Neidio i'r cynnwys

Hanes Gwareiddiad/Beth sydd ymlaen?

Oddi ar Wicidestun
← Chwyldroad a chyfnewid Hanes Gwareiddiad

gan Gwilym Arthur Edwards

Amseryddiaeth →

PENNOD XII
BETH SYDD YMLAEN?

Ni fwriedir delio'n fanwl â symudiadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac nid rhaid gwneuthur hynny mewn llyfr bychan ar hanes gwareiddiad. Un rheswm am hynny yw mai'r hyn a welir yn bennaf yn y ganrif honno yw tyfiant llawnach y dylanwadau a gychwynnodd ar eu gwaith cyn hynny. Canrif y peiriannau, er enghraifft, a chyfundrefnu llawer ar goncwest dyn ar alluoedd Natur yw'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hawdd y gallai dyn cyn ei diwedd symud yn gyflym o un rhan o'r byd i'r llall, ac aethai'r byd yn lle llawer llai nag erioed o'r blaen, a'r Dwyrain yn nes lawer i'r Gorllewin na chynt. Y mae pob un ohonom, hefyd, yn ddigon agos i ddigwyddiadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg inni fedru synio'n weddol glir o leiaf am eu cwrs a'u dylanwad, ac nid oes, ysywaeth, brinder defnyddiau wrth law i'n helpu yn hyn. Canrif brysur, egnïol, yn hanes dyn a fu'r bedwaredd ar bymtheg: casglodd lawer o wybodaeth, ac, hefyd, o drysor a chyfoeth o bob rhan o'r byd, a chludodd yntau ei wareiddiad i bellderoedd y ddaear yr un pryd. A gwelodd y ganrif gyfnewidiadau pwysig yn wleidyddol a chymdeithasol ym mywyd y Gorllewin, ond rhaid mynd yn ôl ymhellach na hynny i gael esboniad arnynt.

Unwaith eto tyfodd y teimlad cenedlaethol, er enghraifft, mewn mwy nag un wlad, ac esiampl glir o hynny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Eidal. Wedi ymdrechion Cavour, Mazzini a Garibaldi, sylweddolodd yr Eidal ei hundeb a'i hannibyniaeth: ymlidiwyd yr Austriaid o Venice, rhoddwyd pen ar allu tymhorol y Pab, a chyhoeddwyd Victor Emmanuel yn frenin yr Eidal unedig (1870). Yr ochr arall i'r môr cadwodd athrylith a phenderfyniad Abraham Lincoln ddwy ran yr Unol Daleithiau rhag ymwahanu oddiwrth ei gilydd, er mai'r rhyfel gartrefol (1861-65) a fu'r pris a dalwyd i sicrhau hynny. Yn y ganrif hon, hefyd, estynnwyd llawer ar hawliau'r gwerinoedd yn llywodraeth eu gwlad, ac un o'r esiamplau gorau o hynny yw deddfau Prydain i sicrhau cynrychiolaeth decach yn y senedd (y reform bills) a thyfiant llywodraeth leol yn y siroedd. Ochr yn ochr â hyn cynhyddai cyfleusterau addysg, cryfhai cydweithredu rhwng dynion â'i gilydd yn gymdeithasol, a cheisiodd Cristnogion ledaenu llawer ar eu crefydd drwy wledydd y byd.

O'r ochr arall, ni ellir anghofio bwysiced a fu'r rhan a chwaraeodd rhyfel ym mywyd Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sylfaenwyd mwy nag un o deyrnasoedd Ewrop ar fuddugoliaethau milwrol cyn hyn, ac enghraifft dda o'r un peth oedd Prussia yn hanner olaf y ganrif dan sylw. Y cam cyntaf oedd ei choncwest ar Austria yn 1866 a chymryd rhai o daleithiau'r Gogledd fel Schleswig a Holstein, a'r cam olaf oedd y rhyfel yn erbyn Ffrainc (1870) a chyhoeddi William, brenin Prussia, yn ymherodr yr Almaen (1871). Ond, unwaith eto, cododd mudiad i wrthwynebu rhyfel fel dull o setlo cwerylon gwledydd, ac ynglŷn â hyn perthyn llawer o'r clod i Henry Richard, apostol Heddwch (1812-88). Ei brif waith ef fu annog gwledydd Ewrop i fabwysiadu cyflafareddiad yn hytrach na rhyfel setlo'u gwahaniaethau. Ymhen cenhedlaeth wedyn sylweddolwyd mwy ar ei ddelfrydau yng nghyfamod Cynghrair y Cenhedloedd sy'n rhan o'r Heddwch (1919) y cytunwyd arno ar derfyn y Rhyfel Mawr (1914-18).

Wrth fwrw golwg dros symudiadau meddwl a bywyd dyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r rhai o'i blaen, cyfyd un cwestiwn yn barhaus i feddwl pobl a gofynnir ef heddiw mor eiddgar a phryderus ag erioed. Wedi'r holl gyfnewid a datblygu a gwareiddio, a yw'r byd mewn gwirionedd yn well neu, ynteu, ai gwaethygu y mae, neu o leiaf yn aros yn ei unfan? Dull arferol dyn o fynegi ei benbleth a'i betrusder ar y mater y dyddiau yma yw hwn: ar derfyn oesoedd o gynnydd a gwareiddiad, wele'r rhyfel mwyaf ofnadwy yn hanes y byd, a dywedir bod gwyddoniaeth eisoes wrthi'n dyfeisio creulonderau mwy dychrynllyd ac arfau mwy dinistriol fyth ar gyfer y rhyfel nesaf. Ymddengys fel petai gwareiddiad unwaith eto ar groesffordd, a bod ei lwyddiant a'i gynnydd eithriadol wedi cynhyrchu dylanwadau sy'n brysur yn ei wenwyno. "The secrets of nature," medd y Deon Inge, "have been penetrated, and its forces, one after another have been harnessed to a car of Juggernaut, which seems now to be crushing its own victims." Faint bynnag o wir sydd yn hyn, y mae'n amlwg ddigon nad rhywbeth a ddaw wrth ei bwysau, heb na nod nac ymdrech, yw cynnydd gwirioneddol. Deil yr hen frwydr rhwng y da a'r drwg, rhwng y pethau a ddiogela wareiddiad ac a'i dinistria, ac mewn cyfnod fel hwn awgryma pob argoel mai parhau a wna'r frwydr. Ond cyhyd ag yr erys rhai a gred na orchfygir y dylanwadau a ddyrchafa ac a ddiogela wareiddiad, nid disail y gobaith ynglŷn â chynnydd y byd.

Nid pawb a gredodd fod cynnydd yn ffaith neu'n rheol bywyd dyn yn y byd. Syniad hollol wahanol a geid yn rhai o grefyddau a systemau athronyddol yr hen fyd. Dysgai'r Groegwr mai'n ôl yr oedd yr oes euraidd a gofidiai'r bardd Hesiod mai dyddiau dirywiad yr oes haearn oedd ei gyfnod ef. Yn ôl rhai o'r Stoiciaid nid oedd y byd nac yn gwellhau na'n gwaethygu: dal yn ei unfan yr oedd, neu'n fwy cywir, troi mewn cylch byth a hefyd a wna—dechreua'n awr yn y fan yma a daw'n ôl i'r un fan i gychwyn eilwaith ar yr un daith eto. Ar y llaw arall, dysgai crefydd Soroaster cyn dyddiau Crist fod brwydr rhwng dau allu, ac mai'r diwedd fydd i'r da lwyr orchfygu'r drwg. Cyffelyb, hefyd, fu cred yr Iddewon, ac edrychent hwythau ymlaen at ddyfodol disglair dan lywodraeth uniongyrchol brenin dwyfol wedi dioddefiadau eu hoes eu hunain. Y gobaith hwnnw oedd wrth wraidd y syniad Cristnogol am deyrnas Dduw yn y byd, ac ni fedrir coledd hwnnw yn ei ffurf Gristnogol, onid yw cynnydd nid yn unig yn bosibl ond hefyd yn debygol.[1] Bu'r cyfryw gred mewn cynnydd yn rhan o ffydd y Gorllewin am ganrifoedd, er na ddarfu'n llwyr am syniad arall, sef, fod y byd presennol yn rhy ddrwg i barhau ac y cymerid ei le yn gynt neu'n hwyrach gan nef newydd a daear newydd. Tu allan i'r Eglwys, hefyd, ni bu prinder dynion a gredai mewn cynnydd fel un o egwyddorion a rheolau amlycaf bywyd: datganai rhai o arweinwyr y deffroad yn Ffrainc yn y ddeunawfed ganrif y perffeithid dyn heb os nac onibai, a honnai Herbert Spencer yn ddiweddarach nad damwain yw cynnydd eithr yn hytrach anghenraid.

Ond yn ddiweddar bu cryn feirniadu ar y syniad. Sonia'r awdur a ddyfynnwyd eisoes am "the superstition of progress," ac ni chred ef mewn cynnydd difeth a didroi'n ôl, eithr mewn rhyw drai a llanw yn hanes y byd yn gyffredinol, gyda phosibilrwydd cynnydd ym mywyd y dyn unigol yr un pryd, er mor anodd yw'r llwybr hyd yn oed iddo yntau.[2] Ac yn ei lyfr diweddaraf, Science and Human Progress, rhybuddia Syr Oliver Lodge ni y dylid gwahaniaethu rhwng datblygiad materol neu allanol a chynnydd gwirioneddol dyn: dylai'r naill wasanaethu'r llall, eithr ni wna hynny'n ddieithriad neu o angenrheidrwydd. Cyffelyb, hefyd, yw tystiolaeth yr Athro A. N. Whitehead y mae'n glir, meddai, fod enillion a chynnydd materol yn gyfle i welliannau cymdeithasol, ond ynddo'i hun y mae gallu materol yn foesol ddiduedd (ethically neutral), a'r broblem bwysig, yn ei syniad ef, yw nid sut i gynhyrchu dynion mawr, eithr sut i roi bod i gymdeithasau teilwng o ddynion.

Onid yw'n ddigon amlwg oddiwrth ystyriaethau fel hyn a sylwadaeth bersonol pob dyn fod dau fath ar gynnydd y naill mewn pethau allanol ac amgylchedd bywyd, a'r llall yn natblygiad meddwl a chymeriad y dyn ei hun? Wrth gwrs, y mae cysylltiad yn aml rhwng y ddau a dylanwada'r naill yn barhaus ar y llall. Yn y llyfr hwn, gan mai hanes treigliad gwareiddiad o oes i oes oedd y pwnc, ymdriniwyd bennaf â'r digwyddiadau a'r mudiadau hynny a effeithiodd fwyaf ar fywyd allanol dyn eithr heb anwybyddu, fe obeithir, y rhai eraill sydd yr un mor bwysig ac a ddylanwadodd arno'n fwy uniongyrchol ac yn nes i mewn, megis, yn ei fywyd. Ni ellir pwysleisio gormod ar effaith y rheini. Pwy sydd yna, er enghraifft, na wêl mor hanfodol yw addysg i ddatblygiad gwareiddiad teilwng o'r enw? Cyflafan fawr y chwyldroad diwydiannol ym Mhrydain fu na ddaeth diwygiad addysgol yr un pryd. Tra cafwyd dyfais ar ôl dyfais i gyfnewid holl amgylchiadau ac amodau gwaith dyn tua diwedd y ddeunawfed ganrif, bu'n rhaid aros tan 1870 am ddeddf a wnai addysg yn gyffredinol yn ein gwlad. A dyfnha'r angen am fwy a gwell addysg, fel y datblyga adnoddau allanol gwlad. Hynny'n unig a'n galluoga i'w defnyddio'n iawn ac i wybod beth sy'n hanfodol i wir gynnydd a pheth nad yw.

Ychydig bethau sy'n bwysicach na syniad gweddol glir parthed y nod y cais ein gwareiddiad ymgyrraedd ato. Nid oes neb a wad i ddyn drwy'r oesoedd chwanegu'n ddirfawr at ei wybodaeth a'i brofiad a'i gyfoeth. A fu'r canlyniadau'n werth yr ymdrech? Trueni fyddai i ddyn gynhyddu yn ei goncwest ar Natur a'r galluoedd materol o'i gwmpas ac i'w wybodaeth o'r da a'r gwir a'r prydferth a'i fwynhad ynddynt wanhau'r un pryd. Yn y pen draw bargen sâl ac un ddrud iawn yw i ddyn neu oes ennill yr holl fyd a cholli ei enaid ei hun. Bu hyn yn argyhoeddiad dynion ar hyd y canrifoedd, a theg yw cofio ei fod felly heddiw i lawer iawn. Nid at amcanion dinistriol, er enghraifft, y cymhwyswyd fwyaf hyd yn hyn ar ddarganfyddiadau'r gwyddonwyr. Os gwnaethpwyd rhyfel yn beth mwy echrydus nag erioed, symudwyd hefyd rai heintiau'n llwyr o'r byd, trowyd gwledydd cyfain yn gartrefi iach i ddynion a chwanegwyd llawer at gyfle dyn i wasanaethu ei gyd-ddyn. Yn y blynyddoedd diweddaf cryfhaodd gwrthdystiad dyn yn erbyn halogi ei wybodaeth a'i adnoddau i hyrwyddo amcanion dinistriol, a'r un pryd tyfodd syniadau teilyngach am ystyr cenedlaetholdeb ac am undeb gwirioneddol rhwng dynion â'i gilydd sy'n ddyfnach na'u rhaniadau'n ddosbarthiadau a chenhedloedd.

Ar wahan, ynteu, i sylfaen ac amcan teilwng i'n cynnydd, ofer ein gwareiddio ac hyd yn oed ein cydweithredu, oherwydd gall dynion gynghreirio â'i gilydd mewn drygioni. Wedi'r cyfan i gyd, ys dywed Sir Oliver Lodge, "the most essential instruments of progress are the old historic human virtues of good will and co—operation." Ac wrth drafod cwestiwn cyffelyb dywed awdur arall fod gwareiddiad ei hun yn gynnyrch tri dylanwad—meddwl, ynni, ac ewyllys da—ac heb yr olaf, heb ddymuniad am ddaioni i'w rheoli, bu'r ddau arall lawer tro yn felldith yn hytrach na bendith i'r byd.[3] Heb ryw gymaint o ewyllys da a chydweithrediad yn unol ag ef, y mae cynnydd yn gwbl amhosibl mewn masnach, mewn gwyddoniaeth ac mewn llu o gyfeiriadau eraill. A lle bynnag y ceir hwynt yn eu nerth, cynhydda gwareiddiad yn ddirfawr, a pherffeithir ef fwyfwy. Heb gyd-weithredu ac ewyllys da ni cheir heddwch rhwng dosbarthiadau o fewn terfynau un wlad, ni bydd grym na gwerth mewn cynghrair ymhlith cenhedloedd, ac ni sylweddolir teyrnas Dduw ar y ddaear.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ Edwyn Bevan, Human Progress, yn ei Hellenism and Christianity, tt. 180-190.
  2. ↑ W. R. Inge, Progress yn ei Outspoken Essays (yr ail gyfres), tt. 160 a 183.
  3. ↑ B. H. Streeter, Reality, tt. 159-171