Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad/Eu dirywiad a'u diddymiad
| ← Y gwasanaeth wnaed i'r genedl | Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad gan David David Williams |
→ |
PENNOD VII.
DIRYWIAD A DIDDYMIAD Y MYNACHDAI.
YMGYFYD y cwestiwn yn y meddwl,—pa fodd y gellir cyfrif am waith y wlad yn dygymod â'r syniad am ddiddymu sefydliad fu mor wasanaethgar iddi ag a fu Mynachaeth? Hanes y wlad, ac yn neilltuol hanes Mynachaeth yng nghanrifoedd diweddaf y sefydliad, etyb y cwestiwn hwn. Bu cyfuniad o amgylchiadau ar waith er dwyn hyn oddiamgylch, a cheisir eu holrain yn y bennod hon. Ymlaenaf oll, bu y cynhyrfiad ddisgrifir fel y Dadeni yn elfen bwysig. Un o ganlyniadau cyntaf y Dadeni oedd y dyddordeb newydd ddechreuid deimlo mewn llenyddiaeth glasurol,—maes esgeuluswyd bron yn llwyr yn ystod tywyllwch y Canol Oesoedd. Penderfynwyd mynd yn ol at yr hen am ysbrydiaeth, ac nid cyfyngu eu hunain yn ormodol, fel y gwnaethant hyd yma, i weithiau Jerome ac Awstin—dau nodweddiadol o'r cyfnod oedd yr adeg hon yn prysur derfynu; tybiai y blaenaf nas gallai un fod yn Gristion ac ar yr un pryd yn edmygydd o Cicero, tra nas gallai y diweddaf faddeu iddo ei hunan am yr amser gollodd yn darllen Homer a Virgil. O astudio llenyddiaeth Rhufain, a Groeg wedi hynny, daeth syniad eangach am fywyd; gwelwyd mai anfantais oedd ei gyfyngu a'i gaethiwo i ryw rychau neilltuol, a theimlwyd mai eu dyledswydd oedd ei fyw yn ei holl arweddion, gyda'r mwynhad a'r calondid mwyaf. O gael golwg newydd ar fywyd, cododd gwrthryfel yn erbyn llyffetheiriau eglwys a thraddodiad,—yn erbyn pob peth ymddanghosai fel yn cyfyngu bywyd. gynrychiolai y myneich blaid y llyffetheiriau,—y blaid fynnai gyfyngu bywyd, a chododd teimlad yn eu herbyn; hawliwyd yr hyn sydd naturiol mewn crefydd ac mewn pob cysylltiad arall. Ni cheir gwell engraifft yn unman o'r gwrthdystiad wnaed yn erbyn bywyd y myneich yn y bedwaredd ganrif ar ddeg na gweithiau Dafydd ab Gwilym. Plentyn y cynhyrfiad newydd oedd ef. Ni chredai ef fod crefydd yn gofyn i unrhyw un fod yn anaturiol. Yr oedd yn rhy naturiol i oddef y myneich a'u crefydd. Gwyddai of fod anian yn waith llaw y Creawdwr, ac am hynny credai mai nid pechod oedd i ddyn arfer yn briodol y pethau da a grewyd iddo gan Dduw. Dyry y llinellau a ganlyn syniad i ni am y safle gymerai ac am ei wrthwynebiad i Fynachaeth ei oes :
Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hon ddynion;
Ond celwydd yr offeiriaid
Yn darllain hen grwyn defaid;
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tri pheth a gerir drwy byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd
Merch fydd decaf blodeuyn
Yn y Nef, ond Duw ei hun
O'r nef cad pob digrifwch
Wyneb llawen llawn ei dy
Wyneb trist drwg a ery
Anaml a ŵyr gywydd per
A phawb a ŵyr ei bader.
Ac am hynny, 'r dwyfawl frawd
Nid cerdd sydd fwyaf pechawd.[1]
Mae'r dystiolaeth hon yn fwy gwerthfawr, pan gofier fod Dafydd ab Gwilym, fel y rhan fwyaf yn ei oes ef, yn babydd selog. Bu mudiad y Dadeni yn elfen y rhaid rhoddi ystyriaeth iddi wrth gyfrif am y modd y dechreuodd y myneich golli ffafr y wlad. Ystyriaeth arall gyfrif am waith y myneich yn colli ffafr ydyw y dirywiad gymerodd le yn y myneich—yn yr urddau cardod ou hunain. Ar eu dyfodiad i'r wlad hon yn y drydedd ganrif ar ddeg, gwnaethant waith rhagorol, buont yn fywyd o feirw i grefydd y wlad, a phe cadwasent i fyny y cymeriad berthynai iddynt ar y cychwyn, ni oddefasai y wlad i unrhyw frenin, pa mor gryfed bynnag y gallsai fod, i wneud niwed iddynt ac i'w sefydliadau. Ond ni chadwasant hwythau eu dechreuad, pallodd eu sêl a'u cariad cyntaf, collasant yr ysbryd o hunan aberth oedd yn llinell amlyced ynddynt unwaith, a daethant yn fydol a hunan—geisiol, cydymffurfiasant â'r byd, a dechreuodd teimlad y wlad droi yn eu herbyn. Ceir prawf amlwg o hyn yng ngweithiau'r beirdd Cymreig. Yr oedd Sion Cent yn un o weledyddion ei oes, dygwyd ef i fyny yn babydd, a theimlai fawr eiddigedd dros fywyd pur, fel y dengys amryw ddarnau o'i farddoniaeth; cymerer a ganlyn fel engraifft:
Od ai i'r nef rhaid yn wir,
Ffinio dros y corph anwir,
A thalu'r ffydd Gatholig
Yn y tan o'r enaid dig;
Crist ni dderbyn o'r croesdan
Enaid o'i law ond yn lân.
Ceir gan Sion Cent ddernyn esyd allan yn darawiadol y cyfnewidiad ddaethai dros y myneich—y brodyr cardod—yn ei ddyddiau ef. Dyfynnir rhai llinellau ohono:
Y meneich aml eu mwnai
Muriau teg mawr yw eu tai ;
Breisgion ynt ar eu brasgig
Breisgion difeinyddion dig
A'r brodyr pregethwyr gynt
A oeddynt heb dda iddynt ;
Y maent hwy hoewbwy hybeirch
Yn dri llu yn meddu meirch.
Cryfion ynt yn eu crefydd
Cryfion diffodyddion ffydd.
Y fath newid awgrymir, yn y dernyn uchod, yng nghymeriad y bobl arweiniwyd gan Francis & Dominic. Tlodi oedd eu nôd angen y pryd hynny, ond erbyn hyn rhai " aml eu mwnai ydynt "; ar eu dyfod i'r wlad hon dewisodd yr urddau hyn rannau isaf, tlotaf, y trefi fel eu maes i lafurio ynddo, ond erbyn dyddiau Sion Cont muriau teg mawr oedd eu tai"; ar eu cychwyniad allan buont yn foddion i ail—ennyn ffydd yn y wlad, ond erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oeddynt wedi rhedeg i'r eithaf arall,—wedi dod yn "gryfion ddiffodyddion ffydd." Dywedir i Sion Cent cyn diwedd ei oes adael Eglwys Rhufain ac ymuno â'r Lolardiaid, ac oherwydd hyn gall rhai edrych arno fel un yn ysgrifennu dan ddylanwad rhagfarn, a buasai grym yn hyn pe safasai tystiolaeth Sion Cent yn erbyn y myneich ar ei phen ei hun, ond cadarnheir ei dystiolaeth gan eraill oedd yn gydoeswyr âg ef. Ceir llu o gyfeiriadau yn Nafydd ab Gwilym at ddirywiad y brodyr crefydd:
Mawr yw siarter ei gartref,
Myharen o nen y nef.
Goreu im' fyned fal gwr,
Yn feudwy, swydd anfadwr.
Yna y cefais druth atcas,
Gan y Brawd a'r genau bras.
Ceir prawf fod y myneich wedi dirywio, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd mewn gwledydd eraill, drwy ddarllen Chaucer, Langland, Boccaccio, a Walter Map.[2] Erbyn canol y bymthegfed ganrif—yn nyddiau Lewis Glyn Cothi—yr oedd y myneich wedi mynd yn fwrn ar y wlad. Cymerent fantais ar ofergoeledd y bobl ac aent o amgylch gan gynnyg darnau o ddelwau y saint yn gyfnewid am angenrheidiau bywyd. A ganlyn ydyw disgrifiad y bardd o grwydriadau y myneich:
Bob ddau y gler a ddeuyn,
Bob tri vry i dŷ pob dyn:
Wrth y drws un â'i grwth drwg,
A baw arall â'i berwg;
O'r lle bai arall a'i bib
A rhyw abwy a rhibib.
Un a bryn, er na bai'r wedd,
Delw o wydr er dwy lodwedd;
Arall a wnai, o'r lle noeth,
O gwr gwernen grair gwarnoeth;
Un a arwain, yn oriog,
Gurig lwyd dan gwr ei glog;
Gwas arall a ddwg Seiriol,
A naw o gaws yn ei gôl;
Drwy undeb orchi i'r Drindawd
Chuv o wlan acw, neu vlawd.[3].
Dyna un peth wnaeth ddiddymiad y mynachdai yn beth posibl—y drwg locheswyd oddifewn iddynt; dwg drygioni y gallu a'i dinistria oddimewn iddo ei hun, â yn oddaeth ohono ei hun, derfydd am dano yn ogystal a'r corff allanol y glyn wrtho.
Ffaith arall y rhaid ei hystyried, wrth geisio cyfrif am waith y wlad hon yn goddef i'r mynachdai gael eu diddymu, ydyw y Diwygiad Protestanaidd. Mae pob digwyddiad mawr fel hwn yn cael ei hir baratoi; gwir yr ymddengys ar adegau fel yn torri allan yn sydyn, ond o edrych yn fanylach fe welir fod y sydynrwydd yn ymddanghosiadol yn hytrach na gwirioneddol. Uchaf y don fu yn codi yn raddol oedd cynhyrfiad mawr yr unfed ganrif ar bymtheg. Ym ysg dylanwadau eraill, bu i Lolardiaeth wneud llawr er chwyddo y don hon. Ffurf foreu ar gymdeithasiaeth oedd Lolardiaeth, a rhoddwyd llawer o rym i'r mudiad gan John Wycliffe a'i ddysgeidiaeth, a chan Wrthryfel y Bobl—y Peasant Rising—yn y flwyddyn 1381. Yn ysgil cymdeithasiaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth ysbryd beirniadu—ysbryd beirniadu yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Ac yn y Canol Oesoedd fe ystyrid yr Eglwys mor bwysig a'r Wladwriaeth. Y cyfeiriad arbennig gymerodd y feirniadaeth oedd ymosodiad ar y mynach a'r offeiriad yn yr Eglwys, ac ar y llywodraethwr anghyfiawn a gorthrymus yn y Wladwriaeth; a gwneid allan nad oedd gan y naill na'r llall hawl i warogaeth y Cristion. Un o'r cyhuddiadau ddygid yn erbyn y myneich oedd eu bod yn gwneud maddeuant am bechod yn beth rhy hawdd i'w sicrhau yr oedd par o hen esgidiau a chinio roddid i'r Brawd Cardod yn sicrhau maddeuant llawn.[4] Rhoddwyd grym ychwanegol i'r ymosodiad hwn ar y Brodyr Cardod gan y ffaith y caent ddianc yn llwyr rhag dwyn eu rhan o drethi y wlad. Edrychai yr urddau hyn arnynt eu hunain fel gwyr ffydd nid i'r brenin ond i'r Pab, ac ystyrient fod eu heiddo yn perthyn i'r diweddaf, ac oherwydd hyn nas gallesid cyffwrdd arno gan Loegr.[5] A chan fod y fath gysylltiad agos, fel y danghosent hwy eu hunain, cydrhyngddynt âg Eglwys Rhufain, aeth y wlad i edrych arnynt fel goruchwylwyr y Pab—fel standing army[6] Eglwys Rhufain.
Cymerai y Diwygiad Protestanaidd wahanol ffurfiau mewn gwahanol wledydd; yr un amcan oedd iddo a'r un ysbryd weithiai drwyddo, ond dibynnai dull ei ymddanghosiad i raddau mawr ar anian y genedl y gweithiai o'i mewn, ac ar ei hamgylchiadau. Yn yr Almaen a Ffrainc, yr ochr grefyddol oedd amlycaf yn y mudiad, ond yn Lloegr rhoddodd Harri VIII. er cyrraedd ei amcanion ei hunan, osgo wleidyddol i'r Diwygiad. Er rhwyddhau ei ffordd i ddwyn i ben ei gynlluniau ei hunan, penderfynodd y brenin wneud Eglwys Loegr yn anibynol ar Eglwys Rhufain, a chafodd wr o'r un feddwl ag ef yn Thomas Cromwell i gario allan ei gynlluniau. Rhagllaw yr oedd y brenin i fod yn ben Eglwys Loegr, efe oedd i dderbyn yr arian ai gynt i'r Pab, a gwnaed llys i dderbyn pob apêl ai o lysoedd eglwysig Lloegr i lys y Pab. Rhan o'r un cynllun oedd gwanhau ymhob modd y sefydliadau hynny oedd yn brif ateg Eglwys Rhufain yn y wlad hon; ac fel y gwelwyd, yr oedd y mynachdai ymysg y blaenaf o'r rhai hyn, ac yr oedd eu cyfoeth yn symbyliad mawr i rai wedi rhoi eu bryd ar eu dinistrio: byddai cael meddiannau y sefydliadau hyn yn gryn help i wneud y brenin, i raddau mawr, yn anibynol ar y wlad—nod gwladweiniaeth Cromwell. Gwnai dwy ystyriaeth rwyddhau y ffordd i sylweddoli cynllun y brenin a'i weinidog Cromwell mewn perthynas i'r mynachdai; wedi'r newid fu mewn perthynas i gysylltiad Lloegr âg Eglwys Rhufain ymddanghosai'r myneich fel rhai yn noddi gelynion eu gwlad, ac yr oedd eu bywyd afreolaidd yn dystiolaeth bellach yn eu herbyn. Dywedid wrth Cromwell am Urdd Awstin yn Llundain, "Eu bod yn eistedd uwch ben eu cwrw'n lle gweddio, yn debycach i Wyddelod meddwon nag i wyr eglwysig. Nid oes fwy o reol arnynt nag sydd ar y diafliaid yn eu cartref. Mae'r plant yn debycach i hyddod ieuanc yng nghoed Sherwood nag i blant yn dysgu crefydd." Yn wyneb yr ystyriaethau hyn, penderfynwyd anfon dirprwywyr i chwilio cyflwr mynachlogydd y deyrnas. Ni chafwyd y mynachdai cyn waethed lleoedd ag yr ofnai rhai, ond er hyn penderfynwyd eu dadwaddoli. Y mynachdai lleiaf, fe ddywedir, oedd y rhai gwaethaf, a dyma y rhai cyntaf y deliwyd â hwy rhai a llai o gyfoeth ganddynt na deucant yn y flwyddyn. Gwnaed yr ymchwiliad hwn yn ystod y blynyddoedd 1534 a 1535. Gwyddai'r dirprwywyr beth ddisgwylid oddiwrthynt, ac siomasant y sawl a'u hapwyntiodd, a derbyniasant eu gwobr. Rhoddwyd iddynt lawer o'r tir berthynai unwaith i'r mynachdai, a llawer o hen drysorau gedwid ynddynt. Ychydig iawn o fanylion sydd ar gael ynghylch y modd y rhannwyd yr ysbail berthynai i'r hen fynachdai adeg eu diddymiad. Mewn erthygl yn yr Archaeologia Cambrensis, dyry Mr. Edward Owen beth cyfrif am yr hyn a ddaeth o'r clychau berthynai i'r sefydliadau hyn, ac mewn erthygl ddiweddarach yn yr un gwaith â rhagddo, gan roddi cyfeiriad eangach i'w ymchwiliad. Cyfeirir ganddo at y defnydd wnaed o'r plwm oedd yn adeilwaith y sefydliadau hyn—Margam, priordy Brycheiniog, Ystrad Fflur, Penmon, Llanllugan, Glyn-y-Groes, Cymmer, Rhuddlan, a Basingwerc. Dywedir ddarfod anfon y plwm oedd ynglŷn â'r sefydliad diweddaf i'r Iwerddon, ond pa un ai i amcanion y mint oedd yno, yr anfonwyd ef, ai i'r amcan o'i ddefnyddio ynglŷn â thoi y Castell, nid yw yn glir.[7] Pe buasai y tiroedd dderbyniwyd drwy ddiddymiad y mynachdai wedi eu ffurfio yn fath o "dir y Goron," gallasent fod yn ffynhonell o elw a gwneud llawer er ysgafnhau y trethi, ond ni wnaed hyn, yr oedd y brenin yn barhaus mewn angen arian, ac yr oedd y gwyr oedd o'i amgylch yn dyheu am dir yn wobr am eu ffyddlondeb. Bu diddymiad y mynachdai yn ddyrnod drom i'r eglwys, a llesteiriodd lawer ar ei defnyddioldeb: trowyd llawer o eiddo i amcanion cyffredin ddefnyddid yn gwbl cyn hyn i amcanion eglwysig, ac er hyrwyddo buddiannau crefydd yn y wlad. Daeth llawer o wyr lleyg yn berchenogion bywoliaethau eglwysig, ac er derbyn ohonynt hwy swm mawr oddiwrth y cyfryw fywoliaethau, ni roddent hwy i'r ficeriaid wnant y gwaith ysbrydol yn y bywoliaethau hyn, ond yr hyn ganiateid i'r ficeriaid cyn y Diwygiad Protestanaidd. Ceisiwyd gwneud rhyw ychydig o iawn am y camwri a wnaed, ond hynod leied wnaed. Trosglwyddwyd y cyllid berthynai i Briordy Aberhonddu i Esgobaeth Tyddewi, ond ni pharhawyd hyn ond am un flwyddyn, ac yr oedd hyn yn engraifft o'r hyn a wnaed yn y rhan fwyaf o amgylchiadau—iawn mewn enw yn unig ac nid mewn gwirionedd. Ond er cyfyngu ar ei hadnoddau, byw a wnaeth yr eglwys, yr oedd elfen ddwyfol ynddi,—yr oedd fel y "berth yn llosgi ond heb ei difa."
"ANCR MEIRION."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gweithiau Dafydd ab Gwilym, tdd. 209, 210: Cynddelw
- ↑ "It is the satire of the Welsh bards upon priests and friars that unite them to the more adventurous spirit of the earlier Renaissance in other European countries. Neither Langland nor Boccaccio is more severe on the black sheep of the Church than Dafydd ap Gwilym."—A Welsh Poet of Chaucer's Age; Quarterly Review, October, 1901: W Lewis Jones.
- ↑ Gweithiau Lewis Glyn Cothi, tdd. 283, 281: Tegid a Gwallter Mechain.
- ↑ England in the Age of Wycliffe, p 146: G. M. Trevelyan.
- ↑ Historica Anglicana, i., 523—321: Thomas Walsingham
- ↑ "They were a papal militia, independent of the Bishops, and owing allegiance only to their own generals and the Pope... and by the time of the Reformation they were the shame of the Papacy."—The Hibbert Lectures 1883, pp. 8—9: Beard.
- ↑ Archeologia Cambrensis: vol. xiii, 5th series, pp. 262—265, also vol. xiv. 5th series, pp. 285—292,