Hanes Gwareiddiad/Dadeni a diwygio
| ← Y Canol Oesoedd | Hanes Gwareiddiad gan Gwilym Arthur Edwards |
Gwyddoniaeth a beirniadaeth → |
PENNOD IX
DADENI A DIWYGIO
PAN sonnir am gyfnodau diweddar hanes, wyneba'r un anhawster ni â phan sonnid am y Canol Oesoedd: ni ellir nodi dyddiad pendant neu enwi'r flwyddyn y terfynodd yr oesoedd hynny ac y dechreuodd hanes diweddar. Ond cysylltir y naill gyfnod â'r llall gan ddau symudiad a weddnewidiodd lawer ar Ewrop. Un yw'r Dadeni neu Adfywiad Dysg, a'r llall yw'r Diwygiad Protestannaidd. Yr oedd Ewrop y drydedd ganrif ar ddeg yn wahanol iawn i Ewrop yr unfed ganrif ar bymtheg mewn llu o ffyrdd, a'r esboniad gorau ar y gwahaniaeth yw'r ddau symudiad yma. Eithr unwaith eto ni ellir datgysylltu'r ddau gyfnod yn llwyr oddiwrth ei gilydd, er cymaint y gwahaniaeth rhyngddynt. Ymhell cyn diwedd yr Oesoedd Canol paratowyd cryn lawer ar gyfer y Dadeni a'r Diwygiad: yn wir, ni allai fod amgen os oes elfen o unoliaeth a pharhad mewn hanes. Yn y drydedd ganrif ar ddeg cawn feddyliwr fel Thomas Aquinas (1227-74), y "doctor angylaidd " a geisiodd briodi Cristnogaeth ag athroniaeth Aristotl, a gwyddonydd fel Roger Bacon (1214-92), ac yn Huss a Wyclif cawn ddiwygwyr cyn y Diwygiad. Ac hyd yn oed ar ôl deffroad dysg ac adfywiad crefydd ni lwyddodd Ewrop i ymysgwyd yn llwyr o ddylanwad ffurfiau a gwareiddiad y Canol Oesoedd.
Un o nodweddion amlycaf y cyfnod newydd yw dirywiad sefydliad mawr y Canol Oesoedd. Collodd y Babaeth i gafael ar feddwl a gwrogaeth dynion, a gwanhaodd ei dylanwad ar lywodraethwyr a theyrnasoedd Ewrop. Gynt gosodasai ei hofn arnynt, ond erbyn hyn yr oedd y Babaeth dan bawen Ffrainc, ac o 1307 hyd 1376 cartrefai'r Pab yn Ffrainc (Avignon), yn alltud o Rufain. A phan ddaeth y bennod hon, sef Caethglud Babilon y Babaeth, i ben, digwyddodd peth gwaeth fyth. Rhannwyd y Babaeth, ac o 1376 hyd 1417 yr oedd yn Ewrop ddau Bab a dwy ffynhonnell anffaeledigrwydd. Hawdd dychmygu gymaint y syrthiasai'r Babaeth yn syniad y gwledydd ar gyfrif y pethau hyn, ac er cyfanu'r rhwyg a phenodi Martin V yn unig Bab yng Nghyngor Constance (1414-18), nid adfeddiannodd y Babaeth ei safle a'i hawdurdod megis cynt. Yn wir, yr oedd cynnal cynghorau fel rhai Constance, Siena (1423), Basle (1431-49) a Florence (1439) yn un o arwyddion yr amserau ac yn braw nad oedd crefydd y Canol Oesoedd mwyach wrth fodd deiliaid ffyddlonaf y Babaeth.
Nodwedd arall bwysig iawn oedd fod cenedlaetholdeb yn cryfhau, a syniad mawr arall y Canol Oesoedd, sef un Ymerodraeth ochr yn ochr ag un Eglwys, yn cilio. Er pob gwrthwynebu o du'r barwniaid ceid yn Lloegr, Ffrainc a Spaen freniniaethau cenedlaethol dan lywodraethwyr cryfion a fu'n barod i ymddiried rhywfaint o allu i'r werin.[1] Dan amodau ffafriol fel hynny datblygwyd cryn dipyn ar lywodraeth leol yn y trefi a'r siroedd, a thyfodd gallu'r seneddau cenedlaethol yr un pryd. Cododd, hefyd, yn y gwledydd hyn ddosbarth canol pwysig i fod yn wrthglawdd rhag llywodraeth pennaeth anghyfrifol ar un llaw, a rhag cyffroadau direol poblogaidd ar y llall. Po fwyaf y tyfai'r syniad o lywodraethu gan frenin drwy gynrychiolwyr a ddewiswyd gan ei ddeiliaid, pellaf yn y byd y ciliai ffiwdaliaeth y Canol Oesoedd. Ond nid tyfiant unffurf drwy Ewrop mohono, canys parhaodd yr Almaen dan yr hen gyfundrefn lle ceid nifer o fân dywysogaethau ffiwdalaidd ac ymherodr yn ben arnynt; a rhanedig iawn, hefyd, oedd bywyd yr Eidal yr adeg honno. Bu'n rhaid iddi hi aros yn hir cyn sylweddoli ei hundeb cenedlaethol.
Cyfnod o fywyd a berw anghyffredin oedd yr un yr oedd Ewrop a'i olwg arno'n awr (o'r drydedd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ganrif ar bymtheg), a chyfrif dwy ffaith o leiaf am ei bwysigrwydd yn hanes gwareiddiad. Yn un peth, dyma gyfnod ail-ddarganfod ac ail-astudio trysorau'r hen fyd a dyma, hefyd, gyfnod darganfod gwledydd newydd tu hwnt i'r moroedd. Agorai byd dieithr o flaen meddwl a llygad dyn mewn dull nad oedd wir cyn hyn. Meddylier, i gychwyn, am fyd y meddwl a'r deffroad rhyfedd a ddigwyddodd yn hwnnw'n awr. Ni ellir priodoli hwnnw mwyach i un rheswm yn unig fel, er enghraifft, canlyniad buddugoliaeth y Tyrciaid yng Nghaercystenyn (1453): gwnaeth dylanwadau eraill hefyd eu rhan. Cyfeiriwyd eisoes at un neu ddau ohonynt, fel y Croesgadau a sefydlu'r prifysgolion. Canlyniad y cyntaf oedd dwyn y Dwyrain yn nes i'r Gorllewin nag erioed o'r blaen a chwanegu llawer at wybodaeth trigolion Ewrop am y byd. O'r prifysgolion pwysig y gyntaf a sefydlwyd oedd un Paris: ynddi hi y bu Gerallt Gymro ac amryw eraill o'i gydwladwyr yn y ddeuddegfed ganrif. Cyn diwedd y ganrif honno ymfudodd nifer o Baris ac arweiniodd hynny i sefydlu prifysgol Rhydychen, ond pasiodd canrif arall bron cyn adeiladu'r coleg cyntaf (Merton) yno yn 1274. Patrwm Paris a ddilynwyd yn Rhydychen gyda'i raniad o'r maes yn bedair adran—diwinyddiaeth, deddf, physigwriaeth, a'r celfyddydau. Ochr yn ochr â'r prifysgolion gellir enwi'r mynachdai fel canolfannau addysg a diwylliant a chyfeirio at ddysgedigion Arabaidd yn Ewrop, fel Averroes (1126-98) a gadwodd ryw faint o wybodaeth yr hen fyd yn fyw mewn cyfnod pur dywyll. Ond, a siarad yn gyffredinol, cyfyngedig iawn oedd gwybodaeth cyn y Dadeni, a thrwy gyfnod yr Ysgolwyr (Schoolmen) yr oedd llaw yr Eglwys a delw ei diwinyddiaeth yn drwm iawn arno.
Ond lledu ac ehangu a wnai gwybodaeth o hyd, a bu cwymp Caercystenyn yn ddiau yn symbyliad mawr i ddiwylliant yn y Gorllewin, oherwydd pan gymerth y Tyrciaid y ddinas honno, ffodd llu o ddysgedigion oddiyno gan ddwyn eu llyfrau gyda hwy i'r Eidal a gwledydd y Gorllewin. Dechreuwyd astudio hen glasuron Rhufain a Groeg yn eiddgar, a theimlid bod rhyw fyd newydd braf yn ymagor o flaen dyn. Clywyd lleisiau'n galw'r byd yn ôl at Natur a Dyn yn lle byw o hyd yng nghysgod yr Eglwys ac edrych ar bopeth o safbwynt y byd a ddaw. Hyn wnaeth i rai deimlo bod y Dadeni'n gyfystyr â dod a Phaganiaeth yn ôl, drwy symud y pwyslais o'r dwyfol a'r crefyddol i'r dynol a'r naturiol. Ond pryder disail oedd hwnnw. Ym mywyd dyn dylai fod lle i'r ddau ddylanwadyr ysbryd Hebreig a'r ysbryd Groegaidd, fel y galwodd Matthew Arnold hwynt. Tuedd y Canol Oesoedd fu eu cyfyngu eu hunain i'r cyntaf yn unig, ac yn awr symudodd y pendil i'r ochr arall a llawenhaodd dyn nid yn unig yn Nuw a'r byd ysbrydol ond hefyd yng ngogoniant gweithredoedd dwylo dyn a phrydferthwch digymar y byd o'i gwmpas. Ac nid oedd arweinwyr cymhwysach iddo ar hyd y llwybrau newydd hyn na llenorion cyfnod euraidd Groeg gynt, ac ysbryd rhydd, ymchwilgar y Groegwr a'i llywodraethai'n awr. Gydag un o feirdd Rhufain gallasai ddywedyd nad ystyriai ddim ynglŷn â dyn islaw ei sylw, a humanists a fu'r enw a roddwyd ar y sawl a'u cyflwynodd eu hunain yn awr i astudio llên gyfoethog Groeg a Rhufain. Nid edrychai'r Eglwys yn ffafriol iawn ar bob datblygiad yn hanes y mudiad hwn, ond ceir weithiau ambell Eglwyswr sy'n gorfforiad o'r ddau ysbryd. Un felly oedd Erasmus, yr ysgolor a gyhoeddodd argraffiad o'r Testament Newydd Groeg yn 1516 ac a ddymunodd ddiwygio crefydd drwy fynd yn ôl at Grist fel dysgawdur ac esiampl yn hytrach na diogelu yn eu crynswth ddefodau ac athrawiaethau'r Eglwys.
Ond nid troi'n ôl i'r hen fyd yn unig a wnaeth dyn yn y cyfnod hwn: daeth awydd anniwall i chwilio am wledydd newydd drosto hefyd. Dechreuasai hyn, eto, cyn diwedd y Canol Oesoedd. Bu'r Croesgadau'n symbyliad mawr i deithio'r gwledydd, ac yn 1295 cyhoeddasai Marco Polo hanes rhyfedd ei ymdaith ef yn China a Japan.
Yn ystod y ddwy ganrif nesaf hwyliai morwyr anturiaethus allan o borthladdoedd y Gorllewin i bob cyfeiriad mewn ymchwil am diroedd i fasnachu ac ymgyfoethogi ynddynt. Morwyr Portugal fu'n arwain i ddechrau, a chyn canol y bedwaredd ganrif ar ddeg darganfuwyd ynysoedd y Canary a'r Azores ganddynt. Erbyn diwedd y ganrif wedyn (1486) yr oedd Diaz wedi hwylio heibio i Benrhyn y Gobaith Da a Vasco da Gama wedi croesi Cefnfôr India (1498) a chyrraedd Calicut. Cyfoeth y Dwyrain a'u denai'n bennaf, a syniad Columbus ac eraill oedd y cyrhaeddid y Dwyrain yn ddiffael dim ond i ddyn forio'n ddigon pell mewn cyfeiriad gorllewinol, gan mai pelen oedd y ddaear o ran ei ffurf. Hynny barodd i Columbus gredu iddo gyriaedd yr East Indies pan laniodd yn San Salvador ym mau Mexico (1492-3), ac wedi iddo ddarganfod deheudir America a hwylio i lawr un o'i hafonydd (1498-1500) aeth i'w fedd gan dybio mai yn Asia y glaniasai. Ymhen ugain mlynedd wedyn (1519-22) llwyddodd Magellan a'i gymdeithion o Portugal i forio o amgylch y byd, ac erbyn hyn gellid dywedyd bod y moroedd yn agored i'r anturiaethus o bob gwlad. Cymerth Spaen le Portugal a hi fu'r prif allu yn neheudir a chanolbarth America, a throdd Prydeinwyr fel Cabot fwy i'r Gogledd. O hyn ymlaen "y cyntaf i'r felin gaiff falu" a fu'r egwyddor a lywodraethai morwyr y gwahanol genhedloedd lle glaniai dyn, yno y masnachai, ac yno wedyn y deuai rhyw gwmni neu gynrychiolwyr ei wlad i hawlio'r tir yn eiddo'r llywodraeth, ac mewn dulliau fel hyn y gosodwyd i lawr rai o sylfeini ymerodraethau diweddar Ewrop. A hawdd yw gweld cymaint fu effaith darganfod gwledydd newydd ar fasnach a chyfoeth a bywyd hen wledydd y Gorllewin[2]
Ceir praw arall o fywiogrwydd ymchwilgar meddwl dyn yng nghyfnod y Dadeni mewn ambell ddyfais o'i eiddo, a phrin y bu un erioed a hwylusodd fwy ar wareiddiad diweddar nag argraffu. Cyn hyn ysgrifennid pob llyfr â llaw, a gwaith araf, llafurus dros ben oedd hynny, ond dengys rhai o lawysgrifau'r cyfnod dlysed a cheined gwaith ydoedd. Dan amodau felly cymerai amser maith i ysgrifennu llyfr o unrhyw faint, a'r un faint o amser drachefn i wneuthur copi ohono, ac felly'n naturiol nid rhyw lawer o lyfrau oedd i'w cael. Ond unwaith y meistrolwyd dulliau argraffu, gellid sicrhau nifer fawr o gopïau o lyfr yn weddol hawdd a chyflym. Gwaith Gutenberg ym Mainz ar Rhein sy'n sylfaen y gelf yn Ewrop, a'i Lyfr Salmau a'i Feibl ef yw'r llyfrau argraffedig cyntaf o bwys yn Ewrop (1455). Gwellhawyd y ddyfais yn fuan, yn enwedig yn yr Eidal lle'r arferid llythyren lai na llythyren ddu (Gothig) Gutenberg. Erbyn 1500 y mae'n ddiau bod miloedd o lyfrau argraffedig yn Ewrop lle gynt ni bu ond ychydig lawysgrifau. Os teimlai'r Pregethwr bedair canrif cyn Crist nad oedd "ddiben ar wneuthur llyfrau lawer" beth, atolwg, fuasai ei brofiad yn Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg neu, waeth fyth, yn Ewrop ein dyddiau ni? Er mwyn dangos gyflymed y mabwysiadwyd y ddyfais ymhob gwlad yn Ewrop digon fydd nodi ychydig ddyddiadau diddorol. Cyhoeddodd Tindale ei Destament Newydd Saesneg yn 1526, ac ymddangosodd y Beibl Saesneg cyntaf cyflawn mewn print yn 1535. Yng Nghymru daeth Testament Newydd argraffedig o'r wasg yn 1567 (Testament Wm. Salesbury), a Beibl yr Esgob Morgan yn 1588. A phrawf y pwys a roddwyd yn fuan ar y priodoldeb o gael yr Ysgrythyrau yn nwylo'r bobl mor ddylanwadol yn hanes dyn a'i wareiddiad y gallasai dyfais Gutenberg fod.
Yng nghyfnod y Dadeni nid gormod fyddai dywedyd mai'r Eidal oedd arweinydd Ewrop, a rhyfedd debyced i Roeg gynt oedd yr Eidal yr adeg honno. Nid teyrnas unedig mohoni, eithr nifer o ddinasoedd gan mwyaf yn y Gogledd a'r Gorllewin, rhai ohonynt fel Rhufain a Milan yn hen, ac eraill fel Florence a Venice wedi dod i enwogrwydd yn ddiweddarach. Llywodraethid y dinasoedd hyn gan dywysogion fel y Medici yn Venice a'r Visconti ym Milan, a cheisiai bob un ohonynt wneuthur ei ddinas ef yn gyfoethocach a godidocach na'i chymdogion. Bu'r tywysogion hyn yn noddwyr selog i bob rhyw gelf a chrefft, a'u dinasoedd yn gartrefi diwylliant ac athrylith nodedig. Cysylltir enw pob un ohonynt â gwŷr sy'n anfarwol yn eu cylch arbennig eu hunain. Os am Florence y meddylir, dyna Dante, Botticelli a Machiavelli: os am Rufain, dyna Raphael a Michael Angelo: os am Venice, dyna Titian a Tintoretto: ac os am Filan, dyna Leonardo da Vinci, y mwyaf amryddawn ohonynt i gyd. Cyffelyb oedd y deffroad yn yr Eidal yn awr i hwnnw gynt yng ngwlad Groeg yn nyddiau Pericles: ond, er mai yno y gwelwyd ef yn ei ogoniant pennaf, gwyddai gwledydd y tu arall i'r Alpau hefyd am y Dadeni a'r adfywio oedd yn bod yn Ewrop yn awr. Onid yn Lloegr yr ymddangosodd prif arddun llên y cyfnod? Ac, os gellir ystyried Dante'n gynrychiolydd y Canol Oesoedd, Shakespeare (1564-1616) a roddes fynegiant i holl asbri a bywyd cyfnod y Dadeni. "He, more than anyone, reflects all that was best," medd F. S. Marvin, "in that age of ardent feelings, vigorous life, and agitating thought; and he transmutes all into the pure gold of immortal and universal art."[3]
Buwyd yn ddigon hir cyn dod at yr ail gymal yn nheitl y bennod hon, ond dëellir y Diwygiad Protestannaidd yn well o'i ystyried yng ngoleu bywyd cyffredinol y cyfnod. Berw cyfnod y Dadeni, yn wir, a'i esbonia orau, ac o safbwynt hanes gwareiddiad Ewrop nid cwbl anghywir fyddai ystyried y Diwygiad fel un agwedd ar ddeffroad cyffredinol Ewrop yn awr. Er nad achosion crefyddol yn unig a gyfrif amdano, hwy'n ddiddadl yw'r rhai pwysicaf. Yn eu plith y mae'n rhaid rhoi lle blaenllaw i ddirywiad y Babaeth, yn enwedig i'w rhaib a baich ei chasgliadau a'i threthi ar wledydd y Gogledd. Gyda chynnydd y gyfundrefn Babyddol a lluosogi rhif ei swyddogion aethai'r galwadau ariannol yn drymach o hyd, a chwynai ei deiliaid tu draw i'r Alpau oherwydd y gorfodi oedd arnynt i gynnal y Pab a'i lys costus yn ogystal a thalu eu ffordd gartref. Ymosodid, hefyd, ar honiadau'r Babaeth ac ar fwy nag un o'i phrif athrawiaethau. Dyna wnaeth Huss a Wyclif, a theimlai pobl yn fwy rhydd i feddwl fel y mynnent ac i feirniadu ac amau yr hyn a ddywedid dan awdurdod y Pab a'r Eglwys wrthynt. Amlwg, hefyd, oedd y dirywiad ym mywyd llu o weinidogion yr Eglwys. Cynhyddodd bydolrwydd yr offeiriaid a chyfoeth y mynachdai, a syrthiasai crefydd ysbrydol yn isel mewn llawer man. Eithr, fel dan amgylchiadau cyffelyb cyn hyn yn hanes yr Eglwys, yr oedd rhyw awydd a dyhead am bethau gwell yn cryfhau, er cymaint y tywyllwch cyffredinol. Ac, hefyd, ymhlith achosion y Diwygiad ni ddylid anwybyddu ffeithiau nad oes a fynnont â chrefydd yn uniongyrchol. Un o'r rheini oedd tyfiant y teimlad cenedlaethol yn y gwahanol wledydd yn awr. Fel y cynhyddai hwnnw, nid edrychent yn ffafriol iawn ar sefydliad fel y Babaeth a honnai fod yn ben arnynt ac uwchlaw pob un ohonynt. Lle bynnag y llywodraethai brenin cryf ar genedl unedig, gallasai hwnnw wrthod cydymffurfio â gofynion y Pab heb ofni rhyw lawer beth a ddigwyddasai iddo. Ac, yn allanol, mewn cyfeiriad fel hwn y gwelir y cyfnewidiad mwyaf rhwng Ewrop cyn y Diwygiad ac Ewrop ar ôl hynny. Yr oedd crefydd Ewrop yn unffurf iawn cyn y Diwygiad, eithr ar ei ôl ac yn ganlyniad iddo ymddangosodd Eglwysi cenedlaethol Ewrop.
Cymerth y Diwygiad ei hun ddwy ffurf—un yn effeithio ar fywyd y sawl a arhosodd yn yr Eglwys a'r llall yn arwain i sefydlu Eglwysi tu allan iddi a wrthodai gydnabod ei hawdurdod. Y ffurf olaf yw'r un fwyaf adnabyddus ac ynglŷn â honno yr enw mawr yw un Martin Luther. Mynach Almaenaidd ydoedd yn 1517, pan ymddangosodd un o genhadon y Pab yn Wittenberg i bregethu ffordd o ryddhad o gospedigaeth y Purdan drwy brynu pardynau (indulgences). Gwrthwynebodd Luther hyn fel peth hollol groes i hanfod Cristnogaeth, a hoeliodd ei brotest o gan gosodiad namyn pump (theses) ar ddrws yr Eglwys. Ar y cychwyn ni ddymunodd ef, mwy nag a wnaeth Erasmus, ymwahanu oddiwrth yr Eglwys, ond âi'r cweryl yn ddyfnach o hyd. Er mai yn ei brofiad personol yn hytrach na'i allu meddyliol fel diwinydd yr oedd cuddiad ei gryfder, ymosododd nid yn unig ar sefydliadau'r Eglwys ond hefyd ar rai o'i hathrawiaethau, a phwysleisiodd y mewnol yn fwy na'r allanol. Daw maddeuant a chyfiawnhad nid drwy brynu pardynau ond drwy ffydd yn Nuw. Yn nghyngor Worms (1521) esgymunwyd ef, ac yng nghyffes Augsburg (1530), o waith ei gyfaill Melanchthon, datganodd y Protestaniaid eu credo am y tro cyntaf. Cryfhai'r diwygiad o flwyddyn i flwyddyn, yn enwedig ymysg gwerin yr Almaen, nes myned ohono'n rhy gryf i unrhyw deyrn neu Bab roi pen arno. Gan hynny yn 1555 arwyddodd yr ymherodr Siarl V Heddwch Augsburg a roddai hawl i bob dinas a thalaith yn yr Almaen ddewis rhwng Credo Rhufain a Chredo Augsburg—pob rhanbarth ei chrefydd ei hun (cuius regio, eius religio). Dyna setlo dynged neu ffurf crefydd Ewrop ar linellau taleithiol a chenedlaethol.[4]
Nid rhaid dilyn hanes y Diwygiad tu allan i'r Babaeth yn y gwledydd eraill. Digon i bwrpas y llyfr hwn fydd cyfeirio'n unig at yr Yswisdir a'n gwlad ninnau. Zwingli oedd yr arweinydd yn y wlad gyntaf, ac yr oedd nifer o wahaniaethau rhwng yr Eglwys Lutheraidd ac Eglwys Ddiwygiedig yr Yswisdir. Ar ôl Zwingli daeth John Calfin o Ffrainc (1509-64), a'i waith ef yn bennaf yw trefn a chyfansoddiad a diwinyddiaeth yr Eglwysi Diwygiedig. Cymerth Lloegr, fel y gwyddys, ei chwrs ei hun dan Harri'r VIII (1509-47) ac Elisabeth (1558-1603) a phan drodd Cymru ei chefn ar Rufain gwnaeth hynny'n bur llwyr ac aeth dan iau Geneva gymaint onid yn wir fwy nag unrhyw wlad arall.
Erbyn hyn collasai'r Babaeth yn amlwg ei dylanwad yn y gwledydd a ennwyd, ac ymddangosodd nifer o Eglwysi annibynnol arni yng ngogledd Ewrop. Eithr gwnaethpwyd ymdrech fawr i'w diwygio hithau yn y De, a cheir aml braw o hyn. Penododd y Pab Paul III Gomisiwn i sicrhau hyn (1537), a galwyd hefyd Gyngor cyffredinol i Trent ar gyffiniau'r Eidal a'r Almaen, a bu hwnnw'n eistedd o dro i dro am agos i ugain mlynedd (1545-63). Gwahoddwyd y Protestaniaid iddo eithr gwrthodasant ddod, ac aeth y Babaeth ymlaen hebddynt i geisio sicrhau gwelliannau yn yr Eglwys. Dyma hefyd gyfnod ffurfio Urdd y Jesuitiaid a dyddiau dynion ymroddedig fel Francis Xavier (1506-52) a Philip Neri. Ond er pob ymdrech i ddiwygio ac ennill yn ôl yr hyn a gollwyd, yr oedd y rhwyg yn rhy fawr i'w gyfanu mwyach, ac erbyn hyn yr oedd dwyn gwledydd y Gogledd yn ôl dan y Babaeth yn amhosibl. Spaen oedd prif offeryn y Pab i geisio sicrhau hyn drwy orfodaeth rhyfel, eithr ymladdodd Protestaniaid yr Iseldiroedd yn ddygn yn ei herbyn a gorchfygodd Lloegr ei llynges yn nyddiau Elisabeth.
O hyn allan, er gwell neu er gwaeth, rhanedig oedd Cristnogaeth Ewrop. Daliodd y Babaeth ei gafael ar wledydd y De lle gynt y bu ymerodraeth Rhufain gryfaf, ond yn y Gogledd, cartref y cenhedloedd newydd, ciliodd ei gallu ac, yn ei lle neu ochr yn ochr â hi, cododd y naill Eglwys genedlaethol ar ôl y llall. Ac nid gwahaniaeth daearyddol rhwng De a Gogledd mohono'n unig nac yn bennaf o ran hynny. Cynrychiolid erbyn hyn ddwy duedd neu ddwy egwyddor wahanol yng nghrefydd Ewrop, y naill yn pwysleisio lle'r offeiriad ac awdurdod traddodiad a'r llall le'r proffwyd ac awdurdod barn a chydwybod rydd. Ni all na chollir rhywbeth mewn unrhyw gyfnewidiad mor fawr, ac ni bu'r Diwygiad Protestannaidd yn eithriad yn hyn, er pob rhagoriaeth a berthyn iddo. Nid daioni digymysg er enghraifft, oedd ffurfio Eglwysi ar linellau cenedlaethol a cholli'r syniad a'r teimlad o undeb cyffredinol. Temtasiwn a pherygl Eglwysi felly yw mynd yn llawforynion y wladwriaeth, a digwyddodd hynny fwy nag unwaith yn eu hanes. A phan ddaeth y Protestaniaid allan o'r hen Eglwys gadawsant nifer o bethau rhagorol ynddi ar eu hôl, a datblygodd rhai o'u syniadau a'u defodau priod hwy mewn cyfeiriadau anghyson â'u rhyddid ac ag ysbryd y Dadeni. Nid yw, serch hynny, yn anghywir cysylltu'r Dadeni a'r Diwygiad, Deffroad Dysg ac Adfywiad Crefydd, fel y ddau symudiad yn hanes ei wareiddiad a arweiniodd Ewrop hyd at drothwy'r cyfnod diweddar.