Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Ystradgwyn

Oddi ar Wicidestun
Aberllefeni Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Esgairgeiliog
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Tal-y-llyn (pentrefan)
ar Wicipedia

YSTRADGWYN.

Pantle ydyw Ystradgwyn, tua thair milldir o Gorris, wrth dalcen uwchaf llyn Talyllyn, ac wrth droed Cader Idris. Lle enwog am chwareu ac ofer-gampau yr oes cyn codi yr Ysgol Sabbothol oedd Mawnog Ystradgwyn. Gelwid gwastadedd yr ardal yn "fawnog" am ei bod unwaith yn lle i gynhauafu mawn; wedi hyny, daeth yn gommin, a'r pryd hwn y cerid ymlaen y chwareuon ynddo; ond parhawyd i alw y lle yn "fawnog" dros hir amser wedi iddo beidio a bod felly. Pan fyddai gan Lewis William, Llanfachreth, gyhoeddiad i bregethu yn Ystradgwyn, y Fawnog fyddai ganddo ef bob amser i lawr yn ei Ddyddiadur. Mae y lle wedi ei gau i fyny a'i wneyd yn dir llafur bellach er's dros 60 mlynedd. Y crybwylliad cyntaf a geir am grefydd mewn cysylltiad a'r ardal ydyw, mai ar Fawnog Ystradgwyn y bu Dafydd Humphrey yn gwrando yr ail bregeth a glywodd gan y Methodistiaid. Yr oedd hyn oddeutu 1782. Am ugain mlynedd lawn, ymddengys na wnaed dim yma ond cael ambell odfa yn awr ac yn y man. Sonir am ddwy o'r rhai hyn. Y Parchedig John Roberts, Llangwm, a erlidiwyd yn dost yma un tro, a bu raid iddo gilio o'r lle gan faint oedd nerth yr erlidwyr; ac nid oedd dim i'w wneyd ond ceisio pregethu mewn man arall lle cafodd fwy o dawelwch. Dro arall, yr oedd y Parchedig John Elias, o Fôn, yn pregethu allan ar y Fawnog. Ymddangosodd cwmwl du uwchben, yn bygwth gwlaw trwm. Pwyntiai John Elias a'i fys at y cwmwl, ac erfyniai ar yr Arglwydd am i'r cwmwl gilio. Credid fod ei weddi wedi cael ei hateb; yn ebrwydd, ciliodd y cwmwl, a chafodd John Elias odfa anarferol o rymus. Cyd—deithiai Mr. Charles, o'r Bala, â Dafydd Humphrey, Corris, rywbryd wedi dechreu y ganrif hon, o Gorris i Abergynolwyn, ac wedi dyfod i olwg Ystradgwyn, gofynai Mr. Charles i D. H., "Oes yr un ceiliog yn canu yn ardal Ystradgwyn yma, Dafydd ?"—Wrth geiliog yn canu, golygai yr Ysgol Sul—"Nac oes," oedd yr ateb. "Ow, ow," ebe Mr. Charles, "treiwch gael un, treiwch gael un." Yn fuan wedi hyn, trefnwyd i Lewis William fyned i'r ardal i gadw ysgol ddyddiol. Dafydd Humphrey fu yn chwilio am le iddo i'w chadw, ac fe lwyddodd iddi gael ei chynal yn Dolydd Cae. "Tad y diweddar Mr. John Owen—Owen Dafydd—a wnaeth y caredigrwydd hwn, a hyny yn benaf er mwyn pump o fechgyn oedd ganddo mewn angen am addysg. Yn y gegin y cynhelid yr ysgol; a byddai y wraig yn gwneyd gwaith y tŷ yn y nos, er mwyn rhoddi tawelwch i'r athraw gyda'i ddisgyblion yn ystod y dydd."—Hanes Methodistiaeth Corris. Yr Ysgol Sabbothol a fu yn foddion i ymlid y chwareuon â'r bêl droed allan o'r gymydogaeth. Yn ol hysbysrwydd a gafwyd ar ol gwneyd ymchwiliad manwl, tua phum' mlynedd yn ol, dechreuwyd hi oddeutu y flwyddyn 1806. Y tebygolrwydd yn awr ydyw, mai Lewis William fu'n foddion i roddi cychwyniad iddi, a hyny ar ol yr ymddiddan a fu rhwng Mr. Charles a Dafydd Humphrey. Cynhelid hi ar y cyntaf yn Dolydd Cae, ac anedd-dai eraill, hyd nes y cafwyd y capel. Enwir y brodyr ffyddlawn Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Lewis Pugh, Shôn Rhisiard, Richard Owen, Ceiswyn—oll o Gorris, ynghyd âg Anne Jones, Cwmrhwyfor, fel rhai fu yn dra ffyddlon gyda hi yn ei chychwyniad. Yr oedd Anne Jones yn ferch i'r hen sant Harri Jones, Nantymynach, ac yn un o ddisgyblion ysgol Bryncrug. Wedi ei dwyn i fyny a'i hyfforddi yn yr Ysgrythyrau o'i mebyd, yn y teulu mwyaf crefyddol yn yr holl wlad, yr oedd hi, fel y gallesid disgwyl, yn wraig hynod o rinweddol. Ymhen amser wedi dechreu yr ysgol, coffheir am un ffaith nodedig mewn cysylltiad â hi, sef nad oedd ond tri yn gwneyd i fyny ei nifer— Anne Jones, Cwmrhwyfor, yn athrawes, a dau frawd, William a John Owen, Dolydd Cae, yn ddisgyblion. Bu y chwareuon ar y Fawnog, neu y commin, yn milwrio yn hir yn erbyn llwyddiant yr Ysgol. Ymgasglai ieuenctyd yr ardal i'r lle hwn ar y Sabbath, a pharhaodd y cynulliadau hyn yn hir yn dra lliosog. Arferid cynal odfeuon yn y pen isaf i'r Fawnog, o tan goeden gelyn. Erys yr hen goeden hyd heddyw yn yr un fan, yn goffadwriaeth o amseroedd rhyfedd y dyddiau gynt. Yr oedd un yn fyw yn ddiweddar yn cofio pregethu yma, ac yn cofio gweled y bechgyn, ar ol blino yn chwareu, yn dyfod at y gynulleidfa, gan roddi eu hunain i lawr ar eu lled-orwedd i wrando am ychydig, a phan ddarfyddai yr awydd i wrando, elent i chwareu drachefn, a hyny, bid siwr, cyn i'r pregethwr orphen pregethu. Yn ddiweddarach, a chyn bod son am yr un addoldy, yn Tŷ'n y Wins, anedd—dŷ wrth dalcen y capel presenol y buwyd yn pregethu ac yn cynal Ysgol Sabbothol am flynyddoedd gyda chysondeb. Un o'r hen frodyr a adroddai, amser yn ol, iddo fod yn gwrando ar y Parch. Lewis Morris yn pregethu yn Tŷ'n y Wins ar y mater, "Moses yn taro y graig." Yr oedd Lewis Morris yn ddyn mawr o gorff—y mwyaf yn yr holl wlad. Wrth bregethu, fe ddywedai, "Dyn mawr oedd Moses, yr un fath a fi; fe fuasai Moses yn taro y Gader yna," gan gyfeirio ei law at Gader Idris—"fe fuasai Moses yn taro y Gader yna nes y buasai digon o ddŵr yn dod allan o honi i ddiodi yr holl drigolion oddiyma i Dowyn."

Y flwyddyn y cafwyd prydles i adeiladu capel ydoedd 1832; ei hyd, 99 mlynedd; ardreth flynyddol, 28. Ond ymddengys i'r capel gael ei adeiladu yn 1828 neu 1829, yn yr un fan ag y mae yn bresenol, yn 8 lath bob ffordd. Erys y dydd heddyw yr un faint a'r un llun ag yr adeiladwyd ef gyntaf. Ymunodd â'r eglwys ar ei ffurfiad y pryd hwn o 30 i 35 o aelodau o Gorris. Elent wedi hyny am rai blynyddoedd i'r fam-eglwys. i gyfranogi o'r Ordinhad o Swper yr Arglwydd, a dywedir mai y Parch. John Peters, Trawsfynydd, a weinyddodd yr ordinhad hon gyntaf yn Ystradgwyn. Y tebyg ydyw na bu yr eglwys byth yn fwy Iliosog ei rhif nag ydoedd ar ei dechreuad, am y rheswm mai teneu ei phoblogaeth ydyw yr ardal, ac y mae yn myned yn deneuach, deneuach o hyd, fel y mae yr eglwys. erbyn hyn yn un o'r rhai lleiaf yn Ngorllewin Meirionydd. Bu yma lawer o ffyddlondeb gyda chrefydd y deugain mlynedd diweddaf, ac mae y ffyddlondeb hwnw eto yn parhau. Er hyny, bu yn hanes yr eglwys fechan hon rai ystormydd a blinderau, y rhai yn gyffelyb i ystormydd mewn natur, yn nghwrs. y blynyddoedd a aethant heibio, gan adael tywydd teg ar eu hol.

Ryw Sabbath, ymhen blynyddoedd wedi myned i'r capel i addoli, yr oedd y Parch. Evan Roberts, Abermaw, yma yn pregethu. Daeth un o'r hen frodyr blaenllaw i'r capel y tro hwnw, heb fod yn hollol hwylus yn ei iechyd, mae'n debyg, a shawl fawr am ei ben, wedi cylymu hono â llwmgwlwm ar ei wddf, ac eisteddai ar y fainc o flaen y pregethwr. Y testyn oedd, "A wyt ti yn credu yn Mab Duw?" Dywedai y pregethwr ar ei bregeth amryw weithiau, "Mae arnaf flys dyfod i lawr o'r pulpud yma i'r llawr i ofyn i chwi bob yn un ac un, A wyt ti yn credu?' Elai ymlaen i bregethu, a dywedai drachefn a thrachefn, yn ystod ei bregeth, fod arno awydd dyfod i lawr i ofyn y cwestiwn. O'r diwedd, atebai yr hen frawd a eisteddai o'i flaen, dros y capel, "Wel pa'm na ddoi di ynte, Evan, yn lle bwgwth dwad o hyd."

Ni bu blaenoriaid yr eglwys hon erioed yn lliosog, a cheir amryw flynyddoedd yn ei hanes heb yr un blaenor wrth ei swydd yn blaenori o gwbl. Y cyntaf a ddewiswyd, yn ol pob hanes a gafwyd, oedd dyn ieuanc da a chrefyddol, o'r enw Owen Evans. Buasai y gŵr hwn cyn hyn yn gwasanaethu gyda Sion Evan, Tywyllnydwydd, Pennal, a byddai arferol ag adrodd yn fynych am yr addysg grefyddol oedd wedi ei gael tra yn ngwasanaeth yr hen bererin duwiol hwnw. Aeth Owen Evans, yn fuan wedi ei neillduo yn ddiacon, i'r America, ac nid ymddengys i neb fod yn flaenor ar yr eglwys ond efe am yr ugain mlynedd cyntaf o'i hanes. Yn 1851 dewiswyd dau—Mr. John Owen, Tynymaes, sydd yn flaenor yma hyd heddyw; ac Evan Roberts, oedd yn was yn y Llwyn. Ymfudodd ef yn fuan i Awstralia, ac y mae er's blynyddoedd wedi gorphen ei yrfa yn y bywyd hwn. Ar eu hol hwy dewiswyd David Jones; yntau hefyd er's rhai blynyddoedd wedi ei symud at y mwyafrif. Yr oedd ef yn ŵr tra galluog o feddwl, yn un o'r Ysgrythyrwyr goreu yn yr holl wlad, ac yn y Cyfarfod Ysgolion a'r cyfarfodydd egwyddori ystyrid ef o flaen pawb. Wedi hyny y dewiswyd Richard Jones, ac yn olaf Mri. David Owen, Tynymaes, ac Humphrey Jones, Cildydd. Bu Richard Jones. farw Ionawr 7fed, 1888. Yr oedd yn ŵr hynod o afaelgar ar ei liniau. Yn amser y diwygiad wyth mlynedd ar hugain yn ol, cafodd ei drwytho mewn crefydd tuhwnt i'r cyffredin. Hynodid ef fel un di-rodres a di-dderbyn wyneb. Bu y diweddar Barchedig Humphrey Evans yma yn byw ac yn gweithio gyda'r achos am dymor rhwng 1840 a 1850. Cynhaliwyd amryw Gyfarfodydd Misol yn Ystradgwyn er's llawer o amser yn ol. Yr olaf a gynhaliwyd yma oedd yn Awst 1818. Nid oedd yr un blaenor ar yr eglwys, yn ol yr Ystadegau, y flwyddyn hono. Ymhlith gwaith y Cyfarfod Misol hwnw, o'r pump o bethau yn unig fu dan sylw rhwng y dydd cyntaf a bore yr ail ddydd, un ydoedd,—"Hysbysodd Mr. Humphreys ei fod ef am fyned o'r sir am ychydig yn y gauaf."

Nodiadau[golygu]