Hanes Gwareiddiad/Y Canol Oesoedd
| ← Cyflawnder yr amser | Hanes Gwareiddiad gan Gwilym Arthur Edwards |
Dadeni a diwygio → |
PENNOD VIII
Y CANOL OESOEDD
ENW cyfleus ar y canrifoedd rhwng diddymiad gallu Rhufain yn y Gorllewin yn y bumed ganrif a'r Dadeni yn y bymthegfed ganrif yw'r Canol Oesoedd. Ymestyn y cyfnod maith hwn, a siarad yn gyffredinol, oddeutu mil o flynyddoedd, a rhennir ef weithiau'n ddwy ran. Y canol oesoedd cynnar neu'r oesoedd tywyll yw'r rhan gyntaf (500-1000), a dilynir hwynt gan yr oesoedd canol diweddar. Wrth gwrs, y mae'n anodd, onid amhosibl yn wir, nodi unrhyw ddyddiad pendant iawn fel dechrau neu ddiwedd cyfnod mor hir,
I ryw raddau, cynnyrch y rhai a'i rhagflaenodd yw pob cyfnod, a bodola'r fath beth ag unoliaeth hanes drwy'r canrifoedd. A dylid cofio, hefyd, na ellir pwyso'n rhy fanwl ar lythyren unrhyw ddisgrifiad o gyfnod, oherwydd y mae i bob cyfnod fwy nag un nodwedd. Enw rhai pobl, er enghraifft, ar yr oesoedd tywyll yw oesoedd ffydd, ac y mae peth gwir yn y ddau ddisgrifiad: a gellir dywedyd am oesoedd sifalri a rhamant, mai rhai digon creulon a diddychymyg oeddynt ar lawer cyfrif. Dibynna cymaint ar ein safbwynt, a gwelwn ymhob rhyw gyfnod yr hyn a chwennych ein ffansi fwyaf.
Cyfnod diddorol yw'r canol oesoedd mewn mwy nag un ystyr, ac yn hanes gwareiddiad nid rhai dibwys mohonynt o lawer. Er eu tywylled, ni lwyr ddiffoddwyd lamp diwylliant ynddynt; ac er mor farbaraidd oeddynt, erys rhai pethau'n glod iddynt. Ond rhyfedd mor araf y symudai ac y cynhyddai gwareiddiad drwy gydol yr oesoedd hyn. Diogelwyd cryn dipyn o wybodaeth yr hen fyd mewn rhai cylchoedd fel y mynachdai, ond mewn eraill diflanasai'n llwyr. Ni fu yn Ewrop, a'i chymryd at ei gilydd, ganrif dywyllach na'r wythfed (700-800). Dadfeiliasai hen ganolfannau gwareiddiad a diwylliant ers tro byd, ac ychydig ddiddordeb, ar wahan i eithriadau yma ac acw, a gymerth y barbariaid mewn na llên na chelf na gwyddoniaeth. Nifer bychan iawn o bobl a fedrai ddarllen neu ysgrifennu; yr Eglwys a gyfrannai hynny o addysg ag a geid, ac anwybodus, yn fynych, oedd llu o'i chlerigwyr hithau. Ac eto i gyd, rhaid cydnabod nad du digymysg yw'r darlun. Er esiampl, ymhell cyn diwedd y canol oesoedd, sefydlwyd mwy nag un brifysgol enwog, ac yn y cyfnod hwn datblygodd rhai o nodweddion gwareiddiad presennol Ewrop, fel ei masnach a bywyd pwysig y trefi. Yn y canrifoedd yma, hefyd, yr ymddangosodd cenhedloedd presennol Ewrop a sylfaenwyr rhai o'i breniniaethau. Yn allanol, dyma'n ddiau y gwahaniaeth amlycaf rhwng Ewrop yn y bumed ganrif ac Ewrop yn y bymthegfed ganrif. Ar gychwyn y cyfnod ymestynnai un ymerodraeth fawr dros Ewrop, ond cyn ei ddiwedd, yn lle taleithiau dan un llywodraeth ganolog, yr hyn a welir yw nifer o wledydd annibynnol a phob un dan ei brenin ei hun. Cyfnod ffurfio cenhedloedd presennol Ewrop a gwawr cenedlaetholdeb yw'r oesoedd canol, a hynny rydd iddynt eu pwysigrwydd gwleidyddol.[1] Ond, o'r ochr arall, yr oedd Ewrop yn ystod y cyfnod maith hwn, o ran crefydd, yn un, oherwydd dyma gyfnod gogoniant y Babaeth. Ac, i gyfeirio at bwynt bychan, y mae un peth i'w ddywedyd yn ffafr y canol oesoedd: nid rhaid inni ddibynnu'n llwyr am wybodaeth ohonynt ar lyfrau sychion hanes, oherwydd apeliodd y cyfnod yn fawr at ddychymyg ysgrifenwyr, a gallwn droi at lu o nofelau hanesyddol a'i disgrifia'n fyw iawn.
Awgrymwyd eisoes nad yw'n gyfnod toreithiog iawn. o safbwynt diwylliant a gwareiddiad. Sut, atolwg, y gallasai fod, pan gofir mor gythryblus a rhyfelgar oedd y byd yr adeg honno? Yn y canrifoedd cyntaf, y ffaith bwysicaf oedd dylifiad y barbariaid i'r Gorllewin. Deuent yn heidiau o'r Gogledd a'r Dwyrain, gan goncro cenhedloedd oedd ar eu llwybr cyn y gorchfygid hwythau, yn eu tro, gan lwythau'n symud tu ôl iddynt. Gwyddai Rhufain, fel y gwelsom, yn dda amdanynt, canys ymsefydlodd rhai ohonynt ar gyffiniau ei thaleithiau neu oddi mewn iddynt. Eithr bu eu gwrthdrawiad â Rhufain yn help i'w gwareiddio, a daeth amryw ohonynt yn fuan dan ddylanwad Cristnogaeth. Heb fanylu am y llwythau crwydrol hyn, digon yw dywedyd bod dau gyfnod o symud mawr yn eu hanes. Daw'r cyntaf pan ddadfeiliai Rhufain, a'r llall oddeutu'r nawfed ganrif. I'r olaf y perthyn symudiadau'r Normaniaid a'r Hungariaid, er enghraifft; ac yn y llall symudai'r Alemanni, y Gothiaid, y Vandaliaid ac eraill. Ond ymhlith y to cyntaf yma, y pennaf oedd y Ffranciaid. Yng ngogledd yr Almaen (o Gologne i'r môr), yr oedd eu cartref gwreiddiol, ac un o frenhinoedd mwyaf y cyfnod cyntaf yn eu hanes oedd Clovis. Ef a'u llywodraethai pan dderbyniasant Gristnogaeth, ac ef ddewisodd Baris yn gartref iddo'i hun, ac yno bu farw yn 511. Cyn bo hir cyrhaeddai dylanwad y bobl hyn o ganol yr Almaen hyd draethau gorllewin Ffrainc. A'r hynotaf o'u holl frenhinoedd oedd Siarlmaen (771-814), un o ddynion mwyaf y Canol Oesoedd. Almaenwr ydoedd o ran iaith, milwr o ran crefft, a gwladweinydd hirben a galluog neilltuol; ac yng nghaneuon a thraddodiadau canol Ewrop nid yw ei fri'n annhebyg i'r eiddo Arthur yn llên y Gorllewin. Ar ddydd Nadolig yn 800 coronwyd y dyn rhyfedd hwn yn ymherodr Rhufain gan y Pab yn Eglwys Sant Pedr. Dyma gychwyn y syniad am Ymerodraeth Santaidd Rhufain, sef y deyrnas ddaearol a fodolai i amddiffyn y Babaeth ac i hyrwyddo Cristnogaeth. Mewn rhyw ffurf neu'i gilydd parhaodd y syniad am fil o flynyddoedd, hyd oni ddiddymwyd ef yn 1806. Yr amcan oedd uno Ewrop dan awdurdod y Pab a'r ymherodr, eithr rhyw rith o'r peth a fodolai'n unig y rhan fwyaf o'r amser, a bu cweryla mynych rhwng y llywodraethwr ysbrydol a'r un gwladol. Cododd rhwystrau eraill ar ffordd sylweddoli'r syniad, fel ffiwdaliaeth ac wedi hynny cenedlaetholdeb cryf y gwahanol wledydd. Yn fuan iawn, oherwydd gwendid olynwyr Siarlmaen, bu'n rhaid rhannu ei ymerodraeth yn dair teyrnas, sef eiddo'r Ffranciaid Dwyreiniol (Almaen), Ffranciaid y Gorllewin (Ffrainc) a'r Deyrnas Ganol, yn cynnwys yr Eidal a dwy dalaith sydd heddiw'n rhan o Ffrainc. Rhannwyd y drydedd, drachefn, pan ffurfiodd yr Eidal frenhiniaeth ar ei phen ei hun, ac o oes i oes âi'r map yn debycach i un Ewrop ein dyddiau ni.
Beth am fywyd y cenhedloedd yn y Canol Oesoedd ? Yn ddiamau dyma gyfnod euraidd Ffiwdaliaeth. Yn awr y cyrhaeddodd ei lawn dwf, er bod iddo hen hanes. Fely gwanhâi'r llywodraeth ganolog ac y llifai cenhedloedd i mewn i'r ymerodraeth heb gydnabod ei hawdurdod, syrthiai'r gallu fwyfwy i ddwylo milwyr buddugoliaethus a phendefigion llwyddiannus. Ac mewn byd ansicr a rhyfelgar fel hwnnw nid deddf unrhyw ymerodraeth neu awdurdod swyddogol a chyhoeddus unrhyw wladwriaeth oedd y peth pennaf, eithr yn hytrach deyrngarwch ac ufudd-dod dynion i'r tywysog neu'r pennaeth a ddilynent. Yn y rhwymyn personol hwn rhwng dynion a'u harweinydd y gorwedd hanfod y gyfundrefn ffiwdalaidd nid yw nac ymerodraeth na brenhiniaeth, eithr llywodraeth arglwydd neu feistr ar nifer o ganlynwyr personol, a honno'n seiliedig ar rwymedigaeth yr arglwydd i ddiogelu ei ganlynwyr a'u dyletswydd hwythau i'w wasanaethu ef mewn llu o ffyrdd. Unai'r arglwyddi hyn drachefn i'w rhwymo eu hunain i wasanaethu rhyw dywysog neu bennaeth cryfach na hwy, ac nid oedd y brenin ond pennaeth y penaethiaid dano yntau. Y brenin oedd pen y system: dano ef yr oedd ei arglwyddi (tenants-in-chief), a than rheini, drachefn, eu tenantiaid hwythau, ac ymlaen hyd oni chyrhaeddid caethion y tir (serfs) yng ngwaelod y gyfundrefn. Ac os hanfod ffiwdaliaeth yw'r rhwymyn personol hwn rhwng dyn a'i arglwydd, ei sylfaen yw'r tir (manor) gyda'r plas neu'r castell yn ei ganol a chartrefi'r tenantiaid a thai'r gweithwyr o'i amgylch. O fewn terfynau'r manor yr oedd bywyd i raddau mawr yn hunan-gynhaliol ac annibynnol ar fywyd pobl eraill tu allan i gylch dylanwad arglwydd y castell. Talai'r tenantiaid eu trethi a rhan o gynnyrch eu tir i'w harglwydd; gorfodid hwy i'w wasanaethu mewn rhyfel, a disgynai lle dyn yn y gyfundrefn o dad i fab am lawer cenhedlaeth.
Bu Gorllewin Ewrop fyw am ganrifoedd o dan ffiwdaliaeth, ac, fel y gellid disgwyl, gadawodd ei hôl yn ddwfn iawn mewn llu o ffyrdd ar fywyd y gwledydd hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A pheth bynnag oedd ei rhagoriaethau, amlycach inni, erbyn hyn, yw ei diffygion. Yr oedd stad o ryfel parhaus bron yn anwahanol oddiwrthi, ar gyfrif awydd pob rhyw arglwydd i'w wneuthur ei hun yn gryfach na'i gymdogion ac yn annibynnol arnynt: ac, yn yr eithaf arall, yr oedd sefyllfa caethion y tir yn druenus dros ben. Y mae'n wir i'r Eglwys dyneru tipyn ar elfennau garw'r gyfundrefn, ond nid oedd llawer o'i phrif swyddogion hithau fawr amgen nag arglwyddi ffiwdalaidd cryfion eu hunain: gwyddai aml farwn a marchog mai dyn i'w ofni oedd abad mynachdy, a hynny nid yn unig am y gallai fwrw eu heneidiau i uffern ond am fod nerth ei fraich yn fwy na'r eiddynt hwy. Gwanhawyd llawer ar ffiwdaliaeth pan dyfodd y trefi i fri a phwysigrwydd. Nid yn y tir yn unig yr oedd cyfoeth mwyach ond yn y trefi a'u masnach, a bu'n rhaid i arglwyddi fenthyca arian oddiar fasnachwyr i gario eu rhyfeloedd ymlaen. A phan godai brenin cryf i lywodraethu ar wlad ac y cynhyddai'r teimlad cenedlaethol, dihoenai'r gyfundrefn ffiwdalaidd fwyfwy. Ar ryw gyfrif nid system anaddas mohoni ar ddechrau'r Canol Oesoedd, pan symudai pobl dan eu pennaeth i feddiannu gwlad newydd, eithr collodd lawer ar ei gallu a'i grym lle bynnag, cyn diwedd y cyfnod, y sefydlwyd breniniaethau cenedlaethol cryf. Ond er pob newid, ni ryddhaodd Ewrop ei hun yn llwyr hyd yma o afael ffiwdaliaeth, ac amlwg yw ei delw ar lawer sefydliad yn y Gorllewin heddiw.
Amherffaith hollol fyddai unrhyw ddarlun o'r Canol Oesoedd heb le blaenllaw ynddo i'r Babaeth, y sefydliad mawr crefyddol y perthynai pawb drwy Orllewin Ewrop iddo. Tu allan i'r Eglwys Babaidd nid oedd iechydwriaeth i ddyn, a throsedd yn erbyn Duw fai peidio â bod yn deyrngarol iddi. Gwnai honiadau uwchlaw rhai pob gallu daearol, hawliai ufudd-dod oddiarnynt ar boen eu bywyd a'u heddwch tragwyddol, a chyffelyb i berthynas y lleuad i'r haul oedd perthynas y wladwriaeth i'r Eglwys ym marn arweinwyr y Babaeth. Fwy nag unwaith gwelwyd ymerodron llwyddiannus fel Theodosius ym Milan a Henri'r IV (1056-1105) yng Nghanossa dan orfod plygu i'w hawdurdod. Canolbwynt dylanwad y Babaeth, wrth gwrs, oedd Eglwys Rhufain, a chyfrif mwy na un ffaith am hyn. Ynghyntaf, dyna'i thraddodiadau hen fel prifddinas yr ymerodraeth gynt; wedyn, dyma'r unig un o eglwysi'r Gorllewin y bu cysylltiad rhyngddi ag apostolion (SS. Pedr a Phaul). Araf, y mae'n wir, y cydnebu rhai eglwysi eraill safle Rhufain, ac ar hyd y canrifoedd gwrthododd yr Eglwys Ddwyreiniol wneuthur hynny; ond yn y Gorllewin nid oedd a gystadlai â hi, ac yn fuan edrychid i fyny ati fel arweinydd Cristnogaeth y Gorllewin a phrif amddiffynnydd y Ffydd. At hynny, cynhyddai ei chyfoeth a'i gallu tymhorol o hyd, yn enwedig pan gyflwynodd Pepin, tad Siarlmaen, y tiroedd yng nghanol yr Eidal a gymerth ef oddiar y Lombardiaid yn rhodd i'r Pab. Bu, hefyd, ambell Bab o allu anghyffredin ac yn llywodraethwyr cryfion fel Gregory Fawr (590-604), Hildebrand neu Gregory VII (1073-85) a Boniface VIII (1294-1303). Yn wir yr oedd y Babaeth yn y Canol Oesoedd yn wladwriaeth bwysig a'i dylanwad yn hynod o fawr ar wleidyddiaeth y gwledydd. Heblaw bod yn "was gweision Duw " (servus servorum Dei), yr oedd y Pab hefyd yn deyrn daearol a chanddo ei lysoedd, ei fyddinoedd, a'i swyddogion ei hun. Ac i raddau llai yr oedd yr un peth yn wir yn aml am yr esgob neu'r abad yng nghylch mwy cyfyngedig eu hawdurdod hwy.
Ond gallu ysbrydol y Babaeth oedd fwyaf wedi'r cyfan, ac nid rhyfedd hynny chwaith, oherwydd credai pawb fod agoriadau teyrnas nef yn ei dwylo. Diarddelai frenhinoedd a thrwy air o'i heiddo (interdict) rhoddid pen weithiau ar bob gwasanaeth crefyddol drwy wlad gyfan. A llawer tro ni bu'n ormod ganddi ddefnyddio dulliau annheilwng ac offerynnau creulon (e.e., y chwilys) i hyrwyddo'i gwaith neu lesteirio'i gwrthwynebwyr. Ond er ei holl wendidau a'i hanghysonderau, y mae'n anodd dychmygu beth a ddaethai o Ewrop y Canol Oesoedd onibai amdani, ac ni ddylid anghofio iddi ar hyd y canrifoedd gynhyrchu seintiau dirif. Hi'n bennaf a ddiogelodd ddiwylliant a gwareiddiad yn y cyfnod maith a thywyll hwn. Ei gweinidogion hi a noddodd addysg—yn wir, hwy'n unig a dderbyniasai unrhyw addysg gwerth yr enw y pryd hynny—ac, yr oedd ei swyddi uchaf, hyd yn oed mewn cyfnod fel hwnnw, yn agored i ddyn o ba ddosbarth bynnag y cododd. Cadwodd yn fyw mewn oesoedd gwyllt a rhyfelgar ddelfrydau trugaredd a chymwynasgarwch, ac, er na wasnaethodd hwynt yn ffyddlon bob amser, nid anghofiodd yn nyddiau ei gwendid mwyaf bregethu Crist a gweinyddu'r sacramentau, ac mewn byd materol lle nad oedd hynny'n waith hawdd cyfeiriodd feddyliau dynion at alluoedd a gwirioneddau ysbrydol.[2]
O gylch y Babaeth a than ei nawdd tyfodd mwy nag un sefydliad o bwys. Efallai mai'r pennaf o safbwynt diwylliant a gwareiddiad Ewrop oedd mynachaeth. Egwyddor sylfaenol y mudiad hwnnw oedd rhagoroldeb hunan-ymwadiad llwyr a thair adduned fawr a nodweddai wasanaeth pob mynach—tlodi, purdeb (dibriod) ufudd-dod. Patriarch Mynachaeth Ewrop yw Benedict (480-544), sylfaenydd Urdd fawr y Myneich Duon: am un ohonynt hwy y sonia'r hen alaw Gymreig, "Hen Fynach Du" Caerlleon Gawr. O un o fynachdai Benedict y daethai Awstin o'r Eidal ar ddiwedd y chweched ganrif i efengyleiddio Lloegr, a gwareiddiodd y Benedictiaid lawer iawn ar Orllewin a Chanol Ewrop. O un o'u tai yn Lloegr yr aeth Wilfred allan i ennill yr Iseldiroedd i Grist, ac o un arall y cychwynnodd Boniface i efengyleiddio canolbarth yr Almaen. Bu eu tai yn ganolfannau pwysig i wareiddiad a diwylliant yr oesoedd tywyll: fel amaethwyr a chrefftwyr dysgasant lawer ar y trigolion, hwy oedd athrawon yr ieuainc a gweinyddwyr elusen i'r tlawd, a dengys eu darluniau a'u llawysgrifau mor brydferth a gwerthfawr fu eu cyfraniad yn y cyfeiriadau hyn Gyda threigliad y blynyddoedd dirywiodd yr Urdd a diffoddwyd llawer ar ei sêl, a chododd urddau eraill fel rhai Cluny a'r Cisterciaid neu'r Myneich Gwyn a gartrefodd yng Nghymru yn Ystrad Fflur a Glyn y Groes. Ac yn y drydedd ganrif ar ddeg ymddangosodd yr Urddau Cardod neu'r Brodyr (Friars): y Brodyr Llwydion dan Sant Ffransis (1182-1226), y rhai Gwyn dan Dominic a'r Brodyr Duon neu'r Carmeliaid. Un o ganrifoedd mwyaf diddorol y Canol Oesoedd yw'r drydedd ar ddeg, pan adfywiodd y mudiadau hyn gymaint ar y Babaeth a'i dylanwad drwy'r Gorllewin. Er pob gwahaniaeth rhwng y clerigwr a lafuriai mewn tref neu bentref a'r mynach a'i cyfyngai'i hun yn bennaf i'w fynachdy, a rhyngddo yntau drachefn a'r Brodyr yn yr Urddau Cardod, perthynai pob un ohonynt i'r un Eglwys fawr; a chyda diwedd y Canol Oesoedd a dadfeilio gallu'r Babaeth, daeth cyfnod euraidd mynachaeth hefyd i ben, er ymddangos o Urddau eraill fel y Jesuitiaid yn ddiweddarach (1541) yn nyddiau Ignatius Loyola.
Symudiadau neilltuol iawn, eto, oedd y Croesgadau sydd mor nodweddiadol o'r Canol Oesoedd. Yn erbyn yr anffyddiwr yn y Dwyrain y bu'r rhai pwysicaf, ond ffurfiau cynharach ar yr un peth oedd ymgyrch rhai Pabyddion yn erbyn heresiau neu yn erbyn barbariaid a drigai yn Ewrop. Dan y Pab Urban II y cyhoeddwyd y Groesgad gyntaf yn 1095, ac apeliwyd at bob math ar ddyn i ymuno â hi—at y duwiolion, at fasnachwyr, at bobl eisiau gweld tipyn ar y byd ac at droseddwyr o bob math, gan addaw y rhyddhâi gwasanaeth yn erbyn y Saracen y rheini o bob cosp a phoen yn y byd a ddaw. Cymerwyd Caersalem yn 1099, ac aeth lluoedd i'r Dwyrain wedi hynny. Collwyd y ddinas santaidd drachefn yn 1244, a bu yn nwylo'r Diffydd hyd oni chymerth y Prydeinwyr hi yn 1917. Ym mudiad rhyfedd y Croesgadau yr oedd, yn ddiau, dda a drwg. Llwyddwyd i uno cenhedloedd a arferai ryfela'n ddibaid yn erbyn ei gilydd: ehangwyd llawer ar wybodaeth trigolion y Gorllewin pan ddaethant i gyffyrddiad â phobl a gwledydd y Dwyrain: daeth llawer dull newydd o fasnachu ac o ryfela yn adnabyddus yn Ewrop a bu'r gyfathrach rhwng Gorllewin a Dwyrain yn symbyliad mewn llu o ffyrdd i wybodaeth a chynnydd.
Ni byddai'n iawn troi oddiwrth y Canol Oesoedd heb gyfeirio at un peth a rydd fri arbennig arnynt, sef gwaith godidog adeiladwyr castelli ac eglwysi Gothig Ewrop. Gelwir eu dull o adeiladu yn "Gothig" i'w wahaniaethu oddiwrth ddulliau clasurol Groeg a Rhufain, a chyda tipyn o ddirmyg yr arferid y gair i ddechrau adeilad o waith Gogleddwr, onid yn wir barbariad, oedd un felly. Eithr nid rhaid iddynt gywilyddio, yn enwedig os meddylir am yr hyn a wnaethpwyd ganddynt oddeutu'r drydedd ganrif ar ddeg pryd y blodeuodd y dull hwn yn holl ogoniant ei binaclau a'i golofnau a gemwaith digyffelyb ei ffenestri. Daeth gwaed newydd ac ynni newydd i gelfau cain Ewrop gyda dyfodiad y cenhedloedd newydd, ac un praw amlwg o hynny yw prif eglwysi enwog fel rhai Cologne, Rheims a Milan a Mynachlog Westminster.
Rhoddwyd, hefyd, cyn eu diwedd fynegiant perffaith mewn llên i ysbryd y Canol Oesoedd gan un o feirdd mwya'r byd. Yn ei Ddwyfol Gerdd (Divina Commedia) darluniodd Dante (1265-1321) y dylanwadau sy'n esbonio'r Canol Oesoedd yn eu gwendid a'i gogoniant, a'r tri chyferbyniad a rêd drwyddynt yn ddidor—y cyferbyniad rhwng yr Eglwys a'r Ymerodraeth, rhwng y naturiol a'r goruwchnaturiol, a rhwng y byd hwn a'r byd a ddaw. Er ei holl uniongrededd, canodd Dante yn y Divina Commedia gnul diwinyddiaeth a chyfundrefnau moesol y Canol Oesoedd. Nid annhebyg yw ei gân, ym marn Edward Caird,[3] i borth rhyw brif eglwys fawr: tu mewn i'r porth yr ydym yng ngoleu gwannaidd crefydd y Canol Oesoedd, ond pan awn drwyddo, wele "lawn deg oleuni dydd" cyfnodau diweddar.