Neidio i'r cynnwys

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad/Cynhwysiad

Oddi ar Wicidestun
Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad

gan David David Williams

Y llyfrau yr ymgynghorwyd a hwynt

CYNHWYSIAD

—————————————

PENNOD I.

Mynachaeth. O ba le y daeth i Brydain? Gwahanol ffurfiau ar Fynachaeth. Yr urddau Mynachaidd; Urdd Clugny; Urdd Cistercia; Canoniaid Rheolaidd—Canoniaid Awstin; yr urddau Cardod: byr hanes am yr urddau hyn, eu nodau gwahaniaethol

PENNOD II.

Y Mynachdy; gwahanol rannau, eglwys, clwysdy, hundy, gwesty, etc.; Prif swyddogion y mynachdy: Abad, gorchwyliwr, pobydd, etc. Cyfansoddiad llywodraethol: abaty, priordy, y gwahaniaeth rhyngddynt; bywyd y cwfeniaid; perthynas yr esgob a'r mynachdy ac a'r cwfeniaid; y myneich a'r clerigwyr; bywyd mewn mynachdy

PENNOD III

Bangor Iscoed, Ynys Enlli, Clynnog Fawr yn Arfon, Caergybi, Llanelwy, Bangor Deiniol, Clwyd, Beddgelert: eu hanes, cyfeiriadau atynt yn ein llenyddiaeth

PENNOD IV

Y gwahaniaeth rhwng De a Gogledd Cymru yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg y De i raddau mawr dan ddylanwad y Normaniaid, y Gogledd yn cadw ei hanibyniaeth: mynachdai Deheudir Cymru yn cael eu sefydlu gan y Normaniaid, mynachdai'r Gogledd ac eithrio Basingwerc gan y tywysogion Cymreig. Aberconwy, Basingwerc, Llanegwestl, Ystrad Marchell, Cymmer, Llanfaes, Penmon : eu hanes, cyfeiriadau llenyddol

PENNOD V

Sefydliadau addysgol, sefydliadau elusenol: Rhuddlan, Rhuthyn, Dinbych, Bangor yn Arfon, Llan llugan, Gwytherin, Ysbytai Marchogion Ieuan Sant,—Knights Hospitallers of St. John of Jerusalem

PENNOD VI

Ein dyled fel cenedl yn fawr iddynt; gofalasant am grefydd, gwnaethant lawer or addysgu y wlad, buont yn nodded i'n llenyddiaeth; gofalasant am hen lawysgrifau gwerthfawr, cadwasant gofnodion o ddigwyddiadau pwysig gymeront le o'u hamgylch; buont yn swcwr i dlodion y wlad pan nad oedd un ddarpariaeth er eu cynorthwyo; cadwyd ysbryd celf yn fyw ganddynt; gwnaethant lawer er gwella amaethyddiaeth ac er meithrin lletygarwch, y mynachlogydd oedd gwestai y wlad o fewn eu cyfnod, ac wrth adael y gwesty ni byddai dim i'w dalu; gwasanaethent yn achlysurol fel ariandai i'r wlad.

PENNOD VII

Y Dadeni, ei ddylanwad ar fynachaeth yr urddau cardod yn dirywio yn colli yr ysbryd hunanymwadu a'i nodweddai hwy unwaith. Lolardiaeth—ffurf ar gymdeithasiaeth—ysbryd beirniadu yr eglwys a'r wladwriaeth. Y Diwygiad Protestanaidd: Harri viii. a Chromwell. Dirprwyaeth i edrych i sefyllfa y mynachlogydd. Eu diddymiad rhannu'r yspail.

Nodiadau

[golygu]