Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Ddyffryn Ardudwy yn flaenorol i'r flwyddyn 1785
← Nodiadau Ychwanegol | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Harlech → |
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
RHAN II.
DOSBARTH Y DYFFRYN.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
PENOD I.
CRYBWYLLION AM DDYFFRYN ARDUDWY YN FLAENOROL I'R FLWYDDYN 1785.
Y CYNWYSIAD.—Cymeriad ac arferion y trigolion cyn 1785—Y ddau filwr, Griffith Prys Pugh a'r Milwriad Jones—Darluniad o Feirion yn amser Oliver Cromwell—Y Gerddi Bluog—Philipiaid awenyddol Ardudwy—Y Parch. Ellis Wynn, awdwr y 'Bardd Cwsg'—Ysgrifau y Parch. Richard Humphreys—Modryb Lowri—Gwers ar Ryddid ac Anrhydedd o'r Oes ddiweddaf i hon—Y goleuni yn tori trwy ymddangosiad y Pregethwyr Methodistaidd.
MHOB gwlad y megir glew." Mae y ddihareb wedi ei seilio ar sylwadaeth graff a manwl yr hen Gymry, ac y mae wedi ei gwirio ymhob oes yn gystal ag am bob gwlad. Enwogion gwlad sydd yn gwneyd i fyny ei hanes; yr hyn sydd yn wybyddus am eu gweithredoedd a'u bywyd hwy sydd yn wybyddus am y lliaws oedd yn cydoesi â hwy; ac y mae eu coffadwriaeth hwy, fel pinaclau arhosol, yn parhau i daflu goleuni i'r oes a'r oesau a ddaw ar yr hyn a fu. Am grefydd ac Ymneillduaeth, yn Nyffryn Ardudwy, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe fydd mawr son, am y rheswin fod yma nifer o wyr enwog a dewr wedi bod yn chwareu rhan dda er ffurfio cymeriad yr oes. Pa beth a fu cymeriad a thynged eu tadau a'u teidiau o'u blaen, nid oes genym ond casglu oddiwrth yr hyn sydd wedi rhedeg i lawr hyd atom ni, trwy draddodiad a llafar gwlad. Fe gofir y flwyddyn 1785 gan genedl y Cymry tra bo y genedl a'r iaith mewn bod, fel blwyddyn sefydliad yr Ysgol Sabbothol. Yr ydym wedi cynefino â chlywed am y bendithion fyrdd a ddaeth i'n gwlad trwyddi hi, am y cyfnewidiadau mawrion a gymerasant le, ac am y gwelliantau anhygoel a wnaethpwyd yn arferion a chymeriad pob rhan o'r wlad. Nid ydym yn peidio a rhyfeddu wrth glywed am y pethau hyn, mwy nag yr oedd plant Israel yn peidio a rhyfeddu wrth glywed am y mawrion weithredoedd a wnaeth Duw yn amser eu tadau. Y mae rhyw chwilfrydedd yn y natur ddynol hefyd am wybod cymaint a ellir am y pethau gynt a fu, pe na byddai ond y si a gludir ar adenydd yr awelon. Yr ydym yn hoffi gwybod tipyn o hanes y preswylwyr am y mynydd â ni, er na byddwn bron byth yn eu gweled na'u cyfarfod. Cymydogion agos i ni oedd ein cydgenedl a oesent yn y ganrif ddiweddaf, rhai yn byw am gefnen gul o fynydd â ni, neu yn hytrach ar gwr pellaf yr un gwastadedd, megis yn y golwg o dan y terfyngylch draw. Beth oedd eu sefyllfa hwy? Ymha beth yr oedd eu llawenydd a'u galar yn gynwysedig? Beth oedd eu rhagolygon am hapusrwydd a dedwyddwch-pethau y mae holl blant dynion yn cyrchu atynt? Crybwyllion yn unig sydd genym i'w gwneuthur am y cyfnod tuhwnt i'r hyn a osodir yn derfyn uwchben y benod hon.
Yn amser Oliver Cromwell, ychydig gyda dau can' mlynedd yn ol, yr oedd dau filwr o gryn enwogrwydd yn byw yn y Dyffryn, y rhai oeddynt yn gryf dros werin-lywodraeth, ac a ymladdent yn erbyn Charles yr Ail. Griffith Prys Pugh, etifedd y Benar Fawr, oedd un o honynt. Ymladdodd hwn yn ddewr dros ryddid gwladol a chrefyddol, tra yr oedd y mawrion a phleidwyr y brenin yn ormeswyr creulon. Yn cyd-oesi ag ef yr oedd y Milwriad John Jones, mab Maesygarnedd, yr hwn y mae beddadail iddo yn mynwent Llanenddwyn, ac yn gerfiedig arni, E. J., 1665. Yr oedd yn un o gyfeillion cyfrinachol Cromwell, yn frawd-yn-nghyfraith iddo, ac yn cyd-ymgynghori âg ef mewn achosion pwysig. Bu yn cynrychioli Meirionydd yn y Senedd, ac yn un o lywodraethwyr yr Iwerddon. Llawer fu y son gan y Dyffrynwyr, y naill oes ar ol y llall, am wrhydri a dewrder y ddau filwr yn ymladd dros ryddid ac Ymneillduaeth eu gwlad, pan y galwyd hwynt i fyddin anorchfygol iron-sides Cromwell.[1]
Yn hanes yr olaf, ceir crybwylliad am agwedd foesol y wlad, a'i hanghenion ysbrydol y pryd hwnw:—
"Nid oedd neb yn y fyddin mor dduwiolfrydig ei ysbryd, ac yn teimlo cymaint dros agwedd druenus y wlad, a'r Milwriad Jones, o Faesygarnedd, fel y gwelir oddiwrth yr ohebiaeth ddyddorol a ymddangosodd yn Old Nonconformity of Wrexham, gan Palmer. Yn un o'i lythyrau mae yn gwahodd Morgan Llwyd a Vavasor Powell i ddyfod ato i'r Iwerddon i bregethu yr efengyl fwyn. Mewn un arall, mae yn gofyn beth a ddaw o Feirion dlawd? A ydyw y wlad yma i'w gadael yn hollol amddifad o'r efengyl Onid oes broffwyd neu genad i Grist a ddaw i Ddyffryn Ardudwy? Pa le y mae Morgan Llwyd a Vavasor Powell! Onid ydynt hwy yn teimlo yn fraint gael pregethu yr efengyl i'r tlodion sydd yn llochesu yn mynydd- dir Meirion? Onid ydynt hwy yn ymorchestu rhyfela â thywysog llywodraeth yr awyr? A pha le y ceir dyfod o hyd i fwy o annuwioldeb ac anwybodaeth nag a geir yn Sir Feirionydd!" [2]
Ar un o ystlysau y Dyffryn, tua thair milldir uwchlaw Harlech, yn y Gerddi Bluog, y ganwyd Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, ac nid ychydig yw braint y lle a all hawlio man genedigaeth gwr o'i enwogrwydd ef. Dau o wyr blaenllaw a gydoesent â'r Archddiacon, fel y gellir casglu oddiwrth ganiadau beirdd yr oes hono, oeddynt William Philip a Sion Philip. "Yr ydym yn awr yn nghanol gwlad Philipiaid awenyddol Ardudwy, y rhai oeddynt yn eu blodau oes o flaen Ellis Wynn (awdwr y Bardd Cwsg), William Philip o Hendre Fechan, a Sion Philip o Fochras, a'i feibion Gruffydd, Philip Sion, a Rhisiart. Yr oedd y ddau flaenaf yn enwedig yn feirdd uchelryw. Cyfunai yn William y bardd coeth a'r breningarwr selog, a pharodd ei sel iddo gryn lawer o boen a thrafferth. Yr oedd Sion Philip yn llysieuwr gwych, yn hyddysg mewn tair iaith, yn ddigon o brydydd i dynu'r dorch hefo Edmund Prys, a chyn hired ei wynt ag yntau. Cyfarfu ei ddiwedd Ddy'gwyl Mair, 1620, trwy foddi gerllaw Pwllheli, pan yn agos i 80ain mlwydd oed."[3] Hugh Llwyd, Cynfal, a wnaeth ei feddargraff; ac yn 1858, ar draul y gwladgar Ab Ithel, cerfiwyd ef ar gareg ei fedd, sydd wrth daleen hen eglwys hynafol Llandanwg, yr hwn sydd fel y canlyn:—
"Dyma fedd gwr da oedd gu—Sion Philip,
Sain a philer Cymru;
Cwynwn fyn'd athraw canu,
I garchar y ddaiar ddu."
Saith mlynedd a deugain wedi marw Edmund Prys, sef yn y flwyddyn 1671, y ganwyd y Parch. Ellis Wynn, awdwr hynod y Bardd Cwsg, yn ffermdy elyd Lasynys, ar ganol Morfa Harlech, ychydig filldiroedd wedi pasio penelin Dyffryn Ardudwy. Sicr ydyw mai efe a gariodd y dylanwad cryfaf er daioni ar ei gymydogion o bawb a gyd-oesent ag ef. Mae chwedl ei fywyd yn cael ei hadrodd mewn ychydig o gwmpas, gan nad oes ond ychydig o'i hanes ar gael, fel llawer o hen enwogion Cymru. Mab ydoedd i Edward Wynn, o'r Glyn Cowarch, yr hwn a briodasai etifeddes y Lasynys. Awdwr y Bardd Cwsg ydoedd yr unig blentyn o'r briodas hon a fu byw i gyraedd oedran. Mae yn sicr iddo dderbyn addysg dda, ond ni wyddis ymha le, gyda'r bwriad feallai o'i ddwyn i fyny yn offeiriad. Ond gwnaeth ei ymddangosiad fel awdwr cyn ei urddo yn offeiriad. Prawf cryf o'i grefyddolder ydyw iddo gyfieithu i'r Gymraeg, pan yn 30 oed, waith defosiynol Jeremy Taylor, Rule and Exercise of Holy Living, o dan y teitl "Rheol Buchedd Sanctaidd," yr hwn a gyflwynodd i'r Esgob Humphreys, o Fangor. Yr un flwyddyn ag y cyhoeddodd y cyfieithiad, darfu i'r esgob, oddiar argyhoeddiad o'i ragoroldeb, fel y credir, berswadio yr awdwr i ymgymeryd â'r weinidogaeth. Urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yr un dydd gan yr Esgob Humphreys, a thranoeth cyflwynwyd iddo berigloriaeth Llanfair, ger Harlech. "Yr oedd efe hefyd yn beriglor Llandanwg a Llanbedr, yn yr un gymydogaeth; ac felly cafodd dreulio cydol ei oes yn dawel, yn awyr ei dreftadaeth ei hun, ac yn mro ei enedigaeth." Wedi bod yn pregethu i'w gymydogion yn y plwyfi hyn—ac nis gallai awdwr y Bardd Cwsg amgen na phregethu yr efengyl i bwrpas—am 33ain o flynyddau, efe a fu farw, ac a gladdwyd o tan fwrdd yr allor yn Eglwys Llanfair, Gorphenaf 1734, dwy flynedd cyn i Howel Harries dori allan i bregethu yn Nhrefecca. Yn y llyfr cofrestrol mae y nodiad canlynol am ei gladdedigaeth:— "Elizaeus Wynne, Cler. nuper Rector dignissimus hujus Ecclesiae, Sepultus est 17mo die Julii, 1734."
Yr oedd efe yn weinidog a ragorai yn fawr ar ei gyd-oeswyr mewn talent a duwioldeb. Dywedai y Parch. Richard Humphreys am dano, "Gwr hynod yn ei oes, a hono yn gyffredinol yn dra llygredig. Credai pawb mai gwr da oedd Ellis Wynn." Profa ei ysgrifeniadau ei fod yn "ganwyll yn llosgi" mewn lle tywyll. Yn y rhai hyn y mae yn rhybuddio ei gyd-oeswyr, trwy ddarluniadau llymion a chryfion o sicrwydd marwolaeth, a'r cosbedigaethau dychrynllyd sydd yn aros gweithredwyr anwiredd. Er lleied o arwyddion crefydd a welid o amgylch maes ei lafur dros lawer o flynyddau ar ol ei ddydd, mae yn sicr er hyny i amcanion mor ddyrchafedig a'r eiddo ef lwyddo i atal llawer ar annuwioldeb ei gyd-ddynion. "Yn 1703, ymddangosodd ei gampwaith llenyddol, a champwaith rhyddiaethol llenyddiaeth Gymreig, sef Gweledigaethau y Bardd Cwsg." "Cydnebydd pob ysgolhaig Cymreig ystwythder, cryfder, a thlysni ieithwedd y Bardd Cwsg ;" ac nid yw yn hawdd dweyd pa un o'r ansoddeiriau hyn sydd yn gosod allan ei brif ragoriaeth. Mae y llyfr wedi myned trwy gynifer ag ugain o argraffiadau. Cyhoeddwyd yr ugeinfed argraffiad gan Mr. Isaac Foulkes, Liverpool, yn 1888, gyda rhagymadrodd yn cynwys crynhodeb cynwysfawr o hanes bywyd yr awdwr. [4]
Nid ydym yn cael i'r un o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig yn y cymydogaethau hyn gyfodi i hynodrwydd heblaw awdwr y Bardd Cwsg. Yr oedd yma lawer o eglwysi er's oesau ar gyfer poblogaeth deneu, mewn rhandir gymhariaethol fechan—cynifer a chwech mewn saith milldir i'w gilydd, rhwng Abermaw a Harlech. Y mae fod y fath nifer mewn mor lleied o wlad yn edrych yn hynod, ac nid llai hynod ydyw eu lleoliad, oll o'r bron yn agos iawn i lan y môr. Gallesid disgwyl oddiwrth y fath rif o dai addoliad y buasai y trigolion wedi eu dysgu i fod yn wâr ac addolgar. Ond i'r gwrthwyneb yr ydym yn eu cael, fel y dengys y ffeithiau a ddyfynir yn y tudalenau dilynol, allan o Fethodistiaeth Cymru, gan y Parch. John Hughes.
Ysgrifenodd y doeth-wr a'r hybarch Richard Humphreys rai pethau dyddorol am yr hynafiaid yn Ardudwy, yn flaenorol i ddechreuad Methodistiaeth yn gystal ag wedi hyny. Trwy ei ysgrifau ef y portreadwyd llawer o arferion a dull trigolion y fro, ac y cadwyd nid ychydig o ddywediadau yr hen bobl heb fyned i ebargofiant. Adnabyddir un o'r cyfryw ysgrifau wrth y teitl, "Modryb Lowri." Lowri Williams, o'r Benar Isaf, oedd y chwaer hon, fel y daeth yn hysbys wedi hyny, ac un hynod ydoedd am ei challineb a'i haddfedrwydd barn. Medrai gofio digwyddiadau a hanes ei gwlad enedigol mor bell yn ol, o leiaf, a'r flwyddyn 1750. Un diwrnod cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng Mr. Humphreys a hithau:—
"Beth debygech chwi am y byd?" gofynai Mr. H., "y mae yn dda gen' i gael eich barn am dano, oblegid yr ydych yn cofio llawer am ei arferion er's pedwar ugain a deg o flynyddoedd. Y mae rhai yn taeru yn wyneb uchel ei fod yn waeth waeth er yr holl bregethu a chadw Ysgolion Sabbothol, a phob moddion i'w wellhau. Ond pa beth dybygech chwi am hyn, canys yr ydych yn dyst llygad o'r hyn sydd, ac o'r hyn a fu!" "Nis gwn yn iawn pa fodd i'ch ateb," ebe hithau, "ond os da yr wy'i yn cofio, drwg iawn oedd y byd y pryd hwnw, sef pan oeddwn i yn enethig fechan. Nosweithiau llawen, canu efo'r tanau,
Yr interlude aelodog,
A'r cardiau dau wynebog,'
y twmpath chware, a chware tenis tô. Fel hy y byddai yr ieuenctyd, a'r hen yn eistedd i edrych arnynt. Diwrnod canu a dawnsio oedd y Sul, pan gyntaf yr wyf fi yn ei gofio. Ac heblaw hyn, yr oedd pawb yr un fath, fel y dywed yr hen air, 'Nid oeddym oll ond moch o'r un wâl, neu
'Adar o'r un lliw
Yn hedeg i'r un lle.'
Nid oedd un cyfiawn i ragori ar ei gymydog."
"Ond, Modryb Lowri," ebe Mr. H. drachefn, "beth meddwch chwi am stâd bresenol y byd, pa un ai gwell ai gwaeth na chynt?"
"Yn siwr," atebai Modryb Lowri, "rhaid cyfaddef fod llawer o wylltineb ac afreolaeth ynddo eto, ynghyd â rhagfarn, llid, a chenfigen; ond y mae rhyw ddau fath o bobl yn ymddangos i mi yn bresenol, rhai yn ymdrechu i wellhau y byd, ac i gadw ei ddrwg arferion i lawr. Y mae y rwan dda a drwg i'w gweled. Nid oedd pan oeddwn i yn ieuanc ond drwg a gwaeth. Y mae bechgyn a genethod yn cael llawer o fanteision y dyddiau hyn rhagor a geid gynt yn more fy oes i. Nid oedd y pryd hwnw nemawr ddim i atal llygredigaeth ond tlodi, cosbi lladron, a chrogi llofruddion."[5]
Mae yr hanesyn canlynol wedi ei ysgrifenu gan yr un awdwr, yn ei ysgrif a elwir, Gwers ar Ryddid ac Anrhydedd o'r Oes ddiweddaf i Hon, ac a roddir yma er mantais i weled cwrs y byd yn y ddwy oes, ac hefyd er cadarnhau gwirionedd hanesyddol hanesyn arall a geir yn mhellach ymlaen, mewn cysylltiad ag eglwys Harlech:—
"Daeth un Gruffydd Evan, o Uwchglan, tua phedwar ugain mlynedd yn ol [sef oddeutu y flwyddyn 1775], at Mr. Evan Fychan, o Gorsygedol, ac a ddywedodd, Y mae eich tenant sydd yn Mhenycerig (y ddau le gerllaw Harlech) wedi myned at y Methodus, ac nid oes dim daioni i'w ddisgwyl oddiwrtho mwyach; hwy a'i gwnant cyn dloted a llygoden eglwys, a pha beth a wna â thir nac â dim arall? Ceir gweled yn fuan na ddaw o hono, fel y dywedais, ond anhwylusdod.' Y mae yn ddrwg genyf glywed,' ebe Mr. Fychan, yr oedd Harri yn burion tenant." 'Oedd o'r goreu,' ebe Gruffydd Evan, ond y mae y cwbl drosodd er pan yr ymunodd â'r bobl yna, oblegid ni wna bellach ddim ond crwydro a gwario ei arian; a chan na wna efe ddim â'i dyddyn, buaswn yn ddiolchgar am eich ewyllys da os gosodwch Benycerig i mi.' 'Wel,' ebe Mr. Fychan, 'nid hwyrach y gelli di ei gael, ond ni osodaf mo hono i ti heddyw,—caf weled Harri cyn bo hir, a chaf wybod pa fodd y mae pethau yn sefyll.' Cyn hir anfonodd y gwr bonheddig at Harri i ddweyd fod arno eisiau ei weled; aeth yntau i Gorsygedol, ond nid heb ofni fod rhyw ddrwg ar droed. Ac wedi i'r meistr a'r tenant gyfarch eu gilydd yn y dull arferedig, torai Mr. Fychan ato, a dywedai, 'Y mae Gruffydd Evan, o Uwchglan, yn dweyd wrthyf dy fod wedi myned at ryw bobl, ac na wnei di mwy na thrin y tir na thalu am dano; a ydyw hyny yn bod?' 'Nac ydyw, Syr; os caf ffafr yn eich golwg, a chael bod yn denant i chwi fel cynt, triniaf ef fel cynt, a thalaf am dano fel rhyw dyddynwr arall; ac os methaf, mi drof fy nghefn, ac a äf ymaith yn ddiddig.' 'Wel, o'r goreu, Harri,' meddai Mr. Fychan, 'ti elli fod yn ddiofal na chaiff neb dy dyddyn tra y triniech di ef, ac y talech am dano, —cymer di dy ffordd dy hun i fyned i'r nefoedd.'"[6] Bu Harri yn denant da i Mr. Fychan, a daeth yn gefnog yn y byd; daeth hefyd yn un o brif golofnau achos y Methodistiaid yn Harlech.
Y mae rhai o eglwysi y Methodistiaid yn Nyffryn Ardudwy yn cael eu cyfrif ymhlith y rhai hynaf yn y sir, er nad oedd yma ddim mwy na thair wedi eu sefydlu yn y flwyddyn 1785, sef Harlech, Abermaw, a'r Dyffryn. Yr oedd pregethu wedi dechreu, ac ychydig nifer, yma ac acw, wedi ymuno â'r grefydd newydd bymtheg neu feallai ugain mlynedd cyn hyny. Nid oedd yma ddim galluoedd nerthol, na'r un ysbryd mawr, oddigerth awdwr y Bardd Cwsg, wedi bod yn arloesi y tir ac yn parotoi y bobl i dderbyn gair yr Arglwydd. Y mae digwyddiadau mawr yn taflu eu cysgodion o'u blaen, fel y cwmwl du yn tywyllu y gymydogaeth ymhell cyn iddo gyraedd yn unionsyth uwchben, neu fel yr heulwen oleu tu cefn i'r cwmwl yn ysgafnhau yr awyrgylch trwy ei hadlewyrchiad. Ond nid oedd llewyrch lloer na haul yn tywynu uwchben y cymydogaethau hyn, dim ond y fagddu dywyll yn eu gordoi pan y dechreuodd pregethwyr y Methodistiaid dramwy trwodd. Digwyddodd yma yn ol rhagfynegiad yr Ysgrythyr, "Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio ; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf." Yn y benod nesaf ceir gweled pa fodd y dechreuodd ac y cynyddodd crefydd yn yr eglwysi.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Enwogion Dyffryn Ardudwy yn nyddiau Cromwell—cynt a chwedi. Methodist, Chwefror, 1855.
- ↑ Y Geninen, Ebrill, 1890.
- ↑ Rhagymadrodd y Bardd Cwsg, ugeinfed argraffiad, Mr. Isaac Foulkes, 1888.
- ↑ Cymru, Cyf. II., gan y Parch. Owen Jones. Enwogion Swydd Feirion, Mr. Edward Davies. Bardd Cwsg, argraffiad 1888, Mr. Isaac Foulkes.
- ↑ Methodist, Mawrth, 1856.
- ↑ Methodist, 1855, tudal. 87.