Hanes Gwareiddiad/Cyn gwawr hanes
| ← Rhagarweiniol | Hanes Gwareiddiad gan Gwilym Arthur Edwards |
Gosod sylfeini → |
PENNOD II
CYN GWAWR HANES
CYFYNGIR hanes, yn ystyr fanyla'r gair, i'r digwyddiadau a'r cyfnodau hynny ym mywyd dyn y mae gennym mewn rhyw ffurf neu'i gilydd gronicl ysgrifenedig amdanynt. Oesoedd hanes, gan hynny, yw'r rhai y dibynnwn am ein gwybodaeth yn eu cylch ar ddefnyddiau a fu unwaith neu y sydd yn awr ar gof a chadw mewn ysgrifen o rhyw fath—ar feini, dyweder, neu ar grwyn, ac yn enwedig mewn llawysgrifau a llyfrau. Tu ôl i'r oesoedd hynny, drachefn, ymestyn canrifoedd dirif cyn bod unrhyw ddull o ysgrifennu; a dibynna'n gwybodaeth am y cyfnodau meithion hyn ar bob math ar olion bywyd dyn cyntefig ar ei domenydd a'i ogofau, ei feddau a'i esgyrn, ei arfau a'i gelfi. Nid yw'r ffin rhwng y ddau gyfnod bob amser yn un hollol glir a phendant efallai anodd dywedyd ambell waith pa un ai i gyfnod hanes neu i'r un cynhanesyddol y perthyn digwyddiad neilltuol, ac fe ysgrifennwyd yng nghyfnod hanes nifer mawr o bethau, fel traddodiadau gwerin, a fodolai gynt am ganrifoedd ar lafar. Ond y mae'r gwahaniaeth rhwng y naill gyfnod a'r llall yn un digon naturiol ac yn un tra chyfleus i'w gadw mewn golwg, pan geisir olrhain bywyd dyn o'i gychwyn pell ganrifoedd lawer yn ôl.
Y peth cyntaf a welir, os derbyniwn y rhaniad hwn, yw mai cyfnod hynod o fyr, o'i gymharu â'r un o flaen, yw cyfnod hanes, er mai ef yw'r pwysicaf o'r ddau i ni. Ac nid yn unig cyfynga hanes ei hun i gyfnod bychan ym mywyd dyn a'r byd, ond fe'i cyfynga'i hun hefyd i rannau neilltuol o'r ddaear ac i rai cenhedloedd yn fwy nag i eraill. Gwyn fyd y bobl, meddir, nad oes iddynt hanes. Y mae llawer felly yn y byd hyd yn oed heddiw, yn enwedig os meddwl wnawn am hanes ar gof a chadw mewn ffurf ysgrifenedig. A chyn cyrraedd ohonom ddechrau cyfnod hanes, cyn gwawr hanes yn yr ystyr fanwl, aeth cyfnodau meithion o ddatblygu a gwareiddio ym mywyd dyn heibio. Gwir yw geiriau Chesterton yn y cyswllt hwn: "the dawn of history reveals a humanity already civilized—perhaps it reveals a civilization already old."[1] Araf, gan mwyaf, y bu'r newid o un cyfnod i'r llall, ac ni ddigwyddodd hynny'n yr un ganrif ymhob rhan o'r byd. Digwyddodd, er esiampl, yn llawer cynharach yn y Dwyrain nag yn y Gorllewin, yn yr Aifft nag yng Nghymru.
Ynglŷn â bywyd dyn cyn gwawr hanes, cyfyd llu o broblemau na ddichon neb erbyn hyn eu hateb yn derfynol Yn un peth, y mae'r defnyddiau yn brin, a pheth arall, o'r un defnyddiau tynn yr awdurdodau gasgliadau gwahanol iawn i'w gilydd. Y mae hyn yn neilltuol o wir am y ddau gwestiwn pwysicaf a mwyaf diddorol yn y maes yma—lle yr ymddangosodd dyn gyntaf ar y ddaear a phryd y bu hynny? Myn rhai mai'r Aifft oedd cartref cyntaf dyn, ond yn fwy cyffredinol tybir mai rhywle yn Asia yr oedd crud dynoliaeth. Ni ellir, wrth gwrs, fanylu dim am y fan: digon yw dywedyd "rhywle ar wastadeddau uchel canol Asia, yn y darn eang hwnnw o'r cyfandir rhwng Mesopotamia a Mongolia." I gadarnhau hyn, honnir bod yr amodau naturiol yn ffafriol neilltuoli ymddangosiad dyn yn y rhan honno o'r byd filoedd lawer o ganrifoedd yn ôl. Nid ymddangosodd mewn hin rhy boeth iddo fedru byw ynddi, ac ni wnâi gwlad rhy wlyb nac un rhy oer y tro chwaith. Dywedir, hefyd, mai yn yr un rhan o'r byd yr ymddangosodd gyntaf yr anifeiliaid a ddofodd dyn ymhen amser—y march, er enghraifft, a'r ddafad a'r ych a'r ci—ac mai dyma gartref cyntaf yd a rhai moddion eraill cynhaliaeth dyn ac anifail. Ond lle bynnag yr ymddangosodd dyn gyntaf erioed, dylid cofio na phenderfyna hynny ynddo'i hun y cwestiwn ynghylch y fan lle gwareiddiwyd dyn gyntaf yn ei hanes Dichon iddo orfod symud o'i gartref gwreiddiol i ryw ran arall o'r byd cyn y datblygwyd llawer ar ei wareiddiad: dyna'n ddiddadl a fu ei hanes, os gwir y gred mai rhywle ar wastadeddau canolbarth Asia yr ymddangosodd gyntaf.
Cwestiwn mwy dyrys fyth yw dyddiad ymddangosiad dyn ar y ddaear. Ni waeth inni gyfaddef bod dyddio hyn yn gwbl amhosibl, a cheir gwahaniaeth o filoedd o ganrifoedd ymhlith awdurdodau ynghylch yr ffeithiau. Rhy brin a rhy fregus eto yw'r defnyddiau, ac ansicr, ar y gorau, yw llawer damcaniaeth a seilir arnynt. Rhaid dibynnu i raddau helaeth ar ffurf a natur ychydig o esgyrn dynion cyntefig a ddarganfuwyd mewn gwahanol wledydd ac ar ystyriaethau daearegol ynglŷn â'r haenau lle cafwyd yr olion hyn. Darganfuwyd esgyrn yn Java sy'n mynd â ni'n ôl o leiaf hanner miliwn o flynyddau, a mwy o lawer na hynny ym marn ambell awdurdod. Ond prin yr ystyrrir dyn Java" yn fod gwareiddiedig o gwbl: cyfeirir yn gyffredin ato fel yr ape-man of Java, ac enw gwyddonol y brawd hwn yw yr epa-ddyn unionsyth (pithecanthropus erectus). I gyfnod diweddarach y perthyn "dyn Heidelberg," fel y'i gelwir, oherwydd darganfod yr esgyrn yn agos i'r dref honno, ac hefyd "dyn Piltdown," sef yr olion dynol cyntaf a ddarganfuwyd hyd yma ym Mhrydain. Rhodiai hwnnw'r ddaear yma, yn ôl rhai awdurdodau, o leiaf fil a hanner o ganrifoedd yn ôl, a phrin y gellir ei ystyried yntau'n fod gwareiddiedig o gwbl. Eto i gyd, er nad dynion. mohonynt mewn un ystyr, yr oedd gwahaniaeth mawr rhyngddynt â'r bwystfilod o'u hamgylch, a pherthynai iddynt fanteision mawr ar y rheini. Hwy yn unig allasai sefyll yn unionsyth ar eu deudroed, ac yr oedd eu dwylo yn rhai nodedig o hwylus oherwydd hyd y bawd. Nid oes yr un creadur â llaw mor gyfleus ganddo â dyn, a mantais anhraethol i'w ddatblygiad a fu hynny. Ac yn ddiau yr oedd mwy o fin ar feddwl y dynion cyntefig hyn nag ar eiddo'r anifeiliaid o'u cwmpas. Onid yw hyn yn wir, y mae'n anodd deall sut yr enillodd dyn mor gynnar yn ei hanes oruchafiaeth mor llwyr ar y creaduriaid eraill.
Ymhell cyn dirwyn o'r cyfnod cyn hanes (prehistoric) i ben, cyraeddasai dyn, fel yr awgryma'r dyfyniad o Chesterton, radd o ddatblygiad y gellir yn ddigon teg ei alw'n gyflwr gwareiddiedig. A rhanna gwyddonwyr yr oesoedd olaf yn y cyfnod cynhanesyddol yn adrannau gwahanol ar sail yr hyn a ellir ei gasglu amdanynt oddiwrth gelfi ac arfau'r dyn cyntefig neu oddiwrth unrhyw erfyn o'i eiddo a oroesodd y canrifoedd. Yn wir, nid oes dim a deifl fwy o oleuni ar fywyd dyn cyn gwawr hanes na'i gelfi a'i offer (tools). Un o'r nodweddion amlycaf a'i gwahaniaetha oddiwrth bob creadur arall yw'r ddawn amhrisiadwy hon a rodded. iddo ef yn unig, ymhlith yr holl greaduriaid, a all wneuthur celfi ac arfau ac offer gwaith, a hawdd yw dychmygu gymaint a fu ei fantais ar gyfrif hynny. Ac wrth wylio fel y datblyga ei offer a'i gelfi y gellir mesur orau ei gynnydd mewn gwareiddiad yn y cyfnod maith cyn gwawr hanes.
Yr enw arferol ar yr adran gyntaf o'r cyfnod hwnnw yw Hen Oes y Cerrig (Palaeolithic)[2] am mai offer a chelfi o garreg heb ei naddu na'i chaboli rhyw lawer oedd rhai dyn yr adeg honno, ac ni wyddai'r pryd hynny ddim am feteloedd o unrhyw fath. Heliwr oedd dyn yn y cyfnod hwn, yn byw ar ei ben ei hun gyda'r nesaf peth i ddim o fywyd teuluol neu gymdeithasol. Mewn ogof y gwnâi ei gartref a'i elynion pennaf oedd y bwystfilod y bu'n rhaid iddo ymladd gymaint yn eu herbyn. Ond gwyddai dyn yr adeg hon sut i gynneu tân a gallai siarad rhyw fath ar iaith. Yn ystod Hen Oes y Cerrig yr oedd Ewrop a Phrydain yn un cyfandir heb rimyn o fôr rhyngddynt, a rhennir yr Oes faith hon yn adrannau llai yn dwyn enwau'r mannau hynny y darganfuwyd olion neilltuol ynddynt. Dilynwyd hi gan Oes Newydd y Cerrig (Neolithic),[2] ond ni ellir dywedyd yn bendant bryd y diweddodd un a phryd y dechreuodd y llall. Ni ddigwyddodd hynny yr un adeg ymhob gwlad: tra parhai gwareiddiad un wlad i berthyn i Hen Oes y Cerrig, symudasai gwlad arall i wareiddiad Oes Newydd y Cerrig. Yn honno y mae'r arfau a'r celfi yn llawer mwy caboledig a defnyddiol. Dechreuodd dyn yn awr drin tir a byw ar fwy na chig yr helfa neu ffrwythau'r coed. Yn y cyfnod hwn, hefyd, dofodd nifer o anifeiliaid a gwnaeth iddo'i hun gartref mwy diddos a pharhaol na chynt. Canlyniad naturiol hyn oedd bywyd teuluol llawnach ac amlhau cysuron ei fyd, a dysgodd y merched yn awr sut i weu dillad a gwneuthur llestri o bridd. Cyn diwedd Oes Newydd y Cerrig yr oedd dyn wedi ei wareiddio'i hun i fesur mawr i'r cyfnod hwn y perthyn meini a chromlechi aruthrol Stonehenge ac Iberiaid, y mae'n debyg, oedd trigolion Cymru yn y dyddiau hynny.
Yna cymorth dyn un o'r camau pwysicaf ymlaen, pan ddarganfu'r meteloedd ac y dechreuodd weithio mwnau'r ddaear. Hawdd yw gweled sut yr arweiniodd hyn i gelfi ac offer anhraethol well na chynt a sut yr effeithiodd hynny drachefn ar ei wareiddiad. Nid gormod fyddai dywedyd y buasai gwareiddiad uchel yn gwbl amhosibl pe na ddarganfuasai dyn y meteloedd. Copr oedd y cyntaf ohonynt a ddefnyddiodd dyn, ac yr oedd arfau a chelfi dyn yn Oes y Copr yn llawer rhagorach a mwy buddiol na rhai Oes Newydd y Cerrig. Wedyn daeth alcan (tin) i'r golwg, a phan ddysgodd dyn sut i gymysgu hwnnw â chopr i wneuthur pres (bronze), yr oedd ganddo ddefnydd llawer mwy cyfleus eto at ei law a datblygodd gwareiddiad y byd yn fawr yn Oes y Pres. Yn ddiweddarach darganfuwyd haearn, y mwyaf pwrpasol o'r holl feteloedd, a bu Oes yr Haearn yn gyfnod o ddatblygu prysur iawn yn hanes dyn a'i fyd. Efallai mai'r praw gorau o hynny yw fod y cyfnod hanesyddol yn dechrau gwawrio gyda diwedd Oes yr Haearn. Y mae'n debyg fod yr Aifft yn gyfarwydd â chopr tua 4000 c.c., ond parhaodd Oes Newydd y Cerrig am fil arall o flynyddoedd cyn i feteloedd gyrraedd Dwyrain Ewrop tua 3000 C.C., ac ni wybu Cymru a Gorllewin Ewrop amdanynt am ganrifoedd wedyn. Y Goideliaid, ym marn Dr. J. E. Lloyd, a drigai yng Nghymru yn Oes y Pres a'r Brythoniaid pan wawriodd cyfnod hanes, ac yn ôl rhai awdurdodau y mae'n amheus a ddefnyddid rhyw lawer ar haearn yng Nghymru cyn dyddiau'r Rhufeiniaid.[3]
Sut fywyd oedd bywyd dyn yn y cyfnodau meithion yma cyn gwawr hanes? Ar ba sail y gellir ei ystyried yn wareiddiedig o gwbl? Y mae'n wir na wyddai ddim am lu mawr o bethau sy'n gynefin hollol i ni ac a dybiwn yn anhebgor i unrhyw wareiddiad gwerth yr enw heddiw. Ond yr oedd y dyn cyntefig, serch hynny, wedi cychwyn symud ymlaen mewn mwy nag un cyfeiriad pwysig, ac yn hyn, fel mewn cysylltiadau eraill, deuparth gwaith yw ei ddechrau. Nodwyd eisoes un o'r camau pwysicaf a gymerth erioed, sef gwneuthur offer a chelfi o bob math. Pan feddyliwn am beiriannau dirif ein bywyd heddiw, priodol yw cofio'n dyled i'r dynion hanner anwar hynny a luniodd y celfi a'r arfau cyntaf a welodd y byd erioed, ac i rai o'r cymwynaswyr cynharaf hynny a ddyfeisiodd, er enghraifft, yr olwyn gyntaf neu a adeiladodd y bont gyntaf yn hanes y byd. A phwy, hefyd, all fesur pwysigrwydd iaith yng ngwareiddiad y byd? Tyfodd iaith o awydd y dyn cynte fig i'w fynegi ei hun ac i gyfnewid meddyliau ag eraill a chymdeithasu â hwynt. Yn y cychwyn cyntaf nid oedd cymaint a hynny o wahaniaeth rhwng iaith dyn fel dyn Java a iaith yr anifeiliaid; ond pan darodd dyn ar y syniad bod seiniau neilltuol i olygu pethau neilltuol a dim ond hwynt, yr oedd posibilrwydd datblygu iaith yn ddiderfyn. Ni chyfyngid iaith mwyach i ychydig eiriau'n efelychu seiniau yn y byd tu allan i ddyn neu'n amcanu disgrifio ei deimladau'n unig. I'r lefel yna'n unig y cododd iaith yr anifail ac yno'r erys hyd heddiw, ond aeth dyn ymlaen i greu geiriau a phenderfynu rhoi'r enw yma ar y peth yma ac un arall ar y llall a bathu geiriau newydd pan godai'r angen am hynny.
Yn y cyfnod hwn, eto, y mae'n rhaid inni chwilio am gychwyn bywyd cymdeithasol. Pan drodd dyn o fod yn heliwr crwydrol i drin tir golygodd hynny iddo fywyd mwy sefydlog ac adeiladu tŷ. Cyn bo hir gwelwyd nifer o dai yn yr un ardal a dyna ddechrau bywyd tebyg i fywyd pentref, ac o hwnnw drachefn y datblygodd ffurfiau mwy cymhleth. Ac i reoli hyd yn oed fywyd pentref rhaid oedd wrth ryw nifer o ddeddfau a ddiogelai arfer y llwyth a rhywun a ofalai y cedwid hwynt. O'r anghenion yma y cododd yr hyn a dyfodd yn ddiweddarach yn ddeddf gwlad ac yn llywodraeth dan bennaeth neu frenin. Po fwyaf y datblygai'r bywyd allanol, mwyaf yn y byd y datblygai gwareiddiad cymdeithas: ac, ar y llaw arall hefyd, o ddysgu cyd—fyw a chyd—weithio â'i gilydd cynhyddodd dynion fwyfwy o ran eu gallu a'u diwylliant. Helpodd y naill lawer ar y llall ar hyd y ffordd.
Erys eto un nodwedd a dylanwad o bwys ym mywyd dyn a ymddangosodd ymhell cyn cychwyn y cyfnod hanesyddol: gellir dywedyd ei fod wedi dechrau crefydda hyd yn oed yn Oes y Cerrig. Ni wahaniaethai'n glir, y mae'n sicr, am lawer canrif rhwng y naturiol a'r goruwchnaturiol, eithr credai ym modolaeth galluoedd gweledig ac anweledig cryfach nag ef ei hun, ac mewn llawer dull a modd ceisiai gadw ar delerau da â hwynt.
Tybiai fod bywyd ymhob peth o'i amgylch yr oedd pob llwyn ac afon a bryn yn gartref rhyw ysbryd byw, a daeth adeg pan gladdai ei feirw'n ofalus oherwydd credu ohono eu bod hwythau hefyd yn dal i fyw. Byd llawn o dduwiau neu ysbrydion oedd byd ein hynafiaid cyn gwawr hanes.