Neidio i'r cynnwys

Hanes Gwareiddiad/Cyflawnder yr amser

Oddi ar Wicidestun
← Mawredd Rhufain Hanes Gwareiddiad

gan Gwilym Arthur Edwards

Y Canol Oesoedd →

PENNOD VII
CYFLAWNDER YR AMSER

CRED miloedd o bobl mai'r digwyddiad pwysicaf ei ganlyniadau yn hanes y byd a'i wareiddiad a fu geni'r Iesu ym Mhethlehem Judea, ac am hwnnw y mae'n rhaid sôn yn awr. Digwyddodd hyn, yn ôl un o eiriau awgrymog y Testament Newydd, "yng nghyflawnder yr amser," neu, fel y dywedodd rhywun yn ddiweddar, "pan ddaeth y ddynoliaeth i'w hoed." Od oes ystyr o gwbl mewn ymadroddion fel y rhain, dylai hwnnw fod yn weddol glir ar ôl yr hyn a sgrifennwyd eisoes am y paratoi a fu ar y byd y daeth Crist iddo. Ac os gellir dywedyd bod y pynciau yr ymdriniwyd â hwynt hyd yma yn destun cannoedd lawer o gyfrolau, beth a ddywedwn am Gristnogaeth a'r llenyddiaeth ddiderfyn y rhoddes fod iddi? Gan hynny, mewn maes mor eang, y mae'n rhaid inni ein cyfyngu'n hunain i ychydig iawn o'r prif-ffyrdd yn unig. Nid oes angen trafod athrawiaethau Cristnogaeth na cheisio penderfynu gwerth ysbrydol y grefydd newydd: ond mewn llyfr ar hanes gwareiddiad, yn enwedig gwareiddiad Ewrop, ni ellir esgeuluso gofyn pa elfennau newydd a lifodd i mewn i fywyd a gwareiddiad y byd gyda dyfodiad Cristnogaeth, a sut yr effeithiodd y grefydd newydd ar hanes Ewrop. A digon yw'r cwestiynau hyn i amryw lyfrau, heb sôn am un bennod yn unig yn y llyfr hwn.

Pan ystyriwn unrhyw ffaith neu ddylanwad mawr fel Cristnogaeth, y mae angen gochel dau gamgymeriad a gwylio rhag syrthio i'r naill neu'r llall o ddau eithaf. Un yw tybio mai rhywbeth hollol newydd yw Cristnogaeth,—rhywbeth nad ac na pharatowyd dim ar ei gyfer. Nid fel yna y dëellir unrhyw fudiad pwysig mewn hanes. Ni cheir dyn fel Pericles, meddai Aristotl gynt, yn Scythia: rhaid wrth wareiddiad uchel Athen i'w esbonio ac yn gefndir iddo. Ac er bod Crist y mwyaf ymhlith meibion dynion, nid yw'n anfri arno yntau gofio ei fod yn llinell y proffwydi, ac ni honnir ganddo mai ef a ddatguddiodd Dduw am y tro cyntaf erioed i ddynion. Ac am hynny ni ddëellir Cristnogaeth os anghofir yr hyn a fu cyn dyfod o Grist i'r byd, neu os gwedir bod rhai o'i gwreiddiau'n mynd yn ddwfn iawn i'r gorffennol. Y camgymeriad arall yw meddwl nad yw Cristnogaeth, neu unrhyw fudiad mawr arall, yn ddim ond canlyniad naturiol ac anocheladwy cynnydd a datblygiad dynol. Mewn gair, ni ddëellir Cristnogaeth, oni chydnabyddir bod ynddi elfennau newydd a chreadigol hefyd. Ymhob crefydd newydd sy'n werth yr enw, fe geir rhywbeth gwreiddiol na ellir ei lwyr esbonio o'i orffennol a'i amgylchedd, nac ychwaith gyfrif amdano fel cyfuniad hapus o wirioneddau neu alluoedd y gwyddai'r byd eisoes amdanynt. Y mae elfennau creadigol a gwreiddiol felly yng Nghristnogaeth ar wahan i hynny, sut y gellir cyfrif am ei dylanwad? Eithr nid ystyr hyn yw bod syniadau Crist yn gyfryw na ellir eu cymharu â syniadau mewn crefyddau eraill. Benthyciodd Cristnogaeth aml syniad a thrawsnewidiodd eraill, a throdd ddyfroedd o lawer cyfeiriad i'w melin ar hyd y canrifoedd; ond rhoddes ei delw arbennig ei hun ar syniadau felly, torrodd allan lwybrau newydd i feddwl a bywyd dyn, a saif ei chenadwri mewn dosbarth ar ei phen ei hun.[1]

Priodol, efallai, yw crybwyll yn y fan hon y defnyddir y gair Cristnogaeth yn gyffredin iawn mewn mwy nag un ystyr. Weithiau yr Efengyl Gristnogol a olygir, sef y gwirioneddau oedd yn sylwedd cenadwri Crist yn nyddiau ei gnawd. Gwelir rheini yn Efengylau'r Testament Newydd, ac yn yr ystyr hon fe gyferbynnir Cristnogaeth, dyweder, â Phlatoniaeth neu syniadau'r Stoiciaid am fywyd a'i amcan. Dro arall, pan sonnir am Gristnogaeth, am y grefydd Gristnogol y byddys yn meddwl, sef y bywyd neu'r cymundeb hwnnw rhwng dyn a Duw a wnaethpwyd yn bosibl drwy Iesu Grist. Dengys y Testament Newydd eto a'r llyfrau a rydd hanes Cristnogion sut fywyd oedd hwnnw. Ac yn yr ystyr hon, eto, fe gyferbynnir Cristnogaeth â cheisiadau eraill fel Bwdistiaeth, er enghraifft, i ddod a dyn i berthynas â'r byd ysbrydol. Ac wedyn, defnyddir y gair yn gyfystyr â'r symudiad mawr hanesyddol y rhoddes dysgeidiaeth Crist a chrefydd ei ganlynwyr fod iddo. A pheth bynnag yw'n barn am y naill neu'r llall o'r pethau hyn, am syniadau Crist a chrefydd Cristnogion, dylanwadodd y mudiad a sylfaenwyd arnynt yn fawr iawn, er gwell neu er gwaeth, o hynny hyd yn awr. Ni ellir deall hanes yr ugain canrif ddiwethaf yn Ewrop os anwybyddir y symudiad mawr yma'n llwyr bu ei ddylanwad o leiaf yn ddigon dwfn i gyfiawnhau sôn am un math ar wareiddiad fel gwareiddiad Cristnogol. Ac, yn naturiol, â Christnogaeth yn yr ystyr olaf hon y mae a fynnom bennaf wrth drafod hanes gwareiddiad.

Y mae Cristnogaeth yn un o'r crefyddau hynny a gymer, fel y dywedai John Wesley, y byd i gyd yn blwyf, ac er mwyn deall rhywfaint ar ei hapêl i'r byd, dylid cyfeirio at, o leiaf, dair cenedl. Ar Groes Crist ysgrifenasid mewn tair iaith—Hebraeg, Groeg a Lladin—a hanes a theithi meddwl y bobl a siaradai'r ieithoedd hyn yw'r esboniad gorau ar ffurf a llwyddiant crefydd Crist yng nghyfnodau cyntaf ei hanes. Mewn pennod flaenorol, soniwyd am gyfraniad arbennig yr Iddew at wareiddiad y byd, ac awgrymwyd eisoes fod cysylltiad agos rhwng ei grefydd ef â Christnogaeth: Iddew oedd sylfaenydd honno, ac Iddewon oedd y disgyblion cyntaf. Yr unig ffaith arall o bwys yn y cyswllt hwn yw bod уг Iddewon wedi eu gwasgaru ar hyd holl wledydd y Môr Canoldir a Gorllewin Asia ymhell cyn dyddiau Crist, a dengys rhestr o enwau fel honno yn Actau ii. gymaint o wledydd a wyddai rywbeth am Iddewon ar wasgar yn eu mysg y pryd hynny.

Yn awr, golyga hyn fod synagog a chrefydd yr Iddew yn bethau adnabyddus ymhob dinas o bwys yr adeg honno fel heddiw, a dyma faes ardderchog yn barod eisoes i hau hadau Cristnogaeth ynddo, pan ddeuai'r cyfle. Gyda'r Iddewon, fel y mae'n hysbys, y dechreuai Paul ei waith yn ninasoedd ymerodraeth Rhufain, a bu'r Iddewon a'u proselytiaid o genhedloedd eraill yn foddion i baratoi'r tir ar gyfer Cristnogaeth.

Dyn gwahanol iawn i'r Iddew yw'r Groegwr, ond bu yntau o wasanaeth mawr i'r mudiad crefyddol newydd. Un cyfraniad mawr o'i eiddo fu rhoi iaith at wasanaeth Cristnogaeth. Pan gaethgludwyd yr Iddewon o Ganan, ac y gwasgarwyd hwynt ar hyd y gwledydd, collodd eu plant cyn bo hir bob gwybodaeth o Hebraeg, ac ni fedrent ddarllen eu hysgrythyrau santaidd. Am hynny, daeth galwad yn fuan am gyfieithiad o'r Hen Destament i'r iaith a siaradent hwy ac a ddeallai'r rhan fwyaf o bobl y pryd hynny. Groeg oedd honno, a thua chanol y drydedd ganrif C.C. dechreuwyd cyfieithu'r Hen Destament i Roeg yn Alecsandria, a chariodd y cyfieithiad hwn (y Deg a Thri-ugain, fel y'i gelwir) wybodaeth o undduwiaeth yr Iddew i bob gwlad lle siaredid Groeg neu y trigai Iddewon ynddi. Ac nid yn unig fe ddeallai'r rhan fwyaf o'r byd y daeth Crist iddo yr iaith Roeg, ond hefyd syniadau ac athrawiaethau Groeg gan mwyaf a ffurfiai awyrgylch feddyliol y byd hwnnw. Byd o newid a berw mawr yn feddyliol a chrefyddol oedd y byd Helenistaidd, fel y gelwir y byd o amgylch y Môr Canoldir a Gorllewin Asia wedi dyddiau Alecsander Fawr. Dadfeiliai hen grefyddau Natur a'r crefyddau gwladol a chenedlaethol, ac yn eu lle ymddangosai rhai ehangach eu hapêl. Cododd cri o fwy nag un cyfeiriad am grefydd gyffredinol i'r holl fyd. Meddiennid rhai o gyfrin-grefyddau'r Dwyrain, megis rhai Isis a Mithra, ag ysbryd cenhadol; hawliai ymherodr Rhufain addoliad ei holl ddeiliaid; a throes rhai athronwyr yn bregethwyr selog, gan ffurfio ysgolion neu sectau o'u disgyblion. Erbyn hyn yr oedd undduwiaeth a syniadau uchel am ddyn yn bethau gweddol gyffredin ymhlith meddylwyr athronyddol a chrefyddol, a thrwy ddefodau a ffurfiau'r cyfrin-grefyddau ceisid diwallu anghenion gwirioneddol dyn am waredigaeth ac anfarwoldeb. Nid byd di-grefydd, o leiaf, oedd yr un y daeth Crist iddo, eithr un a deimlai ei dlodi a'i angen ysbrydol ac a hiraethai am grefydd a'i gwir fodlonai.

Ac erbyn dyddiau'r Iesu, unwyd y byd yn allanol hefyd dan lywodraeth Rhufain, a hawdd yw deall gymaint mantais a fu hynny i Gristnogaeth. Os ydoedd yn ddyledus i'r Iddew'n bennaf am sylfaen ac yna i Roeg am iaith ac am baratoi'r byd yn feddyliol i'w derbyn, Rhufain a roddes iddi ei chyfle i'w lledaenu ei hun drwy'r gwledydd. Ar hyd ei ffyrdd ardderchog hi y cludai'r cenhadon y newyddion da, gan gadw'n bennaf at y trefi lle byddai llywodraeth deg y Rhufeiniaid yn amddiffyn iddi rhag erlid a gelyniaeth ei gwrthwynebwyr. A'r dasg a wynebai'r Cristnogion yn awr, ym marn eu cenhadwr mwyaf, oedd rhoi i'r byd, a unwyd eisoes i raddau helaeth o ran ei iaith a'i wareiddiad a'i lywodraeth, yr un grefydd honno a fai'n ateb llawn i'w ddyhead am iechydwriaeth. Dyma'r breuddwyd mawr a gymerth feddiant o feddwl Paul, ac i'r anturiaeth fawr hon fe'i cysegrodd ei hun yn llwyr. Sonia'r Prifathro Morgan Jones am "ei ymdaith fuddugoliaethus dros fôr a thir i gyhoeddi Crist fel efengyl briod yr ymerodraeth," a chwanega: "credai Paul yn yr ymerodraeth, a chredai fod ganddo neges foesol a chrefyddol ar ei chyfer."[2]

Ychydig benodau sy'n fwy diddorol yn hanes y byd yma na'r un a ddengys sut yr enillodd Cristnogaeth ei buddugoliaeth ar yr ymerodraeth fawr yr ymddangosodd gynt mor ddistadl a disylw ynddi. Ar y cychwyn nid oedd namyn sect fechan a gasheid gan ei gwrthwynebwyr, ac a anwybyddid gan y llywodraeth neu a gymysgid ag Iddewiaeth ganddi. Codasai hefyd ymhlith pobl a ddirmygid gan y Rhufeiniaid ac yn un o'u taleithiau dwyreiniol. Ond yn fuan iawn bu'n rhaid i'r ymerodraeth dalu sylw iddi, a chyn bo hir wneuthur heddwch â hi, ac fel y crybwyllwyd eisoes, yr Eglwys Gristnogol fu'r cyfrwng pennaf i drosglwyddo etifeddiaeth Rhufain i Ewrop a'r byd.

Yn y blynyddoedd cyntaf bu'r ymerodraeth yn ffafriol, neu, o leiaf, yn ddifater ynghylch y grefydd newydd. Fel y dengys Llyfr yr Actau, Iddewon yn hytrach na Rhufeiniaid a'i herlidiodd gyntaf. Ni thrafferthai'r llywodraeth ac nid ymyrrai â'r Cristnogion cyhyd ag yr ufuddheid ei deddfau ganddynt ac nad aflonyddent ar fywyd cymdeithasol neu drefniadau gwleidyddol y taleithiau. Ond cyn diwedd cyfnod y Testament Newydd, yr oedd "dwyn yr enw " yn drosedd, a dengys Llyfr y Datguddiad a llythyrau'r swyddog Rhufeinig, Pliny, at yr ymherodr Trajan (tua 112 0.C.) nad peth di-berygl oedd proffesu Crist pan orfodid holl ddeiliaid Rhufain i addoli'r Caesar. O'r dyddiau hyn ymlaen yr oedd Cristnogion o hyd yn agored i erledigaeth, a dyna fu eu hanes o dro i dro fel yn nheyrnasiad Marcus Aurelius (161-180) a Diocletian ganrif yn ddiweddarach (284-305). Cyfrifir yr erledigaeth enbyd dan Diocletian yr olaf (303) a ddigwyddodd fel polisi swyddogol yr ymerodraeth ynglŷn â Christnogaeth, a daeth tro rhyfedd ar bethau cyn pen deng mlynedd. Yn 313 cyhoeddodd Cystenyn ei Ddeddf Goddefiad ym Milan, a rhoddes honno Gristnogaeth ar yr un tir â chrefydd baganaidd yr ymerodraeth. Yr oedd Cristnogion, erbyn hyn, yn rhydd i broffesu eu syniadau personol a chyfarfod i amcanion crefyddol heb ofn na deddf nac erledigaeth y llywodraeth. Er na ddiddymodd Cystenyn yr hen grefydd, fe'i ystyriai ei hun yn Gristion ymladdodd dan faner y Groes, dilynai esgobion ei fyddinoedd, ac yn 325 cynhullodd gyngor cyffredinol cyntaf yr Eglwys i Nicaea, yn nhalaith. Bithynia, lle'r adeiladasai hafoty iddo'i hun. Gwelwyd cymaint â thri chant o esgobion yn y cyngor, a rhydd hynny ryw syniad am gynnydd Cristnogaeth ei hun. Wedi'r ymdrech olaf o unrhyw bwys i rwystro Cristnogaeth dan arweiniad yr ymherodr galluog Julian (361-363), gellid dywedyd bod tynged crefydd y Galilead yn ddiogel. Cyn diwedd y ganrif, nid Cristnogaeth a waherddid gan yr ymherodr, eithr yn hytrach Baganiaeth ei hun, oherwydd archodd Theodosius (379-395) gau'r temlau paganaidd drwy'r ymerodraeth. Cristnogaeth, erbyn hyn, oedd y grefydd swyddogol, ac yn fuan iawn gwelwyd arweinwyr yr Eglwys yn eistedd mewn barn ar weithredoedd y wladwriaeth ac yn condemnio ymerodron am eu creulondeb a'u drygioni. Oni throisai Nero a Domitian yn eu beddi pe gwyddent syrthio o'r ymerodraeth mor isel?

Sut gymdeithas oedd yr Eglwys Gristnogol a lwyddasai fel hyn i oroesi erledigaeth? O ran nifer, nid oedd ond lleiafrif bychan o holl boblogaeth yr ymerodraeth: mewn rhai ardaloedd yn y Dwyrain, ac yn enwedig mewn ychydig drefi neilltuol, yr oedd hanner y bobl neu fwy na hynny'n Gristnogion, ond mewn ardaloedd eraill, bychan, yn ddiau, oedd eu nifer. Dyna fyddai'n wir am Brydain ac am gyrion yr ymerodraeth yn y Gorllewin a'r Dwyrain. Dwyreiniol, yn hytrach na Gorllewinol, oedd yr Eglwys y pryd hynny, ac yn fwy Groegaidd na Rhufeinig: ond cynhyddai'n ddirfawr o ran rhif a dylanwad o'r bedwaredd ganrif ymlaen. Groeg ddylanwadodd bennaf ar ei diwinyddiaeth a'i chredoau, a Rhufain ar ei ffurf-lywodraeth a'i threfniadau allanol, yn enwedig yn y Gorllewin.

"The genius and structure of the old imperial system," medd Dr. Barker," passed into the organization of the Church." Ceir aml braw o hyn hyd yn oed heb chwilio'n ddyfal. Megis ag y bu gan yr ymerodraeth ei thaleithiau, yr oedd gan yr Eglwys hefyd ei hesgobaethau ac fel yr edrychid gynt ar Rufain fel canolbwynt yr ymerodraeth, tueddid Cristnogion yn fuan i droi at esgob Rhufain fel prif amddiffynnydd a dehonglydd y ffydd. Dylanwadodd deddf Rhufain, eto, yn fawr iawn ar yr Eglwys, er na fabwysiadodd hi yn ei chrynswth mewn unrhyw ystyr. Bedyddiodd Cristnogaeth. hefyd, rai o arferion a defodau hen grefydd Rhufain i'w phwrpas ei hun trawsnewidiwyd, er esiampl, hen wyl pen blwydd yr haul yn Rhagfyr i Nadolig y Cristnogion, ac nid yw addoli nawdd-seintiau neilltuol mewn mannau neilltuol ond peth cwbl naturiol mewn gwledydd lle perchid duwiau lleol dan yr hen grefyddau. Ac, unwaith eto, gwelir ôl y Rhufeiniaid ar lawer o iaith a geiriau'r grefydd Gristnogol (sacrament, cangell, ysgrythur santaidd, etc.); ac, o ran eu cynllun a'u ffurf, adeiledid yr eglwysi Cristnogol ar lun a delw'r neuaddau (basilicae), lle cyfarfyddai masnachwyr Rhufeinig i drafod eu busnes. Wrth symud o gwmpas Cymru heddiw, ni ellir cyfrif am ffurf yr eglwysi hynaf heb gofio am eu dyled i adeiladau Rhufain gynt. Os yr Eglwys yn wir a fu'n olynydd yr ymerodraeth, ni chiliodd y naill o'r golwg cyn gosod ohoni ei hargraff yn glir iawn ac mewn amryw ffyrdd ar fywyd y llall.

Cyfnewidiad rhyfeddol dros ben oedd yr un ddigwyddasai yn y cyfnod a fu dan sylw yn y bennod hon a'r un o'i blaen. Am fil o flynyddoedd, o'r adeg, dyweder, y sefydlwyd Rhufain hyd ddyddiau Cystenyn, y wladwriaeth a fu'r ffaith bwysicaf ym mywyd pobl. Un elfen yn unig yn y bywyd hwnnw oedd crefydd: o dan honno a phob elfen arall cysylltiad dyn â'r wladwriaeth oedd y peth sylfaenol. Ond yn awr gosodwyd bywyd y gwledydd a'r wladwriaeth ei hun i orffwys ar sylfeini crefyddol yr Eglwys a reolai'r cenhedloedd, hi roddai frenhinoedd i lywodraethu arnynt, a hi a'u diorseddai pan fyddai galw am hynny. O ran theory, onid fel mater o ffaith, yr eglwys oedd ben, a dyma'r syniad y rhoes Austin (354-430) ffurf lenyddol iddo yn ei lyfr Am Ddinas Duw (De Civitate Dei). Pan fachludodd gogoniant dinas Rhufain, darluniodd ef ddinas Duw, sef cymdeithas o holl weision Duw ymhob oes a gwlad: ac onid oedd yr eglwys Gristnogol ar y ddaear, ym marn Austin, yn gyfystyr â dinas Duw, yr Eglwys yn ddiddadl a'i cynrychiolai orau yn y byd.

Erbyn hyn, o leiaf, honno oedd prif gartref ac amddiffynnfa bennaf gwareiddiad Ewrop. Dywed gŵr mor gyfarwydd yn y maes hwn â Dr. T. R. Glover fod Eglwys y bedwaredd ganrif wedi sugno iddi ei hun bopeth oedd a bywyd yn perthyn iddo yn y byd gwareiddiedig yr adeg honno. Collasid, y mae'n wir, rywfaint o ddoethineb a phrydferthwch yr hen oesoedd clasurol cyn i'r Eglwys ddod yn allu yn y byd, ac nid enillwyd hwnnw'n ôl am ganrifoedd eto. Yr oedd gan yr Eglwys, hefyd, ei gwendidau a'i beiau, ond er ei holl gamgymeriadau a'i dallineb, safai'n uwch lawer na dim byd arall o'i chwmpas, ac ynddi hi'n unig yr oedd bywyd a gobaith bywyd.

Beth, ynteu, am y math arbennig ar wareiddiad a gynhyrchodd Cristnogaeth ac a ddiogelwyd o oes i oes gan yr Eglwys? Ymha ffyrdd y rhagorai hwnnw ar bob rhyw wareiddiad o'i flaen? Heb sôn o gwbl am yr elfennau gwreiddiol yn syniadau a delfrydau'r grefydd Gristnogol, digon, ar ddiwedd y bennod hon, fydd enwi'n unig y pedair nodwedd a esyd y gwareiddiad hwnnw, ym marn yr Athro W. R. Matthews, mewn dosbarth ar ei ben ei hun.[3] Y gyntaf yw'r gred mewn cynnydd a datblygiad parhaus. Nid pob crefydd a ddysg mai ymlaen yn hytrach nag o'r tu ôl y mae'r oes euraidd; ond y mae'r syniad am gynnydd er gwell o hyd wrth wraidd Cristnogaeth ac yn hanfodol i'w bywyd. Nodwedd arall yw gallu'r grefydd hon i uno pobl o wahanol genhedloedd â'i gilydd mewn undeb gwirioneddol. Ac, er lliosoced a dyfned y dylanwadau a wahana ddynion oddiwrth ei gilydd, y mae'n rhyfedd gymaint y llwyddodd Cristnogaeth i'w huno a chymaint y mae a'i golwg ar gyflawni yn hyn o beth yn y dyfodol. Yna rhaid inni roi lle i'w chred yn yr egwyddor o ryddid dyn yn unigol a chymdeithasol. Er rhagored gweriniaeth Groeg yn nyddiau Pericles, pell ydoedd o fod yn un wir ddemocrataidd, oherwydd ni sylfaenesid hi ar ryddid cyson a diymwad pob dyn. Yn lle hynny, bodolai tu allan i'r ddinas y gwahanfur rhwng y Groegwr a'r barbariad a thu mewn iddi y gwahanfur rhwng y dinesydd rhydd a'r caethwas. A chyfyd y nodwedd hon o'r egwyddor arall a bwysleisiodd Cristnogaeth, sef gwerth cynhenid dyn fel dyn. Onid gwir dywedyd mai hi a ddarganfu bwysigrwydd personoliaeth dyn, hi'n sicr a roddes arbenigrwydd ar hynny, oherwydd cyhoeddodd fod pob dyn yn blentyn Duw a bod Crist wedi marw er ei fwyn. Ac heb syniad uchel am bersonoliaeth dyn, ni cheir chymdeithas gwladwriaeth gwerth yr enw.

Dyna, felly, rai o nodau gwareiddiad Cristnogol. Nid rhaid dywedyd na fodolent yn eu perffeithrwydd pan gymerth yr Eglwys ei lle fel olynydd Rhufain, ac ni welodd y byd hyd heddiw y fath beth â gwareiddiad perffaith Gristnogol,—un wedi ei lwyr feddiannu a'i ysbrydoli gan amcanion a delfrydau Crist. Eithr sylweddolwyd y peth yn ddigon llwyr i fedru gweld sut un ydyw ac i'w gymharu â rhai eraill. A datguddiwyd digon ar ei werth a'i arbenigrwydd, ym marn miloedd lawer o bobl, i gyfiawnhau'r honiad na ŵyr y byd am unrhyw fath arall ar wareiddiad cyfuwch neu well nag ef. "Ti, y Galilead, a orchfygaist," meddai Julian, yn ôl un o hen draddodiadau'r Eglwys fore am yr ymherodr hwnnw pan fu farw mewn brwydr yn 363: ac fe'i claddwyd yn Nharsus, lle gynt y ganwyd y cenhadwr a roes ei fryd ar ennill yr ymerodraeth i Grist.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ H. R. Mackintosh, The Originality of the Christian Message, pennod I.
  2. ↑ Yn ei erthygl ar Paul yn y Geiriadur Beiblaidd, II, 1063.
  3. ↑ Studies in Christian Philosophy, II, tt. 56-66.