Neidio i'r cynnwys

Hanes Gwareiddiad/Gosod sylfeini

Oddi ar Wicidestun
Cyn gwawr hanes Hanes Gwareiddiad

gan Gwilym Arthur Edwards

Plant yr addewid

PENNOD III
GOSOD SYLFEINI

YNG ngwareiddiad cynnar y byd nid oes bennod bwysicach na'r un a gais ddisgrifio bywyd yr Aifft a Babilonia tua 4000-2000 C.C.: yn wir, hi yw'r bennod gyntaf yn hanes y byd os defnyddir y term yn yr ystyr fanwl a roddwyd iddo'n barod. Yn y gwledydd yna y ciliodd Oesoedd y Cerrig gyntaf o flaen Oesoedd y Pres a'r Haearn, ac ar lannau Neil a rhwng dwy afon, Tigris ac Ewffrates, y gosodwyd i lawr sylfeini'n gwareiddiad. Ar fyr, yno bu'r amodau am y tro cyntaf erioed yn ffafriol i ddatblygiad cyflym yn hanes dynoliaeth.

Beth oedd yr amodau hynny? Un oedd sefyllfa ddaearyddol y ddwy wlad. Nid yw'r Aifft yn ddim amgen na dyffryn ffrwythlon a ffurfia'r afon Neil ar ei thaith i'r Môr Canoldir, a rhodd dwy afon fawr yw Babilonia hefyd. Dyma, felly, i gychwyn, randiroedd lle gallasai miloedd o bobl fyw heb lawer o ofn a phryder am eu cynhaliaeth. At hynny dylid cofio bod trigolion y gwledydd hyn wedi datblygu gryn lawer ar ffurfiau cymdeithasol eu bywyd. Yr oedd bywyd syml llwythau crwydrol (nomad) ymhell tu ôl iddynt, a bywyd cyntefig yr heliwr unig ymhellach fyth, a chynefin oeddynt erbyn hyn â bywyd sefydlog y pentref a'r cwmwd. Yr oedd eu gwlad yn ddigon ffrwythlon a'u cartrefi'n ddigon diogel iddynt fedru aros yno i drin y tir, i ddatblygu eu celfi a'u masnach ac i estyn eu terfynau a'u dylanwad i wledydd o'u cwmpas.

Nid oes unfrydedd ynglŷn â'r cwestiwn ymha un o'r ddwy wlad y cychwynnodd gwareiddiad uchel, ac nid rhaid inni benderfynu rhwng pleidwyr yr Aifft a rhai Babilonia pwy bia'r clod yn hyn, oherwydd ni byddai'n anghywir dywedyd bod gwareiddiad wedi cychwyn tua'r un adeg yn y ddwy wlad (oddeutu'r XL ganrif C.C.), ac i'r naill ddylanwadu llawer ar y llall o dro i dro. Er pob gwahaniaeth rhyngddynt, gwelir llawer o debygrwydd yn ffurf a chwrs cynnydd yr Aifft a Babilonia. Meddylier, er esiampl, wired yw hyn ynglŷn â'u tyfiant cenedlaethol a datblygiad eu llywodraeth. Hawdd yw canfod pedwar cyfnod yn eu hanes. Ar y cychwyn bu cyfnod maith o dywysogaethau bychain ar ffurf gwladwriaethau dinesig (city-states). Rheolai pennaeth dref a darn o wlad o'i hamgylch; ef oedd gyfrifol am y ffosydd a'r camlesi a gludai ddwfr yr afon i ddyfrhau'r tir, ac iddo ef y talai'r tyddynwyr ran o'u cynnyrch fel treth flynyddol. Wedyn daw cyfnod uno ardaloedd a rhandiroedd gweddol eang yn deyrnasoedd cryfion, a chyn bo hir tynnwyd tywysogaethau'r Aifft i lawr i ddwy—un yn y Delta, sef y rhan daironglog a ffurfia'r afon wrth ymarllwys i'r Môr Canoldir, a'r llall yn y dyffryn hirgul i'r dehau. Yr un modd rhwng y Ddwy Afon wynebodd dau allu mawr ei gilydd am amser nes gorchfygu o un ohonynt (yr Acadiaid yn y Gogledd) y llall (Sumeriaid y de), a chychwyn y trydydd cyfnod. Gyda buddugoliaeth Sargon o Acad y bu hyn ym Mabilonia tua 2773 C.C., a Menes a bia'r clod am uno'r Aifft yn un ymerodraeth tua 3400 C.C. Yn y cyfnod hwn y gwelwyd hen ogoniant yr Aifft a Babilonia yn ei fan uchaf. Iddo ef, er enghraifft, y perthyn Oes y Pyramidiau yn yr Aifft (3000-2500 C.C.)—"the first great civilized age of human history, the age which carried men for the first time out of barbarism into civilization." Ymhen canrifoedd wedyn, cododd mwy nag un ymherodr mawr ar lannau Neil fel Thutmose III (tua 1500-1447 C.C.), y cadfridog mawr cyntaf mewn hanes, ac Amenhotep IV, y diwygiwr crefyddol eiddgar a ddilynwyd, tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg C.C., gan Tutenkhamon, y Pharo ieuanc y soniodd pobl gymaint amdano'n ddiweddar. Ymhen canrif wedyn llywodraethid yr Aifft gan Ramses II (bu farw tua 1225 C.C.), a chred llawer mai dyma'r Pharo a orthrymodd Israel yn nyddiau Moses, er y myn eraill y dylid dyddio hynny gryn lawer cynt.

Ym Mabilonia, drachefn, yr enw pwysicaf ar ôl Sargon yw Hammurapi (2067—2025 C.C.). Yn ei ddyddiau ef y daeth dinas Babilon yn ben y gwledydd, a pherthyn iddo bwysigrwydd neilltuol am reswm arall. Gosododd i fyny yn nheml Marduc, prif dduw Babilon, gasgliad o ddeddfau y wlad, a dyma'r casgliad hynaf yn y byd sydd erbyn hyn ar gof a chadw. Os yr un dyn, fel y tybia rhai, yw Hammurapi ag Amraffel llyfr Genesis (14[1]), yr oedd Abraham ac yntau'n gyfoeswyr.

Yna, wedi canrifoedd o lwyddiant ac estyn terfynau, daw'r pedwerydd cyfnod yn hanes y ddwy wlad—cyfnod dadfeilio. Gogoniant Babilonia a fachludodd gyntaf. Goresgynnwyd ymerodraeth Hammurapi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan yr Hittiaid a'r Cassiaid, ac ymhen amser wedyn, Asyria a lywodraethai ddyffryn-dir bras y Ddwy Afon. A chyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, gwanhaodd gafael yr Aifft ar ei thiriogaethau hithau yn Syria a Phalesteina, ac erbyn canol y ddeuddegfed ganrif C.C., syrthiasai hen wlad Pharo i ddwylo byddinoedd tramor.

Er byrred y braslun uchod o hanes y gwledydd hyn, y mae'n bryd inni droi oddiwrth eu hanes i ofyn pa gyfraniadau a wnaethpwyd ganddynt tuag at wareiddiad y byd. Ac ar unwaith gwelir iddynt gyfoethogi hwnnw'n ddirfawr mewn lliaws o ffyrdd. Er mwyn profi hyn nid rhaid inni ond meddwl am y cyfnewid aruthrol a ddaeth dros fywyd yr Eifftiaid yn y cyfnod cymharol fyr rhwng gwawr Oes y Meteloedd (4000 C.C.) a diwedd Oes y Pyramidiau (2500 C.C.), heb sôn am y datblygu a ddilynodd hynny. (Yn hanes y ddwy wlad fawr yma un peth a'n synna yw gyflymed a fu'r cynnydd yn y dechrau cyn iddo arafu wedyn yn ei gwrs a chaledu ac aros bron yn ei unfan am ganrifoedd.) Meddylier mor amhosibl fuasai codi adeiladau anferth Oes y Pyramidiau onibai fod miloedd lawer o bobl dan reolaeth fanwl a bod llywodraeth y wlad o ran ei threfniadau wedi ei datblygu i raddau pell iawn. Nid oedd miloedd lawer o'r trigolion yn ddim gwell na chaethion, er bod lliaws o'r gweddill yn byw bywyd tyddynwyr ac yn trin darn o dir, eithr heb fod yn berchenogion y darn hwnnw. Uwchlaw iddynt hwy yr oedd y meistri a'r arglwyddi a'r offeiriad, a'r Pharo yn ben ar y cwbl i gyd. I reoli gwledydd mawr unedig fel yr Aifft a Babilonia yn nyddiau'r ymerodron gyda'r miliynau pobl ynddynt rhaid, wrth gwrs, oedd wrth swyddogion dirif a chyfundrefn o ddeddfau manwl. A phan estynnai'r ymerodraeth, fel yn nyddiau Thutmose III o Ewffrates i'r Môr Coch, golygai hynny nid yn unig fyddinoedd anferth ond hefyd nifer o lywodraethwyr taleithiol yn gyfrifol i'r ymherodr ei hun. Ynglŷn â hyn gellir cyfeirio at dabledi o glai a ddarganfuwyd yn 1887 yn Tel-el-amarna ar Neil: llythyrau ydynt oddiwrth swyddogion y Pharo yn Syria a Phalesteina, a sonia rhai ohonynt am Habiri yn meddiannu Palesteina, a thybir yn gyffredin mai hynafiaid yr Israeliaid yw'r Habiri (Hebreaid) yma. Nid gormod, yn wir, fyddai honni bod rhyw fath ar wleidyddiaeth gyd-wladol (international relations) yn bod yn nyddiau euraidd yr Aifft a Babilonia. Gwnâi gwahanol wledydd gytundebau â'i gilydd, anfonent genhadon y naill at y llall, a bu mynych gyfathrach a brwydro rhyngddynt o dro i dro.

Nid uchelgais teyrn yn unig a barodd gynnydd yn y gwledydd hyn, eithr arweiniodd masnach i ddatblygu mawr ym mywyd a gwareiddiad y trigolion. Yr oedd daear Babilonia mor ffrwythlon fel y ceid tri chnwd yn flynyddol ohoni, a golygai hynny fod ganddynt fwy na digon yn weddill i'w werthu i bobl eraill, a gwyddai marchnadoedd yr hen fyd yn dda am yd a gwlan (cf. Josua 7:21—"mantell Babiloneg deg") a lledr Babilonia. Yn fuan iawn yn ei hanes adeiladodd yr Aifft, hefyd, longau digon mawr i gyrchu nwyddau o wledydd y Môr Canoldir a thu draw i'r Môr Coch: croeswyd y Môr Canoldir gan Eifftiaid gynhared o leiaf â'r xxx ganrif C.C., ac ymhen canrifoedd wedyn torrwyd camlas ganddynt i gysylltu hwnnw â'r Môr Coch rhagredegydd Suez Canal ein dyddiau ni. Ni ddefnyddid arian bath hyd yma. Cyfnewidid nwyddau i ddechrau, ond cyn bo hir gwasanaethai modrwyau neu farrau aur ac arian o wahanol bwysau yn lle nwyddau fel tâl am yr hyn a brynid. Y mae'n ddigon naturiol, hefyd, fod masnach a thrafnidiaeth rhwng

thrafnidiaeth rhwng gwledydd â'i gilydd wedi symbylu llawer ar eu gwybodaeth, doniau a gwaith eu crefftwyr, yn ogystal ag ar eu deddfau a'u llywodraeth.

Hyd yn hyn darganfuwyd mwy o olion bywyd yr hen fyd yn yr Aifft nag ym Mabilonia. Ceir defnyddiau lawer ar feini a muriau temlau a phlasdai yn y ffurf o ar-ysgrifau (inscriptions) yn y naill wlad a'r llall, ac o'r Aifft cafwyd lliaws mawr o lawysgrifau ar frwynbapur (papyrus) yr afon Neil. Daw llawer o'n gwybodaeth, hefyd, o'r darluniau a gerfiwyd gan seiri a cherflunwyr neu a baentiwyd gan arlunwyr ar furiau tai ac ystafelloedd eang beddau'r brenhinoedd ar lannau Neil. Dengys y rhain fod llawer crefft eisoes wedi codi i dir pur uchel yn yr Aifft a rhwng y Ddwy Afon. O'r tir y deuai cyfoeth yr Aifft a Babilonia yn bennaf, a chyfarwydd iawn oedd y bobl ag amaethyddiaeth mewn mwy nag un ffurf. Yr oedd gofalu am anifeiliaid yn naturiol yn eu gwaed, canys llwythau crwydrol yn symud gyda'u hanifeiliaid o borfa i borfa oedd eu hynafiaid bron i gyd. Nid yr un grefft a ddatblygwyd yn y ddwy wlad fel ei gilydd. Nid oedd clai Babilonia gystal â chlai'r Aifft, ac oherwydd prinder coed yr oedd yr Aifft yn ddibynnol iawn ar ei chlai. Hyn barodd i grefft y crochennydd fod yn un gyffredin iawn yn yr Aifft, ac ym marn J. L. Myers bu hynny'n fantais neilltuol i'w gwareiddiad.[2] Byr oedd oes llestri pridd yr adeg honno fel heddiw, a rhaid oedd gwneuthur rhai newydd o hyd, ac arweiniodd hynny i wella a datblygu parhaus. Diau nad prydferthwch eu cynhyrchion yw'r nodwedd amlycaf yng ngwaith arlunwyr ac yn enwedig cerflunwyr y cyfnodau hyn, eithr yn hytrach eu mawredd a'u haruthredd. Pyramid mawr Gizeh yw'r adeilad carreg mwyaf yn yr hen fyd yn ei ymyl y mae'r Sphinx, y cerflun mwyaf ar lun dyn a welodd y byd erioed. Y mae'r adeiladau hyn, ynghyd â'r delwau anferth o gwmpas Thebes a Karnak, ac olion temlau mawr Babilonia yn eu ffordd eu hunain yn arwyddocaol iawn o'r gwareiddiad a roddes fod iddynt. Yr oedd rhywbeth anferth, stolid, a thrwm ynddo, yn enwedig ym myd y celfau cain.

Mewn cyfeiriadau eraill y mae'n dyled fwyaf i'r Eifftiaid a'r Babiloniaid, ac efallai mai eu cymwynas bennaf oedd dyfeisio ffyrdd i ysgrifennu. Mor bell yn ôl a'r xxxv ganrif C.C., ysgrifennai'r Eifftiaid ryw ychydig ar feini, ond bu'r datblygu mawr ar ôl darganfod hwylused oedd brwyn-bapur eu hafon at y pwrpas. Nid oedd y geiriau fel yr ysgrifennwyd hwynt i ddechrau yn ddim amgen na darluniau o'r pethau a gynrychiolent, a'r pryd hwnnw, gair, yn hytrach na sillaf neu lythyren, oedd yr unit. Wedyn cynrychiolai darlun un sillaf, ac felly arwydd ydoedd o sain neilltuol yn hytrach nag o wrthrych. Yr oedd iaith erbyn hyn yn seiniol (phonetic), ac nid darluniadol (pictorial). Yn ddiweddarach cynrychiolai arwydd ysgrifenedig lythyren yn unig, a chasgliad felly o bedair llythyren ar hugain oedd yr abiec cyntaf yn y byd. Darluniadol, eto, oedd iaith ysgrifenedig Babilonia ar y cychwyn, a phob darlun yn cynrychioli gair ac wedyn sillaf yn unig ni symudodd Babilonia, fel yr Aifft, mor bell â dyfeisio abiec o lythrennau, eithr parhaodd y sillaf i fod yn unit yr iaith ysgrifenedig yn y cyfnodau hyn. Yr oedd, hefyd, yn yr Aifft gymaint â thri dull o ysgrifennu llythrennau breision (hieroglyphic) i arysgrifau'n unig, yr hieratic, sef talfyriad o'r cyntaf a chyfaddas i'r brwyn-bapurau, a'r demotic, neu dalfyriad eto o'r ail. Ac yr oedd gan Babilonia ei dull ei hunan a elwid yn cuneiform, oherwydd bod rhywbeth yn ffurf yr arwyddion a ysgrifennid ar y clai yn gwneuthur i ddyn feddwl am gŷn (gair Lladin yw cuneus, yn golygu cŷn).

Pobl y ddwy wlad yma, hefyd, a fu'r rhai cyntaf i rannu'r flwyddyn yn gyfnodau misol. Dilynodd y naill a'r llall y lleuad i ddechrau, ond gan nad oedd pob un o fisoedd y lleuad yr un hyd, penderfynodd yr Eifftiaid rannu'r flwyddyn i ddwsin o gyfnodau o ddeng niwrnod ar hugain yr un, ac ystyried y pum niwrnod oedd dros ben yn wyliau. Y mae'n debyg mai'r Babiloniaid a fu'n gyfrifol am wythnos o saith niwrnod, a duwiau arbennig a lywodraethai pob un ei ddiwrnod ei hun. Buont am ganrifoedd heb rifo'r blynyddoedd, ac adweinid hwynt drwy gyfeirio at rywbeth hynod a ddigwyddasai ynddynt, yn union fel y cyfeiria pobl Llanuwchllyn at "flwyddyn y lli mawr," neu y clywir ambell ddyn weithiau'n dyddio popeth o'r "flwyddyn pan oeddwn i yn faer." Wedi sefydlu'r breniniaethau, dechreuwyd rhifo'r blynyddoedd yn ôl teyrnasiad un teyrn ar ôl y llall. Y mae'n amlwg, oddiwrth hyn i gyd, fod rhywbeth y gellir o leiaf ei alw'n ddechreuad gwyddoniaeth yn bod yn gynnar iawn yn y gwledydd hyn. Gwyliai'r offeiriaid y sêr, gwyddent ryw gymaint am ddeddfau rhif a mesur, a gwelwn oddiwrth arysgrifau Babilonia a'r Aifft fod meddwl dyn yr adeg honno'n troi o gylch problemau y talodd dynoliaeth sylw mawr iddynt ar hyd y canrifoedd wedi hynny.

Prin y mae angen dywedyd mai aml-dduwiaeth oedd crefydd pobl yr Aifft a'r Ddwy Afon, ond nid oedd y duwiau pob un gyfuwch â'i gilydd. Ar lannau Neil Re (Haul) ac Osiris (Bywyd) oedd y prif dduwiau, a Marduc oedd y pennaf ymhlith rhai Babilon. Yn nyddiau Amenhotep IV, gwnaethpwyd ymdrech fawr i ddisodli'r hen grefydd ac addoli'n unig un Duw, a dyma'r enghraifft hanesyddol gyntaf sydd gennym o ddigwyddiad o'r natur yma (tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg C.C.). Aflwyddiannus fu'r cais oherwydd ail-feddiannodd offeiriaid yr hen grefydd eu gallu, a bu'n rhaid i Tutenkhaton newid ei enw a'i brifddinas, a dychwelyd drachefn i gartref yr hen grefydd yn Thebes. O amgylch teml rhyw dduw y troai bywyd pob dinas, ac ym Mabilonia bu'r temlau'n ganolfannau pwysig nid yn unig i grefydd, ond hefyd i fasnach a llywodraeth y wlad. Yr oedd dylanwad yr offeiriaid yn y ddwy wlad yn anferth: eu heiddo hwy oedd rhan fawr o'r tir, fel y bu darnau helaeth o wledydd Ewrop ar ôl hynny'n eiddo'r myneich. Ystyrrid bod yr ymherodr yn gynrychiolydd y duw, onid yn wir yn ymgnawdoliad ohono: ac ymhlith ei swyddogion pennaf safai'r offeiriaid yn uchel iawn. Credai'r bobl eu bod o dan lywodraeth uniongyrchol eu duwiau, a phriodol yw disgrifio'r oesoedd hyn, fel y gwna Marvin, yn oesoedd theocrataidd.

O'r Dwyrain, medd rhyw air, y cyfyd goleuni: a gwelwn wired y gair hwnnw pan feddyliwn am gyfraniadau hen wareiddiad yr Aifft a Babilonia at fywyd y byd. Eithr yr oedd mwy eto i ddod o'r Dwyrain, a'r tro yma nid o ymerodraethau mawr y deuai, ond o un o'r gwledydd bychain. Am hynny y mae'n rhaid sôn yn y bennod nesaf.

Nodiadau

[golygu]
  1. J. H. Breasted, The Conquest of Civilization, tt. 81-2: dilynir dyddiadau Breasted drwy'r bennod hon.
  2. The Dawn of History, t. 54.