Neidio i'r cynnwys

Hanes Gwareiddiad/Mawredd Rhufain

Oddi ar Wicidestun
Gogoniant Groeg Hanes Gwareiddiad

gan Gwilym Arthur Edwards

Cyflawnder yr amser

PENNOD VI
MAWREDD RHUFAIN

POBL. wahanol iawn i'r Groegwyr oedd y Rhufeiniaid, ond y mae'n naturiol sôn am y naill yn union ar ôl y llall. Yn un peth, dyma'r bobl bwysicaf yn hanes Ewrop pan giliodd gogoniant Groeg, ac yn fuan yr oedd gwlad Groeg yn rhan o'r ymerodraeth Rufeinig. Ac yn lle nifer o wladwriaethau bychain gyda dinasoedd yn ganolbwynt iddynt, ceir bellach yn nhir Groeg dalaith eang dan lywodraeth gadarn Rhufain, er iddi adael gryn lawer o ryddid i Athen a threfi eraill ar gyfrif eu henwogrwydd gynt.[1] Y Rhufeiniaid, hefyd, a fu'r prif gyfryngau i drosglwyddo etifeddiaeth gyfoethog Groeg i wledydd Ewrop. Uwchlaw pob dim athrylith ymarferol oedd un y bobl yma. Nid oeddynt yn agos mor fyw a dawnus eu meddwl â'r Groegwyr, ac nid rhyw lawer o ddawn creu ac athronyddu a roddwyd iddynt. Mewn crefydd, athroniaeth, llenyddiaeth a holl bethau'r meddwl o ran hynny, benthyciasant yn helaeth oddiar y Groegwyr, a gallasai un o'u beirdd, Horas, ddywedyd bod y caeth wedi caethiwo ei goncwerwr yn hynny. Yr un rhai, er esiampl, yw duwiau Rhufeinig fel Jupiter, Mars a Venus â Zeus, Ares ac Aphrodite'r Groegwyr. Ac er i'w llenyddiaeth ddatblygu rhai ffurfiau gwreiddiol a bod ambell awdur Lladinaidd nad yw ei ddyled i Roeg yn un fawr iawn, buasai llawer iawn o lên ardderchog Rhufain yn amhosibl onibai am un odidocach Groeg. Yng nghân fwyaf yr iaith, sef yr Aeneid gan Vergil, fel yn odlau Horas, y mae'r ddyled i Homer a beirdd Groeg yn amlwg iawn, ac nid yw gweithiau athronyddol Cicero, prif ysgrifennydd Lladin rhyddieithol, ond atsain o syniadau ysgolion Groeg. Yr oedd addysg plant Rhufain yn nwylo'r Groegwyr, ac i Athen a threfi Groegaidd eraill y cyrchai ieuenctid Rhufain a fedrai fforddio hynny am addysg uwchraddol. Mewn Groeg, fel y gwyddys, yn hytrach na Lladin yr ysgrifennodd Paul ei epistol at Gristnogion Rhufain ei hun yn y ganrif gyntaf. Mewn llu o ffyrdd pwysig eraill bu dylanwad Groeg yn neilltuol o drwm ar fywyd a gwareiddiad Rhufain, ac yn wir dyma un o gymwynasau pennaf Rhufain: hi adeiladodd y bont y croesodd gwareiddiad drosti o'r Dwyrain a Groeg i'r Gorllewin. Ar fywyd allanol a ffurfiau llywodraeth Ewrop yn hytrach nag ar feddwl y gwledydd y gadawodd Rhufain yr argraff ddyfnaf. Gwaith y Rhufeiniaid—i fynd yn ôl at y ffigur o adeiladu—yw ffrâm allanol ein bywyd i raddau mawr: hwy adeiladodd scaffaldiau'r tŷ a ddodrefnwyd gan bobl alluocach a mwy gwreiddiol na hwynt.

Ac eto i gyd, pan sonnir am allu, nid rhaid i Rufain gywilyddio, yn enwedig os am allu ymarferol a dawn i orchfygu a llywodraethu y meddylir. Ynglŷn â phethau felly ni bu yn hanes y byd ddinas bwysicach na hi, ac onid erys rhyw awgrym megis o'i mawredd gynt yn yr enwau balch a roddes dynion arni? Dyma'r "ddinas dragwyddol" a "meistres y byd," a pha ymffrost mor hyderus a chadarn ei sail ag eiddo'r dyn a allasai ddywedyd gynt "dinesydd Rhufeinig ydwyf" (civis Romanus sum)? Ac, yn debyg i Gaersalem ac Athen, y mae iddi hithau hefyd ei hanes hen.

Tua'r flwyddyn 753 C.C. y sefydlwyd eu dinas yn ôl traddodiadau'r Rhufeiniaid, ac oddiwrth y digwyddiad hwnnw y dyddid popeth am genedlaethau ganddynt. Ar y cychwyn nid oedd ond tref fechan yn perthyn i lwyth Eidalaidd a elwir yn Lladinwyr am mai Latium oedd y rhanbarth y trigent ynddi. Oddeutu canol yr wythfed ganrif C.C. meddiennwyd hi gan lwyth arall, sef yr Etrusciaid, a brenhinoedd Etrusciaidd a fu'n llywodraethwyr Rhufain hyd ddechrau'r bumed ganrif C.C. Tua'r adeg honno y cychwyn ei gwir hanes, pan fwriwyd yr olaf o'r brenhinoedd allan ac y cymerth yr uchelwyr yr awenau i'w dwylo eu hunain. O hynny ymlaen hyd ddyddiau Julius Caesar gwerinlywodraeth fu Rhufain, ac yn ystod y pedair canrif yma rheolid hi gan ei senedd o uchelwyr, y patres conscripti, gyda'r werin, y plebs, yn ennill rhyw faint mwy o ryddid iddi ei hun o dro i dro ac weithiau'n ei golli drachefn. Yn awr y dechreuodd Rhufain estyn ei therfynau, ac erbyn 275 C.C. gorchfygasai ei chymdogion yn yr Eidal. Dyna'r bennod gyntaf yn ei hanes, a diweddodd honno pan ddaeth yr Eidal i'w meddiant. Mewn llai na chanrif diweddwyd pennod arall, ac erbyn hynny (201 C.C.) yr oedd Rhufain yn feistres y Môr Canoldir ar gyfrif ei buddugoliaeth ar Hannibal a phobl Carthago. Wedyn trodd ei golwg i gyfeiriad gwledydd cyfoethog y Dwyrain a syrthiodd Groeg, Asia Leiaf, a Syria cyn bo hir i'w dwylo: yn 63 C.C. ymddangosodd Pompeius a'i fyddin yng Nghaersalem, ac wedi gwarchae enbyd ar y ddinas santaidd aeth y cenedl-ddyn o Rufeiniwr i mewn i'r cysegr santeiddiolaf. Yn y Gorllewin yr enillodd Julius Caesar ei fuddugoliaethau mawr gan chwanegu Ffrainc (Gallia y pryd hynny) at yr ymerodraeth ac, er iddo groesi i Brydain, bu'n rhaid i Caesar adael y gwaith o ddarostwng ein gwlad i'w olynwyr. Ef yn ddiau yw un o ddynion mwyaf hanes (100-44 C.C.), a'i waith ef a wnaeth ymerodraeth Rhufain yn bosibl. Ni chymerth Caesar ei hun yr enw ac ni ddiddymodd ffurfiau'r werinlywodraeth ar unwaith: ond dictator neu ymherodr ydoedd serch hynny. Cyfrifir ei olynydd, Augustus, y cyntaf o'r ymerodron Rhufeinig (31 C.C.-14 O.C.) ac, fel y gwyddys, yn ystod ei deyrnasiad ef y ganwyd Crist yn un o daleithiau dwyreiniol y llywodraeth.

Heb fanylu gormod am yr hanes gellir dywedyd bod cyfnod euraidd yr ymerodraeth yn ymestyn o ddyddiau Augustus hyd farw ymherodr a'r athronydd Marcus Aurelius (180 O.C.). Dyma gyfnod y cryfhau a'r lledaenu mawr ar allu Rhufain: y pryd hynny llywodraethai o Brydain a Spaen yn y Gorllewin i Galdea ac Armenïa yn y Dwyrain, ac o'r Aifft yn y Dehau tu draw i enau Rhein yn y Gogledd. Ac, ar y cyfan, llywodraeth deg a chadarn oedd un Rhufain, er bod ambell ymherodr yn deyrn creulon, a rhai o'i swyddogion yn y taleithiau'n enwog am eu rhaib. Ond eithriadau oedd y rhain: gwyddai'r byd yn awr, a'i gymryd at ei gilydd, beth oedd byw'n ddiogel a pheth oedd mwynhau heddwch pur gyffredinol (y pax Romana). Yna am ganrif hyd esgyniad Diocletian (284 O.C.) daw cyfnod cythryblus pan dyfodd gallu'r fyddin ac y siglwyd llawer ar deyrngarwch deiliaid Rhufain. Cymerth Diocletian y cam pwysig o rannu'r ymerodraeth yn ddwy, gydag un ymherodr yn y Gorllewin a'r llall yn y Dwyrain. Arweiniodd hyn yn fuan i esgeuluso Rhufain a'r Eidal, ac erbyn 330 O.C. yr oedd Caercystenyn (yr hen Byzantium) yn ddinas wych a dwy feistres yn ceisio llywodraethu'r byd. Weithiau unid y ddwy ymerodraeth dan un teyrn, a digwyddodd hynny am y tro olaf dan Theodosius (379-395 O.C.). Ymhen canrif daeth diwedd ar hen ymerodraeth Rhufain yn y Gorllewin pan eisteddodd Odoacer, cadfridog nifer o lwythau Almaenaidd, ar hen orsedd y Caesariaid yn y flwyddyn. 476 O.C. Parhaodd yr ymerodraeth ddwyreiniol ymlaen, ond yr unig ymherodr mawr a gynhyrchodd yn y cyfnod yma oedd Justinian (527-65). Ef gasglodd ddeddfau Rhufain ynghyd ac a adeiladodd eglwys enwog San Sophia yn brif gysegr Cristnogaeth Ddwyreiniol. Ychydig flynyddoedd wedi marw Justinian, cododd proffwyd enwog yn y Dwyrain, Mahomet (570-632), ac ymhen canrifoedd wedyn, pan oresgynnodd y Tyrciaid Gaercystenyn, trowyd San Sophia yn deml Fahometanaidd.

Dywedwyd eisoes mai doniau ymarferol oedd rhai amlyca'r Rhufeiniaid, ac enghraifft nodedig ohonynt oedd eu llwyddiant yn gweinyddu llywodraeth yr ymerodraeth. Sylfaenesid hi i raddau mawr ar fuddugoliaethau milwrol, eithr rheolid hi wedyn gyda thegwch a chyfiawnder, a rhoddes y Rhufeiniwr le uchel yn ei gredo wleidyddol i deyrngarwch i'r ymherodr a ffyddlondeb yn ei wasanaeth. Yr oedd eu system, hefyd,

yn un hynod o fanwl. Rhoddid talaith fawr dan gynrychiolydd uniongyrchol yr ymherodr neu'r senedd, a than hwnnw ceid swyddogion a ofalai am adrannau llai, ac weithiau caniateid i dywysogion brodorol lywodraethu dan nawdd Rhufain, fel Herod yn Judea gynt. Datblygasant ddulliau manwl o weinyddu talaith, a thrwy eu deddfau a'u trethi a moddion eraill gafael ddigon tynn oedd eiddo'r Rhufeiniaid ar eu deiliaid. Un praw allanol o'r llwyrder hwnnw a'u nodweddai oedd y ffyrdd ardderchog a gysylltai Rufain â'i thaleithiau a'r taleithiau â'i gilydd. Ar hyd y ffyrdd hyn y symudai'r byddinoedd a gwahanol swyddogion y llywodraeth fel y llythyrgludwyr, a defnyddid hwynt gan fasnachwyr ac eraill i ehangu dylanwad Rhufain a chwanegu at ei chyfoeth. Yn olion y prif-ffyrdd godidog hyn, fel mewn ambell bont neu fur Rhufeinig a erys hyd y dydd hwn, cawn rywbeth sy'n help inni weld lle'r oedd cuddiad cryfder y bobl feistrolgar yma.

Fe sylweddolir mor fawr fu'r gwaith a gyflawnodd Rhufain a chymaint fu ei chyfraniad i wareiddiad Ewrop a'r byd, pan feddyliwn am y dinasoedd dirif a unwyd ganddi dan un llywodraeth gref neu'r cenhedloedd lawer yn y Dwyrain a'r Gorllewin a wareiddiwyd pan ddaethant dan iau Rhufain. Er iddi unoli'r holl fyd adnabyddus bron dan un system o ddeddfau, bu'n ddigon doeth i beidio ag anwybyddu nodweddion neilltuol y gwahanol genhedloedd, a llwyddodd yr un pryd i greu math ar wlatgarwch neu deyrngarwch ymerodrol o un pen i'r llall o'i llywodraeth Bron na ellid dywedyd mai dyma'r tro cyntaf y llwyddwyd i wneuthur hyn yn hanes y byd: er nad dyma'r tro cyntaf y sefydlwyd ymerodraeth lle'r oedd hynny, o ran egwyddor o leiaf, yn bosibl Perthyn y clod am hynny i Alecsander Fawr, a dyna'r gwahaniaeth rhwng ei ynerodraeth ef â rhai cynharach yr Aifft a Babilonia. Ceisiodd yntau uno'r byd yn un gymdeithas, a honno'n un y ffynnai cyd—raddoldeb rhwng pob aelod ynddi â'r holl aelodau eraill. Yn y ddau syniad yma deuwn ar draws rhywbeth gwahanol i ddim a welwyd yn y byd cyn hyn a gwahanol i'r hyn a gymerth le'r ymerodraeth Rufeinig ymhen canrifoedd wedyn. Ar un llaw gwladwriaethau dinesig bychain oedd rhai Groeg a phob un ohonynt yn annibynnol ar y lleill: ac, ar y llaw arall, pan ddadfeiliodd Rhufain cododd yn ei lle nifer o wladwriaethau cenedlaethol yn hytrach nag un ymerodraeth. Fel deiliaid Rhufain cafodd miloedd o bobl olwg am y tro cyntaf ar rywbeth tebyg i gydraddoldeb byd—eang rhyngddynt â'i gilydd fel cyd-ddinasyddion. Cydraddoldeb gwleidyddol yn unig ydoedd wrth gwrs, a diau ei fod yn aml yn ddigon amherffaith hyd yn oed ar y lefel honno. Eithr nid peth bach ydoedd fod y syniad wedi ymddangos o gwbl, a'r syniad yma, fel y dywed y Prifathro Ernest Barker[2] , a lefeiniwyd wedyn ag ystyr ac amcan ysbrydol gan y Cristnogion. Un eglwys, ym marn Paul, oedd i fod ar gyfer y byd i gyd, ac yn honno ni byddai na chaeth na rhydd, na Groegwr nac Iddew.

Offeryn pennaf Rhufain yn ei gwaith mawr fel llywodraethwr y byd yn ddiddadl a fu ei chyfraith, ac yn wir dyma gyfraniad Rhufeinig at wareiddiad, y gellir yn briodol ei alw'n un gwreiddiol. A chyfraniad neilltuol o bwysig ydoedd. Aiff un awdurdod diweddar belled â honni mai dyma'r peth mwyaf a wnaeth yr hen fyd: "the formulation of Roman Law," medd Ed. Meynial, "was the greatest triumph of the ancient world." Bid a fynno am hynny, gwir yw dywedyd mai o Rufain yr aeth y gyfraith allan i wledydd y Gorllewin, a bod delw ac argraff y ddinas dragwyddol yn ddwfn iawn ar ddeddfau a chyfundrefnau gwladol Ewrop. Fe gychwynnodd Cyfraith Rhufain, wrth reswm, fel un pob gwlad arall, ond datblygodd gryn lawer ymhellach na hwynt. O fynd yn ôl i'r cychwyn, gwelem hynafiaid y Rhufeiniaid yn Latium yn byw bron heb ddeddf yn y byd, neu o leiaf bob un ohonynt yn ddeddf iddo'i hun, oddieithr bod arfer y llwyth yn ffrwyno rhywfaint ar ryddid pob dyn. Yn ddiweddarach daeth adeg pan dderbynnid dyfarniad y pennaeth neu'r offeiriad ar achosion a ddygid ger eu bron, a chyn bo hir bodolai casgliad anysgrifenedig o'r dyfarniadau a'r deddfau hyn. Yna daw'r dydd pan ysgrifennid y deddfau hyn modd y gallai pobl wybod beth oedd gyfreithlon a pheth nad oedd dyma gyfnod y Deng Air yn Israel neu'r Deuddeg Tabl yn Rhufain. Wedyn

tyfodd rhif ac amrywiaeth y deddfau yn y casgliadau ysgrifenedig, a rhoddwyd lle pwysicach na chynt i'r syniad bod Cyfraith yn datblygu i gyfarfod â gofynion y genedl, fel y tyfai ac y datblygai hithau. Mewn dulliau tebyg i hyn y tyfodd Cyfraith Rhufain dan y brenhinoedd a'r werinlywodraeth ynghyntaf, ac y datblygodd wedyn dan yr ymerodraeth.

Sylfaen y system gyflawn, wrth gwrs, oedd y ddeddf wladol (ius civile), sef y cyfreithiau a reolai fywyd Rhufeiniaid yr Eidal yn unig. Gwnaethpwyd y deddfau hynny gan eu swyddogion (y praetores ac eraill) a'u senedd i gyfarfod ag anghenion Rhufain cyn datblygu ohoni'n ymerodraeth. Wedyn pan aeth bywyd yn fwy cymhleth, ac yn enwedig pan lifodd cenhedloedd eraill i mewn i'r ymerodraeth, rhaid oedd wrth gyfraith ehangach ei chylch a mwy cyffredinol ei natur, a'r enw a rodded ar honno oedd ddeddf neu gyfraith y cenhedloedd (ius gentium). Ar ôl hynny cysylltwyd y syniad hwn o ddeddf y cenhedloedd â syniad hanner athronyddol o ddeddf natur (ius naturale) ac aethpwyd i gredu bod gwreiddiau deddf y cenhedloedd, sef Cyfraith Rhufain yn yr ystyr ehangaf, yn natur y byd a bywyd dyn fel dyn. Yn wir, hawlid mai gogoniant y gyfundrefn oedd ei bod yn gydnaws â natur ac angen cynhenid dyn. A phan dderbyniodd yr ymerodraeth Gristnogaeth, nid rhyfedd ydoedd i bobl fynd gam ymhellach a honni mai cyfraith Duw oedd y gyfraith naturiol yma.

Y system fawr hon, yn enwedig yng nghasgliad yr ymherodr Justinian (Corpus Iuris Civilis) a gariodd ddylanwad Rhufain drwy'r byd ymhell ar ôl diddymu'r ymerodraeth ei hun. Yn awr, caethgludodd Rhufain ei chaethgludwyr hithau, oherwydd, er i genhedloedd dieithr feddiannu'r ymerodraeth, mabwysiadwyd rhannau helaeth o gyfraith Rhufain ganddynt. Pan dorrwyd yr ymerodraeth i fyny, ac y dechreuodd cenhedloedd presennol Ewrop gymryd eu lle, Cyfraith Rhufain a roddes ffurf i'w bywyd hwythau am genedlaethau. Bu Dehau Ffrainc fyw dani hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r Almaen am ganrif wedyn, a hi sydd wrth wraidd cyfundrefnau cyfreithiol bron holl wledydd y Gorllewin. Ac nid gwleidyddwyr a brenhinoedd yn unig a wybu amdani. Hebddi hi ni chyfodasai chwaith y gyfraith Ganonaidd neu'r Ddeddf Eglwysig, oherwydd sylfaenesid honno ar ddwy sylfaen. Y naill yw'r Ysgrythur a thraddodiadau'r Eglwys a'r llall yw Cyfraith Rhufain, a rhodd bennaf Rhufain i wareiddiad yn ddiamau a fu honno.

Y mae'n bryd inni, erbyn hyn, wynebu un cwestiwn diddorol arall, a'r olaf ynglŷn â mawredd Rhufain. Paham, tybed, y syrthiodd ymerodraeth a fu unwaith mor gadarn a disigl â hon? Oni ellid disgwyl, gan gryfed y seiliau a gwyched yr adeilad, na orchfygasai dim hi? Eithr nid felly y bu, ac wrth graffu ar y rhesymau am gwymp Rhufain, gwelwn pa amodau sy'n anhepgor i barhad teyrnas gref ac i gynnydd a diogelwch gwareiddiad. Nid yw'r rhesymau yn hanes Rhufain mwy nag yn hanes gwledydd eraill i gyd o'r un natur. Y mae rhai ohonynt yn wleidyddol, fel gwendid y llywodraeth ganolog yn Rhufain ei hun, a llygredd ac anonestrwydd ei chynrychiolwyr yn y taleithiau pell. Rheswm arall o'r un natur oedd rhaniad yr ymerodraeth yn nyddiau Diocletian: cymylwyd llawer ar ogoniant Rhufain pan gynefinodd pobl â dau Caesar, y naill yn y Dwyrain a'r llall yn y Gorllewin, ac, wedi rhannu'r ymerodraeth, nid oedd y byd gwareiddiedig mwyach yn un. At hyn, hefyd, rhaid cofio am y cenhedleedd barbaraidd a ddechreuasai ers amser bellach lifo o'r Gogledd a'r Dwyrain i Ewrop, gan greu pryder a pherygl i'r ymerodraeth yn nyddiau'i gwendid. Sefydlasai rhai llwythau barbaraidd eisoes ar gyffiniau taleithiau Rhufain, wedyn bu'n rhaid caniatau iddynt fyw o'u mewn, ac yn fuan ymddangosodd eu byddinoedd o flaen y ddinas ei hun Yn eu plith ceid llwythau cryfion anwar fel yr Alemanni, y Ffranciaid, y Vandaliaid a'r Gothiaid. Yn 410 O.C. cymerwyd Rhufain gan y llwyth diwethaf a ennwyd dan eu cadfridog Alaric, bu agos i lwyth creulonach dan Attila'r Hun wneuthur yr un peth ychydig flynyddoedd wedyn, ac yn 455 llwyddodd y Vandaliaid drachefn i oresgyn y ddinas. Gwir yw i'r barbariaid hyn arbed adeiladau'r ddinas, ac iddynt ddod o dan ddylanwad gwareiddiad uwch Rhufain mewn llu ffyrdd, ond rhyfedd gymaint fu'r tro ar y rhod er dyddiau Julius Caesar ac Augustus. Yn lle arwain brenhinoedd a thywysogion o bedwar cwrr y byd yn gaethion drwy ei heolydd yng ngorymdeithiau'r cadfridogion buddugoliaethus, da oedd gan Rufain dderbyn trugaredd a thelerau heddwch yn awr oddiar law ei gorthrymwyr barbaraidd.

Y mae un ffaith arall ac o natur wahanol yn amlwg iawn, a chyfrif honno'n gymaint â dim am dranc Rhufain. Fel yn hanes gwledydd eraill, gyda buddugoliaeth llwyddiant daeth hefyd ddirywiad moesol a chymdeithasol i durio dan seiliau bywyd Rhufain. Cwynai'r bardd Juvenal fod yr Orontes (un o afonydd y Dwyrain) wedi llifo i'r Tiber, a dywed yr hanesydd Tacitus, yn ei ddull miniog yntau, fod pob drwg—gan gynnwys Cristnogaeth—yn gynt neu'n hwyrach, yn ffeindio'i ffordd i Rufain.<ref>Annales XV, 44.</ref< Diflanasai'r tyddynwr a'r amaethwr bychan a fu'n gryfder Rhufain gynt, a chymerth miloedd o gaethion eu lle chwyddodd tlodi'r ddinas pan lifodd pobl y wlad iddi i fyw'n segur ar gardod y teyrn: a chyn bo hir yr oedd Rhufeiniaid o waed yn estroniaid yn y llys; ac yn y byddinoedd barbariaid cyflogedig oedd y rhan fwyaf o'i milwyr. Buasai'n anodd i ddirywiad fynd ymhellach neu i unrhyw ymerodraeth beidio â threngu o'i herwydd. Yn y cyfnod cythryblus hwn, pan gynhyddai gwendid Rhufain ac y meddiennid ei thir gan y barbariaid, da ydoedd i'r byd fod un sefydliad, sef yr Eglwys Gristnogol, yn ennill nerth yr un pryd. Hi ddiogelodd wareiddiad Ewrop pan ddadfeiliodd Rhufain, drwy drosglwyddo ohoni etifeddiaeth Rhufain i'r gwledydd a thrwy iddi wareiddio a dofi tipyn ar hynafiaid cenhedloedd presennol Ewrop.

Nodiadau

[golygu]
  1. J. B. Bury, Students' Roman Empire, tt. 103-4.
  2. Yn ei draethawd ar The Conception of Empire yn The Legacy of Rome, tt. 46-48.