Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad/Mynachaeth
| ← Y llyfrau yr ymgynghorwyd a hwynt | Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad gan David David Williams |
Y Mynachdy → |
Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad
PENNOD I
MYNACHAETH
UN o'r llinellau amlycaf yn hanes yr Eglwys Geltaidd ydyw Mynachaeth; astudier ei henes yng Nghymru, yn yr Iwerddon, yn Scotland, neu ar y Cyfandir, a cheir fod hon yn elfen gyffredin. Ymgyfyd y cwestiwn—O ba le, a pha adeg, y daeth Mynachaeth gyntaf i Brydain? O berthynas i'r lle y daeth ohono ceir dau olygiad yr Aipht a Deheudir Ffrainc. Nid llawer o wahaniaeth sydd rhwng y ddau olygiad; gellir edrych ar fynachaeth yr Aifft yn dod i Brydain drwy fynachaeth Deheudir Ffrainc, a ffurfiwyd ar gynllun un yr Aifft. Yr oedd John Cassian y gwr sefydlodd Fynachaeth yn Neheudir Ffrainc, wedi treulio llawer o amser yn yr Aifft ac wedi ei swyno yn fawr gan gyfundrefn y wlad i ddatblygu y bywyd crefyddol, fel y dengys ei weithiau—De Institutis Canobiorum a'r Consolationes Patrum. Planhigyn o'r Aifft oedd yr un blanwyd gan John Cassian ym Massilia, a phlanhigyn cyffelyb o'r un lle oedd yr un roddwyd i lawr gen Honoratus yntau yn Lerins. Deuwn i'r casgliad ddarfod i fynachaeth ddod i Brydain o Ddeheudir Ffrainc Massilia a Lerins, ac i'r lleoedd hyn dderbyn eu cynllun a'u hysbrydiaeth o'r Aifft. Ceir ffurf wahanol ar Fynachaeth yng Ngogledd Ffrainc—ffurf a delw Martin o Tours arni—ond yn hyn dilynodd Prydain John Cassian yn hytrach na Martin o Tours. Pa bryd y daeth Mynachaeth i Brydain? Ni cheir unrhyw dystiolaeth ei bod yma cyn dechreu y bumed ganrif. a theg ydyw casglu ei bod wedi ei sefydlu cyn ymweliad Germanus â'r wlad hon yn y flwyddyn 429, a'i ail ymweliad yn y flwyddyn 447; pe na buasai Mynachaeth wedi ei sefydlu anodd ydyw credu y buasai ef yn gadael hyn yn ddisylw, ac y buasai y gwr ysgrifennodd hanes bywyd Germanus yn peidio cofnodi pwysiced ffaith. Dywedir i Ffaustus ddod o Brydain i Fynachdy Lerins cyn i Honoratus adael y lle yn 426; yr oedd Ffaustus y pryd hyn o un ar bymtheg i ddeunaw oed yn ol tystiolaeth Engelbrecht.[1] Awgrymir dau beth gan hyn: fod Mynachaeth wedi rhoddi ei throed i lawr ym Mhrydain cyn 426, ac fod cydymdeimlad rhwng Mynachaeth Prydain a'r ffurf a geid ar Fynachaeth yn Neheudir Ffrainc. Disgrifir Riocatus fel un o'r un wlad a Ffaustus, ac fel esgob a mynach; daeth yntau o Brydain i Ddeheudir Ffrainc oddeutu'r flwyddyn 450.[2] Yng ngoleuni y ffeithiau hyn, gellir edrych ar y deugain mlynedd cyntaf o'r bumed ganrif fel y blynyddoedd y sefydlwyd Mynachaeth ym Mhrydain.
Wrth ddatblygu yn raddol cymerodd Mynachaeth wahanol ffurfiau; ar y cyntaf ymddengys mai'r syniad llywodraethol oedd bywyd o neillduedd; ymffurfio yn gyfundeb er mwyn ymarfer y dyledswyddau o hunanymwadu, myfyrio, gweddio; yr oedd pob peth ganddynt yn gyffredin, a phawb yn rhwym i roddi ufudddod i'r gwr osodwyd yn ben arnynt yr abad. Yr oedd yr holl drefniadau wedi eu ffurfio fel ag i fod yn gwrs o ddisgyblaeth er dadblygu y bywyd crefyddol o fewn y mynachdy ei hunan.
Yn ddiweddarach cymerodd Mynachaeth olwg uwch ar ei chenhadaeth; tywynnodd y gwirionedd ar ei meddwl mai'r ffordd fwyaf effeithiol i wella ei hunan oedd drwy ymdrech i wella eraill. O gredu hyn, daeth y mynachdy yn ysgol. Cymerodd Illtud y blaen gyda hyn yng Nghymru. Sieryd Gildas yn uchel am Illtud yn y cymeriad hwn, disgrifir ef ganddo fel "dysgawdwr gwych braidd yr oll o Brydain"[3]; yn y mynachdai dysgid yr ieuanc a'r rhai mewn oed mewn crefydd a materion cyffredin. Cyfeiria Alcuin at Gildas fel y mwyaf athrylithgar o ysgol Illtud Sant." Deuai nifer fawr i'r ysgolion hyn yn ol tystiolaeth Llyfr Llandaf,[4] yr oedd gan Ddyfrig ddwy fil o dan ei ofal yn Henllan-ar-Wy; yr oedd dwy fil a chant yn derbyn eu haddysg un adeg ym Mangor Is Coed; a dwy fil a phedwar cant yn Llanilltud Fawr; gwneid gwaith cyffelyb yn Nhy Gwyn Mynyw, ac ym Mangor Deiniol. Yn y trydydd cyfnod yn hanes Mynachaeth, gwelir tuedd i fyned yn ol at y bywyd nodweddai y gyfundrefn ar y cychwyn; yn y cyfnod cyntaf ceid cyfundeb o bobl yn ceisio neillduedd oddiwrth y byd oddiallan, yn y trydydd cyfnod ceir yr un peth gan bersonau neillduol—yr unig yn chwilio am neilltuedd er cael mantais i fyw y bywyd uwch. Dyma gyfnod yr ancr a'r meudwy—cymerai i mewn gyfnod maith; ond gellir dweyd iddo ddechreu yn ystod yr hanner olaf o'r chweched ganrif. Achosai y mudiad hwn bryder i garedigion Mynachaeth; anfonodd Columbanus at y Pab Gregori Fawr i gael ei farn ef ar hyn, ac ysgrifennodd Finian at Gildas er cael ei gyngor gyda golwg arno. Ai y myneich yn y cyfnod hwn i leoedd anghyfanedd i breswylio, ond nid y rhai a wnaent hyn oedd y dosbarth pwysicaf o'r meudwyaid, ond y rhai wnaent iddynt gell o fewn y tir berthynai i dylwyth y Sant.[5] Dywedir na chafwyd prawf o fodolaeth yr un o'r celloedd hyn yng Nghymru,[6] ond gall hynny fod o ddiffyg chwilio yn briodol am danynt.[7] Perthyn pwysigrwydd neilltuol i'r mudiad hwn, am y cydnabyddid ynddo yr egwyddor y gellir rhannu esgobaeth a'i gwneud yn nifer o henaduriaethau. Y cyfnod hwn, o bosibl, ddyry gyfrif am y Llanau a'r Cilau geir fynyched ynglŷn âg enwau lleoedd yng Nghymru.
Y pedwerydd cyfnod yn hanes Mynachaeth ydyw yr un y gwelir y myneich yn troi yn genhadon ynddo. Gwelwyd gogwydd yn y cyfeiriad hwn yn gynnar yn hanes Mynachaeth, cymerodd afael yng Ngholumbanus a Samson, a pherffeithiwyd y syniad yn hanes y Brodyr Cardod. Dengys Samson wrth ysgrifennu at ei ewythr eanged oedd ei syniad am fywyd mynach—bywyd ydyw iddo ef o dreulio ac ymdreulio er mwyn eraill,—bywyd o grwydro o le i le gan bregethu i'r bobl yn yr iaith a ddeallant, gan sefydlu mynachdai, gan iachau y rhai cleifion, a chan wrando yn amyneddgar ar yr achosion ddygir ger ei fron, a chan eu hateb yn addfwyn a boneddigaidd.[8] Ceir yr un nodyn yn ysgrifeniadau Gildas—galwad i fywyd o weithgarwch, galwad i ymdreulio er lles eraill; yr hen syniad am fywyd mynach oedd un yn gwneud ei oreu i gadw ei enaid ei hun; syniad diweddarach ydyw un yn ymroi i fod yn foddion i achub eneidiau eraill.
Perthynai i Fynachaeth yr Eglwysi Celtaidd ffurfiau a'u gwahaniaethai oddiwrth Fynachaeth Eglwys Rhufain; nid ar yr un llinellau yr ymddatblygent; y cwrs ddilynid gan Eglwys Rhufain oedd hwn cyfnod y meudwy i ddechreu, cyfnod yr ysgol yn ol hynny, ac yn ddiweddaf cyfundeb o bobl dan reolaeth yr abad; ond dechreuai yr Eglwysi Celtaidd lle y diweddai Eglwys Rhufain: cychwynent hwy drwy ymffurfio yn gyfundeb, wneid i fyny o feibion a merched, er amddiffyn eu gilydd ac er cyffroi y naill y llall i'r hyn oedd dda, yna daeth cyfnod yr ysgol, ac yn ddiweddaf y cyfnod pan droai y myneich yn genhadon, yr oedd i Fynachaeth yr Eglwysi Celtaidd ddigon o nodweddion gwahaniaethol i gyfiawnhau'r casgliad mai nid ffurf mohoni ar gyfundrefn Benedict, ond cynnyrch y tir—y meddwl Celtaidd yn penderfynu ar ffurf i grofydd ddatblygu ynddi yn unol â'i anianawd ef. Ni phorthynai i Fynachaeth Geltaidd unrhyw "reol buchedd " fel yr un y cysylltir enw Benedict â hi; gwir y ceir "rheol Columba," ond math o ddatganiad oedd hon o'r hyn oedd ddymunol a da, yn hytrach na rheol fanwl ag yr oedd yn rhaid cadw ati. Dylid, fodd bynnag, wneud eithriad o'r myneich Celtaidd ar y Cyfandir—ymrwyment hwy i gadw "rheol Columba." Drachefn, ni phroffesai myneich yr Eglwysi Celtaidd fod arnynt unrhyw rwymedigaeth i ymgadw rhag priodi llinell oedd mor nodweddiadol o Fynachaeth Eglwys Rhufain. Yr oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng safle a gallu yr esgob yn y ddwy gyfundrefn; ceir ychwaneg ar hyn ymhellach ymlaen.[9] Ceir prawf pellach mai dau dyfiad gwahanol oedd Mynachaeth Rhufain a Mynachaeth yr Eglwysi Celtaidd o edrych ar eu trefniadau eglwysig yn ol cyfundrefn Rhufain rhennid y wlad yn wahanol blwyfi, a gosodid eglwys ymhob plwyf, ac edrychid ar yr holl drigolion o fewn y cylch fel yn perthyn iddi; y plwyf oedd yr unit— y pwynt cychwyn; ond edrychai yr Eglwys Geltaidd ar yr holl wlad fel perchenogaeth y gwahanol dylwythau, a rhennid y tylwythau hyn yn ddau ddosbarth—tylwyth y tir a thylwyth y Sant. Pan roddid darn o dir i dylwyth neilltuol, byddai tylwyth y Sant yn gosod i fyny eglwys ar unwaith er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol y tylwyth, a hynny nid am eu bod yn byw o fewn rhyw gylch neilltuol ond am y perthynent i'r tylwyth, a chanddynt hawl i'w holl freintiau. Ymdrechodd yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru yn hir ac yn ddewr am ei hawl i fyw ei bywyd ei hunan ac i gadw ei phriod nodweddion, yn hytrach nag ymgolli ym mywyd unrhyw eglwys arall, gwrthododd ymostwng i'r mynach Awstin ac i gael ei rheoli gan Rufain. Yr oedd y blynyddoedd o 602 hyd 1100 yn dymor o ymrafael rhwng yr Eglwys Geltaidd ac Eglwys Rhufain; ni chydnabyddai y flaenaf awdurdod y Pab, ac ni fynnai edrych arni ei hunan fel rhan o'r Eglwys lywodraethid ganddo. Gwnai cynrychiolwyr Eglwys Rhufain bob peth o fewn eu gallu yn y cyfnod hwn i wanhau yr eglwys yng Nghymru. Datganodd Theodore o Tarsus, archesgob Caergaint, nad oedd rym yn urddau yr Eglwysi Celtaidd, ac ne pherthynai i'w hesgobion y galluoedd berthynai yn naturiol i'r swydd hon, am nad oeddynt wedi eu cysegru yn briodol; a llwyddodd i berswadio Chad, un o'r esgobion Cymreig, i gymeryd ei ail—gysegru yr adeg y dyrchafwyd ef i fod yn Esgob Lichfield; bu hyn yn ddyrnod dost i achos yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru; syniad yr Eglwys hon am Sant y pryd hyn oedd un a chanddo allu i gyflawni gwyrthiau—gweithredoedd goruwchnaturiol, a hynny ar gyfrif rhyw alluoedd berthynai i'w swydd gysegredig; gollyngodd Chad ei afael o hyn oll wrth gymeryd ei ail-gysegru yn Esgob Lichfield. Bu dyfodiad y Normaniaid i'r wlad hon yn foddion i gryfhau Eglwys Rhufain ac i wanhau yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru. Haerai William y Gorchfygwr i'r Cymry ymostwng iddo yr adeg yr aeth i Dyddewi yn 1079, iddynt ddatgan eu parodrwydd i dalu gwarogaeth iddo, ac i'w gydnabod ef fel eu harglwydd; a daliai fod hyn yn rhoddi hawl iddo ymyryd â'u materion eglwysig, ac ni fu yn fyr o wneud hyn. Daeth y Normaniaid a'u sefydliadau crefyddol gyda hwy,—crefydd Rhufain oedd eu crefydd hwy,— gwnaent eu goreu i hyrwyddo Eglwys Rhufein. Gosodwyd i fyny nifer o sefydliadau Benedict ar ororau Cymru i gychwyn, ac yn ddiweddarach aethant i Ddeheudir Cymru. Lle bynnag y ceid castell Normanaidd ceid crefydd-dy dan ei gysgod; dywedid mai tri anhebgor sefydliad Normanaidd oedd castell, mynachdy, ac eglwys.[10] Rhoddwyd dyrnod drom arall i'r Eglwys Geltaidd yng Nghymru pen y llwyddodd Eglwys Rhufain i sicrhau iddi ei hunan yr hawl i apwyntio esgobion i esgobaethau Cymreig. Drwy orthrwm hyd yma y llesteiriwyd dylanwad yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru, ond yn y ddeuddegfed ganrif daeth y Cisterciaid i'r wlad hon, a gwnaethant fwy na neb i gryfhau Eglwys Rhufain yng Nghymru; buont hwy yn foddion i ennill y Cymry i fabwysiadu crefydd Rhufain ac i ddod yn aelodau o'i heglwys. Ar eu dyfod i'r wlad hon, gosodasant eu hunain yn ochr y Cymry yn eu gwrthwynebiad i'r Saeson, cydymdeimlent â dyheadau y Cymry yn eu hymdrech am anibyniaeth eu gwlad; ond darbwyllasant arweinwyr Cymru y byddai i'r Cymry aros yn genedl er colli ohonynt eu heglwys. Fe lygrwyd y Cymry drwy weniaith y Cisterciaid i roddi eu heglwys i fyny ac i fwrw eu coelbren yn Eglwys Rhufain— Eglwys ag y bu ei dylanwad yn oruchaf yng Nghymru o'r drydedd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ganrif ar bymtheg.
Mewn pennod arweiniol ar Fynachaeth, angenrhaid yw cyfeirio at yr Urddau Mynachaidd. Yn y ddegfed ganrif, ymddanghosodd Urdd Clugny, a buont yn foddion i ddwyn bywyd newydd i Eglwys Rhufain yr Eglwys y gellir ei hystyried y pryd hyn fel Eglwys Gorllewin Ewrob. Yr adeg y cododd yr urdd hon yr oedd yr Eglwys wedi dirywio yn fawr, a theimlai llawer awydd am weled ei diwygio. Teimlid fod yn rhaid puro y ffynonellau—y mynachdai, ac nid gwaith hawdd oedd hyn. Yn ol Cyfundrefn Benedict, yr oedd pob mynachdy yn anibynol a hunan-lywodraethol, ac oherwydd hyn anodd oedd dyfeisio cynllun i fynd at yr oll a'u gwellhau. Yr anhawster yna roddodd fod i Urdd Clugny; yr oedd Abad Clugny i'w ystyried yn ben pob mynachdy perthynol i'r urdd yn Ewrob, prioriaid o dano ef lywodraethent y mynachdai, talent swm o arian yn flynyddol i'r prif abad ac i ddibenion cyffredin yr urdd. Yr oedd Abad Clugny yn fath o bab Mynachaeth. Bu dylanwad yr urdd yn fawr ac yn dda. Cadw yr eglwys yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd oedd yr hyn yr amcanent ato; ac er sicrhau hyn, credent y dylai yr Eglwys fod yn anibynol ar y Wladwriaeth, ac y dylai orfodi ei hoffeiriaid i ymgadw rhag priodi.[1] Mewn amser, aeth yr urdd yn fydol, a chollodd ei dylanwad, a chodwyd urdd arall Urdd y Cisterciaid—i barhau y gwaith ddechreuwyd ganddi. Cafodd hon ei bôd oddeutu dechreu y ddeuddegfed ganrif; cychwynwyd hi yn Citeaux rhwng Dijon a Châlons. Ymsefydlai y Cisterciaid mewn lleoedd unig, anghysbell. Gwahaniaethai yr urdd o ran cyfansoddiad oddiwrth Urdd Clugny; yr oedd pob mynachdy Cisterciaidd yn anibynol a hunan—lywodraethol; ond yr oedd yr abadau yn rhwym i ddod ynghyd ar adegau neilltuol i fath o gymanfa gyffredinol,—a'r cymanfaoedd hyn oedd cyrff llywodraethol yr urdd. Hyd yn hyn, nodweddid yr urddau mynachaidd gan ymdrech i ymneilltuo o'r byd er dianc rhag y trachwant sydd ynddo. Yn y ddeuddegfed ganrif, tywynnodd ar feddwl yr Eglwys fod uwch math ar rinwedd na dianc o'r byd, sef "byw yn y byd ac eto heb fod o'r byd." Bu i Ryfeloedd y Groes ran neilltuol er dwyn y gwirionedd hwn adref. "God found out the Crusades as a way to reconcile religion and the world." Danghoswyd yn glir yr un egwyddor ym mywyd y Canoniaid Rheolaidd, neu Ganoniaid Awstin —dynion gyfunent yn eu bywyd fywyd y mynach a bywyd yr offeiriad plwyf. Gwelwyd y duedd hon ar ei pherffeithiaf ym mywyd y Brodyr Cardod. Bu eu dylanwad yn fawr. Gwnaethant fwy, o bosibl, na neb arall yn y drydedd ganrif ar ddeg, er cadw crefydd yn fyw ac yn bur; ond nid dyna'r oll wnaethant. Yn wleidyddol, buont yn wyr canol—yn offerynau i ddwyn hen ysbryd y bendefigaeth i ddygymnod â'r ysbryd newydd ddechreuai ymddangos ymysg gwerin gwahanol genhedloedd. A yr Esgob Creighton cyn belled a dweyd mai syniadau yr Urddau Cardod roddodd fôd i ryfel y Barwniaid yn Lloegr.[11] Gwneid y Brodyr Cardod i fyny o bedwar dosbarth, y Dominiciaid neu y Brodyr Duon, ymsefydlasant hwy yng Nghymru ym Mangor, Rhuddlan, Aberhonddu, Hwlffordd, a Chaerdydd; y Francisciaid neu y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, a Llanfaes; y Carmeliaid, neu y Brodyr Gwynion yn Ninbych; Brodyr Awstin yng Nghasnewydd, Sir Fynwy. Y ddau ddosbarth pwysicaf a lliosocaf oedd y Francisciaid a'r Dominiciaid; apeliai y rhai blaenaf at y lliaws drwy gyfrwng pregethu. Disgrifir Francis, sylfaenydd yr urdd, fel John Wesley y drydedd ganrif ar ddeg.[12] Yr oedd cenadwri y Dominiciaid yn fwyaf neilltuol at y dysgedig. Dywedir mai John Wesley a'r Esgob Butler fu yn brif foddion i ddwyn bywyd newydd i Loegr yn y ddeunawfed ganrif; apeliai y naill at y dosbarth cyffredin, tra yr apeliai y llall at y dosbarth meddylgar, dysgedig. Gwnaed gwaith cyffelyb yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Francis a Dominic. Ychydig fu nifer a dylanwad y Carthusiaid ym Mhrydain. Dywedir na bu ganddynt un adeg fwy na naw o dai.[13] Sefydlwyd yr urdd hon. gan Bruno Sant yn yr unfed ganrif ar ddeg, a chymer yr urdd ei henw oddiwrth Chartreuse. Nodweddid yr urdd gan lymdra ei disgyblaeth. Adeg diddymu y mynachdai, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, perthynai i'r urdd hon wyth o fynachdai ac oddeutu cant o aelodau.[14]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Engelbrecht's Fausti Opera, Prolegomena, iv—xi.
- ↑ Apollinaris Sidonius, Mon. Ger. Hist., viii. 157.
- ↑ Gildas, De Excidio Brit. cc 33—36.
- ↑ Liber Landavensis, td. 324.
- ↑ The real anchorite was the one who did not leave the territory of the tribe of the Saint, but built himself a cell or enclosure on it, in which he dwelt, and out of which he rarely came." The Celtic Church of Wales, p. 180: J. W. Willis Bund.
- ↑ Sonir am "guddygl meudwy "yn y Mabinogion. Mab. Red Book of Hergest, vol. i. p. 211.
- ↑ The Celtic Church of Wales, p. 169: J. W. Willis Bund.
- ↑ Vita Sams., p. 121.
- ↑ Pennod II
- ↑ The Celtic Church of Wales, p. 477: J. W. Willis Bund.
- ↑ Creighton; The Coming of the Friars, p. 47: Jessopp. It was the ideas of the friars that found expression in the Barons' War."-Historical Lectures and Addresses, p. 110: Creighton.
- ↑ The Coming of the Friars, p. 47: Jessopp.
- ↑ The Coming of the Friars, p. 125: Jessopp.
- ↑ English Monastic Life, p. 222: F. A. Gasquct.