Hanes Gwareiddiad (testun cyfansawdd)
← | Hanes Gwareiddiad (testun cyfansawdd) gan Gwilym Arthur Edwards |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Gwareiddiad |

HANES GWAREIDDIAD
HANES GWAREIDDIAD
GAN
G. A. EDWARDS, M.A.
Awdur Y Beibl a'i Gefndir ac O Froydd Hud a Hanes.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR
WRECSAM: GWASG Y DYWYSOGAETH
CAERDYDD; ATLANTIC HOUSE
1927
ARGRAFFWYD YNG NGHYMRU
I
GOFFADWRIAETH
TRI O'M CYFEILLION
JOHN EDWARD HUGHES
HERBERT JONES DAVID WILLIAMS
ʘʘʘ
Mor gynnar, lle mawr gwynwn,
I'r bywyd hir o'r byd hwn!
RHAGAIR
Yn ystod y gaeaf diwethaf astudiwyd Hanes Gwareiddiad gan ddosbarth ym Mangor dan nawdd Undeb Addysg y Gweithwyr, a chodai un o'i anfanteision o ddiffyg llawlyfr Cymraeg ar y pwnc.
Cais yw'r llyfr hwn i gyfarfod yr angen hwnnw, a dyna gyfrif am ei ffurf a'i faint. Hawlia maes mor eang, wrth gwrs, lyfr helaethach lawer na hwn: dymunol, yn wir, fyddai cyfres o lyfrau Cymraeg ar destunau'r penodau sy'n dilyn. Hyd oni cheir hynny neu un llyfr maith a thrylwyr ar yr holl faes, efallai y bydd croeso i fraslun neu amlinelliad byr fel hwn o hanes diddorol dros ben.
Nodais yng nghorff y llyfr ac yn yr ail atodiad nifer o lyfrau defnyddiol a chyfleus ar wahanol adrannau'r maes, a gwêl y cyfarwydd gymaint yw'm dyled i amryw ohonynt. Ni chwanegwyd mynegai am y tybiwn fod y manylion am gynnwys y penodau ar y dechrau a'r atodiad am yr amseroedd a'r prydiau ar y diwedd yn gwneuthur hynny'n ddianghenraid.
Uwchlaw popeth dymunaf ddiolch i aelodau'r dosbarth am y cwbl a ddysgais wrth geisio eu hyfforddi ac am y nosweithiau difyr a dreuliasom yn trafod ac yn olrhain yr hanes o oes i oes.
- Penygeulan, Bangor,
- Hydref, 1927.
CYNNWYS
I. RHAGARWEINIOL
Gwareiddiad a'i nodau—Ffurfiau a thymhorau gwareiddiad
Cyfraniadau gwahanol wledydd—Gwareiddiad Ewrop a'r Gorllewin.
II. CYN GWAWR HANES
Cyfnod Hanes a'r un maith o'i flaen-Lle a phryd yr ymddangosodd
dyn gyntaf—Yr Oesoedd cynhanesyddol—Oesoedd yr Hen Gerrig a'r
Cerrig Newydd—Oesoedd y Meteloedd—Dechrau gwareiddio: iaith,
offer a chelfi, cymdeithas, crefydd.
III. GOSOD SYLFEINI
Amodau ffafriol i wareiddiad cynnar—Hen deyrnasoedd yr Aifft a
Babilonia—Cwrs eu hanes—Datblygu masnach a llywodraeth, celfau
a chrefftau—Ysgrifennu—Gwyddoniaeth a syniadau crefyddol.
IV. PLANT YR ADDEWID
Gwareiddiad a Chrefydd—Cyfraniad Israel—Canan a'i phobl—
Gwaith Moses—Brwydr dau wareiddiad—Y proffwydi—Yr Hen Destament.
V. GOGONIANT GROEG
Cenhedloedd bychain a gwareiddiad—Cartref cyntaf gwareiddiad yn
Ewrop—Amryw ddoniau'r Groegwr a dyled y byd iddo—Llên,
gwyddoniaeth, athroniaeth, celfau cain, gwleidyddiaeth—
Trosglwyddo'r etifeddiaeth.
VI. MAWREDD RHUFAIN
Dawn ymarferol a gallu'r Rhufeiniwr nodau Hanes Rhufain:
y brenhinoedd y werin-lywodraeth a'r ymerodraeth—Llywodraethu'r
gwledydd a rhoi deddf i'r byd—Paham y syrthiodd Rhufain.
VII. CYFLAWNDER YR AMSER
Cristnogaeth a gwareiddiad—Yr hen a'r newydd mewn Cristnogaeth—
Cyfraniadau tair cenedl—Rhufain a'r grefydd newydd—Yr Eglwys yn
olynydd yr ymerodraeth—Dylanwad Rhufain arni—Nodau gwareiddiad Cristnogol.
VIII. Y CANOL OESOEDD
Yr oesoedd tywyll a'r canrifoedd dilynol—Dyfodiad y barbariaid a
gwawr cenedlaetholdeb—Amryw genhedloedd ond un grefydd—
Ffiwdaliaeth—Y Babaeth Mynachaeth Y Croesgadau—
Yr Eglwysi Gothig—Dante.
IX. DADENI A DIWYGIO
Rhwng cyfnodau—Dirywiad y Babaeth a thyfiant cenedlaetholdeb.
Y Dadeni: ailddarganfod yr hen fyd a darganfod gwledydd newydd—
Yr Eidal yn arwain—Achosion y Diwygiad a'r ddwy ffurf arno—
Colli ac ennill.
X. GWYDDONIAETH A BEIRNIADAETH
Gwawr y cyfnod diweddar a'i nodweddion—Cynnydd a datblygiad
Gwyddoniaeth—Rhai enwogion—Effeithiau pwysig y mudiad ar
feddwl a bywyd dyn—Beirniadaeth yr athronwyr a'r
ysgrifenwyr cymdeithasol—Beirniadaeth Feiblaidd.
XI. CHWYLDROAD A CHYFNEWID
Dau chwyldroad—Prydain yn gartref y cyntaf a Ffrainc yr ail—Dyfeisiau,
ffactrioedd, gweithfeydd, rheilffyrdd—Cyfoeth a thlodi, meistri a
gweithwyr—Achosion y chwyldroad Ffrengig —Cwrs ei hanes—Napoleon—
Ewrop wedi'r chwyldroad.
XII. BETH SYDD YMLAEN?
Y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r datblygu ynddi—Cenedlaetholdeb,
llywodraeth, rhyfel, heddwch Gwareiddiad a chynnydd—
Amodau gwir wareiddiad.
XIII. ATODIADAU
(a) Amseryddiaeth
(b) Am Lyfrau
HANES GWAREIDDIAD
PENNOD I
RHAGARWEINIOL
NID peth hawdd yw diffinio gwareiddiad yn foddhaol neu daro ar ddisgrifiad cryno ohono, ond y mae'r gwahaniaeth rhwng pobl wareiddiedig a rhai anwar neu farbaraidd yn weddol glir i bawb. Fel y datblyga gwareiddiad, aiff bywyd yn fwy aml-ochrog a chymhleth ac ar yr un pryd yn gyfoethocach a llawnach ei ystyr. O'i gymharu â dyn anwaraidd gŵyr dyn a wareiddiwyd eisoes fwy lawer amdano'i hun a'i fyd, y mae'n fwy o feistr ar alluoedd Natur ac ar holl amgylchedd ei fywyd, ac y mae ei gymdeithas â'i gyd-ddyn gryn lawer yn ehangach a dyfnach. Yn y pethau hynny a gyfrifir yn bwysicaf a rhagoraf mewn bywyd cyrhaeddodd dir uwch lawer na'r dyn anwar y mae hyn, er enghraifft, yn wir am ei wybodaeth a'i ddiwylliant, am ei gelf a'i allu ymarferol, am ei drefn gymdeithasol a'i lywodraeth, ac am ei foesoldeb a'i grefydd. Ymhob rhyw fodd golyga bywyd fwy iddo a chaiff yntau fwy allan ohono. Er mwyn gweled y gwahaniaeth yn ddigon eglur, nid rhaid i ddyn ond meddwl am yr hyn ydyw bywyd i ni yng Nghymru'n awr a'i gymharu â'r hyn ydoedd i'n hynafiaid yma ganrifoedd lawer yn ôl neu â'r hyn ydyw hyd heddiw i lwythau anwar y ddaear.
Os yw'n anodd llunio diffiniad o beth mor aml ei agweddau â gwareiddiad, gellir ar unwaith enwi rhai o'i nodweddion amlycaf. Ym marn un awdurdod ar y pwnc canfyddir y gwahaniaeth rhwng dynion wedi eu gwareiddio a rhai anwar mewn tri chyfeiriad o leiaf—yng nghynnydd eu gwybodaeth a'u gallu a'u ffurfiau cymdeithasol.[1] O ran corff dibwys bron yw'r gwahaniaeth rhyngddynt, ac ers oesoedd meithion bellach ni bu rhyw lawer o ddatblygu ar gorff dyn. Eithr cynhyddodd swm ei wybodaeth yn rhyfeddol o gyfnod i gyfnod, a manteisiodd un genhedlaeth yn fawr ar brofiad a gwybodaeth y rhai o'i blaen. Daw dyn i etifeddiaeth a gynhydda'n barhaus o oes i oes: y mae meddwl dyn gwareiddiedig, o anghenraid, yn fwy diwylliedig nag eiddo'r anwar, a stôr ei wybodaeth yn anhraethol lawnach. Oherwydd hyn, hefyd, y mae ei allu ymarferol yn fwy: lle cerddai dyn gynt mewn anwybodaeth ac ofn, fe gerdda heddiw yn hyderus, canys ffrwynodd lawer ar alluoedd Natur o'i gwmpas, a gall gyflawni llawer iawn mwy o bethau na'r dyn anwar am ei fod yn ei ddeall ei hun a'i fyd yn llawer gwell na hwnnw. Gwybodaeth, fel y dywed Emerson, yw'r feddyginiaeth yn erbyn ofn a hi a rydd hyder i ddyn: "knowledge and use, which is knowledge in practice."[2] Ymhellach, erys pobl anwar yn fodlon ar ffurfiau syml a chyfyngedig o fywyd cymdeithasol, megis bywyd y teulu neu'r tylwyth yn unig. Bywyd heb lawer o newid ynddo yw eu bywyd hwy, eithr gyda chynnydd gwareiddiad datblygir ffurfiau llai elfennol ac ehangach. Una'r llwythau i'w ffurfio eu hunain yn genhedloedd, a'r cenhedloedd drachefn i'w ffurfio eu hunain yn ymerodraethau. Yn ddiweddarach fyth daw'r syniad i feddwl rhai cenhedloedd am undeb neu gymdeithas yn cynnwys o'i mewn holl genhedloedd y byd, ond hyd yma ni sylweddolwyd hynny yn hanes dyn.
Cydnebydd pawb y perthyn y tair nodwedd yma o leiaf i wareiddiad, sut bynnag yr ydys yn ei ddiffinio, a diau y dymunai llawer chwanegu at eu nifer. Honnent, efallai, y dylid rhoi lle mwy pendant i ddatblygiad crefyddol a chynnydd mewn cyfeiriadau pwysig eraill cyn derbyn ohonynt unrhyw syniad am wareiddiad fel un hollol foddhaol. Y gwir, wrth gwrs, ydyw na welodd y byd erioed wareiddiad perffaith, ac nis gwêl yn unman yn awr: rhyfedd gymaint o elfennau digon anwar sydd yn y mwyaf gwareiddiedig ohonom! Datblygu wna gwareiddiad: gwelir ef yn gyflawnach, mewn un oes neu wlad nag mewn rhai eraill. Nid peth unffurf a chyson ydyw chwaith, oherwydd torrodd iddo'i hun fwy nag un llwybr, a symudodd ymhellach ar hyd rhai o'r llwybrau hynny nag ar hyd eraill. Esboniad diddorol un o feddylwyr pennaf ein hoes ar sefyllfa bresennol y byd gwareiddiedig yw i ddyn goncro'r byd materol tuallan iddo'n llwyrach lawer nag y concrwyd byd mewnol ei fywyd personol a chymdeithasol ganddo. Dichon mai'r peth cywiraf fyddai sôn, fel y gwna Spengler ac eraill, nid am wareiddiad fel un symudiad mawr gyda gwahanol agweddau iddo, eithr am wareiddiadau neu nifer o ymdrechion tra gwahanol o ran eu nod a'u hamcan i'w gilydd. Beth bynnag yw'r gwir terfynol ar hyn, y mae'n amlwg i bawb fod gwahaniaeth clir rhwng, dyweder, gwareiddiad India ac un Prydain heddiw, neu rhwng un Israel ac un Groeg yn y bumed ganrif C.C. Eithr nid yw cydnabod hyn yn ei gwneuthur yn amhriodol sôn am wareiddiad mewn ystyr gyffredinol i ddisgrifio ymdrech dyn ymhob oes a gwlad i'w ddiwyllio ei hun ac i ddatblygu a pherffeithio'i fywyd.
A chymryd golwg gyffredinol ar Hanes, ymddengys fod i wareiddiad ei gyfnodau a'i dymhorau. Weithiau tyrr allan, i bob golwg o leiaf, yn sydyn, fel y gwnaeth yng Ngroeg yn nyddiau Pericles neu yn Lloegr yn adeg Elisabeth, a llifa'n ffrwd gref am ysbaid. Yna arafa'r lli ac aiff y dyfroedd yn llai hyd oni chollir golwg ambell dro yn gyfangwbl arnyrt; a phan ddigwydd hynny nid anghywir yw sôn am dranc neu ddiflaniad gwareiddiad neilltuol. Ond yn fynychach dechreua'r afon lifo eilwaith a symuda gwar iddiad eto rai camau ymlaen yn ei ddatblygiad. Ymhob deffroad bron yn hanes dyn daw rhywbeth i'w feddiant nas collir yn llwyr hyd yn oed pan aiff y byd i hepian ac ail-huno drachefn.
Eglur iawn ydyw, hefyd, i rai cenhedloedd gyfrannu llawer mwy nag eraill tuag at wareiddio'r byd: ac ynglŷn â hyn i'r cenhedloedd gwynion yr ydym yn fwyaf dyledus, yna i'r rhai melynion, ac yn ddiwethaf ac i raddau llai o lawer i'r cenhedloedd eraill.
Ac er na chychwynnodd ein gwareiddiad ni yn Ewrop, hwnnw erbyn hyn yn ddiamau yw'r pwysicaf a mwyaf ei ddylanwad yn y byd. Nid yw'n anodd gweled paham y mae felly. Heb anwybyddu cyfraniadau gwirioneddol rhai o wledydd mawr y Dwyrain fel India a China, nid gormod yw dywedyd mai un y Gorllewin (h.y., un Ewrop a Gorllewin Asia) yw'r gwareiddiad uchaf, a'i gymryd at ei gilydd, y gŵyr dyn amdano. Y mae mwy nag un rheswm am hyn eto. Rhaid priodoli peth o'r fantais yn ddiau i hin a daearyddiaeth Ewrop ac i gyffelyb ystyriaethau naturiol a fu'n ffafriol i ddatblygiad ei phobloedd o ran eu cyrff a'u hiliogaeth: yn wir, yn ôl un ysgol o ysgrifenwyr, dyma'r dylanwadau cryfaf yn y pen draw. Nid oes angen diystyrru yr agweddau yma, er inni droi i gyfeiriadau eraill am y rhesymau pwysicaf. Ar gyfrif ei sefyllfa a'r ffaith bod gwareiddiad wedi symud o'i gartref gwreiddiol i'r Gorllewin yn hytrach nag i'r Dwyrain, Ewrop a fu'n etifedd naturiol gwareiddiad yr hen fyd, ac nid oes, gan hynny, wareiddiad hŷn nag un Ewrop. Ni ellir mwyach gredu traddodiadau'r Indiaid a'r Chinëaid a honna mai eu gwareiddiad hwy yw'r hynaf yn y byd. Cartrefi cyntaf gwareiddiad gweddol uchel yn ddiamau oedd yr Aifft a Babilonia, ac ni bu'r India a China heb deimlo rhywfaint o ddylanwad y gwareiddiad hwnnw; ond Ewrop yn bennaf a'i diogelodd, ac ar ei sylfeini yr adeiladodd hithau ei gwareiddiad cyfoethocach ei hun.
Wrth fwrw golwg dros wareiddiad Ewrop heddiw hawdd yw canfod olion llu mawr o ddylanwadau arno, eithr yn ei agweddau pwysicaf effeithiodd tair gwlad yn ddyfnach arno na'r gweddill gyda'i gilydd: ac onibai am eu dylanwad hwy buasai'n bywyd yn Ewrop heddiw yn wahanol iawn i'r hyn ydyw. Y tair yw Canan, Groeg a Rhufain. Yn natblygiad moes a chrefydd y Gorllewin daeth yr ysbrydiaeth bennaf o grefydd Israel ac yna o Gristnogaeth, ei holynydd. Ym myd y meddwl—byd yr athronydd, y gwyddonydd a'r llenor—fe adeiladodd Ewrop ar seiliau a osodwyd i lawr gan y Groegwyr. A gosododd Rhufain ei delw hithau'n glir iawn ar ein bywyd allanol—ar ein deddfau a'n llywodraeth, ein trefniadau a'n sefydliadau cymdeithasol a gwladol.
Yn y penodau a ganlyn ymdrinir yn unig â gwareiddiad y Gorllewin, am mai hwnnw'n hytrach nag unrhyw un arall a effeithia fwyaf arnom ac a esbonia'n bywyd orau i ni ein hunain.
Ac er ein cyfyngu'n hunain fel hyn i wareiddiad Ewrop, ni ellir mewn llyfr bychan ond prin gyfeirio at rai rhannau o faes mor eang a rhaid fydd gadael eraill heb hyd yn oed sôn amdanynt. Cyfyd yn naturiol lu mawr o bynciau y buasai'n ddiddorol iawn eu trafod. Wrth ba safon neu safonau, er enghraifft, y dylid beirniadu unrhyw wareiddiad, neu beth sydd i benderfynu pa ffurf neu ffurfiau o wareiddiad sydd orau? A ddylid dywedyd bod un ffurf yn well neu'n uwch na'r llall am fod pobl dan un ohonynt yn hapusach neu'n alluocach neu'n fwy llwyddiannus nag o dan y ffurf arall, neu am ryw resymau eraill? Neu meddylier am y cwestiwn diddorol ynglŷn â pherthynas gwareiddiad â chynnydd dynoliaeth. A all gwareiddiad gynhyddu heb i fywyd mewn rhyw ystyron pwysig fod fymryn gwell? A yw pob math ar wareiddiad yn braw o ddatblygiad dyn ac yn elfen wirioneddol yn ei gynnydd?
Rhaid troi oddiwrth broblemau cyffredinol fel hyn er mwyn dilyn hanes ein gwareiddiad o gyfnod i gyfnod: ond fe ddichon mai wrth wneuthur hyn y gwelwn orau sut i ateb cwestiynau fel y rhai uchod.
PENNOD II
CYN GWAWR HANES
CYFYNGIR hanes, yn ystyr fanyla'r gair, i'r digwyddiadau a'r cyfnodau hynny ym mywyd dyn y mae gennym mewn rhyw ffurf neu'i gilydd gronicl ysgrifenedig amdanynt. Oesoedd hanes, gan hynny, yw'r rhai y dibynnwn am ein gwybodaeth yn eu cylch ar ddefnyddiau a fu unwaith neu y sydd yn awr ar gof a chadw mewn ysgrifen o rhyw fath—ar feini, dyweder, neu ar grwyn, ac yn enwedig mewn llawysgrifau a llyfrau. Tu ôl i'r oesoedd hynny, drachefn, ymestyn canrifoedd dirif cyn bod unrhyw ddull o ysgrifennu; a dibynna'n gwybodaeth am y cyfnodau meithion hyn ar bob math ar olion bywyd dyn cyntefig ar ei domenydd a'i ogofau, ei feddau a'i esgyrn, ei arfau a'i gelfi. Nid yw'r ffin rhwng y ddau gyfnod bob amser yn un hollol glir a phendant efallai anodd dywedyd ambell waith pa un ai i gyfnod hanes neu i'r un cynhanesyddol y perthyn digwyddiad neilltuol, ac fe ysgrifennwyd yng nghyfnod hanes nifer mawr o bethau, fel traddodiadau gwerin, a fodolai gynt am ganrifoedd ar lafar. Ond y mae'r gwahaniaeth rhwng y naill gyfnod a'r llall yn un digon naturiol ac yn un tra chyfleus i'w gadw mewn golwg, pan geisir olrhain bywyd dyn o'i gychwyn pell ganrifoedd lawer yn ôl.
Y peth cyntaf a welir, os derbyniwn y rhaniad hwn, yw mai cyfnod hynod o fyr, o'i gymharu â'r un o flaen, yw cyfnod hanes, er mai ef yw'r pwysicaf o'r ddau i ni. Ac nid yn unig cyfynga hanes ei hun i gyfnod bychan ym mywyd dyn a'r byd, ond fe'i cyfynga'i hun hefyd i rannau neilltuol o'r ddaear ac i rai cenhedloedd yn fwy nag i eraill. Gwyn fyd y bobl, meddir, nad oes iddynt hanes. Y mae llawer felly yn y byd hyd yn oed heddiw, yn enwedig os meddwl wnawn am hanes ar gof a chadw mewn ffurf ysgrifenedig. A chyn cyrraedd ohonom ddechrau cyfnod hanes, cyn gwawr hanes yn yr ystyr fanwl, aeth cyfnodau meithion o ddatblygu a gwareiddio ym mywyd dyn heibio. Gwir yw geiriau Chesterton yn y cyswllt hwn: "the dawn of history reveals a humanity already civilized—perhaps it reveals a civilization already old."[3] Araf, gan mwyaf, y bu'r newid o un cyfnod i'r llall, ac ni ddigwyddodd hynny'n yr un ganrif ymhob rhan o'r byd. Digwyddodd, er esiampl, yn llawer cynharach yn y Dwyrain nag yn y Gorllewin, yn yr Aifft nag yng Nghymru.
Ynglŷn â bywyd dyn cyn gwawr hanes, cyfyd llu o broblemau na ddichon neb erbyn hyn eu hateb yn derfynol Yn un peth, y mae'r defnyddiau yn brin, a pheth arall, o'r un defnyddiau tynn yr awdurdodau gasgliadau gwahanol iawn i'w gilydd. Y mae hyn yn neilltuol o wir am y ddau gwestiwn pwysicaf a mwyaf diddorol yn y maes yma—lle yr ymddangosodd dyn gyntaf ar y ddaear a phryd y bu hynny? Myn rhai mai'r Aifft oedd cartref cyntaf dyn, ond yn fwy cyffredinol tybir mai rhywle yn Asia yr oedd crud dynoliaeth. Ni ellir, wrth gwrs, fanylu dim am y fan: digon yw dywedyd "rhywle ar wastadeddau uchel canol Asia, yn y darn eang hwnnw o'r cyfandir rhwng Mesopotamia a Mongolia." I gadarnhau hyn, honnir bod yr amodau naturiol yn ffafriol neilltuoli ymddangosiad dyn yn y rhan honno o'r byd filoedd lawer o ganrifoedd yn ôl. Nid ymddangosodd mewn hin rhy boeth iddo fedru byw ynddi, ac ni wnâi gwlad rhy wlyb nac un rhy oer y tro chwaith. Dywedir, hefyd, mai yn yr un rhan o'r byd yr ymddangosodd gyntaf yr anifeiliaid a ddofodd dyn ymhen amser—y march, er enghraifft, a'r ddafad a'r ych a'r ci—ac mai dyma gartref cyntaf yd a rhai moddion eraill cynhaliaeth dyn ac anifail. Ond lle bynnag yr ymddangosodd dyn gyntaf erioed, dylid cofio na phenderfyna hynny ynddo'i hun y cwestiwn ynghylch y fan lle gwareiddiwyd dyn gyntaf yn ei hanes Dichon iddo orfod symud o'i gartref gwreiddiol i ryw ran arall o'r byd cyn y datblygwyd llawer ar ei wareiddiad: dyna'n ddiddadl a fu ei hanes, os gwir y gred mai rhywle ar wastadeddau canolbarth Asia yr ymddangosodd gyntaf.
Cwestiwn mwy dyrys fyth yw dyddiad ymddangosiad dyn ar y ddaear. Ni waeth inni gyfaddef bod dyddio hyn yn gwbl amhosibl, a cheir gwahaniaeth o filoedd o ganrifoedd ymhlith awdurdodau ynghylch yr ffeithiau. Rhy brin a rhy fregus eto yw'r defnyddiau, ac ansicr, ar y gorau, yw llawer damcaniaeth a seilir arnynt. Rhaid dibynnu i raddau helaeth ar ffurf a natur ychydig o esgyrn dynion cyntefig a ddarganfuwyd mewn gwahanol wledydd ac ar ystyriaethau daearegol ynglŷn â'r haenau lle cafwyd yr olion hyn. Darganfuwyd esgyrn yn Java sy'n mynd â ni'n ôl o leiaf hanner miliwn o flynyddau, a mwy o lawer na hynny ym marn ambell awdurdod. Ond prin yr ystyrrir dyn Java" yn fod gwareiddiedig o gwbl: cyfeirir yn gyffredin ato fel yr ape-man of Java, ac enw gwyddonol y brawd hwn yw yr epa-ddyn unionsyth (pithecanthropus erectus). I gyfnod diweddarach y perthyn "dyn Heidelberg," fel y'i gelwir, oherwydd darganfod yr esgyrn yn agos i'r dref honno, ac hefyd "dyn Piltdown," sef yr olion dynol cyntaf a ddarganfuwyd hyd yma ym Mhrydain. Rhodiai hwnnw'r ddaear yma, yn ôl rhai awdurdodau, o leiaf fil a hanner o ganrifoedd yn ôl, a phrin y gellir ei ystyried yntau'n fod gwareiddiedig o gwbl. Eto i gyd, er nad dynion. mohonynt mewn un ystyr, yr oedd gwahaniaeth mawr rhyngddynt â'r bwystfilod o'u hamgylch, a pherthynai iddynt fanteision mawr ar y rheini. Hwy yn unig allasai sefyll yn unionsyth ar eu deudroed, ac yr oedd eu dwylo yn rhai nodedig o hwylus oherwydd hyd y bawd. Nid oes yr un creadur â llaw mor gyfleus ganddo â dyn, a mantais anhraethol i'w ddatblygiad a fu hynny. Ac yn ddiau yr oedd mwy o fin ar feddwl y dynion cyntefig hyn nag ar eiddo'r anifeiliaid o'u cwmpas. Onid yw hyn yn wir, y mae'n anodd deall sut yr enillodd dyn mor gynnar yn ei hanes oruchafiaeth mor llwyr ar y creaduriaid eraill.
Ymhell cyn dirwyn o'r cyfnod cyn hanes (prehistoric) i ben, cyraeddasai dyn, fel yr awgryma'r dyfyniad o Chesterton, radd o ddatblygiad y gellir yn ddigon teg ei alw'n gyflwr gwareiddiedig. A rhanna gwyddonwyr yr oesoedd olaf yn y cyfnod cynhanesyddol yn adrannau gwahanol ar sail yr hyn a ellir ei gasglu amdanynt oddiwrth gelfi ac arfau'r dyn cyntefig neu oddiwrth unrhyw erfyn o'i eiddo a oroesodd y canrifoedd. Yn wir, nid oes dim a deifl fwy o oleuni ar fywyd dyn cyn gwawr hanes na'i gelfi a'i offer (tools). Un o'r nodweddion amlycaf a'i gwahaniaetha oddiwrth bob creadur arall yw'r ddawn amhrisiadwy hon a rodded. iddo ef yn unig, ymhlith yr holl greaduriaid, a all wneuthur celfi ac arfau ac offer gwaith, a hawdd yw dychmygu gymaint a fu ei fantais ar gyfrif hynny. Ac wrth wylio fel y datblyga ei offer a'i gelfi y gellir mesur orau ei gynnydd mewn gwareiddiad yn y cyfnod maith cyn gwawr hanes.
Yr enw arferol ar yr adran gyntaf o'r cyfnod hwnnw yw Hen Oes y Cerrig (Palaeolithic)[4] am mai offer a chelfi o garreg heb ei naddu na'i chaboli rhyw lawer oedd rhai dyn yr adeg honno, ac ni wyddai'r pryd hynny ddim am feteloedd o unrhyw fath. Heliwr oedd dyn yn y cyfnod hwn, yn byw ar ei ben ei hun gyda'r nesaf peth i ddim o fywyd teuluol neu gymdeithasol. Mewn ogof y gwnâi ei gartref a'i elynion pennaf oedd y bwystfilod y bu'n rhaid iddo ymladd gymaint yn eu herbyn. Ond gwyddai dyn yr adeg hon sut i gynneu tân a gallai siarad rhyw fath ar iaith. Yn ystod Hen Oes y Cerrig yr oedd Ewrop a Phrydain yn un cyfandir heb rimyn o fôr rhyngddynt, a rhennir yr Oes faith hon yn adrannau llai yn dwyn enwau'r mannau hynny y darganfuwyd olion neilltuol ynddynt. Dilynwyd hi gan Oes Newydd y Cerrig (Neolithic),[4] ond ni ellir dywedyd yn bendant bryd y diweddodd un a phryd y dechreuodd y llall. Ni ddigwyddodd hynny yr un adeg ymhob gwlad: tra parhai gwareiddiad un wlad i berthyn i Hen Oes y Cerrig, symudasai gwlad arall i wareiddiad Oes Newydd y Cerrig. Yn honno y mae'r arfau a'r celfi yn llawer mwy caboledig a defnyddiol. Dechreuodd dyn yn awr drin tir a byw ar fwy na chig yr helfa neu ffrwythau'r coed. Yn y cyfnod hwn, hefyd, dofodd nifer o anifeiliaid a gwnaeth iddo'i hun gartref mwy diddos a pharhaol na chynt. Canlyniad naturiol hyn oedd bywyd teuluol llawnach ac amlhau cysuron ei fyd, a dysgodd y merched yn awr sut i weu dillad a gwneuthur llestri o bridd. Cyn diwedd Oes Newydd y Cerrig yr oedd dyn wedi ei wareiddio'i hun i fesur mawr i'r cyfnod hwn y perthyn meini a chromlechi aruthrol Stonehenge ac Iberiaid, y mae'n debyg, oedd trigolion Cymru yn y dyddiau hynny.
Yna cymorth dyn un o'r camau pwysicaf ymlaen, pan ddarganfu'r meteloedd ac y dechreuodd weithio mwnau'r ddaear. Hawdd yw gweled sut yr arweiniodd hyn i gelfi ac offer anhraethol well na chynt a sut yr effeithiodd hynny drachefn ar ei wareiddiad. Nid gormod fyddai dywedyd y buasai gwareiddiad uchel yn gwbl amhosibl pe na ddarganfuasai dyn y meteloedd. Copr oedd y cyntaf ohonynt a ddefnyddiodd dyn, ac yr oedd arfau a chelfi dyn yn Oes y Copr yn llawer rhagorach a mwy buddiol na rhai Oes Newydd y Cerrig. Wedyn daeth alcan (tin) i'r golwg, a phan ddysgodd dyn sut i gymysgu hwnnw â chopr i wneuthur pres (bronze), yr oedd ganddo ddefnydd llawer mwy cyfleus eto at ei law a datblygodd gwareiddiad y byd yn fawr yn Oes y Pres. Yn ddiweddarach darganfuwyd haearn, y mwyaf pwrpasol o'r holl feteloedd, a bu Oes yr Haearn yn gyfnod o ddatblygu prysur iawn yn hanes dyn a'i fyd. Efallai mai'r praw gorau o hynny yw fod y cyfnod hanesyddol yn dechrau gwawrio gyda diwedd Oes yr Haearn. Y mae'n debyg fod yr Aifft yn gyfarwydd â chopr tua 4000 c.c., ond parhaodd Oes Newydd y Cerrig am fil arall o flynyddoedd cyn i feteloedd gyrraedd Dwyrain Ewrop tua 3000 C.C., ac ni wybu Cymru a Gorllewin Ewrop amdanynt am ganrifoedd wedyn. Y Goideliaid, ym marn Dr. J. E. Lloyd, a drigai yng Nghymru yn Oes y Pres a'r Brythoniaid pan wawriodd cyfnod hanes, ac yn ôl rhai awdurdodau y mae'n amheus a ddefnyddid rhyw lawer ar haearn yng Nghymru cyn dyddiau'r Rhufeiniaid.[5]
Sut fywyd oedd bywyd dyn yn y cyfnodau meithion yma cyn gwawr hanes? Ar ba sail y gellir ei ystyried yn wareiddiedig o gwbl? Y mae'n wir na wyddai ddim am lu mawr o bethau sy'n gynefin hollol i ni ac a dybiwn yn anhebgor i unrhyw wareiddiad gwerth yr enw heddiw. Ond yr oedd y dyn cyntefig, serch hynny, wedi cychwyn symud ymlaen mewn mwy nag un cyfeiriad pwysig, ac yn hyn, fel mewn cysylltiadau eraill, deuparth gwaith yw ei ddechrau. Nodwyd eisoes un o'r camau pwysicaf a gymerth erioed, sef gwneuthur offer a chelfi o bob math. Pan feddyliwn am beiriannau dirif ein bywyd heddiw, priodol yw cofio'n dyled i'r dynion hanner anwar hynny a luniodd y celfi a'r arfau cyntaf a welodd y byd erioed, ac i rai o'r cymwynaswyr cynharaf hynny a ddyfeisiodd, er enghraifft, yr olwyn gyntaf neu a adeiladodd y bont gyntaf yn hanes y byd. A phwy, hefyd, all fesur pwysigrwydd iaith yng ngwareiddiad y byd? Tyfodd iaith o awydd y dyn cynte fig i'w fynegi ei hun ac i gyfnewid meddyliau ag eraill a chymdeithasu â hwynt. Yn y cychwyn cyntaf nid oedd cymaint a hynny o wahaniaeth rhwng iaith dyn fel dyn Java a iaith yr anifeiliaid; ond pan darodd dyn ar y syniad bod seiniau neilltuol i olygu pethau neilltuol a dim ond hwynt, yr oedd posibilrwydd datblygu iaith yn ddiderfyn. Ni chyfyngid iaith mwyach i ychydig eiriau'n efelychu seiniau yn y byd tu allan i ddyn neu'n amcanu disgrifio ei deimladau'n unig. I'r lefel yna'n unig y cododd iaith yr anifail ac yno'r erys hyd heddiw, ond aeth dyn ymlaen i greu geiriau a phenderfynu rhoi'r enw yma ar y peth yma ac un arall ar y llall a bathu geiriau newydd pan godai'r angen am hynny.
Yn y cyfnod hwn, eto, y mae'n rhaid inni chwilio am gychwyn bywyd cymdeithasol. Pan drodd dyn o fod yn heliwr crwydrol i drin tir golygodd hynny iddo fywyd mwy sefydlog ac adeiladu tŷ. Cyn bo hir gwelwyd nifer o dai yn yr un ardal a dyna ddechrau bywyd tebyg i fywyd pentref, ac o hwnnw drachefn y datblygodd ffurfiau mwy cymhleth. Ac i reoli hyd yn oed fywyd pentref rhaid oedd wrth ryw nifer o ddeddfau a ddiogelai arfer y llwyth a rhywun a ofalai y cedwid hwynt. O'r anghenion yma y cododd yr hyn a dyfodd yn ddiweddarach yn ddeddf gwlad ac yn llywodraeth dan bennaeth neu frenin. Po fwyaf y datblygai'r bywyd allanol, mwyaf yn y byd y datblygai gwareiddiad cymdeithas: ac, ar y llaw arall hefyd, o ddysgu cyd—fyw a chyd—weithio â'i gilydd cynhyddodd dynion fwyfwy o ran eu gallu a'u diwylliant. Helpodd y naill lawer ar y llall ar hyd y ffordd.
Erys eto un nodwedd a dylanwad o bwys ym mywyd dyn a ymddangosodd ymhell cyn cychwyn y cyfnod hanesyddol: gellir dywedyd ei fod wedi dechrau crefydda hyd yn oed yn Oes y Cerrig. Ni wahaniaethai'n glir, y mae'n sicr, am lawer canrif rhwng y naturiol a'r goruwchnaturiol, eithr credai ym modolaeth galluoedd gweledig ac anweledig cryfach nag ef ei hun, ac mewn llawer dull a modd ceisiai gadw ar delerau da â hwynt.
Tybiai fod bywyd ymhob peth o'i amgylch yr oedd pob llwyn ac afon a bryn yn gartref rhyw ysbryd byw, a daeth adeg pan gladdai ei feirw'n ofalus oherwydd credu ohono eu bod hwythau hefyd yn dal i fyw. Byd llawn o dduwiau neu ysbrydion oedd byd ein hynafiaid cyn gwawr hanes.
PENNOD III
GOSOD SYLFEINI
YNG ngwareiddiad cynnar y byd nid oes bennod bwysicach na'r un a gais ddisgrifio bywyd yr Aifft a Babilonia tua 4000-2000 C.C.: yn wir, hi yw'r bennod gyntaf yn hanes y byd os defnyddir y term yn yr ystyr fanwl a roddwyd iddo'n barod. Yn y gwledydd yna y ciliodd Oesoedd y Cerrig gyntaf o flaen Oesoedd y Pres a'r Haearn, ac ar lannau Neil a rhwng dwy afon, Tigris ac Ewffrates, y gosodwyd i lawr sylfeini'n gwareiddiad. Ar fyr, yno bu'r amodau am y tro cyntaf erioed yn ffafriol i ddatblygiad cyflym yn hanes dynoliaeth.
Beth oedd yr amodau hynny? Un oedd sefyllfa ddaearyddol y ddwy wlad. Nid yw'r Aifft yn ddim amgen na dyffryn ffrwythlon a ffurfia'r afon Neil ar ei thaith i'r Môr Canoldir, a rhodd dwy afon fawr yw Babilonia hefyd. Dyma, felly, i gychwyn, randiroedd lle gallasai miloedd o bobl fyw heb lawer o ofn a phryder am eu cynhaliaeth. At hynny dylid cofio bod trigolion y gwledydd hyn wedi datblygu gryn lawer ar ffurfiau cymdeithasol eu bywyd. Yr oedd bywyd syml llwythau crwydrol (nomad) ymhell tu ôl iddynt, a bywyd cyntefig yr heliwr unig ymhellach fyth, a chynefin oeddynt erbyn hyn â bywyd sefydlog y pentref a'r cwmwd. Yr oedd eu gwlad yn ddigon ffrwythlon a'u cartrefi'n ddigon diogel iddynt fedru aros yno i drin y tir, i ddatblygu eu celfi a'u masnach ac i estyn eu terfynau a'u dylanwad i wledydd o'u cwmpas.
Nid oes unfrydedd ynglŷn â'r cwestiwn ymha un o'r ddwy wlad y cychwynnodd gwareiddiad uchel, ac nid rhaid inni benderfynu rhwng pleidwyr yr Aifft a rhai Babilonia pwy bia'r clod yn hyn, oherwydd ni byddai'n anghywir dywedyd bod gwareiddiad wedi cychwyn tua'r un adeg yn y ddwy wlad (oddeutu'r XL ganrif C.C.), ac i'r naill ddylanwadu llawer ar y llall o dro i dro. Er pob gwahaniaeth rhyngddynt, gwelir llawer o debygrwydd yn ffurf a chwrs cynnydd yr Aifft a Babilonia. Meddylier, er esiampl, wired yw hyn ynglŷn â'u tyfiant cenedlaethol a datblygiad eu llywodraeth. Hawdd yw canfod pedwar cyfnod yn eu hanes. Ar y cychwyn bu cyfnod maith o dywysogaethau bychain ar ffurf gwladwriaethau dinesig (city-states). Rheolai pennaeth dref a darn o wlad o'i hamgylch; ef oedd gyfrifol am y ffosydd a'r camlesi a gludai ddwfr yr afon i ddyfrhau'r tir, ac iddo ef y talai'r tyddynwyr ran o'u cynnyrch fel treth flynyddol. Wedyn daw cyfnod uno ardaloedd a rhandiroedd gweddol eang yn deyrnasoedd cryfion, a chyn bo hir tynnwyd tywysogaethau'r Aifft i lawr i ddwy—un yn y Delta, sef y rhan daironglog a ffurfia'r afon wrth ymarllwys i'r Môr Canoldir, a'r llall yn y dyffryn hirgul i'r dehau. Yr un modd rhwng y Ddwy Afon wynebodd dau allu mawr ei gilydd am amser nes gorchfygu o un ohonynt (yr Acadiaid yn y Gogledd) y llall (Sumeriaid y de), a chychwyn y trydydd cyfnod. Gyda buddugoliaeth Sargon o Acad y bu hyn ym Mabilonia tua 2773 C.C., a Menes a bia'r clod am uno'r Aifft yn un ymerodraeth tua 3400 C.C. Yn y cyfnod hwn y gwelwyd hen ogoniant yr Aifft a Babilonia yn ei fan uchaf. Iddo ef, er enghraifft, y perthyn Oes y Pyramidiau yn yr Aifft (3000-2500 C.C.)—"the first great civilized age of human history, the age which carried men for the first time out of barbarism into civilization." Ymhen canrifoedd wedyn, cododd mwy nag un ymherodr mawr ar lannau Neil fel Thutmose III (tua 1500-1447 C.C.), y cadfridog mawr cyntaf mewn hanes, ac Amenhotep IV, y diwygiwr crefyddol eiddgar a ddilynwyd, tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg C.C., gan Tutenkhamon, y Pharo ieuanc y soniodd pobl gymaint amdano'n ddiweddar. Ymhen canrif wedyn llywodraethid yr Aifft gan Ramses II (bu farw tua 1225 C.C.), a chred llawer mai dyma'r Pharo a orthrymodd Israel yn nyddiau Moses, er y myn eraill y dylid dyddio hynny gryn lawer cynt.
Ym Mabilonia, drachefn, yr enw pwysicaf ar ôl Sargon yw Hammurapi (2067—2025 C.C.). Yn ei ddyddiau ef y daeth dinas Babilon yn ben y gwledydd, a pherthyn iddo bwysigrwydd neilltuol am reswm arall. Gosododd i fyny yn nheml Marduc, prif dduw Babilon, gasgliad o ddeddfau y wlad, a dyma'r casgliad hynaf yn y byd sydd erbyn hyn ar gof a chadw. Os yr un dyn, fel y tybia rhai, yw Hammurapi ag Amraffel llyfr Genesis (14[6]), yr oedd Abraham ac yntau'n gyfoeswyr.
Yna, wedi canrifoedd o lwyddiant ac estyn terfynau, daw'r pedwerydd cyfnod yn hanes y ddwy wlad—cyfnod dadfeilio. Gogoniant Babilonia a fachludodd gyntaf. Goresgynnwyd ymerodraeth Hammurapi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan yr Hittiaid a'r Cassiaid, ac ymhen amser wedyn, Asyria a lywodraethai ddyffryn-dir bras y Ddwy Afon. A chyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, gwanhaodd gafael yr Aifft ar ei thiriogaethau hithau yn Syria a Phalesteina, ac erbyn canol y ddeuddegfed ganrif C.C., syrthiasai hen wlad Pharo i ddwylo byddinoedd tramor.
Er byrred y braslun uchod o hanes y gwledydd hyn, y mae'n bryd inni droi oddiwrth eu hanes i ofyn pa gyfraniadau a wnaethpwyd ganddynt tuag at wareiddiad y byd. Ac ar unwaith gwelir iddynt gyfoethogi hwnnw'n ddirfawr mewn lliaws o ffyrdd. Er mwyn profi hyn nid rhaid inni ond meddwl am y cyfnewid aruthrol a ddaeth dros fywyd yr Eifftiaid yn y cyfnod cymharol fyr rhwng gwawr Oes y Meteloedd (4000 C.C.) a diwedd Oes y Pyramidiau (2500 C.C.), heb sôn am y datblygu a ddilynodd hynny. (Yn hanes y ddwy wlad fawr yma un peth a'n synna yw gyflymed a fu'r cynnydd yn y dechrau cyn iddo arafu wedyn yn ei gwrs a chaledu ac aros bron yn ei unfan am ganrifoedd.) Meddylier mor amhosibl fuasai codi adeiladau anferth Oes y Pyramidiau onibai fod miloedd lawer o bobl dan reolaeth fanwl a bod llywodraeth y wlad o ran ei threfniadau wedi ei datblygu i raddau pell iawn. Nid oedd miloedd lawer o'r trigolion yn ddim gwell na chaethion, er bod lliaws o'r gweddill yn byw bywyd tyddynwyr ac yn trin darn o dir, eithr heb fod yn berchenogion y darn hwnnw. Uwchlaw iddynt hwy yr oedd y meistri a'r arglwyddi a'r offeiriad, a'r Pharo yn ben ar y cwbl i gyd. I reoli gwledydd mawr unedig fel yr Aifft a Babilonia yn nyddiau'r ymerodron gyda'r miliynau pobl ynddynt rhaid, wrth gwrs, oedd wrth swyddogion dirif a chyfundrefn o ddeddfau manwl. A phan estynnai'r ymerodraeth, fel yn nyddiau Thutmose III o Ewffrates i'r Môr Coch, golygai hynny nid yn unig fyddinoedd anferth ond hefyd nifer o lywodraethwyr taleithiol yn gyfrifol i'r ymherodr ei hun. Ynglŷn â hyn gellir cyfeirio at dabledi o glai a ddarganfuwyd yn 1887 yn Tel-el-amarna ar Neil: llythyrau ydynt oddiwrth swyddogion y Pharo yn Syria a Phalesteina, a sonia rhai ohonynt am Habiri yn meddiannu Palesteina, a thybir yn gyffredin mai hynafiaid yr Israeliaid yw'r Habiri (Hebreaid) yma. Nid gormod, yn wir, fyddai honni bod rhyw fath ar wleidyddiaeth gyd-wladol (international relations) yn bod yn nyddiau euraidd yr Aifft a Babilonia. Gwnâi gwahanol wledydd gytundebau â'i gilydd, anfonent genhadon y naill at y llall, a bu mynych gyfathrach a brwydro rhyngddynt o dro i dro.
Nid uchelgais teyrn yn unig a barodd gynnydd yn y gwledydd hyn, eithr arweiniodd masnach i ddatblygu mawr ym mywyd a gwareiddiad y trigolion. Yr oedd daear Babilonia mor ffrwythlon fel y ceid tri chnwd yn flynyddol ohoni, a golygai hynny fod ganddynt fwy na digon yn weddill i'w werthu i bobl eraill, a gwyddai marchnadoedd yr hen fyd yn dda am yd a gwlan (cf. Josua 7:21—"mantell Babiloneg deg") a lledr Babilonia. Yn fuan iawn yn ei hanes adeiladodd yr Aifft, hefyd, longau digon mawr i gyrchu nwyddau o wledydd y Môr Canoldir a thu draw i'r Môr Coch: croeswyd y Môr Canoldir gan Eifftiaid gynhared o leiaf â'r xxx ganrif C.C., ac ymhen canrifoedd wedyn torrwyd camlas ganddynt i gysylltu hwnnw â'r Môr Coch rhagredegydd Suez Canal ein dyddiau ni. Ni ddefnyddid arian bath hyd yma. Cyfnewidid nwyddau i ddechrau, ond cyn bo hir gwasanaethai modrwyau neu farrau aur ac arian o wahanol bwysau yn lle nwyddau fel tâl am yr hyn a brynid. Y mae'n ddigon naturiol, hefyd, fod masnach a thrafnidiaeth rhwng
thrafnidiaeth rhwng gwledydd â'i gilydd wedi symbylu llawer ar eu gwybodaeth, doniau a gwaith eu crefftwyr, yn ogystal ag ar eu deddfau a'u llywodraeth.
Hyd yn hyn darganfuwyd mwy o olion bywyd yr hen fyd yn yr Aifft nag ym Mabilonia. Ceir defnyddiau lawer ar feini a muriau temlau a phlasdai yn y ffurf o ar-ysgrifau (inscriptions) yn y naill wlad a'r llall, ac o'r Aifft cafwyd lliaws mawr o lawysgrifau ar frwynbapur (papyrus) yr afon Neil. Daw llawer o'n gwybodaeth, hefyd, o'r darluniau a gerfiwyd gan seiri a cherflunwyr neu a baentiwyd gan arlunwyr ar furiau tai ac ystafelloedd eang beddau'r brenhinoedd ar lannau Neil. Dengys y rhain fod llawer crefft eisoes wedi codi i dir pur uchel yn yr Aifft a rhwng y Ddwy Afon. O'r tir y deuai cyfoeth yr Aifft a Babilonia yn bennaf, a chyfarwydd iawn oedd y bobl ag amaethyddiaeth mewn mwy nag un ffurf. Yr oedd gofalu am anifeiliaid yn naturiol yn eu gwaed, canys llwythau crwydrol yn symud gyda'u hanifeiliaid o borfa i borfa oedd eu hynafiaid bron i gyd. Nid yr un grefft a ddatblygwyd yn y ddwy wlad fel ei gilydd. Nid oedd clai Babilonia gystal â chlai'r Aifft, ac oherwydd prinder coed yr oedd yr Aifft yn ddibynnol iawn ar ei chlai. Hyn barodd i grefft y crochennydd fod yn un gyffredin iawn yn yr Aifft, ac ym marn J. L. Myers bu hynny'n fantais neilltuol i'w gwareiddiad.[7] Byr oedd oes llestri pridd yr adeg honno fel heddiw, a rhaid oedd gwneuthur rhai newydd o hyd, ac arweiniodd hynny i wella a datblygu parhaus. Diau nad prydferthwch eu cynhyrchion yw'r nodwedd amlycaf yng ngwaith arlunwyr ac yn enwedig cerflunwyr y cyfnodau hyn, eithr yn hytrach eu mawredd a'u haruthredd. Pyramid mawr Gizeh yw'r adeilad carreg mwyaf yn yr hen fyd yn ei ymyl y mae'r Sphinx, y cerflun mwyaf ar lun dyn a welodd y byd erioed. Y mae'r adeiladau hyn, ynghyd â'r delwau anferth o gwmpas Thebes a Karnak, ac olion temlau mawr Babilonia yn eu ffordd eu hunain yn arwyddocaol iawn o'r gwareiddiad a roddes fod iddynt. Yr oedd rhywbeth anferth, stolid, a thrwm ynddo, yn enwedig ym myd y celfau cain.
Mewn cyfeiriadau eraill y mae'n dyled fwyaf i'r Eifftiaid a'r Babiloniaid, ac efallai mai eu cymwynas bennaf oedd dyfeisio ffyrdd i ysgrifennu. Mor bell yn ôl a'r xxxv ganrif C.C., ysgrifennai'r Eifftiaid ryw ychydig ar feini, ond bu'r datblygu mawr ar ôl darganfod hwylused oedd brwyn-bapur eu hafon at y pwrpas. Nid oedd y geiriau fel yr ysgrifennwyd hwynt i ddechrau yn ddim amgen na darluniau o'r pethau a gynrychiolent, a'r pryd hwnnw, gair, yn hytrach na sillaf neu lythyren, oedd yr unit. Wedyn cynrychiolai darlun un sillaf, ac felly arwydd ydoedd o sain neilltuol yn hytrach nag o wrthrych. Yr oedd iaith erbyn hyn yn seiniol (phonetic), ac nid darluniadol (pictorial). Yn ddiweddarach cynrychiolai arwydd ysgrifenedig lythyren yn unig, a chasgliad felly o bedair llythyren ar hugain oedd yr abiec cyntaf yn y byd. Darluniadol, eto, oedd iaith ysgrifenedig Babilonia ar y cychwyn, a phob darlun yn cynrychioli gair ac wedyn sillaf yn unig ni symudodd Babilonia, fel yr Aifft, mor bell â dyfeisio abiec o lythrennau, eithr parhaodd y sillaf i fod yn unit yr iaith ysgrifenedig yn y cyfnodau hyn. Yr oedd, hefyd, yn yr Aifft gymaint â thri dull o ysgrifennu llythrennau breision (hieroglyphic) i arysgrifau'n unig, yr hieratic, sef talfyriad o'r cyntaf a chyfaddas i'r brwyn-bapurau, a'r demotic, neu dalfyriad eto o'r ail. Ac yr oedd gan Babilonia ei dull ei hunan a elwid yn cuneiform, oherwydd bod rhywbeth yn ffurf yr arwyddion a ysgrifennid ar y clai yn gwneuthur i ddyn feddwl am gŷn (gair Lladin yw cuneus, yn golygu cŷn).
Pobl y ddwy wlad yma, hefyd, a fu'r rhai cyntaf i rannu'r flwyddyn yn gyfnodau misol. Dilynodd y naill a'r llall y lleuad i ddechrau, ond gan nad oedd pob un o fisoedd y lleuad yr un hyd, penderfynodd yr Eifftiaid rannu'r flwyddyn i ddwsin o gyfnodau o ddeng niwrnod ar hugain yr un, ac ystyried y pum niwrnod oedd dros ben yn wyliau. Y mae'n debyg mai'r Babiloniaid a fu'n gyfrifol am wythnos o saith niwrnod, a duwiau arbennig a lywodraethai pob un ei ddiwrnod ei hun. Buont am ganrifoedd heb rifo'r blynyddoedd, ac adweinid hwynt drwy gyfeirio at rywbeth hynod a ddigwyddasai ynddynt, yn union fel y cyfeiria pobl Llanuwchllyn at "flwyddyn y lli mawr," neu y clywir ambell ddyn weithiau'n dyddio popeth o'r "flwyddyn pan oeddwn i yn faer." Wedi sefydlu'r breniniaethau, dechreuwyd rhifo'r blynyddoedd yn ôl teyrnasiad un teyrn ar ôl y llall. Y mae'n amlwg, oddiwrth hyn i gyd, fod rhywbeth y gellir o leiaf ei alw'n ddechreuad gwyddoniaeth yn bod yn gynnar iawn yn y gwledydd hyn. Gwyliai'r offeiriaid y sêr, gwyddent ryw gymaint am ddeddfau rhif a mesur, a gwelwn oddiwrth arysgrifau Babilonia a'r Aifft fod meddwl dyn yr adeg honno'n troi o gylch problemau y talodd dynoliaeth sylw mawr iddynt ar hyd y canrifoedd wedi hynny.
Prin y mae angen dywedyd mai aml-dduwiaeth oedd crefydd pobl yr Aifft a'r Ddwy Afon, ond nid oedd y duwiau pob un gyfuwch â'i gilydd. Ar lannau Neil Re (Haul) ac Osiris (Bywyd) oedd y prif dduwiau, a Marduc oedd y pennaf ymhlith rhai Babilon. Yn nyddiau Amenhotep IV, gwnaethpwyd ymdrech fawr i ddisodli'r hen grefydd ac addoli'n unig un Duw, a dyma'r enghraifft hanesyddol gyntaf sydd gennym o ddigwyddiad o'r natur yma (tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg C.C.). Aflwyddiannus fu'r cais oherwydd ail-feddiannodd offeiriaid yr hen grefydd eu gallu, a bu'n rhaid i Tutenkhaton newid ei enw a'i brifddinas, a dychwelyd drachefn i gartref yr hen grefydd yn Thebes. O amgylch teml rhyw dduw y troai bywyd pob dinas, ac ym Mabilonia bu'r temlau'n ganolfannau pwysig nid yn unig i grefydd, ond hefyd i fasnach a llywodraeth y wlad. Yr oedd dylanwad yr offeiriaid yn y ddwy wlad yn anferth: eu heiddo hwy oedd rhan fawr o'r tir, fel y bu darnau helaeth o wledydd Ewrop ar ôl hynny'n eiddo'r myneich. Ystyrrid bod yr ymherodr yn gynrychiolydd y duw, onid yn wir yn ymgnawdoliad ohono: ac ymhlith ei swyddogion pennaf safai'r offeiriaid yn uchel iawn. Credai'r bobl eu bod o dan lywodraeth uniongyrchol eu duwiau, a phriodol yw disgrifio'r oesoedd hyn, fel y gwna Marvin, yn oesoedd theocrataidd.
O'r Dwyrain, medd rhyw air, y cyfyd goleuni: a gwelwn wired y gair hwnnw pan feddyliwn am gyfraniadau hen wareiddiad yr Aifft a Babilonia at fywyd y byd. Eithr yr oedd mwy eto i ddod o'r Dwyrain, a'r tro yma nid o ymerodraethau mawr y deuai, ond o un o'r gwledydd bychain. Am hynny y mae'n rhaid sôn yn y bennod nesaf.
PENNOD IV
PLANT YR ADDEWID
DICHON y teimla rhai fod angen cyfiawnhau trafod Crefydd o gwbl mewn llyfr ar hanes gwareiddiad, ond ychydig ystyriaeth a ddengys paham na ellir, ac na ddylid, anwybyddu'r elfen honno. Nid oes dim sydd gliriach na dylanwad syniadau a delfrydau ar feddwl dyn neu oes. Gellir yn fynych briodoli symudiadau mawr ym mywyd cenhedloedd i ryw syniad newydd a ddarganfu meddyliwr o fri neu i ryw hen syniad y rhoddes ei athrylith gymaint o fywyd newydd ynddo nes ei wneuthur yn ddylanwad llywodraethol ar feddwl ei oes. Creodd syniadau Darwin a Wallace, er esiampl, chwyldroad llwyr yn ein holl ddull o feddwl am ddatblygiad bywyd, neu, a chymryd enghraifft arall, llwyddodd Nietzsche i berswadio rhan fawr o bobl Ewrop fod rhyfel ynddo'i hun yn beth angenrheidiol, onid yw hefyd yn beth gogoneddus. Yn awr nid oes unrhyw syniadau a ddylanwada fwy ar fywyd, er da neu er drwg, na rhai crefyddol, oherwydd, yn y pen draw, ymwna'r rheini â'r cwestiynau pwysicaf y gall dyn eu gofyn. Nid oes syniadau mwy dinistriol eu dylanwad na rhai anghywir mewn crefydd, ac am hynny bu crefydd lawer gwaith yn elyn ac yn rhwystr i wareiddiad, yn "fam gweithredoedd anfad," ys dywed Lucretius, un o hen feirdd Rhufain. Ac ar y llaw arall, nid oes dim sy'n fwy o gefn a symbyliad i wareiddiad na chrefydd wir: fe effeithia pob syniad o eiddo dyn am Dduw ar ei syniad amdano'i hun, ac am ystyr ac amcan ei fywyd personol a bywyd ei gyd-ddyn, ac yn eu tro rhydd rheini drachefn fod i arferion a deddfau newydd, i fywyd cymdeithasol a chenedlaethol sy'n uwch a gwell na chynt.
Wrth feddwl am wahanol wledydd yr hen fyd un o'r pethau amlycaf yw'r gwahaniaeth yn eu cyfraniadau tuag at wareiddiad, ac ynglŷn â hyn y mae un Israel yn hollol glir. Yn anad dim cyfraniad crefyddol oedd hwnnw. Ni bu'r genedl honno gynt nac er hynny chwaith yn enwog, dyweder, am yr hyn a wnaeth ym. myd y celfau cain. Gwaherddid gwneuthur unrhyw fath ar ddelw gerfiedig neu ddarlun ynglŷn â'i chrefydd, ac ni ddatblygodd yr Hebreaid unrhyw ddoniau nodedig yn y cyfeiriadau hyn. Y mae'r un peth yn wir amdanynt ym myd y meddwl: er bod ganddynt eu "gwŷr doeth" megis awdur Llyfr Job, nid athronwyr na gwyddonwyr mohonynt—pynciau a alwem ni'n foesol a chrefyddol oedd eu priod faes. (Daeth tipyn o dro ar y rhod yn hyn o beth yn awr ac eilwaith wedyn, ac Iddewon yw rhai o brif athronwyr y dyddiau hyn fel Bergson, Einstein ac Alexander.) Crefydd, yn ddiddadl, oedd canolbwynt bywyd Iddew yr hen fyd cyn Crist, ac at olud a datblygiad crefyddol y byd y cyfrannodd ef helaethaf. Ac ni ellir esbonio'n gwareiddiad presennol os collir golwg ar yr hyn a ddiogelodd yr Iddew i'r byd, ac yn enwedig os anghofir ei gymwynas yn paratoi sylfaen addas i adeiladu Cristnogaeth arni pan ddaeth "cyflawnder yr amser."
Ond gan nad Hanes Crefydd yw pwnc y llyfr hwn, nid rhaid inni fanylu rhyw lawer ar grefydd Israel. Digon fydd nodi prif gamau'r datblygiad, gan gyfeirio at y mannau lle yr oedd bywyd yr Hebreaid debycaf i fywyd eu cyfoeswyr a'r lleoedd y gwahaniaethai fwyaf oddiwrth hwnnw.[8] Ac, er mwyn gwneuthur hyn, mantais fawr inni yw'n cynefindra â'r Hen Destament ac â'r defnyddiau ardderchog sydd yn ein cyrraedd i gyd yno.
Pobl o gyff Semitaidd oedd yr Hebreaid ac, felly, o ran gwaed yr oeddynt yn berthnasau i'r Syriaid ac i'r Cananeaid a llwythau eraill Palesteina. Tebyg, hefyd, a fu hanes cynnar yr holl genhedloedd hyn llwythau crwydrol (nomad) fuont am oesoedd nes iddynt setlo'i lawr yn y rhannau gorllewinol o Asia sydd yng ngolwg y Môr Canoldir. Mewn gwlad fechan yr ymsefydlodd yr Israeliaid o'r diwedd, ond, er ei bod mewn ystyr yn wlad neilltuedig iawn, yr oedd Palesteina serch hynny'n bur ganolog. Drwyddi hi y rhedai priffordd y dyddiau hynny rhwng Gorllewin a Dwyrain, rhwng Affrica ac Asia, a thramwyodd masnach a byddinoedd y gwledydd yn ôl a blaen drwy Ganan yn y canrifoedd cynnar. Ymhell cyn i blant Israel ei meddiannu bu ei thrigolion yn ddeiliaid y naill neu'r llall o'r ymerodraethau mawr o'u hamgylch: a gwyddai'r Hebreaid yn ddiweddarach beth oedd bod o dan iau Asyria, Babilon, Persia, Groeg a Rhufain. Byr mewn cymhariaeth fu tymor ei hannibyniaeth fel teyrnas (1030-586 C.C.), ac ni bu Israel heb deimlo dylanwad pobl tuallan iddi ar ei gwareiddiad o dro i dro.
Gellir dywedyd am grefydd Israel yn y cyfnod cyntaf (i lawr at ddyddiau Moses) mai tebyg iawn ydoedd i grefyddau'r cenhedloedd o'i chwmpas. Crefydd pobl nad oedd eu gwareiddiad yn un uchel iawn ydoedd, pobl yn byw bywyd cenhedloedd crwydr. Yr oedd gan bob cenedl ei duw ei hun, a digon materol oedd syniadau'r bobl amdano a'u perthynas ag ef. Credid ym modolaeth llu o dduwiau, os priodol eu galw felly, a dwyfolid llu o wrthrychau y perthynai unrhyw fath ar fywyd iddynt. Arfer y llwyth a reolai'r cwbl yn y cyfnod cyntefig—y penteulu oedd yr unig offeiriad, ac ar wahan i allorau syml nid oedd adeiladau crefyddol. Ychydig o ddim a ellir ei alw'n foesoldeb mewn ystyr wirioneddol, a llai fyth o welediad neu brofiad ysbrydol a geid yn y canrifoedd cyntaf yn Israel, ac nid amhriodol fyddai cymharu crefydd hynafiaid yr Hebreaid â chrefydd ein cyn-dadau yng Nghymru cyn dyfodiad y Rhufeiniaid neu â chrefyddau ac arferion rhai o lwythau crwydrol ac anwar y byd heddiw.
Yr enw mawr cyntaf yn natblygiad crefydd Israel yn ddiddadl yw Moses. Ni ellir honni mwyach mai ef a roddes i'r Israeliaid eu holl ddeddfau ac, er bod rhai pethau ynglŷn â'i waith yn ansicr, nid oes amheuaeth am bwysigrwydd yr hyn a wnaeth i'w genedl. Drwyddo ef, mewn gair, y derbyniodd hi y datguddiad hwnnw o Dduw fel Jehofa a fu'n wir sylfaen ei chrefydd (Exod. 6:2-3), a dyledus ydoedd Israel iddo ef am rai o'r deddfau a'r gorchmynion a roddes ffurf am y tro cyntaf i'w bywyd cenedlaethol. Nid gormodiaith fyddai ystyried Moses, nid yn unig yn sylfaenydd crefydd ysbrydol Israel, ond hefyd yn gychwynnydd ei bywyd fel cenedl unedig yn hytrach na nifer o lwythau ar wahan. Perthyn iddo ogoniant mwy nag eiddo'r deddf-roddwr proffwyd mawr ydoedd (Deut. 34:10) a berswadiodd Israel o hyn allan i addoli Jehofa'n unig er eu bod yn cydnabod bodolaeth duwiau eraill, a phwysleisiodd ofynion moesol eu Duw lawn cymaint onid mwy na'r rhai seremonïol. Nid un-dduwiaeth (monotheism) oedd crefydd yr Hebreaid yn nyddiau Moses credent fod duwiau eraill yn bod ond cyfyngent hwy eu gwasanaeth i Jehofa'n unig (monolatry), a diogelid y berthynas yma rhyngddynt gan gyfamod a wnaethpwyd pan waredodd Moses hwynt o'u caethiwed yn yr Aifft (tua 1200 C.C.).,
Wedi cyrraedd Canan wynebai brwydr fawr yr Israeliaid. Yn un peth, rhaid oedd ennill y wlad i'w meddiant, a pheth arall, yr oedd angen diogelu crefydd Jehofa rhag dylanwadau dinistriol o'i chwmpas. Gwelwn yn awr beth diddorol iawn yn digwydd yng Nghanan, sef brwydr dau wareiddiad am oruchafiaeth. Yr oedd y Cananeaid yn fwy gwareiddiedig mewn llu o ffyrdd na'r Hebreaid: yr oeddynt, er enghraifft, yn hen gynefin â bywyd sefydlog yr amaethwr a'r trefwr, a gwyddent lawer iawn mwy am ddiwydiant a rhyfel na llwythau crwydiol fel y newydd-ddyfodiaid o'r anialwch. Yn araf iawn y goresgynnwyd Canan a deilliodd aml berygl i grefydd Jehofa o hynny. Mabwysiwyd rhai o elfennau gwareiddiad a chrefydd y brodorion a bu'r demtasiwn i eilun-addoliaeth yn un rhy anodd i'w gwrthsefyll lawer tro. O ganlyniad cymylwyd llawer ar burdeb crefydd Israel, ac i lawer nid oedd Jehofa yn ddim amgen nag un ymhlith aml dduwiau (baalim) gwlad Canan (Hosea 2:16 Jerem. 2:38). Diau y disgynasai crefydd Jehofa i lefel y rhai o'i hamgylch onibai am ymdrechion di-ildio rhai o'i phlaid, ac yn y cyswllt hwn anodd yw mesur dyled Israel i'r diwygwyr pybyr hynny a alwn ni yn broffwydi. Heb anghofio gwasanaeth yr offeiriaid ac ambell frenin, y proffwydi yn anad neb a ddiogelodd grefydd Jehofa yn ei phurdeb; hwy bwysleisiodd ofynion moesol Jehofa, ac yn fynych rhoes hyn ffurf gymdeithasol i'w cenadwri; a hwy ddatguddiodd o oes i oes ryw wirionedd newydd am gymeriad ac amcanion Jehofa.
Ymestyn oes euraidd y proffwydi o ddyddiau Amos (tua 750) hyd ddinistr Caersalem yn 586 B.C. Pwysleisient pob un ryw agwedd neilltuol ar grefydd a moesoldeb (cyfiawnder Jehofa, er esiampl, oedd baich cenadwri Amos; Ei drugaredd bwysleisir gan Hosea, a'i santeiddrwydd gan Eseia, ac felly ymlaen), a phan ddygir cyfraniadau'r naill a'r llall ohonynt ynghyd, gwelir gymaint y datblygodd crefydd fel canlyniad eu gwaith. Iddynt hwy yr ydym yn ddyledus am fynegiant clir o'r ddau wirionedd sy'n sylfaen Cristnogaeth ei hun, sef nad oes ond un gwir Dduw, ac nad Duw tylwyth neu genedl yn unig yw hwnnw, eithr Duw yr holl fyd. Ymhlith holl gymwynaswyr Israel, y pennaf, yn ddiamau, yw'r proffwydi.
Gyda'r Gaethglud (586—538 C.C.) daeth pen ar wladwriaeth annibynnol yr Hebreaid, ac o hyn allan nid ydynt ond deiliaid un gallu estronol ar ôl y llall, hyd nes y dinistriwyd Caersalem drachefn gan y Rhufeiniaid (70 0.c.). Dychwelasant o Fabilon nid mwyach yn genedl, ond gryn lawer tebycach i gyfundeb neu sect o grefyddwyr ac offeiriaid yn hytrach na brenhinoedd a'u llywodraethai erbyn hyn. Ond sylfaenwyd gwaith y proffwydi'n ddigon dwfn i barhau drwy'r Gaethglud, ac ni chefnodd yr Iddewon byth ar yr un—dduwiaeth foesol ac ysbrydol honno a blannwyd yn eu bywyd gan y proffwydi. Meithrinwyd honno gyda'r un sêl gan yr offeiriaid, fel y gwelir yn amlwg oddiwrth Lyfr y Salmau, sef Lyfr Emynau'r Ail Deml a phrif ogoniant ysgrythyrau'r Iddewon. Ac ymhob erlid ac enbydrwydd a ddigwyddodd iddynt drwy'r canrifoedd ar ôl hynny, daliasant drwy bopeth i gredu mai'r 'Arglwydd yw ein Duw ni, Jehofa yn unig " (Deut. 6:4).[9]
Cyn troi oddiwrth y Dwyrain a'i wareiddiad hen, fe ddylid cyfeirio at y trysor ysgrifenedig mwyaf gwerthfawr a gafodd y byd oddiyno—Hen Destament yr Iddew. "Dweyd pader wrth berson" fyddai canmol yr Hen Destament, oherwydd sylweddolir ei werth heddiw fwy nag erioed ac mewn mwy nag un cyfeiriad. Meddylier, er esiampl, am ei werth llenyddol. Ceir ynddo y darnau rhyddiaith hynaf yn y byd, ac ar wahan i lên Groeg a Rhufain, nid oes unrhyw lenyddiaeth o'r byd cyn Crist i'w gymharu ag ef. Nid yw, wrth gwrs, fel llenyddiaeth, i gyd ar yr un lefel, ond y mae'r lefelau uchel yn lliosog dros ben, fel y gwelir o ddarllen y traddodiadau am Joseff, yr hanesion am Dafydd anerchiadau'r proffwydi, llyfr Job a'r Salmau. Ac ni ddylid anghofio gymaint fu dylanwad y llenyddiaeth hon ar lên gwledydd Ewrop ar ol hynny. Wedyn, dyna'i werth hanesyddol. Y mae'n amheus a oès, erbyn hyn, unrhyw gyfrol yn ein meddiant a deifl gymaint o oleuni ar syniadau a gwareiddiad pobl yng nghanrifoedd cynnar hanes. Dyna paham y gwerthfawrogir yr Hen Destament gan awdurdodau ar fywyd dyn cyntefig (anthropologists) fel Sir James G. Fraser ac eraill. Ond gorwedd ei brif werth hanesyddol yn yr hyn a ddywed am yr Hebreaid o'u cychwyn cynnar ym Mesopotamia drwy oesoedd eu hanes yng Nghanan hyd onid ymddangosodd Crist o'u mysg. Ac, yn fwy na'r cwbl, dyna werth crefyddol yr Hen Destament. Er holl amrywiaeth ei gynnwys, un yw ei bwnc wedi'r cyfan—ymchwil dyn am Dduw—a'r hyn a wna'r Hen Destament yn gyfrol mor ddifyr yw ei ddull byw a fresh o ddisgrifio'r ymchwil yma. Gwelwn grefydd yn cychwyn mewn ffurfiau amrwd a chyntefig iawn, ac yna purir y syniadau crefyddol yn raddol, a daw'r defodau'n well o oes i oes. Wedyn gwelwn un grefydd yn codi gymaint uwchlaw y rhai o'i chwmpas fel y bu'n bosibl i Grist ymhen amser adeiladu ar y sylfaen a osodwyd gan y proffwydi ac eraill a'i rhagflaenasai. Gellir cymhwyso at yr Hen Destament ddiffiniad Dr. Sanday o'r Beibl fel llên glasurol y byd ar gymundeb dyn â Duw. Ac er nad yw'r Hen Destament gyfystyr â'r Beibl, a bod y Testament Newydd yn fwy ei werth nag ef, ni ddeellir y Newydd ar wahan i'r Hen.
PENNOD V
GOGONIANT GROEG
UN peth tarawiadol iawn yn hanes gwareiddiad yw pwysigrwydd cyfraniad rhai o genhedloedd lleiaf y byd. Cenedl fechan oedd Israel, ac y mae hynny'n wir am yr Eidal yn y Canol Oesoedd neu am Loegr yn nyddiau Shakespeare a Raleigh: trig dwy neu dair miliwn chwaneg o bobl yn Llundain heddiw nag oedd yn ein gwlad o un pen i'r llall yn adeg Milton a Cromwell a chyfieithwyr y Beibl i Gymraeg. Ond yr enghraifft gliriaf o hyn yw gwlad Groeg yn y canrifoedd cyn Crist, yn enwedig rhwng 600 a 400 C.C. Rhoddodd i'r byd lenyddiaeth gyda'r gyfoethocaf a mwyaf amrywiol a fedd, ac ohoni cododd yn y cyfnod byr hwnnw, nid yn unig wŷr a fu'n arloeswyr tir, ond hefyd rai a barhaodd am ganrifoedd i arwain y gwledydd yn y celfau cain, mewn athroniaeth a gwyddoniaeth, yn ogystal ag mewn cyfeiriadau pwysig eraill.
Groeg fu'r rhan o Ewrop a wareiddiwyd gyntaf, a dengys y map y rheswm am hynny. Hi yw'r wlad agosaf at hen gartrefi gwareiddiad yn y Dwyrain, ac ohonynt hwy y teithiodd gwareiddiad i wlad Groeg, gan aros ar ei ffordd yng Nghreta, lle datblygodd i dir uchel belled yn ôl â'r ugeinfed ganrif C.C., ac wedyn yn Tiryns a Mycenae (bymthegfed ganrif C.C.). Nid teyrnas fawr unedig oedd Groeg yng nghyfnod ei gogoniant mwyaf, eithr nifer o wladwriaethau dinesig bychain fel Athen, Sparta, Corinth, Argos ac eraill a phroblem fawr, o dro i dro, fu uno pobl mor hoff o annibyniaeth ac o ddatblygu pob un yn ei ffordd ei hun. Ond ym mlynyddoedd euraidd ei hanes, gwir arweinydd Groeg oedd Athen, prif dref rhandir Attica, a hynny'n bennaf am ddau reswm. Ym mrwydr fawr Groeg yn erbyn Persia syrthiodd y pen trymaf o'r baich a'r cyfrifoldeb ar Athen, a'i milwyr a'i morwyr hi, yn anad neb, ym Marathon (490 C.C.) ac yn Salamis (480 C.C.) a ddiogelodd ryddid Ewrop rhag gorthrwm Asia yn yr ymdrech fawr honno rhwng Gorllewin a Dwyrain. At hynny, y mae'n amheus a welwyd mewn unrhyw wlad fechan, neu mewn un oes, gynifer o wŷr enwog o ran athrylith a dawn ag a gyfoesai â'i gilydd yn Athen yn y bumed ganrif C.C. Dyma oes y gwladweinydd Pericles a'r cerflunydd Phidias, yr athronydd Socrates a'r bardd Sophocles, a llu o rai tebyg iddynt. Prin y bu erioed y cyfryw flodeuo ardderchog ar wareiddiad mewn tymor mor fyr, a'r adeg honno yr oedd poblogaeth Attica gyfan yn llai nag un Lerpwl heddiw.
Sut, ynteu, y dylid disgrifio'n rhwymedigaeth i'r bobl amryddawn hyn? Y mae cyfnod Groeg, medd un awdurdod, yn un pwysig yn hanes gwareiddiad oherwydd yr hyn y rhoddes ddiwedd arno, sef hen oes traddodiad, ac hefyd oherwydd yr hyn a gynhyrchodd ei hun ac a wnaeth yn bosibl yn y dyfodol. Ym marn un arall, y Groegwyr a gliriodd lwybr dynoliaeth i gyfeiriad rhyddid gwleidyddol, i ymchwil ddofn am wybodaeth ac i sylweddoli prydferthwch Natur. Ac fel hyn y cais yr Athro Gilbert Murray, un o'r awdurdodau gorau sydd gennym, ddisgrifio'n dyled i'r Groegwyr. Y mae rhai pethau, medd ef, sy'n werthfawr a phwysig ynddynt eu hunain, megis darlun neu gerdd anfarwol a phethau eraill oherwydd yr hyn a ennill y byd drwyddynt fel, dyweder, deddfau da neu ryw ddyfais fawr sy'n newid llawer ar fywyd allanol dyn; ac yn y ddau gyfeiriad yma bu cyfraniadau Groeg yn nodedig o liosog a hael. Hawdd fuasai chwanegu tystiolaethau cyffelyb, a'n perygl yw i'r bennod hon fynd yn ddim mwy na rhestr o enwau dynion mawr Groeg a chronicl sych o'u gwaith. Mwy buddiol fydd manylu ychydig am rannau'n unig o'r etifeddiaeth gyfoethog a drosglwyddodd Groeg i'r byd.
O'r braidd y gellir gwneuthur yn well na dechrau gyda'i llenyddiaeth, ac os am weld sut y datblygwyd ac y meithrinwyd llawer ar honno priodol yw cyfeirio at y Gwyliau neu'r Campau Groegaidd a fu'n nodwedd mor amlwg ym mywyd y bobl yma. Fel ein heisteddfod ni, yr oedd amryw o'r Campau hyn yn rhai cenedlaethol, a chyrchai pobl o bob rhan o'r wlad iddynt, yn enwedig i gampau Olympia a gynhelid bob pedair blynedd: yn wir, bwysiced ydoedd y rhain fel y dyddiai'r Groegwyr bopeth oddiwrthynt. Yr oedd gan bob dinas o bwys, hefyd, ei gwyliau a'i champau ei hun. Yn Athen, er esiampl, cawn y Panatheneia (Gwyl yr Holl Atheniaid), y Dionysia a'r Leneia. Parhaent am ddyddiau gyda'u cystadlu brwd, nid yn unig mewn llên a chân, ond hefyd mewn ymarferiadau corfforol. A pherthynai i rai ohonynt bwysigrwydd arbennig yn natblygiad llenyddiaeth Groeg. Yng ngwyl yr Holl Atheniaid, er enghraifft, adroddai beirdd y ddwy arwrgerdd fawr genedlaethol—yr Iliad a'r Odysseia o waith "Homer." Cyfrifid Homer yn "dad Barddoniaeth" ac, ym marn gwŷr cyfarwydd iawn, yr Iliad yw'r gân farddonol odidocaf yn y byd. Cân ydyw, o leiaf, o bymtheng mil o linellau yn yr iaith brydferthaf mewn bod ar fesur chwe trawiad (hexametre), a'i phwnc yw rhai o ddigwyddiadau'r rhyfel rhwng Groeg a Chaerdroia (deuddegfed ganrif C.C.). Credid unwaith mai gwaith un bardd mawr oedd yr arwrgerdd hynod hon, ond erbyn hyn gwelir ei bod yn gynnyrch mwy nag un llaw neu oes. Eithr ni leiha hynny'r syndod bod gwaith mor ardderchog â hwn yn gyflawn mor gynnar yn hanes y byd: tu ôl i'r Iliad rhaid bod cenedlaethau lawer o ddatblygu a pherffeithio ar iaith a ffurfiau barddonol. Am flynyddoedd meithion bu Homer yn Feibl y Groegwyr, yn sylfaen eu haddysg ac yn rhwymyn eu hundeb â'i gilydd.
Nid oedd gwyliau eraill Athen mor rwysgfawr a phwysig â'r Panatheneia, ond y maent yn dra diddorol gan mai ynddynt hwy y cychwynnodd y Ddrama. Yn y Leneia, Gwyl Diolchgarwch am y cynhaeaf gwin, canai côr yn awr ac eilwaith a rhwng y canu adroddai dyn arall yn ddiweddarach atebai'r côr
yr adroddwr, a dyna gychwyn rhywbeth tebyg i ddadl rhyngddynt: wedyn chwanegwyd siaradwr neu actiwr arall atynt, ac felly dechreuodd y Ddrama. Datblygodd un math ar ddadlau rhwng y côr a'r siaradwyr yn gomedi a'r llall yn tragedy. Ac os am sylweddoli'n dyled i'r Groegwyr yn hyn, nid rhaid inni ond cofio bod pedwar bardd mawr, Aeschylus, Sophocles, Euripides ac Aristophanes, yn byw yn yr un ganrif a bod eu gweithiau hyd heddiw ymhlith trysorau llenyddol penna'r byd. Mewn unrhyw restr o chwech o awduron dramadaidd enwoca'r byd, y mae'n ddiddadl y ceid o leiaf ddau o'r Groegwyr hyn a gystadlai'n rheolaidd yng ngwyliau Athen. Nid sylfaenwyr y ddrama'n unig mohonynt, er y buasai hynny'n glod pur fawr iddynt. Hyd y dydd hwn dyma rai o'i thywysogion pennaf, ac onid rhyfeddol yw hyn pan gofiwn nad oedd gan y mwyaf ohonynt, Sophocles (495-406 C.C.) ddim ond tri actiwr a chôr at ei wasanaeth?
Ni bu Groeg chwaith yn y cyfnod hwn heb ei henwogion mewn rhyddiaith. Ymhlith haneswyr perthyn iddi ddau ysgrifennydd dihafal, er yn wahanol hollol i'w gilydd. Herodotus, a gyfenwir weithiau'n "dad Hanes," yw'r cyntaf, ac ar ei ôl un mwy nag ef, sef Thucydides fab Olorus. Nid oes lyfrau hanes mwy diddorol yn y byd na rhai Herodotus, ac yn y rhyfel rhwng Groeg a Phersia yr oedd ganddo destun wrth ei fodd. Ef yw tad y tylwyth difyr hwnnw o haneswyr y perthyn Theophilus Evans a George Borrow iddo. Maes llawer llai, y rhyfel rhwng Athen a Sparta, yw un Thucydides, ond gwnaeth ei athrylith ef yn anfarwol. Hanesydd manwl, gwyddonol, yw ef gyda gallu i ddisgrifio dynion a digwyddiadau na welodd y byd ei debyg cyn hynny na'i well erioed wedyn. Ymhlith pethau eraill gellir dywedyd amdano na lwyddodd yr un hanesydd i'r un graddau â Thucydides i ddisgrifio digwyddiadau y cymerth ef ei hun ran fawr ynddynt, ac ar hyd y canrifoedd fe erys yn batrwm i'w gydgrefftwyr o'r hyn a ddylai hanesydd fod.
Ni chyfeiriwyd eisoes ond at ychydig o enwogion llên Groeg, er eu bod hwy'n ddiau ar flaen y rhestr, eithr prin y rhydd dim ond eu henwi syniad inni am gyfoeth ac amrywiaeth eu cyfraniad. Dyledus ydym iddynt am fwy hyd yn oed na'u gweithiau penigamp: hwy hefyd a osododd i lawr y llinellau a ddilynodd llên gwledydd Ewrop byth wedyn. Ychydig iawn 0 ffurfiau llenyddol a ddefnyddir heddiw na ellir dywedyd amdanynt mai'r Groegwyr a'u creodd. Gwir yw hyn, er esiampl, am yr arwr-gerdd a'r ddrama, y fugeilgerdd a'r delyneg, y traethawd a'r nofel, ac amryw ffurfiau eraill. Cyn i'r llen godi ar Homer, medd R. W. Livingstone, ni fodolai'r fath beth â llenyddiaeth yn Ewrop, ond ymhell cyn disgyn ohoni ar yr olaf o'r Groegwyr yng nghanrifoedd cynnar y cyfnod Cristnogol yr oedd eu delw a'u dylanwad yn annileadwy ar ffurfiau llên pob gwlad yn Ewrop.[10]
A phan drown at athroniaeth a gwyddoniaeth, yr un amrywiaeth a chyfoeth meddyliol a'n cyferfydd eto. Nid gormod yw dywedyd mai'r Groegwyr a sefydlodd y gwyddorau fel cyfundrefnau o wybodaeth. Adeiladasant, wrth gwrs, ar waith ragflaenwyr, ond hwy a ddug y cyfan i drefn a goleuni. Rhaid bodloni yma ar ychydig o enghreifftiau'n unig. Ynglŷn â Rhif a Mesur (mathematics), Groeg yw'r termau bron i gyd, a phwy sydd yna ohonom na wyddai rywdro ychydig am "oraclau Euclid"? Ymhlith seryddwyr cynnar gellir enwi Thales, a broffwydodd y byddai diffyg ar yr haul yn 585 C.C., ac Aristarchus a gafodd gipolwg megis ar y wybodaeth a ddatguddiwyd yn llawnach i Copernicus ganrifoedd ar ôl hynny. Ar ddechrau'r bumed ganrif C.C., gwnaeth Empedocles rai darganfyddiadau ynglŷn â chorff dyn, a chyn ei diwedd cododd Hippocrates Fawr, a sylfaenodd "ysgol" o feddygon, ac a gyfenwir yn "dad y meddygon." Dengys eu cerfluniau o'r corff dynol fod y Groegwyr wedi astudio hwnnw yn hynod o fanwl a llwyr. Mewn Peirianneg (mechanics), drachefn, yr enw mawr yw Archimedes, at diau ei fod ef yn un o wyddonwyr mwyaf y byd, i'w restru yn yr un dosbarth â Kepler a Newton a Darwin. Ef, meddir, a ddyfeisiodd y screw a'r lever, ac adroddir aml stori ddiddorol amdano. Mewn Bywydeg (biology) gellir cyfeirio at waith Aristotl ar hanes Anifeiliaid a gwaith ei ddisgybl, Theophrastus, ar hanes Llysiau.
Yr oedd meddwl y bobl yma yn un mor ymchwilgar fel y mynnent nid yn unig astudio pethau o'u cwmpas, a phethau y gallent eu defnyddio er mantais iddynt eu hunain, ond hefyd gofynnent gwestiynau mwy cyffredinol ynglŷn â natur a tharddiad y byd ac ystyr bywyd ei hun. Amrywiol ryfeddol fu eu hatebion i gwestiwn y Rhodd Mam parthed y defnydd y crewyd y byd ohono. O ddwfr, meddai Thales; ond o ddefnydd diderfyn, amhenodol, meddai Anaximander. O awyr, dywedai un arall; o dân meddai Heraclitus, ac o Rif yn ôl Pythagoras, sylfaenydd mathematics Ewrop. Dywedai Empedocles fod pedair elfen yn dragwyddol—daear, dwfr, awyr, a thân—a bod Natur yn gwneuthur arbrofion parhaus cyn cynhyrchu'r perffaith, rhyw fath ar ddewis naturiol (natural selection) a arweiniai yn y man i ffurf o fywyd oedd a gobaith parhad ynddo. Ym marn Anaxagoras, yr elfen a lywodraethai bob elfen arall oedd meddwl, a thrig honno ymhob peth byw, hyd yn oed mewn planhigion, fel egwyddor eu bywyd. A'r atom, meddai Democritus, yw sylfaen popeth: nid yw'r byd a'r cyfan sydd ynddo yn ddim amgen na chyfuniadau gwahanol o atomau â'i gilydd. Ganwyd Thales yn 640 C.C., a Democritus lai na dwy ganrif ar ei ôl (460 C.C.), a rhyngddynt daw'r enwau eraill yn ogystal a gwŷr na chyfeiriwyd atynt o gwbl. A dengys ffaith fel hon gymaint o feddwl ac athronyddu a ffynnai ymhlith y Groegwyr yn y cyfnod hwnnw.[11]
Gyda thri enw mawr arall deuwn at athroniaeth yn ein hystyr fanylach ni i'r gair, sef y wyddor sy'n trafod problemau bod a gwybod, ac yn fwyaf neilltuol yn eu perthynas â dyn. Y cyntaf yw Socrates (470-399 C.C.), un o gymeriadau mwyaf adnabyddus yr hen fyd, er nad ysgrifennodd ef ei hun ddim. Gwaith mawr bywyd y dyn rhyfedd yma fu holi pobl a thrafod pynciau gyda'r dynion ieuainc galluocaf yn Athen. Rhoddes gyfeiriad newydd i athroniaeth ei wlad, gan bwysleisio cwestiynau ynglŷn â bywyd a chymeriad dyn yn fwy na'r lleill. Ansicr, meddai'r holwr mawr yma, yw pob dyfalu ynglŷn â'r byd materol, ond y mae'r gwahaniaeth rhwng da a drwg yn sicr a chlir. Dug athroniaeth o'r nef i'r ddaear yn gymaint ag iddo droi meddyliau dynion tuag at broblemau eu bywyd personol a chymdeithasol. Mater o wybodaeth, medd ef, yw daioni, rhywbeth i'w ddysgu, ac nid yw drygioni ond ffurf ar anwybodaeth. Felly, nid oes dim sy'n bwysicach na doethineb, a'i rheol gyntaf hi yw "adnebydd dy hun." Gwas pybyr Gwybodaeth a Gwirionedd fu Socrates, a rebel yn erbyn awdurdod ac amddiffynnwr eofn pob rhyddid meddyliol a beirniadaeth ddiduedd. Yn naturiol, nid oedd dyn felly'n boblogaidd iawn, a chondemniwyd ef i farwolaeth am na chredai yn y duwiau, a'i fod yn llygru ieuenctid Athen. Ond er ei ferthyru, bu fyw yng ngwaith ei ddisgyblion a'u canlynwyr, a byth er hynny dylanwadodd dau Roegwr yn ddwfn iawn ar athroniaeth y byd, y naill ohonynt (Plato) yn ddisgybl i Socrates, a'r llall (Aristotl) yn ddisgybl Plato. Y mae llu mawr o ysgrifeniadau Plato, "duw y philosoffyddion," ar gael, a phriodol y gellir ei ystyried ef fel y cyntaf a'r mwyaf o'r athronwyr hynny a berthyn i ysgol yr idealists, sef ysgol Hegel a Syr Henry Jones. Dyn gwahanol iawn i'w athro oedd Aristotl, "meistr y doethion" ac athro Alecsander Fawr. Ysgrifennodd nid yn unig ar bynciau gwyddonol, ond hefyd ar farddoniaeth, rhesymeg, moeseg a gwleidyddiaeth, a bu ei ddylanwad ef ar feddyliau dynion yn neilltuol o gryf i lawr i'r Canol Oesoedd. Nid y rhan leiaf gwerthfawr o lawer iawn yn y rhodd fawr a gyflwynodd llên Groeg i'r byd yw gweithiau'r ddau feddyliwr hynod yma. Wrth feddwl amdanynt, gwelir gymaint y symudasai meddwl dyn ymlaen erbyn dyddiau Plato ac Aristotl, a lleied fu'r newid am ganrifoedd ar eu hôl. Os gellir barnu safon gwareiddiad oddiwrth y lefel y cododd ymchwil feddyliol iddo, yr oedd gwareiddiad Groeg yn y bumed ganrif cyn Crist yn un uchel dros ben.
Dyna ddywedasai dyn hefyd petai'r celfau cain dan sylw. Gwelwyd eisoes fod gwareiddiad hen wledydd yr Aifft a Babilonia wedi gwneuthur rhyw gymaint yn y cyfeiriadau hyn, ond yr ydym mewn byd hollol wahanol pan ddeuwn at y Groegwyr. Yn lle maint ac aruthredd fel nodweddion amlycaf eu celf, cawn yn awr symlrwydd a naturioldeb a thlysni digyffelyb. Oddiwrth olion prin adeiladau fel y Parthenon a theml Theseus yn Athen, neu weithiau cerflunwyr fel Praxiteles a Phidias, cydnebydd y cyfarwydd na ddatblygodd rhai celfau'n uwch erioed nag a wnaethant yng ngwlad Groeg, ac aiff dyn yn ôl atynt drachefn a thrachefn am ysbrydiaeth ac arweiniad. Dyna'r rhyfeddod eto gyda'r Groegwyr yma—nid yn unig eu cyfraniadau priod, ond hefyd eu dylanwad byth er hynny. Onibai am Roegwyr y canrifoedd hyn, buasai celf Ewrop heddiw, ym marn Dr. Percy Gardner, mor isel ei lefel â chelf sathredig yr India: ac onibai am eu dylanwad arhosol arni, byddai celf Ewrop mewn perygl parhaus o redeg i eithafion gwrthun. Pan ddeffrodd diddordeb pobl yn y celfau cain droeon lawer wedi dyddiau'r Groegwyr, drwy fynd yn ôl atynt hwy a'u delfrydau y diogelasant eu bywyd eu hunain.
Ond, er iddynt eu hynodi eu hunain gymaint ym myd y meddwl, nid pobl anymarferol mohonynt, eithr trodd y Groegwr ei lygad yn ddibaid at fywyd a'i wahanol anghenion. Gwir yw hyn am eu gwyddoniaeth: gwylient y ffurfafen, er esiampl, nid er mwyn estyn terfynau seryddiaeth ond hefyd i ddiogelu bywydau eu morwyr a'u masnachwyr yn eu llongau. Ceisient hefyd yn barhaus gymhwyso eu holl athronyddu am ddyn a bywyd at amcanion byw o ddydd i ddydd yn y byd. Diwedda Aristotl ei draethawd o ddeg llyfr ar Foeseg drwy honni mai'r peth nesaf yw mynd ymlaen i drafod gwleidyddiaeth, a gwaith mwyaf dylanwadol Plato fu ei Politcia neu'r Republic fel yr adwaenir ef orau'n awr. Mewn ystyr wirioneddol iawn nid oedd y fath beth â gwleidyddiaeth yn bod cyn y Groegwyr, oherwydd gwaith personol y teyrn a'i lys fu llywodraethu ei ymerodraeth, ac nid oedd gan y deiliaid ran na chyfran yn hynny. Ond, yng ngeiriau Pericles, "y mae'n trefn ni yn ffafriol i'r lliaws yn hytrach nag i'r ychydig, a dyna paham y gelwir hi yn werin lywodraeth." Cymerth yr Atheniaid ddiddordeb dwfn mewn materion gwleidyddol, ac yn ei dro gwasanaethai pob dinesydd fel cynghorwr neu seneddwr. A rhoes yr athronwyr hefyd sylw mawr i'r cwestiynau hyn. Hwy a osododd i lawr sylfeini yr hyn a alwem ni'n athroniaeth gwleidyddiaeth, ac ym marn Plato, y mwyaf ohonynt, y gwir athronydd yw'r unig frenin cymwys.
Wrth gwrs, dylid cofio mai gwleidyddiaeth dinas oedd un Athen yn y cyfnod hwn yn hytrach nag un ar gyfer gwlad neu genedl gyfan. Pwysicach, yn wir, oedd y ddinas na'r dyn unigol, a sylfaenesid cysur y dinasyddion a'u rhyddid i wleidydda o gwbl ar y ffaith bod miloedd o gaethion heb freintiau yn y byd ganddynt yn byw yn Athen ym mlynyddoedd disgleiriaf ei hanes.
"Ni chais ein llywodraeth ni," meddai Pericles eto,[12] gopio deddfau'n cymdogion: esiampl ŷm ni i eraill yn hytrach nag efelychwyr ohonynt," ac anodd peidio â theimlo bod y gair yn wir am y Groegwyr mewn llu o ffyrdd. Dyma'r bobl mwyaf byw a di-orffwys eu meddwl, mwyaf anturiaethus ymhob rhyw fodd a welodd y byd erioed. Ni ddatblygasant ar unrhyw gyfnod yn eu hanes yn genedl fawr unedig neu'n ymerodraeth gadarn, ac, o ran hynny, nid oedd rhaid wrth ddatblygiad felly er mwyn i'w dylanwad gyrraedd pobloedd tuallan iddynt. Cludwyd hwnnw'n fuan gan Alecsander Fawr (356-323 C.C.) a'i olynwyr i wledydd y Dwyrain; a dyna yw'r byd Helenistaidd—byd yn siarad iaith Groeg ac yn cadw'n fyw syniadau a gwareiddiad y Groegwyr. A chyn bo hir lledaenwyd y dylanwadau hyn yn y Gorllewin, ac ni ellir deall ein bywyd a'n gwareiddiad ninnau os anghofiwn ein dyled i'r bobl athrylithgar hyn.
PENNOD VI
MAWREDD RHUFAIN
POBL. wahanol iawn i'r Groegwyr oedd y Rhufeiniaid, ond y mae'n naturiol sôn am y naill yn union ar ôl y llall. Yn un peth, dyma'r bobl bwysicaf yn hanes Ewrop pan giliodd gogoniant Groeg, ac yn fuan yr oedd gwlad Groeg yn rhan o'r ymerodraeth Rufeinig. Ac yn lle nifer o wladwriaethau bychain gyda dinasoedd yn ganolbwynt iddynt, ceir bellach yn nhir Groeg dalaith eang dan lywodraeth gadarn Rhufain, er iddi adael gryn lawer o ryddid i Athen a threfi eraill ar gyfrif eu henwogrwydd gynt.[13] Y Rhufeiniaid, hefyd, a fu'r prif gyfryngau i drosglwyddo etifeddiaeth gyfoethog Groeg i wledydd Ewrop. Uwchlaw pob dim athrylith ymarferol oedd un y bobl yma. Nid oeddynt yn agos mor fyw a dawnus eu meddwl â'r Groegwyr, ac nid rhyw lawer o ddawn creu ac athronyddu a roddwyd iddynt. Mewn crefydd, athroniaeth, llenyddiaeth a holl bethau'r meddwl o ran hynny, benthyciasant yn helaeth oddiar y Groegwyr, a gallasai un o'u beirdd, Horas, ddywedyd bod y caeth wedi caethiwo ei goncwerwr yn hynny. Yr un rhai, er esiampl, yw duwiau Rhufeinig fel Jupiter, Mars a Venus â Zeus, Ares ac Aphrodite'r Groegwyr. Ac er i'w llenyddiaeth ddatblygu rhai ffurfiau gwreiddiol a bod ambell awdur Lladinaidd nad yw ei ddyled i Roeg yn un fawr iawn, buasai llawer iawn o lên ardderchog Rhufain yn amhosibl onibai am un odidocach Groeg. Yng nghân fwyaf yr iaith, sef yr Aeneid gan Vergil, fel yn odlau Horas, y mae'r ddyled i Homer a beirdd Groeg yn amlwg iawn, ac nid yw gweithiau athronyddol Cicero, prif ysgrifennydd Lladin rhyddieithol, ond atsain o syniadau ysgolion Groeg. Yr oedd addysg plant Rhufain yn nwylo'r Groegwyr, ac i Athen a threfi Groegaidd eraill y cyrchai ieuenctid Rhufain a fedrai fforddio hynny am addysg uwchraddol. Mewn Groeg, fel y gwyddys, yn hytrach na Lladin yr ysgrifennodd Paul ei epistol at Gristnogion Rhufain ei hun yn y ganrif gyntaf. Mewn llu o ffyrdd pwysig eraill bu dylanwad Groeg yn neilltuol o drwm ar fywyd a gwareiddiad Rhufain, ac yn wir dyma un o gymwynasau pennaf Rhufain: hi adeiladodd y bont y croesodd gwareiddiad drosti o'r Dwyrain a Groeg i'r Gorllewin. Ar fywyd allanol a ffurfiau llywodraeth Ewrop yn hytrach nag ar feddwl y gwledydd y gadawodd Rhufain yr argraff ddyfnaf. Gwaith y Rhufeiniaid—i fynd yn ôl at y ffigur o adeiladu—yw ffrâm allanol ein bywyd i raddau mawr: hwy adeiladodd scaffaldiau'r tŷ a ddodrefnwyd gan bobl alluocach a mwy gwreiddiol na hwynt.
Ac eto i gyd, pan sonnir am allu, nid rhaid i Rufain gywilyddio, yn enwedig os am allu ymarferol a dawn i orchfygu a llywodraethu y meddylir. Ynglŷn â phethau felly ni bu yn hanes y byd ddinas bwysicach na hi, ac onid erys rhyw awgrym megis o'i mawredd gynt yn yr enwau balch a roddes dynion arni? Dyma'r "ddinas dragwyddol" a "meistres y byd," a pha ymffrost mor hyderus a chadarn ei sail ag eiddo'r dyn a allasai ddywedyd gynt "dinesydd Rhufeinig ydwyf" (civis Romanus sum)? Ac, yn debyg i Gaersalem ac Athen, y mae iddi hithau hefyd ei hanes hen.
Tua'r flwyddyn 753 C.C. y sefydlwyd eu dinas yn ôl traddodiadau'r Rhufeiniaid, ac oddiwrth y digwyddiad hwnnw y dyddid popeth am genedlaethau ganddynt. Ar y cychwyn nid oedd ond tref fechan yn perthyn i lwyth Eidalaidd a elwir yn Lladinwyr am mai Latium oedd y rhanbarth y trigent ynddi. Oddeutu canol yr wythfed ganrif C.C. meddiennwyd hi gan lwyth arall, sef yr Etrusciaid, a brenhinoedd Etrusciaidd a fu'n llywodraethwyr Rhufain hyd ddechrau'r bumed ganrif C.C. Tua'r adeg honno y cychwyn ei gwir hanes, pan fwriwyd yr olaf o'r brenhinoedd allan ac y cymerth yr uchelwyr yr awenau i'w dwylo eu hunain. O hynny ymlaen hyd ddyddiau Julius Caesar gwerinlywodraeth fu Rhufain, ac yn ystod y pedair canrif yma rheolid hi gan ei senedd o uchelwyr, y patres conscripti, gyda'r werin, y plebs, yn ennill rhyw faint mwy o ryddid iddi ei hun o dro i dro ac weithiau'n ei golli drachefn. Yn awr y dechreuodd Rhufain estyn ei therfynau, ac erbyn 275 C.C. gorchfygasai ei chymdogion yn yr Eidal. Dyna'r bennod gyntaf yn ei hanes, a diweddodd honno pan ddaeth yr Eidal i'w meddiant. Mewn llai na chanrif diweddwyd pennod arall, ac erbyn hynny (201 C.C.) yr oedd Rhufain yn feistres y Môr Canoldir ar gyfrif ei buddugoliaeth ar Hannibal a phobl Carthago. Wedyn trodd ei golwg i gyfeiriad gwledydd cyfoethog y Dwyrain a syrthiodd Groeg, Asia Leiaf, a Syria cyn bo hir i'w dwylo: yn 63 C.C. ymddangosodd Pompeius a'i fyddin yng Nghaersalem, ac wedi gwarchae enbyd ar y ddinas santaidd aeth y cenedl-ddyn o Rufeiniwr i mewn i'r cysegr santeiddiolaf. Yn y Gorllewin yr enillodd Julius Caesar ei fuddugoliaethau mawr gan chwanegu Ffrainc (Gallia y pryd hynny) at yr ymerodraeth ac, er iddo groesi i Brydain, bu'n rhaid i Caesar adael y gwaith o ddarostwng ein gwlad i'w olynwyr. Ef yn ddiau yw un o ddynion mwyaf hanes (100-44 C.C.), a'i waith ef a wnaeth ymerodraeth Rhufain yn bosibl. Ni chymerth Caesar ei hun yr enw ac ni ddiddymodd ffurfiau'r werinlywodraeth ar unwaith: ond dictator neu ymherodr ydoedd serch hynny. Cyfrifir ei olynydd, Augustus, y cyntaf o'r ymerodron Rhufeinig (31 C.C.-14 O.C.) ac, fel y gwyddys, yn ystod ei deyrnasiad ef y ganwyd Crist yn un o daleithiau dwyreiniol y llywodraeth.
Heb fanylu gormod am yr hanes gellir dywedyd bod cyfnod euraidd yr ymerodraeth yn ymestyn o ddyddiau Augustus hyd farw ymherodr a'r athronydd Marcus Aurelius (180 O.C.). Dyma gyfnod y cryfhau a'r lledaenu mawr ar allu Rhufain: y pryd hynny llywodraethai o Brydain a Spaen yn y Gorllewin i Galdea ac Armenïa yn y Dwyrain, ac o'r Aifft yn y Dehau tu draw i enau Rhein yn y Gogledd. Ac, ar y cyfan, llywodraeth deg a chadarn oedd un Rhufain, er bod ambell ymherodr yn deyrn creulon, a rhai o'i swyddogion yn y taleithiau'n enwog am eu rhaib. Ond eithriadau oedd y rhain: gwyddai'r byd yn awr, a'i gymryd at ei gilydd, beth oedd byw'n ddiogel a pheth oedd mwynhau heddwch pur gyffredinol (y pax Romana). Yna am ganrif hyd esgyniad Diocletian (284 O.C.) daw cyfnod cythryblus pan dyfodd gallu'r fyddin ac y siglwyd llawer ar deyrngarwch deiliaid Rhufain. Cymerth Diocletian y cam pwysig o rannu'r ymerodraeth yn ddwy, gydag un ymherodr yn y Gorllewin a'r llall yn y Dwyrain. Arweiniodd hyn yn fuan i esgeuluso Rhufain a'r Eidal, ac erbyn 330 O.C. yr oedd Caercystenyn (yr hen Byzantium) yn ddinas wych a dwy feistres yn ceisio llywodraethu'r byd. Weithiau unid y ddwy ymerodraeth dan un teyrn, a digwyddodd hynny am y tro olaf dan Theodosius (379-395 O.C.). Ymhen canrif daeth diwedd ar hen ymerodraeth Rhufain yn y Gorllewin pan eisteddodd Odoacer, cadfridog nifer o lwythau Almaenaidd, ar hen orsedd y Caesariaid yn y flwyddyn. 476 O.C. Parhaodd yr ymerodraeth ddwyreiniol ymlaen, ond yr unig ymherodr mawr a gynhyrchodd yn y cyfnod yma oedd Justinian (527-65). Ef gasglodd ddeddfau Rhufain ynghyd ac a adeiladodd eglwys enwog San Sophia yn brif gysegr Cristnogaeth Ddwyreiniol. Ychydig flynyddoedd wedi marw Justinian, cododd proffwyd enwog yn y Dwyrain, Mahomet (570-632), ac ymhen canrifoedd wedyn, pan oresgynnodd y Tyrciaid Gaercystenyn, trowyd San Sophia yn deml Fahometanaidd.
Dywedwyd eisoes mai doniau ymarferol oedd rhai amlyca'r Rhufeiniaid, ac enghraifft nodedig ohonynt oedd eu llwyddiant yn gweinyddu llywodraeth yr ymerodraeth. Sylfaenesid hi i raddau mawr ar fuddugoliaethau milwrol, eithr rheolid hi wedyn gyda thegwch a chyfiawnder, a rhoddes y Rhufeiniwr le uchel yn ei gredo wleidyddol i deyrngarwch i'r ymherodr a ffyddlondeb yn ei wasanaeth. Yr oedd eu system, hefyd,
yn un hynod o fanwl. Rhoddid talaith fawr dan gynrychiolydd uniongyrchol yr ymherodr neu'r senedd, a than hwnnw ceid swyddogion a ofalai am adrannau llai, ac weithiau caniateid i dywysogion brodorol lywodraethu dan nawdd Rhufain, fel Herod yn Judea gynt. Datblygasant ddulliau manwl o weinyddu talaith, a thrwy eu deddfau a'u trethi a moddion eraill gafael ddigon tynn oedd eiddo'r Rhufeiniaid ar eu deiliaid. Un praw allanol o'r llwyrder hwnnw a'u nodweddai oedd y ffyrdd ardderchog a gysylltai Rufain â'i thaleithiau a'r taleithiau â'i gilydd. Ar hyd y ffyrdd hyn y symudai'r byddinoedd a gwahanol swyddogion y llywodraeth fel y llythyrgludwyr, a defnyddid hwynt gan fasnachwyr ac eraill i ehangu dylanwad Rhufain a chwanegu at ei chyfoeth. Yn olion y prif-ffyrdd godidog hyn, fel mewn ambell bont neu fur Rhufeinig a erys hyd y dydd hwn, cawn rywbeth sy'n help inni weld lle'r oedd cuddiad cryfder y bobl feistrolgar yma.
Fe sylweddolir mor fawr fu'r gwaith a gyflawnodd Rhufain a chymaint fu ei chyfraniad i wareiddiad Ewrop a'r byd, pan feddyliwn am y dinasoedd dirif a unwyd ganddi dan un llywodraeth gref neu'r cenhedloedd lawer yn y Dwyrain a'r Gorllewin a wareiddiwyd pan ddaethant dan iau Rhufain. Er iddi unoli'r holl fyd adnabyddus bron dan un system o ddeddfau, bu'n ddigon doeth i beidio ag anwybyddu nodweddion neilltuol y gwahanol genhedloedd, a llwyddodd yr un pryd i greu math ar wlatgarwch neu deyrngarwch ymerodrol o un pen i'r llall o'i llywodraeth Bron na ellid dywedyd mai dyma'r tro cyntaf y llwyddwyd i wneuthur hyn yn hanes y byd: er nad dyma'r tro cyntaf y sefydlwyd ymerodraeth lle'r oedd hynny, o ran egwyddor o leiaf, yn bosibl Perthyn y clod am hynny i Alecsander Fawr, a dyna'r gwahaniaeth rhwng ei ynerodraeth ef â rhai cynharach yr Aifft a Babilonia. Ceisiodd yntau uno'r byd yn un gymdeithas, a honno'n un y ffynnai cyd—raddoldeb rhwng pob aelod ynddi â'r holl aelodau eraill. Yn y ddau syniad yma deuwn ar draws rhywbeth gwahanol i ddim a welwyd yn y byd cyn hyn a gwahanol i'r hyn a gymerth le'r ymerodraeth Rufeinig ymhen canrifoedd wedyn. Ar un llaw gwladwriaethau dinesig bychain oedd rhai Groeg a phob un ohonynt yn annibynnol ar y lleill: ac, ar y llaw arall, pan ddadfeiliodd Rhufain cododd yn ei lle nifer o wladwriaethau cenedlaethol yn hytrach nag un ymerodraeth. Fel deiliaid Rhufain cafodd miloedd o bobl olwg am y tro cyntaf ar rywbeth tebyg i gydraddoldeb byd—eang rhyngddynt â'i gilydd fel cyd-ddinasyddion. Cydraddoldeb gwleidyddol yn unig ydoedd wrth gwrs, a diau ei fod yn aml yn ddigon amherffaith hyd yn oed ar y lefel honno. Eithr nid peth bach ydoedd fod y syniad wedi ymddangos o gwbl, a'r syniad yma, fel y dywed y Prifathro Ernest Barker[14] , a lefeiniwyd wedyn ag ystyr ac amcan ysbrydol gan y Cristnogion. Un eglwys, ym marn Paul, oedd i fod ar gyfer y byd i gyd, ac yn honno ni byddai na chaeth na rhydd, na Groegwr nac Iddew.
Offeryn pennaf Rhufain yn ei gwaith mawr fel llywodraethwr y byd yn ddiddadl a fu ei chyfraith, ac yn wir dyma gyfraniad Rhufeinig at wareiddiad, y gellir yn briodol ei alw'n un gwreiddiol. A chyfraniad neilltuol o bwysig ydoedd. Aiff un awdurdod diweddar belled â honni mai dyma'r peth mwyaf a wnaeth yr hen fyd: "the formulation of Roman Law," medd Ed. Meynial, "was the greatest triumph of the ancient world." Bid a fynno am hynny, gwir yw dywedyd mai o Rufain yr aeth y gyfraith allan i wledydd y Gorllewin, a bod delw ac argraff y ddinas dragwyddol yn ddwfn iawn ar ddeddfau a chyfundrefnau gwladol Ewrop. Fe gychwynnodd Cyfraith Rhufain, wrth reswm, fel un pob gwlad arall, ond datblygodd gryn lawer ymhellach na hwynt. O fynd yn ôl i'r cychwyn, gwelem hynafiaid y Rhufeiniaid yn Latium yn byw bron heb ddeddf yn y byd, neu o leiaf bob un ohonynt yn ddeddf iddo'i hun, oddieithr bod arfer y llwyth yn ffrwyno rhywfaint ar ryddid pob dyn. Yn ddiweddarach daeth adeg pan dderbynnid dyfarniad y pennaeth neu'r offeiriad ar achosion a ddygid ger eu bron, a chyn bo hir bodolai casgliad anysgrifenedig o'r dyfarniadau a'r deddfau hyn. Yna daw'r dydd pan ysgrifennid y deddfau hyn modd y gallai pobl wybod beth oedd gyfreithlon a pheth nad oedd dyma gyfnod y Deng Air yn Israel neu'r Deuddeg Tabl yn Rhufain. Wedyn
tyfodd rhif ac amrywiaeth y deddfau yn y casgliadau ysgrifenedig, a rhoddwyd lle pwysicach na chynt i'r syniad bod Cyfraith yn datblygu i gyfarfod â gofynion y genedl, fel y tyfai ac y datblygai hithau. Mewn dulliau tebyg i hyn y tyfodd Cyfraith Rhufain dan y brenhinoedd a'r werinlywodraeth ynghyntaf, ac y datblygodd wedyn dan yr ymerodraeth.
Sylfaen y system gyflawn, wrth gwrs, oedd y ddeddf wladol (ius civile), sef y cyfreithiau a reolai fywyd Rhufeiniaid yr Eidal yn unig. Gwnaethpwyd y deddfau hynny gan eu swyddogion (y praetores ac eraill) a'u senedd i gyfarfod ag anghenion Rhufain cyn datblygu ohoni'n ymerodraeth. Wedyn pan aeth bywyd yn fwy cymhleth, ac yn enwedig pan lifodd cenhedloedd eraill i mewn i'r ymerodraeth, rhaid oedd wrth gyfraith ehangach ei chylch a mwy cyffredinol ei natur, a'r enw a rodded ar honno oedd ddeddf neu gyfraith y cenhedloedd (ius gentium). Ar ôl hynny cysylltwyd y syniad hwn o ddeddf y cenhedloedd â syniad hanner athronyddol o ddeddf natur (ius naturale) ac aethpwyd i gredu bod gwreiddiau deddf y cenhedloedd, sef Cyfraith Rhufain yn yr ystyr ehangaf, yn natur y byd a bywyd dyn fel dyn. Yn wir, hawlid mai gogoniant y gyfundrefn oedd ei bod yn gydnaws â natur ac angen cynhenid dyn. A phan dderbyniodd yr ymerodraeth Gristnogaeth, nid rhyfedd ydoedd i bobl fynd gam ymhellach a honni mai cyfraith Duw oedd y gyfraith naturiol yma.
Y system fawr hon, yn enwedig yng nghasgliad yr ymherodr Justinian (Corpus Iuris Civilis) a gariodd ddylanwad Rhufain drwy'r byd ymhell ar ôl diddymu'r ymerodraeth ei hun. Yn awr, caethgludodd Rhufain ei chaethgludwyr hithau, oherwydd, er i genhedloedd dieithr feddiannu'r ymerodraeth, mabwysiadwyd rhannau helaeth o gyfraith Rhufain ganddynt. Pan dorrwyd yr ymerodraeth i fyny, ac y dechreuodd cenhedloedd presennol Ewrop gymryd eu lle, Cyfraith Rhufain a roddes ffurf i'w bywyd hwythau am genedlaethau. Bu Dehau Ffrainc fyw dani hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r Almaen am ganrif wedyn, a hi sydd wrth wraidd cyfundrefnau cyfreithiol bron holl wledydd y Gorllewin. Ac nid gwleidyddwyr a brenhinoedd yn unig a wybu amdani. Hebddi hi ni chyfodasai chwaith y gyfraith Ganonaidd neu'r Ddeddf Eglwysig, oherwydd sylfaenesid honno ar ddwy sylfaen. Y naill yw'r Ysgrythur a thraddodiadau'r Eglwys a'r llall yw Cyfraith Rhufain, a rhodd bennaf Rhufain i wareiddiad yn ddiamau a fu honno.
Y mae'n bryd inni, erbyn hyn, wynebu un cwestiwn diddorol arall, a'r olaf ynglŷn â mawredd Rhufain. Paham, tybed, y syrthiodd ymerodraeth a fu unwaith mor gadarn a disigl â hon? Oni ellid disgwyl, gan gryfed y seiliau a gwyched yr adeilad, na orchfygasai dim hi? Eithr nid felly y bu, ac wrth graffu ar y rhesymau am gwymp Rhufain, gwelwn pa amodau sy'n anhepgor i barhad teyrnas gref ac i gynnydd a diogelwch gwareiddiad. Nid yw'r rhesymau yn hanes Rhufain mwy nag yn hanes gwledydd eraill i gyd o'r un natur. Y mae rhai ohonynt yn wleidyddol, fel gwendid y llywodraeth ganolog yn Rhufain ei hun, a llygredd ac anonestrwydd ei chynrychiolwyr yn y taleithiau pell. Rheswm arall o'r un natur oedd rhaniad yr ymerodraeth yn nyddiau Diocletian: cymylwyd llawer ar ogoniant Rhufain pan gynefinodd pobl â dau Caesar, y naill yn y Dwyrain a'r llall yn y Gorllewin, ac, wedi rhannu'r ymerodraeth, nid oedd y byd gwareiddiedig mwyach yn un. At hyn, hefyd, rhaid cofio am y cenhedleedd barbaraidd a ddechreuasai ers amser bellach lifo o'r Gogledd a'r Dwyrain i Ewrop, gan greu pryder a pherygl i'r ymerodraeth yn nyddiau'i gwendid. Sefydlasai rhai llwythau barbaraidd eisoes ar gyffiniau taleithiau Rhufain, wedyn bu'n rhaid caniatau iddynt fyw o'u mewn, ac yn fuan ymddangosodd eu byddinoedd o flaen y ddinas ei hun Yn eu plith ceid llwythau cryfion anwar fel yr Alemanni, y Ffranciaid, y Vandaliaid a'r Gothiaid. Yn 410 O.C. cymerwyd Rhufain gan y llwyth diwethaf a ennwyd dan eu cadfridog Alaric, bu agos i lwyth creulonach dan Attila'r Hun wneuthur yr un peth ychydig flynyddoedd wedyn, ac yn 455 llwyddodd y Vandaliaid drachefn i oresgyn y ddinas. Gwir yw i'r barbariaid hyn arbed adeiladau'r ddinas, ac iddynt ddod o dan ddylanwad gwareiddiad uwch Rhufain mewn llu ffyrdd, ond rhyfedd gymaint fu'r tro ar y rhod er dyddiau Julius Caesar ac Augustus. Yn lle arwain brenhinoedd a thywysogion o bedwar cwrr y byd yn gaethion drwy ei heolydd yng ngorymdeithiau'r cadfridogion buddugoliaethus, da oedd gan Rufain dderbyn trugaredd a thelerau heddwch yn awr oddiar law ei gorthrymwyr barbaraidd.
Y mae un ffaith arall ac o natur wahanol yn amlwg iawn, a chyfrif honno'n gymaint â dim am dranc Rhufain. Fel yn hanes gwledydd eraill, gyda buddugoliaeth llwyddiant daeth hefyd ddirywiad moesol a chymdeithasol i durio dan seiliau bywyd Rhufain. Cwynai'r bardd Juvenal fod yr Orontes (un o afonydd y Dwyrain) wedi llifo i'r Tiber, a dywed yr hanesydd Tacitus, yn ei ddull miniog yntau, fod pob drwg—gan gynnwys Cristnogaeth—yn gynt neu'n hwyrach, yn ffeindio'i ffordd i Rufain.<ref>Annales XV, 44.</ref< Diflanasai'r tyddynwr a'r amaethwr bychan a fu'n gryfder Rhufain gynt, a chymerth miloedd o gaethion eu lle chwyddodd tlodi'r ddinas pan lifodd pobl y wlad iddi i fyw'n segur ar gardod y teyrn: a chyn bo hir yr oedd Rhufeiniaid o waed yn estroniaid yn y llys; ac yn y byddinoedd barbariaid cyflogedig oedd y rhan fwyaf o'i milwyr. Buasai'n anodd i ddirywiad fynd ymhellach neu i unrhyw ymerodraeth beidio â threngu o'i herwydd. Yn y cyfnod cythryblus hwn, pan gynhyddai gwendid Rhufain ac y meddiennid ei thir gan y barbariaid, da ydoedd i'r byd fod un sefydliad, sef yr Eglwys Gristnogol, yn ennill nerth yr un pryd. Hi ddiogelodd wareiddiad Ewrop pan ddadfeiliodd Rhufain, drwy drosglwyddo ohoni etifeddiaeth Rhufain i'r gwledydd a thrwy iddi wareiddio a dofi tipyn ar hynafiaid cenhedloedd presennol Ewrop.
PENNOD VII
CYFLAWNDER YR AMSER
CRED miloedd o bobl mai'r digwyddiad pwysicaf ei ganlyniadau yn hanes y byd a'i wareiddiad a fu geni'r Iesu ym Mhethlehem Judea, ac am hwnnw y mae'n rhaid sôn yn awr. Digwyddodd hyn, yn ôl un o eiriau awgrymog y Testament Newydd, "yng nghyflawnder yr amser," neu, fel y dywedodd rhywun yn ddiweddar, "pan ddaeth y ddynoliaeth i'w hoed." Od oes ystyr o gwbl mewn ymadroddion fel y rhain, dylai hwnnw fod yn weddol glir ar ôl yr hyn a sgrifennwyd eisoes am y paratoi a fu ar y byd y daeth Crist iddo. Ac os gellir dywedyd bod y pynciau yr ymdriniwyd â hwynt hyd yma yn destun cannoedd lawer o gyfrolau, beth a ddywedwn am Gristnogaeth a'r llenyddiaeth ddiderfyn y rhoddes fod iddi? Gan hynny, mewn maes mor eang, y mae'n rhaid inni ein cyfyngu'n hunain i ychydig iawn o'r prif-ffyrdd yn unig. Nid oes angen trafod athrawiaethau Cristnogaeth na cheisio penderfynu gwerth ysbrydol y grefydd newydd: ond mewn llyfr ar hanes gwareiddiad, yn enwedig gwareiddiad Ewrop, ni ellir esgeuluso gofyn pa elfennau newydd a lifodd i mewn i fywyd a gwareiddiad y byd gyda dyfodiad Cristnogaeth, a sut yr effeithiodd y grefydd newydd ar hanes Ewrop. A digon yw'r cwestiynau hyn i amryw lyfrau, heb sôn am un bennod yn unig yn y llyfr hwn.
Pan ystyriwn unrhyw ffaith neu ddylanwad mawr fel Cristnogaeth, y mae angen gochel dau gamgymeriad a gwylio rhag syrthio i'r naill neu'r llall o ddau eithaf. Un yw tybio mai rhywbeth hollol newydd yw Cristnogaeth,—rhywbeth nad ac na pharatowyd dim ar ei gyfer. Nid fel yna y dëellir unrhyw fudiad pwysig mewn hanes. Ni cheir dyn fel Pericles, meddai Aristotl gynt, yn Scythia: rhaid wrth wareiddiad uchel Athen i'w esbonio ac yn gefndir iddo. Ac er bod Crist y mwyaf ymhlith meibion dynion, nid yw'n anfri arno yntau gofio ei fod yn llinell y proffwydi, ac ni honnir ganddo mai ef a ddatguddiodd Dduw am y tro cyntaf erioed i ddynion. Ac am hynny ni ddëellir Cristnogaeth os anghofir yr hyn a fu cyn dyfod o Grist i'r byd, neu os gwedir bod rhai o'i gwreiddiau'n mynd yn ddwfn iawn i'r gorffennol. Y camgymeriad arall yw meddwl nad yw Cristnogaeth, neu unrhyw fudiad mawr arall, yn ddim ond canlyniad naturiol ac anocheladwy cynnydd a datblygiad dynol. Mewn gair, ni ddëellir Cristnogaeth, oni chydnabyddir bod ynddi elfennau newydd a chreadigol hefyd. Ymhob crefydd newydd sy'n werth yr enw, fe geir rhywbeth gwreiddiol na ellir ei lwyr esbonio o'i orffennol a'i amgylchedd, nac ychwaith gyfrif amdano fel cyfuniad hapus o wirioneddau neu alluoedd y gwyddai'r byd eisoes amdanynt. Y mae elfennau creadigol a gwreiddiol felly yng Nghristnogaeth ar wahan i hynny, sut y gellir cyfrif am ei dylanwad? Eithr nid ystyr hyn yw bod syniadau Crist yn gyfryw na ellir eu cymharu â syniadau mewn crefyddau eraill. Benthyciodd Cristnogaeth aml syniad a thrawsnewidiodd eraill, a throdd ddyfroedd o lawer cyfeiriad i'w melin ar hyd y canrifoedd; ond rhoddes ei delw arbennig ei hun ar syniadau felly, torrodd allan lwybrau newydd i feddwl a bywyd dyn, a saif ei chenadwri mewn dosbarth ar ei phen ei hun.[15]
Priodol, efallai, yw crybwyll yn y fan hon y defnyddir y gair Cristnogaeth yn gyffredin iawn mewn mwy nag un ystyr. Weithiau yr Efengyl Gristnogol a olygir, sef y gwirioneddau oedd yn sylwedd cenadwri Crist yn nyddiau ei gnawd. Gwelir rheini yn Efengylau'r Testament Newydd, ac yn yr ystyr hon fe gyferbynnir Cristnogaeth, dyweder, â Phlatoniaeth neu syniadau'r Stoiciaid am fywyd a'i amcan. Dro arall, pan sonnir am Gristnogaeth, am y grefydd Gristnogol y byddys yn meddwl, sef y bywyd neu'r cymundeb hwnnw rhwng dyn a Duw a wnaethpwyd yn bosibl drwy Iesu Grist. Dengys y Testament Newydd eto a'r llyfrau a rydd hanes Cristnogion sut fywyd oedd hwnnw. Ac yn yr ystyr hon, eto, fe gyferbynnir Cristnogaeth â cheisiadau eraill fel Bwdistiaeth, er enghraifft, i ddod a dyn i berthynas â'r byd ysbrydol. Ac wedyn, defnyddir y gair yn gyfystyr â'r symudiad mawr hanesyddol y rhoddes dysgeidiaeth Crist a chrefydd ei ganlynwyr fod iddo. A pheth bynnag yw'n barn am y naill neu'r llall o'r pethau hyn, am syniadau Crist a chrefydd Cristnogion, dylanwadodd y mudiad a sylfaenwyd arnynt yn fawr iawn, er gwell neu er gwaeth, o hynny hyd yn awr. Ni ellir deall hanes yr ugain canrif ddiwethaf yn Ewrop os anwybyddir y symudiad mawr yma'n llwyr bu ei ddylanwad o leiaf yn ddigon dwfn i gyfiawnhau sôn am un math ar wareiddiad fel gwareiddiad Cristnogol. Ac, yn naturiol, â Christnogaeth yn yr ystyr olaf hon y mae a fynnom bennaf wrth drafod hanes gwareiddiad.
Y mae Cristnogaeth yn un o'r crefyddau hynny a gymer, fel y dywedai John Wesley, y byd i gyd yn blwyf, ac er mwyn deall rhywfaint ar ei hapêl i'r byd, dylid cyfeirio at, o leiaf, dair cenedl. Ar Groes Crist ysgrifenasid mewn tair iaith—Hebraeg, Groeg a Lladin—a hanes a theithi meddwl y bobl a siaradai'r ieithoedd hyn yw'r esboniad gorau ar ffurf a llwyddiant crefydd Crist yng nghyfnodau cyntaf ei hanes. Mewn pennod flaenorol, soniwyd am gyfraniad arbennig yr Iddew at wareiddiad y byd, ac awgrymwyd eisoes fod cysylltiad agos rhwng ei grefydd ef â Christnogaeth: Iddew oedd sylfaenydd honno, ac Iddewon oedd y disgyblion cyntaf. Yr unig ffaith arall o bwys yn y cyswllt hwn yw bod уг Iddewon wedi eu gwasgaru ar hyd holl wledydd y Môr Canoldir a Gorllewin Asia ymhell cyn dyddiau Crist, a dengys rhestr o enwau fel honno yn Actau ii. gymaint o wledydd a wyddai rywbeth am Iddewon ar wasgar yn eu mysg y pryd hynny.
Yn awr, golyga hyn fod synagog a chrefydd yr Iddew yn bethau adnabyddus ymhob dinas o bwys yr adeg honno fel heddiw, a dyma faes ardderchog yn barod eisoes i hau hadau Cristnogaeth ynddo, pan ddeuai'r cyfle. Gyda'r Iddewon, fel y mae'n hysbys, y dechreuai Paul ei waith yn ninasoedd ymerodraeth Rhufain, a bu'r Iddewon a'u proselytiaid o genhedloedd eraill yn foddion i baratoi'r tir ar gyfer Cristnogaeth.
Dyn gwahanol iawn i'r Iddew yw'r Groegwr, ond bu yntau o wasanaeth mawr i'r mudiad crefyddol newydd. Un cyfraniad mawr o'i eiddo fu rhoi iaith at wasanaeth Cristnogaeth. Pan gaethgludwyd yr Iddewon o Ganan, ac y gwasgarwyd hwynt ar hyd y gwledydd, collodd eu plant cyn bo hir bob gwybodaeth o Hebraeg, ac ni fedrent ddarllen eu hysgrythyrau santaidd. Am hynny, daeth galwad yn fuan am gyfieithiad o'r Hen Destament i'r iaith a siaradent hwy ac a ddeallai'r rhan fwyaf o bobl y pryd hynny. Groeg oedd honno, a thua chanol y drydedd ganrif C.C. dechreuwyd cyfieithu'r Hen Destament i Roeg yn Alecsandria, a chariodd y cyfieithiad hwn (y Deg a Thri-ugain, fel y'i gelwir) wybodaeth o undduwiaeth yr Iddew i bob gwlad lle siaredid Groeg neu y trigai Iddewon ynddi. Ac nid yn unig fe ddeallai'r rhan fwyaf o'r byd y daeth Crist iddo yr iaith Roeg, ond hefyd syniadau ac athrawiaethau Groeg gan mwyaf a ffurfiai awyrgylch feddyliol y byd hwnnw. Byd o newid a berw mawr yn feddyliol a chrefyddol oedd y byd Helenistaidd, fel y gelwir y byd o amgylch y Môr Canoldir a Gorllewin Asia wedi dyddiau Alecsander Fawr. Dadfeiliai hen grefyddau Natur a'r crefyddau gwladol a chenedlaethol, ac yn eu lle ymddangosai rhai ehangach eu hapêl. Cododd cri o fwy nag un cyfeiriad am grefydd gyffredinol i'r holl fyd. Meddiennid rhai o gyfrin-grefyddau'r Dwyrain, megis rhai Isis a Mithra, ag ysbryd cenhadol; hawliai ymherodr Rhufain addoliad ei holl ddeiliaid; a throes rhai athronwyr yn bregethwyr selog, gan ffurfio ysgolion neu sectau o'u disgyblion. Erbyn hyn yr oedd undduwiaeth a syniadau uchel am ddyn yn bethau gweddol gyffredin ymhlith meddylwyr athronyddol a chrefyddol, a thrwy ddefodau a ffurfiau'r cyfrin-grefyddau ceisid diwallu anghenion gwirioneddol dyn am waredigaeth ac anfarwoldeb. Nid byd di-grefydd, o leiaf, oedd yr un y daeth Crist iddo, eithr un a deimlai ei dlodi a'i angen ysbrydol ac a hiraethai am grefydd a'i gwir fodlonai.
Ac erbyn dyddiau'r Iesu, unwyd y byd yn allanol hefyd dan lywodraeth Rhufain, a hawdd yw deall gymaint mantais a fu hynny i Gristnogaeth. Os ydoedd yn ddyledus i'r Iddew'n bennaf am sylfaen ac yna i Roeg am iaith ac am baratoi'r byd yn feddyliol i'w derbyn, Rhufain a roddes iddi ei chyfle i'w lledaenu ei hun drwy'r gwledydd. Ar hyd ei ffyrdd ardderchog hi y cludai'r cenhadon y newyddion da, gan gadw'n bennaf at y trefi lle byddai llywodraeth deg y Rhufeiniaid yn amddiffyn iddi rhag erlid a gelyniaeth ei gwrthwynebwyr. A'r dasg a wynebai'r Cristnogion yn awr, ym marn eu cenhadwr mwyaf, oedd rhoi i'r byd, a unwyd eisoes i raddau helaeth o ran ei iaith a'i wareiddiad a'i lywodraeth, yr un grefydd honno a fai'n ateb llawn i'w ddyhead am iechydwriaeth. Dyma'r breuddwyd mawr a gymerth feddiant o feddwl Paul, ac i'r anturiaeth fawr hon fe'i cysegrodd ei hun yn llwyr. Sonia'r Prifathro Morgan Jones am "ei ymdaith fuddugoliaethus dros fôr a thir i gyhoeddi Crist fel efengyl briod yr ymerodraeth," a chwanega: "credai Paul yn yr ymerodraeth, a chredai fod ganddo neges foesol a chrefyddol ar ei chyfer."[16]
Ychydig benodau sy'n fwy diddorol yn hanes y byd yma na'r un a ddengys sut yr enillodd Cristnogaeth ei buddugoliaeth ar yr ymerodraeth fawr yr ymddangosodd gynt mor ddistadl a disylw ynddi. Ar y cychwyn nid oedd namyn sect fechan a gasheid gan ei gwrthwynebwyr, ac a anwybyddid gan y llywodraeth neu a gymysgid ag Iddewiaeth ganddi. Codasai hefyd ymhlith pobl a ddirmygid gan y Rhufeiniaid ac yn un o'u taleithiau dwyreiniol. Ond yn fuan iawn bu'n rhaid i'r ymerodraeth dalu sylw iddi, a chyn bo hir wneuthur heddwch â hi, ac fel y crybwyllwyd eisoes, yr Eglwys Gristnogol fu'r cyfrwng pennaf i drosglwyddo etifeddiaeth Rhufain i Ewrop a'r byd.
Yn y blynyddoedd cyntaf bu'r ymerodraeth yn ffafriol, neu, o leiaf, yn ddifater ynghylch y grefydd newydd. Fel y dengys Llyfr yr Actau, Iddewon yn hytrach na Rhufeiniaid a'i herlidiodd gyntaf. Ni thrafferthai'r llywodraeth ac nid ymyrrai â'r Cristnogion cyhyd ag yr ufuddheid ei deddfau ganddynt ac nad aflonyddent ar fywyd cymdeithasol neu drefniadau gwleidyddol y taleithiau. Ond cyn diwedd cyfnod y Testament Newydd, yr oedd "dwyn yr enw " yn drosedd, a dengys Llyfr y Datguddiad a llythyrau'r swyddog Rhufeinig, Pliny, at yr ymherodr Trajan (tua 112 0.C.) nad peth di-berygl oedd proffesu Crist pan orfodid holl ddeiliaid Rhufain i addoli'r Caesar. O'r dyddiau hyn ymlaen yr oedd Cristnogion o hyd yn agored i erledigaeth, a dyna fu eu hanes o dro i dro fel yn nheyrnasiad Marcus Aurelius (161-180) a Diocletian ganrif yn ddiweddarach (284-305). Cyfrifir yr erledigaeth enbyd dan Diocletian yr olaf (303) a ddigwyddodd fel polisi swyddogol yr ymerodraeth ynglŷn â Christnogaeth, a daeth tro rhyfedd ar bethau cyn pen deng mlynedd. Yn 313 cyhoeddodd Cystenyn ei Ddeddf Goddefiad ym Milan, a rhoddes honno Gristnogaeth ar yr un tir â chrefydd baganaidd yr ymerodraeth. Yr oedd Cristnogion, erbyn hyn, yn rhydd i broffesu eu syniadau personol a chyfarfod i amcanion crefyddol heb ofn na deddf nac erledigaeth y llywodraeth. Er na ddiddymodd Cystenyn yr hen grefydd, fe'i ystyriai ei hun yn Gristion ymladdodd dan faner y Groes, dilynai esgobion ei fyddinoedd, ac yn 325 cynhullodd gyngor cyffredinol cyntaf yr Eglwys i Nicaea, yn nhalaith. Bithynia, lle'r adeiladasai hafoty iddo'i hun. Gwelwyd cymaint â thri chant o esgobion yn y cyngor, a rhydd hynny ryw syniad am gynnydd Cristnogaeth ei hun. Wedi'r ymdrech olaf o unrhyw bwys i rwystro Cristnogaeth dan arweiniad yr ymherodr galluog Julian (361-363), gellid dywedyd bod tynged crefydd y Galilead yn ddiogel. Cyn diwedd y ganrif, nid Cristnogaeth a waherddid gan yr ymherodr, eithr yn hytrach Baganiaeth ei hun, oherwydd archodd Theodosius (379-395) gau'r temlau paganaidd drwy'r ymerodraeth. Cristnogaeth, erbyn hyn, oedd y grefydd swyddogol, ac yn fuan iawn gwelwyd arweinwyr yr Eglwys yn eistedd mewn barn ar weithredoedd y wladwriaeth ac yn condemnio ymerodron am eu creulondeb a'u drygioni. Oni throisai Nero a Domitian yn eu beddi pe gwyddent syrthio o'r ymerodraeth mor isel?
Sut gymdeithas oedd yr Eglwys Gristnogol a lwyddasai fel hyn i oroesi erledigaeth? O ran nifer, nid oedd ond lleiafrif bychan o holl boblogaeth yr ymerodraeth: mewn rhai ardaloedd yn y Dwyrain, ac yn enwedig mewn ychydig drefi neilltuol, yr oedd hanner y bobl neu fwy na hynny'n Gristnogion, ond mewn ardaloedd eraill, bychan, yn ddiau, oedd eu nifer. Dyna fyddai'n wir am Brydain ac am gyrion yr ymerodraeth yn y Gorllewin a'r Dwyrain. Dwyreiniol, yn hytrach na Gorllewinol, oedd yr Eglwys y pryd hynny, ac yn fwy Groegaidd na Rhufeinig: ond cynhyddai'n ddirfawr o ran rhif a dylanwad o'r bedwaredd ganrif ymlaen. Groeg ddylanwadodd bennaf ar ei diwinyddiaeth a'i chredoau, a Rhufain ar ei ffurf-lywodraeth a'i threfniadau allanol, yn enwedig yn y Gorllewin.
"The genius and structure of the old imperial system," medd Dr. Barker," passed into the organization of the Church." Ceir aml braw o hyn hyd yn oed heb chwilio'n ddyfal. Megis ag y bu gan yr ymerodraeth ei thaleithiau, yr oedd gan yr Eglwys hefyd ei hesgobaethau ac fel yr edrychid gynt ar Rufain fel canolbwynt yr ymerodraeth, tueddid Cristnogion yn fuan i droi at esgob Rhufain fel prif amddiffynnydd a dehonglydd y ffydd. Dylanwadodd deddf Rhufain, eto, yn fawr iawn ar yr Eglwys, er na fabwysiadodd hi yn ei chrynswth mewn unrhyw ystyr. Bedyddiodd Cristnogaeth. hefyd, rai o arferion a defodau hen grefydd Rhufain i'w phwrpas ei hun trawsnewidiwyd, er esiampl, hen wyl pen blwydd yr haul yn Rhagfyr i Nadolig y Cristnogion, ac nid yw addoli nawdd-seintiau neilltuol mewn mannau neilltuol ond peth cwbl naturiol mewn gwledydd lle perchid duwiau lleol dan yr hen grefyddau. Ac, unwaith eto, gwelir ôl y Rhufeiniaid ar lawer o iaith a geiriau'r grefydd Gristnogol (sacrament, cangell, ysgrythur santaidd, etc.); ac, o ran eu cynllun a'u ffurf, adeiledid yr eglwysi Cristnogol ar lun a delw'r neuaddau (basilicae), lle cyfarfyddai masnachwyr Rhufeinig i drafod eu busnes. Wrth symud o gwmpas Cymru heddiw, ni ellir cyfrif am ffurf yr eglwysi hynaf heb gofio am eu dyled i adeiladau Rhufain gynt. Os yr Eglwys yn wir a fu'n olynydd yr ymerodraeth, ni chiliodd y naill o'r golwg cyn gosod ohoni ei hargraff yn glir iawn ac mewn amryw ffyrdd ar fywyd y llall.
Cyfnewidiad rhyfeddol dros ben oedd yr un ddigwyddasai yn y cyfnod a fu dan sylw yn y bennod hon a'r un o'i blaen. Am fil o flynyddoedd, o'r adeg, dyweder, y sefydlwyd Rhufain hyd ddyddiau Cystenyn, y wladwriaeth a fu'r ffaith bwysicaf ym mywyd pobl. Un elfen yn unig yn y bywyd hwnnw oedd crefydd: o dan honno a phob elfen arall cysylltiad dyn â'r wladwriaeth oedd y peth sylfaenol. Ond yn awr gosodwyd bywyd y gwledydd a'r wladwriaeth ei hun i orffwys ar sylfeini crefyddol yr Eglwys a reolai'r cenhedloedd, hi roddai frenhinoedd i lywodraethu arnynt, a hi a'u diorseddai pan fyddai galw am hynny. O ran theory, onid fel mater o ffaith, yr eglwys oedd ben, a dyma'r syniad y rhoes Austin (354-430) ffurf lenyddol iddo yn ei lyfr Am Ddinas Duw (De Civitate Dei). Pan fachludodd gogoniant dinas Rhufain, darluniodd ef ddinas Duw, sef cymdeithas o holl weision Duw ymhob oes a gwlad: ac onid oedd yr eglwys Gristnogol ar y ddaear, ym marn Austin, yn gyfystyr â dinas Duw, yr Eglwys yn ddiddadl a'i cynrychiolai orau yn y byd.
Erbyn hyn, o leiaf, honno oedd prif gartref ac amddiffynnfa bennaf gwareiddiad Ewrop. Dywed gŵr mor gyfarwydd yn y maes hwn â Dr. T. R. Glover fod Eglwys y bedwaredd ganrif wedi sugno iddi ei hun bopeth oedd a bywyd yn perthyn iddo yn y byd gwareiddiedig yr adeg honno. Collasid, y mae'n wir, rywfaint o ddoethineb a phrydferthwch yr hen oesoedd clasurol cyn i'r Eglwys ddod yn allu yn y byd, ac nid enillwyd hwnnw'n ôl am ganrifoedd eto. Yr oedd gan yr Eglwys, hefyd, ei gwendidau a'i beiau, ond er ei holl gamgymeriadau a'i dallineb, safai'n uwch lawer na dim byd arall o'i chwmpas, ac ynddi hi'n unig yr oedd bywyd a gobaith bywyd.
Beth, ynteu, am y math arbennig ar wareiddiad a gynhyrchodd Cristnogaeth ac a ddiogelwyd o oes i oes gan yr Eglwys? Ymha ffyrdd y rhagorai hwnnw ar bob rhyw wareiddiad o'i flaen? Heb sôn o gwbl am yr elfennau gwreiddiol yn syniadau a delfrydau'r grefydd Gristnogol, digon, ar ddiwedd y bennod hon, fydd enwi'n unig y pedair nodwedd a esyd y gwareiddiad hwnnw, ym marn yr Athro W. R. Matthews, mewn dosbarth ar ei ben ei hun.[17] Y gyntaf yw'r gred mewn cynnydd a datblygiad parhaus. Nid pob crefydd a ddysg mai ymlaen yn hytrach nag o'r tu ôl y mae'r oes euraidd; ond y mae'r syniad am gynnydd er gwell o hyd wrth wraidd Cristnogaeth ac yn hanfodol i'w bywyd. Nodwedd arall yw gallu'r grefydd hon i uno pobl o wahanol genhedloedd â'i gilydd mewn undeb gwirioneddol. Ac, er lliosoced a dyfned y dylanwadau a wahana ddynion oddiwrth ei gilydd, y mae'n rhyfedd gymaint y llwyddodd Cristnogaeth i'w huno a chymaint y mae a'i golwg ar gyflawni yn hyn o beth yn y dyfodol. Yna rhaid inni roi lle i'w chred yn yr egwyddor o ryddid dyn yn unigol a chymdeithasol. Er rhagored gweriniaeth Groeg yn nyddiau Pericles, pell ydoedd o fod yn un wir ddemocrataidd, oherwydd ni sylfaenesid hi ar ryddid cyson a diymwad pob dyn. Yn lle hynny, bodolai tu allan i'r ddinas y gwahanfur rhwng y Groegwr a'r barbariad a thu mewn iddi y gwahanfur rhwng y dinesydd rhydd a'r caethwas. A chyfyd y nodwedd hon o'r egwyddor arall a bwysleisiodd Cristnogaeth, sef gwerth cynhenid dyn fel dyn. Onid gwir dywedyd mai hi a ddarganfu bwysigrwydd personoliaeth dyn, hi'n sicr a roddes arbenigrwydd ar hynny, oherwydd cyhoeddodd fod pob dyn yn blentyn Duw a bod Crist wedi marw er ei fwyn. Ac heb syniad uchel am bersonoliaeth dyn, ni cheir chymdeithas gwladwriaeth gwerth yr enw.
Dyna, felly, rai o nodau gwareiddiad Cristnogol. Nid rhaid dywedyd na fodolent yn eu perffeithrwydd pan gymerth yr Eglwys ei lle fel olynydd Rhufain, ac ni welodd y byd hyd heddiw y fath beth â gwareiddiad perffaith Gristnogol,—un wedi ei lwyr feddiannu a'i ysbrydoli gan amcanion a delfrydau Crist. Eithr sylweddolwyd y peth yn ddigon llwyr i fedru gweld sut un ydyw ac i'w gymharu â rhai eraill. A datguddiwyd digon ar ei werth a'i arbenigrwydd, ym marn miloedd lawer o bobl, i gyfiawnhau'r honiad na ŵyr y byd am unrhyw fath arall ar wareiddiad cyfuwch neu well nag ef. "Ti, y Galilead, a orchfygaist," meddai Julian, yn ôl un o hen draddodiadau'r Eglwys fore am yr ymherodr hwnnw pan fu farw mewn brwydr yn 363: ac fe'i claddwyd yn Nharsus, lle gynt y ganwyd y cenhadwr a roes ei fryd ar ennill yr ymerodraeth i Grist.
PENNOD VIII
Y CANOL OESOEDD
ENW cyfleus ar y canrifoedd rhwng diddymiad gallu Rhufain yn y Gorllewin yn y bumed ganrif a'r Dadeni yn y bymthegfed ganrif yw'r Canol Oesoedd. Ymestyn y cyfnod maith hwn, a siarad yn gyffredinol, oddeutu mil o flynyddoedd, a rhennir ef weithiau'n ddwy ran. Y canol oesoedd cynnar neu'r oesoedd tywyll yw'r rhan gyntaf (500-1000), a dilynir hwynt gan yr oesoedd canol diweddar. Wrth gwrs, y mae'n anodd, onid amhosibl yn wir, nodi unrhyw ddyddiad pendant iawn fel dechrau neu ddiwedd cyfnod mor hir,
I ryw raddau, cynnyrch y rhai a'i rhagflaenodd yw pob cyfnod, a bodola'r fath beth ag unoliaeth hanes drwy'r canrifoedd. A dylid cofio, hefyd, na ellir pwyso'n rhy fanwl ar lythyren unrhyw ddisgrifiad o gyfnod, oherwydd y mae i bob cyfnod fwy nag un nodwedd. Enw rhai pobl, er enghraifft, ar yr oesoedd tywyll yw oesoedd ffydd, ac y mae peth gwir yn y ddau ddisgrifiad: a gellir dywedyd am oesoedd sifalri a rhamant, mai rhai digon creulon a diddychymyg oeddynt ar lawer cyfrif. Dibynna cymaint ar ein safbwynt, a gwelwn ymhob rhyw gyfnod yr hyn a chwennych ein ffansi fwyaf.
Cyfnod diddorol yw'r canol oesoedd mewn mwy nag un ystyr, ac yn hanes gwareiddiad nid rhai dibwys mohonynt o lawer. Er eu tywylled, ni lwyr ddiffoddwyd lamp diwylliant ynddynt; ac er mor farbaraidd oeddynt, erys rhai pethau'n glod iddynt. Ond rhyfedd mor araf y symudai ac y cynhyddai gwareiddiad drwy gydol yr oesoedd hyn. Diogelwyd cryn dipyn o wybodaeth yr hen fyd mewn rhai cylchoedd fel y mynachdai, ond mewn eraill diflanasai'n llwyr. Ni fu yn Ewrop, a'i chymryd at ei gilydd, ganrif dywyllach na'r wythfed (700-800). Dadfeiliasai hen ganolfannau gwareiddiad a diwylliant ers tro byd, ac ychydig ddiddordeb, ar wahan i eithriadau yma ac acw, a gymerth y barbariaid mewn na llên na chelf na gwyddoniaeth. Nifer bychan iawn o bobl a fedrai ddarllen neu ysgrifennu; yr Eglwys a gyfrannai hynny o addysg ag a geid, ac anwybodus, yn fynych, oedd llu o'i chlerigwyr hithau. Ac eto i gyd, rhaid cydnabod nad du digymysg yw'r darlun. Er esiampl, ymhell cyn diwedd y canol oesoedd, sefydlwyd mwy nag un brifysgol enwog, ac yn y cyfnod hwn datblygodd rhai o nodweddion gwareiddiad presennol Ewrop, fel ei masnach a bywyd pwysig y trefi. Yn y canrifoedd yma, hefyd, yr ymddangosodd cenhedloedd presennol Ewrop a sylfaenwyr rhai o'i breniniaethau. Yn allanol, dyma'n ddiau y gwahaniaeth amlycaf rhwng Ewrop yn y bumed ganrif ac Ewrop yn y bymthegfed ganrif. Ar gychwyn y cyfnod ymestynnai un ymerodraeth fawr dros Ewrop, ond cyn ei ddiwedd, yn lle taleithiau dan un llywodraeth ganolog, yr hyn a welir yw nifer o wledydd annibynnol a phob un dan ei brenin ei hun. Cyfnod ffurfio cenhedloedd presennol Ewrop a gwawr cenedlaetholdeb yw'r oesoedd canol, a hynny rydd iddynt eu pwysigrwydd gwleidyddol.[18] Ond, o'r ochr arall, yr oedd Ewrop yn ystod y cyfnod maith hwn, o ran crefydd, yn un, oherwydd dyma gyfnod gogoniant y Babaeth. Ac, i gyfeirio at bwynt bychan, y mae un peth i'w ddywedyd yn ffafr y canol oesoedd: nid rhaid inni ddibynnu'n llwyr am wybodaeth ohonynt ar lyfrau sychion hanes, oherwydd apeliodd y cyfnod yn fawr at ddychymyg ysgrifenwyr, a gallwn droi at lu o nofelau hanesyddol a'i disgrifia'n fyw iawn.
Awgrymwyd eisoes nad yw'n gyfnod toreithiog iawn. o safbwynt diwylliant a gwareiddiad. Sut, atolwg, y gallasai fod, pan gofir mor gythryblus a rhyfelgar oedd y byd yr adeg honno? Yn y canrifoedd cyntaf, y ffaith bwysicaf oedd dylifiad y barbariaid i'r Gorllewin. Deuent yn heidiau o'r Gogledd a'r Dwyrain, gan goncro cenhedloedd oedd ar eu llwybr cyn y gorchfygid hwythau, yn eu tro, gan lwythau'n symud tu ôl iddynt. Gwyddai Rhufain, fel y gwelsom, yn dda amdanynt, canys ymsefydlodd rhai ohonynt ar gyffiniau ei thaleithiau neu oddi mewn iddynt. Eithr bu eu gwrthdrawiad â Rhufain yn help i'w gwareiddio, a daeth amryw ohonynt yn fuan dan ddylanwad Cristnogaeth. Heb fanylu am y llwythau crwydrol hyn, digon yw dywedyd bod dau gyfnod o symud mawr yn eu hanes. Daw'r cyntaf pan ddadfeiliai Rhufain, a'r llall oddeutu'r nawfed ganrif. I'r olaf y perthyn symudiadau'r Normaniaid a'r Hungariaid, er enghraifft; ac yn y llall symudai'r Alemanni, y Gothiaid, y Vandaliaid ac eraill. Ond ymhlith y to cyntaf yma, y pennaf oedd y Ffranciaid. Yng ngogledd yr Almaen (o Gologne i'r môr), yr oedd eu cartref gwreiddiol, ac un o frenhinoedd mwyaf y cyfnod cyntaf yn eu hanes oedd Clovis. Ef a'u llywodraethai pan dderbyniasant Gristnogaeth, ac ef ddewisodd Baris yn gartref iddo'i hun, ac yno bu farw yn 511. Cyn bo hir cyrhaeddai dylanwad y bobl hyn o ganol yr Almaen hyd draethau gorllewin Ffrainc. A'r hynotaf o'u holl frenhinoedd oedd Siarlmaen (771-814), un o ddynion mwyaf y Canol Oesoedd. Almaenwr ydoedd o ran iaith, milwr o ran crefft, a gwladweinydd hirben a galluog neilltuol; ac yng nghaneuon a thraddodiadau canol Ewrop nid yw ei fri'n annhebyg i'r eiddo Arthur yn llên y Gorllewin. Ar ddydd Nadolig yn 800 coronwyd y dyn rhyfedd hwn yn ymherodr Rhufain gan y Pab yn Eglwys Sant Pedr. Dyma gychwyn y syniad am Ymerodraeth Santaidd Rhufain, sef y deyrnas ddaearol a fodolai i amddiffyn y Babaeth ac i hyrwyddo Cristnogaeth. Mewn rhyw ffurf neu'i gilydd parhaodd y syniad am fil o flynyddoedd, hyd oni ddiddymwyd ef yn 1806. Yr amcan oedd uno Ewrop dan awdurdod y Pab a'r ymherodr, eithr rhyw rith o'r peth a fodolai'n unig y rhan fwyaf o'r amser, a bu cweryla mynych rhwng y llywodraethwr ysbrydol a'r un gwladol. Cododd rhwystrau eraill ar ffordd sylweddoli'r syniad, fel ffiwdaliaeth ac wedi hynny cenedlaetholdeb cryf y gwahanol wledydd. Yn fuan iawn, oherwydd gwendid olynwyr Siarlmaen, bu'n rhaid rhannu ei ymerodraeth yn dair teyrnas, sef eiddo'r Ffranciaid Dwyreiniol (Almaen), Ffranciaid y Gorllewin (Ffrainc) a'r Deyrnas Ganol, yn cynnwys yr Eidal a dwy dalaith sydd heddiw'n rhan o Ffrainc. Rhannwyd y drydedd, drachefn, pan ffurfiodd yr Eidal frenhiniaeth ar ei phen ei hun, ac o oes i oes âi'r map yn debycach i un Ewrop ein dyddiau ni.
Beth am fywyd y cenhedloedd yn y Canol Oesoedd ? Yn ddiamau dyma gyfnod euraidd Ffiwdaliaeth. Yn awr y cyrhaeddodd ei lawn dwf, er bod iddo hen hanes. Fely gwanhâi'r llywodraeth ganolog ac y llifai cenhedloedd i mewn i'r ymerodraeth heb gydnabod ei hawdurdod, syrthiai'r gallu fwyfwy i ddwylo milwyr buddugoliaethus a phendefigion llwyddiannus. Ac mewn byd ansicr a rhyfelgar fel hwnnw nid deddf unrhyw ymerodraeth neu awdurdod swyddogol a chyhoeddus unrhyw wladwriaeth oedd y peth pennaf, eithr yn hytrach deyrngarwch ac ufudd-dod dynion i'r tywysog neu'r pennaeth a ddilynent. Yn y rhwymyn personol hwn rhwng dynion a'u harweinydd y gorwedd hanfod y gyfundrefn ffiwdalaidd nid yw nac ymerodraeth na brenhiniaeth, eithr llywodraeth arglwydd neu feistr ar nifer o ganlynwyr personol, a honno'n seiliedig ar rwymedigaeth yr arglwydd i ddiogelu ei ganlynwyr a'u dyletswydd hwythau i'w wasanaethu ef mewn llu o ffyrdd. Unai'r arglwyddi hyn drachefn i'w rhwymo eu hunain i wasanaethu rhyw dywysog neu bennaeth cryfach na hwy, ac nid oedd y brenin ond pennaeth y penaethiaid dano yntau. Y brenin oedd pen y system: dano ef yr oedd ei arglwyddi (tenants-in-chief), a than rheini, drachefn, eu tenantiaid hwythau, ac ymlaen hyd oni chyrhaeddid caethion y tir (serfs) yng ngwaelod y gyfundrefn. Ac os hanfod ffiwdaliaeth yw'r rhwymyn personol hwn rhwng dyn a'i arglwydd, ei sylfaen yw'r tir (manor) gyda'r plas neu'r castell yn ei ganol a chartrefi'r tenantiaid a thai'r gweithwyr o'i amgylch. O fewn terfynau'r manor yr oedd bywyd i raddau mawr yn hunan-gynhaliol ac annibynnol ar fywyd pobl eraill tu allan i gylch dylanwad arglwydd y castell. Talai'r tenantiaid eu trethi a rhan o gynnyrch eu tir i'w harglwydd; gorfodid hwy i'w wasanaethu mewn rhyfel, a disgynai lle dyn yn y gyfundrefn o dad i fab am lawer cenhedlaeth.
Bu Gorllewin Ewrop fyw am ganrifoedd o dan ffiwdaliaeth, ac, fel y gellid disgwyl, gadawodd ei hôl yn ddwfn iawn mewn llu o ffyrdd ar fywyd y gwledydd hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A pheth bynnag oedd ei rhagoriaethau, amlycach inni, erbyn hyn, yw ei diffygion. Yr oedd stad o ryfel parhaus bron yn anwahanol oddiwrthi, ar gyfrif awydd pob rhyw arglwydd i'w wneuthur ei hun yn gryfach na'i gymdogion ac yn annibynnol arnynt: ac, yn yr eithaf arall, yr oedd sefyllfa caethion y tir yn druenus dros ben. Y mae'n wir i'r Eglwys dyneru tipyn ar elfennau garw'r gyfundrefn, ond nid oedd llawer o'i phrif swyddogion hithau fawr amgen nag arglwyddi ffiwdalaidd cryfion eu hunain: gwyddai aml farwn a marchog mai dyn i'w ofni oedd abad mynachdy, a hynny nid yn unig am y gallai fwrw eu heneidiau i uffern ond am fod nerth ei fraich yn fwy na'r eiddynt hwy. Gwanhawyd llawer ar ffiwdaliaeth pan dyfodd y trefi i fri a phwysigrwydd. Nid yn y tir yn unig yr oedd cyfoeth mwyach ond yn y trefi a'u masnach, a bu'n rhaid i arglwyddi fenthyca arian oddiar fasnachwyr i gario eu rhyfeloedd ymlaen. A phan godai brenin cryf i lywodraethu ar wlad ac y cynhyddai'r teimlad cenedlaethol, dihoenai'r gyfundrefn ffiwdalaidd fwyfwy. Ar ryw gyfrif nid system anaddas mohoni ar ddechrau'r Canol Oesoedd, pan symudai pobl dan eu pennaeth i feddiannu gwlad newydd, eithr collodd lawer ar ei gallu a'i grym lle bynnag, cyn diwedd y cyfnod, y sefydlwyd breniniaethau cenedlaethol cryf. Ond er pob newid, ni ryddhaodd Ewrop ei hun yn llwyr hyd yma o afael ffiwdaliaeth, ac amlwg yw ei delw ar lawer sefydliad yn y Gorllewin heddiw.
Amherffaith hollol fyddai unrhyw ddarlun o'r Canol Oesoedd heb le blaenllaw ynddo i'r Babaeth, y sefydliad mawr crefyddol y perthynai pawb drwy Orllewin Ewrop iddo. Tu allan i'r Eglwys Babaidd nid oedd iechydwriaeth i ddyn, a throsedd yn erbyn Duw fai peidio â bod yn deyrngarol iddi. Gwnai honiadau uwchlaw rhai pob gallu daearol, hawliai ufudd-dod oddiarnynt ar boen eu bywyd a'u heddwch tragwyddol, a chyffelyb i berthynas y lleuad i'r haul oedd perthynas y wladwriaeth i'r Eglwys ym marn arweinwyr y Babaeth. Fwy nag unwaith gwelwyd ymerodron llwyddiannus fel Theodosius ym Milan a Henri'r IV (1056-1105) yng Nghanossa dan orfod plygu i'w hawdurdod. Canolbwynt dylanwad y Babaeth, wrth gwrs, oedd Eglwys Rhufain, a chyfrif mwy na un ffaith am hyn. Ynghyntaf, dyna'i thraddodiadau hen fel prifddinas yr ymerodraeth gynt; wedyn, dyma'r unig un o eglwysi'r Gorllewin y bu cysylltiad rhyngddi ag apostolion (SS. Pedr a Phaul). Araf, y mae'n wir, y cydnebu rhai eglwysi eraill safle Rhufain, ac ar hyd y canrifoedd gwrthododd yr Eglwys Ddwyreiniol wneuthur hynny; ond yn y Gorllewin nid oedd a gystadlai â hi, ac yn fuan edrychid i fyny ati fel arweinydd Cristnogaeth y Gorllewin a phrif amddiffynnydd y Ffydd. At hynny, cynhyddai ei chyfoeth a'i gallu tymhorol o hyd, yn enwedig pan gyflwynodd Pepin, tad Siarlmaen, y tiroedd yng nghanol yr Eidal a gymerth ef oddiar y Lombardiaid yn rhodd i'r Pab. Bu, hefyd, ambell Bab o allu anghyffredin ac yn llywodraethwyr cryfion fel Gregory Fawr (590-604), Hildebrand neu Gregory VII (1073-85) a Boniface VIII (1294-1303). Yn wir yr oedd y Babaeth yn y Canol Oesoedd yn wladwriaeth bwysig a'i dylanwad yn hynod o fawr ar wleidyddiaeth y gwledydd. Heblaw bod yn "was gweision Duw " (servus servorum Dei), yr oedd y Pab hefyd yn deyrn daearol a chanddo ei lysoedd, ei fyddinoedd, a'i swyddogion ei hun. Ac i raddau llai yr oedd yr un peth yn wir yn aml am yr esgob neu'r abad yng nghylch mwy cyfyngedig eu hawdurdod hwy.
Ond gallu ysbrydol y Babaeth oedd fwyaf wedi'r cyfan, ac nid rhyfedd hynny chwaith, oherwydd credai pawb fod agoriadau teyrnas nef yn ei dwylo. Diarddelai frenhinoedd a thrwy air o'i heiddo (interdict) rhoddid pen weithiau ar bob gwasanaeth crefyddol drwy wlad gyfan. A llawer tro ni bu'n ormod ganddi ddefnyddio dulliau annheilwng ac offerynnau creulon (e.e., y chwilys) i hyrwyddo'i gwaith neu lesteirio'i gwrthwynebwyr. Ond er ei holl wendidau a'i hanghysonderau, y mae'n anodd dychmygu beth a ddaethai o Ewrop y Canol Oesoedd onibai amdani, ac ni ddylid anghofio iddi ar hyd y canrifoedd gynhyrchu seintiau dirif. Hi'n bennaf a ddiogelodd ddiwylliant a gwareiddiad yn y cyfnod maith a thywyll hwn. Ei gweinidogion hi a noddodd addysg—yn wir, hwy'n unig a dderbyniasai unrhyw addysg gwerth yr enw y pryd hynny—ac, yr oedd ei swyddi uchaf, hyd yn oed mewn cyfnod fel hwnnw, yn agored i ddyn o ba ddosbarth bynnag y cododd. Cadwodd yn fyw mewn oesoedd gwyllt a rhyfelgar ddelfrydau trugaredd a chymwynasgarwch, ac, er na wasnaethodd hwynt yn ffyddlon bob amser, nid anghofiodd yn nyddiau ei gwendid mwyaf bregethu Crist a gweinyddu'r sacramentau, ac mewn byd materol lle nad oedd hynny'n waith hawdd cyfeiriodd feddyliau dynion at alluoedd a gwirioneddau ysbrydol.[19]
O gylch y Babaeth a than ei nawdd tyfodd mwy nag un sefydliad o bwys. Efallai mai'r pennaf o safbwynt diwylliant a gwareiddiad Ewrop oedd mynachaeth. Egwyddor sylfaenol y mudiad hwnnw oedd rhagoroldeb hunan-ymwadiad llwyr a thair adduned fawr a nodweddai wasanaeth pob mynach—tlodi, purdeb (dibriod) ufudd-dod. Patriarch Mynachaeth Ewrop yw Benedict (480-544), sylfaenydd Urdd fawr y Myneich Duon: am un ohonynt hwy y sonia'r hen alaw Gymreig, "Hen Fynach Du" Caerlleon Gawr. O un o fynachdai Benedict y daethai Awstin o'r Eidal ar ddiwedd y chweched ganrif i efengyleiddio Lloegr, a gwareiddiodd y Benedictiaid lawer iawn ar Orllewin a Chanol Ewrop. O un o'u tai yn Lloegr yr aeth Wilfred allan i ennill yr Iseldiroedd i Grist, ac o un arall y cychwynnodd Boniface i efengyleiddio canolbarth yr Almaen. Bu eu tai yn ganolfannau pwysig i wareiddiad a diwylliant yr oesoedd tywyll: fel amaethwyr a chrefftwyr dysgasant lawer ar y trigolion, hwy oedd athrawon yr ieuainc a gweinyddwyr elusen i'r tlawd, a dengys eu darluniau a'u llawysgrifau mor brydferth a gwerthfawr fu eu cyfraniad yn y cyfeiriadau hyn Gyda threigliad y blynyddoedd dirywiodd yr Urdd a diffoddwyd llawer ar ei sêl, a chododd urddau eraill fel rhai Cluny a'r Cisterciaid neu'r Myneich Gwyn a gartrefodd yng Nghymru yn Ystrad Fflur a Glyn y Groes. Ac yn y drydedd ganrif ar ddeg ymddangosodd yr Urddau Cardod neu'r Brodyr (Friars): y Brodyr Llwydion dan Sant Ffransis (1182-1226), y rhai Gwyn dan Dominic a'r Brodyr Duon neu'r Carmeliaid. Un o ganrifoedd mwyaf diddorol y Canol Oesoedd yw'r drydedd ar ddeg, pan adfywiodd y mudiadau hyn gymaint ar y Babaeth a'i dylanwad drwy'r Gorllewin. Er pob gwahaniaeth rhwng y clerigwr a lafuriai mewn tref neu bentref a'r mynach a'i cyfyngai'i hun yn bennaf i'w fynachdy, a rhyngddo yntau drachefn a'r Brodyr yn yr Urddau Cardod, perthynai pob un ohonynt i'r un Eglwys fawr; a chyda diwedd y Canol Oesoedd a dadfeilio gallu'r Babaeth, daeth cyfnod euraidd mynachaeth hefyd i ben, er ymddangos o Urddau eraill fel y Jesuitiaid yn ddiweddarach (1541) yn nyddiau Ignatius Loyola.
Symudiadau neilltuol iawn, eto, oedd y Croesgadau sydd mor nodweddiadol o'r Canol Oesoedd. Yn erbyn yr anffyddiwr yn y Dwyrain y bu'r rhai pwysicaf, ond ffurfiau cynharach ar yr un peth oedd ymgyrch rhai Pabyddion yn erbyn heresiau neu yn erbyn barbariaid a drigai yn Ewrop. Dan y Pab Urban II y cyhoeddwyd y Groesgad gyntaf yn 1095, ac apeliwyd at bob math ar ddyn i ymuno â hi—at y duwiolion, at fasnachwyr, at bobl eisiau gweld tipyn ar y byd ac at droseddwyr o bob math, gan addaw y rhyddhâi gwasanaeth yn erbyn y Saracen y rheini o bob cosp a phoen yn y byd a ddaw. Cymerwyd Caersalem yn 1099, ac aeth lluoedd i'r Dwyrain wedi hynny. Collwyd y ddinas santaidd drachefn yn 1244, a bu yn nwylo'r Diffydd hyd oni chymerth y Prydeinwyr hi yn 1917. Ym mudiad rhyfedd y Croesgadau yr oedd, yn ddiau, dda a drwg. Llwyddwyd i uno cenhedloedd a arferai ryfela'n ddibaid yn erbyn ei gilydd: ehangwyd llawer ar wybodaeth trigolion y Gorllewin pan ddaethant i gyffyrddiad â phobl a gwledydd y Dwyrain: daeth llawer dull newydd o fasnachu ac o ryfela yn adnabyddus yn Ewrop a bu'r gyfathrach rhwng Gorllewin a Dwyrain yn symbyliad mewn llu o ffyrdd i wybodaeth a chynnydd.
Ni byddai'n iawn troi oddiwrth y Canol Oesoedd heb gyfeirio at un peth a rydd fri arbennig arnynt, sef gwaith godidog adeiladwyr castelli ac eglwysi Gothig Ewrop. Gelwir eu dull o adeiladu yn "Gothig" i'w wahaniaethu oddiwrth ddulliau clasurol Groeg a Rhufain, a chyda tipyn o ddirmyg yr arferid y gair i ddechrau adeilad o waith Gogleddwr, onid yn wir barbariad, oedd un felly. Eithr nid rhaid iddynt gywilyddio, yn enwedig os meddylir am yr hyn a wnaethpwyd ganddynt oddeutu'r drydedd ganrif ar ddeg pryd y blodeuodd y dull hwn yn holl ogoniant ei binaclau a'i golofnau a gemwaith digyffelyb ei ffenestri. Daeth gwaed newydd ac ynni newydd i gelfau cain Ewrop gyda dyfodiad y cenhedloedd newydd, ac un praw amlwg o hynny yw prif eglwysi enwog fel rhai Cologne, Rheims a Milan a Mynachlog Westminster.
Rhoddwyd, hefyd, cyn eu diwedd fynegiant perffaith mewn llên i ysbryd y Canol Oesoedd gan un o feirdd mwya'r byd. Yn ei Ddwyfol Gerdd (Divina Commedia) darluniodd Dante (1265-1321) y dylanwadau sy'n esbonio'r Canol Oesoedd yn eu gwendid a'i gogoniant, a'r tri chyferbyniad a rêd drwyddynt yn ddidor—y cyferbyniad rhwng yr Eglwys a'r Ymerodraeth, rhwng y naturiol a'r goruwchnaturiol, a rhwng y byd hwn a'r byd a ddaw. Er ei holl uniongrededd, canodd Dante yn y Divina Commedia gnul diwinyddiaeth a chyfundrefnau moesol y Canol Oesoedd. Nid annhebyg yw ei gân, ym marn Edward Caird,[20] i borth rhyw brif eglwys fawr: tu mewn i'r porth yr ydym yng ngoleu gwannaidd crefydd y Canol Oesoedd, ond pan awn drwyddo, wele "lawn deg oleuni dydd" cyfnodau diweddar.
PENNOD IX
DADENI A DIWYGIO
PAN sonnir am gyfnodau diweddar hanes, wyneba'r un anhawster ni â phan sonnid am y Canol Oesoedd: ni ellir nodi dyddiad pendant neu enwi'r flwyddyn y terfynodd yr oesoedd hynny ac y dechreuodd hanes diweddar. Ond cysylltir y naill gyfnod â'r llall gan ddau symudiad a weddnewidiodd lawer ar Ewrop. Un yw'r Dadeni neu Adfywiad Dysg, a'r llall yw'r Diwygiad Protestannaidd. Yr oedd Ewrop y drydedd ganrif ar ddeg yn wahanol iawn i Ewrop yr unfed ganrif ar bymtheg mewn llu o ffyrdd, a'r esboniad gorau ar y gwahaniaeth yw'r ddau symudiad yma. Eithr unwaith eto ni ellir datgysylltu'r ddau gyfnod yn llwyr oddiwrth ei gilydd, er cymaint y gwahaniaeth rhyngddynt. Ymhell cyn diwedd yr Oesoedd Canol paratowyd cryn lawer ar gyfer y Dadeni a'r Diwygiad: yn wir, ni allai fod amgen os oes elfen o unoliaeth a pharhad mewn hanes. Yn y drydedd ganrif ar ddeg cawn feddyliwr fel Thomas Aquinas (1227-74), y "doctor angylaidd " a geisiodd briodi Cristnogaeth ag athroniaeth Aristotl, a gwyddonydd fel Roger Bacon (1214-92), ac yn Huss a Wyclif cawn ddiwygwyr cyn y Diwygiad. Ac hyd yn oed ar ôl deffroad dysg ac adfywiad crefydd ni lwyddodd Ewrop i ymysgwyd yn llwyr o ddylanwad ffurfiau a gwareiddiad y Canol Oesoedd.
Un o nodweddion amlycaf y cyfnod newydd yw dirywiad sefydliad mawr y Canol Oesoedd. Collodd y Babaeth i gafael ar feddwl a gwrogaeth dynion, a gwanhaodd ei dylanwad ar lywodraethwyr a theyrnasoedd Ewrop. Gynt gosodasai ei hofn arnynt, ond erbyn hyn yr oedd y Babaeth dan bawen Ffrainc, ac o 1307 hyd 1376 cartrefai'r Pab yn Ffrainc (Avignon), yn alltud o Rufain. A phan ddaeth y bennod hon, sef Caethglud Babilon y Babaeth, i ben, digwyddodd peth gwaeth fyth. Rhannwyd y Babaeth, ac o 1376 hyd 1417 yr oedd yn Ewrop ddau Bab a dwy ffynhonnell anffaeledigrwydd. Hawdd dychmygu gymaint y syrthiasai'r Babaeth yn syniad y gwledydd ar gyfrif y pethau hyn, ac er cyfanu'r rhwyg a phenodi Martin V yn unig Bab yng Nghyngor Constance (1414-18), nid adfeddiannodd y Babaeth ei safle a'i hawdurdod megis cynt. Yn wir, yr oedd cynnal cynghorau fel rhai Constance, Siena (1423), Basle (1431-49) a Florence (1439) yn un o arwyddion yr amserau ac yn braw nad oedd crefydd y Canol Oesoedd mwyach wrth fodd deiliaid ffyddlonaf y Babaeth.
Nodwedd arall bwysig iawn oedd fod cenedlaetholdeb yn cryfhau, a syniad mawr arall y Canol Oesoedd, sef un Ymerodraeth ochr yn ochr ag un Eglwys, yn cilio. Er pob gwrthwynebu o du'r barwniaid ceid yn Lloegr, Ffrainc a Spaen freniniaethau cenedlaethol dan lywodraethwyr cryfion a fu'n barod i ymddiried rhywfaint o allu i'r werin.[21] Dan amodau ffafriol fel hynny datblygwyd cryn dipyn ar lywodraeth leol yn y trefi a'r siroedd, a thyfodd gallu'r seneddau cenedlaethol yr un pryd. Cododd, hefyd, yn y gwledydd hyn ddosbarth canol pwysig i fod yn wrthglawdd rhag llywodraeth pennaeth anghyfrifol ar un llaw, a rhag cyffroadau direol poblogaidd ar y llall. Po fwyaf y tyfai'r syniad o lywodraethu gan frenin drwy gynrychiolwyr a ddewiswyd gan ei ddeiliaid, pellaf yn y byd y ciliai ffiwdaliaeth y Canol Oesoedd. Ond nid tyfiant unffurf drwy Ewrop mohono, canys parhaodd yr Almaen dan yr hen gyfundrefn lle ceid nifer o fân dywysogaethau ffiwdalaidd ac ymherodr yn ben arnynt; a rhanedig iawn, hefyd, oedd bywyd yr Eidal yr adeg honno. Bu'n rhaid iddi hi aros yn hir cyn sylweddoli ei hundeb cenedlaethol.
Cyfnod o fywyd a berw anghyffredin oedd yr un yr oedd Ewrop a'i olwg arno'n awr (o'r drydedd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ganrif ar bymtheg), a chyfrif dwy ffaith o leiaf am ei bwysigrwydd yn hanes gwareiddiad. Yn un peth, dyma gyfnod ail-ddarganfod ac ail-astudio trysorau'r hen fyd a dyma, hefyd, gyfnod darganfod gwledydd newydd tu hwnt i'r moroedd. Agorai byd dieithr o flaen meddwl a llygad dyn mewn dull nad oedd wir cyn hyn. Meddylier, i gychwyn, am fyd y meddwl a'r deffroad rhyfedd a ddigwyddodd yn hwnnw'n awr. Ni ellir priodoli hwnnw mwyach i un rheswm yn unig fel, er enghraifft, canlyniad buddugoliaeth y Tyrciaid yng Nghaercystenyn (1453): gwnaeth dylanwadau eraill hefyd eu rhan. Cyfeiriwyd eisoes at un neu ddau ohonynt, fel y Croesgadau a sefydlu'r prifysgolion. Canlyniad y cyntaf oedd dwyn y Dwyrain yn nes i'r Gorllewin nag erioed o'r blaen a chwanegu llawer at wybodaeth trigolion Ewrop am y byd. O'r prifysgolion pwysig y gyntaf a sefydlwyd oedd un Paris: ynddi hi y bu Gerallt Gymro ac amryw eraill o'i gydwladwyr yn y ddeuddegfed ganrif. Cyn diwedd y ganrif honno ymfudodd nifer o Baris ac arweiniodd hynny i sefydlu prifysgol Rhydychen, ond pasiodd canrif arall bron cyn adeiladu'r coleg cyntaf (Merton) yno yn 1274. Patrwm Paris a ddilynwyd yn Rhydychen gyda'i raniad o'r maes yn bedair adran—diwinyddiaeth, deddf, physigwriaeth, a'r celfyddydau. Ochr yn ochr â'r prifysgolion gellir enwi'r mynachdai fel canolfannau addysg a diwylliant a chyfeirio at ddysgedigion Arabaidd yn Ewrop, fel Averroes (1126-98) a gadwodd ryw faint o wybodaeth yr hen fyd yn fyw mewn cyfnod pur dywyll. Ond, a siarad yn gyffredinol, cyfyngedig iawn oedd gwybodaeth cyn y Dadeni, a thrwy gyfnod yr Ysgolwyr (Schoolmen) yr oedd llaw yr Eglwys a delw ei diwinyddiaeth yn drwm iawn arno.
Ond lledu ac ehangu a wnai gwybodaeth o hyd, a bu cwymp Caercystenyn yn ddiau yn symbyliad mawr i ddiwylliant yn y Gorllewin, oherwydd pan gymerth y Tyrciaid y ddinas honno, ffodd llu o ddysgedigion oddiyno gan ddwyn eu llyfrau gyda hwy i'r Eidal a gwledydd y Gorllewin. Dechreuwyd astudio hen glasuron Rhufain a Groeg yn eiddgar, a theimlid bod rhyw fyd newydd braf yn ymagor o flaen dyn. Clywyd lleisiau'n galw'r byd yn ôl at Natur a Dyn yn lle byw o hyd yng nghysgod yr Eglwys ac edrych ar bopeth o safbwynt y byd a ddaw. Hyn wnaeth i rai deimlo bod y Dadeni'n gyfystyr â dod a Phaganiaeth yn ôl, drwy symud y pwyslais o'r dwyfol a'r crefyddol i'r dynol a'r naturiol. Ond pryder disail oedd hwnnw. Ym mywyd dyn dylai fod lle i'r ddau ddylanwadyr ysbryd Hebreig a'r ysbryd Groegaidd, fel y galwodd Matthew Arnold hwynt. Tuedd y Canol Oesoedd fu eu cyfyngu eu hunain i'r cyntaf yn unig, ac yn awr symudodd y pendil i'r ochr arall a llawenhaodd dyn nid yn unig yn Nuw a'r byd ysbrydol ond hefyd yng ngogoniant gweithredoedd dwylo dyn a phrydferthwch digymar y byd o'i gwmpas. Ac nid oedd arweinwyr cymhwysach iddo ar hyd y llwybrau newydd hyn na llenorion cyfnod euraidd Groeg gynt, ac ysbryd rhydd, ymchwilgar y Groegwr a'i llywodraethai'n awr. Gydag un o feirdd Rhufain gallasai ddywedyd nad ystyriai ddim ynglŷn â dyn islaw ei sylw, a humanists a fu'r enw a roddwyd ar y sawl a'u cyflwynodd eu hunain yn awr i astudio llên gyfoethog Groeg a Rhufain. Nid edrychai'r Eglwys yn ffafriol iawn ar bob datblygiad yn hanes y mudiad hwn, ond ceir weithiau ambell Eglwyswr sy'n gorfforiad o'r ddau ysbryd. Un felly oedd Erasmus, yr ysgolor a gyhoeddodd argraffiad o'r Testament Newydd Groeg yn 1516 ac a ddymunodd ddiwygio crefydd drwy fynd yn ôl at Grist fel dysgawdur ac esiampl yn hytrach na diogelu yn eu crynswth ddefodau ac athrawiaethau'r Eglwys.
Ond nid troi'n ôl i'r hen fyd yn unig a wnaeth dyn yn y cyfnod hwn: daeth awydd anniwall i chwilio am wledydd newydd drosto hefyd. Dechreuasai hyn, eto, cyn diwedd y Canol Oesoedd. Bu'r Croesgadau'n symbyliad mawr i deithio'r gwledydd, ac yn 1295 cyhoeddasai Marco Polo hanes rhyfedd ei ymdaith ef yn China a Japan.
Yn ystod y ddwy ganrif nesaf hwyliai morwyr anturiaethus allan o borthladdoedd y Gorllewin i bob cyfeiriad mewn ymchwil am diroedd i fasnachu ac ymgyfoethogi ynddynt. Morwyr Portugal fu'n arwain i ddechrau, a chyn canol y bedwaredd ganrif ar ddeg darganfuwyd ynysoedd y Canary a'r Azores ganddynt. Erbyn diwedd y ganrif wedyn (1486) yr oedd Diaz wedi hwylio heibio i Benrhyn y Gobaith Da a Vasco da Gama wedi croesi Cefnfôr India (1498) a chyrraedd Calicut. Cyfoeth y Dwyrain a'u denai'n bennaf, a syniad Columbus ac eraill oedd y cyrhaeddid y Dwyrain yn ddiffael dim ond i ddyn forio'n ddigon pell mewn cyfeiriad gorllewinol, gan mai pelen oedd y ddaear o ran ei ffurf. Hynny barodd i Columbus gredu iddo gyriaedd yr East Indies pan laniodd yn San Salvador ym mau Mexico (1492-3), ac wedi iddo ddarganfod deheudir America a hwylio i lawr un o'i hafonydd (1498-1500) aeth i'w fedd gan dybio mai yn Asia y glaniasai. Ymhen ugain mlynedd wedyn (1519-22) llwyddodd Magellan a'i gymdeithion o Portugal i forio o amgylch y byd, ac erbyn hyn gellid dywedyd bod y moroedd yn agored i'r anturiaethus o bob gwlad. Cymerth Spaen le Portugal a hi fu'r prif allu yn neheudir a chanolbarth America, a throdd Prydeinwyr fel Cabot fwy i'r Gogledd. O hyn ymlaen "y cyntaf i'r felin gaiff falu" a fu'r egwyddor a lywodraethai morwyr y gwahanol genhedloedd lle glaniai dyn, yno y masnachai, ac yno wedyn y deuai rhyw gwmni neu gynrychiolwyr ei wlad i hawlio'r tir yn eiddo'r llywodraeth, ac mewn dulliau fel hyn y gosodwyd i lawr rai o sylfeini ymerodraethau diweddar Ewrop. A hawdd yw gweld cymaint fu effaith darganfod gwledydd newydd ar fasnach a chyfoeth a bywyd hen wledydd y Gorllewin[22]
Ceir praw arall o fywiogrwydd ymchwilgar meddwl dyn yng nghyfnod y Dadeni mewn ambell ddyfais o'i eiddo, a phrin y bu un erioed a hwylusodd fwy ar wareiddiad diweddar nag argraffu. Cyn hyn ysgrifennid pob llyfr â llaw, a gwaith araf, llafurus dros ben oedd hynny, ond dengys rhai o lawysgrifau'r cyfnod dlysed a cheined gwaith ydoedd. Dan amodau felly cymerai amser maith i ysgrifennu llyfr o unrhyw faint, a'r un faint o amser drachefn i wneuthur copi ohono, ac felly'n naturiol nid rhyw lawer o lyfrau oedd i'w cael. Ond unwaith y meistrolwyd dulliau argraffu, gellid sicrhau nifer fawr o gopïau o lyfr yn weddol hawdd a chyflym. Gwaith Gutenberg ym Mainz ar Rhein sy'n sylfaen y gelf yn Ewrop, a'i Lyfr Salmau a'i Feibl ef yw'r llyfrau argraffedig cyntaf o bwys yn Ewrop (1455). Gwellhawyd y ddyfais yn fuan, yn enwedig yn yr Eidal lle'r arferid llythyren lai na llythyren ddu (Gothig) Gutenberg. Erbyn 1500 y mae'n ddiau bod miloedd o lyfrau argraffedig yn Ewrop lle gynt ni bu ond ychydig lawysgrifau. Os teimlai'r Pregethwr bedair canrif cyn Crist nad oedd "ddiben ar wneuthur llyfrau lawer" beth, atolwg, fuasai ei brofiad yn Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg neu, waeth fyth, yn Ewrop ein dyddiau ni? Er mwyn dangos gyflymed y mabwysiadwyd y ddyfais ymhob gwlad yn Ewrop digon fydd nodi ychydig ddyddiadau diddorol. Cyhoeddodd Tindale ei Destament Newydd Saesneg yn 1526, ac ymddangosodd y Beibl Saesneg cyntaf cyflawn mewn print yn 1535. Yng Nghymru daeth Testament Newydd argraffedig o'r wasg yn 1567 (Testament Wm. Salesbury), a Beibl yr Esgob Morgan yn 1588. A phrawf y pwys a roddwyd yn fuan ar y priodoldeb o gael yr Ysgrythyrau yn nwylo'r bobl mor ddylanwadol yn hanes dyn a'i wareiddiad y gallasai dyfais Gutenberg fod.
Yng nghyfnod y Dadeni nid gormod fyddai dywedyd mai'r Eidal oedd arweinydd Ewrop, a rhyfedd debyced i Roeg gynt oedd yr Eidal yr adeg honno. Nid teyrnas unedig mohoni, eithr nifer o ddinasoedd gan mwyaf yn y Gogledd a'r Gorllewin, rhai ohonynt fel Rhufain a Milan yn hen, ac eraill fel Florence a Venice wedi dod i enwogrwydd yn ddiweddarach. Llywodraethid y dinasoedd hyn gan dywysogion fel y Medici yn Venice a'r Visconti ym Milan, a cheisiai bob un ohonynt wneuthur ei ddinas ef yn gyfoethocach a godidocach na'i chymdogion. Bu'r tywysogion hyn yn noddwyr selog i bob rhyw gelf a chrefft, a'u dinasoedd yn gartrefi diwylliant ac athrylith nodedig. Cysylltir enw pob un ohonynt â gwŷr sy'n anfarwol yn eu cylch arbennig eu hunain. Os am Florence y meddylir, dyna Dante, Botticelli a Machiavelli: os am Rufain, dyna Raphael a Michael Angelo: os am Venice, dyna Titian a Tintoretto: ac os am Filan, dyna Leonardo da Vinci, y mwyaf amryddawn ohonynt i gyd. Cyffelyb oedd y deffroad yn yr Eidal yn awr i hwnnw gynt yng ngwlad Groeg yn nyddiau Pericles: ond, er mai yno y gwelwyd ef yn ei ogoniant pennaf, gwyddai gwledydd y tu arall i'r Alpau hefyd am y Dadeni a'r adfywio oedd yn bod yn Ewrop yn awr. Onid yn Lloegr yr ymddangosodd prif arddun llên y cyfnod? Ac, os gellir ystyried Dante'n gynrychiolydd y Canol Oesoedd, Shakespeare (1564-1616) a roddes fynegiant i holl asbri a bywyd cyfnod y Dadeni. "He, more than anyone, reflects all that was best," medd F. S. Marvin, "in that age of ardent feelings, vigorous life, and agitating thought; and he transmutes all into the pure gold of immortal and universal art."[23]
Buwyd yn ddigon hir cyn dod at yr ail gymal yn nheitl y bennod hon, ond dëellir y Diwygiad Protestannaidd yn well o'i ystyried yng ngoleu bywyd cyffredinol y cyfnod. Berw cyfnod y Dadeni, yn wir, a'i esbonia orau, ac o safbwynt hanes gwareiddiad Ewrop nid cwbl anghywir fyddai ystyried y Diwygiad fel un agwedd ar ddeffroad cyffredinol Ewrop yn awr. Er nad achosion crefyddol yn unig a gyfrif amdano, hwy'n ddiddadl yw'r rhai pwysicaf. Yn eu plith y mae'n rhaid rhoi lle blaenllaw i ddirywiad y Babaeth, yn enwedig i'w rhaib a baich ei chasgliadau a'i threthi ar wledydd y Gogledd. Gyda chynnydd y gyfundrefn Babyddol a lluosogi rhif ei swyddogion aethai'r galwadau ariannol yn drymach o hyd, a chwynai ei deiliaid tu draw i'r Alpau oherwydd y gorfodi oedd arnynt i gynnal y Pab a'i lys costus yn ogystal a thalu eu ffordd gartref. Ymosodid, hefyd, ar honiadau'r Babaeth ac ar fwy nag un o'i phrif athrawiaethau. Dyna wnaeth Huss a Wyclif, a theimlai pobl yn fwy rhydd i feddwl fel y mynnent ac i feirniadu ac amau yr hyn a ddywedid dan awdurdod y Pab a'r Eglwys wrthynt. Amlwg, hefyd, oedd y dirywiad ym mywyd llu o weinidogion yr Eglwys. Cynhyddodd bydolrwydd yr offeiriaid a chyfoeth y mynachdai, a syrthiasai crefydd ysbrydol yn isel mewn llawer man. Eithr, fel dan amgylchiadau cyffelyb cyn hyn yn hanes yr Eglwys, yr oedd rhyw awydd a dyhead am bethau gwell yn cryfhau, er cymaint y tywyllwch cyffredinol. Ac, hefyd, ymhlith achosion y Diwygiad ni ddylid anwybyddu ffeithiau nad oes a fynnont â chrefydd yn uniongyrchol. Un o'r rheini oedd tyfiant y teimlad cenedlaethol yn y gwahanol wledydd yn awr. Fel y cynhyddai hwnnw, nid edrychent yn ffafriol iawn ar sefydliad fel y Babaeth a honnai fod yn ben arnynt ac uwchlaw pob un ohonynt. Lle bynnag y llywodraethai brenin cryf ar genedl unedig, gallasai hwnnw wrthod cydymffurfio â gofynion y Pab heb ofni rhyw lawer beth a ddigwyddasai iddo. Ac, yn allanol, mewn cyfeiriad fel hwn y gwelir y cyfnewidiad mwyaf rhwng Ewrop cyn y Diwygiad ac Ewrop ar ôl hynny. Yr oedd crefydd Ewrop yn unffurf iawn cyn y Diwygiad, eithr ar ei ôl ac yn ganlyniad iddo ymddangosodd Eglwysi cenedlaethol Ewrop.
Cymerth y Diwygiad ei hun ddwy ffurf—un yn effeithio ar fywyd y sawl a arhosodd yn yr Eglwys a'r llall yn arwain i sefydlu Eglwysi tu allan iddi a wrthodai gydnabod ei hawdurdod. Y ffurf olaf yw'r un fwyaf adnabyddus ac ynglŷn â honno yr enw mawr yw un Martin Luther. Mynach Almaenaidd ydoedd yn 1517, pan ymddangosodd un o genhadon y Pab yn Wittenberg i bregethu ffordd o ryddhad o gospedigaeth y Purdan drwy brynu pardynau (indulgences). Gwrthwynebodd Luther hyn fel peth hollol groes i hanfod Cristnogaeth, a hoeliodd ei brotest o gan gosodiad namyn pump (theses) ar ddrws yr Eglwys. Ar y cychwyn ni ddymunodd ef, mwy nag a wnaeth Erasmus, ymwahanu oddiwrth yr Eglwys, ond âi'r cweryl yn ddyfnach o hyd. Er mai yn ei brofiad personol yn hytrach na'i allu meddyliol fel diwinydd yr oedd cuddiad ei gryfder, ymosododd nid yn unig ar sefydliadau'r Eglwys ond hefyd ar rai o'i hathrawiaethau, a phwysleisiodd y mewnol yn fwy na'r allanol. Daw maddeuant a chyfiawnhad nid drwy brynu pardynau ond drwy ffydd yn Nuw. Yn nghyngor Worms (1521) esgymunwyd ef, ac yng nghyffes Augsburg (1530), o waith ei gyfaill Melanchthon, datganodd y Protestaniaid eu credo am y tro cyntaf. Cryfhai'r diwygiad o flwyddyn i flwyddyn, yn enwedig ymysg gwerin yr Almaen, nes myned ohono'n rhy gryf i unrhyw deyrn neu Bab roi pen arno. Gan hynny yn 1555 arwyddodd yr ymherodr Siarl V Heddwch Augsburg a roddai hawl i bob dinas a thalaith yn yr Almaen ddewis rhwng Credo Rhufain a Chredo Augsburg—pob rhanbarth ei chrefydd ei hun (cuius regio, eius religio). Dyna setlo dynged neu ffurf crefydd Ewrop ar linellau taleithiol a chenedlaethol.[24]
Nid rhaid dilyn hanes y Diwygiad tu allan i'r Babaeth yn y gwledydd eraill. Digon i bwrpas y llyfr hwn fydd cyfeirio'n unig at yr Yswisdir a'n gwlad ninnau. Zwingli oedd yr arweinydd yn y wlad gyntaf, ac yr oedd nifer o wahaniaethau rhwng yr Eglwys Lutheraidd ac Eglwys Ddiwygiedig yr Yswisdir. Ar ôl Zwingli daeth John Calfin o Ffrainc (1509-64), a'i waith ef yn bennaf yw trefn a chyfansoddiad a diwinyddiaeth yr Eglwysi Diwygiedig. Cymerth Lloegr, fel y gwyddys, ei chwrs ei hun dan Harri'r VIII (1509-47) ac Elisabeth (1558-1603) a phan drodd Cymru ei chefn ar Rufain gwnaeth hynny'n bur llwyr ac aeth dan iau Geneva gymaint onid yn wir fwy nag unrhyw wlad arall.
Erbyn hyn collasai'r Babaeth yn amlwg ei dylanwad yn y gwledydd a ennwyd, ac ymddangosodd nifer o Eglwysi annibynnol arni yng ngogledd Ewrop. Eithr gwnaethpwyd ymdrech fawr i'w diwygio hithau yn y De, a cheir aml braw o hyn. Penododd y Pab Paul III Gomisiwn i sicrhau hyn (1537), a galwyd hefyd Gyngor cyffredinol i Trent ar gyffiniau'r Eidal a'r Almaen, a bu hwnnw'n eistedd o dro i dro am agos i ugain mlynedd (1545-63). Gwahoddwyd y Protestaniaid iddo eithr gwrthodasant ddod, ac aeth y Babaeth ymlaen hebddynt i geisio sicrhau gwelliannau yn yr Eglwys. Dyma hefyd gyfnod ffurfio Urdd y Jesuitiaid a dyddiau dynion ymroddedig fel Francis Xavier (1506-52) a Philip Neri. Ond er pob ymdrech i ddiwygio ac ennill yn ôl yr hyn a gollwyd, yr oedd y rhwyg yn rhy fawr i'w gyfanu mwyach, ac erbyn hyn yr oedd dwyn gwledydd y Gogledd yn ôl dan y Babaeth yn amhosibl. Spaen oedd prif offeryn y Pab i geisio sicrhau hyn drwy orfodaeth rhyfel, eithr ymladdodd Protestaniaid yr Iseldiroedd yn ddygn yn ei herbyn a gorchfygodd Lloegr ei llynges yn nyddiau Elisabeth.
O hyn allan, er gwell neu er gwaeth, rhanedig oedd Cristnogaeth Ewrop. Daliodd y Babaeth ei gafael ar wledydd y De lle gynt y bu ymerodraeth Rhufain gryfaf, ond yn y Gogledd, cartref y cenhedloedd newydd, ciliodd ei gallu ac, yn ei lle neu ochr yn ochr â hi, cododd y naill Eglwys genedlaethol ar ôl y llall. Ac nid gwahaniaeth daearyddol rhwng De a Gogledd mohono'n unig nac yn bennaf o ran hynny. Cynrychiolid erbyn hyn ddwy duedd neu ddwy egwyddor wahanol yng nghrefydd Ewrop, y naill yn pwysleisio lle'r offeiriad ac awdurdod traddodiad a'r llall le'r proffwyd ac awdurdod barn a chydwybod rydd. Ni all na chollir rhywbeth mewn unrhyw gyfnewidiad mor fawr, ac ni bu'r Diwygiad Protestannaidd yn eithriad yn hyn, er pob rhagoriaeth a berthyn iddo. Nid daioni digymysg er enghraifft, oedd ffurfio Eglwysi ar linellau cenedlaethol a cholli'r syniad a'r teimlad o undeb cyffredinol. Temtasiwn a pherygl Eglwysi felly yw mynd yn llawforynion y wladwriaeth, a digwyddodd hynny fwy nag unwaith yn eu hanes. A phan ddaeth y Protestaniaid allan o'r hen Eglwys gadawsant nifer o bethau rhagorol ynddi ar eu hôl, a datblygodd rhai o'u syniadau a'u defodau priod hwy mewn cyfeiriadau anghyson â'u rhyddid ac ag ysbryd y Dadeni. Nid yw, serch hynny, yn anghywir cysylltu'r Dadeni a'r Diwygiad, Deffroad Dysg ac Adfywiad Crefydd, fel y ddau symudiad yn hanes ei wareiddiad a arweiniodd Ewrop hyd at drothwy'r cyfnod diweddar.
PENNOD X
GWYDDONIAETH A BEIRNIADAETH
UN o effeithiau'r Dadeni, fel y gwelwyd eisoes, oedd gyrru dynion yn ôl at Natur a hynny mewn ysbryd ymchwilgar, yn barod i holi Natur ei hunan a disgwyl am ei hatebion hi yn hytrach nag atebion llyfr neu fyfyrdod dyn ymhell oddiwrthi.
Ac o hyn y tarddodd Gwyddoniaeth Ddiweddar, y mudiad mawr hwnnw a'n harwain megis i ganol y cyfnod presennol ac a wna i'r Canol Oesoedd ymddangos mor bell yn ôl yn y gorffennol. Yn ei lyfr gwych, Science and the Modern World, cymhara'r Athro A. N. Whitehead y mudiad hwn â'r un a ddisgrifiwyd yn niwedd y bennod flaenorol. Diwygio rhywbeth a fodolai eisoes, yn hytrach na datguddio dim byd gwirioneddol newydd, a wnaeth y Diwygiad Protestannaidd deffroad poblogaidd ydoedd a greodd gynnwrf ymhlith gwerinoedd, a deffroad, hefyd, a gyfyngwyd i Ewrop. Ond am y llall, er perthyn ohono i'r byd i gyd, ac er iddo weddnewid bywyd dyn drwyddo draw, ychydig a wyddai pobl amdano ar wahan i nifer fechan o ddysgedigion yma ac acw drwy'r gwledydd: since a babe was born in a manger it may be doubted whether so great a thing has happened with so little stir" (t. 2). Enw'r un awdur ar yr eilfed ganrif ar bymtheg, pan 'roedd y mudiad yn ei lawn rym, yw "canrif athrylith." Ac amhosibl fyddai deall gwareiddiad presennol Ewrop heb roi lle pwysig i ddylanwad a effeithiodd gymaint arno â'r mudiad hwn.
"Yr oedd dewrion cyn Agamemnon," meddai hen air Groegaidd, a gwir hefyd fod gwyddonwyr cyn yr eilfed ganrif ar bymtheg. Soniasom eisoes (pennod v) am ddiddordeb y Groegwyr gynt mewn materion o'r natur yma, eithr diddordeb o safbwynt cyffredinol athroniaeth ydoedd, gan mwyaf, ac nid un yn seiliedig ar sylwadaeth fanwl ym myd natur ei hun: parotach oedd y Groegwyr i ofyn paham y digwydd y naill beth neu'r llall na sut y digwyddant. Yn y Canol Oesoedd, eto, troai ambell un at Natur i chwilio ei chyfrinion, ond fel rheol mewn cyfeiriadau gwahanol y symudai meddwl dyn yr adeg honno. Caethiwai awdurdod yr Eglwys gryn lawer ar ei ryddid meddyliol, ac yng nghyfnod maith anwybodaeth a difrawder yr oesoedd hynny yr oedd pawb bron yn ddigon bodlon i orffwys ar syniadau traddodiadol heb graffu ar ffyrdd Natur ei hun a gwneuthur arbrofion (experiments). Yr hyn a gyfrannodd y Canol Oesoedd, fel y dywed Dr. Whitehead, yw'r syniad sydd wrth wraidd pob ymchwil wyddonol, sef y gellir dibynnu ar Natur, fod trefn a rheswm tu ôl i'r cyfan am fod Duw tu ôl iddo: "the faith in the possibility of science, generated antecedently to the development of modern scientific theory, is an unconscious derivative from medieval theology.[25] Ac at hyn, hefyd, dylid cofio dau beth arall. Un yw'n dyled i'r myneich fel amaethwyr a chrefftwyr a chwanegodd lawer at feistrolaeth dyn ar y byd yr oedd ynddo ac ymhell cyn gwawrio'r eilfed ganrif ar bymtheg bu rhai enwog fel Roger Bacon (1214-92), Leonardo da Vinci (1452-1519) a Chopernicus ei hun (1473-1543) wrthi'n arloesi'r tir.
Byd newydd iawn oedd yr un y cafodd Ewrop ei hun ynddo wedi'r herio fu ar awdurdod yr Eglwys yn y Diwygiad ac ar syniadau traddodiadol yn y Dadeni, a chynrychiolydd da o'r cyfnod newydd yw Francis Bacon (1561-1626). "Yr unig ffordd i lywodraethu Natur yw ufuddhau iddi," meddai ef, ac felly rhaid dod ati gyda meddyliau diragfarn yn hytrach na rhai'n gaeth i ddamcaniaethau traddodiadol. Hyd yma y Beibl ac Aristotl oedd y prif awdurdodau, a rhyfedd mor dynn fu gafael y Groegwr ar feddyliau dynion. Profasai Aristotl fod cyflymdra pethau'n disgyn i'r llawr yn dibynnu ar eu pwysau—syrthiai pelen gan pwys ganwaith cyflymach na phelen un pwys: chredodd pawb hynny, hyd oni ddangosodd Galileo drwy arbrofion o ben tŵr Pisa y cyrhaeddent y llawr ar unwaith a bod yr hen syniad yn hollol anghywir. Yn ôl, ynteu, at Natur y dylid mynd, a thrwy arbrofi a chymharu ddod o hyd i'r gwir. Ac o hyn ymlaen daw'r darganfyddiadau'n llu ar sodlau ei gilydd. Yn yr Eidal unwaith eto yr enillwyd y buddugoliaethau cyntaf, ond cyn bo hir ceid gweithwyr wrthi'n brysur ymhob gwlad, a ffurfient frawdoliaeth fawr mewn ymgynghoriad a gohebiaeth barhaus â'i gilydd, ac weithiau'n ffraeo ac yn lladd tipyn ar ei gilydd. Sefydlwyd y Royal Society, cymdeithas wyddonol enwoca'r Gorllewin, yn Lloegr yn 1660.
Diddorol dros ben fuasai dilyn datblygiad Gwyddoniaeth o bennod i bennod, petai'n gofod a'n gallu'n caniatau, ond ni wnant. Y cwbl ellir ei wneuthur yw nodi rhai o'r camau pwysicaf, ac enwi rhai o sylfaenwyr y gwahanol wyddorau. A siarad yn hollol gyffredinol, byddai'n lled gywir dywedyd i Wyddoniaeth gychwyn drwy sylwi ar y pethau mwyaf, yna trodd at bethau llai, a chyn diwedd ei thaith aeth y pethau lleiaf â'i sylw, pethau rhy fach i'r llygad noeth eu gweld neu i'n cloriannau arferol eu pwyso. Y mae digon o eithriadau i'r gosodiad hwn yn ddiau: y mae'r mawr a'r bach yn bynciau efrydiaeth yn aml gyda'i gilydd yn yr un wyddor neu gan yr un gwyddonydd. Ond gwna'n tro fel disgrifiad cyffredinol. Seryddiaeth oedd maes un o'r rhagflaenwyr a ennwyd eisoes, Copernicus, ac fe gofir mor hen yw'r wyddor honno fel maes ymchwil dyn, gan mai tua'r haul a'r sêr y trodd offeiriad hen fyd yr Aifft a Babilonia eu llygaid gynt. Copernicus a dynnodd y ddaear oddiar ei gorsedd, pan brofodd mai hi a droai o amgylch yr haul ac nid fel arall yn ôl y dyb gyffredin, ac ar ei ôl darganfu Kepler (1571-1630) y deddfau a reolai symudiad y planedau yn eu cylchoedd. Yna perffeithiodd Galileo (1564-1642) y telescope cyntaf, a thrwyddo gwelodd y brychau ar yr haul a lleuadau Jupiter, a chyhoeddodd fod yr haul yntau'n troi ar ei echell. Yr un pryd dywedodd Bruno (1548-1600) mai seren oedd yr haul a bod pob seren yn haul gyda phlanedau efallai'n troi o amgylch bob un. Ychydig iawn o sail erbyn hyn oedd i'r hen syniad am y ddaear fel canolbwynt y greadigaeth—nid oedd ddim amgen nag un blaned yn troi o gwmpas yr haul a'n cyfundrefn heulog ni yn ddim ond un ymhlith lliaws mawr o gyfundrefnau eraill.
Cafodd pob un o'r seryddwyr hyn help neilltuol oddiwrth hen wyddor arall, Rhifyddiaeth, ac yn fuan iawn deuwn at enwau mawr yn y maes hwnnw fel Descartes (1596-1650) a John Newton (1642-1727). Newton yw'r gwyddonydd pennaf a gynhyrchodd Lloegr, efallai'r mwyaf a welodd Ewrop erioed. Adeiladodd, fel pob meddyliwr mawr arall, ar waith ei ragflaenwyr. Credodd Copernicus fod y planedau'n troi o amgylch yr haul mewn cylchoedd hollol grwn, ond dangosodd Kepler nad gwir hynny. Disgrifiodd sut y troent (ellipse yn hytrach na circle berffaith), eithr ni fedrai esbonio paham y gwnaent felly. Ond gwelodd Newton fod eu symudiadau'n ganlyniad disgyrchiant (gravitation), a bod deddf disgyrchiant yn wir am nef a daear fel ei gilydd yr un rheswm esbonia paham y syrth afal i'r llawr a phaham y symud y planedau yn eu cylchoedd neu paham y digwydd trai a llanw ar y môr. Nid dyma unig ddarganfyddiad y gŵr mawr hwn, fel y dengys ei ddeddfau symudiad (laws of motion), a rhyfedd gymaint y dylanwadodd ei waith ar ddatblygiad gwyddorau eraill fel anianeg (physics), peirianneg (mechanics), a phob rhyw wyddor y mae rhifyddiaeth (mathematics) yn anhepgor i'w chynnydd.
Ar ol gwaith mawr Newton a'i gyfoeswyr symuda Gwyddoniaeth ymlaen yn gyflym, ac ymhob cangen ceir enwau gwŷr a newidiodd yn llwyr syniadau dyn am y byd. Ar sylfeini'r gwyddorau a nodwyd eisoes a chyda gwelliannau parhaus yn y celfi a ddefnyddid daw un wyddor newydd ar ôl y llall i'r golwg. Yn y ddeunawfed ganrif ymddengys fferylliaeth ddiweddar (chemistry) gyda gwaith y Ffrancwr Lavoisier a'r Prydeiniwr John Dalton yn sylfaeni iddi. Ac fel y datblygai fferylliaeth drachefn, tyfai gwyddorau eraill ohoni megis canghennau o'r un pren. Un yw daeareg (geology), oherwydd ni ellir mynd ymhell yn y wyddor honno heb wybodaeth helaeth am gyfansoddiad elfennau'r ddaear. Yn ddiweddarach daw trydaniaeth (electricity) a'i datblygiadau priod hithau. Ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg try Gwyddoniaeth i gyfeiriad y gwyddorau a ymdrin â bywyd yn ei wahanol ffurfiau (planhigion, anifeiliaid, dyn), a'r enw mwyaf adnabyddus yn ddiau yw Darwin gyda'i syniad pwysig am ddatblygu drwy ddewisiad naturiol fel deddf fawr bywyd a'i gynnydd ymhob cylch. Os parodd syniad Newton chwyldroad yn y gwyddorau sy'n ymdrin â mater, y mae'r un peth yn wir am syniad Darwin yn y gwyddorau sy'n trafod bywyd yn ei wahanol ffurfiau: a dyma'r syniad erbyn hyn a'n llywodraetha pryd bynnag y mae dyn a'i fywyd yn bwnc efrydiaeth. Y mae Darwin, hefyd, yn enghraifft nodedig o werth a gwirionedd egwyddor Bacon parthed ufuddhau Natur os am ei llywodraethu. Ni bu un erioed a sylwodd yn graffach neu'n fwy amyneddgar ar ffyrdd rhai o greaduriaid mannaf y ddaear nag ef, ac y mae'r un peth yn wir am rai ar ei ôl, fel Pasteur ac eraill, a fu'n astudio bywyd yn y ffurfiau isaf a distadlaf arno.
Afraid yw pwysleisio ffaith mor amlwg â dylanwad y mudiad gwyddonol hwn ar wareiddiad y Gorllewin, canys eglur yw hynny mewn llu o ffyrdd. Fe'i gwelir gliriaf yn ddiau mewn dau gyfeiriad. Yn un peth, crewyd awyrgylch feddyliol, hollol newydd yn Ewrop. Cyn hyn ystyrrid popeth yng ngoleu rhyw esboniad neu ddehongliad awdurdodedig arno, ond yn awr aethpwyd yn ôl i lygad y ffynnon—tu ôl i draddodiadau'r Tadau Eglwysig ac esboniadau'r Ysgolwyr, a thu ôl i ddamcaniaethau Aristotl ac athrawiaethau'r Eglwys at Natur ei hun. Rhoddwyd heibio ddulliau annaturiol o esbonio pethau a daeth syniadau newydd am y byd a'i fywyd i lywodraethu meddwl dyn. Defnyddiodd yntau ei ryddid newydd yn hyderus gan chwilio ymhob cyfeiriad am lwybrau newydd a meysydd newydd i'w feddwl a'i ddychymyg droi iddynt. Ni ddaeth, wrth gwrs, i'w gyflawn ryddid ar unwaith, a mynych y codai rhwystrau o wahanol gyfeiriadau ar ei ffordd. Trwy rhyw ddallineb rhyfedd gwrthwynebodd yr Eglwys y mudiad hwn hyd yn ddiweddar, a thu allan iddi nid edrychid bob amser yn rhy ffafriol arno. "Nid oes ar y Chwyldroad eisiau gwyddonwyr," meddai'r Ffrancod, pan dorrwyd pen Lavoisier ganddynt.
Araf, hefyd, yr enillodd Gwyddoniaeth ei lle yn yr hen brifysgolion. Ond cynhyddai ei buddugoliaethau o oes i oes, ac erbyn hyn yr unig awyrgylch feddyliol sy'n bosibl inni yn Ewrop yw'r un sy'n gynnyrch uniongyrchol gwaith a safbwynt y gwyddonwyr.
Bu effaith y mudiad hwn, hefyd, yn aruthrol ar fywyd beunyddiol dyn, oherwydd yn sgil pob darganfyddiad deuai rhyw ddyfais ymarferol a newidiodd lawer ar fywyd allanol dyn. I gymryd esiamplau'n unig o ddechrau ac o ddiwedd y cyfnod, gellir nodi effeithiau darganfyddiadau'r seryddwyr ar forwriaeth a darganfyddiadau Pasteur a Lister ar ddulliau'r meddygon o iachau clwyfau'r corff. Bu'r seryddwyr gyda'u mapiau cywir o'r ffurfafen a'r moroedd yn gymwynaswyr i holl longau'r byd, ac achubodd dulliau newydd y meddygon a seiliwyd ar waith Pasteur a Lister fwy o fywydau mewn un genhedlaeth nag a ddinistriwyd mewn canrif gyfan o ryfela rhwng gwledydd Ewrop a'i gilydd. Ond yr enghraifft gliriaf o'r peth ar raddfa fawr yw'r Chwyldroad Diwydiannol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heb wyddoniaeth a'i darganfyddiadau buasai hwnnw gyda'i weithfeydd glo, ei ffactrioedd, a'i ffyrdd haearn yn gwbl amhosibl. Cyn troi i sôn am y chwyldroad hwnnw dylid cyfeirio'n fyr at agweddau eraill o ymdrech feddyliol dyn i'w ryddhau ei hun o gaethiwed y gorffennol, ac nid amhriodol yw eu crynhoi dan yr enw "beirniadaeth." Trodd y Dadeni, fel y gwelwyd, oddiwrth awdurdod y gorffennol; ac, er pob anghysondeb ar ran y Diwygwyr eu hunain i'r egwyddor, seiliwyd y Diwygiad Protestannaidd ar hawl dyn i feddwl drosto'i hun; a beirniadodd Gwyddoniaeth lawer iawn ar syniadau traddodiadol a phoblogaidd y dydd. Yn yr eilfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif cawn nifer o ysgrifenwyr a ddatguddia'r un nodweddion ynglŷn â phynciau crefyddol, athronyddol a chymdeithasol. Er pob gwahaniaeth rhyngddynt â'i gilydd, cytunent ar ddeubeth—eu amharodrwydd i dderbyn syniadau'r gorffennol a'u parodrwydd i ddilyn Rheswm i ba le bynnag, yn eu tyb hwy, yr arweiniai hwynt.
Ymhlith yr athronwyr dyma gyfnod Rhesymoliaeth (rationalism) a ffurfio systemau ar sail cred ddisygog yng ngallu Rheswm i ddarganfod a datguddio holl gyfrinion y cread. Mewn diwinyddiaeth rhoes fod i Ddeistiaeth (deism) a'r syniadau am grefydd naturiol mewn gwrthgyferbyniad i un yn seiliedig ar ddatguddiad goruwchnaturiol. Y mae Voltaire yn enghraifft dda o'r safbwynt hwn: ni wadai fodolaeth Duw, ond gwrthwynebai Gristnogaeth a daliai fod Duw wedi ei ddatguddio'i hun yn y byd naturiol ac yng nghalon dyn yn hytrach nag yn y Beibl a'r Eglwys. Gwadai Spinoza (1632-77), hefyd, fodolaeth Duw personol y Cristion a rhyddid ewyllys dyn. Yn ddiweddarach a chan fynd i'r eithaf pellaf, trodd Rheswm ei harfau megis yn ei herbyn ei hun nes bod Amheuaeth (scepticism) ar yr orsedd yng nghyfundrefn David Hume (1711-76). Nid yw mater yn bod mewn gwirionedd, yn ôl Hume, na phersonoliaeth dyn chwaith, ac ni fodola cysylltiad angenrheidiol rhwng unrhyw ddigwyddiad ac un arall, ac felly nid cyfreithlon y sôn am achos ac effaith o gwbl. Prin y bodlonai ysgrifenwyr a ddyrchafai Reswm ar safbwynt mor nacaol â hwn, oherwydd, os gwir yw syniad Hume, ni ellir dibynnu ar Reswm ei hun, a dyna ddiwedd hefyd ar wyddoniaeth a phob rhyw ymchwil o eiddo'r meddwl dynol. Ni allai na ddeuai adwaith hyd yn oed er mwyn diogelu Rheswm ei hun: a dyna ddigwyddodd cyn bo hir ac Immanuel Kant (1724-1804)[26] yw ei ladmerydd pennaf.
Yn Lloegr cyfyngwyd y syniadau hyn, neu o leiaf y ddadl ynglŷn â hwynt i nifer fach o ysgrifenwyr, eithr nid felly y bu yn Ffrainc. Yno cymerth Voltaire a'i gyfoeswyr y maes yn eofn yn erbyn eu gwrthwynebwyr, a rhaid yw cydnabod bod dallineb a gorthrwm yr hen drefn yn waeth yn Ffrainc nag yn y wlad hon. Am hynny gwrthwynebodd Voltaire yr Eglwys Gristnogol fel gelyn pennaf rhyddid dyn: hyhi, yn hytrach na gallu anghyfrifol y brenin, oedd y prif rwystr ar ffordd cynnydd a gwareiddiad dyn. Credai ef, fel y dywedwyd, ym modolaeth Duw, ond ni ddilynai llawer o'i gyd-weithwyr ef yn hynny. Credent hwy fod yn rhaid gwneuthur i ffwrdd â Duw yn llwyr a rhoi Natur yn ei le. Nid oes gyfathrach, meddent, rhwng crefydd â'r gwirionedd, a'r unig wirionedd a all ryddhau dyn yw hwnnw a ddatguddia Natur a Gwyddoniaeth inni. Dyn gwahanol iawn oedd Rousseau (1712-1778), ac ar deimladau calon dyn yn hytrach nag ar feddwl a rheswm y rhoddodd ef y pwyslais. Er na ddeil ei syniadau cymdeithasol a gwleidyddol ddwfr am foment, eto i gyd buont yn help, fel y dywed yr Athro Bury, i ryddhau gorthrwm dyn, a chyhoeddodd fod y wladwriaeth yn bod er lles pob aelod ohoni.1 Ganwyd dyn yn rhydd, meddai, ond ymhob man erbyn hyn y mae mewn cadwyni. Caethiwed yw ei wareiddiad presennol na rydd iddo gyfle i ddatblygu ei bersonoliaeth yn llawn, eithr ni all wneuthur hynny ar ei ben ei hun ond mewn cymdeithas a sicrha iddo ei ryddid gwleidyddol a chymdeithasol.
Dichon mai'r ffurf fwyaf adnabyddus i'r rhan fwyaf ohonom ar y llanw beirniadol a lifai'n awr dros Ewrop oedd yr un a drodd i gyfeiriad y Beibl ac a elwir fel rheol yn Uwch-feirniadaeth. Ac, er mwyn deall natur hwnnw eto, gorau po fwyaf a wyddom am ei darddiad. Symbylodd y Dadeni ddynion i astudio'r Beibl yn yr ieithoedd gwreiddiol, a rhoes hynny gyfieithiadau cywirach ohono i gychwyn, ac yna lledaenodd dyfais newydd yr argraffydd filoedd o gopïau ohono drwy'r gwledydd nes ei wneuthur yn fwy hysbys nag erioed o'r blaen. Anffaeledigrwydd y Beibl a ddewisodd y Diwygwyr yn safon eu hawdurdod wedi gwrthod ohonynt anffaeledigrwydd y Pab. Ond erbyn diwedd уг eilfed ganrif ar bymtheg amheuid llawer ar honiadau'r naill Eglwys a'r llall parthed natur ac awdurdod y Beibl, a chyn canol y ganrif nesaf hawliai llawer y dylid ei ddehongli'n naturiol fel unrhyw lyfr arall, ac astudiodd nifer o ddysgedigion bynciau neilltuol ynglŷn â'i gynnwys a natur ei ddatguddiad o'r safbwynt hwnnw. Yn Ffrainc cyhoeddodd Astruc (1684-1766) ei syniad am Genesis fel llyfr cyfansodd, datganodd Lessing (1729-81) na phrofai proffwydoliaethau'r Hen Destament na gwyrthiau'r Newydd wirionedd Cristnogaeth, a dysgai Herder (1744-1803) y dylid darllen y Beibl fel llyfr a ysgrifennwyd gan ddynion ar gyfer dynion. Bu hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod hynod o brysur ymhlith beirniaid ac ysgolheigion Beiblaidd o bob math, yn ramadegwyr, esbonwyr a haneswyr tu mewn a thu allan i'r Eglwys, ac, hefyd, yn gyfnod o frwydr boeth rhwng cefnogwyr yr hen ddulliau a'r dulliau newydd o drin yr Ysgrythyrau. Parhaodd y frwydr ymlaen i hanner olaf y ganrif, ac i'r un cyfnod y perthyn darganfyddiadau'r hynafieithwyr yn hen wledydd y Dwyrain, yr ymchwil i darddiad a natur crefyddau eraill (comparative religion), a syniad mawr gwyddoniaeth am ddatblygiad (evolution) fel egwyddor lywodraethol bywyd ymhob rhyw ffurf[27] Ac, fel y gwyddys, creodd yr awyrgylch newydd yma chwyldroad mawr yn syniad pobl am y Beibl. Rhoddwyd i'r byd wybodaeth lwyrach am iaith y Beibl a chefndir ei hanes, syniad newydd am ei darddiad a'i gynnwys, a ffordd newydd o feddwl am natur ei awdurdod a'i werth fel cronicl o ddatguddiad cynhyddol o Dduw ym mywyd dyn ac yn hanes y byd.
PENNOD XI
CHWYLDROAD A CHYFNEWID
PAN yn trafod yn y ddwy bennod flaenorol fudiadau fel y Dadeni a Gwyddoniaeth, defnyddiwyd geiriau fel gweddnewid a chwyldroad fwy nag unwaith, ac yn y bennod hon eto deuwn at ddigwyddiadau na ellir eu disgrifio'n gywir ond yn yr un ffordd. Yn wir, newidiodd y ddau a hawlia'n sylw'n awr gymaint ar fywyd a gwareiddiad Ewrop fel mai Chwyldroad yw'r enw cyffredin ar y naill a'r llall ohonynt hyd heddiw. Un yw Chwyldroad Diwydiant (industrial revolution) a adawodd ei ôl mor amlwg ar Ewrop yn weithfaol a chymdeithasol, a'r llall yw'r Chwyldroad Ffrengig y bu ei ddylanwad mor fawr ar fywyd gwleidyddol a chenedlaethol Ewrop. A rhyngddynt esbonia'r ddau symudiad mawr yma lawer iawn ar y ffurf a'r cyfeiriad a roddwyd i wareiddiad Ewrop yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bu'r eilfed ganrif ar bymtheg, fel y gwelwyd eisoes, yn un o feddwl ac o chwilio brwd, ac yn yr un ddilynol aethpwyd ati i gymhwyso darganfyddiadau'r gwyddonwyr at fywyd a gwaith beunyddiol dyn. Daeth dyfais ar ôl dyfais i wella'i gelfi a'i offer gwaith, i chwanegu at ei feistrolaeth ar alluoedd Natur ac at ei fedr i'w defnyddio fwyfwy yng ngwasanaeth ei beiriannau a'i ffactrioedd. Dyna wnaeth y chwyldroad diwydiannol yn bosibl o gwbl, ac felly nid yw'n amhriodol ystyried hwnnw'n un o ganlyniadau Gwyddoniaeth. Ac nid symlhau pethau'n ormodol fyddai ystyried y chwyldroad Ffrengig, ar un cyfrif, yn ganlyniad Beirniadaeth yr eilfed ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, oherwydd ni bu gwaith gwŷr fel Voltaire, Rousseau a Montesquieu heb ddwyn ffrwyth ym meddyliau eu cyfoeswyr. Gwawdiodd y cyntaf grefydd a gwleidyddiaeth Ffrainc yn ddidrugaredd, ac amddiffynnodd Rousseau hawliau'r werin a'r dyn cyffredin yn erbyn breintiau a thrais yr ychydig. Yn 1748 ymddangosodd llyfr pwysig Montesquieu ar Ysbryd Deddfau (L'Esprit des Lois) ac am hwnnw ysgrifenna awdur diweddar fel hyn: "it is the greatest work on politics since the time of Aristotle, and is the sanest guide to all statesmen and political thinkers—among other practical results the Constitution of the United States of America can be largely ascribed to the inspiration of Montesquieu."[28] Rhwng 1751 a 1772, hefyd, fe ymddangosodd yn Ffrainc Wyddoniadur (Encyclopædia), dan olygiaeth Diderot, a ledaenodd lawer iawn ar syniadau a baratodd y ffordd i'r chwyldroad gwleidyddol: ac nid rhyfedd, gan hynny, mai yn Ffrainc y cychwynnodd hwnnw. Prydain oedd ar y blaen yn y llall, a Lloegr, fel y dywed J. R. Green, oedd "gweithdy'r byd." Ei darganfyddwyr hi a ddyfeisodd y peiriannau cyntaf yr oedd yn ei daear, hefyd, ddigonedd o haearn a glo, ac yr oedd ei sefyllfa ddaearyddol a'i hin yn ffafriol i ddatblygiad cyflym yn hyn. A chan fod y chwyldroad gweithfaol ychydig yn gynharach na'r llall, priodol yw sôn amdano cyn troi at yr un gwleidyddol.
Mewn maes mor ddihysbydd â hwn rhaid bodloni unwaith eto ar nodi'n unig y ffeithiau pwysicaf o safbwynt datblygiad ein gwareiddiad heb geisio manylu ar yr hanes o flwyddyn i flwyddyn. Digon inni fydd enwi ambell ddyfais neu ddyddiad pwysig sydd megis cerrig milltir yn natblygiad cyfundrefn fasnachol Prydain ac Ewrop; a bydd cystal inni gychwyn tua chanol y ddeunawfed ganrif ag unrhyw adeg, oherwydd y pryd hwnnw fe ddechreuwyd defnyddio glo i doddi haearn a steel. Dibynnai'r datblygu diwydiannol o'r cychwyn ar gyflenwad rhad o haearn i wneuthur peiriannau, ac hefyd ar ddulliau cymhwysach, megis ffwrneisiau gwell, i'w drin. Ac ymhlith y peiriannau y pwysicaf o lawer yw'r ager-beiriant (steam-engine) a ddyfeisiodd James Watt yn 1765, ac a wellhawyd yn fawr ganddo cyn ei farw yn 1819. Ni ellir, y mae'n sicr, fesur dylanwad y ddyfais hon ar ddiwydiant a masnach Ewrop. Dyma rywbeth a wnâi nerth braich dyn cyn bo hir i raddau helaeth yn ddianghenraid, ac a chwanegai'n aruthrol at swm y gwaith a fedrai ei gyflawni, oherwydd gall un dyn heddiw gyda pheiriant hwylus at ei alwad wneuthur cymaint ag a wnâi dynion lawer gynt heb ddyfais Watt i'w helpu. Gwelwyd hyn ar unwaith mewn mwy nag un cyfeiriad, a gellir nodi'n fyr y ddwy enghraifft bwysicaf. Un oedd masnach cotton Lloegr: dulliau hen ffasiwn ac araf a lywodraethai honno cyn dyddiau Watt. Ond rhwng 1764 a 1776 dyfeisiodd Hargreaves, Arkwright a Crompton welliannau mawr ynglŷn â'r peiriannau i nyddu a gweu'r cotton (y spinning-jenny a'r spinning-mule), ac yn 1785 gweithiwyd ffactri â'r peiriannau hyn ynddi am y tro cyntaf gydag ager yn lle'r ceffylau neu'r olwyn ddwfr megis cynt.
Dyma, ynteu, gychwyn cyfundrefn y ffactri, y gyfundrefn honno a symudodd y gweithdy o'r cartrefi i'r adeiladau enfawr hyllion hynny a ddenodd bobl y wlad a'r trefi bychain wrth y miloedd iddynt, gan greu cyn bo hir lu mawr o broblemau dyrys yn gymdeithasol a gwleidyddol. Mewn cyfrol fanwl a gyhoeddwyd yn ddiweddar sonia Dr. Clapham am "the sudden rise of the factory system at the close of the XVIII century,"[29]. a chanlyniad gwaith y dyfeiswyr a ennwyd fu hynny i raddau mawr. Cododd mor sydyn a thyfodd mor gyflym fel y bu'n rhaid diwygio rhywfaint arni'n fuan iawn, a chymerth Robert Owen o'r Drefnewydd (1771-1858) ran flaenllaw iawn yn hyn, a delw ei syniadau ef sydd ar rai o Ddeddfau'r Ffactrioedd a basiwyd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arwain yr enghraifft nesaf ni at y ddyfais bwysig a gysylltir ag enw George Stephenson. Peiriant sefydlog yn ei unfan oedd un James Watt, ond erbyn 1814 perffeithiodd Stephenson ager—beiriant a allasai symud (locomotive) a thynnu llwyth ar ei ôl. At bwrpas gwaith yn y gweithfeydd glo y dyfeisiodd Stephenson y cyntaf o'r peiriannau hyn, ond ymhen deng mlynedd gwelwyd un yn tynnu trên o Stockton i Darlington (1825), ac erbyn 1830 agorwyd rheilffordd rhwng Manceinion a Lerpwl. Ychydig iawn o ddychymyg sydd ei eisiau eto i weled bwysiced oedd yr hyn a gychwynnodd mor ddistadl, ac nid yw'n rhyfedd i'w ddatblygiad fod mor gyflym. Fel llawforwyn y gweithfeydd glo a haearn y dechreuodd y rheilffyrdd, a chynhyddodd y naill gyda thyfiant y llall. Un o'r esiamplau gorau o hyn yw Deheudir Cymru yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y gweithfeydd oedd eisoes yno a ddug y rheilffyrdd i Forgannwg a Mynwy, a bu ei dyfodiad yn symbyliad mawr i'r fasnach lo a haearn. Rhwng 1836 a 1856 dyblodd nifer y tunelli o lo a gloddiwyd yn Neheudir Cymru, ac fel y chwanegid milltir at filltir o reilffyrdd, yr oedd angen mwy o haearn i wneuthur y ffyrdd hynny a mwy o lo wedyn i yrru'r peiriannau a chludo cyfoeth y gweithfeydd i bob rhan o'r wlad. A chludid y cyfoeth hwnnw cyn bo hir i bob rhan o'r byd, oherwydd dechreuwyd yn fuan yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddefnyddio ager ar y llongau a groesai'r moroedd, a symbylodd hynny lawer ar fasnach gyd-wladol y byd.
Gartref bu canlyniadau'r chwyldroad diwydiannol yn nodedig mewn amryw ffyrdd. Meddylier, er enghraifft, am ei effaith ar boblogaeth Prydain ac ar y cyfartaledd rhwng trigolion y wlad a'r dref. Dyma rai ffigyrau yn ôl ymchwil fanwl Dr. Clapham. Amcangyfrifir bod saith miliwn a chwarter o bobl yn byw ym Mhrydain yn 1750, ond erbyn 1831 dyblwyd y nifer (16 miliwn). Rhwng y cofrestru cyntaf (1801) a'r trydydd (1831) cynhyddodd poblogaeth Morgannwg 77% ac un Mynwy lawer iawn mwy na hynny (117%). Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y wlad a'r trefi bychain oedd cartref mwy na hanner trigolion Prydain ond, pan heidient i'r trefi mawr lle roedd y gweithfeydd a'r ffactrioedd, cynhyddai rheini'n aruthrol a gwachawyd llawer ar yr ardaloedd gwledig. Dyna, hefyd, a fu effaith Deddfau'r Cau'r Tir (Enclosures) o 1790 i 1810, a rhwng popeth newidiodd bywyd a gwareiddiad Prydain i raddau mawr iawn o fod yn un gwledig ac amaethyddol i fod yn un gweithfaol a threfol. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng Ffrainc a Lloegr yn hyn, ac erys felly hyd y dydd hwn mewn ystyr wirioneddol iawn.
Ynglŷn ag amodau ac amgylchiadau gwaith dan y gyfundrefn newydd bu llu o gyfnewidiadau pwysig. I enwi un ohonynt yn unig, cymerth merched eu lle yn finteioedd ymhlith gweithwyr cyflogedig y ffactrioedd, oherwydd gallasai merch wylio peiriant gystled â dyn, a merched oedd mwyafrif y 450,000 o weithwyr ffactrioedd Prydain yn 1831. Ac fel y datblygai'r system newydd, deuai'r rhaniad rhwng dau ddosbarth yn gliriach o hyd—y meistri a'r gweithwyr, cyfalaf a llafur. Dymunai'r ddau ddosbarth, yn naturiol ddigon, amddiffyn eu hawliau eu hunain ac arweiniodd hynny ymhen amser byr iawn i undebau o feistri ar un llaw ac o weithwyr ar y llall. Pwysleisiai'r meistri eu rhyddid perffaith i brynu yn y farchnad rataf a gwerthu yn y ddrutaf, a llyfr enwog Adam Smith ar Olud y Cenhedloedd (The Wealth of Nations, 1776) fu'n Feibl pennaf yr athrawiaeth hon yn eu golwg. Ac, er pob deddf a omeddai hynny iddynt hwythau, cyfarfyddai'r gweithwyr yn eu clybiau a'u hundebau. Yn fuan, hefyd, yr oedd ganddynt drwy eu pleidlais ryw ran yn llywodraeth y wlad, a chyhoeddasant eu syniadau priod am y ffordd orau i gario ymlaen fasnach a llywodraeth gwlad (sosialaeth).
Cynhyddodd cyfoeth y wlad yn ddirfawr yn y cyfnod hwn, ond gyda'r cyfoeth daeth tlodi ac anghysur mawr yn fynych i ran llawer. Hyn a'i gwnaeth yn anghenraid i'r llywodraeth ymyrryd fwy nag unwaith i sicrhau amodau mwy ffafriol i waith yn y ffactrioedd, ac i ustusiaid lleol orfod cyfrannu o'r trethi i chwanegu at gyflogau isel rhai gweithwyr. Tra cynhyddai golud rhai, syrthiai eraill i dlodi dyfnach o hyd, a'r oes a welodd sefydlu'r banciau a chwmnïau mawr yswiriant a welodd hefyd adeiladu slums a thlotai Prydain. Lloegr fu'n gyntaf i fedi cynhaeaf toreithiog y chwyldroad diwydiannol ac i wynebu rhai o'i broblemau mwyaf dyrys; ac mewn dulliau tebyg i'r rhai a ennwyd newidiodd hwnnw lawer iawn ar ffurf ac amodau allanol bywyd ei thrigolion, yn ogystal ag ar eu syniadau a'u rhaniadau yn wahanol ddosbarthiadau. Yn ddiweddarach effeithiodd yr un dylanwadau ar Ffrainc a'r Almaen gan drawsnewid llawer ar fywyd a gwareiddiad y gwledydd hynny. Ond cyn 1815 nid oedd gan Ffrainc nac ynni nac amser i ddiwygio llawer ar ffurfiau'i masnach a'i diwydiant, gan amled ei thrafferthion yn helynt a berw'r chwyldroad arall.
Un gwleidyddol a chenedlaethol oedd hwnnw, er na ddylid anghofio'i agweddau a'i ganlyniadau cymdeithasol, oherwydd buont yn amlwg iawn. A chyfrif mwy nag un rheswm am chwyldroad o'r fath yma yn Ffrainc yn hytrach nag yn un o wledydd eraill Ewrop yr adeg honno. Nid oedd cyflwr caethion y tir yn waeth, ysywaeth, yno nag ydoedd, dyweder, yn yr Almaen ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ond yr oedd anfodlonrwydd ac anniddigrwydd y bobl yn fwy. Gweithiodd lefain y syniadau newydd am ryddid a hawliau dyn yn gryfach yn Ffrainc nag yn y gwledydd eraill, ac ysigwyd llawer ar yr hen gyfundrefn oherwydd hynny. Bu'r adeg hefyd yn ffafriol i chwyldroad ar gyfrif dryswch ac annhrefn llywodraeth Ffrainc ar y pryd. Safai gogoniant Ffrainc yn uchel iawn yn Ewrop dan Louis XIV (1643-1717), ond ciliodd peth ohono dan ei olynydd, Louis XV (1717-74), ac erbyn dyddiau Louis XVI (1774-1793) syrthiasai Ffrainc i ddyled enbyd oherwydd costau rhyfeloedd aflwyddiannus a rhwysg a gwastraff y llys. Ni allasai peiriant mor amherffaith â chyfundrefn llywodraeth Ffrainc ddal ati'n hir heb dorri lawr yn llwyr. Mwy na hynny, teyrn anghyfrifol oedd brenin Ffrainc o'i gymharu, dyweder, â brenin Lloegr yr un adeg. Ef yn hytrach nag unrhyw senedd a benderfynai pa drethi i'w codi, ac ni roddid cyfrif i neb sut y gwerid yr arian. Am fwy na chanrif a hanner (1614-1789) ni chyfarfu'r hyn a alwem ni'n senedd o gwbl yn Ffrainc (etats-generaux), a gweithredai'r brenin y rhan amlaf yn ôl ei fympwy personol neu yn ôl cyfarwyddid ei gynghorwyr personol.
Pendefigion ei lys oedd y rheini, ac yn wahanol i farwniad Lloegr tua'r llys ac o amgylch y brenin y byddent yn barhaus, yn hytrach nag adref yn gweinyddu'r llywodraeth sirol neu leol. Gwaeth na hynny, rhyddhawyd hwynt a'r clerigwyr pennaf o lu o ddyletswyddau a threthi a fu'n faich llethol ar y rhelyw o'r boblogaeth. Rhwng popeth—annhrefn y llywodraeth, gallu diderfyn y teyrn, gormes y bendefigaeth a'r Eglwys, a chyflwr difrifol y werin—aethai pethau'n rhy bell i unrhyw ddiwygiad drwy gyfrwng deddf neu senedd fodloni Ffrainc, ac yn 1789 torrodd y chwyldroad allan. O safbwynt gwareiddiad Ewrop yr hyn a rydd bwysigrwydd iddo yw mai Ffrainc yn gyntaf ar y cyfandir a ysgubodd allan o'r ffordd rai drygau mawr a ddaeth i lawr o'r canol oesoedd, a hi osododd sylfeini newydd i fywyd gwleidyddol a chymdeithasol Ewrop. Gwyddai ambell wlad cyn hyn am chwyldroadau i newid un teyrn am un arall, ond nid dyna amcan Ffrainc yn awr, eithr yn hytrach newid ffurf y llywodraeth a threfn gymdeithasol y wlad. Fel y dywed un o haneswyr Ffrainc, yr oedd dau nod i'r chwyldroad—llywodraeth rydd a gwareiddiad mwy perffaith.[30]
Er mor ddiddorol fyddai dilyn yr hanes yn fanwl rhaid crynhoi hwnnw i le bach iawn, ac nid anghywir fyddai ei rannu'n dair pennod. Yn y dechrau bu'r chwyldroad yn un heb lawer o gynnwrf difrifol iawn. (1789-92), wedyn daw blynyddoedd yr annhrefn a'r dychryn mwyaf (1792-96), ac yna'r cyfnod pan y trodd y chwyldroad ei hun yn ormes ar Ewrop (1796-1815). I'r cyfnod cyntaf y perthyn y mesurau a ddiddymodd hawlfreintiau anghyfiawn y pendefigion a gallu dilyfethair y brenin. Nid yr amcan ar y cychwyn oedd gwneuthur i ffwrdd â'r frenhiniaeth a sefydlu gwerin-lywodraeth yn ei lle, eithr yn unig wneuthur y brenin, fel yn Lloegr, yn gyfrifol i'r senedd a rhoi llywodraeth gyfansoddiadol i Ffrainc. Dymunai cyfeillion rhyddid drwy'r byd yn dda i Ffrainc yn awr, a Mirabeau, un o'i phendefigion goleuedig, oedd arweinydd y bobl yn y cychwyn. Daeth y cyfnewidiadau'n gyflym y naill ar ôl y llall wedi'r chwyldroad dorri allan. Ym Mai, 1789, galwyd hen senedd Ffrainc ynghyd, ac yn fuan yr oedd y gallu yn nwylo'r bobl: yng Ngorffennaf rhyddhawyd carcharorion gwleidyddol a dinistriwyd hen garchar y Bastille: erbyn Awst diddymwyd caethwasiaeth y tir a chyhoeddwyd y Datganiad ar Hawliau Dyn: wedyn dadwaddolwyd yr Eglwys a feddiannai'r bumed ran o dir Ffrainc, a rhannwyd Ffrianc ei hun yn 83 o ranbarthau newyddion. Erbyn 1791 yr oedd Ffrainc dan gyfansoddiad gwleidyddol newydd a'r brenin yn llywodraethwr mewn enw'n fwy na dim arall.
Yn yr ail gyfnod cafodd Ffrainc werin-lywodraeth mewn enw ac mewn gwirionedd, oherwydd yn Ionawr, 1793, dienyddiwyd y brenin, a'r frenhines, Marie Antoinette, yn Hydref yr un flwyddyn. Âi'r pleidiau, fel y Jacobiaid a'r Girondiaid, yn fwy ffyrnig a gwaedlyd o fis i fis fel y cynhyddai'r diffyg undeb a'r eiddigedd rhyngddynt â'i gilydd, ac fel y dechreuid ymosod ar Ffrainc gan genhedloedd o'r tu allan. Dyma gyfnod Robespierre, Marat, Carnot, Danton a a Phwyllgor Diogelwch y Cyhoedd (Ebrill, 1793). Gwellhaodd pethau yn 1794, ac erbyn 1795 llwyddodd byddinoedd y chwyldroad i estyn terfynau Ffrainc unwaith eto hyd afon Rhein. Ond ciliodd y llwyddiant drachefn dan lywodraeth y pum Cyfarwyddwr (y Directoire 1795-99), a hynny a roddes i Napoleon ei gyfle. Gorchfygodd ef yr Austriaid gan gymryd Milan yn 1796, ac erbyn 1797 yr oedd gogledd yr Eidal yn eiddo Ffrainc. Yna wedi dychwelyd o'r Aifft, lle gorchfygodd Nelson ei lynges ym mrwydr Neil, cymerth Napoleon awenau llywodraeth Ffrainc i'w ddwylo ei hun (1799), gan ei alw'i hun yn Consul i gychwyn, ond erbyn 1804 aethai'r Consul yn Ymherodr. O hynny hyd Waterloo (1815), yr oedd Ffrainc dan ei law a dibynnai tynged canolbarth Ewrop arno. Goresgynnodd fyddinoedd yr Eidal, Spaen, Austria a'r Almaen. Bu Lloegr yn wrthwynebydd cyndyn iawn iddo a methiant oedd ei ymgyrch yn Rwsia (1812). Erbyn 1814 ffurfiodd teyrnasoedd Ewrop gynghrair yn ei erbyn a bu'n rhaid iddo ildio iddynt a bodloni ar fod yn frenin ynys Elba. Yn Hydref, 1814, ymgasglodd llywodraethwyr Ewrop i Vienna i drefnu terfynau a thynged y gwledydd a ryddhawyd o afael Napoleon. Clywsant yno ei fod wedi glanio drachefn yn Ffrainc (Dydd Gŵyl Dewi, 1815), ac erbyn Mehefin gorchfygwyd ef am y tro olaf yn Waterloo, ac alltudiwyd un o'r dynion galluocaf a pheryclaf a welodd y byd erioed i ynys unig St. Helena. Beth am effeithiau arhosol y chwyldroad a digwyddiadau cyffrous 1789-96? Gwnaethpwyd, yn ddiamau, ddigon o gamgymeriadau, tywalltwyd gwaed yn ddialw-amdano, ac aethpwyd i eithafion gwrthun yn aml. Enghraifft ddiniwed o hynny oedd newid y calendar1792 oedd y flwyddyn I—a bedyddio'r misoedd ag enwau newydd: ac enghraifft ffolach fu'r cais i ddiddymu'r grefydd Gristnogol drwy ddeddf a dyrchafu duwies Rheswm i'w lle. Ond wedi'r cyfan enillwyd llawer drwy'r helynt a'r dioddef. Symudwyd ymaith annhegwch oesoedd o lywodraethu anwerinol, a diddymwyd drygau mawr ffiwdaliaeth ynghyd â gormes y pendefig a thrais yr Eglwys. Rhoddwyd i Ffrainc lywodraeth gyfrifol, ac i'w phobl gyffredin safle gyfreithlon yng ngolwg y ddeddf: gosodwyd i lawr, hefyd, sylfeini addysg genedlaethol ac ad—drefnwyd bywyd cymdeithasol Ffrainc yn bur llwyr. Nid oedd y bobl mwyach heb lais yn llywodraeth eu gwlad, a syrthiai baich y trethi'n fwy cyfartal ar ysgwyddau'r gwahanol ddosbarthiadau. Nid geiriau gwag yn unig oedd delfrydau'r chwyldroad fel rhyddid, cyd—raddoldeb a brawdoliaeth. Sylweddolwyd eisoes ryw gymaint arnynt, ac nid cwbl ddigoel fu'r arwyddion y ceid ar ôl stormydd y chwyldroad lywodraeth fwy rhydd a gwareiddiad mwy perffaith yn Ffrainc.
Ac nid yno'n unig y teimlwyd effeithiau'r chwyldroad, oherwydd manteisiodd gwledydd Ewrop yn gyffredinol arno. Aeth ton fawr, megis, o awydd am ryddid a chais i'w sicrhau drostynt hwythau—rhyddid cymdeithasol, gwladol a chrefyddol.
Llawenhaodd amryw yn Lloegr oherwydd yr hyn a ddigwyddai yn Ffrainc—Wordsworth ymhlith y llenorion a Pitt ymhlith y gwleidyddwyr, a chododd y Cymro Dr. Richard Price ei lais yn gryf drosto, ac yn ateb iddo ef yr ysgrifennodd Burke mor ddiarbed yn erbyn y chwyldroad (1790). Yn wir, dysgasai Lloegr gryn lawer ar Voltaire a Montesquieu gynt, a dyrchafent hwy ac eraill y wlad hon a'i sefydliadau rhyddion fel esiamplau i Ffrainc eu hefelychu. Ysbrydolodd yr Unol Daleithiau, hefyd, gyda'u cydraddoldeb a'u rhyddid hwythau lawer ar arweinwyr Ffrainc. Cyn hyn rhoddasai Ffrainc help i'r America yn ei brwydr am ei hannibyniaeth yn erbyn Lloegr (1775-82), ac o Ddatganiad Annibyniaeth (1776) yr America y cafodd Ffrainc lawer iawn o syniadau ac erthyglau ei Datganiad ei hun ar Hawliau Dyn. Ac er mai Lloegr a wrthwynebodd Napoleon bennaf, y mae'n rhaid cydnabod iddo yntau wneuthur gwasanaeth mawr i'w wlad drwy symlhau ei deddfau a gosod cyfundrefn ei haddysg a'i llywodraeth ar sylfeini llawer gwell na chynt.[31] Y mae'n wir, hefyd, i syniadau'r chwyldroad Ffrengig gael daear ffafriol iawn i'w tyfiant mewn aml gylch yn Lloegr, a gellid dywedyd yr un peth am Gymru, fel y dengys gweithiau Morgan John Rhys a Jac Glan y Gors. Yn y Deheudir yn enwedig, rhwng effeithiau'r chwyldroad diwydiannol a syniadau'r chwyldroad yn Ffrainc, daeth newid mawr dros feddwl a bywyd ei thrigolion ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
PENNOD XII
BETH SYDD YMLAEN?
Ni fwriedir delio'n fanwl â symudiadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac nid rhaid gwneuthur hynny mewn llyfr bychan ar hanes gwareiddiad. Un rheswm am hynny yw mai'r hyn a welir yn bennaf yn y ganrif honno yw tyfiant llawnach y dylanwadau a gychwynnodd ar eu gwaith cyn hynny. Canrif y peiriannau, er enghraifft, a chyfundrefnu llawer ar goncwest dyn ar alluoedd Natur yw'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hawdd y gallai dyn cyn ei diwedd symud yn gyflym o un rhan o'r byd i'r llall, ac aethai'r byd yn lle llawer llai nag erioed o'r blaen, a'r Dwyrain yn nes lawer i'r Gorllewin na chynt. Y mae pob un ohonom, hefyd, yn ddigon agos i ddigwyddiadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg inni fedru synio'n weddol glir o leiaf am eu cwrs a'u dylanwad, ac nid oes, ysywaeth, brinder defnyddiau wrth law i'n helpu yn hyn. Canrif brysur, egnïol, yn hanes dyn a fu'r bedwaredd ar bymtheg: casglodd lawer o wybodaeth, ac, hefyd, o drysor a chyfoeth o bob rhan o'r byd, a chludodd yntau ei wareiddiad i bellderoedd y ddaear yr un pryd. A gwelodd y ganrif gyfnewidiadau pwysig yn wleidyddol a chymdeithasol ym mywyd y Gorllewin, ond rhaid mynd yn ôl ymhellach na hynny i gael esboniad arnynt.
Unwaith eto tyfodd y teimlad cenedlaethol, er enghraifft, mewn mwy nag un wlad, ac esiampl glir o hynny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Eidal. Wedi ymdrechion Cavour, Mazzini a Garibaldi, sylweddolodd yr Eidal ei hundeb a'i hannibyniaeth: ymlidiwyd yr Austriaid o Venice, rhoddwyd pen ar allu tymhorol y Pab, a chyhoeddwyd Victor Emmanuel yn frenin yr Eidal unedig (1870). Yr ochr arall i'r môr cadwodd athrylith a phenderfyniad Abraham Lincoln ddwy ran yr Unol Daleithiau rhag ymwahanu oddiwrth ei gilydd, er mai'r rhyfel gartrefol (1861-65) a fu'r pris a dalwyd i sicrhau hynny. Yn y ganrif hon, hefyd, estynnwyd llawer ar hawliau'r gwerinoedd yn llywodraeth eu gwlad, ac un o'r esiamplau gorau o hynny yw deddfau Prydain i sicrhau cynrychiolaeth decach yn y senedd (y reform bills) a thyfiant llywodraeth leol yn y siroedd. Ochr yn ochr â hyn cynhyddai cyfleusterau addysg, cryfhai cydweithredu rhwng dynion â'i gilydd yn gymdeithasol, a cheisiodd Cristnogion ledaenu llawer ar eu crefydd drwy wledydd y byd.
O'r ochr arall, ni ellir anghofio bwysiced a fu'r rhan a chwaraeodd rhyfel ym mywyd Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sylfaenwyd mwy nag un o deyrnasoedd Ewrop ar fuddugoliaethau milwrol cyn hyn, ac enghraifft dda o'r un peth oedd Prussia yn hanner olaf y ganrif dan sylw. Y cam cyntaf oedd ei choncwest ar Austria yn 1866 a chymryd rhai o daleithiau'r Gogledd fel Schleswig a Holstein, a'r cam olaf oedd y rhyfel yn erbyn Ffrainc (1870) a chyhoeddi William, brenin Prussia, yn ymherodr yr Almaen (1871). Ond, unwaith eto, cododd mudiad i wrthwynebu rhyfel fel dull o setlo cwerylon gwledydd, ac ynglŷn â hyn perthyn llawer o'r clod i Henry Richard, apostol Heddwch (1812-88). Ei brif waith ef fu annog gwledydd Ewrop i fabwysiadu cyflafareddiad yn hytrach na rhyfel setlo'u gwahaniaethau. Ymhen cenhedlaeth wedyn sylweddolwyd mwy ar ei ddelfrydau yng nghyfamod Cynghrair y Cenhedloedd sy'n rhan o'r Heddwch (1919) y cytunwyd arno ar derfyn y Rhyfel Mawr (1914-18).
Wrth fwrw golwg dros symudiadau meddwl a bywyd dyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r rhai o'i blaen, cyfyd un cwestiwn yn barhaus i feddwl pobl a gofynnir ef heddiw mor eiddgar a phryderus ag erioed. Wedi'r holl gyfnewid a datblygu a gwareiddio, a yw'r byd mewn gwirionedd yn well neu, ynteu, ai gwaethygu y mae, neu o leiaf yn aros yn ei unfan? Dull arferol dyn o fynegi ei benbleth a'i betrusder ar y mater y dyddiau yma yw hwn: ar derfyn oesoedd o gynnydd a gwareiddiad, wele'r rhyfel mwyaf ofnadwy yn hanes y byd, a dywedir bod gwyddoniaeth eisoes wrthi'n dyfeisio creulonderau mwy dychrynllyd ac arfau mwy dinistriol fyth ar gyfer y rhyfel nesaf. Ymddengys fel petai gwareiddiad unwaith eto ar groesffordd, a bod ei lwyddiant a'i gynnydd eithriadol wedi cynhyrchu dylanwadau sy'n brysur yn ei wenwyno. "The secrets of nature," medd y Deon Inge, "have been penetrated, and its forces, one after another have been harnessed to a car of Juggernaut, which seems now to be crushing its own victims." Faint bynnag o wir sydd yn hyn, y mae'n amlwg ddigon nad rhywbeth a ddaw wrth ei bwysau, heb na nod nac ymdrech, yw cynnydd gwirioneddol. Deil yr hen frwydr rhwng y da a'r drwg, rhwng y pethau a ddiogela wareiddiad ac a'i dinistria, ac mewn cyfnod fel hwn awgryma pob argoel mai parhau a wna'r frwydr. Ond cyhyd ag yr erys rhai a gred na orchfygir y dylanwadau a ddyrchafa ac a ddiogela wareiddiad, nid disail y gobaith ynglŷn â chynnydd y byd.
Nid pawb a gredodd fod cynnydd yn ffaith neu'n rheol bywyd dyn yn y byd. Syniad hollol wahanol a geid yn rhai o grefyddau a systemau athronyddol yr hen fyd. Dysgai'r Groegwr mai'n ôl yr oedd yr oes euraidd a gofidiai'r bardd Hesiod mai dyddiau dirywiad yr oes haearn oedd ei gyfnod ef. Yn ôl rhai o'r Stoiciaid nid oedd y byd nac yn gwellhau na'n gwaethygu: dal yn ei unfan yr oedd, neu'n fwy cywir, troi mewn cylch byth a hefyd a wna—dechreua'n awr yn y fan yma a daw'n ôl i'r un fan i gychwyn eilwaith ar yr un daith eto. Ar y llaw arall, dysgai crefydd Soroaster cyn dyddiau Crist fod brwydr rhwng dau allu, ac mai'r diwedd fydd i'r da lwyr orchfygu'r drwg. Cyffelyb, hefyd, fu cred yr Iddewon, ac edrychent hwythau ymlaen at ddyfodol disglair dan lywodraeth uniongyrchol brenin dwyfol wedi dioddefiadau eu hoes eu hunain. Y gobaith hwnnw oedd wrth wraidd y syniad Cristnogol am deyrnas Dduw yn y byd, ac ni fedrir coledd hwnnw yn ei ffurf Gristnogol, onid yw cynnydd nid yn unig yn bosibl ond hefyd yn debygol.[32] Bu'r cyfryw gred mewn cynnydd yn rhan o ffydd y Gorllewin am ganrifoedd, er na ddarfu'n llwyr am syniad arall, sef, fod y byd presennol yn rhy ddrwg i barhau ac y cymerid ei le yn gynt neu'n hwyrach gan nef newydd a daear newydd. Tu allan i'r Eglwys, hefyd, ni bu prinder dynion a gredai mewn cynnydd fel un o egwyddorion a rheolau amlycaf bywyd: datganai rhai o arweinwyr y deffroad yn Ffrainc yn y ddeunawfed ganrif y perffeithid dyn heb os nac onibai, a honnai Herbert Spencer yn ddiweddarach nad damwain yw cynnydd eithr yn hytrach anghenraid.
Ond yn ddiweddar bu cryn feirniadu ar y syniad. Sonia'r awdur a ddyfynnwyd eisoes am "the superstition of progress," ac ni chred ef mewn cynnydd difeth a didroi'n ôl, eithr mewn rhyw drai a llanw yn hanes y byd yn gyffredinol, gyda phosibilrwydd cynnydd ym mywyd y dyn unigol yr un pryd, er mor anodd yw'r llwybr hyd yn oed iddo yntau.[33] Ac yn ei lyfr diweddaraf, Science and Human Progress, rhybuddia Syr Oliver Lodge ni y dylid gwahaniaethu rhwng datblygiad materol neu allanol a chynnydd gwirioneddol dyn: dylai'r naill wasanaethu'r llall, eithr ni wna hynny'n ddieithriad neu o angenrheidrwydd. Cyffelyb, hefyd, yw tystiolaeth yr Athro A. N. Whitehead y mae'n glir, meddai, fod enillion a chynnydd materol yn gyfle i welliannau cymdeithasol, ond ynddo'i hun y mae gallu materol yn foesol ddiduedd (ethically neutral), a'r broblem bwysig, yn ei syniad ef, yw nid sut i gynhyrchu dynion mawr, eithr sut i roi bod i gymdeithasau teilwng o ddynion.
Onid yw'n ddigon amlwg oddiwrth ystyriaethau fel hyn a sylwadaeth bersonol pob dyn fod dau fath ar gynnydd y naill mewn pethau allanol ac amgylchedd bywyd, a'r llall yn natblygiad meddwl a chymeriad y dyn ei hun? Wrth gwrs, y mae cysylltiad yn aml rhwng y ddau a dylanwada'r naill yn barhaus ar y llall. Yn y llyfr hwn, gan mai hanes treigliad gwareiddiad o oes i oes oedd y pwnc, ymdriniwyd bennaf â'r digwyddiadau a'r mudiadau hynny a effeithiodd fwyaf ar fywyd allanol dyn eithr heb anwybyddu, fe obeithir, y rhai eraill sydd yr un mor bwysig ac a ddylanwadodd arno'n fwy uniongyrchol ac yn nes i mewn, megis, yn ei fywyd. Ni ellir pwysleisio gormod ar effaith y rheini. Pwy sydd yna, er enghraifft, na wêl mor hanfodol yw addysg i ddatblygiad gwareiddiad teilwng o'r enw? Cyflafan fawr y chwyldroad diwydiannol ym Mhrydain fu na ddaeth diwygiad addysgol yr un pryd. Tra cafwyd dyfais ar ôl dyfais i gyfnewid holl amgylchiadau ac amodau gwaith dyn tua diwedd y ddeunawfed ganrif, bu'n rhaid aros tan 1870 am ddeddf a wnai addysg yn gyffredinol yn ein gwlad. A dyfnha'r angen am fwy a gwell addysg, fel y datblyga adnoddau allanol gwlad. Hynny'n unig a'n galluoga i'w defnyddio'n iawn ac i wybod beth sy'n hanfodol i wir gynnydd a pheth nad yw.
Ychydig bethau sy'n bwysicach na syniad gweddol glir parthed y nod y cais ein gwareiddiad ymgyrraedd ato. Nid oes neb a wad i ddyn drwy'r oesoedd chwanegu'n ddirfawr at ei wybodaeth a'i brofiad a'i gyfoeth. A fu'r canlyniadau'n werth yr ymdrech? Trueni fyddai i ddyn gynhyddu yn ei goncwest ar Natur a'r galluoedd materol o'i gwmpas ac i'w wybodaeth o'r da a'r gwir a'r prydferth a'i fwynhad ynddynt wanhau'r un pryd. Yn y pen draw bargen sâl ac un ddrud iawn yw i ddyn neu oes ennill yr holl fyd a cholli ei enaid ei hun. Bu hyn yn argyhoeddiad dynion ar hyd y canrifoedd, a theg yw cofio ei fod felly heddiw i lawer iawn. Nid at amcanion dinistriol, er enghraifft, y cymhwyswyd fwyaf hyd yn hyn ar ddarganfyddiadau'r gwyddonwyr. Os gwnaethpwyd rhyfel yn beth mwy echrydus nag erioed, symudwyd hefyd rai heintiau'n llwyr o'r byd, trowyd gwledydd cyfain yn gartrefi iach i ddynion a chwanegwyd llawer at gyfle dyn i wasanaethu ei gyd-ddyn. Yn y blynyddoedd diweddaf cryfhaodd gwrthdystiad dyn yn erbyn halogi ei wybodaeth a'i adnoddau i hyrwyddo amcanion dinistriol, a'r un pryd tyfodd syniadau teilyngach am ystyr cenedlaetholdeb ac am undeb gwirioneddol rhwng dynion â'i gilydd sy'n ddyfnach na'u rhaniadau'n ddosbarthiadau a chenhedloedd.
Ar wahan, ynteu, i sylfaen ac amcan teilwng i'n cynnydd, ofer ein gwareiddio ac hyd yn oed ein cydweithredu, oherwydd gall dynion gynghreirio â'i gilydd mewn drygioni. Wedi'r cyfan i gyd, ys dywed Sir Oliver Lodge, "the most essential instruments of progress are the old historic human virtues of good will and co—operation." Ac wrth drafod cwestiwn cyffelyb dywed awdur arall fod gwareiddiad ei hun yn gynnyrch tri dylanwad—meddwl, ynni, ac ewyllys da—ac heb yr olaf, heb ddymuniad am ddaioni i'w rheoli, bu'r ddau arall lawer tro yn felldith yn hytrach na bendith i'r byd.[34] Heb ryw gymaint o ewyllys da a chydweithrediad yn unol ag ef, y mae cynnydd yn gwbl amhosibl mewn masnach, mewn gwyddoniaeth ac mewn llu o gyfeiriadau eraill. A lle bynnag y ceir hwynt yn eu nerth, cynhydda gwareiddiad yn ddirfawr, a pherffeithir ef fwyfwy. Heb gyd-weithredu ac ewyllys da ni cheir heddwch rhwng dosbarthiadau o fewn terfynau un wlad, ni bydd grym na gwerth mewn cynghrair ymhlith cenhedloedd, ac ni sylweddolir teyrnas Dduw ar y ddaear.
ATODIAD I.
AMSERYDDIAETH
NODIADAU. i. Dynoda c (llythyren gyntaf y gair Lladin circa-oddeutu, tua) na ellir bod yn sicr i'r flwyddyn fod dyddiad neilltuol yn gywir.
ii. Fel rheol blynyddoedd teyrnasiad brenin neu weinidogaeth proffwyd neu bab a roddir ac nid dyddiad eu geni a'u marw.
iii. c.c.=Cyn Crist. o.c.=Oed Crist.
Dechreuad gwareiddiad hanesyddol | c. 4000 c.c. |
Uno'r Aifft dan Menes. | 3400 c.c. |
Oes y Pyramidiau. | 3000-2500 c.c. |
Llongau'r Aifft yn croesi'r Môr Canoldir | c. 3000 c.c. |
Uno Babilonia dan Sargon o Acad. | c. 2773 c.c. |
Hammurapi (? cyfoeswr Abraham). | 2067-2025 c.c. |
Gwareiddiad uchel yng Nghreta | c. 2000 c.c. |
Thutmose III, "Napoleon yr Aifft" | 1500-1447 c.c. |
Gwareiddiad cynharaf Groeg (Tiryns a Mycenae) | c. 1500 c.c. |
Amenhotep IV, diwygiwr crefydd yr Aifft | c. 1375 c.c. |
Tutenkhamon | c. 1350 c.c. |
Ramses II (? Pharo'r Gorthrwm) | 1275-25 c.c. |
Yr Ecsodus | c. 1200 c.c. |
Rhyfel Caerdroia | c. 1200 c.c. |
Sefydlu'r frenhiniaeth dan Saul | 1030 c.c. |
Rhannu'r frenhiniaeth wedi marw Solomon | 937 c.c. |
Y Caneuon Homeraidd. | c. 800 c.c. |
Sylfaenu Dinas Rhufain | 753 c.c. |
Proffwydi'r wythfed ganrif (Amos, Hosea, Eseia) | 750-690 c.c. |
Asyria'n goresgyn Israel a chwymp Samaria | 722 c.c. |
Proffwydi'r seithfed ganrif a'r gaethglud (Jeremeia Eseciel, II Eseia) | 650-538 c.c. |
Thales. | 640-550 c.c. |
Brwydr Megido (yr Aifft yn gorchfygu Juda) | 608 c.c. |
Brwydr Carchemis (Babilonia'n gorchfygu'r Aifft) | 605 c.c. |
Aesop . | c. 600 c.c. |
Oes Euraidd Athen | 600-400 c.c. |
Babilonia'n goresgyn Juda a chwymp Caersalem | 586 c.c. |
Persia dan Cyrus yn concro Babilonia a diwedd y gaethglud | 538 c.c. |
Sefydlu gwerin-lywodraeth Rhufain | c. 500 c.c. |
Canrif athrylith Athen: oes Pericles, Sophocles, Thucydides, Phidias, Socrates, Democritus, etc. | 500-400 c.c.
|
Brwydrau Marathon, Thermopylae a Salamis | 490-480 c.c. |
Plato | 427-347 c.c. |
Arch-offeiriaid yn arweinwyr yr Iddewon | c. 400 c.c. |
Aristotl | 384-322 c.c. |
Llyfr Job | c. 350 c.c. |
Buddugoliaethau Alecsander Fawr | 336-23 c.c. |
Euclid. | c. 300 c.c. |
Archimedes | 287-12 c.c. |
Rhufain yn rheoli'r Eidal | 275 c.c. |
Dechrau cyfieithu'r Hen Destament i Roeg | c. 250 c.c. |
Rhufain yn feistres y Môr Canoldir | 200 c.c. |
Gwrthryfel y Maccabeaid | 168-5 c.c. |
Cwblhau Llyfr y Salmau | c. 150 c.c. |
Julius Caesar | 102-44 c.c. |
Vergil | 70-19 c.c. |
Pompeius yn gorchfygu Caersalem | 63 c.c. |
Augustus Caesar yn ymherodr | 31 c.c.-14 o.c. |
Iesu Grist | 6 c.c.-29 o.c. |
Marw Paul yn nheyrnasiad Nero | 64 o.c. |
Yr Efengyl gyntaf (Marc) | c. 70 o.c. |
Dinistr Caersalem. | 70 o.c. |
Marcus Aurelius | 161-80 o.c. |
Barbariaid yn dylifo i'r ymerodraeth | 250-450 o.c. |
Diocletian | 284-305 o.c. |
Cystenyn | 312-337 o.c. |
Cyngor Nicaea | 325 o.c. |
Sylfaenu Caercystenyn "Rhufain Newydd" | 328 o.c. |
Sant Austin o Hippo | 354-430 o.c. |
Julian. | 361-3 o.c. |
Theodosius | 379-95 o.c. |
Gothiaid dan Alaric yn cymryd Rhufain | 410 o.c. |
Vandaliaid yn goresgyn Rhufain | 455 o.c. |
Diwedd ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin | 476 o.c. |
Benedict, sylfaenydd y Myneich Duon | 480-544 o.c. |
Yr Oesoedd Tywyll | 500-1000 o.c. |
Justinian | 527-65 o.c. |
Mahomet | 570-632 o.c. |
Gregory Fawr | 590-604 o.c. |
Cenhadaeth Austin ym Mhrydain | 596-605 o.c. |
Marw Dewi Sant | c. 601 o.c. |
Marw Offa, brenin Mercia (canolbarth Lloegr) | 758 o.c. |
Siarlmaen | 771-814 o.c. |
Cenhedloedd y Gogledd yn symud | 800-1000 o.c. |
Daniaid yn goresgyn Lloegr | 867-878 o.c |
Alfred Fawr. | 871-901 o.c. |
Anselm, archesgob Caergaint. | 1033-1109 o.c. |
William y Norman yn frenin Lloegr | 1066-87 o.c. |
Hildebrand (Gregory VII) | 1073-85 o.c.
|
Bernard y Cisterciad | 1091-1153 o.c. |
Y Groesgad gyntaf a chymryd Caersalem | 1095-99 o.c. |
Sefydlu Prifysgol Rhydychen | c. 1167 o.c. |
Dominic, sylfaenydd y Brodyr Duon | 1170-1221 o.c. |
Francis o Assisi, sylfaenydd y Brodyr Llwydion | 1182-1226 o.c. |
Y Drydedd Groesgad (Richard I) | 1189-99 o.c. |
Roger Bacon | 1214-92 o.c. |
Dante. | 1265-1321 o.c.. |
Marw Llywelyn ein Llyw Olaf | 1282 o.c. |
Hanes Teithiau Marco Polo | 1295 o.c. |
Blynyddoedd Alltud y Babaeth | 1307-76 o.c. |
Owain Glyndwr | 1359-1416 o.c. |
Blynyddoedd y Babaeth ranedig | 1376-1417 o.c. |
Dafydd ap Gwilym | c. 1400 o.c. |
Jeanne D'Arc | 1412-31 o.c. |
Rhys ap Thomas, arwr y De | 1449-1525 o.c. |
Eisteddfod Caerfyrddin . | 1451 o.c. |
Leonardo da Vinci | 1452-1519 o.c. |
Tyrciaid yn cymryd Caercystenyn | 1453 o.c. |
Beibl argraffedig Gutenberg | 1455 o.c. |
Copernicus | 1473-1543 o.c. |
Michael Angelo | 1475-1564 o.c. |
Raphael | 1483-1520 o.c. |
Mordeithiau Diaz, Vasco di Gama, Columbus | 1486-1522 o.c. |
Ignatius, Loyola, sylfaenydd Urdd y Jesuitiaid. | 1491-1556 o.c. |
Harri'r Wythfed | 1509-47 o.c. |
John Calvin. | 1509-64 o.c. |
Testament Newydd Groeg Erasmus | 1516 o.c. |
Dechrau'r Diwygiad Protestannaidd dan Luther | 1517 o.c. |
Cyngor Trent | 1545-63 o.c. |
Heddwch Augsburg yn cyfreithloni'r Diwygiad | 1555 o.c. |
Elisabeth | 1558-1603 o.c. |
John Penri | 1559-93 o.c. |
Francis Bacon | 1561-1626 o.c. |
Shakespeare | 1564-1616 o.c. |
Galileo. | 1564-1642 o.c. |
Sefydlu Coleg yr Iesu, Rhydychen | 1571 o.c. |
Rubens | 1577-1640 o.c. |
Descartes | 1596-1650 o.c. |
Velasquez | 1599-1660 o.c. |
Rembrandt | 1606-69 o.c.. |
Milton. | 1608-74 o.c. |
Morgan Llwyd o Wynedd | 1619-59 o.c. |
Moliere | 1622-73 o.c. |
George Fox | 1624-90 o.c. |
John Newton | 1642-1727 o.c. |
Sefydlu'r Royal Society | 1660 o.c. |
Griffith Jones Llanddowror | 1683-1761 o.c.
|
J. Sebastian Bach. | 1685-1750 o.c. |
G. F. Handel | 1685-1759 o.c. |
Montesquieu. | 1689-1755 o.c. |
Voltaire | 1694-1778 o.c. |
John Wesley | 1703-91 o.c. |
Rousseau | 1712-78 o.c. |
Richard Price | 1723-91 o.c. |
Immanuel Kant | 1724-1804 o.c. |
Frederick Fawr, brenin Prussia | 1740-86 o.c. |
Lavoisier | 1743-94 o.c. |
Goethe | 1749-1832 o.c. |
Thomas Charles | 1755-1814 o.c. |
Dyfeisio peiriannau'r fasnach cotton. | 1764-76 o.c. |
Ager-beiriant James Watt | 1765 o.c. |
Jac Glan y Gors (Seren dan Gwmwl) | 1767-1821 o.c. |
Beethoven . | 1770-1827 o.c. |
Robert Owen o'r Drefnewydd | 1771-1858 o.c. |
Y Chwyldroad Ffrengig | 1789-96 o.c. |
Napoleon yn rheolwr Ffrainc ac Ewrop. | 1796-1815 o.c. |
Abraham Lincoln. | 1809-65 o.c. |
Charles Darwin | 1809-82 o.c. |
Henry Richard | 1812-88 o.c. |
David Livingstone | 1813-73 o.c. |
Peiriant Geo. Stephenson | 1814 o.c. |
Rheilffordd gyntaf Prydain | 1825 o.c. |
Rhyfel Gartrefol yr America | 1861-65 o.c. |
Uno'r Eidal dan Victor Emmanuel. | 1870 o.c. |
Sefydlu Ymerodraeth yr Almaen. | 1871 o.c. |
Agor Coleg Cenedlaethol Cymru (Aberystwyth) | 1872 o.c. |
Deddf yr Ysgolion Canol Cymreig. | 1889 o.c. |
Siarter Prifysgol Cymru | 1893 o.c. |
Cynhadledd gyntaf yr Hague | 1899 o.c. |
Rhoi senedd (y Duma) i Russia | 1907 o.c. |
Y Rhyfel Mawr | 1914-18 o.c. |
Heddwch Versailles a sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd | 1919 o.c. |
ATODIAD II.
AM LYFRAU
A. i. Y llyfr gorau heb fod yn un maith ar yr holl faes yw The Living Past (F. S. Marvin). Ceir manylion yr hanes yn llawnach mewn dau lyfr mwy a gyhoeddwyd y llynedd—The Conquest of Civilization (J. H. Breasted) a The Ordeal of Civilization (J. H. Robinson). Bu'r llyfrau hyn wrth fy mhenelin o hyd—y cyntaf oherwydd ei amlinelliad meistrolgar a'i awgrym— iadau gwerthfawr, a'r ddau arall oherwydd eu hadroddiad llawn a diddorol o gwrs yr hanes. Llyfr haws a byrrach nag un Marvin yw A Brief History of Civilization (J. S. Hoyland), a chwanega'r darluniau ynddo at ei werth.
ii. Y gyfres orau am lawlyfrau ar adrannau neilltuol o'r maes yw'r Home University Library. Enwir nifer ohonynt isod.
iii. Ni ddylid esgeuluso'r Beibl a hen glasuron llên y gwahanol genhedloedd, na llyfrau diweddar fel An Outline of History (H. G. Wells), A History of Mankind (H. van Loon) a'r Outline of Christianity (A. S. Peake and R. G. Parsons). Yng nghyfres yr Everyman's Library ceir cyfieithiadau hwylus o glasuron Groeg a Rhufain.
B. Gellir nodi'r llyfrau canlynol fel rhai defnyddiol iawn ar bynciau gwahanol benodau'r llyfr hwn.
PENNOD I.
A. M. Conklin, The Direction of Human Evolution;
D. Miall Edwards, Crist a Gwareiddiad, pen. i—ii;
E. Huntingdon, The Character of Races;
T. H. Huxley, Man's Place in Nature.
PENNOD II.
M. C. Burkitt, Our Forerunners;
G. K. Chesterton, The Everlasting Man;
H. J. Fleure (golygydd), Gyda'r Wawr;
G. Hartwell Jones, The Dawn of European Civilization;
R. Mortimer Wheeler, Pre—Historic and Roman Wales.
PENNOD III.
J. H. Breasted, The Conquest of Civilization, pen. ii—vii;
C. F. Kent, The Historical Bible, cyfrol I;
Geiriadur Beiblaidd yr erthyglau ar
Yr Aifft (D. Cunllo Davies)
a Babilonia (T. Witton Davies);
J. L. Myers, The Dawn of History;
W. J. Perry, The Growth of Civilization.
PENNOD IV.
Gwili, Llin ar Lin;
C. F. Kent, A History of the Hebrew People;
C. G. Montefiore, The Old Testament and After;
A. Nairne, The Faith of the Old Testament;
A. S. Peake (golygydd), The People and the Book;
D. Francis Roberts, Hanes yr Hebreaid.
PENNOD V.
J. B. Bury, A History of Greece;
S. H. Butcher,
Some Aspects of the Greek Genius;
R. W. Livingstone (golygydd), The Legacy of Greece;
Gilbert Murray, Euripides and his age;
R. Llugwy Owen, Hanes Athroniaeth y Groegiaid.
PENNOD VI.
C. Bailey (golygydd), The Legacy of Rome;
J. B. Bury, The Students' Roman Empire;
W. Warde
Fowler, The City State of the Greeks and Romans;
E. G. Hardy, Studies in Roman History;
J. Owen Jones, O Lygad y Ffynnon.
PENNOD VII. S. Angus, The Environment of Early Christianity;
J. V. Bartlet and A. J. Carlyle, Christianity in History;
D. Emrys Evans, Amserau'r Testament Newydd;
P. Gardner, The Growth of Christianity;
Geiriadur Beiblaidd—yr erthyglau ar Iesu Grist (David Williams),
ac ar Paul (J. Morgan Jones).
PENNOD VIII.
C. G. Crump and E. F. Jacob (golygyddion), The Legacy of the Middle Ages;
H. W. C. Davis, Mediaeval Europe;
G. Bernard Shaw, St. Joan;
T. F. Tout, The Empire and the Papacy;
D. D. Williams, Addysg Cymru yn y Canol Oesoedd;
W. Llywelyn Williams (golygydd), The Itinerary and Description of Wales
by Giraldus Cambrensis.
PENNOD IX.
O. M. Edwards, Tro yn yr Eidal;
W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru 1540—1660;
T. M. Lindsay, The Protestant Reformation;
Martin Luther, Traethodau'r Diwygiad (cyfieithiad J. Morgan Jones);
Walter Pater, The Renaissance;
Edith Sichel, The Renaissance.
PENNOD X.
J. B. Bury, A History of the Freedom of Thought;
Rene Descartes, Traethawd ar Drefn Wyddonol (cyfieithiad D. Miall Edwards);
J. Needham, Science, Religion and Reality;
Gwilym Owen, Curr y Llen;
J. A. Thomson, Introduction to Science;
A. N. Whitehead, Science and the Modern World.
PENNOD XI.
T. Carlyle, The French Revolution;
J. H. Clapham, An Economic History of Modern Britain, cyfrol I;
Gweithiau Jac Glanygors;
D. H. Macgregor, The Evolution of Industry;
R. B. Mowat, Europe and the Modern World.
PENNOD XII.
Ernest Barker, National Character;
B. Bosanquet, The Civilization of Christendom;
W. R. Inge, Outspoken Essays, cyfrol II
(The Dilemma of Civilization a Progress);
Justin McCarthy, A Short History of our own Times;
Oliver Lodge, Science and Human Progress.
Gwelir oddiwrth y rhestrau uchod gymaint yw'r angen am lyfrau Cymraeg ar bynciau'r llyfr hwn. Y mae'n llenyddiaeth, yn ôl un awdurdod yr ymgynghorais ag ef, yn "warthus o wallus yn y meysydd yma."

Nodiadau
[golygu]- ↑ F. S. Marvin, The Living Past, tt. 4—5. 2
- ↑ Yn ei draethawd ar "Courage."
- ↑ The Everlasting Man, t. 63.
- ↑ 4.0 4.1 O'r Groeg palaios=hen a lithos=carreg, a neos=newydd.
- ↑ Gyda'r Wawr, t. 75.
- ↑ J. H. Breasted, The Conquest of Civilization, tt. 81-2: dilynir dyddiadau Breasted drwy'r bennod hon.
- ↑ The Dawn of History, t. 54.
- ↑ Gweler Y Beibl a'i Gefndir, pen. iv-vi am ymdriniaeth lawnach.
- ↑ C. G. Montefiore, The Old Testament and After, tt. 16-17.
- ↑ Yn ei draethawd ar Literature yn The Legacy of Greece, tt. 249-250.
- ↑ J. B. Mayor, A Sketch of Ancient Philosophy, tt. 1-27.
- ↑ Thucydides II, 37.
- ↑ J. B. Bury, Students' Roman Empire, tt. 103-4.
- ↑ Yn ei draethawd ar The Conception of Empire yn The Legacy of Rome, tt. 46-48.
- ↑ H. R. Mackintosh, The Originality of the Christian Message, pennod I.
- ↑ Yn ei erthygl ar Paul yn y Geiriadur Beiblaidd, II, 1063.
- ↑ Studies in Christian Philosophy, II, tt. 56-66.
- ↑ The Legacy of the Middle Ages, t. 387.
- ↑ H. W. C. Davis, Mediaeval Europe, tt. 152-55.
- ↑ Yn ei draethawd ar "The Theology and Ethics of Dante yn ei Essays on Literature and Philosophy, I, 25-52.
- ↑ J. S. Hoyland, A Brief History of Civilization, tt. 181-88.
- ↑ J. H. Robinson, The Ordeal of Civilization, tt. 220-6.
- ↑ The Living Past, t. 165.
- ↑ Bartlett and Carlyle, Christianity in History, tt. 480-98.
- ↑ Science and the Modern World, t. 16.
- ↑ A. K. Rogers, A Student's History of Philosophy, tt. 365-95.
- ↑ G. H. Gilbert, A History of the Interpretation of the Bible, pen. x.
- ↑ R. B. Mowat, Europe and the Modern World, t. 530
- ↑ J. H. Clapham, An Economic History of Modern Britain: I, The Early Railway Age, tt. 242, 314
- ↑ Mignet, Revolution Francaise, t. 310.
- ↑ H. A. L. Fisher, Napoleon, tt. 94-7, 156-168.
- ↑ Edwyn Bevan, Human Progress, yn ei Hellenism and Christianity, tt. 180-190.
- ↑ W. R. Inge, Progress yn ei Outspoken Essays (yr ail gyfres), tt. 160 a 183.
- ↑ B. H. Streeter, Reality, tt. 159-171
![]() |
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1930, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | ![]() |