Neidio i'r cynnwys

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad/Sefydliadau Mynachaidd

Oddi ar Wicidestun
Yr Ail Gyfnod Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad

gan David David Williams

Y gwasanaeth wnaed i'r genedl

PENNOD V.

SEFYDLIADAU MYNACHAIDD.

"A fynno ddeall bywyd y Canol Oesoedd rhaid iddo astudio yn neilltuol y drydedd ganrif ar ddeg—un o'r cyfnodau pwysicaf yn hanes dynolryw."[1] Un o ddigwyddiadau pwysicaf y ganrif hon oedd dyfodiad y Friars—y Brodyr Cardod neu'r Brodyr Pregethu. Gwneid hwy i fyny o bedwar dosbarth,—y Dominiciaid—y Brodyr Duon, y Francisciaid—y Brodyr Llwydion, y Carmeliaid—y Brodyr Gwynion, a Brodyr Awstin. Cyfeiriwyd yn barod at y pwyntiau o wahaniaeth yn y gwahanol urddau hyn.[2] Nid oedd yr urddau cardod yn lliosog yng Nghymru, ac nis gellid disgwyl hynny, pan gofier yr hyn a ystyriai yr urddau fel eu cenhadaeth neilltuol. Gosodid i fyny y sefydliad Benedictaidd, fel rheol, yng nghymdogaeth castell, ceid y Cisterciaid fynychaf yng nghanol y wlad, ond yn y trefi—ac yn y rhannau isaf ohonynt—y ceid y brodyrdy, —ffreudur y beirdd.[3] Ychydig oedd o drefi yng Nghymru, ac ychydig, mewn cymhariaeth, oedd nifer y Brodyr Pregethu. Ymsefydlasant yng Ngogledd Cymru, ym Mangor, Rhuddlan, Llanfaes, Rhuthyn, a Dinbych.

Bangor yn Arfon.—Daeth y Brodyr Cardod i Fangor yn y flwyddyn 1277,[4] a bu Edward I. yn gefn iddynt, ond tybir nad oedd ganddynt gartref o'u heiddo eu hunain hyd y flwyddyn 1300, pryd y rhoddwyd iddynt ddarn o dir gan Anian, Esgob Bangor. 5 Dywedir mai "acer" a roddwyd iddynt o dir, ond nid arferid y gair yn ei ystyr gyfyng y pryd hynny, ond golygai swm amhenodol o dir, ac mae rhesymau dros gredu i Anian gyflwyno iddynt lawn pedair acer o dir—a defnyddio y gair yn ei ystyr ddiweddar. Bu Tudur ab Gronwy o Benmynydd, Môn, hefyd yn gefnogydd aiddgar i Frodyr Cardod Bangor, a chladdwyd ef yn y flwyddyn 1311, mewn tir perthynol i'r urdd. Dymunodd yr Esgob Gervase de Castro yntau gael ei gladdu " yng nghôr Brodyr Pregethu Bangor," a gadawodd lawer o eiddo iddynt yn ei ewyllys, ac nid anghofiodd frawdoliaeth Llanfaes a Rhuddlan. Gadawodd Roger Sylle hefyd, yn y flwyddyn 1527, eiddo yn ei ewyllys i Frodyr Bangor. Adeg diddymiad y sefydliad yn 1539, yr oedd yr eiddo berthynai i'r lle, gan gynnwys yr adeiladau, yn werth pymtheg swllt ar hugain yn y flwyddyn. Ni pherthyn i'r gwaith hwn ddilyn hanes y lle ar ol y flwyddyn uchod; digon yw dweyd ei fod bellach ers canrifoedd wedi cyfyngu ei hunan i un wedd ar yr amcan oedd mewn golwg gan y Brodyr wrth ei sefydlu, sef cyfrannu addysg i'r ieuenctid. Perthynai ffreudur Bangor i urdd y Brodyr Duon—y Dominiciaid.

Llanfaes.—Gweler Pennod iv., tdd. 32—33.

Rhuddlan.—Mae Rhuddlan wedi chwareu rhan bwysig yn hanes Cymru yn wleidyddol ac eglwysig. Yn Rhuddlan, yn y flwyddyn 1284, y gwnaed Deddf Cymru. Yn hon, rhannodd Edward I. deyrnas Llywelyn yn chwe Sir,—Môn, Caernarfon, Meirion, Fflint, Ceredigion, a Chaerfyrddin; a threfnwyd fod i Gymru rhagllaw gael ei rheoli gan siryddion brenin Lloegr, ac nid gan ei thywysogion ei hunan fel o'r blaen. Yn y flwyddyn 1281, ysgrifennai Edward I. lythyr yn awgrymu gwneud Rhuddlan yn gartref esgobaeth y dalaeth yn hytrach na Llanelwy.[5] Amlwg yw, gan hynny, fod Rhuddlan yn lle eglwysig o gryn bwys yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac yn wir cyn hynny, oblegid ymwelodd yr Archesgob Baldwin a Gerallt â'r lle yn ystod eu taith, ac wedi gwasanaeth ac arddeliad[6] arno, aethant o Ruddlan i eglwys gadeiriol Llanelwy. Ymsefydlodd y Brodyr Duon yn Rhuddlan cyn y flwyddyn 1268, oblegid yn y flwyddyn honno gwnaed Prior y sefydliad, Anian II., de Schonau, y Brawd Du o'r Nannau,[7] fel y'i gelwid, yn Esgob Llanelwy. Daeth un arall o brioriaid Rhuddlan i sylw rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Yn y flwyddyn 1284, anfonodd yr Archesgob Peckham lythyr at Edward I. i alw ei sylw at y ddifrod wnaed i feddiannau a sefydliadau eglwysig yng Nghymru gan filwyr Seisnig yn ystod y rhyfel oedd newydd derfynu, ac i erfyn arno yn rasol i unioni y cam hwn. Rhoddodd y brenin ystyriaeth i'r gŵyn hon, a gorchmynodd i'r Archesgob wneud ymchwiliad pellach i'r mater. Apwyntiodd yr Archesgob ddirprwyaeth i wneud y gwaith hwn—aelodau y ddirprwyaeth oedd Prior Rhuddlan, Warden Llanfaes, a Ralph de Brocton. Ni bu'r ddirprwyaeth yn ofer; rhoddwyd iawn sylweddol i ddeon a chlwysgor Llanelwy, i esgobaeth Bangor, i fynachdy Ystrad Fflur, ac i Frodyr Duon Rhuddlan.[8] Ni raid ond ystyried adroddiad Peckham o'i ymweliad â Chymru er gweled fod y Brodyr Cardod yn gwneud gwaith rhagorol; hwy, yn ol tystiolaeth yr Archesgob, oedd y bobl gadwent y tan sanctaidd i gynneu yr adeg hon yng Nghymru, a mynnai iddynt wneud yn fawr ohonynt ar gyfrif eu gwaith.[9] Gwelodd y sefydliad lawer amser blin, ond daliodd ymlaen hyd yr adeg y diddymwyd y mynachdai. Trosglwyddwyd ef y pryd hyn, a'r oll berthynai iddo, i Harri ab Harri. Dywedir fod ysbyty ynglŷn â'r sefydliad er y flwyddyn 1281.[10]

Rhuthyn.—Bu yn Rhuthyn sefydliad perthynol i'r Carmeliaid—y Brodyr Gwynion, ond nid oes odid ddim o hanes y frawdoliaeth ar gael; yr unig dystiolaeth a erys ydyw yr ychydig enwau lleoedd megis Stryt y Prior, etc. Nid oes wybodaeth pa bryd y daethant yma. Tybia hanesydd esgobaeth Llanelwy iddynt ddyfod i Ruthyn gyda'r Greys, a gwneir y peth yn fwy tebyg, fel y dywed yr ysgrifennydd hwn, pan gofier mai'r Greys fu yn foddion i ddwyn. yr urdd i Loegr yn y flwyddyn 1250.[11] Nid oes gan Dugdale a Thanner odid ddim i'w ddweyd am sefydliad y Brodyr Gwynion yn Rhuthyn.[12] Gwytherin.—Yn hanes boreu yr Eglwys Geltaidd darllennir am nifer o sefydliadau cymysg; ynddynt ceid meibion a merched wedi ymneilltuo o'r byd er cael hamdden a thawelwch i ymgyrraedd at y bywyd uwch drwy fyfyrdod a gweddi. Nid oedd dim yn anghyson yn hyn, oblegid nid edrychai yr Eglwys Geltaidd ar ymgadw rhag priodi fel yn hanfodol i'r bywyd mynachaidd.[13] O'r sefydliadau hyn, gwneid llawer er goleuo ac addysgu y wlad o amgylch. I'r dosbarth hwn o sefydliadau y perthynai yr un geid unwaith yng Ngwytherin. Myn traddodiad i'r seintiau Cybi a Sannan gael eu claddu yng Ngwytherin. Mae gwahaniaeth barn, fodd bynnag, gyda golwg ar hyn.[14] Dywedir hefyd i Wenfrewi, pan yrrwyd hi allan o Dreffynnon, gael ei chyfarwyddo i fyned am noddfa i Wytherin,[15] ac iddi yn ddiweddarach gael ei chladdu yno. Wedi ei marw, daeth Gwenfrewi i amlygrwydd mawr; a daeth Gwytherin i sylw, os nad i beth enwogrwydd, fel man ei bedd, a sefydlwyd lleiandy yn y lle, er anrhydedd iddi. Nid oedd Gwytherin i gael cadw ei braint yn hir, oblegid yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif symudwyd gweddillion Gwenfrewi o Wytherin i'r Amwythig. Bu hyn, mae'n amlwg, yn ddyrnod drom i grefydd-dy Gwytherin, oblegid nid oes odid ddim o'i hanes wedi'r digwyddiad yma ar gael. Gwitherine—A nunnery here is mentioned by many that write of St. Winefrede "-dyna'r oll ddewyd Dugdale am y sefydliad."[16]

Llanllugan.—Sefydlwyd lleiandy yn Llanllugan oddeutu diwedd y ddeuddegfed ganrif gan Urdd y Cisterciaid, ac yr oedd mewn cysylltiad neilltuol â'r mynachdy berthynai i'r urdd yn Ystrad Marchell. Credir fod yn y lle grefydd-dy er y chweched ganrif; os felly, digwyddodd yn gyffelyb yn Llanllugan i'r modd digwyddodd ym Masinwerc, yng Nghymmer, a Phenmon. Rhoddodd y Cisterciaid fywyd newydd yn y sefydliad oedd wedi bodoli ers amser maith—er adeg Lleian merch Brychan Brycheiniog, yn ol rhai, er adeg Ffraid—Bridget—yn ol eraill. Ar ol sefydlu mynachdy Ystrad Marchell yn y flwyddyn 1170 y ceir y cyfeiriadau cyntaf at Llanllugan y gellir dibynnu arnynt. Dywedir i Enoc, abad Ystrad Marchell, sefydlu lleiandy yn Llansantffraid ym Mhowys, a thybir mai at Llanllugan y cyfeirir. Yr awdurdod cyntaf gyda golwg ar y sefydliad ydyw siarter Meredydd ab Robert, ab Llywarch, ab Trahaearn, ab Caradog, ab Collwyn, ab Owain, ab Bleddyn, ab Bedws, ab Ednowain Bendew, yr hwn oedd yn byw yn adeg Llywelyn Fawr. Yn y flwyddyn 1239, rhoddodd Huw, esgob Llanelwy, y rhan o ddegwm Llanfair Caereinion berthynai i feibion Sulien, at wasanaeth lleiandy Llanllugan.[17] Yn y flwyddyn 1263, rhoddodd Anian, esgob Llanelwy, i Abades a Lleiandy Llanllugan gyfran o ddegwm Llanllwch—haiarn. Adeg Trethiad y Pab Nicolas yr oedd meddiannau tymhorol y sefydliad yn werth £1 9s. 0d. Yn ol y Valor Ecclesiasticus a wnaed yn y flwyddyn 1535, yr oedd holl eiddo y sefydliad yn werth £32 Os. 8d. Cofnod byr sydd gan Tanner a Dugdale am y sefydliad hwn, ac nid oes gan Leland ond brawddeg, Llanlligan a veri litle poore Nunneri about the border of Kedewen and Nether Powis." Credir mai un o leianod Llanllugan ddaeth yn wraig i Enoc, abad Ystrad Marchell. Ceir cyfeiriad at Llanllugan yng ngweithiau Dafydd ab Gwilym; yn y cywydd "i yrru llattai i hudo mynaches i'r llwyn," dywed:—

Peraist im' fun, ar ungair,
Par im' weled merched Mair;
Dewis lun, dos y Lan falch
Llugan lle mae rhai lliwgalch;
Cais yn y Llan ag anerch,
Salw yw'r modd, selwr merch.[18]

Dinbych.—Sefydlwyd priordy'r Carmeliaid—y myneich gwynion —yn Ninbych gan Syr John Salusbury yn y flwyddyn 1289. Gadawyd eiddo i'r sefydliad gan amryw; rhoddodd Esgob Llanelwy—Llywelyn ab Madog, swm o arian at wasanaeth y priordy a'r llestri arian dderbyniodd gan Henry de Salbri. Dywedir i Syr John Salusbury, sefydlydd y priordy, fyned gyda'r Groesgad i'r Tir Sanctaidd, ac mai ar ei ddychweliad y gwnaeth gartref yn Ninbych i'r Myneich Gwynion. Dywed yr Archæologia Cambrensis i Syr John drosglwyddo y priordy, yn y flwyddyn 1284, i Ynys Enlli, ond nid oes dim i gadarnhau hyn yn y rhestr o feddiannau berthynai i Ynys Enlli adeg diddymu y mynachdai. Bu Henry Standish, Esgob Llanelwy, yn noddwr i'r sefydliad. Mae Tudur Aled wedi disgrifio y lle:—

Lle odidogach, lle daw dugiaeth,
Ni chae iarll yw roi no chôr lle'r aeth,
Na brenin yn sin wasanaeth-harddach
Na gwledd degach no'i gladdedigaeth.

Ysbytai Marchogion Ieuan Sant—Knights Hospitallers of St. John of Jerusalem. Dechreuodd yr urdd hon yn y flwyddyn 1092 pan adeiladwyd ysbyty i'r perorinion yn Jerusalem. Amcan yr urdd hon ar y cychwyn oedd darparu ar gyfer anghenion y rhai aent ar bererindodau i'r Tir Sanctaidd, a rhoddi nodded iddynt ar eu teithiau. Dilynent reol buchedd Awstin Sant, a gwisgent wisg ddu a chroes wen arni. Daethant i Brydain yn fuan, wedi ymffurfio yn urdd, a gosodasant i fyny eu sefydliad cyntaf yn y wlad hon yn Llundain oddeutu'r flwyddyn 1140. Sefydlasant gelloedd dibynnol—commanderies—mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Ysbyty Ifan—Hospitium Sancti Ioannis. Tybir i'r ysbyty hwn gael ei sefydlu oddeutu'r flwyddyn 1190 gan Ifan Prys, ac iddo roddi Manor Tir Ifan at wasanaeth y sefydliad a llwyddo i gael y lle i'w gydnabod fel noddfa ffoedigion. Noddwyd y sefydliad ymhellach yn y flwyddyn 1225 gan Lywelyn ab Iorwerth, drwy roddi iddo ddegwm Ellesmere, a chadarnhawyd hyn gan Edward II. yn y flwyddyn 1316. Gwnaed Ysbyty Ifan yn ddiweddarach yn gell ddibynnol ar Halston yn Sir Amwythig. Yr oedd safle Ysbyty Ifan ar yr hen ffordd Rufeinig rhwng Conovium a Mons Heriri, a rhwng Caer a Chaernarfon mewn cyfnod diweddarach, yn gwneud y lle yn un manteisiol i gael noddfa ynddo. Yn niwedd y bymthegfed ganrif, daeth y lle yn gartref haid o ladron yn byw ar yspeilio y wlad o amgylch. Gorfodwyd hwy, fodd bynnag, mewn amser i adael y lle, a chiliasant i Ddinas Mawddwy, a daethant i gael eu hadnabod rhagllaw fel "Gwylliaid Mawddwy." Ar ol diddymiad y mynachdai, cyflwynwyd yr Ysbyty a'r tir a berthynai iddo i Dr. Elis Price—y Doctor Coch—gan y Frenhines Elizabeth. Nid erys unrhyw olion o'r ysbyty, ond tybir y safai yr ochr orllewinol i eglwys Ysbyty Ifan.

Tregynon.—Yr oedd cell berthynol i Farchogion Ieuant Sant yn Nhregynon. Yr oedd hon hefyd yn ddibynnol ar Halston. Ni wyddis gan bwy y sefydlwyd y gell yn Nhregynon.

Nodiadau

[golygu]
  1. The Meaning of History, p. 146: Frederic Harrison.
  2. Pennod i
  3. Dafydd ab Gwilym, xi., td. 14.
  4. A Notitia Monastica, p. 705: Tanner
    History of Friars School, p. 104, note B: Barber & Lewis.
  5. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 529, 530.
  6. Itinerary through Wales, p. 129. Giraldus Cambrensis: W. Ll. Williams.
  7. The Diocese of St. Asaph, p. 221: D. R. Thomas
  8. Rymer's Fadera, i., 2, 642, 648, 650.
  9. Councils, Haddan & Stubbs, pp. 562—567, 571—574.
  10. Notitia Monastica, s.n. Fflintshire: Tanuer.
  11. The Diocese of St. Asaph, pp. 441-442
  12. Notitia Monastica, s.n. Denbighshire. Monasticon Anglicanum, p. 267: Tanner.
  13. The Celtic Church of Wales, p. 289: J. W. Willis Bund
  14. Dictionary of National Biography, s.n. Cybi: Tout.
  15. Pennant's Tours in Wales, vol. i., p. 45-47. The Diocese of St. Asaph, p. 543: Thomas.
  16. Notitia Monastica, s.n. Denbighshire.
  17. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 465
  18. Dafydd ab Gwilym, Gweithiau xi., td. 13.