Neidio i'r cynnwys

Hanes Gwareiddiad/Gogoniant Groeg

Oddi ar Wicidestun
← Plant yr addewid Hanes Gwareiddiad

gan Gwilym Arthur Edwards

Mawredd Rhufain →

PENNOD V
GOGONIANT GROEG

UN peth tarawiadol iawn yn hanes gwareiddiad yw pwysigrwydd cyfraniad rhai o genhedloedd lleiaf y byd. Cenedl fechan oedd Israel, ac y mae hynny'n wir am yr Eidal yn y Canol Oesoedd neu am Loegr yn nyddiau Shakespeare a Raleigh: trig dwy neu dair miliwn chwaneg o bobl yn Llundain heddiw nag oedd yn ein gwlad o un pen i'r llall yn adeg Milton a Cromwell a chyfieithwyr y Beibl i Gymraeg. Ond yr enghraifft gliriaf o hyn yw gwlad Groeg yn y canrifoedd cyn Crist, yn enwedig rhwng 600 a 400 C.C. Rhoddodd i'r byd lenyddiaeth gyda'r gyfoethocaf a mwyaf amrywiol a fedd, ac ohoni cododd yn y cyfnod byr hwnnw, nid yn unig wŷr a fu'n arloeswyr tir, ond hefyd rai a barhaodd am ganrifoedd i arwain y gwledydd yn y celfau cain, mewn athroniaeth a gwyddoniaeth, yn ogystal ag mewn cyfeiriadau pwysig eraill.

Groeg fu'r rhan o Ewrop a wareiddiwyd gyntaf, a dengys y map y rheswm am hynny. Hi yw'r wlad agosaf at hen gartrefi gwareiddiad yn y Dwyrain, ac ohonynt hwy y teithiodd gwareiddiad i wlad Groeg, gan aros ar ei ffordd yng Nghreta, lle datblygodd i dir uchel belled yn ôl â'r ugeinfed ganrif C.C., ac wedyn yn Tiryns a Mycenae (bymthegfed ganrif C.C.). Nid teyrnas fawr unedig oedd Groeg yng nghyfnod ei gogoniant mwyaf, eithr nifer o wladwriaethau dinesig bychain fel Athen, Sparta, Corinth, Argos ac eraill a phroblem fawr, o dro i dro, fu uno pobl mor hoff o annibyniaeth ac o ddatblygu pob un yn ei ffordd ei hun. Ond ym mlynyddoedd euraidd ei hanes, gwir arweinydd Groeg oedd Athen, prif dref rhandir Attica, a hynny'n bennaf am ddau reswm. Ym mrwydr fawr Groeg yn erbyn Persia syrthiodd y pen trymaf o'r baich a'r cyfrifoldeb ar Athen, a'i milwyr a'i morwyr hi, yn anad neb, ym Marathon (490 C.C.) ac yn Salamis (480 C.C.) a ddiogelodd ryddid Ewrop rhag gorthrwm Asia yn yr ymdrech fawr honno rhwng Gorllewin a Dwyrain. At hynny, y mae'n amheus a welwyd mewn unrhyw wlad fechan, neu mewn un oes, gynifer o wŷr enwog o ran athrylith a dawn ag a gyfoesai â'i gilydd yn Athen yn y bumed ganrif C.C. Dyma oes y gwladweinydd Pericles a'r cerflunydd Phidias, yr athronydd Socrates a'r bardd Sophocles, a llu o rai tebyg iddynt. Prin y bu erioed y cyfryw flodeuo ardderchog ar wareiddiad mewn tymor mor fyr, a'r adeg honno yr oedd poblogaeth Attica gyfan yn llai nag un Lerpwl heddiw.

Sut, ynteu, y dylid disgrifio'n rhwymedigaeth i'r bobl amryddawn hyn? Y mae cyfnod Groeg, medd un awdurdod, yn un pwysig yn hanes gwareiddiad oherwydd yr hyn y rhoddes ddiwedd arno, sef hen oes traddodiad, ac hefyd oherwydd yr hyn a gynhyrchodd ei hun ac a wnaeth yn bosibl yn y dyfodol. Ym marn un arall, y Groegwyr a gliriodd lwybr dynoliaeth i gyfeiriad rhyddid gwleidyddol, i ymchwil ddofn am wybodaeth ac i sylweddoli prydferthwch Natur. Ac fel hyn y cais yr Athro Gilbert Murray, un o'r awdurdodau gorau sydd gennym, ddisgrifio'n dyled i'r Groegwyr. Y mae rhai pethau, medd ef, sy'n werthfawr a phwysig ynddynt eu hunain, megis darlun neu gerdd anfarwol a phethau eraill oherwydd yr hyn a ennill y byd drwyddynt fel, dyweder, deddfau da neu ryw ddyfais fawr sy'n newid llawer ar fywyd allanol dyn; ac yn y ddau gyfeiriad yma bu cyfraniadau Groeg yn nodedig o liosog a hael. Hawdd fuasai chwanegu tystiolaethau cyffelyb, a'n perygl yw i'r bennod hon fynd yn ddim mwy na rhestr o enwau dynion mawr Groeg a chronicl sych o'u gwaith. Mwy buddiol fydd manylu ychydig am rannau'n unig o'r etifeddiaeth gyfoethog a drosglwyddodd Groeg i'r byd.

O'r braidd y gellir gwneuthur yn well na dechrau gyda'i llenyddiaeth, ac os am weld sut y datblygwyd ac y meithrinwyd llawer ar honno priodol yw cyfeirio at y Gwyliau neu'r Campau Groegaidd a fu'n nodwedd mor amlwg ym mywyd y bobl yma. Fel ein heisteddfod ni, yr oedd amryw o'r Campau hyn yn rhai cenedlaethol, a chyrchai pobl o bob rhan o'r wlad iddynt, yn enwedig i gampau Olympia a gynhelid bob pedair blynedd: yn wir, bwysiced ydoedd y rhain fel y dyddiai'r Groegwyr bopeth oddiwrthynt. Yr oedd gan bob dinas o bwys, hefyd, ei gwyliau a'i champau ei hun. Yn Athen, er esiampl, cawn y Panatheneia (Gwyl yr Holl Atheniaid), y Dionysia a'r Leneia. Parhaent am ddyddiau gyda'u cystadlu brwd, nid yn unig mewn llên a chân, ond hefyd mewn ymarferiadau corfforol. A pherthynai i rai ohonynt bwysigrwydd arbennig yn natblygiad llenyddiaeth Groeg. Yng ngwyl yr Holl Atheniaid, er enghraifft, adroddai beirdd y ddwy arwrgerdd fawr genedlaethol—yr Iliad a'r Odysseia o waith "Homer." Cyfrifid Homer yn "dad Barddoniaeth" ac, ym marn gwŷr cyfarwydd iawn, yr Iliad yw'r gân farddonol odidocaf yn y byd. Cân ydyw, o leiaf, o bymtheng mil o linellau yn yr iaith brydferthaf mewn bod ar fesur chwe trawiad (hexametre), a'i phwnc yw rhai o ddigwyddiadau'r rhyfel rhwng Groeg a Chaerdroia (deuddegfed ganrif C.C.). Credid unwaith mai gwaith un bardd mawr oedd yr arwrgerdd hynod hon, ond erbyn hyn gwelir ei bod yn gynnyrch mwy nag un llaw neu oes. Eithr ni leiha hynny'r syndod bod gwaith mor ardderchog â hwn yn gyflawn mor gynnar yn hanes y byd: tu ôl i'r Iliad rhaid bod cenedlaethau lawer o ddatblygu a pherffeithio ar iaith a ffurfiau barddonol. Am flynyddoedd meithion bu Homer yn Feibl y Groegwyr, yn sylfaen eu haddysg ac yn rhwymyn eu hundeb â'i gilydd.

Nid oedd gwyliau eraill Athen mor rwysgfawr a phwysig â'r Panatheneia, ond y maent yn dra diddorol gan mai ynddynt hwy y cychwynnodd y Ddrama. Yn y Leneia, Gwyl Diolchgarwch am y cynhaeaf gwin, canai côr yn awr ac eilwaith a rhwng y canu adroddai dyn arall yn ddiweddarach atebai'r côr

yr adroddwr, a dyna gychwyn rhywbeth tebyg i ddadl rhyngddynt: wedyn chwanegwyd siaradwr neu actiwr arall atynt, ac felly dechreuodd y Ddrama. Datblygodd un math ar ddadlau rhwng y côr a'r siaradwyr yn gomedi a'r llall yn tragedy. Ac os am sylweddoli'n dyled i'r Groegwyr yn hyn, nid rhaid inni ond cofio bod pedwar bardd mawr, Aeschylus, Sophocles, Euripides ac Aristophanes, yn byw yn yr un ganrif a bod eu gweithiau hyd heddiw ymhlith trysorau llenyddol penna'r byd. Mewn unrhyw restr o chwech o awduron dramadaidd enwoca'r byd, y mae'n ddiddadl y ceid o leiaf ddau o'r Groegwyr hyn a gystadlai'n rheolaidd yng ngwyliau Athen. Nid sylfaenwyr y ddrama'n unig mohonynt, er y buasai hynny'n glod pur fawr iddynt. Hyd y dydd hwn dyma rai o'i thywysogion pennaf, ac onid rhyfeddol yw hyn pan gofiwn nad oedd gan y mwyaf ohonynt, Sophocles (495-406 C.C.) ddim ond tri actiwr a chôr at ei wasanaeth?

Ni bu Groeg chwaith yn y cyfnod hwn heb ei henwogion mewn rhyddiaith. Ymhlith haneswyr perthyn iddi ddau ysgrifennydd dihafal, er yn wahanol hollol i'w gilydd. Herodotus, a gyfenwir weithiau'n "dad Hanes," yw'r cyntaf, ac ar ei ôl un mwy nag ef, sef Thucydides fab Olorus. Nid oes lyfrau hanes mwy diddorol yn y byd na rhai Herodotus, ac yn y rhyfel rhwng Groeg a Phersia yr oedd ganddo destun wrth ei fodd. Ef yw tad y tylwyth difyr hwnnw o haneswyr y perthyn Theophilus Evans a George Borrow iddo. Maes llawer llai, y rhyfel rhwng Athen a Sparta, yw un Thucydides, ond gwnaeth ei athrylith ef yn anfarwol. Hanesydd manwl, gwyddonol, yw ef gyda gallu i ddisgrifio dynion a digwyddiadau na welodd y byd ei debyg cyn hynny na'i well erioed wedyn. Ymhlith pethau eraill gellir dywedyd amdano na lwyddodd yr un hanesydd i'r un graddau â Thucydides i ddisgrifio digwyddiadau y cymerth ef ei hun ran fawr ynddynt, ac ar hyd y canrifoedd fe erys yn batrwm i'w gydgrefftwyr o'r hyn a ddylai hanesydd fod.

Ni chyfeiriwyd eisoes ond at ychydig o enwogion llên Groeg, er eu bod hwy'n ddiau ar flaen y rhestr, eithr prin y rhydd dim ond eu henwi syniad inni am gyfoeth ac amrywiaeth eu cyfraniad. Dyledus ydym iddynt am fwy hyd yn oed na'u gweithiau penigamp: hwy hefyd a osododd i lawr y llinellau a ddilynodd llên gwledydd Ewrop byth wedyn. Ychydig iawn 0 ffurfiau llenyddol a ddefnyddir heddiw na ellir dywedyd amdanynt mai'r Groegwyr a'u creodd. Gwir yw hyn, er esiampl, am yr arwr-gerdd a'r ddrama, y fugeilgerdd a'r delyneg, y traethawd a'r nofel, ac amryw ffurfiau eraill. Cyn i'r llen godi ar Homer, medd R. W. Livingstone, ni fodolai'r fath beth â llenyddiaeth yn Ewrop, ond ymhell cyn disgyn ohoni ar yr olaf o'r Groegwyr yng nghanrifoedd cynnar y cyfnod Cristnogol yr oedd eu delw a'u dylanwad yn annileadwy ar ffurfiau llên pob gwlad yn Ewrop.[1]

A phan drown at athroniaeth a gwyddoniaeth, yr un amrywiaeth a chyfoeth meddyliol a'n cyferfydd eto. Nid gormod yw dywedyd mai'r Groegwyr a sefydlodd y gwyddorau fel cyfundrefnau o wybodaeth. Adeiladasant, wrth gwrs, ar waith ragflaenwyr, ond hwy a ddug y cyfan i drefn a goleuni. Rhaid bodloni yma ar ychydig o enghreifftiau'n unig. Ynglŷn â Rhif a Mesur (mathematics), Groeg yw'r termau bron i gyd, a phwy sydd yna ohonom na wyddai rywdro ychydig am "oraclau Euclid"? Ymhlith seryddwyr cynnar gellir enwi Thales, a broffwydodd y byddai diffyg ar yr haul yn 585 C.C., ac Aristarchus a gafodd gipolwg megis ar y wybodaeth a ddatguddiwyd yn llawnach i Copernicus ganrifoedd ar ôl hynny. Ar ddechrau'r bumed ganrif C.C., gwnaeth Empedocles rai darganfyddiadau ynglŷn â chorff dyn, a chyn ei diwedd cododd Hippocrates Fawr, a sylfaenodd "ysgol" o feddygon, ac a gyfenwir yn "dad y meddygon." Dengys eu cerfluniau o'r corff dynol fod y Groegwyr wedi astudio hwnnw yn hynod o fanwl a llwyr. Mewn Peirianneg (mechanics), drachefn, yr enw mawr yw Archimedes, at diau ei fod ef yn un o wyddonwyr mwyaf y byd, i'w restru yn yr un dosbarth â Kepler a Newton a Darwin. Ef, meddir, a ddyfeisiodd y screw a'r lever, ac adroddir aml stori ddiddorol amdano. Mewn Bywydeg (biology) gellir cyfeirio at waith Aristotl ar hanes Anifeiliaid a gwaith ei ddisgybl, Theophrastus, ar hanes Llysiau.

Yr oedd meddwl y bobl yma yn un mor ymchwilgar fel y mynnent nid yn unig astudio pethau o'u cwmpas, a phethau y gallent eu defnyddio er mantais iddynt eu hunain, ond hefyd gofynnent gwestiynau mwy cyffredinol ynglŷn â natur a tharddiad y byd ac ystyr bywyd ei hun. Amrywiol ryfeddol fu eu hatebion i gwestiwn y Rhodd Mam parthed y defnydd y crewyd y byd ohono. O ddwfr, meddai Thales; ond o ddefnydd diderfyn, amhenodol, meddai Anaximander. O awyr, dywedai un arall; o dân meddai Heraclitus, ac o Rif yn ôl Pythagoras, sylfaenydd mathematics Ewrop. Dywedai Empedocles fod pedair elfen yn dragwyddol—daear, dwfr, awyr, a thân—a bod Natur yn gwneuthur arbrofion parhaus cyn cynhyrchu'r perffaith, rhyw fath ar ddewis naturiol (natural selection) a arweiniai yn y man i ffurf o fywyd oedd a gobaith parhad ynddo. Ym marn Anaxagoras, yr elfen a lywodraethai bob elfen arall oedd meddwl, a thrig honno ymhob peth byw, hyd yn oed mewn planhigion, fel egwyddor eu bywyd. A'r atom, meddai Democritus, yw sylfaen popeth: nid yw'r byd a'r cyfan sydd ynddo yn ddim amgen na chyfuniadau gwahanol o atomau â'i gilydd. Ganwyd Thales yn 640 C.C., a Democritus lai na dwy ganrif ar ei ôl (460 C.C.), a rhyngddynt daw'r enwau eraill yn ogystal a gwŷr na chyfeiriwyd atynt o gwbl. A dengys ffaith fel hon gymaint o feddwl ac athronyddu a ffynnai ymhlith y Groegwyr yn y cyfnod hwnnw.[2]

Gyda thri enw mawr arall deuwn at athroniaeth yn ein hystyr fanylach ni i'r gair, sef y wyddor sy'n trafod problemau bod a gwybod, ac yn fwyaf neilltuol yn eu perthynas â dyn. Y cyntaf yw Socrates (470-399 C.C.), un o gymeriadau mwyaf adnabyddus yr hen fyd, er nad ysgrifennodd ef ei hun ddim. Gwaith mawr bywyd y dyn rhyfedd yma fu holi pobl a thrafod pynciau gyda'r dynion ieuainc galluocaf yn Athen. Rhoddes gyfeiriad newydd i athroniaeth ei wlad, gan bwysleisio cwestiynau ynglŷn â bywyd a chymeriad dyn yn fwy na'r lleill. Ansicr, meddai'r holwr mawr yma, yw pob dyfalu ynglŷn â'r byd materol, ond y mae'r gwahaniaeth rhwng da a drwg yn sicr a chlir. Dug athroniaeth o'r nef i'r ddaear yn gymaint ag iddo droi meddyliau dynion tuag at broblemau eu bywyd personol a chymdeithasol. Mater o wybodaeth, medd ef, yw daioni, rhywbeth i'w ddysgu, ac nid yw drygioni ond ffurf ar anwybodaeth. Felly, nid oes dim sy'n bwysicach na doethineb, a'i rheol gyntaf hi yw "adnebydd dy hun." Gwas pybyr Gwybodaeth a Gwirionedd fu Socrates, a rebel yn erbyn awdurdod ac amddiffynnwr eofn pob rhyddid meddyliol a beirniadaeth ddiduedd. Yn naturiol, nid oedd dyn felly'n boblogaidd iawn, a chondemniwyd ef i farwolaeth am na chredai yn y duwiau, a'i fod yn llygru ieuenctid Athen. Ond er ei ferthyru, bu fyw yng ngwaith ei ddisgyblion a'u canlynwyr, a byth er hynny dylanwadodd dau Roegwr yn ddwfn iawn ar athroniaeth y byd, y naill ohonynt (Plato) yn ddisgybl i Socrates, a'r llall (Aristotl) yn ddisgybl Plato. Y mae llu mawr o ysgrifeniadau Plato, "duw y philosoffyddion," ar gael, a phriodol y gellir ei ystyried ef fel y cyntaf a'r mwyaf o'r athronwyr hynny a berthyn i ysgol yr idealists, sef ysgol Hegel a Syr Henry Jones. Dyn gwahanol iawn i'w athro oedd Aristotl, "meistr y doethion" ac athro Alecsander Fawr. Ysgrifennodd nid yn unig ar bynciau gwyddonol, ond hefyd ar farddoniaeth, rhesymeg, moeseg a gwleidyddiaeth, a bu ei ddylanwad ef ar feddyliau dynion yn neilltuol o gryf i lawr i'r Canol Oesoedd. Nid y rhan leiaf gwerthfawr o lawer iawn yn y rhodd fawr a gyflwynodd llên Groeg i'r byd yw gweithiau'r ddau feddyliwr hynod yma. Wrth feddwl amdanynt, gwelir gymaint y symudasai meddwl dyn ymlaen erbyn dyddiau Plato ac Aristotl, a lleied fu'r newid am ganrifoedd ar eu hôl. Os gellir barnu safon gwareiddiad oddiwrth y lefel y cododd ymchwil feddyliol iddo, yr oedd gwareiddiad Groeg yn y bumed ganrif cyn Crist yn un uchel dros ben.

Dyna ddywedasai dyn hefyd petai'r celfau cain dan sylw. Gwelwyd eisoes fod gwareiddiad hen wledydd yr Aifft a Babilonia wedi gwneuthur rhyw gymaint yn y cyfeiriadau hyn, ond yr ydym mewn byd hollol wahanol pan ddeuwn at y Groegwyr. Yn lle maint ac aruthredd fel nodweddion amlycaf eu celf, cawn yn awr symlrwydd a naturioldeb a thlysni digyffelyb. Oddiwrth olion prin adeiladau fel y Parthenon a theml Theseus yn Athen, neu weithiau cerflunwyr fel Praxiteles a Phidias, cydnebydd y cyfarwydd na ddatblygodd rhai celfau'n uwch erioed nag a wnaethant yng ngwlad Groeg, ac aiff dyn yn ôl atynt drachefn a thrachefn am ysbrydiaeth ac arweiniad. Dyna'r rhyfeddod eto gyda'r Groegwyr yma—nid yn unig eu cyfraniadau priod, ond hefyd eu dylanwad byth er hynny. Onibai am Roegwyr y canrifoedd hyn, buasai celf Ewrop heddiw, ym marn Dr. Percy Gardner, mor isel ei lefel â chelf sathredig yr India: ac onibai am eu dylanwad arhosol arni, byddai celf Ewrop mewn perygl parhaus o redeg i eithafion gwrthun. Pan ddeffrodd diddordeb pobl yn y celfau cain droeon lawer wedi dyddiau'r Groegwyr, drwy fynd yn ôl atynt hwy a'u delfrydau y diogelasant eu bywyd eu hunain.

Ond, er iddynt eu hynodi eu hunain gymaint ym myd y meddwl, nid pobl anymarferol mohonynt, eithr trodd y Groegwr ei lygad yn ddibaid at fywyd a'i wahanol anghenion. Gwir yw hyn am eu gwyddoniaeth: gwylient y ffurfafen, er esiampl, nid er mwyn estyn terfynau seryddiaeth ond hefyd i ddiogelu bywydau eu morwyr a'u masnachwyr yn eu llongau. Ceisient hefyd yn barhaus gymhwyso eu holl athronyddu am ddyn a bywyd at amcanion byw o ddydd i ddydd yn y byd. Diwedda Aristotl ei draethawd o ddeg llyfr ar Foeseg drwy honni mai'r peth nesaf yw mynd ymlaen i drafod gwleidyddiaeth, a gwaith mwyaf dylanwadol Plato fu ei Politcia neu'r Republic fel yr adwaenir ef orau'n awr. Mewn ystyr wirioneddol iawn nid oedd y fath beth â gwleidyddiaeth yn bod cyn y Groegwyr, oherwydd gwaith personol y teyrn a'i lys fu llywodraethu ei ymerodraeth, ac nid oedd gan y deiliaid ran na chyfran yn hynny. Ond, yng ngeiriau Pericles, "y mae'n trefn ni yn ffafriol i'r lliaws yn hytrach nag i'r ychydig, a dyna paham y gelwir hi yn werin lywodraeth." Cymerth yr Atheniaid ddiddordeb dwfn mewn materion gwleidyddol, ac yn ei dro gwasanaethai pob dinesydd fel cynghorwr neu seneddwr. A rhoes yr athronwyr hefyd sylw mawr i'r cwestiynau hyn. Hwy a osododd i lawr sylfeini yr hyn a alwem ni'n athroniaeth gwleidyddiaeth, ac ym marn Plato, y mwyaf ohonynt, y gwir athronydd yw'r unig frenin cymwys.

Wrth gwrs, dylid cofio mai gwleidyddiaeth dinas oedd un Athen yn y cyfnod hwn yn hytrach nag un ar gyfer gwlad neu genedl gyfan. Pwysicach, yn wir, oedd y ddinas na'r dyn unigol, a sylfaenesid cysur y dinasyddion a'u rhyddid i wleidydda o gwbl ar y ffaith bod miloedd o gaethion heb freintiau yn y byd ganddynt yn byw yn Athen ym mlynyddoedd disgleiriaf ei hanes.

"Ni chais ein llywodraeth ni," meddai Pericles eto,[3] gopio deddfau'n cymdogion: esiampl ŷm ni i eraill yn hytrach nag efelychwyr ohonynt," ac anodd peidio â theimlo bod y gair yn wir am y Groegwyr mewn llu o ffyrdd. Dyma'r bobl mwyaf byw a di-orffwys eu meddwl, mwyaf anturiaethus ymhob rhyw fodd a welodd y byd erioed. Ni ddatblygasant ar unrhyw gyfnod yn eu hanes yn genedl fawr unedig neu'n ymerodraeth gadarn, ac, o ran hynny, nid oedd rhaid wrth ddatblygiad felly er mwyn i'w dylanwad gyrraedd pobloedd tuallan iddynt. Cludwyd hwnnw'n fuan gan Alecsander Fawr (356-323 C.C.) a'i olynwyr i wledydd y Dwyrain; a dyna yw'r byd Helenistaidd—byd yn siarad iaith Groeg ac yn cadw'n fyw syniadau a gwareiddiad y Groegwyr. A chyn bo hir lledaenwyd y dylanwadau hyn yn y Gorllewin, ac ni ellir deall ein bywyd a'n gwareiddiad ninnau os anghofiwn ein dyled i'r bobl athrylithgar hyn.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ Yn ei draethawd ar Literature yn The Legacy of Greece, tt. 249-250.
  2. ↑ J. B. Mayor, A Sketch of Ancient Philosophy, tt. 1-27.
  3. ↑ Thucydides II, 37.