Hanes Gwareiddiad/Rhagarweiniol
| ← Cynnwys | Hanes Gwareiddiad gan Gwilym Arthur Edwards |
Cyn gwawr hanes → |
HANES GWAREIDDIAD
PENNOD I
RHAGARWEINIOL
NID peth hawdd yw diffinio gwareiddiad yn foddhaol neu daro ar ddisgrifiad cryno ohono, ond y mae'r gwahaniaeth rhwng pobl wareiddiedig a rhai anwar neu farbaraidd yn weddol glir i bawb. Fel y datblyga gwareiddiad, aiff bywyd yn fwy aml-ochrog a chymhleth ac ar yr un pryd yn gyfoethocach a llawnach ei ystyr. O'i gymharu â dyn anwaraidd gŵyr dyn a wareiddiwyd eisoes fwy lawer amdano'i hun a'i fyd, y mae'n fwy o feistr ar alluoedd Natur ac ar holl amgylchedd ei fywyd, ac y mae ei gymdeithas â'i gyd-ddyn gryn lawer yn ehangach a dyfnach. Yn y pethau hynny a gyfrifir yn bwysicaf a rhagoraf mewn bywyd cyrhaeddodd dir uwch lawer na'r dyn anwar y mae hyn, er enghraifft, yn wir am ei wybodaeth a'i ddiwylliant, am ei gelf a'i allu ymarferol, am ei drefn gymdeithasol a'i lywodraeth, ac am ei foesoldeb a'i grefydd. Ymhob rhyw fodd golyga bywyd fwy iddo a chaiff yntau fwy allan ohono. Er mwyn gweled y gwahaniaeth yn ddigon eglur, nid rhaid i ddyn ond meddwl am yr hyn ydyw bywyd i ni yng Nghymru'n awr a'i gymharu â'r hyn ydoedd i'n hynafiaid yma ganrifoedd lawer yn ôl neu â'r hyn ydyw hyd heddiw i lwythau anwar y ddaear.
Os yw'n anodd llunio diffiniad o beth mor aml ei agweddau â gwareiddiad, gellir ar unwaith enwi rhai o'i nodweddion amlycaf. Ym marn un awdurdod ar y pwnc canfyddir y gwahaniaeth rhwng dynion wedi eu gwareiddio a rhai anwar mewn tri chyfeiriad o leiaf—yng nghynnydd eu gwybodaeth a'u gallu a'u ffurfiau cymdeithasol.[1] O ran corff dibwys bron yw'r gwahaniaeth rhyngddynt, ac ers oesoedd meithion bellach ni bu rhyw lawer o ddatblygu ar gorff dyn. Eithr cynhyddodd swm ei wybodaeth yn rhyfeddol o gyfnod i gyfnod, a manteisiodd un genhedlaeth yn fawr ar brofiad a gwybodaeth y rhai o'i blaen. Daw dyn i etifeddiaeth a gynhydda'n barhaus o oes i oes: y mae meddwl dyn gwareiddiedig, o anghenraid, yn fwy diwylliedig nag eiddo'r anwar, a stôr ei wybodaeth yn anhraethol lawnach. Oherwydd hyn, hefyd, y mae ei allu ymarferol yn fwy: lle cerddai dyn gynt mewn anwybodaeth ac ofn, fe gerdda heddiw yn hyderus, canys ffrwynodd lawer ar alluoedd Natur o'i gwmpas, a gall gyflawni llawer iawn mwy o bethau na'r dyn anwar am ei fod yn ei ddeall ei hun a'i fyd yn llawer gwell na hwnnw. Gwybodaeth, fel y dywed Emerson, yw'r feddyginiaeth yn erbyn ofn a hi a rydd hyder i ddyn: "knowledge and use, which is knowledge in practice."[2] Ymhellach, erys pobl anwar yn fodlon ar ffurfiau syml a chyfyngedig o fywyd cymdeithasol, megis bywyd y teulu neu'r tylwyth yn unig. Bywyd heb lawer o newid ynddo yw eu bywyd hwy, eithr gyda chynnydd gwareiddiad datblygir ffurfiau llai elfennol ac ehangach. Una'r llwythau i'w ffurfio eu hunain yn genhedloedd, a'r cenhedloedd drachefn i'w ffurfio eu hunain yn ymerodraethau. Yn ddiweddarach fyth daw'r syniad i feddwl rhai cenhedloedd am undeb neu gymdeithas yn cynnwys o'i mewn holl genhedloedd y byd, ond hyd yma ni sylweddolwyd hynny yn hanes dyn.
Cydnebydd pawb y perthyn y tair nodwedd yma o leiaf i wareiddiad, sut bynnag yr ydys yn ei ddiffinio, a diau y dymunai llawer chwanegu at eu nifer. Honnent, efallai, y dylid rhoi lle mwy pendant i ddatblygiad crefyddol a chynnydd mewn cyfeiriadau pwysig eraill cyn derbyn ohonynt unrhyw syniad am wareiddiad fel un hollol foddhaol. Y gwir, wrth gwrs, ydyw na welodd y byd erioed wareiddiad perffaith, ac nis gwêl yn unman yn awr: rhyfedd gymaint o elfennau digon anwar sydd yn y mwyaf gwareiddiedig ohonom! Datblygu wna gwareiddiad: gwelir ef yn gyflawnach, mewn un oes neu wlad nag mewn rhai eraill. Nid peth unffurf a chyson ydyw chwaith, oherwydd torrodd iddo'i hun fwy nag un llwybr, a symudodd ymhellach ar hyd rhai o'r llwybrau hynny nag ar hyd eraill. Esboniad diddorol un o feddylwyr pennaf ein hoes ar sefyllfa bresennol y byd gwareiddiedig yw i ddyn goncro'r byd materol tuallan iddo'n llwyrach lawer nag y concrwyd byd mewnol ei fywyd personol a chymdeithasol ganddo. Dichon mai'r peth cywiraf fyddai sôn, fel y gwna Spengler ac eraill, nid am wareiddiad fel un symudiad mawr gyda gwahanol agweddau iddo, eithr am wareiddiadau neu nifer o ymdrechion tra gwahanol o ran eu nod a'u hamcan i'w gilydd. Beth bynnag yw'r gwir terfynol ar hyn, y mae'n amlwg i bawb fod gwahaniaeth clir rhwng, dyweder, gwareiddiad India ac un Prydain heddiw, neu rhwng un Israel ac un Groeg yn y bumed ganrif C.C. Eithr nid yw cydnabod hyn yn ei gwneuthur yn amhriodol sôn am wareiddiad mewn ystyr gyffredinol i ddisgrifio ymdrech dyn ymhob oes a gwlad i'w ddiwyllio ei hun ac i ddatblygu a pherffeithio'i fywyd.
A chymryd golwg gyffredinol ar Hanes, ymddengys fod i wareiddiad ei gyfnodau a'i dymhorau. Weithiau tyrr allan, i bob golwg o leiaf, yn sydyn, fel y gwnaeth yng Ngroeg yn nyddiau Pericles neu yn Lloegr yn adeg Elisabeth, a llifa'n ffrwd gref am ysbaid. Yna arafa'r lli ac aiff y dyfroedd yn llai hyd oni chollir golwg ambell dro yn gyfangwbl arnyrt; a phan ddigwydd hynny nid anghywir yw sôn am dranc neu ddiflaniad gwareiddiad neilltuol. Ond yn fynychach dechreua'r afon lifo eilwaith a symuda gwar iddiad eto rai camau ymlaen yn ei ddatblygiad. Ymhob deffroad bron yn hanes dyn daw rhywbeth i'w feddiant nas collir yn llwyr hyd yn oed pan aiff y byd i hepian ac ail-huno drachefn.
Eglur iawn ydyw, hefyd, i rai cenhedloedd gyfrannu llawer mwy nag eraill tuag at wareiddio'r byd: ac ynglŷn â hyn i'r cenhedloedd gwynion yr ydym yn fwyaf dyledus, yna i'r rhai melynion, ac yn ddiwethaf ac i raddau llai o lawer i'r cenhedloedd eraill.
Ac er na chychwynnodd ein gwareiddiad ni yn Ewrop, hwnnw erbyn hyn yn ddiamau yw'r pwysicaf a mwyaf ei ddylanwad yn y byd. Nid yw'n anodd gweled paham y mae felly. Heb anwybyddu cyfraniadau gwirioneddol rhai o wledydd mawr y Dwyrain fel India a China, nid gormod yw dywedyd mai un y Gorllewin (h.y., un Ewrop a Gorllewin Asia) yw'r gwareiddiad uchaf, a'i gymryd at ei gilydd, y gŵyr dyn amdano. Y mae mwy nag un rheswm am hyn eto. Rhaid priodoli peth o'r fantais yn ddiau i hin a daearyddiaeth Ewrop ac i gyffelyb ystyriaethau naturiol a fu'n ffafriol i ddatblygiad ei phobloedd o ran eu cyrff a'u hiliogaeth: yn wir, yn ôl un ysgol o ysgrifenwyr, dyma'r dylanwadau cryfaf yn y pen draw. Nid oes angen diystyrru yr agweddau yma, er inni droi i gyfeiriadau eraill am y rhesymau pwysicaf. Ar gyfrif ei sefyllfa a'r ffaith bod gwareiddiad wedi symud o'i gartref gwreiddiol i'r Gorllewin yn hytrach nag i'r Dwyrain, Ewrop a fu'n etifedd naturiol gwareiddiad yr hen fyd, ac nid oes, gan hynny, wareiddiad hŷn nag un Ewrop. Ni ellir mwyach gredu traddodiadau'r Indiaid a'r Chinëaid a honna mai eu gwareiddiad hwy yw'r hynaf yn y byd. Cartrefi cyntaf gwareiddiad gweddol uchel yn ddiamau oedd yr Aifft a Babilonia, ac ni bu'r India a China heb deimlo rhywfaint o ddylanwad y gwareiddiad hwnnw; ond Ewrop yn bennaf a'i diogelodd, ac ar ei sylfeini yr adeiladodd hithau ei gwareiddiad cyfoethocach ei hun.
Wrth fwrw golwg dros wareiddiad Ewrop heddiw hawdd yw canfod olion llu mawr o ddylanwadau arno, eithr yn ei agweddau pwysicaf effeithiodd tair gwlad yn ddyfnach arno na'r gweddill gyda'i gilydd: ac onibai am eu dylanwad hwy buasai'n bywyd yn Ewrop heddiw yn wahanol iawn i'r hyn ydyw. Y tair yw Canan, Groeg a Rhufain. Yn natblygiad moes a chrefydd y Gorllewin daeth yr ysbrydiaeth bennaf o grefydd Israel ac yna o Gristnogaeth, ei holynydd. Ym myd y meddwl—byd yr athronydd, y gwyddonydd a'r llenor—fe adeiladodd Ewrop ar seiliau a osodwyd i lawr gan y Groegwyr. A gosododd Rhufain ei delw hithau'n glir iawn ar ein bywyd allanol—ar ein deddfau a'n llywodraeth, ein trefniadau a'n sefydliadau cymdeithasol a gwladol.
Yn y penodau a ganlyn ymdrinir yn unig â gwareiddiad y Gorllewin, am mai hwnnw'n hytrach nag unrhyw un arall a effeithia fwyaf arnom ac a esbonia'n bywyd orau i ni ein hunain.
Ac er ein cyfyngu'n hunain fel hyn i wareiddiad Ewrop, ni ellir mewn llyfr bychan ond prin gyfeirio at rai rhannau o faes mor eang a rhaid fydd gadael eraill heb hyd yn oed sôn amdanynt. Cyfyd yn naturiol lu mawr o bynciau y buasai'n ddiddorol iawn eu trafod. Wrth ba safon neu safonau, er enghraifft, y dylid beirniadu unrhyw wareiddiad, neu beth sydd i benderfynu pa ffurf neu ffurfiau o wareiddiad sydd orau? A ddylid dywedyd bod un ffurf yn well neu'n uwch na'r llall am fod pobl dan un ohonynt yn hapusach neu'n alluocach neu'n fwy llwyddiannus nag o dan y ffurf arall, neu am ryw resymau eraill? Neu meddylier am y cwestiwn diddorol ynglŷn â pherthynas gwareiddiad â chynnydd dynoliaeth. A all gwareiddiad gynhyddu heb i fywyd mewn rhyw ystyron pwysig fod fymryn gwell? A yw pob math ar wareiddiad yn braw o ddatblygiad dyn ac yn elfen wirioneddol yn ei gynnydd?
Rhaid troi oddiwrth broblemau cyffredinol fel hyn er mwyn dilyn hanes ein gwareiddiad o gyfnod i gyfnod: ond fe ddichon mai wrth wneuthur hyn y gwelwn orau sut i ateb cwestiynau fel y rhai uchod.