gelfyddyd fel saer, ac ymaelododd gyda'r Methodistiaid yno. Yn mhen rhyw gymaint o amser, oddeutu y flwyddyn 1818, fel y tybiwn, dechreuodd bregethu. Symudodd o Gaerodor i'r Casnewydd, lle y bu am lawer o flynyddau. Daeth yn lled enwog yn mysg y Methodistiaid fel pregethwr. Tua'r flwyddyn 1838, ymunodd a'r Annibynwyr yn Nghaerdydd, lle yr oedd yn cyfaneddu ar y pryd. Yn 1840, cafodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Newton-on-Mumbles. Ar ol bod yno am rai blynyddau, cymerodd ofal yr eglwys ieuangc yn y Taibach, a'r eglwys fechan yn y Tabernacl, Aberafan, ac yn 1866, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny o herwydd henaint a methiant. Bu farw Rhagfyr, 1869, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf Oystermouth, gerllaw Abertawy.
Yr oedd John Steadman yn gristion pur ei fuchedd, ac yn bregethwr galluog, ac efengylaidd, yn ei ddyddiau goreu, ond achwynid yn dost arno o herwydd meithder ei bregethau. Dywedir y byddai weithiau yn pregethu dros ddwy awr cyn tewi. Yr oedd wedi diwygio i raddau mawr oddiwrth y bai hwnw yn ei flynyddau diweddaf. Er ei fod yn ddyn da, nid oedd yn un o'r rhai mwyaf medrus i lywyddu dynion ac i'w cadw yn heddychol. Cyfododd ymrysonau ragor nag unwaith yn yr eglwysi dan ei ofal, yr hyn a allesid yn rhwydd ragflaenu pe buasai ef yn fwy doeth a phwyllog. Dichon ei fod yn rhy benderfynol i fýny cario allan ei gynlluniau pa beth bynag fuasai y canlyniad; ond cydnabyddid ef gan bawb yn ddyn da, ac yn gristion didwyll,
SARDIS, PONTRHYDYFEN.
Dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddio tua'r Efailfach gan nifer o aelodau y Rock a Fforchdwn, y rhai a gwynent oblegid pellder y ffordd oedd ganddynt i fyned i addoli. Nid oedd y boblogaeth yn lluosog, ac nid addawol iawn oedd y rhagolygon am achos yn y lle; ond cyn hir anturiodd yr ychydig gyfeillion yn y lle a chodi capel, yr hwn a alwyd Sardis. Agorwyd ef Ebrill sydd a'r 4ydd, 1859, ac ar yr un adeg neillduwyd Mr. David Jones, yr hwn oedd yn aelod yn Bethania, Cwmafan, i gyflawn waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Mathews, Castellnedd; J. Davies, Cwmafan; W. Thomas, Rock; O. Owens, Brynmenyn; T. Thomas, Glandwr; J. Jones, Maesteg, ac eraill.[37] Mae Mr. Jones yn parhau yn weinidog yn y lle, ac er na bu yr achos erioed yn gryf, etto y mae yn Sardis "ychydig enwau" yn ffyddlon i gynal coffadwriaeth o enw yr Arglwydd.
BRYNCAWS.

Mae y lle hwn ar lechwedd bryn yn mhlwyf Llangattwg, Glynnedd, tua milldir i'r gogledd o Aberdulais, ac yn agos i dair milldir o dref Castellnedd. Hyd yn ddiweddar nid oedd yn y gymydogaeth ond tri neu bedwar o amaethdai, ond wedi agoryd gweithiau glo yma daeth rhai degau o deuluoedd i fyw i'r ardal. Yn 1866, rhoddodd Mr. Owen Jones, Bryncaws, dir at adeiladu capel, am yr ardreth o chwe'cheiniog y flwyddyn am fil ond un o flynyddau, ac ar yr un pryd, rhoddodd ei hun yn ei henaint, i fod yn ddysgybl proffesedig i'r Arglwydd Iesu. Adeiladwyd yma gapel bychan a thlws, o werth dau gant o bunau, gan y diweddar Evan Evans, Ysw., Castellnedd, a rhoddodd ef yn anrheg i'r gynnulleidfa. Ffurfiwyd yma eglwys yn 1866, cynwysedig yn benaf o aelodau Zoar, Castellnedd. Mae y gangen fechan hon o'r dechreuad dan ofal gweinidogaethol Mr. Mathews,
a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus a gobeithiol iawn. Yr ymddiriedolwyr yn y weithred ydynt Meistri J. Mathews, y gweinidog; Joseph Lloyd Mathews, David Bevan, Evan Evans Bevan, Owen Jones, Jonah Owen Jones, John Jones, a William Davies. Mae tri phregethwr cynorthwyol yn aelodau yma, sef John Davies, William Davies, a William Close. Er nad yw yr eglwys hyd yma ond ychydig o rif, etto, gan fod poblogaeth yr ardal ar gynydd mae yn debyg y bydd yma eglwys luosog yn mhen ychydig o flynyddau.
CASTELLNEDD, (SAESONAEG).
Teimlid er's blynyddoedd fod angen achos Seisnig yn y dref; ac yn Mehefin, 1848, cymerwyd Neuadd y dref i'r perwyl. Pregethwyd yma yn gyntaf gan Mr. W. Jones, Castle-Street, Abertawy; a ffurfiwyd eglwys ar y pryd. Mr. W. T. Morgan a'i deulu; Mr. Thomas Sims, a Mr. David Davies, oll yn dal cysylltiad a Maesyrhaf, oedd a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos, ac unodd amryw eraill y tu allan gyda hwy. Dechreuwyd cyn hir ag adeiladu capel yn Wind-Street, ac agorwyd ef Hydref 10fed a'r 11eg, 1849. Mae yn addoldy cyfleus yn mesur 42 troedfedd wrth 32 troedfedd. Wedi cael y capel yn barod, rhoddwyd galwad i Mr. E. S. Hart, M.A., ac urddwyd ef Mehefin 29ain, 1850. Ni bu yma ond ychydig canys symudodd i St. Ives yn Ebrill, 1851. Wedi bod am dymor yn dibynu ar weinidogion cylchynol, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, B. A., o athrofa Caerfyrddin, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Medi, 1853. Bu yr achos yn dra blodeuog yn y tymor hwn. Talwyd 400p. o ddyled oedd yn aros ar y capel, a gwisgai pob peth agwedd lwyddianus, ond yn Awst, 1856, ymadawodd Mr. Davies oddiyma i Therfield, Herts, lle y mae etto. Rhoddwyd galwad yn ddioed i Mr. Benjamin B. Williams, B.A., myfyriwr o athrofa Aberhonddu. Dechreuodd ei weinidogaeth yma Hydref, 1856, a bu yma hyd fis Mai, 1858, pryd yr ymadawodd i fyned i Pembroke Dock. Yn mhen y flwyddyn wedi ymadawiad Mr. Williams, rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, B.A., myfyriwr. o athrofa Aberhonddu, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Gorphenaf, 1859, a bu yma hyd Ebrill, 1864, pryd yr ymadawodd i Milford. Yn Mawrth, 1865, daeth Mr. David S. Jones yma, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Hope Chapel, Aberteifi, a bu yma hyd nes yr ymadawodd i'r America yn Ebrill, 1869. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas P. Lyke, myfyriwr o athrofa Aberhonddu. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Rhagfyr, 1869, ond o herwydd gwaeledd ei iechyd bu raid iddo roddi y weinidogaeth i fyny yn Gorphenaf y flwyddyn ganlynol. Yn Ionawr, 1871, dechreuodd Mr. J. L. Phillips-yr hwn a urddwyd yn weinidog ar yr eglwys yn Nhredegar-ei weinidogaeth yma; ac y mae yn parhau yn y lle hyd yn bresenol, a'r achos yn myned rhagddo yn llwyddianus. Yn ystod y flwyddyn hon y mae y capel wedi myned dan gyfnewidiadau trwy ei ad-drefnu a rhoddi oriel ynddo, ac aeth y draul yn fwy na 260p., ond nid oes yn aros ond 80p. o'r ddyled heb ei thalu.[38] Gwelir fod yr achos wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau yn ystod yr ychydig gydag ugain mlynedd er y sefydlwyd ef; ond y mae yma rai wedi bod yn ffyddlon iddo trwy yr amgylchiadau; ac yn ol yr argoelion presenol y mae dyddiau gwell yn aros yr achos yn y lle.
CWMLLYNFELL.
Saif yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanguwg, Morganwg, ond o fewn ychydig latheni i derfyn plwyf Llangadog, sir Gaerfyrddin, ac yn dra agos hefyd i blwyf Ystradgynlais, yn sir Frycheiniog. Mae yn dra sicr i'r achos yn y lle hwn gael ei ddechreu yn foreu yn amser yr Anghydffurfwyr, ond yr ydym wedi methu dyfod o hyd i amser ei ddechreuad, nac enwau neb o'i gychwynwyr. "Tybir mai un o'r enw Phillips oedd y gweinidog cyntaf yn Nghwmllynfell, ac iddo gael ei ganlyn gan John Llewellyn, a Llewellyn Bevan."[39] Ni ddigwyddodd i ni daro with enwau Mr. Phillips na Mr. John Llewellyn mewn unrhyw gofnodiad argraffedig nac ysgrifenedig, ond yn unig yn llawysgrif Mr. Pryse, ond y mae enw Llewellyn Bevan i'w gyfarfod yn aml mewn hen lawysgrifau. Yr oedd ef yn weinidog yn Nghwmllynfell, y Gellionen, a Gwynfe, yn 1715, ac o bosibl amryw flynyddau cyn hyny. Yr oedd y tair cynnulleidfa hyn, mae yn debyg o'r dechreuad, dan yr un weinidogaeth, ac yn 1715, yr oeddynt yn nghyd yn chwech chant o rif, a'r aelodau yn meddu naw-ar-hugain o bleidleisiau dros siroedd Morganwg, Caerfyrddin, a Brycheiniog. Yr ydym yn anhysbys o amser marwolaeth Llewellyn Bevan, ond yr oedd Roger Howell yn gydweinidog ag ef yn 1715, a pharhaodd i weinidogaethu yma hyd ei farwolaeth yn 1742. Mae yn debygol i Joseph Simmons gael ei urddo yma yn gydweinidog a Roger Howell tuag amser marwolaeth Llewellyn Bevan, a pharhaodd ef i wasanaethu i'r eglwys hon a'r Gellionen, hyd nes iddo gymeryd gofal yr eglwys yn Maesyrhaf, Castellnedd, tua'r flwyddyn 1751. Nid ydym yn deall fod un gweinidog sefydlog wedi bod yma ar ol ei ymadawiad ef nes i William Evans gael ei urddo yn Nghastellnedd fel gweinidog cynorthwyol yn 1754. Yr oedd ef yn gwasanaethu yr eglwysi yn Rhydymardy a'r Cwmmawr ddau Sabboth o bob mis, a'r Brychgoed am un Sabboth o'r mis am rai blynyddau, a thebyg mai ei fam-eglwys yn Nghwmllynfell oedd yn cael ei wasanaeth ar y Sabboth arall. Bu Mr. Evan Williams, o'r Brychgoed, a Mr. Lewis Rees, Mynyddbach, yn rhoddi rhan o'u gweinidogaeth i bobl Cwmllynfell rhwng 1757 a 1769, ond mae yn debygol mai fel cynorthwy wyr i Mr. William Evans yr oeddynt hwy yn ymweled a'r lle, oblegid yr oedd y cynnulleidfaoedd yn Nghwmtawy, Cwmaman, a'r Alltwen dan ei ofal ef, yn gystal a Chwmllynfell, Rhydymardy, a'r Cwmmawr. Er dirfawr golled i'r eglwys, a'r wlad yn gyffredinol, bu farw y gweinidog gweithgar hwn yn beduir-ar-ddeg-a-deugain oed, yn 1770. Dywedir iddo ar ei wely angau gynghori pobl Cwmllynfell, yr Alltwen, a Chwmaman, i roddi galwad i Mr. John Davies, Pentre-tŷ-gwyn, i fod yn ganlyniedydd iddo ef, yr hyn a wnaethant. Dechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yma yn 1771, a pharhaodd i lafurio yma gyda pharch a dylanwad mawr hyd 1821, pryd y bu farw mewn henaint teg. Yn fua wedi marwolaeth Mr. Davies, rhoddodd yr eglwysi yn Nghwmllynfell Chwmaman alwad i Mr. John Rowlands, Llanybri, a bu yntau yma yn barchus a rhyfeddol o boblogaidd hyd ei farwolaeth ddisymwth yn Mai 1834. Ar ol bod tua blwyddyn heb un gweinidog sefydlog, rhoddodd eglwys Cwmllynfell alwad i Mr. Rhys Pryse, Llanwityd, ac urddwyd e Awst 19eg a'r 20ted, 1835. Ar yr achlysur traddodwyd y gynaraeth gai Mr. D. Evans, Cwmwysg; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Davies, Llanymddyfri; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. H. Herbert, Drefnewydd ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen.[40] Bu yn enwog a llwyddianus iawn yma hyd derfyn ei oes. Yn fuan ar ol ei sefydliad ef yn Nghwmllynfell adeiladwyd capel a chorpholwyd eglwys yn Mrynaman, yr hon sydd er's llawer o flynyddoedd bellach yn eglwys gref a blodeuog iawn. År farwolaeth Mr. Pryse, rhanwyd cylch ei weinidogaeth a chymerodd pob un o'r eglwysi weinidogion iddynt eu hunain. Rhoddodd eglwys Cwmllynfell alwad i Mr. John Rees, myfyriwr yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma Medi 28ain a'r 29ain, 1870. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. E. Evans, Capel Seion; gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. W. Williams, Hirwaun; gweddiodd Mr. P. Griffiths, Alltwen, am fendith ar yr undeb; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Dr. T. Rees, Abertawy.[41] Efe yw y gweinidog yn bresenol. Yr ydym yn hyderu y pery yntau, fel ei ragflaenoriaid enwog, i lafurio yn dderbyniol a llwyddianus yma hyd derfyn ei yrfa. Nid oes genym hanes fod neb, ond Mr. Joseph Simmons, o weinidogion yr eglwys hon wedi ei gadael nes iddynt gael eu lluddias gan farwolaeth i barhau.
Nid ydym wedi gallu dyfod o hyd i amseriad adeiladiad y capel cyntaf. Adeiladwyd yr ail gapel yn 1814, a chafodd ei adgyweirio a'i ad-drefnu yn 1823. Yn 1860, tynwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd yr un helaeth presenol. Yn yr un flwyddyn hefyd, adeiladwyd tŷ helaeth yn Nghwmtwrch, yr hwn a elwir y Temperance Hall, lle y cedwir Ysgol Sabbothol, cyfeillachau crefyddol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol.
Gellir ystyried yr holl eglwysi Annibynol a Methodistaidd o Flaen-glyntawy i Gwmaman, ac o Odrerhos a Phontardawy i Frynaman, fel canghenau uniongyrchol neu anuniongyrchol o'r hen fam-eglwys yn Nghwmllynfell, ac er yr holl ganghenau a aethant allan o honi, mae yr hen eglwys yn awr yn gryfach a lluosocach nag y bu erioed. Un cylch gweinidogaethol, os nad un eglwys y cyfrifid Cwmllynfell a'r Gellionen hyd tua y flwyddyn 1767, pryd yr ymsefydlodd Mr. Josiah Rees yn y Gellionen, ac yr aeth y gynnulleidfa hono i gael ei chyfrif yn Arminaidd, ac o radd i radd aeth yn Ariaidd, ac er's mwy na thriugain mlynedd bellach yn hollol Undodaidd. Pan oedd y cynnulleidfaoedd yn y Gellionen a Chwmllynfell dan yr un weinidogaeth yr oedd ganddynt gapel bychan yn Fforchegel, ar fin y mynydd, tua haner y ffordd rhwng y ddau le. Cafodd amryw eu claddu yno. Wedi ymraniad y ddwy gynnulleidfa, aeth y capel yn Fforchegel yn ddiddefnydd, gan nad yw yn debygol y gallasent mwyach gyduno i'w gyd-ddefnyddio yn lle addoliad ar brydnawn Sabbothau, fel y gwnelent gynt. Nid oes yn awr yn Fforchegel unrhyw olion o'r hen addoldy, ond ychydig ddarnau drylliedig o'r hen fedd-feini; ond y mae capel Carmel, Rhydyfro, a'r Gwryd yn mwy na llenwi lle yr hen fan gysegredig hwnw.
Mae yn ddiameu fod llawer iawn o bregethwyr wedi cyfodi yn yr hen eglwys hon o oes i oes, ond yr ydym wedi methu a dyfod o hyd i enwau nemawr o'r rhai a gyfodwyd yma yn nhymor boreuaf yr achos. Mae yn dra thebyg mai aelodau gwreiddiol o'r eglwys hon oedd Llewellyn Bevan, a Roger Howell, y rhai a fuont am flynyddau yn weinidogion yma, ac y mae yn sicr mae yma y cyfo dwyd William Evans. Daw pob un o honynt hwy dan sylw etto.
Evan Williams, brawd William Evans, y gweinidog, yw y pregethwr cyntaf a godwyd yma ag y mae genym ni hanes am dano, heblaw y rhai fuont yn weinidogion yn y lle. Ganwyd ef yn Abercraf, yn mhlwyf Ystradgynlais, Ionawr 6ed, 1719. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yn Nghwmllynfell, a'i fam yn un o hiliogaeth sylfaenwyr yr achos yn y lle. Dechreuodd deimlo dylanwad crefyddol ar ei feddwl yn ieuangc, a than bregeth Mr. Lewis Jones, Penybont-ar-ogwy, torwyd pob dadl yn ei fynwes, a phenderfynodd roddi ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghwmllynfell gan Mr. Roger Howell tua'r flwyddyn 1739. Yn fuan ar ol ei dderbyniad daeth gwresogrwydd ei ysbryd a'i weithgarwch crefyddol i'r amlwg, fel y daeth yn wr ieuangc mwy cyhoeddus a defnyddiol na'r cyffredinolrwydd o'i gyfoedion. Gan fod y Methodistiaid, y rhai oeddynt yn awr yn dechreu cyffroi y wlad a thynu sylw, yn fwy cydweddol yn eu dull o ddwyn crefydd yn mlaen a'i ysbryd gwresog ef na Mr. Howell, a'i bobl, efe a ymunodd a'r bobl hyny. Yn mhen ychydig amser wedi iddo ymuno a'r Methodistiaid, aeth i ogledd Cymru yn athraw ysgol dan Mr. Griffith Jones, Llanddowror. Mawrth 4ydd, 1742, agorodd ysgol yn Lleyn, sir Gaernarfon, ond cymaint oedd yr ysbryd erledigaethus yn y parth hwnw o'r wlad fel na oddefwyd iddo gadw ei ysgol ond am ddau ddiwrnod yn unig. Yn hwyr yr ail ddydd daeth dau ddyn ffyrnig i'w letty i holi pa beth oedd a fynai ef a dyfod i'r ardal, gan ddyweyd nad oedd arnynt hwy ddim o'i eisieu ef, ei ysgol, na'i lyfrau, fod y Bibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn ddigon i'w cyfarwyddo hwy i'r nefoedd. Mynent iddo fyned allan o'r tŷ, i'r dyben o'i guro, fel y bernid, ond gwrthododd fyned, ac aethant hwythau ymaith rhyw bryd cyn haner nos. Bore dranoeth, sef y Sabboth, aeth Mr. Williams i eglwys y plwyf, lle y traddododd y person bregeth chwerw yn ei erbyn ef, yr Ymneillduwyr, a'r Methodistiaid. Ar ddiwedd y gwasanaeth aeth Mr. Williams allan, ond cyn gynted ag yr aeth y tu allan i furiau y tir cysegredig diosgodd un o ffyddlon ganlynwyr y person ei ddillad a dechreuodd guro y gwr ieuangc yn ddidrugaredd. Wrth ei guro archollodd ei ben yn dost. Edrychai y lleill o wrandawyr y person a chwarddant wrth weled y diniwed yn cael ei guro gyda'r fath greulondeb. Pan flinodd ei elyn ei guro, aeth ef tua ei letty dan ei glwyfau. Tua haner nos y noswaith hono daeth rhai cyfeillion crefyddol i'w letty i'w hysbysu fod ei erlidwyr yn bwriadu dyfod yno bore dranoeth i'w ddal, ac anogasant ef i fyned gyda hwy i le o ddiogelwch. Aethant ag ef i'r Tyddynmawr. Dranoeth ymgasglodd tua deg-ar-hugain o erlidwyr wedi eu harfogi a drylliau, ffyn, a chwn, fel pe buasent yn myned i ddal bwystfil rheibus; a'r ol chwilio yn ofer am dano trwy y dydd, aethant i le a elwid Bodfeiliog, yn agos i'r Tyddynmawr, i fwyta ac yfed, yna aethant drachefa o dŷ i dŷ i chwilio am eu hysglyfaeth, ac yn mysg manau eraill aethant i'r Tyddynmawr. Erbyn eu bod yno yr oedd y teulu wedi perswadio Mr. Williams i ymguddio mewn cwpwrdd. Ar ol chwilio yr holl dŷ, rhoddodd un o honynt droediad i'r cwpwrdd yn yr hwn y llechai, gan ddywedyd, "Dichon ei fod yma." "Ÿ ffwl," ebai un o honynt, "Pa beth a wnelai mewn lle fel yna," ffwrdd yr aethant i ryw le arall. Wedi iddynt ymadael ymgynghorodd ef a'r teulu, a phenderfynwyd mai gwell fuasai iddo ddychwelyd i'r Deheudir, ac felly y gwnaeth. Cychwynodd tua haner nos. Bu mewn enbydrwydd mawr dranoeth. Bu dynion yn rhedeg ar ei ol i geisio ei ddal, ac yntau er diangc rhagddynt a redodd trwy afon yn agos i Bwllheli, lle y bu agos a boddi o herwydd fod llanw y mor i mewn yn lled uchel ar y pryd. Wedi croesi yr afon cerddodd am amryw filldiroedd yn ei ddillad gwlybion. Cafodd rhyw fath o letty y noson hono rhwng Pwllheli a Phorthmadog; a gwisgodd ei ddillad gwlybion bore dranoeth, ac ymaith yr aeth tua ei fro ei hun. Effeithiodd y driniaeth greulon hono ar ei iechyd am weddill ei oes, a bu yn achos o'i farwolaeth.
Wedi dychwelyd adref ymunodd drachefn a'r Ymneillduwyr yn 1743, a chafodd ei dderbyn yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin yn 1745. Tra y bu yno byddai galwadau beunyddiol arno i bregethu, ac yr oedd effeithiau bendithiol yn dilyn ei bregethau yn mhob man. Yn 1747, ymwelodd drachefn a'r Gogledd a bu yn pregethu yn sir Gaernarfon hyd y Nadolig y flwyddyn hono, pryd y dychwelodd i'r athrofa i Gaerfyrddin. Ar y 13eg o Awst, 1748, cymerwyd ef yn glaf a bu farw wedi chwe' diwrnod o gystudd. Claddwyd ef wrth gapel Heol Awst, Caerfyrddin. Buasai Evan Williams yn debyg o ddyfod yn un o'r gweinidogion mwyaf enwog a defnyddiol yn Nghymru pe cawsai fywyd ac iechyd, ond ewyllys yr Anfeidrol ddoeth oedd ei gymeryd ato ei hun gyda bod ei werth a'i ddefnyddioldeb yn dechreu ymddangos.
Morgan Jones. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1770, a derbyniwyd ef i athrofa Abergavenny. Daw ef etto dan ein sylw yn nglyn a hanes yr eglwys yn Llangattwg, Crughowell, lle yr urddwyd ef. Thomas Davies. Nai Mr. John Davies, y gweinidog. Cawn etto achlysur i son am dano ef yn hanes Bethania, Llanon, a'r Cymer, Morganwg, lle y bu farw.
William Jones, Llwynhen. Bu ef yn weinidog am flynyddau yn St. Ives, Cornwell, lle y bu farw amryw flynyddau yn ol.
Daniel Morgan. Dywedir mai gyda'r Saeson y bu yntau yn gweinidogaethu, ond nis gwyddom yn mha le.
Evan B. Evans, o Hyde Parke, America.
Evan Watkins, yn awr o Langattwg, Crughowell.
Daniel Rees, yr hwn ar ol bod yma am flynyddau yn bregethwr cynorthwyol derbyniol, a ymfudodd i'r America. Urddwyd ef yno yn Beavers Meadow, ac yno y bu farw.
John Morgan Thomas, gynt o Glynnedd, ond yn awr o America.
William Thomas, gweinidog yr eglwysi yn Bethel a Zoar, gerllaw yr Hendygwyn-ar-daf.
Moses Rees. Bu yn athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn ysgolfeistr gerllaw Llundain.
John Gwrhyd Lewis. Mae yn bresenol yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin.
Morgan Hopkin. Mae yntau yn fyfyriwr yn Nghaerfyrddin.
John Williams. Mewn ysgol ragbarotoawl yn Nghaerdydd y mae ef. William J. Gwilym. Gwr ieuangc sydd wedi dechreu pregethu yn ddiweddar.
Mae lluaws o aelodau yr eglwys hon yn deilwng o'u coff hau ar gyfrif eu rhagoriaeth fel crefyddwyr, ond ni oddefa ein terfynau i ni enwi ond ychydig o honynt. Yr oedd Mr. John Jones, Brynbrain, tad-yn-nghyfraith Mr. Rowlands a Mr. Pryse, yn un o ragorolion y ddaear. Yr oedd yn grefyddwr rhagorol, ac yn ddefnyddiol, haelionus, a digyffelyb o ddylanwadol. Bu o dŷ yn agored i weision Crist o bell ag agos am fwy na haner canrif. Bu ef farw tua phymtheng-mlynedd-ar-hugain yn ol. Yn ddiweddar y claddwyd ei weddw rhagorol, pryd yr oedd yn agos i gan' mlwydd oed. Yr oedd Ezeciel, Daniel, a Benjamin Evans, meibion yr hen weinidog, William Evans, yn ddynion nodedig yn eu hoes fel crefyddwyr. Nid yn fuan yr anghofir enwau Edward William, Glyncynwelisaf; Richard Bowen, Dorwen; Owen Bowen, Penywern; Sion Gwilym, Thomas William, Cwmtwrch; Dafydd William, Ddolgam; Dafydd Sion Lewis, William J. Thomas, Felinfach; Dafydd Isaac, Y Dderi; John Harries, Coedffalde; Griffith T. Williams, a Lewis Rowlands. Rhagorai rhai o'r gwyr hyn yn eu doniau fel gweddiwyr, eraill yn eu medr i drafod achosfon eglwysig, ac eraill fel blaenoriaid y gân; ac y mae pob sail i gredu eu bod oll heddyw yn nghymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig.
Mae eglwys Cwmllynfell nid yn unig wedi gofalu am gynal gweinidogaeth efengylaidd yn yr ardal am fwy na dau gant o flynyddau, ond y mae hefyd er's llawer o flynyddau wedi gofalu am ysgol ddyddiol i blant y gymydogaeth. Adeiladwyd ysgoldy yn ymyl y capel yn 1804, a chafodd ei helaethu wedi hyny ddwy waith. Mae yn bresenol yn ysgoldy eang a chyfleus, ac ysgol effeithiol yn cael ei chynal ynddo.[42]
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
LLEWELLYN BEVAN. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes am dano ef. Bernir mai un genedigol o'r ardal yma ydoedd, a bod ei dad, John Llewellyn, yn weinidog yma o'i flaen. Yn Ystradowen, yn agos i'r capel, yr oedd yn cyfaneddu. Mae yn dra thebyg ei fod wedi dechreu ei weinidogaeth yma cyn y flwyddyn 1700. Nis gwyddom pa bryd y bu farw. Bu farw ei wraig yn 1724, a chladdwyd hi wrth gapel Fforchegel. Yr oedd ei chareg fedd i'w gweled yno ychydig flynyddau yn ol, ar cofnodiad canlynol arni:-"Yma y gorwedd corph Mary John, gwraig Llewellyn Bevan, o Ystradowen, gweinidog efengyl Iesu Grist, yr hon a ymadawodd a'r bywyd hwn ar y 24ain dydd o'r XI mis, yn y flwyddyn 1724, yn 63 mlwydd oed." Mae yn debyg iddo yntau farw cyn pen llawer o flynyddau ar ol ei briod, ond nis gwyddom yr amser na pha le y claddwyd ef.
ROGER HOWELL. Dywedir mai un genedigol o'r gymydogaeth hon oedd yntau. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, a pharhaodd i ddilyn yr alwedigaeth hono hyd derfyn ei oes. Mae yn debyg iddo gael ei urddo yn gynorthwywr i Mr. Llewellyn Bevan ryw gymaint o amser cyn marwolaeth y gwr hwnw. Bu yntau farw yn 1742. Yr ydym yn casglu oddiwrth ei lawysgrifen ei fod yn ysgolhaig da. Dywedir ei fod yn ddyn nodedig ei gof. Mewn cyfarfod gweinidogion yn Llanedi gofynodd un ar giniawu i'r gweinidogion, a wyddai un o honynt pa le yr oedd Mynegair Ysgrythyrol ar werth. Atebodd rhyw un "Yr wyf fi yn gwybod pa le y mae Mynegair Ysgrythyrol, ond nid wyf yn gwybod a ydyw ar werth, Roger Howell, Llanguwg ydyw. Y mae yr holl Fibl ganddo ar ei gof." Dywed Mr. Edmund Jones, Pontypool, nad oedd neb a'i hadwaenai yn ameu nad oedd Mr. Roger Howell yn ddyn gwir dduwiol, a'i fod yn hynod ddefosiynol yn ei deulu ac yn yr eglwys, ond fod rhai yn barnu ei fod yn gogwyddo at Arminiaeth, neu yn hytrach at olygiadau Baxter. Gorwyr iddo ef oedd y diweddar Mr. Roger Howell, Baran.
JOSEPH SIMMONS. Gweler hanes Maesyrhaf, Castellnedd.
WILLIAM EVANS. Ganwyd ef yn Abercraf, yn mhlwyf Ystradgynlais, yn y flwyddyn 1716. Pan yn ddeunaw mlwydd oed derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghwmllynfell. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu. Cafodd ef a Mr. Thomas Davies, o'r Fagwyr, Llangafelach, eu hurddo yr un diwrnod yn y Chwarelaubach, Castellnedd, mae yn debygol fel gweinidogion cynorthwyol yn holl eglwysi y gymydogaeth, yn 1754. Yn fuan wedi hyny cafodd Mr. Davies alwad i Lanybri, a chymerodd Mr. Evans ofal yr eglwysi yn Rhydymardy a'r Cwmmawr. Byddai yn rhoddi ei lafur am ddau Sabboth o bob mis yn y lleoedd hyny, ac am y ddau Sabboth arall yn Brychgoed a Blaenglyntawy. Yn mhen rhyw gymaint o amser rhoddodd y Brychgoed a Glyntawy i fyny, a chymerodd ofal ei fam-eglwys yn Nghwmilynfell, mewn cysylltiad a'r Cwmmawr a Rhydymardy. Adfywiodd yr achos yn rhyfeddol yn Nghwmllynfell yn y tymor byr y bu yr eglwys dan ei ofal ef. Trwy ei lafur ef y sefydlwyd yr eglwysi yn yr Alltwen a Chwmaman. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb yn 1770, pryd yr oedd yn bedair-ar-ddeg-a-deugain oed. Dywed Edmund Jones fod William Evans yn ddyn nodedig o ragorol a selog dros athrawiaeth grass Yr oedd yn ysgolhaig da, ac yn weinidog rhyfeddol o weithgar a llwyddianus. Bu yn briod ddwywaith. Cafodd un mab o'i wraig gyntaf, a deg o feibion a merched o'r ail Bu saith o'i blant fyw i henaint teg, ac yr oeddynt oll yn ddynion nodedig o ragorol fel crefyddwyr. Gorwyr iddo ef yw Mr. Daniel Evans, gweinidog presenol Nazareth, sir Gaerfyrddin. Yn mhlwyf Llanguwg y bu yn byw trwy ei oes, ac wrth eglwys y plwyf hwnw y claddwyd ef.
JOHN DAVIES. Rhoddir ei gofiant ef yn nglyn a hanes yr Alltwen, gan mai wrth yr enw "Davies, Alltwen," yr adnabyddid ef yn gyffredin.
JOHN ROWLANDS. Ganwyd ef yn agos i'r Ystrad, yn y rhan uchaf o sir Aberteifi, yn 1792. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llangeitho. Hysbysir ni ei fod yn berthynas o ochr ei dad i'r enwog Daniel Rowlands Tueddwyd John Rowlands pan yn ieuangc i fyned i wrando Dr. Phillips yn y Neuaddlwyd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yno pan yn 15 oed. Tynodd yn fuan sylw yr eglwys ar gyfrif ei gynydd mewn gwybodaeth a'i ddoniau mewn gweddi, fel yr anogwyd ef, cyn hir, i ddechreu pregethu; a rhoddodd brawf yn fuan ei fod wedi ei alw i'r gwaith nid gan ddynion yn unig ond gan Dduw hefyd. Wedi bod am dymor dan addysg ei hybarch weinidog yn y Neuaddlwyd, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd allan y tymor rheolaidd. Gwnaeth gynydd cyflym mewn gwybodaeth gyffredinol, a phrofodd ei fod yn meddu ar alluoedd meddyliol cryfion Edrychid i fyny ato gan ei gyd-efrydwyr, fel un o feddwl uwchraddol, ac ystyrid ef ganddynt ar gyfrif ei synwyr cyffredin cryf yn gyfarwyddwr pwyllog a diogel, ac yr oedd ei ffyddlondeb y fath fel yr oedd ganddynt oll ymddiried ynddo. Derbyniodd alwad gan yr eglwys a gyfarfyddai yn y capel newydd Llanybri, yr hon oedd newydd gael ei ffurfio mewn canlyniad i ymraniad a gymerasai le yn yr hen gapel; ac urddwyd ef yr un adeg ag yr agorwyd y capel. newydd, rywbryd yn y flwyddyn 1816. Bu yno yn dderbyniol a llwyddianus iawn am chwe' blynedd; ac yr oedd ei bwyll a'i dynerwch yn ei wneyd yn un cymhwys iawn i'r lle yn yr adeg hono pan yr oedd teimladau briwedig rhwng pleidiau ar gyfrif yr ymraniad a gymerasai le. Yn y flwyddyn 1822, derbyniodd alwad o Gwmllynfell a Chwmaman, a symudodd yno, lle y bu yn barchus a chymeradwy hyd derfyn ei oes. Priododd yn 1828 a Miss Jane Jones, merch Mr. Jones, Brynbrain, un o ddiaconiaid mwyaf parchus yr eglwys yn Nghwmllynfell, a dedwydd iawn a fu yr undeb a ffurfiwyd hyd nes y gwahanwyd hwy gan angau. Yr oedd Mr. Rowlands ar ol ei symudiad i Gwmllynfell wedi dyfod i faes eang lle yr oedd cyflawnder o gyfleusderau iddo i ddadblygu ei ddoniau fel pregethwr, a'i ysbryd cyhoeddus fel gweinidog.
Yr oedd Mr. Rowlands yn ddyn o faintioli cyffredin, ac yn meddu corph cryf cymhwys i fyned trwy lawer o waith, a dal tywydd garw ac ystormydd wrth fyned dros waunydd noethion, a mynyddoedd uchel. Yr oedd ei olwg yn serchog ac ennillgar—ei dymer yn hynaws a digyffro—a'i gyfarchiad yn wastad yn hawddgar a serchog, er y medrai os byddai angen ddyweyd geiriau a gyrhaeddai i'r asgwrn. Nid oedd yn bosibl fod dyn tynerach ei deimladau, a chyrchai pregethwyr ieuaingc ato am gynghor a chyfarwyddid fel at eu tad. Cymerai drafferth i'w hyfforddi a'u haddysgu, ond os gwelai ambell un yn llawn ymchwydd a balchder nid hir y byddai cyn dwyn y cyfryw i adnabod ei hun, a gwnai hyny yn y dull esmwythaf a mwyaf didramgwydd. Nid â ei garedigrwydd a'i dynerwch yn anghof gan y rhai a fu yn aros dan ei gronlwyd; ac ar unrhyw gyfrif ni throai yr ieuangc o'r neilldu er anrhydeddu y gwr mawr. Digwyddodd unwaith fod pregethwr ieuangc iawn o gymydogaeth wledig heb fod yn mhell oddi wrtho wedi anfon ei gyhoeddiad i bregethu ar un noson i Gwmaman, ond yn ddiarwybod i'r llangc yr oedd cyhoeddiad Meistri Michael Jones, Llanuwchllyn, a W. Williams, o'r Wern, i fod yn Nghwmaman y noson hono. Yr oedd Mr. & Mrs. Rowlands wedi dyfod yno gyda'r bwriad o fyned a'r ddau ŵr enwog o'r Gogledd gydag ef adref, ac meddai wrth y gwr ieuangc, "Well i tithau dd'od hefyd—ti leici fod gyda nhw mi wn.' Un o gant a feddyliasai am wahodd bachgenyn ieuangc tlawd felly, pan yr oedd ganddo y fath wyr enwog i'w croesawi. Yr oedd wedi darllen llawer yn enwedig ar byngciau duwinyddol ac Ysgrythyrol, ac yr oedd ei gof bron yn ddihysbydd, ac nid oedd dim yn myned i golli o hono unwaith y deuai i mewn iddo. Yr oedd yn gwybod cynwys yr holl lyfrau a ddarllenasai, a medrai adrodd darnau cyfain o waith gwahanol awduron, a hyny heb ymddangos ei fod mewn un modd yn trethu ei gof wrth wneyd hyny. Darllenodd weithiau Jonathan Edwards, ac Edward Williams, ac Andrew Fuller; ac yr oedd yn deall yn glir yr olwg a gymerent ar drefn yr efengyl, ond yr oedd yn nodedig o ochelgar wrth draethu golygiadau felly, a phan y traethai hwy gwnai hyny yn ei eiriau a'i dermau ei hun, a hyny gyda'r fath wres a hyawdledd fel na ddrwgdybid ef gan y Calfin uchaf, o fod mewn un modd yn ymylu ar yr hyn a elwid yn "System newydd." Yr oedd ei bregethau yn cynwys casgliad trefnus o'r drychfeddyliau prydferthaf yn cael eu traddodi gyda chyflymdra didor, mewn iaith gref, fywiog, gynhyrfus; a'i ysbryd ei hun yn llawn o dan yr efengyl. Anaml y gwelwyd pregethwr ac ynddo gydgyfarfyddiad cyflawnach o'r elfenau gofynol i wneyd yr hyn a elwir yn bregethwr poblogaidd.
Ond ni bu ei dymor er hyny ond byr mewn cydmariaeth. Yn Mai, 1834, yr oedd cymanfa sir Forganwg yn Nghwmllynfell, ac yr oedd y cynnulliad yn un lluosog o bregethwyr a gwrandawyr, ac yr oedd Mr. Rowlands yno yn ei nerth a'i sirioldeb arferol. Dydd Mawrth ar ol y gymanfa yr oedd mewn cyfarfod eglwysig yn Nghwmaman, a phregethodd oddiar y geiriau "Gan brynu yr amser." Ychydig o bosibl a feddyliodd ef na neb o'i wrandawyr fod ei amser ef mor agos i'r terfyn, ond dyna y bregeth olaf iddo byth. Boreu dranoeth, sef Mai 28ain, aeth allan o'i dŷ yn ei iechyd arferol, tua naw o'r gloch, ac wedi ychydig fynudau o ynddiddan a'i frawd-yn-nghyfraith, i'r hwn yr ymddangosai yn iach a siriol, aeth rhagddo ar hyd y ffordd, a'r newydd cyntaf a gafwyd oedd ei fod wedi ei gael yn farw yn ochr y ffordd. Cariwyd ef i'w dŷ yn gorph cyn deg o'r gloch, a llanwyd yr holl wlad a galar oblegid iddo gael ei alw ymaith mor ddisymwth yn 42 oed. Y Sadwrn canlynol, sef Mai 31ain, 1834, cyfarfu tyrfa fawr yn Nghorsto i ddilyn ei weddillion marwol i'r "tý rhagderfynedig i bob dyn byw." Pregethwyd yn Nghorsto gan Meistri D. Jones, Gwynfe, D. Davies, Pantteg, ac wedi cyrhaedd Cwmllynfell, pregethwyd gan Meistri W. Jones, Penybont-ar-ogwy, a D. Davies, Sardis, a chladdwyd ef mewn bedd newydd yn mynwent newydd Cwmllynfell. Efe oedd y cyntaf a gladdwyd ynddi, ond y mae tyrfa fawr wedi eu rhoddi i orwedd ynddi ar ei ol.
RHYS PRYSE. Ganwyd ef mewn lle a elwir Penrhiw-llwyn-fynwent yn mhlwyf Llangammarch, sir Frycheiniog, yn niwedd y flwyddyn 1807. Pan nad oedd ef ond plentyn, symudodd ei rieni i le a elwid Caerhedynbach, gerllaw Glancledan, yn mhlwyf Llanwrtyd; ac yno bu farw ei dad, ac yn fuan symudodd ei fam weddw gyda'i thri phlentyn amddifad i got-tŷ bychan, syml yr olwg arno, o'r enw Pwllclai, mewn culbant neillduedig, heb fod yn mhell o lanau Irfon, ac o fewn rhyw bellder o haner milldir i bentref Llanwrtyd, neu Bontrhydyfferau, fel y gelwid ef gynt; ac yno y trigianodd hyd y dydd yr ymddangosodd efe i Israel yn ei gymeriad cyhoeddus fel pregethwr. Mae yr hen fwthyn diaddurn wedi ei chwalu i wneyd lle i'r ffordd haiarn sydd wedi ei hagor i fyned heibio, ond ymhyfryda rhai o'r hen frodorion etto, mewn dangos y fan y safai i'r rhai a ymwelent a'r lle. Dilynai ei frawd ac yntau y gelfyddyd o wehyddion, ac yr oeddynt yn barchus iawn gan eu holl gymydogion fel dynion gonest, heddychol, a diymyraeth. Dechreuodd ei frawd, Hugh Pryse, bregethu yn y flwyddyn 1824, a chyn hir aeth i athrofa y Drefnewydd, ac wedi bod yno am ysbaid, gwanychodd ei iechyd fel y bu raid iddo ddychwelyd i dŷ ei fam, a bu farw Gorphenaf 11eg, 1826. Er yr arferai Rhys Pryse wrando yr efengyl o'i febyd, yn benaf o dan weinidogaeth ei ewythyr, yr hybarch David Williams, Llanwrtyd; ac er fod ei fywyd cyffredin yn hollol ddiargyhoedd, etto nid oedd wedi ymuno a'r eglwys hyd ddychweliad ei frawd adref yn glaf. Un noson ychydig cyn i Hugh Pryse "huno yn yr Iesu," aeth ei fam at ochr ei wely, ar ol dychwelyd o'r gyfeillach grefyddol yn hen gapel Llanwrtyd, gan ofyn iddo, "A wyddost ti pwy ddaeth i'r seiet heno?" "Na wn i," ebe yntau. "Rhysun dy frawd," ebai hithau. Yr oedd ar y pryd cyn waned fel mai prin y medrai symud, ond effeithiodd y newydd da mor fawr arno, fel y cyfododd yn ei eistedd, a chan guro ei ddwylaw teneuon yn nghyd mewn gorfoledd, bloeddiodd a llam fel y medeni, Bendigedig fyddo Duw—Diolch iddo." Ymddangosai yn dawelach i farw ar ol clywed fod ei unig frawd wedi bwrw ei goelbren gyda phobl Dduw. Yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr, a chan eu bod yn byw yn neillduedig o gymdeithas y byd, ac yn ymhyfrydu mewn pethau gwahanol i'r rhan fwyaf o'u cymydogion, ymglymai eu serchiadau yn gryfach y naill at y llall. Yr oedd athrylith gelfyddydol yn wreiddiol yn y ddau, a rhoddasant brawf o hyny pan nad oeddynt ond plant. Er nad oedd Pwllolai ond bwthyn bychan diaddurn, etto yr oedd yn lanwaith a thaclus, ac yn llawn o holl angenrheidiau bywyd, ac yr oedd diwydrwydd a chynildeb y llangbiau wedi cyfodi y teulu uwchlaw angen. Gan ei fod o dueddfryd ddistawa diymyraeth, ychydig a ymgymysgai Rhys Pryse a neb o'r eglwys hyd yn nod ar ol ei dderbyniad yn aelod. Wrtho ei hun y byddai fynychaf yn myned i ac yn dychwelyd o'r capel; a theimlai ei fod yn cael mwy o adeiladaeth pan wrtho ei hun i edrych ar weithredoedd rhyfeddol yr Anfeidrol, neu i adfyfyrio ar yr hyn a wrandawsai yn y capel, nac a gawsai oddiwrth ymddiddanion y rhan fwyaf o'i gydgrefyddwyr. Ychydig a wyddai ei gymydogion am dano, yn ychwaneg nag yr ystyrid ef yn un hynod, ac yn wastad ar ei ben ei hun. Yn mhen amser wedi ei dderbyn yn aelod, ceisiwyd ganddo fyned i weddi mewn cyfarfod gweddio a gynhelid mewn tŷ anedd yn y gymydogaeth. Cydsyniodd yn ddinacad, a gweddiodd yn y fath fodd nes synu y gwyddfodolion at gyflawnder a phriodoldeb ei ymadroddion, a thaerineb ei erfyniau, ac yr oedd pawb wrth ddychwelyd yn barod i ofyn, "Beth a fydd y bachgen hwn?" ac nid oedd petrusder yn meddwl neb nad oedd pregethwr mawr wedi codi yn eu plith. Cymhellid ef yn daer ar ol hyn i feddwl am bregethu, ond nid oedd dim a'i brawychai yn fwy na chyhoeddusrwydd mewn dinodedd y dymunasai gael aros ond wedi hir gymell rhoddodd ei fryd ar barotoi pregeth, a rhyw noson mewn cyfarfod gweddio oedd i'w gynal mewn amaethdy o'r enw Pyllbo, rhwng Llanwrtyd ac Abergwesyn, ar ol darllen a gweddio, rhoddodd emyr allan, a darllenodd yn destyn y geiriau, "Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei feddyliau, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno, ac at ein Duw ni oherwydd efe a arbed yn helaeth." Traddododd ei bregeth heb na diffyg na choll, ac nid oedd tòn ar ei hyawdledd o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1829. Ar ol yr oedfa hono aeth son am dano ef trwy yr holl wlad oddiamgylch, a dilifai gwahoddiadau iddo o'r holl eglwysi cylchynol. Yr oedd golwg wreiddiol arno o ran ei wisg a'i ymddangosiad y pryd hwnw, ac yr oedd yn eglur arno mai un o blant y mynydd-dir ydoedd. Nid oedd ei gymydogion yn synu at ei wisg a'i ddiwyg, oblegid yr oeddynt wedi cynefino ag ef, ac nid rhyw lawer oedd y gwahaniaeth rhyngddo ef a'r rhan fwyaf o honynt, ond yn unig ei fod yn edrych yn fwy meddylgar na hwynt oll; ond tynai yr olwg ddyeithr oedd arno sylw neillduol yn mhob man y tu allan i'w fro ei hun. Er prawf o hyn, cymerwn y difyniad canlynol o un o gyfres o lythyrau galluog a ysgrifenodd ei gyfaill, Mr. J. R. Kilsby Jones, ar ei nodwedd a'i athrylith, yn y Tyst Cymreig yn fuan ar ol ei farwolaeth; ac i'r rhai yr ydym yn ddyledus am lawer o ffeithiau y cofnodion hyn.
Cyn ei weled y waith gyntaf, yr oeddym wedi clywed llawer o son am dano gan ewythr i ni a ddigwyddai fod yn ddiacon yn hen eglwys Annibynol Llanwrtyd. Trwy lawer o waith llwyddodd ein perthynas â gael ganddo addaw treulio Sabboth yn Ffaldybrenhin. Gallassi fod y pryd hwnw rhwng tair a phedair-ar-hugain oed, a thynai ei ymddangosiad allanol, heb son am yr hyn, a'r modd y llefarai, sylw y mwyaf disylw a chysglyd o blant Adda. Yr oedd yn wr ifanc tal, esgyrniog, ac ar ei goryn gnwd o wallt du trwchus, a hwnw yn cyrhaedd hyd at ei ysgwyddau; a rhoddai hyny, yn nghyd a mynegiant cyffredinol ei wyneb, iddo olwg anarferol o gyffrous. Edrychai yn rhyw fath o Ioan Fedyddiwr, ac fel hwnw wedi rhuthro allan o ryw ddiffaethwch a garai yn llawer mwy na'r byd gwareiddiedig; ac ar orchymyn rhyw awdurdod nas beiddiai anufuddhau iddi, er mwyn traddodi cenadwri natur a gras i fyd wedi gwrthgilio oddiwrth uniondeb; a phechu yn waradwyddus yn erbyn gorchymynion syml, rhesymol, ac ysgafn natur a datguddiad. Mae yn wir mai nid gwisg o "flew camel" oedd am dano, ac ni wisgai "wregys o groen am ei lwynau;" ond yr oedd ei wisg o frethyn cartref, garw, blewog, wedi ei weu gan ei ddwylaw ei hun, a chwedi ei banu yn mhandy Esgairmoel, yn ymyl ei got-tŷ meudwyaidd neillduedig; a hwnw wedi ei dori a'i bwytho yn wisg. oedd yn ol hen ffasiwn hynafol trigolion ardal gyntefig fel un Llanwrtyd. Yr oedd digon o le i fyned i mewn ac allan o honynt, ac am hyny yn unig y gofalai eu perchenog; ond pe dywedem eu bod yn ei fito gwnaem gam a'r gwirionedd, ac a'r teiliwr. Trwy ryw fath o gyd-ddealldwriaeth rhwng y gwahanol bilynau a'u gilydd, ac a'r gwisgwr, cydunant i guddio a chynesu ei berson naturiol, golygus a hardd; ac am hyny yn unig y maliai ein plentyn natur. Cymerai gan mil mwy o bleser i edrych ar wisg amryw-ddefnydd ac amrywliw y ddaear, nac a gymerai yn unrhyw wisgoedd a fuont erioed am dano ef ei hun, neu am dywysogion a brenhinoedd, pe digwyddasai gael cyfleustra i'w canfod. Nid oedd ganddo ddim ymddiried mewn unrhyw wisgoedd ond y rhai oeddynt wedi cael eu gwneyd o'r gwlan, ac ydoedd eisioes wedi cadw yn gynes ar rew ac eira y defaid a borent ar fryniau a mynyddoedd Garthmadryn."
Yr ydym yn sicr fod y rhai sydd yn cofio Rhys Pryse, Llanwrtyd, yn troi allan gyntaf i bregethu yn barod i ddyweyd fod yn anmhosibl tynu darlun cywirach o'r dyn oddiallan. Ac yr oedd clywed llangc mynyddig felly yn son am y ser a'r planedau, ac yn egluro eu deddfau a'u cysylltiadau; neu yn ymdrin a phyngciau dyrus duwinyddiaeth, neu yn tynu darluniadau barddonol o'r fath fwyaf rhamantus, a gwneyd y naill a'r llall mewn dull hollol briodol iddo ei hun, a chyda hyawdledd ffrydlifol nes ysgubo pob peth o'i flaen, yn peri i'r lluaws ofyn, fel y gofynwyd am un mwy nag ef o'i flaen, "O ba le y daeth y doethineb hwn, a'r gweithredoedd nerthol i'r dyn hwn?" Bu dros rai blynyddau ar ol dechreu pregethu gartref, yn dilyn ei alwedigaeth ac yn pregethu y Sabbothau yn yr eglwysi cylchynol, ac elai yn aml i gwr uchaf sir Gaerfyrddin, ac ymwelodd lawer gwaith a rhai o eglwysi Morganwg, a chynygiwyd galwad iddo o fwy nag un lle, ond nid oedd dim awydd ynddo i ymgymeryd a'r cyhoeddusrwydd a'r cyfrifoldeb cysylltiedig a'r weinidogaeth. Cynygiwyd galwad iddo gan eglwys barchus Zoar, Merthyr Tydfil, wedi marwolaeth Mr. Samuel Evans; ond nid oedd gan ferw cynhyrfus lle trystfawr fel Merthyr ddim swyn i un oedd mor hoff o dir neillduaeth, pa faint bynag a allasai fod ganddo o barch i'r eglwys a roddodd iddo y cynygiad caredig. Cyn hir derbyniodd alwad gan hen eglwys gyfrifol Cwmllynfell; ac er nad oedd dim yn swynol yn y wlad na'i golygfeydd i ddynion eraill, etto yr oedd y fath gydrywdeb rhwng y lle a'i chwaeth fel y cydsyniodd a'r cais, ac urddwyd ef yno, fel y crybwyllasom, Awst 19eg a'r 20fed, 1835; a phrofodd yn agos i bymtheg-mlynedd-ar-hugain o weinidogaeth ddefnyddiol a llwyddianus yn y lle, iddo wneyd yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Arglwydd. Anaml y treuliwyd cynifer o flynyddoedd mor gysurus a diofid gan un gweinidog yn yr un lle. Yn mhen llai na dwy flynedd wedi ei sefydliad yn Nghwmllynfell, priododd a Mrs. Rowlands, gweddw ei ragflaenydd yn y weinidogaeth—Mr. J. Rowlands-a symudodd ati i Corsto i fyw, lle y treuliodd yn gysurus weddill ei oes. Cafodd un o'r gwragedd rhagoraf a serchocaf a ddisgynodd erioed i ran gwr, ac yr oedd eu hanedd glyd, gynes, lawn, yn baradwys fechan. Treuliasom lawer noswaith yn hapus dan eu cronglwyd; ac nis gallwn ffurfio dychymyg uwch am hapusrwydd teuluaidd-heb blant nag a fwynheid ar aelwyd Corsto. Saif y tŷ ar lethr ar ochr Gwaun-cae-gurwen, a'i wyneb yn union tua'r gogledd, ac er nad yw yn eang, y mae wedi ei drefnu yn dda, ac yn llawn dodrefn gwasanaethgar, a'r cwbl mor lân, ag y gallasai dwr a sebon a nerth braich merch eu gwneyd. Mae gardd eang o'i gylch, yn yr hon y mawr ymyfrydai Mr. Pryse, a gardd-lysiau yn yr hon y ceir llawer o lysiau dymunol i'r golwg a daionus yn fwyd; a llawer math o lysiau meddyginiaethol yn ychwanegol at hyny; a phe buasai cysuron allanol yn gallu estyn dyddiau dyn dylasai Mr. Pryse fyw i oedran teg, ond nid yw " y rhedfa yn eiddo y cyflym, na'r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na'r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd." Er fod golwg gryf, gorphorol arno, etto ni bu erioed yn ddyn iach, caled, y fath ag a oddefasai dywydd garw; a dichon ddarfod iddo trwy or-ofal am dano ei hun dyneru ei natur fel ag i'w wneyd yn analluog i ddal caledfyd, er nad oedd un tywydd a'i hataliai i fyned i gyflawni ei ddyledswyddau yn ei gylch cartrefol, ond gofalai ddarparu cyn cychwyn i fod yn ddiddos. Mwynhaodd er hyny, ar y cyfan, iechyd da trwy ei oes, hyd o fewn ychydig flynyddoedd cyn ei farwolaeth, rhuthrodd tarw cymydog iddo arno, a gwanodd un o'i gyrn i'w enau, a rhwygodd ei wyneb, fel yr ofnid ar y pryd am ei einioes; ond gyda gofal a thynerwch adferwyd ef yn raddol fel y daeth drachefn i allu cyflawni ei ddyledswyddau fel cynt, er y dywed y rhai a gafodd fwyaf o gyfle i wybod na ddaeth byth cystal ag y bu. Yn ei gystudd diweddaf bu yn dyoddef am yn agos i dri mis, ac yn y diwedd daeth inflamation of the lungs fel gelyn erchyll ato, a rhoddodd derfyn ar ei einioes ddydd Mawrth, Gorphenaf 6ed, 1869, yn 62 oed. Claddwyd ef yn anrhydeddus y dydd Gwener canlynol yn mynwent Gibeah, Brynaman, a bernid fod yno lawn dwy fil o bobl wedi dyfod i'w ddilyn i "dy ei hir gartref;" ac yn eu plith yr oedd tua deg-ar-hugain o'i frodyr yn y weinidogaeth. Cyn cychwyn o Corsto darllenodd a gweddiodd Mr. E. Watkins, Llangattwg; ac wedi myned yn orymdaith at y capel, gwelwyd nas gallesid myned i mewn, a chynhaliwyd y gwasanaeth yn yr awyr awyr agored. Dechreuwyd gan Mr. E. Hughes, Penmain, phregethodd Meistri J. Mathews, Castellnedd, a т. Rees, D.D., Abertawy. Anerchwyd y dorf hefyd gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd-yr hwn a fedyddiasai Mr. Pryse pan yn faban-a chan Mr. P. Griffiths, Alltwen; ac wrth y bedd gweddiodd Mr. J. Davies, Cwmaman, a gadawyd gweddillion marwol y "tywysog a'r gwr mawr" o Gwmllynfell i gysgu yn dawel hyd foreu yr "adgyfodiad gwell."
Gan na theithiodd Mr. Pryse ond ychydig y tu allan i'w gylch gweinidogaethol, a chan yr ystyriwn ef yn un o dywysogion y pulpud Cymreig, yn gystal ag yn un o bendefigion y natur ddynol, byddai yn dda genym allu tynu portread o hono, y fath ag a roddai synied lled gywir am dano i'r rhai na chawsant y fraint o'i adnabod. O ran ei ymddangosiad allanol yr oedd yn ddyn mawr, esgyrniog, unionsyth, llydan ei ysgwyddau, yn gorphol, ond heb fod yn dew, a'i wneuthuriad yn llac yn hytrach na chryf a chydnerth. Yr oedd ganddo ben mawr, a'i holl ermygau wedi eu llawn ddadblygu; ac er nad oedd ei wyneb yr hyn a elwir yn hardd, etto yr oedd rhyw ddyndeb (manliness) yn amlwg yn ei holl linellau. Yn ddiarwybod iddo ei hun teimlai pawb fod dylanwad gan ei bresenoldeb, yr hwn nad yw yn canlyn neb ond y rhai a fwriadwyd gan Dduw i lywodraethu yn mysg dynion. Am ei deithi meddyliol, yr oedd athrylith yn wreiddiol ynddo. Nis gwyddom pa syniad a gysyllta y darllenydd a'r gair, ond wrtho yr ydym ni yn deall, y gallu gwreiddiol a chynyrchiol hwnw mewn dyn sydd yn peri nad yw yn dibynu ar gynorthwyon allanol. Gall dynion cyffredin trwy ymroddiad gasglu toraeth o feddyliau, ond gall y dyn o athrylith eu cynyrchu. Nid oes eisiau ond talent ailraddol i gerdded yn ol traed y rhai a aeth o'r blaen; ond y mae yn rhaid fod athrylith mewn dyn cyn y gall gerdded llwybr disathr, a rhodio ffordd na sangodd troed arni o'i flaen. Yr oedd y gallu yma yn nodedig yn Mr. Pryse. Beth bynag a gyrhaeddodd, daeth iddo yn nerth mewnol ei feddwl, ac nid oedd dyn yn Nghymru yn ei oes a ymddibynodd lai ar gynorthwyon allanol. Ni chafodd ond tri diwrnod erioed o ysgol ddyddiol, ac etto cyrhaeddodd wybodaeth helaeth o'r iaith Gymraeg ac o'r iaith Saesonaeg, ac yr oedd wedi cyrhaedd graddau o wybodaeth o'r Groeg a'r Lladin, a hyny yn gwbl trwy hunan-ddysgiaeth. Dangosodd yn foreu ei allu celfyddydol, a phe troesai ei holl feddwl at beirianyddiaeth nid oes un ddadl na ddaethai i enwogrwydd mawr yn y cyfeiriad hwnw. Nid oedd odid ddim na allasai ei wneyd gan mor gelfydd oedd ei law, ac yr oedd ganddo amryw ddyfeisiau o'r eiddo ei hun at wahanol orchwylion. Gallasai weithio pob dilledyn angenrheidiol ar ddyn, a phob dodrefnyn angenrheidiol mewn tŷ; ac os buasai awrlais neu oriawr yn ei gymydogaeth mewn anhwyl, ato ef yr edrychid am eu dwyn i'w lle. Byddai yn aml gynifer a deg-ar-hugain o watches yn hongian yn ei dŷ wedi eu dwyn yno gan fechgyn yr ardal i'w gosod mewn trefn. Talodd sylw nodedig i lysieuaeth, fel o'r braidd nad oedd yn adnabod holl lysiau y maes, a gwyddai yn lled dda at ba beth yr oeddynt yn rhinweddol. Ymdyrai cleifion, a dynion yn cael eu blino gan ddoluriau ato i ba le bynag yr elai, a thystiai lluaws mawr iddynt dderbyn cwbl iachad wrth ddilyn ei gyfarwyddiadau. Cyhoeddodd y Llysieulyfr Teuluaidd mewn cysylltiad a Mr. E. Griffiths, Abertawy; ac edrychid ar y llyfr hwnw yn awdurdod uchel ar y fath bethau. Yr oedd ei athrylith yn amrywiol, ac yn rhedeg i gyfeiriadau hollol wahanol. Ond nid ymarferol yn unig oedd ei athrylith. Yr oedd yn gyfarwydd iawn mewn seryddiaeth, a siaradai gyda'r fath gyfarwydd-deb am y ser ar planedau a phe buasent ei gymydogion agosaf; ac nid twyllo anwybodusion ychwaith yr ydoedd yn hyny, ond cydnabyddai y rhai oedd wedi talu sylw helaeth i "ordeiniadau y nefoedd," ei fod yn dra hyddysg a chyfarwydd yn mysg ser Duw. Yr oedd yn fardd naturiol. Yr oedd wedi astudio y cynghaneddion Cymreig, a gallasai gyfansoddi ynddynt, ond gwell oedd gan ei ddychymyg cryf ef beidio cael ei gadwyno mewn hualau felly. Berwai barddoniaeth fyw trwy ei holl bregethau, a phan y cawsid ef i hwyl siarad ar yr aelwyd, nis gallasai siarad heb siarad yn farddonol. Yn ei farddoniaeth yr oedd ei darfelydd yn gryfach na'i grebwyll. Gallasai ei ddychymyg ddwyn creadigaethau i'r golwg; ond fel desgrifiwr cyflawn, manwl, craff, yr oedd yn ddihafal. Gosodai bob peth y siaradai am dano i ymrithio yn fyw o flaen ei wrandawyr; ac am ddarluniadau cywir i natur anhawdd oedd cael ei gyffelyb. Yr oedd yn nodedig ynddo hefyd mai y gwrthun a bortreadai oreu. Clywsom ef yn darlunio yr haul a'r lleuad, y daran a'r cwmwl, toriad y wawr a machludiad yr haul, y glaswellt dan wlith y boreu, y maes gwenith yn ysgwyd i ddisgwyl y cynhauafwyr; ac nis gallesid dymuno dim rhagorach; ond pan y dechreuai ddarlunio y cybydd yn crafangio am y byd, neu y meddwyn yn ymwerthu i'w chwant, neu y coegfalch yn ymwisgo i gael ei weled; dyna y pryd y byddai ei ddarfelydd yn ei lawn nerth, a chyda'i arabedd tawel, a'i wawdiaith frwmstanaidd gwnai y cymeriadau a ddesgrifiai yn wrthrychau dirmyg a chwerthiniad pawb.
Ond er y cwbl, nid oedd yn ymhoni i ddim oll. Gallesid bod yn hir yn ei gwmni heb iddo gymeryd arno y gwyddai ddim o'r pethau hyn, a chan mor ddiymyraeth ydoedd, gadawai mewn cwmni i ddynion wneyd honiadau cyfeiliornus am bethau, heb eu cywiro, os na ofynid iddo, rhag i neb dybied ei fod am ddangos ei wybodaeth. Yn sicr yr oedd yn un o'r dynion mwyaf anymhongar a adnabuom erioed. Ychydig iawn o weithiau y gwelwyd ef mewn cynnadledd cymanfa na chyfarfod chwarterol, ac os digwyddai fyned yn achlysurol, ni ddywedai yr un gair. Nid ydym yn meddwl fod ganddo fedr, ond yr ydym yn sicr nad oedd ganddo chwaeth at bethau cyhoeddus. Nid am y tybiai nad oedd raid wrth y pethau hyny yr oedd felly—na ni bu neb erioed yn fwy parod i roddi pob help gartref i achosion cyhoeddus, ac yr oedd ganddo barch dwfn a gwirioneddol i'r rhai oedd yn cysegru eu hamser a'u talentau i wasanaethu yr enwad gyda phethau amgylchiadol; ond nid oedd ganddo ef unrhyw hoffder at bethau felly. Dewisai aros yn y cysgod, i siarad a hen gymeriadau gwreiddiol y digwyddai daro arnynt, neu i eistedd wrtho ei hun i fyfyrio, yr hyn a fwynhai yn llawn cystal. Gwnaed llawer cais i gael ganddo fyned i Lundain a Liverpool, ac i gymanfaoedd y gogledd, ond ni lwyddwyd erioed i gael ganddo gymaint ag addaw yn bendant. Bu unwaith mewn cymanfa yn sir Aberteifi, a bu yn sir Fynwy ddwywaith neu dair flynyddau lawer yn ol; oud am flynyddau lawer cyn ei farwolaeth ni cheid ganddo fyned yn mhellach na Chastellnedd, neu Abertawy, neu Lanelli, oddigerth ei fod weithiau yn myned cyn belled a Llanwrtyd, ei le genedigol. Ciliai rhag cyhoeddusrwydd, ac yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddynion, nid oedd poblogrwydd yn un brofedigaeth iddo, oddigerth yn wir ei bod yn brofedigaeth i'w gochel.
Yr oedd yn un o'r dynion puraf a welodd Cymru erioed—nid yn ei arferion yn unig a feddyliwn—er ei fod yn ddiarhebol felly. Unwaith erioed y profodd ddiod feddwol, ac ni wnaeth y pryd hyny ond ei phrofi; ac yr oedd mor groes i'w archwaeth fel na feddyliodd am gyffwrdd a hi mwy. Yr oedd hyny flynyddau cyn bod son am ddirwest. Gellir dywedyd ei fod yn Nazaread o'r groth; ac yr oedd rhai o'i areithiau dirwestol yn mysg y pethau mwyaf hyawdl a draddododd erioed. Ni lygrwyd ei archwaeth erioed a myglus; ac ychydig o ddim a fwytai neu a yfai ond a godai ar ei dir ei hun. Tê llysiau a yfai bob amser, ac nid tê yr India. Cyn belled ag yr oedd ei arferion yn myned yr oedd mor agos at berffeithrwydd ag y gallasai dyn mewn cnawd fod. Ond heblaw, hyny, yr oedd yn ddyn o chwaeth bur, o feddwl pur, o galon bur. Ni wyddai am absen na chenfigen, am eiddigedd na drwg dybiaeth. Llawenhai yn llwyddiant pawb, ac nid ymrysonai a neb; a bu farw, y mae yn sicr genym, heb adael gelyn iddo ar ei ol; a buasai yn rhaid fod unrhyw ddyn yn llawn iawn o ddrwg ysbryd cyn y gallusai fod yn elyn i ddyn oedd yn gorpholiad mor gyflawn o arabedd, caredigrwydd, cywirdeb, a natur dda. Nid yn unig cadwodd ei gymeriad heb ei lychwino mewn oes lygredig, ac mewn ardal lawn o brofedigaethau, ond hefyd cadwodd allan o bob cynen ac ymryson eglwysig, a hyny mewn adeg yr oedd cynhenau ac ymrysonau yn llawer amlach mewn eglwysi a chyfundebau nag ydynt yn awr.
Yr oedd ganddo ofal mawr am yr eglwysi yn y rhai y llafuriai. Byddai gyda hwy bob amser yn nghyfarfodydd yr eglwys. Ni fynasai golli cyfarfod eglwys neu gyfarfod parotoad mwy na cholli Sabboth Cymundeb. Pregethai yn y cyfarfodydd hyny fel yr arferai yr holl hen Ymneillduwyr wneyd. Ychydig iawn a ymyrai yn achosion yr eglwysi, gadawai hyny yn benaf i'r diaconiaid, a digwyddodd fod o'i gylch ddiaconiaid medrus i ddwyn yn mlaen holl amgylchiadau yr achos. Ni phregethai lawer i'w bobl, ac nid oedd ei gred yn gryf yn hyny. Ystyriai ef fod un bregeth y Sabboth yn ddigon i'r un gynnulleidfa. Ni phregethai yn Nghwmllynfell ond dau foreu Sabboth yn y mis. Byddai yno hefyd un nos Sabboth, ond ni phregethai. Cynhelid cyfarfod gweddi, a rhoddai yntau anerchiad a therfynai trwy weddi, ac yr oedd cynnulleidfa mor luosog yn dyfod yn nghyd y noson hono, ag a ddeuai ar unrhyw adeg yn nghorph y mis. Nid oedd gan bobl Cwmllynfell un dychymyg am fwynhad uwch yn nglyn a chyfarfod, na chael cyfarfod gweddi ar nos Sabboth, a Mr. Pryse yno i roddi anerchiad a therfynu trwy weddi. Gweddiwr heb ei fath ydoedd; ni chlywsom neb erioed cyffelyb iddo. Ni ddywedwn na chlywsom neb yn dyfod yn nes i'r synied sydd genym ni am yr hyn ddylai gweddi fod; ond yn ol y syniad poblogaidd am weddi i gynhyrfu cynnulleidfa a dylanwadu arni, ni chlywsom yn ein hoes neb i'w gystadlu ag ef. Yr oedd ei hyawdledd gorlifol, a'i danbeidrwydd angherddol yn gyru pawb bron i anghofio eu hunain. Nis gallasai fod neb yn fwy crefyddol a defosiynol nag oedd efe ei hun; ond nid oedd ei weddiau anghyffredin, y rhai cyfaddasaf i gynyrchu teimlad defosiynol yn eraill, a hyny oblegid eu bod yn rhy ddoniol a chyffrous. Parai ymdywalltiad didor y ffrydlif i ddynion anghofio neges y weddi, gan fel y llyngeid hwy i fyny mewn synedigaeth wrth dwrf rhiadrau ei ddoniau ef.
Am dano fel pregethwr, yr oedd yn sefyll yn hollol ar ei ben ei hun. Ni chlywsom neb o'i fath. Ni ddywedwn na chlywsom erioed ei gystal, a'i ragorach hwyrach, er y rhestrwn ef yn nosbarth blaenaf pregethwyr ei oes; ond yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun. Ni feddyliodd erioed am efelychu neb, ac ofer fuasai i neb geisio ei efelychu yntau. Safai yn y pulpud yn syth a sefydlog, ac yr oedd golwg dywysogaidd arno, fel y teimlai pawb ar unwaith mai nid dyn cyffredin ydoedd. Darllenai ei destyn yn isel iawn yn rhy isel o lawer i bawb mewn cynnulleidfa o faintioli cyffredin allu ei glywed-ac yn y cywair hwnw y siaradai am gryn amser. Gwelid y dorf yn ymestyn yn mlaen er ceisio clywed yr hyn a ddywedai; ac yn aml y torid ar y distawrwydd gan ambell i frawd anamyneddgar a floeddiai, "gwedwch yn uwch"—ond ni wnai efe un sylw o aflonyddwyr felly, ac nid oeddynt mewn un modd yn anhwylysu dim arno. Ni wnai ond prin agor haner ei enau, a gollyngai ei eiriau allan trwy un ochr; ond newidiai o'r naill ochr i'r llall, fel y cai un ochr orphwys pan y byddai y llall yn gweithio. Byddai y rhan gyntaf o'i bregeth fynychaf yn eglurhad ar y testyn a'i gysylltiadau, ond ni byddai un amser yn faith gyda'r rhagymadrodd, er y byddai yn hawdd deall oddi wrth yr hyn a ddywedai y gwyddai yn dda pa le yr oedd yn myned. Pregethai yn destynol yn gyffredin, ac nid yn aml y byddai unrhyw newydd-deb na chywreinrwydd yn ei raniadau. Yr oedd ei iaith yn dda —ei ymadroddion yn gryfion—ac ar y dechreu ni byddai ei frawddegau ond byrion. Deuai yn mlaen yn raddol i arddull mwy hapus, hamddenol, a chwareus. Byrlymai ei arabedd allan heb yn wybod iddo, ac yn aml gwelwyd cynnulleidfa fawr yn ysgwyd mewn gwenau ger ei fron, ac yntau mor ddiysgog a'r graig yn nghanol yr holl gyffro. Yr oedd weithiau mewn profedigaeth i ddefnyddio ymadroddion a ystyrid yn arw, ac i ddisgyn islaw safon iaith bur, ond yr oedd y fath nerth yn ei iaith a'i feddyliau fel y diangai rhag beirniadaeth lem y chwaeth buraf. Nid oedd ei lais yn swynol, yn annibynol ar ei iaith, ei feddyliau, a lluniad bachog ei frawddegau, er fod rhyw oslef dyner iddo pan y byddai yn disgyn ar ol gollwng allan ffrydlif o ymadroddion cryfion. Ond nid mewn mwydo a thoddi cynnulleidfa yr oedd ei ragoriaeth, ond ei synu a'i chyffroi, a'i thanio a'i ddesgrifiadau neu ei apeliadau. Tynai ddarluniadau barddonol mewn iaith gref, ac aruchel weithiau. Nid oedd pall ar ei ddarfelydd, a throai bob peth y llefarai am danynt yn ddelweddau byw o flaen llygaid y gynnulleidfa. Yr oedd ei wawdiaith yn gryf a bachog, a phan y defnyddiai hwnw, yr hyn a wnai yn aml, torai hyd yr asgwrn. Darluniai y balch, y cybydd, y meddwyn, neu yr anfoddog, nes ei wneyd yn wawd cyffredinol; ac os na ddygai y cyfryw i ffieiddio ei hun, dygai pawb arall i'w ffieiddio. Fel y byddai yn poethi agorai ei enau yn lletach, a llefarai yn gyflymach, yn gryfach, ac yn wresocach, ac yr oedd ei frawddegau yn ymestyn mewn hyd, ac yn cynyddu mewn nerth. Difrifolai wrth fyned rhagddo, ac yr oedd ganddo apeliadau cryfion weithiau a ysgydwai y gynnulleidfa fwyaf; ond fynychaf ryw ddychlamiadau hyawdl o ddymuniadau am lwyddiant y gwirionedd oedd terfyniadau cyffrous ei bregethau. Yr oedd yn alluog fel pregethwr yn mhob arddull. Ymdriniai ag athrawiaethau dyfnion, ac a dyledswyddau pwysig, ac a rhinweddau ymarferol. Dylifai gordial i ddiddanu y saint trallodus, ac yr oedd yn fab y daran i ddychrynu annuwiolion rhyfygus. Yn sicr yr oedd yn un o gedyrn cyntaf y pulpud Cymreig. Gwyddom y buasai yn dda weithiau pe buasai ei iaith yn fwy coeth a chaboledig, ond maen mynor heb ei lyfnhau yn ormodol ydoedd; a phe buasid yn tori cydunau ei wallt a'i wneyd, fel dyn arall, nid Rhys Pryse, Cwmllynfell fuasai. Nid oeddym yn barod i dderbyn y newydd o'i farwolaeth pan gyrhaeddodd atom, oblegid tybiem y gallasai fyw lawer o flynyddau yn hwy, ond fel arall y trefnodd yr Hwn sydd yn "penu amseroedd rhagosodedig" plant dynion. Mae yr hyn oedd farwol o hono yn gorwedd yn mynwent Gibeah, i aros y boreu y cymer y golygfeydd gogoneddus a ddarluniodd ganwaith mor hyawdl le yn weithredol.
Cysged yn dawel wrth droed y Mynydd Du! Sanged pob troed yn ysgafn arno-nac ymyred neb a'i esgyrn ef-a chadwer y llecyn byth yn gysegredig fel "BEDD GWR DDUW."ALLTWEN.
Nis gallwn wneyd dim yn well i ddechreu na rhoddi i mewn yma yn gyflawn yr ysgrif ganlynol o eiddo Mr. Griffiths, Alltwen, yr hon a ymddangosodd yn y Diwygiwr am 1847. Tu dal. 313. "Mae'r Alltwen yn mhlwyf Cilybebyll, yn swydd Forganwg. Adroddir i mi gan yr hen bobl henaf sydd yn yr ardal, am hanes dechreuad yr achos yma fel y canlyn:Yr oedd dyn o'r enw Lewis Richard yn byw mewn fferm a elwir Bryncarnau, yn y plwyf uchod, a chryn arwyddion duwiolideb arno, ac yn aelod o'r Eglwys Sefydledig. Ar ryw ddiwrnod rhoddodd fenthyg ei geffyl i'r offeiriad er myned i dref gymydogaethol, a digwyddodd i'r offeiriad wneyd gormod o gyfeillach a rhai o'r ysbrydion poethion ag oedd i'w cael yn y dref, a dilynodd eu heffeithiau hwynt ef tuag adref, gwnaent iddo gerdded lled y ffordd fel ei hyd; a gwaeth na hyny, bu gorfod arno gerdded yr ymyloedd, fel ag y syrthiodd ef a'r anifail i bwll llifo; a digwyddodd iddo, fel i Jacob gynt: llaesodd cyswllt ei forddwyd, a bu yn gloff dros ddiwedd ei oes (rhai drwg yw yr ysbrydion yma); a gwaeth na hyny, anafodd yr anifail, yr hwn oedd yn un lled werthfawr. Wrth fwrw golwg ar y daith hon, anfoddlonodd Lewis Richard yn fawr, a phenderfynodd adael yr Eglwys a myned at y Methodistiaid; ac am fod moddion gras yn brin yn yr ardaloedd yma, bu gorfod arno fyned i gapel Llanllian, ger y Foelgastell, swydd Gaerfyrddin; trafaeliodd tuag yno, er mor bell, am gryn amser. Ond wedi urddo y Parch. Henry Thomas, yn Nghodrerhos, penderfynodd Lewis Richard ymuno a'r Ymneillduwyr, a myned i Godrerhos yn aelod. Ar ol hyn daeth Mr. Thomas i bregethu yn achlysurol i Brynasgellog a Bryncarnau. O gylch yr amser yma yr oedd L. Richard yn cael lease ar ei dir gan ei feistres; ac am iddo ymadael a'r Eglwys, neu rhag ofn drwg oedd fwy, mynodd ei feistres roddi yn y weithred, nad oedd iddo gadw cyrddau yn ei dŷ, sef yn Bryncarnau. Wedi i'r rhwystr hwn godi, aeth L. Richard i edrych am ryw le arall fel y gallasai gael lle i addoli ei Dduw; a phenderfynodd ar dy bychan ag oedd wedi ei adeiladu gan bobl yr ardal at gadw ysgol ynddo; yr oedd yn mesur 21 o droedfeddi wrth 16 o led, ac o gylch 7 troedfedd o uchder, wedi ei doi a rhedyn; yr oedd yn sefyll ar ymyl common a elwir yr Alltwen. Gelwir ef felly am fod ar y common yma glogwyni o greigiau uchel a mawrion, y rhai sydd yn ymddangos yn wynion o bell gan y mwswn sydd yn gorchuddio y creigiau; ac y mae yr ardal, y ffermydd, y dafarn, a'r addoldy, yn myned wrth yr un enw oll. Cafwyd lease ar y tŷ bach gan Mr. W. Jones, Cilhendrefawr, dros ysbaid bywyd tri o ddynion, a pharhaodd y lease hyd y flwyddyn 1841. Wedi cael lle o addoliad, bu y Parch. Henry Thomas, ac eraill, yn pregethu yma, a daeth y Parch. William Evans, Cwmllynfell, i fod yn weinidog iddynt, a bu gyda hwynt o gylch deng mlynedd, a llwyddodd i gael cynnulleidfa dda yn ol fel ag oedd pethau yn yr oes hono. A phan oedd yn myned i farw, cynghorodd bobl Cwmllynfell a'r Alltwen i ymofyn y Parch. John Davies, gwr ieuangc ag oedd newydd gael ei urddo yn Mhentretygwyn; ac felly aethant i hysbysu i Mr. Davies gynghor eu hymadawedig weinidog; cydsyniodd a'u cais, a daeth atynt yn y flwyddyn 1770. Bu Mr. Davies yn gweinidogaethu yn y tŷ bach am amryw flynyddau hyd nes aeth yn rhy fychan i'r gynnulleidfa, ac adeiladwyd tŷ oedd fwy wrth dalcen yr hen gapel, mesur yr hwn sydd 42 wrth 22 o droedfeddi, ac nid oes hanes iddynt ymofyn cymorth gan neb ond yn yr ardal; cynyddodd yr achos, a lledaenodd y winwydden ei cheingciau i lawr ac i fyny, nes aeth yn gadarn, ac aeth yn lle o gyrchfa mawr iddo gan bobl yr ardaloedd, a rhai pellenig, a hyny oddiar enwogrwydd eu gweinidog, oblegid yr oedd yn ddyn cadarn yn yr Ysgrythyrau. Nid oedd neb cenhadau yn myned heibio heb alw gyda'r hen Shon Calfin, fel y galwent ef, ac yr oedd amryw o'r Methodistiaid yn galw gydag ef, ac yn ei dy ef y byddent yn llettya. Wedi bod felly yn llwyddianus am flynyddau, daeth eisiau gwellhau yr addoldy, yr hyn a wnaethant. Codasant ef yn uwch, a rhoddasant ben newydd a chadarn arno, a gwellhawyd ef y tu fewn; bu hyn yn y flwyddyn 1814, a dygodd y gynnulleidfa a'r ardalwyr y draul oll. Bu Mr. Davies yn gweinidogaethu yn yr Alltwen am 51 mlynedd; ond er mor gadarn o gorph ac o feddwl oedd, ac er mor hoff o hono ydoedd y bobl, bu gorfod arnynt ymadael ag ef pan ddanfonwyd cerbyd Israel a'i farchogion i'w gyrchu i gymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntaf-anedig, &c. Bu farw Rhagfyr 4ydd, 1821, a chladdwyd ef wrth Eglwys Llanguwg, oblegid nid oedd mynwent wrth yr Alltwen na Chwmllynfell y pryd hwnw. Er mor enwog oedd y gweinidog a'r lle, etto nid oeddynt yn eglwys luosog, ond yr oeddynt yn bobl gyfrifol a pharchus iawn, yn ymgasglu o bell o lawer o wahanol ardaloedd; rhai o swydd Frycheiniog, plwyf yr Ystrad; eraill o blwyf Llanguwg, 4 neu 5 milldir i fyny; eraill o blwyf Llangafelach, Treforis, Llansamlet, plwyf Cadwg, godreu Cwmdulais, tu draw i'r mynydd, etto nid oeddynt ond bychan o rifedi yn yr oes dywyll hono, pryd nad oedd Ysgolion Sabbothol, na chyhoeddiadau misol, na thai addoliad yn aml iawn, na nemawr o fanteision fel sydd yn ein hoes ni, ac yr oedd llawer o elyniaeth at yr achos mewn llawer man. Bu gorfod ar un o ddiaconiaid yr Alltwen gael trwydded (license) ar ei dy er cael cadw addoliad ynddo (George Williams, Glanrhyd); yr oedd hyny yn beth hynod iawn; ond nid yw yr elyniaeth wedi marw etto, ond yn unig ei bod yn ormod o oleuni iddi ddangos ei hun.
Wedi marw Mr. Davies bu y gynnulleidfa yn araf, pwyllog, tawel, a diwylltni ar ol pob dawn ag oedd yn myned heibio iddynt. Ac wedi i eglwys y Pantteg roddi galwad i'r ysgrifenydd, daeth eglwys yr Alltwen o'r un feddwl, a chydsyniasant a'r Pantteg er bod yn rhanog a hwynt dan yr un weinidogaeth; rhoddasant alwad wedi ei harwyddo oll heb un yn groes, nid oeddynt y pryd hwnw ond 67 o nifer. Wedi yr urddiad aeth pethau yn mlaen yn gysurus, llwyddodd yr achos, derbyniwyd amryw, ac aeth eisiau helaethu y lle, yr oedd yn rhy gyfyng i breswylio ynddo; nid oedd ond lease bywydau ar y tŷ, a dau o'r tri wedi marw, a'r llall yn hen iawn. Y canlyniad fu, aeth un o'r hen bobl (Richard Hopkin, Cwmnantllwyd) at berchen y lle, er ceisio adnewyddu y lease, i gael adeiladu-cafodd addewid o gan' mlynedd; aeth eilwaith, a chafodd addewid o fil ond un. Felly penderfynodd yr eglwys wneyd cytundeb a H. Gwyn, Ysw., am y lle dros 999 o flynyddau. Rhyw fodd wrth ymddiddan a'r gwr boneddig, daethbwyd i benderfyniad i gael darn o'r cae oedd islaw y tai addoliad at yr hyn oedd eisioes o dan y tai addoli, a hyny er adeiladu tŷ newydd a'r ddau gyntaf i sefyll, i fod yn ystabl a thai anedd, ac i fod mewn cysylltiad a'r tŷ newydd, a'r cwbl yn yr un lease. Yr unig rwystr i hyn oedd, fod lease gan Mr. Richard Hopkin, ar y cae; a thuag at symud hyny, rhoddodd ei hawl i'r darn tir i fyny i'r eglwys am ddim. Felly dechreuwyd adeiladu yn y flwyddyn 1831. Mae yr adeilad presenol yn mesur 46 troedfedd wrth 36 o led, 22 o uchder, 3 drws, ac 8 o ffenestri, ac oriel helaeth, corau (50); ac anrhydeddwyd y lle a dau awrlais (clocks), un tu fewn, a'r llall tu allan, gan berchen y lle, Howell Gwyn, Ysw., eu gwerth oedd £18 18s. Gwerth yr adeilad yma oedd £407 5s., ond rhwng talu llog, ac adeiladu muriau o gylch iddo, aeth y swm i £523 10s., ond casglwyd y cwbl yn yr ardal mewn ysbaid chwe' blynedd, oddigerth rhyw ychydig gymorth o'r undeb, ac oddiwrth ryw 15 o gapeli yn y gymydogaeth; cludodd y bobl yr holl ddefnyddiau yn rhad, ceryg, coed, sand, dwfr, calch, &c.; yr oedd gan y bobl galon i weithio, a gwasanaethasant eu cenhedlaeth drwy hyny, a chenhedlaethau lawer etto.
Y draul nesaf aeth arnynt oedd adgyweirio yr hen addoldy, er ei wneyd yn dri thy byw ac ystabl, costiodd hyn iddynt £45. Wrth gloddio am sylfaen i'r addoldy presenol, deallwyd fod yno ddyfnder o ddaear, ac y gallesid claddu, er ar lechwedd y graig. Yna gwnawd apeliad at H. Gwyn, Ysw., trwy gyfrwng T. Lott Martin, Ysw., am ychwaneg o dir er cael lle i gladdu ein meirw, yr hyn a ganiatawyd yn rhwydd, heb godi dim yn y rhent flynyddol, ond i ni gael cydsyniad Richard Hopkin, yr hwn oedd a lease ar y cae; bu yntau mor hael a rhoddi y tir heb ddim tal eilwaith dros amseriad ei hawl ef ynddo. Felly cafwyd y cae oll at fynwent, ac y mae yn un o'r mynwentydd mwyaf yn y sir, os nad yn Nghymru, lle sych hyfryd i gladdu; etto, er mor hyfryd, lle ni ddaeth, ac ni ddaw neb i orwedd yma o'i fodd, ond gorfod dyfod dan rwymau angau-hen elyn i ni yw, ac a fydd hyd nes y gorchfygo Iesu mawr ef. Costiodd adeiladu muriau o amgylch claddfa mor eang lawer iawn o arian i'r gynnulleidfa. Hydref 22ain, 1834, dechreuwyd claddu yma; Margaret Hopkin, Forestgoch, oedd y gyntaf a roddwyd i orwedd yma; pregethwyd ar yr achlysur oddiwrth Gen. xxiii. 17. Mae yma heddyw, (Awst 12fed, 1847,) dros ddau gant yn gorwedd. Mae'r beddau wedi eu trefnu yn rhesi wrth linell gywir dau fedd i bob teulu, 7 troedfedd o hyd wrth 6 o led; ac y mae'r beddau wedi eu coflyfru wrth eu rhif (numbers) yn mhob rhes.
Y draul nesaf aeth yr eglwys iddo yn 1846, oedd toi y tŷ addoliad, ben ac ochr, er ei ddiddosi, yr hyn a gostiodd £51 7s. 4c. Eilwaith yn y flwyddyn hon, ail adeiledir yr hen dy hynaf er ei wneyd yn dy anedd cyfleus, costia hwn i ni dros £30. Fel uchod y mae achos y Gwaredwr mawr wedi cychwyn yn yr Alltwen dros y pedwar ugain a deg o flynyddau a aethant heibio; a dymana'r ysgrifenydd iddo fil myrdd mwy o lwyddiant yn y 90 nesaf, ac hefyd hyd nes cano'r udgorn a'n galw o'n beddau, y rhai sydd barod i ni eisioes. Ni chafodd eglwys yr Alltwen y fraint o fod yn fam i amryw ganghenau fel llawer lle, ond cafodd y fraint o breswylio ynghyd heb ymrwygo ymrwy na nemawr o amrafaelion o ddim pwys er pan y corpholwyd hi yn eglwys, a thrwy drugaredd y mae cariad ac undeb yn fyw yma heddyw-hir oes iddynt byth ac yn dragywydd. Ni chafodd y lle hwn y fraint o fagu llawer o genadau i sefyll ar yr adwy danllyd, ond cafodd y fraint o beidio lladd neb; mae llawer o ladd cenadau trwy ormod o waith, rhy fach o fwyd, gormod o fustl yn eu cwpanau; ond cafodd yr eglwys hon weled ei hathrawon yn disgyn i'r bedd mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, a hwyr eu bywyd, yn llawn o gysur. Etto cafodd fagu rhai i fod yn eneuau cyhoeddus: yma y codwyd y Parch. Jenkin Lewis, Llanfyllin, yr hwn a lafuriodd yn llwyddianus yn y lle hwnw trwy lawer o anfanteision. Codwyd David Rees yma, bachgen bach call, duwiol, a hyfryd iawn, hynod yn ei athrylith, ond machludodd ei haul gyda ei fod yn dyfod dros y terfyngylch, a bu farw yn ieuangc. Mae yma ddyn ieuangc yn bresenol yn dechreu arfer ei ddawn (Joseph Owen); dymuna yr eglwys a'r gweinidog iddo fawr a hir lwyddiant. Cyfrifir yr eglwys hon yn iach yn y ffydd er pan mae yn eglwys; y mae yn mhell o fod o farn Arminaidd, etto mae am flaenori ar bawb mewn diwydrwydd, dyledswyddau, buchedd sanctaidd, a dysgyblaeth yn ol gair Duw. Cyfrifir gan y rhai sydd yn teithic, fod yma gymaint o archwaeth grefyddol ag sydd mewn nemawr o fan yn y dyddiau marwaidd hyn. Cafodd yr eglwys hon y fraint o gynal dwy gymanfa bedair-sirol yn ysbaid 21 mlynedd diweddaf. Mae'r gangen hon o'r mynydd yn dorf luosog at a fu cyn hyn, ond nid yw hi ond bechan at a fydd, gobeithio, a hyny cyn byddo yn hir. Mae yn ymranu i 6 o ddosbarthiadau er cynal cyfarfodydd gweddio, a hyny i feithrin doniau, llesoli cymydogaethau, ac ennill tir a phersonau newyddion. Bydded bendith ar eu llafur, a bydded Duw Israel gyda ni tra fyddom gyda ein gilydd, ac ar ol fy ymadawiad i arosed cwmwl y gogoniant yma byth."
Yr ychydig ffeithiau canlynol yn unig sydd genym i'w hychwanegu at yr hanes cyflawn blaenorol. Urddwyd Mr Griffiths, Rhagfyr 12fed a'r 13eg, 1822. Dechreuwyd y cyfarfod y nos gyntaf yn y Pantteg gan Mr. D. Davies, myfyriwr yn athrofa y Neuaddlwyd, yn awr o'r New Inn, a phregethodd Mr. L. Powell, Capel Isaac, a Mr. D. Davies, Sardis. Yr ail ddydd, yn yr Alltwen, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Morgan Lewis, Glynnedd; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Evans, Mynyddbach; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. R. Howell, Baran; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Daniel Jones, Crugybar; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Bowen, Castellnedd, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Davies, Sardis.
Mae Mr. Griffiths wedi bod yn llafurio yn y maes pwysig hwn bellach er's cyflawn haner can' mlynedd. Yn ystod y tymor hwn, heb gyfrif ei lafur achlysurol yma er y pryd y dechreuodd bregethu, ac am yr amser y bu ar brawf yma, y mae o ddydd ei urddiad hyd yn bresenol wedi traddodi yn y lle, naw mil a phump o bregethau; wedi bedyddio 2886 o blant; wedi gweinyddu mewn 2007 o angladdau; ac wedi derbyn trwy ddeheulaw cymdeithas 1930 o bersonau, heb gyfrif y rhai a dderbyniwyd ganddo trwy lythyrau, a'r gwrthgilwyr a adferwyd. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Griffiths, y mae eglwys a chynnulleidfa yr Alltwen wedi myned i'r draul o 1082p. 3s. i adeiladu a helaethu y capel, murio o gylch y fynwent, troi yr hen gapel yn anedd-dai, adeiladu Reading-room', &c., ac wedi talu y cwbl eu hunain heb ond y peth nesaf i ddim o gymorth o un ardal arall. Daw y canghenau yn Ynysmudw, a Chraigtrebanos, dan sylw etto yn eu lleoedd priodol. Helaethwyd y capel i'w faint presenol yn 1861, pryd yr aed i'r draul o 319p. 10s. i wneyd hyny.
Heblaw y rhai a grybwyllwyd yn barod, cafodd y rhai canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:—
John Jenkins, yr hwn a dderbyniwyd i athrofa Abergavenny, Mai 8fed, 1775, ac a urddwyd yn Llangattwg, Crughowell, Medi 30ain, 1779. Daw ef etto dan sylw yn nglyn a hanes yr eglwys hono [43] Lewis Williams, yr hwn a urddwyd yn ddiweddar yn Mynyddislwyn; yn nghyda dau ŵr ieuangc sydd newydd ddechreu pregethu, o'r enwau Samuel Thomas a Dan Williams. Mae yr eglwys hon, a'r Ysgol Sabbothol, mewn agwedd hynod o lewyrchus, a Mr. Griffiths, er ei henaint a'i holl lafur, yn gryf a bywiog mewn corph a meddwl, ond ei fod fel Jacob, yn gloff o'i glun. Hyderwn fod etto flynyddoedd o gysur a llwyddiant o'i flaen.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
JOHN DAVIES. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn mhlwy. Llanllawddog, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1737, mewn anedd-dy yn agos i Eglwys y Plwyf. Aelodau o'r Eglwys Wladol oedd ei rieni. Treuliodd ef flynyddau boreuaf ei oes yn was gyda boneddwr o'r enw Mr. Lloyd, Glangwili. Yno y dysgodd ac y cymerodd hoffder mewn saethu adar, yr hyn a barhaodd i wneyd trwy ei oes. Ymddengys ei fod yn wyllt a thra annuwiol, er ei fod mewn parch mawr gyda ei feistr, hyd nes yr oedd tuag ugain mlwydd oed. Y pryd hwnw cafodd gystudd trwm a pheryglus a bu yn cadw ei wely am rai wythnosau. Bendithiodd yr Arglwydd ei gystudd er ei ddifrifoli. Pan wellhaodd ymunodd a'r eglwys Annibynol yn Mhenycadair. Yn mhen ychydig amser ar ol ei dderbyn, anogwyd ef gan yr eglwys i arfer ei ddawn fel pregethwr, ac ar ol pregethu am rai misoedd ar brawf yn ei fam-eglwys, aeth, yn ol arferiad yr oes hono, i gyfarfod gweinidogion, lle y traddododd bregeth er mwyn i'r gweinidogion a'r eglwysi cymydogaethol gael cyfle i farnu ei gymhwysder. Barnwyd ef yn addas i gael ei anog i fyned trwy yr eglwysi fel pregethwr rheolaidd. Gan ei fod yn dra enwog fel pregethwr, ac yn enwedig ar gyfrif ei gryfder corphorol a'i wroldeb, anfonodd yr eglwys yn Rhosymeirch, Mon, alwad iddo, cyn iddynt ei glywed, ar sail y son oedd wedi myned allan am dano. Yr oedd o bwys cael dynion gwrol y pryd hwnw i fod yn weinidogion Ymneillduol yn Mon, o herwydd ysbryd erlidgar y trigolion. Tybiodd ef a'i gyfeillion mai llais oddiwrth yr Arglwydd oedd yr alwad hon, ac felly cychwynodd i'w daith tua'r gogledd, ond cyn iddo fyned yn mhell cloffodd ei geffyl, a bu raid iddo ddychwelyd adref. Yna rhoddodd i fyny y meddwl am fyned i'r gogledd. Tua y flwyddyn 1767, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Mhentretygwyn, sir Gaerfyrddin, lle yr urddwyd ef. Yn niwedd y flwyddyn 1770, neu ddechreu 1771, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Nghwmllynfell, yr Alltwen, a Chwmaman, ac ymsefydlodd yno, ac yno y bu yn rhyfeddol o ddylanwadol a pharchus hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 4ydd, 1821. Ar ddydd ei gladdedigaeth, cymerwyd ei gorph o'i anedd i gapel yr Alltwen, lle y traddodwyd pregeth oddiar Salm xl. 2, gan Mr. Thomas Edwards, Castellnedd. Yr oedd y testyn a'r pregethwr wedi cael eu penodi gan yr ymadawedig ar ei wely angau. Claddwyd ef yn ymyl ei ragflaenor, Mr. W. Evans, yn mynwent Llanguwg, yn ngwydd llawer o ganoedd o alarwyr.
Dichon na fu un gweinidog erioed yn fwy ei barch gan bobl ei ofal na Davies, o'r Alltwen. Nis gellir crybwyll ei enw i'r dydd heddyw yn nghlyw yr hen bobl sydd yn ei gofio heb enyn ynddynt deimladau o barch iddo. Dywedir mai dyn mawr, garw ei gorph a'i ymadroddion ydoedd, ond er hyny yr oedd ganddo ryw ffordd ryfedd i fyned i serchiadau dynion ac i beri iddynt deimlo parch tuag ato.
Yr oedd fel pregethwr yn llefaru yn gryf, ac eglur, ac yn gadael yr argraff ar ei wrandawyr ei fod yn feistr ar ei bwngc. Er nad oedd dim yn swynol yn ei lais, nac yn dlws yn ei gyfansoddiadau, yr oedd pawb o'i gydoeswyr yn ei gyfrif yn bregethwr mawr. Llygriad dynoliaeth trwy y cwymp, a chyfiawnhad trwy ffydd yn angau iawnol y Cyfryngwr, oedd y materion y safai arnynt agos bob amser. Anfynych y traddodai un bregeth heb roddi ergyd i'r Sosiniaid, ac er hyny, yr oedd gan Sosiniaid y gymydogaeth barch mawr iddo fel cymydog. Yr oedd ganddo yn ei ymddiddanion a'i bregethau ryw ergydion pwrpasol, ac yr oedd ei ateb yn wastad yn barod. Yr oedd ryw nos Sabboth i bregethu yn Ebenezer, Abertawy, a chan ei fod tua phedwar ugain oed y pryd hwnw, ac wedi bod yn pregethu yn yr Alltwen yn y bore, cynygiodd Peter Williams, un o swyddogion yr eglwys, alw rhyw frawd i ddechreu yr oedfa iddo. "Na wnewch," ebe efe, mewn llais garw uchel, "mae yn well genyf fi gael hogi fy mhladur fy han na gadael i neb arall wneyd hyny."
Bu Mr. Davies yn briod ddwywaith ond ni bu iddo blant.
GODRERHOS.
Cymerwn hanes yr eglwys hon allan o'r Diwygiwr am 1847. Tu dal. 150, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. P. Griffiths, Alltwen, a bydd yn dda gan ein darllenwyr ei gael yn arddull yr awdwr ei hun. "Mae'r eglwys fechan hon wedi ei ffurfio er ys mwy na chan mlynedd yn ol, er nad oes hanes cywir i'w gael trwy un ysgrifen, nac ychwaith trwy draddodiad, ond fod pregethu mewn tŷ bychan, lle y trigianai hen ŵr crefyddol, gwehydd wrth ei gelfyddyd. Ymddengys fod yno ryw ychydig bobl yn ofni Duw, ac yn cynal addoliad. Nid oes neb yn gwybod pa fodd yr oedd yr achos yn cael ei gynorthwyo, na chan bwy. Y peth cyntaf sydd ar gof gan yr hen bobl, trwy glywed gan eu tadau, yw i un Henry Thomas, genedigol o Lacharne, swydd Gaerfyrddin, priddfeinwr wrth ei gelfyddyd, yr hwn oedd yn bregethwr, ddyfod i Godrerhos i gadw ysgol, a phregethu yn achlysurol. Yn mhen amser urddwyd ef i waith y weinidogaeth. Nid oes un hanes i gael pwy oedd y gweinidogion a fu yn yr urddiad. Wedi i dalm o amser fyned heibio, priododd y Parch. Henry Thomas, a merch Mr. Jenkin Davies, Gellidochleitha, yr hwn oedd yn byw ar ei dir ei hunan, ac ar ei dir ef yr oedd tŷ y gwehydd, lle yr oedd yr addoliad yn cael ei gynal. Y canlyniad fu i Mr. Henry Thomas gael lease ar y tŷ bach, a darn helaeth o dir at fynwent, gan Mr. Jenkin Davies, ei dad-yn-nghyfraith, er adeiladu tŷ addoliad mwy cyfleus; yr hyn a wnaethant, yr hwn sydd yn sefyll heddyw. Yr oedd y lease dros fil ond un o flynyddau, wedi ei hymddiried i ymddiriedolwyr, sef y Parch. Henry Thomas, Godrerhos; R. Rees, Cwmdulais; John Evans, Brynasgellog; a'r Parch. Noah Simmons, Castellnedd; ardreth flynyddol y lle yw chwe' cheiniog. Mae darbodaeth yn y lease, os bydd y gynnulleidfa yn ewyllysio adeiladu rhyw beth ar y tir, neu'r fynwent, fod iddynt hawl, ond ei fod mewn cysylltiad a'r addoldy; a bod coed at hyny i'w cael, os byddai coed o'r fath ar y fferm uchod, Gellidochleitha. Amseriad y lease yw 1753. Oddiwrth yr hanes uchod, gallwn gasglu, rhwng ffurfio yr eglwys, dyfodiad Mr. Thomas atynt, ei urddo, priodi, &c., fod cryn lawer o flynyddau o ddechreuad yr achos hyd amser dyddiad y lease, yr hon sydd heddyw yn 94 o flynyddau, ac i barhau etto 905. Tymor anwyl i fraich yr Arglwydd i weithio. Mae'r addoldy uchod wedi ei adgyweirio bedair gwaith, er nad yw wedi ei ail adeiladu. Cafodd y lle yr enw Godrerhos oddiwrth sefyllfa y fan y mae. Mae llain o dir yn rhedeg trwy'r cwm, rhwng Mynyddmarch-howell ar y gorllewin-ogledd, a Hir-fynydd ar y dwyrain-ddeheu iddo, a elwir y Rhos (common), ac yn agos i odreu hwnw y saif yr addoldy. Wrth yr hanes a gawn gan hen bobl, ymddengys nad oedd achos crefyddol gan yr Annibynwyr yn Nghwmnedd, yn enwedig tua'i ganol, yn amser y Parch. Henry Thomas, o gylch i 80 neu 90 o flynyddau yn ol; oblegid yr oedd pedwar o bersonau yn dyfod oddiyno i Godrerhos—John Harrison Glyncastell, tu draw i Nedd, plwyf Illtyd, ewythr i'r Parch. J. Harrison, Aberdar, a brawd i dadcu y Parch. John Jones, Cincinnati, America; yr ail oedd Thomas Hopkin, Penlan, tad Rees Hopkin, Tongarwyd, pregeth. wr selog a phoblogaidd gyda'r Methodistiaid, a thadcu Rees Hopkin, Creinant, pregethwr gyda'r un bobl; y trydydd oedd Jenkin Lewis, Blaennant-yr-hebog, sef yr enwog a'r Parchedig Jenkin Lewis, Llanfyllin, yr hwn a lafuriodd yn galed trwy lawer o wrthwynebiadau a thlodi mawr lawer gwaith pan oedd yr achos ond yn ei fabandod yn ngogledd Cymru. Er nad yn Nghodrerhos y dechreuodd bregethu, etto, yno y derbyniwyd of yn aelod, a symudodd i gymydogaeth yr Alltwen, pan y dechreuodd sefyll i fyny yn gyhoeddus; y pedwerydd oedd Jennet Christmas, Hendregledren; nid wyf yn adnabyddus a neb o'i phobl, pa un ai crefyddol ai digrefydd y maent. Oddiwrth hanes y dynion da a ffyddlon uchod, gallwn weled fod Duw yn bendithio llafur, ac yn gwobrwyo ffyddlondeb, ac yn ymweled hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'i carent ef. Felly hefyd y mae o barth i lawer o bobl eraill ag oedd yn aelodau yn Nghodrerhos, mae eu had gyda'r achos, crefydd fel wedi gwreiddio yn y teuluoedd -lle byddo didwylledd hi wna hyny. Yn mhen oes neu ddwy eilwaith, daeth eraill yn uwch i fyny o Gwmnedd, i fod yn aelodau yn Nghodrerhos: un Morgan Curtis, Blaen-nant-yr-ewig, a Morgan Jones, Ddrysiog, ac eraill, y rhai, ynghyd ag aelodau o fanau eraill, a ddechreuasant yr achos sydd yn Nglynnedd yn bresenol. Nid oedd nemawr o bregethu dros y mynydd i'r gorllewin i Godrerhos yn amser y Parch. H. Thomas; yr oedd un Lewis Richard, Bryncarnau, a John Evan Thomas, Brynasgellog, yn byw yn mlaen plwyf Cilybebyll, ac yn aelodau yn Nghodrerhos; a byddai y Parch. H. Thomas yn dyfod dros y mynydd i bregethu iddynt, yr hyn a achlysurodd i gael pregethu yn nes i waered yn y plwyf, ac o'r diwedd, sefydlodd yr arch ei man, sef yr Alltwen; a thebyg heddyw, na symud hyd nes cano'r udgorn, a galw'r dorf sydd yn gorwedd, ac a orwedd etto yno. Yr oedd achos Godrerhos yn lledaenu i'r gogledd hefyd; yr oedd rhai o'r aelodau yn byw yn y Graigarw, ar lan afon Twrch; bu y Parch. M. Lewis yn pregethu yn fisol yn Ystalyfera-uchaf, tŷ William Williams. Bu y Parch. H. Thomas o ddefnydd mawr, ac yn llafurus iawn yn yr oes dywyll hono, ond rhoddodd i fyny bregethu amryw flynyddau oyn ei farw, a bu farw yn 90 oed; claddwyd ef gyda'i wraig yn mynwent Godrerhos, yn 1802, claddwyd ei wraig yn 1771. Nid wyf yn gwybod am neb o'i bobl yn bresenol. Yr oedd iddo wyr, y Parch. Jeremiah Thomas, Croesoswallt, yn Shropshire; nid wyf yn gwybod a ydyw yn fyw ai peidio, mae wedi rhoi fyny bregethu, ac yn byw ar ei feddianau.
Wedi i'r Parch. H. Thomas roddi fyny bregethu, cafodd y Parch. Morris Williams alwad, ac urddwyd ef i waith y weinidogaeth yn Nghodrerhos, lle y bu yn ffyddlon a llwyddianus iawn, ac mae ei goffadwriaeth yn hoff ac yn anwyl ganddynt. Bu yntau farw, ac y mae yn gorwedd yn mynwent Godrerhos gyda'r dorf sydd yno yn tawel huno. Yn ganlynol daeth y Parch. John Davies, Llansamlet, i weinidogaethu yn eu plith yn achlysurol, a bu gyda hwynt yn llwyddianus, ac yn hynod o heddychol, ac y mae ei enw yn beraidd gan yr hen bobl fyth. Wedi i Mr. Davies ymadael, cafodd Morgan Lewis alwad ganddynt, yr hwn oedd yn byw yn yr ardal, ac yn bregethwr bywiog a selog anarferol. Yr oedd Mr. Lewis wedi dechreu ei yrfa grefyddol yn y Creinant, gyda'r Methodistiaid, fel nad oedd yn aelod yn Nghodrerhos, er ei fod yn byw yn ngolwg y lle. Urddwyd ef yno, a bu yn llafurus a llwyddianus anarferol; cafodd alwad i Tŷ'nycoed, ac adeiladwyd Hermon, fel yr oedd cylch ei lafur yn fawr iawn; rhyw fodd neu gilydd, gadawodd Mr. Lewis, Godrerhos, a llafuriodd yn Tŷ'nycoed a Hermon yn unig. Ar ol ymadawiad Mr. Lewis, daeth Mr. Wm. Williams, Newton Nottage, i fod iddynt yn weinidog achlysurol, bu gyda hwynt am ysbaid pum' mlynedd, a meddyliodd fod y ffordd yn nes a hawddach trwy y dwfr na thros y tir i'r nef, ac felly aeth at y Bedyddwyr. Wedi hyn, yr oedd y ddiadell fechan heb neb eilwaith. Cafodd y Parch. Thos. Edwards, Castellnedd, alwad ganddynt, ac atebodd hi; bu yn diwyd lafurio yn eu plith am flynyddau, hyd nes iddo ef a'i deulu symud i America, lle y terfynodd ei oes. Eilwaith aeth y pulpud yn wag, a daeth eu cymydog nesaf, sef y Parch. James Williams, Tŷ'nycoed, i'w cynorthwyo, a bu yn ddiwyd, llafurus, a pharchus iawn, yn gofalu am danynt am rai blynyddau. Wedi hyn, rhoisant alwad i'r Parch. Dl. Griffiths, Castellnedd, yr hwn a gymerodd eu gofal, a lledaenodd ei ddefnyddioldeb a'i lafur trwy yr ardaloedd, casglodd y bobl yn lluoedd, derbyniwyd amryw, adeiladwyd gallery newydd, a gwnawd eisteddleoedd newyddion; ac hyderir i lawer gael calonau newyddion. Ond yn nghanol y gwres, y cariad, a'r anwyldeb, bu farw Ebrill 1af, 1846, claddwyd ef yn Zoar, Castellnedd. Bellach, mae eglwys Godrerhos heb un bugail arni etto, ond wele yr Arglwydd yn tueddu eu calonau at y brawd Henry Rees, aelod o Lanelli, swydd Gaerfyrddin, yr hwn a urddwyd Mawrth 9fed a'r 10fed, (gwel Diwygiwr, Ebrill, 1847,) i fod yn weinidog iddynt mewn cysylltiad a'r Ystrad. Bydded bendith bryniau tragwyddoldeb i aros arnynt, ac a'r un ffyddlondeb a ddangosasant trwy yr oesau, y caffont dreulio eu hoes i ben; ac arosed ei fwya ef, sef fy mrawd Rees, yn gryf, a nerther ei ddwylaw ef trwy ddwylaw grymus Duw Jacob-eled y bychan yn fil, a'r wael yn genedl gref, a phresured ei pherchen hyny yn ei amser. Wedi dilyn hanes crefydd yn Nghodrerhos, gallwn nodi rhai pethau hynod am yr eglwys hon. Nid y lleiaf o ran defnyddioldeb, yn gystal ag oedran, yw hon; mae yn fam i'r achos yn yr Alltwen, ac yn Nglynnedd, ac mae amryw o'i haelodau wedi cynorthwyo i ffurfio achos yr Onllwyn, er fod y merched, feallai, yn dalach na'u mam, mae yn digwydd felly yn aml. Mae yn hynod o ran breintiau, cafodd y fraint o fagu amryw bregethwyr, ac mae rhai o honynt yn weinidogion defnyddiol. Yn Nghodrerhos y ganwyd ac y magwyd y Parch. Joshua Evans, Cymer; John Thomas, Carbondale, America; Henry Davies, Town Missionary, Liverpool, ac eraill hefyd. Mae eglwys Godrerhos trwy yr holl gyfnewidiadau-gweinidogion yn marw, symud, a dewis rhai newydd, nid oes dim yn debyg i ymraniad wedi bod erioed yn eu plith, ond fel un llaw, gan mwyaf, bob amser. Diau fod hyn yn enw da iddynt, ac yn gysur i fyned atynt. Eilwaith, mae yn enwog yn mhurdeb yr athrawiaeth-nid ydynt yn barnu eu bod yn gwybod dim ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. Mae gwres crefyddol yn aros yn y lle bach hwn er amser y tadau, cof genyf am amryw o honynt yn eu cynesrwydd a'u ffyddlondeb. O! disgyned deubarth eu hysbryd ar eu had, a bendith Ior ar eu hiliogaeth. Claddwyd mamau yn Israel o'r ddiadell hon, ac a wylodd fwy o ddagrau na digon i'w boddi ynddynt. Mae yr aelodau presenol yn wrandawyr da, yn gantorion cynes, yn weddiwyr doniol—gwisger hwynt oll a gwir ostyngeiddrwydd ger bron y Duw mawr, ac a sel danllyd, ac a diwydrwydd diflino yn ngwaith eu Harglwydd."
Nid oes genym nemawr i ychwanegu at yr hanes cyflawn uchod. Parhaodd Mr. Henry Rees i weinidogaethu yn ffyddlon i'r eglwys hon mewn cysylltiad a'r Ystrad, o amser ei urddiad yn Mawrth, 1847, hyd ei symudiad i'r America Mai 20fed, 1869. Ar yr ail Sabboth yn Chwefror, 1871, dechreuodd Mr. R. W. Roberts, Pentrefoelas, sir Ddinbych, ei weinidogaeth yma ac yn yr Ystrad, fel canlyniedydd Mr. Rees, ac mae ei lafur yn argoeli bod yn dderbyniol a llwyddianus yn y ddau le. Yn 1856, tynwyd hen gapel Godrerhos i lawr ac adeiladwyd y capel prydferth presenol, yr hwn sydd yn mesur 36 troedfedd wrth 30 dros y muriau, ac a gostiodd 416p. 9s. 8c., heb gynwys cludiad y defnyddiau, yr hyn a wnaed yn rhad gan yr ardalwyr. Agorwyd y capel newydd Gorphenaf 2il a'r 3ydd, 1856, pryd y pregethodd Meistri Griffiths, Alltwen; Griffiths, Abertawy; Mathews, Castellnedd; Thomas, Bryn, Llanelli; Thomas, Glandwr; Davies, Cwmaman; Daniel, Mynyddbach, ac eraill. Yn yr oedfa ddeg o'r gloch yr ail ddydd, casglwyd mwy na digon i dalu yr holl ddyled.
Nid yw eglwys Godrerhos erioed wedi bod yn lluosog, ac nis gallasai fod, am fod poblogaeth y wlad am filldiroedd oddiamgylch yn deneu iawn, ond yn awr pan mae gweithiau glô yn cael eu hagoryd yn mhob cyfeiriad yn yr ardal, mae y boblogaeth yn sicr o gynyddu yn ddirfawr yn dra buan, a bydd yma wrth bob tebygolrwydd eglwys a chynnulleidfa luosog iawn cyn pen nemawr o flynyddau.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
HENRY THOMAS. Nid oes genym unrhyw hanes i'w roddi am dano ef yn ychwanegol at yr hyn a roddwyd yn yr hanes blaenorol am yr eglwys. Bu farw yn mis Awst, 1802, yn 90 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Godrerhos. Mae yn ymddangos ei fod yn ei ieuengctyd a chanol ei ddyddiau yn weinidog llafurus a thra llwyddianus. Darfu iddo roddi i fyny y weinidogaeth o herwydd diffyg iechyd, neu ryw achos arall anhysbys i ni, fwy na deng-mlynedd-ar-hugain cyn ei farwolaeth.
MORRIS WILLIAMS. Yr oedd yn un genedigol o blwyf Llanllwyni, sir Gaerfyrddin. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1733. Mae yn debygol mai yn Rhydybont neu Bencadair y dechreuodd ei yrfa grefyddol. Yr ydym yn hollol anhysbys o hanes boreu ei oes. Cafodd ei urddo yn weinidog yn Nghodrerhos a Thy'nycoed, tua'r flwyddyn 1773, a bu farw Mai 3ydd, 1799, yn 66 oed. Claddwyd ef wrth gapel Godrerhos. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn llafurus a pharchus iawn, ac o olygiadau efengylaidd fel pregethwr. Yr oedd hefyd yn feddyg tra medrus a llwyddianus, yn enwedig i osod esgyrn a chymalau yn eu lle. Bu un o'i feibion hefyd yn dra llwyddianus fel meddyg esgyrn, ac felly etto y mae mab hwnw, sef Mr. John Williams, Aberdar.
MORGAN LEWIS. Gweler hanes Glynnedd.
WILLIAM WILLIAMS. Bu ef am ryw gymaint o amser yn y Drefnewydd cyn dyfod i Odrerhos. Tybiem mai yn y flwyddyn 1811, ar ymadawiad Mr. Morgan Lewis, y dechreuodd ei weinidogaeth yma. Yn 1816, symudodd i Philadelphia, gerllaw Caerfyrddin, ac ni bu yno yn hir cyn i anghydfod gyfodi rhyngddo a'r eglwys. Yna trodd at y Bedyddwyr a bu am lawer o flynyddau yn weinidog gyda'r enwad hwnw yn Melin-Evanddu, Morganwg, lle y bu farw rai blynyddau yn ol.
THOMAS EDWARDS. Dywed Mr. Griffiths, o'r Alltwen, mai un genedigol ardal Caerphili oedd ef, a thybia mai aelod gwreiddiol o'r Groeswen ydoedd. Gwerthwr brethynau (draper) ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu am lawer o flynyddau yn cadw masnachdy helaeth yn Nghastellnedd. Merch Mr. Rees Rees, un o'r Undodiaid a fu yn ceisio troi Mr. Bowen allan o gapel Maesyrhaf, oedd ei wraig, ac yr oedd hithau, fel ei thad, o'r farn Undodaidd. Dywedai ryw dro yn ei thŷ yn nghlyw amryw ddieithriaid y geiriau rhyfygus, "Mae Edwards yn clebran byth a hefyd am ei Grist, ond myfi a af i'r nefoedd tu cefn i'w Grist ef." Bu Mr. Edwards yn gofalu am yr eglwysi yn y Crwys a Rhydymardy am tua saith neu wyth mlynedd, ac ymddengys i'r eglwys yn Nghodrerhos fod dan ei ofal o 1816 hyd tua 1822. Pan ddyrysodd yn ei fasnach bu am ryw faint o amser yn Dowlais, ac wedi hyny yn Nghaerdydd; symudodd o'r lle hwnw i America tua'r flwyddyn 1829. Nid oes genym ddim yn mhellach o'i hanes i'w roddi.
Yr oedd Thomas Edwards yn cael ei gyfrif yn bregethwr o gryn enwogrwydd. Calfiniad uchel ydoedd o ran ei farn. Dywedir iddo fod unwaith dan gerydd mewn cynnadledd gweinidogion am bregethu yr athrawiaeth o gyfiawnhad yr etholedigion er tragwyddoldeb. Yr oedd gan Mr. Davies, o'r Alltwen olwg uchel arna Efe oedd yr un a benodwyd ganddo i bregethu ei bregeth angladdol
YSTRADGYNLAIS.
Er fod yma lawer o drigolion ni chynygiwyd dechreu achos Annibynol yn y lle cyn y flwyddyn 1832. Y rheswm am hyny y mae yn debygol ydoedd fod Tŷ'nycoed o fewn pedair milldir i'r gogledd-ddwyrain i'r lle, Cwmllynfell o fewn tair milldir i'r gogledd-orllewin, Godrerhos tua dwy filldir a haner i'r de, a'r Pantteg tua dwy filldir i'r Gorllewin. Pa fodd bynag, wedi i hen chwaer selog o'r enw Magdalen Thomas, neu "Modryb Matti," fel y gelwid hi yn gyffredin, ddyfod i gyfaneddu i'r pentref, ni bu gorphwys iddi nes cael gan ei gweinidog, Mr. Williams, Tŷ'nycoed, a rhai o aelodau ei eglwys i gydweithredu a hi i gychwyn achos yn y lle. Yn nhy Modryb Matti yn Rhestr Canol y dechreuwyd ef yn y flwyddyn rag-grybwylledig. Yr oedd yr hen santes hon yn un o ragorolion y ddaear. Hen wraig o'r hen ffasiwn ydoedd, a'r gair garwaf yn gyntaf ganddi. Ni welai unrhyw draul na thrafferth yn ormod i fyned trwyddynt er mwyn achos ei Duw. Yr oedd yn hynod am ei charedigrwydd i bob Cristion, yn enwedig i bregethwyr yr efengyl. Buwyd am gryn amser yn cynal moddion Sabbothol ac wythnosol yn nhŷ Modryb Matti, ond i Dy'nycoed yr elid i gymuno dros ysbaid. Yr hen frawd ffyddlon Watkin Evan a'i wraig, y rhai sydd etto ar dir y byw, oedd yn cychwyn yr achos gyda Modryb Matti. Margaret Thomas a Margaret Jones oedd y ddwy gyntaf a dderbyniwyd trwy ddeheulaw cymdeithas gan Mr. Williams, Tŷ'nycoed yn yr Ystrad. Yn mhen rhyw gymaint o amser aeth tŷ Modryb Matti yn rhy gyfyng i gynwys y gynnulleidfa. Yn wyneb hyny rhentiodd Mr. Williams dŷ helaethach yn Rhestr Penybont, yn agos i'r fan y saif y Penybont Inn yn bresenol. Darfu i'r gweinidog dalu rhent y tŷ hwn o'i logell ei hun am flynyddau rhag gosod baich ar yr ychydig gyfeillion a berthynent i'r gynnulleidfa, a bu yn gwasanaethu yr achos yn ei ddechreuad a'i wendid am flynyddau heb dderbyn ond y peth nesaf i ddim o dal am ei lafur, ond y boddlonrwydd a deimlai yn ei fynwes ei hun wrth ystyried ei fod yn gwasanaethu ei Feistr dwyfol ac eneidiau dynion. Yr amser hwn yr oedd dau ŵr ieuangc yn dechreu pregethu yn Nhy'nycoed, sef William Watkin, wedi hyny o'r Llwyni, a David Davies, yn awr o America, y rhai a fuont o wasanaeth mawr i'r achos ieuangc yn yr Ystrad. Bu amryw o aelodau Tŷ'nycoed hefyd yn gynorthwy mawr iddo, yn enwedig William Dafydd a John James. Teithiasant hwy am flynyddau trwy wynt a gwlaw, oerni a gwres, ac ar y nosweithiau tywyllaf i'r cyfarfodydd gweddio, ac nid yn fuan yr anghofir eu defnyddioldeb. Y maent ill dau yn awr yn derbyn eu gwobr.
Yn 1840, daeth Mr. John Williams i fyw i'r gymydogaeth, fel perchenog gweithiau glo a haiarn Onllwyn, ac ymunodd ef a'i deulu a'r cyfeillion a ymgynnullent i addoli yn y tŷ yn Rhestr Penybont. Cyn gynted ag y daeth ef yno, rhoddodd ei sefyllfa fydol a'i weithgarwch crefyddol fywyd newydd i'r achos. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd anog Mr. Williams, Tŷ'nycoed, a'r bobl i edrych allan am dir i adeiladu capel, gan addaw pob ynorthwy iddynt, a bu ef a'i deulu yn llawn cystal a'u gair. Cymerwyd darn o dir gan R. D. Gough, Ysw., Ynyscedwyn, ar les o 99 o flynyddau, ac adeiladwyd capel hardd a lled fawr arno, yr hwn a gostiodd agos 800p. Yn 1841, rhoddodd T. Lewis, Ysw., Penygoraf, gan' punt at y capel newydd, ar yr amod i'r eglwys dalu dwy bunt yn flynyddol i eglwys y Methodistiaid yn Nghwmgiedd. Parhaodd yr eglwys yn Sardis-dyna yr enw a roddwyd ar y capel-hyd ddiwedd 1846 dan ofal Mr. Williams, Tŷ'nycoed, pryd, o herwydd gwaeledd ei iechyd, y rhoddodd y lle i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i Dy'nycoed yn unig. Yn nechreu 1847, urddwyd Mr. Henry Rees, aelod o eglwys capel Als, Llanelli, yn Sardis, a bu yn gofalu am yr eglwys hon a Godrerhos hyd Mai, 1869, pryd yr ymfudodd i'r America. Ennillodd Mr. Rees iddo ei hun air da gan bobl ei ofal a holl drigolion yr ardal, ac yr oedd ei barch a'i ddylanwad yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Yn ystod y ddwy-flynedd-ar-hugain y bu ef yma, cafodd yr eglwys ac yntau lawer o ofidiau, nid o herwydd dim yn annheilwng ynddo ef na hwythau, ond o herwydd amgylchiadau blinion nad oedd ganddynt hwy un lywodraeth drostynt. Wedi ymdrech egniol a llwyddianus i dalu y geiniog olaf o'r ddyled oedd yn aros ar y capel, ac adeiladu ysgoldai yn Nghwmgiedd a Hendrelatis, yn werth o bedwar ugain i gan' punt yr un, cafwyd allan fod sylfaen y capel yn rhoddi ffordd o herwydd fod cwmni gwaith Ystalyfera yn gweithio glô odditano. Holltodd y muriau, ac aeth y lle yn rhy beryglus i ddynion ddyfod iddo. Apeliwyd at berchenogion y gwaith am wneyd y golled i fyny, ond ni chafwyd yr un geiniog ganddynt, a chan fod amryw o'r gynnulleidfa yn gweithio danynt, nid aed i lys cyfraith i'w gorfodi i wneyd yr hyn oedd gyfiawn. Bu raid yn wyneb hyn edrych allan am le i adeiladu capel newydd. Cafwyd man cyfleus, ac adeiladwyd y tŷ prydferth presenol gan Mr. Thomas Morgans, Cwmgiedd, dan arolygiad Mr. Thomas, Glandwr. Pregethwyd ar y gareg sylfaen ar brydnawn Sabboth, Mai 6ed, 1860, oddiwrth 2 Bren. vi. 17., gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Gorphenwyd y capel ac agorwyd ef Aw 1leg a'r 12fed, 1861, pryd y pregethodd Meistri H. Hughes, (Tegai), E. Roberts, Cwmafan; D. Williams, Troedrhiwdalar; D. Rees, Llanelli; D. Henry, Penygroes, a J. Williams, Castellnewydd. Costiodd y tŷ hwn un-cant-ar-bymtheg o bunau. Yn fuan wedi dechreu adeiladu y capel, cyfododd cwmwl du dros yr holl ardal trwy i waith haiarn Ynyscedwyn sefyll, ac ni bu nemawr o drefn arno am saith mlynedd ar ol hyny. Gan mai ar y gwaith hwn yr ymddibynai y rhan fwyaf o drigolion yr ardal am eu cynaliaeth, gwasgarwyd lluaws o weithwyr o'r gymydogaeth wedi iddo sefyll, ac felly lleihawyd eglwys a chynnulleidfa Sardis yn ddirfawr pan yr oeddynt dan faich o un-cant-ar-bymtheg o ddyled. Mae yn rhyfedd na buasai yr amgylchiad adfydus yn llwyr ladd yr achos; ond er syndod i bawb, cadwodd ei ben uwchlaw y dwfr trwy y cwbl. Nid yn unig talwyd llog y ddyled ar yr amser adfydus hwn, ond hefyd talwyd tua phum' cant o'r ddyled. Yn awr, pan y mae y gweithiau yn adfywio, a'r boblogaeth yn cynyddu yn gyflym, mae yma olwg obeithiol iawn ar bethau, a phob tebygolrwydd y bydd y ddyled oll wedi llwyr ddiflanu mewn ychydig flynyddau, canys y mae gan y bobl galon i weithio.
Fel y nodasom yn barod, rhoddodd Mr. H. Rees yr eglwys i fyny yn Mai, 1869, a'r ei ymfudiad i'r America. O'r pryd hwnw buwyd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd yr ail Sabboth o Chwefror, 1871, pryd y dechreuodd Mr. R. W. Roberts, Pentrefoelas ei weinidogaeth yma. Mae Mr. Roberts yn argoeli bod yn dderbyniol a defnyddiol iawn yn y lle, a chan fod y gweithiau haiarn a glô yn eangu yn gyflym, bydd nifer y boblogaeth wedi dyblu neu dreblu cyn pen dwy flynedd, ac felly mae pob lle i ddisgwyl y bydd yma yn fuan un o'r eglwysi lluosocaf a chryfaf yn yr holl ddyffryn.
Dau bregethwr a gyfodwyd yn yr eglwys hon o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol, sef Daniel Morgans, yr hwn sydd wedi ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn bregethwr cynorthwyol yn eu mysg hwy, a David G. Morgans, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Stockton-on-Tees. Yr oedd ef wedi dechreu pregethu yn y cyfeillachau yma cyn ei symudiad i'r Glais, ond yno y dechreuodd arfer ei ddawn yn gyhoeddus.[44]
PANTTEG.

Yn y Diwygiwr am 1848, tu dal. 15, y mae hanes lled gyflawn am yr eglwys hon wedi ymddangos. Ysgrifenwyd ef gan Mr. P. Griffiths, Alltwen, yr hwn oedd mewn gwell cyfle i wneyd hyny na neb sydd yn fyw; ac yr ydyw yn rhoddi yr hyn a ysgrifenwyd ganddo ef yn llawn yma. "Mae'r Pantteg yn sefyll ar yml y ffordd fawr yn Nghwmtawe, 12 milldir o Abertawy, yn mhlwyf Llangiwc, sir Forganwg. Yr oedd yn yr ardal hon dy bychan wedi ei adeiladu gan drigolion yr ardal, at gadw ysgol ddyddiol; ac wedi cael lle at hyny gan y parchus F. Gough, Ynysgedwyn, am ddim, tra fyddai dwfr yn rhedeg yn afon Tawe. Yr oedd amryw o bobl grefyddol yn byw yn yr ardaloedd yma, rhai o'r Alltwen, Godre'rhos, a Chwmllynfell; ac yr oeddynt yn cadw cyfarfodydd gweddio ar nosweithiau o'r wythnos, a phrydnawnau Sabbothau—a phregethu achlysurol yn Penpont-yr-ystrad, Glan'rhyd, Ystalyfera Uchaf, &c., ond nid oedd un achos wedi ei sefydlu. Cododd ysgol Sabothol yn yr ardal, a chafodd hon ei chynal hen ysgoldy. Yn ymal yn yr y cyfamser, (hyny yw tua 1818), daeth y diweddar Barch. Daniel Griffiths, bryd hwnw o Felinycwrt, yn ddyn ieuangc dawnus a hwylus, i bregethu yn achlysurol i'r ardal, a chymhellwyd ef i dd'od yn fisol. Adnewyddodd yr ysgol, lluosogodd y gwrandawyr, ac aeth yr ysgoldy, a holl dai yr ardal, yn rhy fychain i gynwys y gwrandawyr; byddem yn gorfod bod allan—ac allan y bu'r ysgrifenydd agos bob tro cyn cael addoldy. Oddiar yr arwyddion yma o lwyddiant, meddyliwyd, siaradwyd, ac ymgynghorwyd am ryw le mwy cyfleus ac eangach er cynal addoliad, a hyny yn achlysurol; a daethant i benderfyniad i fynu tŷ er addoli. Yr oedd Mr. John Jones, Fountain Hall, goruchwyliwr ar gannal Cwmtawe (aelod o Gastellnedd), yn trigianu yn yr ardal, ac yn ddyn gwybodus iawn o amgylchiadau adeiladu, &c. Ymgynghorasant ag ef am y mater, ac aeth drostynt at Mr. F. Gough, Ynysgedwyn, a chafodd ddarn mawr o dir at adeiladu, mewn lle cyfleus ar yml y ffordd fawr ar gommon Alltgrug, yn y Graigarw, heb fod yn mhell oddiwrth yr hen ysgoldy; a rhoddodd y boneddwr uchod lease ar y lle, dros 999 o flynyddau, am chwe cheiniog yn y flwyddyn, os deuent i'w cheisio. Felly, trosglwyddwyd y lle i ofal ymddiriedolwyr, sef Meistriaid Jones, Fountain Hall; Thomas Harper, Pontardawe Cottage; Thomas Morgans, Penlanfach; Evan Evans, Gilfachyrhaidd; Rees Prise, Ystalyferra isaf; Hezekiah Evans, Gwrid, a W. Evans, Cwmnantllieu. Wedi cael y lle yn sicr, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu; a bu yma ymdrech nid bychan i gael y defnyddiau at eu gilydd, cludwyd ato nos a dydd, a buwyd wrth oleuni y ser yn cludo meini a phethau eraill at y deml hon. Tanysgrifiwyd ato, a chasglwyd gan yr aelodau trwy amryw ardaloedd, ac heb gymorth neb gweinidogion na phregethwyr; oblegid yr oedd y Parch. John Davies, Alltwen, yn barnu nad oedd dim o'i eisiau, y gallasent gerdded 4 milldir i'r Alltwen, a rhywbeth tebyg i Gwmllynfell a Godre'rhos; ac o barch i henaint Mr. Davies, yr oedd pawb yn sefyll draw; ond er y cwbl aeth y bobl yn mlaen, a gorphenwyd y tŷ yn hardd a phrydferth. Y mae yn mesur drosto 35 wrth 28 o droedfeddi, 20 o uchder, ac oriel helaeth ynddo. Rhoddwyd corau ynddo, ac anrhegwyd ef ag awrlais ardderchog gan Mr. Jones, Fountain Hall. Er fod yn yr ardal amryw grefyddwyr o wahanol fanau, eto nid oedd pawb yn cydymdrechu o blaid y tŷ newydd. Pobl Cwmllynfell oedd yn gofalu fwyaf, ac nid oeddynt hwythau oll. Y rhai a roddodd eu hysgwyddau dano, ac oedd a chalon i weithio, oedd y rhai canlynol: -Evan Evans, Gilfachyrhaidd; Rees Prise, Ystalyferra, ac Ann ei wraig; Mary Morgan, Penlanfach; W. Hopkin, henaf, Caregpentwyn, a Mary ei wraig; William Hopkin, ieuengaf, ac Ann ei wraig; Joseph Jones, a'i wraig; John Rees Thomas; Susannah Gibbs; Ann Hopkins, Pantyffynon; W. John, Cwmtawe, a
Nodiadau
[golygu]- ↑ State Papers. Interregnum. Vol. 286. Page 136.
- ↑ Rees's History of Nonconformity in Wales. Page 209.
- ↑ The Lambeth MSS. Vol. 639. Broadmead Records. Page 514.
- ↑ Dr. John Evans's MSS.
- ↑ Merch Mr. Rees, y gweinidog, ac wedi hyn, gwraig Mr. John Davies, Llansamlet.
- ↑ History of the parish of Aberystruth. Page 113.
- ↑ Llythyr Mr. E. Owen.
- ↑ Diwygiwr, Mehefin, 1845, a llythyr Mr. John Howell.
- ↑ Llyfr eglwys Canaan.
- ↑ Llythyr Mr. Thomas, Bryn.
- ↑ The Lambeth MSS. and the Broadmead Records.
- ↑ Richard Cradock yw yr enw yn y Lambeth MSS. a'r Broadmead Records, ond Watkin Cradock yw yr enw yn y cofrestr o drwyddedau sydd yn y Record Office yn Llundain. Os yr un person a olygir mae yn rhaid fod yr enw wedi ei gam osod yn y naill neu y llall o'r llawysgrifau hyn, ond dichon eu bod yn ddau berson gwahanol.
- ↑ Dysgedydd, 1823. Tu dal. 152.
- ↑ State papers for the year 1660
- ↑ State papers for the year 1664
- ↑ Broadmead Records, p. 514
- ↑ Llawysgrifau Mr. Pryse, Cwmllynfall
- ↑ Yr ydym yn ddyledus am ddefnyddiau yr hanes uchod, yn enwedig y rhan flaenaf, i ysgrif Mr. P. Griffiths, Alltwen, a ymddangosodd yn y Diwygiwr, 1849. Tu dal. 107.
- ↑ Diwygiwr, 1846. Tu dal. 379.
- ↑ Diwygiwr, 1855. Tu dal. 283.
- ↑ Diwygiwr, 1859. Tu dal, 155.
- ↑ Diwygiwr, 1863. Tu dal. 55.
- ↑ Coflant Mr. Morgan Lewis, gan Mr. P. Griffiths, Alltwen.
- ↑ Dysgedydd, 1830. Tu dal. 372.
- ↑ Dysgedydd, 1844. Tu dal. 251.
- ↑ Llythyr Mr. R. Morgan,
- ↑ Diwygiwr, 1860. Tu dal. 376.
- ↑ Ysgrif Mr. J. G. Thomas, Aberafan
- ↑ Llythyr Mr. Thomas, Rock,
- ↑ Llythyr Mr. J. Evans (Ieuan Afan).
- ↑ Diwygiwr 1851. Tu dal. 187.
- ↑ Llythyr Mr. Thomas, Rock.
- ↑ Diwygiwr, 1842. Tu dal. 252
- ↑ Diwygiwr 1851. Tu dal. 216.
- ↑ Diwygiwr, 1848. Tu dal. 387
- ↑ Diywgiwr, 1841. Tu dal. 216.
- ↑ Diwygiwr, 1859. Tu dal. 165.
- ↑ Llythyr Mr. J. Mathews.
- ↑ Llawysgrif Mr. R. Pryse.
- ↑ Diwygiwr, 1836. Tu dal. 275. CYF. II.
- ↑ Tyst Cymreig, Hydref 7fed, 1870.
- ↑ Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau uchod i'r hen batriarch ffyddlon John Herbert, yr hwn sydd yn aelod yn y lle er's wyth-mlynedd-a-deugain, ac yn swyddwr er's deuddeg-ar-hugain. Er ei fod yn agos i bedwar ugain oed, y mae yn hynod o fywiog mewn corph a meddwl. Ni ddylem hefyd anghofio cydnabod ein rhwymau i'n cyfaill llafurus Mr. John Jones, ysgrifenydd yr eglwys; dyn cymharol ieuangc, ond yn ymdrechgar rhyfeddol gyda'r achos goreu, er yn cael ei analluogi y fawr gan gystudd.
- ↑ Llawysgrifau P. David a chofnodion y Congregational Fund.
- ↑ Llythyr Mr Thomas Hopkins
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.