Neidio i'r cynnwys

Hanes Gwareiddiad/Chwyldroad a chyfnewid

Oddi ar Wicidestun
← Gwyddoniaeth a beirniadaeth Hanes Gwareiddiad

gan Gwilym Arthur Edwards

Beth sydd ymlaen? →

PENNOD XI
CHWYLDROAD A CHYFNEWID

PAN yn trafod yn y ddwy bennod flaenorol fudiadau fel y Dadeni a Gwyddoniaeth, defnyddiwyd geiriau fel gweddnewid a chwyldroad fwy nag unwaith, ac yn y bennod hon eto deuwn at ddigwyddiadau na ellir eu disgrifio'n gywir ond yn yr un ffordd. Yn wir, newidiodd y ddau a hawlia'n sylw'n awr gymaint ar fywyd a gwareiddiad Ewrop fel mai Chwyldroad yw'r enw cyffredin ar y naill a'r llall ohonynt hyd heddiw. Un yw Chwyldroad Diwydiant (industrial revolution) a adawodd ei ôl mor amlwg ar Ewrop yn weithfaol a chymdeithasol, a'r llall yw'r Chwyldroad Ffrengig y bu ei ddylanwad mor fawr ar fywyd gwleidyddol a chenedlaethol Ewrop. A rhyngddynt esbonia'r ddau symudiad mawr yma lawer iawn ar y ffurf a'r cyfeiriad a roddwyd i wareiddiad Ewrop yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bu'r eilfed ganrif ar bymtheg, fel y gwelwyd eisoes, yn un o feddwl ac o chwilio brwd, ac yn yr un ddilynol aethpwyd ati i gymhwyso darganfyddiadau'r gwyddonwyr at fywyd a gwaith beunyddiol dyn. Daeth dyfais ar ôl dyfais i wella'i gelfi a'i offer gwaith, i chwanegu at ei feistrolaeth ar alluoedd Natur ac at ei fedr i'w defnyddio fwyfwy yng ngwasanaeth ei beiriannau a'i ffactrioedd. Dyna wnaeth y chwyldroad diwydiannol yn bosibl o gwbl, ac felly nid yw'n amhriodol ystyried hwnnw'n un o ganlyniadau Gwyddoniaeth. Ac nid symlhau pethau'n ormodol fyddai ystyried y chwyldroad Ffrengig, ar un cyfrif, yn ganlyniad Beirniadaeth yr eilfed ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, oherwydd ni bu gwaith gwŷr fel Voltaire, Rousseau a Montesquieu heb ddwyn ffrwyth ym meddyliau eu cyfoeswyr. Gwawdiodd y cyntaf grefydd a gwleidyddiaeth Ffrainc yn ddidrugaredd, ac amddiffynnodd Rousseau hawliau'r werin a'r dyn cyffredin yn erbyn breintiau a thrais yr ychydig. Yn 1748 ymddangosodd llyfr pwysig Montesquieu ar Ysbryd Deddfau (L'Esprit des Lois) ac am hwnnw ysgrifenna awdur diweddar fel hyn: "it is the greatest work on politics since the time of Aristotle, and is the sanest guide to all statesmen and political thinkers—among other practical results the Constitution of the United States of America can be largely ascribed to the inspiration of Montesquieu."[1] Rhwng 1751 a 1772, hefyd, fe ymddangosodd yn Ffrainc Wyddoniadur (Encyclopædia), dan olygiaeth Diderot, a ledaenodd lawer iawn ar syniadau a baratodd y ffordd i'r chwyldroad gwleidyddol: ac nid rhyfedd, gan hynny, mai yn Ffrainc y cychwynnodd hwnnw. Prydain oedd ar y blaen yn y llall, a Lloegr, fel y dywed J. R. Green, oedd "gweithdy'r byd." Ei darganfyddwyr hi a ddyfeisodd y peiriannau cyntaf yr oedd yn ei daear, hefyd, ddigonedd o haearn a glo, ac yr oedd ei sefyllfa ddaearyddol a'i hin yn ffafriol i ddatblygiad cyflym yn hyn. A chan fod y chwyldroad gweithfaol ychydig yn gynharach na'r llall, priodol yw sôn amdano cyn troi at yr un gwleidyddol.

Mewn maes mor ddihysbydd â hwn rhaid bodloni unwaith eto ar nodi'n unig y ffeithiau pwysicaf o safbwynt datblygiad ein gwareiddiad heb geisio manylu ar yr hanes o flwyddyn i flwyddyn. Digon inni fydd enwi ambell ddyfais neu ddyddiad pwysig sydd megis cerrig milltir yn natblygiad cyfundrefn fasnachol Prydain ac Ewrop; a bydd cystal inni gychwyn tua chanol y ddeunawfed ganrif ag unrhyw adeg, oherwydd y pryd hwnnw fe ddechreuwyd defnyddio glo i doddi haearn a steel. Dibynnai'r datblygu diwydiannol o'r cychwyn ar gyflenwad rhad o haearn i wneuthur peiriannau, ac hefyd ar ddulliau cymhwysach, megis ffwrneisiau gwell, i'w drin. Ac ymhlith y peiriannau y pwysicaf o lawer yw'r ager-beiriant (steam-engine) a ddyfeisiodd James Watt yn 1765, ac a wellhawyd yn fawr ganddo cyn ei farw yn 1819. Ni ellir, y mae'n sicr, fesur dylanwad y ddyfais hon ar ddiwydiant a masnach Ewrop. Dyma rywbeth a wnâi nerth braich dyn cyn bo hir i raddau helaeth yn ddianghenraid, ac a chwanegai'n aruthrol at swm y gwaith a fedrai ei gyflawni, oherwydd gall un dyn heddiw gyda pheiriant hwylus at ei alwad wneuthur cymaint ag a wnâi dynion lawer gynt heb ddyfais Watt i'w helpu. Gwelwyd hyn ar unwaith mewn mwy nag un cyfeiriad, a gellir nodi'n fyr y ddwy enghraifft bwysicaf. Un oedd masnach cotton Lloegr: dulliau hen ffasiwn ac araf a lywodraethai honno cyn dyddiau Watt. Ond rhwng 1764 a 1776 dyfeisiodd Hargreaves, Arkwright a Crompton welliannau mawr ynglŷn â'r peiriannau i nyddu a gweu'r cotton (y spinning-jenny a'r spinning-mule), ac yn 1785 gweithiwyd ffactri â'r peiriannau hyn ynddi am y tro cyntaf gydag ager yn lle'r ceffylau neu'r olwyn ddwfr megis cynt.

Dyma, ynteu, gychwyn cyfundrefn y ffactri, y gyfundrefn honno a symudodd y gweithdy o'r cartrefi i'r adeiladau enfawr hyllion hynny a ddenodd bobl y wlad a'r trefi bychain wrth y miloedd iddynt, gan greu cyn bo hir lu mawr o broblemau dyrys yn gymdeithasol a gwleidyddol. Mewn cyfrol fanwl a gyhoeddwyd yn ddiweddar sonia Dr. Clapham am "the sudden rise of the factory system at the close of the XVIII century,"[2]. a chanlyniad gwaith y dyfeiswyr a ennwyd fu hynny i raddau mawr. Cododd mor sydyn a thyfodd mor gyflym fel y bu'n rhaid diwygio rhywfaint arni'n fuan iawn, a chymerth Robert Owen o'r Drefnewydd (1771-1858) ran flaenllaw iawn yn hyn, a delw ei syniadau ef sydd ar rai o Ddeddfau'r Ffactrioedd a basiwyd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arwain yr enghraifft nesaf ni at y ddyfais bwysig a gysylltir ag enw George Stephenson. Peiriant sefydlog yn ei unfan oedd un James Watt, ond erbyn 1814 perffeithiodd Stephenson ager—beiriant a allasai symud (locomotive) a thynnu llwyth ar ei ôl. At bwrpas gwaith yn y gweithfeydd glo y dyfeisiodd Stephenson y cyntaf o'r peiriannau hyn, ond ymhen deng mlynedd gwelwyd un yn tynnu trên o Stockton i Darlington (1825), ac erbyn 1830 agorwyd rheilffordd rhwng Manceinion a Lerpwl. Ychydig iawn o ddychymyg sydd ei eisiau eto i weled bwysiced oedd yr hyn a gychwynnodd mor ddistadl, ac nid yw'n rhyfedd i'w ddatblygiad fod mor gyflym. Fel llawforwyn y gweithfeydd glo a haearn y dechreuodd y rheilffyrdd, a chynhyddodd y naill gyda thyfiant y llall. Un o'r esiamplau gorau o hyn yw Deheudir Cymru yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y gweithfeydd oedd eisoes yno a ddug y rheilffyrdd i Forgannwg a Mynwy, a bu ei dyfodiad yn symbyliad mawr i'r fasnach lo a haearn. Rhwng 1836 a 1856 dyblodd nifer y tunelli o lo a gloddiwyd yn Neheudir Cymru, ac fel y chwanegid milltir at filltir o reilffyrdd, yr oedd angen mwy o haearn i wneuthur y ffyrdd hynny a mwy o lo wedyn i yrru'r peiriannau a chludo cyfoeth y gweithfeydd i bob rhan o'r wlad. A chludid y cyfoeth hwnnw cyn bo hir i bob rhan o'r byd, oherwydd dechreuwyd yn fuan yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddefnyddio ager ar y llongau a groesai'r moroedd, a symbylodd hynny lawer ar fasnach gyd-wladol y byd.

Gartref bu canlyniadau'r chwyldroad diwydiannol yn nodedig mewn amryw ffyrdd. Meddylier, er enghraifft, am ei effaith ar boblogaeth Prydain ac ar y cyfartaledd rhwng trigolion y wlad a'r dref. Dyma rai ffigyrau yn ôl ymchwil fanwl Dr. Clapham. Amcangyfrifir bod saith miliwn a chwarter o bobl yn byw ym Mhrydain yn 1750, ond erbyn 1831 dyblwyd y nifer (16 miliwn). Rhwng y cofrestru cyntaf (1801) a'r trydydd (1831) cynhyddodd poblogaeth Morgannwg 77% ac un Mynwy lawer iawn mwy na hynny (117%). Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y wlad a'r trefi bychain oedd cartref mwy na hanner trigolion Prydain ond, pan heidient i'r trefi mawr lle roedd y gweithfeydd a'r ffactrioedd, cynhyddai rheini'n aruthrol a gwachawyd llawer ar yr ardaloedd gwledig. Dyna, hefyd, a fu effaith Deddfau'r Cau'r Tir (Enclosures) o 1790 i 1810, a rhwng popeth newidiodd bywyd a gwareiddiad Prydain i raddau mawr iawn o fod yn un gwledig ac amaethyddol i fod yn un gweithfaol a threfol. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng Ffrainc a Lloegr yn hyn, ac erys felly hyd y dydd hwn mewn ystyr wirioneddol iawn.

Ynglŷn ag amodau ac amgylchiadau gwaith dan y gyfundrefn newydd bu llu o gyfnewidiadau pwysig. I enwi un ohonynt yn unig, cymerth merched eu lle yn finteioedd ymhlith gweithwyr cyflogedig y ffactrioedd, oherwydd gallasai merch wylio peiriant gystled â dyn, a merched oedd mwyafrif y 450,000 o weithwyr ffactrioedd Prydain yn 1831. Ac fel y datblygai'r system newydd, deuai'r rhaniad rhwng dau ddosbarth yn gliriach o hyd—y meistri a'r gweithwyr, cyfalaf a llafur. Dymunai'r ddau ddosbarth, yn naturiol ddigon, amddiffyn eu hawliau eu hunain ac arweiniodd hynny ymhen amser byr iawn i undebau o feistri ar un llaw ac o weithwyr ar y llall. Pwysleisiai'r meistri eu rhyddid perffaith i brynu yn y farchnad rataf a gwerthu yn y ddrutaf, a llyfr enwog Adam Smith ar Olud y Cenhedloedd (The Wealth of Nations, 1776) fu'n Feibl pennaf yr athrawiaeth hon yn eu golwg. Ac, er pob deddf a omeddai hynny iddynt hwythau, cyfarfyddai'r gweithwyr yn eu clybiau a'u hundebau. Yn fuan, hefyd, yr oedd ganddynt drwy eu pleidlais ryw ran yn llywodraeth y wlad, a chyhoeddasant eu syniadau priod am y ffordd orau i gario ymlaen fasnach a llywodraeth gwlad (sosialaeth).

Cynhyddodd cyfoeth y wlad yn ddirfawr yn y cyfnod hwn, ond gyda'r cyfoeth daeth tlodi ac anghysur mawr yn fynych i ran llawer. Hyn a'i gwnaeth yn anghenraid i'r llywodraeth ymyrryd fwy nag unwaith i sicrhau amodau mwy ffafriol i waith yn y ffactrioedd, ac i ustusiaid lleol orfod cyfrannu o'r trethi i chwanegu at gyflogau isel rhai gweithwyr. Tra cynhyddai golud rhai, syrthiai eraill i dlodi dyfnach o hyd, a'r oes a welodd sefydlu'r banciau a chwmnïau mawr yswiriant a welodd hefyd adeiladu slums a thlotai Prydain. Lloegr fu'n gyntaf i fedi cynhaeaf toreithiog y chwyldroad diwydiannol ac i wynebu rhai o'i broblemau mwyaf dyrys; ac mewn dulliau tebyg i'r rhai a ennwyd newidiodd hwnnw lawer iawn ar ffurf ac amodau allanol bywyd ei thrigolion, yn ogystal ag ar eu syniadau a'u rhaniadau yn wahanol ddosbarthiadau. Yn ddiweddarach effeithiodd yr un dylanwadau ar Ffrainc a'r Almaen gan drawsnewid llawer ar fywyd a gwareiddiad y gwledydd hynny. Ond cyn 1815 nid oedd gan Ffrainc nac ynni nac amser i ddiwygio llawer ar ffurfiau'i masnach a'i diwydiant, gan amled ei thrafferthion yn helynt a berw'r chwyldroad arall.

Un gwleidyddol a chenedlaethol oedd hwnnw, er na ddylid anghofio'i agweddau a'i ganlyniadau cymdeithasol, oherwydd buont yn amlwg iawn. A chyfrif mwy nag un rheswm am chwyldroad o'r fath yma yn Ffrainc yn hytrach nag yn un o wledydd eraill Ewrop yr adeg honno. Nid oedd cyflwr caethion y tir yn waeth, ysywaeth, yno nag ydoedd, dyweder, yn yr Almaen ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ond yr oedd anfodlonrwydd ac anniddigrwydd y bobl yn fwy. Gweithiodd lefain y syniadau newydd am ryddid a hawliau dyn yn gryfach yn Ffrainc nag yn y gwledydd eraill, ac ysigwyd llawer ar yr hen gyfundrefn oherwydd hynny. Bu'r adeg hefyd yn ffafriol i chwyldroad ar gyfrif dryswch ac annhrefn llywodraeth Ffrainc ar y pryd. Safai gogoniant Ffrainc yn uchel iawn yn Ewrop dan Louis XIV (1643-1717), ond ciliodd peth ohono dan ei olynydd, Louis XV (1717-74), ac erbyn dyddiau Louis XVI (1774-1793) syrthiasai Ffrainc i ddyled enbyd oherwydd costau rhyfeloedd aflwyddiannus a rhwysg a gwastraff y llys. Ni allasai peiriant mor amherffaith â chyfundrefn llywodraeth Ffrainc ddal ati'n hir heb dorri lawr yn llwyr. Mwy na hynny, teyrn anghyfrifol oedd brenin Ffrainc o'i gymharu, dyweder, â brenin Lloegr yr un adeg. Ef yn hytrach nag unrhyw senedd a benderfynai pa drethi i'w codi, ac ni roddid cyfrif i neb sut y gwerid yr arian. Am fwy na chanrif a hanner (1614-1789) ni chyfarfu'r hyn a alwem ni'n senedd o gwbl yn Ffrainc (etats-generaux), a gweithredai'r brenin y rhan amlaf yn ôl ei fympwy personol neu yn ôl cyfarwyddid ei gynghorwyr personol.

Pendefigion ei lys oedd y rheini, ac yn wahanol i farwniad Lloegr tua'r llys ac o amgylch y brenin y byddent yn barhaus, yn hytrach nag adref yn gweinyddu'r llywodraeth sirol neu leol. Gwaeth na hynny, rhyddhawyd hwynt a'r clerigwyr pennaf o lu o ddyletswyddau a threthi a fu'n faich llethol ar y rhelyw o'r boblogaeth. Rhwng popeth—annhrefn y llywodraeth, gallu diderfyn y teyrn, gormes y bendefigaeth a'r Eglwys, a chyflwr difrifol y werin—aethai pethau'n rhy bell i unrhyw ddiwygiad drwy gyfrwng deddf neu senedd fodloni Ffrainc, ac yn 1789 torrodd y chwyldroad allan. O safbwynt gwareiddiad Ewrop yr hyn a rydd bwysigrwydd iddo yw mai Ffrainc yn gyntaf ar y cyfandir a ysgubodd allan o'r ffordd rai drygau mawr a ddaeth i lawr o'r canol oesoedd, a hi osododd sylfeini newydd i fywyd gwleidyddol a chymdeithasol Ewrop. Gwyddai ambell wlad cyn hyn am chwyldroadau i newid un teyrn am un arall, ond nid dyna amcan Ffrainc yn awr, eithr yn hytrach newid ffurf y llywodraeth a threfn gymdeithasol y wlad. Fel y dywed un o haneswyr Ffrainc, yr oedd dau nod i'r chwyldroad—llywodraeth rydd a gwareiddiad mwy perffaith.[3]

Er mor ddiddorol fyddai dilyn yr hanes yn fanwl rhaid crynhoi hwnnw i le bach iawn, ac nid anghywir fyddai ei rannu'n dair pennod. Yn y dechrau bu'r chwyldroad yn un heb lawer o gynnwrf difrifol iawn. (1789-92), wedyn daw blynyddoedd yr annhrefn a'r dychryn mwyaf (1792-96), ac yna'r cyfnod pan y trodd y chwyldroad ei hun yn ormes ar Ewrop (1796-1815). I'r cyfnod cyntaf y perthyn y mesurau a ddiddymodd hawlfreintiau anghyfiawn y pendefigion a gallu dilyfethair y brenin. Nid yr amcan ar y cychwyn oedd gwneuthur i ffwrdd â'r frenhiniaeth a sefydlu gwerin-lywodraeth yn ei lle, eithr yn unig wneuthur y brenin, fel yn Lloegr, yn gyfrifol i'r senedd a rhoi llywodraeth gyfansoddiadol i Ffrainc. Dymunai cyfeillion rhyddid drwy'r byd yn dda i Ffrainc yn awr, a Mirabeau, un o'i phendefigion goleuedig, oedd arweinydd y bobl yn y cychwyn. Daeth y cyfnewidiadau'n gyflym y naill ar ôl y llall wedi'r chwyldroad dorri allan. Ym Mai, 1789, galwyd hen senedd Ffrainc ynghyd, ac yn fuan yr oedd y gallu yn nwylo'r bobl: yng Ngorffennaf rhyddhawyd carcharorion gwleidyddol a dinistriwyd hen garchar y Bastille: erbyn Awst diddymwyd caethwasiaeth y tir a chyhoeddwyd y Datganiad ar Hawliau Dyn: wedyn dadwaddolwyd yr Eglwys a feddiannai'r bumed ran o dir Ffrainc, a rhannwyd Ffrianc ei hun yn 83 o ranbarthau newyddion. Erbyn 1791 yr oedd Ffrainc dan gyfansoddiad gwleidyddol newydd a'r brenin yn llywodraethwr mewn enw'n fwy na dim arall.

Yn yr ail gyfnod cafodd Ffrainc werin-lywodraeth mewn enw ac mewn gwirionedd, oherwydd yn Ionawr, 1793, dienyddiwyd y brenin, a'r frenhines, Marie Antoinette, yn Hydref yr un flwyddyn. Âi'r pleidiau, fel y Jacobiaid a'r Girondiaid, yn fwy ffyrnig a gwaedlyd o fis i fis fel y cynhyddai'r diffyg undeb a'r eiddigedd rhyngddynt â'i gilydd, ac fel y dechreuid ymosod ar Ffrainc gan genhedloedd o'r tu allan. Dyma gyfnod Robespierre, Marat, Carnot, Danton a a Phwyllgor Diogelwch y Cyhoedd (Ebrill, 1793). Gwellhaodd pethau yn 1794, ac erbyn 1795 llwyddodd byddinoedd y chwyldroad i estyn terfynau Ffrainc unwaith eto hyd afon Rhein. Ond ciliodd y llwyddiant drachefn dan lywodraeth y pum Cyfarwyddwr (y Directoire 1795-99), a hynny a roddes i Napoleon ei gyfle. Gorchfygodd ef yr Austriaid gan gymryd Milan yn 1796, ac erbyn 1797 yr oedd gogledd yr Eidal yn eiddo Ffrainc. Yna wedi dychwelyd o'r Aifft, lle gorchfygodd Nelson ei lynges ym mrwydr Neil, cymerth Napoleon awenau llywodraeth Ffrainc i'w ddwylo ei hun (1799), gan ei alw'i hun yn Consul i gychwyn, ond erbyn 1804 aethai'r Consul yn Ymherodr. O hynny hyd Waterloo (1815), yr oedd Ffrainc dan ei law a dibynnai tynged canolbarth Ewrop arno. Goresgynnodd fyddinoedd yr Eidal, Spaen, Austria a'r Almaen. Bu Lloegr yn wrthwynebydd cyndyn iawn iddo a methiant oedd ei ymgyrch yn Rwsia (1812). Erbyn 1814 ffurfiodd teyrnasoedd Ewrop gynghrair yn ei erbyn a bu'n rhaid iddo ildio iddynt a bodloni ar fod yn frenin ynys Elba. Yn Hydref, 1814, ymgasglodd llywodraethwyr Ewrop i Vienna i drefnu terfynau a thynged y gwledydd a ryddhawyd o afael Napoleon. Clywsant yno ei fod wedi glanio drachefn yn Ffrainc (Dydd Gŵyl Dewi, 1815), ac erbyn Mehefin gorchfygwyd ef am y tro olaf yn Waterloo, ac alltudiwyd un o'r dynion galluocaf a pheryclaf a welodd y byd erioed i ynys unig St. Helena. Beth am effeithiau arhosol y chwyldroad a digwyddiadau cyffrous 1789-96? Gwnaethpwyd, yn ddiamau, ddigon o gamgymeriadau, tywalltwyd gwaed yn ddialw-amdano, ac aethpwyd i eithafion gwrthun yn aml. Enghraifft ddiniwed o hynny oedd newid y calendar1792 oedd y flwyddyn I—a bedyddio'r misoedd ag enwau newydd: ac enghraifft ffolach fu'r cais i ddiddymu'r grefydd Gristnogol drwy ddeddf a dyrchafu duwies Rheswm i'w lle. Ond wedi'r cyfan enillwyd llawer drwy'r helynt a'r dioddef. Symudwyd ymaith annhegwch oesoedd o lywodraethu anwerinol, a diddymwyd drygau mawr ffiwdaliaeth ynghyd â gormes y pendefig a thrais yr Eglwys. Rhoddwyd i Ffrainc lywodraeth gyfrifol, ac i'w phobl gyffredin safle gyfreithlon yng ngolwg y ddeddf: gosodwyd i lawr, hefyd, sylfeini addysg genedlaethol ac ad—drefnwyd bywyd cymdeithasol Ffrainc yn bur llwyr. Nid oedd y bobl mwyach heb lais yn llywodraeth eu gwlad, a syrthiai baich y trethi'n fwy cyfartal ar ysgwyddau'r gwahanol ddosbarthiadau. Nid geiriau gwag yn unig oedd delfrydau'r chwyldroad fel rhyddid, cyd—raddoldeb a brawdoliaeth. Sylweddolwyd eisoes ryw gymaint arnynt, ac nid cwbl ddigoel fu'r arwyddion y ceid ar ôl stormydd y chwyldroad lywodraeth fwy rhydd a gwareiddiad mwy perffaith yn Ffrainc.

Ac nid yno'n unig y teimlwyd effeithiau'r chwyldroad, oherwydd manteisiodd gwledydd Ewrop yn gyffredinol arno. Aeth ton fawr, megis, o awydd am ryddid a chais i'w sicrhau drostynt hwythau—rhyddid cymdeithasol, gwladol a chrefyddol.

Llawenhaodd amryw yn Lloegr oherwydd yr hyn a ddigwyddai yn Ffrainc—Wordsworth ymhlith y llenorion a Pitt ymhlith y gwleidyddwyr, a chododd y Cymro Dr. Richard Price ei lais yn gryf drosto, ac yn ateb iddo ef yr ysgrifennodd Burke mor ddiarbed yn erbyn y chwyldroad (1790). Yn wir, dysgasai Lloegr gryn lawer ar Voltaire a Montesquieu gynt, a dyrchafent hwy ac eraill y wlad hon a'i sefydliadau rhyddion fel esiamplau i Ffrainc eu hefelychu. Ysbrydolodd yr Unol Daleithiau, hefyd, gyda'u cydraddoldeb a'u rhyddid hwythau lawer ar arweinwyr Ffrainc. Cyn hyn rhoddasai Ffrainc help i'r America yn ei brwydr am ei hannibyniaeth yn erbyn Lloegr (1775-82), ac o Ddatganiad Annibyniaeth (1776) yr America y cafodd Ffrainc lawer iawn o syniadau ac erthyglau ei Datganiad ei hun ar Hawliau Dyn. Ac er mai Lloegr a wrthwynebodd Napoleon bennaf, y mae'n rhaid cydnabod iddo yntau wneuthur gwasanaeth mawr i'w wlad drwy symlhau ei deddfau a gosod cyfundrefn ei haddysg a'i llywodraeth ar sylfeini llawer gwell na chynt.[4] Y mae'n wir, hefyd, i syniadau'r chwyldroad Ffrengig gael daear ffafriol iawn i'w tyfiant mewn aml gylch yn Lloegr, a gellid dywedyd yr un peth am Gymru, fel y dengys gweithiau Morgan John Rhys a Jac Glan y Gors. Yn y Deheudir yn enwedig, rhwng effeithiau'r chwyldroad diwydiannol a syniadau'r chwyldroad yn Ffrainc, daeth newid mawr dros feddwl a bywyd ei thrigolion ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ R. B. Mowat, Europe and the Modern World, t. 530
  2. ↑ J. H. Clapham, An Economic History of Modern Britain: I, The Early Railway Age, tt. 242, 314
  3. ↑ Mignet, Revolution Francaise, t. 310.
  4. ↑ H. A. L. Fisher, Napoleon, tt. 94-7, 156-168.