Hanes Gwareiddiad/Plant yr addewid
| ← Gosod sylfeini | Hanes Gwareiddiad gan Gwilym Arthur Edwards |
Gogoniant Groeg → |
PENNOD IV
PLANT YR ADDEWID
DICHON y teimla rhai fod angen cyfiawnhau trafod Crefydd o gwbl mewn llyfr ar hanes gwareiddiad, ond ychydig ystyriaeth a ddengys paham na ellir, ac na ddylid, anwybyddu'r elfen honno. Nid oes dim sydd gliriach na dylanwad syniadau a delfrydau ar feddwl dyn neu oes. Gellir yn fynych briodoli symudiadau mawr ym mywyd cenhedloedd i ryw syniad newydd a ddarganfu meddyliwr o fri neu i ryw hen syniad y rhoddes ei athrylith gymaint o fywyd newydd ynddo nes ei wneuthur yn ddylanwad llywodraethol ar feddwl ei oes. Creodd syniadau Darwin a Wallace, er esiampl, chwyldroad llwyr yn ein holl ddull o feddwl am ddatblygiad bywyd, neu, a chymryd enghraifft arall, llwyddodd Nietzsche i berswadio rhan fawr o bobl Ewrop fod rhyfel ynddo'i hun yn beth angenrheidiol, onid yw hefyd yn beth gogoneddus. Yn awr nid oes unrhyw syniadau a ddylanwada fwy ar fywyd, er da neu er drwg, na rhai crefyddol, oherwydd, yn y pen draw, ymwna'r rheini â'r cwestiynau pwysicaf y gall dyn eu gofyn. Nid oes syniadau mwy dinistriol eu dylanwad na rhai anghywir mewn crefydd, ac am hynny bu crefydd lawer gwaith yn elyn ac yn rhwystr i wareiddiad, yn "fam gweithredoedd anfad," ys dywed Lucretius, un o hen feirdd Rhufain. Ac ar y llaw arall, nid oes dim sy'n fwy o gefn a symbyliad i wareiddiad na chrefydd wir: fe effeithia pob syniad o eiddo dyn am Dduw ar ei syniad amdano'i hun, ac am ystyr ac amcan ei fywyd personol a bywyd ei gyd-ddyn, ac yn eu tro rhydd rheini drachefn fod i arferion a deddfau newydd, i fywyd cymdeithasol a chenedlaethol sy'n uwch a gwell na chynt.
Wrth feddwl am wahanol wledydd yr hen fyd un o'r pethau amlycaf yw'r gwahaniaeth yn eu cyfraniadau tuag at wareiddiad, ac ynglŷn â hyn y mae un Israel yn hollol glir. Yn anad dim cyfraniad crefyddol oedd hwnnw. Ni bu'r genedl honno gynt nac er hynny chwaith yn enwog, dyweder, am yr hyn a wnaeth ym. myd y celfau cain. Gwaherddid gwneuthur unrhyw fath ar ddelw gerfiedig neu ddarlun ynglŷn â'i chrefydd, ac ni ddatblygodd yr Hebreaid unrhyw ddoniau nodedig yn y cyfeiriadau hyn. Y mae'r un peth yn wir amdanynt ym myd y meddwl: er bod ganddynt eu "gwŷr doeth" megis awdur Llyfr Job, nid athronwyr na gwyddonwyr mohonynt—pynciau a alwem ni'n foesol a chrefyddol oedd eu priod faes. (Daeth tipyn o dro ar y rhod yn hyn o beth yn awr ac eilwaith wedyn, ac Iddewon yw rhai o brif athronwyr y dyddiau hyn fel Bergson, Einstein ac Alexander.) Crefydd, yn ddiddadl, oedd canolbwynt bywyd Iddew yr hen fyd cyn Crist, ac at olud a datblygiad crefyddol y byd y cyfrannodd ef helaethaf. Ac ni ellir esbonio'n gwareiddiad presennol os collir golwg ar yr hyn a ddiogelodd yr Iddew i'r byd, ac yn enwedig os anghofir ei gymwynas yn paratoi sylfaen addas i adeiladu Cristnogaeth arni pan ddaeth "cyflawnder yr amser."
Ond gan nad Hanes Crefydd yw pwnc y llyfr hwn, nid rhaid inni fanylu rhyw lawer ar grefydd Israel. Digon fydd nodi prif gamau'r datblygiad, gan gyfeirio at y mannau lle yr oedd bywyd yr Hebreaid debycaf i fywyd eu cyfoeswyr a'r lleoedd y gwahaniaethai fwyaf oddiwrth hwnnw.[1] Ac, er mwyn gwneuthur hyn, mantais fawr inni yw'n cynefindra â'r Hen Destament ac â'r defnyddiau ardderchog sydd yn ein cyrraedd i gyd yno.
Pobl o gyff Semitaidd oedd yr Hebreaid ac, felly, o ran gwaed yr oeddynt yn berthnasau i'r Syriaid ac i'r Cananeaid a llwythau eraill Palesteina. Tebyg, hefyd, a fu hanes cynnar yr holl genhedloedd hyn llwythau crwydrol (nomad) fuont am oesoedd nes iddynt setlo'i lawr yn y rhannau gorllewinol o Asia sydd yng ngolwg y Môr Canoldir. Mewn gwlad fechan yr ymsefydlodd yr Israeliaid o'r diwedd, ond, er ei bod mewn ystyr yn wlad neilltuedig iawn, yr oedd Palesteina serch hynny'n bur ganolog. Drwyddi hi y rhedai priffordd y dyddiau hynny rhwng Gorllewin a Dwyrain, rhwng Affrica ac Asia, a thramwyodd masnach a byddinoedd y gwledydd yn ôl a blaen drwy Ganan yn y canrifoedd cynnar. Ymhell cyn i blant Israel ei meddiannu bu ei thrigolion yn ddeiliaid y naill neu'r llall o'r ymerodraethau mawr o'u hamgylch: a gwyddai'r Hebreaid yn ddiweddarach beth oedd bod o dan iau Asyria, Babilon, Persia, Groeg a Rhufain. Byr mewn cymhariaeth fu tymor ei hannibyniaeth fel teyrnas (1030-586 C.C.), ac ni bu Israel heb deimlo dylanwad pobl tuallan iddi ar ei gwareiddiad o dro i dro.
Gellir dywedyd am grefydd Israel yn y cyfnod cyntaf (i lawr at ddyddiau Moses) mai tebyg iawn ydoedd i grefyddau'r cenhedloedd o'i chwmpas. Crefydd pobl nad oedd eu gwareiddiad yn un uchel iawn ydoedd, pobl yn byw bywyd cenhedloedd crwydr. Yr oedd gan bob cenedl ei duw ei hun, a digon materol oedd syniadau'r bobl amdano a'u perthynas ag ef. Credid ym modolaeth llu o dduwiau, os priodol eu galw felly, a dwyfolid llu o wrthrychau y perthynai unrhyw fath ar fywyd iddynt. Arfer y llwyth a reolai'r cwbl yn y cyfnod cyntefig—y penteulu oedd yr unig offeiriad, ac ar wahan i allorau syml nid oedd adeiladau crefyddol. Ychydig o ddim a ellir ei alw'n foesoldeb mewn ystyr wirioneddol, a llai fyth o welediad neu brofiad ysbrydol a geid yn y canrifoedd cyntaf yn Israel, ac nid amhriodol fyddai cymharu crefydd hynafiaid yr Hebreaid â chrefydd ein cyn-dadau yng Nghymru cyn dyfodiad y Rhufeiniaid neu â chrefyddau ac arferion rhai o lwythau crwydrol ac anwar y byd heddiw.
Yr enw mawr cyntaf yn natblygiad crefydd Israel yn ddiddadl yw Moses. Ni ellir honni mwyach mai ef a roddes i'r Israeliaid eu holl ddeddfau ac, er bod rhai pethau ynglŷn â'i waith yn ansicr, nid oes amheuaeth am bwysigrwydd yr hyn a wnaeth i'w genedl. Drwyddo ef, mewn gair, y derbyniodd hi y datguddiad hwnnw o Dduw fel Jehofa a fu'n wir sylfaen ei chrefydd (Exod. 6:2-3), a dyledus ydoedd Israel iddo ef am rai o'r deddfau a'r gorchmynion a roddes ffurf am y tro cyntaf i'w bywyd cenedlaethol. Nid gormodiaith fyddai ystyried Moses, nid yn unig yn sylfaenydd crefydd ysbrydol Israel, ond hefyd yn gychwynnydd ei bywyd fel cenedl unedig yn hytrach na nifer o lwythau ar wahan. Perthyn iddo ogoniant mwy nag eiddo'r deddf-roddwr proffwyd mawr ydoedd (Deut. 34:10) a berswadiodd Israel o hyn allan i addoli Jehofa'n unig er eu bod yn cydnabod bodolaeth duwiau eraill, a phwysleisiodd ofynion moesol eu Duw lawn cymaint onid mwy na'r rhai seremonïol. Nid un-dduwiaeth (monotheism) oedd crefydd yr Hebreaid yn nyddiau Moses credent fod duwiau eraill yn bod ond cyfyngent hwy eu gwasanaeth i Jehofa'n unig (monolatry), a diogelid y berthynas yma rhyngddynt gan gyfamod a wnaethpwyd pan waredodd Moses hwynt o'u caethiwed yn yr Aifft (tua 1200 C.C.).,
Wedi cyrraedd Canan wynebai brwydr fawr yr Israeliaid. Yn un peth, rhaid oedd ennill y wlad i'w meddiant, a pheth arall, yr oedd angen diogelu crefydd Jehofa rhag dylanwadau dinistriol o'i chwmpas. Gwelwn yn awr beth diddorol iawn yn digwydd yng Nghanan, sef brwydr dau wareiddiad am oruchafiaeth. Yr oedd y Cananeaid yn fwy gwareiddiedig mewn llu o ffyrdd na'r Hebreaid: yr oeddynt, er enghraifft, yn hen gynefin â bywyd sefydlog yr amaethwr a'r trefwr, a gwyddent lawer iawn mwy am ddiwydiant a rhyfel na llwythau crwydiol fel y newydd-ddyfodiaid o'r anialwch. Yn araf iawn y goresgynnwyd Canan a deilliodd aml berygl i grefydd Jehofa o hynny. Mabwysiwyd rhai o elfennau gwareiddiad a chrefydd y brodorion a bu'r demtasiwn i eilun-addoliaeth yn un rhy anodd i'w gwrthsefyll lawer tro. O ganlyniad cymylwyd llawer ar burdeb crefydd Israel, ac i lawer nid oedd Jehofa yn ddim amgen nag un ymhlith aml dduwiau (baalim) gwlad Canan (Hosea 2:16 Jerem. 2:38). Diau y disgynasai crefydd Jehofa i lefel y rhai o'i hamgylch onibai am ymdrechion di-ildio rhai o'i phlaid, ac yn y cyswllt hwn anodd yw mesur dyled Israel i'r diwygwyr pybyr hynny a alwn ni yn broffwydi. Heb anghofio gwasanaeth yr offeiriaid ac ambell frenin, y proffwydi yn anad neb a ddiogelodd grefydd Jehofa yn ei phurdeb; hwy bwysleisiodd ofynion moesol Jehofa, ac yn fynych rhoes hyn ffurf gymdeithasol i'w cenadwri; a hwy ddatguddiodd o oes i oes ryw wirionedd newydd am gymeriad ac amcanion Jehofa.
Ymestyn oes euraidd y proffwydi o ddyddiau Amos (tua 750) hyd ddinistr Caersalem yn 586 B.C. Pwysleisient pob un ryw agwedd neilltuol ar grefydd a moesoldeb (cyfiawnder Jehofa, er esiampl, oedd baich cenadwri Amos; Ei drugaredd bwysleisir gan Hosea, a'i santeiddrwydd gan Eseia, ac felly ymlaen), a phan ddygir cyfraniadau'r naill a'r llall ohonynt ynghyd, gwelir gymaint y datblygodd crefydd fel canlyniad eu gwaith. Iddynt hwy yr ydym yn ddyledus am fynegiant clir o'r ddau wirionedd sy'n sylfaen Cristnogaeth ei hun, sef nad oes ond un gwir Dduw, ac nad Duw tylwyth neu genedl yn unig yw hwnnw, eithr Duw yr holl fyd. Ymhlith holl gymwynaswyr Israel, y pennaf, yn ddiamau, yw'r proffwydi.
Gyda'r Gaethglud (586—538 C.C.) daeth pen ar wladwriaeth annibynnol yr Hebreaid, ac o hyn allan nid ydynt ond deiliaid un gallu estronol ar ôl y llall, hyd nes y dinistriwyd Caersalem drachefn gan y Rhufeiniaid (70 0.c.). Dychwelasant o Fabilon nid mwyach yn genedl, ond gryn lawer tebycach i gyfundeb neu sect o grefyddwyr ac offeiriaid yn hytrach na brenhinoedd a'u llywodraethai erbyn hyn. Ond sylfaenwyd gwaith y proffwydi'n ddigon dwfn i barhau drwy'r Gaethglud, ac ni chefnodd yr Iddewon byth ar yr un—dduwiaeth foesol ac ysbrydol honno a blannwyd yn eu bywyd gan y proffwydi. Meithrinwyd honno gyda'r un sêl gan yr offeiriaid, fel y gwelir yn amlwg oddiwrth Lyfr y Salmau, sef Lyfr Emynau'r Ail Deml a phrif ogoniant ysgrythyrau'r Iddewon. Ac ymhob erlid ac enbydrwydd a ddigwyddodd iddynt drwy'r canrifoedd ar ôl hynny, daliasant drwy bopeth i gredu mai'r 'Arglwydd yw ein Duw ni, Jehofa yn unig " (Deut. 6:4).[2]
Cyn troi oddiwrth y Dwyrain a'i wareiddiad hen, fe ddylid cyfeirio at y trysor ysgrifenedig mwyaf gwerthfawr a gafodd y byd oddiyno—Hen Destament yr Iddew. "Dweyd pader wrth berson" fyddai canmol yr Hen Destament, oherwydd sylweddolir ei werth heddiw fwy nag erioed ac mewn mwy nag un cyfeiriad. Meddylier, er esiampl, am ei werth llenyddol. Ceir ynddo y darnau rhyddiaith hynaf yn y byd, ac ar wahan i lên Groeg a Rhufain, nid oes unrhyw lenyddiaeth o'r byd cyn Crist i'w gymharu ag ef. Nid yw, wrth gwrs, fel llenyddiaeth, i gyd ar yr un lefel, ond y mae'r lefelau uchel yn lliosog dros ben, fel y gwelir o ddarllen y traddodiadau am Joseff, yr hanesion am Dafydd anerchiadau'r proffwydi, llyfr Job a'r Salmau. Ac ni ddylid anghofio gymaint fu dylanwad y llenyddiaeth hon ar lên gwledydd Ewrop ar ol hynny. Wedyn, dyna'i werth hanesyddol. Y mae'n amheus a oès, erbyn hyn, unrhyw gyfrol yn ein meddiant a deifl gymaint o oleuni ar syniadau a gwareiddiad pobl yng nghanrifoedd cynnar hanes. Dyna paham y gwerthfawrogir yr Hen Destament gan awdurdodau ar fywyd dyn cyntefig (anthropologists) fel Sir James G. Fraser ac eraill. Ond gorwedd ei brif werth hanesyddol yn yr hyn a ddywed am yr Hebreaid o'u cychwyn cynnar ym Mesopotamia drwy oesoedd eu hanes yng Nghanan hyd onid ymddangosodd Crist o'u mysg. Ac, yn fwy na'r cwbl, dyna werth crefyddol yr Hen Destament. Er holl amrywiaeth ei gynnwys, un yw ei bwnc wedi'r cyfan—ymchwil dyn am Dduw—a'r hyn a wna'r Hen Destament yn gyfrol mor ddifyr yw ei ddull byw a fresh o ddisgrifio'r ymchwil yma. Gwelwn grefydd yn cychwyn mewn ffurfiau amrwd a chyntefig iawn, ac yna purir y syniadau crefyddol yn raddol, a daw'r defodau'n well o oes i oes. Wedyn gwelwn un grefydd yn codi gymaint uwchlaw y rhai o'i chwmpas fel y bu'n bosibl i Grist ymhen amser adeiladu ar y sylfaen a osodwyd gan y proffwydi ac eraill a'i rhagflaenasai. Gellir cymhwyso at yr Hen Destament ddiffiniad Dr. Sanday o'r Beibl fel llên glasurol y byd ar gymundeb dyn â Duw. Ac er nad yw'r Hen Destament gyfystyr â'r Beibl, a bod y Testament Newydd yn fwy ei werth nag ef, ni ddeellir y Newydd ar wahan i'r Hen.