Neidio i'r cynnwys

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad/Y Cyfnod Cyntaf

Oddi ar Wicidestun
Y Mynachdy Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad

gan David David Williams

Yr Ail Gyfnod

PENNOD III.

MYNACHDAI GOGLEDD CYMRU

Y CYFNOD CYNTAF.

Enlli.—Yr oedd un o grefydd—dai hynaf[1] y wlad hon yn Ynys Enlli. Sefydlwyd ef yn gynnar yn y chweched ganrif gan Cadfan. Cysylltir y Saint Cymreig âg wyth o deuluoedd, a pherthynai Cadfan i gyff Emyr Llydaw: i'r un teulu perthynai Samson. Padarn a Winwaloce. Mab oedd Cadfan i Eneas Llydaw a daeth drosodd i'r wlad hon yn gynnar yn y chweched ganrif mewn canlyniad i'r ymosodiad wnaed ar Lydaw gan Ymerodraeth Ffrainc. Daeth gydag ef nifer o'i gydwladwyr, y rhai, fel yntau, fynnent ymroddi i fywyd o ymgysegriad i amcan crefydd. Sefydlwyd amryw eglwysi gan y sant hwn,—Llangadfan yn Sir Drefaldwyn, a Thywyn Meirionydd, ac Enlli mewn cydweithrediad ag Einion Frenin. Cysegrwyd crefydd-dy Enlli i'r Wyryf Fendigaid, ac ystyrid ef yn hynod ar gyfrif ei gysegredigrwydd,—gysegrediced oedd fel mai prif ddymuniad llawer o Saint Cymreig oedd cael lle bedd ynddo. Gadawodd Dyfrig ei esgobaeth yn ei hen ddyddiau pan y teimlodd nad oedd yn ddigonol i waith ei swydd, ac ymneilltuodd i fyw bywyd meudwy yn Ynys Enlli[2] lle y bu farw yn y flwyddyn 612; ond ar y seithfed o Fai, yn y flwyddyn 1120, symudwyd ei weddillion i Eglwys Llandaf. Tybir i gynifer ag ugain mil o saint gael eu claddu yn yr Ynys, ac oherwydd hyn gelwir hi yn fynych yn Ynys y Saint." ymysg y rhai hyn gellir nodi Deiniol, Esgob Bangor. Yr oedd y beirdd hwythau yn dyheu am gael bedd ym mangre'r pererinion, dymuniad Meilir oedd am iddo gael ei gynnwys ym plith plwyv gwirin gwerin Enlli."[3] Ysgrifennwyd gan Hywel Dafydd, bardd Rhaglan, gywydd i'r ugain mil saint a aeth i Enlli, yn y cywydd dywed —

Mi af i luniaw fy medd,
I'r Ynys oddiar Wynedd.
Gwyr un waed gwerin ydynt,
Gwyr un dad gwerin Duw ynt;
Eithr od aeth alaeth olwg,
Athrod draw am weithred drwg,
Parent a deisyfent saint
I'm diwedd a maddeuaint.[4]


Credir i nifer fawr fynd am loches i Ynys Enlli yr adeg y dinistriwyd Bangor Iscoed,[5] yn eu mysg gellir nodi Brothen, sefydlydd Llanfrothen.[6] Dywed Pennant hefyd i'r Ynys fod yn un o gyrchleoedd y Cyldwys—myneich Albanaidd a Gwyddelig a ymneilltuent i ynysoedd a chonglau dirgel a phellenig, er mwyn cael mwy o hamdden i weddio a myfyrio, ac i hyfforddi yr ieuengtid ddeuai atynt; cadarnheir tystiolaeth Pennant gan eiriau Gerallt Gymro.[7] Yn ddiweddarach gosodwyd i fyny un o sefydliadau Benedict yn yr Ynys.[8] Yn ol Llawysgrifau Sebbright, ymddengys i ddeiseb gael ei chyflwyno gan Abad Enlli i Edward II. yn achwyn fod Sirydd Caernarfon wedi honni yn anghyfiawn oddiarno ef y tâl o wyth swllt a thrigain a chwecheiniog yn groes i feddiant—roddeb oedd ganddo. Gorchmynodd y brenin i ymchwiliad gael ei wneud i'r achos gan brif ynad Cymru; ac fel ffrwyth yr ymchwiliad hwn, datganwyd fod yr Abad yn dal ei dir yn Sir Gaernarfon, fel elusen pur a pharhaus, ac nad oedd unrhyw wasanaeth neu gydnabyddiaeth leol yn ddyledus oddiwrtho, a gorchmynwyd gan y brenin, wedi ymgynghoriad â'i gyngor, fod yr arian godwyd yn anheg oddiar Abad Enlli i'w talu yn ol iddo, ac ychwanegwyd nad oedd neb i flino y mynachdy mwyach.[9] Edrychid ar Enlli fel lle eithriadol gysegredig, nid yn unig gan Gymru, ond gan yr Iwerddon hefyd.[10] Gwaddolwyd Enlli yn helaeth gan dywysogion Cymru, a chan garedigion crefydd; ac ymysg ei habadau, gellir nodi Idwal fab Gruffydd ab Cynan, Cadwallon ab Owen Gwynedd, Llywelyn ab Cadwallon, Madog y Caws, a'i habad diweddaf, John Conwy, etifedd Bodnithoedd, ym Myllteyrn. Parhaodd y sefydliad yn Enlli hyd adeg diddymu y mynachdai yn yr unfed ganrif ar bymtheg, pryd yr oedd ei meddiannau yn ol Dugdale yn werth £46 1s. 4d., ac yn ol Speed yn werth £58 6s. 2d. Trosglwyddwyd yr eiddo hwn i ddechreu i Syr Thomas Seymor, ac yn ddiweddarach i John, Iarll Warwig. Ceir llawer o gyfeiriadau at Enlli yng ngweithiau beirdd Cymru; dyfynnwyd o rai ohonynt yn barod, gellid ychwanegu lliaws ereill. Cymerer a ganlyn yn engreifftiau; am Einion Frenin, yr un y credir y bu iddo law flaenllaw yn sylfaenu crefydd-dy Enlli, dywed Hywel ab Rheinallt:

Y crefyddwr cryf addwyn,
Aur yw dy fedd er dy fwyn,
Einion Fawr Einion Freiniol
Frenin a'th werin i'th ol.

A chyda chyfeiriad at yr ugain mil saint gladdwyd yn Enlli, dywed T. Celli:

Awn i Enlli rhi yn rhod,
O nwyf bur i Nef barod.


Canodd Islwyn yntau gywydd prydferth i Enlli "diffynfa'r ffydd," : os bechan oedd yr Ynys, mawr oedd y fendith geid ynddi:

Er lleied am—led dy dir
Y fendith oedd gyfandir.
Ni fu erwi gan feirwon,
O wir saint mor fras a hon;
Yn dirion cuddia d'oror
Ugain mil wrth eigion mor....
Mae Cadfan o dan dy do
Hoff was i'r ne'n gorffwyso....
Y monachod mynychynt
Ein Enlli gain yn llu gynt.
Glaniaw rhag llid gelynion
Wnai saint yn yr ynys hon;
I fwynhau, i fyw yn ol
Cywir foddion crefyddol....
Finnau, yn llesgedd f'henaint,
Hoffwn cyfrifwn yn fraint
Gael treulio yno mewn hedd
O dawel ymneillduedd
Eiddilion flwyddi olaf
Fy ngyrfa, yn noddfa Naf.[11]

Yn ei restr o grefydd—dai Sir Gaernarfon cyfeiria Leland at Ynys Enlli, gwnaeth Leland ei daith yn ystod y blynyddoedd 1536—1539, ac amlwg yw fod y sefydliad yn Enlli yn cadw ei gymeriad cref— yddol i fyny yn ystod y blynyddoedd hyn.[12]

Bangor Iscoed.—Un o fynachdai pwysicaf Gogledd Cymru yn y cyfnod cyntaf oedd Bangor Iscoed; arweiniai yn yr ymdrech am anibyniaeth yr Eglwys Gymreig. Hanes byr sydd i'r sefydliad. Cychwynwyd ef yn ystod y rhan olaf o'r chweched ganrif gan Dunawd Ffur, mab Pabo Post Prydain, yr hwn hefyd oedd yr abad cyntaf, a dinistriwyd y sefydliad naill ai yn y flwyddyn 613 neu 616. Nid ymestyn yr hanes ond dros oddeutu hanner can mlynedd; ond gwnaeth y sefydliad waith mawr mewn byr amser. Efe a gymerai y blaen yn yr ymdrech rhwng Eglwys Rhufain a'r Eglwys Geltaidd. Mynnai Eglwys Rhufain i'r Eglwys Gymreig ymostwng iddi hi, ac mewn trefn i ddwyn hyn oddiamgylch rhoddodd y Pab Gregori lawn awdurdod i Awstin o Gaergaint, ei gynrychiolydd ym Mhrydain, i ddelio yn ol ei ddoethineb gyda'r Eglwys Gymreig. Yr oedd y gwaith hwn wrth fodd calon Awstin, ac oddeutu y flwyddyn 603 galwodd gynhadledd o'r esgobion Prydeinig i ymgynghori gydag ef. Pwy oedd yr esgobion hyn, amhosibl yw dweyd. Nis gellir rhoi fawr bwys ar y rhestr a geir yn yr Iolo MSS.[13]; enwir saith o esgobion yn y rhestr hon, Henffordd, Llandaf, Padarn, Bangor, Llanelwy, Wig, a Morgannwg. Nid oes unrhyw sail i'r fath restr. Bede ydyw ein hawdurdod ar y mater hwn, ac ni rydd ef unrhyw fanylion yn eu cylch; gallai fod yn eu mysg gynrychiolwyr Cymry Ystrad Clwyd, mae yr ymadrodd ddefnyddir ganddo—Brettonum episcopi[14]—yn ddigon penagored i gynnwys Ystrad Clwyd; ac am y nifer, yr oll ddywed Bede ydyw mai saith oedd ohonynt yn ol y traddodiad—ut perhibent. Yng ngoleuni y ffeithiau hyn, mae'r casgliad y daw Haddan a Stubbs iddo yn hollol deg, "nid oes dystiolaeth ddigonol i brofi pwy oedd yr esgobion hyn."[15] Cafwyd dwy gynhadledd, a cheisiodd Awstin gen gynrychiolwyr Eglwys y Cymry gydymffurfio âg Eglwys Rhufain, ac ymuno gyda hi mewn cenhadaeth i efengyleiddio y Saeson, a chydymffurfio âg Eglwys Rhufain gyda golwg ar amseriad y Pasg a'r dull o fedyddio.[16] Gwrthododd yr esgobion delerau Awstin; a dywedir i'r diweddaf broffwydo y byddai dinistr yn eu dal am wrthod ohonynt gydymffurfio à dymuniad Eglwys Rhufain. Ceir atebiad Dunawd i Awstin yn ddiweddarach yn hanes ein llenyddiaeth, ond nis gellir derbyn ei ddilysrwydd, mae'n amlwg mai "atebiad gwneud" ydyw, a'i fod yn ddiweddarach na chyfnod Sieffre o Fynwy. Rhoddir yr atebiad yn gyflawn gan Haddan a Stubbs.[17] Nid hir y bu daroganaid Awstin heb ei gyflawni; ym mrwydr Caer a ymladdwyd yn y flwyddyn 613 neu y flwyddyn 616, daeth nifer fawr o fyneich Bangor Iscoed i faes yr ymladd i weddio am lwyddiant y Prydeiniaid. Wedi gweled o Aethelfrith hwynt a deall eu neges, dywedodd—" Os ydynt yn gweddio ar Dduw yn ein herbyn, maent yn ymladd yn ein herbyn er nad ydynt yn dwyn arfau, ymosodant arnom drwy weddiau anffafriol i ni."[18] Gorchmynodd, gan hynny, i'w wyr ymosod arnynt hwy yn gyntaf, a lladdwyd oddeutu deuddeg cant ohonynt; llwyddodd oddeutu deg a deugain i ddianc. Priodolai Bede eu dinistr i'w gwaith yn gwrthod cydymffurfio â chyngor Awstin, ac wrth wneud y fath sylw, dengys Bede ei ragfarn yn erbyn y Cymry ac yn erbyn eu heglwys. Wedi ennill brwydr Caer, aeth Aethelfrith i Fangor Iscoed, a dinistriodd y sefydliad mynachaidd oedd yno. Yr oedd ysgol enwog ym Mangor Iscoed, ac yn ol tystiolaeth Bede, mynychid hi gan ddwy fil a chant o ysgolheigion.[19] Tybia rhai i Pelagius, Finian, Gildas, Nennius a Chybi dderbyn rhan o'u haddysg ym Mangor Iscoed.[20] Ymwrthyd, fodd bynnag, un o'r awdurdodau uchaf ar hanes Bangor Iscoed â'r syniad hwn.[21] Nid oes unrhyw sail i gredu fod ym Mangor Iscoed abaty o gwbl; y tebygrwydd yw y byddai y cwfeniaid yn byw mewn cytiau syml diaddurn ar lannau yr afon Ddyfrdwy oddeutu Bangor. Chwedlau gwneud yw y rhai hynny broffesant ddarlunio cangder a gwychder adeiladau myn— achaidd Bangor Iscoed.[22]

Clynnog Fawr yn Arfon.—Sefydlwyd y fynachlog hon yn nechreu y seithfed ganrif gan Feuno Sant. Perthynai Beuno i gyff Cadell Deyrnllwg ym Mhowys; i'r un teulu o saint perthynai Tyssilio, Catwg, a Phedrog. Mae ar gael grynhodeb byr o hanes bywyd Beuno yn Llyvyr Agkyr Llandewivrevi[23] gwaith ysgrifennwyd yn y flwyddyn 1346 yn Llanddewi Brefi. Yn ol yr hanes hwn, a ganlyn oedd cerrig milltir ei fywyd. Ganwyd ef ym Manhenig ym Mhowys ar lan yr afon Hafren, a dywedir am ei rieni, Bugi ei dad a Beren ferch Llawdden ei fam, eu bod yn ddynion "gwirion" a da eu buchedd. Anfonwyd ef pan yn ieuanc i Gaerwent i'w addysgu gan Tangusius yn yr ysgol sefydlwyd gan Ynyr Gwent. Gwnaeth ddefnydd da o'i fanteision. "Achyt ar sant hwnnw ybu ef drwy ganhorthwy duw yn dyscu yny wybu yr holl yserythur lan. Odyna ydysgawd of wassenaeth aryoleu yr eglwys. ac ykymerth urdeu ac y bu offeirat." Gwnaeth Beuno y fath argraff ffafriol ar Ynyr Gwent fel y penderfynodd y diweddaf ymneilltuo o'i safle frenhinol a dod yn ddisgybl iddo, a danghosodd ei barch ymhellach iddo drwy gyflwyno tiroedd iddo yn Ewyas. Dyma gyfrif am Llanfeuno yn y rhanbarth hwn. Ar glywed o Feuno am afiechyd ei dad, aeth ar unwaith i Bowys i weini arno, yn fuan wedi iddo gyrraedd bu ei dad farw. Yn fuan wedi hyn, aeth Beuno i ymweled â brenin Powys, a derbyniwyd ef yn garedig a boneddigaidd gan y brenin, yr hwn a roddodd iddo Aber rhiw yn Sir Drefaldwyn. Rhaghysbyswyd iddo fod y Saeson yn debyg o feddiannu y rhanbarth roddwyd iddo gan Fawan brenin Powys, ac felly bernodd yn ddoeth ymadael oddiyno. Wedi rhoddi Aber rhiw yng ngofal un o'i ddisgyblion, aeth Beuno i Feifod ac erhosodd am yspaid o amser gyda Tyssilio; o Feifod aeth i Wyddelwern ym Meirionydd, lle bu cryn ymrafael rhyngddo â meibion Solyf. Wedi blino ar helynt meibion Selyf, aeth Beuno i lan yr afon Ddyfrdwy i geisio lle i weddio Duw, ond nis cafodd hyn nes dyfod ohono at Temig fab Eluid. Oddeutu yr adeg hon bu farw Cadfan brenin Gwynedd, a dilynwyd ef yn y frenhiniaeth gan Gadwallon ei fab, yr hwn a roddodd i Feuno a'r rhai oedd gydag ef dir i weddio ac i breswylio ynddo yng Ngwredog yn Arfon, yn gyfnewid am y waell aur roddasid iddo of gan y Sant. Ar y llecyn hwn, adeiladodd Beuno eglwys, a thra yr oedd yn adeiladu mur ynghylch yr eglwys, daeth gwraig ato i ddymuno arno fendithio y mab newydd eni oedd yn ei harffed. Atolygodd Beuno arni aros ychydig nes gorffen ohonynt y gorchwyl oedd ganddynt mewn llaw. Yn ystod yr aros hwn, wylai y plentyn yn dost. Wedi ymofyn o Feuno achos yr wylo hwn, dywedodd mam y plentyn mai treftad ei mab oedd y tir feddiannwyd ganddynt ac nad oedd gan y brenin unrhyw hawl i'w roddi iddo ef. Aeth Beuno ar unwaith i ymweled â'r brenin, gan gymeryd y wraig hon a'i phlentyn gydag ef, ac wedi ei geryddu am yr hyn a wnaeth, gofynnodd iddo roddi tir arall iddo, neu ddychwelyd y waell aur roddwyd yn anrheg iddo; ond ateb trahaus roddodd y brenin iddo, ni newidiai y tir, ac am y waell yr oedd yn barod wedi ei rhoddi i arall. Trwy yr ateb hwn, dygodd y brenin arno ei hunan wg y sant. "Mi aarchaf heb of yduw na bo hir ymedych ti ar tir adayar." Wedi ymadael o bresenoldeb y brenin, cyfarfu Beuno â Gwyddnaint cefnder Cadwallon, ac yr oedd yn awyddus i wneud iawn i'r sant am ddrygfoes y brenin. Gwyddnaint "arodes dros yeneit ehun ac eneit cadwallawn ygeuynderw. yduw a beuno. ydref ehun a elwit Kellynnawc yn dragywydawl. heb val aheb ardreth aheb vedyant ydyn orbyt na hawl arnei." Yr oedd eglwys Clynnog yn un o'r rhai harddaf yn y wlad; dywed Leland ei "bod yr eglwys harddaf yn Sir Gaernarfon, ei bod yn rhagori ar eglwys Bangor, oi bod bron gymaint a Thyddewi ond o wneuthuriad gwahanol.[24] Disgrifir yr eglwys gan Pennant fel yr adeilad gwychaf o'r math hwn yng Ngogledd Cymru.[25]. Yr oedd Beuno yn fawr ei barch, ac erys ei enw ynglŷn âg enwau lleoedd megis Capel Beuno, neu Eglwys y Bedd lle gorwedd gweddillion y Sant, Ffynnon Feuno, Gored Beuno. Cedwir ei enw hefyd ynglŷn â Chyff Beuno, a Nod Beuno; am y ddau ddiweddaf, dywed Eben Fardd: "Cystal i chwi geisio torri Cyff Beuno" fyddai y dywediad gynt yng Nghlynnog, pan geisiai rhywun wneud rhywbeth hynod o anhawdd. Mae yr hen gist hon yng nghadw yn yr Eglwys hyd y dydd heddyw. Un darn o bren ydyw wedi ei gainio yn geudod eang oddimewn, a rhan o'i arwyneb uchaf wedi ei lifio allan i wneud cauad, a thwll ynddo i fwrw darnau arian yr offrymau i mewn drwyddo. Y mae bollt haiarn hir a chref yn rhedeg drwy dri o'r hespennau, ar ba rai y byddai tri o gloiau i'w ddiogelu, a'r agoriadau yn cael eu cadw, un gan yr offeiriad a'r ddau arall gan y Wardeniaid. Cedwid ynddo werth yr anifeiliaid a fyddent yn dwyn arnynt "nod Beuno," sef hollt naturiol yn y glust; y rhai oeddynt drwy gyflawn hawl yn offrymau priod y Sefydliad; yr oedd heblaw hyn, lawer o offrymeu gwirfoddol yn cael eu bwrw i mewn yn achlysurol."[26] Bu farw Beuno yn ol pob tebyg, ar yr unfed ar hugain o Ebrill yn y flwyddyn 642. Tybir mai y Cyldwys oedd y dosbarth o fyneich drigiannent yng Nghlynnog yng nghyfnod cyntaf y fonachlog, ac mae hyn yn debyg pan gofir fod yr un dosbarth yn Enlli yr un adeg.[27] Yn ddiweddarach daeth y Cisterciaid—y Myneich Gwynion—i Glynnog. Nid oes wybodaeth pa hyd yr arosasant, yr oeddynt wedi mynd cyn y flwyddyn 1291. Yn y flwyddyn 1288, caniataodd y Pab Nicolas IV. ddegfed ran o dderbyniadau y clerigwyr i Edward I. i ddwyn traul y Groesgad yr ymgymerai à hi; gorchmynodd y brenin fod pob bywoliaeth eglwysig i'w phrisio o fewn talaethau Caergaint ac Efrog, gorffennwyd hyn yn ystod y blynyddoedd 1291—92.[28][29][30] Yr adeg y gwnaed Trethiad Nicolas yr oedd Clynnog yn eglwys golegaidd gyda phump o ganoniaid yn perthyn iddi.[31] Gwaddolwyd Clynnog Fawr gan Ruffydd ab Cynan, a daeth yr eglwys mewn canlyniad yn un o sefydliadau'r Goron." Per- thynai i Glynnog dri chapeliaeth, capeliaeth unedig Llanwnda a Llanfaglan, capeliaeth unedig Llangeinwen a Llangaffo yn Sir Fôn, a chapeliaeth Llangelynin yn Sir Foirionydd. Parhaodd Clynnog Fawr yn eglwys golegaidd hyd yr amser y diddymwyd y mynachdai. Ni ddeuai sefydliad eglwysig Clynnog yn briodol o fewn cylch y weithred er diddymu y crefydd-dai; yr oedd yr arian ddeuai i'r sefydliad o dan £200, ac nid oedd y sefydliad yn fynachdy mewn ystyr fanwl; "ymwelwyd," fodd bynnag, âg ef, newidiwyd ei gymeriad colegaidd, ac yspeiliwyd ef o'i feddiannau. Perthyn Perigloriaeth Clynnog i Goleg Iesu, Rhydychen, ac mae'r Ficeriaeth yn nawdd Esgob Bangor.

Yr oedd yng Nghlynnog lyfr a olwid Llyfr Beuno, neu y Tiboeth. Ceir y nodiad a ganlyn gan Dr. John Davies o Fallwyd yn ei Eiriadur mewn perthynas iddo: "Tiboeth y gelwid Llyfr Beuno Sant oedd yn eglwys Glynnog yn Arfon, a maen du arno; yr hwn a'sgrifennasa Twrog yn amser Cadfan frenhin, ac a ddiangodd pan losgodd yr eglwys. Hwn a welais i, mêdd T.W. anno 1594.[32]." Y T.W. y cyfeirir ato ydyw Dr. Thomas ap William, ac mae'n debyg fod y llyfr yr un a'r Graphus Sancti Beunoi y cyfeiriwyd ato gan amryw dystion yng Nghaernarfon yn y flwyddyn 1537. Gellir casglu mai math o gofrestr oedd o feddiannau y sefydliad, rhestr o aelodau y elwysgor, ac ambell gofnod o ddigwyddiadau o ddyddordeb cyffredinol.[33] Ceir llawer o gyfeiriadau yn ein barddoniaeth at Feuno a'r sefydliad yr oedd yn ben arno, gwasanaethed a ganlyn fel engreifftiau:

Adyn ar i hôl ydwyf,
Ywch ben gwen ych bannog wyf....
Nid ydoedd pan oedd yn iach
dan ael wineu dyn lanach
Lasar godes Iesu
yn fyw o'r bedd yn farw bu
gwnaed Duw am ddyn gannaid hir
i minnau godi meinir
dulas ydwy fal deilen
o frig yw am farw gwen
hon fo'r seithfed ddiledryw
bun fain a wnôêl Beuno'n fyw.[34]


Yn y llinellau uchod, cyfeiria Dafydd Nanmor at wyrthiau Beuno— ei allu i godi y marw yn fyw. Yn y llinellau a ganlyn ceir disgrifiad byw o "oes fodlon ar Ddefod" gan Eben Fardd.

Monachdy heb ddim nychdod,—sefydliad
Oes fodlon ar Ddefod;
Pawb yn y clyw'n byw a bod
Ar rywbeth dd'wedai'r Abod.[35]

Caergybi.—Sefydlwyd mynachdy Caergybi gan Gybi Sant. Dywedir ei fod yn ddisgynnydd o deulu bonheddig yng Nghernyw, ac fod ei dad yn Wledig ac yn frenhin lleol yng Nghernyw. Anghytunir mewn perthynas i'w achau. Yn ol yr achau Cymreig, disgynnai o Gystenyn Gorneu—"ap Gereint ap Erbin ap Cystennyn Gorneu"; yn ol eraill disgynnai o Selyf "ap Gereint ab Erbin ap Lludd," y gwr osodir allan fel adeiladydd Caer-ludd—Llundain. Y golygiad cyntaf yw yr un dderbynnir yn fwyaf cyffredinol, yn ol hwn yr oedd Cybi yn gefnder i Dewi Sant. Yr oedd ei fam Gwen yn chwaer i Nôn mam Dewi o Fynyw. Bu Cybi yng Nghernyw hyd ei seithfed flwydd ar hugain, pryd yr aeth ar daith i Jerusalem. Wedi dychwelyd i'r wlad hon, bu yn ymdeithio yng Nghernyw, Morgannwg, Porthmawr, yn agos i Dyddewi, a'r Iwerddon. Ymadawodd o'r Iwerddon oherwydd anghydwelediad rhyngddo â Fintan, a daeth mewn cwrwgl, efe a'i ddisgyblion, i Gymru, ac wedi glanio ohono sefydlodd eglwys yn Llangybi yn agos i Bwllheli. Yr oedd Maelgwn Gwynedd ar y cyntaf yn wrthwynebol iddo, ond yn ddiweddarach daethant yn gyfeillion, a rhoddodd y brenin iddo y lle yr adeiladodd Cybi fynachdy arno wedi hynny. Bu Cybi farw oddeutu canol y chweched ganrif, a chladdwyd ef yng Nghaergybi. Cysylltir ei enw â thair o eglwysi eraill yng Nghymru: Llangybi yn Arfon, Llangybi yng Ngheredigion, a Llangybi ym Mynwy.

Ychydig iawn o ddefnyddiau hanes Mynachlog Caergybi sydd ar gael o adeg marw Cybi hyd "Drethiad Nicolas" yn y flwyddyn 1291. Rywbryd cyn y dyddiad yna, yr oedd y sefydliad wedi ei wneud yn eglwys golegaidd[36] yn debyg i'r hyn gymerodd le ynglŷn â Chlynnog. Gwaddolwyd Caergybi gan Ruffydd ab Cynan; perthynai i'r sefydliad bedwar o ganoniaid, ond yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gwnaed y nifer yn ddeuddeg. Y Goron wnai yr apwyntiadau yng Nghaergybi fel yng Nghlynnog. Yr oedd cysylltiad agos rhwng y ddau sefydliad, yn fynych apwyntid yr un person yn ganon i'r naill sefydliad a'r llall,[37] a'r tebygrwydd yw mai yr un oedd y "rheol buchedd" y cydymffurfient a hi yn y ddau sefydliad; a phan gollasant eu cymeriad colegaidd cysylltwyd hwy â Choleg Iesu, Rhydychen. Mae hanes sefydliad eglwysig Caergybi yn hynod bwysig yn y cyfnod rhwng Trethiad Nicolas a diddymiad y mynachdai, am y ceir ynddo ddrych o gysylltiad y "tylwyth " a'r eglwys" yng nghyfundrefn eglwysig y Cymry. Fel y gwelwyd mewn pennod flaenorol,[38] yn ol cyfundrefn Eglwys Rhufain, rhennid y wlad yn wahanol blwyfi, a gosodid eglwys ymhob plwyf, ac edrychid ar yr holl drigolion o fewn y cylch fel yn perthyn iddi; ond edrychai yr Eglwys Geltaidd ar yr holl wlad fel perchenogaeth y gwahanol dylwythau, a rhennid y tylwythau hyn yn ddau ddosbarth —tylwyth y tir, a thylwyth y sant. Pan roddid darn o dir i dylwyth neilltuol, byddai tylwyth y sant yn gosod i fyny eglwys ar unwaith er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol y tylwyth; y tylwyth oedd y pwynt cychwyn yng nghyfundrefn yr Eglwys Geltaidd. Gwelir yr egwyddor ar waith yn eglwys golegaidd Caergybi.[39] Mae ar gael ysgrif berthynol i'r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ynddi restr o enwau y deuddeg canon wasanaethai eglwys Caergybi o fewn y cyfnod, ac enwau eu noddwyr. Cynrychiolai y noddwyr hyn wahanol "genhedloedd" yn yr ystyr roddir i'r gair yng Nghyfreithiau Cymru, a "gwelyau" yn yr ystyr roddir iddo yn y Cyfreithiau. Y "gwely" oedd y tir berthynai i'r "genedl" neu i gorff o bobl edrychent ar berson neilltuol fel eu hynafiad cyffredin—yr un y cawsant eu bod ohono. Yr wyth "genedl" apwyntient ganoniaid Caergybi oedd cenedl Cadwgan ab Llywarch, cenedl Madog ab Llywarch, cenedl Iorwerth ab Llywarch, cenedl Bledrws ab Hwfa, cenedl Cyfnerth ab Hwfa, cenedl Ieuan ab Hwfa, cenedl Iorwerth ab Hwfa, a chenedl Gronwy ab Iorwerth.[40] Caergybi yw yr engraifft gliriaf sydd wedi dod i'r goleu hyd yn hyn o eglwys a'i hapwyntiadau yn cael eu gwneud gan gynrychiolwyr perchenogion y tiroedd gymerid i mewn fel maes arolygiaeth yr eglwys; ond fel y bydd gwybodaeth yn eangu a ymchwiliad yn mynd rhagddo yn y cyfeiriad hwn, hwyrach y gwelir nad oedd ond un ymysg lliaws. Mae Gerallt Gymro yn tystiolaethu mai hon oedd yr egwyddor y gweithredid yn ei hol yn ei ddyddiau ef.[41]

Llanelwy—Sant Asa, Sant Asaf. Yr enw cyntaf ynglŷn â sefydliad eglwysig Llanelwy ydyw Cyndeyrn. Yn ol achau y saint Cymreig, mab oedd Cyndeyrn i Owain ab Urien, o gyff Coel Godebog. Cyfeirir ato yn achlysurol fel Cyndeyrn Garthwys. Yr oedd i'w dad Owain a'i daid Urien Rheged le amlwg mewn hanes a rhamant. Dygwyd Cyndeyrn i fyny dan ofal Sant Serf, ac efe oedd yr anwylaf o'i holl ddisgyblion. Pan yn bump ar hugain, ar ddymuniad Morcen, brenin Ystrad Clwyd, gwnaed Cyndeyrn yn esgob. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, sylwodd Cyndeyrn fod Morcen yn llai ffafriol iddo, ac wedi marw y brenin, credei fod ym mryd ei olynwyr ei roddi i farwolaeth, ac er osgoi hyn diangodd Cyndeyrn i Gymru am noddfa, a chroesawyd ef gan Dewi Sant ym Mynyw. Gwahoddodd Cadwallon Law Hir Cyndeyrn i'r dalaeth lywodraethid ganddo ef, a derbyniodd yntau y gwahoddiad, ac ymsefydlodd ar lan yr afon Elwy oddeutu flwyddyn 560, a sefydlodd Goleg, neu Ysgol Fynachaidd yno, a dywedir i'r sefydliad gynyddu cymaint fel y rhifai y rhai a berthynai iddo naw cant a phump a thrigian.[42] Dygid at Gyndeyrn feibion boneddigion yn ogystal a meibion y dosbarth cyffredin, fel y byddai iddo eu dwyn i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dyna gychwyn sefydliad eglwysig Llanelwy—arferir ymadrodd penagored yn fwriadol, am nad yw yn glir a ydym i'w ystyried fel mynachdy ai ynte fel esgobaeth; os y diweddaf, rhaid cofio na olyga yr ymadrodd yr ystyr a berthyn iddo mewn amser diweddar. Yr unig awdurdodau dros wneud Cyndeyrn yn sylfaenydd esgobaeth Llanelwy ydyw Bywyd Cyndeyrn gan Jocelin—gwaith perthynol i'r ddeuddegfed ganrif, a Llyfr Coch Asaph.[43] Dywed Willis Bund nad oedd esgobion yn yr ystyr roddir i'r gair yn gyffredin hyd adeg dyfod y Normaniaid i'r wlad hon.[44] Dyry yr un awdwr yn yr un gwaith olwg i ni ar y mynachdy yn datbylgu yn esgobaeth. "The whole history of the Welsh Church, after the coming of Augustine, is an account of how the bishop grew in importance from a subordinate place in the monastery, until he became the head of the clergy in the diocese, and exercised jurisdiction over them and it. The Llandaff records bring this out very clearly, and whether genuine or not, they are the best account we have of the depreciation of the abbot and the appreciation of the bishop. In this part of the case, what evidence there is, goes to show that the episcopal system in Wales was like that in Ireland bishops belonging to monasteries, and under the orders of the abbot. Then came the evolutionary process whereby the bishop gradually became the equal, and afterwards the superior, of the abbot. It is a most interesting piece of ecclesiastical history, showing how local ideas and surroundings modify even the beliefs and opinions of men in ecclesiastical affairs, how the bishop became first abbot, then, having the control of the monastery and the possessions of the monastery added to it that of the surrounding districts; and when he obtained this became a "lord bishop," exercising civil and ecclesiastical jurisdiction over a defined area.[45][46] Mae'r dyfyniad yn hir, ond mae mor bwysig a theifl gymaint of oleuni ar hanes Llanelwy a Bangor Deiniol yn datblygu yn eglwysi cadeiriol, fel y barnwyd yn ddoeth ei roddi yn ei hyd. I gasgliad pur debyg y daw Haddan a Stubbs yn eu hymchwiliad hwythau i'r un cwestiwn; edrychent hwy ar yr esgobaeth yn yr ystyr ddiweddar fel yn tyfu yn raddol o'r sefydliad mynachaidd.[47] I ddychwelyd at Cyndeyrn gwnaed ef yn esgob Glasgow gan Rhydderch Hael yn y flwyddyn yn y flwyddyn Hanes Mynachdai Gogledd Cymru 573, a pharhaodd yn y swydd hon hyd ei farw yn y flwyddyn 612.[48] Cyn gadael Llanelwy am Glasgow, apwyntiodd Cyndeyrn Asaph. Sant yn olynydd iddo, a rhoddodd hyn foddlonrwydd i'r bobl ac i'r cwfeiniaid o fewn y sefydliad. Yr oedd Asaph yn un o ddisgyblion Cyndeyrn. Enw ei dad oedd Sawyl mab Pabo Post Prydain, a ddaethai i Gymru am nodded pan y gorchfygwyd ef gan y Gwyddyl Ffichti, a chroesawyd ef gan Gyngen brenin Powys, a rhoddwyd tir iddo i ymsefydlu arno. Yr oedd i Pabo amryw feibion, Dunawd, Cerwydd, Sawyl, ac Arddun; gwelir felly fod Asaph yn nai i sefydlydd mynachlog Bangor Iscoed—Dunawd, ac yn gefnder i Deiniol sefydlydd ac esgob cyntaf Bangor yn Arfon. Enw ei fam oedd Gwenaseth, merch Rhiain Hael o Rhieinwg. Daeth enw Asaph yn amlycach ynglŷn a Llanelwy na'r eiddo ei athro a'i ragflaenydd; cyfrif dau beth am hyn, ni bu Cyndeyrn mewn cysylltiad â'r sefydliad ond am dymor byr, oddeutu tair blynedd ar ddeg, 560-573, ond bu cysylltiad maith rhwng Asaph â'r lle, ac yno y rhoddwyd ei weddillion i orwedd. Cedwir coffadwriaeth am dano yn fyw ynglŷn â llawer o enwau lleoedd, megis Ffynnon Asa, Llanasa, Pantasa, Onen Asa; mewn ewyllys berthynol i'r ail ganrif ar bymtheg ceir yr ymadrodd "Gweirglodd Ffynnon Asaph."[49] Nid oes sicrwydd pa bryd y bu Asaph farw, cyfeirir at y flwyddyn 596, ond mae y dyddiad yna yn amlwg yn rhy gynnar. Ceir rhai cyfeiriadau at Asaph gan ein beirdd-gan Iolo Goch, Lewis Glyn Cothi, a William Lleyn[49]. Dyry hanes Cyndeyrn ac Asaph a'r cyfundeb o bobl a'u dilynai syniad lled dda i ni am y modd y datblygodd y sefydliad mynachaidd yn esgobaeth yn ystyr ddiweddar y gair. Buddiol, hwyrach, fyddai cyfeirio yn fyr at hyn. Ymsefydlodd dilynwyr Cyndeyrn mewn bythod o fewn y tir amgylchai yr eglwys yn Llanelwy, cadwent wasanaeth yn yr eglwys hon, ac o Lanelwy fel canolbwynt gwnaent ymdrech i efengyleiddio y wlad o amgylch. "Yn raddol, codid eglwysi yn y rhanbarthau hyn naill ai gan arglwyddi y cymydau neu gynrychiolwyr y tylwyth, a gwnai y sylfaenwyr fel rheol ddarpariaeth er eu cynnal, a deuent, yn ymarferol, yn eglwysi plwyf dan nawdd y sawl a'i gwaddolasant. Credir i'r rhan lluosocaf o'r "eglwysi tylwythol" gael eu bôd yn y modd hwn. Trefnid rhanbarth neu blwyf i'r eglwysi hyn, a chaent y degwm berthynai i'r rhanbarth.[50] Eglura yr un awdwr ymhellach y modd y cynhelid yr eglwysi hyn mewn adegau cyn bod talu degwm yn beth cyffredin; yn yr amgylchiadau hyn, gofelid am danynt gan y fam eglwys ac ystyrid yr eglwys ddibynnol fel chapel of ease a thrigolion y rhanbarth fel plwyfolion y fam eglwys. Gofelid am nifer o'r eglwysi hyn gan ganoniaid neu aelodau y sefydliad mynachaidd yn Llanelwy, ond dalient i fyw yn y lle diweddaf, ac nid o fewn cylch eu gofal. Yn ddiweddarach, gosodwyd Ficeriaid ar yr eglwysi, a rhoddid iddynt gyfran o'r degwm berthynai i'r cylch y gwasanaethent ynddo; yn gyffredin un ran o dair "treian gweini" yr hen gyfreithiau; ai y gweddill i gynnal y fam eglwys yn Llanelwy. Credwn y ceir cnewyllun y sefydliad esgobaidd yn yr hen drefniad hwn, a dengys y modd y daeth y cyfnewidiad yn raddol oddiamgylch. Ni pherthyn dweyd dim am esgobaeth Llanelwy yn y gwaith hwn; myned dros y terfyn fyddai hynny. Dywedir i Tyssilio Sant ddilyn Asaph yn Llanelwy, ond nid oes sicrwydd am hyn; y cofnod cyntaf y gellir dibynnu arno ydyw yr un gyfeiria at apwyntiad Gilbert yn esgob Llanelwy gan Theobald, archesgob Caergaint, yn y flwyddyn 1143. Dywedir, fodd bynnag, i Chebar, esgob Llanelwy, fyned gyda Hywel Dda i Rufain i ymgynghori gyda'r Pab mewn perthynas i rai o hen gyfreithiau Cymru. Mae un o'r geiriau briodolir i Asaph wedi dod i lawr i'n dyddiau ni-"A wrthwyneba air Duw, a genfigena wrth iachawdwriaeth dyn."[51]

Bangor Deiniol.—Bangor Fawr yn Arfon. Sefydlwyd yr esgobaeth hon—arferir y gair nid yn ei ystyr ddiweddar—gan Deiniol mab Dunawd, sefydlydd Bangor Iscoed, ac ŵyr Pabo Post Prydain ; hannai o deulu Coel Godebog. Dywedir i Deiniol gynorthwyo ei dad yn sefydliad Bangor Iscoed, ac iddo yn ddiweddarach sefydlu Bangor Fawr yn Arfon, ac wedi hynny gwnaed hi yn esgobaeth gan Faelgwn Gwynedd;[52] ac apwyntiodd Dyfrig Deiniol fel yr esgob cyntaf. Ond nis gellir adeiladu fawr ar y ffeithiau hyn; ni ddywedir ar ba awdurdod y gallai tywysog Cymreig wneud esgobaethau; ac y mae y cyfeiriad at y rhan fu gan Ddyfrig ynglŷn â'r mater yn ddigon naturiol pan gofier mai amcan "Llyfr Llandaf" oedd dangos pwysigrwydd esgobaeth Llandaf a safle uwchraddol ei hesgob. Y tebygrwydd ydyw i'r sefydliad eglwysig gychwynwyd gan Ddeiniol ym Mangor fyned drwy gwrs o ddatblygiad cyffelyb i'r un yr aed drwyddo yn Llanelwy er dod yn esgobaeth yn ystyr ddiweddar y gair. Anodd yw penderfynu pa bryd y sefydlwyd yr esgobaoth gan Ddeiniol, awgrymir y flwyddyn 525 gan Olygydd y Cambro-Briton, ond mae y dyddiad hwn yn amhosibl; yr oedd Deiniol yn un dderbyniodd ei addysg ym Mangor Iscoed. Ni sefydlwyd Bangor Iscoed hyd hanner neu chwarter olaf y chweched ganrif.[53] Nis gallai Bangor yn Arfon, gan hynny, fod wedi ei sefydlu lawer cyn diwedd y chweched ganrif. Wrth fyned i mewn i'r cwestiwn o ddyddiadau, gwelir nad oes fawr sail i'r hyn ddywedir am Faelgwn Gwynedd a Deiniol. Bu farw Maelgwn Gwynedd yn y flwyddyn 547.[54] Bu Deiniol farw, yn ol yr Annales Cambriae, yn y flwyddyn 584.[55] Yr unig gasgliad diogel y gellir dyfod iddo ydyw i'r esgobaeth gael ei sefydlu tua diwedd y chweched ganrif neu ddechreu y seithfed. Tybir i Deiniol ymneilltuo cyn ei farw i Enlli, ac yn hyn dilynai esiampl Dyfrig. Wedi marw Deiniol, yr enw nesaf ag y mae unrhyw hanes iddo ynglŷn âg esgobaeth Bangor yw Elfod; perthynai ef i deulu Caw, ac yr oedd yn yr esgobaeth oddeutu canol yr wythfed ganrif. Yr oedd Elfod yn wr lled ymhongar, ac ymgymerodd â newid amser y Pasg dros holl Gymru. Bu helynt flin ynglŷn â hyn. Bu farw Elfod yn y flwyddyn 809. Ymsefydlodd y Brodyr Cardod ym Mangor yn y flwyddyn 1277, o dan nawdd y brenin Edward I. Ceir ychwaneg ar hyn mewn pennod ddiweddarach.[56] Ail-gysegrwyd Bangor yn adeg y Normaniaid; Llanelwy oedd yr unig esgobaeth Gymreig lwyddodd i osgoi hyn.

Mynachdy Dyffryn Clwyd.—"Mynachdy wedi ei ddinistrio. Dywedir i fynachdy gael ei sefydlu yma gan Elerius Sant a flodeuai yn y seithfed ganrif.[57] Camgymeriad Tanner yw hyn am fynachdy Gwytherin gweler Penn. v. d.g. Gwytherin.[58]

Beddgelert. —Yr oedd un o grefydd-dai hynaf y wlad hon ym Meddgelert, gosodir ef yr agosaf i sefydliad Ynys Enlli o ran hynafiaeth.[59] Dywedir ar awdurdod Gerallt Gymro mai'r dosbarth o fyneich adnabyddir fel y Culdwys drigiennent yno ar y cyntaf.[60] Daeth y lle yn ddiweddarach yn gartref i ganoniaid Awstin; y ddau le arall yr ymsefydlasant yng Nghymru oedd Hwlffordd a Chaerfyrddin; caniataodd Anian esgob Bangor lythyr maddeuant y Pab i bawb roddai help i Briordy Canoniaid duon Beddgelert. Gwnai hyn fel ffrwyth ei ymchwiliad i hanes y sefydliad, dywedai y perthynai i'r Priordy amryw siarteri,—rhoddwyd un gan Llywelyn Fawr, tair gan Llywelyn ab Gruffydd, un gan yr Arglwydd Owen, ac un gan yr Arglwydd Dafydd. Yr oedd hefyd lythyrau oddiwrth y Pab ar gael yn ffafr y Sefydliad. Ac ar y cyfrifon hyn, dyry yr esgob ei nawdd dros y sefydliad, a chyfeiria yn neilltuol ato fel lle manteisiol i deithwyr rhwng Lloegr a Chymru a'r Iwerddon orffwyso a derbyn lletygarwch.[61] Dywed Pennant y perthynai myneich Beddgelert i urdd Gilbert—urdd sefydlwyd gan Gilbert, rheithor Sempringham—yr oedd "rheol buchedd" yr urdd hon yn gyfuniad o reol Awstin a rheol Benedict, yn ol trefniadau yr urdd hon caniateid i feibion a merched fyw ynghyd. Y rheswm ddyry Pennant dros ei olygiad ydyw iddo ddod o hyd i ddarn o dir yn agos i'r eglwys yn dwyn yr enw Dol y Lleian[62] . Blinwyd llawer ar Briordy Beddgelert gan Cisterciaid Aberconwy; ceisient wneud Beddgelert yn sefydliad dibynnol neu gell perthynol iddynt hwy, a chael gan y cwfeniaid fabwysiadu eu hurdd a'u dull hwy o fyw.[63] Perthyn enwogrwydd i Feddgelert fel lle bedd Rhys Goch Eryri a Dafydd Nanmor, a chyfansoddwyd cywydd gan Lewis Daron, un o feirdd y bymthegfed ganrif, i Dafydd Prior Beddgelert yn dymuno arno roddi march yn anrheg i Sion Wynn o Wydir, ac yn ei ganmol am ei wybodaeth a'i haelioni. Adeg diddymu y mynachdai yr oedd Priordy Beddgelert yn werth yn flynyddol, £70 3s. 8d. yn ol Dugdale, a £69 3s. 8d. yn ol Speed.

Nodiadau

[golygu]
  1. .... senior domus religiosa est de tota Wallia, excepta insula Sanctorum Bardigeye."—councils, Haddan and Stubbs, vol. 1. p. 584; Notitia Monastica, p. 703: Tanner.
  2. Liber Landavensis, p. 328; Vila Samsonis, c. 19.
  3. Stephens: Literature of the Kymry, p. 23.
  4. Merthyr Tydvil Manuscript, 105.
  5. Pennant's Tours in Wales, vol. ii 370.
  6. Lives of the British Saints: S. Baring—Gould and John Fisher, vol. i., p. 303.
  7. Itinerary through Wales, Giraldus Cambrensis, p. 118: W. Llewelyn Williams.
  8. A History of the Welsh Church, p. 293: Newell.
  9. Welsh Abbeys, p. 9: John A. Randolph.
  10. The Celtic Church of Wales, p. 138: J, W. Willis Bund.
  11. Gweithiau Islwyn, td. 281—283: O. M. Edwards.
  12. Leland's Itinerary in Wales, part. vi., p. 81.
  13. Iolo MSS., 143, 548.
  14. Historia Ecclesiastica, cap. ii.
  15. Haddan & Stubbs: Councils, vol. iii. p. 41; Baedae Opera Historica, Tomus ii., p. 75, Plummer.
  16. Historia Ecclesiastica, cap. ii, p. 81, 82.
  17. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 122, 149; Baedae Opera Historica, Tomus ii., p. 75: Plummer.
  18. Historia Ecclesiastica, vol. ii. p. 84.
  19. Historia Ecclesiastica, cap. ii, p. 82.
  20. "The Celtic Church of Wales, p. 171: J. W. Willis Bund.
  21. Neither Lupus, Germanus, nor Pelagius could ever have been connected with Bangor. Nor is there any evidence for connecting Gildas or Nenuius with it. I doubt moreover, whether St. Cybi was ever a member of this monastery It would not be safe specifically to name any saint as belonging to the monastery of Bangor Iscoed except Dunawd himself and perhaps his son Deinioel "—A. N. Palmer. Cymmrodor, vol. x., p. 21.
  22. A. N. Palmer: Cymmrodor, vol. x., p. 16.
  23. The Elucidarium pp 113—127: J Morris Jones.
  24. Leland's Itinerary in Wales, part vi, pp. 52, 86—87.
  25. Pennant's Tours, vol. ii., p. 384
  26. Cyff Beuno, td. 56: Eben Fardd.
  27. Cyff Beuno, td. 62, 63: Eben Fardd.
  28. Leland's Itinerary in Wales, part vi., p. 52;
  29. Welsh Abbeys, p. 12: J. A. Raudolph.
  30. Councils, Haddan & Stubbs, vol. I. p. 597.
  31. The Taxatio of Pope Nicholas mentions five portions in connection with it (Clynnog), namely, The portion of Master Anian Goch in the church of Clynnog Fawr, 91 marks; the portion of William Fychan and obventions, 7 marks; the portion of Matthew the Chaplain, in the same 7 marks; the portion of John, the chaplain in the same 7 marks; the portion of David, the Chaplain, in the same, 7 marks."-Portionary Churches of Medical North Wales, p. 17: A. N. Palmer.
  32. Dictionarum Duplex, d.g. "tiboeth": John Davies.
  33. Cymmrodor, vol. xix., pp. 77, 78.
  34. Cefn Coch MSS., p. 268.
  35. Cyff Beuno, td. 37: Eben Fardd.
  36. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 597; Monasticon Anglicanum, vi. 1475.
  37. Cymmrodr, vol. xix., p. 71.
  38. Pennod i.
  39. The Tribal System in Wales, p. 232: F. Seebohm.
  40. Portionary Churches of Medieval North Wales: A. N. Palmer, pp. 3, 6.
  41. Topography of Wales, book ii. chap. 6: Giraldus Cambrensis.
  42. The Lives of the British Sainte, vol. i., p. 12: S. Baring-Gould, J. Fisher.
  43. Red Book, Vita, p. 45. "Monasterium Sedem Cathedralem constituit."
  44. The Celtic Church of Wales, p. 252: J. W. Willis Bund.
  45. The Celtic Church of Wales, pp. 268—64: J. W. Willis Bund.
  46. The Diocese of St. Asaph, p. 5: D. R. Thomas.
  47. In Wales, Bishops not diocesan, but presiding over monastic or educational institutions, are perhaps faintly traceable about the sixth century .... On the other hand, as soon as ever the history of Wales emerges from the darkness that conceals it for a century after the departure of the Romans, a diocesan Episcopate is found established there, with a monastic establishment indeed as the centre of each see, but with the Bishop as such as its head.—Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 142—143.
  48. 612 yn ol yr Annales Cambriǣ, 603 yn ol awdurdodau eraill.
  49. 49.0 49.1 Lives of the British Saints, vol. i., p. 184: S. Baring-Gould, J. Fisher.
  50. Portionary Churches of Medieval North Wales, p. 14: A. N. Palmer. The Diocese of St. Asaph, chap. i., pp. 1-10: D. R. Thomas. Notitia Monastica, d.g. Sir Filint: Tanner.
  51. Quincunque verbo Dei adversantur,
    Saluti hominum invident.
  52. Welsh Saints, p. 258: Rees. Celtic Britain, p. 248: J. Rhys.
  53. Liber Landavensis, p. 5.
    "We conclude from all this that Bangor monastery was not founded until the last half, or even perhaps the last quarter of the sixth century."-Cymmrodor, x. p. 15 A. N. Palmer.
  54. Annales Cambrice. Y Cymmrodor, vol. ix., p. 155.
  55. Lives of the British Saints, vol. i., 180: S. Baring-Gould and J. Fisher.
  56. Pennod v.-Sefydliadau Mynachaidd
  57. Notitia Monastica, d.g. Sir Ddinbych: Tanner.
  58. Life of St. Winifred: Prior Robert of Shrewsbury
  59. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., 584
  60. Y Cymmrodor, ix., td. 156.
  61. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i. pp. 580, 581.
  62. Pennant's Tours in Wales, vol. ii., pp. 344, 345; The Old Churches of Arllechwedd, p. xx., note: North.
  63. A History of the Welsh Church, p. 276: Newell.