Hanes Gwareiddiad/Gwyddoniaeth a beirniadaeth
| ← Dadeni a diwygio | Hanes Gwareiddiad gan Gwilym Arthur Edwards |
Chwyldroad a chyfnewid → |
PENNOD X
GWYDDONIAETH A BEIRNIADAETH
UN o effeithiau'r Dadeni, fel y gwelwyd eisoes, oedd gyrru dynion yn ôl at Natur a hynny mewn ysbryd ymchwilgar, yn barod i holi Natur ei hunan a disgwyl am ei hatebion hi yn hytrach nag atebion llyfr neu fyfyrdod dyn ymhell oddiwrthi.
Ac o hyn y tarddodd Gwyddoniaeth Ddiweddar, y mudiad mawr hwnnw a'n harwain megis i ganol y cyfnod presennol ac a wna i'r Canol Oesoedd ymddangos mor bell yn ôl yn y gorffennol. Yn ei lyfr gwych, Science and the Modern World, cymhara'r Athro A. N. Whitehead y mudiad hwn â'r un a ddisgrifiwyd yn niwedd y bennod flaenorol. Diwygio rhywbeth a fodolai eisoes, yn hytrach na datguddio dim byd gwirioneddol newydd, a wnaeth y Diwygiad Protestannaidd deffroad poblogaidd ydoedd a greodd gynnwrf ymhlith gwerinoedd, a deffroad, hefyd, a gyfyngwyd i Ewrop. Ond am y llall, er perthyn ohono i'r byd i gyd, ac er iddo weddnewid bywyd dyn drwyddo draw, ychydig a wyddai pobl amdano ar wahan i nifer fechan o ddysgedigion yma ac acw drwy'r gwledydd: since a babe was born in a manger it may be doubted whether so great a thing has happened with so little stir" (t. 2). Enw'r un awdur ar yr eilfed ganrif ar bymtheg, pan 'roedd y mudiad yn ei lawn rym, yw "canrif athrylith." Ac amhosibl fyddai deall gwareiddiad presennol Ewrop heb roi lle pwysig i ddylanwad a effeithiodd gymaint arno â'r mudiad hwn.
"Yr oedd dewrion cyn Agamemnon," meddai hen air Groegaidd, a gwir hefyd fod gwyddonwyr cyn yr eilfed ganrif ar bymtheg. Soniasom eisoes (pennod v) am ddiddordeb y Groegwyr gynt mewn materion o'r natur yma, eithr diddordeb o safbwynt cyffredinol athroniaeth ydoedd, gan mwyaf, ac nid un yn seiliedig ar sylwadaeth fanwl ym myd natur ei hun: parotach oedd y Groegwyr i ofyn paham y digwydd y naill beth neu'r llall na sut y digwyddant. Yn y Canol Oesoedd, eto, troai ambell un at Natur i chwilio ei chyfrinion, ond fel rheol mewn cyfeiriadau gwahanol y symudai meddwl dyn yr adeg honno. Caethiwai awdurdod yr Eglwys gryn lawer ar ei ryddid meddyliol, ac yng nghyfnod maith anwybodaeth a difrawder yr oesoedd hynny yr oedd pawb bron yn ddigon bodlon i orffwys ar syniadau traddodiadol heb graffu ar ffyrdd Natur ei hun a gwneuthur arbrofion (experiments). Yr hyn a gyfrannodd y Canol Oesoedd, fel y dywed Dr. Whitehead, yw'r syniad sydd wrth wraidd pob ymchwil wyddonol, sef y gellir dibynnu ar Natur, fod trefn a rheswm tu ôl i'r cyfan am fod Duw tu ôl iddo: "the faith in the possibility of science, generated antecedently to the development of modern scientific theory, is an unconscious derivative from medieval theology.[1] Ac at hyn, hefyd, dylid cofio dau beth arall. Un yw'n dyled i'r myneich fel amaethwyr a chrefftwyr a chwanegodd lawer at feistrolaeth dyn ar y byd yr oedd ynddo ac ymhell cyn gwawrio'r eilfed ganrif ar bymtheg bu rhai enwog fel Roger Bacon (1214-92), Leonardo da Vinci (1452-1519) a Chopernicus ei hun (1473-1543) wrthi'n arloesi'r tir.
Byd newydd iawn oedd yr un y cafodd Ewrop ei hun ynddo wedi'r herio fu ar awdurdod yr Eglwys yn y Diwygiad ac ar syniadau traddodiadol yn y Dadeni, a chynrychiolydd da o'r cyfnod newydd yw Francis Bacon (1561-1626). "Yr unig ffordd i lywodraethu Natur yw ufuddhau iddi," meddai ef, ac felly rhaid dod ati gyda meddyliau diragfarn yn hytrach na rhai'n gaeth i ddamcaniaethau traddodiadol. Hyd yma y Beibl ac Aristotl oedd y prif awdurdodau, a rhyfedd mor dynn fu gafael y Groegwr ar feddyliau dynion. Profasai Aristotl fod cyflymdra pethau'n disgyn i'r llawr yn dibynnu ar eu pwysau—syrthiai pelen gan pwys ganwaith cyflymach na phelen un pwys: chredodd pawb hynny, hyd oni ddangosodd Galileo drwy arbrofion o ben tŵr Pisa y cyrhaeddent y llawr ar unwaith a bod yr hen syniad yn hollol anghywir. Yn ôl, ynteu, at Natur y dylid mynd, a thrwy arbrofi a chymharu ddod o hyd i'r gwir. Ac o hyn ymlaen daw'r darganfyddiadau'n llu ar sodlau ei gilydd. Yn yr Eidal unwaith eto yr enillwyd y buddugoliaethau cyntaf, ond cyn bo hir ceid gweithwyr wrthi'n brysur ymhob gwlad, a ffurfient frawdoliaeth fawr mewn ymgynghoriad a gohebiaeth barhaus â'i gilydd, ac weithiau'n ffraeo ac yn lladd tipyn ar ei gilydd. Sefydlwyd y Royal Society, cymdeithas wyddonol enwoca'r Gorllewin, yn Lloegr yn 1660.
Diddorol dros ben fuasai dilyn datblygiad Gwyddoniaeth o bennod i bennod, petai'n gofod a'n gallu'n caniatau, ond ni wnant. Y cwbl ellir ei wneuthur yw nodi rhai o'r camau pwysicaf, ac enwi rhai o sylfaenwyr y gwahanol wyddorau. A siarad yn hollol gyffredinol, byddai'n lled gywir dywedyd i Wyddoniaeth gychwyn drwy sylwi ar y pethau mwyaf, yna trodd at bethau llai, a chyn diwedd ei thaith aeth y pethau lleiaf â'i sylw, pethau rhy fach i'r llygad noeth eu gweld neu i'n cloriannau arferol eu pwyso. Y mae digon o eithriadau i'r gosodiad hwn yn ddiau: y mae'r mawr a'r bach yn bynciau efrydiaeth yn aml gyda'i gilydd yn yr un wyddor neu gan yr un gwyddonydd. Ond gwna'n tro fel disgrifiad cyffredinol. Seryddiaeth oedd maes un o'r rhagflaenwyr a ennwyd eisoes, Copernicus, ac fe gofir mor hen yw'r wyddor honno fel maes ymchwil dyn, gan mai tua'r haul a'r sêr y trodd offeiriad hen fyd yr Aifft a Babilonia eu llygaid gynt. Copernicus a dynnodd y ddaear oddiar ei gorsedd, pan brofodd mai hi a droai o amgylch yr haul ac nid fel arall yn ôl y dyb gyffredin, ac ar ei ôl darganfu Kepler (1571-1630) y deddfau a reolai symudiad y planedau yn eu cylchoedd. Yna perffeithiodd Galileo (1564-1642) y telescope cyntaf, a thrwyddo gwelodd y brychau ar yr haul a lleuadau Jupiter, a chyhoeddodd fod yr haul yntau'n troi ar ei echell. Yr un pryd dywedodd Bruno (1548-1600) mai seren oedd yr haul a bod pob seren yn haul gyda phlanedau efallai'n troi o amgylch bob un. Ychydig iawn o sail erbyn hyn oedd i'r hen syniad am y ddaear fel canolbwynt y greadigaeth—nid oedd ddim amgen nag un blaned yn troi o gwmpas yr haul a'n cyfundrefn heulog ni yn ddim ond un ymhlith lliaws mawr o gyfundrefnau eraill.
Cafodd pob un o'r seryddwyr hyn help neilltuol oddiwrth hen wyddor arall, Rhifyddiaeth, ac yn fuan iawn deuwn at enwau mawr yn y maes hwnnw fel Descartes (1596-1650) a John Newton (1642-1727). Newton yw'r gwyddonydd pennaf a gynhyrchodd Lloegr, efallai'r mwyaf a welodd Ewrop erioed. Adeiladodd, fel pob meddyliwr mawr arall, ar waith ei ragflaenwyr. Credodd Copernicus fod y planedau'n troi o amgylch yr haul mewn cylchoedd hollol grwn, ond dangosodd Kepler nad gwir hynny. Disgrifiodd sut y troent (ellipse yn hytrach na circle berffaith), eithr ni fedrai esbonio paham y gwnaent felly. Ond gwelodd Newton fod eu symudiadau'n ganlyniad disgyrchiant (gravitation), a bod deddf disgyrchiant yn wir am nef a daear fel ei gilydd yr un rheswm esbonia paham y syrth afal i'r llawr a phaham y symud y planedau yn eu cylchoedd neu paham y digwydd trai a llanw ar y môr. Nid dyma unig ddarganfyddiad y gŵr mawr hwn, fel y dengys ei ddeddfau symudiad (laws of motion), a rhyfedd gymaint y dylanwadodd ei waith ar ddatblygiad gwyddorau eraill fel anianeg (physics), peirianneg (mechanics), a phob rhyw wyddor y mae rhifyddiaeth (mathematics) yn anhepgor i'w chynnydd.
Ar ol gwaith mawr Newton a'i gyfoeswyr symuda Gwyddoniaeth ymlaen yn gyflym, ac ymhob cangen ceir enwau gwŷr a newidiodd yn llwyr syniadau dyn am y byd. Ar sylfeini'r gwyddorau a nodwyd eisoes a chyda gwelliannau parhaus yn y celfi a ddefnyddid daw un wyddor newydd ar ôl y llall i'r golwg. Yn y ddeunawfed ganrif ymddengys fferylliaeth ddiweddar (chemistry) gyda gwaith y Ffrancwr Lavoisier a'r Prydeiniwr John Dalton yn sylfaeni iddi. Ac fel y datblygai fferylliaeth drachefn, tyfai gwyddorau eraill ohoni megis canghennau o'r un pren. Un yw daeareg (geology), oherwydd ni ellir mynd ymhell yn y wyddor honno heb wybodaeth helaeth am gyfansoddiad elfennau'r ddaear. Yn ddiweddarach daw trydaniaeth (electricity) a'i datblygiadau priod hithau. Ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg try Gwyddoniaeth i gyfeiriad y gwyddorau a ymdrin â bywyd yn ei wahanol ffurfiau (planhigion, anifeiliaid, dyn), a'r enw mwyaf adnabyddus yn ddiau yw Darwin gyda'i syniad pwysig am ddatblygu drwy ddewisiad naturiol fel deddf fawr bywyd a'i gynnydd ymhob cylch. Os parodd syniad Newton chwyldroad yn y gwyddorau sy'n ymdrin â mater, y mae'r un peth yn wir am syniad Darwin yn y gwyddorau sy'n trafod bywyd yn ei wahanol ffurfiau: a dyma'r syniad erbyn hyn a'n llywodraetha pryd bynnag y mae dyn a'i fywyd yn bwnc efrydiaeth. Y mae Darwin, hefyd, yn enghraifft nodedig o werth a gwirionedd egwyddor Bacon parthed ufuddhau Natur os am ei llywodraethu. Ni bu un erioed a sylwodd yn graffach neu'n fwy amyneddgar ar ffyrdd rhai o greaduriaid mannaf y ddaear nag ef, ac y mae'r un peth yn wir am rai ar ei ôl, fel Pasteur ac eraill, a fu'n astudio bywyd yn y ffurfiau isaf a distadlaf arno.
Afraid yw pwysleisio ffaith mor amlwg â dylanwad y mudiad gwyddonol hwn ar wareiddiad y Gorllewin, canys eglur yw hynny mewn llu o ffyrdd. Fe'i gwelir gliriaf yn ddiau mewn dau gyfeiriad. Yn un peth, crewyd awyrgylch feddyliol, hollol newydd yn Ewrop. Cyn hyn ystyrrid popeth yng ngoleu rhyw esboniad neu ddehongliad awdurdodedig arno, ond yn awr aethpwyd yn ôl i lygad y ffynnon—tu ôl i draddodiadau'r Tadau Eglwysig ac esboniadau'r Ysgolwyr, a thu ôl i ddamcaniaethau Aristotl ac athrawiaethau'r Eglwys at Natur ei hun. Rhoddwyd heibio ddulliau annaturiol o esbonio pethau a daeth syniadau newydd am y byd a'i fywyd i lywodraethu meddwl dyn. Defnyddiodd yntau ei ryddid newydd yn hyderus gan chwilio ymhob cyfeiriad am lwybrau newydd a meysydd newydd i'w feddwl a'i ddychymyg droi iddynt. Ni ddaeth, wrth gwrs, i'w gyflawn ryddid ar unwaith, a mynych y codai rhwystrau o wahanol gyfeiriadau ar ei ffordd. Trwy rhyw ddallineb rhyfedd gwrthwynebodd yr Eglwys y mudiad hwn hyd yn ddiweddar, a thu allan iddi nid edrychid bob amser yn rhy ffafriol arno. "Nid oes ar y Chwyldroad eisiau gwyddonwyr," meddai'r Ffrancod, pan dorrwyd pen Lavoisier ganddynt.
Araf, hefyd, yr enillodd Gwyddoniaeth ei lle yn yr hen brifysgolion. Ond cynhyddai ei buddugoliaethau o oes i oes, ac erbyn hyn yr unig awyrgylch feddyliol sy'n bosibl inni yn Ewrop yw'r un sy'n gynnyrch uniongyrchol gwaith a safbwynt y gwyddonwyr.
Bu effaith y mudiad hwn, hefyd, yn aruthrol ar fywyd beunyddiol dyn, oherwydd yn sgil pob darganfyddiad deuai rhyw ddyfais ymarferol a newidiodd lawer ar fywyd allanol dyn. I gymryd esiamplau'n unig o ddechrau ac o ddiwedd y cyfnod, gellir nodi effeithiau darganfyddiadau'r seryddwyr ar forwriaeth a darganfyddiadau Pasteur a Lister ar ddulliau'r meddygon o iachau clwyfau'r corff. Bu'r seryddwyr gyda'u mapiau cywir o'r ffurfafen a'r moroedd yn gymwynaswyr i holl longau'r byd, ac achubodd dulliau newydd y meddygon a seiliwyd ar waith Pasteur a Lister fwy o fywydau mewn un genhedlaeth nag a ddinistriwyd mewn canrif gyfan o ryfela rhwng gwledydd Ewrop a'i gilydd. Ond yr enghraifft gliriaf o'r peth ar raddfa fawr yw'r Chwyldroad Diwydiannol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heb wyddoniaeth a'i darganfyddiadau buasai hwnnw gyda'i weithfeydd glo, ei ffactrioedd, a'i ffyrdd haearn yn gwbl amhosibl. Cyn troi i sôn am y chwyldroad hwnnw dylid cyfeirio'n fyr at agweddau eraill o ymdrech feddyliol dyn i'w ryddhau ei hun o gaethiwed y gorffennol, ac nid amhriodol yw eu crynhoi dan yr enw "beirniadaeth." Trodd y Dadeni, fel y gwelwyd, oddiwrth awdurdod y gorffennol; ac, er pob anghysondeb ar ran y Diwygwyr eu hunain i'r egwyddor, seiliwyd y Diwygiad Protestannaidd ar hawl dyn i feddwl drosto'i hun; a beirniadodd Gwyddoniaeth lawer iawn ar syniadau traddodiadol a phoblogaidd y dydd. Yn yr eilfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif cawn nifer o ysgrifenwyr a ddatguddia'r un nodweddion ynglŷn â phynciau crefyddol, athronyddol a chymdeithasol. Er pob gwahaniaeth rhyngddynt â'i gilydd, cytunent ar ddeubeth—eu amharodrwydd i dderbyn syniadau'r gorffennol a'u parodrwydd i ddilyn Rheswm i ba le bynnag, yn eu tyb hwy, yr arweiniai hwynt.
Ymhlith yr athronwyr dyma gyfnod Rhesymoliaeth (rationalism) a ffurfio systemau ar sail cred ddisygog yng ngallu Rheswm i ddarganfod a datguddio holl gyfrinion y cread. Mewn diwinyddiaeth rhoes fod i Ddeistiaeth (deism) a'r syniadau am grefydd naturiol mewn gwrthgyferbyniad i un yn seiliedig ar ddatguddiad goruwchnaturiol. Y mae Voltaire yn enghraifft dda o'r safbwynt hwn: ni wadai fodolaeth Duw, ond gwrthwynebai Gristnogaeth a daliai fod Duw wedi ei ddatguddio'i hun yn y byd naturiol ac yng nghalon dyn yn hytrach nag yn y Beibl a'r Eglwys. Gwadai Spinoza (1632-77), hefyd, fodolaeth Duw personol y Cristion a rhyddid ewyllys dyn. Yn ddiweddarach a chan fynd i'r eithaf pellaf, trodd Rheswm ei harfau megis yn ei herbyn ei hun nes bod Amheuaeth (scepticism) ar yr orsedd yng nghyfundrefn David Hume (1711-76). Nid yw mater yn bod mewn gwirionedd, yn ôl Hume, na phersonoliaeth dyn chwaith, ac ni fodola cysylltiad angenrheidiol rhwng unrhyw ddigwyddiad ac un arall, ac felly nid cyfreithlon y sôn am achos ac effaith o gwbl. Prin y bodlonai ysgrifenwyr a ddyrchafai Reswm ar safbwynt mor nacaol â hwn, oherwydd, os gwir yw syniad Hume, ni ellir dibynnu ar Reswm ei hun, a dyna ddiwedd hefyd ar wyddoniaeth a phob rhyw ymchwil o eiddo'r meddwl dynol. Ni allai na ddeuai adwaith hyd yn oed er mwyn diogelu Rheswm ei hun: a dyna ddigwyddodd cyn bo hir ac Immanuel Kant (1724-1804)[2] yw ei ladmerydd pennaf.
Yn Lloegr cyfyngwyd y syniadau hyn, neu o leiaf y ddadl ynglŷn â hwynt i nifer fach o ysgrifenwyr, eithr nid felly y bu yn Ffrainc. Yno cymerth Voltaire a'i gyfoeswyr y maes yn eofn yn erbyn eu gwrthwynebwyr, a rhaid yw cydnabod bod dallineb a gorthrwm yr hen drefn yn waeth yn Ffrainc nag yn y wlad hon. Am hynny gwrthwynebodd Voltaire yr Eglwys Gristnogol fel gelyn pennaf rhyddid dyn: hyhi, yn hytrach na gallu anghyfrifol y brenin, oedd y prif rwystr ar ffordd cynnydd a gwareiddiad dyn. Credai ef, fel y dywedwyd, ym modolaeth Duw, ond ni ddilynai llawer o'i gyd-weithwyr ef yn hynny. Credent hwy fod yn rhaid gwneuthur i ffwrdd â Duw yn llwyr a rhoi Natur yn ei le. Nid oes gyfathrach, meddent, rhwng crefydd â'r gwirionedd, a'r unig wirionedd a all ryddhau dyn yw hwnnw a ddatguddia Natur a Gwyddoniaeth inni. Dyn gwahanol iawn oedd Rousseau (1712-1778), ac ar deimladau calon dyn yn hytrach nag ar feddwl a rheswm y rhoddodd ef y pwyslais. Er na ddeil ei syniadau cymdeithasol a gwleidyddol ddwfr am foment, eto i gyd buont yn help, fel y dywed yr Athro Bury, i ryddhau gorthrwm dyn, a chyhoeddodd fod y wladwriaeth yn bod er lles pob aelod ohoni.1 Ganwyd dyn yn rhydd, meddai, ond ymhob man erbyn hyn y mae mewn cadwyni. Caethiwed yw ei wareiddiad presennol na rydd iddo gyfle i ddatblygu ei bersonoliaeth yn llawn, eithr ni all wneuthur hynny ar ei ben ei hun ond mewn cymdeithas a sicrha iddo ei ryddid gwleidyddol a chymdeithasol.
Dichon mai'r ffurf fwyaf adnabyddus i'r rhan fwyaf ohonom ar y llanw beirniadol a lifai'n awr dros Ewrop oedd yr un a drodd i gyfeiriad y Beibl ac a elwir fel rheol yn Uwch-feirniadaeth. Ac, er mwyn deall natur hwnnw eto, gorau po fwyaf a wyddom am ei darddiad. Symbylodd y Dadeni ddynion i astudio'r Beibl yn yr ieithoedd gwreiddiol, a rhoes hynny gyfieithiadau cywirach ohono i gychwyn, ac yna lledaenodd dyfais newydd yr argraffydd filoedd o gopïau ohono drwy'r gwledydd nes ei wneuthur yn fwy hysbys nag erioed o'r blaen. Anffaeledigrwydd y Beibl a ddewisodd y Diwygwyr yn safon eu hawdurdod wedi gwrthod ohonynt anffaeledigrwydd y Pab. Ond erbyn diwedd уг eilfed ganrif ar bymtheg amheuid llawer ar honiadau'r naill Eglwys a'r llall parthed natur ac awdurdod y Beibl, a chyn canol y ganrif nesaf hawliai llawer y dylid ei ddehongli'n naturiol fel unrhyw lyfr arall, ac astudiodd nifer o ddysgedigion bynciau neilltuol ynglŷn â'i gynnwys a natur ei ddatguddiad o'r safbwynt hwnnw. Yn Ffrainc cyhoeddodd Astruc (1684-1766) ei syniad am Genesis fel llyfr cyfansodd, datganodd Lessing (1729-81) na phrofai proffwydoliaethau'r Hen Destament na gwyrthiau'r Newydd wirionedd Cristnogaeth, a dysgai Herder (1744-1803) y dylid darllen y Beibl fel llyfr a ysgrifennwyd gan ddynion ar gyfer dynion. Bu hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod hynod o brysur ymhlith beirniaid ac ysgolheigion Beiblaidd o bob math, yn ramadegwyr, esbonwyr a haneswyr tu mewn a thu allan i'r Eglwys, ac, hefyd, yn gyfnod o frwydr boeth rhwng cefnogwyr yr hen ddulliau a'r dulliau newydd o drin yr Ysgrythyrau. Parhaodd y frwydr ymlaen i hanner olaf y ganrif, ac i'r un cyfnod y perthyn darganfyddiadau'r hynafieithwyr yn hen wledydd y Dwyrain, yr ymchwil i darddiad a natur crefyddau eraill (comparative religion), a syniad mawr gwyddoniaeth am ddatblygiad (evolution) fel egwyddor lywodraethol bywyd ymhob rhyw ffurf[3] Ac, fel y gwyddys, creodd yr awyrgylch newydd yma chwyldroad mawr yn syniad pobl am y Beibl. Rhoddwyd i'r byd wybodaeth lwyrach am iaith y Beibl a chefndir ei hanes, syniad newydd am ei darddiad a'i gynnwys, a ffordd newydd o feddwl am natur ei awdurdod a'i werth fel cronicl o ddatguddiad cynhyddol o Dduw ym mywyd dyn ac yn hanes y byd.